kimkat0318k Llythyra Newydd. Bachan Ifanc. Tarian y Gweithiwr. 1895. Tafodiaith Morgannwg (Y Wenhwyseg).

20-09-2025, 12-05-2023, 02-05-2004, 03-08-2002







....

 

A red and yellow flag

AI-generated content may be incorrect.
 (delwedd 0003g)

 

 

 

 

 

Gwefan Cymru-Catalonia
El Web de Gal
·les i Catalunya
The Wales-Catalonia Website

Cywaith Siôn Prys - Testunau Cymraeg ar y We

Llythyra Newydd. Gan Fachan Ifanc.
1895.
(Tarian y Gweithiwr)

(Yn nhafodiaith Morgannwg, neu’r ‘Wenhwyseg’).


Y Llyfr Ymwelwyr / El Llibre de Visitants / The Guestbook:

http://pub5.bravenet.com/guestbook/391211408/


a-7000_kimkat1356k Beth sy’n newydd yn y wefan hon?

Map

Description automatically generated

(delwedd J7523)

.....

Map

Description automatically generated

(delwedd J7058b)

 

Am ragor o destunau Gwenhwyseg gweler hefyd / Per més textos en el dialecte güentià vegeu també / For more texts in the Gwentian dialect see also:

 

dim delwedd
dim testun
Ο testun iw gywiro

wedi ei orffen
.....

31 Ionawr 1895
07-02-1895 Ο
14-02-1895 Ο
28 Chwefror 1895
07 Mawrth 1895
14 Mawrth 1895
28-03-1895 Ο
04-04-1895 Ο
11-04-1895 Ο
18-04-1895
Ο
09-05-1895
Ο
25-04-1895
Ο
16-05-1895
Ο
06-06-1895
Ο y testun i’w gywiro
20-06-1895
Ο
04-07-1895
Ο
25-07-1895
Ο
08-08-1895
Ο
15 Awst 1895
22 Awst-1895
Ο
29-08-1895 Ο
05-09-1895
Ο
12-09-1895
Ο
26 Medi 1895
Ο
03-10-1895 Ο
10-10-1895
Ο
17-10-1895
Ο
24-10-1895
Ο
31-10-1895
Ο
07-11-1895
Ο y testun i’w gywiro
14-11-1895
Ο
21-11-1895
Ο
28-11-1895
Ο
05-12-1895
Ο
12-12-1895
Ο
19-12-1895
Ο
26 Rhagfyr 1895

 

testun gwyrdd – heb ei gywiro

Testun du – wedi ei gywiro

1895

 

 

 

 

None

 

Tarian Y Gweithiwr. 31 Ionawr 1895.

 

LLYTHYRA’ NEWYDD.

GAN FACHAN IFANC.

 

MISHDIR Y DARIAN, - FaIla na alla i sgrifenu fel y dynon mawr, ond wyn dishgwl i chi roi yr un wara teg i fi a nhwnta. Ma'ch papyr chi yn gweid ych bod chi'n perthyn i ni fel gwithwrs, a wyn cretu fod isha papyr arno ni hefyd. Ta ble bydd cwrdd mawr, fe gewch ddigon o ddynon i gatw digniti y big guns, ond dicyn bach iawn sydd o son amdanon ni, os na fydd explosion, a wyn cretu fod isha i ni gal explosion tu fas gystal a tu fiwn. Dyna'r wthnos ddwetha odd lot o ddynon mawr yn Cardydd, ond dim son on am danon ni.

Ffeiraton a phregethwrs odd yn cal y sylw yno i gyd achos y disestablish, ond wyn cretu fydda fe'n well i'r wlad ta'n nhwn gweid gair ffordd i sefyll rhwngy gwithwrs a'r mishtri cyn bo'i yn dod yn stop bothti mish Mawrth. Nawr amsar ma'r weels yn troi yw'r amsar I Mabon, a Brace, a Dafydd Morgan, a’r holl git i gyd i setlo cwestiwn, a nid ar ol i ni haner starfo ar y streic. Wy wedi gweld ffordd ma nhw'n dod i notis. Pan i ni’n gwitho, os ta ni ddim amsar i ddishgwl llawer arni nhw, ond pan bydd streic, ma son am dani nhw yn mhob man. Cofiwch chi nag os gen i ddim yn erbyn y boys, os stica nhw i neyd lles i ni; ond dyna wy i’n weyd, catwch y weels i droi.

 

Falla bod yna'n ddicon ar y pwynt yna'n nawr, ac fe ewn at beth arall heb ddim seremoni. Ble ma'r bechgyn i ni wedi gwni yn Nghymru i'r pylla glo? Os dim son am dani'n nhw yn y DARIAN yn gwneid dim er ein lles ni i gal bara chaws. Ma amball un yn pregethu mewn cwrdd mawr, a amball un yn enill mewn steddfod, ond do's dim llythyr gyta neb o nhw’n yn 'n papyr ni fel gwithwrs. Ma nhw'n ala i i feddwl bod nhw above I gwmpnia a ni yn awr; ond fe alla nhw fentro bod chaps lled dda yn labro’r nos, a fe glywas i un yn gweid englyn ar y testyn sy gyta ni nawr. Weta i ddim o enw’r bachan oedd e'n weid am dano, ond fe weta'r englyn wetodd e wrtho yn Stasion Pontypridd, —

 

O! yr hen wag, er i ni - — yn y Cwm

I wneud camp ag egni,

O geudod llwm dy godi,

Slab dash sy'n dy sboilo di.

 

Gwetwch chi beth fynoch am yr englyn, dw i ddim yn diall englynions, ond wy'n diall bod hwna'n gweid y gwir am lawar heb hwna oedd e’n gweid wrtho, a wy'n cretu yn yr atnod – “Y gwir yn erbyn y byd."

 

 

 

07-02-1895 Ο

 

 

LLYTHYRA' NEWYDD.

 

GAN FACHAN IFANC.

 

MISHDIR Y DARIAN.-Wy'n gwel'd bod chi'n eitha trwmpyn i atal i'n llythyr i dd'od ma's yr wthnos ddywetha. Dw i ddim yn lico brago m'unan, ond wy'n dicyn o judge 'run pryd, a fe allwn i feddwl fod yn llythyr i yn dishgwl gystal a llythyra' Mr. Hwmffra Huws, a'r gwyr mawr erill sy'n 'sgrifenu i'ch papyr chi; ond wy'n gweid yto nag w i ddim yn brago m'unan. Ma'n dda gen i weid fod eduwcashon wedi cwnu'n gwlad fach ni yn y blynydda' dy- wetha ma, a bod gyta ni shwd lot o fech- gyn da yn yr House o' Commons — bechgyn piwr i' nhw jest i gyd, ond fod rhai o nhw fel sa'n nhw'n danto achos bod cwpwl o'r rhai ianga' yn d'od i'r ffrynt. Bachan bach net yw Thomos 'Sguborwen, i bleto'i bwnc: a mae e'n eitha' right os yw e'n credu ta fe sy'n gwpod ora. Llaw budir yw Lloyd George wetin; fe 'nela fishdir haliars first class, achos fe fyniff i ffordd i hunan tysa esgob yn trio'i stopid a. Dyna bixwa aaynon syaa- arnon ni iaha fel Cymry, achos ma dicon o hen gowards wedi ala blynydda' yn gneid dim yn enw'n gwlad ni ond ma Lloyd George mor sharp a nytwdd, fel sa fa wedi cal i neid yn Sheffield, a ma dicon o gift of the gab gyta fa hefyd. Lwc dda iddo slasho hen dyr- ants, a mynid wara teg i'r Nanyogats weta i ta beth. Rhaid i fi bido paso heibio Twm Bach Ellis. Ma fe wedi pwsho'i hunan yn lled dda, medda nhw: ond wy'n ffaelu gwel'd dim sense bod nhw'n galw whip arno fa. Fysa well gen i iddi nhw alo haliar' arno — fydda'n fwy respectable, allwn i feddwl. Ta beth am hyny, ma fa'n bartnars piwr gyta gaffer yr Huose o' Commons, a fe glywas i fod a'n wilia, ac yn rido gyta fa bothti Ca'rdydd 'run shwt a dou drwmpyn. Gobeithio nag aiff a ddim yn ormod o sleb- yn a trio myn'd miwn i'r House o' Lords, onte fe fydd yn all up arno ni i wel'd a wetin am byth, a fe fydd yn rhaid i ni ganu: — i Ar y mesur Calon Drom,' Dyma lle cuddiwyd my Lord Tom, Yn mhlith arglwyddi'r llaid a'r dom. (Rhaid i fi bido dechra gneid pishis o ganu, onte fe ddaw bachan yr Hendra a'i ffon fucal ar y nghrwmpyn i). Ma gen i lot i weid am foys y Parlamant, ond walla bod gwell i fi bido gweid racor nawr spo'n nhw'n cwrdd a'u gilydd yn y Ty Mawr i drafod pwnc y Disestablish. Wy fel 'swn i'n gweld y tan a'r mwg yn awr, a gwres calona meibion Cymru yn fflamio ar i tafoda nhw, ac arguments llipa y Tories yn cal i llosgi fel gwellt, a ffeiraton a scobion Cymru yn cilio at y Pope o' Rome i gal i diffod mewn holy water. Gwddoch chi beth, wy want gweld y panorama 'n dod, ac ma'r pwnc wedi bod ddicon hir yn cal i gorddi yn y wlad, nes mae y wedi mynd yn ddiflas, ac ma'n llawn biyd newid y testyn. Ma pie dychrvnllyd wedi bod gyta ni yn y gwaith bothti pwy sv' i fod yn Archdder- wydd yn 'Steddfod Llanelli. Ma Morian yn uso'r enw o hyd. a ma Hwfa Mon wedi cal i neid yn Chestar. Odd rhai o'r chaps yn gweid bydd i siwr o fod yn fatl rhyngti nhw, a taw dyna beth ma'r ring o geryg dda ma nhw'n neid amsar 'Steddfod, yw lle i ymladd os bydd dispute, fel sy' gyta'r champions, ond taw raffa sy' gyta nhw yn lle ceryg. Wel, wy'n gweld dicon o sense yn y peth yna hefyd, ond fysa well gen' i gal raffa rownd i'r ring yn Llanelli yn lle ceryg, a symud yr hen garag fawr o'r ffordd yn y canol i ga'l He i swagro, a dim lle i gilio nes bod un o'r ddou wedi liwo'n deg. Fe ddyla gwyr y North dynu Hwfa lawr, achos mae a'n drymach na Morian, ond fe fydd shawns gyda Morian i gitcho yn i wallt a, ond ma arno i ofan fod mwy o bartnars gyta Hwfa, achos nad yw Morian ddim yn fardd, a beirdds fydd i gyd round i'r ring. Beth wy'n boddrach < 'Nawr cofias i-ma Morian yn bartnar i'r Western Mail, a ma'r Western Mail yn bartnars a'r tafarnwrs, a fydd rheiny gyd gyta fa, a ma'r tafarnwrs yn bartnars i Dai St. John, a Mitchell, a Corbett, a rhyngti'n nhw i gyd fe fydd Morian yn right i wala. Arno i ofan na cha nhw ddim'amser i ymladd y batl ma's cyn daw Pedr Hir a Charles Ashton i roddi stop arni. lled debyg ta draw fydd hi. Dychmygaf glywed Dyfed yn gweiddi, 'A oes heddwch?' A'r beirdd, a'r tafarn- wrs, a'r champions i gyd yn ateb, Hedd- wch.' Rhaid i fi bidio bod yn rhy ewn ar y dechra ma, i uso gormod o ch papyr chi, wetni ma'n well i fi dropan hi fan hyn, gyta gweid yr atnod,' — Cymru lan, Gwlad y Gan. (

 



 

 

 

14-02-1895 Ο

 

LLYTHYRA' NEWYDD.

GAN FACHAN IFANC.

MISHDIR Y DARIAN, - Fe geso i delephone wedi i fi 'sgrifenu y llythyr dwetha, a rhag ofan nag yw'r daiilenwrs i gyd ddim yn diall shwd beth yw telephone, ma'n well i fi'n gynta' roi exblanashon iddi nhw o hono fa, fel geso i m'unan gyta bachan diarth o scolar pan dda'th a mt^s gynta, a dyma fe. 'Sposwch ch'i am filgi mawr hir, a'i gwt a yn 'Berdar, a blan i drwyn a yn Llundan, a tysa ch'i yn damshal ar i gwt a yn Offis y DARIAN. Wow," medda fa mwn wincad yn yr House o' Commons. 'Nawr i chi'n diall amcan shwd beth cwic yw telephone. Ond dyna o'n i yn dechra gweid odd, fod r'wyn wedi ala telephone i fi gyta bod y'n llythyr i wedi d'od ma's yr wthnos ddwe- tha yn achwyn nag o'n i ddim y:i drwm- pyn. i bido son dim am Mabon gyta'r Em Pees yn y'n llithyr. Beg pardwn, meddwn i wrtho'n gwmws, alla i ddim gweid am bawb 'run pryd. Eitha' boy yw Mabon fel membar, a chlywas i ddim neb yn gweid llai nag odd a'n stico old ffast gyda'i bart- nars wastod, pan fydd rwpath yn myn'd mla'n bothti ni fel Cymry. Ond arno i ofan fod cetyn o fai arno ni'n fynych os daw bachan clawd o Gymro y' mla'n rh'w- ffordd i ni fel sa ni'n jealws wrtho, ac yn barod i ddanod beth odd a 'slawar dydd. Wy wedi clywad rai'n gweid am gaffers a manijars, County Councilors, a bechgyn; erill sy wedi stico i ddod i dori mare yn y byd, — "O," medda nhw, "wy'n cofio i hwna yn tori glo," ne "wy'n conoj hwna yn drifo buwchod yn Shir Gar," a wy'n cofio hwna heb ddim scitsha sana ar i dra'd yn grotyn." Mwya' i gyd dylai ni barchu nhw, allwn i feddwl. Ond dyna sy'n shimpil yno'n ni yw, y'n bod ni'n barod i lio dwylo "dynon dod" os bydda nhw m'wn rh'w fath o bosishon, ac yn tori ticyn o swel. 0 ma hwna'n wr bon- eddig, medda ni'n gwmws, a falla bydd i dadcu a wedi cal i groci am dweid defed, a'i famgu a wedi bod yn y jail am weid j ffortshwns. Cofiwch chi nag w i ddim yn [ gweid dim yn erbyn i Sais, na Scotyn, i Wyddel, na Jew, na undyn arall i ddod mlan, os na fydd a wedi dod mlan trw rogri. Dyna wy i'n pwynto ato, yw'n bod ni yn fwy parod i dwtsh yn heta i ddynon diarth nag i fechgyn talentog Cymru. I ni fel sa ni yn i gwel'd nhw'n berffath i gyd, fel ma bachan ifanc yn gweid i wedjan. Wy'n cofio un noswaith dywill, odd Shoni'r Halier wedi colli'i gap, ag odd a'n wilo am dano wrth gefan clawdd, ag odd cwpwl yn caru'r ochor arall, ond o nhw ddim yn gwpod bod Shoni yno, a medda'r bachan odd yn caru wrth i nhw ddim yn gwpod bod Shoni yno, a medda'r bachan odd yn caru wrth i wedjan, — "O! nghariad anwyl i, wy'n gwel'd y byd yn dylygadti." Fegwnws Shoni 'i ben ar unwaith, a fe ofynws iddo, — " Wyt ti'n gwel'd y' nghap i yn i llycad hi, boy?" Beth wy'n trio ala ato yw hyn, fod isha dynon arno ni sy'd gwpod beth i ni'n mo'yn, ac yn folon i'n helpu ni i ga'l beth i ni m'wn isha. Gobeitho bo'ch chi'n diall yr hynt. I ni wedi trio Fforiners yn ddicon hir, allwn i feddwl; a chan fod gyta ni fechgyn yn cwni ar y'n toman ni'n hunen, dewch i ni roi wara teg iddi nhw, a chlapo'u cefna nhw, yn lle towli slwdj a baw iddi gwynepa nhw. Ma lle i ofni'n bod ni wedi colli llawar o fechgyn da cyn hyn, am nag i ni ddim yn anrhydeddu proffwydi ein gwlad ein hun. Rho'wn wara teg i Gymro, A wara teg i Sais, A wara teg i bobun Gwn ddwrn yn erbyn triis. Ma nhw yn gweid wrtho i bod llawar o son nawr am gwni hen gorff di-ben Llew- elyn ein llyw o]a' o'i wely pridd. Wn i ddim yn iawn beth sy i weyd am hyny. Cafodd ddicon o'i boeni pan odd a byw, heb fyn'd i shiglo'i hen sgerbwd nawr ar ol bod y'n tadau ni wedi bod yn gweid uwch i ben a,_H Heddwch i'w 1wch." Wy'n cofio clywad son am i blue a er pan o'n i'n blen- tyn, a wy'n eydwel'd i'r dim a doti carag ne rhwpath i dalu parch iddo, ond beth yw'r ots b'le ma fa'n gorfadd. Wetiff a ddim o hanes y batls fu a'n ymladd wrthyn nhw, tysa'i ben a gyta fa. Fe ddyla pob Cymro barchu'r son am dano, as argol dda yw fod ticyn o fwstro o bothti fa ma hyny yn dang(s fod rhywfaint o respect gyta dynon mawr y'n gwlad ni. Ma llawar o hen chaps da yn gorfadd yn y'n myn- wentydd ni sydd wedi ymladd yn galad droa y'n gwlad ni m'wn llawar ffordd heb gyta'r cleddyf a'r bwa sath, ond do's dim son am danynt, rhacor na bod nhw wedi marw. Trueni yw hynv, ond falla bydd dynon newydd Cymru ""E^dd yn cwnw'u; hanas nhw yto. Wy'n cretu y'n bod ni yn dod yn fwy gwladgarol bob dydd. I fi ga'l cwpla 'n didy, ma'n rhaid i fi weid atnod yto,- "Pa wlad wedi'r siarad sydd Mor lan a Chymru lonydd V >



 

 

A close-up of a newspaper

AI-generated content may be incorrect.

(delwedd  L0943a) (28 Chwefror 1895)

Tarian y Gweithiwr. 28 Chwefror1895.

 

LLYTHYRA' NEWYDD.

GAN FACHAN IFANC.

 

MISHDIR Y DARIAN, —
Ma nhw yn gweid wrtho i fod dynon mawr y wlad yn lico catw y gwithwrs yn ddigon ishal, fel bo nhw’n gallu gaffro nhw’n well. Wel, wy’n cretu fod y tywydd wedi joino gyta’r gwyr mawr hefyd, a ma’r ddou bowar cryf hyn fel dou elephant yn damshal dynon clawd i farwolaeth bron ar hyn o bryd. Dw i ddim dros rytag y gwyr boneddigs lawr hefyd, wath ma llawar o nhw yn acto’n first class shag at y clodion pan ma’n nhw’n u gweld hi’n mynd i bwsh, a falla bod llawar yn u trin nhw na fysa ddim haner cystal tysa nhw up the ladar. Dyna’r trueni na fysa rhai sy a dicon o arian gyta nhw yn speculato i roi gwaith i bawb. Wy’n gweld bod yr Em Pees yn dechra acor u llyced nawr i ffindo gwaith i rai sy’n starfo, ond ble ma nhw wedi bod c’yd? Own i’n meddwl wastod bod specs cryf gyta dynon fel nhw i weld y’mlan yn mhell, a bod nhw’n darllan y llifyr mawr yna ma nhw’n galw “Arwyddion yr Amsera” arno. Ma’r llifyr hyny’n gweid, os nag wy’n camsyniad, ma dyma fel bysai ar ol stopid cymant o bylla, a gwitha harn, a dur, a gwitha tin, a phob short o lefydd lle odd dynon yn enill bara chaws. Wy’n Radical i’r bôn, fel gwddoch chi, a fe licwn weld y Disestablish yn paso gystal a neb, ond wy’n folon i dowli a mla’n am spel yto nes bo’r membars yn setlo ffordd i gal gwaith i’r miloedd sy’n secur, yn lle bod hi’n mynd yn ddisestablish rhwng cyrff ac eneidiau gwithwrs trw bob part o’r wlad.

Ma arno i isha gweid gair ne ddou o bothti’r pwnc hyn wrth Lord Bute, a Lord Dunraven, a Lord Tredecar, pryd cwrdda i a nhw, ne fe allwch chi ala’r Darian iddi nhw, os mynwch. Ma nhw wedi cal u shar o goin bob un o’r wth y gwitha sy ar u tir nhw, a din nhw ddim yn folon speco dim er lles gwithwrs. Ma’n well gyta Lord Dunraven i sgwandro tocins ar rasis bata yn erbyn y Yancies na chwmpo dim dima o’r royalties ar y glo sy’n cal i gwni ar i dir a, er fod lot o bylla’n secur nawr o achos ffaelu talu ffordd. Beth yw’r ots gyda fe; dyw e ddim wedi ala dima iddi shinco nhw, ond ma fa’n watshan pob cnepyn o lo ddaw lan, a dyw’r Slidin’ Scale ddim yn cwmpo dim ar i gownt e byth; ond tyswn i ar y Scale, fe rown i eitha wad o 100 per cent iddo mwn bothti wincad, a w i yn ffaelu diall na fysa Twm Isac yn mwstro o bothti peth fel hyn, wath ma fe’n lled gwic i weld twlla, a ma fa wedi dangos bod a’n gwpod cetyn, os nag yw a’n gweid llawar. Nawr, Twm bach, dyna fi wedi rhoi point i ti: gwitha arno fel canon boy. I ti’n gweld shwd mae sha top y Rhondda.

Ma’n rhaid roi clowtan i Lord Bute hefyd. Beth ma fa’n pido starto’r pwlla sy gyta fe’i hunan; ma rheiny bound o dalu’r ffordd, wath os dim royalties gyta fe i dalu i neb. Tysa nhw yn talu dim

 

 

 

A page of a document

AI-generated content may be incorrect.

(delwedd  L0943b) (28 Chwefror 1895)

 

 

 

iddo, ond jest dod a’r ddou pen i gwrdd, fe ddyla u catw nhw i fynd, er mwyn y dynon sy’n talu grownd rent iddo. Wy’n gwpod gall a ffwrdo o’r gora, wath ma dicon o dabs yn dod miwn iddo o bob man, os nag os rwyn yn cael shar gyta fa; falla fod rwyn yn cal gormod gyta fa, os i ni yn cal rhy fach.

Ma nhw’n gweid ta short o fachan piwr yw Lord Tredecar, os byddwch chi’n i gwmpni a. Fe welas fod a wedi bod yn spowtan yn Cwrdd Blynyddol y tafarnwrs yn Casnewydd wthnos cyn y dwetha bothti’r House o Lords, ag odd a’n gweid shwd fechgyn i smaco gwaith o nhw: iddi nhw gwpla araeth Mrs. Victoria (?) cyn cino, ond fod gwyr yr House o Cymmons wedi bod dros wthnos, a dim wedi cwpla’r jobin yto. Bod yn werth i’r Commons gymryd leson gyta nhw, ac odd y tafarnwrs yn werthin yn iawn, a fe roison iddo ifad wetni, fel i ni’n arfadd gneid ar ol i fachan ganu cetyn o ganu piwr. Tysa’r gwr byneddig yn starto gwaith harn ne waith dur sha Shir Fynwa, i roi start i gwpwl o filodd iddi nhw gal tamad o fwyd, fe fysa’n getyn well trwmpyn, a fe ddela ysbryd Ifor Hâl i glapo’i gefan a, ac ysbryd Dafydd ap Gwilym hefyd i ganu iddo fa ar ben y pren lle odd a’n cwato o’r wth y merched slawar dydd. Cywydds odd Dafydd yn arfadd neid, achos odd dim o mesura y “Daisy Bell” a “Stylish Marriage” mewn ffashwn yr amsar hyny, a lled depyg ma rhwpath fel hyn bysa fa’n canu nawr i Lord Tredecar: -

O! my lord, nawr dyma le,
Rhag aflwydd, dyro gyfle
I budlars a balars gal bwyd,
A rhyw genel rhag anwyd;
Agor waith rhyw gwr o Went,
Yn deilwng, o dy dalent,
A fel Ifor Hâl hefyd,
Heddyw’n biwr gwna dda’n y byd.
O’r dicon sy’n “Tredecar,” (Olnodyn: Enw ei breswylfod)
Rho un spec o’r arian spar;
I lu Gwent, rho le i gal
Ciniog, ne ddwy, i’w cynhal;
Treni bod y truain bach
Yn llwgi’n fechgyn llegach.
Dera a shar o d’arian
I roi scwt i withwrs gwan;
Rhoi lliw tân têr allet ti
Ar nos yr hen ffwrnesi;
Da, boy bach, tro bwynt dy ben
At engur grytiau anghen
Yn hafal i’r hen Ifor,
Eitha’ stamp, O! rhana’th stor;
’E gei dal, ’e gei delyn,
A gwên Duw, os gwnei di hyn;
’Dyw arian, pan ai di i orwedd,
Yn werth y baw wrth borth y bedd.
Ar elor ei di i rywle,
O! my lord, meddwl am le –
Respectabl.

Own i’n meddwl gweid lot racor o bothti’r pwnc hyn, ond fe a’th ysbryd Dafydd ap Gwilym i shwd hwyl, fel ma’r barddonwrs yn arfadd myn’d, nes iddo fa dwcid cetyn o le’n llythir i. Falla cewch chi dicyn o adishon gyta fi rywbryd yto, os na fyddwch chi'n meddwl mod i am ddangos gormod o dwtsh wrth droi yn nghwmpni’r lords of the land. Gan taw gyta nhw wy' wedi bod yn wilia fwya'r tro hyn, ma'n well gweid atnod Sysnag, —

“The quality of mercy is not strained: it dropeth like the gentle rain from heaven."

 

A close-up of a text

AI-generated content may be incorrect.

(delwedd L1015a)  (07 Mawrth 1895)

Tarian y Gweithiwr. 7 Mawrth 1895.

LLYTHYRA’ NEWYDD.
GAN FACHAN IFANC.

MISHDIR Y DARIAN, —

Fe geso bishin o englyn gyta bachan sy'n labro'r nos, ar y fatch fu rhwng Shamberlain ac Ascwith yn yr House o' Commons, a dyma fe, -

Er dig gythreulig athrylith,- humbug
Shamberlain a'i ragrith,
Hen fwli chwain, — efo'i law chwith
I'w eitha' ysgwyd daeth Ascwith.

Odd y bachan yn gweid wrtho i fod lot o nic-nacs mwn englyn, a ma fa isha i chi fod yn byrticular wrth i brinto fa. 'Nawr, Syr, trw fod yr englyn yn brago'r Home Secretaree, fydd a ddim yn ffol o blan i chi gatw copi o fa, wetin tysa chi'n dicwdd rhoi ergyd anhap i d---l y wasg am neid blunders, a'i ladd a, a'r judge yn paso i chi gal y'ch croci, dim ond ala copi o'r englyn i'r Home Offis, fe gewch repreeff os dim dowt. Ma llawar ffordd i ladd ci heb i groci fa, glywas hen ddynon yn gweid, ond dw i ddim yn galw ci arnoch chi Syr, ond dangos bod isha bod yn gute, i chi'n diall?

Ma alabaloo dychrynllyd wedi bod rhyngto i a'r fenyw lle wy'n lodjo. I chi'n cofio mod i'n wilia trw'r DARlAN gyta Lords Dunraven, Bute, a Tredecar? Wel, fe wetws pob un o nhw wrth i clercs am ala nol ato i'n gwmws, a fe ddath y Postman a thri llythyr splended i fi yr un bora, a pryd gwelws yr hen sgrwban y bachan yn i towli nhw un ar ol y nall fel-ni, dyma hi'n scriwo 'i hen wefla, ac yn gweid mod i bownd o fod yn un o'r Balfor Company! Fe, ddath y mwnci ar y nghefan i mwn wincad, a fe wetas, — Cera oddna yr hen burtibelo; a fe gofias am ffra Tudur Aled a'r fenyw odd yn gwerthu pysgod, a fe gymras fentig peth o'i dools e' i drin i chorff hi, a fe widdas mas, — yr hen “Glogyrnach," wyt ti'n cysgu bob nos gyta “Twyll Pengoll," ac yn myn'd bothti i bob man gyta "Tawddgyrch Cadwynog:" a fe glywas weid bod dou “Grych a Llyfn” yn dy “Gyrch a Chwta" di. Fe aiff “Cadwynodl" a ti rhw getyn i ben "Parnassws." a fe dy dowliff di dros ddibyn difancoll a chlogwyni ebargofiant, i waelodion abred! Ond dyna hi'n screchan, a gwaeddi "Witnes" ar y Postman, a bwrw'r ford o'i dwrn, a gweid gan 'sgyrnu, — “Fe af at Morgans y Cyfreithwr heddy’ a fe fyna Slandar a Libal, a fe naf iti grafu dy gerna am y'n insulto i yr hen scamp." Cera di moin Mr. Morgan, Mr. Slandar, a Mr. Libal, a dwsin o'u short nhw, meddwn i; wy'n transacto bysnes a mwy dynon na nhw o getyn, Fe wishgws i shawl a'i bonat, a off a hi i wilo am deni nhw, sposo, a fe geso i lonydd i ddarllan y llythyra'. O'n i'n meddwl ta Cymrag fysa nhw'n sgrifenu, trw ta o'n gwlad ni ma nhw'n cal y coin, ond walla bod nhw yn cretu bysa fa yn fwy respectabl i ala ato i yn Sysnag. Yn lle bod chi'n meddwl ta bosh sy gyta fi, dyma fi yn ala'r copies i chi fel geso i m'unan, a dyma nhwy, —

Imaginary Chambers,
Danyravon,
March. 2nd.

DEAR BACHAN IFANC, — My Lord has advised me to acknowledge your remarks concerning him in the DARIAN, and feels elevated that he is not interceeded in his business only by a Non compos mentos, such as you.

Yours truly,
JOHN COWARD, (Private Sec).

BACHAN IFANC, Esq.,
Tarian y Gweithwr.

Lled dda, ond te fa? Rhag ofan na fyddwch chi ddim yn diall y geiriau Llatin sy ar y diwadd, ma'n well i fi esblaino i chi'. Wedi i fi wilo miwn mwn saith Dicshonari, o'n ni ffindo mas ta dyna beth ma nhw'n feddwl yw, dyn a phen ots na'r cyffretin. Shwd lycach chi gal complimant fel-na gen Lord, eh?

[Cera oddna, bachan dwl, mae a'n gweid bod [i] ti'n screw loose. — Cysodydd.]

Nawr am y llythyr nesa ma hwn yn well yto, —

Supposetoble Chambers,
Mount Suet,
March 2nd, 1895.

DEAR BACHAN IFANC,- I am authorized by my Lord to thank you for the remarks upon his lordship in last weeks' DARIAN, and wishes me to let you know, that he will gladly let you have six foot of his ground freehold, when you are ready to go down, and sooner the better. Yours sincerely,

MURPHY FITZGEROLD CHRONICLE (Private Sec).

 

 

A page of a newspaper

AI-generated content may be incorrect.

(delwedd L1015b) (07 Mawrth 1895)

BACHAN IFANC, Esq.,
Tarian Office.


O'r boy ag e'. Ma fan folon roi tir yn freehold i fi shinco lawr i'r "wech," i chi'n gwel'd. Nawr, wy'n barod i roi shawns i staff y DARIAN i joino gyta fi yn gwmpni, a fe fynwn Slidin' Scale y'n hunen, a chaiff Mabon na neb o'i git bwsho'u trwyna miwn at all.

[Wyt ti'n myn'd yn ddwlach o hyd, Bachan Ifanc. Gweid ma'r dyn roiff a dir i dy gladdu di, a gora i gyd pwy mor gyntad. — Cys.]

Wel. i ewn yn mlan yto, ys gwetws y pregethwrs. Mae'n geino o hyd. Dyma'r nall,

Gwern y Cleppa Chambers,
Gwentland,
March 2nd, 1895.

DEAR BACHAN IFANC, — It is a great satisfaction to me that I am directed by my Lord to thank you for the generosity you showed him in your letter in the TARIAN, and advises me to invite you here next Mabon's Day. Please, when you come, to give two heavy knocks, and one light knock, on the door. so we may know who will be there, so that we can get our guns ready.

Yours up to date,

TIM AP DAFYDD AP GWILYM BUCHANAN. (Private Sec.)

BACHAN IFANC, Esq.,

The Darian.

WeI, dyma hi'n ddecha o'r diwadd. Ma nhw wedi setlo gyta'u gilydd i neid gwr byneddig o ii, o's dim dowt. Dyna un yn Iwo mod i'n ddyn ots na dynon erill, a'r nail yn rhoi shawns i fi i fod yn fishdir gwaith, a nawr ma hwn yto yn moin i mi ddod mas i saethu gyta fe, ac yn doti’r drylla yn barod erbyn bo fi'n d'od.

[Wyt ti wedi hurto "Bachan. Wyt ti ddim yn gallu gwel'd y red light? Fe fyddan mor wired o dy saethu di, a bod milgi yn Cwm Rhondda, os ai di ati'n nhw. Cys.]

Fydda i ddim run shwt a llawar ar ol dod lan, yn mynd yn ormod o slebyn i wilia sha chi. Na, na, os caiff y lord a fi dicyn o lwc Dydd Llun Mabon, fe ddwaf a scwarnog i chi, Mishdir y DARIAN, a bob o wningan i dd---l y wasg, a boys erill yr offis, i fi gâl ych catw chi i gyd yn bles os galla i; wath ar ol i fi fynd up in a balw^n, fe fydda i yn ala llythyra' i'r DARIAN wetin. Nace fel ma rhai yn gneid ar ol câl i cwni bothti dair troedfedd i ben platform, steddfod, ne gwrdd mawr, yn troi'u cefna, a mynd i 'sgrifenu Sysnag i Ha’ Penny Hoppers Cardydd am ginog y lein. Fe fydda i yn drwmpyn old ffast, fe allwch fentro; ond os gwelwch chi fi a un o nhw gyta’n gilydd, pidwch a pwshio'ch unan yn mlân, ond fe allwch roi bow, a fe blyca ina’n  mhen i ddangos mod i yn ych napod chi.

Wedi i fi weid wrth y martner sy n labro'r nos am y tranactshons rhyngo i a'r lords, fe nath bishin o benill i fi’n gwmws, ond fysa well gyta fi iddo bido câl dod mas, yn lle bod chi'n meddwl mod i’n brago'm unan. Ond dyna  - yn lle bod e'm dicio, miwn a nhw. Fel hyn oedd e'n gweid: -

Fe fydd y “Bachan Ifanc,"
Cyn b'o hir, cyn b'o hir,
O'r wtho'n ni yn dianc
Cyn b’o hir;
Ma'n meddwl mynd yn masher,
A gwisgo stand up colar;
A fe a Lord Tredecar
Yn saethu fel dou boatcher,
Cyn b’o hir;
Ond bydd e’n fachan clefar,
Cyn b’o hir, cyn b'o hir.

'Rol iddo gwpla shinco
Lawr i'r "'wech," lawr i'r “’wech”,
Aiff cano'dd ato'i witho
Lawr i'r "'wech;"
Bydd d---l y wasg yn stwmpyn,
Ac Wmffra Huws yn glercyn,
Caf fina hefyd jobyn,
A'r staff i gyd mhen cetyn
Yn y “'wech,"
Fe fydd yn eitha trwmpyn
Yn y “'wech," yn y “’wech”.

Caiff Brynfab fod yn Brocer
Yn Nghaerdydd, yn Nghaerdydd,
I werthu'r glo fel swindler
Yn Nghaerdydd;
A phan ddaw'r gwaith i drefan,
I bawb gal ffordd i hunan,
Bydd Mishdir mawr y DARIAN
Yn bartnar piwr i'r “Bachan,"
Yn Nghaerdydd,
I helpu'i ala'r arian
Yn Nghaerdydd, yn Nghaerdydd.

Cyd ag oedd e'n canu i fi, o'n ni'n meddwl am atnod fach didy i gwpla, a dyma hi:-

“Cân di benill mwyn i'th nain,
Fe gân dy nain i tithau."

 

 

 

Tarian y Gweithiwr. 7 Mawrth 1895.

 

LLYTHYRA' NEWYDD.

GAN FACHAN IFANC.

 

MISHDIR Y DARIAN, —

 

 

None

(delwedd L1016a) (14 Mawrth 1895)

Tarian y Gweithiwr. 14 Mawrth 1895.


LLYTHYRA' NEWYDD.

GAN FACHAN IFANC.

MISHDIR Y DARIAN, — Os nag i'ch chi'n dysgu gwell manars i'r crotyn yna sy'n printo, wy'n myn'd i jacko lan. Beth ma fe'n gwpod bothti'n musnas i? Ma'r geira insultin ddotws a miwn yr wthnos dwetha wedi ala fi'n dost, a fe ala i fe'n dost os gnaiff a'r tric yna yto.

Cadw dy fy fys o'm musnas i,
Neu heb un top 'e fyddi di;
Mae cleddyf rhyddid yn fy llaw,
Gan hyny cadwed pob corach draw.

Dyna fi wedi spoilo dicon o bapyr i wilia sha hwna 'nawr wy'n myn'd i ddangos shwd beth yw cal introductshon at ddynon mawr. Fe gwnas y'n ysbryd lan, a fe wetas wrtho'i m'unan, — Gan bod nhw'n meddwl cymant am danot ti, tria dy law 'nawr i gal

INTERVIEW

gyta rhw wr boneddig bothti y Slidin' Scale. Gan fod Mabon yn dost, o'n in meddwl gallwn i neid lles yn y point yna, a fe daclas y m'unan lan gora gallswn i fel speshal reportar, a fe startas bora dydd Llun a ffon yn un llaw, a Gladston' Bag yn y nall, a bocsad o sheegars yn y mocad. Wrth bo fi'n myn'd yn y train, odd pawb yn dishgwl arno i, ond o'n ni ddim yn neid notis o neb nes i fi gyrhadd ty Syr Barn Ganolog.

Wedi i fi gnoco, dyna rhw slebyn a ffront wen yn dod at y drws, a gneid bow i fi, a fe estynas ina gardan iddo i ddangos pwy o'n ni, a'r geiria m'wn llyth'rena cochon, -

BACHAN IFANC
Y Darian.

a pryd gwelws a'r gardan goch a'r Gladston' Bag, fe feddylws ma Anarcist o'n i, a bod dynamite gyta fi yn y cwtyn, a fe gwmpws mewn ffit. Wedi iddo gal llymad o ddw'r, fe dda'th idd i Ie, a fe ddiallws ta bachan piwr o'n ni (achos i fi roi llymad o o frandi iddo 'n sly), a fe introdusws fi i Syr Barn Ganolog. Dyma wr byneddig, meddwn i yn y fynad y gwelas i a, a wir, fe actws fel gwr byneddig.

"Ifwch chi lasad o Shampain?” medda fa. "Thancu, syr," meddwn ina; ac er mwyn dangos iddo fa mod i'n diall rhwpath, fe wetas doast fel hyn, —

“Shampain for a real friend,
And real pain for a sham friend."

“Or boy ag e' medda fa, a dyna ni 'n bartnars yn gwmws.

'Nawr am waith, meddwn i yn y m unan.

"Wy' isha wilia gyta chi, syr, bothti busnas y Slidin' Scale sy' jest a darfod.”

"Darfod," medda' fa; “na, ddim mor shêp ag i chi'n feddwl. Ma’r Sleidin’ Scale

 

 

None

 

(delwedd L1016b) (14 Mawrth 1895)

 

wedi bod yn fendith i Gymru, a fe fydd yn fendith yto dim ond isha clwtyn sy' arni, a ma'r doctoriaid yn ffaelu setlo b’le mae'i ddoti a."

"Wel done," meddwn i; “i’ch chi yn gweid yn biwr, ond os na all y'n doctoriaid ni ddiall 'i chlefyd hi, fydda fa ddim yn well ala at Fforiner Doctor?"

"Pwff, pwff," medda fa, "o'n i ddim yn meddwl y'ch bod chi mor dwp. Pils Dr. Fed. sy' wedi ala'r gwaew arni, a 'dyw hi ddim wedi bod yn iach byth a fydd hi ddim yn iach hefyd nes cal pwltis gwirionadd ar i chest hi."

“Wy'n lico 'ch clywad chi yn wilia, ond dw' i ddim yn y'ch diall chi."

"Dear me, ma'n rhaid i fi stwtfo sense lawr i'ch bola chi, wa'th os dim lle yn y'ch pen chi. Ma'n gwlad anw'l ni yn dipendo ar y gwitha glo, a ma gyta ni ddynon yn trafod y'n busnas ni ar y Scale ar bob ochor, nag o's dim isha 'u newid nhw."

"Wel, wy'n cydfyn'd a chi bothti ochor y gwithwr."

"O! wy'n gwel'd 'nawr ta' dim ond un llycad sy' gyta chi: i'ch chi'n gwel'd talent y rhai sy' ar y'ch pwys chi, ond i'ch chi'n ddall i bobpeth arall. Y mae dyn,- ie, dyn yn dal cysylltiad a masnach Deheudir Cymru sydd wedi ei eni ganrif o fla’n i oes, ac ma'n dreni na fydda 'n ni wedi 'i napod a."

"Twt, twt, wy'n gwpod pwy i'ch chi'n feddwl, a ma gyta ni bob parch iddo fa fel Cymro, wa'th mae a'n glyfar, os dim dowt. I lni'n myn'd ma's o'r cwestiwn nawr. Beth wy'n moin dod round iddo yw cal Syr W. T. Lewis a'i barti, a Mabon a'i barti i ganu gyta'u gilydd ar ddiwedd mish Mawrth, -

'For we are jolly good fellows.’ “

 

 

 

28-03-1895 Ο

 

LLYTHYRA' NEWYDD.

 

GAN FACHAN IFANC.

 

MISHDIR Y DARIAN, — Dyna un twp i chi; ond dyna, allwch chi ddim o'rwtho, achos felna cesoch chi'ch geni. W i isha acor ticyn ar y'ch llycad ch'i, os gallai, bothti gneid y DARIAN yn well papir. W i wedi dod 'nawr i wel'd ffordd ma fwy o "go ar y papyra Sysnag nag sy' ar y'ch papir chi, ond dw i ddim yn moin patent am ffindo hyny mas, ond wy'n moin i ch'i neid fel wy'n gweid wrthoch ch'i, onte fydd a ddim use i fi stydio mor galad. Ma'r byd yn myn'd y'mlan o hyd, ac i ch'itha yn sefyll yr un man o hyd. Hanas cwrdda mawr, 'steddfota, barddonia'th, a politics, a rhw stwff 'menydd felna sy' gyta chi'n y DARIAN, a dim gair byth am Divorse, ne' Breech o' Promis, cico Ffwtbol, a Rasis Ceffyla, na batls na dim o'r short yna sy'n taro tast dynon a mynwod ffashonabl yr 6s ola hon." 'Nawr, gan bod ni'n gwel'd fod y papyra sy'n printo petha felna yn gneid tocins piwr, fe ddyla'n nina drio'n llaw 'run ffordd a nhw. Hen dacla slow i ni y Cymry ond os i ni'n ffaelu gwel'd points newydd yn unan, fe ddylan fod yn ddigon cute i watshan ffordd ma'r Seison yn gneid, yn lle bod nhw'n cal sport ar y'n pena ni fel ma nhw. Ma nhw yn gweid nag o's dim un papir gyta ni yn werth i ddarllan; a lle bod nhw yn catw mlan i ddanod i ni, fe roia i gownt batl, i chi a'r darllenwrs gal tasto shwd flas sy' ar news felni,

 

BATL AM 100 PUNT YR OCHOR

 

Rhwng Jim Briwser a Ned Pulp. Fe ddath un o'r batls perta sy wedi dicwdd os llawar dydd off nos Iou dwetha rhwng y ddoi fachan clyfar yna. Pan droison nhw mas i'r ring, odd y ddoi yn dishgwl mor ffresh a macrals, ac mwn trim net at waith. Ned odd y trwma o bothti saith pownd, ond odd breicha Jim yn hirach bothti dwy fodfadd a hanar a ticyn bach. Wedi shiglo dwylo fel doi drwmpyn, dyna start arni. Round L-Fe gyrhiddws Ned wad ddecha ar glust with Jim, nes bo fa'n troi round fel rostin jack, ond fe sefws ar i drad, a fe allsach wel'd bod i wad a'n dechra twymo, a fe dampws nol dicyn bach i gal consytro ffordd odd talu nol, a mwn bothti wincad fe rows gystal strait poc yn nghwtyn bwyd Ned a welsoch ch'i ariod, nes bo fa ar y llawr. Round II.-Wedi cal dicyn o wynt, a waco rownd, dyna ddwrn Jim yn roi cusan i smelar Ned, nes bo fa'n troi yn bishtyll coch, a nath hyny les i gwni 'i ysbryd a, a fe ath at i waith yn well wetni, a fe rows newid nol i Jim ar i ffenast with, nes doti'r shuters arni, a odd dicon hawdd gwel'd bod a'n gwpod hyny. Round IlL-Odd Jim yn lled slow yn cwni y tro hyn, achos ta dim ond un ffenast odd gyta fa, ond fe ddath i'r scratsh 'run shwt, a dyna itha glowtan i Ned ar i felin falu, nes bo dwy ne dair o'i gerig bedda fa lawr iddi wddwg a; ond gyta hyny, dyna rowndad iddo fynta dan gornel i asan fach nes bo fa lawr fel derwan. Fe basws y ddwy rownd nesa yn lled ddiuse, achos odd y ddoi fachan yn myn'd yn wanach ond ar Round VI,-Odd yn ddicon hawdd gwpod bod Ned yn watshan shawns i gauad llycad arall Jim, a fe ddath y shawns, a fe rows wad beutiffwl ar y blincar odd yn acor, a gorffod iddi bartnar a i ledo fa mas o'r ring, a fe nillws Ned y 100 punt mwn tair munad ar ucian. Dyna fi wedi roi y cownt i chi shwd J pasws y fatl, a wy'n gobeitho byddwch ch'i a'r darllenwxs yn enjoyo fa. Fe fydd rhaid i ch'i brinto speshal edishon o'r DARIAN yr wthnos hyn, achos fe fydd mwy o alw am dani na fu ariod. Falla byddwch chi'n ngholli i heb fod yn hir yn awr, wath ma'n Iled depig byddan nhw'n moin i ar staff y Sportin' News." Wy i am roi cyngor fan hyn i'r beirdds i gyd i ddropan 'u hen ffwlbri a citsho mwn rhwpath fel hyn fydd yn talu'r ffordd yn well. Be sy'n ddwlach na ala bothti flwyddyn i boeni 'u heneidia (os o's eneidia gyta beirdds) i neid awdls, a catw shwd fwstwr os 'nillan nhw ucian punt a chatar, fel sa nhw wedi dod yn filianers. Ma boys y "noble art" yn gallu enill cwpl o ganodd o buna' mewn cwpl o fynuta. Treiwch y'ch llaw yn y line hyn os 'dych chi'n gall, a 'dewch i ni fod fel y Saeson yn myn'd mla'n gyta'r 6s. Nawr, fe roia dwtsh arall i chi wy i wedi bico lan gyta nhw, y ffordd i sgrifenu yn boblogadd, achos os dim amsar gyta dynon i ddarllan llythyra hir. Dw i ddim yn moin twcid gwaith neb cofiwch chi, dim ond jest dangos bo fi yn gallu neid a, fel hyn: - CYMRU 0 DDWARNOD i DDWARNOD. Fe ddath Mari Puw nol bora ddo, wedi bod yn gwel'd i motryb. Fe basws Twm Bach, mab talentog Syr W. L. D. V. Jones-Shon-Jones, y Third Standard yr wthnos ddwetha. Ma cath ddu Lady Pussy wedi dala dwy lygotan, a fe fydd yn lled depig o ddala racor yto os caiff hi afal arni nhw. Fe gas Goronw Owan i eni ar ol i dad, a'i starfo yn Lloegar cyn iddo farw yn Merica. Nid pawb sy'n gwpod fod Mabon yn gallu canu "Hen Wlad fy Nhadau," a bod Gwilym Eryri ar y ffordd i "ddedwyddwch." Llaw budir yw Jacob Jacobine, M.P. Odd a'n gweid, mewn arath yn y bancwet nos Lun, fod i dad a'n gallu wilia Cymrag, a bod i fam wedi wado fap an odd a'n grotyn. Wel, wel! Ma fa'n cal i weid yn secret fod Ffwtbol Matsh i fod rhwng pwyllgor y Slidin Scale. I, Syr William fydd captan ochor y mishdri, a di'n nhw ddim yn sure pina Mabon ne Dafydd Morgan fydd captan ochor y gwithwrs. Mabon fysa fa, os dim dowt, ond bod rhai ddim yn folon achos bod a mor dew. LIed debyg ta three cwarter bac" fydd a, ond allwn i feddwl fod a'n "fall bac." Os aiff y matsh yn mlan, fe fydd y Bachan Ifanc yno, i ala'r report i'r DARIAN. Trw mod i'n dilyn steil y papyra Sysnag clasical, falla na fyddwch chi ddim yn y niall i'r tro hyn, wetni ma well i fi bido bod yn rhy hir. Fe gwplaf yn short a sweet gyta'r atnod, — " Derbyn berl o ena' ilyffan."

 

 

 

04-04-1895 Ο

LLYTHYRA' NEWYDD. GAN FACHAN IFANC.

MISHDIR Y DARIAN, - Dyna hen dacla od sy' yn y byd. Mwya' gyd triwch ch'i i pleso nhw, pella' i gyd i chi orwth hyny. Wedi i fi ala llythir splendid i ch'i yr wthnos ddwetha yn steil ora'r Seison, gan feddwl y mod i wedi gneid stroc eligant, a dechra parotoi'n nools i ddilyn yr un steil yr wthnos hon, dyma'r Postman yn dod a rolin o rhwpath i fi wedi 'i gyfro mwn papir tishw pine, ac yn smelo'n hyfryd o rhw sent, ac odd y Postman yn winco arno i wrth i roi a, gystal a gweid wrtho i ta presant odd a orwth y'n wedjan i. O'n ni'n crynu ticyn bach wrth i acor a, rhag ofan ta rhwpath i nynu i mewn o bothti Breech o' Promis odd a, er y mod i'n gwpod o'r gora nag o'n i ddim wedi promish dim i neb yn y line garu ond o'n i yn diall yn net ta orwth rhw lady ne' ladies odd a'n dod, achos odd a mor gompact, fel ma nhw'n arfadd gneid pobpath. Wedi i fi neid post mortem egsaminashon arno, beth odd a ond petishwn orwth,- "FERCHED A GWRACEDD GWITHWRS CYMRU." Wel, fe etho i stwmp am dicyn bach, fel 'swn i wedi cal yn hipnotisio, wath o'n ni yn gwpod nag o'n i ddim wedi gweid dim yn gas am y mynwod yn y llythyra, dim ond y ticyn ffra fu rhyngto i a'r fenyw lle wy'n lodjo, a i ni wedi dod 'nol yn drwmps piwr ys cetyn. Ta beth, yn lle ych catw ch'i mwn suspens, achos wy'n gwpod bod ch'i jest a craco isha diall beth odd a, dyma fi yn ala copi o fa i ch'i, achos wy' moin eatw yr original y munan fel momento, a falla bysa'r sent yn ala Mish- j dres y DARIAN yn jelws; ac o dipyn i dipyn, bysa fa'n cwpla mwn Diforse: rhyngto' ch'i a hi. Ma'r petishwn, fel i chi'n gwel'd, wedi cal i sino gan gano'dd o enwa' merched a mynwod a rhag ofan bydd rhwyn yn ama, ma'n well i ch'i hongan a yn yr Offis, wath fe aiff a gormod o le yn y DARIAN, ond dyma'r llythir ddath gyta fa,- Ystafell Cymdeithas Merched a Gwracedd Gwithwrs Cymru. "Mawrth 28ain, 1895. "ANW'L FACHAN IFANC, — Wedi darllan ych llythir dwl ch'i yr wthnos ddwetha bothti'r fatl, a rhag ofan i ch'i bara mlan i 'sgrifenu am Breech o Promis, Diforse, 0 Ffwtbol, &c., fe setlo'n ni fel rhyw deg i gnoco'n pena' nghyd i drio doti stop arnoch ch'i. I ni yn arfadd darllan y DARIAN, a i ni yn enjoyo ych llythyra ch'i pan i ch'i yn gweid sens; ond os yw merched a mynwod Lloegar, a'r dynon hefyd, yn lico cal cownt am hen betha fela, ma gyta ni yn Nghymru ddicon o waith i neid sy yn y'n taro ni'n well, i gatw teuluodd yn didy. Os o's ambell hen gnoc o Gymro a deleit mewn batls, pidwch oh'i a uso'n papyr ni idd i pleso nhw. Ac am Diforse, os neb o'n clas ni yn mynd trwyddo, ac o's gyta ni ddim un Clwb Ffwtbol mynwod Cymrag, wetin, beth yw'r waldod sy wedi cwni yn ych pen chi < Tysa ch'i yn gweid am y batls sy gyta ni i ymladd i dalu'n ffordd, a ffwtbols trafferthion sy gyta ni i gico wrth gatw cartra cysurus i ch'i a'ch short, fe fyddach yn nes i'ch lle. Oty ni ddim yn cretu yn y "New Womans," ond yn moin catw at hen ffashwn y'n hen fama' Cymrag anw'l, a i ni yn gobitho na newch chi ddim introduso steil y L tomboy brigade' i'n gwlad ni. Oty ni ddim yn moin bod yn gas wrthoch chi trw ta Bachan Ifanc i'ch chi, ond os na ryndwch ch'i arno ni trw deg, i ni wedi setlo'ch mobo ch'i mae o'r DARIAN. "Yr eiddoch, yn sobor, Dros y Gymdeithas, "MARGED Pew. Cadeiryddes, "BETSI JONES, Ysgrifenyddes Wedi i fi ddarllan a, fe gwnws rhw 'wys or drosto i bob tamad, a fe bwysas y mhen ar y ford i gynsitro beth nelswn i. O'n i yn hi gwel'd hi yn dywyll a danjerus ofnadwy arno i. "Ffordd buot ti mor hurt? Beth naid di nawr?" meddwn i wrtho'i munan. Dim ond un ffordd sy am deni, wath chymriff my ladies ddim llawar o nonsans, — ma'n rhaid gneid apoloji a pido I pechu yto; a fe etho at y bachan sy'n labro'r nos i gal ticyn o help, a fe ddotws e'n 'moloji i mwn pishin o ganu, achos odd j' a yn gweid bysa fa yn fwy tutshin. (Ond o's dim isha i chi' weid ta fe gnath a). 0 ferched Cymru anw'l, Wy'n cwmpo dan y mai; Ma'n rhaid 'y mod in benbwl, Os neb a wetiff lai; Gobitho gnewch chi fadda I Fachan Ifanc ffol, Sy'n byw bob nos a bora Heb wedjan yn i gol. Fe wn pe tysa gen i Rhw un o honoch chi, Na fyswn i byth wedi Gneid y fath ffwlbari; Os gnetho i'ch insulto, 0 pidwch bod yn gas, Fe dria ngora i'ch pleso Yn well o hyn i mas. Eich pardwn wy' yn gofyn, 0 ferched smart fy ngwlad, A byth ni chym'raf getyn Am ddamshal ar ych trad (bach pert). Fe ysgrifena 'n didy, Fe'ch cwna ch'i i'r lan, Gobithio y bydd hyny Yn siwto'r llestri gwan. Gwell gen i sefyll batl Sha Corbett" ne' "St. John," Na gorffod sefyll ratl Bygythion merched lion Ma'n rhaid i N'ch admito Yn p indulams i gyd, Pryd stopwch ch'i i shiglo, Fe stopiff cloc y byd Ma rhaid i fi lwo bod nhw wedi acor bocs yn ideas i yn y llythir yna, os odd i tafoda nhw dicyn yn biclyd wath ma dicon o bwnca isha gweid arni nhw sy well ar yn Iles ni na hanas batis, &c. Ma pawb yn falch pan w i yn sgrifenu fod pwnc y Slidin Scale wedi cal i setlo. Beth sy isha yto, meddwch chi?ISHA CWMPO RENT TAI GWITHWRS. Pwy sens i withwr a llond ty o blant, ac yn enill bothti bunt yr wthnos, i dalu punt, ne bump swllt ar ucian am dy bob mish, ac ambell waith yn gorffod colli wthnos o'r mish achos stop wegins, ne rhwpath arall. Pryd cwnws liiria'r gwithwrs yr amser dda slawyr dydd, fe gwnws y tai. Fe gwmpws prish y glo, ond ma prish y tai yn codi lan o hyd, a'u perchanogion nhw yn canu, I fyny fo'r nod," Allwn i feddwl fod igha Slidin Scale bothti y pwnc hyn, fel sy ar brish y glo. Os dim dowt run shwt nag os bai arno'n ninunen ambell waith, wath ma bradwrs yn y line hyn, fel pob line arall, trw gynig rhacor am dai pan ma rhai yn byw yndi nhw fel clywas i pwy ddwarnod am deulu odd wedi byw yn y ty am bothti ucian mlynadd, ac yn talu prish da am d mo. Wedi i'r rhieni f-irw, fe ath un o'r plant i fyw yno, ond fe gynycws rhw snake racor am dano, a dyna notis to cwit i'r pwr dab yn gwmws. ne bod y rent yn cal i ddyplu, er nag odd lle yn y byd gyta nhw i fyn'd, a cocso mawr fu cal aros trw dalu coron y mish racor. Fe ddyla'r hen dirant nath y tric yna gal byw am i 6s mewn tent jipsis. Ma'n deg i bawb sy'n cwni tai i gal interest ar i coin, ond treni na fydda'u conshens nhw yn wisbran wrthi nhw amball waith yn Sysnag, Live, and let live." Allwn i feddwl bysa fa'n jobin piwri'r County Councils, ne'r Parish Councils, iddi nhw gal rhwpath i neid, fydd rato tai yn ol i gwerth, yn lle bod hen dacla dibrinsipl yn rido ar gefna clotion diniwad. I chi'n gwel'd fod llythir, a phetishwn y mynwod, wedi'n ala i yn lled siriws y tro hyn, ond ma'n rhaid iddi nhwgofiotaw Bachan Ifanc w i, a falla ca nhw dicyn o gount gen i 'r wthnos nesa, bothti shwd ma nhw'n delo atto ni fel lodjars. W i bownd o weid atnod wrth y cariaton anwl cyn cwpla, a fe gweta hi yn yr iaith fain, achos hod hi'n fwy delicet Keep yer hair on

 

 

11 Ebrill 1895

11 Ebrill 1895

LLYTHYRA' NEWYDD.

GAN FACHAN IFANC.

 

MISHDiR Y DARiAN, — Do's arno i ddim ofan neb ond y mynwod; a fel gwddoch chi, w i wedi bod mwn cetyn o drwpwl gyta nhw unwath ne ddwy ddar w i yn sgriblo i'r DARIAN, nes mod i nawr dicyn yn nervus. Dw i ddim yn lico doti hen bethach mwn llythyra newydd, ond w i bownd o weid un hen stori wrthoch chi glywas i pryd o'n i'n grotyn, wath falla gnaiff hi les i chi, gystal a munan. Odd y ffasliwn slawar dydd, cyn i'r undertacers ddysgu 'u crefft, i gladdu pawb fysa'n marw heb ddim un coffin, dim ond lapo rhwpath am bothti nhw, fel sy gyta dynon rownd iddi paca pryd ma nhw ar tramp. Wel, odd dyn clawd unwath wedi gorffod byw am spel hir gyta hen bitsh o wraig, ond trw' drugaredd, fe gauws anga' i shutters hi, a fe ddotws stop ar i thafod hi. Wrth fynd a hi sha'r fynwant, o'n nhw'n paso hibo lle cul iawn, a perthi drain bob ochr; fe gitchws un o'r drain yn i braich hi, a fe startws y gwad rytag, a dyna'r hen screw yn dod yn fyw yn y fan, a fe ath yn ol i boeni'r pwr dab am saith mlynadd wetin. Ond ta beth, y tro hyn fe fu farw heb jocan, a o'n nhw yn mynd a hi yr un ffordd wetin, a pryd o'n nhw yn i chario hi hibo lle dath yr hen gleran yn fyw'r tro blan, fe gwnws i gwr hi i ben lan (achos odd a'n esgus fecso, wrth gwrs) a fe wetws wrth y dynon odd yn cario'i hen gorphws hi mwn llaish trwm, — "CATWCH ORWTH Y BERTH." Nawr, i chi'n gallu smelo beth w i yn pwynto ato. O'n i'n promish yn y'n llythir dwetha byswn i yn rhoi cownt shwd ma llawar o'r mynwod yn acto at y lodjars, ond trw mod i wedi dod i hobl gyta nhw o'r blan, w i yn meddwl catw orwth y berth o hyn i mas, os galla i. Ma’r fenyw fach lle w i yn lodjo yn greatur piwr dychrynllyd; ond amball waith pryd ma'r sulcs yn i chymryd hi, dicyn bach yn dena ma'i chron hi, ond cariad fach lan didy yw hi run shwt. Ma hi yn pigo dicyn amball waith os damshelwch ar i thrad hi. Ond falla bod cyrna arni nhw achos gwishgo scitsha number 3, a'i thrad hitha'n 5, ond ma pob menyw stylish yn gneid hyny achos y ffashwn. Beth yw'r ots i fi am hyny? Ond fe llewn ta rhw short o esgid fach i ddoti ar i thafod mawr hi, pryd ma hi yn catw mwstwr amsar bydda i yn stydio'n galad ar y ffordd ora i wella'r byd. Dw i ddim yn dishgwl iddi fod heb un bai, er i bod hi 'i hunan yn cretu, os dim dowt, ei bod hi yn berffath. Ma dou hen fachan o Wlad yr Haf yn lodjo ar 'y mwys i yn cintach wrtho i wastod ta lodjins clawd wilfful sy gyta nhw. Ma nhw'n gweid bod y landlady yn ishta ar garag y drws i watshan pawb sy'n paso, ne yn mynd bothti'r tai i erlid clecs, a gweid wrth y mynwod erill pwy amsar r .n nhw'n dod sha thre yn y nos ar ol bod yn caru. Ma nhw gystal a gweid hefyd bod hi'n uso peth o'u tommy nhw, ond fe wetas i wrthyn nhw am gymryd car, ne falla bysa Mr. Libal yn dod ar i traws nhw. Fe ofynas iddi nhw wetin shwd le odd gyta nhw yn nhre? O meddai un o nhw'n Sysnag, My mother was a gem of a woman, and my home was like a palace." Cera nol at dy fam y mwnci," meddwn I, a off a fi orwthin nhw fel milgi. Ma rhaid i fi atal y mynwod anwl nawr, er cystal sy gyta fi am deni nhw, i fynd at rhwpath arall.

 

LLOEGAR FRWNT. Shwd ma'r titl yna yn dishgwl ar bwys titl y'n gwlad fach ni, — "Cymru lan?” Wel, ma'r cownt i ni'n gal am acshwns rhai o wyr Lloegar yn dabo'r titl yna arni'n reit I wala. Ma'r "Queensbury-Wilde" case yn ddrewdod yn ffroena bob perchan het,  a fe fydda'n ddisgras i'r anwariad ishela welws Shon Rowlant ar i dramp trw Affrica. Hufan cymdeithas, medda nhw am y big guns. Bosh i gyd; ma llawar o nhw'n wath dair-gwaith-ar-ddegar-ucian na Charley Peace, a ma'a acshwns nhw pryd ma nhw yn cal i ffindo mas yn rhy syrffetlyd i ddoti'u cownt nhw ar bapyr, a dyna nhw, pan yn wilia am dano'n ni fel gwithwrs, ma nhw yn y'n galw ni yn unedewcated, unreffind, lowar clas. Yr hen scamps diened. Os bydd gwithwr clawd mas o waith yn cal i ddala yn began tamad o fara, ma fa'n cal i ala i'r jail, a'r justis yn i alw a'n fagabond. Ac os bydd i rhw greatur hanar senses yn gneid ticyn o letwythdod yma yn Nghymru, fe fydd y papyra Sysnag bob un — o'r "Times" i'r Tincer "-yn paragraffeiddio am Immorality in Wales," fel o'n nhw'n gweid ys cetyn nol ta celwyddwrs o'n ni gyd, achos bod un ne ddou wedi dicwdd gweid dicyn o gelwdd lletwith o flan y judge. Os dim llawar o waith gyta ni i'r judges yma yn Nghymru fel ma hi nawr, a falla ta achos bod ni yn towli nhw mas o job ma nhw mor gas ond tysa dim ond Seison na fforiners yn y'n gwlad, fe allsa Judge Gwilym Williams neid y gwaith i gyd i hunan, a fysa un jail yn ddicon o bont Mena i bont Crumlin. Plan da fysa fa i Beriah Bach, ne rw fachan cwic arall sy'n berwi gan wad twym Cymrag, i roi cownt bob blwyddyn sawl un sy'n gallu wilia Cymrag sy yn y jails bob blwyddyn, a faint o'r nasnonalities erill sy yno. Fe gelan weld wetin shwd mae'n sefyll. Ma'n ddrwg gyta fi bron fod plant Cymru wedi dysgu darllan Sysnag, a bod papyra Sysnag yn dod idd i dwylo nhw, achos ma reports am bethach sy'n cal i cario mlan yn mhlith yr Hengistiaid yn ddicon i ala ffefars ar i meddylia nhw. Tysa rhw hen dacla felna — sy'n byw ar y stwff g( gal am arian — yn gorffod tori glo, i c via, ne labro'r nos, fysa dim want gr ->i 1,- 'ld drics arni nhw. Dyna fi wedi bod tir yn nghwmpni y git yna, a ticyn o ob cal atnod sewtabl i gwpla ond fed, John Bwl, .k'hn Bwl, Wyt ti'n ddi i, i1;1 yn ddwl; Yn wir ma dy I jlaut: yn gwathycu, Dere lawr at Skc-a Shon, Hen Gymro i r I A dilyn ol trad AIv iffy- Y OFFEIRIAD yn:rv.r ¡ ¿.; Wg, — Athraw ein bro, Je \U} i bryn,-offeiriad O'i fferau i'w g" • : Bloeddia am lawt r- .-ddyn, Gras i gyd yw ei 6 yn. 11-04-1895

 

 

 

 


18-04-1895 Ο
 

LLYTHYRA NEWYDD.

GAN FACHAN IFANC.

 

MISHDIR Y DARIAN, - Un o'r dynon mwya enwog sy'n y byd nawr yw Jabez. O's dim isha gweid pwy Jabez, achos ma fa ar i ben i hunan. Odd dyn yn gweid wrth i fachan un tro fod rhaid iddo fa fwstro i neid rhwpath yn y byd, os odd a'n meddwl byw a dod yn ddyn mawr a un lled dwp odd y bachan, a fe wetws wrth i dad nag odd a ddim yn gwpod beth odd i neid. “Gna rhwpath i dynu dicyn o swn am dy ben," medda'r hen ddyn, a fe neidws Twm mas trw'r ffenast nes bod swn y glas bothti ben a, a fe gas lonydd wetin gyta'i dad. Ma Jabez wedi tynu dicon o swn am i ben heb neido trw un ffenast, ond fe neidws dros y mor o afal y bobbies, a ma nhw wedi bod yn i watshan a slawar dydd i ddod a fa nol yma i'r cyfreithwrs gal gwaith. Fysa lawar yn shepach iddi nhw i foddi fa ar y ffordd nol. Ma fa yn gweid nag yw a ddim wedi gneid dim drwg, ond beth odd a'n moin rytag off? Os dim dowt nag yw a wedi ala llawar i'r 'sylums ac i'r bedd, odd wedi safio ticyn o docins erbyn i hen ddyddia, ac yn i colli nhw gyd dap. Boys am goin sy bothi Llundan, ond fe nath Jabez fwy o stroc na rhan fwya o nhw, a fe gaiff eitha WELCWM HOME. W i wedi cal peth lesons gyta'r bachan sy'n labro'r nos ar y ffordd i neid pishis o ganu, a w i wedi gneid martsh idd i chanu wrth fynd ag e o'r Hong i'r jail, a w i yn moin i Tom Price, Merthyr, i neid mewsic i atab, a fe gewch chi i phrinto hi, a fe ewn a lot lan i Llyndan iddi gwerthu nhw gyta'n gilydd. Fe gewch chi a Tom i canu nhw, a fe gasgla i'r tocins. Ma hyny yn ddicon teg. Wrth gwrs, fe gewch chi'ch dou shar ar ol cwpla, wath w i yn eitha trwmpyn, allwch fentro. Dyma fel w i yn gweid, — Come along Jabez, come along old boy, R'wyt ti'n fachan clyfar os dim dowt, Ma pac o dy bartners mewn dillad corderoi Yn y lle ma nhw'n gwella'r gowt; Dere mlan Jabez, dere mlan 'rhen foy, Ma dy dwll ditha'n barod slawar dydd, Fe gei lai o waith i ifad a llai o waith i gnoi, R'wyt ti yn rhy gute i fod yn rhydd. Ma dy haf di wedi darfod, a'r gaua wedi [dod, A ma'r storm wedi cwni dros dy ben, Ti gei amsar i fryddwyto am be sy wedi bod Pryd o't ti'n enjoyo gyta'r uppev ten Fe gei scily yn lle swp, a dwr yn lle. shamr Ac yn lle soffas, ti gei wely pren, V ^pen A throi'r weel fawr yn lle riào yn y teen, A chap o law cyfiawnaer ar dy ben. Shwd waith nawr, svr 2 Dim ond i Tom ddoti ticyn gweddol o olive oil ar jwynts iujin y mewsic, fe aiff yn biwr, a falla dysgiff y Royal Welsh Ladies Choir hi iddi chanu o ilan neu ar ol y frenhinas, a fe fydd Mrs. Victoria yn moin gweid y bachan gnath hi, a fe gnocaf Lewis Morris y bardd mas o amsar, a dicon tepig ta fi fydd y Poet Lorett, wath ma nhw yn catw y jobin yn wag o hyd. Ma rhaid i fi stico gyta'n lesons nawr i neid pishin piwr o ganu iddi hi erbyn bod hi'n cal i phen blwydd mish nesa. Ma'rtywydd ffein yn dechra dod nawr, a'r merched yn troi mas mwn ffashwna up to die. Yn wir, ma nhw yn bert ac yn dwt digynyg, os dim dowt; ond rhaid i chi syr bido cymrid notis o nhw na dishgwl arni nhw, trw bo'ch chi wedi gatal yn clwb ni. Fysa fa ddim yn ffol o blaii i rhw ferch didy a llycad cwic gytahi i sgrifenu amballlythyr ar y ffashwna i'r DARIAN, a rhoi cownt pryd ma nhw yn newid, a pictwrs o bob shap fel ma nhw fysa hyny yn tynu'r merched i ddarllan Cymrag, Ond dyna sy'n od, ta pwy short o ffashwn fydd yn reirio, ma nhw yn dishgwl yn net wrth y nast i, a ma gen i dicyn o ddeleit iddi watshan nhw. Ma'r beirdds yn arfadd rytag y ffashwna lawr wastod, fel gwelas i Watkin Wyn yn gweid slawar dydd am y "Shinon" odd yn arfadd bod ar wecil y merched. Fel hyn gwetws e,- Ai mop, pa un ai fueipen-a welir Tu ol i ysgafnben? Be ytyw? Ai rhyw boten 0 bys? Neu ferch a dou ben V Dyna hen ffwl odd Wat pryd hyny, onte fa? yn gweid mor gas am beutis y greadigaeth. Ond mae a wedi dod yn gallach nawr, siwr o fod. Fe glywas hen gnoc arall o fardd yn gweid am ffashwn y "Paniars" odd gyta nhw os cetyn nol. Rhw dwmpa o rhwpath odd rheiny o'n nhwn arfadd wishgo ar i penola. Dyma fel odd ynta'n gweid, — "Anffawd yw gweid merch benffol — a'i Mwn ffashwn gy-nffonol [pheishau A dirywiad ar reol, Dybiwn i, yw dou ben ol. Heriaf mai annaturiol — yw'r arddull Ar urddas merch swynol; A phegwn o d-n ffugiol, Be' yw dyben neb a dou ben ol?" Odd a'n gweid bod y lein ddwetha yn rhy hir ddou sill, fel bysa'r englyn yn fwy tepig i'r testyn. Ma hwna n fwy twp na "Wat" yto, a ma'r ddou yn dangos yn blaim os o's llycad gyta nhw i wel'd anian, nag i nhw ddim yn gallu gwel d bewti merched ifanc. Dyna beth w i yn tynu ato run shwt yw'r ffashwn sy'n dod mas gyta nhw nawr i gario ffona run shwt a plismans a bwmbeilis. Dw i ddim yn lico hona at all, achos ma hi yn ffashwn ddanjerus i ni. Beth ta ffra myn'd rhwng bachan a'i wedjan, fe alla hi gnoco'i menydd a heb yn wpod iddo mewn lle twyll. Os yw englynions yn dda i ddoti stop ar ffashwn gas, fe licwn i ta lot o'r boys yn gneid pobo un i'r hen ffashwn hyn, a fe gaiff yr un f gora wobr o ffon. i yn clechi-a gora galla'i: — Beth ma merch fach serchus — yn moin a Myniff hi gal trowsus? Lffou, Walla cewn ni yn lle cus, Ein pwno mwn dull poenus. Yr atnod sy'n taro'r tro hynyw, "Mas o'r ffashwn, mas o'r byd." 0,Y. — Gwetwch wrth y "Lodger" am atal y'n enw i yn llonydd, ne fe fydda i yn plamo ticyn ar y bwmps sy ar i nodi a. B.I.? —

 

 

 

25-04-1895 Ο

 

LLYTHYRA NEWYDD. GAN FACHAN IFANC. MISHDIR y DARIAN, — Ma pethach yn dod nol idd i lIe nawr ar ol gwyla'r Pasc, a ma'n ddrwg gyta fi weid bod yn clwb ni y batshilars wedi colli shew o fembars yr wthnos ddwetha. ta shwd troiff i mas arnin nhw yn yr un byd a chi wyr gwracedd. Ma rhai yn brago ar ol prioti bod nhw'n well off, a rhai erill yn fecso yn ddychrynllyd bod nhw wedi bod mor ddwl a chlymu'u hunen am byth, nes ala llawar bachan i of an mentro yn acos at y merched. Ma Shoni'r haliar wedi prioti ddar y 'Dolig dwetha, a fe ofynas iddo fa shwd odd a'n lico'r bywyd priodasol, a fe wetws yn gwmws bod gyta fa gymant o olwg ar Mari cyn prioti, gallsa fa'i byta hi. a bod a'n tyfaru nawr na fysa fa wedi'i byta hi. Ma rhwpath felna yn ddicon i ddanto un bachan ifanc. W i yn cofio hefyd am fachan arall yn arfadd waco trw'r caua gyta'i wedjan, a odd cyrnad i fyn'd drosti o un ca i'r nail; odd e'n neido yn gros fel deryn, a troi nol wetin, a gofyn iddi hi yn serchus, Caf fi dy helpu di, nghariad fach i?" Odd a'n doti'i ddwylo dan i breicha hi mor dynar a nise, a lan a hi mewn wincad. Mwn bothti fish wedi iddi'n nhw brioti, o nhw yn. mynd am wac felni wetni, a pryd 0 nhw ar bwys y gymad, fe neidws e'n gros fel arfadd, a mlan a fe, heb ito am deni hi. a fe drows i ben nol wrth i gwel'd hi mor hir yn dod, a fe wetws mewn llaish cas fel blagard, Dera oddna yr hen sciwar bwdr, wyt ti mor stiff a tysa ti'n gant ôd." Falla gallwch chi rhoi ecsplanashon i fi ffordd ma nhw'n altro fel'na ar ol mynd at u gilydd, ond gobeitho nag i'ch chi ddim yn treto Mishdres y DARIAN. run shwt a rheina, ontefe gaiir wablwr Wmffra Huws neid cetyn o ganu i chi, a chwetin fe fyddwch yn dishgwl yn bert. Lwc dda weta i i ddarllenwrs y DARIAN i gyd, yn ferched a bechgyn sy wedi joino gyta'u gilydd, "er gwell a gwath," bothti'r Pasc yma. Yn lle mentro i'r line yna, fe etho i gyta'r train sha 'STEDDFOD. Odd lot o ferched a bechgyn yn trafaelu run pryd a fi ond dodd neb o nhw'n napod i. Mawr y glepar odd gyta nhw am bopath, a nna'n gryndo heb weid dim, fel dyn call. Canu odd y go i gyd, a w i yn dechra tyfaru nawr na nag w i ddim wedi dysgu canu, i gal bod yn y ffashwn. Dyna beth o'n i ddim yn diall am amball un o nhw — o' nhw'n wiliamordwpasledjis, ond yngallu canu yn bewtiffwl. W i yn napod llawer o gantwrs sensibl, a falla bod nhw i gyd felni, ond bod nhw'n dewis wilia'n dwp, i gadw'u sense mewn disgise, yn lle bod dynon yn cretu taw fFeiraton u nhw; wath ma cantwr yn cownto bod a'n uwch na ffeirad. Ta beth odd shew o nonsans yn cal i weid gyta nhw yn y train,-a odd acshwns blagardish gyta rhai, o'n ni'n fecso na bysa nhw'n trio acto yn fwy respectabl, er mwyn "Cymru Iân, gwlad ygan." At ol i ni gyrhadd y 'Steddfod, a ishta lawr fel barddonwr mwn suspens, a doti'n llaw ar yn nalcan fel 'swn i'n stydio, dyna gystadleuaeth y Solo Bas yn d od. a lot o Eosiaid a Llewod yn apad i enwa, ac fe ganson yn lled dda, allwn i feddwl, jest i gyd. Ar ol cwpla, fe sefws y barnwr ar i drad, a fe [ ddishgwlws yn stern fel justis am bothti haner minad, nes odd pawb mor dawal a'r bedd, a fe fu yn gweid am gwarter awr solid ble odd pob un yn colli, a ffordd dylsa nhw ganu, nes odd a wedi mesmeriso ni gyd o'n ni'n meddwl ta Handel odd wedi atgyfodi, trw bod nhw'n gneid cymant o notis o beth odd a'n weid a pryd gwetws a pwy odd y gora, fe alws y mwstwr y mhen mawr i'n dost. Y peth nesa odd "Can o glod i wrbyneddig respectabl o shopwr, a o'n i a'r bachan sy'n labro'r nos wedi bod yn gwitho'n galed am fish i neid pob o un iddo a taswn i wedi cal wara teg, fe fyswn wedi enill hefyd ond pregethwr odd y barnwr, a pregethwr odd bownd o enill wetin, wrth gwrs. O'n i'n meddwl cal clywad gyta'r barnwr pwy fistec o'n i'n neid ond yn lle dangos ticyn o dwtch fel y barnwr canu, fe gwnws lan gan bwyll, a fe wetws nag odd dim amsar 1 weid beirniadaeth, ond taw "Ffwlcyn" odd y gora. Pam nag odd cymant o amsar i farnu sens ag odd i farnu swn? Arno i ddicon o want pido cynyg eto fel barddonwr, a troi i ddysgu Sol-ffa," i fi gal rhwpath am yn nhrwpwl ta beth. Fydda fa ddim yn ffol o blan i'r beirdds i gyd fyn'd ar streic am spel, wetin fe fydda shap net ar y byd. Fysa dim pishis gyda'r cantwrs i ganu, a fe ela n gwlad ni i'r melancoli. Ma'n lled depig na fysa'r streic ddim yn para'n hir, ond cal Mabon i setlo'r dispute, wath ma fe'n gwpod ta bachan o fardd nath "Hen Wlad fy Nhada." W i yn teimlo'r mwnci ar y nghefan i mor drwm, fel w i'n ffaelu sgriblo racor nawr, ond w i bownd o gwpla'n shone fel arfadd, gyta atnod, Mwyaf swn llestri gweigion."

 

 

 

09-05-1895 Ο
LLYTHYRA NEWYDD. GAN FACHAN IFANC. MISHDIR Y DARIAN, — Ma'r fforiners yn fecso shew am danon ni fel Cymry. Ma'r Gwvemmant a phapyra mawr Llyndan yn ala Comishonars a speis i'n watshan ni o hyd i gal gweld shwd i ni'n d'od mlan. a os gwela'n nhw rhwpath lletwith yn dicwdd, din nhw ddim yn hir cyn gweid am dano, a doti dicyn o baent celwdd arno, iddo fa gal paso'n biwr yn y farchnad Sysnag. Am y pethach da sy yn myn'd mlan gyta ni, ma nhw yn ffeili gwel'd rheiny, achos ma pethach da yn daslo'i llyced nhw nes ei alw nhw'n dywyll, achos nag i nhw ddim yn arfadd dishgwl ar bethach o'r short. Tysa fa'n dicwdd bod mewn Cymanfa Ganu — a Ffwtbol Match run dwarnod gyta chi yn Byrdar, a bod Sais o Llyndan yn dicwdd bod yn y Dre', i b'le i chi'n meddwl ela fa? I'r Fwtbol Match, wrth gwrs; ne tysa 'steddfod a batl yna, i weld y fatl ela fe mewn bothti die, a tyna shwd dacla syn meddwl moraliso yn gwlad ni. Mawr fel ma nhw yn tryplu am dano'n ni ond te fe? Ond i gwpla'r cwbl, ma'r hen Bop o Rome yn mynd i ala lot o Fishonaris i'n dysgu ni, achos bod ni mor ishal yn caritors. W i wedi cal hanar hint gyta un o'i 'Sgobion y caf i shawns i fod yn Oli Ffadder in God, dim ond i fi shafo'r mwstash sy gyta fi a pido priodi. Os dim dowt na nelwn i ffirad pabadd lled dda, achos nag w i ddim yn tynu ar ol y merched. Os caf i'r jobin, fe fydd rhaid i chi a Wmffa Huws, a gwyr yr Offis i gyd, ddod ato i wetin i gonffesu'ch pechota, a fe fydd bwndal lled dda o nhw gyta chi gyd, ond fydda i fawr o dro yn i sgwaro nhw o'r ffordd, mond i chi dalu'n weddol, a fe ellwch fynd mlan wetin am spel y shap fo'ch chi'n ddewish, ond pido bod yn rhy hir rhag ofan i chi gico'r bweat cyn bo fi yn rhoi pas i chi trw'r tynel i'r ochor arall. Trw bod Wmffa yn ddyn mawr, mae'i bechota fe'n drwm iawn, a bydd rhaid iddo ddod yn aml, a fe gostiff getin idd i gatw fe'n weddol lan, os na chwmpa i'r prish iddo fa achos bod ni'n bartnars. Ma fe'n drwmpyn lled dda, wetin fydd yn rhaid pido bod yn gas wrtho fa. Beth sy'n fecso mwya arno i i gymryd jobin yw, meddwl bydd merched ifanc yn dod ato i i weid am y tries fydda nhw yn neid o'u sponars, ac yn esgus fecso wetin bod nhw wedi bod mor ddrwg. Fe fydda i dicyn yn sharp ar i ol nhw achos ma nhw yn mynd yn mlan yn lled ffast nawr ddar pryd ma nhw wedi cal y teitl o New Womans, a falla bydda nhw yn moin mynd yn breesto cyn ba hir, a wetin fydd gyta ni fel bechgyn ddiai shawns i gal un jobin bach ysgawn; a trw nag i'n nhw ddim yn catw wishgars, fe fyddant yn shewto yn lled dda at y swydd; a pheth arall, ma rhai o nhw yn arfadd gryndo decs, ond fe fydd yn well iddi nhw'u gyd droi yn Sisters of Mercy, ma hwna yn enw bach pert, ond hwn ddin# blu ma cal1 lutfiw iddi nhw wath os dim llawar o'r stwff hyny gyta nhw nawr, ond:te fasa nhw ddim yn doti ar fecbgyn i dalu cymaint o goin iddi nhw am ddim oad just rhoi hint yn nghylch prioti. Ond w i yn mynd oddwrth y pwnc i ddilyn y merched yn lle dilyn y Pab, achos ma fa yn fwy wrth y neleit i sposo ond beth 0'11. ni yn meddwl pwynto ato yw, nag os dim fcha i'r hen fatshelor o Rufain dryplu cymant am dano ni, wath ma dicon o baganiaeti yn yn gwlad ni yn awr, heb iddo fe ala Biishonaris yma i ddysgu racor o fa. Fe fy'ld rhaid i rhw Luther gal i eni yn N ghymn cyn bo hir, onte fe ddiffotiff y tan erefydd(ll odd yn arfadd twymo calona fwrandawvrrs John Elias, Christmas Evans, Williams o'r Wern, a fe ddaw B'ashwna'r formers yn i le fa, wath os dim dowt nag of llawer bron mynd i gretu os a nhw sha'r dvrdd acha dydd Sul nag os dim ots shwd bydda nhw'n acto yn yr wythnos, Nace felna odd yr hen ddynion slawar dydd, ond cdd gyta nhw "• grefydd round" a hono odd jr boy i rolo yn erbyn coesa yr hen ddelw medda nhw. Ma'n well i fi dropan hi sr y lein hyn, onte fe af i bregethu, ag i chi ddim yn folon printo pregetha yn y DARIAN, Fe ffaelafi gal amsar yr wythnos ddwetha i ala'n llytfiyr fel arfadd, achos w i yn fishi iawn yn partoi i baso trwr Orsadd, ne drosti yii Steddfod Fawr Llanelli. Ma'r bachan syli labro'T nos yn rhoi lesons calad iawni fi yn awr i naclu i yn barod, fel galla i wishgo'r teitl Bachan Ifanc, B.B,D." Old yn dda gyta fi weld yn y DARIAK ddvetha fod "Hwmffra Huws yn folon roi:icyn o help os bydd taro, a rhyngti nWch dou, os dim dowt na sefa i shawns dda, Beth llewn i gal gwpod gyta fa yw, pwymor ychal odd "ClawddOffa" Tudno. a pba o geryg ne dywarch cas a'i fildo 1 Puna clawdd cam ne glawdd cwmws odd a? 31e odda'n dechra, a ble odda'n ewpla, a he ma fa nawr? Os gall a ala pictwr o i' -lawdd i fi bydd yn biwr iawn. Bothti petlach erill sy isba wi yn gwpod rhai o nhw, fel catw'n wallt yn hir, a plycu mhen fel sk fa'n drwm, a gneid shapsa fel Gurnos, a Vilia llaish mawr fel Hwfa Mon a bod yn wtty run short a Watkin Wyn, a mynd sha ) Aifft fel Dyfed. I chi'n gweld ma mwy o waith na ma llawar yn meddwl i fod yn fayid. Walla bydd yn well i fi ala bocsad o shigars i Eifionydd, wath ma cetyn ar 1 Itw e i neid, a falla caf i destimonial gym chi trw mod i wedi ala pishis i'r DARIAN. AtOrsadd Fawr Llanelli, 4an grynu megys ci, A iycad y goleuni n dishgwl arno I; Miif yn nghwmpni Hwmffa i'r boy sy'n labro'r nos. A beidiaf dros Glawdd Offa jeb dori dim uu gos. Ai ben y garag genol I r cleddyf dan i drad, Btyd Hwfa Mon dderwyddol, t'n gweiddi dros y wlad- Mt'r "Bachan Ifanc gwishgi irn un o honom ni, Boed Heddwch yn teyrnasu rlae nawr yn B.B.D. Arno i 'fan bydda i fel Lord Rosebery 1 vn awr yUifaelu cysgu nes bo'r Steddfo'd wedi paso a fina wedi mynd trw'r proses, a fe allaf wid trw brofiad yr atnod fach,Hir y w)ob aros."

 

 

 

16-05-1895

LLYTHYRA NEWYDD. GAN FACHAN IFANC. MISHDIR Y DARIAN, — Bachan bidir yw Mabon. ma fa wedi bod yn gweid Cymrag yn yr House of Comons yto, a odd yr exa • pees yn werthin yn iawn arno. Ich chi yn cofio ta wrth weid Cymrag dath a i notis gynta yn y parlamant amsar nath a. flocheds o nhw gyd. O'n nhw wedi cretu ar y cynta ta Shoni Hoi" odd Mabon os dim dowt, ond fe ddangosws y bachan stowt rincl ne ddwy iddi nhw mewn bothti shiffad, a fe ethon i gyd yn hurt pryd gwetws a ta gweid i badar odd a'n Gymrag a fe gnocson dan y ford i ddangos bod nhw'n lwo. Y tro hyn, gweid lot o enwa llefydd yn Shir Fynwa nathga iddi nhw gal sport, fel Llanfiangel, Nantyglo, Pontrhydyryn, &c. Tysa fa enwi llefydd yn y gwletydd pell fel Nicaragua, Rawal, Pindi, Potsiboka, Mojanga, Yokohama, &c., fe fysan i gyd yn dishgwl yn sifil arno, ac yn i gownto fa yn scolar os dim dowt. Dyna hen dacla twp yw rhai o nhw, ma nhw yn gretu bod nhw'n glefar iawn wrth drio gneid sport o bethach Cymrag. Os caf fi 'u. ala lan y Lecshwn nesa fe ddangosa i dicyn o dwtsh iddi nhw. Pryd gwela i rai o nhw'n cysgu, fe neida ar y nhrad, a fe wetaf mas yn ychal yr englyn i Swn Corddi" nes bod nhw gyd yn dawnsan fel hyn,- "Dip dap, lip lap, gip gap gwpan,cabl Oera, nabl, ar drebl driban, [abl, Croch, och, wchw, garw, twrw, taran, Gwaedd, goedd, gwydd, gwedd guaidd gan." Fe fydda i yn reit y ngwala wetin i gal order pryd bydda i yn cwni lan wastad. Trw bod nhw yn ffeili setlo pwy i ala mewn yn fembar dros Gardydd, ma well iddi nhw foto i'n ala i yno, wath ma isha pachan piwr i lanw lle Syr E. J. Reed. a w i yn ffeili gweld neb yn shewto gystal a munan, ond dw i ddim yn moin brago cofiwch chi. Wyn gwpod gnaiff Cochfarf a Dyfed bob peth y gallan nhw drosto i, a'r Cymreigyddion i gyd, a trw mod i yn Home Ruler i'r bon, fe fydd y Gwyddelod i gyd o'n ochr i nawr achos bof i yn troi yn Roman Catholic. Ar ol i fi fynd miwn, fe fyniff Mabon a fi, a Lloyd George, gal am- bell Welsh Night i dransacto bysnas Cymru yn ein hiaith ni ein hunen, wetin fe allwn baso pethach yn biwr trw na fydd y Seison ddim yn ein deall ni, a fyddan yn ffeili gneid amendments ar yn bils ni. Os na chaf i'n ala miwn fe fydd Cymru yn sefyll yn ngola'i hunan, a roia i ddim o'r shawns iddi byth yto. Gobitho bydd Cardydd ne rhw le arall, er' i lles i hunan yn ddicon call i'n mwsho i miwn yn M.P. y lecshwn nesa, onte fe droiaf yn Dori a fe withaf y bont i fyd yn fembar dros y Rhondda yn lle Mabon, achos ma nhw yn gweid fod lot o Doris yn tyfu yno nawr- Pwy ots y mod i'n wamal Dim ond i fi gal set Os na cha'i fynd yn Libral, Fe af fel Tori'n net; Ma dynion mawr fynycha, Yn newid yn i tro Fe welas rwthnos ddwetha Hen fwlsyn yn troi'n llo. Ma dynion egwyddorol, Yn derbyn llawar cic I enill parch gwladyddol Rhaid dysgu bod yn gwic, A throi fel wrligwgan, I'r man lle ma y mel; Nid sefyll fel hen dderwen A'ch gair bob pryd fel sel. Rhowch fow i Mr Sofrin, I Dafydd Bur, rhowch gnoc; Fe shiftwch heb synwyrin, Yn well na dim mewn poc. Os gallwch ddod i notis Wrth newid amball bryd, Wel, trowch ych cot, a'ch trowsis, Wath dyna ddull y byd.

 

Y MASHARS. W i wedi bod yn gweid rai troion am y merched anwl, bod nhw yn tori swel bidir, ond ma acshwns balch, hunanol, a snoti amball ffopyn sy run shap a dyn yn ddicon i ala'r rheumatic i gos wilbar. Pryd bydda nhw yn ych paso chi ar yr heol ma nhw yn swagro rel sa nhw yn filianers, a falla ta "Scweiars DIma fydda nhw ys gwetws Mynyddog slawar dydd. Os bydd shigarnt dwy am ddima yn'u cega nhw, a garde pres yn hongian lawr dros 'u bola nhw, a ffona dwy ginog yn'u dwylo nhw, a tyngu arecu yn Sysnag yn weddol fflipant, ma nhw yn cretu bod nhw yn grand arswydus. Din nhw ddim yn meddwl am ddim ond gneid shews o honin nhw'u hunan. Tysa chi yn gofyn iddi nhw rhwpath bothti hanas y byd, no hanas Moses bothti llenyddiaeth ne dduwinyddiaeth, ma nhw mor dwp a sledjis, a'u pena nhw mor ysgawn a balwns, Din nhw byth yn darllan dim ond Scraps a Comic Cuts, nag yn stydio dim ond y ffordd i wara carda a'r Biliards. Trw mod i'n meddwl rhoi tro am deni nhw yto cyn bo hir, fe gadawa nhw nawr i stydio'r atnod fach bert hon- Os dim ond crrcyn fydd yn y sach, Crecyn ddaw allan bobol bach." 16-05-1895

 

 

 

None

(delwedd  L0510a) (6 Mehefin 1895)

 

Tarian Y Gweithiwr. 6 Mehefin 1895.

 

LLYTHYRA’ NEWYDD.

GAN FACHAN IFANC.

 

MISHDIR Y DARIAN, — Hwre hwre Ma martnar i wedi enill y Derby. Tysa chi dicyn yn gwic, fe allsach fod wedi diall yn bod ni yn ddou drwmpyn. On i'n gweid os cetyn ol mod i'n meddwl trio am B,B.D. yn Steddfod Llanelli, a na fyswn i ddim yn gallu cysgu nes y mod i wedi paso'r egsaminashon, a i chi yn gwpod fod Lord Rosebury y martnar i 'run peth. Odd en ffaelu cysgu os cetyn nawr achos fod a mwn suspense bothti Steddfod Ceffyla y Derby. Ma fe nawr yn reit: fe nillws Ladas i fab a llynedd, a ma un o'i blant erill a wedi enill y tro hyn yto, a w i bronyn siwr nawr nilla ina'r teitl yn Llanelli, achos i ni'n dou mor depig i'u gilydd. Walla nag yw a ddim yn reit mod i'n gweid dim wrthoch chi bothti'r rasis ceffyla, wath dw i ddim yn cretu bod cbi yn speculato dim yn y lein hyn, wath i chi mor hen ffashwn a mor dwp. Falla dewch chi'n gwicach ar ol i chi arfadd troi gyta. dynon mawr fel fi. Fe fydd raid i chi baso ibo fi'r tro hyn am weid y'm llythyr fel pregethwr. Dyna fi wedi gneid rhagymadrodd, nawr fe gewch y pena. Ne falla bod yn well i fi weid atnod y testyn yn gynta. Wel, dyma hi yn fyr-ma hi iddi gweld yn mhenod gynta y papyra dvddiol yr wthnos ddwetha, ac yn darllan fel L Tii,TRI SYR. Nawr, trw mod i dicyn yn anghyfarwdd a phregethu, a wedi dicwdd bod yn lletwith i weid y rhagymadrodd cyn gweid y testyn, fe gwmpa at y pena ar unwaith, a dyma nhw, "Tri Syr — Syr Lewys Morys, Syr Bachan Ifanc, a Syr Visto. Yn laf, Syr Lewys Morys. Bachanpiwr. Trwmpyn net, ond eitha twp. Dyw a ddim yn gweld yn mhellach na'i drwyn, ond falla ta'r achos fod a felni yw fod a wedi bod yn rhy hir yn Hades, a ma nhw yn gweid wrtho i ta.rhw le odiawn yw hwnw, a nag os neb yn gallu rhoi cownt triw am dano ond y rhai sy wedi bod yno. Ma'r rhai erill sy wedi mynd yno ddim wedi dod nol, wetin ffordd i ni yn myned i gretu Lewys, trw fod a mor dwp mwn pethach erill. Tysa fa wedi arfadd sgrifenu i enw fel fforiner os blynydda nol. fe fysa getyn yn uwch nawr, a w i yn moin dangos ticyn o dwtsh iddo fa. Trw fod yr hen fenyw fach dew sy'n byw ar yn tocins ni, ag yn galw'i hunan yn Mrs. Victoria, wedi galw "Syr" arno fa, ma'n well iddo fa spelian i enw run shwt a scolar, a galw'i hunan yn "Louis Maurice," a fe fentra i shigar bydd a getyn nes mlan mwn amser byr iawn. Ma i enw cyffretin a yn ddicon idd i gatw fa nol, a dyw'r teitl Syr yn ddim ond tamad o loshin iddo fa swpan nes bo fi wedi cal y jobin o Poet Loret. Pwr dab Ma arno i dreni drosto fa. Pryd ma'r hen fenyw yn rhoi teitl i rai o'i chit hi'i hunan, ma hi yn gofalu bod tocins tu cefan iddo fa, a fydda i yn gweid yn blaem wrthi, os aiff hi i drio'n wablo i fel ma hi wedi wablo Lewys; on I ma hi yn y napod i yn rhy dda i drio wara tries fel na sha ii, a w i yn cynghori Lewys i bido use r teitl o speit iddi, wath os dim tamad o farddoniath yndo fa. Ond ma'n rhaid i fi i fynd ynmlan at y pen nesa, ond weta i ddim llawar ar hwnw. achos mod i'n shy i weid am y munan, ond gan fod a yn y testyn, ni sylwn yn 2il, ar Syr Bachan Ifanc. Nid Mrs. Victoria sy wedi roi a i fi, a nid y fi sy wedili ddoti a ar y munan, ond w i wedi gal a'n onast gyta dynon diarth, odd ddim yn gwpod dim am dano i; wetin i chi yn gweld ta nid soft soap sy bothti fa, ond teitl wedi ei enill yn deg yn iwniferaity public opinion yw a; a trw mod i'n drwmpyn, fe weta fel ceso i a, a wetin fe allwch chitha drio'r un dodge. Pryd bydda i yn cwrdd a gwr byneddig, ne ladi weddol swelish, w i yn cwrlo'n mwstash o mysadd, a chwni'n het Ian dicyn bach, a gweid yn Sysnag, How are ya?' Ma nhwnta. wetin yn gneid moshwn respectabl a gweid Fine mornin, syr,' a dyna fi yn cal y teitl heb ddim trwpwl. Dw i ddim yn meddwl am i uso fa run shwt; wath os dim cownt am ddynon call yn arfadd gneid sylw o shwd nonsans. Mor lletwith fyddai fa i weid Syr Dafydd ap Gwilym, Syr Islwyn, Syr Cynddelw

 

 

None 

(delwedd  L0510b) (6 Mehefin 1895)

. Syr Dyfed? Dyma fi yn rhoi notis i chi nawr i bido galw Syr Bachan Ifanc arno i a nawr fe ewn yn mlan at pen 3, Syr Visto. O'n i ddim wedi clywad son am yr enw cyn yr wthnos ddwetha, a fe etho i stwmp fod cymant o son am dano, a beth netho i ond trio 'm llaw fel Morian i ana Uso 'r enw i gal gwel'd beth odd a'n feddwl. Fe etho i ddechra ar y llythyren V. Wedi i fi ddishgwl lawr dicyn bach, fe etho n hurt glan, a fe gwmpas lawr idd i chornal isha hi, a dyna bictwr pert o'n ni, a gorffod i fi weiddi ar y fenyw lle w i yn lodjo i ala milgi at Morian i ddod i'n helpu i maes o' mosishwn lletwith. Dyma 'r gola geso i gyta fe odd, ta meddwl yr enw odd, — " Fe est a hi Visto "-a taw enw ceffyl Lord Rosebery odd wedi enill y ras odd a. Wel. wel, meddwn i, dyma Syr Lowys Morys a f, yn cal y'n towli i'r cysgod gan yr an if ail Syr Visto," a pholitics Prydain iawr yn sownd wrth gwt ceffyl. Do's dim rhyfadd gyta fi fod i berchan a yn ffaelu cysgu cyn y "Derby Day," ond fe all gymryd nap biwr nawr ar ol enill, Shwd idea fydda fa i gal "Syr Visto lawr i 'Steddfod Llanelli yn lle y Prins of Wales? Fe fydda yn siwr o dynu lot idd i weld a, a fe nela 'r Comitee docins net. Trw ta Major Jones yw'r membar dros Llanelli, dim ond iddo fa weid gair yn nghlust Lord perchan y ceffyl, fe gaiff i fentig a os dim dowt, a fe gaiff Wmffra Huws i rido fa rownd i'r Orsadd fel Joci, a Hwfa Mon weid pishin o ganu wrtho fa fel hyn,- "Visto" anw'l, ma' dy enw Wedi cyrha'dd gwir fawrhad, Erys dy gymeriad gloew Fyth yn uchel gan dy wlad Er nad wyt ond ceffyl tena', Ma shwd son am danot ti, Fe alii di wneud mwy o'th goesa' Lawar iawn, na'n pena' ni. Rhaid i fi ddod at gwt y bregath, trw bod cwt gan geffyl, gyta'r atnod, — Ffrwyn i farch, a ffrewYll i'r ynfyd."

 

 

 

 

 

20-06-1895 Ο

LLYTHYRA' NEWYDD. GAN FACHAN IFANC. MISHDTR Y DARIAN, — W i am gal wilia gair ne ddou wrth y beirdds y tro hyn, a ma nhw yn getyn mawr o a fydd rhaid i fi fod yn byrticiwiar beth fydda i yn weid, onte fe gaf y nhowli trw gwt y sarff gyta nhw. Dw i ddim yn ito llawar am deni nhw. wath hen gowarde i nhw <ryd, a fe alla i brofi hyny os bydd taro. 1 chi'n gwpod yn ol y cownt sy gyta ni ta nhw startws y Steddfota slawar dydd, cyn bod chi a fi yn gwpod lle o n ni, a nhw odd yn gaffro pobpath o bothti fel odd pethach yn cal i cario rolan yndi nhw; ond shwd ma nhw yn sefyll nawr I Ma'r hen gler diened wedi cal "u boicota mas o'r consarn gen lot o grots impiwdant, a ma nhw yn cwtshan nol rhwia fei sa ofan arni nhw ddangos 'u trwyna. Gwyr y canu, a rhw sprowts poletieadd yw'r gaitars Steddfotol nawr. Trw mod i yn dechra dod lan yn y lein hyn, w i yn mynd i gynyg Home Rule Bil i'r beirdds. I chi'n gwpod os bydd pishis gyta nhw m'wn Steddfod, nag os dim amsar byth i roi dim cownt am 'u gwaith nhw, dim ond jest gweid pwy yw r g'ora, Wetin fvdd dim son am y pishis byth falla, os neg aiff rhai o'r colletwrs I gintaeli nag i nhw ddim wedi cal wara teg. Nawr, dyma r plan w i yn moin yn Steddfod Fawr Llanelli:-Fod y beirdds i gyd, a phawb sy'n ei lico nhw, ac yn enjoyo ii g^-aith nhw, i fyn d yn gwmws o r Orsadd i rhw 'stafell yn y dre ar ben u hunen, a bod y barnwrs yn rhoi count yno ar bob un sy'n trio, a'r ttM goxa ar bob un i (Idalliau u bishin mas, Deuddag testyn sy ar y program a dim ond dou o nhw gymriff lawar o amsar sef, yr Awdl a'r Bryddest, a dim ond rhanu'r pishis am y pedwar dywarnod, fydd dim isha i gwrdd y beirdds fod yn faith. Cofiwch chi mod i 'n cownto fod bob un i dalu am gardan i fynd yno fel IT Paiilion yn lle bod neb yn sheto'r comitee, ac ar ol cwpla yno, gall pobun £ ynd i'r Pafilion wetin o'r un gardan os a phob un fydd wedi enill i fynd yno i gal y gatar, ne'r cwtyn, fel bo fa yn gallu tori ticyn o dwtsh o nan y ladies ar gwyr mawr. Nawr w i yn cretu bydd mwy yn mynd i ryndo ar y beirdds nag i chi yn meddwl, a fe fydd y plan hyn yn rhoi shawns i bob un i fynd yn ol idast, a fe fydd y gwaith yn myn'd, yn mla^ mwn dou fan run pryd, a fe gaiff y scweiars Sysnag fwy o amsar i spowto, a gweid bod Welsh Mood yndi nhw Trw bod Hwmffra Huws yn fwy 0 slebin na fi yn y lein hyn, fe llewn iddo fe weid i feddwl am y plan, a rhyngto ni 'n dou fe scwarwn bethach yn weddol iawn erbyn y Steddfod. Os dim use gofin "A oes hedawch?'' wath w i yn gweid yn blaim nag os a, a w i yn gweid bys arwyddion yr amsera yn pwyntio'n gwmws atPRINS OF WALES. Din ni'n dou ddim llawar o bartnars, achos ta hen drwmpyn clawd yw a. W i yn ffaelun' deg a ffindo mas at beth ma fa wedi cal i neid. Beth ma Cymry yn moin drago cymaint wrth gwt i got a? Beth nath a drosto ni ariod? Ma'r pwl dwetha ma comitee yr Iwnifersity Fawr wedi roi wrth i gwt a yn wath na'r cwbwl: Fe wddoch ta Lord Aberdar odd wedi cal i ddewish yn head man ami ar y cynta, a odd e'n ffit i fod yno; odd a wedi gwithio'n galad dros edewcashon i'n gwlad ni trw i fywyd. Ond beth nath y Prins drosto ni yn y lein yna? Ma fa wedi ala i weid nag os dim amsar gyta fa i neid dim yto, ond bod a'n folon gwishgo'r titl. Clywsoch chi shwd seii.se ariode FjTsa 'n ffitach iddi nhw rhoi'r shawns i rhw hen wrbyneddig Cymraeg, sy wedi ala amsar, a arian, a slafo'n galad er lles yn gwlad ni. Fefyddafwy gyta deleit y Prins i fod yn boe mwn rasis cyffyla. ne Baccarat, na boso iwnifersity Cymru, a treniiddi dynu a oddiwrth i dast. Dyw e ddim yn moin dod i gymanfa ganu na chymanfa bregethu, i steddfod na. iwnifersity, os caiff a wara teg. Wetin pwy use yw i boeni aj Ma fa sivr o fod yn gweid wrtho 'i hunan yn Sysnag, pryd ma nhw'n gofyn iddo neid rhwpath o'r short yna, — " What neic.shans those Welsh are?, Gadewch y dyn yn llonydd, I ddilyn ei ddileit, Nis gall y mwyaf celfydd Wneud golud o hen geit; Ma'n dreni idd ei lusgo 0 hyd yn gros i'r gran Dvw e ddim wedi stydio Arferion 4i Cymru Lan." Yr "Amen" y tro hyn fydd yr atnod, — Buan y dysg ap hwyad i nofio."

 

 

 

04-07-1895 Ο
LLYTHYRA' NEWYDD. GAN FACHAN IFANC. Mistf/>IR"-Y DARIAN,-Dyna smash Ma Gyfarmast y martner i wedi mynd yn yffion racs. O'n i'n gweid bysa fa yn mynd i gysgu ar ol I Syr Visto enill y ras, a odd y Tories yn diall hyny yn net, wath o nhw mor falch a neb fod a wedi enill, iddi nhw gal i gnoco fa mas o jobin pryd odd a'n eymryd nap. Rhai ewic yw Tories i neid tries felna, a fe ddyla'r Librals drio'u watshan nhw. Treiii na fysa nhw wedi catw mewn offis i gwpla'r Disestablish Bil trw bod a wedi dod mlan cystal. Ma dynon bishi yn trio gweid nawr bod Dafydd Domos, 'Sgiiborwen, a Lloyd Gebrge wedi alaofan arni nhw gyd. Wei, os nag odd pethach yn câ} 'u cario mloo. yn ddecha, i ni gal Bil sownd, odd yn rhaid catw'u trwyna nhw ar v man a dangos ta nid rhwpath nela'r tro i Gymrfi-. Ma cetyn mawr o waith drago wedi bod ariod i gal y Bil ymlan rhw shap gyta'r Bcieon. Odd hyd yn nod yr hen wr o Benarloj yn tynu nol yn fwy na ffwsho mlan arno. A dw i ddim yn cretu celaf a ddod pan ddath a ond bai i rai o foys Cy&aru fynd ar streic, a nawr ma'r Gyfarmant wedi mynd ar rstreiè ar i hanar a. W i bron eretu nag odd dim isha llawar o esgus arni ahw iddi dropan a fel gnetho nhw, ond o ahw ddim yn lico dangos hyny, a fe gymerson esgus bach arall i dowli'r consarn o'u dwylo. 'Nawr i ni fel Cymm fod dicyn ya- gwic, ma gen i boint piwr i gynyg i'r Tories amsar yLECSHWN. Ma dicyn bach o Irish sent o bothti a, ond os dim ots am hyny, a dyma fe: — Yn bod ni gyd yn troi'n Dories ar y telera os a nhw miwn y tro nesa, iddi nhw baso y Disestablish Bil a Home Rule Bil i Gymru. Fe af i i wilia sba Mr. Marcwis Salsbury a Joe Chamberlain o bothti'r peth, a fydd rhaid i chi newid teitl ych papyr yn "Tarian y Tori" yn lle Tarian y Gweithiwr," fydd hyny ddim yn llawar o trwpwl i chi e allwn i feddwl, os gallwn ni geino pwynt ne ddou wrth hyny. e fydda i yn folon mynd yn "Whip" i'r Tories os ca i vr un hur ag oedd Twm Ellis yn gal gyta'r Librals, a fe whipa nhw nes bod nhw'n tampo, os na thampa nhw at 'u gwaith i baso'n Bils ni pan fydda i yn 'u hordro nhw. 'Nawr w i yn gobeithio fod y membars Cymrag i gyd yn folon troi'u cota am spel ta beth, nes bo ni'n cal y ddou Fil yna. wedi paso. Ma nhw wedi bod yn tynu'u cota a torchi'u llewisha nawr os eetya i ymladd, a ffeili enill dim wetvn, a ma'n well iddi nhw drio'r plan o'u troi nhw os cewn ni beth i ni'n moin felni, a ma atnod yr hen Ficar Pritshat yn gweid Derbyn berl o enau llyffan." Dyna fi wedi doti y plan yn blaen o'ch blan chi gyd, ac arnoch chwi bydd y bai os towlwch chi a gyta'r gwynt, yn lle i uso fa er ych lles chi a'r genedl Gymrag o Gaergybi i Gaerdydd. L chi yn gwel'd, fe fydda i yn saff ta pwy ffordd troiff pethach. Os aiff y Librals i nghico i am gynyg shwd beth, fe fydd y Tories yn clapo nghefan i, a gweid bod gen i eye to business, a falla caf i dysteb gyta'r "Primrose Dames," wath ma'r mynwod yn lico gwel'd Bachan Ifanc yn smart ac up to date gyta phopeth. Os syrthiodd ceffyl Rosbri Ar hanar ffordd i'r ffos, Ma'n well cal cefifyl Salsbii Yn awr i'n cario'n gros Pwy ots pwy bia'r cefifyl, Na beth fo 'i enw e? Ma 'n rhaid cal rhyw anghenfll I fyn'd a'r llwyth i dre'.

 

 

 

25-07-1895 Ο
LLYTHYRA' NEWYDD. GAN FACHAN IFANC. MISHDIR Y DARIAN, — Walla bod chi'n ffaelu diall yr achos mod i mor dawal amsar y Lecshwn yma, ond ma gyta fi ddicon o reswm dros hyny, a dyma fe,- Os dim vote gon i na'r fenywLIJE W I YN LODJO. Os dim vote gyta fi achos ta Bachan Ifanc w i, a os dim vote gyta hi achos ta nid bachan yw hi. W i yn ffaelu diall politics o'r short yna, ac er y mod i wedi bod bothti yn gryndo ar y dynon mawr i gyd, dw i ddim wedi cal explanashwn gyta nhw. Gwaid am 'u hunen w i yn 'u clywad, a beth ma nhw wedi neid. a beth ma nhw yn mynd i neid. a promisho pethach mawr. Naiff rhw acshwne felna ddim o'r tro, wath ma dynon call i gal heb ddim M.P. wrth 'u cwta nhw, a fe allwch chi fentro bod menwod call i gal heb un vote gyta nhw. W i yn tyfaru nawr na ddetho i ddim mas ar y platfform "Woman's Rights" and "Bachan Ifanc's Rights," wath w i yn siwr ta miwn elwn i. Ma beirdds yn canu i fenwod, a ma dynon yn lico menwod wetni beth ma nhw yn 'u i-peito nhw felna. Os dim gwell testyn i gal na'r "fam" ne'r "ferch." Dyna y Ferch o Gefnydfa a'r "Ferch o'r Seer wedi ala beirdds yn ddwl, a ala y rhai sy'n gvyndo arni nhw'n ddwlach. Dyna yto, ma 4 Myfi sy'n magu'r baban, A fi sy'n siglo'r cryd yn ala rhai yn benwan. Y nhw sy'n rulo'r byd. Beth wety'n am "Hen ffonfy nain?" ( i's un dyn yn i sens yn ffaelu teimlo wrth glywad bono? A dyma ni fel dynon yn mynd y'mlan a'n politics, a ma nhwnta yn mynd mlan o'n bla'n ni. Ma dydd i ddod bydd menwod yn yn ledo ni, a ma n well gen i gal yn lerlo gyta menvw gall na dyn dwl. Ma •arglwyddi y greadigaeth," fel ma'r dynon mawr yn yn galw ni, wedi mynd yn hen fenwod. a menwod wedi dod yn arglwyddesau'r greadigaeth. Os byddwch yn moin ticyn o sense yn awr, ma rhaid i chi fynd ati nhw iddi gal a. Wrth gwrs, ma pob dyn sydd w. di darllan i Feibl yn gwpod ta hi odd y "ruling power yn y dechra, a bydd yn rha d i bethach ddod yn ol i'r un man yto cyn y gallwn ni ddod yn ol i baradwys. W i wedi sgrifenu y paragraphs yma fel odd y fenyw lle w i yn lodjo yn gweid wrtho i, a ma hi yn fenyw gall os dim dowt. Y mae yn dda ambell walth cal rhwyn i'n helpu ni, ond w i yn mynd mlan nawr yn yn ffordd i munan.

LLE NET I GILO YW CYMRU. Pan o'n ni fel Cymry yn colli tir wrth ryfela, fe alson ni yma i fynydda' Cymru i'n starfo ni. Ond camsynad odd hyny. Fe ofalws yr hen wr byneddig sy'n gofalu am bawb, os nag odd dim ar dop y mynydd, bod rhwpath 'o dano, a ma Cymry tlawd wedi cal ticyn o fara chaws 'ddar hyny hyd yn awr, a fysa'r dorth a'r coisyn yn fwy tysa rhai ahvs ni yma yn pido'n dilyn ni. Beth w i yn ala ato yw hyn,-ma dyn mwya'r Gytarmant wedi cilo yma nawr. Ond odd dim diolch iddo fa achos bod a wedi colli mwn man arall, ond w i yn cretu ta trefan Rhagluniaeth sy'n i neid a, iddo fa gal gwpod shwd gwality i ni wedi cal yn gneid, a os dim dowt bydd a 'n satisffeid am dano ni cyn mynd nol. Ma rhwpath yn y drcfan yn dod rownd nes bod y leins yn cwrcld. a fe fydd Syr William Harcourt yn dod a leins anghenion Cymru i dwtsh a'u gilydd. W i ofanmynd yn mhellach bothti jjolitics achos bod hi'n amsao; Lecshwn, achos ma pawb yn gweid yr atnod, Paid a chlebran, ne' fe gai di jobad."

 

 

 

08-08-1895 08-08-1895 Ο
 

LLYTHYRA' NiEWYDD. GAN FACHAN IFANC. MISHDIR Y DARIAN,-OS dim diwadd ar y Lecshwns i fod, allwn i feddwl. Gyta bod y lecshwn fawr boliticadd ar ben, dyna leeshwn fawr y beirdds yn Llanelli yn de chra, ac er y mod i yn broffwyd lled dda, alla i ddim dyfalu pw bryd ewpliff hon. Fe wddoch chi, syr. o'r gora ta fi daclws Hwfa yn Archdderwdd, ond bod isha doti'r cap ar i ben mawr a yn Llanelli; a fe netho nhw y ticyn jobin hyny yn weddol smart, wedi rhoi cwpwl o glowts i glic y Mwythig. ,-niawr ma'r hen Hwfa'n reit nes bo fa wedi myn'd i'r nefodd. os gwetws Cadfan. Ond ta" beth, odd isha offisars ar yr Orsadd, a thyma hi yn fatl wyllt yto bothti pwy odd i lanw rheiny. Son am y Tories a'r Librals — di nhw ddim byd at feirdds y North a'r Sowth. Wrth gwrs, y Northmans yw'r Tories, achos ma nhw yn mynid ffordd 'u liunen gyta phobpath, fel y Tories politicadd. a gyta nhw ma'r majority yn House of Lords y beirdds, sef yr Orsadd. Ond yn yr House o' Commons, sef Cwrdd y Beirdd, fe fuon yn trio scwaro ticyn ar bethach ond fe fynws y Tories barddol fwy na'u shar trw'r cwbwl, a w i yn cretu ta'r unig ffordd i neid yw i ni wyr y South gal Home Rule a Gorsadd fach yn hunen ar y Garag Shiglo, a chal Morian yn Archdderwydd trw iddo fa golli'r jobin yn Llaneili. Ond ma dynjar yn y pwynt hyn yto, wath ma'u lled depig daw y Gaffar Haliars yna-Morgan Thomas-mlan yn i erbyn a, a trw fod a wedi cal i neid yn Gadeirydd y Garag Shiglo, fe fydd yn moin bod yn Archdderwdd hefyd, a wetin fe fydd yn fatl rhwng y beirdds a'r haliars, a batl ddychrynllyd iawn fydd hono. Fe aiff y Shonies ar streic, a fe stopan y gwitha i gyd. a fe starfan y beirdds i gyd, a dyna ddiwedd arni nhw wetyn, a diwadd ar Morian i fod yn Archdderwdd. Erbyn mod i'n cynsytro pethach fel hyn, w i'n myn'd yn dwp glan, na wn i ddim b'le ma troi, na lle ma'r fan ora i feirdds y South i fildo Gorsadd. O'n i'n meddwl wetin am Pen Pych, Cwm Rhondda. fel lle ljiwr. Yn 'ngwyneb haul a llygad goleuni,' a fysa Morian yn saff yno, a fe gesa beirdds y "South ffordd 'u hunen ond w i yn gweld shwd drwpwl i gario'r ceryg lan yno wetin. a w i yn meddwl ta'r ffordd ora i fi atal Morian i ftieso lle i hunan, a i nina fyn I'd ar i ol a, ta fa yn mynd i Garbaddon.

 

 

WMKFRA Huws. Odd can yr hen frawdanwl ar 'B'le i ni *N aw r." yn y DARIAN ddwetha yn yn ala i i neido cuwch a'r llofft, a fe ddyla oal catar well na 'Chatar Wellt' am neid shwd waith. Tyswn i'n gallu gneid gwaith felna, clielsa gwyr y North ddim cymant o'u ffordd yn Llanelli, a w i want trio gneid pishin ar yr un mesur a fa ar y testyn, BETH NEWN NI NAWR? (Cyflioynedig i Feirdds y South.) Dyn helpo ni druen, ma barddwrs y North Yn twcid y cosin, a twcid y dorth Ma nhw wedi mynid cal pob jobin mawr, A ni yn y gwtar Wel, beth newn ni nawr? Y nhw sydd yn tynu pob plan fel ma'i fod, Y nhw sydd yn cal yr awdurdod a'r clod W i'n gofyn y cwestiwn a mhen tua'r llawr, o gwetwch, feirdds anwl, Beth, beth newn ni nawr I Os agor ei geg wna bardd bach o'r South, Fe wed y Cofiadur, You shut your mouth, Neu ynte mi'th daflaf a'th ben tua'r llawr Yn ngwyneb shwd gyfrath, Wel, beth newn ni nawr? Ni synwn i damad wel'd rhw Northman tal Yn bwrw pen Brynfab yn erbyn y wal: A Dyfed a Wat a'u hen bena mawr, Yn ddison am danynt — A beth newn ni nawr? Ni synwn i ddim wel'd yr hen LWmffra Huws' Wrth gwrdd a shwd ofid yn myn'd ar y crews Ma'r Bachan' a fynta mewn trwpwl mawr, mawr- Pwy all ein cysuro — A beth newn ni nawr? I ni'n dou wedi trio yn galad bob pryd I gwni yr Orsadd a'r Beirdds yn y byd Ond dyma hi'n ddecha, i ni'n dou yn myn'd lawr, Ddarllenwrs y DARIAN — Wei, beth newn ni nawr? Shwd waith, boys? Pidwch a meddwl mod i'n trio meiddi Wmffra-os dim shwd beth yn bod, wath ma fe yn llen seolar. W i yn gwpod fod a'n folon i fi i ddilyn a, achos i ni yn ddou drwmpyn, a bachan piwr w i wedi wel'd a wastad, ago os dim nonsans o bothti a byth. O'n ni'n falch fod yr hen Lew' wedi dod mas o'i dwll yto, er ta Northman yw a. Ma fa. wedi gwitho'n galad ariod, a odd pawb yn credu os dim dowt fod i amsar a ar ben ond ta beth, fe ddangosws i bacad yn Llanelli fod y stwff yndo o hyd. Hir os iddo i enill lot yto, weta i. Ma hi yn rhy gynhar i weid llawar am y Steddfod o un pen i'r nall-ma lle i neid lot o amendments arni o hyd. Ma'r Sysnag yn y ffrynt o hyd, a fe nath Morian hi'n ddecha i weid Sysnag ar yr Orsadd a o'n i want gofyn iddo os taw Red, White, and Blue yw meddwl 11\ Am i drosadd, rhaid iddo fyta'r atnod, Gwnewch bobpeth yn Gymrag.'

08-08-1895

 

 

 

A close up of a newspaper

Description automatically generated

(delwedd F9796) (15 Awst 1895)

Tarian y Gweithiwr. 15 Awst 1895.


 

LLYTHYRA' NEWYDD.

Gan FACHAN IFANC.

 

MISHDIR Y DARIAN, - I chi mor falch a fina bod yn gwlad fach ni yn mynd lan o hyd; a ma'r fforiners yn dechra gweld yn bod ni wedi cal yn gneid o well stwff na o'n nhw'n meddwl. Fe fuo nhw yn arfadd gneid sport ar yn pena ni 'slawar dydd a gweid ta wara plant bach odd yn Steddfota ni, ond ma pethach wedi troi rownd erbyn hyn, a ma nhw yn gwiddi hwre! gyta ni  yn y papyra Sysnag i gyd. Ma'r hen Steddfod yn gwella bob tro, a talenta newydd yn dod i'r golwg o hyd nes ma dynon mwya'r wlad yn colli'u sensis with glywad yn merched pert a'n bechgyn glân ni yn canu mor sublime, a tysa nhw yn gall a diall yn englynons a'n awdls ni fe ela collad gwyllt arni nhw os dim dowt. W i want proffwydo bydd rhaid bildo Iwnifersity newydd yto i ddysgu'r iaith Gymrag i'r Seison, a nghal i yno i ddysgu'r ffordd iddi nhw neid pishis o ganu, fel bod nhw'n gallu trio enill catar a choron fel Pedrog a'r Llew. Y fi fysa'r ail ar y gatar tro dwetha ond bai bod rhai erill o mlân i. Os dim shawns i neid marc nawr wath ma hen sprowts bach yn cwni fel mushrooms. Dyna J. T. Job gyta chi yn Byrdar wedi gneyd strôc first-class, a fydd rhaid i watshan a o hyn i mas. Odd dim son am dano fel awdlwr cyn iddo fa brioti, a w i felswn i yn cretu ta i wraig a sy'n gneid y cynghaneddion iddo fa, ne wedi i ddysgu fe iddi gneid nhw'i hunan, a walla bod yn well i fi ddishgwl mas am un y munan. Odd y barnwrs yn cydweld fel “cendars" bothti caitality yr awdls i gyd bod nhw'n gredit I’n gwlad ni, a er ta pregethwrs odd y cynta a'r ail, w i yn gwpod am rai  collars bach yn cynyg, a dw i ddim yn cretu fod bachan y ‘brwyn a’r rhetyn’ yn mhell ar ol. Trw fod gwithwrs yn gallu tori shwd farc ma rhaid i wyr y cota duon fod yn smart, ne fe ddaw y bechgyn sy'n labro’r nos iddi wipo nhw rhw dro, er fod gyta nhw getyn fwy o amsar i neid pishis na sy gyta gwithwrs clawd. Dw i ddim yn jelws wth fechgyn y pwlpud, cofiwch chi, wath isha pishis da sy, i gal cwni'n gwlad ni a gneid lles i'r genedl. W i yn cretu run shwt a Wmffra Huws fod yn bryd i withwrs talentog gal ran o le i swagro ar blatform yn steddfota ni, yn lle bod y pregethwrs yn cal y shawns i gyd. Fe alla i enwi pacad o foys da sy ddim yn gwish[g]o'r white shocers fysa gystal barnwrs a nhwnta, fel Carnelian, Gwilym Elian, Tafolog, Gwilym Eryri, Brynfab, Eurfryn, Ap Ionawr, Ap Rhydderch, Michael Thomas. &c. Gobeithio bydd llyced comitee Casnewydd ar rai o nhw i gal cymysgu dicyn ar y gwad, a gneid y stôl farnol yn fwy gwir genedlaethol. Trw'r cwbl, mae yr

 

EISTEDDFOD GENEDLAETHOL wedi mynd hibio yn grand, a dw' i ddi yn meddwl fod isha i'r rhai gollws yno gintach llawar. Ma gwyr y canu wedi gneid gwaith bydd son am dano, a Syr Joseph Barnby wedi cal clywad rhwpath na chlyws a ariod o'r blan. Wel done ferched a bechgyn Cymru, fe licwn i glapo y'ch cefna chi gyd, a dyma bishin bach i chi ar fesur ‘Hwmffra Huws:’ -

 

 

 

A close up of a newspaper

Description automatically generated

(delwedd F9797) (15 Awst 1895)

MISHDIR Y DARIAN - O ble ma nhw'n dod?

 

Ma plant 'gwlad y gân’ yn cwni o hyd

Nes synu cantorion enwoca y byd;

Ni chlywodd Joe Barnby shwd ganu ariod:

Mishdir y DARIAN - O b’le ma nhw'n dod?

 

Er fod hen gerddorion yn gadal y byd,

Ma erill yn cwni, yn cwni o hyd;

Ma crots a chrotesi yn catw ein clod,

Mishdir y DARIAN - O b’le ma nhw'n dod?

 

Bu Cor Mawr Caradog yn Llundain cyn hyn

Yn ala y Cocnis Seisnigol yn syn;

Ond os dim ots bath i ni wedi bad,

Mishdir y DARIAN - O b’le ma nhw'n dod?

 

Ma plant bach y Cymry yn canu o'r cryd,

A chanu heb jocan nes shiglo y byd;

Yn nhemlau y gân maent yn byw ac yn bod,

Mishdir y DARIAN - O b’le ma nhw'n dod?

 

Odd rhw hen Glepgomer yn gweid, glywsoch chi,

Ta hen dynwrs llunia clawd, clawd ydi ni;

Ond pan glyws a'r canu, wydda fa beth odd yn bod, Mishdir y DARIAN - O b’le ma nhw'n dod?

 

Rhaid i'r byd dynu'i gap i ganu'n gwlad wen,

Y ni yw y fflogars a ni sydd yn ben —

Fu cantwrs fel Cymry'n y byd hwn ariod,

Mishdir y DARIAN - O b’le ma nhw'n dod?

 

 

MERCHED CYMRU. Dw i ddim wedi gweid dim am y ladies anwl os cetyn nawr, a ma nhw wedi ala i ofyn i fi os w i wedi dicio wthi nhw. Os dim shwd beth yn bod. Fysa'n well gyta fi fynd am fish i ddwr y môr na gweid dim yn gas am deni nhw. Odd rhw wrbyneddrg yn gweid yn Llanelli na welws e ddim glanach merched na merched Cymru ariod, bod nhw'n dishgwl fel angylion, ac yn canu fel angylion, a ma'r papyra Sysnag wedi bod yn gweid yr un peth. W i ofan a'n nhw yn lled independant o hyn i mas, fe fydd y Seison, a'r Scotch, a'r Irish, yn dod yma iddi twcid nhw ddarno ni. Wetin fe gewn ni fechgyn Cymru yn gatal yn hen fatshelars i gyd. Fe glywas fod un bachan ifanc o Rhondda wedi talu train i wedjan lawr i'r Steddfod, a bod rhw slebyn o Sais wedi cilo off a hi o'r wtho, a ma'r bachan jest mynd I’r sylam gen ofid. Fydd yn rhaid i'r Sais bido dod Ian i’r cwm i garu onte  fydd golwg shêp arno, os cwrddiff a fa, a fydd rhaid iddo fa dalu'r arian alws Shoni i'w threto hi nol; ma hyny yn ddicon teg. Dyna sy'n ddanjerus — fe fydd y bechgyn ofan myn'd a'u wedjis o dre o hyn i mas, wetin fydd merched tidy yn cal suffro am drics sly rhai erill, ne fydd yn rhaid i bob bachan ddoti colar a chain ar wddwg i wedjan, a'i ledo hi felsa fa yn ledo milgi o bothti gyta fa. Pidwch a meddwl mod i'n cynyg shwd beth, onte fe ddw i ofid gyda'r merched anwyl, a fe gwpla i gyta nhw nawr wrth weld yr atnod fach hyn, —

 

"Y mae fy serch at ferched

Yn dân llawn hob hyd na lled."

 

15-08-1895

 

 

 

22-08-1895 22 Awst-1895 Ο
 

LYTHYRA' NEWYDD. GAN FACHAN IFANC. MISHDIR Y DARIAN, — Pryd clywas i fod y Welsh Rigmant yn martsho trw Byrdar, o'n i'n meddwl bysach chi a boys yr Offis i gyd yn listo'n sowdjwrs, a bysa rhaid cal staff newydd i gyd i brinto'r DARIAN, ond sposo nag os dim dicon o blyc yn un o chi i wishgo'r got goch. Odd y fenyw lle w i yn lodjo ddim yn folon i fi fynd iddi gweld nhw, achos odd hi'n gweid bysa Cymal Cwirc yn neido ddar i geffyl yn gwmws a citsho yndo i, a off a fi. trw mod i'n fachan ifanc mor smart, a fysa merched Cymru heb neb i gymryd i part nhw wetin, a o'n i'n gweld sens yn beth odd hi'n weid, a'r plan gymras i odd mynd mwn disgise fel hen ddyn. Ma'r Rigmant wedi cal eitha welcwm yn mhob man lle o'n nhw'n mynd, wath i ni Gymry yn gallu dangos rispect pan fyddwn ni'n dewish yn ots na neb. O n i ddim yn i gweld nhw yn rhw fechgyn smart anghyffretin, ond ma cwality splended yndi nhw os dim dowt. Treni bod nhw yn gorffod gwitho am shwd arian bach a ma nhw. Trw bod rhaid cal sowdjwrs i'n catw ni'n saff. fe ddylan gal i talu fel dynon, a'u trin yn respectabl, a nid 'u trafod fel sa nhw'n g\Vn. Os dim dowt nag i nhw yn well off nawr na mha nhw wedi bod, ond ma lIe i wella yto. Ma isha cal Mabon ne Dafydd Morgan i fynd i wilia sha 'u mishtri nhw o bothti llawar o betha, wath os dim use iddi nhw druen fynd ar streic, onte fydd y gaffars sy arni nhw yn pwynto blan y baginet ati nhw, a gneid iddi nhw obeio. Fysa dim isha cocso cymant ar fechgyn i joino tysa wajis piwr am y jobin, fel ma'r Captans, Liftenants, a'r Cyrnals yn gal, ne wajis teilwng o ddynon ta beth. Arno i want mynd i wilia sha'r hen fenyw sy'n gwishgo'r goron o bothti cal fwy o wara teg iddi nhw, wath ma hi yn teimlo shew o interest yndi nhw w i'n siwr, a odd hi'n dangos hyny wrth ala'r Bili Got iddi ledo nhw, a ma fe yn cal gwell wara teg na neb yn y Rigmant, a ma fe a'i bartnar yn ddou drwmpyn piwr.

 

Yn ol pob cownt, ma'r NEW WOMANS yn dod i fwy o sylw bob dydd, ag arno i of an os catwa nhw mlan, ma nhw fydd leedin pwars y byd, a fydd rhaid i ni obeio iddi nhw yn mhobpath. Welas hanas rhw bwr dab yn gofyn i'r majistret yr wthnos ddwetha beth nela fa a'i wraig. Ma hi yn gneid iddo fa wishgo ffetog i olchi'r llestri, a golchi'r parth, a mindo'r plant iddi hi gal amsar i fynd mas i rido'r beisicl mwn dillad fel dyn, ag odd hi wedi fwro fa o'r pocar unwath achos nag odd a ddim wedi doti'r plant yn y gwely pan ddath hi nol. Wrth mod i'n darllan am dano druan, fe ddath y canu yna i rnhen i,- Pwy byth gymar wraig Tra bo gwracadd fel hyn?" Shwd blan fydda fa i starto Welsh Rigmant o fenwod? Fe ffinda i Nanny Got iddi ledo nhw, a walla bydd yn well iddi nhw gal uso pocars yn lle drylla, achos bod nhw yn fwy eyfarwdd a rheiny. Fe fyddan yn dishgwl yn bert mwn cota cochon a nicabocars, a dyma Fartsh i'r Band i wara o'u bla'n nhw, — Daeth y dydd i ni fenwod Gwni'n pena lan, Ma'r hen stori wedi darfod Am y llestri gwan Beth ma dynon dwl yn boddrach Bu bod nhw yn llawar cryfach? Fe gan' deimlo'n bod ni'n ddewrach Nag i nhw'n y man. 'Nawr i ni fenwod Wedi gwishgo'r got, Trowch o'r ffordd y lliprod, 'Dych ch'i ddim gwerth grot; Awn yn mla'n yn ffyddlon, Mynwn wado'r dynon, llawdd gall merched dewrion Feiddi'r blwmin lot. Yn ein nicabocars, Martshwn yn y bla'n, Cwnwch lan eich pocars, Anw'l ferched glan; Y mae'r cota coch am danom, Cochach yw y gwad sydd ynom Pwy a ddwg ein reits oddiarnom Ladies Gwlad y Gan? Dyna eitha canu sowdjwrs iddi nhw, a gobeithio y dotiff a blyc yndi nhw gyd, a fe gwpla nawr gyta'r atnod, — "The gel I left behind me." O.Y. — Gwetwch wrth y ddou gaffar o Rhondda Fach i fi ffindo'r plants gollso nhw yn y train, a bod nhw wedi tyfu'n gabetsh net nawr. Os dwa nhw i ngweld i rhw ddwarnod, fe gaiff y fenyw lle w i yn lodjo ferwi cwpwl, a fe fynwn frecwast gyta'n gilydd arni nhw.-B.I.

 

22-08-1895

 

 

 

29-08-1985 29-08-1895 Ο

LLYTHYRA' NEWYDD. I GAN FACHAN IFANC. MISHDIR Y DARIAN, — Ma'n dda gytaf i wel'd bod beirniadaetha steddfotol yn cal dod mas yn y DARIAN, fel o'n nliw n arfadd slawar dydd. Fe welais ddwy feirniadaeth yn y DARIAN ddwetha, ac o'n nhw yn lled dda a chownto pobpath gyta'u gilydd, ond fe allwn i ddangos ticyn o dwtsh iddi nhw ar y pwynt hyn tyswn i'n dewish. I'ch chi'n cofio pryd o'ch chi a fi'n grots fel odd y barnwrs pryd hyny'n arfadd gweid. Odd amball un yn cwni lan ar y platfform a'i fys bawd yn nhwll llewish i wasgod, a bwndal o bapyra yn y llaw arall, ag ar ol peswch ddwywaith neu dair, a dishgwl rownd i gal gweld os odd pawb yn dala notis, wetin fysa'n dechra ar i fusnas run shwt a hyn, — Derbyniwyd pedwar pishin ar y testyn "Pryddest i'r Gath," set Huwcyn, Llai na'r Lleiaf, Abracadabra, a Ifor Hal. Huwcyn. — Ma pishin lled dda ar y cyfan gen hwn, ond fod a'n colli wrth spelian, a ddim yn diall dim am yr h. Os yw a n ifanc fe ddaw ('n hen). Llai na'r Lleiaf. — Da ar y cyfan yto, ond dyw a ddim wedi diall i destyn. Ma la wedi canu i'r "Cwrcyn" ynlle'r Cxatn, wetin ma fa mas o gystadliath. Abracadabra. — Ma hwn yto yn dda ar y cyfan, ond dyw a ddim yn rhoi dieon o filing i'r awan. Dyw a ddim yn diall beth sy'n anhebgorol angenrheidiol yn y testyn dychafedig hwn ond mae a'n lled dda ar y cyfan, a fe allsa fod wedi enill oni bai fod a ar ol y tro hwn. Daled ati. Ifor Hal. — Dyma ni'n awr yn gwmpni Homar o fardd. Ma fa'n citsho yn i destyn fel dyn, ac yn dala wrtho fel gela. Y Gath sydd gyta Ifor o'r dechreu i'r diwadd, o flan i thrwyn hi at flan i chwt hi. Ma fa wedi gwishgo'r Gath yn mloda'r awen, a fe ddyla y Bryddest hyn gal i phrinto mwn llythrena o aur. Dyma spesiment i chi fel ma fa yn dechra a fel ma fa'n cwpla. Ma fa'n starto fel hyn,- Ardderchog Gath ma rhwpath ynot ti, Fel tigar pert, yn llawn o nefol fri; Mor ysgawn wyt a'r angel ar dy drod, Ni chlywodd neb di'n damshal dim ariod Ac mewn cylrwysdra nid oes dim ond un Yn debyg i ti, sel y d-I ei hun. n Mor aruchel ac hedegog, mor ddyrchafedig a sublime. Y mae yn myn'd mlan fel yna nes gallach chi feddwl bod chi yn gweld y Gath yn neidio ac yn clywad y Gath yn mewan. Os dim un o'r beirdds erill yn twtsh fod y Gath yn lladd dim ond llycod, ond ma Ifor yn gweid am deni yn lladd blac pats ac atarn bach, a phobpeth. Ond i fynd mlan gryndwch arno'n cwpla, — Y Gath y Gath y Gath fel sidan ma dy flew, Yr wyt ti witha'n dena — witha'n dew Am dwcid cig fe gei di lawar cic, Ma hyn'n dysgu i ti fod yn gwic. Good bye, puss fach, ma'r diwadd wedi dod, Bydd son am danat tra fo'r byd mewn bod." Heb os, nac oni bai, Ifor Hal yw'r gora o ddicon, a ma'r pishin ar y cyfan yn un o'r pethach gora yn yr iaith. Rhowch y wobr iddo. Ar air a chydwybod, UTHR DDU. Dyna fi wedi rhoi cownt fel odd y barnwrs slawar dydd yn arfadd gweid. Nawr oti ddi yn gwella yn y lein hyn yw'r pwnc? Ma'r PARCH. GURNOS JONES, LL.D. yn trio- dangos i hunan yn getyn o slebyn wrth farnu yn ddweddar. Ma fa isha introduso rhw fforin steil i ni, a doti numbars lawr i ddangos cwality'r pishis, yn lle gweid yn blaem. Allwn i feddwl fod a'n depig fel sa fa yn scoro i rai yn wara bwlbina ne dobinos, a ta 15 yw'r set. Rhwpath yn y steil hyn ma fa'n treio neid. Meddylwch chi fod lot yn cynyg ar rhw destyn, gwetwch Gwilym Meudwy, Bachan Ifanc, Hwmffra Huws, Morien, Cadfan, Brynfab, Watcyn Wyn, Hwfa Mon, Gurnos, Ceulanydd, a Dyfed, fysa'r barnwr yn gneyd fel hyn a nhw, yn lle gweid lle o'n nhw'n colli a lle o nhw'n dda,- NOD SAFLE — 15. Gwilym Meudwy 9 Bachan Ifanc 4 Hwmffra Huws 7 Morien .7 Cadfan 13 Brynfab 12 Wateyn Wyn 14 Hwfa Mon 14 Gurnos 9f Ceulanydd 14 Dyfed .15 Efe yw y gore. Dyna'r cyfan ar ben, ac ofar dadl ar ol barn, os gwetws y dynon mawr. Yr achos mod i wedi doti J ar ol 9 ar gyfar enw Gurnos yw i ddangos mod i'n pyrticilar, yn lle fod a'n meddwl mod i yn sheto. Faint o les yw rhw gawdal felna i'r rhai sydd wedi colli. Dyw a ddim ond clocyn i gwato diffyg barn ne make up tric i sparo trwpwl i sgrifenu. Os dim sens mwn shwd goblerath, a gwetwch chi wrth Gurnos mod i'n gweid hyny os mynwch chi, ond coflwch nag w i ddim yn gweid na all Gurnos neid yn net sa fa'n trio a dw i ddim yn gweid nag yw'r barnwrs ereill mor dwp a fynta. Y gwir am dano, ma nhw mor depig idd'u gilydd, a mor ystryd ebol, fel i chi'n teimlo ar ol darllan un farniadaeth bo chi wedi darllen nhw'i gyd. Os dim byd yn beth ma nhw'n weid i stretsho'r diall na stimulato ysbryd y bardd ifanc. Di'n nhw ddim yn rhoi spectol i'r crebwll na brwsh i'r darfelydd. Di'n nhw ddim yn citsho yn llaw plentyn yr awan i helpu a lan i ben twmpyn Parnasws. Ma standard barddoniath yn cwni o hyd, ond ma standard barniadaeth yn sefyll yr un man, ag yn cwmpo nol yn fynych run shwt a Sliding Scale y coliars. Os na watshiff yr hen wariars, fe fydd boys y gwâa. newydd yn tampo idd'u stola nhw, a fe gaiff yr hen git i gyd y dirty cic out. Fe gwniff rhw Luther yn y byd barddol, a fe ddyscipliff hen fympwon Toriadd a bardd-babyddol i'r gwtar, a fe fydd yn gweiddi o ben yr Orsadd, — "Ac wele gnithpwyd pob peth o'r newydd/' a fe fydd yr holl bobloedd barddol yn gweiddi nol. — u Amen." Y steddfod yw Iwnifersity y beirdds, a fe ddyla barniadaetha fod fel Lectshars y Protfesors yn y coledgis yn expando bocsis menyddia'r studiants. Fe all dyn cyffretm weid pwy yw'r gora mwn cystadliath, ond fe ddyla barnwrs y'n dysgu ni, trw bod nhw yn cal 'u talu am hyny. Fe ddyla y barnwrs stretsho cymyint i expeino by sy n dda a be sy'n ddrwg a ma'r cystadliwrs yn stretsho i enill y wobor, a rhaid iddi dd od i fana hefyd. Ma dyddiau hen ffashwn- "Da ar y cyfan," a "Hwn yw'r gora' wedi paso, a fe fydd Standard 15 a numbars Gurnos yn farw geni. Rhag ofan i fi ddod i trwpwl dyma fi'n darfod y tro hyn yto gyta'r atnod, — " Yn mhob llafur ma elw."

 

MISHDIR BACH Y DARIAN. At y Darllenwrs, — Mae gen i secrat i weid wrthoch 3hi gyd. Ma Mishdres y DARIAN wedi rhoi presant i'r Bos yr wythnos ddwetha, a ma'r hen foy mor falch a'r Pwnsh am dano. Fe ddala i na wetwch chi ddim mwn tri chynyg beth yw a, a lle'ch catw chi mwn suspens, ma'n well i fi weid wrthoch chi beth yw a. Fe fydd y merched i gyd yn falch i glywad ta enwbin o fachan piwr yw a, a fe fydd gaffar bach y DARIAN o hyn i mas. Er mwyn ei gocso fa i fod yn drwmpyn i fi pryd bydd a'n fachan mawr, w i wedi gneid pishin bach net iddo fa, a w i yn dishgwl gnaiff Wmffra Huws getyn o ganu iddo hefyd ar ol clywad. Ni welwydneb auwylach,-hwn yw'r boy A wna'r byd yn I gallach Ac heb os. fe wna'r bos bach Ei deulu'n hyfrydolach. 'Wy'n siwr ta un piwr fydd a pan-y bydd Yn bos ar y DARIAN; Iechyd a fo i'r bachan, A gwyn lwydd i'w gwni lan. Yn olud oes fel ei dad,-yn esgyn Ar ysgwydd derchafiad, Ac fel ei fam bob tamad, Yn uchel yn serch ei wlad. Byd euraidd i Ab y DARIAN,-hwre I'r un bach serchoglan Ei wyn glod a'i enw glan, A fo loew fel huan.

 

29-08-1895

 

 

 

05-09-1895 Ο

LLYTHYRA' NEWYDD. GAN FACHAN IFANC. Mishdir y Darian,-Dotwch ych hunan yn barod i lefan. ma Billy Got y 41st Regmant wedi marw. W i yn teimlo run shwt a'r fenyw hyny oedd wedi claddu'i gwr, a odd rhw ddyn, wedi galw hibo a odd hwnw ddim yn gwpod i bod hi wedi gladda a. Fe ofynws y dyn IddI yn ddleon diniwad shwd odd John y gwr, a odd y fenyw yn dicwdd bod yn byta swpar ar y pryd a fe wetws — "Ma John druan wedi mynd i'r byd arall" medda hi, "ag os sefwch chi i fi gal ewpla'r basnad eawl yma. fe gewch glywad gen i lisha!" Rhwpath felna w i'n teimlo ar ol Billy, ag ar ol i fi gwpla'r cawl rhagymadroddol yma, fe lefa i ar i ol a. Fe fydda i yn dishgwl i chi a'r darllenwrs i golli dagra gyta fi. Ma Morian wedi 'sgrifenu hanas i fywyd a. Ma pishin o ganu gyta fina ar ol y pwr dab, a falla caiff hanas Morian a mishin i ddod mas yn llifyr i gatw'r cownt am dano i'r oesa sy'n dod.MARWNAD Ar ol y diweddar General Billy, Ledar y Welsh Rigmant. Ma sowdjwrs y Rigmant yn llefan i gyd, A'r officars hefyd yn llefan run pryd, Fod Billy y Ledar o'r byd wedi myn'd Ma'n rhaid tywallt deigryn ar ol yr hen ffrynd. Ar ol yr hen ffrynd, ar ol yr hen ffrynd, Ma rhaid tywallt deigryn ar ol yr hen ffrynd, Rodd wedi trafaelu dros hanar y byd, A fe odd y boy odd yn ledo o hyd, Pwy all dynu llunia teimlada Tim dlawd Am golli'r hen bartnar odd iddo fel brawd? Ar ol yr hen ffrynd, &c. Rodd Tim wedi ddysgu tf/n ddoniol o gute, Odd a bron cystal scolar a'r Marcwis o Bute, A tysa fa'n trio fe nelwn i fet. Y cesa fa'r jobin o PoetLoret. Ar ol yr hen ffrynd, &c. Rodd Billy a Timothy'n ifad a'r shar, Pan o nhw yn martsho trw Gwm Aberdar, Ond druan 0 Billy all a nawr ifad dim Ma'r peint bob dyferyn yn dod i shar Tim. Ar ol yr hen ffrynd, &c. Ma nhw'n gweid ta rhiwmatic rows stop ar ei wynt, Ond bai iddo fyw fysa'n marw yn nghynt, Yn awr isha stwff idd i stwffo fa sydd A'i gadw a byth yn M iwseam Cardydd. Ar ol yr hen ffrynd, &c. Odd i gyrna fa'n hir os ta byr odd i gwt. Ma nhw'n gweid ta nid Cymro odd Billy run ehwt, Ta beth odd a druan mae mor farw a hoi A Morian a fina yn brudd ar ei ol. Ar ol yr hen ffrynd, &c. Ffarwel, Billy bach, daeth dy yrfa i ben, Ti gefaist dy barchu yn hen Walia Wen, Y ti odd y pet gan bawb yn y Martsh, Ond nawr ma dy goesa mor stiff a Stiff Startsh. Ar ol yr hen ffrynd, ar ol yr hen ffrynd, Ma'n rhaid tywallt deigryn ar ol yr hen ffrynd Alwch bob o gopi o'r Farwnad i Tirr., a Cyrnal Cwirc, a un i'r Frenhines, o dotwch fwrnin du rownd iddi, a falla cewch chi a fi bob o fedal nol. a" Gwell anga na chwilydd arni nhw.PENSHWN I HEN DDYNON. Ma'n dda gyta fi fod y dynon mawr yn yr House o Commons yn dechre acor i llyced bothti rhoi ticyn o help i hen ddynon ar ol ffaeln gwitho. Ma'n "wilydd na fysa nhw wedi dechra'n nghynt, wath ma miloedd o hen withwrs caled wedi cal marw o isha bwyd, ar ol slafo'n galad trw'u bywyd. Ma llawar hen goliar clawd wedi ala hanar can mlynadd yn y pwll glo, a wedi ffaelu, mor ddigownt a hen geffyla. Yn yr amsar ma nhw wedi gwitho ma nhw wedi doti ffortshwns yn boceti'r mishdri, a doti miloedd o buna yn mocad Budjat y wlad, a wetin yn cal i ala i'r workws i farw, a odd yno i'r bedd mwn hen gart- Rattle his bones, over the stones, He's only a pauper, who nobody owns." Ma plismans, a postmans, a sowdjwrs, yn cal. penshwns ar ol bod dan y llywodraeth am ucian' mlynadd, ond os bydd gwithwrs calad yn ala tri ucian mlynedd cha nhw ddim. Pwy wara teg yw hyny. Ond gwath yto, ma gwyr y Parlament yn cal milodd am hnw rhw cfis am dair ne betar blynadd, a llawar o Lords, Marcwisis, Dukes, a Prinsis. a big guns erill yn cal pan- I shwns;'achos bod'u hen, hen, hen dadcn nirfr wedi bod yn helpu un o'r hen frenhinoedd i wishgo'i drowsis, ne wedi rhoi bocs snuff i rhw hen frenhinas. Tysa rhai o'r Em Pees yn cropo coin rheina fysa dim isha bod mor gynil i roi ticyn i hen withwrs. Ma'n drenu meddwl bod y wlad mor dwp, a bod shwd beisha o hen rascals yn robo'r dyrnas o filodd bob blwyddyn, a neb o'r membare a dicon o blye yndi nhw i drio doti stop ar y game. W i yn dishgwl bydd rhai o nhw yn tampo at y gwaith pryd y daw y Mesur hwn mlan, onte fe fydda i yn lled depig el o binsho'u clusta nhw. Nawr, ma gen i boint arall. a fe all un o fembars Cymru neid stroe trwyddo fa os cymra nhw'r hynt, a dyma w i yn sujesto roi, PENSHWN I HEN FENWOD. I chi'n gwpod mod i wastad yn cymryd part y ladies, ag os yw hen ddyn yn werth penshwn pam nag yw yr hen fenyw hefyd? Ma nhw yn helpu gora galla nhw, a gwithwra net yw llawar o nhw. Ond din nbw yn slafo'n galad i gwni plant, i ddod a nhw'n ffit i helpn i droi wheels masnach y wlad? Beth fydd rhw 5s. yr wythnos idd i ranu rhwng yr hen ddyn a'r hen fenyw? Fe ddylan gal bob i goron cyn galla nhw fyw'n didy a chal ticyn o gysur yn y byd, a dicon bach fydd hyny os na fydd rhwpath arall yn dod miwn. Gobeitho gnaiff Mrs D. A. Thomas, fel eadaryddes y Woman's Libral Sosiashwn gymryd pwnc yr hen wracadd lan ac ymladd am u reits nhw. Os starta nhw fe droia nhw waith mas, a fe naiff hi i D. A i foto drosti nhw ne fe gaiff y brwsh ne'r pocar ar draws i ben a serfo fa'n reit hefyd. Nawr, Mrs Thomas fach a'r merched i gyd, dyma fi wedi rhoi hint i chi. Pitshwch miwn i'r pwnc, a fe fyddwch yn fwy Da choncwerwrs. Os na ryndyff y membars arnoch chi. cerwch lan i'r House o Commons a bombardwch nhw mas o'r Ty fel gnath Cromwell slawar dydd, a chofiwch yr atnod — " Dyfal done a dor y gareg."

 

 


 

12-09-1895 Ο


LLYTHYRA' NEWYDD. GAN FACH AN IFANC. MISHDIR Y DARIAN, — Ma'r Postman wedi bod yn fishi iawn trw'r wthnos ddwetha yn cario llythyra i fi orwth y merched, yn llawn compliments am y strocs a'r pwynts bewtifwl w i wedi roi o'u hochor nhw yn y DARIAN vn ddiweddar, a ma r fenyw lle w i yn lodjo yn cretu nawr nag os dim shwd fachan a fi yn y byd. a w i yn cal tendans net gyta.hi nawr. Falla bysach chi yn cal amballlythyr oni bai boch chi wedi clyrau 'ch hunan. Mor (hvp buoch chi. Dyma fi yn ala rhai o nhw i chi, fel bo 'chi yn cal peth o'u bias nhw trw bo chi'n drwmpyn. Yr uu cynta geso i odd orwth gwpwl o ferched sy yn nwr y mor, a dyma fe Llanstephan, Dydd Mercher. ANWL FACHAN IFANC, — I ni ferched sy lawr yma wedi joino i ala gair atoch chi, o respect am ych llythyra piwr bothti ni ferched ifanc, a hen fenywod. j O ni yn arfadd meddwl cetyn am y DARIAN o'r blan, ond i ni nawr am i galw hi yn k Tarian y Mynywod,' a'ch galw chitha yn ladies' nan, wath i chi yn trio in cwni ni lan o hyd. Ta pwy bryd 1 chi yn meddwl cal gwraig i ni yn folon i chi gal ych dewish o honom ni, er bod gyta ni bobo spouar yma, ond ma pob un o ni yn folon jaco 'i sponar lan er ych mwyn chi, wath i chi yn werth ych pwysa yn our Pritshat Morgan. Derbyniwch yn diolch, a dyaaa bob o gusan o'r wthon ni gyd,-x xxxxxxxxx. Lwc dda i chi boy, Dros y merched erill, NANSY BEYNON. O.Y.-A.Iwch bob o gusan nol i ni os i chi'n drwmpyn. — N.B." W i yn diolch am y compliments, ond wn i ddim beth i feddwl am y cusanu, wath dw i ddim wedi arfadd a'r jobin. A peth arall w i yn gweld y red light yh y fysnas. Falla bod nhw'n meddwl ta "Shani Ilpi" w i, ond in a nhw'n misteco. Os dii^iii%jn folon gwerthu'u sponars mor shep&allan nhw ddim y myrnu i yn shep. Os ta nhw gymaint o olw|^arno i, y ffordd ora iddi nhw yw ala pqpl) bresant neis i fi, fe bariff rhwpath felrii yn hirach na chusan, a dyma bishin bach iddi nhwnta yn well na crosis, — Os dich chi'n eitha partnars Yn nwr y mor Ni ddylach werthu'ch sponars Yn nwr y mor; Dyw'r "Bachan" ddim yn ito Am ferched sy'n promisho, A?y/etin yn bacslido, Ynnwrymor; Fe fyswn i'n eu twmlo 1 ddwr y mor. Os byth af i a wed j an I ddwr y mor Rhaid iddi fod yn drwmpan Yn nwr y mor ante fe- fydaa rah, A falla gwnawn eu boddi Yn nwr y mor, A gelwn ina nghroci, Encor, encor. Oud ma'r llythir arall geso i yn fwy sensibl o getyn, a rhwpath "true fa nature" ys gwetws Wil Bryan, Ma hwn wedi dod orwrth y Woman's Liberal Sosiashwn, Dydd Iou. MR. BACHAN IFANC, — Ma'ch llythir chi bothti roi penshwn i hen fynwod yn y DARIAN ddwetha wed'n ffairly upseto ni, ac yn dangos bod chi'n berchen ar fwy o ffeelin, mwy o sens, a mwy o gonsepshon na un o bob 999 o'r rhai sy'n galw'u hunen yn Lords of Criashon. Ma Joe ShamberlaiR yn lled gwic, a Lloyd George yn getyn o slebyn, a Dafydd Donaos a Mabon a'r Welsh Brigade i gyd, yn meddwl 'u hunen yn glyfar os dim dowt, ond os dim shale gyta nhw wth ych ochor chi, a fe dala'r ffordd i ni fynwod i'ch catw chi yn y Parlamant i ddangos gala i'r membai's, a phwynto iddi nhw ble ma myned. I ni wedi paso yn unanimas i ofyn i chi ala'ch Ilun i ni, fel gallwn ni gal a wedi neid mewn oil paintin, iddo gal i hongaa yn rwm y Sosiashwn. Dros y Gymdeithas, R.S.T., SEC." Wel dyna lythir a ticyn o bolish arno allwn i feddwl, syr. Ma hwna yn orthodocs a fysa un gwrbyneddig yn falch i gal i short a. Ma racor gyta fi orwrth breifat ladies, ond ma'r ddoi yna yn ddicon iaawr, onte fe fyddwch yn meddwl mod i'n brago munan, er bod chi'n gwpod nag os dim hen bomp felna yndo i o gwbwl.ADMIRAL ROWLANDS A CHOR BECHGYN TREORCI. O'n ni'n falch bod y cor hyn wedi gwneud shwd f«.rc yn Steddfod Llanelli, a bod Syr Joseph Barnby wedi tal i fesmariso gyta fa, nes iddo fa weid na chlyws a ddim shwd ganu ariod. Fe tuon wetin yn Caerdydd amsar odd y sowdjwrs yno, a fe bleson yr Admiral Rowlands gymaint nc-s bo fa yn moin cal encor gyta nhw yn i ay'i hunan ym Edinburg, a chal y Prins o Wales yno i gal shar o'r enjoymant. Ma fe yn clywad shew o ganu gen broffeshonals Llyndan wedi gwishgo up to die, a wedi cwrlo'u mwstash a powdro'u gwynepa, a sento'u hunen o'r top i'r gwilod. Er mwyn i'r Prins a'r Admiral gal ticyn o amrywiaeth, w i yn swjesto fod bechgyn Treorei yn mynd lan fel ma nhw'n ded o'r gwaith a'u gwynepa duon, a'u bocsis bwyd, a'u jacs te gyta nhw, fel bo'r ddei wrbyneddig a'r big guns erill fyddo yno, yn cAI rhw idea shwd wara teg ma nhw'n gal i ddod Yll dop ar gautwrs y byd. Ma Gwilym Rhondda, ysgrifenydd clyfar y cor, yn ddicon o fachan i dransaeto'r fysnas, a falla pryd gweliff y Prins nhw yn y shap hyny, pryniff a bob o shewt iddi nhw yn y Consart style,-cot a chwt, a wasgod wen a trowsis a'i wilod fel paish, wath ma fe yn fachan lled libral shag ato ni yn Nghymru fel ma pawb yn gwpod. Ta beth, w i yn dymuno pob llwydd iddi nhw, ac yn crettt catwa nhw'u caritor lan, ta ble a nhw. Ma William Thomos, y ledar, wedi stico'n galad gyta nhw am flynydda, a bachan piwr yw a, heb ddim bosh o bothti a. Os bosib roiff yr Admiral y sac i'r Bamd sy'n wara o flan y Rigmant, a chatw boys y Rhondda i ganu yn i He nhw. Fe fysa yn well gen i i'r Prins fynd a nhw i Sandringham Palas i ganu mwn bancwets na hyny, a fysa'n well gytanhwnta fod yn gwmpni i'r cyllith a'r ffircs %tmpni r1r1 ^1} £ L a'r baginete. Fal a bydd yn well 1 Gwilym Rhondda exbleino hyny iddi nhw cyn starto, rhag ofan i bethach droi mas yn lletwith, ne fe af fi gyta nhw i gatw pobpath yn streit. Wn i ddim am well atnod i gwpla'r tro hyn na,-Merched glan, "gwkid y gsm" a j Mor o gan yw Cymru gyd."   

 

 

 

26 Medi 1895 testun i’w gywiro delwedd i’w ychwanegu-1895 Ο

LLYTHYRA' NEWYDD. GAN FACHAN IFANC. MISHDIR Y DARIAN, — I chi fel y munan, yn lico cal cownt da i roi am yn gwlad wastod, ond ma rhaid lwo bod spotin du wedi dod ar i gwynab hi yr wythnos ddwetha fel ma pawb yn gwpod, sef,- Y FATL AR FYNYDD LLANWYNO. Arno i ofan fod y briwsars yn cynyddu yn Nghymru y dyddiau hyn, a ma'n bryd doti stop ar y fysnas. W i wedi clywad bod coledj gyta chi yn 'Byrdar i ddysgu crots yn y "nobl art," a fe gas un bachan ergyd farwol yno os cetyn nol, ag o'n ni'n meddwl bysa hyny yn doti stop ar y game, ond fel ma'r gwitha'r modd, n*d felni mae. Os gwelwch chi lot o grots diwishgars yn wilia sha'u gilydd yn rhwla, ma'n lled depig ma'r touic fydd o dan sylw fydd bocso ne ymladd. Ma nhw yn gwpod hanas y shampions bob i n, a ma nhw yn wilia am Mitshel a Sulivan, Dai St. Johns a Coffee Coolar, &c., felsanhw'ngyd-dylwth. Ond tysa chi yn gofyn rhwpath iddi nhw bothti Hwfa Mpn, ne Dyfed, Ceulanydd, ne Pedrog, fe fyfean yn cretu bo'chi son am rhwrai yn Shinbyctw ne Toronodo. Ma nhw yn gwpod contents y Mirror of Life o'r dechra i'r diwadd fel A. B. C., ond ta chi yn gofyn iddi nhw bothti Tafol y Beirdd ne'r Ysgol Farddol, fe fysa yn cretu bod chi'n scriw lws, ac yn gweid Get au-ay you duffers." Ma lesons y Bocsin Salwns a'r Pujalistic Papers wedi gwreiddio yn'u heneidiau pilipalyddol nhw mor ddwfwn fel nag os dim lle i ddim arall. A beth yw'r result? Dyma'r engraifft ddiweddaf o lawar erill yn Llanwyno, un yn ei fedd, ac amrhyw erill a throsedd du, difrifol, yn crogi uwch eu feenau, ac i neid y peth yn wath wetin, f#,ddigwyddws ar fora dydd Sul cyn bod dynon yn cwni o'u gwelyia. Yn ol pob hanas odd y dispute odd rhynto nhw yn ddim p beth, ond bod nhw wedi cal u pwsho mlan gyta rhai erill er mwyn cal ticyn o sport debycan nhw, ond fe drows yn ddifllfe cyn cwpla. Odd y majes- treetyn gweid, yn Pontypridd bod nhw'n ddisgres iddi gwlad. Treni fod Cymru yn colli streips achos rhwpath fel hyn, a ma'n bryd i'n arweinwrs a'n cyfarwyddwrs ni gyffro yn y pwynt hyn yn un llaw. Os dim posib doti stop ar y proffeshonals sy'n trafaelu bothti i ddysgu'r grefft i ddynon ifanc? Ma'r gefnogaeth ma rheiny'n gal mewn ffeira, &c., yn galw'n ychal ar yr awdyrdoda gorychal i neid rhwpath allwn i feddwl. Os nag os cyfrath yn bod nawr iddotî'r brec arni nhw, fe dala'r ffordd i un o Em Pees Cymru i fowldo cyfratfc. at y jobin, onte fe aiff yn gwlad ni mor enwog mwn batls a mwn canu, a fe fydd mwy o shampions gyta ni nag o feirdds. Fechgyn ifanc Cymru, gadewch grefft y ffisticuffs i'r fforiners, a sticwch i gans&pbarddoni; QS dim cymant 0 ddtmjar t-WS rh^pnih felni a wadoqh gilydd a'ch dyrna. I chi gweld amball fatl gyta'r beirdds fel yr un sy wedi dechra nawr yn y DARIAN rhwng HWMFFRA Huws AC EPHRAIM LLWYD. Odd Ephraim yn wado'n gas yn y rownd ddwetha o englynions, a ma fe wedi dangos bod a wedi gwishgo bocsin glyfs yr awan o'r blan, a fe all e fentro fod Wmffra yn fachan da ar i ddyrna mwn batl englynions. Os dim ishi i fi gyinryd i bart a, fydd a ddim yn deg fed dou mhen un, ond os gwela i racor o'r "Cendars" yn pwsho'u trwyna mlan, fe fyna i smac at un o nhw, a fe gaiff y bachan sy'n labro'r nos drio "Shony Gof." Fe fydda i wrth y neleit yn watshan y rownds, wath os dim danjar lladda nhw'u gilydd yn y fatl hyn, er iddi nhw fwro'n galad amball waith. Ephraim hwre a Wmffra, — weiar in, Hwre i'r gwr gora Ar y maes,-Pwy'n rymusa? Rhaid dweyd i chi'n ddou wr da. Trw mod i wedi dechra son am fatls, ma rhaid i fi weid gair ne ddou am shampions erill sy'n cal 'u cwni nawr, sef- SOWDJWRS BACH YR ECLWS, Ne fel ma nhw yn cal 'u galw yn Sysnag, Church Brigade. Wn i ddim pwy bia'r idea i ddysgu crots yr eclws yn y lem hyn, ond old rhaid fod a'n glyfar, wath os dim cownt am deni nhw yn y Common Prayer na'r Beibl. Walla ta rhw gewrat, ne. ffeirad, ne esgob, sy wedi dytwi seem, wath ma nhw mor gwic i weld y mlân; bydd isha baginets i amddiffyn y degwm; ne walla ta achos fed Robat Lewis, bwm y degwm, wediprioti, a bydd isha Brigade i watshan bydd i wraig a'n saff amsar bydd e mas ar i fysnas. Ond ta beth yw'u pwrpas nhw, ma'r idea'n grand, a ddela hi ddim i ben un pregethwr Methodist, Baptis, na Independant byth. Nawr fydd y cewrats a'r ffeiraton yn csi.1 teitls newydd fel CapteNS, Lifftenants, Corprals, Sarjants, Cyriials, Admirals, &c., a fydd yr hen deitl llwyd Refarands yn cal i dowli naill ochor. frsa chi a fi wedi cal yn drilo pryd o ni grots fel ma'r crots hyn, fysa ni'n getyn smartach nag i ni nawr, er smarted i ni. Beth ta'r John Elias, Williams o'r Wern, a Christmas Evans, a hen beianeers Ymneillduaeth wedi meddwl am rhwpath fel hyn y slawar dydd, fysa golwg arall ar y wlad. Rhyw hen dacla hen ffashwn yw'r Nonconformists ariod, a ma rhaid iddi nhw gal atnod ar bob pwnc, a pregethu heddwch ma nhw nawr yn yr os ola hon fel hen byagotwrs glan Mor Galilea er's oesa nol. Man bryd iddi nhw ddihuno allwn i f eddwl, a trio introdewso pethach newydd, a dilyn steil Eclws Lloegar, wa h ma big guns yr Ec* • wedi cal edev <shon mrst clas. Pr < # — i' Church Je YI! martsho y ) yd yn'u tewtro *>l.v s smartad a'r 1 1 -eth fydd gwerth rhaiu ar el iddi nhw dyfu yn ffwl biov li e fydda i'n dishgwl isicl Brigade o ferched ifanc yn aiyssi i'r Eclws rhw ddydd Sul heb fod j • hÙ, agwraceddy cewrats a'r ffeiraton y < 11 nhw. Fydd hyny yn atractshon 11 > i dynu be«hgyn i'r E^lws. Pid w opi« ZJatd i gwni'r id«« p Fe dyna i-at y gwt naw^ 4 x!. < "&W1!: ^1

 

 

 

03-10-1895 Ο


 4 LLYTHYRA' NEWYDD. GAN FACHAN lFANC. Os ticyn nol i chi'n cofio fod Hwmffra Huws yn crafu i ben, a tynu'i wallt mwn gofid wrth drio ffindo gair Cymrag am y gair Sysnag 'Outing,' a trw nag yw Morien ddim wedi dod mas. idd i helpu a i neid gair, a fod Hwmffra a fi yn ddou drwmpyn, fe droias i'n Nicshonari i munan (wath ma gen i Ddic speshal at y gwaith yn ots na fe na Morian, na neb arall o'r sgriblars), a fe ffindas air splendid am Outing mwn bothti die yn y Nic i, a ma greso iddo fa'i uso fa pryd bydd taro, adyma fe Outing — Myn'd o bothti. Shwd waith nawr? Wrth bo fi yn rhoi explanashon fel hyn i chi a fe, a'r darllenwrs parchus i gyd, fe ddath i mhen i weid gair neu ddou y tro hyn 0 BOTHTI RHAI SY WEDI BOD BOTHTI. Fel i chi'n gwpod fod sesn bod o bothti jeSt dod i ben. Ma llawar o hen ddynon a hen fenwod, bechgyn a merched ifanc, hen fatshilars a hen ferched gweddw, wedi bod bothti yn ddweddar yn nwr y mor a'r ffynona, yn y wlad ac yn y dre, a phob man gallsa nhw feddwl am dano, er mwyn "hwpath ne'u gilydd. Ma hen fatshilars yn myn'd am Outing, ne bothti felna, er mwyn tampo mas ou gofid am bythownos ne nsh.
Hen ferched gweddw yn mynd i drio dala rhwshort o bysgotyn, tysa fa ddim ond hen witwar clawd a salw, heb un dant yn i ben, ond fod a mwn shap i neid gwr o fa, a fe ddvwa nhw ag e i shap wetyn rhwfodd neu gilydd, os bydd dod ynddo o gwbwl. Bydd hen ddynon a hen fynwod C5 yn mynd bothti yn yr haf i drio dod yn iangach; dishgwl am iechyd, enjoymant a rhicriashwn ma nhw, i gal mystyn ticyn ar 'u hamsar yn manorama'r byd ond am y bechgyn a'i merched ifanc, ma dicon o esgus gyta nhw i fynd o bothti i wilo am wedjis sponars newydd. Ma llawer cownt smala i roi am deni nhw yr haf hyn fel pob haf arall. Ma llawar o winco wedi bod o bob ochor. Ma merched y wlad yn cretu ta miliwners yw bechgyn y gwithe, wth 'u gweld yn tori dash yn nwr y mor a'r ffynona, a ma'r idea yn rhai o nhw drien, os ca nhw fechgyn o Ferthyr, Byrdar, ne Gwm Rhondda, yn wyr, y byddai nhw yn dod i'r gold digins; ond "not for Joe," allan nhw fentro nag os dim fwy o gilt yma nawr na sy yn ngha'r tatws a'r erfin yn Shir Gar, Shir Byrteifi, a Shir Benfro. Ma rhai o'r Shoni Hoys o'r ochor arall yn meddwl ta merched ffermwrs werth 'u milodd sy yn y wlad i gyd, a nag os dim ond isha iddi nhw gwni'u bysedd a rhoi winc, y gall,a nhw gal sawl fyna nhw a fe gewch gly ,vad amball un ar ol dod nol wedi bod bothti felna, yn brago gallsa nhw fod yn jentlemen ffarmars tysa nhw'n dewish, ond nag o nhw ddim yn i weld a werth weil i atal y wedjis odd gyta nhw yma er mwyn cwpwl o foch a defed, ne loi a biwchod: ma nhw ddicon o loi 'u hunen allwn i feddwl. Ma pob short o honom ni yn y byd ys gwetws yr hen wraig pryd gwelws hi'r mwnci. ac wrth fynd am amball Outing i ni'n cal golwg ar yn gilydd, a ffeelo pyls un a'r nail. Gobeithio bydd y rhai sy wedi bod bothti leni 'u gyd wedi cal rbw feniffit mwn rhw shap ne gilydd, a bydd a nhw'n weddol hapus nawr hyd haf 1896. Ma'n rhaid i'r rhai fu bothti-call a ffol, i droi eu gwefla fyny, a dod nol; Ma'n galed iawn i Shoni Jones, mwstash, I ddod i dori glo 'n lle tori dash; Ond dyna fel ma'r hen fyd yn troi Ar bob rhw Shoni,-fel y Shoni Hoi.' Rol bod o bothti'n nwr y mor am fish, Ma dod yn ol mor gas a chwmpad prish Cysanu 'u gilydd,-wetyn shiglo llaw Ma Dai a Gwen, a llefan fel y glaw. Y dod yn ol sy'n spoilo'r peth i gyd, Fe ddyla fod yr ddwr y mor o hyd. Mynd both! < i r tfynona sydd yn ffein, I wara croq • ,;Ùtd dwr selein Ma'n rhaid; b tydd yno wara'u part, Ma'r dwr yn > a pawb i fod yn smart. Ma'nt yno'l, ^ry d a bywyd lond eu col, Ond dyna'l' ju l,;n gwitha, yw dod nol. Ar ol mwnhau plesera rhif y g.vlith, Rhaid i bob un fynd nol. fel giar i'w nyth Ma'r 'dod yn ol' fel 'dydd ar ol y ffair," Ma'n rhaid cal cyfraith i ddiddymu'r gair. Yr wthnos ddwetha o'n i cintach fod yn gwlad anwl ni wedi colli shale, a w yn teimlo felni nawr, ond beth am y dynon drws nesa' — y Saeson? Ma darllan a chlwad am fel ma nhw yn mynd mlan yn ddicon i ala un dyn o gomon sens yn Pharisead, a gweid diolch i Dduw nag yw a ddim run shwt a nhw. Os gytan ni ddim geira i weid 'u hanas nhw fel mae a yn 'u pypyra nhw 'u hunen, — "Horibl Trajedy,' 'Teribl Slawter, 'Criwel Crime,' 'Birmingham Bwtshary,' 'A Maniac Abroad, Love's Venjans,' 'Jack the Ripper agen,' &c., heb son am y common crimes nag i nhw yn sylwi dim byd arni nhw, fel A burglar under the bed,' A notorias swinglar, 'Capture of a Land Shark,' A Clue to the Silver Robbery,' &c. Beth ta'n gwlad fach ni yn berweddi stwff felna bob wythnos? Hipocret ne bido, yr w i bownd o weid, — diolch i Dduw nag i ni ddim felna ta beth. Dw i ddim yn lico sgrifenu ar bethach o'r short, a ddotas i ddim o'r testyn lawr achos hyny, wetyn tyma fi yn gatal y testyna yna i gyd i sgriblars y 'Penny Horibls.'

 

GENERAL ROWLANDS A PARTI TREORCI.

 

Nawr w i wth y modd i weid gair ne ddou bothti y testyn hyn. Bachan piwr yw Huw Rowland — yn stico at i iaith a'i freed. Odd ecspreshons y canu yn bancwet Cardydd wedi coclish cymaint arno, fel odd a yn bownd o ala i moin y parti lan i wlad y Johnny Fortnights, idd i gyd-offisars a big guns erill, a'r Prins o Wales incliwded, i gal ticyn o flas canu y Rhondda. Odd yr hen foy yn enjoyo yn biwr medda nhw, wrth glywad y coliars yn tiwno mor grand. Fe wddoch ta mwn pethach erill ma deleit y Prins wedi bod, ond lled debyg fod a wedi darllan yn llythyra i yn y DARIAN, pan fuo i yn rhoi lesons iddo os cetyn nol, a bod hyny wedi'i gonferto fa. Ma'n shew o beth mod i wedi gallu troi pwynt deleit bachan o'i short e, a ma fa yn dangos ticyn o sens fop a'n gryndo arno i. Fe licwn gal clywad gen Gwilym Rhondda ne William Thomos os bu'r Prins yn holi rhwpath am dano i, wath i ni'n dou yn shew o bartners pryd i ni'n cwrdd, ond dyw hyny ddim yn amal fel ma gwitha'r modd iddo fe. Fe glywas i fod y parti yn mynd i ganu i'r hen wraig ei fam heb fod yn hir, a fyddan wetin yn "Royal Treorci Boys" a "Royal Gwilym Rhondda. Llaw bidir yw Gwilym i bwsho pethach mlan. Er nag yw a ddim bachan stowt, ma dicon o blyc yndo ddar w i'n cofio, a dicon o fyn'd yndo hefyd ac am y ledar William Thomas, ma fa fel y bane, yn llawn o sens, yn llawn o brinsipl, a llawn o fiwsic, a ma fe a'i barti yn glod i "Hen Wlad y Menig Gwynon." MR WILLIAM THOMAS, Y LEADER. Ma stwff yn nghor Treo rci. Os yn wir, os yn wir, A ma nhw wedi cwni, Otin wir. otin wir, Er nag i nhw ond coliars, A labrwrs nos a haliars, Ma'r Prins a nhwnta'n bartnars, Otin wir, A falla'bod nhw'n gendars," Falla wir, falla wir. Rhaid gwiddi "Sweet Treorci," Rhaid yn wir, rhaid yn wir A "Penybanc" am deni, Bhaid yn wir; Am ganu mwn shwd ffashwn, Fe ddyla'r Prins rhoi penshwn, I'r cor bob un feddylwn, Dyla wir, Ne fallB ca nhw ffortehwn, Falla wir, falla wir. Wel diolch i Huw Rowland, Ie wir, ie wir, Am fynd a nhw i Scotland, Ie wir; >•. A ma nhw'n mynd yn fuan, I ganu i'r hen wedjan Sy'n riwlo Ynys Prydan, Otin wir, Rhoiff iddynt bob o gusan, Gwnaiff yn wir, gwnaiff yn wir. Gobeithio gnaiff hi; Amen gyta'r atnod "God Save the Quen."

 

 

 

10-10-1895 Ο

LLYTHYRA' NEWYDD.

GAN FACHAN IFANC.

 

MISHDIR Y DARIAN, — Ma'r Librals yn para i gintach o hyd achos bod nhw wedi colli yn y Lecshwn ddwetha. Din nhw damad gwell o gico dwst felna, heb neid rhwpath shag at gymwyso beth odd ar ol yndi nhw pryd hyny, a drilo'r Rigmant Radicalaidd erbyn y frwydyr nesa, ta pw bryd bydd hyny. Fe walas fod CWRDD CINTACH wedi bod gyta nhw yn Barry pwy ddwarnod yma, a ma arno i isha dala trwyna rhai o nhw ar y mån. Odd rhw Mr. Fox yn gadeirydd yno, a odd a'n gweid ta'r achos i'r Librals golli odd trw fod y gwithwrs mor dwp. Do, fe wetws yn blaen fod y gwithwrs yn ddisens, yn stiwpid, ae yn ignorant.' Dear me! Beth yw e? Fe fydda'n dret i ni gal lesons gyta'r Gamalial hyn o Gardydd, wath ma fa bownd o fod yn glyfar yn ol i gownt e 'i hunan ta beth. A odd gyta fa bartnar piwr idd i helpu a i drin y gwithwrs yn Mr. Morgan, agent y Libral Federashwn. Fe wetws y slebyn hyny ta ignoramus y werin odd yr achos bod y Librals ar ol, a nag odd ffermwrs y wlad yn gwpod dim yr ochor draw i'r cloddia odd bothti 'u tir nhw, a'r trip i'r dre, a chino dwarnod marchnad. Ma 'n gas gen i feddwl fod rhw beniwincls fel hyn yn trafod dynon gwell na nhw 'u hunen. a ma'n od gen i na fysa rhywun yn y cwrdd yn cymryd at 'u cyrff nhw. Ffordd net i organeiso'r werin yn y ffydd Radicalaidd yw:u galw nhw'n dwp a disens. Wyddwn i ddim o'r blan ta gwaith agent y Ffedarashwn odd trin y gwithirs, a w i yn siwr ta nid felna ma 'u catw nhw yn y gorlan hefyd. Os yw e yn fwy sensibl na nhw, beth ma fan pido'n tiwtro nhw yn y ffydd? Tysa fe a'r ledars i gyd wedi gwneid fwy, a spowto llai, fysa'r Lecshwn ddim wedi troi fel gnath hi. Gormod o slaberdasho a rhy fach o organeiso spragwrs weels y cerbyd Radicalaidd, a nawr ma'r slaberdashers yn trio towli'r bai ar gefna'r gwithwrs, a'u galw nhw'n dyffers. Fe ddyla'r Fox a'r Agent apologeiso i withwrs a ffermwrs y wlad ar unwath am yr insult hyn arni nhw, a diolch nag o'n i ddim yn y cwrdd yn Barry, onte fe fyswn wedi tynu'r plam drosti nhw ych dou yn weddol dryscwl. Os dim rhyfedd fod y Ffedarashwns yn ffraeo a'u gilydd, trwy fod hen daclau mor biclyd yn perthyn iddi nhw. Ma'n gas gen i glywad am deni nhw yn y confferenses yn picach a'u gilydd fel crots, yn lle trafod pethach naiff les i'r wlad. Ma gormod o'r V fawr yn cal i ddangos yndi nhw o getyn, a phob un o'r V's yn moin n ffordd 'u hunen. Os ta lles yr achos Rhyddfrydol sy gyta nhw mewn golwg, fe ddyla fod undeb mewnol, a chydwelediad hollol yn 'u plith nhw'u hunen i ddechra, a wetyn trio combeino yr' ignorant masses'" os gwetso nhw, wath ma nhw yn dangos mwy o 'political insanity and stupidity'' na'r gwithwr lawar iawn, a gobeitho cymran nhw hint gen i nawr i ddropan insiniwashons felna am ddosparthiada mwyaf dylanwadol y dyrnas.

 

EISTEDDFOD LLANDUDNO A'R IANCIES.

 

Ma bechgyn yr hen wlad sy'n byw yr ochor draw i'r pownd mawr yn moin cwtcho yn nes ato ni, a ma nhw yn moin cal shar o'r 'Steddfod. Din nhw ddim wedi anghofior bias geso nhw yn Shigago, a ma nhw wedi ala i ofyn am un dwarnod iddi nhw'u hunen yn Llandudno. Ma'r Iancies Cymrag yn eitha trwmps, a w 'i yn folon iddi nhw gal y 4th o July, fel ma nhw'n gofyn, os yw'r Archdderwdd Hwfa yn joino, ond wetiff e ddim yn yn erbyn i, wath fe helpas i a i gal jobin archdderwyddol fel gwddoch chi, a fe fydd yn archdderwydd ar yr Iancies wetyn, a falla gna nhw a'n bresident. Ma racor nag un Cymro o wadoliaeth wedi bod yn hres. dents ar America o'r blan, a ma canodd o Gymry pur yn acto mwn posishwns ychal yno nawr, a w i yn cownto bydda nhw yn dangos respect i'r hen wlad i ofyn am joino a ni yn yr wyl Genedlaethol, wetyn dyma fi yn estyn yn llaw yn gros i'r Atlantic ati nhw, gan weid dewch yn mlan boys. 'E wincaf ar y Ianci, I'w dynu nol i'n gwlad ni; I dd'od drosodd, da reso, A hoeddaf fyth iddo fo, Ac awdl i'r dwdl dw, Yn barod a wnaiff Berw. Ac Hwfa roiff dine hefyd, I dda foys y newydd fyd. Mae Dyfed mewn dyled deg I'w ddenn a'i farddoneg; 'E gwnodd ef y can gini 0 dir y brawd, a chadair bri, 'E ganiff Wat, 0 gnaiff wir, A'i benill a dderbynir, Un hwyliog yw, mae nol ei gan Yn haner Ianci'i hunan. A ma Ephraim a Hwmffra I wneud hwyl yn fechgyn da, A rhwng y lot fe fydd ring lawn I urddo'r lanci eurddawn.

 

LLUN WILLIAM THOMAS. Fel gwelsoch chi yn y DARIAN ddwetha fe fuo yn tynu llun ledar cor Treorci, a odd a yn dishcwl yn net. Fe wddoch fod Mr Clepgomar yn boddrach yn 'Steddfod Llanelli nag odd dim tynwrs llunia da yn Nghymru, a dyna fel cymras i 'r brwsh paento yn yn llaw, a fe roia i shalans nawr iddo fe ne rhw Sais arall i dynu gwell llun na hwna. Odd pawb yn gweid fod a fel sa fa'n fyw. Fe fyswn yn tynu llunia cor i gyd, ond bod yn amsar i'n brin. Trw mod in meddwl mynd gyta nhw lan at yr hen wepjan, fe gaf well shawns yr amsar hyny, a fe dynaf i llun hitha yn y fargan os bydd dicon o baent gytaf fi fe fydd isha cetyn ati hi, wath ma'r hen lady yn lled stowi fel gwddoch chi. Rownd net odd yr un Idwetha rhwng Hwmffra Huws ac Ephraim Llwyd. W i yn 'u watshan nhw, a fe ga '11 wara teg yn ring y DARIAN os galla i, a tyma fi'n cwpla gyta'r atnod,- Ffreiwr net yw Hwmffra ni,-a ffreiwr A ffrewyll i gosbi, Mewn meddwl eitha bwli, Yw Ephraim hoff-take it from me. t
 

 

 

 

17-10-1895 Ο

 

LLYTHYRA' NEWYDD.

 

GAN FACHAN IFANC.

 

MISHDlR Y DARIAN, Ma condishwn y gwithwrs yn y dyddia hyn yn gweid fod rhwpath y matar, a ma'n dda gjta fi wel'd fod ych MEMBAR CHI'N BERDAR wedi cynu'r ganwll i ni cal ticyn o ola ar y pwnc. Ma Dafydd Domos, Scuporwen, wedi arfadd towli shades eglurhad o flan y gwithwrs, a ma beth ma fa yn weid yn lled depig wastod o ddod yn wir. I ni yn gwpod yn net ta mishdir yw e. Ond ma'r Sais yn gweid, What's good for the goose is good for the gander, a ma fa wedi dysgu'r paragraff yna, a ma'il bryd i withwrs a mishdirs erill i ddiall a hefyd. Dyw a ddim yn deg fod gwithwrs yn slafo, a mishdirs yn speciwlato, a rhw ffansi dols bothti Cardydd yn cal y gilt, a werthin am i pena nhw. Ma isha co-oparashwn hold ffast rhwnc v ddou barti sy'n catw'r byd i fyn'd, a gatal y midl mucs i fyn'd i werthu pina cod fel shipswns, yn lle gwerthu glo. Trw fod y dynall lo yn cal i ranu rhwng y landlords ar midl mens, y mishdirs a'r gwithwrs, os dim rhyfadd fod y coin yn myn'd yn fach. A thyna'r gwitha, fod y ddou glas cynta yn cal fwy na'r ddou ddwetha, er nag i nhw yn gneid dim shag at gwnu'r glo na'i dori a. I chi'n gwpod mod i wedi gweid yn lled sharp wrth y landlords o'r blan, nes iddi nhw ddicio wrtho i, a os dim un o nhw wedi wilia gair sha fi byth wedin achos hyny. Ond w i wedi bod mor stiff a nhwnta; dw i ddim wedi plycu i wilia sha nhw hefyd — "Jack so good as his master," ys gwetso nhw. Dw i ddim yn mynd i wilia sha nhw nawr hefyd ond fe weta wtho chi. a darllenwrs call y DARIAN, ta hen rogs i nhw gyd; bod nhw yn tweid proffit yn glo ni, a ddim yn helpu i dori cnepyn o fa, a ddim yn folon wetin i ni fildo twlc mochyn ar y top, heb dalu yn hallt am dano, er falla na fydda nhw ddim wedi gweid y tir ariod, nac yn gwpod ffordd ceso nhw fa, onte fysa cwilydd arni nhw idd i owno fa, os gwddon nhw beth yw cwilydd (?) Ond tyna, di nhw byth yn nhre i gwilydd gal gafel ynddi nhw, wath ma nhw bothti'r byd yn enjoyo i hunen, ac yn ala'n tocins ni gyta'r fforiners yn mhob part o'r byd, ac os rhoia nhw amball £5 shag at ddoti careg sylfan ty cwrdd lawr, fe fydd yn pregethwrs ni yn u cwni nhw yn angylion, a gweid shwd fendith bod nhw yn y byd, er bod nhw yn gorffod talu grownd rent wetin Bah Own i ddim yn meddwl gweid cymant am yr hen bartnar's wrth ddechra, ond ma nhw a fi, fel gwddoch chi, wedi arfadd shew a'n gilydd, wetin ma'n anhawdd iawn matal. Dyna at pwy o'n i yn meddwl pwynto nghanon yn fwya' neillduol y tro hyn odd Y BROCARS. Ma hen enwa rhain yn gweid beth i nhw, os dich chi'n deall Sysnag. Yn ol y Nicshonari i Brocars yw rhwpath sy'n tori, a ma "Brocars Glo" yn porthladdoedd ni yn tori mishdir a gweithwr, a ma isha tori y cysylltiad sy rhyngti nhw a'r fasnach lo cyn bydd wara teg. Pam na all mishdir a gwithwr gal Brocar u hunen, 'run shwt a au ditors u hunen? Os gall y mishdir ddoti arian mas, a'r gwitawr i fywyd i gal y glo' pam na allwn nhw i werthu hefyd am brish fydd yn talu'r ffordd i'r ddwy ochr? Pwy sens fod hen dacla sy ddim yn colli wys na speciwleto tocins yn cal riwlo'r consarn fel myna nhw. Nonsans i gyd. Shwd lycach chi, syr. fod Twm Jones ne Shoni Dafydd yn dod i'r offis a gweid bod rhaid i chi werthu'r DARIAN am ddima, a bod rhaid i chi gwmpo prish d-l y wasg a'r Staff i gyd, i neid i'r papyr dalu'r ffordd wetin? Fe fysach yn doti'ch trod yn y man dwetha sy'n perthyn iddi nhw idd i heprwng dros y drws, a dyna beth ddyla'r mishdirs a'r gwithwrs neid o'r "Brocars." Tyswn i yn gallu gneid englynion run shwt a Wmffra Huws a Ephraim Llwyd, fe rown i ddos i'r genedlaeth hyn. Ond mae steil "Dic Dwyll," a hen faletwrs Cymru gynt, I yn shiwto nhw yn well, a fe driaf yn ilaw felm Dafydd Morgan, William Apram, A Twm Isaac, trowch i mas, D. A. Thomas a Syr William, Dowch i gico'r Brocars -as, Isaac Evans. Alfred Winwns, Hoods a Martin, dewch i gyd, I gal cico'r hen rapscaliwns Mas o'n gwlad a mas o'n byd. William Evans, partnar Mabon, A Ben Davis, partnar Brace, Gyda'ch gilydd byddwch ffyddlon,

Dyma le i chi neid lles

Mishdirs, gwithwrs, byddwch unol,

Gwishgwch scitsha cryf ne glocs,

Gwnewch bob Brocar" i chi'n ffwtbol,

Cicwch nhw i gyd i'r Docs

Dyma'r git sy'n shicno'n biwchod,

Dyma'r git sy'n shicno'n gwad,

Pidwn goddef i'r bwystfilod

Aros mwy i spwylo'n gwlad

Oti chi yn cofio'r cwestshwn,

"Pwy mor ddall a'r hwn ni wel?"

Dyma'r criw sy'n iwso'r pinshwn –

Y Brocars sydd yn sleido'r Scale.

  Os nag yw y boys w i wedi enwi yn y pishin canu, yn rhoi help llaw, mynd ga nhwnta hefyd. Dyna ddicon am deni.WARA TEG I'R BEIRDDS. Ma ticyn o fwstro nawr bothti'r Cownty Cownsils i roi scolarships i'r cantwrs, i gal cwni canu'r wlad yn uwch yto. Fe wddoch mod i yn eitha trwmpyn shag at y cantwrs, a w i wedi u pwsho nhw lan getyn mawr wrth u introdiwso nhw i'r Prins a'i fam, a big guns erill. Ond mwya gyd ga nhw, mwya gyd ma nhw'n moin, run shwt a gwyr rochor draw'r dwr. Nawr, ma rhaid i fi neid wara teg, trw bod inffliwens gen i, a meddwl rhwpath am y beirdds, onte fe dyna i nhw am y mhen. Ma llawar wedi cal i weid ddar cof gen i nag yw beirdds Cymru ddim yn scolars, ond bod nhw yn canu wrth natur run shwt a atarn bach y cod. Nawr ma coledjis gyta ni yn Nghymru i ddysgu cantwrs i neid llisha, a darllan Solffa'n barod,ag i ni ynu alanhw lan i Lyndan iddi piwriffeio nhw, ond am y beirdds, ma nhw'n gorffod ffysto gora galla nhw, heb un ysgol ond Ysgol Farddol Dafydd Morganwg. Nawr w i yn cretu fod yn bryd gneid rhwpath i helpu'r beirdds, pwr dabs, a'u ediweato nhw i fod yn ffit i fod yn Poet Lorets. Ma beirdds Sysnag yn cal u cwni yn Rhydychan a Chargrawnt, a wetin ma shawns gyta nhw i neid marc. Beth ta'r Cownty Cownsils yn bildo adishwn at Goledje Cardydd i ddysgu beirdds, a chal Dyfed ne fi yn athraw arni nhw. Fysa dim iws doti Wmffra Huws na Ephraim Llwyd, ne fysa nhw yn ffraeo sha'r piwpls. Ond ta beth, dw i ddim yn gweid bod o'n deg i'r cantwrs gal racor, cyn bod y beirdds yn cal shar yn y lein hyn. Trw mod i wedi starto peth, w i yn gweid yn ddishtaw yn nghlysta'r beirdd i gyd yr atnod- Curwch yr heiarn tra byddo'n boeth."
 

 

 

 

24-10-1895 Ο
 LLYTHYRA' NEWYDD. GAN FACHAN IFANC. MISHDIR Y DARIAN, — Look Out! Ma'r Brocars yn byewth bombardo Offis y DARIAN, a'ch cwpla chi, a fi, a Yswain Scuborwen. Ma nhw gyd wedi cwrdd mwn conffrans gyta'u gilydd, i setlo beth i neid o ni, a dyma'r result yn y llythyr geso i orwthyn nhw dydd lou, a odd bordar du ar yr enfilop, a fe gretas i ar y cynta, ta rhw hen wedjan i fi odd wedi marw, ond wedi i fi acor a, odd y tu fiwn wedi sgrifenu mwn me coch fel gwad: — Brocars Chamber, Cardiff, Wednesday, To Bachan Ifanc y DARIAN. Blood, Death, Vengeance, Pup, Coward Traitor. Your lying, stinking letter in last week's TARIAN is a deplorable piece of impudence, and a gross insult to better men than yourself. You daring cur. What business have you to interfere with our duties. Prepare yourself, we will make you and "Mishdir y DARIAN" jump in your shoes and tremble in your stockings. Watch and be ready. BROCAR No. 99. Pidwch cymrid of an, Syr. Ticyn ó flagardath yw rhwpath felna fe na i o'r gora a'u short nhw, a ma dicon o bartnars o'n ochor ni hefyd os bydd taro. Ma dicon hawdd gwpod wrth y llythyT yna bod nhw yn dechra gweld danjar y ca nhw fynd o'r porfeydd gwelltog, trw mod i wedi'u cymryd nhw mwn llaw. Ma nhw wedi cal llonydd yn rhy hiro getyn a ma'nhen bryd rhoi notis to cwit i'r hen scamps cribddeiliol. Ma'n dda gen i weld fod ledars y gwithwrs yn dechra pwsho am eu traws nhw, a dim ond c&l y mishdri i roi sewt hefyd fe allan roi 'u cownt miwn pryd myna nhw. Treni fod gwlad gyfan yn gorffod syffro o achos rhw friged fel hyn. Fysa'n well iddi nhw bido sgriblo i'n mycwth i, wath di nhw ddim ond yn cwni stem y nigofaint i, a fe fydda yn watshan pob snawns o hyn i mae i estyn cic at y criw.STEDDFOD GENEDLAKTHOL CASNEWYDD. Ma'n dda gen i weld fod gwyr gwlad Gwent yn dechra mwstro yn yrnast o tothti Steddfod 1897. Ma nhw yn brago fod mwy o goin mwn Raw yn barod nag sy wedi bod-,o'r blan gen un lle at i chynal hi, a ma hyny yn getyn o bwnc, ond ma isha rhwpath heblaw tocins i neid yr Wyl Genedlaethol yn deilwng o'n gwlad an c^nedi. 08 dim dowt nag yw bechgyn Casnewydd yn ddicon cyfarwydd mwn £ s. d. ta faint ma nhw yn wpod am gerdd, llen, a barddas. Licwn i ddim gweid ta bloceds i nhw felni hefyd run pryd. Ma hen garitors wedi bod yn Shir Fynwa na allsa Cymru ddim dangos eu gwell nhw fel beirdd a llenorion steddfodol, megys Athan Fardd, Eiddil Ifor, Nefydd, Emlyn, Cynddelw, IsIwyn, Llewelyn Williams, Delynor, &c., &c. Y mae eto yn fyw un hen gymeriad steddfotol a Chymruaidd ddiail yn mherson Arglwyddes Llanofer (Gwenynen Gwent). Os bydd i ysbrydion y cewri yna dwtsh eneidia y Pwyllgor yn Casnewydd. fydd dim dowt na aiff pobpeth y mlan yn reit. A beth os daw ysbrydion Ifor Hael, a Dafydd ap Gwilym, fu'n byw ar bwys Casnewydd iddi cyffro nhw, fe fydd yno Wyl gwerth son am dani. Wel, gobeithio ca nhw dicyn o help o'r short yna, iddi stimulato nhw IrÙhn. Ma Lord Tredecar wedi towli pump cant o buna shag ati, a falla bod hyny yn well mwn un golwg na tysa fa yn gneid pum cant o englynions. Wei, weiar in boys, a gnewch ych gora, a fe ddota i dicyn o samar y weels gora galla. i. W i yn dishgwl y gnaiff y Sfeddfod les i Gymrageiddio gwla^l y Gwentwysiaid syv wedi cal i llygru gym ant gen y cocroda rochor draw'r, dwr. Ma hen Gymry gwladgarol yn aros yno hyd yn awr, a ma nhw wedi cal cam mawr yn herwydd y llanw Sysnag, ohd falla ta md ar y Seison yn unig ma'r bai am hyny. Alla i ddim paso hibo un peth fan hyn, a dyma fe, fod y uymry yn lwo'u CAPELI I'R SAESON, Falla gwetwch chi bod isha dysgu'r Seison. Falla hymy. Dyma beth w i yn pwynto ato fa dylsa nhw fildo Tai Cwrdda eu hunen. W i yn gwpod am rai llefydd yn y shir a phob Capel wedi cal i droi yn Sysnag er fod yno lawar o Gymry yn byw yno, a gorffod aros yn y ty ar nos Sul, ne fynd i ryndo ar beth nag 'u nhw ddim yn ddiail, er ta'u hen dada a'u mama nhw odd wedistarto'r achos yn y lle. Fe licwn wpod os yw y Saeson yn nhrefydd mawr Lloegar, lle ma milodd a Gymry, yn bildo ne yn roi capeli iddi nhw. Wn i ddim am un, a w i bron yn siwr na wyr neb arall hefyd. Ma bai mawr wedi bod ar y pregethwrs yn Shir Fynwa fod pethach fel hyn yn cymryd lle. Dyma fel odd hi yn y dechra. Os bysa hanardwsin o Seison yn' dod iddi gryndo nhw, a nhw yn folon pregethu Sysnag yn y bora, a'r Cymry pwr dabs i shiffto gora gallsa nhw.' Yn mhen spel odd rhaid i'r Saeson gal cwrdd nos Sul a'r Cymry yn y bora, ac ar 01 iddi nhw ddod dicyn yn ewnach odd rhaid i'r fforinarsgal y nos a'r bora a'r hen frodorion i shiffto fel mynsa nhw heb bregeth trw'r dydd. Tysa dicwdd i riacshwn ddod i'r wlad rhwpryd a'r Gymrag i enill tir Gwent yto, oti a ddim yn depig ca nhw byth o'u capeli nol. Na, caws o fola ci," fi fentra mhen. W i yn ffaelu gweld dim sens mwn peth fel hyn, a ma'n dda gen i fod rhai hen beianeers yn Shir Fynwa nawr yn stico at eu stondins trw'r tew a'r tena. W i wedi clywad am rai o bregethwrs Cymrag y Shir hefyd yn mynid wilia Sysnag mwn Conffransis eglwvsi, a Chymanfaoedd Cymrag yn ddiweddar, a tysa'r clic yna yn cal i transporto dros Glawdd Offafydda'n jobin da. Cymry Gwent, sticwch at ych iaith, a gwetwch yr atnod — Mirain iaith na chymrwn i Dynell o aur am dani.

 

 

 

31-10-1895 Ο
 LLYTHYRA' NEWYDD. GAN FA CH AN IFANO. [ MISHDIR Y DARIAN,Ma shew o fwstwr gyta'r fforiners bod ni yn gwiddi, Wales for the Welsh, pan fyddwn ni yn wilia am yn reits, ond dim oud i ni ddishgwl bothti, England and Wales for the English, and i not,iingfor the Welsh yw hi, dishgwlwch 1 chi ffordd mynoch chi. 0 ni yn gweid yn | y llythyr dwetha am y Saeson yn twcid yn capeli ni- Lladron i nhw ariod. a lladron i nhw nawr, a thicin o jobin fydd iddi nhw byth newid u steil. Ma b yn gwpod bod nhw yn tweid rhai o'aPREGETHWRS GORA Ni. Pwy wara teg bod ni yn cwni a chatw ooledjis a chwni. a chatw bech-yn yndi nhw, ac ar ol iddi nhw droi mas yn gamstars, ma r Saeson yn rhoi calls iddi nhw i Llundan, a Brighton, a Bournmouth, a rhw lefydd masharyddel felna, a chaif y Cymry clawd sy wedi helpu nhw mlan ddim shawns ldd u clywad nhw byth, ond pan ddygwydda nhw roi tro fel corned, a dim ond u cwta nhw i ni yn gal gweld wetin. Fe alla i bwynto nawr at ddwseni o ganons pregethwrol i ni wrdi gwni i'r fforiners. Ond pwy all ddangos un mba nhw j wedi g Ini i ni? Pwy wara teg yw hwna? j Os byJd eclws fawr gyfoethog yn Lloegar yn ffansio bachan sy wedi cal i gwni mwn coledje Cymrag, fe ddylsan dalu am i ewdiwcethwn a, a ala wad o fil can-punt ne > ddou, at fenteino'r "oledje hyny. Fe fyddai hyny yn rhw di 'yn o brinsipl yn [ enwetig i'r wlad ma nhv yn galw — " Poor J little Wales arni. Pt or yn wir Ma [ nhw yn trio gneid hi yn glawd wrth fynd a phobpath wela nhw at u iws orwtho ni, a ma nhw fel plant bach yn cretu fod popath sy gyta ni yn well na'u pethach nhw u hunen. A falla bod nhw'n reit yn hyny hefyd. CJn o'r pethach dwetha ma Ilhw wedi ffansio ywDWR CYMRU. Ma rhai parta o Lloegar yn sueno cetyn o'n dwr ni yn barod, a ma Llundan nawr? yn dechra son am lyncu racor o'n hafonydd 1 a'n llynodd ni. W i ofan witha wrth u gweld nhw yn mynd mlan mor ffast, ta'r
diwadd fydd iddi nhw neid mashinaree naawr i gario Cymru yn glwt gyta'u gilydd, yn fryniau a dolydd, mynyddoedd a dyffrynoedd, afonydd a Ilynoedd, a stwffo'r j consarn i gyd miwn i'r British Miwsiam, a'n gatal ni i gyd i starfo yn y man lle odd hi wedi bod Wales for thq Welsh yn r wir?" Chaiff y Welsh ddim ond be sy rhy drwni ne rhy both iddi nhw gario oddma. Ma'n dda gyta ft wold bod y Cownty Cownsils yn dechra mwstro bothti ddoti | stop tap arni nhw i fynd a'n dwr ni. Ma'n kcym5dd.>gwitfcfa<>! w gyd yn buiien i heb &os'-frob o u'wr^iti ii^d, a maV popiwlashon yn geino o hyd, a fe fydd isha dwr ar yn plant a'n wyrion a'n gorwyrion ni. Wei, ffordd ma gneid o nhw pwr dabs, yn lle bod nhw'n tacu? Dyna'r problam sy isha'i solfo. a i ddangos iddi nhw nag i ni ddim mor grabadd a ma nhw yn peinto ni yn y itori — Wales for the Welsh," dyma fi yn rhoi shawns deg iddi nhw. NawT ma milodd o fforinars clawd fel yn hunen yma yn barod yn cal shar lled dda o'r tamad sy ma. Beth w i yn gynyg iddi nhw yw hyn. Os yw gwvr mawr Llyndan a'r trefydd mawr erillyn ffaelu cal dwryno idd u pleao nhw, beth ma nhw yn pido dod yma i fyw, a ala'u harian, a bildo manshwns aryn mynyddotdd ac yn ein dyffrynoedd ni, lle gaila nhw gal any amount o awyr ffresh a dwr pur? Fe alla'n hefyd speciwlato'u tocins wrth gwni Ffactris a phob short a o w'the fel sy yn Llyndan, yn lle bod nhw yn mynd a phopath yno yn un twmpyn. Os dim rhyfadd bod nhw yn gweid fod Cymru yn glawd pryd ma nhw yn ala milodd o glodion yma, a'r Saeson sy a ticyn o goin gyta nbw yn aros yn Lloegar. Chytig bach iawn e wyr mawr cyfoethog sy'n byw yn ein plith ni. ma nhw felsa ofan arni nhw i ni drochi 'u dillad nhw. Os di nhw yn moin dwr glan i ni yn folon bod yn drwmps os dwa nhw at y dwr, yn lle i dweid a o'n gwlad ni a'n gatal ni i shifto. Dyna gynyg dicon teg iddi nhw. Os dwa niiw a'u trugaredda melynion ai ^<a nhwnta shar o'n trugaredda gloewon nina.CLYWCH ltATL BATL Y BEIRDD. Fe wetas i ddicon ar y start am atal llonydd i Ephraim a Wmffra, ond ma dou ne dri yn y DARIAN ddwetha yn pwsho'u trwyna mlan. Trw ta fi yw'r reffaree, ma rhaid i fi fynyd wara teg i beb ochor. Ma'r ddou fachan yn wado'n biwr digynyg, weti'n keep back boys am dicyn bach. Dw i ddim wedi gwvld dim un wad annheg yto, ond pob un o'r ddou yn pwnsho gora galla nhw mwn natur dda. Os gwela i rhw ffec sly fe dowla'r spwnj lan ar unwaith, a fe gaill pob un i goin nol. Keep out, or I will cop you. — "uthr aruthr" A thrawaf di'n ddadfyw A John Jones," sydd fel hen Jew, A'i wddwg ymlan heddyw, I I Llais Heddwch" nid lles iddynt,-eu Etc gadewch rhyn jddynt; [hatal I guro fel dau gorwynt, Nes i un fynd mas o wynt. Mwy esmwyth i rhyw Blisman, -drio cloi Dorau clep y daran Pwy foddrach ma'r ddou fachan, Yn teimlo hwyl pelto mlan. Go in boys, ma gen i "bit,i chi'ch dou A chewch dal, a phroffit; Eto wrth wado mwn wit, Heb help o unrhyw bwlpit. Dim ond dau dyma hi'n deg,-a dau Wr dewr ar y faneg Pob un ond dau, gau ei geg, Alarwm ei ffiloreg. Ma'n blain ta Effraim, a Wmffra-yw'r [rhai Ddaeth i'r Ring yn gynta Fi, yw'r Reffaree ar hon, 0 ddewrion, — Pwy fydd ora? Tyna. fi wedi doti riwls of the Ring o'u blan nhw gyd sy'n pwsho mlan bothti'r I fatl ddoniol hon. Fydda i yn diishgwl i bawb obeio i fi nawr a fe fyna i wara teg hefyd. Ma'r ddou fachan mwn trim net, a os dim un o nhw yn dangos fod a'n cal Ilawar o los yto, a os dim un wedi tynu gwad. Dicyh o gafilo clyfar sy gyta nhw hyd yn hyn. Ma round No 4 yn mynd mlan nawr. Walla bod yn well i fi roi ticyn o guraje yndi nhw wrth weid yr atnod c Sweet Wmffra," "Wel dolle, Ephraim." i

 

 

A close-up of a newspaper

AI-generated content may be incorrect.

(delwedd L1038a) (07 Tachwedd 1895)

Tarian Y Gweithiwr. 7 Tachwedd 1895.

 

LLYTHYRA’ NEWYDD.

GAN FACHAN IFANC.

 

MISHDIR Y DARIAN, -

 

 

O ni ddim yn folon iawn i'r bachan "Shoni Hoi" yna i weid mor gas a gnath a am y beirdds yn y DARIAN dwetha. Fe wddoch fy mod i wedi strestsho yn galad i baso fel bardd ar Orsadd Llanelli, a ma fod e yn galw ffoliaid ar y blwmin lot o ni wetin, yn fwy na alln i ft ro, er wara teg iddo. odd a ddim yn gweid dim am dano i munan. W i fel sa ni yn spelian fod a wedi cal i dwtsh gen yr ysbryd sy'n trin pobpath os na fydd e yn i ddiall a. Hen garictor clawd yw hwnw, fel y canddo yn gweid fod y grapes yn ala rincod ar i ddanadd a achos fod a'n ffeili cal gafal ami nhw. Ma shew o gintach wedi bod ariod bothti'n cyngh- aneddion, achos bod nhw yn rhy glyfar i bob cocosyn idd eu diall nhw, a ma Shoni yn gweid bod nhw mor ''ddienaid a dramad o rwbitsh." Ma ilastrashon Shoni mor rwbitshyddol a fe'i hunan. W i yn eitha bolon iddo fe sgrifenu yn y lem ma fwya o ddileit gyta fe, a fe ddyla fynta fod yn folon i'r beirdds gal dicyn o enjoy- mant yn u lein nhwnta. Odd a'n wado ar y pethach sy'n dod mas yn Goloin Farddonol y DARIAN. Fe ddyla fe gofio bod hono wedi bod yn Infant School farddonol i rhai o ser gloewaf ffurfafen farddonol Cymru heddyw, ag os nag i nhw gyd yn gallu tori marc yehal, ma'Il well bod nhw yn ala'u hamsar felna, na bod nhw yn crynhoi bothti'r corneli i wilia, a wafo am hwes a sprags. a drams rwbitsh a gweid shwd dynwr piwr yw "Bowlar," a shwd gicwr cas yw "Bocsar," a ta hen bartin yr yffach sy ar hedin No. 9. Walla ta rhwpath felna sy'n shiwto Shoni, ac er mwyn iddo fa gal wara teg yn y DARIAN, beth ta chi, syr, yn i engago fa i sgrifenu cwpwl o lythyrau yn y lein yna, ac os gwela i byddan nhw yn cymryd yn dda, a gneid lies i'n cenedl ni, ac yn dderbyniol gan y darllenwrs, fe joina i gyta fa i sgrifenu amball iythyr yn yr un steil, wath w i yn eitha trwmpyn shag at y Shoni Hois fel w i at yr Em Pees a'r Lords. Fe gynghora i Shoni i gatw'n bartnars a'r beirdds i gyd, rhag ofan iddi nhw iddi fo^coto fa, a wetin fe fydda yn lletwith ia tr arno ta fa yn diewdd marw ddotiff dim ,111 o nhw gymant a phenill ne englyn ar i garag bedd a. Lied debig ta jocan ticyn odd y boy, wath ma pob Cymro yn lico barddoniaeth, a os na fydda nhw yn gallu diall pob gair, ma nhw yn gallu teimlo y peth byw, os bydd hwnw yndo ta yn bwy fesur fydd a wedi cal i gyfansoddi. W i wedi dala notis lawar gwaith pryd bydd pregethwr wedi bod yn slafo'n galad trw'r wtbnos i neid pregeth, a wedi cretu bod gyta fa ideas naiff i'r gynulleidfa i neido pryd bydd a yn u gweid nhw. Ond druan bach. fydd dim mwy o gyffro yn u plith nhw na ta fa yn gweid carag a thwll." Beth ma fa yn neid yn y dilema, er mwyn cael ticyn o fywyd yn y cwrdd, ond gwiddi ar dop i laish yr hen benill anwl,— 4,0 fryniau Caersalem ceir gweled, Holl daith yr anialwch i gyd," &c.,

 

 

 

A close-up of a page

AI-generated content may be incorrect.

(delwedd L1038b) (07 Tachwedd 1895)

 

A thyna'r stem i'r lan ar unwaith yndo fe a'r gynulleidfa. Er bod nhw wedi clywad yr hen emyn lawar canwaith o'r blan, ma'r peth byw sy yndo yn iy wyd o hyd. a ma rhaid ta stoic o d'dyn na fyuu yn i deimlo fa, Er ta gwisg wael sy am lawar hen emyn Cymrag, ma rhw- path yndi nhw na all nn Poet Loret Sysnag bwsho idd i stwff e. Er nits gellir dishgwl cyfanwaith clyfar a dvsgedig gan feirdd (ieuanc ran fwyaf) y Goiofn Newyddiadurol Gymreig, credaf fod llawar o berlau tlysion yn cael eu gatal yn ddisylw gan y Shoni Hois criticyddol, a fyddent yn cael eu hystyriad yn addurniadau yn Rghynyrchion beirdd Seisnig ganddynt. Shwd beth yw cal enw mawr? Wetin os dim ots beth sy gyta nhw, ma 'u pobpath nhw yn bownd i fod yn fawr. Dw i ddim yn erbyn darllan gwitha bendigedig y beirdds mawr Sysnag. Na, na. Fe ddyla dynon ifane yn gwlad ni neid fwy o hyny, ond dw i ddim yn folon dishgwl ar witha 'n beirdd ni'n hunen trw spectol rhagfarn, a gweid "W i 'n napod hwna, dyw e ddim llawar o gownt." "Profwch bob peth, a deliwch yr hyn sydd dda." Dim ond gair ne ddou o ni yn meddwl weid yn y dechra yn nghlust y bachan Shoni yna, ond fe neidws y mwnei ar y nghefaR i, a odd a pallu myn'd lawr. Dyna fa wedi ngatal i o'r diwadd a fe drof at rhwpath arall.

 

Y MYNWOD ANWL.

 

Dw i ddim wedi gwe id dim os cetin am den nhw, a ma'r fenyw lie w i yn lodjo yn byewth rhoi notis to ewit i fi os na cha nhw shar o'n ideas biwtiffwl i yn y DARIAN. W i yn apolo- jeiso iddi nhw gyd os peclias i, a ma'n dda gen i bod nhw yn cymryd dileit i ddarllan y DARIAN, yn enwetig y mishis y munan. Ma cymant o bethach yn galw sylw, a w i yn ffaelu'n deg a gweid pobpath ru 'n pryd, ond w i 'n gwpod galla nhw weid sopyn mwn ticyn bach o amsar, a dw i ddim yn moin u tynu nhw am y mhen. Fe welas rhw ffwl yn sgrifenu mwn papyr Sysnag yn gofyn,—" Is Woman worth marry- ing ? Ne yn Gymrag,—' Oti menyw yn worth ei phnoti ?' Clywsoch chi shwd sens ariod ? 0 ni yn cretu ta ar gownt hyny joddefws Adda fynd dan oparaehwn i dynu pishin o'i hunan i gal gneid menyw yn y dechra, a fe allwn i feddwl wrth weld amball ferch ifanc smart, ta'r pishin gora odd yn perthyn i'r hen ffadder gas i dynu hefyd, a beth ma'r hen lap lal yna yn gofyn shwd gwestshwn, gwetweh chi? Ond dyna, beth odd a'n pwynto ato odd, na allsa'i wraig e ddim gneid crysa gwaith iddo fa, na gwella dlllad y plant, na golclu, na ffwrco bara. Fod a wth prioti un fenyw, yn gorffod catw dwy ne dair. Odd rhaid cal morwn i neid y gwaitb, medda fe, a menyw i olchi, a dressmaker i neid dillad i wraig a'r plant. 0 ni yn gweid yn y munan pryd gwelas i y llythyr na fysa dim iws iddo fa wilin. fclna yn y DARIAN ne fysa mynwod Cymrn yn i fombardo fa cyn pen fawr o amsar. Ond tyna, yn Lloegar odd a'n byw. a odd a ddim yn gwpod dim am gwality mynwod Cymru, a fe ddath rhw fachan mas yr wythnos ar ol hyny yn yr un papyr i weid gair am ferched yn gwlad ni, sy wedi ala y gwraeedd Sysnag mas o'u cof, a ma hi wedi mynd yn row ddychryn- 11yd. Ma'n ddrwg gen i weid bod rhai o nhw yn danod bod llawar o'n mynwod ni yn ishta ar geryg y drysau o fora sboi nos yn watchan pawb yn paso. Fegewch wpod gen i yto shwd troiff y ddadl mas, a fe watsha i na ehaiff-The Women of Wales ddim cam genti nhw. Ma'n rhaid i fi neid atnod fach y munan i gwpla'r llythyr hwn— Nid yw'r gwracedd oil yn wyn, Mwy na ninau; Nid yw'r haul bob pryd ar fryn Yn rhoi'i wenau. Llwyd, a brith, ariod yw'r byd, 'Nol pob hanes; Aed y rhai sy'n wyn i gyd, Bothti'u busnea.

 

 

A page of a paper

AI-generated content may be incorrect.

(delwedd L1039a) (14 Tachwedd 1895)

 

Tarian Y Gweithiwr. 14 Tachwedd 1895.

 

LLYTHYRA’ NEWYDD.

GAN FACHAN IFANC.

 

MISHDIR Y DARIAN, - Fel i chi’n gwpod cystal a fina fod rhai obrif drefydd yn gwlad ni wedi cal u bendithio yn ddiweddar, trw drugaredd, o fisit gen

Y WOMANS FFWTBOL CLYB.

Nawr, ma gyta ni rhw idea shwd beth yw a, a beth yw y New Woman up to dêt. Ond bysa bod y fforiners yn dod i ddangos amball dwtsh fel hyn i ni, wn i ddim beth ddela o honon ni, na pwy shap fydda arno ni. Ma’n mynywod ni yn rhy shei i roi cic i’r ci ne’r gath, pryd y bydda nhw ar y. ffordd, heb son am fynd mas i’r ca, lle bydd canodd o ddynion yn dishgwl arni nhw, i gico y belan letar, er bod yn mynywod ni yn gwpod y ffordd i gico row shai gwyr os bydda nhw mas yn hwyr, ne rhwpath felni, a ma’n well gen i hyny na bod nhw yn cico ffwtbol.

Ond ta beth, trw bod nhw yn smart, a fina yn fachan ifanc, fe ddath pwynt clyfar i mhen i fynd i gal interfiw gyta un o nhw, fel ma reportars Sysnag yn gneid. I gal bod yn sportsman jeniwein, fe dorchas yn nhrowsis lan at y mhen-glyna, a fe ddotas seinat ar y mys bach, a ffon yn fy llaw, a shigar rhwng y nanadd, a off a fi. Wedi cyrhadd y lle o nhw’n aros, fe alas y nghardan miwn i un o nhw, wath o ni yn cownto bod un o nhw ar y tro yn ddicon i fi drafod, a fe ddath ato i mwn bothti wincad, a fe gwnas yn het, a fe blycas y nghefan, a fe wetas yn boleit: -

“Good day, Miss Nicarbocar.”

“Good day, Sir,” medda hitha.

“As you know,” meddwn i, gan gwrlo’n mwstash o mysadd, iddi gal gweid y seinat odd ar y mys bach i “I am Bachan Ifanc y Darian.”

“I understand, and am proud of the honour of meeting you,” medda hitha.

“O’r boy ag e,” meddwn i.

“Beg pardon, I am not a boy,” medda hi yn safej.

“I was not mean you be boy, but I was say - o’r boy ag e - bout myself,” wetas i, “but you look like a big boy in them trowsis, but you look pretty boy.”

“Thank you, Mr. Bachan Ifanc,” medda hi, “for that compliment.”

Trw ta Cymry yw darllenwrs y Darian, falla bod yn well i fi weid y part arall o’r interfiw wrthoch chi’n Gymrag.

“Beth odd ych amcan chi, Miss Nicarbocar, i ddod lawr ato ni yn Nghymru i ddangos ych gallu cico?”

“Wel, odd gyta ni racor nag un amcan. I ni yn teimlo at yn secs, ac yn gwpod fod merched Cymru yn mhell ar ol u hos, a bod isha rhoi start iddi nhw shag at u modarneiddio nhw, a dod a nhw up to dêt yn y New Woman era, yn lle bod nhw’n llusgo ar ol fel hen fwnwod y ganrif o’r blan.”

“W i wedi bod yn wilia sha rhai o’n merched ni, a o’n nhw yn gweid wrtho i y dylasach chi gal ych hors whipo am dynu disgres ar y rhyw fenwaidd, trw wishgo dillad fel dynon, a dangos ych coesa i bawb.”

“O!” medda hi, “oti’n coesa ni ddim mor shapus a choesa bechgyn, bod isha i ni fod a chywilydd idd u dangos nhw, a dysgu’r ffordd idd u iwso nhw ? Ma’n dillad ni yn cuddio’n crwyn ni mor berffaith a tysa peisha a froca am dano ni, a ma pob comon sens yn gweid na alla ni ddim cico yn ddecha yn rheiny.”

“Allsa chi ddim dewish rhw ricriashwn mwy unol a’ch natur chi fel llestri gwan, na cicio ffwtbol?”

“Fysa dim isha i chi a’ch short alw llestri gwan arno ni tysa’r gem hyn wedi cal i dysgu i ferched y cynoesau, ond falla nag odd dim cymant o isha iddi nhw ddysgu deffendo u hunen a sy arno ni fynwod yr ôs hon. Ma dynon wedi mynd mor ddigaritor a dideimlad yn awr, fel ma nhw yn wado a chico’u gwragedd mor ddidrugaredd a tysa nhw yn gwn, a pheth iwsful iawn i bob menyw fysa dysgu y ffwtbol gêm fel bydda’n nhw yn gallu cico’u gwyr yn ol os bydd taro.”


 

 

 

 

 

A page of a paper with text

AI-generated content may be incorrect.

(delwedd L1039b) (14 Tachwedd 1895)

14-11-1895 Ο

“Wel wir, i chi yn wilia yn gwic, Miss Nicarbocar,” meddwn ni, “ond fysa yn well gen i i chi roi cusan i fi na roi cic.”

Fe smeilws yn y ngwynab i mor neis, a fe wetws nag odd hi ddim yn arfadd rhoi cusan i fachan ifanc, ond bod greso i fi helpu munan. I chi yn gwpod, syr, shwd un shei w i, a fe ffaeles yn deg a macu dicon o galon i gymryd yr hint, wath fe ath rhwpath trwyddo i bob tamid, felswn i yn mynd i ffeintio, a fe ddishgwlas am yn ffon i gal starto, ond odd i ddim fel sa hi yn folon i fi fynd mor gyntad. Wrth shiglo dwylo, fe wetws bysa’n dda genti gwrdd a fi rhwbryd yto, ond fe fydd yn getyn henach pryd gweliff hi fi, wath o ni yn teimlo dicyn bach o’i hofan hi, bysa hi yn iwsoi thrad a gneid ffwtbwl o fi.

Os dim isha i fi gynghori merched Cymru i bido dilyn ffashwn y merched hyn. Na, na, ma’n well gyta nhw dori marc mwn steddfod, ne gonsart, na cico ffwtbol, a diolch am hyny. Dw i ddim yn erbyn i fechgyn a merched ifanc gal enjoyo’u hunen i’r man eitha mwn ffordd respectabl, ond ma’r ffwtbal epidemic yn anoddefol, a reports y papyra dyddiol am deni nhw yn ddicon i ala dolur llyced ar ddynon sensibl, a ma fod merched yn mynd bothi’r wlad i neid shews cicyddol o’u hunen, yn insult ar y rhyw deg, a fe ddylan gal i transportio i Shinbyctw, nes bod y rhiwmatic yn dofi u
coesa nhw.

........................Arwdd ddrwg ma arno’i ofan,
........................Yw gweled merch mewn dillad bachan,
........................Trowsis byr at ben i chlyna,
........................Er mwyn dangos snap i choesa.

........................Ma nhw’n meddwl bod nhw’n glyfar,
........................Achos bod nhw’n dod’o Lloegar,
........................Merched glan yn cico ffwtbol,
........................W i’n gownto’n afresymol.

........................Peth od iawn os na chawn eto
........................Weled merched bach yn bocso;
........................Hynod iawn fydd gweid Miss Bwlet
........................Yn y ring yn wado Corbet

........................Smoco sigaretsa chico,
........................Reido beisicl a bocso :
........................Licwn i byth weld yn wejan
........................Wedi dilyn steil y New Woman.


HEN BETHACH.
I ni, fel Cymry, yn leico son am hen bethach, a hen bobl odd yn yn gwlad ni ys canodd o flynydd yn ol. Ma’n he-afieithwrs ni yn gwitho’n galad i ffindoj hen witha’n teidiau ni fel beirdds a llenorion. Bachan piwr i neid jobin felna yw Charley Ashton, y plisman llenyddol o ddinas Mawddwy. Ma fa nawr yn wilo mas a’m bob llyfr sy wedi cal i brinto yn Nghymru yn y can mlynadd dwetha, a ma bob sens yn gweid bod cetyn o drwpwl i neid hyny, a lled depyg na ffindiff a ddim o nhw gyd. Nawr, ma gen i blan i sparo’r rhai fydd yn byw mhen can mlynadd yto i fynd i’r holl hobl yna, a dyma fe: - W i yn cynyg bod lle yn cal i neid yn un o’n iwnifersities ni at y pwrpas, a bod copi o bob Ilyfr gaiff i brinto o hyn i mas yn cal i ala yn streit yno, a doti pob bransh o lyfra ar u pena’u hunen, fel gall y sawl fydd yn dewish, yn mhen mil o flynyddoedd falla, fynd yno yn streit’ i ddishwl am y Ilyfr fydd a’n mofyn, yn lle bod gwaith wilo yn mhob twll a chornal fel sy nawr. Fe fyddai hefyd fel moniwments i’r awdwrs, a fasa fa ddim yn ffol o blan i bob awdwr ala’i lun gyta’i lyfr, fel gall y’n olafiaid ni gal rhw idea slwd foys odd yn byw cyn iddi nhw gal u geni, ahfe fydd y llunia hefyd yn bictwrs piwr i ddecorato’r rwm. Dyna fi wedi towli’r hynt yn yn ffordd i munan, a falla cymriff rhw bartnar clyfar at i witho fa mas, a fe ffindiff hwnw fod gwir yn yr atnod, - “Yn mhob llafur mae elw.”

 

 

 

21-11-1895
21-11-1895
Ο

LLYTHYRA' NEWYDD. Gil FACHAN lFAIC. MIAOWS Y DARIAN, — Os dim iws bocBrach, hen genedl fach od i ni y Cymry, a Bala son am dane ni er8 oesa yn ffreio ac a'fl giiydd. Dyw hi ddim yn gwella cfim yn yn dyddia ni, wath ma tan a mwg myfel yn ffieio bothti trw'n gwlad ni nawr yn mhob pwynis dishgwiwch chi. Ma ledars y gwithwrs a'u baginots yn 'u gilydd rowud about, a beth ma uii yn ma'r nail ya i dynu a lawr. Yn lIe bod y gwithwrs i gyd ya un rigment fawr dan gomand un General, ma nhw wedi cal 'u splito ya ddwy ne dair bataliwn, a General gen bob un run shwt a hen dywyeogion y'n gwlad ys cano'dd o flynydda uol yn lladd 'u gjiydd, yn lle joino gyta'u gilydd yn un army i gatw'r iforinars mas. Fydda gwiohwrs Cymru i gyd ddim ya rhy grvf wfci&i combeino i gwrdd a jeiants capital. Dggtt't' bejrdds wetin yn elabardaaho 'u gflywd, a'* bwlets t>'u canons nhw yn \\ff«lan hibe'n pena ni, nes bod i broa a. bpd yn ddnnjerus i. fod yn eatX. Slash wrs b ^ytSirynllyd yw'r beirdds, ma pob ergyd yn tyrtia gwaJd, ond din nhw ddim yn tir cwtti libal ar 'u gilydd, na employo cyfxeifti^rs i gymryd 'u part nhw. Ond y sewrifol fwya gas ay rhwng rhai

E

 

21-11-1895

 

 

 

28-11-1895 Ο

LLYTHYRA' NEWYDD. GAN FACHAN IFANC. MISHDIR Y DARIAN, — Ma shew o sgrifenu wedi bod ariod bothti shwd le dychrynllyd yw rhyfal, a ma'r pictvrs aiswydus o eni nhw, yn ddigon i ala blan ych gwallt chi i bwynto at ser y nefodd — dynon wth y milodd yn cal i bwtshera, ac yn bwtshera'u gilydd, nes bod u gwad nhw yn rhyfcag yn afonydd am filldirodd. Ac i beth? I bleso whims rhyw hen sciwerod diened a dideimiad. Ma shew o frago shwd wlad olaedig a efangyladd yw Prydan Fawr, ond ma'i acshwns hi yn fynych iawn yn gweid ta hen goward digonshans yw hi shag at wletydd clawd. Dyma hi nawr yn shiglo'i phen, a chwni'i dwrna, a shaffo o flan hen grotan fach o wlad, sefASHANTEE. la, John Bwl a'i goesa tew, a'i freicha hir, a'i fola pwdin yn wafo o flaen hen frenin bach dwy drodfadd, ac yn galw ar i Genarals a'i Fedgors, Liftenants a'i Gaptans, Corporals a'i Sarjants, a milodd o sowdjwrs, i fyn'd mas mwn bothti die, i roi wipsi i blentyn barbaradd, isha na bysa hwnw yn gneid beth odd e'n weid wtho, er nag yw hwnw yn perthyn dim iddo fa. Odd yn dda gyta fi weld y pishin odd gyta'r bachan sy'n sgrifenu 'ch Leedin Article chi'n y DARIAN ddwetha. Odd e'n gweid tysa slebin o fwli fel Rwsha, ne Merica, yn insulto John, bysa fa'n trio gneid rhw setlmant shag e, os bysa shawns rhwffordd, ond pryd bydd e'n meddwl ta fe yw'r bos, ma fa'n dangos i -Y,affls yn gwmws. Tysta dim llawer iddo fa ala cwpwl o ddeligats i Ashantee fel gnath a i Berlin slawar dydd. i drio cal "Peace ivith honor," ys gwetws e. Na, ma fa'n cretu gall a scwaro cownts y pwr dab hyn, a dod nol i frago ta fe yw'r bachan idd u plamo nhw Yr hen bothall ishtag yw a. Dyw a ddim wedi gatal i hen ddeleit o wado rhai llai na fe'i hunan ddar pryd ath a a'n gwlad ni. Ond nid yn wado ni'n deg nath a, ond sheto 'n hen ddynon ni, trw bromish rhoi Tywysog Cymrag i ni; ond yn lle acto prinsipl, a rhoi shawns i Gymro pur, beth nath yr hen gnâf, ond bwco gwraig y brenin i gastell Carnarfon i dwmlo ar rhyw lurginyn o Sais, a galw hwnw yn Brins o Wales. Dyna fi yn gweid i dries brwnt a yn i wynab a. Ma arno i ddicon o want ala at frenin Kumasi, a'r pwera bach trw'r byd i gyd, i ofyn iddi nhw joino a ni y Cymry, a chal Arabi Pasha o Ceylon i'n ledo ni gyta'n gilydd i rhoi;eitha twmlad i "Bwl" a'i gonffederets. Fe fu Khufan un dwarnod yn wthu a wafo fel fe, a gweid ta hi odd mishdres y byd; ond b'lo mae 'i 'nawr? A mor wirad a bod" John Bwl" yn mindo busnas pawb, a'i fys yn llycad pobun, fe gaiff e sgriwad rhw dro doriff i asgwrn cefan ynta, wath ma fa yn gwanhau'i unan wrth watshan y Teritories ma fa wedi dweid yn mhob part o'r byd. Ma'n well i fi atal e a'i fysnas 'nawr, waith fe gewn ddicon o gownt am i ddodjes a, ar ol iddo ddechra mwrdro'r Ashantees.RHYFAL Y COLIAR CLAWD. Odd hen sowdjwr yn gweid wtho i, pryd bysa nhw yn nghenol tan a mwg y rhyfal, nag o nhw ddim yn gwel'd, nag yn teinlo danjar. Rhwpath tebyg i nina yn y gwitha ma. Wrth bod ni'n byw yn nghenol yr angen a'r tlodi, yr anhapon a'r lladdfeydd, i ni fel san 'i yn d'od mor gyfarwydd yndi nhw, nag i ni ddim yn u gwel'd, na'u teimlo nhw, na gneid dim notis o nhw. Beth tysa dyn diarth clyfar, fel amball i War Correspondent, vn cal golwg lawn ar ddicwddiadau sy'n cymryd lle bob dydd yn ngwitha glo Deheudir Cymru? Dyna le bydda pictwr bron mor dorcalonus a batl Crimea. Gwel'd tad ifanc heb gal hanar dicon o frecwast falla, a chrwstyn sych yn i foes yn starto sha'r gwaith. Ma fa'n rhoi cysan i'r babi bach ifanca o dri ne bedwar, ne os bydda nhw wedi cwni fe roiff bobo gusan iddi nhw i gyd, ag off ag e, mor hapus a sy bosib o dan yr amgylchiada. Ar ol myn'd lawr i berfadd y ddaiar, a chyrhadd i dalcan du, y mae yn pwno arm am i fywyd bach, am rhw ddou ne dri swllt y dydd, i gal tamad i'r teulu a fe'i hunan. Dyw a ddim yn gwel'd danjar, nag yn teimlo ofan. Er fod y top yn sgyrnu, a'r gas yn wthu, a llawar o bethach erill yn i I fycwth a, dyw a yn fynych iawn ddim yn cal amsar i feddwl am deni. Ond Oh dyna garag o'r top yn cwympo fel melltan ar i ben a, ac yn i daro fa i dragwddoldeb ar unwaith. Ma'r wraig a'r plant yn ddifeddwl a llawan, a falla bydd hi drian yn fishi yn partoi swpar gora gall hi erbyn daw Tomos sha thre. Ond dyna gnoc wrth y drws; ac ar ol ei acor, ma un o'i bartnars yn i ddillad gwaith, a'i wynab yn ddu, yn sefyll yno-yn ffaelu gwbod ffordd i ddechra gweid i negas; ond cyn iddo weid dim, ma Mari'n gwpod bod rhwpath y matar, ac yn dechra llefan. Ma fynta wetin yn trio stopid i gofid hi — yn gweid fod Tomos wedi cal ticyn o anhap, a chyta hyny ma corff y gwr a'r tad ifanc yn cal i gario i'r ty, a'r hanas gwirioneddol yn gweid i hunan. Pwy iws i fi drio darlunio'r amgylchiad-ma isha Raphael i dynu pictwr o hono, a ma pethach fel hyn yn dicwdd bob dydd ond i ni wedi arfadd cymant o nhw Eel nag o's fawr o gownt am denynt, ond u claddu nhw o'r ifordd. Ma'n wir fod ticyn bach o notis yn cal i neid pryd bydd ecsploshan ne rhwpath felni yn cnoco cwpwl o ganodd i'r byd arall ar unwaith. Y pwnc mawr yw, oti dynon sy'n agorad i'r amgylchiada yma yn cal u talu a'u cydnabod fel dyla nhw? Oti'r byd tufas i'r gwitha yn gwpod dicon am deni nhw? Oti ledars y gwithwrs yn dangos y petha hyn yn ddicon pointed wrth ddadlu reits y gwithwrs? Fe adawa i y cwestshwna yna i'r sawl fo'n dewish idd u atab. Ma canodd o hen liprynod yn yn gwlad ni yn enill ffortiwns, ne'n u cal nhw ar gefna gwithwrs clawd, mewn swyddi segur, dan lywodraeth yn gwlad ni; ac ar ol bod yndi nhw am dicyn o amsar, yn reteiro i gS.1 penshwns biwtiffwl, fel odd "Wmffra Huws" yn gweid yr wthnos ddwetha; ond ar ol i'r coliar clawd, a phob un arall bothtu'r gwitha slafo am u 6s mwn diffyg air, a dw'r. a danjar, a mwn 'wys, a thraffarth, a chlodi, beth yw u penshwns nhw? Creitha glas, coesa co'd. a'r bedd. A welaist ti'r glowr yn disgyn i'r dyfnder, Mewn cawell o haiarn, wrth linyn o ddur? A duwch ei wyneb yn cuddio ei wyneb, A niwl amgylchiadau yn cuddio ei gur? A welaist ti ef cyn yr hwyr yn dychwelyd' A'i esgyrn yn ddrylliau, a'i waed hyd y lle? Neu'n gorff ar ysgwyddau ei gydweithwyr diwyd, Fel pruddaidd gynhebrwng, yn. myn'd tua thre. I Os naddo, foneddwr ucheldrwyn. sythgefn, I Rho dso i ben globwll rhyw ddydd ar dy daith, Cei yno olygfa na cheisi drachefn — Grolygfa uwch ardeb un pwyntel nac iaith; A gwn y dywedi, os oes genyt galon- Os oes ynot deimlad — os gwyddost beth yw, Fod glowr yn treulio ei oes mewn peryglon, — Fod glowr yn deilwng o gyflog i fyw.

 

 

 


 

05-12-1895 Ο

 

LLYTHYRA' NEWYDD. GAN FACHAN IFANC. MISHDIR Y DAMAN, — Gwetwch wth y bachan d 1 y wasg fu'n printo 'n llythyr dwetha i y caiff a deimlo gwaith y crydd yn bert iawn yn ei bart ol, pryd dwa i am i draws a. am y blyndars ewilyddus nath a i mhethach i trw'r llythyr i gyd, ond yn benaf oil yn y ddou benill odd yn cwpla'rpishin. Beth nath iddo fa fod mor dwp a doti A duwch ei wyneb yn cuddio ei wgncb" yn lle: — 44 A duwch ei wyneb yn cuddio ei bryder." Fe nath lawar mistec heb hwna, gallwch chi'u pwynto nhw iddo, yn lle bo fi yn ala amsar gyda chwd bilipala a fe. Ch»bitho bydd yna yn ddieon o lesn iddo nawr i bido wara 11awar sha bachan fel fi. D-I y Waeg, un dwl yw 'e. — difanera, Difenydd ar brydie Diweled, a diole', A dilun — mae 'i gyd o'i Ie.

YR lAITH GVKRAG BRON MARW Mawr yw clepar y Fforiners a'r Die Shon Dafyddion ddar cof gen i fod yr hen Gymr&g yn mynd i farw. Ma nhw wedi tno 'i lladd hi yn mhob short o ffordd, isho na byaa 'i wedi marw slawar dydd; ond para 'i gico mae hi o hyd, er gwitha'u damedd, a'u trâd, a'u tafota nhw. Odd yr hen dacla penwag yn cretu hold ffastbysa'r Relwe's a r Trains yn shwar etrCc idd i chwpla hi, cyn y ngeni i. Ma llawar o'r prophwydi gau fu yn parotoi pregetha augladdol iddi wedi mynd trw dynal anga ys llawar dydd, ond ma'r hen iaith yn fyw, er u gwitha nhw a'r RSlwes; ond ma rhai o'u tylwth nhw ar ol yto yn catw mian i widdi, 44 The Welsh is dying fast." Wn i ddim pwy sein ma nhw yn weld o hyny yn y bvd mawr, os nag i nhw yn meddwl trw fod y Trains wedi ffeili'i ffwsho hi mas o fodolath, fod y Bairns, y Beimels, a'r Electric Cars yn mynd i roi'r thyndyrin cic out iddL Duw 'ch helpo chi'r mwnewns," ys gwetws yr hen Shincyn Penhydd, ar rhw dro wth glywad sgadenyn o ddyn yn brago beth odd e wedi bod yn neid yn Llyndan. Ma jerms bywyd tragwyddol yn yr hen iaith, ac os yw y Dies a'r Fforiners yn i ecwto 'i o un lle, ma hi yn gwpod am le arall i bitaho'i thent. Pw bryd ariod o'r blan y bu hi yn cAl i wilia a'i chanu, ei darllan a'i phregethu, mwn cymant o wahanol barta o'r ddeiar a ma hi nawr? Ma Cymrodorion heddy dros bedwar ban y byd yn owrdd a'u gilydd i ganu: — 4 Mae hen iaith y Cymry Mor fyw ac eriod. Pw bryd y bu cymant o lyfra a phapyra yn cal 'u printo a sy nawr? Oni bai fod mwy o ddarllan nag ariod, fysa dim isha fwy o lyfra nac ariod. Y prif bethach odd yn cSl a darllan gyda gwithwrs oe llai na chan mlynadd nol odd baleti, o steil caneuon 44 Die Dwyll," a os dim dowt gea i na nath rheiny, er mor gyffretin o nhw, shew o les i gatw y Gymrfig yn fyw, trw nag odd dim llawar o fanteishon erill idd i dyagu hi. Odd rhai llyfra da yn efil i priato yn yr amsar hyny, ond odd isha let o docins idd u prynu nhw. Erbyn haddy ma papyra, coeddiata, a llyfra Cymrftg yn cfil u printo bob dydd am brish gall gwithwre ffwrde'u prynu nhw, a ma yndi nhw gyetal atwff a gallwch chi gftl mwn un farchnad lenyddol; a dyna be sy'n grand, ma nhw yn parha i wella o hyd. Ma'n dda gen yn nghalon i wel'd fod gyta ni fechgyn yn speciwlato i dd'od a gwitha hen garitors talentog "Cymru Fu," icia dydd. a ma hyny yn gystal prawf a dim ta nid iaith sy'n mynd i farw yn Kynar lawn yw yr hen Gymr&g, a ma fa n brawf hefyd fod gen ddarllenwrB yr 1% hyn barch i dalenta yn hen dada anwl ni. Ma stroc biwtifwl yn cfi.1 i gneid nawr gen Mri. Isaac Jones, Treherbert; a O. M. Edwards, i; brinto

GWITHA ISLWYN. Ma gwyneb serchog y jem barddonol Is lwyn wedi cal i guddio ys llawar o flynydda, ond dyw a ddim wedi cal i anghofio gen neb odd yn i napod a, ac ni anghofia neb ystyriol gynyrchion ei enaid ysbrydoledig ar ol u darllan nhw. Fe geso i y fraint o'i napod a fel cyfall pryd o'n i'n grotyn bach, a w i yn cofio net nawr shwd o'n i'n teimlo naunan yn cwni trw gal yr anrhydedd o ishta ar i bwys a, a wilia sha fa. 0 ni'n meddwl am dano yn uwch nag un Prins aglvwas i eon am dano ariod, a Prins odd a befyd-Princ6 of love and poetry. Dw i ddim yn cretu bydd isha cymhall plant awengar Oymru i dderbyn y perla hyn, wath ma'r wlad i gyd yn estyn llaw gyta'n gilydd am deni nhw. Tyrar ddou gyfaill caredig sy yn starto gyta'r gwaith nawr ddim yn gneid hyny, fe fysa rhywun yn bownd o'i neid a, wath ma gormod o fywyd anfarwol yn mhethach Islwyn i orwadd yn farw mwn hen gybyrdda. Os dim dowt gen i hefyd nag yw'r wlad mwn gwell trim idd'u derbyn nhw nawr na pryd odd e yn fyw, wath odd e getyn o flfa i os yn mhopath add a'n neid, ond odd dicon yn u ddiall yr amsar hyny fod a ar ben i hunan fel bardd. Beth w i yn pwynto ato yw, mwya gola bydd y byd Cymrag, uwcha gyd aiff enw Islwyn. Bydd yn tyfu yn ei fedd cyd a bydd i waith a'n c&l i ddarllan, a fe fydd hyny tra pariff yr iaith •4 Ymerawdwr beirdd Cymru ydoedd."

 

 

LLYFRAU MOSBS. Y mae dadl ddyddorol yn myned yn mlaen yn rhai o'r papyrau gyda golwg ar safle llyfeau Moses fel llenyddiaeth henafol. Myn Habbia Isaao M. Wise, golygydd yr Amerian Israelite, a llywydd un o golegau yr luddevon, mai llyfrau Moses yw y lenyddiaeth hynaf mewn bod, tra y myn eraill fed llyfrau llawer henach na llyfrau Moses, omd heb daflu un amheuaeth ar ysbrydoliaeth y llyfrau cysegredig. Gan y rfiai sydd yn dadleu dros lenyddiaeth henach na Mosee, gwneir defnydd helaeth o araeth y Parch. Archibald H. Sayce, yn y Gynadledd Eglwysig a gynaliwyd yn ddiweddar yn Norwich, Lloegr. Dywedai Proff. Bayce, yn yr araeth hono, fod oes Mioses yn y Dwyrain yn un lenyddol iawn, mar lenyddol ag oes yr adfywiad yn y bymthegfed ganrif yn Ewrop, ao y buasai yn rhyfedd iawn i'r Israeliaid, yn Nghauaan non yn yr Aitft, beidio teimlo oddiwrth ddylanwadau llenyddol yr oes. Yn y ganrif o flaen y waredigaeth o'r Aifft, cerid gohebiaethau beunyddiol yn mlaen rhwagglanau y Nile a glanau yr Euphrates, so wrth ohebudefnyddid iaith Babilon, a phrofir fod athrofeydd, a llyfrfaydd ac ysgolioayn holl brif-ddinasoedd y Dwyrain. Pan anwyd Abryham hn Ur y Caldeaid, yr oedd un o feirdd y wlad hono yn cyfansoddi arwrgerdd o ddeuddeg llyfr, ar ddiwedd cyfnod maith o farddoniaeth arwrol.

05-12-1895

 

 

 

 


12-12-1895
Ο

 

 

 

 
19-12-1895
Ο

LLYTHYRA' NEWYDD. GAN FACHAN IFANC. MISHDIR Y DARIAN, — W i yn gwpod bod llycad owic gyta chi, ond dw i ddim yn ) gwpod os i chi yn ddicon cwic i weld ysbryd ne bido. Ma'r papyra Sysnag yn gweid yn biwr nawr shwd dacla ofargoalus i ni Gymry achos fod rhwun yn gweid fod a wedi clywad rhw swn od YN MHWLL Y MORFA. Os dim dowt na chlyws y bachan rhwpath, a os dim llawar o rhyfadd fod a wedi cal cetyn o ofan trw fod rhwpath tepyg wedi dicwdd cyn y tanad o'r bian, pryd hyrddiwyd canodd o withwrs clawd i dragwyddoldeb ar unwaith. Pwy rhyfadd fod y ticyn llia yn ala of an ar y rhai sy yno nawr? Y peth sy'n rhyfadd, allwn i feddwl, fod dynon idd 'u cael yn ddicon gwrol a dewr i fynd lawr ar ol shwd lanastra. Dw i ddim yn gweid fod un dal yn y byd ar rhw swn felna o dan y ddaiar, achos ma dynon clyfar yn gallu profi nag i'n nhw ddim ond petha ellir ddashgwl mwn lle o'r short, ond dw i ddim yn folon fod rhai yn towli bod ni fel Cymry yn fwy siwparstishas na dynon erill. Os bydd dychryn wedi citsho yn y dyn cryfa, ma fa yn rhoi ffordd t gretu llawar o bethach na sy'n bod, a lled depig ta rhw ofan gitshws yn y bachan glyws y swn yn mhwll y Morfa. Man ddicon hawdd i rhyw wrligwgans cwilsyddol weid am yn siwparstishon ni, ond tysa. nhw yn gorffod mynd trw'r proses am spel, fe fydda yn hawddach wilia sha nhw. Ma dicon o brofion wedi dicwdd yn yn glofeydd ni ma nid rhw gowards sy'n tori glo, ond bechgyn sy'n folon gwynepu anga'i hunan mwn llawar amgylchiad, ac yn barod i neid hyny yto os bydd taro. W i yn gweld gormod o duadd yn y Wasg Sysnag i bwynto at rhw wendid sy'n perthyn i ni, a gneid mwy na mwy o hono. Wrth gwrs, di ni ddim heb yn gwendida mwyna nhwnta a phawb erill, a falla ta ni yn wilo mas yn llwyr nag i ni ddim mor bell ar ol a nhw. W i yn cretu fod pobyn teimladwy yn cydymdeimlo a bechgyn y Morfa yn yr amgylchiad, yn enwetig trw fod shwd dro arswydus wedi dicwdd yno ere ychydig bach o flynydda nol, a gobeitho pasiff y trwpwl hyn yn gysurus rhwng y mishdri a nhw, a na ddigwyddiff dim niwad i neb.

 

News Cite Share

JUSTI8 VAUGHAN WILLIAMS. Ma pawb yn lwo ta bachan clyfar, a Judje teg yw y Cymro gwladgax Vaughan Williams. Fe ddangosws os ciiyc:^ol nag odd dim pilo wia o bothti a, tnr e pi yn lled sharp rhw hen dacla swir, (I i,,dd yn robo'r wlad mwn ffordd jent x! t rhai yn cisho gweid pryd hyny fo<. : y galad ar yr nper ten, ond fe gas fv > nag odd yn i erbvn a, a fe brofwi m ta fe odd yn reit. Yr wthnos ddwetha fe fu j f:_1.' 1iQ i Gymreigyddion Liferpwl, a i, ves v yn biwr digynyg am yr hen geae«1l v;y v.eig, yn enwetig gwithwrs Cymru. '.1 yn profi bod nhw gyta'u gilyde ,;¡.<1),. neu ddou o fian pob gwithwrs erill yn y deyrnas mwn sens a respectableiddiwch, a ma rhai wedi dicio wrtho am hyny yto. Fe allwn i feddwl bod gyta fe shawns lled ddai wpod, trw fod ayn mynd trw Loegar a Chymru yn regfwlar fel Judje yn y Seisis, a fe wetws fod llai o withwrs yn gwlad ni na un gwithwrs erill yn dod o'i flan e a'r Judjes erill. Ma'r menyg gwynon sy'n cal 'u rhoi i'r Judjes o hyd yn Nghymru yn profi beth odd e yn weid yn Liferpwl yn eitha gwir, a pwy isha i neb ddicio ein bod ni yn blant da. Beth ddyla nhw neid yw stico i fod run peth a ni, a bod yn ots i ni man lle i ni yn colli os galla nhw'i ffindo fa. Nawr dw i ddim yn moin gneid mas nag os dicon o le i wella gyta ni mwn llawar o bethach, ond dw i ddim yn folon bod nhw yn pwynto wastod at yn blyndars ni, a ddim yn folon clywad am yn good conduct stripes ni. Os cowntwn ni wetin yr anfanteishon ma Cymru wedi mynd trwyddi nhw cyn fod ediweashon wedi cyrhadd y standard y mae y nawr, ma fa yn syndod fod ya cenedl ni wedi cyrhadd y mare sy gyta ni nawr, ac ar ol i injin addysg gal i chwpla, ble bydawn ni wetin 1 Fe fydd rhaid i'r Gwyddel, a'r Scotyn, a'r Sais ffindo number one, er 'u bod wedi cal cetyn o start arno ni yn mhob short o ffordd.

STEDDFOD GENEDLAETHOL CASNEWYDD. X Ma bechgyn Shir Fynwa yn pitsho miwn yn iawn bothti'r Steddfod, a ma'r gwaith yn myn'd mlan yn biwr. Ma tes tyna'r beirdds wedi dod mas yn barod, a ma rhai o ahw yn dda iawn, ac yn dangos bod gwftd Cymrag yn ngwythiena boys Gwent. Dyma ddicon o amsar i'r beirdds neid gwaith da, os posib, o hyn i haf 1897. Os nag yw yna yn ddicon o amsar i neid englyn da i'r Cwch Gwenyn," ma'n well iddi nhw dowli'r grefft o'u dwylo. Os dim yn well na dechra mwn pryd, a ma pwyllgor y Cafisewydd yn dangos bod nhw yn meddwl gneid gwaith, a phrofi ta Shir Gymrag yw Shir Fynwa wedi'r cwbwl. Os nag w i ya camsynad, Cardi yw y Maer yno y flwyddyn hon, a fe ddylan drio cal Cymro rone yno y flwyddyn nesaf yto. I ni yn dishgwl gnaiff y Steddfod bwsho'r iaitih yn fwy i sylw yno, yn lle bod nhw yn pwsho Sysnag i'r Steddfod, a ta'r atnod ddotan nhw uwchben drws y Pafilion fydd, Cymru am byth."

19-12-1895

 

 

 

None

(delwedd L1045a) (26 Rhagfyr 1895)

Tarian y Gweithiwr. 26 Rhagfyr 1895.

 

LLYTHYRA' NEWYDD.

GAN FACHAN IFANC.

 

 

NADOLIG WRTH Y DRWS.
Nace sha chi’ch hunan w i yn wilia y tro hyn, wetin otw i ddim yn doti “Mishdir y Darian,” fel arfadd, wrth ddechra’r llythyr. W i yn moin i chi ala Xmas Card orwtho i i ddarllenwrs y Darian i gyd, a’r englyn hyn arni :-
 

 .........Hael loniant yn galenig, - a lluniaeth
.....................I’r darllenwrs diddig;
...............Dawn a chân, pwdin a chig,
...............I wneud hwyl ddydd NADOLIG.


Pryd o’n i’n grotyn bach, w i yn cofio un bachan, odd yn cal i gownto dicyn yn dwp yn i ffordd, yn wilia am yr enjoymant odd a’n meddwl gal yn ’Dolig, a odd hen wag yn dicwdd i glywad a, ac yn gwpod shwd un hurt odd a, fe feddylws am blan i brofoco’r bachan, a fe ofynws i’r cwmpni oedd yn dicwdd bod yno, os o nhw wedi clywad bod gwyr mawr Llyndan wedi towli dydd Nadolig yn mlan am wech wthnos achos bod y tywydd mor wlyb? “Jawch, bosib,” medda Dai, druan. “Ma fa’n eitha gwir,” medda’r hen wag, “ fe ddarllenas a yn y papyr.” “Dyma hi yto,” meddai Dai, “os bydd rhwpath o ochor y gwithwrs i gal ticyn o enjoymant, ma nhw’r hen snobs yn y Parlament, a phobman, yn treio doti stop arno ni, a dyma nhw nawr yn mynd i dowli’r jolifficashon gora’n y flwyddyn idd u shiwto nhw, yr hen hymbygs! “

Wel, dw i ddim wedi clwad fod Balfour na Salsbri yn mynd i dowli y Nadolig leni, ta beth, er cynddrwg i nhw, wetin fe allwch ddishgwl iddo gymryd lle gyta bod chi yn cal y Darian yr wythnos hyn, a trw bod ni fel Cymry yn lico canu cystal, tyma fi yn dod at ych drysa chi, anwl ddarllenwrs i gyd i ganu pishin bach o waith y munan.


.........................COMPLIMENTS Y TYMHOR.
.........................Dyma’n ’Dolig wedi dod,
..............................A’r cyfnod wedi gwawrio,
.........................I ni ganu pwt o gan,
..............................O anian i’n dihuno;
.........................Trowch y tant, fe ganaf i
..............................Nes byddwch chi yn dawnso.

.........................’Rwyn cam gweled geneth fwyn
..............................O dan y “Llwyn Cusanu,”
.........................A bachan smart fel fi’n y fan
..............................Yn twcid cusan ’ddarni;
.........................A hitha’n esgus bod yn swrth,
..............................Yn gweid “For shame” wrth Shoni.

.........................Ma Shoni pan yn nghwmni Nel,
..............................Yn tori swel digynig,
.........................Mae’n swagro gyta’i wedjan dwt,
..............................’Run shwt a gwrboneddig;
.........................Mewn gwir fwynhad ma fe a hi
..............................Yn dwli ddydd Nadolig.

.........................
Ma ambell un o feddwl smwt
..............................Am reido wrth gwt yr injin;
.........................Un arall sydd yn horn jig
..............................Nadolig gyda’r delyn;
.........................Ond gwell gen i gal geneth lan
.............................A chanu can ac englyn.

.........................Yn fishi iawn bu’r gwracedd glan
..............................Yn gneid y “dishan wila,”
.........................A herwi pwdins o bob rhyw
..............................I foddio duw y bola;
.........................Ma nhw a’r plant a’u gwyr yn cwrdd,
..............................Nawr wrth y bwrdd i wledda.

.........................Ar deulu’r plyf bu mwrdro blin,
..............................I bleso dyn trachwantus;
.........................A gloddest fawr Nadolig wneir
..............................Ar gyrff yr ieir a’r Twrcis,
.........................Ac ar y gwyddau rhif y ser,
..............................Mae’n amser torcalonus.

.........................Wrth neid post mortem ar yr wydd,
..............................Neu ar y clacwydd, druan,
.........................Bydd miloedd wrth eu gwir fwynhau,
..............................Yn llio’u gweflau llydan;
.........................Wrth stwffo’i fol bydd llawar un
..............................Yn mynd ’run llun a ffetan.

 

 

None

(delwedd L1045b) (26 Rhagfyr 1895)

 

.........................Rhw sport a gwledd wna’r Sais yn sgwar,
..............................Ond ’Steddfod gar y Cymro;
.........................Ni charwn i i neb gal cam,
..............................’Rwyf am i bawb enjoyo;
.........................Llwydd i bob un b’le bynag trig,
..............................Nadolig pan y delo.

.........................Yn awr wrth gwpla hyn o gan,
..............................I gadw’ch capa’n gwmws,
..........................Dymuno’r wyf i bawb lwc dda,
..............................I ala gwila ffamws;
.........................Nadolig llawan i chi gyd,
..............................Tufewn i’r byd a’r Betws.


..........................................MARI LWYD


Na fel odd yr hen ddynon odd yn arfadd a hi yn i galw, “Fari Lwyd.” Odd i yn arfadd bod mewn bri mawr yn amsar Nadolig slawar dydd, ond os fawr o son am deni nawr. Otw i ddim moin dangos y munan yn rhw scolar clyfar, ond fe glywas hen ewyrth i fi yn gweid am deni (a odd a yn glyfar, os dim dowt gen i), ta orwth enw'r Forwyn Fair, ne Mair Dda, odd yr enw wedi tarddu, a bod y beirdds slawar dydd yn iwso y gair “lwyd” am dda, fel “Dwn Lwyd,” &c. Ta beth am hyny, odd y Fari Lwyd odd yn arfadd dod bothti amsar y Gwila ddim yn depyg i fenyw, wath fe gwelas i ddi rai troion. Pishin o bren wedi cal i naddu run shap a pen ceffyl ne gaseg, os os rhw waniath yndi nhw, o bob lliw, a'i geg a wedi cal i neid mwn ffordd gallsa'r bachan odd yn i witho fa, i shiglo lan a lawr o gordyn fel sa fa'n fyw. Odd y bachan yn perfformio miwn o'r golwg dan sheet wen fawr yn i gwato fa'i gyd, a bachan arall yn i ledo fa wrth ffrwyn a rhipan coch ne las, fel ledo ceffyl.
Odd cwmpni yn myn’d â’r “Feri” rownd trw’r dre ne’r pentra, a chyn bysa nhw yn acto odd un part o’r cwmpni yn myn’d mewn i’r ty, a chauad y drws yn erbyn part arall. Wetin, fysa y rhai odd mas yn dechra “pwnc” trw dwll y clo, a’r rhai odd miwn yn “pwnco” yn u herbyn nhw. Odd amball un yn lled ddoniol wrth y gwaith, a os bysa rhwun clyfar tu fiwn, odd a’n catw y “Fari” mas nes odd y boys jest a sythu. Rhwpath fel hyn odd y pwnco,”-


.....Tufas,-
.............................“Agorwch y drysa,
..............................Gadewch i ni wara,
..............................Mae’n ôr yn yr eira
....................................Y Gwila.”


.....Tufewn,-
.............................“Cer odd na’r hen fwnci,
..............................Ma d’anadl di’n drewi,
..............................A phaid a baldorddi,
....................................Y Gwila.”


.....Tufas,-
............................“Ma’r gasag o’r perta,
..............................Gadewch i ni wara,
.............................Mae ’phen yn llawn cnota
....................................Y Gwila.”


Tufewn,-
.............................“Yn lle bo chi’n sythu,
..............................Wel, ledwch y “Feri”,
..............................I fiwn i’m difyru’r
....................................Nos heno.”


Wetin fe fysan yn martsho miwn dan ganu rhw hen lol fel hyn, -
............................ “Ti dy lodl lidl,
..............................Tym tidl odl idl,
..............................Tym, tym, tym.”


Os bydda merch ifanc yno rhwla, odd y “Feri” yn starto mwn wincad, a’i phen yn acor, a’r ferch yn screchan, fel gall merched screchan, yn uwch na hwtar Dowlash. Ar ol perfformio felni am spel, o nhw yn doti cap ne het yn ngheg y “Feri” i fyn’d rownd i gasglu at yr achos, ac o nhw yn llwyddo i neid coin piwr cyn cwpla’r “Gwila”.


 Dyna fi wedi rhoi cownt lled acos i chi shwd odd y “Feri Lwyd” yn cario mlan; ond ma addysg a goleuni wedi’i hala hi mas o’r wlad erbyn hyn, ac anaml y ma son am deni, a dyw hyny ddim colled yn y byd am wn i. I ni yn lico cofio am hen bethach er hyny, a dyna rheswm mod i wedi gweid cymant am yr hen arferiad hyn, a w i yn cretu bydd llawar o hen ddarllenwrs y Darian yn mynd nol o ran u meddwl at yr hen amser gynt wrth gofio am rw Nadolig y gnetho nhw, fel gnaiff llawar y Nadolig hyn, sef mynd i “glwb y rhacs.” A fe wetan yr atnod hyn ar yn ol i:-


.............................“Dyw amsar ddim yn aros,
..............................Ond wrth ei waith o hyd.”


 

 

 


Sumbolau:

a A / æ Æ / e E / ɛ Ɛ / i I / o O / u U / w W / y Y /
MACRON
ː ā Ā / ǣ Ǣ / ē Ē / ɛ̄ Ɛ̄ / ī Ī / ō Ō / ū Ū / w̄ W̄ / ȳ Ȳ /
MACRON + ACEN DDYRCHAFEDIG
ː Ā̀ ā̀ , , Ī́ ī́ , , Ū́ ū́, (w), Ȳ́ ȳ́
MACRON + ACEN DDISGYNEDIG
ː Ǟ ǟ , , Ī̀ ī̀, , Ū̀ ū̀, (w), Ȳ̀ ȳ̀
MACRON ISOD
ː A̱ a̱ , E̱ e̱ , I̱ i̱ , O̱ o̱, U̱ u̱, (w), Y̱ y̱
BREF
ː ă Ă / ĕ Ĕ / ĭ Ĭ / ŏ Ŏ / ŭ Ŭ / B5236ː  B5237ː B5237_ash-a-bref
BREF GWRTHDRO ISOD
ː i̯, u̯
CROMFACHAU
ː ⟨ ⟩ deiamwnt
A’I PHEN I LAWR
ː , ә, ɐ (u+0250) httpsː //text-symbols.com/upside-down/
Y WENHWYSWEG: ɛ̄ 
ǣ æ

ˈ ɑ ɑˑ aˑ aː / æ æː / e eˑeː / ɛ ɛː / ɪ iˑ iː ɪ / ɔ oˑ oː / ʊ uˑ uː ʊ / ə / ʌ /
 ẅ Ẅ / ẃ Ẃ / ẁ Ẁ / ŵ Ŵ /
 ŷ Ŷ / ỳ Ỳ / y Ý /
ɥ
ˈ ð ɬ ŋ ʃ ʧ θ ʒ ʤ / aɪ ɔɪ əɪ uɪ ɪʊ aʊ ɛʊ ɔʊ əʊ / £
ә
ʌ ẃ ă ĕ ĭ ŏ ŭ ẅ ẃ ẁ Ẁ ŵ ŷ ỳ Ỳ Hungarumlautː A̋ a̋

U+1EA0 Ạ U+1EA1 ạ
U+1EB8 Ẹ U+1EB9 ẹ
U+1ECA Ị U+1ECB ị
U+1ECC Ọ U+1ECD ọ
U+1EE4 Ụ U+1EE5 ụ
U+1E88 
U+1E89 
U+1EF4 Ỵ U+1EF5 ỵ
g
w_gytseiniol_050908yn 0399j_i_gytseiniol_050908aaith δ δ £ gw_gytseiniol_050908yn 0399j_i_gytseiniol_050908aaith δ δ £ U+2020 †
« »

 DAGGER
wikipedia, scriptsource. org
https
ː []//en.wiktionary.org/wiki/ǣ

 Hwngarwmlawtː A̋ a̋
g
w_gytseiniol_050908yn 0399j_i_gytseiniol_050908aaith δ δ
 …..
…..
ʌ ag acen ddyrchafedig / ʌ with acute accentː ʌ́

Ə́ ə́

Shwa ag acen ddyrchafedig / Schwa with acute

…..
…..
wikipedia,
scriptsource.[]org
https
ː//[ ]en.wiktionary.org/wiki/ǣ

---------------------------------------
Y TUDALEN HWN: www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_153_llythyra-newydd_1895_tarian-y-gweithiwr_3820k.htm
---------------------------------------
Creuwyd: 23-05-2024
Adolygiad diweddaraf: 23-05-2024
Delweddau:

Ffynhonell: archive.org
---------------------------------------

Freefind.
---
Archwiliwch y wefan hon
Cerqueu aquest web
SEARCH THIS WEBSITE
---
Adeiladwaith y wefan
Estructura del web

SITE STRUCTURE
---
Beth sydd yn newydd?
Que hi ha de nou?
WHAT’S NEW?


Ble'r wyf i? Yr ych chi'n ymweld ag un o dudalennau'r Wefan CYMRU-CATALONIA
On sóc? 
Esteu visitant una pagina de la Web CYMRU-CATALONIA (= Gal·les-Catalunya)
Where am I? 
You are visiting a page from the CYMRU-CATALONIA (= Wales-Catalonia) Website
Weə-r äm ai? Yuu äa-r viziting ə peij fröm dhə CYMRU-CATALONIA (= Weilz-Katəlóuniə) Websait

StatCounter - Free Web Tracker and Counterhit counter script

Edrychwch ar fy Ystadegau / Mireu les estadístiques / View My Stats