kimkat3786k Shop Dafydd y Crydd. Ysgrif yn nhafodiaith Aber-dâr o’r Darian. 1919.

22-12-2022







.....
Gweler hefyd / Vegeu també / See also:

 

 

0003g_delw_baneri_cymru_catalonia_050111
 (delwedd 0003)

 

 

 

 

 

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Gal
·les i Catalunya
The Wales-Catalonia Website

Dafydd y Crydd.

Y Darian. 1919.


Y Llyfr Ymwelwyr / El Llibre de Visitants / The Guestbook:

http://pub5.bravenet.com/guestbook/391211408/


a-7000_kimkat1356k Beth sy’n newydd yn y wefan hon?

6665_map_cymru_catalonia_llanffynhonwen_chirbury_070404

(delwedd 4665)

.....

Map

Description automatically generated

(delwedd J7058b)

.....

 

.....1919
11 Medi 1919
.....
02 Hydref 1919
.....
06 Tachwedd 1919

 

 

 

 

A picture containing text, newspaper

Description automatically generated

(delwedd 6567a) (11 Medi 1919)

 

Y Darian.
11 Medi 1919
Siop Dafydd y Crydd.









 

 

 

 

 

 

 

 

 



Mr. Gol. – Fe ddath Wil Smith y Sais sy'n dod i'r siop yma'n ol o Gorwen. 'Dyw Wil ddim wedi arfadd a bod yn llawer o Eisteddfodwr. Rasus ceffyla a bocso a gamblo a gweyd celwydd mewn ffordd barchus a thwyllo a lladrata'n gyfreithlon yn ol y gyfreth mae e'i hunan wedi neud yw petha mawr bywyd Sais, a gneud y Brenin Mawr yn was bach iddo i gadw'i frenhinoedd pun a fyddan nhw'n werth 'u cadw ne beido. Os bydda i'n cwrdd a Sais a fyddo'n ddyn gyd a bod yn Sais, rw i'n tynnu'n het iddo'n barchus, oblecid, ys gwetws y Tramp, mae e wedi gneud gorchest. Ma hi'n fwy anodd i Sais fod yn ddyn nag yw hi i neb arall. Mae e wedi whara'i gardia mor dda nes mae e wedi mynd yn ben y byd a wedi canu cymint o'r emyn hynny:

I am monarch of all I survey,
My right there is none to dispute
From the centre all round to the sea
I am lord of the fowl and the brute."
 
Mae'r Sais wedi canu hwn mor amal nes mae e wedi mynd idd i waed e, a dall e ddim edrych arno'i hunan fel rhyw ddyn arall. Mae'n haws i Sais fod yn bopeth nag yn ddyn, a druan o hono, 'dos gyd ag e mo'r help. Ond os ceiff Sais ras a synnwyr mi all ddod yn ddyn da iawn. Un felny yw Wil Smith. Mi ddechreuws ddod i'r siop yma pan odd e'n grwt, a ma gobeth o Sais os ceir hyd iddo'n grwt, a mi welodd ar unwaith, os odd e i fwynhau breintiau Siop Crydd y bydde raid iddo fe ddysgu iaith y Siop, a mi dysgodd hi, a mi welodd bod yr hen Gymro'n ddyn ac yn ddyn go dda, a taw nid yr un petha odd yn denu bryd y Cymro ag odd yn cael sylw'r Sais. Mi ddath Wil yn y man i gydnabod nad y Sais odd y dyn gore i lywodraethu ar genhedloedd erill, yn enwedig pan ma'r cenhedloedd erill yn well nag e'i hunan fel ma hi'n digwydd bod gan amlaf. Mae e nawr wedi dod i'r casgliad na ddyle dim un genedl lywodraethu ar genedl arall o gwbl.

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd 6567b) (11 Medi 1919)


Ond fel y gwedas i fe ath Wil Smith i Eisteddfod Corwen, ac os odd e'n ac os odd e'n Gymro go dda'n mynd yno, rodd e'n dod yn ol yn barod i wadu na fu a erioed yn Sals. Rodd e wedi teimlo yno bod y rhyfel rhwng Cymru a Lloegr, Cymro a Sais, Celt a Thiwton yn mynd ymlaen o hyd a bod arfau miniocach na'r cledd yn y frwydyr hon, a mae yntau'n barod i sefyll gyd a'r Cymro a'r Celt yn erbyn yr holl fyd. Mi fydd y Cymry'n annheilwng o honyn u hunen, medda Wil Smith, os cymra nhw'u gochfygu yn awr. Mi ddyle pob Cymro, medda fe, siarad Cymraeg ymhob man, a'i siarad hi'n uchel ac yn hyglyw, nid felsa arno fe ofan i neb glywed i lais e, ac heblaw hyn mi ddylse a mi alle neud i bob Sais yng Nghymru ddysgu Cymraeg hefyd. Odd llawer o betha wedi tynnu sylw Wil yn y Steddfod, ond alla i ddim son am u banner nhw'r tro hyn. Un o'r petha hyn odd Iolo Morgannwg. "Iolyn Morgannwg" own i'n arfadd a meddwl odd i enw iawn e. ond ma Wil wedi'n rhybuddio i taw Iolo yw e i fod o hyn mâs. Fel hyn, medda Wil, y canws Gwili yn yr Orsadd a'r dagra yn i lygad e felsa fe'n nesu at Orsedd arall a Dyfed yn sefyll o'i flaen e ar y Maen Llog, ag yn nodo ei ben felsa fe'n gweyd “hm" neu "Amen":

Rhysedd.


"Os ca Iolo loes calon — a'r hen Buw
I Ei droi'n bel yr awron,
Gwelaf y dydd sydd i son
Am Rysedd y Morusion."

Mesur petar lein arall a gawd gan Will ar y Maen Llog odd hwn os yw Wil yn i gofio fe'n iawn:


"Mae'r awen glos yma'n y glaw
I dy odl sy'n ddihidlaw,
A gwirion cynnig araith
I oer lu ar ddaear laith."

Mae gan Wil feddwl mawr o Wili am i fod e wedi gneud petar lein mwn cyn lleied o amser, mae e'n siwr o hyn am na wydde Gwili y byse hi'n bwrw glaw cyn iddo fe godi, a dodd e ddim wedi dihuno'n iawn nes iddo glywed y Corn Gwlad. Rw i bron meddwl, er hynny, taw nid rhagorieth yr Eisteddfod a wnaeth Wil Smith yn Gymro mor selog yng Nghorwen, ond clywed rhyw ferch fach berta welodd e ariod yn canu alawon Cymaeg mwn capel yno. Rw i bron a chredu tyse honno'n digwydd bod yn Scotch mai Scotchman fyse Wil yn dod adre.
DAFYDD Y CRYDD.

 

 



A picture containing text, big cat, receipt

Description automatically generated
(delwedd 5649)
(2 Hydref 1919)

Y Darian. 2 Hydref 1919.

Siop Dafydd y Crydd.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 


Mishtir Golycydd,-
Pan alws y Tramp yn y Siop pwy ddydd, 'rodd yn ddicon hawdd i ddyn tywyll weld i fod a'n jelos am y mod i wedi cal y J.P., ag ynta wedi ffeili. Ond nid arno i 'rodd y bai, ag i gatw petha'n reit, fe rois yr het odd gen i'n spar yn bresant iddo. Fe all ddishgwl par o scitsha yto pan ddaw'r lletar dicyn yn chepach. Rwy'n cretu taw Jones y ffeirad fu'n gweitho drosto i. Ma fe'n gwpod y ffordd i dynu'r weiars yn well na phyrgethwr Wesla. Fe dala'r ffordd i'r Tramp gwmpo o rwth ras a dod i'r Eclws. Dyw hi ddim gwath ar ol i Disestablisho. Fe glwas yr Hesbog yn gwed y dydd o'r blan fod yr annwl gariatus frodyr wedi wado'r Sentars i hewl. Gwetwch wrth y printar am ofalu peido camsynid yr hewl am air gwath. Ma'r Eclws ar gefan'i cheffyl er gweitha picnics Llandrindod. Yn ol ym meddwl i, ma nhw wedi scothi lot o glwdda am yr hen Fam, a dyma hi wedi cwni, a'r wialen fetw yn 'i llaw, ag yn 'u whipo nhw reit ond lefft. Ma'r bachan gollws 'i set yn Llanelli Shir Gar yn treio taro'r bai ar Lloyd George, ag yn gwed'i fod a wedi gwerthu'r Sentars am fasned o gawl, fel y ffwlcyn y clwas i Jones y ffeirad yn son am dano. Nonsens i gyd. Ma'r Eclws wedi gneud mwy na neb i gatw caritor y wlad, ag oniba'r ffeiraton, fe fysa'n rhaid i ni fyw ar bop a lemwned fel ma Merica'n mynd i threio hi. Ma peth felny'n ddicon am fywyd gwlad.

Holo, Morgan, ti sy 'ma? Dera miwn. Ma'n dda gen i dy weld ti. Beth sy'n bod? Rwyt ti'n dishgwl yn llwyd ag yn dena. Ond fuot ti ariod yn dew mwy na rhw deilwr arall. Bachan, fe alla dyn feddwl nag wyt ti ddim yn cal dicon o fwyd. Fe fyswn i wedi hannar starfo mhunan oniba mod i wedi cwni mochyn. Tepyg taw owns o 'fenyn wyt ti’n gal fel pawb erill. Rhaid i ti gal pishyn o'r mochyn 'ma i fynd sha thre, onte ti fyddi mor fain a dy nodwydd cyn bo hir.

"Wel, Dafydd, fe weta chi beth sydd wedi hapno. Rwy wedi bod yn boddro mhen gyta barddoniath y boys newydd 'ma, ag wedi ecorddi nhipyn menydd nes yw a wedi mynd yn gaws. Welas i ddim shwd Gilboa ariod. Rwy wedi pyrnu pob dic-shon-harry allwn i ffeindo, ag rwy bron mynd yn fancrapt. Son am Euclid! "Not in it," ys gwetws Wil Smith. Rwy wedi bod trw Euclid, a thros Bont y Mwlsyn heb ddolur pen. Ond oddar pan w i wedi dechra ar y farddoniath newydd, rwy'n syffro orwth y tictalarw^, ag ma'r doctor yn gwed taw rhyw short o maliria yw a wrth drafod esgyrn a gladdwyd yn amsar y diluw, a dos dim posib gwed pun ai esgyrn dynon, ne gwn a chathod i nhw. Ma gen i ddeuddag dic-shon-harry ar y ford, a chlywson nhw ariod son am lawar o'r geiria a ffeindir gen y crotsach hyn. Chi wyddoch, Dafydd, mod i'n weddol cw^l, ag nag w i ddim wedi arfadd iaith haliars at 'u ceffyla, ond rhaid i fi lwo mod i wedi rhegi llawar yn Gymrag a Sysnag wrth whilo miwn i hen betha newydd yr wsnotha diwedda hyn. 'Dy nhw ddim yn gwpod hynny yn Tabor, onte fe fyswn ar y carpet yn lled depyg. Mor bell ag w i'n dyall, y cwbwl sy'n newydd gen y boys hyn, yw'r hyn sy'n hen. Ond 'dyw dod a hen datws i'r farchnad ddim yn 'u gneud nhw'n datws newydd."

"Rwy'n dy ddyall di nawr, Morgan, wedi dod lawr i fyd y tatws. Wn i yn y byd beth oet ti'n feddwl wrth Bont y Mwlsyn. Fe glwas am Bont y Gwr Drwg, Pontyberem, a Phontsticyll, ond wn i ddim am Bont y Mwlsod. Fe leicwn gal spesimen o'r bardd hen sy'n galw'i hunan yn newydd."

 

 

Text, letter

Description automatically generated
(delwedd 5650)
(2 Hydref 1919)

"Fe fydda'n ddanjerus gneyd hynny, Dafydd, os nag y'ch chi wedi inshiwro'ch menydd. Rhowch yr esgid 'na lawr, a gryndwch dyma'r style:

"Miragl" ar gorn maharen, - a "phali"
Ar ei ffolog dalcen;
'Eddi' 'ffaeth' yn 'llawdd' i'w phen,
A'i gwegil yn goeg, 'hagen.'

"Owmal" sy'n od o gymen, - oer a chlwc
Yw'r "achlân" di awen;
Mawr yn wir am "riain" wen
Yw gwanc hogiau "wnc" "hagen."

Gwely "miwail" ga'm hawen,- yn yr "oed,"
Dyna "rhwyl" Ceridwen;
Glafr a ladd ''seriglfriw" len, -
Llifogydd hyllaf, "hagen."

"Telediw," tail hwyaden, - ar lwybrau
"Labrinth" ar y domen;
"Germain" hir, a "gwrm" y nen,
A giwgaw yn "llaig," "hagen."

"Gwen, rhed ar unwaith i moyn plisman, ma'r dyn 'ma wedi colli 'i sensis. Dyndishefo ni! Glywsoch chi shwd beth ariod! Rhaid fod menydd y pwr dab wedi cal'i gorddi'n gaws. Pwy sy'n responsibl am beth shwd hyn? Fe ddylan gal'u cosbi bob jac. Ma nhw'n cosbi dynon am werthu bwyd sy ddim yn ffit, ag fe ddyla rhain gal jail ne seilam. Ma'n ddicon plain fod pen y dyn wedi hollti, ne fysa fa byth yn son am "hagen" yn niwadd pob pennill. Dos gen i ddim ges beth yw'r testun, heb son am ddim arall."

"Y testun," Dafydd, yw "Tywyllwch yr Aifft," a felna'n gwmws ma'r Bardd Newydd yn canu."

"Diawst, Morgan, rwyt ti ar dy destun ta beth yn reit dy wala. Ta ti wedi bod yn yr Aifft, a chorco potelad o'r twllwch hynny, fysa ti ddim yn fwy ar y pwnc. Cymar gyngor gen i, Morgan, paid a boddro dy ben i whilo am ideas mwn twllwch. Rhwpath i Pharo odd y twllwch, a chofia'n bod ni'n byw betar mil o flynyddodd ymhellach ymlan na hwnnw. Ma'r rhai sy wedi dysgu'r boys o whith yn gweld 'u camsynad erbyn hyn, ag yn'u leddro nhw nol i ola dydd. Pob lwc iddyn nhw weta i."

DAFYDD Y CRYDD.

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd B2162a) (6 Tachwedd 1919)

Y Darian. 6 Tachwedd 1919. Shop Dafydd y Crydd.












 

 

 

 

 

 

 



Mishtir Golycydd, Pan ddath Morgan y teilwr yma nos Iou, fe wetas wrtho'n lled handy, fod gen i asgwrn i bilo ag e. "Beth sy'n bod?" mynta Morgan. "Wel," myntwn "wyt ti ddim wedi gneud englyn petar lein i lun y Tramp yn y DARIAN, ac ma pawb trill wedi gneud, yn ddynon a theilwried. Rown i wedi meddwl fod y Tramp a titha'n dicyn o chums, ag mai ti fysa'r cynta i gamol y pictwr. Fe ddylat neud, i fod ‘yp tw dêt.'" "Becan pardwn,” mynta Morgan, "rwy'n cwmpo dan 'y mai. 'Rw i wedi bod yn lled absent meinded yn ddiweddar, ag fel cath yn whatsho sprydion yn y twllwch. Dewch a phisyn o bapur i fi, Dafydd." Wedi cal hwnnw, fe fficsws i lycid ar y seilin, fel dyn mwwn trans, a wedi lot o ryw gapers, na wyddswn i yn y byd beth o nhw da, fe nath englyn petar lein dder and dden, a dyma fe: —


Dyn gwywedig dan goeden, —gwr moesgar
Am whisci a thablen;
Un yw a'i bib yn ei ben,
Rôg segur yn rags, hagen.


Fe bostas yr englyn i'r Tramp right off, a bora dydd Sul, pan own i ar starto i'r Eclws, dyma lythyr o rwth y Tramp a stamp cinog arno, ac mynta'r postman, "Thri hepans tw pay.” “O ble mae a’n dod?," myntwn i. "O Cwmrhydycwrw,” mynta’r post-man. Pam na fysa'r clymhercyn cythrwm yn rhoi dicon a stamps ar lythyr? Fe’m halws i i lot o drafferth, oblecid allsa'r postman ddim newid papur punt, a dodd gen inna ddim arall i gal ond pishyn tair, ag rown i wedi catw hwnnw i roi yn y clasgad. Rodd Jones y ffeirad wedi gwed taw silfar colecshon sydd i fod yn yr eclws o hyn i mas. Ta beth am hynny, dyma'r pishyn odd yn y llythyr:

Hen deiliwr yn llawn dwli, - ar y ford,
Ac mor fain a milgi;
Un effro'i ddawn, ffwrdd a hi,
A'i ddannedd yn barddoni.
Tramp, O.B.E.

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd B2162b) (6 Tachwedd 1919)


Pwy ddath miwn ar y pryd, and Eryr Pen Pych, newydd ddod nol o Rwsha lle ma'r Bolshafins yn catw cymint o row. Ma'r Eryr wedi cal i ddi-mob-i-leiso, ag fe gewn lawar hanas y Bolsafins ganto bob yn dicyn. "Rw i'n mynd i'r eclws," myntwn i, "galw yma yn y prynhawn, i gal seiat fach yn lle mynd i'r ysgol." Ag fe ddath, a'r teilwr gydag e. Ar ol cal y lemwned i'r ford, fe ofynas i'r Eryr beth odd a'n feddwl am y ddou englyn. "Ma coll 'rhy depyg' yn y ddou," mynta'r Eryr. Sposib! "Ma'r un coll ymhob lein yn y ddou," mynta'r Eryr wetyn. "Dyna gelwdd," mynta'r teilwr, ac os gwetyd di hynny yto, fe dy sodra di wrth y wàl yna." Gan bwyll fechgyn, ma'r gora'n gneud llawar slip. "Fe wn fod y glec yn lawn," mynta’r Eryr, "ond ma'r ddou yn rhy depyg i wir." A dyna hi'n laff dros y !le, ag fe ddeallws Gwen fod bryd dod miwn a 'dose' arall o lemwned. Allwch chi weyd wrtho i beth yw'r teitl sy ar ol enw'r Tramp? "Dafydd bach, ma hynny mor ola a'r dydd," mynta'r Eryr. "Order of the British Englyn." O, gwed titha hynny.

Glywsoch chi'r letest? Beth yw hynny? Ma deputashon wedi bod gyta'r Tramp yn gofyn iddo am sefyll pol a Mond yn y lecshwn nesa. Dos neb arall medda nhw all i fwrw a mas. O rwth Dewi Cwmbwrla dath y stori, ag ma'n depyg iddo glwad o'r hed cwarters, mynta'r Eryr. Dyw'r Tramp ddim yn cretu miwn Colishon Gyfarment. Gomrod o golishon sy yn y Senedd, ag ma nhw wedi dysgu pawb i fynd i golishon a’i giddyl. Ma'r peth yn cal i gatw'n ddishtaw, nes cal ffeinal o rwth y Tramp. "Cato
 

 

 

Text

Description automatically generated

(delwedd B2162c) (6 Tachwedd 1919)

pawb," mynta'r teilwr. "Gwd old Tramp," myntwn inna. "Os aiff a miwn i’r Ty, fe fydd yno gelficyn pert digynyg," ebe'r Eryr. "Ond ma nhw’n gwed taw gomrod o Dramps sy yno'n barod." Allwn ni ddim ffwrdo colli'r Tramp, a dicon tepyg na all ynta ddim ffwrdo bod yn M.P. Beth yw pedwar cant a hanner yng nghenol sharpers Llyndan? Dyw pedwar cant a hanner ddim yn ddicon i dalu am cabs a thaxis, oblecid fe fydda rhaid iddo drampo fel gwr byneddig, ag nid fel fe'i hunan. Fe fydda'n rhaid iddo gal cigars yn lle baco, a Blac and White yn lle pop, a'i rigo lan ffrom tip tw to, ys gwetws Wil Smith. Naiff hi ddim o'r tro iddo fynd a het, ail law i’r Hows o Comons. Ma'n wir y galla rhywun roi present o het silk iddo, yn fwy o sport na dim arall. Fe glwas i Kier Hardy fynd yno a chap ar i ben, pig nol a plan, a chlwm ar y top, ag fe halwd dicon o silk hats iddo i gatw shop. Fe ddyla Member of Parliament o bosishon y Tramp gal dwy fil yn y man lleia, a'i drafeling expensis, first class, a theithio third. Fe fydda rhyw sens yn hynny. Fel ma petha'n awr, dos fawr iawn o encyrejment i ddyn tlawd gynnyg am un post and post clwyd.
Pob llwydd i'r Tramp i gamp gwell,
A bwydydd yn ei badell.

 

 

 

 

....
Sumbolau:

a A / æ Æ / e E / ɛ Ɛ / i I / o O / u U / w W / y Y /
MACRONː ā Ā / ǣ Ǣ / ē Ē /
ɛ̄ Ɛ̄ / ī Ī / ō Ō / ū Ū / w̄ W̄ / ȳ Ȳ /
MACRON + ACEN DDYRCHAFEDIGː Ā̀ ā̀ , Ḗ ḗ, Ī́ ī́ , Ṓ ṓ , Ū́ ū́, (w), Ȳ́ ȳ́
MACRON + ACEN DDISGYNEDIGː Ǟ ǟ , Ḕ ḕ, Ī̀ ī̀, Ṑ ṑ, Ū̀ ū̀, (w), Ȳ̀ ȳ̀
MACRON ISODː A̱ a̱ , E̱ e̱ , I̱ i̱ , O̱ o̱, U̱ u̱, (w), Y̱ y̱
BREFː ă Ă / ĕ Ĕ / ĭ Ĭ / ŏ Ŏ / ŭ Ŭ / B5236ː  B5237ː B5237_ash-a-bref
BREF GWRTHDRO ISODː i̯, u̯
CROMFACHAUː
  deiamwnt
A’I PHEN I LAWRː , ә, ɐ (u+0250) httpsː //text-symbols.com/upside-down/
Y WENHWYSWEG:
ɛ̄ ǣ æ

ˈ ɑ ɑˑ aˑ aː / æ æː / e eˑeː / ɛ ɛː / ɪ iˑ iː ɪ / ɔ oˑ oː / ʊ uˑ uː ʊ / ə / ʌ /
ẅ Ẅ / ẃ Ẃ / ẁ Ẁ / ŵ Ŵ /
ŷ Ŷ / ỳ Ỳ / ý Ý / ɥ
ˈ ð ɬ ŋ ʃ ʧ θ ʒ ʤ / aɪ ɔɪ əɪ uɪ ɪʊ aʊ ɛʊ əʊ / £
ә ʌ ẃ ă ĕ ĭ ŏ ŭ ẅ ẃ ẁ Ẁ ŵ ŷ ỳ Ỳ Hungarumlautː A̋ a̋

U+1EA0 Ạ   U+1EA1 ạ
U+1EB8 Ẹ   U+1EB9 ẹ
U+1ECA Ị   U+1ECB ị
U+1ECC Ọ   U+1ECD ọ
U+1EE4 Ụ   U+1EE5 ụ
U+1E88 Ẉ   U+1E89 ẉ
U+1EF4 Ỵ   U+1EF5 ỵ
g
w_gytseiniol_050908yn 0399j_i_gytseiniol_050908aaith δ δ £ gw_gytseiniol_050908yn 0399j_i_gytseiniol_050908aaith δ δ £ U+2020 †
« »
DAGGER
wikipedia, scriptsource. org

httpsː []//en.wiktionary.org/wiki/ǣ
Hwngarwmlawtː A̋ a̋
gw_gytseiniol_050908yn 0399j_i_gytseiniol_050908aaith δ δ
…..
…..
ʌ ag acen ddyrchafedig / ʌ with acute accentː ʌ́

Ə́ ə́

Shwa ag acen ddyrchafedig / Schwa with acute

…..
…..
wikipedia,
scriptsource.[]org
httpsː//[ ]en.wiktionary.org/wiki/ǣ

---------------------------------------
Y TUDALEN HWN /THIS PAGE / AQUESTA PÀGINA:
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_126_dafydd-y-crydd_1919_3786k.htm
---------------------------------------
Creuwyd / Created / Creada: 02-06-2017
Adolygiadau diweddaraf / Latest updates / Darreres actualitzacions: 29-12-2022, 18-09-2018, 22-11-2017, 03-06-2017, 02-06-2017
Delweddau / Imatges / Images:
Ffynhonnell / Font / Source: Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Newyddiaduron Cymru Arlein.
---------------------------------------
Ble'r wyf i? Yr ych chi'n ymwéld ag un o dudalennau'r Wefan CYMRU-CATALONIA
On sóc?
Esteu visitant una pàgina de la Web CYMRU-CATALONIA (= Gal·les-Catalunya)
Where am I?
You are visiting a page from the CYMRU-CATALONIA (= Wales-Catalonia) Website
Weə-r äm ai? Yüu äa-r víziting ə peij fröm dhə CYMRU-CATALONIA (= Weilz-Katəlóuniə) Wébsait

Freefind.

Archwiliwch y wefan hon
SEARCH THIS WEBSITE
---
Adeiladwaith y wefan
SITE STRUCTURE

Beth sydd yn newydd?
WHAT’S NEW?




Adran y Wenhwyseg / Secció del dialecte de Gwent / Gwentian Welsh
Edrychiadau ar y tudalennau / Vistes de les pàgines / Page Views

Web Analytics Made Easy -
StatCounter

Edrychwch ar ein Hystadegau / Mireu les nostres Estadístiques / View Our Stats