kimkat0318k Llythyra Newydd. Bachan Ifanc. Tarian y Gweithiwr. Tafodiaith
Morgannwg (Y Wenhwyseg).
12-05-2023
● kimkat0001 Yr Hafan www.kimkat.org
● ● kimkat2001k Y Fynedfa Gymraeg www.kimkat.org/amryw/1_gwefan/gwefan_arweinlen_2001k.htm
● ● ● kimkat0960k Mynegai i’r testunau Cymraeg
yn y wefan hon www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_mynegai_0960k.htm
● ● ● ● kimkat0318k Y tudalen hwn
|
|
Gwefan Cymru-Catalonia Gan
Fachan Ifanc
(sef William Williams / 'Myfyr Wyn',1849 - 1900) (Tarian y Gweithiwr) |
|

(delwedd L0944)
.....
|
Dyma’r
Llythyra’ Newydd a gyhoeddwyd yn Nharian y Gweithiwr o’r cychwyn i’r diwedd: 1895 www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_153_llythyra-newydd_1895_tarian-y-gweithiwr_3820k.htm ..... 1896 www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_153_llythyra-newydd_1896_tarian-y-gweithiwr_3821k.htm ..... 1897 www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_153_llythyra-newydd_1897_tarian-y-gweithiwr_3822k.htm ..... 1898 www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_153_llythyra-newydd_1898_tarian-y-gweithiwr_3823k.htm ..... 1899 www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_153_llythyra-newydd_1899_tarian-y-gweithiwr_3824k.htm ..... 1900 www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_153_llythyra-newydd_1900_tarian-y-gweithiwr_3825k.htm Bu
farw Bachan Ifanc (William Williams, ‘Myfyr Wyn’) ar 5 Mehefin 1900 yn 50/51
oed, a'i gladdu ar y 9fed o Fehefin yn Aber-dâr. (Ganwyd 1849). |
.....
Gweler hefyd – Dwtholion o’r ysgrifau hyn
http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_032_bachan_ifanc_detholion_3863k.htm
.....
Am yr awdur Myfyr Wyn gweler https://bywgraffiadur.cymru/article/c-WILL-WIL-1849
WILLIAMS, WILLIAM ('Myfyr Wyn '; 1849 -
1900); gof, bardd, ac hanesydd lleol
·····
Teyrngedau i Myfyr Wyn:
|
|
|
|
(delwedd
L0991a) (14 Mehefin 1900) |
Tarian y Gweithiwr 14 Mehefin 1900 MYFYR WYN. Nid oes odid un o
ddarllenwyr y DARIAN heb deimlo yn hiraethlawn o herwydd colli Myfyr Wyn. Yr
oedd y Bachan Ifanc wedi dyfod yn enw teuluaidd er ys blynyddau bellach, a
theimlid yn chwithig os elai wythnos heibio heb iddo ef gyfarch Mishdir y
DARIAN. Brodor o Fynwy - o ardal Sirhowy oedd Myfyr. Treuliodd tua haner ei
oes yn ei sir enedigol, a'r gweddid mewn gwahaaol fanau yn sir Forganwg. Gof
ydoedd wrth ei alwedigaeth, a chyhoeddodd lyfryn flynyddoedd yn ol —
'Gwreichion oddiar yr Eingion,' i ddangos fod yr awen yn arddel galwedigaeth
Vulcan. Yn Sirhowy y dechreuodd
gymdeithasu a'r awen, ac nid rhyfedd iddo ddyfod yn feistr yn nghyfrinion
Cerdd dafawd pan ystyriom mai y bardd clodfawr Cynddelw oedd ei athraw
barddol. Gadawodd dylanwad y prif fardd argraff barhaol ar yrfa lenyddol a
barddonol Myfyr Wyn. Fel ei athraw, yr oedd yn feistr ar holl gyfrinion y
gynghanedd ac nid oedd rheol na mesur rhwng clorian ‘Tafol y Beirdd,' nad
oedd ef yn gwybod ei gwerth a'u defnydd. Yr oedd Myfyr Wyn yn hyddysg iawn
mewn hynafiaethau Cymreig, yn neillduol y rhai cysylltiedig a llenyddiaeth a
barddoniaeth ei gydgenedl. Mae yn fwy na thebyg mai Cynddelw a'i hysbrydolodd
ef yn y cyfeiriad hwnw. Fel bardd yr enwogodd ei
hun yn moreu ei oes, bu yn gystadleuydd mynych a llwyddianus yn Eisteddfodau
Morganwg a Mynwy. Canai yn y caeth a'r rhydd fesurau - y naill yn llawn
cystal a'r llall. Nid oedd yn teimlo fod y naill yn rhy gaeth na'r llall yn
rhy benrhydd. Hytrach yn fyr oedd ei anadl fel bardd. Darnau byrion, fel
rheol, a ddeuai allan o'i we awenyddol. Nid yn aml yr elai dros ddau neu dri
chant o linellau ar unrhyw destyn. Canodd rai awdlau a fuont yn agos iawn at
gadeiriau. Yr oedd yn ail yn un o Eisteddfodau Treorci ar ‘Y Cenadwr,' pan yr
enillodd Eurfryn ac yn ail yn un o Eisteddfodau Mynwy ar awdl ‘Y Gymanfa,'
pan enillodd Athan Fardd. Ond mae yn ddigon tebyg mai cylch haner dwsin o
englynion neu benillion oedd yn taro awen Myfyr Wyn oreu, neu o leiaf, mewn
cylch felly y bu fwyaf llwyddianus ar y maes cystadleuol. Un gwych iawn
ydoedd am gân ddifyr ac mae ei gan ar y ‘Breach of Promise’ yn un
boblogaidd gan lawer o adroddwyr. Ychydig a gystadleuodd yn ystod y deng
mlynedd diweddaf o'i oes, ond ni adawodd farddoni hyd y diwedd. Nid oedd un
math o destyn nad allai Myfyr ganu arno, a byddai ei awen yn barod bob amser
i gyfarfod ag archebion lleol, a cheir colled fawr mewn llawer ystyr ar ol ei
awen gynyrchiol a'i ufudd-dod parod at bob perwyl. Ysgrifenold lawer ar hyd
ei oes i'r gwahanol bapyrau Cymreig. Ond fel awdwr llithiau y Bachan Ifanc y
daeth i fri yn mhlith darllenwyr y Deheudir. Mae bellach dros bum mlynedd
oddiar y dechreuodd ar ei gyfres o Lythyra' Newydd yn y DARIAN. Cydiodd ei
arddull ddoniol ar unwaith yn y darllenwyr, ac nid oedd blas gan lawer ar y
DARIAN os na fyddai llith y Bachan Ifanc ynddi. Yr oedd rhai yn anfoddlon i'r
iaith sathredig oedd yn ei lithiau. Dosbarth sych y mintys a'r anys oedd y
rhai hyny, ac nid oedd dim ond Cymraeg glan gloew a wnai y tro iddynt. Ond
gwyddai Myfyr a Mishtir y DARIAN fod cymaint o ddarllenwyr anllenyddol yn y
wlad - darllenwyr nad ydynt yn edrych ar iaith o safbwynt cywirdeb. Yr oedd
iaith y Bachan Ifanc yn fratiog, yr oedd yn ddoniol a dweyd y lleiaf ac nid
yn aml yr oedd un o'i lithiau heb ryw wythien euraidd yn rhedeg trwyddynt. Yr
oedd ei iaith ef yn y Llythyra Newydd yn debyg iawn i bilen o siwgr am rai
mathau o bills - yn gwneud i filoedd eu llyncu, na fuasent yn gwneud
hyny o dan unrhyw oruchwyliaeth arall. Yr oedd yn ddoniol dros ben yn y
llithiau hyn. Credai rhai, nad oedd yn ei adnabod yn bersonol, mai
cellweirddyn digrif oedd yn ei gyfeillach, a barnu oddiwrth ei lithiau. Ond
gwyr y sawl oedd yn ei adnabod, mai dyn tawel, heb nemawr o ddigrifwch yn ei
iaith na'i ymddygiad ydoedd. |
|
|
|
|
(delwedd
L0991a) (14 Mehefin 1900) |
Nid oedd yn ymylu ar fod
yn honiadol mewn pethau yr oedd yn awdurdod arnynt, ac nid oedd un amser yn
meddwl am wthio ei hun i sylw. Buasai rhagor o haerllugrwydd yn fendith fawr
iddo mewn llawer ystyr. Yn ei holl lithiau doniol, nid wyf yn meddwl iddo ollwng
saeth wenwynig at neb. Cadwedd ar delerau da a phawb, yr hyn nas gellir ei
ddweyd am y rhan fwyaf o honom sydd mewn cysylltiad a'r wasg. Yr ydyn yn
sangu ar fodiau ein gilydd weithiau ar ein gilydd. Ond cadwodd y Bachan Ifanc
ar lwybr dyfedswydd heb ddolurio neb. Pan yr ysgrifenai Myfyr Wyn yn debyg i
rywun arall, nid oedd neb yn ysgrifenu iaith burach. Yr oedd ei arddull yn
flodeuog, a'i frawddegau yn rymus. Ond fel y Bachan Ifanc y bydd efe byw ar
gof y darllenwyr. Bydd ei le yn wag yn y DARIAN, a theimlir bwlch ar ei ol yn
mhlith ei frodyr barddol. Er ei fod yn eiddil o gorff er ys rhai blynyddau,
nid oedd neb o honom yn meddwl fod ei ymadawiad mor agos, pan nad oedd ond
namyn blwyddyn dros ei haner cant oed.
Diweniaeth frawd awenol, MORFAB. |
|
|
|
.....
|
|
|
|
(delwedd
L0995a) (5 Gorffennaf 1900) |
Tarian y
Gweithiwr. 5 Gorffennaf 1900. YCHYDIG O HANES MYFYR WYN. MR GOL., — Carwn alw sylw, gyda'ch caniatad, at ychydig ffeithiau yn nglyn a'r
diweddar Myfyr Wyn. Y mae y DARIAN cyn hyn wedi bod yn help mawr i mi ddyfod
i ddarllen. Gwelais lythyr Brynfab yn eicb newyddiadur yn cofnodi marwolaeth
Myfyr, yr hwn oedd yn gyfaill calon i mi, a darfu i ni gael ein cydgodi.
Ganwyd ef ar yr un twmpyn a mi, sef Twyn y Star, Tredegar. Yr wyf yn methu
cydweled a'r oll a ddywed Brynfab, eto efallai mai efe sydd iawn; nid gwaeth
os mai, ond ceisiaf roddi ar ddeall i'r darllenydd yr hyn a wn i am Myfyr
Wyn. Yr oeddem ein dau agos yr un oedran, ac wedi chwareu llawer gyda'n
gilydd. Mewn llawer man a llawer lle, Yr wyf yn dechreu yn 1893, pan welais Myfyr ddiweddaf, ac yna yn ol at ei
fabandod. Gwelais ef yn yr Ystrad, pryd yr oedd ar ei daith i Tylerstown, sef
Pendyris gynt. Yr oedd yn myned i ymofyn gwobr oedd wedi ei henill yno. Gan
nad oeddwn wedi ei weled er’s llawer o amser, ceisiais ganddo i ddyfod gyda
mi i weled fy ngwraig. Yr oeddwn wedi priodi er pan welsom ein gilydd o'r
blaen. Treuliasom ddiwrnod hapus, ac aethum i weled ffynon Penrhys, ac aethom
mor bell a Tyntyla, ac yn ol oddiyno i Gelligaled, lle yr oedd John Davies,
gwr caredig a digrif, yn byw, a'r hwn oedd yn hanesyddwr da, ac yn fardd; yr
oedd yn ystoriwr o'r iawn ryw. Cawsom rai oriau difyr, ac yna aeth Myfyr ar
ei daith i Pendyris. Cofiwch mai myned a chwi tuag yn ol yr wyf, ac nid yn y blaen fel y
ceffyl yn myned i'r farchnad. Yr wyf yn credu mai yn y flwyddyn '81 yr oedd
yn gweithio yn Mhendyris. Fel y dywedai Brynfab, gof ydoedd wrth ei grefft.
Cefais lawer o’i gwmni yma. Yr wyf yn coflo iddo enill dwy wobr yn Llanwonno.
Yn y cyfamser cefais iddo ddangos cryn allu a medrusrwydd yn y Mardy. Pan
yr oedd Eos Dar a'i gor yn parotoi i berfformio y gwaith adnabyddus, 'Wreck
ot the Argosy,' mewn llawn gymeriad, yr oedd artist o Lundain wedi dylod i
baentio y sceneries, ond aeth y Londoner yn rhy feddw i wneud ei waith. Yr
oedd Myfyr Wyn yn y lle ar y pryd, a chymerodd at y gwaith yn ei le. Enillodd
iddo ei hun enw rhagorol fel artist neu scenic painter. Yn y fan yma yr oedd
y Cymro yn maeddu y Sais. |
|
|
|
|
(delwedd
L0995b) (5 Gorffennaf 1900) |
Y tro y gwelais ef cyn hyny oedd yn Nghwmaman, Aberdar. Yr oedd wrth ei
orchwyl fel gof yn Mhwll Shepherd. Fe gefais lawer o'i gwmni yn y lle hwn, a
llawer tro yr aethum gyda'n gilydd i Aberdar a Mountain Ash. Gofynais iddo un
tro os deuai gyda mi i Bontypridd ar ddiwrnod 'stop trucks.' Daeth y fantais,
a ffwrdd a ni. Wedi cyrhaedd Pontypridd, aethom i gael ymborth, ac wedi cael
ein boddloni, cychwynasom i chwilio am Dewi Wyn o Essyllt. Wedi cyrhaedd ei
dy, daeth i'r golwg, ac yna daeth Dewi allan gyda ni, a galwasom yn y
Butcher's, ac yn mhen yr awr yr oeddwn yn nghanol y beirdd. Cychwynasom
oddiyno, ac aethant a mi i fyny i Bontshonorton ac yno cawsom gwmni T
Williams (Brynfab), yr hwn yr oedd yn dda genyf ei weled am y tro cyntaf.
Gallaswn feddwl ei fod yn glaf o gariad ar y pryd, a barnu wrth y caneuon
oedd ganddo ar y pryd. Y maent yn fy meddiant yn awr, oblegyd ymddangosasant
yn y DARIAN. Cewch ddarnau o honynt, dichon, rywbryd. Yr wyf wedi eu cario
genyf drwy yr oll o Loegr, Ysgotland, America, ac yn ol yma drachefn. Daeth yr amser i mi gychwyn i gyfarfod a'r tren, ac aethom fraich yn
mraich i'r orsaf. Wedi cyrhaedd Mountain Ash, cyfarfyddasom a hen frawd o
Nantybwch o'r enw George Lloyd, neu George Mary Shon — dyn digri gyda llawer
iawn o awen barod, ond o radd isel. Yr oedd Myfyr yn uwch ei ben nag ef, er
yn ieuengach. Yno treuliasom yno awr ddifyr, a chlywais waeth yno na glywais
gynt nae wed'yn. ‘Yr oedd yn lladd yn mab (??m[h]ob) llynell, a lladd yn y llwyn, a lladd
a'r fwyall.' Cychwynasom oddiyma, a daeth y brawd Lloyd gyda ni mor belled a Cap Coch,
ac amser difyr a dreuliasom ar hyd y ffordd, ond rhanu oedd raid, ac aeth fy
nghyfaill Myfyr a mi yn mlaen hyd nes cyrhaedd y Cwm, a throisom i fewn i
westdy bychan gerllaw, lle y cyfarfyddasom a dyn elwid John Davies o'r Mardy,
ac ar ol adrodd taith y dydd wrth John mawr oedd ei ofid am na fuasai gyda
ni. Yr hwn oedd y fach, ond lled felus ei stori; ond daeth Mr Bruce ar ein
traws, a gorfu i ni fyned gartref. Wel, yr ydym yn myned yn nes i'r gawell eto. Yr oeddwn wedi ymadael o
Dredegar tua'r flwyddyn 1868, ac yn gweithio wrth yr un grefft a Myfyr; ond
yr oedd ef a minau yn cyfarfod yn aml yn Nhredegar oddeutu y farchnad, ac yn
myned i'r tinshop, neu enw arall oedd arno oedd Pwnchhouse, lle yr oedd holl
ddoethion y dwyrain yn cyfarfod a'u gilydd, sef gwyr Sirhowy. Nid oeddwn yn
medru parablu fawr a'r bobl yma, am y rheswm nad oeddwn wedi bod yn yr ysgol,
ac nad oedd genyf dafod ffraeth fel rhai o honynt hwy, ond gallaf ddweyd
heddyw mai peiriant parablu yw'r tafod. Fodd bynag, nid oedd y Myfyr yn rhy
ffroenuchel i siarad a mi, ac os medrai, fy addysgu. Yr oedd wedi bod yn taraw ar yr eingion go' i Joseph Bevan y gof, yr hwn
fu yn foddlon i ddyfod a Myfyr yn fardd. Hwn ydoedd y Myfyr, sef yr hen
Fyfyr. Efe hefyd a ddysgodd Ezekiel Davies yn fardd gwych, ond Myfyr Wyn, sef
Wm Williams, oedd y 'boss.' Yr oedd ymrafael rhwng William ac Esekiel yn
nghylch pwy oedd i berchenogi yr enw Myfyr ar ol yr hen Fyfyr, sef Joseph
Bevan. O'r diwedd penderfynwyd gosod testyn mewn Eisteddfod, a'r goreu o'r
ddau i berchenogi yr enw. William brofodd y goreu. Eto, nid wyf yn dweyd mai
hyn a'i cychwynodd ef yn fardd, na Chynddelw chwaith. Yr wyf yn dweyd mai
Evan Powell a'i dysgodd, sef mab Twmi Powell (brawd y Parch D. Powell,
gweinidog gyda'r Bedyddwyr yn awr). Evan Powell oedd athraw yr ysgol farddol
yn Carmel ar y pryd. Yr oedd Myfyr a mi yn yr un class yn yr Ysgol Sabbothol,
a Ben Sam (mab Sam Ben Tarw), yn athraw arnom. Nid wyf yn deall fod Cynddelw mewn ffordd i hyfforddi dim ar Myfyr, yn
herwydd fod yr olaf yn rhy ieuanc. Yr oedd Cynddelw yn ymadael o'r lle braidd
yn y man. Felly, yr wyf yn rhoddi y clod i Evan Powell, a'r wobr i Joseph
Bevan, yr hen Fyfyr. Yr eiddoch, Nantybwch. UN O'R LLE. |
|
|
|
····
|
L14 Mehefin 1900 |
ANGLADD MYFYR WYN, Prydnawn dydd Sadwrn
diweddaf ym- gynullodd nifer lluosog o gyfeillion y di- weddar MyfAr Wyn i
dalu y gymwynas olaf i'r hyn oedd farwol o hono. Yn y ty cynaliwyd
gwasanaeth, pryd y cymerwyd rhan gan y Parch. T. Davies, Gwawr, Aberaman. Yna
ffurfiwyd yn osgordd angladdol, pryd y cymerodd Mri. G. M. Evans, T. Thomas.
H. Thomas, H. Evans, A. Griffiths, a W, H. Davies at y ran a gludwyr.
Gwasanaethwyd ar lan y bedd gan y Parchn. T. Davies, B. Evans (Telyn- fab),
Gadlys; a R. E. Williams, Ynyslwyd. Gwelsom yn mhlith llawer ereill, y bOlt-
eddigion canlynol yn bresenol yn yr ang- ladd :—Mri. T. Williams (Brynfab),
Carn- elian, J. Davies (Glan Dulais), J. Griffiths, Y sgoldy y Pare; Gwyngyll
Hughes, Pont- ypridd; Gwynwawr, John Skym, Aber; John Morgan, Aber;
Ffrwdonwy, John Owen, Jacob R. Jones, John Rowlands, John Simmons, Myfyr
Dyfed, loan Is Aman, Bayron, Joseph Harry, Bwllfa; D. Williams, W. Thomas
(Morfab), D. Davies, Cwmbach; W. Thomas, J. Phillips, D. James, Eos Dar,
David Mason, Edward Llewelyn, Griffith Evans, Thomas Lloyd, T. Evans (Tel),
Griffith Thomas (Gutyn Hydref), Gwendraeth Williams, Eurfab, Ap Noah,
Tredegar; Wm. Evans, Porth: John Evans, W. Jones, a David Evans, Aberaman. Y
galarwyr oeddynt, y weddw a'i phlant, Myfyr Ddu (ei frawd), Jonah Phillips
(ei frawd-yn-nghyfraith), a Mr W. Evans, Porth. |
Dyma detholiad
o’r llythyrau uchod o “Gân. Llên a Gwerin”:
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_032_bachan_ifanc_1_0924k.htm

(delwedd L0942)
CAN, LLEN A GWERIN ar gael gan Brifysgol Caer-dydd:
Detholion o
ysgrifau, testun yn unig, a roddwyd arelin gennym yn y flwydd yn
http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_032_bachan_ifanc_detholion_3861k.htm
------------------------------------------------------------------------------
Sumbolau: Æːæːā
ē ī ō ū W̄ w̄ ȳ/ ˡ ɑ æ æːɛ
ɪ ɔ ʊ ə ɑˑ eˑ iˑ oˑ uˑ ɑː
æː eː iː oː uː / ɥ / ˡ ð ɬ ŋ ʃ
ʧ θ ʒ ʤ / aɪ ɔɪ əɪ uɪ ɪʊ
aʊ ɛʊ əʊ /
ә ʌ ẃ ă ĕ ĭ ŏ ŭ
ẅ ẃ ẁ Ẁ ŵ ŷ ỳ Ỳ [ә gæ:r]
--------------------------------------
Y TUDALEN HWN: www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_153_llythyra-newydd_tarian-y-gweithiwr_1895-1900_0318k.htm
--------------------------------------
Creuwyd: 25-08-2017
Adolygiad diweddaraf: 25-08-2017
Delweddau:
Ffynhonnell: Llyfrgell Genedlaethol Cymru
--------------------------------------
|
Freefind: |
Ble'r wyf i? Yr ych chi'n ymwéld ag un o dudalennau'r Wefan CYMRU-CATALONIA
On sóc? Esteu visitant
una pàgina de la Web CYMRU-CATALONIA (= Gal·les-Catalunya)
Where am I? You
are visiting a page from the CYMRU-CATALONIA (= Wales-Catalonia) Website
Weə-r äm ai? Yüu äa-r víziting ə peij fröm dhə CYMRU-CATALONIA
(= Weilz-Katəlóuniə) Wébsait
|
Adran
y Wenhwyseg / Secció del dialecte de Gwent / Gwentian Welsh Edrychwch
ar ein Hystadegau / Mireu les nostres Estadístiques / View Our Stats |
…