kimkat3781k Shop Dafydd y Crydd. Ysgrif yn nhafodiaith Aber-dâr o’r Darian. 1914.

22-12-2022







....

Gweler hefyd / Vegeu també / See also:



 

0003g_delw_baneri_cymru_catalonia_050111
 (delwedd 0003)

 

 

 

 

 

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Gal
·les i Catalunya
The Wales-Catalonia Website

Dafydd y Crydd.

Y Darian. 1914.


Y Llyfr Ymwelwyr / El Llibre de Visitants / The Guestbook:

http://pub5.bravenet.com/guestbook/391211408/


a-7000_kimkat1356k Beth sy’n newydd yn y wefan hon?

6665_map_cymru_catalonia_llanffynhonwen_chirbury_070404

(delwedd 4665)

.....

Map

Description automatically generated

(delwedd J7058b)

.....

 

.....1914

10 Rhagfyr 1914

17 Rhagfyr 1914
31 Rhagfyr 1914

 

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd J7521a) (7 Rhagfyr 1914)

 

 

Y Darian. 10 Rhagfyr 1914.

 

0 Shop y Crydd.

 

Mishtir Golycudd, - Rw'i wedi meddwl lawar gwaith am hala pishyn i'r "Darian," ac fe wn y scyswch fi am neyd hyny yn ffordd ymhunan. 'Rhyn sy ar y meddwl i'r wthnosa hyn yw y rhyfal. Dos dim blas ar ddim arall ys cetyn. Ma nhw'n gwed taw hwn yw y rhyfal mwya fu'n y byd ariod, ac ma hwn hefyd fydd y dwetha, ac y bydd y Mil Blynyddodd yn dechra ar ol dala'r Kaisar. Gobeithio'r anwl 'u bod nhw'n gwed y gwir. Ond 'rhyn sy'n sobor yw allwch chi gretu dim ma nhw'n wed. Ma rhyw ddyn sha Llyndan, ne rhywle'n acos, o'r enw Press Bureau yn catw pob gwir iddo 'i hunan, a dos gen y Papra Newydd ddim i neyd ond coeddi celwdd yn rhaffa. Wn i ddim pwy yw'r dyn hwnnw na pham mae a'n cal cymint o'i ffordd 'i hunan. Fe allwn feddwl taw fforiner yw'r gwr. Mae a'n swno fel enw Ffrenshman. Pwy hawl sy gen hwnnw i gatw pob gwir yn 'i bidjin hol? Whara teg i'r Papra Newydd, rhaid iddy' nhw wed rhwpath, ne starfo, ond dyw a ddim yn iawn mod i a'm short yn cal y'n twyllo, a thalu cinog am hynny.

 

Ma'n hen bryd cal Cort Marshal ar y Pres Bureau ta pwy yw a, a dos dim dowt nag yw holl bapra'r wlad yn barod i gwni fel gallt o god yn witneson yn 'i erbyn. Pwy sens yw fod dyn yn cal y pyrticilers i gyd o'r ffrynt, ac yn catw'r cwbwl dan glo? Dw i ddim am seithu y dyn, am nag w' i'n cretu mewn capital pynishment, ond fe ddyla gal ei gospi'n llym, trw ferch y crydd, ne'r mynawyd hwn islaw main 'i gefan.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Text

Description automatically generated

(delwedd J7521b) (7 Rhagfyr 1914)

 

 

Dw i wedi darllin hanas y rhyfal o'r dechra pan odd y Germans yn croeshi'r Mews i Beljam, ac wrth 'u gweld nhw'n dod lawr ar galop i Paris, fe gretas y bysa nhw yn Byrdar cyn hyn. Ond fe drows y rhod, fel ma'r bardd yn gwed, a bu rhaid iddy' nhw gilo'n ol dros y brynia a thrw'r afonydd am 'u bywyd, ac ma'n rhyfadd na fysa'u hannar nhw wedi boddi, ta fatar am hyny. 'Rodd y reports, a'r Comiwnics yn gwed fod y'n bechgyn ni a'r Ffrancod yn adfanso bob dydd, ac ro'wn i'n cretu 'u bod nhw bron paso Berlin cyn hyn. Ond lo and bihold; erbyn etrych, ma nhw run man yn awr a thri mish yn ol. Oni bai'r Indiands a'u mwstwr drychynllyd dos dim siwrans na fysa nhw 'mhellach yn ol. Beth ma nhw'n ennill wrth wed celwdd gola fel hyn, gwetwch chi. Son am fombardo yn y ffrynt ma mwy o fombardo celwdd yn y bac o lawar. Fe welas hanes fod y Crown Prins wedi cal 'i ladd dair ne betar gwaith, ac ma'n depyg i ryw fenyw gal y fraint o weld yr angladd yn paso. Ond ma'r crotyn yn fyw o hyd. Fe welas 'i lun a'r dydd o'r blan, yn Ilaw 'i dad, ag yn gofyn pryd bydd nhw yn Llyndan. "Gwdnes nows," mynte'r tad, ond falla dos dim gwir yn hyny mwy na llawer o betha erill.

 

 

 

 

 

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd J7521c) (7 Rhagfyr 1914)

 

Ma arno i whant newid 'y mhapur bob dydd, ond newitwn i mo'r "Darian" am lawar. Dos dim ond un papur Sysnag yn werth 'i byrnu 'r dyddia hyn, a hwnw yw'r "Daily Liar," ne, mewn Cymrag, "Y Celwddgi Dyddiol." Newydd ddod mas ma hwn, a ma nhw'n gwed 'i fod a'n talu'n iawn. Idea dda odd hon, ac fe ddyla'r sawl ddath o hyd iddi gal medal aur am idea mor smart. Gan fod y papra erill i gyd yn gelwdd ac yn cymryd arnyn nhw wed y gwir, mawr dda i hwn am wed nag yw yn gwaranto dim ond celwdd. Dyma'r unig bapur Sysnag gonest y gwn i am dano. Ma dyn yn cal yn hwn yr hyn mae a'n ddishgwl, ac yn siwr 'i fod yn cal gwerth 'i docyns.

 

Wel, ma'n depyg fod De Wet wedi  'i ddala o'r diwedd. Mae'n fwy wet arno'n awr nag ariod. Treni fod hwn wedi gneyd shwd flynder yn 'i hen ddyddia. Fe odd y dyn smarta yn rhyfal y Bors, a'r mwya 'i glod o nhw i gyd. Ond dyn mewn anrhytedd nid arosodd, ys gwetws y ffeirad. Piti mawr odd hynny. Y peth gora alla nhw neyd ag e' nawr, yn ol 'y marn i, fydda dod ag e'n ol yma i ddyscu'n showdwrs ni i seithu'n streit. Ma llawar o fwlats yn mynd yn wast o isha practis i ddala'r dryll, a gwpod pwy lycad i gau wrth eimo. Fe alla De Wet ddyscu'n bechgyn ni i daro Bwl's Ei bob tro. Be 'chi'n feddwl am hyn? Fi mhunan bia'r idea. Ma whant arno i scrifenu at Kitjiner, ond gweitha'r modd dw i ddim cystal yn y  Sysnag a'r Gymrag. DAFYDD Y CRYDD.

 

 

 

A picture containing qr code

Description automatically generated

(delwedd J7518a) (14 Rhagfyr 1914)

 

Y Darian. 17 Rhagfyr 1914.

 

0 Shop y Crydd.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Mishtir Golycudd, Diolch yn fawr i chi am goeddi 'mishin i yn y "Darian" o'r blan. Chretwch chi byth mor falch own i pan welas 'mod i fyny a'r safon. Rwy'n meddwl scrifennu nawr yn regilar bob wthnos ar y petha wy'n weld ag yn glwad yn y Shop. Un o'r atnota cynta ddysgas i odd honno, "Nything leic leddar." Nid trw 'mhen y dysgas i honno, ond trw nghefan o dan strap 'y nhad. Os w i'n cofio'n iawn, yn un o'r proffwydi bach y ma'r atnod, ond yn siwr ddicon nid oedd pulpit y proffwyd yn ddicon uchal i weld yr lwropian War sy'n mynd 'mlan y dyddia hyn. Ny thing leic war yw hi nawr, ac ma'r atnod newydd yn depig o gal 'i chofio'n hir. Dos dim arall i' glwad o fora hyd nos. Ma pawb ond ffwtbolars yn llawn o ysbryd rhyfal, ac oni bai mod i mor hen fe fyswn yn joino a'r rancs y mhunan. Rwy'n ddicon tal, pump a deg yn nhrad y'm sana. Peth arall, ma'n depig na chymra nhw neb sy wedi colli 'i ddannadd. Fe glwas am fachan o Cap Coch yn cynnig i hunan, ac medda'r Medical Doctor, "ma'ch dannadd chi'n rhy ddrwg." "Y dyn cythral," mynta'r bachan, "dw i ddim yn meddwl byta'r Germans ond i Iladd nhw.” A phwy apad gwell alla fa roi?

 

Ma nhw'n gwed taw bechgyn y ffwtbol yw'r clas mwya di-werth yn y matar seriws hwn. Fe an' i weld matsh wrth y milodd pan y dyla nhw fod mewn matsh arall. Nid amsar cico pel yw hi nawr, ond amsar cico'r Germans sy wedi bryddwyto am fod yn Llyndan cyn dydd yn Dolig. Ma'n gwiddyl mawr fod milodd o fechgyn ifinc yn gallu whara mor ddifeddwl pan y dyla nhw fod yn y ffrynt yn rilifo'r bechgyn dewr sy'n y trenshis. Fe ddyla'r Gyfarment interfiro. Dw i ddim yn cretu mewn conscripshon, ond os na ddaw rhain i weld 'u dyledswdd fe ddylan gal 'u conscripto bob un. Pwy fontish i'r wlad yw whara ffwtbol? Bysa nhw'n cico rhwpath cletach na phel ac yn treulo 'u sgidia, fe fysa hynny'n rhyw broffit i gryddion, ond fel ma petha nawr dyw a'n broffit i neb ond i'r Clwb a'r Keisar.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd J7518b) (14 Rhagfyr 1914)

 

Ma'r papra newydd yn dechra achwyn ar y matar sobor hwn, ac ma'n hen bryd iddy' nhw. Fe welas bictwr da digynnig yn y "Pwnsh” yn treio cwni cwiddyl ar y mowntibancs hyn, ac yn gwed fod anrhytadd gwlad yn uwch 'i brish na "so meny gols" mewn whara. Bachan bidir yw'r “Pwnsh.” Fysa'n dda gen i gal shiglo llaw ag e', er fod golwg dicon hyll arno. Ond nid y dyn glana yw'r dyn calla o getyn o ffordd, ac ma'n ddicon hawdd cownto am hynny, oblecid ma'r dyn glan yn meddwl mwy am binco na dim arall. Ond ma talant yn y "Pwnsh." Os yw a'n cario'i bart blan ar 'i gefan ma hen ben arno, ac yn gweld ymhellach na'i drwyn, er fod hwnnw'n hirach na'r cyffretin. Ma nhw'n gwed fod y brenin ag ynte yn dicyn o bartners, ac os yw hynny'n wir rhyfeddwn i flewyn na chaiff y ffwtbolers 'u taxo'n drwm, os yn meddwl mwy am sport nag am fywyd 'u gwlad. Amen weta i, a gweted pawb erill yr un peth.

 

Holo! beth yw hwn sy'n yr esgid 'ma? Taw'n ni heb gyffro, dyma englyn. Beth odd y dyn yn feddwl yn rhoi hwn yn 'i esgid wrth ofyn i fi am roi sowdwl newydd iddi? Dos dim dowt nag yw a wedi ffeindo mas 'mod i'n scrifennu i'r "Darian," a'i fod am weld 'i bishyn mewn print. Dyma'r englyn: -

 

"Mae'r Caisar wedi diosg

Holl deitlau Prydain Fawr,

A'r plyf a roddwyd ar ei ben,

Sydd dan ei draed yn awr;

Os oes dysgawdwyr yma

Dan blyf Germaniaid ffol,

Fe ddylent hwythau daflu'n awr

Eu teithlau gwag yn ol."

 

Beth wetyff Brynfab am dano? Fe allwn i feddwl ei fod yn englyn bach pert iawn. Falla fydd pawb ddim yn cyd-weld a'r drychfeddylia sy yndo, ond rhydd i bob meddwl 'i farn, ys gwetws y dyn odd yn moyn croci 'i wraig, Dos dim enw wrth yr englyn, ond ar gefan y papur mewn blacled ma Eryr Pen Pych. Fe glwas lawar gwaith am Eryr Germany, ond chlwas i ddim am hwn o'r blan.

 

DAFYDD Y CRYDD.

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd B2214a) (31 Rhagfyr 1914)

 

Y Darian

 

31 Rhagfyr 1914

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

0 Shop Dafydd y Crydd.

 

Mishtir Golycudd, — Y peth cynta sy gen i i neud heddy yw sbonio'r pictwr i chi gael dyall petha'n well. Enw'r dyn sy ar i ishta a' i het ar 'i ben ac yn pwyso ar 'i ffon yw Shon Dafydd Ca' Draw. Mae a'r un spit ag a. Hen netif o Byrdar, ond wedi symud yma i fyw at 'i ferch. Mae n'n ddeiacon yn Saron. Dos gynto ddim i neud, ac fe fydd yn y Shop yn amal. Enw'r dyn tal sy'n y cenol yw Morgan Lewis, mab i fferm o ochor Penrhys, a theilwr wrth i grefft, ta fa wath o hynny. Am y dyn ifanc sy'n llewish 'i grys nid fi yw hwnnw, ond y bachan sy'n gofalu am y coblin dipartment, cystal gwithwr a gitshws mwn esgid ariod. Dyw a byth yn meddwi ond ar y gwyla. Rw i'n ddicon hen i fod yn dadcu iddo gwitha'r lwc. Fe dynnwd y pictwr y diwarnod own i yn Byrtawa’n prynu lletar, a dyna pam nag w i yn y grwp.

 

Nawr at y pwnc, a dos dim ond un pwnc, fel gwyddoch chi, mewn byd ac eclws ar hyn o bryd. Ma politics yn y bac grownd, y Syffragets yn gwau sana i'r rhai sy'n ymladd, yr Irish fel dynon erill, y coliars a'r tincars yn folon ar 'u byd heb foddro am streic. Rhyfadd fel ma un topic mawr yn dod a dynon o bob clas idd 'u sensis.

 

Ma llawar iawn o frago ar y British Nefi, ac o son am dani fel mishtras y mor, a rhyw hurtwch felni; ond nid llawar ma hi wedi neud hyd yn hyn. Ma bron cymint o longa rhyfel Lloegar wedi u shinco ag sydd o longa Germani, er fod nefis Ffrainc,

 

 

 

 

 

 

Text, letter, qr code

Description automatically generated

(delwedd B2214b) (31 Rhagfyr 1914)

 

 

Rwsha, a Japan yn ein helpu, a llong o'r ochor arall i'r byd shincws yr Emden. Ble ma'r British Fflit? Ma'n depig fod carn o drednots a chriwsars, torpedos a sybmarins yn watsho'r Cul Canal o ddechra'r rhyfal, ac wedi "botlo" llonga Germani na chan nhw ddim dod mas. Dyma lle ma Admiral Jelico o'r dechra. Garw byth na newita'r dyn hwn i enw, mae a'n swno i fi'n rhy depig i jellifish, yn enwetig i ddyn yn byw ar y mor. Dos dim dowt nag yw a'n un o'r dynon gora fu mewn llong ariod, ond mae a mor ddi son am dano yn y rhyfal hwn a phe bysa fa'n cysgu dros y gaua fel y gwcw.

 

Pwy sens yw son am "botlin yp” a'r llonga'n dod mas heb yn wpod i neb? Ma nhw wedi cal 'u ffordd i fombardo rhai o'n glanna i farwolaeth. Fysa'n dda gen i wpod pwy dynnws y corcyn, os odd 'na gorcyn o gwbwl. Fe fu'r Ffirst Lord yn areithio's ticyn yn ol, ac yn gwed yn 'i berorashon os na ddelsa nhw mas y bysa ni'n 'u ceibo nhw o'r Canal fel llycod o dwll. Dicon hawdd gwed petha smart fel hyn i gwnni hwyl mewn crowd. Ond dyma dair ne betar llong wedi dod mas heb u ceibo, ac yn cal hewl rydd i shelo Scarbro a lleoedd erill, ac yn mynd nol i'w cwtsh heb un scrap i wherthin am ben y British Ftlît. Dyn cato pawb! Wedi lladd a strywo proparty, y cysur i ni o'r hed offis odd, "The enemy driven away." Ma rhyw frago gwag fel hyn yn ddigon i hala pobol yn sal. Bysa nhw'n gwed fod yr enemy wedi i ddreifo i'r gweilod, fe fyse rhyw sens yn hynny. Dodd dim isha dreifo'r enemy away, yr odd yn ddicon parod i fynd ar ol gneud i waith. Y peth sy isha apad iddo yw, ffor dath a mas, a ffor ath a nol, a'n llonga ni'n watsho gwddwg y Canal a phob gwddwg arall ys petwar mish. Os yw petha fel hyn i fynd ymlan, gwae preswylwyr glanna'r mor weta i.

 

Ma'n dda gen i mod i'n byw yn y mynyddoedd ag nag os dim ariod wedi nafigeto'r afon hyn ond pysgod, ac ma nhwnta wedi i thowlu hi'n fad job ys dros hannar can mlynadd. Tebig taw sboniad yr awdurdota ar y bombardment fydd stratedgy. Rw i'n cofio'n dda taw dyna'r sboniad geson ni pan odd y Germans yn dod lawr i Paris. Os bydd rhyw ritrit yn cymryd lle stratedgy yw hynny. 'Rodd y Ffyrst Lord yn gwed nag odd y bombardment yn ddim ond peth i'w ddishgwl, ac yn hinto 'u bod nhw'n gwpod fod hyn yn dod. Ma hynny'n ddicon tepig, oblecid 'rodd y Maerod mewn rhai lleoedd wedi rhoi instrycshons beth i neud os bydda i hyn ddicwdd. Ond os o nhw'n gwpod ymlan llaw, pam na fysa nhw'n gofalu am gwpwl o'r llonga gora i whythu'r German Fflit i golledicath wedi cal siawns? Yr atnod ddath i feddwl Wil Smith odd hon, "Dder is symthin rotyn in the stet of Denmarc."

DAFYDD Y CRYDD.

 

 

 

 

 

....
Sumbolau:

a A / æ Æ / e E / ɛ Ɛ / i I / o O / u U / w W / y Y /
MACRONː ā Ā / ǣ Ǣ / ē Ē /
ɛ̄ Ɛ̄ / ī Ī / ō Ō / ū Ū / w̄ W̄ / ȳ Ȳ /
MACRON + ACEN DDYRCHAFEDIGː Ā̀ ā̀ , Ḗ ḗ, Ī́ ī́ , Ṓ ṓ , Ū́ ū́, (w), Ȳ́ ȳ́
MACRON + ACEN DDISGYNEDIGː Ǟ ǟ , Ḕ ḕ, Ī̀ ī̀, Ṑ ṑ, Ū̀ ū̀, (w), Ȳ̀ ȳ̀
MACRON ISODː A̱ a̱ , E̱ e̱ , I̱ i̱ , O̱ o̱, U̱ u̱, (w), Y̱ y̱
BREFː ă Ă / ĕ Ĕ / ĭ Ĭ / ŏ Ŏ / ŭ Ŭ / B5236ː  B5237ː B5237_ash-a-bref
BREF GWRTHDRO ISODː i̯, u̯
CROMFACHAUː
  deiamwnt
A’I PHEN I LAWRː , ә, ɐ (u+0250) httpsː //text-symbols.com/upside-down/
Y WENHWYSWEG:
ɛ̄ ǣ æ

ˈ ɑ ɑˑ aˑ aː / æ æː / e eˑeː / ɛ ɛː / ɪ iˑ iː ɪ / ɔ oˑ oː / ʊ uˑ uː ʊ / ə / ʌ /
ẅ Ẅ / ẃ Ẃ / ẁ Ẁ / ŵ Ŵ /
ŷ Ŷ / ỳ Ỳ / ý Ý / ɥ
ˈ ð ɬ ŋ ʃ ʧ θ ʒ ʤ / aɪ ɔɪ əɪ uɪ ɪʊ aʊ ɛʊ əʊ / £
ә ʌ ẃ ă ĕ ĭ ŏ ŭ ẅ ẃ ẁ Ẁ ŵ ŷ ỳ Ỳ Hungarumlautː A̋ a̋

U+1EA0 Ạ   U+1EA1 ạ
U+1EB8 Ẹ   U+1EB9 ẹ
U+1ECA Ị   U+1ECB ị
U+1ECC Ọ   U+1ECD ọ
U+1EE4 Ụ   U+1EE5 ụ
U+1E88 Ẉ   U+1E89 ẉ
U+1EF4 Ỵ   U+1EF5 ỵ
g
w_gytseiniol_050908yn 0399j_i_gytseiniol_050908aaith δ δ £ gw_gytseiniol_050908yn 0399j_i_gytseiniol_050908aaith δ δ £ U+2020 †
« »
DAGGER
wikipedia, scriptsource. org

httpsː []//en.wiktionary.org/wiki/ǣ
Hwngarwmlawtː A̋ a̋
gw_gytseiniol_050908yn 0399j_i_gytseiniol_050908aaith δ δ
…..
…..
ʌ ag acen ddyrchafedig / ʌ with acute accentː ʌ́

Ə́ ə́

Shwa ag acen ddyrchafedig / Schwa with acute

…..
…..
wikipedia,
scriptsource.[]org
httpsː//[ ]en.wiktionary.org/wiki/ǣ

---------------------------------------
Y TUDALEN HWN /THIS PAGE / AQUESTA PÀGINA:
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_126_dafydd-y-crydd_1914_3781k
---------------------------------------
Creuwyd / Created / Creada: 02-06-2017
Adolygiadau diweddaraf / Latest updates / Darreres actualitzacions: 29-12-2022, 18-09-2018, 22-11-2017, 03-06-2017, 02-06-2017
Delweddau / Imatges / Images:
Ffynhonnell / Font / Source: Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Newyddiaduron Cymru Arlein.
---------------------------------------
Ble'r wyf i? Yr ych chi'n ymwéld ag un o dudalennau'r Wefan CYMRU-CATALONIA
On sóc?
Esteu visitant una pàgina de la Web CYMRU-CATALONIA (= Gal·les-Catalunya)
Where am I?
You are visiting a page from the CYMRU-CATALONIA (= Wales-Catalonia) Website
Weə-r äm ai? Yüu äa-r víziting ə peij fröm dhə CYMRU-CATALONIA (= Weilz-Katəlóuniə) Wébsait

Freefind.

Archwiliwch y wefan hon
SEARCH THIS WEBSITE
---
Adeiladwaith y wefan
SITE STRUCTURE

Beth sydd yn newydd?
WHAT’S NEW?




Adran y Wenhwyseg / Secció del dialecte de Gwent / Gwentian Welsh
Edrychiadau ar y tudalennau / Vistes de les pàgines / Page Views

Web Analytics Made Easy -
StatCounter

Edrychwch ar ein Hystadegau / Mireu les nostres Estadístiques / View Our Stats