kimkat0189k Shop Dafydd y Crydd

06-06-2017

● kimkat0001 Home Page / Yr Hafan
www.kimkat.org
● ● kimkat1864e Gateway to this Website in English / Y Fynedfa Saesneg www.kimkat.org/amryw/1_gwefan/gwefan_arweinlen_2003e.htm
● ● ● kimkat0997e Index to texts in Welsh in this website / Mynegai ir testunau Cymraeg yn y wefan hon www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_mynegai_0977e.htm
● ● ● ● kimkat0189k Y tudalen hwn

 

0003g_delw_baneri_cymru_catalonia_050111
(delw 0003)

 

 

 

 

 

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Gal
les i Catalunya
The Wales-Catalonia Website

Siop Dafydd y Crydd.

Y Darian.


Y Llyfr Ymwelwyr / El Llibre de Visitants / The Guestbook:

http://pub5.bravenet.com/guestbook/391211408/


a-7000_kimkat1356k

Beth syn newydd?

6665_map_cymru_catalonia_llanffynhonwen_chirbury_070404

(delw 4665)

 

 

27 Mai 1915

1 Gorffennaf 1915

15 Gorffennaf 1915

30 Medi 1915

8 Mehefin 1916

29 Mawrth 1917

 

 

 

 

None

(delwedd 5493)

 

27 Mai 1915. Y Darian.

 

Shop Dafydd y Crydd.

 

Mishtir Gol, -

 

Tro sobor odd shinco'r Lusitania, ag na gwad pob dyn sy heb droi'n Lagar Bier yn bownd o ferwi yn'i wythenna. Nid ymladd yw peth fel hyn, ond cythreuldab rhonc yn gneyd sport o fywyd y diniwad. A dyma'r dynon sy'n moyn bod yn ben ar y byd. Dyn helpo'r byd weta i. Fe glwas wed fod anrhydadd ymhlith llatron, ond ma'n ddicon plain nag yw'r Caisar a'i dylwth yn gwpod dim am dano. Ma nhw'n brago llawar ar eu talant a'u sifiliseshon, ond dos dim isha llawar o hynny i fwrdro gwracadd a phlant ar dir a mor. Pwy ddrwg ma rheiny wedi neyd druen bach? Rwyn cofio Jones y ffeirad yn pyrgethu ar Pharo a Herod, ag yn gwed fod pawb yn poeri ar'u henwa nhw byth ar ol hynny. Dyw'r Germans ddim wedi cwni fodfadd yn uwch na rheiny, ag fe welas gownt gen un reportar'u bod nhw'n gneyd tarcat o rai wedi'u wowndo ar y mas, ag yn seithu plant fel gwningod! Caton pawb! Glywsoch chi ariod o'r blan am shwd sifilieshon? Fysa fa'n un syndod gweld yr holl fyd yn cwni fel un gwr, ag yn lladd pob German sy'n gwishgo'r enw, ag ma'n depig fod hynny wedi

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

None

(delwedd 5494)

 

dechra mwn rhai parta ishws. Dyw hynny ddim yn iawn, ond anodd mwn pang gwyllt yw catw dial o dan law. Beth ma Merica yn mynd i neyd? Oti chi'n meddwl y gall hi ishta lawr yn dawal, a gweld gwracadd a phlant y wlad yn calu boddi fel llycod? Falla fod y dyn sy'n acto fel brenin yno yn teimlo'i fod a mwn lle cynnil, oblecid ma bron cyrhint o Germans yn Merica ag sy'n Iwrop, a mwy yn Shicago nag sy'n Berlin. Ond fe ddyla neyd yr hyn sy'n reit ta'r byd yn mynd yn racs. Ma'n depig fod y'n gwyr ni sy'n gofalu am y mor yn dyall'u gwaith, ag yn'i neyd a yn y ffordd ora, ond i ddynon cyffretin fel y mhunan, ma'n etrych yn od fod y'n llonga rhyfal mor ddishtaw, ond y cwpwl sy'n lladd Twrcis ar lanna'r Dardanels. Ma Ffleet Germani'n saff, a'i sybmarins yn hala'n llonga ni i'r gweilod wrth y dyseni. Ma hyn yn depig i blisman yn watsho drws y ffrynt, a llatron yn cael hewl rydd i robo'r ty trw ddrws y bac. Ma mor anodd dala sybmarins a dala pysgod heb rwyd, ond fe fysa'n dda gen i glwad mwy o son am Loigar yn'u pysgota nhw. Ble ma'n sybmarins ni? Ma gyta ni garn o honyn nhw, llawar mwy na sy gen Germani. Oti a'n bosib i betha fel hyn i ymladd o dan y dwr, fel llonga mawr ar y wynab? Fe alla dyn feddwl taw plan Germani yw tori crib Lloigar a'i sybmarins, a thorri. ei gwddwg wetyn a'i llonga mawr sy'n cal'u catw o'r golwg. Fe wydda'r Admiralty fod y gelyn ar'i watsh am y Lusitania. A odd hi ddim yn bosib hala ffleet o sybmarins yno i gatw'r cwrs yn glir ? Dw i ddim yn dyall llawar am betha fel hyn, ond felna ma meddwl i'n rhytag. Peth od iawn na ba'n sybmarins ni yn gallu clirio'r Channal, yn lle gatal i'r gelyn neyd fel y myn a. Fel y gwetas i o'r blan, nonsans yw galw shinco llonga yn "Ffiasco." Dyna lysenw un o'r papra Sysnag ar Blocd. Falla fydd a ddim mor ddwl a choeddi shwd ffwlbri yto ar ol colli'r Lusitania.

 

Holo! Eryr Pen-Pych. Shwd i chi heno? Dewch miwn. Ro'wn i bron mynd i gretu y'ch bod chi wedi joino'r Army. Fuoch chi ddim yma ys wthnosa.

 

 

 

 

None

(delwedd 5495)

Na, dw, i ddim wedi joino yto, ond rwy'n ddicon parod y dyddia hyn. Wyddoch chi beth, ma'r Germans na'n haeddu cal'u seithu bob jac, a'u towlu'n fwyd i gwn. Ma mwy o ddynoliath mwn blaidd o'r cod na sy yn y rhain. Dyna fel w i'n teimlo pun a reit ne rong yw hynny. Ma busnas y Lusitania yn ddicon i droi pob dyn yn y wlad yn showdwr. Rodd cendar i'r wraig yco yn injiner arni, a dos dim son am dano. Dos dim dowt nag yw a yn y gweilod, os na chas a'i ladd wrth'i bost. Ma tri o blant bach ar'i ol, a'r wraig bron colli ei sensis. Fe fuo i'n ffeilu cysgu am dair noswath ar ol darllin yr hanas, ag fe netho gwpwl o englynion i drychinab y. Lusitania. Falla coeddwch chi nhw yn y Darian.

 

Joiniwyd a llu Gehena, - ar y don,

Gan wyr dig Germania;

Bedd ingfawr heb ddiangfa, - ar for gaid

Ar law Sataniaid i'r Lusitania.

Bu ymarhous submarine, - o Abred

Ar ei llwybrau cyfrin;

A'r garwaf ystryw gerwin

Ym merw'r mor ar ei min.

Trap adyn yw'r torpedo, - neu gethrin

Gythraul yn ymguddio;

Un edwyn dan ydyw o,

A'i freuddwyd am lofruddio.

 

Gollyngodd gallu angau - fellt i'r llif,

Holltai'r llong yn ddarnau;

O wydd byd, a hedd y bau, Agennodd i'r eigionau.

 

Yr ymyrrwr tramorawl,- dyn y byd

Yn ei ben ymchwyddawl;

Rhyw garn-lofrudd anfuddiawl

Ar dir a dwr ydyw'r d--l.

 

Moedro mae dir a mor, - a byw'n ben

Heb barch i egwyddor;

Heb aros dim, brysied Ior,

I roi William ar elor.

 

DAFYDD Y CRYDD.

 

...

 

 

 


None
(delwedd 5482)

Y Darian

1 Gorffennaf 1915

 

Shop Dafydd y Crydd.

 

Mishtir Gol., Dos gen i ddim amsar i ymdopu gyta'r cyw cloff yna o Gwmparc. Mae a'n fwy ffit i'r Seilam nag own i wedi meddwl, ac yn fwy cloff yn i dop nag yn i weilod. Gyta llaw, gwell iddo ddod i moyn y pishyn trowsis sy'n sownd wrth y fainc ma. Fe all fod yn handy iddo fe, os gall a'i gal a'n rhydd. Cyngor Wil Smith neithwr odd rhoi notyn yn y papra Sysnag fel hyn "The remains of a tramp. If not claimed within three days will be sold to defray expenses. Ond fe fydda hynny'n fwy o gost na ffrofit [sic; = phroffit], oblecid dyw'r clymercyn a'i ddillad ddim yn werth grot. Rwy'n cofio clwad am Shon Waun Adda odd yn byw'n acos

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 


None
(delwedd 5483)

i'r Cymar, ag yn cario'r post trw'r cwm cyn bod son am railway yn uwch na'r Ddinas. Gan fod gytag a lawar o waith cerad, fe brynws gart a mwlsyn, ag fel dyn piwr, rodd a'n cario pob math o drimins dros ddynon erill yn y cart bach, nes odd a'n depig i'r llenllan welws Pedr. Fe gwrddws a thramp un diwarnod, a mynta hwnnw, "Oti chi'n cario racs Shon?" "Otw, neida miwn," mynta Shon. Dro arall fe gwrddws ag e wetyn, ag fe ofynws yr un cwestiwn, "Oti chi'n cario racs heddy?" I "Ddim pob short, catw di draw, mynta Shon. "Fe glwas taw cendar i fachan cloff Cwmparc odd hwnw, a bod y tylwth yn byw ar yr hewl o genhedlath i genhedlath.

 

Rwy i wedi cwrdd a llawar o dramps o bryd i bryd, ond dyma'r un mwya twp a welas i ariod, ag mae a'n gwed petha mor ddiddal a'r reports sy'n dod o fas y rhyfal. Falla taw awan barod sy'n cownto am hynny. Meddylwch am y dyn - becan pardwn, tramp ddylswn i wed. Ma cymint o waniath rhwng dyn a thramp ag sy rhwng gwr byneddig a bwpach brain. Ond meddylwch am dano'n gwed fod Alis wedi mynd i'r ffrynt. Ma'n depig iddo glwad fod rhw Allies yn ymladd a'r Germans, a dyw a ddim yn gwpod y gwaniath rhwng Allies ag Alis merch Shan. A dyma'r bachan sy'n son am "anwybotath dynon sy wedi darllin mwy o lyfra na welws e o stars trwy'i delescop. Y gwir ag e yw ma Alis yn nhre gyta'i mam, ag yn caru'n dy^n [sic: = tn] a bachan bach smart o Graig Trewyddfa. Fe gwelas nhw mhunan fraich-yn-mraich yn sefyll o flan jiwelar shop. Beth yw'r clasgad, barnwch. chi. Dyw Alis ddim mor sofft a dilyn tramp wedi colli haner'i drowsis. Ma'i mam a fina'n hen ffrindia odd'ar pan own i'n byw yn Llangyfelach. Fe all fentro fod y crydd yn gwpod mwy na mae e ariod wedi feddwl. Fe ddath Eryr Pen Pych yma'r nos o'r blan a whech englyn i'r tramp yn i ddagra, ond dyw Brynfab ddim yn folon i fi goeddi llawar o betha fel hyn, am u bod nhw n rhoi'i golofn e yn y shd. Fe gaiff y tramp lonydd nawr, dim ond iddo ddala'i dafod, a pheido blagardo dynion sy'n treio gwella'r byd.

 

 

 

 

 

 


None
(delwedd 5484)

 

Y mae y rhyfal yn mynd yn sobrach bob dydd, a hard leins yw i Loigar orfod ymladd heb amiwnishon. Er fod Allies (nid Alis) yn dala'u tir, dos dim dowt nag i'n nhw wedi cal y gweitha hyd yn hyn. Ma nhw'n adfanso bob dydd, ond yn mhellach yn ol nawr nag o'n nhw whech mish yn ol. Peth dicon digalon yw clwad son am streics ar amsar fel hyn. Fe ddyla'r Gyfarment neyd i bob gweithiwr sy'n streico fynd i'r ffrynt dder and dden. Pwy sens yw dod mas a'r twls a rhoi montish i'r gelyn i infedo'r wlad? Ma'r Rwshans yn cilo yn shangdifang yn ol i'w gwlad, ag wedi colli'r cwbwl o nhw wedi enill o'r dechra. Rodd llawar o son wyth mish yn ol am y Stm Rolar odd yn mynd yn streit i Berlin, ond mae a mor bell odd'no nawr ag y bu a ariod, a rhaid iddo gwnu llawar mwy o stm cyn daw a mlan yto. Gwetwch chi fynoch chi ma petha'n etrych yn ddicon digalon, a dwli yw peido etrych ar bethaa [sic; = betha] yn u gwynab. Nonsens yw brago, a gwed y'n bod ni'n lladd mwy nag i ni'n golli. Ma hynny'n dishgwl yn iawn ar bapur, ond faint o wir sy ynddo sy beth arall. Y danjar yn awr ar ol tarfu'r Rwshans yn ol yw i'r Germans ddod lawr wrth y milyna i'r ochor hyn, a'n tarfu nina a'r Ffrancod o'u blan i Baris fel y gnetho nhw yn Mons. Ma nhw'n gwpod cystal a nina y'n bod ni'n bring o amiwnishon, ag ma Lloyd George yn gwed y cymar a wyth ne naw mish cyn y gallwn ni gal y syply iawn. Beth ddigwyddiff cyn hynny y nefoedd fawr a wyr. Golwg ddu iawn w i'n gal ar betha, ond gobeitho daw gola o rwla cyn bo hir, a na chaiff y march ddim starfo tra bo'r borfa'n tyfu. DAFYDD Y CRYDD.


...

 

 

 

None

(delwedd 5498)

Y Darian

15 Gorffennaf 1915.

Shop Dafydd y Crydd.

Mishtir Gol., Tepig y'ch bod yn cofio'r dyn diarth fu yma'n atrodd hanas Mocyn y teilwr, o Langyfelach. Fe fu yma wetyn am spel yr wythnos o'r blan, ag fe dynnas i oddarno dwshged o'i hanas, a rhyngoch chi a finna, mae a wedi gweld cymint o yps and downs a Robin Shon Criwso. Fel y gwetas i o'r blan rodd a'n depig i wr byneddig wedi torn lawr, a dicon hawdd gweld fod y dyn wedi cal gwell cwnad. Fe ffeindas mas taw netif o Byrdar yw a, a mab i dafarn yn acos i drip y Gatlys, ar y ffordd i Hewl y Felin. Ry'ch chi'n gwpod jeograffi'r lle'n well na fi. Fe'i cwnnwd yn ffeirad, ag fe ddath mas o Ryd yr Ychen yn B.D., sef Bachan Duwiol. Ar ol cwplo'i addysg fe gas le'n giwrat yn Llangyfelach,

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

None

(delwedd 5499)

 

lle bu'n trampo'r plwyf am betar blynadd. Ro'dd y Ficar yn rhy dew i neyd llawar o ddim, a'i wynab fel ffwl mwn, ond dicyn yn fwy garw, a'r gowt yn i drad. Y ciwrat, pwr ffelo, odd yn gorffod gneyd y cwbwl ond prioti, ag fe allsa byrgethu heb bapur o'i flan. O'r diwadd, fe gwmpws merch y Ficar mwn cariad ag e, ag fe fu'n rhaid iddo fynta ffolo; siwt, ag fe a'th yn ddiflastod mawr rhwng y mishtir a'i was. Cariad y Ficar o'dd mab y Scweiar, ond cariad y ferch o'dd y ciwrat, a fu menywod y plwyf ddim yn hir cyn gwpod hynny, a wa'th i chi ganu clycha'r eclws na rhoi secret caru i fenywod. Un diwrnod, fe ddigwyddws i'r ferch fynd i Byrtawa, ag fe ddigwyddws i'r ciwrat fynd yno'r un prynhawn. Falla fod hynny wedi cal i arenjo mlan llaw ta fatar am hynny. Ond pan glyws y Ficar fod y ddou yn dod sha thre gyta'i giddyl, fe a'th yn ipish gwyllt, ag fe ddismisws y ciwrat dder and dden. Cyn pen hannar blwyddyn ro'dd yno giwrat arall yn darllin y gwasanath claddu ar fedd y ferch.

Nid barddoniath yw hyn, ond gwirionadd a sobrwdd o ben y dyn i hunan. Rodd y ciwrat cyn hynny'n ditotal, er cal'i gwnnu mwn tafarn, ag mor dduwiol ag y gall ffeirad fod, ond fe a'th dros y plats, ag ar i spri am ddwy flynadd i fwrw'i ofid. Wedi iddo sobri fe gas gynnig lle gyta'r Sentars yn acos i Ystalyfera, ond allso fa ddim meddwl am atal crefydd mor llwyr a hynny. Dodd a ddim wedi cal i dorri mas o'r Eclws, am i fod a yn lein yr Apostolion, ag fe gas le yn Penderyn, o dan ffeirad o'r enw Maybury - dyn nag o'dd yn Sais

 

 

 

 

 

 

None

(delwedd 5500)

 

nag yn Gymro. Pan fysa hwnnw'n darllin ro'dd pawb yn meddwl taw o'r gwreiddiol o'dd a'n gneyd. Dodd dim ges gan neb beth o'dd a'n dreio wed, ag yr odd yr annwl gariatus frodyr yn byw trw ffydd. Wel, fe gas y ciwrat le yno, ond fu a ddim yn hir cyn mynd i hobl wetyn. Yr amsar hynny rodd Dic Shon Shams yn'i breim. Bachan smart ar i ddwrn o'dd Dic, ag yn wado pawb a safa o'i flan. Fe glwas lawar o son am dano cyn i fi atal Llangyfelach. Fe rows chalenge i Bil Benjamin - dyn o'r un breed a Tom Sayars. Gan fod y ciwrat yn joly ffelo, ag yn napod Dic yn dda, allsa fa ddim peido mynd i weld y batl. Am round ne ddwy ro'dd Dic fel y wennol. Fe o'dd y cynta i daro'r gwyn ag i ddynnu gwad. "Os ca i un ergyd arno, mynta Bil, "fe fydd yn ddicon tawal." A gwir wetws a. Fe gyrhaeddws Dic druan yn i genol, nes o'dd a fel y lythyran S, a ma'n debig na chymhwyswrs a byth. Fu fawr o son am Dic Shon Shams ar ol hynny, ag fe gymrws Dic Shon Dafydd i le i gatw clod Byrdar rhag mynd i goll. Y gwaniath rhwng y ddou yw, fod y Bwli yn treio lladd Seison, a'r nail yn treio lladd y Gymrag. Rhaid i chi gofio taw'r ciwrat sy'n gwed y petha hyn, ac nid fi.

Ar ol y batl, fe ddath y ciwrat nol i Benderyn, ond yr o'dd y Ficar yn gynddeirog wedi clwad fod i was yn un o'r spectetors. Fe'i galws ar y carpat, a mynta fa, "Ble i chi wedi bod, syr?" "Fi rhoi leave i chi visito ffrynd, a chi mynd i weld dynon yn ymladd fel wild beasts. Fi'n dismiso chi heb further notice. Fi reporto chi i'r Bishop am disgreso'r clergy. Chi mwy o pugilist na saint. Clasgwch y'ch pac, syr." A dyna'r ciwrat druan ar y comin yr ail waith. Fe a'th yn fwy sychetig o lawar ar ol hyn, a phwy rhyfadd? "Syrcam- stansis olter cases," ys gwetws Wil Smith. Dos dim dowt nag yw'r Eclws wedi bod yn rhy byrticilar gyta phetha fel hyn, a wedi colli rhai o'i dynon gora. Pwy ddrwg odd mynd i weld ffrind yn treio am y belt? Siwr ddicon, fe ddyla ffeirad fod yn y man a'r lle'n barod, rhag ofan i rwpath sobor ddicwdd. Treni odd torri'r dyn i lawr am neyd i dyled- swdd. Ma pob ffeirad a phyrgethwr yn darllin y reports yn y papra newydd, ag ma hynny'n llawn cymint o ddrwg a mynd i wel'd pitsh batl. Brawd mocu yw tacu. Cewch glwad y tro' nesa shwd bu'r dyn byw o hynny hyd yn awr.

DAFYDD Y CRYDD.

.....

 

 

 

None

(delwedd 5570)

Y Darian. 30 Medi 1915.

Shop Dafydd y Crydd.

Mishtir Gol., -

 

Fe addawas y tro dywetha reporto hanas y cwrdd fu'n y Shop rhwng Eryr Pen Pych, Mor- y Teilwr, a Dewi Cwmbwrla, am Gatar Steddfod Bangor. Nid Cwrdd Cwacars odd hwnnw. Chlwas i shwd gynhalath ariod. Fe fyswn i wedi gneyd hyn yn gynt, onbai fod y crecin cocs rois i o'ch blan chi wedi mynd a'r amsar i gyd. Pan odd yr Eryr yn darllan y feirniatath, fe ddath bachan bach o Northman miwn. "Shwd i chi heno," mynta'r Eryr, "o ble chi'n dod?"

"O'r Gogledd, wyf wr gwaglaw,

Dan lawr byd yn heliwr baw,"

mynta'r dyn.

"Dyn diarth i chi'n y parta hyn rwy'n gweld. Ble chi'n byw 'ma, gan mod i mor ewn a gofyn, mynta'r teiliwr.

 

 

 

None

(delwedd 5571)

"Acw ar gwrr y Graig Wen,

Efo nai Ifan Owen,"

mynta'r dyn wetyn. Dyna'r papyr o grafanc yr Eryr fel sa wedi'i baraleiso.

"Oti chi'n perthyn i'r bachan sy'n gwerthu Cenin yn y North," mynta Dewi Cwmbwrla. Rych chi'n whilia'n gwmws run peth ag e.

"Be 'dach chi'n ddeyd," ebra y Northman. "Dydw i ddim yn y'ch dallt chi. Be di 'whilia,' deudwch? A oes iaith efo Southyn?"

"Dou efill yw 'whilia' a 'sgwrsio,' mynta Morgan y Teilwr, "ond fod mam y cynta'n Gymras lan, a thad y llall yn fwngral o'r North.

"Hidiwch befo. Di foliant yw tant Hwntw," ebra'r dyn.

"Pwy gawn ni wed i chi," myntwn i wrtho. "Fe glws Llew Llifio, yn son llawar am rw Fardd yn 'i Awan, sposib taw chi yw hwnnw. Pwy a beth i chi?"

"Bardd o waed heb urdd ydwyf,

Ac un o ddawn Gwynedd wyf,"

medda'r Northyn.

"Allwch chi ddala pen rheswm heb doncan cynghanedd byth a hefyd," medda un o'r cwmpni.

"Gallaf yng nghanol gwylliaid,

A boddio'r oll os bydd rhaid,"

od[d] yr atab parod.

"Dyma'r deryn smarta welas i ariod," mynta'r Eryr.

Rodd y boys wedi mynd i stwmp, ag yn etrych ar y dyn ag ar'u giddyl bob yn ail.

"Fe all hwn ganu am byth heb golli'i wynt," myntwn i.

 

 

 

None

(delwedd 5572)

Son am fachan y Cenin. Not in it, ys gwetws Browning. Fe welas Dewi Cwmbwrla'n rhoi winc ar Morgan y Teilwr, ag vn gofyn i'r gwr diarth

"Allwch chi neyd dwy lein i Shop y Crydd?"

"Medraf heb ragymadrodd," ebra fo. "Nid anodd ydyw hynny. Cyrhaeddaf gernau cryddion a dyloriaf deilwriaid.

Adeilad i'r sandalydd

I shapo crwyn yw Shop Crydd."

"Beirniatath ar liwia mynyddodd y North odd dan sylw pan ddethoch chi miwn," myntwn i. "Falla'ch bod chi wedi 'i chlwad hi. Fuoch chi yn Steddfod Bangor?"

Do, frawd, ond ofer ydoedd Hel cregin i'r gegin goedd."

Ho," mynta'r Eryr, "rwy'n gweld y'ch bod chytha miwn ar y gragen. Shwd ma'ch englyn chi?"

"Na, nid oeddwn miwn, chwedal chitha. Fe fum yn rhy hir efo hen bryddest fu'n cysgu am dros ugain mlynedd. Lobscows oedd hi wedi'r cwbl, er yn ail ora dan Elis Wyn, pan oedd o'n fyw. Yr oeddwn ddeuddydd vn rhy ddiweddar efo'r englyn. Hwrach nad yw'n werth ei goeddi rwan. Fodd bynnag, dyma fo

Y ddi wall gragen ddillyn - yw ceyrydd

Corach o bysgodyn;

Ystafell, neu gastell gwyn,

Yn firagl i feheryn."

"Neno dyn, myntwn ina, "dewch lonydd i rw shilcots fel hyn. All dynon ddim byw ar grecin cocs. Ma'n wir fod Ffrenshman yn leico

 

 

 

 

 

 

 

 

None

(delwedd 5573)

malwod, ond howyr bach, nid ar falwod y bydd byw dyn. Newitwch yr ymadrodd. Ma'n well gen i wynt lletar a chwyr crydd, na gwynt pysgod heb weld dwr ys dwy flynadd. Ewch ymlan, Eryr, a beirniatath owdl y lliwia, i ni gal gweld beth sy yn honno. Pwy isha cintach sy ar ol pob Steddfod, a threio gneyd mas nag o's un englyn yn werth'i halan. Rod y beirnied yn siwr o fod yn gwpod beth o nhw bothtu, ag yn dyall geira fel 'miragla,' heb isha sponiad, na whilo hen lyfra heb un clawr. Darllin mlan, Eryr, i ni gal ticyn o hanas Eryri llwyd goch - wyn. Hagen, rhaid i fi wed yto, nag yw gwyn yn lliw o gwbwl. Rwy'n cofio'r net i fi ddysgu hynny yn ysgol yr Eclws yn Llangyfelach pan yn grotyn. Ond falla fod sgleigon sy'n gweld miracla mwn crecin cocs wedi ffeindo mas fod gwyn yn lliw.

Rwy'n gweld fod yr Athro, fel arfar, yn gneyd yr awdla yn ddou glas, un yn hen ffashwn, a thair yn ffashwn newydd. Whara teg iddo, fe ddyla pob ffashwn newydd fod ar y top, a'r hen yn y gweilod. Dyna hanas ffashyna, ond fod y gweilod yn dod nol i'r top yn'i dro. Nid da gomrod o blyf.

"Beth wetast ti, Eryr, mae a'n wed am 'creig a 'benyr?'

 

Ffug-eiriau mae a'n 'u galw nhw.

"Reit," myntwn ina. "Dw i ddim yn leico creig am greigia, na benyr am fanera. Beth y'ch chi wr diarth yn wed?"

"Rydach chi'n llygad y'ch lle," mynta'r efo. "Baner, banerau;

 

 

 

 

None

(delwedd 5574)

carreg, caregau; caseg, casegau; maneg, manegau; asgell, asgellau; taten, tatenau, etc. Gwell na Gwyl y Pebyll fydda Gwyl y Pabellau, a gwell na Gwlad y Menyg Gwynion fydda Gwlad y Manegau Gwynion."

"O wel te'n wir, a dyna'r ffashwn newydd," medda Dewi Cwmbwrla. Fe wela'ch bod chi yn y'ch englyn yn troi caerau yn 'ceyrydd."

"Ydwyf," ebr y Northman, "a hynny sy'n iawn. Caer, ceyrydd; saer, seyrydd; maer, meyrydd; chwaer, chweyrydd; aer, eyrydd," etc.

Am clywch y dyn! Os taw dyma'r Gymrag ffashwn newydd, mae'n well gen i droi'n Sais."

"Gryndwch, Dafydd, ar betar lein o gan y lliwia. Ewch chi byth yn Sais ar ol clwad rhain. Ma nhw mor glir a'r dydd yn hir, ag yn llyfnach nag oil gwallt. Ma'n werth i chi'u dysgu nhw ar y'ch cof. Fe dalan yn well i chi na ffondro uwchben y Bydjet newydd

A chymwy ar dramwy a hydr ymwan

Wrth helcyd herwyr a tholcio tarian;

Ar Foel Siabod dyfod tan, ac efo

Fai yrhawg fal o glwyfau'r gyflafan.

"Dyn-di-shefoni! Beth ma'r bachan yn dreio wed? Fe glwas beth callach na hyna yn Seilam Llanshawal. 'Ro'wn i wedi meddwl taw dim ond Cymrag odd i fod miwn am y Gatar."

"Dyma Gymrag y Mil Blynyddodd," mynta'r Eryr.

"A Chymraeg y nefoedd," ebra'r gwr diarth.

"Os yw hynny'n wir," myntwn ina, "fe fydd yn well gen i fynd i'r lle arall."

DAFYDD Y CRYDD.

 

.....

 

 


None
(delwedd 5530)

8 Mehefin 1916

Y Darian

Shop Dafydd y Crydd.

 

Mishtir Gol., - Pan ddarllenas i bishyn Dafydd Gwr Nansen, a'i weld a'n trin y Tramp mor flagardus, fe etho'n ipish gwyllt. Chlwas i shwd dafod ys llawar dydd. Rwy'n cofio clwad dwy o ferched y Mera, odd yn gwerthu rhython, yn ffreio unwaith, ond do nhw ddim hannar mor insyltin iddi'u giddyl a'r dyn sy'n polisho'r Tramp yn y "Darian." Dyndishefoni! "Pom Pom mae a'n galw'i hunan. Ystyr hynny'n y Gymraeg, ma'n depyg, yw Tom Thymb - y bachan hynny odd yn byw mwn bocs matchis. Ma fa'n gofyn i fi beth wy'n feddwl am y pictwr. Wel, y marn i am dano yw hyn, y dyla'r hen wraig droi wynab y pictwr at y wal rhag cwiddyl. Beth ma'r pwr Tramp wedi neud ? Ma golwg dicon tlawd

 

 

 

None
(delwedd 5531)

arno heb'i flingo'n fyw fel hyn. Rwy wedi ffreio a'r Tramp ymhunan rai troion, ond do ni byth yn taro bil ddy belt, nag yn dicio wrth y'n giddyl. Fu neb yn fwy o bartnars ar ol i'r bowt fynd heibo. R'ych chi'n cofio i fi yng nghenol y ffra addo par o glocs newydd iddo, dim ond iddo alw heibio'r Shop. Dyna fel dyla petha fod. Pwy sens yw i ddynon sy'n dysgu'r byd drin'u giddyl fel Eirish. Fe ddyla Pom Pom, a Nansen a'i gwr gal tri mish o hard lebar am criwalty tw animals.

Fe dreias i neud Hir a Thoddion petar lein i'r tacla hyn, ag er fod 'y ngwad i'n berwi, fe ffeilas gal llawar o hwyl. Falla taw gwell fysa i fi aros nes cwlo lawr. Dw i ddim yn siwr oti nhw'n reit yn ol riwl Brynfab: -

Gwr Nansen, beth yw'r ennill - o roi treth

Ar y Tarmp mwn pennill?

I ti'r cnaf chwibanaf bill, - a chorach

A fel yn fwbach o flaen dy ebill.

"Holo, Morgan, ti sy 'na? Dera miwn. Gwelast ti'r 'Darian?' Beth wyt ti'n feddwl am y dyn sy'n pitsho miwn i'r Tramp?" "Weta chi, Dafydd, ma peth fel hyn yn tw bad. Mwlsyn o ddyn fysa'n cico dyn cloff diniwad ar ol iddo ffeilu gweitho. Dos dim bachan mwy gwirion yn y byd na'r Tramp, a chystal labrwr a gitshws mwn rhaw ariod pa odd'i ddwy gos a'r un hyd. Ma gen i gwpwl o glowts i Pom Pom a'i dylwth, oblecid ma'r gang i gyd yn yr un cwtyn: -

 

 

 


None
(delwedd 5532)

 

'Pom Pom - yw bri y domen, - gwas penwag,

Sponer Modryb Nansen;

Garw'i big, a gwr o'i ben

I'w fogel, yn genfigen.

 

Awff anwar o dras Ffeniaid - ydyw ef,

O dafod melltigaid;

Bitw llesg yn bwyta llaid,

A'i ddannedd yw ei enaid.

 

I'r 'Darian," un o'r deri- yw y Tramp,

Yn troi mewn mawrhydi;

Ond dyn help! yn wawd i ni,

Wynwnsyn yw Gwr Nansi.

 

Mae bongler ymhob englyn, - a hurtwch

Yw ei bertaf nodyn;

Gwaradwyddo, damnio dyn

Gais y gwledig asglodyn.

 

Odlau dwli di heulwen - yw y truth

Ar y Tramp diamgen;

Nis gall y Dai bala'i ben

Greu nonsens fel Gwr Nansen.

 

Coeg yw y gwr, ceg i gyd,- a'i gordial

Yw blagardio bywyd;

Mwrddwr hollol, mor ddrewllyd

A thail a baw, erthyl byd.

 

Er i flac mor foel a het, - yn ei wg

Sugno'i waed fel 'ferret,'

Ar acen bur, cawn, 'I bet,'

Y Tramp yn canu trwmpet."

Campus! Nelsa Freddy Welsh ddim gwell. Tawn i heb gyffro, Morgan, dyma'r peth gora nest ti ariod yn dy fywyd. 'Rwyt ti wedi rhoi noc owt iddo, ag ma fa tu fas i'r ring yn'i ddwpwl. Beth wyt ti'n wed, Eryr Pen Pych? Wyt ti wedi torchi dy lewish?" "Otw, Dafydd, ag fe ros i gwpwl o glatshis iddo, ond fe ffeilas i a'i setlo fa fel Morgan. Dyma rai o'r lefft handers roias i iddo": -

 

 

 


None
(delwedd 5533)

F'awen hwylus fu'n holi - am hanes

Ymenydd o ddifri;

Yn ol trodd; ni welodd hi

Un ounce yng nghopa Nansi.

 

Trin y Tramp, trueni trwm - yw hynny,

Y fileiniaid cythrwm;

Arosach! nid oes reswm

Ar wado'r cawr drwy y cwm.

 

Byrhawyd coes y brawd call - drwy soriant,

Rhyw sarrug wraig anghall;

Ac mae cri rhyw Dwrci dall

Ar hanneru'r un arall.

 

Y blagard mawr a blygwn, - am ei nwydd

Mae yn haeddu pastwn;

Barddonol boeredd annwn

A geir o geg y rg hwn.

 

Yr epa taer, pwy wyt ti - i roi clwy

I wr cloff diwyrni?

Ar gasgen brag a whisci,

Trwmpyn iawn yw ein Tramp ni.

 

Diniwed yn ei awen - yw'r gwawdus

Ergydiwr anniben;

Heddyw prawf o brydydd pren,

Bronownsiodd debar Nansen.

 

Gwelaf arf gloyw ei fin - ar y paith,

Lle bu'r "Pom" anhydrin;

Dianc fydd rhaid i'r dewin,

Yn smart, a dart yn ei ochor.

 

Da whara, Eryr. Rwyt titha wedi cal hwyl ddisprad, ond dw i ddim yn gweld fod y lein ola'n citsho'n dda. Dyw "dewin" ag "ochor" ddim yn swno'r un peth. Dafydd bach, odl gudd yw hi." O, gwed titha hynny. Chlwas i ddim am y codl hynny o'r blan." Gwen, dera miwn a'r lemwned 'na. Ma gen y boys 'ma ddicon o fwyd i ened am flynydda. Fe fydd yn dda gen y Tramp ddyall fod y bechgyn sy'n galw yn y Shop yn rhai smart ar'u dwrn, ag yn barod i helpu'r diniwad.

DAFYDD Y CRYDD

.....

 

 

 

None

(delwedd 5575)

Y Darian. 29 Mawrth 1917.

Shop Dafydd y Crydd.

Mishtir Gol., -

Chi gretwch nawr mod i'n dyall cwrs y byd. Ma petha'n dod i'r ifflin fel w i wedi gwed yn y "Darian." Fe ffeilws Rwsha hyd yn hyn dorri marc yn y rhyfal, ag mae'n mynd i dreio'i llaw mwn ffordd arall. Fe glwas hen ddeiacon ar ben mynydd rw dro yn gwed wrth byrgethwr Sentars di glem, "Twmbla'r garrag 'ma lawr dros y gwarad a tharo'r ty yco'n garlibwns yn y gweilod, i ti gal tynnu son am dy ben rhwffordd. Neud di ddim wrth byrgethu byth." Dyna hanas Rwsha. Mawr y brago fu ar y Stem Rolar ar y dechra, ag yr odd llawar o ffylied yn meddwl y bysa fa'n gneud mynyddodd Germani mor fflat a lon tenis. Ond fu a ddim yn hir cyn sando, a'r un man ma fa byth. Ma'r Sr wedi cal y sac, a'r peth gora all a neud nawr yw mynd i blannu tatws. Falla gall'i frawd fanijo'r Stem Rolar yn well. Treni am y Sr, ag am bob dyn sy'n mynd i hobl mor sybyrthol. Nid arno fe ma'r bai i fod a'n fwy o fenyw nag o ddyn. Rodd'i dad a'i dadcu yn ddynon cryf, ag ma isha dyn cryf, ag nid rhw bill pala i fanijo gwlad mor ddisprad o fawr a Rwsha. Pe bysa'r Caisar yn ben ar y miliyna hyn, fe fysa'n bad lwc owt ar Iwrop, oblecid ta faint o gythral sy yndo, rhaid i bawb lwo'i fod a'n greatur cryf. Er fod y Sr yn driw i'r Alis, rodd a'n rhy wan, ne'n rhy sofft i weld taw Pro-Germans odd yn riwlo o dano, a dyna hi'n refoliwshon mwn amsar dicon lletwith. Dyma'r bom shel fwya welws Rwsha hyd yn hyn, ta shwd ymdopiff hi dani. Ma rhai'n gwed taw montish fydd hyn i'r rhyfal, ond rw i'n onfi'r gwaetha mhunan, oblecid fel y gwetws Jones y ffeirad, "Ty wedi ymrannu yn'i erbyn'i hunan, ni saif."

 

 

 

None

 

(delwedd 5576)

Wedi i fi sgyfennu cymaint a hyn, ,dyma Morgan y teilwr, wrth y drws, yn whis dyferu, a phecyn mawr ar 'i gefan, ag yn wen o glust i glust. "Helo, Morgan," myntwn i, "beth sy gen ti? Wyt ti wedi troi'n bacman?" "Dafydd bach," mynta Morgan, "welsoch chi ariod shwd beth. Rwy wedi cal whech pwn o datws ar ol y pishyn goeddsoch chi'r wsnoth o'r blan - un o Shir Fycheinog, dou o Shir Gr, o war Llandeilo, un o Wlad yr Haf, a dou o rwth fartshant tatws o Llyndan. Ma gen i ddicon o datws am byth. Rwy'n dod ag un cwted i chi am ddodjo Brynfab, a phwsho'r gn miwn trw ddrws y cefan. Wydd- och chi beth, Dafydd, dim rhacor o deilwra i fi tra paro'r rhyfal. Rw in mynd i fyw ar ym sens. Ma barddoni'n talu'n iawn - dim hen gownt, a cwic returns. Ma arno i whant hala pwn i Olycydd y 'Darian,' mae'n ddicon tyn arno, pwr dab."

"Gwd idea, Morgan. Gad i fi weld shwd betha sy gen ti. Bachan, dyma datws iawn - pinc eyes bob un. Gwen, dera a galwn o'r lemwned, 'ma miwn."

Rw i wedi gneud cn arall, Dafydd. 'Stop Shwgir.' Chi wyddoch i bod hi wedi mynd yn stop tap ar yr articl hynny. Dyma hi: -

 

 

 

None

(delwedd 5577)

Stop Shwgir.

Mae'r shwgir wedi mynd yn brin, A'r tatws wedi cefnu;

A'r mwnwr du a'r gweithiwr tin A'u stymog wedi drysu;

Yn ol i'w gartre daw y gwr,

A'r bwrdd o'i flaen a drefnir;

Ond nid oes flas ar ferwi dwr,

A'r pantri heb ddim shwgir.

Does fawr o flas ar bryd o fwyd,

Na neb yn gofyn rhagor;

Mae'r coffi'n waeth na wermod lwyd,

A'r te fel moddion doctor;

Mae'r bwrdd yn wag o bopeth nice,

A bara brith ni welir;

A chyll y Tramp ei bwdin rice,

O eiriau [sic; = eisiau] pwys o shwgir.

Digalon yw "preserfwyr gm,"

A diflas yw eu gwleddoedd;

A segur yw yr injan stm

Yn newyn y porthladdoedd;

Does yn yr hafan ddim ond glo, A'i bris o hyd a godir;

Ai losgi'n llwyr a ga "efo," Heb dalu'n ol mewn shwgir.

Mae pawb yn holi am y crop,

A'r plant yn troi yn peevish;

A gwag yw ffenest llawer shop

O loshin du a spanish;

Y butter scotsh a'r India roc, A'r lemon drops a gollir;

Ac nid oes banes yn y doc

Am long yn cario shwgir.

 

 

 

 

None

(delwedd 5578)

Meddygon sydd ar hyd y plwy'

Yn rhegi'n ddidrugaredd,

Am nad oes alw arnynt hwy

Yn awr i dynnu dannedd;

Oddiar y gern sy'n methu cnoi,

Y napcyn poeth a dynnir,

Am fod y ddannodd wedi ffoi

I wlad y meysydd shwgir.

 

Mae'n bryd i feirdd ddihuno'n awr,

I greu "miraglau" newydd;

A chodi "hagen" gyda'r wawr,

I lunio melys fwydydd;

Mae arian papur yma thraw

Yn tyfu wrth y filltir;

Ond nid yw'r oll yn werth y baw,

A'r cwpwrdd heb ddim shwgir.

 

Pan fyddo newyn ar y bardd,

Peth hyfryd iawn yw "miragl";

A'i awen sydd ym mlodau'r ardd Yn casglu mel a thriagl;

Mae hynny'n burion yn ei le,

I gacwn o'r cyfandir;

Ond gwaeth na physic yn y te Yw'r cawliach yn lle shwgir.

 

Er suddo llongau'r shwgir lwmp, Nid drwg i gyd yw hynny;

Mae'r eigion mawr yn eitha trwmp,

A chwyn y byd a wrendy;

Yn awr o lyncu ein hystor,

Ei donnau a felysir;

A dim ond berwi dwr y mor,

Fe wneir y tro heb shwgir.

 

O gwag yn fore y deffrown,

I gasglu cocs Cydweli;

A bydd y traeth yn shwgir brown,

Ar creigiau'n shwgir candi;

I mewn y daw y llanw glan,

Heb halen tua'r pentir;

A chregin pert y mor "achlan"

A droir yn llestri shwgir.

"Y Nefoedd fawr! Rwyt ti wedi mynd yn scolar budir, Morgan. Beth yw'r geira mawr 'na sy gen ti? Dw i ddim yn dyall rhw gabildi fel 'achlan,' 'hagen, 'miragl,' 'efo, a phetha o'r short. Fe alla dyn feddwl taw Northman wyt ti. Pam na chani di fel Cristion, ag nid fel pagan? Ma'n well gen i iaith y Mil Blynyddodd na iaith y Cynddiliwiaid. Dos dim dowt nag yw hon yn gn dda i'r rhai sy'n i dyall hi, ond man well gen i gn y tatws. Ma honno'n anfarwol."

DAFYDD Y CRYDD.

 

 


Sumbolau:
ā ǣ ē ī ō ū / ˡ ɑ ɛ ɪ ɔ ʊ ə ɑˑ eˑ iˑ oˑ uˑ ɑː ː eː iː oː uː /
ɥ
/ ɬ ŋ ʃ ʧ θ ʒ ʤ / aɪ ɔɪ əɪ ɪʊ aʊ ɛʊ əʊ /
ә ʌ
ŵ ŷ ẃ ŵŷ ẃ ỳ ă ĕ ĭ ŏ ŭ ẁ ẃ ẅ Ẁ
---------------------------------------
Y TUDALEN HWN /THIS PAGE / AQUESTA PGINA:
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_126_shop-dafydd-y-crydd_0189k.htm
---------------------------------------
Creuwyd / Created / Creada: 02-06-2017
Adolygiadau diweddaraf /
Latest updates / Darreres actualitzacions: 02-06-2017
Delweddau / Imatges / Images:

---------------------------------------
Ble'r wyf i? Yr ych chi'n ymwld ag un o dudalennau'r Wefan CYMRU-CATALONIA
On sc? Esteu visitant una pgina de la Web CYMRU-CATALONIA (= Galles-Catalunya)
Where am I? You are visiting a page from the CYMRU-CATALONIA (= Wales-Catalonia) Website
Weə-r m ai? Yu a-r vziting ə peij frm dhə CYMRU-CATALONIA (= Weilz-Katəluniə) Wbsait


Freefind:
Archwiliwch y wefan hon
SEARCH THIS WEBSITE
---
Adeiladwaith y wefan
SITE STRUCTURE
Beth sydd yn newydd?
WHATS NEW?


CYMRU-CATALONIA