3944k Gwefan Cymru-Catalonia. CEINION ESSYLLT. Rhai o Brif Weithiau Barddonol a Rhyddieithol Thomas Essile Davies, neu Dewi Wyn o Essyllt, Dinaspowis. Caerdydd. Argraffwyd gan D. Duncan a’i Feibion. Yn Swyddfa y “South Wales Daily News.” 1874.


08-11-2023

 

0001 Y Tudalen Blaen Google: kimkat0001

..........2657k Y Porth Cymraeg Google: kimkat2657k

....................0009k Y Barthlen  Google: kimkat0009k

..............................0960k Y Gyfeirddalen i Gywaith Siôn Prys (testunau Cymraeg yn y wefan hon) Google: kimkat096k

............................................ www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_029_dewi_wyn_o_essyllt_01_1272k.htm CEINION ESSYLLT: Y PRIF DUDALEN

 

A red and green flag

Description automatically generated
..

 

 

 

 

 

 

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Catalunya i Gal·les
 

 Cywaith Siôn Prys - Testunau Cymraeg ar y We

CEINION ESSYLLT
Rhai o Brif Weithiau Barddonol a Rhyddieithol Thomas Essile Davies, neu Dewi Wyn o Essyllt, Dinaspowis. Caerdydd. Argraffwyd gan D. Duncan a’i Feibion. Yn Swyddfa y “South Wales Daily News.” 1874.

RHAN 1/4


Y Llyfr Ymwelwyr / El Llibre de Visitants / The Guestbook:
http://pub5.bravenet.com/guestbook/391211408/

a-7000_kimkat1356k
Beth sy’n newydd yn y wefan hon?

A map of the european continent

Description automatically generated

(delwedd 7419)

 

 

Tudalennau 1-150
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_029_ceinion_essyllt_1874_01_3944k.htm

Tudalennau 151-300
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_029_ceinion_essyllt_1874_02_3945k.htm


Tudalennau 301-450
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_029_ceinion_essyllt_1874_03_3946k.htm


Tudalennau 451-588
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_029_ceinion_essyllt_1874_04_3947k.htm

Detholion
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_029_ceinion_essyllt_1874_detholion_3948k.htm

Y testun wedi ei gywiro  mewn llythrennau duon / el text corregit en lletra negra / Corrected text in black type.
Y testun heb eu gywiroi eto mewn llythrennau gwyrddion / el text encara no corregit en lletra verda / Text not yet corrected in green type.

 

 

 

A close-up of a document

Description automatically generated


CEINION ESSYLLT. Sef Rhai o Brif Weithiau Barddonol a Rhyddieithol Thomas Essile Davies, neu Dewi Wyn o Essyllt, Dinaspowis. Caerdydd. Argraffwyd gan D. Duncan a’i Feibion. Yn Swyddfa y “South Wales Daily News.” 1874.

 




Yr eiddoch yn gywir,

Dewi Wyn o Essyllt.

 




ANERCHIAD I’R “CEINION.”

…..


ANERCHIAD ro'f i gynyrchion - awen
Hoew, gref, a ffrwythlon;
O wych haniad - ei "CHEINION,"
Wefra wlad, yw'r gyfrol hon.

ESSYLLT wneir yn dywysog - ein cenedl
Drwy'r CEINION amrywiog;
Awdwr goludog - nid oes genym ni
Hafal i DEWI mewn style flodeuog.

Bardd ystwyth yn ei bryddestau ― hirion,
Cawraidd feddylddrychau, -
Eidal bomgranadau - a mêl awen,
A gwin Eden sy'n llond ei ganiadau.

Cyfoethog, hidlog,* awdlau - ein Essyllt
Sy'n oesol golofnau;
Newidir gofyniadau - gan bob gwr,
Pwy wyr rym awdwr y Pyramidiau?”

Eneidiol ysgrifeniadau - uchel,
Beichiog o resymau;
Eilwaith barn graffus, olau, -DEWI WYN,
Sy'n eu dilyn yn ei haur sandalau.

I'th aelwyd deued detholion -- ESSYLLT-
Y tlysaf fyfyrion-
I'n cenedl dim ond CEINION
Anwylodd ef i'r wledd hon.

Pontypridd.
CARNELIAN.

…..

CEINION ESSYLLT - caneuon oesol - y'nt
Hwy, a thrasylweddol
Farddoniaeth fyw, arddunol,
Ad o hyd fywyd o'u hôl.

Ha! daw o waith Dewi WYN - o ESSYLLT,
(T'wysog Cân ac Englyn);
Hardd welliant i'r gerdd ddillyn
A rhyw le uwch ar ol hyn.

WILLIAM.

…..

In Cambria's fertile field of ancient time-
Rich in the literature of Bards renowned-
Sweet flowers of odoriferous worth are found;
Their fragrance unsurpassed in Eastern clime!
Old Gwalia's muse hath not yet passed her prime:
The ESSYLLT garden, like a gay parterre,
Blooms with perennial grandeur, all as fair,
And gives us promise of reward sublime;
Here glory gilds the gentle poet's page,
And o'er Siluria sheds its lustrous ray,.
To consecrate for aye his deathless name;
That, like a pearl, shall shine from age to age,
Undimmed in radiance, till earth's latest day, --
Thus DEWI WYNN to us bequeathes his fame.

* hidlog, abundantly  LEON.



 



A page of a document

Description automatically generated


RHAGYMADRODD

ANWYL GYFEILLION, -Teimlwn, wrth eich anerch, mai ein dyledswydd
gyntaf yw eich cydnabod gyda y diolchgarwch mwyaf egwyddorol a thrwyadl,
am y nawdd a'r gefnogaeth ydych wedi eu hestyn i ni tuag at gario allan yr
anturiaeth bryderus o gyhoeddi ein Gweithiau Llenyddol.


Yr ydym yn ddyledus am yr amlygiad o'r cariad hwn i bob dosbarth o
gymdeithas - o'r gweithiwr diwydlaw hyd at y pendefig urddasol; ac o ddeiliaid
yr Ysgol Sabbathol hyd at Gadeirtraw yr Athrofa. Meddyliasom unwaith am
roddi cofres o enwau ein tanscrifwyr yn y " CEINION; " ond gwelsom y buasai
neillduo un - tudalen - ar - bymtheg o'i ofod, yn ormod o aberth er mwyn cyrhaedd
y cyfryw amcan.


Yn mhlith nifer ein tanscrifwyr, ac yn mhen y rês, y saif y boneddwr
haelfrydig a'r gwladgarwr twymgalon, GWILYM WILLIAMS, Yswain, o Gastell
Meisgyn, yr hwn nid yn unig a roddes ei enw at y gwaith, eithr hefyd a
gyplysodd yr unryw ag archeb ar yr Ariandy am £ 10, -rhodd na ddarfu i ni
mewn un modd ddychymygu ddim yn ei chylch, llawer llai dysgwyl am dani.

Bydded gwiw gan y boneddwr anrhydeddus dderbyn ein diolchgarwch mwyaf pur a diffuant am ei haelfrydigrwydd digymhar. Y mae genym hefyd yr anrhydedd o ddiolchus goffa enw ei Arglwyddiaeth yr Ardalydd BUTE, yr hwn bendefig urddasol a ddarfu yn rasusol ymostwng i roddi ei enw fel tanscrifiwr at y Gwaith; ac nid hyny yn unig, eithr hefyd, megys preswylydd enwog Castell Meisgyn, a wnaeth yn ddiapeliad estyn in i ei gymhorth materol tuag at ddwyn yn mlaen yr anturiaeth, -haelfrydedd hollol annysgwyliadwy o'n tu ni, eithr am yr unrhyw, dymunem yn y modd mwyaf gostyngedig gyflwyno i'w Arglwyddiaeth ein diolchgarwch mwyaf calongynwysfawr. Yr ydym o dan rwymau mawr hefyd i'r boneddigion haelfrydig hyny o'n derbynwyr a fynasant dalu am eu cyfrolau yn mlaen llaw, pa rai, wrth ymddwyn felly, a arwyddasant y teimlad a'r syniad croesawus a'u meddianai tuag at ymddangosiad y gwaith, yn gystal a'u hawydd am lwyddiant yr anturiaeth.


Y mae dosbarth arall o'n derbynwyr nas gallwn mewn un modd eu hangofio, sef y rhai hyny a roisant y fath roesaw a derbyniad calonog i'n mab ANEURIN ar ei ymweliad a'u hardaloedd ac â'u preswylfeydd, ac a estynasant iddo hefyd bob cymhorth ag a fedrai eu cariad, eu doethineb, a'u dylanwad ei heffeithio, er sicrhau i ni luaws mawr o enwau rhagurol tuag at y gwaith.


Eraill o'n derbynwyr a ymosodasant i gasglu enwau at y gwaith yn hollol digymhelliad, eithr yn unig o'u hewyllys da tuag attom, a dymuniad am ein llwyddiant. У

Hefyd, y rhai hyny o'n dosbarthwyr y buom mor ffodus a sicrhau eu gwasanaeth, ag a fuont bob amser mor ffyddlawn, cyson, a dioedi yn eu taliadau am " CEINION; " nid cynt yr anfonem y Rhanau iddynt, na byddai y tâl am danynt yn dychwelyd, yr hyn a fu yn galondid, hwylusdod, a chymhorth mawr i ni fyned rhag ein blaen gyda yr anturiaeth. Iddynt hwy, ynte, yn nghyd a phob dosbarth arall o'n derbynwyr a gymerasant y fath ddyddordeb

 



A close-up of a text

Description automatically generated


 
 
yn ymddangosiad y " CEINION, " yn nghyd a rhan mor weithgar er sicrhau llwyddiant yr anturiaeth, y dymunem gynyg ein diolchgarwch mwyaf trylwyr a diffuant. Nid yw yn ein gallu i ad - dalu i neb o honynt yn ol fel yr haeddant, nac fel yr ewyllysiem; ond yr ydym yn dymuno ar iddynt gael bod yn dderbynwyr helaeth o wobrwyon melus rhinwedd, a bod hefyd i ffynonellau eu llwydd gael bod yn wastadol yn rhai llawnion, gloewon, a chryf - lifeiriol.

Wel, anwyl gyfeillion, dyma y " CEINION " o'r diwedd ger eich bronau, ond nid heb ein bod yn ymwybodus fod ynddo lawer iawn o wallau, gwaeleddau, a diffygion, megys ag y mae yn dygwydd bod yn nghyflawniadau y perffeithiaf o blant dynion. Y mae ein gwaliau cysodyddol i'w priodoli yn fwy i frys a phwyswasgiad amgylchiadau, nag i esgeulusdod gwirfoddol. Amrai hefyd o'r darnau, er eu bod yn rhai buddugol, a gawsant eu cyfansoddi gan yr awdwr yn mlynyddau boreuaf ei yrfa lenyddol, yr hyn, feallai, a rydd gyfrif am lawer o'r anmherffeithderau a gynwysant.

Bu gorfod arnom adaelllawer o ddarnau allan o'r " CEINION ag y buasai yn well genym eu bod wedi cael ymddangos yn hytrach nag amrai ag y sydd. Llawer hefyd o fân - ddarnau ydynt wedi cael ymddangos ynddo nas gallant fod o un budd na dyddordeb i'r meddwl clasurol; ystyriasom ei bod yn ddyledswydd arnom osod i fewn gyfansoddiadau o'r cyfryw nodweddiad, er mwyn cyfarfod a chwaeth syml a diaddurn meddyliau llai caboledig, yr hon chwaeth sydd yn rhwym o fod yn ffynu yn helaeth yn mhlith nifer mor luosog o dderbynwyr. Ni chynwysa y. " CEINION, " feallai, fwy na haner yr hyn a gyfansoddasom yn ystod ein bywyd; ond gan ei fod wedi cyrhaedd y terfynau gosodedig, nid oes genym le i ychwanegu. Nid yw ei gynwysiad mor goeth, cywir, a gorphenedig ag y dymunem, nag, yn wir, ag y gallasem, be buasai sefyllfa ein iechyd ond caniattau: ac oddieithr i'n teimlad fod etto yn wahanol i'r hyn ydyw yn bresenol, nid ymddengys y byddwn o duedd i wneuthur rhyw lawer mewn ystyr lenyddol byth mwyach. Y mae barn, yr hon a gadarnheir gan brofiad personol, yn ein dysgu mai ein doethineb fyddai ymneillduo bellach o'r maes llenyddol - neu, o'r hyn lleiaf, o`r maes cystadleuol - am y gweddill o'n hoes. Nid ydym wedi dyfod i'r penderfyniad bwn heb deimlo peth galar meddwl, canys, er mer digynyrch a diaddaliad yw y maes llenyddol Cymreig i'r rhai hyny ag sydd yn ei lafurio, etto, yr ydym yn rhwym o gyfaddef ein bod yn caru bod arno; ac yn hoff rhyfeddol o'n iaith, ein gwlad, a'n cenedl; ac wrth ddiweddu ein anerchiad presenol, ein dymuniad yw cyflwyno y " CEINION " i fynwes y genedl hono oddiwrth ba un, drwy ei dosbarthiadau canol - raddol, yn benaf, yr ydym wedi derbyn y nawdd a'r gefnogaeth hono a'n galluogodd i fyned yn mlaen gyda'r anturiaeth bresenol gyda llawer iawn o gysur a llwyddiant. Wrth ddiweddu, ynte, bydded i'n anwyl dderbynwyr, unwaith yn ychwaneg, dderbyn ein diolchgarwch mwyaf dwfndeimladol.

Yr eiddoch oll, & c.,
DEWI WYN O ESSYLLT.

Dinaspowis, Mawrth, 1874.

 
 .

 

 

(x6a) CYNWYSEB

ERTHYGLAU

The Beauty and Excellence of the Welsh Language.....x061

Iaith.....x069

Y Gymraeg - Ei Henafiaeth a’i Gwreiddioldeb.....x076

Y Gymraeg - Tynghed yr unrhyw.....x077

Y Bibl - Ei Lenyddiaeth.....x086

Diarebion- “Neb cyn dloted a’r hwn sy’n meddu arian yn unig”.....x089

Yr Haf.....x099

Addysg Foreuol - Ei Dylanwad ar y Cymeriad.....x168

Y Dyn Balch.....x182

Y Bardd.....x213

Glanau y Mor.....x227

Y Moesol a’r Anianyddol.....x233

Llythyrau Gwyddonol - Y Sugnwynt.....x270

Llythyrau Gwyddonol - Y Gawod Frogaod.....x273

Llythyrau Gwyddonol - Y Goruchion.....x278

Llythyrau Gwyddonol - Y Comedau.....x282

Llythyrau Gwyddonol - Y Ffynonau Foethion.....x285

Y Beirdd Cymreig.....x309

Y Gwynt, neu Gysylltiad y Materol a’r Ysbrydol.....x430

The Death of “Gwen Fach”.....x451

Henafiaeth y Bardd, neu Ragfudiant Barddoniaeth.....x514

 

AWDLAU

Llwyddiant, Mawredd, a Gogoniant Prydain Fawr.....x019

Ar y Flwyddyn.....x108

Llys Ifor Hael.....x237

Ar Ddyn.....x348

Ar Gymru .....x409

Marwnad i’r Gwir Anrhydeddus John Nicholl, D.C.L......x445

Ar Ferthyrdod Stephan.....x458

Ar Ragluniaeth.....x490

Ar Ymweliad y Geri Marwol â Chymru, yn 1849.....x546

 

PRYDDESTAU

Buddugoliaethau y Meddwl Dynol at Natur Allanol.....x009

Y Mynydd.....x171

Prydferthwch.....x189

Y Nadolig.....x574

 

MAWLGERDDI

Richard Fothergill, Ysw......x301

Gwilym Williams, Ysw.. Meisgyn.....x389

David Williams, Ysw., Ynyscynon.....x393

 

MARWNADAU

Ioan Tegid.....x220

Thomas Powell, Ysw......x262

Henry Williams, Telynor.....x269

Ieuan Gwynedd  .....x292

Gwilym Ilid.....x406

Y Cadfridog Havelock.....x437

Thomas Richards, Porthceri.....x505

Gwilym Huw, Llanfair-Caereinion.....x579

 

 

 

A close-up of a list of people

Description automatically generated

(x7a) CANIADAU

Mae’r Gwynt yn Oer.....x063

Y Porthladd.....x066

Y Wialen Geryddol.....x092

Blodau’r Gwanwyn.....x094

Etifeddes yr Aelwyd.....x097

Y Gwallgofdy.....x098

Ofn.....x181

Cariad Mamol.....x187

Diwydrwydd.....x188

The Poet’s Task.....x219

Y Blewyn Brith.....x254

Y Ser! Y Ser!.....x257

Dylanwadau’r Nos.....x258

Y Bardd yn Ofni Marw.....x259

Wrth Odre’r Mynyddoedd.....x335

Yr Afon Towy.....x337

Bettws Fountain.....x338

Duw yn Llywydd Rhagluniaeth.....x339

Meistresan C. Davies, Aberteifi.....x340

Dyddiau Maboed.....x449

Cynydd Masnachol Caerdydd.....x452

Priodas Ardalydd Bute.....x455

Cymdeithas Heddwch.....x472

Agoriad Rheilffordd Deheudir Cymru.....x483

Galar Rhieni ar ol eu Mab. &c......x510

Fferylliaeth Natur.....x569

Amaethyddiaeth.....x571

“Asgre Lân Diogel ei Pherchen”.....x583

 

CYWYDDAU

Castell Caerphili .....x401

Dyffryn Cynon .....x485

 

ENGLYNION

Yr Iaith Gymreig.....x062

Y Gauaf a’i Ddioddefiadau.....x064

Yr Hen Flwyddyn a’r Newydd.....x084

Nef ac Uffern.....x084

I Bont Fwa Pontypridd.....x093

Marwolaeth Samuel Evans.....x107

Angau a’r Bedd.....x107

Y Seren Ogleddol.....x165

Ar Farwolaeth William a Thomas, &c......x165

Llywelyn y Llyw Olaf.....x167

Yr Hinwydr, a’r Cwmpawd.....x180

Angorfa Penarth.....x181

Y Gwefrefydd.....x212

Y Nwywawl.....x225

Adferiad Tywysog Cymru.....x226

Beddargraff Mebyn Dewi Isan.....x234

Marwolaeth Gwilym Mai ac Eliza, Caerfyrddin.....x255

Y Farn.....x260

Yr Ysgoldy Brytanaidd.....x261

Anerchiad i Margaret Rowlands.....x291

Marwolaeth Ifor Cwm Gwys.....x298

Marwolaeth Alexander Smith.....x299

Ymweliad a’r Bardd Gwilym Ilid.....x300

Marwolaeth yr Enwogion.....x334

Prydferthwch Rhianod Gwent a Morganwg.....x342

 

 

 

A close-up of a document

Description automatically generated

(x8a) Llwydlas a Gwenynen Gwent.....x343

Cantoresau yr Eisteddfod a’r Cysegr Cymreig.....x346

Merch a Gwasanaethferch yr Amaethwr Cymreig.....x347

Ar Briodas Gwilym Williams, Ysw., Meisgyn.....x387

Marwolaeth Alaw Goch.....x398

Marwolaeth Alaw Goch ac Eben Fardd.....x400

Ar Walter Savage Landor.....x405

Gwlad Canaan.....x408

Gwraig Dda.....x408

Eisteddfod Caerdydd.....x436

Y Parch W. Morgan, Llywydd Eisteddfod Treforis.....x442

Talhaiarn.....x443

Llawdden.....x444

Cynddelw.....x445

Ardalydd Bute.....x457

Y Gelynen.....x480

Caradog.....x481

Y Cardotyn Dioglyd.....x484

Wyth Englyn i Carvan.....x508

Y Gomed.....x544

Anerchiad i Arthur Taliesin Davies.....x572

Anerchiad i Laura, Maban Llysfaenwr.....x572

Anerchiad i Gomer, Mabyn Gwilym Ddu o Went.....x573

Anerchiad i Febyn H. Humphreys, Ysw. .....x582

Gwilym Maesaleg.....x584

Trallod.....x586

Y Meddwyn.....x587

Garibaldi.....x587

Cyfiawnder Dwyfol.....x588

Cenfigen.....x588

Enllib.....x588

Yr Eppa.....x588

 

CYFIEITHIADAU

The Dying Maiden to her Mother.....x068

The Spirit has no Rest till it Returns to God.....x080

Deserve it.....x082

Charles o’r Bala.....x448

GWELLIANT GWALLAU.  Tu dal. 25, yn lle ". yn mdy, " darllener " yn myd, " neu " yn mro. "  lle yn  66  " "  99  " "  93 dar. 114 128  99  " "  162  " "  " "  162  99  99  188  99  99  221  " "  99  245  99  99  256  " "  " "  345  99  99  365  " "  " "  " Lle cwyd yr hwylfenau, " dar. " Lle cwyd yr hwylbrenau. " " Cant oed yn awr, cawn, wyt ti. "  " Yn llysdy'r hunan, " dar. " llysdy'r huan. " " O'i mewn a ddihunwyd, " dar. " a gynhyrfwyd. " " Ni wyr nad y flwyddyn, " dar. " y flwyddyn hon. " " Gwreiddia, " dar. " gueiddia. "  " Ni wylant, " dar. " ni wybydd. ”  " O! ser mawr, " dar. " O sêr mawr. '  " A draidd o'r gorphenol, " dar. " o'r gorphenol draw. " ' Angau llaw mall, " dar. " llaw angau mall, "  66  " Yn y Dwyrain, " dar. ". yn nhir y dwyrain. "  66  Adnewydder eu holl adnodder, " dar. " adnoddau. "

 

 

A close-up of a document

Description automatically generated

x001

1

EISTEDDFOD IFORAIDD TREFORRIS,
DAN LYWYDDIAETH GEORGE GRANT FRANCIS, YSW., F.S.A., PRIF YNAD ABERTAWE.

Y BRYDDEST FUDDUGOL
AR
Fuddugoliaethau y Meddwl Dynal
AR Y
Greadigaeth Allanol.

( VICTORIES OF THE HUMAN MIND OVER EXTERNAL NATURE. )
CYFANSOD
BEIRNIADAETH Y CYFANSODDIADAU,
GAN EBENEZER THOMAS ( EBEN FARDD ).

CAERDYDD:
66
B. DUNCAN A'I FEIBION, SWYDDFA Y SOUTH WALES DAILY NEWS. '

 

 

A white background with black dots

Description automatically generated

x002

2


 

 

A close-up of a document

Description automatically generated

x003
3
Y FEIRNIADAETH. 1. Gallofydd ap Gwyddon. - Dechreua gyda desgrifiad bywiog a barddonol o gyttrefniad cyssodol Anian, " yn olwyn mewn olwyn, " a dôl mewn dôl, o'r mymryn distadlaf, a'r bychanigyn lleiaf, hyd y bydoedd anferth, a'u rhodau hollgwmpasog ac eangfawr. Yna y darlunia y modd y mae yr holl fodau, elfenau, ac ansoddau wedi eu darostwng i weithrediadau y meddwl dynol. Yna dilyna rhestr o orchestion dŷn yn ei ymdriniaeth â Natur. Nid yw y gwrthgyferbyniad a ddisgyna i'w wneud rhwng Gweithfoedd Cymru, yn eu cychwyniad â'r hyn ydynt yn awr, yn fanteisiol i osod allan amcan y testyn yn y modd mwyaf cryf a tharawiadol; heblaw fod y llanw barddonol yn treio i ryw draethell ddiddyddordeb, mae y meddwl a'r iaith hefyd yn gostwng i gynefinedd isel, megys— " Cludo haiarn trwm y MERTHYR, Yn sypynau bychain rhydd, Mewn cawelli gyda'r mulod, Yn anniben i GAERDYDD; Codi llechi trymion ARFON, Hyd yr ysgol ar y cefn; Llithro'n ol a cholli'r haner, Rhwymo'r goflaid bach drachefn. " Nid oes yn y llinellau hyn fawr o gompliment i'r meddwl dynol am ei fuddugoliaethau; ac y maent, yn nghyd a'u cymeiriaid yn yr adran hon o'r caniad, yn bur isel a baleaidd o ran eu nodweddiad prydyddol. Mewn adran helaeth arall o'r caniad, y nesaf mewn dilyniad i'r un a nodwyd, gwna y Bardd gyfeiriad cyffredinol at y gwahanol ddarganfyddiadau a'r gwelliantiau sydd yn effeithio cymaint o gyfnewidiadau ar y byd a'i amgylchiadau yn yr oesoedd diweddaf hyn,


 

 

A page of a document

Description automatically generated

x004

4
 
yn enwedig yr agerbeiriannau. Ychydig y mae yn fanylu ar ddim yn fwy na'u gilydd; ond clodfori effeithiau y Buddugoliaethau yn hytrach na chofnodi y Buddugoliaethau meddyliol eu hunain. Mae y brydyddiaeth yn yr adran hon yn bur lithrig, amrywiadol, a difyrus.

-

Try yn awr at drem - wydrau - melinau - yr argraffwasg - yr hysbysai gwefrol — amaethyddiaeth wyddorol - carol yr amaethon— meddyginiaeth gwefryddiaeth - galfaniaeth - mesmeriaeth ― ferylliaeth ― mwnyddiaeth - ychydig o farddoniaeth fywiog a chyffrous a deimlir wrth ddarllen y rhanau hyn. Mae yn awyddus iawn yn wastad i nodi uwchraddoldeb yr oes hon ar bob oes o'i blaen mewn darganfyddiadau.

66 Adeiladau yr hynafiad-

Saith ryfeddod mawr y byd--

Pontau'r AIPHT a Muriau CHINA, A'u gorchestion oll ynghyd, Wyrant oll i'r cysgod oesol, Wrth ddyfeisiau'n dyddiau ni,
Pan mae gwyddor a chelfyddyd Yn ymwisgo'n eitha'u bri. "
Buasid yn tybied nad oedd y testyn yn gofyn i'r Bardd osod cyrhaeddiadau meddyliol gwahanol oesodd mewn rhyw gyferbyniad cymhariaethol neu gystadleuol cymaint. Gadawer bod yr oes hon yn rhagori ar bob oes erioed yn nghyfoeth ei darganfyddiadau, a gogoniant ei buddugoliaethau meddyliol, etto, wrth ammodau y testyn, y mae gan bob buddogoliaeth o eiddo'r meddwl dynol ar y greadigaeth allanol, bid hen bid newydd, yr un hawl i gael ei chofnodi a'i chlodfori.

Cyferia yn mhellach at bylor - glo - mun - y pump - a'r speaking trumpet, ―cerddoriaeth yn ffurfio difyrion y crefftwr yn ei oriau hamddenol - nad yw peirianwaith yn lleihau y galwad am wasanaeth llafuriwr - nad oes terfyn ar dreiddiadau darganfyddol y meddwl dynol y cwbl yn ein barwain at Dduw - eu defnydd yn y diwedd i helaethu teyrnas Crist - awgrymiad am y fantais debygol a dderbynir oddiwrth yr awyren - emyn y celfyddydwr wedi tramwy trwy'r ddaear a'r ffurfafen i sylwi ar geinion athrylith ddynol, a'r fantais a ddeilliai oddiwrth y cyfan i adnabod Duw. Gydag ychydig linellau
 


 

 

x005


yn cyfeirio at ddilead holl orchestion celfyddyd yn yr amser y bydd y defnyddiau gan wir wres yn toddi, a'r ddaear a'r gwaith fyddo ynddi yn llosgi, terfyna ei ganiad, yr hwn sydd, ar ryw olwg, yn ddarn campus, yn cynnwys amrywiaeth mawr o fesurau, y rhai a gedwir yn llyfn a chyson; ynghyd ag iaith gywir a choeth, a phob peth yn bur, a dillynaidd, a chaboledig; ond nis gellir dweyd fod ynddo lawer o farddoniaeth rymus, na bod yr awdwr yn gweithio allan y testun yn y modd goreu a mwyaf priodol; nid yw urddas y caniad, chwaith, yn cael ei gynal i fynu mor gyson ag y buasai ddymunol.

2. Bardd Gwyn o Fon. - Y mae islaw sylw o un math, ac yn gymaint ag mae tri chyfansoddiad a dderbyniwyd ar y testyn, mae yr ymdrech yn gorwedd yn gwbl rhwng " Meddyliwr " a " Gallofydd ap Gwyddon, " dau Fardd gorchestol, ac y mae yn hyfrydwch edrych ar eu " gwanafau ” barddonol; felly cymerwn mewn llaw, yn
3. Meddyliwr. - Yr ydym yn teimlo yn hyfryd wrth ei ddarllen o'r dechreu, yn portreiadu beiddgarwch, chwilfrydedd, cyflymder, a grym y meddwl dynol, gyda'r fath danbeidrwydd, grym, a nwyfiant barddonol: -

--

" O'r fath anturiaethwr hyf, hyf, ydyw'r meddwl, Y mae wedi marchog y fellten a'r cwmwl, Hedlamu o blaned i blaned ysblenydd.

A throi gyda'r gomed o gylch yr wybrenydd
' Nol crwydro trwy'r tywyll, bell, bell, faith wagleodd, Mae'n gwnethur ei orsaf ar un o'r haulfydoedd, Yn rhoddi trem eilwaith ar anian fawr ogylch Gan hofian ac hofian uwchlaw ei therfyngylch; Ac fel pe ' n aniwall ar olygfeydd defnydd, Rhydd lam i fro niwlog yr anwel breswylydd. "
Gwelir ei fod yn hoff o ddyblu ansoddair pan y myn ei arfer yn yr uchelradd, megis. " hyf, hyf, " " bell, bell. " Y mae hyn yn hen briod - ddull cynhenid i'r Iaith Gymraeg. Yr un modd y gwna gyda'r ferf hofian, neu yn hytrach " hofran, " yr hon, fel y gellir sylwi wrth fyned heibio, nid yw yn dda yn yr un o'r ffurfiau uchod, yn gymaint ag nad yw ond llygriad o'r Saesonaeg hover. Yn y desgrifiad canlynol o'r meddwl dynol, nid priodol iawn yr ymddengys y llinell olaf debygid - o leiaf mewn ystyr gyffredinol - ond y mae y llinellau yn hynod o farddonol mawreddus a thlws; -




 

 

A page of a text

Description automatically generated

x006


 
" Mor eang ac amrywiog yw ei ddylanwadau cry '!
Pan eilw, ' r milyn dof a'i clyw, a'r bwystfil gwyllt a ffy; Mae ganddo swyn, un dyner swyn, sy ' drech na chalon dyn; Mae ganddo un ochenaid fwyn sy DRECH NA DUW EI HUN. "
Prin y gellir caniatau fod poetical license yn cyrhaedd mor bell a hyn, oddiethr cyfyngu y ffigwr at feddwl y Sant, am yr hwn y dywedir Cefaist nerth gyda Duw fel Tywysog, a chyda dynion, a thi a orahfygaist. " Gwel Gen. xii. 25-29.

Nid yw mor ffodus ag y dymunasid bob amser wrth fathu geiriau, megys " dystaw - fud, " " holl - rydd, " " dyn - fwriad, " " " anwel, " a rhai ereill; etto rhaid caniatau cryn ryddid i feddwl cryf a beiddgar, mewn dullweddu ymadroddion at ei gyfleusdra.

Wrth gyfeirio at wahanol enghreifftiau o fuddugoliaethau y meddwl dynol ar anian a'i helfenau, y mae yn dechreu gyda dechreuad pob peth yn Eden, fel arferol; ond nid yw yn talu sylw rheolaidd i ddilyniad amser, a dadblygiad y meddwl dynol yn y cyfnodau cyd - ddilynol o amser, ond eheda o borthladdoedd Carthage i binnaclau Eglwysydd Rhufain, ac oddiyno yn ôl drachefn i Byramidiau yr Aipht, a Chromlechau y Derwyddon yn Mhrydain. Teimlir fod llawer o danbeidrywydd barddonol yn y meddwl a'r iaith wrth ddarlunio y pyramid: -

" A'r Pyramid cadarn, diysgog, arswydus, Yr hwn sy ' n derchafu ei ben anrhydeddus Uwch rhwyg breniniaethau a drylliad teyrnasoedd, A'i drem yn drag'wyddol, a'i wedd yn oes oesoedd. Mae ' n estyn ei ben megys draw i'r cymylau, I wrandaw CYFRINACH Y SER YN EU LLWYBRAU; Ymdorched y fellten o gylch ei YSGWYDDAU, A rhuthred y gwyntoedd ar draws ei ESGEIRIAU, Fe saif mor ddiysgog ag un o'r mynyddau, Gan edrych mewn dirmyg ar lid yr elfenau. Trosglwyddo creigddarnau anferthol o'r Nilus * Fel hyn, a'u pentyru ' n gywreinddull a threfnus, Nes ffurfio o honynt y fath fryn - adeilad, Sydd un o brif fuddugoliaethau dyn - fwriad. "
Er fod y meddwl yn fywiog a'r ymadrodd yn gryf yn y llinellau uchod, nid ydys yn gallu eu cymeradwyo yn hollol; buasai yn fwy priodol i ddesgrifio y pyramid a'i ben yn y cymylau, yn gwrando ar gyfrinach y taranau a'r gwyntoedd, nag ar " gyfrinach y ser. " Nid oes llawn briodoldeb, efallai, i nodi pyramid wrth gyffelybrwydd ysgwyddau ac esgeiriau; buasai bon neu osail, a phigwrn neu flaen, * Dywed rhai mai CLAI y Nilus, yn gymysgedig â gwellt i'w weithio yn briddfeini, a ddefnyddid i adeiladu un o'r Pyramidiau.


 

 

A black and white text on a white background

Description automatically generated

x007


yn well. Gwnaethai ysgwyddau ac esgeiriau yn well i'w cymhwyso at ddarluniad o'r Sphinx.

Fel enghraifft o'i hyawdledd a'i rymusder barddonol, yr hyn a gynelir i fynu yn fwy neu lai trwy ei holl gân, dyfynir y penill godidog a ganlyn, mewn cyfeiriad at y ffordd a weithiwyd dros y Simplon, yn Switzerland: -

" Fe ddringodd dyn ei ysgwydd gref, A sangodd ar ei goryn ef;
Ac ol ei draed yw'r SIMPLON sy '
' N ymdorchi gylch ei ysgwydd fry. Ei rawd sy ' n ymestyn ar draws ei ystlysau, Gan droi ac ymddirwyn yn fyrdd o ddolenau; Ei bontydd ucheldrem ar draws y dyffrynoedd Sy ' n debyg i ddeildai yn disgyn o'r Nefoedd; Arweinia dros glogwyn, gagendor, a dyffryn, Drwy'r graig a thrwy'r Alprew, gan esgyn ac esgyn Yn uwch, uwch i fynu rhwng myrdd o raiadrau, Afonydd, coedwigoedd, a llenyrch, a llynau, Nes cyrhaedd bro oerllyd yr eira tragwyddol, Goruwch y cymylau, mewn hinsawdd ysbrydol, Lle nad oes ond dystaw ac erchyll arddunedd
Mewn anghyfanedd - dra yn gwneuthur ei annedd. ” Awgrymwn y buasai aruthr arddunedd, yn y linell olaf ond un o'r dyfyniad uchod yn well.

Temtir ni i ddyfynu un adran etto o'r Caniad, lle y desgrifir y Dyn v'i Feddwl, wedi diflasu ar edrych ar ryfeddodau y nef o bell, yn esgyn i fynu yn ei awyren ogoneddus, i ymgydnabod â'r unrhyw mewn agosrwydd cyfleus: —
" Ond, fel pe ' n anniwall ar dremio o'r pellder,
Mae ' n awr yn ymdrechu rhoi naid i'r uchelder;
Gwel! gwel! fel mae'n esgyn fry! fry! trwy'r las awyr,
I gyrau nas treiddwyd gan lygad yr Eryr;
Mewn cerbyd o sidan, a'r nwy yn ei dynu,
Mae ' n esgyn mor esmwyth a'r angel i fynu.

Mae ' n awr yn rhoi trem ar amgylchoedd y ddaear,
Yn gweled ei bryniau fel brychau ar wasgar,
A'i llydain afonydd fel meinion linynau,
A'i mawrion ddinasoedd fel bychain lanerchau.

Fry! fry! mae ' n ymgodi, uwch! uwch! i'r uchelder,
Nes gadael y ddaear fel niwl yn y pellder,
Ac yntau'n ymgrwydro yn nos y dystawrwydd,
Heb ddim yn ei wyddfod ond mawredd yr Arglwydd!
Yn myn'd ac yn dyfod trwy byrth y cymylau,
Ac eistedd yn ymyl y mellt a'r taranau!
Y fellten ofnadwy sy ' n taro'r awyrgylch,
Nes rhuo ' n wallgofus gan wewyr o'i hamgylch,
Ei llef sydd yn ysgwydd colofnau y ddaear,
A'i tharo dros enyd yn fud ac yn fyddar!
Drwy'r cwmwl trwm, aelddu, gwel hon, mewys ellyll, Yn agor ei llygad coch, poeth, gwyllt, ac erchyll,
Yn poeri ' n gynddeiriog i wyneb yr haulwen, Yn gwingo, dirdynu, a gwanu trwy'r wybren,



 

 

A close-up of a paper

Description automatically generated

x008


 
Yn barod, debygid i chwythu'r wybrenydd, A llyngeu'r holl ddaear i ddistryw tragywydd! A feiddia DYN, ynte, ymryson a'r fellten? Ai tybied yr ymgais flaendorri ei haden? O, Feddwl! -- oes tebyg y cei oruchafiaeth Ar elfen mor gyflawn ei rhwysg a'l llywodraeth? Wel! syned y ddaear at ddewrder y MEDDWL Yn rhagod y fellten wrth gychwyn o'r cwmwl! A oes yn ei feddiant ryw hudlath effeithiol, Neu ynte ryw gyfran o ddansawdd sy ddwyfol, Gan fod y boeth fellten - ofnadwy mewn rhwysgeddYn gorfod ymgrymu i lawr wrth ei orsedd?
Y fellten sy ' filwaith ffyrnicach na'r bwystfil, Yn awr a arweinir gan wifren fach eiddil?
Yn ngolud ei ddoniau awenyddol, dysgleirdeb a nerth ei farddoniaeth, a'i ymdriniaeth drwyadl a chynwysfawr a'r testyn, y mae " Meddyliur " yn tra rhagori ar " Gallofydi. " Y mae yn feddyliwr angherddol a threiddiol, ac yn feistr ar danbeidrwydd a gloywder iaith cyfatebol. Awgrymwyd eisoes fod ynddo rai pethau yn edrych yn wanach na'u gilydd, fel y gellir disgwyl y bydd bob amser yn ngwaith yr awdwyr mwyaf llwyddianus rywbeth yn brawf o anmherffeithrwydd dynol; ond yn nghwmpas ei gyrhaeddiadau, a bywiogrwydd ei yni awenyddol, y mae yn mlaen ar ei gydymgeisydd talentog, " Gallofydd, " cyfansoddiad pa un fuasai, mewn cystadleuon cyffredin yn debyg o dra ragori, oblegid y mae, fel y crbwyllwyd o'r blaen, yn meddu llawer o addurn a gwychedd anian a chelfyddyd; yn ddarn prydferth a choeth, yn meddu llawer o amrywiaeth a ffraethineb awenyddol; ond er y cyfan o'i honiadau teilwng ac anrhydeddus, wrth i ni ei osod yn ymyl arddunedd, cynwysfawredd, beiddgarwch, a thanbeidrwydd barddonol “ Meddyliwr, " y mae ei ddisgleirdeb yn gwelwi, a'i dlysni yn ymdoddi i gyffredinedd cymhariaethol.

" Gall-

Oddiar hyn, er fod gen f feddwl uchel am deilyngdod ofydd, " ar y cyfan, etto nid oes genyf un petrusder i amlygu fy meddwl am deilyngdod " Meddyliwr, " ei fod yn fwy, ac o ganlyniad yn meddu yr hawl gyfiawn o gael ei gyhoeddi yn OREU, yn yr ymdrechfa hon. Gan hyny dealler mai y Caniad godidog a arwyddnodwyd " Meddyliur " a olygaf yn oreu.

EBEN FARDD.

 



 

 

A close-up of a paper

Description automatically generated

x009

BUDDUGOLIAETHAU Y MEDDWL DYNOL
AR
Y GREADIGAETH ALLANOL.

CYNWYSIAD.

Ymsyniaeth ar hanfod, gweithgarwch, a chyneddfau y MEDDWL -- Ei alluoedd a'i fuddugoliaethau dychymygol a darfelyddol, parth lle, gwrthddrychau amser a thragwyddoldeb― Ei ysgogiadau, a'i weithredoedd, a'i ddylanwadau ar wahanol wrthddrychau, & c. - Olion, achosion, ac effeithiau ei fuddugoliaethau - Mawredd ac amrywiolaeth ei fuddugoliaethau, o Eden hyd fynediad Noah a'i deulu allan o'r Arch - Ei fuddugoliaethau o'r cyfnod hwnw hyd yr amser presenol, mewn Morwriaeth, Daearyddiaeth, Adeiladaeth, Llawweithyddiaeth, & c., mewn Peirianaeth, o'r drasol i'r ermig, ac o'r ermig hyd y peiriant cymysgryw - Ar yr Elfenau, yn Wynt, Tân, a Dwfr, yr Ager, yn nghyd ag effeithiau cynyrchedig y buddugoliaethau hyn -Ei fuddugoliaethau ar wahanol ac amrywiol wrthddrychau, ac elfenau, à defnyddiau, drwy gyfrwng celf a gwyddor - Ei fuddugoliaethau ar y creaduriaid direswm - gwyllt a gwâr - Cyffredinolrwydd ei fuddugoliaethau - Ei fuddugoliathau Seryddol, a'i anturiaethau wybrenol - Yr Awyrau - Ei fuddugoliaethau ar y Fellten - Y gwefrebydd trydanawl - Tybfwriad o barth eangder, ac annherfynolrwydd ei fuddugoliaethau - Cynnydd y Meddwl, fod darganfyddiadau lawer yn gorwedd megys rhwng ei blygion -Y daw pryd i'w hamlygu- -mae fod gweithredoedd Dyn mor fawr a nerthol, a'i Feddwl mor ardderchog, yn ein harwain i ofyn. pa mor fawr ac ardderchog rhaid fod Duw, yr hwn a'i creodd - Gan fod Engyl glån, Seintiau pur, ac Anian oll, yn moli Duw, paham y mae Dyn vn oedi? —Y dylai ef, yn anad pawb a phob peth, ddatgan ei fawl a'i ogoniant.

O, FEDDWL! i feddwl wyt fôr o ryfeddod,
Ni phlyma maith linyn athroniaeth dy waelod;
Pa wyddor ddadlena ddirgelwch dy hanfod?
Beth oeddit? beth ydwyt? beth fyddi'n ddiddarfod?
Ai nid rhyw wreichienen o'r Duwdod ar wasgar Wyt ti? fel gwawl - esyn o'r haul gylch y ddaear? Ah! mae cydmhariaethau holl anian yn gwrthod Rhoi teilwng feddylddrych i ddyn am dy hanfod; Nis gellir cael trem ar dy nawd dirgeledig Ond drwy dy weithredoedd amryfal yn unig. Gorchestol, ardderchog, cywreinfawr, goruchel, A phrydferth iawn ydwyt, yn deilwng o'r angel.




 

 

x010


 
Mor ddyfal ddiorphwys yw'r peiriant meddyliol, Yn troi ac yn troi ar begymau trag'wyddol, Tra syniad mewn syniad - fel olwyn mewn olwyn, Rhyw syniad ar syniad o hyd sydd yn ymddwyn; Pa ddirgel weithredydd? pa ddwyfol ddylanwad Sy'n ffurfio'r berthynas rhwng gwrthddrych a syniad? Mae'r meddwl yn fath o ysbrydol bum - undod, Yn Gof, Serch, a Deall, Ewyllys, Cydwybod, Pa rai sy'n gwneud dyn yn greadur rhesymol, A nodwedd pob gweithred o'i eiddo yn foesol, - Sy'n urddas i'w natur - ac wrth ei fodolaeth, Sydd hefyd yn bythol gyssylltu uwchfiaeth:
Drwy nerthoedd yr unrhyw gall dreiddio'n llwyddianus I ganol dirgelwch holl natur anhysbys,
A dilyn heirdd gamrau ei Dduw mawr yn helaeth, A thaflu ei drem hyd eithafion bodoliaeth— Myfyrio dros byth ar brydferthwch a mawredd
Yr Hwn nad oes iddo na dechreu na diwedd.

Oh! ' r fath anturiaethwr hyf! hyf! ydyw'r Meddwl! Y mae wedi marchog y fellten a'r cwmwl! Hed - lamu o blaned i blaned ysblenydd,
A throi gyda'r gomed o gylch yr wybrenydd,
' Nol crwydro drwy'r tywyll bell, bell, faith wagleoedd, Mae'n gwneuthur ei orsaf ar un o'r haul - fydoedd, - Yn rhoddi trem eilwaith ar anian fawr ogylch, Gan hofian ac hofian uwchlaw ei therfyngylch, Ac fel pe'n anniwall ar olygfeydd defnydd, Rhydd lam i fro niwlog yr anwel breswylydd. E faidd y meddwl mawr ymwibio'n mhell I drag'wyddoldeb draw: -a dechreu byd: Gan symud gydag Ysbryd Duw ar gylch Y dyfnder mawr: ac edrych arno yn Dodrefnu'r gwagle du â bydoedd cain,
BRITISHN
 



 

 

x011

SEPHI
 
Cyfunol wawl, pa rai, yn gwisgo gaid Y ddaear ieuanc oll, nes edrych fel
Rhyw faban gwyn a glân yn nghôl ei Dduw. Maidd ddyfod rhag ei flaen ar edyn chwim Dychymyg, tuag Eden nefol wawr, I edrych ar brydferthwch dwyfol yn Ymorphwys ar ddihalog berson dyn; Un nefoedd felus, ddedwydd, eang oedd Holl ymerodraeth Duw yr adeg hon.

O! euraidd oes, O! ddiniweidrwydd pur- Nid euraidd oes darfelydd ffugiol oedd, Ond creadigaeth cariad dwyfol ryw, Ac effaith cydnaws ddelw Duw ar ddyn, Tan nawdd a chyfeillgarwch engyl cu;
Pob elfen oedd mewn heddwch y pryd hyn- Yr awel îr a suai heibio'r ardd,
Mor dyner ag anadliad angel cu;
Edrychai'r môr fel baban tlws mewn hûn; A'r wybren fel cariadferch ar ei gwên;
Y ddaear oedd gysurus, megys mam Yn gwel'd ei thelu'n llon o gylch ei bwrdd; Tangnefedd oedd ar led fel goleu, r haul, A rhyddid fel y gwagle ëang, maith.

Nid oedd un milyn gwyllt na bwyst i'w gael; Y Llew a'r Arth, y Sarff a'r Condor mawr- Cartrefol greaduriaid oeddynt hwy;
Pa ryfedd i'r angelion selog fry
Gydgana nes y dawnsiai'r sêr oedd bell,
Wrth wel'd y byd mor hardd dan ddwyfol hedd? Boddlondeb Duw orphwysai ar bob peth: Mae'r enaid prudd yn llawenhau yn fawr Wrth aros uwch y mwyniant hyfryd hwn. Ond, Ow! mor drist yw gorfod neidio'n ol



 

 

x012


 
I gyfnod llawn caethiwed, dig, a phoen. Fel hyn y maidd crafangol feddwl dyn Ymwel'd a'r trag'wyddoldeb dystaw oedd, A chasglu'r trag'wyddoldeb pwysig ddaw, A'r amser prysur sydd - i'r fynyd hon! A dwyn yn ol wrthddrychau gynt a fu Ac edyrch arnynt oll yn nrych y côf; Ac felly gael un fuddugoliaeth fawr Ar Amser, sydd yn ɩrechu bron bob peth.

O! mor rhyfeddol yw ei symudiadau ef— Fel cyflym angel Duw, fel esmwyth wawl y nef! Pwy sydd yn gwybod am ei anweledig ffyrdd, Nes gwelir ol ei gam mewn harddwch bythol wyrdd; Ei orchestgampau sydd rhif tywod mân y môr, Tra mae o ddydd i ddydd yn ychwanegu'r stor; Ei ddadguddiedigaethau rhydd y'nt s ndod iddo'i hun, Cywreinrwydd ei gynlluniau sydd yn gwisgo dwyfol lun. Ni wna gwrthddrychau anian oll ond datgan enw Duw, Ond mae ysbrydol feddwl dyn o hono'n arlun byw; Mor eang ac amrywiog yw ei ddylanwadau cry- Pan eilw, ' r milyn dôf a'i clyw, a'r bwystfil gwyllt a ffy; Mae ganddo swyn, un tyner swyn, sy'n drech na chalon dyn, Mae ganddo un ochenaid fwyn sy drech na Duw ei hun. Mae ol ei droed fuddugol ef yn awr
Ar dir a môr - drwy'r nen a'r ddaear lawr.

Edrychwn fel mae ei fanieri buddugol
Ar uchel rew - gacrau y moroedd gogleddol--

Ar gestyll symudol Trafnidaeth gyfoethog,
A thwr Amaethyddiaeth yn chwifio'n yn ardderchog; Eu plygion sydd hefyd i'r gwynt yn ymagor, Fwy, fwy ar biuaclau celfyddyd a gwyddor. Cynhyrfiol achosion ei ymdrech a'i antur
Y'nt anghen, chwilfrydedd, buddioldeb, a chysur.

 


 

 

x013


Ac O! mor llwyddianus yw braich ymosodol A dwrn ei athrylith ar natur allanol:
Mae un buddugoliaeth mewn un darganfyddiad Yn esgor ar luaws o'r unrhyw ddylanwad, Fel nad yw'r amrywiog ddilynol effeithiau I gyd ond cynifer o fuddugoliaethau.

Y mae buddugoliaeth y meddwl darbodol, Yn nygiad argraffwasg yn gyfrwng meddyliol, · Yn dwyn yn yr effaith wybodaeth a rhinwedd- A hyny ddyngarwch, moesoldeb, tangnefedd- A hyny'n dwyn rhyddid cyfiawnder, a heddwch I fuddugoliaethu mewn llwydd a dedwyddwch.

Mor fawr yw ei fuddugoliaethau er pan Y gyrwyd dyn o Baradwys;
Pryd hwnw'n wylofus, yn dlawd, ac yn wan, Yn grwydryu, heb gartref na gorphwys.

Y ddaear o'i flaen oedd annrhefnus i gyd- Drain, blodau, ac ysgall yn gymhlith, Heb nemawr i'w ganfod ar led nac ar hyd, Ond ffrwythau bras - dyfol y Felldith.

Drud wisgoedd, dâ lawer, na lluniaeth yn stôr,
Na golud, nid oedd yn ei feddiant,
Na chwaith ( os na chafodd o ddwylaw ei Iôr )
Un erfyn, offeryn, na pheiriant.

Y prês a'r plwm ydoedd yn mherfedd y moel,
A'r haiarn yn eigion y ddaear;
Y cymrwd cyssylltol, yr astell a'r hoel, A'r maen adeiladol ar wasgar.

Ni chaid yr anifail, oedd ddôf, i ddwyn baich-

Y Felldith a'i gwnaeth yn fwystfilyn;
Nac un o'r elfenau yn gymhorth i'w fraich-

Cryf oeddynt, angydnaws, a chyndyn.




 

 

x014


 
Ond, wele y Meddwl - y meddwl bythddiwyd- Yn dechreu cylchdremio, ymysgwyd, ymsymud, Troi, barnu, cydmharu, dyfeisio, cynllunio, Trin, profi, dosparthu, cyssylltu, cymhwyso, Darostwng elfenau gwrthrywiol y Felldith, A gwisgo â harddwch gwareiddiol, ei thryblith. Ha! dacw amgylchoedd bro Eden o newydd Yn pwngu gan aeron, a gwenith, a gwinwydd; Y march a'r ych hefyd sy'n gorwedd yn foddlon Mewn dolydd llysieuog ar lan afon Gihon; A'r defaid esmwythfwyn, yn mryndir Hafila, Adwaenant lais Abel - edrychant o'r borfa; Y bugail mwyn, yntau, yn deall athroniaeth Ac achos ei lwyddiant, offrymai yn helaeth O flaenffrwyth ei ddefaid a'u brasder i'r Arglwydd, Ac arno'r edrychai y Nef mewn boddlonrwydd. Ond, wele! gywreinrwydd buddugol y meddwl O hyd yn ymledu fwy - fwy. megys cwmwl, Fe gaid athroniaeth weithian,
A'i llygad seraph seirian,
Ar gyfansoddiad anian,
A buan drwy ei budd.

Cawd allan le'r trysorau, Gorchfygwyd gwrthelfenau, A mynwyd gwel'd y mŵnau
O'r haenau'n dod yn rhydd.

Cyflwynodd Gallofyddiaeth Ei mudalluoedd odiaeth,
I hwylio celf yn helaeth
A'i hychwanegol nerth.

Arddwriaeth, o'i hen ddorau,
Estynodd ei llinynau;
Anturiaeth feiddgar, hithau
A sangai'r bryniau serth.

 



 

 

x015

Y nâdd - aing, a'r llwyarn, a'r morthwyl pwyadol, Ar newydd Gaer Enoch oe'nt brysur ryfeddol! Ardaloedd Nòd lonydd sy'n adsain i'r bryniau Gan fiwsig celfyddyd a dawns y defnyddiau! Wel! dacw'r fam - ddinas ddwyreiniol yn sefyll Yn awr yn ei harddwch, a'i meib yn ymgynull. Ond Iabal oedd amaeth anturus ei fryd, Adawodd amgylchoedd y ddinas; Estynai ei dyddyn yn mhell - bell i'r byd, O swn a manteision cymdeithas. Porth - hela o lanerch i lanerch a wnai; Ond ' r oedd anhawsderau yn aros; Y bwystfil ar ddryghin heb anedd a gai, Na dynol breswylydd yn agos.

Ond wele, ' r amaethwr meddylgar, cyn hir, Feistrolodd yr holl anhawsderau;
Derchafodd ei babell yn ngraidd y gwyllt - dir,
Bu diddos a dedwydd ei deithiau.

Yn awr daeth y dduwies berorawl i'r byd, O'r Dwyfol Naf - wênol drigfanau,
Gan arllwys ar sain yr anialwch yn nghyd, Fawl, serch, ac addoliad yn ddiliau
Cysegrodd athrylith hen Tubal, a bu
Ei law ar y delyn a'r organ;
Deffrödd dan ei fysedd gwyddorol yn gu,
Wirionedd sy'n nheimlad pur anian.

Gwnaeth ddefnydd aflafar i arllwys hyawdledd,
Ac elfen ddideimlad yn fywyd a rhinwedd.

Clywch clywch! sain
Y morthwyl chwim - ddisgynol, ar eingion Tubal Cain,
A thinc y pres a'r haiarn,
Dan law y gweithydd cadarn,
Yn mhob cywreinwaith main.




 

 

x016


 
Fel hyn y cychwynai celfyddyd a gwyddor, Yn fywyd a harddwch, gogoniant a thrysor. A phan fu'r Diluw mawr yn llarpio'r byd, A distryw'n dringo bron gyfuwch a'r nef, Gorchfygol oedd y meddwl dewr o hyd, Yn marchog ar ei gefn ysgytiol ef.

Ac er bryd hyn gymysgu môr a thir, A difa'n llwyr brydferthwch daear lâs, Y meddwl dynol eilwaith ni fu'n hir Cyn troi Ararat lwm yn dyddyn brâs.

Ond amlhau yn fawr wnai teulu dyn- Ymranu'n awr oedd anghenrheidiol iawn; Ac er fod anial diroedd erch eu llun, Clogwynog fryniau certh, afonydd llawn,
Ar draws eu hynt, gorchrygu wnaethant hwy, Gan etifeddu pedwar ban y byd;
Ond wedi hyn rhaid oedd gorchfygu mwy, — Anhawsder oedd yn aros dyn o hyd.

Fe gaed diffygion lawer mewn un gwlad,
A ellid eu cyflenwi gan y llall;
Ond p'odd y cyfnewidid rhad am râd,
A'u dwyn dros ëang for, drwy'r dymhestl ddall?
A oes tebygolrwydd y ceir goruchafiaeth Ar donau cynddeiriog, ar wynt dilywodraeth,
Ar greigiau cuddiedig, traethellau bradychus, Neu nôs anghyfarwydd, neu niwloedd twyllodrus? A oes tebygolrwydd ceir cynllun llwyddianus,
A chyfrwng gyfetyb i'r antur peryglus? Ha! wele y meddwl anturus yn forau
Yn ymladd a'r gwyntoedd, yn ymdrech a'r tonau Yn buddugoliaethu ar fyrdd o beryglon,
Yn gosod ei babell ar wyneb yr eigion,
 



 

 

x017

Yr hon sydd ar unwaith yn gerbyd ac anedd, I sefyll neu symud, i godi a gorwedd;
Sydd berffaith mewn ffurf i droi rhwysg yr awelon
A digder y tònau i fuddiol ddybenion.

Mor hardd, mor fawreddog, mor fuddugoliaethus, Yn awr y mae'n symud o ynys i ynys,
Drwy hydred a lledred y pedwar terfyngylch, Dan daenu llwydd, cyfoeth, a chysur gylch ogylch! Gwel lawned yw'r llongbyrth a'r ëang borthladdoedd, Gan longau trafnidol, fel tewion goedwigoedd: Brith hefyd yw mynwes y môr annherfynol Gan demlau, gan dai, a dinasoedd symudol! Ni welir yn canlyn ei fuddugoliaethau Trafnidol, na difrod, na gwaed, na gruddfanau; Ond undeb cenedloedd, diwydrwydd, dyngarwch, Gwareiddiad, gwybodaeth, gogoniant, a harddwch. Mae digder y tònau, cynddaredd y gwyntoedd, Cuddleni ' r tywyllwch, gwawi - dyrau ' r ynysoedd, Tywyniad y fellten, ac ymdaith y cwmwl, Yn datgan mawl buddugoliaethau y meddwl.

Yn awr, os o'r moroedd y trown ein golygon
I'r tir, i roi trem ar fuddugol orchestion
Y meddwl bythweithgar, mewn celf ac mewn gwyddawr, Y maent yn ardderchog, yn addrun, a chlodfawr. Edrychwn ar Sidon, prif ddinas Phoenicia!
A Babylon enwog, prif ddinas Caldea-

Y fath fuddugoliaeth ar ddefnydd gaid yma, Cyn fyth adeiladu'r fath addurn olygfa! Ei llysoedd ysplenydd, a'i themlau godidog, Ei dyfroedd ymranol, a'i phontydd ardderchog. Ei llydain heolydd, a'i heirdd betryalau, Ei gerddi crogedig, llawn bythol wyrdd flodau, Ei muriau hirfeithion, ucheldrem, tewdrwchus, A'i dau gant a haner o dyrau mawreddus,



 

 

x018


 
Ei ffos amgylchynol, a'i chànt o byrth gloewon, A'i gwnaeth yn hyfrydwch a syndod pob calon. Edrychwch ar Athen, hen fam y breingelfau, Preswylfa hyawdledd a chryd yr awenau; Yn hon y canfyddir ôl buddugoliaethau Y meddwl mewn drudfawr a chain adeiladau. Yn hon y mae'r Pynx, yr areithfan fythsafol, A ffurfiwyd yn gyfan o'r graig anysgogol; Lle bu Demosthenes, Socrates, a Phlato, Drwy nerthol hyawdledd yn gwasgu a gweithio I deimlad synedig yr astud Atheniaid- Eu coeth athrawiaethau ddyrchafant yr enaid; Ac yma mae'r Apeopagus santeiddlan,
Lle gynt iddynt hefyd pregethai Paul allan; Lle mae'r Lycabettus ardderchog ond pruddfawr, Yn llawn o feddgelloedd naddedig o'r creiglawr. Ond, Ow! mor ddystawfùd mae craig Acropolis Yn eistedd yn nghanel adfaelion pruddglwyfus Minerfa Polias; a'r enwog Barthenon; A'r hen Bropylea; ei themlau gorychion Sydd hyd yn oed heddyw, yn ngwarth eu hadfeiliad, Yn tystio cywreirwydd, a nerth, a dylanwad,
A BUDDUGOLIAETHAU y Meddwl ar ddefnydd, Yn dattod y creigiau neu g'lymu'r llwch hollrydd.

Edrychwn ar Carthage a'i thriphlyg amgaerau, Eu heang borthladdoedd a'i dwyfil o longau; Neu Rhufain ardderchog, y " ddinas dragwyddol! " Sy'n eistedd ar orsedd o seithfryn urddasol; Ei drudfawr Eglwysydd, a'i phrydfeth balasau, Ei bwâu buddugol, a'i huchel gerf - ddelwau, Ei marmor golofnau, a'i meithion fedd - gelloedd, Gyd - draethant fryd - fuddugoliaethau'r cyn - oesoedd. Cyffelyb yw Cairo a'i thri chant o demlau, Ei chestyll, a'i llysoedd, a'i thiroedd, a'i thyrau;
 



 

 

x019

A'r Pyramid cadarn, diysgog, arswydus,
Yr hwn sy'n derchafu ei ben anrhydeddus
Uwch rhwyg breniniaethau a drylliad teyrnasoedd, A'i drem yn dragwyddol, a'i wedd yn oes oesoedd! Mae'n estyn ei ben megys draw i'r cymylau, I wrandaw cyfrinch y sêr yn eu llwybrau; Ymdorched y fellten o gylch ei ysgwyddau, A rhuthred y gwyntoedd ar draws ei esgeiriau; Fe saif mor ddiysgog ag un o'r mynyddau, Gan edrych mewn dirmyg ar lid yr elfenau Trosglwyddo creig - ddarnau anferthol o'r Nilus, Fel hyn, a'u pentyru'n gywreinddull a threfnus, Nes ffurfio o honynt y fath fryn - adeilad, Sydd un o brif - fudduogoliaethau dyn - fwriad.

;
Gorchestwaith diaddurn y meddwl derwyddol, Pryd nad oedd Celfyddyd ond baban gobeithiol, Yw'r Allawr, a'r Gromlech, a'r Maen - chwyf oraclaidd- Hen greig - adeiladau yn sengi tir santaidd; Twr Emrys, fel un o'r hen demlau aruthrol, Saif fyth yn oruchaf mewn mawredd rhamantol.

A'r Kremlin, nen - dyrog, arianwisg, ëangfawr, Y llys ymerodrol, yn Moscow wastadlawr, Un adail, lle cyd - ymgyferfydd palasau, Lleiandai, eglwysydd, a mawrwych fangorau, A'u holl addurniadau dan aur a pherl drudfawr, A'r cyfan yn debyg i ddinas ar un - llawr.

A'r Camlas mawr hwnw sy'n maith - maith ymestyn O'r Erie hyd Alban, drwy'r anial diderfyn; Pont Menai gadwynog sy'n uno Môn - ynys A Chymru gyfandir, a'i dàl wrth ei gwregys;
* Llyn Erie, yn America.




 

 

x020


 
Y ffynon artesaidd, i lawr o ddyfnderoedd Y ddaear sy'n codi'n golofnau'r hallt ddyfroedd; Llyn Haarlem, lle gynt gaed y tònau'n ymryson, Yn awr a feddianir gan ddwylaw'r amaethon; Y Rheilffordd anturfawr sy'n parthu'r anialwch, A gwisgo'i unigedd â bywyd a harddwch; A'r SIMPLON, annhraethol orchestwaith celfyddyd, Rhagorgamp anturiaeth uchelgais ryfel - fryd- Oh! ryfedd dramwyfa! tydi bia syndod, Y byd mawr a'th eilw ei wythfed ryfeddod, Yr hwn wyt yn uno mewn golygfeydd didawl, Yr hyn sy'n arswydlawn, yn dlws, ac arddunawl.

Draw, draw ar fron yr Alpau serth, Gwnaeth natur fawr mewn llid a nerth, Grynhoi yn nghyd ei lluoedd certh
Yn erbyn dyn;
Y gadarn graig, y moel a'r cwm,
Yr Alprew erch, yr eira trwm,
Y wythlawn ' storm, a'r gwylltedd llwm,
Sydd yno'n un.

Lle na roes ellyll braidd ei droed,
Na chelf ei chywrain fys erioed; Ond er mor fawr ei rhwysg a'i nerth, Yn amgylchynu'r cawrfryn certh, Fe ddringodd dyn ei ysgwydd gref,
A sangodd ar ei gòryn ef; Ac ol ei droed yw'r Simplon sy
' N ymdorchi gylch ei ysgwydd fry.

Ei rawd sy'n ymestyn ar draws ei ystlysau, Gan droi ac ymddirwyn yn fyrdd o ddolenau; Ei bontydd ucheldrem ar draws y dyffrynoedd, Sy'n debyg i ddeildai yn disgyn or nefoedd;
* Yu America.

 


 

 

x021


Arweinia dros glogwyn, gagendor, a dyffryn,
Drwy'r Graig, a thrwy'r Alprew, gan esgyn ac esgyn Yn uwch! uwch! i fynu, rhwng myrdd o raiadrau, Afonydd, coedwigoedd, a llenyrch, a llynau, Nes cyrhaedd bro oerllyd yr eira tragwyddol, Goruwch y cymylau mewn hinsawdd ysbrydol, Lle nad oes ond dystaw a threiddiol arddunedd, Mewn anghyfanedd - dra yn gwneuthur ei anedd.

Pwy sydd ni ryfeddant y freiddgar athrylith, Anfonai'r fath gynllun dros drothwy meddylrith? A phwy ni ryfedda'n ogymaint wrth ddisgwyl Fedrusrwydd y dwylaw gyflawnodd y gorchwyl? Oh! Feddwl, mae'th fuddugoliaethau'n aneiri ', Pa elfen, pa wrthddrych, ar nas darostyngi? Pa gŵr, pa gyfeiriad, pa gyfnod rhyfeddol Ar nad yw'n dwyn olion dy fraich oresgynol?
A thithau, Gaerludd, a wnaethost fawrhydri, Dy foliant a fydd lle cerdd y goleuni.

Dy Balas Crisial sydd
Ogoniant yn dy ganol, Cofgolofn fythol fydd
O wyrthiau'r meddwl dynol.

A'th arddangosiad mawr
O wyddor a chelfyddyd,
Lle cwrddodd yr un awr Athrylith y cyfanfyd.

Nid oedd y cywreinrwydd, yr harddwch, a'r gwerth,
A fwriwyd yn llif rhwng ei furiau,
O! Feddwl anfeidrol, ond blaenbrawf o'th nerth-- Cadfuddion o'th fuddugoliaethau.




 

 

x022


 
Rhyfeddol yn wir
Yw'r buddugoliaethau Ennillaist ar dir
Y llawgelfyddydau.

Cychwynaist o'r drosol Ddiaddurn i'r ermig,
O'r ermig amrywiol
I'r peiriant mawreddig.

Clywch dwrf anorphenol
Aneirif olwynion;
A'r cyffro masnachol
Drwy'r llaw - weithfeydd mawrion.

Gorfodwyd y gwynt,
Wrth fyn'd a dychwelyd,
A'r dw'r ar ei hynt,
I hwylio celfyddyd.

Gorphwysed y march
Ar lawr y gwyrdd - ddolydd,
A dyn drwy fawr barch,
Na foed ond edrychydd!
Cawd gweithw yr llawddiwyd
O blith yr elfenau, Daw seibiant ar fywyd
Teimladol yn ddiau.

Rhyfeddod celf lân
Yw'r dynol ddoethineb
Fu'n dwyn dw'r a thân
I gymod ac undeb.

Fu'n gosod ei nerth
I symud peirianau Trwmlwythog a cherth
Rhwng gwylltion fynyddau.

 



 

 

x023

Masnachaeth a hêd
Mewn nerth a chyflymder,
Ar hyd ac ar lêd,
Ar edyn yr ager.

Nid raid i'r llong mwyach wrth hwyl ar y dón, Na cheisio'r awelon twyllodrus;
Braich nerthol yr ager a'u gyr ar eu hynt,
Er tonau a gwynt gwrthwynebus.

Eangwyd terfynau trafnidaeth yn fawr, Hwylyswyd ei throed ar yr eigion; Chwanegwyd cysuron dynoliaeth yn awr, Gwybodaeth a wisgodd ei choron.

Pwy ddywed rif buddugoliaethau anorphen Y Meddwl, ar fywyd, ar ddefnydd, ac elfen?
Mae'n gwneuthur y sychdir yn llynoedd nofiadwy, A'r llynoedd yn sychdir, a dyn arno'n tramwy; Mae'n arwain y dyfroedd o'r llynoedd pellenig Yn ffrydiau tryloewon i'r ddinas sychedig; Fe ddring y ban Atlas, fe gerdd y poeth losgfal; Tramwya'r diffaethwch, a rhodia drwy'r anial; Fe gwyd y pantleoedd, fe ostwng y bryniau; Fe haerllug yspeilia y mor o'i derfynau; Arweinia ef hefyd mor addfwyn a chaethwas; O'i draethell gareugar i fynu i'r ddinas; Fe gliria'r coedwigoedd, fe ddetyd y creigiau; Fe egyr y ddaear, fe ysgar y bryniau; Fe dreiddia i gelloedd tywyllaf y ddaear, A dyg ei thrysorau i wyneb haul llachar; Fe rwydd adeilada dan waelod afonydd Lle merchyg y llongau, ddinasdai ysplenydd; Fe egyr gloedig gyfrolau cynfydoedd, Sy'n eigion y ddaear, gan ddarllen ar gyhoedd,



 

 

x024


 
1
Athroniaeth cloddfilyn, a chregyn, a chreigiau, A dengys ddoethineb ar wyneb yr haenau; Fe esgyn i draethu dirgelion y nefoedd; Fe ddisgyn i chwilio gwaelodion y moroedd; Mesurodd a phwysodd hyd drwch y main flewyn Y ddaear a'r eigion heb glorian na llinyn.

Defnyddiau'r byd, elfenau o bob rhyw, Orchfygodd oll, a phob creadur byw; Aeth sain ei lef dros yr anialwch tew; A chrynai'r arth, ac ofnai'r creulon lew; Yr estrys chwim, a'r eryr gwancus fry, ' Run fath a'r dryw, o wyddfod dyn a ffy; Y boa braisg, a'r asp golynawg, lem, Arswydant rhag ei awdurdodawl drem; Y morfil mawr sydd ar ei rwysgfawr hynt, Yn chwipio'r môr am wrandaw llais y gwynt, Yn cuddio'i ben rhwng creigiau bythol rew, Fe rwymir ef gan fraich y morwr glew; Yr ych a'r march, a'r ddafad dawel draw, A'r adar dôf, sy'n cael eu bwyd gerllaw,
Y'nt ddeiliaid llawn ufuddod, gwaith, a serch, Yn ymerodraeth fawr y meddwl derch; Ei deyrnwialen ef, a'i ddeddfau drud, Sy'n estyn draw dros bedwar ban y byd.

Gwnaeth hefyd wrhydri nas traethir ei hàner, Tan faniar athroniaeth, ar faes yr eangder;
Mae yno yn galw y sêr wrth eu henwau,
Yn adwaen eu hansawdd, yn olrhain eu llwybrau;
Yn dal rhyw gymdeithas â bydoedd nis gwelir,
Rhai grwydrant eithafion gwybrenol gyfandir;
Fe ddring i'r lloer wylaidd, rhydd hynt ar ei moroedd, A mapia'i chyfandir yn uchder y nefoedd;
 


 

 

x025


Maidd fesur y fflamlyd gomedau ar hedfan,
Maidd fesur a phwyso yr haul mawr eu hunan! Ond, fel pe'n anniwall ar dremio o'r pellder,
Mae'n awr yn ymdrechu rhoi naid i'r uchelder;
Gwel! gwel! fel mae'n esgyn fry! fry! drwy'r lâs awyr, I gyrau nas treiddiwyd gan lygaid yr eryr,
Mewn cerbyd o sidan a'r nŵy yn ei dynu,
Mae'n esgyn mor esmwyth a'r angel i fynu;
Mae'n awr yn rhoi trem ar amgylchoedd y ddaear, Yn gweled ei bryniau fel brychau ar wasgar,
A'i llydain afonydd fel meinion linynau,
A'i mawrion ddinasoedd fel bychain lanerchau; Fry! fry! mae'n ymgodi, uwch! uwch i'r uchelder, Nes gadael y ddaear fel niwl yn y pellder,
Ac yntau'n ymgrwydro yn mdy y dystawrwydd, Heb ddim yn ei wyddfod ond mawredd ei Arglwydd;
Yn myn'd ac yn dyfod trwy byrth y cymylau, Ac eistedd yn ymyl y mellt a'r taranau— Y fellten ofnadwy sy'n taro'r awyrgylch, Nes rhuo'n wallgofus gan wewyr o'i hamgylch;
Ei llef sydd yn ysgwyd colofnau y ddaear, A'i tharo dros enyd yn fud ac yn fyddar, Drwy'r cwmwl trwm aelddu gwêl hon megis ellyll, Yn agor ei llygad coch, poeth, gwyllt, ac erchyll, Yn poeri'n gynddeiriog i wyneb yr haulwen, Yn gwingo, dirdynu, a gwânu trwy'r wybren, Yn barod, debygid, i chwythu'r wybrenydd, A llyngcu'r holl ddaear i ddistryw tragywydd! A feiddia dyn ynte ymryson â'r fellten? A'i tybied yr ymgais flaendori ei haden? O feddwl! oes tebyg cei di oruchufiaeth, Ar elfen mor gyflawn ei rhwysg a'i llywodraeth? Wel! syned y ddaear at ddewrder y meddwl, Yn rhagod y fellten wrth gychwyn o'r cwmwl;



 

 

x026


 
A oes yn ei feiddiant ryw hudlath effeithiol? Neu ynte ryw gyfran o ddansawdd sy ddwyfol? Gan fod y boeth fellten ofnadwy mewn rhwysgedd, Yn gorfod ymgrymu i lawr wrth ei orsedd! Y fellten sy filwaith ffyrnicach na'r bwystfil, Yn awr a arweinir á gwifren fach eiddil.

Wel, dyma i dduwies Celfyddyd o'r newydd, Gyfeilles rhagorol, a'i nerth yn ddihyspydd;
Mae'n rhaid i'r gwynt nerthol a'r tân a'r dw'r mawrfri, A'r ager galluog gyd - ostwng pen iddi;
Daeth meibion celfyddyd bob un i'w chydnabod,
Aeth son am ei gwyrthiau drwy'r ddaear yn syndod
Ehed fel ar angel - adenydd yn dyner-

Fel wedi anghofio ei llid a'i chreulonder-

O orsaf i orsaf; o ddinas i ddinas;
O dalaeth i dalaeth; o deyrnas i deyrnas;
O ynys i ynys; o fôr i gyfandir;
Gan adrodd ei neges ddyddorol yn gywir.

Mor rhyfedd fod dyn yn rhoi tafod i siarad, Troed ebrwydd, llaw fedrus, i'r fellten ddideimlad! Ni raid wrth y coedcerth i wylied peryglon; Ni raid wrth y g'lomen i gludo newyddion; Rhagorodd y fellten mewn nerth a chyflymder, A sicrwydd, ar goelcerth a ch'lomen ac ager; Ei gwifrau cyfrinol sy'n uno pob dwywlad, Gwnant amser a phellder yn gam ac yn eiliad! Maent megys yn tyner gofleidio'r holl wledydd, Fel am eu dwyn bellach i gymod â'u gilydd; Ac O! na foed iddynt drosglwyddo'r un newydd, Ond eiddo tangnefedd a chariad tragywydd.

 



 

 

x027

Ai gwir
Y gwelir gwawl y fellten yn hwylio cyn bo hir,
Hyd wastad lwybrau'r Ager, fel colofn danllyd glir? Neu, megys seren olau
Drwy'r nos ar fwrdd y llongau,
Yn gwasgar ei phelydrau
O'r tonau draw i'r tir.

Bydd tlôs
Ei gwawl o'r goleudyrau goruwch y creigiau croes, Fel disglaer èm yn hongian ar dywell ael y nos; Neu yn bendithio'n trefydd,
A'i gwên fel gwên goleudydd;
Pawb, ond y drwg - weithredydd, A lawenhant heb ôs.

B'le bydd
Eithafion anweledig buddugoliaethau rhydd,
Y meddwl mawr, bob enyd, yn symud, symud sydd? Nid oes i'w haul ysplenydd,
Gyhydedd na chanolddydd, Ond esgyn, esgyn beunydd, Ac agor yn dragywydd, Hyd fythol ddwyfol ddydd.

Mae, mae
Y meddwl mawr anfeidrol o hyd i ymgryfhau; Egora ' i wyrdd flaguryn byth, byth mewn nefol bau; Mae rhyfeddodau mawrion
Yn gorwedd rhwng ei blygion,
Pa rai, yn ôl anghenion,
I sylw'r oloesolion
A roir i'w heglurhau.

1



 

 

x028


 
Daw'r awr
Yr egyr cronfa meddwl fel mynydd tanllyd wawr;
Mae twrf rhyw faith alluoedd yn ei ddyfnderoedd mawr; Daw eto ei fuddugol
Orchestion anghydmarol,
A'i nerthoedd adnewyddol, Yn llif ar lif i lawr.

Os yw
Gweithredoedd dyn mor nerthol ( greadur meidrol, gwyw ),
A'i feddwl mor anferthol, beth dybiwn ni yw Duw— Creawdwr a Chynalydd
Pob meddwl, elfen, defnydd?
Pwy sydd gyffelyb iddo,
Yr Hwn mae pob peth ynddo
Yn symud, bod, a byw?
Os dawr
I engyl glân goleuni, a seintiau pur eu gwawr, I ganu Ei ogoniant, yn nef y nef yn awr,
Ac os yw anian heini
Yn foliant dwyfol drwyddi, Paham mae dyn yn oedi? Fe ddylai'n brif addoli, A moli'r Duwdod mawr.

MEDDYLIWR.

 



 

 

x029

AWDL
AR
Lwyddiant, Nawredd, a Gogoniant Prydain Fawr.

CYNWYSIAD. PEN. I.

Cynfrodorion Ynys Prydain, & c.

LLWYDDIANT - Milwrol, Amaethyddol, Masnachol, a Thrafnidol Prydain Fawr. PEN. II.

MAWREDD - Anianyddol, Moesol, a Meddyliol Prydain Fawr.

PEN. III.

GOGONIANT - Prydain Fawr yn gynwysedig yn ei Dynoliaeth, ei Gwleididaeth ei Llenyddiaeth, a'i Christicnogaeth.

PENNOD I.

CYNFRODORION YNYS PRYDAIN.

GWEDI syn rwygiad Sinar, -y llwythau
Oll, aethant ar wasgar;
Blino ar Babel anwar - a wneddynt,
Ac o honynt, e droes rai yn gynar, I diriogaeth dra hygar, —yn serchog A dieuog, Orllewin daear.

Llyma hwy fodau, yn llu ymfudol, Dan rydd adenydd eu duwiau dynol; Yn dod rhyw enyd o'r byd dwyreiniol Oddi gerbron y ddwy afon ddwyfol *, I'r llanerch orllewinol, -y ddewis, Ber, wen Oasis, rhwng bryniau oesol.

* The Euphrates and Tigris.




 

 

x030


 
Enwi'r enyd na'r awr hono, -ni wyr Neb, ac ofer chwilio;
Am nas cair un gair o go ',
Ar ei bedd, i'n rhybuddio.

Er hyny e ' olrheinir - eu helynt, Drwy'r Tumili'n gywir,
O'r wlad bell, yn llinell hir; -cofnodion O'u marwolion, oedd wyr mawr, a welir.

Yn croesi barug a rhew Siberia,
A maith geimleoedd tiroedd Tartaria, Hyd waelod rhosydd deheuwlad Rwsia, Drwy gulffyrdd onglog, mawnog Almaenia; Hyd at ganfod teg wynfa, —yn heddwch, Nawdd a dirgelwch mynydd - dir Gwalia. Hirfaith fu'r yrfa, —ac er mai tywell Yw gwedd y linell dragwyddol hona, Ar ei hyd yr eheda - ysprydoedd Y tra hen oesoedd arni teyrnasa Arddunedd o'r wedd hena; -i'm mynwes, Dystaw hanes boreufyd estyna;. Fy enaid glustfeinia - mewn dwfn osteg, I gael chwaneg o'r dirgelwch yna.

Dyma'r fro gan Gymro gaid,
Un tymhor, heb un tamaid;
O'i thir, na'i thòn, yn eiddo neb; -nid oedd Bryd hyn drais na geudeb,
Iddo yno'n wrthwyneb; -nac i'w floedd Un genau yttoedd ond creigiau'n atteb; Hardd randir ddierwindeb - hawdd iddo Yr adeg hono, oedd rhodio ' i gwyneb.

Eiddo oedd iddo ei hun; Hon a wybu cyn nebun; Drwy hyn ei iawnder a’i hawl
Iddi hefyd sydd ddwyfawl.

 


 

 

x031


Dyma'r fro deg hono, gynt - oedd bybyr Ei phreswylwyr, cyffrous eu helynt.

Ein teidiau oeddynt odiaeth - am arddel Mawrddysg a gwybodaeth;
Gwaith rhinwedd ac athroniaeth
O'u mysg yn ddyfnddysg a ddaeth—
A mawr drefn am hir dro - cyn i Roeg ffraeth Nac Europ helaeth greu eu Happolo.

Hanes hynt yr ynys hon - hyd heddyw,
O'r dydd gwelodd feibion,
A gyhoeddai ddygwyddion,
Nas gwelwyd mewn breuddwyd, bron!
Heibio aethant fawr bethau - a feiddiant Wisgo ael Rhamant â disglaer emau.

Gwlad fawrwych a glodforir - hyd nef wyd;
Prydain Fawr yth elwir, -

Mawr ydwyd, O fy mrodir,
A mawr iawn er's tymhor hir.

Diluddias yw dy lwyddiant, -dy fryniau
A'th hael lechweddau ai bythol chwyddant; Y parthau pell ai porthant,
Môr a thir i'w ddarmerth ant;
Anhafal yw ' th nwyfiant, -anghydmarol
Yn dy ganol yw dy ogoniant;
Gwledydd enwog lwydant, -gerbron golau- Ei ddwyfol wenau, -hwy a ddiflanant.

Dy enw a adwaenir - drwy bob ynys, A'th ewyllys yn mhob parth ddiwellir; Dy eiddo anrhydeddir, a'th fawredd, Hynod ei amled drwy'r, byd a deimlir!



 

 

x032


 
Ychydig boblach ydoedd dy ddechreu, Yn y boreu, yn ngwddf ein haberoedd; Dau lon'd dwrn o Jutland oedd - dy bobl di; Heddi, hwy elwi wrth y milfiloedd!
Mae llwydd yn dy wydd er y dyddiau ― gynt, Pan gaid dy Fritwaldau, *
Hil Woden, ddwyfol hadau, -yn arwedd
Yni dy fonedd a'th dynghedfenau.

Hil Woden oedd i ledu - ei hesgyll,
A gwisgo ' r prifallu;
Yn feddiant llwyddiant i'w llu, -e fu rhaid
I'r hyf Rufeiniaid roi'r fro i fynu.

Y Saxon yn union aeth,
I galon buddugoliaeth.

Am lwyddiant yr ymladdai- Llwyddiant a gogoniant gai,
Ei faniar ddaliai fynu;
Arswydd oedd drwy'r Oesau Du.

Tynodd y tair - gwlad tano, -ei deyrnas
Ai'n gadarnach etto;
Trwy ddwyn grym at rym bob tro, Estynwyd concwest hono.

Gwr teyrngar, gwladgar a glew,
Disegurdod - esgairdew,
Yw'r Cymro - rhagddo y rhed - heb lwfrhau,
Er gweled angau yn treiglo ' i dynghed!
* Ymerawdwr, neu Unbenaeth yn mhlith y Saxoniaid gynt.

Un o brif - dduwiau y Saxoniaid, oddiwrth ba un yr hana eu holl freninoedd. Cyfrifant fod Victoria o'i linâch.

Cymru, Alban, a'r Iwerddon,
 
D



 

 

x033


Hwyrdrwm yw'r Scotyn hirdro, Ond dewr fydd pan dery fo: Hyf y cwyd ei gleddyf cadarn, Tery ag ef nes tyr ei garn: Ofer yw hyn ni lwfrha
Ef eilwaith a ryfela
A'i fidog, hyd fo wedy'n
Wrtho y gwaed yn darth gwyn!.

Mae'r Gwyddel fel awel wyllt, Ergydia yn wr gwaedwyllt: Fe a wana ar fynyd,
Trwy angau eirf tri yn nghyd! ]
Fyth, drwy aliu y fath drillwyth - campus
Nis cwympir hi'n esmwyth:
I Brydain, pan bo'r adwyth,
Un o'i gwyr wna fwy nag wyth!
Dewrgalon yw'r Saxon syth - mewn câd wyllt, Ac yn y gwersyllt mae'n ddigon gwarsyth.

Ei hyder a'i falchder fyn
Yr olaf ar ei elyn.

Pwy fyth wrthsaif y Brython? -maidd enwog, Drin y bidog à dwrn Abbadon!
Draw y Gauliad dewrgalon - a ffoà, E ' baid cweryla a'r bidog creulon.

Penderfynol a gwrol wladgarw,
Yn gryf o'i waclod, yw'n beiddgar filwr: Nid oes na dryghin na goflin gyflwr
A dyr afaelion y dewr ryfelwr:
Dyna'i daith drwy dân a dw'r: -ni thry'n ol, Drwy ing â'n wrol, drwy angau'n arwr!



 

 

x034


 
Dugiaid yw'n cadfridogion — aurgleddyf, Ac arglwyddi mawrion: Enwogasant yn gyson
Hanes eirf yr ynys hon.

Hwy arweiniasant, drwy'r Gorynysoedd, Ein heirf haeddianol a'n dewr fyddinoedd, O gâd i gad, ac ardderchog ydoedd
Y llwydd a gaent o'u llueddog hyntoedd: Hwy gyfodasant, rhag drygfyd oesoedd, Eu baniar enwog drwy'r maith benrynoedd; Ein " Llew " o blith ein lluoedd - a ruai Ac ofn a dorai drwy'r cyfandiroedd!
Y pryd hwn BONAPARTE ai I oresgyn, a rhwysgai.

O'i flaen pob peth ddiflanai, -ië'r Alp Dan ei droed a blygai!
Am y wlad yr ymledai: -o gwmpas Bywyd ac urddas y byd y cerddai.

Naddai gyrn breninoedd gant, -teyrnasoedd Y gorynysoedd a gydgrynasant.

Eangai ' r Ergr Ffrenging - ei esgyll,
A'u hysgwyd wnai'n ffyrnig
Uwch Europ lân, yn dân dig, -gan dybio Yn llipa roi dano'r Llew Prydeinig.

Ond danedd celyd hwnw - oedd bybyr; Briwiwyd yr Eryr newn can ' brwydr arw
Ei lu certh yn Rolica - fawr rwygwyd, Ei nwyf anmharwyd yn Viemiera; Y Brython mewn bâr eitha - ardderchog Wasgai'i wyr enwog ar faes Corunna; Ow! ryfedd, pwy rifa — ' i glwyfedigion, A'i lu o feirwon yn Talavera!



 

 

x035

 
Ei resoedd yn Barrosa a dorwyd; Yn eu hol bwriwyd hwy ' n Albuera; Encyd o Salamanca - ddinas fawr, Y bu dialeddfawr enbyd laddfa.

Rhwygwyd Ciudad Rodrigo- gadarn; Gwaedwyd glanau'r Ebro;
Wele hefyd ddylifo - gwaed calon
Llu o'i wyr dewrion, nes lliwio'r Douro.

Holl gampiau'r Llew o gwmpas - yr Eryr, Ar wàr Torres Vedras, -

Lwyddodd i'w luddias, —eithr yn Waterloo, -- Y marwol le hwnw, bu mawr alanas.

Efe a weloedd ar fyr,
Hyf waelod ein traedfilwyr—
-

Cewri y dydd, caer o dan
Oent hwy ar Fryn Sant Ieuan!
Ni allodd, er llawer llu,
Eu henill, na'u gwahanu.

Eu tân egorynt, a chaid hwy'n gyru, Ar ei chwai adlam ei holl warchawdlu Ymerodrol, mewn hollol anallu
I ledu'r Faniar, nac ail droi ' i fynu. Y dydd oedd yn diweddu, -NAPOLEON, A'i holl arfaethon, wedi llwyr fethu!
Yno BONA unbenig — a rwygwyd Ar graig dderchafedig,
Gadarn, anysgogedig, -gwroldeb Parodwyneb y milwr Prydeinig.

Pwy? O, wâr Europ, pa arwron - wnaeth-

Pan oe't yn sarn wirion
I luoedd NAPOLEON-

Ynot hedd, ond WELLINGTON?



 

 

A page of a poem

Description automatically generated

x036


 
Yr oedd ei enw arddunol - yn arswyd
I wersyll estronol,
A gwys i'r uchelgeisiol,
Ar un waith i droi'n ei ol!


Helaeth fuddugoliaeth gain - sydd wedi

Erioed, briodi dy eirf drud, -Brydain.

Dylanwad dy law enwog, Fu derydd gerydd ar Gog.

Dimygaist gryfdwr Magog - ti doraist Ei darian ardderchog: Oferfost y cryfarfog - ostegaist:
Er ys tro baeddaist ei restrai beiddiog.

O dyrched Rhyddid, ddiofid, ddwyfol, Am le i'w choron - ei mawl a'i charol; Cylchyned seiniau y tonau taniol, Le pau ' r Eryri, a'r Alp arwrol;
Aed sain cân heddwch yn swyn cynyddol, O lanau Tiber hyd lwyni Tobol; Trahaus fyddinoedd y trawsfeddianol Gossac, uchelgeisiol - a lwyr ddrylliwyd; Bywyd gyrhaeddwyd i'r byd gwareiddiol.

Dy eirf, 0, Albion, wnant dwrf a helbul, Dial a ddichon dy law ddiachul,
Ar nwydau gwyrgam rhyw deyrniaid gorgul; Tydi a sengi uchelgais anghul,
Hyd faith for a goror gul - o wlad Gog,
A daear Magog i dir y Mogul.

Cyn hir ymwelir yn drwm ei wala,
A chreulondeb croch, croch - ruol India; Cyfiawnder dwyfol a ymgnawdola,
Ei eirf a waedant addolwyr Vedah;
Ar Oude y farn a rodia, -mewn gwaed sang Ymylau eang yr Himalaia!
 


 

 

x037


Czar, Sultan, Sha, Khan, a Sheik, hwy - gadwant,
Gyda pharch dyladwy,
Le mawr i dy hawliau mwy, -gan omedd,
Yn dy anrhydedd, wneyd unrhyw adwy.

A'th fyddin gerth, fe wyddir, Wyt yn darostwng y tir; Ac, a'th lynges eres, wych, Y môr, drwy gampau mawrwych; Edymyg y merchyg y môr,
Rhy drem i'r ddaear dramor, -- I weled hanes ei deiliad yno— I dori heddwch ac iawnder iddo; Ei hwyl lydan, pan ledo - sydd, lle'r hêd, Barhaus nodded i'w berson a'i eiddo.

Curo gwillmyriaid * crigyllau moroedd; Gwarchod dyhirod hyd y dyfnderoedd; Adeinio trafnidaeth - dwyn trefn ydoedd; Cofio iawnderau drwy'r cyfandiroedd, A'u hiachau o'r fasnach, oedd yn creulon Elwa mewn dynion duon, fel daoedd! Difraw y rhodia'r dyfroedd - yn enwog Frenines amgylchoedd
Y don; trech nag Holland oedd - Hispania, Na'i myg Armada, mwy ei grym ydoedd.

Ba werth yw brau byrth o brès? —o'n mòr prid A'n " Mur Pren, " mae'n hachles;
Gelynion glyw ei hanes, -yn ddiau, Deheulaw angau yw'n diwael lynges!
Wele! mae rhyw ddysgwyl mud - i'n bro hon, Pan ro'i braich hi'n symud:
Gan fraw saif gwallt yr alltud; -pan gyffry- Ei llais, diau, wrendy'r pell estrondud.

* Pirates. † Alltud - Stranger, or Foreigner.




 

 

x038


 
Hwyr erys ei harwredd cyn taro, Ond pan delo gwyr wneyd pen - dialedd.

Ei mwynder hefyd, cyn myn'd i ryfel, Geir, o achos ei syniad goruchel-— Mai hedd yw'r duedd dawel - sy'n esgor Y ddawn at agor llwyddiant diogel.

Gwlad dawel, wedi gwel'd diwedd - bradau, Yw Brydain ddiduedd;
Elwa fyn yn nghelfau hedd,
A rhanu dawn a rhinwedd.

Egyr bob bryn ac eigion, -llafuria
A llaw fawr a chyson;
Tywysa bob manteision, -gan ystyr
Iawn drin ei gweithwyr, nid eu rhoi'n gaethion.

Ewybr weithiwr yw'r Brython, Gwythen frwd yw gwaith ' n ei fron; Trin anian a'i boddia ' n bur,
Un ytyw ' n caru natur.

Dywenydd y Prydeiniwr - yw anian,
Yn mhob hoen a chyflwr;
Mor lôn ei galon yw'r gwr,
Y dwthwn y bo ' n wlad - deithiwr.

P'ond difyr yw'r pendefig,
A'i lys haf ger bron glas wig?
Gwel wedd ei bare mawreddog - yno ewyd
Y coedydd bras - ddeiliog
Eu penau yspynog - gan dawel fwrw
Eu llun a'u delw i'r llyn dihalog;
Ac yno mae'r pysg cenog - ar grwydr fflwch, Yn nhawelwch yr hwyrnawn heulog;
 


 

 

x039


Hithau ' r alarch yn marchog - mewn helaeth A hoew bendodaeth, heibio'n odidog;
Ar ei lawntiau garlantog - mae'r ceirw'n bod, - Yno cerdd iyrchod mewn rhwysg ardderchog.

Ei draed a fyn hyd rodfau F'o oludog o flodau, Rhai hygar o bob trogylch Wisgant ogoniant o'i gylch; Trwy ei erddi try harddwch Ysplander, a ffloewder fllwch; Dringo hyd wal ei balas
Ceir blodau yn g'lymau glas. Yr un fath mae'r hen fwthyn, Yn ei wisg falch o galch gwyn! Yno, etto, chwardd natur
Mewn banc glân, neu berllan bur, Mewn muriau'n rhaffau o rôs, A llwyni ' n demlau llinos.

Myn yntef sy'n y dref draw, Rhwng y cerig yn curiaw,
Le i'w adar a'i flodau, -gwna'n fuan Rhyw Eden fechan er dwyn ei feichiau.

Y gweithiwr, fel garddwr gwych - gwyd ffrwythlon Welyau breision, o ddail a bresych.

Llon yw ef, a llawn o hwyl,
Ag archwaeth at bob gorchwyl.

Mab tawel yn mhob tywydd, -llaw barod,
Wyr iawn ymosod i drin y meusydd.

Hardd oror yr arddwriaeth - briodol,
Yw Brydain ehelaeth;
Drwy drin, wrth rin athroniaeth, Cryfdwr i'r tyddynwr ddaeth.




 

 

x040


 
Ei wyddor a'i gelfyddyd, -ei wiwdrefn,
A'i ddiwydrwydd hefyd,
A'i gwnaeth yn benaeth y byd, —a'i fro wen, O'r Udd i'r Hafren, yn ardd o'r hyfryd. Bro hynaws ei hwybrenoedd, -gauedig, Gysgodol ei glynoedd,
Araul ei gwastad - diroedd, Hudoliaeth i amaeth oedd.

Ar wedd ei daearyddiaeth - mae addurn A meddwl yr amaeth,
' N chwareu o'r truman i'r traeth - dan dawel Rym yr awel, mewn mawr amrywiaeth; Meusydd o ddolydd helaeth - yttir sydd Twyni a chlosydd o tan achlesiaeth.

Diwyllir gwyllt - tir à galltoedd - geirwon, A gwarau'r mynyddoedd;
A chuddir y llechweddoedd - porfaog, A defaid gwlanog, dôf, hyd y glynoedd.

Af i wel'd bro Trefaldwyn,
I fyd mawr y
defaid mwyn
Oddiyno'n ddianaf,
!
I Cheviot Fryn wedi'n af; Safaf ar South Downs hefyd, Gan dramwy bro Radnor, hyd Droi i Dorset, drwy deirsir; Ac wedi'r faith ymdaith hir, Caf amlwg olwg helaeth - ar orau Ddëadellau dan urdd diwylliaeth.

Mae'r ŷch tew, ar march tàl - hardd a grymus,
Buan, nwyfus, heb un o'i hafal.

Dianaf yw'r eidionau, -a'r ebol
Arabig ei branciau;
Tyrchod a buwchod y bau - yn cychwyn
Hyd y tyddyn ar gwastadeddau.

 


 

 

x041


Goludog yw'r gwaelodion - ceinddeg oll, Gan ŷd, gwair, a meillion;
Mor brysur, mewn llafur llon, -i'w canfod Trwy y gwaelod, yw y trigolion.

Mawr
Bwy wyr am un bro o'i maint, Ddwg o amaeth dda, gymaint?
ᎩᎳ ei chnwd i'r marchadoedd, —yn ŷd, Yn wair, ac enllynoedd;
Llysiau, adar gwar ac oedd - wrthynt raid, Ac anifeiliaid tewogion, filoedd.

Arddwriaeth a aeth weithion - i loni
Siglenydd Iwerddon;
Agor wnawd, rhwng gwernau hon,
Le i wair, ŷd, a chloron.

Gwael wedd fu ar Gelyddon, -- ond holliach Ddëadellau, weithion,
Döant ei bryniau duon, -hardd y dyrch Y fro ddigynyrch, dan fyrdd o geinion.

Cymru lòn ei bron, heb rus, Mae hithau yn amaethus; Beichir ei ffarmoedd bychain
Gan gnwd trwm trwy bob cwm cain.

Wyd, Frydain gywrain, drwy law gyhyrog Dy weithwyr heini, a'th nwyd athronog, Wedi ymhoeni; y mae'th drem enwog, Fel hên dud Eden, yn fwy godidog- Yn fwy cain - orchwyl, neu'n fwy cynyrchiog Na diwael ddaear yr Eidal ddiog; Rhagoraist, wlad drugarog - ar fröydd llon Yr ir awelon, a'r awyr heulog.




 

 

x042


 
Mor ethol amrywiaethir Prydferthwch, tegwch ein tir!
Cwyd i wych olwg y coed uchelion; Y caeau cynyrch, a'r parciau ceinion; Dihalog erddi, a dolau gwyrddion; Dyffrynoedd tawel, isel, a breision, Tra gloew - wawr hefyd lle treigla'r afon; Llechweddau heulog, lle chwydd awelon; Barwnig lysoedd, a bryniau gleision; Trefnus ac iachus dyddyndai gwychion; Bythynod perffaith, glanwaith, gwalwynion; Arddunol a lledol gestyll llwydion; Eglwysi'n eistedd mewn dwysedd dison; Dinasoedd yn llywio'r moroedd mawrion: - Golwg sy ' wledd i galon, ―wisg ein gwlad— Drych o wareiddiad mewn derch arwyddion.

Ei gwyneb sy'n llawn gogoniant - celfol, Un o'i llywyddol elfenau llwyddiant.

Ond dawn ei phrif lwyddiant hi A daenwyd oddi dani;
O'i mewn hi y mŵn haiarn, A'r glô, sydd dragywydd garn; Copr, plwm, a zine, gan dincian, Ddaw byth o'i mynyddoedd ban! Daw'r clai, a'r siale, a'r alcam, A'r pres, o'i mynwes- eu mam.

Lluchir y maen a'r llechau, -a chraig wen Y calch a'r halen, o'u cêl chwarelau.

Wele foneddig hil o fynyddau, Yn troi eu gwyneb tua'r eigionau; A rhai eraill yn sengi'r gororau, -- Gwahodd trafnidaeth y môr i'w dorau;
 


 

 

x043


Arllwys, megys o'u bystlysau - llawnion, At reidiau dynion, wrth draed y tonau, Ri ' y ser o drysorau, -a feiddiant
Greu gwiw lwyddiant yn fwy nag aur - gloddiau.

Yntau'r môr, drwy'n gororau, -rywbryd oedd Yn agor ei gelloedd a'i grigyllau; Agor ebyr a'i gribau - i'r perwyl
O gael llwybr anwyl i gell y bryniau; —
Bryniau - bob rhai o honynt - difesur Ystordai natur, is traed dyn ytynt!
Gorwibia'r enwyllt agerbeirianau ' Lawr trwy y siroedd, o le'r trysorau; Y fro a lethant gan ddirfawr lwythau O lô a haiarn, o'u dwfn welyau, Gyru i waered tua'r gororau.

Meib trafnidaeth sy'n mhob tref yn heidian, Gydag " hoi - oian, " weithian hwynt - hwythau Draw a'u hestynant dros donau - ' r moroedd Llwydion, i diroedd llydain eu dorau.

Difyr eu newid hefyd,
Am aur, drwy holl barthau'r byd!
Gwalia deg! hyglod yw hi,
Yn ei thrafod a'i threfi.

Chwai y rhwygir ei chreigiau - lluosog,
Arllwysir ei bryniau;
Mae acw o hyd drwm waghau,
Ar ei hên, werthfawr haenau.

Tra mawrwych tua'r moroedd - llifa
Llafur ei mynyddoedd;
Hwythau y llongau, ' n llengoedd, —a'u ceisiant;
Parthau o lwyddiant yw ein porthladdoedd.




 

 

x044


 
O'i thywyll Weithiau ëang,
O ddyn byw clyw! clyw y clang!
Golau'r ffwrneisiau, drwy'n hoff fro ' n isel, Hed yn llif rhuddaur dros gaerau'r gorwel; Mynwes y nefoedd o'i mewn sy'n ufel; Gloewodd y tywyll wagleoedd tawel; Hwynt yn awr y'nt un oriel - lewyrchus, O'r bryniau iachus i'r wybren uchel.

Son am werth haiarn Merthyr A droes y ' mhell dros y myr; A thyfodd, fel gwyrth hefyd, Ei ha'rnwaith yn bengwaith byd! Twrf a nadau trafnidwyr --- Tanllyd feirch - tonau llwyd fyr, O lanau'r Wysg lonwawr - hi, A Thâf, a Nedd, a Theifi; Drwy'r orawr, dry yr awr'on, Uwch y'mhell i Amlwch - Môn.

Os yw haul Tyrus mewn iselderau, Os duo a wnaeth haul Sidon, hithau, Mae eirian haul hen Gymru yn olau, A daw'n y fan i daenu hâf - wenau— Hîn wych ar ein masnachau - ffrwythlonant, I'n plant rhy ' llwyddiant ei aur - allweddau.

Cawn wel'd ardderchawgrwydd cyn hir-- Daw adeg maes Glô'r Deheudir,
I'w gloddio a'i dreiglo a'i drin-

Effro adeg anghyffredin!
Diffodd wnaeth gogoniant Ophir — isod,
A Thartesar ddyhir;
Ymroi'n well wna Cymru'n wir, —dechreu'r da
Ar hên Walia, yw'r hyn a welir.

 



 

 

x045

Cu Iwerddon - bro'r corddi, Yn tywallt menyn hallt, yw hi; Hêd i mewn ei chnydau mad, Yn llif i byrth Llynlleifiad.

O blith Celyddon hithau - daw allan Yn mhob dull, erthyglau
Llin, a gwlân, -llawn yw o glau Olwynion a melinau.

O Glasgo, drwy bob glwys - gwm --hyd fŷr chwai, Gwerydd a Chatai, ' e gerdd ei chotum.

Maelog yw Birmingham, eilwaith - ei chrefft Ai chraffder sy ' berffaith, Yn rhoi saith deng - mil ar waith,
Ar ei hoffer hir - effaith.

Ei durdrec sydd yn clecian,
Drwy holl Ewrob yn mhob man.

Ac enwog yw Manceinion,
Uchel law fasnachol hon,
Ai dododd yn odidog - yn mhob swyn; Ei meib sy ' gyfoethog;
O'i henill hi, ' n derbyn llôg, Adawsem i dywysog.

Ceinwaith wehyddion cynil
Ddwg hon o'i mewn - ddeugain mil;
Hi sy'n dwyn ysnodenau,
A meinwaith perffaith ein pau-

Y pali ar tenlli teg,
A'r sidan disglair, sywdeg;
E rydd eirchion ardderchog - pob talaeth,
Ei pheirianaeth mewn cyffro enwog.




 

 

x046


 
Mae eraill drefi mawrion,
Na roi'r eu rhi yr awr hon— Hoew law - weithfeydd helaeth - fil, O ogoniant digynil, -

I fudo'r drafodaeth yn ngwahanol Ganghenau'r fasnachaeth, Ddiwala hon -- yn ddiluw aeth, Drwy y teilwng bedair talaeth. Lliosog, er ei llesiant - yw'r bryniau, A'r bronydd - arllwysant
Eu dwr oer, pur, i droi'r peiriant; A'u dwr pêr ddisycheda'r pant, Heolydd llyfn, helaeth - sy ' drwy'r Ynys, I glau dywys ei holl gludeiaeth.

Unwyd trafod, ein trefydd - neu lwyddiant Porthladdoedd a'u gilydd,
Ag aml asiad camlesydd, -draidd yn rhês Araf, o fynwes ein prif afonydd.

Clau wedi'n yw pob cludiad,
Gan fyrdd o gledrffyrdd drwy'n gwlad; Masnach sy'n llamsach yn llon,
Ar ager ac ar eigion.

Clywch draw'r oroian lawen - ar bob traeth— Sŵn trafnidaeth sy'n trefnu ei haden.

Gwibia, a dwg o ebyrth,
Pop pau, pob parthau i'n pyrth; Llawn o'i chlod yw Caerodor- Dinas ardderch, merch y môr.

Ail hon i Sidon, hi sai - yn drydedd, Drwy drafnidaeth erfai;
I'w ' stor a'i hwyl nid oes drai, Na nychdod i'w masnachdai.

 


 

 

x047


Clifton fawr hon, fry, fry! -- mewn gogoniant, Yn ddrych o fwyniant, a ddyrch i fyny.

Ond, Oh! Llynlleifiad gadarn, Mae'th drem di yn boddi barn!
-

Uwch un i'w fydru - yn ddrych anfeidrol, Byw, o arddunedd cyffrous barddonol, —-- O lwydd a chyfoeth a gwerth anferthol; - Ysplander, mawryd y byd darbodol; Dysplead llawn wyd o'r nwyd drafnidol, Yn mawredd anghydmarol - ei llwyddiant, — Twr o ogoniant y byd trigianol!
Dwyoes yn ol, nid haiach
Yr oedd y lle ' n bentre bach;
Drwy'r amgylchoedd nid oedd dŷ,
Na lle attal na lletty;
Na braidd un llef o'r un bryn,
Ond hiraeth yr aderyn!
Llwfr iawn edrychai'r holl fro Diffrwyth, heb ddim yn deffro Y dyn i synied, unawr, Y deuai'r fàn yn dre ' fawr! Ond heddyw, onid dyddan Edrych yn fynych i'r fan,
A chanfod masnach enfawr
Ei thai myg, a'i llongbyrth mawr?
Gan estyn ei llinynau - drwy'r meusydd, Aeth a'r afonydd yn ei therfynau.

Ei di - eilradd borthladdoedd, -heb attal, Y'nt yn bwyta'i thiroedd;
Y llongau sy'n llengoedd o'r terfyngylch, Yn dew o'i hogylch, fel y coedwigoedd.




 

 

x048


 
Glân fordeithwyr, i'w glenydd Yn d'od, ugeinmil y dydd! Peirianau, cerbydau ban, Yn ei dorau yn daran! Oherwydd ei rheilffyrdd hirion, Ei braich am y deyrnas sy ', bron!
Dodant o dan ei dedwydd - geseiliau. Wych ororau y Tawch a'r Werydd.

Yr ager dros yr eigion - i'w mynwes Gymona'r Iwerddon;
Holl ororau'r lli'r awr'on - a fygant! Dacw o lwyddiant diwyd celyddon, - Americ, a phyrth mawrion - dwyreinfyd, A deheufyd, yn dod i'w hafon!
Dinas - mae son mawr am dani,
Tŷ mawr y cotwm yw hi,
Tŷ olew'r palmwydd tàlion,
Tŷ pob gwlad, pob rhad - pawb, bron!
Ond, beth am lwydd gorymchwyddol - Llundain, Ai llawnder annrhaethol?
Ni rydd hanes arddunol - yn nrheiglau Ymerodraethau, ddim mor dra ethol.

Wele'i hygar boblogaeth, O rif, fel cenedl fawr aeth! Ei thai orchuddiant ei thir- Redasant ar hyd dwysir; Sŵn ei chelf ai masnach hi, A draidd yn dymhestl drwyddi.

Rhifnodau ei thrafnidaeth,
I ryw swm uwch reswm aeth; A cheir holl fasnachwyr hon,
O agwedd tywysogion;
 



 

 

x049

Dawnus ben - dinas y byd,
Yn mhob môr - yn mhob mawryd. Pe bai o les, Babi - lon, -orenwog, Olrheiniwn yr awron;
Trwy ei heolydd, a'i phetryalon;
Ei thai a'i haml leoedd, ei themlau hoëwon; Ei huchel dyrau, a'i muriau mawrion; A'i chywrain - grogedig - erddi gwyrddion; Ei ffrwythawg welyau, a'i phyrth gloëwon: Gorphwys lefyd ger ei ffôs, a'i hafon, I weled holl olud hon, -ei mawredd, Ai hanrhydedd yn nydd ei chariadon.

Er ei holl orwychder hi,
Bu wael wrth ddinas BELI. *
Dinasoedd enwog y dawnus ddynion- Hyd dir a moroedd, -trafnidwyr mawrion, Trwy oesau, ydoedd Tyre a Sidon;
Golud a ddygent, o bob gwlad, ddigon:
Eithr eu gwrid aeth, rhagorwyd hwy weithion: Mwy enwog ydyw minion -- Tafwys ddrud, - Chwe ' mwy o olud gyrch i'w hymylon.

Gwlad gaerog, oludog, gywrain, -- awchus, Fasnachog yw Brydain;
O'i fewn ceir elfenau cain - sy'n arwedd, Hynt ei mawredd a'i llwyddiant mirain.

Oni thraethir o'i threthi - tra helaeth,
A'r traul mawr sydd wrthi;
Ac o ben eluseni - ardderchog
Ei llaw odidog, a'i chyllid wedi:
Mor ddwys yw ei mawredd hi, -mor helaeth,
Yw llwydd odiaeth ei llaw ddioedi!
* London,
E



 

 

x050


 
Lle i enill a gynlluniodd, ―enill
Yn mhob man a fynodd:
Awyr, dw'r, a haul yn aur drodd, — Duw y golud a'i gwelodd!
PENNOD II.

AR
FAWREDD
PRYDAIN.

Dy Fawredd oedd fel dyferyn, -yrwyd
Yn for mawr diderfyn;
Ac achos wedi cychwyn
O ddef uwch natur oedd hyn.

Fe luniwyd i'w gyflawnu - waith mawr it ', Gwerth ymroi o'i ddeutu: Gogoniant dyfodiant, fu— Un oeddit i gynnyddu.

Pa genedl wypu gynydd - poblogawl, Tan nef wawl, i ti yn hefelydd? Plant o nifer sêr it ' sydd - sêr golau, Yn oleuadau tywyllion wledydd. ' Neur pob lle y taenir pebyll dynion, Neu wlad, iddi nawf goludoedd neifion: Lle cyrhaedda haul - lle cerdd awelon, Neu y wawr, hithau, yno mae'r Brython; Ac ôl ei law a'i galon, -yn gynnydd, Bywyd, llawenydd, a phob dillynion. Wele dy deyrnwialen - alluog,
Yn llywio tynghedfen
Hanner y byd mawr o'i ben: Rheoli lle try haulwen.

Draw y gwiw weithir dy diriogaethau,
Ọ wâr fro Ewrob, hyd brif ororau



 

 

x051

 
Affriga anial, -cyffroi gewynau Y gwr o antur, a'r negro yntau; Ar draws Amerig estyni'th frigau, O Ogledd daear hyd forglawdd Deau: Hyd foroedd aethost, y dyfroedd hwythau Etto barthaist * i ddwyn it ' aberthau: Ynysoedd eang, -lle neis i dduwiau— Yn tyru o fwyniant y trofanau, -

Yn llu feddianaist a'u holl hâf - ddoniau: Wyt wedi estyn dy faith linynau, Nes adwaen eithaf Hindwstan hithau; Agoraist ffordd hyd gyrau - ' r anialwch, — Trwy y diffaethwch try dy effeithiau: O, fro uchel! dy freichiau - o gylch aeth I'r ddaear helaeth, yn wrydd aur olau.

Un o fawredd anarferol - ydyw
Ei thrafnidaeth nerthol; Hi sy'n uwcha'n fasnachol, - Heibio daeth a'r byd o'i hôl.

Mawr a chref yw Prydain hefyd - o'i mewn, Yn mhob llawgelfyddyd;
Hi yw cronfa cywreinfyd,
At ei bwrdd mae hynt y byd.

Oes llednais ddyfais, na ddaeth O'i dwylaw i fodolaeth?
Mae'r ymchwil, weithian, a'r gogonianau, Ar ymadael â'r hen Byramidau; Ni bydd olrhain hen gywrain feddgorau Acw a rwygwyd o'r cedyrn greigiau; Ni chodir teimlad gan wychder temlau, Yn gyfan naddwyd o'r creigfynyddau—, * Ei physgodfeydd.




 

 

x052


 
Rhai têg y ddaear - tai y gaudduwiau, A hir ranasant glôd yr hen oesau: Weithian uwch yw'r arfaethau ― ddadlenir, A mwy'r dawn welir yn Mhrydain olau.

Pa ail fan i Sant Paul fawr?
Eglwys nas caid ar greiglawr- Areopagus, ddim mawreddusach? Y Tŵr Gwyn, etto, -b'le trig hynottach Mawredd hwnw? b'le mae ei arddunach? Westminster, hefyd - pa lŷs o'i dlysach? Ni bu lawn addurn o'i ysplenyddach, Yn un oes arall; na'r hon sy ', hwyrach; Ac ni ddaw, o gynnydd iach - galluoedd Newydd oesodd, ei ogoneddusach.

Pwy a welodd ail y Palas - Grisial, Goriesin, mawr gwmpas?
Anhawdd yw dirnad mawredd y deyrnas Allai weinyddu'r fath gynllun addas, I ddwyn celfgarwch, harddwch, ac urddas Byd crwn, mewn dwthwn, yn un gymdeithas.

Ydwyd, ydwyd, O, Balas godidog! Yn rhyw hedd - orchest! -fil mwy ardderchog Na chaerwaith China - na Charthage enwog- Na themlau Tyre - na thy mawl twrog, Belus, dalgrib, halog; -wyd adeilad Lle mae i wareiddiad ddull mawreddog.

A oes ail i'w Llynges hi,
O fawredd a niferi?
Oes llong ar fôr un gorawr, O'r un faint a'r " Eastern Fawr? "
A dry o byrth pedwar ban, Ail fyth i'r " Leviathan? ”
 


 

 

x053


Mae Prydain firain yn fawr, Fel un heb iddi flaenawr: Yn ei heirian Wyddoriaeth, Ar ei hynt i'r pellder aeth.

Mesur ei mawredd moesol - sy ' anhawdd;
Maes hwn sydd anfeidrol:
Drwy bob lle wele ei ôl,
Hyd y byd ymwybodol.

Yn mawredd y cymeriad - garia'i moes,
Mae grym ei dylanwad;
E glyw pob teyrnas a gwlad, -heb wneud dadl, Dwrf ei hanadl a'i phenderfyniad.

Mor enwog y mae'r Ynys - am rhinwedd! Mawr iawn yr ymddengys,
Yn a all iawn ewyllys, -neu a all Goleuni deall a'r galon dywys.

Ei rhyfedd fawredd sydd yn llifeiriant O brif - wahaniaeth - o bob rhyw fwyniant, A all addurn a llwyddiant - ei gasglu; A dawn a gallu ddwyn dan eu gwelliant.

PENNOD III.

AR OGONIANT PRYDAIN FAWR.

O, BRYDAIN! mor briodol - i'th anian, Yw'th enw arddunol!
Ei lanw wyd, heb le yn ol,
I addurn adnewyddol.

Ynot, hepian, mae Utopia * -daear; Tydi yw ei thrigfa:
O honot y cychwyna - gwawr bywyd, — Hawddfyd, dedwyddyd y " dyddiau diwedda. "
* Y Mil - flwyddiant, neu yr Oes Euraidd.




 

 

x054


 
Dedwyddu dynolryw yw dy awydd, - Dryllio pob rhagfarn gadarn egwydydd; Dwyn dynion o galon at eu gilydd, Fel un frawdoliaeth odiaeth o ddedwydd. Dwyn ewyllys dyn allan, -a'i ddeall,
O gaethiwed anian, -

-

Rhoi i'w ysbrydol ran - le clir, dystaw, I ymegluraw'n ngrym ei gwawl eirian.

Nid dy olud, na'th lwydd anattaliol, Yw dy ogoniant prif yn dy ganol; Ond anian rîn - dywynol - ysplenydd Dy enaid ufydd, —dy ỳni dwyfol. Amlen dy gydymdeimlad - a ledaist Dros dlawd ac amddifad;
I wael wr, at fwrdd y wlad, -i'r rheidus, Ac i'r adfydus y ceir dyfodiad.

Wele, mae'r anifail mud - o dan ael Ei dynoliaeth astud;
Pa faint mwy ar drothwy drud - ei breswyl, Y tal disgwyl at ei deiliad esgud?
Ei dynoliaeth a dywyna aeliau,
Meib yr anial sy ' drathrum eu bronau; Hwynt hil Ishmael gant adael ei tidau, Ac olew hefyd gant ar eu clwyfau; Hi a brynodd eu breiniau, Jubil oedd Ei threm i diroedd y gorthrymderau. Agawr clwm y negro clau - troi wyneb At yr anwar lwythau;
Maethu hedd ac esmwythhau - meib artaith, Yw priod anwylwaith Prydain olau.

Mae'r un ffoadur fu mor anffodus, A thori amod ei wlad orthrymus;
 


 

 

x055


Na cha'dd yn Mhrydain firain, glodforus, Neillduedd enwog a lle dyddanus,
A maes o encil rhag gormes wancus? Er esgyrnygu a throi ' scorn wgus, Ni ellai'i ddilyn a llaw ddialus: Dyma Rhyddid mawreddus - nas temptir Ag aur o Ophir, na geiriau hoffus. Aed tir y gwinwydd - natur a'i gwênau; Aed daear felus, gwlad aur - afalau; Pau wâr elysium, a bro'r pêrlysau, Neu bau aur - afonydd: pob rhyw fanau, I'r sawl a'u caront - rhy sal eu cyrau, Os yno Rhyddid sy ' wan ei wreiddiau. Ond, O fendigedig wlad fy nhadau,
Rhyddid sy'n reddf drwy'th ddeddfau, -gwnai heddwch A diogelwch i waed ac hawliau.

Mae i Wasg ei rhyddid moesgar: —i bawb
Rhyddid barn a llafar;
Rhodd Duw yw ein Rhyddid wâr,
Yn tywys Rhyddid daear
Rhoddir a noddir i ni - y Rhyddid Hwnw, a ddylid ' i iawn addoli.

Goludog yw'n gwladol - gyfansoddiad, O oddefiad â'r hyn sy ' ddwyfol:
Mewn gwir ryddid, mae'n graddol - ddynesu, A rhwydd dynu at berffeithrwydd dynol. Ein Senedd yn mhob syniad - uchelryw,
A geir heddyw yn safon gwareiddiad. Unbenaeth iawn, beunydd, -pendefigaeth, A gweriniaeth sydd ynddi'n garenydd; Ni ŵyrant ddim, o herwydd - maent, rhag drwg, Yn bwrw golwg ar lwybrau'u gilydd.

Pybyr yw'n Seneddwyr ni - gwyr mawrion, Etholedigion wrth hawl diwegi;



 

 

x056


 
Hyspys, megys Magi, -i dynoliaeth,
Wedi eu helaeth ysprydoli
Aeddfed i ffurfio deddfau - at anghen
Tynghed yr amserau;
Codi'n gwlad - cadw'n glau, —mewn ac allan, Ei chlod eirian ar uchelderau;
A'i gwneyd yn ddadganedig - a chyhoedd, Ddrych i fydoedd mewn rhin dderchafedig. Duwies yw'n Brenines ni,
G'nawd i hon gwneyd daioni; Ar ei thir, na'i phyrth araul, Na'i chlôd hi, ni fachlud haul! Ei chyfraith berffaith sy ' bur, Un ytyw a deddf natur:
E draidd cyfiawnder drwyddi; Cyfiawnder a'i harfer hi; Nid deg o'i gweinidogion, Na lliw'r aur all wyro hon: Nid wrth farn gadarn un gwr, Sai ' a haedda troseddwr.

Hyawdl, con ddadleuwyr - ni thyciant,
Er a draethant; -y diofryd reithwyr A'i barn ef, heb aur yn nôd,
Na dybén, ond cydwybod.

Pau Prydain! lle pob rhadau, -tir gwynfyd; Llwyddfyd, dedwyddfyd, sy'n llon'd ei deddfau.

Ei thêr ragoriaeth arall yw addurn Ei meddwl mawr, diball:
Yn ei hawydd anniwall - aeth yn glau Uwchlaw y duwiau, yn chwyl ei deall.

Nid edwyn ei meddwl didor - i'w daith, A'i deil, un gagendor;
Calon y mellt, cloion môr, I'w neges sydd yn agor.

 



 

 

x057

Toreithiog anturiaethau - gyflawnodd, Y ' mhob byd teithiodd am wybodaethau; Gwedd arall i'r gwyddorau - gyfranodd, - Goleu hâf ddododd ar gelfyddydau.

Goleu dydd, o'i herwydd, ddaeth, Ar weddill Daearyddiaeth. O, HUGH MILLER, dyner, dêg, Ti ddoraist Ddaeareg;
Ti lenwaist o oleuni,
Gylch ei holl ddirgelwch hi: Daethost â hi mewn dwthwn, Yn esponiad Crëad crwn: DADGUDDIAD a gyhoeddai, - " Fy chwaer hon, i'm cyfochr ai. ” O'i mysg meddylddysg a ddaeth, I'r byd yn glaer wybodaeth; Yn ei theulu, ' n ffaith ddilyth,
Fe fydd sôn am BACON byth.

Drwy'r oesoedd yr oedd Sêryddiaeth - dan sêl, Hyd nes i Newtoniaeth
Agor creadigaeth; -o hyn allan
Llithrai anian dan well athroniaeth.

NEWTON yn datgan ytoedd, -drwy ddyfal Gwymp un afal, holl gamp y nefoedd!
Yn llaw ei DDuw, allwedd oedd - i ddadgáu Y cêlwybodau, dadgloi y bydoedd.

-

Arddunedd dy Farddoniaeth; -amrywdeb- Mawrhydi - uwchafiaeth,
A delw dy ysbrydoliaeth - uchel, sydd Ddihefelydd, mae'n llawn o ddwyfoliaeth.

O'th fyw, ddieilryw Feddylrith - genir Gogoniant athrylith;
Brydain, caid y blaid o'th blith,
Roes hono ar ei zenith.

* Revelation.




 

 

x058


 
O'th Wasg ceir nerth i ysgwyd - y ddaear; Ei gordd hi a deimlwyd,
Ar wàr pob anhygar nwyd, —dan bwysau Ei grymus ddyrnau gormes a ddarniwyd. Anadla ar y cenedloedd - ryddid,
Cyfarwydda'r bobloedd;
Ei nerthol, hyf - ledol floedd - bair ddibaid Fraw yn enaid llaw - drwm freninoedd.

Mewn mawredd mae'n ymyryd, Gair o'i barn ysgoga'r byd.

Eangaist ar gyfryngau - gwybodaeth, Llawn yw y dalaeth o'u llên a'u diliau.

Ysgolion dyfnion mewn dysg - aml ydynt, Athrawon ynddynt sy'n mhob athronddysg.

A saif i dlodion wiw sefydliadau,
Lle gall y gweithwyr llogell - wag - hwythau, Gael siriol hwyrol oriau, wrth araf Wibiaw, hyd eithaf y gwybodaethau.

Ysgol Sabbothol, sai ' bythoedd - ei mawl,
Ar ymylau'r nefoedd:
Rhyw dlawd, yn yr ardal oedd, ―gadd gychwyn Y ddawn fyw, wedy'n, a ddenai fydoedd.

Y Gyfrol Ddwyfol, pan ddaeth, I'r genedl wnai'r gwahaniaeth;
Mae ei hôl ar ein miloedd: -rhyw wawr glir, O Air Duw, welir yn toi'n hardaloedd.

Puredig syniad Prydain,
A'i rhodiad mewn cariad cain, —
Ei Sul, ei Chapel, ei Sant, -a'i Heglwys, Yw'r enwau gynnwys yr iawn ogoniant. " Dy ' Sul " addolir Duw Sant; -diëilfath Ydyw ein Sabbath - ein Duw, a'n seibiant.

 


 

 

x059


O! ' r weddi daer, i wydd Duw A gerdd, o gyssegr gwir - Dduw; Ac O! mor bêr y chwery, Caniadau cynteddau'r Tŷ! A'r bregeth ddifeth hefyd, Sy'n fflam dân neu'n gân i gyd.

O'r nef y daeth ei chrefydd - oruchel; Saif yn ddrych ysplenydd.

O'r fywiol effeithiol ffydd, -sydd mor loëw Yn rhoi ei hardd ddelw ar yr addolydd.

Prydain dda, mewn pryd iawn ddaeth, At wyneb Protestaniaeth.

Hedd yma, a hawdd amor, -

I gylchyni'r allor,
-a chenad
Heb ofni gwys, chwilys, na chôr Nac ing, o blith un cynghor.

O, fro - dir, nef - haelfrydedd! -dan ei bron Hi mae y galon i wneud ymgeledd.

Wele! sŵn elusenau
Ei meib hael sydd yn mhob pau: Biblau a roes i'r bobloedd,
A llên Duw i'r lle nid oedd: Gyrodd wawl Trugaredd ar Ddu, dywyll leoedd daear.

Hyhi yw syw Fynydd Sion-

Dinas y Duw mawr yr awr hon; EI gyfraith faith ni fetha-

O Brydain lân allan â;
A Gair y Bywyd a gerdd
Hyd eitha'r ddaear ddywerdd: Nid ymwêl, heb ddychwelyd
Pobl lawer o bellder byd,
Atto Ef, bydd etto hwyl - ar ddwbl * wau
Y sain o enau Merch Sion anwyl.

* Repetition is a peculiar characteristic of Welsh congregational singing.




 

 

x060


 
Bydd trech y " gareg fechan " -a dreiglir
O'th drigle di ' n fuan,
Ar bwdr draed y ddelw welw, wan: -syrth cyn hir, A hi a ddryllir o'r ddaear allan.

Ni unir gwrth - anianau - os uno, Dros enyd, wnei'th arfau:
E roi'r y dall - gynghreiriau *, Rhyngod sydd, rhyw ddydd yn ddau.

Oni weli'r Bwystfilod - yn crynhoi Eu cyrn er gwneyd difrod? Ar eu cyrn Duw ry ' ddyrnod, -- " Cyrnau ddeg, " - ceir hyn i ddod. Mae gwaedu Armageddon — yn agos, Pryd ddygir, drwy fawrion Nerthoedd a byddinoedd IÔN, Ddinystr yr anwir ddynion.

Tynu mae Protestaniaeth - y gwledydd At ei gilydd yn llu têg, helaeth: Gwelir, wrth bob argoeliaeth, -bydd, bob - tu, Rhwbio a bacddu mawr ar Babyddiaeth.

Rhwygo garw fydd ar y gau - grefyddau; Gogoniant mynegol Duw y duwiau Leinw y ddaear: ni chaiff eulundduwiau Mor ddihawl wedy'n ' mo'r addoliadau; Y dydd hwnw sydd yn neshau, ―llenwir cant + Daear à moliant Duw i'r ymylau.

Duw Iôr wnaeth Prydain dirion - yn brif wlad Ei sylw a'i gariad, a'i rasol goron.

“ Moli Nêr am le yn hon,
Yw galwad y trigolion. "
* Ei hundeb cyngrheiriol â Ffrainc, ac â theyrnasoedd Pabyddol ereill. + Circle.

 



 

 

x061

THE BEAUTY AND EXCELLENCE OF THE
WELSH LANGUAGE.

BY EDWARD JONES, " BARD TO THE KING. " A.D. 1825.

Says the author: -Another cause, which operated with equal power on our poetry, was the strength and beauty of the language in which it was conveyed; if it may not with greater truth be said, that by the poetry those inherent properties of the language were called forth. The character of Welsh poetry, and its dependence on the language, have been so well displayed in a dissertation on the subject by the Rev. Mr. WALTERS, that I am unwilling to make use of his sentiments in any other words than his own.

" is
" The Welsh language " ( he observes ) " is possessed of native ornaments and unborrowed treasures. It rivals the celebrated Greek in its aptitude to form the most beautiful derivations, as well as in elegance, facility, and expressiveness, of an infinite variety of compounds, and deserves the praise which has been given it by an enemy, that notwithstanding the multiplicity of gutturals and consonants with which it abounds, it has the softness and harmony of the Italian, with the majesty and expression of the Greek. "
6.

Ni phrofais dan ffurfafen
Gwê mor gaeth a'r Gymraeg wèn.

Of all the tissues ever wrought
On the Parnassian hill,
Fair Cambria's web, in art and thought, Displays the greatest skill
The glory of a language is a copious rotundity, a vigorous tone, and a perspicuous and expressive brevity, of which a thousand happy instances might be produced from the Cambro - British MSS. Their compass reaches from the sublimity of the ode to the conciseness of the epigram. Whoever explores these ancient and genuine treasures will find in them the most melodious num- bers, the most poetical diction, the most nervous expression, and the most elevated sentiments to be met with in any language. "
A language, however fortunate in its original construction, can never attain such perfection without a very high degree of cultiva- tion. It is evident, therefore, that at some remote period the Welsh themselves were highly cultivated, and had made great progress in learning, arts, and manners; since we discover such



 

 

x062


 
elegance, contrivance, and philosophy in their language. Some authors have attributed this refinement of the Cambro - British dialect to the Druids. From this opinion I dissent; because I observe that Taliesin and his contemporaries, by whom they were followed and imitated, do not afford such specimens of polished numbers and diction as the Bards who lived under the later Princes have exhibited.

The Eisteddfod was the school in which the Welsh language was gradually improved, and brought at last to its unrivalled per- fection, " The Bards, " says the ingenious critic I have before quoted, " have been always considered by the Welsh as the guar- dians of their language and the conservators of its purity. "
Dr. Llewellyn ingeniously refers the curious and delicate struc- ture of the Welsh language to its peculiar property of varying artificially, euphonia gratiâ, its mutable initial consonants; making it superior in this respect to the Hebrew and the Greek See Historical and Critical Remarks on the British Tongue, 8vo., London, 1769, p. 58, & c.; likewise, Antiqua Lingua Britannica, by Dr. Davies, 8vo., London, 1621.

ENGLYNION AR YR UN TESTUN.

IAITH hên, a'i pherffaith haniad - o GOMER, Gymhwys at bob syniad;
Unwaith, mewn llawn ddylanwad,
Ar gael oedd, mewn llawer gwlad.

Iaith hysbys mewn llŷs a llàn - unwaith fu! Iaith fawr Ewrob gyfan;
Iaith awenol - iaith anian-

Iaith a roes i bob iaith ran.

Mamiaith pedeiriaith dirion, —a chwaeriaith
Chwe ' ereill y'nt feirwon;
Ac iaith fyw heddyw yw hon,
Yn llaw Nêr a llenorion.

Ei seiliau grymus a helaeth, -ar holl
Oruwch adeiladaeth,
Sydd megys un cynllun caeth,
Ar anian ac athroniaeth.

 


 

 

x063


י
Iaith gref, fel gwàr y daran, --neu rwyiog
Fel yr awel egwan;
Iaith bêr ar gyfer y gân, -

Archangel gâr ei chynghan.

Canfu ddiwedd y cynfyd, —a diwedd
Daear a wêl hefyd;
E ' ga'i chaseion i gyd,
Oddef ei gwel'd mewn llwyddyd.

" MAE'R GWYNT YN OER. "
MAE'R gwynt yn oer, mae'r gwynt yn oer, Pa beth a ddaw o'r llwm anwydog? Mae'r gwynt yn oer, ond nid mor oer A chalon llawer gwr goludog.

Mae'r eira'n dew, mae'r eira'n dew, Pa peth a ddaw o'r troednoeth grwydrad? Mae'r eira'n dew, ond nid mor dew A'r peth sy'n cuddio'r fron ddideimlad.

Mor dyn mae'r rhew, mor dyn mae'r rhew, Yn cloi elfenau'r ddaear werddlas; Mae'r clo yn dyn, ond nid mor dyn A'r clo sy'n cauad calon crinwas. *
Mor noeth a llwm, mor noeth a llwm Yw gwedd y maes, y berth, a'r goedwig; Ond er mor llwm, nid y'nt mor llwm A'r dyn na fedd ond aur yn unig.

Daw'r haul o'r Dê, daw'r haul o'r Dê,
I adgyfodi bywyd anian;
Ae O na ddeuai gydag e ',
Y nerth gwyd ddyn o feddrod hunan!
* Crinwas - a Miser,



 

 

x064


 
AR rudd drom y Werydd draw, -er ys talm, Mae'r ' storm yn ymffurfiaw;
Ac uwch y tir llwydgoch daw,
Yn ei chwrlyd a churwlaw.

Y gwynt dig, i'w hynt, o'i ogo ', - nawr a gwyd: Mor gadarn mae ' n curo
Ei dabwrdd, wrth fyn'd heibio:
Rhû fawr hon syfrdana'r fro!
Daeth yr hwyr, ac i'r Dwyrain - iasog, oer,
Troes y gwynt teneufain;
Y nôs sy ' glir a mirain,
A sêr gwing, lon'd asur gain.

Sŵn y gwynt drwy'r nôs yn gwau — draw'n y wîg,
Dry'n oer ar ein clustiau;
A'r gŵyn ry ', drwy agena:
Dôr a mur, wna'n mawr drymhau.

Y boreu ddaeth i'r wybr ddur, -Y llwydrew
Sy'n llawndrwm ar natur:
Trwy hên ddwylaw try ' n ddolur, A'r hen goes ga ' i rhan o gur.

Draw mae Zero ' n drem sarug, —ar ei ael, Mewn mawr wg sai'r caddug;
Daw, ' n y boreu, ' n dwyn barug, Ac hwyr nawn, ag eira ' n hûg.

Mae rhew yn nhrem yr awyr: -ymrewi Mae yr awel bybyr:
Y rhew â heibio yr ebyr,
Clywir ei fod ' n eu cloi ar fyr.

Gwasgarwyd gwisg o eira - tros y tir, Trist iawn yw'r olygfa; Masnach bellach a bwylla, A llaw celf yn fwy llac â.

 



 

 

x065

Ac weithian, fel y mae gwaetha - y modd,
Daeth i mewn fwy gwasgfa, -

Cêlwyd bîr - clöwyd bara,
Llawer un yn ngellau'r ià.

O, Dduw lôr! tro di, o Ddwyrain - y gwynt; Clyw gwyn ein rhai bychain:
Clyw eu badwyth - caua lydain Byrth y rhew, -gwel borthi y rhai'n.

' E gychwyna'r brongoch anwyl -- weithian, Tua throthwy'r breswyl:
Llwyd ei esgyll y dysgwyl, Yn ein dor, yn hynod wyl.

Ein Duw Ior, ti bia'r aderyn - bach, Sy'n môn y berth resyn! O! rho i hwnw ' i fan ronyn,
Mae ' n oer ei goes mewn eira gwyn.

Ni cheir ni ' r un chwerw nos - heb aelwyd, Nac heb wely diddos;
Ond ereill heb dŷ i aros,
Na màn i ffoi, ond mîn y ffôs!
Nyni gawn brofi ' n boreufwyd - hapus,
A'n swper, dan gronglwyd
Gynhes, heb rŷn nac anwyd: —ymsirioli A charoli o gylch yr aelwyd.

Ond ereill ga'dd yn dirion - eu magu,
Megys ninau ' n union,
Sy ' lwyd eu gwawr yr awr hon,
Yn nghyni pob anghenion.

Arnat, oludog, daw barn tlodi - ' n wir,
Oni wnei dosturi:
Cloi ' th saig bêr, cloi ' th seleri,
A chloi dy aur - gochel di!



 

 

x066


 
Ymochel ddweud mae achos - gwr ei hun,
Yw'r groes mae ' n ei ddangos;
Ni wyr neb, drwy'r haner nos Sy ' n awr, beth sy ' n ei aros.

Ni all dyn, er lledaenu - ei asgyll, Esgyn fawr i fynu; Rhaid iddo ef gartrefu
Yn aml dan y cwmwl du,
Pa fodd y medrwn oddef - i wel'd neb
Yn dlawd, neu ' n ddigartref,
A doniau hael Duw o nef,
A'i nawdd, yn llou'd ein haddef.

O, Dduw anwyl! cofia, ' th hunan, -- am bawb
Yn mhob ing yn mhobman;
A rho i ninau ' r iawn anian, Gyfeirio ' i gwas i gofi'r gwan.

O, Dduw hael! dy addoli - yw'n dyled,
Wyt deilwng o fawrfri;
Bob dydd o newydd i ni,
Rhed ' stor dy fawr dosturi.

Y
PORTHLADD.

Ar lan y mor draw, mewn cymundeb a'r dref,
Lle tyrdda'r elfenau,
Lle cwyd yr hwylfenau
Eu blaenau pigfeinion yn goedwig i'r nef;
Lle, dros y gororau,
Yn hwyr ac yn forau,
Daw'r seinber hoi! hoian! yn llef ar ol llef,
Pa fan ydyw ef?
 


 

 

x067


Y Porthladd! y Porthladd! lle cwrdd heb nacâd, Breswylwyr pob hiusawdd, masnachaeth pob gwlad, Lle ' medy cyfellion
( Gan ddagrau yn ddeillion )
A'u gilydd, nid mwyach i gael cydfwynhad; Lle ettyb y tonau,
I chwerwder calonau,
Brawd, Chwaer, Mam, a Thad.

THE DYING MAIDEN TO HER MOTHER.

MOTHER! MOTHER! I am going, In the springtide of the year; And the buds I now see blowing, Shall be strewn upon my bier: Tell the gentle ones that love me, That I cannot longer stay, For that angel - hands above me, Beckon me to come away.

Hark! the birds are sweetly singing, That my death - dirge soon shall sing. Hark! the bells are gaily ringing, That my death - knell soon shall ring: See, the sun is brightly shining, He will shine upon my grave; Cold decay is round me twining, Willows soon will o'er me wave.

Plant sweet flowers o'er me, MOTHER, When I'm laid beneath the sod; They will smile at one another, When my spirit smiles with GOD: And when they are blooming gaily, They will make thee think of me, And remind thee, MOTHER, daily, That in heaven I hope for thee.

MOTHER, there is music stealing Soft and low around my head; Oh! the blissful joy of feeling Peace upon a dying bed;



 

 

x068


 
:
I am going! I am going! In the springtide of the year; And the buds I now see blooming, Shall be strewn upon my bier.

CYFIEITHAD O'R UNRHYW. MAM! O, MAM! ' rwyf fi yn myned, Yn y gwanwyn gwyrdd ei wedd; Blagur wela'i ' n awr yn ysgwyd, Gant eu gwasgar ar fy medd: Gwedwch wrth y sawl a'm carant, Nad wy'n aros ddim yn hwy: Codi'u dwylaw mae'r angelion,
Arna'i ddyfod attynt hwy.

Clywch! mor beraidd cân yr adar, Gân fy marwnad i ʼn y man;
Clywch! mor llòn mae'r clych yn canu,
Fuan eilw'm corph i'r Llàn: Wele'r haul yn t'wynu'n ddisglaer, T'wyna ar fy medd cyn hir: ' R wy'n dadfeilio, -troswy'n fuan, Chwyfia canghau'r helyg hir.

Troswyf, MAM, ar ol fy nghladdu, Plenwch flodau heirdd eu lliw: Gwênant yno ar ei gilydd,
Pan gwna f'ysbryd gyda'm Duw: A phant f'ont yn hardd flodeuo, Meddwl wnewch am danaf fi; Hwy'ch hadgofiant ' mod i'n aros, Yn y nef, am danoch chwi.

MAM, mae miwsig mwyn a thyner, ' Nawr yn disgyn ar fy nghlyw: Oh! ' r fath deimlad pêr a dedwydd Yw cael marw'n hedd fy Nuw. Wyf yn myned! wyf yn myned! Yn y gwanwyn gwyrdd ei wedd: Blodau ' n awr sydd yn eu blagur, Gant eu gwasgar ar fy medd.

 


 

 

x069


IAITH yw y cyfrwng trwy ba un yr ydym yn mynegi ac yn tros- glwyddo ein syniadau a'n meddylddrychau i eraill; ac er fod iaith yn llinell wahaniaethol fawr rhwng y greadigaeth resymol ac afresymol, etto nid hyhi yw yr un benaf ac ardderchocaf ― gallu- oedd neu gyneddfau ymresymiadol dyn yw y gwir deithi sydd yn ei dderchafu ef i raddau anrhaethol uwch na'r anifail yn ngraddfa bodolaeth. Y mae NICANDER yn dywedyd yn rhywle fod dyn yn ymresymwr o'i grud i'w fedd - mai effaith ymresymiad dileferydd y baban
ᎩᎳ ei fod yn myned at fynwes ei fam i ymofyn y fron, yn lle at fynwes ei dad. Ond dichon fod hon yn athrawiaeth na oddef ymchwiliad athronyddol manwl i'w gwahanol gysylltiadau, heb i'w phroffesydd orfod cyfarfod a llawer o anhawsder wrth geisio ei chysoni, a phrofi ei dilysrwydd.. Ond i ddychwelyd at ein pwnc. Y mae iaith, neu y cyfrwng drwy ba un yr ydym yn amlygu ein meddyliau, yn ddawn ag sydd, i raddau mwy neu lai, yn feddianol gan bob creadur, mewn rhyw ffurf neu gilydd. Yn y creadur afresymol, y mae yn ddawn reddfol, ond yn y dyn, yn wybodaeth gyrhaeddiadol neu gasgliadol.

Y mae yr iaith ddynol, neu y cyfrwng drwy ba un y mae dyn yn amlygu ei syniadau, yn ymranu i dair o ganghenau, sef yr ystumiol, yr ebychol, a'r lafarol. Y mae y ddwy gyntaf, o ran eu cyfan- soddiad, yn perthyn yn uniongyrchol i Natur; o ganlyniad yn per- thyn, o ran dim ag a wyddom ni yn wahanol, i bob bôd organ- eiddiedig; ond nid yw yr olaf yn perthyn ond i fod yn meddu galluoedd rhesymol yn unig. Y mae, fel ag y sylwasom yn barod, gan rai, os nid gan bob aelod o'r greadigaeth afresymol, ddwy o ieithoedd drwy ba rai y maent yn cyflwyno yr hysbysiaeth anghen- rheidiol y naill i'r llall; y gyntaf, ac fe allai y benaf, o'r rhai hyn ydyw y leisiol, a'r ail ydyw y gyffyrddiadol. Y mae y cî, y march, y mochyn, & c., yn feddianol ar y ddwy iaith hon; a cheir enghraifft rymus a phrydferth iawn o'r iaith gyffyrddiadol yn y wenwynen a'r morgrugyn, ac eraill o ddeiliaid y deyrnas drychfilaidd. Ni wyddis ond ychydig am fywyd trigianyddion y dyfroedd dyfynion; ond gellir dyfalu, oddiwrth eu symudiadau, fod ganddynt hwythau ryw lwybr i gyflwyno rhyw gymaint o hysbysiaeth y naill i'r llall.

Ond testun ein olrheiniadaeth bresenol a fydd y iaith lefarol, neu eiriol; yr hon yw cyfrwng hysbysiadol y bôd rhesymol o ddyn yn unig. Cynyrchiad iaith sydd bwnc ag sydd wedi bod yn achos o gryn ddadleuaeth rhwng yr athronwyr ieithyddol â'u gilydd. Myn rhai fod ADDA wedi derbyn y ddawn yn uniongyrchol a digyfrwng oddiwrth ei GREAWDWR, ar adeg ei gread; tra y myn eraill mai dawn gyrhaeddiadol a chynyddol ydyw. Ac os edrychwn i mewn i'r hanes ysbrydoledig, cawn, yn mhlith yr amgylchiadau a gofnodir
F



 

 

x070


 
mewn cysylltiad à chreadigaeth dyn, neu yn ganlynol i hyny, rhai ffeithiau ag sydd yn ffafriol i'r golygiad olaf. Yno y mae yr ysgrifenydd ysbrydoledig wedi cofnodi, gyda gradd helaeth o fanylder, yr holl amgylchiadau cyssylltiedig a chreadigaeth ADDA. Desgrifir y rhyddid, y doniau, a'r rhagorfreintiau gyda pha rai y cynysgaeddwyd ac y bendithiwyd ADDA ac EFA a hwy, yn eglur ac i helaethrwydd; ond nid ydym etto yn clywed son fod rhoddiad iaith yn mhlith un o'r doniau a grybwyllir. Os rhodd uniongyrchol a digyfrwng oddiwrth Dduw i ADDA oedd iaith, a hithau hefyd yn ddawn o gymaint pwys a gwerth, yr ydym yn synu na byddai rhyw grybwylliad i'r perwyl hyny yn cael ei roddi, yn mhlith ffeithiau ac amgylchiadau eraill yr hanes. Paham nas cynysgaeddesid ni â rhyw frawddeg debyg i'r ganlynol: - " A'r ARGLWYDD DDUW a roddes iaith i ADDA, " & c., os ei rhoddi hi a wnaethpwyd? Paham y cof- nodir amgylchiadau, ffeithiau, a doniau eraill mor ffyddlawn, a'r ddawn oruchel a gwir ddefnyddiol hon heb gymaint a son am dani, os yn ol y ddamcaniaeth o roddiad uniongyrchol a digyfrwng y daeth ADDA yn feddianol arni? Mae tystiolaethau amgylchiadol yr hanes yn awgrymu yn eglur, os nid yn bendant hollol, na ddarfu i'n CREAWDWR roddi iaith i ADDA yn y ffurf lafarol, wyddorol, neu gelfyddydol arni; eithr yn egwyddorol neu feddylddrychol - h.y. rhoes iddo athrylith, crebwyll, ac amgyffredion ieithyddol, ―gallu cyneddfol i ffurfio meddylddrych, a dirnadaeth athronyddol i roddi i'r meddylddrych hwnw ddarluniad neu amlygiad seiniol, cydnaws, a chydweddol â natur ac ag ansawdd gwrthddrychau anianyddol, ac a chynyrchion darfelydd, myfyrdod, ac ymwybodolrwydd. Darfu i'r CREAWDWR roddi yr offerynau a'r celfi anghenrheidiol a phriodol i ADDA at ei waith, gan ei adael ef i'w ddefnyddio a'i ddwylaw ei hun, ac yn y modd ag y byddai i'w ddirnadaeth ei hun ei gyfarwyddo Ymddengys oddiwrth yr hyn a ddywedir yn y 19eg adnod o'r 2ail bennod o Genesis, fel pe buasai'r Athraw Mawr am ddwyn ei ys olor newydd o dan fath o arholiad, er mwyn profi ei alluoedd a'i gym- hwysderau ieithyddol; dywedir ddarfod i'r " ARGLWYDD DDUW lunio o'r ddaear holl fwystfilod y maes, a holl ehediaid y nefoedd, ac iddo eu dwyn at Adda, i weled pa enwau a roddai efe iddynt hwy; a pha fodd bynag yr enwodd dyn bob peth byw, hyny fu ei enw ef. " Yn awr, os oedd y CREAWDWR wedi rhoddi iaith gyflawn a pharod yn meddwl ADDA yn ei greadigaeth, yr oedd enw pob creadur a phob peth arall yn rhwym o fod yn gynwysedig ynddi; ac os felly, i ba beth yr oedd efe etto yn dwyn yr holl greaduriaid at Adda, i weled pa enwau a roddai efe arnynt, ac yntau wedi cael iaith orphenedig a chyflawn eisoes, a'r cyfryw enwau a roddai efe ar y creaduriaid yn gynwysedig ynddi? Ac yn mhellach, mae y frawddeg, " a pha fodd bgnag yr enwodd dyn bob peth byw, hyny fu ei enw ef, " yn ein harwain i dybio nad oedd un " modd " penod-

 


 

 

x071


Ar goll



 

 

x072

Ar goll


 

 

x073

Ar goll


 

 

x074

Ar goll


 

 

A close-up of a text

Description automatically generated

x075


iddynt. Oblegid hyn y dywed HERMES ( 816 ), " Fod ystyr iaith wedi deilliaw drwy gydundeb. " Nid oes dadl nad yw y ddamcan- iaeth hon o arwyddion arbenig neu awdurdodol yn hollol ddealladwy ynddi ei hunan. Mae arwydd - faneri llynges, ac ymsigladau nod- wyddau yn swyddfa'r gwefrebydd, yn ddyledus am eu gwerth yn gyfangwbl i ddealldwriaeth, neu gydundeb blaenorol; ond y mae yr eglurhad yn hollol anfoddhaol yn ei berthynas ag iaith yn gyff- redinol, oblegid y mae yn anhawdd dyfalu fod un dyn yn feddianol ar awdurdod digonol i orchymyn y fath ddeddfau gorfodol, nac, yn wir, i wneuthur hyd yn nod ei ddymuniadau ei hun yn hysbys. A phe ychwanegem at hyn, yr ystyriaeth o absenoldeb pob cysylltiad naturiol rhwng y sain arwyddocaol a'r peth a arwyddoceir, ymddan- gosai y gorchwyl yn fwy anhawdd fyth i gyrhaedd ac i gadw iaith a fyddai wedi ei chyfansoddi felly. Dylid gadael damcaniaeth ynte ag sydd yn seilio cynyrchiad iaith ar yr haeriad o gydundeb, i gyfranogi o dynghed damcaniaethau ereill cyffelyb, megys " Contrat Social " ROUSSEAU, & c. Ar y llaw arall, addefir yn awr yn mron yn gyffredinol fod rhyw gyfran o iaith o'r hyn leiaf, yn ddyledus am ei tharddiad i efelychiad seiniau ag sydd yn dygwydd mewn natur. I mae su yr awel - turf y môr - bref y ddafad - rhu y llew -rhoch y mochyn; cwcw, peewit, y Whip - poor - will, y tuco - tuco, & c., yn rhyw engreifftiau syml ond anwrthwynebol o'r ddeddf hon. Ac y mae yr un egwyddor genym yn cael ei chynrychioli yn yr ymddyddan hwnw a fu rhwng dau berson mewn gwledd Chineaidd, pan, fel ag y dywed y chwedl y ceisiodd ymwelydd Seisonig gael ychydig hysbysiaeth gan ei gydwestydd Chineaidd yn nghylch natur y ddysglaid ag oedd efe ar fyned i fwyta, drwy y geiriau ym- holiadol a ganlyn- " quack, quack, eh? " pryd derbyniodd yr atebiad mwy dealladwy na derbyniol, " bow - wow! " Ond os cyfaddefir fod yr efelychiad o seiniau yn diwallu un rhan o iaith, byddai yn ormod o feiddgarwch i ni dybied fod yr holl yn deilliaw o'r ffynonell hon. Nid am y dylid dysgwyl i ni allu olrhain ystyr pob gair i fyny hyd at ei gyndad dychmygeiriol ( onomatopoetic ), oblegid ceir fod geiriau yn cyfnewid ac ail drefnu eu hystyron yn ddiymbaid, ac mae yr egwyddor o gymdeithasiaeth drwy ba un y mae hyn yn cael ei ddwyn oddiamgylch, yn fynych iawn yn dra anhawdd i'w holrhain a'i chanlyn. Cymerwn, er enghraifft, y gair " cymhwys; " y mae dau gyfnewidiad neu ddulliad, wedi cymeryd lle ar y gair hwn. Ei ystyr gwreiddiol yw cyfartaledd pwys - cyd - pwys; ei ail ystyr yw exactly, " fel hyny y bu hi yn gymhwys; " ei drydydd ystyr yw cyfaddas, - " i'w gwneuthur yn gymhwys i gael rhan o etifedd- iaeth y saint yn y goleuni. " Ond y mae mwy o wyrdroad ystyrol wedi dygwydd yn y Saesnaeg, y Lladin, a'r Rywaeg, nag sydd yn Gymraeg.




 

 

x076


 
Y GYMRAEG:
EI HENAFIAETH A'I GWREIDDIOLDEB.

WEDI siarad fel hyn am gynyrchiad iaith, awn rhagom i sylwi ar Henafiaeth a Gwreiddioldeb yr Iaith Gymraeg. Mae yn ddiau fod y Gymraeg o henafiaeth mawr, ac yn perthyn yn agos i'r ieithoedd gwreiddiol, llawer o ba rai yn awr sydd wedi marw. Mae MAX MULLER, yn ei ddarlithiau dyddorol a dysgedig ar wyddoniaeth iaith, yn profi, tu hwnt i bob amheuaeth a dadl, fod yr ieithoedd Celtig a Sanscritaidd yn tarddu o'r unrhyw wreiddyn cyffredin. Mae efe yn galw ein sylw at y gair " Duw, " yr hwn, fel y ceir gweled, sydd bron yr un peth ag eiddo y Sanscrit. Wedi peth amser, darganfyddwyd fod, nid yn unig elfenau gwreiddiol yr ieithoedd hyny a elwir yr Aryaidd a'r Indo - Ewropeaidd nid yn unig eu rhifolion, rhagenwau, arddodiaid, a therfynau gramadegol -nid yn unig geiriau teuluaidd, megis tâd, mam, brawd, merch. gwr, brawd - yn - nghyfraith, buwch, ci, ceffyl, daoedd, pren, ŷch, grawn, melin, daear, awyr, dwfr, sêr, a llawer o ganoedd yn ychwaneg, yn mron, yn gwbl yr un peth, ond eu bod hefyd yn feddianol ar elfenau geirweddiad chwedloniaethol, yn arddangos ôlion amlwg o'r un gwreiddyn cyffredin.

Mae MAX MULLER yn ymdrechu gwneud hyn yn eglur drwy, o'r hyn lleiaf, un enghraifft, ac yn dethol tuag at hyny yr enw mwyaf pwysig yn nghrefydd a chwedloniaeth y cenedloedd Aryaidd, sef yr enw Zeus - duw y duwiau ( theos theon ), fel y geilw PLATO ef. Gadewch i ni yn gyntaf, medd MAX MULLER, ystyried y ffaith, yr hon nis gellir ei hameu, yr hon hefyd, os iawn werthfawrogir hi, a deimlir ei bod yn orlawn o wersi mwyaf tarawiadol ac addysgiadol hynafiaeth, y ffaith wyf yn feddwl yw, fod Zeus, yr enw mwyaf cysegredig yn y chwedloniaeth Roegawl, yn gwbl yr un gair a Dyaus yn y Sanscrit, Jovis neu Ju yn Jupiter yn y Lladinaeg, Tiw yn yr Anglo - Saxonaeg yn gadwedig yn yr enwau Tiwsday, Tues- day, sef dydd y duw Edaidd Tŷr; Zio, yn yr Uchalmaenaeg. Ffurfiwyd y gair hwn unwaith, ac unwaith yn unig. Ni fenthyc- iwyd ef gan y Groegiaid oddiar yr Hindwaeg; na chan y Rhufein- iaid na'r Ellmyn oddiar y Groegiaid. Yr oedd yn rhwym o fod yn bodoli cyn fod yr achau cyntefig hyn wedi ymwahanu mewn iaith a chrefydd cyn iddynt adael eu pawrleoedd cydfwynhaol, i ymfudo ar y dehau ac ar yr aswy nes i glwydeni eu corlanau dyfi yn furiau dinasoedd mawrion y byd. I gynwysiad y gair parchus hwn, ynte, y gallwn edrych am rai o syniadau crefyddol boreuaf ein hiliogaeth, wedi eu mynegu a'u creirgadw rhwng muriau didrancadwy ychydig o lythyrenau syml. Beth oedd ystyr Dyu yn y Sanscritaeg? Pa fodd y defnyddir ef? Pa beth oedd y gwreiddair yr hwn a allwyd ei orfodi i gyrhaedd gorawyddion uchelaf y meddwl dynol? Buasai
 



 

 

x077

TYNGHED YR IAITH GYMRAEG.            

(x77) yn anhawdd iawn i ni olrhain ystyr gwreiddiol neu honiadol Zeus yn y Rywaeg; ond y mae dyaus yn y Sanscritaeg yn adrodd ei hanes ei hun. Y mae yn tarddu o’r un gwreiddyn ag sydd yn cynyrchu y ferf dyut, ystyr yr hon yw pelydru neu dywynu. Gallai gwreiddair o ystyr mor gyfoethog ac ëang ag ydyw hwn, fod yn gymhwysiadol at amryw feddylddrychau: gellid dywedyd am y wawr, am yr haul, yr awyr, y dydd, y sêr, y llygaid, yr eigion, a’r ddôl, eu bod yn ddysglaer, tywynol, gwênol, blodeuog, dysglaer; ond yr iaith arferol a sefydlog India, y mae dyu, fel enw, yn arwyddo awyr a dydd. Cyn i hymnau henafol y Veda ddadlenu i ni ffurfiau cynaraf yr iaith a’r meddwl Indiaidd, o’r braidd y cydnabyddid y gair dyu fel enw duw Indiaidd, - ond yn unig fel yn fenywaidd, ac fel y term adwaenedig am awyr.


Er fod yr enw uchod agos yr un ffurf yn mhob iaith, ac yn eiddo pob iaith, megis: eto mae yn rhaid fod y gwreiddyn oddiar ba un y tarddodd yn aros yn mysg rhyw un iaith yn rhywle; nis gall pob un o’r ieithoedd uchod fod yn berchen ar ei wreiddyn. Yn awr, yr iaith hono yn mha un y gallwn olrhain ystyr ei wreiddair heb drais na gorfodaeth a ddylai gael ei ystyried a’r hawl fwyaf cyflawn iddo. Nid yw y drychfeddwl a gysylltir â’r enw dyaus yn y Sanscritaeg yn cynwys mwy o briodoldeb darluniadol o’r gwrthddrych a gynrychiola na’r enw Cymreig Duw. Os ystyr y gair Dyaus yw pelydru, tywynu, mae ystyr y gair Duw yn fwy athronyddol, cynwysfawr, a pherffeithiach fyth. Y mae w yn nherfyniad amryw o wreiddeiriau Cymreig yn gwrthdroi ystyr dosran ddechreuol y gair; megys gwêdd-w, h.y., sefyllfa groes i fod dan y wedd neu’r iou briodasol: heb fod dan y wedd - gweddw (widow.). Marw - mar-w; ystyr mar yw bywiog, megys yn y ddaear a enwir marl, a marlbêl (marble). Mar-w, ynte, yw sefyllfa hollol groes i sefyllfa fywiog. Ystyr y gair Du-w, gan hyny, yw peth neu sefyllfa hollol groes i dywyllwch (Du). Du-w - h.y., goleuni. Mae yr enw Cymreig ar Dduw yn myned yn mhellach yn ei ystyr na’r enw Dyaus yn y Sanscritaeg, o gymaint ag y mae achos yn myned y tu hwnt i effaith: pelydru, tywynnu, yw ei ystyr yn y Sanscritaeg, ond goleuni yw ei ystyr yn y Gymraeg. Nid yw pelydru, tywynu, ond effaith rhyw achos; a’r achos hwnw yw goleuni; a goleuni yw ystyr y gair Duw.



TYNGHED YR IAITH GYMRAEG, YN OL BARN Y SAESON.
UN ffaith fawr ac anwadadwy am yr hen iaith Gymreig yw ei bod yn ymluosogi yn fawr ar lyfrau, eithr yn anamlhau ar dafodau. Pa beth yw ei sefyllfa tua chymydogaeth calon y genedl nid yw mor eglur,

 

 

 

A close-up of a text

Description automatically generated

x078


(x78) oddieithr i ni allu barnu oddiwrth frawddeg hono sydd yn tystio mai “o helaethrwydd y galon y mae y gemau yn llefaru.” Gan nad ydym mewn un modd am dristâu na chythryblu calon ein ieithgarwyr, nac am ddirgymhell ein opiniwn, ein credo, nac ein athroniaeth arnynt, ond cyn belled ac y byddent yn cydweled a chydamgyffred pethau eu hunain; yr unig gymwynasgarwch ag ydym yn ei ddysgwyl oddiar eu dwylaw yw fod iddynt gydnabod a derbyn y gwirionedd, gan nad o ba gyfeiriad bynag y delo.


Yr ydym yn awr yn cynyg i’w sylw ac i’w hystyriaeth farn a thystiolaeth gwr o genedl arall, ac mae y syniadau a gynwysir ynddynt yn ffafriol hynod i’r hen iaith; a dyma fel y dywed y Saxon:

- “Mae yr iaith Gymreig yn awr mewn sefyllfa dra blodeuog. Darfu i dynghed ei chymdoges, y Gernywaeg, yr hen a fu farw drwy esgeulusdod, arwain rhai i dybio y buasai y Gymraeg yn diflanu o herwydd yr un achos; ac yn wir, darfu i Mr. WYNN, llywydd y Gymdeithas Asiaidd, yr hwn oedd Gymro ei hunan, -gyfeirio at ddadfeiliad graddol yr iaith Gymreig, fel prawf o effeithiolrwydd y gyfundraeth anymyrol yn y cyfryw achosion, mewn dadleuaeth ar y pwnc o ddwyn yr iaith Seisonig i fewn yn lle rhai o ieithoedd brodorol yr India. Er ys mwy na chanrif yn ol, crybwyllodd GORONWY OWAIN, yn un o’i lythyron (argraffedig yn y Cambrian Register), ddarfod mewn dadl ar yr iaith Gymreig gyda Chymro arall, i OWEN, cyfieithydd y Juvenal i’r Saesonaeg, - yr impyn drygionus - ddywedyd, a hyny gyda gwawr o foddlonrwydd, nad oedd dim yn yr iaith yn werth ei ddarllen, a’i fod ef yn sicr fod yr iaith Saxonig yn enill tir arni, ac nad oedd ynddo yr amheuaeth lleiaf na buasi wedi llwyr ddiflanu cyn pen can mlynedd. Ond mae digwyddiadau yr amser sydd wedi myned heibio wedi profi fod Mr. OWEN wedi carmsynied! ‘Oblegid er ys mwy na deg canrif,’ medd y Parch W. J. REES, mewn anerchiad a draddodwyd yn 1821 ar ffurfiad y Gymdeithas Gymreigyddol yn Ngwent, ‘oddiar deyrnasiad Offa, yr hwn a wnaeth ei glawdd enwog hwnw er atal ymgyrchoedd y Cymry i’w diriogaethau, nid yw yr iaith Gymreig wedi encilio ond ychydig mewn cymhariaeth oddifewn i’r terfyn, yn neillduol felly mewn rhai parthau yn Ngogledd Cymru: ond mewn rhandiroedd ereill, pan ystyrir y cyfwng hir o amser sydd oddiar fuddugoliaeth IORWERTH Y CYNTAF hyd yn awr, a’r cydgorfforiad agos hwnw gan HARRI Y CYNTAF yn nghyd a’r gefnogaeth fawr a roddwyd i gyrhaedd gwybodath o’r iaith Saesonig, y mae yr olaf wedi enill llai o dir nag a allesid yn rhesymol ddysgwyl. Y mae y Sais, pan y mae yn ymdeithio ar hyd heolydd cyhoeddus y dywysogaeth, yn fynych yn cyfarfod a phersonau sydd yn siarad y Saesonaeg; a’r rhai hyny hefyd ag y mae ganddo achos i’w cyfarch ar hyd y gwestai, y maent hwythau yn alluog, yr un modd, i’w ateb yn y Saesonaeg; ac y mae y boneddigion y mae yn ymweled a hwy yn


 

 

A close-up of a text

Description automatically generated

x079


(x79) siared {sic} Saesonaeg; a’r rhai hyny ag sydd yn galw gyda y cyfryw rai yn siarad yr unrhyw iaith yn ei glywedigaeth; ac oddiwrth rhy’w ffeithiau eiddil fel hyn ag sydd yn dyfod i’w wybodaeth, y mae yn cyfeiliornus gasglu mai y Saesonaeg yw iaith ffynianol yr holl wlad. Nid oes neb ond yr hwn ag sydd wedi preswylio yn hir yn rhanau mewnol y wlad, a chael ymdrafodaeth a’r bobl gyffredin, a all ffurfio unrhyw farn tebyg i fod yn gywir am helaethder yr iaith Gymreig, ac fe gyfaddefa y rhan fwyaf o bobl wirionedd yr haeriad, mai y Gymraeg yw unig dafodiaith fyw, nid yn unig miloedd, ond degau o filoedd, ie, rhai canoedd o filoedd o drigolion y dywysogaeth.” (Cambro-Briton, vol. iii., p. 229).


Nid yn unig y mae yn dal ei thir yn yr Hen Fyd, ond y mae hefyd wedi ymfudo i’r Newydd. Yr oedd MACLEOD, yn ei ragymadrodd i’w Leabhar nan Cnoc, yn ymorfoleddu yn y gobaith, os oedd y Gaelaeg wedi ei thyngedu i farw yn yr Ucheldiroedd, y byddai iddi groesi i’r ochr draw yr Atlantig, yn nhafodiaith fyw llawer mwy nag a’i siaradodd erioed yn Ewrop. Yr oedd CARNHUANAWC yn gorfoleddu ac yn ymffrostio yn gyffelyb, - ei fod wedi derbyn o’r Amerig rhai rifynau o’r cyhoeddiad hwnw a elwir Cyfaill yr Hen Wlad. Ond pe buasai byw heddyw, pa faint mwy fyddai ei orfoledd a’i ymffrost? oblegid y mae yn hysbys mai nid Cyfaill yr Hen Wlad yw yr unig gylchgrawn Cymreig a gyhoeddir yn Amerig. Y mae y cynydd hwn yn myned rhagddo yn barhaus. Mewn hanes am y Wasg yn yr Unol Daleithiau, am y flwyddyn 1861, crybwyllir fod pump newyddiadur Cymreig yn cael eu cyhoeddi yn y wlad hono - amgylchiad ag a ddichon arwain rhyw hanesydd Celtig dyfodol i gasglu gwirionedd y grediniaeth, yr hon a ddelir mor gadarn gan rhai Cymry, fod yr iaith wedi blodeuo ar Gyfandir Amerig er dyddiau MADOG. Ac ar yr un pryd, ceir fod Llenyddiaeth a Gwasg Gyfnodol Cymru ei hunan yn cynyddu yn flynyddol; tra yn y rhifyn cyntaf erioed a ymddangosodd o gyhoeddiad Cymreig, nid mwy nag haner can mlynedd yn ol, yr awgrymid mai o’r braidd y buasai yr iaith yn goroesi y genedlaeth hono. Mae yr Eisteddfodau, ag oedd gynt yn dra anaml, yn awr yn lluosog, ac yn myned yn fwy fwy poblogaidd. Mae y galwad am esgobion a ddeallent yr iaith Gymreig wedi bod yn ddigon croch a grymus i orfodi sylw y Cyfringynghor Seisonig. Ar y foment bresonol, nid yw’r uchelgais gwladgarol hwnw ag sydd mor fynych ar eneuau y Cymry, ‘Oes y byd i’r Iaith Gymreig,’ yn ymddangos ond mewn perygl bychan am anghyflawniad.”

Yn awr, anwyl ddarllenwyr, dyna farn y Sais am dynghed yr iaith Gymreig. Profwch chwithau, ynte, bob peth, a deliwch ar yr hyn sydd dda.



 

 

A black and white page with text

Description automatically generated

x080


 
The Spirit has no Rest till it Returns to God.

WATER parted from the sea,
Bathing the valley and the hill, Though in the river it may stray,
Though in the sparkling fountains play, Will murmur still,
And still complain,
Till to the sea returned again;
The sea from which it rose,
The sea its native bed,
And where, by thousand mazes led,
Again it seeks repose.

DWR, ar wahân oddiwrth y môr,
Yn mwydo'r glyn a'r mynydd draw,
Er crwydro yn yr afon hir,
Er chwareu yn y ffynon glir, Efe ni thaw
A'i gwynus lef,
Hyd nes i'r môr y dychwel ef;
Y môr - o'r hwn y daeth,
Y môr - o'r hwn mae'n rhan,
Yw'r lle, ' nol myrdd o droion maith, Gais etto ' n orphwys fan.

&&
DESERVE
BY ELIZA Cook.

IT. "
NE'ER drop your head upon your hand,
And wail the better times;
The self - same bell
That tolls a knell,
Can ring out merry chimes.

 


 

 

A page of a poem

Description automatically generated

x081


And we have still the elements That made up fame of old; The wealth to prize
Within us lies,
And not in senseless gold.

Yes, there exists a certain plan,
If
you will but observe it
That opes success to every man
The secret is — DESERVE IT.

What use to stand by fortune's hill,
And idly sigh and mope?
Its sides are rough,
And steep enough,
' Tis true; but if you hope To battle ' gainst impediments
That rudely stop your way, Go boldly to ' t,
Strike at the root.

You'll surely gain the day. Prate not about new - fangled plans; Mine's best, if you'll observe it;
I say success is any man's,
If he will but DESETVE IT.

HOMER and MILTON reigned supreme,
With SHAKSPERE, worthy band!
And HOWARD's name,
And HARVEY'S claim,
Are sung throughout the land;
And MARLBOROUGH and WELLINGTON.

Illustrious stand in fight;
And NEWTON gleams
Amid the beams
Of an undying light!



 

 

x082


 
What did they do to gain a name? What did they to preserve it
With an untarnish'd, deathless fame? They simply did DESERVE IT.

And thus may you, and you, and you, From depths the most profound, Your wishes teach
Success to reach
Up to the topmost round.

But if from some unreckon'd cause- Say, markets o'erstock'd- Your hoped - for spoil
Pay others ' toil,
Think not your efforts mock'd. If fortune's smile so faintly beam, That you can scarce preserve it, Remember there is ONE above Who knows that you DESERVE IT.

HAEDDU.

( LLED - GYFIEITHAD O'R PENILLION BLAENOROL. )
Na wyla uwch “ amseroedd gwell, "
Na fydded drist dy fron;
' R un gloch ag sydd
Yn clulio ' n brudd,
All chwareu cynghan lon: Mae ynom ni ' r elfenau ' nawr,
Wnaeth bob enwogrwydd gynt; Gwir gyfoeth clau,
O'n mewn y mae,
Ac nid mewn punt ar bunt.

Oes, mae un cynllun, ond ei wneyd,
Sy'n sicr o'th dderchafu
I binacl llwydd a dyna yw
' R dirgelwch - dim ond HAEDDU.

 



 

 

A page of a poem

Description automatically generated

x083

Pa les, wrth odreu mynydd ffawd, Yw oedi, ' n llesg a llwyd? Gwir fod ei gerth
Ystlysau ' n serth;
Ond, os gobeithio ' r wyd
Orchfygu'r rhwystrau sydd o'th flaen, Dos ati ' n llawn o ffydd,
Gwna'th waith o dde ',
A tharo i dre;
Wyt siwr o gario'r dydd.

Gad fan - gynlluniau pawb ar ol,
Fy nghynllun i sy'n talu:
' Rwy'n dweyd fod llwydd yn eiddo pob
Rhyw ddyn, os myn ei HAEDDU.

Mae LLYWARCH HEN ac IFOR HAEL,
AC ARTHUR gyda hwy, TALIESIN goeth
A CHATWG Ddoeth,
A'u henwau'n glodus mwy;
CARADAWG hyf, LLEWELYN ddewr, Enwocaf feib y gâd,
A GWYN AB Nudd,
Yn t'wynu sydd
Fel sêr yn mrut eu gwlad:
Beth wnaethant hwy i enill hyn?
Beth wnaethant wedi hyny,
I gario ' u henwau mawr yn mlaen?
Dim, ond yn unig HAEDDU.

Fel hyn gall pawb dderchafu ' r lan,
O'r safle isaf sydd,
O lwydd i lwydd,
O swydd i swydd,
I gylchoedd uwcha ' r dydd:



 

 

x084


 
Ond os trwy'r hyn nas gwyddost ti, Try'th ddysgwyliadau'n siom, A cholli'th nôd,
Na thybia fod
Dy dynghed etto'n drom:
Ac os yw gwenau ffawd mor wan, Fel braidd mae dal i fyny;
O, cofia fyth fod UN uwch ben, A wyr dy fod yn HAEDDU.

Yr Hen Flwyddyn a'r Newydd.

Yr hen flwydd o'i swydd ys aeth — ac, wele, Galwyd gan Ragluniaeth
Y newydd un - hono ddaeth
Y nôs hon i'w gwasanaeth.

Cerddodd y ddwy, nes c'wrddyd — a'u gilydd,
Ar geulan bytholfyd;
Rhanu yno'r un enyd;
Wnai'r ddwy fawr yn rhyw ddau fyd!
Yr hên a aeth o'n daear ni - i'r llys Draw'r llen, i roi'n cyfri;
O Dduw Dad! beth a ddwed hi, Yn y farn, mi - pan ferni?
I ni - y flwyddyn newydd — a fyddo'n Etifeddiaeth ddedwydd;
Ac hon fo'n dyst o'n cynydd - mewn gras a dawn, A bywyd uniawn, a phob dywenydd.

NEF AC UFFERN.

Y nef wen ac uffern fawr - onid yn't
Mewn dwy wrthegwyddawr? Nef - mewn santeiddrwydd, sy'n ' n awr; Uffern - mewn pechod praffwawr,



 

 

A page of a poem

Description automatically generated

x085

 
DYNGAR WCH.

( PHILANTHROPY. )
Cyn bod haul, na lloer, na sêr, Dyngarwch bêr dan goron,
Ar orsedd aur y nefoedd wen, Eisteddai ' n ben fel banon; Nef - luoedd oddi ger ei bron, I'r ddaear hon a ddeuynt: " Tangnefedd ac ewyllys da " I ddynion a ddadgenynt.

O nefol ddawn! O ddwyfol rin, Llif dros dy fin dangnefedd; Trig yn dy law bob haeledd llon, Ac yn dy fron drugaredd; Ti ymgeleddi ' r tlawd a'r llwm A'r hwn sy ' drwm gan drallod; I'r caeth ar gorthrymedig prudd, Cyhoeddi ddydd gollyngdod. Tydi sy'n creu'r Ysgolion Rhad, I ddysgu gwlad o dlodion; Tydi sy'n anfon Biblau draw I law'r Paganiaid duon; Wyt fam i'r Cymdeithasau gyd, Sy'n siglo crud haelioni— Sy'n darpar cysur, hedd a hoen, Ar gyfer poen a thlodi.

Dy haelgar blant o dan dy wên, Oedd LLYWARCH HEN alluog, AC IFOR HAEL, -fe ' u cofir hwy Tra rhed yr Wy ddoleuog; Dy blant o hyd fo'n amlhau, A'th Gymdeithasau haelion, Ymdaenont drwy bob bryn a bro, Fel byddo dedwydd dynion.

H



 

 

A close-up of a text

Description automatically generated

x086


 
LLENYDDIAETH Y BIBL.

WRTH lenyddiaeth y golygir pob math a rhyw o gyfansoddiadau, ar- graffedig neu ysgrifenedig, hen a diweddar. Y mae gan bob cenedl wareiddiedig ei llenyddiaeth, yn gwahaniaethu cryn lawer, oddiwrth eu gilydd yn eu hansawdd, eu heangder, eu cynwysiad, a'u gwerth. Bernir mai gan China, India, Persia, Rwssia, Germani, Ffrainc, Lloegr, ac America, y mae y llenyddiaethau prif ac arweiniol; ac fe allai, mai gan y genedl fawr Sacsonaidd y mae yr un eangaf ei chylch, sylweddolaf ei chynwysiad, a mwyaf ei hamrywiaeth; dichon fod eiddo yr Almaen, neu Germani, yn gyfartal, os nid yn rhagori, yn nyfnder, gwreiddioldeb, a beiddgarwch ei hathroniaeth dduwin- yddol; ac eiddo y cenedloedd Celtig yn rhagori mewn urddas a gogoniant henafol; ac fe allai mai gan y ganghen hono o'r genedl Geltig, a elwir y Cymry, y mae y lenyddiaeth henaf, buraf, a mwyaf dihalog o holl genedloed y ddaear. Ond er mor helaeth eu cynwysiad ac uchel eu nodwedd yw llawer o lenyddiaethau, y mae llenyddiaeth y Bibl yn rhagori o ddigon yn mhwysigrwydd ei gwir- ioneddau, mawredd ei dadguddiedigaethau, anffaeledigrwydd ei hawduraeth, eangder ac amrywiaeth ei chysylltiadau, purdeb, gor- ucheledd ac ysprydolrwydd ei hathrawiaethau.

Fe allai y gellir cyfleu holl lenyddiaeth y Bibl o fewn cylch y gwahanol wyddorau a ganlyn: sef, Hanesyddiaeth, Achyddiaeth, Gwleidiadaeth, Deddfwriaeth, Proffwydoliaeth, Barddoniaeth, Ar- eithyddiaeth, Uchanianiaeth, Meddylddysg, Rhesymaeg, Moesoldeb, a Dwyfoliaeth. Mae yn wir nad yw y gwahanol wyddorau a enwyd wedi eu casglu at eu gilydd i sefyllfa ddosparthus, rheolaidd, a chyfundrefnol, hyny yw, i agwedd a ffurf wyddorol gyflawn; ond er hyny y mae egwyddorion neu brif elfenau cyfansoddiadol y cyfryw wyddorion wedi cael eu gwasgar yma a thraw, megys yn ddygwyddiadol, ar hyd meusydd ffrwythlawn llenyddiaeth gysegr- edig y Bibl.

1. Pwysigrwydd Gwirioneddau y Bibl. - Mae y gwirioneddau a gyflywnir i'n sylw gan Athroniaeth Naturiol, mewn gwyddor a chelfyddyd, yn bwysig ac yn werthfawr, oblegid eu perthynas uniongyrchol â bywyd ymarferol, ac â gwrteithiad meddyliol y dyn; ond y mae cyfnod eu goruchwyliaethau hwy yn gyfyngedig i amser, a chylch eu hymarferiadau yn gyfyngedig i'r byd hwn yn unig. Ond mae gwirioneddau y Bibl yn amgylchu yr hyn sydd amserol a thragwyddol, ysbrydol a dwyfol; ac mae eu pwysigrwydd yn cyfodi oddiar natur y cyflyrau a'r sefyllfaoedd y maent yn ym- drin a hwy ac yn eu dwyn ger bron ein llygaid; a chymaint ag yw pwysigrwydd ein cysylltiadau ysbrydol yn rhagori ar eiddo ein cysylltiadau naturiol, a'r tragwyddol ar eiddo yr amserol, y mae pwysigrwydd gwirioneddau y Bibl yn rhagori ar eiddo athroniaeth a gwyddor. Rhyw adeiladau anorphenedig yw holl wyddorau a
 


 

 

x087


darganfyddiadau yr athrylith anysbrydoledig: nid oes yr un wyddor ddynol heb fod rhyw appendages damcaniaethol yn ym- hongian wrthi - rhyw dywyllwch, rhyw amheuaeth, a rhyw an- orphenedd yn ei nodweddu. Nid felly girioneddau syml, mawrion, a chyrhaeddbell y Bibl Y maent hwy oll yn ffeithiau pwysig, pa rai sydd wedi eu sylweddoli yn y gorphenol, yn cael eu sylweddoli yn y presenol, neu i'w sylweddoli yn y dyfodol pryderus a phwysig sydd o'u blaenau.

2. Anffaeledigrwydd Awduraeth y Bibl. - Nid anfynych y ceir fod athroniaeth, neu o leiaf athronwyr, yn gwrthddywedyd eu gilydd: yr Asceniaid fel hyn, y Pythagoriaid fel arall; ZENO fel hyn, PLATO fel arall; SOCRATES fel hyn, EPICURIUS fel arall; LOCKE, HOWE, a PALEY fel hyn, HOBBES, DESCARTES, a WHATLEY, fe ddichon, fel arall. Ond pwy erioed a gafodd allan fod IOAN Y DIFEINYDD yn erbyn DANIEL, neu DANIEL yn erbyn EZEKIEL, neu yr Epistolau yn erbyn y Psalmau, neu y Psalmau yn erbyn y Prophwydi, neu y Prophwydi yn erbyn MOSES, neu MOSES yn erbyn CRIST? Na, yr oedd meddwl, gan nad beth am dafod ac ysgrifell, yr holl awduron Biblaidd, yn ymsymud o dan gyfarwyddiad anffaeledig yr un Ysbryd- oliaeth Ddwyfol.

3. Mawredd Dadguddiedigaethau y Bibl. - Nid oedd dadguddiad nerth yr ager - buander a gwasanaethgarwch y fellten - ystorfeydd y bryniau - rhyfeddodau daeareg - holl alluoedd celf, gwyddor, a gwareiddiad, yn ddim at ddadguddiedigaethau y Bibl. Mae y cwbl yn suddo i ddinodeb tragwyddol yn ymyl ei ddadguddiedig- aethan ef; megys - Cwymp dyn drwy bechod - ei adferiad drwy râs - adgyfodiad y corff - anfarwoldeb yr enaid - bodolaeth ysbrydol -dydd barn - cospedigaeth, bywyd, dedwyddwch, a gogoniant tragwyddol - Trindod o Bersonau yn yr un Hanfod Ddwyfol - ac ymddangosiad Duw yn y cnawd. Na, y mae y gwirioneddau hyn yn gyfryw ddirgeledigaethau ag nas gallasai llinynau hiraf y rheswm ddynol byth gyrhaedd eu gwaelodion anrheiddiadwy.

4. Eangder ac Amrywiaeth ei Gysylltiadau. - Pa lyfr, heblaw y Bibl, sydd yn dwyn cysylltiad â phob dyn, yn mob man, a phob amser? Pa lyfr sydd yn cyfatteb dyn yn mhob sefyllfa, cyflwr, ac amgylchiad fel y Bibl? Mewn gair, mae y Bibl yn dwyn cysylltiad â holl gylch bodalaeth faterol, foesol, ac ysbrydol y cyfanfyd mawr, -corff, enaid, ysbryd - dyn, angel, Duw - daear, nefoedd, uffern- amser a thragwyddoldeb.

5. Purdeb, Gorucheledd, ac Ysbrydolrwydd ei Athrawiaethau.- Nid oes un llenyddiaeth yn y byd yn cynwys moeswersi mor bur— cynghorion mor ddoeth - rhybuddion mor ddwys - ac addewidion mor werthfawr, ag eiddo y Bibl. Amcan fawr llenyddiaeth foesol ac ysbrydol y Bibl yw gwella, adffurfio, a pherffeithio y ddynol- iaeth; ac ailwisgo yr enaid mewn prydferthwch, gwybodaeth, cyf-




 

 

A close-up of a text

Description automatically generated

x088


 
iawnder, a santeiddrwydd, a'i wneuthur yn gymhwys i gael rhan o etifeddiaeth y saint yn y goleuni; ac i sefydlu ar y ddaear hefyd deyrnas cyfiawnder a barn; heddwch a rhyddid; trugaredd a gras; cymwynasgarwch, cydymdeimlad, undeb, a chydweithrediad; gogoniant Duw, a dedwyddwch pob dyn. Ond hyn sydd yn gwneuthur llenyddiaeth y Bibl yn wahanol i bob lleynyddiaeth arall yw fod ynddi allu i gynyrchu yn y meddwl yr hyn y mae yn ei ddysgu, ei anog, a'i gymhell arnom. " Cyfraith yr ARGLWYDD sydd berffaith, yn troi yr enaid. " " Yr holl ysgrythyr sydd wedi ei rhoddi gan ysbrydoliaeth Duw, ac sydd fuddiol i athrawiaethu, i argyhoeddi, i geryddu, i hyfforddi, mewn cyfiawnder. " " Fel y byddo dyn Duw yn berffaith, wedi ei berffeithio yn mhob gweithred dda. " Ni fedr athrawiaethau cenedloedd, gorchymynion brenin- oedd ac ymerawdwyr, deddfau na chyfreithiau, na holl sefydliadau gwareiddiad yn nghyd, wneuthur dim rhagor nag ofni ac attal, a phrydferthu ychydig ar yr olwg allanol; ond y mae Gair Duw yn medru myned at wraidd y drwg, hyd waelod y clwy; gan newid egwyddorion ac anianau, a gwneuthur pob peth o newydd. Yn wir, y mae y Bibl yn gyfrol o gynwysiad anghydmarol, ac yn un ag y mae yn annichonadwy i ni ei hefrydu yn ormodol, na'i pharchu yn rhy fawr. Nid oes yr un llyfr arall y gellir ymorphwys ar ei wirioneddau wrth farw ond y Bibl yn unig. Y mae ganddo DDUW yn Awdwr iddo - Iachawdwriaeth yn ddyben - Gwirionedd, heb gymysgedd o gyfeiliornad, yn fater: y mae oll yn ddiragrith, heb ddim yn ormod, na dim yn eisiau.

Medd GILFILLAN: - " The Bible is a mass of beautiful figures; its words and its thoughts are alike poetical; it has gathered around its central truths, all beauty and interest; it is a temple with one altar and one Gop, but illuminated by a thousand varied lights, and studded with a thousand ornaments. "
Medd Sir WILLIAM JONES: - " I have carefully and regularly perused these Holy Scriptures, and am of opinion that the volume, independent of its divine origin, contains more sublimity, more important history, and finer strains of eloquence than can be col- lected from all other books, in whatever language they may have been written. "
-

Medd CARLYLE: - - " I call the Book of Job, apart from all theories about it, one of the grandest things ever written with pen: there is nothing written, I think, in the Bible or out of it, of equal literary merit. ”
Medd MILTON: -

-

" There are no songs comparable to the songs of Zion; no orations equal to those of the Prophets; and no politics like those which the Bible teach. "
Diweddwn yn awr gyda dyfynu geiriau un awdwr enwog arall: — " The Bible is the light of my understanding; the joy of my heart;
 


 

 

x089


the fulness of my hope; the clarifier of my affections; the mirror of my thoughts; the consoler of my sorrows; the guide of my soul through this gloomy labyrinth of time; the telescope sent from heaven to reveal to the eye of man the amazing glories of the far distant world. Every promise in it invites me to heaven; every precept commands, every warning alarms, against the danger of its eternal loss. Prize the Word of God by the worth of it, that you may not come to prize it by the want of it. " — DYER.

DIAREBION.

" NID OES NEB CYN DLOTTED A'R HWN SYDD YN MEDDU ARIAN
YN UNIG. "
DICHON y bydd ambell un yn barod i ofyn, a hyny gyda gradd fawr o syndod, pa fodd y gall yr hwn sydd yn meddu arian fod, hyd y nod yn dlawd, chwaethach yn dlottach na neb arall - ei fod ef yn arfer tybio fod meddu digon o arian yn gyfystyr â meddu pob rhyw fwynhad ag a all y byd a'r bywyd hwn ei gynyrchu. Ond, os sylwir yn fanwl, nid yw y ddiareb yn dywedyd fod yr hwn sydd yn meddu arian yn dlottach na neb arall; eithr mai yr hwn sydd yn meddu arian yn unig ― arian, ac heb ddim arall. Dyn tlawd iawn, er y gall fod yn berchen llawer iawn o gyfoeth a da y byd hwn, ydyw hwnw nad yw yn meddu ar gymeriad da. Nis gall arian, gan nad faint fyddo eu rhif a'u swm, gyfranu ond ychydig o addurn i bersonoliaeth dyn, os bydd efe yn amddifad o'r elfenau moesol hyny ag sydd yn cyfansoddi cymeriad teilwng a da. Gwybodaeth, rhinwedd, moesoldeb, a chrefydd sydd yn cyfranu addurn, gwerth, bywyd, ac anfarwoldeb i gymeriad; ac nid cyfoeth, pe byddai mor fawr a'r eiddo CRESUS.

Nid yw y canwyllyr, er y gall fod wedi ei wneuthur o aur pur, o fawr budd na dyben yn y tywyllwch, os na fydd y ganwyll wedi ei goleuo a'i gosod ynddo yn ngoleuni y ganwyll, ac nid yn lliw a phwysau yr aur dilewyrch, y mae y defnyddioldeb a'r prydferthwch gwirioneddol yn hanfodi. Byddai canwyllyr o bren, a chanwyll oleuedig ynddo, yn fwy gwirioneddol werthfawr na chanwyllyr o aur heb yr un. Y mae SOLOMON yn dywedyd fod " enw da yn well nag enaint gwerthfawr; " os felly, pa mor wiliadwrus y dylem ni fod yn mhob cylch a sefyllfa, gan nad pa mor ddinod bynag y byddo y rhai hyny ar gadw o honom ein cymeriadau yn ddigondemniad, yn ddi- lwgr, ac uwchlaw pob amheuaeth; canys, fel ag yr awgryma'r ddiareb a geiriau y gwr doeth, y mae cymeriad da, serch bod yn gysylltiedig â thlodi mawr, yn well na chymeriad drwg, er y gall fod yn gysyllt- iedig â chyfoeth lawer. Dylai ein hymddygiadau a'n hymarwedd- iadau yn y byd fod yn gyfryw ag a weithiont eu hunain yn



 

 

x090


 
ddiorthrech i gymeradwyaeth unfrydol y public opinion; er yn ddiau nas gallwn, er pob gochelgarwch, ac er yr ymdrechion mwyaf teilwng, weithio ein hunain i sefyllfa o gymeradwyaeth, fel ag i fod yn hollol rydd oddiwrth feirniadaeth gondemniol, awgrymiadau enllibus, ac ymosodiadau cenfigenllyd rhai dynion drwg a dieg- wyddor. Ond ni ddylai hyn gael ei oddef i'n tristau na'n digaloni, eithr yn hytrach i'n llawenychu a'n gwroli, gan wybod nad yw cenfigen, un amser, yn ymosod ar ddim nac ar neb ond lle y byddo rhagoriaethau, o ryw natur neu gilydd, yn aros. Nid yw cenfigen byth yn ymosod ar gymeriadau islaw iddi ei hun, eithr bob amser ar rai uwch a rhagorach; ac nid oes ar un dyn eisiau gwell arwydd o'i fod yn feddianol ar ragoriaethau nag fod dyn arall yn cenfigenu wrtho. Ond y mae dynion weithiau yn cenfigenu wrthym am ragoriaethau dibwys - rhyw arwynebolion y dychymyg- ant hwy en bod yn rhagoriaethau, ond a allant fod yn fwy o ddiffygion, gwaeleddau, a ffaeleddau na dim arall yn y diwedd; gan hyny y llwybr diogelaf i ni ydyw ffurffo ein hymddygiadau yn y fath fodd ag na allo ein cydwybodau ein hunain ein cyhuddo, na rheswm a chyfiawnder ein collfarnu o'u plegid.

Sefyllfa arall ag y byddwn yn dlottach na neb, er bod yn gyfoeth- ocach na llawer mewn arian, yw y sefyllfa ddi - gyfaill. Ni waeth beth fydd lliw a llun, rhif a swm ein harian, os byddwn, ar yr un pryd, yn amddifad o'r teithi moesol hyny a'n gweithiant ac a'n cyflwynant i sylw, parch, anrhydedd, serch ac ewyllys da ein cyd- ddynion. Ni fydd ein cyfoeth ond melldith i ni ein hunain a maen- tramgwydd i eraill, oddithr fod genym yr egwyddorion pur, hynaws, cydymdeimladol, a haelfgydig hyny a'n gwnelont yn ddefnyddiol i, ac yn weithgar mewn, cymdeithas; ynddynt hwy y mae yr hyn sydd werthfawr, prydferth, parhaus, ysprydol a dwyfol yn aros. Nid swm ein cyfoeth, eithr swm y daioni a fyddwn wedi ei gyflawnu yn y byd, a fydd safon ein gwobrwyad gerbron Duw, a'n cymeradwyaeth gerbron pob dyn iawnoleuedig. Y mae amgylch- iadau, cyflyrau, a sefyllfaoedd yn y byd, y gall gwir gyfaill wneuthur mwy trosom pan ynddynt, nag y gall unrhyw swm o aur ac arian; oes, y mae un amgylchiad i'w gyfarfod, ag y bydd gwên gariadlawn Cyfaill cywir, yn gallu gweini mwy o ddyddanwch i ni, na phe byddai holl lestri aur teml SOLOMON yn dysgleirio ger ein bronau, a ninau yn berchen arnynt; ië, pan bydd sain y gair o'i enau yn filwaith mwy perorol, melus, ac anwyl, na thine mwyaf seinber holl aur ac arian trysoredig ariandai y byd
fe
Y mae yr hwn sydd yn meddu arian yn unig, hefyd, yn dlottach na neb arall pan na fydd ganddo ddigon o haelfrydedd tuag atto ei hun, na thuag at eraill, i fedru eu defnyddio.

Y mae y dyn hwnw nad oes ganddo allu i gydymdeimlo â thos- turio wrth, nac ewyllys i gynorthwyo ac ymgeleddu, ei gyd - greadur
 


 

 

x091


a fyddo wedi ei lwyr oddiweddyd gan gystudd, helbul, a thrallod, a'i ddymchwelyd gan brofedigaethau a chroes - ragluniaethau, yn rhwym o fod mewn sefyllfa o dlodi moesol mawr; ac yn hynod o brin yn yr elfenau moesol, a'r egwyddorion dwyfol hyny sydd yn ëangu, derchafu, urddasoli, santeiddioli, dedwyddoli, angeleiddio, a phryferthu ein natur. Ond pa faint mwy y rhaid fod tlodi moesol ac anianyddol hwnw, na fedr fagu digon o wroldeb a phen- derfyniad i gymhwyso ychydig o'r pentwr cyfoeth mawr sydd yn ei feddiant, tuag at ddiwallu anghenion naturiol a phersonal ei hun? Dyma gymeriad na oddefir iddo, gan drachwant anniwall calon fythol - sychedig ei hun, i osod ei law ar gymaint ag un o'r darnau o'r pentwr mawr ac ymchwyddol o arian ag sydd yn ei feddiant, ond yn unig i'w rhifo, eu haddoli, eu pentyru, a'u cloi am byth allan o olwg llygad, ac o afael pob cylchrediad; ie, serch fod ei anrhydedd ei barch, ei gysur, ei iechyd, ac hyd y nod ei fywyd yn ymddibynu ar wyned defnydd o honynt; ie, er hyn oll, ni faidd efe eu cyffwrdd: y mae ei galon yn gwrthneidio yn ei hol wrth feddwl am y fath antur- iaeth boenus. Y mae holl fwynhad arwynebol a thrwyllodrus y cyf- ryw adyn a hwn yn gynwysedig yn y syniad o'i fod yn meddu arian, a'u bod yn myned ar eu cynydd; er y byddai yr un peth iddo gael ar ddeall fod tywod y môr, glaswellt y maes, a llwch y mynyddoedd yn myned ar gynydd, a'u bod hwythau, o ran dim a faidd efe ei ddefnyddio o'r naill yn fwy na'r llall. Dyma siampl o ddyn, pe dyn hefyd, ag y mae ei lawnder yn ei lwmhau, ei ddigonedd yn ei newynu, a'i gyfoeth yn ei wneyd yn dlawd - dyma gybydd! O bob ynfyd, dyma yr ynfytaf. O bob truenus, dyma y truenusaf. Mae yr hwn a feddiano gymeriad da, serch ei fod yn brin mewn arian, yn meddu parch; ac mae yr hwn sydd yn meddu gwybodaeth, serch ei fod yn brinach mewn arian, yn meddu parch a dylanwad; ac mae yr hwn a feddiano rinwedd, serch ei fod yn brinach fyth mewn arian, yn meddu parch, dylanwad, a hapusrwydd; ond y mae yr hwn sydd yn meddu duwioldeb, serch ei fod heb yr un geiniog i osod ei law arni, yn meddu parch, dylanwad, a hapusrwydd, a'r can cymaint yn y byd hwn, ac yn y byd a ddaw, fywyd tragwyddol. "
66
RHYDDID.

TYDI, O, fwyn! O fawr! a nefanedig Ryddid,
I bob creadur byw, wyd ddirfawr ddawn gynhenid; Ni aned neb yn gaeth, nes caeth drwy hunanrwymiad, - Sefyllfa gynwys ormes fwy, na chaethder drwy orfodiad. Mae dyn, o'i grud i'w fedd, yn ddeiliad rhyddid moesol; Nid yw, am farn na chred, i neb ond Duw'n gyfrifol: Cydwybod dyn, a'i farn, rhyddweithredyddion ydynt, Duw IOR yn unig sydd i gael ufudd - dod ganddynt.




 

 

A page of a poem

Description automatically generated

x092


 
x92)
Y WIALEN GERYDDOL.
Os bu fy nghnawd yn boenus i’m,
Wrth ddwyn ei llym geryddon,
Ah! dyna pam, ddarllenydd bach,
Wyf heddyw’n iach fy nghalon.
Pwy a wyr pa faint o gystudd,
Poen a thrallod, gwarth a chwilydd,
A ragflaenwyd gan ei cherydd?
Fe wnaeth cerydd y “Wialen”
Asio llawer grymus ddolen,
Yn nedwyddwch ein tydghedfen.
Pa sawl merch ieuanc all’sai fod
Ar lwybrau clod a deall,
Ag sydd, o ddiffyg cynar foes,
Yn treulio’i hoes fel arall?
O! na chawsai’r “Wialen” sefyll
Rhwng ei chalon ieuanc, dywyll,
A phob gair ac ystum trythyll:
Rhoddi ambell gwialenod,
Pan oedd llygad, llaw, neu dafod.
Ond yn esgus gwneuthur pechod.
Pwy wyr sawl adyn heddyw sydd
Rhwng muriau prudd y carchar;
Neu ynte’n alltud prudd ei gell,.
Yn nghyrau pell y ddaear;
Neu yn gorphen ei dynghodfen
O dan boen a gwarth y gro - bron,
A allasai fod yn amgen?
O, na fuasid yn eu guro,
Pan oedd gobaith i’w ddiwygio,
Yn lle gadael - gadael iddo!
Tybiais ganwaith i’m gael cam,
Pan oedd fy mam ofidus


 


 

 

x093

(x93) Yn gollwng y “Wialen” lefn
Ar draws fy nghefn clwyfus:
On pe buasai mam rhy dyner,
I’m ceryddu mewn iawn-amser,
Cawswn gam oedd fwy o lawer;
Pe dygwyddwn weled rhywdro,
Y “wialen” anwyl hono,
Gwn y gallwn ei chofleidio.

**’R wy’n cofio’r hen ddysgyblaeth lem,
Pan oeddem gylch yr aelwyd;
Pan ydoed y “Wialen”  hael,
Yn cael ei mynych ysgwyd;
Medrodd hon, a ni’n anhywaith,
Do, ein hargyhoeddi ganwaith,
Pan oedd rheswm yn ddieffaith;
Cadwodd ni rhag llwybrau anfod, -
Hi ddiwygiodd ein hymddygiad,
Ae a ffurfiodd ein cymeriad.

Bendigaid wyt, “Wialen” gu,
Wyt yn cenhedlu rhinwedd;
Ae mae’th geryddon boreu di,
Yn tywys i anrhydedd;
Dysgaist i mi lwyr gydnabod,
Hawl ac iawnder, moes a defod,
Ti’m perffeithiaist mewn ufydd-dod;
Boed i’r sawl a fo’n dy arfer,
Gael doethineb, pwyll a chleuder,
Fol nad elo’th waith yn ofer



ENGLYN I BONT UN-FWA PONTYPRIDD, AR GYRHAEDDIAD El CHANT OED.
ADEILAD un-fwa uwch dyli’ - Taf,
Pont hardd, llawn mawrhydi,
Cant oed, yn awr, wyt ti
Cant arall it, cyn tori.


 

 

x094


 
BLODAU'R GWANWYN.

MAE'R haul yn dod yn ol o'r De ', Gan orfoleddus ddwyn drwy'r ne ', Elfenau bywyd gydag e ',
Dros fynydd, dôl a dyffryn;
Mae yn ymwel'd ar gwreiddyn cudd; Mae'n ffurfio ' r blagur ar y gwŷdd, A'r greadigaeth newydd sydd
Yn gwenu ' n " Mlodau'r Gwanwyn. "
Hwynt - flodau hoff - y'nt flaenffrwyth hardd Y gwanwyn gwych, mewn dôl a gardd: Eu gwenau byw ag yspryd bardd, Sydd mewn cymundeb dichlyn; Mae ffydd yn canfod yn eu gwawr, Y llawn - dwf haf yn dod i lawr, Sydd megys baban tlws yn awr
Yn gwenu ' n " Mlodau'r Gwanwyn. "
Pèr yw'r mwynhad gynyrchir gan
Y gobaith gwyd o'r blodau can;
Sef y cawn weled yn y man, Hardd weddnewidiad dillwyn;
Yn lle yr Euroclydon chwith, Daw'r Zephyr fwyn ar esmwyth wlith, A'r deiliog goed a'r meusydd brith,
Sy'n gwenu'n " Mlodau'r Gwanwyn. "
Ieuanghol hoen, mabanol hedd, Sydd ar eu trem yn gwneyd eu sedd, Tra cynrychiolir yn eu gwedd, Y pur, yr hardd, a'r dillyn: Dihalog yw eu gwisgoedd hwy, Dwyfoldeb sydd wêuedig drwy Eu harwe oll, -mae tegwch mwy
Na'u lliw yn " Mlodau'r Gwanwyn. "
 



 

 

x095

Maent hwy yn dod i'n cyfarch cyn Deffroi o'r Gôg o'i breuddwyd syn, Na'r Wenol hithau'n nw'r y llyn, Flaendrochi ' i duon edyn:
Cyn derfydd twrf y dymhestl faith, Na'r rhew yn llwyr roi heibio ' i waith, Bydd " Henffych well! " yn llonaid iaith A gwyneb " Blodau'r Gwanwyn. " Mae Cloch Y baban eirian wawr, Yn gwisgo'i glog amryliw ' n awr, Yn ariandlysau hyd y llawr;
Ac yntau'r Saffyr melyn, Fel tywysogaidd, lwysaidd lanc, Heb arno ol na nych na thrane, Dan dlysau aur breswylia'r banc, Yn un o " Flodau'r Gwanwyn. " Mae'r Blodyn cigliw yn eu plith, A'r Tiwlip coch, a'r Bincen frith, A Blodyn Gorphen - haf, dan wlith Y boreu, ' n brydferth berlyn; Mae'r Brechlys bach a'i lygad clir, A Blodau'r Fagwyr ar y mur, Yn perthyn holl i deulu pur,
Neu genedl " Blodau'r Gwanwyn. " Heirdd Flodau'r Gwynt, a'r Olbrain rydd, A Gwaew'r Brenin, rhwng y gwŷdd, A'r Rhwyddlawn, a'r Peneuraidd sydd Dan fil o flodau ' n felyn:
-

Hosanna'r Gog, a Rhawn y March, A'r Hydyf wen mewn gwisgoedd parch, Sydd allan, newydd droi o'u harch, Yn gynar " Flodau'r Gwanwyn. " Ond blodau prif y Gwanwyn derch, Sy'n dwyn y sôn, sy'n denu serch,



 

 

x096


 
Pob rhyw, pob oed, pob mab, pob merch, Wrth rodio llwybrau'r dyffryn,
Yw'r Crinllys pêr, mor wylaidd sydd, Wrth fon y berth yn ceisio'r dydd, O gyrhaedd rhwysg yr awel rydd,
Sy'n gwywo " Blodau'r Gwanwyn. " Mor hardd, yn awr, yw Dagrau Mair, A'u gwyrog ben fel clych o aur, Tra mae eu gwedd, yn mhlith y gwair,
Yn dwyn pleserau'r plentyn Yn ol i'r cof, o'r dyddiau gynt,
Pan oedd dedwyddwch yn mhob hynt- Yn nhrem y coed, yn sain y gwynt, A gwênawg " Flodau'r Gwanwyn. ”
Ac nid y lleia ' n mhlith y rhai'n Yw hithau, y Friallen gain; Am dani, ' n mysg y llwyn a'r drain, Mae mil a mwy ' n ymofyn:
A hwythau serchog Flodau'r Dydd, Sy'n dyrchu ' u pen tua'r nefoedd rydd, Heb wyro dan y dymhestl brudd,
Sy'n gwywo " Blodau'r Gwanwyn, "
Maent hwy wrth godi ' u penau rhydd, Tua'r nef, trwy'r storm o'u hamgylch sydd,
Yn portreiadu ysbryd ffydd,
Yn enaid y credadyn;
Rhyw awgrym cwyd y meirw'n fyw,
Rhyw ddydd a ddaw, drwy allu Duw, A gobaith Adgyfodiad yw
Gogoned " Flodau'r Gwanwyn. "
O! santaidd " Flodau'r Gwanwyn " syw, Mor llawn o'r ysbryd barddol, byw, Mor llon i ddyn, mor llawn o Dduw,
Yw eich ysbrydol dremyn;
 
1



 

 

A page of a poem

Description automatically generated

x097


Fe wel y Bardd dragwyddol haf, Duwinydd - nerth, a doethder NAF, A'r Cristion anfarwoldeb braf,
Yn gwenu ' n " Mlodau'r Gwanwyn. " Pan roi'r y Bardd yn ngwely'r bedd, I gael ei hirfaith hun o hedd, Na ro'er un marmor dysglaer wedd, Goruwch ei ben gan nebun; Ond planer rhês o flodau brith, I dderbyn gloewon ddagrau'r gwlith, A phiger hwynt i gyd o blith
Gogoned " Flodau'r Gwanwyn. "
Cyfeilles y Bardd ac Etifeddes yr Aelwyd.

GREADUR bach, greadur mwyn,
Mor hoff wyt ti o'r tân,
A golchi'th glust, a rhwbio'th drwyn,
A chadw'th wisg yn lân;
Pan fyddwyf isel iawn fy mryd,
Ac unig yn fy mwth;
Mor fwyn i mi ei chwmni hi,
Yn chwareu'i greddfol " grwth. "
Hi naid yn esmwyth i fy nghlin, Gorphwysa ar fy mraich;
Ac er bod lawer hwyr yn flin,
Nid wy'n ei theimlo ' n faich; Pan fyddo'r gwynt yn cwyno'n grudd, Rhwng canghau'r goeden rwth:
Mor fwyn i mi ei chwmni hi,
Yn chwareu'i greddfol " gruth. "
Hi a'm cofleidia gan ei phwyll,
A rhwbia ynwy ' ' i phen;



 

 

A page of a poem

Description automatically generated

x098


 
Mae yn ei serch yn fwy di - dwyll Na llawer geneth wen!
Wel, boed ei wîn i'r sawl a'i câr, A boed ei saig i'r glwth; Ond boed i mi ei chwmni hi,
Yn chwareu ' i greddfol " gruth. "
Ah! nid yw'r teulu byth yn llawn, Heb gwmni Pusi lon;
Ac nid yw'r aelwyd fyth yn iawn,
Os na fydd hi ger bron;
Mae oriau'r hwyr brydnawn, mewn hedd,
Yn myned heibio'n fwth,
A phawb yn iach, os Pusi fach
Fydd yno'n chwareu'i " chruth. "
Y GWALLGOFDY.

( THE ASYLUM. )
GYNT gwelid y Symlyn yn erwydro'r ardaloedd, Heb gartref, heb gyfaill, heb gar yn y byd, Heb nawdd nac ymgeledd, yn wawd trwy'r blynyddoedd, I'r caled ei galon a'r uchel ei fryd:
Cai fyw drwy ei oes ar elusen ddiroesaw,
Ac aml, am ryw gamymddygiad a wnaed, Pan oedd ei ewyllys heb farn i'w chyfeiriaw, Cai'r fflangell golynog ei throchi ' n ei waed! Ond, Henffych! it ', fendigedicaf sefydliad, -

Meddylddrych nas caed ei haelfrytach erioed, Yn tramwy trwy galon a meddwl Gwareiddiad,
Oedd hwnw osododd dy gynllun ar droed; Gwallgofdy yw'th enw, -mae'r enw'n alarus, Can's ffaeledd ein natur a'th alwodd i fod: Gwallgofdy yw'th enw, -mae'r enw ' n gysurus, Pan cofiom mai adfer yr unrhyw yw'th nod.




 

 

A close-up of a text

Description automatically generated

x099

 
YR
HAF.

YN y tymhor hwn o'r flwyddyn y mae natur yn myned drwy un o'i thrawsnewidiadau mwyaf gogoneddus a swynol. Y mae hi weithian yn tori allan, megys o chrysalis y gauaf; ac yn lle bod yn phenomenon oerllyd, prudd, gwelw a difywyd ag ydoedd hi yn y tymhor hwnw, wele, hi yn ail - ymwisgo mewn ieuenctyd a hoender; ac yn meddu, nid yn unig gyflawnder o lawenydd ynddi ei hun, either hefyd yn tywallt o'r yspryd iachus, gorfoleddus, ac adfywiol hwnw ar bawb a phob peth o'i amgylch Mae y cwbl heddyw yn edrych fel pe byddai yn ddim ond un bedydd dwyfol o bryd- ferthwch, bywyd, a gogoniant adnewyddol. Y mae natur, er holl ruthriadau tymhestlog y gauaf a aeth heibio arni, yn edrych heddyw etto mor ffrês, mor loew, mor ddihalog, mor brydferth, ac mor ddwyfol a'r boreu hwnw yr ymwelodd â broydd heirddion, pur, dilwgr, a thangnefeddus Eden gyntaf erioed.

O! mor iach, mor lân, mor hardd, ac mor hapus, y mae pob peth yn ymddangos y tymhor hwn o'r flwyddyn. Mae yn ddiau fod yr hwn sydd yn dihoeni, a threulio ei gyfansoddiad allan, gyda gorchwylion curiol bywyd eisteddawg ( sedentary life ), yn teimlo hiraeth yn ei galon, a dymuniad yn ei enaid, am gael bod yn gyfranog o'r rhyddid dymunol hwnw, o fyned allan am unwaith i gyfarfod a natur, a derbyn o'i bendithion newyddion a lliosog - fe allai mai ar lan y môr tawel a gwastadlyfn, neu ar wyneb y maes agored, neu ar ben y mynydd derchafedig y bydd hyny; canys y mae natur yn fwy dengar, hawddgar, haelionus ac adfywiol yn y manau hyny, nac mewn un man arall yn y tymhor hwn o'r flwyddyn.


Y mae fod y gôg a'r wenol yn cael y fraint ddymunol o gario trail yr haf, ac o ymlawenhau yn ei wyrddlesni, ei ffrwythlonder, a'i ardderchawgrwydd, a'i ogoniant yn wastadol, yn ddigon i beri eidd- igedd, hyd y nod ar y meddwl mwyaf prosaic a bydgarol.

Yr wyf laweroedd o weithiau wedi plentynaidd ddymuno bod yn feddianol ar reddf, cenadwri, ac aden yr aderyn ymfudol, fel y byddai i mi yn wastad gael bod yn nghymdeithas y gwanwyn; a byw mewn Eden o anwywder tragwyddol, a gorphwys yn nghysgod deildai o winwydd, liliau a rhôs - yfed o ffynonau'r dyfroedd byw, drachtio o berarogl yr awelon, a gwledda ar beroriaeth frwd a gor- foleddus greddf ac anian, a chydgyfranogi o'i theimlad iach a dedwydd, ië, byth, bythoedd!
O y fath ymarferiad hapus, hoenus ac adfywiol i'r teimlad, yw rhoddi ambell wibdaith oddiar balmentydd twymboeth y drefo swn a thrwst byddarus olwynion masnach, a dwndwr anniwall, celfyddyd - allan i'r wlad agored, lle nad oes dim ond natur ddi-




 

 

x100


 
halog a dwyfoldeb digymysg yn cartrefu; a phan mae pob golygfa hefyd yn ymddangos yn ffrês, ieuanc, gwyryfol, a phur; fel pe wedi eu newydd droi allan oddi dan ddwylaw y CREAWDWR mawr. Mewn gwlad o dragwyddol haf o'r fath hyn y carai y bardd fyw.

O! na fuaswn yn drigienydd,
Gwlad a'i thir dan haul ysplenydd; Glir a gloew'i nôs - wybrenydd,
Lle ni chai'r ystorm obenydd;
Na gwneyd sedd.

Gwlad lle cai y bardd - athronydd, Rodio y prydnawnddydd llonydd, Ar hyd glanau glwys afonydd;
Byth mewn hedd!
Gwlad a'i meusydd fyth dan flodau, Gwlad a'i llwyn dan fel gafodau; Gwlad heb ynddi fawr cysgodau, Ond yn unig rhag trallodau,
Poen a chur.

Gwlad heb ddigder mewn calonau, Gwlad a'i hedd yn dod yn donau; Gwlad lle'r yfwn o'i ffynonau,
Wynfyd pur.

Mae yr olwg ar y ddaear a'r wybren, y tymhor hwn o'r flwyddyn, yn hynod o brydferth, swynol, ac effeithiol y mae ysplander a gorucheledd clir yr wybren eang yn ystod y dydd; ymdaith dys- tawfwyn y lloer, ynghyd ag edrychiad mwyn, boddlongar, arddunol, a thangnefeddus y sêr yn y nos, yn tueddu yn fawr at ysbrydoli y meddwl, crefyddoli y teimladau, ac i dderehafu y serchiadau, a chyfeirio ein myfyrdodau uwchlaw helyntion y byd a'r bywyd yma. Y mae yr enaid yn awr yn cael myned trwy y fath brofiad melus o ymddifyru, ymhyfrydu, ac ymorphwys yn y dihalog, y dedwydd, a'r dwyfol, nes y mae, o dan ddylanwad y swyn mynydol, ond nefol, hwn, yn gallu anghofio llawer o'i helbulon, a dadlwytho y fynwes o lawer o'i gofidiau.

Pwy a all, yn y tymhor hwn o'r flwyddyn, edrych ar burdeb seraphaidd y wawrddydd — profi o faddonfa adfywiol y gwlith - yfed o ddyfroedd teneuon, gloewn, ac oerion y ffynonau - sylwi ar drwm-

 


 

 

x101


gwsg y dyffrynoedd gerllaw, ac ar hun freuddwydiol y mynyddoedd yn y pellder - rhodio yn nhawelwch hapus y glynoedd, a thang- nefedd dyfnddwys llwybrau addurnedig y dolydd, heb deimlo ei fynwes yn cael ei hysgogi gan fil o emotions tyner a hyfryd, a myrdd o deimladau pur, addolgarol, a derchafedig? Yn wir, y mae yn anhawdd troi y llygad ar y de na'r aswy heb ddyfod i gyffyrddiad a'r prydferth, yr arddunol, yr ysprydol, a'r dwyfol ar bob moment. Mae yn wir fod yr ysprydol a'r dwyfol i'w canfod ar wynebweddau anian ar bob tymhor arall, ond nid yn y ffurf ddengar, hawddgar, brydferth, ogoneddus, a gorswynol ag y maent yn ymwisgo ynddi yn y tymhor trawsgyfnewidiol yma o'r flwyddyn. Mae y cwbl yn awr fel pe byddent mewn cydweddiad a chydnawsedd a gobeithion, dymuniadau, a serchiadau hiraethlawn ein natnr; ac i raddau pell yn sylweddoli yr ideal sydd genym am y nefol, yr hapus, y pur, a'r perffaith. Y mae natur fel pe byddai yn arogli rhyw " arogl esmwyth " arnom yn y tymhor hwn; y mae y tangnefedd a'r ysplander a'i harwisga, yn disgyn yn ddylanwad tyner, adfywiol, a hapus ar y galon, yn gordial esmwythhäol ar ein teimladau, ac yn fel - gafod " faethlonus ar ein hysprydoedd; mae y meddwl fel pe byddai yn ymwisgo ar ddelw natur, ac fel pe byddai yn ddim ond adlewyrchiad pur a difrycheulyd o honi. O, Natur brydferth! O, Natur ddedwydd! os oes yn yr olwg arnat ti, os oes yn y cymundeb â thi, y fath adnoddau dihysbydd o ddedwyddwch a mwynhad, pa faint mwy yw yr olwg a'r cymundeb digyfrwng â'r ysprydol a'r dwyfol ei hun?
66
Mae yr argraffiadau mae natur yn eu gwneyd ar y meddwl yn rhai grymus, effeithiol, a pharhaol; ei hargraffiadau arosol hi ar y meddwl, yn ddiamheu, ydynt rhai o'r elfenau cryfaf a mwyaf gweith- gar yn nghyfansoddiad ein gwladgarwch. Hoffder at natur, fel yr ymddangosai yn ei gwahanol olygfeydd, ac yn unrywiaeth cyson ei hamrywiaeth hyfryd, o amgylch cyrchfanau a safleoedd ein mebyd, yn nghyd a'n cynefinedd a'n cymundeb boreuol a mynych a hwy, ydyw elfenau bywyd y serch a'r teimlad gwladgarol hwnw sydd yn bythol hanfodi ac ymsymud yn ein mynwesau. Pan yr edrychom yn ol, drwy lygad y darfelydd, ar olygfeydd swynol boreu oes, O mor brydferth yr ymddangosant! Y fath liwiau tlysion sydd arnynt! Y fath oleuni tawel a santaidd a dywyna drostynt! Y fath ddiniweidrwydd babanaidd, y feth bleser dihalog, y fath dang- nefedd dwfn a pharhaus, a'r fath ystôr ddiderfyn o ddedwyddwch sydd yn aros ynddynt! Mae yr adgof am danynt yn creu hiraeth yn ein calonau, a galar yn ein hysprydoedd, am gael ail - brofiad o'r mwynhad a'r dedwyddfyd boreuol hwnw. Mae yr adolygiad arno, a'r fyfyrdodaeth felus am dano, yn tywys yr enaid drwy fath o reverie o'r fwyaf swynol o brudd - der ac hyfrydwch cymysgedig; a than y fath oruchwyliaeth serch - dderchafol a theimlad - barhaol, ac



 

 

A close-up of a document

Description automatically generated

x102


 
i'r fath sefyllfa o ddedwyddwch mynydol, fel na ddymunai fyth gael ymddiosg o honynt, na'i ddychwelyd yn ei ol i ymwneyd â realities geirwon bywyd llafurus y presenol. Y mae natur yn llawn o elfenau crefydd drwyddi oll; ae er nad yw darpariaethau ei chre- fydd hi mor gyflawn, pwrpasol, a holl - ddigonol ag eiddo crefydd ddadguddiedig y Bibl, etto y mae yn llawn, i'r ddau ymyl, o'r un Duw tragwyddol, hollalluog, a hollbresenol. Y mae ei enw Er yn ysgrifenedig ar bod tudalen o'i chyfrol fawr a llydan - agored. Mwynhau, ynte, o'i phrydferthwch hi - yfed o'i hysprydoliaeth- dysgu ei duwinyddiaeth - gwahodd iechyd i'r corph, a cheisio adeiladaeth i'r meddwl, ac nid pleserau cnawdol ac anifeilaidd, a ddylai fod ein prif, os nid ein hunig, ddybenion wrth fyned allan ar ein gwib - deithiau i'w cyfarfod yn y tymhor hyfryd hwn o'r flwyddyn.

Y mae natur yn feddiant cyffredinol, ac yn ysgol rydd i bawb. Y mae prydferthwch a gogoniant ei golygfeydd, gwasanaethgarwch rhinweddol ei helfenau iachus, yn gymaint o eiddo i'r hen ac i'r ieuanc, i'r tlawd ac i'r cyfoethog. Nid oes cymaint ac un careg ffin ar ei holl dreftadaeth, ac ni wyr hi ddim am y castes ag sydd yn gwahanu ac yn pellhau aelodau y gymdeithas ddynol oddiwrth eu gilydd; y mae hi yn estyn deheulaw cymdeithas i bawb, ac yn arlwyo ei gwleddoedd ar fwrdd crwn, fel eiddo yr hen ARTHUR, O amgylch pa un y ca pawb eistedd yn gydystâd a'u gilydd: y mae ei chyfarchiadau, ei gwahoddiadau, a'i darpariaethau i bawb, ac at bawb, yn ddiwahaniaeth. Yn awr, ynte, yw y tymhor i bawb ag a allant fwynhau a gwerthfawrogi ei phrydferthwch, i fyned allan i chwilio am yr adloniant, yr hyfrydwch, a'r addysg sydd yn aros yn mhlith ei thrysorau; ac i gasglu iddynt eu hunain yr ychydig dameidiau o'r nefoedd ag sydd yn wasgaredig ar hyd ei hwyneb hawddgar.

Un dydd o ddifyrwch yn nghanol yr Hâf,
Ni thloda fy nheulu, ni ddigia fy NAF;
Na'm galwer yn symlyn, na'm galwer yn ffôl,
Am fyn'd ar ol Natur, drwy'r maes a thrwy'r ddôl.

I beth y rhoed llygad i mi yn fy mhen,
Os nid er mwyn tremio drwy'r ddaear a'r nen,
A byw ar yr harddwch anfeidrol o fawr,
Sy'n wisg ogoneddus am Natur yn awr?
A ydwyf i gauad fy nghlustiau yn dŷn,
Rhag gwrandaw ar reddfol beroriaeth y glyn?
Os felly, rhoed clustiau yn ofer i mi, -

Serch, Rheswm, a Theimlad, —i beth eich rhoed chwi?
 
1



 

 

A page of a poem

Description automatically generated

x103

Y mae y cydweddiad rhwng llygad a lliw- Rhwng sain yr elfenau amrywiog a'r clyw— Rhwng natur a natur, yn dangos yn gain Fod melus gymundeb i fod rhwng y rhai’n. A blanwyd yn yspryd dyheuol y dyn,
Rhyw faith ddymuniadau i fyw byth yr un, Heb ddim i'w ddiwallu drwy'r nefoedd na'r llawr, A wnaed gan Ddoethineb a Chariad mor fawr? Os do, y mae hyny ' n greulondeb a cham Ar dyn; ac os felly, i beth? a phaham? Ond, ah! fy nghyfeillion, nid felly y mae, - ' Does dim i'w ddymuno nad oes i'w fwynhau. Pan byddo'i ' n troi ngolwg hyd wyneb y tir, ' Rwy'n aros mewn mwyniant yn hir ac yn hir; Heb brisio fawr pwy yw etifedd y stâd, Myfi yw etifedd y moesol fwynhad.

' Does neb a all rwystro ' i phrydferthwch a'r bri, Rhag ddisgyn yn nefoedd i'm calon fach i.

Y galon sy'n meddu, nid llygad a llaw, - Eu pethau hwy'n fynych sy'n myn'd yma a thraw; Ond bywyd prydferthwch, o'm calon fach i, Ni chilia, pan gilio aur, cyfoeth, a bri; Y galon - trysorfa dragwyddol yw hi.

Hwynt - hwy, ' r pendefigion uchel - waed a chwai, Bieuynt laweroedd o'n tiroedd a'n tai; Ond glâs y wybrenydd, a gwyrddni y dail— Hawddgarwch y lleuad - gogoniant yr haul— Barddoniaeth y mynydd - a thraethgan yr aig- Peroriaeth y goedwig - athroniaeth y graig-

Y bywyd, a'r tangnef, a'r harddwch sy ' rioed,
Drwy'r nef uwch fy mhen, a drwy'r llawr dan fy nhroed, — Ai hwy bia'r rhein'y? O, nage, fwyn ddyn,
Myfi bia'r rhein'y - y rhein'y bob un.

Guel disor



 

 

A page of a paper with text

Description automatically generated

x104


 
-Awn, awn drwy y meusydd, y dôlydd, a'r dail, Y glaswellt, a'r meillion, a'r gwair bob yn ail; A rhodiwn lle rhodia, ' n ardderchog ei ffyrdd, Yr Yspryd tragwyddol mewn mantell o wyrdd; Cawn garped angelion i lawr dan ein traed, O'r fath, gan gelfyddwyr, ni wneir, ac ni wnaed. Cawn wrandaw seraphiaid y coedwig yn gor, Yn canu carolau mewn temlau wnaeth IOR: Cawn yma, uwch gofid, a gofal, a chur, Ymdroi mewn cymdeithas a bywyd sy ' bur.

Awn, awn fel y gwleddom ar goch, gwyrdd, a gwyn, Prydferthion persawrus, amrywiog y glyn,
Ffrwd fywiol y mynydd, ac awel y bryn.

Cawn heulrod y coedwydd yn fwyn uwch ein pen, Pan flamio'r haul cadarn yn aelwyd y nen,
Ac eistedd dan gysgod y dderwen fawr gre ', A derbyn i'n mynwes awelon y Dê.

Ac yna ' n ol teithio,
A'r meddwl gael gweithio,
A'r serch ei wrteithio,
A'r dyn ei berffeithio,
Dychwelwn, dychwelwn i dre '.

Ond, O! ddarllenydd anwyl, nid yw hyfrydwch puraf, a phryd- ferthwch mwyaf, natur, ond rhyw frwision bychain ag sydd yn syrthio oddiar fyrddau llawnion y nef; ac nid yw ei holl ysplander yn ddim ond rhyw adlewyrch dysgleirbur a deflir oddiar lestri aur ei theml santaidd hi - y surplus o ogoniant a ddylifa allan, megys, dros drothwy'r ddinas nefol; ac y mae hyny yn llawn ddigon i wneuthur natur yn hawddgar a phrydferth, a dyn yn dymhorol bapus. Yn nghyflawnder, neu o dan ysprydoliaeth y mwynhad hapus, neu yr hiraeth pleserus, ag y mae y tymhor hwn yn eu cynyrchu yn y meddwl, y canodd y bardd: --

Hyfryd Haf - gemwaith Naf, I roi gwynfyd i bob bywyd; O dros enyd, aros - sâf!
 
"



 

 

A page of a poem

Description automatically generated

x105

Dwyfol ffaith, fywiol, faith-- Fflam ddiseibiant o ogoniant, Wyt, ar fythgylchynol daith.

Swn dy droed sydd yn d'od,
Drwy'r mynyddoedd a'r dyffrynoedd, Gyda miwsig, mawl, a chlod. Cauaist ddôr Gogledd oer, - Rhoist lawenydd yn lleferydd Glyn a mynydd, glan a môr. Jubil gu, ednod lu, - Dydd gollyngdod daear isod, O gaethiwed Gauaf du.

Tymhor tês, gwawl a gwrês, - Meusydd cnydiog, coed gwyrdd - ddeiliog, A'u canghenau ' n aur a phrês.

Gwawrddydd glir, anterth ir; Perl - foreuddydd, aur - ddiwedydd, -- Balmiog, ddedwydd hwyrddydd hir.

Mwyn yw'r nos
lleuad dlos,
Sêr digyffro wedi'u pinio,
Ar hyd furiau'r ne ' fel rhôs.

Tristwch ffol ' nawr dry ' n ol; Gwledda'r yspryd mewn dedwyddyd, Ar newyddfyd croew'r ddôl.

Pêr yw'r pant, gloew yw'r nant, Pur pob ffynon, megys calon, Neu olygon nefɔl sant.

Llwys pob llyn, glàs pop glyn,
O! mor hawddgar ydyw'r ddaear, Yn ei ' scablar gwyrdd a gwyn; Rhodia'r nefoedd drwy'r dyffrynoedd, Edeneiddiwyd moel a bryn.




 

 

A close-up of a letter

Description automatically generated

x106


 
Dewch yn awr, deulu'r llawr, A darllenwch mewn prydferthwch, Arwyddluniau'r Duwdod mawr.

Ydwyt, Haf - emwaith Nâf,
I roi gwynfyd i bob bywyd.

O! dros enyd, aros - saf.

Y mae yr haf yn ddydd o jubili, nid yn unig i'r adar ar deyrnas drychfilaidd, & c., ond i bob dosparth o'r gymdeithas ddynol; ond yn fwyaf neillduol, fel ag y sylwasom o'r blaen, i'r dospeirth cyfyngedig hyny o gymdeithas, sydd a'u gorchwylion oddi fewn i fagwyrydd ein masnachdai, ein hystordai, a'n swyddfeydd y mae yn ddydd o ollyngdod a dyspeidiant achlysurol oddiwrth lafur caeth a pharhaus masnach wastadol; er mwyn adferiad i'w cyrph ac ad- fywiad i'w hysprydoedd; bydd llafur y fyfyrgell yn cael ei rhoi heibio i raddau yn awr, er mwyn y gorchwyl mwy pleserus of adolygu llyfr natur; cyfnewidir bywyd o ideality am fywyd o reality - y dychymygol am y sylweddol - y myfyriol am y golygol- yr ysgrifbin am yr omnibus - y swyddfa am y maes ― y masnachdy am y môr - y môr am y mynydd, a'r dref am y wlad. pawb yn awr, fel pe baent am ddyfod i gyffyrddiad mwy agos a phersonol a natur - dyfod wyneb yn wyneb a hi - mwynhau ei phresenoldeb digyfrwng, a derbyn o'i hamrywiol ddoniau, a'i haml fendithion yn newydd a ffrês, megys o ddwylaw teleidion ei hun; -

' Tis summer, joyous summer time!
In noisy towns no more abide;
The earth is full of radiant things,
Of gleaming flowers and glancing wings; Beauty and joy on every side.

Y mae
Y mae hon hefyd yn adeg fanteisiol iawn i'r bardd fyned allan i arehwilio natur, er mwyn casglu oddiwrthi ddelweddau o dlysni, ceinder, prydferthwch, a hyfrydlonedd, a hyny drwy sylwi yn fanwl ar ei hamrywiol liwiau, a ' igwahanol wynebweddau, ac ar ys- plander, hyfrydwch, a gogoneddusrwydd ei phenomena pryd- ferthion; a'u trysori yn y côf ar darfelydd, fel y byddo y cyntaf yn gryf ac yn eang, a'r olaf yn gyfoethog a hardd, ae yn gyflawn o bob defnyddiau cyfaddas at wasanaeth yr awen, ac yn wastad yn barod wrth law, pa bryd bynag y geilw am danynt. Rhaid i ni derfynu yn awr gyda y desgrifiad prydferth a rydd H. G. ADAMS, o geinder a hyfrydlonedd Haf: -

-

 



 

 

x107

A dreaming sound of waters. Falling, ever falling! Voices of sweet songbirds To each other calling; Fowers all rainbow - tinted, Springing, ever springing! On the vagrant breezes Richest perfume flinging.

A perfect satisfaction, A fulness of delight, A sense of gliding onward,
Through regions ever bright; All balm, all bloom, all beauty,
Like some ambrosial clime; These are the signs that tell us Of glorious Summer time.

MARWOLAETH SAMUEL EVANS.

( GOMER. )
MARW a fu ein GOMER fawr, -wedi byw
Yn dad bardd a llenawr:
Oes o waith, heb orphwys awr,
Fu ei yrfa lafurfawr.

Llifodd ei oes rhwng llafur - athrylith, A'i thraul, arno'n brysur, -

Ac iau IESU - ei gysur, -

Hyd y bedd, yn ddwy ffrwd bur.

Gorphenodd orgraff uniaith - ei genedl, Bron yn ganon berffaith; Mynai GOMER, mewn gemwaith, Wisgo ' r Oes, y Wasg, a'r Iaith.

ANGAU A'R BEDD.

Y GAIR Marw sy'n gyru mawredd y byd Yn boen ac yn chwerwedd;
Ac awr felus gorfoledd
A'n chwerw boen yn ochr y Bedd,



 

 

x108


 
Y
CYNWYSIAD.

PENNOD I. - Seryddiaeth Gyntefig yn mhlith y Babiloniaid, y Caldeaid, yr Aifftiaid, yr Edomiaid, a'r Cymry.-- Dosparthiad y Sidydd, yn nghyd a pherthynas yr unrhyw a Gorddangosion y Flwyddyn.

PENNOD II. - Tarddiad a Chwedloniaeth y Sidydd.

PENNOD III. - Athroniaeth Gorddangosion y Flwyddyn.

PENNOD IV. - Cyfnodau y Flwyddyn.

PENNOD V - Y Prif Dymhorau - Gwanwyn, Haf, Hydref, a Gauaf; yn nghyd a Myfyrdodau Cynghloawl,
YR
ADW L.

ARDDUN waith seryddion oedd - chwilio glan, Orchwylion anian, drwy'r uchel nenoedd.

Dadgan gwawl - lydan dreigliadau — y sêr
Sydd ar fythol deithiau;
Ac effaith eu gwaith a'u gwên,
Ar ein hên ddaear ninau.

Mesurwyd yr amseroedd - ac enwyd
Hwy mewn cynar oesoedd;
Mesur dyddiau - misoedd - a thymhorau, -

Rhoi eu mesurau wrth drem
Sêr
y ne'n fesuron oedd,
Ar wyneb y wybrenoedd.

y seroedd.

Wele, y Dwyrain i'r uchelderau,
Ei llygad cywrain gyfeiriai ' n forau; Er gweled y ser golau - yn cychwyn, Ar eu hedyn drwy y cydseriadau.

BABILONIAID - bobl enwog, -wnaent cyn neb,
Fesur wyneb y nef serenog.

 
K



 

 

x109


CALDEAID: oraclau daear - oeddent,
Mewn seryddiaeth feiddgar-

Yn gweled tynghed ar - bob seren foel, — Ar gref ofergoel, gwyr gorfyfyrgar,
Hwy i'r wyddor seryddol - a roisant Y grisyn sylfaenol;
Y grefft deg - i'r Aifft o'u hol - a ledodd, A chyrhaeddodd i fri uwchraddol.

Yr ydoedd y cydseriadau - weithian, Yn britho colofnau,
A thai amlwg, a themlau - yr Aifft brid: Hwy a heirdd lenwid o'u harwyddluniau.

EDOM hefyd, a'i myfyr,
Fu'n forau ar sygnau'r sŷr.

JOB, yn un o'i meibion oedd- Wybu ranau'r wybrenoedd.

MAZAROTH, a'i amseroedd, -newidiawl Ordinadau'r nefoedd,
A dull ei phell ' stafelloedd, Wyddai oll --ser - ofydd oedd.

Ar un o heirdd fryniau Us, -y safai'r Nôs - ofydd molianus;
Oddiyno'r wedd hoenus - lenwa'i galon, I'w pher ymylon a chyffro melus.

Mawr waith y Cymry hwythau, -oedd dadgan Llwybrau anian drwy'r pell wybrenau.

Y fawrddysg orsedd farddol, -oedd berffaith Arwyddwaith seryddol:
Hon oedd hên oesoedd yn ol, Oleuni arwyddluniol.




 

 

A close-up of a poem

Description automatically generated

x110


 
Fel hyn, drwy'r byd yr ydoedd - eu Magoi Mygyr, gan genedloedd
Yn forau niferoedd, -myn'd yn helaeth A wnai'r wybodaeth olrheinia'r bydoedd.

Yr haul, uwch daear welyrt, -yn syflyd O'i safle debygynt-

Hin o'i ol, wrth droi'n ei hynt, -tymhorau— Cyfan dueddau'n cyfnewid oeddynt
I nodi wedy'n y newidiadau
Hyn yn briodol, -yn eu hiawn brydiau, Gwilient yr haul golau - o fan i fan, Yn bwrw ei hunan drwy y wybrenau.

Yna ranasant, yn ol yr iawn eisiau, Y Rhôd, i ddeuddeg o Gydseriadau; Enwid, a'u harwyddluniau - wrth a gaed, Neu a wnaed, yn y priod gyfnodau.

Rhyw nifer o Gydser gaid, Ar enwau rhyw wroniaid- Gwroniaid wisgai'r annuw, Gwan, a dall, ag enwau Duw! A'u mawl yn ddwyfawl ydd oedd, Yn awdlau y cenedloedd.

Y gwron wnai ragoriaeth, - o herwydd Gwyrog serch dynoliaeth,
A dylanwad Chwedloniaeth-

Yn seren - dduw seirian, ddaeth.

Ond rhy hir fydd myn'd ar ol, Hanes y ffydd chwedlonol; Rhyw un drem rho'wn arni draw, Neu dyb, wrth fyned heibiaw.

 



 

 

A page of a poem

Description automatically generated

x111

Y
SIDYDD,
NEU GYLCH Y DEUDDEG ARWYDD.

TRWY y Sidydd traws - hedol - hwylia'r haul,
Ar ei hynt flynyddol;
A hynod o wahanol,
Drwy y maes, yw'r drem o'i ol.

Efe a gyflawna'i flwydd,
Yn nghyrau'r Deuddeng Arwydd.

Yr HWRDD yw'r blaena ' n y rês, -efe sy'n Dwyn y Gwanwyn o'r Deau ' n gynhes.

Yr Hwrdd hwn, rhyw arwydd oedd O'r adeg pan yr ydoedd,
Wyn a defaid yn difa - pawr cynar Dolydd ffrwythlongar daear Caldea.

Aeth
Fry gwelai ofergoeledd
Yr Hurdd hwn mewn rhyw hardd wedd:
Yr oedd ei gyrn o ruddaur,
A'i wlân oll o felyn aur.

Ar ol y dirfawr helynt,
A ddarfu'r Hurdd ei gwrdd gynt,
Cymerwyd ef i'r nefau,
Yn aberth hedd i borth IAU.

yr haul drwy waith yr Hwrdd, ac weithian
Ei ben coeth sy'n cyffwrdd
-

Troiog gyrn y TARW gwrdd, mae'n cyfodi,
I rywiogi y Tarw agwrdd.

I'n golwg, pan y gwelwn
Rhawd haul drwy'r Cydseriad hwn,
Y bydd y ddedwydd adeg
I'r llyfnion loi, tewion, têg,
Gael eu troi a'u rhoi yn rhydd,
O'u corau rhwng y ceurydd,



 

 

A page of a poem

Description automatically generated

x112


 
Yn llawndwf i'r meilliondir, Ac i wledd y dyfroedd clir. Lloi eraill i'r allorau - barattoid, Bryd hyn yn aberthau, I oedi gwg duwiau gau, Yn nos y pell gynoesau.

O hyn y Tarw heini, -yn y meithion Oruchelion, sy'n cynrychioli Prif gynyrch gwanwyn tyner— Y Llo tew, -yn Ebrill der.

Y Tarw hwn - JUPITER oedd- Rhodio mewn doldir ydoedd: Yno daeth merch AGENAWR, Brydnawngwaith, i ymdaith awr; Bu ryfedd y wedd iddi--

Ei wedd hardd a'i hudodd hi; Ni fu Tarw ' n fwy tirion- Deilliai hedd o'i lygad llon, Taenent oleuni tyner,
A nefol serch, fel y sêr;
Ei groen oedd o'i gŵr yn wyn- Gwynach na lili'r gwanwyn, Ac i'w noeth ben caed coethaur, Droiog gyrn fel dau drec aur.

Daeth yr haul, ar gylchdaith rwydd, I ddor y trydydd arwydd:
Ei daith sy'n lled frwd weithian,
Yn mysg y GEFEILLIAID Mân.

Yn awr, ydoedd yr adeg
I eifr y tir fwrw eu teg
Fynod, ar uchelfanau - y Dwyrain, -

Diroedd ffrwythlawn, golau:
Dwyn yn aml wnaent eu dau, ac ysgatfydd,
Y bu o herwydd eu dwyn yn barau.

 
I'r Arwydd gwawr - euraid - hwn, yn nef fry, Ei enwi felly - yn Efeilliaid.

Dywed chwedlau borau byd,
Eu nofel am hyn hefyd― Castor a Pollux, cystal
Rhywdro fu, eu dewrder, fal-




 

 

A page of a poem

Description automatically generated

x113

Eu hanrhydeddwyd, drwy eu duweiddio, Rhyw nawn, cael wedy'n i'r nen eu cludo, Acw i'r Rôd, lle maent yn gwrido - ' n ddwyfawl, - Hwy sy ' arddunawl sêrdduwiau yno.

Dacw'r haul wrth droed y CRANC, —ac yn ol,
I'w rawd Deheuol yn dechreu dianc.

Gan ddianc, y Cranc ar ei encil — â,
Bron o'i ol, ar wrthgil;
Felly'r huan can, cynil, -yn awr â-

Iawn ysgoga yn wysg ei wegil.

Mae'n awr yn flamio yn arwydd ― y LLEW,
Gyda llawn danbeidrwydd;
Gan ei wrês, bydd digon rhwydd ― gan ddiawg,
Geisio coed deiliawg yn gysgod hylwydd.

Ffyrnig, gyneuedig nwyd,
Y Llew oersain - llyw arswyd Y goedwig - ffyrnig ydyw, —
O haul nef, arwyddlun yw, Pan goruwch ben Gorphenaf, A'i wrês trwm yn rhostio'r hâf.

Yr awr hon ymlwybra'r haul - Arwydd mwyn, Y dirion FORWYN, drwy y nef araul.




 

 

A text on a white background

Description automatically generated

x114


 
Yr yd, sy'n addfed, i'n rhan, - Hoga'r amaeth ei gryman: Y lafurus lawforwyn,
A i'r maes yn wâr a mwyn,
I loffa'r yd da, drwy'r dydd- Ymesyd ar y meusydd.

Dyrnaid ' nol dyrnaid hyd hwyrnawn,
A'i epha o loffa fydd lawn:
O'i herwydd hi'r Arwydd hwn, Ddodwyd yn y nef ddidwm.

Yr huan dyddfyrhaol, -a wyra
I Arwydd y FANTOL;
Feinwych, dynghedfenol - lle pwysir gan Iau - dduw, ei hunan, bob tynghed ddynol.

Hon yw'r Glorian eirian wedd, Godwyd i'r claer gyhydedd;
I ranu y wybrenydd,
Yn deg, rhwng y nos a'r dydd.

Wele'r Fantol ddeddfol dda, -yn hongian,
Yn llysdy ' r hunan, yn llaw Astraea,
Acw sydd yn mysg y sêr,
Yn fendith a chyfiawnder.

A'r huan hwyrwan i Arwydd - y Sarff, Sy'n dwyn cyffelybrwydd
I fawr, egr, afrywiogrwydd - Hydref hên; Cau am ael wybren mae cymyl ebrwydd.

Ond i fewn yr aeth i'r SAETHYDD,
Bwa a saeth ar ei bwys sydd;
Adeg yr heliwr ydyw,
Mae sain fawr y maes yn fyw.

Y corn waedd - crŷn y wig, -ar bedwar carn, A'r heliwr cadarn drwy lawer coedwig.

 


 

 

A page of a poem

Description automatically generated

x115


Yr haul ag oer olwg wan,
A â i'r fraith AFR weithian.

O'r glyn, a dyfnderau'r glenydd, —dringo Fel y mae hono, i foel a mynydd; Mae yntau'r haul araul wedd, Yn codi i'r cyhydedd.

O'r Deau ' n awr daw yn ol, Yn dwyn rhyddid, yn raddol, I Natur ddigysur, gaeth,
O hualau marwolaeth.

Ac i gwr y DYFRWR daeth, A'i ben yn llawn gwlybaniaeth: Taena gwmwl dwl, drwy'r dydd, Ar wyneb y wybrenydd.

Aeth i'r Pysa drwy derfysg dŵr,
Ai saig at y pysgwtwr.

Bysgodwyr, b'le mae eich basgedau - teg?
Hon yw yr adeg i daenu rwydau.

Wedi pur gyflawnu ' r flwydd, Yn nghyrau ' r Deuddeng Arwydd; Yr haul iach drwy'r awyr laith
.

Ddaw o'i ol, i'r Hwrdd eilwaith-

Frenin tlws, -lle câr ymdrwsio - ' n brysur, I lywyddu Natur flwyddyn etto.




 

 

A page of a paper

Description automatically generated

x116


 
ATHRONIAETH GORDDANGOSION Y
FLWYDDYN.

Yr haul yn ganolbwnt attyniaeth. Ei ddylanwad ar y byd anianyddol a moesol. Ei addoliad, ei demlau, ei oraclau, ei gerfddelwau a'i orseddau.

Symudiadau y ddaear, —ei llinellau, ei chylchau, ei gwregysau, a'i Albanau; yn nghyd a gorddangosion anian, ar adegau Albaniad yr haul neu y ddaear.

Yr haul sy ' ganolbwnc rhwng - y bydoedd; O'i dângelloedd mae Duw yn gollwng, Gwawl i blith y gwagle blwng; -- ei ganaid Wyneb telaid, yw bywyd teilwng Anian ddillyn ddiollwng; -ef iw llwybr. Drwy y syn wybr draw sy'n ei hebrwng.

Gwên ei argan awyrgylch - a lona Ael anian fawr, ogylch;
Trymgyrff sy'n troi amgylch-

Bywyd ga pob byd o'i gylch.

Dylanwad ei oleuni, Drwy y nef a'n ddaear ni,
Ai ragoriaeth helaeth, ar Yr holl uchel sêr llachar.

A arweiniodd yr anwar - i dybio, Mae Duw byw'r holl ddaear
Ydoedd ef; ai fryd oedd ar
Ei addoli ' n ddialar.

Duw aml oedd: -ei demlau ar-

Rhufain, oen't ddigymhar:
-fynyddau
Oedd amlach, wychach ei lachar - demlau,
Nag eraill dduwiau gan yr holl ddaear.

 
117



 

 

A page of a poem

Description automatically generated

x117

ATHRONIAETH GORDDANGOSION Y FLWYDDYN.

Nid ail, iw Oracl, yn Delos: -nid ail
I'w deml deg, yn Delphos:
Nid ail i wedd, ei allor dlos,
O aur, oedd yno'n aros.

Wele ddrych yn mhorthladd Rhôd, -eres oedd, -

Un o'r " Saith Rhyfeddod; " -

Eulun glan, i Apollo'n glod Dewisol, wedi'i osod.

Y sêr, gan ei uchder, oedd
Yn huno ar ei nenoedd.

Wele, ein hên genedl ninau, -i'r haul Yn rhoi addoliadau:
Gwilient gadw eu Gwyliau, -pan wnai'r dydd, Ei obenydd ar yr Albanau.

Ond Duw y duwiau, nid haul,
Na seren hoenus araul,
Yn awr, a addolwn ni-

Iôn glân, wnaeth bob goleuni- Y gwiw Nêr, yr hwn a'n gwnaeth— Duw Iôr, ein Iachawdwriaeth.

Yr haul sy ' benreolydd, ―ac iasydd Cysawd fawr, ysplenydd
O sêr o'i amgylch y sydd Yn gwau ar hwyl dragywydd.

Un o'r rhai'n ar dro heini, Drwy y nef, yw'n daear ni; Iddi rhoed gan Duw yr hawg, Bedwar symudiad beidiawg.

O barth a wnant, a berthyn i'r - flwyddyn, Dau o honyn ' yn brif adwaenir.




 

 

A page of a poem

Description automatically generated

x118


 
118
ATHRONIAETH GORDDANGOSION Y FLWYDDYN.

O'r Deau mwyn, draw hyd y maith - Ogledd, Y treigla'n chwyrn ymaith;
Ac i'r De, ar gywir daith,
Daw'n ol, gan d'wynu eilwaith.

A thrwy wneyd ei throion hyn, -o amgylch Trwmgorph yr haul melyn;
Y daill y pedwar dillyn - dymhorau Amryfal weddau, sy'n mru y flwyddyn. Ac hefyd, gwna yn gyfun, -a difeth, Yn ol dwyfol gynllun, —
Gylch tawel echel ei hun, Roi dyddiol droad eiddun.

Ac fel hyn yn cyflawni
Ein dydd a'n nôs dyddan ni.

E ranwyd y wybrenau - yn foreu, I chwech o fawr Gylchau-

Dych'mygol bell linellau, -i ddangos. Diymaros hynt y tymhorau;
Ac i wir arwyddocâu - cyflead,
Neu gyfnewidiad ein mangyfnodau.

Rhanu ein hên ddaear ninau - wnaethwyd,
Yn feithion linellau;
A'i gosod rhwng pump o wregysau - rhydd, - A'r rhai hyn sydd i nodi'r hinsoddau.

Lleinw oll o'r llinellau, -a groesant
Y grisial wybrenau, —
A i'r lan drwy'r Albanau; -lawr eilwaith, I wneyd mawrwaith ein holl dymhorau.

Ban el i Alban Eilir, -gwenau ' r haul Gan reddf y byd deimlir- Gan fraith wybr - gan for a thir; Ar Gwanwyn rhywiog enir.




 

 

A page of a poem

Description automatically generated

x119

 
Ban nawf i Alban Hefin,
Daw yr Hâf a'i newid rin.

Ban â i hwylfa Alban Elfed, -daw Hydref daer i waered; A deddfau bywyd addfed, O'i law, ' n ymwasgar ar led.

I Alban Arthan, pan êl, -daw'r Gaua ' Ar ei yrfa yn fawr, fawr ei oerfel.

CYFNODAU Y FLWYDDYN.

Y Flwyddyn orfoleddus, -a renir
Yn gyfnodau trefnus;
Drwy hyn, y mae'n dra hoenus - wybodaeth, O fodolaeth, wna fywyd hwylus.

Eiliadau, mynydau mynedol― Oriau, wythnosau perthynasol; Ar eu hynt ydynt anghenrheidiol, Cywir adegau creadigol,
Gan wyddor fawr, gynyddol - mewn cynghyd
A chelfyddyd oruchel, fuddiol.

Y Sabath sy ddwyfol seibiant: -adeg
O ysprydol fwyniant,
Dydd Sul, neillduai DDUw Sant,
I gynal ei ogoniant.

Difyr ' nol gwewyr a gwaith - a dirni'r
Chwe diwrnod lledfaith,
Yw Dydd Sul - un dydd o saith, -yn gwmhwys, I ddyn byw orphwys, a'i hedd yn berffaith.

Ein dydd ter, sy ' ddiferyn - haelionus, O oleuni ' n disgyn,
O ymyloedd haul melyn, -i lawr ar Awyrgylch daear, -o gylch a dywyn.




 

 

A page of a poem

Description automatically generated

x120


 
Ein nos eilwaith, rhaid sylwi, -yw effaith Diffyg haul - oleuni,
Ar ran o'n daear heini:
Y nôs - sydd o'i thu cefn hi.

Y misoedd anghymesur - ddynodant Weddnewidion Natur-

Ei lle hefyd ai holl lafur, I ddwyn i ben y flwyddyn bur.

Deuddeg del angel y'nt, -a'u phiolau Yn gyffelyb ganddynt:
Awel wan - uchel wynt - dryghin gaua ', A hyfryd hindda haf, a roed ynddynt.

Wele IONAWR yn blaenu - ' r osgordd fawr, O dan rew Ionawr mae'r byd yn rhynu.

O'i ol, daw CHWEFROR ddilyth;
Drwy'r fro'n rhwysgfawr Chwefrawr chwyth; Gydag ef yn gawod gain,
Y daw eira o'r Dwyrain.

Ac yn awr Chwefrawr a'i chwa - laith, o'r môr, Fedyddia'r oror, -fe dawdd yr eira;
O'r bryn penwyn i'r pant. - drwy'r gwastadedd, Yn ei holl fawredd rhuthra'r llifeiriant.

MAWRTH yn awr sy'n mhorth y nef - dywynol, Adwaenir ei ddolef;
Heibio â - ysguba ef - a'i wynt ban,
Holl lawr anian nes tywylla'r wiwnef.

A'i law gadarn teifl goedydd - Y bryniau, - Brenin mawr y ' stormydd:
Tawel fôr, gan ei dymhestl fydd fel crochan, Yn bwrw ei hunan hyd y wybrenydd.

 


 

 

A page of a poem

Description automatically generated

x121


Wele, EBRILL Wyrdd ei lwybrau, —yn dyfod
I'r difyr wybrenau,
A mil o heirdd gymylau - gylch ei ben: Tori mae heulwen trwy eu hymylau; Mae myrr, balm, a salmau, —mae awelon, Daear Saron, yn mhlith ei drysorau.

MAI iachus, oleudrem, uchel - yntau, Gyda'i santaidd awel,
Ysgafn sang, megys angel, -ar amlgainc Flodau ieuanc, drwy'r ddôl nefol - dawel.

Y mae i'w wel'd, yn Mai wyn, Ogoniant Haf a Gwanwyn.

MEHEFIN iesin, ac amldlysog, -ddaeth A'r hin dwym, sefydlog;
Haf weithian sy ' gyfoethog, -o flodau
Diwael, a llysiau a dail lliosog.

AWST aeddfed! ar led, mor lân - ei drem yw, Drwy y maes a'r berllan;
Ffrwythau o bob ffriw weithian, ―ar baladrau, Ac a'r ganghau, sy'n gwyrog hongian.

Tawel a theg yw'r tywydd,
A gwresog, desog, drwy'r dydd; O'r meusydd daw'r cynydd càn, Yn rhedlif tua'r ydlan.

Awst hoff! i'n didristâu, -mor ardderchog, Yw dy law enwog drwy yr ydlanau.

MEDI yntau ' n ddiau ddaeth, A'i wrid yn hawddgar odiaeth: Ac un llaw mae'n cynull ŷd, Ag arall, treiglo'r gweryd;



 

 

A close-up of a poem

Description automatically generated

x122


 
Ei lwybrau drwy'r glynau glân, O'r adladd draw i'r ydlan, Gan frasder a ddiferant- O hufen nef, llifo wnant; Ei awyr las - siriol yw- Ei phryd - ail saphir ydyw; Seirian a dyddan yw ' r dydd; Yr hinon ar wybrenydd; Ond er hyn, e ' dry ei wedd, Yn daeog cyn y diwedd.

Cyn ymadael cawn Medi, -a golwg Ei ael yn fwy difri-

Ei foreu ' n llaith, llaith o'r lli,
Ai hwyr, sy'n dechreu oeri.

Daeth HYDREF ai lef wylofus, -ger llaw,
O'r Gorllewin ' stormus;
Ar ei esgyll daw'n rhwysgus, -o'r Werydd,
Y gwlawogydd, drwy'r nen gilwgus.

Daeth TACHWEDD hwyrwedd, oerwawr, Ir nef werdd, gan gan ruo ' n fawr; Try'r eon wynt trwy'r awyr, - Yn gwthwm, ar gwthwm gyr: Ysgwyda y lesg adail-

Efe ydyw dystryw'r dail.

RHAGFYR ddaeth ai ddydd byr, fach,
Ai nos oerllyd, ddisarllach-

Ddisarllach i boblach bydd,
Ond difyr i fryd ofydd.

O foroedd oer, llaw Rhagfyr ddwg - y nudd,
Wna ' r fro yn anamlwg;
Tros for hallt a gallt, mewn gwg, -wyneb hir, Y gaua welir yn dod ir golwg,
 



 

 

A page of a paper with text

Description automatically generated

x123

Prif ymharau y Flwyddyn.

Y GWANWYN.

CYNWYSIAD. - Y Gweithredyddion, neu y cyfryngau drwy ba rai y mae Gorddangosion y Tymhor yn cael eu dwyn oddiamgylch, sef y Gwynt purhaol -y Gwlaw tymherus ar Haulwen faethlongar. Y Gorddangosion maweddog ' mewn cysylltiad ai ddyfodiad mewn gwahanol wledydd, Cenadon, rhagredyddion argoelion ac arwyddion ei ddyfodiad. Ei amaethyddiaeth - ei dyfoliaeth, & c., yn nghyd a'i fawredd, ei brydferthwch a'i ogoniant cyffredinol.

Oedi wnawn fynydyn, -uwch rhol enfawr Cylcharlunfa ' r Flwyddyn:
Dirfawr yw'r, drem, heb derfyn, A gwyd Duw i olwg dyn.

Rhyfedd ' a dirfawr hefyd,
Ydyw gwaith ein Duw i gyd.

O'i fawredd Ef - diferyn, -yw mawredd Tymhorau y Flwyddyn:
O'i synwyr Ef - briwsionyn - yw rhyfedd, Fawr ogonedd, y gwyrddfrig Wanwyn.

Y Gwanwyn ddarogenir, Gan wynt effro ' n teithio ' n tir.

Ar ergyr drwy'r awyrgylch, —â'n chwimwth, A chwmwl o'i amgylch: Rhwyga yr awyr o gylch,
I iachâu y tarth o'i chylch.

Ymyra ar y moroedd, -gan erfawr
Gynhyrfu eu dyfroedd-

Dwyn y niwliach afiach oedd - mewn undeb A'u harwyneb, drwy bair y wybrenoedd.

A'i gludo yn glau wedy'n, -a nwyau
Newydd yn mhob mymryn,
I'w hidlo yn ddiawdlyn,
Rhydd, rhad, iach, ar ddaear dyn



 

 

A page of a poem

Description automatically generated

x124


 
Purwyd y nen - darperir ― yr awel- Hono'n llaw angel yr hin ollyngir,
Ar ei thaith, a mor a thir - gan nwyfus, Awelon iachus, a lywenychir.

Ar ol gwaith purhaol gwynt ― y Gogledd, Ac irllonedd y Gorllewin - wynt;
Y gwlaw a ddaw a'i Ddeheu - wynt - ara ', Natur a daena bob llestr o danynt.

Ar ol y gwlaw, daw'r haulwen; -sy'n enill Llon oriau Ebrill - sy'n llenwi'r wybren, A goleu newydd - sy'n siglo'n awen Dihalog engyl pob deiliog ganghen,
Ganant, heb unrhyw gynen - naw'r drwy'r dydd, I DDUw glodydd, fel pe'n ddydd Gwyl Eden. Yr haulwen draidd yn enaid, -i fywhau Holl hunfeydd y pryfaid:
Cwyd hwyrion gysgaduriaid — yn heidiau, O'u hoer agenau i'r awyr ganaid.

Yr haulwen wech rydd iechyd - a'r awel Ein boreuau hyfryd:
Yr haulwen bêr leinw y byd - swrth, syfrdan, Yn bur fuan a phob rhyw fywyd.

Clyw acw'r wybr sy'n clecian, -ymollynga Yr oer lithr eira ar lethrau'r Aran.

O ffroenau dwfn ddyffrynoedd - yr Alpau, Cwyd taranau fel sŵn cattrinoedd-

Yr iâ trwm, trwm o'r trumoedd, yn deilchion, Tua'r gwaelodion yn treiglo ydoedd.

Têr, afonydd, y Terfynau - Rhewllyd, Nawr ollwng eu rhwymau:
Agenwyd yr eigionau— Moroedd oll sy'n ymryddhau.




 

 

A page of a poem

Description automatically generated

x125



 
Dacw gadarn, ddarn addurnol, —o'r iâ oer, Ar yr aig anfeidrol;
Mewn mawredd certh, a nerthol - ofnadwy, Nesha y meudwy fel bryn symudol! Rhyw wydrin, iesin ynysoedd, -weithian, A thrumau arian sy'n britho'r moroedd!
Y bywiol Wanwyn! O mor ysplenydd,
Y daw i waered ar hyd y Werydd:
Ei rew - feirch mor ddisglaer fydd - marchog wna, Ar rew y gaua ', a'r iâ tragywydd.

Y Gwanwyn, pan ga ei eni, -genir Y Gân drwy'r holl lwyni:
Y genir gydag yni,
Fywyd pur drwy'n natur ni.

Ei ddyfodiad yn ddiofidion,
A gyhoeddir yn mhob agweddion,
Gan ei wiwdeg genadon, -ei lwybr clir, A anrhydeddir gan ragredyddion.

Wele, hi - y Fronfraith lawen,
Yn awel brig rhyw uchel bren;
Yn nechreu Mawrth, yn chwareu'i mân - danau,
A'i hyglyw seiniau yn goglais anian.

Mwyn yw ei chân, mae'n ei cheg, Rhai o danau'r berdoneg.

A'i gwaedd fel eiddo gweddw, -y Durtur Bedeir - tôn, sydd acw;
Yn ei galar y geilw
Am ei châr, yn drwm ei " chŵ. "
Y Brain ar uchel brenau - y meusydd, Ymosod maent hwythau,
Yn brysur, prysur, i wneuthur nythau, Fel blaenffrwyth yr holl adeiniog lwythau.

L

 

 

A page of a poem

Description automatically generated

x126


 
A diwael ydynt eu hadeiladau
I'r lan, yn sionc hongian sy'n y canghau; Ceir hwynt i'w sicrhau, nes na faidd gwyntoedd, Rhuawg y moroedd rhwygo eu muriau.

Uwch y cae codant, clywch eu cawciadau, Chwyrn y disgynant, ceisiant y cwysau― Ymwasgar wedy'n yn mysg yr ydau- Niweidio'r egin, hyn yw eu drygau;
O ba herwydd ben borau, -cant ddwyn rhydd Lid yr amaethydd o'i law drom weithiau.

Brogaod, fu'n byw'r gauaf - o olwg, Yn ngwaelod y dyfnaf
Lynoedd, gan nerthoedd haul Naf, Yn awr, a ddo'nt yn araf
I'r wyneb - lle'r hoenant, -weithiau crawcian I lawr y geulan, a gwlaw argoelant.

Y brwyniaid canaid er cynydd - eu rhyw O'r aig mawr aflonydd; Nofiant yn awr yn ufydd, -i gynhes, Dawel fynwes cysgodol afonydd.

Y fro weithian a frithir,
Gan ŵyn ar bob twyn i'r tir.

Codi o lwyni haelionus - yr ardd,
Mae'r per " hwm, " " hwm, " hapus;
Sy ' arwydd fod rhyw bêrsawrus - ddeilen, Gan y wenynen i'w sugno'n hoenus.

Yn nhônau y wenynen - yr erys Swn rhyw oriau llawen; Breuddwydir fod bröydd Eden, -- wedi
Eu rhoi a'u dodi ar ei dwy aden.

Rhai glöenod drwy'r glynau - a welir, Yn yr haul yn chwarau;
 


 

 

A page of a poem

Description automatically generated

x127


Megys blaenffrwyth y trawsffurfiol lwythau, Cyn hir ollyngir o bebyll angau, I ryddid y tirweddau, -i gym'ryd, Neu greu eu hawddfyd yn ol eu greddfau. Dechreua FLORA fflwch, -ardderchogi Ein moelion erddi, a'i melyn harddwch; Ei pheraidd Saffyrau - sydd yn llinyn. O aur melyn ar eu hymylau.

A dod mae Llygaid y Dydd, -i'n lloni Ambell un drwy'r meusydd:
Tua'r nef troi yn ufydd,
Ei ben bach ar bob pin bydd.

Felly Ffydd, dan dywydd du, Yn fwyn edrycha i fyny. Daw'r Friallen felen, fach, O'i chuddfan allan bellach: Mor briodfoes, mor brydferth, Y mae ' n byw yn môn y
Gwenau pêr ei gwyneb hi
A lanwyd o oleuni;
berth;
Gwisg rhyw wylaidd, santaidd serch, A lòna ' r bruddaf lanerch.

Yr awyr eglur, gan berarogli, O amgylch ogylch, sydd yn mynegi Y lle sai'y nais Grinllysen, hi - sydd Yn fwyn a llonydd wrth fôn y llwyni. Cenawon cochion y Cŷll; -cenawon Eurliwiog, tewion yr Helyg tywyll, Sy ' n llen ar eu canghenau; -tyn y plant, A chofleidiant eu harddwych flodau.

Mae'r Almon bren a'i lonaid - o nodd pur, Mwyn yw ei flagur, -mae ' n fyw o lygaid.




 

 

A page of a poem

Description automatically generated

x128


 
Haul yn awr sy ' lòn ei wedd, Yn codi i'r cyhydedd;
A deuodd amser diwyd,
Amser dodi ' r gerddi ' gyd.

Gan wên a bri ' r Gwanwyn brâs, —diymdawr Yw holl dwymdai ' r palas; Harddach yw'r wawr, a'r urddas A roi'r o liw ' r awyr lâs.

Mewn awydd y menywod - a binciant Eu banciau yn barod;
Mae ' n werth, nad mwyn ei wrthod, Wel'd y fan mae'r blodau ' i fod. Y bâl a'r gaib welir gan - y gweithiwr, Yn gwthio ' i ardd fechan; Cloddia, ceibia, rhychia ' i ran, - Ni phaid gan faint ei ffwdan.

A diwyd hefyd mae'n hau A'i law ei fân - welyaų; Ond odid gorchwyl dedwydd Ganddo ar fyrdro a fydd,
Gwilio y gwelyau hyn,
Yn geni yr eginyn,
A'i roi yn wych, er yn wan,
Ar liniau rhiol anian,
Ei fresych ydynt freision, -a gwrol
Yw'r gwawr ar ei gloron;
Daeth y farchnad weithion - yn ysplenydd, I'w ddarfelydd, i euro ' i ofalon.

Heddyw anian ddihunwyd, —ei mynwes
O'i mewn a ddihunwyd;
Y briddell, oedd mewn breuddwyd, At ei gwaith etto a gwyd.

 


 

 

A black and white text

Description automatically generated

x129


Buddiol, ragorol oedd gwynt - ystormus, Afreolus Mawrth, fawr ei helynt;
Sugnai a lleibiai o'r llawr, Wlych afrad ar ol Chwefrawr; E leibia'r blwng wlybwr blin,
A ddrygai wraidd yr egin.

Sî y iach wynt a'i sychin,
Ar yr âr sydd fawr ei rîn.

Ymorwedd yn dymherus - y mae'r âr, Ymroi ' n ddiesgeulus,
Mae ' r amaeth diwyd, grymus; -pan welo Awr diwyllio, mae ' n wr deallus.

Gyr weithion ei weision brysiog At waith cadr yr aradr a'r ôg; I'w dir ŷd yr aradr a, A'r ôg o'i ol a rwyga; Haua geirch yr adeg hon, Ar y gwys lefnwawr, gyson; Wedi briwioni ' r braenar, Haua yr haidd yn yr âr; A'i law wen deil i hau ' n dew, Neu traidd i fewn a'r trwyddew; Hau ' r aidd sy ' well na rhuddaur, Hau ' n llwch sy ' well na aur.

Daeth yr adeg deg ei dydd,
Dynd glanhau y dolydd,
Chwilio ' r tir, ' nol chwalu ' r tail, Cario gwydd ceryg addail,
A dreiniach draw o hono- Cau y bwlch lle bynag bo; A rholio yn arial - wych Yr yttir a'r gweirdir gwych,



 

 

A page of a poem

Description automatically generated

x130


 
Yr hwn a ysgafnhawyd,
A rhew llym oer aua ' llwyd, Ond a wesgir, nes disgyn
At wraidd y glaswellt drwy hyn.

Bellach, y gorchwyl balla,
A dechreu ' i gwaith gobaith ga; Ar hyd y tir, gwedi ' r gwaith, Y gwibia ysbryd gobaith.

Wedi hau yn ddiwyd iawn, -yr egin
Ni frigant yn ffrwythlawn,
Heb i'r ARGLWYDD roi llwydd llawn; -ffrwythloni, A rhoi daioni, sy'n llaw ' r Duw uniawn.

EBRILL sy'n sengi ' r wybrau - yn amlwg; Mae ei olwg, rhwng haul a chymylau, Yn dra dihalog, -daw drwy y dolau, A'i awel dyner, a'i delaid wênau, A'i foreu iachus, yn llon'd ei freichiau; Iechyd i lwyd - fochau, -nerth a nodded, A lif i waered o'i awel forau.

Awelon dofion Deheufyd - a ddeuant Dros y ddaear hyfryd; Yn mhob awel y mae bywyd, A balm i berarogli'r byd.

Daw i lawr y gafod lân,
Yn awr yn ddafnau arian; Egora bob blaguryn
Ei ben hardd, can's erbyn hyn,
Bywyd drwy'r gweryd sy'n gwau, -daeth anian
Yn beraidd allan o'r llwyd briddellau.

Ysgafn leithbwl, gwmwl gwyn, Haulwen wiwdeg, lòn, wedy'n, Feddianant wiw a miwail
Wyneb y nef, bob yn ail.

 


 

 

A black and white text

Description automatically generated

x131


Cysgodau'r cymylau mân,
Wrth hedfan, prydferth ydynt;
Heb sain, hwy ' n myn'd heibio sydd, Adenydd yspryd danynt:
Draw, draw yr ant mewn awydd, -o'n gwyddfod, Drwy haul y gwaelod ar ol eu gilydd.

Ond weithian ambell dwthwn
A geir yn debyg i hwn, -

Ar ol awr o oleu haf,
Awr o nos yw ' r un nesaf; Boreu clauar, mwynwar, maith, - Hwyr lled wael, oerllyd eilwaith; Neithiwyr tawel awel oedd- Heddyw, gwantan, ddig wyntoedd.

Ond hinon gyson ei gwedd
Etto ddaw tua'i ddiwedd.

Gauaf oer ga farw, -cân ednod ffraeth, Fuddygoliaeth uwchben ei fedd gwelw.

Cerddgar adar ymfudol, Yn awr ddychwelant yn ol.

O faith bellderau y Deau deuant, Fry uwch eigion, y gwynt farchogant; Eu hên gyrchfanau gorwych a fynant, Heb wyro gwedi'n eu llwybrau gadwant; Yn llaw greddf yn llu gwârant, -ni rydd hi, Le i wyrni, hwy ni chyfeiliornant.

Mae'r yrol Wenol heini, -i'w hên daith,
Wedi d'od eleni:
Yn awr hi eistedd a'i chôb ddu drosti,
Ar y ty anedd, neu ' sguba'r twyni; Ei uchel dôn, wichlyd hi, -sy'n ein gwydd, Yn hyfryd arwydd fod hâf ar dori.




 

 

A page of a poem

Description automatically generated

x132


 
Hithau'r Gôg enwog, anwyl; -adwaenir Gwerth ei dawn a'i gorchwyl;
Mae gobaith teg yr egwyl, -i'r brigyn, Wedi esgyn drwy'r holl wlad i'w dysgwyl. Serchog " gw, " " " gw, " y Gôg loew a glywir, Ei dwy nod amlwg, gan bob dyn a deimlir; O fwyned ydynt, o'u fewn hwy dodir, Hâf - freuddwydion, lle difyr addoedir; Ei gwersi a'i hawen hi groesawir Gydag hyfrydwch, drwy'n gwiwdeg frodir; Haf teg uwch ffurf y tir, -pan fo'n clustiau, Yn fyw o'i hodlau hi, a sefydlir.

Llona bob cwr a llanerch,
A dau sill yn dew o serch.

Mwyn esgyn y mae nôsgainc - brudd, ddofn, dlos, Y rywiog Eos, o'r deilfrig ieuainc.

Alawon rhwydd leinw'r wig, - Toddeidiau'r cystuddiedig: Ar y dôn hawddgar, dyner, Yn dra syn y gwrendy'r sêr.

Daear a ne ' wrandawant, -pan y gwna Philomela hoff wylo ei moliant.

Mae brig y goedwig yn gân, Hyfryd oll, daw'n frwd allan.

Glyn a maes, a glanau môr, -gipia'r sain, Lleinw arwyrain holl lwyni yr oror.

Ar amrywnod glod y glyn, Mud wrandaw nis medr undyn; Rhodio geir yspryd y gân, A rhyw hapus ymgripian, Hyd danau'r enaid dynawl, - Dihuno mwyn danau mawl.

 
.




 

 

A page of a poem

Description automatically generated

x133


Myn'd a'r forau golau gwyn, I'w hymyl - gwrando'i hemyn Bereiddglod, wna i bruddglwy ', Gilio ' mhell o'r galon mwy.

Beth yw testynau y corau cywrain? A'i sain carwriaeth yw'r sione arwyrain? Ynte cerdd - foliant gain, -i hynawsedd,
A bri a mawredd y boreu mirain?
Tangnefeddus,
Orfoleddus,
Swn hyderus, sy'n eu dyri; Diolchgarwch,
Cariad, heddwch,
A dedwyddwch yn cyd - doddi.

O, ddoniau dwyfol! braidd nad ofer Yw si y berdoneg sobr, dyner, - Odlau y nabl a'r delyn wiwber,
A mawl geirdd hoff, mil o gerdd offer, Yn ymyl pwnc a mawl pêr, -a gwres awdl, Anfeidrol hyawdl, hâf adar lawer.

Ebrill sy'n gadaw y wybren, -a'i waith, Yn anmherffaith, i MAI i'w orphen. Deorodd yr aderyn, -mae ' n porthi Ei gyw heb oedi, ar gwiw abwydyn.

Y Glöyn byw, glân ei ben, —ef yn awr Fyn wel'd newydd elfen;
O'i blisg coeth, mewn cwbl wisg wen, —y Pila, I'r wybr loew goda, ar berlog aden.

A dyma hi, ' r Fagien, -yn mhob perth, A'i lamp aur ddysgywen,
Sy ' hwyrol, loew seren, -wna'n llawenhau Yn ei llwybrau, pan ballo y wybren


 

 

A black and white text on a white background

Description automatically generated

x134


 
134
Cynhes, o dan dês y dydd, Ydyw'r llyn a'r dw'r llonydd;
Mor gywrain mae'r bychain bysg Yno, ' n dorfoedd diderfysg,
Yn chwarau ' n dorchau drwy ' r dydd,
Ac hêl ar ol eu gilydd.

Ac yn awr y genweirydd - ddeil law ' n llòn, Acw ar finion y croew afonydd.

Lluon olaf y teithbell wenoliaid,
Yn awr a geir adref, fa ' n hir grwydraid; Y cywion adar, y cân - ehediaid,
A lliaws croew - blu yr holl ysgrybliaid Yn awr sy ' n rhwyso yn euraid, —a glan Wyneb haul anian, eu bywiol enaid. Ysplenydd yw meusydd Mai, Dihalog; -pwy nad elai
I'r hen ffyrdd, hyd fryn a phant,
I gynull eu gogoniant?
Wanwyn disglair!
O, mor hilbair
Yw ei ddiwair, -santaidd awel;
Bywyd dardda,
Harddwch wena,
Lle y senga - fo, ' r llwys angel.

Heolydd ac anialwch, -y graig hên, Grug oer, a diffaethwch,
Yr Alpau a'r truman trwch, Sy'n wyrdd o'i swyn a'i harddwch. Dyna bêr flodeuyn bach,
Na fu wyrth o'i brydferthach.

Fe uchel, dawel flodeua, -yn mhen Mynydd rhew ac eira
Annifyr Scandinavia; -mae'r Gwanwyn
Am ei goryn, ei fru ymegora.

 



 

 

A page of a poem

Description automatically generated

x135

Hael Wanwyn sy ' ysplenydd - ei genion, Drwy'r gwahanol wledydd; Y Prairi pêr, o'i herwydd, Hyd y ser yn flodau sydd.

Ei wedd sy'n ogoneddus, -yn mlodau Y pêr rosynau drwy Persia hoenus.

Aroglau gwinllanau llwys, -amryfal Y bêr Eidal, sydd fel o Baradwys.

Drwy holl fro deheudir Ffrainc Y sai ', o'r Crinllys ieuanc,
Lu lawer; a liliau, -hwy ' n ddirfawr, Dyffiau eirianwawr, sydd drwy y dyffrynau.

Mae aswy a de ' n meusydd, Yn dew o Lygaid y Dydd; Llysian'r Ymenyn llwysion, Yn ddafnau aur, sydd fan hon.

Ac yna yn eu canol, -yn benes, Sai'r Dewbanog siriol:
1
O, mor ddifyr, mor ddwyfol,
A hardd yw hi ' n mhawr y ddol.

Egnio weithian y mae'r genethod, A chalon heini, i chwilio ' n hynod Ymyloedd iachus y moelydd uchod, A'r perthi iesyn, drwy'r parthau isod, Am y pur emau parod - deifl Flora Yn rhad eu gwala ar hyd y gwaelod.

Ar y ddôl, diferodd aur
Rhoddodd bob cwr dan ruddaur.

flycard & ANT tted laporan-

meugen.

Plantie
ve Ju Cusflu blodem
Mor brydferth mae'r berth, mor bêr, -i'n cwrdd ni
Y daw o honi yr awel dyner.




 

 

A page of a paper with text

Description automatically generated

x136


136
PRÍF DYMHORAU Y FLWYDDYN.

Y Ddraenen Wen ysplenydd, Arni ' n ffrês, fel santes sydd; Hardd iawn yw y Wen a'r Ddu, Yn eu gwyn arni ' n gwenu.

Blodau eisoes wyneb - ledasant, -llwyni
Sy'n eu llawn ogoniant;
Mae'r gwydd, yn mynydd, yn mhant, -yn curaw Yn llawen - ddwylaw, yn eu llawn ddeiliant.

Geillt, twyni, llwyni, a pherllenydd, -y'nt Oll mewn gwisgoedd newydd:
O nef wen ddaeth, na fu ' n ei ddydd I selyf, bais o'u heilydd.

Gresyn fod unrhyw groeswynt - a ddifa'r Wedd ddwyfol sydd arnynt: Duw ro nawdd rag ddwyrain wynt- Na âd dristwaith fyn'd drostynt.

YR
HAF.

CYNWYSIAD. - Cneifiad y defaid. Boreu haf - y Wawr - codiad ac esgyniad haul, & c. Gwres y dydd y tês. Prydferthwch ymddangosiadol gwahanol wrthddrychau. Desgrifiad o'r ddôl - y llyn - y ffynon - y mor - y mynydd - yr afon - a'r wybren. Nos Haf: Desgrifiad o'r lleuad, y ser, a'r wybren. Helyntion a difyrion haf, & c. Y gorddangosion cysylltiedig a phoethder yr hin ar y tymhor hwn o'r flwyddyn. Y sychder. Y cyfarfod gweddio am wlaw - y gwlaw yn dyfod mewn atebiad i weddiau yr Eglwys. Y gafod daranawl. Y Cynauaf - gwair - gwenith - ceirch - haidd. & c. Yr Harvest Home. Cyfarfod diolchgarwch.

Yn awr, gwnawn godi ' n araf,
Leni heirdd cylcharlun HAF.

Cànaid yw'r defaid dofion - a olchwyd Acw ' n mwlch yr afon;
Hwythau, gneifir weithion, -daeth bref - leisiog
Gynaua ' gwenog, y cnuau gwynion.

Bugeiliad bywiog welir,
A llaw falch ar wellaif hir.




 

 

x137

 
Ac ar y maes egored - y cneifiant, Hwynt - hwy a gofiant fwyta ac yfed,
O fysg y cawg a'r fasged; -iawn i'r gwyr, Yn huan awyr gael gwledd ddiniwed.

Boreu hâf! O, mor bêr yw! Gwriḍog a hawddgar ydyw.

Awyr iachus, difrychau, -leinw gynhes Li ' y fynwes a phur elfenau: Gwell na'r gwin yw ei riniau, -na'r dyfroedd, I'n hysprydoedd hesp, yw ei radau,
O, b'le mae myr, balm, a mêl,
O ryw y
foreu awel?
Ar foreu o haf eirian, -mwyned yw
Myned ar daith, allan
Drwy'r dolau a'r glynau glan, -sylwi ar Fri, iaith, a chynar brydferthwch anian.

Gwel'd y wawr yn dadgloi dydd— Taro'r miwsig trwy'r meusydd, Yr ehedydd yn rhodio - palmentydd
-

Cynhes wybrenydd, -canu soprano;
Breilw a gwellt yn berlau gwyn,
A'r moelydd yn aur melyn.


г
Drwy rywiog wlith daw'r wawr glau — yn drwyadl
Bêr ei hanadl, i lawr o'r wybrenau.

Holl ser y ne ' lydau, gan ogoniant
A bri eu golwg, o'r wybr a giliant;
Gwaith porphor, pali, bliant, -o'i chylch sydd,
Ei haur adenydd a fawr dywynant;
Croesaw i'w gwyneb crisiant, -mae ' n llenwi Wybren a cherddi - y bryniau chwarddant.

E ' wena y boreu ' n wyneb iraidd, Nofia ' i awelon drwy wlith nefolaidd;



 

 

A page of a poem

Description automatically generated

x138


 
Yr awyr eglur sy ' beraroglaidd; Lleuera ' r haul yn llariaidd - arnynt, A brysia i'w hynt drwy y wybr santaidd.

Trwy eglur wybren y treigla - yr haul, A'i wres a gynydda;
Y nen enyna; -dyn, am dwyn uchel, Neu y dda awel a ymddyheua.

Chwarau y mae'r tonau tes,
Draw - ' n fwyn ar dirion fynwes
Y werdd don, a'r gwyrdd dwyni; -mor ddyddan Sigla anian yn ngwres y goleuni.

Hapus gwna'r ddol hepian - yn y gwaelod,
Yn ei gwely arian;
Rhoi hún ber mae'r bryniau ban, -ymsuddant I ogoniant a thrwmgwsg anian..

Y llyn a dywyn yn dawel, y mor- Ymorwedd mae'n isel;
Pur yw'r ffynon fingron fel - y gwawl glân, A geidw i hongian yn llygad angel.

Gwena yr afon gynhes, -mae'i hagwedd Megys hên Euphrates;
Blodau aur, bywiol des -- ar ei glanau, — Mae ha ' a'i wenau'n santeiddio'i mynwes.

Y wybren lwyswên, laswedd, -fry y ' mhell, I fôr mawr diddiwedd,
Uthr, a dieithrwedd - yr uchelderau, Ddyrch ei haeliau mewn hardd orucheledd.

Daeth ysplenydd hirddydd hâf,
A'r nos î'r, hynaws, araf,
Wele, y dêg, leuad agos,
A'i choron aur yn nechreu nos; Rhwng y ser yn dringo sydd I lan i'r wybren lonydd.

 



 

 

A page of a poem

Description automatically generated

x139

Ar ei thaith mor brydferth yw hi, —yn myn'd,
Mewn môr o oleuni
Tyner; a'r holl fyd tani, -fel y bedd,
I fynwes hedd yn dwfn, dwfn soddi.

Y sêr heirdd sy ' megys rhôs, -fry a'r noeth Furiau'r ne'n ymddangos;
Tawel y'nt, fel seintiau tlos, Yn norau'r nef yn aros.

O'r fath ddedwydd, lonydd len, Loew a sobr, yw'r lâs wybren; O! nad haeddwn gael toddi, Byth i'w gwynfyd hyfryd hi.

Cysgod dwyfol edyn, estyn drosti, Dystawrwydd santaidd a draidd oll drwyddi Ei sobr dawelwch wna ysprydoli,
Y nwyd a'r meddwl wrth dremio iddi; Heddwch a dedwyddwch sy'n cyd - doddi, Ar wedd y lanerch mewn gwyrdd oleuni; Ni ddichyn gwenwyn byd y drygioni, 1 burdeb calon Caergwdion godi; Mae y nef o'i mewn hi, —onid urddas, A gwawr y deyrnas sy'n gwrido arni, Ond, enyd i rodiana,
A rhoi hynt yw tymhor ha '.

E ' geir gwel'd y llesg a'r gwan, -truain wedd, Yn troi yn awr allan;
Adfywiol wrid haf huan, -mor gywraint, A wna i Henaint anghofio'i hunan!
Trigolion blinion y Blaenau, —a seilion Breswylwyr y Gweithiau,
I waered i'r gororau, - ' n ymdaith gair, A chyniwair o dawch y nwyau?:
Tomania Govel hele
141



 

 

A page of a poem

Description automatically generated

x140


 
Palms, I
Tynant i awyr tonau, y moroedd,
---

Eneiniad ydoedd rhag hên wendidau.

Troi mawr sy ' tua'r moroedd, —i fwynhau, O fuddiol wyau y prif faddleoedd.

Mawr lonir ein môr lanau - gan wyr mawr, Gan rai mewn sidanau;
Rhianod uehel riniau, -gan fwyniant Tywynol, wridant dan eu heulrodau; Hwy ydynt y Naiadau - cysegrlan, Ar eu tro weithian sy'n rhodio'r traethau.

E ' geir rhai eraill o'n gororau - prif, Yn ffoi yn heinyf tua ' r " Ffynonau, " Ber wenant rhwng y bryniau; -iechyd rydd Awyr y mynydd a dw'r y mwnau.

Pan daw haf, â'r pendefig
I'w lŷs iach, ger bron glâs wig.

Fe ddaw hwn o'r Brifddinas, -- o ganol Gogoniant ac urddas,
I'w daith, i gael cymdeithas
Geillt tew y glyn, a'r gwellt glâs.

Awel, adar, a blodau,
A'r afon iach gar fwynhau.

Gwel wedd ei barc mawreddog, -yno cwyd
Y coedwydd brasddeiliog
Eu penau sypynog, -gan dawel fwrw
Eu llun a'u delw i'r llyn dihalog;
Ac yno mae'r pysg cenog, -ar gwydr fflwch, Yn nhawlwch yr hwyrnawn heulog: Hithau, ' r alarch, sy'n marchog - mewn helaeth A hoew bendodaeth, heibio ' n odidog;
Ar ei lawntiau garlantog — mae'r ceirw ' n bod, — Yno cerdd iyrchod mewn rhwysg ardderchog.

 



 

 

A black and white text

Description automatically generated

x141

Ei droed a fyn hyd rodfâu, Fo oludog o flodau, — Rhai hygar o bob trogylch Wisgant ogoniant o'i gylch: Trwy ei erddi try harddwch, Ysplander a ffloewder fflwch; A dringo gwàl ei balas
Mae'r blodau yn glymau glâs.

Yn awr, drwy'r ardd yn eres - o rwydd, Yr â'r bendefiges;
Hawddgar y rhodia rhwng rhes - o lawrwy dd, A blodeuwydd, fel pe b'ai le duwies; Hedd yno i'r wyddanes; -rhag twymgar, Dywyn haul llachar, ca'r deildy ' n lloches; Yno, pan t'wyno ' r tes, -gwna ' n wyleiddfryd, Droi am enyd i awyro ' i mynwes.

Un arall â er ei lles, -i'r iach ffyrdd;
Goruwch ei phen cynhes,
Ei heulrod sy'n y gwawlwres,
Yn dal ffrwd o'r awel ffres.

Yr adeg a ddaeth i rodio - yn yr ardd, Yn yr hwyr digyffro;
I wydd NAF, pan dderchafo, -mewn purdeb Diwrthwyneb, berarogldarth hono.

Yn yr hwyr, pan byddo ' r haul Yn oerach ei wen araul, -

I palas
Y gwelir gyda'u gilydd, -mewn heddwch, Trwy wiw dawelwch ter y dolydd, Lawer dau, ' n ol treulio'r dydd - o dan gâ, Yn llaswyra, a chael lles o'i herwydd.

Dirfawr hedd yw rhodio'r fro,
Yn rhin yr awr hwyr hono.

M
For the Eslurps
a
www
grodeo



 

 

x142


 
smolche y Hart?
Man rhyfedd yw min yr afon - yno Mewn llawenydd calon;
Y plant a lamant yn noethlymion- Ant i'r dyfroedd, golchant eu dwyfron: Hwy ymdrochant, gan wneyd ymdrechion I nofio wedi fel ynfydion;
Ar hynyna ' n grwynwynion - allant ant, A brywusant drwy'r dolydd breision.

O mor dwym, mor dwym yw'r dydd - y nen flwch Sy'n flam ' ben bwy gilydd:
Y ddaear sêch, ddiawyr, sydd Yn llen o danbeidrwydd llonydd.

Milod y gwaelod giliant, Rhag ei wrês i'r wig yr ant; Y lloi ymaith sy'n llemain, Rhuthrant fwyfwy drwy y drain; A rhed y buwchod rhydwym, I'r nant oer ar y nawn twym; A'r hwch heb gofio'i gwrychyn, Draidd i'r llaid, a'r wydd i'r llyn; Y blodau hwythau ' n eithaf, Y glyn, bengrymant yn glâf; Lludded a syched mawr sydd, Yn adwytho'r ymdeithydd.

Hiraeth am ddyfroedd oerion, -dymuniad,
Am enau'r lloew ffynon;
Neu alar am awelon
Tirf, oer, iach, ant trwy ei fron.

Weithiau, fe dry'r haf poethwawr, Yn dri mis o sychder mawr; Gwres y nen gras, enynol, A ddaif holl laswellt y ddol;
 



 

 

x143

Y blodau bywiol edwant,
A'r egin î'r, gwywo wnant; Y nant syn, a'r llyn llonydd,
I fynu yn sychu sydd; Milod y gwaelod goleu,
Am ddwr sydd yn ymddyheu;
Wele'r cnwd drwy'r holl frwd fro - ' n ddiadfer, Ac, ar haner addfedu, ' n crino.

Y mae aeliau y moelydd - bron ar dân, Erys llaw anian dan y gwres llonydd.

Edrych, chwenych, a chwynaw Y mae'r wlad am awr o wlaw. Ofnir fod Duw yn cefnu,
Neu yn dod a'r newyn du,
Arnom, fel gwlad a theyrnas, —yn gerydd, Heb oed, o herwydd ein bywyd diras. Weithion Zion at ei Duw neshaodd, Am ei bai wylai - am wlaw ymbiliodd; A'r Iôn da a'i gwrandawodd; -trysorau Y cymylau o bob cwm a alwodd: Tywyllwch a fantellodd - y wybr las, A DUW ELIAS drwy'r holl fyd wlawiodd.

Wele, dod y mae cwmwl du - yn awr, Yn araf i fynu:
Hyd wyneb nef ymdaenu - mae'n fawrdrwch, Dan ei dywyllwch mae'r byd yn dallu.

Y gafod chwyrn a ffyrnig,
Glywir hwnt ar glawr y wig,
Drwy'r curwlaw, flychiaw mae'r fflachiog - fellten;
Fe hyllt y nen ruog
Yn ddarnan! mae'r creigiau crog, —a'r penrydd,
Hyll afonydd yn genllif ewynog.

Tori wna taran ehud,
Daearen fawr dery ' n fud!



 

 

A page of a poem

Description automatically generated

x144


 
Aman drway in ellen
Jephys luch
Ond rhiniog yw gwlaw'r taranau, -i fad Addfedu pob ffrwythau;
A cheir fod gwefrdan yn iachau Bru anian a'r wybrenau.

Goludog yw'r gwaelodion - ceindeg oll,
Gan ŷd, gwair, a meillion; Golwg a lona'r galon
Ydyw gwyrth yr adeg hon.

Heirdd ddyspleadau o'r dduwies Blodon, Dan lawer rith, ar daen welir weithion, Hyd ael y mynydd a'r dolau mwynion, Y glyn hir hefyd a glanau'r afon; Un deg yw'r flodeuog goron, -hi'n iawn, Ni eilfydda dawn celfyddyd dynion. Uwch ei rin, na choronau - mwya ' ' splenydd, Y rhai sydd yn berchen gorseddau.

Syw a phêr yw'r Zeyhyron, —yn dod sydd Ar dawel hwyrddydd o'r dolau heirddion.

A daw gyda brig y dydd, -bersawrion Byw yr awelon heibio ' r heolydd; Ninau yn yfed yn ufydd - o'u rhin, Ac o bêr win y gwridog wybrenydd; I galon y dysgwylydd, -o'r fath wledd, Yw difyr hedd yr hyfryd foreuddydd.

Cyniwair mae'r Cynaua, -diwall ŷd, Newid lliw mae'n ara;
Cyn hir ni thal ysmala - ddarymred, Hyd y maes egored - dim segura.

Oriau segur sy ' wagedd, Rhai i'r byw, fel oriau'r bedd; Rhai da yw'r oriau diwyd-

Oriau gwaith sydd aur i gyd.

 
with
Guvait



 

 

A page of a poem

Description automatically generated

x145

མ་
Mae gwawr a threm
y gweiriau - ' n prysur,
Wahodd y bladur - lle'r oedd y blodau
Mor wridog, yn awr mae'r hadau - ' n hongian, Ar ddiosg allan o'u harddwisg gellau.

Y gweiriwr prif ' n ol llifo - dry i ladd, A'i gostrel lawn ganddo; Diau'r ŷf o dro i dro,
A thyn ei nerth o hono.

A draw y gwelir bron gyda'r golau, Yr awchog weiriwr, iach ei gyhyrau, Ar y gwastadedd rhwng brig " ystodau, " A'i arf gloewrid yn ffurfio ei gloriau: Wele, y gwron a blyg ei arau,
Yn ei fawrwychedd a thaen ei freichiau; Gyra'r bladur drwy y gwair a'r blodau, Tynu wna hefyd dewion wanafau;
Erbyn hwyr heb ei wanhau, -y mae'r gwr, Yn burion dorwr bron dwy o erwau.

Ar ganol y dydd, ar gynydd — y gwres, Ar y gwair iach, newydd, Gorwedd am awr fwynfawr fydd, I gael hun rywiog, lonydd.

Wedi hun fwyn, er nad un faith, -efe Adfywiwyd yn berffaith:
Egnia fwy o ddwywaith, -- fel gwron,
At ei orchwylion, mae'n torchi eilwaith.

Ei waith sydd wych heb wrychyn, -- a'i ystod Yn eistedd yn ddillyn:
Deryw ladd; daw ar ol hyn,
Y gwridgoch, fochgoch fechgyn,
I'w ysgwyd a'i wasgar, —gan ei dreiglo Y dydd i wywo ar hyd y ddaear,
Sury
eto
mer of



 

 

A page of a poem

Description automatically generated

x146


 
A daw GWEN i wneyd y gwair, -daw ELEN
Harddbryd, wylaidd, ddisglair;
Daw hithau'r lawforau FAIR-

Forwyn dda, firain, ddiwair.

Gwna Mair a'i llefair, yn llon Gynauaf a'i egnion.

Nwyfus yw'r cribyn hefyd, -gwna ddigon, Yn mreichiau tewion y merched diwyd.

Y gwair, un lliw ag arian, I'w daenfàu daw yn y fan.

Y " daenfa " wedy'n ga'i dwyn i fwdwl, A phig hirgoes rhyw braff fywiog Aergwl, Dygir y gwair digwl - i'r dâs harddwedd; Da fo - nas gomedd difwynus gwmwl.

Ydoedd, ' nawr sy'n aeddfedu, - Y dywysen felen, fu.

A'i phen tua'r nen yn troi'n hir, -- yn awr, Yn ei ol wrthdröir:
Y nodd, a'i cadwodd yn ir, -- a ballodd, Y grawn a'i yfodd - a hi a grin wyfir.

Y " cawell " saethog, cywir,
Ar ei chwyf sydd drwy'r ceirch hir.

O fon, yn awr, i fynu, -drwy fendith, Corsen y gwenith crâs, sy'n gwỳnu: I'r amaeth yn awgrymu, -ddod o'r pryd, I'w dori hefyd - ni raid arafu
Rhoi min ar eu crymanau, —yn bybyr Y mae'r gweithwyr amrywiog hwythau: Heb aros ar ben borau - myn'd i'r tyddyn Hyd yr hwyr wed'yn, i dori'r ydau
Parluvar
y Cynara!! Sweeer
 



 

 

A page of a poem

Description automatically generated

x147

Wele, ugeinwr a golwg hoenus, -

Rhai gwardew, gwychion - rhai gwridog, iachus— Del eu hymadrodd; a dwylaw medrus,
Yn rês olynol dan wres haelionus
Haulwen, yn medi'n hwylus, -draw yn mhlith Yr aeddfed wenith, ar wedd fydianus.

Yn eu blaen, ant heb fawr blinaw, - -yn ol Eilwaith, heb ddiffygiaw;
Hogi wed'yn - ail - gydiaw, -cydgychwyn, Hirweithio, dilyn, hyd nerth eu dwylaw.

O'u hol y pranc y llanciau, -dan rymus, Dyn rwymo'r ysgubau;
Yn eu plith y ceir GWEN hithau, - ' n llawn harddwch,
A moesgarwch yn cymysg geiriau.

A chan yr hael berchenog - ' n ol syber Reol ac arfer, daw'r hyli ' gwirfog.

Wedi yfed o'r difyr - goch enaint, Adgychwyna'r gweithwyr,
Ac awydd drwy bob cyhyr; —ail - gyffraw, A grym i'w dwylaw, a ga'r medelwyr.

Llu ffraeth o'r lloffwyr hwythau, -ar wasgar,
Oresgyn y gryniau;
Gyda'r hwyr, gwedi'r oriau - diwyd, maith, Llon fydd yr effaith - llawn fydd y rhaffau.

Da wâs, a edy'r d'wysen - ar ei ol,
I'r hwn sydd a'i hanghen;
Efe byth, yn dirf ei ben,
Ni wêl eisiau elusen.

Acw, aur - ystwcanau crâs, tew, ceinion, Sy'n marchog y rhychiau'n rhesau breision; Britha'r goludoedd, barthau'r gwaelodion, Yn dorchau haelfrig hyd yr uchelfron,
 



 

 

A page of a poem

Description automatically generated

x148


 
Ust! clyw, hyd awyr drwst y cludeion Trwy'r heolydd a'r meusydd mawsion; Brysia'r ewybr weision, -a'u cnydau, Tua'r ydlanau tra y deil hinon.

Mae'r haidd yn marweiddio; -rhwyg y bladur
Gaboledig drwyddo;
Acw o'i fwdwl ca'i fudo, -i'r ydlan,
Llaw fwyndew Ornan, ry'r llyfndo arno.

Daeth, yn awr, fendithion hâ ', - " i mewn " oll, Mwynheir yr olygfa;
Chwa o hawddfyd, uwch y Wyddfa - ' n cyrhaedd, Ydyw y waedd gyda'r llwyth diwedda '.

Yn y tyddyn hwnt, heddyw,
" HARVET HOME, " a mawrfost yw.

E ' dueddir y didduw - i wneyd gwledd, Nid o glod i'r Gwir - dduw; Dwyn ei wîn y mae'r dyn annuw, Ac yfed o hwn heb gofio Duw. Boed i ni gydnabod Nâf, Yn niwedd ein cynauf; Aed i wydd ein Duw haeddawl,
O'i byrth mwyn ein hebyrth mawl.

O, mor hardd! dan do mae'r ŷd; -digonedd
Gaed i gynal bywyd
Anifail, a dyd hefyd;
A Duw gaiff y clod i gyd,
Wele, " Merch Zion " wylaidd, -troi mae hon
66
Tua'r Mynydd Santaidd; "
Lle, i'w Duw, mewn tanllyd aidd, -dyrch mewn sŵn
Geneuau filiwn ar gân nefolaidd.

Goluch, a mawl o galon,
A rydd hi drwy'r weddi hon: -

 


 

 

A page of a poem

Description automatically generated

x149


" Diolch it ', DDuw y duwiau, -wyt Awdwr, A gwir Roddwr ein holl drugareddau.

" Yn dy law fawr deli foroedd, -hercyd Y tarth hefyd wyt o'r eithafoedd;
66
Ti IÔR sy'n mwydo'r tiroedd, -troi'r niwlen, A'i rhoi yn hufen i lawr o'r nefoedd.

Darpar yn gynar wlaw'r gwanwyn - yr wyt, I ddyfrhau'r glaswelltyn;
Ac i wan eginyn, -diweddar wlaw, Wnai roi i'w fwydaw drwy yr haf wed'yn.

" Tydi'n y dechre a'n creaist, -ac eilwaith Dad ein cynilwaith, Tydi'n cyneliaist.

" O DDUW Rhagluniaeth, -Iôr y goleuni, Drwy y bydoedd tydi sy'n darbodi; Dawn a lluniaeth, mawr fel wyd yn lloni, Byrddau anlan a phob rhyw ddaioni; Drwy y nef a'n daear ni, - ' n drugarog, Dy hael law enwog sy'n dal i weini. " Yn odiaeth iawn y cnydiaist - ein meusydd, I ni'n dda fwydydd eu grawn addfedaist; Ein Duw Ion ti adwaenaist - ein heisiau, A'n gwiw ydlanau ag ŷd a lenwaist;
Pob peth byw a lywiaist, -ti Dduw ' n ddilys, O dy ewyllys da, a'n diwellaist.

" Dy law bair nawdd, dy lwybrau Nêr, —a fawr, Ddiferant gan frasder;
Ys hawdd drwy'r ddaear a'r sêr, Yw dy wel'd yn dy haelder.

" Y flwyddyn orfoleddus, -IÔR enwog,
Goronaist yn ddawnus;
A'th ddaioni porthianus, -gwnest erddom, Nyni a wyddom - yn ogoneddus.




 

 

A page of a poem

Description automatically generated

x150


 
" Y ddaear o'th faddeuant, -a'th ddawn oll,
A'th enw a'th ogoniant;
A'th harddwch, sy ' fflwch - ei phlant, O'i hachos lawenychant.

" Wedi hyn oll, na ad i ni - ein Duw, Er dim afradloni;
Dy roddion - gyru drwyddi,
O Dad, a'th anghofio di.

" Na ad hefyd rhag ein difa,
Drwy dy ddig, i'n droi dy dda; Yn eirf, i wael wrthryfela,
Yn d ' erbyn, ddiderfyn Dduw da.

" Dysg, O Nâf y dasg i ni,
Yn wyneb dy ddaioni,
Fyn'd yn awr i'r llawr a'r llwch, Yn fawr ein hedifeirwch;
Ymroi, a byw b'om ar bwys
Y myrdd o'th ddoniau mawrddwys, Yn addas, i'th ogoneddu,
Moli'th holl waith yn mhlith y llu.

" Diolch it ', DDuw y duwiau - wyt Awdwr, A gwir Roddwr ein holl drugareddau.

" Duw Iôr sy'n cynal aderyn - y to; Ef yw Tad y pryfyn;
·
Mae ei ofal am wyfyn, A'i law deil angel a dyn.

" Gogoniant a moliant mwy,
A chlod i'r anchwiliadwy;
DDUW IÔR, drwy'r holl ddaearen,
Yr un fath a thrwy'r nef wen. "
 
 



 

 

 

 

Mae’r llyr I weld yn Google Books:

https://play.google.com/books/reader?id=ObIYKxYVDi0C&pg=GBS.PR4&hl=ca

 

Sumbolau:

a A / æ Æ / e E / ɛ Ɛ / i I / o O / u U / w W / y Y /
MACRONː ā Ā / ǣ Ǣ / ē Ē / ɛ̄ Ɛ̄ / ī Ī / ō Ō / ū Ū / w̄ W̄ / ȳ Ȳ /
MACRON + ACEN DDYRCHAFEDIGː Ā̀ ā̀ , Ḗ ḗ, Ī́ ī́ , Ṓ ṓ , Ū́ ū́, (w), Ȳ́ ȳ́
MACRON + ACEN DDISGYNEDIGː Ǟ ǟ , Ḕ ḕ, Ī̀ ī̀, Ṑ ṑ, Ū̀ ū̀, (w), Ȳ̀ ȳ̀
MACRON ISODː A̱ a̱ , E̱ e̱ , I̱ i̱ , O̱ o̱, U̱ u̱, (w), Y̱ y̱
BREFː ă Ă / ĕ Ĕ / ĭ Ĭ / ŏ Ŏ / ŭ Ŭ / B5236ː 
 B5237ː B5237_ash-a-bref
BREF GWRTHDRO ISODː 
i̯, u̯
CROMFACHAUː 
  deiamwnt
A’I PHEN I LAWRː , ә, ɐ (u+0250) httpsː //text-symbols.com/upside-down/
Y WENHWYSWEG: ɛ̄ ǣ æ

ˈ ɑ ɑˑ aˑ aː / æ æː / e eˑeː / ɛ ɛː / ɪ iˑ iː ɪ / ɔ oˑ oː / ʊ uˑ uː ʊ / ə / ʌ /
 ẅ Ẅ / ẃ Ẃ / ẁ Ẁ / ŵ Ŵ /
 ŷ Ŷ / ỳ Ỳ / y Ý / ɥ
ˈ ð ɬ ŋ ʃ ʧ θ ʒ ʤ / aɪ ɔɪ əɪ uɪ ɪʊ aʊ ɛʊ ɔʊ əʊ / £
ә ʌ ẃ ă ĕ ĭ ŏ ŭ ẅ ẃ ẁ Ẁ ŵ ŷ ỳ Ỳ Hungarumlautː A̋ a̋

U+1EA0 Ạ U+1EA1 ạ
U+1EB8 Ẹ U+1EB9 ẹ
U+1ECA Ị U+1ECB ị
U+1ECC Ọ U+1ECD ọ
U+1EE4 Ụ U+1EE5 ụ
U+1E88 Ẉ U+1E89 ẉ
U+1EF4 Ỵ U+1EF5 ỵ
gw_gytseiniol_050908yn 0399j_i_gytseiniol_050908aaith δ δ £ gw_gytseiniol_050908yn 0399j_i_gytseiniol_050908aaith δ δ £ U+2020 †
« »

 
DAGGER
wikipedia, scriptsource. org
httpsː []//en.wiktionary.org/wiki/ǣ

 Hwngarwmlawtː A̋ a̋
g
w_gytseiniol_050908yn 0399j_i_gytseiniol_050908aaith δ δ
 …..
…..
ʌ ag acen ddyrchafedig / ʌ with acute accentː ʌ́

Ə́ ə́

Shwa ag acen ddyrchafedig / Schwa with acute

…..
…..
wikipedia,
scriptsource.[]org
httpsː//[ ]en.wiktionary.org/wiki/ǣ

---------------------------------------
Y TUDALEN HWN: 
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_029_ceinion_essyllt_1874_01_3944k.htm


---------------------------------------
Creuwyd:
Adolygiad diweddaraf:
01 02 2002 08-11-2023
Delweddau:

Ffynhonell: archive.org
---------------------------------------

Freefind.
---
Archwiliwch y wefan hon
Cerqueu aquest web
SEARCH THIS WEBSITE
---
Adeiladwaith y wefan
Estructura del web

SITE STRUCTURE
---
Beth sydd yn newydd?
Que hi ha de nou?
WHAT’S NEW?


Ble’r wyf i? Yr ych chi’n ymwéld ag un o dudalennau’r Gwefan “CYMRU-CATALONIA”
On sóc?
Esteu visitant una pàgina de la Web “CYMRU-CATALONIA” (= Gal·les-Catalunya)
Weø(r) àm ai? Yùu àa(r) vízïting ø peij fròm dhø “CYMRU-CATALONIA” (= Weilz-Katølóuniø) Wéb-sait
Where am I?
You are visiting a page from the “CYMRU-CATALONIA” (= Wales-Catalonia) Website

StatCounter - Free Web Tracker and Counterhit counter script

Edrychwch ar fy Ystadegau / Mireu les estadístiques / View My Stats

 

Diben y gwefan hwn yw bod yn ddolen gyswllt rhwng Cymru  a’r Gwledydd Catalaneg, gan roi gwybodaeth ar iaith a diwylliant Cymru i siaradwyr Catalaneg, a gwybodaeth am yr iaith Gatalaneg a’r Gwledydd Catalaneg i’r Cymry Cymraeg. Y Gymraeg  a’r Gatalaneg yw prif ieithoedd y gwefan. Mae rhai o’r tudalennau wedi eu trosi i’r Saesneg ac i ieithoedd eraill.