kimkat3783k Shop Dafydd y Crydd. Ysgrif yn nhafodiaith Aber-dâr o’r Darian. 1916.

22-12-2022







.....

Gweler hefyd / Vegeu també / See also:



 

0003g_delw_baneri_cymru_catalonia_050111
 (delwedd 0003)

 

 

 

 

 

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Gal
·les i Catalunya
The Wales-Catalonia Website

Dafydd y Crydd.

Y Darian. 1916.


Y Llyfr Ymwelwyr / El Llibre de Visitants / The Guestbook:

http://pub5.bravenet.com/guestbook/391211408/


a-7000_kimkat1356k Beth sy’n newydd yn y wefan hon?

6665_map_cymru_catalonia_llanffynhonwen_chirbury_070404

(delwedd 4665)

.....

Map

Description automatically generated

(delwedd J7058b)

.....

.....1916

 

13-01 J7773

....
13-04 1916 B2317 i’w ychwanegu

27-04 J7776
.....
01 06 1916 B2236 i’w ychwanegu

08 Mehefin 1916
15 Mehefin 1916

 

 

 

 

13-01 J7773

Shop Dafydd y Crydd. I Mishtir Gol.3— Ma'n dda gen bawb fod y brenin wedi rhoi clenig i lot o foys Cymru ar ddechra'r flwyddyn newydd. Nid rhw sopyn o'r petha hyn sy'n dod i'n gwlad fach ni, ond ma petha'n gwella yn y lein hyn. Chretwch chi byth mor falch own i fod O.M." wedi cal'i neyd yn Farchog. Wn i yn y byd shwd rider yw a, na faint o bractis ma fa wedi gal acha cefan ceffyl. Pe ba fa'n galw yma, fe roiswn i dicyn o gwyr crydd ar y cyfrw, er mwyn iddo gal bod yn saff ta'r march yn sheio. Fe fu'r brenin just mynd i ddiwadd yn Ffraine, am nag odd .neb wedi gofalu am gwyr o dano. Gobeithio y bydd "O.M." yn farchogwr da, ag y eaiff a geffyl mor gall ag e'i hunan. Dos neb yn caru "Cymru" yn well na "O.M. na neb wedi gneyd cymint drosti. Ma llawar yn catw mwy o fwstwr, yn enwetig os ca nhw neyd hynny yn Sysnag, ond ma mwy o nymber one yn y swn nag o ddim arall. Fe fysa Cymru" wedi darfod ys llawer dydd oni ba "O.M." Fe sy'n 'i chatw'n fyw. Fe fu'n Fembar of Parlament unwaith, ond dodd a ddim yn 'i glofars yno, a fu a ddim yn hir cyn whilo am jobyn arall. Fe glwas am hen byrgethwr o'r enw Shincyn Ddwywaith, yn gwed wrth'i eclws ar nos Sul, "Rwy'n mynd i neyd peth a chi heno, na nath y diafol a chi ariod." Beth yw hynny" mynta un o'r diaconied. Rwy'n mynd i'ch gatal chi," mynta Shincyn. Dyna nath O.M." a'r Parlament, ag fe ddylsa gal'i neyd yn Farchog dder and then am fod mor onast. Bachan iawn yw "O.M. ag ma "Syr Owen" yn ei weddu'n ffamws. 0 fechgyn Cymru, D.A." gas y clenig mwya, ag ma pawb yn eitha bolon. Fe drows ynta'i gefan ar y Parlament, a dodd un lie gwell o'i flan wetyn na'r Hows of Lords. Bachan smart yw D.A. ag wedi gneyd llawer o waith, a mwy na, hynny o gyfoth. Mawr dda iddo weta i. Bora ddo, fe ddath yma bisyn bach pert digynnig o Byrtawa i'r lord newydd. Dos dim enw wrtho, ond rw i'n geso taw Crwys bia'r gan-mae hi'r un spit ag e. Rwy'n siwr y bydd y lord newydd yn falch iawn o honi. Os canws Crwys gystal a hyn ar Abram Lincon, dodd hi'n rhyfadd yn y byd iddo ennill yn San Ffran Sisco. Tro yn ei le Oedd cofio D.A. A'i symud i ganol arglwyddi; Bu'n feistr yn hir, A daliodd ei dir, Er chwerwedd dialedd a dwli. Ni chlywodd efe Ond seiniau D.A. Pan genid yn uchel ei glodydd; Ond dim ond My Lord Yn awr yw y chord, Drwy'r awyr yn ddifyr i Ddafydd. Bu bendith ar ben Yr hen Sguborwen, Ni welwyd cynhaeaf melynach A medi o hyd, A gynnal y byd, Fu hanes y fusnes a'r fasnach. Mae pentre Byrdar I gyd ar y Sgwar, Yn bloeddio hwre yn un anthem; A chafnia y cor, Fel tonnau y mor Agennau trwy seiliau Tresalem. Bu'n ddiwyd ar lawr America f awr, Yn hogi ei arfau rhyfelgar; Darparodd yn llbn' Tu arall i'r don Fwledi ercosi y Caisar. My Lord, am ei lwydd, Yn awr yn ei wydd Mae taran o fawl yn ymdorri; Ei oes a fo'n hir, A'i wybren yn glir, Yn nefoedd a, gwleddoedd arglwyddi. Wn i ddim lord beth ma fa'n mynd i alw'i hunan. Dyw hynny ddim wedi dod mas yto. Ma rhai'n cynnyg Lord Sguborwen," ond naiff hynny ddim o'r tro yn ol ym meddwl i, oblecid y danjar yw i rai dorri'r gair, a'i alw'n Lord Sgubor, fel ma rhai dynon ffol yn galw Lord Ponty ar Lord Pontypridd. Fe fysa Lord Cynon yn enw bach net, ond fe nela Sais hwnnw wetyn yn Lord Synon. Dyna'r nafwch gyta'r tacla sy'n ffeilu prynownso Cymrag. Beth am Lord Morgannwg, Lord Glantaf, Lord Llanwern, ne Lord Siluria ? Anyhow, fe ddyla gal enw a bias Cymrag arno. Ond falla bydd a wedi dewish drosto'i hunan cyn gweld yr enwa hyn mwn print. Lwc a bendith i'r lord newydd. [Nodiad: Wedi i Dafydd ysgrifennu'r uchod gwnaed yn hysbys mai Arglwydd Rhondda o Lanwern fydd teitl "D.A."Gol.] Rodd llawer yn dishgwl y bysa un arall yn dod miwn i Ordd y Marchogion, a hwnnw yw Tramp y Darian. 0 ran hynny, fe nelsa gystal lord a'i hannar nhw. Enw bach teidy ddicon fysa Lord Tramp. Ma pawb yn gwpod erbyn hyn taw fe rows Stanton yn y Parlament, ag fe ddylsa'r brenin roi clennig iddo am hynny. Wn i ddim shwd fachan fysa fa ar gefan ceffyl, am fod un gos iddo gymint yn fyrrach na'r Hall. Peth lletwith iawn fysa gweld dyn yn brychga acha whew. Tysa fa'n peido boddro cymint am 'i gloffi, fe fysa'n sefyll gwell shawns o'r hannar. Ond ma'n well gen i ddyn yn gloff yn 'i weilod nag yn'i dop. Gobeitho y cofiff y brenin am dano, pan fo fa'n rhannu honars 'i ben blwydd. Oti'r hyn ma Harfryn yn wed yn wir am Library Byrdar 1 Sposib Rw i wedi mynd i stwmp, ag fe ddyla gwad pob Cymro ferwi'n wyllt. Os yw'r prif ddyn yn Sais uniaith, fe ddyla'i assistant rhag cwiddyl ddyall rhwpath am Gymru a Chymrag. Y tada, ble maent hwy? Os yw'u plant nhw'n gallu bod yn llonydd, a'u hawlia dan drad, 'dy nhw ddim yn werth 'u halan. Ble ma'r Cymrodorion? Beth i nhw da? Chi, gysgaduried llwfwr, dihunwch. Coeddwch ryfal, a chanweh y'ch cyrn ta nhw'n ddim mwy na chyrn hyrddod. Torchwch y'ch llewish, a throwch y byd wynab i warad, a mynnach whara teg i'ch gwlad a'i phobol. Gwm siriol, mae'th wrolionwedi mynd Ym mhell i'r cysgodion; Ac i'r lie bu cewri lion, 1 Daw ieir o Gymrodorion. DAFYDD Y CRYDD. I I

 

 

None

(delwedd B2317a) (13 Ebrill 1916)


Y Darian. 13 Ebrill 1916

 

Shop Dafydd y Crydd.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Mishtir Gol. ,—  Fe wela fod Brynfab yn gofyn beth sy wedi dod o Dafydd y Crydd. Wel, mae a'n fyw, ond wedi bod yn catw'i wely am wthnosa. Fe etho i Byrtawa i ordro lletar a hoilon, ag fe gretas na ddelswn i'n ol byth. Fe fuo bron sythu yn y glaw a'r eira, ag oni ba mod i'n weddol drwm, fe fyswn wedi dysgu hedfan gyta'r gwynt. Rodd gen i' ymbrelo walbon newydd, yn ddicon mawr i dri ar dywydd rhesymol. Ond pan own i bothtu ddwylath o'r stashon fe ddath rhw hyrican heibo gyta'r peth mwya sybyrthol a welsoch chi ariod, ag fe drows yr ymbrelo o whith, ag fe stripws yr holl gonsarn off nag odd gen i ddim ond y co's ar ol. Tra'r own i'n inspector's [inspecto’r] co's, dyna bwff drychynllyd arall o wynt yn mynd a'm het i rwla dros bena'r tai na welas i ddi byth. Os i chi'n moyn cal ilistreshon o hyn, dishgwylwch ar y pictwr sy'n y "Darian" ar "Beth sy mwn het?" Dyna, fel bu arno i yn Byrtawa. Diwadd y gwt odd, i fi ddod sha thre a'm hesgyrn wedi troi'n bipa o rew. Ma'n depig taw ar ben mynydd ma Brynfab yn byw. Ma un peth yn ddicon siwr, dodd a ddim mas y noswath hynny, onte fe fysa fynta'n gwpod erbyn hyn “Beth sy mwn het."

 

 

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd B2317b) (13 Ebrill 1916)

Fe fu Dr. Short a'i assistant yn tendo arno i am rai wthnosa, ag ma arno i whant gwed ticyn o'm meddwl am y clas hyn o ddynon. Y gwir ag e yw, 'dyn nhw ddim yn werth 'u halan, yn enwetig doctoried gwaith. Rwy'n cofio pan own i'n byw yn Llangyfelach, fod te llysa Motryb Beti yn gwella pob annwd cyn pen wthnos. Rhw enwa Llatin sy ar bob stwff nawr, ond enwa Cymrag odd ar lysa Motryb Beti - gamil, wermwnt, safry fach, growndeifi, dant y llew, a ffa’r gors. Syrten ciwar bob tro. Ond ma'r doctoried nawr yn catw dyn yn'i wely am wthnosa heb fod ddim ifflin gwell. Fella fod hynny'n talu'n dda iddyn nhw, ond yn talu'n ddrwg i ddyn yn gorffod peswch nos a dydd, fel ceffyl yn y pas. Ma'r doctor a'r cyfreithiwr yn whara'u carda'n depyg iawn idd 'u giddyl. Rhowch chi stat yn llaw cyfreithwr, ma fa'n siwr o hongad y fusnas nes bo'i hannar hi wedi mynd. Fe glwas unwaith am ddoctor ag un o wyr y cwils, yn cwrdd a'u giddyl mwn mynwant, ag medda'r cyfreithiwr wrth y doctor, “Faint o ddynon sy'n gorwadd yma wyt ti wedi'u lladd?” A medda'r doctor nol, “Dim hannar cymint ag wyt ti wedi'u blingo'n fyw." Ond brawd mocu yw tacu. Rwy'n cofio clwad am hen frenin odd yn byw bothtu amsar Solomon, yn gneyd contract a'i ddoctor i dalu hyn a hyn yr wthnos tra fydda fa'n iach, ond dim tra fydda'r doctor yn tendo arno, ag ma'r hanas yn gwed fod yr hen frenin hynny yn gwella o bob clefyd 'mhen dou ne dri diwarnod. Plan da odd hwnnw, ag fe dala'i ffordd yto i lawar y dyddia hyn.

Y peth cynta ofynnws y doctor i fi odd, “Beth sy isha arno i wpod," myntwn inna. Gadewch i fi weld y'ch tafod chi," mynta fe wetyn. Twt," myntwn inna, “ma nhafod i'n reit, isha gwella'r corff sy arno i. Os taw'r tafod sydd i wed beth sy arno i, chi gewch wpod y complaint, oblecid wetws a gelwdd ariod." Ond ma'n ddicon plain nag odd y Doctor na'i assistant yn gwpod yn y byd beth odd yn bod. “Inffliwensa” un diwarnod, “Bronceitas” ddiwarnod arall, “Infflameshon" dro arall, “Seiatica” cyn diwadd yr wthnos. Ond yr hyn odd ar syrtifficat y Clwb odd “Dyspepsia," ta beth yw hynny. Ond yr un moddion odd i'r cwbwl, y moddion coch sy'n gwella pawb. Fe ddath Marcad drws nesa miwn i ngweld i un dywetydd — rodd hitha wedi bod yn wal am dros dair wthnos, a phan welws hi'r moddion ar y mantlpis, mynta hi, “Yr un complaint sy arnoch chi a finna. Ma'r moddion hyn wedi gneud lles mawr i fi." Ond cyn pen pythewnos, rodd adishon yn y teulu gen Marcad, ag fe halas i moyn y doctor ar unwaith, i newid y moddion, rhag ofan i fi fynd i'r un picil a hitha. Y gwir ag e yw, 'dyn nhw'n dyall fawr ddim ond am dynnu dannadd, ag wrth neud hynny ma nhw'n tynnu'r un rong yn amal. Hit or mis yw hi am glefyd dyn byw, ond ma nhw i gyd yr un feddwl am ddyn marw, ag yn gwed taw "heart failure" odd arno. Wel ia, depig iawn, oblecid dyna sy ar bob dyn sy’n ffeilu byw.   

 

 

 

Text

Description automatically generated

(delwedd B2317c) (13 Ebrill 1916)

Rwy'n cofio clwad am Eirishman a'i benlin wedi mynd yn stiff, ag fe gas ordors i faddo'i glin bob nos a whisci. Rodd y doctor yn dod yno bob dydd, ag yn gwed'i fod a'n gwella'n splendid. Ond rodd y Padi'n yfad y whisci, ag yn rhwto'i glin a'r botal. Wydda'r doctor ddim o hynny, ond fe wydda'r dyn fod y whisci'n gneud mwy o les y tu fiwn na'r tu fas. Dyma fi wedi 'nghatw'n y gwely am wthnosa i yfad dwr wedi 'i liwo, a thepig y bydd y bil wedi cal'i liwo'n fwy coch na'r moddion. Ma peth fel hyn yn tw bad i ddyn a'i amsar mor bring. Nid stwff y doctor 'ngwellws i yn y diwadd, ond cordial o waith Gwen. Ma'n dreni na ba merched yn meddwl mwy am  betha fel hyn, i allu doctora ticyn pan fo taro. Chytig ma nhw'n feddwl am ddim nawr, ond am fflyrto a phrioti  showdwrs.

DAFYDD Y CRYDD.

 

 

 

27-04

Shop Dafydd y Crydd. Mishtir Qol.,— Pan own i'n darllin pishyn Gwili ar Beth sydd i mi yn y byd," fe ddath Morgan y Teilwr miwn yn sytan, ag wedi ishta lawr, a son am y tywydd, mynta fa, Be chi'n ddarllin, Dafydd 1" Pishyn Gwili yn y 'Dal'ian, myntwn inna. Gadewch a'n y man 'na," mynta Morgan. ii Dyw a'n gwpod yn y byd beth ma fa bothtu. Ma'n ad gen i fod dynon fel hyn yn rhytag i'r wasg i ddangos'u hanwybotatli. Ma fa'n eymryd ffor granted taw Morgan Rhys bia'r pennill. Dim o'r fath beth, ag fe ddylsa wpod gwell." Ymswynwch y dyn," myntwn inna, ma'r bachan Gwili 'na'n gwpod popath, a llawar mwy. Pwy i chi'n wed bia'r pennill 1" Fafasor Pwal," mynta Morgan. Beth wetsoch chi 1 Afasor Pwal! Dyn o bwy wlad odd hwnnw 1 Chlwas i ddim am i esgyrn a o'r blan," myntwn inna, ma enw od arno. Pun ne Sais ne ddyn, ne ffeirad odd a. 1" Cymro o Shir Fasyfad odd Fafasor Pwal," mynta Morgan, a phyrgethwr di ail gyta'r Baptis, ag fe ddyla Gwili wpod mwy o'i hanas. Fe ganws Beth sydd i mi yn y byd' cyn geni Morgan Rhys, a allsa neb ganu yn well yn y lein hyn, oblecid chas neb fwy o'i erlid. Dyn mawr odd Pwal, wedi cal monteishon da, yn y Colega gora, ag yn berwi fel crochon am wella'r wlad. Ond yr odd pob ffeirad yn ei erbyn, am i fod a gyta chrefydd ag nid yn yr Eclws. Dodd dim un ffeirad y pryd hynny yn Gwd Templar, ag ma'n depig fod lemwned yn brin. Mae hyna'n ddigon plaen yn llyfyr yr Hen Ficar o Landyfri. Wrth weld y stad sobor odd ar betha, fe ath Pwal trw'r wlad i byrgethij, ag ma'n depig fod pawb yn crowdo ar 'i ol. Ond yr odd gwyr y gyfrath i gyd yn perthyn i'r Eclws, ag yn'i erlid fel canddo o fan i fan, a'i gosbi fel lleidyr am wed y gwir. Fe fu yn y jail, miwn a mas, am dros ddeuddag mlynadd, ag yn y jail yn Llyndan y bu a farw mwn stat ddicon truenus. Dyna'r dyn ganws Beth sydd i mi yn y byd.' Pwy all feio'r dyn am roi 'i fywyd yn y penniil ? Welws a ddim ond 'gorthrymdera' nos a dydd. Fe ddyla'r dynon sy'n rhytag y pennill lawr gal mynd trw'r un tywydd i gal gweld shwd bydda nhw'n canu." Treni mawr," myntwn inna, odd erlid y dyn, ond rodd a'n torri'r gyfrath, ag arno fe rodd y bai., Dodd dim busnas gen neb yr amsar hynny i fcyrgethu os nag odd a yn yr Olyniath, ag wedi cal Betydd Hesbog, a'i Gonffyrmo. Ddyla neb yn ol yin meddwl i gal pyrgethu os nag yw a yn lein yr Apostolion. Galli di wed wrtho i, Morgan, beth yw'r 'parodi' ma Gwili'n son am dano ? Oti a. o'r un bonyn a parot 1 Ma lot o barots yn y byd 'ma yn treio gwed petha'n depig i ddynon erilL Beth yw 'parodi,' Morgan? •Ystyr "parodi, Dafydd, yw gneu d 1 sPort am ben rhwpath. Dyw parodi Gwili'n ddim ond sport o deimlad a gorthrymdera un o'r dynon gora fu farw'n ferthyr dros y gwir! Fe glwas am byrgethwr arall gas lawar o'i erlid yn gwed, Trist iawn yw fy enafd hyd angeu." Wn i ddim oti Gwili wedi gneud parodi o hwn ne beido. Ma gneud sport o deimlad Cristion yn llawn mor ddisynnwr a hynny. Rhown 1 ddim pishyn grot am grefydd dyn o'r short. Aros di, Morgan, whara teg i Gwili. Ma'r byd yn mynd yn'i flan, a phawb yn treio mwynhau'u hunen, ag isha mwy ° jolifficeshon sy yn hyma'r dyddia hyn. Dos dim sens ar ganu o hyd fel sa dyn rnwu anglodd. Ddyla neb neud hymn nawr a swn dagra yndo. Pe ba dyn down in ddy dymps, fe ddyla ganu'n llawan er mwyn erill. Fe allwn i feddwl taw dyna ma Gwili'n moyn. Rhwpath tepig i hyh: Fe la,ddodd Dafydd lew, Halellwia Yr oedd yn fachgen glew, Haleliwia; Fe dorrodd ben y cawr, Haleliwia; Mae cof am dano'n awr, Haleliwia." Isha mwy o betha fel hyn sy'n y llyfra "yma newydd, a llai o Beth sydd imi yc: y byd." Rhwpath i gwni calon dyn, ag nid idd 'i gwasgu'n shwps fel gwaith yr Afasor Pwal wyt ti'n son am dano. dafydd bach," mynta Morgan, t, feddyliss,i ariod y'ch bod chi mor dwp. Dyw dynon ddim yn gneud hyma fel gneud brics. Dyma gamsynid rhai 6'r crots sy'n treio gneud hyma y dyddia hyn. Os nag yw dyn yn rhoi 'i galon yn 'i bennill, dyw a'n ddim ond rhagrith a hymbyg- Allsa Fafasor Pwal ddim canu Pop goes the whistle,' a'r cwn ar ei ol ag yn 'i dynnu'n bishis. Dos dim un pennill mwy gonast na hwn ar lyfra Cymru. Ond rhaid i fi fynd. Noswath dda. [ DAFYDD Y CRYDD.

 

 

 

01 06 1916 B2236 i’w ychwanegu

 

 


A black and white photo of a group of people sitting at a table

Description automatically generated with medium confidence
(delwedd 5530) (8 Mehefin 1916)

8 Mehefin 1916

Y Darian

Shop Dafydd y Crydd.


 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Mishtir Gol., - Pan ddarllenas i bishyn Dafydd Gwr Nansen, a'i weld a'n trin y Tramp mor flagardus, fe etho'n ipish gwyllt. Chlwas i shwd dafod ys llawar dydd. Rwy'n cofio clwad dwy o ferched y Mera, odd yn gwerthu rhython, yn ffreio unwaith, ond do nhw ddim hannar mor insyltin iddi'u giddyl a'r dyn sy'n polisho'r Tramp yn y "Darian." Dyndishefoni! "Pom Pom” mae a'n galw'i hunan. Ystyr hynny'n y Gymraeg, ma'n depyg, yw Tom Thymb - y bachan hynny odd yn byw mwn bocs matchis. Ma fa'n gofyn i fi beth wy'n feddwl am y pictwr. Wel, y marn i am dano yw hyn, y dyla'r hen wraig droi wynab y pictwr at y wal rhag cwiddyl. Beth ma'r pwr Tramp wedi neud? Ma golwg dicon tlawd


 

 

A picture containing text, receipt

Description automatically generated
(delwedd 5531)
(8 Mehefin 1916)

 

arno heb'i flingo'n fyw fel hyn. Rwy wedi ffreio a'r Tramp ymhunan rai troion, ond do ni byth yn taro bilô ddy belt, nag yn dicio wrth y'n giddyl. Fu neb yn fwy o bartnars ar ol i'r bowt fynd heibo. R'ych chi'n cofio i fi yng nghenol y ffra addo par o glocs newydd iddo, dim ond iddo alw heibio'r Shop. Dyna fel dyla petha fod. Pwy sens yw i ddynon sy'n dysgu'r byd drin'u giddyl fel Eirish. Fe ddyla Pom Pom, a Nansen a'i gwr gal tri mish o hard lebar am criwalty tw animals.

Fe dreias i neud Hir a Thoddion petar lein i'r tacla hyn, ag er fod 'y ngwad i'n berwi, fe ffeilas gal llawar o hwyl. Falla taw gwell fysa i fi aros nes cwlo lawr. Dw i ddim yn siwr oti nhw'n reit yn ol riwl Brynfab: -

Gwr Nansen, beth yw'r ennill - o roi treth
Ar y Tarmp mwn pennill?
I ti'r cnaf chwibanaf bill, - a chorach
A fel yn fwbach o flaen dy ebill.

"Holo, Morgan, ti sy 'na? Dera miwn. Gwelast ti'r 'Darian?' Beth wyt ti'n feddwl am y dyn sy'n pitsho miwn i'r Tramp?" "Weta chi, Dafydd, ma peth fel hyn yn tw bad. Mwlsyn o ddyn fysa'n cico dyn cloff diniwad ar ol iddo ffeilu gweitho. Dos dim bachan mwy gwirion yn y byd na'r Tramp, a chystal labrwr a gitshws mwn rhaw ariod pa odd'i ddwy gos a'r un hyd. Ma gen i gwpwl o glowts i Pom Pom a'i dylwth, oblecid ma'r gang i gyd yn yr un cwtyn”: -


 

 


A picture containing text, receipt

Description automatically generated
(delwedd 5532)
(8 Mehefin 1916)


“'Pom Pom’ - yw bri y domen, - gwas penwag,
Sponer Modryb Nansen;
Garw'i big, a gwr o'i ben
I'w fogel, yn genfigen.

Awff anwar o dras Ffeniaid - ydyw ef,
O dafod melltigaid;
Bitw llesg yn bwyta llaid,
A'i ddannedd yw ei enaid.

I'r 'Darian," un o'r deri - yw y Tramp,
Yn troi mewn mawrhydi;
Ond dyn help! yn wawd i ni,
Wynwnsyn yw Gwr Nansi.

Mae bongler ymhob englyn, - a hurtwch
Yw ei bertaf nodyn;
Gwaradwyddo, damnio dyn
Gais y gwledig asglodyn.

Odlau dwli di heulwen - yw y truth
Ar y Tramp diamgen;
Nis gall y Dai bala'i ben
Greu nonsens fel Gwr Nansen.

Coeg yw y gwr, ceg i gyd, - a'i gordial
Yw blagardio bywyd;
Mwrddwr hollol, mor ddrewllyd
A thail a baw, erthyl byd.

Er i flac mor foel a het, - yn ei wg
Sugno'i waed fel 'ferret,'
Ar acen bur, cawn, 'I bet,'
Y Tramp yn canu trwmpet."

“Campus! Nelsa Freddy Welsh ddim gwell. Tawn i heb gyffro, Morgan, dyma'r peth gora nest ti ariod yn dy fywyd. 'Rwyt ti wedi rhoi noc owt iddo, ag ma fa tu fas i'r ring yn'i ddwpwl. Beth wyt ti'n wed, Eryr Pen Pych? Wyt ti wedi torchi dy lewish?" "Otw, Dafydd, ag fe ros i gwpwl o glatshis iddo, ond fe ffeilas i a'i setlo fa fel Morgan. Dyma rai o'r lefft handers roias i iddo": -

 

 


None
(delwedd 5533)
(8 Mehefin 1916)

 

F'awen hwylus fu'n holi - am hanes
Ymenydd o ddifri;
Yn ol trodd; ni welodd hi
Un ounce yng nghopa Nansi.

Trin y Tramp, trueni trwm - yw hynny,
Y fileiniaid cythrwm;
Arosach! nid oes reswm
Ar wado'r cawr drwy y cwm.

Byrhawyd coes y brawd call - drwy soriant,
Rhyw sarrug wraig anghall;
Ac mae cri rhyw Dwrci dall
Ar hanneru'r un arall.

Y blagard mawr a blygwn, - am ei nwydd
Mae yn haeddu pastwn;
Barddonol boeredd annwn
A geir o geg y rôg hwn.

Yr epa taer, pwy wyt ti - i roi clwy
I wr cloff diwyrni?
Ar gasgen brag a whisci,
Trwmpyn iawn yw ein Tramp ni.

Diniwed yn ei awen - yw'r gwawdus
Ergydiwr anniben;
Heddyw prawf o brydydd pren,
Bronownsiodd debar Nansen.

Gwelaf arf gloyw ei fin - ar y paith,
Lle bu'r "Pom" anhydrin;
Dianc fydd rhaid i'r dewin,
Yn smart, a dart yn ei ochor.

Da whara, Eryr. Rwyt titha wedi cal hwyl ddisprad, ond dw i ddim yn gweld fod y lein ola'n citsho'n dda. Dyw "dewin" ag "ochor" ddim yn swno'r un peth. “Dafydd bach, odl gudd yw hi." “O, gwed titha hynny. Chlwas i ddim am y codl hynny o'r blan." Gwen, dera miwn a'r lemwned 'na. Ma gen y boys 'ma ddicon o fwyd i ened am flynydda. Fe fydd yn dda gen y Tramp ddyall fod y bechgyn sy'n galw yn y Shop yn rhai smart ar'u dwrn, ag yn barod i helpu'r diniwad.

DAFYDD Y CRYDD

 

 

A picture containing text, newspaper

Description automatically generated

(delwedd B2577a) (15 Mehefin 1916)



15 Mehefin 1916
Y Darian

Shop Dafydd y Crydd.










 

 

 


Mishtir Gol. - Ma petha'n dishgwl yn ddicon lletwith y dyddia hyn ar dir a mor, a fyddwn ni ddim nes ymlan wrth gintach a tharo'r bai ar neb. Dos dim dowt nag i ni'n gneud y'n gora pan ddaw hi'n bwsh, ond dyw'r gora hynny ddim mor breit ag y bysa ni'n leico. Ma'r gelyn yn y'n catw ni dan law ar y tir, ag yn y'n boddi ni fel cathod ar y mor. Anodd gwpod beth fydd y diwadd os na ddaw tro ar betha cyn hir. Rodd Chyrchil yn gwed ar y dechra, os na ddela'r German Ffleet i'r golwg y bysa fe'n u ceibo nhw mas fel llycod o dwll. Peth pert iawn odd hynny ar bapyr, ond nid mor bert mwn practis, a ddaw dim llawer o les o rw frago disynwr fel hyn. O'r diwadd, fe ddethon mas heb 'u ceibo, a fuo nhw ddim yn hir cyn shinco petar ar ddeg o'n llonga ni yn y ffracas gynta, a mawr y dadla sy pwy gas y gollad fwya. Ond yr hyn rw i'n anfolon yw fod y'n collad ni mor fawr. Allwn ni ddim llai nag etrych yn sheepish ar ol rhoi shwd chalenj i'r gelyn i gwrdd a ni ar y mor. Ma'n hochor ni'n brago fod y German Ffleet wedi gorffod cilo nol i Heli-go-land, ond dos dim llawar o gymffwrt yn hynny. Fe fyswn i'n fwy satisffeid pe bysa nhw i gyd mwn Heli-go-wlyb yng ngweilod y mor. Ma Morgan y teilwr yn teimlo'r un peth, ag fe nath ddou englyn petar lein i'r batl fel hyn: -

 
"Hyd y mor diymwared, — taran lleng
Fu'n troi'n llongau'n darced;
A chablu cylch y "bloced”
Wnai dibris nwydau Abred.

Ddigalon fuddugoliaeth! — dibarhad
Yw brol dilywodraeth;
O'u cuddfa i'n difa daeth
Admiraliaid marwolaeth."







 

 

A close-up of a document

Description automatically generated with medium confidence

(delwedd B2577b) (15 Mehefin 1916)


Cyn y'n bod ni wedi cal amsar i gymhwso'n iawn, dyma'r newydd sobor fod Kitjiner yn y gweilod! Beth ddigwyddws, dos neb yn gwpod, ond dos dim dowt nag odd y Germans ar 'u watsh am dano. Ma nhw'n gwpod am bob mwv yn y wlad 'ma yn well na ni'n hunen. Collad fawr odd colli pen yr Army, yn enwetig Army a'i chorff wedi tyfu mor fawr. Ma'n wir nag odd bywyd hwn yndo'i hunan yn ddim mwy o werth na bywyd y rhai erill ath i lawr, ond rodd a’n fwy o werth i'r wlad ar hyn o bryd. Ma'n Genarals ni'n bring, a dos gyta ni neb arall o fawr cownt yng ngolwg y Germans. Bachan piwr welas i Kitjiner, ag fe fu'n eitha trwmpyn i fi pan alwas i'w weld a yn Llyndan ys ticyn yn ol. Y peth dywetha wetws a wrth shiglo llaw odd, "I shall be very pleased to see you any time when you come to town." Ond ma fa wedi mynd pwr ffelo, a cha i byth i weld a yto. Y tric nawr fydd cal dyn i lanw'i le. Ma rhai'n syjesto Genaral Ffrensh, ond naiff hwnnw mo’r tro. Dyw dyn sy wedi ffeilu yn y ffrynt ddim yn depig o lwyddo yn y bac. Gwell i hwnnw gal llonydd i recriwto yn yr Hows of Lords. Un arall sy'n cal 'i enwi yw Bonar Lo, ond ma gyta ni ddicon o loi ar y mas yn barod. Isha llewod sy nawr.

Fe ddath yma lythyr bora heddy a lot o englynion ar ol Kitjener. Dos dim enw neb wrthyn nhw, ond rwy'n gweld taw postmarc Treforis sy ar y llythyr. Rwy'n geso pwy yw'r awdwr, ne awdur ys gwetsoch chitha. Ma a’n eitha bachan, ag rwy'n siwr 'i fOd a'n Fardd Cadeiriol, os nag yw a n Fardd Corniog hed. Yn ol y'm meddwl i, dodd dim rhaid iddo fod a chwiddyl 'u harddal nhw. Nelsa Brynfab yn'i breim dim gwell:

Drwg ynfyd ar eigionfor — a ddaliodd
'Y buddiolaf flaenor;
A huno mae yn y mor,
A’i gangell heb ei gyngor.

Twrw blin y "tair blynedd" — glywodd hwn,
Gloewodd arf gwirionedd;
Ond aer annwn dirinwedd,
I’r dewraf wr dorrai fedd.

Fel Anac, cryf ei lwynau, - rhyfelwr A’i fwled yn angau;
Ac ar gwymp terfysgwyr gau,
Hyf gnuliodd ei fagnelau.


 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd B2577c) (15 Mehefin 1916)


Dyn dinewid, yn haearn, — a rhingyll
Wnai rengoedd yn wasarn;
Yn chwifiad ei gledd cadarn,
Adwaenai byd wyniau barn.

Y drws i dir y Soudan, — o'i guro
Agorodd yn llydan;
A mawr storm ei eirias dan,
Wnai'r Madi yn wr mudan.

Ein mawr angen am rengau - a welodd
I wylio'n buddiannau;
A safai'r oes i'w fawrhau
Yn flaenor ar filiynau.

Trwm ei aeliau, trem hylym, — yn ei wlad
Yn weledydd cyflym;
Llyw a drodd a'i danllyd rym,
Glod arwyr yn glai dirym.

Un o fraich a chalon frwd, — a welodd
Dan ei galed hergwd;
Y gelyn gwael yn ei gwd,
Neu'n garcas yn ei gwrcwd.

Esgeiriog was y goron, — o gadnerth
A gwydnwch Napoleon;
A hawliai i wehilion
Ar ol y briw eli bron.

Bythol obaith i Lybia - adawodd,
A'i diwyg newidia;
Ac ar ei nos gwawrio wna
Bora tyner Britannia.

I Brydain Fawr, byrdwn fu - ei enw, Arweinydd ei chadlu;
Ar ei thwr yn ddewr o'i thu,
Dur chwifiodd i'w dyrchafu.

Rhyddid, ar lwybrau addien, - aros di Ar ystad Ceridwen;
Gwylia yma, golomen,
Ar nos oer yr Ynys Wen.

Rwy'n ddiolchgar i'r bardd, ta pwy yw a, am ganu mor dda ar ol fy hen ffrynd Kitjener. Ma fe wedi mynd, ond ma'r Army glasgws a ar ol, ag ma'n hen bryd iddi ddangos beth all hi neud. Ma'r Germans yn dod mlan o hyd o gam i gam, a'n milwyr ninna fel morgrug ar hyd y streets ymhob tre. 'Dyn nhw'n dda i ddim fel hyn ond paredo, a fflyrto gyta merched ifinc, a gora po gynta ca nhw fynd i'r ffrynt i dreio troi'r llif yn ol. Dyna marn i ar y mater, ag rwy yn siwr o fod yn reit.
DAFYDD Y CRYDD.

 

 

 

 

Sumbolau:

a A / æ Æ / e E / ɛ Ɛ / i I / o O / u U / w W / y Y /
MACRONː ā Ā / ǣ Ǣ / ē Ē /
ɛ̄ Ɛ̄ / ī Ī / ō Ō / ū Ū / w̄ W̄ / ȳ Ȳ /
MACRON + ACEN DDYRCHAFEDIGː Ā̀ ā̀ , Ḗ ḗ, Ī́ ī́ , Ṓ ṓ , Ū́ ū́, (w), Ȳ́ ȳ́
MACRON + ACEN DDISGYNEDIGː Ǟ ǟ , Ḕ ḕ, Ī̀ ī̀, Ṑ ṑ, Ū̀ ū̀, (w), Ȳ̀ ȳ̀
MACRON ISODː A̱ a̱ , E̱ e̱ , I̱ i̱ , O̱ o̱, U̱ u̱, (w), Y̱ y̱
BREFː ă Ă / ĕ Ĕ / ĭ Ĭ / ŏ Ŏ / ŭ Ŭ / B5236ː  B5237ː B5237_ash-a-bref
BREF GWRTHDRO ISODː i̯, u̯
CROMFACHAUː
  deiamwnt
A’I PHEN I LAWRː , ә, ɐ (u+0250) httpsː //text-symbols.com/upside-down/
Y WENHWYSWEG:
ɛ̄ ǣ æ

ˈ ɑ ɑˑ aˑ aː / æ æː / e eˑeː / ɛ ɛː / ɪ iˑ iː ɪ / ɔ oˑ oː / ʊ uˑ uː ʊ / ə / ʌ /
ẅ Ẅ / ẃ Ẃ / ẁ Ẁ / ŵ Ŵ /
ŷ Ŷ / ỳ Ỳ / ý Ý / ɥ
ˈ ð ɬ ŋ ʃ ʧ θ ʒ ʤ / aɪ ɔɪ əɪ uɪ ɪʊ aʊ ɛʊ əʊ / £
ә ʌ ẃ ă ĕ ĭ ŏ ŭ ẅ ẃ ẁ Ẁ ŵ ŷ ỳ Ỳ Hungarumlautː
A̋ a̋

U+1EA0 Ạ   U+1EA1 ạ
U+1EB8 Ẹ   U+1EB9 ẹ
U+1ECA Ị   U+1ECB ị
U+1ECC Ọ   U+1ECD ọ
U+1EE4 Ụ   U+1EE5 ụ
U+1E88 Ẉ   U+1E89 ẉ
U+1EF4 Ỵ   U+1EF5 ỵ
gw_gytseiniol_050908yn 0399j_i_gytseiniol_050908aaith
δ δ £ gw_gytseiniol_050908yn 0399j_i_gytseiniol_050908aaith δ δ £ U+2020 †
« »
DAGGER
wikipedia, scriptsource. org

httpsː []//en.wiktionary.org/wiki/ǣ
Hwngarwmlawtː A̋ a̋
gw_gytseiniol_050908yn 0399j_i_gytseiniol_050908aaith δ δ
…..
…..
ʌ ag acen ddyrchafedig / ʌ with acute accentː ʌ́

Ə́ ə́

Shwa ag acen ddyrchafedig / Schwa with acute

…..
…..
wikipedia,
scriptsource.[]org
httpsː//[ ]en.wiktionary.org/wiki/ǣ
---------------------------------------
Y TUDALEN HWN /THIS PAGE / AQUESTA PÀGINA:
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_126_dafydd-y-crydd_1916_3783k.htm
---------------------------------------
Creuwyd / Created / Creada: 02-06-2017
Adolygiadau diweddaraf / Latest updates / Darreres actualitzacions: 29-12-2022, 04-02-2018, 03-06-2017, 02-06-2017
Delweddau / Imatges / Images:

Ffynhonnell / Font / Source: Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Newyddiaduron Cymru Arlein.
---------------------------------------
---------------------------------------
Ble'r wyf i? Yr ych chi'n ymwéld ag un o dudalennau'r Wefan CYMRU-CATALONIA
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web CYMRU-CATALONIA (= Gal·les-Catalunya)
Where am I?
You are visiting a page from the CYMRU-CATALONIA (= Wales-Catalonia) Website
Weə-r äm ai? Yüu äa-r víziting ə peij fröm dhə CYMRU-CATALONIA (= Weilz-Katəlóuniə) Wébsait

Freefind.

Archwiliwch y wefan hon
SEARCH THIS WEBSITE
---
Adeiladwaith y wefan
SITE STRUCTURE

Beth sydd yn newydd?
WHAT’S NEW?



Adran y Wenhwyseg / Secció del dialecte de Gwent / Gwentian Welsh
Edrychiadau ar y tudalennau / Vistes de les pàgines / Page Views

Web Analytics Made Easy -
StatCounter

Edrychwch ar ein Hystadegau / Mireu les nostres Estadístiques / View Our Stats