kimkat3784k Shop Dafydd y Crydd. Ysgrif yn nhafodiaith Aber-dâr o’r Darian. 1917.

22-12-2022







.....

Gweler hefyd / Vegeu també / See also:

.....

 

0003g_delw_baneri_cymru_catalonia_050111
 (delwedd 0003)

 

 

 

 

 

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Gal
·les i Catalunya
The Wales-Catalonia Website

Dafydd y Crydd.

Y Darian. 1917.


Y Llyfr Ymwelwyr / El Llibre de Visitants / The Guestbook:

http://pub5.bravenet.com/guestbook/391211408/

 

 


a-7000_kimkat1356k 

Beth sy’n newydd yn y wefan hon?

6665_map_cymru_catalonia_llanffynhonwen_chirbury_070404

(delwedd 4665)

.....

Map

Description automatically generated

 

(delwedd J7058b)

.....

 


.....
1917
29 Mawrth 1917
.....
07 Mehefin 1917
14 Mehefin 1917
.....
05 Gorffennaf 1917
.....
04-10 J7774

 

 



Text, letter

Description automatically generated
(delwedd 5575)
(29 Mawrth 1917)

Y Darian. 29 Mawrth 1917.

Shop Dafydd y Crydd.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 


Mishtir Gol., -

Chi gretwch nawr mod i'n dyall cwrs y byd. Ma petha'n dod i'r ifflin fel w i wedi gwed yn y "Darian." Fe ffeilws Rwsha hyd yn hyn dorri marc yn y rhyfal, ag mae'n mynd i dreio'i llaw mwn ffordd arall. Fe glwas hen ddeiacon ar ben mynydd rw dro yn gwed wrth byrgethwr Sentars di glem, "Twmbla'r garrag 'ma lawr dros y gwarad a tharo'r ty yco'n garlibwns yn y gweilod, i ti gal tynnu son am dy ben rhwffordd. Neud di ddim wrth byrgethu byth." Dyna hanas Rwsha. Mawr y brago fu ar y Stem Rolar ar y dechra, ag yr odd llawar o ffylied yn meddwl y bysa fa'n gneud mynyddodd Germani mor fflat a lon tenis. Ond fu a ddim yn hir cyn sando, a'r un man ma fa byth. Ma'r Sâr wedi cal y sac, a'r peth gora all a neud nawr yw mynd i blannu tatws. Falla gall'i frawd fanijo'r Stem Rolar yn well. Treni am y Sâr, ag am bob dyn sy'n mynd i hobl mor sybyrthol. Nid arno fe ma'r bai i fod a'n fwy o fenyw nag o ddyn. ’Rodd'i dad a'i dadcu yn ddynon cryf, ag ma isha dyn cryf, ag nid rhw bill pala i fanijo gwlad mor ddisprad o fawr a Rwsha. Pe bysa'r Caisar yn ben ar y miliyna hyn, fe fysa'n bad lwc owt ar Iwrop, oblecid ta faint o gythral sy yndo, rhaid i bawb lwˆo'i fod a'n greatur cryf. Er fod y Sâr yn driw i'r Alis, ’rodd a'n rhy wan, ne'n rhy sofft i weld taw Pro-Germans odd yn riwlo o dano, a dyna hi'n refoliwshon mwn amsar dicon lletwith. Dyma'r bom shel fwya welws Rwsha hyd yn hyn, ta shwd ymdopiff hi dani. Ma rhai'n gwed taw montish fydd hyn i'r rhyfal, ond rw i'n onfi'r gwaetha mhunan, oblecid fel y gwetws Jones y ffeirad, "Ty wedi ymrannu yn'i erbyn'i hunan, ni saif."

 

 

A close-up of a document

Description automatically generated with medium confidence
(delwedd 5576)
(29 Mawrth 1917)

 

Wedi i fi sgyfennu cymaint a hyn, ,dyma Morgan y teilwr, wrth y drws, yn whis dyferu, a phecyn mawr ar 'i gefan, ag yn wen o glust i glust. "Helo, Morgan," myntwn i, "beth sy gen ti? Wyt ti wedi troi'n bacman?" "Dafydd bach," mynta Morgan, "welsoch chi ariod shwd beth. Rwy wedi cal whech pwn o datws ar ol y pishyn goeddsoch chi'r wsnoth o'r blan - un o Shir Fycheinog, dou o Shir Gâr, o war Llandeilo, un o Wlad yr Haf, a dou o rwth fartshant tatws o Llyndan. Ma gen i ddicon o datws am byth. Rwy'n dod ag un cwted i chi am ddodjo Brynfab, a phwsho'r gân miwn trw ddrws y cefan. Wyddoch chi beth, Dafydd, dim rhacor o deilwra i fi tra paro'r rhyfal. Rw i’n mynd i fyw ar ym sens. Ma barddoni'n talu'n iawn - dim hen gownt, a cwic returns. Ma arno i whant hala pwn i Olycydd y 'Darian,' mae'n ddicon tyn arno, pwr dab."

"Gwd idea, Morgan. Gad i fi weld shwd betha sy gen ti. Bachan, dyma datws iawn - pinc eyes bob un. Gwen, dera a galwn o'r lemwned, 'ma miwn."

Rw i wedi gneud cân arall, Dafydd. 'Stop Shwgir.' Chi wyddoch ’i bod hi wedi mynd yn stop tap ar yr articl hynny. Dyma hi: -


 

 

A picture containing text, receipt

Description automatically generated
(delwedd 5577)
(29 Mawrth 1917)

 
Stop Shwgir.
Mae'r shwgir wedi mynd yn brin, A'r tatws wedi cefnu;
A'r mwnwr du a'r gweithiwr tin A'u stymog wedi drysu;
Yn ol i'w gartre daw y gwr,
A'r bwrdd o'i flaen a drefnir;
Ond nid oes flas ar ferwi dwr,
A'r pantri heb ddim shwgir.

’Does fawr o flas ar bryd o fwyd,
Na neb yn gofyn rhagor;
Mae'r coffi'n waeth na wermod lwyd,
A'r te fel moddion doctor;
Mae'r bwrdd yn wag o bopeth nice,
A bara brith ni welir;
A chyll y Tramp ei bwdin rice,
O eiriau [sic; = eisiau] pwys o shwgir.

Digalon yw "preserfwyr gêm,"
A diflas yw eu gwleddoedd;
A segur yw yr injan stêm
Yn newyn y porthladdoedd;
’Does yn yr hafan ddim ond glo, A'i bris o hyd a godir;
A’i losgi'n llwyr a ga "efo," Heb dalu'n ol mewn shwgir.

Mae pawb yn holi am y crop,
A'r plant yn troi yn peevish;
A gwag yw ffenest llawer shop
O loshin du a spanish;
Y butter scotsh a'r India roc, A'r lemon drops a gollir;
Ac nid oes banes yn y doc
Am long yn cario shwgir.

 

 



A close-up of a document

Description automatically generated with medium confidence
(delwedd 5578)
(29 Mawrth 1917)

 

Meddygon sydd ar hyd y plwy'
Yn rhegi'n ddidrugaredd,
Am nad oes alw arnynt hwy
Yn awr i dynnu dannedd;
Oddiar y gern sy'n methu cnoi,
Y napcyn poeth a dynnir,
Am fod y ddannodd wedi ffoi
I wlad y meysydd shwgir.

Mae'n bryd i feirdd ddihuno'n awr,
I greu "miraglau" newydd;
A chodi "hagen" gyda'r wawr,
I lunio melys fwydydd;
Mae arian papur yma thraw
Yn tyfu wrth y filltir;
Ond nid yw'r oll yn werth y baw,
A'r cwpwrdd heb ddim shwgir.

Pan fyddo newyn ar y bardd,
Peth hyfryd iawn yw "miragl";
A'i awen sydd ym mlodau'r ardd

Yn casglu mel a thriagl;
Mae hynny'n burion yn ei le,
I gacwn o'r cyfandir;
Ond gwaeth na physic yn y te

Yw'r cawliach yn lle shwgir.

Er suddo llongau'r shwgir lwmp,

Nid drwg i gyd yw hynny;
Mae'r eigion mawr yn eitha trwmp,
A chwyn y byd a wrendy;
Yn awr o lyncu ein hystor,
Ei donnau a felysir;
A dim ond berwi dwr y mor,
Fe wneir y tro heb shwgir.

O gwag yn fore y deffrown,
I gasglu cocs Cydweli;
A bydd y traeth yn shwgir brown,
A’r creigiau'n shwgir candi;
I mewn y daw y llanw glan,
Heb halen tua'r pentir;
A chregin pert y mor "achlan"
A droir yn llestri shwgir.

"Y Nefoedd fawr! Rwyt ti wedi mynd yn scolar budir, Morgan. Beth yw'r geira mawr 'na sy gen ti? Dw i ddim yn dyall rhw gabildi fel 'achlan,' 'hagen,’ 'miragl,' 'efo,’ a phetha o'r short. Fe alla dyn feddwl taw Northman wyt ti. Pam na chani di fel Cristion, ag nid fel pagan? Ma'n well gen i iaith y Mil Blynyddodd na iaith y Cynddiliwiaid. Dos dim dowt nag yw hon yn gân dda i'r rhai sy'n ’i dyall hi, ond man well gen i gân y tatws. Ma honno'n anfarwol."


DAFYDD Y CRYDD.

 

 

A picture containing text, newspaper

Description automatically generated

(delwedd J7522a) (07 Mehefin 1917)

Y Darian. 07 Mehefin 1917

Shop Dafydd y Crydd.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Mishtir Golycydd, — Dos dim w i'n leico'n well na phwt o ffra ddiniwed fel sy rhwng Bera a Henry Lewis. Ma nhw feI dou gilog ifanc yn scrapyn 'i giddyl, ag yn catw golwg ar gilog twrci sy'n acto fel raffari. Os bydd un yn cal y gweitha, ma fa'n dishgwl crawc orwrth y twrci, ag ma crawc hwnnw'n mesmereiso'n ddou. Fuo i ariod yn enjoyo dim yn well na'r perfformans hyn. Peidwch a'u stopo nhw, da chi, oblecid ma'u gweld nhw'n ffenso yn ddicon i neud i ieir wherthin.

 

"Helo, Eryr Pen Pych, ti sy 'na? Dera miwn. Dw i ddim wedi dy weld ti ys oesoedd. Ble wyt ti wedi bod? Bachan, rwyt ti'n mynd yn dewach fel ma'r bwyd yn mynd yn bring. Beth wyt ti'n feddwl am y cywion yna sy'n pico'i giddyl yn y 'Darian?’ Ma'r ddou fel ta nhw wedi llyncu Gramar, ag yn teimlo orwth ddiffyg traul. Dyn helpo'u crombil weta i. Gwaetha'r lwc, ta nhw'n lladd 'i giddyl, fydda'r byd fawr gwell, oblecid ma nhw'n gywion rhy ifinc i neud pryd o gawl i neb. Wyddot ti beth, Eryr, rwy'n onfi yn y nghalon fod y Gymrag yn mynd i farw, a'r cwest ar 'i chorpws hi fydd, wilffwl myrdar yn erbyn "cilocod y coleca," ys gwetws Morgan y teilwr. Ma pob ffowlyn os bydd ticyn o liw ar 'i blyf, a'i big yndi, ag yn 'i thynnu'n yfflon.”

 

 

 

 

 

 

 

 

.

 

 

 

Text

Description automatically generated

(delwedd J7522b) (07 Mehefin 1917)

 

"Eitha gwir, Dafydd. Wetsoch chi ariod fwy o sens. Rhaid i bawb nawr dowlu'i Gymrag i'r domen, ag aros yn fud nes bo iaith newydd yn tyfu o honi fel o bilion tatws. Fydd dim tatws, na phanas, na sweds i gal pryd hynny. Cloron, moron, a maip fydd y cwbwl. Dos neb i wed gair o hyn i mas, os na fydd a'n gorect yn ol y Gramar Sysnag dywetha sy wedi cal 'i goeddi i ddysgu Cymrag. Ma' nhw wedi ffeindo mas fod y plant i gyd yn idiots, os na fydd y tad a'r fam wedi dysgu Gramar. Wrth gwrs, rhaid i bawb ddysgu Sysnag yn gynta, oblecid Gramar Sysnag yw y standard i ddysgu'r Gymrag newydd. Rhaid i chi a finna -"

 

"Aros di, Eryr, os oes rhaid i bawb fod yn ddishtaw hyd nes bo lotments y Scwl newydd 'ma'n tyfu, ffordd i ni'n mynd i ddyall y'n giddyl? Welas i neb ond amball Northman yn ffeilu' nyall i hyd yn hyn."

 

"Rhaid i ni gario pob transacshons ymlan trw foshwns, Dafydd. Ma nhw'n barnu fod hynny'n well yn y pen draw na'r annuwioldeb o wed "meib" yn lle meibion; "creig" yn lie creigiau "benyr" yn lie banerau; "menyg" yn lle manegau; "cerrig" yn lle caregau; "beirdd" yn lle beirddion; "iddynt" yn lIe uddlint; "i gyd" yn lie achlan, ac felly'n y blan."

 

 

 

 

 

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd J7522c) (07 Mehefin 1917)

 

 

"Cato ni! Gwen, dos dim rhaid i ti drafferthu i bapro'r ty. Ma'r Mil Blynyddodd wedi paso, a diwadd y byd wrth y drws! 'R'own i'n ddiniwad wedi arfadd meddwl taw dynon, ag nid proffesors odd yn gneud iaith, ag fe glwas Llew Llifio'n gwed fod pob iaith ag argol byw yndi yn para i dyfu. Peth dwl iawn yn ol ym meddwl i yw gwed na ddyla dou flotyn o'r un short dyfu ar yr un gangan, ond allwch chi ddim tynnu hynny o ben rhai sgleigon y dyddia hyn. Os bydd dou bliwral i air, rhaid bwrw un mas, ond ma pob sens yn gwed fod dou yn well nag un, ond lle bo'r bwyd yn bring. Beth wyt ti, Eryr, yn feddwl am eiria fel "meib," "engyl," "ebyrth," a phliwrals o'r short?"

 

"Dos dim dowt nag y'ch chi'n reit, Dafydd. Arfar gwlad, ag nid mashin sy'n gneud iaith. Os yw bardd yn troi'n feirdd, iar yn ieir, gafr yn eifr, yn ol sgwar a chwmpas yr un rheol, y mae mab yn troi yn "feib." Ond dos gan reol ddim i neud a'r pwnc mynta Bera. Arfer gwlad sy'n setlo'r cwestiwn. Very gwd. Ma beirdd y  can mlynadd dywetha yn arfer "meib," ag fe glwas J.J. yn gwed pwy ddiwarnod fod Bera 'i hunan yn iwso'r gair yn 'i awdla gora. Tawn i'n gwpod pwy yw'r gwr fe fyswn yn whilo mas drosto 'i mhunan. Ma'n anodd gen i gretu fod hynny'n wir, ne fysa'r dyn byth o'r wynab i alw pawb sy'n iwso'r gair yn "anllythrennog," ag ynta yn yr un cwtyn. Gair ffug ma Bera'n alw "meib," am fod yr Athro wedi gwed hynny o'i flan. Ta fa'n gwed fod "blue glas" yn goch, fe fydda'n rhaid i'r Scwl newydd wed yr un peth. Yr hyn sy'n od yw, taw'r un dynon ag sy'n treio bwrw "meib" mas sy'n dod a rhw cros breed miwn, fel crwsâd, miragl, gêm, cwrbits, a phetha di-shap o'r short. Fe ddyla gair bach mor dwt a "meib" gal llonydd heb gwni un crwsâd yn ei erbyn."

 

"Rwy'n gweld, Eryr, dy fod yn dechra poethi, ag yn hedfan yn ychal. Gad hi yn y fan 'na nawr. Fe ddaw Morgan y Teilwr yma nos yfory. Falla cewn ni go arall ar y petha hyn.

DAFYDD Y CRYDD.

 

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd J6811a) (14 Mehefin 1917)

14 Mehefin 1917

Shop Dafydd y Crydd.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Mishtir Golycydd, — Trowch o'r ffordd i fi gal rhoi bothtu ddwy fodfadd o'r mynawyd1 'ma ymhen arall Cas Nodyn. Pwy fusnas sy ganto fe i bwsho'i big ryngtho i a dynon erill? Sposib os nag yw Bera yn ddicon o ddyn i ddiffendo'i hunan heb gal blagard o North Wels, na'r North Pol, i gymryd 'i bart. Ma'n well gen i ddelo a Sowthyn nag a sharpar o'r North. Fe glwas y Tramp yn gwed fel hyn, "Welas i Northman ariod nag odd tro yn 'i gwt." Yn ol pob sponiad welas i, ma'r atnod yn eitha gwir. Dyma atnod arall d'dysgas i slawar dydd, "Rhydd i bA meddwl 'i farn." Fe allwn feddwl nag yw Cas Nodyn ariod wedi gweld hon, ond mae mor wir a'r atnod arall, ag fe dala'n dda' i'r dyn i ddysgu'r ddwy ar 'i gof. Hen derm dicon hen yw "crach-feirniad. Rodd a'n hen ag yn hurt pan own i'n grotyn, ag yn baco cowards ymhob ffra cyn geni Cas Nodyn. Dyw hen derma llwyd fel hyn yn gneud niwad i neb. Peth dicon hawdd fydda i finna alw Cas Nodyn yn grach-feirniad, ne'n grach-scolor, ond wna i ddim o hynny nawr, rhag i neb wed mod i'n depyg iddo fe, a dyw bod yn depyg i Gas Nodyn ddim yn werth i ddyn sy'n leico nodyn melys. Fe weta marn yto mor blain ag ariod, fod y Scwl newydd yn lladd y Gymrag wrth gario petha'n rhy bell. Dynon yn mynd yn ewn ar beryclon, ag yn mentro i ddanjar sydd yn dod i drwpwl.

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd J6811b) (14 Mehefin 1917)

 

Dyn helpo Young. Ma fynta dan y lash am spoilo Cenin ar lotment bardd y Short Hand. Os yw hi'n reit i Gas Nodyn i roi clowten i Young, ma'r un reit gen inna 1 glowto rhai iangach sy'n shafo'r Gymrag hyd yr asgwrn. Cuwch cwd a ffetan, ys gwetws Solomon. Dyw son am dransporto llythrenna dwpwl ddim yn idea newydd. Falla na wydda'r crotsach hyn ddim o hynny o'r blan. Fe dreiws Beriah (enw tepyg iawn i Fera) neud yr un opereshon ar Gyfaill yr Aelwyd, ond fflat shot fu'r cwbwl, a gwath na hynny, fe fu'r Cyfaill farw o dan y driniath. Dyna case in point, ys gwetws Jim Smith, o ochor Dafydd y Crydd. 'Rhyn sy'n od yw, taw'r dynon sy'n moyn symud y llythrenna dwpwl, sy'n dadla dros ddyplu rhai shengal. Ebr y Cas Nodyn, "Lladdwyd llu yng Nghastell Llangollen ddo.” Dyna gelwdd gola, ta fatar am hynny. Laddwyd neb yno ddo nag echdo. Ond clasgu llythrenna dwpwl at 'i giddyl na'r [sic; ma’r] dyn, ne gwni bwpach brain i gal ffreio ag e. Yn ol scrythyr Cas Nodyn, fe fysa'n well rhoi lladdfa Llangollen lawr fel hyn, "Zajwyd zu ynghastez Zangozen joe." Pert digynnyg! Fu Mari Lwyd ariod yn smartach. Ma'n depyg taw pechod y llythrenna dwpwl yw catw gomrod o le, a wasto papur. Ebr y Cas Nodyn, "Dysgwch y plant i alw x yn ch, z yn ll, j y dd, ac felly'n y blan. Yr un fydd y swn o hyd." Wei, ie, twbi shwar, a tha chi'n galw q yn a, a & yn b, yr un fydda'r swn wetyn. Ond y peth sy'n bert yw y gellwch chi ddyplu llythrenna shengal heb golli amsar na wasto papur, fel hyn, "Torrwyd hannar dannedd Harri Pennant yn gynnar ar gyrrau cynnes Morgannwg.” Dyna naw o ddyblars nag i nhw dda i ddim ond i ddifa papur ag inc. Os yw'r acan yn demando y rhai hyn, pam yn enw Dic Dywyll na ffeindan nhw lythyran newydd yn lle'r dyblars hyn? Beth am nymber 2 yn lle dwy r, a nymber 2 a'i ben i lawr yn lle dwy n ? Fe glwas Morgan y Teilwr yn gwed fod lolo Goch, ne yn ol yr Alffabet newydd, Iolo Gox,

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd J6811c) (14 Mehefin 1917)

 

yn rhoi nymber 6 yn lle w, fel hyn "T6r6 m6y y tar6 ma6r.” Pan ddangoswd y lein i fi, a gwed taw Cymrag odd hi, fe etho i stwmp.

"Oti chi'n 'i dyall hi," ebr Morgan.

"Y Nefodd fawr! Nag w i," ebr finna.

"Wel," ebr ynta, "mwn Cymrag respectabl, dyma hi, 'Twrw mwy y tarw mawr.”

"Mae fel Chinese pysl," ebr finna.

"Oti," ebr y teiliwr; ac ebr finna wetyn, "Fel hyn ma spelio o hyn i mas?"

Ac ebr Morgan, "Dyw ‘spelio’ ddim yn air Cymrag, Dafydd."

"Wel, sillebu," ebr finna.

"Nage,” ebr Morgan, "dos neb ond cryddion yn iwso shwd air a hynny nawr. Rhaid i chi wed 'sillafu' ne fyddwch chi ddim yp tw dêt."

"Wyt'n meddwl taw parot w i," eb finna.

"Ma lot o nhw yn y wlad," ebr y teilwr.

"Rhaid i fi gal whilia Cymrag yn ffordd y mhunan," ebr finna, "ac os o's newid i fod rw i'n cretu taw Eifionydd ddyla gal pendrafynu ar shap y llythrenna newydd."

"Brafo,” ebr Mogran.

"Ma rhywun isha'ch gweld chi yn y shop," ebr Gwen.

"Shwd un yw a," ebr finna.

"Dyn tepyg i Italian," ebr Gwen.

"Gwed wrtho am fynd i gusanu bawd y Pab," ebr y crydd.

Synnwn i flewyn na ddaw rhw gantwr ymlan cyn bo hir i ddemando notes yr Hen Nodiant yn lle llythrenna lletwith y Gymrag. Crotchet yn lle a, quaver yn lle b, semiquaver yn lle c, demisemiquavet yn lle d, ac felly'n y blan, nes mynd trw'r cwafars i gyd. Ma llawn cymint o sens yn hynny a'r hyn sy'n cal 'i bwsho lawr i wddwg y Gymrag y dyddia hyn. Yr wsnoth o'r blan, fe netho sylw ar y ffolinab o goeddi popath yn Sysnag i ddysgu Cymrag, ag ma'n dda gen i weld Bera'n pitsho miwn i'r un pwnc. Dos dim dowt nag yw Gtamar Sysnag yr Athro yn un clyfar i stiwdent mwn college, ond dyw a dda i ddim i fi a'm short, ag ma'm short i yn y majority o ddicon. Llwyddiant i Bera wedi dod i'r lein iawn, a hei lwc i Gas Nodyn hed gal 'i achub.

DAFYDD Y CRYDD.

 

 

Qr code

Description automatically generated

(delwedd 5700a) (5 Gorffennaf 1917)

Y Darian. 5 Gorffennaf 1917.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Shop Dafydd y Crydd.

 

Mishtir Golycydd, — Fe wela fod Cas Nodyn wedi mynd i'r wal. Gwell i fi beido rhoi pocad arall iddo rhag ofan iddo fynd dros y "wal ddiadlam" a pheido dod noI byth. Mae a heb ddod ato'i hunan, ag yn swrddanu fel dyn yn'i gwsg. Treni fod y dyn wedi gneud shwd ecsibishon o hono'i hunan. Pe bysa fa'n stico at reporto'r hyn mae a'n glwad yn y North, heb fysnesa yn achos dynon erill, fysa pawb ddim yn gwpod llai nag yw a'n fachan call, ond mwn argiwment, ma fa'n rhoi'r show off, ag yn mynd yn ffolach na bardd, ta le. Wrth son am wed y gwir, mae a'n son am articl na wyr a fawr am dano. Ma'r hyn w i'n ddadla yn wir heb gair, ag ma Cas Nodyn wrth watu hynny, yn profi'r un peth o dan 'i ddwylo. Welais i neb ariod yn fwy di-glem yn treio deffendo'i hunan. Ebr efo, "Trwsio tipyn ar ei gwisg a wnaeth efe." Ebr y finna, "Ma cymint o deilwried yn treio'u llaw arni, fel ma nhw'n ei lladd hi wrth y fodfadd." Fe wn i nag yw "cilocod y coleca" yn folon Iwo hynny, ond ma'r masses sy a'u Cymrag mwn brethyn gwlad yr un farn a finna. Os yw hi'n anodd i blant gatw ticyn Cymrag 'u rhieni, ma'n fwy anodd iddyn nhw ddysgu iaith newydd, a gwed taw o'r Llatin, ne o'r lleuad ma'r hannar hi'n dod.

 

Gyta golwg ar "Gyfaill yr Aelwyd," rwy'n dicwdd gwpod hanas yr hen ffrynd hynny'n llawn cystal, a falla'n well na Chas Nodyn. Wedi tynnu'r llythrenna dwpwl o'i gorpws. ag injecto rhai fforin yn'u lle, fe gitshws y decline yn yr hen ffrynd, ag rodd a'n marw ar 'i drad. Yn wynab hynny, fe farnws y doctoried taw gwell fydda iddo brioti a'r "Frythonas,” er mwyn iddo gal rhwun dendo ar y pwr dab. Fe gas 'i "drwsio" yn smart digynnyg, ond fe ffeilws gwni cariad heb dynnu'r trimins fforin odd am dano, a'i wishgo yn'i ddillad ei hunan. Ma'n wir i rywrai bryswato'r "Frythonas" i'w brioti yn y picil hynny, ond rodd y decay wedi citsho mor gryf yndo fel nag odd yn bosibl 'i wella, a'r diwadd fu i'r ddou farw a'r hen Alffabet o dan 'u pen, heb ddim epil ar 'i hol.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd 5700b) (5 Gorffennaf 1917)

 

 

Ebr y Cas Nodyn, "Digrif yw gweled Dafydd yn son am 6 yn lle w fel dyfais o waith lolo Morgannwg." Rhaid fod y dyn yn bryddwyto, ne yn y delirium tremens, ys gwetson nhw. Sonias i air ariod am Iolo Morgannwg. "Rhaid i Gas Nodyn ddysgu gwed y gwir, er taw Cas Nodyn yw.’ Pwy isha iddo drwplu esgyrn Iolo Morgannwg sy? Ma'r dyn wedi camsynad un lolo yn lle un arall. Falla na wydda fa ddim o'r blan fod mwy nag un Iolo yn hanas Cymru. Golchad 'i lycid a dwr a halan iddo gal dihuno, ag fe wel wetyn taw yn Iolo Goch, ne Iolo Gox, y cas Morgan y teilwr y nymber 6 yn lle w. Ag yto, ma'r dyn yn ddicon o ddelff i wed, "Digrif yw gweled Dafydd yn son am 6 yn lle w fel dyfais o waith lolo Morgannwg." Chlywodd a Dafydd ariod yn gwed shwd beth, a dos ganto ddim hawl i bwshu ’i hyrtwch 'i hunan ar ddynon erill. Fe glws inna am y Llyfyr Coch o Hergest, a'r Llyfyr Du o Garfyrddin, ond fydda i byth yn reffyro atyn nhw i dreio twyllo dynon mod i'n scolar, ag fe fentrwn bâr o scitsha na wyr Cas Nodyn ddim mwy am danynt nag am Lyfyr Melyn Japan, ne Lyfyr Glas Ynysoedd Mor y De. Fe alla dyn feddwl fod y cyw Cas a di-blyf hwn yn wybotus anghyffretin, ag yn ddicon duwiol i gal 'i gymryd i Gylch y Gwynfyd dder and dden yn ddi rypudd. Ond dyw'r cwbwl yn ddim llawar o beth, a dyma i chi chapter and fers o un o'i lythyra i ddangos hynny. "Nid ar fara'n unig y bydd byw dyn,” chwedl y diafol (chwarae teg iddo). Pan ddarllenas i'r cabledd annuwiol ag anwybotus hyn, fe deimlas whis oer yn rhy tag lawr dros 'y nghefan, ag fe I fuo bron colli'm hanal. Fysa neb ond pagan yn ddicon hurt i wed taw o ena'r diafol y dath y geira hyn. Dypia'r dyn odd yn ama a odd Beibil ne beido yn Shop y Crydd. Rwy'n ffeilu dyall, Mr. Golycydd, ffor buoch chi mor slac a gatal i shwd gabladd rhyfycus i ddod mas yn y "Darian." Gobeitho gall y Brenin Mawr fadda iddo. Ma'n gofyn lot o ras i grydd a theilwr i neud hynny. Y clasgad naturiol yw fod Cas Nodyn yn gwpod mwy am gwmpni'r Gwr Du na'r Gwyn. Nid fel champion y llythrenna dwpwl y bydda i'n etrych arno o hyn i mas, ond fel pagan wedi mynd yn ffosil.

DAFYDD Y CRYDD.

 

 

 

 

J7774 4 Hydref 1917

 

Shop Dafydd y Crydd. .Alishir Golycydd,- .,1 Bachan bidir yw'r Tramp. Fe alws yma'r wsnoth o'r blan, ag fe geso dicyn o'i gwmpni. Rodd yn ddrwg gen i na allswn i ddim rhoi'r un croeso iddo ag arfadd, am y mod i wedi seino'r pledj yr un pryd a'r brenin, ond fe gas gwart o lemwned horn briwd. Rodd Gwen a finna'n whilia am dano pan ddath a at y drws, ag ma hynny'n gwirio'r hen wheddal, "Soniwch am y cythral, fydd a ddim ymhell." Dw i ddim yn hinto fod y Tramp yn blongo i'r clwb hynny, oblecid rw i'n gwpod gwell. Ma'r tramp yn fachan old ffast, ag nid arno fe ma'r bai fod gwitwod yn ffreio am dano. Pan own i'n, tapo'r drytydd botelad o lemwned, pwy ddath miwn ond Morgan y teilwr, a Eryr Pen Pych, ag mynta'r Tramp mwn englyn tair lein: Wel, dyma gwartet, Y gora "I bet," A welwyd gan "Lygad y Dydd." "Cwpla fa'n englyn whech lein," myntwn inna, wrth Morgan. "Onaf gyta phlesar," mynta'r teilwr: Yr Eryr a'r Tramp, Prydyddion tan gamp, Y teiliwr a Dafydd y Crydd. "Tawn i heb gyffro," myntwn inna, "dyna'r englyn perta welas i slawar dydd. Ond pwy isha i ti'r Tramp ddod miwn a Llygad y Dydd?, Falla dy fod ti'n un o'r rhai gollws yn Steddfod Pen Borcyn. Rodd un o nhw'n gwed fod coes i'r blotyn. Wrth gwrs, nid ti odd hwnnw, ne fe fysat yn gwed'i fod a'n gloff fel ti d'hunan." Na, donn i ddim yn cynnyg, Dafydd. Rwy'n onfi taw lotry yw hi lawar pryd lie bo lot yn cynnyg. Fe glwas am un beirniad unwaith yn rhoi'r gang i gyd mwn het, ag yn rhoi'r preis i'r cynta mas. Ond rw i'n cretu fod Alfa wedi ffysto pawb yn eitha teg y tro hyn, a dyw Job a Berw ddim yn ddynon sy'n beirniadu mwn het. Beth wetwch chi, boys? Rwyt ti'n eitha iawn," mynta'r teilwr. Hollol gydolygu," mynta'r Eryr. "Unfryd unfarn," myntwn inna. Ond wbwb! ma Gas Nodyn wedi colli, ag yn poeri ar Job fel dyn cyn- ddeirog newydd ddod mas o'r Seilam. Dyw a'n son, dim am Ferw, y beirniad arall, er ei fod 'run tarn a Job. Fysa dim ond blagard pen ffordd yn dod lawr ar un beirniad, ag yn gwpod fod y nail yn cydweld. Rwyt ti, Eryr, yn napod Berw. Oti a'n dyall rhwpath am englyn? Oti, Dafydd, mae a'n un o'r beirnied gora fu ar y bench ariod, ag fe all neud englynion yn'i gwsg yn well na Chas Nodyn ar ddihun. Mae a mor ychal fel bardd a beirniad, fel na, all Cas Nodyn ei weld heb telescope hir, a rhaid iddo ynta gal microscope dybl powar i weld Cas Nodyn. Treio cwni storm mwn tepot ma'r dyn, i dynnu'r shein oddiar Alfa. Pwy wyt ti'n feddwl wrth y tepot? Os taw fe'i hunan, fe fyswn i'n gwed coffi-pot, am fod ei spowt yn hirach ag yn dduach. Dicyn yn ddiprish am dy ffigyra wyt ti, Eryr. Beth wyt ti, Morgan, yn wed am feirniatath Cas Nodyn ar yr englyn ? Rwyt ti'n dawal iawn. Dw i'n meddwl dim am dani, Dafydd. Dos gan y dyn ddim barn o gwbwl. Welas i neb ariod mor ddiglem, ag mae a mor ddi awan a sgubell. Y peth gora all a neud yw poeri, a dos dim isha rhyw sopyn o dalent i hynny. Y dyn sy heb ddyall y gwaniath rhwng 'afonydd' I a 'bwrlwm,' fe ddyla gal electric light yn'i garet. Mae a mor ddi farn ag mor ffol wrth gamol un ag wrth regi'r llall. Nid yw'n gweld ergyd y "bwrlwm," ond mae "pawb a'th gar" wedi ei diclo'n ddisprad. Dyna i chi farddon- iaeth gampus! Dyna i chi idea grand! "Pawb a'th gar! Nath y Bardd Cocos ar'i ora ariod ddim mwy sybleim. "Pawb a'th gar," O'r cilog i'r iar, 0 begwn y Gogledd I waelod Shir Gar. i Ond mae mwy na "phawb a'th gar" yn yr englyn sy'n ora gan Gas Nodyn. j Ma'r meddylia'n pyngad fel pren gropwns ym mish Awst, ne onnen a berries cerdin arni. Dyma'r lein gynta: Swyn cann dy dlysni cynnar." Ma hon mor hen a "gwenau'r gwan- wyn," ta fater am hynny. Gwell i fi wed taw Llygad y Dydd yw'r testun, rhag i neb feddwl taw i'r mushroom ma'r dyn yn treio canu. Fe fysa hon yn lein splendid i'r mushroom, ond welas i ariod yto lygad y dydd heb lot o felyn o dan'i amrant—lliw'r houl. ¡ Glywsoch chi ariod o'r blan rywun yn galw peth melyn yn "swyn cann1?" Dos dim dowt nad mushroom odd yn meddwl y dyn. Beth yw'r gwaniath sy rhwng 'swyn,' 'tlysni,' a 'cheinedd' 1 Dyna dri gair yn yr un lein, a'r ystyr I yw hyn: Swyn cann dy swyn cynnar—ddwg swyn Y gwanwyn i'r ddaear. Dyw hi'n od yn y byd y'ch bod chi, Dafydd, wedi mynd i stwmp, ag yn gryndo a'ch ceg yn acor. "Eitha .reit," mynta'r Tramp. "Ond beth am y lein ddywetha," mynta'r Eryr- "Lygad heulog y dalar." Fe weta chi," mynta Morgan. "Fe fysa'r Athro'n gwed fod coll cynghanadd yndi, am fod d, a h, yn y part cynta yn gofyn t, yn y part dy- wetha, ond dyw hynny ddim yma nag yco. Beth yw ystyr y gair "talar" ? "Pen hwnt y cae," mynta'r Tramp. "Reit," mynta'r Eryr. "Twbi Shwar," myntwn inna. Gan hynny, blodyn pen hwnt y cae yw Llygad y Dydd. "Dyna gelwdd gola, yn wyneb haul llygad goleuni," mynta'r Eryr yn wyllt. "Nid blodyn pen hwnt y cae, ond ei ganolyw Llygad y dydd. Blue bells sy'n tyfu ar y 'talar,' yn enwetig os bydd coed ar y clawdd." Fe glwas taw Eifon Wyn bia'r pishyn pert hyn, a bod ganto lot miwn fel ar- fadd. Fydd a byth yn folon ar un, ag wrth gwrs, os taw lotry fydd hi, mae a'n sefyll well shawns. Os w i'n cofio'n iawn, r'odd enw Eifon Wyn ar y pro- gram fel un o'r beirnied, ond ma'n depyg iddo dynnu'n ol, i gal mynd i bendraw'r ca' i glasgu daisies, ond gwaetha'r lwc, fe ddath nol a bouquet o ddant y llew a dail bysedd y cwn, gan feddwl nag odd y beirnied yn gwpod dim gwaniath. Dyna'r* mistec ma bechgyn yn neud—cymryd ffor granted fod pawb yn ddwl ond nhw'u hunen. Dos dim i'w ddishgwl nawr ond i lot o Zeppelins gwni o'r North i ddropo bombs ar Aber Gwaen, a Chwm Tawe, oblecid Eifon Wyn yw'r collwr mwya truenus o'r holl griw i gyd. Dyw'r englyn arall, yr "ail ora," ddim yn werth'i halan. Yr unig beth mae a'n wed yn y ddwy lein gynta yw, fod y blodyn yn "gennad gwanwyn," ag ma hynny wedi cal'i wed gannodd o weitha o'r blan. Am y ddwy lein arall, dyma nhw: Serenna'i dras ar weunydd, Heulog dorf, hyd lewyg dydd." Pwy isha son am dylwth y creadur bach, gan taw fe'i hunan odd y testun ? Y cwbwl ma'r ddwy lein yn wed yw hyn, fod "tras" llygad y dydd, nid fe'i hunan, ond'i dras, yn serennu ar weun- ydd nes i'r dydd gal flit! Os caiff blodyn llygad y dydd olwg ar yr englyn hwn, fe gaiff ynta flit. DAFYDD Y CRYDD. Printed and Published for the Pro prietors, The Tarian Publishing Co., Ltd., by W. Pugh and J. L. Rowlands, at their Printing Works. 19 Cardiff St.. Aberdare; in the County of Glamorgan I

 

 

 

 

Sumbolau:

a A / æ Æ / e E / ɛ Ɛ / i I / o O / u U / w W / y Y /
ā
Ā / ǣ Ǣ / ē Ē / ɛ̄ Ɛ̄ / ī Ī / ō Ō / ū Ū / w̄ W̄ / ȳ Ȳ /
ă Ă / ĕ Ĕ / ĭ Ĭ / ŏ Ŏ / ŭ Ŭ /
ˡ ɑ ɑˑ aˑ a: / æ æ: / e eˑe: / ɛ ɛ: / ɪ iˑ i: / ɔ oˑ o: / ʊ uˑ u: / ə / ʌ /
ẅ Ẅ / ẃ Ẃ / ẁ Ẁ / ŵ Ŵ /
ŷ Ŷ / ỳ Ỳ / ý Ý /
ɥ
ˡ ð ɬ ŋ ʃ ʧ θ ʒ ʤ / aɪ ɔɪ əɪ uɪ ɪʊ aʊ ɛʊ əʊ /
£

ә ʌ ẃ ă ĕ ĭ ŏ ŭ ẅ ẁ Ẁ ŵ ŷ ỳ Ỳ
---------------------------------------
Y TUDALEN HWN /THIS PAGE / AQUESTA PÀGINA:
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_126_dafydd-y-crydd_1917_3784k.htm
---------------------------------------
Creuwyd / Created / Creada: 02-06-2017
Adolygiadau diweddaraf /
Latest updates / Darreres actualitzacions: 29-12-2022, 26-09-2019, 22-11-2017, 03-06-2017, 02-06-2017
Delweddau / Imatges / Images:

Ffynhonnell / Font / Source: Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Newyddiaduron Cymru Arlein.
---------------------------------------
Ble'r wyf i? Yr ych chi'n ymwéld ag un o dudalennau'r Wefan CYMRU-CATALONIA
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web CYMRU-CATALONIA (= Gal·les-Catalunya)
Where am I? You are visiting a page from the CYMRU-CATALONIA (= Wales-Catalonia) Website
Weə-r äm ai? Yüu äa-r víziting ə peij fröm dhə CYMRU-CATALONIA (= Weilz-Katəlóuniə) Wébsait

Freefind.

Archwiliwch y wefan hon
SEARCH THIS WEBSITE
---
Adeiladwaith y wefan
SITE STRUCTURE

Beth sydd yn newydd?
WHAT’S NEW?



CYMRU-CATALONIA
 

Web Analytics Made Easy -
StatCounter

Edrychwch ar ein Hystadegau / Mireu les nostres Estadístiques / View Our Stats