kimkat3782k Shop Dafydd y Crydd. Ysgrif yn nhafodiaith Aber-dâr o’r Darian. 1915.

17-05-2023







.....

Gweler hefyd / Vegeu també / See also:



 

0003g_delw_baneri_cymru_catalonia_050111
 (delwedd 0003)

 

 

 

 

 

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Gal
·les i Catalunya
The Wales-Catalonia Website

Dafydd y Crydd.

Y Darian. 1915.


Y Llyfr Ymwelwyr / El Llibre de Visitants / The Guestbook:

http://pub5.bravenet.com/guestbook/391211408/


a-7000_kimkat1356k Beth sy’n newydd yn y wefan hon?

6665_map_cymru_catalonia_llanffynhonwen_chirbury_070404

(delwedd 4665)

.....

Map

Description automatically generated

(delwedd J7058b)

.....

 

.....1915
07 Ionawr 1915
14 Ionawr 1915
28 Ionawr 1915
.....
04 Chwefror 1915
11 Chwefror 1915
25 Chwefror 1915
.....
11 Mawrth 1915 11-03-1915

.....
22 Ebrill 1915 22-04-1915

.....
27 Mai 1915
.....

10 Mehefin 1915 10-06-1915 

.....
01 Gorffennaf 1915
15 Gorffennaf 1915
.....
19
Awst 1915

26 Awst 1915 26-08-1915
....
09 Medi 1915
30 Medi 1915
.....

21 Hydref 1915 21-10-1915 

.....
02 Rhagfyr 1915
16 Rhagfyr 1915


 

 

 

Letter

Description automatically generated with low confidence

(delwedd 5725a) (07 Ionawr 1915)

07-01-1915

 

Y Darian. 7 Ionawr 1915.

 

0 Shop Dafydd y Crydd.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Mishtir Golycudd, — Rwy i wedi bod mewn trwpwl mawr oddar pan scrifennas i o'r blan, ac wedi cal shoc nes yw'm nyrfs yn yfflon jibaders. Fe ddath yma ryw ddyn i'r shop i moyn par o lasa. Y dyn oda welas i ariod. Rodd a'n etrych mor sobor a dyn newydd gladdu 'i fam. Dyn gweddol dal, bothtu deugan o'd, a'i wallt yn hir, wedi'i gropo yn y gweiIod fel barcod ty to gwellt. Rodd Morgan Lewis y teilwr yno, a thrw help Morgan rwy'n gallu rhoi lawr yr hyn gymrws le ar y pryd. Meddai'r dyn, "Rhynged bodd i chwi roddi i mi bar o gareuon esgidiau." "Par o lasa chi'n feddwl," myntwn inna. "Ie, os nad ydych yn deall teithi'r Omeraeg yn ei phriod-ddull cysefin," meddai'r dyn. "Ble chi'n byw?" myntwyn i wetyn. “Yr ydwyf yn cysgu yn Hafod y Gan ar y Ton, ond yn byw ar lechwedd heulog Parnasus, yn yfed dyfroedd tryloewon helicon, ac yn cyfrinachu a'r duwiau ym mhalas grisial Apollo," meddai'r dyn. Erbyn hyn fe allswn feddwl fod dwr yn rhytag lawr dros y nghefan i, a'r gwallt own i wedi golli yr ucan mlynadd yn cwni fel brwyn ar y mhen. Fe gretas fod y dyn wedi cilo o'r Seilam, a dyw dyn felni dim yn ffit i fod a'i drad yn rhydd. "Be – Be - Beth i chi'n feddwl am y rhyfal 'ma," meddwn i wrtho. "Y cymhelri mwyaf yn hanes y cydfyd," medda'r dyn. "Yn sicr ddiameu, fe ddylai'r Caisar gael ei ddad-gymalu, a'i daflu dros y wal ddiadlam yn fwyd i gwn annwn." Dyn dishefon ni! Chlwas i shwd' beth ariod, myntwn inna. O-o-oti chi'n fardd? "Ydwyf," medda'r dyn, "yn fardd wrth Fraint a Defawd Beirdd Ynys Prydain a chorn olew yr Awen wir. Ar fy ffordd yma, myfi a ymfflamychais yr englyn hwn. Y mae digon o dan yn ei baladr i losgi cyfandir, a digon o rym yn ei esgyll i ysgubo byddinoedd arfog i'r Pegwn Gogleddol –

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

.

 

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd 5725b) (07 Ionawr 1915)

"Hen ddieflyn ddaw i aflwydd - yw William,

Ei hela ga'n ebrwydd;

A o'i blas ar ebol blwydd

A'i Von Klwc ar gefn clacwydd."

 

Wedi towlu'r englyn ar y cowntar a rhoi'r par lasa yn i boced, mas ag e, ag rodd yn dda gen i i weld a'n mynd i fi gal hanal. 'Rown i bron mynd i ffit, ond rodd Morgan Lewis y teilwr yn i ddou ddwpwl yn wherthin fel ffwl. Allswn i wed dim ond etrych yn hurt ar ol y dyn, ac wedi crynhoi 'mhunan at 'i giddyl, fe ofynnas yn grynetig, "Morgan, wyt ti'n fyw?" Ar ol pang arall o wherthin, fe gwnnws ar 'i drad, a'i ddwylo ar i ochra, fel dyn yn y pliwris. "Wyt ti'n meddwl," meddwn i "fod y dyn 'na yn i sensis?" "Wn i ddim," medda Morgan, "ma'n depig i fod a'n fardd. Son am beryclon y trenshes. "Not in it," ys gwetws Wil Smith. Os yw'r dyn hyn ymhob man fel odd a yma, ma llawn cymint o isha trenshis yn y Cwm ag sy'n y ffrynt. Wyddoch chi beth, os taw rhyw swagar fel hyn sy'n gneud bardd, gwell gen i fod yn ddyn, ne'n grydd, ne'n bacman. Wn i dim a oti'r englyn yn iawn ne beido, os taw englyn yw a hefyd. Gall fod yn hir a thoddion o ran dim a wn i. Fe allwn feddwl fod rhyw glec ynddo, ond falla dyw a ddim yn y Pedwar Mesur a Ucan.

 

Rwy'n cretu 'mhunan fod gomrod o hamro ar y Keisar, er cynddrwg yw a. Mae a'n haeddu cal ’i ladd fwy nag unwaith, ond creulondab yw wado ar ddyn, a'r Bron Ceitas ishws yn treio'i dacu. Ma cyfrath Lloigar

 

 

 

Text

Description automatically generated

(delwedd 5725c) (07 Ionawr 1915)

 

yn erbyn hynny. Ar ol paso sentans ar ddyn i gal i groci, os aiff y dyn yn sal ma nhw'n gneud 'u gora idd 'i wella, er mwyn cal y plesar o'i weld a'n hongad. Wn i ddim beth sy'n cal 'i gyrradd wrth flagardo dyn yn i gefan. Ma'r dyn am roi'r byd yn i le ta fa'n cal 'i ffordd, ond dyw'r byd ddim yn cretu taw wrth ladd hen ddynon, gwracadd, a phlant y ma hynny i ddod i ben.

 

Beth sydd wedi dod o'r Von Clwc sy'n englyn yr idiot fu yma'n pyrnu lasa? Dos dim son am dano ys ticyn. Fe odd top y tepot pan odd y Germans yn dod lawr i Paris. Von Clwc odd popath ar y dechra. Ond wedi i'r teid droi, mae a fel wi clwc yn ddicon di son am dano. Y clasgad naturiol yw i fod a wedi i ladd, ne wedi cal y sac am gilo'n ol.

 

Ma'r gyfarmant wedi gneud tro smart yn yr Aifft, trwy hala'r Kidif o bothtu i fusnas. Mae a'n fwy na hanner Twrc ac yn llai na hannar call. Fe fysa'n well iddo dynnu Pharo yn 'i ben na thynnu John Bwl. Os odd y dyn yn ddicon dwl i sefyll yng ngola'i hunan fe ddyla gal i dransporto o'i wlad a thwllwch yr Aifft ar 'i ol.

 

DAFYDD Y CRYDD

 

 

A picture containing text, newspaper

Description automatically generated

(delwedd J7516a) (14 Ionawr 1915)

14-01-1915

 

Y Darian. 14 Ionawr 1915.

 

0 Shop Dafydd y Crydd.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Mishtir Golycudd, —

 

Lled debig y'ch bod yn cofio'r sylwata nes i'r wythnos o'r blan ar y bardd fu yma'n pyrnu lasa. Chi wyddoch taw mesur trad dynon yw 'ngwaith i, ond fe fentras fesur pen hwnnw, ac ma'r dyn wedi dicio'n ddisprad. Ma pawb yn 'i napod a ar yr hewl, ac yn gwed wrth 'u giddyl, “Dyna'r dyn neidws dros y wal ddiadlam." Y peth cynta na'th y scelffyn ar ol gweld y 'Darian' o'dd hala pennill i 'mlagardo i, a dyma fe: —

 

“Lledrwr o deulu lladron — yw y crydd,

Yn gwneud crwmp uwch lapston,

Dyn anwadal, bal i'r bon,

Gorchwyliwr gwrych a hoelion."

 

Glywsoch chi shwd beth ariod! Pwy latron sy'n 'y nheulu i fe leicwn wpod? Fe fentra 'ngwddwg fod 'y nhylwth i, o Seimon Barcer i lawr, gystal a dim sy'n hanas y penbwl hyn. Fe ddath yma fachan bach o Flanycwm i'r Shop, ag fe ddangosas y pennill iddo, a fu a ddim pum munad cyn talu'r gwalch yn ol yn 'i goin 'i hunan fel hyn: —

 

“Beth yw bardd, yn boeth y bo,

Baw o ddyn heb ddihuno;

Enllibwr, o ben llabwst,

Heb awch i'w dôn, bwch y dwst;

Afradlon ofer edlych,

Bwgan brain i'w begwn brych;

Gwr isel heb ei grasu,

Clai dwl, ac yn ddwbwl ddu;

Cynhenfawr ffwlcyn ynfyd,

A chnwbyn balch yn boen byd."

 

'Dyw pob bardd ddim mor ddwl a hyn, ond allsa neb dynnu gwell pictwr o'r hwtwch fu yma'n pyrnu lasa. Ond ma gen i asgwrn i bilo ag e'r wthnos hyn; ag rwy'n meddwl 'i exposo fa o flan y byd. Ma’n hen bryd gneyd hynny a rw ragamwffins fel hyn. Fe etho gyta Morgan y Teilwr i Steddfod Carmel dydd Dolig. Ro'dd 'no breis am englyn ar y pwnc, “Beth ddaw o'r Keisar." Fe ddarllenws y beirniad y gora yn 'i feirniatath, a phwy ddath lan i moyn y preis, ond bachan y lasa. Wedi clwad y pishyn, fe whisbrws Morgan yn 'y nghlust i, “Rw i wedi clwad hwnna o'r blaen yn rhwla." Y bora wetyn, fe ddath ag e yma mwn print, a dyma fe: - 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd J7516b) (14 Ionawr 1915)

 

 

“Gaisar gwgus, i'r gegin — o'i balas

Daw'r boliog anhydrin;

Gan ofid bydd gynefin

A 'bara Iawr' yn Berlin."

 

Ma'n ddicon tepig taw rw fardd o Byrtawa na'th yr englyn, oblecid yno ma nhw'n gwerthu "bara lawr." A dyma'r dyn o'dd yn 'y ngalw i'n lleidir yn 'i bwt o e[n]glyn. Fe glwas Jones y Ffeirad yn gwed fod dyn yn gweld 'i depig ymhob man, a taw lleidir weidiff leidir gynta. Whara teg i'r beirniad, Llew Hirfwng, allsa fe ddim help. Dyw e ddim yn hollwybotol mwy na rhw lew arall. Meddylwch am y dyn yn brago 'i fod a'n yfad o ffiol "Helicon," ac yn dwcid englyn dyn arall o dan 'i drwyn. Ma'n nes gen i gretu taw Barlycorn o'dd a'n feddwl. Fe ddyla'r pwyllgor hala Brown y plisman ar 'i ol, a mynd ag e i'r loc yp yn streit. Ma dwcid gwaith dyn arall yr un peth a dwcid dafad. Pe galla gwir y cwils ffeindo mas fod y dyn yn 'i sensis, a gwaitht calad fydda hynny, fe ddyla gal 'i dransporot i jail Byrtawa i fyw ar "fara lawr."

 

Anamal byddai i’n mynd i leoedd fel hyn, a falla bydda i'n fwy anamal o hyn' i mas. Dyma beth yw troi Ty Cwrdd yn acof llateron. Do's dim Steddfota yn Eclws Loigar, a phe bysa'r dyn a'th a'r englyn yn gwpod cymint am y Pader a'r Credo ag am dyfu gwallt, fysa fa ddim wedi mynd i shwd bicil. Rodd Morgan y Teilwr yn cynnip, a byswn i'n arfar beto, fe fentrwn bar o scidia taw fe na'th 'i englyn bob lein. Fe o'dd yr ail, ac oni ba'r cil bwt, fe fysa'r gora. Dyma un Morgan: -

 

“Synnwyr cyson a'r Caisar — f’ai ei roi

Ef a'i wraig mewn daear;

A bwrw dom o Byrdar,

I hau ceirch ar eu carchar."

 

Yn ol 'y nhast i, hwn yw'r gora, o gymint ag yw "bara circh" yn well na "bara lawr." Ma'r cynta'n folon ar starfo'r Keisar, a dyw hynny yn dda i neb; ond ma Morgan am 'i roi a mwn daear, a chwni crop ar y tir, ag ma hynny'n broffit i ddynon tlawd. Ond Llew Hirfwng oedd y beirniad, a do's dim dowt nag yw a mor onest a'r dydd. Dyw i ddim yn meddwl y dangosiff bachan y lasa 'i wynab am getyn ar ol hyn, a'r peth gora all a neyd fydd cneifo'i wallt, a mynd yn showdwr. Rhaid i fi fecan pardwn Brynfab am goeddi petha fel hyn, heb iddo fe gal tynnu 'i frwsh drostyn nhw, ond ma Morgan y Teilwr yn gwed 'u bod nhw'n well na hannar y stwff ma fe'n baso.

 

DAFYDD Y CRYDD.

 

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd J7513a) (28 Ionawr 1915)

28-01-1915

 

Y Darian. 28 Ionawr 1915.

 

0 Shop Dafydd y Crydd.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Mishtir Gol., - Diolch i gaffars y "Darian" am symud y Lemwned fu ar 'i ffrynt mor hir. I fi, ro'dd y patsh sgwar hwnnw yn depig i blastar cwt ar dalcan dyn glan. Ar ddalan arall, ro'dd llun dyn o'r enw Uric Acid, a'i law wr [sic; ar] 'i gefan, ac ma pob sens yn gwed taw ar bwys hwnnw y dyla'r Lemwned fod. Fe fydda i'n leico gweld gwynab iach heb un spotyn arno — gwynab y bydd pawb yn cwmpo mwn cariad ag e ar yr olwg gynta. Dw i'n gwed dim yn erbyn y Lemwned. Dos dim dowt nag yw a'n stwff splendid ar dywydd poth yn yr haf. Fysa Ap Hefin byth yn mynd yn ajent i beth comon, a lled depig iddo yfad llawar glasad o hono wrth neyd y pennill sy ar y lebal. Fydda i byth yn 'i dreio fa yn y gaua heb swmbwl yndo. Scyswch fi am fysnesa fel hyn yn ngwaith dynon erill.

 

Mae'n mynd yn lecshwn wyllt yn ochor Byrtawe a Chastallnedd, a pheth dicon diflas yw hynny pan ma pawb ar 'u gora yn treio dala'r Keisar. Treni fod Brynmor Jones yn gatal y Parlament, ond all neb feio dyn sy'n cal cwnad. Bachan da yw Brynmor — chip o'r hen floc, a libral gorff a llewish. Dyn smart odd 'i dad o'i flan, i ond piti iddo fynd i'r nefoedd yn Sais. Fe drows at y cenhedlodd cyn i Gymru ddihuno, am fod gwell porfa'r ochor arall i'r clawdd. Yr hyn sy'n rhyfadd yw i ddyn odd yn byw dan ras gwni ei fab dan y gyfrath. Lled depig fod gwell porfa dan y gyfrath hefyd na sy dan yr efengyl. Ma gwr y cwils yn ennill mwy mhen blwyddyn na phyrgethwr mwn o's, pe cai a fyw cyd a Methiwsalem. Ond fe gaiff 'i dalu'n dda yn atgyfodiad y rhai cyfion, os gall a gyrradd yno heb starfo. Dos dim siwrans fod hynny'n aros y rhai sy'n byw dan y ddeddf seremoniol, ne'r hen oruchwyliaeth. Ond bachan

 

 

 

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd J7513b) (28 Ionawr 1915)

 

 

clyfar yw Brynmor, ac er fod llawar o lediath Sysnag ar 'i dafod, ma fa'n Gymro i gyd o dan 'i ddillad. Mawr lwc iddo weta i yn 'i swydd newydd i gospi pechaduriad.

 

Ma lle i ofni fod gwyr y West yn mynd i neyd mes o honi wrth ddewish dyn yn 'i le. Yn ol 'y marn i, camsynad mawr odd boddro gyta Masterman. Pwy sens yw pwsho fforiner yn fembar dros Gymru? Ma gormod o hyn wedi bod yn hanas y wlad, a dyma sy wedi'n catw 'nol mor hir. Os bydd Sais wedi dod i dicyn o sylw, rhaid i bob Cymro dynnu het iddo. Dos dim dowt nag yw Masterman fel i enw yn ddyn ffyrst clas, ond fe ddyla'i dylwth ffeindo set iddo heb fynd dros y clawdd at ddynon na sy'n perthyn iddo. Ma'n hen bryd rhoi stop ar ryw gynffona fel hyn.

 

Rwy'n cofio nonsens fel hyn o'r blan. Pan dowlwd Harcot mas, ag ynta yn y Cabinet, yr odd yn rhaid i un o'r parti Cymrag reseino er mwyn iddo gal 'i le. Ma'n wir taw Sais odd hwnnw, Mr. Warmingpan, ne rwpath tepig. Pan ath Harcot i'r nefodd, os taw no 'r ath a hefyd, ni geson Gymro iawn yn 'i le yn Tom Richards. Dyna fel y dyla petha fod, nes cal Hom RiwI i Gymru, a'r Parlament yn Byrdar.

 

Dyn o'r lle ddyla gal y set, ac nid rhyw stwmpyn o'r tu fas yn gallu clebran wrth y llath. Pe ba'n bosib torri bysadd rhw hanar dwsin o weiar pwlars, fe ddela petha idd 'u lle. Dyma'r dynon sy'n spoilo'r cawl ymhob trafotath fel hyn. Ma rhain yn wa'th na'r Ger[m]ans, ac yn bla ar y wlad. Fe 'nath Morgan Lewis y teilwr benill i'r clic: - 

 

"Wrth ganu'n iach i Frynmor,

Mae llawer am ei sedd;

Ond dwli ddaw o gyngor

Y clic yng Nghastellnedd;

 

 

 

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd J7513c) (28 Ionawr 1915)

 

Fe ddylid pacio bwndel

O'r "wire pullers” mên,

A'u gyrru dros y channel

I gyd mewn aeroplane."

 

Pan fo'r comiti'n cwrdd, ma'r plans yn barod, fel nag yw a o un dipan i fi a'm short i wed dim. Fe fysa'n dda gwpod faint o fwrw penna 'nghyd sy wedi bod rhwng y clics hyn. Dyw hynny ddim yn deg nag yn streit fforward o Iawar o ffordd. Rw i'n ffeilu dyall pwy isha mynd tu fas i'r cylch sy i whilo am fembar. Fe alla dyn feddwl taw'r cwalifficeshon mwya yw bod yn perthyn i blwyf arall. Ma tri ne bedwar wedi cal 'u henwi ishws, nad o's fot gen un o nhw yn y distric. Dwli mawr yw hynny 'bycwn i. Howyr bach, os nag yw'r part hyn o'r wlad yn gallu macu dynon cwmws, fe ddylan gal bod heb neb. Ond ma gomrod o wir yn y peth glwas i Jones y ffeirad yn wed, dos dim parch i broffwd yn 'i wlad hunan. Pwy synnwr yw cario dwr dros afon, a gwell dwr o'r hanner wrth ddrws y ty? Chi, fechgyn y gweitha tin a'r gweitha harn, mynnwch ddyn o'ch plith eich hunan, dyn yn y'ch dyall, ag yn un o honoch, a gofalwch am Gymro o galon ag o dafod. Dicon hawdd cal dynon o bob nashwn i sefyll pol, odd'ar pan ma'r membars yn cal 'u talu mor dda. Ma'r swydd yn werth cynnig am dani, ond dyw llawar sy'n cynnig ddim yn werth y pres nag yn werth 'u cal.

 

DAFYDD Y CRYDD.

 

 

 

A page of a newspaper

Description automatically generated with low confidence

(delwedd J7512a) (4 Chwefror 1915)

04-02-1915

 

Y Darian 4 Chwefror 1915

 

 

0 Shop Dafydd y Crydd.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Mishtir Gol,— Rwy newydd fod yn Porthcawl, a welas i shwd gawl ariod. 'Rhyn ath a fin yno o'dd, cal ordar am ddeuddag par o scitsha i'r comishon offisars sy'n drilo'r recriwts. Fe gollas y train diwetha nos Satwn gwaetha'r lwc, ag yno buo i hyd fora dydd Llun. Welsoch chi shwd bedlam o le yn y'ch bywyd. Ma Cwm Rhondda yn Biwla land wrth ochor Porthcawl, yn enwetig ar y Sul. Fe etho i'r eclws yn y bora, — rhaid i fi fod yr un peth mwn lle diarth ag yn nhre. Riwling pashon strong in deth. Ro'odd cwpwl o recriwts yn y cwrdd, ag 'ro'dd yn dda gen i 'u gweld nhw, ond cheso i fawr bendith yno, am fod y cwbwl yn Sysnag. Wn i ddim shwd ma'n bosib i'r Brenin Mawr achub neb dan brecath Sysnag. Wedi dod, mas, 'ro'dd y lle fel ffair - motor cars, a motor beics yn gwau trwy 'u giddyl, cannodd yn whara golff, bechgyn a merchid yn caru liw dydd gola; erill wedi yfad rhwpath cryfach na choffi, ac yn tyngu ac yn rheci nes o'dd y creigia'n duo gan gwiddyl. Fe gretas i mod i wedi disgyn yn Sodom. 'Ro'dd yn dda gen i gal i mynd odd'no bora Llun, ag fe ofalas beidio etrych nol rhag ofan i fi fynd i'r un picil a gwraig Lot.

 

Fe glwas ddarllin yn y Daily Mail ne'r Daily Liar, dos dim llawer o waniath pun, fod y rhyfal yn costi dros filiwn o buna'r dydd i Loigar. Os taw'r collwr sydd i dalu yn y diwadd, dyn helpo'r Keisar os caiff a'i wado. Ma'n dda i ni taw Lloyd George sy'n catw'r pwrs. Ma'r dyn bach hynny'n gallu coino arian wrth y dynall, a pho fwya fydd a'n hala, mwya i gyd mae a'n gal. Fe fysa Balffor a Bonar Lo wedi mynd i weilod y cwtyn ys llawar dydd, a'u dwylo'n ddwfwnyn mhocad y tlawd.

 

Dos dim dowt nag yw'r Gyfarment yn cario petha mlan mor gynil ag sy'n bosib, ond camsynad yn ol 'y meddwl i o'dd bod yn rhy byrticilar am ddynon tal i'r Army. Rwy napod bachan bach o Gilfach Goch gas 'i wrthod am 'i fod a fodfadd yn rhy fyr  -bachan smart ar 'i ddwrn, ag ma hynny'n llawar mwn taro. Ond 'ro'dd dicon o blwc, yndo, ag fe nath dro pert digynnig mhen diwarnod ne ddou. Fe dda'th tri o'i bartnars o'dd wedi paso ato i dreio 'i dyfu, a dyna lle buon nhw yn tynu wrth 'i drad ag wrth 'i sgwydda, ac yn 'i rowlio fa'n ol a blan, fel gwelsoch chi wraig yn gneyd rowly powly, a phan gynicws a wetyn, ro'dd a hannar modfadd dros y marc. Nid barddoniath yw hyn, ond gwir bob gair. Mae a'n awr yn y ffrynt, ac wedi lladd cricyn o'r Ger-

 

 

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd J7512b) (4 Chwefror 1915)

 

 

 

mans. Ma'n depig taw tadcu'r Keisar o'dd yn rhoi mwya o bwys ar hyd showdwr. Ro'dd yn rhaid i hwnnw gal pob un bothtu dwylath o hyd yn y man lleia, ac os bysa fa’n dairllath, gora i gyd. Fe allwn i feddwl fod llawer mwy o fontish gan ddynon byr na rhai tal, ac ma Kitjiner wedi ffeindo hynny mas erbyn hyn. Yn un peth, di nhw ddim yn gystal shot i'r gelyn. Peth arall, dos dim isha torri'r trenshes mor ddwfn i ddynon bach ag i byst telegraff. Ma hynny'n spario llawar o drwpwl. Meddylwch wetyn am yr ennill i'r Gyfarment. Dos dim isha cymint o frethyn i neyd dillad i ddyn byr ag i ddyn tal, ac ma llawar yn achwn 'u bod yn ffeilu cal dillad am fod y brethyn yn bring. Dos dim isha hannar cymint o letar i neyd scitsha. Fe wn i trw brofiad fod trod dyn tal yn fwy na throd dyn byr. Unwaith eto, ys gwetws Jones y ffeirad, fe wna llai o welya'r tro. Fe allwch roi dou ne dri o rai bach yn yr un gwely, pan ma'r dyn tal yn cysgu o gornal i gornal, ac yn mynd a'r gwely i gyd. Wedi etrych ar betha fel hyn, ffor and against, rw i'n cretu fod y dafol yn troi'n deg o ochor y dynon byr.

 

Fydd dim cymint o alw am hyd ar ol hyn. Fe welas yn Porthcawl yr hyn ma nhw'n alw'n Bantams. Crots heb lawar o hyd na lled. Y peth tebyca welsoch chi 'rioed i gilocod bach yn dechra canu. Os can nhw ddicon o fwyd, fe fyddan wedi macu plyf mhen pum mlynadd, ac yn ffit i gal 'u lladd. Gobeitho byddan nhw wedi canu llawar cyn hynny o salma gwell na "Tiparery." Enw an ffowlyn bitw bach yw Bantam, ac ma'n depig fod cilog Bantam yn fwy dewr na'r brid o gilocod sy'n cal 'u treino i ymladd. Synnwn i damad na fydd rhain yr un peth, os can nhw dicyn o bowdwr yn 'u bwyd.

 

Wedi i fi ddod nol o Porthcawl, ag atrodd yr hanas i Morgan y teilwr, fu a ddim shiffad cyn gneud pennill iddyn nhw. Ma awan barod gen Morgan, a mae a'n siwr o daro'r hoelan ar 'i thop bob tro: —

 

Mintai wrol mewn taro - ant i'r ffrynt

At wyr Ffrainc i frwydro;

Dewrion brwd o werin thro,

A'r crytiaid yn recriwto.

 

DAFYDD Y CRYDD.

 

 

Letter

Description automatically generated

(delwedd J6568a) (11 Chwefror 1915)

 

11-01-1915

 

Y Darian. 11 Chwefror 1915.

 

O Shop Dafydd y Crydd.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Mr. Gol., — Rhaid i fi roi ar ddyall i'r beirdd taw i Brynfab ac nid i fi y ma nhw i dderecto'u gwaith. Odd'ar pan ddechreuas i goeddi amball benill, ma nhw'n hala'u barddoniath yma'n fwndeli. Ma hyn yn niwsans mawr i ddyn mwn bysnas. Nid mwn telyna w i'n delo, ond mwn scitsha. Welsoch chi shwd beth ariod, ma bron cymint o benillion yn y Shop y dyddia hyn ag sydd o hoilon, ac ma nhw i gyd yn panu ar y Keisar pwr ffelo. Ma'n od gen i fod y dyn yn fvw. Does dim posib dyall llaw amball un, os taw gwaith llaw i nhw hefyd. Rw i bron cretu taw gwaith trad yw 'u hanar nhw. Beth yw'r rheswm fod llaw prytydd yn fwy clymsy na rhwun arall? Fe glwas fod y bachan sy'n gwerthu cenin yn y North wedi hala llawar printar i'r Seilam. Ma hyny'n beth sober, ac os yn wir fe ddyla gal byw ar genin am ucan mlynadd. Dw i ddim yn meddwl fod a'n un o'r lot hyn, oblecid clasgu hata cenin iddo'i hunan yw gwaith hwnnw, ac nid 'u rhoi nhw i ddynon erill. Do'dd hi ryfadd yn y byd i'r hen brytydd Eryr Craig yr Hesg hala'i host card yn ol, a gofyn iddo sgrifenu'n Gymrag ac nid yn Lladin. Alla i ddim gneyd pen na sowdwl o hanar y scriblach hyn, ond ma ges lled dda gen Morgan y teilwr. Dyma un:

 

"Dwl Eryr i'n dolurio — yw'r Caisar,

A'r casaf am flingo;

Ond er ei nwyd erwin o,

'Llew' blewog all ei bluo."

 

Falla taw'r hyn ddylwn i neyd fydda hala'r bwndal i gyd i Brynfab, ond mwy na thepig fod gyta fe dynelli ar 'i law'n barod. Idea dda fydda'u coeddi nhw i gyd yn un llifir, a rhoi copi i bob un sy wedi listo, ag yn barod i gario dryll dros 'i wlad. Treni mawr fod drychfeddylia mor ola yn cal 'u catw mwn twllwch. Ma'r bechgyn wedi stydio'n galad, ac wedi colli llawar noswath o gysgu wrth neyd 'u gwaith, ond mawr y lleiad sy'n dod i'r golwg ar ol 'u paso a'u camol gen y golycudd. Transportashon ffor leiff yw hi ar lawar o nhw ar ol paso'r Cwrt uwcha. Mwy na thepig fod y bechgyn wedi blino dishgwl i'w pishis dod mas, ag yn meddwl ca nhw well whara teg yn y Shop. Rwy'n cofio clwad Robin Ddu yn gwed y dyla pob englyn fod a bach yn 'i gwt. Do'dd gen i ddim ges beth o'dd a'n feddwl, ond rwy'n dyall nawr ar ol darllin hwn –

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd J6568b) (11 Chwefror 1915)

 

"Hen Eryr annaerarol — yw'r Caisar,

Bwrcaswyd gan ddiafol;

Ond mae'r 'Arth' anosbarthol

Yn rheibio'n awr ei ben blan."

 

Fe fu llawar o son am y Crown Prins ar ddechra' rhyfel. Fe o'dd yn gofalu am lefft wing y Germans. Ma'n depig taw catw pen hwnw nath i Von Clwc gilo'n ol i'r man lle ma fa'n awr. Ticyn yn wyllt yw'r Prins, a mwy o dash yndo nag o sens. Crotyn wedi mwy na hanar 'i spwylo. Wn i ddim llawar am dano, ond os yw a'n depig idd 'i bictwr yn y papra, mae a'n etrych yn ddicon hurt - silly bily na ddyla fynd ymhell o olwg 'i fam. Pan gwmpiff y Keisar, dyn helpo'r wlad os daw hwn yn ben. Ma rhw brytydd yn y bwndal hyn yn son am anlwc felni. Dos neb fel prytydd am ddarllin penna. Fe all weld trw ben i'r "biwtiffwl shor" sy'r ochor arall. Fel hyn mae a'n camol y Prins ar ol croci'i dad –

 

“Broliwr heb wawr o heulwen - yw William,

Ddymchwelir i'r domen;

O'i ol daw'r deyrnwialen

I'r Crown Prins a'r coryn pren."

 

Ma'n dda gen i fod petha wedi dod i shap ag i fwcwl yn Byrtawe a Chastellnedd. Mr. J. J. Williams wedi cal majority. Fe wydda pawb o'r dechra taw fe o'dd y dyn. Rwy'n falch erbyn hyn i fi alw sylw at y matar bythewnos yn ol. Fe glwas flan gair taw dyna drows y dafol, a bod y clics i gyd wedi cal ofan "merch y crydd.” Synwn i flewyn na cha i fesur trod y membar newydd pan ddaw a i wpod hyn. Fydda hyny ddim yn corypt practis, mwy na phyrnu het gen deilwr o'dd o'i ochor. Ond nid er mwyn own i'n sgrifenu, ond o brinsibl. Ma rhywrai wedi dysgu yn y fysnas hyn taw trech gwlad nag arglwydd. Y ffolineb mwya'n y byd yw padlo yn erbyn y llif. Mawr lwc i T.J. ac i gadeirydd newydd y Parti Cymrag, Syr Herbert Roberts. Dyma benill o waith bachan bach o Flanycwm i'r fuddugoliaeth: —

 

Ar ddwli torrodd heulwen,—ac i'r gad

Y ceir gwr di-amgen;

Clwc a sal yw y clics hen

Am sgornio Maesygwernen."

 

DAFYDD Y CRYDD.

 

 

 

A close-up of a page

Description automatically generated with low confidence

(delwedd J6566a) (25 Chwefror 1915)

 

25-02-1915

 

Y Darian. 25 Chwefror 1915.

 

O Shop Dafydd y Crydd.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Mishtir Gol., — Plan da iawn odd fformo Undab y Cymdeithasa Cymrag, a'u cal at 'u giddyl i gyd-weitho, ol hands upon dec. Gobeithio gallan nhw gario'r gwaith ymlan heb fynd yn glics fel pob Undab arall. Wn i ddim am gymint ag un nag yw y clefyd hyn yn dod miwn ag yn disffigro gwyneb y gymdeithas fel ol y frech. 'Ro'dd "Clic y Bont" yn ddicon respectabl, ag yn falch o'r enw. Do'dd y clic hwnnw ddim yn cymryd arno fod yn ddim arall. Fe nath lawer o les yn 'i ddydd wrth gatw'r byd yn 'i le, heb ddim ond lemwned yn ysbrydiaeth at y gwaith. Ond ma relic hwnnw wedi darfod, er collad fawr i'r Gwd Templars, "Requiescat in pace," ys gwetws y Gwyddel wrth gladdu'r mochyn. Do's dim drwg mwn clic os na fydd a'n eimo at ddim arall. and pan gewch chi gymdeithas a'i phrif ddynon yn gweitho i ddwylo'u giddyl, ag yn pwsho'i ffryndia i'r ffrynt ddaw dim llawar o fendith o honno. Dw i ddim yn hinto fod yr Undeb newydd yn gneyd hynny, ond yn galw sylw y rhai sy ar y blan i dreio catw'r ysbryd drwg mas. Argol dda yw fod Lleufer yn y gatar. Ma fe'n napod pob short o gythreuliad, ag yn gwpod ble ma'u rhoi nhw, ag fe ddyla gal yr un hawl yno ag yn y Cwrt.

 

Os llwyddiff yr Undeb hwn, tepig na fydd fawr o isha Cymdeithas yr Iaith Gymrag wetyn. Fe fu honno'n gneyd twshged o les slawar dydd, ond do's fawr o son am dani nawr, ond mwn amball bicnic yn yr haf. Fe dda'th yma gomyrshal trafilar i'r Shop pwy ddiwarnod, ag 'ro'dd a'n gwed taw'r un parti o'dd yn y picnic o flwyddyn i flwyddyn. 'Down i ddim wedi sylwi ar beth fel hyn nes iddo fe gwnni'r bleins. Ond 'rwy'n gweld nawr y gall comyrshal trafilar wed llawar o wir. Pwy sens yw galw'r un rhai i gario'r picnics hyn ymlan bob haf? Oti bywyd Cymru'n dependo ar rw hannar dwsin o chwilgrots o'r un standard? Fe all dynon mor ddwl a gwaddod weiddi, "Ois y byd i'r iaith Gymrag," os ca nhw'u talu'n dda am hynny. Fysa'n dda gen i wpod faint ma'r picnis hyn yn gosti. Dyw gweithwr hur yn prisho fawr fod y gwaith yn talu os caiff a'i docyns. Faint ma pob un o'r Parti hyn yn gal am ddrablitho a darllin papra mor sych ag asglod? Fe fuo i yn un o'r picnics hyn yn Byrtawe flynydda nol, a chlwas i shwd beth ariod. Fe gretas y byswn i 'n rhewi er 'i bod hi'n genol haf. 'Do'dd dim un o nhw'n ddim patsh i'r hen Jones y ffeirad yn

 

 

 

 

 

 

 

A close-up of a text

Description automatically generated with low confidence(delwedd J6566b) (11 Chwefror 1915)

 

 

 

darllin 'i brecath. Fe etho i mas, ar hanner y cwrdd, ag i'r Mwmbwls, i ryndo'r gwylanod yn dysgu Cymrag idd 1i giddyl. Am faint o flynydda ma rhain wedi cal'u leso i nevd v iob hyn? Ma cannodd o ddynon gora'r wlad wedi slafo dros Gymru cyn geni'r crotsach hyn-dynon o dalant a dawn, yn ymladd batls di-ildo, heb gal cinog ariod am hynny, ond wedi hala cannodd o buna i dreio cwni'r hen wlad yn ei hol. Faint o aberth ma gwyr y picnics hyn wedi neyd? A all rhwun bwynto mas wladgarwch di-dal yn perthyn i'r rhain? Dw i ddim yn erbyn picnics, ond rwy yn erbyn galw'r un band o hyd i ganu iddy nhw, a gwell bands o'r hannar yn y wlad yn cal'u sgorno. Fe wn mod i'n gwed petha plain, ond ma ngwad i'n berwi odd'ar pan fu'r comyrshal trafilar yma. Gobeithio'n fawr na chaiff Undeb y Cymdeithasau Cymrag ddim driffto i dir fel hyn. Ma'n depig fod atgyfodiad Owen Glyndwr i gymryd lle'r flwyddyn hyn, ac ar blatfform yr Undeb ma'r udgorn i gal i ganu. Wn i yn y byd shwd gorn sy gyta nhw, pun a corn gafar, ne gorn hwrdd. Fe glwas son am gorn gwlad mwn rhw Steddfod. Gwell peidio canu hwnnw, ne falla taw Iolo Goch atepiff. Ma dicon o brydyddion yn y wlad ishws. Rhaid cofio galw'r dyn wrth'i enw rhag ofan i bawb gwnni. Ond beth yw'r enw reit? "Glendower," medda'r Sais. "Glyndwr," medda'r Cymro. "Glyn Dwr," medda'r Keisar. Fel dyn cyfarwdd a phwyntrhedyn cryf, ag yn gneyd scitsha i bara byth, ma'n well gen i'r hen steil Glyndwr. Ma pob bardd sy'n werth'i halan yn siwr o fod o'r un farn. Ma cymint o waniath rhwng Glyndwr a Glyn Dwr ag sy rhwng derwen a dail bysadd y cwn. Ma pawb yn teimlo fod Genaral di droi'n ol yn y gair Glyndwr, ond ma Glyn Dwr yn gneyd i ddyn feddwl am un o'r Bantams welas i yn Porthcawl. Galwch y dyn wrth enw ag asgwrn cefan iddo, ac nid rhw lyswan o enw fel Glyn Dwr. Dw i ddim yn meddwl yr arddeliff yr hen wron shwd lasdwr o enw pan ddaw a'n ol. Owen Glyndwr ffor efar. 'Dy' nhw ddim wedi setlo yto pwy sydd i ganu'r corn. Lled depig taw Arthen ne Matho. Piti na alla nhw gal corn a doi big iddo, fel y galla'r ddoi whythu'r un pryd. Pob llwydd i Owep Glyndwr.

 

DAFYDD Y CRYDD,

 

 

 

 

A close-up of a page

Description automatically generated with low confidence

(delwedd 5701a) (11 Mawrth 1915)

11-03-1915

 

Y Darian. 11 Mawrth 1915.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

0 Shop Dafydd y Crydd.

Mishtir Gol. - Ma dydd Gwyl Dewi wedi paso y flwyddyn hon yto, a phawb wedi "dathlu”, ys gwetson nhw rinwedda'r hen Sant. Gwnawd hynny mwn llawar dull a llawar modd, rhai trw de, erill trw gino a shampein. Wyddwn i ddim o'r blan fod Dewi Sant yn leico shampein. Lled depig taw dyna'r rheswm fod cymint o swn poteli yn y "dathlu." Fe geso i dicat gan Eryr Pen Pych am i fi goeddi englyn iddo ys ticyn yn ol. 'Ro'dd y gino'r werth tri a whech, cawl ar blat, sgadenyn wedi'i ferwi, cig eidon, ffowls a ffwdin ar ol hynny. Eitha ffest. Ond yr hyn o'dd yn y mlino i yn fwy na dim o'dd swn tapo poteli mwn cwrdd i gofio am Sant. Ma'n wir nag w i ddim yn ditotal ymhunan, ond fydda i byth yn yfad potal gyfan gyta chino hyd nod ar ddydd yn Dolig. 'Ro'dd yr Eryr yn gwed taw Saeson a Chymry am unwaith yn y flwyddyn o'dd rhai mwya sychetig yn y ffest, ac na welsa neb olwg arnyn nhw to hyd Gwyl Dewi nesa. Y casglad yw, 'u bod nhw fel camelod yn yfad dicon iddi 'u catw nhw i fynd am flwyddyn. Ond peth cas iawn i saint fel ymhunan o'dd clywad reports ar bob llaw, a chyrcs poteli'n tasgu o bothtu'i ben. Fe gretas i mod i wedi mynd i'r ffrynt, a bod y Germans yn bombardo'r lle. Falla fod shampein yn help i gatw gwladgarwch yn fyw, ond gwell gen i ddyn sy'n gallu caru ei wlad heb swmbwl y 'sprydion hyn.

 

 

A close-up of a text

Description automatically generated with low confidence

(delwedd 5701b) (11 Mawrth 1915)

Fe gynicws y cadeirydd iechyd da i'r brenin a'r holl frenhinol deulu, ac fe ddangosws yn glir 'u bod nhw'n dod o deulu Dewi Sant, a bod tywysog Cymru yn comando'i ridjment yn Gymrag. 'Ro'dd dynon y shampein erbyn hyn wedi mynd yn ffrantic wyllt, yn gweiddi "hear, hear," ac yn ffystio'u plats gwag fel band o dymbarins. Chlwas i shwd gynhalath ariod. 'Ro'wn i wedi mynd i stwmp, ac fe ofynnas i'r Eryr, "Oti ni'n saff 'ma?" "Twt," medda tynta, "dyw hi yto ond dechra gwawrio." Ar ol i'r cadeirydd ddarfod, dyna bob un ar 'i drad, a'i a'i las yn 'i law, ac yn gweiddi "Y brenin," "The King," "The Royal Family," ac fe drawodd rhwun "God save the King," bothtu hannar milltir ne racor yn rhy ychal, a dyna fel y cwplws y llith gyntaf.

 

"Ma'n bleser gen i nawr," mynta'r Cadeirydd, “i alw ar Ficar y Plwyf i gynnyg y tost nesa, Dewi Sant." Fe na'th y Ficar'i waith yn dda iawn whara teg iddo, ond fe rows 'i drod yndi wrth son am robo'r Eclws na'th Dewi Sant yn ffeirad. "Dim politics," medda rhwun yn y pen draw, ond fe a’th y Ficar ymlan at beth arall heb gymryd arno'i fod a'n clwad. Fe wydda pawb fod y sylw wedi 'i dowlu dros y rails, ac iddo golli'i brecath. Treni o’dd hynny ag ynta'n pyrgethu am y tro heb bapur o'i flan. Gomrod o eira Sysnag o'dd gan y Ficar, a mynd i diwn y Litani yn'i beroreshon. Ond y peth gora'n cwrdd o'dd y delyn a chanu penillion. Ddyla dim un Gwyl Dewi fod heb y delyn. Rwyn cofio clwad Llew Llifio'n canu, "Waeth gen i glywed band o gwn, os na cha i delyn Cymru." Pan o'dd Llew Llifio yn'i breim, 'ro'dd yn werth mynd ucan milltir i ryndo arnon canu gyta'r tanna. Fe allsa'r hen Lew ganu penillion ar bob alaw Gomrod o ganu “Pen Rhaw” sy'r dyddia hyn, nes yw bron mynd yn Ben Mwrthwl. Gan fod y delyn yn dod yn ol, dewch a'r alawon i gyd yn ol gyda hi. Ar ddiwedd y cwrdd hwn fe adroddws yr Eryr y penillion hyn –

 

Gwyl Dewi dan glod awen - Gwyl enwog

O loniant di-amgen;

I brydydd y bydd yn ben,

Os cewch whisky a chasgen.

 

 

 

A picture containing text, black and white, font, screenshot

Description automatically generated

(delwedd 5701c) (11 Mawrth 1915)

 

Goludog Wyl gwlad y gerdd, — Gwyl talent,

Gwyl telyn a chyngerdd;

Heibio daw i Walia werdd,

Gyda'i bancwet i bencerdd.

 

Gwyl canu, Gwyl y cennin, — da i fyd

Ei defodau cyfrin;

A thry Fawrth a'i arwaf hin

Fel di-hafal hud Hefin.

 

Gwyl felys, Gwyl o foliant, — i lan swydd

Eilun serch diffuant;

Mewn rhyw emyn o ramant,

Hawdd yw son am Ddewi Sant.

 

Pan dawodd yr Eryr, fe feddylas i fod y plats yn mynd yn yfflon jibaders. Yr o'dd pob potal yn wag erbyn hyn, a phob un o'dd y tu ol iddy nhw'n llawn hyd 'u gwddwg. Lled brin y gwydda rhai o nhw'r gwahaniath rhwng Eryr a dryw bach. 'Ro'dd y rhai mwya stwrllyd yn gwishgo daffodils, a'r lleill yn gwishgo cennin. Dw i'n hito dim am y daffodils ar ddydd Gwyl Dewi. Gwell gen i'r geninen. Hon heb ddim dowt od'dd ar got Dewi Sant. Heblaw hynny, mwn cwrdd sydd a mwy na'i hannar yn gawl, ma pob sens yn gwed taw cennin ddyla fod yn hwnnw. Ma gwynt cennin yn fwy iach na gwynt balchder, a do's neb ond dandis a ffopsach am ei newid. Ond ma'r matar yn awr wedi'i setlo, a'r ddraig a'r geninen ar got of arms y Welsh Gards. O hyn i mas, do's dim ond y geninen i fod yn y golwg ar ddydd Gwyl Dewi.

 

DAFYDD Y CRYDD

 

 

A close-up of a text

Description automatically generated with low confidence

(delwedd 5889a) (22 Ebrill 1915)

22-04-1915

 

22 Ebrill 1915. Y Darian.

Shop Dafydd y Crydd.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Mishtir Gol., — Yr wthnos o'r blan I fe ddath dou fardd a dyn i'r Shop, ag fe fuon yma am bothtu ddwy awr. Yr odd y tri yn pitsho miwn i'r Tramp fu'n berwi reis yn Cwmparc. Fe welas lawar o dramps o bryd i bryd, ond dyma'r un mwya di-glem am neyd bwyd a welas i ariod. Rwy'n cretu mhunan i fod a'n frawd i'r bachan fu'n pyrnu lasa gen i scetyn yn ol. Lodjar odd hwnw hed, ag fe glwas flan gair iddo gilo'n ol dros y "wal ddi-adlam” heb setlo'i gownt yn y Ton. Rwy'n napod hwn yn ddicon da, ag mae a'r un gewc a'i frawd. Yn ol y marn i, fe ddyla pob tramp gal mynd i'r Seilam ne i'r ffrynt. 'Dyn nh'n fawr proffit i gryddion na theilwried. Fe ddyla bachan Cwmparc wpod fod gwaniath mawr rhwng berwi reis a berwi tatws. Ma reis fel startsh yn moyn elbo rwm. Peth dicon danjeris yw i ddyn dreio bod yn fenyw. Y lwc fwya'n y byd na lyncws gwr y ty a'i lodjar y reis yn sych, a lemwned ar ei ol, nes. mynd mor dew a das wair. Fysa hynny ddim yn fontish i ddyn sy'n byw mwy na hannar'i amsar ar yr hewl. 'Do'dd dim cymint o ots am wr y ty, oblecid 'ro'dd e wedi inshiwro'i fywyd, ond 'dyw hynny ddim yn lein tramps. Ma gen y tramp hwn well ges am neyd pennill na berwi reis, a ma hynny fel reis yn gneyd i ddynon wyddo. Dyna pam ma'r bachan yn moyn ffugenw. 'Dos dim posib iddo gal gwell enw na hwn Eryr Pwdin Reis. Ma hwn yn enw bach pert digynnig. Alla'r bachan sy'n gwerth Cenin yn y North byth ffeindo gwell. Fe dreias i neyd pishyn iddo fe a'i reis, a rwy'n siwr fod y lein gynta'n un dda, achos, fe welas un depig iddi gen Dewi Estyll.

 

O! deffro Awan, tyrd ymlan,

A bydd yn lodas neis,

A rho dy help i 'nuthur can

I Eryr Pwin Reis;

Bu'r Eryr gwyllt a gwr y ty

Yn spwnjo yn y gegin,

Ac fe fu'r ddou yn ddicon hy

I dreio berwi pwdin,

A berwi bu am banner awr,

Nes ath y llestri'n yfflon,

A thyngu na'th yr Eryr mawr

Fod anga yn y crochon.

 

 

A close-up of a page

Description automatically generated with low confidence

(delwedd 5889b) (22 Ebrill 1915)

 

Scyswch fi am dreio'm llaw ar farddoniaeth. Dyma'r pishyn cynta netho i ariod, ond rwy'n meddwl dala mlan os ca i fywyd a iechyd. Ma Morgan y teilwr wedi gwed lawar gwaith pe byswn i wedi stydio y rheola, y byswn i'n fwy na matsh i lawar bardd Corniog a Chadeiriol.

 

Fe glwas pan own i'n grotyn nag o's un drwg yn ddrwg i gyd. Ma llawar o wir yn hynny. Nid drwg i gyd yw rhyfal mawr y dyddia hyn, a weta chi pam dos dim dowt nag i ni'n dechra ar y Mil Blynyddoedd. Ma'r Brenin wedi seino dirwast, ag ma pob dyn loyal yn siwr o ddilyn y Brenin. Ma'n wir nag w i ddim yn dotal ymhunan, ond fydda i byth yn yfad ond pan fydda i dan annwd, a nid arno i ma'r bai mod i'n cal annwd mor amal. Ond rhaid gneyd 'run peth a'r Brenin ta fa'n gwishgo 'i grys tu fas. Clefyd y Brenin ma nhw'n galw hynny. Flynydda'n ol, fe ath y brenin Etwart o dan opereshon, ac fe glwas ddoctor yn gwed fod milodd yn Llyndan wedi treio mynd yn sal, a demando'r un opereshon, er 'u bod nhw mor iach a'r cricsyn. Rwy'n cofio Victoria, mamgu'r Brenin George, yn gwishgo crinolin am y tro cynta. Dos dim isha gwed pam, ond i hynny ddicwdd ychytig cyn geni un o'r plant. Cyn pen hannar blwyddyn 'rodd holl fenywod y wlad yn gwishgo crinolins, pun a fysa argol am fwy o deulu ne beido. Jobin da fod brenin Lloigar wedi dod yn ditotal. Bysa fa'n peido smoco hed, fe fysa pawb ond Keir Hardie yn gneyd yr un peth. Dw i ddim yn cretu mwn mynd mor bell a hynny, oblecid ma pob doctor sy'n 'i sensis yn gwed fod baco yn disinffectant, ac fe fydd mwg yn siwr o fod yn fontish i iechyd y Mil Blynyddodd. Wn i ddim faint o “Irish," "Scotsh," "Shampen, a "Stowt” sy yn seler y brenin, ond fe ddylan gal 'u symud 1 gyd dder and then. Gora po bella fo sprydion drwg o'rwth dyn sy'n treio byw'n dda. Gobeitho naiff a ddim yfad ar y sly, ne mae a'n siwr o ddod i hobl.

 

Ma dicon o sothach meddwol yn cal 'u hyfad yn Lloigar bob blwyddyn i nofio'r Ffleet oddi'yma i'r Dardanels, a ma mwy o sybmarins yn y Lantic Oshan hyn na ma neb yn feddwl. Cenedl yn llyncu mor! Y peth gora sy gyta ni i ddangos am y gost yw carchara a mynwentydd. Ma stwff rhyfal yn mynd yn bring, ac ma'r Gyfarment wedi ffeindo mas taw'r achos am hynny yw fod cymint o ddynon ar 'u spri, yn lle bod gyta'u gwaith. Fe wetws Lloyd George lot o wir pwy ddiwrnod am y rapscaliwns sy'n hala mwy o'u hamsar mwn tafarn nag wrth 'u dyledswydda. Dos Does neb ond Keir Hardie yn anfolon i glwad y gwir, ac ma fe wrthi'n blagardo'n wath na phic pocet. Fe wyr pawb ond gwaddod, fod milodd ar y spri bob wthnos yn lle bod gyta 'u gwaith, a ma nhw'n ddicon anodd 'u trin heb i neb gwni 'u llewysh nhw. Dos dim gwell ffrynd i'r gweithwr na Lloyd George yn yr Hows of Comons nag yn un Hows arall, ac mae'n tw bad fod rhyw grancod yn ei flagardo am dreio gwella'r byd.

 

DAFYDD Y CRYDD.

 

 



A black and white photo of a person and person sitting at a table

Description automatically generated with low confidence
(delwedd 5493) (27 Mai 1915)

27-05-1915

27 Mai 1915. Y Darian.

Shop Dafydd y Crydd.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 


Mishtir Gol, -

Tro sobor odd shinco'r Lusitania, ag na gwad pob dyn sy heb droi'n Lagar Bier yn bownd o ferwi yn'i wythenna. Nid ymladd yw peth fel hyn, ond cythreuldab rhonc yn gneyd sport o fywyd y diniwad. A dyma'r dynon sy'n moyn bod yn ben ar y byd. Dyn helpo'r byd weta i. Fe glwas wed fod anrhydadd ymhlith llatron, ond ma'n ddicon plain nag yw'r Caisar a'i dylwth yn gwpod dim am dano. Ma nhw'n brago llawar ar eu talant a'u sifiliseshon, ond dos dim isha llawar o hynny i fwrdro gwracadd a phlant ar dir a mor. Pwy ddrwg ma rheiny wedi neyd druen bach? Rwy’n cofio Jones y ffeirad yn pyrgethu ar Pharo a Herod, ag yn gwed fod pawb yn poeri ar'u henwa nhw byth ar ol hynny. Dyw'r Germans ddim wedi cwni fodfadd yn uwch na rheiny, ag fe welas gownt gen un reportar'u bod nhw'n gneyd tarcat o rai wedi'u wowndo ar y mas, ag yn seithu plant fel gwningod! Caton pawb! Glywsoch chi ariod o'r blan am shwd sifilieshon? Fysa fa'n un syndod gweld yr holl fyd yn cwni fel un gwr, ag yn lladd pob German sy'n gwishgo'r enw, ag ma'n depig fod hynny wedi


 

 



Text, letter

Description automatically generated
(delwedd 5494) (27 Mai 1915)



dechra mwn rhai parta ishws. Dyw hynny ddim yn iawn, ond anodd mwn pang gwyllt yw catw dial o dan law. Beth ma Merica yn mynd i neyd? Oti chi'n meddwl y gall hi ishta lawr yn dawal, a gweld gwracadd a phlant y wlad yn cal’u boddi fel llycod? Falla fod y dyn sy'n acto fel brenin yno yn teimlo'i fod a mwn lle cynnil, oblecid ma bron cymint o Germans yn Merica ag sy'n Iwrop, a mwy yn Shicago nag sy'n Berlin. Ond fe ddyla neyd yr hyn sy'n reit ta'r byd yn mynd yn racs. Ma'n depig fod y'n gwyr ni sy'n gofalu am y mor yn dyall'u gwaith, ag yn'i neyd a yn y ffordd ora, ond i ddynon cyffretin fel ’y mhunan, ma'n etrych yn od fod y'n llonga rhyfal mor ddishtaw, ond y cwpwl sy'n lladd Twrcis ar lanna'r Dardanels. Ma Ffleet Germani'n saff, a'i sybmarins yn hala'n llonga ni i'r gweilod wrth y dyseni. Ma hyn yn depig i blisman yn watsho drws y ffrynt, a llatron yn cael hewl rydd i robo'r ty trw ddrws y bac. Ma mor anodd dala sybmarins a dala pysgod heb rwyd, ond fe fysa'n dda gen i glwad mwy o son am Loigar yn'u pysgota nhw. Ble ma'n sybmarins ni? Ma gyta ni garn o honyn nhw, llawar mwy na sy gen Germani. Oti a'n bosib i betha fel hyn i ymladd o dan y dwr, fel llonga mawr ar y wynab? Fe alla dyn feddwl taw plan Germani yw tori crib Lloigar a'i sybmarins, a thorri. ei gwddwg wetyn a'i llonga mawr sy'n cal'u catw o'r golwg. Fe wydda'r Admiralty fod y gelyn ar'i watsh am y Lusitania. A odd hi ddim yn bosib hala ffleet o sybmarins yno i gatw'r cwrs yn glir? Dw i ddim yn dyall llawar am betha fel hyn, ond felna ma meddwl i'n rhytag. Peth od iawn na ba'n sybmarins ni yn gallu clirio'r Channal, yn lle gatal i'r gelyn neyd fel y myn a. Fel y gwetas i o'r blan, nonsans yw galw shinco llonga yn "Ffiasco." Dyna lysenw un o'r papra Sysnag ar Blocêd. Falla fydd a ddim mor ddwl a choeddi shwd ffwlbri yto ar ol colli'r Lusitania.

Holo! Eryr Pen-Pych. Shwd i chi heno? Dewch miwn. ’Ro'wn i bron mynd i gretu y'ch bod chi wedi joino'r Army. Fuoch chi ddim yma ys wthnosa.


 

 



A picture containing text, newspaper, receipt

Description automatically generated
(delwedd 5495) (27 Mai 1915)

Na, dw, i ddim wedi joino yto, ond rwy'n ddicon parod y dyddia hyn. Wyddoch chi beth, ma'r Germans ’na'n haeddu cal'u seithu bob jac, a'u towlu'n fwyd i gwn. Ma mwy o ddynoliath mwn blaidd o'r cod na sy yn y rhain. Dyna fel w i'n teimlo pun a reit ne rong yw hynny. Ma busnas y Lusitania yn ddicon i droi pob dyn yn y wlad yn showdwr. Rodd cendar i'r wraig yco yn injiner arni, a dos dim son am dano. Dos dim dowt nag yw a yn y gweilod, os na chas a'i ladd wrth'i bost. Ma tri o blant bach ar'i ol, a'r wraig bron colli ei sensis. Fe fuo i'n ffeilu cysgu am dair noswath ar ol darllin yr hanas, ag fe netho gwpwl o englynion i drychinab y. Lusitania. Falla coeddwch chi nhw yn y Darian.

Joiniwyd a llu Gehena, - ar y don,
Gan wyr dig Germania;
Bedd ingfawr heb ddiangfa, - ar for gaid
Ar law Sataniaid i'r Lusitania.

Bu ymarhous submarine, - o Abred
Ar ei llwybrau cyfrin;
A'r garwaf ystryw gerwin
Ym merw'r mor ar ei min.

Trap adyn yw'r torpedo, - neu gethrin
Gythraul yn ymguddio;
Un edwyn dan ydyw o,
A'i freuddwyd am lofruddio.

Gollyngodd gallu angau - fellt i'r llif,
Holltai'r llong yn ddarnau;
O wydd byd, a hedd y bau, Agennodd i'r eigionau.

Yr ymyrrwr tramorawl,- dyn y byd
Yn ei ben ymchwyddawl;
Rhyw garn-lofrudd anfuddiawl
Ar dir a dwr ydyw'r d--l.

Moedro mae dir a mor, - a byw'n ben
Heb barch i egwyddor;
Heb aros dim, brysied Ior,
I roi William ar elor.

DAFYDD Y CRYDD.

 

 

 

A picture containing text, newspaper, black and white, paper

Description automatically generated

(delwedd J7853a) (10 Mehefin 1915)

10-06-1915

 

Y Darian. Shop Dafydd y Crydd.

 

Shop Dafydd y Crydd.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Mishtir Gol, — 'Rwy'n gweld fod y bachan cloff sy'n Iodjo yn Cwmparc yn para i bitsho miwn i fi, ond dw i ddim yn meddwl tynu nghot ato, onte fe fydd yn fwy cloff nag yw a'n awr. Fe fuo inna yn Ffair y Cymry yn Byrtawa, a phan ddetho i nol, fe glwas fod rhw glymercyn wedi galw yn y Shop, ond dodd neb yno ond Ned, y bachan sy a'r esgid yn 'i law yn y pictwr. “Shwd i chi heddy?" mynta'r dyn yn y drws, “oti Dafydd y Crydd miwn?" "Nag yw," mynta Ned, “ma fe wedi mynd i Byrtawa i fesur trad Arthen, a'r Welsh Batalion sy o dan 'i gomand. Pwy ga i wed[i] i chwi? 0 ble 'chi'n dod? I ble 'chi'n mynd gan mod i mor ewn a,  gofyn." “Fi yw Tramp y Darian," mynta'r dyn. “Ma Dafydd wedi addo par o glocs i fi." “Ma dicon o'u isha nhw arnoch chi," mynta Ned. “Ishteddwch," ag fe ishteddws ar y fainc a lot o gwyr crydd arni. Mhen bothtu gwartar awr, fe glwa rw dramp yn canu Ton y Botal ar yr hewl, ag fe neidws ar 'i drad mor sybyrthol, a bothtu drodfadd sgwar o bart ol'i drowsis ar y set, fel lebal ar garpet bag. "WeI diawst, ma golwg bert arnoch chi nawr," mynta Ned. “Gwell i chi newid a'r boy 'na sy'n canu ar yr hewl." Wel, dyma beth bidir," mynta'r dyn. "Y Crispyn cythral, pam na fysa chi'n gwed fod cwyr crydd ar y set? Dyma bicil i fynd i Ffair Byrtawa, a fina wedi addo cwrdd ag Alis cyn dod nol. Os gweliff hi fi yn y shap hyn, fe fydda'n fwy tepig o gal 'i throd hi na'n llaw. Gwetwch wrth Dafydd y caiff a dalu compenseshon i fi gal trowsis newydd. Rodd hwn yn werth gini pan geso i a uncan mlynadd yn ol." A bant ag e dros yr hewl fawr, a thwryn o blant yn 'i ddilyn. Allswn i ddim peido wherthin wrth glwad Ned yn atrodd yr hanas, a'r peth ddath i meddwl i odd pwt o englyn ddysgas i pan yn grotyn —


“Fe welas fachan smala
Yn mynd i Ffair Byrtawa,
A mytrw ginog ar ei fys,
A chwt ei grys yn llapra."

Wrth 'i weld a'n gloff heno, ag wedi colli patsh mor fawr o'i drowsis, fe gretws y plant fod German sybmarin wedi bod ar 'i ol, ac wedi 'i dorpedo, ag fe ath y son mas trw'r holl le. Bora dranoth, fe welas mwn dou bapyr Sysnag - "Exciting rumour. Another criwswr torpedoed. Attack on a tramp by a German submarine." Rodd yn hanas yn gwed taw yn Star Bord y cas y tramp ei daro. Ma'n depig nag odd dim "Three Stars" ganto ar y pryd, ond fe welws lawar o stars ar ol yr ergyd.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

None

(delwedd J7853b) (10 Mehefin 1915)

 

Ma fa'n achwn fod Morgan Lewis y teilwr wedi gneyd cawl o'i blanc fyrs petar lein. Fe ddyla ddiolch iddo, oblecid rhwng y “cawl" a'r “pwdin," chas a ddim shwd ffest ariod. Ond chlwas i ddim am neb o'r blan yn gneyd cawl o asglod. Caredicrwdd mawr yn Morgan odd rhoi ticyn o marjarin yndo i roi llycid i “gawl dall." Ma Scwl Mastar y Ton yn gwed fod gwell blas o'r hanar arno nag sy ar y gwreiddiol, ac mae hwnw'n gwpod y gwaniath rhwng cawl a chawl. Ond dos gen i ddim amsar i foddro gyta pheth fel hyn, oblecid ys gwetws Jones y ffeirad, nid ar gawl na phwdin y bydd byw dyn.

Ro'wn i wedi meddwl gwed ticyn am y Cwrdd Mawr yn Byrtawa, ond ma'r Tramp wedi mynd a'r hyn i chi'n alw'n "ofod" bron i gyd y tro hyn. Dodd dim ,cymint o fwyd i ened yno ag sy'n Eglws y Plwyf. Y fendith fwya geso i yno odd cal mesur trad Arthen a Matho am bar o Welinton bwts - rhai dicon llytan i wishgo'r trowsis tu fiwn. Bydd het fflat a phlufyn gyta'r rhai hyn yn 'u gneyd nhw'n tip top genarals, tepig i Harri'r Wythfed. Ma'r Undab yn bywcth gwneyd gwyrthia, a gobeitho llwyddiff a'n fawr i gatw whara teg i bopath Cymrag. Gormod o glebran sy mwn cyrdda fel hyn, a rhy fach o practical work ys gwetws Wil Smith. Ma yspryd proffwydoliath wedi bod yn y nilyn i yn ddiweddar, ac yn gwed y bydd yr Undab Cymrag yn Sais twt cyn y bydd a'n bymthag od, ac yn meddwl mwy am bicnics na dim arall. Dyna hanas rhai Cymdeithasa Cymrag erill. Os bydd un Sais yn perthyn i'r Clwb, yn enwetig os bydd a'n dicyn o Sgweiar, rhaid troi popath yn Sysnag wetyn er mwyn hwnnw. Dos dim ots am dano i a'm short sy'n dyall dim ond Cymrag. Dyw hyny ddim yn deg o getyn o ffordd. Ma'n wir fod llawar Cymro wedi colli iaith ei fam, ond mwn cwrdd Cymrag, fe'i hunan ddyla gal diodda, ac nid y dyn sy'n ei chatw. Cariwch yr Undab ymlan yn Gymrag fechgyn, ac os bydd Sais yn dewish clwad 'i lais, ag yn brago fod cendar 'i dadcu'n Gymro, gwetwch wrtho am fynd i bicnics Cymdeithas yr Iaith Gymrag am ddeng mlynadd, a falla bydd a'n gwpod erbyn hyny y gwaniath rhwng bara chaws a bara lawr. Fel y gwetws Eryr Pen Pych –


"Nid yw dandy o Undeb
Gyll ein hiaith yn gwella neb."


DAFYDD Y CRYDD.

 

 

 



...


 

 


A picture containing text

Description automatically generated
(delwedd 5482) (1 Gorffennaf 1915)

01-07-1915

 

Y Darian

1 Gorffennaf 1915


Shop Dafydd y Crydd.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 


Mishtir Gol., — Dos gen i ddim amsar i ymdopu gyta'r cyw cloff yna o Gwmparc. Mae a'n fwy ffit i'r Seilam nag own i wedi meddwl, ac yn fwy cloff yn ’i dop nag yn ’i weilod. Gyta llaw, gwell iddo ddod i moyn y pishyn trowsis sy'n sownd wrth y fainc ’ma. Fe all fod yn handy iddo fe, os gall a'i gal a'n rhydd. Cyngor Wil Smith neithwr odd rhoi notyn yn y papra Sysnag fel hyn — "The remains of a tramp. If not claimed within three days will be sold to defray expenses.” Ond fe fydda hynny'n fwy o gost na ffrofit [sic; = phroffit], oblecid ’dyw'r clymercyn a'i ddillad ddim yn werth grot. Rwy'n cofio clwad am Shon Waun Adda odd yn byw'n acos


 

 


Text, letter

Description automatically generated
(delwedd 5483) (1 Gorffennaf 1915)

 

i'r Cymar, ag yn cario'r post trw'r cwm cyn bod son am railway yn uwch na'r Ddinas. Gan fod gytag a lawar o waith cerad, fe brynws gart a mwlsyn, ag fel dyn piwr, rodd a'n cario pob math o drimins dros ddynon erill yn y cart bach, nes odd a'n depig i'r llenllïan welws Pedr. Fe gwrddws a thramp un diwarnod, a mynta hwnnw, "Oti chi'n cario racs Shon?" "Otw, neida miwn," mynta Shon. Dro arall fe gwrddws ag e wetyn, ag fe ofynws yr un cwestiwn, "Oti chi'n cario racs heddy?" I "Ddim pob short, catw di draw,” mynta Shon. "Fe glwas taw cendar i fachan cloff Cwmparc odd hwnw, a bod y tylwth yn byw ar yr hewl o genhedlath i genhedlath.

Rwy i wedi cwrdd a llawar o dramps o bryd i bryd, ond dyma'r un mwya twp a welas i ariod, ag mae a'n gwed petha mor ddiddal a'r reports sy'n dod o fas y rhyfal. Falla taw awan barod sy'n cownto am hynny. Meddylwch am y dyn - becan pardwn, tramp ddylswn i wed. Ma cymint o waniath rhwng dyn a thramp ag sy rhwng gwr byneddig a bwpach brain. Ond meddylwch am dano'n gwed fod Alis wedi mynd i'r ffrynt. Ma'n depig iddo glwad fod rhw Allies yn ymladd a'r Germans, a dyw a ddim yn gwpod y gwaniath rhwng Allies ag Alis merch Shan. A dyma'r bachan sy'n son am "anwybotath” dynon sy wedi darllin mwy o lyfra na welws e o stars trwy'i delescop. Y gwir ag e yw ma Alis yn nhre gyta'i mam, ag yn caru'n dy^n [sic: = t
n] a bachan bach smart o Graig Trewyddfa. Fe gwelas nhw mhunan fraich-yn-mraich yn sefyll o flan jiwelar shop. Beth yw'r clasgad, barnwch. chi. Dyw Alis ddim mor sofft a dilyn tramp wedi colli haner'i drowsis. Ma'i mam a fina'n hen ffrindia odd'ar pan own i'n byw yn Llangyfelach. Fe all fentro fod y crydd yn gwpod mwy na mae e ariod wedi feddwl. Fe ddath Eryr Pen Pych yma'r nos o'r blan a whech englyn i'r tramp yn ’i ddagra, ond dyw Brynfab ddim yn folon i fi goeddi llawar o betha fel hyn, am ’u bod nhw ’n rhoi'i golofn e yn y shêd. Fe gaiff y tramp lonydd nawr, dim ond iddo ddala'i dafod, a pheido blagardo dynion sy'n treio gwella'r byd.


 

 


Text, letter

Description automatically generated
(delwedd 5484) (1 Gorffennaf 1915)



Y mae y rhyfal yn mynd yn sobrach bob dydd, a hard leins yw i Loigar orfod ymladd heb amiwnishon. Er fod Allies (nid Alis) yn dala'u tir, dos dim dowt nag i'n nhw wedi cal y gweitha hyd yn hyn. Ma nhw'n adfanso bob dydd, ond yn mhellach yn ol nawr nag o'n nhw whech mish yn ol. Peth dicon digalon yw clwad son am streics ar amsar fel hyn. Fe ddyla'r Gyfarment neyd i bob gweithiwr sy'n streico fynd i'r ffrynt dder and dden. Pwy sens yw dod mas a'r twls a rhoi montish i'r gelyn i infedo'r wlad? Ma'r Rwshans yn cilo yn shangdifang yn ol i'w gwlad, ag wedi colli'r cwbwl o nhw wedi enill o'r dechra. Rodd llawar o son wyth mish yn ol am y Stêm Rolar odd yn mynd yn streit i Berlin, ond mae a mor bell odd'no nawr ag y bu a ariod, a rhaid iddo gwnu llawar mwy o stêm cyn daw a mlan yto. Gwetwch chi fynoch chi ma petha'n etrych yn ddicon digalon, a dwli yw peido etrych ar bethaa [sic; = betha] yn ’u gwynab. Nonsens yw brago, a gwed y'n bod ni'n lladd mwy nag i ni'n golli. Ma hynny'n dishgwl yn iawn ar bapur, ond faint o wir sy ynddo sy beth arall. Y danjar yn awr ar ol tarfu'r Rwshans yn ol yw i'r Germans ddod lawr wrth y milyna i'r ochor hyn, a'n tarfu nina a'r Ffrancod o'u blan i Baris fel y gnetho nhw yn Mons. Ma nhw'n gwpod cystal a nina y'n bod ni'n bring o amiwnishon, ag ma Lloyd George yn gwed y cymar a wyth ne naw mish cyn y gallwn ni gal y syply iawn. Beth ddigwyddiff cyn hynny y nefoedd fawr a wyr. Golwg ddu iawn w i'n gal ar betha, ond gobeitho daw gola o rwla cyn bo hir, a na chaiff y march ddim starfo tra bo'r borfa'n tyfu. DAFYDD Y CRYDD.


...

 

 



A picture containing text, newspaper

Description automatically generated
(delwedd 5498)
(15 Gorffennaf 1915)

15-07-1915

Y Darian

15 Gorffennaf 1915.

Shop Dafydd y Crydd.

Mishtir Gol., — Tepig y'ch bod yn cofio'r dyn diarth fu yma'n atrodd hanas Mocyn y teilwr, o Langyfelach. Fe fu yma wetyn am spel yr wythnos o'r blan, ag fe dynnas i oddarno dwshged o'i hanas, a rhyngoch chi a finna, mae a wedi gweld cymint o yps and downs a Robin Shon Criwso. Fel y gwetas i o'r blan rodd a'n depig i wr byneddig wedi torn lawr, a dicon hawdd gweld fod y dyn wedi cal gwell cwnad. Fe ffeindas mas taw netif o Byrdar yw a, a mab i dafarn yn acos i drip y Gatlys, ar y ffordd i Hewl y Felin. ’Ry'ch chi'n gwpod jeograffi'r lle'n well na fi. Fe'i cwnnwd yn ffeirad, ag fe ddath mas o Ryd yr Ychen yn B.D., sef Bachan Duwiol. Ar ol cwplo'i addysg fe gas le'n giwrat yn Llangyfelach,

       

 

 

Text, letter

Description automatically generated
(delwedd 5499)
(15 Gorffennaf 1915)



lle bu'n trampo'r plwyf am betar blynadd. ’Ro'dd y Ficar yn rhy dew i neyd llawar o ddim, a'i wynab fel ffwl mwn, ond dicyn yn fwy garw, a'r gowt yn ’i drad. Y ciwrat, pwr ffelo, odd yn gorffod gneyd y cwbwl ond prioti, ag fe allsa byrgethu heb bapur o'i flan. O'r diwadd, fe gwmpws merch y Ficar mwn cariad ag e, ag fe fu'n rhaid iddo fynta ffolo; siwt, ag fe a'th yn ddiflastod mawr rhwng y mishtir a'i was. Cariad y Ficar o'dd mab y Scweiar, ond cariad y ferch o'dd y ciwrat, a fu menywod y plwyf ddim yn hir cyn gwpod hynny, a wa'th i chi ganu clycha'r eclws na rhoi secret caru i fenywod. Un diwrnod, fe ddigwyddws i'r ferch fynd i Byrtawa, ag fe ddigwyddws i'r ciwrat fynd yno'r un prynhawn. Falla fod hynny wedi cal ’i arenjo mlan llaw ta fatar am hynny. Ond pan glyws y Ficar fod y ddou yn dod sha thre gyta'i giddyl, fe a'th yn ipish gwyllt, ag fe ddismisws y ciwrat dder and dden. Cyn pen hannar blwyddyn ro'dd yno giwrat arall yn darllin y gwasanath claddu ar fedd y ferch.

Nid barddoniath yw hyn, ond gwirionadd a sobrwdd o ben y dyn ’i hunan. ’Rodd y ciwrat cyn hynny'n ditotal, er cal'i gwnnu mwn tafarn, ag mor dduwiol ag y gall ffeirad fod, ond fe a'th dros y plats, ag ar ’i spri am ddwy flynadd i fwrw'i ofid. Wedi iddo sobri fe gas gynnig lle gyta'r Sentars yn acos i Ystalyfera, ond allso fa ddim meddwl am atal crefydd mor llwyr a hynny. ’Dodd a ddim wedi cal ’i dorri mas o'r Eclws, am ’i fod a yn lein yr Apostolion, ag fe gas le yn Penderyn, o dan ffeirad o'r enw Maybury - dyn nag o'dd yn Sais


 

 

Text, letter

Description automatically generated
(delwedd 5500)
(15 Gorffennaf 1915)



nag yn Gymro. Pan fysa hwnnw'n darllin ’ro'dd pawb yn meddwl taw o'r gwreiddiol o'dd a'n gneyd. ’Dodd dim ges gan neb beth o'dd a'n dreio wed, ag yr odd yr annwl gariatus frodyr yn byw trw ffydd. Wel, fe gas y ciwrat le yno, ond fu a ddim yn hir cyn mynd i hobl wetyn. Yr amsar hynny ’rodd Dic Shon Shams yn'i breim. Bachan smart ar ’i ddwrn o'dd Dic, ag yn wado pawb a safa o'i flan. Fe glwas lawar o son am dano cyn i fi atal Llangyfelach. Fe rows chalenge i Bil Benjamin - dyn o'r un breed a Tom Sayars. Gan fod y ciwrat yn joly ffelo, ag yn napod Dic yn dda, allsa fa ddim peido mynd i weld y batl. Am round ne ddwy ’ro'dd Dic fel y wennol. Fe o'dd y cynta i daro'r gwyn ag i ddynnu gwad. "Os ca i un ergyd arno,” mynta Bil, "fe fydd yn ddicon tawal." A gwir wetws a. Fe gyrhaeddws Dic druan yn ’i genol, nes o'dd a fel y lythyran S, a ma'n debig na chymhwyswrs a byth. Fu fawr o son am Dic Shon Shams ar ol hynny, ag fe gymrws Dic Shon Dafydd ’i le i gatw clod Byrdar rhag mynd i goll. Y gwaniath rhwng y ddou yw, fod y Bwli yn treio lladd Seison, a'r nail yn treio lladd y Gymrag. Rhaid i chi gofio taw'r ciwrat sy'n gwed y petha hyn, ac nid fi.

Ar ol y batl, fe ddath y ciwrat nol i Benderyn, ond yr o'dd y Ficar yn gynddeirog wedi clwad fod ’i was yn un o'r spectetors. Fe'i galws ar y carpat, a mynta fa, "Ble i chi wedi bod, syr?" "Fi rhoi leave i chi visito ffrynd, a chi mynd i weld dynon yn ymladd fel wild beasts. Fi'n dismiso chi heb further notice. Fi reporto chi i'r Bishop am disgreso'r clergy. Chi mwy o pugilist na saint. Clasgwch y'ch pac, syr." A dyna'r ciwrat druan ar y comin yr ail waith. Fe a'th yn fwy sychetig o lawar ar ol hyn, a phwy rhyfadd? "Syrcamstansis olter cases," ys gwetws Wil Smith. Dos dim dowt nag yw'r Eclws wedi bod yn rhy byrticilar gyta phetha fel hyn, a wedi colli rhai o'i dynon gora. Pwy ddrwg odd mynd i weld ffrind yn treio am y belt? Siwr ddicon, fe ddyla ffeirad fod yn y man a'r lle'n barod, rhag ofan i rwpath sobor ddicwdd. Treni odd torri'r dyn i lawr am neyd ’i dyledswdd. Ma pob ffeirad a phyrgethwr yn darllin y reports yn y papra newydd, ag ma hynny'n llawn cymint o ddrwg a mynd i wel'd pitsh batl. Brawd mocu yw tacu. Cewch glwad y tro' nesa shwd bu'r dyn byw o hynny hyd yn awr.

DAFYDD Y CRYDD.

.....

 

 



A picture containing text, newspaper

Description automatically generated
(delwedd 5671)
(19 Awst 1915)

19-08-1915

19 Awst 1915. Y Darian.
Shop Dafydd y Crydd.















Mishtir Gol, -

Fe fuo i'n lwcus iawn i Eryr Pen Pych alw yma i gal ticyn o hanes Steddfod Bangor. Chi allwch riloie ar un sy wedi bod yno yn well na reports y papra newydd sy'n cal 'u gneyd ymlan llaw. Yr oedd yr Eryr yn lodjo mas o Fangor, ag yn rhy bell i fynd i'r Orsadd yn y bora. Fe ffeilws fynd i fwy nag un o'r cyrdda hynny. Ma'n depig nag odd yr Archdderwydd yno, a Chadfan gymrws 'i le. Rodd a'n etrych, mynta'r Eryr, fel dyn yn 'i glofars, ag yn pyrgethu dicyn ar y mwya. Glyb iawn odd y tywydd y bora hynny, a'r beirdd yn etrych fel ieir ar y glaw, a'r rhai odd yn areithio fel cilocod wedi cal anwd. Ma'n depig iddyn nhw fod yno am oria, ag nag odd dim yn sych ond yr hyn odd yn cal i atrodd oddar y maen. Dos dim sens mwn catw dynon yn 'u crysa am gymint o amsar ar faes agorad, heb do, nag ymbarelo. Fe ddyla'r bachan sy'n gwerthu Cenin gal 'i ffeino am neyd y program mor hir. Rodd yr Eryr wedi gneyd englyn petar lein i'r Archdderwydd, ond gan nag odd a ddim yno, fe a'th yn fflat shot. 'Chytig iawn odd yn y Pafilion, ag fe allsan roi fingerpost yn y canol yn pwynto i'r platfform yn gwed, "This way to the Eisteddfod."

Rodd Llew Tecil, yr arweinydd, yn gneyd i waith yn splendid, ond dyn helpo 'i bartnar. Fe fysa'n well i hwnnw aros yn nhre. Rodd a mor ddi wit ag o ddi wallt, a pho fwya fysa fa'n weiddi, lleia odd yn dyall beth odd a'n dreio wed. Rodd Dewi Cwmbwrla'r un farn a'r Eryr am yr englyn gas y preis, ag yn tyngu nag o's dim sparc o farddoniaeth yndo. Gwell, mynta fe, fysa'r englyn fel hyn:-


"Newydd dy o naddiad Ior
- yw'r gragen,
Rhag rhwygiad y dyfnfor
Lluesty serch merch y mor,
A phwysig i broffesor."


“Diawst," mynta'r Eryr, wedi clwad hwn, “dyna englyn yn taro'r hoilan ar 'i chlopa," ne mwn geiria erill, englyn a bach yn 'i gynffon. Dw i ddim yn dyall peth fel hyn ymhunan, ond fe allwn i feddwl fod yr englyn hyn yn cal 'i gloi yn bert digynig. Falla nag yw un Eos Trebanos ddim cystal:

“Annedd lân, heb dân na dor - i falwod
Drafaeliant y dyfnfor;
Drwyddi hi yr edrydd Ior
Hanes calon ysgolor."

Rodd Bardd Trewyddfa yn ddishtaw'r holl amsar, ond fe wyddwn i wrth y cymyla o fwg odd a'n whythu fod englyn yng nghil 'i fach, a dyma fe -


 

 



A picture containing text, newspaper, receipt

Description automatically generated
(delwedd 5672)
(19 Awst 1915)



Neuadd hardd a gafniodd Ior, -i bysgod
Heb esgyrn mewn dyfnfor;
Yn ei thrwsiad a'i thrysor
Mae triagl a miragl mor."

Whara teg i sgleigion, rhaid iddyn nhw beido beirniatu fel dynon cyffretin, ne wath bod yn sgleigon mwy na pheido. Dos neb ond sglaig allsa wed taw'r Ior nath y gragan yn barod ar gyfar y creatur. Fe fysa rhwun arall yn meddwl taw creatur odd yn buldo'r ty o'i frics a'i fortar 'i hunan. Pwy ond sgleigon all wed faint o rai bach sy mwn cragen? Fe fysa dynon difarddoniath yn taeru taw ty i un yw hi. Ma'n depig taw'r “rhai bach" hyn yw'r “trysor," a dyna sy'n cownto am y "miracla." Dos dim dowt nag yw cal mwy nag un creatur yn yr un gragan yn firacl. Beth i ti'n wed, Morgan Lewis? “Ma gen i un arall," mynta'r teilwr, yn fwy ar y pwnc nag un o nhw, a dyma fe -

“Preswylfod i falwoden, - a chastell
Gwych oyster yw'r gragen;
Nwydd o for, a noddfa hen,
Ogof trychfilyn hagen."

“Gadewch lonydd i'r cregin cocs yna," myntwn i, “fe leicwn i gal ticyn o hanas y goron a'r gatar. Shwd fechgyn odd miwn ar y gatar Eryr?" "Dim ond pedwar odd yn cynig, tri o sgleigon, ac un bardd," mynta'r Eryr. Peth od fod cyn lleiad yn cynig, ond os aiff petha mlan fel ma nhw nawr, tric fydd cal neb i gynig cyn hir. Rodd Morris Jones yn taro'r bai ar y rhyfal, ond fe gynigws bothtu ddeg ar ucan am y goron. Fe glwas flan gair taw cawl ail dwymo o'n nhw bron i gyd. Dodd y pwyllgor ddim yn lico i hala hen betha miwn heb newid y testyn, ag fe lwyddws y rhan fwya i neyd hynny. Rodd testyn y gatar wedi bod lawar gwaith o'r blan, ond y peth ddishgwylir nawr yw peidio canu ar y testyn. Fe fydd gen i lot i wed ar y hyn y tro nesaf DAFYDD Y CRYDD.

 

 

A close-up of a piece of paper

Description automatically generated with medium confidence

(delwedd J7844a) (26 Awst 1915)

26-08-1915 J7844

Y Darian. 26 Awst 1915.
Shop Dafydd y Crydd.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Mishtir Gol. Ma Ilawar o 'ddadla wedi bod yn y Shop ar ol Steddfod Bangor, a ma'r englyn wedi 'i dynnu'n jibarders. Rw i'n dyall mwy am hoilon a lletar nag am godl a chynghanedd, ond rwy'n dyall fod mwy o farddoniath mwn clocsan nag yn yr englyn petar lein gas y preis. 'Dyw'r Hir a Thoddion fawr gwell yn ol barn Eryr Pen Pych a Morgan Lewis y teilwr. Ma nhw wedi'i dynnu a'n yfflon racs oddiwrth 'i giddyl. Ma'n depig taw fel hyn odd y ddwy lein gynta –

 

"Alawydd breiniol a hedd y bryniau

Yn llanw'i delyn, yn llunio'i diliau."

 

Pwy sens all fod mwn "llanw telyn"? Ma llanw twbyn yn triw tw netshar, ne, yn ol y Tramp, llanw peint a llanw potal. Ond ma "llanw telyn” mor ddwl a llanw giwgaw. A o's rhwun y tu fas i Goledge Bangor yn ddicon o sglaig i wed beth yw "llunio diliau"? Llunio yw cal peth i shap. Beth yw cal shap ar ddiliau? Fe fysa diliau melys, ne ddiferion diliau, yn synwyrol, ond ma "llunio diliau” yn lletwith ar ucan. Ma Dewi Cwmbwrla'n gwed fod y lein –

"Rhedai iaith enaid ar hyd ei thannau,"

mor hen a'r delyn, ac ma rhwun yn amsar Twr Babel ganws "Iaith enaid ar ei thannau." Ta beth am hynny, y mae'n ddicon llwyd, ond falla na wydda'r beirniad ddim fod shwd lein ar gof dynon sy heb gal Coledge. Ma Eryr Pen Pych yn gofyn cwestiwn ar lein arall –

"0 ddawn ei fysedd yn fyw o iasau."

Pun a' iasa oer ne dwym odd y rhai hyn? Dyw'r dyn ddim yn gwed pun o'r ddou, ond falla nag os dim ots pun. Y lein ddwla'n ol Morgan y teilwr yw'r un ddwetha: -

"Yn gloewi'i thelyn a gwlith ei haeliau."

Rodd Morgan wedi arfar meddwl taw o lycid dynon odd dagra'n dod ag nid o'u haelia. Tepig taw glychu'r delyn ma'r bachan yn feddwl, ond fod y dwr yn dod o'i dalcan yn lle o'i lycid. Ond ma leisens gan fardd i wed nonsens, a leisens gan feirniad hed i wed fod hynny'n farddoniath newydd.

 

 

A close-up of a text

Description automatically generated with low confidence

(delwedd J7844b) (26 Awst 1915)

 

Ma beirniatath un o feirniad y Goron wedi dod mas, ag mae cyd a mish pump. Falla caiff rhwrai amsar i darllin hi ar ol i'r rhyfal fynd heibo. Petha dicon cyffretin o'n nhw i gyd, ma'n depig, ag rodd Eifon Wyn yn dala'n stiff am atal y wobor. Dwli mawr, yn ol 'y meddwl i, yw gatal y beirdd yn rhydd i ganu ar y testyn fynnon nhw. Rodd bothti ddeg ar ucan yn cynnig, ond ma Eryr Pen Pych wedi ffeindo mas taw hen stwff o'n nhw i gyd ond dou, sef yr un gas y Goron, a'r bachan ddewishws "Het" yn destyn. 'Chanws neb ariod o'r blan bryddest ar "Het,” a rw i'n cretu mhunan taw hwn ddylsa gal y wobor. Wn i ddim pun na het silc ne Jim Crow odd hi, ond ma llawar o dalant mwn het pan fo pen bardd ynddi, yn enwetig os na fydd a wedi colli'i wallt. Os gwir y chwedal, ma comiti Abarystwyth yto yn rhoi testyn y bryddast yn rhydd. Dos dim yn cownto am hynny, ond fod y comiti'n rhy dwp i ffeindo testyn newydd. Ma'n od iawn fod lot o sgolars fel sy'n Bangor ag Abarystwyth mor ddiglem am ddewish testyna. Yn awr, rhag ofan i'r un hen betha ddod miwn y tro nesa, ag i fachan yr Het hala'i bishyn am ail gynnig, rwy'n syjesto "Bonnet” yn destyn y Goron i Abarystwyth, a "Chap Nos" ne "Welinton Bwt" i Benybetw'r flwyddyn wetyn. Fe glwas taw rhagoriath y bryddast ora 'leni odd cwni gotra cymdeithas, a dangos gwarth 'i noethni i fachgyn a merched ifinc. Ma rhwpath yn fforin yn y style yn ol y dyfyniata, ag yn gneyd i ddyn feddwl am John Masfield. Dyna farn Morgan y teilwr.

 

Yn ol yr Athraw, ne Athro, beth galwch chi a, petha sal drychynllyd odd miwn am y Gatar. Dim ond pedwar odd yn cynnig, a thri wedi gofalu am blufyn at liw'r dwr. Os

 

 

A close-up of a page

Description automatically generated with low confidence

(delwedd J7844c) (26 Awst 1915)

 

yw'r feirniadaeth yn iawn, catar wag ddyla fod yno. "Eryri" odd y testyn, a dyma bena y rheffyn gas y Gatar: — (1) LIiw Llwyd; (2) Lliw Coch; (3) Lliw Gwyn. Caton pawb! Glywsoch chi shwd beth ariod? Fe alla dyn feddwl taw mwn Drepar Shop odd y bachan yn canu. Tepig na wydda'r bardd na'r beirniad nag yw gwyn yn lliw, ta fatar am hynny. Ond beth sy fynno lliwia a'r Eryri'n fwy na rhw fynydd arall? Fe nelsa rhaniad shwd hyn yr un tro i Graig Trewyddfa ne Gwm Rhyd y Ceirw. Ta beth fydd testyn y Gatar y flwyddyn nesa, dicon hawdd cal tri lliw arall yn benna: gwyrdd, glas, a melyn. Meddylwch fod "Lapston" yn cal 'i roi'n destyn, ag fe fydda hwnw'n destyn newydd, ond fe fydda'n fwy newydd o lawar, dim ond rhanu'r testyn yn dri lliw. Dos dim ots pwy liw, brown, broc, ne scarlat, fe fydd ar y testyn, dim ond cal y gair Lapston miwn unwaith ne ddwy. Os bydd hynny'n anodd fydd a waniath yn y byd, dim ond rhoi'r testyn ar y top i'r beirniad gal dyall ar beth i chi'n canu. Gora gyd, mynta Eryr Pen Pych, po bella byddwch chi o'rwth y pwnc. Os canwch chi ar y testyn, chi fyddwch yn stêl. Os canwch ar bopath ond y testyn, chi fyddwch yn newydd. Ma peth arall newydd yn yr awdl ora, sef yw hynny, ys gwetws Twm o'r Nant, mae ar yr un mesur, Hir a Thoddion, o'r dechre i'r diwadd. Ma hynny'n bownd o fod mor monotonos a darlith Athro mwn coledge. Falla taw'r cywydd byr, petar sill, fydd yr awdl nesa i gyd. Dyma shampl o'r mesur hynny: -

"Gwacsaw gocsach
Er budd "rhai bach,"
A blin yw bloedd
'Miragl' moroedd;
Ty twt, ty ter
Y distaw 'oyster,'
Direswm drysor
Ym mhwll y mor."

Fe fydda cal mil o linella ar fesur bach fel hyn yn siwr o fod yn beth newydd. Ond rhaid gofalu spelo'n iawn, a whilo am ddicon o hen eiria nag o's neb yn'u dyall nhw, er mwyn bod yp tw the marc. Os daw'r boys yma'r wthnos nesa, cawn racor o hanas y Steddfod.

DAFYDD Y CRYDD. I

 

 



.....

 

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd B2544a) (9 Medi 1915)

 

 

09-09-1915

Y Darian. 9 Medi 1915

Shop Dafydd y Crydd.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Mishtir Gol., —

Ma'n ddrwg iawn gen i na ddath y boys i'r Shop mwn pryd yr wsnoth o'r blan, i fi gal hala report i'r Darian. Ond nid arno i ma'r bai fod y milodd sy'n darllin y'ch papyr clodwiw wedi cal 'u shomi. Fe glwas flan gair pwy ddiwarnod, gen un ddyla fod yn gwpod, fod llawar o ddarllin ar y pishis w i'n hala miwn. Erbyn etrych, a dechra meddwl, dyw hynny 'n od yn y byd, oblecid ma pawb yn leico clwad beth sy gen Eryr Pen Pych, a Morgan Lewis y teilwr i wed ar byncia'r dydd. Y gwaniath rhyngo i a llawar sy'n sgryfennu i'r papra newydd y dyddia hyn yw, mod i'n reporto'r gwir, y gwir i gyd, a dim ond y gwir, so help me God, ys gwetws y Caisar, tra ma ereill yn reporto celwdd wrth y llath, ag yn cal cinog y lein am hynny. Ta chi'n meddwl am y rhyfal; am bob hanar gwir sy'n cael 'i wed, ma tynelli o gelwdd yn dod mas, a'r celwdd mwya gola sy'n cal 'i gretu gynta. Ma englyn petar lein Dewi Pandy'n eitha gwir –

Celwdd sydd ymhob calon, — a chawliach

Elwir yn newyddion;

Celwdd fel pac o hoilon

Geir o dir, ac ar y dón.

 

Ond 'rwy' wedi ffeindo mas fod y byd yn leico change, ag wedi syrffetu ar gelwdd. Fe glwas fod dynon yn crowdo i ddarllin y pishis w i'n sgryfennu, ag yn rhoi mentyg y Darian idd 'u giddyl. Dyw hynny ddim yn onarabl o dicyn o ffordd. Fe ddyla pob un byrnu'r papyr, a rhoi cinog am dano. All neb ddishgwl i fi gal 'y nhalu tra bo spwnjan fel hyn yn mynd ymlan. Pyrnwch y papyr rhag cwiddyl, yn lle'i handlo fa o'r nail i'r llall am ddim.

 

 

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd B2544b) (9 Medi 1915)

 

 

Oddar pan alwas i sylw at englyn y Gragan, ma'r beirdd wedi hala bwndwl mawr o grecin cocs i'r Shop, ond dw i ddim yn meddwl gneud sylw o'u hanar nhy [nhw]. Fe ddyla'r tacla wpod taw nid gwerthu rhython yw ngwaith i, ond gwerthu scidsha, docs, a legins. Dw i ddim yn mynd i droi'r establishment yn Ffish Shop i bleso neb. Ond ma Morgan y teilwr yn gwed fod perla yn rhai o'r crecin hyn, ag y dyla nhw gal'u dangos yn wynab haul a gola leuad. Dyma un ddath yma o'r North, a'r enw sy wrtho yw Llew Fflint- 

 

“Lloches heb hanes pinagl, - a'i sylwedd

Mor salw a thriagl;

A physg di lun heb un bagl

Yma erys mewn miragl."

 

Fe glwas son am Lew Tecil, a Llew Llifio o'r blan, ond wn i pwy'n y byd yw hwn. Ma'n dipig fod "miragl" fel triagl ar 'i fara. Fe fuo i'n holi Jones y ffeirad beth yw miragl. Wydda fe ddim, ond fe ffeindws mas mwn rhw Almanec, taw'r gair Sysnag am wyrth yw a, wedi cal 'i sgriwo'n Gymrag, am nag yw gwyrth yn ddicon clasical i ddynon wedi cal coledge. Os y'ch chi'n moyn bod yn fardd newydd, rhaid i chi droi parables yn parablau, wonders yn wonderau, miracles yn firaglau, mountains yn mountenau, a fountains yn ffountenau. Diawst y myto! dyma Gymrag. Ma petar lein Eos Trimsaran wedi 'i deall hi —

 

Y”n y dwr, gragen dirion, — mae'n syndod

Mewn sandau a gwymon;

A chelir yn ei chalon

Firaglau wonderau'r don."

 

Dyma un arall orwth Alarch Llynfi, Cwm Ocwr. Wyddwn i ddim o'r blan fod Alarchod yn canu, dim ond wrth farw. Gobeitho nag yw'r deryn hyn ddim wedi  rhoi'r sgrech ddywetha. Piti mawr fydda hynny, ag ynta'n canu mor bert. Fe ddyla  Alarch wpod rhwpath am grecin, ma'i wddwg a'n ddicon hir i cwnu nhw o'r gweilod. Ond falla fod mwy o wybotath gen wylanod, sy'n ecsploro mor a thir. Ta beth am hynny, dyma bishyn y deryn gwyn -

Miragl o galon moryn, — nwydd y don,

Newydd dy pysgodyn;

Adail malwod liw melyn,

A'r clo'n dal miraclau'n dyn."

'Rwy'n sposo fod yr Alarch yn cownto'i hunan yn fardd dwbwl newydd, gan fod y miragl ganto ddwywaith. Ma 

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd B2544c) (9 Medi 1915)

 

unwaith yn fwy na dicon yn ol ym meddwl i. Fe ddath yma un arall o Shir Gar. Dos dim enw wrtho, ond y post marc yw Brynaman. Dicon hawdd geso pwy bua'r gocsan hyn -

 

“Lluesty tywyll oyster — yw'r gragen

Rhag rhwygiad y dyfnder;

Nawdd grand yn nydd gerwinder

Yw crwn dwlc y rhiain der."

 

Os odd hwn yn y competishon, fe ddyla fod ymhell ymlan ar gownt y gair “riain." Ma hwn yn air sy'n ennill lot o farcs fel miragl. Tepig taw'r oyster ma'r bachan yn feddwl wrth y "rhiain" hyn, a mae a'n gystal enw ar  oyster ag ar ferch un diwarnod. Dw i ddim yn leico'r gair am ferch ifanc. Pan own i'n caru a Gwen slawar dydd, fe netho lawar englyn bach pert iddi, ond "rian" own i'n 'i galw hi'n wastod. Fysa Gwen yn dyall yn y byd beth fyswn i'n feddwl wrth'i galw hi'n "rhiain." Ma'n dda gen i na iwsas i ddim o'r gair ariod, ne falla bysa Gwen yn troi ar 'i sowdwl, ag yn 'y ngatal i. Ma Morgan y teilwr wedi darllin y Gramar newydd, ag wedi ffeindo mas fod "ain" yn troi'n "edd" yn y pliwral, fel hyn, celain, celanedd; atsain, atsanedd damwain, damwanedd. Dyn di shefo ni! Glywsoch chi shwd higldi-pigldi ariod? Falla fod hyn yn reit yn y Llatin, ond mae a'n ddicon lletwith yn Gymrag yn ol ym meddwl i.

Fe ddath yma un arall o Lanelli, o waith Meudwy'r Mwsg. Enw od i ddynon cyffretin fel fi. Fe glwas son am Fardd Cwsg, ag ma llawar o nhw yn y byd yto, ond ma hwn ar ddihun -

 

“Cegin yn cau ac agor - i friglwyd

Firaglau y cefnfor;

Cref anedd, caer o fynor,

I grancod a malwod môr."

 

Alla i ddim sylwi ar racor o'r bwndal hyn, a fydda fa ddim yn deg a Brynfab, ag ynta'n fishtir ar feirdd y "Darian." Ma'r boys yma wedi gwed petha smala iawn am Eryri'r lliwia, ond ma'r crecin cocs yma wedi mynd a gomrod le'r tro hyn. Scyswch fi am gatw'r petha hyny hyd y tro nesa.

DAFYDD Y CRYDD.

 

 



Text

Description automatically generated
(delwedd 5570)
(30 Medi 1915)

30-09-1915

 

Y Darian. 30 Medi 1915.

Shop Dafydd y Crydd.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 


Mishtir Gol., -

Fe addawas y tro dywetha reporto hanas y cwrdd fu'n y Shop rhwng Eryr Pen Pych, Mor- [??Morgan] y Teilwr, a Dewi Cwmbwrla, am Gatar Steddfod Bangor. Nid Cwrdd Cwacars odd hwnnw. Chlwas i shwd gynhalath ariod. Fe fyswn i wedi gneyd hyn yn gynt, onbai fod y crecin cocs rois i o'ch blan chi wedi mynd a'r amsar i gyd. Pan odd yr Eryr yn darllan y feirniatath, fe ddath bachan bach o Northman miwn. "Shwd i chi heno," mynta'r Eryr, "o ble chi'n dod?"

"O'r Gogledd, wyf wr gwaglaw,
Dan lawr byd yn heliwr baw,"

mynta'r dyn.

"Dyn diarth i chi'n y parta hyn rwy'n gweld. Ble chi'n byw 'ma, gan mod i mor ewn a gofyn,” mynta'r teiliwr.


 

 

Text, letter

Description automatically generated
(delwedd 5571)
(30 Medi 1915)

"Acw ar gwrr y Graig Wen,
Efo nai Ifan Owen,"

mynta'r dyn wetyn. Dyna'r papyr o grafanc yr Eryr fel sa wedi'i baraleiso.

"Oti chi'n perthyn i'r bachan sy'n gwerthu Cenin yn y North," mynta Dewi Cwmbwrla. “’Rych chi'n whilia'n gwmws ’run peth ag e.”

"Be 'dach chi'n ddeyd," ebra y Northman. "Dydw i ddim yn y'ch dallt chi. Be di 'whilia,' deudwch? A oes iaith efo Southyn?"

"Dou efill yw 'whilia' a 'sgwrsio,'” mynta Morgan y Teilwr, "ond fod mam y cynta'n Gymras lan, a thad y llall yn fwngral o'r North.”

"Hidiwch befo. Di foliant yw tant Hwntw," ebra'r dyn.

"Pwy gawn ni wed i chi," myntwn i wrtho. "Fe glws Llew Llifio, yn son llawar am rw Fardd yn 'i Awan, sposib taw chi yw hwnnw. Pwy a beth i chi?"

"Bardd o waed heb urdd ydwyf,

Ac un o ddawn Gwynedd wyf,"
medda'r Northyn.

"Allwch chi ddala pen rheswm heb doncan cynghanedd byth a hefyd," medda un o'r cwmpni.

"Gallaf yng nghanol gwylliaid,
A boddio'r oll os bydd rhaid,"

od[d] yr atab parod.

"Dyma'r deryn smarta welas i ariod," mynta'r Eryr.

Rodd y boys wedi mynd i stwmp, ag yn etrych ar y dyn ag ar'u giddyl bob yn ail.

"Fe all hwn ganu am byth heb golli'i wynt," myntwn i.

 

 



Text, letter

Description automatically generated
(delwedd 5572)
(30 Medi 1915)

Son am fachan y Cenin. Not in it, ys gwetws Browning. Fe welas Dewi Cwmbwrla'n rhoi winc ar Morgan y Teilwr, ag vn gofyn i'r gwr diarth –

"Allwch chi neyd dwy lein i Shop y Crydd?"

"Medraf heb ragymadrodd," ebra fo. "Nid anodd ydyw hynny. Cyrhaeddaf gernau cryddion a dyloriaf deilwriaid.

Adeilad i'r sandalydd

I shapo crwyn yw Shop Crydd."

"Beirniatath ar liwia mynyddodd y North odd dan sylw pan ddethoch chi miwn," myntwn i. "Falla'ch bod chi wedi 'i chlwad hi. Fuoch chi yn Steddfod Bangor?"

“Do, frawd, ond ofer ydoedd Hel cregin i'r gegin goedd."

“Ho," mynta'r Eryr, "rwy'n gweld y'ch bod chytha miwn ar y gragen. Shwd ma'ch englyn chi?"

"Na, nid oeddwn miwn, chwedal chitha. Fe fum yn rhy hir efo hen bryddest fu'n cysgu am dros ugain mlynedd. Lobscows oedd hi wedi'r cwbl, er yn ail ora dan Elis Wyn, pan oedd o'n fyw. Yr oeddwn ddeuddydd vn rhy ddiweddar efo'r englyn. Hwrach nad yw'n werth ei goeddi rwan. Fodd bynnag, dyma fo –

Y ddi wall gragen ddillyn - yw ceyrydd
Corach o bysgodyn;
Ystafell, neu gastell gwyn,
Yn firagl i feheryn."

"Neno dyn, myntwn ina, "dewch lonydd i rw shilcots fel hyn. All dynon ddim byw ar grecin cocs. Ma'n wir fod Ffrenshman yn leico


 

 



Text, letter

Description automatically generated
(delwedd 5573)
(30 Medi 1915)

malwod, ond howyr bach, nid ar falwod y bydd byw dyn. Newitwch yr ymadrodd. Ma'n well gen i wynt lletar a chwyr crydd, na gwynt pysgod heb weld dwr ys dwy flynadd. Ewch ymlan, Eryr, a beirniatath owdl y lliwia, i ni gal gweld beth sy yn honno. Pwy isha cintach sy ar ol pob Steddfod, a threio gneyd mas nag o's un englyn yn werth'i halan. Rod y beirnied yn siwr o fod yn gwpod beth o nhw bothtu, ag yn dyall geira fel 'miragla,' heb isha sponiad, na whilo hen lyfra heb un clawr. Darllin mlan, Eryr, i ni gal ticyn o hanas Eryri llwyd - goch - wyn. Hagen, rhaid i fi wed yto, nag yw gwyn yn lliw o gwbwl. Rwy'n cofio'r net i fi ddysgu hynny yn ysgol yr Eclws yn Llangyfelach pan yn grotyn. Ond falla fod sgleigon sy'n gweld miracla mwn crecin cocs wedi ffeindo mas fod gwyn yn lliw.

Rwy'n gweld fod yr Athro, fel arfar, yn gneyd yr awdla yn ddou glas, un yn hen ffashwn, a thair yn ffashwn newydd. Whara teg iddo, fe ddyla pob ffashwn newydd fod ar y top, a'r hen yn y gweilod. Dyna hanas ffashyna, ond fod y gweilod yn dod nol i'r top yn'i dro. Nid da gomrod o blyf.

"Beth wetast ti, Eryr, mae a'n wed am 'creig a 'benyr?'

“’Ffug-eiriau mae a'n 'u galw nhw.

"Reit," myntwn ina. "Dw i ddim yn leico creig am greigia, na benyr am fanera. Beth y'ch chi wr diarth yn wed?"

"Rydach chi'n llygad y'ch lle," mynta'r efo. "Baner, banerau;


 

 



Text, letter

Description automatically generated
(delwedd 5574)
(30 Medi 1915)

carreg, caregau; caseg, casegau; maneg, manegau; asgell, asgellau; taten, tatenau, etc. Gwell na Gwyl y Pebyll fydda Gwyl y Pabellau, a gwell na Gwlad y Menyg Gwynion fydda Gwlad y Manegau Gwynion."

"O wel te'n wir, a dyna'r ffashwn newydd," medda Dewi Cwmbwrla. Fe wela'ch bod chi yn y'ch englyn yn troi caerau yn 'ceyrydd."

"Ydwyf," ebr y Northman, "a hynny sy'n iawn. Caer, ceyrydd; saer, seyrydd; maer, meyrydd; chwaer, chweyrydd; aer, eyrydd," etc.

“Am clywch y dyn! Os taw dyma'r Gymrag ffashwn newydd, mae'n well gen i droi'n Sais."

"Gryndwch, Dafydd, ar betar lein o gan y lliwia. Ewch chi byth yn Sais ar ol clwad rhain. Ma nhw mor glir a'r dydd yn hir, ag yn llyfnach nag oil gwallt. Ma'n werth i chi'u dysgu nhw ar y'ch cof. Fe dalan yn well i chi na ffondro uwchben y Bydjet newydd –

A chymwy ar dramwy a hydr ymwan

Wrth helcyd herwyr a tholcio tarian;

Ar Foel Siabod dyfod tan, ac efo

Fai yrhawg fal o glwyfau'r gyflafan.”

"Dyn-di-shefoni! Beth ma'r bachan yn dreio wed? Fe glwas beth callach na hyna yn Seilam Llanshawal. 'Ro'wn i wedi meddwl taw dim ond Cymrag odd i fod miwn am y Gatar."

"Dyma Gymrag y Mil Blynyddodd," mynta'r Eryr.

"A Chymraeg y nefoedd," ebra'r gwr diarth.

"Os yw hynny'n wir," myntwn ina, "fe fydd yn well gen i fynd i'r lle arall."

DAFYDD Y CRYDD.

 

 

A close-up of a page

Description automatically generated with low confidence

(delwedd B2272a) (21 Hydref 1915)

21-10-1915

Y Darian. 21 Hydref 1915.

 

Shop Dafydd y Crydd.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Mishtir Gol., — Ma ugeina o lythyra yn dod yma i ddiolch i fi am reporto'r hyn sy'n cymryd lle'n y Shop, ag ma'r postman yn cretu mod i wedi troi'n recriwtin offiser. Dyw hynny'n od yn y byd, oblecid ma Ilawar o'r llythyra wedi cal'u selo a wacs coch, sy'n gyffretin o rwth y Gyfarment. Heblaw hynny, dos dim diwadd ar y pishis ma'r beirdd yn hala yma, yn gwed'u barn ar byncia'r dydd. Os bydd dicwdd i chi, Mr. Gol., fod yn bring o ddefnyddia, gwyddoch ble i droi. Ma gen i ddicon o stwff i lanw'r "Darian” am flynydda. Dw i ddim yn meddwl gneyd iws o fawr o nhw os na fydd galw. Ond ma 'ma fachan o Gwmtawa'n becan am goeddi'r ddou englyn hyn: -


"Miragla'r mor, fy nghyfaill mwyn, Am gregin cocs y tywod,
A welodd rhywun yn y brwyn
Firaglau cregin malwod?
Mae'r byd yn dawsnio yn ei glocs,
Ac nid yw'n fawr o syndod,
Am ddwyn miraclau cregin cocs
I grochan yr Eisteddfod.

Miraglau'r mor, yn ol y Tramp,
Yw submarines y dyfroedd,
Ddyfeisiwyd gan ryw German scamp
I foddi y cenhedloedd;
Ac os y'ch chwi, fel gwr o grydd,
Yn foddlon i'r diffyniad,
Gadewch i rain weld goleu ddydd
Cyn bore'r Adgyfodiad."

Dyna nhw, ag os bydd a'n hala yto, rhaid i fi gal yr enw priotol in conffidens. Dyw a'n rhyfadd yn y byd fod cymint o belto wedi bod ar y miraglau, oblecid dyw'r gair ddim yn Gymro nag yn Sais, ond mwngral o'r un breed ag epigramau.

 

 

 

A close-up of a newspaper

Description automatically generated with low confidence

(delwedd B2272b) (21 Hydref 1915)

Rwy'n dyall fod Eryr Pen Pych wedi dicio'n bwt wrth J.J. Rodd ganto olwg fawr arno, o’r blan, a bachan da yw a hed yn ol ym meddwl i. Ond fe fysa'r Eryr yn meddwl llawar mwy am dano, pe bysa fa wedi rhoi'i drod lawr fel Eifion Wyn. Ble rodd asgwrn cefan y dyn ar ol gwed peth mor blain a hyn? — "Onid yw'r testyn wedi ei adael o'r neilldu bron yn llwyr? Methwn weled fod yr Eryri yn ddim mwy na hoel i hongian wrthi awdl ar liw. Gallesid cael yr un lliwiau ar fynyddoedd eraill, ac ar fill o bethau heblaw mynyddoedd. Yr unig beth sy'n dwyn Eryri i'n cof yw ambell fan fel Bwlch y Saethau a Moel y Cynghorion, fel pe wedi eu llusgo i mewn yn awr ac eilwaith.

Un atnod yw'r geiria hyn, o bennod o gwestiyna sy'n bwrw'r pishyn cromatic mas o'r gystadleuaeth fel peth anheilwng o'r wobor. Gryndwch yto ar y geirie hyn — "Methwn weled fod yr Eryri yn ddim mwy na hoel i hongian wrthi awdl ar liw." Bobol annwl! Ma'r feirniatath yn atal y wobor, a'r weindin yp yn rhoi'r Gatar. Shwd ma J.J. yn sponio peth fel hyn? Os nag yw dyn yn werth'i halan, dyw a'n ddim ond nonsans roi'r un hur iddo a dyn yn dyall 'i waith. "Meddylwch," mynta'r Eryr, "mod i'n gneyd awdl i Stac fawr Llanelli, ag yn rhoi'r Eryri'n destyn iddi. Fysa dim yn isha ond cal dicon o hen eiria nag o's neb yn 'u dyall nhw, a gofalu spelian yn ol y ffashwn newydd i neyd y Stac yn enw'r Eryri'n deilwng o'r wobor. Dos dim un awdl yn glasurol y dyddia hyn os na fydd hi'n llawn o eiria fel hyn - ceyrydd, crud, rhom, efô, deurudd, rhiain, macwy, llatai, lletwad, etc. Ma "geneth” yn stêl, ond ma "rhiain" yn newid lliw'r cwbwl, er taw'r un peth yw'r ddou o dan 'u dillad.

 

"Rwy'n onfi'n fawr," mynta'r 'Eryr, "fod clefyd y 'sillafu’ wedi rcitsho yn J.J., a'i fod a fel bechgyn y colega yn mynd i roi mwy o bwys ar spelo nag ar y peth byw. Mae a'n condemnio 'hyf,' fel un o walla arswydus y blynydda diwedda. Tepig taw 'hy' sy'n iawn. Beth am hyfdra a hyfder? Faint pertach yw 'hydra' a 'hy-der?' Mae a'n dod lawr ar 'euraidd," am fod yr Athro wedi gneyd hynny o'i flan. 'Euraidd,' mynta fe sy'n iawn. Wrth gwrs, rhaid troi 'ariannaidd’ yn 'ariannaid’ ag alcannaidd yn alcannaid. Pert digynnyg!”

 

 

A black and white text

Description automatically generated with low confidence

(delwedd B2272c) (21 Hydref 1915)

 

"Dylid cofio bellach," mynta'r bardd mwyn, "nad yw'r Gymraeg yn gofyn y fannod o flaen enw afon, y Dywi, etc."

Ond sawl gwaith y bu e dros "Yr Iorddonen” heb y fannod? Dyna fel ma pawb yn gneyd yn Sysnag a Chymrag. Y Nile, yr Euphrates, y Ganges, y Danube. Ma enw'r Danube yn y papra bob dydd, ond byth heb y fannod. Ond os gwed rhwun "Y Fenai,” rhaid ei snwbo heb wpod pam, ond fod rhwun arall wedi ordro hynny. Crach-feirniatath ma'r Eryr yn galw rhw wibetach fel hyn. Coll mawr un yn galw briallu yn "friall." Fe ddyla'r dyn gal 'i dransporto. Ma un arall wedi rhoi "awyr” a "myfyr" i apad 'i giddyl. Tepig nag yw hynny ddim yn iawn. Pam? Dos neb wrth wed "awyr" yn ei swnio fel "hwyr." Sylwad pob un arno'i hunan, ag fe wel fod y bachan, ta pwy yw a, yn reit, a'r beirniad yn rong. Dyma ddwy lein oddar got Morgan y teilwr, o waith mab y Justice Coch, saith cant o flynydda'n ol, ag "awyr" a "syr" yn reimo –

"Poni welwch chwi'r haul yn hwyliaw —'r awyr?

Poni welwch chwi'r syr wedi syrthiaw?"

Ond beth yw sgleigon da os na allan nhw ddangos fod y byd i gyd o whith hyd 'u dyddia nhw. Rhaid i chi gofio taw barn yr Eryr w i wedi roi o'ch blan chi. Dw i'n gwpod fawr am betha fel hyn y mhunan.

DAFYDD Y CRYDD.

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd J6603) (11 Tachwedd 1915)

11-11-1915

Y Darian. 11 Tachwedd 1915.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Shop Dafydd y Crydd.

Mishtir Gol., - Ma gen i asgwrn i'w bilo a'r Barcud o Graig y Nos. Pan ofynnws a i fi am ganiatad i goeddi pishyn o'i bryddest i'r miragla, ro'wn i'n dyall taw yn Gymrag ag nid Dutsh odd a wedi sgrifennu. Dicon hawdd gweld 'i fod a wedi stydio'i feirniad. Plufyn at liw'r dwr yw peth fel hyn. Dyw hynny ddim yn deg o getyn o ffordd. Falla'i fod a'n glasurol, ond does neb ond Emäod, Biäod, a Brogäod all'i ddyall. Ma'n depig y bydd y beirniad yn troi gwyn'i lycid i'r nefodd, ag yn gwed dyma Gymrag a grân arno. Cymrag dilediath y Cynfeirdd, a'r Ceginfeirdd, o Daliesin Ben Bwrdd i lawr i Iolo Fardd Glass. Mae mor ystwth a'r fanag, a mor eglur a miraglau. Ma'r Barcud a'i lycad yn'i ben, ag yn gweld getyn ymhellach na'i big. Fe geso lythyr bora ddo orwth fachan o Gwm Garw, yn achwn nag yw e ddim yn dyall y petha newydd 'ma, ag yn diolch i fechgyn y Shop am barchu synnwr dynon cyffretin. Ma fa wedi treio gneyd englyn dwy lein, ag un arall yn betar, ag yn gofyn i fi o's i nhw'n reit. Ond dw i ddim yn cownto mhunan yn fishtir ar betha fel hyn. Ma Morgan y teilwr yn gwed 'i fod a'n cynnyg yn lled dda, ag y dyla fa gal dod mas i ddangos teimlad dynon heb gal coledge at y nonsans "newydd" sy'n cal 'i goeddi. Fel hyn ma fe'n gwed 'i farn

"I wneud pill nwch dirnad pawb,

Rhaid disgyn wrth draed esgawb.

 

Beirdd Cymru, gwaelu mae'u gwaith — a'u hanglod

Mewn englyn amherffaith;

Hel miragl yw eu mawrwaith,

O ddull hurt, heb ddeall iaith."

 

 

A black and white photo of a document

Description automatically generated with low confidence

(delwedd J6603b) (11 Tachwedd 1915)

Fe addawas yr wsnoth ddywetha ddod nol at fysnas yr "angylion" yn y "Darian." Ma Eryr Pen Pych am groci pob lleidyr, ond dyw cyfrath Lloigar ddim yn lwo hynny. Bywyd am fywyd yw hi yma. Fel y gwetas i o'r blan, ma dwcyd meddyla yn beth mwy cyffretin na ma llawar yn feddwl, ond ma benthyca angylion yn beth newydd. Yr un yw'r prinsibl mwn benthyca angylion a benthyca cabbage, ond o fynd miwn am dani, gwell cymryd y gora. Beth wyt ti'n wed, Morgan?

 

"Y peth w i'n wed yw hyn, fod mwy o chetath mwn Steddfota nag sy mwn clwb gamblo. Slawar dydd, pan nag odd petha'n cal'u coeddi, rodd hi'n wath nag yw hi'n awr. Rwy'n cofio crotyn ifanc yn derbyn gwobor am gân, ag yn mhen blynydda wetyn, fe goeddwd y gân yng ngwaith y beirniad. Be wetwch chi am hynny? Peth dicon cyffretin yw rhoi ticyn o baint ar waith dyn arall, a'i gleimo wetyn fel ei waith 'i hunan. Fe glwas ffeirad yn gwed rw dro, 'Cyfieithwch brecath o'r Gymrag i'r Sysnag, ag yn ol wetyn o'r Sysnag i'r Gymrag, dos dim un cythral all 'i napod hi.' Ma llawer o'r trics hyn mwn cystadlu. Ma 'beirdd cadeiriol" mor amal a dail bysadd y cwn. Parots yw mwy na'u hannar nhw. Pan fo chi'n darllin rheffyn o bryddast, dicon hawdd gwed ble bu'r prytydd yn pori".

 

"Diawst, Morgan, rwy'n cretu dy fod yn reit," mynta Dewi Cwmbwrla. "Dos dim isha mynd ymhellach na'r 'Geninen' lle dalwd yr Angel i ffeindo mas dy fod yn iawn. Rwy'n cofio fel sai ddo, pan own i'n stydio'r ffordd i fod yn fardd, i fi ddysgu englyn yn yr Ysgol Farddol, ar 'Gusan.' Dw i ddim yn cofio pwy odd 'i bua fa, ond dyma fe —

 

"Dyfeisiad i wefusau — yw cusan

Ac asydd teimladau;

A serchnod hynod rhwng dau

Gariad, a sel eu geiriau."

 

Pan ddysgas i'r englyn, ro'wn i'n ifanc ag yn dicyn o fflyrt. Amsar cusanu odd hi pyrny, ag ma'r englyn ar 'y nghof i byth. Nawr, yn yr un 'Geninen,' ne Shibwnsyn, ag y dalwd yr Angal, ma Cusan gen rwun arall, ag mae a fel cusan wedi'i ddwcyd oddar ferch heb fod yn folon. Mae a'n annuwiol o depig i’r un sy'n yr Ysgol Farddol. Ma'r syniata yn gwmws yr un peth, a'r un wisg hed am y ddou, ond fod bwtwn ne ddou wedi cal'u gwnio ar lewysh yr un dywetha. Welsoch chi ariod ddou efill yn fwy tepig. Ma peth arall yn cymryd lle'n y Steddfota bach 'ma, a ddyla gal sylw, sef yw hynny, ys gwetws Iolo Morgannwg, gneyd pishis i ddynon na sy'n gwpod mwy am farddoniaeth na phen lletwad. Faint o rain sy'n ffigro fel ser, heb neyd lein ariod? Falla gall Alfa ne Ap Hefin bwynto rhai o nhw mas. Oto a ddim yn bosib dala'r angylion porcyn hyn?

DAFYDD Y CRYDD.

 

 

 

A picture containing text, newspaper

Description automatically generated

(delwedd J6570a) (02 Rhagfyr 1915)

02-12-1915

 

Y Darian. 2 Rhagfyr 1915.

 

Shop Dafydd y Crydd.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Mishtir Gol., — Ma llawar o scrifennu'n y papra Sysnag am y tâl ma pyrgethwrs yn gal am dreio .gwe l la'r byd, ag rwy'n gweld fod y clefyd wedi citsho yndo chitha, ag r'ych chi'n gwed llawar o sens, whara teg i chi. Ond am y llythyra sy'n dod mas yn y papra bob dydd, dyn a'u helpo nhw. Byswn i’n byrgethwr, fe fysa arno i gwidfyl o'm swydd, ag fe watwn y grefft. Rwy'n rhyfeddu fod o hurtwch yn cal'i goeddi ar fatar mor ddelicat a hwn. Dyw manijars y papra Sysnag yn hito dim mwy am byrgethwr nag am dderyn to, ag ma'n ddicon plain taw dodj yw introdiwso'r cwestiwn i helpu'r papyr i fynd. Ma lot o hyn yn cal'i neyd am fod y byd yn ddicon dwl i gal 'i gario bant gan bob short o senseshon. Pwy ots gan y tacla, hyn ta pyrgethwr, teilwr, ne grydd yn starfo, os gallan nhw gal cwpwl o docyns yn fwy wrth goeddi celwdd wrth y llath. Fe ddyla pob pyrgethwr sy wedi rhoi interfiw i reporters ar beth fel hyn, gal coron yr wsnoth o gwmpad prish. Rwy'n teimlo'n fawr dros y pyrgethwr druan, er taw Eglwyswr w i fel y'ch chi'n gwpod. Mistec odd troi cefan ar yr Hen Fam, a hitha'n folon i'r anwyl gariatus frodyr i neyd fel mynsan nhw. Ma'n depig fod y rhyfel yn gwed ar salary llawar proffwd yn y gwahanol Enwata, ond chlwas i ddim fod un ffeirad yn achwn. Ma hur hwnnw wedi cal'i fficso gan ddynon yn gwpod'i werth, a phe ba neb ond y clochydd ag ynta yn yr eclws, mae a'n reit am 'i fara shaws sic; = chaws] a'i lemwned. Ond ma'r pyrgethwr yn dependo ar y clasgad, a rhaid iddo gatw pob Shoni Hoi yn bles, ne fe fydd y bocs yn annuwiol o ysgawn. Fe glwas am byrgethwr Sentars unwaith yn hala'i het rownd ar ddiwadd y cwrdd, ond fe ddath nol yn wag, ag medda fynta, “Diolch i Dduw am gal fy het yn ol." Ma dynon all ryndo precath heb dalu rhwpath am deni, yn ddicon dibrinsibl i gatw'r het a'r tocyns.

 

Ma gen i barch mawr i'r Sentars, a nhw yw'r cwstwmars gora sy gen i. Ond rwy'n ffeilu dyall na fysan nhw cyn hyn wedi trenfu rhw ffordd respectabl i gynnal pyrgethwr, yn lle'i atal at drugaradd y rhai allan gau safn yr ych sy'n dyrnu, ys gwetws y Gwr Doeth. Dw i ddim yn hinto taw ych yw y pyrgethwr, ond ma llawar o fustych ddin [sic; = ddim] gwerth'u lladd yn gryndo arno, ag yn byw ar'i borfa. Dos din [sic; dim] sens mwn cwni dyn i'r pulpit, a'i hala i'r coledge i ddysgu Groig, a Llatin, ag Ebryw, a dishgwl iddo fyw wetyn ar lai o hur na labrar sy mor ddi dalant a rhaw. Dyw a ddim yn fishtir arno'i hunan, a chaiff a ddim bod yn fishtir ar neb arall. Rhaid iddo byrgethu cymint ar y clasgad ag ar ffordd y bywyd, er mwyn catw'i hunan o'r worcos. Peth shimpil iawn yw hynny i ddyn a chanto hawl i fyw. Dyw hi ddim yn fyd esmwth arno

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

A close-up of a document

Description automatically generated with medium confidence

(delwedd J6570b) (02 Rhagfyr 1915)

o dicyn o ffordd. Ma ganto lawer dafad ungorn i dreio'i dofi, a llawar bwch gafar yn watsho cyfla i roi twpad iddo. Os na thyniff a'i law dros gefan amball ddreinog, fe gaiff glwad yn led smart, “Ni sy'n 'i dalu a." A ta chi'n etrych ar gownt hwnnw ar ddiwadd y flwyddyn, falla taw hannar coron fydd ar ol'i enw - bothtu ddima'r wthnos. Dyw hi'n od yn y byd fod llawar pyrgethwr ifanc yn troi'n ol i'r Eclws, a pheth sy'n odach yw na ba'u hannar nhw'n troi. Ro'wn i wedi meddwl gofyn i Morgan y teiliwr am bishyn o brydyddiaeth ar y mater. Ma fe'n ddiacon yn Carmel. Ond dos dim un o'r boys wedi galw yn y Shop yr wsnoth hyn, ag rw i wedi gneyd cwpwl o englynion o waith 'y mhunan. Yr anlwc yw, na fysa'r bechgyn yma i etrych drostyn nhw.

Ma llawar yn edifar
Am ffoi o Eclws Loigar,
Un sydd a'i dal yn ddicon trist
Yw'r Nonconformist preacher.

Ma rhai yn trin y Degwm,
Gan regu fel y cythrwm,
Am fod pyrgethwr o dan drad, A'r ffeirad ar y ffwrwm.

Do's neb am hyn i'w feio,
Ond seintiau wedi streico,
A mynd o gyfoeth mawr y Llan
I ddyled dan eu dwylo.

Trueni gweld pyrgethwr
Yn wasto'i shots a'i bowdwr,
A'i esgyrn allan drwy ei grys,
Am gyflog is na labrwr.

Goddefwch air y cyngor,
Dduwiolion diegwyddor,
Y dyn a diffyg yn ei gred
Sy galed wrth ysgolor.

Rhowch gyflog i'r pyrgethwr,
A chatwch lai o ddwndwr,
Ei gelwrn sydd yn brin o flawd,
Hyd lwybrau tlawd y labrwr.

Fe werir swm aruthrol
Am lemwned a ffwthol,
A thalyho ar ol y cwn,
A'r pastwn i'r apostol.

Wel, dewch yn ol i'r Eclws,
Cewch yno gyflog ffamws,
A daw i'ch bwrdd yn ddi nacad
 Atodiad at eich tatws.

Dw i ddim yn meddwl, Mishtir Gol., fod y pishyn hyn yn dod miwn o dan reol newydd y naw cinog. Ma hwn yp tw det, ag ar bwnc y dydd. Rw i wedi synnu'n fawr na fysa chi wedi gneyd y rheol yn gynt. Ma gomrod o'r hannar o sepon meddal wedi cal'i wasto'n ddiweddar. 'Rwy'n siwr nag yw a'n gneyd dim lles i'r "Darian," ag ma'r rhai sy'n cal'u seboni yn sport i'r byd.
DAFYDD Y CRYDD.

 

 

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd B0477a) (16 Rhagfyr 1915)

16-12-1915

 

Y Darian. 16 Rhagfyr 1915.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Shop Dafydd y Crydd.

 

Mishtir Gol, — Wn i ddim beth ma Brynfab yn feddwl wrth ofyn 'y marn i ar gynghanadd. Dw i ddim yn cownto mhunan yn athority ar rw gabildi fel hyn. Ma'r boys 'ma wedi gneyd 'u gora i roi idea i fi am y Mesur Caeth, ond dw i ddim wedi mynd ymhellach na'r "gair crych," ag ma hwnnw yn niwadd y lein gynta. Hwy'n gwpod mwy am bladur nag am ''baladr," a mwy am asgwrn nag am "asgall." Ma nhw'n son hed am rw "gyhydedd." Fe glwas lawar gwaitn am yr houl yn croeshi'r cyhydadd, ond ma llawar cyhydadd gan y beirdd na chroeshodd houl drosto ariod. Alla iddim gwed mod i'n fishtir ar un mesur, ond y Mesur Hir, y Mesur Byr, a'r Wyth Saith a grot. Tepig mod i'n rhy hen erbyn hyn i fynd miwn i betha mor ddwfwn heb foddi. Dw i ddim fel y Tramp yn gallu nofiad fel whiad trw bob dwr. Ma nhw'n gwed os na adysgiff dyn fod yn fardd cyn cyrraedd ucan ôd, y rhaid iddo fod yn folon ar fod yn ddyn o hynny mlan. Rwy'n onfi taw sarcasm, ys gwetws Wil Smith, odd gofyn i fi wed 'y marn ar betha pyslin fel hyn. Ma'n wir mod i wedi coeddi llawar englyn o waith Morgan y teilwr, Eryr Pen Pych, a Dewi Cwmbwrla, ag erill sy'n hala'u pishis trw'r post, ag ma gen i ges lled dda. am ideas, os nag w i dyall cynghanadd. Os yw Wil Smith yn iawn, hen dro shimpil yn Brynfab odd rhoi shwd glowtan i fi wrth baso.

Holo, Morgan, ti sy' na? Dera miwn. Ble ma'r Eryr? Ma fa ar y ffordd, Dafydd, ond wedi troi miwn at y barbwr i shafo. Fydd a ddim yn hir.

Ho ho, fe glwas am eryr yn cal 'i blufio lawar gwaith, ond chlwas i ariod o'r blan am un yn cal 'i shafo. Gobeithio daw a oddno heb golli'i ben, ma’r hen Mac Gregory'n ddicon ryff. Ma arno i isha caI y'ch barn chi i gyd ar beth ma nhw'n alw'n Gynghanadd Gyndynog. Rhwpath fel hyn yw'r shampl sy gen Brynrab —

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd B0477b) (16 Rhagfyr 1915)

 

“Gweled epol yn yfad llath.”

 

Nage, nage, Dafydd. Nid "epol," ond "llo" welws y bardd; ag nid "cyndynog," ond cadwynog yw enw'r gynghanadd. Ro'dd hi'n gynghanadd smart cyn y diluw, ond fe ffeilwd 'i chal hi miwn i'r Arch gyta'r creduried erill, ag fe foddws yn acos i Dir larll. Fe fuwd yn excafeto'n ddiweddar, fe ffeindwd esgyrn yr hen ladi yn y lle ma nhw'n alw yn Dwmpath Diwlith. Ma'n depig na fu dim gwlith ar y spotyn hynny ys dros bump mil o flynyddodd. Y clasgad yw, nag yw nefodd na  daear wedi colli dagra ar ol y Gynghanadd Gadwynog. Ro'dd ganti whar o'r enw Braidd Gyffwrdd. Hen ferch a dou lycad tro yn etrych orwth'u giddyl, yn rhy salw i gal cariad, ag fe fu farw'n hen ferch weddw, heb un dant yn 'i phen. Dos neb ond Morien, a dyn o'r enw Suddas yn gwpod lle claddwd hi, ta fatar am hynny. Dwy hen whar barchus o nhw yn 'u dydd, ag yn byw ar y plwyf. Dyma lun y ddwy, wedi cal 'u tynnu pan odd Noa hyn grotyn —

 

Gweled llo yn yfed llaeth,

Gweled buwch uwch y twbyn.

 

Dw i'n gweld dim yn extra, mwn peth felna, Morgan. Yn ol ym meddwl i, ma llawn cymint o  farddoniaeth mwn 'epol' ag sy mwn 'llo,' ag ma fa'n uwch'i brish mwn ffair. Bachan, fe alla i neyd dicon o'r short yna heb ddysgu'r grefft:


Gweled ci yn yfed cawl.
Dala cath yn byta cig.,
Dysgu moch i lyncu maidd.
Prydydd byw yw y teilwr.

Beth wyt ti'n wed, Eryr? Rwyt ti'n hen gamster ar betha fel hyn.

Weta chi, Dafydd, dos dím mwy o gynghanadd yndi nhw nag sy mwn cos caib. Ma nhw mor ddi ganu a chwdihw wedi cal annwd, ag mor farw a'r hoelion odd ym mhedola meirch Pharo. Rwy’n ffeilu dyall beth sy ymhen amball ffwlcyn o fardd, yn treio whythu bywyd i hen sgerbyda  fel hyn. Pe ba rhw fwciod o'r short hyn yn werth  u catw, fe fysan wedi cal lle yn yr Arch gyta cholomenod, a chilocod, deryn y gwair, a’r shigli gwt, ond don' nhw’n dda i ddim ond i neyd disgord yn y cor, ag fe geson’ fynd i’r gweilod fel ieir heb ddyscu nofiad. Dos neb ond bardd newydd yn treio byw ar glasga esgyrn, a'r peth  mwya newydd yn hwnnw yw gneyd ‘i hunan yn hen cyn macu pluf.

 

 

Text

Description automatically generated

(delwedd B0477c) (16 Rhagfyr 1915)

 

Iolo Mon, beth i chi'n wed? Nid yn amal i chi'n galw. Gnewch y'ch hunan yn ewn. R'ch chi'n gyfarwdd a phob short o linella, ag yn ddyn o awan barod.

 

Wel, ydwyf yn fy mlodau, yn fab o nwyf heb wanhau. F' awdurdod i yw yr Athro. Beth bynnag ddeydiff o, dyledswydd pawb ydy 'mostwng. Mae o'n credu yn yr atgyfodiad, ac wedi paratoi utgorn i alw llinella meirw o'u bedda. Mae'n wir mai corn hwrdd sy gynno fo, ond pan y chwyth, mae'r greadigaeth yn siglo, a'r meirw'n cyfodi. Os ydy o'n deyd fod y llinella hyn yn gywir, ac y dylid eu harfer, rhaid fod hynny'n iawn, oblegid efo ydy'r oracl ar betha fel hyn. Os deydiff o nad yw proest yn broest, ac nad yw gwall yn wall, mae o'n deyd hynny fel Athro, ac nid oes hawl gan neb i'w ameu. Hwrach nad oes gynghanedd yn y llinellau hyn, ond nid dyna'r cwestiwn, rhaid —

 

“Stopwch, stopwch," mynta Dewi Cwmbwrla, "chlwas i shwd nonsans ariod. Gwyddoch chi lle ma Llanshawal? Ewch yno gynta galloch chi. Os w i'n dyall ffilosoffi cynghanadd, dyw rhain ddim yn yr un byd a hi. Ma cynghanadd fel popath arall wedi mynd ymlan gyda'r byd, ag yn fwy perffath yn awr nag ariod. Mae wedi bwrw sothach yr oesodd tywyll i'r clawdd, ag fe ddyla y rhai sy'n dadla dros betha gwallus gal mynd i'r clawdd ar eu hol. Dyna marn i."

 

Mae'n mynd yn hwyr, noswath dda, fechgyn.

DAFYDD Y CRYDD.

 

 

 

 

 

....
Sumbolau:

a A / æ Æ / e E / ɛ Ɛ / i I / o O / u U / w W / y Y /
MACRONː ā Ā / ǣ Ǣ / ē Ē /
ɛ̄ Ɛ̄ / ī Ī / ō Ō / ū Ū / w̄ W̄ / ȳ Ȳ /
MACRON + ACEN DDYRCHAFEDIGː Ā̀ ā̀ , Ḗ ḗ, Ī́ ī́ , Ṓ ṓ , Ū́ ū́, (w), Ȳ́ ȳ́
MACRON + ACEN DDISGYNEDIGː Ǟ ǟ , Ḕ ḕ, Ī̀ ī̀, Ṑ ṑ, Ū̀ ū̀, (w), Ȳ̀ ȳ̀
MACRON ISODː A̱ a̱ , E̱ e̱ , I̱ i̱ , O̱ o̱, U̱ u̱, (w), Y̱ y̱
BREFː ă Ă / ĕ Ĕ / ĭ Ĭ / ŏ Ŏ / ŭ Ŭ / B5236ː  B5237ː B5237_ash-a-bref
BREF GWRTHDRO ISODː i̯, u̯
CROMFACHAUː
  deiamwnt
A’I PHEN I LAWRː , ә, ɐ (u+0250) httpsː //text-symbols.com/upside-down/
Y WENHWYSWEG:
ɛ̄ ǣ æ

ˈ ɑ ɑˑ aˑ aː / æ æː / e eˑeː / ɛ ɛː / ɪ iˑ iː ɪ / ɔ oˑ oː / ʊ uˑ uː ʊ / ə / ʌ /
ẅ Ẅ / ẃ Ẃ / ẁ Ẁ / ŵ Ŵ /
ŷ Ŷ / ỳ Ỳ / ý Ý / ɥ
ˈ ð ɬ ŋ ʃ ʧ θ ʒ ʤ / aɪ ɔɪ əɪ uɪ ɪʊ aʊ ɛʊ əʊ / £
ә ʌ ẃ ă ĕ ĭ ŏ ŭ ẅ ẃ ẁ Ẁ ŵ ŷ ỳ Ỳ Hungarumlautː A̋ a̋

U+1EA0 Ạ   U+1EA1 ạ
U+1EB8 Ẹ   U+1EB9 ẹ
U+1ECA Ị   U+1ECB ị
U+1ECC Ọ   U+1ECD ọ
U+1EE4 Ụ   U+1EE5 ụ
U+1E88 Ẉ   U+1E89 ẉ
U+1EF4 Ỵ   U+1EF5 ỵ
g
w_gytseiniol_050908yn 0399j_i_gytseiniol_050908aaith δ δ £ gw_gytseiniol_050908yn 0399j_i_gytseiniol_050908aaith δ δ £ U+2020 †
« »
DAGGER
wikipedia, scriptsource. org

httpsː []//en.wiktionary.org/wiki/ǣ
Hwngarwmlawtː A̋ a̋
gw_gytseiniol_050908yn 0399j_i_gytseiniol_050908aaith δ δ
…..
…..
ʌ ag acen ddyrchafedig / ʌ with acute accentː ʌ́

Ə́ ə́

Shwa ag acen ddyrchafedig / Schwa with acute

…..
…..
wikipedia,
scriptsource.[]org
httpsː//[ ]en.wiktionary.org/wiki/ǣ

---------------------------------------
Y TUDALEN HWN /THIS PAGE / AQUESTA PÀGINA:
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_126_dafydd-y-crydd_1915_3782k.htm
---------------------------------------
Creuwyd / Created / Creada: 02-06-2017
Adolygiadau diweddaraf / Latest updates / Darreres actualitzacions: 29-12-2022, 18-09-2018, 22-11-2017, 03-06-2017, 02-06-2017
Delweddau / Imatges / Images:
Ffynhonnell / Font / Source: Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Newyddiaduron Cymru Arlein.
---------------------------------------
Ble'r wyf i? Yr ych chi'n ymwéld ag un o dudalennau'r Wefan CYMRU-CATALONIA
On sóc?
Esteu visitant una pàgina de la Web CYMRU-CATALONIA (= Gal·les-Catalunya)
Where am I?
You are visiting a page from the CYMRU-CATALONIA (= Wales-Catalonia) Website
Weə-r äm ai? Yüu äa-r víziting ə peij fröm dhə CYMRU-CATALONIA (= Weilz-Katəlóuniə) Wébsait

Freefind.

Archwiliwch y wefan hon
SEARCH THIS WEBSITE
---
Adeiladwaith y wefan
SITE STRUCTURE

Beth sydd yn newydd?
WHAT’S NEW?




Adran y Wenhwyseg / Secció del dialecte de Gwent / Gwentian Welsh
Edrychiadau ar y tudalennau / Vistes de les pàgines / Page Views

Web Analytics Made Easy -
StatCounter

Edrychwch ar ein Hystadegau / Mireu les nostres Estadístiques / View Our Stats