3945k Gwefan Cymru-Catalonia. CEINION ESSYLLT. Rhai o Brif Weithiau Barddonol a Rhyddieithol Thomas Essile Davies, neu Dewi Wyn o Essyllt, Dinaspowis. Caerdydd. Argraffwyd gan D. Duncan a’i Feibion. Yn Swyddfa y “South Wales Daily News.” 1874.


09-11-2023

 

0001 Y Tudalen Blaen Google: kimkat0001

..........2657k Y Porth Cymraeg Google: kimkat2657k

....................0009k Y Barthlen  Google: kimkat0009k

..............................0960k Y Gyfeirddalen i Gywaith Siôn Prys (testunau Cymraeg yn y wefan hon) Google: kimkat096k

............................................ www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_029_dewi_wyn_o_essyllt_01_1272k.htm CEINION ESSYLLT: Y PRIF DUDALEN

 

A red and green flag

Description automatically generated
..

 

 

 

 

 

 

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Catalunya i Gal·les
 

 Cywaith Siôn Prys - Testunau Cymraeg ar y We

CEINION ESSYLLT
Rhai o Brif Weithiau Barddonol a Rhyddieithol Thomas Essile Davies, neu Dewi Wyn o Essyllt, Dinaspowis. Caerdydd. Argraffwyd gan D. Duncan a’i Feibion. Yn Swyddfa y “South Wales Daily News.” 1874.

RHAN 2/4


Y Llyfr Ymwelwyr / El Llibre de Visitants / The Guestbook:
http://pub5.bravenet.com/guestbook/391211408/

a-7000_kimkat1356k

Beth sy’n newydd yn y wefan hon?

A map of the european continent

Description automatically generated

(delwedd 7419)

 

 

Tudalennau 1-150
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_029_ceinion_essyllt_1874_01_3944k.htm

Tudalennau 151-300
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_029_ceinion_essyllt_1874_02_3945k.htm


Tudalennau 301-450
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_029_ceinion_essyllt_1874_03_3946k.htm


Tudalennau 451-588
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_029_ceinion_essyllt_1874_04_3947k.htm

Detholion
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_029_ceinion_essyllt_1874_detholion_3948k.htm

Y testun wedi ei gywiro  mewn llythrennau duon / el text corregit en lletra negra / Corrected text in black type.
Y testun heb eu gywiroi eto mewn llythrennau gwyrddion / el text encara no corregit en lletra verda / Text not yet corrected in green type.

 

 

A page of a poem

Description automatically generated

x151

x151
 HYDREF.
CYNWYSIAD. - Prydferthwch Hydref, a'i helyntion. Ymadwiad y Wenol. Adnewyddiad caniadaeth rhai o'r cerdd adar, megys y Fronfraith, y Fwyalch, y Telawr, a'r Brongoch; a hyny megys yn gohirio gogoniant ymadawol yr Haf. Amaethyddiaeth Hydref. Dadansoddiad llysieuol. Gwasgariad hadau. Y nos auafaidd. Y gwynt a'r gwlaw gorllewinol. Y llifeiriant. Milod y maes, & c.
Awn yn awr drwy ddae'r a nef, -ar hynt wych,
I lawn edrych ar ddarlun Hydref.
Natur nid yw brin ettaw,
O swynion byw, llon, ar bob llaw.
Bro wastad neint gloëwbur, ystwyth, —dolydd Dylathr, eildwf, esmwyth;
Bodolaeth ar bob deilen,
A llwyn a phren yn llawn ffrwyth.
Er fod ol min arfau dur - yr amaeth Yn drwm ar wedd natur, Holl feusydd ein bröydd bron Yn noethion wedi'u gwneuthur, -
Etto, ymadfywio fydd,
A dal ei nerth drwy'r dolydd;
Yno bydd, mewn dedwydd danc, Yn tywys glaswellt ieuanc;
Hardd yw'r ddôl ruddwawr, ddilwyn, I'w cherdded fel melfed mwyn; Pwy a welodd un pali Esmwythach, harddach na hi.
Myrierid ema'r irwydd,
A thlysau ganghau y gwydd: Hardd iawn etto rhydd natur
Ei ffurf lan drwy'r berllan bur; Yno, mewn gwisg freninol,
Rhodia hi a gwrid o'i hol.
Eurlliw yw cnwd y berllan, -llaw pawb sydd, Yn ei ffrwythydd yn effro weithian.




 

 

x152
x152

plant zo zmoral
& meer Chan re
Ar geinion y grug unig,
Ein trem, mewn boddhad, y trig:
Ymagor y mae, ' n borphor byw― Eden y " Tylwyth Têg " ydyw, Blodau ffrwm y Saffrwm sydd Ogoniant ar y gweunydd;
L
Pwy wrthyd " Glych y Perthi, " V Clychau nef sydd o'n cylch ni ?
Y plant a gniwiant o gnau Y gollen i'w llogellau;
Drwy'r pant y crwydrant, a'u cri
Am eirin a mwyari.
Mewn hedd mae'r fuwch yn mwynhau, O wleddoedd yr adladdau.
Y tyrchod rhochfawr, taerchwant, Luoedd hyd y soflydd ant;
Crwydrant a gwanant drwy'r gwydd, A mesant hyd y meusydd.
Ar ei dir mae'r adarydd, -a'i fawrgamp Gyfeirgi'n llawn awydd,
Yn syflyd drwy y soflydd, -
Rhyw hwyl fawr ar hely fydd.
Llwyddiaus ar Betrus bydd; -â rhagddo, Gan eu llorio yn ddigon llawrydd.
Cynauaf yr Hopys cniwiog - ddyfu ' n Ddifyr drwy'r maes poblog;
Bludan Janofol
Mam, mab, merch, a serchog - gydweithiant, Iawn y dydolant eu blodau deiliog.
Erlynir ein môrlanau - dwyreiniol
Gan drinwyr y rhwydau;
Yn llwyth ar lwyth daliant hwythau - ' n ddibaid,
Y tew Benogiaid, dd'ont heibio'n heigiau.



 

 

x153

x153
Hîn yn araf sy'n oeri,
Yn awr yn ein hinsawdd ni.
Ni welir y Gwenoliaid - mor effro'u Dirwyniad heibio, ar droion dibaid.
Oedant, yn awr, yn heidiau, -ar y twr,
Y tô, a'r simneiau,
Ag hiraeth gadaw'n cyrau; —eithr trefnant, Ymadawant, am fro dwym y Deau.
Hâf a'i wên ' ai wiw fwyniant, -a'i harddwch,
A gerddodd ar ddiflant;
Eithr, fel pe bai rhyw chwai chwant,
Ail gynal ei ogoniant.
Daw y Fwyalch adfywiol - ei thonau; Daw'r Fronfraith iawnseiniol; Daw yntef, y cartrefol - Fronruddyn, A'i uchel emyn, ar droed ddychlamol. Ac attynt daw'r Telawr teg,
I roi nod ar iawn adegr
film bek
matemat
Hwy, ' n gôr, gynaliant y gân - fwyn, gydnaws,
Ohiria hynaws oriau anian.
Mae weithian i'r Amaethydd - yn bryd teg
I barotoi'r meusydd,
Er rhoi yr hâd yn mru rydd Daear, cyn dêl drwg dywydd.
Os o'r tir ceisir toraeth, Rhaid iddo gymhwyso maeth.
Gan hyny ffrwyth, mwyth, a mêr Y beudy na arbeder.
A gwilier roi'r calch golau, ―er agawr A rhwygo'r priddellau;
Ac er ar fyrder fywhau - anghynhes, A thawel fynwes y swrth elfenau.




 

 

x154


x154  
Yr aradr a'i harwron - ar fawr waith,
Drwy'r fro oll, sydd weithion;
Holltir âr â chwlltr hon, - mae'r gwas dewrwedd,
A roi'n ei orwedd yn ryniau hirion.
Hâdwenith yn dew yno - a heuir,
Cyn daw'r gauaf heibio;
E'n rhwydd, ' n ol dwfn wreiddio - a ddeil ddryghin, Y gaua ' gerwin ddaw rhawg i'w guro.
Y gwenith s'n egino
Yn dew frith drwy dud y fro.
Gwênu yn yr eginyn, -am unwaith, Cyn myned mae'r flwyddyn; Galw, a dweyd y gwel y dyn Ei gwyneb etto'r
gwanwyn.
Yr heliwr cadarn, broliawg - aeth allan, Tua thyllau'r llwynawg;
A'r adarydd rhydd, yr hawg Acw i hela'r gwyddgeiliawg.
Heddyw i'n llestri addien, y llifa Llafur y wenynen;
A rhed i law ' r Eidal wen, Bêr nôdd y bur winwydden.
Ac adeg i blanu coedydd - yr ardd, Ar wig, ddaeth er cynydd;
Ac yn yr allt ar bryneyn rhydd,
I hau'r mês a ddaw o'r meusydd.
Yntau wyr hau, -y gwynt rhydd, -hed y'mhell, A had mân y dolydd: Llawer lle rhyw fore fydd, Dan wiw flodeuyn newydd.



 

 

x155


x155

Y llysiau ' maes arllwysant - eu hadau,
Wed'yn hwy ymsuddant;
I'w gwreiddiau - lle gorweddant, —nes derbyn, O haul y gwanwyn, eu hail ogoniant.
Daw yn awr y rewllyd nôs,
Ar ol dydd araul diddos.
Nos anafaidd ddisyfyd, -ad weddill Diaddurn, llysieufyd;
Ar eu hol, yn llwyr wywlyd,
Edwi geir y blodau gyd.
Rhodia gwyl yspryd y gwynt,
A wyla ar ei helynt.
Daw i waered i'n dorau, - ' n llaith ei fron,
Oer yw
ei gwynion drwy yr agenau.
Ond daw gan ruaw ar hynt, Hyll anwar Orllewinwynt; O flaen ei chwa fileinig, E ' ddaw i lawr ddail y wig: Drwy y nen gan droi yn heinif, I y llawr syrthiant yn llif;
Pob llwyn a phren, harddben oedd, Ddiosga, o'u heirdd wisgoedd; E ' gura draeth a goror,
A thrwm iawn anrheithia'r môr.
Cymylau wisg y moelydd, -cymylau, Wisg y bryniau ar brwysg wybrenydd: Cymylau'n dyrau drwy'r dydd - bygythiol, Ar y chwa roriol a ddyrch o'r Werydd.
Mae oerllyd wlaw yn ymarllwys - o'r nen, Yn awr, yn ddiorphwys:
Wybren ddybryd, ddyfrllyd ddwys, —yn ddiau, Holl lyn eigionau'r Gorllewin gynwys.



 

 

A page of a poem

Description automatically generated

x156



Rhaiadrau gânt rhed o'r gwydd- Diluw orchuddia'r dolydd.
Yn y dolydd yn delwi, —a gwasgu I gysgod y perthi;
Mae'r milod yn eu tlodi, -mor resyn Y golwg arnyn ' mewn gwlaw ac oerni,
Hwythau a gyrchir weithion - i'w côrau, Rhwng y caerydd clydion;
Yntau'r odiaeth amaethon - dry at raid, Ei anifeiliaid, yn awr, ei ofalon.
Anian sydd mewn dadansoddol - gyflwr, Ac aflwydd tymhorol;
Dygwyd ei chreadigol,
Allu'n awr, yn mhell yn ol.
Y
GAUA F.
Yr hin - gyfnewidiad — y CYNWYSIAD. - Ymauafiad ( hibernation ) y milod. nudd — y niwl — y chwa ddwyreiniol - y llwydrew - a'r barug. Gorddangosion natur o dan effeithiau yr unrhyw. Y Rhew. Desgrifiad o'r boreu - yr hwyr Y cwlwm rhew; gorddangosion y ser - y lleuad a'r wybr - a'r hin rhewllyd. Gallu ac aruthredd cyffredinol y gogleddol mewn cyssylltiad a'r unrhyw. rhew. Difyrion yr hin rhewllyd. Yr eira, yn nghyd a'r gorddangosion cysylltiedig. Adfyd yr adar - y brongoch. Y gweithiwr. Apeliad at gyd- Dattodiad y ymdeimlad y cyfoethog ar ran y gweithiwr a'r trallodedig. " Cwlwm. " Fod prydferthwch neu erlyniadau moesol y gauaf, i raddau pell, yn gwneyd i fynu ddiffyg ei brydferthwch a'i fywiogrwydd ymddangosiadol ac anianyddol. Mwynhad y nos auafol. Y Nadolig a'i amgylchiadau. Y Flwyddyn Newydd a'i chyfarchiadau. Myfyrdodau diweddgloawl.
Yn awr, derchafu a wnaf, Leni gwyw arlun gauaf.
Trychfilod fil enciliant, -ac wedi'r
" Saith cysgadur " fföant:
Yn eu hogofau gaua fant, I'w hunfeydd am y gauaf ant.



 

 

x157

Oer yw bronau'r wybrenydd, - Gan awyr dew, gwan yw'r dydd.

Y nudd sy'n orchudd erchyll - ar y lli, Fe â'r llong yn gandryll
Ar rhyw gost, neu ei llwybr gyll Yn y tew huddiant tywyll.
Hyd for uwch tywodfarau, -hyd fryn erch;
Hyd fawr nwyf ddinasau, Yn y niwl hurt, tra amlhau,
Mae hanes
damweiniau.
Mae'r holl fro yn gwisgo gwg, Niwloedd dry'r nen o olwg.
Daw oeraidd chwa, o'r Dwyrain, y tir i rewi'r rhai'n.
Dros
Holl dir y gwaelod sy'n llwydrew gwelw, Rhew dreigla'i awel dros y dwr gloew; Natur fyw oerodd - mae'n troi i farw, Trwy'r gwydd a'r dolydd prin ceir ei delw, Nes eilwaith bydd ein sylwyn disgyn Ar y pert wanwyn - daw'n fyw'r pryd hwnw.
Yn ei bedd, weithian, bydd hithau - yn cael mad, Adnewyddiad o'i holl adnoddau Gwasgaredig, -gwisgo rhadau - fel hyn, I'w bwrw wedy'n, wna'n eu hiawn brydiau.
Barug benfritha'r borau - anystwyth,
Darstain fydd ein llwybrau;
Rhewog, lachar, iâ - glychau, -mewn rhamant, Acw hongianant ar y cangheuau.
Mae'r wawr yn awr yn oeri - ac eirf main, Chwerw wynt Dwyrain yn dechreu'n tori.
Yr henwr sy ' mron rhynu, -a'r llanc glân, At y tân y mae yntau yn tynu
N
r
icicles



 

 

x158



Oer yw'r hwyr rhew - awyrog, -holl ne ' sy'n Llawn o ser colynog;
Lleuad rymus hylldremiog - gerdd wybr glir, Yn awr hwylusir yr awel iasog.
Mae'r nos - oerni'n rhewi'n rhwydd- Rhew hir'n ol pob rhyw arwydd.
Rhew mawr sydd yn cloi'r moroedd - Gogleddol, Anghyfaneddol yw'r blwng fynyddoedd; Yno gan ddryghinoedd; -deithiwr distadl, - Ffera ei anadl yn y dyffrynoedd.
Y nôs hir wna yno'i sedd, a'i theyrnas,
-
' Mhlith oerni diddiwedd;
Dwysder sy'n dybryd eistedd,
Ar y bau, fell eiddo'r bedd.
Rew hyll! mawr yw ei allu, -drwy'r cylchon Truenusion, lle mae'n teyrnasu.
Ei iâs dost sy ' megys tân; -rhew ysa
Fel y gwres ei hunan:
Hollti mae wydd, fel gwellt mân, Rhwyga ef y graig gyfan.
Mor ryfedd gwel'd rhwymo'r afon, —a rhoi
Ffrydiau'r Alp mewn cyffion;
Gwel'd hual yn dal y dòn,
A chraig ar ucha'r eigion.
Ond heddyw er mwyn dyddan - sirioli, Ac adloni adegau dwl anian n; A y glew, lanciau glân, -i ymlithraw Ar y llyn draw, a'u llon'd o oroian.
Ac yn awr, dirfawr dorfau - diluddias, O wyr y Ddinas — rhai mewn urddenwau, Ar eu hollwych lithrellau, -ant allan O'u p'lasau eirian, i le'r pleserau.




 

 

x159

 
Ar ehedol lithriadau, —ant yn rhwydd, Fel awel ebrwydd, ar foel iâ - lwybrau,
Percus ddyfroedd y parciau; -mawr drwy'r dydd Ytyw'r llawenydd o ddeutu'r llynau.
Y chwa weithian ni chwytha, -yr awyr
Rhewog ymlonydda;
Y nen, gan bwyll ymlenwa - o gymyl, O liw y beryl - fe ddaw'r gwlyb eira. Wele, uchod y flochen * -ar ei hynt, Yn ymdroi fel deilen;
Ni chlyw neb, yn chwylo nen, Ei throed na'i dieithr aden.
Ond dyfod mae'r gafod gan gyhwfan, Yn awyr lwydwawr, ei baner lydan; Cafod orchuddia'r cyfan, -y fory,
Un môr o eiry o'r cwm i'r aran!
Un drem oer, drom, drom o eira - ' n toi'r oll,
Trist anghyfanedd - dra,
Drwy'r maes a'r wig a driga; —pruddineb
Llwfr, hyd wyneb yr holl fro daena.
Nid oes llais o glais na glyn,
Ond hiraeth yr aderyn.
Yr ednod bychain troednoeth, Rhewi wnant mewn eira noeth.
Mae'r brongoch, lamai ar brengainc, Y boreu gynt, yn bêr ei gainc,
Yn troi weithian i'r trothwy, -am gardod, A'i bereiddglod wedi troi'n bruddglwy '.
Tarawyd y gweithiwr truan - a meth; Nid hawdd yw myn'd allan,
I hel gwaith, â ' i deulu gwan
I blith mawr helbul weithian.
* Flake of snow.



 

 

x160



Arianog, gwel drueni - y gweithiwr, Sy'n gaeth gan yr oerni;
Dod, o'th orddigonedd di, - ' chydig ffrwyth I leihau ei adwyth of a'i dlodi.
Oludog, clyw alwadau- teulu ing, Gwel y tlawd mewn eisiau;
Atto rheded dy radau, -î dlawd llwyd, Câr Duw ydwyd, am roi cardodau.
Daw eraill at ein dorau, -na wyddant Am nawdd rhag rhuthriadau
Y dymhestl, diamhau - plant y trallod, Hawdd eu ' nabod wrth wedd eu hwynebau.
Pa wedd, mewn hedd, a ni'n mwynhau - pob lles, Y cauwn fynwes rhag eu cwynfanau ?
Toddawl yw'r chwa wynt heddu, —yn dawel O'r Deau mae'n chwythu;
Awyr wâr sy'n clauaru; -y mae'r ôd A'r iâ yn dattod yn awr o'n deutu.
Natur o'i chyffion etto - ryddhawyd,
Mae'r ddaear yn teimlo
Y fraint; a thrafnid y fro, -oedd farw braidd, I'w hynt reolaidd ettaw'n tra hwylio.
Llaw anghen a ollynga - ' i hyspail trwch; A'r annedwyddwch gyda'r hin dodda.
Os anian, yn allanol, —a wrthyd
Brydferthwch golygol;
Ymleda'r un teimladol - o newydd, Trwy wiw feusydd ein natur foesol.
Yn nghanol yr anghenus - aua ' llwm Ceir ambell awr hoenus,
O lawenydd haelionus, -o wledda, --- O gu ymwela, ac ymgom hwylus.



 

 

x161


Dieilydd yw'r Nadolig - am ei swyn,
Am ei serch cartrefig,
Am hwyl frawdol, am haelfrydig — deimlad, A'u dyfodiad at borth yr adfydig.
Llu yn wir sy'n llawenhau,
Yn sŵn ei elusenau.
Nôs auafol sy ' hefyd,
Lawn mêl a brasder i'r byd.
Hon yw'r adeg ceir rhodio - y meusydd Lle mae Moes yn trigo,
A Rhinwedd yn mireinio - pob cwmwl, - Rhywiogi'r meddwl, a rhoi grym iddo.
Rhoi ' i law ' n awr ar lenoriaeth — a ga'r bryd, Ac ar bren gwybodaeth;
Gan esgyn drwy gynysgaeth - darfelydd, Prif, dieilydd i bob pêr fodolaeth.
Ffoedig ddydd a'i ffwdan, -a'i dristwch, A sawdd i heddwch y fath nos ddyddan; Fry i'w daith hyfryd weithian, -- yr yspryd Ga roi tro enyd i'w gartre “i hunan.
Yn Ionawr mae un enyd
O serch ac anerch i gyd, -
" Blwyddyn newydd ddedwydd, dda, " - yw'r siriol
Air ufyddol a'n cyfarfydda:
Mae, er trem oer aua ' trwch,
Hâf, lle ceir cyfeillgarwch.
Yn awr bydd y flwydd ar ben; -drwy'r seroedd
Hwylusu oedd ar ddilaes aden;
Nid oes un einious is nen, -nac offer,
A wna ei hadfer hi, na'i thynghedfen:
Mae dur glo, mae dirgel len, -mae dedfryd Y tragwyddolfyd yn toi'r gudd elfen.



 

 

x162



Ni wyddom ein blynyddau, ―ni enwn
Un o'u rhagluniaethau;
Ni ddywed neb, yn ddiau, - ' r da na'r drwg, Y sy ' o olwg o dan eu seliau.
Ni wyr nad y flwyddyn - daw arfaeth Dirfawr orddangosion, - Rhyfeloedd - amrafaelion - daeʼrgrynfâu— Haint a nodau - hwynt a'u newidion.
Neu drom gâd Armagedon, -y pair dig, Pryd dygir, drwy fawrion Nerthoedd a byddinoedd Iôn,
Ddinystr yr anwir ddynion.
Neu, f'allai, gwel cyfeillion - i mi beth Mwy ei bwys; - ' e ddichon
Y gwelant, yn dristgalon, -wneuthur bedd I mi i orwedd yn mhlith y meirwon.
Brau yw oes, bèr yw ei hynt; -ein dyddiau,
Nid eiddom ni ydynt:
Mae ar ol ddydd mawr ei hynt, -ceisir gan Duw ei hunan beth wnaed o honynt.
Ar fyw ein heddyw'n feunyddiol, -hongian Mae ein tynghed fythol;
Ac heddyw, o'r tragwyddol,
Atto, ni ddaw etto i ' nol.
Y bannod, yn nybenion
Ein creu ni, oedd caru'n Iôn, Ymorwedd mewn hedd a mwynhad —- arno,
A gweini iddo ei ogoneddiad.
Draw aethom, hyd yr eithaf, Yn ol am ogoniant Nâf; Haeddu ei lid tragwyddol Oeddem ni, heb ddim yn ol.



 

 

x163


Ond IESU, ' r Oen dewisol, -dan y llid,
Ai yn lle'r condemniol;
Y
fodd y cwpan dwyfol; -bywyd dwyf - ddelw A rêd, o'i farw, i'r edifeiriol.
Rhoi ein baich arno y b'om,
A byw iddo y byddom.
Ac fel hyn y cyflawna - y Flwyddyn Fawleddus ei chwylfa;
Ni erys ac ni wyra, -
-
Ar ei thaith yn un gwyrth â.
E'wnaeth IoN mewn doethineb -holl anian,
Mae'n llawn o gywreindeb;
Mawr ydyw ei hamrywdeb,
Er hyny'n un dernyn, heb, Wendid, nac anghysondeb, -no methiant, Drwy'r maith anfeidroldeb;
Bywyd, ild, a bodoldeb - a'u treiddiant, Duw a'i ogoniant a doä'i gwyneb.
Yn llaw Iôn enwog y mae'r llinynau I arwain anian drwy'r disglaer nenau; A chywrain amarwain y tymhorau, Ar eu hwyl beunydd drwy yr Albanau; Daw o'i wyddfod y deddfau, -sy'n buan, Ail - fywhau anian, a'i holl elfenau.
Rhoed anian o dan ei deddf, ( Peidiai heddyw pe diddeddf. )
Dwyddeddf a roddwyd iddi, —yn y rhai'n
Mae'r gwres a'r goleuni,
Gronyn, defnyn, llwchyn, lli,
Ac eigion yn ysgogi.
Iddyn ' hwy'n ufydd, drwy'r werdd ne'n hofian,
Y mae milfiloedd o seroedd seirian;
Yn eu gafael yn gyfan, —sai'r Cread-
Pwys a thyniad wnant hapus waith anian;



 

 

x164



Planedau, lleuadau'n llu ehedan '
O amgylch eu heuliau golau gwiwlan; Tra hwythau'n troi weithian, -mewn cyfanfyd, O wybr - fywyd o gylch rhyw brif huan.
Bythfywiog yw'r ysgogiad,
Berthyn i bob mymryn mad;
Yr ysgogiad hwn yw bywyd, -eofn Defnydd y cyfanfyd
A'i nerth oll, ar waith o hyd,
A'i nwyf a'i yni hefyd.
Enaid bythweithgar anian,
Yw'n mysg ei helfenau mân.
Nid yw anian lân, a'i haml - luniau ― heirdd, Na'i holl weithrediadau,
Ond amryweddiad ei hysgogiadau, — Cyfuniad, neu ymraniad mymrynau; Addfwyn i ryw dragwyddol ddeddfau, -gynt A roe ' Duw iddynt yn nechreu dyddiau.
Wedi'n daw'r cyfnewidiadau - sy'n ngwedd, Neu sy'n ngwaith tymhorau,
Drwy newid rhai o'i nwyan; —un nwy ball, Fe sai ' arall i fwy o fesurau.
Yn y mwyn Wanwyn, er maeth,
Ulai weithreda'n helaeth.
Drwy'r Hâf crâs a'r Hydref crin, gweithio'n chwai,
Wna'r Ufelai a'r heinif Ulwin.
Yn y Gauaf i'n gwywaw, Awyr ddig y blorai ddaw.
Ni ddeall ofydd y llafur, -na'r oll
Offerylliaeth natur;
Credwn nas gall creadur
Dd'wedyd pwnc sy'n dduwdod pur.



 

 

x165



Nid damwain yw'r pedwar tymhawr, —na dim Ond Duw dad yn agawr,
Noeth fwrdd ei Ragluniaeth fawr, -gan neshau I dori eisiau y byd a'i drysawr.
Ei allu sydd, fel ei ' wyllys, -i'w wel'd Yn ei waith, yn tywys
Miloedd o fydoedd a'i fys, -hyd lwybrau, Yr uchelderau a'r chwyliau dyrys.
Gwelir ei ddoethineb gwiwlwyd - a llawn,
Yn llwyr gyfaddasrwydd
Pob gwrthddrych sadwych, i'w swydd — a'i ddyben, Trwy'r ddiwair wybren - trwy'r ddaear ebrwydd. Duw dad, yn gariad wedy'n, -ymesyd
I gymhwyso'i ddichlyn Hollwaith, er cynal dillyn
Fywyd a dedwyddyd dyn.
Diolch it ', DDuw y duwiau, -wyt Awdwr
A gwir Roddwr ein holl drugareddau.
Gogoniant a moliant mwy,
A chlod i'r anchwiliadwy DDUW IÔR, trwy'r holl ddaearen Yr un fath a thrwy'r nef wen.
Y SEREN OGLEDDOL.
GWYLAIDD ar y Gogledd - orwel, -gwena Mewn gogoniant tawel: Teithiwr a gwiliwr a'i gwel, Drwy y nôs, draw yn isel.
Mawrwerth gynt i'r morwr - i'w arwain, oedd,
Lawer nôs ddigyflwr,
Pan nad oedd uwchben

dw'r
Gwmpawd, nec yntau'n gampwr.



 

 

x166



ENGLYNION
AR
FARWOLAETH WILLIAM A THOMAS, DAU O FEIBION MR. JOHN A MARY SMITH,
Wallace Newydd, Gwaunvo, Caerdydd, Morganwg.
Bu WILLIAM farw Gorphenaf 21, 1863, yn ddwy flwydd a naw mis oed. Bu THOMAS farw Gorphenaf 28, yn wyth mlwydd oed. Fe'u claddwyd yn mynwent y Groeswen.
AETH ymaith WILLIAM & THOMAS — o'u gwae, I le gwell na'r Walas *;
Nid â yno, i'w dinas,
Boen na chur, na bai na châs.
Duw alwodd, uwch pob dolur, -i'w wydd fry,
Y ddau frawd eneidbur, -
Yr un mis, drwy'r un mesur,
I'r un bedd, a'r un ne ' bur.
Dau fychain roed, wedi afiechyd - byr, Mewn bedd, nid bedd dybryd, Ond - y bedd sy'n newid byd Y dyoddef yn ddedwyddyd.
Er hyn, o fawr wirionedd, ―awr o ing Na ŵyr iaith ei chwerwedd, Oedd awr eu rhoddi i orwedd, Ill dau fach, i'r un llwyd fedd.
Rhy anhawdd i'w rhieni -- duwiolion Beidio wylo'u colli:
Mae natur bur i'w beri, —
Wylodd Iôr pan alwodd hi.
Na wylwch chwi'n gnawdol, ' chwaith, ―ar eu hol,
Megys rhai heb obaith;
Byw welwch eich meib eilwaith; Diau ffydd sy'n gwel'd y ffaith.
* The name of their residence.



 

 

x167



Tawel dan bwys eich tywydd ― y rhodioch,
Gweithredu er cynydd
Gras, profiad, mawl, y sawl sydd
Yn caru Duw, mae cerydd.
Da i ni yw dweyd, O, NER- ( er penyd, Er poen, a gorthrymder ), Dy ' wyllys uwch dy holl sêr, A than haul fyth a wneler.
Duw, o gethin brofedigaethau - blin, Ddwg ei blant yn ddiau;
Os dyoddef cystuddiau, Byr o hynt y cânt barhau.
Y purwr, wrth ein peiriau, -yw ein TAD: Nid hŵy, dan effeithiau
Y tân, cawn fod, na'r tònau, Na gwelo NER ein glanhau.
Rhedeg ar ol rhyw gariadau ― ydym, — Gadael Duw y duwiau:
Pa wall yw hyn! Rhaid pellhau Eulunod ein calonau.
I ni weithion mae Rhagluniaethau - nef, Dan niwl a chymylau:
Dû nos sydd, ond yn neshau, I'w gweled, mae dydd golau.
Llewelyn, y Llyw Olaf.
TEILWNG " DYWYSOG olaf " ein talaeth, Ydoedd LLEWELYN AP GRUFFYDD odiaeth: Yma yr huna, ond mae ei wroniaeth A'i fawl yn aros byth, fel ein hiraeth; Ow! i Walia'i farwolaeth - fu'n dranc ar Ei henw, a'i baniar, a'i hannibyniaeth.



 

 

x168



Dylanwad Addysg Fareual ar y Eymeriad.
Y MAE y byd, erbyn heddyw, yn canfod yn eglur, fod y syniadau hyny a goleddid gan rai o athronyddion enwocaf yr oesoedd, mewn perthynas i effeithiolrwydd a dymunoldeb addysg foreuol, yn gywir ac uniawn; er fod rhai enghreifftiau ar gael o ddynion wedi dyfod yn enwog mewn dysg a gwybodaeth wedi iddynt gyrhaedd cryn oedran; etto, os ydym am i'r addysg a weinyddir i fod yn arosol, dylanwadol a llwyddianus, rhaid iddi fod yn un foreuol; ie, yn yr amser manteisiol hwnw pan mae y meddwl yn ddigon hyblyg ac ystwyth i'w ogwyddo a'i droi i'r cyfeiriad a fynir; a'r galon yn ddigon iraidd a thyner i dderbyn argraffiadau, nas gall amser nac un amgylchiad eu diwreiddio na’u dileu.
Mae PLUTARCH yn sylwi fod yr egwyddorion a argreffir gan addysg foreuol ar y meddwl, yn parhau yn gadarn ac ansigledig, fel pe byddent wedi eu sylfaenu ar ryw ymsyniad - rhyw argy- hoeddiad mewnol, ie, hyd y nod ar yr ewyllys.
Ac fel ag y mae ROLLIN yn sylwi, fod gwersi addysg foreuol, pa rai sydd yn dechreu, yn mron, cyn gynted ag y genir y plentyn, yn tyfu i fynu gydag ef - yn casglu grym, ac yn gwreiddio yn ddwfn; ac yn fuan, yn passio o'r cof a'r deall i'r galon; ac yn feunyddiol yn cael eu hargraffu ar ei foesau, nes dyfod megys yn ail natur iddo, ag yn beth ag sydd bron yn annichonadwy ei gyfnewid.
Mae QUINTILLIAN hefyd yn sylwi fod yr hyn a ddysgir yn moreu'r oes, yn hawdd i'w argraffu ar y meddwl, a'i fod yno yn gadael nodau dyfnion ar ei ol, —yn gyfryw ag nas gellir yn rhwydd eu dileu: Yn gyffelyb i lestr, yr hwn a geidw yn hir, liw yr hylif cyntaf a dy- welltir iddo; ac fel gwlan, yr hwn ar ol iddo unwaith gael ei liwie, ni ellir fyth ei adferyd i'w wyndra cyntefig.
Mae cydmhariaethau y bardd hefyd yn arddangos hyn gyda llawer o brydferthwch a phriodoldeb. Ebe fe: —
“ Y ddawn, neu'r ddeddf, neu'r reddf roes
Freniniaeth foreu'n heinioes,
Yw'r egwyddor, gwreiddia
Drwy'n hoes, a ddeil deyrnas dda. "
Ac yn mhellach, —
" Y winwydden a nyddir
Ac, ebe awdwr arall, —
Yn ieuanc iawn ac yn îr,
Pan êl yn hên gangen gu, Ni oddef ddim o'i nyddu. "
" " Tis education forms the common mind,
Just as the twig is bent, the tree's inclined. "




 

 

x169

Gofynodd mam bryderus unwaith i offeiriad, pa bryd y dylasai ddechreu addysgiaeth ei phlentyn, gofynodd y gwr parchedig iddi, beth oedd oedran ei phlentyn ? I'r hyn yr attebodd, mai pedair blwydd. " Wel, Meistress, " ebe yntau, " yr ydych wedi colli tair blynedd eisoes. Gyda'r pryd y gweloch y wên gyntaf yn ym- lewyrchu hyd ruddiau eich maban, y mae eich cyfleustra chwithau yn dechreu. " Ac fel y sylwodd awdwr Seisonig arall, " Education does not commence with the Alphabet, it begins with a mother's looks - with a father's nod of approbation, or a sign of reproof- with a sister's gentle pressure of the hand, or a brother's noble act of forbearance; with a handful of flowers in green dells, on hills and daisy meadows; with a bird's nest, admired, but not touched; with creeping ants, and almost imperceptible emmets; with hum- ming bees, and glass bee - hives; with pleasant walks in shady lanes; and with thoughts directed in sweet and kindly tones and words, to nature, to beauty, to acts of benevolence, to deeds of virtue, and to the source of all good - to God himself. "
Yr ydym dan rwymau mawr i ymdrechu argyhoeddi dynion ieuanc yr oes sydd yn codi, mai meddwl diwylliedig, egwyddorion da, a moesau teilwng, a defnyddioldeb, yw yr elfenau a gyfan- soddant y safon wrth ba un y mae urddasolrwydd neu respect- ability pawb i gael ei benderfynu. Peth o bwys yn marn pob dyn synwyrol yw dysgu moesgarwch i ieuenctyd yr oes, fel y gallont wybod pa fodd i ymddwyn yn foneddigaidd ac anrhydeddus yn ngwahanol gylchoedd cymdeithas. Mae priodoldeb mawr yn syl- wadau LOCKE ar y mater yma. Ebe fe, - " Virtue and talents, though allowed their due consideration, yet are not enough to procure a man welcome wherever he comes. Nobody contents himself with rough diamonds, or wears them so. When polished and set, then they give a lustre. "
Addysg a gynorthwya yr oes sydd yn codi i gyrhaedd mwynhad meddyliol. Camdybia rhai o ieuenctyd ein gwlad fod dedwyddwch i'w gael mewn myglys, cwrw, campiau, a phethau ereill; eithr addysg a'u harweînia hwynt gerfydd eu dwylaw oddiwrth ddyfroedd lleidiog difyrwch ffol, ac oddiwrth y pethau nad ydynt yn digoni, at elfenau gwir fwyniant.
Addysg a rydd waith priodol i feddyliau dynion, a thrwy hyny effeithia yn ddymunol ar eu moesau. Meddwl yw tad y weithred, ac y mae delw y blaenaf ar yr olaf. Nid yw budredd amgen na dangoseg o sefyllfa y meddwl. Absenoldeb goleuni yw tywyllwch; absenoldeb bywyd yw angau, ac absenoldeb gwaith meddyliol yw llygredd meddwl. Rhaid trin tir a'u hau cyn cael gwenith ynddo, ond fe gynyrcha ddrain a mieri, heb wneyd dim iddo; felly y meddwl, rhaid ei ddiwyllio os am gael ffrwyth ynddo; eithr y mae drygioni ynddo yn barod, fel nad oes angen aredig nac hau,



 

 

x170



Dywed swynyddion wrthym, eu bod hwy o dan rwymau i roi gwaith i'r cythreuliaid a fyddont yn eu codi, ac onide y cânt eu llarpio ganddynt; felly'r meddwl, os na chaiff waith priodol, y cythraul gwaethaf o bob cythraul ydyw. Gan fod cymaint o lygredd oddifewn, nid rhyfedd fod cymaint o ddiffygion mewn moesau; mae'r ffrwd o'r un natur a'r ffynonell, a'r ffrwyth yn cyfranogi o ansawdd y pren.
Mae'r meddwl, yn ol deddfau ei gyfansoddiad, yn rhwym o lafurio ar rywbeth; ac mae cysylltiad annattodadwy rhwng natur ei weithrediadau ag ansawdd y cymeriad. Mae addysg dda yn ei ddwyn i fyfyrio gwrthddrychau teilwng o urddasolrwydd ac anfarwoldeb ei natur: o ganlyniad, mae diwylliad meddyliol yn rhagflaenu diwygiad mewn arferion, ac yn gynorthwyol i wellhad mewn moesau. Nid yw meddyliau yr ieuenctyd a ddysgir yn briodol, mor agored i ddylanwad temptasiynau a phrofedigaethau, ag eiddo yr anwybodus.
Mae addysg yn cynorthwyo y dyn i ffurffo barn gywir am bethau. Nid yr un farn a ffurfia efe yn mhob cyfnod o'i oes - yn blentyn, yn llanc, ac yn ddyn; ac mae yn rhaid i newidiad barn ragflaenu newidiad mewn moesau, rhaid agor y deall, cyn enill y galon a'r ewyllys. Llenyddiaeth a symud y llen â pha un y mae llygad y gwr ieuanc yn orchuddiedig, -cyfynga derfynau blys, ac eanga ymerodraeth rheswm: bendithia yr ansefydlog â sefydlog- rwydd meddwl, fel na fyddo yn debyg i geiliog gwynt, yn ymddi- bynu ar drugaredd y gwynt ac ewyllys yr elfenau.
Wel, bellach ynte, pwy sydd yn fwyaf neillduol i ddysgu yr oes sydd yn codi. Diau mai un o'r dyledswyddau gorphwysedig ar rieni yw dysgu eu plant mewn pethau da, gan fod Duw yn gorchymyn iddynt hyfforddi eu hanwyliaid yn mhen eu ffordd, a'u haddysgu yn addysg ac athrawiaeth yr ARGLWYDD. Gorphwysa y ddyledswydd hon mewn modd neillduol ar y fam, o herwydd ganddi hi y mae y cyfleusdra cyntaf i ddylanwadu ar y rhai bychain; ganddi hi mae y cyfleusdra i blanu llysiau rhinwedd yn ngardd y meddwl, cyn y byddo i ddrain a mieri pechod wreiddio a thyfu ynddi. Medda fynychach a rhagorach cyfleusdra na neb arall; mae'r fam yn agos pan fyddo pawb yn mhell, ac yn ei meddiant hi mae'r a'lwedd i ddadgloi calon yr un bach; braidd na ddywedwn, fod plentyn, i raddau helaeth, yr hyn y chwenycho ei fam iddo fod. Õ! famau! mae eich gwaith yn bwysig a'ch cyf- rifoldeb yn fawr!
Wrth ddarllen hanes gwahanol gymeriadau yn yr Ysgrythur, awgrymir fod a fynasai y fam à ffurfiad y cyfryw gymeriadau, canys dywedir- " Ac enw ei fam ef oedd, " & c. Yr hyn a ddengys fod yr YSPRYD GLAN yn bwriadu ein dysgu fod a fynasai mamau y personau a ddarlunir à ffurfio y cymeriadau darluniedig. Yr oedd




 

 

A page of a document

Description automatically generated

x171


MOSES, SAMUEL, SOLOMON, a TIMOTHEUS O dan lawer o rwymau mamau am yr enwogrwydd a gyrhaeddasant ar dir rhinwedd a chrefydd. Wrth ddarllen bywgraffiadau hên a diweddar, can- fyddwn nad oes ond ychydig iawn o ddynion wedi dringo i binacl defnyddioldeb a pharch, heb fod rhyw fawredd deallol yn nghym- eriad eu mamau. Sefyllfa bwysig yw eiddo y fam yn ei pherthynas â'r oes sydd yn codi. Mae rhieni yn arwain eu meibion a'u merched naill ai i ddedwyddwch neu i drueni amserol a thragwy- ddol. Gan hyny, O, rieni anwyl, " Pa bethau bynag sydd wir, pa bethau bynag sydd onest, pa bethau bynag sydd gyfiawn, pa bethau bynag sydd bur, pa bethau bynag sydd hawddgar, på bethau bynag sydd ganmoladwy: od oes un rhinwedd, ac od oes un clod, meddyl- iwch am y pethau hyn. "
Υ
PRYDDEST
AR
MYNYDD.
CYNWYSIAD. - Y " Mynydd, " neu y Pyramid dwyfol, yn gyfryw ag nas gallodd saerniaeth Sinar na gwlad yr Aipht gynyrchu dim yn gyfartal, Ei gadernid, ei ardderchogrwydd, a'i henafiaeth. Ei berthynas a chwyldroadau elfenol y cyfnodau daearegol. Yn ddyfrgist fawr y dyfroedd croew. Mynydd- oedd Switzerland. Y Pegwm Gogleddol. Y Llosg - fynydd. Mynydd Moriah -Carmel - Sina. Mynydd y gweddnewidiad - Calfaria. Mynyddoedd y Poethgylch. Mynyddoedd Gwalia. Y mynydd yn y pellder. Arddunedd ac ysprydolrwydd y mynydd. Dylanwad ac effeithiolrwydd ei ddystawrwydd a'i unigedd. Ymneillduad hwyrol IESU i'r mynydd. Mynydd yr Olewydd. Enwogrwydd, cysegredigrwydd, tangnefedd, prydferthwch, a hyfrydwch y mynydd, a dymuniadau hiraethlawn y bardd yn eu gwyneb. Diweddglo.
BYRAMID dwyfol! mor gadarn yw'th sail!
Mor uchel yw'th gaerau! llaw dyn ni wna'th ail; Ni welodd bro Sinar, na'r Aifft gyda hi,
Na chelf na dychymyg, dŵr tebyg i ti.
Fel bardd uwch ei farwnad, wyt ddifrif dy wawr,
O'r gloewon wybrenydd yn edrych i lawr,
Ar fyd odditanat yn myn'd ar ei hynt-
Efe yn cyfnewid, ond ti megys cynt;
Ti welaist dranc oesoedd - wyt yna erioed, * A'r nen ar dy ysgwydd, a'r byd wrth dy droed!
* Ni feddylir ond cyfnod hir.
Guel dros - v5



 

 

x172



Ucheldir cribog, caerog, certh, nid dim ond nerth anfeidrol, Fel hyn, a'th gododd di'n un talp, a'th wneyd yn Alp tragwyddol; O! pwy a welodd fraich ein HIÔR, yn rhwygo'r môr cyntefig, * Ac agor ffordd i'th ddwyn i'r lan o'r dyfnder anweledig ? Cofgolofn goffadwriaethol wyd, a roed uwch llwyd weddillion, † Cofnodau y gorphenol pell, y'nt yn dy gell yn feirwon! O'r mwyniant ar y mynydd, Geir i'r olrheingar fryd, Ogwyddo glust y galon I wrandaw'r creigiau mud; Yn traethu helynt anian- Bywgraffiad llawer byd, Pan nad oedd y gorphenol Ond baban yn eu grud!
Llef ddystaw craig y mynydd
A adgyfoda'n fyw, Hên ryfeddodau'r ddaear, Nas gwelodd neb ond Duw! Pan hwy'r cyntefig foroedd O dan dywyllwch du, Ac amser megys milrith, Yn gorwedd yn eu bru!
Ti, sedd y cwmwl gwelw, Lle mae yr hwyr yn marw! Yw tad y dyfroedd croew; O'r ffynon lonydd, loew,
I'r ffrwd chwareus, hoew,
Sy'n llifo heibio'n dôr:
O'th ddyfrgist di daw'r gornant,
A hithau'r afon grisiant,
Fyn chwareu'i thelyn ariant
Wrth fyn'd i lawr drwy'r glasbant,
Nes unir sain ei moliant,
Yn nhraethgan fawr y môr!
* Primeval seas. † Fossil remains. The past.




 

 

x173

Fynydd uchelgyrch,
Y creig crwm, anhygyrch,
Lle'n gwneuthur ei nyth-
Mae'r eryr amrosgo,
Ac esgyn oddiyno,
I'r huan yn syth;
Arnast arddanedd,
Gogoniant a mawredd,
A erys hyd byth.
Drwy'th dywyll ogofau, A rhwng dy gilfachau,
Y murmur y gwynt;
Drwy dy ddyffrynau,
Sy ' dan dy geseiliau,
Daw'r ' storm ar ei hynt,
Dan ruddfan a rhuo
Ei hên oratorio,
Yn awr megys cynt.
Dros dy greig - lethrau
Y llama'th raiadrau,
I'r dyfnder yn syn;
Tra ar dy ystlysau
Y mae niwl
y
borau
Yn pwyso'i ben gwyn;
A'r avalanche enbyd,
A ddinystr bywyd,
Sy'n bwgwth y glyn.
Fynydd y Gogledd *!
Wyt lwyr anghyfanedd, -
Wyt brudd fel y bedd;
A'th ben dan yr eira,
A'th goryn i'r gaua '
Tragwyddol yn sedd;
* Arctic regions.



 

 

x174



.
Tra'r rhew ar dy fynwes, Fel hunllef anghynhes,
A'r nos ar dy wedd!
Oleuui Gogleddol, +
Awyr - lamp frodorol,
Wyt hawddgar a thlos;
Saf fyth yn yr entyrch:
Chwanega o'th lewyrch,
I wlad

faith nôs.
LOSGFYNYDD cynhyrfus, cynhyrfus ofnadwy, Tydi mewn gwirionedd wyt " fynydd teimladwy; " Och'neidi, griddfeni, i lawr yn y dyfnder, Fel pe bai dy yspryd mewn poen a chyfyngder. O, grochan berwedig! O, lynclyn diwaelod! O'th fewn y mae dystryw, o'th faes y mae difrod; Ai ynost mae " gwynt yr anialwch " yn deffro ? Ai arnast mae ' stormydd y byd yn byddino ? Ai ti ydyw lloches y mellt a'r taranau ?
Neu beth ydyw'r achos o'th fawr gynhyrfiadau ?
Losgfynydd erch! ai ti sy'n creu'r daeargryn ? A ydwyt i'r terfyngylch draw yn estyn Dy danllyd wraidd o dan welyau'r moroedd, Ac oddiyno'n siglo seiliau'r cyfandiroedd ?
Y mwg o'th ben a chwythu'n gwmwl tewddu, Tra gwreichion drwyddo'n erchyll ysgymygu; Ac ' nawr ac eilwaith, drwy y ffrwydrol drochion, Ac megys coch - dafodau yr ellyllon,
Fflam ar ol fflam ymsaetha'n wyllt a digllon.
O, ryfedd byth mae'r mynydd broch yn saethu Creigiau o dân o'i grombil poeth i fyny, Nes fflamio'r nef, a llwyr oleuo'r fagddu,
* Aurora Borealis.




 

 

x175

Clywch! grem sy'n canlyn grem, a tharan daran; Oh! dacw'r tanllyd fôr yn chwyddo allan; Ah! wele hwy, breswylwyr godreu'r mynydd, Lle chwifiai'r ŷd, lle frwythai'r cynar winwydd, Yn awr bob un yn dianc am ei einioes;
Ond, Och! mae aml un o dan y dinystr eisioes. Ymruthra'r llosgwy suol, poeth, berwedig, Fef afon chwyddfawr, gref o blwm toddedig, I lawr hyd ochrau'r mynydd tanllyd, eirias, A'i ogwydd at y dynghedfenol ddinas; Ffoi ffoi mae pawb o honi am y cyntaf, A'r dinystr ar eu hol, cyflymach na'r cyflymaf! Mae'r ddinas fawr a hardd yn dechreu berwi, A'r môr tawdd, poeth yn chwyddo'n bentwr drosti; Pwl ydoedd hi o'r blaen gan dawch a mwlwg, Ond ' nawr hi aeth am byth yn llwyr o'r golwg! Bu'r losgwy'n dranc a bedd yr un pryd iddi; A phwy, yn wir, all beidio wylo drosti ? Anghyfanedd - dra llwyr sy'n toi'r holl ardal, A phrudd - der trwm, fel prudd - der nôs yr anial.
Wybrendir certh! mae'th hanes di yn llwythog O'r hyn sydd fawr, rhyfeddol, ac ardderchog; Gwna sain dy enw i'r darfelydd dramwy, Yn mhlith y certh, yr uchel, a'r ofnadwy!
MORIAH - tir y brofedigaeth danbaid,
Lle profwyd cadarn ffydd tad y ffyddloniaid; A CHARMEL fawr, y bryn nef - arddeledig; Gwnaed arnoch gynt weithredoedd tra mawreddig.
Ac arno yntau, SINA serth, amlygwyd nerth JEHOVAH, Pan, gyda thwrf a thymhestl gref, y daeth o'i nef orseddfa, Gan ddisgyn ar ei gopa gwyrdd, i ddysgu ffyrdd uniondeb, A'r ddeddf dragwyddol yn ei law, a'r byd mewn braw'n ei hwyneb.



 

 

x176



Rhyfeddol oedd y dwyfol arddangosiad A welodd mynydd bach y " Gweddnewidiad. "
Ond, Ti! Tydi! Tydi! CALFARIA fynydd! Enwocaf wyt o fryniau yr holl wledydd, Can's arnat y cyrhaeddodd rhyfeddodau Pob byd, pob peth, eithafoedd eu terfynau. Ah! arnast ti y gwelwyd y CREAWDUR Yn dioddef o dan ddwylaw ei greadur! Bywyd pob rhyw fywyd yno'n marw, A bywyd i'r difywyd drwy dranc hwnw! Yn wir, drwy'r weithred fawr a rhyfedd hyny, Hyd byth y bydd Rhyfeddol yn rhyfeddu! Ti, fynydd tàl, cynyrchus froydd y Deau, Rhyfeddol yw'th wahauol wynebweddau: Hyfrydlawn Hâf, a'i ogoneddus Flora- Oer Auaf prudd, a'i wisg o rew ac eira- Mwyn Wanwyn gwyrdd, a'i newydd fywyd tyner— Ac Hydref wyw - geir arnast ti ' r un amser!
O, Fynydd Gwalia fwyn - awelog, desog, dwyn; Lle mae Tangnefedd yn gwneyd ei chartref, A hithau'i gorsedd - Swyn.
Wyt gysgod bendigedig i'r bwthyn gwyngalchedig Sydd yna wrth dy droed;
Mor felus ac mor ddedwydd y cwsg ei flin breswylydd, Yn swn chwa fwyn dy goed. "
Cusana'r cymylau, dy heulog wefusau, Wrth fyn'd ar dy hynt;
Dy dyner adenydd gysgodant y gweunydd, Rhag difrod y gwynt.
Rhywiogi'r elfenau, trysori'r cafodau-
Dy ddyfroedd sy ' râd;
Egori dy drysor i gelf ac i wyddor, A masnach pob gwlad.



 

 

A close-up of a poem

Description automatically generated

x177


O wyrdd fynyddoedd y deadelloedd,
A'r lluoedd milod llon;
Pawr, gwellt, gwair, gwenith, a blodau'n dewfrith, Sy'n Edeneiddio'ch bron:
Mae'ch heirdd lechweddau fel dringwelyau, Crogerddi Babi - lon!
Tragwyddol goffrau y main a'r mwnau, Ddiwallant oesau hir:
Costrelau llawnion y ffrydiau gloewon
Sy'n disychedi'r tir.
Fryniau cyfeillgar! mor hynaws, mor hawddgar, Yw'ch gwedd yn y nen;
Mae'r wawrddydd a'i manna, a'r haul a'i Shechinah, Fyth, fyth ar eich pen.
Ddidoledig, dawel, dyner
Fynydd sy'n y pellder draw; Os nid ef yw teyrnas gwynfyd, Dwed ei wrid ei bod gerllaw. Hyfryd i'm f'ai dringo'i lethrau, Melus i'm f'ai rhoi fy nhroed,
Ar lanerchau'i nen dihalog, Lle ni sangodd trais erioed.
Yno hed yr awel heibio-
Seiniau Rhyddid leinw'i chân; Minau'n yfed o'r bendithion, Yn y deyrnas newydd, lân.
Oddiarno'r terfyngylchoedd Ymestynant o fy mlaen, - A chyfandir glas y nefoedd, Fwyfwy'n myn'd o hyd ar daen.
Hithau'r ddaear yn dadlenu,
Ei heirdd olygfeydd islaw: Minau'n canlyn y prydferthwch,
Hyd nes palla'r olwg draw.



 

 

x178



O dderchafedig fynydd! Ei ben seintiedig ef; Sydd yn cysylltu'r ddaear, A thiriogaethau'r nef.
Dan bwys ei ddwys arddunedd, Pan megys rhwng dau fyd, Ein holl ysprydol natur
Sy'n cael ei chasglu'n nghyd, I gylch o addolgarwch— Ac i gymundeb ban,
A'r yspryd mawr, tragwyddol, Sydd yn cysgodi'r fan.
Yno, dan y dwfn ddystawrwydd, Ca'r ysprydol sy'n ein dawn; Neu y dwyfol sy'n ein natur,
Le i ymddadblygu'n llawn.
Fe aeth ein HIESU mawr,
Ar lawer hwyrol awr,
I ben y mynydd;
Ac yno'n nystawrwydd dihalog y nos, Tra'r hunai Caersalem, a'r gwlith ar ei rhôs, Yn fynych - hyd oni thywynai'r wawr, dlôs, Ar frig yr Olewydd.
Caed ef yn dal cyfrinach ber â'r TAD, Ac ail - wregysu'i ei hun a dwyfol nerth, I weithio gwaith yr Iachawdwriath rad; A pha ryw angel ŵyr pa faint oedd gwerth Addasol, y neillduad nosawl hwnw, Ar gyfer gwaith ei Iawnol fyw a'i farw ?
O! mor gysegredig ydyw
Santaidd fryn yr olew - goed
Er pan ar ei lethrau tawel,
Rhoddes Ceidwad dyn ei droed:



 

 

x179


Mae'n enwocach - mae'n brydferthach-
Mae'n anwylach nag erioed.
O! Fendigedig " Fynydd, " Wyt gysegredig iawn; Dy ddaear wnaed i dduwiau ' R ysprydoledig ddawn.
I'th nenau claerwyn uchod, -
-
Lle'r ffrydiau gloewon dardd-
Sy'n llawn o fywyd awen,
Yr âi'r cenedlig fardd.
Bu ar dy ben brophwydi, A phatriarchiaid gwiw; Yn dal cymundeb mynych Ag engyl, ac a'u Duw.
Bu santaidd demlau Zion, Gynt yn addurno'th ben; A fflam eu llwys allorau, Yn hir oleuo'th nen.
Bu sain dy gan a'th foliant Yn tori dros y tir; A'r Dwyfol ogonianau
Yn dy gysgodi'n hir.
O'r heddfwynhaol " Fynydd, "
O! ryddanadlog dir; Lle cerdd yr awel iachus, Lle chwery'r haulwen glir;
Ti bia gusan cyntaf
Y santaidd foreu - wawr.
A chusan ola'r haulwen,
Wrth fyn'd mewn hedd i lawr.
A'th gwsg yn mhorth y nefoedd, A'th glust yn llawn o'i si;



 

 

x180



O! pa mor wynfydedig Yw'th heddfreuddwydion di ? A phan daw'r awel heibio I dori'th drwmgwsg pêr; Dihunir di i wrandaw,
Peroriaeth myrdd y sêr!
O! na chawn ninau glywed,
Yr hên dragwyddol gerdd,
Fel sŵn telynau lawer,
Sy'n myn'd trwy'r wybren werdd: O! " Fynydd " gad im ' esgyn
Ar hyd dy risiau di,
I mewn i'r ardal hyfryd,
Lle byth y cenir hi.
Fynyddoedd byd! weledig wirioneddau! Beth ydych, oll, ond un o'r myrdd llyth'renau Sy'n cyfansoddi enw mawr y DUWDOD— Yr enw sy'n rhy fawr i iaith a thafod! — Mud ydych oll, ac etto'n hyawdl draethu Ei fawr ddoethineb Er, a'i gadarn allu; Parhewch hyd fyth i ddadgan ei ogoniant, Ac uned dyn ei sain yn ngherdd eich moliant.
YR HINWYDR. ORACL hin yw'r Hinwydr clau, -a gwas- Y gwynt a'r cymylau:
Mud, awyrnwyd brophwyd brau
Y tywydd yn ein teiau.
Y
CWMPAWD.
Y GOGLEDD purwedd yw pwynt - bys campus Y Cwmpawd, -un tynbwynt; Trwy effaith hwn y tri - phwynt Ercill geir, a'u holl gâ * hwynt.
* Enelosure.




 

 

x181

 OFN.
Orn yw'r daemon; mewn dyn, pan ymeifl, I dd'ryswch, cyfyngder, a chryndod a'i teifl: Fe ruthra drwy'r fynwes, fe esgyn i'r wedd Yn welw fel angau, neu'n fud fel y bedd. I'w deyrnas, pan ddaeth, yn Eden, e ' wnaeth I'r ddeuddyn oedd yno i ' mguddio yn gaeth O wyddfod eu Duw, —ei wreiddyn mewn rhyw Euogrwydd neu gilydd sydd beunydd yn byw: Euogrwydd cydwybod -- ei hanfod efe yw.
Mae'n mynych ymsymud yn yspryd y nôs, Ac weithiau'n preswylio unigedd y rôs: Mae yn byw yn yr erch, a'r peryglus, gerllaw; Mae yn d'od gyda sŵn y gorthrymder o draw; Fe glywir ei lef yn nharan y nef, Yn nhwrf y rhyfeloedd, a'r dymhestl gref. Ond, Oh! mae ei wedd, yn ymyl y bedd Yn ddu ac ofnadwy, -yn deyrn ar ei sedd, Uwch randir marwolaeth - y fro dywell, gerth- Fyth, fyth mae'n teyrnasu yn mawredd ei nerth.
Os marw sydd syriad a ddichon ei greu, - Ffydd, hithau sydd allu a faidd ei ddileu; Mae bywyd mewn gobaith, goleuni mewn ffydd, A dry " gysgod angau " yn dêg oleu dydd. Ofn sydd flin, eithr pan fyddo'n trin
Ei wrthddrych, a'i gadw rhag rhyfyg, mae'n rhin; Y Cristion - efe, heb wyro o'i le,
Rhwng ofn a gobaith - sy'n ymdaith i'r ne '.
ANGORFA
PENARTH.
Esmwythlawr, erfawr Anghorfa! -llongau'n Llengoedd gysgant yma;
O ' stwr mawr y ' stor'm arwa,
Mae ' n lle a'u deil mewn llaid da.



 

 

x182



Y
DYN
BALCH.
ei
Yn mhlith yr holl wahanol gymeriadau ag sydd yn gwneuthur i fynu y gymdeithas ddynol, nid oes un yn fwy gwrthun, adgas, ac annioddefol na'r dyn balch. Nis gwyr ddim beth yw " talu parch lle mae parch yn ddyledus, " ac ni fyn ar un cyfrif ymostwng i gyf- lawnu gweithred mor hunan - ddarostyngol, gweithred ag sydd i raddau yn cydnabod israddoldeb yr hunan anfeidrol hwnw ag y mae efe yn ei garu mor fawr ac mor anwyl. Nid yw, yn ei galon, yn cydnabod un awdurdod uwch nag ef ei hun. Anmharcha ei israddolion, dirmyga ei gydraddolion, ac eiddigedda wrth ei uwch- raddolion. Ni rydd barch ac ni cha barch; ac os ceisia ddangos y weithred o barch i arall, gwna hyny yn fwy mewn ffurf, nag oddiar egwyddor. Nid yw pa beth bynag a ddywedo ag a wnelo arall, yn deilwng o ystyriaeth, llawer llai o efelychiad; ond y mae pob peth a ddywedo ac a wnelo efe ei hun, yn dynesu at safon perffeith- rwydd, ac yn deilwng o efelychiad cyffredinol, ac awgryma, yn awr ac eilwaith, y bydd yn golled fawr i'r ardal, ac yn wir, i'r wlad yn gyffredinol, os na wneir ymgais at ddwyn ei olygiadau a'i gyng- horion ef i weithrediad; ac os metha cynllun neu anturiaeth un arall, ni fydd diwedd ar edliw yr ynfydrwydd a fu o beidio cydym- ffurfio a'i gyfarwyddiadau ac a'i gynlluniau anffaeledig ef. Ni bydd eisiau agor mynwes y dyn balch, er mwyn cael gweled beth
ᎩᎳ nwyd a'i egwyddor lywodraethol; na chwaith fyned yn rhyw agos iawn atto er mwyn cael ar ddeall beth yw ei foes a'i gymeriad. Na, y mae efe yn ddigon hawdd i'w adnabod o hir - bell; edrycher arno yn rhodio'r heolydd, a cheir gweled arwyddnodau balchder yn ar- graffedig ar bob ysgogiad ac ystum o'i eiddo. Gellir canfod ei ysbryd meistrolgar a thra - awdurdodus ef, hyd y nod, yn rhwysg ei gerddediad; a'i hunan - bwysigrwydd yn ei gamrau arall, sicrhaol a mesuredig; bydd ysgwydiad cwmpasog ei fraich yn dangos ei fod yn ddyn ag sydd yn caru gorchymyn a llywodraethu; bydd ei ben yn derchafu yn syth tua'r cymylau; edrycha yn sefydlog rhag ei flaen, ac ni thry ei lygad ar y de na'r aswy oddi- eithr er mwyn derbyn moesymgrymiad; ond, os ymddarostynga i edrych ar unrhyw arddangosiad a gyflwynir i'w sylw, tybia y bydd hyny yn fwy o anrhydedd i'r peth hwnw nag iddo ef ei hun bydd ei leferydd naill a'i yn bwysleisiol, yn swn - fawr ffwdanus neu dy- mhestlog; ei ymadroddion yn wrth - ddywediadol, sarhaus a myfiöl; a'i drem bob amser, naill a'i yn reserved, gwaharddol, diystyrllyd, neu dra - awdurdodus. Nid oes neb yn fwy ei ragfarn, ei spite, a'i ormes, na'r dyn balch; ni wyr ddim am rhyddfrydigrwydd, pe gellai caethiwai bawb i'r un golygiad, opiniwn, barn, a chynllun ag ef ei hun; myn i bawb dalu sylw, parch, ac ufydd - dod i'w gynghorion, ei orchymynion a'i benderfyniadau; ac os na wnant,
:



 

 

x183


gwisga wg, a cheidw ddygasedd yn ei galon, hyd oni chaffo gyf- leusdra i'w tywallt allan yn fân - ddialeddau am ben gwrthddrychau anffodus ei anfoddlonrwydd.
Nid yw y dyn balch yn gweled neb na dim yn gyffelyb idd ei hunan mawreddog: os cyfaddefa fod ambell un cystal ag ef, ni chred fod neb yn well nac yn uwch; neu os bydd yn rhaid iddo gredu hyny, eiddigedd a drwg - ewyllys tuag at y cyfryw rhai a fydd y canlyniad. Y mae pob peth ag sydd fawr, anrhydeddus, a rhagorol yn canolbwyntio yn ei berson goneddus ef; nid yw yn canfod gwerth, na phwys, na phriodoldeb mewn neb nac mewn dim, ond yn ei holl - ddigonol hunan. Gyda y fath hunanfoddhad y mae, yn fynych, yn gasglu ei holl ragoriaethau tybiedig at ei gilydd, gan eu harolygu yn ei feddwl, gwneuthur un delw ddych- ymygol, fawr a gogoneddus o honynt - syrthio i lawr o'u blaen a'i haddoli, a hynny gyda'r hyfrydwch mwyaf digymysg; yr hon hefyd a gyfyd efe i olwg y byd, gyda phob gair a ddylifo allan dros ei enau; a gwae fydd i lawer SHADRACH, MESECH, ac ABEDNEGO, na syrthiont i lawr, ac na addolont y ddelw a gyfododd. Un mawr ei dwrw a'i awydd yw y dyn balch am gydraddoli, gwastadhau, a lefelu cymdeithas; ond lefelu tuag i fynu, ac nid tuag i lawr, y mae efe yn ei chwenychu; tybia yn sicr y dylid, neu o'r hyn lleiaf, carai pe medrai, ddarostwng y swyddog, y pendefig a'r tywysog i lawr i'w lefel ef ei hun; ond ni thybia am fynyd fod eisiau ei ddarostwng ef i lefel y gwas, y forwyn, a'r errand boy. O na, lefelu ei uwchafiaid sydd arno ef ei eisian; a Ïlyfytheirio ei isafiaid, fel na allont ddringo yn agos i'w safle, neu ei sefyllfa ef. Y mae pob mudiad a phob anturiaeth, gan nad o ba natur bynag y byddont, yn gamsyniol, diles, a diamcan os na fydd llaw wedi bod ganddo ef yn eu cynlluniad; ac y mae holl swyddau, cymdeithasau, sefydliadau, deddfau, a threfniadau gwlad a theyrnas yn wrong, yn orthrymus, yn annuwiol, a melldig- edig i gyd os roddant y fantais leiaf i ryw rai eraill i gyfodi mewn parch, anrhydedd, a chyfoeth yn uwch nag ef ei hun a'i hiliogaeth. Mae yn rhaid wrth lygad craffach nag eiddo'r eryr i weled i mewn a dilyn mân - ymgangheniadau igam - ogam y genfigen hono sydd a'i gwreiddyn yn malchder twyllodrus ac anniwall y galon. Rhyfedd fel y bydd y mân - wreiddiau hyn wedi ymwau, ymblethu, ac ym- groesi drwy eu gilydd, ac weithiau byddant wedi ymestyn mor bell o'u cychwynbwynt fel braidd y meddyliech byth mai balchder oedd y cychwynbwynt hwnw. Pe ymgymerem â sylwi yn graff, ac â chwilio yn fanwl, caem weled a deall yn fynych fod llawer o'r barnau condemniol a gyhoeddir, ac o'r rhesymau gwrthwynebol a gyfodir, yn erbyn llawer o bethau, yn fwy o gynyrchion y nwydau o genfigen a balchder nag ydynt o argyhoeddiadau yn cyfodi oddiar egwyddor a chydwybodolrwydd. Y mae y farn a rydd balchder a chenfigen



 

 

x184



yn fynych yn cyfodi yn fwy oddiar deimlad personol nag oddiar yr egwyddor fawr a diŵyro o gyfiawnder, neu yr argyhoeddiad dystaw a chywir hwnw a gyfyd oddiar ymchwiliad manwl, diduedd, a chyd- wybodol i mewn i natur neu deilyngdod hanfodol pethau.
Mae y dyn balch yn ddyn anwybodus. Nid yw efe erioed wedi bod yn cydmharu ei hun â'i well ac â'i uwch, gyda'r bwriad o gael deall ei sefyllfa wirioneddol, a'i ddosparth priodol ei hun; eithr pan wna hyny, efe a'i gwna er mwyn y cyfleusdra o gael eu darostwng, eu hiselu, a'u bychanu hwy yn ngolwg y byd; ond efe a gydmhara ei hun yn rhwydd â'r rhai hyny a dybia eu bod yn isafiaid iddo, a hyny yn unig er mwyn y cyfleusdra o gael dangos tra - ragoriaeth ei hun arnynt. Nid yw yn ddyn ag sydd wedi cael yr iawn olwg ar ddim. Nid yw erioed wedi myfyrio cysylltiadau cymdeithas, nac unwaith wedi dirnad, llawer llai credu, fod cysur, llwydd, a hapus- rwydd dynion yn rhedeg y naill i'r llall, ac yn ymddibynu ar eu gilydd, a'i fod yntau yu greadur amgylchiadol, fel pawb eraill. Ni chafodd, ychwaith, yr olwg briodol ar waeledd a diddymdra dyn, nac ar fawredd anfeidrol y Duw a'i creodd; ac ni threuliodd fynyd erioed mewn edrych i mewn pa mor ddiwerth yw pob peth daearol, yn enwedig y pethau ansylweddol hyny ag y mae efe yn seilio ei falchder arnynt, ac yn gosod ei holl ymddiried ynddynt; ac ni arosodd fynyd erioed uwchben pwysigrwydd a sylweddolrwydd pethau byd tragwyddol, neu ynte efe a ffieiddiasai ei hun mewn llwch a lludw, ac a ddywedasai- " Anifail wyf o'th flaen di. " Syniad y dyn balch am elfenau cyfansoddiadol gwir fawredd yw mai rhyw beth ag sydd yn aros mewn outward show, mewn ymddangosiad coegwych a rhodresgar, ydynt! Tybia, ond iddo allu cadw i fynu appearance, nad oes arno eisiau dim arall tuag at fod yn fawr; er ei fod ar yr un pryd a'i logell cyn waced â'i siol, a'i siol cyn waced â phothell ddwfr, ac o ran addysg, moes, a gwybodaeth, yn gym- hwysach i fod yn nghymdeithas yr anifail nag eiddo bôd rhesymol. Ni wyr efe ddim am brydferthwch moesol; ei syniad ef am bob prydferthwch ydyw mai rhywbeth ag sydd yn cael ei genhedlu yn rhywle rhwng y grîb, y brws, a'r looking - glass ydyw! Pan y mae yn ymwisgo o flaen y drych, ni ellir cyffelybu ei ystumiau ffol- ddigrif i ddim arall ond i ciddo yr epa; rhyfedd fel y mae yn cerndroi, penwyro, garblygu, gwargrymu, ymostwng, ymsythu, ymsymud yn ol ac yn y blaen, hyd oni welo fod pob blewyn o'i farf yn gorwedd yn llyfn ac yn esmwyth - pob cudyn o'i wallt yn y troäd priodol - pob botwm yn ei le - a phob rhan o'i wisg yn eistedd yn daclus. Yna efe a wêna gyda mwynhad a hyfrydwch digymysg ar ddelw ardderchog ei hun yn y drych. Try ymaith yn awr yn llwyr argyhoeddedig ei fod yn rhyw non - such, a'i fod, drwy oruchwyliaeth y grîb, a'r brws, a'r glass, wedi cael gafael ar yr anhebgorion hyny ag a'i gwnant yn gymhwys i, ac yn deilwng o,



 

 

x185


gael eistedd yn nghadeiriau uchaf ac anrhydeddusaf cymdeithas! Mae efe yn gyfaill mawr eiddo ei hun, a chysura ei hunan yn fynych, pan ddealla ei fod yn ddiffygiol mewn un peth, trwy ddywedyd ei fod yn rhagori mewn peth arall; ac os cydnebydd fod rhywbeth rhagorol mewn dyn arall, fe a ddywed, ar yr un anadliad, fod ynddo rywbeth anrhaethol wael ar ei gyfer. Mynych y mae yn ymson rhyngddo ag ef ei hun rhyw syniadau tebyg i'r rhai hyn— meddai: " Os yw y llenor, y bardd, neu y pregethwr acw ychydig yn fwy gwybodus na myfi; ac os oes gan yr amaethwr acw ychydig fwy o bethau'r byd na mi; creaduriaid geirwon, slwfenaidd, a di - daste hollol ydynt ill dau; yr wyf fi yn llawer glânach o bryd a gwedd, ac yn llawer mwy trwsiadus fy ngwisg, a chaf fy nghymeryd yn mhob man fel dyn golygus a pharchus; ac yn wir ni rown ni ' mor diolch am fod yn fardd, yn llenor, neu unrhyw artiste arall, oblegid, pa ddaioni mawr all creaduriaid o'u bathau hwy fod i'r byd ? ac ni wn i pa ragoriaeth mawr y mae cymdeithas yn allu ganfod ynddynt, fel ag i'w denu i roddi iddynt y fath barch ac anrhydedd; ac am yr ychydig anifeiliaid sydd gan yr amaethwr yna, beth ydynt werth ? Y maent hwy ac yntau, yn mron, yn rhy gulion i sefyll uwch ben eu traed; ac nid yw ef, ar y goraf, yn gallu gwneyd mwy na dal y llygoden a'i bwyta yn uniongyrchol. Yn wir, a chymeryd y peth ar bob golygiad, yr wyf yn ystyried fy hunan yn llawn cystal â hwythau, gan nad beth am well. " Dacw ef yn awr yn myned allan o'i ystafell a'i esgidiau yn shinio, ei gôt yn dysgleirio, a'i wallt wedi ei drwsio yn chwaethus dros ben, ac a'i neisied boc wen yn chwyfio yn ei law, neu yn hongian i lawr dros ymyl llogell ei gôt: chwytha ei drwyn yn y modd mwyaf destlus, ac yn ol y ffasiwn ddiweddaraf; symuda y naill glun heibio y llall gyda chamrau mesurol, a cherdd gyda'r fath bwys a mawrhydi a phe byddai yn Cardinal Cullen, neu my Lord Chancellor; meddylia fod llygad pawb yn rhwym o fod yn disgyn ar y fath wrthddrych trwsiadus, prydferth, a phwysig ag yw efe. Y mae yn dysgwyl i bawb wneyd sylw arbenig o hono - ymostwng iddo, a'i gyfarch yn " Mr. " a 66 Syr; " neu, os fel arall y gwneir, try ei wên yn ŵg, a'i gyfeillgarwch yn elyniaeth yn y man. Mae yr olwg oraf iddo ef bob amser o'r tu allan; aderyn yw efe, a'i holl werth yn gynwys- edig yn ei blu; y mae fel y falwoden, yn cario ei holl gyfoeth ar ei gefn; ac fel y pren sinamwn, â mwy o werth yn ei risgl nag sydd yn nghorph y pren ei hun. Nid oes gan y dyn balch gyfeillion un amser - mewn llwyddiant, am nad yw efe y pryd hwnw yn adnabod neb; mewn adfyd, am nad yw neb yn ei adnabod yntau. Ac ys dywed Papur Americanaidd: " There is more truth than poetry in the following paragraph: -Great men never swell. It is only your three cent. individuals, who are salaried at the rate of 200 dollars a year, and dine on potatoes and fried herring, who put on



 

 

x186



airs and flashy waistcoats, swell, puff, blow, and endeavour to give themselves a consequential appearance. No discriminating person need mistake the spurious for the genuine article. The difference between the two is as great as that between a barrel of vinegar and a bottle of the pure juice of the grape. " Dywedir am " the man of one idea; " ond pwy ydyw hwnw ? Well, gellir dywedyd nad oes neb mor drwyadl a chyflawn ddyn o un meddylddrych a'r dyn balch, canys o amgylch ogylch i un meddylddrych, a hwnw yw ei huan, y mae ei holl syniadau, ei serchiadau, a'i deimladau ef yn chwyldroi. Mae y dyn balch yn ddyn cenfigenus. Nid yn unig cenfigena wrth ei elynion, ond cenfigena wrth ei gyfeillion, pe byddai ganddo gyfeillion hefyd. Nid oes eisiau gwneuthur rhagor o drosedd yn erbyn y dyn balch i golli ei ffafr a'i friendship, na rhagori ychydig arno, ni waeth pa un a'i mewn cyfoeth, dawn, dysg, rhinwedd, neu wybodaeth y byddo hyny. Yr ydys lawer pryd yn methu dirnad pa ham y mae y dyn balch yn pwdi, sarugo, oeri, ac ymddieithrio oddiwrthym, a ninau heb wneuthur dim yn ei erbyn. Wel, mae unig achos mawr y cyfan yn gorwedd mewn ffaith mor ddiniwaid a'th fod di yn fwy parchus, yn fwy enwog, neu yn fwy llwyddianus nag yw efe. O'r fath greadur gwael, an- nedwydd, a self - tormenting ydyw! Y mae bob amser yn rhodio yn alarus, o dan orthrymder y gelyn, a'r gelyn hwnw yn cael ei feithrin a'i fagu yn ei fynwes ei hun. Nid oes neb wedi rhoddi desgrifiad mwy satirical a ffyddlonach i'r gwirionedd o ddyn balch na BUTLER: “ A proud man is a fool in fermentation, that swells and boils over like a porridge - pot. He sets out his feathers like an owl, to swell and seem bigger than he is. He is troubled with a tumour and inflammation of self - conceit, that renders every part of him stiff and uneasy. He has given himself sympathetic love- powder, that work upon him to dottage, and has transformed him into his own mistress. He is his own gallant, and makes most passionate addresses to his own dear perfections. He is his own favourite, and advances himself not only above his merit, but all mankind; he is both DAMON and PYTHIAS to his own dear self, and values his crony above his soul. He gives place to no man but himself, and that with very great distance to all others, whom he esteems not worthy to approach him. He believes whatever he has, receives a value in being his, as a horse in a nobleman's stable will bear a greater price than in a common market. He is so proud that he is as hard to be acquainted with himself as with others; but he is very apt to forget who he is, and knows himself only superficially; therefore he treats himself civilly as a stranger, with ceremony and compliment, but admits of no privacy. He strives to look bigger than himself, as well as others, and he is no better than his own parasite and flatterer. A little flood will make



 

 

x187


a shallow torrent swell above its banks, and rage and foam and yield a roaring noise, while a deep silent stream glides quietly on; so a vain - glorious, insolent, proud man swells with a little frail prosperity, grows big and loud, and overflows his bounds, and when he sinks leaves mud and dirt behind him. His carriage is as glorious and haughty as if he were advanced on men's shoulders, or tumbled over their heads, as if he were Knipper- doling. He fancies himself a Colosse; and so he is, for his head holds no proportion to his body, and his foundation is less than his upper stories. We can naturally take no view of ourselves, unless we look downwards, to teach us what humble admirers we ought to be of our own value. The slighter and less solid his materials are, the more room they take up, and make him swell the bigger, as feathers and cottons will stuff cushions better than things of more close and solid parts. "
CARIAD
MAMOL.
CARIAD MAMOL! cariad greddfol— Dwfn, gafaelgar, beiddgar, byw; Cariad nis diflana'n fuan-
Nid cicaion JONAH yw.
Cariad a offrymodd lawer
Gweddi ffyddiog droswyf fi; Cariad na roes un ochenaid,
Heb roi'r deigryn gyda hi.
Cariad nis gwnawd gan amgylchiad, Na dygwyddiad o un rhyw; Cariad gwreiddiol, annibynol—
Creadigaeth natur yw.
Nid fel afon yn y Dwyrain-
Weithiau'n sych, ac weithiau yn llawn;
Eithr ffynon dardd yn gyson,
Rhwng mynyddoedd cedyrn iawn.
Doed gelynion i adgoffa
Iddi feiau ' i phlentyn cun,
Hithau ddwg yn mlaen rinweddau Ar eu cyfer hwy bob un! Cariad guddia, ac faddeua,
Liaws o bechodau yw;
Unig ddelw'r cariad hwnw
Sydd erioed yn mynwes Duw.



 

 

x188



DIWYDRWYDD.
DIWYDRWYDD sydd rinwedd dra llawn ei thrysorgell, — Dyledswydd bersonol sydd iawn i bob un
Ei ffyddlawn ymarfer; can's hi yw'r ffynonell. Sy'n cyflawn ddiwallu anghenion y dyn: Pan na fyddo gwaddol na chyfoeth i'w dysgwyl, Na chymhorth dylanwad yn aros y dyn,
Os deil at ddiwydrwydd, bydd ganddo bob egwyl Fanteision fyrdd sicrach yn mherson ei hun. Diwydrwydd a dywys i barch ac anrhydedd, Pawb gymeradwyant y diwyd ei law; Diwydrwydd a'i cyfyd o'i dlodi a'i waeledd, I fan nad yw anghen yn dyfod gerllaw. Aeth llawer hyd risiau diwydrwydd yn hoew, I binacl uwchaf daearol fwynhad;
Pa sawl un a gododd o'r llwch ac o'r lludw, I eistedd yn mhlith pendefigion ei wlad ? Diwydrwydd sydd dadmaeth i iechyd corphorol, - Rhydd yni i'r meddwl, sirioldeb i'r wedd; Ac atto rhed llwyddiant yn ffrwd fyth - barhaol, A chyfoeth dan wênau cyfiawnder a hedd. Wrth arfer diwydrwydd daeth rhai'n filiwneiriaid, Ac eraill yn ffrwythlawn mewn dawn ac mewn dysg; Diwydrwydd yw'r bibell drwy'r hon rhed yn ddibaid, Bob dim sy'n ogoniant a mwyniant i'n mysg.
ATHRYLITH A RHINWEDD.
Athrylith a Rhinwedd - mor ddifyr — mor ddwyfol, Yw'r fangre lle trigant ill dwyoedd yn nghyd; Yno tywyna goleuni gwybodaeth,
Ac yno lle'r erys dedwyddwch y byd;
Bendigaid yw'r gwr sydd yn dwyn eu nodweddion, Ca fyw'n anrhydeddus - ca farw mewn hedd: Serchiadau dynoliaeth amgylchant ei wely, A'i enw ni wylant am anghof y bedd.



 

 

x189


PRYDFERTHWCH.
Pryddest Fuddugol
YN EISTEDDFOD CYMRODORION DIRWESTOL MERTHYR.
Y CYNWYSIAD. - Tarddiad Prydferthwch, a'i ymddaleniad cynyddol yn ngweithredoedd olynol y Cread - Ei gyffredinolrwydd - Ei ddybenion a'i gyf- lawnder - Prydferthwch perthynol - Prydferthwch hanfodol - Cyffroadau prydferthwch - Elfenau prydferthwch - Priodolaethau prydferthwch; ffurf, a'i linellau, lliw, mynegiant, & c. - Prydferthwch moesol, deallol, rhinweddol, a grasol - Hollbresenoldeb prydferthwch - Prydferthwch darfelyddol Pryd- ferthwch cyfriniol natur - Prydferthwch gweledig natur - Gallu, effeithiau, rhinweddau, a mwynianau prydferthwch - Prydferthwch y bedd, a'r Saint yn yr adgyfodiad, ac i dragywyddoldeb.
PENNOD I.
HANIAD AC YMDDADBLYGIAD PRYDFERTHWCH.
DRAW, draw, o dir y tragwyddoldeb pell, Lle ni chaid ond y Duwdod mawr ei hun Yn symud yn nghyflawnder dysglaer ei Hanfodol ogoniannau myg, erioed,
Y daeth Prydferthwch yn fwynhad parhaus Tros eang gylch bodolaeth feidrol oll.
Preswyliai yr anfeidrol DDUw ei hun Holl wagle mud y tragwyddoldeb dwfn, A phob prydferthwch yn ei hanfod Er Yn aros, fel goleuni yn yr haul.
Dragwyddol DDUW! CREAWDWR mawr pob peth, Tydi yw TAD prydferthwch o bob rhyw; Prydferthwch oll yw'th hanfod sanctaidd di.
Nid yw y geiriau gogoneddus hyn, -
Hollalluogrwydd, Hollwybodaeth, a
Hollbresennoldeb Duw, yn ngeirlyfr coeth
Angelion, ond cyfystyr enwau ar
Brydferthwch llawn ei anfeidroldeb EF:



 

 

x190



Perffeithrwydd anfeidroldeb bythol sydd Yn treiddio ei briodoliaethau oll; Anfeidrol gyfartaledd ydynt hwy, Cyflundeb a chymeidredd moesol pur, Prydferthwch anamgyffredadwy byth.
Nid oedd diluwiol fflam prydferthwch glwys Y greadigaeth lawn, ond megys un Wreichionen fechan iawn o'r danllwyth fawr Sy'n aros fyth yn Nuw ' n anfeidrol ' stor.
Pan safodd Duw goruwch y dyfnder mawr, Tywyllwch y pryd hyn orchuddiai ' r byd-- Annhrefnus oedd pob peth: ond d'wedodd Duw, " Bydded goleuni, a goleuni fu, "
Ac wele ' r tryblith du ' n ymwisgo mewn Prydferthwch fel prydferthwch gwrid y wawr.
Duw hefyd a ddeffrôdd y ddaear swrth, Oedd er ys oesau maith yn cysgu ' n drwm Yn ngwely ' r dyfnder mawr, a gwisgodd hi Mewn gwyrddni dwyfol bur; ac O! mor hardd Edrychai yn ei dillad newydd glân.
Ond nid oedd llanw mawr prydferthweh Duw Ond dechreu llifo eto tua'r traeth:
Tòn ar ol ton a dreigla ymlaen dros byth.
Yn awr y creodd Duw ffurfafen fawr- Y " Palas Crisial " hwn! -pwy wnaeth ei ail ? Ei gronglwyd cain sy ' n frith o lampau aur— Lamp goruwch lamp! hyd uchel byrth y nef!
Ac wele'n awr y gogoneddus haul
Yn esgyn idd ei orsedd saphir fry, Fel brenin mawr y dydd, o'r lle y mae
Yn tywallt ei ogoniant gwyn i lawr
Nes ennyn y ffurfafen.loew'n fflam,
A'r byd yn grynswrth o brydferthwch byw.



 

 

A page of a poem

Description automatically generated

x191



Machludo wnaeth yr haul, a thros y byd Estynai'r nos ei theyrnwialen brudd,
A chauodd anian ei hamrantau ' n dyn, ( Ond nid i fyn'd i'w gwely dyfrllyd mwy ) Oblegid dacw'r lleuad felen fawr
Goruwch y gorwel gwyrdd yn cyneu'n fflam! -— Ac yn dynesu'u araf, araf at
Ei gwely tawel hi, i'w gwylio yn Ymorphwys ar obenydd mânblu “r nôs, Nes dychwel haul y boreu i'w deffroi.
Pa enghraifft prydferth o haelioni pur A rydd y Lloer ar ei nosweithiawl hynt, Yr hon, er nad oes ganddi wawl ei hun Ond cymaint ag mae yn ei loffa draw Ar ffrwythlawn faes yr elusengar haul, I'w arllwys ar derfynau'r nos yn llif, Uwch daear lom: cyfeilles gywir yw, — Pan bellaf haul, agosaf y bydd hi. Gariadus Loer, bendigaid ydwyt ti.
Ond dacw'n awr, uwch llwybrau'r lloer ymhell, Orymdaith fawr o oleuadau cain,
Yn dyfod rhag eu blaen at orsedd Duw, I dderbyn ganddo ef bob un ei swydd, Fel gweinidogion gwawl yn nghylchoedd pell Eithafion ymherodraeth fawr yr haul. Gwel eilwaith ar hollalluogrwydd IoR, Yn taenu claer haulfydoedd megys llwch, Hyd lawr Caergwydion faith - yn lluchio sêr, Fel gwreichion tanllyd byw o gylch y nen! Faint bynag yw eu defnyddioldeb hwy Y naill i'r llall, yn eu cysawadan pell, Maent o brydferthwch mawr i'r ddaear hon. Pan mae yr haul yn gado'r bryniau ban, A'r nôs yn taenu ei hadenydd du Tros anion oll, dystawrwydd ofaus prudd
Y Ilver Gariatus
hichionus



 

 

x192



O gylch y byd, a dyn yn llwfrhau; O, mor adlonawl ydyw trem y sêr Dihalog, siriol, tawel, arddun fry; Hwy blanant wên ar wefus fud y nos- Sirioldeb ar ei haeliau gwgus hi; A chrëant yn y myfyrdodawl fryd Syniadau nefol, tawel, dysglaer, pur, Cyffelyb iddynt hwy eu hunain, -rhyw Gaergwydion fywiog, fawr,
O feddylddrychau byw,
Yn cyrhaedd oddi lawr
Hyd uchel orsedd Duw. Tyr'd, ddyn, yn awr,
Ac edrych fry, Drwy'r wybren fawr,
I'r gwagle du;
Lle gweli fyrdd o fydoedd syn,
Yn troi drwy'r anfeidroldeb hyn, Hwy wnant y nos fel coron dlos, A'r dydd yn fflam o harddwch gwyn;
O! wybren faith
O! fydoedd chwim,
Ar fythol daith
Heb oedi dim,
Na throi ar draws y naill a'r llall, — Trefnusach fyrdd na bodau call, —
Pob un i'w lwybr drwy'r ëang wybr; Pwy a wnaeth hyn, ai damwain ddall ?
PENNOD II.
PRYDFERTHWCH ANIANYDDOL A MOESOL EDEN.
Y NEN oedd yn awr wedi cael ei dodrefnu, A'r ddaear mewn gwyrddlas ogoniant yn gwenu; —



 

 

x193


Prydferthwch ffurf a lliw, Prydferthwch ysgogiadol; Ac ychwanegodd Duw Brydferthwch greddf fywydol, Yn filod a phryf, Ysgrubliaid ac adar; Ac wele! ' r llew cryf A'r arth yn gyfeillgar;
Y ddaear oedd lawn O rin diniweidrwydd- Prydferthwch a dawn, Gogoniant yr Arglwydd.
Yr adeg a ddaeth, I'r DUWDOD mewn cynghor, I wneyd at a wnaeth,
Un campwaith yn rhagor:
Drwy uno dihalog brydferthwch y byd, A Dwyfol brydferthwch y nefoedd ynghyd; A chrëwyd y dyn
Mor brydferth a'r angel; A'r wraig, yr un llun,
Mor bur a'r wawr - awel.
Fe wisgai harddwch Eden lon
Hawddgarwch Ddwyfol gynllun: Ysmotyn o fwynhad oedd hon,
O'r nefoedd wedi disgyn!
Ond gwelwai gogoniant amryliw yr ardd, Yn ymyl eu moesol brydferthwch, Caid harddwch uwch harddwch o hyd yn fwy hardd, - Yn don ar ol ton o ddedwyddwch.
Estynai diniweidrwydd pêr ei swyn,
Tros haul, lloer, sêr, tros awyr, tir, a môr; Gorphwysai rhyw dangnefedd sanctaidd, mwyn, Ar ddyn a'i waith, a holl weithredoedd IOR.



 

 

x194



Ni cheisiai'r llew ysglyfaetlr o un rhyw,
Ac nid oedd anghen rhwymo'r arth pryd hyn: Chwareuai'r gwalch yn brysur gyda'r dryw, Tra rhodiai ADDA gydag angel gwyn.
O, mor urddasol oedd angelaidd drem— A symudiadau ADDA, ' n arglwydd byd; Dysgleiriai yn ei goron ef dair gem,
Mil ceinach na holl emau'r llawr ynghyd.
Ac EFA dlôs! mor destlus oedd ei ffurf,
Mor delaid oedd ei hysgogiadau hoew! Ei grudd oedd decach na'r blodeuyn tirf,
A'i gwrid na'r wawr ar li “r Euphrates loew. Perffeithrwydd Celf yw Natur, ac ni phaid
Darluniaeth a Cherfiadaeth fyn'd o'i hôl; Ond, cyn cyrhaeddyd harddwch EFA, rhaid I'r ddwy chwaer hyn a Natur droi yn ol. Ni wnaeth APELLES wych ei WENER wiw, Na RAPHAEL ei FADONA, ddim mor hardd Ag EFA ' n gwenu o dan ddelw Duw,
Neu ' n symud rhwng ddillynion flodau'r Ardd.
Cyfiawnder llwyr, gwybodaeth lawn,
Sancteiddrwydd dwyfol dardd,
Berffeithiai fryd, addurnai bryd,
Preswylwyr Eden hardd.
Un delyn fawr oedd nen a llawr,
Yn llawn peroriaeth gûn,
Tan fysedd Duw ' n brydferthwch byw; --
O ddedwydd awr ar ddyn.
O! euraidd oes, p'am ciliaist draw ?
Ai tebyg i ti fydd
Yr euraidd oes filflwyddol ddaw ?
Boed felly
henffych ddydd!




 

 

x195

PENNOD III.
HOLLBRESENOLDEB PRYDFERTHWCH.
TYDI, O! Brydferthwch anfarwol, yn unig Sy'n dwyn yn dy drysor anfeidrol i ni, Yr hyn sydd o fwyniant y cyfnod Edenig Yn aros heb fyned i lawr gyda'r lli '.
Mae'r ddaear yn llawn o destynau llawenydd, - Teyrnasa hawddgarwch ar fryn ac ar ddôl; Gwirionedd a Chariad sy'n rhodio drwy'r meusydd, A swynion Prydferthwch yn canlyn o'u hôl.
Y mae fel rhyw Angel gwarchodawl i'm canlyn, Drwy'm helynt ar foroedd tymhestlog y byd; Yn nghanol nôs dywell, a'r don yn fy erbyn, EFE ydyw seren ogleddol fy mryd.
Pe methai gwawr anian ddifyru'm golygon, Pe b'ai pob golygfa yn dywell a throm, Efe a dywynai yn ngobaith y galon, A'i wên a oreurai ymylau dû siom.
Ni raid it ', ddyn, fod yn amddifad o hono, A Duw wedi donio dy euaid â ffydd;
I wneyd i brydferthwch o'th flaen i ddisgleirio, Gwed, " Bydded prydferthwch, " prydferthwch a fydd.
Clyw ar ei sain fywiog yn ngherdd yr uchedydd, Wrth yfed llawenydd o wyneb y wawr; Gwel acw, ' i wên dyner yn genllif ysplenydd Yn rhedeg dros ruddiau'r wybrenydd i lawr, — Yn chwareu yn nghrych yr afonydd graianog, Yn dawnsio ar dònau symudliw y môr, Yn gwisgo'r dyffrynoedd mewn mentyll godidog, Yn myn'd ac yn dyfod dros drothwy dy ddôr.



 

 

x196



Pe rhodiet rhwng geirwon glogwynau'r Eryri, Nid ydyw'r drem yno mor unffurf o erch, Heb rai o'i linellau teleidion i'th loni,
Neu rai o'i hoff ffurfiau i gyfarch dy serch. Fe'th erys yn nybryd anialwch Arabia,
Ti gai ei gymdeithas yn ngwylltoedd y cocd; Nid ydyw tywodlyd ddiffeithwch Zäara
Mor lwyr ansathredig nas ceir ôl ei droed. Ei drem sy ' n sirioli ' r ardaloedd gogleddol, Ei wên sy ' n liniaru gerwindeb y rhew, Ei swyn sy ' n egnio ' r preswylydd brodorol A chynnal chwilfrydedd y morwr tra glew. Ai nid efe hefyd yw tadmaeth gwladgarwch ? Pa beth sy'n cysegru yr ardal a'r twyn ? Pa beth a'u gwnaeth gyntaf yn fanau hyfrydwch ? Pa beth, ond prydferthwch oedd bywyd eu swyn Pa beth sydd yn gwasgar fy enaid hiraethlon
Yn gariad cyfartal dros fynydd a dol ?
?
Hen deimlad prydferthwch sy'n dal wrth fy nghalon, Nad oes dim yn newydd a'i try fyth yn ol. Mwyniannau cartrefol, a ffurfiad cyfeillion, Cydnawsedd cyfoedion - hawddgarwch y tir, Dreiglasant eu tònau dros draethydd y galon,
Nes chwyddo ' n fôrllanw gwladgarol cyn hir. Dygwyddion a golygfeydd hyfryd mabolaeth, Aur - didau prydferthwch rhwymasant fy mryd I lawr wrth y fangre lle ce's fy modolaeth; Ah! dyma gaethiwed sy'n rhyddid i gyd!
PENNOD IV.
ATHRONIAETH NEU DDEDDFAU PRYDFERTHWCH.
YMDDENGYS mai rhai o ddybenion prydferthwch- Gwrthddrychau gweledig yw creu ymlyngarwch



 

 

x197


A serch tuag atynt yn mron yr edrychydd, Nes ffurfio'n ei galon ddymuniad ac awydd, I geisio meddianu y cyfryw yn ebrwydd, Ac felly genhedlu a meithrin diwydrwydd. Drwy'r unrhyw beirianwaith galluog, cyfaddas, Y ffurfir amrywiol undebau cymdeithas; Gall fod cymhwysderau y deall a'r galon Yn seiliau mwy cedyrn y cyfryw undebion, Ond gan fod prydferthwch allanol yn llawer Mwy amlwg i gorff mawr dynolryw bob amser, Ei syniad sydd hefyd yn fwy cyffredinol, A blaenllaw yn ffurfiad undebau serchiadol: Caiff swynion prydferthwch ogoniant am gychwyn Yr hyn y daw'r deall a'r nwyd idd ei ganlyn; Ond pan bydd y deall, y golwg, a'r galon,
I'r unrhyw gyfeiriad yn arllwys eu swynion, Bydd yno ' r fath undeb o driphlyg brydferthwch
Sy ' n rhwym o gynnyrchu rhin, llwydd, a dedwyddwch.
Mae dwyfol brydferthwch a bwriad yn eglur
Yn nhrefn cyfansoddiad pob gwrthddrych mewn natur; Mae ' r pren sydd yn tyfu ' n unigedd y goedwig Yn llawn o linellau prydferthwch gweledig;
Olrheinir yr unrhyw linellau addurnol
Yn ngheinder cyfansawdd y milyn maesgrwydrol; Ond yn nghyfaddasrwydd aelodau ' r cyrff dynol Y cydgyfarfyddant mewn ceinder uwchraddol: Mae'r unrhyw gywreinddull brydferthwch yn treiddio Holl fewnol weithredoedd llaw natur heb wyro; Mae ' n dirfawr ragori ar geinder celfyddyd: Ar hyd yr arwyneb mae llaw dyn yn symud, Ond natur drwy ' r sylwedd a draidd yn ei bywiol Weithrediad nes cyrhaedd y rhanau elfenol: Mae corff pob creadur a phob rhyw blanigyn Yn llawn o amrywiaeth, ond i drwch y blewyn



 

 

A page of a paper with text

Description automatically generated

x198



 
' N ol deddfau tragwyddol Unffurfiad a Symledd, Rheoleiddrwydd a Threfn, ac uniawn Gymeidredd. Fe rydd defnyddioldeb Brydferthwch perthynol I wrthddrych nad yw yn ei feddu ' n hanfodol, Mor brydferth ymddengys hen Othaidd dwr llwydwyn, Fel mae ' n amddiffynfa rhag ymgyrch y gelyn; Yr un modd annedd - dŷ heb un Rheoleiddrwydd, Sy brydferth o herwydd cyfleusder cyfarwydd; A'r pren, er heb Ffurf na Chyflundeb, ymddengys Yn brydferth oblegid ei ffrwythau daionus: Ond mae gan yr afon ddolenog deleidwiw,
A chan y dyffrynoedd blodeulawn amryliw,
Gan lewyrch y wawrddydd, gan wybren ymddyrchol, Gan haul gogoneddus, Brydferthwch hanfodol: Mae hwn yn brydferthwch eithafig, gorphenol, Ar fwriad a dyben yn anymddibynol:
Ni chenfydd y llygad brydferthwch perthynol, Heb weithred o ddeall neu drem adfyfyriol, Drwy frysio ' r darfelydd o'r achos i'r effaith; Ond gwelir prydferthwch hanfodol ar unwaith: Trosgwyddir prydferthwch yr effaith i'r achos Drwy drosiad * esmwythfwyn delweddau cyfagos, A bydd i'r edrychydd ei ganfod yn hollol Fel un o wir deithi yr achos derbyniol:
Ymddengys gan hyny, nad gwreiddiol mewn gwrthddrych Yr erys prydferthwch, ond yn y meddylddrych, Yr hwn a drosglwydda ' r dylanwad hyfrydlon A ffurfiodd drwy glybod a golwg, i'r galon, Nes treigla prydferthwch yn swynol gyffroad, Yn dòn ar ol tòn ar hyd wyneb y teimlad: Y mae cyffröadau prydferthwch, heb eithriad, Yr un mor amrywiog ag yw ei welediad; Ond eto yn cynnal er maint yr amrywder, Yr un cyffredinol nodweddiad o londer.
* Transition.



 

 

x199


PENNOD V.
ELFENAU PRYDFERTHWCH.
Mae Natur yn llawn o Elfenau prydferthwch, Hwynt - hwy yw elfenau cynnyrchiol hyfrydwch, Ac onid Addasrwydd, Amrywiaeth, a Symledd, Ynghyd ag Unffurfiad, Astrusi, a Dognedd, Yn ffrwyno, diwygio, a thywys eu gilydd, Yn ol yr achlysur, yn gywir a chelfydd, Yw ffrwythlawn elfenan prydferthwch holl natur, A chelf, yr hon sy'n ei dynwared yn brysur ? Y mae Cyfaddasrwydd pob rhan a phob aelod O wrthddrych, i'r dyben ei ffurfiwyd yn gosod, Prydferthwch o'i amgylch sy ' n foddus i'r syniad, Er nad yw yn meddu fawr addurn i'r llygad.
Amrywiaeth yn wir ydyw addurn prydferthwch, Os na bydd goramledd yn dwyn i mewn dd'ryswch; Efe ydyw bywyd pob trem ogoneddus
Os bydd ei gyflead yn gyflun a threfnus: Fe flinai y llygad wrth edrych ar symledd, A bythol unffurfiad, heb un newydd agwedd; Ond Anian sy lawn o amrywiaeth ardderchog, Taenellwyd y wybren à cheinion godidog, Fe wisgwyd y ddaear mewn mentyll symudliw; Mae'r oll yn amrylais, amrylun, amryliw; Un trefnus amrywiaeth wrth reol a chynllun, Yw ' r cyfan i lawr o'r haul mawr i'r temigyn.
Er nad yw Unffurfiad ond un o ddygwyddol Elfenau prydferthwch, o nodwedd îsraddol, Ei drem sy foddhäol i lygaid meib symlrwydd O herwydd lledgynnal nodweddiad Addasrwydd. Pa beth ydyw Symledd ? Eglurder ynghanol Cyflead o ffurfiau a lliwiau gwahanol,



 

 

x200



Sydd yn cynorthwyo cyflymder dirnadaeth, Drwy attal annrhefnus gyd - dyniad amrywiaeth, Ac yn galluogi y llygad i fwynber
Fwynhau pob amrywiaeth, heb dd'ryswch na blinder. Astrusi yw'r elfen sy'n tywys y llygad
Ar ol ei gwrthddrychau mewn nwyfus erlyniad, Sy'n cadw y meddwl ar orchwyl yn ddiwyd, Heb dd'ryswch i'r llygad na blinder i'r yspryd: Mae'r duedd, neu'r teimlad, neu'r nwyd erlyngarol, Fel greddf, wedi ' i phlanu ' mhob natur deimladol; Fel hyn ymhyfrydwn mewn chwilio cudd - holiad, A dammeg, er nad oes un budd o'r egluriad. Gwna ambell anifail, serch colli ei ' sglyfaeth, Ei gollwng o'i afael er mwyn yr erlyniaeth; Canfyddir Astrusi yn nhroion ardderchog Y rhodfa ddyrwynol, a'r afon ddolenog,
V
Yn ffurf pob ysgogiad, yn ngosgedd pob gwrthddrych, A wneir gan y llinell donweddog, * deleid - ddrych; Hon yma yw'r elfen, i feddwl cyfarwydd, Lle'r crys gan mwyaf feddylddrych teleidrwydd. Mae Dognedd yn brydferth, o herwydd chwanegu At drem o deleidrwydd, ryw fawredd i'n synu: Mae'r graig fawr, aflunaidd, yn taro'r fron enyd A gradd o rhyw arswyd nid hollol anhyfryd; Ond bydd yr hyfrydwch ar gynydd uchelryw, Os bydd y gwrthddrychau mawreddog yn gyfryw Fel ag i dyneru yr arswyd mynydol
I lawr i ardduniant neu barch addoliadol: Mae gwigoedd o goedwydd uchelion, tawel - fud, Gan ddognedd o fawredd edmygol yn hyfryd; Mae llysoedd, gan fawredd ysplenydd, ardderchog, A thyrau gan fawredd ymddyrchol, godidog, Eglwysydd a themlau gan fawredd cysegrol, I gyd yn wrthddrychau hyfrydlawn a swynol. * Waving.



 

 

A page of a poem

Description automatically generated

x201


PENNOD VI.
LLINELLAU PRYDFERTHWCH.
MAE ffurf pob ysgogiad, pob gwrthddrych gweledig Mewn celf ac mewn natur, yn gyfansoddedig O brydferth Lineliau mewn trefnus gyfuniad, Ac hebddynt nis gellid nac addurn na chread:
Llinell
gron, hardd
ᎩᎳ hon,
Hi sy'n ffurfio,
Ac yn rhwymo,
Sêr y nef a'u llwybrau llon.
Awyr lâs, daear fras,
Terfyngylchoedd,
Arfordiroedd,
Dyfnion foroedd - dafnau bâs- Brigog nen, llwyn a phren,
Cyff, planigyn,
Corff pob milyn--
Cylch mewn cylch yw natur wen.
Llinell ffrwythlawn yw'r uniawn, Er nad yw'n addurnol iawn, Rhaid fu cael ei chyd - weithrediad I berffeithio cread llawn; Ymgyfuniad ac amrywiad
Hon â'r llinell gron yn nghyd, Sy'n terfynu ac amgylchu
Holl wrthddrychau'r ëang fyd.
Gwnaeth yr Aipht ei Phyramidiau Wrth ei symledd hawddgar hi, Lle mae mawredd a phrydferthwch Yn cyd - gwrdd mewn bythol fri. Llinell hyfryd, dlos, foddhaol, Ac addurnol ynddi ' i hun,



 

 

x202



Yw'r un grom * yn cynorthwyo Ffurf gwrthddrychau heirdd eu llun.
Ni fedd natur ddim prydferthwch, Na chelfyddyd nemawr fri,
Na chywreinwaith un hawddgarwch
Heb rhyw ran o'i haddurn hi.
Mae llinell prydferthwch mewn ffurf yn hefelydd I dreigliad mân donau y mor ar ei hynt; Neu loewon gudynau rhyw Drywyl neu Wenddydd, Yn telaid ymysgwyd mewn awel o wynt. Ffurf llinell teleidrwydd; sy debyg i nwyfus Ymnyddiad symudol y sarph ar ei llwybr, Neu dlws ymddoleniad hir ddyffryn y Nilus, Neu dröad y lili drwy ' r llwyn tua'r wybr.
PENNOD VII.
PRYDFERTHWCH LLIW.
Priodoledd hyfryd arall
Mewn prydferthwch ydyw Lliw; O mor hardd y paentiodd Duwdod Wyneb creadigaeth wiw.
Ni fu natur mor afradlawn
Mewn addurniad o un rhyw, Ag yn lliwiad ei gweithredoedd- O mor anghymharol yw.
Edrych ar amrywiaeth hyfryd Lliwiau ' r awyr hwyrol wawr,
Pan mae'r huan claer yn machlud Yn ei gerbyd melyn mawr.
Yno ' r man gymylau hunant
Mewn goleuni, tyner, brâs,
Rhai yn goch, rhai ' n wyn, rhai ' n welw—
Ar welyau awyr lâs.
* Curve.
+ Line of Beauty.
Line of grace.



 

 

x203



Mae gogoniant ar y bryniau, Mae hawddgarwch ar y ddôl Gedy ' r haul wrth fyned ymaith Ei dangnefedd ar ei ol. Hyfryd yw ' r olygfa hwyrol, O na wnelai aros talm! Ei prydferthwch sydd yn disgyn Ar fy mryd fel nelfol falm.
Edrych eilwaith ar ysplenydd Liwiau blodau dôl a gardd, Gwel ar fânflew ' r anifeiliaid Neu ar blyf yr adar hardd.
Y maent megys yn cystadlu
Yn mhrydferthwch mawr eu lliw, Sydd mewn gloewder a chydweddiad Uwch law pob athrylith wiw.
Ond os am berffeithrwydd tegwch- Yn y wyneb dynol mae, Lle mae tlysaf liwiau anian
Mewn cyflundeb wedi ' u gwau.
Edrych ar y rhôs a'r lili
' N ymgodymu ar y rudd;
Edrych ar y llygaid gloëwon,
Tecach y'nt nag wybren dydd:
Ynddynt hwy yr ysgrifena
Cariad ei dyneraf iaith,
Yma hefyd y gorch'myna
Rhinwedd mewn hawddgarwch maith:
Ynddynt hwy yr ymsymuda
Gwylder gyda pharch a swyn,
Yma chwery gwawl gorfoledd
Megys tês prydnawngwaith mwyn:



 

 

x204



Dyma ' r lle ' r ymddengys prudd - der
Yn ennillgar iawn ei bryd, Dyma lle y tania tuedd
Galon yr edrychydd mud.
Edrych ar yr aeliau egor-
Siriol fel y wawrddydd won, Edrych ar oleuni ' r talcen,
Haul gwybodaeth sydd uwch ben.
Mae prydferthwch mîl ac angel— Nef a daear yma ' n nglŷn, Dwyfol emwaith, hardd a pherffaith, Yw wynebryd hawddgar dyn.
Ond y mae prydferthwch moesol Meddwl dyn yn llawer mwy, Mewn gogoniant, rhin a gallu- A pharhâd ei oes yn hwy.
PENNOD VIII.
PRYDFERTHWCH, RHINWEDD, MOES, A GRAS. WELE Rhinwedd, mam Tangnefedd,
Gwenau angel ganddi sydd; Yn ei threm trig gloewder nefol, -- Bythol i'enctyd ar ei grudd.
A Moesoldeb, mamaeth Purdeb, Coron wawl sydd ar ei phen, Gwisga ' n ebrwydd wrid sancteiddrwydd, O fewn llys y nefoedd wen. Dacw Athrylith uwch y Felldith Ga'dd ei geni ' n Eden gynt, Yn dyfeisio ac adffurfio- Dwyn trysorau haul a gwynt I brysuro celf a gwyddor Ar eu bythbarhäol hynt.

P



 

 

A page of a poem

Description automatically generated

x205


Ymddadlenu mae dirgelion,
Dan ei threm yn fil a myrdd; Tardd darganfyddiadau ffrwythlawn
Ar ei meusydd bythol wyrdd. O! mor brydferth mae Gwareiddiad Yn ymdeithio rhag ei flaen, Gan ddiwyllio ' r meddwl dynol Ac addurno pren a maen: Dwyn yr anial dir yn dyddyn- Dwyn y tyddyn megys gardd- Dwyn yr ardd fel Gardd Paradwys- Hithau yn baradwys bardd!
Prydferth odiaeth yw Gwybodaeth, Mor urddasol yw ei threm; Cysur, llwyddiant, rhin, gogoniant, Sy'n ei choron, em wrth em.
Dacw ei llwybrau ar y moroedd,
Yn wareiddiad, llwydd, a hedd;
Wele ei phelydrau gloewon
Yn trywanu'n îs na'r bedd.
Dacw hi'n ymdaith drwy'r gwagleoedd, Ac athroniaeth gyda hi,
Ac yn bwrw ei gwirioneddau Yn bwysi glân i'n daear ni.
Bywyd, nerth, tragwyddol ryddid— Gwawl a mwyniant meddwl yw: Rhyw weddillion sydd yn aros Ar y dyn o ddelw Duw.
Ond perffeithiach, mil hawddgarach,
Yw prydferthwch dwyfol râs;
Try of wawr y galon anial
Fel rhyw Eden ffrwythlawn frâs:



 

 

x206



Haua ' n meusydd llygredigaeth Gariad a sancteiddrwydd gwyn; Engyl garant gerdded heibio Mangre ' r rhôs a'r lili hyn. Trig cyfiawnder a gwirionedd, Hedd a mwyniant gydag ef; Pair i dwrf ryfeloedd beidio, Cyfyd faner wen y nef. Taenodd dros y ddaear ddybryd Bur oleuni ddwyfol hedd; Y mae wedi hongian, hefyd, Enfys bywyd uwch y bedd.
T'w'nu wnaeth ar byrth marwolaeth, Y mae'r daith yn oleu draw; Ganddo ef mae'r gwynfyd nefol, A'r gogoniant bythol ddaw.
PENNOD IX.
CYFFREDINOLRWYDD, GALLU, DYLANWAD, A HYFRYDLONDER
PRYDFERTHWCH.
HOLLDREIDDIOL bresenoldeb yw
Prydferthwch drud,
Fel YSPRYD y tragwyddol Dduw, Yn llenwi'r byd.
Rhyw ysbryd hynaws, cydnaws, coeth
O'n hamgylch yw,
Yn dal â'r pur, a'r da, a'r doeth- Gymundeb byw.
Pob gwrthddrych a wel
Y llygad i'w swyno,
Pob adgof a ddêl
I'r bryd yn dysgleirio,
Sydd eiddo prydferthwch, -prydferthwch i gyd
Yw pobpeth sy foddus i lygad a bryd.



 

 

x207


Y mae ei hanfodoeth yn maith ymledaenu Dros gylch creadigaeth yn gariad a gallu: Ei haulwen ysplenydd sydd hefyd yn disgyn Ar dalaeth darfelydd o derfyn i derfyn
Hoff gan y darfelydd yw ymdaith yn nhir A thyner oleuni prydferthwch; Bydd mwyniant y galon yn dawel a chlir, Fel blaenbrawf o nefol ddedwyddwch.
Fe gyfyd y teimlad uwch gofal a chur, O dan ysbrydoliaeth prydferthwch; Bydd holl olygfeydd y darfelydd yn bur, Yn cychwyn o feusydd hyfrydwch. Ei flodau ef i gyd ynt fythol wyrdd,
Yn agor mewn tragwyddol dyner hâf; Ei gyfarch maent ar hyd ystlysau ' r ffyrdd, A sisial am brydferthwch gallu Nâf.
Troi ei ffynnonau mae yn risial clir,
A'i ddyfroedd oll yn ddyfroedd tarddol, byw;
Ei holl afonydd rêd drwy ffrwythlawn dir Yn arian tawdd, i'r môr, sef costrel Duw.
Ei awel sy'n beroriaeth yn y llwyn,
A'i adar bach yn engyl ar y coed, A'i wlith boreuol megys neithdar mwyn, A'r ddaear werdd yn Eden dan ei droed.
Ei lampau aur, yw'r sêr dihalog wawr, Ennynir gan angelion gyda'r hwyr,
Er mwyn goleuo dinas Natur fawr,
A phob ystryd o'r ddaear hon yn llwyr.
Mae tafod dwyfol gan bob llais a glyw
Mae bywyd yn mhob gwrthddrych ag a wêl, Mae Natur oll dan ysprydoliaeth Duw,
A'r tir i gyd yn
llif o laeth a mêl.



 

 

x208



Guersi Prefathe
Ond pan y dyrch ei lygad treiddgar fry, I edrych ar brydferthwch nef y nef, Mae y perffeithrwydd dwyfol yno sy ' Yn llawer uwch na dim o'i gread Ef. A phe cartrefai yno ddeugain nydd,
Fel MOSES gynt ar ben y sanctaidd fryn, Dychwelai'n ol heb ddim o wlad y dydd, Ond allem wel'd ar ei wynebpryd gwyn.
Ni dderlun ef brydferthwch byd mor wyn, Er cael holl liwiau natur at ei draul: Pan saif yn ngwydd y gogonianau hyn, Ymgolli mae fel seren yn yr haul.
Er hyn i gyd, os oes un llon Fynydyn i'w fwynhau,
O'r nefoedd ar y ddaear hon, — Tan ryw brydferthwch mae,
Mae'r greadigaeth fawr yn llawn Prydferthwch o ysprydol ryw, Fel bys - yn pwyntio'n gywir iawn At orsedd yr anfeidrol Dduw.
Doethineb yn mhob seren sydd, A chariad ar bob bryn a dôl, A gallu Duw yn ffrwyno'r dydd, A'i arwain ef ymlaen ac ol. Gwirionedd wisga'r gwylltedd llwm, Hyawdledd dardd o'r creigiau mud; Llefara bryn, a dôl, a chwm
Am DDUW! am DDUW! o hyd, o hyd! Rhyw Ysbryd mawr sy'n treiddio'r byd, Mae'r. tân, a'r dw'r, a'r gwynt yn fyw!
Yn gwneuthur arch eu Duw o hyd- Yn seinio'i fawl, ond dyn nis clyw!




 

 

A close-up of a text

Description automatically generated

x209

Mae gwersi ar bob blodyn blydd, Ac addysg gan bob deilen werdd; Y ddaear a'r wybrenau sydd
Yn dyrchu'r un dragwyddol gerdd.
Anian fawr, dysg a dawr, I athronydd,
Ac awenydd,
A duwinydd sy'n dy wawr!
O, DDUW Celi,
Mae'th ddaioni
Di yn llenwi nef a llawr!
Huan ter, wnaethost Nêr, Nefol gerbyd
Gwawl a bywyd,
Yw'n ymsymud rhwng y sêr!
Leuad lwys! cerddi'n ddwys, Drwy'r nef ddisain,
A'r sêr mirain
Fel plant bychain ar dy bwys!
Dawel nôs! ydwyt dlôs, Mae dy lwybrau
Rhwng sêr - emau,
Brithaist furiau'r nef â rhôs!
Wybren loew! eang, hoew, Di ollyngi,
Drwy'th ffenestri,
I'n oleuni'n dirfawr lanw!
Tithau ddydd llonder sydd, A gogoniant bywiol, gwyndeg, Byth yn rhedeg dros dy rudd!
Ddaear lawr! hardd yw'th wawr, I fil myrdd o geinion gwerthfawr Ydwyt un chwareufwrdd mawr!
Gwever



 

 

A page of a poem

Description automatically generated

x210



Tithau for! costrel IOR, Ca cymylau,
A ffynonau,
Ddwyn eu ' stenau at dy stor; Hwythau'n ffyddlon,
A wnant anfon
Eu bendithion heibio'n dor!
Pob dyn byw! moled DDUW,
Wnaeth y cyfan mewn prydferthwch,
Er dedwyddwch dynolryw!
O swynol Brydferthwch! mor fawr, mor anfeidrol Yw'th allu sy'n allu heb orthrwm na thrais! Dydi ddiogeli ufudd - dod gwirfoddol
A gwên dy ddau lygad, neu fwynder dy lais.
Mae'th faddugoliaethau yn wir ogoneddus-
Heb gael eu llychwino ag anrhaith a gwaed; Ti ddenaist freninoedd i daflu'n esgeulus
Eu dysglaer goronau i lawr wrth dy draed.
Mae'n wir i ragorol brydferthwch HELENA
Wel'd mil o gadlonau yn Tenedos gynt, A chlywed yr alwad ar Groeg i'r ymdrechfa; Ond beth ? a'i prydferthwch gynhyrfodd yr hynt ?
Tydi a wna'r cyfrwys mor ddidwyll â'r baban, A rhwysg a chreulondeb yn fwynder a hedd;
Ti hefyd a siglaist hyd waelod ei anian.
Y cadarn, a chwarddai ar fidog a chledd.
Agoraist y galon gyfyngaf yn helaeth,
Ti hefyd a blygaist y cyndyn a'r croes; A chefaist, heb ofyn, roesawgar lywodraeth O fewn y bryd mwyaf amddifad o foes.
Tramwyaist trwy gelloedd tywyllaf y galon,
Lle na bu hawddgarwch na rhinwedd erioed;

.


 

 

x211

Agoraist dramwyfa lle cyrch yr angelion, Goleuni a phurdeb a gânt dan eu troed. Cael yfed o'th fywiol ffynnonau am enyd, Wna'r enaid yn ddiwall, a'r yspryd yn llon; Fel rhinwedd goleuni, fel adgof ieuenctyd,
Yw'th yspryd yn disgyn ar deimlad y fron.
uptrycketh
Profertheho
Gwirionedd a chariad wyt ti, O, Brydferthwch! Dy wisgoedd ynt wynion, angelion a'u medd; Dydi a dywyni ar fyd o dywyllwch,
A'th wên a oleua derfyngylch y bedd.
dyrchafu
Youryd dyn
nego zu llaw Angel Prydferth wybrat i
Syover sunce af
Pry of ch
Fe roddwyd dy fenthyg i Natur, fel parod Gysgodlun o sanctaidd lawenydd y ne ', Lle mae pob perffeithrwydd yn cydymgyfarfod I wneuthur i fyny dedwyddwch y lle. Os graddol ddiflana prydferthwch y wyneb, Fe erys dansoddawl * brydferthwch yr un; Fel oedd y bydd eto, i bob tragwyddoldeb, Yn sylwedd anfarwol fel DuwDOD ei hun. Dywedir am y bedd - y tawel fedd- Mae " tir tywyllwch fel y fagddu yw; " Os felly, i'r annuwiol ofnus mae, Oblegid gwyntoedd ' stormus angeu mawr Ddiffoddant ei lusernau ef bob un; Ni wêl ei lygad ef brydferthwch mwy, - Fe allai bydd blodèuyn bach neu ddau Yn gwênu'n dlws ar ael ei feddrod prudd, Planedig gan ryw dyner, dyner law, A ballodd bron gan anobeithiol serch: Ow! dyna'i ran o bob brydferthwch mwy; Ac am hyn oll, efe nis gwybydd ddim. Ond, nid yw'r bedd fel hyn i deulu Duw! Mae gan y bedd brydferthwch iddynt hwy, — * Abstract beauty


 

 

x212



Mae dwyfol addewidion, fel y sêr, Yn frith o gylch ei wybren welw i gyd; Mae Ffydd a Gobaith hefyd ar ei bwys, Yr ochr hon, a'u lampau'n cyneu'n glir, Ac Adgyfodiad CRIST yr ochr draw,
Yn t'wnynu'n haul tragwyddol ar ei byrth! Bydd llwybrau'r saint o hono'n oleu iawn; Ow beth fydd eu prydferthwch hwy bryd hyn, Yn d'od o'r bedd fel engyl cedyrn Duw, Dan addurn gogoneddus gwisgiad gwyn Sancteiddrwydd anfarwoldeb dedwydd nef, Lle'r esgynant hwy i wledda'n llon,
Ar arlwy fawr Prydferthwch Dwyfol byth!
Y
GWEFREFYDD. ( THE TELEGRAPH. )
DRWY fŷr, * neu awyr, dwyn newydd — o bell, Heb oed, mae'r Gwefrefydd;
Ac aden y fellten fydd
I'w gludo drwy y gwledydd,
Daeth cyfnod gwrthod swydd y cɔelcerthau, A'r g'lomen gludydd, er ys hir ddyddiau, A'r ager weithion, drwy ragoriaethau Adeiniog, hwylus, y trydan golau:
Clywch! clywch! ar y mellt clau - ' n ymddyddan, Heb sŵn y daran, ar bwys ein dorau!
Arwydd o iawn ddyfais, braidd yn ddwyfol,
Oedd rhoi tafod glân i'r tân melltenol;
Dyma brif wyrthiau y doniau dynol,
Er anfon bendithion buan - deithiol:
Byr - draeth wybodaeth wibiadol, drwy'r byd, — Encyd ac enyd drwy'r canol!
* Plural of sea.



 

 

A close-up of a text

Description automatically generated

x213

Y
BARDD.
( THE BARDD. )
EDRYCHA rhai dynion, na wyddant pa beth yw profi cariad at ddim sydd ragorach ei ansawdd, ac uwch ei natur, na'r materol, ar y breingelfau ( fine arts ), ar gwyddonau ( sciences ), fel erlyniadau di- werth a diddefnydd; ac ar eu proffeswyr fel dosparth o ddynion gwagsaw ac anfuddiol mewn cymdeithas; ond y mae barnau, ym- adroddion ac ymddygiadau y dynion hyn yn profi na wyr eu hys- prydoedd anianol hwy ddim pa beth yw dal mynyd o gymundeb a'r pur, y mawr, y goruchel, a'r derchafedig; ac na wyddant ond ychydig am y pleserau digynhwrf a dihalog hyny a fwynheir yn yr ymdrafodaeth a'r moesol ac a'r deallol; ac nid yw eu teimladaeth wedi derbyn yr un eneiniad erioed oddiwrth y tyner, yr hawddgar, a'r prydferth; yr unig safon, wrth ba un y mae y cyfryw ddynion yn profi gwerth a theilyngdod pob peth, ydyw yr elw, a maint yr elw, a fyddo y pethau hyny yn ei ddwyn i'w llogellau anniwall hwy; y maent wedi byw mor hir ac mor llwyr o dan lywodraeth trachwant bydolrwydd ac anianolaeth, hyd nes na fedrant deimlo chwaeth at, na ffurfio barn na syniad teilwng am yr hyn sydd bur, prydferth, derchafedig, ac ysprydol ei natur. Ystyriant y cerfiwr, y darluniwr, yr athronydd, ac yn eu plith y bardd, & c., hefyd, fel diffrwythwyr y tir - fel gwagnodau, ac fel math o ormes - wenyn ( drones ) ar gymdeithas; am na byddent fel hwynt - hwy - yn gwneuthur celf a masnach yn wrthddrychau eu holl sylw, eu llafur, a'u hegni, ac yn unig destynau eu myfyrdodau a'u hymddyddanion -byw, symud, a bod gyda y materol; gan adael, y mae yn debyg, y deallol, y moesol, a'r rhinweddol i ofal a rhagddarbodaeth dam- wain a dygwydd.
Anfynych mae y bodau ymlusgol hyn yn derchafu eu llygaid cenog oddiar lwch y ddaear, i edrych ar amrywiaeth creadigaeth Duw; ac anfynych y gofynant iddynt eu hunain, i ba beth y mae hyn oll da ? Eu syniadau gwyrog ac isel hwy am amrywiaeth natur yn ddiau yw hyn, -mai amrywiaeth i'w gasglu at eu gilydd gymaint a ellir - i'w dywallt wedi hyny yn unrhywiaeth melyn i'w llogellau hwy, ydyw. Y mae uwchlaw eu hamgyffredion hwy yn mhell i ddarganfod fod yr amrywiaeth hwn yn osodiad yn ddeddf ac yn angenrhaid mewn natur, ac fod iddo ei ddybenion moesol yn gystal ag anianyddol. Mae economy y byd moesol yn gyffelyb, os nid yn gymhwys yr un fath ag eiddo pob byd arall — yn gofyn am- rywiaeth ond ynddo ef- amrywiaeth chwaeth, barn, meddwl, cyf- lyrau, sefyllfaoedd, galwedigaethau, proffeswriaethau ac erlyniadau; ac nid hyny yn unig, ond rhaid hefyd fod cyfartalwch a chyd- bwysedd rhwng gwahanol elfenau y byd moesol, yn gymhwys fel eiddo y byd materol; neu ynte, bydd yr effeithiau yn ddinystriol


 

 

A close-up of a text

Description automatically generated

x214



i'r naill fel y llall. Nid mewn gwleidyddiaeth y mae y syniad am y balance of power yn aros yn unig; na, y mae y balance of power yn rhagddarbodaeth ddwyfol, ac yn blethedig drwy holl gyfan- soddiad natur.
Mae y balance of power, y cydbwysedd neu y cyfaddasiad dog- neddawl hwn, yn bodoli rhwng y gwahanol elfenau a'u gilydd-- rhwng gwahanol lwythau a rhywogaethau y greadigaeth afresymol a'u gilydd, a rhwng gwahanol ddosbarthiadau cymdeithas hefyd; a'r foment y cythryblir yr equilibrium hwn, mae afreoleidd - dra yn cymeryd lle yn yr holl beirianwaith.
Mai Rhagluniaeth wedi gweled yn angenrheidiol galw y mas- nachwr, y celfyddydwr, a'r llafurwr i gylch y bywyd cymdeithasol i ddarparu ar gyfer angenion corfforol y duwinydd, yr athronydd, a'r bardd, & c.; tra y mae gwedi gweled yr un mor angenrheidiol galw y duwinydd, yr athronydd, a'r bardd, i ddarparu ar gyfer eu hangenion ddeallol a moesol hwythau; ac heb eu gilydd, buasai y naill ddosparth mor ddiffygiol ac annedwydd a'r llall. Cofied pob dyn, a phob dosparth o gymdeithas, ynte, fod iddynt eu gwaith neillduol i'w gyflawni, a'u cylchoedd priodol i droi ynddynt mewn Rhagluniaeth, er dwyn oddiamgylch y gweinyddiadau hyny, drwy ba rai y sicrheir ac y perffeithir dedwyddwch cymdeithas. Na ddi- ystyred neb, ynte, unrhyw ddosbarth o gymdeithas, canys wrth hyny efe a ddiystyra un o ordeiniadau Rhagluniaeth. Mae athroniaeth wedi cael ymosod arni i raddau cyn yma, gan feddyliau mwy goleuedig, ac o safleoedd mwy cysegredig, na'r rhai a enwyd genym yn ffaenorol; ond y mae barddoniaeth wedi ffynu yn well, a hyny, feallai, am y rheswm fod ysbrydoliaeth ddwyfol wedi gweled bod yn dda rhoi lle mor helaeth ac amlwg i athrylith y bardd rhwng ei thudalenau. Mae yn anmhosibl edrych ar broffeswriaeth y bardd, fel peth ofer, diddefnydd a dibwrpas, heb edrych felly hefyd ar ran helaeth iawn o lenyddiaeth gysegredig y Bibl. Y mae rhai dynion i'w cael nad ystyriant un math o lenydd- iaeth yn fuddiol a phwysig, oddieithr ei bod yn apelio yn gyfangwbl at y rheswm a'r deall yn tueddu at gadarnhau y naill, neu oleuo y llall; heb ystyried fod gan y ddynoliaeth ei serchiadau a'i theim- ladau i'w difyru a'u diwallu yn ogystal. Y mae wedi ei drefnu fod i lenyddiaeth neu athrylith ei chenadwri at y teimlad a'r serch yn ogystal ag at y rheswm a'r deall. Y mae ein cyfansoddiad moesol, fel ein cyfansoddiad deallol, yn gofyn meithriniaeth, a'r feith- ryniaeth briodol hefyd, ac i'r graddau angenrheidiol; neu, ynte, bydd i ddirywiad ac anrhefn gymeryd lle yn y naill neu y llall o honynt.
Fel engrhaifft o'r dosparth uchod, darfu i un gwr enwog, unwaith, wedi darllen pryddest enwog MILTON, ofyn am dani- " pa beth oedd yn ei brofi ? " Yr oedd ei gyfaill yn canmol ei gyfansoddiad yn



 

 

x215

fawr; Yes, " meddai yntau, " but what does it prove ? " Nid oedd barddoniaeth yn werthfawr gan y gwr hwn, am na fuasai wedi ei chordeddu ag athroniaeth ddwfn, neu resymeg gref a diwrthddadl! Ni feddyliodd y gwr mai rhai o brif amcanion y bryddest hon, fel y rhan fwyaf o bob barddoniaeth arall, oedd anerch y darfelydd a'r crebwyll, ac apelio at deimladau mwyaf goruchel ac ysprydol ei natur, a chynhyrfu y cyfan i weithgarwch bywiog ac iachus; ac nid olrhain gwirionedd, na phrofi pwnc, eithr cymeryd hyny yn gania- täol, a gosod yr hyn oedd ger ei fron mewn ffurf fwy dyddorol, deniadol, ac enillgar o flaen ein meddwl.
Wrth derfynu, y casgliad neu yr addysg oddiwrth yr hyn a ddywedwyd, ydyw hyn - fod i bob peth ei le, a'i waith, a'i anghen- rheidrwydd, ac na ddylid eu diystyru na'u dibrisio; a'u bod oll yn gyfryngau cyfaddas yn llaw Duw i ddwyn oddiamgylch fwriadau ac amcanion ei Ragluniaeth.
LLYTHYR AIL.
PROFFWYD natur, dysgawdwr moes, a thywysog rhinwedd ydyw y bardd, neu o'r hyn lleiaf, dyna ddylai efe fod. Ond cofied y dar- llenydd fod i'r athrylith farddol, fel pob athrylith arall, ei gwyriadau ( aberrations ). Y mae i'r bardd, fel pob cymeriad arall, ei natur lygredig, ei drallodau, ei brofedigaethau, a'i groes - ragluniaethau; o ganlyniad, ei ffaeleddau a'i golliadau. Bu y bardd Cymreig un- waith yn ysgogi a thywys meddylfryd a thynghedfen ei wlad; efe oedd ei hynad, ei hoffeiriad, a'i dysgawdwr cyffredinol; ac y mae y syniad o uwchafiaeth ac awdurdod y bardd, heb ymadael yn llwyr â meddwl y byd eto; ac ni ymedy byth tra fyddo gwirionedd a phrydferthwch yn mhlith prydweddau anian, canys yn ei ddadblyg- iad o honynt hwy y mae y swyn a effeithia yn aros. Mae y bardd talentog a bucheddol yn gorchymyn parch ac anrhydedd lle bynag yr elo. Y mae ei brofedigaethau mewn cymdeithas yn fawrion ac yn gryfion. Y mae pob dosparth o gymdeithas yn edrych i fyny ato, ac yn ymhyfrydu yn ei gwmni. Y mae efe yn gorfforiad o allu, swyn, a dirgelwch; saif ar dir canolog. Nid yw mor reserved, ymneillduol, a didoledig ei fywyd a gweinidog y cysegr, nac mor familiar, ymyrgar, a chyffredin a'r dosparth hwnw sydd yn ym- wneyd â dyledswyddau geirwon bywyd ymarferol; o ganlyniad y mae yn medru cyfarfod â phob dosparth o gymdeithas gyda gwên o gyfeillgarwch, a hwythau ei gyfarfod yntau gyda hawddgarwch, parch, ac edmygedd. Y mae mewn perygl mawr ambell dro, o lychwino urddwisgoedd yr awen, wrth ymgymysgu â chymdeithas, ac ymsymud yn ei gwahanol gylchoedd, lle y mae yn dyfod i gyffyrdd- iad â syniadau, golygiadau, tueddiadau, ac arferion tra amrywiog; ac os yw ei ddylanwad ef yn fawr ar gymdeithas, nid yw cym-


 

 

x216



deithas heb fod a pheth dylanwad arno yntau. Nid yw ddigon anfoesgar, nac yn meddu ddigon o wroldeb moesol, i ddwyn ei holl benderfyniadau personol i gyflawn ymarferiad bob amser; nid yw yn ddigon o feistr ar ei " Na wnaf, " na'i " Na ddeuaf, " yn mhob man, ac ar bob pryd; yn neillduol felly os medr ddeall fod hyny yn peri yr anghyfleusder lleiaf i feddwl a theimlad ei gyd - ddyn. Nid oes cymeriad ar y ddaear yn meddu cymaint o sensibility a'r bardd; a chan y gŵyr pa fodd y mae gwrthwynebiadau yn effeithio ar ei sensibility ei hun, gŵyr hefyd pa fodd yr effeithiant ar deim- ladau eraill; o ganlyniad, y mae yn ochelgar iawn rhag cynyg i deimladau eraill yr hyn a fyddai yn debyg o gythruddo ei deim- ladau ei hun. Y mae y bardd ynte, oblegid gwahoddiadau deniadol cyfeillgarwch, yn nghyd a thueddiadau cydsyniol ei natur ymoll- yngar ei hun, yn compromisio ei urddas a'i gymeriad i raddau mwy neu lai, weithiau. Ond nid yw dygwyddiadau fel hyn ond episodau bychain iawn yn mywyd moesgar ac anrhydeddus y bardd diledryw; a phan weloch frycheu weithiau ar ei wenwisg offeiriadol, peidiwch a phwyntio eich bysedd ato; ond cofiwch ei fod yn gorfod llusgo y wenwisg hono lawer gormod drwy y pridd tew a'r clai tomlyd, a'i rhwygo yn aml wrth rodio ar hyd llwybrau dreiniog bywyd, ac yn fynych, mynych yn gorfod gwneuthur gobenydd o ofidiau y dydd, i roddi ei ben curiol i lawr i geisio ymorphwys arno dros yr hirnos brudd, ddwys, a throm. A wyddost ti, ddarllenydd anwyl, am deimladau pruddglwyfus y bardd pan yn myfyrio ar gyfnewidiadau bywyd, ansefydlogrwydd pethau daearol -- pan yn dyoddef gŵg rhagluniaeth yn teimlo oerfelgarwah cyfeillion a pherthynasau- dirmyg ac anniolchgarwch cymdeithas, -neu, wrth ganfod rhwysg- fawredd cyfoeth, rhodres balchder, gorthrwm ac anrhaith uchelgais, twyll y byd, a gwagder y cwbl ? Fel y dywedasom o'r blaen, nid oes neb ar y ddaear a fedr deimlo yn fwy dwfn, dwys, ac angherddol na'r bardd. Mae ei alar ef yn bruddglwyf, a'i lawenydd yn ber- lewyg. Ni fedd neb sensibility mwy tyner, bywiog, a derbyngar, na neb ag y gwneir argraffiadan dyfnach ar ei feddwl, nag i well pwr- pas, na'r eiddo ef. Nid ydym, wrth hyn, yn golygu nad yw dynion eraill yn teimlo, ac yn teimlo yn ddwfn, bwys dylanwadau ar eu meddyliau. Nid ydym yn meddwl nad ydynt yn gwybod beth yw profi hiraeth a galar, llawenydd a mwyniant, yn achlysurol; ond nid mor angherddol, ac eto hunanfeddianol, a'r bardd, yr hwn y mae teimlad yn holl - bresenol iddo. Mae darfelydd llawer un, feallai yn fyw o ddelweddau galar, gofid, a gwae, neu o gysur a llawenydd. Dichon fod yno fôr mawr tonog, ystormus, a thym- hestlog o ofn, o brudd - der, neu anobaith; neu nefoedd glir, serenog, o hyder, ffydd, a gobaith; neu hafddydd heulog a dys- glaer o lawenydd a dedwyddwch; ond yno yr erys y cwbl yn gronfa o ddirgeledigaethau yn mynwes ddileferydd llawer un,


 

 

A page of a text

Description automatically generated

x217


Rhaid i ni wrth deimlad ffrwydrol y bardd i dywallt allan drysorau cuddiedig gorddyfnderoedd calon dyn; ac wrth ei awen ddar- luniadol i bortreiadu yn gywir y delweddau amrywiog sydd yn cyniwair drwy ei ddarfelydd cythryblus; ac i roddi bywyd, ysgogiad, a dylanwad tragwyddol i feddylddrych a dirgel iaith y galon.
Dyfynwn a ganlyn, ar yr un testyn, o'r Poetical Companion, ac er mwyn ein cyfeillion Seisnigaidd, llawer o ba rai sydd dderbyn- wyr y " CEINION, " gosodwn ef i lawr yn yr iaith yr ysgrifenwyd ef ynddi: -
He is the minister
" The poet is the prophet of the universe! of nature, and the interpreter of beauty. It is his mission to represent, not by a process of scientific inquiry, but by an æsthe- tical instinct, the unity of GOD and nature: the union of all truth and beauty. To wanton in that unceasing stream of life which flows from the fountain of GOD! To snatch fire from the Em- pyrean, and to dash it among the sons of men. And while there may be some whose hearts are walled round with sordid cares, and to whom all beauty is a dross, there are others whose souls are yearning for that undying effulgence, and who, by it are lighted to a land of all - budding summer - to bowers of unfading bloom- where asphodels blow odorous breaths for ever, ' and where the soul gushes in a plenitude of joy.
" It is the privilege of the poet to wander in the garden of heaven to gather flowers of eternal bloom, and to scatter their sweet odours over the wilderness of the world; to light up every bosom with heaven's own radiant sunshine; to inspire every soul with love and beauty, and poetic joy, and inspiration; ' to subdue the strife and storm of man's troubled heart, and to teach him the sanctity of Christian hope and human brotherhood; to teach him that the well of truth lies within his own heart, and that all beauty is the reflex of GOD. The poet's power is, like his privileges, measure- less. While strong and mighty as a giant, he is gentle aud sub- lime as an angel in tears. Stretching forth his arms to heaven, he grasps the universe, and hugs- it in raptures to his throbbing bosom, not proud and defiant, but in the simplicity of a little child shedding tears of joy upon the petals of a flower. It is for the poet to teach us that there is a world of beauty in the tiniest flower, and an eternity of life in the dew - drop which glitters in its lovely bosom. It is for him to penetrate into the deep abyss of heaven, and to unravel the mysteries of this unbroken universe of GOD; to grasp all times and ages, all thoughts and purposes, all hopes and fears, all joys and sorrows; and having purified and made them holy at the shrine of beauty and truth, to embalm and beatify them in undying verse. The past and the future are both within his grasp. Of the past he is a teacher, and of the future a


 

 

x218



prophet. He drags forth from the tomb the great eras of other ages, not by toiling amid the rottenness and corruption of a perished world, but by the wand of his enchantment are they brought breathing and pulsing before us, and made instinct with purpose and with life.
" In years gone by, it was the poet's voice which, whispering in the patriot's ear like an echo from the grave, or thundering above him in the swelling agony of hearts maddened by despair, called him to arise like a new - made god, and to hurl oppression to its wonted doom.
" It is the poet's high and holy office to sit above the world en- throned, end to utter oracles which can never die! Within his heart there burns a fire which time cannot quench; like that which lies entombed within the ribs of this great pulsing world, and which ever and anon breaks forth in sublime yet terrific magnifi- cence. It is his task to affect the rounding and lapse of all things; to blend all forms and hues into one great whole, whose only im- press shall be harmony. And while our souls are wrapt into sublime ecstacies, or soothed into soft repose by the melodious music of his magic words, we are enabled to gaze out into the dim futurity, and to catch glimpses of that elysium where flowers fade not, where sorrow comes not, and where the beatitude of eternal joy is the inheritance of all who have loved faithfully, and believed reverently, the institutions and promises of GOD.
" How in all time the poet's song has floated over the world like the holy voice of an angelic choir chanting their hosannahs in the vaulted canopies of heaven; and in marking the progress of the passing time, he has still been teaching man that there are sympa- thies for him in every bud, and leaf, and flower; words of comfort whispered in every breeze, a joyous hope in every sunbeam; homilies in the stars which glide so majestically above us in the deep solitude of night, ever raining down beauty from their calm azure deeps; that our green world is embosomed in beauty and wonder, and that it sings its own song of glory as it ploughs its onward course through the abysses of cold space. The poet is the herald of cach new age and each new people; he stands out in the van, pointing the onward march of the ages, as they emerge slowly and majestically from the cloudy dream - land of the past into the effulgence of that new day, of which the world is in its birth - throes. The great coming age of amity and unity is of the poet's own creation; and now before his blighting word of peace, the sword begins to die, and like a demon tortured with the pangs of con- scious guilt, it gnaws into itself with inglorious rust to perish soon with ignominy. Oh! let us catch his words of fire; let us greet the inflowings of the poet's inspiration, and, looking up steadfastly


 

 

A page of a poem

Description automatically generated

x219


into God's clear heaven for hope and sustenance, let us become ' pious aspirants to the noble clay, plastic under the ALMIGHTY'S effort, to advance and advance on the chaos and the dark. '
THE POET'S
TASK.
BLESSED art thou, O, poet! Thou who hast Such fine capacities for life — such quick
And keen perception of things fair and lovely— Such noble faculties to lead thee on
To aid thy thirsting soul!
Thine inner life how radiant! ' Tis
A temple where the lustrous forms of gods Shine lucid, as if star - beams were poured through The streaming shafts!
Thine august mother speaks To thee in that pure primitive simplicity; Though wrapped in symbol and in mystery, To thee alphabet sublime bears no Unravelling shape.
There! here! and now! is thy eternity. It dates not by beginning; and thy birth To death contains not thy whole history. The soul from its own realm of grandeur, bends Its own great eye far beyond Mortality. Even while unrest is here, repose, like smiles Upon the sleeping lip of infancy,
Lies waiting thee beyond.
The visible
Shrines the invisible the poet worships, Tho ' dark hieroglyphics hide all beneath,
Then symbols to the casual eye thou canst Alone trace to the backward fountains, ere The world swung pendent in the vault of heaven, The course of pre - existence.
999


 

 

A page of a poem

Description automatically generated

x220



This poor shell
Of clay - this quintessence of dust - does hide Us for a time from GOD's face; but there comes With every inspiration, some faint glimpse
Of glory, as if to show what lies within
That radiant realm I pine for.
True! poets are
Now and for ever the hierophants
Of truths that yet are unappreciate.
The oracles of a diviner life
Shall fall from their lips, though no Priestess sits Upon the Pythic tripod, nor Dodonian oaks Mutter in air what Fate speaks to the doomed.
There shall fall on this earth a golden age, As pictured of the old Saturnian time; And they by whom this Eden shall be formed Though they be faint, and sicken and die with toil ), Shall be remembered when the flowers grow white In the first morns of Spring, when maidens fair Walk forth with frank - browed men on those green lawns, They'll bless the memory ( with tender tears ) Of those who were their legislators, and -
Once their High Priests.
MARWOLAETH TEGID.
DYMA un o ddysgedigion
Penaf Cymru yn ei fedd:
Wnaeth yn nhemlau serch ac awen
Iddo'i hun dragwyddol sedd
Nid cyffredin yw'r dygwyddiad,
;
Sy'n gwneyd Cymru ' n awr mor brudd;
Ynte, p'am mae'r dagrau'n llifo
' Lawr mor gyflym dros ei grudd ?


 

 

x221


Gymreigyddion trist y Feni,
Hawdd yr wylwch ddagrau'n ddyli '; Canys t'wyllodd eich goleuni- Aeth eich seren ola'i lawr.
O ser mawr y de - hanergylch, Du yw'ch hwybren amgylch ogylch; Ofer edrych i'r terfyngylch,
Nid oes obaith toriad gwawr.
CARNHUANAWC sydd er ' s enyd O'ch heirianrod wɔdi machlud, STEPHENS er ys meityn hefyd,
Wele! TEGID, yntau ' n awr, -- Y " Tair Seren Siriol " hyny Goruwch nos llenyddiaeth Cymru, Fu'n cylchdroi ac yn llewyrchu Yn eich Heisteddfodau mawr. Gwelid TEGID gynhes - galon, A'i wladgarwch arno ' n goron, Yno ' n mhlith y Pendefigion,
Gyda bodd yn gwneyd ei ran; Uchel oedd yn marn a chalon Meib athrylith - prif - lenorion Y cyfandir - BUNSEN, NIZON, —
Yntau Dwysog Hindo - stan: Aeth ei glod hyd arfordiroedd
Almaen - Ffrainc, a Morbi - han.
Ond, ow! anrheithiedig Feni, Bardd Nanhyfer mwy nis gweli, Gyda gair na gwên yn gweini
Bywyd drwy'th lenyddol wledd. Mae'r gwobrwywr hael ei galon-- Mae'r enillydd tlysog - ddwyfron; Ie, ' th bencynghorwr ffyddlon
Wedi peidio yn y bedd.


 

 

x222



Wylwch blant y cwyn a'r gofid, Mwy ni welwch anwyl DEGID Yn eangu ar eich rhyddid,
Pan mewn cur, neu dlodi caeth; Ni cheir addysg, gwers, na chynghor, Bwyd na diod, glo nac ammor,
Nac elusen ganddo ' n rhagor:
Darfu gwneuthur fel y gwnaeth.
Wylwch ysgolheigion tyner, Rhad - ysgolion bro Nanhyfer; Cawsoch golled fwy na llawer, -
Un o'ch noddwyr penaf chwi, Oedd yr hwn fu farw weithion- Un gyflwynɔdd law a chalon At eich haddysg a'ch manteision: Wylwch wylwch ddagrau ' n lli.
Helaeth oedd ei gyfraniadau, At grefyddol gymdeithasau, A dyngarol sefydliadau-
Eiddo rhin, a dysg, a dawn: Meddai galon lawn o gariad- Yspryd llawn o'r nef - eneiniad; Crefydd bur y serch a'r syniad,
Arno ffrwythai ' n hyfryd iawn.
Carai ef bob gwir grefyddwr, Ni waeth p'un a'i cyd - eglwyswr Ynte duwiol Ymneillduwr, -
Carai ddyn ar ddelw Duw; Er mai'r Eglwys Sefydledig Oedd ei " Fynydd derchafedig, " Meddai ysyryd rhydd, haelfrydig
At enwadau o bob rhyw.


 

 

x223


Cerid ef gan bawb o'i frodyr, Cerid ef gan Ymneillduwyr; Oedd o dymher fwyn a difyr- Cerid ef gan bawb, o'r bron: " Mab tangnefedd " oedd ei enw; Ar ei wyneb, O, mor loew T'wynai'r caredigrwydd hwnw
Oedd yn aros dan ei fron.
Uwch, fel ' sgolor Celtig ydoedd, Braidd, o'i ben na neb o'r bobloedd, Hyddysg oedd yn nghanghenieithoedd Yr hen Geltaeg fawr ei bri; Gwybu Ladin, Groeg, a Syriaeg, Gwybu'r Sanscrit hen, a'r Goptaeg, Perffaith iawn y gwyddai'r Hebraeg, A'i llenyddiaeth gyfrin hi.
Mae ei " Jones's Isaiah " ' n aros Yn ei fri hyd heddyw'n dangos, Ei wybodaeth bell ac agos,
Yn y wreiddiol hêniaith hon;
Mae ei gyfieithiadau medrus Wedi enill clod GENSENIUS,
PRITCHARD, EWALD - uchel - glodus
Ysgolheigion Europe gron.
Oedd yn un o'n prif lenorion, Gwelid delw'r clasurolion
Ar ei feddylddrychau gloewon-
Ar ei iaith a'i awen brif;
Meddai awen goeth a destlus,
Arddull eglur - cynllun trefnus; Meddwl bywiog, llawn, llewyrchus,
Er nad rhuthrol
megys llif.


 

 

A page of a paper with text

Description automatically generated

x224



Megys beirniad craff ac union, Fe'i mawrbrysid gan lenorion, Dwyn ei fryd a'i farn at safon
Natur ac athroniaeth wnai; Am " wir feddwl " yr edrychai, Arddull fereiriadol garai, Chwaeth glasurol a nodweddai Ei athrylith fawr ddi - drai.
Oedd ddysgedig Henafiaethydd; Gwyddai'r hen wyddorau celfydd, Oll gyfrinion Bardd ac Ofydd, - Gwyddai y dderwyddol lên;
Gwyddai drefniant Beirdd - orseddau, Gwyddai ddefion ein cyn - deidiau,
Ac hanesion y cynoesau
Gwyddai'r newydd, gwyddai'r hên.
Carai'r hen Omeraeg bersain, Hoffai ' i siarad, hoffai ' i olrhain;
Oedd yn hyddysg yn ei chywrain Gyfansoddiad oll o'r bron: Dengys cynyrch coeth ei awen, Dengys ei draethodau trylen, A phob gair ar ymyl dalen, Ei bodaeth glir yn hon.
Maes ei lafur ydoedd helaeth, Eithr ar diroedd ysprydoliaeth, Ac yn nghylch yr offeiriadaeth, Fwyaf yr egniai ef:
Mewn gweddiau - drwy bregethau- Ysgrythyrol gyfieithiadau-
Pob crefyddol ddyledswyddau-
Megys ffyddlawn was y nef.


 

 

A page of a poem

Description automatically generated

x225


Ef yn ysgol fawr Caerfyrddin, Mewn dysgeidiaeth godai ' n iesin, Fel haul boreu tua'i nawnlin,
Heb gyfryngiad cwmwl trist; Yn Rhydychain aeth ar gynydd, Hyd nes gwenu'n haul canol - ddydd; Ac yr enwyd ef o'r herwydd,
Yn " Flaengeiniad Eglwys CRIST. ” Uwch, uwch aeth mewn dysg a doniau, Uwch, uwch aeth mewn derchafiadau, —— " Athraw yn y Celfyddydau, "
Yr urddenwyd ef yn awr;
O Rydychain y dychwelodd, Parch a llwyddiant a'i dilynodd; Ffyddlawn hyd y bedd y llanwodd, Gylch o ddefnyddioldeb mawr.
Awen bur a'i urddasolodd- Uchel Ddysg a'i cyfoethogodd- Dwyfol Ras a'i llwyr addurnodd, Ac a'i cwbl brydferthodd ef; Ei DDUW a'i genedl a was'naethodd, Diwyd wrth ei dasg y daliodd, A'i ddiwrnod gwaith orphenodd, - O Nanhyfer aeth i'r nef.
Y
NWYWA W L.
( THE GASLIGHTS. )
WELE, wynaf oleuni, -i roi hoen
Ar ael y tywyllni;
Ni wna'r nos yn awr i ni Wrthwyneb werth ei enwi.
Y ganwyll a'i gogoniant - holloesol,
A'r llusern, ni thyciant;
Ein heolydd ni wiliant, -
-
Hwy'n welw wrth y nwywawl ânt,


 

 

x226



Nos aeth o'r ddinas weithian, -ni all lleidr Twyllodrus gael llercian
Ar ddig waith, na'r llofrudd gwan,
Le hyf i wneyd cyflafan.

Masnach yn hawddach weinyddir; -maelfa
Milfil mwy oleuir;
Cul heolydd cêl, wawlir,
Ni all y nôs dwyllo'n hir.
Ffloewi mae ei fflam hywel - yn awyr
Neuadd, Eglwys, Capel;
Dwl lawr, a diwael oriel,
Eang - le c'oedd, a chongl cêl.
Hardded yw'r dref bob hwyrddydd i'w gweled
Yn ei goleu newydd; Deg mil o ser digwmwl sydd
Yn gwawlio rhwng ei gwelydd!
ADFERIAD TYWYSOG CYMRU I'W IECHYD
CYNEFINOL.
HAWDDAMOR, yn ddiomedd, -i iesin
DYWYSOG CYMRU geinwedd;
Iechyd, a bywyd o'r bedd,
A adferwyd i'w Fawredd.
Gobaith ei fyw! pan glywodd - y Deyrnas,
Ei chadernid wisgodd:
Bu'r iaith i bawb wrth eu bodd, — Goroian drwy'r byd greodd.
A dydd i'w anrhydeddu — a gafwyd, Ac i gofio'r Gallu *
A'r Llaw a'i dwg, o'r trallod du,
Yn iach i fan uwch i fynu.
Dydd y diolchgarwch cyffredinol hyny a gynaliwyd drwy yr holl Deyrnas a'r Ymerodraeth, i gydnabod Duw am adferiad y Tywysog i'w iechyd.



 

 

x227

GLANAU Y MOR.
LLE rhyfedd yw glanau y mor - y mae yno ddefnyddiau llawer iawn o hyfrydwch a mwynhad i'r meddwl olrheingar a myfyriol. Yma yr erys gwrthddrychau ac elfenau a gipiant y darfelydd yn ol y tu hwnt i foreuddydd amser yn mhell, ac i mewn i ryw gyfnodau meithion pryd nad oedd y gorphenol ond megys baban bychan yn huno ar fynwes y tragwyddol. Yma mae y dibyn mawreddog. a'i ben yn ymddyrchafu goruwch tonau y cefnfor mawr, ac yn edrych arnynt gyda sefydlogrwydd a phenderfyniad, ac yn dywedyd wrthynt, hyd yma y deuwch, ac nid yn mhellach. Ar fynwes aml- haenog y dibyn hefyd y gwelir olion cywrain a lluosog celfyddyd sydd ddwyfol. Yma y dangosir goruchwyliaethau araf - symudol fferylliaeth anian - gallu a doethineb dwyfol yn ymddadblygu mewn deddfau bythweithgar, unffurf, a digyfeiliorn. O, haenau henafol! a all llygad cliraf y darfelydd eangaf ganfod dydd eich dechreuad ? Ddyn! pa le yr oeddyt ti pan araf - gasglwyd aneirif ronynau y rhai hyn at eu gilydd ? A glywaist ti dwrf y dôn gyntaf a olchodd, neu a ymdreiglodd dros haenau sylfaenol y dibyn ? A glywaist ti lwyarn y don, neu forthwyl yr elfenau arnynt ? neu a welaist ti dragywyddoldeb yn eu hadeiladu ?
Yma mae pebble caboledig, ïe, y tywoydyn hirdreuliedig hwnw sydd lawer iawn yn henach na'r Eryri. Gofyn, ddarllenydd, i'r gwrth- ddrych bychan, dystaw, a distadl hwn, ac efe a ddywed wrythyt ei fod yn cofio Cymru, Ysgotland, Norway, Sweden, & c., yn un cyfandir mawr, ac afonydd hirfaith o faintioli y Don, y Danube, ac feallai y Ganges, yn llinellau eu harwyneb. Beth pe baet ti yn ceisio olrhain llinach ac haniad y tywodyn bychan hwn. Ti a ryfeddet pe caet allan ei fod wedi bod unwaith yn un o greigiau anferth yr Andes neu yr Himalaia, neu rhyw fynydd mawr a derchafedig arall, yr hwn feallai sydd weithian yn gorwedd i lawr yn y gorddyfnderoedd pell ac anweledig! Gofyn i'r pebble cabol- edig yna, pa sawl gwaith y mae wedi golchi ei wyneb llyfn yn nhònau byth - symudol y cefnfor. Dichon ei fod yn cofio yr amser y gwthiwyd yr Eryri i fyny yn un talp i'r wybrenydd, o ddyfnder- oedd anchwiliadwy y Werydd mawr a chynhyrfus. Dichon ei fod hefyd yn cofio yr Atlantic trochinog yn chwydu ei lava poeth yn bentyrau mawrion o'i fynwes ddofn; ac yn gosod arnynt sylfeini y peth a elwir heddyw yr Iwerddon! Dichon ei fod yn cofio yr adeg bell, bell hono, pan oedd y saurians dwy - elfenog, anghenfilaidd, ac amrosgo yn meddianu wyneb y tir; neu y pryd hwnw, pan nad oedd ond y crustacea distadl yn unig arwydd o fywyd drwy yr holl greadigaeth weledig. Yn wir, pe na byddai yn Baganiaeth, mi a syrthiwn i lawr ar fy neulin ac addolwn y tywodyn bychan,


 

 

A close-up of a text

Description automatically generated

x228



eto mawreddog - y tywodyn mud, eto hyawdl - y tywodyn syml, eto arddunol - y tywodyn henafol, dwyfol - farddonol, yr hwn a glywodd y gair " Bydded " yn adseinio drwy holl gylchoedd y cyfanfyd mawr, ac a welodd y llaw anweledig hono yn troi y tywyllwch hwnw oddiar wyneb y dyfnder, ac yn symud y cwmwl tew, trwm, a chadduglyd oddiar aeliau y wybrenydd; ac a ganfu yr haul, y lloer, a'r ser yn gwenu drwyddynt am y tro cyntaf ar wyneb newydd - ffurfiedig ein daear ni. Ar lan y mor, hefyd, y gall yr ed- rychydd ystyriol gael golwg syml, agos, a phrydferth iawn ar weithred- iadau diymattal y ddeddf ddigyfnewid hono, yr hon er ei bod mewn ysgogiad parhaus, sydd yn dal y cyfanfyd mawr wrth ei gilydd. Rhyfedd mor ardderchog yw yr olwg arni weithiau yn rholio y tonau pwysig, tyrfus, a byddarol, tua'r traethau hirymestynol, ac yn eu dychwelyd eilwaith yn un retinue fawr yn eu hol tua eu llochesau cynhenid. Pe byddet ti, ddarllenydd, ddim ond rhoddi tro tua'r Bay of Biscay, ti a gaet weled yr Atlantig mawreddog yn hongian yn fynyddoedd mawrion wrth ei bysedd; a chaet ei gweled yn gorchymyn ac yn gosod yr ystorm orllewinol i flangellu ei draethau swnfawr nes peri dirgryndod drwy ei holl ororau syn- darawedig. Rhyfedd yw ei grym anferthol, ei bod yn medru siglo y mor mawr, llydan, a phwysig, fel y sigla mam gryd ei baban! Os eir i analizio, neu ddansoddi y ddeddf hon, ceir nad yw ei helfenan cyfansoddiadol yn ddim arall ond gallu a doethineb y DUWDOD mewn cyfuniad hapus a chyson â'u gilydd, ac yn cyd- weithredu mewn dull unffurf, diwyro, a digyfnewid. Bob amser y clywot ti, ddarllenydd, son am ddeddfau natur, cofia nad oes dim i'w feddwl wrth hyny rhagor na phriodoliaethau hanfodol a moesol y DUWDOD yn cydweithredu mewn dull unffurf, cyson, cywir, digyfeiliorn, a digyfnewid. Dyma yr agencies hefyd drwy ba rai y mae EFE yn cyflawnu ei ragluniaethau naturiol; trwyddynt hwy, mewn cysylltiad â deddfau moesol ereill, y mae EFE yn dwyn ei holl ragluniaeth oddiamgylch. Y mae y greadigaeth ysprydol yn gystal a'r faterol - y foesol yn gystal a'r anianyddol y gweledig a'r anweledig yn ddarostyngedig i ddylanwadau y deddfau hollalluog a hollbresenol hyn. Ynddynt hwy y mae pawb a phobpeth - o'r llwchyn lleiaf ar y llawr hyd at y goleuad mwyaf yn y wybrenydd, o'r animalcula distadl hyd at yr angel glân, y cerub coeth, a'r seraph tanllyd o amgylch gorseddfainc Duw yn byw, symud, ac yn bod.
Y mae gwibdaith tua glanau y mor, yn nhymhor hâf yn un o fwynianau mwyaf dymunol llawer iawn o ddynion o bob dosbarth o gymdeithas. Y mae lluaws mawr o drigolion y Gweithfeydd yn ymryddhau, yn ystod rhan o'r tymhor hwn, o afaelion y mwg, y nwy, a'r tawch niweidiol ac afiach ag sydd yn anwahanol gysyllt- iedig â'u gorchwylion yn y gweithiau haiarn a chopr, ac yn cyfeirio


 

 

x229


eu hwynebau i lawr tuag iachus, haulwenog, a hyfryd lanau y mor, er mwyn gosod eu hunain dan driniaethau meddygol y mor - dduw Neifion, yr hwn sydd yn llawer rhatach, sicrach, a ffyddlonach meddyg na llawer o feddygon proffesedig ein gwlad. O! mor neis, mor ffres, mor adfywiol yw effaith yr ymdrochfeydd yn nyfroedd claear a llaethog y traeth - donau chwareus, maldodus, a chareugar. O! gyda'r fath serch, tynerwch, a diniweidrwydd y maent yn cusanu traed perlesmeiriol yr ymdrochydd wrth ddringo i fyny tua'r traethau gorweiddiog; mor araf, mor syrthlyd, mor ddioglyd yr ymdreiglant i fyny, ac yr ymollyngant eu hunain ar y traeth sych- edig. O! y fath deimlad esmwyth, melus i'r ddwy - droed noeth yw cael sengi a rhodio ar hyd wyneb y dywoden lefn, laith, wastad, a hirymestynol; tra zephyron mwynaidd y don yn gwyntyllio'r fynwes, a heulwen dyner, glir, a digwmwl Mehefin yn tywallt ei llewyrch adlonol ar yr holl olygfeydd amgylchynol.
The sea! the sea! its lonely shore,
Its billows crested white!
The clouds which flit its bosom o'er, Or sunbeams dancing bright; The breakers bursting on the strand, In thunder to the ear;
The frowning cliff, the silvery sand, Each - all to me are dear.
The sea! the sea! the solemn sea, It has a voice for all;
And even to hearts of happiest glee, May sober thoughts recall.
To me it speaks of distant days,
Of vanish'd hopes and fears;
Who silently can on it gaze
With eyes undimmed with tears ?
The sea! the sea! the changeless sea! Of tears I take my leave;
It half recalls a smile from me,
To think of what I grieve;
The hopes and fears I sorrowed o'er, Were hopes and fears of time; Thou art the type of something more, Unchanging and sublime. - BARTON.
Is it on the seashore the student of nature walks ? Each rippling wave lays at his feet some tribute from the deep, and tells of wonders indescribable; brings corallines and painted shells, and
R


 

 

x230



thousands of grotesque beings, samples left to show that in the sea, through all its spacious realms, life still is found that creatures there exist more numerous than on the earth itself, all perfect in their construction, and, although so diversified in shape and attri- butes, alike subservient to the general welfare. - Professor R. JONES.
Ar lanau y mor y gelli di, ddarllenydd, ganfod effeithiau treul- iadol llanw a gor - lanw ei ddyfroedd nerthol a bythysgogol, A weli di yr ynysoedd bychain yna sydd o fewn chwech, tair, dwy, neu feallai un filldir oddiwrth ei lanau ? Y mae y rhai yna wedi bod yn gyfunedig â gororau y mor unwaith; y llanw mawr, nerthol, a chyson sydd wedi eu dadgysylltu oddiwrth y tir; ac oni buasai eu bod hwy eu hunain wedi cael eu gwregysu â chadwyn gref o greigiau celyd, buasent hwythau wedi cael eu lleibio ymaith er ys talwm hirfrith bellach. A weli di yr ychydig greigiau pigfain, gwarsyth, a thalfrith yna sydd yn wasgaredig yma ac acw rhwng yr ynysoedd hyn a'r gororau ? Wel, pethau yw y rhai yna ag y mae y mor a'i donau mawrion wedi methu eu symud na'u llwyr dreulio hyd yn hyn; ond gelli ymddibynu eu bod hwythau yn graddol dreulio ymaith gyda phob ton ag sydd yn ymrwbio yn eu herbyn, ac y byddant yn mhen deg can ' mil o flynyddoedd eto yn aelodau cyd - wastad yn nghymdeithas ddirifedi'r tywod mân.
66
" "
Mi wn, ddarllenydd, fod dy glybod synedig di wedi bod yn ymsefydlu ar hirfaith, drymllyd, swnfawr, ac annherfynol dwrf a godwrdd donau y mor lawer gwaith cyn hyn. Y " twrf dyfroedd lawer " y sonia y Bibl am dano: y mae y twrf trymddwys, ym- neshaol, pellhaol, cryfhaol, gwanhaol, chwyddol, lleihaol, hiraethus, byddarus, suol, a rhuol hwn yn gyfryw ag nas gallodd y bardd mwyaf cyfoethog mewn darfelydd, iaith, ac ymadrodd, rhoddi des- grifiad cyflawn a chywir o hono. Nis gwn, o dan reverie fawr a synus twrf tonau dwfnseiniol y mor, i ba le y mae fy nychymyg yn fy nghludo, nac ar ba olygfeydd y mae fy narfelydd yn ymagor - pa un a'i goruwch golygfeydd a mwynderau diflanol, a chyda theim- ladau hiraethlawn y gorphenol, y mae fy yspryd yn aros; ynte ar ffeithiau pwysig, myfyrdodau synus, golygfeydd arddunol, a theim- ladau cymysg y dyfodol - beth bynag am hyn, yr wyf yn teimlo, pan fyddwyf yn swn tonau y mor, fy mod yn cael fy nghylchynu gan ryw arddunedd ymchwyddol, gan ryw ysprydolrwydd dwysfawr, a chan ryw ddwyfoldeb gafaelgar ac agos; yr wyf yn teimlo fel pe byddwn yn clywed llef dreiddgar, ddwys, a phruddglwyfus yn derchafu o fedd dystaw, oer, a newydd - agoredig y gorphenol; neu rhyw lais arddunol yn dyfod o ryw wlad bell, y tudraw i gyffiniau amser a chylch terfynol natur; ac nis gwn pa un ai rhybudd, gwahoddiad, neu fygthiad yw ei gynwys, er hyny gwn ei fod yn gafaelyd, caethiwo, darostwng, a gorchfygu.


 

 

x231


Ar lanau y mor, hefyd, y ceir golwg ar yr ystorm yn ei nerth a'i hardderchogrwydd, a'i phrydferthwch cyffrous a chynhyrfus. Edrych ar yr yacht fach acw; fel y mae yn cael ei thosio fel pluen hyd wyneb y tonau berwol a chynddeiriog; gellid meddwl ei bod yn suddo i'r gwaelodion ar un foment, a'r foment nesaf gellid meddwl ei bod am roddi llam tua'r wybrenydd. Rhyfedd y fath olwg lwyd, lidiog, wyllt, a gwallgofus sydd ar wynebpryd y mor; gyda'r fath ffyrnigrwydd mae ei donau dialeddgar yn fflangellu ei draethau diserch, chwerw, diboblogiad; y mae ysbrydion y dym- hestl wrthi hyd eu heithaf; y maent wedi gollwng y ffrwyn ar wàr y gwynt, ac wedi agor pyrth gorllewinol y cymylau o led y pen; y maent wedi gosod tonau y mor mewn ymrysonfa â'u gilydd; ymgodymant yn fryncynau mawrion, ac agorant eu safnau anferth fel pe byddent am draflyncu y gororau i'w crwmbilau anniwall. A glywi di dwrf swnfawr, hollgylchynol, a byddarol y dyfroedd yn awr ? Dyna swn tòn fawr, drom a diderfyn, onite ? Mewn sut ymdrech y mae y llong fawr acw: O fel y mae yn ymdroi a dattroi - ymddirdynu yn ol ac yn y blaen - ymsaethu, ymwthio, plwncio, ïe, ymysgwyd ac ymhoncian fel meddwyn.
Hark to the roar
Of the rocky shore,
Of the blue waves bounding high;
How they foam and dash,
With a mighty crash,
Where the tangled seaweeds lie.
Rising and dancing,
Lke the war - steed prancing,
And hurriedly rushing on;
The briny deep
Doth its roaring keep,
The frothy shore along.
When the full moon pale, Through the cloudy veil, O'er the ocean sheds her light; And the glittering star Shineth afar,
' Midst the starry hosts of night.
And many a sail
Has weather'd the gale,
Is bathed in the pale moon - rays; On such a night
' Tis a glorious sight,
O'er the boundless sea to gaze.


 

 

x232



Y mae nerthoedd y dymhestl yn medru troi a thrin y llongau mawrion, trymion, a chedyrn yna, fel ag y try hogyn ei deganau yn ei law. Druain o breswylwyr y temlau symudol hyn, yn nghanol y dymhestl ysgythrog ar wyneb noethlwm, diysgog, a digymdeithas yr eigion mawr. Wyddost ti fawr, ddarllenydd anwyl; pa sawl calon sydd dan ei chlwyf, yn curo yn gyflym ac ofnus oblegid rhyw fywyd gwerthfawr sydd yn aros yn y llong hona. Wyddost ti sawl un sydd yn methu rhoi hûn i'w amrantau a chwsg i'w lygaid ar nos drom a thywell y dymhestl, wrth feddwl am ryw gyfaill neu berthynas anwyl sydd a'i gartref ar y cefnfor, ac yn gwneuthur ei " orchwyl yn y dyfroedd dyfnion ? " A fedri di, ddarllenydd, gyd- ymdeimlo â'r trallodedigion hyn ? Os medri, dyrch dy lef ar eu rhan at yr Hwn sydd yn dal y mor ar gledr ei law, a'r dymhestl yn ei ddwrn; a pha un a ffyni a'i peidio, bydd dy wobr yn sicr.
y
Y mae yn anhawdd, i raddau, yn awr, * pan mae y gauaf ar dori i fewn, i'r meddwl allu sylweddoli ëangder a dymunoldeb y mwyn- derau hyny sydd i'w caffael ar lanau y mor yn ystod tymhor haf. Y mae prudd - der ac anserchogrwydd y tymhor, presenol yn taflu eu cysgodau gwelwon ar ddarfelyddiadau y tymhor hyfryd hwnw nes eu rhwystro i ymddadblygu o flaen y meddwl yn nghyflawnder eu prydferthwch a'u gogoniant. Ond y mae genym ni, sydd yn arfer ymweled â glanau y mor, well mantais bob amser i ffurfio meddyl- ddrych a thynu delweddiad cywir o'r mwynderau hyny, nag sydd gan rhai ag sydd hollol ddieithriaid i'r arferiad. Gŵyr llawer o honom ni beth yw yr hyfrydwch o gymeryd gwibdaith drwy y meusydd melfedaidd, a chydag ymylon y perthi gwyrddfrigog, a heibio y llwyni gwyn - flodeuog, a thrwy ganol sŵn peroriaeth amryseiniog a swynol cerddorion greddfol y goediwg werdd, a'r maes meillionog; ïe, pan mae gobaith y byd ar ei uchelfanau, teimladau a serch- iadau goreu y ddynoliaeth wedi cyrhaedd eithafnod eu llonder a'u llawenydd - pan mae y greadigaeth, resymol ac afresymol, megys yn cydwledda ar yr un mwyniant cyffredinol, -y mae y moesol yn teimlo y dylanwad hefyd; y mae y bywyd mewnol yn cael ei buro a'i gryfhau, a'r ysbryd ei wregysu, ei dderchafu, a'i ddedwyddoli.
Y mae glanau y mor yn llawn bywyd a phrydferthwch y tymhor hwn o'r flwyddyn; y maent yn cael eu bywiocau gan leisiau arian- seiniog, iachus, a gorfoleddus y genethod a'r meibion nifeiriol sydd yn dyfod i ymweled a'r gororau er mwyn cyfranogi o fanteision a bendithion y baddbeirianau, ac o awelon adfywiol ac adferiadol y don. Ereill ydynt yn gadael bywyd nychlyd a phruddglwyfus y trefoedd er mwyn cael cyfranogi o olygfeydd ffres, iachus, adlonol, a hanerdwyfol y wlad, a chael, am unwaith, brawf o'r bywyd pur, ëang, a rhyddanadlog ag y mae hi yn feddianol arno.
Anrhydeddir glanau y mor y tymhor hwn, hefyd, â phresenoldeb
* Cyfansoddwyd yr erthygl hon yn yr Hydref.


 

 

A close-up of a page

Description automatically generated

x233


66
y boneddwr a'r foneddiges. Yno y gwelir hwy yn rhodio y traethau yn arwisgedig yn holl addurniadau drudfawrocaf y llieinydd a'r gemydd, ac yn siarad ac ymsymud gydag holl urddasolrwydd moes ac addysg uwchraddol. Yno hefyd y gwelid llawer dau yn rhodiana ' yn iach eu gwala'n mreichiau eu gilydd, " a llygad eu darfelydd ynsefydledig ar ddyfodol euraidd a dedwydd yr " undeb " agos ag sydd mewn bwriad i gymeryd lle rhyngddynt. Mae heulwen dyner y cariad cydfwynhaol sydd o'u mewn, yn myd mawr a diwyd y meddwl, yn taflu ei hadlewyrch ar bob gwrthddrych a golygfa o'u hamgylch, nes eu trawsnewid i'r unrhyw ddelw brydferth, a’u gwneuthur o'r un flâs ag ef ei hun. Yn wir, y mae glanau y mor yn y gauaf yn rhyw ddrychau eglur o nerth, mawredd, ac ardderch- ogrwydd anfeidrol; a'r haf, o ledneisrwydd, hyfrydlondeb, a phrydferthwch dwyfol.
To be at sea, withdrawn out of the reach of innumerable temp- tations, with opportunity and turn of mind disposed to observe the wonders of GOD in the great deep, and with the two noblest objects of sight - the expanded heavens and the expanded ocean - conti- nually in view, and where evident interpositions of Divine Provi- dence in answer to prayer occur almost every day: these are helps to quicken and confirm the life of faith, which, in a good measure, supply to a religious sailor the want of those advantages which can only be enjoyed upon the shore. - Rev. JOHN NEWTON.
Y MOESOL A'R ANIANYDDOL. Y MAE gogoniant a phrydferthwch y moesol yn mron wedi cael eu lwyr eclipso gan rwysgfawredd ac ysplander yr anianyddol a'r materol yn ein dyddiau ni; nid yw llygad ffydd, neu y darfelydd. ysbrydol sydd ynom, yn cael hamdden i ymsefydlu ond ychydig ar wrthddrychau a golygfeydd sydd gydnaws â'u natur, gan y diwyd- rwydd a'r hyfrydwch gyda pha rai y mae y llygad materol yn ym- sefydlu ar fawredd, ardderchogrwydd, ac uwchafiaeth tybiedig yr yr anianyddol; yn wir, mae y ddynoliaeth yn anifeileiddio yn gyflym, crefydd yn dirywio, moes yn dadfeilio, a rhinwedd yn gwywo - yr egwyddorol a'r pur yn ymgolli, tra mae yr ymddan- gosiadol a'r llygredig yn ffynu yn y tir; y mae cydymdeimlad per- sonol, hunan - aberthol, eang, awyddus, a gweithgar, yn mron wedi llwyr ddarfod, tra mae Mamoneiddiwch, neu hunangarwch, yn teyrnasu yn oruchaf ar orsedd y galon. Rhyfedd y fath ddam- sang, cyfyngu, a dirwasgu, sydd gan ddynion ar hawliau, iawn- derau, a buddianau eu gilydd, er mwyn cyrhaedd amcanion yr hunangarwch sychedig a chrasboeth sydd o'u mewn. Nid yw llawer o'r darbodaethau a'r sefydliadau dyngarol hyny a wneir gyf- erbyn âg addysg, eystudd, trallod, a thlodi y werin, ond darpar-


 

 

A close-up of a text

Description automatically generated

x234



iaethau gorfodedig, a rhwymedig drwy rym ac awdurdod deddf, — rhwymedigaethau cymdeithasol neu wleidyddol, ac nid rhinweddau personol a hunanweithredol ydynt.
Y mae y nwyd o gydymgais mor gryf, ac angherddol yn yspryd sychedig dyn, fel y myn ddarostwng pob egwyddor, amcan, a dyben arall, yn is wasanaethgar i'w dybenion annheilwng ei hun; ac mac holl gyfeiriad y cydymgais hwnw at yr anianyddol ar ym- ddangosiadol. Nid yw prydferthwch moesol a chyrhaeddiadau deallol, ond ail - ystyriaethau yn ngolwg y llygad bydgarol; mae ys- plander gwisgoedd, helaethrwydd golud, mawredd nerth, medrus- rwydd gallu, gwrhydri milwraidd, beiddgarwch anturiaethus, a phenomena ymddangosiadol ac anianyddol cyffelyb, yn fwy yn ngolwg y cnawdol a'r bydol, na holl ddarganfyddiadau gwyddor, a chyflawniadau gwynfydedig rhinwedd yn nghyd y mae ymddyg- iadau fel hyn yn dangos fod y ddynoliaeth yn dirywio yn fawr yn ei moesoldeb, ac yn ei syniad o barth yr hyn sydd fawr, dyrchaf- edig, pur, a pharhaus: braidd na thelir mwy o fri i STANLEY am ddarganfod LIVINGSTONE yn mherfeddion Affrica, nag i NEWTON, yr hwn a ddatododd y clo ar holl ddirgelion y wybrenydd. Mae yn wir fod gwroldeb anifeilaidd STANLEY yn fawr, a phenderfynolrwydd ei feddwl yn gryf; ond beth oedd hyn at lafur dyfalbarhaol HUGH MILLER, yn treiddio a threiddio i orddyfnderoedd y ddaear, i gael gafael yn ngwrthddrychau amrywiog a hirorchuddiedig y cynfyd- oedd, darganfyddwr mawr creadigaethau Duw drwy gyfnodau ag y mae hanesyddiaeth yn sefyll yn fud uwch eu pen, —yr hwn a ys- grifenodd ail Ddadguddiad ar greadigaethau annadguddiedig y Duwdod, -- a gylymodd y gorphenol hirbell, arddunol, aruthrol, ac ofnadwy, a'n presenol bychan ni! Saf ar bwys HUGH MILLER, neu HITHCOCK, STANLEY, a thawdd yn ddyferyn ger eu bron; ymgryma hyd y llawr i dduwiau Athrylith, Gwybodaeth, a Rhinwedd. Mae yn wir y rhydd dy ymdeithiau di a LIVINGSTONE ychydig o oleuni lleuadaidd ar lwybrau dyryslyd anialdir Affrica, ac y crea eich han- turiaethau ychydig ddifyrwch ar ein haelwydydd; ond beth yw hyn at y cefnfor. o gysur, llawenydd, dedwyddwch, a mwynhad, a barodd pum - can - mil aberth PEABODY Fawr ar aelwydydd tlodion America a Prydain Fawr! Dyna wir fawredd, ddarllenydd.
BEDDARGRAFF
I FEBYN DEWI ISAN, SEF " DEWI BACH. "
Yr hwn a fedrai ganu amrai alawon yn berffaith, er nad oedd ond tair blwydd oed pan y bu farw.
I " DDEWI BACH, " yn ddioed - rhoed nef wen, Lle rhodia'n fwy ysgafndroed: Ei Cherdd gûn, fel un henoed, Wyddai ef yn dair blwydd oed!


 

 

A close-up of a text

Description automatically generated

x235


Awdl ar Lys If
or Hael.


GRAND EISTEDDFOD AT NEWPORT, IN CONNECTION WITH THE ATHENEUM AND MECHANICS ' INSTITUTE.
MONDAY, NOVEMBER 8th, 1869.


[EXTRACTED FROM THE NEWPORT GAZETTE."]


However widely different opinions may have been as to the wisdom of promoting the Eisteddfod meetings which took place on Monday last, at the Victoria
-hall, Newport, there can be now but one agreement as to its successful and satisfactory result. Eisteddfodau are matters peculiarly Welsh, which the English people know but little about, and seem to care less; but with regard to the peculiarities of the Welsh people we may quote the concluding words of the successful essay at the Eisteddfod, and say, "they have much to praise, but little to blame; much to copy, and little to avoid; much to love, but little to hate." The promoters of this Eisteddfod seem to have laboured under many disadvantages, and to have met with many obstacles. It was projected in aid of an English institution by Englishmen, who had previously had no experience of Eisteddfodic mysteries. Many genuine Welshmen, therefore, kept aloof from the movement, deeming it rather an impertinence for Englishmen to meddle with such matters: and, on the other hand, the English people were not to be charmed by the strange and ancient word which for several months past has been persistently placed before their eyes. The claims of the Athenæum too, which has held an honourable position as one of the institutions of the town for nearly a quarter of a century, labouring as it is under a debt of nearly £100, failed to elicit the sympathy which it really deserves. It was with the hope of relieving the Athenæum from debt, and then making an effort to constitue it a nucleus of a more extensive free library that the promoters of the Eisteddfod proceeded with their task. They announced a long list of valuable prizes to be competed for in music, literature, and drawing, and relied upon the inhabitants of Newport to subscribe the requisite amount, so that the proceeds of the day might be available for the benefit of the Athenæum; but either from the causes assigned above, or lack of energy on the part of the committee, only one-half of the amount, or £40, was obtained by subscriptions, occasioning an increased responsibility and anxiety on the part of those most actively concerned in the arrangements. The choral competitions at the Eisteddfod were made a special feature, and proved as attractive as was anticipated. Such an assemblage of choirs had never been witnessed in Newport before, and it is much to be regretted that the townspeople of Newport did not more extensively patronise the gathering and enjoy the grand music which the choirs so ably rendered. To those not accustomed to Welsh choir singing, the power, tone, precision, and taste displayed, was surprising when the


 

 

A close-up of a document

Description automatically generated

x236 LLYS IFOR HAEL

class of persons from which the members are chiefly culled is considered. Though the chief prize was awarded to the Aberdare choir, the audience were unable to discern the superior merit they displayed over the Ebbw Vale choir. But if, as it was remarked to us, "there is something in reputation," the Aberdare choir has fully sustained that which, no doubt, they glory in by the victory of Monday.


There were no less than thirty sections open to competitors for prizes amounting in the aggregate to £85. For these various prizes there were close upon 400 entries of competitors.


The Rev. H. Oliver, B.A., who presided in the morning, read the following Adj
udication of Poetry, by the Rev. D. Howell, of Cardiff. For the best original awdl (ode) on Llys Ifor Hael prize £5 5s. For the best englyn on Yr Afon Wysg, prize, 10s. 6d. For the best four englynion to Mr. H. P. Bolt, the builder of Victoria Hall, £1 1s.


"BEIRNIADAETH AR GYFANSODDIADAU BARDDONOL EISTEDDFOD Casnewydd
-AR-WYSG, TACHWEDD.


"Pan gydsyniais a chais y Pwyllgor i feirniadu cyfansoddiadau barddonol Eisteddfod Casnewydd
-ar-Wysg, ni freuddwydiais y buasai y gwaith yn haner yr hyn ydyw. Yn lle dwsin neu ugain o gyfansoddiadau, yr hyn a ddysgwyliais, yr ydwyf wedi gorfod ymlwybro dros ddim llai na 64 o gyfansoddiadau. Y mae hyn wedi cymeryd i fyny gymaint o amser fel nad yw yn bosibl i mi draethu barn fanol ar y cyfansoddiadau yn unigol. Nis gallaf, gan hyny, ond yn unig ddatgan fy marn yn fyr gyda golwg ar y teilyngol. Yr ydwyf wedi cael llawer o hyfrydwch, ar y cyfan, wrth ddarllen y cyfansoddiadau. Y maent ar y cwbl, yn meddu gradd o deilyngdod, a dangosant fod yr hen awen Gymreig mor fywiog ag erioed rhwng bryniau Gwent a Morganwg."

1. Englynion i H. P. Bolt, Esq. — Derbyniwyd 13 o gyfansoddiadau, wedi eu llawnodi fel y canlyn: - Yr Archangel,
Gwyddonwyson,’ ‘Iago, Watts,' Llywarch Hen, Homer, Athronydd,’ Pensear Celfydd,' Morddal' (1), Morddal' (2), 'Ithel Vychan, Saer,' Christopher Wren. Y ddau gyfansoddiad goreu ydynt eiddo 'Athronydd ' a ' Morddal ' yr ail. Y teilyngaf o'r ddau yw iddo Athronydd.Englynion ystwyth, llithrig, nwyfus, melus ydynt eiddo 'Athronydd,' yn cynwys drychfeddyliau tarawiadol a phriodol i'r testun, ac yn gwir deilyngu y wobr.


2. Englyn ar yr Afon Wysg. - Derbyniwyd 30 o gyfansoddiadau, wedi eu harwydd
o fel y canlyn: - Edmygydd Wysg pan yn llawn,’ ‘Iago,’ ‘Gwentydd Fardd, ' Tydain, ' Collwyn, ' Cristion, Glan Wysg, Bardd Brain a defaid,’ ‘Billifwdan,’ ‘Twm Shon Cati,’ ‘Bardd Talcen Slip,’ ‘Akbar Khan,’ ‘Trwmgwysg,’ ‘Richard Ellis, Hiram,’ ‘Semiramis,’ ‘Cadben Cook, Rhwyfwr o Lan yr Afon,’ ‘Eryr Glan Wysg,’ ‘Pysgotwr,’ ‘Barfog,’ ‘Ymdeithydd,’ ‘Llwyd,’ ‘Llon,’ ‘Caswallon,’ ‘Sardanapalus, ' Otho, 'Ab Brychan.' Dyma y cyfansoddiadau gwaelaf o'r cwbl ddaeth i law y beirniad. Gofidus genyf ddweyd nad oes cymaint ag un o'r deg-ar-hugain yn tra ragori. Nid oes ganddynt neillduolion englyn gwir dda, sef syniad tlws a tharawiadol, wedi ei gynghaneddu yn ystwyth a bywiog, ac yn gosod allan feddwl yr awdwr mewn iaith ffraethlym a nwydus. Nid digon cael englyn rhwydd a llithrig, wedi ei gyfansoddi yn ol y rheolau, ac yn briodol i'r testun; ond dylai fod yn ffraethlym fel diareb cyn y gellir ei ystyried yn englyn tra ragorol. O'r deg-ar-hugain uchod, 'Akbar Khan' yw y goreu; ond englyn pur gyffredin ydyw - eto caffed y wobr.

"Awdl ar
Lys Ifor Hael.' - Tri chyfansoddiad, yn dwyn y ffugenwau 'Madog Benfras,’ ‘Isfryn,a 'Madog Lawgam.' Awdlau da ydynt y tair; ond y mae yr un olaf yn tra ragori ar y ddwy flaenaf - y mae yn fwy awenyddol, addfed cynnwysfawr, a meddylgar. Diffygiol yw awdlau 'Madog Brenfras' ac

·


 

 

A close-up of a letter

Description automatically generated

x237


Isfryn' o ran cynllun a threfn; y mae y meddylddrychau hefyd weithiau yn dywyll a chymysglyd, a phrydiau eraill yn oerllyd a chyffredin. Y mae ynddynt, er hyny, lawer o linellau gwir dlysion, ac amryw ddarnau o farddoniaeth dda; ond y maent drwyddynt yn perthyn i ddosbarth is na'r trydedd awdl sef eiddo Madog Lawgam.' Hon o lawer yw y cyfansoddiad goreu a ddaeth i law y beirniad o holl gyfansoddiadau yr Eisteddfod, a buasai yr Eisteddfod wedi cyflawn ateb ei dyben pe na chynnyrchai ddim ond yr awdl hon. Y mae yn ddernyn cryno, trefnus, a gwir fedrus, yn dangos drwyddi ol llaw pencampwr, ac yn gwefreiddio y teimlad wrth ei darllen. Y mae ynddi gydgyfarfyddiad dedwydd o grebwyll, darfelydd, a barn; melusder a grymusder; symledd ac addurnaint. Y mae yn deilwng o'r awen Gymreig, ac yn anrhydedd i'w hawdwr. Madog Lawgam' bydded y wobr. "

.....
YR AWD
L.


Y CYNWYSIAD. - Ymsyniaeth y bardd uwchben adfeilion "LLYS IFOR HAEL." Nawdd - gartrefle y bardd DAFYDD AP GWILYM; serch yr unrhyw at ei gariadferch Morfydd Safle Gwern
-y-Gleppa, yn nghyd a'r holl olygfeydd amgylchynol. IFOR a DAFYDD yn codi ffenestr y Llys, i gael golwg ar brydferthwch ac ardderchogrwydd toriad gwawr a chodiad haul. Fod yr haul yn codi - yr Wy yn llifeirio -yr awel yn symud — a thelyn mewn cywair - a holl anian yn myned ar ei hynt fel yn nyddian DAFYDD, NEST, ac IFOR, - ond pa le y maent hwy ? Y bardd yn hiraethu ac yn galaru nad allasai fod yn gyfranog o fwynianau, breintiau, parch, ac anrhydedd y bardd trwyddedawg yn Llys IFOR HAEL, a phalasau y pendefigion a'r tywysogion Cymreigyddion yn yr oesoedd gynt. Diniweidrwydd a buddioldeb y pleserau a gynelid yn Llys IFOR HAEL, a llysoedd ereill cyffelyb. Galar y bardd am ddiflanedigaeth a dyspeidiad y cyfryw ddifyrion. Myfyrion y bardd uwch adfeilion Gwern-y-Cleppa, yn nghyd a darluniad o gyfnewidiad ac anghyfanedd - dra yr unrhyw yn bresennol. Y bardd yn dymuno cael gafael ar rhyw wrthddrych a berthynai i oes a bywyd 1FOR, i ymholi ag ef o barth y pethau a berthynent iddo. Y bardd yn cael gafael ar gareg o'r hen adfaelion, a hono yn rhoddi iddo hanes gwedd, llun, a moes IFOR - ei rinweddau, ei gampau, a'i arferion. Desgrifiad o wledd yn Llys IFOR HAEL - y gwesteion - y gwledd - lestri -y delyn - yr anrhegion - yr iaith - Gwenonwy - yr awen, &c. Galar y bardd yn ngwyneb yr agwedd bresenol ar lenyddiaeth Gymreig - darostyngiad ei charwyr -ymadawiad ei gogoniant cyntefig. Disgyniad etifeddiaethau IFOR i Deulu Tredegar, yn gystal a deuparth o'i ysbryd haelionus hefyd hyny yn rhoddi bywyd i obeithion y bardd. Mawlwers i Deulu Tredegar.


WELE! ynte, ' r fangre fawr,
Lle y safai Llys IFAWR!
Y fan sydd heddyw'n fynwent

A bedd, cyn - ogonedd Gwent!


Oes leuerawl Siluria* -
oedd hono,
Pan gai'r ddawn gydwledda
A bonedd, a hi'n bena'
Ar fyrddau hir IFOR dda.


*Siluria - enw Lladinaidd am yr enw Cymreig - Essyllwg.


 

 

A page of a poem

Description automatically generated

x238

(x238)
O, le hapus! Wern y Clepa - oeddit,
Yn nydd cynefindra
Telyn, awen, hedd, a gwledda,
A’th neuadd deg, ac a’th nawdd da.

O, na f’ai môr yn fy mhen, - fi wylwn
Filwaith uwch tynghedfen
Y lle fu’n babell awen, -
Castalia* hen Walia wen.

(*Un o’r ffynonau awenyddol, o ba rai y byddai y beirdd yn yfed eu hysbrydoliaeth, ac yr oedd Gwern y Cleppa yn ffugyrol felly i Ddafydd ap Gwilym.)

Lle bu DDAFYDD,
Bêr awenydd - rhwng y bryniau,
Yn gwau’r cywydd
Mawl i’w FORFYDD - Mewn mêl-ferfau!

Llawer tro bu’n rhodio’r allt,
A’r waen oddeutu’r Wenallt,
A glanau yr Wysg lonydd;
Mown cariad, ar doriad dydd,
A’r awen i’w ben yn bêr,
I’w hymarfer ar MORFYDD:
Ac yno’n hir canu wnai -
Yno’n fynych cwynfanai,
Mewn hiraeth am wên araf -
Seirian-wên ei seren haf -
Hedd-wên ei FORFYDD anwyl:
Ei nefoedd oedd MORFYDD wyl.
“Saith cywydd i’w FORFYDD fain*,
Seth, hoewgorph, a saith ugain,”
A ganodd cyn digoni
Ei serch, wrth ei hanerch hi.

(*Canodd Dafydd ap Gwilym saith ugain a saith o gywyddau i’w gariadferch Morfydd.)

Ond darfu’r helynt dirfawr,
Mwynhad oedd fel mynyd awr;



 

 

A black and white text

Description automatically generated

x239

(x239) Drwy’r lle llwm trwm yw tramwy -
DAFYDD na MORFYDD nid mwy.

Ofnadwy’r cyfnewidiad
Ar ddiwair Lys hardda’r wlad!
Ei le iachus ar lechwedd
Y Wern, ydoedd fangre hedd:
Yno nid oedd sain yn d’od
O un tref, nac un trafod,
Ond sain yr awel fain fach,
Yn cyfranu cyfrinach;
A’r Ebwy* yn dweyd rhywbeth –

(*Mae yr Ebwy yn llifo ychydig i’r dwyrain o Wern y Clepa, drwy barciau Tredegar)

A’r bardd yn unig wyr beth:
Safai’r awenllys hefyd,
Yn ngolwg Gwentllwg i gyd
Uwch y wlad, uchel ydoedd -
Ei wel’d ef yr holl wlad oedd.
Ei ragfuriau golau, gynt,
Draw o’u huchedd edrychynt,
I lawr, ar gyrau’r holl wlad,
Wnai estyn fel llyn gwastad
0 aber Wysg i’r Ebwy
0 ben yr Hafren a’r Wy, -
Y ddwy Holmes a Chaerdydd hi -
O Feirin draw i Fari;
A llon ymylon y môr,
Ar eu hyd i Gaerodor,
A gwaelod rhydd Gwlad yr Haf,
O’r traeth i’r Pentir* eithaf.

(* Lands End. Ar ddiwrnod clir gellir gweled yr holl leoedd yn rhanol a rhai o honynt yn gyflawn, o’r man lle a saifai {sic}, “Llys Ifor Hael.”)

Diau, IFOR a DAFYDD
Ar lawer mad doriad dydd,

 

 

 

x240


 (x240) Yn moreu hoff dymhor ha’
Godent, ac a aent gyda
Mil o deimladau melys,
A llon, i ffenestr y llys -
Wynebai, egorai’n gain
A chlir, ar dir y dwyrain,
I wel’d y wawr yn dadgloi dydd -
Taro’r miwsig hwnt trwy’r meusydd;

A’r ehedydd yn rhodio - palmentydd
Cynhes wybrenydd - canu soprano
Breilw a gwellt yn berlau gwyn,
Ar moelydd yn aur melyn!

Ei gwedd oedd ogoneddus - yn marchog
Hafren enwog a Moel-y-farn* hoenus:

(*The Malvern Hills.)

Tani’r oedd Gwent yn rhuddaur -
Y Wern oedd fel bryn o aur!
Aur yw’r oror oreuryw -
Tir a môr sy’n borphor byw!

Gwelent yr haul ar glau hynt rydd, - ’n dyfod
O’i ystafell derydd,
A’i oleuni ysplenydd - yn disgyn,
**’N rhubana, melyn ar ben y moelydd!

A’i wyneb mewn llawenydd - yn porthi
Ein byd da ni a bywyd o newydd.
Mae aniau etto’n myned - ar ei hynt,
A’r haul mawr, gogoned,
Yn awr, fel cynt, - mor llon mor ffyddloned,
A bryn a moel bob boreu’n ymweled;

Ond hwy’r teulu, “Hae!" ar gael i’w gwilied,
Oddiar gaer, non o ddor egored
Nid y’nt mwyl - maent hwy mewn tir,
O’i waelod, haul ni welir.



 

 

x241

(x241) Treigla yr Wy a’r Ebwy rhwng cribog,
Foelydd neu dwynydd i’r môr amldonog;
O gol y bryniau yr Wysg hwyllrenog,
A megys cynt ar ei hynt orfreintiog;
Ond IFOR, wâr drugarog, - dan dywyll
A duon esgyll bedd, nid yw’n ysgog.

Chwa y lwyd wawr drwy yr ucheldiroedd
Sua’n ofer wrth groesi y nefoedd;
A thrwy awyr Gwent pe rhuthrai’r gwyntoedd
Ni chlywai IFOR eu huchel lefoedd;
Huna yn drwm, trwm fol y trumoedd,
Anian a wyla’n ei tharth a’i niwloedd -
Uwch mud feddlawr IFAWR, oedd - mor hoffus
O’i llais hyderus drwy y llys-diroedd.

Llais natur sydd uwch y llys hwn etto, -
Mae telyn anian ei hunan yno;
Ond alaw nawnol y delyn hono
Ddydd y wledd geid, sydd wedi llwyr beidio:
Weithian mae’n hongian, a’i cherdd yn angho!
Ar benau helyg yr Ebwy’n wylo!

Dyma’r Wern ddedwydd lonydd nwch glanau,
Môr Hafren fwyn, yn nghysgod gwyl dwynau
Lle bu i DDAFYDD drwy y blynyddau,
Nawdd a dyddanwch a chynydd doniau;
Wele’r porfaog ddihalog ddolau
Y creig-wregysog, chwyddog lechweddau -
Y dawel Wenallt a’i banadl-lwynau,
A thir iachus y milfil gwrthddrychau
Wele gaeau fyrdd, a’r golygfau - gynt
A orwychynt ei gain feddylddrychau.
Wele, hefyd y glir, fywiog afon,
A’i dw’r di-stwr, fel Euphrades dirion,
Yn llithro i wared rhwng llethrau hirion,
Dan gysgod tawel y gwydd uchelion;

 

 

 

 

x242

(x242) Lle bu IFAWR yn fawr ei ddifyrion,
A’i NEST fein-ael dan ddidrist haf-hinon,
Heb boen na gofal calon, - yn ymdaith
Ganwaith a milwaith ar ei hymylon.

Dyna’r hedd-lanerch - dyna’r ddol lonydd,
Dacw’r glyn cerddgar lle croga’r creigydd;
Dyma’r twyn tawel, yn awel newydd
Y boreu hardd, a llawer byr hwyrddydd,
Y gwelwyd hwy’n rhodiaw’n llawn llawenydd,
Mor wyeb eu golwg yn mreichiau’u gilydd.

Eu horiau, fel awyren - nefol hynt,
Ymaith hedynt ar esmwyth aden!
O, ddolydd hyfryd! O, ddiail wiwfro!
Os yw’r hen fwynhad wedi’ch llwyr ado,
A’r hen awenydd yn ei fro’n huno,
Yn nhrem hen natur mae’r awen eto,
O’ch hamgylch ogylch, fyth, fyth yn trigo!
Min nôs arddun, fy hun, pan wyf yno,
Pryd hyn ysbryd hono, - fel chwa araf,
A glywaf, tybiaf, yn symud heibio!

O, ysbryd Awen, addien y dyddiau
Gynt a welid ar dynghed Gwent olau,
Pan oedd ei mwynhad a’i phor deimladau
Yn llifo’n bodd rhwng ei holl fynyddau,
Rho yn awr, o’th rin orau, - drem helaeth
I fewn i doraeth ei hen fwynderau.

O, dir! dy hyfryd oriau - a ffoisant
Hoffaswn gael chwarau
A’u hadenydd, a’u hol-gudynau,
A’u dal yn ol ar un o dy ddolau
Hoffaswn ddal rhyw un o’r ffo-oesau,
A myned i waered i’w mwynderau;

 

 

 

 


 



  



 

 

x243

(x243) Yn wir, car’swn fwynhau, - o gyfiawnder
Diniwaid bleser, dawn dy balasau.

Yr oedd y pleserau hyn
A gwir hedd wrth eu gwreiddyn;
Difyrion tawel, melus,
Yn adfer llonder drwy’r Llys;
Do’i, o alaw y delyn,
Adfywiad i deimlad dyn,
A chodiad i serchiadau - ei natur,
O ymwneuthur ar dwym awen, hithau.

Ond, aeth am byth! y dwthwn -
Went dêg - a’r gogoniant hwn,
Oddiarnast. O! ddiwrnod
Uchel oedd am barch a chlod,
I’r awen oedd g’lomen glau,
A’ harosiad yn ngrisiau,
Llysoedd tawel uchel wyr,
A’i nawdd yn serch boneddwyr.

Pwy nad wyla
Gwern y Clepa,
Hen nyth ola - hoen a thalent, -
Gardd rosynaidd,
Baradwysaidd.
Y ddawn fwynaidd, - heddyw’n fynwent!

Yno dyn i syndod ai,
Ei fryd, dan friw, a oedai
Goruwch bedd y mawredd maith,
Fu yno’n dalgryf unwaith.

Ow’r! olwg ddieithr welir -
Syn yw y wedd  - nos yn wir!
Yn lle’r llys uwch y llawr llon,
Ni welir ond adfeilion!




 

 

x244

(x244) Ow! pa le mae’r rhodle rhydd
Gysgodid gan gysgawdwydd
Harddwawr, llon, yn ngerddi’r llys -
Yn yr unlle a’r crinllys
Nifeiriol, a’r anfarwaint -
Blodau sy’n mhwysiau’r saint.
Pa le mae’r eiriol golau - gwyn ei wallt,
Oedd dan gnwd o berlau,
A’i wên wyl yn llawenhau,
Afrywiog Fawrth foreuau?

B’le mae’r banciau
Aur-ymylau
Gwenai blodau - gwyneb-lydan
B’le mae’r perthi
Lle bu llwyni
Rhos a lili – ’n res oleulan?

B’le mae’r ddidrais, lednais law
Trwy ei Hoes fu’n eu trwsiaw;
A chipdori wedi hyn
Y diwair deg, flodeuyn?

Y law hono sy’ lonydd
Islaw’r don er’s llawer dydd!

O law anwyl, i weini - i filoedd, -
Elusen ydoedd, ond pa les nodi
Hyn oll, mae llwyr anallu
Yn ei dal mewn beddrod du!

Ni welir fwy na’r niwloedd
Byr eu hynt y boreu oedd,
Na’r gerddi na’r llwyni llon,
Sawyrent fel bro Saron,
Lle’r ydoedd fel llawr Eden,
Wely ha’ i’r lili wen –




 

 

x245


Lle ' r oedd brialli a rhos,
Yn awr ' does dim yn aros, Ond drain a nidri yno,
A choed hir yn ddiserch do; Tra broch y gwynt trwy eu brig, Yn rhoi nâd ddychrynedig!
O Gwent! mi glywaf dy gwyn Yn y leddf awel addfwyn: Am IFOR mae'th drwm ofid, A'r lles parhaus o'r llys prid— A'r nawdd hir, a'r newydd wên, A ddeuai i'r ddwy awen. * Adeilad lle bu delyn,
Yn gwau caniadau cyn hyn: Rhoed dawns ar dy loriau di, A gwleddoedd i arglwyddi; O'th glau geginau drwy ' r gwynt, Aroglion per a dreiglynt;
Brith fu dy fyrddau o'r bron,
O seigian tywysogion;
Ond heddyw hyn nid eiddynt—
Llwyr brudd geir lle ' r byrddau gynt: Lle bu ' r bwyd a llwybrau bîr,
Anialwch yno welir:
Yn lle hoen a llawenydd, A chân a gorian rhydd, Prudder a dwysder distaw, A draidd, o'r gorphenol; Pob man sydd anghyfanedd, Heb air, mor ddistaw a'r bedd!
Na llais oll, drwy y lle syn! Ond hiraeth yr aderyn!
O na b'ai heddyw yn bod
Rhyw wrthddrych purwych, parod,
S
* Music and Poetry


 

 

x246



Yn sefyll o oes IFOR, I roi peth o yrfa ' r pôr; Aros wyf am air o sôn, O waelod yr adfeilion; Hen fur! O na lefarit, Hyn yn awr ofynwn it: Ah! dyma faen * —dyma fe, Ef wyr yr hanes fore: A roi di am IFOR deg, Un gair, o'th ben, O gareg ? Wyt hyspys o'i lys a'i law, — Yr hedd a'r wedd oedd iddaw.
" Yr oedd IFOR ddihafal, Yn deg, yn syth, ac yn dàl, A moesgar yr ymwisgai- Yn null yr oes yn llwyr a'i; Ei wasgawd oedd fel plisgyn— Yn cydio am dano ' n dyn— Esmwyth, gywirbwyth gorbais, Yn dod hyd ei bumed ais; Ac i lawr hyd ei draed clau, Yr â'i ledrydd hir lodrau: Ac ef goruwch y cyfan, Fwriai glog o fynfyr † glan: Ac wedi ' n y cysgodid,
Ei bêr ael a chwcwll brid.
Acw o'i wregys y crogai,
Hir gledd pan ar ei dreigl a'i:
" Eithr nid trwy y clwy wna'r cledd - yn y gad,
Bu ei gamp a'i fawredd:
Ei glod oedd mewn darpar gwled,
A'i wroniaeth mewn rhinwedd.
Mae fod y gareg yn llefaru, yn ffugyr a arferir fwy nag unwaith yn yr Ysgrythyrau Santaidd. + Fur.



 

 

A page of a poem

Description automatically generated

x247

" Teithiai IFOR
Weithiau ' n nhramor:
Ond teg oror - GWENT a garai, —
Nid hir ymaith
Byddai ' n ymdaith,
I'w chwa eilwaith y dychwelai.
Aros gartref
Mewn mawr dangnef,
Yn ei haddef - i weinyddu,
Parch diragrith
Hedd a bendith
I athrylith - a'i harialu.
" Cadw gwyliau,
Cynal campiau *
A defodau - gwlad ei fedydd— Rhoi o'i drysawr,
I'r tlawd llwydwawr,
Garai IFAWR - wladgar ofydd.
" Lluon oent yn llawenhau
Yn swn ei elusenau.
" IFOR HAEL ydoedd i'w holl fro lydan, - Fel ei gu enw caed ef law ac anian; I fardd a derwydd IFOR oedd darian: A'i ddôr f'ai ' n egor wrth lef un egwan, Hwylus y troai at lais y truan- Ah! pa lys arall fel palas eirian IFOR ? hawddamor i bawb oedd yman; Ni welwyd trwy WENT wiwlan - mor dryloew Yn llon'd ei enw, un llyw ond ei hunan.
" Gogoniant prif ei geginau, -a'u rhin, Oedd y ' rhad ddysgleidiau,
Rhoddid i'r isel raddau,
Rhwng ei byrth, † drwy ' r eang bau.
* Yr oedd tri math o gampiau - sef y gwrolgampiau ― y gogampiau, a'r ma- bolgampiau. + Yr oedd gan Ifor seddau eraill heblaw Gwern y Ĉlepa, megys y Wenallt, & c.
$ 2


 

 

A page of a poem

Description automatically generated

x248



“ Ei win a'i osai ' n waneg, —a redent
I'r rheidus, bob adeg;
Oedd orchest i dirwest deg Rwymo selyr * Maesaleg.
" Yna ' n ddiau, yn ' stafell ddeheuol Llys IFOR, caed llawer gwledd ryfeddol: Hardd a hael ydoedd y bwrdd huliadol Gan aurlestri glan, fel tân tywynol; Ond o holl lestri
wledd fawreddol ' R hwylusa ydoedd yr Hirlas hudol Aurddollenog, llawn gwaith arwyddluniol. Mae llawenydd yn ei drem allanol, Iachâ ymenydd a'i gynyrch mewnol; Uwch ei osai iachusol - bu lawen
Y bêr, hoff awen, -ef yw'r brif phiol.
66
Tywallt a wnai'r gwesteion - ' mewn i lys Mwyn y wledd, yn lluon
Mwyn eu gwenau, ac a'u menyg gwynion * Yn llawn o ruddaur a llawen roddion, I'w gosod yn nwylaw gweision - godidog IFOR enwog, a'i heirdd law - forwynion, - Goreugwyr trugarogion - dyngarwyr, A da uchelwyr o waed a chalon.
" Dyna hefyd ein HIFOR, A'i NEST dêg, ar bwys eu dor, Yn cyfarch gyda llwyrbarch llon, Y degau gwahoddedigion; Mae NEST, a'i gonest, dêg wên, Ar eu hael fel yr heulwen, Yr hon, a'r dydd yn hwyrhau, Enfyn hedd ar y mynyddau:
* Plural of seler.
+ " Menyg gwynion, tewion teg,
A mwnai yn mhob maneg. " - Ebe Dafydd ap Gwilym.



 

 

A text on a white background

Description automatically generated

x249

Pur oedd lli ' r goleuni glân, Yn sêr ei llygad seirian;
Yn y rhai'n, mewn tyner wrid, Haeledd yn hongian welid.
Yr oedd IFOR dda, hefyd, Yn fflwch hawddgarwch i gyd: Derbynient ill dau ' r bonedd
>
I lys, yr ardderchog wledd; Ac wedi llaesu'r godwrdd, A phawb amgylchu'r hoff fwrdd, A bwyta ' u gwala i gyd,
O seigiau gorau'r gweryd, -


" Yna IFOR Orch'mynai'r corn yfol— Yr hirlas enwog - a'r oerli swynol, Gan ei lenwi â'r mêdd pêr gwin - luniol, — Llenwi, adlenwi â gwin adlonol, Neu osai pur, nes bywhau Y tân a'r llwncdestynau; Yna codai'r penciwdawd- IFOR deg - a gosteg gawd; Ac a areithiai, nid fel y rhagrithiwr A genau mêl, sydd weithiau'n ganmolwr Ei fro wiwdeg, ac wedi, troi'n fradwr; Ond IFOR oedd idd ei wlad fawr - roddwr, A phenaf amddiffynwr - llenorion, — Gwaelodawg wron - nid ffugwladgarwr.



" Ac ar hyn, i goroni
Y wledd, ac i chwyddo ' i hwyl hi, - " Y b'ai'r delyn dan ysbrydoliaeth — bys Y bardd, mewn llawn afiaeth, "
Yn bwrw i waered ei thân - beroriaeth; Dwymai aelwydydd rhyw hen deimladaeth
* Yr oedd yr
Hirlas " yn un o'r yf - lestri mwyaf prisfawr, ardderchog, a chywrain gan y pendefigion Cymreig yn yr oesoedd a aethant heibio.


 

 

A page of a poem

Description automatically generated

x250

F'ai laes ei hedyn ; rhoi ail - flâs odiaeth Goruwch olion rhyw wladgarwch helaeth ; Dwyn hefyd henafiaeth - ysplenydd ,

Yn ymgom newydd drwy'r dwym gwmniaeth .

" Yr oedd telyn y bardd teulu ' — ' n creu hedd , Ac a'i hen hyawdledd yn cenhedlu

Difyrwch , gan adferu

Yr hoffder at fwynder fu ;

Dwyn o bell , a denu - llawer teimlad , A hen syniad i ail - ymgusanu ! " Chwareuai hen dônau chmyrnadeiniog A'u cariai hyd wrhydri Caradog , Tynu ' u ysbrydoedd taniog - i chwarau Ar eu hwynebau fel ' seren wibiog ! '

Yna , ymledu i'r prudd - deimladol ,

Rhyw frwydr - gyfaflan , f'ai'r gân fawr - gwynol ;

Yna wedi'n yn fwy uchel - nwydol ,

Dawns yr Uchedydd , ' neu'r dôn ' Serch hudol , ' Neu'r Deryn pur ' pryderol - chwareuid

Nes toddid y dorf gyd - eisteddol

I fwynder tyner , taenol , -hynawsedd

A haelfrydedd , a phob ryw hwyl frawdol .

" Yno dyfai i Dafydd

Ddigon o anrhegion rhydd ,

Menyg gwynion , tewion , têg , *

A mwnai yn mhob maneg . +

" Hawdd ydoedd dedwydd oedi , -drwy'r nawn maith , Yn swn pur araith , a sain perori ;

Y nos ddu ' n nes - nes ddaeth ; —mor llon ! mor llwyr !

Ai heibiaw'r hwyr ar li'r mwyn beroriaeth !

Dwy linell gywydd o eiddo D. ap Gwilym.— † Arferiad cyffredin gynt oedd ciniawa ar ddull gwledd , a rhoddi menyg , yn aml yn cynwys aur , & c . Rhoddai esgobion ar eu ciniaw gysegrol yn aml £ 100 mewn menyg , er dileu dyled eglwysig ; ac ni fyddai ddrwg yn y byd pe byddai y gyfryw ddefod mewn arferiad heddyw .



 


 

 

x251

66

O , gymaint f'ai'r ymgomio , —ar y wlad ,

Yn oriau'r wledd hono !

Ni pheidid prophwydo - am ei llwyddiant A'i gogoniant talfrigog yno .

" Yr hen iaith gywrain , hithau Bareblid , glywid yn glau , Yn seinio , lleisio trwy'r Llys , Yn llawn , a thrwy'r holl Ynys ; A theg oedd yr iaith hygar ,

Yr oedd swyn ac urddas ar Wynebpryd hon y pryd hwnw ! -pa'm ' nawr , O ryw lid mawr , myn rhai wel'd ei marw ? " O , faen ! ' rwy'n teimlo'r fynwes Hon yn awr yn tynu'n nes : Caraswn i gael croesaw Gwyr y Llys , a bod ger llaw- Aswy GWENONWY , * o neb , Yn gwenu yn ei gwyneb , A'i gwrando yno enyd ,

Yn siarad iaith berffaith byd ; Siarad ar gariad gwiwrin ,

A iaith ei mam wrth ei min ! Ei hen eiriau tynerion ,

Yn fwyn sydd i'r fynwes hon : Ond , O aeth heibio y dydd Anwyl hwnw , a'i lawenydd ; Nid mwy GWENONWY , na neb , I wenu yn un wyneb .

" O , mor llawen

Y bu'r awen - ei boreuau ;

O , mor ddedwydd

Bu ei hwyrddydd uwch y byrddau ,

* Gwenonwy ydoedd ferch Ifor Hael a Nest ei wraig ; athraw yr hon hefyd oedd y Bardd Teulu , neu y Bardd Trwyddedawg , D. ap Gwilym .


 

 

x252



" Gydag IFAWR,
Yn ei barlawr
Hoew - wych, clodfawr - uwch caledfyd;
Heb ofalon,
Byd - helyntion,
Yn ei chalon - i'w dymchwelyd.
" Yn nghymdeithas
Bri ac urddas - bwriai gerddi; Parch, ymddiried,
Hedd a nodded - oedd yn eiddi.
" Yn ei diwair
Goron ddysglair
Y lleuerai ' r - palm a'r llawrwydd;
Aml, yn ddiau,
Oedd ei thlysau,
A'i choronau, a'i charenydd.
" Ow! mor wahanol y mae'r awenydd Heddyw yn byw o dan y tywydd;
Yn
y bwth yn cwyno bydd, -wrth aml wau Ei farwnadau i'w fro annedwydd.
" Nid yw ei le mewn da lys, Na'i ran yn nheitlau * ' r ynys. "
Aros, faen! mae'th wers i fi
Yn llon, ac eto'n llenwi,
Fy enaid a chwynfanau; -fy hiraeth Sy'n dyferu'n ddagrau,
O herwydd nad yw'r oriau
Pêr hyn o hyd yn parhau.
Ond, darfod darfod! mae dydd
Pob llinach - pob llawenydd;
* Er nad yw " teitl " yn air o darddiad Cymreig, eto arferir ef yn fynych gan ysgrifenwyr Cymreig.



 

 

A page of a poem

Description automatically generated

x253

Mor rhwydd y daw mawredd dyn, A'i faith yrfa, i'w therfyn:
Y ddoe ' n deg, heddyw nid yw; Diodid, cysgod ydyw!
Gwern - y - Cleppa, teca ' tir,
Unwaith, - ' n awr braidd adwaenir;
Yn fy siom mi gaf symud-
Dim ond daear fyddar! fud!
Ond os yw'r paradwysaidd Hen le brâs, yn anial braidd, Ac IFOR enwog, hefyd,
Yn
y bedd o swn y byd, Wele! seirian lys arall— Paradwys bêr yn lle'r llall; Llys Tredegar hawddgar yw, Llys odiaeth mawrlles ydyw! Wele! hefyd, ail IFOR
O'i fewn, a'i haeledd yn fôr!
Ni ddaeth ctifeddiaethau - hael IFOR I'w hil ef, yn ddiau,
Heb ddyfod, er eu clod clau,
Ran addas o'i rinweddau.
Mae rhadau a marwydos - ei ddawn ef
Heddyw ' n ail - ymddangos
Ynddyn ' hwy, -od yw'r ddu - nos
Yn hir, mae goleu'n aros.
Ein mawrgais Syr CHARLES MORGAN * -y dydd hwn
Ad ei ddôr yn llydan,
I weiniaid, mae ' n ei anian,
Fel IFOR, wrth gofio'r gwan.
Duw IoN ddalio ' i draed yn ddilyth, heb goll,
Heb gwymp yn dragfyth;
A boed, yn Nhredegar, byth
Ar gael ei hael wehelyth.
* Lord Tredegar yn awr.


 

 

A close-up of a text

Description automatically generated

x254



Y BLEWYN BRITH.
MOR syn yn mhlith
Hardd wallt fy mhen yw'r blewyn brith;
O! mor dra phwysig ydyw'r llith
Bob awr a rydd yr effaith sydd
Drwy'r galon hon fel deifwynt chwith.
Mae'n dweyd, Hoi! hoi!
Mae'th oriau ie'nctyd wedi ffoi, Cysgodau'r beddrod sy'n dy doi, Mae llanw'th fywyd bron ar droi, — Myn'd wyt i lawr, i ddyfnder mawr Tragwyddol fyd, heb fodd ysgoi.
Ah! flewyn brych,
Bu arnat unwaith olwg wych,
Pan, gynt, y'th dro'wn o flaen y drych; Glaswelltyn îr, mewn ffrwythlawn dir, Oet ti, ger llawer ffrydlif grych; Ond heddyw nid oes ffrwd a'th wlych, Na chwmwl clau wna'th ddyfrhau, Ac ail fywhau dy wreiddyn sych! Pan oeddit ti,
Dan natur yn ei rhwysg a'i bri, A'th wreiddyn yn ei dyfroedd hi, A'm henaid inau'n drachtio'r lli ', -
--
Mor wyn fy myd - mor llon fy mryd-
Mor llawn o obaith oeddwn i.
Ah! flewyn llwyd,
Pe ymaith tynwn di'n fy nwyd,
Un arall yn dy le a gwyd:
Ti bleni'm pen â'r " Almon bren, "
Gwas ffyddlawn iawn i Henaint wyd.
Ef - flewyn gwyw—
Cyntafanedig henaint yw;
O'i ol daw pylni'r llygad syw,
Ac wedi hyny trymder clyw,


 

 

x255


A chrymedd gwàr, a chryndod gàr, Nes buan derfydd dyn a byw.
Rhyw ofer waith
F'ai ceisio duo'i hugan fraith; Nid oes gan gelf, na'r addurn maith, Na'r " Beautiful for ever " * chwaith, All wneyd ' r hên ail - wisgo'r wên A wisgai gynt ar ddechreu'r daith.
Mae'r gwanwyn cun
Yn deffro natur fawr o'i hûn, Gan roi adferiad lliw a llun
I'r coed a'r blodau gwyw bob un; Ond nid oes chwyth gan natur byth A edfyr o'i benllwydni, ddyn.
Ti, flewyn, sydd
Yn dweyd mai darfod mae fy nydd;
Yn wir mae'th genadwri brudd
Yn dwyn i lawr ar hyd fy ngrudd
Y deigryn hallt: rhwng plygiau'm gwallt—
Os gelli gael ond lle ymgudd.
A fynaf fi,
Tra'n canfod dy ddadfeiliad di,
Ro'm bryd a'm serch ar rwysg a bri,
A phleser brau ein daear ni ?
Dweyd wyt yn glir bydd raid cyn hir
Im ' ado'i holl fwynderau hi.
MARWOLAETH GWILYM MAI AC “ ELIZA, ”
CAERFYRDDIN.
O! FARDD, O! fardd gwlad Fyrddin,
Caled fedd sy'n cloi dy fin!
Wele! mud yw GWILYM MAI, -mae'r tafod
A'r min pereiddglod yn oer mewn priddglai!
* Cyfeiriad at Madame Rachel, yr hon sydd yn awr yn dwyn ei chosp am
ei thwyll mewn cysylltiad â goruchwyliaethau y " Beautiful for ever. "


 

 

x256



Pa fawrddrwg ? pa ŵg ? pa wall, —fu erddost, Gaerfyrddin ? can's diball
Ollwng mae angau llaw mall, -yn ddybryd, At wraidd dy fywyd ei ruddwaed fwyall.
B'le mae'th farddes gynhes gôl, A gwnwyd yn dy ganol- Dy ferch dêg, ar dy freichiau di A ganodd o'i dydd geni- Dy eres gerddores dda- Dy glasig, dêg " ELIZA ? ”
O! " ELIZA " felusaf
Dy gerdd, pwy'n debyg it ' gaf ? Santaidd dân dy gân gynhes Roiai'n
fron ryw nef wres; Dy awen oedd dywyn hâf, Dy eiriau oe'nt ffrwd araf, Neu awel o fyd newydd,
Yn d'od, gyda min y dydd,
Lawr i'n plith, drwy'r gwlith glân — i droi'n gynhes Waed y fynwes - adfywio anian-
Felly ei chân hoewlân hi Wnai'n dal a'n hysbrydoli- Ysgafnhau'n llongau o'r llaid, A lloni ein holl enaid.
Gwae'n hawen, roi prudd lèni Y bedd, dros ei hwyneb hi; Gwae eilwaith fyned GWILYM Ar ei hol - mawr wylo'r ym.
O f'enaid, myn'd wyf finau, -ïe, myn'd
I'r un man a hwythau: Cyn hir yn y cleidir clau ' E nodir gyda nhadau.


 

 

A page of a poem

Description automatically generated

x257


Y SER! Y SER!
Freuddwydiol sêr!
Eich gwedd sydd fwyn, a'ch trem sydd dêr;
Mi wn eich bod mewn trwmgwsg pêr,
A thyner bwys eich penau glwys
Yn esmwyth ar glustogau Nêr.
Ddihalog lu!
Pa olygfeydd dyddorol sy '
Yn ffurfio eich breuddwydion cu ? Ai llygredd bron y ddaear hon, Neu fywyd pur y nefoedd fry ?
Mi wn na ddaw
Delweddau cur, a phoen a braw,. O'r ddaear hon nac uffern draw,
I flino'ch hûn, sy'n byw mor gûn,
Mewn gwlad mor bur - mor bell uwchlaw!
' Does yn eich plith
Un llygredd cas, na dim o'i rith—
Na gauaf oer, nac hydref chwith; Ond bythol hâf, llawn blodau brâf, Dan nefol haul, a dwyfol wlith. Tangnefedd pur
Sy'n t'wynu drwy'ch ffurfafen glur: Nis gwyddoch ddim am ryfel - gur, Na difrod cledd; i'ch dinas hedd, Un gelyn byth ni ddrigna'r mur. O! na chawn i, Yn un o'ch haur gerbydau chwi, Gylchdeithio drwy'r ëangder fry; A throi fy mhen tua'r nefoedd wen, I edrych ei gogoniant hi.
Ac O! ac 0!
Mi fynwn wel'd y ddyeithr fro,
Lle mae'r comedau'n myn'd ar ffo;


 

 

x258



Awn, awn o hyd - o fyd i fyd, -
Daith ar ol taith- —a thro ' r ol tro!
O, fydoedd glân!
Oleuir gan ryw santaidd dân;
Aur - lampau ydych ar wahan,
9
Yn crogi lawr wrth gronglwyd fawr Hardd deml Duw - cartrefle'r gân.
Drallodus fyd!
Wyf am dy adael lawer pryd,
A myn'd yn mhell drwy'r gwagle mud, Yn nghwmni'r sêr, tua chartre'm Nêr, Lle nad oes dim ond hedd o hyd.
DYLANWADAU'R NOS. Nos drom ei phryd!
Mae'th bresenoldeb tywyll, mud, Yn gwneud im ' deimlo lawer pryd, Rhyw ddyeithr fraw fel pe gerllaw Cyffiniau yr ysbrydol fyd.
' Rwy'n credu'n wir
Mae'n nystaw'r nos mae gwel'd y tir. Ysbrydol, pell, yn fwyaf clir;
Mae cyffro'r dydd yn rhwystro ffydd, I weld tu hwnt i'r bryniau ' n hir. A ddywedais i
Mai pell yw'r wlad o'n daear ni ? Camsynied yw - hawdd croesi'r lli ', Neu rwygo'r llen sy ' gylch fy mhen, Ac rhyngwyf a'i dirgelion hi.
' Rwy'n teimlo pwys
Ei hawyr arnai'n gwasgu'n ddwys; Mi wn ei bod bron ar fy mhwys: ' Rwy'n clywed sî ' i phreswylwyr hi Yn dyfod gyda'r zephyr lwys.


 

 

A page of a poem

Description automatically generated

x259


Oh! dyma'r awr
Mae llef y gwynt wrth rodio'r llawr Fel sŵn wylofus tyrfa fawr-
Sŵn tristwch llu, mewn t'wyllwch du, Heb obaith byth am doriad gwawr.
Ac ' nawr mae llef,
A chynhyrfiadau'r ' storom gref, Yn dwyn i'm bryd lidiawgrwydd nef, A chyffro'r dydd ofnadwy fydd, Yn dyst o'i ail ddyfodiad Ef.
Bryd arall, pan
Mae'r seren glir a'r lleuad gan, Yn gloewi'r ddol a'r mynydd ban; A dyfnddwys hedd fel eiddo'r bedd, Yn orphwysedig ar bob man.
Hiraethu'r wy '
Am fod yn debyg iddynt hwy, - Yn lân, yn glir, heb lwgr, heb glwy ', Goruwch y byd a'i dwrf i gyd,
Heb ddim i dori'm heddwch mwy.
Y BARDD YN OFNI MARW.
FARDD ofnog pa ham yr ymwisgi'n alarus!
Mewn niwl a thywyllwch ar ganol y dydd ?
A wyt ti ddim eto yn credu yr addewid—
" Y bydd dy nerth yn ol dy ddydd y bydd dy nerth yn ol dy ddydd ? "
Ti gai dy gymhwyso i ddwyn y dyfodol
Fel ag i'th gymhwyswyd i ddwyn yr hyn sydd; Disgyni i'r beddrod, ' r un fath ag y disgyn Y defnyn i'r llawr oddiar gangen o'r gwŷdd; Aeddfedir dy feddwl i farw, -a'th farw Fel un o anghenion dy natur a fydd, -


 

 

x260



Fel trwmgwsg, fel gorphwys -- yn fraint ac yn fendith:
Pryd caiff yr ysbrydol ei ollwng yn rhydd, Fel glöyn i hedeg yn awyr gogoniant,
I fyw ar a welwyd gan obaith a ffydd.
Y
FARN.
[ Yr oedd yn mwriad y bardd unwaith i gyfansoddi Awdl ar y testun uchod, erbyn Eisteddfod Treforis, yr hon a gynelir Sulgwyn nesaf; ond wedi iddo gyfansoddi yn nghylch 60 llinell, rhoddes heibio y bwriad, oherwydd rhag- welai nas gallai, gan brysurdeb amgylchiadau dyfodol, gyflawni y cyfryw orchwyl i foddlonrwydd. ]
O! MAE cadarn farn i fod,
Ddiwyrni, rhyw ddiwrnod;
Yn ei Air, wrthym ni, -drwy'r YSBRYD GLAN, Mae Duw ei hunan yn son am dani.
Hoffai ' weyd wrth ei weis - y prophwydi, Aml gyfrinach - amlygu fu rhein'i Fawrion weithredoedd ydoedd, heb oedi, A'i law enwog, ar fedr eu cyflawni; Mae yn awr yn eiddom ni, —ar ein hynt, Y geiriau drwyddynt garai Duw roddi.
Drwyddynt dysgai byddai barn, — Dysgeidiaeth Duw sy ' gadarn.
Ac mae, fel gwyddom, ynom ninau, Rhyw guddiedig argyhoeddiadau,
A dyfnion ddystaw ofnau, -bydd rhywbryd, Gwedi bywyd, ail godi beiau.
Beth yw'r euogrwydd afrwydd sy'n nwyfron Neu wraidd eu henaid hwy, ' r anwir ddynion ?
Beth yw'r curo a'r ceisio cyson,
A'r iaith ddirgelaidd wrth ddor y galon,
Y sydd ? Aid nid rhwy ddwyfol sôn, ―ynof, Yn dwyn i gof fod Barn, a Duw'n gyfion ?
YSBRYD Y Bywyd! O, bydd, yn llwybrau y
-
Mwyn yr awenydd, i mi'n arweinydd!


 

 

x261


Duw'r hedd, dod ymadroddion - y nefoedd
Ar fy nhafod, weithion;
Dod, ARGLWYDD, sobrwydd wrth sôn - am agwedd, A mawredd, y dydd cwyd y meirwon.
Hwn fydd y dydd diweddaf-
Dydd mawr, cyhoedd, nerthoedd Naf! -
Dydd Naf, pan dawdd y nefoedd - yn llymaid! Pan llama'r mynyddoedd,
Fel ŵyn, gan allu'r floedd - orch'myna'r meirw, Y bore hwnw i frawdle'r wybrenoedd,
Er yw y IôR! a phan y llefara,
Twrw y bydoedd, a holl natur, beidia: Ger ei wyneb, uffern fawr a gryna; Oddiar ei olwg, y ddaear welwa-
Gan ei ŵg ll'wgu wna; -gan ddysgleirdeb Ei ddwyfol wyneb, y ne ' ddiflana!
Dyma ddydd ei gerydd gwir, Trwy'r hwn daw dystryw'r anwir, - Ië, dydd digofaint Duw,
Yr hwn a ddifa'r annuw-
Y dydd ca ddechreu dioddef Gwaeau trwm ei ddigter Ef.
Ac ef yw y dydd y cyfyd Iôn
I fyny holl lu'r cyfiawnion,
O lygredd y ceufedd câs - uwch bob poen, I wledd a hoen ei drag'wyddol ddinas.
*
2
ENGLYN I'W OSOD AR FUR YR YSGOLDY BRYTANAIDD
NID troi i siarad, ond trysori - dysg,
A dal at eu gwersi, -
Gwilied eu braint - gwel'd eu bri, Yw'r rhai geir yn rhagori.
T


 

 

x262



Marwnad i'r diweddar T. Powell, Ysw.
YR HWN A LOFRUDDIWYD GAN ANWARIAID ABYSSINIA.
BUDDUGOL YN EISTEDDFOD LLANILLTYD, RHAG. 1, 1870. BEIRNIADAETH. - Mae y cyfansoddiad gorchestol hwn yn ymestyn hyd 238 o linellau, ac y mae olion bysedd rhyw Hercwlf o fardd yn argraffedig ar bob llinell o hono. Y mae fel pe byddai wedi trochi ei bin mewn ffynonell farddonol na fu neb erioed o'r blaen o fewn cyrhaedd i'w hymylon. Y mae rhyw ffresni gwanwynol yn gwisgo pob llinell ● hono, - -mae y cynllun yn newydd, a'r arddul yn wreiddiol; mewn gair bydd yn wledd feddyliol i'r neb a'i darlleno. Mae yr awdwr yn deilwng o'r wobr, hyd yn oed pe byddai hono y pedwar cymaint ag ydyw. - DEWI HARAN.
YN nwyrain Affric bell, lle mae y ddwyfol Abai,
O'i phedwar mynydd mawr, yn sugno'i dyfroedd didrai, — Lle treigla rhag ei blaen, ar ei thragwyddol yrfa, A'i mynwes ddofn yn ddrych i lawer gwyllt olygfa, Gan gym'ryd yn ei chôl afonydd mawrion lawer, Heb adaw ar ei hol ond harddwch a ffrwythlonder; Ei maethlawn ddyfroedd hi a wnant i'r anial wenu, A meusydd gwlad yr Aipht a'i phobl lawenychu.
Lle mae'r Zingini'n treiglo tros waelodion creig llosgfalog, Lle torir y dystawrwydd gan raiadrau trystfawr llamog, Lle rhed y Tasa - kie chwern, a hithau'r chwyddog Zamra; Lle'r ymestyna prydferth eillt y Kolquol a'r Acasia; Lle lleda'r Haik ei wyneb glâs dan wybren saphir liwiog, Lle y dadguddia'r Zan'i fron yn llawn ynysoedd poblog; Lle mae'r Dembea ffrwythlawn, brâs, yn amgylchynu'r gorwel, A chynyrch ei ddyffrynoedd heirdd yn perarogli'r awel. Lle rhed afonydd lawer rhwng uchelfawr greigiog lenydd, A dyfnder maith y glyn islaw yn synu'r gwyl edrychydd; Lle cwyd pob mynydd mawr ei ben yn union - syth i'r cwmwl, A'i lwynau llethrog, creigiog, cry ', dan wregys llwyd o nifwl; A hithau'r fellten ar ei ael yn chwareu'i chleddyf tanllyd, A tharan Sina ar ei hol - pob bryn a dôl yn symud:



 

 

A page of a poem

Description automatically generated

x263

Hon ydyw'r wlad - yr aruthr wlad - rhamantus wlad yr Ethiop, O'r hon y taenwyd newydd trist glafychodd galon Ewrop, - Ein POWELL fwyn - ein POWELL fad, a'i wraig a'i blentyn hawddgar, I lawr a dorwyd yr un dydd, drwy waedlyd ddwylaw'r anwar.
Bu farw'r Ynad doeth - bu farw'r Glo - berchenog; Nid hoenus masnach mwy, bu farw ei thywysog; Ei fasnach eang wnaeth ei anwyl enw'n hysbys, Drwy holl borthladdoedd byd - pob tref, pob gwlad pob ynys. Pan ddaeth y newydd oddi draw,
Am ei farwolaeth,
Fe lwyr feddianodd aeth a braw
Holl gylch trafnidaeth,
Ac, Ow! ni chlywid ar bob llaw,
Ond cwyn ac hiraeth.
Aeth trychineb mawr y dydd.
Ar wynt a thonau,
Hyd borthladdoedd eitha'r byd,
Mewn galarnadau,
Ar ben pob hwylbren chwifiai prudd
Arwyddnod angau.
Ei fasnach fawr drwy'r byd,
Sy'n myn'd yn mlaen o hyd,
Ond b'le mae'r Llyw ?
Ar ei holl gelfi hi,
Ei enw mawr, ei fri,
Sy'n aros gyda ni,
Ond of nid yw!
Galarus ydyw edrych ar
Llyth'renau'i anwyl enw,
Ar hyd ein rheilffyrdd yn mhob man, Ac yntau'n mhlith y meirw.
O, anwarddyn bychan gwyddit, Wrth dderchafu'th waedlyd law,


 

 

A black and white text

Description automatically generated

x264



Fod yn eistedd rhwng y moroedd, Yn ystlysau'r Gogledd draw, Wlad yr hon yr ydoedd hen ffych * Miloedd o'i thrigolion hi
Yn ymorphwys ar y bywyd
Gwerthfawr a ysbeiliaist ti.
Ai nid oedd uchder gradd a gwendid rhyw Yn eiriol arnat am i'r fam gael byw ? Ai nid oedd oedran tyner mebyd cu
Y llanc yn gwaeddi ar yr anwar du,
Attal dy law! Oh! gad fy einioes im '!
Oedd, oedd, ond, Ow! ni chlywai'r llofrudd ddim!
Yr oedd yr awel fwyn, wrth araf fyned heibio, A'r afon ar ei hynt, am droi'n eu hol i wylo; Edrychai natur oll yn llesg a phrudd oddeutu; Ond uwch y waedlyd wledd, yr anwar wnai grechwenu! O'r celyd greigiau sydd yn ngwlad yr Ethiop llawrudd, Y g'letaf un yw'r graig sy'n mynwes ei phreswylydd. Yr oedd ein POWELL hoff o dan anghenrhaid weithiau, Oherwydd dirfawr bwys ei amryw ddyledswyddau, O dawel ymrhyddhau, gan fyned a dychwelyd, Er mwyn adferiad nerth, ac adnewyddiad ysbryd; Ac yr oedd iddo ef ddarfelydd bywiog, helaeth- Darfelydd ag oedd lawn o olygfeydd barddoniaeth, - Barddoniaeth wyllt, ramantus, môr a mynydd- Ardderchog olygfeydd pellenig wledydd, Lle plygai'r tir o dan goedwigoedd mawrion- Trigleoedd erch yr anifeiliaid gwylltion- Y cawrfil cryf, y llew, a'r broch hyena, - O'r fath ag sy'n anialdir Abyssinia: Wel, yno'r aeth i hela'r bwystfil garw,
Lle trigai bwystfil gwaeth na'r bwystfil hwnw- Y bwystfil - ddyn ― nid dyn, ond dyn mewn enw.
Well - being.


 

 

A page of a poem

Description automatically generated

x265


Mor ddyrys ac mor ddyeithr oll yw dirgel ffyrdd Rhagluniaeth, Wrth ddechreu'r daith, nis gwyddom ddim beth fydd y brofedigaeth; Ond na ddyweded anghall ddyn, yn ngwyneb drwg tymhorol, Mai damwain neu ddygwyddiad yw, wrth raid ewyllys ddwyfol; Ewyllys IOR sy'n aros yn ei hollbresenol ddeddfau,
Lle dylai, pe deallai'r dyn, fod ei gylchdroad yntau;
A ydyw Duw yn " awdwr drwg, " sy ' DDUw mor llawn o gariad ? Duw bia deddf, ond torer deddf, ni phia Duw'r canlyniad; Rhoes ddeddf i'r bydoedd fflamiog fry, rhoes ddeddf i'r holl elfenau, Rhoes ddeddf i holl fodolaeth dyn, rhoes ddeddf i amgylchiadau; Nis gallwn symud law na throed, na thynu'r un anadliad, Heb fod, bob dydd a nos, â deddf mewn llwyr a llawn gysylltiad; Gwrthd'rawiad dyn à gallu deddf, yw pob dygwyddiad chwerw; Yn wir, effeithiau deddfau'n Duw, yw geni, byw, a marw; Ac er mor drychinebus oedd trist dynghed Meistr POWELL, Nid rhaid, nid barn, nid damwain oedd, ond ymgyrch tòn ac awel.
Mae'r prudd amgylchiad wedi myned heibio,
Ac hanes wedi rhoi ei seliau arno;
Ond nid aeth heibio'r effaith gyda'r achos, - ' Nol myned heibio'r ' storm, ei hol sy'n aros.
B'le mae'r dyddanwch llawn, a'r gwir sirioldeb, Breswyliant galon gu — brydferthent wyneb— Trigolion dedwydd plwy ' Llanilltyd - Faerdref ? Pa beth sydd wedi dwyn eu tôn a'u tangnef ? På beth yw'r golygfeydd o gur a siomiant, A welir heddyw'n gwisgo trem Llantrisant ? A beth yw'r cwynion lleddfus ddwg yr awel, O Gelligaer i lawr drwy'r fro yn isel ? Yr ateb yw - bu farw'r Yswain POWELL.
Wrth golli'n hanwyl BowELL, ni gollasom Un fedrai ag a wnelai lawer erddom: Nid colli y boneddwr wnaed yn unig,
Ond collwyd y gwladgarwr beiddgar, ystig;


 

 

A page of a poem

Description automatically generated

x266



Nid colli tad i deulu bychan, difyr, Ond collwyd megys tad i fyrdd o weithwyr; O'i golli ef, fe gollwyd yr athrylith Oedd i fil myrdd yn fywyd ac yn fendith; Yr ysbryd anturiaethus cadarn hwnw, Nad ymostyngai ' ddim - i ddim ond marw! Ow! gresyn i fradlofrudd anwar hefyd, Gael tori ' lawr y fath uwchafol fywyd! Yn wir, mae llygad llym a fflamllyd dial Yn edrych ar breswylydd gwyllt yr anial, Yn wgus iawn; ac nid mor rhyfedd hyny, Wrth gofio pwy o dan ei law fu'n gwaedu. Fe glywid taran llid fy ngwlad yn rhuo, Cyrhaeddodd mellt diaeledd hefyd yno; Ond, Ow! pa beth yw llid, a dig, a dial ? Saif byth yr un - cyfaflan fawr yr anial! Collasom ef, ac nid oes mwy a'i hadfer, - Rhy wan yw deddf, rhy fyr yw braich cyfiawnder; Ein unig gysur mwy, sydd mwy, mewn wylo, A hyn sydd orchwyl hawdd i galon Cymro.
Y mae llif - ddorau hono'n llawn agored, Er's oesau maith, a'r ffrwd yn bythol gerdded Oddiar y dydd y dydd anffodus hwnw, Y bu LLEWELYN, ein Llyw Olaf, farw. O un i un, o ddydd i ddydd, yn ddidor, Mewn llên ac awen, masnach, celf, a gwyddor, Gwroniaid Cymru geir yn syrthio ymaith; O, Angau! pa'm cymeri Gymru'n anrhaith ? O! ' r tywysogion medrus, beiddgar, buddiol, Mewn masnach a phob bywyd ymarferol,
A ddygaist oddiarnom ni'n ddiweddar;
Gwnaeth sŵn eu cwymp ddirgryndod drwy'r holl ddaear; Gwnest ddwyn ein GUEST, yr haiarn - frenin hwnw, A'i fasnach fawr gaethiwai drai a llanw



 

 

A page of a poem

Description automatically generated

x267

Holl foroedd byd - heb ynys na chyfandir, Na wyddent am adnoddau ein mynydd - dir; AC ALAW GOCH, ein pur wladgarwr, yntau Fu ddiwyd iawn yn dattod rhwym y creigiau, A'i gynyrch ef siriolwyd llawer aelwyd, A miloedd dan ei aden fawr gysgodwyd: Hwynt - hwy ill dau a gawsant brofi angau, A mangre dawel, fwyn i wneyd eu beddau, Yn nhir eu gwlad, a serch a chariad brodor, A theulu hoff i wylo uwch eu helor; Ac yr oedd hyn o fraint i'r fron friwedig, Yn lleddfu peth ar boen yr ergyd pwysig: Ond marw megys ca'dd ein POWELL anwyl, Yn mhell o ŵydd ei bobl, ei, wlad, a'i breswyl, — A marw.o dan ddwylaw'r llofrudd llymnwyd, — Sydd yn ychwanegu at ein hiraeth - arswyd.
Hawdd iawn y gall ei weithwyr wylo, oll, Uwchben y fath gyfaflan - anffawd - coll; Un feddai law, a chalon lawn o wres, Er trefnu, darbod, gwneyd, ac estyn lles Ei weithwyr oedd; ni charai les ei hun, Ond pan â'u lles a'u llwyddiant hwy yn nglŷn Crib - ddeiliaeth ni chai loches yn ei gnawd-
Ni fynai ef orfodi'r gweithiwr tlawd
I brynu nwyddau gwael, ond drud, yn lle Y gyflog oedd yn deilwng iddo fe, — Can's hono gai yn arian pur i gyd,
Yn nghyd a gwên, oedd burach, yr un pryd.
Myfyrio eu dedwyddwch beunydd wnai, Ni wyddai'i gariad ef am lanw a thrai, Ffrwyth ei fawr ofal yw'r prydferthwch sy ' Yn gwisgo holl fwynderau'i weithwyr cu. Nid cofio gwneyd eu cartrefleoedd hyfryd Yn ol y deddfau sy'n dwyn hoèn ac iechyd,


 

 

A page of a poem

Description automatically generated

x268



Yn unig, wnaeth, ond cofiodd fwy na hyny, -
Fe gofiodd am y moddion sy'n derchafu Y dyn, o raddfa yr anifail isel,
I fyny hyd at sedd y sant a'r angel;
Nid cofio corph, a gadael diffrwyth feddwl
Ei weithiwr wnaeth, dan d'wyllwch nos a chwmwl, Ond fe wasgarodd wawl gwybodaeth arno, Drwy'r sefydliadau a gyfodwyd erddo: Mae corph a meddwl ei holl weithwyr gwiw, Yn dwyn ôl cariad megys cariad Duw. Ac er mai'n nghartref y dechreua cariad Ddwyn ei egwyddorion i weithrediad, Ei gariad ef helaethodd faes ei lafur- Oedd ddwfn fel y môr, oedd eang megys natur: Y sefydliadau sydd yn dwyn diwylliad, Ac yn addurno meddwl, moes, a theimlad, Gymhorthodd ef, yn nghartref ac yn nhramor, - Dyngarwch oedd canghellydd mawr ei drysor.
Ei fasnach oedd fel cwmwl Môr y Werydd, Yn gwlawio arno'n drwm ei llwydd - gafodydd, Ac fel y bryn trysorai'r dyfroedd hwnw, I'w roi'r ail waith i'r byd yn ffrydiau gloew; Ei lwyddiant ef oedd dòn yn byth - ymchmyddo, A'i haeledd ydoedd ffynon fyth yn llifo. Melldigaid ydyw'r tir a yfodd waed
Y bywyd gwerthfawr hwn: na sanged traed Yr anwar ar y llecyn hwnw mwy,
Heb i euogrwydd wân ' ei gleddyf drwy
Ei galon ddu, nac heb i haul y nef,
A'r lloer, a'r sêr i wgu arno ef.
Neu aed Efyngyl yno,
Ac ar ei nefol wên,
Cyhoedded râd faddeuant, I ieuanc ac i hên;



 

 

A page of a poem

Description automatically generated

x269

Addysged iddynt gariad― Cyfraned iddynt hedd, A'r bywyd dedwydd hwnw, Sy ' byth tu draw i'r bedd.
Os yno syrthiodd POWELL,
Nid yno'r erys mwy-
Ni cha'dd ei lwch gymysgu â llwch eu daear euog hwy— Mae pwys ei farwol ben
Ar fynwes Gwent yn awr,
Hyd oni chlywir bloedd y dwyfol udgorn mawr, Yu galw'r seintiau adref.
Rhifedi'r boreu wlith,
Ac yntau'n angel newydd Yn esgyn yn eu plith.
MARWOLAETH HENRY WILLIAMS, TELY NOR,
PENYBONT - AR - OGWR.
MOR llonydd, weithian, ydyw'r llaw Fedrasai lòni sant,
Ac ymlid gofid calon draw,
Wrth daro'r seinber dant;
Mor fud yn awr yw'r Delyn fwyn Fu'n tywallt ffrwd o hedd; Mae Penybont yn drom ei chwyn— Ei Cherddor sy'n y bedd!
Chwareuai dônau'n gwlad mor fwyn- Mor lawn o natur oll,
Nes, lawer gwaith, yn ngrym eu swyn, Ein calon aeth ar goll,
Lledneisrwydd clust - destlusrwydd llaw, Perorol galon glir,
Feddianai'n llawn, -yr oedd, medd pawb, " Yn fab y gerdd yn wir. "
Oedd gyfaill gwir - oedd ffyddlawn dad, Didwylledd wisgai'i wedd;
Ond er pob moes, a rhin, a rhad, Fe'i ' sbeiliwyd gan y bedd! Yn iach, it ', HENRY WILLIAMSs lwys, Yn iach it ', ysbryd cerdd, Dyhidlir llawer deigryn dwys,
Uwch dy dywarchen werdd.


 

 

A close-up of a text

Description automatically generated

x270



LLYTHYRAU GWYDDONOL.
LLYTHYR I. - GAN D. W. o ESSYLLT.
Y SUGNWYNT ( THE WATERSPOUT ), Yr hwn a gymerodd le yn amgylchoedd Dinaspowis, Penarth a Chaerdydd, ar y 7fed o fis Awst, yn y flwyddyn 1871.
Yr oedd y phenomenon goruchionegol hwnw - y dymhestl nerthol, fawreddus, ardderchog, ac arddunol hono a gymerodd le ar y 7fed o fis Awst, yn y flwyddyn 1871, yn nghymydogaethau Dinaspowis, Penarth, Caerdydd, a'r ardaloedd amgylchynol — yn un o'r golyg- feydd wybrenol mwyaf grand - awfully grand - ag y bu yr ysgrif- enydd hwn yn llygad - dyst o honynt erioed. A hi yn ddydd Sabbath, ac wedi boreu clir, tawel, a thangnefeddus, ac yn rhywle o gylch dau o'r gloch y prydnawn, y dechreuodd duwiau y dym- hest alw eu byddinoedd galluog yn nghyd i'r frwydr fawr ac ofnadwy ag oedd i gymeryd lle cyn diwedd y dydd brawychus hwnw.
Ymffurfiodd y tarangwmwl, fel ag y sylwodd rhai o'r papurau Seisonig ar y pryd, uwchlaw y Bristol Channel, yn rhywle oddeutu cymydogaeth yr afon Hafren; ymgodai yn araf a bygythiol - ym- daenai ac ymdywyllai fwy - fwy - yna ymnyddai, ymgasglai, ac ym- gyfunai yn un pentwr mawr, llydan, a phygddu: edrychai yr nefoedd erbyn hyn yn synus, yn wyllt, yn rhamantus, ac ardderchog ofnadwy. Yr oedd yr holl derfyngylch wedi ei fritho megys â themlau pinaclog, cestyll tyrog, dinasoedd caerog, creigiau dan- eddog, bryniau clogwynog, a mynyddoedd cribog. Gallesid meddwl fod yr Wyddfa a'r Eryri, yr Andes a'r Himalaia, wedi ymgodi i fynu o'u gwraidd i'r awyrgylch gan anferthwch maint y cymylau mawrion, tywyllion, a bygythiol a welid yn ymsymud gyda'r fath arafwch, urddas, a mawredd ofnadwy, gylch ogylch y wybrenydd; pa rai oeddynt, hefyd, a'u mentyll lydain, llaesion, a gordywyllion yn ymhongian i lawr hyd at y ddaear. O ganol yr afagddu dywell, ddwys, a dudew hon ymsaethai y taranfyllt gwynias a fflamboeth gyda rhuthr ac ysgytiad dychrynadwy ysponcient a thampient o gwmwl i gwmwl, ac o derfyngylch i derfyngylch, fel marblenau ar balmant. Ni chlywid dim ond twrf y crychwlaw, a gric, grac, grec, crashio, rumblo, rhuo, rhuthro, a rhwygo drwy yr holl wybrenydd, bob yn ail eiliad dros ddwy neu dair o oriau yn olynol. Yr oedd am- gylchoedd Dinaspowis, Penarth, Caerdydd, & c., fel wedi eu hamgau mewn un cauadlen fawr, lwydwyllt, a gorchuddiol o gymylau tewion, trwchus, ac amlhaenog. Yr oedd y gwlaw yn ymbistyllio i'r ddaear; nis gellid gweled o'r naill ochr i'r llall o'r heol gan dewder ac amlder y mânwlaw mygdarthol, y brâswlw pwysig, a'r cesair
1


 

 

A close-up of a document

Description automatically generated

x271


trymion a syrthient yn gymysgedig a'u gilydd i'r ddaear, ac a nydd - droid yn mhob dull a modd gan wynt, croeswynt, a gwrth- wynt syn a dieithriol; poerai y cymylau pentyrog a bygythiol dân megys mewn llid a chynddaredd i wynebau eu gilydd; carlamai y mellt megys meirch porthianus; chwyrnoglai y daran fel mil myrdd o gerbydau ar hyd balmant tref; ciliai anifeiliaid y maes i'w lloches- oedd; yswatiai dofednod ac anifeiliaid cartrefol yn nghonglau y tai, ac o dan y dodrefn a gynwysent; safai eu preswylwyr yn syn, dys- taw, a gwylaidd; ofnai y cryf, a chrynai y cadarn, a chauai pawb eu dorau yn synedig, gorchfygedig, a brawychus, -
-
Sobrwydd, dystawrwydd, adystyriaeth - trwm, Sy'n tramwy trwy'r holl dalaeth.
*
*
*
Gormod gorchwyl yn bresenol a fyddai darlunio y dymhest hon yn holl ardderchogrwydd ei nerth, amrywiaeth ei golygfeydd, a mawredd ei heffeithiau; gan hyny awn rhagom i sylwi rhyw ychydig ar un o'i phenomena mwyaf dieithr ac anarferol. Yn fuan wedi terfyniad y dymhestl, ymddangosodd lluaws mawr o frogaod ( frogs ) bychain yn ymsymud ar hyd yr heolydd a'r meusydd mewn amryw barthau o'r wlad, a hyny gryn bellder oddiwrth unrhyw lynoedd a ffosydd o'r fath ag y maent yn arfer heigio ac ymlochesu ynddynt. Darfu i ymddangosiad y fath luaws mawr o honynt mor ddisymwth, ac mewn manau mor anysgwyliadwy, ac mor anghydnaws â'u har- ferion, roddi cyfodiad i amryw ddamcaniaethau yn nghylch y pa fodd y daethant i'r cyfryw leoedd. Haerid gan un blaid nad oedd hyn ond phenomenon naturiol, a'i fod yn perthyn i reddfau y brogaod i adael eu cartrefleoedd dyfrol, a rhoddi gwibdaith i'r tir sych, ar adegau neillduol o'r flwyddyn, pan fyddai yr hîn yn llaith, cafodog, a mwyglyd. Haerai plaid arall mai un o weithrediadau y sugnwynt ydoedd hyn; ac fe allai fod golygiadau y ddwy blaid yn hollol gywir, ac fod y phenomenon yn cael ei gynyrchu yn y naill ffordd yn gystal a'r llall. Ond fod y cyfryw phenomenon yn dygwydd weithiau sydd ffaith anwadadwy. Yr ydym ein hunain wedi bod yn edrych a sylwi ar weddillion y cyfryw gafodydd. Syrthiodd cafod, neu o'r hyn lleiaf, gwelwyd lluaws mawr o fânfalwod wedi syrthio, yn nghymydogaethau Sant Niclas a'r Dyffryn, yn Morganwg, oddeutu tair neu bedair blynedd yn ol. Syrthiodd cafod o bysg yn ngym- ydogaeth Sully, yn yr un swydd, ar un tro; a chafod o lyffaint ar dro arall; ac yr oedd yn dygwydd cymeryd lle yn mron bob amser yn ystod tywydd tymhestlog, ac mai fod y phenomena hyn yn cyme- ryd lle yn gyfamserol â thymhestl, yn myned yn mhell i gadarnhau y ddamcaniaeth mai effeithiau y sugnwyntoedd ( waterspouts ) ydynt. Fel ag y sylwyd o'r blaen, ymgasglodd y dymhestl y soniwyd am dani yn nechreu y llythyr hwn, yn rhywle yn nghymydogaeth yr


 

 

A close-up of a text

Description automatically generated

x272



Wysg a'r Hafren, ac y mae yn lled debyg iddi ymffurfio yn water- spouts, pa rai a gerddasant dros forfeydd y Casnewydd, Meirin, a Chaerdydd, gan sugno y brogaod o'r llynoedd a'r ffosydd cynwys- edig yn y lleoedd, wrth fyned ar eu taith drostynt, gan ymddryllio yn Canton, a gollwng eu cynwysiad ar hyd yr heolydd a'r meusydd cymydogaethol. Oddiyma symudodd y dymhestl ar ei hynt dros ben Leckwith, gan gyfeirio ei chamrau dros yr ucheldir rhwng Llandochan a Llanfihangel - Pwll, tua Dinaspowis. Wedi cyrhaedd y parthau gogledd - ddwyreiniol y lle hwn, ymffyrnigodd, ac yn ystod pum ' cant o latheni, codymodd, diwreiddiodd, a drylliodd deg neu ddeuddeg o goedydd mawrion- ( o fewn cylch dau can ' llath o Dŷ'r Felin, eiddo yr ysgrifenydd hwn, y bu yr holl ddifrod hyn ) - diosgid dail a cheinciau, a thorid cangau cyn braffed â dyn am ei ganol, oddiar y boncyffiau, fel cegid; codwyd llwyfen, o chwech troedfedd o amgylch, yn gwbl o'i gwraidd, ac hyrddiwyd rhai o'i changhenau yn ddeilchion i bellder o'r cae; torwyd pen pren onen, yr hwn oedd cyn braffed â dyn am ei ganol, ac a dyfai o fewn chwech llath i'r tŷ uchod, ymaith yn gryns wth. Ac felly parhaodd y difrod hyd oni chyrhaeddodd y sugnwynt Gwm Siôr, ac yma y terfynodd, cyn belled ag y gwyddom ni. Chwythai y gwynt o wahanol gyferiadau - weithiau yn fwyglyd, yna yn lled oer- weithiau yn rhuadol, bryd arall yn chwibanllyd, a chyda rhyw sŵn ddyeithriol; tywynai y goleuni melltenol yn aml, dysglaer, a than- baid; swniai y taranau weithiau tel pe dadlwythesid mil o gertwyni llwythog o feini - bryd arall fel creciadau musketry, a phryd arall fel twrf magnelfeydd o'r mwyaf aruthrol; ymdywalltai y gwlaw yn darth ac yn ager gwreichionllyd, ac ar yr un pryd yn llinynau pistyllog, didor, a diseibiant. Ni fuom yn llygad - dyst erioed o'r blaen o'r fath ddysplead o allu elfenol - nac o dymhestl o'r fath ar- dderchawgrwydd a nerth - nac o'r fath sensations synus a dyeithriol ag oedd gydfynedol a hi. Gallesid adrodd yn ngeiriau y bardd syniad a theimlad llawer un ar y diwrnod hwnw:
" Mae dy enw mor ardderchog,
Pob rhyw elyn gilia draw;
Mae rhyw arswyd trwy'r greadigaeth Pan y byddych di gerllaw. "
Fel prawf pellach o'r ddamcaniaeth a goleddwn, dyfynwn a ganlyn o'r World of Wonders: -
WONDERFUL SHOWER S.
A SHOWER OF FISHES. - In 1833, at Lake Gwynant, in the county of Carnarvon, a woman was engaged washing a pail at the edge of the lake, and a number of children were with her. While she was thus employed, at eight p.m., a shower of small fishes fell


 

 

A close-up of a text

Description automatically generated

x273


partly into the lake, partly upon the land, close to where the woman was. The fish resembled herrings, but were much smaller. A heavy shower of rain had preceded the descent of these fishes, and the day following there was much rain and thunder. - Carnar- von Herald, 1833.
A SHOWER OF CRABS - Lord Eastnor, of Tyttenhanger Park, writes, in August, 1836: - " Soon after a most violent storm of rain and wind, in the summer of 1829, three small crabs, weighing from 1 to 12oz., were found in the area of the Workhouse, at Reigate; and a fourth was fonnd at little distance, I think the following morning. One of them appeared to be still living. In the morning of the day previous to the storm, the area of the Workhouse had been thoroughly swept and cleaned; consequently they must have been seen had they been there then. They were found by a boy, who told the governor that he had found a comical sort of a frog.
99
FALL OF FISHES. - Yesterday a great number of small fish were found swimming in Jefferson - street. During the night previous, a heavy rain fell, and the fish, of course, descended with the water. We saw a number of them, they were from two to three inches long, and were mostly sun - perch. - Louisville Newspaper, Nov., 1835.
SHOWER OF YOUNG HERRINGS.--- On the 9th March, 1830, the inhabitants of the island of Isla, Argyleshire, after a day of heavy rain, were surprised to find numbers of small herrings strewed over their fields, perfectly fresh, and some of them exhibiting signs of life. Similar instances of showers of small fish are well authenti- cated. " - Note by Yarrell, in Reid's " Law of Storms. '
FALL OF FISH IN KENT, -About Easter, 1866, in a pasture field in the parish of Stansted, which is a considerable distance from the sea or any branch of it, and a place where there are no fishponds, there were found fish in quantity about a bushel, sup- posed to have been rained down from a cloud, there having been at that time a great tempest of thunder, hail, wind, & c. These fish were about the size of a man's little finger; some were small whitings, others like sprats, and some rather like smelts. Several of these fish were shown publicly at Maidstone and Dartford.- Hasted's " History of Kent. '
Y
LLYTHYR II. - GAN FFAGAN.
" GAWOD
FROGA. "
Rhyfedd y fath gynhwrf y mae y " Froga Gawod " wedi ei gynyrchu yn ddiweddar; a phe buasai ond y Wasg Gymreig yn unig wedi cyhoeddi yr ofergoeledd hyn, cawsem ein cyhuddo ar


 

 

A close-up of a text

Description automatically generated

x274



unwaith o fod yn genedl ofergoelus ac anwaraidd. Ond gan mai
Western Mail esgorodd ar y fath syniad ofergoelus a disail, y mae yn amlwg nad ydynt hwy y Saeson - h.y., Saeson y Western Mail -fodd bynag, rhyw lawer iawn o flaen y Cymry mewn hanesiaeth naturiol; yn enwedig pan ystyriom fod golygydd penfeddal y Western Mail wedi cadw tair neu bedair o'r creaduriaid anhyfryd hyn mewn potel i fod yn relics of antiquity. Druan o hono, os bydd fyw i weled yr un tymhor y flwyddyn nesaf, y mae yn beth eithaf tebygol y cymer yr un phenomenon le tua'r un fan eto. Yr wyf wedi gweled yr un phenomenon fy hun, o'r blaen yn yr un fan -miloedd ar filoedd o'r creaduriaid hyn ar hyd yr heol, fel nad oedd yn bosibl rhoi troed ar lawr heb eu damsang.
Beth pe baem yn ceisio rhoi esboniad ar y phenomenon rhyfeddol hon, er mwyn darllenwyr hynaws y Fellten, ac fe allai na fyddai yn anfuddiol i Olygydd y Western Mail hefyd. Rhoddais yr un resymau i fasnachwr cyfrifol yn Nghaerdydd, tua'r amser y cym- rodd y gawod dybiedig le, a dywedodd wrthyf- " Your explanation of the matter is quite natural and convincing; why not write a letter to the Western Mail, to refute such absurd ideas ? "
Diamheu fod lluaws o ddarllenwyr y Fellten wedi sylwi yn y gwanwyn, fod sŵn brogad yn crwcican, crucian, crucian mewn llynoedd, siglenydd, a ffosydd. Wrth agoshau at y ffosydd lleidiog, dyfrllyd, ceir gweled eu penau uwchlaw y dw'r, yn crwcian, fel y cry- bwyllasom o'r blaen. Canu cerdd y maent o waredigaeth, wedi dodwy eu hwyau yn y llys gwyrdd sydd yn gorchuddio gwyneb y dw'r. Y mae pob froga fenywol yn dodwy dros 1,200 o wyau, ac fe welir y wyau hyn yn smotiau duon yn y gwyrddlesni gludiog ( gluey ) a orchuddia wyneb y dw'r sydd yn y ffosydd a'r pyllau, ac y mae yr haul yn raddol ymddadblygu y bywyd dirgelaidd sydd yn guddiedig yn mhob smotyn du.
Y mae graddau ymddadblygiad froga, o'r ŵy yn mlaen, yn brocess teilwng o sylw. Beth pe cymerai y darllenydd ymchwilgar ychydig o'r gwyrddlesni gludiog sydd yn cynwys yr wyau, yn nghyd ag ychydig o ddwfr y ffos, a'i osod mewn llestr, gallai drwy hyny wylied yr holl ffurf - newidiadau. Beth yw y ffurf - newidiad cyntaf ? Y mae yr wyau yn cael eu nodi â rhychiau bychain, a gallu byw- ydol yn eithaf amlwg y tufewn. Yn nesaf, gwelwn, yn lle ŵy, dalp ceulaidd ( jelly - like ) o fywyd yn glynu wrth y chwyn ddyfrol, wrth ba un y mae yn hongian drwy gynorthwy sugnwr ( sucker ); dyma ffurf gyntaf y froga - faban.
Yn y trydydd ffurf, y mae y talp bach ceulaidd ( jelly - like ) wedi dyfod yn feddianol ar gen ( gills ) a chynffon, ac yn ymsymud gyda chyflymdra yn y dw'r. Y mae yn awr, drwy y ffurf - newidiad hyn, yn bysgodyn gwirioneddol, y rhai a elwir gyda ni yn benbwliaid. Y mae eto yn cymeryd ffurf arall - y mae coesau ol yn ymffurfio;
·


 

 

A close-up of a document

Description automatically generated

x275


ac yn y bummed le, y mae coesau blaen yn ymddadblygu, ac nid yw mwyach yn bysgodyn. Y mae y gynffon oedd iddo o'r blaen wedi ymffurfio yn rhan o'i gorff. Yr ydym yn awr wedi cyrhaedd y chwechfed ffurf - newidiad. Yn y seithfed, y mae y genau yn Y mae y ffurf-
ymledu, ac yn meddu ar ffurf y froga gyflawn. newidiad mwyaf hynod yn aros.
Hyd yn hyn y mae y creadur wedi bod yn anadlu drwy gymhorth gen ( gills ), peiriant bywydol hyfryd i gynyrchu ulai ( oxygen ) o'r dw'r. Ond yn awr, y mae yn ofynol darparu moddion i anadlu awyr. Y mae ysgyfaint gan hyny yn ymffurfio yn raddol; ac y mae holl gyfres y cyfnewidiadau yn gyflawn.
Fe welir oddiwrth hyn fod y froga wedi myned drwy wyth o gyfnewidiadau, a phob cyfnewidiad wedi ei ddwyn gam yn nes i'w ffurf gyflawn a gorphenol. Gall yr ymofyngar olrhain yr holl gyf- newidiadau hyn ar y froga drostynt eu hunain; a diau y cymer llawer y gorchwyl mewn llaw o ddilyn y froga o'i gryd i'w faintioli cyflawn.
Yn awr am y gawod! Mewn tywydd mwrn, twym, megys tywydd taranau, mae y creaduriaid newydd - berffeithiol hyn yn gadael y corsydd lleidiog, y ffosydd, a'r siglenydd dyfrllyd, fel y sydd tua'r fan y cymerodd y gawod dybiedig le, sef " Comin Canton, " gan heidio yr heolydd yn filoedd ar filoedd, nes y mae yr anwybodus a'r ofergoelus yn credu ar unwaith mae rhywbeth gor- uwch - naturiol ydyw, pan na fu un o'r brogaod yn uwch i fyny nag y gall fyned wrth lamu. Dywed Cassell yn un o'i lyfrau, os wyf yn cofio yn iawn: - Indeed, the rustics in some districts believe in frog showers, ' thus accounting for the sudden and numerous swarms of hopping reptiles. "
Y mae gallu cyhyrol y froga o'r braidd yn anghredadwy - gall lamu tua hanner cant o weithiau ei hyd ei hunan ar un llam. Pe byddai dyn ond yn meddu gallu cyhyrol ( muscular power ) y froga, gallai roddi llam o 300 o droedfeddi, a llamu dros 100 troedfedd o uchder. Dylem efrydu mwy ar dudalenau natur, fel na'n cynhyrfer gan phenomena fel hyn. Dyma y ddau lyfr mawr y dylai pob dyn eu hefrydu - sef, Natur a'r Bibl; a hyny er mwyn adnabod deddfau natur, a chydnabod ei Hawdwr a'i Deddfroddwr hi.
LLYTHYR III. - GAN D. W. o ESSYLLT.
Y SUGNWYNT A'R GAFOD FROGAOD. Yr ydym yn diolch i'n cyfaill llengarol " Ffagan " am ei sylw- adau gwyddonol manylgraff ar y " Froga - gafod. " Y mae y theory yn un ardebygol ( plausible ) ddigon; ac nid ydym, mewn un modd, ai honi nad felly mae y cyfryw orddangosion yn cymeryd lle; ond


 

 

A close-up of a text

Description automatically generated

x276



tybiwn y gallwn, a hyny yn gydweddol â deddfau anian ( ac yn wir drwy ffeithiau gwybydus i ni ein hunain ) briodoli yr unrhyw ar- ddangosion i'r sugnwyntoedd hefyd.
Ond y mae rhai arweddau ac amgylchiadau cysylltiedig â'r gor- ddangosion goruchionegol hyn ag sydd yn anhawdd iawn rhoddi un cyfrif boddhaol am eu cynyrchiad, os theory ein cyfaill " Ffagan " yn unig a gymhwysir atynt. Yn gyntaf, ynte, os y daran - dymhestl, neu y tywydd myglyd a achosodd diriad y brogaod yn Canton, pa- ham na fuasai y gorddangosiad yn gyffredinol drwy yr holl barthau hyny ag oedd yn gorwedd o fewn cylch yr un dylanwadau ?
Yn ail. Y mae yn rhesymol i ni ddysgwyl na fydd i ymddangosiad yr exodus brogaol hyn gymeryd lle yn unlle ond gerllaw i ymyl y llynoedd, y ffosydd, a'r siglenydd hyny lle y bodola y creaduriaid y sonir am danynt. Os felly, pa fodd mae cyfrif am eu hymddang- osiad yn lluoedd ar heolydd a meusydd ucheldiroedd ? Yn amser y dymhestl ddiweddar, nid yn Canton, yn nghymydogaeth y llynoedd a'r ffosydd, yn unig yr ymddangosasant; eithr ar heol Comin uchel Dinaspowis, lle nad oes na llyn, na ffos, na siglen o fewn canoedd meithion o latheni iddo.
Yn drydydd. Gan fod brogaod, llyffaint, ac ysgrubliaid cyffelyb yn greaduriaid dwyelfenol, y mae yn ddichonadwy eu bod, yn ol theory " Ffagan, " yn heidio i'r tir ar amserau nodedig. Ond pan glwyir am bysg, y rhai nas gallant fyw ond mewn dwfr yn unig, eu bod hwy i'w caffael weithiau yn lluoedd ar y tir sych, sydd broblem nas gellir cyfrif am dani gydag un gradd o gysondeb ond yn ei chysylltiad â goruchwyliaeth y sugnwynt yn unig. Nis gwyddom a ydyw y son yn ffaith ai peidio, ond clywsom ddarfod gweled lluaws o fan bysg yn gorwedd ar y tir sych yn nghymydogaeth Aberddawen, á rhai parthau gerllaw Aberdâr, rhai blynyddau yn ol. Os yw hyn yn wir, nis gall bodolaeth y cyfryw phenomenon gael ei dadogi i ddim ond i effeithiau y sugnwynt yn unig. Clywsom am gafodydd o waed yn disgyn; ond y mae y dybiaeth hon yn cynwys ynddi ormod o anhebygolrwydd i'r oes oleuedig hon i allu ei llyncu yn rhwydd. Eithr er hyn oll, mae iddi liw o wirionedd, ac yn un ag y gellir ei chysoni â theory y sugnwynt. Nid oes dadl nad oes cafodydd gwaedgoch wedi syrthio mewn rhai manau cyn yma; ond nid gwaed oedd defnydd yr hylif a gynwysent, eithr dwfr afloew a thywyllwawr llynoedd ac afonydd lleidiog, o ba rai y cyfodai y sugnwynt ei gynwysiad wrth ymsymud drostynt.
Yn bedwerydd. Y mae gan ferch yr ysgrifenydd hwn swp o gregin perthynol i amryw rywogaethau o falwod yn awr yn nghadw, pa rai a gasglodd tua blwyddyn a haner yn ol, yn nghymydogaeth y Dyffryn, Morganwg. Dywedid mai cafod o falwod oedd hono, ond dichon fod yn haws cymodi y phenomenon hwn â theory Ffagan nag â theory y sugnwynt. Ond y mae genym ffaith arall i'w chof-


 

 

A close-up of a document

Description automatically generated

x277


Oddeutu
nodi ag sydd yn ffafriol iawn i theory y sugnwynt. blwyddyn a haner yn ol, gorchuddiwyd rhan o gwmin Dinas Powis â lluaws dirifedu o fân - gregin y mor, -yr oedd yn hawdd adnabod mai cregin morawl oeddynt, oddiwrth eu ffurfiau pigfeinaidd ( conical ). Yn awr, gan fod cwmin Dinas Powis yn sefyll dair milldir oddiwrth y môr, y gofyniad ag sydd yn cyfodi yn naturiol yw, O ba le, a thrwy ba foddion, y gallasai y fath luaws dirifedi o gregin gael eu trosglwyddo i'r fath bellder o'u trigleoedd brodorol ? Fel y dywedasom o'r blaen, mae'r exodus brogaol, lyffeintiol, a malwodol yn ffafriol iawn i theory Ffagan; eithr am drosglwyddiad pysg yr afonydd a chregin y môr, hyd i gryn bellder i'r tir, nis gallasai hyny gymeryd lle drwy ddim ond offerynoliaeth sugn- wyntoedd.
Y mae yn hysbys fod sugnwyntoedd cyn yma wedi codi tywod, canghenau, coed, anifeiliaid, a dynion i'r awyr - ie, cyfodant bob math o wrthddrychau a ddygwyddont fod ar eu ffordd. Os felly, paham nas gall pysg, môrgregin, llyffaint, brogaod, malwod, & c., fod yn mhlith, ac yn rhai, o'r gwrthddrychau hyny ?
Priodolai ein henafiaid bob phenomenon ddyeithriol, er nas gall- asant hwy ddirnad ei modus operandi, i ymyriad rhyw allu goruwch- naturial, yr hon yn ddiau oedd yn ofergoeledd mawr. Ond yn ein dyddiau ni, os gellir olrhain unrhyw effaith i'r achos cynyrchiol o honi, a'r achos hwnw yn gweithredu yn unol â deddfau anian, nid ofergoeledd ' mo hono - ie, bydded ymddangosiad, yn gystal a'i ffurf o weithredu, mor synus ac mor ddyeithriol ac y byddo.
Y mae darllen hanes ymddangosiadau yn nghyd â gweithrediadau sugnwyntoedd, neu waterspouts, yn orchwyl difyrus a dyddorol iawn. A'r sawl a chwenychont gael ei entertainio yn y ffordd hon, ond iddynt edrych i Cassell's Educational Course, Chambers's Information for the People, a'r English Encyclopædia, o dan y gair " Waterspout, " gallant gael y cyfryw fwynhad hyd oni ymddigonont.
Wrth derfynu, yr ydym eto yn diolch i Ffagan am ei sylwadau gwyddonol; ac yr ydym yn gobeithio y bydd iddo barhau i anrhegu darllenwyr y Fellten ag erthyglau cyffelyb, ar destynau naill mewn Hanesiath neu Athroniaeth Naturiol.
LLYTHYR IV. - GAN D. MORGANWG.
Y GAWOD FROGAOD.
MR. GOL., - Yn y Fellten, am Medi 8fed, sylwais ar ddau lythyr gwir alluog yn cyfeirio at y gawod frogaod a ddisgynodd ger Caer- dydd, Awst 18, 1871. Mae Ffagan ( awdwr un o'r llythyrau ) yn gwadu na ddisgynodd yno yr un gawod o frogaod; a dywed ei fod wedi gweled phenomena gyffelyb o'r blaen, pan oedd " miloedd ar
U


 

 

A close-up of a page

Description automatically generated

x278



Priodola yr
filoedd o'r creaduriaid hyn ar hyd yr heol, " & c. ysgrifenydd galluog hwn yr ymddangosiad hynod dan sylw i " dywydd mwrn, " & c.; ac y mae yn ymresymu yn gryf, trwy olrhain ymddadblygiad broga o'r ŵy i fyny.
y
Mae Dewi Wyn o Essyllt, drachefn, yn ei ysgrif ardderchog ar " Sugnwynt, " yn rhoi desgrifiad bywiog, nerthol, athronyddol, a barddanol o'r hyn a gymerodd le yn ei olwg ef, ar y dydd y cyf- eiriwyd ato - gan nodi fod y corwynt wedi diwreiddio coedydd preffion, tori ymaith gangau mawrion oddiwrth foncyffion eraill, & c. Barna Bardd Bro Essyllt mai y sugnwynt aruthrol a ddesgrifir ganddo a gododd y brogaod o'r corslynoedd, gan eu gwasgaru yn gawod yn Canton, & c.
Yn gymaint a bod y ddau ysgrifenydd hyn fel yn gwrth - ddyweyd eu gilydd, mae yn naturiol i ni ofyn pa un o'r ddau sydd gywir; ac a oes modd cael sicrwydd pa un a ddisgynodd cawod o frogaod yn Canton ai peidio, ar y dydd y cyfeiriwyd ato ? Sicr yw, os oedd y sugnwynt yn ddigon nerthol i godi coed o'r gwraidd, ei fod yn ddigon cryf i godi miloedd o frogaod o'r corslynoedd.
Tua deng mlynedd yn ol, pasiodd sugnwynt o'r fath rhwng Troedyrhiw, ger Merthyr Tydfil, a Mountain Ash, ac mewn can- lyniad i hyn disgynodd cawod o bysgod bychain - pilcots - ar y mynydd rhwng y ddau le a nodwyd. Mae uchder ¡ y mynydd yn 1619 o droedfeddi; o ganlyniad, nid yw yn debyg fod nerth cyhyrol y pilcots yn ddigon i'w galluogi i neidio o afon Tâf neu Gynon i ben mynydd o'r uchder a nodwyd. Nid wyf yn amheu nad oedd yr oes a aeth heibio yn rhy ofergoelus gyda golwg ar lawer o bethau, ond tueddir fi i gredu fod yr oes yn myned yn rhy anffyddol, yn llawn cymaint felly ag oedd yr oes o'r blaen yn rhy ofergoelus. Os yw yn bosibl, carwn yn fawr cael gwybod, trwy gyfrwng y Fellten pa un ai ffaith neu ynte ffug yw y Gawod Frogaod y sonir am dani ? A oes un, neu rai, o ddarllenwyr y Fellten, wedi gweled y brogaod yn disgyn, os disgynasant ? Byddwn i a llawer eraill yn ddiolchgar am atebiad penderfynol i'r pwnc, yn gymaint a bod y fath siarad am y peth.
LLYTHYR V. - GAN D. W. o ESSYLLT.
Y GORUCHION, NEU YR AWYR - DANAU.
Y mae ein gohebydd, " Nephalist, " wedi cyfeirio ein myfyrdodau, yn gystal a derchafu ein golygon, i fyny tuag at faes digon ëang, o'r diwedd, i'r meddwl mwyaf cwmpasog i dragwyddol ymdroi a llafurio arno - maes, yr hwn y mae ei amrywiaeth yn ymylu ar yr annherfynol - yr hwn y mae ei ëangder yn ymylu ar yr anfeidrol yr hwn y mae ei brydferthwch yn ymylu ar y nefol, a'i arddunedd


 

 

A close-up of a text

Description automatically generated

x279


yn ymylu ar yr ysbrydol, a'r cwbl yn un conglomerate fawr o ddwyfoldeb teimladwy, ranolweledig, a bytholweithgar.
Byddai bod yn drwyadl hysbys o, neu drwyadl gydnabyddus ag, ymgyfuniad a dadgyfuniad gwahanol elfenau natur - hyny yw, a'i fferylliaeth - ac hefyd â gweithrediadau ei deddfau, yn ddigon o esboniad i ni ar bob phenomenon- ( phenomena, lluosog ) -o'i heiddo gan nad pa mor ddyeithr a rhyfeddol bynag y byddont. Anwybod- aeth dynion o ysgogiadau amrywiog, yn nghyd ag o weithrediadau dirgel a chymhleth anian, yw yr achos o'r braw, a'r dychryn, a'r ofergoeledd poenus ag sydd yn ffynu yn eu plith ar amser ym- ddangosiad unrhyw phenomenon wybrenol newydd, ddyeithr, neu ryfedd. Mewn gwirionedd, nid oes fwy o ryfeddod nag o berygl ychwaith, debygid, yn ymddangosiad y gomed hirgynffonog yn y gwagleoedd pellymestynol, neu yn ymddangosiad unrhyw pheno- menon awyrol arall - ar lun cleddyfau, tarianau, teyrnwialenod, coronau, colofnau, seirph, ac ysgorpiynau - nag sydd mewn ym- ddangosiad pothell ar wyneb y dwfr. Cynyrch yr un achosion, neu yr un ail - achosion - hyny yw, deddfau natur - ond eu bod yn gweithredu ar wahanol elfenau, ac anseddau, ac mewn gwahanol dymhorau a pharthau, yw y naill fel y llall.
Paham y rhyfeddir fod awyrdanau yn ymddangos ar ffurf tar- ianau, cleddyfau, & c., yn fwy nag fod y ceseiryn a'r fflochen eira, wrth syrthio ar y ddaear, yn cymeryd y ffurf hon neu a ffurf arall, canys nid yw y naill fwy na'r llall, wrth gymeryd eu gwahanol ffurfiau ond ufuddhau i'r un deddfau neillduol hyny ag sydd yn rheoleiddio ysgogiad a chydlyniad mater ? Paham y rhyfeddir at amrywiaeth ffurf yr awyrdanau, neu y goruchion, yn fwy nag at amrywiaeth ffurf y cymylau ? Nid oes yna yr un agency goruwch- naturiol, ond cymaint o oruwchnaturioldeb ag sydd yn perthyn i ddeddfau natur, a hyny oblegid eu Hawdwr, yn gweithredu mewn cysylltiad â'r naill yn fwy na'r llall o honynt. Y mae natur, fel ag y dywedasom yn flaenorol, yn ei holl ffurfiau, agweddau, ymddang- osiadau, cyfuniadau, dadgyfuniadau, a phob phenomenon o'i eiddo, yn ddarostyngedig i ddeddfau dwyfol ordeiniedig, unffurf, a chyson yn eu heffeithiau; ac yn mlith rhai o'r phenomena rhyfeddol hyny a reoleiddir ganddynt y mae yr Awyrdanau. Un o'r problemiau mwyaf annatodadwy yn mhlith rhai o'r phenomena yr awyrdanau yw cenhedliad a chyfansoddiad y sêr ymsaethol neu yr
AWYRFEINI ( METEORIC STONES ).
Fel ag y sylwa Nephalist, y mae amryw ddamcaniaethau wedi cael eu cynyg i'n sylw o bryd i bryd; ond y mae rhai o honynt yn afresymol, ac eraill yn anathronyddol iawn, i'n tyb ni. Damcan- iaeth afresymol yn gystal ac anathronyddol ydyw hono sydd yn dal mai " planed fawr sydd wedi ffrwydro yn yr eangder, a bod


 

 

A close-up of a text

Description automatically generated

x280



rhai o'r darnau lleiaf wedi dyfod o hyd cyrhaedd atyniad y ddaear, ac mai hwy sydd yn ffurfio y meteors rhyfedd a welir yn ein hawyr- gylch. " Wel, yn awr, a allwn ni goleddu y syniad am foment fod Architect mawr, cywrain, gofalus, doeth, a galluog yr holl greadig- aeth eangfawr wedi gadael un ran o'r adeilad ogoneddus mor llac a diafael yn ei chysylltiadau fel ag i ymddatod ac i ymranu o honi yn fil o ddarnau fel hyn oddiwrth eu gilydd ? Ond, a chaniatau fodplaned fawr wedi ffrwydro " yn yr eangder, ai nid o amgylch corph yr haul yr oedd hono yn chwyldroi ? ac os felly, ai nid i fynwes atyniadol yr haul y buasai darnau lluchiedig y cyfryw blaned yn disgyn, ac nid i'r ddaear ? Gellir cymhwyso yr un gofyniad mewn cysylltiad â'r ddamcaniaeth a goleddir, mai darnau sydd yn cael eu lluchio o losgfynyddoedd y ddaear yw yr awyrfeini hyn. Ai nid oedd atyniad y lloer ar y darnau hyn, y rhai ni luchid, feallai, fwy na rhyw chwarter milldir uwchlaw ei harwynebedd, ddim yn gryfach nag atyniad y ddaear arnynt ? Ai nid yn eu hol i fynwes y lleuad y buasent yn syrthio ? Ac, yn mhellach, pe darnau o ryw blaned ddrylliedig, neu ddarnau yn cael eu lluchio o losgfynyddoedd y lleuad, neu o losgfynyddoedd y ddaear, fuasent, ai nid yw yn beth tebyg y buasent yn amrywio yn eu defnyddiau, neu yn feini o wahanol fathau, yn lle eu bod, fel y sylwa Nephalist, " oll yr un fath ? " Ond y mae eu bod oll yr un fath yn profi ar unwaith eu bod yn cael eu cynyrchu gan a thrwy yr un agency. A'n damcaniaeth ni ydyw fod yr agencies hyn yn hanfodi yn yr awyr yr ydym yn ei anadlu, a'r ddaear yr ydym yn byw arni. Ym- drechwn ddangos yn ein nesaf nad oes raid i ni fyned o'r tu allan i ddaear ein hunain i chwilio am achos cenhedliad yr awyrfeini a phob phenomenon awyrol arall.
Y
LLYTHYR VI. - GAN D. W. o ESSYLLT.
GORUCHION
( METEORS ).
Y mae y mygdarthion nwyol a gyfodant o'r ddaear i'r wybren yn rhwym o fod yn ddogneddau helaeth iawn, os ystyriwn y dad- gyfansoddiad mawr sydd yn cymeryd lle yn mhlith y deyrnas lysieuol bob Hydref, a'r hyn hefyd sydd yn cyfodi o siglenydd a chorsydd lluosog y ddaear - trefydd a dinasoedd mawrion y byd- haiarnweithfeydd, coprweithfeydd, tinweithfeydd, llosgfynyddoedd, & c. - globyllau a mŵnbyllau yr holl wledydd; ac oni byddai fod gan natur ei goruchwyliaethau fferyllol i'w dwyn yn mlaen arnynt yn yr awyrgylch, fel ag i'w traws - sylweddu neu i'w puro, a'u bwrw yn eu hol i'r ddaear, er adgyflenwi eu ffynonellau cyntefig ( rhai o hynynt ), pa fath a fyddai ansawdd yr awyr a anadlwn ? A ellid yn rhesymol dybio y byddai eu helfenau mewn ystad gyfaddas er cynaliaeth ein hiechyd, neu ddadblygiad a chynydd priodol unrhyw fywyd ?



 

 

A close-up of a text

Description automatically generated

x281


Y ydyw yn ormod i ni awgrymu mai phenomena cysylltiedig â goruwchwyliaethau fferyllol anian i'r dybenion uchod yw y goleuni gogleddol y lucheden ddidrwst - y fellten flamiol - y daranfollt nerthol a'r seren ymsaethol ? Gallwn fod yn benderfynol, oddiwrth phenomena eraill ag ydym yn fwy cydnabyddus a'u dybenion, nad yw rhagluniaeth ddwyfol ddim wedi ordeinio y pheuomena hyn yn ofer ac i ddiddim defnydd. Mae yn sicr fod iddynt eu dybenion neillduol a'u gorchwylion anhebgorol angenrheidiol i'w cyflawni yn mheirianwaith mawr ac amrywiog anian.
Y mae pob phenomenon, bydded ddyfrol neu daniol o ran ei hel- fenau, a bydded ei hymddangosiad yn y man hwn neu y man arall -ni waeth pa le - yn ddyledus i'n daear ni am ei defnyddiau, ac i'r fferylliaeth fythweithgar hono o eiddo deddfau anian am ei genedliad. Yn mhlith y defnyddiau cyneuol ( combustible materials ) hyny ag sydd yn cyfansoddi yr awyrfaen, y mae sulphur, phosphorus, magnesium, & c., ac fe allai drydan hefyd: yn awr, gwyddis fod yr elfenau hyn i'w caffael hyd gyflawnder yn ein daear ni; os felly, paham y rhaid i ni fyned at un " seren ffrwydredig, " llosgfynydd- oedd y lleuad, na'r asteroids ychwaith i chwilio am ddefnyddiau, ac olrhain am genedliad yr awyrfaen ? A ydyw yn fwy o orchest i natur genedlu yr awyrfaen yn yr awyrgylch, nag ydyw iddi genedlu y darandymhestl, y daranfollt, y waterspout, y cwmwl, y gwlaw, y gwlith, y barug, cesair, rhew, ac eira ? Paham nad yw natur yn cynull ei nwyon yn nghyd ar ffurf yr aurora borealis a'r serenym- saethol, yr un fath ag y mae yn cynull y mygdarthion dyfrol yn nghyd a'r ffurf caddug a chwmwl ? Paham nas gall defnyddiau y saethseren losgi, toddi, a syrthio, yr un fodd ag y gwna defnyddiau mwydol y cwmwl - ddadleithio, dyferu, a syrthio.
Mae yr elfenau cyneuol a chyfunedig ag sydd yn cyfansoddi yr awyrfaen yn cyfodi o'r ddaear mewn ffurf fygdarthol, deneufain, ymledol, nofianol, ac anweledig; ac yn nghymdeithas nwyon eraill, ymddyrchafant i'r wybren, gan gydymsefydlu mewn lleiniau o awyr lonydd; ac wrth orchymyn y ddeddf hollbresenol hono a elwir at- dyniad, ymgasglant at eu gilydd nes ymffurfio yn gronell, yr hon, o herwydd ei sefyllfa nwyol, a fydd yn analluog i ymgynal mewn dull hongianol yn yr awyr am gryn amser; ond wrth ddynesu a dynesu at eu gilydd yn barhaus, ymdewychant, ac wrth ymdewychu, bydd i'r mân ronynau a'u cyfansoddant wasgu ar eu gilydd, ac ymrwbio yn eu gilydd, nes o'r diwedd y bydd i'r ymrwbiad ( friction ) hwn effeithio ffrwydriad, a thrwy agency y ffrwydriad hwn y bydd i'r phenomenon anesboniadwy hwnw a elwir yr awyrfaen gael ei gynyrchu ?
Mae y mân ronynau adwynol ( metallic ) ag sydd gymysgedig neu yn ymlynedig wrth y nwyon a gyfansoddant y syrthseren, ar amser ei ffrwydriad, yn myned dan a thrwy rhyw oruchwyliaeth


 

 

A page of a document

Description automatically generated

x282
82



gyffelyb i eiddo y " ffwrnes blast, " neu crucible yr alchemist. Y mae gwres y syrthseren yn rhwym o fod yn fawr ac angherddol, o herwydd natur fflamychol, boethlyd, ac ysol yr elfenau a'r def nyddiau a'i cyfansoddant; ac o dan weithrediad y gwres angherddol hwn, y mae y rhanau hyny o'r syrthseren ag sydd adwynol ( me- tallic ) yn toddi, ac yn myned yn hylifedd tew, cyffelyb i lava; ac wrth syrthio o uwchder mawr ( o filldir i bump ) drwy yr awyr oer rhynllyd, a chyda chyflymder hefyd, y mae yr hylifedd adwynol hwn yn ymgaledu cyn neu gyda ei fod yn disgyn ar y ddaear, a dyna yr awyrfaen wedi ei greu!
Nid yw y gynffon oleu a welir ar ol y seren wrth syrthio yn ddim ond gweddillion o'r nwyon fflamychol yn ymlynu wrth fân ronynau yr awyr, neu ynte adlewyrch ei goleuni ar fygdarth teneufain yr awyr wlithog. Y mae y syrthseren bob amser yn diffodd cyn cyr- haedd y ddaear, a'r achos o hyn yw fod ei nwyon wedi llosgi allan, a'r process alchemistaidd wedi myned trosodd; ac wrth diffodd can- fyddir ei bod megys yn chwydu rhyw sylwedd tywyll allan o'i chrombil, yr hwn yn ddiau yw yr awyrfaen mewn rhyw ffurf neu gilydd. Weithiau, ceir ef mewn sefyllfa hylifol, tebyg i lysnafedd, medd rhai, a'r pryd hwnw gelwir ef wrth yr enw o seren wtrach. " Pa fwyaf a fyddo yr uchder y syrth y seren o hono, caletaf oll fydd yr awyrfaen, a mwyaf i gyd fydd y velocity gyda pha un y syrth y gareg i'r ddaear, a dyfnaf i gyd yr ymgloddia iddi.
66
Y mae fod y seren yn syrthio ar oleddf neu ledtraws i'w briodoli yn fwy i resistance yr awyr nag i unrhyw " chwyrnelliad. " Beth bynag a deflir i fyny i'r awyr a syrth i lawr bob amser ar ei led- traws; a pha fwyaf yr uchder y syrth o hono, mwyaf oll a fydd lled - trawsedd ei ysgogiad, yr hyn sydd yn profi mai resistance yr awyr ddwys trwy ba un y mae yn syrthio sydd yn ei achosi: oǹi bai hyn, byddai i'w bwysau ei hun neu atdyniad y ddaear beri iddo syrthio i lawr yn hollol unionsyth.
LLYTHYR VII. - GAN D. W. o ESSYLLT.
Y COMEDAU.
" Mae fy Nhad yn gweithio hyd yn hyn. " - CRIST.
Pe buasai y fath beth a'n bod ni wedi derbyn ein bodolaeth, ac yn byw, ddeng miliwn o flynyddoedd yn ol, ac oddiar un o fynyddoedd derchafedig un o'r bydoedd wybrenol fry, yn edrych ar y ddaear hon, cawsem ei gweled y pryd hwnw yn gymhwys yr un ffurf a'r comedau yn bresenol, yn meddu ei nucleus, ei choma, a'i chynffon fawr ac ysgwydedig, ac yn hirgylchog ymsymud drwy fythol unigedd di- breswylydd a difywyd yr eangderau diderfyn!
A elli di, ddarllenydd anwyl, droi dy ben ac edrych yn ol i'r
"



 

 

A close-up of a text

Description automatically generated

x283
83

gorphenol pell a dwfn hwnw, pan nad oedd dim ond yr unigedd mwyaf dwys, y tawelwch mwyaf sobr, a'r dystawrwydd mwyaf arddunol yn teyrnasu drwy holl gyffiniau ac amgylchoedd y ddaear hon, i heb deimlo dy enaid yn ymchwyddo gan syndod dyeithriol ? A wyt ti ddim yn teimlo dy galon yn toddi yn llymaid, a'th ysbryd yn ymgrynhoi yn nghyd ac yn ymsuddo i ddihanfodaeth ? Fel ag yr oedd llaw fawr, greawl, luniol, ac adluniol Duw yn gweithio ar y ddaear hon y pryd hwnw, y mae hi yn gweithio ar y comedau yn bresenol! Nac ofna, ac na frawycha, ddarllenydd anwyl, pan welot un o'r cyrff - mawrion, gwalltog, hirgynffonog, a rhyfeddol hyn yn carlamu ar draws y wybrenydd, canys ni ddaw yr un o honynt hwy fyth, fel y dychymyga rhai, i gyffyrddiad â'n daear ni, fel ag i'w gwthio dros erchwyn ei hen wely oesol, na'i shuntio fyth oddiar ei rheiliau tragywyddol. " Y ddaear a sicrhawyd fel na syflo. " Gobeithio dy fod, hefyd, yn dduwinydd rhy athronyddol i gredu mai rhyw fath o benal settlements, wedi eu parotoi gan gyfiawn- der dwyfol er cospi cyrff ac eneidiau y damnedigion, ydyw y comedau. Bydd elfenau y corff ysbrydoledig yn llawer rhy subtle i'r elfen fwyaf subtle yn nghyfansoddiad y comedau i wneuthur yr argraff lleiaf arno - bydd y corff newydd yn ddodrefnyn hollol fire- proof - bydd, fel yr ysbryd a'i cyfanedda, yn feistr ar holl elfenau anian; ac fe ddichon, yn wir, na fydd dim a fyno anian ag un o'r sefyllfaoedd hyny sydd yn ein haros y tu hwnt i gyffiniau amser. Gan nas gall y comedau fod yn cyfateb i'r naill na'r llall o'r dychym- ygion tragical uchod, beth ynte ydynt ? Bydoedd ydyw y comedau ar ba rai y mae llaw luniadol Duw yn gweithio y foment hon! Bydoedd anorphenedig ydynt! Bydoedd mewn cwrs o ymffurfiad -bydoedd ag y mae llaw alluog a bydweithgar y CREAWDWR mawr yn en llunio, eu trefnu, eu darparu, a'u cyfaddasu i fod yn drig- leoedd i ryw ffurf o fywyd neu fodolaeth sydd i'w ddadblygu eto yn y dyfodol pell, pell.
Beth sydd yn ein rhwystro i gredu nad yw Duw yn creu yn awr, megys ag oedd yn nghyfnodau y gorphenol ? Mae yn wir fod yr hanesydd ysbrydoledig yn hysbysu ddarfod i DDUW " ar y seithfed dydd orphwys oddiwrth yr holl waith yr hwn a wnaeth efe, " eto nid ydym i feddwl fod y cyfryw ymadroddion yn golygu dim rhagor na'r gwaith hwnw a gyflawnodd Duw mewn cysylltiad â'n daear ni, a rhanau eraill o'r gyfundrefn hono y perthyna iddi, a hyny o fewn y chwe ' diwrnod y sonia MOSES am danynt; ac nas gall Duw fod yn gweithio mewn rhyw gyrau eraill o'r Ymherodraeth fawr ac eang y foment hon. " Gorphwys " a wnaeth y CREAWDWR mawr oddiwrth yr holl waith " a wnaeth efe " -y gwaith ag oedd efe wedi ei wneuthur eisoes, ac nid gorphwys i beidio gwneuthur mwy. Y mae y llafurwr yn gorphwys yn yr hwyr oddiwrth yr holl waith yr hwn a wnaeth efe yn ystod y dydd; eto nid yw hyny yn arwyddo nad


 

 

A close-up of a text

Description automatically generated

x284
84



yw efe yn meddwl dechreu gweithio dranoeth drachefn. Os darfu i'r CREAWDWR mawr " orphen " ei waith mewn cysylltiad â'n byd bychan ni, yn yr adeg y sonia Moses am dano, nid yw hyny yn cynwys ei fod wedi gorphen ei waith mewn cysylltiad â phob byd arall ar yr unrhyw adeg. A ydym i feddwl fod arfaethau Duw, yn eu cysyllt- iad â chreadigaeth, yn fwy nag mewn cysylltiad â rhagluniaeth ? wedi eu llwyr dadblygu a'u llwyr ddihysbyddu pryd y rhoddodd efe yr ergyd gorphenol hwnw ar barwydydd ein daear fechan ni ?
Os cynyrch naturiol ei berffeithderau dwyfol, fel y golyga rhai, yw holl weithredoedd Duw, neu mewn geiriau ereill, os gweithio mae efe oddiar angenrheidrwydd ei natur, y mae yn rhaid i ni gredu ei fod yn creu yn awr fel cynt, ac y bydd yn creu eto, fel ag y mae yn awr. Medd CRIST, " Y mae fy Nhad yn gweithio hyd yn hyn; " ond dichon y dadleua rhai mai cyfeiriad sydd yma at waith Duw yn y greadigaeth newydd drwy ras; ond beth sydd yn yr ym- adroddion yn ein rhwystro i gymhwyso y meddwl at yr hen gread- igaeth hefyd ? Y mae y rhan olaf o'r frawddeg yn ffafriol i'r golygiad, oblegid y mae " gweithio hyd yn hyn, " yn arwyddo par- had gwaith o ryw amseroedd blaenorol; os felly, onid oedd creu yn rhan o waith yr amseroedd blaenorol hyny ?
Yn awr, os ydym, drwy gyfrwng y rhesymau blaenorol, wedi llwyddo i roddi prawf boddhaol o'r gosodiad o fod Duw yn creu y foment hon, ein gorchwyl nesaf fydd ceiso cadarnhau y ddamcan- iaeth o fod yr oruchwyliaeth greawl hon yn cael ei dwyn yn mlaen ar y bydoedd hyny a elwir yn gomedau; a phrofi hefyd mai byd- oedd mewn cwrs o ymffurfiad ydynt, a hyn yn gyntaf drwy yr athrawiaeth o fod Duw yn creu wrth ddeddf; yn ail, oddiwrth gyfatebiaeth naturiol; ac yn drydedd, oddiwrth wahanol phenomena y comedau eu hunain.
LLYTHYR VIII. - GAN G. TYwI.
PYNCIAU ATHRONYDDOL.
Fel ag y mae natur yn dal cysylltiad mor bywsig â Duw, felly y mac athroniaeth naturiol yn dal cysylltiad â duwinyddiaeth. Dau gyfrwng pwysig a gymerodd yr Anfeidrol i ddangos ei fawredd i ddyn, sef drwy ddatguddiad a natur. Gwaith yr athronydd yw myfyrio natnr, ac egluro i eraill y rhyfeddodau a ganfyddir o'i mewn. Nid oes unrhyw ran o wybodaeth ddynol yn fwy pwysig a defnyddiol na'r ganghen hon. Y mae dyn yn ymhyfrydu wrth edrych ar y gogoniont a berthyn i natur, ac yn rhyfeddu wrth weled y gwahanol rywogaethau a ganfyddir o'i mewn. Rhyfeddod ar rhyfeddod sydd yn ein amgylchynu, a phrydferthwch sydd yn teyrnasu. Fe ddarfu i'r Ffrogaod " dderbyn sylw yr athronwyr galluog a berthyn i'r Fellten, ac y mae yn debygol y parha effaith eu ysgrifeniadau ar feddyliau ei darllenwyr. Mor rhyfeddol ydyw
66

V


 

 

A close-up of a document

Description automatically generated

x285
85


ffyrdd Duw yn nhrefn natur, ac mor amlwg y canfyddir ei fawredd. Y mae pob rhyfeddod a ganfyddir yn dwyn ein sylw at eu achosydd; a chan fod natur yn lluosog mewn rhyfeddodau, mwyaf o nerth sydd ynddynt i ddangos anfeidroldeb y CREAWDWR. Os syllwn hyd yn nod ar y peth lleiaf a berthyn iddi, canfyddwn y cywreinwaith hynotaf, a'r dirgelwch mwyaf; felly y mae yn agor y meddwl ac yn cryfhau ei alluoedd. " Y Ffynonau Poethion " yw y testyn presenol, ac fe agorwyd y ball mewn ysbryd rhagorol yr wythnos ddiweddaf. O'r fath ddarfelydd ysplenydd sydd gan ei awdwr. Gan fod testynau athronyddol yn parhau i ymddangos yn y Fellten o wythnos i wythnos, ni ddywedaf ddim yn ychwaneg, ond hysbysu fy nymuniad am iddynt barhau, ac i'r athronwyr galluog ddanfon eu herthyglau i mewn. Os bydd bosibl, fe allai y danfonaf finau hatling i'r drysorfa.
LLYTHYR IX. - GAN NEPHALIST.
PYNCIAU ATHRONYDDOL.
FONEDDIGION, -Yr oedd yn llawen genyf weled eich footnote yn niwedd llythyr Ffagan yn y Fellten am Medi y 29ain, yn dywedyd y byddai yn hyfrydwch genych roddi congl o'ch newyddiadur clodwiw i ymdrin ar bynciau gwyddonol ac athronyddol. Teim- lwyf yn wir ddiolchgar i chwi am hyn, oblegyd nid oes am- heuaeth nad oes eisiau myfyrio mwy nag a wneir ar ryfeddodau y greadigaeth. Teimlwyf hefyd yn ddiolchgar i'r " Duw Tân, " sydd yn preswylio yn rhywle yn nghrombil y ddaear, am y wreich- ionen hono o'i heiddo a gyrhaeddodd y Fellten, yn nodi y testyn tra chymhwys yr Hot Springs i ysgrifenu arno, ac nid ychydig o bleser ac adeiladaeth a gefais wrth ddarllen ysgrif benigamp y bardd " E., " yn eich rhifyn diweddaf arno; ac y mae yn ddiam- heuol y bydd llythyr Ffagan ar yr un testyn yn eich rhifyn presenol, yn ol ei arfer, yn ddyddorol ac addysgiadol. Yr wyf am gynyg, drwy eich caniatad, fod Awyrdân neu Goruchion Awyrol ( Meteors ), i fod yn destyn i gael ychydig o eglurhad arno yn un o'ch rhifynau dyfodol. Y mae y testyn hwn yn cydweddu yn hollol â chyfan- soddiad gwr yr Eingion; ond os na wna ef nac arall sylw o hono yr wythnos nesaf, fe fydd gair ( D.V. ) yr wythnos ganlynol gan -Yr eiddoch, & c.
Y
LLYTHYR X. - GAN D. W. o ESSYLLT.
FFYNONAU
POETHION.
Nid oes dim wedi ei greu yn ofer; byddai yn sarhad ar ddoeth- ineb ddwyfol ac anfeidrol i ni synied y cyfryw beth. Y mae plant


 

 

A close-up of a text

Description automatically generated

x286
86



dynion yn fynych yn gwneuthur llawer o bethau heb un amcan na dyben mewn golwg wrth eu gwneuthur. Ond nis gall perffeithrwydd dwyfol fyth fod yn euog o'r fath wegi. Os oes rhai pethau yn ymddangos fel pe wedi eu creu yn ddibwrpas, ein hanwybodaeth ni o natur a chysylltiadau pethau yw yr achos o hyny. Mae hyd y nod y gwrthddrych lleiaf a mwyaf distadl yn ddolen bwysig yn nghadwyn fawr ddidor a diderfyn bodolaeth, yn olwyn, cocas neu bin gweithgar, yn mheirianwaith mawr y greadigaeth. Mae i'r gwylltfilod rheibus, yr adar ysglyfaethus, y llysiau gwenwynig, yr ystormydd chwerwon, y mynyddoedd tanllyd, a'r ffynonau poethion, eu dybenion neillduol a'u gwasanaeth anhebgorol anghenrheidiol, y mae amryw o'r phenomena rhyfedd ag sydd yn cymeryd lle yn y byd materol, yn cynyrchu llawer o ddychryn a difrod weithiau, ac oblegid hyny, yn rhoddi iddynt y cymeriad o ddrygau; ac nis gallant lai nag ymddangos felly i'r dyn o abstract ideas. Y mae dyn o abstract ideas yn edrych ar bob phenomenon yn y byd moesol a'r materol ar ei phen ei hun, heb olrhain dim o'i chysylltiadau, ac heb gofio fod y prif ddyben, y prif les a'r penllad, yn gorwedd y tu allan iddi ei hun, ac mewn cyssylltiad â rhyw achos neu effaith arall. Ond athroniaeth fawr y divine economy - y rhagluniaethau dwyfol, yn ei cysylltiad â phenomena natur, yn gystal ag â goruch- wyliaethau gras, ydyw hyn - fod i'r drygau a gynwysant, fod yn ddrygau llai, er mwyn rhagflaenu neu ragochelyd drygau mwy. Er cymaint drwg yr ymddengys ffrwydiadau dychrynllyd a dinystriol y mynyddoedd tanllyd, nid yw eu drygau hwy ond drygau llai, er rhagflaenu drygau mwy. Nid yw y mynyddoedd tanllyd ond math o simneiau mawrion wedi eu parotoi gan ddoethineb dwyfol er gollwng allan nwy, ager, a defnydd hylosg a ffrwydrol canoldânau y ddaear, pa rai, heb outlets o'r fath, a fyddent yn rhwym o hollti y ddaear yn ysgyrion, a'i gwasgar yn deilchion mân trwy yr eangder; ac onid ydyw ychydig ddifrod ar goed, tai, a thiroedd, a effeithir drwy ffrwydiadau'r mynyddoedd hyn yn llai drwg na phe holltasid y ddaear yn ddarnau, trwy fod yr elfenau hylosg a'u hachosant yn cael eu cyfyngu o fewn ei pherfeddion cynhyrfus ? Y mae y ffynonau poethion o gyffelyb
DDYBENION.
Mewn Ynys ag a ffurfiwyd ar y cyntaf drwy ffrwydiadau llosgwyol, ac sydd weithiau hefyd mor llawn o dânau_tanddacarol, pa rai yn fynych sydd yn dyfod i gyffyrddiad â chyfrolau helaeth o ddwfr, y mae y ffynonau yspowtiol hyn yn ateb dybenion daionus iawn; pe hebddynt, byddai Ynys - yr - Iâ yn rhwym o fod yn ddarostyngedig i ddaeargrynfâau mawrion a mynych; ond drwy fod y ffynonau yspowtiol hyn yn fath o outlets i'r ager a gynyrchir drwy gyffyrddiad y dwr a'r tan tanddaearol hyn â'u gilydd, y mae llawer o'r daear-



 

 

A close-up of a document

Description automatically generated

x287
87

grynfeydd a'r tir - holltiadau a gymerant le, pe heb hyny, yn cael eu rhagflaenu a'u hattal. Y mae y ffynonau yspowtiol hyn yn ateb dyben arall. Y mae hinsawdd Ynys - yr - Iâ, fel ag yr awgryma yr enw, yn un oer ac annghynyrchus iawn; ond y mae ymdderch- afiad ager y ffynonau poethion hyn i'r awyr, a'i ymwasgariad drwyddo, yn nghyd a'r gwres ag sydd yn cyfodi o fynydd Hecla, & c., yn rhwym o fod yn effeithio yn fawr ar ardymeredd yr awyr -yn lliniaru ei gerwinder, a hyny er maintais fawr i dyfoliaeth y wlad yn gyffredinol, ac er ychwanegiad helaeth at fwynhad personol a chymdeithasol ei thrigolion.
Y MODUS OPERANDI.
Nis gellir traethu ond yn ddamcaniaethol yn unig ar modus operandi phenomena y ffynonau poethion, gan na fu neb erioed yn llygad - dyst o'r hyn sydd yn cymeryd lle, allan o'r golwg, yn nyfn- derau'r ddaear. Y mae rhanau tufewnol Ynys - yr - Iâ fel rhyw un pair berwedig, yn llawn bron i'r ddau ymyl o ddefnyddiau hylosg ac elfenau tanllyd, ac Hecla yn gwasanaethu fel simnai fawr i'r ynys - adeilad losgwyol hon. Gan fod crwstyn Ynys - yr - Iâ yn gyf ansoddedig o losgwy, a'r llosgwy hwnw, wrth ymsefydlu ac ym- galedu, yn ymffurfio yn bilerau, cromenau, ogofau, ystafelloedd, heolydd, a phob math o lwybrau tanddaearol eraill, y mae yn naturiol i ni feddwl fod y ffosydd a'r pydewau tanddaearol hyn yn cael eu llenwi gan ddwfr, yr hwn sydd yn cael ei genhedlu gan y gwlaw sydd yn syrthio ar arwynebedd yr Ynys, a chan yr iâ a'r eira toddedig oddiar y mynyddoedd. Yn awr, y mae y llynoedd a'r pydewau hyn yn fath o reservoirs, o ba rai yn ol iddynt lanw, y lifeiria y dwfr allan yn ffrydiau i wyneb y tir. Y mae yn beth pur resymol i ni hefyd feddwl fod rhyw gyfryngau cymundeb, megys agenau a thynelau, rhwng y llynoedd dyfrol hyn a chrochanau berwedig Hecla. A phan y mae Hecla yn berwi yn awr ac eil- waith dros ei ymylau, y mae ei losgwy yn rhedeg drwy y llwybrau tanddaearol hyn i gyffyrddiad â'r reservoirs dwfr y soniasom am danynt, nes chwyddo ac eangu eu dyfroedd ( fel ac y mae dwfr bob amser yn gwneuthur wrth ymwresogi ) hyd oni elo yr ystafelloedd a'u cynwysant yn rhy gyfyng iddynt, yna y maent yn rhedeg gyda rhuthr tua'r outlets a elwir yn " ffynonau poethion, " ac yn ym- saethu yn go'ofnau tua'r wybrenydd, -ymsaethant dros ychydig, yna peidiant dros ychydig, yn ol fel ag y byddo y llosgwy yn nghrochan Hecla yn darostwng neu yn ymdderchafu tra y llifa crochan mewnol Hecla dros yr ymyl, yr ymsaethant hwythau; tra peidio efe, peidiant hwythau; canys nid yw ffynonau poethion Ynys - yr - Iâ yn yspowtio a llifeirio yn wastadol, eithr gydag ystar- tiau ( starts ), yn ol fel y byddont yn cael eu symbylu i weithgarwch gan yr elfenau poethion sydd yn dyfod i gyffyrddiad â'u dyfroedd.


 

 

A black and white page of a newspaper

Description automatically generated

x288
88



Nid oes lle i feddwl fod y ffynonau hyny fydd a'u dyfroedd yn glauar, ac yn ffrydio allan yn araf a didrwst, yn dyfod un amser i gyffyrddiad uniongyrchol a digyfrwng ag unrhyw elfenau tanllyd neu ddefnyddiau hylosg; eithr eu bod yn llifeirio dros haenau o ddaear o dan ba rai y mae llosgwy, neu ryw elfenau tanllyd eraill yn bodoli, o galyniad graddau eu gwres yn llai dwys ac angherddol. Y mae
PYSG
yn cyfaneddu yn rhai o'r ffynonau hyn, medd Vulcan; ac y mae hyny yn rhyfeddod fawr, os ymresymwn y pwnc oddiwrthym ni ein hunain. Byddai yn beth anmhosibl i ddyn i fyw ac hanfodi mewn dwfr poeth; ond gall fod yn phenomenon ddigon posibl yn ei chys- ylltiad a'r pysg soniedig gan Vulcan, canys nid oes dim yn eisiau ond cyfaddasu organism ac elfenau cyfansoddiadol y creaduriaid hyn yn unig, fel ag i'w gwneuthur yn hollol alluog i fyw a chwareu mewn dyfroedd poethion, fel ag y gwna eraill o'u rhyw mewn dyf- roedd oerion. Y mae fod pysg yn medru byw mewn dyfroedd oerion yn gymaint o ryfeddod i ni a'u bod yn medru byw mewn dyfroedd poethion; canys ni all dyn fyw yn y cyntaf yn fwy nag yn yr olaf, na'r olaf yn fwy na'r cyntaf. Mae y dirgelwch i gyd yn gorphwys yn nghyfaddasder ein gwahanol organisms.
Dywedir am frithyllod Ynys - yr - là eu bod yn dyfod i fyny i nentydd ac afonydd y wlad, ac yn bur agos at ddyfroedd ffynonau poethion, a'u bod yn hoff iawn o aros yn y dyfroedd clauar; a'u bod hefyd yn tewychu cymaint yno, hyd nes myned yn mron yn anfwytadwy. Mae y brithyllod hyn, ynte, wedi eu cyfaddasu i fwyn- hau bywyd mewn dyfroedd clauar; nid oedd cyfaddasu eraill o'u rhyw i fwynhau bywyd mewn dyfroedd poethion ond gorchest fechan i ddoethineb ddwyfol - newid rhyw bin bychan yn yr organism yw y cwbl.
LLYTHYR XI. - GAN D. W. o ESSYLLT.
Y FFYNONAU POETHION ( HOT WELLS ), A VULCAN.
Y mae rhyfeddodau natur yn fawrion, lluosog, ac amrywiog iawn. Y mae pethau yn ymddangos yn rhyfedd i'r dyn oblegid gwendid ei amgyffredion i ddeall dirgelwch eu cyfansoddiad, ac yn yr ystyr hyn y mae y naill beth mor rhyfedd a'r llall iddo; ac os oes rhai gwrthddrychau yn ymddangos iddo yn llai felly na'u gilydd, nid yr ymgydnabyddiaeth a'u hanfod, eithr y cynefinder â'u presenoldeb ydyw yr achos o hyny. Pa fwyaf cydnabyddus y byddom ni yn dyfod ag elfenau cyfansoddiadol ac â deddfau bodol- aeth unrhyw wrthddrych, lleiafi gyd fydd achosion ein rhyfeddodau,


 

 

A close-up of a text

Description automatically generated

x289
89


dirgelwch a dyeithrwch natur, ffurf, ac ysgogiad pethau ag sydd yn cynyrchu ynom y teimladau o syndod a rhyfeddod. Fel ag y dy- wedasom o'r blaen, y mae pob peth mewn natur yn rhyfeddol. Y mae y gwrthdrych lleiaf yn gymaint phenomenon ag ydyw y mwyaf. Mae yr ymddablygiad o fywyd yn ei wahanol agweddau a'i am- rywiol raddau, yn llawn mor rhyfedd yn y lili eiddil ag ydyw ynys gedrwydden gref - y gwibedyn bychan ag ydyw yn y leviathan mawreddog - yn y dyn daearol ag ydyw yn yr angel nefol. Mae yr ymgais i dreiddio i mewn a deall y dirgeledigaethau hyny mewn natur ac ysbrydoliaeth, ag sydd yn cynyrchu ynom y teimlad o ryfeddod, yn cynwys rhan fawr o fwynhad moesol y dyn yn y byd hwn; ac fel ag y byddom yn llwyddo i ddadansoddi elfenau y dir- gelwch, y bydd ein rhyfeddod yn diflanu, ac yn trawsnewid yn edmygedd ac addolgarwch; ac fel hyn, y mae efrydu gwahanol phenomena natur yn ein trosglwyddo o'r naill deimlad boddhaol i'r llall yn barhaus, gan ymffurfio yn rhan fawr o gyfanswm ein ded- wyddwch tymhorol.
Yn mhlith rhyfeddodau natur y mae phenomena y cyfeiria Vulcan atynt yn y Fellten am Medi 22ain, sef y ffynonau poethion. Y mae y dyfroedd hyn i'w caffael yn wasgaredig ar hyd amryw barthau o Ewrob a chyfandiroedd eraill; ac er eu bod yn gwahaniaethu cryn lawer mewn ffurf ac ysgogiad oddiwrth eu gilydd, eto yr un achos sydd iddynt oll: gwahaniaethant oddiwrth eu gilydd yn ngraddau eu gwres, ac yn lliw, ansawdd, ac ysgogiad eu dyfroedd, yr hyn a achosir gan eu cyffyrddiad â gwahanol fwnau, a chan ddwysder yr elfenau tanllyd y llifeiriant drostynt a thrwyddynt wrth ymysgogi ar eu taith danddaearol. Nid oes un man ar y ddaear mor nodedig am luosogrwydd y golygfeydd hyn, ac ardderchog- rwydd y phenomena cysylltiedig â hwy, ag Ynys - yr - Iâ ( Iceland ) —— ynys, bryniau pa un sydd a'u penau yn orchuddiedig gan eira tragwyddol, ond sydd a'u gwadnau yn berwi mewn llynoedd o dân a brwmstan bythgyneuol!
Y mae y ffynonau poethion sydd yn Aken, Carlsbad, Bath, a Switzerland, ac amryw eraill a geir yn yr Eidal, yn cael eu hys- tyried yn rhai nodedig; ond nid yw eu dyfroedd mewn un man, oddieithr yn y wlad a enwyd olaf, yn dyfod mor boeth nes berwi o honynt; ac ni wyddis eu bod yn un man yn cael eu taflu i fyny i gymaint uwchder a chan yr hot spouting water - springs yn Ynys - yr - là.
Mae y dyfr - weithiau ger Herrenhausen yn taflu colofn sengl o ddwfr o chwarter llath o amgylch i'r uchder o 70 o droedfeddi; a'r rhai hyny sydd ar y Winterkasen, yn Cassel, yn ei daflu i fyny, ond mewn colofn llawer teneuach, i'r uchder o 130 o droedfeddi; a'r jet d'eau sydd yn St. Cloud, yr hwn a gyfrifir y mwyaf yn mhlith holl ddyfr - weithiau Ffrainc, yn taflu colofn deneu o ddwfr o 80 o droedfeddi i fyny i'r awyr; tra y mae ffrydiau yn Ynys - yr - Iâ


 

 

A close-up of a text

Description automatically generated

x290
90



yn taflu allan golofnau o ddwfr o amryw droedfeddi o drwch ' r uchder o amryw o wrhydiau, ac haera rhai i'r uchder o amryw ganoedd o droedfeddi.
Mae y graddau o wres perthynol i'r ffrydiau hyn yn amrywio cryn lawer. Llifeiria y dyfroedd allan o rai o honynt yn araf ac esmwyth, megys ag y llifeiria allan o'n ffrydiau oerddyfrol ni, a defnyddir y rhai hyn fel baddonau; o eraill yspowtia y dyfroedd allan yn boethion iawn, a chyda thrwst mawr; ond er fod y graddau o wres yn anghyfartal, eto ni sylwyd ei fod un amser dan 188 wrth wres - fesurydd Fahrenheit. Yn Laugarnas cawd ei fod yn 188, 189, 193; yn Geyser, Reykum, a Laugarvatn, yn 212; ac yn y lle olaf, lle yr oedd gwythien o ddwfr poeth yn llifo o dan y ddaear, cawd fod y gwres yn 213 o raddau. Y mae yn beth cyffredin i rai o'r ffrydiau yspowtiol hyn i gau i fyny, ac eraill i dori allan yn eu lle. Ceir olion mynych o ffynonau wedi bod yn llifeirio allan mewn amserau blaenorol, yn mha rai ni cheir y defnyn lleiaf o ddwfr yn bresenol. Y mae daeargrynfeydd a thyrfau tanddaearol i'w clywed yn aml ar yr amser y byddo y ffynonau hyn yn tori allan, a hyny er dychryn mawr i'r trigolion sydd yn byw yn nghymydogaeth yr unrhyw.
Gwlad heb ei chyffelyb yw Ynys - yr - Iâ am weithredoedd mawrion a nerthoedd ofnadwy cynyrchiedig gan y ddwy elfen wrthananius o ddwr a thân. Y mae wedi ei thryfritho â ffynonau poethion, pa rai sydd yn yspowtio eu dyfroedd yn golofnau mawriyn i fyny i uchder aruthrol, a'r ager yn derchafu oddiwrthynt yn gymylau olwynog tua'r wybrenydd. Mae y wlad hon fel rhyw un aelwyd fawr a llydan, ac arni fil o grochanau yn berwi, poeri, terfysgu, ageru, gorlifo, a ffrwydro ar yr un pryd. Pwy a allasai amheu chwaeth a phriodoldeb y dychymyg cenedlig neu baganaidd pe buasai wedi gosod lleoliad i TARTARUS yn yr ynys fyth - gynhyrfus hon ? Rhyw ager - beiriant mawr a nerthol, yn aros yn ngorsaf yr eigion llydan yw Ynys - yr - Iâ, a digon o allu ynddo i lusgo yr Andes o'i ol, a'i osod yn dwmpath cryno ar ben derchafedig yr Himalaya. Dyma lle mae Hecla, fel rhyw FOLOCH mawr ac anferthol, yn eis- tedd ar orsedd o dân, ac yn traflyncu ei aberthau byw a meirw wrth y miloedd yr HERCWLLF neu y SAMSON elfenol hwnw sydd a'i freichiau cedyrn yn siglo sylfeini y ddaear, neu ymaflyd yn ngholofnau y mynyddoedd, a'u tynu yn garneddau am ei ben- lloches JUPITER AMNON, y Taranwr, yr hwn sydd yn poeri ei fellt ar draws a thu draw i'r mynyddoedd cyferbyniol - yn palmantu'r dyffrynoedd, ac yn adeiladu'r bryniau a'i lava berwedig, neu yn ei chwydu allan o'i enau brwmstanllyd yn afonydd chwilboeth i ganol y môr mawr a therfysglyd. Athroniaeth y pwnc yn ein nesaf.


 

 

A page of a poem

Description automatically generated

x291
91


ANERCHIAD I MARGARET ROWLANDS, Baban Mr. a Mrs. John Rowlands ( Giraldus ),
YSGOL - FEISTR, DINASPOWIS.
WAN ddynes - newydd eni,
DUW DAD a'th warchodo di!
Ac a'i aden cysgoded - dy einioes Di, y wanaidd FARGRED; Cwsg, deffroa, rhodia, rhed, Yn ei heddwch a'i nodded.
4
Ti, ferch, a ddechreuaist fyw ( Ond ni wyddost hyn heddyw ), Mewn byd sy'n llawn tristyd trwm, Gwarthrudd, a phoen, a gorthrwm.
Y Duw enwog, dianach,
Dod nodded i FARGED fach; Mae cryfion elynion, lu,
Yn meddwl am ei maeddu:
Gwisg rym, ac O, gwasgar hwy! Na wrthod ei chynorthwy.
Un anwyl yw'r wan eneth, -o lwynau Dau o linach JAPHETH;
Byw foed, fel ei Mam, heb feth, A mwy hapus yn mhobpeth,
Deall, moes, a dull ei Mam, Feddiano'r wyryf ddinam.
Rhagorolder " GIRALDUS " ac " Idwal, '
*
Ei Thad dyfal brydfertho'i dwyfol wefus.
Enwocach, doethach aed hi,
O'r haner na'i rhieni.
* Yr enwau ffugiol o dan ba rai y byddai ei Thad yn arfer ysgrifenu i'r Cyhoeddiadau Cymreig.


 

 

A page of a poem

Description automatically generated

x292
92



Marwolaeth Ieuan Gwynedd.
GYMRU! di gollaist dy HERECWL foesol!
A nerth goruwchddynol gwregyswyd ei fryd; Tra'r oedd cerynt angau'n ei dreulio yn raddol, A'i ysbryd yn hofian fel rhwng y ddau fyd: Heb gael fawr o fwyniant y bywyd allanol, Na braidd drem ar anian i loni ei fryd; Byth, byth wedi'i gau'n ei ystafell gystuddiol, Efe a ymladdodd dy frwydrau i gyd.
O olwg byd ydoedd, fel haul tu draw'r cwmwl, Ond heibio ' i ymylau oleuai'r nef lân; Ac er nas canfyddid gan dewder y nifwl, Oedd eto'n oleuach na myrdd o'r sêr mân. O wyddfod byd ydoedd, yn debyg i ynys Lysieuog yn nghanol rhyw faith, eang for, Nad ydyw braidd ond i'r trafnidwr yn hysbys, Ac eto mil - filoedd yn derbyn o'i stôr; Fel hon, â'i phêr sawr yn anrhegu'r awelon, Neu rhanu ei chynyrch rhwng gwledydd y byd, Oedd IEUAN, -yn tywallt ei enaid a'i galon, Yn rhin ac athrylith rhwng Cymru i gyd.
Lili wen, a drain o'i hamgylch- Haulwen deg dan gwmwl du- Yw athrylith idd ei meibion; Felly'r oedd i IEUAN gu: Mae hi fel y nos yn brydferth
Gan oleuni'r sêr uwchben, Eto'n brudd gan y tywyllni
Sydd yn amgylchynu'r nen.
Fe ranodd ei einioes oddiar wely cystudd,
I gyd rhwng gwaith awen, moes, rhinwedd, a chrefydd, Trwy lafar, trwy lythyr - mewn argraff, mewn ysgrif, Gwnaeth fwy mewn bèr einioes na llawer mewn canrif.
* Ar wely cystudd am flynyddoedd.


 

 

A page of a text

Description automatically generated

x293
93


Pa Gymro gwladgarol erioed a fwriadodd, Neu ynte a weithiodd ei gyunllun i maes, Fel ag y gwnaeth IEUAN y pryd y darparodd
I'n merched ei hollamddiffynol " Gymraes ? " Ni chai yr un erthygl na brawddeg fyn'd heibio, I'n gwlald a f'ai'n anfri, heb gael eu llwyr chwilio; Yr oedd ar ei orsaf o hyd fel gwyl - filwr,
Yn gwylied y gelyn rhag tori trwy'n cryfdwr; Oedd fel am ei fywyd yn gwylio'u symudiad, A'i lygad ar bobpeth, -pob cwr, pob cyfeiriad. Mae ol ei law bwysig trwy'r " Standard of Freedom, " A thrwy'r " Principality, " amlwg yw hi, Lle mae ei wladgarol hyawdledd cryf erddom,
Ar draws ein gelynion yn rhuthro fel lli '; Nid antur ddywediad, ond prawf gwirioneddol— Nid haeriad sel benboeth, eithr ffaith ystadegol- Nid chwim hunan - glod - gais, eithr pwnc egwyddorol- Oedd ganddo wrth ddadleu teilyngdod ein bri.
Oedd bleidiwr twym - frydig pob rhyw sefydliadau Ag ynddynt elfenau derchaflad ein gwlad; Addysgiaeth y werin, a'r holl Eisteddfodau,
Lle caid moes a rhinwedd yn selio'u lleshâd. Ai'n mlaen gyda phob rhyw ysgogiad dyngarol; Cymerodd iau Dirwest - nid er mwyn ei hun, - Oherwydd ni welwyd ei berson moesgarol
Erioed yn nghyrchfanau meib trachwant a gwŷn. Cefnogai bob achos ogwyddai'n gyfaddas At iawnder, a rhyddid, a lles dynolryw; Rhyw olwyn fawr ydoedd yn mheiriant Cymdeithas, Yn troi ' n mhob dyledswydd at ddyn ac at DDUw.
Symudodd i dreulio y gweddill o'i einioes
Lafurfawr, gystuudiol. ond bèr, i Gaerdydd; Yr oedd ei athrylith yn awel gref eisoes,
Ond yma lle torodd yn gorwynt drwy'r gwydd.


 

 

A page of a poem

Description automatically generated

x294
94



Yn awr y daeth allan fel Seren wib newydd, Yn tori'n fawreddog ar draws y wybrenydd: Ond gyda bod Cymru a'i llygad i fynydd,
Y Seren ardderchog a aeth o dan gudd.
Ei Bryddest lân ar " Adgyfodiad y Meirw, "
A'i lle'n ymyl Barddas ein prif - feirdd a fydd; O'i mewn y mae'r meddwl a'r ieithwedd mor loew- Mor dirf ac mor dyner â gwlith y wawr - ddydd: Ei mydraeth sy'n llithrig, amrywiog, a dedwydd, - A'i chynllun yn eang, a'i harddull yn newydd; Llawn ydyw o deimlad, a barn, a darfelydd, Yr enaid cyfoethog mewn cariad a ffydd. Ei Awdl ar " Heddwch " gyfrifir yn orchest,
Hon oedd, am goronbleth Tremadoc, yn ail; Ac ar " Adgyfodiad Crist, " hefyd, ei Bryddest, Yn neildŷ yr Awen fydd fyth - wyrdd ei dail: Barddoniaeth afaelgar, ddifrifol, ystyrlawn, Ei awen nefolaidd, deimladol a ffrwythlawn, Ddyrchafa y meddwl - a bura y galawn, Can's Duw, a Duwioldeb, a Rhin oedd ie sail. Yr oedd rhyw lef
Hiraethlawn yn ei awen aeddfed ef, -
Rhyw sŵn fel awel hwyrol hâf,
Yn brudd neu'n fwyn gan ysbryd clâf, - Yn flin o'r byd, —yn dysgwyl Nâf
I'w chyrchu tua'i bythol dref,
A'i uno âg awenau nef;
Athrylith wreiddiol - crebwyll cryf, -
Chwaeth destlus, bur - barn dreiddgar, hyf-
Ac enaid mawr ar fythol chwyf,
Oedd ganddo ef!
Yr oedd megys barddol ddiwygiwr yn onest,
Fe fawr ymhelaethodd ar freintiau y Bryddest;


 

 

A page of a poem

Description automatically generated

x295
95


Yn lle yn ei phenill unrhywiog arferol, Fe'i gwisgodd â newid - fesurau pêr - seiniol, Lle gall iaith a theimlad a meddwl diwyrni Ymddangos mewn mwy o gyflawnder a thlysni. Sylfaenodd Ysgol newydd gref,
Lle dysg ein beirdd Ryddfydraeth nef, Ei " Adgyfodiad " melus ef
A fythol efelychant hwy.
Yn nyfais ei athrylith gron, Y torodd cyfnod newydd, llon Ar awen Cymru gwelir hon
Yn rhwysgo mewn gogoniant mwy.
Dechreuodd ei Awdl fawr ar y
" Croeshoeliad, " -
Cyn cyrhaedd yr haner efe gafodd alwad, O gyrhaedd pob galar, i'r nefol freninllys, Lle ' nawr gall ei gorphen yn llwyr orfoleddus, Lle mae yn frenin - fardd - lle mae yn fardd - teulu, Plith saint ac angelion yn canu mawl IESU, A thanodd orseddfainc fel nef - gadair farddol, A Choron y Bywyd yn dlws byth - barhaol. Diangodd! diangodd! ar fyd y gwasgfeuon; Fe'i tynwyd o'r golwg, ond nid o'r un galon; Mae tlysion ddelweddau ei wênau a'i wyneb, A'r hynaws wawr hono oedd llawn o nefoldeb, Yn aros yr awrhon, a gwnant hefyd beunydd Yn flodau byth - wyrddion ar faes ein darfelydd. '
Yr oedd mewn ymddygiad yn ffyddlon a chywir; Hyspysai, cynghorai, yn onest, yn eirwir; Mwyn oedd mewn ymddyddan, ond clau a dihoced; Llefarai'n ddiweniaeth y modd byddai'n synied; Egwyddor oedd ganddo mewn golwg wrth siarad; Nid tyb ac nid tymher, nid nwyd ac nid teimlad;


 

 

A page of a poem

Description automatically generated

x296
96



MARWOLAETH IEUAN GWYNEDD.
Cyfiawnder diduedd, gwirionedd diamau,
A chwilient eu hunain cyn d'od dros ei enau.
Yr oedd gostyngeiddrwydd fel greddf yn ei deimlad, Yn tori'n hardd allan mewn moes ac ymddygiad; Amynedd yn gwneud ei chartrefle'n ei ysbryd, Fel nad oedd yn achwyn na grwgnach un enyd Dan bwys ei hir gystudd, eithr gyda boddlonder Dywedai, " Ewyllys yr Arglwydd a wneler. "
Gwnai ysbryd didramgwydd, serchoglawn, parodles Ei hynaws lythyrau lwyr enill pob mynwes, Nes gwneuthur i'r sawl a'u darllenent ei garu, Na welsent ei wyneb erioed, er chwenychu, A miloedd ar filoedd i wylo yn chwerw, Na welsant ei wyneb, pan glywsant ei farw.
A phe na chyfodid cof - golofn na gwyddfa, I ddangos i'r ddaear y fan y gorwedda; A phe tyfai'r glaswellt yn llen dros ei feddrod, Fel na's gellai cyfaill na châr ei adnabod, Ei enw, er hyny, fydd mewn man diogel, Lle nas rhwyg y corwynt, lle nas daif yr awel, Lle nas twf y glaswellt, lle ni sang dynolion, - Mewn bywiol lyth'renau ar gôf - lech y galon.
O'i ol, ei Erthyglau, Cymreig a Saesonig, Traethodau, Pryddestau, ac Awdlau mawreddig, Pa beth ydynt hwy ond colofnau cadarnwedd, O dan adeiladaeth ei bwysig anrhydedd ?
Fel yr haul yn d'od o'r dwyrain, Fwy - fwy yn ei wawl a'i wres, Nes bydd yn y nen yn fflamio- Môr a thir yn llif o des; Felly'r oedd gogoniant IEUAN Yn tywynu byth ar daen, -


 

 

A page of a poem

Description automatically generated

x297
97


Dwymach, dwymach - lettach, lettach, Fel dynesai'i oed yn mlaen: Gynta'r Brithdir a'i cynwysai, Yna Gogledd, yna De ', - Prydain ' nawr, o benbwygilydd, Yw ei ymerodraeth e '.
Ond, wele! er amled oedd teithi rhinweddol Ein IEUAN ymdrechgar - ein IEUAN ddefnyddiol, Methasom ei gadw, er maint y dymunem;
A daeth er ein gwarthaf yr hyn a fawr ofnem— Efe a fu farw! ac yn ei farwolaeth
Collasom un lenwai gylch uwchaf bodoliaeth: Efe a fu farw a Chymru a gollodd
Yr hwn wrthi megys gwr priod a lynodd;
Ow! fy ngwlad! Ow! fy ngwlad! pwy ' nawr a'th hmddiffyn ? Wel, wyla di bellach, mae'th gysur mewn deigryn!
Er bod swn ei glodydd bob dydd yn ei glustiau, A'i barch byw yn disgyn bob dydd yn gafodau, Efe nid ymchwyddai, eithr fel heb eu haeddu, Derbyniai hwy'n wylaidd, i'w gosod o'r neilldu; Ni phwysodd ar un o'i ddysgleiriaf weithredoedd Am gymeradwyaeth yn ngolwg y nefoedd;
Nid oedd ganddo, meddai, yn ymchwydd yr afon, Ond CRIST IESU'n unig, ac fod hwnw'n ddigon. " Ah! gwelsom e ' n myned draw trwy'r tywyll - leni, A'i obaith yn seren glir, glir ei goleuni,
A'i lamp yn ei law yn goleuo ei lwybrau,
Nes myn'd i'r wlad heulog lle nid oes ei heisiau,
Lle mae efe heddyw yn iach, cryf, a hoenus, Yn diddiwedd ddechreu y Gân orfoleddus.
Ni chai mwy Wladgarwch myg, Diau, aberth o'i debyg.


 

 

A close-up of a text

Description automatically generated

x298
98



MARWOLAETH IFOR CWM GWYS.
GWAE! gwae! fod Ifor Cwm Gwŷs - yn ei fedd, Un fu a'i ewyllys
A'i nwyd oll, yn cyneu'n dân,
Yn nawn a chân ein Hynys.
Canodd, a'i ysbryd yn cwyno - o’i fewn,
Gan faich y byd arno; Un oedd ei dynghedfen o,
Na roddodd fawr ffafr iddo.
Tu aswy i fanteision - prif addysg,
A'r porfeydd sy ' freision,
Y daeth, i droi'n mhlith doethion, Awen ei wlad anwyl hon.
Eiddo'n bardd oedd awen bêr, -ond awen
Nad ai i orddyfnder,
Na chodi nes sengi sêr
Y nef, a thraethu'u nifer.
Nid awen fawr y duwiau, -yr awen
Sy'n creu drychioliaethau-
Bia Hades a'i bodau-
Môr a thir, a Mawrth a Iau.
Awen wnai'n llawen holl luoedd ― y Gân, Yn dwyn y gamp ydoedd;
Awen felus gan filoedd,
Ledai iaith yr aelwyd oedd.
Athrylith a'i threialon - i'w ran gai;
Dreiniog oedd ei goron:
Ond heddyw rhwng dedwyddion Ddorau nef, di - ddraen yw hon.
Gorphwys di, dan bwys y bedd, Ein HIFOR, mewn tangnefedd.



 

 

A page of a poem

Description automatically generated

x299
99

MARWOLAETH ALEXANDER SMITH,
Y BARDD YSGOTAIDD ENWOG.
DITHAU, Ysgotland, weithian - a wyli, Wrth weled myn'd allan,
Ar ddiflant, ogoniant y Gân,
O lys yr anfarwol OSSIAN.
Rhyw gywreinfyd - rhyw gronfa - o geinion Y Gân yw ei " Ddrama Bywyd, " hono bia - yr hawl helaeth I glod aweniaeth hen Galedonia.
Yn y " Critic " ceir eto - ei fawl maith, Fel y môr yn chwyddo;
Ei enw gaiff fyw'n hen, a'i go ', Yn swyn y gerdd, sy ' yno.
Daear foel, is darfelydd - ein awdwr, Ai'n Eden dragywydd;
A lle rhoes ei grebwyll rhydd
Ei law, do'i naw byd newydd!
Brig wyliai pob rhyw galon - ei gynydd,
Gan bar'toi ei goron;
Ond angau mawr, yr awr hon,
Gauai byth ein gobethion.
Us gwael oedd ein dysgwylion; -rhyw fethiant
Yw arfaethion dynion;
Onid tyst o'n tynghed hon.
Oedd claddu bard Celyddon ?
Yn y llan, huno'n llonydd - o gyffro byd,
Gaffo'r bardd aneilydd,
Hyd oleu foreu pan fydd Gan ei awen gân newydd.


 

 

A close-up of a poem

Description automatically generated

x300



YMWELIAD A'R DIWEDDAR FARDD GWILYM ILID.
Mi welais GWILYM ILID, -a gwelais
Fod y gwawl cynenid,
A'r haf, oedd gynt ar ei wrid, I wan auaf yn newid.
Haf mwyn a fu i minau, -fy nwyrudd Fu'n hir o dan flodau;
Maent weithion yn briglwydo'n glau, O dan rhyw awel denau.
" Henaint ni ddaw ei hunan, "
Ond, dod mae gwendidau mân, - Cystuddiau, trallodau'n llu,
Yn ei warthaf i'w nerthu.
' Rwyf fi ac yntau, rhyw faint, O dan gaethiwed henaint.
Yntau a minau sy'n myned - i byrth
Y bedd diymwared;
Ei ddôr sy'n nghil - egored, -ninau'n dau I'w orddyfnderau'n rwydd fyn'd i waered.
Rhyw awr, pwnc mawr, mawr a fydd marw, -pwnc Oddiwrth bob peth a'n geilw;
Du gwr yw'r beddrod garw, -pwy ? wrth edrych, A all chwenych tywyllwch hwnw ?
Ond daeth, drwy Iawnol deithi - ' r Hedd - aberth, Idd ei wybr ef oleuni:
Fedd! gwel'd trwyddost wyf fi - anllygredigaeth A bywyd helaeth tu draw'n bodoli.
Gwawl ar bwys gwely oer y bedd — a roes Yr IESU i'n harwedd,
O'i ganol i ogonedd, -gwnaeth ystryd O ei fro wywlyd i anfarwoledd.
Ein taith, byr neu faith, a f'o I'r " Ddinas " y ffordd hono.

Mawlgerdd i Richard Fothergill, sw.,
RHEOLWR GWEITHIAU ABERNANT A'R LLWYDCOED.
Pwy yw y gwladgarwr gwir deilwng o foliant- Ai'r milwr twymfrydig, dewrgalon, a gaed, Ar rwysg a chreulondeb yn selio'i ogoniant, A phorthi ei gleddyf ar anrhaith a gwaed ? Ah! na, nid efe yw y teilwng wladgarwr, Eithr hwnw sy'n ystyr dedwyddwch y gweithiwr, A'r lles cyffredinol - sy'n sathru'n ei gryfdwr,
Drais, gormes, a llygredd, a thwyll dan ei draed. Pwy yw y rhinweddol ? Ai pawb a foliennir Ar golofn a beddrod, a thafod, a thŵr ? Ai'r hwn sy ddysgedig, sy gyfiawn, sy gywir, A'i holl ymddygiadau cyn llyfned â dŵr ? Ah! na, nid efe yw yr un gwir rinweddol; Eithr hwnw sydd hynaws, haelfrydig, tosturiol, Yn gwneuthur trugaredd a barn yn oestadol, A ffrwd ei elusen yn rhedeg heb ' stŵr! Pwy yw'r gogoneddus ? ai'r teyrn ar ei orsedd ? Ai'r arwr sy'n cychwyn mewn rhwysg ar ei farch ? Ai'r hwn sydd yn berchen awdurdod a mawredd, A miloedd ar filoedd yn gwneuthur ei arch ? Y gwir ogoneddus yw'r hwn y mae rhinwedd Yn gwneyd iddo goron o berlau trugaredd, Yr hwn nid yw golud, awdurdod, na mawredd, Na dim ond egwyddor yn sylfaen i'w barch. Yn nosparth y cyfryw ddynoliaeth oruchel
R. FOTHERGILL enwog sy'n gwneuthur ei le; Nid comed lenyddol yn fflamio'r holl orwel,
Na seren wleidyddol fawr, fawr, yw efe; Ond tawel Gaergwydion o ddysglaer rhinweddau, Gwladgarwr cymedrol yn estyn ei freichiau
W



 

 

 

 

 

 

Mae’r llyr I weld yn Google Books:

https://play.google.com/books/reader?id=ObIYKxYVDi0C&pg=GBS.PR4&hl=ca

 

Sumbolau:

a A / æ Æ / e E / ɛ Ɛ / i I / o O / u U / w W / y Y /
MACRONː ā Ā / ǣ Ǣ / ē Ē / ɛ̄ Ɛ̄ / ī Ī / ō Ō / ū Ū / w̄ W̄ / ȳ Ȳ /
MACRON + ACEN DDYRCHAFEDIGː Ā̀ ā̀ , Ḗ ḗ, Ī́ ī́ , Ṓ ṓ , Ū́ ū́, (w), Ȳ́ ȳ́
MACRON + ACEN DDISGYNEDIGː Ǟ ǟ , Ḕ ḕ, Ī̀ ī̀, Ṑ ṑ, Ū̀ ū̀, (w), Ȳ̀ ȳ̀
MACRON ISODː A̱ a̱ , E̱ e̱ , I̱ i̱ , O̱ o̱, U̱ u̱, (w), Y̱ y̱
BREFː ă Ă / ĕ Ĕ / ĭ Ĭ / ŏ Ŏ / ŭ Ŭ / B5236ː 
 B5237ː B5237_ash-a-bref
BREF GWRTHDRO ISODː 
i̯, u̯
CROMFACHAUː 
  deiamwnt
A’I PHEN I LAWRː , ә, ɐ (u+0250) httpsː //text-symbols.com/upside-down/
Y WENHWYSWEG: ɛ̄ ǣ æ

ˈ ɑ ɑˑ aˑ aː / æ æː / e eˑeː / ɛ ɛː / ɪ iˑ iː ɪ / ɔ oˑ oː / ʊ uˑ uː ʊ / ə / ʌ /
 ẅ Ẅ / ẃ Ẃ / ẁ Ẁ / ŵ Ŵ /
 ŷ Ŷ / ỳ Ỳ / y Ý / ɥ
ˈ ð ɬ ŋ ʃ ʧ θ ʒ ʤ / aɪ ɔɪ əɪ uɪ ɪʊ aʊ ɛʊ ɔʊ əʊ / £
ә ʌ ẃ ă ĕ ĭ ŏ ŭ ẅ ẃ ẁ Ẁ ŵ ŷ ỳ Ỳ Hungarumlautː A̋ a̋

U+1EA0 Ạ U+1EA1 ạ
U+1EB8 Ẹ U+1EB9 ẹ
U+1ECA Ị U+1ECB ị
U+1ECC Ọ U+1ECD ọ
U+1EE4 Ụ U+1EE5 ụ
U+1E88 Ẉ U+1E89 ẉ
U+1EF4 Ỵ U+1EF5 ỵ
gw_gytseiniol_050908yn 0399j_i_gytseiniol_050908aaith δ δ £ gw_gytseiniol_050908yn 0399j_i_gytseiniol_050908aaith δ δ £ U+2020 †
« »

 
DAGGER
wikipedia, scriptsource. org
httpsː []//en.wiktionary.org/wiki/ǣ

 Hwngarwmlawtː A̋ a̋
g
w_gytseiniol_050908yn 0399j_i_gytseiniol_050908aaith δ δ
 …..
…..
ʌ ag acen ddyrchafedig / ʌ with acute accentː ʌ́

Ə́ ə́

Shwa ag acen ddyrchafedig / Schwa with acute

…..
…..
wikipedia,
scriptsource.[]org
httpsː//[ ]en.wiktionary.org/wiki/ǣ

---------------------------------------
Y TUDALEN HWN: 
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_029_ceinion_essyllt_1874_01_3944k.htm


---------------------------------------
Creuwyd:
Adolygiad diweddaraf:
01 02 2002 08-11-2023
Delweddau:

Ffynhonell: archive.org
---------------------------------------

Freefind.
---
Archwiliwch y wefan hon
Cerqueu aquest web
SEARCH THIS WEBSITE
---
Adeiladwaith y wefan
Estructura del web

SITE STRUCTURE
---
Beth sydd yn newydd?
Que hi ha de nou?
WHAT’S NEW?


Ble’r wyf i? Yr ych chi’n ymwéld ag un o dudalennau’r Gwefan “CYMRU-CATALONIA”
On sóc?
Esteu visitant una pàgina de la Web “CYMRU-CATALONIA” (= Gal·les-Catalunya)
Weø(r) àm ai? Yùu àa(r) vízïting ø peij fròm dhø “CYMRU-CATALONIA” (= Weilz-Katølóuniø) Wéb-sait
Where am I?
You are visiting a page from the “CYMRU-CATALONIA” (= Wales-Catalonia) Website

StatCounter - Free Web Tracker and Counterhit counter script

Edrychwch ar fy Ystadegau / Mireu les estadístiques / View My Stats

 

Diben y gwefan hwn yw bod yn ddolen gyswllt rhwng Cymru  a’r Gwledydd Catalaneg, gan roi gwybodaeth ar iaith a diwylliant Cymru i siaradwyr Catalaneg, a gwybodaeth am yr iaith Gatalaneg a’r Gwledydd Catalaneg i’r Cymry Cymraeg. Y Gymraeg  a’r Gatalaneg yw prif ieithoedd y gwefan. Mae rhai o’r tudalennau wedi eu trosi i’r Saesneg ac i ieithoedd eraill.