0924k Gwefan Cymru-Catalonia. Llythyra Newydd gan Fachan Ifanc. (Tarian y Gweithiwr 1895, 1896, 1897). Llith V. Gwareiddiad y Rhondda. " Dalwch y nghot i i fi gal rhoi cwpwl o smacs ir bachan yna syn galwi hunan yn Gymro, fun sgriblo pwt o lythyr yn y Darian ddwetha ar - WAREIDDIAD Y RHONDDA"

http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_032_bachan_ifanc_1_0924k.htm

Yr Hafan

..........1863k Y Fynedfa yn Gymraeg

....................0009k Y Barthlen

..............................0960k Cywaith Sin Prys (Testunau yn Gymraeg) - Mynegai

........................................y tudalen hwn


..






Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Gal
les i Catalunya

Cywaith Sin Prys (Casgliad o Destunau yn Gymraeg)
El projecte Sin Prys (Collecci de textos en galls)

LLYTHYRA NEWYDD
Awdur: BACHAN IFANC
(O Darian y Gweithiwr 1895, 1896, 1897)


(delw 6514)







..a/ ARDDULL: Cymysgfa ryfedd o Gymraeg llenyddol a thafodiaith y de-ddwyrain.
..b/ Yr ym ni wedi cadwr orgraff wreiddiol
..c/ NODYN: Nid oes teitl ir rhan fwyaf or llithiau yn y fersiwn wreiddiol ir rhai dideitl, yr ym ni wedi bathio teitl ai ddodi wrth rif y llith
..d/ I fynd at bob llith, defnyddiwch yr archwiliwr gan deipio ynddo x03, x12, x25, ayyb


CYNNWYS

(x01) LLITH I Bachan Ifanc yn Broffwyd - Steddfod Genedlaethol 1900 yn Mhwll-yr-Afu

(x02) LLITH II Pishis Canu Steddfod Genedlaethol Cardydd 1897

(x03) LLITH III Marw Tom Elis

(x04) LLITH IV Llythyra orwth One of the Winners, Pontypool a Jenny Jones, Y Stics, Llanstephan

(x05) LLITH V
Gwareiddiad y Rhondda

(x06) LLITH VI. Hen Sowdjwrs Shir Benfro.

(x07) LLITH VII. Marwnad ar ol Billy Got y 41st Rigmant, Penshwn i Hen ddynon, Penshwn i Hen Fenwod

(x08) LLITH VIII. Diall pethach.

(x09) LLITH IX. Hen Wlad Fy Nhadau / Hen Sgwibs Lletwith / Relwe newydd i Berdar

(x10) LLITH X. Gweid y Mhrofiad.
Caru ar y Beic. Os y Beto.

(x11) LLITH XI. Llythyr orwth Dim Ots Pwy; Hen Betheuach Tribannau

(x12) LLITH XII Y Wasg Sysnag; Rwpath ir Merched

(x13) LLITH XIII Cn i Lord Tredecar

(x14) LLITH XIV
Arath y Frenines.Y Bardd Newydd a Hen.

(x15) LLITH XV. Llythyr orwth y Labrwr Nos; Gwroniaid y Pwll Glo

(x16) LLITH XVI
Ashantee. Rhyfal y Coliar Clawd.

(x17) LLITH XVII Nadolig wrth y drws; Mari Lwyd

(x18) LLITH XVIII Ffwtbol merched.
Hen Bethach.

(x19) LLITH XIX
Y Beirdds. Y Mynwod Anwl.

(x20) LLITH XX. O Bothti Rhai sy wedi bod Bothti; General Rowlands a Parti Treorci.

(x21) LLITH XXI
Y Mynwod yn Ymwroli.

(x22) LLITH XXII
Beirniadaetha steddfotol


LLYTHYRA NEWYDD.
Gan FACHAN IFANC.


___________________________________________________
(x01) LLITH 1.
(Bachan Ifanc yn Broffwyd - Steddfod Genedlaethol 1900 yn Mhwll-yr-Afu)


MISHDIR Y DARIAN,
Ma pob haf yn dod a pher a fala, eirin duon a mwsharwms, blota cawl a Steddfod Genedlaethol, nes nag yw a ddim yn rhyfadd fod y gan O! na byddain haf o hyd, wedi dod mor boblogadd, wath ma bron pawb yn lico un or petha yna, ac yn ol pob cownt i ni wedi gal yr wythnos hon, ma lot dychrynllyd (?) yn licor Steddfod. Nawr, pidwch chi a chretti achos na cheso i ddini shar o honi, y mod i yn jelws wtho chi ach short sy wedi bod yno. Dim shwd beth. On i yn watshan y papyr bob bora, ac yn llion ngwefla ar ol darllan y reports fel taswn i wedi enill shar o nhw munan, a on i yn chwerthin ha! ha! wth weld y preisis yn cal u stopo ar y beirdds, achos na fydd gyta nhw ddim shawns i wafo yn ots na fi odd yn ffaelu bod yno. Dyma beth w i yn galw yn

GYDYMDEIMLAD,

-- teimlo i gyd yr un peth, a ma isha cal y byd ir mana cyn bydd a yn reit, a ma barnwrs Steddfod Cardydd wedi profi bod nhw yn diall athroniaeth y pwnc. Peth arall, o nhw yn diall athroniaeth mwy pwysig na hyny, sef bysa yr arian trwm odd yn cal u cynyg am breisis ir beirdds am u pishis yn alar garantors yn bancrypts, a er mwyn iddi nhw fod yn siwr bysa tocyns yn spar iddi talu nhw am jidjo y pishis, w i yn cownto u bod nhw wedi dangos point of busnes wrth stydio economy yn ochir y committee. Wath fe all y beirdds shiffto heb docins yn well na dim un class arall, wath ma nhw yn byw y rhan fwya ou hamsar yn myd yr ysbrydoedd, lle nag yw bara chaws ddim yn y ffashwn, a ma nhw yn gallu byw yn hen, hen, ar scili Ceridwen; ac yn ol y lein mar Steddfod yn cal i chario mlan nawr, dyw a ddim llawar o waniath pun a bydda nhw byw o gwbwl, wath ma pethach erill mwy modarn yn dod i lanwu lle nhw o hyd.

W i wedi gweid or blan y mod i yn stiwpid wth drio dilyn y beirdds, a ma consyltashwn wedi bod rhyngto i ar bachan syn labror nos pwy bwynt i gymryd nawr, trw u bod nhw wedi mynd ir down gred, a finau am gatw munan lan os galla i, ac ar ol stydio yn galed, i ni yn dou wedi gweld fod yn rhaid i fi gymryd pwynt newydd. I chi yn gwpod mod i yn fachan sy wedi troi yn mhob short o ffordd, nes ma hi wedi mynd yn anhawdd gwpod ble ma cal ffordd newydd, ond diolch in menydd mawr i, w i wedi ffindo platform yto, a w i yn folon i chi ddoti a mwn print mawr

BACHAN IFANC YN BROFFWYD.

Ar ol i fi ddoti hwna lawr, fe allswn i feddwl y mod i yn clwad eco yn gweid, dyna hen ffrwmpyn yto. Beth ma fe yn gwpod am be sy i fod? Wel, os gen i ddim i weid i ecspleinio munan yn well na rhoi program och blan chi fel gwelas i a munan, a gofalwch neid wara teg a fi.

EISTEDDFOD GENEDLAETHOL I900 YN MHWLL-YR-AFU.

Er mwyn bod yn mlaenllaw gydar mudiad cenedlaethol, a thori stroc tuhwnt i Gardydd, y man dda gyta ni hysbysu fod y pwyllgor yn gwitho yn galad i bwsho rhwpath newydd miwn ir hen sefydliad anwl, ac er mwyn enill serch y genedl, dyna ni yn cal y fraint o fod yn perthyn iddi. Fe gewch enghraifft or hyn fydd gyda ni i ddoti och blan chi pryd dawr amsar i ben.

RHESTR GWEITHREDIADAUR ORSEDD.

1.-Deuddeg Italian a phob o Hurdy Gurdy yn barod wth bob Maen. 2.-Yr Archdderwydd yn esgyn y Maen Llog, ac yn bloeddio yr englyn anfarwol canlynol O! arswyd dyma orsedd - yr y beirdd Ar ben eu canmlynedd, I wadu eu dinodedd A dwed eu swn nad oes hedd! (Clywch, clywch.)

3. - Yn y dyfroedd mawr a r tonau.

4.-Yr Archdderwydd yn codi fel o freuddwyd, ac fel pe ddim yn gwpod pun ner englyn ner emyn odd y gora.

5.-Doti ffugenwa ar y Beirdds, y Derwyddons, y Cantorions, a phob short o bethach odd yn dod miwn ir cysegr sancteiddiolaf. (Ma rhaid i fi weid gair y munan fan hyn. Ma isha cal rhyw fashinery newydd i neid ffugenwa, a fe fydd yn spec net i fachan iddi mowldo nhw, yn lle yr hen rhai stiwpid odd yn Cardydd. Enghraifft. - Dyn wedi dod yma am Dro. Hanesydd Tai Bach Brafan. Sgrifenydd o wlad Cathod heb Gynffona. Shorsyn Mab Dyn Diarth, &c. Pwy, yn mhen tri mish, fydd yn cofio enwau rheina? Ond rhaid mynd mlan ar program.)

6.- Penillion Telyn, hono heb ddod. Yr Hurdy Gurdys yn taro ton. Mwynhad annghyffredin.

7.-Y beirdd yn cael eu gwefreiddio gan y miwsic, ac yn gneid miwsic u hunen fel hyn

Beth yw telyn - beth yw tant ?
At anwyl blant Italia
Mar Britons wedi bod mwn niwl
Wrth ganu Rhiwl Britania,
Fel Hurdy Gurdys mas o ddet,
Ond bechgyn net sy yma.

(Clywch, clywch.)

8.-Yr Archdderwydd yn dechreu dod nol ir hen hwyl, ond yr awdurdoda yn ala i weid fod yn bryd startor Steddfod. Can yr Orsadd.

Y STEDDFOD.

1. - Can gan Dewi Hyfrydlais.

2.- Anerchiad gan y Llywydd yn gweid fod a wedi trafaelu nithiwr heb ddim ond winwnsin yn i bocad a o Morlax ir Steddfod, gan gymant y serch odd gento at y Cymry.

3.- O fryniau Caersalem ceir gweled, &c.

4.- Beirniadaeth y Traethawd goreu ar Bob llwyth, iaith, a chenedl, or amser y daeth bywyd i ddadblygiad yn nghyntaf mewn llysieuaeth, anifeiliaeth, a phob meidroliaeth ac aethau erill. Disgwylir ir awdwr ddosranu ei gyfansoddiad mewn symledd cydweddol a natur addysgol yr oes, fel na bydd ei ysgrif yn faich ir darllenydd.
Y Feirniadaeth, - Yr ydym fel beirniaid wedi darllen yr haner dwsin traethodau ar y testyn amserol hwn, ac yn gydwybodol nad oes un o honynt wedi mynd at wreiddyn y testyn, nac wedi amlygu ond ychydig o wybodaeth amdano. Atelir y wobr.

5.- Irish jig.

6. - Solo Tenor, Cymro Dewr - (ac yn gweld y fforinars yn mynd ar Wyl Genedlaethol oddarno, yr un shwt ar gaffers yn mynd a Gwyl Mabon ddar y coliars - dyna ddewr!)

7. - Yr Highland Fling yn ddyddorol dros ben.

8. - Englyn, Modryb Gwen. Dim teilyngdod.

9. - Y Prif Ddarn, Anthem newydd gan Morantho. Disgybleitho Davies-Jones. Wyth o gorau yn cystadlu - dau o Llydaw, dau o Werddon, dau or Alban, un o Ynys Manaw, ar nall o Gymru! Ynys Manaw yn fuddugol. Yn tori yn fwy distinct nar lleill - dim cymant o gynffon yn y swn. Cynta gwpla gorai gyd. Clapo mawr.

10. - Dyma ni yn awr yn dod at brif waith yr Eisteddfod. Fe fu - Awdl y Gadair - yn cael sylw yn y gon bei days, ar Bryddest hefyd fu yn hawlio sylw. Fe ddath y prif ddarn corawl i symud milodd idd u gryndo, ond good bye ir bloomin lot. Mar hen ganrif yn ei bedd, man rhaid cal newydd-deb, a fe fynwn a hefyd. Mae pwyllgor anturiaethus wedi penderfynu gneid y Steddfod Genedlaethol 1900 tu hwnt hyd yn nod i speciwlators Cardydd, a ma nhw yn hurio trwp o anturiaethwyr i ffindo hen wehelyth yn tada ni yn mhob rhan or byd; ond y darganfyddiad gora ma nhw wedi neid mwn cornal bach, yn mhart isha y lle pella sy yn Merica, fe ddethon o hyd ir PEDWAR dwetha o olafiaid Madog ab Owen Gwynedd yn cwato mewn perth, a ma nhw yma heddy i roi perfformans ar y platfform yn lle Awdl y Gatar. Ma nhw mor gyfarwdd yn y jobin, fel bydd a yn bleser i bawb gweld nhw yn mynd trwyddo, a fe fydd yn beth newydd yn yr Wyl Fawr Genedlaethol. Gyda cymant a yna o ragymadrodd, fe ddwa nhw mlan nawr i ddangos i ni, fel cenedl or un gwad a nhwnta, fel odd u tada yn gallu scalpo pena er boddlonrwydd cyffredinol ir gwyddfodolion ni a gredwn.

Y peth nesaf ar y program yw ir brodyr Madogaidd scalpo pena pedwar or beirdd gora sy yn gwishgo peisha yr Ysteddfod. Y Gwir yn erbyn y Byd. Diwedd Bydd myrdd o ryfeddodau.

___________________________________________________
(x02) LLITH II.
(Pishis Canu Steddfod Genedlaethol Cardydd 1897)

Wn i ddim pun a i chi mewn shap i stydio ne bido, ond man rhaid i chi a Mishdres y Darian rhyngoch chi ach gilydd yn helpu i mas or trwpwl w ynddo nawr gytar pishis canu syn dod mas ddar y Steddfod Genedlaethol. On i yn synu wrth weld mor ddiened a diawan odd yr englynions yno or Archdderwdd lawr ir Archidiot mwya barddonol, ond w di i fi weld specimen o beth odd gen yn brodyr anwyl sy yn byw yr ochor arall ir moroedd on i ddim yn synu dim. Ma nhw yn gweid wtho i tar farddoniaeth ora yw yr un mwya anhodd iddi diall, a tar bardd gorai gyd yw yr un fyddwch chi yn ffaelu i ddiall a o gwbl, a dyna yr achos y mod i mwn shwd gonffiwshon nawr. Fe ddath y pishin canlynol mas mwn papyr Sysnag sy yn cal i brinto yn Cardydd, a w i jest wedi mynd yn hurt wrth dreioi ddiall a, a w i yn moin i chi ar darllenwrs gal shar or jobin,

RHYFELGAN Y LLYDAWIAID,
Ton. - Ann hini gors.

Ni sy bob pryd, Lydawiaid, Lydawiaid, wyr Caled.

O ia! ir rhyfel rymus wyr,
Y chwi sy gartren onest-wyr.

Y Saeson ffoant ben yn mhen,
Pan gydlefarom, Tor ei ben,
Yn mhob priodas clywir ter,
Ac hyfryd sain y binion {= biniou} ber.

O Riez Izel! Bro decaf Ior,
Oi fewn mae coed, oth gylch y mr.

Och! Lydaw, os rhaid dadael di,
Mi wylaf chwerw ddagraun lli.

Frodyr, glynwch, wrth rhen bethau
Ffon hir, gwallt hir, hirion lodrau.

Ymgalonogwch, ddewrion mad,
Y chwi gaiff ferched goreur wiad,
Fy nhafod dynwn mas o mhen,
Cyn gwadur hen Lydawaeg wen.

Hawddamor it, Breiz Izel, fyg,
Hoff gartref derw preiff tal frig.

Er hyny, uwch holl bethau brau,
Carwn Iesu, Duw, ein tadau.
Brizenth ai Cant,

Os byddwch chi yn dewish, syr, fe allwch alar pishin yna i

Mr. T. WILLIAMS (Brynfab),
Nr. Pontypridd,

i gal gweld pun a caiff a ddod mas yn y cornal sy gyta fe ir beirdds yn y Darian, a falla gnaiff a remarcs arno, ne falla dotiff a fa yn y fasgad - dw i ddim yn gwpod, ond w i yn gwpod nag yw a ddim yn i ddiall a ta beth.

Nawr, fe ewn mlan at rhwpath i ni yn diall i gyd - sef gwaith hen Gymro. Dotwch chi ych twls printo mewn tiwn.

Carmen Britanicum, ad explanar,
Taliesini, Seculi sexti Poctarum.

PRINCIPIS.
Henffych well, Frederig, Ein goruchel wledig,
Ath gydwedd
Augusta,
O hen edryd
Gotha;
Cystlwm teg cyswynawl.
Rhwng cywreinieu breiniawl.
Debri di yr enwog,
Fechdeyrn gwych dyledog;
Dafydd ith dwysogaeth,
I Aberffraw helaeth,
Y freiniol breswylfa
Lle bu gynt dy gynna
Differ ynor giwdawd
Rhag pob math ar anffawd,
Bid dy gledd ath bennawr
Ath saphwy gyfurddawr,
I gadw braint cynhwynawl
Rhag tra gwerin gythrawl.
Ac o claddwyd awen
Wyryf ddoeth ddysywen,
Eto hi adgyfyd
Yn ysblenydd hyfryd;
O feddau Beirdd celfydd
Tardda ddawn awenydd,
Blodeua Brythoneg
Megys gwydd ehoeg,
Bu bau mawl y beirddion
Yt ben-ffelaig Brython.
Gorddyar yr eigion,
Erddiganau eon
Ar creigiau ddadseiniant
Dy ryglyddus foliant
Pet bid y tan fragad
Cenhedled
Augusta
Megys hen Elena
A gwrdd fraisg facwyon
I anturio ynghanon.
Boed eich daun ffynadwy,
Ac ar gynydd fwy fwy,
Mal Arthur gledd llachar
Ai fanon Gwenhwyfar.
W. Wyn ai Cant.

Ma anerchiad priodasol felna yn interestin ac yn dytshin iawn, ond am yr un cynta, gyta mod i yn meddwl ta pishin serch odd a, dyna fa yn troi at rhywpeth arall. Beth odd yn fwy neis i fachan ifanc na

Ymgalonogwch, ddewrion mad,
Y chwi gaiff ferched goreur wlad,

ond odd a yn dod mor sytan ar ol y leins ou blan nhw

Frodyr, glynwch wrth rhen bethau,
Ffon HIR, gwallt HIR, HIRION lodrau,

nes na wn i ddim pun or ddwy gwpled sy ora, na pun o nhw sy yn yn siwto i ora. Fe weta i benill wtho chi nawr, mar hen stoc yn i wpod a i gyd

Morgan bach, fy machgen anwyl,
Ier bachgen bach dinam ;
Aros, rho dy glust i wrando
Ar gynghorion dwys dy fam.
Paid a bod mor galongaled,
Paid am gadael wrth fy hun,
Heb na brawd, na chwaer, na chymhar,
Dan y tonaun wael fy llun.

Ma pawb yn diall hwna, dicon tebyg fod a wedi cal i atrodd mwn llefydd mor gysegredig ar Pafilion, lle ma nhw yn cynal y Steddfod Genedlaethol. Ond dyna lle mar drwg, os dim shawns i enill ar bishis felna o gwbwl, wath dywr big gyns ddim yn cwnto u bod nhw yp tw det, a dymar achos y mod i ar bachan syn labror nos yn ffeili dod a preisis or Nashonal. Dyw a ddim ifflyn o ots gen i, cofiwch, pwy sy yn ffaelu enill y Gatar, ond w i yn cretu yn bod ni yn colli tir mwn peth sy yn fwy pwysig, a ta pwy mor glyfar ma nhw yn treio bod nawr, w i yn ffaelu gweld un Talhaiarn, Iorwerth Glan Aled, Mynyddog, na Cheiriog yn cwnu nawr, ac os na chwniff neb or short yna, fe all y beirdds newydd ar hen dories cynghaneddol dowlu y spwng lan pryd mynan nhw i gadw gwres a theimlad cenedlaethol rhwng erchwynion gwlad y bryniau, a chysgu ar obenydd cynhes - Cymru Fu.

___________________________________________________
(x03) LLITH III.
(Marw Tom
Elis).

Rhy anhawdd yw troi golwg i un cyfeiriad heddyw ond at un amgylchiad - yr amgylchiad cenedlaethol pruddaf a brofwyd gan ein gwlad er dyddiau ei phenaf arwyr. Mae ein Tywysog wedi syrthio - ein gobaith wedi ei ddwyn oddiarnom - seren loewaf ffurfafen, rhyddid gwlad; wedi diflanu. Mae Cymrun wylo - mae Prydain yn galaru, ac edmygwyr rhinwedd, talent, a phenderfyniad, yn cyd-ocheneidio. Oh! Tom, Tom, paham y cefnaist arnom mor gynar ac mor sydyn ? Yn nghanol dy waith, yn nghanol dy waith, yn nghanol dy ogoniant.

Y mae llywiawdwyr mewn hiraeth, pendefigion yn cwyno, ac arglwyddi yn brudd. Mae hyd yn nod ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru wedi datganu ei gydymdeimlad r teulu galarus. Y mae y deyrnas yn teimlor golled o farw Tom Ellis, a phwy a draetha golled Cymru? Bu ein gwlad yn gruddfan dan draed gormes yr oesau heb un oi phlant yn alluog i ddwyn ei hachos i sylw, a dadlu ei hawliau.

Agorodd y gwladgarwr anwyl, Henry Richard, y drws, daeth cenedlgarwyr ereill iw gefnogi, i roddi trwydded i feibion Cymru i gynteddau addysg, ac un or rhai cyntaf i gymeryd mantais o hyny oedd T. E. Ellis, mab amaethwr cyffredin o Gynlas, Meirionydd, a phwy fuasai yn well fel prawf i estroniaid, fod Cymru, er yn fud y pryd hwnw, yn meithrin athrylith mor loew ar haul, ond fod angen addysg iw caboli ? Ni wnaeth neb erioed well defnydd or manteision a ddaeth iw ran. Parodd iddynt fod yn elw iddo ei hun, ac iw wlad ai gydgenedl, a chaiff Cymru Fydd dderbyn bendithion lawer o lafur ei fywyd. Dim ond un diffyg sydd yn holl hanes ei fywyd - iddo gyrhaedd pen ei rawd mor gynar ar ganol dydd. Gwelwch ef yn fab saith-ar-hugain oed yn eistedd yn mhlith y doethion Prydeinig.

Y gwladwr ieuanc Cymreig yn rhesi meibion y bendefiaeth; ac er mor dawel a gwylaidd ei natur, ni fu yno yn hir cyn i lygaid eryraidd yr hen Gadweinydd Gladstone syrthio arno, a chan fod ynddo yr adnoddau angenrheidiol i ddyrchafiad a defnyddioldeb, y mae oes fer, fywiog, lwyddianus Tom wedi mwy na phrofi fod yr hen gawr o Benarlag wedi adnabod ei ddyn. Tybiai llawer pan benodwyd ef iw swydd bwysig a chyfrifol nad oedd ei brofiad yn cyfiawnhau y dewisiad, ond nid oes genym hanes fod neb oi flaen wedi ei chyflawni yn well, na chyda mwy o foddhad iw blaid ei hun ar wrthblaid yn o gystal; ac y mae dau allu mawr Senedd Prydain ar lan ei fedd yn cyd-ddatgan eu cymeradwyaeth iw wasanaeth ai allu, ac yn cyd-alaru am na fydd ganddynt mwy. Yr ydym yn cael yn ystod y dyddiau presenol, er pan wnaed yn hysbys ddydd Mercher diweddaf, fod ei ysbryd gloew wedi cymeryd ei ehedfa i fyd y gloewder, an gadael ninau mewn prudd-der, yn y byd pruddglwyfus, gawodydd o syniadau cymeradwyol a hyglodus am dano, gan bersonau unigol, a chan gymdeithasau, or pwlpud a thrwy y wasg, a fyddant yn anrhydedd in cenedl ar ddalenau hanesyddiaeth.

Yr ydym yn falch o honynt, ac yn diolch am danynt; ond credaf fod in gwlad an cenedl, yn y presenol ar dyfodol, rywbeth mwy sylweddol, pur, a pharhaol, yn mywyd a marwolaeth Tom Ellis, nac hyd yn nod yn nathliadau edmygawl parchus y cyhoedd, yn mhlith pob gradd o gymdeithas, yn y cyfwng ingol hwn i hen Walia drallodedig.

Oes, y mae yn mywyd Tom drysorau gwerth eu cadw yn amgueddfa fywydol cenedlaetholdeb Cymreig dros oesau i ddod. Bydd teithi ei oes fel darlunlen yn daenedig o flaen llygaid ieuenctyd Cymru Fydd.

Gwir, y mae ef ei hun wedi argraphu delweddau hanfodol llwyddiant yn symudiadau ei fywyd, ond bydd rhyw law hyfedr eto yn ofynol iw portreadu mewn coflyfr o hono, au gosod yn nwylaw ein Cymry ieuainc, fel y byddont yn elfenau iw symbylu at y pur, yr uchel, ar clodforadwy.

Pryd hyn, ac nid cyn hyny, y ceir yr olwg gyflawn gyntaf ar werth gyrfa Tom Ellis, a pha bryd y derfydd ei werth, rhaid gadael ir dyfodol pell fynegu o bwlpud anghof wedi goroesiad hanesiaeth.

Fel y crybwyllwyd or blaen, cafodd Tom drwydded i gynteddau addysg, ac ni fun segur yno. Buasai Cymru mor ddiamddiffyn heddyw a chan mlynedd yn ol oni bai fod pyrth addysg wedi eu hagor; a gallai na fyddai anrhydedd Tom Ellis yn uwch na bod yn fuddugol ar gerdd neu draethawd, mewn eisteddfod leol, oni bai ei nodded hi iddo, ai ymlyniad ef ati hithau.

Gwelodd ef ei gwerth, a theimlodd hyny, ac amlygodd ei ddiolchgarwch am ei bendithion trwy gofio fod ereill i ddyfod ar ei ol. Aberthodd gyfran helaeth oi oes fer i ledaenu addysg ac hyrwyddo ei llwybrau hi trwy gymoedd a threfydd tlodion ei wlad. Yn hyn y daeth ei wladgarwch yn amlwg gyntaf, a bu hyn yn agosaf peth iw galon hyd geulan ei gynarol fedd. Gwyddai ef trwy brofiad os oedd dyfodol uwch i Gymru, mai trwy y cyfrwng hwn yn unig yr oedd i gyrhaedd hyny, ac ni adawai gareg ar y ffordd iw rwystro tra bu nerth ynddo ef iw symud. Yr oedd llenyddiaeth ei wlad, crefydd ei wlad, dysgeidiaeth ei wlad, a rhyddid ei wlad, fel yn un yn glymedig wrth ei galon. Yr oeddent gydag ef bob amser, yn mhob man, ac o dan bob amgylchiadau. Ganwyd ef yn Nghymru, bu fyw i Gymru, a bu farw dros Gymru. Mae Cymru heddyw yn wylo dagraun hidl ar ei fedd yn mynwent Cefnddwysarn, ar fynyddoedd oerion Meirion. Wedi i ti, Gymru dlawd, dywallt dy ddagrau yn helaeth i lonyddu arteithiau dy deimladau, cymer seibiant dros ychydig, ac yna cwyd dy ben, a diolch dy fod wedi cael y fraint o godi gwr o fath Tom Ellis. Er bered fu ei oes, gwnaeth fwy na mil o Feibion Can mlwydd drosot ti, a thros dy blant! Faint o feibion ein gwlad ai efelycha? Mae ei gamrau yn werth eu dilyn. Bu yn wir arwr, a syrthiodd ar faes y frwydr ac ar ei fynwes dlysau gogoneddusach na Chroes Buddug fyddant yn dysgleirio yn ei goffadwriaeth Tra mr, tra Brython.

___________________________________________________
(x04) LLITH IV.
(Llythyra
orwth One of the Winners,
Pontypool a Jenny Jones, Y Stics, Llanstephan)

Dyma fi wedi cwmpo miwn i ddwr twym yto dros y mhen an nghlysta, a dim ond och achos chwi wyr Byrdar. Fe wddoch mod i wedi gweid dicyn yn biwr am danoch chi ach shampions cerddorol a barddonol yn y Darian ddwetha, a nawr rw i yn cael y bai ta rhw Shoni naill ochr w i, a mod i yn ych laddro chi ar sebon gora sy idd i gal yn y farchnad. Mar Postman wedi bod yn trampo yn fishi iawn at y drws yma yn cario epistola o bob short i fi, orwth bob short o garitors o wahanol fana, nes w i ar fenyw lle w i yn lodjo bron mynd i gretu ta yn yn ty ni ma Home Offis Prydain Fawr. Fe ddath y llythyr cynta ato i o Shir Fynwa, a wth gwrs un Sysnag yw hwnw, a o ni yn gorff od catw Dic Shon Harri wth yn ochor yn handy i esbonio meddwi rhai or geira mawr diarth. Falla fod an well i fi ddoti a lawr yma fel ceso i a, a rhyngo chi ar darllenwrs ach Dics chytha bothti diall y contents: -

Pontypool,
12 / 8 / 1897

MR. BACAN IFANC,
What a combustion of idle twaddle, and intolabl vanity you displayed in your unpalatabl and indijestive puffing creations last week in the Tarian. Heaven protect us. Is there no qualities, no exellence, no jenius, no nothing in nobody unless his postal address is Aberdare ? I am quite willing for you to blow up your own bubles. But why call the attention of the whole country to them only ? You dwell upon puffing that non-whiskered young bardic fellow, for simply that he brought with him from Newport a bundle of sticks, in the shape of a rude piece of furniture, that no parson of an English refined taste, would give it place in his back kitchen, what you boast to call The National Prize Chair, 1897. But not one word is said by you of the glorious capture of the grand prize of ₤200 by the sweet and sublime singers of Gwent, and under the adjudication of the most talented and acknowledged musical authorities. O no, they are not Aberdarians, nor Glamorganites, and so are not supposed to be winners on Eisteddfodic platforms, according to the estimation of such narrow and fickle-minded nonensities as you, and other dwellers of our Western hills. What a flood of spleen and slander is casted upon us, because your Merthyr favourites are not always favoured. We quit - enjoy the intense jelousy, and the honourable prize. We boast not, but mean to win again. Take that for a salter.

Yours, &c.,
ONE OF THE WINNERS.

Clywsoch chi shwd lap a lol ariod? Beth ma fa yn boddrach sha fi am u canu? Wetas i ddim am deni nhw, man wir, a wetas i ddim am Gor Dan Bach hefyd, wath fe allwn i feddwl fod gormod wedi cal i weid am y fysnas, ta pun o nhw odd y gora, er man dreni fod neb yn cal cam, ond mar atnod yn gweid, Ofer dadl wedi barn. W i wedi gweid lawar gwaith, fel gwddoch chi, yn y llythyra cyn y mwstwr hyn, nag w i ddim dros cal barnwrs Sysnag yn yn steddfota ni o gwbwl, na dim byd arall Sysnag o ran hyny. W i yn moin catw yr hen wyl yn yr hen ffashwn, mwn brethyn cartre, paish a bedgwn, a het a chantel. Fe fydd yn siwr o fod yn fwy cysurus na wedii decoreto mwn mwslin tena, a shitan slip, a rhw sheinins fforin felna. Pryd i ni yn ala i moin fforinars i fesur a phwyson canu ni, ma nhw yn dishgwl i ni gwmpo miwn idd u steil au tast au rhegiwleshons claiar ac annghynyrfus nhwu hunan, a man anhodd i Gymry mynyddig, poethwad, hewydus, carlamog, gwresogol, ddofi eu hysbrydoedd a mwslo eu heneidiau canyddol, ir safona ar strains amddenol, ar si saws, ar come day go day steil a fawrygir gan farnwyr syn dod ar dramps blynyddol in steddfota cenedlaethol ni. Diwch anwyl! Fe af i hobl yto os na finda i, a fe dynar blwmin lot Seisnigyddol a fforinol yn y mhen yto, a falla tan niwadd i fydd cal yn asasinato, fel y bachan yna yn Spain yr wythnos ddwetha - Senor Canovai, wath mar cantwrs mor ddanjeris ar Anarcists bob tamad, a arno i ofan fod hwna sy wedi sgrifenu ato i o Bontypwl, wth i iaith a, yn gallu iwso refolfar gystal a Mical Angino Goili; a beth ddaw o honoch chi ar litl biwties os collwch chi fi mwn catostroff fel yna? Fe fydd yn rhaid i fi employo Wmffra Huws ar bachan syn labror nos, yn ddetectifs i gymryd car o hono i, a trw bod nhwch dou wedi bod yn Casnewydd am wthnos gytar Boys o Erin Go Bra, ma nhw wedi cal lesins i ddysgur ffordd i iwsor Shilelah, a fe alla i deimlo munan yn weddol saff o dan u gwyliadwriaeth awdurdodol a barddonol nhw. Cymered y bachan yna sgrifenws Sysnag ato i yr hynt,

- Will ye der to tred on the tail of my coat?


Man bleser gen i droi orwrth y cwestshwn yna, ar hen lythyr Sysnag pigog, at lythyra w i wedi dderbyn orwth fechgyn a merched or ffynona a glanar mr o wahanol barta o Gymru, fel Llanfair, Llandrindod, Llanwrtyd, Porthcawl, Llanstephan, ac Aberystwyth, a mana erill tw niwmoras tw menshon, a ma nhw i gyd yn gweid yn respectabl am dano i, a ma amball un or ffeminein jendar sy wedi ala ato i, yn sgrifenu yn lyflee ac yn dytshin dros ben, nes ma nhw wedi ala rhw feibareshons swyngyfareddol, ysbrydgynyrfiol, calon orchfygol, edmygedigaethol, ynfflamychol, a fuo bron a gweid nefol trwyddoi gyd. Fe licwn, er mwyn parch iddi nhw, a chredit i munan, iddi printo i gyd y tro hyn, ond fe elan a gormod or peth yna ma sgrifenwrs clasical yn galw gofod
arno, a man well i chi ddod a speshal edishon o Darian Dwr y Mr ar Ffynona, i gal gneid lle iddi nhwu gyd. Falla bod yn well i chi gal un yn spesiman, yn lle bo chi yn ffeinto mwn syspens wrth aros, a fe tynaf a mas or bwndel ar randam fel tynu lotry, yn lle bod chin cretu mod in picor un gora. Gadewch weled, ie, dyna fe fel dath a i law, -

Y Stics, Llanstephan,
Awst 13eg.

ANRHYDEDDUS FACHAN,
Gobeitho na fydda i ddim yn ych insylto chi wth gymryd y cyfleusdra hyn i ala gair on nheimlad mwn llythyr atoch. W i yma ys dros wythnos, ac er fod y tywydd yn dda, a bod yma fechgyn glan a merched serchus, alla i ddim gweid fod popath fel y dymunwn i, isha na fysech chi yma gyta ni yn gwenu
arno ni, fel mar houl mawr yn gwenu genol dydd yn y ffurfafen uwchben! Ma gyta ni ferched shwd respect, a shwd estimeshon annhraethadwy am danoch, fel na alla i ddim doti lawr ar bapyr hanar ych gogoniant yn mhob dull a modd, heb son am dynu llun ych physiog anwl. I chi quite yn ladys man, a gobeithio parwch chi felni. W i wedi bod yn stydio yn galad ys cetyn beth yw y cwalities gora all fod yn perthyn i fachan ifanc, a dw i ddim wedi ffindio neb o nhw wedi dod lan ir un marc a chi. [Lol botes, lol botes! pwff, pwff. - GOL.] I chi yn llanwn llycid ni, an clysta ni, an calona ni yr un pryd. I chi yn Elderedo o fwyniant i bob perchen pais, gan ych bod wedi yn hamddiffyn, mewn amsar ac allan o amsar, bob cyfla i chin gal. Bendith ar ych pen gln weta i, a sgreched bob litl biwty, Amen.

Dros chwaeroliaeth y Stics,
Gyda XXXXXXX,
JENNY JONES.

O.Y. - Fe fyswn wedi doti sent yn y llythyr, ond o ni ofan byser fenyw lle i chi yn lodjo yn geso wetin, ma orwth y merched odd a wedi dod, a w yn deall ta hen greaduras speitffwl yw hi, a bod arni ofan colli lodjar piwr fel chi. - J.J.

[Mr. Gol., - Os w i yn cal y ngorfodi i ffindio llythrena i brinto shwd stwff a hyn, w i yn rhoi notis nawr mod in mynd i jaco y jobin. CYSODYDD.]

Wn i ddim beth yw y rheswm fod y merched anwl i gyd yn bownd o ddoti ol-ysgrif idd u llythyra biwtiffwl, yn enwedig pryd ma nhw yn ysgrifenu ato i. Ma nhw fel sa nhw yn cal rhw newydd flas o hyd wth wilia sha fi, ond dw i ddim yn gweid hyn i frago munan, wath i chi yn gwpod, nag os dim or deleit hyny yndo i o gwbwl. W i bownd o weid atnod ganu wrth Jenny Jones cyn cwpla.

Jenny brydferth, Jenny anwl,
Ma dy lythyr rhyfedd rin,
Wedi citsho yn fy meddwl,
Fel electric serch-fasheen;
Buan gwnaf ir toffs i gilio
O fy mlan fel lot o grics,
Os y deuaf ith gofleidio,
I Lanstephan yn y Stics.

Cofion serchus at fechgyn a merched dwr y mr ar ffynona yw dymuniad u hen bartnar nhw,

Hedd a chan fyddo i chwi
Yn loniant eto leni.


___________________________________________________
(x05) LLITH V.
Gwareiddiad y Rhondda

I weld cyfieithiad Saesneg or testun hwn ewch at: For an English translation of this text ("Civilisation in the Rhondda") go to: 0925

Dalwch y nghot i i fi gal rhoi cwpwl o smacs ir bachan yna syn galwi hunan yn Gymro, fun sgriblo pwt o lythyr yn y Darian ddwetha ar -

WAREIDDIAD Y RHONDDA

Wn i ddim llawer am dano, na beth yw i seis a, na beth yw i bwysa fa, a dyw a ddim gwahaniath gyta fi beth all a fod. W i yn folon sefyll rownd ne ddwy oi flan a, trw bo fa wedi insylto y martnars i, sef bechgyn Cwm Rhondda. Odd an gweid fod e a rhw
Sais wedi bod yn consylto shau gilydd yn y Fenni bothti ignorans bechgyn y Cwm. Wn i ddim yn bwy bart o Fenni odd y ddau ar y pryd, os nace yn y ty mawr sy yn ben drawr dre, man lle mar rhai syn arfadd wilian dwp yn lodjo.

Odd y disgwrs odd rhynto fe ar
Sais yn depig iawn i steil y rhai sy yno. Isha troi y Rhondda i gyd yn Sysnag odd ar y Sais, medda fe, ond i ni yn gwpod yn weddol beth fyddair rysult o hyny, wath i ni wedi gweld yr effath mwn mana erill on gwlad, lle mar dylanwad wedi dod i befformans, a tysa dicyn bach o gymshan Cymrag yn y Cymro, fysa dim isha iddo fynd ymhell or man lle o nhw yn wilia i gal ilystreshons o wareiddiad Seisnigol fysa yn ddicon i gauad ceg lydan-agored ei gyfaill Hengistaidd.

Ma cymodd glofaol a gweithfaol Mynwy ers blynyddoedd bellach wedi syrthio llawar o ddegrees yn ish nag o nhw, yn achos fod cymaint o fforinars wedi emigreto yno o Wlad yr Haf, Henffordd, Dyfnaint, a phartha erill, ac mae eu hiaith ishel, au hanfoes, au dylanwadau anheilwng, yn codi gwrid i wyneb yr hen drigianwyr Cymruaidd sydd wedi eu geni yno, ac maent wedi effeithio yn niweidiol ar y brodorion ieuainc syn cal eu codi yno yn bresenol.

Mae y Sais-ddyfodiad yn iwso y terma mwyaf atgas yn eu leferydd y gall Belzebub ei
hunan droi mas oi ffactri frwmstanaidd. Y mae pobpath y sonant amdano yn "bloody this" a "bloody that", a damniant eu llygaid i anwn am y peth lleiaf ne ddim; ie, galwant Dduw yn dyst i bob trybini wnant mewn termau mor anystyriol a gwawdluniol na feiddia un gwir Gymro ddychmygu am danynt, ac na chlywyd mo honynt yn merwino clustiau bryniau a mynyddoedd Gwent cyn eu dyfod hwy yno ar eu pererindod begeryddol ac yspeiliol.

Hwynt-hwy sydd yn cyflawni mwyaf troseddau yno, ac hwynt-hwy sydd yn difwyno cymeriad moesol cyntefig y tir, a buasent yn waeth nac ydynt oni bai fod y Cymry yn aberthu eu capeli au hiaith i draethu efengyl iddynt er mwyn eu gwareiddio au crefyddoli, gan nad oes yno ond ychydig o engreifftiau o honynt hwy eu hunain yn myned i drafferth o godi capel iddynt eu hunen; ond wedi iddynt gael gan y Cymry ganiatau pregethu yn Seisnig, buan y byddant yn monopoleiso yr addoliad i gyd yn yr iaith fain, a gwell gan y Cymry hyny, na gadel iddynt fyned ar ddysperod bythol yn eu rhyfyg pendemonaidd.

Pam na fuasai Cymro, ac ynta yn gwpod y pethau hyn, gan ei fod yn trampo yn y cylchodd yna ys cetyn nawr, yn cauad ceg y Sais am ddylanwad gwareiddiol y Saeson yn Nghymru? Ond ma Cymro i
hunan yn gweid fod isha gwareiddio, rhesymoli, a chrefyddoli y Rhondda. Fe wddoch chi a fi, syr, fod isha gneid hyny yn mhob man. Ond pam Cwm Rhondda?

W i wedi trampo munan dicyn bach yno, a w i yn gwpod amcan lled dda ffordd ma pethach yn sefyll yno. Ma Cymro wedi bod rhyw ddydd Llun Mabon, medda fe, a ma fa yn gweid yn i bwt llythyr fod bechgyn
Rhondda fel gwartheg a lloi. Mar ilystreshon yn deilwng o fei hunan, ac yn brawf nag yw an gwpod llawar am y Cwm, ond beth welws a ar wincad llycad llo yn Steshwn y Porth, a ffordd gwydda fe pwy nashonality odd y rhai ma fe yn sn am danynt.

Ma yn y Rhondda Fawr a Rhondda Fach agos i gan mil o bob llwyth, iaith a chenedl bron, ar Cymry yn cal y bai am u pechodau nhw gyd, a nid y Cymro hwn ywr cynta i bwynto bysadd yn y lein yma, ond trw fod e yn esgus teimlo yn wladgarol, fe ddyla ddishgwl miwn i bethach cyn joino a Sais penchwiban i dduo caritor ei gyd-genedl.

Os dim dowt nag os llawar o Gymry anywath yn y cymydd hyn, fel mwn cymydd erill, ond w i yn cretu fod y rhai sy felna wedi dysgu hyny gen y fforinars syn heidio ir glofydd o wahanol barthau o Loegar, a gwletydd erill. Dim ond cymryd golwg deg ar fechgyn a merched Cwm Rhondda, fe allwn gwnu u pena mor ychel a un part o Gymru ne Lloegar mwn moesoldeb, rhesymoldeb, a chrefyddoldeb

A yw Cymro wedi cal golwg ar ieuenctyd y Cwm yn y capeli mawrion ardderchog sydd yn brithior ardaloedd o Pontypridd i Flaenycwm? A wyr efe rhywbeth am y miloedd bechgyn a merched sydd yn mynychu y rhai hyn yn wythnosol a Sabbothol? A glywodd yr oracl symudol hwn rwybeth eriod am dalentau addysgol bechgyn
Rhondda ym mhob galluoedd barddonol, cerddorol, a llenyddol?

Onid ywr Cwm wedi dyrchafu ein cenedl yn gyfan yng ngwydd y byd mewn ystyr gerddorol? Ai cyfiawn i farnwyr gwibiog mursenaidd fel hyn i alw sylw y byd newyddiadurol Cymreig at anwareiddiad dyffryn poblog, yn herwydd iddo ddigwydd gweld rhyw dwr o chwilgrots yn chwareu rhompian ar ddydd Gwyl Mabon, pan oedd ei fawrhydi samwnaidd yn digwydd mynd heibio? Ma gormod o ddweyd ie, ie, gyda syniadau fforinaidd am danom fel cenedl.

Dyledswydd Cymro ai fath ddylai fod, i roddi amlygrwydd on rhagorion pan y crybwyllir am ein diffygion. Fel y crybwylla awdwr yr ysgrif arweiniol yn y Darian ddiweddaf, y mae ymddigiadau Cymry ein cymoedd yn fil mwy teilwng nar dull a gymerir gan yr estroniaid a dryfrithant ein gwlad ar ein gwyliau, ac nid yw Cwm Rhondda ar l i un Cwm arall yn Nghymru yn y cyfeiriad moesol a gwaraidd, ond cymeryd y Cymry fel safon, ac nid anwariaid estronol.

Fel gwetas i wthoch chi ar y dechra, syr, dyma fi wedi rhoi cwpwl o glowts ir Sais ar Cymro, ac os bydd isha rhacor arni nhw, ma dicon o stoc gen i wth law i scwaro dwsan o libellars digonshans felna, a gwell ir ddou bido dangos u trwyna yn y Rhondda yto, rhag ofan bydda nhw yn bygynad fel "gwartheg," a brefu fel "lloi," ac yn fwy "true to nature" ym mhob shp or creaduriaid yma, na fel o nhw yn gweid wth u gilydd fod bechgyn y Cwm.

Am drio towli lluwch
Ar garitor y Rhondda
Fe ddylar "llo" ar "fuwch"
Gal bobo eitha gosfa.
Gwell yw ir Cymro ar
Sais,
I aros yn y Fenni,
A pheidio codi llais
Byth mwy am ein moesoli.

Ma yn y Fenni fan
Syn taror ddou ir mymryn,
Gan fod eu penaun wan
Rhaid clymur ddou a chordyn;
Au cadw ynon rhwym
Nes byddant wedi gwella,
Neu fe gant roesaw twym
Os deuant i Gwm Rhondda.
Atnod. Cs gwr na charor wlad ai maco.

___________________________________________________
(x06) LLITH VI.
Hen Sowdjwrs Shir Benfro.

Can mlynadd i nawr y dangosws gwyr Shir Benfro dicyn o dwtsh ir Ffrancod, trw ir mynwod anwl droi mas yn u shawls cochion i ala ofan arni nhw gyd. Odd cwality ffamws yn yr hen fama slawar dydd, a odd i gwlad yn acos at u calona nhw, a pryd gwelson nhwr fforinars yn dod miwn idd i preserfs nhw fuo nhw fawr o amsar cyn listo i ymladd yn u herbyn. W i yn cretu fod yr un stwff yn yn merched nina tysa hi yn mynd yn bwsh, wath i ni yn cal gweld yn hunen yn fynych yr ymladdan nhw ir dwrn os gnewn ni rhwpath yn u herbyn nhw. Fe fydda yn well gen i unrhyw bryd i sefyll batl gyta Ffrenshman na sefyll batl gyta un o ferched Shir Benfro, ne un o ferched rhw shir arall yn Nghymru, wath os dim lwo yndi nhw o gwbwl. Triwch chi nhw, syr, ffordd mynwch chi, fe fynan garior dydd. Fel ma nhwn gweid ma rhaid i ni neid, a fel ma nhwn dewish ma rhaid i ni fynd, ac yn ol u ordors nhw ma man rhaid i ni fiafio. Clipars ywr biwties bach am gal u ffordd, ac os na cha nhw rhwpath, fei mynan a, bei wc ne bei crwc; a dyna shwd gwality sy isha mwn sowdjwrs. Penderfynu concro, deled a ddelo.

Odd yr hen Labwtshar yn gweid pwy ddwarnod yma yn yr House o Comons na allws merched a mynwod ddim amddiffyn u gwlad. Ma hyny yn dangos nag yw a ddim llawer o scolar hanesyddol, ne fe fysa yn gwpod am blyc hen ferched Shir Benfro ys can mlynedd yn ol. Ond w i yn mynd o mhwynt yn ln yto. Meddwl gweid ticyn on i fod y Dyfedwrs yn mynd i gatw Canmlwyddiant y Fuddugoliaeth yr wythnos hon, a ma hyny yn beth eitha priodol allwn i feddwl. Gobeitho ca nhw hwyl gytar gwaith, a fe licwn i joino gyta nhw (er ta nid mochyn w i). Falla alwch chi fi lawr, syr, yn Speshal Corespondent, i roi cownt yn y Darian ffordd aiff hi mlan yno, a fe na i bob peth galla i neid yr yfent yn sycses. Fe fydd yn idea dda yn ol y marn i ir merched ifenc fydd yno i gyd i wishgo dillad cochon fel yr hen fama gynt, a trw ta bachan o Byrgwein yw Dyfed, ac yn fachan ifanc smart hefyd, w i yn cynyg ta fe fydd yn u comando nhw, ai fod ynta mwn shiwt yn depig ir hen Iarll Cawdwr, odd yn comando yr hen rijmant can mlynadd yn ol, wath dyw shiwt yr orsadd farddol ddim yn shiwto i acto offisar sowjwryddol. On i wedi meddwl gweid pishin o ganu ar yr amgylchiad, ond gan. fod Dyfed a beirdds da erill yn perthyn ir shir, fe gwplaf gytar atnod Sysnag Jingoaidd -

We dont want to fight,
But by jingo if we do,
We got the ships - we got the men,
And we got the (women) too.

___________________________________________________
(x07) LLITH VII.
Marwnad ar ol Billy Got y 41st Rigmant, Penshwn i Hen Ddynon, Penshwn i Hen Fenwod

Dotwch ych
hunan yn barod i lefan, ma Billy Got y 41st Rigmant wedi marw. W i yn teimlo run shwt ar fenyw hyny oedd wedi claddui gwr, a odd rhw ddyn wedi galw hibo, a odd hwnw ddim yn gwpod i bod hi wedi gladdu a. Fe ofynws y dyn iddi yn ddicon diniwad shwd odd John y gwr, a odd y fenyw yn dicwdd bod yn byta swpar ar y pryd, a fe wetws - Ma John, druan, wedi mynd ir byd arall, meddai hi, ag os sefwch chi i fi gal cwplar basnad cawl yma, fe gewch glywad gen i lisha! Rhwpath felna w in teimlo ar ol Billy, ag ar ol i fi gwplar cawl rhagymadroddol yma, fe lefa i ar i ol a. Fe fydda i yn dishgwl i chi ar darllenwrs i golli dagra gyta fi. Ma Morian wedi sgrifenu hanas i fywyd a. Ma pishin o ganu gyta fina ar ol y pwr dab, a falla caiff hanas Morian a mishin i ddod mas yn llifyr i gatwr cownt am dano ir oesa syn dod.

MARWNAD
Ar ol y diweddar General Billy, Ledar y Welsh Rigmant.

Ma sowdjwrs y Rigmant yn llefan i gyd,
Ar officars hefyd yn llefan run pryd,
Fod Billy y Ledar or byd wedi mynd,
Man rhaid tywallt deigryn ar ol yr hen ffrynd.
Ar ol yr hen ffrynd, ar ol yr hen ffrynd,
Man rhaid tywallt deigryn ar ol yr hen ffryiid.

Rodd wedi trafaelu dros hanar y byd,
A fe odd y boy odd yn ledo o hyd,
Pwy all dynu llunia teimlada Tim dlawd
Am gollir hen bartnar odd iddo fel brawd?
Ar ol yr hen ffrynd, &c.

Rodd Tim wedi ddysgu an ddoniol o gute,
Odd a bron cystal scolar ar Marcwis o
Bute,
A tysa fan trio fe nelwn i fet
Y cesa far jobin o Poet Loret.
Ar ol yr hen ffrynd, &c.

Rodd Billy a Timothyn ifad ar shar,
Pan o nhw yn martsho trw Gwm Aberdar,
Ond druan o Billy all a nawr ifad dim,
Mar peint bob dyferyn yn dod i shar Tim.
Ar ol yr hen ffrynd, &c.

Ma nhwn gweid ta rhiwmatic rows stop ar ei wynt,
Ond bai iddo fyw fysan marw yn nghynt,
Yn awr isha stwff idd i stwffa fa sydd,
Ai gadw a byth yn Miwseam Cardydd.
Ar ol yr hen ffrynd, &c.

Odd i gyrna fan hir os ta byr odd i gwt,
Ma nhwn gweid ta nid Cymro odd Billy run shwt,
Ta beth odd a druan mae mor farw a hl,
A Morian a fina yn brudd ar ei ol.
Ar ol yr hen ffrynd, &c.

Ffarwel, Billy bach, daeth dy yrfa i ben,
Ti gefaist dy barchu yn hen Walia Wen,
Y ti odd y pet gan bawb yn y Martsh,
Ond nawr ma dy goesa mor stiff a Stiff Startsh.
Ar ol yr hen ffrynd, ar ol yr hen ffrynd,
Man rhaid tywallt deigryn ar ol yr hen ffrynd.

Alwch bob o gopi or Farwnad i Tim, a Cyrnal Cwirc, a un ir Frenhines, a dotwch fwrnin du rownd iddi, a falla cewch chi a fi bob o fedal nol, a Gwell anga na chwilydd arni nhw.

PENSHWN I HEN DDYNON.
Man dda gyta fi fod y dynon mawr yn yr House o Commons yn dechre acor i llyced bothti rho ticyn o help i hen ddynon ar ol ffaelu gwitho. Man gwilydld na fysa nhw wedi dechran nghynt, wath ma miloedd o hen withwrs caled wedi cal marw o isha bwyd, ar ol slafon galad trwu bywyd. Ma llawar hen goliar clawd wedi ala hanar can mlynadd yn y pwll glo, a wedi ffaelu, mor ddigownt a hen geffyla. Yn yr amsar ma nhw wedi gwitho ma nhw wedi doti ffortshwns yn bocetir mishdri, a doti miloedd o buna yn mocad Budjat y wlad, a wetin yn cal i ala ir workws i farw, a odd yno ir bedd mwn hen gart

Rattle his bones over the stones,
Hes only a pauper, who nobody owns.

Ma plismans, a postmans, a sowdjwrs, yn cael penshwns ar ol bod dan y Llywodraeth am ucian mlynadd, ond os bydd gwithwrs calad yn ala tri ucian mlynedd cha nhw ddim. Pwy wara teg yw hyny? Ond gwath yto, ma gwyr y Parlament yn cal miloedd am lanw rhw ofis am dair neu betar blynadd, a llawar o Lords, Marcwisis, Dukes, a Prinsis, a big guns erill yn cal penshwns, achos bodu hen, hen, hen dadcu nhw wedi bod yn helpu un or hen frenhinoedd i wisgoi drowsis, ne wedi rhoi bocs snuff i rw hen frenhinas. Tysa rhai or Em Pees yn cropo coin rheina fysa dim isha bod mor gynil i roi ticyn i hen withwrs. Man drenu meddwl bod y wlad mor dwp, a bod shwd beisha o hen rascals yn robor dyrnas o filodd bob blwyddyn, a neb or membars a dicon o blyc yndi nhw i drio doti stop ar y game. W i yn dishgwl bydd rhai o nhw yn tampo at y gwaith pryd y daw y Mesur hwn mlan, onte fe fydda i yn lled depig o binshou clusta nhw.

Nawr, ma gen i boint arall, a fe all un o fembars Cymru neid stroc trwyddo fa os cymra nhwr hynt, a dyma w i yn sujesto roi,

PENSHWN I HEN FENWOD.
I chin gwpod mod i wastad yn cymryd part y ladies, ag os yw hen ddyn yn werth penshwn, pam nag yw yr hen fenyw hefyd? Ma nhw yn helpu gora galla nhw, a gwithwrs net yw llawar o nhw. Ond din nhw yn slafon galad i gwni plant, i ddod a nhwn ffit i helpu i droi wheels masnach y wlad? Beth fydd rhw 5s. yr wythnos idd i ranu rhwng yr hen ddyn ar hen fenyw? Fe ddylan gal bob i goron cyn galla nhw fywn didy a chal ticyn o gysur yn y byd, a dicon bach fydd hyny os na fydd rhwpath arall yn dod miwn. Gobeithio gnaiff Mrs. D. A. Thomas, fel cadaryddes y Womans Libral Sosiashwn, gymryd pwnc yr hen wracadd lan ac ymladd am u reits nhw. Os starta nhw fe droia nhw waith mas, a fe naiff hi i D. A. i foto drosti nhw, ne fe gaiff y brwsh ner pocar ar draws i ben, a serfo fan reit hefyd. Nawr, Mrs. Thomas fach, ar merched i gyd, dyma fi wedi rhoi hint i chi. Pitshwch miwn ir pwnc, a fe fyddwch yn fwy na choncwerwrs. Os na ryndyff y membars arnoch chi, cerwch lan ir House o Commons a bombardwch nhw mas or Ty fel gnath Cromwell slawar dydd, a chofiwch yr atnod

Dyfal donc a dor y gareg.

___________________________________________________
(x08) LLITH VIII.
Diall pethach

W i yn mynd i weid stori wthoch chi heddy am hen fachan odd wedi cymryd at y jobin o ladd bugs. Fel odd yn parchus arweinydd yn gweid yr wthnos ddwetha, nag odd dim gair Cymrag i gal ai blackmailing, os dim gair Cymrag iddi gal hefyd, trw wpod i fi, ar bugs. Wath ma rhaid i fi fynd yn mlan yn ol y iaith w i yn diall pethach. Wth weid stori ma rhaid dechran deidy a chwpla yn deidy hefyd. Wn i ddim beth sy matar
arno i pryd bydda i yn starto gweid rhwpath, ma rhwpath arall a ishai weid yn yn nhowli i ddar y ffordd. Ond ta beth, w i yn bownd o weid y stori hyn. Odd hen fachan wedi cymryd at y jobin o ladd bugs, a odd a wedi dilyn yn mlan am spel, a odd a yn mynd yn mlan yn deidy gytai fysnas, ond fe ddath rhw greatur sy yn blinor byd yma or enw Oposishon i fyw yn yr un stryd a fa, a odd hwnw wth gwrs yn mynd i neid marc, a fe ddotws sein fawr uwchben y drws i adferteisoi hunan

Bartholomy Swindlburg,
BUGER.

Beth nath yr hen fachan yr ochr draw ir stryd pryd gwelws a hyn, ond cymryd lesn orwtho, a doti sein lan hefyd,

John Jones, BUGER,
No conectshon with the Buger oposeit.

Falla nag i chi ddim yn diall pethach fel w i yn trio gweid, ond
arno i mar bai am hyny. Achos nag yw dynon ddim yn diall pethach wth weid yn blaen wthi nhw, ma isha esponiada, ac yn fynych iawn ma isha fwy o esponiad ar bethach plaem nag ar bethach tywyll, a dyma yw sylfaen dadleuon bob amser, achos fod un yn cretu fod a yn gallu gweld mor gwic ar llall.

Nawr am sponiad ar y ddwy sein w i wedi ddoti. Ma rhai yn mwmian ta run peth yw llwynog a bachan ifanc, a on i wedi meddwl bob amsar bod cetyn o waniath rhyngti nhw. Ma bachan ifanc yn mynd i wilia gydai wedjan yn y dydd amball waith, ond wth gwrs pryd bydd gyta fa betha pwysig i weid wthi, ma fa yn lico cal cornal bach iddi hi a fe wthu hunen yn y nos, ond ma llwynog yn cwato yn y dydd, a gneid i fysnas ar hyd y nos. W i yn gobeitho fod cymant a hyna yn ddicon o sponiad i fi gal wara teg i wilia sha Marged Jones, yr hen wedjan, ar litl biwties i gyd, heb iddi nhw ddowto dim y mod i yn meddwl u plyfio nhw (er bod nhw yn cario mwy o blyf ar u pena na w i yn lico yn fynych iawn), ond ma gen i fwy o olwg arni nhw na allwch chi feddwl, a licwn i ddim symud un plyfyn sy yn perthyn i un o honynt, os bydda hyny yn tynu un cufydd oddiwrth eu atractifnes - ma hwna yn well gair fan hyn na maintioli, fel mar gair yn wreiddiol, wath nid wth u seis w in mesur y litl biwties, wath ma rhai or rhai bach mor anwl gen i ar 12 stone matrons. Pob un yn ol i dast yw i yn marchnad y merched, a ma gen i dast da iawn yn y lein yna. Mar hen wedjan o Windsor yn ecscliwded, wth gwrs, wath i ni gyd bownd oi charu hi, ne fe gewn yn transporto, a wara teg, dim ond amball un sy ddim yn folon canu God save the Queen, ond w i yn canu o nghalon wtho i munan witha -

God save the litl biwties all,
The big and litl, short and tall;
I do adore them every seis,
And wish to lift them to the skies:
But after to the skies theyll go,
How we will do I do not know.
We men will have to do our duties,
And God will send some other biwties.

Dyna jobin geso i i sefyll yn y fan yna - odd rhw ysbryd awenol, ys gwetws y beirdds, wedi citsho yndo i oltwgeddar, a dyna beth odd yn od yw ta ysbryd Sysnag odd a, a odd a yn mynd a fi na wn i ddim i ble, nes ir fenyw lle w i yn lodio bipan dros yn ysgwydd i pryd o ni yn ysgrifenu y leins dwetha, a fe mwrws i ar ochor y mhen, nes i fi golli yr ysbryd Sysnag i gyd. Wedi i fi ddod i munan, wth gwrs, mi ofynas iddi am esplaneshon oi hacshwns hi, a fuo i fawr o amsar cyn i gal a.

Beth ywr other litl biwties wyt ti yn mofyn? meddai hi, Oti ni ddim yn ddicon da i dy shiwto di a dy short ?

Beg pardon, mam, wetas ina, meddwi am yr odl on i - duties a biwties.

Ti a dy godl a dy odl - actan strait ac yn driw. O ti yn meddwl wth dy fod yn gweid dy nonsans yn Sysnag nag odd neb yn dy ddiall di. Fe gaiff y bachan syn labror nos dy gymryd di mwn llaw yto, a phart dy bac i fynd odd yma gynta gallu di.

Welwch chi mwn shwd ffordd ddiniwed ma bachan yn cwympo i ofid. Dw i ddim yn meddwl fod nemor i un, pryd ma fa yn gweid neu ysgrifenu rhwpath, yn meddwl fod hanar cymant o gonsicwens yndo, nes fod rhywun arall yn ffindo hyny mas. Dynar achos fod cymant o Fashodas yn y byd - yw isha na bydda ni yn diall yn gilydd. Ma papyra Ffrainc a Lloegar wedi bod yn spowto am y fysnas hyn, dim ond isha cal testyn odd ar y boys i weid rhwpath arno, a wedi dechra gweid, odd isha sponiad ar hyny, a ma hi wedi mynd erbyn heddyw mor seriws, fel ma
arno i ofan aiff hin wath. rhwng Ffrainc a Lloegar na ddigwyddws hi rhyngo i ar fenyw lle w i yn lodjo, ond dw i ddim yn gwbod yto pun o nhw fydd rhaid cwnu y pac ys gwetws my dear at home. Tyswn i yn cal yn ffordd, fe fyswn i yn rhoi notis to cwit ir Sirdar a Marchand, a ala scwlmishdir i Fashoda, a doti y Kaliffa yno fel plentyn bach i ddysgu o dano, a gweid wtho, os byddi di yn fachan da a dysgu dy lesns yn deidy, fe gei di dy le yn.ol. Di ni ddim yn moin dy broperty di. Ma gyta ni ddicon yn barod, ond i ni yn mofyn dy weld titha yn cal yr un fraint a nina, wath dyna yr esgus odd gyta ni yn dod i dy ladd di a dy dylwyth, odd i ddod a ti ith le. Nawr i ni wedi dangos gallwn ni dy dowli di a dy gonsarn i ebargofiant o flan y canons. Cymer wers gan fachan piwr fel John Bwl, a bydd fyw fan hyn yn Fashoda yn lle fod Ffrainc a ni yn boddrach an gilydd i bun o ni mae hi yn perthyn. I ni yn gwpod ta ti pia hi trw deg, ond wyt ti wedi bod yn fachan drwg, a odd isha rhoi lesn i ti, a fe gest gystal dwy lesn a gas bachan ariod yn Omdurnam a Kartoum. Falla gallwn ni neud dyn o honot ti - diall ti dy seis, a fe watshwn ni y cei di wara teg. Heddwch, boys, a gwiddwn -

Y Gwir yn erbyn y byd.

___________________________________________________
(x09) LLITH IX.
Hen Wlad Fy Nhadau / Hen Sgwibs Lletwith / Relwe newydd i Berdar

Shwd hwyl canu sy yndo chi yn yr amser glawd yma? W i yn diall ych bod chi yn gallu printo miwsic, a w i bron cretti ych bod chi yn cownto fod cantwr gyta chi hefyd. Ond ta beth am hyny, ma shap cantwr arnoch chi, a mar diwn w i yn moin i chi ganu arni nawr yn ddicon cyfarwdd i bob Cymro, a i chi yn un o rheiny, ond fod ticyn bach o liw Scotchman yn lliw ych gwallt chi ach mwstash chi, ond dyw hyny ddim byd, wath mar Scotsh, ar Irish, ar Cymry nawr wedi joino gytau gilydd yn Iwnion mawr yr Eisteddfod Genedlaethol fel Celts, a ma nhw yn doti y mysl ar y Saeson yn fishi, bishi. Dyna un od w i i gilo or pwynt fyddai i yn dechra
arno. Ma shwd lycad cwic gyta fi i weld pethach, a a shwd gymala ystwth gen i i fynd ar u hol nhw, fel ar ol i fi gal sent ar rwpath, wddoch chi ddim yn y byd mawr ble, na phw bryd cewch chi atal arno i ar ol i fi gal start. Ond man rhaid i fi starto nol nawr at y man lle o ni yn dechra. W i yn moin i chi ganu gyta fi yr hen gan anwl

HEN WLAD FY NHADAU (up side down).
(copyright).

Ma Hen Wlad fy Nhadau yn ddiflas gen i
Gwlad mishdirs, a gwithwrs, gollasant eu bri;
Maei agents fel spowtwrs, a sowdjwrs tra mad
Yn ymladd bob dydd dros ein gwlad.

Cydgan.

Gwlad, gwlad, wyn fecso am fy ngwlad,
Tra paror streic, dewch ar eich Beic
Yn bartnar i fi sha Klondeic.

Mar mishdir yn damshal y gwithwr dan drod,
A Hen Wlad fy Nhadau yn wath nac ariod,
Yn starfo ma gwracedd a phlant trwy y brad,
A llefain ma pawb yn y wlad.

Gwlad, gwlad, wyn fecso am fy ngwlad,
Tra paror streic, dewch ar eich Beic
Yn bartnar i fi sha Klondeic.

Bur Plenary Powars yn rhwstro bob cnoc,
Y Minimum nawr ydywr hen stymlin bloc;
A rhwng rhw hen fforinars felna o hyd,
Ma Cymrun ddisgres ir holl fyd.

Gwlad, gwlad, wyn fecso am fy ngwlad,
Tra paror streic, dewch ar eich Beic
Yn bartnar i fi sha Klondeic.

Er gwaetha gelynion, bu Cymru ariod
Yn enwog trwyr oesau - yn uchel ei chlod;
Ond nawr ma y streic fel yr hen Suddas Ddu,
Yn tori calona y llu.

Gwlad, gwlad, wyn fecso am fy ngwlad,
Tra paror streic, dewch ar eich Beic
Yn bartnar i fi sha Klondeic.

Nawr i chi yn gwpod fod shew o ganu baleti bothti pob man. Man cantwrs gora ni mas yn Lloegar, a Scotland, ar Werddon, yn dangos u cwalities, a ma yn dda gen i bod nhw yn gneid shwd waith piwr, a bod y netifs yn y gwletydd yna yn gwiddi encor gyta nhw; ond w i yn moin iddi nhw ddiall nag os dim leisens iddi nhw ganu y gan yna heb gonsylto sha fi yn gynta; ond trw fod Mabon yn diall y diwn mor dda, rw i yn rhoi liberty iddo fe iddi chanu hi ble myno fa - yn Ffrainc a Beljam, yn Germany a Rwsia, a phob lle bydd a yn lico, ar y condishwn fod a yn gweid ta fi ywr Hother, a ta cn speshal ir Darian yw hi, wetin fe fydd y fforinars trw Iwrop i gyd yn ala i moin y Darian bob wythnos, a falla caf i infiteshon i roi tro ir gwletydd yna iddi nhw gal golwg arno i. Ond bydd hyny yn profoco y fenyw lle w i yn lodjo, a fe allwn feddwl mod i yn gweld hen jib y bachan syn labror nos yn hongian fel cwt buwch achos y mod i yn gallu tori shwd stroc mwn gneid pishis o ganu fydd yn distyrbo y byd i gyd. Beth ywr ots gen i am deni nhw. Mynd ymlan ywn mysnas i, au gatal nhw i lingrach yn ol u dileit. Wel, w i yn gobeitho gnaiff y gn yna fwy o effect na ma dim arall sy weti dicwdd yn y confferensis i setlo popath, ac y gallwn ni ganu yto fel arfadd

Mae Hen Wlad fy Nhadau yn anwyl i mi.

HEN SGWIBS LLETWITH.
Os neb yn enjoyo strait hits y bachan yna sy yn scriblo Wales Day by Day, yn y Mail, yn fwy na fi. Ma nhw yn reffreshin bob amser, ac yn orijinal hefyd; a pryd bydda i yn melancoli, ma darllan i golofn a yn acto fel majic i ddod a fi yn ol in lle, a ma hyny yn llawar gwell na mod i yn gorffod prynu Patent Metsyn; ond w i am weid, gair yn dawal yn i glust a, a dyma fe - Dw i ddim yn f olon i fod a yn pwynto i ganon bob dydd at y gwithwrs sy ar y streic, a trio towli slyrs arni nhw mwn ffordd sly. Os os amball gnoc yn mhlith y gwithwrs yn tynu disgrs ar y boys erill, dyw a ddim yn deg doti nhw gyd yn yr un bwndal. Fe wyr Day by Day yn eitha da fod gwithwrs Cymreig yn weddol sensibl, ac yn gallu acto, ar gyfartaledd, mor jentlmanly a fe ne fi mwn unrhyw gyfeillach, a ma fe i hunan wedi clapou cefna nhw am hyny lawer gwaith; ac os os amball fforina yn y rancs, all y mwyafrif ddim orwth hyny. Y mae newyddiaduron Lloegar bron yn gyffredinol yn cydymdeimlo sefyllfa y coliars clawd, a os i nhw yn darllen i humors e, falla a nhw i etrach ar y streic fel rhyw huge joke, a bydd hyny yn sychu ffynon trugaredd. Ma dicon o allu yn Day by Day i bico sleishis o ddonioldeb o feusydd mwy cydweddol ai natur ddoniol nau cipio o gybyrddau gwag anneddau prudd y miloedd sydd heddyw yn gwingo dan bawenau yr hen arthes newyn, laddodd y dyn yna yn Nhreorci yr wythnos ddiweddaf, ac sydd yn lladd mwy na mar cyhoedd yn gwpod yn iawn. Da ti, boy bach, tro drwyn dy ganon i bwyntio at
Santiago y tyraniaid sy yn gneid u gora i starfo dy gydwladwrs.

RELWE NEWYDD I ABERDAR.
Ma shew o son wedi bod am gal Relwe newydd i Byrdar o Gardydd,
trwr Canal; ond ar ol ymladd yn galad am amsar hir, mar cyfan wedi mynd yn fflat. Wth gwrs ofynso nhw ddim i fi beth odd i neid, ond tysa nhw wedi bod mor gall a hyny, odd gyta fi un argiwmant fydda yn smasho argiwmants y Taff ar Rhymni yn yfflod. Fe fysa Lord Leven yn gweld y drifft yn gwmws. Yr iws mwya sy yn cal i neid or Canal yn awr yw boddi cwn a chatha, a fyswn i yn mynd ar Lord am dro ar hyd Banc y Canal o Byrdar lawr i Mountain Ash ar ddwarnod twym, a fe fentra i bysa fe yn gweid Fill it up at once, make a railway - make something of it. Buasai yn fendith cael Relwe, a llawn cymaint bendith cal gwared or fath afiechyd.

___________________________________________________
(x10) LLITH X.
Gweid y Mhrofiad. Caru ar y Beic. Os y Beto.

I chin gwpod am yr atnod syn gweid Cn di benill mwyn ith nain, fe gn dy nain i tithau. W i wedi bod yn gweid yn dda am y gwrbyneddig Hercomar syn glyfar i dynu pictshwrs, wath ma fa yn acto yn drwmpyn ato ni Gymry bob amsar, a ma fa wedi rhoi shiwt o ddillad gorsadd i Hwfa Mon. Nawr ma fa wedi ala presant i fi on llun yn y steil ddwetha, a w i yn moin i chi ddoti a miwn yn y Darian yr wthnos hon, fel bon wedjis i yn i gal a mwn pryd iddi fframo fa erbyn yn Dolig, a falla bydd rhai o nhw yn gweid u meddwl am dano wthoch chi yto. Weta i ddim gormod y tro hyn am dano, yn lle bo chi yn meddwl mod in moin brago munan.

GWEID Y MHROFIAD.
Man shew o beth i ddyn i allu gweid fod a wedi mynd trw bart oi ofid yn y byd yma. Ma rhai yn cisho gweid tar amsar mwya dedwydd yn u hanas nhw odd y tymhor carwriaethol, ond w yn ffaelu gweld hyny. Meddylwch chi am fachan ifanc yn gorffod aros mas ar y tywydd or yma am awr ne ddwy idd i wedjan ddod i gwrdd a fa, a fe allwn i feddwl fod amball ferch yn cowntoi hunan yn glyfar os bydd Twm ne Dai yn aros iddi nes fod u coesa nhw fel coesa cd, au danadd nhw yn rhinco yn erbyn u gilydd nes bod nhw yn ala ofan ar gwn yr ardal ddod yn acos ati nhw. I chi, syr, wedi mynd trwr parapharnelia i gyd, a fe licwn i gal cownt gyta chi ffordd ethoch chi trwyddi, i fi gal dilyn ych moshwn chi, wath w i yn cretu ych bod chi yn weddol glyfar wth garu sha Mishdres y Darian, fel i chi gyta phopath arall. Dw i ddim yn moin clwad beth o chi yn weid wthi, na ffordd o chi yn citsho am deni, dim ond jest cal hint gyta chi ffordd ywr ffordd ora i garu, a fe wn i am lawar run shwt a fi munan, a want cal gwpod yr un peth. Falla byddwch chi yn barod i weid run shwt ar
Sais The proof of the pudding is in the eating. Dyw hyny ddim yn deg ar gwesthswn fel hyn, wath beth i chin well o gatwr secret? I chi wedi mynd trwr perfformans, ar peth llia allwch chi neid yw doti bachan ar y ffordd reit i neid i ddiwty fel carwr.

Dyna sy yn hurto in lan bothtir fysnas yw fod cymant o wahanol short o garu. Ma amball un yn mynd ai wedjan dan i fraich i bob man, iddi dangos hi i bawb, fel sa fan falch fod an fyw, a ta dim ond fe all gal wedjan. Ma un arall yn cwtshan mwn rhw gornal tywyll, ac yn cwator ferch ifanc yn i facintosh nei ofarct, fel sa fa ofan i neb idd i gweld hi, a thwcid hi ddarno. Ma amball gwpwl wetin yn trin u gilydd wth bawb, ac yn prioti o dan ych trwyn chi, heb yn wpob i neb. Plan arall hefyd yw caru trw lythyron, a phob ochr yn iwso shwd ecspreshons blydcyrdlin nes yn ala i i ffeinto, run shwt ar llythyr caru odd Shon Wmffra, Llansamlet, yn son am dano yn y Darian ddwetha. W i yn ofan y steil hyn o garu, achos fod y merched yn catwr copies, au rhoi nhw ir cyfreithwrs gal bildo Breetsh o Promish yn erbyn y bechgyn. Mar son nawr fod y telephon yn cal i ddoti ar waith i gario secrets caru o galon i galon, ne o glust i glust fydda ora i weid falla. Ma rhai wedi bod yn trion myrswatio i bothti bod ffashwn mwn parta yn Nghymru o garu yn y gwely, ond w i yn rhy shei i wilia am rwpath felni. Dyma beth w i yn moin pwynto ato (er y gallwn i weid am lawar short o garu, heb beth w i wedi enwi) yw y steil ddwetha, sef

CARU AR Y BEIC.
W i yn gwpod na alla i ddim gweid yn meddwl ar y pen hwn, wth sgrifenun deidy mwn rhyddiaith, felly fe gymras yn hypnoteiso gytar awan i fi gal gneid pishin o ganu, a fe fuo getyn cyn cal mesur odd yn taro i ddod ag ecspreshons y nheimiad i mas yn reit, ond fe ceso fa yn y diwadd, sef Wyres Fach Ned Puw. Gryndwch chi nawr, a dysgwch y diwn i boys yr Offis.

A welsoch chi shwd beth ariod
Syn dicwdd yn y byd?
Ma rhw ffashwn od yn dod
O hyd, o hyd, o hyd.
Ond dymar clipar ar bob un,
Mae hon yn don, Myn Deic,
Sef bachan llon a geneth gun
Yn caru ar y Beic.

Rwyf wedi caru lawer gwaith
Mwn llawar dull a modd,
Ac roedd fy wedjan, dynar ffaith,
Bob amsar wrth i bodd.
Ac aem yn bwyllog ar ein hynt,
Ac amball gusan bach
Oedd i min well nag ucian punt,
I wneud fy mron yn iach.

Rhw garu dwl, dihwyl, didan,
Di-ffeelin, od o ffol,
Yw gyru ar y Beics ymlan,
Neu ynte yru nol.
Nid oes dim shawns i roi eich braich,
Rownd idd ei gwest fach ddel,
Ond mynd fel ellyll - O myn diaich,
Shwd garu - Wel, wel, wel!

Rhen ffashwn garu rhowch i fi,
Ma honon well gan mil
O weithiau, beth ddywedwch chwi?
Na charu ar y wheel.
Os yw pob bachan or un farn,
Fe ewn i gyd ar streic,
A sefwn nes bor Wyddfan sarn,
Cyn caru ar y Beic.

OS Y BETO.
I chi yn gwpod fod an ffashwn gyta ni Gymry i alw Beto ar amball i wraig odd yn arfadd cal i galw yn
Elizabeth pryd odd hi yn ferch ifanc; ond nid Beto felni w i yn feddwl nawr, ond y plan sy gyta dynon nawr pryd bydd cystadleuaeth mwn rhwpath, yw mentro coin ar bob ochor. Mar fysnas hon wedi dod mor gyffretin nawr fel ma nhw yn beto ar bopath bron. Slawar dydd odd dim son am feto ar ddim ond rasis a batls, a rhwpath or short hyny; ac odd dynon odd yn arfadd gneid hyny yn cal u cownto ishlaw sylw; ond mar system wedi dod miwn yn ddiweddar ir Steddfod, ir Lecshwns, ac i bob bransh allwch chi feddwl am dano, nes ma dyma yw hobi y dydd. Beth i chin feddwl yw holl frwdfrydedd ar awydd sy am gal gweld y Sportin Papers ar Ffwtbol Edishons, &c.? Os bydd rhwpath yn mynd mlan yn y lein hyn, mar dynon, ar plant, ar mynwod, yn casglu yn dyrfaoedd bothti shop ar papyra, ac yn stretshou gwddyca am yr hira, ac yn acor u llyced am y mwya, i gal gweld pwy sy wedi enill y ras, ner fatl, ar Ffwtbol Contest. Beth yw yr holl betruso sydd arni nhw? Nid am fod gyta nhw rhw olwg neillduol ar y gwahanol gystadleuwyr, wath falla na fydda nhw wedi gweld dim o nhw ariod, ond ma nhw wedi beto ar rhw ochor neu gilydd, a isha cal gwpod y result sy arni nhw, fel bo nhw yn gwpod sefyllfau poceti; ac ar ol dishgwl dros y cownt, fe fydd rhai yn gneid gwep cyhyd a ffidls, a rhai erill yn wen o glust i glust, ac yn werthin mor iachus a tysa nhw wedi enill i ffortshwn. Mar hen system fetyddol hon yn ddinystr cenedlaethol, ac wedi diweddu yn angeuol i ganoedd erioed yn mhob gwlad. Ma Cymru wedi bod yn weddol lan or fysnas, ond ma lle i ofni fod Cymru lan yn dirywio yn y cyfeiriad hyn, gan fod y betting fraternity yn cal u cownto yn bobol respectable. Pwy allu ddaw allan i gadw y llifeiriant dinystriol hwn or tir, fel bor hen atnod anwl ganlynol yn paran wir:

Pa wlad, wedir siarad sydd
Mor lan a Chymru lonydd?

___________________________________________________
(x11) LLITH XI.
Llythyr orwth Dim Ots Pwy; Hen Betheuach Tribannau


Tysa chi mor gul ych meddwl, a mor smwt ych barn, ac mor jelws ac amball hen iolyn w i yn napod, chesa ddim ddod mas yn ych papyr chi os na fysa fan dod mas och nodl chi. Fe wyddoch i fi weid gair ne ddou yn biwr ac yn ddecha yr wythnos ddwetha yn y Darian am fynywod parchus Cwmparc, a phob mynywod erill syn dangos plyc, a ma rhw hen fenyw o fachan wedi ala llythyr dienw ato i, i mlagardo i am hyny. Ma dicon hawdd gwpod ta hen goward yw a, ne fysan doti i deitl ar i stwff ne oi flan a, fel w i yn arfadd gneid wastod; wetin fe fyswn yn gwpod ble iddi fwrw fa. Ond w i yn gwinto pwy ywr boy, a rhyngoch chi a fi, ma fa yn perthyn ir comitee syn gwitho yn erbyn y mynywod bothtir Doctor. Dyma fi yn ala copi i chi or llythyr alws a, a fe gatwa yr un sgrifenws e yn saff, ac os caf i afal pwy un o nhw sy wedi i ala fa, fe gaiff e ddawnso heb ffidl o flan y nghaffls i, ne o flan y Judje:

TREORCI, NEAR CWMPARC,
Medi 7fed, 1896.

Y BACHAN IFANC.
Fu gyta fi ddim llawar o gewc arnot ti ddar wyt ti yn sgriblo yn y Darian, ond ma dy waldod di yr wythnos ddwetha yn profi i fi fod rwm tw let yn dy glopa di, a ta gora gyd pwy mor gyntad ai di i ala dy holidays i Benybont. Ma mynywod erill, am wn i, yn ddicon anodd idd u trafod, heb i ti stwffo rhacor o gonsait yndi nhw. Fe ddyla pob dyn yn i sensis fod yn gwpod rhwpath am beth ma fa yn sgrifenu, cyn ala miwn i bapyr cyhoeddus, ond dicon hawdd deall nag wyt ti ddim yn gwpod llawar am drics y rhyw deg neu litl biwties, fel wyt tir ionc dwl yn u galw nhw. Cymhar di at un o nhw, a fe gei di weld i biwty hi wetin, a fydd yn hawddach wilia sha ti. Os na, wyt tin gwpod trw brofiad, fe ddyla fod dicon yn dy hen glopa di i wpod am u acshwns nhw ariod. Chlywast ti ddim am Efa yn twyllor pwr dab gwirion Adda? Chlywast ti ddim am Dalilah yn gneid y dirty tric hyny or bachan cryfa fu yn y byd ariod, sef Samson? Yr un peth i nhw i gyd os ca nhw siawns, ond dyma ti yn dy Llythyra diened yn u seboni nhw a chwnuu llewisha nhw o hyd, ac yn u hanog nhw i joinou rijmants gydau gilydd yn erbyn dynon sensibl, pryd man ddicon anodd u trafod nhw un ar y tro.

Dim racor o dy nonsens di yn y lein yna, ne os dwi di byth i Gwm Rhondda, weli di byth o Offis y Darian wetin.

Yn fyr, ac i bwrpas,
DIM OTS PWY.

Byr ac i bwrpas, wir! Fe allwn i feddwl dy fod ti wedi bregawthan gormod o getyn heb weid dim ond dwli, a chwnu hen grach am Efa a Dalilah, fel ma hen glymyngwn cadachaidd ar enw dynon wedi bod yn gneid ddar dechreur byd. Mawr cymant y pelto sy wedi bod ar fynwod ddar ma nhw wedi dechra son am Womans Reit. Ma ishar platfform cymdeithasol i gyd ar rai short o ddynon. Welwch chi shwd waew sy ar y boy hyn achos fod y merched ar gwracedd wedi cwrdd au gilydd unwaith. Dyw a ddim yn folon iddi nhw acor u cega, druain bach anwl. Beth nelsa fe tyse fe yn gallu? U muzzlo nhw fel cwn Efa? Os bydd pethach ar lun dynon yn cwrdd i drafod rhw gonsarn digownt, mawr fel ma nhw yn wthi u gilydd lan yn y papyra, ac yn cynyg fod speetsh hwn ar llall yn cal u printo au gwasgaru ar hyd y byd, fel pe byddau cyfogiad wedi trawsnewid y cyfundraethau creadigol i gyd.

Rhowch wara teg ir Cymro,
A wara teg ir
Sais,
A wara teg ir merched,
Os di nhwn gwisgor bais.

HEN BETHEUACH.
Ma llawar o son yn y dyddiau presenol am gadw ein nodweddion cenedlaethol, ond man rhaid i ni ddiwygio llawar iawn, neu ar ol y byddwn. Ma hyd yn nod Gorsadd y Beirdds yn Nghasnewydd, o flan llyced yr Archdderwydd, Morian, ac Eifionydd, wedi gorffod ildio i bethach newydd ddod miwn, megis canu hymnau crefyddol, canu Sysnag gytar delyn, ac areithio Sysnag tu fiwn ir cylch cysegredig; ond dw i ddim yn mynd i roi lesn ar y pwnc hyn yn awr, wath w i yn meddwl sgrifenu cyfrol yr un seis ar Light of Britannia ar y mater yna cyn pen un dydd a blwyddyn. Beth w i yn tynu ato yw fod isha i ni fel cenedl i neid rhwpath i gatw meddylia a theimlata ieuenctyd Cymru tu fiwn i gylch ein nodweddion cenedlaethol. Ma llawar o areithio, pregethu, a sgrifenu bothti fod hapchwareuon a llenyddiaeth ysgafn tramoraidd yn enill tir yn ein gwlad. Yn ddiddadl fod hyny yn wir hefyd. A phwy ryfadd? Di ni ddim yn paratoi dim i atab natur ysgawn a chwareus y do ifanc. Allwn ni ddim dishgwl iddi nhw fod mor felancolaidd a dynon mwn oed. Pan oeddwn fachgen, fel bachgen y meddyliwn, medda un bachan call, a ma isha llenyddiaeth ysgawn a difyrus idd u atab nhw. Os dim isha ir lenyddiaeth hyny fod yn ishal a llygredig. Ma hen chwedlonau Cymreig ar gof a chadw, pe ond eu casglu at eu gilydd, lawn mor ddoniol a difyrus a dim a geir yn Sysnag. Cafwyd llawar o honynt yn Cymru Fu, a gyhoeddwyd ers chwarter canrif yn ol, ac y mae miloedd o wits gwreiddiol a miniog o eiddo ein hen dadau ar lafar gwlad yn deilwng ou cydmaru a dim sydd yn dod mas yn y dyddia hyn yn y Comic Cuts, Yankey Yarns, &c. Ma hefyd ddigon yn Nghymru allant gynyrchu rhai erill, heb fod ynddynt ddim yn llygredig na dichwaeth. Y mae amser i chwerthin, ac amser i wylo. Ma digrifwch yn angenrheidiol, a llawenydd yn anhebgorol in hiechyd, onte fe awn yn gronics stoicaidd a phendrwm. Nodwedd arbenig hen dadau Gwent a Morganwg oedd canu Tribanau iw gilydd er difyrwch a mwynhad, ac y mae yn ddrwg gen i fod yr hen fesur hyawdlym yn cael ei ymlid o arferiad. Bu hen gyfaill yn adrodd wrthyf am y digrifwch a gaent gynt wrth eu hadrodd, a chofiai hwynt yn rhigl. Dyma rai o nhw: -

Gwenllian Forgan wisgi,
A wnei di ddod im helpu;
I ddodi pontbren dros y nant,
Bydd dda gen gant fynd drosti?

Dywedir ers peth oesa
Mai buwch or fro sydd ora,
Ond cyn boddlonir cyflawn serch,
Rhaid yw cael merch or blaena.

Hen widw, pan brioda,
Ceintachu fydd fynycha,
Ac ni fydd terfyn ar ei stwr
Am Tomos, ei gwr cynta.

Taw, taw, fe wyr hen wreigan,
Yn well na mynd i glebran,
Mae mwriad i am hon o hyd,
A digon byd o arian.

Pe bawn in widwar heddy,
Nid awn i fyth i garu
Un ferch ifanc - mi wna lw,
Mi fynwn widw deidi.

Fi wela Ynys Cynon,
Fi wela lan yr afon,
Fi wela Bentra Aberdar,
Lle gora gar fy nghalon.

Beth wnai di ag Ynys Cynon ?
Beth wnai di a glan yr afon?
Beth wnai di a Phentra Aberdar?
Lle gora gar dy galon.

Caf laeth yn Ynys Cynon,
Caf ddwr ar lan yr afon,
Caf gwrw gwych yn Aberdar,
Or gora gar fy nghalon.

Dyn helpor bachgen gwirion,
Fe helodd haner coron,
Wrth dreto merch o Aberdar,
Mae hiraeth dar ei galon.

Dyna fel odd yn hen dadau ni yn difyruu gilydd, ac fe licwn weld yr hen steil yn dod nol yto, a gadewch i ni gofior atnod, - Yr hen a wyr, ar ieuanc a dybia.

___________________________________________________
(x12) LLITH XII
Y Wasg Sysnag; Rwpath ir Merched

Mr s hyn yn mynd mlan mwn rt dychrynllyd gyta phobpath. Ma un record yn maeddu record arall, ar record arall yn maeddu record i
hunan, a wn i yn y byd mawr ble stopiff y records. Fe ellir dweyd am deni nhw fel odd y bardd Morwyllt yn gweid am i Filgi,

.......Mellt try dan am wyllt redeg
.........Erys o dol ar ras deg.

Ma rasis dynon, rasis ceffyla, rasis beisicls, rasis ffwtbols, rasis infentions, rasis canu, wrth drio maeddu records u gilydd, yn mynd strim, stram, strellach, fel nag yw a ddim yn bosib hyd yn nod i fachan ifanc nimbl fel fi allu dilyn nhw, heb son am hen wr gwraig fel chi. Dw i ddim yn meddwl fod injin daioni yn mynd yn nghynt yn awr nag odd hi slawar dydd, wath ma cymant o opstacls ar y leins yn deleioi phrogress hi, a gormod o lygej gyta hi i gario wrth fynd o steshwn i steshwn. Ar y llaw arall, ma ecspress drygioni yn maeddu record yr hen amsar gynt yn yfflon jibets. Mar cownt i nin gal bob dydd yn y papyra am y twyllo, swinglo, lladd, a llabyddio, yn ddicon i alar horors ar Belzebub, ac ala Lusiffer i ffits. Mar wasg Sysnag yn ecsposo pob short o garitors, ac yn gweid mor glyfar ma scamps diegwyddor yn gallu twyllor byd, a mar stwff hyny yn dod i ddwylo iengtyd anystyriol, a llawar o nhw yn cretu galla nhwnta ddodjo cymdeithas fel odd yr hen griminals yn neid. Mar budreddi mwyaf drewllyd yn cal shwd resephon, ar cyhoeddwrs yn cal shwd intrest piwr am deni nhw, nes ma argraffiada newyddion yn dod mas bob dydd mwn rhw ffurf neu gilydd o hanas Charley Peace, Dic Turpin, &c., nes ma refflecshon o honi nhw iddi weld yn blaen yn y gweithredodd cythreulig syn cal u cyflawni bron yn ddyddiol yn y byd. Pwy all ddychmygu dylanwadau niweidiol shwd lenyddiaeth ddrewllyd? Fe ddyla membars yr House o Comons ar House o Lords joino gytau gilydd i sprago wheels masheenary shwd drash melldigetig. Os dim dowt gen i na fysa Cymru mor ddued a Lloegar yn y lein hyn tasar Wasg Gymrag mor llygretig ar Wasg Sysnag, wath ma doti llyfra drwg or short yna yn nwylo plant o feddylia tynar yn gwenwynou natur nhw. Trw drugaredd, mar stwff syn cal i gwco i blant Cymru o gwality refers oltwgeddar. Teisenau bach pur o ffwrn rinwedd syn cal u hestyn iddi nhw, a dyna beth ma nhw yn enjoyo, a ma gran iach ar u caritors nhw achos hyny. Mar dynon da sy gyta ni yn yn gwlad yn partoi bancwets ir plant yn y cyhoeddiada mishol yn gneid mwy o ddaioni na all neb weid, a dyna achos, nol y marn i, fod Cymru mor ln a ma hi orwth greims sy mor fynych yn duo gwletydd erill. Ma tuedd at ddarllan yn geino o hyd yn mhlith y plant fel ma addysg yn cynyddu, a w i yn cretu ddylsa ni bartoi racor ar gyfar y rhai bach. Plan da allwn i feddwl fydda i rw brintar Cymrag speciwleto i ddod a phapyra dima wthnosol o ddifyrwch diniwed iddi amiwso nhw, a gwrthweitho dylanwad y trash Sysnag syn enill tir yn mhlith plant ysgolion dyddiol Cymru. Dylid cymysgu ticyn o lawenydd a digrifwch yndi nhw fel amrywiaeth, yn lle bod nhw yn rhy ddefoshynol. Dyw a ddim yn neis i weld plentyn yn ormod o hen ddyn : Pan oeddwn blentyn, fel plentyn meddyliwn, medda rhw fachan ich chin gwpod am dano; a w i yn cofio Cynddelw enwog yn gweid rhw dro ma Peth chwithig iawn fyddai gweld cyrn hwrdd ar ben oen bach.

RHWPATH IR MERCHED.
W i yn cretu hefyd yn bod ni ar ol mwn cwcan dicyn ragor o lenyddiath at dast yn merched anwl ni. Ma bwyd syn siwto stymoca eliphantaidd arglwyddir greadigaeth yn rhy drwm i apiteits delicet y rhyw deg. Mar Seison wedi diall hyny, a ma any amount o lyfra a phapyra yn cal u printo syn siwtou palet nhw, a ma nhw yn gallu u dijesto nhw heb alar beil ar y litl biwtis. Ma merched yn moin dicyn o gownt am y ffashwna. Shwd flota, a phlyf, a ribana, syn shiwto yn u heta au boneti nhw. Pwy seis ywr leg o myton sleefs i fod leni, a phwy gylers syn mynd yn y sesn. Ma nhw hefyd yn lico darllan amball stori garu ddoniol ac effectif, a chal dicyn o gwcin instrycshons. I ni yn fwy o hen stoics na nhw o getyn, ac yn cownto nag os dim isha dim yn speshal iddi nhw, ond bod rhaid iddi nhw enjoyo run stwff a nina.
Arno i ofan fod llawer on merchad yn troi at y Sysnag, achos nag i nhw ddim yn cal wara teg yn y lein hyn. W i yn trio rhoi amball friwshonyn bach iddi nhw amball waith, a w i yn cal compliments gyta nhw am hyny. Tyswn in diall y patrwna yn dda, fe ddelwn a ffashan plets or niwest steil mas yn y llythyra, a fe newitwn yr hedin sy gen i yn LLYTHYRA AT Y MERCHED yn lle Llythyra Newydd. Os na naiff cyhoeddwrs Cymru rhw fwfmant yn y lein hyn, fydd gyta fi ddim i neid ond starto offis y munan, a chal masheen printo speshal, ac engejo cwpwl o ladies respectabl a thalentog in helpu i, a os dim dowt gen i na fydd y speciwleshon yn paying consarn, ac y caf i y matroneiso gen merched Cymru o Gargybi i Gardydd, a fi fydd yr hero of the day yn y ffeminein sircl, a fe fyddan i gyd yn gweid yr atnod hyn fel atrodd pwnc,-

.......................................Efe i ni yn mofyn,
................................Ir rhyw deg efe ywr dyn.

___________________________________________________
(x13) LLITH XIII.
Cn i Lord Tredecar

Ma nhw yn gweid wrtho i fod dynon mawr y wlad yn lico catw y gwithwrs yn ddigon ishal, fel bo nhwn gallu gaffro nhwn well. Wel, wyn cretu fod y tywydd wedi joino gytar gwyr mawr hefyd, a mar ddou bowar cryf hyn fel dou elephant yn damshal dynon clawd i farwolaeth bron ar hyn o bryd. Dw i ddim dros rytag y gwyr boneddigs lawr hefyd, wath ma llawar o nhw yn acton first class shag at y clodion pan man nhwn u gweld hin mynd i bwsh, a falla bod llawar yn u trin nhw na fysa ddim haner cystal tysa nhw up the ladar. Dynar trueni na fysa rhai sy a dicon o arian gyta nhw yn speculato i roi gwaith i bawb. Wyn gweld bod yr Em Pees yn dechra acor u llyced nawr i ffindo gwaith i rai syn starfo, ond ble ma nhw wedi bod cyd? Own in meddwl wastod bod specs cryf gyta dynon fel nhw i weld ymlan yn mhell, a bod nhwn darllan y llifyr mawr yna ma nhwn galw Arwyddion yr Amsera
arno. Mar llifyr hynyn gweid, os nag wyn camsyniad, ma dyma fel bysai ar ol stopid cymant o bylla, a gwitha harn, a dur, a gwitha tin, a phob short o lefydd lle odd dynon yn enill bara chaws. Wyn Radical ir bn, fel gwddoch chi, a fe licwn weld y Disestablish yn paso gystal a neb, ond wyn folon i dowli a mlan am spel yto nes bor membars yn setlo ffordd i gal gwaith ir miloedd syn secur, yn lle bod hin mynd yn ddisestablish rhwng cyrff ac eneidiau gwithwrs trw bob part or wlad.

Ma arno i isha gweid gair ne ddou o bothtir pwnc hyn wrth Lord Bute, a Lord Dunraven, a Lord Tredecar, pryd cwrdda i a nhw, ne fe allwch chi alar Darian iddi nhw, os mynwch. Ma nhw wedi cal u shar o goin bob un or wth y gwitha sy ar u tir nhw, a din nhw ddim yn folon speco dim er lles gwithwrs. Man well gyta Lord Dunraven i sgwandro tocins ar rasis bata yn erbyn y Yancies na chwmpo dim dima or royalties ar y glo syn cal i gwni ar i dir a, er fod lot o byllan secur nawr o achos ffaelu talu ffordd. Beth ywr ots gyda fe; dyw e ddim wedi ala dima iddi shinco nhw, ond ma fan watshan pob cnepyn o lo ddaw lan, a dywr Slidin Scale ddim yn cwmpo dim ar i gownt e byth; ond tyswn i ar y Scale, fe rown i eitha wad o 100 per cent iddo mwn bothti wincad, a w i yn ffaelu diall na fysa Twm Isac yn mwstro o bothti peth fel hyn, wath ma fen lled gwic i weld twlla, a ma fa wedi dangos bod an gwpod cetyn, os nag yw an gweid llawar. Nawr, Twm bach, dyna fi wedi rhoi point i ti: gwitha
arno fel canon boy. I tin gweld shwd mae sha top y Rhondda.

Man rhaid roi clowtan i Lord Bute hefyd. Beth ma fan pido startor pwlla sy gyta fei
hunan; ma rheiny bound o dalur ffordd, wath os dim royalties gyta fe i dalu i neb. Tysa nhw yn talu dim iddo, ond jest dod ar ddou pen i gwrdd, fe ddyla u catw nhw i fynd, er mwyn y dynon syn talu grownd rent iddo. Wyn gwpod gall a ffwrdo or gora, wath ma dicon o dabs yn dod miwn iddo o bob man, os nag os rwyn yn cael shar gyta fa; falla fod rwyn yn cal gormod gyta fa, os i ni yn cal rhy fach.

Ma nhwn gweid ta short o fachan piwr yw Lord Tredecar, os byddwch chin i gwmpni a. Fe welas fod a wedi bod yn spowtan yn Cwrdd Blynyddol y tafarnwrs yn Casnewydd wthnos cyn y dwetha bothtir House o Lords, ag odd an gweid shwd fechgyn i smaco gwaith o nhw: iddi nhw gwpla araeth Mrs. Victoria (?) cyn cino, ond fod gwyr yr House o Cymmons wedi bod dros wthnos, a dim wedi cwplar jobin yto. Bod yn werth ir Commons gymryd leson gyta nhw, ac odd y tafarnwrs yn werthin yn iawn, a fe roison iddo ifad wetni, fel i nin arfadd gneid ar ol i fachan ganu cetyn o ganu piwr. Tysar gwr byneddig yn starto gwaith harn ne waith dur sha Shir Fynwa, i roi start i gwpwl o filodd iddi nhw gal tamad o fwyd, fe fysan getyn well trwmpyn, a fe ddela ysbryd Ifor Hl i glapoi gefan a, ac ysbryd Dafydd ap Gwilym hefyd i ganu iddo fa ar ben y pren lle odd an cwato or wth y merched slawar dydd. Cywydds odd Dafydd yn arfadd neid, achos odd dim o mesura y Daisy Bell a Stylish Marriage mewn ffashwn yr amsar hyny, a lled depyg ma rhwpath fel hyn bysa fan canu nawr i Lord Tredecar: -

O! my lord, nawr dyma le,
Rhag aflwydd, dyro gyfle
I budlars a balars gal bwyd,
A rhyw genel rhag anwyd;
Agor waith rhyw gwr o Went,
Yn deilwng, o dy dalent,
A fel Ifor Hl hefyd,
Heddywn biwr gwna ddan y byd.
Or dicon syn Tredecar, (Olnodyn: Enw ei breswylfod)
Rho un spec or arian spar;
I lu Gwent, rho le i gal
Ciniog, ne ddwy, iw cynhal;
Treni bod y truain bach
Yn llwgin fechgyn llegach.
Dera a shar o darian
I roi scwt i withwrs gwan;
Rhoi lliw tn tr allet ti
Ar nos yr hen ffwrnesi;
Da, boy bach, tro bwynt dy ben
At engur grytiau anghen
Yn hafal ir hen Ifor,
Eitha stamp, O! rhanath stor;
E gei dal, e gei delyn,
A gwn Duw, os gwnei di hyn;
Dyw arian, pan ai di i orwedd,
Yn werth y baw wrth borth y bedd.
Ar elor ei di i rywle,
O! my lord, meddwl am le
Respectabl.

Own in meddwl gweid lot racor o bothtir pwnc hyn, ond fe ath ysbryd Dafydd ap Gwilym i shwd hwyl, fel mar barddonwrs yn arfadd mynd, nes iddo fa dwcid cetyn o len llythir i.

___________________________________________________
(x14) LLITH XIV
Arath y Frenines.Y Bardd Newydd a Hen.

Ma arno i ddicon o want joinor Milisha, ne listo at y Regiwlars, ne ddringo i ben y North Pole; wath er cymant w i yn slafo i drio dod ar hen fyd yma iddi le, trw wilia, sgrifenu, a phoeni, paran dwp w i yn ych gweld chi a.r blwmin lot i gyd, o Sam Corcyn lan at y Frenines. Tysa pawb wedi gryndo arno i ddar w i yn sgrifenu ir Darian, fe fysar byd wedi dod or shap sy arnon awr, a bysar milflwyddiant yn pipan dros bena mynydda n gwlad ni; ond tra bydda i yn wsi wth bwsho cerbyd goleuni mlan, ma rhw hen gnoc nei gilydd yn doti sprag yn y wheel, ne rhw hen ffwl yn pwshon ol. Ma rhwpath fel hyn yn ddicon in ala i i frago munan, a gweid nag os neb yn diall pethach ond y fi, a rhw un ne ddou arall. Ma politishans yn gwlad ni run shwt ar hen fuwch hyny, ar ol iddi gal i gotro, yn rhoi cic ir stwc nes bod y llath i gyd ar hyd y lle. Pwy iws catw buwch felna? Dyna fel man membars nina wedi gneid. Ma nhw wedi bod am flynydda yn spowto o un man ir nall, ar hyd y wlad, ac yn yr House o Commons; ond ma nhw wedi cico beth odd yn dod ou spowts nhw wth gicou gilydd, fel nag i ni ddim yn well o gwbwl yn awr. O ni wedi cretu bod ni yn mynd i gal stwcad o lath Dadgysylltiad gyta nhw, ond fe gas hwnw gic pryd odd a jest yn llawn; ond ma stwc Disestablish mor wag a bu ariod; a ma rhai o nhw yn trioi gasglu a nol, a rhai erill yn gweid am i atal an llonydd, a spowto Home Rule i Gymru yn i le fa. Dywr hen fenyw Vic yn i harath ddim yn son dim am Wales, nac yn promish dim ir loyal subjects syn byw yma, er yn bod ni yn ala gwell cantwrs iddi na neb, ac yn ala votes of condolence iddi pryd ma isha. Fydda in bownd o roi scriwad iddi am hyn yto pryd cwrddai a hi. Alla i ddim bero shwd gontempt a hyn, a fe ddylan Em Pees ni gico row o bothti a, os os rhywfaint o blyc yndi nhw. Dyma well jobin iddi nhw gyd, na ffraeo shau gilydd, o Garnarfon i Byrdar. Os nag yw Cymru yn werth son am deni yn arath y Frenines, man well i fembars Cymru aros yn nhre i areithio ar Llewelyn ein llyw ola, neu ganu Hen Wlad fy Nhadau, a phleto casts dynon yn y County Court, ner Asisis.

Y BARDD NEWYDD A HEN.
Dyma hi wedi mynd yn scwabl rhwng y beirdds yto. Ma nhw yn bownd o gal amball rap o fatl, onte nid nhw fydda nhw. Ma rhw fachan or enw Elphin, yn y Geninen, yn bombardo bildins dychmygol yr anturiaethwrs Northpolyddol, anherfynedigaethol, a chaosyddol syn cwnu yn y dyddia hyn yn y byd barddonol Cymreig. I chi yn gwpod ta newydd ddod i ddysgu gneid pishis w i, a rhaid i fi bido bod yn rhy glyfar wth wilia am y canons hyn, onte fealla aiff un o nhw a fi ar adenydd eryradd awen, lan, lan, trwr cymyla ar eangdera, an ngatal i yno ar sgimbran diddymdra i benddelwi am fil o flynyddodd ac un dydd. On nhw yn ddicon beiddgar a hedegog i neid rhw dric felni un amsar, a pwy iws i fachan on short i i drio dilyn shwd atarn a hyn. W i yn diall amball bishin o waith y beirdd mawr slawar dydd fel -

............................................Dwyn ei geiniog dan gwynaw,
..............................................Rhoi angen un rhwng y naw.

Neu

............................................Dyma ben ar bob aberth,
.............................................A dyma waed mwy ei werth.

Eto

............................................Edrych yn y drych hwn dro
..............................................Yrr galon graig i wylo.

Ac amball benillion bach sensibl sy yn nes ato i na Georgum Sidas, ond mar Eliphantod ar Lefiathianod Newydd syn cwnu nawr mas on niall i. Beth w i wedi cal yn nysgu yw taw gwirionedd yw sylfan barddoniaeth. Dyma fel odd un bachan da yn y grefft yn gweid: -

Y mae i ddychymyg ei ran arbenig yn nglyn a barddoniaeth; a byddai son am fardd, heb ddychymyg o ryw fath, yn wrthddywediad mewn gair. Ond y mae pob gwir farddoniaeth, serch hyny, yn hawlio cael stamp gwirionedd ar ei holl gynyrchion cyn y cant eu harddel ganddi. Gwirionedd yn yr ystyr uchaf yw barddoniaeth i fod. Nid addurn ar wirionedd ydyw, ond gwirionedd yn ei addurn ai ogoniant uchaf.

Ond mar boys newydd syn hedfan lan yn ffurfafenau y Pryddestau Coronog yn y ngatal i ar hen stamp i ishta ar arffad gwirionedd; tra bydda nhw yn cymryd trips yn yr uchelderau eangfawr ar gefnau dychymyg a beiddgarwch na wyr neb yn y byd mawr i ble ma nhwn mynd, na phw bryd dwa nhw nol. Ma nhw yn yn ala i gofio am y bachan ath ar gefan ceffyl diarth; ond wedi ir ddou starto yn weddol deidy, fe gollws y bachan gontrol ar y ceffyl; a phryd o nhw yn mynd ar garlam gwyllt, dyma ddyn odd yn i napod a yn gwiddi

Ble i tin mynd?

Wn i ddim, meddar bachan, gofyn di ir ceffyl.

Dychymyg syn riwlio yn rhy fynych gydar newyddioniaid pryddestol hyn; a tysa chi yn gofyn iddi nhw beth ma nhwn moin gweid fel ar fel, os gyta nhw ddim gwell ateb nag odd gytar bachan ar ceffyl gofynwch i ddychymyg. Mar class hyn o feirdds yn catw lein yr anfarwol Islwyn -

...............................Rhowch i hon dragwyddol heol,

yn u poceti wasted, fel lisens Pedlars, rhag ofn i Blismen Barddas ddod am u traws nhw, au cospi nhw am shetor rhefeniws. Odd Islwyn ddim yn meddwl i hona fod yn lisens iddi nhw fynd dros ben cloddia rheswm a chlogwyni anrhefn, i gaddug anelwig. Odd a am gal heol i dramwy ar hyd-ddi beth bynag fydd ei hyd neu ei lled hi. Yr un paent sy gyta rhain at bob pictiwr, ar un sway sy gyta nhw yn iwsor brwshis ar bob testyn. Ta beth bydda nhwn canu, or Dryw Bach ir Eryr, or Lygoden ir Eliphant, rhaid cal y terms newydd miwn rhwffordd. Dyma spesimen o un o nhw, yn Mhryddest Goronog Eisteddfod Llangordiniog: -

...........................................PRYDDEST: Y FERFA DROL.
..........Ardderchog Ferfa, - maen dy enw di
..........Rhyw swyn barddonol; dysglaer yw dy fri;
..........Henafol gerbyd! Y mae traddodiadau
..........Am danat ar goflyfraur pellaf oesau;
..........Cyn son am Orsedd Beirddion Ynys Prydain,
..........Yr oeddet ti, fel heddyw, yn erefain.
..........Pwy ath ddarlunia? Rhaid cael pwyntil seraph,
..........A llen o aur, cyn gellir gwneud un argraff
..........Ar feddwl gwan y byd oth werth anferthol.
....................Fe eilw rhai din Whilbar,
..........Ond ni wneir hyny fyth gan unrhyw scolar;
..........Maen rhaid cael llygad bardd,
.......... ..........A chrebwyll tincar,
..........Cyn gellir dy ddarlunio i foddlonrwydd,
..........A gweled ynot ddarlun pur perffeithrwydd.
..........Maeth freichiau coed yn lledu fel i dderbyn
..........Rhyw nafy mawr cyhyrog i dy ddilyn
..........Ar hyd yr heol, neu dros blencyn cul;
..........Rwyt ti fel angel, yntau megys mul;
..........Dy olwyn hefyd sydd fel cysawd claer
..........Osodwyd yno gan gelfyddgar saer,
..........I droi o hyd, trar ydwyt yn dy waith,
..........Fel un o fydoedd yr eangder maith;
..........Dwy goes sydd genyt, ond ni cherddant gam,
..........Rwyt yn eu cario ar dy daith fel mam
..........Yn carioi phlant; - maent hwyn rhy stiff
..........I wneuthur dim ond helpu cymryd whiff;
..........Beth am dy fol? Defnyddiol ydyw hwn
..........I dderbyn iddo ef y llwyth ar pwn
..........Sydd eisieu cludo. O! Ferfa, Ferfa Drol,
..........Gagendor anmhlymadwy yw dy fol.
..........Mae rhyw ysbrydiaeth yn fy ngyru mlan
..........I ganu iti, anwyl Ferfa lan.
............................................................Jeremiah Jupitar Jones,

Dyma fi wedi gweid dicon o meddwl wthoch chi, syr; ond os dim isha i nin dou foddrach sha nhw - y beirdds newydd na hen. Wetin, fe gwatwn gytan gilydd wth gefan yr atnod Rhwng gwyr Pentyrch au gilydd.

___________________________________________________
(x15) LLITH XV.
Llythyr orwth y Labrwr Nos; Gwroniaid y Pwll Glo


Ta yn bwy shap y byddwch chi byw yn y byd hyn, da ne ddrwg, ymdrechol neu esgeulus, fyddwch chi na fi na ddim byw heb fod rhw gomplaints yn yn erbyn ni. Dos neb yn y byd yn teimlon satisfied os na fydd gyta fe rhwpath i weid, ne neid, fydd yn profoco yr un nesa ato fa. Triwch chi rhw boint ddar och chin grotyn bach, fe ffindwch chi fod yn philosophy i yn reit yn y pwynt hyn. Wrth mod i yn meddwl am bethach fel hyn, te ddath stori hen wr bynheddig o ni yn napod yn net in ngho i, a dyma hi.

Pryd on i yn grotyn bach, medda fe, odd y ctsh mawr yn rytag o un lle ir llall, cyn ir trains ddod i fodolath, a odd yr un ysbryd yn y plant pryd hyny ac sy nawr am fynd yn mlan, ar ffordd gynta i fynd mlan odd mynd gyta r ctsh, a beth o ni yn neid er mwyn mynd yn mlan odd jwmpo ar gwt y ctsh; on o ambell hen grotyn stiff yn ffaelu cal gafal yn i gwt a, ar ffordd odd gyta hwnw i gal dicyn o bleser idd i ened (neur lle y dyle ened fod), odd gwiddi Whip behind,i dynu y rhai odd wedi llwyddo, i ddod lawr run man a fe.

Man introducshon i yn lled hir y tro hyn, ond fe fyddwch yn cydymdeimlo yn nt a fi ar ol i fi weid be sy wedi alar gwaew
arno i. I chi yn cofio pryd dechreas i sgrifenu ir Darian, fod y Bachan syn labror nos wedi rhoi ticyn o help i fi neid pishis o ganu, a nawr w i wedi dod i allu gneid nhw munan; ac achos bod fi wedi dod lan felna, ma fa wedi alar llythyr hyn ato i

Y PWLL GLO,
Chwefror 17eg, 1896.

BACHAN,
Fysan dda gen i allu dy gyfarch fel Anwyl Fachan, ond ma dy acshwns di yn doti ffwl stop
arno i i neid hyny, heb acto rhagrithiwr. Pryd o ti a fina yn y slwdj ar baw, o ni yn bartnars piwr, a odd dim dicon o gomplinients genti i fi yn y Darian am beth on i yn neid drosto ti. Ar y nghefan i dest ti mlan, ac ar y nghefan i wyt ti wedi byw, a nawr dyma ti yn troi dy gefan arno i. Ma dy dric di yn ddicon i ala fi i weid na n i ddim dros un bachan ifanc arall. Yr hen snot diddiolch. Ma llawar o dy short di yn y byd, fel mar gwithar modd. Ar ol i ni fel gwithwrs ych pwsho chi lan, i chi yn anghoflo o ble i chi wedi dod, a fe ddylach gal ych boddi i gyd. Ond bai i fi roi start i ti i neid pishis o ganu, fysa ti ddim yn gallu wafo fel wyt ti gydar beirdds, y big guns, ar Royal Family, a swagro dy bishis dy hunan o flan i byd. Ond cer di mlan yn dy bomp, a fe watsha i shawns y dy dwmlo di rhw getyn. Gan obitho aliff y nodyn hyn dicon o waew yn dy fasged fwyd ti, os nag wyt ti yn rhy ddigonshuns i ddim, y terfynaf.

Yr eiddot yn wrol,
LABRWR NOS.

Welsoch chi shwd impiwdants ariod?
Wedi i fii ddarllan a, fe dampas ar y nhrad, a fe ddotas yn het ar y mhen, a 6s. 8c. yn y mhocad a fe startas i ddishgwl am Morgans y cyfreithiwr, i gal libal arno, ond fe gitshws y fenyw lle w in lodjo yn gwt y nghot i, a fe nhynws i nol. Cymar bwyll, bachan, meddai, y maer dyn yn dweyd cetyn mawr o wir am danot ti a llawar arall, a ma fa wedi bod yn bartner piwr, ac yn eitha trwmpyn i ti, trw wpot i fi a darllenwrs y Darian.

Dyma hi yto, meddwn ina, yr un hen ysbryd ag sy yndo ni fel Cymry ddar y dechra, a ma fan para o hyd. Tynu yn gilydd lawr yw mottor Cymry, yn lle cwnuu gilydd fel cenedlodd erill. Os daw rhw Gymro lan trw anfanteishon, dyna ni yn pwynton bysadd ar i ol a, a gweid,

Welwch chi fe, shwd slebyn ma fa wedi mynd, a os dim llawar o amsar ddar pryd odd an tori glo, ne yn weelo whilber.

Beth ywr ots beth odd a? Beth yw a nawr ywr pwnc, a beth sydd isha gwiddi, Whip behind, achos fod a wedi dala cerbyd llwyddiant. Fe fyddan ffitach lawar bod nin gwiddi, Hip, hip, hwre! gydar boys syn cwnu yn y byd on plith ni fel gwithwrs. Falla bod yn well i fi bido tynu libal ar y Labrwr Nos y tro hyn, ond iddo fihafioi hunan o hyn i mas.

GWRONIAID Y PWLL GLO.
Man dda gen y nghalon i weld ticyn o gyffro yn y wlad bothti dangos parch ir bechgyn dewr syn mentrou bywyta i achub u cydwitliwrs yn amsar exploshon. Odd Judge Owen yn gweid fod y dynon yn haeddu cal medals llawn cystal a sowdjwrs a sailers, am riscou bywyta dros erill, a ma pob sens yn gweid hyny hefyd. Dos dim un or damweinia hyn yn cymryd lle yn yn gwlad ni nag os dicon o engreifftia or dewrder mwyaf arwrol, ond ni roddir dim iddynt i adgofio y gweithredoedd dyngarol hyn. Yn lle fod y mater yn cwmpo ir llawr, fe ddyla arweinwyr y glowyr, ar Permanent Relief Committee, gymryd y peth mwn llaw a unwaith, i gefnogi dewrion ein glofeydd, yn en beiddgarwch dihefelydd yn rhuthro i wyneb angeui hunan i waredu eu cyd-ddynion o grafangau dychrynllyd y danchwa! O! na enid rhyw ddarganfyddwr dyngarol a fedr osod ffrwyn seians i atal carlamiad dinystriol yr ellylles ddifrodawl hon. Y mae ymddygiad y rhai syn beiddio i ogofau angeuol hon:

I ddu dwll lle ni ddaw dydd - or haul
Fyth rhwng ei baradwydd;
Un oes o nos yno sydd
Yn rhyw gaos tragywydd,

a hyny tra mae anadl y danchwa heb oeri, er achub eu cyd-ddynion, mor deilwng o Victoria Cross, ag un milwr ai gwisgodd erioed. A phwy syn esbonio yr atnod ganlynol yn well na hwy.

Gwell angeu na gwarth.

___________________________________________________
(x16)
LLITH XVI.
Ashantee. Rhyfal y Coliar Clawd.

Ma shew o ysgrifenu wedi bod ariod bothti shwd le dychrynllyd yw rhyfal, a mar pictwrs arswydus o eni nhw yn ddigon i ala blan ych gwallt chi i bwynto at ser y nefodd - dynon wth y milodd yn cal u bwtshera, ac yn bwtsherau gilydd, nes bod u gwad nhw yn rhytag yn afonydd am filldirodd.
Ac i beth? I bleso whims rhyw hen sciwerod diened a dideimlad. Ma shew o frago shwd wlad olaedig ac efangyladd yw Prydan Fawr, ond mai hacshwns hi yn fynych iawn yn gweid ta hen goward digonshans yw hi shag at wletydd clawd. Dyma hi nawr yn shigloi phen, a chwnii dwrna, a shaffo o flan hen grotan fach o wlad, sef

........................................................... ASHANTEE.

Ia, John Bwl ai goesa tew, ai freicha hir, ai fola pwdin yn wafo o flaen hen frenin bach dwy drodfadd, ac yn galw ar i Genarals ai Fedgors, Liftenants ai Gaptans, Corporals ai Sarjants, a milodd o sowdjwrs, i fynd mas mwn bothti dic, i roi wipsi i blant barbaradd, isha na bysa hwnw yn gneid beth odd en weid wtho, er nag yw hwnw yn perthyn dim iddo fa. Odd yn dda gyta fi weld y pishin odd gytar bachan syn sgrifenuch Leedin Articls chin y Darian ddwetha. Odd en gweid tysa slebin o fwli fel Rwsha, ne Merica, yn insulto John, bysa fan trio gneid rhw setlmant shag e, os bysa shawns rhwffordd, ond pryd bydd en meddwl ta fe ywr boss, ma fe yn dangos i gaffls yn gwmws. Tysa dim llawer iddo fa ala cwpwl o ddeligats i Ashantee fel gnath a i
Berlin slawar dydd, i drio cal Peace with honor, ys gwetws e. Na, ma fan cretu gall a scwaro cownts y pwr dab hyn, a dod nol i frago ta fe ywr bachan idd u plamo nhw! Yr hen bothall ishtag yw a. Dyw a ddim wedi gatal i hen ddeleit o wado rhai llai na fei hunan ddar pryd ath a an gwlad ni. Ond nid yn wado nin deg nath a, ond sheton hen ddynon ni, trw bromish rhoi Tywysog Cymrag i ni; ond yn lle acto prinsipl, a rhoi shawns i Gymro pur, beth nath yr hen gnaf, ond bwco gwraig y brenin i Gastell Carnarfon i dwmlo ar lurginyn o Sais, a galw hwnw yn Brins o Wales. Dyna fi yn gweid i drics brwnt a yn i wyneb a. Ma arno i ddicon o want ala at frenin Kumasi, ar pwera bach trwr byd i gyd, i ofyn iddi nhw joino a ni, y Cymry, a dial Arabi Pasha o Ceylon in ledo ni gytan gilydd i roi eitha twmlad i Bwl ai gonffederets. Fe fu Rhufan un dwarnod yn wthu a wafo fel fe, a gweid ta hi odd mishdres y byd; ond ble maei nawr? A mor wirad a bod John Bwl yn mindo busnas pawb, ai fys yn llycad pobun, fe gaiff e sgriwad rhw dro doriff i asgwrn cefan ynta, wath ma fa yn gwanhaui unan wth watshan y Teritories ma fa wedi dwcid yn mhob part or byd. Man well i fi atal e ai fysnes nawr, wath fe gewn ddicon o gownt am i ddodjes a ar ol iddo ddechra mwrdror Ashantees.

........................................................... RHYFAL Y COLIAR CLAWD.
Odd hen sowdjwr yn gweid wtho i, pryd bysa nhw yn nghenol tan a mwg y rhyfal, nag o nhw ddim yn gweid nag yn teimlo danjar. Rhwpath tebyg i nina yn y gwitha ma. Wrth bod nin byw yn nghenol yr angen ar tlodi, yr anhapon ar lladdfeydd, i ni fel san i yn dod mor gyfarwydd yndi nhw, nag i ni ddim yn u gweld nau teimlo nhw, na gneid dim notis o nhw. Beth tysa dyn diarth clyfar, fel amball i MP ar Correspondent, yn cal golwg lawn ar dicwddiadau syn cymryd lle bob dydd yn ngwitha glo Deheudir Cymru? Dyna le bydda pictwr bron mor dorcalonus a batl
Crimea. Gweld tad ifanc heb gal hanar dicon o frecwast falla, a chrwstyn sych yn i focs, yn starto shar gwaith. Ma fan rhoi cusan ir babi bach ifanca o dri ne bedwar, ne os bydda nhw wedi cwni fe roiff bobo gusan iddi nhw i gyd, ag off ag e, mor hapus a sy bosib o dan yr amgylchiada. Ar ol mynd lawr i berfadd y ddaear, a chyrhadd i dalcan du, y mae yn pwno arni am i fywyd bach am rhw ddou ne dri swilt y dydd, i gal tamad ir teulu a fei hunan. Dyw a ddim yn gweld danjar, nag yn teimlo ofan. Er fod y top yn sgyrnu, ar gas yn wthu, a llawar o bethach erill yn i fycwth a, dyw a yn fynych iawn ddim yn cal amsar i feddwl am deni nhw. Ond Oh! dyna garag or top yn cwympo fel melltan ar i ben a, ac yn i daro fa i dragwddoldeb ar unwaith. Mar wraig ar plant yn ddifeddwl a llawan, a falla bydd hi drian yn fishi yn partoi swpar gora gall hi erbyn daw Tomos sha thre. Ond dyna gnoc wrth y drws; ac ar ol i acor, ma un oi bartnars yn i ddillad gwaith, ai wynab yn ddu, yn sefyll yno - yn ffaelu gwpod ffordd i ddechra gweid i negas; ond cyn iddo weid dim, ma Marin gwpod bod rhwpath y matar, ac yn dechra llefan. Ma fynta wetin yn trio stopid i gofid hi - yn gweid fod Tomos wedi cal ticyn o anhap, a chyta hyny ma corff y gwr ar tad ifanc yn cal i gario ir ty, a hanas gwirioneddol yn gweid i hunan. Pwy iws i fi drio darlunior amgylchiad - ma isha Raphael i dynu pictwr o hono, a ma pethach fel hyn yn dicwdd bob dydd; ond i ni wedi arfadd cymant o nhw fel nag os fawr o gownt am denynt, ond u claddu nhw or ffordd. Man wir fod ticyn bach o notis yn cal i neid pryd bydd ecsploshan ne rhwpath felni yn cnoco cwpwl o ganodd ir byd arall ar unwaith. Y pwnc mawr yw, Oti dynon syn agorad ir amgylchiada yma yn cal u talu au cydnabod fel dyla nhw? Otir byd tufas ir gwitha yn gwpod dicon am deni nhw? Oti ledars y gwithwrs yn dangos y petha hyn yn ddicon pointed wrth ddadlu reits y gwithwrs? Fe adawa i y cwestshwna yna ir sawl fon dewish idd u hatab.

Ma canodd o hen liprynod yn yn gwlad ni yn enill ffortiwns, nen u cal nhw, ar gefna gwithwrs clawd, mewn swyddi segur, dan lywodraeth yn gwlad ni; ac ar ol bod yndi nhw am dicyn o amsar, yn reteiro i gal penshwns biwtiffwl, fel odd Wmffra Huws yn gweid yr wthnos ddwetha; ond ar ol ir coliar clawd, a phob un arall bothtur gwitha slafo am u os mwn diffyg air, a dwr, a danjar, a mwn wys, a thraffarth, a chlodi, beth yw u penshwns nhw? Creitha glas, coesa cod, ar bedd.


...............A welaist tir glowr yn disgyn ir dyfnder,
......................Mewn cawell o haiarn, wrth linyn o ddur?
...............A duwch ei wyneb yn cuddio ei wyneb,
......................A niwl amgylchiadau yn cuddio ei gur;
...............A welaist ti ef cyn yr hwyr yn dychwelyd,
......................Ai esgyrn yn ddrylliau, ai waed hyd y lle?
...............Neun gorff ar ysgwyddau ei gydweithwyr diwyd,
......................Fel pruddaidd gynhebrwng yn mynd tua thre?

...............Os naddo, foneddwr ucheldrwyn, sythgefn,
......................Rho dro i ben globwll rhyw ddydd ar dy daith,
...............Cei yno olygfa na cheisi drachefn -
......................Golygfa uwch ardeb un pwyntel nac iaith;
...............A gwn y dywedi, os oes genyt galon -
......................Os oes ynot deimlad - os gwyddost beth yw,
...............Fod glowr yn treulio ei oes mewn peryglon,-
......................Fod glowr yn deilwng o gyflog i fyw.


___________________________________________________
(x17) LLITH XVII
Nadolig wrth y drws; Mari Lwyd

NADOLIG WRTH Y DRWS.
Nace sha chich hunan w i yn wilia y tro hyn, wetin otw i ddim yn doti Mishdir y Darian, fel arfadd, wrth ddechrar llythyr.
W i yn moin i chi ala Xmas Card orwtho i i ddarllenwrs y Darian i gyd, ar englyn hyn arni :-



.........Hael loniant yn galenig, - a lluniaeth
.....................Ir darllenwrs diddig;
...............Dawn a chn, pwdin a chig,
...............I wneud hwyl ddydd NADOLIG.




Pryd on in grotyn bach, w i yn cofio un bachan, odd yn cal i gownto dicyn yn dwp yn i ffordd, yn wilia am yr enjoymant odd an meddwl gal yn Dolig, a odd hen wag yn dicwdd i glywad a, ac yn gwpod shwd un hurt odd a, fe feddylws am blan i brofocor bachan, a fe ofynws ir cwmpni oedd yn dicwdd bod yno, os o nhw wedi clywad bod gwyr mawr Llyndan wedi towli dydd Nadolig yn mlan am wech wthnos achos bod y tywydd mor wlyb? Jawch, bosib, medda Dai, druan. Ma fan eitha gwir, meddar hen wag, fe ddarllenas a yn y papyr. Dyma hi yto, meddai Dai, os bydd rhwpath o ochor y gwithwrs i gal ticyn o enjoymant, ma nhwr hen snobs yn y Parlament, a phobman, yn treio doti stop arno ni, a dyma nhw nawr yn mynd i dowlir jolifficashon goran y flwyddyn idd u shiwto nhw, yr hen hymbygs!

Wel, dw i ddim wedi clwad fod Balfour na Salsbri yn mynd i dowli y Nadolig leni, ta beth, er cynddrwg i nhw, wetin fe allwch ddishgwl iddo gymryd lle gyta bod chi yn cal y Darian yr wythnos hyn, a trw bod ni fel Cymry yn lico canu cystal, tyma fi yn dod at ych drysa chi, anwl ddarllenwrs i gyd i ganu pishin bach o waith y munan.


.........................COMPLIMENTS Y TYMHOR.
.........................Dyman Dolig wedi dod,
..............................Ar cyfnod wedi gwawrio,
.........................I ni ganu pwt o gan,
..............................O anian in dihuno;
.........................Trowch y tant, fe ganaf i
..............................Nes byddwch chi yn dawnso.

.........................Rwyn cam gweled geneth fwyn
..............................O dan y Llwyn Cusanu,
.........................A bachan smart fel fin y fan
..............................Yn twcid cusan ddarni;
.........................A hithan esgus bod yn swrth,
..............................Yn gweid For shame wrth Shoni.

.........................Ma Shoni pan yn nghwmni Nel,
..............................Yn tori swel digynig,
.........................Maen swagro gytai wedjan dwt,
..............................Run shwt a gwrboneddig;
.........................Mewn gwir fwynhad ma fe a hi
..............................Yn dwli ddydd Nadolig.

.........................
Ma ambell un o feddwl smwt
..............................Am reido wrth gwt yr injin;
.........................Un arall sydd yn horn jig
..............................Nadolig gydar delyn;
.........................Ond gwell gen i gal geneth lan
.............................A chanu can ac englyn.

.........................Yn fishi iawn bur gwracedd glan
..............................Yn gneid y dishan wila,
.........................A herwi pwdins o bob rhyw
..............................I foddio duw y bola;
.........................Ma nhw ar plant au gwyr yn cwrdd,
..............................Nawr wrth y bwrdd i wledda.

.........................Ar deulur plyf bu mwrdro blin,
..............................I bleso dyn trachwantus;
.........................A gloddest fawr Nadolig wneir
..............................Ar gyrff yr ieir ar Twrcis,
.........................Ac ar y gwyddau rhif y ser,
..............................Maen amser torcalonus.

.........................Wrth neid post mortem ar yr wydd,
..............................Neu ar y clacwydd, druan,
.........................Bydd miloedd wrth eu gwir fwynhau,
..............................Yn lliou gweflau llydan;
.........................Wrth stwffoi fol bydd llawar un
..............................Yn mynd run llun a ffetan.

.........................Rhw sport a gwledd wnar Sais yn sgwar,
..............................Ond Steddfod gar y Cymro;
.........................Ni charwn i i neb gal cam,
..............................Rwyf am i bawb enjoyo;
.........................Llwydd i bob un ble bynag trig,
..............................Nadolig pan y delo.

.........................Yn awr wrth gwpla hyn o gan,
..............................I gadwch capan gwmws,
..........................Dymunor wyf i bawb lwc dda,
..............................I ala gwila ffamws;
.........................Nadolig llawan i chi gyd,
..............................Tufewn ir byd ar Betws.


..........................................MARI LWYD
Na fel odd yr hen ddynon odd yn arfadd a hi yn i galw, Fari Lwyd. Odd i yn arfadd bod mewn bri mawr yn amsar Nadolig slawar dydd, ond os fawr o son am deni nawr. Otw i ddim moin dangos y munan yn rhw scolar clyfar, ond fe glywas hen ewyrth i fi yn gweid am deni (a odd a yn glyfar, os dim dowt gen i), ta orwth enw'r Forwyn Fair, ne Mair Dda, odd yr enw wedi tarddu, a bod y beirdds slawar dydd yn iwso y gair lwyd am dda, fel Dwn Lwyd, &c. Ta beth am hyny, odd y Fari Lwyd odd yn arfadd dod bothti amsar y Gwila ddim yn depyg i fenyw, wath fe gwelas i ddi rai troion. Pishin o bren wedi cal i naddu run shap a pen ceffyl ne gaseg, os os rhw waniath yndi nhw, o bob lliw, a'i geg a wedi cal i neid mwn ffordd gallsa'r bachan odd yn i witho fa, i shiglo lan a lawr o gordyn fel sa fa'n fyw. Odd y bachan yn perfformio miwn o'r golwg dan sheet wen fawr yn i gwato fa'i gyd, a bachan arall yn i ledo fa wrth ffrwyn a rhipan coch ne las, fel ledo ceffyl.
Odd cwmpni yn mynd r Feri rownd trwr dre ner pentra, a chyn bysa nhw yn acto odd un part or cwmpni yn mynd mewn ir ty, a chauad y drws yn erbyn part arall. Wetin, fysa y rhai odd mas yn dechra pwnc trw dwll y clo, ar rhai odd miwn yn pwnco yn u herbyn nhw. Odd amball un yn lled ddoniol wrth y gwaith, a os bysa rhwun clyfar tu fiwn, odd an catw y Fari mas nes odd y boys jest a sythu. Rhwpath fel hyn odd y pwnco,-
.....Tufas,-
.............................Agorwch y drysa,
..............................Gadewch i ni wara,
..............................Maen r yn yr eira
....................................Y Gwila.
.....Tufewn,-
.............................Cer odd nar hen fwnci,
..............................Ma danadl din drewi,
..............................A phaid a baldorddi,
....................................Y Gwila.
.....Tufas,-
............................Mar gasag or perta,
..............................Gadewch i ni wara,
.............................Mae phen yn llawn cnota
....................................Y Gwila.
Tufewn,-
.............................Yn lle bo chin sythu,
..............................Wel, ledwch y Feri,
..............................I fiwn im difyrur
....................................Nos heno.
Wetin fe fysan yn martsho miwn dan ganu rhw hen lol fel hyn, -
............................ Ti dy lodl lidl,
..............................Tym tidl odl idl,
..............................Tym, tym, tym.
Os bydda merch ifanc yno rhwla, odd y Feri yn starto mwn wincad, ai phen yn acor, ar ferch yn screchan, fel gall merched screchan, yn uwch na hwtar Dowlash. Ar ol perfformio felni am spel, o nhw yn doti cap ne het yn ngheg y Feri i fynd rownd i gasglu at yr achos, ac o nhw yn llwyddo i neid coin piwr cyn cwplar Gwila.
 Dyna fi wedi rhoi cownt lled acos i chi shwd odd y Feri Lwyd yn cario mlan; ond ma addysg a goleuni wedii hala hi mas or wlad erbyn hyn, ac anaml y ma son am deni, a dyw hyny ddim colled yn y byd am wn i. I ni yn lico cofio am hen bethach er hyny, a dyna rheswm mod i wedi gweid cymant am yr hen arferiad hyn, a w i yn cretu bydd llawar o hen ddarllenwrs y Darian yn mynd nol o ran u meddwl at yr hen amser gynt wrth gofio am rw Nadolig y gnetho nhw, fel gnaiff llawar y Nadolig hyn, sef mynd i glwb y rhacs.
A fe wetan yr atnod hyn ar yn ol i:-
.............................Dyw amsar ddim yn aros,
..............................Ond wrth ei waith o hyd.

___________________________________________________
(x18)
LLITH XVIII:
Ffwtbol merched. Hen Bethach

Fel i chin gwpod cystal a fina fod rhai obrif drefydd yn gwlad ni wedi cal u bendithio yn ddiweddar, trw drugaredd, o fisit gen

Y WOMANS FFWTBOL CLYB.

Nawr, ma gyta ni rhw idea shwd beth yw a, a beth yw y New Woman up to dt. Ond bysa bod y fforiners yn clod i ddangos amball dwtsh fel hyn i ni, wn i ddim beth ddela o honon ni, na pwy shap fydda arno ni. Man mynywod ni yn rhy shei i roi cic ir ci ner gath, pryd y bydda nhw ar y. ffordd, heb son am fynd mas ir ca, lle bydd canodd o ddynion yn dishgwl arni nhw, i gico y belan letar, er bod yn mynywod ni yn gwpod y ffordd i gico row shai gwyr os bydda nhw mas yn hwyr, ne rhwpath felni, a man well gen i hyny na bod nhw yn cico ffwtbol.

Ond ta beth, trw bod nhw yn smart, a fina yn fachan ifanc, fe ddath pwynt clyfar i mhen i fynd i gal interfiw gyta un o nhw, fel ma reportars Sysnag yn gneid. I gal bod yn sportsman jeniwein, fe dorchas yn nhrowsis lan at y mhen-glyna, a fe ddotas seinat ar y mys bach, a ffon yn fy llaw, a shigar rhwng y nanadd, a off a fi. Wedi cyrhadd y lle o nhwn aros, fe alas y nghardan miwn i un o nhw, wath o ni yn cownto bod un o nhw ar y tro yn ddicon i fi drafod, a fe ddath ato i mwn bothti wincad, a fe gwnas yn het, a fe blycas y nghefan, a fe wetas yn boleit: -

Good day, Miss Nicarbocar.

Good day, Sir, medda hitha.

As you know, meddwn i, gan gwrlon mwstash o mysadd, iddi gal gweid y seinat odd ar y mys bach i I am Bachan Ifanc y Darian.

I understand, and am proud of the honour of meeting you, medda hitha.

Or boy ag e, meddwn i.

Beg pardon, I am not a boy, medda hi yn safej.

I was not mean you be boy, but I was say - or boy ag e - bout myself, wetas i, but you look like a big boy in them trowsis, but you look pretty boy.

Thank you, Mr. Bachan Ifanc, medda hi, for that compliment.

Trw ta Cymry yw darllenwrs y Darian, falla bod yn well i fi weid y part arall or interfiw wrthoch chin Gymrag.

Beth odd ych amcan chi, Miss Nicarbocar, i ddod lawr ato ni yn Nghymru i ddangos ych gallu cico?

Wel, odd gyta ni racor nag un amcan. I ni yn teimlo at yn secs, ac yn gwpod fod merched Cymru yn mhell ar ol u hos, a bod isha rhoi start iddi nhw shag at u modarneiddio nhw, a dod a nhw up to dt yn y New Woman era, yn lle bod nhwn llusgo ar ol fel hen fwnwod y ganrif or blan.

W i wedi bod yn wilia sha rhai on merched ni, a on nhw yn gweid wrtho i y dylasach chi gal ych hors whipo am dynu disgres ar y rhyw fenwaidd, trw wishgo dillad fel dynon, a dangos ych coesa i bawb.

O! medda hi, otin coesa ni ddim mor shapus a choesa bechgyn, bod isha i ni fod a chywilydd idd u dangos nhw, a dysgur ffordd idd u iwso nhw ?
Man dillad ni yn cuddion crwyn ni mor berffaith a tysa peisha a froca am dano ni, a ma pob comon sens yn gweid na alla ni ddim cico
yn ddecha yn rheiny.

Allsa chi ddim dewish rhw ricriashwn mwy unol ach natur chi fel llestri gwan, na cicio ffwtbol?

Fysa dim isha i chi ach short alw llestri gwan arno ni tysar gem hyn wedi cal i dysgu i ferched y cynoesau, ond falla nag odd dim cymant o isha iddi nhw ddysgu deffendo u hunen a sy arno ni fynwod yr s hon. Ma dynon wedi mynd mor ddigaritor a dideimlad yn awr, fel ma nhw yn wado a chicou gwragedd mor ddidrugaredd a tysa nhw yn gwn, a pheth iwsful iawn i bob menyw fysa dysgu y ffwtbol gm fel byddan nhw yn gallu cicou gwyr yn ol os bydd taro.

Wel wir, i chi yn wilia yn gwic, Miss Nicarbocar, meddwn ni, ond fysa yn well gen i i chi roi cusan i fi na roi cic.

Fe smeilws yn y ngwynab i mor neis, a fe wetws nag odd hi ddim yn arfadd rhoi cusan i fachan ifanc, ond bod greso i fi helpu munan. I chi yn gwpod, syr, shwd un shei w i, a fe ffaeles yn deg a macu dicon o galon i gymryd yr hint, wath fe ath rhwpath trwyddo i bob tamid, felswn i yn mynd i ffeintio, a fe ddishgwlas am yn ffon i gal starto, ond odd i ddim fel sa hi yn folon i fi fynd mor gyntad. Wrth shiglo dwylo, fe wetws bysan dda genti gwrdd a fi rhwbryd yto, ond fe fydd yn getyn henach pryd gweliff hi fi, wath o ni yn teimlo dicyn bach oi hofan hi, bysa hi yn iwsoi thrad a gneid ffwtbwl o fi.

Os dim isha i fi gynghori merched Cymru i bido dilyn ffashwn y merched hyn. Na, na, man well gyta nhw dori marc mwn steddfod, ne gonsart, na cico ffwtbol, a diolch am hyny. Dw i ddim yn erbyn i fechgyn a merched ifanc gal enjoyou hunen ir man eitha mwn ffordd respectabl, ond mar ffwtbal epidemic yn anoddefol, a reports y papyra dyddiol am deni nhw yn ddicon i ala dolur llyced ar ddynon sensibl, a ma fod merched yn mynd bothir wlad i neid shews cicyddol ou hunen, yn insult ar y rhyw deg, a fe ddylan gal i transportio i Shinbyctw, nes bod y rhiwmatic yn dofi u
coesa nhw.

........................Arwdd ddrwg ma arnoi ofan,
........................Yw gweled merch mewn dillad bachan,
........................Trowsis byr at ben i chlyna,
........................Er mwyn dangos snap i choesa.

........................Ma nhwn meddwl bod nhwn glyfar,
........................Achos bod nhwn dodo Lloegar,
........................Merched glan yn cico ffwtbol,
........................W in gownton afresymol.

........................Peth od iawn os na chawn eto
........................Weled merched bach yn bocso;
........................Hynod iawn fydd gweid Miss Bwlet
........................Yn y ring yn wado Corbet

........................Smoco sigaretsa chico,
........................Reido beisicl a bocso :
........................Licwn i byth weld yn wejan
........................Wedi dilyn steil y New Woman.


HEN BETHACH.
I ni, fel Cymry, yn leico son am hen bethach, a hen bobl odd yn yn gwlad ni ys canodd o flynydd yn ol. Man he-afieithwrs ni yn gwithon galad i ffindoj hen withan teidiau ni fel beirdds a llenorion. Bachan piwr i neid jobin felna yw Charley Ashton, y plisman llenyddol o ddinas Mawddwy. Ma fa nawr yn wilo mas am bob llyfr sy wedi cal i brinto yn Nghymru yn y can mlynadd dwetha, a ma bob sens yn gweid bod cetyn o drwpwl i neid hyny, a lled depyg na ffindiff a ddim o nhw gyd. Nawr, ma gen i blan i sparor rhai fydd yn byw mhen can mlynadd yto i fynd ir holl hobl yna, a dyma fe: - W i yn cynyg bod lle yn cal i neid yn un on iwnifersities ni at y pwrpas, a bod copi o bob Ilyfr gaiff i brinto o hyn i mas yn cal i ala yn streit yno, a doti pob bransh o lyfra ar u penau hunen, fel gall y sawl fydd yn dewish, yn mhen mil o flynyddoedd falla, fynd yno yn streit i ddishwl am y Ilyfr fydd an mofyn, yn lle bod gwaith wilo yn mhob twll a chornal fel sy nawr. Fe fyddai hefyd fel moniwments ir awdwrs, a fasa fa ddim yn ffol o blan i bob awdwr alai lun gytai lyfr, fel gall yn olafiaid ni gal rhw idea slwd foys odd yn byw cyn iddi nhw gal u geni, ahfe fydd y llunia hefyd yn bictwrs piwr i ddecorator rwm. Dyna fi wedi towlir hynt yn yn ffordd i munan, a falla cymriff rhw bartnar clyfar at i witho fa mas, a fe ffindiff hwnw fod gwir yn yr atnod, - Yn mhob llafur mae elw.

___________________________________________________
(x19) LLITH XIX.
Y Beirdds. Y Mynwod Anwl.

O ni ddim yn folon iawn ir bachan Shoni Hoi yna i weid mor gas a gnath a am y beirdds yn y Darian dwetha. Fe wddoch fy mod i wedi stretsho yn galad i baso fel bardd ar Orsadd Llanelli, a ma fod e yn galw ffoliaid ar y blwmin lot o ni wetin, yn fwy na alla i fero, er, wara teg iddo, odd a ddim yn gweid dim am dano i munan. W i fel sa ni yn spelian fod a wedi cal i dwtsh gen yr ysbryd syn trin pobpath os na fydd e yn i ddiall a. Hen garictor clawd yw hwnw, fel y canddo yn gweid fod y grapes yn ala rincod ar ar i ddanadd a achos fod an ffeili cal gafal arni nhw. Ma shew o gintach wedi bod ariod bothtin cynghaneddion, achos bod nhw yn rhy glyfar i bob cocosyn idd u diall nhw, a ma Shoni yn gweid bod nhw mor ddienaid a dramad o rwbitsh. Ma ilastrashon Shoni mor rwbitshyddol a fei hunan. W i yn eitha bolon iddo fe sgrifenu yn y lein ma fwya o ddileit gyta fe, a fe ddyla fynta fod yn folon ir beirdds gal dicyn o enjoymant yn u lein nhwnta.
Odd an wado ar y pethach syn dod mas yn Golofn Farddonol y Darian. Fe ddyla fe gofio bod hono wedi bod yn Infant School farddonol i rai o ser glouwaf ffurfafen farddonol Cymru heddyw, ag os nag i nhw gyd yn gallu tori marc ychal, man well bod nhw yn alau-hamsar felna na bod nhw yn crynhoi bothtir corneli i wilia, a wafo am hwcs a sprags, a drams rwbitsh; a gweid shwd dynwr piwr yw Bowlar, a shwd gicwr cas yw Bocsar, a ta hen bartin yr yffach sy ar hedin No. 9. Walla ta rhwpath felna syn shiwto Shoni; ac er mwyn iddo fa gal wara teg yn y Darian, beth ta chi, syr, yn i engago fa i sgrifenu cwpwl o lythyrau yn y lein yna, ac os gwela i byddan nhw yn cymryd yn dda, a gneid lles in cenedl ni, ac yn dderbyniol gan y darllenwrs, fe joina i gyta fa i sgrifenu amball lythyr yn yr un steil, wath w i yn eitha trwmpyn shag at y Shoni Hois fel w i at yr Em Pees ar Lords. Fe gynghora i Shona i gatwn bartnars ar beirdds i gyd, rhag ofan iddi nhw foycoto fa, a wetin, fe fydda yn lletwith iawn arno ta fa yn dicwdd marw; dotiff dim un o nhw gymant a phenill ne englyn ar i garag bedd a Lled debig ta jocan ticyn odd y boy, wath ma pob Cymro yn lico barddoniaeth, a os na fydda nhw yn gallu diall pob gair, ma nhw yn gallu teimlo y peth byw, os bydd hwnw yndo ta yn bwy fesur fydd a wedi cai i gyfansoddi. W i wedi dala notis lawar gwaith pryd bydd pregethwr wedi bod yn slafon galad trwr wthnos i neid pregeth, a wedi cretu bod gyta fa ideas naiff ir gynulleidfa i neido pryd bydd a yn u gweid nhw. Ond druan bach, fydd dim mwy o gyffro yn u plith nhw na ta fa yn gweid carag a thwll. Beth ma fa yn neid yn y dilema, er mwyn cael
ticyn o fywyd yn y cwrdd, ond gwiddi ar dop i laish yr hen benill anwl, -

..........................O fryniau Caersalem ceir gweled
...............................Holl daith yr anialwch i gyd, &c.,

a thyma stem ir lan ar unwaith yndo fe ar gynulleidfa. Er bod nhw wedi clywad yr hen emyn lawar canwaith or blan, mar peth byw sy yndo yn fywyd o hyd, a ma rhaid ta stoic o ddyn na fydd yn i deimlo fa.
Er ta gwisg wael sy am lawar hen emyn Cymrag, ma rhwpath yndi nhw na all un Poet Loret Sysnag bwsho idd i stwff e.

Er nas gellir dishgwl cyfanwaith clyfar a dysgedig gan feirdd (ieuanc ran fwyaf) y Golofn Newyddiadurol Gymreig, credaf fod llawar o berlau tlysion yn cael eu gatal yn ddi-sylw gan y Shoui Hois criticyddol, a fyddent yn cael eu hystyriad yn addurniadau yn nghynyrchion beirdd Seisnig ganddynt. Shwd beth yw cal enw mawr? Wetin, os dim ots beth sy gyta nhw, ma u pobpath nhw yn bownd o fod yn fawr. Dw i ddim yn erbyn darllan gwitha bendigedig y beirdds mawr Sysnag. Na, na. Fe ddyla dynon ifanc yn gwlad ni neid fwy o hyny, ond dw i ddim yn folon dishgwl ar witha n beirdd nin hunen trw spectol rhagfam, a gweid W in napod hwna, dyw e ddim llawar o gownt. Profwch bob peth, a deliwch yr hyn sydd dda. Dim ond gair ne ddou o ni yn meddwl weid yn y dechra yn nghlust y bachan Shoni yna, ond fe neidws y mwnci ar y nghefan i, a odd a pallu mynd i lawr. Dyna fa wedi ngatal i or diwadd, a fe drof at rhwpath arall.

Y MYNWOD ANWL.
Dw i ddim wedi gweid dim os cetin am deni nhw, a mar fenyw lle w i yn lodjo yn bycwth rhoi notis to cwit i fi os na cha nhw shar on ideas biwtiffwl i yn y Darian. W i yn apolojeiso iddi nhw gyd os pechais i, a man dda gen i bod nhw yn cymryd dileit i ddarllan y Darian, yn enwetig y mishis y munan. Ma cymant o bethach yn galw sylw a w i yn ffaelun deg a gweid pobpath run pryd, ond w in gwpod galla nhw weid sopyn mwn ticyn bach o amsar, a dw i ddim yn moin u tynu nhw am y mhen. Fe welas rhw ffwl yn sgrifenu mwn papyr Sysnag yn gofyn Is woman worth marrying? Ne yn Gymrag Oti menyw yn werth ei phrioti?

Clywsoch chi shwd sens ariod? O ni yn cretu ta ar gownt hyny goddefws Adda fynd dan oparashwn i dynu pishin oi hunan i gal gneid menyw yn y dechra, a fe allwn i feddwl wrth weld amball ferch ifanc smart, tar pishin gora odd yn perthyn ir hen fadder gas i dynu hefyd; a beth mar hen lap lal yna yn gofyn shwd gwestshwn, gwetwch chi? Ond dyna, beth odd an pwynto ato odd, na allsai wraig e ddim gneid crysa gwaith iddo fa, na gwella dillad y plant, na golchi, na ffwrno bara. Fod a wth brioti un fenyw yn gorffod catw dwy ne dair. Odd rhaid cal morwn i neid y gwaith, medda fe, a menyw i olchi, a dressmaker i neid dillad i wraig ar plant.

O ni yn gweid yn y munan pryd gwelas i y llythyr na fysa dim iws iddo fa wilia felna yn y Darian ne fysa mynwod Cymru yn i fombardo fa cyn pen fawr o amsar. Ond tyna, yn Lloegar odd an byw, a odd a ddim yn gwpod dim am gwality mynwod Cymru, a fe ddath rhw fachan mas yr wythnos ar ol hyny yn yr un papyr i weid gair am ferched yn gwlad ni, sy wedi ala y gwracedd Sysnag mas ou cof, a ma hi wedi mynd yn row ddychrynllyd. Man ddrwg gen i weid bod rhai o nhw yn danod bod llawar on mynwod ni yn ishta ar geryg y drysau o fora sboi nos yn watchan pawb yn paso. Fe gewch wpod gen i yto shwd troiff y ddadl mas, a fe watsha i na chaiff The Women of Wales ddim cam genti nhw. Man rhaid i fi neid atnod fach y munan i gwplar llythyr hwn

.......................Nid ywr gwracedd oll yn wyn,
...................................Mwy na ninau;
.......................Nid ywr haul bob pryd ar fryn
...................................Yn rhoii wenau.
.......................Llwyd, a brith, ariod ywr byd,
...................................Nol pob hanes;
.......................Aed y rhai syn wyn i gyd,
...................................Bothtiu busnes.

___________________________________________________
(x20) LLITH XX.
O Bothti Rhai sy wedi bod Bothti; General Rowlands a Parti Treorci.

Os ticyn nol i chin cofio fod Hwmffra Huws yn crafu i ben, a tynui wallt mwn gofid wrth drio ffindo gair Cymrag am y gair Sysnag Outing, a trw nag yw Morien ddim wedi dod mas idd i helpu a i neid gair, a fod Hwmffra a fi yn ddou drwmpyn, fe droias in Nicshonari i munan (wath ma gen i Ddic speshal at y gwaith yn ots na fe na Morian na neb arall or sgriblars), a fe ffindas air splendid am Outing mwn bothti dic yn y Nic i, a ma greso iddo fai iwso fa pryd bydd taro, a dyma fe: Outing Mynd o bothti. Shwd waith mawr? Wrth bo fi yn rhoi explanashon fel hyn i chi a fe, ar darllenwrs parchus i gyd, fe ddath i mhen i weid gair na ddou y tro hyn

O BOTHTI RHAI SY WEDI BOD BOTHTI.

Fel i chin gwpod fod sesn bod o bothti jest dod i ben. Ma llawar o hen ddynon a hen fenwod, bechgyn a merched ifanc, hen fatshilars a hen ferched gweddw, wedi bod bothti yn ddiweddar yn nwr y mr ar ffynona, yn y wlad ac yn y dre, a phob man gallsa nhw feddwl am dano, er mwyn rhwpath neu gilydd. Ma hen fatshilars yn mynd am Outing, ne bothti felna, er mwyn tampo mas ou gofid am bythownos ne fish. Hen ferched gweddw yn mynd i drio dala rhwshort o bysgotyn, tysa fa ddim ond hen witwar clawd a salw, heb un dant yn i ben, ond fod a mwn shp i neid gwr o fa, a fe ddywa nhw ag e i shp wetyn rhwfodd neu gilydd, os bydd dod ynddo o gwbwl. Bydd hen ddynon a hen fynwod yn mynd bothti yn yr haf i drio dod yn iangach; dishgwl, am iechyd, enjoyment a rhicriashwn ma nhw, i gl mystyn ticyn ar u hamsar yn manorani r byd; ond am y bechgyn ar merched ifanc, ma dicon o esgus gyta nhw i fynd o bothti i wilo am wedjis a sponars newydd. Ma llawer cownt smala i roi am deni nhw yr haf hyn fel pob haf arall. Ma llawar o winco wedi bod o bob ochor. Ma merched y wlad yn cretu ta miliwners yw bechgyn y gwithe, wth u gweld yn tori dash yn nwr y mr ar ffynona, a mar idea yn rhai o nhw drien, os ca nhw fechgyn o Ferthyr, Byrdar, ne Gwm Rhondda, yn wyr, y byddai nhw yn dod ir gold digins; ond not for Joe, allan nhw fentro nag os dim fwy o gilt yma nawr na sy yn nghar tatws ar erfin yn Shir Gr, Shir Byrteifi, a Shir Benfro. Ma rhai or Shoni Hoys or ochor arall yn meddwl ta merched ffermwrs werth u milodd sy yn y wlad i gyd, a nag os dim ond isha iddi nhw gwniu bysedd a rhoi winc, y galla nhw gal sawl fyna nhw; a fe gewch glywad amball un ar ol dod nol wedi bod bothti felna, yn brago gallsa nhw fod yn jentlemen ffarmwrs tysa nhwn dewish, ond nag o nhw ddim yn i weld a werth weil i atal y wedjis odd gyta nhw yma er mwyn cwpwl o foch a defed, ne lo a biwchod; ma nhw ddicon o loi u hunen allwn i feddwl. Ma pob short o honom ni yn y byd ys gretws yr hen wraig pryd gwelws hir mwnci, ac wrth fynd am amball Ouitng i nin cal golwg ar yn gilydd, a ffeelo pyls un ar nall. Gobeithio bydd y rhai sy wedi bod bothti leni u gyd wedi cal rhw feniffit mwn rhw shap ne gilydd, a bydda nhwn weddol hapus nawr hyd haf 1896.

..........Man rhaid ir rhai fu bothti - call a ffol,
..........I droi eu gwefla fyny, a dod nol;
..........Man galed iawn i Shoni Jones, mwstash,
..........I ddod i dori glo yn lle tori dash;
..........Ond dyna fel ma r hen fyd yn troi
..........Ar bob rhyw Shoni, - fel y Shoni Hoi.

..........Rol bod o bothtin nwr y mr am fish,
..........Ma dod yn ol mor gas a chwmpad prish;
..........Cysanuu gilydd wetin shiglo llaw
..........Mae Dai a Gwen, a llefan fel y glaw,
..........Y dod yn ol syn spoilor peth i gyd
..........Fe ddyla fod yn ddwr y mor o hyd.

..........Mynd bothti ir ffynona sydd yn ffein,
..........I wara croquet, - ifad dwr selein;
..........Man rhaid i rhai fydd yno warau part,
..........Mar dwr yn dysgu pawb i fod yn smart,
..........Mant ynou gyd a bywyd lond eu col,
..........Ond dynar jobin gwitha, yw dod nol.

..........Ar ol mwynhau plesera rhif y gwlith,
..........Rhaid i bob un.fynd nol, fel giar iw nyth;
..........Mar dod yn ol fel dydd ar ol y ffair,
..........Man rhaid cal cyfraith i ddiddymur gair.

Yr wythnos ddwetha on nin cintach fod yn gwlad anwl ni wedi colli shalc, a w i yn teimlo felni nawr, ond beth am y, dynon drws nesa - y Saeson? Ma darllan a chlwad am fel ma nhw yn mynd mlan yn ddicon i ala un dyn o gomon sens yn Pharisead, a gweid diolch i Dduw nag w i ddim run shwt a nhw. Os gytan ni ddim geira i weid u hanas nhw fel mae a yn u papyra nhwu hunen, - Horibl Trajedy, Teribl Slawter, Criwel Crime, Birmingham Bwtshary, A Maniac Abroad, Loves Venjans, Jack the Ripper agen, &c., heb son am y common crimes nag u nhw yn sylwi dim byd arni nhw, fel A Burglar under the bed, A Notorias Swinglar, Capture of a Land Shark, A Clue to the Silver Robbery, &c. Beth tan gwlad fach ni yn herweddi stwff felna bob wythnos? Hipocret ne bido, yr w i bownd o weid, diolch i Dduw nag i ni ddim felna ta beth. Dw i ddim yn lico sgrifenu ar bethach or short, a ddotas i ddim or testyn lawr achos hyny, wetyn, tyma fi yn gatal y testyna yna i, gyd i sgriblars y Penny Horibls.

GENERAL ROWLANDS A PARTI TREORCI.
Nawr w i wth y modd i weid gair ne ddou bothti y testyn hyn. Bachan piwr yw Huw Rowland - yn stico at i iaith ai freed. Odd ecspreshons y canu yn bancwet Cardydd wedi coclish cymant arno, fel odd a yn bownd o ala i moin y parti lan i wlad y Johnny Fortnights, idd i gyd-officars a, a big guns erill, ar Prins o Wales incliwded, i gal ticyn o flas canu y Rhondda. Odd yr hen foy yn enjoyo yn biwr, medda nhw, wrth glywad y coliars yn tiwno mor grand. Fe wddoch ta mwn pethach erill ma deleit y Prins wedi bod, ond lled debyg fod a wedi darllan yn llythyra i yn y Darian, pan fuo i yn rhoi lesons iddo os cetyn yti ol, a bod hyny wedii gonferto fa. Man shew o beth mod i wedi gallu troi pwynt deleit bachan oi short e, a ma fa yn dangos ticyn o sens fod a yn gryndo arno i. Fe licwn gal clywad gen G.wilym Rhondda, ne William Tomos, os bur Prins yn holi rhwpath am dano i wath i nin dou yn shew o bartnars pryd i nin cwrdd, ond dyw hyny ddim yn aml, fel ma gwithar modd iddo fe. Fe glywas fod y parti yn mynd i ganu ir hen wraig.ei fam heb fod yn hir, a fyddan wetin yn Royal Treorci Boys, a Royal Gwilym Rhondda. Llaw bidr yw Gwilym i bwsho pethach mlan. Er nag yw a ddim bachan stowt, ma dicon o blyc yndo ddar w in cofio, a dicon o fynd yndo hefyd; ac am y ledar, William Tomos, ma fa fel y banc, yn llawn o sens, yn llawn o brinsipl, a llawn o fiwsic, a ma fe ai barti yn glod i Hen Wlad y Menig Gwynon.

..........Ma stwff yn nghr Treorci,
....................Os yn wir, os yn wir,
..........A ma nhw wedi cwnu
....................Otin wir, otin wir,
..........Er nag i nhw ond coliars,
..........A labrwrs nos a haliars,
..........Mar Prins a nhwntan bartnars,
....................Otin wir,
..........A falla bod nhwn gendars,
....................Falla wir, falla wir.

..........Rhaid gwiddi Sweet Treorci,
....................Rhaid yn wir, rhaid yn wir;
..........A Penybanc am deni,
....................Rhaid yn wir;
..........Am ganu mwn shwd ffashwn,
..........Fe ddylar Prins rhoi penshwn,
..........Ir cor bob un feddylwn,
....................Dyna wir,
..........Ne falla ca nhw ffortshwn,
....................Falla wir, falla wir.

..........Wel diolch i Huw Rowland,
....................Ie wir, ie wir,
..........Am fynd a nhw i Scotland,
....................Ie wir;
..........A ma nhwn mynd yn fuan,
..........I ganu ir hen wejan
..........Syn riwlo Ynys Prydan,
....................Otin wir,
..........Rhoiff iddynt bob o gusan,
....................Gwnaiff yn wir, gwnaiff yn wir.

Gobeithio gnaiff hi. Amen gytar atnod God save the Queen.

___________________________________________________
(x21) LLITH XXI Y Mynwod yn Ymwroli

Y MYNWOD YN YMWROLI.
Ma yn destyn fwy unol an nheimlata tynar i, na sgriblo am greulondar a barbareiddiwch, a man dda gen i fod y litl biwties yn dangos shwd blwc mwn gwahanol fana yn ddiweddar. Fe glywas am rhw ffeirad pabaidd odd wedi enill cymant o serch y merched ar mynywod lle odd an byw, a bod gaffar y ffeirad wedi ordro fa i symud i le araJI, ond o nhw ddim yn folon iddi golli a achos fod an fachan piwr, a fe grynows rijmant o nhw bothti fa idd i stopid a i fynd, a gorffod i Faer y dre ala rijmant o sowdjwrs i drio cal y ffeirad, pwer ffelo, mas ou gafal nhw; ac er i un o nhw gal i saethun farw, a llawar or rhai erill i wowndo, o nhw ddim yn danto dim, a bu raid llusgor ffeirad ou gafal yn y diwadd. Odd rhaid fod an drwmpyn ne fysar mynwod ddim mor driw gyta fa, a treni na fysa fa yn cal llonydd i aros gyta nhw, a fe ddylar Maer gal y sac oi jobin am interfeero yn y fysnas.

Dyna fwfmant bron yr un peth yn cymryd lle yn Cwm-parc hefyd bothti Doctor. Dw i ddim yn mynd i bwsho nhrwyn miwn i setio pwy syn reit, ond w i yn lico plyc litl biwties Cwmparc run cystal a partnars y ffeirad; ma nhwnta yn drwmps ir Doctor sy yno nawr, a di nhw ddim yn folon iddo gal matal, er ta Sais yw a. Ma nhw wedi bod yn cynal conffrans oi ochor a, a odd bothti dou cant o ferched a mynwod wedi cwrdd, a dim ond un bachan o farbwr odd yn u plith nhw yn acto fel cadeirydd, a fe nath i waith yn eligant, a dyna odd ora iddo fa hefyd, ne fysa nhw fawr o amsar yn i shafo fe, a chribo i wallt a, os na fysa nhw yn i flingo fan fyw, tysa fa yn mynd i ddangos i nonsans mwn shwd le a hyny. O nhw gyd yn speetshon biwr digynyg dros gatwr bachan yn y jobin, ac yn penderfynu stico gyta fa tra bydd bwtwm wth i got a, ac ar ol iddi nhw weid y gair, ma shawns am deni.

Dw i ddim yn cretu fod y Doctor wedi tynu danadd neb o nhw eriod, ne fysa dim cymant o olwg gyta nhw arno. Ond ta beth, w i yn cownto bod cystal hawl gyta mynwod i weid u meddyla a sy gyta dynon, yn enwetig ar y pwnc hyn, wath ma isha Doctor arni nhw mor amal a sy arno nina, a gobeithio ca nhw wara teg. Mar bachan barbwr yna wedi gneid stroc biwtiffwl, wath ma fa wedi enill teitl nawr a fydd yn cal i napod dros y byd fel Ladies Chairman, fel nillws y Rocking Stone Chairman i deitl e amsar streic yr haliars. Fe dyna in ngwt atoi nawr gyta pishin o ganu iddi nhw yn lle atnod,-

..........Hwre! i fynwod Cwmparc,
..........Ma nhw wedi gneid marc yn y byd;
.....................Mar holl litl biwties,
.....................Ir Doctor yn serchus,
..........A hefyd yn drwmpod i gyd.


..........Hwre! i fynwod Cwmparc,
..........Fe gymra nhw garc shwd y bydd;
.....................Wath os ceir y bais,
.....................Gyta Cymro ne Sais,
..........Ma nhwn depig o enill y dydd.

..........Hwre! i fynwod Cwmparc,
..........Mar Doctor fel larc ar ei lwydd,
.....................Gytar ladies i gyd,
.....................Fe all goncro y byd,
..........Win siwr caiff a gatw ei swydd.

___________________________________________________
(x22) LLITH XXII Beirniadaetha steddfotol

Man dda gyta fi weld bod beirniadaetha steddfotol yn cal dod mas yn y Darian, fel on nhwn arfadd slawar dydd. Fe welais ddwy feirniadaeth yn y Darian ddwetha, ac on nhw yn lled dda a chownto pobpath gytau gilydd, ond fe allwn i ddangos ticyn o dwtsh iddi nhw ar y pwynt hyn tyswn in dewish. Ich chin cofio pryd och chi a fin grots fel odd y barnwrs pryd hynyn arfadd gweid, odd amball un yn cwni lan ar y platfform ai fys bawd yn nhwil llewish i wasgod, a bwndal o bapyra yn y llaw arall, ag ar ol peswch ddwywaith neu dair, a dishgwl rownd i gal gweld os odd pawb yn dala notis, wetin fysan dechra ar i fusnas run shwt a hyn, -

Derbyniwyd pedwar pishin ar y testyn, Pryddest ir Gath, sef Huwcyn, Llai nar Lleiaf, Abracadabra, a Ifor Hail.

HUWCYN. - Ma pishin lled dda ar y cyfan gen hwn, ond fod an colli wrth spelian, a ddim yn diall dim am yr h. Os yw an ifanc fe ddaw (n hen).

LLAI NAR LLEIAF. - Da ar y cyfan yto, ond dyw a ddim wedi diall i destyn. Ma fa wedi canu ir Cwrcyn yn ller Gath, wetin ma fa mas o gystadliath.


ABRACADABRA.- Ma hwn yto yn dda ar y cyfan, ond dyw a ddim yn rhoi dicon o ffling ir awan. Dyw a ddim yn diall beth syn anhebgorol angenrheidiol yn y testyn dyrchafedig hwn; ond mae an lled dda ar y cyfan, a fe allsa fod wedi enill oni bai fod a ar ol y tro hwn. Daled ati.

IFOR HAL.-Dyma nin awr yn nghwmpni Homar o fardd. Ma fan citsho yn i destyn fel dyn, ac yn dala wrtho fel gela. Y Gath sydd gyta Ifor or dechreu ir diwadd, o flan i thrwyn hi hyd at flan i chwt hi. Ma fa wedi gwishgor Gath yn mlodar awan, a fe ddyla y Bryddest hon gal i phrinto mwn llythrena o aur. Dyma spesimen i chi fel ma fa yn dechra a fel ma fan cwpla. Ma fan starto fel hyn, -

....................Ardderchog Gath! ma rhwpath ynot ti,
.....................Fel tigar pert, yn llawn o nefol fri;
.....................Mor ysgawn wyt ar angel ar dy drod,
.....................Ni chlywodd.neb din damshal dim ariod;
.....................Ac mewn cyfrwysdra nid oes dim ond un
.....................Yn debyg i ti, set y d--1 ei hun.

Mor aruchel ac hedegog, mor ddyrchafedig a sublime. Y mae yn mynd rnlan fel yna nes gallach chi feddwl bod chi yn gweld y Gath yn neidio, ac yn clywad y Gath yn mewan. Os dim un or beirdds erill yn twtsh fod y Gath yn lladd dim ond llycod, ond ma Ifor yn gweid am deni yn lladd blac pats ac atarn bach, a phobpeth. Ond i fynd yn mlan, gryndwch arnon cwpla, -

....................Y Gath! y Gath! y Gath! fel sidan ma dy flew,
.....................Yr wyt ti withan dena - withan dew;
.....................Am dwcid cig fe gei di lawar cic,
.....................Ma hynyn dysgu i ti fod yn gwic,
.....................Good bye, puss fach, mar diwadd wedi dod,
.....................Bydd son am danat tra for byd mewn bod.

Heb os, nac oni bai, Ifor Hal ywr gora o ddicon, a mar pishin ar y cyfan yn un or pethach gora yn yr iaith. Rhowch y wobr iddo. Ar air a chydwybod,
...................................................................................UTHR DDU.

Dyna fi wedi rhoi cownt fel odd y barnwrs slawar dydd yn arfadd gweid. Nawr, oti ddi yn gwella yn y lein hyn ywr pwnc? Mar

................................................PARCH. GURNOS JONES, LL.D.,

yn trio dangos i hunanyn getyn o slebyn wrth farnu yn ddweddar. Ma fa isha introduso rhw fforin steil i ni, a doti numbars lawr i ddangos cwalityr pishis, yn lle gweid yn blaem. Allwn i feddwl fod an depig fel sa fa yn scoro i rai yn wara bwlbina ne dobinos, a ta 15 ywr set. Rhwpath yn y steil hyn ma fan treio neid. Meddylwch chi fod lot yn cynyg ar rhw destyn, gwetwch Gwilym Meudwy, Bachan Ifanc, Hwmffra Huws, Morien, Cadfan, Brynfab, Watcyn Wyn. Hwfa Mon, Gurnos, Ceulanydd, a Dyfed, fysar barnwr yn gneid fel hyn a nhw, yn lle gweid lle on nhwn colli a lle o nhwn dda :-

......................................................NOD SAFLE 15..


 

Gwilym Meudwy

9

 

Bachan Ifanc

4

 

Hwmffra Huwa

7

 

Morien

7

 

Cadfan

13

 

Brynfab

12

 

Watcyn Wyn

14

 

Hwfa Mon

14

 

Gurnos

9

 

Ceulanydd

14

 

Dyfed

15



Efe yw y gore. Dynar cyfan ar ben, ac ofar dadl ar ol barn, os gwetws y dynon mawr. Yr achos mod i wedi doti ar ol 9 ar gyfar enw Gurnos yw i ddangos mod in byrticilar, yn lle fod an meddwl mod i yn sheto.
Faint o les yw rhw gawdal felna ir rhai sydd wedi colli. Dyw a ddim ond clocyn i gwato diffyg barn ne make up tric i sparo trwpwl i sgrifenu. Os dim sens mwn shwd goblerath, a gwetwch chi wrth Gurnos mod in gweid hyny os mynwch chi, ond cofiwch nag w i ddim yn gweid na all Gurnos neid yn nt sa fan trio; a dw i ddim yn gweid nag ywr barnwrs ereill mor dwp a fynta. Y gwir am dano, ma nhw mor depig iddu gilydd, a mor ystrydebol, fel i chin teimlo ar ol darllan un farniadaeth bo chi wedi darllan nhwi gyd. Os dim byd yn beth ma nhwn weid i stretshor diall na stimulate ysbryd y bardd ifanc. Din nhw ddim yn rhoi spectol ir crebwll na brwsh ir darfelydd. Din nhw ddim yn citsho yn llaw plentyn yr awan i helpu a lan i ben twmpyn Parnasws. Ma standard barddoniath yn cwni o hyd,ond ma standard barniadaeth yn sefyll yr un man, ag yn cwmpo nol yn fynych run shwt a Sliding Scale y coliars.

Os na watshiff yr hen wariars, fe fydd boys y gwad newydd yn tampo iddu stola nhw, a fe gaiff yr hen git i gyd y dirty cic out. Fe gwniff rhw Luther yn y byd barddol, a fe ddyscipliff hen fympwon Toriadd a bardd-babyddol ir gwtar, a fe fydd yn gweiddi o ben yr Orsadd Ac wele gnithpwyd pob peth or newydd, a fe fydd yr holl bobloedd barddol yn gweiddi nol - Amen.

Y steddfod yw Iwnifersity y beirdds, a fe ddyla barniadaetha fod fel Lectshars y Proffesors yn y coledgis yn expando bocsis menyddiar stiwdants. Fe all dyn cyffretin weid pwy ywr gora mwn cystadliath, ond fe ddyla barnwrs yn dysgu ni, trw bod nhw yn cal u talu am hyny. Fe ddyla y barnwrs stretsho cymint i expleino be syn dda a be syn ddrwg, a mar cystadliwrs yn stretsho i enill y wobor, a rhaid iddi ddod i fana hefyd. Ma dyddiau hen ffashwn Da ar y cyfan, a Hwn ywr gora, wedi paso, a fe fydd Standard 15 a numbars Gurnos yn farw geni. Rhag of an i fi ddod i drwpwl dyma fin darfod gytar atnod Yn mhob llafur ma elw.

DIWEDD.





DOLENNAU AR GYFER GWEDDILL Y GWEFAN HWN

0043c
Yr iaith Gymraeg

......

0934k

Y Wenhwyseg - tafodiaith y De-ddwyrain

0005k
Mynegai yn nhrefn y wyddor ir hyn a geir yn y gwefan; or tudalen hwn gellir hefyd
chwilior gwefan hwn r archwiliwr mewnol

1051e
testunau Cymraeg throsiad Saesneg yn y gwefan hwn


 

 

Diweddariad diwethaf 03 08 2002 :: 2004-02-05

Sumbolau arbennig: ŷ ŵ


Bler wyf i?
Yr ych chin ymwld ag un o dudalennaur Gwefan CYMRU-CATALONIA
On sc? Esteu visitant una pgina de la Web CYMRU-CATALONIA (= Galles-Catalunya)
We(r) m ai? Yu a(r) vzting peij frm dh CYMRU-CATALONIA (= Weilz-Katluni) Wb-sait
Where am I?
You are visiting a page from the CYMRU-CATALONIA (= Wales-Catalonia) Website

CYMRU-CATALONIA





Edrychwch ar fy Ystadegau / Mireu les estadstiques / View My Stats