kimkat0318k Llythyra Newydd. Bachan Ifanc. Tarian y Gweithiwr. 1899. Tafodiaith Morgannwg (Y Wenhwyseg).

10-11-2025, 19-10-2025, 20-09-2025, 12-05-2023, 02-05-2004, 03-08-2002







.....

Gweler hefyd / Vegeu també / See also:

 

 

A red and yellow flag

AI-generated content may be incorrect.
 (delwedd 0003g)

 

 

 

 

 

Gwefan Cymru-Catalonia
El Web de Gal
·les i Catalunya
The Wales-Catalonia Website

Cywaith Siôn Prys - Testunau Cymraeg ar y We

Llythyra Newydd. Gan Fachan Ifanc.
1899.
(Tarian y Gweithiwr)


(Yn nhafodiaith Morgannwg, neu’r ‘Wenhwyseg’).
Y Llyfr Ymwelwyr / El Llibre de Visitants / The Guestbook:

http://pub5.bravenet.com/guestbook/391211408/


a-7000_kimkat1356k Beth sy’n newydd yn y wefan hon?

Map

Description automatically generated

(delwedd J7523)

.....

Map

Description automatically generated
(delwedd J7058b)


.....

05 Ionawr 1899
12 Ionawr 1899
19 Ionawr 1899
26 Ionawr 1899

02 Chwefror 1899
09 Chwefror 1899
16 Chwefror 1899
23 Chwefror 1899
02 Mawrth 1899
09 Mawrth 1899
16 Mawrth 1899
23 Mawrth 1899
06 Ebrill 1899
13 Ebrill 1899
20 Ebrill 1899
27 Ebrill 1899
04 Mai 1899
11 Mai 1899
18 Mai 1899
25 Mai 1899
15 Mehefin 1899
22 Mehefin 1899

29 Mehefin 1899
13 Gorffennaf 1899 (Nodyn: Y Bachan Ifanc yn glaf)
20 Gorffennaf 1899
27 Gorffennaf 1899
03 Awst 1899
17 Awst 1899
24 Awst 1899
31 Awst 1899
07 Medi 1899
14 Medi 1899
21 Medi 1899

28 Medi 1899
12 Hydref 1899
19 Hydref 1899
26 Hydref 1899
02 Tachwedd 1899
09 Tachwedd 1899
16 Tachwedd 1899
23 Tachwedd 1899
30 Tachwedd 1899
07 Rhagfyr 1899
14 Rhagfyr 1899
21 Rhagfyr 1899

1899

 

A close-up of a page

AI-generated content may be incorrect.

(delwedd L1002a) (05 Ionawr 1899)

Tarian y Gweithiwr. 5 Ionawr 1899.

LLYTHYRA NEWYDD.

Gan Fachan Ifanc.

 

MISHDIR Y DARIAN, —

Dyma ni yto yn gwynepu blwyddyn newydd arall, na all neb ond y Bod Mawr a Almanac Moor ddweyd beth ddigwyddiff cyn i diwadd hi. Rhw breifat rwm sy gen yn Tad gora ni i gatw secrets yw y dyfodol, ac er bod llawer un sy yn meddwl i hunan yn glyfar yn trio pipan miwn drw dwll y clo, i gal gweld beth sy yno, fflat shot yw hi bob amsar, er fod ambell beth yn dicwdd fel i ni yn dishgwl rhai troion trw ddamwain, a wetin i ni yn brago wth yn gilydd — "O'n i yn gweid fel bysa hi” fel sa ni wedi cal rhw hawl yn ots na neb arall i fynd miwn i'r preifat Rwm.

 

Mawr shwd bwff sy yn perthyn i hi ynte fa? Pwy fysa yn meddwl blwyddyn yn ol am filodd o fechgyn gwrol a gwisgi, a merched glan a smart, bysa nhw yn pydru yn u bedda erbyn diwadd 93? Ond dw i ddim yn moin ych ala chi i'r melancoli ar ddechra'r flwyddyn newydd fel hyn, ond jest i fi ddicwdd slipo gair yn y lein yna heb yn wpod i fi, wth dowli golwg nol. W i, a'r bachan sy'n labro'r nos, a'r fenyw lle w i yn lodjo, yn promisho bod yn well y flwyddyn nesa na bio ni ariod o'r blan, a w i wedi clywad llawar o rai erill  yn promisho bod yr un peth. Ma shew o benderfyniada yn cal i gneid a'r ddiwadd pob blwyddyn ffordd ma hi i fod y flwyddyn newydd, ond erbyn aiff hono yn hen ma golwg dicon llapra ar yn penderfyniada ni fynycha. Ma cymant o seidins ar leins yn bywyd ni, a i ni yn troi miwn iddi nhw heb yn wpod i ni yn hunen, yn lle catw mlan yn streit shag at y steshons reit, a'n promisho a'n penderfyniada ni yn cal u gatal ar ol yn y seidins fel lygedj, nes ina'n well i ni neid fel yr hen lolo Morganwg slawar dydd, - i benderfynu pido penderfynu. Ma'r litl biwties yn dishgwl mlan miwn gobath ar ddechra'r flwyddyn hyn yto, a w i yn gobeithio fel ma nhwnta yn gobeitho, bydd rhw setlmant wedi cymeryd lle rhyngti nhw a John Tomos, a Dafydd, &c, yn ystod y flwyddyn, yn lle u bod nhw yn cal u catw mwn syspens am flwyddyn arall. Os dim dowt na fu yr hen streic yn achos i ddoti sprag yn wheel llawar bachan a merch i fynd i'r byd esmwth y llynadd yn yn districts ni, ond diolch fod gyta ni le i gretu bydd gyta nhw well shawns leni i gal coin i roi i'r ffeiraton a'r pregethwrs am u clymu nhw wth u gilydd yn — "glaf ac yn iach hyd anga." Rhw gontract bidir iawn yw'r prioti "hyd anga" hefid, a dyna'r gwitha ma gen yr ypar clas well shawns na dynon clawd i sheto yn y contract hyn fel yn mhob path (sic) [mhopath] arall, wath ma genti nhw ddicon o goin i brynu difors os bydda nhw wedi blino ar u gilydd, a ma hyny yn dicwdd yn fynych iawn, ond ma'n rhaid i'r pwr dabs stico mlan trw'r tew a'r tena er gwell, er gwath nes fod y torwr bedda yn tori'r contract rhyngti nhw.

 

 

A close-up of a text

AI-generated content may be incorrect.

(delwedd L1002b) (05 Ionawr 1899)

GWYL MABON YN Y BEDD.

 

Fel w i wedi bod yn dishgwl yn ol trw grombil a fferfadd y flwyddyn '98, odd pob path (sic) [popath] yn dod i'r golwg, ac nid odd isha X rays iddi ffindo nhw mas, a fel ma fa yn naturiol i deimlata pob un sy yn gwbod rhwpath am deimlad, odd colli hen gyfeillion ne gyfeillesau, enwogion ac enwogesau, yn achosi rhw senseshon yndo i. W i dicyn yn sensitiff fel gwddoch chi, a w i wedi teimlo wth weld hen bobol a hen bethach yn mynd un ar ol y nall, a dim neb na dim gwell yn dod iddi lle nhw. Dw i ddim yn mynd i son dim yn awr yn neillduol am y propensities da, na drwg odd yn perthyn i'r hen gyfeilles "Gwyl Mabon." W i yn cofio amsar cas hi yr enw newydd yna, ond dw i ddim yn cofio pryd cas hi i geni er hyny. Odd hi yn y byd glofaol a mwnyddol o mlan i, ond achos fod Mr Mabon yn fachan glan odi hi yn meddwl os dim dowt bysa hi yn dod yn fwy enwog wth linco i enw fe wth i henw hi, a fe basws y cwbwl yn biwr cyd a bu yr amsar yn dda. Ond wedi i'r tyrn of ddi teid ddod, fe ddangosws y green eid monstar jelws, i hunan, a odd dim byw yn bod ond trw dori y cysylltiad perthynasol rhwng y ddou enw.

 

Dyna le w i yn gweld yr hen Wyl wedi colli shalc, na fysa hi wedi prioti ne gymryd enw bachan arall odd yn fwy yp tw det. Dw i ddim yn gweid dim yn erbyn Mabon, ond shiwt gwithwr sy gento, a fe wddoch fod hono yn mynd yn shaby cyn fod shiwt arall yn dod yn i lle hi, a odd Mabon yn yr amsar dda yn eitha mashar, a fa gretws Miss Gwyl ta felni bysa fa yn para. Ond ma stormydd yn y byd yma, yn spoilo y shein sy ar y brethyn er fod yr un sy yn gwisgho'r brethyn yn acos yr un peth. Beth bynag, ma'r hen chwaer yn ei bedd, a dyma ni yn dechra y flwyddyn newydd heb i chwmni hi, ond fel w i wedi hinto tysa hi ddim ond wedi cymryd at enw arall fe fysa fyw yn awr, ac yn cal i pharchu fel lady. Palla ych bod chi yn dowto beth w i yn weid, os di chi, ych pen-dwp-dra chi yw hyny, a yn lle bo chi yn meddwl y mod i mor dwp a chi, fe ecsploda i ar unwaith i chi gal diall fod cyw yn y pliscyn. Oti chi ddim yn gweld ych hunan yn awr bysa fa yn fwy teidy ac yn fwy respectabl i'r hen Wyl fod wedi dewish gwell sponar, a galw ei hunan yn “Wyl Syr William?" Dyn a'n helpo ni fel Cymry i ni wedi colli llawar achos dwldod yn hen dada, a'n hen fama, stiwpit ac afftar det, a di nina yn yr os ola hon ddim yn dangos yn hunan yn llawar callach nag o nhwntn (sic) [nhwnta].

 

 

 

A close-up of a document

AI-generated content may be incorrect.

(delwedd L1003a) (12 Ionawr 1899)

Tarian y Gweithiwr. 12 Ionawr 1899.

LLYTHYRA NEWYDD.

Gan Fachan Ifanc.

 

MISHDIR Y DARIAN, —

 

Hip, pip hwre!

“See the concrin hero cyms,

Sownd the trwmpats beat the dryms."

 

Hip pip hwre Cymry wedi enill, Saeson wedi colli - Ian a'r fflags — hwre! hwre!! hwre!!! Rhowch fenthyg ych het i fi, ne focs bwyd y bachan sy'n labro'r nos, bonat y fenyw lle w i lodjo, ne ben d---l y wasg, rhwpath, rhwpath i fi gal i gico. Ma nghoesa i ar y weiars, a nhrad mawr i fel canons yn barod at waith.

 

Beth all sefyll o'u blan nhw! Ma nhw yn gweid fod y Saeson yn yr hen amsar gynt wedi wado yn hen dada ni a mynd a'n gwlad ni. Os do fa, fe geso nhw how de dw yn Byrtawa dydd Satwrn dwetha, gwelwch yma,-

 

FFEINAL SCÔR.

G. T. M.

Cymru 4-2-4

Lloegar 0-1-2

 

O Abracadabra Jones, dyna glincar i Mr Smith, na chwniff a ddim o'i drwyn yto am spel wth son am ffwtbol, Ma'r telegraffs a'r telephons a phob teler arall yn screchan dros y byd, “Cymru am byth." Ma'r Druce cês, a'r Dreyfas Controfersy, Propoganda yr Emprwr o Rwsha, bysnas y Phillipeins, batls y Soudan, a rhw destyna o’r short yna, yn cwmpo i'r cysgod heddy, a os dim iddi weld yn y papyra, a'i glywad o Dan i Beersheba yn mhlith pob llwyth, iaith a chenedl, ond "The Great Welsh Victory." Son am y Sirdar a'i sowdjwrs yn wada cwpwl o Derfishies yn Omdurman, beth odd hyny at General Bancroft a'i ddynon yn smasho Internashonals Lloegr i'r dwst yn matl fawr Bertawa, dydd Satwrn, Ionawr 7fed, 1899. Dyma ddwarnod bydd son am dano tra bydd cic yn nghos y ffwtbolar dwetha fydd yn troedo ar y ddaiar. Ma'n membars o Parlamant ni yn gweid u bod nhw yn ymladd am yn reits ni yn Nghymru, ond wfft mor lliad o reits w i yn u gweld nhw yn dod i ni. W i cynyg yn bod ni yn rhoi'r sac i'r blwmin lot, a ala y pymthag bachan sy ar y Welsh Team leni i'r House o Comons i gico am yn reits ni, ac yna fe fydd rhw shawns cewn ni rhwpath o werth, a chaiff y Saeson, a'r Scotsh, a'r Irish ddim o'u ffordd u hunan i gyd.

 

Dyma i chi gicwrs sy wedi anfarwoli u hunen, a bydd u henwa yn perarogli ar dudalena hanesyddiaeth "Tra Mor, tra Brython." W i yn fecso mwy na alla weid wthoch chi na alla i ddim tynu u llunia nhw bob un, a'u doti nhw en bloc yn yn llythyr yr wthnos hyn, fel ma'r papyra Sysnag yn neid, er mwyn idd u pictwrs nhw gal u catw i'r oesa ddaw, er cof am y fudddugoliaeth fythgofiadwy hon, a fe fysa gwell shawns wetin gyta beirdds Cymrag yr oesa ddel i ganu clod iddi nhw fel i ni yn neid yn awr i hen wariors yn gwlad yn yr amsar ath hibo, fel Llewelyn, Glyndwr, &c. Treni i bod hi yn rhy ddyweddar iddi doti nhw yn destyn Arwrgerdd yn Steddfod Fawr Cardydd yr haf nesa, os na all y

 

 

 

 

 

A close-up of a document

AI-generated content may be incorrect.

(delwedd L1003b) (12 Ionawr 1899)

pwyllgor anturiaethus weld u ffordd yn rhydd iddi ddoti a yn ‘destyn ychwenegol,' a rhoi ecstra preis honorabl am dano, os gna nhw hyny, dyma fachan fysa yn cymryd slap ato, tyswn i yn gorffod colli nghysgu am fish ne ddou at hyny. Falla bydda nhw yn ddicon call i gymryd yr hint er lles ac anrhydedd y Steddfod, ac er gogoniant ein gwlad! Odd dylifiad poblodd lawar gyda'r trains o bob cyfeiriad i Byrtawa dydd Satwrn i weld y frwydyr ffwtbolyddol rhyfedd hon. Ma nhw yn gweid wthr (sic) [wrtho] i bod yno growd aruthrol, ac fod rhw 15,000 wedi talu am fynd miwn trwy'r clwyti i gal golwg arni nhw, a bod y llefydd uwcha'u prish wedi cal u hengejo yn gynar. Dyna i chi ffordd i neid coin, syr, a dyna atracshon gwerth son am dano. Beth i ni yn wilia am yn Cymanfaoedd Canu, yn Steddfota Cenedlaethol, y Gongregeshonal Iwnions, Undebs y Bedyddiwrs, a Shashwns y Methodists? Di nhw ddim in ddy sem stryt o getyn o ffordd wir; a os dim cwarter cymant o sylw yn cal i neid o nhw pryd ma nhw yn cymryd lle, na acos cymant o son am deni nhw yn

y papyra Sysnag sy yn cal u printo yn yn gwlad ni, ac yn cal u darllan hefyd. Odd yr ecstra edishons yn dylifo mas nos Satwrn, a phob dyn, dynes, a phlentyn bron a'u tocins yn u dwylo yn barod i gal y latest niws o'r field of batl, a phobpath yn cal i anghofio ond hyny.

 

 GOLWG ARALL AR Y TESTYN.

 

Dyna fi wedi gweid yn biwr un ochor, beth ta ni yn towli golwg i'r ochor arall i gal gweid shwd ma pethach yn dishgwl? Dw i ddim yn un o'r rheiny sy yn erbyn i ienctyd enjoyo'u hamsar mwn ffordd deidy, a dw i ddim yn mynd i ddadlu nag yw cico ffwtbol yn gamp o'r gora fel recrieshon, er fod llawar damwain ddimfol yn dicwdd achos u bod nhw yn wara yn rhy drwscwl Beth w i ofan yw yn bod ni yn sIipo yn rhy bell, ac aiff yn ienctyd ni bye and bye na fydda nhw yn rneddwl am ddim ond am y bêl a'r cic. Ma'r ysbryd cico fel lefain trw'r tir, a ma hyd yn nod y plant bach newydd dod i gerdded a'u trad bychan ar waith pryd gwela nhw rhwpath o shap pêl, a w i yn lico gweld rhwpath felna, ond beth am 15.000 ne 20.000 o bobl mwn oetran yn trafaelu pellderodd o ffordd i weld rhw dou ddwsin o fechgynos yn cico am y gora, ac yn talu yn bryd am gal y fraint? Ta i bwy short o gwmniath ewch chi, os na fyddwch chi yn diall rhwpath am y gem, di chi ddim yn llawar o gownt, a allwch chi ddim joino yn y wilia fydd yn mynd mlan os nag i chi yn wel fyrsd yn y tecnical points, ac yn diall beth yw y gol, try, minor, &c,, achos pethach o'r short yna yw Alpha ac Omega ffwlbolyddiaeth. Di ni yn Nghymru ddim yn ots na chenedloedd erill yn hyn, wath ma'r ysfa gicyddol wedi citshe yn goesa ienctyd y gw[l]etydd, ac yn cymryd meddiant o feddylia pob rhyw ac ôd, er nag os dim rhw flynydda maith ddar pryd ma'r wara wedi dod i sylw neillduol, er i fod yn hen mwn bodolath, ond ma cynydd u ddylanwad bron wedi mynd yn anorchfygol.

 

Fel w i wedi pwynto ato o'r blan, dyw yn prif wyliau ni, o'n i mor falch i son am danynt slawar dydd, ddim acos morboblogaidd a gwyliau'r bêl drôd. Ma'r bêl erbyn hyn yn cal mwy o sylw na'r awdl, yr anthem, a'r bregeth a'r cicwr yn fwy ei fri na'r bardd, y cerddor, a'r pregethwr. Pa fodd ma rhwstro y Ilifeiriant? Wn i, ddim, w i gatal y problam yna i rhw scolar gwell na fi idd i solfo, ys gwetws y dysgedigion. Beth ta Wmffra Huws yn cymryd at y jobin, ma fe yn fachan cwic ac yn diall y ffordd i analeiso bethach yn biwr digynyg. So long now.

 

 

A close-up of a text

AI-generated content may be incorrect.

(delwedd L0973a) (19 Ionawr 1899)

Tarian y Gweithiwr. 19 Ionawr 1899.

LLYTHYRA NEWYDD.

Gan Fachan Ifanc.

MISHDIR Y DARIAN, — Ma llawar iawn o waith gneid arno ni yn yr hen fyd yma i ddod a ni yn acos i fel dyla ni fod. Ma gyta ni ddynon da yn ala'u bywyd i drio gwella'r byd, ond dyna'r felldith fod dynon iddi cal hefyd sy'n trilo'u bywyd i ala'r byd yn wath. Wth ddarllan hanas y byd o ddwarnod i ddwarnod i ni yn dod i wpod am lawar o bethach sy'n dicwdd, na alla neb gretu bron galla rhai ar enwa dynon byth u cyflawnu. Dw i ddim yn cofio am gymant o dada a mama yn cal u cospi am fod yn greulon at u plant ariod a sy nawr, a dyna sy yn y mecso i hefyd fod cynifer o nhw yn Nghymru a enwa Cymrag arni nhw. Ma'n ddicon drwg fod isha cymdeithas i amddiffyn creduriaid mud, ond mae a yn tw bad fod isha cymdeithas i amfiddiffyn plant aelwydydd rhieni, ond dyna fel ma pethach y dyddia hyn, a ma gen y swyddogion ddicon o waith i neid i watshan acshwns o'r short, a ma tada a mama yn cal u carcharu bob wythnos bron yn yn plith ni. Fysa yr hen Gymry gynt ddim yn lwo i rhw dacla felna gal byw yn yr un lle a nhw, ond fe fysa'n yn cal u mobo o'r wlad yn ddibardwn, ond rhaid gweid fod y Society yn gwitho yn dda, a mawr lwc iddi nhw hefyd i ddoti'r wip ar gefna pawb o'r short yna, sy ddim yn gwpod y ffordd i fod yn garedig i blentyn bach diniwed. Dos dim llawar o ddynoliath mwn bod yn gas i neb, a ma bod yn gas wth blant diarth yn beth dicon digaritor, ond ma bod dyn ne fenyw yn gas iddi u plant u hunen yn abominabl tu hwnt, a wn i ddim pwy gosp ddyla nhw gal wth reit. Da iawn fod dynon iddi cal yn dishgwl miwn i betha felna, wath ma llawar hen gnoc dideimlad yn meddwl gall e neid fel ma fe yn dewish o i blentyn i hunan, a nag os dim bysnas gen neb i roi lesin iddo yn y ddyledswydd o drin plant, ond camsynad yw hyny, a ma bacad o'r bwystfilod hyn yn cal teimlo hyny hefyd yn ddiweddar fel ma gora'r lwc. trw fod dyngarwyr a phlantgarwyr wedi cymryd y matar mwn llaw.

 

Dyna ddosparth arall o foda sy ddim yn ffit i alw dynon arni nhw, a ma arno i ofan u bod nhw yn cynyddu yn y wlad hefyd, yw rheiny sy yn u trachwant am neid arian yn gwenwyno gwlad wth werthu pob afiechyd anaddas yn ymborth. Ma llawar o rai'n yn cal u clipo yn awr ac yn y man, ond para yn u pechoda ma nhw er hyny. Ma'n Llywodraeth ni ar i heitha yn gneid yr hyn a all i drio rhwystro y gwahanol afiechydon i ledu, ac y mae miloedd ar filoedd o bunau yn cal u gwario yn y cyfeiriad hwn, ond ta faint neir i buro, os caiff rhw dacla digonshans u ffordd i werthu bob trash afiach, fydd yn "Byrdda lechyd” ni ddim llawar o gownt. Fe welas pwy ddwarnod yma am rhw hen gnaf odd wedi ala porc i'r farchnad odd yn bwdwr a drewetig, ac yn ddicon i wenwyno hanar tref, a fe rows y majistret wech mish o hard labour iddo yn bresant am i dric. Un arall weti'n wthnos ddwetha yn trio gwerthu hen stoc o bicl samwn ar ocshwn ond fe ddath un o offisars iechyd yno mwn pryd i ddishgwl miwn i'r consarn, a fe ffindws fod y stwff odd yn y bocsis i gyd yn wenwn parod, gan u bod nhw wedi bod ar law, na wydda neb pwy cyd, a fe gas y gwalch yna dalu rhw £28 am i gynyg. B'le ma conshans dynon o'r short hyn. Tysa'r pethach fysa nhw yn bwsho ar y bobol yn ddiwerth ac yn ddiniwed, fe fysa yn hawddach madda iddi nhw, ond mae gweld nhw fel hyn yn dibrisho bywyta u cyd-ddynon yn

 

 



A close-up of a text

AI-generated content may be incorrect.

(delwedd L0973a) (19 Ionawr 1899)

 

 

u trachwant, yn galw yn ychal am ddoti y gosb yn drom arni nhw yn rhypydd i rai ereill, a iddi nhwnta hefyd. Pwy iws yw i'r wlad fynd i gost i drio cadw afiechyd draw, tra ma amball un o'r teip hyn yn gneid mwy o ddrwg mwn un dwarnod na naiff offishals y Bwrdd Iechyd o dda mwn blwyddyn. Dos dim rhw lawar o amsar ddar pryd cospwyd cwmpni yn Llyndan, odd yn proffesu u bod nhw yn gneid rhw stwff meddygol. Odd tynellu o hen gigach drewllyd ganddynt yn stor yn barod at hyny, ond daeth yr awdurdoda am u traws, a fe fu rhaid mynd a'r afiechyd i gyd a'i daflu i'r mor, gan ei arogl yn gwenwyno'r awyr.

Beth pe byddai hwn wedi cal i atal i fynd trw'r proses, a'i ddoti mwn poteli fel moddion a'i wasgaru ar hyd a lled y wlad, a falla chi a fi i gymryd bobo botal o hono, gan gretu bysa fa yn gneid lles i'n nerfs ni, pwy wyr beth fysa'r consicwens?

Ma llawar iawn o wahanol glefyta yn aros yn ein plith ni yn barhaus, ac yn neillduol yn y dyddia presenol trwy yr holl ardaloedd gweithfaol. a ma'n doctoriaid ni yn gorffod ymladd yn galad yn u herbyn nhw, ddydd a nos, a os dim dowt gen i nag os a fyno yr hen sothach o fwydydd a'r patent infenshons sy'n cal u iwso nawr, yn achos o lawar o'r drwg. Ma'n wir ta'r dwr sy'n cal y bai fynycha o fod yn gwasgaru y germs niweidiol, a fe all fod llawar o wir yn hyny hefyd, ond er nag w i ddim yn llawar o ddoctor, fe allswn i feddwl fod a mor bwysig i watshan beth i ni yn fyta yn gystal ac ifad, a fe ddylan fod ar yn gora i helpu y doctoriaid i yru yr anhwyldera poenus o'n tir os yn bosib, trw fod yn wyliadwrus mor bell a gallwn ni. Fe fydda yn beth da iawn fe allwn i feddwl tysa rhai o'n meddygon Cymreig yn ysgrifenu ambell lith cyfarwyddiadol ar hyn i'n papyrau Cymreig. Ma'r Saeson yn gwneud hyny, a w i yn cretu fod gyta ni fel cenedl gystal bechgyn yn y gamp feddygol a un genedl dan haul, a ma gyta ni yn Nghymru heddy ddigon o nhw yn llenorion hefyd. Wyr neb faint o les nela hyny mwn rhacor nag un ffordd, a os dim dowt gen i nag os dicon o genedlgarwch yn yn meddygon Cymreig dim ond iddi nhw feddwl am y peth. Fe wn i y bydd Mishdir y DARIAN yn eitha bolon rhoi lle anrhydeddus i ysgrifa o'r short w i yn siwr. Fe fydda yn naturiol iawn i nina idd i darllan nhw yn ein hiaith yn hunen. W i yn gwpod am amryw o nhw sy yn darllan y DARIAN. Gobeithio y bydd iddi nhw feddwl am hyn yn awr ac yn y man, er mwyn u gwlad a'u cenedl, a gall y bydd yn lles iddynt hwythau.

 

 

 

A close-up of a page

AI-generated content may be incorrect.

(delwedd L0952a) (26 Ionawr 1899)

Tarian y Gweithiwr. 26 Ionawr 1899.

LLYTHYRA NEWYDD.

Gan Fachan Ifanc.

MISHDIR Y DARIAN, — Ma fa yn getyn mawr o bwnc i ddod yn enwog a phoblogadd, a ma llawar ffordd i gyrhadd hyny. Ma rhai yn gwitho yn galad am amsar hir, a os fawr o son am deni nhw yn y diwadd, a ma rhai erill wetin yn gallu anfarwoli u hunen mwn rhw un stroc. Llawer iawn o beth yw diall pwy lein sy ora i gymryd os bydd want arno chi ddod i sylw heb fynd i lot o drwpwl, a fe allwn i feddwl ta wth ymladd a cico ffwtbol ma'r shawns ora i neid marc yn y byd yn awr, a i chi a fi yn colli shalc na fysa ni yn deleito mwn un o nhw. Dyna Corbett, Sharkey & Co., yn tynu son am u henwa trw'r byd yn gyffredinol dim ond wth spyro cwpwl o rounds, a fe fydd u photos nhw mwn steil newydd ac amlwg yn y papyra mwya ffashwnyddol fel y ‘Polis News' a'r ‘Mirror of Life,' a phob crotyn a dyn, a menyw o wech mIwydd od mlan i gant a un, yn darllan am deni nhw ac yn admeiro'u llunia nhw. Dyna'r Sirdar weti'n, dim ond batl Omdurnaan a Kartoum ddath a fynta i'r frynt, a mawr y son am dano sy, a ma'i bictwr a yn yr Almanacs, a phob man gallwch chi feddwl am dano, a fe sy yn cal i gownto y Bili Mishdir fel sowdjwr gan bawb nawr. Dyna'r Brodyr James o Byrtawa, yto, ma nhw ych dou fach wedi anfarwoli u hunen am byth a saith mlynadd wedi hyny, am u gwaith clyfar yn cico'r bel drod yn yr Internashonal Match pwy ddwarnod yma, a ma nhw yn cal u cownt; y top soiars yn awr a'r Iwnifars i gyd yn u hiwlogeiso nhw. Ond i fynd yn mlan heb roi llawar racor o ilistreshons i brofi y mhwnc, dyna ddou fachan sy wedi clipo'r cyfan i ddod i sylw mwn dim amsar yw, —

Dou Fachan Castallnedd.

Fe fydda yn bad polisy yndo i, i bido gweid dim am y boneddigions hyn ar ol iddi nhw neid shwd ecsploit yn meetin y Scwl Board. Fel y Brothers James, y Sirdar, Corbett, Sharkey & Co., ma'r pregethwr a'r bachan arall wedi dod yn enwog ar unwaith. Ma son am danynt yn mbob man, a colofna yn cal u sgrifenu arni nhw yn holl bapura'r dyrnas yn Gymrag a Sysnag, a dicon tepig fod u llunia nhw yn y “Polis News" a'r “Mirror of Life," ond dw i ddim wedi dicwdd gweld dim un o'r ddou bapyr iwsffwl yna yn ddyweddar. Dim ond un “backhander” ne ddwy sy wedi bod yn ddicon i stampo enwa'r ddou fachan o Gastellnedd ar ddalena hanesyddiaeth yr oesa. Er u bod nhw yn cal u cownto yn weddol glyfar fel local men, trw u bod nhw yn fembars ar y Scwl Board, ac yn llanw swyddi respectabl, i chi a fi yn gwpod fawr am danynt cyn y colishon yn y meetin, — dyna'r modus aperandi sy wedi gneid flags o honynt. Dyw a ddim yn taro i fi fynd i weid ar pun odd y bai, na dangos ochor i un mwy na'r nail, trw fod Majis-

 

 

A close-up of a page

AI-generated content may be incorrect.

(delwedd L0952b) (26 Ionawr 1899)

trets Castellnedd wedi cal jobin, a fe fydda nhw wedi trafod yr achos erbyn daw y leins hyn i olwg y darllenwrs trw gyfrwng y DARIAN, ta shwd troiff pethach. W i wedi clywed fod Mr S T Evans a B Francis Williams yn mynd i handlo'r ces, ond tyswn i yn lle'r Majistrets, fe fyswn i yn taclu ring i'r ddou fachan i ymladd y batl mas a Williams a Evans iddi handlo nhw, yn lle handlo'r ces. Ond falla na fydda hyny ddim yn deg, ar ol i fi styriad, wath ma'n lled depig fod mwy o gem yn y pregethwr na sy yn y bachan arall, achos fe ballws hwnw sefyll i dir yn meetin y Board wedi iddo gal y “Backhander." W i yn cretu trw i fod a yn iwso i dafod mor ddisbrad dylsa fa drio beth allsa fa neid o'i ddyrna hefyd, a setlo'r dispiwt felni, yn lle catw yr hen godl mlaen yto trw fynd ag e i'r Polis Court i roi racor o fwyd i'r gosipars, a thynu fwy o son am u pena. Ma'n naturiol i gasglu fod y pregethwr wedi cal i boeni yn lled ddrwg, cyn iddo golli i ras ataliol, a dyw a ddim yn deg i ddishgwl i bregethwr fod yn goward a goddef mwy na mwy achos i swydd. Os dim ish[a] iddo fod yn llai o ddyn wth fod yn bregethwr yn ol y marn fach i, wath w i yn cretu yn yr atnod – “A pha fesur y mesuroch, yr adfesurir i chwithau." Fe gewn weld shwd troiff hi mas ar ol bod o dan ddwylo gwyr y cwils. Dw i ddim yn meddwl y gwyngalcha nhw ddim ar u caritors o dan ddwylo y genedlath yna.

Ystori Rhyfadd.

O'n i yn arfadd cretu ta pobol deidy odd yn byw yn ardal Cwmaman, Aberdar, ond ma rhw stori rhyfadd wedi dod i'n nghlyw i am un o'r litl biwties sy’n byw lawr sha’r gwilod. Cofiwch chi, nag w i ddim yn moin towli slyr ar litl biwties Cwmaman i gyd achos acshwns yr un w i yn mynd i son am deni, a fyswn i ddim yn gweid dim am deni hitha hefyd oni bai fod hi trw i acshwns lletwith yn towli reflecshons cas ar rhai erill, ac yn ala dynon i ddowto prinsipl y rhai sy yn gwishgo peisha i gyd. Y mae'n depig yn ol pob cownt fod hon wedi prioti sha rhw bwr dab odd getyn yn henach na hi i hunan, ond odd ticyn o goin gyta fa, a fe ddigwyddws gico'r bwcat. A fe dath y litl darlin ar draws y tocyns odd yr hen foy wedi gatw o’I golwg hii pryd odd a yn fyw, a odd gormod o frys arni i aros iddo gal I guddio, cyn iddi fynd dalu parch i'w goffadwriaeth trw gal drinc bach ar i gownt e ne'i docins e. Ma cymant o weid ar y pwnc yn ol a mlan fel na wyr neb yn iawn ffordd ma pethach, ond ma dicon o brooffs i bod hi wedi enjoyo hi hunan yn biwr iawn, a nag odd dim amsar gyta hi I guddio yr hen gorff o'r golwg, a bo rhai erill wedi gorffod interffero o bothti hyny. Ond ta beth, ma fe wedi marw a ma hitha yn fyw, ac yn fyw iawn debycwn I, ac yn dangos i gora i bod yn fenyw yp tw det, ac yn ormod yp tw det i fi allu gweid beth sy i neid o honi, a w i yn meddwl ta'r ffordd ora yw i gatal hi at drugaredd merched a mynwod parchus Cwmaman, a fe fydda nhw yn lled depig o roi perffaith wara tag i'r hen sgenes ddideimlad. Wfft iddi.

 

 

A close-up of a page

AI-generated content may be incorrect.

(delwedd L0950a) (2 Chwefror 1899)

Tarian y Gweithiwr. 2 Chwefror 1899.

LLYTHYRA NEWYDD.

Gan Fachan Ifanc.

MISHDIR Y DARIAN, — Yr wthnos ddwetha on i yn gweid ddylsa chi a fi ddeleito yn y nobl art o iwso'n dwrna, er mwyn i ni ddod yn fwy enwog yn y byd, a ddar hyny w i wedi cal papyr yn gweid fod y Bantum Shampion of ddy world ' —

PEDLAR PALMER YN DOD I BYRDAR.

Lled depig fod llywodraethwrs yr Empire yn darllen yn llythyr i, ac er mwyn i chi a fi gal shawns i ddysgu'r grefft, ma nhw wedi ala i moin y bachan a'l frawd i focso yn dre y DARIAN rhw noswath y mish nesa. Wth gwrs, fe fydd yn rhaid talu am gal i gweld nhw yn yr Empire — dim ond 7s 6c sy am y lle gora, a 4s am yr ail le. Triwch fod yno yn gynar, ne chewch chi ddim lle am un prish, wath cofiwch chi ta nid rhw hen gonsart, ne ddarlith, ne Steddfod, ne rhwpath out o det felni yw hwn - na, na, os dim shwd beth wedi bod yn Nghymru ariod o'r blan, medda nhw, a bod Byrdar wed bod yn lwcus dros ben i gymryd y lêd. W i a llawar erill wedi bod yn gweid, ac yn cintach droion isha na fysa yr hen dre yn y ffrynt na ma hi mewn pethach fysa yn lles i'r Werin, fel Library a Darllenfa Rydd, Cymdeithas Gymreigyddol, Baths, &c. Ma llefydd bach o'n blan ni getyn yn y lein yma, ond wara teg ma'r hen dre wedi gneid strôc nawr i gal y Bocsin Twrnament gora o flan un lle arall yn y wlad. Pidad neb a gweid yto nag yw Byrdar ddim yn enterpreisin, wath dyma hi yn awr wedi dangos twtsh hyd yn nod i wyr Cardydd yn y lein fwya pwysig gallwch chi feddwl am deni. Fe gaiff yn ienctyd ni shawns yn awr i weld y ffordd ora i bwno'u gilydd mwn steil, a fe fydd yn doti dileit yndi nhw at bethach o'r short. Arno i ofan, Syr, fod chwaeth ientyd yn gwlad ni yn shinco yn ffast i'r lowar gred, a ma leedin men yn gwlad ni yn cefnogi pethach o'r short, a lled depig fod rhai o ddynon mawr tre y DARIAN wth gefan y consarn hyn, wath ma'r hysbyslen yn gweid i fod a “under distinguished patronage," ond dw i ddim yn cretu ych bod chi yn un o nhw, a w i yn siwr am un arall nag yw a ddim. Falla bydd rhai yn barod i weid ta hen stoic w i achos y mod i yn wilia fel hyn, a nag os dim gymshan yndo i, i sefyll cwpwl o rounds o flan Pedlar Palmer, a mod i yr un shwt a'r ci yn y manjar, na alla i ddim enjoyo y munan wth focso, a ta dyna'r achos nag w i ddim yn folon i neb arall neid hyny, ond u mistêc nhw yw hyny, W i yn folon i bob bachan ifanc, a phob merch ifanc, i amiwso'u hunan yn deidy, wath fel gwetws Cynddelw (barchus goffadwriaeth) — peth chwithig iawn fydda gweld cyrn hwrdd ar ben oen bach; ond ma'r "nobl

 

 

A close-up of a document

AI-generated content may be incorrect.

(delwedd L0950b) (2 Chwefror 1899)

art" hyn yn cal fwy o sylw na un art nobl arall yn y dyddia presenol, nes i bod hi fel ffefar wedi citsho yn yr ienctyd i gyd, nes u bod nhw a'n spyrs lan at u gilydd fel cilocod gam yn mhob man lle cwrdda nhw. Fe fentra i fwtwm pren, os mynwch chi, bydd mwy o wyr ifanc Byrdar yn folon speco 48 ne 7s 6c am gal gweid y ddou Shampion hyn yn spyro a'u gilydd yn yr Empire, na fydd yn folon speco cinog yn y mish ar “Ieuenctyd Cymru" - y cyhoeddiad newydd yna i chi yn brinto yn Offis y DARIAN ac os nag yw hyny yn profi u bod nhw yn mynd ar y down gred, dw i'n gwpod dim. Fe allwn i feddwl fod rhwpath fel hyn yn galw yn ychal ar oreugwyr y dre i neid mwy na ma nhw i bartoi llefydd i'r ienctyd i ala'u oria hamddenol. Dyw a ddim ond nonsans iddi nhw bregethu a boddrach, a beio - ma'n rhaid i ddynon ifenc gal rhwpath i neid, a rhw le i fynd, a ma fa yn ddyledswdd ar y rhai hyny sy yn cymryd arnynt i fod yn ledars, i drefnu pethach ar u cyfar nhw, a ddaw ddim trefan nes bod rhwpath yn cal i neid chwaith. I chi yn gweld fod y ffisticyffs yn catro yn eligant idd i pobol nhw, ond ma'r ochor arall yn cal i gatal mas yn yr oerfal, yn ddigon digownt. Fe ddaw amsar Le[c]shwn y Distric Councal heb fod yn hir, a dim ond i chi yn nghynyg i yn fembar, felch cynica ina chytha, a fe ewn miwn yn dou fel y wisl. Fe bledjwn yn dou yn bod ni yn mynd dros gal Free Library, a Reading Room, fel odd rhai yn gneid yn y Lecshwn ddwetha, a fe gaiff d---l y wasg ganfaso drosoch chi, a'r bachan sy'n labro'r nos drosto ina, a fe ellwn fentro ar y resylt. Fe fyddwch chi a fina yn tori dash bidir iawn pryd byddwn ni yn cal yn adreso gen bawb fel Cownsilor Mishdir y DARIAN, a Cownsilor Bachan Ifanc.

ODIT Y SLEIDIN SCEL.

Mae gwithwrs a masnachwrs, a phawb sy'n dipendo ar y gwitha glo yn Neheudir Cymru a Shir Fynwa, yn dishgwl yn bryderus at ben pob doufish pryd i ni yn cal cownt ffordd ma'r Scêl yn troi. I ni witha mwn dowt i bwy ochor aiff hi; pryd arall i ni yn gwpod amcan, a w i yn meddwl fod pawb y tro hyn, yn fishdirs a gwithwrs. yn cretu hold ffast fodi cwnad prish sypstamshal i fod, wrth weld fel odd y fasnach lo yn rhytag: ond ma hi wedi troi yn big syrpreis i'r ochor witha, a ma pishin tair yn cal i gymryd off yto ddar y pwr gwithwr. Ma'n wir nad yw'r cwmpad yn fawr, ond dw i ddim yn folon fod y Scêl wedi bod mor sceiar a throi i'r ochor yna at ol; ond rhaid bod yn folon trw ta hi yw y y fishdres i fod am spel yto; ond fe allwn i feddwl wth swn rhai o'r mishdri, nag o nhwnta ddim yn folon i bod hi wedi dicwdd fel ma hi, wath fe etho nhw i syndod hefyd — a ma rhai o honynt yn cisho ecspleinio ta achos yr hen gontracts odd wedi'u gneid cyn y streic ma pethach wedi mynd fel ma nhw, a bod gobath gwelil am dani o hyn i mas yn yr Odits nesa.

Wel, dyw a ddim iws gwingo yn erbyn y symbyla yn awr, ond gobeitho'r gora am yr amsar sy dd'od; ac yn ol barn y boys sy yn trafod y fasnach ar Docs Cardydd, fe fydd shawns am gwnad gweddol yr Odit nesa ond ma hi yn lled gynar i broffwydo shwd fydd hi. Ma'n gysur i feddwi fod y pylla yn llawn bywyd, a bod gwithwrs yn cal gwitho bob dydd, a fe ddylid trio macu teimlada da yn awr rhwng y ddwy ochor. Arno i ofan ambell waith fod gormod o duadd yn y mishdri i neid rhw agreements a chisho gen y gwithwrs iddi seino nhw, pryd nag os dim o’u hanar nhw yn gwpod beth ma nhw yn neid. Dyw rhwpath felni ddim ond yn achosi dispiwts a theimlata cas. Beth sy isha yr holl paraffanelias a'r sy nawr, yn ots na'r hen amsar gynt? Ma rhw No. 1 a No. 2 Book gyta nhw nawr, a ma rhw rhw shalcs yndi nhw nag yw gwithwrs ddim yn ito am deni nhw, a ma fa yn dreni preso ar ddynon i neid pethach yn gros iddi ewyllys, a ma gormod o swn trais mwn peth o'r short, fe allwn i feddwl.

 

 

A black and white text

AI-generated content may be incorrect.

(delwedd L1004a) (9 Chwefror 1899)

Tarian y Gweithiwr. 09 Chwefror 1899.

LLYTHYRA NEWYDD.

Gan Fachan Ifanc.

MISHDIR Y DARIAN, —

Ma rhaid i fi y tro hyn i gwmpo ar ben y nhestyn heb ddim rhigmarol

Ma Crochan y Byd yn Berwi.

Cyn bydd y leins hyn wedi cal u twmlo i fodolaeth yn myd mawr y DARIAN fe fydd yr wiligwgans i gyd wedi cwrdd am unwaith yto ar lawr St Stephan. Falla nag os dim un clas o ddynon yn y byd a chymant dishgwl arnynt a'r Lords a'r M.P's. Gallech feddwl fod yr Iwnifers gyd wedi cal i chlymu wth gwt pob un o nhw. Dear me, ma'r Parlamant yn cwrdd dydd Mawrth, a ma pob path (sic) [popath] arall wedi mynd i'r cysgod. Ma cawl cymdeithas yn y crochan. Fe fu amser pan oedd amgylchiad o'r fath yn deilwng o sylw. Yr oedd yn y crochan  preim joints, ond erbyn heddy ma fforin policy yr un shwt a fforin meat, a ma hen fustych sydd wedi cal u meithrin yn yn egwyddorion cyntefig yn dechra mynd a chwilydd arni nhw gal u cownto yn mhlith yr esgyrnach sydd yn y farchnad yn awr. Dyw dynon Ilyged-agored ddim yn teimlo mwy o syspens pryd ma'r Senedd yn acor, yn fwy na bod te parti gyda hen wrageddos y Primrose League. Ma nhw yn cwrdd, yn sharad, ond beth ma nhw yn neid? Ma'r consarn wedi mynd yn drymetary affer.

 

Ma'r rhai odd a dicyn o gymshan yn perthyn iddi nhw, yn cilo o'r golwg gen gwilydd, er mwyn rhoi lIe i'r slab dashers i ddangos u hunen. Dyna Harcourt a Morley - y ddou fachan odd a fwya o fon breicha gyta nhw na neb yn rancs y Librals wedi towlu'r spwng Ian er mwyn i'r dear litle wyns ga[l] lIe i ecsplodo. Ma Balffor, ledar y Toris hefyd wedi gweid nag yw a ddim llawar o wahaniath gyta fynta i gico'r bwcat fel politishan o ran i hunan. Odd a'n gweid nag odd a ddim yn feniffit iddo fe'i boeni, y gall a rwbo mlan yn biwr os bydd an dewish heb i Shw Blacs Politics sheino ddim ar i scitsha fa. Wei, rhyngto chi a fi, dyw a ddim yn rhyfadd hefyd. Ma Senedd Prydain Fawr yn fwy amddifad o wir dalent na ma hi wedi bod er cof gan y nhylwyth hena i. Ma esens athrylith wedi cilo mas o'r constitiwson oltwgeddar. Os dim Cobden, na Bright, Lo[rd]  Beaconsfleld, na Gladstone, yn taro trod ar loria y ty mawr heddyw. B'le ma ffindo Saul yr awr? Dyna'r Librals wedi colli eu ledar, a mawr y cacamwci sydd i gal un arall yn i le fa. Yn ol fel w i wedi arfadd meddwl, fe ddyla ledar fynd idd i le heb yn wpod iddo fe i hunan na neb arall, a nid cal i bwsho miwn gen glic, a chlic arall yn gorffod cauad i cega achos nag os gyta nhwnta neb arall i gymryd at y jobin. Dw i ddim yn moin cymryd arno i i fod yn broffwyd

 

 

A close-up of a text

AI-generated content may be incorrect.

 

(delwedd L1004b) (9 Chwefror 1899)

wath w i wedi colli shalc unweth ne ddwy yn y lein hyny, ond ar y cwbwl w i bron yn siwr na fydd Binnermann, ddim ond fel i enw yn cario fflag o flan y Librals iddi ledo nhw, a w i yn meddwl bydd sprowts poleticaidd yn tampo o'i flan a, cyn pen fawr o amsar, a fe fydd e a'i Faner yn cal u gatal ar ol i bendroni mewn Whigiaeth hen ffashwn, ac er i Ladas enill y Derby ma'r boy odd yn talu am girch iddi wedi colli petol yn ngholwg Rhyddfrydwyr egwyddorol, ac er i Gladstone roi spyr yndo nes iddo neido yn Breim Minister, fe ffindiff mas nawr fod Gladstone wedi mynd a bod y mae yn rhaid iddo ymladd i hunan am ddignity. Os dim dowt nag os cwalities yn perthyn iddo, ond dw i ddim yn cretu fod a'n ddicon rhyff a rhedy i dampo o flan angen yr os bresenol. Dw i ddim yn cretu fod y Tories yn llawar gwell off na'r Librals am ddynon a gymshan yndi nhw i gwrdd a symudiadau'r oes. Dim ond tynu'r scabs ddar gron Chamberlain fe fydda mor iach ag un o'r ddwy - a wn i ddim yn iawn pwy ochor iddi ddoti a, a falla nag yw a ddim yn gwpod i hunan. W i yn cretu fod a yr un shwt a Twm Post, gyta'r ochor y caiff a fwya o fara a chaws, ond ma rhwpath yn gweid wrtho i fod jerms Libral yndo o nyd. Rhwng pobpath, dw ddim yn gweid fod isha i ni ecseito yn hunen am beth fydd yn mynd mlan yn y Parlamant nesa yma, os na chwniff rhw seren o rwla nag yw'r Almanac ddim yn son am deni. Ta both ma dicon o shawns yn awr i rw prodigy gwnnu a sweepo lloria St Stephan, ac os na ddaw neb yn y seshon hon, fe fydda i yn mynd miwn am Wmans Reits, fel bo ni yn cal gwad newydd, a tafota newydd, a menydda newydd, a steil newydd i gario petha mlan yn y Ty Cyffredin a'i neid a yn Annghyffredin trw ddys lanwad (sic) [ddylanwad] anorchfygol y litl biwties. Pwy sen[s] yw lingrach fel hyn, a ala amsar i wilo am ledars? Dotwch un o'r litl biwties i ledo, a ten tw won na fydd y gwaith yn reit os bydd hi yn depyg i'r fenyw lle w i yn lodjo. Falla fod a fyno rhagluniaeth a dofi'r briged dynol er mwyn i'r mynwod gal wara teg i ddangos beth alla nhw neid. I chi, syr, yn gwpod amcan fod propensities da yn perthyn iddi nhw, wath ma Mishdres y DARIAN wedi'ch speiso chi lan lawar yn smartach bachan na glywas i motryb yn gweid ych bod chii (sic) [chi.]

Trw fod y proffeshonals Politicaidd yn danto w i am roi shawns iddi nhw, a fe gretaf ych bod chitha yn ddicon o Libral i gretu yr un peth. Gobeithio gnaiff Mrs D A Thomas, Sguborwen, notis o'r sylwata hyn, wath ma hi yp to det gyta Wmans Reits, a fe helpa hi i gal bacars yn Gwm Byrdar a Chwm Rhondda, ac o ran hyny yn mhob man lle ma post telegraph, a phost offis, achos ma'n bryd i ni gal rhw gyffro mwn pethach ma'r byd yn dipendo arni nnw.

O. Y. - Fe weIas fod Pritchet Morgan wedi cyrhadd Llyndan nos Satwrn o China. Odd a wedi clywad yn Pekin fod Harcourt yn towli'r jobin o ledar lan, a fe wddoch y mod i wedi gweid ys cetyn ta ledar piwr fysa Pritshet bach, a os dim dowt gen i nag yw a wedi dod nol erbyn yr amsar i sefyll shawns. Os na chaiff a i ddewish yn ledar yn yr House o Commons, &c., fydd yn rhaid i D A fod yn giwt ne fe fydd yn ledar yn Boro Merthyr a Byrdar. I chi wedi clywad am y Scotsh yn China, os dim dowt, fe fydda yn dishgwl Scotsh in a Glas gyta fa pryd daw a i Byrdar, wath ma fa yn arfadd bod yn eitha trwrnpyn.

 

 

A close-up of a document

AI-generated content may be incorrect.

(delwedd L0955a) (16 Chwefror 1899)

Tarian y Gweithiwr. 16 Chwefror 1899.

LLYTHYRA NEWYDD.

Gan Fachan Ifanc.

MISHDIR Y DARIAN, — Erbyn bydd y llythyr hwn o flan llyced y bechgyn a'r merched ifanc fe fydd dydd St Valentein wedi paso. Dw i ddim yn gwpod shwd actiff y litl biwties shag ato i y tro hyn, ond w i yn arfadd cal Valenteins o bob short orwthi nhw bob blwyddyn ddar w i yn sgrifenu i'r DARIAN. Fe fydd rhai o nhw yn bert annghylfretin iawn, ac yn cal i ala i fi mwn bocsis yn deidy. a phryd bydda i yn acor y bocsis ma'r O. D. Colon a'r sents erill, yn rogli dros y ty, a w i yn gorffod bod yn weddol giwt iddi acor nhw heb yn wpod i'r fenyw lle w i yn lodjo, er nag i nhw yn perthyn dim iddi hi, ond fel i chi yn gwpod o'r gora, ta rhai lled incwisitiff yn gwpod o'r gora, ta rhai lled incwisitiff yw mynwod wth natur, a ma nhw yn moin cal gwpod yr ins an owts am bopath, a fe fynan wpod hefyd os bydd shwd beth, rhw ffordd ne gilydd, ac os ffaela nhw nid arni nhw bydd y bai. Y plan w i yn gymryd ys blynydda nawr ar fora St Valentine, yw mynd at y drws y munan i watchan y Postman, a felni w i yn gallu dodjo yr hen drwmpan yn biwr iawn. Fel gwetas i ar y dechra mod i'n arfadd cal rhai o bob short. Ma'r rhai sy'n dod mwn bocsis yn grand ac yn dytshin dros ben. Fe fydd llunia pert yndi nhw - llun eglws, a bachan a merch ifanc smart - llun biota, a atarn bach - Ilun dwy galon yn twtsh u gilydd — a llun Ciwpid fel angel, a bwa a sath gento yn saethu miwn i'r calona, &c., fel rhwng y cwbl ma nhw fel miwsiams yn llawn o drincls serch, ac --- O! ia, fe fuo bron annghofio am y leins barddoniaeth biwtiffwl sy ar y diwadd. Rhwpath fel hyn —

ST. VALENTINE.

TO THE BACHAN IFANC.

Ta rara, rara, bwm de hay,

When shall it be our wedding day?

O! tell me John, O! tell me quick,

To wait too long will make me sick.

Yours &c., D-----.

 

 

 

 

 

 

A close-up of a text

AI-generated content may be incorrect.

(delwedd L0955b) (16 Chwefror 1899)

Ond ma short arall o Valenteins hefyd, y “Valentein hyll” odd Ceiriog yn son am deni slawar dydd. Ma'r rhai hyn yn salwach na llunia'r Wrang Wtangs, a mor gytin a Cartwns Mr Pwnsh, a pictwrs "Ally Slopar." O'n i yn mynd i weid nag w i ddim yn cal rhai felna, ond trw mod i yn perthyn i rijmant, - ‘Y gwir yn erbyn y byd,' — w i yn lwo i fi gal un y llynadd, ond sonas i ddim wtho chi am deni, ne fysa Wmffia Huws, ne'r Bachan sy'n Labro'r Nos, yn craco joc ar yn ecspens i, ond ma'r peth wedi mynd yn rhy hen yn awr. a weti'n w i yn mentro gweid.

Pa pwy odd y wedjan alws hono i fi, o'n i fawr o gownt yn i golwg hi, a tyswn i wedi gallu i ffindo hi mas, fe fyswn wedi i doti ni yn llaw Mr Libal. Odd y llun yr un peth a fi yn gymws medda hi, a alla hi ddim ych doti chi i ddiall shwd un odd a yn well na i chi stydio y pishin bach hyn w i yn gofio ddar o'n i'n grotyn –

“Bachan bach o Ddowlash,
Yn gwitho'n ngwaith y tân,
Yn mynd i lawr sha Ferthyr
I garu merch fach lan;
Odd i goesa fel y pipa,
A'i freicha fel y brwyn;
A'i ben a fel pytaten,
A hanar llath o drwyn.”

Jidjwch chi nawr shwd olwg odd arni i, a shwd respect odd genti i fi, yr hen sgriw felan, fe licwn i ddod ar i thraws hi leni, fe gesa bishin o Valentein gen i yn werth i fframo. Odd hitha wedi doti dwy lein o rhwpath ar y gwilod, yn y steil eirogliffical fel hyn — , —

"2 XU R, 2 X U B,

I C U R, 2 X FOR ME."

Ond odd hi'n trlo bod yn glyfar? Wel, ma shew o docins yn cal i ala bob blwyddyn yn y lein yna gan fechgyn a merched sy a'u pena mor sofft a'u clona, ac i bwy bwrpas. Ma rhai sy yn u gneud nhw, a'r barddonwrs sy'n ala’r pishis canu iddi nhw yn cal proffit wth gwrs. Wel, os dim rhw lawar o ots gen i fod cwpia ifanc yn ala Valenteins teidy at u giIydd os bydd tocins genti nhw i sparo, ond ma isha arno i ddoti stop ar y rhai cas yna tyswn i yn gallu, wath ma'r stwff sy yn cal i sgrifenu yn llawar o nhw yn warth ar synwr cyffretin, ac yr fwy insyltin na'r llunia, a w i yn fa!ch i allu gweid nag yw merched a bechgyn Cymru ddim yn gneid cymant o iws o honynt a'r Saeson, a gora gyd pwy mor gyntad a nhw mas o'r ffashwn oltwgeddar, ac o ran hyny w i yn folon claddu Dydd St Valentine yn yr un bedd a Dydd St Mabon, a w i yn cretu gwetiff pob Postman — ‘Amen.’

 

 

A close-up of a newspaper

AI-generated content may be incorrect.

(delwedd L0955c) (16 Chwefror 1899)

Y Tywydd a'r Sailor Boy.

I ni yn cal rhw short o dywydd bob blwyddyn, a phob dydd o ran hyny, ond wn i ddim pwy short o dywydd i alw tywydd y gaua hyn, a dw i ddim yn cretu y gwddoch chitha er cystal scolar i chi yn cownto'ch hunan. Fe fysa gystal gen i idd i alw a yn dywydd cintach a un enw. Falla nag yw a ddim yn reit i ni gintach ar y tywydd, ond fe wn fod lot o hyny yn bod ar hyn o bryd, ond dyna sy'n od ta faint fyddwn ni yn gintach, para yr un ma'r tywydd fel sa fa yn gneid sport am yn pena ni, am drio i riwle fe. Dw i ddim yn clywad llawar o son yn awr am yr Ianci yn gaffro'r tywydd fel odd a, a dw i ddim yn synu i fod a wedi danto, wath ma'r tywydd fel merch ne wraig yn mynd yn ol i biniwn i hunan, a ma rhwpath yndo ni gyd felni (yn enwetig chi, syr), fel nag os dim rhw le gyta neb feio'u gilydd, y tywydd yn incliwded.

 

Ond ma'n rhaid i fi weid y mod i wedi cal golwg siriws ar bethach y gauaf hyn yto fel pob gaua arall, fod pwr dabs yn gorffod syffro yn ddychrynliyd. Anaml iawn bydd gair yn y DARIAN am y bechgyn piwr ac iwsflfwl i ni yw galw Sailors arni nhw. W i yn siwr fod rhai o nhw yn darllan y DARIAN pryd bydda nhw yn dod i dir, a ma llawar o'u tylwth nhw yn i darIlan hi bob wthnos, a trw ta gwithwr yw'r morwr. a ta TARIAN Y GWITHIWR yw teitl yn papyr ni fe ddyla gal mwy o notis gyta ni. Dw i y munan ddim wedi arfadd dringo y rigins, ond w i wedi bod yr un man a morwrs, a fe alla i weid ta - Jolly boys well met - i nhw i gyd, bothti yr un stamp a'r Bachan sy'n Labro'r Nos. Dyna beth od yw hyny ta'r bechgyn sy'n mynd trw fwya o ddanjar, yw y bechgyn mwya llawan, dedwydd a jovial yn u cwmpni nhw. Ma nhw felsa nhw yn gallu mwynhau rhyddid yn well na neb arall, a bod gyta nhw rhwpath i weid a rhwpath i neid yn ecstra i neb arall, pryd ma nhw yn cwrdd a chymdeithas. Wel, os neb yn fwy felni na'n morwrs ni, a roia i ddim diolch am neb nag yw i galon fach a yn teimlo wth ddarllan y reports trw'r gaua hyn am ystormydd ma bechgyn anwl y mor yn mynd drwyddynt. Fe ddyla fod ‘Brawdgarwch Cyffredinol' “Job” rhwng coliars [a] morwrs, a fe ddylsa fod "Ffedereshon Iwnifersal" rhyngti nhw, ne gyta nhw, wath all un ddim gneid dim heb y nall. W i yn cretu am danoch chi, syr, byddach chi yn eitha bolon i roi lle yn y DARIAN i forwrs Cymni weid u profiad, a tyswn i yn gwpod ticyn mwy am deni nhw fe fydda’r gachan (sic) [bachan] hyn yn twmlo miwn i'r ring i weid bair sic) [gair] yn awr ac yn y man drosti nhw.

 

W i yn gwpod dicon i allu gweid nag u nhw ddim yn cal wara teg bob amsar, gyda'r rhai ma nhw yn mentry u bywyta drosti nhw, a ma'r coin ma nhw yn enill yn llawn mor sgini a huria'r colliars. Pwy fydd y Plimsol yn Nghymru i gymryd part yr hen Solts? Ma dicon o isha rhywun a ma'r tywydd garw ma nhw yn galw yn ychal am i rhw ddyngarwr ddod i glapo cefan y Sailor Boy. Gadewch i ni anadlu gweddi fach drosto.

 

 

 

A close-up of a newspaper

AI-generated content may be incorrect.

(delwedd L0974a) (23 Chwefror 1899)

Tarian y Gweithiwr. 23 Chwefror 1899.

LLYTHYRA NEWYDD.

Gan Fachan Ifanc.

MISHDIR Y DARIAN, — I chi yn gwpod am yr hen ddywediad - neu yr hen atnod — 'A gais glod, bid farw.' Fe fyddwch chi a fi farw os dim dowt, os na chwniff rhw infentor newydd heb fod yn hir i ffindo plan newydd i gatw yr hen fashinary wth i gilydd, trw rhw electric powar, ne rhw bowar arall. I ni yn dou wedi gneyd yn gora i gatw'r byd yn fyw, a fe ddyla'r byd neid i ora i'n catw nina mwn cof ar ol i'r hen fonstar anga, wthu'r niwl arno ni. Dw i ddim yn mynd i sgrifenu mwn syposishon oltwgeddar, ond w i am ddweyd gair ne ddou ar y pwnc w i wedi dechra, mwn ffordd ymarferol, fel bydd pob un yn diall. I ni fel Cymry yn glorio yn yn becngyn a'n merched sy wedi ymdrechu u gora dros urddas ein gwlad - a pryd bydd un o nhw yn cal i symud achos fod bywyd wedi deserto orwthi nhw, i ni yn tampo mwn wincad i lefaru ar u hol nhw. Ma'r canu yn yr angladd yn galonrwygol, a ma nadu'r beirdd yn dorcalonus, a fe fydd rhw ysbryd galarnadol yn rhiwlo'r genedl am o leiaf bedair awr a'r ugain, ac Yna fe fydd y teimlad cenedlaethol yn mynd mor oer a thawel a'r bedd y gosodwyd yr arwyr, neu yr arwresau ynddynt, - O chas glod bid farw, - Na. Yr wyf yn gwatu yr hen system oltwgeddar. Os ta felni odd yr hen dada yn gweid, ma pethach yn dod i brofi nag i ni ddim yn cretu yn u prinsipls nhw. Dynon byw, ma'r os fyw bresenol yn moin, a ma gyta fi shapter and fers i brofi hyny. Os dim dicon o iwlogeiso yn bod ar ambell un fydd yn gallu gneyd styr yn y byd, cyd a bydd y gwynt yn wthu o'i ochor a, ond ar ol i'r flowin teid baso, dyn a'i helpo, fe fydd mor farw dranoth a ta na fysa fa wedi byw yn y byd. Ma styr mawr yn cal i neid yn Nghymru yn awr bothti'r “Gladstone Memorial," a falla bydda i yn twtsh a ffeelin llawar i weid gair yn erbyn hyny, a dw i ddim yn moin gweid dim fydd yn reflecto ar goffadwriaeth y Grand Old Man. Odd a yn dda, ac yn dda iawn, fel dyn yn mhob ystyr, ond mewn ystyr genedlaethol w i yn arfadd sgrifenu. Ma dicon o gefnogwrs i W. E. Gladstone tu allan i ni ein hunain, ac yn y prif bwnc cenedlaethol sef -Dadgysylltiad yr Eglwys a'r Wladwriaeth, ymwadodd a ni yn llwyr.

Diau fod ganddo resymau am hyny, a nid fi yw'r dyn sy yn mynd i amha i sens a yn y matar, ond i ni fel cenedl yn hawdd yn troi gyta pob awel, a w i yn gweld fod gwd generosity yn cal i ddangos shag at neid Memorial iddo yn yn plith ni. Nawr,

 

 

A black and white page of a newspaper

AI-generated content may be incorrect.

(delwedd L0974b) (23 Chwefror 1899)

gadewch i ni ddishgwi ar bethach fel ma nhw yn deidy; a wir alla i ddim pido talu complimemt i D Dyer Davies yn ‘Papur Pawb’ am y cartwn pert a chynwysfawr – ‘Apel — Ond Pel.' Bydd fyw fyth, boy bach, a myn bel dy hunan. Ma fe wedi enwi Llewelyn ein Llyw Olaf, a Daniel Owen. Ma nhw yn gweid wtho i fod y cwrtshwns yn cal i tynu ddar gof-golofn Lord Byrdar pryd bydd pethach yn shiwto i gal big gun i ne'd hyny. W i falla dicyn bach yn rhy fach wth weid fod un bachan odd gyta ni lawer iawn o olwg arno wedi cal i dwmlo i'r bedd a odd dim dicon o frys i gal committee i anfarwoli i goffadwriaeth ar ddydd yr angladd. W i yn cofio pryd odd a yn fyw ac yn fachan clyfar, ac yn gneid strocs i enill lot o son am dano ni fel Cymry mwn canu. Odd i lun a y tu fiwn i'n heta ni, ac ar yn nisheti poceti ni - falla mod i yn ych catw chi yn hir mwn syspens - ond dyna'r bachan w i yn feddwl yw Caradog. Bl'e ma'r cerddorion? Nos yr angladd o'n i yn cretu bysa monument iddo ar scwar Byrdar cyn bora dranoth. A gaf ofyn iddynt yn dawel fach fel bachan diarth pun a nhw ne Caradog sy wedi marw? I ni yn laffabl, ond daw – ‘myrdd o ryfeddodau - cyn toriad boreu wawr.'


Ni chladdwyd Caradog, un anwyl, mae'n hnno,
Ond nid ei ddiweddglo yw cwrlid ei fedd;
Mae'n fyw, y mae'n aros, a'i fri yn blodeuo
A gwlith anfarwoldeb gysegra ei wedd.
Dan blygion dwys anghof, nis gellir ei gladdu.
Gwawl adgof a'i ceidw'n ein gwyddfod i wynu,
A chenedl gyfan barhant i'w edmygu,
Tywysog yw heddyw, a pharch iddo'n sedd.

Ni wylai ei gydwladwyr ar ddydd ei gynhebrwng,
'Roedd ef wedi bythol goroni ei ddydd
Ete fu'r ysgogydd, efe oedd y cyfrwng
Wnaeth fyd i edmygu swyn cerdd ‘Cymru Sydd.’
Wrth weld ei lawryfau, 'roedd galar yn cilio,
A mynai llawenydd y llwyfan i seinio
Ei glodydd am enyn ei genedl i deimlo
Fod ganddynt athrylith, gwerth gollwng yn rhydd.

 

 

A close-up of a paper

AI-generated content may be incorrect.

(delwedd L0957a) (02 Mawrth 1899)

Tarian y Gweithiwr. 02 Mawrth 1899.


 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

LLYTHYRA NEWYDD.

Gan Fachan Ifanc.

MISHDIR Y DARIAN, — Ma ‘Gallant Little Wales' yn para i boeni yn barnwrs a'n seneddwrs ni yn mob short o ffordd. Di nhw ddim yn cownto ni ond rhw lond dwrn oltwgeddar, a fe allwn i feddwl wth acshwns rhai o nhw, ne wth i wilia nhw ddylwn i weid - ta jobin rhwydd fydda'n twmlo ni i ebargofiant ar un stroc awdurdodol sy'n perthyn iddi nhw trw swyddogaeth. Ond rhwffordd, yn lle rhoi cic i ni ar unwaith o'r golwg am byth, a'n hyrddio ni mas o fodolath, ma nhw mwn rhw ddilema yn ffaelu gwpod beth i neid. Ddar pryd ma'r Genedl Gymrag o dan iau y fforinars, os dim shwd beth a'u mowldo nhw miwn i'r un natur, a wi yn dechra cretu bydd rhaid i'r Cymry gal u ffordd u hunen yn y diwadd. Fel buo i yn gweid pwy ddywarnod yma, ar ol acor y Parlamant, os nag odd dim son gen yr hen wedjan yn i speetsh am dano ni, y bysa row, a fe fu hefyd. Fe nath bechgyn Cymru iddi hi, a'r rhai sy'n i helpu hi i riwlo, i wpod fod Cymry yn genedl odd yn teimlo fod dignity yn perthyn iddi nhw, a wir fe geso shew o bartnars o'r ochor draw i'r clawdd i lwo hyny hefyd. Mwn ffordd, fe brofwyd ta ni sy'n ledo mwn refforms, a'n bod ni yn addfed i bethach nag yw Lloegar ddim wedi acor i llycad o bothti nhw, a treni budir yn bod ni yn gorffod aros i John Bwl a'i blant i ddod lan i'r shalc cyn gallwn ni fynd yn mhellach. W i yn ffaelu gweld shwd gallwn gal whara teg yn y Parlamant heb i ni gal Home Rhiwl. Ma Bwl a'i blant yn ala cymant o'u hamsar mas yn Affrica a gwletydd tramor erill, fel nac os dim shawns gyta fa i dalu llawar o sylw i ni, fel ma'r gwitha'r modd. Fe allwch chi fentro i fod a yn trampo gormod hefyd, a daw a i ofid rhw ddywarnod achos hyny. Ma llyced gen y byd a ma'r byd yn gweld y mwfmants sy'n mynd mlan. Os yw Lloegr yn gallu concro trw ladd paganiaid, os dim bysnas gyta nhw i neid fel myna nhw o'r pwr dabs sy wedi colli'r batls. Ma'r ffordd ma nhw wedi acto shag at hen gorph y Mahdi druan yn reflecto yn gas i olwg pob dyn o gomon sens, Ta beth odd yr hen greatur pryd odd a'n fyw, odd a yn ddicon towal yn i fedd, a odd dim bysnas gen y Sirdar na'i weishon idd i ddistyrbo fa, wath odd e weni [wedi] enill i fedd cyn iddi

 

 

A close-up of a page

AI-generated content may be incorrect.

(delwedd L0957b) (02 Mawrth 1899)

nhw enill Khartwm. W i yn siwr tysa Gordon yn fyw, na fysa dim shwd beth wedi dicwdd, a dyw y rhai sy yn dial gwad General Gordon ddim yn acto yn depig i fel bysa fe yn gneid i hunan. Os dim dowt gen i na fysa fe yn respecto bedd a moniw. ment yr hen foy, a ala ofyn i fi ne Dyfed i neid englyn i ddoti er cof am dano, yn lle cwnu yr hen gorph a thori i ben a, thowli y pishis erill o hono i'r Nile. Ma rhwpath felna yn abominabl, yn ol barn eich gostyngedig was. Falla nag i chi ddim yn diall ffordd w i yn myn'd ynmlan fel hyn, ond ma'n argiwmant i yn reit i wala. Dangos w i nag yw gorchfygu ddim yn ddigon gen y Lloegrwrs, ma nhw yn moin speito wetin. I ni fel Cymry wedi lwo u bod nhw yn goncwerwrs, a ma nhw yn gweid nawr nag i ni ddim yn nashwn, ac er nag os gyta ni ddim ond yn hiaith i brofi yn bod ni yn genedl, ma nhw yn moin gneid ffwrdd a hono, a'i thowli hi i'r Nile yr un shwt a chorph y Mahdi. Pryd ma'r judjis Sysnag yn dod ar u rownds bob hanar blwyddyn, er nag os gyta nhw ddim llawar i neid, ma nhw yn cintach yn arswydus achos fod y Cymry yn wilia iaith u hunen. Mawr y boddar sy wedi bod yn Mrawdlys Carnarfon yr wthnos ddwetha. Odd y Justis Darling ddim yn diall ffordd i fynd mlan a'i waith, achos nag odd a ddim yn diall beth odd rhai o'i flan a yn weid. Fe allwn i feddwl fod llawar mwy o fai arno fe fel dyn dyscetig am bido dysgu Cymrag, nag odd ar y bobol glawd heb wedi cal dim manteision i ddiall Sysnag, ond dyna lle o'n ni yn i weld a yn dwp odd i fod a yn cretu trw fod rhai o nhw yn gallu gweid ‘is’ a ‘no,' y dylsa nhw fod yn gwpod Sysnag, ac yn diall y gyfrath gystal a fe ne Miss Jenner, Wenvoe.

Fe wddoch chi, syr, fod cetyn o waniath rhwng Sysnag gwaith a Sysnag judjis a chyfreithwrs, a chyn gall y Cymry gal whara teg yn y Seises, fe fydd yn rhaid i'r judjis ddysgu Cymrag, ne ni gyd ddysgu Sysnag. Ma nhw wedi cal dicon o brofion cyn hyn fod milodd o Gymry uniaith yn yn gwlad ni, a beth ma nhw yn cymryd arni nhw 'u hunen i ddod i farnu cesis mwn iaith nag i nhw ddim yn i diall hi. Os i nhw yn i weld a yn ormod o drwpwl i ddysgu Cymrag, fel bydda nhw yn ffit i farnu y Cymry, arni nhw ma'r bai: allir ddim dishgwl i genedl ddysgu Sysnag er mwyn bod yn ffit i fod yn witnes unwaith mwn os falla. Dw i ddim yn moin bod yn rhy galed ar y Barnwr Darling, wath fe allswn i feddwl i fod a yn teimlo nag odd pethach ddim yn reit, ond na wydda fa yn y byd mawr ffordd i ddod mas o'r trwpwl odd a yndo. Wel, mua man (sic) [= ma ’ma un] peth yn dda, er y cyfan, nag os dim rhw lawar o waith gento fe na'i frotyr yn y parta o Gymru lle nag os dim llawar e Sysnag na Saeson.

Odd yn dda gen i ddiall i fod a yn cintach yn Meirionydd am i fod a wedi gorffod dod lawr bob cam o Lyndan i DdolgeJla i farnu un dyn, a dim ond twcid un ginog odd hwnw wedi neid. Odd rhwpath yn brofocin yn hyny, ma'n rhaid lwo, a odd a yn llawar mwy o achos cwyno yn i grefft na bod Cymry yn siarad Cymraeg. Dywedid yn Meirion fod un brawdlys yn flynyddol yn llawn digon - da iawn yn wir, a charwn i'r Barnwr Darling, a phob barnwr sydd yn perthyn i Brydain, draethu eu barn pa un a yw gwlad a mor lleied o droseddau yn cymeryd lle ynddi, yn werth i edrych i mewn beth yw yr achos o hyny, a falla ffinda nhw mas bod a fyno'r iaith a sefyllfa foesol y trigolion. Y mae y wasg Gymreig yn llawar mwy rhydd o adroddiadau parhaus am anfoesoldeb na'r Seisnig.

 

 

A close-up of a text

AI-generated content may be incorrect.

(delwedd L0975a) (09 Mawrth 1899)

Tarian y Gweithiwr. 9 Mawrth 1899.

LLYTHYRA NEWYDD.

Gan Fachan Ifanc.

MISHDIR Y DARIAN, — Ma Pwyllgor Steddfod Genedlaethol Caerdydd, fel pob pwyllgor yn Steddfota Cenedlaethol ni wedi cal

Y ROYAL FFEEFAR.

Fel ma ffeefars yn gyffretin, ma hon yn bownd o fod yn getshin, wath ma'r meicrobs yn para o fiwyddyn i flwyddyn, ac yn dilyn y pwyllgora o'r North i'r South, ac o'r South i'r North, ac er y mod i a doctoriaid erill wedi bod yn rhoi dosis a phrescriptshons er trio cal gwarad o honi, i ni yn ffaelu yn Ian a difa y jerms, a fe fydd yn rhaid i'r Bwrdd Iechyd Steddfotol neid siwrej mawr o Gaernarfon i Gaerdydd, a chadw Sanitary Inspectors yn mhob man lle ma'r Steddfod yn cal i chynal, i ddishgwl miwn i achos gwreiddiol yr epidemic. Ma boys Cardydd wedi bod yn began yn galad leni yto am i'r hen wedjan Vic ddod i'r Nashol yn Jiwlei, a fel arfadd ma hi wedi doti'r bachan sy'n sgriblo drosti i ala Ilythyr neis iawn ati nhw, i weid i bod hi yn fecso yn ddychrynllyd na all hi ddim dod y flwyddyn hyn, na'r ganrif hyn i weld i loyal subjects, yn gerddorions, llenorions, a beirdds, ond falla daw hi rywbryd y ganrif nesa. Fe welwch fod yr hen gariad yn dangos plyc o hyd! Er i bod hi wedi byw trw'r part mwya o'r neinteenth sentiwary, ma hi yn meddwl cal pishin o'r sentiwary nesa yto. Good gêm, Vic fach. Falla byddi di mwn ffordd i ddod i Steddfod Genedlaethol 1999, os byddi di byw ac iach. Trw, fod yr hen giwan wedi pallu dod, ma'r weiar-pwlars yn gneid u gora i gal rhai o'r cywion breninol yn i lle hi, ond os dim wedi'i setlo hyd yn hyn. Fel i chi yn gwpod, syr, y mod i a'r Prins ar dyrms piwr fynycha, a'n bod ni yn deall yn gilydd ar bob point pwysig a trw nag yw gwyr Cardydd ddim wedi consylto a fi yn y fysnas, ond yn gatal y cyfan yn llaw'r Maer, a fina yn B.B.D., fe ddota i stop bloc ar y Prins i ddod o speit iddi nhw. Watshwch chi os nag w i yn gweid yn reit, a tysa nhw wedi bod yn gall i noti i i fynd i wilia sha'r hen fenyw, falla na fysa pethach ddim wedi troi fel ma nhw. Dw i ddim yn moin brago dim ar y munan, ond fe alla fentro gweid hyn, na ddaw'r Prins ddim i Gardydd, wath w i yn gwpod i brogram a. Ond ma bechgyn y Metropolis o' Wales yn gweid bydda nhw yn folon, dim ond iddi nhw gal rhwpath royal yn y Steddfod; a trw fod y ffeefar mor drwm arni nhw, w i mwn dowt ffordd i neid, ac er mwyn esmwytho y delirium arni nhw, falla bydda yn well i fi drio dylanwadu ar yr hen wedjan i ala yr Indian Attendant lawr am ryw ddywarnod ne ddou. Dyn cato pawb, ond yw

 

 

 

 

A close-up of a page

AI-generated content may be incorrect.

(delwedd L0975b) (09 Mawrth 1899)

 

dynon yn od os bydda nhw yn syffro mwn rhw ddisees. Ma'r hen Steddfod druan yn mynd yn hen, a fe allwn i feddwl fod yn rhaid idd i mowldo hi o'r newydd, ne idd i gatal hi fynd i ffordd yr holl ddaear, ac eto i gyd w i yn gwpod fod dicon o gymshan yndi i fyw tysa hi yn cal llonydd gen y fformal syrjical powars sy yn cownto u bod nhw yn pwsho, ne yn wthu yr esens of leiff miwn iddi. Ma yn anodd i fi roi explaneshon i chi am i sefyllfa hi, achos ma'n jobin gweid a gwpod pun ai steddfod ne fenajarie yw hi yn awr, wath ma cymant o farieshons mwn cysylltiad a hi, nes w i wedi mynd i stwmp wth drio ffindo mas amser ma hi yn cal i chynal, pun ai hi ne'r pethach erill sy'n cysgoti o dan i chlocyn hi sy yn perthyn i ni fel cenedl. Falla bydd y proffeswrs a'r leedin powars yn gweid ta dyffar w i, achos y mod i yn wilia fel hyn, ond dw i ddim yn prisho llawar am deni nhw, wath w i yn siwr ta fi sy yn gweid yn reit, a fe fyna i weld yr hen wraig yn cal wara teg, ta beth fydd y consicwens, fel w i yn arfadd gneid er gwaetha y Royal Ffeefar a'r fforin inffliwensa seiantiffic sy yn dod i gnoco ar draws yr hen sefydliad. Gadawer iddi wishgo i hen ddillad gwlenyn cynhes gynt, a fe fydd mor iach ac hoew ag yr oedd yn yr hen amser gynt; ond yn y cotten dresis presenol a'r fflownsis ffashwnol, fe fydd yn siwr o gal anwd i farwolath yn ngwyneb haul, llygad goleuni."

 

Y DISTRIC COWNSILS.

 

Ha! ha! Dyma amsar lecshwns bron a dod yto. Wn i ddim beth fysa yn doti ticyn o fywyd yndo ni ond bai amball lecshwn, a fysa yn llawn cystal gen i fod yn D.C., a bod yn M.P., a mwn gwirionedd ma fwy o ddignity yn perthyn i'r D.C. Ne mwn ffordd arall o weid, ma Ilawar D.C., yn wilia yn fwy awdurdodol na'n Em Pees ni, ac yn cymryd mwy o scop swyddogol. Falla bydda i yn gweid yn ewn ar y Dee Cees, ond alla i ddim orwtho, ond trw ych bod chi yn brintar, ac yn gallu gneid llyfra, w i yn meddwl ta plan da fydd i chi a fl, syr, i ddod a Gateicsm mas ar beth ma pob Distric Cownsil yn neid yn ystod yr amsar ma nhw yn cal yr honar o fod yn y swyddogath. Dyma jest yr amsar i ddod a'r Catecism mas cyn fod y Cownsil yn tynu i drad ato. Dyna chi sha Aberdar, fe allwn i feddwl fod a yn ddyledswydd arnoch chi i fod yn Boxer y ceffyl blaena, ond rhw gwt buwch i chi gyta phobath ys getyn, ac er fod Gruffydd Dyfed yn cynyg at ych rowto chi, towli dwr ôr ar y consarn w i yn wel'd llawar o'r leedin pops yn trio neid. Y peth mawr, neu yn yn ffordd i o weid, y trwympyn (sic) [trwmpyn] mwya yn erbyn cynyg Gruffydd yw y gost o dalu am dreuliau Darllenfa Rydd i Aberdar — Metrepolis y Cwm. Pwy odd yn gofalu am y trethi i chwyddo cyfloga y swyddogion dan y Bwrdd? Ble ma cysgodion cysondeb wedi mynd? Ma'r etholwyr yn dal, ond ma Dee Cees Byrdar yn gwishgo specs, a fe ddyla yr etholwyr wishgo specs amsar y lecshwn.

 

 

A close-up of a newspaper

AI-generated content may be incorrect.

(delwedd L0976) (16 Mawrth 1899)

Tarian y Gweithiwr. 16 Mawrth 1899.

LLYTHYRA NEWYDD.

Gan Fachan Ifanc.

MISHDIR Y DARIAN, — Myrdar! Myrdar! Beth andras y ar yr hen fyd yma? O'n i yn dechra cretu fod popath yn dod yn smwdd ac yn deidy. Fod Congres Heddwch y Rwshan Bear yn Ffirst o Janiwary y Milflwyddiant, a o'n i wedi bryddwyto bysa John Bwl a fynta a'r pwars erill yn troi'r drylla n ffliwts, a'r canons yn drwmpats, a starto band i wara

 

‘For he's a jolly good fellow'

 

i Emprwr hol of ddy Rwshas am yr idea o roi stop am byth ar y grefft o neid twls rhyfal, ond pryd odd John Bwl yn smwddo cefan y Rwshan Bear, ac yn gweid gwd dog wtho, a fynta yn llio llaw John am i gamol a, odd yn gyfarmant ni yn partoi Bwdjat i dalu am neid drylla, canons, llonga, a phob short o dwls lladd dynon mor fishi ac ariod. Wn i ddim ffordd ma nhw yn meddwl ecspleino'u hacshwns, os di nhw yn meddwl am hyny o gwbwl. Di nhw ddim yn byrticiwlar iawn un amsar am gonsistansy, wath ma nhw abyf rhw bethach cyffretin o'r short hyny. W i wedi bod yn stydio yn galad yn y Reddy Recnar i drio casto'r miliwns o sofrins melyn ma nhw yn mynd i ala nawr i ddoti'r army a'r nafy mwn trim i fwrdro, a ma'r blydy ffeelin mor gryf yndi nhw heddy ag ariod, a arno i ofan y nghalon fod y jerms wedi citsho yn yn hen bartnar parchus i, Wmffra Huws, wath odd a yn gweid yr wthnos ddwetha lycsa fa fod wedi cal y shawns o dori pen y Mahdi yn lle Kitshinar a'i gang. Ond os yw yr hen frawd anwl a want tampo mas o’r Gatar Wellt a listo'n sowdjwr, dw i ddim bolon, a ddyla chitha, syr, trw ta chi yw i Fishdir a, ddim idd i Iwo fa i ddechra ar scâl mor ishal a thori pena hen bwr dabs yn u bedda, a lladd dynon marw. W i yn cretu fod mwy o gymshan na yna yn hen fachan dewr y Gatar Wellt, a ma fa wedi dangos hyny mwn batls pôth lawar gwaith, a dyw a ddim yn prisho beth yw seis y bachan fydd yn sefyll o'i flan a, na faint o bartnars fydd ganto. Ond ta beth, dw i ddim yn gweid un shâp daw'r milflwyddiant, fel o'n i yn gweid ar y dechra, a ma gen i argiwmant arall yto, nag yw'r wyn a'r llewod ddim wedi starto byw mwn heddwch.

 

 

 

None

(delwedd L0976) (16 Mawrth 1899)

Conffrans y Ledars yn Cardydd.

O alibalw, alibalw! Dyma hi yn ddecha, a er y mod i a chitha, a Mari drws nesa, yn gwpod na odd dim gwd ffeelin rhwng y Ledars i gyd, fel dyla fod, o'n i ddim wedi specto bysa'r confflagareshon yn cymryd lle yn awr, o bob amsar, pryd odd yr ajents yn mynd bothti fel Recriwtin Sarjants, ac yn listo'r coliars miwn i'r Undeb Newydd wth y milodd. Dw i ddim yn mynd i bwsho y mhig rhyngti nhw - os dim a'm stopiff i weid y miniwn yn yn ffordd i munan. Wth gwrs, fel ma pethach yn dishgwl nawr, ma batl ddychrynllyd i fod, os na ddaw rhw law anweledig i fi i wastoti petha. Boys anwl, byddwch yn gall. Cofiwch fod milodd o ddynon a mynywod, a phlant bach yn gorffod dipendo cetyn ar ych acshwns chi, ac y bysa yn well i chi proci bob o dynall o lo wth ych gyddfa, a neido miwn i Docs Cardydd, na bradychu gwlad o withwrs clawd yn un short o ffordd. Ta pwy yw'r Jonah ne'r Jonahs sy'n achosi y storm, miwn a nhw i'r mor, a rhyngti nhw a'r morfil, i neid contracts, pun a dwa nhw mas ne bido. Fydd cymant sy wedi dicwdd nawr ddim yn lles i neb ond i'r oposishon parti, a ma gormod yn troi i'r ochor hyny yn barod, a os aiff y ledars u hunen i neid drwg i'r gwithwrs, fe fydd yn U P up mwn amsar byr, a fe allwn dowli'r spwnj lan pryd myno ni, a treni budir fydd hyny, yn enwetig ar amsar fel hyn, pryd ma'r gwynf yn chwythu o ochor y gwithwr clawd. a phopath yn gweid, —

‘Oes, oes, ma amsar gwell yn dyfod,
Nid yri mhell, nid yn mhell.'

Os aiff hi yn gybolfa yn awr, fe fydd yn wath na bod yn ddrwg - fe fydd yn abominabl. W i a want gofyn, Oti ni r Cymry yn dwpach na neb arall? W i bob amsar yn gweid ta bechgyn clyfar yw'n ledars ni ni (sic) [ni i] gyd, a w i wedi arfadd cretu fod pob o nhw yn gneid i ora yn i ffordd i hunan i ymladd dros les y gwithwrs ma nhw yn gynrychioli, a os nag i nhw yn gneid u dyledswydd yn onest, ma'r bachan all brofi u bod nhw yn ffecan yn ganon up tw det, a'r unig ffordd i neid a nhw yw u doti yn dargats, a fydd y boys sy'n iwso mandrels ddim yn hir cyn u polisho nhw. Dw i ddim yn y posishwn y munan, nac yn y secret, ffordd ma trafod y fysnas yn y ticyn sparcs i ni wedi weld, ond w i bron yn siwr aiff y sparcs yn fflam goch ola cyn pen fawr o amsar, os na ddaw Fire Drigâd (sic) [Brigêd] comon sens a dw'r gwirionadd a ffacts i roi cowld bath ar y bildin ajentaidd (nid Arjentaidd, cofiwch). Shwd ma'r hen atnod yn gweid, ‘Os bydd gent ti rywbeth yn erbyn dy frawd, dos ac argyhoedda ef.' Ma pregethwrs, w i yn meddwl, yn mhlith y ledars, a pheth od gen i na fysa rai o nhw yn gweid gair ar y testyn yna rhwng cromfacha yn y sgyrmejis, pe dim ond er mwyn argyhoeddi un pechadur - fe dala'r I ffordd, allwn i feddwl. Gwddoch chi beth, ma'n meddwl i yn rytag o un lle i'r llall, ddar w i wedi clwad y report horabl, nes nag wy'n teimlo'n sponsibl dros y munan, a beth fydd gwyr y Ffederasiwn yn dweyd am dano? Ma arno i ofan bydd y sgwibs yn dod fel melltenas ar ol i'r history hyn gal gwynt. Lwc owt! Pwr litl Wales!

 

 

A close-up of a newspaper

AI-generated content may be incorrect.

(delwedd L0977a) (23 Mawrth 1899)

Tarian y Gweithiwr. 23 Mawrth 1899.

LLYTHYRA NEWYDD.

Gan Fachan Ifanc.

 

 

 

 

 

MISHDIR Y DARIAN, — Dw i ddim yn gwpod, pwy ffordd sy ora i ddechra gweid rhwpath wtho chi yr wythnos hon, er y mod i yn gwpod beth yw’r testyn mwya poblogadd, a mwya interestin, ond w i wedi gweid cymant arno nes y mod i wedi blino yn yr un lein. sef ar y ffwtbol matshis. Fe wddoch i fi f... ...n nillws y Cymr[y]... fodd y fudd[?ugoliath] [?cr]etwn ni d...fydd dim i...Werd[don?]... M... rho... a... a’r... yn gw... ta beth... yw y gem yn... Dyna yn Stedd[fod]... gwyy Cardydd fel... wedi: bod trio coclish rhw rhai o’r Royal Family i ddod yno, er mwyn gneid styr i atracto'r crowd, ond fel gwetas i o’r blan, na fysa dim un o nhw yn dod, a serfo y pwyllgor yn reit hefyd; ond beth w i yn pwynto ato yw hyn, — pag [??pam nag ] yw gwyr y ffwtbol ddim yn ala infiteshon i’r Hen Wedjan, y Prins, na neb o'r breed, a ma nhw yn cal dicon o gefnogath fel y profwyd dydd Satwrn dwetha. I ni yn brago os daw deg mil o bobl i'r Wyl Genedfaethol hyd y nod pan bydd y Royal Menajerie yno, ond fe dynws y Bet Letar a'r Coesa Cico yn ol y cownt welas i yn agos i ddeugain mil o bob short o bethach i Gardydd ddyddd Satwrn. Dyna Steddfod i chi, - dyna Gymanfa i chi. A dyna sy yn grand, fe fydd rheiny fu yno yn enjoyo 'u hunen yn poeni rhai ereill am fish ne ddou am y cwalities cico odd yn perthyn i bob ochor.

 

Peth od yw deleit, a os byddwch chi yr un deleit a mwlsyn, fyddwch chi ddim wth ych bodd, ond pryd y byddwch yn ei ddilyn. Odd yn ddrwg gyta fi glyad fod Captan Bancrofft wedi cwrdd ag anhap, trw gal cic ne rhwpath yn i asena gen un o'r Oirish Bhoys, mwn sgrymej am y ddigyffelyb Bel. Ma fa wedi gneid gwaith mawr a phwysig dros yn gwlad ni, a'r peth Ilia allwn ni neid yw cydymdeimlo a fa, gan i fod a wedi cal i wowndo ar faes y frwydr dydd Sadwrn, yn Cardydd, a er mwyn bod yn loyal w i yn moin i chi ala y telegram hyn iddo —

 

 

 

A close-up of a newspaper

AI-generated content may be incorrect.

(delwedd L0977b) (23 Mawrth 1899)

 

GWITHO DYDD SUL.

 

Ma program wedi cal i neid pryd dath yr hen fyd yma i foshwn gynta, fod wech dywarnod i weitho a bod y seithfed i orphwys, ond ma'n ddrwg gen i weid i fod a wedi cal i altro yn ddychrynllyd ddar hyny, a dyna sy witha ta altro ar i wath ma fa i'r pwr gwithwr o hyd mwya'r treni. Ma llawar yn cretu yn y program odd y Gwyddel yn moin, — "Cal dydd Sul bob yn eilddydd, a dydd yn Dolig yn y canol,' ond fel arall ma hi gyta plant llafur. Ma dull y byd o neid arian yn ala'r big gyns i feddwl nag os dim isha gorphws ar y lower clas. Di nhw ddim mwn Ilawar ystyr ond mashineenaries ar lun dynon. Odd Nos Satwrn y Gweithiwr yn arfadd bod fel rhw borthladd bach iddo dynu ato ar ol bod yn yr ystorm trw'r wthnos, ond os fawr o wahaniaeth rhwng nos Sadwrn yn awr na rhyw noswath arall, wath ma'n rhaid partoi y dillad gwaith erbyn bora dydd Sul fel rhyw fora arall yn mhlith milodd o'r dosbarth gweithgar. Os dim dowt nag yw hyny o dan rai amgylchiadau yn ofynol, ond ma lle i ofni i fod a yn dod yn ffashiwr (sic) [ffashiwn] gyffredinol.

 

Beth sy wedi yn ala i i wilia yn y lein hyn, yw y mwfmant newydd yn Cardydd yn awr i ddoti'r Bysis i rytag ar ddydd Sul, a'r pwr dabs sy'n gwitho dan y cwmpni, a'r hen geffyla i fod ar drot trw'r flwyddyn rownd. Os dim dowt na fydda y plan yn talu'r ffordd i'r bosis yn dda, a fe alla nhw fynd i'r cwrdd a'r eclws i “gadw yn santaidd y dydd Sabbath," tra bydd y masheenaries dynol a chelfyddydol sy'n enill coin iddi nhw yn gorffod tori'r gorchymyn. Pel w i wedi gweid ishws fod amball esgus i gal dros witho amball ddydd Sul mwn gwaith glo a harn, ond dw i ddim yn gweld llai na ddylai hyd y nod toffars Cardydd iwso'u coesa i fynd cwpwl o gama ar un dywarnod o'r wythnos. Dw i ddim I yn gwpod pwy yw'r cwmpni hyn, nac i bwy sect ma nhw yn perthyn, ond fe alla fentro gweid fod u poceti yn ddyfnach na'u calonau nhw, a falla yn drymach na'u pena nhw hefyd. Dicon tepyg bydda nhw yn gweid ta er mwyn confenians i bobol erill ma'r plan wedi cal i neid, ond dyna sy'n spoilo yr idea yna yw, nag odd neb yn gofyn hyny o garedigrwydd ddar i dwylo nhw, a ma yn dda gen i weld fed rhai dyngarwrs hyd y nod yn Sodom Cardydd, a'u bod nhw wedi tampo at u gwaith mwn wincad i ddoti stop ar y blydsycyrs dideimlad. Os dim danjar yn ol yn meddwl i, os gna nhw u part na alla nhw ddoti'r brec ar y Bysis dydd Sul wath ma rhai o nhw wedi breco llawar o betha mwy anodd na hyny, a fe ddyla y pyblic oltwgeddar bido rhoi cefnogath i'r mwfmant. Ma milodd o Gymry yn y dref, a falla fod llawar o nhw yn barod i ddweyd bydd y Bysis yn handy idd u cario nhw i'r cyrdda a'r eglwysi heb feddwl dim fod u cyd-ddynon yn gorffod aberthu u cysuron ar y Sul er mwyn iddi nhw gal enjoyo reids.

 

 

 

A close-up of a page

AI-generated content may be incorrect.

(delwedd L0951a) (6 Ebrill 1899)

Tarian y Gweithiwr. 6 Ebrill 1899.

LLYTHYRA NEWYDD.

Gan Fachan Ifanc.

MISHDIR Y DARIAN, — Wn i ddim p'un a bydd yr hen foy yn folon i fi I’ch adreso chi yn i le fe y tro hyn ne bido. Fe wddoch o'r gora fod yr amsar hyn o'r flwyddyn yn newid pethach. W i wedi bod trw'r gaua yn gatal y litl biwties i gyd naill ochr, achos i bod nhw yn cwtsho miwn yn u ffyrs yn lle bod nhw yn cal anwd, a fe wddoch o'r gora, fod gormod o gwd ffeelin yndo i, iddi profoco nhw yn yr amsar yma ond 'nawr, ma'r gwanwyn wedi dod, ma'r iltl biwties a phob prydferthwch arall yn dechra pipo mas yn u gogoniant. Diolch am hyny. Ma'r blodeu bach sy wedi bod yn cwato yn dawel trw'r gaua' mwn dinodedd, felsa nhw yn dod yn ddicon ewn i weid fod part o'r byd yn perthyn iddi nhw, a dyna sy yn gall yndi nhw, u bod nhw yn gwpod pw bryd mae u tro nhw yn d'od i berfformo'u part. Ma amball i dwpsyn o ddyn yn cretu na fydd platfform bywyd ddim yn llawn os na fydd e yno bob amsar, pryd mwn gwirionedd ta dim ond lymbar yw i hanas a, o'i Alpha i'w Omega. Os dim sens yn perthyn i dacla o'r short yna. Rhw greaduriaid wedi cal i ala gen rhw allu i nhw i dragwyddol boeni'r byd, fel bugs a chwain a llycod ffrengig, a ta mwya byddwch chi yn u hela nhw, mwya'i gyd bydda nhw yn ych poeni chi.

 

Dyma fi yn dechra myn'd yn philosopher, mym, a fe wn i o'r gora nag i chi ddim yn prisho dim am y lein yna a os catwa i yn mlan fel hyn, fe wetwch chi ta lymbar w ina hefyd. O'n i wedi dechra gweid mwn steil yr un peth a'r Bachan sy'n Labro'r Nos, a'r beirdds erill wth son am y blota a phethach pert felni, ond fel ma pob dyn yn cwmpo idd i lefel e 'i hunan, fe netho ina yr un peth, ond trw ta sha chi w i yn wilia, ma'n well i fi droi yto i'r man lle startas i. W i yn cofio darllan englyn o waith Dafydd Morganwg ar yr amsar hyn o'r flwyddyn, a er cystal hen glop sy wedi bod yn pwyso ar i ysgwydda fe, wi yn mentro gweid ta hen ffashwn yw a. Dyma'r englyn i'r Gwanwyn —


“Rhed wy^n bach ar hyd ein byd, - rhed Iloi
Ar hyd llawr daiarfyd:
Nwyfus ebolion hefyd,
Llon a gwar, llawen i gyd."

Dyna'r pethach odd yn tynu i sylw fe, amsar odd a yn ifanc ond pwy shwd stwff yw rhwpath i sbiwto yr ôs bresenol? Dyma fel ma ysbryd y “peth byw” yn gweid wtho i.-

Rhed y Beics ar hyd y byd, — a'n biwties,
Dyma batent hyfryd;
I wncto ein hieuenctid
Hwn geir yn nghynt na nhw'u gyd.

O ba le ceir ebol iach, - i ddilyn
Ein hardd olwyn bellach?
Rhy wau o beth yw'r oen bach,
Hefyd, mae'r Ilo'n arafach.

 

 

A close-up of a document

AI-generated content may be incorrect.

(delwedd L0951b) (6 Ebrill 1899)

 

Wn i ddim pu'n a i chi yn diall englynions felna ne bido, ond w i yn siwr ych bod chi yn diall yr esens sy yndi nhw. Odd yr hen bobol slawar dydd yn gwpod fod y Gwanwyn yn dod a pethach newydd, ne hen bethach wedi cal u gwishgo yn newydd falla bydda ora weid.

'Nawr, dyma fi wedi dod i'm lle wth son am wishgo. Ma'r litl biwties i gyd yn stydio yn y lein hyn, a ma hyny yn profi u bod nhw fel Wil Bryan yn triw tw netshyr. Beth sy yn fwya hardd, temptin, urddasol, sybleim, gogoneddus, biwtiffwl, ardderchog &c., &c., na gweid y litl darlins yn troi mas yn u gogoniant amsar gwylia'r haf, a dyma ni nawr wedi cal yr introdycshon cynta ar y Pasg. Ma'r papyra ffashyna yn gweid fod yr hen ffashwn o Long Scirts yn dod mas yr haf hyn yto a w i yn moin i chi, mym, a phob menyw gall arall i fynd ar y streic yn u herbyn nhw, achos bydd cymant o ddrapery yn cal i spoilo i ddysgub heolydd a nina yn talu yn barod i'r Sanitary Boards am neid y jobin ond ma peth mwy pwysig na hyny gyta fi mwn golwg. Dw i ddim yn cownto y mod i yn cal ffwl fiw ar un litI biwty heb weld i thrad hi, wath ma rheiny yn fynych iawn yn gystal indecs o'r cwalities fydd yn perthyn iddi a'i gwynab glan hi. Fe allwn i ddod a rhacor o argiwments yn erbyn y dresis hir, ond w i yn cretu y gnewch chi'ch gora i fwrw yn u herbyn nhw, achos bydda nhw yn costi yn bryd i'r pwr dabs fydd yn gorffod talu am-

Ma'n well i fi ddropan yn y man yna.

W i yn myn'd i newid yn sybject nawr, a trw ta hen bwnc sych fydd gyta fi, falla fod yn well i fi wilia sha’r Mishdir yn awr.

Fe wddoch chi, syr, fod dou M.P. yn perthyn i -

Merthyr a Aberdar.

Ma un wedi cal i eni yn Byrdar, a ma’r nall yn ddicon cyfarwdd yn Byrdar yn amsar Lecshwns, a ma Byrdar wedi stico gyta’r ddou gystal a Merthyr, a falla gwell hefyd. Ond w i yn gweid y ddou fembar yn ddicon digownt o'r hen dre nawr; a ma nhw felsa nhw am rhoi y cowld showlder iddi. Ma D. A. yn rhoi amball i dro mwn cwtshis i gal amball i stymp speetsh, ond ma fa felsa fa yn shei i ddod mas ‘yn nwgyneb (sic) [ngwyneb] haul a llygad goleuni’ ys gwetws y beirdds. Dw i ddim yn gwpod i fod a yn rhoi cyfrif o'i oruchwyliaeth yn Byrdar mwn dull cyhoeddus byth bron, er i fod a yn spowto yn Merthyr a Dowlash yn fynych iawn. W i a fe wedi bod yn eitha partnars cofiwch chi, ond dw i ddim yn folon na rhoiff a amball i donc ar i ffidl i hen etholwyr ei dre enedigol. Falla i fod a yn cretu fod gwyr Byrdar yn ddicon call yn barod, heb iddo fe gymryd y trwpwl iddi propo nhw lan, a bod isha stimiwleto dicyn ar wyr Merthyr a Dowlash rhag ofan i un o'r Wimborn Ffamily ddod iddi gnoco fa mas o'i jobin, ond w i yn cretu bydd yn well ar i les a, os yw a am gatw 'i ddignity Parlamantaidd, i ddod mas o gromfachau Cardydd a Merthyr amball dro i iro bloneg yn ngwyr Byrdar.

Dyna Pritshet Morgan hefyd, dyw a ddim wedi troi i drwyn i Sweet Byrdar mwn ffordd gyhoeddus ddar ma fa nol o China, ond ma fa wedi bod yn ecspleino maps y Teritory anferthol sy gyta ni yno i wyr Merthyr. Ma fa yn gwpod y ffordd dros y mynydd o Ferthyr i Byrdar yn amsar Lecshwn, ond ma fa yn fwy diarth yn Byrdar yn awr nag yw a yn China o getyn o ffordd, a ma fa yn fwy cyfarwdd a Li Hung Shang a'i dylwyth nag yw a chi a fi. Dw i ddim wedi gweid dim yn gas am dano ariod, ond fe all a fentru nag yw plant tre y DARIAN ddim mor dwp nag i nhw yn gweid na os gento fe ddim rhw iawar o gewc arni nhw, onte te fysa yn dod i roi tro am deni nhw ar ol bod cyd ar ffyrlo. Os na ddaw y ddou M.P. yn fwy acos at wyr Byrdar, w i yn cynyg fod Merthyr yn catw'r ddou, a'u doti nhw yn sentries un ar dop Dowlesh a'r nail ar dop Hewlgeryg i watshan na ddaw un o'r Wimborns iddi towli nhw dros y clawdd, a fe ddishgwyliff Byrdar am fembar newydd iddi nhw u hunen. Dyna fi wedi dangos y red leit iddi nhw. Lwc owt for ddy lecshon nesa.

 

 

A close-up of a document

AI-generated content may be incorrect.

(delwedd L1005a) (13 Ebrill 1899)

Tarian y Gweithiwr. 13 Ebrill 1899.

LLYTHYRA NEWYDD.

Gan Fachan Ifanc.

Mishdir y Darian - Rhy anhawdd yw troi golwg i un cyfeiriad heddyw ond at un amgylchiad - yr amgylchiad cenedlaethol pruddaf a brofwyd gan ein gwlad er dyddiau ei phenaf arwyr. Mae ein Tywysog wedi syrthio - ein gobaith wedi ei ddwyn oddiarnom - seren loewaf ffurfafen, rhyddid gwlad; wedi diflanu. Mae Cymru’n wylo - mae Prydain yn galaru, ac edmygwyr rhinwedd, talent, a phenderfyniad, yn cyd-ocheneidio. Oh! Tom, Tom, paham y cefnaist arnom mor gynar ac mor sydyn ? Yn nghanol dy waith, yn nghanol dy waith, yn nghanol dy ogoniant.

Y mae llywiawdwyr mewn hiraeth, pendefigion yn cwyno, ac arglwyddi yn brudd. Mae hyd yn nod ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru wedi datganu ei gydymdeimlad â’r teulu galarus. Y mae y deyrnas yn teimlo’r golled o farw Tom Ellis, a phwy a draetha golled Cymru? Bu ein gwlad yn gruddfan dan draed gormes yr oesau heb un o’i phlant yn alluog i ddwyn ei hachos i sylw, a dadlu ei hawliau.

Agorodd y gwladgarwr anwyl, Henry Richard, y drws, daeth cenedlgarwyr ereill i’w gefnogi, i roddi trwydded i feibion Cymru i gynteddau addysg, ac un o’r rhai cyntaf i gymeryd mantais o hyny oedd T. E. Ellis, mab amaethwr cyffredin o Gynlas, Meirionydd, a phwy fuasai yn well fel prawf i estroniaid, fod Cymru, er yn fud y pryd hwnw, yn meithrin athrylith mor loew a’r haul, ond fod angen addysg i’w caboli ? Ni wnaeth neb erioed well defnydd o’r manteision a ddaeth i’w ran. Parodd iddynt fod yn elw iddo ei hun, ac i’w wlad a’i gydgenedl, a chaiff “Cymru Fydd” dderbyn bendithion lawer o lafur ei fywyd. Dim ond un diffyg sydd yn holl hanes ei fywyd - iddo gyrhaedd pen ei rawd mor gynar ar ganol dydd. Gwelwch ef yn fab saith-ar-hugain oed yn eistedd yn mhlith y doethion Prydeinig.

Y gwladwr ieuanc Cymreig yn rhesi meibion y bendefiaeth; ac er mor dawel a gwylaidd ei natur, ni fu yno yn hir cyn i lygaid eryraidd yr hen Gadweinydd Gladstone syrthio arno, a chan fod ynddo yr adnoddau angenrheidiol i ddyrchafiad a defnyddioldeb, y mae oes fer, fywiog, lwyddianus Tom wedi mwy na phrofi fod yr hen gawr o Benarlag wedi adnabod ei ddyn. Tybiai llawer pan benodwyd ef i’w swydd bwysig a chyfrifol nad oedd ei brofiad yn cyfiawnhau y dewisiad, ond nid oes genym hanes fod neb o’i flaen wedi ei chyflawni yn well, na chyda mwy o foddhad i’w blaid ei hun a’r wrthblaid yn o gystal; ac y mae dau allu mawr Senedd Prydain ar lan ei fedd yn cyd-ddatgan eu cymeradwyaeth i’w wasanaeth a’i allu, ac yn cyd-alaru am na fydd ganddynt mwy. Yr ydym yn cael yn y stod y dyddiau presenol, er pan wnaed yn hysbys  ddydd

 

 

A close-up of a document

AI-generated content may be incorrect.

(delwedd L1005b) (13 Ebrill 1899)

Mercher diweddaf, fod ei ysbryd gloew wedi cymeryd ei ehedfa i fyd y gloewder, a’n gadael ninau mewn prudd-der, yn y byd pruddglwyfus, gawodydd o syniadau cymeradwyol a hyglodus am dano, gan bersonau unigol, a chan gymdeithasau,  o’r pwlpud a thrwy y wasg, a fyddant yn anrhydedd i’n cenedl ar ddalenau hanesyddiaeth.

Yr ydym yn falch o honynt, ac yn diolch am danynt; ond credaf fod i’n gwlad a’n cenedl, yn y presenol a’r dyfodol, rywbeth mwy sylweddol, pur, a pharhaol, yn mywyd a marwolaeth Tom Ellis, nac hyd yn nod yn nathliadau edmygawl parchus y cyhoedd, yn mhlith pob gradd o gymdeithas, yn y cyfwng ingol hwn i hen Walia drallodedig.

Oes, y mae yn mywyd Tom drysorau gwerth eu cadw yn amgueddfa fywydol cenedlaetholdeb Cymreig dros oesau i ddod. Bydd teithi ei oes fel darlunlen yn daenedig o flaen llygaid ieuenctyd “Cymru Fydd.”

Gwir, y mae ef ei hun wedi argraphu delweddau hanfodol llwyddiant yn symudiadau ei fywyd, ond bydd rhyw law hyfedr eto yn ofynol i’w portreadu mewn coflyfr o hono, a’u gosod yn nwylaw ein Cymry ieuainc, fel y byddont yn elfenau i’w symbylu at y pur, yr uchel, a’r clodforadwy.

Pryd hyn, ac nid cyn hyny, y ceir yr olwg gyflawn gyntaf ar werth gyrfa Tom Ellis, a pha bryd y derfydd ei werth, rhaid gadael i’r dyfodol pell fynegu o bwlpud anghof wedi goroesiad hanesiaeth.

Fel y crybwyllwyd o’r blaen, cafodd Tom drwydded i gynteddau addysg, ac ni fu’n segur yno. Buasai Cymru mor ddiamddiffyn heddyw a chan mlynedd yn ol oni bai fod pyrth addysg wedi eu hagor; a gallai na fyddai anrhydedd Tom Ellis yn uwch na bod yn fuddugol ar gerdd neu draethawd, mewn eisteddfod leol, oni bai ei nodded hi iddo, a’i ymlyniad ef ati hithau.

Gwelodd ef ei gwerth, a theimlodd hyny, ac amlygodd ei ddiolchgarwch am ei bendithion trwy gofio fod ereill i ddyfod ar ei ol. Aberthodd gyfran helaeth o’i oes fer i ledaenu addysg ac hyrwyddo ei llwybrau hi trwy gymoedd a threfydd tlodion ei wlad. Yn hyn y daeth ei wladgarwch yn amlwg gyntaf, a bu hyn yn agosaf peth i’w galon hyd geulan ei gynarol fedd. Gwyddai ef trwy brofiad os oedd dyfodol uwch i Gymru, mai trwy y cyfrwng hwn yn unig yr oedd i gyrhaedd hyny, ac ni adawai gareg ar y ffordd i’w rwystro tra bu nerth ynddo ef i’w symud. Yr oedd llenyddiaeth ei wlad, crefydd ei wlad, dysgeidiaeth ei wlad, a rhyddid ei wlad, fel yn un yn glymedig wrth ei galon. Yr oeddent gydag ef bob amser, yn mhob man, ac o dan bob amgylchiadau. Ganwyd ef yn Nghymru, bu fyw i Gymru, a bu farw dros Gymru. Mae Cymru heddyw yn wylo dagrau’n hidl ar ei fedd yn mynwent Cefnddwysarn, ar fynyddoedd oerion Meirion. Wedi i ti, Gymru dlawd, dywallt dy ddagrau yn helaeth i lonyddu arteithiau dy deimladau, cymer seibiant dros ychydig, ac yna cwyd dy ben, a diolch dy fod wedi cael y fraint o godi gwr o fath Tom Ellis. Er bered fu ei oes, gwnaeth fwy na mil o Feibion Can mlwydd drosot ti, a thros dy blant! Faint o feibion ein gwlad a’i efelycha? Mae ei gamrau yn werth eu dilyn. Bu yn wir arwr, a syrthiodd ar faes y frwydr ac ar ei fynwes dlysau gogoneddusach na “Chroes Buddug” fyddant yn dysgleirio yn ei goffadwriaeth “Tra môr, tra Brython.”

 

 

A close-up of a newspaper

AI-generated content may be incorrect.

(delwedd L0958a) (20 Ebrill 1899)

Tarian y Gweithiwr. 20 Ebrill 1899.

LLYTHYRA NEWYDD.

Gan Fachan Ifanc.

MISHDIR Y DARIAN, —

W i a chitha a'r rhan fwya o hono ni fel Cymry bob amsar yn deleito wilia yn ychal am yn gwlad. Dos dim yn yn mleso i yn well na gwiddi hip, pip, hwre, gyta rhywun ne rhywrai fydd yn gneid rhwpath gwerth i widdi gyta nhw os bydda nhw yn perthyn i ni o'r nawfed ach. Ma rhai yn gweid witha fod gormod o frags yndo ni yn y lein yna, a mod i yn cretu nag os dim shwd wlad dan haul a Chymru, na dim shwd fechgyn iddi cal yn un man a sy gyta ni. Os dw i yn mynd dicyn bach yn ormod i ecstreem felna witha, ma'n well gen i fod bai arno i yn y ffordd hyny na chal y bai nag w i ddim yn triw bliw i Gymru, Cymro, a Chymraeg. Yn ol y cownt sy gyta ni am yr hen amsar, odd pawb y tu fas i ni yn hunen, yn doti u trad ar yn gwddyca ni, a ta beth fysa ni yn weid, ne yn neid, odd a ddim yn werth yn ngolwg y fforinars, a os bysa amball Gymro yr amsar hyny yn gneid marc ychal mwn rhwpath, er mwyn iddo allu catw i ddignity odd yn rhaid iddo i ymsysnageiddio trw newid i enw, a mynd i fyw i Lloegar, ne cymryd rhw blan arall i dowli dynon diarth ddar y sent ta Cymro odda. Tysa yr enw odd i fam wedi doti arno yn Shaci Edward, fe fysa yn troi hwnw yn Jacuise Edwardes, ne tysa fa yn simpl John Jones, fe fysa yn rhaid benthyca rhw ddisgeis a galw i hunan yn J. Salamino Johnson Johnes, iddo gal dishgwl yn fawr ac yn ddiarth, a os bysa fa yn dicwdd byw mwn rhw hen dy, odd i dad a'i fam, a'i dadcu a'i famgu, a thadcu a mamgu rheini, wedi arfadd alw arlod ariod yn Dyllwyd, ne Neuadd Wen, odd yn rhaid iddo scriwo yr hen enwa anwl yn Grey Villa, a White Hall, er mwyn i wyr y Post Offis yn Llyndan a mana erill gretu i fod a yn getyn o wrbyneddig. Ond fe ddath tyrn of ddy teid i radda ar yna, a ma llawar o Gymry yn awr sy yn y ffrynt yn mentro doti enwa Cymrag ar u plant a ar y tai ma nhw yn byw yndi nhw, achos fod yn gwlad ni wedi cwnu cetyn yn ystod yr hanar can mlynadd dwetha, a ma'r fforinars yn gorffod lwo fod gwd cwalities yn perthyn hyd yn nod i Gymro, a ta yn mhwy bart o'r byd bydd a, ma fa wedi dod i frago ta Welshman i'r bac bon yw a, a diolch am hyny.

 

Y pethach da sy yn perthyn i'r genedl sy wedi bod yn achos o hyn, a'r bechgyn a'r merched sy wedi bod yn gneid strokes da mwn pethach da sy wedi troi'r teid i bwynt dyrchafiad, a fe ddylan fod ar y Iwc owt rhag ofan bydd i rywun ne rhwpath referso y consarn a'n hala ni nol yto, nes bydd y fforinars yn yn shyno ni achos yn acshwns lletwith. Os dim dowt nag yw ych meddwl cwic chi yn rytag o mlan i nawr -at y point sy gyta fi ar drod.

WARA FFWTBOL AR DDYDD SUL!

Beth? beth? medda chi. Ia wir, mor wirad a bod ych enw chi yn Fishdir y DARIAN, ma bechgyn o Gymru o Byrtawa, hen dre Gomar, fu yn aberthu os gyfan i gwnu'n gwlad a'n cenedl ni yn mhob short o ffordd. la, bechgyn o Byrtawa wedi bod yn wara yn Ffrainc dydd Sul dwetha yn erbyn y Ffrancod (A nhw nillws hefyd o ddicon, os yw hyny yn rhw gysur i chi i wpod). Ma prepareshons mawr wedi bod erbyn y dwarnod ys cetyn nawr, a wara teg ma llawar o wyr Byrtawa wedi bod ar u gora yn trio u perswato nhw i bido mynd i referso y gwd condyct streip odd yn arfadd bod gen y Cymry am u bod nhw yn arfadd respecto dydd Sul. Ond odd dim parswad i gal arni nhw o gwbwl. Odd u cynghori a'i cocso nhw mor ddieffaith a tysa nhw yn trio symud y Mwmbwls i'r Miwseam. Mynd netha nhw, a mynd

 

 

A close-up of a document

AI-generated content may be incorrect.

(delwedd L0958b) (20 Ebrill 1899)

mwn steil hefyd. Odd dim un short o gwilydd yn acos ati nhw, ond o'r ochor arall o nhw yn glorio yn y perfformans, a o nhw yn trafaelu shag yno fel gwrbynddicions mwn Salwn carij, os gwelwch yn dda. Fe allsach feddwl wth u gwel'd nhw fod anrhydedd bythol y genedl yn dipendo ar u trad nhw, ta pwy mor glwc yw u pena, alla i ddim gweid, a os dim ots chwaith wath y trad odd yn “anhebgorol anhenrheidiol" at y jobin odd gyta nhw mwn llaw i lorio disgynyddion Bom, a fe netho'n hyny yn rhwydd, a ma’r fuddugoliaeth yn cal i hysbysu ar adenydd gwefrol o Dan i Beersheba, a os dim dowt na fydd miloedd o'n cenedl ni yn gwiddi hwre am hyny. Ond gofynwn i ni’n hunen yn ddistaw bach faint o les a faint o anrhydedd fydd y fuddugoliaeth Sabbothol hon i garitor yr hen wlad? Ma arno i ofan nag yw'r mwf newydd hyn ddim yn myn'd i godi'r hen wlad yn ei hol, er fod dylanwad snerol un o bapyra Toriaidd Cardydd o'u plaid nhw. Bydd hwnw yn rhy fynych, fel ma'r gwaetha'r modd, yn tueddu i edrych ar ymlyniad y Cymry at gadw'r Sabbath fel rhyw nodwedd wlanenaidd, a ar yr un pryd ma fa yn esgus cwnu'r Cymry Ian pryd bydd rhwpath yn dicwdd fydd yn werth son am dano. Fel i chi yn gwpod nag yw i ddim yn dishgwl i ienctyd fod fel hen ddynon, a mod i yn lico ticyn o leiff diniwad gystal a neb, ond dw i ddim yn meddwl fod neb sydd yn teimlo respect gwirioneddol shag at “gwlad y gan," yn cretu mwn iwso dydd Sul i wara ffwtbol yn mynd i dyrchafu yr urddas cenedlaethol ni mwn un short o ffordd, a fe allwch fentro bod yn hen bryd i'n big gyns ni i stripo at u gwaith, i drio rhwystro y fforin systems hyn, os i ni am gatw yn dignity moesol.

Ma'n hen dada ni wedi bod trw'r oesa mwn amsar ac allan o amsar, yn gneid u gora i gatw cantor ‘Hen Wlad fy Nhadau' yn lan ac yn deidy, a baw o beth fod chwilgrots ffwtbolyddol yn mynd idd i fflastro hi yn awr o slwdj fforinaidd na fydd neb yn u napod hi, a bydd y teitla pert sy genti nawr yn cal u towli naill ochor am byth fel Cymru lan,' a

‘Pha wlad wedi'r siarad sydd
Mor lan a Chymru lonydd?'

a llawer o streips eligant erill sy yn perthyn iddi. Fe fydd yn werth i'n cenedl i neid yr iws gora o'r platfforms, pwlputau a'r wasg a phob gallu arall a all fod o bwrpas i flocedo y newyddbeth anghymruaidd hwn am byth a phythefnos.

Trueni dychrynllyd fod y fysnas dydd Sul wedi dicwdd, wath os dim posib bloto un tamad o fo mas yn awr, a os dim un esgus yn y byd iddi roi am dano, achos fe fu dicon o berswato ar y boys i aros yn nhre, wetin odd u hacshwns nhw yn wilffwl i'r pen. Coded Cymru ei llais i'w herbyn yn groew, a chondemnier ymddygiad angwladol y Swansea Team yn ddifloesgni o Gaergybi i Gaerdydd gan bob Cymro a Chymraes sydd yn meddu y serch lleiaf at eu gwlad a'u cenedl.

 

 

A close-up of a text

AI-generated content may be incorrect.

(delwedd L0978a) (27 Ebrill 1899)

Tarian y Gweithiwr. 27 Ebrill 1899.

LLYTHYRA NEWYDD.

Gan Fachan Ifanc.

MISHDIR Y DARIAN, —

Oti chi yn diall dodjis? W i yn gwpod ych bod chi cretu am danoch chi'ch hunan ych bod chi yn weddol glyfar, a o'n i bron mynd i gretu yr un fath a chi. Ma'r byd wedi mynd yn awr nag os dim llawar o gownt am neb os na fydd a yn gwpod rhwpath am y dodjin leins. Fe wddoch ta dysgu gyta'n gilydd i ni gyd, nes ma'r byd wedi mynd yn steeriotyped; a os na fydd un yn depig i'r nall, dyn a'i helpo. Odd odetiis yn perthyn i'r hen ddynon ys llawar dydd, a dyna beth odd yn u gneud nhw yn werth sylw, a dyna beth sy wedi catw u henwa nhw yn fyw. Dyna yr hen Langeitho, yr hen Ffynonhenry, yr hen Elias o Fon, yr hen Gristmas Evans, &c. Cymeriadau gwreiddiol o nhw i gyd, a fysa dim iws i neb i drio fod yn depig iddynt, ond ma'r byd wedi dod erbyn heddy, fel gallwn ni gyd ddodi yn hunen yn yr un bloc. Os bydd ticyn o wahaniaeth yn ych trwyn chi a'n nhrwyn i, yn y'ch gwefla chi a'n ngwefla i, ne mwn gair yn y'ch physiognomy chi oltwgeddar, yr un peth fydd y points gyta ni trw'r cwbwl - y ni yn hunen i fod yn y ffrynt. Ma lot o eira yn yn Dicshonaries ni nawr na os dim o'u hisha nhw at ol. Dyna ‘gysondeb.' Wn i ddim ble cas a'r start, a dw i ddim yn gwpod am neb heblaw Morien fysa yn mentro idd i amddiffyn e, er mwyn catw remnants yr iaith Gymraeg; ond dw i ddim yn golygu fod polisy y dyddia presenol yn dipendo arno ni fel Cymry yn ots na nashwns erill - a itwn i ddim llawar gweid yn bod ni yn sefyll at y foundeshon gymdeithasol yn well na'r rhai sy tu fas i ni. Beth w i yn ffaelu diall yw yn bod ni sy yn y down gred mor hawdd i gal yn catw yno, a bod smatarin o bosibilrwydd fel gliw yn yn catw ni yn folon yn ngwyneb pob argyhoeddiad ma twyll yw'r cwbwl. Dyna'r Balfours a'r Hooleys mwn ystyr arianol wedi catw'r rhaff yn u dwylo nes iddi fynd am u gwddyca, a ma dynon i ddilyn u tylwth nawr ac ariod. Fe welas sylw da iawn pwy ddywarnod gen hen griminal odd wedi robo un arall o ugeina o buna wth neid promish iddo bysa fa yn cal coin wth ryndo arno fe, a odd hwnw yn gweid ta rogs odd y dynon hawdda idd u twyllo, wath na fysa dynon gonest ddim yn dishgwl am docins am ddim; ond nid mwn gneid arian i ni yn cal yn twyllo i gyd. Ma gyta ni Houleys a Balfours mwn ystyr arall sy falla yn fwy o rogs yn y pen draw. Dos dim un gair yn fwy o gysur i'r un bach gwan sydd ar lawr mwn

 

 

A close-up of a text

AI-generated content may be incorrect.

(delwedd L0978b) (27 Ebrill 1899)

un short o ffordd na'r gair anwl gobeithiol –

ADDEWID!

Dyna'r gair sy yn rho'i foundeshon i dwyll, os na fydd yn cal i gyflawni. Pwy sy nag yw yn gwpod am ddysgwyliada plentyn ar ol promish rhwpath iddo, a w i yn ffaelu gweld dim gwaniath rhwng y plentyn a'r dyn, os bydd a yn dishgwl rhwpath fydd wedi cal i bromish. Y ffaddar of ol mwn promisho gyta ni nawr yw Joe Brumijam, a ma fe yn gallu catw yn mlan yn y lein yna yn well na nemor un a welas i ariod. Ma fa wedi bod yn dala lwmpyn o loshin ‘Penshwn i hen ddynon’ o flan y wlad am flynydda, a odd a yn naturiol i hen ddynon a phawb i widdi gwd boy ar i ol a am hyny. Ond gyta fe ma'r loshin o hyd. Ta beth, dyw yr hen ddynon ddim wedi cal i dasto fe, a ma arno i ofan i fod a wedi mynd yn shwps yn i ddwylo fe. Ond dyw Joe ddim mor dwp i atal y contract o dwyllo dyffars i doddi gyta'r loshin cynta. Ma fe yn gwpod am yn gwendid ni i'r dim, a fe ath i shop fach i brynu loshin arall o'r enw —

POB UN YN BERCHEN EI DY EI HUN.

Hwnw sy nawr gyta fa yn i wafo o flan y pwr dabs sy bob amsar yn dishgwl am rhwpath, a chal dim. Falla y mod i yn pwynto gormod at Joe fel person am neid crybwylliad ta yr un peth i nhw i gyd. Dyna'r Ffedereshons politicaidd i gyd — Programs o addewidion i'r dosbarth gweithiol yw pob un o nhw, a Programs i nhw yn para, a fe ellwch ddoti ‘postpônd' ar u hoi nhw pob un. Y mae yn syndod meddwl pryd ma bachan yn towli golwg yn ol ar fel ma'r big gyns yn gallu mesmereiso y rhai sy yn propo nhw lan i fod yn driw iddi nhw trw'r tew a'r tena.

Pwy fydd y Luther fydd a digon o blyc yndo i ddangos yr 'in seid out' o'r dodjis sy yn cal u gweid i dowli lliwch i lyced y werin yn mhob dull a modd mwn ystyr gyhoeddus? I bob dyn sy fel chi a fi, Syr, ma'n ddigon hawdd gwel'd fod isha rhywun a trw bod ych cymala chi yn stiff, a fina dicyn yn ifanc, fe fydd yn rhaid i ni yn dou i atal y jobin i rhyw grotyn sydd i dd'od. Ma fa i ddod, a hyny cyn hir.

 

 

A close-up of a text

AI-generated content may be incorrect.

 

(delwedd L0980a) (4 Mai 1899)

Tarian y Gweithiwr. 4 Mai 1899.

LLYTHYRA NEWYDD.

Gan Fachan Ifanc.

MISHDIR Y DARIAN, —

W i yn cretu ta er mwyn profoco'n gilydd i ni wedi cal yn hala i'r byd yma, a ta wth brofoco'n gilydd i ni yn enjoyo ora. I chi yn cofio amsar o chi yn caru fod amball ‘biff' yn clirio yr awr, yr un shwt a storm o fellt a tharana, a w i yn teimlo jest yr un peth gyta'r fenyw lle w i yn lojo. Ar ol i'r awyr fod yn glir falla am fishodd, a fina yn dechra teimlo y mod i yn ngardd Eden, ac yn barod i ddiolch fod yn ‘llinyna i wedi syrthio mewn lleodd mor hyfryd,' fe fydd yn yn ysbryd anniben i yn deohra dod at i gilydd, a fe fydda yn gweid fod i ‘ni yma ddinas barhaus.' Ond cyn bydd y ‘slipars’ ar y nhrad i, fe fydda yn smelo gas, ac yn gwpod trw y mod i yn scientist, fod ecsploshan bound o ddicwdd. Biwtiffwl weta i, wath [w] i yn lico acseitability, a falla nag yw hyny ddim yn rhyfadd hefyd, achos y mod i yn arfadd a rhwpath o'r short ddar pryd w i yn lodjo gyta y fenyw lle w i yn lodjo. Wei, wara teg, ond bai fod rhai o'i short hi yn y byd, fe fydda golwg letwith arno (ar y byd w i yn feddwl, cofiwch, ac nid arno i). Nawr i chi yn gallu diall y mod i yn pwynto at rhwpath wth wilia fel hyn, ond falla y mod i, fel y pregethwrs a'r ffeiraton, yn gweid gormod o ragymadrodd cyn gweid dim byd wrth y byd, sydd yn werth i'r byd idd i ddarllen ne i glywad. Fe basa nhw hibo fi am iwso r term yna, wath ma dicon o sens gyta nhw yn i gatw a iddi nhw'u hunen. Fe wddoch o'r gora ta dishgwl tan i ni bob amsar i gal eshampl at y rhai sydd abyf, a w i bron mynd i gretu ta tyna y man reit hefyd i gal lesns o'r short, a ma gen i ilystreshons hefyd i brofiad mod i yn acos i'n lle. Dyna'r

 

 

A close-up of a text

AI-generated content may be incorrect.

(delwedd L0980b) (4 Mai 1899)

Kyriorama Genedlaethol Cardydd

Ma'r organeisars a'r clicirioneisars wedi bod wrthi trw'r flwyddyn yn ecspando u organs meddyliol i ffindo mas ffordd taliff y shew ora. Os dim un garag heb i throi. Yr hen idea odd y cynta wth gwrs i gal Royalty yno, i lanw'r pwrs, ond fel w i wedi gweid yn nechra yn llythyr, ma nhw fel ni gyd wedi dangos u natur a'u hachwne profoco. Odd e yn ddigon speitffwl yndi nhw i ballu dod i Gardydd, ond odd a yn fwy speitffwl i ala'r Royal Sprouts i Shir Benfro, a'r North o Gymru, i wafo yr un flwyddyn, ac o fewn i gwpwl o fishodd i amsar yr ‘Eisteddfod.' I chi yn gweid y mod i wedi doti inverted comas uwchben y gair ‘Eisteddfod,' wath nid yn yr enw yna ma i napod hi yn awr. I chi yn gweid y mod i yn cynyg enw arall arni, ond ma lle i gal gwelliant ar hwna yto. Ma cymant o ‘ ‘gompliceshons’ a ‘chombeineshons' yn perthyn iddi nawr, fel w i bron yn hard yp am un teitl i ddoti ami. Dyna row dychrynllyd sy wedi cwnu ac yn para (a dim rhyfadd hefyd) yw y systematic point yna i neid arian wth werth u ‘chwys y ci,' a'r ‘abstractshons' erill o gorff Syr John. Dw i ddim yn mynd i weid dim byd yn erbyn y trugaredda fan hyn, ond w i yn siwr nag os dim un ‘Ysteddfodwr Cymruawl' yn folon troi yr hen sefydliad yn Drincin Salwn, a synwn i damad nad y rhai sydd yn cal u bathnodi fel llymeitwyr fydd y rhai mwyaf tebyg o wneud y defnydd lleiaf o'r cyfleusdra yn y Pavilion. Mae'r Methodist, y Baptist, Independiad, a'r Weslis wedi ala'u hopiniwn yn erbyn y fysnas, a dioich am hyny a w i yn siwr fod pob lienor a bardd sydd yn teimlo y cysylltiadau cenedlaethol a'r hen sefydliad, mor wrthwynebol a neb o honynt yn yr ymgais sydd gan y Pwyllgor cenedlaethol (?) hwn.

 

 

A close-up of a page

AI-generated content may be incorrect.

(delwedd L0979) (11 Mai 1899)

Tarian y Gweithiwr. 11 Mai 1899.

LLYTHYRA NEWYDD.

Gan Fachan Ifanc.

Byrdar yn dechra Shonco.

W i wedi bod yn cintach llawar iawn am fod y ‘Sity of ddy 'Iis’ ar ol yn mhopath enterpreisin ys cetyn nawr, ond ma'n dda gen i allu gweid fod smowldars o'r hen dan yn aros o hyd. I chi yn gwpod gystal a fina fod yr hen beioneers odd yn arfadd gneid Byrdar yn Byrdar, jest i gyd wedi mynd, ond ma cwpwl o nhw ar ol yto, ond u bod nhw yn cysgu, ne yn teimlo rhw speit ato ni yr yongstyrs, ac yn gweid wthi nhw u hunen na all neb o ni “godi'r hen (dre) yn ei hol." Ond ma yn dda dychrynllyd gen i feddwl u bod nhw yn camsynad tipyn bach, a bod lesens yr hen fywyd yn aros i rw radda, a wyr dyn yn y byd pw bryd daw fflam yto i gyffro yr hen ysbryd mynd ag odd yn arfadd bod yma.

Ma'r Ffair Mis Mai yn dod yn lled boblogaidd lle ma yr hen ysbryd cystadleuol iddi weld o hyd, ac amcan da yn ffoundeshon iddi, i gwnu safon y dre mwn masnach a gofal am greaduriaid fel ceffyla a mwlsod hefyd, a chal dyn y creadur twpa o nhw u gyd, i ddangos fod genti nhw rhw faint o barch i'r ffamily afresymol sy yn catw bywyd yn y byd. Ma ceffyla a mwlsod, &c., yn siwr o fod yn gwasanaethu u hos yn fwy triw na'n haner ni, a w i yn credu i bod nhw yn teimlo yn falch ar ddywarnod Ffair Mai i weld y rhibana a'r blota ar bena'u gilydd, fel ma beirdds yn lico gweld cwta preisis ar u gilydd amsar steddfod, ond falla bydd amball ddonci fel amball fardd, yn jetws fod donci arall a fwy o riban? Wel, os dim i neid am hyny, allwch chi na fi ddim pleso pawb, pun a donci ne fardd, ne olygydd papyr fydd a. Beth w i yn gynyg at weid yw fod cystadleuaeth yn dda i ddangos gymshan un, a phlyfyn gwyn y nall. Rhaid i fi weid y mod i yn hoff iawn o weld fod bechgyn yr hen dre yn deleit yn yr hen dre, a bod rhai o nhw yn dangos plyc hefyd fe[l] ysgrifenydd y “Ffair Mai," sef y Cymro anturiaethus — D. Tudor Williams. Fe wyr brodorion Aberdar na os dim yn ormod gen Tudor i neid i “ddod ar hen (dre) yn ei hol," a fe ddyla yr hen drigolion gefnogi yr ymgais hon o’i eiddo dydd Iau nesaf. Ni arbedir traul na thrafferth i wneud y dydd yn deilwng o ddignity Byrdar, a ma hyny yn meddwl cetyn mawr. Dw i ddim yn cretu llai na ellir dod a'r hen le yn ol idd i ogoniant yto ond cal y dynon reit i starto hyny. Ma Mountain Ash fel sa hi am dwcid plyf Aberdar, ond ar wyr Byrdar ma'r bai. Fe wn i o'r gora fod yn well gen y canodd sy yn fyw yn y "cymydd draw” fel y Rhondda a Chwmgarw, bysa yn well genti nhw ddod mas yn steshon Byrdar na un steshon ar y Taff, ond cal rhw esgus i ddod yma. W i yn gobeitho cymriff rhai o'r hen foys yr hint, a fe ddwa i unrhyw bryd i steddfod ne rhwpath a wedjan gyta fi tyswn i yn gorffod ffindo wedjan newydd. Ma gen i ddicon o gonffidens bydd turn out da dydd Iau, a fe fydd yn bleser gweld hen Aberdarians sy ar y tramp yn dod yma i weld fod peth o'r hen fywyd yn aros yma o hyd.

 

 

A close-up of a text

AI-generated content may be incorrect.

(delwedd L0997a) (18 Mai 1899)

Tarian y Gweithiwr. 18 Mai 1899.

LLYTHYRA NEWYDD.

Gan Fachan Ifanc.

MISHDIR Y DARIAN, —

W i yn mynd i gwmpo ar yn nhestyn ar unwaith yr wthnos hyn, achos y mod i yn linco y munan a dyn mawr, -

Y Fi a Lord Solsbri.

Di ni ariod wedi arfadd bod ar derms da mwn politics, a ma'r ffordd ma fe yn mynd yn mlan yn yn ala ni yn mhellach orwth yn gilydd mwn pethach erill, nes w i yn ofni bydd fwy o ddistans rhyngto ni na fu ariod. Hen shepin dicon hunanol yw e ariod fel i chi yn gwpod, a dyw i barti e i hunan ddim yn gwpod i brogram a, nes u bod nhw yn u weld a. Ma rhwpath yn stiff yn i ffordd a bob amser, a os dim dowt nag yw a yn diall y "fforin afters', yn well na bacad. Ma fa wedi profi i hunan yn y lein yna bob amsar, a tysa fa wedi aros yn y fforin land fe fysa yn gallu catw i ddignity yn llawar iawn gwell, na wth weid i farn ar betha cartrefol. Ma pob plaid yn gweid fod Lord Solsbri wedi llwyddo i'n catw ni mas o ryfel trw'r blynydda dwetha yma wth i giwtnes fel poletishan, ond ma fa wedi mynd yn ipish gwyllt wth bwsho'i drwyn miwn i bethach nag yw a ddim yn gwpod dim am danynt. Odd e a'r Prins o Wales yn wilia yr wthnos ddywetha yn yr un cwrdd o bothti ffashwn, a beth odd yn bert a sybleim mwn pictwrs a phethach o'r short yna. Fe wiliws y Prins yn ddicon sensibl. Odd dicon hawd diall i fod a yn gwpod beth odd yn biwtiffwl, ond ma Lord Solsbri wedi doti i drod mwn lle na ddaw hi ddim mas heb fod y rhiwmatic arni cyd a bydd a byw, wth interfeero mwn pethach nag yw a yn diall dim am danynt. Mwn bancwet odd y ddou yn wilia ar peth odd yn bert a beth odd yn gas, a fe a'th Solsbri i weid mwy am beth odd yn gas, na pheth odd yn bert, a ble o chi yn meddwl dotws a i begs lawr i dowli snaps at betha odd yn lletwith a chas?

 

 

A close-up of a text

AI-generated content may be incorrect.

 

(delwedd L0997b) (18 Mai 1899)

Alla neb neid fwy o flyndar byth fysa i lycad yn i ben a, a w i yn siwr i fod e yn gweld hyny i hunan erbyn hyn ,- Fe a'th i drin y ffordd odd y litl biwties yn gwishgo, a fe wetws nag odd trawsis ddim yn shiwto merch ne wraig. 'Nawr, w i ne fe bownd o fod yn rong, a w i yn cretu nag os gyta fl ddim isha brago munan o gwbwl, i weid y mod i yn diall beth sy yn shiwto'r litl biwties gystal a fe, os yw e yn diall fforin affers. Ma bod merch yn gwishgo blwmars a reido beic, medda fe, yn ddisgres ac yn wrthun, a ma fa yn moin i'r beirdds i neid pishis o ganu idd u trin nhw, er mwyn trio ala cwilydd arni nhw i wishgo blwmars. Gyta phob dyledus barch idd i sens politics a, w i yn mentro gweid fel bachan sy wedi bod yn coledj natur na welws e na'i dadcu ddim pertach pictwr ariod, na un o'r litl biwties ar y wheel yn mynd yn ot rât ugain milldir yr awr trw genol crowd heb aros i gosipo gyta neb ar y ffordd. Dyw dyn ddim yn gneid ffwl o'i hunan gystal a pryd ma fa yn rhoi barn ar bethach nag yw e yn gwpod dim am danynt, a ma Prif Weinidog Prydan Fawr yn i speetsh yn Bancwet y Royal Academy of Arts wedi gneid mwnci o'i hunan yn ngolwg pob merch ifanc ffashonabl, a phob bachan ifanc sy a dicyn o dast yn perthyn iddo. Dyw a ddim yn deg o gwbwl fod hen stoics fel fe yn pwsho'u trwyna miwn i fysnas rhai erill. W i yn diwty bownd i amddiffyn y biwty briged, a phryd w i yn gweld, ne glywed rhyw hen dacla afftar det fel hyn yn wilia ma'n amynedd i yn mynd yn yfflon racs. Ma Lord Solsbri yn i le yn fachan o'r gora, a'r peth calla all e neid yw aros yn y man sy yn i shiwto, a gatal rhyngto i a'r Prins o Wales i wilia am y blwmars a'r litl biwties.

 

 

A close up of a text

AI-generated content may be incorrect.

(delwedd L0990a) (25 Mai 1899)

Tarian y Gweithiwr. 25 Mai 1899.

LLYTHYRA NEWYDD.

Gan Fachan Ifanc.

MISHDIR Y DARIAN, —

W i a Emprwr Rwsha wedi cymryd jobin mwn llaw nawr fydd yn glod i'n pena a'n calona ni os llwyddwn ni i dd'od ag e i ben fel i ni yn gobeithio, ac yn ol y programs i ni wedi dynu mas. Ma'n dda gen i weid wrtho chi fod shawns dda iawn gyta ni, yn ol pob argol. Ma cetyn mawr o inffliwens gyta fe yn y byd, a os dim isha i fi son a brago am yn inffliwens i munan - i chi yn gwpod y cwbwl am hwnw yn barod; a rhyngo ni'n dou, os dim all sefyll o'n blan ni i ddoti stop ar y pwynts sy gyta ni mwn Ilaw; ond fe fyddaf i a fe yn ddiolchgar i chi, a phob dyn respectabl arall sy'n gas ganddynt ryfel i ro'i help llaw, os gwelwch chi'n dda, yn yr ‘amcan clodwiw,' os gwetws y gohebwrs i dd'od a'r moto i ben. Ma'n deg i fi weid yn bod ni'n dou wedi starto'r peth ys cetyn o amser nawr, a ma'n dda gen i weid fod popath yn dod mlan yn hwylus gyta ni hyd yn hyn, a ma'r mwfmant wedi symud y mlan mor belled a chal –

Conffrans Heddwch.

 

Ma fa yn hanar y gwaith i gal start ar y peth fel hyn, a w i yn ffwl glee i wel'd pwera mawr Ewrop yn ala deligets i'r Conffrans, wath ma hwn yn fwy pwysig bron na chonffrans y Sleidin Scêl, a wetyn fe ellwch jidjo ta nid jôc o beth sy gen i a'r Emprwr of ôl ddy Rwshans mwn llaw. Dw i ddim yn gweid yn bod ni yn mynd i stopo rhyfal oltwgeddar, ond i ni yn meddwl trio doti stop ar yn invenshons newydd sy yn cal i gneid o hyd i ladd dynon. Ma rhyfel bob amsar ddar dechriad y byd yn ddicon scelar, ond ma'r inffernal masheens sy yn cal i infento yn awr yn abominabl, ac yn annheilwng o ddynoliath. Os ymladd, ymladd yn deg, ontefa? Fysa fa ddim yn deg tysa dispiwt yn cwnu rhyngto chi a fi, a'n bod ni yn ffaelu setlo heb batl, a mod i yn sefyll o'ch blan chi fel piwjalistic jentleman, a'ch bod chi yn rytag i'r ty at Fishdres y ‘Darian’ i moin pocar i'n wado ni. Wel, rhwpath felna w i yn weld sy wedi bod yn cal i gario mlan mwn rhyfelodd ys cetyn nawr. Nid ymladd gledd yn nghledd, fel odd yr hen wariars slawer dydd yn gneid, a'r bachan cwica ne'r un a mwy o blyc yndo yn enill. Na, na - yr infenshwns gora sy'n enill y dydd yn awr. Dodjo yw hi i gyd. Towli anga tanllyd am filltirodd i ganol lot o bwr dabs cyn u bod nhw yn cal shawns i ddod i bit a'r rhai fydd yn u herbyn nhw, a ma Lloegar wedi bod mor gowardadd yn y lein hyn a neb. Scemo rhw ffordd i slotro, yn lle dangos bold ffrynt, a ma'r pwera mawr erill yn gwneud 'run peth nol u gallu. Gyta'r rhai sy a mwya o goin i gal masheens mwrdro newydd ma'r shawns ora, a rhaid cal rheiny, ta faint fydda nhw yn gosti, nes ma trethi'r gwledydd yn mynd mor drwm nes ma teyrnasoedd yn gruddfan, a phob peth yn cal i anghofio yn yr awydd i gatw y led sowdjwryddol, ne slotaryddol ddylswn i weid, i fod yn ‘driw tw netshyr.'

 

Nawr, ma isha scemo rhw ffordd i ddoti stop ar y fasnas [fysnas, fusnas < busnes] hyn, wath ma'n ddicon hawdd diall fod teimlad cryf trw'r byd gwareiddiedig yn erbyn y streids dychrynllyd ma'r byd yn neid mwn invento yn y lein hyn, a bod y gwledydd am y gora yn cystadlu i fod yp tw det; a os gadewir y pethach i fynd mlan fel hyn, fydd dim son am ddim twls erill ond twls rhyfal, a fydd dim amsar i wilia am ddim yn Parlamants y byd ond am y scems gora i goncro'n gilydd. Allwn ni ddim gweid nawr pwy blan fydd yn cal i neid, ond ma bechgyn lled dda wedi cwrdd yn y conffrans, a chreta i ddim dwr [dwn, don] nhw oddna heb neid

 

 

A close-up of a document

AI-generated content may be incorrect.

(delwedd L0990b) (25 Mai 1899)

 

rhwpath fydd yn werth y trwpwl ma nhw yn mynd iddo. Ta ffordd troiff pethach, os dim dywt nag yw hwn yn un o'r cynicon gora fu ariod i gal gwledydd gwareiddiedig i ddiall i gilydd yn well na ma nhw wedi bod. Ma rhai o brif gewri'r byd wedi bod yn sgrifenu yn mhob ôs ar echryslonrwydd rhyfal, a llawar cynyg wedi cal i neid gan ddynon da, ond dim un mor effeithiol a hwn. Os daw pethach yn depyg fel w i yn dishgwl. fe fydd Emprwr Rwsha a fi wth gwrs wedi gneid stroc anfarwol. Ma arbitreshon hefyd i fod dan sylw, a ma'n syndod meddwl na fysa cynllun o'r short mwn bodolath er ys oesa rhwng teyrnasoedd rhesymol. Fe fu yr anwl hen gyd-wladwr Henry Ritshat a'i bartnars yn pregethu cyflafareddiad trwy'i fywyd bron, a fe fuon fel cenadon trw lysoedd Ewrop yn trio perswato yr hen ddespots yr os o'r blan i neid cynyg arno, ond odd gormod o bowdwr a brwmstan yn eneidia. yr hen git cigyddol odd yn byw yr amsar hyny i wrando ar ddim byd o'r short, wath odd llawar o nhw yn credu ta er mwyn rhyfela odd Duw wedi u ala uhw i'r byd, a o nhw yn gofyn i Dduw am help i ladd u gilydd fel yn amsar Ffrainc a Prwsha. Ond os na chas Henry Richards a'i bartnars yr amsar hyny ddim llawar o wrandawiad, chreta i ddim Ilai na bod peth o'u dylanwad nhw wedi aros hyd yn awr, a falla ta orwth yr hada o nhw yn hau yr amsar hyny ma'r egin wedi tyfu yn nghalon yr Emprwr. Ond ta beth am hyny, a ta yn mhle ma'r plan wedi starto, ma pob dyn sensibl yn barod i lwo i fod a'n dda.

Gwir yn bod ni yn clywad ambell ionc yn gweid witha fod isha amball ryfal i scupo cwpwl o ganodd o filodd ddar y ffordd i rai erill gal lle ond daliwch chi notis y rhan fynycha ta dynon fydd yn moin bod yn ddicon pell o ffas y gwaith yw rheiny, a ma nhw mor ofalus a neb i bido mynd i ddanjar mwn un short o ffordd. Os dim polisy mwn peth o'r short chwaith. Ma fa yn costi milodd o buna bob blwyddyn i'n gwlad ni i neid plans a chyfreitha i brotecto bywyta, a os ta isha'n scwpo ni mas o'r byd sy beth ma'r awdurdota yn cintach ac yn cospi dynon am acor i lamps dan y ddaear, ac yn catw cymant o row os bydd rhw adyn cythreulig yn doti obstacls ar y Relwes i drio towli trains dros y rails, ac os isha cal yn gwarad ni ma'r ddou blan yna yn rhai piwr iawn at y jobin ond i ga tal nhw i fynd mlan. Beth sy isha’r Bords of Helth hefyd os os isha cal gwarad mwy na sy'n mynd yn barod. Beth ma’r Bords yna yn pido cauad i shopa lan a gatal i'r Frech Wen, y Typhoid, a’r Colera gal u ffordd. Dyna gwpwl o ganons fysa yn sweepo pac o filodd o ni ddar y ffordd mwn amsar byr, dim ond u gatal nhw gal lle u wafo, a fe licwn wpod, faint o rheiny sy'n dda ganddynt rhyfel fysa yn folon sefyll o'u blan nhw. Na, ma dicyn o le yma i ni gyd ond trefnu pethach yn deidy a iwso'r arian a'r amsar sy'n mynd yn awr i ffeedo bwldogs rhyfal i acor maesydd newyddd i blant y byd gal lle i enill bara chaws. W i fel un ta beth, a w i yn cretu ych bod chitha, syr, yn dymuno pob llwydd i'r Conffrans Heddwch sydd yn awr yn ishta yn Hague, ac mae want gweld proffwydoliath Hiraethog yn dod i ben —

"Hen dduw rhyfel a ddiarddelir,
Hwnw ddu eilun mwy ni addolir;
Temlau ogoniant gan a genir,
Allorau fawredd i'r llawr a fwrir,
Heddwch, wi[r], heddwch cyn hir — o'r diwedd,
A gwir rinwedd trwy'r byd a goronir.'

 

 

A close-up of a document

AI-generated content may be incorrect.

(delwedd L0982a) (15 Mehefin 1899)

Tarian y Gweithiwr. 15 Mehefin 1899.

LLYTHYRA NEWYDD.

Gan Fachan Ifanc.

MISHDIR Y DARIAN, —

Ta i bwy bwynt y trowch chi'ch pen y dyddia hyn fe gewch weld dynon yn joino a'u gilydd fel rijmants i fod yn barod i ymladd dros u hiawndera yn mhob short o ffordd. Ma hen dduw trais a gormes wedi bod yn wafo cymant yn y byd ariod, a wedi cal ffordd i hunan cyd fel ma dynon wedi dechra dod i deimlo fod isha rhw blan i rwstro rhwfaint arno yn i fartsh ddychrynllyd dros bena a chyrff dynon clawd yn mhob short o ffordd. Hen scamp yw a ariod, a ma gyta fa lawer iawn o angylion gwasanaethgar yn gneid u gora i gatw i ddignity ysgeleri'r lan, fel ma isha llawar iawn o nerth i ddod i gwrdd a fa, a os dim dowt gen i nag yw undebau yn un o'r plans gora at hyny. Fu dim fwy o hyny yn y byd ariod na sy nawr. Ma pob bransh o lafur a iwnians yn perthyn iddi nhw trw'r wlad a thrw'r gwletydd o ran hyny. Dyna'r wthnos ddwetha odd deligates o wahanol wletydd mas ar y Cyfandir, yn purtoi i ddrilo plant llafur y wlad hon a'r fforin neshwns i ymladd yn erbyn duw trais, ond dyna sy'n od, fod yn litl biwties ni mor bell yn ol yn y lein hyn. Ma nhw yn trio bod yn debyg i ddynon yn mhob path (sic) {peth] bron, a wir nace trio ma nhw, ond yn gneid hyny fel i ni yn gweld bob dydd, a ta beth gymra nhw mewn llaw fe fynan fod yp tw ddy marc, a yp tw det hefyd. Ma nhw wedi gneid marc gyda'r ffwtbol cyn hyn, a ma nhw yn siwr o fod yp tw det gyta'r beics, a os nag u nhw ddim yn troi mas yn aml yn y piwjalistic ring, ac yn gwishgo'r menig, ma gyta ni gownt am rai o nhw yn cnoco ac yn scrapin dynion mas o amsar yn fynych iawn yn weddol o gwic, a ma llawar pwr dab yn gorffod teimlo orwth effaith y piwjalistic bymps ma fa wedi gal gen i wedjan ne'i wraig am i ôs. Ond ma'n well i fi ddropan y lein hyn o wilia, ne falla byddwch chi a fi, syr, yn myn'd o dan yr un oruchwyliaeth, ac yna, fe fydd golwg wilffwl arno'n ni'n dou cyn pen fawr o amsar. Wel o'n i ddim yn meddwl son am rwpath felna wrth ddechra, ond mod i yn colli munan pryd w i yn son am deni nhw. Nawr, y pwnc odd ar yn stumog i wrth ddechra odd wth y mod i yn gwel'd iwnions yn mhob man gen bob short o ddynion, fod yn bryd cal –

IWNION Y MERCHED.

Diw hwn ddim yn bwnc newydd i fi drafod, fel y gwddoch chi. W i wedi gweid yn yn llythyra o'r blan fod cymaint o deirany yn cal i iwso at merched sy'n gwasanaethu mwn shopa, tafarna, a llefydd erill, a sy yn y pwll glo, y felin harn a dur, a phob man arall lle ma dynion yn gwitho.

Os dim un pwnc a fwy o wilia am dano nawr, yn mhob bransh o lafur dynol, na lleihau oriau gwitho, a phwnc eitha da yw a hefyd, ond ma'n rhaid lwo fod yn merched ni yn goddaf mwy achos hyn na neb. Ma'n dda gen i wel'd i fod a yn dechra dod yn bwnc y dydd yn awr i ddishgwl miwn i achos y merched, a ma ticyn o sgrifenu ar hyny yn nghylch merched y shopa yn y trefydd. Eitha da, wir, ond beth i chi yn feddwl am idea dena Lord Solsbri? Odda yn gweid, tasa rhwpath yn cal i neid i roi rhw wara teg felni i rai o'r merched, bysa fa yn doti blan yr aing miwn i acor ffordd i'r blwmin lot. Dyna gownt yn dod o ben

 

 

A close-up of a newspaper

AI-generated content may be incorrect.

(delwedd L0982b) (15 Mehefin 1899)

 

dyn o'i short e, ond te fa? Os yw merched erill yn goddef yr un cam, oni bydda fa yn deg i neid y gora trosti nhwnta hefyd? Ma'n dicon hawdd i ni feddwl ta jobin bach net sy gyta'r ferch tu ol i'r cowntar. Fe fydd yn trimio'i hunan tan fel pincwshin, ac yn gorftod sefyll yn y rhan hyny am rhw ddeuddeg awr y dydd, a racor na hyny. Ma sefyll ar i thraed, a gneid dim yn fwy o jobin na ma'n hanar ni yn feddwl, a ma rhw fachan wedi syjesto dyla fod sets teidy gyta nhw i ishta lawr tu fiwn i'r cowntar, a w i yn cydwel'd a fa i'r dim. Ma fa yn ddicon, iddi nhw fod ar u trad pryd bydda nhw yn syrfo'r cystomars. Ond y pwnc mawr sy isha yw cal system yr wyth awr i'r litl biwties hyn a'r holl o nhw yn mhob man sy'n gorffod gwitho i enill u tamad. Os dim dowt nag yw'r trais a'r gormes sy yn yn gwlad ni shag at ferched yn mhob short o ffordd yn achos i lawar o nhw i ddibrisho u hunen, a fe ddyla leedin wmans y dydd gymryd y pwnc mewn llaw i organeisio iwnion cryf o forwynion, barmaids, a shop asistant's, &c., a chal Ffederashon mawr o nhw trw'r deyrnas i gyd, a phob un i wishgo medals fel sy gen y coliars, yr haliars, &c., i ddangos beth i nhw. W i yn folon bod yn Ajant os myna nhw, a fe stica y ngora i ymladd o'u hochr, os sefa nhw'n driw gyta fi wetin, tysa raid i fi fyn'd i’r jail ne rhwpath tebyg, a er mwyn bod yp tw det, fe gaiff y bachan sy'n labro'r nos fod yn syb-ajant i fi, ac yna fe withwn yn pwynts yn dda iawn. I gial start dda, fallai y bydd yn well cal proseshon mawr o'r cwbwl o Gaerdydd i Byrdar i ddechra a chal y Royal Welsh Ladies Choir i ganu o'u blan nhw, a fe ddala i yn het ora y tyniff hyny y shein mas o prosheson mawr Cwm Byrdar pwy ddydd Llun. Ta beth i chi yn feddwl am hyn, fe allwch fentro fod yr amsar i ddod i neid rhwpath dros y merched, ond w i yn siwr, dim ond iddi nhw gal start, fe allan shiffto drostynt eu hunain wetin. Dyma le i Mrs D. A. Thomas a'r Wmans Libral Ffederashon i neid gwaith fydd yn refflecto yn well arni nhw, ac yn fwy o glod iddi pena a'u calona na boddrach am hen boletics sych, a os bydd iddi nhw ei gymeryd mewn llaw os dim all sefyll o'u blân nhw, wath w i yn siwr fod dicon o gymshan yndi nhw u gyd. Trw fod y pwnc yn dechra cal sylw gyta'r Saeson, a fina wedi bod yn gweid arno racor nag unwaith o'r blan, dw i ddim yn folan i ni yn Nghymru fod ar ol, a os gallwn ni, gadewch i ni ddangos ticyn o dwtsh trw fyn'd a'r led. Now, my litl biwties, dewch i fi gal gwel'd beth allwn ni neid gyta'n gilydd. Ma'n rhaid ymladd cyn cal wara teg, a fe allwch chi neid hyny os bydd taro.

 

 

A close-up of a document

AI-generated content may be incorrect.

(delwedd L0992a) (22 Mehefin 1899)

 

Tarian y Gweithiwr. 22 Mehefin 1899.

LLYTHYRA NEWYDD.

Gan Fachan Ifanc.

MISHDIR Y DARIAN, —

Er pan ma atnod y Compensation wedi cal i doti miwn yn mhenod fawr cyfrath y wlad mha rhw alibalw parhaus yn cwni o senedd y mishdirs yn Neheudir Cymru a Shir Fynwa yn ots nag un man arall trw'r dyrnas, felsa'r na nod (sic) [atnod] hon yn perthyn fwy i ni na neb arall, a ma pob short o scems yn cal u cynyg idd i gneid hi yn llythyren farw, a w i yn ffaelu gweid beth sy isha i'r part hyn o'r wlad fod yn ots na rhw bart arall. Mawr y randibw fu ar y start i gal gwithwrs i gontracto mas o honi, a bysa hyny yn llawer gwell er u lles nhw, ond fe ffaelws y moshwn ddod i berfformans a byth oddar hyny ma rhw hen ddiflasdod yn cwnu o hyd, ac yn achosi panics yn y byd gweithfaol Cymrag. Os dim dowt yn y meddwl i na o'r mwfmant hwn y dath jerms yr hen streic ddywetha, ac o'r un man ma acos yr holl gyfreithia rhwng mishdirs a gwithwrs wedi tarddu. Os dim un Polis Cwrt yn paso bron un wthnos yn yn cymydd ni, nag os haliars a choliars yn cal u symynso am rhwpath ne'i gilydd nes ma gaffars a gwithwrs yn cwrdd a'u gilydd yn fwy amal o flan y majistrets a'r judjis, y cownsilars a'r cyfreithwrs, nag yn offis y gwaith, nac yn yr hedin a'r talcan. Dw i ddim yn cretu fod y plan hyn o gario petha mlan yn talu'r ffordd yn dda i un ochr yn fwy na'r nall. Os ta'r ochor wana sy'n gorffod talu'r ffeins a'r costa o hyd, ma siwr o fod collad yn y pen draw i'r ochor arall, wath ma gwyr y cwils mor giwt a'r gaffers bob tamad, a ma nhw yn gwpod fod coin yn y mes hefyd. Heblaw hyny, ond yw a yn beth anghyson a lletwith u bod nhw yn cintach fod gwithwrs yn colli amsar i fynd i angladda y pwr dabs sy'n cal u lladd yn y gwaith a nhwnta yr un pryd yn u hala nhw i golli tyrns i fynd i'r Polis Cwrts i atab y symonsis ma nhw yn rhoi iddi nhw am hyny. Dw i ddim yn diall polisy felna o gwbwl ond yn y gola bod refenj yn sweet. Ma pwar o bregethu wedi bod ariod gen i a llawar erill ta isha cal mishdirs a gwithwrs yn nes at u gilydd sy, ond wfft shwd blan i ddod a hyny i ben yw gwneud i ddynon clawd i dalu ffeins a chosta a nhwnta ddim yn enill dicon i dalu'r ffordd yn barod, a dyw rhwpath fel hyn ddim ond yn lletu'r distans sy rhyngti nhw yn awr, a ma hwnw fel ma'r gwitha'r modd yn gagendor mawr iawn, a fe fysa yn fendith fawr tysa rhw fachan clyfar yn cwnu i bonto rhwng y ddwy ochor a'u gneid nhw yn un a chytun. Ma cyfrath y scel wedi tori dydd Llun Mabon lawr, a chyfrath y wlad wedi dod a'r Compenseshon lan. Dyw'r gwithwrs ddim yn folon colli Gwyl Mabon, ond os dim i neid trw fod y ddeddf wedi cal i seino. Dyw'r mishdirs ddim yn folon fod y Compenseshon Act wedi dod i rym, ond rhaid iddi nhwnta gofio fod hono wedi cal i seino hefyd, a fe ddylent gwmpo miwn yn deidy yn lle sgyrnu a rhincan danadd o hyd am hyny a thrio scriwo pob ffordd i refenjo o hyd yn achos hyny. Fel w i wedi gweid yn barod ma'r bosis wedi gneid llawar cynyg cas o'r blan, ond dyma y tip top wedi dod nawr, sef -

 

A close-up of a text

AI-generated content may be incorrect.

(delwedd L0992b) (22 Mehefin 1899)

Llyfyr Newydd Arall.

Dyma'r “Trydydd Cynyg" ys gwetws Mynyddog gynt am i lyfra, ond odd pob cynyg gen Mynyddog yn cal i dderbyn yn serchus a llawar fel y stwff odd tu fiwn iddi ahw, yn gwella a difyru dyn. Nid felni ma llyfra'r mishdirs yn gneid o getyn o ffordd. Ma surni a gwenwyn trais a gormes tu fiwn i gloria rhai'n, a mor gynted a caiff y cynwysiad i ddarllan ma nhw yn ala'r colic ar bob dyn teidy a theg, byddad e yn withwr ne bido, a dyna sy yn wilffwl o gas yw u bod nhw yn dod a pethach fel hyn mas heb yn wpod i neb, hyd y nod aelota'r scel o ochor y gwithwrs, ac yn moin i ddynon ddoti i enwa lawr u bod nhw yn folon byw wrthi nhw, ne farw ddylw'n i weid falla, wath stwff i ladd ryddid a starfo gwithwrs sy ar bob dalan bron. W i yn ofni fod gwithwrs wedi seino gormod o betha cyn bod nhw yn gwpod beth ma nhw yn neid yn barod, a fe fynd gofyn i gymryd pwyll mawr gyta'r New Book, ne falla bydd fwy o attendo'r Polis Cwrts yto. Os aiff pethach yn mlaen fel hyn, fe fydd yn rhaid i bob gwithwr gatw cyfreithwr iddo fe'i hunan, a pryd bydd cesis yn dod wetin fe fydd yn gweid fel y gwyr mawr i gyd — " I have put the case in the hands of my Solicitor,” my Solicitor a nid gwithwr ddyla seino'r Llyfr Newydd, os os seino i fod arno o gwbwl. Ma closis yndo sy yn rhy diclish i fechyn y mandral ddoti u henwa na'u crosis ar u hol nhw. Pwy sens yw doti shwd gatecism a hyn o Ban gwithwrs? a phwy esgus odd dod ag e mas mor ddishtaw? Pam na fysa nhw yn mynd a'r Llyfyr down plymp i Gonffrans y Scel i gal i analeiso fa cyn i bwsho fa dan drwyna y dynon mwn smac fei gnetho nhw. Ma rhw acshwns fel hyn yn siwr o fod yn creu casineb a falla ddechra mwstwr, ond os posib gen i na thria nhw ddod i ddiall u gilydd yn well cyn aiff hi yn rhy bell. Pechod o'r mwya fydda scotcho a sprago y fasnach lo yn awr pryd ma pob arwyddion aiff hi mlan yn biwr ond cal y ddwy blaid i ddiall u gilydd. Beth andras yw yr hen sting sy yn para o hyd rhwng dou allu sy mor bwysig er cysur y byd?

 

Ma nhw yn son am y Conffrans Heddwch rhwng teyrnasodd, ma arno i ofan bydd yn fwy anodd sefydlu heddwch rhwng mishdir a gwithwr bye-an-bye os pariff hi mlan fel hyn na neid heddwch rhwng y big pwars trw Ewrop a'r byd. Rhw infento maxims a crupps w i yn cownto ma'r mishdri yn neid nawr i scupo y rhai fydda nhw yn dewish ddar y ffordd, a cyd y bydd un ochor yn partoi i ryfal fydd y nall ddim yn mhell ar ol fe allwch fentro. Ta beth fydd seis y gelyn ma'r gwrthwynab yn barod i sefyll o'i flan bob amsar i amddiffyn i hunan, tysa fa yn marw wrth hyny os bydd ticyn o blyc yndo, a ma boys y gwynepa duon wedi profi hyny, ond gobeitho na fydd dim isha gneid dim o'r sort am amsar hir yto, ond gallwn ni widdi mor ychal a'r beirdds –

Heddwch! Heddwch! Heddwch!

 

 

A close-up of a newspaper

AI-generated content may be incorrect.

 

(delwedd L0999b) (29 Mehefin 1899)

Tarian y Gweithiwr. 29 Mehefin 1899.

LLYTHYRA NEWYDD.

Gan Fachan Ifanc.

MISHDIR Y DARIAN, —

Diau genyf y byddwch chwi a'r darllenwyr yn cydymddwyn a mi am lithro ychydig o'm IIwybr arferol y tro hwn i dalu teyrnged o barch i goffadwriaeth hen gymeriad sydd wedi bod yn anwyl i gylch helaeth o ddarllenwyr y DARIAN yn ein cymydd glofaol, sef y diweddar

‘DR.' T. WALTERS, TRECYNON.

 

Ystyriwyf mai dyledswydd arbenig arnom fel Cymry yw talu mwy o sylw nac ydym yn arferol o wneud o gymeriadau o nodwedd yr ymadawedig - cymeriadau gwreiddiol, ydynt yn treulio oes er daioni i ereill - cymeriadau sydd er gwaethaf pob anfanteision, wedi llwyddo i fod yn alluog i fod o wir ddefnyddioldeb i gymdeithas. Dyn o'r nodwedd yna oedd yr hwn yr ymgasglodd miloedd i dalu y gymwynas olaf iddo ddydd Sadwrn diweddaf. Ni chafodd ond ychydig fanteision foreu oes, fel ereill o'i gyfoedwyr yn agos i bedwar ugain mlynedd yn ol, yn ardaloedd dinod Cymru, ond er yr anfanteision, sydd wedi gwneud argraff ddaionus ar ein gwlad mewn llawer ystyr.

 

Ganwyd yr hen foneddwr uchod tua ardal Llandebie 75 mlynedd yn ol, ond daeth i gylchoedd gweithiol Morganwg yn bur ieuanc, a llwyddai yn yr ymgyrch a gymerai mewn llaw. Trodd ei feddwl i'r cyfeiriad meddygol, ac y mae canoedd, os nad miloedd o dystiolaethau yn aros nad ffug fu ei lafur, ac nad ofer ei ymgyrch, a chafwyd prawf diymwad ddydd ei gynhebrwng fod rhywun anarferol yn myned i'r "lle na ddychwel mo hono mwy." Yr oedd ei enw yn anwyl gan bawb a'i adwaenai, a phwy yn nghylchoedd Aberdar a thrwy gymoedd Morganwg na wyddent am Dr. Walters? Onid oedd ugeiniau yn ymweled ag ef yn eu hanffodion o bob cwmwd, ond nid oedd yn fwy parchus yn un man nac yn ei gartref. Derbyniodd dystebau am ei ofal a'i allu ydynt heddyw yn traethu beth oedd, a bydd ei enw yn fyw yn adgofion anwylaf y werinos am flynyddoedd lawer. Nid oedd dydd na nos, gwres na drychin, ystormydd nac anghyfleusdra yn rhwystr iddo ef i wneud ei ran i leddfu doluriau y claf, ac esmwythau i dirdyniadau yr anafus. Hyd yn nod pan yn dyoddef ei hun oddiwrth wendid ac afiechyd, yr oedd y gwroldeb dyledswyddol a berthynai iddo, yn ei wneud yn anghofus o hono ei hun er llesoli ereill, fel y glynodd yn yr harnes hyd ei ddyddiau diweddaf yn gwasanaethu, a gwn yn bersonol mai pleser ei fywyd yn ei ddyddiau olaf oedd gweini ar y claf a'r dolurus. Er yn wargrwm a nychlyd, yn agos pedwar ugain mlwydd oed, yr oedd i'r fynud at ei amser yn ymweled a'r plentyn yn y dwymyn, y

 

 

 

 

A close-up of a paper

AI-generated content may be incorrect.

(delwedd L0999b) (29 Mehefin 1899)

wraig yn ei phoenau, a'r dyn oedd a'i esgyrn wedi eu dryllio yn y gwaith. Pan fyddai unrhyw achos o'r fath, yr oedd ei feddwl a'i fyfyrdod yn gyfangwbl arnynt, ac nid ystyriai ei fod yn cyflawni amcan ei fodolaeth os na fyddai yn cymeryd gofal o honynt, a'u gwella os gallai.

O! mor naturiol y gafaelai yn ei farf hirlaes, a'i wên foddhaus, a'r wen foddlongar a welid ganddo pan fyddai wedi llwyddo yn ei amcan clodwiw i ddwyn cyd-greadur allan o'i ddirdyniadau, a gellid yn ddibetrus ddweyd mai nid ei fai ef oedd os y methai.

Meddyg teuluaidd oedd Walters, a phawb yn meddu anwyldeb ato. Yr oedd caredigrwydd lon'd ei enaid, a pha fwyaf o ddaioni a allai wneud, mwyaf dedwydd y byddai, ac yn wir yr oedd yn llwyddo mewn amryw ffyrdd heblawy linell feddygol i wneud ei enw a'i gymeriad yn edmygedig. Nis gwyr neb eangder ei elusendod, gan na wireddodd neb yn ol ei allu linellau y Gwyn o Eifion yn fwy nag ef, -

 

‘Boed na wypo byd nepell

Y naill law a wnel y llall.'

 

Nid oedd braidd un achos elusengar yn codi yn yr ardal na fyddai ef yn un o'r rhai mwyaf blaenllaw i'w ddwyn i weithrediad llwyddianus, ac yr oedd gydag amcanion fel hyn mor ymwybodol a ffyddlon a chyda'i alwedigaeth fel meddyg, a sieryd y lluaws am dano fel dyngarwr o'r bathiad mwyaf trwyadl. Yr oedd ei adnabyddiaeth o bawb yn y cylch yn peri ei fod yn gyfarwydd ag angenion gwahanol bersonau a theuluoedd, ac ni fyddai ef byth yn ol pan welai wir angen, heb wneud ei ran. Yr wyf wedi clywed llawer yn tystiolaethu yn gyhoeddus am ei rinweddau yn y cyfeiriad hwn, a chydsain pawb yw fod yr ardal wedi cael mwy o golled ar ei ol nas gellir ei fynegu yn bresenol, os y gellir byth. Dyn y bobl ydoedd, ac nid oedd dim yn ormod gan y bobl wneud drosto, fel y profwyd lawer gwaith. Mynych y ceisid ganddo gymeryd rhan mewn symudiadau cyhoeddus; a dewiswid ef yn gadeirydd mewn cyngherddau, darlithiau, &c., yn aml iawn. Bu yn aelod o Fwrdd Ysgol Aberdar am chwe mlynedd, a phan ddaeth y tymhor i ben adeg yr etholiad diweddaf, buwyd yn daer ganddo i sefyll drachefn, ond teimlai nad oedd ei iechyd yn caniatau iddo, er siomedigaeth i'r etholwyr. Pe byddai yn alluog i sefyll, nid oedd petrusder lleiaf gan ei gyfeillion am y canlyniad. Blin oedd genyf ei glywed yn dweyd y pryd hwnw fod ei dymhor gweithio bron ar ben, er y carai fod o wasanaeth pellach yn y cyfeiriad hwnw. Beth bynag oedd ei alluoedd yn yr ystyr yna, gwyddai pawb ei fod yn egwyddorol, ac y mae hyny i'm tyb i yn gymhwysder gwir angenrheidiol mewn swyddogaethau cyhoeddus.

 

 

A black and white text on a white background

AI-generated content may be incorrect.

(delwedd L0984) (13 Gorffennaf 1899)

Tartan y Gweithiwr. 13 Gorffennaf 1899.

 

Y Bachan Ifanc.

Dymunwn hysbysu ein miloedd darllenwyr mai y rheswm nad ymddangosodd llythyr arferol ein gohebydd ffraeth, yr wythnos ddiweddaf, ydyw iddo gael ei daro yn glaf, ond y mae'n dda genym ddeall ei fod ar y ffordd i adferiad, ac y bydd iddo ail ymaflyd yn ei orchwyl, ni a hyderwn, yr wythnos nesaf. — GOL.]

 

 

 

A close-up of a letter

AI-generated content may be incorrect.

(delwedd J0959a) (20 Gorffennaf 1899)

Tarian y Gweithiwr. 20 Gorffennaf 1899.



LLYTHYRA NEWYDD.

Gan Fachan Ifanc.

MISHDIR Y DARIAN, —

W i yn gwpod ych bod chi a'r darllenwrs yn lico clywad son am, a darllan hanas batls, wath w i wedi sgrifenu hanas batls o'r blan yn y DARIAN, a o'n i yn teimlo ych bod chi yn cal blas ar y testyn. Wel ma rhaid i fi roi dicyn bach o gownt bach i chi y tro hyn yto, nid rhwng Fitzsimons a Jefreys, na neb o'r tylwth yna o gwbwl, a w i yn cretu fod gwell rhiwls gyta'r bechgyn yna, a gwell wara teg hefyd, na'r batl w i yn mynd i sôn am deni. Ma nhw yn gwishgo menyg yr un bwysa, ac yn trio bod yn acos yr un bwysa'u hunen hefyd, a ma refferees, a seconds, a watchis, i gatw amsar, a spwng i dowli lan pryd ma nhw yn lwo, ond am y fatl sy gen i mwn llaw, hen fatl naill ochr yw hi i gyd, a w i fel ma'r gwitha'r modd wedi gorphod teimlo hyny, a fallai caf i deimlo am spel, wath y fi odd y ffigwr mwyaf prominent yn y matsh. Lled depig ych bod chi want clywad pwy odd y shampions odd yn ymladd, a ma'r un man i fi weid ar unwaith ia —

Fi a Mr. Afiechyd

 

sy wedi bod yn cal cwpwl o rownds a ma'n ddrwg gen i orffod gweid ta fe odd y Bili Mishdir. Ma fa wedi bod yn y nghlowto i o'r blan droion. Fe mwrws i lawar gwaith nes y mod i yn peswch yn anoddefol am wthnosa, a ma fa wedi'n scriwo i mor galad cyn hyn nes i fod a bron stopo ngwynt'i, ond y tro hyn fel y shampions mawr i gyd fe a'th i dynu gwad, a fe gnath a widd a fenjans, nes i'n meddwl i rytag at yr atnod yna sy iddi gweld yn llyfyr yr Adferteisments – ‘For the blood is the life,' a fe gretas i bysa fa yn mynd a'r blood a'r life mas o hono i oltwgether gen shwd ergyd rows a i fi, a os dim dowt gen i ond bai i fachan o bartnar i fi sy yn arfadd doti stop arno sef y Doctor neidio miwn i'r ring byswn i wedi cal y ffinishin stroc, a shwd bysa hi arnoch chi a'r litl biwties weti'n? Ond ta beth w i fel yn teimlo y mod i wedi cal yn safio y tro hyn yto, cyn fod Mr Afiechyd yn rhoi'r ergyd mawr, a w i yn falch i weid wtho chi a'r darllenwrs anwl yn mhob part y mod i yn well nag w i wedi bod, er mai yn ngharchar y gwely w yn sgriblo y llythyr hwn atoch, ac yn meddwl yn fynych am linellau tyner Telynog –

“Blodeuyn bach wyf fi mewn gardd,
Yn araf, araf, wywo;
A’r blodau ereill oll a chwardd,
A mi fy hun yn wylo."


Ie, peth profocin iawn yw gweld bechgyn ifanc erill yn tampo o bothti mor nimbl ac ebolion, a mina yn ffaelu. Os dim i neid ond cwato wth gefan hen wetiad yr hen wraig — "Fe allsa fod yn wath," a rhaid — “Gneid y gora o'r gwitha," a “diolch fod hi arno ni a chyda ni fel ag y mae."

Dyna od ma'r hen fyd yma yn gallu shiffto hebddo ni pan fydd taro. Fe allwch feddwl wrth weld a chlywad amball un yn wilia, a swagro, bysa'r byd yn mynd yn chaos mor gyntad a bysa nhw yn sleido mâs o hono, ond ar ol iddi nhw fynd os neb yn gweld u hisha nhw. Peth digalon iawn yw rhwpath felna i ddynon

 

 

A close-up of a newspaper

AI-generated content may be incorrect.

(delwedd J0959b) (20 Gorffennaf 1899)

fel chi a fi sy a ticyn o ambishon yndi nhw. Dyna fi ffor instans, w i wedi bod yn cretu fod Iwmpyn mawr o'r hen fyd yma yn pwyso ar y nghefan i, a phan gymrwd yn glaf nawr o'n i yn ffaelu diall yn iawn ffordd bysa pethach yn myn'd mlan a fina ar ol. Ond mlan w i yn ych gweld chi, a phawb, a phobpath yn mynd fel taswn i ddim ond O yn y byd. Dyna'r Steddfod Genedlaethol, odd dim dowt yn y meddwl i na fysa y pwyilgor yn gweld y priodoldeb o'i thowli hi am fish trw nag w i ddim mwn trim i fod yndi. W i yn ffeili seiphro ffordd ma nhw yn meddwl shiffto hebddo i, ar wn i. Dyna'r bechgyn diarth yna yn dod o wlad y winwns, a Patrick Calachan a'i bartnas yn dod o wlad y tatws — "ffein-howld Hoiurland" - a fe fydd rhai o dyIwth Mac o wlad y whisci yna hefyd, medda nhw. Shwd shomedigaeth fydd iddi nhw ffaelu y ngweld i yno! Fe fysa yn llawar callach i'r pwyilgor bostpono y consarn nes y mod i yn fit i fod yno fe allwch weld ych hunan.

Dyna beth arall ca nhw drwpwl iddi setlo isha na byswn i yno yw pwnc yr Awdl a'r Bryddest fel testyn y Gatar. Ma gwyr Liverpool yn cretu galla nhw neid fel ma nhw yn gweld bod yn dda bothti y testyn a'r mesur a phobpath arall, ond tyswn i mewn trim fe ddotwn i stop arni nhw i gal lesens i gatw'r Steddfod yna y flwyddyn nesa. Ma cetyn mawr o “self will” iddi weld yn y Lerpwliaid ddar y start, a rhw inclinashon yndi nhw i snero awdurdoda'r Orsedd, a er na fyddi i ddim yn depyg o fod yn Cardydd, fe watshiff Wmffra Huws a Eifionydd ddignity y beirdds fel na chaig (sic) [chaiff] toffs dinas y Ilonga ddim carlamu dros y cloddia i miwn i breserfs Ceridwen, fel bo nhw yn dewish. Ma rhwpath yn rhyfadd, a ddim yn rhyfadd hefyd fod shwd jelosy yn erbyn yr hen gynghanedd. Ma bron pob sprigyn sy yn ffaelu i diall hi, ac yn ffaelu i gneid hi, ac yn ffaelu dychymygu beth yw’r secret sy yndi, am i thwmlo hi mas o fodolath. Pwy niwad all fod yndi? Os nag u nhw yn gallu gneid un iws o honi — popath o'r gora; gadawer hi yn llonydd i'r boys sy yn gallu enjoyo yn i chwmpni anwl hi. Ma pob bardd Cymreig cyfarwdd yn gwpod nag os dim un plentyn anwylach na phrydferthach yn nheulu awenol Cymru na englyn barddonol wedi ei wisgo yn ngwisg arddunol cynghanedd lithrig a phrydferth, a os dim dou gen i nag yw y bloceds barddol sy'n gweid ta rhwy[s]tr yw hi, yn smelo fod rhw ogoniant cuddiedig yn yr englyn a'r cywydd, ond trw u bod nhw yn ffaelu solfo y problem ma nhw yn moin rhoi y dirty cic owt i'r gynghanedd yn lle i bod yn tynu'r dwr o'u danedd pryd ma nhw yn gweld plant beirdds erill yn tori swel yndi. Ma fa mor wrthun clywad Cymro yn rhytag yr Awdl lawr, a'i fod a yn rhytag yr iaith Gymrag lawr yn gwmws. Ond bysa'r Awdl, fe fysa yr iaith yn yr un caneuon a'n pryddesta cenedlaethol ni, rhwpath yr un steil a'r pishin canu ma'r bachan sy'n labro'r nos a fi yn arfadd neid, a jest yr un short a'r Sysnag ma'r toffs Dic-Shon-Dafyddol yn wilia trw gil u cega. Fe fyswn i yn lico bod yn Aseisis yr Orsadd yn Cardydd yn helpu trafod y mater.

 

 

 

None

(delwedd B0405) (27 Gorffennaf 1899)

Tarian y Gweithiwr.

27 Gorffennaf 1899.

LLYTHYRA NEWYDD

GAN FACHAN IFANC.

 

Mishdir y DARIAN, — Ma pob haf yn dod a pher a fala, eirin duon a mysharwms, blota cawl a Steddfod Genedlaethol, nes nag yw a ddim yn rhyfadd fod y gân —

 

'O! na byddai'n haf o hyd'

 

wedi dod mor boblogadd, wath ma bron pawb yn lico un o'r petha yna, ac yn ol pob cownt i ni wedi gal yr wythnos hon ma lot dychrynllyd (?) yn lico'r Steddfod. 'Nawr, pidwch chi a chretu achos na cheso i ddim shar o honi y mod i yn jelws wtho chi a'ch short sy wedi bod yno. Dim shwd beth. On i yn watshan y papyr bob bora, ac yn llio'n gwefla ar ol darllan y reports fel tyswn i wedi enill sharo nhw munan, a o’n i yn werthin ha! ha! wth weld y preisis yn cal u stopo ar y beirdds, achos na fydd gyta nhw ddim shawns i wafo yn ots na fi odd yn ffaelu bod yno. Dyna beth w i yn galw yn

 

Gydymdeimlad,

 

 — teimlo i gyd yr un peth, a ma isha cal y byd i'r mana cyn bydd a yn reit, a ma barnwrs Steddfod Cardydd wedi profi bod nhw yn diall athroniaeth y pwnc. Peth arall, o nhw yn diall athroniaeth mwy pwysig hyny, sef bysa yr arian trwm odd yn cal u cynyg am breisis i'r beirdds am u pishis yn ala'r garantors yn bancrypts a er mwyn iddi nhw fod yn siwr bysa tocins yn spar iddi talu nhw am jidjo y pishis, w i yn cownto u bod nhw wedi dangos point of busnes wth stydio economy yn ochr y committee. Wath fe all y beirdds shiffto heb docins yn well na dim un class arall, wath ma nhw yn byw y rhan fwya o'u hamsar yn myd yr ysbrydoedd, lle nag yw bara chaws ddim yn y ffashwn, a ma nhw yn gallu byw yn hen, hen, ar scili Ceridwen; ac yn ol y lein ma’r Steddfod cal i chario mlan nawr, dyw a ddim llawar o waniath pun a bydda nhw byw o gwbwl, wath ma pethach erill mwy modern yn dod i lanw'u lle nhw o hyd.

 

W i wedi gweid o'r blan y mod i yn stiwpid wth drio dilyn y beirdds, a ma consyltashwn wedi bod rhyngto i a'r bachan sy'n labro'r nos pwy bwynt i gymryd nawr, trw u bod nhw wedi mynd i'r down gred, a fina am gatw munan lan os galla i, ac ar ol stydio yn galad i ni yn dou wedi gweld fod yn rhaid i fi gymryd pwynt newydd. I chi yn gwpod mod i yn fachan sy wedi troi yn mhob short o ffordd, nes ma hi wedi mynd yn anhawdd gwpod ble ma cal ffordd newydd, ond diolch i'n menydd mawr i, w i wedi ffindo platfform yto, a w i yn folon i chi ddoti a mwn print mawr —

 

“Bachan Ifanc yn Broffwyd."

 

Ar ol i fi ddoti hwna lawr, fe allswn i feddwl y mod i yn clywad eco yn gweid, dyna hen ffrwmpyn yto. Beth ma fe yn gwpod am “be sy i fod!" Wel, os gen i ddim i weid i ecspleino munan yn well na rhoi program o'ch blan chi fel gwelas i a munan, a gofalwch neid wara teg a fi.

 

Eisteddfod Genedlaethol 1900 yn Mhwll-yr-Afu.

 

Er mwyn bod yn mlaenllaw gyda'r mudiad cenedlaethol, a thori stroc tuhwnt i Gardydd, y ma’n dda gyta ni hysbysu fod y pwyllgor yn gwitho yn galad i bwsho rhwpath newydd miwn i'r sefydliad anwl, ac er mwyn enill serch y genedl dyna ni yn cal y fraint o fod yn perthyn iddi, fe gewch enghraifft o'r hyn fydd gyda ni i ddoti o'ch blan chi pryd daw’r amsar i ben.

 

Rhestr Gweithrediadau’r Orsedd.

 

1/ Deuddeg Italian a phob o Hurdy Gurdy yn barod wth bob Maen.

 

2/ Yr Archdderwydd yn esgyn y Maen Llog, ac yn bloeddio yr englyn anfarwol canlynol –

 

Oh! arswyd dyma orsedd — yr y beirdd

Ar ben eu can' mlynedd,

I wadu eu dinodedd

A d'wed eu swn nad oes hedd!

 

Clywch, Clywch.

 

3/ "Yn y dyfroedd mawr a'r tonau.”

 

4/ Yr Archdderwydd yn codi fel o freuddwyd fel pe ddim yn gwpod pun ne'r englyn ne'r emyn odd y gora.

 

5/ Doti ffugenwa ar y Beirdds, y Derwyddons, y Cantorions, a phob short o bethach odd yn dod miwn i'r cysegr sancteiddiolaf. – (Ma rhaid i fi weid gair y munan fan hyn. Ma isha cal rhw fashinery newydd i neid ffugenwa, a fe fydd yn spec net i fachan iddi mowldo nhw, yn lle yr hen rhai stiwpid odd yn Cardydd.

 

ENGHRAIFFT.

Dyn wedi dod yma am Dro.

Hanesydd Tai Bach 'Brafan.

'Sgrifenydd o wlad Cathod heb Gynffona.

Shorsyn mab dyn diarth, &c.

 

Pwy, yn mhen tri mish, fydd yn cofio enwau rhaina? Ond rhaid mynd mlan a'r program.

 

 

 

 

A close up of text on a white background

Description automatically generated

(delwedd B0406) (27 Gorffennaf 1899)

 

6/ Penillion Telyn, hono heb ddod. Yr Hurdy Gyrdys yn taro ton. Mwynhad anghyffredin.

 

7/ Y beirdd yn cal eu gwefreiddio gan y miwsic, ac yn gneid miwsic u hunen fel hyn –

 

“Beth yw telyn — beth yw tant?

At anwyl blant Italia,

Ma'r Britons wedi bod mwn niwl

Wrth ganu Rhiwl Britania,

Fel Hurdy Gyrdys mas o ddet,

Ond bechgyn net sy yma."

Clywch, clywch.

 

8/ Yr Archdderwydd yn dechreu dod nol i'r hen hwyl, ond yr awdurdoda yn ala i weid fod yn bryd starto'r Steddfod. Can yr Orsadd.

 

Y Steddfod.

 

1/ Can gan Dewi Hyfrydlais.

 

2/ Anerchiad gan y Llywydd yn gweid fod a wedi trafaelu nithwr heb ddim ond winwnsin yn i bocad o Morlax i'r Steddfod gan gymant o serch odd gento at y Cymry.

 

3/ O fryniau Caersalem ceir gweled, &c.

 

4/ Beirniadaeth y Trnethawd goreu ar — Bob llwyth, iaith, a chenedl, o'r amser y daeth i ddadblygiad yn nghyntaf mewn lysieuaeth, anifeiliaeth, a phob meidroliaeth ac aethau erill. Disgwylir i 'r awdwr ddosranu ei gyfansoddiad mewn symledd cydweddol a natur addysgol yr oes, fel na bydd ei ysgrif yn faich i’r darllenydd.

 

Y Feirniadaeth — Yr ydym fel beirniaid wedi darlleu yr haner dwun traethodau ar y testyn amserol hwn, ac yn gydwybodol nad oes un o honynt wedi mynd at wreiddyn y testyn, nac wedi amlygu ond ychydig bach o wybodaeth am dano. Atelir y wobr.

 

5/ Irish Jig.

 

6/ Solo Tenor ‘Cymro Dewr’ - (ac yn gweld y fforinars yn mynd ar Wyl Genedlaethol oddarno, yr un shwt ar gaffars yn mynd a Gwyl Mabon ddar y coliars — dyna ddewr!)

 

6/ Yr Highland Fling yn ddyddorol dros ben.

 

7/ Englyn — Motryb Gwen. Dim teilyngdod.

 

8/ Y Prif Ddarn — Anthem newydd Morantho. Dysgybleitho Davies-Jones.

 

Wyth o gorau yn cystadlu — Dau o Llydaw, dau o Werddon, dau o'r Alban, un o Ynys Manaw, a'r nall o Gymry! Ynys Manaw yn fuddugol. Yn tori yn fwy distinct na'r lleill, — dim cymant o gynffon yn y swn. Cynta gwpla gora'i gyd. Clapo mawr.

 

9/ Dyma ni yn dod yn awr at brif waith yr Eisteddfod. Fe fu — Awdl y Gadair — yn cal sylw yn y gon bei days, a'r Bryddest hefyd fu yn hawlio sylw. Fe ddath y prif ddarn corawl i symud milodd idd u gryndo, ond good bye i’r bloomin lot. Ma’r hen ganrif yn ei bedd, ma'n rhaid cal newydd-deb, a fe fynwn a hefyd. Y mae y pwyllgor anturiaethus wedi penderfynu gwneud y Steddfod Genedlaethol 1900 tu hwnt hyd y nod i speciwlators Cardydd, a ma nhw yn hurio trwp o anturiaethwyr i ffindo hen wehelyth yn tada ni yn mhob rhan o'r byd. Ond y darganfyddiad gora ma nhw wedi neid, mwn cornal bach yn mhart isha y lle pella sy yn Merica, fe ddethon o hyd i'r PEDWAR dwetha o olafiaid Madog ab Owen Gwynedd yn cwato mewn perth, a ma nhw yma heddy i roi perfformans ar y platform yn lle Awdl y Gatar. Ma nhw mor gyfarwdd yn y jobin fel bydd a yn bleser i bawb gweld nhw yn mynd trwyddo, a fe fydd yn beth newydd yn yr Wyl Fawr Genedlaethol. Gyda cymant a yna o ragymadrodd, fe ddwa nhw mlan nawr i ddangos i ni fel cenedl o'r un gwad a nhwnta, fel odd u tada yn gallu scalpo pena er boddlonrwydd cyffredinol i'r gwyddfodolion ni a gredwn. Y peth nesaf ar y program yw i'r brodyr Madogaidd scalpo pena pedwar o'r beirdd gora sy yn gwishgo peisha yr Ysteddfod.

 

“Y Gwir yn erbyn y Byd”

 

Diwedd — "Bydd myrdd o ryfeddodau."

 

 

A close-up of a paper

AI-generated content may be incorrect.

(delwedd L1006a) (3 Awst 1899)

Tarian y Gweithiwr. 3 Awst 1899.

LLYTHYRA NEWYDD.

Gan Fachan Ifanc.

MISHDIR Y DARIAN, —

Wn i ddim pun a i chi mewn shap i stydio ne bido, ond ma’n rhaid i chi a Mishdres y Darian rhyngoch chi ach gilydd yn helpu i mas o’r trwpwl w ynddo nawr gyta’r pishis canu sy’n dod mas ddar y Steddfod Genedlaethol. O’n i yn synu wrth weld mor ddiened a diawan odd yr englynions yno o’r Archdderwdd lawr i’r Archidiot mwya barddonol, ond w di i fi weld specimen o beth odd gen yn brodyr anwyl sy yn byw yr ochor arall i’r moroedd o’n i ddim yn synu dim. Ma nhw yn gweid wtho i’ ta’r farddoniaeth ora yw yr un mwya anhodd iddi diall, a ta’r bardd gora’i gyd yw yr un fyddwch chi yn ffaelu i ddiall a o gwbl, a dyna yr achos y mod i mwn shwd gonffiwshon nawr. Fe ddath y pishin canlynol mas mwn papyr Sysnag sy yn cal i brinto yn Cardydd, a w i jest wedi mynd yn hurt wrth dreio’i ddiall a, a w i yn moin i chi a’r darllenwrs gal shar o’r jobin,

“RHYFELGAN Y LLYDAWIAID,”
“Ton. - Ann hini gors.”

“Ni sy bob pryd, Lydawiaid, Lydawiaid, wyr Caled.”

“O ia! i’r rhyfel rymus wyr,
Y chwi sy gartre’n onest-wyr.

Y Saeson ffoant ben yn mhen,
Pan gydlefarom, “Tor ei ben,”
Yn mhob priodas clywir ter,
Ac hyfryd sain y “binion” {= biniou} ber.

O Riez Izel! Bro decaf Ior,
O’i fewn mae coed, o’th gylch y môr.

Och! Lydaw, os rhaid d’adael di,
Mi wylaf chwerw ddagrau’n lli’.

Frodyr, glynwch, wrth ’rhen bethau ´
Ffon hir, gwallt hir, hirion lodrau.

Ymgalonogwch, ddewrion mad,
Y chwi gaiff ferched goreu’r wiad,
Fy nhafod dynwn mas o mhen,
Cyn gwadu’r hen Lydawaeg wen.

Hawddamor it, Breiz Izel, fyg,
Hoff gartref derw preiff tal frig.

Er hyny, uwch holl bethau brau,
Carwn Iesu, Duw, ein tadau.
Brizenth a’i Cant,

Os byddwch chi yn dewish, syr, fe allwch ala’r pishin yna i –

Mr. T. WILLIAMS (Brynfab),
Nr. Pontypridd,

i gal gweld pun a caiff a ddod mas yn y cornal sy gyta fe i’r beirdds yn y Darian, a falla gnaiff a remarcs arno, ne falla dotiff a fa yn y fasgad - dw i ddim yn gwpod, ond w i yn gwpod nag yw a ddim yn i ddiall a ta beth.

Nawr, fe ewn mlan at rhwpath i ni yn diall i gyd - sef gwaith hen Gymro. Dotwch chi ych twls printo mewn tiwn.

Carmen Britanicum, ad explanar,
Taliesini, Seculi sexti Poctarum.

PRINCIPIS.
Henffych well, Frederig,

Ein goruchel wledig,
A’th gydwedd Augusta,
O hen edryd Gotha;
Cystlwm teg cyswynawl.
Rhwng cywreinieu breiniawl.
Debri di yr enwog,
Fechdeyrn gwych dyledog;
Dafydd i’th d’wysogaeth,
I Aberffraw helaeth,
Y freiniol breswylfa
Lle bu gynt dy gynna
Differ yno’r giwdawd

 

 

 

A page of a document

AI-generated content may be incorrect.

(delwedd L1006a) (3 Awst 1899)

Rhag pob math ar anffawd,
Bid dy gledd a’th bennawr’
A’th saphwy gyfurddawr,
I gadw braint cynhwynawl
Rhag tra gwerin gythrawl.
Ac o claddwyd awen
Wyryf ddoeth ddysywen,
Eto hi adgyfyd
Yn ysblenydd hyfryd;
O feddau Beirdd celfydd
Tardda ddawn awenydd,
Blodeua Brythoneg
Megys gwydd ehoeg,
Bu bau mawl y beirddion
Yt ben-ffelaig Brython.
Gorddyar yr eigion,
Erddiganau eon
A’r creigiau ddadseiniant
Dy ryglyddus foliant
Pet bid y tan fragad
Cenhedled Augusta
Megys hen Elena
A gwrdd fraisg facwyon
I anturio ynghanon.
Boed eich dau’n ffynadwy,
Ac ar gynydd fwy fwy,
Mal Arthur gledd llachar
A’i fanon Gwenhwyfar.
W. Wyn a’i Cant.

Ma anerchiad priodasol felna yn interestin ac yn dytshin iawn, ond am yr un cynta, gyta mod i yn meddwl ta pishin serch odd a, dyna fa yn troi at rhywpeth arall. Beth odd yn fwy neis i fachan ifanc na

“Ymgalonogwch, ddewrion mad,
Y chwi gaiff ferched goreu’r wlad,”

ond odd a yn dod mor sytan ar ol y leins o’u blan nhw

“Frodyr, glynwch wrth ’rhen bethau,
Ffon HIR, gwallt HIR, HIRION lodrau,”

nes na wn i ddim pun o’r ddwy gwpled sy ora, na pun o nhw sy yn yn siwto i ora. Fe weta i benill wtho chi nawr, ma’r hen stoc yn i wpod a i gyd

“Morgan bach, fy machgen anwyl,
Ie’r bachgen bach dinam ;
Aros, rho dy glust i wrando
Ar gynghorion dwys dy fam.
Paid a bod mor galongaled,
Paid a’m gadael wrth fy hun,
Heb na brawd, na chwaer, na chymhar,
Dan y tonau’n wael fy llun.”

Ma pawb yn diall hwna, dicon tebyg fod a wedi cal i atrodd mwn llefydd mor gysegredig a’r Pafilion, lle ma nhw yn cynal y Steddfod Genedlaethol. Ond dyna lle ma’r drwg, os dim shawns i enill ar bishis felna o gwbwl, wath dyw’r big gyns ddim yn cwnto u bod nhw yp tw det, a dyma’r achos y mod i a’r bachan sy’n labro’r nos yn ffeili dod a preisis o’r Nashonal. Dyw a ddim ifflyn o ots gen i, cofiwch, pwy sy yn ffaelu enill y Gatar, ond w i yn cretu yn bod ni yn colli tir mwn peth sy yn fwy pwysig, a ta pwy mor glyfar ma nhw yn treio bod nawr, w i yn ffaelu gweld un Talhaiarn, Iorwerth Glan Aled, Mynyddog, na Cheiriog yn cwnu nawr, ac os na chwniff neb o’r short yna, fe all y beirdds newydd a’r hen dories cynghaneddol dowlu y spwng lan pryd mynan nhw i gadw gwres a theimlad cenedlaethol rhwng erchwynion “gwlad y bryniau,” a chysgu ar obenydd cynhes - Cymru Fu.


 

 

A close-up of a text

AI-generated content may be incorrect.

(delwedd L9998a) (17 Awst 1899)

Tarian y Gweithiwr. 17 Awst 1899.

LLYTHYRA NEWYDD.

Gan Fachan Ifanc.

MISHDIR Y DARIAN, —

Ma bechgyn y Parlam[a]nt wedi cwpla'u jobin am y sesn hyn yto, a ma'r House o Comons a'r House o Lords ‘to let' nawr am spel, wata ma’r M.P’s i gyd wedi cal lwans gen Mishdres Vic i fynd ar u holidays, a ma'r boys yn ffwl glee wedi starto ar u sgyrshons i wahanol fana. Dywarnod mawr yn ngolwg yn Seneddwrs ni yw y

 

TWELFTH OF OGYST.

 

Dyw plant yn ysgolion dyddiol ni ddim yn falchach o gal u gellwn yn rhydd nag ii nhw, a ma rhai yn ffaelu aros i'r amser ddod lan cyn u bod nhw yn starto ar u sgyrshons. Fe allech feddwl fod slafo dychrynllyd wedi bod, a nhwnta wedi gwitho u hunen mas yn deg. Pidwch a gofyn i fi beth ma nhw wedi neid yn ystod y sesn dwetha, wath alla i ddim o'ch atab chi yn iawn, ond fe wn gymant a hyn, bysa jest yr un peth iddi nhw fod wedi aros yn nhre o ran dim ma Cymru wedi gal, er fod M.P's Cymru wedi gwitho mor galad a neb o nhw trw'r amsar. Dicon tepig ych bod chi yn cofio nag odd yr hen wedjan ddim yn promish dim i ni yn i speetsh wth acor y Parlamant dwetha, a mod i wedi bod yn cintach am hyny. Hen un dwp iawn yw yr hen wraig yn i ffordd, a ma hi wedi dysgu rhai sy o deni mor dwp a hi'i hunan. Ma hi a nhwnta yn esgus gweid u bod nhw yn meddwl yn fawr am dano ni, ond pan ma petha yn dod i bwsh i ni yn cal gweld u cylars nhw. Ond ta beth yn y byd, fa allwn ni ffwrdo iddi hi a'i gweishon gymryd holidays yn eitha da, a gobeitho bydd iddi gofio am dano ni yn i speetsh nesa, ta pw bryd bydd hyny. Fe ddyla yn membars ni ddod rownd ar u tro cyn bydda nhw yn cwrdd yto i'n dysgu ni, a nina idd u dysgu nhwnta beth i ni yn mofyn, a beth sy isha fwya arno ni. Dyw a ddim iws gofyn iddi nhw ar hyn o bryd dicon tepig, wath ma nhw fel y membars erill a deleit saethu a physcota, a dyna fydd y go 'nawr, a fe fydd pob short o bolitics yn cal u hannghofio am spel; felly dyw a ddim yn deg i fi fynd i reido gormod arni nhw, trw fod pawb yn cymryd enjoyment ar hyn o bryd, dim ond y mod i yn towli hint erbyn bydda nhw yn barod at waith. W i wedi gweid nag o ni ddim yn gwpod beth o nhw wedi neid trw’r seshon, ond ma gen i gownt piwr beth fu’r membars yn ifad a byta yn ystod y seshwn, a fe gewch chi farnu wetin pun a i nhw yn gneid rhwpath ne bido sy'n werth son am dano. Dyma'r cownt hyd ddiwedd y mish dwetha o ddar pryd dechreuson nhw gwrdd, —

 

Lwnshis 11,941

Ciniawau 21,978

Swperau 347

Prydiau te 32,263

Prydiau te wrth y Bars 5,671

 

O dddechreu Ionawr hyd ddiwedd Mawrth, derbyniwyd —

 

£ s. c.

Am fwydydd 1,825 - 9 - 4

Gwinoedd 1,277 - 11 - 9

Shigars 113 - 7- 4

Arian Byrddau 40 - 9 - 6

 

Am y tri mis o Ebrill hyd Gorphenaf, ma'r cownt yn depig i hyn, —

 

£ s. c.

Bwydydd 3,587 - 3 - 8

Gwinoedd 2,368 – 18 - 8

Shigars 182 - 5 - 1

Arian Byrddau 78 - 9 - 6

 

Eto am y pedwar wythnos yn y mish dwetha, yr odd y cownt gyta'i gilydd yn £2,693 11s 5c. Ma nhw wedi byta yn y Ty yn ystod y seshwn 72,208 o brydiau yn costi £12,160 6s 3c. Dyna waith lled dda, ond te fa, syr?

 

 

A close-up of a text

AI-generated content may be incorrect.

(delwedd L0998b) (17 Awst 1899)

Os dim dowt nag i chi wedi cal dicon ar y ffigwrs yn awr, wath rhai dicon sych i nhw u golwg, er u bod nhw yn meddwl tipyn o wlybyrwch hefyd, fel w i wedi pwynto yn barod pan o nhw yn cal u trafod yn yr House o Comons. Ond dyna, pwy isha boddrach mwy na mwy yn y lein hyn hyn sy? Dynon yw'r M.P's, a ma nhw yn sefyll mwn angen ticyn o recrieshon yr un shwt a rhw foda erill, a falla bod yn hawddach madda iddi nhw am fod dicyn yn extrafagant y seshwn ddwetha wath odd dim llawar o flow up mwn dim odd yn mynd y mlan yn y Ty, wetin odd rhaid mynd i'r Bars i neid y diffyg i fyny. Wel, lwc dda weta i iddi nhw ‘enjoyo' u holidays ta ble bydda nhw yn mynd os gen i ddim amcan i ble aiff neb o nhw ond ‘Joe Brum.' Fe fydd e yn lled depig o fynd draw at i ffrynd anwl Oom Paul, ne fel ma pawb yn i napod a - Mr Kruger, ac os aiff a yna fe fydd yn reit am ddicon o faes i gâl whiff gysurus, a gobeitho w i y galla nhw setlo bysnas y Transvaal mwn mw^g baco yn lle mw^g powdwr.

 

Batl y Pregethwrs.

 

W i yn clywad llawar o gintach ych bod chi syr, yn gatal y ddau fachan yna o Byrcanaid a Mowntenash i wado' u gilvdd mor gâs ar blatfform y DARIAN. Dw i ddim yn cofio yn siwr faint o rounds ma nhw wedi ymladd nawr, ond ma'n ddicon hawdd gweld u bod nhw ych dou mas o wynt ne mas o rhwpath nag yw a ddim gwerth dishgwl rhacor arni nhw. Os neb yn fwy ffond o weld batl dda na fi fel gwddoch chi, w i mor ffond o hyny fel ma'n well gen i weld rhywun arall yn ymladd na fi munan, a ma hyny yn meddwl cetyn mawr, ond am y ddou hyn, dw i ddim wedi gweld shap arni nhw ddar y dechra. Rhw bantam coes allwn i feddwl yw'r ddou wedi dangos u hunen ddar y start, yn trio umiteto scotch a shinas. Ma hen gamstars wedi bod yn ymladd am yr un peth a nhw, a ma nhw yn mynd yn llai na nhw u hunen os os posib i drio tynu sylw darllenwrs goleedig at u perfformans. Os os un o honynt yn trio pyrswato i hunan fod dynon yn cal blas i ddishgwl ar u displays nhw ma nhw yn camsynied yn fawr, a'r un cynta i dowli'r menyg lawr gaiff i gownto galla gen bob un w i wedi bod yn wilia sha fa ar y pwnc a ma pawb yn gweid fod y peth sy gyta nhw mwn llaw yn fwy siwtabl i gal i setlo mwn rhw gornal nag ar faes y DARIAN, a ma arno i ofan tysa nhw yn cal y DARIAN i gyd at u gwasanath hyd y milflwyddiant na setla nhw'ch dou ddim o fa yn y ffordd ma nhw yn mynd mlan na mwn un ffordd arall. Ma amsar hen bregawthan felna wedi paso a fe ddyla bechgyn o'u short nhw wpod hyny yn dda. Ma any amount o destyna dyddorol a mwy amserol a isha u trin nhw yn dost a fysa yn dda gan hen dacla blynt fel ni i fechgyn y manteishon u cymryd mwn llaw i acor yn llyced pwl ni, ond am bethach o'r short sy genti nhw mwn llaw nawr ma gormod o stoc o nhw yn hen gyfnodolion Cymru ys hanar can mlynadd yn ol, a itwn i ddim llawar gweid u bod nhw o well cwality na beth sydd yn cal i cynyg o stondins Byrcanald a Mowntainach. Falla nag w i ddim wedi styriad y consicwens o wilia fel hyn. Beth tysa don hercwlff yn joino i gymryd at y nghorff i, a iwso yr arfa dychrynllyd sy gyte nhw yn cal u hecsployto yn y DARIAN, fe ellid gweid weti'n am dano i, — 'Ei le nid edwyn mohono mwy,' a fe fydda hyny yn gollad anadferadwy i'r hwl iwnifers. Os gwelwch i nhw yn troi pwynts i canons at i (sic) [ato i], dotwch y shytars lan wath aiff y bwlets ddim trw fodfadd o blencyn. Gwd bei, nawr.

 

 

A close-up of a page

AI-generated content may be incorrect.

(delwedd L1007a) (24 Awst 1899)

Tarian y Gweithiwr. 24 Awst 1899.

LLYTHYRA NEWYDD.

Gan Fachan Ifanc. .

 

Y Danchwa Alaethus yn Mhontyrhil.

MISHDIR Y DARIAN, — Peidiwch a synu dim fy mod yn myned allan o'm llwybr arferol y tro hwn eto. Y mae y dymestl angeuol sydd wedi digwydd yn ngodrau Cwm Garw wedi dwyn fy meddwl i oddiwrth bobpath arall. Nid yw Dreyfus na'r Transfaal yn ddim i fi i'w gymharu a'r anffawd hon, fel ereill o'i chwiorydd sydd yn digwydd mor agos atom. Y mae yn syndod i ddyeithriaid pa mor fynych y mae meibion llafur Cymru yn cael eu hyrddio i dragwyddoldeb ar amrantiad gan brif elyn y pyllau glo, — sef y Danchwa, ac yr ydym yn cael barn estroniaid yn fynych ar yr achos o hyny. Efallai fod yn hawddach iddynt hwy o bell i ddweyd eu barn na ni, yn yr achos hwn fel pob achos arall, yn herwydd fod anwybodaeth yn meithrin beiddgarwch, ie, hyd y nod haerllugrwydd, Nid oes neb o honynt hwy yn gwybod am y trics of ddy tred sy yn rhaid myned drwyddynt i gael dau pen y llinyn i gwrdd wrth dori glo, a blin genyf ddweyd nad yw arweinwyr y glowyr yn gwneud un ymgais i bortreadu hyny i'r manylrwydd y dylent.

 

Nid yw cydymdeimlad ar ol damwain yn egluro dim nac yn foddion i rwystro y cyffelyb i ddigwydd eto. Gwelais yn rhai o brif newyddiaduron y deyrnas sylwadau gan ohebwyr a golygwyr mai dynion esgeulus a rhyfygus oedd y glowyr, ac nad oeddynt yn gwerthfawrogi eu bywydau eu hunain! Nonsans i gyd. Ond y mae y glowr yn fwy darostyngedig i amgylchiadau nag y maent hwy erioed wedi amgyffred. Meddylier, er enghraifft, fod dyn (neu lowr o ran hyny), a chanddo deulu trwm, yn myned i'r gwaith, a bod yn angenrheidiol iddo i gyflawnu gorchwyl peryglus fel y digwydd yn fynydd (sic) [fynych]. Beth pe byddai yn gwrthod ei wneud? Edrychid arno fel llwfrddyn, a chawsai ef a'i deulu deimlo nid yn unig yn ngolwg y meistri, ond y gweithwyr hefyd. Diolch, nis gellir dwyn y cyhuddiad hwn yn erbyn gweithwyr Cymru, a chydnabyddir hyny yn gyffredinol. Ond paham eu cyhuddir o fod yn esgeulus a rhyfygus? Onid amgylchiadau sydd yn achosi hyny? Y Goleu Noeth sydd yn cael ei gondemnio yn y digwyddiad anffodus yn mhwll y Llest lle mae ugain o'a cydweithwyr wedi eu hyrddio i dragwyddoldeb ar amrantiad bron. Gwyr pawb cyfarwydd fod y wythien neu'r gwythienau a weithid yno yn gofyn triniad cyfarwydd mwy manwl na'r glo ager, a bydd defnyddio goleuni pwl y lampau yn anfantais fawr iddynt i wneud eu gwaith gyda'r un hwylusdod, ac os y gorfodir hwynt i ddefnyddio lampau, nid yw yn debyg y cydnabyddir iddynt am ddiffyg y cyfnewidiad. Cofier nad wyf i yn y rnesur y lleiaf yn beiddio myned yn erbyn Cyngor yr Archwiliwr Swyddogol, Robson, er sicrhau dyogelwch y glowr. Nis gall dim fod yn fwy dyngarol. Yr hyn wyf am fyntumio ydyw - fod sefyllfa isel y gweithiwr yn peru iddo yn fynych anturio i eithafion er mwyn ei hun a'i deulu mewn ystyr amgylchiadol, hyd yn nod mor bell ag i ddibrisio ei fywyd ei hun er mwyn cyrhaedd y nod angenrheidiol i fod yn ddinesydd parchus, ac yn weithiwr cydnabyddedig o ymddiriedaeth.

 

 

A close-up of a text

AI-generated content may be incorrect.

(delwedd L1007b) (24 Awst 1899)

 

Byddai yn ddoeth i newyddiadurwyr anghyfarwydd, cyn traethu eu llen ar achosion o'r fath hyn, a thaflu llwch i lygaid y cyhoedd sydd yn ddigon dall yn barod am yr amgylchiadau, i fod yn fwy ymarhous, a pheidio syniad fod holl droion glofa a'i chysylltiadau i'w gael ar ben y pwll mewn interviews a hwn a'r llall. Na, na, dyma faes ardderchog i arweinwyr y gweithwyr yn ystod yr amser byr sydd rhwng un danchwa a'r llall yw egluro dirgelion fel hyn, a bydd hyny yn well hyd yn nod na chydymdeimlad ar ol i'r anffawd ddigwydd, er ein bod wedi cael profion diamwys fod yn y wlad deimlad trugarog. Oh mor annaturiol, y tymhor hwn o'r flwyddyn, pan mae y lluoedd ar uchelfanau dedwyddwch yn mwynhau eu hunain yn awyr iach dwr y mor a'r ffynonau, ac yn ymweled a'u cyfeillion a'u perthynasau, a baneri dedwyddwch yn chwifio yn yr awyr las ysblenydd, a neb yn meddwl am ofid; oni yn ddisyfyd dyma daranfollt o'r Llest yn mynegu fod angeu yn y gwersyll, a bod caredigion, cyfeillion, a pherthynasau yn cael eu hyrddio o'n plith am byth, tra yn ymdrafterthu ganol nos i ymladd am damaid a llymaid i fyw. Diau fod y newydd i fwynhawyr gwyliau'r haf yn fustl i'w mwynhad, gan fod canoedd o honynt yn ymwybodol y bydd yn rhaid iddynt hwythau ddychwelyd i fyned i'r un peryglon yn mhen ychydig ddyddiau. Y mae digwyddiadau o'r fath hyn yn ddiflasdod ar fodolaeth. Byddaf i yn meddwl yn fynych pan yn edrych ar y glowyr a phawb sydd dan orfod i fyned i beryglon glofaol a'u tamaid yn eu llogell, a'u hystenau yn eu dwylaw – “A fydd i chwi ddychwelyd?" Yr ydym yn eu gweld yn ddyddiol bron yn dychwelyd yn mhob agwedd yn agos - rhai a'u hesgyrn wedi eu dryllio i’r fath raddau fel nas gallant byth mwy wneud dim ond ymboeni ar ddull gwahanglwyfion heb nerth na gallu i fwynhau trysorau adloniant ac hyfrydedd cymdeithas, ac ereill yn cael eu cludo gartref i gael eu cludo i'r bedd. Rhywbeth tebyg i hynyna yw y bywyd glofaol, er y gellid meddwl wrth weled asbri y dosbarth gweithiol pan fydd pob peth yn iawn, mai hwy ydyw y dedwyddaf o bawb. Rhaid fod Rhagluniaeth yn cynysgaeddu eu natur a nwyfiant cyneddfol fel i'w cymwyso at eu peryglus orchwylion. Ni fu caredicach brodorion, na thynerach cydwladwyr na hwynt-hwy a'u cymeryd gyda'u gilydd, ac nid oes yn Nghymru fwy talentog gwyr yn y dosbarth gweithiol na bechgyn y talcen glo. Onid yw yn rhyfedd pan fyddom yn adolygu eu bywyd, — clywed am eu dyoddefiadau, — a gweled eu truenusrwydd, fod cymaint o helynt o barthed iddynt gael Living Wage?

 

Y mae ein mawrion yn eu cydnabod fel dinasyddion teyrngarol, ac yn cymeradwyo eu hymlyniad at foesoldeb fel cyfangorff, ac yn hoff iawn o'u gwrando mewn cyngherdd neu eisteddfod yn datguddio dirgelion athrylith gerddoroi a barddonol.

 

 

 

A close-up of a page

AI-generated content may be incorrect.

(delwedd L1008a) (31 Awst 1899)

 

Tarian y Gweithiwr. 31 Awst 1899.

LLYTHYRA NEWYDD.

Gan Fachan Ifanc.

MISHDIR Y DARIAN, —

Y mae achos Dreyffus yn Ffrainc yn para i dynu sylw y byd gwareiddiedig, a os dim llawar o argol am i'r achos ddod i ben am spel, a ta pw bryd daw a i ben, a ta pwy ffordd troiff y fantol, dicon tepig y bydd yno row dychrynllyd. Pobol heb jocan yw pobol Ffrainc. Dim ond i un bachan dwcid wedjan y nall, rhaid ymladd dual mwn wincad. Ma'r rhifolfar, y dagar, a'r cleddyf mor amal yn u dwylo nhw a chyllill a ffyrcs. Dicon hawdd idd u towli nhw dros y rails yn y pethach lleiaf, ond ma achos Dreyffus yn achos pwysig yn mhob ystyr. Os yw a yn euog o beth y mae wedi ei gyhuddo, sef bradychu dirgelion milwrol y weriniaeth i alluodd erill, yr oedd yn haeddu cosp, ond dw i ddim yn creta dyla nhw fod wedi i boeni a fel ma nhw. Trw fod dowt yn bod fe ddylsa fod wedi cal mwy o wara teg, a ma pethach wedi dod i'r golwg nad fe odd yn gneid y drwg i gyd os odd llaw gyta fa yn y peth o gwbwl. Falla fod rhw le i feddwl y bydda fe yn debig o fod yn un o'r short trw ta un o dylwyrh Shylock yw a, a ma pawb yn cretu gwna nhw unrhyw beth am arian, wath i ni yn cal dicon o brofion o hyny yn gyson. Ta beth am hyny, gan i fod yn awr yn sefyll i brawf ar ol bod yn goddef yn galad am yn acos i bum mlynadd, fe ddyla fe a'i bartnars gal wara teg i amddiffyn u hunen, ac acshwns coward on i ni yn weld yn y sgelffyn yna saethws Labori y cyfreithiwr dros Dreyffus. Odd a yn dangos diffyg sens a diffyg prinsipl, wath odd gen Labori ddim i neid ond actio yn i fusnes i amddiffyn yr achos odd wedi cal i ddoti yn i ddwylo, a wir ma'r bachan wedi dangos plyc hefyd yn mhob short o ffordd. Er iddo gal i saethu fu a fawr o amsar cyn tampo at u waith wetin, a ma fa yn gwithio i bees a’i giws yn dda ddychrynllyd oddar hyny. Ma lle i gretu fod pac o nhw yn y fysnas, a ta shwd troiff hi o ochor Dreyffus, fe fydd rhai odd a'u pena'n rhydd o'r blan yn lled depig o gwmpo miwn i drwpwl, ac os yw'r pwr dab wedi gorffod syffro o achos shwd fradwrs, ma nhw yn wir deilwng o'r whip, a fe fyddant yn sefyll shawns dda iddi chal hi cyn pen fawr o amsar. Ond fel gwetas i yn y dechra fe fydd diwadd y trial yn siwro ddatguddio rhw betha i ni falla yn fwy pwysig na'r trial u hunan. Ma cymant o ymraniada yn mhlith y Ffrancod yn barod fel nag os dim isha ond matshin fach i dano'r wlad. Ma nhw yn Republics, Anarchists, Orleanists. Royalists, &c., yn ddiddarfod, a phob un o'r adrana yn barod i fyn'd at wddyca'n gilydd. Ma'r gallu milwrol hefyd yn dons yno ar gwestshwna gwladfaol, a thrw ta mater milwrol yw cychwyn achos Dreyffus fe fydd yn naturiol i rhwpath gwnu orwtho i gynyrfu gwad twym y Ffrancod. Ma tan yn y gwellt yn barod, a wyr neb beth all dicwdd mwn awr bron yno i ddoti'r wlad yn dan i gyd. Bydd yn rhaid aros i gal datguddiad.

 



A close-up of a text

AI-generated content may be incorrect.

(delwedd L1008b) (31 Awst 1899)

Y TRANSFAAL.

 

Dyma bwnc mawr y dydd gyta ninau hefyd, a fe allswn i feddwl fel ma petha yn mynd yn mlan nawr ta dim ond dou sy yn gaffro'r cwbwl, sef, Chamerlain a Kruger, a bod y gofal i gyd arni nhw. Peth od gen i fod gwlad sy yn cownto'i hunan fel Prydan Fawr yn cal i llusgo wth i thrwyn i neid pob peth yn ol barn Joe Brum. Ma teimlad cryf yn y wlad na ddyla galla fel John Bwl ddim neidio lan a'i ddyrna yn nanadd pob gallu bach fel mae a, i ni wedi cal dicon o brofion fod John yn cymryd pwyll pan ma galluoedd mawrion erill yn damshal ar i gym a. A phwy odd yn fwy parod i glapo cefan Ymerawdwr Rwsha am i gynllun heddwch? Ond dyma fe yn cymryd y shawns gynta i flagardo y cryts Boeraidd achos i fod a yn diall beth odd i seis nhw. Fe fysa yn llawar mwy o wrbyneddig tysa fa yn gatal nhw yn llonydd nes u bod nhw yn mynd yn rhy bell, a'u sgrego nhw weti'n yn lle cyfarth cymant i hunan idd u profoco nhw. Ond dyna yw i arfadd a, a all a ddim colli hono ma'n depig, ond falla caiff a deimlo cyn bo hir fel Rhufain gynt, ta nid y fe sy yn mynd i riwlo'r byd. Fe alla dyn feddwl wth weld fel ma fa yn partoi nawr i gwrdd a'r gallu bach sy yn y Transfaal i fod a yn mynd i lorio holl allu oedd y byd, a ma speeches Joe yn llawn mwga phowdwr ys mishodd nes ala pawb i gretu fod a yn mynd i neid rhw orchast ofnadwy. Falla fod yr hen Gapten Kruger yn ddicon twp yn u ffordd, ac yn meddwl gormod am dano'i hunan, ond os dim dowt nag yw a wedi gweld droion o'r blan ta tacla trachwantus dros ben yw y British setlars, a'u bod nhw wedi mynd yn mhellach na'u busnes yn barod, a ta mwya i gyd lwiff e, ta mwya ewn ma nhwnta yn mynd. Os dim dowt, os aiff ni yn rhyfel, na fydd hyny yn achos i ddinystrio y wlad am hir flynydda, a thrwy hyny golledi y gweithwyr sydd wedi ymfudo o'r wlad hon. Ond amcan penaf Joe a'i frodyr yn ddiau yw amddiffyn y Capitalists Cwmniol sydd yno yn barod yn filiwners trwy eu trais ar iawnderau pobol ereill fel Rhodes, Dr Jim, a'r git yna sy yn blingo pawb i flonegu eu hunain.

 

 

A close-up of a text

AI-generated content may be incorrect.

(delwedd L0983a) (7 Medi 1899)

Tarian y Gweithiwr. 7 Medi 1899.

LLYTHYRA NEWYDD.

Gan Fachan Ifanc.

MISHDIR Y DARIAN, —

Ma amser dwr y mor, y ffynona, a'r sgyrshons, &c., bron tynu i gwt ato leni yto, a ma'r bechgyn ifanc a'r litl biwties yn dechra dishgwl yn ddiflas wth feddwl parto a'u gilydd am flwyddyn arall a dim gobath i gal pryd da o garu cynas a thwym — dim ond ticyn o scili or a diflas trw lythyron caru, a synwn i damad na fydd yn rhaid i lawar o nhw fynd at Tom Cynon ac Ap Noah, i gwco rheiny iddi nhw. Ond ta ffordd bydd hi yn dicwdd os dim llawer o flas a hwyl mwn rhw garu papyr felni ar y gora, fel i chwi wedi teimlo ych hunan cyn hyn, dicon tepyg, a dyna sy witha o'r caru papyr hefyd yw fod llawer bachan bach diniwed yn dod i drwpwl trwyddi nhw, wath os dim shawns dodjo dim ar ol i'r dociwments fynd o'u dwylo nhw unwaith. Ma'r litl biwties anwl mor gerffwl hefyd o bethach o'r short ar ol iddi nhw gal gafal arnynt. Ma nhw yn u protecto fel heiarlwms, a os na fydd y boys yn acto yn ol y contents fydd ynddynt, fe fydd y litl dears yn mynd a'r epistolau cariadus at apostolion y gyfraith! Dyna hi wetin yn alabalw mwn wincad yn enwetig os bydd ticyn o goin yn y mes, wath y bachan pwr dab sy'n gorfod syffro bob amser mwn cesis fel hyn, ar ol unwath i rhwun ddicwdd cwmpo i ddwylo gwyr y cwils.

 

Wfft i shwd garu sy'n cwpla yn y moshwn yna. Ma'n well gen i yr hen ffashwn o weid gair bach yn nghlusta'r merched, wath ma rhw shawns weti'n i symud hwnt, os dicwdd i chi bromish mwy na fydd ych conshans chi yn gallu sefyll ato ond ma rhaid bod yn weddol giwt wth garu yn y steil hyn hefyd, a gofalu bod yn siwr na fydd neb yn gryndo wth dwll y clo hefyd, ne yr ochr arall i'r berth, onte fe fydd witnes yn ych erbyn chi, fe ellwch fentro bwtwn ych cot, wath ma pawb fel sa nhw yn lico'r contract i ddoti bachan i dalu am weid i feddwl yn rhy blaem, a os na fydd a yn libal fe wetan fod y judgis yn ochri i'r litl biwties, ond os gen i ddim i weid wthi nhw, oblegyd tsywn i munan yn judj, yr un peth byddwn ina i'r dim. Wn i ddim beth yw'r rheswm, er u bod yn cal u galw yn “llestri gwana” y nhw yw rhiwlin powars y byd, Dyma nhw yto, wedi i fi ddechre son am deni nhw, ma nhw wedi mynd a fi ar garlam orwth beth o ni yn meddwl weid ar y dechra.

 

Dyna odd gyta fi mwn llaw, odd fod tymhor hapus yr holides bron dod i ben, a ma rhan fwya yn dishgwl yn llawar mwy diflas a diserch ar ol dod nol na cyn mynd. Pan o nhw yn starto fish ne ddou yn ol, odd dim shwd beth paco'r bocsis yn ddicon cwic, a odd dim o'r trains yn mynd yn ddicon ffast, a o nhw ddim yn folon sefyll mwn steshon i gwnu rhwrai erill Ian ond isha mynd odd arni nhw fel train Ceiriog, ys llawar dydd —

 

Wlti heltar, scilti sceltar,"

yn - “Strim, stram, strellach."

 

Ond wth ddod nol a meddwl ala un mish ar ddeg yn y shop waith, y pwll glo, &c., ar mynwod wth a,r merched (sic; = a’r mywod a’r merched) yr un peth yn meddwl am y twbyn golchi a gwella dillad gwaith, o nhw yn cyrhadd pen y dath yn rhy gynar o getyn, a ma'n boenus gryndo arni nhw yn gweid u profiad licsa nhw fod wedi cal pythewnos ne fish arall, a run peth bysa nhw yn gwmws wetin.Ond dir mawr beth sy i weid wthi nhw - yr un shwd i ni gyd. Os dim posib yn pleso ni. Pryd byddwn ni yn cal yn bendithio yn weddol ma'n gwanc ni yn acor clwyti tyrnpig yr hen amser gynt, ond os daw rhw hen??sl?d i'n cwrdd ni, i ni yn dishgwl mor

 

??slod

??sled

??sd?d

 

 

A close-up of a text

AI-generated content may be incorrect.

(delwedd L0983b) (7 Medi 1899)

sur a gropwns, ond ma rhaid i chymryd hi drwyddi draw - y drwg a'r da — a'r da a'r drwg, fel prynu wia gen wyr Penderyn.

 

Dicon diflas mwn llawar ystyr yw y newyd dwetha i Gwm Byrdar fod —

 

*es (Les?) Gwaith Byrnant ar Ben.

 

Ma hen dre Byrdar a'r cylehoedd wedi gweld llawer o yps a downs oddyr pryd stopws yr hen witha harn, a dyma ergyd diflas yto os na throiff pethe mas mwn ffored (sic) (= ffordd) na wddo ni ddim am dano. Dyw a ddim iws danto’n deg nes gweld yr eitha. a gobeitho'r gora, hyd hyny os gallwn ni rhw ffordd. Falla troiff hi mas yn well na ma neb yn feddwl, ac y daw rhywun i ddoti gwad newydd yn hen lofeydd Byrnant. Ma llawar o hen fechgyn Byrdar a dicon o doins genti nhw, a os os genti nhw olwg ar u hen gartre, nid ffol fysa i rai o nhw i specwleto nawr i gatw bywyd masnachol yr hen dre i fynd. Shag i lawr mae y cwbl yn mynd, ond os dim dowt yn ol pob cownt nag os cyfoth o'r stwff du sy'n catw y byd yn dwym yn cwato yto dan odra'r mynydd sy rhwng Byrdar a Merthyr, treni i'r byd fydd idd i atal a i gwato o isha speculators, a dicon o rai a modd i gatw'r whels i droi mor acos.

 

Yn ol pet[h] w i wedi glywad dyw bachan y Mardy ddim am iddo fynd ar y stand stil, a ma hyny yn naturiol hefyd mwn rhacor na un ffordd, achos bydd e yn dewish ac yn teimlo am gatw'r bywyd i fynd, fe yw'r boy all neid hyny heb wsu hefyd. W i a llawer yn gobeithio daw rhyw ola i'r golwg cyn fod y nos ar ben, wath os dim yn fwy diflas bron na gweld hen witha yn gwlad ni yn stopo lle ma'r hen dada wedi bod yn enill bara chaws am bothti gan' mlynadd, a llawar o'u plant nhw heb fod odd yma ar y tramp hyd yn hyn, a os genti nhw ddim un noshwn i gario'u paca, a di nhw ddim yn moin trio chwaith, os os posib pido. Ma llawar o hen withwrs sy wedi ala part gora o'u hos yn Byrnant wedi cal u towlu i ben yr hewl heb ddim ar u cyfar. ac yn rhy hen i drampo, ddar pryd stopws Pwll Lefel yr Afon a Numbar Nein, ac os daw hi yn ffwl stop ar ddiwadd y mish hyn, ma lle i ofni y bydd llawar rhacor, a treni budir fydd hyny. Nawr, Rothchilds Byrdar, dangoswch dicyn o blyc er mwyn yr hen ddynon, er mwyn yr hen le, ac er mwyn lles pawb yn y cwm, a lled depig bydd a yn lles i chitha hefyd, wath ma'r dynon sy yn gwpod trics of ddy tred y gwitha glo yn gweid wtho i ta speciwleshon da dychrynllyd yw bod yn fishdir coliars, a os na newch chi fel w i yn gweid wtho chi pidwch a synu dim tamad na chymra i, a mishdir y DARIAN, a'r bachan sy'n Iabro'r nos ato, wath ma dicon o noshwn gwneid coin yndo ni'n tri.

 

I ni yn cintach yn fynych bob enid o ni os byddwn yn gweld rhai ereill yn mynd o'n blaen ni. Onid fforinars ddechreuws ddangos i ni ar y dechra ffordd i drafod bysnas o'r short yna. Dyna'r hen Rowland Fothergill yn Byrnant, a lot o rai yr un short ag e, fel y Crawshays a'r Darbys a phob short o enwa felna yn dod yn amsar yn hen dada i starto gwitha harn ac yn gneid u ffortshwn a beth i ni yn weiddyma nhw sy'n mynd a'r gilt. Wel, ia, hen ddull y Cymry - os bydd tocins genti nhw yw u doti nhw mwn hen hosan ne hen gwbwrd rhag ofn na fydda nhw ddim yr un seis pryd byddan nhw yn dishgwl am denynt y tro ar ol

hyny.

 

Ma'r byd wedi mynd trw lawar o brosesis ddar hyny hyd heddy, a mor wirad a bod fforinars wedi neid arian yn yn gwlad ni, os na chymriff rhai o ni y shawns fe sychiff y fforinars yn trwyna ni gyd eto, a fe fyddwn yn cal yn gatal fel lot o dyffars, a serfo ni yn rheit hefyd. Pwy un o boys Byrdar sy yn mynd i nido i'r adwy hon er lles y cyhoedd, a lles ei hun?

 

 

A close-up of a text

AI-generated content may be incorrect.

(delwedd L1009a) (14 Medi 1899)

Tarian y Gweithiwr. 7 Medi 1899

LLYTHYRA NEWYDD.

Gan Fachan Ifanc.

MISHDIR Y DARIAN, —

Y mae y byd gwareiddiedig wedi bod a'i anal yn i ddwrn am wythnosa yn awr yn dishgwl am ddiwadd Trial Dreyfus, ac er nad yw'r achos yn perthyn yn acos iawn i ni yma ar yr olwg gynta, ma bron pob un sy yn teimlo dyddordeb yn y ffordd ma'r byd yn mynd yn mlan, wedi bod yn teimlo dyddordeb yn yr achos hwn. Ma'r diwadd wedi dod, a ma'r resylt wedi creu cyffro nas gwyr neb beth fydd ei ben draw. Yr oeddwn wedi ein pensyfrdanu wrth ddarllan hanes dioddefiadau yr Iddew Dreyfus ar Ynys y Diafol am bum' mlynedd, a phob dyn ystyriol ag oedd yn meddu gronyn o ddyngarwch wedi ei enill i gydymdeimlo ag ef, hyd y nod a chaniatau ei fod yn euog o'r trosedd brwnt o fradwr, a thrwy ymyriad dyngarwyr y cafodd y fantais i gael ail dreial — yr hwn yn awr sydd wedi gorphen fel seliad i'r treial cyntaf. Dyw a ddim iws i fi i dowli llinyn mesur dros allu doethion barnol un wlad, hyd y nod fy ngwlad fy hunan ond fe allwn feddwl fod gyta ni rhwpath i'w ddysgu yn y fysnas hyn. I ni yn siarad ac yn synu fod gwlad oleuedig fel Ffrainc yn cal i riwlo yn gyfangwbl gen y sowdjwrs, a fel i ni wedi gweld yn y trial hyn nag odd dim argiwments a chomon sens ddim yn cal un sylw genti nhw. Dim ond ffordd u hunen nela'r tro, a fe allwn i feddwl fod gyta ni yn y wlad hon le i gymeryd lesin orwthi nhw. I ni yn lled dueddol i frago yn bod ni yma yn y cwrts of justis, o'r majistrets meetins lan i'r seisis, yn rhoi cyfiawnder mor bell a sy bosib, ond ma arno i ofan fod cwrts marshal yn sowdjwrs nina yn gwinto dicyn bach o'r un clefyd a chwrt Rennes; a nag yw yn gwlad ni ddim yn gwpod ond chytig iawn beth sy yn cal i gario mlan yno. Falla cewn ni report amball waith am amball un yn cal u wech mish am ddishgwl yn gas ar rhw officar, ne am wilia iaith i hunan, ne rhw gic bach lletwith, na fydd y big bygs ddim yn lico, ond am yr ins and owts sy yn cal u trafod yn yr Army a'r Nafy i ni yn ddicon amddifad o'r wybodaeth. Dyna beth arall sy yn dangos yn ddicon plaem fod dylanwad milwr yn fwy yn Mhrydan Fawr yn ogystal a Ffrainc, na ma llawar yn feddwl, yw u bod nhw yn gallu doti u dwylo yn mwrs y wlad fel ma nhw yn dewish heb ofyn dim i'r wlad am hyny. Pryd bydd isha gneid rhw act newydd i gal tocins i helpu rhw amcan sosial ne sifil, ma rhaid catw'r pwnc o flan y wlad am flynydda, a wilo miwn i bob cornal ffordd ma gneid, a ble ma cal tocins, yr un shwt a ma i yn awr bothti penshwns i hen ddynon, ond os bydd isha miliwn o buna a miloedd o fywyta i ddiffendo whims y capitali[s]ts a'r aristocrasy, ma nhw yn cal u ffindo mwn amsar bach heb gonsylto dim a'r wlad na'r aelodau Seneddol sy yn cynrychioli y wlad. Ma'r Gyfarmant a'r Officars yn diall u gilydd i'r dim, a ma nhw yn gwpod i'r dim ble ma doti pawena ar beth fydd isha arni nhw heb dwtsh u heta i neb o drethdalwyr y dyrnas. Ma nhw yn ddicon ciwt i gatw pobpath o'r golwg nes bod i yn rhy ddiweddar i ddoti stop ar u mwfmants nhw. Dyna fysnas y Transfaal yn awr yn brawf o'm argiwmant i. Ma Joe Brum a gwyr y powdwr a'r cleddyfa wedi gneid y cwbl yn u ffordd nhw'u hunen, a dyma ni yn beio gwyr Ffrainc am u bod yn caniatau i gymeryd eu llywodraethu gen y blydhounds sy a dim mwy o olwg genti nhw ar fywyd dyn na bywyd pilipala. Ma'n bryd i ni acor yn llyced i gal golwg ar yn sefyllfa ni yn hunan, wath ma cysylltiadau agosach nag i ni yn meddwl rhwng y gallu milwrol a'r gallu llywodraethol ar ein pentan ni.

 

 

A close-up of a document

AI-generated content may be incorrect.

(delwedd L1009b) (14 Medi 1899)

 

Y BYD YN MYND I RYWLE.

 

Dyna'r rheswm mawr fod gyta ni rhwpatn i wilia a 'sgrifenu arno. Dw i ddim ond ifanc fel i chi yn gwpod, ond dw i ddim yn meddwl fod hen ddynon wedi gweld y byd yn mynd yn nghynt i rhwla nag yw a yn awr. W i wedi gweid lawar gwaith - bysa addysg yn dod a ni i'n lle, ond ma pethach erill yn scwto'u hunen ne yn cal u scwto wth gwt addysg sy'n spoilo y mwfmant mawr o oleuo'r byd. Ma rhw air mawr gyta'r boys sy yn cymryd arni nhw i fod yn ledars mwn ediceshon fel yn anhebgorol angenrheidiol (ys gwetws y traethodwrs) i helpu ediwceshon i fynd yn mlan, a hwnw yw - recriweshon. Odd y plant slawar dydd yn arfadd wara yn weddol gyson, a weddol deidy, a os neb yn lico gweld plant yn wara ac yn enjoyo u hunen yn well na fi, ond ma hi wedi mynd yn system yn awr fod cymant o bwys fod crotyn ne grotan yn dysgu reido'r beic, wara cricet, a ffwtbol, tenis a golff, ag yw a iddi nhw ddysgu tw and tw is ffor, yr atlas, a'r jeography, gramar a composishon, a phethach felna odd yr hen ysgolfeistri yn pwno i'n pena ni ys llawar dydd. Dyna beth sy yn od hefyd fod y deleit at y lein yna yn citsho yn y plant yn nghynt na'r deleit at lyfra, a dw i ddim yn gwpod fod neb o nhw wedi cal u cosbi am ffaelu dysgu yn y lein yna.

 

Ma recreeshon ac amiwsant yn cymryd yn nobl  iawn, a ma'n ienctyd ni yn tori dash dychrynllyd yndi nhw hefyd, a ma lle i ofni fod amiwsmant arall yn dechra dod i gal sylw yn acos ato ni, fel epidemic orwth y fforinars, a fe fydd gofyn i swyddogion y sanitary meddyliol yn gwlad ni fod ar y lwc owt onte fe fydd yma heb yn wpod iddi nhw. Beth w i yn pwynto ato yw –

 

YMLADD TEIRW.

 

Fel i chi wedi cal ar ddeall yr wthnos ddwetha ma'r fysnas greulon yna wedi dod o fewn can' milldir i'n glanau ni a manteison yn cal u cynyg i wyr y wlad hon i fynd iddi gweld nhw ar delera ishel bob dydd Sul, a ma llawar o ddynon a mynywod, ne falla ta gentlemen a ladies ddylwn i weid, yn mynd bob dydd Sul iddi gweld nhw, a rhai o nhw yn cal blas anghyffretin wth hyny yn ol pob cownt. Dyw hyn yn ym meddwl i ddim ond ragymadrodd i'r gem ddod yma, fel ma petha erill wedi dod o'r blaen, a'r dosbarth ucha sy yn helpu introdiwso pethach o'r short bob amsar. Os dim ots yn y byd beth fydd cwality y sport, na faint o gost fydd i'w gal os bydd a yn unol a'u chwaeth nhw, a ma rhw flys am rhwpath newydd yn para yndi nhw o hyd, wath os dim arall genti nhw i neid.

 

 

A close-up of a page

AI-generated content may be incorrect.

(delwedd L0994a) (21 Medi 1899)

Tarian y Gweithiwr. 21 Medi 1899.

LLYTHYRA NEWYDD.

Gan Fachan Ifanc.

MISHDIR Y DARIAN, —

Dydd Sadwrn diweddaf fe fu y frawdoliaeth farddol, lenyddol, dderwyddol, ganyddol, a phob ol arall yn cyhoeddi –

 

Eisteddfod Genedlaethol Olaf y Ganrif.

 

Fel ma pawb yn gwpod taw mewn tre Seisnig, sef Lerpwl, y mae i gal i chynal y flwyddyn nesaf, ac yno wrth gwrs odd y cyhoeddiad yn cymryd lle dydd Sadwrn. Yn ol yr hanas yr odd yno dipyn o frwdfrydedd ond ddim i fyny i Gardydd y flwyddyn ddiweddaf, ond fe allswn i feddwl fod rhagolygon y bydd iddi ddwyn i fewn welliantau mwn rhai ystyron, yn enwetig os cymer y pwyllgor sylw o'r cynghorion a roddwyd gan yr archdderwydd ac ereill oddiar yr Orsadd ac yn y Bancwet. I ni wedi cal dicon o brofion bellach fod mwy o amcan gan y pwyllgora y blynydda dwetha i neid show o'r hen sefydliad na dim arall, a thrwy hyny fod yr wyl o flwyddyn i flwyddyn yn cal ei llygru a'i throsi o'i hamcan cynhenid fel ag i'w gwneud yn ddiethr beth yn ngolwg hen eisteddfodwyr, ac hyd y nod yn ei gwneud yn fethiant mewn ystyr arianol heb son ei bod yn fethiant yn yr ystyr a roes iddi fodolaeth, sef meithrin chwaeth at wybodaeth a diwyllio meddyliau y genedl.

 

Nid dyma y tro cyntaf i fi fel y gwddoch i gyfeirio at hyn yn y DARIAN, ac yr oedd yn naturiol i fi deimlo dyddordeb yn yr hyn a siaradwyd yn Lerpwl ddydd Sadwrn gan rhai o arweinwyr y genedl ar yr angenrheidrwydd o newid ei chyfeiriad, a rhoddi mwy o chwareu teg i'r adranau llenyddol a barddonol. Mynegodd un o'r siaradwyr mai i gefnogi yr adranau hyn y dygwyd hi i fodolaeth, ac y mae hyny yn ddigon hysbys i ddarllenwyr goleuedig y DARIAN, ac os na ymegniir gan y beirdd a'r llenorion i gadw eu hawliau fe'u amddifadu'r yn llwyr o honynt cyn bydd y ganrif nesaf ond yn ei phlentyndod. Gwir fod yr Orsadd wedi cael bywyd newydd y blynydda diweddaf, ond ni fydd ‘Gorsedd Beirdd’ ond gwag a difudd, wedi i'r beirdd drengu ar eu haelwyd eu hun, a bydd yn rhaid taflu y gwisgoedd amryliw presenol o'r neilldu, a gosod teiliwr yr Orsedd i bwytho mentyl duon yn eu lle fel mwrnin am a fu, a chyweirio tanau telyn Cymru i chwareu y Dead March yn lle Difyrwch Gwyr Harlech. Prif gamp yr Orsedd yn Lerpwl ddydd Sadwrn fu urddo'r Maer a'r Faeres yn Ddinesydd a Dinasyddes, ac addawodd y Maer yn iaith ei fam y gwnai ymdrech i ddysgu yr hen Omeraeg, fel y gallai gynghanu ei enw newydd. Beth bynag, nid fy amcan ar hyn o bryd i'w arolygu gweithrediadau yr Orsedd, ond mor bell ar hyn a grybwyllwyd yn ei chylch ddydd Sadwrn, a chredaf fod pethau teilwng o sylw wedi eu traethu, ac y bydd iddynt gal dylanwad ar y pwyllgor Lerpwlaidd i bido talu gormod o warogath i bethau allanol yr Eisteddfod, a thrwy hyny fyned i draul afreidiol fel y dywedai Hwfa Mon, yr hyn odd wedi peru colledion mawrion i bwyllgorau diweddar ein Heisteddfodau Cenedlaethol.

 

 

A close-up of a page

AI-generated content may be incorrect.

(delwedd L0994b) (21 Medi 1899)

Crybwyllwyd yno hefyd fod yr adran gerddorol yn cael mwy na'i chyfran o sylw, yn herwydd fod yr awdurdodau yn syniad mai dyna beth ddygai bres i logellau yr ymddiriedolwyr, ond y mae hyny yn dra amheus yn ol y profion diweddaraf. Gwyr y genedl fod ein hen eisteddfodau yn talu yn well yn y blynyddoedd gynt pan nad oedd canu yn cael chwarter y sylw ag yw yn awr, ac yn sicr eu bod wedi talu yn well i godi llenyddiaeth ein gwlad ac anrhydedd y genedl yn ngolwg prif feirniaid llenyddol yr oesau. Nid yw rhai o'n prif gerddorion chwaeth yn credu fod y cystadleuaethau corawl presenol o les, yn yr amcan o godi y safon gerddorol yn ein gwlad. Bu Mr Harry Evans, gynt o Dowlais yn darllen papur mewn cyfarfod o gerddorion yn Nghaerodor; dydd lau diweddaf, ar y testyn –

Cerddoriaeth yn Nghymru.

Dywed fod Cymru yn cael ei galw yn Wlad y Gan, ond y mae yn amheus, meddai ef, a yw yn wlad gerddorol. Cydnebydd fod gan y Cymry leisiau gyda’r gora yn y byd, ond mai cerddorion arwynebol ydym. Fod y lleisiau, yr yni, a'r ysbryd, yn goruwchlywodraethu y gelfyddyd. Mai nifer fechan ar gyfartaledd o'n corau sydd yn deall ond ychydig beth ydynt hanfodion cerddoriaeth, ond fel eu cyfarwyddir gan arweinyddion, a'u bod felly yn gorfod treulio misoedd i ddysgu un corawd allan o weithiau cyflawn y meistri; pan y dylent fod wedi dysgu y gwaith i gyd. Tybia ef nad yw y cystadleuaethau eisteddfodol yn herwydd hyny yn talu y ffordd, a bod yr awydd am guro corau ereill, ac enill ychydig sylltau, yn niweidiol i'n canu corawl fel eu dygir yn mlaen yn bresenol. Nid wyf fi fel y gwyddoch yn proffesu bod yn awdurdod yn y fusnes ganyddol, ond gallwn feddwl fod yn mhapyr Harry Evans rywbeth i'n cerddorion gnoi eu cil arno. Yr hyn a barodd i mi wneud y sylwadau blaenorol, fel y gwelwch, yw dangos nad yw y sylw mawr y mae y canu yn gael yn ein heisteddfodau wedi'r cyfan yn dwyn y budd y gellid ddysgwyl am dano, yn neillduol felly gan fod y bardd a r llenor, a meidrolion ereill, yn gorfod troi o'r ffordd, a dianc o'r llwyfan fel plantos penchwiban, pan fydd y galluoedd swnyddol yn gwneud eu hymddangosiad, a bod holl weithrediadau ein gwyl genedlaethol, yn ogystal a'n man eisteddfoda, yn ymgilio o'r golwg o'u blaen. Beth am danynt yn awr? Dyma un o'n harweinwyr goreu, yr hwn sydd gerddor o fri, yn Gymro twymgalon, ac wedi cae! profiad lawer mewn cerddoriaeth, yn tystio mewn ystyr mai llafur ofer yw'r cyfan, ac yn llawn cystal a dweyd mai y Ffestival, ac nid yr Eisteddfod, yw lle y cerddor - yn neillduol canu corawl; a w i yn credu hyny fy hun, os yw hyny yn werth ei hysbysu. Cofiwch nag wyf fi ddim am daflu'r canu i gyd allan o gyffiniau yr eisteddfod, oblegyd y mae swyn i fi mewn ‘can a thelyn,' ond credaf na ddylid d'od ag un math o ganu yno ond ein halawon hunawdau. Anaml y ceir son am y rhai hyn yn ein gwyliau presenol, ond y mae yn rhaid cael y cyfan yn estronol allan o weithiau clasurol Handel, Bach, &c ond fel y crybwylla Mr Evans, nid yr eisteddfod yw eu lle hwynt, yn enwedig yn ddosranau ar amcan.

 

 

A close-up of a text

AI-generated content may be incorrect.

(delwedd L0996a) (28 Medi 1899)

Tarian y Gweithiwr. 28 Medi 1899.

LLYTHYRA NEWYDD.

Gan Fachan Ifanc.

MISHDIR Y DARIAN, —

Os dim dowt gen i nag i chi fel fina wedi acos cal dicon ar swn aflafar bygythion rhyfel fel sy wedi bod yn merwino ein clustiau ac yn pylu ein llyged wrth ddarllen yn ddyddiol am danynt yn y newyddiaduron. Dyma brif bwnc y dydd yn mhob man a rhwng pob dau, a rhyfedd mor amrywiol ydyw y gwahanol farnau sydd yn ffynu rhyngom ar fater y Transfaal. Ma pob un yn gosod cymant o bwys ar ei feddwl ei hun, ac yn myned i'r fath eithafion llosgawl, nes y mae y dyddiau presenol yn llawn o arogl pylor yn mhob cymdeithas.

 

Y mae yn syndod meddwl mor ddwfn y mae yr ysbryd jingoaidd wedi gwreiddio yn nghalonau dynion, nes y mae llawer o fodau sydd yn yr ysbryd hwn yn tybied pawb a garant heddwch yn gowardaidd ond buan iawn yr adnabyddwch y giwaid sydd yn coleddu syniadau o'r fath nad ydynt ond yn meddu gwroIdeb i anog ereill i sefyll o fiaen y tân pan y maent yn sicr eu bod hwy yn ddiogel, a pha le y gwelir mwy o lwfrdra na hyny? Dywedant y gwna tipyn o rhyfel fywiogi masnach a chlirio yr awyr drafnidiol, a thyna wrth gwrs yw eu hamcan a'u dymuniad hwynt. Y myself tragwyddol yna sydd mor amlwg yn y natur ddynol, neu annynol ddylwn ddweyd. Nid ydynt yn malio blewyn cath am ruddfanau ac ocheneidiau plant a gweddwon, dirdyniadau ac arteithiau y dyoddefwyr ond iddynt hwy gael maes rydd i gasglu golud a phentyru cyfoeth. Na, diystyrant reswm a ahyfiawnder, ac anghofiant bob hawliau yn eu trachwant bydol er cymaint o brawfion sydd wedi eu cael am echryslonrwydd rhyfel. Y mae galanasdra yn amheuthyn iddynt, a dychrynfeydd angeu i ereill yn beroriaeth dawnsiol iddynt. Sychedant am waed, ac y maent yn dyheu fel canibaliaid am gnawd dynol. Defnyddiant yr esgusawd lleiaf fel rheswm i dynu'r cleddyf o'r waun ac agor pyrth i'r magnelau. Fel y cydnabydda gwladweinwyr craffusaf y dydd, nad yw yr anghydfod presenol sydd rhwng y wlad hon a phobl Transfaal ond mater y gellid ei benderfynu yn gyflafareddol, ond gan mai gallu a dybient hwy oedd yn ddiamddiffyn ydynt y Transfaalwyr, yr oedd, ac y mae Joe Jingo a'i ganlynwyr yn gosod y rhaid y tu cefn i bob cynyg y rhoddent tuag at sefydlu heddwch, ac nid yn unig hyny, ond y mae eu gofynion yn lledu y gagendor ac yn argymhell atgasrwydd, fel y maent wedi creu ysfa ymladdgar a dialeddol yn mynwesau tanllyd y Boeriaid ieuainc gwladgarol. Wedi gwneud hyn y mae Joe a'i dylwyth yn dweyd fod yn bryd eu dofi. Yr ydym bob amser yn cymeradwyo gwroldeb a gwladgarwch ynom ein hunain, tra yn ei ystyried yn rhyfyg a phenboethni yn ereill.

 

 

A close-up of a document

AI-generated content may be incorrect.

(delwedd L0996b) (28 Medi 1899)

Yr wyf fi yn methu yn deg a gweled cysondeb ynom ni fel Cymry, yn neillduol wrth gefnogi ymosodiad ar Weriniaeth Transfaal. Yr ydym ni a'u tadau trwy yr oesau wedi coleddu eiddigedd tuag at y Lloegriaid am ein hysbeilio o'n gwlad a'n gyru i'r mynyddoedd a'n dal o dan, eu llyfetheiriau. A allwn ni ynte lai na theimlo a chydymddwyn a'r Boeriaid truain sydd eisioes wedi eu gyru o'u tiriogaethau gan estroniaid gwancus tros y Faal, ac er ildio hyny a chroesi yr afon er mwyn heddwch, gan fod yr estroniaid yn gwybod fod cyfoeth y tudraw yn nhiriogaeth bresenol y Boer, adailadant esgusodion i fyned trosodd er cael ysbail pellach. Gellir dweyd yn briodol ddigon am y Sais fel y dywedodd y bardd am y cybydd, —

 

‘Ceisia fwy pe cawsai fyd.’

 

Amddiffyn iawnderau pleidleisiol yr ymfudwyr o'r wlad hon yw esgusawd yr ymrafael meddent hwy, ond paham y dysgwyliant fwy nac a roddant hwy eu hunain. Pe deuai galluoedd ereill i'n tiriogaethau ni i hawlio breintiau nad yw ein cyfreithiau yn eu caniatau, beth fyddai y canlyniad? Buan iawn y dangosid fod genym synied am ein hunain, ac y dysgid iddynt gynghor Dic Dywyll, —

 

‘Meindied pob un ei fusnes ei hun.'

 

Paham, ynte, y gwragnachwn fod y Weriniaeth yn y Transfaal yn amddiffyn eu hawliau? O, meddai y doethion jingoaidd, y mae Lloegr wrth drawsfeddianu tiriogaethau a gwledydd, yn agor dorau masnach ac yn hyrwyddo mynediad trafnidiol. Dichon ei bod, ond pwy sydd yn medi fwyaf trwy hyny? Beth yw ein profiad ni fel Cymry sydd wedi darllen am y trais a'r gormes ddyoddefwyd gan ein tadau?

 

Efallai ein bod erbyn hyn yn dechreu cael meddu yr un breintiau a'n gorchfygwyr, ond dyoddefwyd dros ganrifoedd yn greulon, ac fe ddichon nas gallwn uchelfloeddio heddyw ein bod yn cael y manteision a ddylem, neu ynte beth yw y cri sydd yn ffynu yn mhlith ein gwladgarwyr am gael Home Rule i Gymru?

 

Os gorchfygir y Boeriaid, diau y bydd yn rhaid iddynt hwy oddef llawer o draha cyn y deuant i fwynhau y bendithion trafnidiol a honir gan y Lloegrwrs y bydd iddynt eu dwyn i'r wlad.

 

Nis gwn pan yn ysgrifenu pa un a fydd i heddwch gael y llaw uchaf, ond dymunaf hyny, a dios genyf fod areithiau y cewri gwladweiniol, Morley a Harcourt, wedi cael dylanwad eisioes, ond y golled yw fod y ddau wron wedi bod yn ddistaw yn rhy hir, fel y mae yn anhawddaf diffodd y tan yn awr, na gwlychu'r tanwydd fis neu ddau yn ol ond eiddunwn ar i Brydain i wrando ar ddoethineb.

 

 

A close-up of a document

AI-generated content may be incorrect.

(delwedd L0946a) (12 Hydref 1899)

Tarian y Gweithiwr. 12 Hydref 1899.

LLYTHYRA NEWYDD.

Gan Fachan Ifanc.

MISHDIR Y DARIAN, —

Os dim son am ddim yn y papyra nawr ond am rhyfel a ffwtbol, a dyna'r son sy hefyd ar y stryd, ac yn mhob cwmni ewch chwi iddo, ac o'm rhan i munan, ma'r ffwtbol mor interestin a'r rhyfal bob tamad. Gwell fydda gen i rhan hyny, i Kruger a Chamberlain, a'u partnars, i setlo pwnc y Transfaal mwn –

 

FFWTBOL MATSH.

 

Fe ga nhw ych dou fod yn gapteniaid, a membars o'r Parlamants, o bob ochor, fod yn forwards, half backs, three quarters, &c., a chymryd pena y capitalists sy wedi dechra'r mwstwr yn ffwtbols, a'u cicio nhw o Natal i Tran[s]faal, ne o Transfaal i Natal, fel bo nhw yn dewish, fe fydd hyny yn llawar mwy Cristnogol, dyngarol, a rhesymol, na bwndlo miloedd ar filoedd o fechgyn gwirion diniwaid i fod yn fwyd i gleddyfa, baginets, a phowdwr i bleso'u mympwy nhw, a gwneud fynydd am y blyndars ma nhw wedi myn'd iddynt.

 

Mawr shwd gyffro fu trw'r byd pwy ddywarnod yma bothti ‘Cyngrhair Heddwch Hague,' a odd dim un hypocreit mwy na John Bwl yno yn gweid i deimlad, ac yn dymuno am i heddwch deyrnasu ‘o for i for,' a phwy odd gynta yn neidio i'r ring i ddangos i gaffls ond y fe. Bachan bidir yw John ni. Ma fa yn gallu bod yn Shoni naill ochor pryd myn a, ond ma fa yn gwpod pwy ochor yn lled dda er hyny, a dyw a byth ar ol i ddod a'r ochor hyny i'r ffront hefyd. Dyna bwys ma fa yn ddoti nawr ar gyfiawnder i'r Outlanders, ac am rhoi hawlfraint pleidlais iddynt mewn gweriniaeth annibynol, ond shwd ma fe yn delo i hunan at ddinasyddion Prydain Fawr yn nhre. Faint ma nhw wedi gorffod ymladd ariod i gal y Ffransheis yma, er u bod wedi cal i geni a'u magu yn y wlad? Ma dicon o le i ecstendo arni yto, cyn bod isha tryplu cymant am hawlia y rhai sy yn myn'd ar y tramp oddyma i South Affrica, heb un amcan arall gyta nhw ond gneud coin a gwella'u hunan. Beth ma Joe a'i bartnars yn peidio treio gwella y gyfraith sy yma yn twcid hawlfraint pleidlais oddiar hen weithiwr fydd wedi treulio'i fêr a'i esgyrn i gyfoethogi'i wlad, ond os bydd yn derbyn haner coron yr wythnos o dal clawd yn i hen ddyddia, ma fa yn colli y cymhwysder (?) o bleidleisio mewn unrhyw etholiad yn ei wlad ei hun. Ond nid dyna'r pwnc o gwbwl. Os dim amsar i drafod rhw bety consarn felna. Isha esgus sy ar Bwl i gal shawns i bilffran rhacor o diriogaeth gwlad yr aur; a os dim yn well na llwch aur i daflu i lyced y Jingoes, ond odd a yn gwpod bysa yn rhaid cal rhwpath arall i ddallu carwyr rhyddid a dyngarwch, a allasa Bwl ddim ffindio neb yn fwy ciwt na Joe i neid hyny. Ma Joe yn gwpod fod y rhan fwya o ddeiliaid gorsedd Prydan yn ffafriol i ryddid barn, a bod y Ffransheis yn acos at u calona nhw ta pw bryd bydd son am deni, a odd a yn cretu os dim dowt, bysa doti'r son mas fod yn cydwladwrs ni yn y Transfaal yn cal i damshal yn y lein hyn, yn enill teimlad y wlad i gyd,a bysa pawb yn clapo'i gefan a am ala sowjdwrs mas ar unwaith i slotro'r pwr Boers i gyd, iddo fe a'i gyd speciwlators gal wara teg i fyn'd i riwlo gwlad y diamwnds a'r aur, a nofio yn filiwners yn ngwad y milwyr treuenus o bob ochor.

 

 

 

A close-up of a text

AI-generated content may be incorrect.

(delwedd L0946b) (12 Hydref 1899)

Os dim dadl nag yw a wedi llwyddo hefyd trwy hyn i enill cydymdeimlad lluoedd o'r werin bobol, ond ma rhai eraill yn diall ma ffec Joe yw'r cwbwl, a bysa fa yn ddicon hawdd setlo peth felni yn ol egwyddor Cynghor Heddwch,' ond dyna'r gwitha, fysa dim shawns i gal dim o deritory'r Boers trw gyflafareddiad, a thrw ta hyny yw y pwnc mawr mwn golwg, naiff dim y tro ond y cleddyf, y dryll, a'r canon, &c. Dyma'r twls ma Shon Bwl wedi arfadd iwso ariod i ladrata tiriogaethau. Ma nhw mor angenrheidiol at y jobin ag yw jemies, ffugallweddau, a refolfar y burglar i dori miwn i Offis y DARIAN, ne i dy y fenyw lle w i yn lodjo, i fyn'd a'r blwmim lot sy yn perthyn i chi a fina. Ie, trw dwls v gwad ma Prydan Fawr yn gallu swagro nag yw haul byth yn machlud ar ei thiriogaethau hi. Dyna anrhydadd iddi widd a fenjans. Y burglar pena dan haul Duw yw John Bwl wedi bod yn i hanas i gyd, ac ma fa mor anhodd iddo atal i hen ddeleit ag odd i Charley Peace neid hyny yn ei amsar e. Yr unig giwr gas hwnw, druan, ar i glefyd odd i grogi, a synwn i damad ta dyma fydd diwadd Bwl, ac os na chrociff rhw wlad arall yr hen foy, fe fydd yn siwr o groci i hunan, wath ma trachwant wedi ala llawar i gomito siwiseid o'i flan e.

 

Mae yn gysur meddwl fod genym rhai gwladweinwyr sydd yn traethu eu barn yn hyglyw am yr amryfusedd, hyd yn nod yn y Weinyddiaeth Doriaidd, megys McLean, Russell, &c., heblaw cewri Rhyddfrydol, ac os llwyddir i rwystro tywallt gwaed gwirion, iddynt hwy y bydd yn deilwng diolch, ac anffawd fawr, ac annghysondeb dybryd yw fod y rhai a broffesant eu bod yn Rhyddfrydwyr ac yn Gristionogion, yn dal breichiau Joe Brum i fyny yn yr helynt hyn. Nid oes neb a all amheu nad bachan clyfar yw Joe, a bod dicon o stwff gaffaryddol yn ei gyfansoddiad a, a'i fod yn gallu gwel'd yn mhell dychrynllyd trw'r llygad glas yna sy gynta fa, ond os dim llawar o dipends ar y stwff sy yn i gonshans a, ac yn ol hwnw ma fe yn myn'd yn mlan er gwitha pawb a phobpeth. Fe ellid meddwl trw'r fysnas hyn yn bresenol, ta fe yw Bili Mishdir y Liberals a'r Tories, wath dyw a ddim felsa fa yn ito beth ma neb o un ochor mwy na'r llall yn weid, ma fe yn mynid ffordd i hunan, a ma'r Parlamant, y sowjwrs, a'r offisars, i gyd yn gorffod gneid fel ma Joe yn gweid, pun ag yw a yn reit ne rong. W i yn cretu bysa yn dda dychrynllyd gen y Toris iddo droi yn rhwpath arall, ond w i yn siwr nag yw'r Liberals ddim yn i moin a yn ol, er cymant o allu sy yndo, ond fel ma fa yn myn'd yn mlan yn awr, os dim isha iddo droi at un ochor fwy na'r llall, wath ma fe yn Barlamant yndo fe'i hunan, a ma fa yn galiu gweid fel Robinson Criwso

 

‘I'm monarch of all I survey,

My rights there ar none to dispute.'

 

a Jessie Collings fel Friday gynt yn was ffyddlon iddo.

 

 

A close-up of a newspaper

AI-generated content may be incorrect.

(delwedd L0971a) (19 Hydref 1899)

Tarian y Gweithiwr. 19 Hydref 1899.

LLYTHYRA NEWYDD.
Gan Fachan Ifanc.

 

MISHDIR Y DARIAN, —

Dyma Gymru eto wedi ei tharo fel gan daranfollt orsydyn gan y newydd am ddiwedd annysgwyliadwy a chalonrwygol yr heddgeidwad llenyddol,

 

MR. CHARLES ASHTON.

 

Un o'r Cymry mwyaf llafurus a llwyddianus oedd efe, Un oedd wedi cyrhaedd safle uchel yn ngolwg ei wlad fel llenor galluog wedi codi o ddinodedd ac anfanteision braidd mwy na'r cyffredin, gan na chafodd ond ychydig neu ddim addysg yn nyddiau ei faboed fel llu mawr o feibion Gwalia yn y blynyddoedd a aethant heibio. Bu rhaid iddo droi i weithio pan ond tua unarddeg oed, ac amlygodd fod ysbryd i hyny ynddo. Wedi iddo gyrhaedd oedran gwr, ymunodd a'r heddlu, a glynodd wrth yr oruchwyliaeth hono am dros bum mlynedd ar hugain, ac yn y cyfamser ysgrifenodd yn ddiorphwys.

 

Un o blant yr eisteddfod oedd, fel y mwyafrif o feirdd a llenorion ein gwfad, ac enillodd ganoedd o bunoedd mewn eisteddfodau lleol a chenedlaethol, fel yr oedd wedi dyfod yn safon fel hanesydd ei wlad. Yr oedd wedi dyfod i gymaint bri a dylanwad fel y cyflwynwyd ef i sylw y Llywodraeth fel un teilwng dderbyn blwydd-dal am ei lafur llenyddol o £100 y flwyddyn, heblaw ei flwydd-dal am wasanaethu am y cyfnod o bum mlynedd ar ugain yn yr heddlu. Yr oedd bellach, er y flwyddyn 1894, yn rhoddi ei holl amser at lenyddiaeth ei wlad, ac yn treulio y rhan fwyaf o'i amser yn Llundain a Chaerdydd yn casglu adnoddau i ddwyn allan gyfrolau meithion a fyddent yn gyfoeth oesol i lenyddiaeth ein gwlad. Yr oedd yn ddiwyd yn Nghaerdydd yr wythnos ddiweddaf, ac aeth i fyny i dalu ymweliad a'i gartref yn Ninas Mawddwy, ond erbyn y Sadwrn yr oedd y newydd truenus yn Nghaerdydd fod ein cydwladwr diwyd a thalentog Charles Ashton wedi cymeryd ei fywyd ymaith a'i law ei hun, yn ddiau yn herwydd gorlafur a phryder, fel y gellir ei restru yntau eto at luaws ereill o'i flaen, yn un o ferthyron ei wlad mewn ystyr lenyddol a chyhoeddus. Mor aml y mae ein cenedl yn cael ei hamddifadu o'i meibion goreu yn anamserol. Nid yw ond fel y ddoe er pan oeddem yn ein galar am Tom Ellis. Aeth yr anwyl Geulanydd i'w ganlyn, ond bu ef yn ddihoeni yn hir, fel yr oeddem yn ymbarotoi i dderbyn y newydd

 

 

A close-up of a document

AI-generated content may be incorrect.

(delwedd L0971b) (19 Hydref 1899)

am ei fyned, er mor galed oedd hyny genym, ond dyma ein cydwladwr Ashton, o dan amgylchiadau gofidus tuhwnt i'r cyffredin, yn ein gadael mewn galar ac ing i wylo ein colled cenedlaethol am un o'r bechgyn mwyaf ymroddawl a di-ildio yn ngwyneb pob rhwystrau, a fagwyd ar fronau ein gwlad.

 

Tebyg fod yn ei fwriad i ddyfod i fyw i dref Caerdydd, fel y byddai yn fwy cyfleus iddo yn nglyn a'r lyfrfa, i gasglu adnoddau i gyflawni ei fwriad llenyddol. Diau fod yn ei fwriad i wneud llawer mwy eto i gyfoethogi ei genedl, gan ei fod yn meddu ar well manteision yn awr na fu ganddo erioed, ac yr oedd ef yn debyg yn eu gwerthfawrogi, ac y mae lle i ofni i ormod graddau, yn fwy felly nas gallai ei natur ddal, fel y mae ei symudiad anamserol yn boenus i eithafion. Y mae hon yn ddyrnod chwerw i Gymru y teimlir o'i herwydd am flynyddau i dd'od, Yr oedd wedi ymgymeryd a llinell llenyddol ag yr oeddem yn sefyll mewn angen am ddyn o'r fath, sef yr hanesyddol a'r hynafiaethol. Y mae rhy ychydig o'n hieuenctid yn teimlo dyddordeb yn y canghenau uchod o lawer, a charem weled cyfnewidiad yn hyn. Y mae genym luoedd o feirdd ieuainc talentog ac awenol, a cherddorion swynol ac enwog, ond nid oes nemawr Eisteddfod Genedlaethol yn cynyrchu un traethodwr neu hynafiaethwr o'r newydd braidd. Arferai yr hen feirdd cyntefig gyplysu barddas ac hynafiaeth, ac fe ystyrid y bardd yn oracl fel hanesydd ei wlad, yn neillduol felly yn Nghymru, a hwynt-hwy sydd wedi trosglwyddo yr hyn a wyddom am ein hanes i lawr dros genllif yr oesau, ac yn eu hen goffrau hwy y mae yr hynafiaethwyr presenol i gyd yn chwilio am lwch ein hanesyddiaeth.

 

Cedwid y bardd yn gofnodydd y teulu gan y pendefig, y tywysog, a’r brenin, ac ymddiriedid iddo gyfryngau yr achyddiaeth yn ol am genedlaethau, ac yr oedd y cynfeirdd yn cynghaneddu ac yn cordeddu yr achyddiaethau hyn mewn mydrau fel y gallasent eu trosi i lawr i'w holafiaid yn fwy hylwy a threfnus na'u gadael yn dyrau annhrefnus sychion fyddai yn boenus eu derbyn, a gellir diolch iddynt heddyw am fwy o henafion coeliedig ac ymddiriedol na neb. Pa nifer o feirdd newydd Cymru heddyw a ellir eu hystyried yn safonau henafiaethol? Ofnwn mai ychydig iawn, ac nid oes argoel am i'r ysbryd hwn gymeryd meddiant o honynt. Fe ddichon mai hyn yw yr achos fod cynifer o honynt yn gallu ehedeg mor hwylus i dywyllwch gwlad a gorwelau hun a llefrith, gan nad oes ganddynt ddim i'w lusgo ar eu hol, na dim llawer i'w wthio o'u blaen trwy wybod i mi. Ond dyna, gwell yw i fi droi yn ol o'r llwybr yna, rhag i mi gael fy hun hefyd mewn caddug. Beth bynag, dywenydd genyf i fyddai gwel'd mwy o ieuenctyd yn cymeryd llwybr llenyddol Charles Ashton, a chydwylwn ar ol un sydd wedi treulio ei oes i gasglu hanes ein tadau, a chadw ar gof eu hen ddefion.

 

 

A close-up of a text

AI-generated content may be incorrect.

(delwedd L0949a) (26 Hydref 1899)

Tarian y Gweithiwr. 26 Hydref 1899.

LLYTHYRA NEWYDD.

Gan Fachan Ifanc.

MISHDIR Y DARIAN, —

Ma cwn rhyfal wedi’u gollwng yn rhydd unwaith yto, a ma’r blydi telegrams yn hedfan ar adenydd y mellt o Affrica yma i weid am yr ecsploits sy yn cal u gneid yco wth slotro yn cyd-ddynon o bob ochor. W i wedi bod yn gneid y ngora fel gwddoch chi i drio setlo rhwng Joe a Krugar cyn iddi fynd yn rhy bell, ond odd y ddou gnwbyn yn cownto u hunen yn gallach na fi, a ma nhw wedi mynid u ffordd, a i ni yn dechra gweld y resylt o hyny. Ma'r pwr dabs sy'n gorffod sefyll o flan y tân yn cal u cwmpo fel gwiped wrth y canodd. W i yn ffaelu yn deg a diall ffordd ma dynon yn gallu glorio mwn rhw sport felna, ond dyna fel ma hi, a ma holl bobl y byd ar flana'u trad yn watshan y mwfmants, ac ma milodd yn cal blas wth ddarllan y newyddion am y cigyddio sy yn mynd yn mlan. Ma dynon yn son am y milflwyddiant, pryd bydd yr oen bach yn cwtshan wth ochor y llew, ond w i yn ffaelu gweld un argol daw hyny i ben yn y ganrif hon ta beth am y nesa, a dyna lle w i yn u gweld nhw yn ddoniol fod y ddwy uchor yn gweid fod Duw o'u tu. W i yn ffaelu gweld rhw lodjic mewn rhwpath felna o gwbwl, a w i yn fwy na dowto nag yw a ddim o ochor un o nhw. Dyw E' ddim yn baco rhw fatls fel hyn yn ol y meddwl i. O'n i yn werthin yn yn llawash wth ddarllan yr wthnos ddwetha am speetsh yr hen wraig Vic wth ffarwelo a'r Gordon Highlanders cyn u bod nhw yn starto mas i Affrica i helpu wado'r Boers. Odd hi yn gweyd bod yn dda genti u gweld nhw yn dishgwl cystal, ac mor ffit i ddiwty. “I chi yn mynd mas," medda'r hen wedjan, “a w i yn dymuno y bydd Duw gyta chi gyd, a gobeitho y dewch chi nol yn saff." W i yn ffaelu gweld y bydda nhw yn saff iawn os gna nhw'u diwty, wath dyw sefyll o flan drylla a chanons ddim yn lle i fod yn saff yn ol yn meddwl i, a fysa yn well gen i sefyll o flan y Prins o Wales am gwpwl o rownds 'na shwd le a hwna, achos ma bwlets yn dod mor sly ar draws dyn, cyn cal amsar i droi naill ochor na'r llall iddi nhw baso.

 

Ma hi yn rhy ddiweddar i fi na neb arall gal un perswad arni nhw, wath ma'r ymladd wedi dachra, a rhaid catw mlan nes fod rhw ochor yn concro, a wth gwrs ma'n ddicon hawdd specto pwy ochor fydd hono, ond faint o gredit fydd hyny i Bwl alla i ddim gweid, a os dim dowt nag yw Krugar wedi bod yn rhy dwp i ffordd hefyd, a lled depig fod sowdjwrs ifanc y Transfaal a want cal smac at yn sowdjwrs ni achos fod u tada nhw wedi rhoi shwd gosfa i wyr Lloegar ar Majuba Hill, rhw ucain mlynedd yn ol, ond Iled debig gwela nhw i camsynad y tro hyn fel ma mwya trueni drostynt.

 

 

A close-up of a page

AI-generated content may be incorrect.

(delwedd L0949b) (26 Hydref 1899)

Y PARLIAMENT,

Ma’r Em Pees a'r Lords wedi câl i galw miwn o bedwar ban y byd i'r House o Comons a'r House o Lords ar notis byr, a ma hi wedi bod yn rhyfal o bothti rhyfal yno yr wt[h]nos ddwetha rhwng y membars, a wir ma'n rhaid i fi lwo bod yno wado pert digynyg wedi bod ochor un gystal a'r llall. Odd yr Irish bhoys a'u shilelas yn pelto yn drwsgwl ar Chamberlain a'r Gyfarnmant; ond dyna fel ma nhw yn arfadd gneid bob amsar, a thrwy hyny dos neb yn dala llawar o sylw arni nhw, a ma'r cwbwl mor ddieffaith a ffysto pen ceffyl marw o achos hyny. Ond fe fu rhai erill yn towli shels miwn i'r camp heblaw nhw, a fe nath un o'n membars ni, sef Sam Evans, stroc ddychrynllyd, a fe ddangosws fod eitha stwff yndo wrth gymryd at gorff Lord Rosebery, i hen gaffar a yn yr House o Comons, am y llythyr Jingoaidd odd my Lord wedi ala i'r papyra. Odd Sam yn blingo fol bachan yn gyfarwdd a'r gwaith, a ma hyd yn nod y papyra Seisneg yn lwo ta boy pert yw a, a nag os nymor i neb all gitsho yn y twls o'i law.

 

Fu a ddim ar ol i ddangos mor anghyson a fe'i hunen odd Roseberry, ac yn rhoi hint bysa yn well iddo joino a'r Gofarment altogeddar yn lle bod fel tyrn abowt. Odd a fel yn dowto bysa'r Lordyn moin y jobin i fod yn gaffar yto ar y Librals, ac odd a yn towli ta shawns glawd fysa gyta fa er hyny. Ma fa yn beth o'r gora i ddangos i ddynion o seis Roseberry na alla nhw ddim gneid fel ma nhw yn dewish, na gweud bob ffordd heb i neb wybod hyny, a ma Sam wedi enill streipan yn ngolwg pob democrat yn y speetsh nath a, a ma fa yn cal i gownto yn un o'r bechgyn gora i spowto sy yn y Ty, ac yn gredit i'n gwlad ni.

 

Ond o'r ochor arall yto, ma'n rhaid lwo fod Joe wedi sefyll y bwlats odd yn dod am i draws a fel sowdjwr, ac yn gollwng yn ol yn bert anghyffredin. Dyw a ddim iws boddrach nag yw Brum yn shampion ac yn diall seians ymladd yn gampus, a ma fa wedi dangos nawr nag yw a ddim yn prisho ddim am neb fel piwjalist politicaidd, a os dim troi yn ol i fod yn mysnas y Transfaal bellach, a thrw bod hi wedi mynd mor bell, falla mai gwell yw pitsho miwn heb jocan i gal cwpla'r consarn.

 

Ma'r newyddion diweddara yn gweid fod y pwr Boers yn i chal hi yn arswydus, a nag os dim yn sefyll o flan yn sowdjwrs ni, ond ma pac mawr o'n bechgyn ni yn cwmpo, a llawar o'n offisars yn u plith nhw, a dyna sy yn rhyfadd fod shwd ansoddeiriau a ‘brilliant' a grand' yn cal u harfadd wrth roi cownt am y slotars mwya.

 

Os dim dowt nag yw Bull yn mynd i neid bysnas o'r fysnas hyn, a geir amsar yto i feddwl a barnu os bydd yr elw i'n teyrnas ni yn werth y golled a'r dyoddef calonrwygol fydd yn rhaid mynd trwyddo cyn gorphen y drafodath.

 

 

None

(delwedd L9948a) (02 Tachwedd 1899)

Tarian y Gweithiwr. 02 Tachwedd 1899.

LLYTHYRA NEWYDD.

Gan Fachan Ifanc.

MISHDIR Y DARIAN, —

Ma'n ddrwg gen i ddiall fod cwmwl arall yn dechra cwnu yn ffurfafen weithfaol rhan o Ddeheudir Cymru a Shir Fynwy, sef helynt y

 

PEIRIANWYR A'R CREFFTWYR.

 

Fel i chi a'r darllenwrs yn gwpod, fod yr anealltwriaeth yn croni ers tlawer (sic) dydd, a bod llawar cynyg wedi cal i neid i ddod a phethach iddi lle heb fyned i ryfal, ond os na ddaw rhw ben ar bethach cyn bydd y DARIAN yn nwylo y darllenwrs, fe fydd yn depyg o fod yn stagneshon mwn llawar o lofeydd yn y cylchoedu dwyreiniol. Pity mawr fydd hyny, trw fod y fasnach lo mor hwvlus a gobeithiol.

 

Wn i ddim beth andras yw yr achos, os bydd rhw anealltwriaeth yn dicwdd cwnu rhwng mishdir a gwithwr gyta ni yma, os dim shwd beth a dod i derms byth bron nes i bod i yn mynd yn down twls, fel sa hyny yn dod a'r dispiwt yn hawddach iddi i setlo, ond w i yn ffaelu yn deg a diall y lojic hyny hefyd, wath os dim un ochor yn enill dim wth stopo'r gwaith. Ma'r matar hyn wedi cal i dowli o dro i dro ddar pryd ma'r gwithwrs wedi rhoi notis gynta, a fe allwn i feddwl fod Mr Hopkins yr ajent wedi gwitho yn galad ac yn trio i ora glas i ddod a phethach i drefan heb gal streic, wara teg iddo, a ma fa wedi dangos amynadd gweddol a chetyn mawr o gomon sens. Dw i ddim yn meddwl mynd miwn i'r pwnc pwy ochor sy'n iawn, er y mod i yn cretu y dyla gwithwrs o'r un short gal yr un wara teg yn mhob glofa fel u gilydd trw'r cylch glofaol, ac yn ol y list i ni wedi wel'd o'u cyfloga nhw, dww (sic) [dyw] y standard ddim beth ddyla fa fod iddi gydmaru a llawar o withwrs erill, er fod cyfrifoldeb mawr yn pwyso arni nhw, a bod bywyda yn ymddibynu ar u gofal a'u medrusrwydd, a fe ddyla y mishdri gonsytro hyny yn y cyfwng presenol. Ond heb i fi helaethu yn y cyfeiriad hyn, os dim dowt nag yw'r Ajent a’r aidi camps yn ddicon o fechgyn i ofalu am u bysnas u hunen. Yr hyn sy o bwys i'r cyhoedd yw y dwa nhw i ddiall u gilydd o bob ochor heb help llaw Mrs Streic, wath all neb ddishgwl llawar o fendith orwthi hi - druan o honi.

 

Dinystr a chollad yw'r motos sy ar i hen fflag hi bob amsar, a i ni gyd wedi gorffod teimlo hyny droion, fel ma gwitha'r modd, a dw i ddim yn cretu fod no short o withwrs yn moin gweld i hen wynab hyll hi byth yto os os posib, a w i yn gobeitho a nghalon y bydd i'r mishdri a'r gwithwrs gauad y drws yn erbyn i hen wynab llwyd hi yn yr argyfwng hwn, ac y bydd iddynt shiglo dwylo a'u gilydd mwn ffordd respectabl a jenteel fel gwyr byddigions. Fe fydd hyn yn fendith i'r ddwy blaid ac i'r wlad yn gyffredinol. Wrth y swn w i yn glwad ma arno i ofan nag os dim o'r harmony a ddyla fod rhwng Ffedereshon y Glowrs ac Undeb yr Injineers a'r Stocars, ta beth yw yr achos. Fe ddylent fod yn driw bliw idd u gilydd, wath ma nhw u gyd yn dipendo ar u gilydd, ac yn perthyn yn acos un ri (sic) [i’r] llall, ond ehreta (sic) [chreta] i ddim y bydd i'r hen goliars twymgalon i atal y bechgyn hyn yn ddisylw, os bydd yn rhaid iddynt jaco lan i ymladd y batl, ond fel w i wedi gwaid (sic) [gweid] o'r blan, gobeitho na chaiff pethach fynd mor bell a hyny, ond y daw rheswm a chyfiawnder

 

 

A close-up of a text

AI-generated content may be incorrect.

(delwedd L9948b) (02 Tachwedd 1899)

fel dou refferee i setlo'r pwnc yn deidy o hyn i ddydd Merchar, ac y bydd i'r wheels gal u catw mlan i droi ffwl speed fel ma nhw heddy, fel na bydd dim hen gymylau duon yn hongiau uwch yn pena ni amsar yn Dolig, ond y bydd gwithwrs holl faes glofaol Cymru a Shir Fynwa yn cal mwynha heddwch a llawenydd, heb orffod ymladd a Boers cyfalaf.

 

Blin yw gen i ddiall hefyd nag yw pethach yn y West yn gorwadd yn esmwth, a w i yn dymuno dwa nhwnta trwyddi heb gwnu dwrna, a fe allwn gal lle i feddwl yn ol y cownt dwetha, fod u hoffisar talentog nhw, Mr John Williams, yn lledawgrymu y daw petha iddi lle mwn ffordd dawal, ac y caiff bechgyn tawal Shir Gar fynd yn mlaen a'u gwaith yn hwylus, fel bo nhw yn gallu partoi yn galonog erbyn Steddfota y Nadolig, fel ma nhw yn arfadd, wath ma llond u pena a'u calona nhw o dan llenyddol a barddonol, a cherddgar. W i yn lico gweld heddwch yn y pylla glo yn llawn cystal ag yn yr Orsadd yn mhlith y beirdds I ni yn cal dicon o gawl rhyfal yn helynt y Transvaal, nes ala syrffed ar bob dyn sensibl fel chi a fi, fel nag os dim iddi glywad na'i ddarllan o ddydd i ddydd, a nos i nos, ond y son am dywallt gwad, a ma pawb fel tysa nhw yn y bendro, yn dadlu ac yn pregawthan ar y sefyllfa yn 'ngwlad y dyn du,' ys gwetws Dyfed, a ma pob un yn cretu i fod a yn diall y cwestiwn llawn cystal a fi a Chamberlain.

 

ENILL INFFLIWANS.

 

Fel gwddoch chi, ma un o dylwth Dr Jim wedi dod o Affrica yma, sef rhw Ddoctor Ruthersord Harries, i barto'i hunan i ymladd yn erbyn Mr Spicar, Em Pee Boro Casnewydd yn y Lecshwn nesa, a ma fa yn cymryd lein newydd i enill dylanwad wth joino gyta'r Ffwtbolars. Odd a yn y matsh dydd Satwrn dwetha mwn lle yn Shir Fynwa, a fe rois y cic cynta, a ma'n depig i fod a yn gamstar ar y gwaith, a fu a ddim yn ol o frago hyny hefyd, a'i fod a yn gicwr clyfar ddar odd a yn grotyn yn yr ysgol. Dw i ddim yn gwpod os yw y propensity hyny yn help i neid membar parlamant da ne bido, fe gaiff gwyr Shir Fynwa farnu hyny, ond os dim dowt nag yw a yn ddodj da i enill votes y Ffwtbolars, a ma'r Tories yn arfadd bod a'u llyced yn u pena i enill inffliwans pob class a galla nnw, a os dim i weid wthi nhw am hyny am wn i. Wn i ddim pwy gymhwysder arall all fod yn y Doctor, heblaw i fod a yn gicwr da, a ma cetyn mawr o'r gwaith hyny yn mynd mlan yn yr House o Comons ambell waith fel y bu hi yn y seshwn fach fyr sydd newydd ddarfod yr wythnos ddiwetha. Ma Mr wedi profi ei hunan yn fembar rhagorol ac yn ddyn iwsffwl mewn rhagor na un ffordd ac yn ddyn o ddylanwad yn ei wlad mwn ystyron mor respectabl a chico ffwtbol un rhyw ddydd, a fe allwn i feddwl na fydd a ddim yn reflecto yn dda iawn ar etholwrs tir Gwent os bydd iddi nhw i newid a am y boy hwn, nag os dim un stripan gyta fa am trw wpod i fi ond y cico, a'r blyndars nath a yn Transvaal yn amsar y Jameson's Raid ys llawar dydd, a fe fydd yn lled siwr o gal gweld ta blyndar sydd a yn neid wrth gretu fod gwyr Gwent yn mynd i gico un o ddynion gora’r wlad mas o'r Parlamant iddo fe gal lle i miwn, ond fe fydd yn beth o'r gora i'r Librals i ddishgwl ati, a starto cico'r bel Rhyddfrydol yn awr mwn pryd fel bo Team da genti nhw yn erbyn y Lecshwn.

 

 

A close-up of a text

AI-generated content may be incorrect.

(delwedd J7625a) (09 Tachwedd 1899)

Tarian y Gweithiwr. 09 Tachwedd 1899.

LLYTHYRA NEWYDD

 

GAN FACHAN IFANC.

 

Mishdir y DARIAN, —

 

Rhaid i fi ofyn i chi heddy fel ma pawb yn gofyn idd u gilydd -

 

BETH I CHI YN MEDDWL AM Y RHYFAL?

 

Ma popath arall wedi myn'd i'r cysgod yn deg, fel sa dim byd yn bod ond rhyfal ta ble trowch chi'ch gwynab. Caneuon rhyfelgar ma'r cantwrs yn ganu; testyna milwrol sy gen y beirdds, ac os di chi yn y fan na, ar y pwnc hwn hefyd ma’r pregethwrs a'r ffeiraton yn pregethu, a'r wasg i gyd yn traethu, nes ma pethach wedi mynd fel odd hen fardd Nantglyn yn gweid ar bwnc arall, yn ddicon i ‘droi 'menydd dyn gwan, heb wybod pa fan i fyned.'

 

Beth i chi yn meddwl am y rhyfal? Yn meddwl i yn fyr am dano yw, ta blydy consarn yw a oltwgeddar, a ta pwy ochr nilliff, fe fydd y ddwy yn colli. O'n i yn arfadd cretu pryd odd pobpath yn mynd mlan yn dawal, fod ticyn o gymshan sowdjwr yndo i, ond fel w i yn darllan y cownt fel ma hi yn mynd mlan yn Affrica'n awr, w i yn dechra mynd i gretu ffordd arall, a ma'r plyfyn gwyn yn dechra dod i'r goiwg, a w i yn meddwl ta cymryd y trad nelwn i tyswn i mas yno, a starto nol sha thre at y fenyw lle w i yn lodjo. Styriwch chi'ch hunan shwd bysach chi yn teimlo, a os lywch y gair, fysach chitha ddim yn hir ar yn ol i. Ma nhw mor ddychrynllyd o safej. Pwy sens yw towli shels marwol sy'n gwasgaru anga yn mhob cyfeiriad i genol lot o ddynon. Fysa yn well gen i o getyn ymladd yn steil y Cweensberry Riwls, fel odd y ddou fachan yna o Merica — Jeffries a Sharkey yn ymladd yr wthnos ddwetha am shampionship y byd. Fe wadws y ddou yna u gilydd yn dost, ond di nhw ddim wedi mwrdo un a'r llall fel ma shampions y Transvaal yn gneid, a odd y ddou fachan hyn yn cal u talu yn dda am u trwpwl, ond chaiff Tommy Atkins ddim ar ol dod 'nol, wedi wado'r Boers, ma lle i ofni. Dyna'r bechgyn ma nhw yn galw Reservs yn mynd mas yn awr, a gatal u teuluodd ar ol, a falla na cha nhw byth weld u gilydd yto. Faint ma'r Gyfarment yn partoi ar u cyfer nhw yn wracedd a phlant? Gwir fod rhai pobol teimladwy yn apelio ar u rhan trwy geisio elusena gan y cyhoedd, a ma'n dda gen i fod y cyhoedd wedi ateb yn haelionus y maent yn deilwng o gydymdeimlad pawb. Ond ffordd ma sponio atnod y Jingoes sy'n gweid-

 

‘We got the ships, we got the men,

And we got the money too’?

 

Fu Joe a'i bartnars ddim yn hir yn ffindo deg miliwn o buna i gal ships, powdwr, drylla, baginets, mulod, ceffyla, a 'setra, 'setra, 'setra, a fe welas fod Bwl yn brago gall a gal rhacor yto, os bydd taro. Wel, os dim dowt am hyny, wath ma fa shwd bartnars a'r Jewe, y moneylendars mwya sy gal; ond dyna sy'n bysl i fi yw, trw i fod a yn gallu cal coin i gal twls lladd, a phob short o git sy isha i fwrdro, pam na ffindiff a goin i gatw gwracedd a phlant clawd y bechgyn sy'n iwso'r twls, yn lle u gatal nhw i ddipendo ar drugaredd y werin.

 

Peth hawdd yw gwiddi Hwre, wth ffarwelio a'n sowdjwrs ni yn Aldershot, Southampton, &c., a dymuno Duw yn rhwydd iddi nhw, tra bydd tadau a mamau, gwragedd a phlant, ar dori eu calonau wth eu gweld yn mynd falla am byth o'u golwg.

 

 

A close-up of a document

AI-generated content may be incorrect.

(delwedd J7625b) (09 Tachwedd 1899)

 

 

Fe fysa yn blan call, allwn i feddwl, i alw yr Em Pees a'r Lords at u gilydd yto am wthnos, i foto cwpwl o filiwna i gysuro ticyn ar y trueiniaid sy'n wylo a galaru am golli pileri eu cynaliaeth, a chysur eu cartrefi. Digon tepig y bydd i'r wlad gofio am danynt yn weddol ar hyn o bryd, tra pariff y gwres presenol, ond buan y bydd y teimlata hyn yn oeri a'r angenus yn cael u hanghofio, ac felly fe ddyla y Gyfarmant gymryd yr achos mwn llaw, a dwyn teuluoedd y milwyr i mewn i dreuliau rhyfal. Ma nhw yn siwr o fod mor deilwng i gal u styriad yn y treuliau ag yw'r mulod a'r ceffyla os posib.

 

W i yn ffaelu yn deg a diall na fysa rhai o'r membars Cymrag ne Wyddelig yn gweid y point hyn pryd o nhw lan yn foto am y deg miliwn, a'i gynyg a fel gwelliant ar Arath y Frenines. Ma llawar amgylchiad torcalonus yn cymryd lle yma gyta i yn achos y rhyfal yn adeg y ffarwelo. Dyna un neil[l]duol welas i ar ymadawlad y Gatrawd Gymreig, dydd Sadwrn, o Aldershot. Yr oedd teulu un o'r milwyr wedi dod i'r man pella i ffarwelo a'r priod a'r tad. Yr oedd ef wedi dal yn wrol hyd nes i'w ferch fechan fyned i'w gusanu, ac ymaflodd am wddf ei thad, ac nis gollyngai ef, nes eu gwahanu trwy orthrech, a bu orfod i'r milwr dewr pryd hyn egluro ei deimlad mewn dagra. Nid yw hwna ond un darlun gwan o fil o erchryslonrwydd rhyfal, a'n nymuniad calon i yw i'r rhyfal presenol ddod i derfyniad mewn byr amser.

 

Y NEWYDD DIWEDDARAF AM STEDDFOD CARDYDD.

 

Mawr fu y berw am neid Steddfod Cardydd yr haf dywetha yn deilwng o'n gwlad ni, Odd bisnes men metropolis Cymru wedi cymryd at i chorph hi, ag o nhw yn mynd i ddangos twtsh i Steddfodwyr Cymru ffordd odd cario yr hen sefydliad yn mlan, a tysa alabalw yn llwyddo i neid hyny, fe ddylsa fod up tw ddy marc mwn pobpath, wath fu ariod shwd wthu cyrn na shwd show off. Ma fa yn hen beth erbyn hyn ta mwg odd y cwbwl mwn ystyr lenyddol, wath fu dim gwath cybolfa ariod yn y lein hyny. Fe gas y pwyllgor gatw preisis y beirdd bron i gyd i helpu talu am y part masharyddol odd yn perthyn iddi, a fel ma'r beirdd yn arfadd bod yn ddicon gwirion, di nhw ddim wedi cintach fawr am hyny. Wel, o'n i yn meddwl wedi iddi nhw gal coin y beirdd, bysa'r consarn yn siwr o dalu'r ffordd, ond wbwb! ma'r cwbwl yn yfflon rhacs, a bod y bisnes men wedi ala'r hen wyl i £600 o ddylad, a bydd yn rhaid i'r garantors i dalu bothti 8s. neu 10s. y bunt. Dyna hi yn galch o'r diwadd, a ma rhai yn dechra hinto bod yn well cnoco yr hen sefydliad yn i thalcan.

 

Sgyswch fi, syr, am frago ticyn ar y munan am unwaith. W i wedi gweid lawar tro cyn hyn fod y Steddfod Genedlaethol yn mynd ar y down gred, a'i bod hi yn fwy tepig i fenajarie na dim arall. Ma'n llawn bryd i Hwfa dynu'r cleddyf o'r waun, a phido i ddoti a nol a gwiddi heddwch yto nes cal gwell trefan ar betha, ac os na all a neid trefan ar y giwdawd sy yn manago yn Steddfota Cenedlaethol ni yn y De, ma’n well (?iddo fa u sgymuno) trwy gynffon y sarff dorchog, a phido cymryd rhan na chyfran yn y fath fongrel gosmolitanaidd byth mwy. 'Ar air a chydwybod.'

 

09-11-1899

 

 

A close-up of a text

AI-generated content may be incorrect.

(delwedd J7623a) (16 Tachwedd 1899)

Tarian y Gweithiwr. 16 Tachwedd 1899.

LLYTHYRA NEWYDD

 

GAN FACHAN IFANC.

 

Mishdir y DARIAN, —

Shwd beth yw bod yn scolar, a w i yn cretu fod a yn fwy o beth i byrswato dynon ych bod chi yn scolar pryd nag i ni yn gwpod dim, ne'r peth nesa at hyny. W i yn cofio am grotyn unwaith odd a fwy o ddeleit wara yndo na dysgu, a fe wetws i dad wrtho un tro ‘Dera yma, John, a gad i fi dy glywad yn Sysnag, i fi gal gweld shwd wyt ti yn dod mlan yn yr ysgol;' ond odd Jack yn ddicon ciwt i wpod na odd yr hen wr i dad ddim yn dyall Sysnag, a fe gymrws y llyfr yn i law, a dyna fa yn dechra gweid hi yn y fan ac yn amal o rhw lol-lol odd yn fwy main na'r iaith fain i hunan ac wedi iddo bregawthan am spel yn y lein yna, medda'r hen ddyn wrtho: ‘Wel bachan, wyt ti'n darllan fel ffeirad ond os dim posib i'r gwr drwg dy ddiall di.' A os dim dowt gen i nag os llawer o short Jack idd u cal yn y byd yma mwn racor nag un cyfeiriad. Ma llawar o feirdds iddi i cal pryd ma nhw yn gneid pishis o ganu, yn hedfan ar gefan u hawen, ne ar gefan i hurtwch, i'r cymyla — rhwla nag os dim neb yn gwpod i ble, na phw bryd dwa nhw nol a alla i ddim cretu u bod nhw yn gwpod i hunen ble mae u pererindod crebwyllyddol wedi bod. Ma llawar o lenorion yn depig hefyd yn ymbalfalu mwn tywyllwch dudew wrth drio sponio rhw bwnca fydd gyta nhw mwn llaw. a ma yn ddicon hawdd gwpod nag u nhw ddim yn deall i hunen beth ma nhw yn moin doti rhai erill i ddeall. Ma’r penwendid hyn hefyd yn perthyn i lu o spowtwrs o bob short yn Em Pees, pregethwrs, ffeiraton, &c. Dyna sy'n od yw, u bod nhw wrth hyny yn ala llawar i gretu u bod nhw yn glyfar dychrynllyd a fe gewch glywad dynon yn gweid: ‘Dyna bregethwr mawr yw Doctor G. D. L. Growl, ond ma fa yn rhy ddwfwn i ni i ddiall a. Dyna lenor coeth yw Morgan Celtog, ond ma fa yn trafod pethach rhy ddyrus i ni u gweid nhw. Dyna fardd aruchel ac hedegog yw John Transvaal Jones, ond ma fa mor sybleim fel nag os dim posib i rhw rai cyffretin fel ni idd i ddilyn. A dyna areithiwr penigamp ac ardderchog yw Syr Roland Mymbldym, M.P.; ond diar mi, ma fa yn trafod pyncia trwm, fel nag os dim shawns gyta ni iddi estimeto fa o gwbl. Shwd hen lol yw wilia felna. Odd y dyn mwya fu yn y byd ariod — y Dysgawdwr o Nazareth, yn gweid petha o bwys tragwyddol yn ddicon plaen i fynwod clawd, a physgotwrs annysgetig i ddiall E'; a ma pob dyn gwir fawr yn gallu malu y petha fydd gyta fa yn ddicon mân fel gall dynon cyffretin wpod beth fydd gento mwn llaw. Ma gen i beth arall i Reid wrtho chi hefyd, Syr — rhwpath tebyg i'r un steil a w i wedi bod yn wilia am dano yw'r cyfreitha i ni yn gorffod byw wrthi nhw. Ma membars yr House o Comons. a'r House o Lords, yn ala blynydda wrthi i baso pwt o act fydd rhw fembar wedi gynyg. Ma nhw yn i briwo hi, ac yn i gwella, ne i ala hi yn wath yn tynu pishis orwthi, a doti pishis ati, fel na fydd y bachan odd wedi bod yn i mouldo hi yn y dechra ddim yn i napod hi o gwbwl; a all y 'gwr drwg' (ys gwetws tad Jack o'n i son am dano) ddim i diall hi. Odd y Judj Gwilym Williams, wrth drafod cesis y Compenseshon yn Mhontypridd yr wthnos ddywetha, yn gweid nag odd neb o gyfreithwrs yn gwlad ni yn dall

 

 

A close-up of a text

AI-generated content may be incorrect.

(delwedd J7623b) (16 Tachwedd 1899)

Y Compenseshon Act.

 

Ma rhwpath fel hyn yn wath na tw bad, mor bell ag w i yn gallu judjo pethach; a w i yn ffaelu cretu llai na allach chi a fi, a Wmffra Huws, a'r bachan sy'n labro'r nos neid act hawddach iddi diall na hona os bosib a odd y Judj yn rhoi snwbyn tost i'n Membars a'n Lords ni, ne yn dangos fod yn cyfreithwrs ni yn dwp dychrynllyd, un o'r ddou. Ma'r Em Pees, a my Lords, yn cownto u hunen yn glyfar ac yn giwt, a ma'n cyfreithiwrs ni yn cal u prentiso am flynydda iddi dysgu nhw i ddiall y gwaith sy yn cal i droi mas o shop Sant Stephan; a fe ddyla'r gyfrath, ne'r act Compenseshon, trw i tod hi yn perthyn mor acos i interest y gwithwrs, fod yn weddol o blaen a gweid y Ilia am deni, yn lle bod shwd gost, a thrafferth, a amsar yn mynd gyta chesis. Fe fuon yn ddicon hir yn i thwmlo hi yn ol a mlan, i neid cetyn well job arni; a fe ddylsan fod wedi gneid hyny hefyd, er mwyn u credit u hunan, heb son am hawliau y mishdirs a'r gwithwrs sy yn gorffod syffro yn awr achos u blyndars a'u pendwprwydd nhw. Beth ma nhw yn pido cymryd patrwn orwth hen gyfreitha Hywel Dda, ne yr act holl-gynwysfawr, ‘Car dy gymydog fel ti dy hun.' ‘Gwna i arall fel y caret i arall wneuthur i tithau,' o waith y Dysgawdwr o Nazareth. Fe fentra i fonat y fenyw lle w i yn lodjo nag os dim un o fechgyn dysgetig Parlamant Prydan Fawr yn ddigon o ddodjar i dynu dim orwth hona, na doti dim ati iddi gwella hi, a fe bariff yn i phurdeb a'i grym pan fydd holl gyfreitha yr hen ddaiar yma wedi myn'd mas o ddêt, yn y dyfodol cudd anhysbys, er i bod wedi bod mwn bodolaeth ys deunaw cant o flynyddodd. W i wedi clywad rhai yn gweid cyn hyn fod y cyfreithwrs sy gyta ni yn y Senedd yn sgriwo y cyfreitha i bob shap alla nhw feddwl am dano ond y shap reit, er mwyn iddi brodyr cwilsyddiol lluosog ar hyd y wlad gal rhwpath i neid, a nhwata'u (sic) [= nhwtha’u] hunen gyda llaw, wath ma'r cyfreithwrs sy a M.P's wrth gwt u henwa yn watshan shawnsis o'r short bob amsar. Ca nhw gyfla, ond os parha nhw i neid cyfreitha mor ddyrus ac annesboniadwy a'r Compenseshon Act. Ma arno i ofan a nhw i hobl, a dw i ddim yn folon i hyny, wath ma nhw a fi yn bartnars piwr iawn. Wel, ta beth am hyny, ma'n bryd i fishdirs a gwithwrs i fwstro i gal yr Act wedi gwella, os os shwd beth. Wara teg i Mabon, a rhai o'r ledars erill hefyd, ma nhw yn pelto arni nawr ac yn y man, a fe fydd gwaith pelto yto cyn ca nhw sylw, achos ma dicon o waith yn awr gyta'r blwmin lot sy yn y Parlamant i watshan mwfmants Kruger a’i gang, a ffindo coin i dalu am fwlats a chanons, &c. Ma hyd yn nod y dynon pena sy yn gaffers yn y rhyfelodd yn lwo fod y jobin sy gyta nhw mwn llaw yn fwy nag o nhw yn feddwl. Fe weta i beth arall wthoch chi hefyd. W i o'r farn dylsa'n sowdjwrs ni gyd fod o dan y Compenseshon Act, a dylsa Joe Brum ffindo coin gen y Jews yto i dalu perthnasa y rhai sy yn cal u Iladd yn y Transvaal, fel ma cwmni gwaith, a rhai erill yn gorffod talu am y rhai sy yn cal u lladd pryd ma nhw yn gwitho o deni nhw. Wara teg i bawb, ma'r sowdjwrs a (sic) [= yn] dod o dan yr un llywodraeth, a fe ddylsan fod o dan yr un gyfrath yn y achos hwn beth bynag. Dyna le bysa lot o waith gen y cyfreithiwrs ni ar ol i'r rhyfal gwpla, fysa setlo faint o gompenseshon fysa yn dod i bob un gaiff u lladd, cyn bydd y fysnas a'r Boers ar ben. Os yw gwyr Cardydd yn moin membar da, ma'n well iddi nhw newis i, a fe gymwysa i lawar o betha w i yn yn weld yn gam yn yr House o Comons a'r House o Lords, a fe fydda wth neid hyny yn doti plyfyn yn nghap Metropolis Cymru.

 

 

A close-up of a text

AI-generated content may be incorrect.

(delwedd L0947a) (23 Tachwedd 1899.)


Tarian y Gweithiwr. 23 Tachwedd 1899.

LLYTHYRA NEWYDD.

Gan Fachan Ifanc.

MISHDIR Y DARIAN, —

Bachan cwic w i, a w i wedi ffindo mas yn awr ffordd ma reporto a dod i sylw fel rhw reporter arall. Ma llawar un yn gweid yn bod ni fel Cymry ar ol yn mhob short o ffordd, a ma pawb yn gwpod ta rhyfal yw prif bwnc y dydd, a ma pob un sy yn darllan yn dishgwl clywad am y cownt sy yn dod o'r Transfaal, ond dw i ddim yn mynd i weid dim heddy am y fysnas yna o gwbwl. W i wedi penderfynu gatal y peth i'r War Correspondants, a diolch iddi nhw am yn nysgu i i sgrifenu, fel odd y bachan sy'n labro'r nos yn yn nysgu i i neid pishis o ganu.

O'n i yn arfadd bod yn byrticiwlar bob amsar wrth sgrifenu i'r DARIAN fod popath o'n i yn weid yn wir, a wrth foddrach y menydd felni odd dynon ddim yn satisffeid. Ma r byd yn moin pethach newydd bob dydd, pun a bydda nhw yn wir ne gelwdd, dyw hyny ddim yn un gwahaniaeth, dim ond catw yr ecseitment lan.

Yn awr w i yn dechra gweld ble w i yn sefyll, ac os na naiff y rhyfal ddim ilawer o les mwn rhw ffordd arall. fe alla i ddiolch yn mhod i wedi cal lesn ne ddwy trwyddi heb golli dyferyn o wad o achos hyny. Dw i ddim yn brago dim ar munan, ond fe allwn feddwl ych bod chi yn dwp dychrynllyd na fysach chi yn meddwl er lles ych hunan am yn ala i mas yn speshal i South Affrica, ond os dim isha i chi fod yn barticular i'n ala i i'r man ma danjar fel Ladysmith a De Aar, nid achos fod ofan arno i, fe allwch fentro hyny, wath wn i ddim beth yw hyny, ond meddwl w i am danoch chi a'r darllenwrs, bydd a yn well i fi fod rhwla yn acos i'r Coast fel galla i ala y reports yn streit trw'r teleffone i offis y DARIAN o'r man lle bydda i, heb ofni bydd y Boers yn tori y weiars. Fe ddylsa chi fod yn ddicon call ych hunan i weld pethach fel hyn heb i fi gymryd y trwpwl i sponio y consarn. Nawr dyma fi yn gatal y consicwens arno chi oltogeddar. Os na chaiff darllenwrs y DARIAN ffwl acownt o faes y rhyfal nid arno i fydd y bai, wath dyma fi yn cynyg mynd mas trw'r danjar i gyd o foddi ar y ffordd, a fydd yn well gen i foddi na bo chi heb gal y cownt an (sic) [= yn] reit — dyma drwmpyn i chi. Ma fa yn shew o beth fod amball fachan ifanc yn y byd, ond arno i ofan na fydd dim llawar o nhw idd i cal os pariff pethach fel nawr. Ma'r Gofarment Offishals yn ordro y bechgyn glana sy gyta ni mas i gal u mwrdro. ac oni bai yn mod i yn cwtshan yn Offis y DARIAN, falla ta'r peth mwya streicyn sy wedi ymddangos yn y War News fysa y newydd torcalonus, -

 

 

A close-up of a text

AI-generated content may be incorrect.

(delwedd L0947b) (23 Tachwedd 1899.)

 


Y BACHAN IFANC KILD.

(PRESS ASSOCIATION WAR SPECIAL.)

Nov. 9th, 9 p.m. (by despatch).

 — At noon yesterday, the Bachan Ifanc while loitering, &c., waiting for Maggie Larenzo, to guide her home, was taken as a spy, and the poor fellow by doing a good deed wos shot. The British Camp mour[n]in the loss.

Fu dim yn fwy tytshyn na yna yn hanas y rhyfal, ond dyw hwna ddim ond spesiman o beth allwn i neid cyn cal yn lladd.

PRISH Y GLO.

Ma Ilawar o sgrifenu wedi bod o berthynas i werth glo Cymru, a fel yn mhob amgylghiad (sic) [= amgylchiad] arall pryd mae angen rhwpath da dyna yr amsar ma gwpod i werth a, a felly nawr.

Ma marchnad lo Cardydd yn codi yn barhaus, a ma y ffrynt sy o'n blan ni yn dishgwl yn glir, yn yn meddwl ni, wrth ddilyn cwrs pothach. Falla na fydd dim o'r peth ma'r Sais yn alw yn stability yndo, a os ca i weid y marn tysa rhw bwys ar hyny. Ma arno i ofan na fydd achos, mai cyffyrddiad amgylchiadau yw sydd yn cael ei achosi gan syniadau mympwyol. Dyna beth oedd cychwyniad y rhyfel presenol, ac mae godreuon y pethau yna yn dyferu bendithion am dymhor, ond mawr ydyw colli gwaed un brawd i osod gwaed mewn brawd arall. Y mae yn hen beth genym idweyd fod eisieu rhyfel i gael llai o honom yma. Ond pwy sydd yn gwybod yr ar beithiau sydd yn achosi i ni fynd oddiyma? Fe ddichon yn awr fod mwy o galonau arteithiedig yn Nghymru yn herwydd y rhyfel bresenol na ma neb wedi ei amgyffred, a phan y daw y papyr bach fel sy gyta ni yn y gwitha o'r War Offis, fe gewn i weld ble i ni yn sefyll, mwn ystyr arianol, ond dear me. Pwy dan haul Duw all ddweyd y dinystr dychrynllyd sydd yn myned yn mlaen yn awr yn y Transfaal? Y mae'r problem yn awr yn nwylaw ecseitment, ac nid oes barn yno. Wedi tawelu yr ystorm cawn wybod yr enill[wyr??] neu –

Yr wyf yn fud ac yn aros i rywun ddeongli i mi yr hyn y mae y byd Seisnig yn proffesu y gall ei egluro, wrth ddweyd y byd Seisnig yr wyf yn golygu barn gyffredinol y wlad yr ydym yn byw ynddi, neu y dynion sydd yn byw yn y wlad. Yn ddiddadl fod teimlad pob un sydd yn pleidio rhyddid yn annibynol ar sefyllfa yn cywir gredu fod Prydain heddyw wedi syrthio i amryfusedd. Gallant enill — Bl'e mae'r ymddiriedaeth a fu i Brydain Fawr.

 

 

A close-up of a document

Description automatically generated with low confidence

(delwedd J7622a) (30 Tachwedd 1899)

 

Tarian y Gweithiwr. 30 Tachwedd 1899.

 

LLYTHYRA NEWYDD

GAN FACHAN IFANC.

 

Mishdir y DARIAN, — Ma William y nghendar o Germany wedi dod yma i weld i famgu, a mawr y mwstwr sy yn cal i neid o bothti hyny. Ma lolypops yn gwlad ni yn folon cwnu u heta a gwiddi hwre gyta phob short o royalty, a ma dynon mawr yn papyra dyddiol ni yn pyslo u menydda wrth drio ffindo mas beth yw ei amcan yn dod yma nawr i enjoyo'i hunan pryd ma'i famgu e' a llawar mamgu arall yn Mhrydan Fawr a dicon o waith genti nhw heb feddwl am neid jam tarts iddo fe a'i bartnars. Fe allwn i feddwl yn bod ni wedi teimlo pyls y liwsifier Germanaidd hwn cyn nawr, yn enwetig pryd odd bysnas Doctor Jim yn yn mynd mlan. Fe dwmpws e i'r gola pryd hyny cyn wilia sha'i famgu a ma yr un ysbryd yndo nawr ag odd yr amser hyny, ond fod rhw hen atarn wedi rhoi winc iddo, ac wedi'i gocso fa i ddod am dro yma, cyd y bydd ffyliaid i famgu yn dangos beth alla nhw neid o'r pwr dabs yn y Transfaal. Odd yn rhaid gneid program mwn rhw ffordd idd i gatw yn dawal, a fe hitws yr hen wedjan Vic ar y fery point, sef trw gal ticyn o ganu iddo, a fe alwd moin

 

COR Y NORTH.

 

Dw i ddim yn siwr beth yw yr achos na fuo nhw ddim lan gyta yr hen lady o'r blan, ond w i yn specto ta'r achos u bod nhw yno nawr, yw i bod hi yn meddwl fod cantwrs y De i gyd yn South Affrica yn damshal ar ben yr hen Griwgar druan. Os gen i ddim prwffs o beth w i yn weid nes bo fi yn clywad o'r War Offis, a fe fyswn i wedi clywad cyn nawr ond bai fod y department yn rhy fishi. W i am weid fan hyn nag os gen i ddim jelosy at wyr y North, ond alla i ddim gweid nag os ticyn bach o ddiflasdod wedi mynd rhyngto i a William y nghendar a'i famgu. Os dim un o'r ddou wedi dangos courtesy shag ato i o gwbwl yn y fysnas bresenol. Fe wyddwn i fod William yn dod yma am dro, a fe wyddwn o'r gora pryd odd e' ne rai o'i dylwyth yn dod, fod yr hen fenyw yn ffond iawn o ddangos y toys sydd gen John Bwl iddi nhw i gyd er mwyn iddi nhw gal shawns i weld yn deleit ni yma. Hanar y batl yw diall ffecs, a ma'r hen wraig fel pob hen famgu arall am idd i thylwyth fod yn glyfar, a ma hi yn doti y clients sy gyta i ddangos y dodjis i'r plant, a pwy sy'n gwpod y consicwens? Ma'r hen wedjan yn mynd mwn oetran a dyw i ddim yn cofio fel odd hi yn arfar, onte fe fysa wedi cofio yn ala i moin i, i gwrdd a William yn nghendar yn Windsor, ond falla y mod i yn mynd yn rhy ffast hefyd, wath ma hi yn gwpod nag w i ddim yn ito llawar am y toys rhyfal sy genti nawr, a falla bod hi yn meddwl fod William ne fi yn ddicon i fod yn yr un fan ar yr un pryd, a w i yn meddwl yr un peth hefyd. Ma fe yn cretu fod a fyno Duw a fe a'i dada yn fwy na neb o'n nylwth i, a w i yn ffaelu cydweld a fa, a phan bydd tylwth yn ffaelu cydweld ma hi yn mynd yn alabalw. Ma Morien wedi gweid yn ddicon plaem fod yr hen fenyw a fi yn perthyn trw y Tiwdoriaid, ond w i yn dechra diall fod y tylwth o'r ochor arall yn nes yn i golwg hi. Dyna beth sy yn yn ala i mas o nghof, - os di ni yn perthyn beth ma hi yn pido rhoi welcwm i fi fel y nghendar? Ma fa yn beth o'r gora i bod hi yn ala i moin cantwrs o Gymru a sowdjwrs o

 

 

 

 

A page of a book

AI-generated content may be incorrect.

(delwedd J7622b) (30 Tachwedd 1899)

 

 

Gymru i ganu a ymladd drosti, ond nid dyna'r pwnc. W i isha cal gwbod beth ma nghendar wedi neid drosti ariod. Ma arno i ofan hefyd pryd caiff a shawns ar ol gwpod yr ins a'r owts, bydd a yn profoco cetyn arni hi a nina, wath bachan bidir yw Wil. Wn i ddim yn meddwl aros cyd yn i gwmni fe a'r hen fenyw heddy, ond w i yn gweld fod hyd yn nod yn bechgyn ni sy yn cal u lladd bob dydd, yn ddibwys yn u golwg nhw, a falla ta yr un peth ma nhw yn feddwl am dano i. W i yn folon cwato o'r golwg cyd a ma'r mwrdro yn mynd mlan yn Affrica. Ond pryd w i yn gweld y rhandibw sy yn cal i neid gyta'r ffrwmpyn penchwiban o Germany yn nghenol y sefyllfa brysur i ni ynddo yn awr — y mae yn anyoddefol. Y mae Prydain yn mhob congl yn wylo am ei meibion. Y Celtiaid yw nerth y deyrnas. Hwynt-hwy sydd heddy yn cadw urddas (?) gwroldeb Prydain yn Wyddelod, Ysgotiaid, a Chymry, ac y mae yr ymweliad presenol gan yr Ymherawdwr Germanaidd, a'r croesaw rhagrithiol a roddir iddo yn ddigon i godi cyfog ar yr epaod sydd yn gorfod gwasanaethu o dan ddwrn y gallu anesboniadwy — uwchafiaeth.

DYDD I DDYDD.

Dw i ddim yn collo ariod (ond wrth gwrs w i yn ifanc) am gymant o wilia bothti rhyfal a sy nawr. Ma pob crotyn wedi dod i wpod am yr hanas sydd yn ymddangos yn ddyddiol, mor naturiol a ma fa yn gallu smoco sigarets, a gwed y gwir ma rhai o nhw yn diall yn well na llawar am y consarn. Yr achos o hyny hefyd falla, yw yn bod ni yn gwpod pwy sy yn ymladd, a bod bechgyn i ni gyd, a phob plentyn yn u nabod nhw yn awr yn Affrica. Bechgyn odd yn arfadd byw yn yn ymyl ni, - Bechgyn odd yn cydwitho a ni, a bechgyn sydd a pherthynasa gyta nhw yn ymyl ni, — Bechgyn dewr Cymru!

Er nag o'n i ddim yn napod y bachan, w i wedi bod yn wilia am dano cyn hyn, a ma shew o son am dano heddy, a ta beth odd i ffaeledda fa, ma fa wedi bod yn ddicon o ddyn (?) i farw ar fas y gwad, a os dim dowt nag os gyta fa gyfeillion ar i ol.

 

DAI ST JOHN WEDI EI LADD.

 

Ia, dyna un o'r newyddion diweddaf. Bachgen braf chwech troedfedd a phum' modfedd o hyd, ac yn ddyn cyflawn o gorff wedi syrthio yn Belmont. Drwg fydd gan lawer glywed am hyn fel am bawb ereill, ac y mae yn drueni fod isha arno ni ladd yn gilydd o gwbwl. Dyna ogoniant rhyfel yw lladd, a fysa well gen i bido bod yn fachgen mawr yn lle mynd yn sowdjwr. Dw i ddim yn arfadd brago munan mwn dim, ond w i yn cretu fod gen i le yn awr i weid gair, a tysa Dai pwr ffelo wedi meddwl am hyny fysa fa ddim wedi listo. Os di chi yn cofio Syr, w i wedi gweud o'r blan ta dynon bach yw'r sowdjwrs gora a nhw ddyla fynd mas i ymladd nawr gyta'r Boer, wath ma'r Boers yn pico'r officars a'r dynon mawr mas i gyd.

 

Falla fod yn well i fi weid y pishin netho i a'r bachan sy'n labro'r nos ar y testyn trw fod peth wedi dod i ddangos ta ni sydd yn gweid y gwir. Achos fod Dafydd wedi cwmpo w i yn gweid y pishin, falla ych bod chi yn i gofio fa -

 

Ma Twm wedi joino'r Malisha

Ma'n un o'r rhai smarta'n y byd,

Os mesurwch chi fe yn i scitcha, Mae'n bump a thair modfedd o hyd

Yn awr y mae Twm yn ddyogel

Dan faner yr hen Ynys Wen,

Nis gellir ei ladd yn y rhyfel,

Fe a'r bwlets i gyd dros ei ben.

 

Ma Twm wedi joino'r Malisha,

Odd y Sarjant yn gweid wrtho i,

Ta tyna shwd ddynon sy isha

I gadw'n Llywodraeth mwn bri;

Fod dynon mawr tal megys targets

O flan y gelynion bob pryd,

Ond fod dynon bach megys popets

Yn cwato o'r danjar i gyd.

 

Os gyta ni ddim ond gobeitho daw pen i'r rhyfel ar fyr, wath os dim un newydd yn dod oddyno sy yn llawar o gysur i neb er fod banar Prydan ar ei thaith i Pretoria.

 

 

A close-up of a page

AI-generated content may be incorrect.

(delwedd L1010a) (07 Rhagfyr 1899)

 
Tarian y Gweithiwr.
7 Rhagfyr 1899.

LLYTHYRA NEWYDD.

Gan Fachan Ifanc.

MISHDIR Y DARIAN, —

Gallwch chi yn stwffo i i rhw gornal lle nag os dim son am rhyfal? W i yn arfadd cymryd testyn newydd mor amal a sy bosib, ond yn awr dim ond son am fwtshera sy idd i glywad yn mhob man. Ma hyd y nod y Ffwtbol leni yn gorffod mynd o'r golwg, yn storm fawr y tywallt gwad. Ma yn rhaid i fi atal politics y rhyfal yn awr nes daw y lecshwn nesa mlan, wath os dim amser gyta neb i wilia am achos a rheswm yn awr.

 

Beth licwn i wpod tysa amsar yn caniatau, beth ma nhw yn moin lladd u gilydd? Dw i ddim yn cretu fod y bechgyn sy wedi mynd mas orwtho ni yn Nghymru yn gwpod dim rhacor na'u bod nhw yn gorffod mynd mas, a ma'r “rhai sydd dda ganddynt rhyfal” yn gwiddi hip! hip! hwre gyta nhw. Ma'r reports sy yn dod o fas y gwad yn ddicon i ddangos nad os dim drwg deimlad yn bodoli rhwng y sowdjwrs a'u gilydd, ond u bod nhw am neid u diwty fel sowdjwrs, dim ond cal y Sarjant ne rhw Offisar arall i weid - weiar in. Pidwch chi meddwl, syr, achos y mod I yn wilia dros heddwch nag os dim plyc yndo i, a os byddwch chi yn yn teimlo ar ych calon i ddod i gwrdd a fi a bob o bistol, gwetwch chi, i fi gal gwpod mwn pryd, i fi gal dod a bandejies i ddoti ar y clwyf, fel ma sowdjwrs y Transfaal yn gneid yn awr. Ma nhw yn saethu u gilydd ac yn stabo'i gilydd, a dyna sy yn od ma nhw yn barod i helpu u gilydd wetin, a rhwpath felna sy yn ala i i gretu nag os dim drwg deimlad rhyngti nhw a'u gilydd, ond fod y spalpeens llywodraethol yn u pico nhw Ian a gweid “gwd dog” wthi nhw, am neid beth ddyla nhw neid u hunen nes w i wedi mynd mwn ysbryd i weddio – “O Dduw! pw bryd daw dynon yn gallach?” Ma

 

“Splendid Victory - Galant Action” &c., yn swnio yn neis wrth ddarllan y papyra, ond ble ma'r instigators sy yn achosi y pethau hyn? Ni fu rhyfel erioed a'r gwir achos o honi yn cael ei gadw yn fwy y tu cefn. Y mae ein miloedd meibion o deyrnas Prydain heddyw yn colli, neu i golli eu gwaed, nas gwyddant hwy na'r rhai sydd yn wylo ac yn hiraethu am danynt, am beth. “Amddiffyn ein Brentiines,” meddai rhywun -digon da. W i gystal trwmpyn a neb iddi, a os nag yw hi yn teimlo i bod hi yn saff w i yn cretu caiff hi le gyta chi mwn rhw gwtsh yn Offis y DARIAN, na ddaw Krugar na neb o'r gang yn acos ati, wath hen fenyw nobl yw'r hen wedjan, a dw i ddim yn cretu fod isha iddi fecso am gal lodgings. Fe gesa le gyta fi yn gwmws, ond fod y fenyw lle w i yn lodjo dicyn bach yn jelws wrthi a[c]hos i bod hi a fi yn gneid cymanfa o dransactshons a'n gilydd. Ta beth fydd y resylt fe ffinda i le iddi gwpla i dyddia mwn heddwch heb isha ala milodd i golli u bywyta drosti mas yn Affrica. I chi yn gwpod am y fflag sy yn gweid – “For our Queen and Country,' a ta hono sy yn stimulato yn bechgyn ni yn awr yn y rhyfal hon. Wel, dyma fi yn folanteero i gymryd gofal o'r “Cween” ac am “Our Country,' ac fe fentra na ddaw Krugar na neb arall i'n poeni ni yn 'Dolig hyn na'r nesa. Ma “Our Cween” yn gweid i bod hi yn becso yn ddychrynllyd am yn sowdjwrs ni a'u gwracadd a'u plant. Dw i ddim yn dowto hyny o gwbwl, wath ma hi yn ddicon call i wpod nag os dim isha gneid cymant o ffys o bothti hi, a bysa yn well genti tysa pob path (sic) [popath / pob peth] yn dawal iddi gal cwpla'i dyddia mwn heddwch, ond ma briged o deni isha cal streips cyn iddi groeshi i lywodraethu (?) – “Tu hwnt i'r llen. “                                                                                         

 

 

 

A close-up of a document

AI-generated content may be incorrect.

(delwedd L1010b) (07 Rhagfyr 1899)

 

TAIR GlNOG Y BUNT.

 

Ma shew o ddishgwl wedi bod ar brish y glo yn Cardydd, beth fysa y cwnad i'r gwithwrs? Ma'r odit wedi cal i gyhoeddi, ac er na fu y fasnach yn dishgwl cystal bron yn nghof neb, ma'r odit yn gweid ta dim ond tair cinog y bunt sy yn dod i'r gwithwrs. Dw i ddim yn Redy Recnar fel gwddoch chi, a os gen i ddim un cownt i roi i egluro ffordd ma pethach yn bod mwn cysylltiad a hyn. Fe welas tod un o'r ledars yn gweid ta mish Mehefin nesa, bysa y teid yn dod idd i Ie. Ma dishgwl yn mlan am gwpwl o fishodd yn dicyn o gysur os dim dowt, ond w i yn yn ffordd dwp y munan yn cretu dylsa'r ledars ne rhwrai erill roi mwy o satisffactsh n ffordd (sic) [yn y ffordd] ma pethach yn gwitho rownd. Dw i ddim yn ama dim am allu neb o'r cynrychiolwyr, ond ma nhw yn gwpod gystal a fi, ne rhywun arall fod y cyffredinolrwydd o'r dosbarth gweithiol, yn awyddus bob amsar i gal pob peth abyf bord, a w i wedi clywad, fel ma nhwnta yn ddicon tebig, nag yw'r sleido lan ddim mor wyllt a'r sleido lawr.

 

Beth w i yn pwynto ato yw hyn. Fe ddyla rhai o'r boys sy yn cymryd y led mwn cyrdda cyhoeddus ecspleino i'r cyfangorff o weithwyr ffordd ma pethach yn sefyll. W i a chitha yn gwpod fod canodd o fechgyn y pylla glo yn diall ffigwrs yn weddol iawn, a falla fod rhai o nhw sy yn gwishgo crafat a chap, bob amsar, ond mwn amgylchiada neillduol, yn diall desimals a fylgar ffracshons, &c. Ond ma llu mawr nag os dim ond yr odit yn cal u sylw nhw, a pryd bydd hwnw yn cal i gyhoeddi, a swn mawr bob dydd fod y glo yn cwnu, ma fa yn naturiol u bod nhw mwn syspens a thyna yr achos y mod i yn gweid dyla comittee y gwaith ffindo rhw ffordd i ddoti y rhai hyn yn barod i dderbyn resylts y fasnach, a fysa hyny yn sparo shew o gleper wast, os yw y Scel yn scelo yn iawn. W i yn Iwo nag w i ddim yn diall llawar am deni, ne fe wetwn i mwn bothti wincad shwd ma pethach yn bod, a falla i fod yn dda nag w i ddim yn gwpod llawar, wath w i wedi mynd mor barod i weid y blwmin lot wrthoch chi a'r darllenwrs, ond gobeitho nag w i ddim yn gweid dim byd ond beth sy'n iawn. Fe fydda yn dda gen i weld rhwun yn cymryd at y jobin o ddeffeino dirgelwch ne ddirgeledigaetha gweithfaol yn y DARIAN. Ma digon o fechgyn ifanc heb fi yn y cymydd glofaol sy yn lico wilia am sefyllfa masnach lofaol y dyddia presenol, a fe wn i o’r gora fod drws y DARIAN yn agored led y pen iddi nhw weid u barn yn deg a digochl, a fe fyddant wrth hyny yn gwneid lles i'w cydwithwrs ac yn arfadd d (sic) [u] hunen i wella cymdeithas, a fe fyddo yn well gen i fod yn recriwtin serjant i listo bechgyn ifanc Cymru i ymladd am iawnderau eu hunen a'u cydwladwyr trwy arfer yr ysgrifbin a wasg na'r cleddyf a'r fagnel.

 

 

 

A close-up of a paper

AI-generated content may be incorrect.

(delwedd J7823a) (14 Rhagfyr 1899)

Tarian y Gweithiwr. 14 Rhagfyr 1899.

LLYTHYRA NEWYDD.

Gan Fachan Ifanc.

MISHDIR Y DARIAN, —

Rhw dacla rhyfadd i chi, gwyr y papyra ma, os dim tamad yn y byd o ddal arnoch chi. I chi yn neido o un peth i'r llall fel gwiwerod o bren i bren, i drio cal cneuan lle gallwch chi. Os bydd bachan ifanc ne ferch ifanc yn dicwdd gneud tro lletwith, i chi yn doti ych fflags mas idd u ecsposo nhw mwn bothti wincad. Ma difors cesis, a breetsh o promis, a rhw betha felni amball waith yn cal y lle gora sy gyta chi yn ffenast y shop. Os na fydd dim o'r lein yna. yn dicwdd troi, fe drowch mor wimwth a winciod wetin, fel tysa chi yn gwitho day by day contract i weid y cwbwl am y fasnach lo, &c.. ac os bydd streic yn dicwdd yn rhwla fe fydd telegrams orwth y ledars o bob ochor yn cal y lle blaena sy yn perthyn i'r offis, a tysa rhw ganon mawr o ddyn fel fi ne'r Prins o Wales yn dicwdd marw, fe fyddwch yn doti mwrnin leins rownd in henwa ni, a cholofna o'n hanas a'n rhinwedda ni (Duw a'n helpo). Ond i fynd yn mlan, ys gwetws y ---: os bydd membar o'r House o Comons wedi gwneid speetsh yn Cwmnantyfegin, fe fyddwch wetin yn iwlojeiso hwnw ac yn i ddoti a yn y ffront ranc tel poletishan fydd yn depig o ddod yn i ddydd i dowli blancad annghof ar goffadwriath hen deulu y mynedol, mearys Peel, Palmerston, Cobden, Bright, Dizraeli, Churchill, William Morris, Gladstone, &c., &c.

 

Fe neidwch o fana yto i son am fatls rhwng Corbett a Sylafan neu Twm Brwm a Jack Sprows, a fe ddewch 'nol o'r rownds i gyd mor hapus a'r dydd at

 

Y NEWYDDION DIWEDDARAF.

 

Dyma chi nawr, os dim shawns i weid dim am y rhyfal, a fe fentra i beth wetwch chi, ‘donc,' tysa chi mas yn lle ma'r anibendod yn awr, na fysa dim IIawar o want spowto o bothti ych dignity yndo chi, a'r peth calla allwn i feddwi fysa i’r recrewtin Sarjants neid i chi fel Editars a Reportars a Phrintars, a'r blwmin briged lawr at dd--l y wasg, i listo a mynd a chi mas i'r ffrynt i winto'r tan a thasto'r plwm, er mwyn i chi fod yn bractical yn y jobin sy gyta chi mwn llaw, i weid wrth ddynon erill ffordd ma pethach yn myn'd mlan yn South Affrica. Dishgwlwch chi ych hunan shwd fantash fydd gyta chi i wilia ar ol i chi ddod nol, a os na ddewch chi nol, alwch i weid wrtho i ffor cesoch chi'ch lladd, a fydd a fawr o drwpwl gen i a'r bachan sy'n labro'r nos i neid

 

 

A close-up of a document

AI-generated content may be incorrect.

(delwedd J7823b) (14 Rhagfyr 1899)

penill ne englyn ar ych hol chi, a fe fydd hyny gystal bob tamad ar ol i chi fynd a tysa chi wedi cal y Victoria Cross. Fe wddwch chi ta'n amcan pena i bob amsar yw ych doti chi ar y ffordd reit, a os na newch chi fel w i yn gweid, nid arno i fydd y bai, a fel ma hi wedi dicwdd, dw i ddim yn cofio fod bai wedi bod arno i ariod mwn dim yn ol pob cownt sy gen i am dano i y munan.

Ar ol bod yn wilia felna, fel ma pawb yn wilia nawr, w i am ddod a ch[i] yn nes i dre yto. Dw i ddim yn llawar o scolar fel i chi yn gwpod, a dw i ddim yn diall syms bach fel desimals, na wedi mentro ariod i

‘Binaclau ban Iwclid,'

ond w i am ddoti sym fach o'ch blan chi fel ma'r scwlmasters yn ddoti o flan y plant i fynd gyta nhw sha thre i neid yn y nos ar ol cwpla wara, a dewch chi a'r cownt miwn i fi yn y DARIAN nesa fel Home Lessons-,

CYFRIFWCH (MULTIPLY)

20,000,000 (?) — o Bunoedd

5,000 yn glwyfedigion a lladdedig - o bob ochr

3,000 o weddwon ac amddifaid.

5,000 o dadau a mamau unig ar ol eu hanwyliaid.

300,000,000 o bryderon.

900,000,000.000 o ocheneidiau.

190,000,000,000,000 000,000.

Gwahanol items nac sydd wedi dod yn gyflawn i'r golwg eto, a falla na ddwa nhw byth i'r golwg; ond fe allwn fentra doti lawr

990,000,000,000,000,000,000, &c.

-

Wrth ych bod chi yn trio neid y sym lan pidwch ito am gownto y felly yn y blan (&c.) sy gyta fi ar y diwadd - fe allwch atal hwnw nes bo hi ar ol yn Dolig, i chi gal holidays i stydio, wath dw i ddim yn moin doti gormod ar natur wan, achos ma gormod o hyny wedi bod yn barod.

Nawr at y dechra. I chi yn gwpod ta dechra y mwstwr odd fod isha rhoi fots i'r rhai odd yn mynd ar y tramp oddyma i'r wlad lle ma'r rhyfal yn awr, ond wrth gwrs ar ol dechra [t]reio ma un gair yn tynu'r nall nes na wyr neb beth fydd yr achos yn y diwadd. Yr un shwt mae yn yr achos hyn yn awr. Gora pw gyntad y bydd i ni scwaro pethach yno.

 

 

A close up of a paper

AI-generated content may be incorrect.

(delwedd L0972) (21 Rhagfyr 1899)

 

Tarian y Gweithiwr. 24 Rhagfyr 1899.

LLYTHYRA NEWYDD.

Gan Fachan Ifanc.

MISHDIR Y DARIAN, —

Welas i ddim gwell -is-wns ariodi chi a fi ddangos beth allwn [ni??] neid na nawr. Ma trefan rhagluniath ti dod o'n hochor ni yn y pwynt hyn ta beth. Dim ond dou odd o'n blan ni i fynd i setlo petha yn South Affrica, sef

 

Lord Roberts a Lord Kartoum.

 

a ma nhw ych dou wedi cal u galw lan i gymryd y led i fynd i Pretoria, yn lle y rhai sy wedi ffaelu starto, a thrw fod yr offisars ne'r gaffars, ne'r mishdirs sy wedi mynd mas gynta wedi ffaelu gneid dim ond blyndars, w I yn dishgwl ar yr wl consarn yr un peth a Doctor Jim ysgetyn yn ol. Yn awr i ni yn cal y pictwr gora o ffolinab y cwpwl othorotis hyny yn meddwl darostwng gweriniaeth o dan draed eu mympwy clwbyddol hwy. Os dim dowt nag odd Rhodes a Doctor Jim yn diall beth o nhw yn neid, a ma nhw wedi llwyddo yn u hamcan trwy fod pawenau cathod gyda nhw wth law. Ble ma nhw yn awr, pryd ma dicon o amiwnishon, a dicon o bob short o gefnogath yn u hymyl nhw? Y nhw ddyla fod y rhai cynta i fartsho mas u (sic) [i] ddangos shwd blyc sy yndi nhw, yn lle fod y Gyfarmant yn ala dynon odd yn arfadd tori glo, a gwitho yn mhob short o ffordd i gryfhau y Dyrnas, a gatal u tada a'u mama ar ol, u (sic) [i] gal rhw -

 

“Apsent Minded Beggars”

 

 i ofalu am danynt, a nhwnta uwchben eu digon yn boleitho mewn digonedd. Falla caf i fwlat am wilia fel hyn, ddim yn llawar o bwys, — ond falla bydd y bwlat yn pwyso ar yn stymog i, no rhw bart arall o'r composishon sy yn gneld bachan o hono I, wath os dim dal o ble ma bwlats yn dod na ble bydda nhw yn dishgyn, ond fe licwn i yn y nghalon gal y ringledars o'r Jameson's Raid yn y ffrynt yn awr. W i wedi clywad fod Rhodes yn rhoi Bancwets a Balls iddi bartnars yn y cornal ma fe yn cwato, a os pidwch chi weid yn ychal yn y DARIAN beth w i yn weid wthoch chi, fe weta i yn nheimlad - fe licwn i roi Ball iddo fe, ne rhw un arall i neid hyny, achos ma llawar wedi cal beth ddyla fe a'i git gal, odd yn ddicon diniwed fel chi a fina. Falla ta un o'r lesins gora ma Jingoiaid wedi gal ariod yw hon, a ma yr -

 

“Apsect Minded Beggars”

 

sy yn cymryd arni nhw i'n gneid ni yn orchfygwyr wedi cal prawf fod rhw-

 

“Present Minded"

 

y tu hwnt i'r llen rhwla. Dyna fel w i wedi ych doti chi ar y watsh ar y dechra i fod yn barod i fynd i amddiffyn yn dignity ni, wath os caiff Lord Robarts a Lord Kartoum u referso yto fydd dim dou arall ond chi a fi yn ffit i ledo y fyddin Brydeinig, a chaiff Wmffra Huws (pob parch) ddim shawns i gario'r fflag Ymherodrol i Pretoria y ganrif hon, ta beth am ddiwadd y ganrif nesa, os cewn ni fyw. Fe gewn weld yr amsar hyny shwd bydd pethach yn dishgwl —

 

O fryniau Dopperaidd De Affrig,

Cawn weld yr olygfa i gyd;

A'r Kopje, a'r Berg, y pryd hwnw

Fel heddyw'n dal sylw y byd.

Bydd Prydain yn gorwedd yn deilchion

Yn dawel mewn Kloof bach dinod,

A neb ddim yn gwybod am dani,

Na gwybod ei bod wedi bod,

Os na fydd rhw Gadrawd gan Morien

Yn gwneud hanesyddiaeth yn Nek,

A dwyn rhyw gysylltiad diorphen

Rhwng rheswm, a ffaith, ne rhw glec;

Ma amser i ddod cyn can' mlynadd,:

O getyn — os cretwch chi fi,

Ma Dyfed yn gweid nerth i berfedd

Fod dod i ‘hen wlad y dyd (sic) [byd??] du.’

 

Dymunwn Nadolig llawen i’n holl ddarllenwyr gartref ac oddicartref.

 

 

Sumbolau:

a A / æ Æ / e E / ɛ Ɛ / i I / o O / u U / w W / y Y /
MACRON
ː ā Ā / ǣ Ǣ / ē Ē / ɛ̄ Ɛ̄ / ī Ī / ō Ō / ū Ū / w̄ W̄ / ȳ Ȳ /
MACRON + ACEN DDYRCHAFEDIG
ː Ā̀ ā̀ , , Ī́ ī́ , , Ū́ ū́, (w), Ȳ́ ȳ́
MACRON + ACEN DDISGYNEDIG
ː Ǟ ǟ , , Ī̀ ī̀, , Ū̀ ū̀, (w), Ȳ̀ ȳ̀
MACRON ISOD
ː A̱ a̱ , E̱ e̱ , I̱ i̱ , O̱ o̱, U̱ u̱, (w), Y̱ y̱
BREF
ː ă Ă / ĕ Ĕ / ĭ Ĭ / ŏ Ŏ / ŭ Ŭ / B5236ː  B5237ː B5237_ash-a-bref
BREF GWRTHDRO ISOD
ː i̯, u̯
CROMFACHAU
ː ⟨ ⟩ deiamwnt
A’I PHEN I LAWR
ː , ә, ɐ (u+0250) httpsː //text-symbols.com/upside-down/
Y WENHWYSWEG: ɛ̄ 
ǣ æ

ˈ ɑ ɑˑ aˑ aː / æ æː / e eˑeː / ɛ ɛː / ɪ iˑ iː ɪ / ɔ oˑ oː / ʊ uˑ uː ʊ / ə / ʌ /
 ẅ Ẅ / ẃ Ẃ / ẁ Ẁ / ŵ Ŵ /
 ŷ Ŷ / ỳ Ỳ / y Ý /
ɥ
ˈ ð ɬ ŋ ʃ ʧ θ ʒ ʤ / aɪ ɔɪ əɪ uɪ ɪʊ aʊ ɛʊ ɔʊ əʊ / £
ә
ʌ ẃ ă ĕ ĭ ŏ ŭ ẅ ẃ ẁ Ẁ ŵ ŷ ỳ Ỳ Hungarumlautː A̋ a̋

U+1EA0 Ạ U+1EA1 ạ
U+1EB8 Ẹ U+1EB9 ẹ
U+1ECA Ị U+1ECB ị
U+1ECC Ọ U+1ECD ọ
U+1EE4 Ụ U+1EE5 ụ
U+1E88 
U+1E89 
U+1EF4 Ỵ U+1EF5 ỵ
g
w_gytseiniol_050908yn 0399j_i_gytseiniol_050908aaith δ δ £ gw_gytseiniol_050908yn 0399j_i_gytseiniol_050908aaith δ δ £ U+2020 †
« »

 DAGGER
wikipedia, scriptsource. org
https
ː []//en.wiktionary.org/wiki/ǣ

 Hwngarwmlawtː A̋ a̋
g
w_gytseiniol_050908yn 0399j_i_gytseiniol_050908aaith δ δ
 …..
…..
ʌ ag acen ddyrchafedig / ʌ with acute accentː ʌ́

Ə́ ə́

Shwa ag acen ddyrchafedig / Schwa with acute

…..
…..
wikipedia,
scriptsource.[]org
https
ː//[ ]en.wiktionary.org/wiki/ǣ

---------------------------------------
Y TUDALEN HWN: www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_153_llythyra-newydd_1899_tarian-y-gweithiwr_3824k.htm
---------------------------------------
Creuwyd: 23-05-2024
Adolygiad diweddaraf: 23-05-2024
Delweddau:

Ffynhonell: archive.org
---------------------------------------

Freefind.
---
Archwiliwch y wefan hon
Cerqueu aquest web
SEARCH THIS WEBSITE
---
Adeiladwaith y wefan
Estructura del web

SITE STRUCTURE
---
Beth sydd yn newydd?
Que hi ha de nou?
WHAT’S NEW?


Ble'r wyf i? Yr ych chi'n ymweld ag un o dudalennau'r Wefan CYMRU-CATALONIA
On sóc? 
Esteu visitant una pagina de la Web CYMRU-CATALONIA (= Gal·les-Catalunya)
Where am I? 
You are visiting a page from the CYMRU-CATALONIA (= Wales-Catalonia) Website
Weə-r äm ai? Yuu äa-r viziting ə peij fröm dhə CYMRU-CATALONIA (= Weilz-Katəlóuniə) Websait

StatCounter - Free Web Tracker and Counterhit counter script

Edrychwch ar fy Ystadegau / Mireu les estadístiques / View My Stats