kimkat3785k Shop Dafydd y Crydd. Ysgrif yn nhafodiaith Aber-dâr o’r Darian. 1918.

22-12-2022







.....

Gweler hefyd / Vegeu també / See also:



 

0003g_delw_baneri_cymru_catalonia_050111
 (delwedd 0003)

 

 

 

 

 

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Gal
·les i Catalunya
The Wales-Catalonia Website

Dafydd y Crydd.

Y Darian. 1918.


Y Llyfr Ymwelwyr / El Llibre de Visitants / The Guestbook:

http://pub5.bravenet.com/guestbook/391211408/


a-7000_kimkat1356k Beth sy’n newydd yn y wefan hon?

6665_map_cymru_catalonia_llanffynhonwen_chirbury_070404

(delwedd 4665)

.....

Map

Description automatically generated

(delwedd J7058b)

.....

 

.....1918
25 Gorffennaf 1918
.....
07 Tachwedd 1918

 

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd J7510a) (25 Gorffennaf 1918)

Y Darian

 

25 Gorffennaf 1916

 

Shop Dafydd y Crydd.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Mishdir Gol. — R w i am gâl ych caniatad chi i gico nyth cacwn, y tro hyn. Y cacwn yw'r beirdd cadeiria Steddfodol a ma hi’n llawn bryd câl whalfa arnyn nhw, a gneithir iddyn nhw symud ymlan at rwpath arall ys gwetws yr Awdwr pan oedd a'n sgrifennu at yr Hebreaid. Onibae fod cenhedloedd erill dicyn yn dwp a ddim yn gwpod y'n hiaith ni fyse beirdd Cymru yn gneud y genedl yn laffin stoc i'r byd. Mi fuws adag pan odd i beirdd hi'n anrhytadd i Gymru, a falla bod rhai o honyn nhw felny o hyd, ond fel cenedl ma nhw wedi dirywio'n ddigynnig, ag os an nhw'n mlân fel ma nhw'n awr nhw fyddan cyn yr el y genhedlath hon heibo'n ddim gwell na band o gwn, a rheiny'n gwn hela wrth gwrs. Cofiwch chi taw am feirdd yr Eisteddfota rw i'n wilia nawr, a falla bod ymhlith y rheiny gymint a allwth chi gownto ar benna'ch bysadd o ddynnon rispectabl. Ma 'na genedlaetha arall o feirdd sy'n anrhytadd idd u gwlad. Ma lot o feirdd y DARIAN a beirdd papyra erill felny. Dyna'r cocosfeirdd sy a gwen ar ei gwynep 'n wastadol a fel llycid y dydd yn troi o hyd gyda'r heulwel [sic; = heulwen]. A dyna farnadwyr yr ardaloedd, ma nhwytha wedi tywallt olew a balm ei hawen fach i friw calonna'r milodd ac wedi rhoi darn o anfarwoldab mwn ffram a ddarllenir gyda hyfrytwch ac anwyldeb gan rai ar hyd ei hoes. Ond beirdd yr aml gadeiria y byswn i'n leicio rhoi cic dda idd u nyth nhw. Mi fu Morgan y Tilwr a finna'n treio llunio enw i roi ar y rhai hyn a thicyn o job odd hynny, a mi ffaelson ni gâl gwell hwn:

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Text

Description automatically generated

(delwedd J7510b) (25 Gorffennaf 1918)

 

 

 

"URDD Y SYCHED AM I GADAIR.”

Cwestiwn mawr arall y buon ni'n treio diseido, arno odd pwy fysa' ni'n roi yn yr urdd. Rodd Morgan yn dala'n gryf, gan taw deuddeg llwyth odd yn Israel y dylsa deuddeg cadair fod yn suffisient i bob bardd rispectabl, a beth bynnag a fyddo dros ben hyn o'r drwg y mae ys gwelws Charles o'r Bala. Roeddwn inna'n cretu, gan fod deuddeg sir yng Nghymru, a Sir Fynwe'n gneud un yn ecstra pan fydd hi'n gyfleus, y gallan ni lwo i fardd ennill deuddeg cadair - am bob sir a’r gadair genedlaethol i sefyll am Sir Fynwe i neud tair ar ddeg. Rodd Wil Smith yn gweld hyn yn feri risnabl a mi rows y tilwr miwn i ni. Fel hyn ma pethach yn sefyll nawr pob bardd, os gall a, i ennill deuddeg catar ag yna i fynd am y gatar Genedlaethol, ne ddim. Os bydd a wedi ennill mwy na chatar am bob sir, ag yna'n para i dreio am gadeira y galla crots bach u hennill nhw ma fa'n

 

 

 

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd J7510c) (25 Gorffennaf 1918)

 

mynd yn otomaticali i "Urdd y Syched am Gadeiriau. I roi sel ar y peth yng ngwyneb haul a llygad goleuni rw i'n gorchymyn i'r Archdderw ne'r depiwti Cadfan i goeddi hyn ar y maen llôg yng Nghastall Nedd ag yn dymuno ar i Syr Owen M. Edwards, os bydd a yna, i eilio'r cynhyciad widd e fenjans. Mi wetws Syr Owen yn Steddfod Abarystwyth y dylsa'r beirdd gymryd holide am bymthag mlynadd, os yw Morgan y tilwr yn cofio'n iawn, a chysegru'r amsar hynny, i neithir pethach ar gyfar plant Cymru. Ond chymrws dim un o honyn nhw ddim dwarnod o sbel, na nath dim un o honyn nhw ddim pishin i blant ond rheiny, odd wedi arfedd gneud. daioni. Pwy reswm y'n bod ni'n clywed o hyd am feirdd ucan catar, beirdd deg catar ar hucan, beirdd hanner can catar, beirdd whech ucan catar, beirdd saith ucan catar, and so on. Ma rhain wedi a damnio eisoes ys gwet's Wil Helm yr ail, ag i Germani at hwnnw y dylsa nhw fynd i gyd yn lle bod ar hyd y wlad fel llycod mawr yn bwyta'r coed i fyny a neb arall yn câl siawns. Ma Morgan y tilwr yn gwed wrtho i am roi gair ar y diwedd ma fod urddas yr Eisteddfod yn hawlio symud ar unwaith yn y mater a ma fa'n gwed hefyd y taliff i fi am nuthir par o sgitsha gora alla i idd u rhoi'n wobor i'r bardd a neith yr englyn gore i Urdd y Syched am gadair, a'i ddarllin ar y Maen Llôg yng Nghastell Nedd. Cofiwch chi taw nid jôc yw hyn. Mi gymra i ddyfarniad yr Archdderw ne'r biwti Cadfan ar y gore, a dim ond i'r bardd hala mesur i drôd fwya i fi ne hen bar o sgitsha i ofal Swyddfa'r DARIAN mi ddaw'r par sgitsha gora fu am i drad e ariod nol bei rityrn iddo mor gynted a câ i amser idd u gneud nhw.

 

DAFYDD Y CRYDD.

 

 

 

A picture containing text, newspaper

Description automatically generated

(delwedd 6569) (07 Tachwedd 1918)

Y Darian. 7 Tachwedd 1918.

Siop Dafydd y Crydd.




 

 

 

 

 

 


Mr. Gol.,— "Urdd y Plu Benthyg" yw'r testun heddy. Ma cyflwr pethach yn wath o lawer nag own i'n meddwl i fod a cyn i Morgan y Teilwr ag Eryr Penpych neud incweiaris ar 'y nghais i. Ma mwy o blu bentbyg ym mhen amball fardd na sy ym mhen Red Indian, a mwy o Jacs yn ishte mwn cadeira na nillson nhw ddim o honyn nhw na feddylsa neb. Gyda llaw, ma Wil Smith yn gweyd y bysa Red Indians yn well enw arnyn nhw nag "Urdd y Plu Benthyg." Ond wn i ddim pam na all pob un alw arnyn nhw'r enw a fynn a, ond 'u galw nhw'n rhwpath heblaw dynion gonast. Wn i ddim a oti e'n deg a'r Red Indian, chwaith, cymryd 'u henw nhw'n ofar 'nglyn a rhyw dacla fel hyn. Ma gan yr Urdd hyn lawar ffordd i glasglu plu na sy'n perthyn iddyn nhw idd u penna moel. Os byddan nhw'n gwpod fod beirniad dicyn yn ddiniwed a chyfyng i wybotath, fel ma llawar o henyn nhw, ma'r urdd yn gallu mentro cymryd pryddest go dda o eiddo rhywun arall a'i hala hi i gystadleuath. 'Os digwyddan nhw gal y gatar, ma ganddyn nhw yn barod yn u poced hen bryddest o'u gwaith u hunen, gan mwya, sy mor dena a sgadenyn, ond nid mor flasus. Ma nhw'n mynd i'r lan i'r llwyfan, yn plygu dan u pwysigrwydd, yn llio'u gwefla ac yn derbyn y banllefa cymeradwyaeth mor ddigwiddyl a Thwrcs. Yna ma nhwn gofyn i'r ysgrifennydd am gal gweld u pryddast am funed. Wrth gwrs ma nhw'n cal, ond y bryddest odd yn y boced sy'n mynd nol i'r ysgrifennydd. Dyna un ffordd i glasgu plu. Mi nawd hyn yn ddiweddar iawn, a dodd hyd yn oed y bryddast odd yn y boced ddim yn rhydd o blu benthyg! Rw i'n gobeitho, ar ol hyn, y bydd ysgrifenyddion eisteddfota ar u gwyliadwriath. Rhai slei digynnig yw y Red Indians barddol yma os ca nhw ddim o gyfla. Ma Morgan y Teilwr wedi derbyn riport arall o Gwm Tawe am ffordd arall i glasgu plu. Mi ddaw hwnnw yn y llith nesa. Rw i nawr yn gatal i Eryr Penpych ganu u clod nhw yn yr englynion hyn:

Llen-honnwr llawn o hunan, — twrr sothach
Yn torsythu allan;
Haws na'u tyfu yw plu plan Gwywlwyd deiflyd glod diflan.

Ei dalent ydvw eilio, — dynwared
Dawn eraill, copio;
Cyfrwys gall aralleirio
Yw ei fudr waith a'i fedr o.

Y lleidr llen sy'n llwydo'r lli - genweiria
Ag anwiredd llymgi,
Dalla'r hen, twylla'r heini,
Basgeda braf bysgod bri.

Ond o'i wobr daw ubain,- a gwga
Gweigion dlysau cywrain;
Cadeiriau breichiau bair ochain,
A'i goron ddrud geir yn ddrain.

DAFYDD Y CRYDD.

 

 

 

 


Sumbolau:

a A / æ Æ / e E / ɛ Ɛ / i I / o O / u U / w W / y Y /
MACRONː ā Ā / ǣ Ǣ / ē Ē /
ɛ̄ Ɛ̄ / ī Ī / ō Ō / ū Ū / w̄ W̄ / ȳ Ȳ /
MACRON + ACEN DDYRCHAFEDIGː Ā̀ ā̀ , Ḗ ḗ, Ī́ ī́ , Ṓ ṓ , Ū́ ū́, (w), Ȳ́ ȳ́
MACRON + ACEN DDISGYNEDIGː Ǟ ǟ , Ḕ ḕ, Ī̀ ī̀, Ṑ ṑ, Ū̀ ū̀, (w), Ȳ̀ ȳ̀
MACRON ISODː A̱ a̱ , E̱ e̱ , I̱ i̱ , O̱ o̱, U̱ u̱, (w), Y̱ y̱
BREFː ă Ă / ĕ Ĕ / ĭ Ĭ / ŏ Ŏ / ŭ Ŭ / B5236ː  B5237ː B5237_ash-a-bref
BREF GWRTHDRO ISODː i̯, u̯
CROMFACHAUː
  deiamwnt
A’I PHEN I LAWRː , ә, ɐ (u+0250) httpsː //text-symbols.com/upside-down/

ˈ ɑ ɑˑ aˑ aː / æ æː / e eˑeː / ɛ ɛː / ɪ iˑ iː / ɔ oˑ oː / ʊ uˑ uː / ə / ʌ /
ẅ Ẅ / ẃ Ẃ / ẁ Ẁ / ŵ Ŵ /
ŷ Ŷ / ỳ Ỳ / ý Ý / ɥ
ˈ ð ɬ ŋ ʃ ʧ θ ʒ ʤ / aɪ ɔɪ əɪ uɪ ɪʊ aʊ ɛʊ əʊ / £
ә ʌ ẃ ă ĕ ĭ ŏ ŭ ẅ ẃ ẁ Ẁ ŵ ŷ ỳ Ỳ Hungarumlautː
A̋ a̋

U+1EA0 Ạ   U+1EA1 ạ
U+1EB8 Ẹ   U+1EB9 ẹ
U+1ECA Ị   U+1ECB ị
U+1ECC Ọ   U+1ECD ọ
U+1EE4 Ụ   U+1EE5 ụ
U+1E88 Ẉ   U+1E89 ẉ
U+1EF4 Ỵ   U+1EF5 ỵ
gw_gytseiniol_050908yn 0399j_i_gytseiniol_050908aaith
δ δ £ gw_gytseiniol_050908yn 0399j_i_gytseiniol_050908aaith δ δ £ U+2020 †

« »

DAGGER
wikipedia, scriptsource. org

httpsː []//en.wiktionary.org/wiki/ǣ

Hwngarwmlawtː A̋ a̋
gw_gytseiniol_050908yn 0399j_i_gytseiniol_050908aaith δ δ
…..
…..
ʌ ag acen ddyrchafedig / ʌ with acute accentː ʌ́

Ə́ ə́

Shwa ag acen ddyrchafedig / Schwa with acute

…..
…..
wikipedia,
scriptsource.[]org
httpsː//[ ]en.wiktionary.org/wiki/ǣ

---------------------------------------
Y TUDALEN HWN / THIS PAGE / AQUESTA PÀGINA:
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_126_dafydd-y-crydd_1918_3785k.htm
---------------------------------------
Creuwyd / Created / Creada: 02-06-2017
Adolygiadau diweddaraf / Latest updates / Darreres actualitzacions:
29-12-2022. 07-10-2019, 02-08-2018, 22-11-2017, 03-06-2017, 02-06-2017
Delweddau / Imatges / Images:
Ffynhonnell / Font / Source:
---------------------------------------
Ble'r wyf i? Yr ych chi'n ymwéld ag un o dudalennau'r Wefan CYMRU-CATALONIA
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web CYMRU-CATALONIA (= Gal·les-Catalunya)
Where am I?
You are visiting a page from the CYMRU-CATALONIA (= Wales-Catalonia) Website
Weə-r äm ai? Yüu äa-r víziting ə peij fröm dhə CYMRU-CATALONIA (= Weilz-Katəlóuniə) Wébsait

Freefind.

Archwiliwch y wefan hon
SEARCH THIS WEBSITE
---
Adeiladwaith y wefan
SITE STRUCTURE

Beth sydd yn newydd?
WHAT’S NEW?

 

Web Analytics Made Easy -
StatCounter

Edrychwch ar ein Hystadegau / Mireu les nostres Estadístiques / View Our Stats (Y Wenhwyseg / el dialecte gwentià / Gwentian)