kimkat3948k Gwefan Cymru-Catalonia. CEINION ESSYLLT. Rhai o Brif Weithiau Barddonol a Rhyddieithol Thomas Essile Davies, neu Dewi Wyn o Essyllt, Dinaspowis. Caerdydd. Argraffwyd gan D. Duncan a’i Feibion. Yn Swyddfa y “South Wales Daily News.” 1874.

 

08-11-2023

 

0001 Y Tudalen Blaen Google: kimkat0001

..........2657k Y Porth Cymraeg Google: kimkat2657k

....................0009k Y Barthlen  Google: kimkat0009k

..............................0960k Y Gyfeirddalen i Gywaith Siôn Prys (testunau Cymraeg yn y wefan hon) Google: kimkat096k

..........................................y tudalen hwn

A red and green flag

Description automatically generated
..

 

 

 

 

 

 

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Catalunya i Gal·les
 

 Cywaith Siôn Prys - Testunau Cymraeg ar y We

CEINION ESSYLLT
Rhai o Brif Weithiau Barddonol a Rhyddieithol Thomas Essile Davies, neu Dewi Wyn o Essyllt, Dinaspowis. Caerdydd. Argraffwyd gan D. Duncan a’i Feibion. Yn Swyddfa y “South Wales Daily News.” 1874.

 

DETHOLION

Y Llyfr Ymwelwyr / El Llibre de Visitants / The Guestbook:
http://pub5.bravenet.com/guestbook/391211408/



Beth sy’n newydd yn y wefan hon?

 

A map of the european continent

Description automatically generated

(delwedd 7419)

 

 

 

Tudalennau 1-150

www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_029_ceinion_essyllt_1874_01_3944k.htm

 

.....

Tudalennau 151-300

www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_029_ceinion_essyllt_1874_02_3945k.htm

 

.....

Tudalennau 301-450

www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_029_ceinion_essyllt_1874_03_3946k.htm

 

.....

Tudalennau 451-588

www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_029_ceinion_essyllt_1874_04_3947k.htm

 


·····


Dyma ddetholiad o ganiadau, englynion, cywyddau, mawlgerddi, awdlau ac  anerchiadau Dewi Wyn.

 

Yn nhrefn y wyddor y mae’r darnau hyn. Wrth ochr y teitl y mae rhif y tudalen yng nghyfrol y “Ceinion”.


 

Agoriad Rheilffordd Deheudir Cymru.....CANIAD.....x483

Anerchiad i Febyn H. Humphreys, Ysw. .....ENGLYN.....x582

Ar Ymweliad y Geri Marwol â Chymru, yn 1849.....AWDL.....x546

Ardalydd Bute.....ENGLYN.....x457

“Asgre Lân Diogel ei Pherchen”.....CANIAD.....x583

Caradog.....ENGLYN.....x481

Y Cardotyn Dioglyd.....ENGLYN.....x484

Cynydd Masnachol Caerdydd.....CANIAD.....x452

Dyffryn Cynon .....CYWYDD.....x485

Englyn I Bont Un-Fwa Pontypridd, Ar Gyrhaeddiad Ei Chant Oed…..x093

Garibaldi.....ENGLYN.....x587

Y Gelynen.....ENGLYN.....x480

Gwilym Maesaleg.....ENGLYN.....x584

Llys Ifor Hael.....AWDL.....x237

Marwolaeth Gwilym Ilid.....ENGLYN.....x585

Y Meddwyn.....ENGLYN.....x587

Priodas Ardalydd Bute.....CANIAD.....x455

Priodas Ardalydd Bute.....ANERCHIADAU.....x456

Richard Fothergill, Ysw......MAWLGERDD.....x301

Trallod.....ENGLYN.....x586

 Tynghed Yr Iaith Gymraeg.....x076

Tynghed Yr Iaith Gymraeg, Yn Ol Barn Y Saeson.....x077

  Y Wialen Geryddol.....x092


(x483)
AGORIAD RHEILFFORDD DEHEUDIR CYMRU
Wele! O, fuddiol anturfawr gelfyddyd,
Dy Reilffordd er’s enyd yw bywyd y bau
Mae “Rheilffordd Deheudir" hen “Gymru” ’n dywedyd
Fod amser llwyddianus yn serchus neshau:
Mae dydd ei Agoriad yn awr bron a gwawrio,
Bawb unwn bob enw i’w gadw’n ddydd gwyl;
Mae hwn yn ddiiwrnod sy’n werth ei addurno,
Gosodwn eneuau’r magnelau mewn hwyl;
Awn, awn gyda’r gwyrda yn mlaen i’r gydgordaith
Fawreddus, foreuddydd gwir ddadwydd a ddaw;
Bryd hwn bydd arwyrain, bryd hwn bydd yr araith,
Yn ysgwyd bob teimlad, a llygad a llaw.

Hawddamor, Fasnachaeth! hir fuost yn nychu,
A’th gynyrch mewn conglau anhygyrch yn hir;
A blin iawn amaethon y Blaenau yn methu
Cael addas gludeiaeth i doraeth ei dir;
Ond dyma hi’n hawddach i wyr y mynyddau
I ddwyn eu cynyrchion yn llon i bob lle;
Dowch, dowch, heb un ffaeledd, a’ch ceirch a’ch ceffylau,
A’r hen ychain duon ar droin i’r dre’;
Cewch dd’od a chnydau i lawr i farchnadoedd
Difaol Morganwg a Gwentllwg deg wawr,
A dwyn anifeiliaid, os mynwch, yn filoedd
I’n ffeiriau cyfarwydd yn ebrwydd yn awr.

Hwy ddo’nt o Garedin i lawr i Gaerodor,
Caerwrangon, Caergrawnt, a Chasnewydd-ar-Wysg;
Caerdydd a Llantrisant, Llanharan - llon oror, -
Llanilid, Llangrallo, gan ruthro mewn rhwysg
Pen’bont, Aberafon, a Chastellnedd hefyd,
I dref Abertawy, yn hy’ at  y nod;
(x484)A lawr i Gaerfyrddin, drwy’r wlad ddigyfurddyd
Yr hen RHYS AP TEWDWR a GLYNDWR fawr glod.
Mor hyfryd! mor hyfryd! fydd tremio Môr Hafren,
A gwel’d holl ragorion a gleinion ein gwlad;
Bydd golwg ar dlysni mawreddi mor addien,
I fryd yr ymdeithydd yn newydd fwynhad.

Ceir gweled yn union newyddion aneddau,
A gerddi ysplenydd hyd lenydd y ’Lai;
Mor felus a difyr i’r teithwyr hwynt-hwythau,
Fydd hynt hyd ei glanau ar forau o Fai.
Celfyddyd a masnach ddawn hoewach o newydd -
Mae’r cyffro cyfagos yn dangos eu dydd;
Yr agerbeirianau yn rhwygo’r wybrenydd
A’u twrf awdurdodol, arfeiddiol a fydd
A’r gwefrol Hysbysai ddwg bob hanes bwysig
O eithaf y ddwy wlad mewn eilad yn awr;
Aed Rheilffordd Dehoudir hen Gymru nodedig
Fyth fwy-fwy mewn llwyddyd - bob enyd, bob awr.

.....


(x582) ANERCHIAD I HUGH GODFREY HUMPHREYS, MEBYN
H. HUMPHREYS, ESQ., ABERTAWE.


Lân Hugh, ein angel newydd,
Arnat serch dy riaint sydd
Ninau sydd yn uno’n serch
A’n doniau i dy anerch.

Dy anerch ar dy eni, - a chyfarch
Hefyd dy fwyn fami,
A dywedyd i’th dadi,
Y golud oedd dy gael di.

Groesaw it’, febyn grasawl, -
Ein tiwlip gwyrdd - ein talp gwawl, -
I oreu’n holl ddaear ni,
Teyrnas a gaffot arni;
Eithr, yn wir, tir mewn gwlad dost
Yw deithio, yw’r lle daethost;
Echrys gur a chroesau gant
Sy’ yma, a phob siomiant.
Ond, er dim, dilyn di’r da,
A Rhinwedd a’th dariana, -
Rhinwedd wobrwya rhein’i
Sy’n ei theg wasanaeth bi.

Boed iti deithi a bendithion - dwys
Dy dad, “Amanwyson”;
Moes da dy fam astud, fo’n
Gwylied wrth byrth dy galon.

Rhaid hefyd rhoi dy ofal - i DDUW, ’n IÔR;
Ei ddawn Ef a’th gynal;
Rhoed Ef ei YSBRYD dyfal - i’th wyliaw,
 A’th arweiniaw, trwy ddisathr anial

Y byd drwg, i’r bywyd draw, - a’r etifeddiaeth
Hardd a helaeth sydd ar y “Ddeheulaw.”

(x457) ARDALYDD BUTE.

DYMUNIAD teirgwlad* it’, ARGLWYDD – CAERDYDD!
Ceir dy wel’d yn ebrwydd,
Yn neddf oedran addfedrwydd,
Yn aer llawn, ar bigdwr llwydd; -

(*England, Scotland, and Wales)

A’th gyfoeth yn dynoethi - ei allu,
Yn ei holl fawrhydi,
Drwy weithio’n hên draethau* ni-
Drwy linach - drwy haelioni.

(*Alluding to the Docks, &c.)

Doethineb gadwo’th enau; - Daioni
F’o’n dwyn dy serchiadau;
Addoliant dy feddyliau;
A DUW’r Nef i’th gadarnhau.

Rhinwedd, - yn naear hono - bo’th fonedd, -
Bo’th fynwes yh ffrwytho;
A duwioldeb di-ildio,
Yn fawrodd i’th fawredd fo.

Ac eistedd di’n dy gastell - yn was DUW,
Nes del, ar daen asgefl,
Archangel NAF i’th ’stafell,
I’th hercyd i’r gwynfyd gwell.

Iechyd, y fendith uwchaf - yn natur,
Hon i’t a eiddunaf;
A bydded, dan nodded NAF,
Hir einioes it’, aer iawnaf.

 


(x546) AWDL AR YMWELIAD Y GERI MARWOL A CHYMRU YN Y FLWYDDYN 1849.
GWAE’R byd! O’i gysegr ban, - y diofer
DDUW sy’n dyfod allan:
Ei law ddyrchafodd i’r lan,
I drafod holl bedryfan.

Herwydd euog yw’r ddaear,
O bob anwiredd a bâr.

Y Geri anghrugarawg
A roes ymweliad yr hawg -
Ymweliad am ein miloedd,
Anwyl iawn o’n cenedl oedd.

Gwelai Duw ’nawr, ein gwlad ni,
Ar gynydd mewn drygioini.

Hi fwriodd edifeirwch – o’i golwg,
Drwy galon-galedwch;
Ei lle oedd ymostwng i’r llwch, - eithr ni
Fu hyn iddi, - Ow!  ni fynai heddwch.

Gwawdiai yr orsedd gadarn, -
Mae Cymru’n addfedu’ farn!

Arwyddion anfoddloni,
O du’r nef ga’i ’n daear ni;
Ond attal wnai Duw ettaw,
Ddwyn ei lid oedd yn ei law;
Iôn yn aml oedd â ni’n ymladd,
A’i wg a’i wen yn lle’n lladd.

Lladd yr anifail ger llaw, - a wnelai,
Dryllio’n heulun drwyddaw:
Neu’n ein llwyddiant ein lluddiaw, - gwneyd
A mân diobaith, yna mynd heibiaw.

(x547)
Yn ngorchwyliaeth
Ei ragluniaeth, - IÔR golueni,
A’n rhybuddiodd
Daroganodd - do’i rhyw gyni.

Duw mawr, yn ei dymhorau - a wgodd,
Pwy yw na welodd uwchben ei aeliau?

Mor hardd oedd tremyn y gwanwyn gwenog,
Bywiol egorai y gwydd blagurog;
Ymdrwsiai’r glesin - yr egin gwrygiog,
A’r bondew laswellt oedd mor bendlysog,
Gan laeth Aurora - gan wlith hwyr eurog;
Yn llad rhagorol gwnai llaw drugarog
Rhagluniaeth dirion rhoi gwlaw neithdarog,
Clauar awelon ac henlwawr hiliog;
Nes torai’r hadau’n llysiau lluosog
Allan o fòl daear, llen flodeuog,
Oedd ar fryn a glyn, yn glog, - wele’n awr,
Anian oreuwawr oedd un wên rywiog.

Addawai gwawr y ddaear - gynauaf
Gwyn, eang, ffrwythlongar:
Arwyddai gwên werdd a gwàr,
Y gwanwyn y do’i’n gynar.

Ond IÔN yn ol a dynodd - ei law hon,
Rhagluniaeth a rwymodd
O drau’r cymylau’n mhob modd,
A’r nen a hir hinonodd.

Llawer mis uwchlaw’r meusydd, - i’w brwylio,
Bu’r haul poeth, gwynebrhydd,
Heb gafod yn dod un dydd,
Na dafn braidd ar un defnydd.

Y flin wybr ai fel yn bres - coeth, uwch ben
Wyneb daearen yn danbaid eres:
Traflyncodd, attyriodd tes - yr haul rhydd
Nentydd ac afonydd acw i’w fynwes.

(x548)
Clwyfodd anian - clâf-ddihoenai, - ei grudd
Gan y gwres a wywai;
Hyder yr anifail gyda’i - wair a’i y^d
Y ddifaol enyd bon ddiflanai.

Ofnid fod Duw yn trefnu
I’n dal drwy y newyn du;
Ond Zion lân, weithian, hi,
Yu gyhoeddus mewn gweddi,
Yu drist at ei Duw a drodd;
Ar IÔN da a’i gwrandawodd,

Wedi troi barn nid hir bu - diwygiad;
Yn ol ai’m gwlad, yn ail - ymgaledu;
Aeth hon, cyn braidd ei thynu
O afael barn, fel y bu.

Iôn etto ambarodd ein tymhorau;
I’w law Ef ei hun y mae’r elfenau
Yn hynod o addfwyn yn eu deddfau:
Dacw ef o’r môr yn galw ei drysorau -
Yn bwrw ei niwloedd i’r wybren olau,
Yn ganoedd a miloedd o gymylau
Tywyll, tew, oedawl; a’u tywalltiadau
Garw, gwrthnysig, ar y gwair wythnosau;
O dan y gofidus daen-gafodau,
Llwyr ddirywiwyd sawr a gwawr y gweiriau
Ydoedd mewn ystodau; - ymborth miwail
Yr anifail yn dail ar y dôlau.

Ac yn nhywydd cynauaf
Yr y^d, yn nghyflawnder ha^f,
Bwriodd ar ffon ein bara, - bygythiodd
Ei thori drwyodd o waith hir draha.

Ond Zion, weithion, a aeth - at ei thad,
Doeth Awdwr Rhagluniaeth;
A gofyn gan erfyn wnaeth, -
“Duw, agor waredigaeth!”

(x549)
“Er mwyn yr Addfwyn a rodd
It’ Iawn, a’th lawn foddlonodd!”
Duw, yn hwn, diau’n union,
A chan daer ochenaid hon,
A drodd hyd draw law ei lid,
A rhoddodd ini ryddid.

Yn lle ei gerydd, llaw ei gariad - a wnaeth
Ddynoethi’n ddieithriad
Estyn wnai etto’n wastad,
Ger ein bron arwyddion Rhad.
Nifer o gynauafau* -a gawsom,
Er gosod caniadau
O glod i’r ARGLWYDD yn glau,
Yn ein heuog eneuau.

(*Cawd nifer o gynaufau rhagorol yn olynol.)

Ymwênai’r haul dymunol - yn awyr
Y cynauaf siriol;
Caed tirion hinion i hòl*
Yr y^d i’w le priodol.

(*Cyrchu, yn ol cangheniaith y Deheudir.)

Bu heddwch* a’i wyneb addien - arnom,
Yn ddiwrnod o heulwen;
Yra’r ydoedd twrw ar aden - o’n deutu,
A llu yn gwaedu, - yn llanw gwae Eden.
 
(*Cawd tymhor hir o heddwch.)

Dirwest*, hefyd, dros Dofydd,
Yn daer a’n galwai bob dydd,
I adael ein pechodau - llygredig,
A gwyniau blysig y gwin-balasau.

(*Ystyrid fod gan Ddirwest ei chenadwri atom.)

Diofn oeddem yn defnyddio - rhoddion
Ein HIÔN oedd dirion, idd ei daro.

Troi’n eirf, ddoniau tirion JAH - ar gyhoedd,
Wnaeth rhyw filoedd i wrthryfela
I’w erbyn Ef, er byw’n wych
Ar ei gariad ragorwych.
(x551) O, DDUW! pa’m arbedi ddyn?
Rhyfedd na ddrylliet bryfyn i

Wele! sain Efengyl sydd - glywedig
Drwy ein gwlad ni beunydd;
O, mor hoff a thwym y rhydd
Am danom ei hadenydd!

Gymru freiniol!
Pob dawn nefol
A daearol - a gyd-dyrant,
Ar dy ddwyfron;
Dy fendithion
Fyth, ail afon - faith a lifant.

Naturiol lwydd sy’n toi’r wlad,
A rhoddion pob gwareiddiad;
Ond, mwy yw’r gwarth, - dyma’r gwir, -
O’r haeledd, er a welir,
Er y tail a’r cariad hyn
A roddwyd at ei gwreiddyn,
Ni phar weithion ddwyn ffrwythau, -
Lluaws hedd nid yw’n lleshau:

Addewidion
A bygythion - heibio gwthiodd;
Ar yr alwad
O’r andwyad - ni wrandawodd.

A’n gwlad a ymgaledodd; - mewn dirmyg,
Annuwiaeth, a rhyfyg noeth, y rhwyfodd.
Niweidiol gyfeiliornadau - llawgryf,
A llygredigaethau,
Godynt yn gorwynt, a gau
A thrythyll athrawiaethau.

Golaesodd sêl yr eglwysi; - Zion
Roesawodd gnawd ati;
Ciliodd gogoniant Celi
Yn ol, hwnt o’i chanol hi,
(x551) Y wlad oll a ledai gwyn; - myn’d, hefyd,
I fyw’n ei hawddfyd yn fwy anaddfwyn
Cwyno, tuchan, ceintachu -
Ymryson anfoddlon fu;
Llawn o derfysg cymysg caid
Y werin a’i blaenoriaid.

Arwyddodd y nef i raddau - ei llid
Yn llais yr elfenau;
Bu, braidd, ddyryswch bob ran,
Yn mheirian y tymhorau.

Etto, er bod bell dram natur
Yn bygwth barn o gadarn gur,
Hwyrfrydig i ddig oedd IÔN,
A thyner iawn wrth ddynion
Ni fynai fo daro dyn,
Na’i arswydo’n rhy sydyn:
Codi ei ddwrn cauedig,
Yr oedd ef yn ara’ ddig
Ei wialen a nolai,
Cydio’n hon, a’i hysgwyd wnai
Taraw ystlysau’r tiroedd,
A thrwy hyn fel athraw oedd,
Neu dad, er atal dadwrdd
Ei rai bach, yn taro’r bwrdd
Hyn a wnaeth ein HIÔN i ni,
O ddefnydd, idd ei ofni,
A’n cael i’n lle clau, ’n y llwch,
Yn foreu’n hedifeirwch;
I ochel barn, a chael byw
Dan ei nawdd - dyna wneddyw.

Ond er a wnaeth Iôr i ni, - troem
A diystyrem ei wiw dosturi:
Ciliem, ni fynem ei fad - leferydd,
Nag yn ei gerydd, na’i gwyn, na’i gariad,
(x552) Cymru o fodd ddigiodd DDUW,
Yr annuw a wronodd;
Cedai barn, yn ei dyb ef,
A wedai’r nef a wawdiodd:
Gwaradwyddai’r gwr diddliw
Fawr dda IÔN, fe heriai DDUW:
Uchel iawn aeth ei bechod,
Chwifio wnaeth i’w uchaf nod;
Gan hyny y deffry Duw,
I roi unwaith i’r annuw,
Brawf o’i Gyfiawnder rhyw bryd,
A’i wirionedd rhyw enyd:
Ef yn hollol fyn allan
Ei glod a’i santeiddrwydd glân.

Heddyw cododd y cadarn
DDUW hyny i weinyddu barn:
Agorodd ddrws i’r Geri,
A lle’n awr i’u dryllio ni.

Hanes drom ei ddinystr o’,
Yr adeg y bu’n rhodio,
Hanes flwyddyn hono -
Y Ddeunaw Cant (ddaw i’n co’)
A Naw a Deugain, yn hir,
Ac hâf am oes a gofir.

Wele’r cwmwl dwlyn d’od - yn araf,
A’i wawr yn arwyddo
Dwys dymhestl fawr, fawr i fod, -
Brawychus yw’r wybr uchod!

Ac ymlaen o’r cwmwl, oedd
Angau’n melltenu ingoedd,
Tua’r Gorllewin tawel
Mae’n d’od, a difrod lle del.

Y daran-dymhestl dorodd!
A’i dylif difrif a dôdd –
(x553) Wledydd y dwyrain lydan, - a lluoedd
Y Gorllewin bobman,
O dês dir Hindwstan - hyd eithafoedd
Amrywiog gyroedd Americ eirian.

Hwysgodd ef o’i flaen hefyd
Lu i fôr tragwyddol fyd;
Gerwin oedd y dryghin draw,
A’r awel drom yn rhuaw:
Nesu oedd, nês, nês o hyd;
Er hyny Cymru enyd, -

Ydoedd yn breuddwydiaw - lle i’w ochel:
Diau, llechai’n ddystaw
Dan ei bron, rhwng edyn braw,
Rhyw obaith yr ai heibiaw.

Ond tua’n goror y tynai’r Geri
Mileinig, barnol, yn mlaon hob wyrni
NAF a’i arweiniodd, yn ei fawr yni,
Ar wlad o ryfyg, ar lu o drefi;
Ie, fe rodiodd mewn erch fawrhydi, -
Dyna’i swydd yn y dinasoedd heini, -
Taro’n feirw ganoedd trwy enfawr gyni
Ow! mae’r negesydd mawr yn agosi
Obry ’nawr i’n bro ni; - gan ddychrynu
Ceir hon, hyd wreiddyn, yn crynu drwyddi.

Llefai a sylwai ein holl Fisolion -
Llyfrau a daenid - llefarai dynion
Wrth eu gilydd, a’u llaw wrth y galon,
Am wyllt rwygiadau a mellt ergydion
Y Geri Marwol ysol ei loesion;
Ei anwar ddystryw yn nhiroedd estron,
A’i gam mawr aethus i Gymru weithion
Am ddiwedd einioes oedd ymddiddanion.
(x554) Pob graddau, - pawb ag arwyddion - ofn mawr,
O’r un ogwyddawr yn eu hagweddion.

Bwrdd yr Iechyd, yn ebrwydd o’r achos,
Gyhoeddynt eirchion i union anos
Pob un i ddori- awb yn ddiaros -
Ddeddfau glanweithdra, sy’ dda, yn ddios;
Troi eu tuedd at awyro’u teios,
Ac hoewaf, egor bob man cyfagos
Lle’r oedd budredd yn gorwedd ac aros,
A’u bwrw ymaith rhag effaith i’r geuffôs
Llwyr lanhau ffau a ffôs, - drwy’r holl dalaeth,
Rhag rhoi anogaeth ir Geri’n agos.

Yn hyn oll ein hanallu - eglurwyd,
I’w gloi o air Cymru
Oferedd cyflafareddu
A’r mawrwych deyrn ar y “March Du.”

Tramwyai’r dolur trwm, trwm ardaloedd
Cymru welw, euog, - cymerai luoedd
Yn ei grafangau yn gryf eu hingoedd
Y Geri Marwol ysponcia i’r moroedd
Pa raith a lwydda yn y porthladdoedd
I attal cry’ beintiau? - dal y corwyntoedd? -
I rwystro angau? -roi ust ar ei ingoedd?
Ni all longau na badau bydoedd
Un awr ei gario i unrhyw gyroedd,
Na’i yru etto or fan lle’r ytoedd,
Na llaw nae egni lluoedd - ei ffrwyno.
Ac yntau’n noflo ar gànt* y nefoedd.

(*Cant - cylch, circle.)

Oh! gyfnod trwmlwythog ofnau! - afar
Wylofain a dagrau;
Cerhynt ing, corwynt angau.
I’r bedd yn ysgubo’r bau!

(x555)
Gollyngwyd esgyll Angau -, yn rhyddion,
Ac ymroddodd yntau
Gan’ mwy’i lid, gan amlhan
Wythwaith ei farwolaethau.

Ysgydwad rhwysg ei aden - echrys,
Oedd ddychryn daearen
Ar frys, megys am agen,’
Y byd ostyngodd ei ben!

Arswyd! achreth! brys! dychryn
Euogrwydd, a sobrwydd syn,
Feddianodd fwy o ddynion
Na deg oes yr adeg ben.

Y daran drom o’r Dwyrain draw - glywid,
Glewian f’ai’n llesmeiriaw;
Bu pob bron, bu pawb, a braw, - bu syndod,
A bu, dan cryndod, y byd yn gwrandaw!

Agoshau’n ëon wnai i Gasnewydd,
Blinai y gaer a blaen ei gerydd;
Bwrw wedi hyny y bu’r dienydd
Ei lid drwy ganol y wlad ar gynydd:
Angau ar dasg yn Nghaerdydd - fu’n gweithio
Troi’r lle i wylo trwy’r bell heolydd.

Fe ranai dorf yr un dydd - i drengi
Drwy ing dihefelydd;
Galar o ben bwy gilydd - ai fwy-fwy,
Yn dwrw ofnadwy, - Ow! dref anedwydd

Etto, bu yn y Taibach
Yn ddrycin cynddeiriocach.

Aberafon a brofodd - ei artaith,
Nes ei hurtio drwyodd;
Haner ei phlant a hunodd
A phawb gan ddychryn a ffodd
(x556) Abertawy bert, hoewedd
Llawen oe’t, a Chastellnedd,
A Hirwain, a Chwmgwyrach,
Dro byr, ac Aberdar bach.

Ond heddyw swn dioddef,
A swn llu sy’ yn y llef;
Clywaf gref lef wylofai,
A garm oer yn rhwygo’r main;
Y Geri annhrugarawg
Sydd yno yn rhwygo rhawg
Dyna lu o dan ei loes,
A rhai’n diweddu’r einioes.

Angau, yn mharthau Merthyr, - ni fu ’rioed
A’i fraich yn fwy pybyr;
Dan ei wae’n dwyn ei wewyr - dacw filoedd,
A’u hoer grioedd yn rhwygo’r awyr.

Yno lle’r Geri mall a ragorodd;
Ow! mor eiddig i ddystryw ymroddodd!
Cur a dinystr i bob cwr a daenodd;
Holl boblogaeth y lle byw a blygodd;
Y rhai oedd rymus yn rhwydd a rwymodd,
A’i fys cadarn efe a’u hysgydwodd,
Ail i wawn oeddynt - trwyddynt treiddiodd:
Ba lid a fu! Pob ail dy^ ofwyodd;
Rhai yma, rhai acw, yn feirw fwriodd:
Deunaw cant, bron, yn gleifion a glwyfodd,
Yn awr ei lwyddiant, a’u haner laddodd!
Merthyr gan wewyr wyodd, - ar bob llaw,
Wylofain drwyddaw yn elfen dreiddiodd.

Ow! ’r uchel, uchel ochi! – Ow! groch fawr,
Ysgrechfeydd a gwaeddi!
Ow! dorcalon, greulon gri, -
Canoedd yn drwm eu cyni!
(x557) Ing a gwae ac angau gwyllt
Ar frig y Geri gorwyllt;
Masnach gref wedi sefyll,
Ac un drefn aeth yn gan’ ddryll!
Yr oedd pob peth ar fethu
Dan bwys tyn y dychryn du!
Rhai wnaent osgoi a ffoi ffwrdd - oe’nt am gael
Rhyw le i adael y marwol odwrdd.

Clywid wylo, ac wylo o galon
Ar ol eu telaid gydmhariaid meirwon,
Gynau a laddwyd, - gan lu o weddwon;
Rhieni eilwaith, am rai anwylion
A chwerw wylant nes ocha’r awelon;
Blin ytyw gweled llu o blant gwaelion -
Rhai yma, rhai draw yn wylaw’n welwon,
A gwedd ddiallu uwchben gweddillion
En rhiaint oerwedd - yr enwau tirion
Yspeiliodd angau; a hwythau weithion
Heb nawdd, na neb yn ngwyneb anghenion
Bywyd, dylanwad byd, a’i elynion:
B’le’r ant? b’le troant, mewn byd tra ëon?
Prudd yw eu golwg! pa wawr ddigalon!
O, ddaionus DDUW union, - pa rhyw wedd
Daw trugaredd hyd at y rhai gwirion?

Duw ION a egorodd law dyngarwyr,
Ac i’r amddifaid, gur-ymoddefwyr;
A’r gweddwon hefyd, wragedd annifyr,
Bu eu hebyrth o bob rhyw yn bybyr;
O’i bodd cymhorthodd Merthyr, - bydd coffhau
Yn mhen oesau, ei chymwynaswyr.

Wedi hyn, ar adenydd - f’ai wylltach
Na’r fellten ysplenydd,
Llamai’r haint llym a rhydd - tua’r Blaenau,
Neu dir y bryniau, y wybrenydd.
(x558) Cryghywel uchel, ac iach
Ei thiroedd, ni wnaeth eiriach;
Hedfanodd hyd y Feni,
A thost ysglyfaethodd hi.

Ar ei amnaid y Rhymni - a grynodd;
Pan y cuchiodd, gwnaeth Pen-y-cae ochi;
Aeth Tredegar hawddgar, hi - yn isel,
Yn ias yr awel hon, a Sirhowi.

Tawlodd, er dawn, er talent, - rhai o’n meib
O’r Brynmawr i’r fynwent;
Gwaedodd Nantyglo’n ei gadwent,
A blin i gyd fu Blaenau Gwent.

Yr un-ddull Aberhonddu,
Yn llaw’r haint rhyw faint a fu;

Ei ddifrod yn Llanymddyfri  - a welwyd,
A Llandilo wedi;
Arddu wnaeth Caerfyrddin hi,
Yn hyllig a Llanelli.

Rhwysgo wnaeth a goresgyn
A llaw ddwys y lleoedd hyn:
Ddu haint tost! ynddynt hwy - yn ei ddwysedd
Boenau trymaf, y bu’n tramwy.

Anhawdd iawn, yn ddiau, i
Unrhyw ddawn yn rhwydd enwi
Pob tref neu bentref y bu
Yr haint anwar yn taenu
Tonau arswyd Duw, ’n wersi - i’r holl oes;
A dystryw einioes yn dost drueni.

Gwibiodd o ben Caergybi - hyd Gaerdydd
Fraw dig oherwydd difrod y Geri;
Ac o Lanandreas gu, wâr,
Hwnt i ddaear Ty-Ddewi.

(x559)
Sydyn oedd ymosodiad - y Geri,
Drwy gur a dirdyniad,
A.gwrwst, a gwaedguriad - yspeidiol,
Hyd wawch iasol - hyd oer-draed a chwysiad.

Gwelwedd sy’n eistedd yn awr
Ar wyneb oedd eirianwawr;
Cur beichus a’i crebachodd
Yn ddim oll, - arwydda modd
Y drem hyll, gyfyngder maith
Enaid a chorff ar unwaith;
Rhyddni a chyfogi fydd
Yn galed ar eu gilydd .
Sudda’r llygad, sy’ addien,
I lawr yn mhell, pell i’r pen
Dan ddu gylch o’u hamgylch hwy,
Edrych, sydd fel dwy fodrwy;
Y ddwy wefus liwus, lon.
Is y loesau sy leision

Mae gwres y fynwes yn fawr, - nes ochain
Gan y syched dirfawr
Y cylla sydd fel callawr,
Ni thrig er hyn lyn i lawr.

Ir, dylaith, oer -, a dulas
Yw’r croen, er y poethder cras
Sydd o fewn sedd y fynwes;
Yno lle’r aeth yr holl wres.

Mae’r loesau marwol, ysig,
Yn cryfhau’n donau dig, -
Y cur ysgarawl grecia’r esgeiriau
Drwy wewyr brochwyllt nydd-droir y breichiau;
Mae’r coluddion yn eigion gwynegau,
O tan y ddyrnod, ar hollti’n ddarnau;
Mae cur, llafur, a llefau – ’r goddefydd,
Goranedwydd, yn gur i eneidiau.

 

(x583) “ASGRE LAN DIOGEL El PHERCHEN.”
“ASGRE lân (darllenydd clyw)
Diogel yw ei pherchen,"
Er cyfarfod, ystod oes,
A llawer croes dynghedfen;
Saif yn wrol yn eu canol,
Megys craig mewn môr ymchwyddol;
Mae ei gryfder dan bob toster
Yn ei fynwes - cwyd ei faner,
Heria’r byd, a dystryw’r bodd,
I ddwyn ei hedd a’i hyder.

 “Asgre lân,” angelaidd ryw,
“Diogel yw ei pherchen,”
Bydded lwyd, a llwm, a thlawd,
Dan fynch wawd ac absen;
Maen ei galon hynaws, union,
Olud mwy nag eiddo MAMON;
Mae ffynonau ei fwynderau,
Fyth yn llawnion, - nid fel llynau,
Sychant wedi’r ê1 y gwlaw
Yr ochr draw i’r bryniau.

Asgre lân, “ddieuog, syw,
Diogel yw ei pherchen;”
Tra diysgog ydyw ef,
Fel gwreiddfawr gref gedrwydden;
Ni oes gydag ef yn trigo,
Dwyll na chelwydd - deil i’w chwilio;
Nid yw’n ofni ei groes-holi-
O flaen barnwyr saif heb wyrni:
Ei ddiniweidrwydd, cyn prydnawn,
A ddaw i lawn oleuni.

“Asgre lân,” rinweddol, wiw,
“Diogel yw ei pherchen,”

(x584)Rhag camwri, - Duw, ’n mhob man,
A’i ceidw dan ei aden;
Fel ei “asgre,” glan bydd ynte -
Glân mewn gweithred, moes, a mangre;
Ni oes elyn a’i goresgyn, -
Nid oes arf a lwydd i’w erbyn
Ei ddiniweidrwydd, yn mhob lle,
Fydd iddo ’fe’n amddiffyn.

(x481)
CARADOC (CARACTACUS).
Mawrhydi ymerawdwr, - milwri,
Mawrwri my’r arwr;
A holl wiwdeb llywiawdwr,
Mwyn iawm, a gaid mown un gwr.

Y gwr ydoedd hen GARADAWG - ab BRAN,
Brenin neu dywysawg;
Yr hyf Siluriaid, hir hawg -
Aerwr yn arwr enwawg,

Enwawg am lewder anian, - ei arswyd
Aeth o’i wersyll allan
Heibio’r tir fel braw taran
Ofnai’r byd - gattrefnw ban.

Ban ar Went, - yn Unben rhaith - galluog,
A llew wrth, ddwyn anrhaith, -
Llywydd mawr ei lluoedd maith,
An ceidwad yn eu cadwaith.

I gadwaith yr aent gyda - ’u dewryn cu,
Deyrn ac aillt - gattyrfa
Gan nad oedd âg egni da,
Wr o’i fal i ryfela.

Rhyfela a wnai’n orfilain, - darnio
Holl gadernid Rhufain -
Profwyd ei meib - pryfed main -
Crynent rhwng caerau’u hunain.

Eu hunain o’ent yn honi - eu bod ar
Y byd oll, yn feistri;
Neu’n ol o’n Hynys ni,
A gawsynt er agosi.

(x482)
Agosi wnaent yn gysain - naw mlynedd,
Mal hyn naw ar ugain
Câd a fu, ac edau fain
Y profwyd coegdyb Rhufain.

Rhufain, unwaith o’i rhyfyg - yn chwaneg,
Yn chwenych ymgynyg
Ostor gain arfogai’n fyg,
A’i holl aerwyr mewn lluryg.

Lluryg haedd, nid oedd yn dô - na chysgod,
Uwch esgyrn ein Cymro;
Dewr nawd oedd ei darian o, -
Addurn rhagoraeb iddo.

Bu iddo daro, mal dewryn - ystig;
Ond OSTOB o’r dyffryn,
Drwy wychr eirf, fu drech; er hyn
Awr galed fu i’r gelyn.

Gelyn brad, cwyniad, cyni, -ni lwyddynt
I ladd ei wrhydri;
Dilwfr oedd yn dal ei fri -
Ymerawdwr mawrhydi.

NODION. - Heblaw fod yn rhaid i’r math yma o gyfansoddiad
gynwys deuddeg englyn, pa rai a elwir yn “Gosteg o Englynion”
mae yn rhaid hefyd i’r un gair fod yn nechreu yr englyn cyntaf,
yn niwedd yr un diweddaf; a gair gorphenol pob englyn arall
yn air dechreuol yr englyn nesaf ato, hyd oni bo y cyfansoddiad
un cadwyn ddolenog, ac yn un cylch cyfgrwn a diadwy; ond nid
hyn, wedi y cwbl, ond gwag-gywreinrwydd afreidiol a llwyr aflesiol.

“Rhoi meddwl a grym iddo,"
Mewn cael hyn y mae’r “maen clo.”


(x484) Y CARDOTYN DIOGLYD.
Oh! mae adyn i’m hudo - wrth y drws,
Araith drist sydd ganddo;
Cadd gelled drom, drom, rhyw dro,
Neu ryw loes i’w barlysio.

Maes o waith er’s mis yw o’, - ymofyn
Mae hefyd am dano:
Ond, o mewn yn dymuno
Alln byth, nad felly bo.

Yn dallu’r hael, hen dwyllwr yw, - yn hêl
Cynaliaeth drwy ystryw;
Fel hyn mae’r bawyn yn byw -
Cardottyn o’r crud yttyw.

 

(x452) CYNYDD MASNACHOL CAERDYDD
O, GAERDYDD! mae’th fasnach ddrudfawr,
Yn ei llwydd a’i chynydd dirfawr,
Yn rhyw phenomenon synfawr;
Wele, ’i gorawr gain,
O Benarth hyd afon Rhymnai,
Ae o Longborth Bute hyd Elai,
Yn un fasnach fawr a didrai;
Oni chlywch ei sain
Yn esgyn o’i phorthladdoedd,
Ei rheiffyrdd, a’i hystrydoedd,
Yn ysgwyd, siglo, taro’r tir,
O’r bryniau i’r wybrenoedd.

Hawdd y cofia ein henafgwyr
Sut y dygid haiarn Merthyr
Mewn certwyni gan y gyrwyr,
**’Lawr i dref Caer-dydd {sic}:
Nid oedd son bryd hyn am gamlas,
Reilffordd, llongborth, nac am urddas
Llawer maelfa, bwth, a phalas,
**’Nawr o’n cwmpas sydd;
A chofiant y diwrnod,
Pan drefnid meirch a mulod,
I ddwyn y glo i lawr i’n bro,
Ac lawer tro mewn trallod.

Y mae cynydd ei masnachaeth
Wedi amlhau’r boblogaeth,
Gyda hyn ei thai a’i thoraeth
Aeth yn helaeth iawn;
Ymestynodd ei hadenydd,
A’i ystôr o’r môr i’r mynydd
Chwydda mewn maintioli beunydd,
A defnydd pob dawn:
(x453) Aeth Canton, bentref bychan,
Yn dref oludog lydan;
A’r Crockherbtown, drwy’r meusydd noeth,
Hyd at y Roath dry weithian.

Llai nag haner cant o flwyddau,
Ni chaid, tu draw Porth-llongau,
Ond yn awr maent yn glysdyrau
Hyd ymylau môr;
Ei phorthfâu a ymestynant,
A’i ’storfeydd a luosogant,
Ai masnachdai mewn gogoniant
A safant ddôr wrth ddôr;
Bryd hyn ni chaid i chynil
Drigolion braidd yn ddwyfil,
Ond hwy drwy glau, fawr amlhau,
Yn’t heddyw’n ddau ugeinmil.

Y mae treigliad araf oriau
Deg ar ugain o flynyddau,
Wedi gwneuthur rhyfeddodau
Mawr yn Nhref Caerdydd.
Dacw Gamlas Mawr Morganwg
Wedi gwiwlan dd’od i’r golwg.

Dacw Rheilffordd Tâf yn amlwg
Er ys lawer dydd
Ac dacw Reilffordd heinif
Deheudir Cymru difrif,
Yn dwyn i mewn o nwyddau mad
Y ddwywlad iddi’n ddylif.

Wele’r llongau fel coedwigoedd,
Yn ymdoi ei holl borthladdoedd
Fe fasnacha’r holl genedloedd
Yn ein bryniau ni.
(x454) Damsang braidd, Gaerdidd dirion,
Wyt ar sawdl Tyre a Sidon,
Mewn masnachaeth fawr a chyson,
Cyfoeth, llwydd, a bri;
Dy lô a’th haiarn gynau,
O’ent ganmil o dunellau;
Ond gwerth y rhai’n a aeth cyn hir
O’r miloedd i’r myrddiynau.

Mae’th sefyllfa, yn arwyddo,
A’th ddaeareg yn cyd-dystio,
Yr estynir llawer eto
Ar dy derfyn di;
Ai â’r Morfa mawr yn gyfan -
Bydd Penarth a thithau’n fuan,
Megys glust yn nghlust yn yngan,
Goruwch tonau’r lli’;
Anturiaeth sy’n ymsymud,
O gylch Penarth yn esgud, -
Ei thai i’r lan o’r ddaear lwyd,
A gwyd fel bwyd y barcud.
 
Ceir clywed miwsig celfau,
A dawns masnachaeth hithau,
O gylch Penarth, lle nad oedd gynt
Ond twrf y gwynt a’r tònau;
Dacw’r Llongborth wedi’i gychwyn,
Dacw’r geillt yn cilio’n sydyn,
Dacw lunio pant a bryncyn
Yn wastadedd tlws.
Gaerdydd – Penarth - mae eich dyfodiant
Draw yn gwenu mewn gogoniant;
Mae amseroedd miwr eich llwyddiant
Bron ar bwys y drws.

(x485) DYFFRYN CYNON O BEN Y DDYSGWYLFA.
SYLLU yn neutu Natur,
O ben y Ddysgwylfa bur,
Aros yno dros enyd
A garai beirdd goreu byd.

Mae’r bryn, yu mro wybrenydd,
Yn dal glas-gronglwyd y dydd
A’i awel yn rhoi bywyd
Drwy’m bron ddigalon i gyd.

Nid oes dwyn na chlogwyni,
Na chreigydd llonydd, na lli;
Un rhaiadr yno’n rhuaw,
Nes siglo’r dref ddysglaer draw.

Gwyrdd oll yw gwawr ei ddillad, -
Uchol yw goruwch y wlad;
Twr a wnaeth Natur hen yw,
Adail y duwiau ydyw;    
Oh! dyma olygfa lawn,
Cenyf, ar Ddyffryn Cynawn.

Canaid yw Dyffryn Cynon
Gan wawliau’n mhob lliwiau llon:
Rhanu dydd i fryn a dôl,
Wna’i ffwrnesi ffroenysol;

Mae cyrau’r deau ar dân,
A’r ymyl Aberaman;
Hafal, o’r Llwydcood hefyd,
Yw gwedd y gogledd i gyd;
Gwawr Hirwaen sy’n goreuro
Holl nef rydd gorllewin fro:
(x486)Ac unwedd yw gogoniant
Wybr y nôs o Abernant;
Bob hwyr mae nôs y dwyrain,
O’i herwydd, fel cyfddydd cain.

Edrych ar y drych eirian,
Wele fl, o uchol fan,
A’r ddu nos - mor arddun yw!
Ai gwlad yn ffaglu ydyw ?
Miloedd o fflamiau melyn,
Du, llwyd, glas, gwelwlas a gwyn,
A welir ar yr un olwg
Yn chwarau drw’r muriau a’r mwg:
 Ail ydyw’r fflamwawr ledan,
I urddas dinas ar dân!

Oh! dyma fan! dyna fyd,
O wyddor a chelfyddyd!
Ni thaw gweithiau ëang!
O ddyn byw, clyw! clyw eu clang!
Tonc, ar ol tonc, a chloncian,
Su a chwyth, a llais a chân,
Twrf, trwst, ffrwst, ffroch, crocb, roch, rhu,
Yn ddiattal o ddeutu!

Odynau geir yn dân gwyllt!
Ffwrneisiau’n ffrio’n iaswyllt;
A’r bywiog werthivyr buan,
Grug wrth grug, fel morgrug mân,
Yn chwarau’r barau ar byllt,
A’r toddion poeth, tueddwyllt
Edrych arnynt! troi, chwyrnu
Mae preiffion olwynion lu
Dacw liwiog ’staciau lawer
A’u penau wrth sodlau’r sêr!
Ar dalcen y wybren werdd,
Crogi mae caer o agerdd;
(x487) A mwg sydd yn ymagor,
Drwy bob parth, fel mygdarth môr.

Ac yn esgyn gan ysgwyd,
Uwch y llawr yn dorchau llwyd.

Ar y gwaelod mawr gwelir, -
Yn croesi neu’n tori’r tir,
Heolydd hir eu helynt,
A’r meirch tan yn gwan drwy’r gwynt
Yn nes hwnt, mae’r Camlas hir,
Ar hyd y sarniol frodir,
A’r Orsaf, er mawr arswyd,
Yn llawn o beirianau llwyd!
A gwyngil deirmil o dai,
Yu gorwedd yn hir garai?
Tai gwych, nid eiddo’r to gwellt -
Tai a enfyn y tanfellt,
Yn ddi-werth oddiwrthynt -
Tai fel y Garth, nas teifl gwynt.
Tai awyrog, lle taria
Iechyd hoen, a chochwaed da,-
Tai bach, glân, dyddan, diddos,
A’u muriau’n rhaffau o rôs -
Tai hudolus wnaed i deulu
Y mw^n tawdd a’r diamond du.

A cheir bob lle cyfeiriwn,
Y tai ar hyd y tir hwn
Tai da i bona’ bonedd,
A gair mawr i’r gwyr a’u medd,
Am olud lawer miliwn,
Ac hael law or treiglo hwn.

Wele, iesin balasau,
Hyd y cwm, yn ei decáu;
(x488) BAILIS gwyd ei balas càn,
Ar ymyl Aberaman;
Y Gadlys - fendigeid-le -
Llys MORGAN eirian yw e’;
Y siriol Gadlys arall,
Llys ROBERT gu, eirbert, gall;
Glandâr, o’r hawddgar ryddgell, -
Palas WAYNE, pa le sy’ well?
Brynheulog, caerog bob cwr,
Llys WILLIAMS, ein llesiolwr;
Blaengwawr, rhiwiogfawr drigfan -
Difeius lys DAFIES 1ân;
Ac anwyl Ynyscynon,
Llys mawr, mawr, ein llenawr llon,
ALAW GOCH, heulog ei wên -
Gwron yw, sy’n garn awen;
Ty^’r Gamlas, addas heddyw,
Hoew lys hardd ein LEWIS yw;
A’r Ty^ Mawr, pert, a mirain -
Llys FOTHERGIL gynil, gain;
Cu yw trem y Llwydcoed draw -
Haul hwyrnawn tawel, arnaw -
Adail ardderchog ydyw,
Llys ein Rhys feddylgar yw;
Y Palas newydd dyddan,-
Gogoniant y glwysbant glân -
Llys WILLIAM WAIN gain ei gêd,
Y gwron llawagored;
A gwelir ar y gwaelod,
Dan swynol henafol nôd
Y Fedw Hir - fel gwynfa deg.
Llys EDWARDS yw’r lle sywdeg.
Dyna b’lasau golau y gwyr,
Sy’ yn uchel fasnachwyr;
(x489)Glo a haiarn - meib gloewach,
Nis ca neb yn mysg un ach.

Ond, pwy a enwa haner,
Gwrthddrychau y parthau pêr, -
Pob twyn, pob llwyn, pob llanerch,
A phob math o dwmpath derch, -
Heolydd, pontydd, pantiau,
A nentydd y cymydd cau, -
Tlysni y gerdd gwyrddion -
Amgylchoedd y llysoedd llon, -
Y dolydd ar gweunydd gwych,
A’r afon Gynon geinwych,
Islaw, ar y fro frâs, lân,
Orwedd fel cadwyn arian?
Ni enwa neb mewn unawr,
Y byd o gelfyddyd fawr;
A’r llwyddiant - disiomiant, sydd
Yn mbob hoen, yma beunydd.

Bert Awen, mae’n bryd tewi,
Can’s gormod i’th dafod di
Yw canu i Ddyffryn Cynawn,
A rhoi i’r lle ei fawrair llawn
Gad y dasg i gyd o ’d ol.
I ryw ddawn fwy arddunol.

Ond daear hedd Duw a’i râd,
Ac ardal y cydgordiad -
Lle o addurn a llwyddyd,
A fyddo tra byddo byd.

 

(x093) ENGLYN I BONT UN-FWA PONTYPRIDD, AR GYRHAEDDIAD El CHANT OED.
ADEILAD un-fwa uwch dyli’ - Taf,
Pont hardd, llawn mawrhydi,
Cant oed, yn awr, wyt ti
Cant arall it, cyn tori.


(x587) GARIBALDI.
Gwr bold yw GARIBALDI, - cawr yw ef;
Rhagddo y cryn Sisili:
Ei ddyrnod, pan ddaw arni,
Gryma sedd ei gormes hi.



(x480) Y GELYNEN
O! LANED yw’r Gelynen, - mae hi’n werdd,
Pan mae’n wyw bob coeden:
Hed gwiw hâf o’r goedwig hên,
Tra gyda hi trig Eden.

Nid gwenu’n hyd y gwanwyn, - ond gwena’n
Deg iawn drwy’r holl flwyddyn -
Gwenu, nes denu pob dyn,
I fawrygu’i haur-frigyn.

Digalon ydyw Gwyliau - Nadolig,
A dwl yw’n haneddau,
A sarug, bob drysorau
Y llwyn hwn i’w llawenhau.

Ys hygar ydyw, - prif lwyn cysegredig
Drwy’r oe’soedd hen oedd i Sadwrn eiddig, -
Oedd acw yn waedlyd au-dduw cenedlig;
Ond, w’e’le ei grawn a’i dail gwyrenig,
Wedi hyny’n Brydeinig - addurn ddaeth,
A glan hudoliaeth Gwyliau Nadolig.

Gwasg aur hon sy’n gwisgo’r hâ’, - yn nghanol
Yr anghenus aua’;
Troi’i gwrid na’i newid ni wna,
Er corwynt, rhew, ac eira.

Felly gwir gyfeiflgarwch - ni newid:
Un yw ei brydferthwch;
Yn nos drom ein heisieu trwch,
A dydd ein hannedwyddwch.

A’i ffawd fu’n trwsio’i phen - y gaua’ oer,
Fwy nag arall goeden?
I’m rhoi prawf, bod Duw mae’r pren -
Addolaf dan ei ddeilen.
 
  
  

(x584)   GWILYM MAESALEG.
Finau, cyn myn’d i’r fynwent, - i WILYM
MAESALEG, ro’f adfent;
Un yw, o deulu’r hen dalent,
Oesau yn ol, a swynai Went.

GWILYM, wyt fardd o goleg - wybrenydd,
A bryniau MAESALEG;
Bardd ystwyth y “Tylwyth Teg,”
Awenydd y delyneg.

Wyd frodor o’r wlad hyfrydwedd, - brodor
 O’r baradwys harddwedd;
Gweryd yr hen, lle gorwedd
IFOR HAEL yn fawr ei hedd.

I’th wrandaw’n geiriaw mawl goror, - gwlad Went -
Gwlad wych bardd a cherddor;
Nefawl ysbrydion IFOR,
A NEST, ddaw ar bwys dy ddôr.

Gwladgarwr disigl, diguro, - ydwyt,
Wedi’th eni’n Gymro;
Gwaedi’th fron cyn gwedi’th fro, -
Cywir iawn, ceri hono.

(x585)
Wyt gyfaill ystig hefyd, - dy olwg
Dd’wed haeledd dy ysbryd;
Mae’th ddwyfron esmwyth, hyfiyd,
Yn wlad o gariad i gyd.

WILYM, mae’n rhaid i’m farwelio - weithian;
Y daith sy’n ol etto
O’th ddiwyd fywyd, a fo
Yn hedd, a Duw yn eiddo.

 

(x237) AWDL AR LYS IFOR HAEL (RHAN)

YR AWDL.


Y CYNWYSIAD. - Ymsyniaeth y bardd uwchben adfeilion "LLYS IFOR HAEL." Nawdd - gartrefle y bardd DAFYDD AP GWILYM; serch yr unrhyw at ei gariadferch Morfydd Safle Gwern
-y-Gleppa, yn nghyd a'r holl olygfeydd amgylchynol. IFOR a DAFYDD yn codi ffenestr y Llys, i gael golwg ar brydferthwch ac ardderchogrwydd toriad gwawr a chodiad haul. Fod yr haul yn codi - yr Wy yn llifeirio -yr awel yn symud — a thelyn mewn cywair - a holl anian yn myned ar ei hynt fel yn nyddian DAFYDD, NEST, ac IFOR, - ond pa le y maent hwy ? Y bardd yn hiraethu ac yn galaru nad allasai fod yn gyfranog o fwynianau, breintiau, parch, ac anrhydedd y bardd trwyddedawg yn Llys IFOR HAEL, a phalasau y pendefigion a'r tywysogion Cymreigyddion yn yr oesoedd gynt. Diniweidrwydd a buddioldeb y pleserau a gynelid yn Llys IFOR HAEL, a llysoedd ereill cyffelyb. Galar y bardd am ddiflanedigaeth a dyspeidiad y cyfryw ddifyrion. Myfyrion y bardd uwch adfeilion Gwern-y-Cleppa, yn nghyd a darluniad o gyfnewidiad ac anghyfanedd - dra yr unrhyw yn bresennol. Y bardd yn dymuno cael gafael ar rhyw wrthddrych a berthynai i oes a bywyd 1FOR, i ymholi ag ef o barth y pethau a berthynent iddo. Y bardd yn cael gafael ar gareg o'r hen adfaelion, a hono yn rhoddi iddo hanes gwedd, llun, a moes IFOR - ei rinweddau, ei gampau, a'i arferion. Desgrifiad o wledd yn Llys IFOR HAEL - y gwesteion - y gwledd - lestri -y delyn - yr anrhegion - yr iaith - Gwenonwy - yr awen, &c. Galar y bardd yn ngwyneb yr agwedd bresenol ar lenyddiaeth Gymreig - darostyngiad ei charwyr -ymadawiad ei gogoniant cyntefig. Disgyniad etifeddiaethau IFOR i Deulu Tredegar, yn gystal a deuparth o'i ysbryd haelionus hefyd hyny yn rhoddi bywyd i obeithion y bardd. Mawlwers i Deulu Tredegar.


WELE! ynte, ' r fangre fawr,
Lle y safai Llys IFAWR!
Y fan sydd heddyw'n fynwent

A bedd, cyn - ogonedd Gwent!


Oes leuerawl Siluria* -
oedd hono,
Pan gai'r ddawn gydwledda
A bonedd, a hi'n bena'
Ar fyrddau hir IFOR dda.


*Siluria - enw Lladinaidd am yr enw Cymreig - Essyllwg.

(x238)
O, le hapus! Wern y Clepa - oeddit,
Yn nydd cynefindra
Telyn, awen, hedd, a gwledda,
A’th neuadd deg, ac a’th nawdd da.

O, na f’ai môr yn fy mhen, - fi wylwn
Filwaith uwch tynghedfen
Y lle fu’n babell awen, -
Castalia* hen Walia wen.

(*Un o’r ffynonau awenyddol, o ba rai y byddai y beirdd yn yfed eu hysbrydoliaeth, ac yr oedd Gwern y Cleppa yn ffugyrol felly i Ddafydd ap Gwilym.)

Lle bu DDAFYDD,
Bêr awenydd - rhwng y bryniau,
Yn gwau’r cywydd
Mawl i’w FORFYDD - Mewn mêl-ferfau!

Llawer tro bu’n rhodio’r allt,
A’r waen oddeutu’r Wenallt,
A glanau yr Wysg lonydd;
Mown cariad, ar doriad dydd,
A’r awen i’w ben yn bêr,
I’w hymarfer ar MORFYDD:
Ac yno’n hir canu wnai -
Yno’n fynych cwynfanai,
Mewn hiraeth am wên araf -
Seirian-wên ei seren haf -
Hedd-wên ei FORFYDD anwyl:
Ei nefoedd oedd MORFYDD wyl.
“Saith cywydd i’w FORFYDD fain*,
Seth, hoewgorph, a saith ugain,”
A ganodd cyn digoni
Ei serch, wrth ei hanerch hi.

(*Canodd Dafydd ap Gwilym saith ugain a saith o gywyddau i’w gariadferch
Morfydd.)

Ond darfu’r helynt dirfawr,
Mwynhad oedd fel mynyd awr;
(x239) Drwy’r lle llwm trwm yw tramwy -
DAFYDD na MORFYDD nid mwy.

Ofnadwy’r cyfnewidiad
Ar ddiwair Lys hardda’r wlad!
Ei le iachus ar lechwedd
Y Wern, ydoedd fangre hedd:
Yno nid oedd sain yn d’od
O un tref, nac un trafod,
Ond sain yr awel fain fach,
Yn cyfranu cyfrinach;
A’r Ebwy* yn dweyd rhywbeth –

(*Mae yr Ebwy yn llifo ychydig i’r dwyrain o Wern y Clepa, drwy barciau Tredegar)

A’r bardd yn unig wyr beth:
Safai’r awenllys hefyd,
Yn ngolwg Gwentllwg i gyd
Uwch y wlad, uchel ydoedd -
Ei wel’d ef yr holl wlad oedd.
Ei ragfuriau golau, gynt,
Draw o’u huchedd edrychynt,
I lawr, ar gyrau’r holl wlad,
Wnai estyn fel llyn gwastad
0 aber Wysg i’r Ebwy
0 ben yr Hafren a’r Wy, -
Y ddwy Holmes a Chaerdydd hi -
O Feirin draw i Fari;
A llon ymylon y môr,
Ar eu hyd i Gaerodor,
A gwaelod rhydd Gwlad yr Haf,
O’r traeth i’r Pentir* eithaf.

(* Lands End. Ar ddiwrnod clir gellir gweled yr holl leoedd yn rhanol a rhai o honynt yu gyflawn, o’r man lle a saifai {sic}, “Llys Ifor Hael.”)

Diau, IFOR a DAFYDD
Ar lawer mad doriad dydd,
(x240) Yn moreu hoff dymhor ha’
Godent, ac a aent gyda
Mil o deimladau melys,
A llon, i ffenestr y llys -
Wynebai, egorai’n gain
A chlir, ar dir y dwyrain,
I wel’d y wawr yn dadgloi dydd -
Taro’r miwsig hwnt trwy’r meusydd;

A’r ehedydd yn rhodio - palmentydd
Cynhes wybrenydd - canu soprano
Breilw a gwellt yn berlau gwyn,
Ar moelydd yn aur melyn!

Ei gwedd oedd ogoneddus - yn marchog
Hafren enwog a Moel-y-farn* hoenus:

(*The Malvern Hills.)

Tani’r oedd Gwent yn rhuddaur -
Y Wern oedd fel bryn o aur!
Aur yw’r oror oreuryw -
Tir a môr sy’n borphor byw!

Gwelent yr haul ar glau hynt rydd, - ’n dyfod
O’i ystafell derydd,
A’i oleuni ysplenydd - yn disgyn,
**’N rhubana, melyn ar ben y moelydd!

A’i wyneb mewn llawenydd - yn porthi
Ein byd da ni a bywyd o newydd.
Mae aniau etto’n myned - ar ei hynt,
A’r haul mawr, gogoned,
Yn awr, fel cynt, - mor llon mor ffyddloned,
A bryn a moel bob boreu’n ymweled;

Ond hwy’r teulu, “Hae!" ar gael i’w gwilied,
Oddiar gaer, non o ddor egored
Nid y’nt mwyl - maent hwy mewn tir,
O’i waelod, haul ni welir.

(x241) Treigla yr Wy a’r Ebwy rhwng cribog,
Foelydd neu dwynydd i’r môr amldonog;
O gol y bryniau yr Wysg hwyllrenog,
A megys cynt ar ei hynt orfreintiog;
Ond IFOR, wâr drugarog, - dan dywyll
A duon esgyll bedd, nid yw’n ysgog.

Chwa y lwyd wawr drwy yr ucheldiroedd
Sua’n ofer wrth groesi y nefoedd;
A thrwy awyr Gwent pe rhuthrai’r gwyntoedd
Ni chlywai IFOR eu huchel lefoedd;
Huna yn drwm, trwm fol y trumoedd,
Anian a wyla’n ei tharth a’i niwloedd -
Uwch mud feddlawr IFAWR, oedd - mor hoffus
O’i llais hyderus drwy y llys-diroedd.

Llais natur sydd uwch y llys hwn etto, -
Mae telyn anian ei hunan yno;
Ond alaw nawnol y delyn hono
Ddydd y wledd geid, sydd wedi llwyr beidio:
Weithian mae’n hongian, a’i cherdd yn angho!
Ar benau helyg yr Ebwy’n wylo!

Dyma’r Wern ddedwydd lonydd nwch glanau,
Môr Hafren fwyn, yn nghysgod gwyl dwynau
Lle bu i DDAFYDD drwy y blynyddau,
Nawdd a dyddanwch a chynydd doniau;
Wele’r porfaog ddihalog ddolau
Y creig-wregysog, chwyddog lechweddau -
Y dawel Wenallt a’i banadl-lwynau,
A thir iachus y milfil gwrthddrychau
Wele gaeau fyrdd, a’r golygfau - gynt
A orwychynt ei gain feddylddrychau.
Wele, hefyd y glir, fywiog afon,
A’i dw’r di-stwr, fel Euphrades dirion,
Yn llithro i wared rhwng llethrau hirion,
Dan gysgod tawel y gwydd uchelion;
(x242) Lle bu IFAWR yn fawr ei ddifyrion,
A’i NEST fein-ael dan ddidrist haf-hinon,
Heb boen na gofal calon, - yn ymdaith
Ganwaith a milwaith ar ei hymylon.

Dyna’r hedd-lanerch - dyna’r ddol lonydd,
Dacw’r glyn cerddgar lle croga’r creigydd;
Dyma’r twyn tawel, yn awel newydd
Y boreu hardd, a llawer byr hwyrddydd,
Y gwelwyd hwy’n rhodiaw’n llawn llawenydd,
Mor wyeb eu golwg yn mreichiau’u gilydd.

Eu horiau, fel awyren - nefol hynt,
Ymaith hedynt ar esmwyth aden!
O, ddolydd hyfryd! O, ddiail wiwfro!
Os yw’r hen fwynhad wedi’ch llwyr ado,
A’r hen awenydd yn ei fro’n huno,
Yn nhrem hen natur mae’r awen eto,
O’ch hamgylch ogylch, fyth, fyth yn trigo!
Min nôs arddun, fy hun, pan wyf yno,
Pryd hyn ysbryd hono, - fel chwa araf,
A glywaf, tybiaf, yn symud heibio!

O, ysbryd Awen, addien y dyddiau
Gynt a welid ar dynghed Gwent olau,
Pan oedd ei mwynhad a’i phor deimladau
Yn llifo’n bodd rhwng ei holl fynyddau,
Rho yn awr, o’th rin orau, - drem helaeth
I fewn i doraeth ei hen fwynderau.

O, dir! dy hyfryd oriau - a ffoisant
Hoffaswn gael chwarau
A’u hadenydd, a’u hol-gudynau,
A’u dal yn ol ar un o dy ddolau
Hoffaswn ddal rhyw un o’r ffo-oesau,
A myned i waered i’w mwynderau;
(x243) Yn wir, car’swn fwynhau, - o gyfiawnder
Diniwaid bleser, dawn dy balasau.

Yr oedd y pleserau hyn
A gwir hedd wrth eu gwreiddyn;
Difyrion tawel, melus,
Yn adfer llonder drwy’r Llys;
Do’i, o alaw y delyn,
Adfywiad i deimlad dyn,
A chodiad i serchiadau - ei natur,
O ymwneuthur ar dwym awen, hithau.

Ond, aeth am byth! y dwthwn -
Went dêg - a’r gogoniant hwn,
Oddiarnast. O! ddiwrnod
Uchel oedd am barch a chlod,
I’r awen oedd g’lomen glau,
A’ harosiad yn ngrisiau,
Llysoedd tawel uchel wyr,
A’i nawdd yn serch boneddwyr.

Pwy nad wyla
Gwern y Clepa,
Hen nyth ola - hoen a thalent, -
Gardd rosynaidd,
Baradwysaidd.
Y ddawn fwynaidd, - heddyw’n fynwent!

Yno dyn i syndod ai,
Ei fryd, dan friw, a oedai
Goruwch bedd y mawredd maith,
Fu yno’n dalgryf unwaith.

Ow’r! olwg ddieithr welir -
Syn yw y wedd  - nos yn wir!
Yn lle’r llys uwch y llawr llon,
Ni welir ond adfeilion!
(x243) Ow! pa le mae’r rhodle rhydd
Gysgodid gan gysgawdwydd
Harddwawr, llon, yn ngerddi’r llys -
Yn yr unlle a’r crinllys
Nifeiriol, a’r anfarwaint -
Blodau sy’n mhwysiau’r saint.
Pa le mae’r eiriol golau - gwyn ei wallt,
Oedd dan gnwd o berlau,
A’i wên wyl yn llawenhau,
Afrywiog Fawrth foreuau?

B’le mae’r banciau
Aur-ymylau
Gwenai blodau - gwyneb-lydan
B’le mae’r perthi
Lle bu llwyni
Rhos a lili – ’n res oleulan?

B’le mae’r ddidrais, lednais law
Trwy ei Hoes fu’n eu trwsiaw;
A chipdori wedi hyn
Y diwair deg, flodeuyn?

Y law hono sy’ lonydd
Islaw’r don er’s llawer dydd!

O law anwyl, i weini - i filoedd, -
Elusen ydoedd, ond pa les nodi
Hyn oll, mae llwyr anallu
Yn ei dal mewn beddrod du!

Ni welir fwy na’r niwloedd
Byr eu hynt y boreu oedd,
Na’r gerddi na’r llwyni llon,
Sawyrent fel bro Saron,
Lle’r ydoedd fel llawr Eden,
Wely ha’ i’r lili wen –

 

(x585) MARWOLAETH GWILYM ILID.
(PARHAUEDIG O DUDALEN 408)
Rhywfodd neu gilydd aeth y prawfleni gynwysent y ran olaf or alarnad
ac oblegid hyny methwyd a’i gosod i mewn gyda y ran gyntaf; ond
daethpwyd o hyd i’r ran ag oedd ar goll; a meddyliwyd y buasai, ei gosod
yn y man hwn, yn well na bod hebddi o gwbl.

FARDD ILID! ei awen oedd ffrwd fythlifeiriol -
Ffynonell, yr hou Did a’i ’a hesp unrhyw awr;
Rhyw ffrwythlawn ffigysbren, a’r awel yn wastad
Yn ysgwyd ei ffrwythau’n gafodydd i lawr;
Efe ni segurodd - dal wnaeth i wrteithio
Y ddawn a feddianodd yn faith a diflino
Efe a weithredodd oddiar y ffydd hono, -
Fod maes i bob llafur, a’r wobrwy yn fawr.
Iddo ni roddwyd y dalent farddonol,
Yn ofer fel llawer o ddynion y byd
Can’s ef, trwy ddiwyddrwydd diymbaid a’i dyblodd, -
Ei awen ysgodai, ei ’scrifell o hyd;
Ah! ’r dydd difyr hwnw, dechreuodd ei yrfa -
Lenyddol yn mhlith Cymreigyddion Tre-oes;
A’r oriau a dreuliwyd hyd feusydd bro ILID,
Yn mhell i gysgodau’r gorphenol a ffoes.
Mae ef wedi myned, ond mae ei gyfeillion,
Fu’n cydgyfranogi o fwynder y pryd -
(x586)Ein HARAN deimladol a’u HOWELLS feddylgar,
A’n MYFYR dderwyddol yn aros o hyd.

Ond, Ah! y maent hwythau fel llongau’n y pellder,
Ag ol yr ystormydd yn drwm ar eu gwedd;
Yn prysur ddynesu yn mlaen tua’r porthladd, -
Cyn hir hwy angorant yn nh’wyllwch y bedd.

**’R wyf finau yn canlyn fy mrodyr barddonol;
Myfi ni chaf ganu eu marwnad yn hir
Ond eraill a ganant fy marwnad i minau,
Ac fe allai ei gwlychu a deigryn bach clir.

Yn iach it’, fy mrawd! yr wyt weithiau yn canu,
A’r destyn oedd hoff i dy awen cyn hyn
Os yma y cenaist dan boen a than gystudd,
Mae heddyw’n wahanol tu arall i’r glyn.

Nos dywell o gystudd a welaist o’r ddaear,
Ond daeth dy foreuddydd o’r nefoedd i lawr;
A’th yspryd mewn môr o oleuni digwmwl,
Ddiflanodd o’n golwg, fel seren y wawr.

(x587) Y MEDDWYN.
Rhyw adyn, yn methu rhodio - ’n un modd
Yw’r meddwyn, er ceisio;
Yn yr heol gwna ruo;
Neu e’ gân fel dyn o’i go.

Tyngu a rhegu’n anrhugar - a wna,
Gwawdio nef a daear;
Gablu, rhyfygu’n ei far, -
Rhwygo’i wisg-herio, gwasgar.

Cauad ei ddeint - codi ei ddwrn, - brochi,
Noethi braich, ac arddwrn -
Rhwysgo i dori asgwrn,
Rhyw un sydd gerbron ei swrn.

Taro ei wraig - troi a rhwygo - pobun,
Pybyr y mae’n brolio;
Ato ef rhed plant y fro,
Ar ei wendid i wrando.

Newynllyd ei groen- llwyd ei grys, - bratiog,
Heb rot* dan ei wregys (*Fourpence)
Maglog lyfoerion myglys,
Liwia’i farf, ei wefl, a’i fys
.
Am dro bydd yu ymdrybaeddu, - ’n y baw,
Dan y berth, ’n ol cysgu;
Yn fawr ei syched foru,
Fe eilw’i beint, a bydd fel bu.

(x455)
TELYNEG AR BRIODAS ARDALYDD BUTE A MISS GWENDOLINE HOWARD O GLOSSOP.
ARDALYDD BUTE enwog, gan bwy y mae bri,
O radd a theilyngdod yn debyg i ti?

Pwy hefyd mewn rhinwedd yn debyg i’r hon
Dderbyniaist di heddyw i’th fynwes mor llon?
Chwareued telynau, dadseinied y clych,
Poed hynt yr awelon, drwy goedwig a gwrych,
Yn gân a gorfoledd am undeb mor wych.
 
Cymreig yw ei henw - GWENDDOLEN fwyn, fad;
Nid rhyfedd ei gwel’d, ynte, ’n troi tua’n gwlad
Amgylcher ei llwybrau â bendith pob oes,
A boed fol ei henw mewn meddwl a moes;
Ar lan y Dâf loew boed farw, boed fyw,
Heb ddim ond hyfrydwch yn ngolwg a chlyw,
A’i serch ar ei theulu, a’i phwys ar ei DUW.

BUTE anwyl! nid heddyw yn unig yw’r dydd
A greaist i loni gororati Caerdydd;
Pob adeg o’th fywyd, pob diwrnod o’th oes,
Sydd destyn llawenydd, a theilwng o’th foes;
Mae ôl dy haelfrydedd tu fewn i bob dôr,
Tra’n estyn y ceir dy weithredoedd, fwyn bôr,
Yn llinell ysblenydd o’r mynydd i’r môr!

GWENDDOLEN! parch Glossop* - o’th hôl yn llif daen,

{*Cartref ieueuctyd y Briodasferch.}

A groesaw Caerdidi’n darandwrf o’th flaen;
A pharch ein BUTE, yntau, sy’n gwisgo pob llun,
O draethau Môr Hafren hyd Ynys* ei hun;

{*Ynys Bute.}

Chwareued telynau, dadseinied y clych,
Aed chwyth yr awelon drwy goedwig a gwrych,
Yn gân a gorfoledd am undeb mor wych.

(x456)
Pob llwydd a’u dilyno, a’u hâd fyddo’n fil,
Na weled Gwlad Forgan fyth dranc ar eu bil -
Ac, O! bydded iddynt, yn Nghastell Caerdydd,
Gyd-dreulio eu heinioes mewn cariad a ffydd!
Ar lan y Daf loew b’ont farw, b’ont fyw,
Heb ddim ond hyfrydwch yn ngolwg a chlyw,
A’u serch ar eu gilydd, a’u pwys ar eu Duw.

PRIODAS YR ARDALYDD BUTE A’R ANRHYDEDDUS FEISTRESAN GWENDDOLEN (GWENDOLINE) HOWARD, GLOSSOP.
Anerchiadau a argraffwyd ar y Bwäau ar Pilerau Celfyddydol a godwyd mewn gwahanol fanau yn Nhref Caerdydd, ar Ddydd eu priodas, Ebrill 16, 1872.

Hawddamor, BUTE! drwy wlad a thref,
Hawddamor, BUTE! hyd entrych nef,
I dreulio’th einioes bur i ben,
Dan g’lwm ac arno ddolen-wen.*

(*Dolen-wen h.y., Gwenddolen - enw y Briodasferch)

Hawddamor! can’s heddyw y decaf o bryd,
A’r haelaf o galon, a g’lymwyd yn nghyd.

Hawddamor, GWENDDOLEN! i fwyniant ein tref,
Cai wel’d fod ein calon mor ddidwyll a’n llef.

Hawddamor, BUTE anwyl! mor brydferth, mor llon,
Yw lili bro Glossop i’w gwel’d gylch dy fron.

GWENDDOLEN! tyr’d, groesaw! mae’n eiddot dri thwr, -
Dy Gastell* - ein Calon - a chalon dy Wr.

(*Castell Caerdydd.)

GWENDDOLEN fwyn! Cymreig yw’th enw,
Poed dy galon fel dy enw.

GWENDDOLEN fwyn! GWENDDOLEN fad!
Pob groesa’w it’ i Gymru wlad;
Mae’th enw cu’n Gymraeg glân, gloew,
Poed dy anian fel dy enw.

(x457)
Can’ groesaw, GWENDDOLEN, i’th newydd ddwy Stâd,
Sef calon dy Arglwydd a chalon ein gwlad.

Heddyw cydglymwyd gan Gariad a Ffydd,
Brydferthwch bro Glossop,* a Mawredd Caerdydd.

(*Cartrefle ieuenctyd y Briodasferch.)

 
 
(x301)
MAWLGERDD I RICHARD FOTHERGILL, YSW., RHEOLWR GWEITHIAU ABERNANT A’R LLWYDCOED.
PWY yw y gwladgarwr gwir deilwng o foliant -
Ai’r milwr twymfrydig, dewrgalon, a gaed,
Ar rwysg a chreulondeb yn selio’i ogoniant,
A phorthi ei gleddyf ar anrhaith a gwaed
Ah! na, nid efe yw y teilwng wladgarwr,
Eithr hwnw sy’n ystyr dedwyddwch y gweithiwr,
A’r lles cyffredinol - sy’n sathru’n ei gryfdwr,
Drais, gormes, a llygrodd, a thwyll dan ei draed.

Pwy yw y rhinweddol? Ai pawb a foliennir
Ar golofn a beddrod, a thafod, a thw^r?
Ai’r hwn sy ddysgedig, sy gyfiawn, sy gywir,
A’i holl ymddygiadau cyn llyfhed i dw^r?
Ah! na, nid efe yw yr un gwir rinweddol;
Eithr hwnw sydd hynaws, haelfrydig, tosturiol,
Yn gwneuthur trugaredd a barn yn oestadol,
A ffrwd ei elusen yn rhedeg heb ’stw^r!

Pwy yw’r gogoneddus? ai’r teyrn ar ei orsedd?
Ai’r arwr sy’n cychwyn mewn rhwysg ar ei farch?
Ai’r hwn sydd yn berchen awdurdod a mawredd,
A miloedd ar filoedd yn gwneuthur ei arch?
Y gwir ogoneddus yw’r hwn y mae rhinwedd
Yn gwneyd iddo goron o berlau trugaredd,
Yr hwn nid yw golud, awdurdod, na mawredd,
Na dim ond egwyddor yn sylfaen i’w barch.

Yn nosparth y cyfryw ddynoliaeth oruchel
R. FOTHERGILL enwog sy’n gwneuthur ei le;
Nid comed lenyddol yn fflamio’r bell orwel,
Na seren wleidyddol fawr, fawr, yw efe;
Ond tawel Gaergwydion o ddysglaer rhinweddau,
Gwladgarwr cymedrol yn estyn ei freichiau
/
(x586) TRALLOD.
Os o loes, ar aswy law,
Neu ddolur ar ddeheulaw,
Neu draw, draw, o’r cyfyngder hwn,
I dir eangach y dringwn, -
Os ein lletty ’fyny fydd,
Yn mhen uchela’r mynydd, -
Yno wed’yn, rhyw niweidiol - elfen
Wna chwalfa ddinystriol  -
Daw y ’storm i wneyd ei stôl
Ar wàr y fro awyrol.

Cofiwn, y bryn, er cyfuwch,
Y mae naid y ’storm yn uwch

 




TYNGHED YR IAITH GYMRAEG.             

(x077) yn anhawdd iawn i ni olrhain ystyr gwreiddiol neu honiadol Zeus yn y Rywaeg; ond y mae dyaus yn y Sanscritaeg yn adrodd ei hanes ei hun. Y mae yn tarddu o’r un gwreiddyn ag sydd yn cynyrchu y ferf dyut, ystyr yr hon yw pelydru neu dywynu. Gallai gwreiddair o ystyr mor gyfoethog ac ëang ag ydyw hwn, fod yn gymhwysiadol at amryw feddylddrychau: gellid dywedyd am y wawr, am yr haul, yr awyr, y dydd, y sêr, y llygaid, yr eigion, a’r ddôl, eu bod yn ddysglaer, tywynol, gwênol, blodeuog, dysglaer; ond yr iaith arferol a sefydlog India, y mae dyu, fel enw, yn arwyddo awyr a dydd. Cyn i hymnau henafol y Veda ddadlenu i ni ffurfiau cynaraf yr iaith a’r meddwl Indiaidd, o’r braidd y cydnabyddid y gair dyu fel enw duw Indiaidd, - ond yn unig fel yn fenywaidd, ac fel y term adwaenedig am awyr.

Er fod yr enw uchod agos yr un ffurf yn mhob iaith, ac yn eiddo pob iaith, megis: eto mae yn rhaid fod y gwreiddyn oddiar ba un y tarddodd yn aros yn mysg rhyw un iaith yn rhywle; nis gall pob un o’r ieithoedd uchod fod yn berchen ar ei wreiddyn. Yn awr, yr iaith hono yn mha un y gallwn olrhain ystyr ei wreiddair heb drais na gorfodaeth a ddylai gael ei ystyried a’r hawl fwyaf cyflawn iddo. Nid yw y drychfeddwl a gysylltir â’r enw dyaus yn y Sanscritaeg yn cynwys mwy o briodoldeb darluniadol o’r gwrthddrych a gynrychiola na’r enw Cymreig Duw. Os ystyr y gair Dyaus yw pelydru, tywynu, mae ystyr y gair Duw yn fwy athronyddol, cynwysfawr, a pherffeithiach fyth. Y mae w yn nherfyniad amryw o wreiddeiriau Cymreig yn gwrthdroi ystyr dosran ddechreuol y gair; megys gwêdd-w, h.y., sefyllfa groes i fod dan y wedd neu’r iou briodasol: heb fod dan y wedd - gweddw (widow.). Marw - mar-w; ystyr mar yw bywiog, megys yn y ddaear a enwir marl, a marlbêl (marble). Mar-w, ynte, yw sefyllfa hollol groes i sefyllfa fywiog. Ystyr y gair Du-w, gan hyny, yw peth neu sefyllfa hollol groes i dywyllwch (Du). Du-w - h.y., goleuni. Mae yr enw Cymreig ar Dduw yn myned yn mhellach yn ei ystyr na’r enw Dyaus yn y Sanscritaeg, o gymaint ag y mae achos yn myned y tu hwnt i effaith: pelydru, tywynnu, yw ei ystyr yn y Sanscritaeg, ond goleuni yw ei ystyr yn y Gymraeg. Nid yw pelydru, tywynu, ond effaith rhyw achos; a’r achos hwnw yw goleuni; a goleuni yw ystyr y gair Duw.


TYNGHED YR IAITH GYMRAEG, YN OL BARN Y SAESON.
UN ffaith fawr ac anwadadwy am yr hen iaith Gymreig yw ei bod yn ymluosogi yn fawr ar lyfrau, eithr yn anamlhau ar dafodau. Pa beth yw ei sefyllfa tua chymydogaeth calon y genedl nid yw mor eglur,
(x078) oddieithr i ni allu barnu oddiwrth frawddeg hono sydd yn tystio mai “o helaethrwydd y galon y mae y gemau yn llefaru.” Gan nad ydym mewn un modd am dristâu na chythryblu calon ein ieithgarwyr, nac am ddirgymhell ein opiniwn, ein credo, nac ein athroniaeth arnynt, ond cyn belled ac y byddent yn cydweled a chydamgyffred pethau eu hunain; yr unig gymwynasgarwch ag ydym yn ei ddysgwyl oddiar eu dwylaw yw fod iddynt gydnabod a derbyn y gwirionedd, gan nad o ba gyfeiriad bynag y delo.

Yr ydym yn awr yn cynyg i’w sylw ac i’w hystyriaeth farn a thystiolaeth gwr o genedl arall, ac mae y syniadau a gynwysir ynddynt yn ffafriol hynod i’r hen iaith; a dyma fel y dywed y Saxon:

- “Mae yr iaith Gymreig yn awr mewn sefyllfa dra blodeuog. Darfu i dynghed ei chymdoges, y Gernywaeg, yr hen a fu farw drwy esgeulusdod, arwain rhai i dybio y buasai y Gymraeg yn diflanu o herwydd yr un achos; ac yn wir, darfu i Mr. WYNN, llywydd y Gymdeithas Asiaidd, yr hwn oedd Gymro ei hunan, -gyfeirio at ddadfeiliad graddol yr iaith Gymreig, fel prawf o effeithiolrwydd y gyfundraeth anymyrol yn y cyfryw achosion, mewn dadleuaeth ar y pwnc o ddwyn yr iaith Seisonig i fewn yn lle rhai o ieithoedd brodorol yr India. Er ys mwy na chanrif yn ol, crybwyllodd GORONWY OWAIN, yn un o’i lythyron (argraffedig yn y Cambrian Register), ddarfod mewn dadl ar yr iaith Gymreig gyda Chymro arall, i OWEN, cyfieithydd y Juvenal i’r Saesonaeg, - yr impyn drygionus - ddywedyd, a hyny gyda gwawr o foddlonrwydd, nad oedd dim yn yr iaith yn werth ei ddarllen, a’i fod ef yn sicr fod yr iaith Saxonig yn enill tir arni, ac nad oedd ynddo yr amheuaeth lleiaf na buasi wedi llwyr ddiflanu cyn pen can mlynedd. Ond mae digwyddiadau yr amser sydd wedi myned heibio wedi profi fod Mr. OWEN wedi carmsynied! ‘Oblegid er ys mwy na deg canrif,’ medd y Parch W. J. REES, mewn anerchiad a draddodwyd yn 1821 ar ffurfiad y Gymdeithas Gymreigyddol yn Ngwent, ‘oddiar deyrnasiad Offa, yr hwn a wnaeth ei glawdd enwog hwnw er atal ymgyrchoedd y Cymry i’w diriogaethau, nid yw yr iaith Gymreig wedi encilio ond ychydig mewn cymhariaeth oddifewn i’r terfyn, yn neillduol felly mewn rhai parthau yn Ngogledd Cymru: ond mewn rhandiroedd ereill, pan ystyrir y cyfwng hir o amser sydd oddiar fuddugoliaeth IORWERTH Y CYNTAF hyd yn awr, a’r cydgorfforiad agos hwnw gan HARRI Y CYNTAF yn nghyd a’r gefnogaeth fawr a roddwyd i gyrhaedd gwybodath o’r iaith Saesonig, y mae yr olaf wedi enill llai o dir nag a allesid yn rhesymol ddysgwyl. Y mae y Sais, pan y mae yn ymdeithio ar hyd heolydd cyhoeddus y dywysogaeth, yn fynych yn cyfarfod a phersonau sydd yn siarad y Saesonaeg; a’r rhai hyny hefyd ag y mae ganddo achos i’w cyfarch ar hyd y gwestai, y maent hwythau yn alluog, yr un modd, i’w ateb yn y Saesonaeg; ac y mae y boneddigion y mae yn ymweled a hwy yn (x079) siared {sic} Saesonaeg; a’r rhai hyny ag sydd yn galw gyda y cyfryw rai yn siarad yr unrhyw iaith yn ei glywedigaeth; ac oddiwrth rhy’w ffeithiau eiddil fel hyn ag sydd yn dyfod i’w wybodaeth, y mae yn cyfeiliornus gasglu mai y Saesonaeg yw iaith ffynianol yr holl wlad. Nid oes neb ond yr hwn ag sydd wedi preswylio yn hir yn rhanau mewnol y wlad, a chael ymdrafodaeth a’r bobl gyffredin, a all ffurfio unrhyw farn tebyg i fod yn gywir am helaethder yr iaith Gymreig, ac fe gyfaddefa y rhan fwyaf o bobl wirionedd yr haeriad, mai y Gymraeg yw unig dafodiaith fyw, nid yn unig miloedd, ond degau o filoedd, ie, rhai canoedd o filoedd o drigolion y dywysogaeth.” (Cambro-Briton, vol. iii., p. 229).

Nid yn unig y mae yn dal ei thir yn yr Hen Fyd, ond y mae hefyd wedi ymfudo i’r Newydd. Yr oedd MACLEOD, yn ei ragymadrodd i’w Leabhar nan Cnoc, yn ymorfoleddu yn y gobaith, os oedd y Gaelaeg wedi ei thyngedu i farw yn yr Ucheldiroedd, y byddai iddi groesi i’r ochr draw yr Atlantig, yn nhafodiaith fyw llawer mwy nag a’i siaradodd erioed yn Ewrop. Yr oedd CARNHUANAWC yn gorfoleddu ac yn ymffrostio yn gyffelyb, - ei fod wedi derbyn o’r Amerig rhai rifynau o’r cyhoeddiad hwnw a elwir Cyfaill yr Hen Wlad. Ond pe buasai byw heddyw, pa faint mwy fyddai ei orfoledd a’i ymffrost? oblegid y mae yn hysbys mai nid Cyfaill yr Hen Wlad yw yr unig gylchgrawn Cymreig a gyhoeddir yn Amerig. Y mae y cynydd hwn yn myned rhagddo yn barhaus. Mewn hanes am y Wasg yn yr Unol Daleithiau, am y flwyddyn 1861, crybwyllir fod pump newyddiadur Cymreig yn cael eu cyhoeddi yn y wlad hono - amgylchiad ag a ddichon arwain rhyw hanesydd Celtig dyfodol i gasglu gwirionedd y grediniaeth, yr hon a ddelir mor gadarn gan rhai Cymry, fod yr iaith wedi blodeuo ar Gyfandir Amerig er dyddiau MADOG. Ac ar yr un pryd, ceir fod Llenyddiaeth a Gwasg Gyfnodol Cymru ei hunan yn cynyddu yn flynyddol; tra yn y rhifyn cyntaf erioed a ymddangosodd o gyhoeddiad Cymreig, nid mwy nag haner can mlynedd yn ol, yr awgrymid mai o’r braidd y buasai yr iaith yn goroesi y genedlaeth hono. Mae yr Eisteddfodau, ag oedd gynt yn dra anaml, yn awr yn lluosog, ac yn myned yn fwy fwy poblogaidd. Mae y galwad am esgobion a ddeallent yr iaith Gymreig wedi bod yn ddigon croch a grymus i orfodi sylw y Cyfringynghor Seisonig. Ar y foment bresonol, nid yw’r uchelgais gwladgarol hwnw ag sydd mor fynych ar eneuau y Cymry, ‘Oes y byd i’r Iaith Gymreig,’ yn ymddangos ond mewn perygl bychan am anghyflawniad.”


Yn awr, anwyl ddarllenwyr, dyna farn y Sais am dynghed yr iaith Gymreig. Profwch chwithau, ynte, bob peth, a deliwch ar yr hyn sydd dda.



(x092)
Y WIALEN GERYDDOL.
Os bu fy nghnawd yn boenus i’m,
Wrth ddwyn ei llym geryddon,
Ah! dyna pam, ddarllenydd bach,
Wyf heddyw’n iach fy nghalon.
Pwy a wyr pa faint o gystudd,
Poen a thrallod, gwarth a chwilydd,
A ragflaenwyd gan ei cherydd?
Fe wnaeth cerydd y “Wialen”
Asio llawer grymus ddolen,
Yn nedwyddwch ein tydghedfen.
Pa sawl merch ieuanc all’sai fod
Ar lwybrau clod a deall,
Ag sydd, o ddiffyg cynar foes,
Yn treulio’i hoes fel arall?
O! na chawsai’r “Wialen” sefyll
Rhwng ei chalon ieuanc, dywyll,
A phob gair ac ystum trythyll:
Rhoddi ambell gwialenod,
Pan oedd llygad, llaw, neu dafod.
Ond yn esgus gwneuthur pechod.
Pwy wyr sawl adyn heddyw sydd
Rhwng muriau prudd y carchar;
Neu ynte’n alltud prudd ei gell,.
Yn nghyrau pell y ddaear;
Neu yn gorphen ei dynghodfen
O dan boen a gwarth y gro - bron,
A allasai fod yn amgen?
O, na fuasid yn eu guro,
Pan oedd gobaith i’w ddiwygio,
Yn lle gadael - gadael iddo!
Tybiais ganwaith i’m gael cam,
Pan oedd fy mam ofidus
(x093) Yn gollwng y “Wialen” lefn
Ar draws fy nghefn clwyfus:
On pe buasai mam rhy dyner,
I’m ceryddu mewn iawn-amser,
Cawswn gam oedd fwy o lawer;
Pe dygwyddwn weled rhywdro,
Y “wialen” anwyl hono,
Gwn y gallwn ei chofleidio.

**’R wy’n cofio’r hen ddysgyblaeth lem,
Pan oeddem gylch yr aelwyd;
Pan ydoed y “Wialen”  hael,
Yn cael ei mynych ysgwyd;
Medrodd hon, a ni’n anhywaith,
Do, ein hargyhoeddi ganwaith,
Pan oedd rheswm yn ddieffaith;
Cadwodd ni rhag llwybrau anfod, -
Hi ddiwygiodd ein hymddygiad,
Ae a ffurfiodd ein cymeriad.

Bendigaid wyt, “Wialen” gu,
Wyt yn cenhedlu rhinwedd;
Ae mae’th geryddon boreu di,
Yn tywys i anrhydedd;
Dysgaist i mi lwyr gydnabod,
Hawl ac iawnder, moes a defod,
Ti’m perffeithiaist mewn ufydd-dod;
Boed i’r sawl a fo’n dy arfer,
Gael doethineb, pwyll a chleuder,
Fol nad elo’th waith yn ofer


 




Mae’r llyr I weld yn Google Books:

https://play.google.com/books/reader?id=ObIYKxYVDi0C&pg=GBS.PR4&hl=ca

 

Sumbolau:

a A / æ Æ / e E / ɛ Ɛ / i I / o O / u U / w W / y Y /
MACRONː ā Ā / ǣ Ǣ / ē Ē / ɛ̄ Ɛ̄ / ī Ī / ō Ō / ū Ū / w̄ W̄ / ȳ Ȳ /
MACRON + ACEN DDYRCHAFEDIGː Ā̀ ā̀ , Ḗ ḗ, Ī́ ī́ , Ṓ ṓ , Ū́ ū́, (w), Ȳ́ ȳ́
MACRON + ACEN DDISGYNEDIGː Ǟ ǟ , Ḕ ḕ, Ī̀ ī̀, Ṑ ṑ, Ū̀ ū̀, (w), Ȳ̀ ȳ̀
MACRON ISODː A̱ a̱ , E̱ e̱ , I̱ i̱ , O̱ o̱, U̱ u̱, (w), Y̱ y̱
BREFː ă Ă / ĕ Ĕ / ĭ Ĭ / ŏ Ŏ / ŭ Ŭ / B5236ː 
 B5237ː B5237_ash-a-bref
BREF GWRTHDRO ISODː 
i̯, u̯
CROMFACHAUː 
  deiamwnt
A’I PHEN I LAWRː , ә, ɐ (u+0250) httpsː //text-symbols.com/upside-down/
Y WENHWYSWEG: ɛ̄ ǣ æ

ˈ ɑ ɑˑ aˑ aː / æ æː / e eˑeː / ɛ ɛː / ɪ iˑ iː ɪ / ɔ oˑ oː / ʊ uˑ uː ʊ / ə / ʌ /
 ẅ Ẅ / ẃ Ẃ / ẁ Ẁ / ŵ Ŵ /
 ŷ Ŷ / ỳ Ỳ / y Ý / ɥ
ˈ ð ɬ ŋ ʃ ʧ θ ʒ ʤ / aɪ ɔɪ əɪ uɪ ɪʊ aʊ ɛʊ ɔʊ əʊ / £
ә ʌ ẃ ă ĕ ĭ ŏ ŭ ẅ ẃ ẁ Ẁ ŵ ŷ ỳ Ỳ Hungarumlautː A̋ a̋

U+1EA0 Ạ U+1EA1 ạ
U+1EB8 Ẹ U+1EB9 ẹ
U+1ECA Ị U+1ECB ị
U+1ECC Ọ U+1ECD ọ
U+1EE4 Ụ U+1EE5 ụ
U+1E88 Ẉ U+1E89 ẉ
U+1EF4 Ỵ U+1EF5 ỵ
gw_gytseiniol_050908yn 0399j_i_gytseiniol_050908aaith δ δ £ gw_gytseiniol_050908yn 0399j_i_gytseiniol_050908aaith δ δ £ U+2020 †
« »

 
DAGGER
wikipedia, scriptsource. org
httpsː []//en.wiktionary.org/wiki/ǣ

 Hwngarwmlawtː A̋ a̋
gw_gytseiniol_050908yn 0399j_i_gytseiniol_050908aaith 
δ δ
 …..
…..
ʌ ag acen ddyrchafedig / ʌ with acute accentː ʌ́

Ə́ ə́

Shwa ag acen ddyrchafedig / Schwa with acute

…..
…..
wikipedia,
scriptsource.[]org
httpsː//[ ]en.wiktionary.org/wiki/ǣ

---------------------------------------
Y TUDALEN HWN: 
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_029_ceinion_essyllt_1874_detholion_3948k.htm


---------------------------------------
Creuwyd:
Adolygiad diweddaraf:
01 02 2002 08-11-2023
Delweddau:

Ffynhonell: archive.org
---------------------------------------

Freefind.
---
Archwiliwch y wefan hon
Cerqueu aquest web
SEARCH THIS WEBSITE
---
Adeiladwaith y wefan
Estructura del web

SITE STRUCTURE
---
Beth sydd yn newydd?
Que hi ha de nou?
WHAT’S NEW?


Ble’r wyf i? Yr ych chi’n ymwéld ag un o dudalennau’r Gwefan “CYMRU-CATALONIA”
On sóc?
Esteu visitant una pàgina de la Web “CYMRU-CATALONIA” (= Gal·les-Catalunya)
Weø(r) àm ai? Yùu àa(r) vízïting ø peij fròm dhø “CYMRU-CATALONIA” (= Weilz-Katølóuniø) Wéb-sait
Where am I?
You are visiting a page from the “CYMRU-CATALONIA” (= Wales-Catalonia) Website

hit counter script
Edrychwch ar fy Ystadegau / Mireu les estadístiques / View My Stats

 

 

Diben y gwefan hwn yw bod yn ddolen gyswllt rhwng Cymru  a’r Gwledydd Catalaneg, gan roi gwybodaeth ar iaith a diwylliant Cymru i siaradwyr Catalaneg, a gwybodaeth am yr iaith Gatalaneg a’r Gwledydd Catalaneg i’r Cymry Cymraeg. Y Gymraeg  a’r Gatalaneg yw prif ieithoedd y gwefan. Mae rhai o’r tudalennau wedi eu trosi i’r Saesneg ac i ieithoedd eraill