kimkat3811k Gwaith Barddonol Islwyn. 1897. William Thomas (Islwyn), Yr Ynys-ddu, Sir Fynwy (1832-1878) (rhan o Fwrdeistref Caerffili ers 1966).

12-05-2023





 .....

Gweler hefyd / Vegeu tambe / See also:

.....

0003_delw_baneri_cymru_catalonia_050111
..
 
 
 
 
 
 
 

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Catalunya i Gal·les
 
 
Cywaith Siôn Prys - Testunau Cymraeg ar y We
 
Gwaith Barddonol Islwyn. 1897.
William Thomas (Islwyn) (1832-1878).

RHAN 8/9. Tudalennau 700-799.
 


 

 

Map

Description automatically generated
(delwedd 7282)


Shape, circle

Description automatically generated https://translate.google.com/

(Cymraeg, catala, English, euskara, Gaidhlig, Gaeilge, Frysk, Deutsch, Nederlands, français, galego, etc)

...

www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion-prys_386_islwyn_y-gyfeirddalen_3803k.htm
Y Gyfeirddalen.
.....
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion-prys_386_islwyn_000-099_RHAN-1_3804k.htm
Rhan 1. Tudalennau 0-99
.....
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion-prys_386_islwyn_100-199_RHAN-2_3805k.htm
Rhan 2. Tudalennau 100-199.
.....
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion-prys_386_islwyn_200-299_RHAN-3_3806k.htm
Rhan 3. Tudalennau 200-299.
.....
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion-prys_386_islwyn_300-399_RHAN-4_3807k.htm
Rhan 4. Tudalennau 300-399.
.....
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion-prys_386_islwyn_400-499_RHAN-5_3808k.htm
Rhan 5. Tudalennau 400-499.
.....
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion-prys_386_islwyn_500-599_RHAN-6_3809k.htm
Rhan 6. Tudalennau 500-599.
.....
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion-prys_386_islwyn_600-699_RHAN-7_3810k.htm
Rhan 7. Tudalennau 600-699.
.....
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion-prys_386_islwyn_700-799_RHAN-8_3811k.htm
Rhan 8. Tudalennau 700-799.
.....
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion-prys_386_islwyn_800-864_RHAN-9_3812k.htm
Rhan 9. Tudalennau 800-864.
.....

 

A person with a beard

Description automatically generated with medium confidence

A map of the united kingdom

Description automatically generated with low confidence

(delwedd J7768) (delwedd 3181d)


llythrennau duon = testun wedi ei gywiro

llythrennau gwyrddion = testun heb ei gywiro

 

 

 

700 GWAITH ISLWYN.

 
A dal yn Brynwr dilyth,
A bod i eneidiau byrth
Hyd holl amgylchiadau 'u hynt
Yn nawdd, yn ddigon iddynt
I bwyso arno fel Ior,
Rhag angau ar ei gyngor,
Nes eu dwyn i'w fynwes deg
Ar ei edyn ryw adeg;
A chael y goruchelion
Yn ei law, gallu’r nef Ion,
Ac hoil luoedd nefoedd Naf
Ar ei achos goruchaf,
A'u hadenydd yn donnau
Fore a hwyr i'w fawrhau.


Digadwynai ef deg adenydd — hon
A'i henaid ysplenydd;
Gan y nefol ddwyfol ddydd
Goleuwyd brig Olewydd.


Ar ei adenydd mor eiraid-wynion
Heibio, o liwgar gyfoethog blygion,
Eang ei olud, aml ei angylion
Gwmwl heulog â mawl o awelon
Chwylai o'r goruchelion, — i fyny
Esgynnai Iesu a gwên i'w weision.


O gyfaill gwerth ei gofio!
Hyd y farn rhyw gennad fo
I ddwyn ar gof ei ddoniau, — a chodi
Uwchadwyth eneidiau
I’r oesoedd, ddrych ei rasau
Ar y groes yn trugarhau.


Dechreu yr Jerwsalem.


E fynnai’n flaenaf annerch
A'i dal hi i'r genedl erch
Roesai ei law ar y groes lem! — "Dechreu,'
Agor ei seliau yn y Gaersalem
Ddaliodd y rhyfedd olwg
Y duai’r haul drwy ei wg.
Ati e droes eto drem, — do obaith
Eitha gras eilwaith i Gaersalem.


Bu ei hun tra’n gun gennad
Drwy ei oes der dros ei Dad,


Y GENHADAETH GRISTIONOGOL. 701


A! bu yn aml uwch ben hon
Yn wyfo droi yn âlon
Arddelwyr ei addoliad,
A'i wadu gan deulu’i Dad,
Yn addig gan ei eiddo — O farn lem
Gael Salem, Salem yn erbyn Seilo!
Y Salem droesai olwg
Mal i weld mewn aml i wg
Ei fawrdd yn llifeiriaw
Hyd yr oll o'r nefoedd draw!


Eilwaith, eilwaith etholai
Ei mur fyth er ei mawr fai
Fel pennaf foreuaf rawd — cylch borau
I lwys gamau angyles ei gymawd.


O brawf o wiwdeb rhyfedd
O ras Cenhadaeth yr hedd!
Archu dwyn ei haddwyn hedd,
Agorion ei thrugaredd,
I ddwylaw ei ddialwyr,
A'i bywyd i waedlyd w
ŷr.
Dwyn y gwaed a gaed o'i gur
O rym i olchi’r amhur,
Rin odiaeth anirnadwy,
A'i haeddiant oll iddynt hwy,
Er gwynnu’r euog anhael
Eilwaith yn ei effaith hael.


Gado pur rin ac ol y gwaed prynol
Yn llonydd yno, yn llawn haeddiannol,
I’
w heuog enaid, ie o ganol
Eu drysgeddau gael gwledd dragwyddol,
Llef o Dduw oll-faddeuoI, — dedwyddwch,
Cennad o heddwch, ac iawn dyhuddol, —
Mawredd hon, moroedd ei hedd,
Yw’r achos — ei goruchedd —
Tua’r henwlad gan y cariad y tueddiad at ei eiddo,
Troes ei wyneb i'w creulondeb fel ei ateb nefol eto.


Os cyfrennid hedd a rhyddid i'r rhai welid, awr ei waeledd,
Yn ei wawdio, ei gernodio, poeri arno, pa ryw ornedd
Na faddeuir pan y dygir, y dilennir ei dylanwad
I baganol fyd truanol, is eilunol oesol leniad?


702 GWAITH ISLWYN.


Estroniaid! os trueni
Huddai eich holl oesoedd chwi,
Y byd o anwybodaeth,
Y borau i'w ddorau ddaeth,
Borau o radau di-rif;
Y llyfrau tywyll afrif
A reswyd gan yr oesoedd,
A'r farn i dy gyfrif oedd,
Guddia Naf dan sicraf sel, — maddeu hon
I wynion a duon â nen dawel.

Maddeuwyd camwedd eon — y Salem,
Sydd iselaf weithion
Ei suddiad mewn troseddion, — lawenai
I’w hoen elai sli Seilo dan hoelion.

Genhadon minion y môr!
Eu harosiad â'i thrysor
Yn y Ganan — gwiw ennyd
Awr bêr i adferwyr byd
I orffwys oedd, rhyw hoff saib
Hyd eu heilswydd, dawel-saib
I ganu’n iach i geinion
A heuliau teg eu gwlad hon,
I ail-weled ei lled, llif
Ei diliau mel, a dylif
Ei bendithion, a'u llonni
A'i gwledd beraroglau hi —
Libanus a'i heul-ben ef
A'i donnau hyd y wiwnef —
Uchelion Seion a'i sail
Un oedfa, cyn i’w hadfail
Beibiau llid ar y bell hynt
Eu cyrraedd fel swn corwynt.


Oedd awr i dirion ddirwyn
Oddiam holl weddau mwyn
Anwyldeb, dymunolder,
Aml linynau tidau ter
Cariad, i'r reddf genhadoI
Am ei nawd eu rhwymo’n ol.


Taweliad y Genhadaeth
Cyn llanw o fôr, môr ei maeth,
Ei Sabbath hi, awr seibiol
Cyn y maith ddyddwaith o'i hol!


Y GENHADAETH GRISTIONOGOL. 703


Addewid y Tad.


Acw fel ennyn y fflam y cyflawnwyd
Yr addewid anwyl a ddisgwyliwyd,
Yn dân i fewn yr Ysbryd anfonwyd,
A'i allu a'i oleuni’r lle lannwyd,
A'r wyl a anfarwolwyd — i filoedd,
Bywyd i luoedd heb arbed wlawiwyd.


Newyddfyd o gynheddfau — agorwyd,
Rhyw gaer fawr o wyrthiau
Furiodd y faner forau,
Uchder nef i'w chadarnhau.


Lluddiodd gwyrth arall heddyw
Wyrth Babel oruchel ryw.
Yn y nerthol wyrthiol wynt,
Duw a'i fawl fel dwyfolwynt,
Teml ieithoedd holl bobloedd byd
Grynodd gan agor ennyd,
A'i weision a ddewisynt
Ei rhiniau oll ar un hynt
Daliai’i genhadon dilyth
Yr allwedd fawr i'w llwydd fyth.


Wele leiaf feibion Galilea
Yn agor dwyfol gariad Iehofa,
A'i hoff olud i luoedd Pamphylia,
Haeddiannol aberth i dduon Lybia,
Holl esill tywyll Asia, — â didawr
Eiriau ehedfawr yr unrhyw oedfa.


O ddwysaf gyfaddasiad!
Ei geiriau byw glyw pob gwlad.
Iaith epil Ethiopia
Er mwyn hon ymgrymu wna,
A rhydd ar allor heddwch — agorion
Pob gair o ddiddanwch;
Dylif o hynod elwch
Dardd i'w phoethaf lymaf lwch.


I bob gwlad mae’r cenhadon — yn barod
Fel y borau tirion
I’r byd, a'u holl ddarbodion — fel dyfroedd
A dawn y moroedd yn donnau mawrion.


Eigion ydyw’r Genhadaeth
A môr o drysor heb draeth.


704 GWAITH ISLWYN.


Y merthyr cyntaf.


Rhaid agor y diwygiad,
Dwyn i mewn ei doniau mad,
A dadguddiad egwyddor
Ei llwydd maith, allwedd ei môr,
Y newydd rym i'w nawdd roed —
Y daw cynhauaf dioed
O waed ei diniweidion,
A rhyddid o erlid hon.


I
awnwyrth ei Hior ail gwyd ei merthyron
O wedd eilwaith yn fyd o dduwiolion.
Ei allu uchel drysora'u llychion
Fel hadau oloesau mwy dilysion,
Fel gwanwyn bywyd cyfyd eu cofion,
Achos Seilo o’u llychau iselion
Frasheir, lleufer Seion — ymddyrcha,
Gorymeanga â grym eu hingion.

Duw a arweinia eu gwaed i'r wyneb
Yn iachawdwriaeth — uched y wireb
Eu gwaed a wnaed yn wiwdeb, — cadernid
A gaera wendid er pob gerwindeb.


Ei bore seiliau gawsant bur seliad
Gan Stephan, a'i hanian fawr ddihuniad.
A thorrodd ei ferthyriad— er ei mwyn
Rym y gadwyn rwystrai’i ymgodiad.
A beddai ei labyddiad — ragfarnau
A seliau oesau i'w hisel Iysiad.


Mawr lyn, a môr ei haelioni — gloewaf
A glywyd yn torri,
A glan ei theg oleuni
I’n huchel ddawn, chwalodd hL

 
Gwasgarwyd, lledwyd y llu, — yn y llid,
A lledwyd gair Iesu;
Agoriad o'u gwasgaru
I engyl efengyl fu.


Ar led gan erlidiad — ai’r praidd borau,
Iesu eu geiriau, ar wasgariad;
Yn eu mysg pob disgybl mad
A gawn yn danllyd gennad.


Y GENHADAETH GRISTIONOGOL. 705.


Arwyddion o'i llwydd mawreddus — dorrant
Trwy’i dorau coneddus;
Ar esgyniad ei rhwysg hoenus — gwelai
A'i hudgorn a alwai d
ŷ Cornelius.


Gwawr cynhauaf haelaf hon, — deuai hi
Heibio i dorri’r flaen-ysgub dirion.

 
Bu hyfryd i'w hysbryd hi
Milwaith, ryw ail ymholi
Am y fan safai annedd,
A rhad hynt y brawd o hedd,
Pedr.
Fu yn agor dôr ei dawn
O led y pen i dlodiawn,
Dwyn i gof y doniau gawd
I gamol y mawr gymawd,
A gwawr ei synedig wedd
Droi hefyd y gred ryfedd
Tua ffordd benffordd y byd,
Heb gwynfan, i baganfyd.
O lan a drodd oleuni
Nefoedd y nefoedd i ni, —
Odiaeth im fai gwrando’i thôn
Ryw lonydd hwyrol hinon.


Rhyddhai Ior ei addewid — yma
Rhag amod ei gwendid,
Lleoldeb a holl waeldid — Iddewaeth
O wan arwyddiaeth gadwynai’i rhyddid.


Y brid addewid a ddaeth
O'i chelawl oruchwyliaeth,
O gaer yr holl ffigyrau
Ymffurfynt gynt i’w hamgau.
Y gras a ddisgwyliasid
I lawr drwy oesau o lid,
A'r gwawl o bell ragwelynt
Llu y seintiau gorau gynt;
Y dwyfol feddwl dyfai
I fyd yn obaith di-fai;
Dawn y clywyd proffwydi
Ar lan dwyfoleiddwawr li
Ardalau ysprydoliaeth,
Aml dro yn dymuno’i maeth,
Mewn ing fel am iawn yngan
 


706 GWAITH ISLWYN.


Ei henw hi mwy, heb un man
Weled ei hanfarwolwedd
Ar gyflawn gywirlawn wedd;
Y bu cenhadon bywyd
A'u holl efrydiaeth gyhyd
Uwch ei phen, a'r gorlenni
O hyd am ei henaid hi;
A'i ffurf yn gwmwl i ffydd,
Heibio hon fel niwl beunydd; —
Y drwyadl awr darawai,
Ac o'i llenwaith ymaith ai!
Gwel hi’n dod o'r defodau,
Ei mir ddull yn ymryddhau;
Yng nghol sant angyles yw,
Duwdod o gariad ydyw!
Ei hoff wir fyth a'i ffurf fyw —
Y Genhadaeth gain ydyw.


A chân o hedd cychwynnodd,
Tua byd y tristyd trodd.
Edrychai, gwelai ein gwarth,
Iselion ein hoesolwarth,
Cenhedloedd luoedd ar lawr
Byd fel ar wywlyd elawr
Yn mynd ar osgorddiad maith
Heibio, i fedd anobaith.
A'i cham bur a brysurai
Am ei nod cyflymu wnai,
Ar frys â'r adferfawr fraint
I gyffwrdd y digofaint,
Dodai’i bys ar y did bwysig, — bywhau
A'i diail radau fyd eloredig.


Ni saif ar ei hynaws hynt — nes oero
Y ser ar eu helynt;
Ei rhadau yn awr ydynt
Mor llawn â’r dydd gorlawn gynt.


A! deil ei dyfroedd dilyth
Ar y llanw — llinell bell byth.


Galw y cynllun — Genadwr.


Ymgwynai braidd ara gennad — a lanwai
Ei haelionus fwriad
Fai’n gynllun o'i dymuniad
Uwch myrdd, o'i meddylddrych mad


Y GENHADAETH GRISTIONOGOL. 707


Am arwr a gymerai
Ei holl ysbryd i fyd fai
O’i delw yn ymgnawdoliad;
Dynnai mwy ei hedyn mad
Allan oll i’w llawn allu,
Nofiai o gylch ei nef gu
Fel angel uchel, wlychai
Bob syniad fwriad di-fai
A dagrau’r haelfrydigrwydd
Y gras hael amlyga’r swydd;
Gwron, geisiai agoriad
Mynyddoedd, glynnoedd pob gwlad,
Allweddau y borau — byd
I’w chwilio a'i ddychwelyd;
I air Ior fyn agoryd
Pagan borth pob pegwn byd;
Heb rwystrau, bolltau, na byd
Uwchlaw ei uchel hewyd.


I roi y galwad a'i diargelai
Iesu o ganol ei lys ddisgynnai,
Ag hynod hewyd yn gennad deuai
Yma’i hun unwaith mwy, ymenynnai
Ei ddwyfol wyneb oni ddinannai
Canolddydd cyfan. Ond nis taranai
O aur gerbyd bywyd. O, nis beiai
Yr addig elyn, o'r gwraidd ei galwai.
O'i euog adwyth, hardd yr ymgodai
Yn nefoedd hon; ei phrif drôn feddiannai,
Ei chân uchaf chwenychai, — ar arch Naf
Draw i'w heangaf gylchoedd y dringai.


Ysbryd hon ei fawr asbri a daniai,
Mawredd ei enaid fel môr ddihunai
I ddwyn ydd arch mor addien a ddyrchai
Ar don amser — o'r gilfach grebachai *
Ymeangiad ei mael, a ymhongiai
Am ei haeledd fel craig, a gymylai
Ei huchel leufer o'i hamgylch lifai —
I ryw wlad newydd beunydd, ymboenai
Yn Iesu a digon nes ei dygai
Hyd odreu ingol y byd a drengai;
A fflam ei seraffaidd aidd ddyhuddai


* Yr oruchwyliaeth seremoniol.


708 GWAITH ISLWYN.


Y mawr ddig ar un tymor a ddygai;
A erlidiodd, arledai — fyth mwyach,
A gallu dwysach nag y llidiasai,
A’i sel yn ddyfnach seiliau, — ysplenydd
Dros y fiydd newydd fyth y cyneuai.


Ymysgwyd ger Damascus — ymesgyn
Mae asgell fawreddus
Y Genhadaeth hiraethus — ymryddhau
I’w hwybrennau a'i borau hoenus.


A gwyrth, ei harchelyn gwel,
I’w chyngor yn archangeL


A chryman uwch i’r mwyn haf, — Paul a rydd
Awch newydd i'w chynhauaf.


Dihunodd Duw ei enaid
Fel mewn bedd yn gorwedd gaid
I newydd fyd a'i ddeddf fawr —
Haeledd a rhad hyd elawr,
Gwneyd da, bod yn gennad hedd
Hyd lanw o bob rhadlonedd,
Bod ar frys i dywys dall,
Ar ing i adfer anghall,
Ymholi fyth am waelion
Y drych o genhadwr hon,
Hwylio brig y don aml bryd,
Clustfeinio yno ennyd
Ar lefau y parthau pell
Yn nghosbau barn anghysbell,
Dyddhau pyrth y gwledydd pell
A'i gamau yn ddigymhell,
Heb gartref haddei iddo
A dull y byd; lle y bo
Trueni, cyni, y cawn
I’w goflaid aelwyd gyflawn.
Y swydd dan bob hinsoddau
A ddwg ei haul i'w dyddhau,
A'i mad hin oll am dani,
A'i Duw a'i holl gyda hi.


Dewis goethedd dysg Athen,
A mawr rym ei Homer hen —
Enaid ail-seiliai anian


Y GENHADAETH GRISTIONOGOL. 709


A'i ddoniau gwrdd yn ei gan,
Daflai nerth y rhyferthwy
A gwyrdd y môr i'w gerdd mwy;
A llên Rhufain gain i gyd,
Yn gyfan dygai hefyd
Sinai a'i holl gysonedd
Oll yn rhod cynllun yr hedd;
A rhoddai ei ddirfawr eiddion
Yr un awr, ar allawr hon.
A sodda deyras addysg
Yn y nefol ddwyfol ddysg.


Orontes ar eu hyntoedd — a'i gwelodd,
A galwai ei ddyfroedd,
Fel hynt angel uchel oedd
A'i nwyf i gyd o'r nefoedd.


Y llong genhadol gyntaf — Oddiyno a fordwyasant i Cyprus."


Ei llong gyntaf ollynga, — adenydd,
Y don a gymera;
Hwyl y nef, gorlawenha
Ynysoedd minion Asia.


I hedd ton ymdawdd y tir,
Am leithedd ton cymhlethir
Ei ymylon, gem heulwawr
I fys nef yw Asia’n awr.


O'i hwyl aml wlad a welir,
Heddyw daw aml newydd dir
Aml ynys, ymyl-lannau
Yn null niwl, yn llawenhau
Yn ddifeth weld rhywbeth draw
Ag arwyddion gwawr iddaw —
Oedd fel haen o ddwyfol hinon
A gwên Duw yn gwynnu y don.


Awel ar ol awel lon
A lanwai yr hwyl union,
A'u su, fel cerddi Seion,
Fel perorgylch amgylch hon.
Llon oent gael ei llenwi hi
A dwyn y waneg dani.


Iawn oedd i anian addef
Swyn helaeth cenhadaeth nef.


710 GWAITH ISLWYN.


Uchanedig ei chenhadon,
A heddwch Duw oedd uwch y don.
Ymgwyd ar donnau llwydion
Cyprus gythryblus ei thrôn.
Bu lawen addien iddi
O nef ton ei chanfod hi, —
Gwlad arall i'w diwallu,
Ail-ofod i'r cymod cu!
I’w hanian fwyn pa swyn sydd
Dan awyr, fel gwlad newydd?


Glaniodd meibion goleuni
Fel engyl o'i hymyl hi.
Ger Salamis ei gwiw rasol luman
O fad ewyllys a chwyfiwyd allan.
Taith ar fyd tywyll a gwag y pagan
Heddyw goronodd ei haiddgar anian.
Fel engyl, nefol yngan — a gedwynt
Yno pan gofynt pa hoen gyfan,
Y trysor mawr fel moroedd
O lawnder, i’w hadfer oedd.


Darfu nos Paphos — y pyrth
A grynynt gan goronwyrth
Gweision hedd, gau swynyddiaeth
Fel brau fwg o'r golwg aeth.


Gwener a'i theml gan wyrth uwch
(Fu o gof â’r nef gyfuwch)
A adawyd, llwyd yw’r lle — fu ddilaith
I fawl unwaith, ie fel y wiwnef.


Hefyd Antioch a fedai o'u hyntoedd
A'u doniau hyfawl, olud y nefoedd;
Jehofa alwai eneidiau filoedd
Yno, a gwlad i fôr ei goludoedd;
Yswyd arferion oesoedd, — dan gymod
A gwawr y Duwdod ailgread ydoedd.
Agorwyd ei phorth hawddgaraf
Oedd yn uwch yn nhrugaredd Naf,
Fel dôr môr, i dderbyn mwy
Afrifawl ddirfawr ofwy, —
A'r geiriau o fawr gariad
"Yr ydym" — O rym y rhad!
“Yn troi i bob pwynt ar hyn
A galwad at bob gelyn."


Y GENHADAETH GRISTIONOGOL. 711


Yma ein Ner i'w mwynhau
Droes ei môr dros y muriau.


I Iconium bu’n canu
Y dôn fwyn. Eden ni fu
Decach na’r darn, oedd garn gynt,
Ar eu taith a wrteithynt.


Hygaraf olwg, ddwyn Groegwyr filoedd
I’w dorau o fywyd yn dyrfaoedd,
Ar unwaith hefyd o'u barn-eithafoedd
Iddewon lawer yn addwyn luoedd;
Ei chlod, uchel ydoedd, — a'i baner hael
Uwch eon afael braich y nefoedd.


Du eigion erledigaeth
Gwgu, ymgynhyrfu wnaeth.
Ond ar ei donnau dirym,
Arch nefoedd, mawr oedd dy rym.
Creigiau hwn oll, cregin ynt
Oferawl ger dy fawr-hynt.
Daw heibio â grym diball, — heibio’r â
Hi brysura i aber oes arall.


I air ei ras yr Ior rydd
Bennaf dystiolaeth beunydd.
Eneidiau i'w genhadon,
Fel gwlith borau bryniau bron
Dorrant yn emfyd eurwawr
A gwyrth wiw o groth y wawr.


Ni hudid ei chenhadon
I adael hael fwriad hon
Eu prifwaith, er eu profi,
Fawr rwysg, âg uchddynol fri;
Gwell oedd o filoedd y swydd fad
Diau i floedd dwyfoleiddiad.


Mal engyl, ymyl angen — a gerynt,
Rhagorach tyngedfen
Na rhodio unrhyw Eden —
"Duwiau" yn wir â'u dawn wen.


Hoff yr egyr ei dyfroedd i Phrygia,
A'i golau etyl filoedd Galatia


712 GWAITH ISLWYN.


Yn llwybr dinistr, a'i llaw ber a daena
Olud Seion i Laodicea.
Ac haul a esyd uwchben Colossa
O uchel lad byth mwy na fachluda.
A Hierapolis ni ddibrisia,
Y tirion afonydd trwy hon fynna.
Eden ail esyd i anial Asia,
Ac ar aml fan Pren Bywyd a blanna;
Ar ei duwiau anwir hi dywynna
Olau y nefoedd — fel niwl a nofia
Ymylau y dydd, eu mawl a dodda
Dros orwel anghof, ac un Jehofa,
Duw’n gwisgo’r nefoedd i gyd, gyhoedda
Un Duw i dywys y byd adawa.


Angel glwys paradwys rodia — ei maith
Gyrrau eilwaith, a'i haml gaerau alwa
I foliant na adfeilia,
O’r naill fyd i eilfyd â.


Gwyrthiau dorrant fel o groth y daran,
Am eu hurdduniant uwch mawredd anian;
Ati ni honnai y tân ei hunan
Allu, angau ei hun ni all yngan!
Gwenwyn du drig yn wên dan
Ei hygar fraich, bu egwan
Yr addig wiber iddi,
Donnau erch am dani hi.


Y Genhadaeth dan gnydiau
Asia gun, ni cheisia gau
Llaw ei haeledd rhyfeddol,
Ni wel hyn ond niwl o’i hol, —
Syllu’n mlaen, ymledaenu
Fel haul, neu afrifawl lu
Yn amledd rhyfedd ei rhad, — cael meibion
Eraill, a choron arall i'w chariad;
Rhoddi fyth ei harwydd fawr,
Agor drws i'w gwir drysawr
Ddyfod, troi newydd afon
I bob gwlad o rad yr Ion.


Dod i Ewrob.


Oedd awr wiw lonydd! Pwy a ddarlunia
Y borau tawel yr ymbartoa?
Heddyw hon ddihuna — Ewrop fawr
O fedd dirfawr yn ufudd dyrfa.


Y GENHADAETH GRISTIONOOOL. 713


Angel hon i'w hengyl hi
I’r lan yn der oleuni
O niwl nef dan lawenhau
Redodd a'i agoriadau.


Pa fodd yr ant? Pwy fydd rym
Heddyw i'w dymaid diddym?
Diarbed fyd i'w herbyn,
Nwydau, holl ddyfnderau dyn!
Ac O, rhagfarn fel creigfyd
A'i seiliau er borau’r byd
Yn isel o dan hen oesoedd —
Buddiannau uwch fel byddin oedd,
Urdd yr anfad offeiriadaeth — bob un
Yno a'i eilun fel ei gynhaliaeth.


Ond y gair dilon "digalonni"
Acw nid addef un cennad eiddi;
Golau oll lle galwo hi, — nid yw croes,
Nid yw einioes, ennyd i’w enwi.


O niwloedd, glynnoedd pob gwlad
Codant yng ngrym eu Ceidwad
I lan i'w gorchwyl hynod,
Fel yr haul i'w nefol rod,
Heb un gau ymddibyniaeth
Am ennyd ar fyd mor ddi-faeth.


Iesu a'i groes yw eu grym!
Oes o ddorau sy ddirym
Oll i'r ryfedd allwedd hon
Agora greigiau geirwon
Y galon, — dôr ei Horeb,
Dry hon yn afon er neb.


Swm y dôn sy am dano,
I gyd am ei felus go,
A garodd nes rhagori
Ar ein holl ddigllonder ni,
Nes ei farw! marw i'r moroedd
Fyth yn chwilio ynddo oedd
Am adwy, dorri mwyach — i lenwi
Pob gelynol gilfach
O ing, i fyd eangach
Dwyn torfoedd ar ddyfroedd iach.


714 GWAITH ISLWYN.


Hyn yw yr oll o'r newydd
A holl sail y galla sydd
I droi y byd, herio bâr
Duaf anwfn a daear.
A digon yw dy gun nerth
Yr diben, O, rad aberth!
Dy loes, dy gariad di-lan
A dyr y galon daran.


Ewrop a glywa ei glod
Yr Oen, y Prynwr hynod;
A chalon lond ei mynwes
Teimla’r dwyfol raddol wres,
Ar wddf y Prynwr addfwyn
A, syrth i dragwyddol swyn!
Dirgelwch Duw ar galon
Ddynol, yw y ddawn hael hon.


Tir Groeg,


A thôn nef i Athen aeth,
Dewis gadair dysgeidiaeth,
Ydoedd â'i chain adsain oll
I deg hyawdledd digoll.
O gryd byd gysegredig,
Yno bu’i dawn er pob dig
Goruwch yr oll fel gwreichion
O orsedd ryfedd yr Ion.
O thaniai Demosthenes
Wlad faith ar unwaith â'i wres,
Bu gyfuwch, bu uwch ei aidd
Ar ei hoff nef seraffaidd,
Uchderau iachawdwriaeth,
Gennad Ior i ddor hon ddaeth.


Achaia ogylch heuir
A geiriau Duw; hawddgar dir
A fu i’r Genhadaeth fawr;
Yr Iesu oedd ei thrysawr,
Ei goludoedd, nefoedd, Naf,
Am oesoedd fu rymusaf
I ddal eilunaddoliaeth — goreuog
I’r eitha ar enwog gaer athroniaeth.


Rhufain.


I Rufain hefyd ar y fwyn ofwy
Ebrwydd ymledodd, a’i bwrdd mawladwy
Huliai i'w myrdd, a'i sel mwy — am oesoedd
O’i hol ydoedd anileadwy.


Y GENHADAETH GRISTIONOGOL. 715


A'r swydd rad dros y ddaear ehedant,
Engyl o heddwch trwy eang lwyddiant,
Duwiau oesoedd o'u nefoedd dywysant,
Draw eu haddolwyr a'u diarddelant,
Cenhedloedd acw anadlant — o'u rhyddhau
O lwythi oesau a'u gorlethasant.


Ei dyfodiad, archiad i fydoedd — newydd
Yn awyr yr oesoedd
Ymgodi’n edmyg ydoedd,
Gair Duw am ail gread oedd.


A chododd gorwech adail,
Dwyfolaf sicraf ei sail,
O derfysg pobloedd dirfawr,
O dryblith y felldith fawr.


O'i diluw ar aml-dduwiaeth — un Duwdod
A rodiai hynod fannau crediniaeth.


Heddyw ynysoedd aml a ddynesant
Ei cherddi addwyn o bell a'u swynant;
Gwylio y llanw a'r golau a'u llonnant,
Awelon o fwyn anadl anfonant,
O aml benrhyn eu hedyn genhadant,
Fel eu gwiw weddi, fel eu gwahoddiant.
Ymyl y don a emant — â'u dagrau,
A'u breichiau dros y tonnau estynant.


Prydain,


Borau odiaeth i Brydain
A ddug hi a i newydd gain.
Cân yr hedd, cynnar iddi
Y bu ei swyn addwyn hi.


Iddi hithau ar ei thonnau deuai golau, diogelwch,
Modd i seinio am ei chofio oedd wyw yno heb ddiddanwch.

Yn forau yr arferodd — fy nhadau
Y melus ganau, a'u mawl esgynnodd
I lys Ior, ac aml i sant — fu anwar
Elai yn gynnar i lawn ogoniant.


Angel rhad y Genhadaeth
I hon, wedd hylon, pan ddaeth,
Deimlai mwy ar ofwy rydd


716 GWAITH ISLWYN.


Fel un mewn haddef lonydd
Ddifaedd, wedi cyrhaeddyd
Artref a bair tro fo byd.


Anwyl ei dilyn tan haul Idalia,
Dilyn y fawlgerdd hyd lan y Volga,
O galon Ewrop hyd Ethiopia
O'i mawr oludoedd un môrr a leda!
O lawn nerth ymlaen a, — daw a’i baner,
Daw a’i haml londer hyd ymyl India.


Ar fynydd Mars, ar finion — y Tiber
Ateba’i disgyblion,
O gylch ei mad genhadon
Yno cyfyd hyfryd dôn.

 
Y Forum, mainc hoff arawd,
I ddawn hon yn santaidd wnawd.


A chyn ehedeg fry o'i chenhadon
Eneiniai Iesu ei hun yn weision,
Ie cyn darfod dydd eu trallodion,
Hwy a ganfyddynt eu hegwan foddion
Wedi ail-Iunio byd o elynion,
A rhes o dduwiau ar orsedd eon
Yn ddistaw mewn braw ger eu bron, — a'u mawl
Drwy fyd ethawl yn darfod weithion.


Awr lonydd, draw ar lannau — y Tiber
Tybiaf â chymylau
Hynaws hwyr, weld yn neshau
Un o'i hodiaeth genhadau.


A'i lais oll o nefol sain
Ar ogwydd pedwar ugain,
Fel hyn y nefol hanes
A rydd â dwyfolaf wres,
I’r awel â mawr hewyd
Ddyfnion adgofion i gyd.


"Y Iesu a'm dewisodd,
Nef ei drem arnaf a drodd,
Y clywais ei lais di-lid
A wnai fy mythol newid.
Denol un o dan ei loes
Ofynnodd a gai f' einioes
Foreuddydd fy nydd, a wnawn


Y GENHADAETH GRISTIONOGOL. 717


Lynu yn ei ol uniawn
O fodd, a gwneyd fy haddef
A'm harosfa gydag Ef,
Gado’r byd i gyd i'w gais;
A'r hwn aml hwyr yr hunais
Ar fynydd oer, a'i fynwes
Yn y gwlaw fy unig les.
Ni achwynem, ochenaid
Nych oer gydag ef ni chaid.
Nid oeddym onid deuddeg
A llai llu o'i du yn deg.
Cofiaf y’r 'Uchystafell’
Lle caed arwydd gwaed myrdd gwell;
Ar ei ol aethum ar hyd
Heolydd Salem wywlyd,
Mud oem — i’w hon ardd ym dug,
Unig oedd dan y gaddug."

 
O, ai ei fawl glywaf fi
Oll, a'i hanes yn llenwi
Mil o wledydd, fôr o gynnydd! fawr ogoniant!
Digon ernes! marw i’w fynwes yw 'm herfyniant.

.
Canrifoedd! ac ni arafai — ei llwydd,
Hyd y llys y dringai,
Uchelion feibion di-fai
O fewn y Senedd fynnai.


Rhufain fawr ddiderfyn fedd
O'i gwerswyll hyd ei gorsedd.

 
II.


Sel yn oeri.


PA fodd yr oerodd ar hyn — y fflam fawr
O aidd dirfawr ydoedd ddiderfyn?


Gwanhai edyn aur y Genhadaeth;
Ehediad hygar y gadwedigaeth —
Uwch eigion oesau, a'i chweg hanesiaeth
A hir gollir dan nos o fawr gyllaeth;
Hir oerai yr arwriaeth— a fynnai,
Ie a welai, dan ei reolaeth.

Agorwyd eigion o lygredigaeth
Llawer mwy bygythiol i fodolaeth


718 GWAITH ISLWYN.


Ei haidd diwyraw a'i phur athrawiaeth
Na thon lawnaf y cethin elyniaeth
Ddeuai yn eon agwedd anuwiaeth,
Ledai ogylch yn noeth erledigaeth.
Fel arch Duw o'r diluw, daeth — i fyny
A bri a gallu o bob argyllaeth
A ledid gan erlidideth—tu allan,
Bu ddigeulan ei buddugoliaeth.


Pabyddiaeth.


Ond o'i mewn codi y môr — guddiai hon,
Yr eon eigion fu’n hir yn agor —
Pabyddiaeth! Pwy a’i bedda,
Onid hon? Pa gennad a
A'i hathrawiaeth odiaeth hi
O ganol y drygioni
I anuwiol, heb newid
Ei henw bron a'i hanian brid?
Gordagai’r llygredigaeth
Y gair oedd ddiwair a ddaeth
A dawn ddiamod inni
A rhad gyfiawnhad i ni.


A gawn ni byth egwan obeithio
I genhadon aml hon ddarlunio
I’r pagan oedd a'r pegwn eiddo
Rai o swynion yr Iesu yno,
O'i lawn ai haeddiant, ddigon iddo,
Ryw gainc ffyddlon o'r dôn am dano,
Pwy wyr, er y mawr wyro — na welodd
Ddigon, na chafodd gân i'w chofio?


Ar y nos o ddychryn hir
Y golau ddiogelir.
Muria Rhi am air ei ras,
A rhydd aml wyliwr addas
Ar hyd gaer hyfryd yr hedd,
Gaer unig y gwirionedd.
Rhai "tadau” yn olau wnaeth
Hyd eigion llygredigaeth,
Goleudai ansigledig
Hyd oesau o donnau dig.


Luther a chyflawnhad.


Cyfundraeth athrawiaeth yr Ion
O'i thrai gyda Luther eon


Y GENHADAETH GRISTIONOGOL. 719


Ymgyfyd — am ei gofion
Fel am wynfa heda hon!
Fel angel mawr ei gwelaf,
Ac udgorn, udgorn ei Naf,
Yn ei ddilys ddeheulaw,
A'i rôl yn ei lwyddol law
Heb gredoau gau o'i gylch,
Haul hygar heb niwl ogylch.
Ffurfafen yr hoff air fwyfwy — a gaed,
Trwy ‘i godiad mawladwy,
O’i thywylliad uthradwy,
A'i niwl maith yn olau mwy.


Y gair sydd i'w agoryd
I andwyol farwol fyd,
Rhydd ydyw, euraidd aden
Yn arfer yn uchder nen.
Cyfiawnhad rhad i bob rhyw.
Rhad, rhad Waredwr ydyw.


Cenhadaeth Leyden.

Boreuol ydyw bri Leyden, — bore
Y bwriodd ei seren
Ar engur ddyfnder angen,
Du wae paganfyd di-wên.

Bu hynod i Amboyna — ei derbyn
Heb erioed ofyn, a bryd Java
A rhyfedd air Jehofa — oleuwyd,
A'i hoff rym yswyd duwiau Formosa.

 
John Elliot, "apostol yr Indiaid.


Amerig, oesoedd drigai — ei hunan
Yn mynwes anian, tra mwyn ei swynai
Y dôn o hedd; dihunai — ar y don
O’i breuddwydion, i’r gân beraidd hedai
Hyd ei glan deg, a luniai
Adsain nefolsain di-fai
I alwad efengylaidd
Elliot fawr erfawr ei aidd.


Yr Indiad droed o'i randir,
O'i Iywodaeth helaeth hir;
Rhag y gwawd a'r dyrnawd dig
Droai’i gadau i'r goedwig,


720 GWAITH ISLWYN.


Arfeiddiol orberfeddion — Amerig,
Muriau rhy echryslon
I neb byth ond meib hon — ganlyn yno
A goleuo i'w siomiedig luon.


Ar eu hol y per alwad — anfonwyd,
Tôn o fynwes cariad,
O dwymlawn gydymdeimlad
Bêr eiriau fel tonau tad.


Cariad, cydymdeimlad oedd,
A thad ar unwaith ydoedd,
O'u gwewyr yn eu gwahodd
I waith a byd wrth eu bodd,
I ryfedd etifeddiaeth
Ceurydd sy uwch cyrraedd saeth.


I’w alwad rhad bu aml dro
Gôr o Indiaid yn gwrando
Geiriau Duw yn gariad oll;
A dygid â swyn digoll
Is rhyfedd hynawsedd Ner,
O galon yn don dyner
Ddeigryn ar ol deigryn dwys,
Fel perlau i fawl purlwys
Y gŵr  brydnawn a garodd
Nes er eu helw farw o'i fodd.


Swyn yw y groes a newid — y fynwes
Sy faen o gadernid;
Ei diorthrech lech o lid — a dawdd hon,
Ail afon o edifeiriol ofid.


Cenhadaeth Halle.


O Halle a olau hon, — agor wna
Eurddor India ar y ddwyreindon.


Diwygiad Cymru.


O, ar fy ngwlad yr efengyl odiaeth,
Ac ar ei hadain gain feddyginiaeth,
Godai, hyd agor y gadwedigaeth,
Ie hyd olaf fannau y dalaeth.
Ei baner gweler mewn buddugoliaeth,
Yn tyner chwyfio tan oruchafiaeth;
Oddiar fil o froydd, arfoliaeth
Gwiw a ymesgyn, fawl digymysgaeth,
Bro o foliant lle y bu rhyfeliaeth,
Heddyw gweddio lle’r oedd gaudduwiaeth.


Y GENHADAETH GRISTIONOGOL. 721


A Duw yr heddwch yn lle derwyddiaeth.
Nid ofer fu cariad y Genhadaeth,
Ni huliai’n ofer y per ddarpariaeth.
O bu yn dywell, yn rhaib andwyaeth,
Ar aden y warediaeth — fel gwynfa
Yr ymddwyrea o'i thrwm ddirywiaeth.


O fewn fy ngwlad, cenhadon
Ardderchocai haelaf hon
A fagwyd, do, ar lwydion
Fynyddau dienwau hon.


A wlad a fu oludog — dy gnydiau
O genhadon enwog!
Duw y gras o blaid y grog — a’u galwai,
Dewisai aml dywysog.

Onid oedd dy fryniau di
I lan yn myd goleuni,
Bob tu yn magu i'r môr — afonydd
I fyned a'u trysor —
O gyrraedd llawer goror
A bro deg — yn bur i'w dôr;
A'r
ffynnon dan dôn bob dydd — yn gwahodd
Y gwyw dan y mynydd,
A'i chariad ar rediad rhydd
Yn dal ei dafn i’r dolydd,
Eiddil hynt, am feddalhau
A'i rhad bob isel reidiau;
A'r awel tua’r rhiwiau — yn brysio,
A'i breision aroglau
Yn bur o'r gerddi borau,
Ei hunan heb eu mwynhau?

Y duedd hael a dywys
A ffyddlawn hyfrydlawn frys
Anian pan y derbyniodd
Ddawn deg i redeg a'r rhodd
I arall cyn ei hoeri, —
Onid oedd ei hysbryd hi
Agweddiad o egwyddor
O reddf Cenhadaeth yr Ior,
Ger bron ei chenhadon hi — a ffawsant
Hwnt ar ogomant natur eu geni,
Fegid ger y llifogydd
A gwyllt drôn yr afon rydd?
 


722  GWAITH ISLWYN.


Eofn oeddynt fel y gorfynyddau
A ysgydwynt eu cryd â 'u cysgodau
Borau eu heinioes, feibion y bryniau,
Etifeddion urdduniant y tonnau
Hwnt glywynt o'u gwelyau. — l'r nefoedd
A'u dydd, mawr ydoedd eu hymroadau.


Fy nhadau o brif nodwedd! — eich enwau
Gylchynir â mawredd,
A gwên o fawr ogonedd
O uwch byd oleua'ch bedd.


Llef y daran, nerth y llif-doriad — oedd
Eiddynt at gyhoeddiad
Y farn fawr! Fel ei gwawriad
I fyrdd bu eu pregeth fad.


Eto gwyddynt agweddu
Eu harawd i’r cymawd cu.
Angylion efengylaidd — oent bellach,
Ni bu dynerach gan neb dôn euraidd
Y cariad, gwahoddiad hedd
Yn ol ei holl anwyledd.


Daniel draw a dywynnodd, — y fore
Seren fawr a gododd
Ar wagder y dyfnder dodd — Gymru cyd,
A duwiol hewyd y wlad oleuodd.


A'r uchel ei ddarfelydd,
Yng nghof hon eang a fydd
Ei le, a fu oleuad
O wawr ddisgleirfawr i'n gwlad.


Evans! •• fo'r cysawd hefyd
A geir mor ddisglaer i gyd,
Williams ••• yn uchel welaf,
Mawr oedd yn nefoedd gair Naf.


Ei feddwl mawr orfyddai — y byd
O wybodaeth welai;
Dawn suddol, dadansoddai, — gwirionedd
I’w esgymedd noethfawredd fwriai.


O tharana — athronydd —
Rhyw ddirfawr ddisyfl-lawr sydd
Dano, nid taniad ennyd,
Seilio ei bwnc fel sail byd.


• Rowland, Llangeitho.

•• Christmas Evans.

••• W. Williams, Wem.


Y GENHADAETH GRISTIONOGOL. 723


Elias • fawr a lywiai — ei filoedd,
Dan fawl a'u banerau,
Y munudyn amneidiai
Am yr oll yn fflam yr ai!
A! darfu y g
ŵr diriawr
Droai â’i fys y dorf fawr.

Golud y nefoedd i'n gwlad hynafol,
Newydd dyfiant o rinweddau dwyfol,
Diau mad heddyw’r teimlad ymdoddol
Uwch ei pharadwys o beddwch ffrydiol.
Daeth yn Eden bob dôl, — yn ardd y nef,
O rasau y wiwnef mor rosynol.


Esgeuluso’r Genhadaeth.


Ond O, pa fawr andwyaeth
O ddwfn esgeulusdra ddaeth
I’r eglwys, pa orffwyso;
A'r Gair o fytholber go
Yn archu ffrwyth cynyrchiol
Oni ddaw daear yn ddôl
Baradwysawl, a mawl mwy — ar gynnydd
Hyd ei gwledydd yn hyfryd glywadwy?
Angel y fad Genhadaeth
O'i olau rod i ble’r aeth?


Pa fodd anghofiodd ynghyd
Olaf air ei Hanwylyd!
Yn hir y cofiwn eiriau
Rhyw gâr digymhar wrth gau
Ei lygad a gwael agwedd
Ar y byd yn nôr y bedd.
Ar unrhyw egwyl pwy i’w anwylo,
Pa gywir gyfaill, pwy geir i'w gofio,
Fythol mor haeddiannol, i'w myrdd uno
I gadw yr olaf air, hedd-air eiddo
O fewn ei chariad, a'i fynych euro
A'i huchelaf efrydion, a'i chwilio
Eilwaith ac eilwaith hyd nes y cilio
Pob niwlen egwan oddiam dano,
Nes yn feddwl dinifwl y nofio
O flaen ei henaid fel huan yno
I’w haelaf waith i'w bwylio, — i uchaf
Faes gloewaf ei hoes i'w goleuo?

• John Elias.


724 GWAITH ISLWYN.


Yr Iesu anwyl, O, air i'w swyno!
Dylai o hewyd, ie diluwio
Daear â'i gyfoeth — Brawd i'w hir gofio,
A fu yn dawel, a'r nef yn duo
Ger eigion y gwae a'r graig yn gwywo,
Dan lymion hoelion yn ein hanwylo;
Duw yn gaddug o lid yn ei guddio,
Na fynnai wedyn fyth gyfnewidio
Ei farwol groes am nefoedd i'w roeso
Onid allodd, iawn fodd y nef iddo,
Ddwyn pechadur wedi’i lawn buro
Fry gydag ef tua’r nef tan nofio
Afon ei waed, heb arf i'w niweidio.


Oni ddylem yn dyrfaoedd wylo
I’w frodyr, ei frodyr ofer ado
Heibio’r oesoedd fynd gan ddibrisio
Ei olaf air am fyddlawn lafurio,
I daenu ei hanes nes dihuno
Y byd drwy undeb hewyd i wrando?
Oni ddaw egwyl i hon ddiwygio,
Borau i’r eglwys pan beraroglo
Fyd a'i haeiedd; pan gydymagweddo
Mwy o'i hoferedd, pan yr ymfwrio
I ffurf lwyr diwyro —’r awdurdodiad,
Am ei gof mad pan ymgyfamodo?

 


Onid yw ei air yn dal
Eto â grym diatal?
Ai amheuawl ei hawl ef,
Y cryna caer y wiwnef
Ger ei fron, a gorfryniau
Nef y nef yn llawenhau
Glywed o'u bannau gloewawl
Hyd fyth, fynediad ei fawl,
Engyl ar ol engyl, lu
A'i faner fawr i fyny?


Ei air! beth yw seiliau’r byd
I nerth hwn, ond tarth ennyd?
Gair brenin y brenhinoedd,
Ei awdurdod, Duwdod oedd


Dieilfydd grefydd y groes,
I lan anfarwol einioes


Y GENHADAETH GRISTIONOGOL. 725


Arwain ar ei hadain hedd
Anheilwng yn ei haeledd, —
Pa arwydd, pa egwyddor
Gydgasgla, gymera’i môr
I mewn i gyd — mwyn y gair
A'i cynnwys, onid cunair!
Cariad! Rhad! le, Ior oll
Wedd deg, yn haeledd digoll.
Ei gwedd a'i nodwedd i ni,
A'r meddwl o rym eiddi,
Y mawr-beth fyth a'm herbyd —
Yw Ion yn galon i gyd.
Duw a gwyd i'r enaid gwan,
Ar ddull o roddi allan,
Fendithion breision, heb rif,
Yn ddilan fythol ddylif.


Pa fodd, os rhoddodd i'm rhan
Goflaid i euog aflan
O lawnion fendithion Duw,
Ie’i hunan i annuw,
O chefais fy nyrchafu
O goll ar ei haden gu,
Pa fodd na chawn fy noddi
I ail ddelw o'i haeledd hi?


Fy enaid tlawd ar finion
Môr haeledd diddiwedd hon,
Ar y lan heb feddiannu
O'i hanian ryw gyfran gu!


Ai ymddylifiad o rad gwaredol
Ar fy enaid, fael anherfynol,
Heb ymddylifiad cydsymudiadol
O'i hegwyddorion mwynion a mewnol?
Ai budd i mi heb ddim ol — o'i rhad mwyn
Ynnof fel addwyn nwyf efelyddol?

 


O, a yfaf o afon — y bywyd,
Heb awydd hiraethlon
Gyfrwyddo gwyw efryddion,
Yn aml lu at ymyl hon?


O rad cu Ior, wedi cael
Fy hunan, pam wyf anhael,
A'r fendith, y fendith fawr,
Ar eilfodd anfeidrolfawr


726 GWAITH ISLWYN.


Bob tu yn lledu fel llawn
Fôr-eilwaith at farwoliawn,
Yn ddi-lan tu allan i
Welediad maith fy nhlodi,
Heb ol munudol i neb
Godi erioed o'i gwiwdeb;


Fel môr yn newydd o’i ddorau, — ar ol
Gorhulio â'i donnau
Aberoedd gwlad un borau,
Am wlad uwch yn ymledhau.


Dyferyn cun i un oedd,
Dyferyn— ond o foroedd.


Onid ydyw ffydd credadyn, — nad oes
Ond un ffordd i elyn
Ddyfod at Dduw, i ofyn — maddeuant —
Trwy hynod haeddiant, trwy lawn y Duwddyn; -

Nad oes a iawn dywysa — yr enaid
Ar union i'r wynfa
Onid un lusern, daena
Ar ei lwybr anfarwol ha;


I wyn a du, fyth nad oes
Onid un Ceidwad einioes, —
Onid yw y gred yn dwyn
Ar a'i meddo, rwym addwyn
I anfon i estronfyd
Faeth y wybodaeth i'r byd,
Ymroi â mawr hewyd — i ddwyn y wawr
Heibio i gwynfawr dywyll baganfyd?


A all efe syllu fyth,
A dal o'i uchder dilyth
Yr olwg ry ehelaeth
Ar fyd di-fywyd di-faeth,
I gyd dan dymhestl gadarn
Heb angor ar fôr o fam
Anfoddlonder digter Duw,
Ddinistr cenhedloedd annuw? —


O'i graig uwchlaw’r goreigion —
Newydd fyd ei noddfa hon —


Y GENHADAETH GRISTIONOGOL. 727


Ei law oni ddyrch, a'i lef
Ar y boddlu, rybuddlef?
A huna efe ennyd
Ar ei graig nawdd, tra bawdd byd?


E allai i'r môr tywyllaf
O gerth ddigofaint a gaf
Ostwng i'r dyfnaf dristyd
Olau, hyd fannau ail fyd
Gyrhaeddai, gwawr o heddwch
A droai, oleuai lwch
Gronynau’r beddau di-ball — i forau
A dorau bywyd arall;
A'u harwain i gyfeiriad
Uniawn yr oleulawn wlad,
O ganol eu holl gyni
Ar fyrder i'w haber hi,
Heibio creigiau anobaith
I fewn i'r orffwysfa faith.


Ai distaw a didostur
Yr edrych o’i fawrwych fur?
O, rhoed ei lef o'i euraid lan,
O'i graig yng ngolwff yr egwan,
Ryw awgrym wan o’r wiwgred
Uwch yr aig yn graig a red.


Hirgloch gwae oni erglyw?
Brawd o’i gnawd mewn eigion yw!


O ddurder y byddardod
Sydd gloawl fythawl, er fod
Oll dan y nef yn llefain
Ag unawl ddeisyfawl sain;
Y floedd dros foroedd, dros fyd
Digofaint a gydgyfyd,
Nerthol waedd am gynhorthwy
Yn eu henbyd adfyd hwy.


Hir, mewn hedd byddar oem ni,
Byddar, a byd yn boddi,
Pobloedd, gwyw luoedd pob gwlad
Yr oll yn un llongddrylliad!
A chennym ond ei chynnal
Aruwch y dwfn erch, ei dal
Wych obaith, lamp achubai
Euog fyd ar graig a fai.




728 GWAITH ISLWYN.


Gwawr y Genhadaeth.


Ymorfoledda, y fad Genhadaeth!
A! darfu nos dy araf hanesiaeth.
Yn dy fawrhydi, yn dy fôr odiaeth,
Tro heddyw allan â'r ter ddiwylliaeth,
O dy eiddilwch, i'r dydd ehelaeth,
Y dydd i'r byd fwynhau dy ddarbodaeth,
Y dydd ysgydwa â dy ddysgeidiaeth
Golofnau crynol eilunaddoliaeth,
Y dydd a wel, ie, diwedd alaeth,
Diwedd pob gau gredoau a duwiaeth,
Oleua 'u harwyl heb ol a hiraeth,
Glyw eu holaf eiddilaf addoliaeth;
Y dydd droa, a dawdd o'u dirywiaeth
I ddirif lwyddiaint, i ddarfelyddiaeth,
I gynllun di-eilun proffwydoliaeth,
Ororau’n daear o'r hir andwyaeth.

O dawel ymneillduaeth — dihuna;
Allan, O rhodia yn llawn warediaeth.
Ail wawriad y dydd olaf ddaeth,
Ar wybren deg y fawr brynedigaeth
A fu ei hedyn erioed fwy odiaeth
Uwch y byd! I achub aeth, — clywaf hi
O’i muriau’n torri i’r mawr anturiaeth,
Yr anturiaeth helaethawl
A fyn y ddaear i fawl
Yn gysegr oll, gan geisio
Pob aflan bagan lle bo
Ar bob glan a ban o'r byd
Hyd foroedd i'w hadferyd.


Carey.


Coronir Carey hynod
A'r pennaf ddisgieiriaf glod.
Y prif o'i rhif i’w fawrhau
Ar raniad ei choronau.
Rhoes law fad i’r Genhadaeth
Haddef mwy, noddfa a maeth,
Canlyn, ei derbyn i d
ŷ yn dyner
O dan faner, a'i dwyn i fyny
Eilwaith i nefoldaith fawr, — ei hedryd
O gaer adfyd i lwyddiant gwaredfawr.


Adgyfodiad i'r Genhadaeth — a gaed
O’i godiad ehelaeth,
Ei lef yn greol a aeth
Drwy awyr ei dirywiaeth.


Y GENHADAETH GRISTIONOGOL. 729


Un oedd o'r dynion haeddawl
Gwyd Ner o fwynder i'w fawl,
Well engyll a ollyngir
Ar olau gaerau y Gwir,
Y rhai â dirfawr hewyd
O fedd a ddihunant fyd;
A alwant, a'r byd eilwaith
Red ar uwch tynged, uwch taith,
A bannau o ddibenion
Yn ei wydd fel bryniau Ion.

Dihunai ei drydaniaeth
Yr eglwys mor ddwys na ddaeth
Marweiddiol dymor iddi — hyd heddyw,
Dydd ei hadgyfodi
I’w rhod o faith fawrhydi,
I nef ei thynghedfen hi.

I’w galon fawr, y fynwes — ydoedd fyd,
A'i deddf fawr ddiormes —
Bod i'r oll, bywyd o wres
Yng nghanol byd anghynnes.

Anghyfannedd ryfeddol — am oesoedd
Fu y maes cenhadol,
E ledai y glwyd lwydol,
A byd dihewyd o’i ol
Ag ofnau fil yn dilyn;
Mir oedd ei weld, y mawr ddyn
Yn hygar yn unigedd — ei ddilan
Feddyliau o naeledd,
Heb yno dlawd na bonedd — wnai o rad
Fyth fwriad o’r fath fawredd.

Mad agor rhwymedigaeth
Seion nef i'w hoes a wnaeth;
Yn y man hi ymunodd — yn llu mawr,
Am ei hoff erfawr feddwl ymflurfiodd,
Yn wedd o hewyd oll, yn weddiau
O du llwyddiant y bywyd, — allweddau,
Mwyach a yrrid at rym a chaerau
Dorau mwy engyrth na durym angau;
Goludoedd, arogliadau — deisyfiad
O du ei gariad a'i deg eiriau.


730 GWAITH ISLWYN.


Y lIong yn barod.


Mae’r llong uwch muriau y lli — ar fynwes
Rhyw fwyn don o heli,
Ind lawn gawn yn gweini, — fel am dremiad
Ar gennad ei Geidwad yn ymgodi.


Y don sy barod yno, — pelydron
Anwylion yn heulo
Ei bron, heb wynt i’w brynio, — pob uthredd
I engyl hedd mwy ynghlo.


Thomas ei gydwas, a gawn
Ar y bwrdd, oll ar burddawn.


Gwenant tra’r creigiau gwynion
O'u nefoedd teg i fedd ton
Yn gostwng, gostwng i gyd, — a'u gorawr
Anwylfawr onid niwlfyd.


Un meddwl, un meddwl mawr
O gerfiad cariad gorfawr
O’u mewn, un pur ddymuniad
Y sydd — am fythol leshad
Amledd dynolryw; teimlad
Nad oes un bryn, glyn, na gwlad
Yn foddus gartref iddo
Tra yn y byd truan bo
Pechadur amhur ei ryw;
Y byd, sirioldeb ydyw,
Dedwyddwch diwad iddynt
Bebyll hedd bob llaw i'w hynt.
Paganfyd i gyd a gawn
Ail dôr gartref ol diriawn;
Broydd erch yn beraidd ânt,
Rhodfeydd i gariad fyddant.
Tra y byddo ynddo un
A'i olwg ar wael eilun
Un i’w achub, anichon
Nawn o hedd i'r anian hon.

 
Ar lawer wawr oleuawl,
Tra seiniau o forau fawl
Oddiar yr hawddgar hwyl
I nen o wenau anwyl
Hyd fainc Naf yn dyrchafu —
Y caed y cenhadau cu


Y GENHADAETH GRISTIONOGOL. 731


Y aml edrych mal adref
Dros yr aig am ryw graig gref,
Neu benrhyn gwyn â gwenyg
Rhyw fryn uwch y môr-wyn myg,
Dôr o India ar wendon,
Ryw hylwydd arwydd o hon.

 
Llais yn Serampôr.


Y mae pyrth hen Serampôr
I’w hanogaeth yn agor.
Borau o Dduw yn bur ddaeth
I dywyll fyd Hindwaeth
O nodwedd mor ofnadwy,
Doai â maith gysgod mwy
A nos na ddarlunia neb,
Gorlawnder o greulondeb,
Hanner Asia; a resai
Bob nwyd diafolnwyd fai
Ag urdduniant gorddynawl
Acw i fyrdd ar fainc o fawl,
Roddai uchelfawr haddef
I Juggernaut ar gaer nef.


Y duw eisteddai’n dawel — a meirwon
Fel môr hyd y gorwel
O'i gylch, heb gysgod o gêl
Oesoedd i'w llychion isel.

Uwch y tryblith melldithiol — A, gwelaf
Y golau tragwyddol,
Ogoniant eilw o'i ganol — fyd i Dduw,
I fawl mir y lawn-Dduw lel morwynddol.

Yno dechrau son am radau y brawd gorau brwd ei gariad,
Ei hynt rhyfedd, hyd at waeledd goriseledd ei groeshoeliad,
Modd y carai, ac y deuai, dioddefai lid oedd ddwyfol,
Dod i fyny er teyrnasu i adferu India farwol.

Hir o bu gwawr y bywyd — a dariai
Is dwyrain dwyfolbryd
Dieilfydd broffwydol-fyd,
Sy a'i borth uwch ymgais byd,

Torrai y dydd at awr Duw,
Dihunodd India annuw 
O'i thrymder yn llawer llu,
Y gair odiaeth i gredu.


732 GWAITH ISLWYN.


Hindwaid yn y diwedd
Yma gawn yn y lawn wledd.
Gwelynt eu heuog waeledd
Gan fawrhau rhadau yr hedd.


At gysawd y cymawd cawn
Eto eraill ser tiriawn, —
Ward o lawn eglurlawn glod,
A gem i'r nefol gymod;
Enw rhyfawl Marshman hefyd;
A'n Carey fwyn — côr i fyd
Uchelfarn edrych arnynt,
Uwch India wag orwag ynt
Uwch anwfn ei thrychineb — yn eu rhod
Yn drindod o diriondeb.


Clod Prydain.


O Brydain bêr eheda — angylion
Eraill weithion, a Ior a'u llwytha
A llawnder i holl India, — dyrchafol
Eangiad oesol i dynged Asia.


Ffrydiodd o'r cyffroadau — Prydeinig
I fyrdd unig, do fôr o ddoniau.


Cenhadon fel y tonnau — ar bob glan,
Digeulan ydyw golau
Dieilfydd fy ngwlad haelfawr,
Adain i fyd, Brydain Fawr,


Hyfryd olau ar fôr di-lan,
I euog fyd yr unig fan
I edrych o'i wae didrefn
O'i alaeth, am draeth, am drefn.


Haeledd hon, hefelydd yw,
Eilradd o aidd dwyfolryw,
Y g
ŵr i’w fawl garai fyd,
Gofiai enfawr gyfanfyd.


Eisioes dy Gymdeithasau — adwyant
Y duaf amgaerau
Geir am fyd yn ei gyd gau
O'i ganol i’w begynau.


Cymdeithas Genhadol Llundain.


Yr oesoedd mawr oedd yr awr,
Yr oedfa deg waredfawr,


Y GENHADAETH GRISTIONOGOL. 733


Y rhoed maen euraid mur — arall allan
I hynaws hongian yn y nos engur,
Allan i'r nos dywyllaf —
Cenhadon anwylion Naf
Yn barod yr un borau — i sefyll
Uwch y gordywyll ddrych o gredoau,
I gynnal uwch eigionau — paganfyd
Air y bywyd, uwch môr eu beiau.

 
Llawnder Cymdeithas Llundain — ga fendith
Aml gyfandir didrain;
Mor ddedwydd myrdd, a'i hadain — yn noddfa,
Heirdd eu lleda dros foroedd llydain.


Mwy daeth oes y cymdeithasau — â gwedd
O dragwyddol forau;
Aneirif y banerau — ddyrchefir,
Eu tymp genir hwnt am y pegynau.


Taflodd yr Eglwys ynghyd ei phwysau
Uchel ar unwaith, oll i’w chloriannau;
Fel llynges o gariad daw’r enwadau
O’u haberoedd o hedd yr un borau
O fawr dawelwch, i fôr di-olau,
Yn gywir i ganol goreigionau
Y ddofn baganiaeth, â helaeth hwyliau
A gwiw oludoedd a goleuadau,
A iawn dueddiad eu nodwyddau
At y Seren ddwyfolaf ei gwenau
Uwch yr Olewydd a fydd am faddau,
Oni chyrhaeddir, ei uchraddau,
Ei gofus air, godidog fesurau,
"Ewch" ei addwyn lechweddau! — y bur raith
Lifai unwaith o ddwyfolaf enau.


Hi newidiodd o'i nodwedd enwadol,
Gan ehedeg i’w hagwedd genhadol,
I rod o fawredd daear — adferol,
Bob enwad i dywyniad cydunol
Gwawr o hynawsedd ar ryd gornosol;
O dân hon yn gydenynnol — cyn hir
Caerau du ysir, credoau oesol.


Môr yw ei hewyd cydymroawl
Gyrhaedda feinciau duwiau andwyawl,
Bannau Paganiaeth unbennawl — ar fyd
A dry’n eilfyd i Ior a'i anwylfawl.


734 GWAITH ISLWYN


Ofnadwy’n gydfynedol
Ydyw hi, â Duw o'i hol.

 
Mewn un greddf cydgyferfydd
Enwadau, credoau’r dydd;
Un awydd mawr, un hewyd
I bawb — adferiad y byd.


O'i thuser Gymdeithasau — nid ennyn
Ond un o'i daliadau;
Un arogl, y ddawn orau — i bagan,
Iesu ei hunan heb isenwau.


I eneidiau un ydynt,
Un oll o ddibenion ynt,
O'i gredo un gair odiaeth
Diau dros y byd a draeth
Pob cenhadwr, roddwr hedd,
A'i gynnwys yn nigonedd
Mab Duw i gadw anuwiol,
A'i ddwyn yn addfwyn yn ol.


O ba le bynnag, ai o bwl bennau
Andes eu hunain, y daw eu seiniau,
Ai o dywyll ynysoedd y deau,
Awen fad! croesawa’r cenhadau
A molawd hael haeddawl mal delweddau
O gariad syn mwy na edwyn nodau,
Ond enaid tlawd a doniau — Crist ddwyfol
Yn fôr oesol ar gyfer ei eisiau,
A llef eu henaid o bellaf fannau
Asia elynol, o echrys lannau
Na fu ymwelyddion ond y tonnau
Erioed iddynt, goranwar dueddau,
Eu holl nod am ennill eneidiau — o'u bâr
A'u tuedd anwar at Grist a'i ddoniau.


I gyrrau aml fôr gerwin,
Dan echrysaf oeraf hin,
Dan aml hinsawdd dawdd gan des,
Ar ol eu hunol hanes
Bo rhwyddgyrch ar bereiddgerdd,
Parod O caer ysbryd cerdd.


Y byd i gyd i'r teg haf,
Gwyn yw i'r mawr gynhauaf.


Y GENHADAETH GRISTIONOGOL. 735


India.


Hindostan o'i theg lannau — anfona
Fwynion ddiolchiadau,
Dirio gair Duw ar gyrrau
Ei maith ing i’w hesmwythau.

 
Draw Calcutta dderbynia ei baner,
Afon y fendith ddiderf yn lwynder
Lifa o dan ddwyfol leufer, — yma
Aml enaid yfa, aml Hindw ofer.


Ahmedabad glyw yr alwad, disglaer olau;
Haul cyfiawnder ar ei gwywder dry ei gedau.


O gaerau Hindwaeth ei gwrandewir;
Surat hynafol draw a siriolir,
Hyd ei heolydd Armeniad welir
Fu a'i eilunod afrifol anwir,
Yn hoeddi y newyddwir, — goludoedd
Y lawn i filoedd gan bagan folir.


Daw â'i siriol nefolwawr
Heibio i fyrdd Bombay fawr.
Gwelodd Amerig waeledd ei muriau, ••
Heibio y llifion clybu ei llefau,
A thosturiodd. Adeiniodd ei doniau,
Yr anherfynol waredol radau,
A chywir ehediad uwch rhuadau
Aml fôr, a beiddiodd, do, aml hinsoddau,
I gyrhaeddyd â braich drugareddau
Y pagan gwan, a'i lonni â'i g
wenau.
Y dwyrain unwaith o odre nennau,
Y pell orllewin al orgyffiniau,
Gadd haul a fwriodd dragwyddol forau
Ar ei dynged hyd byrth diried angau.
Y goludog alwadau — yn ddiball
I arddrych arall roddir o’i chyrrau.


Firienied acw ar fryniau y Deccan —
Ar uchaf urddunaf orseddau anian
Fel hyderus gartrefle y daran —
Haddef fu lom, yw'r hardd ddwyfol luman!


• Armeniad oedd y oenhadwr cyntaf yn Surat, lle bu’n llafurio naw mlynedd.
•• Yn 1813 daeth cenhadon yr Ameriean Board of Missions i Bombay.


736 GWAITH ISLWYN.


O, geined agwedd paganiaid egwan
Trwy ewyllys o hêdd yn troi allan
A thoriad Sabbath einan — i wrando
G
ŵr Duw yno — Duw yno ei hunan!


Ryfedd hewyd! Y faner faddeuol
A chwyfa o Nassuk, gyrchfan oesol
Ofer ymhonnwr y gred Frahminol;
Daw y pererin gau grediniol
I fawl anuwiaeth, yn flin i'w heol,
Ac O cenfydd yr un dydd dedwyddol
Yn ei swydd gennad y Duw tragwyddol,
Ie, ger dringion, ger dôr eangol,
Teml Sheeva dôa y byd Hindwol
A'i chysgod, a’i chlod mor uchel-ehedol,
A daw y lle andwyol — yn Seion!
Gwedi ei gwynion, O Basg digonol.


Hyd Mangalôr y torra y borau,
Mad enw Greiner yma dan goronau;
A Dharwar anwar tu draw i fryniau
Y Ghauts arfeiddiol, fwynha y golau;
Ar gaerau Mysôr ei grymus eiriau
Heddyw glywir er paganaidd gloiau;
Ei bwrdd a daenir dan beraidd donau
Awel Salem, a'i maddeuol seliau,
Gwawr o fewn hudd ei hamgaer fynyddau
O dyner heddwch daena ei rheiddiau;
A Bungalôr ni etyl ei dorau.
Perhaidd ehed y pur wahoddiadau;
Mahometaniaid, paganiaid gynnau,
Glywant, adawant eu gau gredoau;
Hon egyr fedd i grefyddau — dirfawr,
Hyd y llawr y llwyda eu hallorau.


Diorseddir o uchder eu swyddau
Y Brahminiaid, mae braw am eu henwau;
Daw ofnadwyaeth hyd fan y duwiau
Brig urddoledig yr fiwidoliadau.
A'r gwir llethir cyfundraeth y llwythau,
A gaed i enaid India’n gadwynau;
Haul gwir ryddid ddilea eu graddau,
Hygar fawr entyrch o ragorfreintiau
Heddyw hongir lle bu niwloedd angau.
Pentrefi lawer yn ei phellderau


Y GENHADAETH GRISTIONOGOL. 737


Ger ei hafonydd, ar ei gorfannau
Geir is cain edyn gras y cenhadau
Fel Eden yn aml fawliadau  — Heirdd ynt,
Hawddgar ydynt fel newydd greadau.


Ior a addolir lle bu meirw ddelwau,
Iesu a’i ogoniant eu glwys ganau.
Ner alwa fyddin araul o feddau
Duon arferion India ryw forau.
O drymion feirwon furiau — Brahminiaeth
Dwg fyd odiaeth o adgyfodiadau.


O'r gorwag fyd daw rhagor
O fewn y cylch, Travancôr.
Mothelloor am waith ei law
Rydd haeddol fawredd iddaw.
Tinnevelly tan foliant
Melus sy ag aml i sant.
Swartz yma ryglydda glod, — seren lwys
Ar hanes eglwys, a Rhenius hyglod.


Acw o'i bedd cwyd Tranquebar — ar godiad
Ar anfoniad gair lon o'i faniar.
Madras a glyw am y drefn
Edryd ei miloedd di-drefn.
Ramadoo wyr am ei dawn
A dôr achubiaeth diriawn.


O'u mawr ddyryswch daw myrdd Orissa,
Borau i’r anferth fawr Bererinfa,
Heddyw ger hon ei mawrdduw
a gryna.
A! bob gwyl derfydd, derfydd y dyrfa.
Ar ei olwynion pwy a'i gorlonna?
Môr ei addoliad heb droad dreia,
Yn y diwedd nerth hon ni adawa
Offeiriad ymddifad a'i haddefa.
Daear a nef dry yn ha! — ei weled
Oedd ogoned heb iddo a gwyna.


E balla aml fam bellach
Yn ei byw, roi’i phlentyn bach
I’r dyfroedd geirw o'i dwyfron,
Gerub têg i reibiau tôn.
Defodau oesau eisioes
Ynt ddiddym ger grym y Groes.
Crynodd y caerau anwir
Ger gorsaf gyntaf y gwir.


Juggernaut.




738 GWAITH ISLWYN.


Cynhauaf, O cân newydd
I genhadon Seion sydd,
Arwyddion fod Ior iddynt
Yn nawdd ar eu didrain hynt;
Ei ysbryd hefyd yn dwyn
Syw lwydd a seliau addwyn,
Ie, o fewn gwyll di-faeth
A llen dywell Hindwaeth.


India wael yn addoldai a welir,
Ar ddrych hyfawl allorau ddyrchefir;
Yma adenydd addysg amdaenir,
O dan eu haddwyn faeth adnewyddir
O wedd andwyol aml fyrddiwn doir,
Ie, ag hollol dwyllwch y gellir
Ei deimlo yno, fyd a am-lennir.
O daw efengyl Duw, fe eangir
Y dealledigol fyd lle’i dygir;
Dygir ei choron a digarcherir
Athrylith, ac i’w gwaith ei bendithir;
Golwg y moesol gau ail-gymhwysir;
Y gwladwriaethol â'i golud drwythir;
Celfyddyd yn eurog tyd gyfodir
Am ei baner, ac O meib a enir
I farddoniaeth a fore ddihunir!
Ogoniant na ddatgenir! — Darluniaeth,
A chaer llenyddiaeth, uwch yr oll noddir.


O! ddarfelyddiad y fawr Genhadaeth,
Pwy rydd fur am y pur fawr ddarpariaeth
A diderfyn welediad ei harfaeth,
Ei amrylawn ddibenion mor helaeth,
A'i haneiri haelioni, o luniaeth
A tho i bagan rhag oer wlybaniaeth
I fyny, i fyny hyd faeth — didraul
Goruwch hyd araul gaer iachawdwriaeth.


Neuaddau derch llenyddiaeth — addurnwyd
Gan ddarnau ehelaeth
O feiddiol ddarganfyddiaeth,
Ail fyd o ieithyddol faeth.


Y wasg â'i mawrion esgyll
Doai, ail-agweddai’r gwyll,
A deorai fyd arall


Y GENHADAETH GRISTIONOGOL. 739


O newydd yn ddi-wall.
Ysgydwad eu rhwysg odiaeth
O ddig nos yn ddydd a'i gwnaeth.


Onid hynod dihuno
I fawr aidd mewn aml i fro
Ynfyd Hindwaid anfwyn
Yn engyl efengyl fwyn?
Hindwad yno dywys
A mâd gyfeiriad ei fys
Tua’r nef, at yr iawn Ior
Aml i frawd, aml i frodor;
Rhydd hanes gun yr Uniawn
Y duai’r nef un prydnawn
Oddiarno, — y ddyrnawd,
O a'r wen dan y mawr wawd!


India fawl yr haeddawl res — ryw forau
O'i gorfannau ag aiddgar fynwes;
O!’r enwau goronir, — y cenhadon
Fel angylion i’w chofion ddyrchefir.
Enw Warth hynod ar ei thannau — glywir,
Heber folir o'r phellaf brif aeliau.


Meibion yr Alban rodiant ei bannau
Ag addfwyn araeth, ag hedd-fanerau,
Iesu a hoeddant yn ei holl swyddau,
Yn ei fawr gariad a'i ddwyfol radau,
Yn ordeiniedig frawd i eneidiau,
Hir-brofedig trwy bair o ofidiau,
Trwy lys, ac O trwy loesau — heb "ateb"
A'i fir wyneb yn fore o wenau;
Y g
ŵr unig a haedda goronau
Am ei urdduniant uwch myrdd o enwau,
Orchuddiodd, soddodd ein myrdd troseddau,
Ar fôr o iawn aneirif ei riniau,
Hoeddant ei aml rinweddau — ar gaer bell
Hoornee dywell oni chryn ei duwiau.


Gwel feibion hedd, ryfedd res
Myg engyl am y Ganges.


Daeth y golau hyd ei glannau, nid gelynol;
Myrdd o radau addien forau, hedd anfarwol.


740 GWAITH ISLWYN.


Mynych ar hyd ei minion
Ior a erddyl engyl hon.
Ar lan hon, o galon gu, — gwaed y groes
A genir eisioes, gwiw enw yr Iesu.


O gylch, pa gynnwrf a gaid,
Gynnwrf yn nglyn paganiaid!


Enwau Blumhart a Martyn
I rol anfarwol a fyn;
Ryw eilfod anfarwolfawr
I Smith am ei fendith fawr —
Bri emwyd ag enw Brahmin,
A'i fwyn draw fynnai ei drin,
O'i fawl gau daflai â gwg
Ei eilun gwael o'i olwg,
Gan addef Ior y nefoedd,
Enw y mad Geidwad ar goedd.


Gwlad ar ol gwlad fwynha ei goludoedd,
I Asia fawr ei golud sy foroedd,
O daw ei mil o filoedd — i dderbyn
Heibio a wedyn am draethau bydoedd.


Ar adfeilion pell Agra, dy foliant
Hynod a genir, Seren digoniant.
O’i gwyw agenau, gobaith gogoniant
Dywynna heddyw, gwawr adnewyddiant
Ar gynllun o urdduniant — anfarwol
“Ddelw y Nefol," dragwyddol nwyfiant.


Boreuol hynt Chamberlain — a'i llonnai,
Iddi e ledai’r dragwyddol adain.


Gair Duw i Agra dywell
I’w heuog byrth ddug o bell.


Delhi i gyd oleuir — yn y man,
Pob mynydd orchuddir
Ag arogldarth mwyndarth mawl,
Y ddwyfawl gred addefir.


Ceylon.


Iselion gwaelaf Ceylon a’i gwelodd,
Faganiaeth welw ger ei henw a grynodd;


Y GENHADAETH GRISTIONOGOL. 741


Yno Harvard a'i bore gynhyrfodd,
Gair rhad bywyd o gywirdeb heuodd;
Uwch ei dyfnai dywyllwch y safodd 
Golau. Golau uwch y gaddug alwodd,
A chread uwch ddechreuodd — ymffurfio
Yn bur dano, wyneb Ior dywynnodd.


Pleidwyr cyfundraeth Buddhiaeth dawant,
Ei hen addolwyr luoedd ni ddaliant
Eu defodau, a’i gwyliau nis gwelant,
O filoedd miloedd gwanha ei moliant;
Cenhadon deg luon a'i goleuant,
O lan i lan yr ynys ail-luniant,
Durym Buddhiaeth dorrant, — ei mawr ludd,
Ei maith orchudd ymaith a archant.


Enw yr Oen yn dyner yno — seinir,
Y dôn eilir gan bagan dan wylo.
O, melus yw y molawd
Tua’i lys gan bagan tlawd.


Ogoned dirioned hed yr hanes
O oror i oror, y ddawn eres!
Ag uchel lwydd ei gwych les — arwain Ior,
Dorau i’w gyngor tu draw y Ganges.


Assam.


Assam fawr sy yma fyd
A rhwyg mawr i'w gymeryd,
Ie, mawr rwyg ym muriau — Paganiaeth,
Gormesiaeth â grym oesau.
O'i gorddyfnder cymerir
Ei holl anferth nerth cyn hir.


O Serampôr ymadeinia y borau
A chain ehediad am ei chenhadau,
Hardd ymddengys i fyrdd ym medd angau
Diau â chodiad o ddatguddiadau,
Rhyfedd olud gair Ior a'i feddyliau,
Yr achubol waredol fwriadau.


Jaipoor a welodd, do y pur olau,
Sadiya unig a gais y doniau,
Am Iesu a’i iawn y mae eu seiniau,
A garodd, garodd y byd i’w gyrau,
Welodd, ofynnodd fannau — eitha’r byd
I’w law i gyd, ei wobrwyol gedau.


742 GWAITH ISLWYN.


Burmah.


Bellach Burmah ddyrchafa ei chofiant
Ddug i'w gororau forau adferiant;
A feiddiai lawnaf faith anfoddloniant,
Gwarth, anobaith, pob gwyrthwynebiant,
I ddwyn gwiw wleddoedd gwinoedd digoniant,
A'r addwyn faner o hedd-anfoniant,
Seren lon gobaith gogoniant — i hon,
A'r newyddion am yr Oen a'i haeddiant.


Judson fawr ga adsain fyth — i'w deg glod,
Eto ryw gafod a fri tragyfyth;
Adawai gartref — dewis
Cael rhyw fan ar eirian ris
Gwasanaeth ehelaeth hon —
I’r engyl, addas ddringion,
I gyrraedd prif air gwiwras
Duw ai wên gyda’r "Da Was."
Tra ar led enw Gwaredwr
Burmah a gofia y g
ŵr.


Ynysoedd yr India.


I’r Ynysoedd pell, a hir hunasant
Dan isel lwythi, dan oesol lethiant,
Byw ar y don heb wawr o dywyniant,
O’u nychol eisiau "y rhai ni chlywsant
Un son am dano," yno di-hunant
O ryfedd waeledd, a'u torfoedd welant,
Ie, yn gannoedd, ei fawr ogoniant;
Lluoedd Java o bell a'i haddefant,
Am ei faner a’i air ymofynnant,
Moa a Kissor yma a'i ceisiant,
Meib Borneo ymgrynhoant, — yma
Efe alwa offeiriaid i’w foliant.


China.


Acw i China fawr y cychwynnodd,
Fôr o fywyd, y wlad fawr ofwyodd,
Tua’r miliynau hwnt yr ymlanwodd,
Aml isel enaid, aml eisiau lonnodd, —
Leangafa o'i wael ing a yfodd,
Ai diliau addfwyn ei syched leddfodd,
Ei awydd hyd ereill fydoedd dorrodd,
Dan ryfedd esgyll dawn Ior fe ddysgodd
Enw yr Iesu, ac O, ni arosodd —
Eilwaith ei enw ganmolai, a thaniodd
Aml un â chariad yr hwn a'i cadwodd.


Y GENHADAETH GRISTIONOGOL. 743


O aethawg waelod paganiaeth " gwelodd
Ei seren," o ddor angau ymddringodd,
I gyd yn aidd ymgododd, — â'r alwad
I’w eang wlad fel angel ehedodd.


Gwael ei Mur i gloi moroedd — Ior allan,
Drylliai y galluoedd,
Bannau uwch i’w herbyn oedd, — uchelion
Dorau y galon a'i dirgeloedd.


Ger toriad, gwawriad y gwir
Ei gau ragfarnau fernir.
Haeledd ddaw i filoedd hon,
A chul ni fydd ei chalon.
Heibio y daw meib y don
Hyd lannau dielynion;
I mewn i'w hafnau mwynion — gwahoddir,
A chroesawir fel o ochrau Seion.
Pan erddyl efengyl fwyn — China gau
Rydd ei hallweddau ar ddull addwyn.

 
Ar wyn y don, wawr anwyl
Gwynfyd i hon ganfod hwyl;
Newydd lwydd roi nawdd i long,
Hynodle i genhadlong.


Pe anghof nid llai gofal
Fydd yno gyweirio’r wal;
Aredir llawer adwy,
Drwy ei mur, ddaw’n frodir mwy.


Uwch yr oll, i’w chyrrau hi — enw yr Oen
Ar riniog mawrhydi,
Ac haelfawr waed Calfari — fydd arwydd
O lwydd tragwyddol iddi.


Morrison, yma ar sail
Goruwch hedfawr gyrch adfail,
A roes ei enw arddunawl,
Enw a fydd golofn i fawl.
Ei hafrwyddaeg i frawddegau — heddwch
Drodd er myrdd o rwystrau;
Yr hynod lythyrennau — a ffurfiwyd,
“Iesu" luniwyd, a’i res o hael enwau.


744 GWAITH ISLWYN.

Japan.

Yn y man, y fawr gyngherdd o'i glannau
O’u hir nos ddeffroa yr ynysau
Yno a'u miloedd yn eu hymylau
A geir, ie ogylch oll yn greigiau
Rhag glaniad y cenhadau; — hyd Japan
Daw cynghan am ei waed cu a'i angau.

Yn norau yr haul ni erys,
Ar ddringion gorloewon ei lys.
Gwrendy yr ochain gerwin, edrycha
Pwy am ei nefol wyl a ddwysgwylia!
O ffin Comorin golwg cymera
Heibio i oeraf benrhyn Siberia,
A'i gwledd hoff i'r gogledd a, — ei bwrdd per
A'i gwên dyaer am y pegwn daena.

Siberia.

Os bu oerion bell fronnau Siberia,
Ger dihafal fawr gariad lehofa
A gwenau oesol mwy ymgynhesa,
I rym ei gariad yr ymagora.
Ei hir rewedig galon a ffrydia
Yn edifeirwch a'i llawn adfera
Dan Haul Cyfiawnder per, a ddarpara
Olau am arail fyd a'i diwalla;
Eisioes hardd ymddanghosa, — godidog
Y groes ar eurog risiau Aurora!
Odiaeth y gân heda, — fawl derchedig
Glywn ar unig lannau yr Ona.

Rhoddir i hon ogoniant — Lebanon,
Ie, gwyrdd Saron gerdda ei soriant;
Godidawgrwydd o lwyddiant! — bri Carmel
I’w hanial isel yn fawr iawn lesiant.

Ucheldiroedd Asia.

Pwy egyr mwy — pwy ga’r mawl! —
Byrth Asia canol-barthawl?
Pwy ar y faith ymdaith a,
Chwal nos uchelion Asia?
O nefol awen-ofwy,
Onid trist yw myned trwy
Hanner hon, lwydion wledydd,
Yn brudd oll heb wawr o ddydd,
A theithio myrdd o froydd


Y GENHADAETH GRISTIONOGOL. 745


Yn addien fel Eden flydd,
Bryniau a'u bannau fel byd
Dirfawr goruwch daearfyd —
Bannau yn dyrau’r daran,
Rhodfeydd y mellt euraid fan,
Heb gwrdd o wiwdeb ag un — cenhadwr,
Un addolwr ond o flaen prudd eilun?

I’w gofwy, O'r andwyol
Fyd dilon gawn eto’n ol, —
Myrdd o fyrdd dan ddwyfol farn,
Iselfyd dan oesolfam,
Heb glywed am Waredwr,
Grym y gwaed, gair am y g
ŵr!
Llawer aig gorbell ar ol
Na edwyn long genhadol;
Aml fôr heb ymyl i fawl,
A'i wanegau unigawl
Yn aros yn aneirif
Awr y llanw, pan archo’r llif
Ei fyrdd ymlaen dan fawrddull
Godidawg ardderchawg ddull,
Gohirio, tua’r gorwel
Troi di-wg olwg, a wêl
Rhyw don hiraethlon yr hwyl
A ddwg y rhyfedd egwyl!
Genhedloedd heb genhadlong,
Brudd lu, heb arwydd o long
Ac ynddi, O ynddi hedd,
Golau, a phob ymgeledd!


Affrig.

A! gwaedd Affrig a ddeffry
Euraidd fraich trugaredd fry.

Ei Negroaid, ger rhiwiau —’r cyhydedd
Draw, codynt eu llefau,
Odiaeth yr atebiadau! — digoniant
Iesu a fedant o'u deisyfiadau.

Mawr yw y dydd rhydd yr Ion
Hynt heibio yn atebion,
Ar ol gweddiau heb rif, — fel bloedd fan
O sedd y daran am oesoedd dirif.


746 GWAITH ISLWYN.


Duw glywodd! ei henbyd gloiau — dorrodd,
A’r dirif gadwynau
Lethynt ei myrdd o lwythau; — ogoned
Beri i'w thynged o byrth angau
Am drugaredd ryfedd Rhi,
Am Geidwad, hardd ymgodi,
Esgyn i fryn o freiniau
Ar y nef ga 'u cadarnhau, —
Breiniau yr lawnol bryniant,
Goludoedd oesoesoedd sant!

Ar y don genhadon hedd
I’r dywell fro o’r diwedd;
Diau mordaith hirfaith yw, — i’r ffyddlon
Fwynion genhadon, llesg iawn ydyw;
Y fuanaf, arafaidd
Wrth eu huchel, uchel aidd!
Mynnai’r cennad clodadwy
Edyn y mellt dano mwy,
Ehedeg â’r ddawn odiaeth
Hyd y pellaf dristaf draeth,
A disgyn ar rad esgyll
A gwawr i ganol y gwyll.
Fel angel uchel ei lef,
Fflamiol o ganol gwiwnef,
A chenhadaeth helaethaf
O lys nen, o fainc lwys Naf.

Dorau ei harfordiroedd — agorir,
Ie, gerwin leoedd
Yr anial i'w hatal oedd
Yn hyf fel ochrau’r nefoedd.

Aml awr hyd ymyl eirian
Senegal, seinia y gân;
Bu i fin y Gambia fawr
Weled ei hanfarwolwawr.

Gwywa eilunod fil am ei glannau;
I gariad Ion try’r Negro ei dannau
Ger ei hymylon; rhed grym o olau
Gwybodaeth Ior fel llydanol forau
Gogoniant, moliant hyd ei hymylau,
Iesu a’i hanes yn ddwyfol seiniau


Y GENHADAETH GRISTIONOGOL. 747


Hyd byrth goreubyd barthau— ei mewnol
Fyd ingol, oedd fel gofod angau
Tu allan i holl fannau — gwelediad,
O gyrhaeddiad pawb ond trugareddau
Hon a'i braich, braich y breichiau! — Genhadaeth
Iachawdwriaeth, sy danbaid uwch dorau
Marwolaeth, haul ar draethau
Ail fyd in hyfryd fwynhau.

Aml lu a'u dwylaw duon
I fyny am anfon hon!
Eilchwaith, eilchwaith diolchant,
Seinio am alw Negro wnant.

Melldith caethwasiaeth.

Guinea fawr, dan gwyno fu
Is hollol wae yn syllu
Am Ior mwy a gymerai — drugaredd
Ar ei hagwedd brudd, tra y rhwygai
Y creulawn ei heddlawn hil,
Lonyddaf luon eiddil.
Crynai’i glan a'i meib anwyl
Gan ofid oll ganfod hwyl
Y gaethwasiaeth, a wysiai
El duon feibion di-fai
Filoedd o luoedd i lawr
I’w blinfyd Babilon-fawr,
Y byd sydd oll heb adwy
I wlad eu dymuniad mwy.
Y cylchoedd cu teuluawl,
Rhwygir, dibennir pob hawl,
Eu chwalu, heb ddychweliad,
Er llef dyner tyner tad
Rwyga’r môr wrth roi’r gair maith
I’w fab, ei olaf obaith.

Dileed Duw a'i luoedd,
Yr anwir gedwir ar goedd
Y ddaear oll, yn ddi-wrid,
Ie, rudda dir rhyddid.
Er mor sicr, crymir ei sedd
Ar hynod ddydd gwirionedd;
A'r waneg, ddedwydd egwyl
A wrthyd ei henbyd hwyL


748 GWAITH ISLWYN.


Dydd coroniad y Genhadaeth, — bydd hon
Wrth ei holwynion, gerth elyniaeth,
Ei honan yn gaeth yno, — ac Affrig
Ar ol ei haddig frad, yn gorlwyddo,
Dan gywirffawd yn gorflwys
Ar obennydd ffydd ei phwys.

Sierra Leone â chysur lannwyd,
Uthraf berfeddion Affrig a lonnwyd,
Ar ei mynyddoedd y gair mwyn hoeddwyd
Borau anfarwol i'w bryniaa fwriwyd,
Hyd ddyfnderoedd ei choedwigoedd dygwyd
Y wawr ryfeddol, pob gwae arfeiddiwyd;
Yr anialwch arswydfawr ni welwyd,
Enwau afonydd geirw ni ofynnwyd,
Rhyfedd rwystrau ni rifwyd — gan bêr lu
Bywiol gôr Iesu nes eu cwbl groeswyd.

Y diddysg dan addysg a adnewyddid.
Ar fronnau gwybodaeth bur ei maethid,
Bellach bro’r yspeilydd a allorid
I fawl Ior, a'r delwau a falurid;
O'r waedd annuwiol bu beraidd newid
Am gun dawelwch, am ganau dilid
Ganau’r Oen! am gain wrid — y bywyd glân
Ar ddwyfol anian a greddf ail-lunid.

Greig a Jansen.

Greig elai o gywir galon — â gwên
I ganol peryglon;
Angau, bywyd o ingion — nid ofnai,
Ar y bedd gwenai er budd gweinion.


Fe roes bob cynneddf o’i ran,
Ei holl alluoedd allan,
Do, ei enaid yn dyner
Dros odiaeth Genhadaeth Ner,
Fywyd o lwys hewyd syn,
A'i waed i'w selio wedyn.

Bu Jansen lawen a'i dduon luoedd
Hwnt o hewyd yn dod yn finteioedd
Oedd anofion, i d
ŷ Dduw y nefoedd.
Fel ymagorol fywiol wynfaoedd,
Goris hael edyn gras a'i oludoedd,
Heulog o fywyd fu’r golygfaoedd
Ar ddiderfysg heirdd dorfoedd, — lu diddig
Ie, golchedig o'i amgylch ydoedd.


Y GENHADAETH GRISTIONOGOL. 749


Cynhauaf helaethaf o'r prudd lwythau,
I Ior a fedwyd o buraf hadau
Y Gair, a fwriwyd gyda gwawr forau
Y lawn Genhadaeth ar boethaf draethau,
Ar hyd yr anial mawr a diriniau.
Diau braenarwyd â’i burion eiriau
Fraenar addwyn, i aml fawrion wreiddiau
Y Gair, ar eirwon anfwynion fannau;
A bu yr anial diffaeth fel bryniau
Paradwys ei hun yn llawn prid seiniau.

Gan amledd o rinweddau — hon a’i myn
Ail rhosyn anfarwol ei rasau.

Gwareiddiad egyr heddyw
Ei faniar i'r anwar ryw.
Gwareiddiad, a gwiw roddion
Hygar ddaw yng ngosgordd hon,
A'i lon ged yn dilyn gaf
Yn ol ei throed anwylaf,
Nid o flaen, ond fel hynaws
Weinydd o dan eilfydd naws.

Liberia.

Liberia wela y wawr
O dir rhyddid — arwyddwawr
O ryddid uwch ei raddau,
Heibio’r holl fyd i barhau,
Yn y fro na edwyn frad
Na gerwin floedd ysgariad,
Lle ni ddaw i'w llonydd hil
Dan falm mwynhad yn filmil —
Eu Duw o'u hamgylch yn d
ŵr
Gerth rwym na bloedd gorthrymwr.

Am Benrhyn Palmas cwyd mad ganiadau
I’r Oen a roddes, er anwireddau
Y Negro, ei hun! Aml, aml goronau
O fawl i'w ran am ei ddihafal riniau.
Grahway dywell rydd oesol gredoau
I fyny, arferion duon, a duwiau,
Er mwyn addwyn rinweddau — y Ceidwad
Alwai i'w gariad ei hisel gyrrau.


750 GWAITH ISLWYN.


Ashantec.


Torrai y borau terwawr
Hwnt i fyrdd Ashantee fawr;
Y ganwyll i ogoniant
Oleua, gysura’r sant,
Ddygai Freeman i’w chanol
Yn llawn aidd — ni syllai’n ol.


Eglwysi’n ymgodi gawn
O'r moesol wgol eigiawn,
Goethaf greadigaethau
O bleth gerth y tryblith gau.


Yr Hottentotiaid.


Aml Hottentotiad glyw am ei radau,
Addfwyn Waredwr sydd fwy na’i reidiau.
Ei fro unig a'i reibiedig fryniau,
Gaf yn doedig gyfnewidiadau;
Byw ardd am anial, beraidd emynnau,
Bro o addoliant o dan bêr ddiliau
A doniau addysg, hyfryd aneddau
Beunydd i fywyd, lle bu noddfâu,
Eon deigrod, dagrau — edifeirwch,
Aml aml heddwch am wael ymladdau.


Vanderkemp.

Am y pell Vanderkemp ai,
Ar ei oll pell yr elai.
I’w hynod gyrch un nod gaid,
Wych binacl — achub enaid.
Y diffaethwch, harddwch oedd,
Cysgodlen Eden ydoedd,
Gardd y nef, i gyrraedd nod
Am ei rinwedd mor hynod.
Mynnodd er y dwymyn ddig,
Hinsoddau o naws addig,
Gyrraedd y nod ragorawl
Iddo fydd arwydd o fawl
Y dydd derfydd daearfyd, —
Olau faen yn yr ail fyd!
Llwydai ei wallt
hyd ei wedd,
Deuai rhychau y diwedd
Braidd cyn i'w aidd gynyddu
I’r mad benderfyniad fu


Yr oedd yn ddeg a deugain pan gynhygiodd ei hun i Gymdeithae Llundain.


Y GENHADAETH GRISTIONOGOL. 751


I’w arwain ar gain gynnydd
Wedyn i derfyn y dydd;
Ond hyn yn fwy a'i taniai,
Ac uwch hwyl i’r gorchwyl gai.


Agor y faner fu’i gywir fwyniant,
Hulio y wledd o dragwyddol lwyddiant,
Wledd i genedl na welodd ddigoniant
Iesu ein moddion, son am ei haeddiant,
Gwiw ennill i ogoniant — yr aflan,
Y du bagan ar ei debygiant.


Yma dynion ar ddarfod am danynt,
Baganiaid eiddil heb gennad iddynt,
Luon duon at ei orsaf deuynt,
Ac ar gu lewyrch y gair goleuynt
Nefol anfarwol obeithion fwriynt
Olau ar angau a'r holl niwl rhyngynt
A th
ŷ eu Tad, y mad gyfamodynt
O galon addien ei gael yn eiddynt.
Paganiaeth, ei chwymp genynt, — yn lluon
Ar ei hadfeilion gair Duw a folynt.


Y Bechwaniaid.


Cenedl y Bechuaniaid,
Hwythau er oesau o raid
Heddyw ganant ddigonedd
Lu ar lu am fyrddau’r wledd.


Ogylch y lluoedd egwant — addolant,
I Ior crymant ar lanau’r Ruruman.


Honnawl galedwch annuw
Os bu hir dalm, Ysbryd Duw
A doai galon dywell
Y pagan dan ei gred hell,
A'r enaid gaed o'i rinwedd
Yn ir oll i air yr hedd,
A'i galon yn ffynhonnau,
A'i fryd ar edifarhau.


O'r mewnol barth eiriolir
Am gennad, gwawriad y gwir.
Chwydda mynych ddymuniad
O aml newydd lonydd wlad —


752 GWAITH ISLWYN.


Bell i mewn i mewn yn myd
Huddfawr Affrig, berfeddfyd, —
Dymuniad am ei enwi
Am unwaith yn ei hiaith hi.


Robert Moffat.


Cyweirier eglur bêr glod
At enw ein Moffat hynod.
Ogonawl gennad gwiwnef,
Digon yw ei deg enw ef
Ei hunan o farddoniaeth,
I roddi ffrwd i gerdd ffraeth.
Aml lwyth sy ym mhlith ei ser,
Ac enw hoff Affricaner.
Alluog
ŵr! a llaw o gariad
Agorai glo amlgaerog wlad
I ddwyn afonydd enaid,
Dyfroedd i bobloedd heb baid.
Oer newyn, gair Ion heuai,
Er pob llid newid ni wnai.


Cywir ddelwedd o fawr haeledd, o bur nodwedd ei Bryniawdwr,
Yfodd ysbryd awdwr bywyd, a mawr hewyd llwyr ymrowr.


I Caffraria o Galfaria galwai foroedd
Anherfynol o fyth-ledol faith oludoedd.


Am ddyffryn trymaidd Affrig,
Llu Ner am ei dyfnder dig
Osodwyd, ei broffwydi
Fywiol gylch o'i hamgylch hi;
Troi eu gwedd oll tua’r gwynt,
Mwynaf alw am nefolwynt.
Oni chawn swn a chynnwrf
Sydyn, yn y dyffryn dwrf!
O am anadl! Dymunaf,
Wyntoedd y nefoedd, O Naf!
Nefolwynt ein Naf, eilwaith
A'u troa i fyw — torf faith!
Na pheidied y proffwydi —
Mae mawr arch!— ei chyfarch hi.


Gorsafoedd y gras hyfawl— a wynnant
Yr anial paganawl,
Bob un â chun gylch o wawl
A doniau byth-lydanawl.


Y GENHADAETH GRISTIONOGOL. 753

 
Forau y mawr adferydd,
Affrig adferedig rydd
I Dduw, O, bloedd o hewyd,
Llef fawl ddeffroa’r holl fyd!
O'i th
ŷ o hir gaethiwed,
Filoedd o luoedd ar led,
Daw i fyny hyd finion — y Niger,
Moroedd o leuer, myrdd o luon;
I fyny fel afonydd
O'r holl gaethiwed yn rhydd,
Feibion Ham heb un camwedd
Chwerw gwyn, na rhych ar eu gwedd;
Byw i Geidwad heb gadwyn
A'u bywyd i gyd heb gwyn.
Brysiwch, ddwyfol-ber oesau,
Ior a'i dderch fraich i’w rhyddhau.


Madagasgar.


Daw a'i gwiw esgyll uwch Madagasgar,
Daw a'i mawr ddoniau hyd ei myrdd anwar,
Iehofa a rwyga, forau hygar
Yr iawn addewid a'r newydd ddaear,
Ei gau amfuriau o fâr, — cyd-ddeuant,
Miliwn ofynnant am ei lon faniar.
A'i aml iawn rad, ymlaen yr eheda,
I ereill foroedd y ddawn gyhoedda
Yn y Tawelfor myn eto hwylfa
I ynysoedd Polynesia — ddi-wên,
Ar ei myg aden hardd yr ymgoda.

 

Polynesia.


Hir gwyno ar eu gwaneg
Hiraethlon ar y don deg,
O unigaidd fin eigion
Holai eu dwys lu y don
Hwyr y dydd lonydd lanwai,— o'i gorwel
A’i nefoedd isel, beth ganfyddasai?
Beth a’i dug? Pa obaith da — i'w hachos?
Pa olau i nos ddofn Polynesia?
A'r don, heb air i'w llonni,
Hyd y graig ei dagrau hi
Heilltion oll eu tywallt wnai,
Mwy i'r niwl marw a wnelai.


Unig oeddynt dan gaddug
Paganiaeth ehelaeth hug.
 


754 GWAITH ISLWYN.


Rhy deg ar gaerau y don,
Rhy fir i eirw arferion
A lluman erch paganiaeth,
A gaed ar hyd bob teg draeth —
Ac ar fannau yfent forau i'w huchderau o wych doraeth,
Oriau cyfain cyn i'w blygain fwrw ei adain dros fro odiaeth;-
Bannau rhy anibynnawl
Ar wyw fyd, i unrhyw fawl —
I ddal unrhyw addoliant
Seiniau ar eu golau gant —
Ond eiddo ein Duw haeddawl
Dry nef oll yn drôn i’w fawl.
Er hardded oent ar wyrddion,
Acw ar deg leisfeinciau’r don,
Hir y bu eu hawddgar byrth
Yn wlyb gan ddynol ebyrth,
Arferion mil rhy farwawl
I’w henwi fyth ar gân fawl.
Rhyfeloedd oesoedd ysynt
Eu swynion tegeiddion gynt.
Y tywyll ddyn-fwytaydd,
Mewn rhwysg, a‘i tramwyai’n rhydd,
A gwaed ar ei euog wedd,
Fel delw i fawl dialedd,
Ond mwy ofnadwy nodwedd— ei duwiau
Ar hagr luniau pob rhyw greulonedd.


Gorfoledda, Oceania, clyw eu seiniad!
Gwel y borau, ar y tonnau, a'r tywyniad.

 

Y llong “Duff”.


Y mae y "Duff" a grym y don
Mwy’n neshau, emynnau Seion
Hyd ei bwrdd — pand enaid byw
Odiaeth o gariad ydyw.

Mae engyl yn ymhongian — â moliant


Am ei hwyliau weithian.
Arogl hedd i lawer glan — yn ei brys
O fwyn ewyllys a enfyn allan.

Ar fynwes môr, mor esmwyth
Uwch y llif yn falch o'i llwyth
Ac o'i hafiaeth y cyfyd,
A'i holl fael o arall fyd.
I’w hwyl hi gwna engyl Ion
A'u mawl, rym o awelon.


Y GENHADAETH GRISTIONOGOL. 755


Aml y gwel am ei hwyl gain
Oludog araul adain
Aderyn, o fad hiraeth
Dros li cryf i ddeisyf ddaeth,
I’w fryniau pell, gyfraniad,
Gofwy mwy, boreuddydd mad;
A'i garol ddeisyfol syw,
Diodid cennad ydyw;
Ni bu’r Arch o bêr orchudd
O nawdd per mewn pryder prudd,
Gynt ar enbyd fyd o fôr
Waelod ingawl diangor,
Anwylach gynt yn niluw,
Mwy golud i deulu Duw,
Arch gain fry goruwch gwiwne,
Na’r "Duff" i ynysau’r de.

Yng nghofion anwylion Ner,
Yn eu tôn nid mwy tyner
Enw y ban a'u derbyniodd, — i'w cwrddyd
Fel arwydd hyfryd ail fyd gyfododd,
Nid mwynach i’w dymuniad
A fu, na Thahiti fad,
Man dieisior angori
Ei ffyddlon genhadon hi.


Tahiti.


Wedi hir nos fe dorrodd — heulog wawr,
Fal a gwyrth newidiodd
Ei hwyneb, Duw a wenodd, — Tahiti
A’i oleuni a'i ogoniant lanwodd.

Dyrchafwyd y groes, arferion oesau
Mwy ni welwyd, nac un man i wyliau
Ei breuadaeth o erchyllaf brydiau;
Ai o daenedig amdywyniadau
Y Gair mad a'i ddwyfol lewyrchiadau,
I’w hyllion gorelwon yn rhy olau,
Duw alwodd filoedd ei delwau — i fam?
Nid tyner fam — Na! Duw tan arfau
Ei ddialedd a'i amledd o olau,
A'i law ei hunan yn dileu 'u henwau,
A'u hanfad addoliadau, — am eu sedd
Duw a'i wirionedd yn daranau!


756 GWAITH ISLWTN


Bu gadarn ei law arnynt;
Rhoddes Ior fawreddus hynt
A gwedd ei air tragwyddawl,
Eitha mud yr aeth eu mawl.

Allorau’r duwiau ar dân — â fflamau
Pell yn nennau fel pe llonnai anian
Yn y gorchwyl anwylaf
O lanhau’i hun i fawl Naf.

Ereill ynysoedd yrrynt
Am y wawr i'w gorawr gynt,
Deisyf am gennad Iesu
Angel hedd i'w trengol lu.
A'r odiaeth air a redai,
A rhyfedd ogonedd gai.

Aml iawn am ddeunaw mlynedd — o ludded!
Wleddoedd o ddigonedd;
Diau nos cenhadon hedd — a chwelir,
Y cywir wrandewir yn y diwedd.

Gwlad well a Christ bellach, ei lawn yno
I filoedd Eimeo fu wledd mwyach.

Ogoned dan gred y groes
Ynysoedd cyfain eisioes!

Eto cana Oceania. Aml y swynion
Ddaw ar fyrder, ddwyfol leufer, hedd fel afon.


John Williams.


Ar y don fwriadau hedd,
A Williams fawr ei haeledd.

Hewyd cadarn Paul arno, — a'i fantell
Ar ei brif hynt iddo;
A dau parth o'i ysbryd pur,
Ryw gysur mawr i geisio

O ddyfnder eu harferion — baganiaid,
Byw i gynnal weithion,
Goruwch creig enbyd eigion — paganiaeth,
Y Gair ehelaeth fel gwawr hylon.


Y GENHADAETH GRISTIONOGOL. 757


Ior o'i deg droedigaeth, — o ennyd
Anwyl ei warediaeth,
Gofnodai gyfnewidiaeth — uwch oesau
I’r de ynysau, rhod o hanesiaeth
Tragywydd, fydd ryfeddawl
I’r ail fyd, lawn rol o fawl.

O’i enaid, oedd ynddo’n dân — cynhyddol
O gariad hollol, geiriau Duw allan
Daflai â theithiau diflin,
Fel yr haul ei nefol rin.

Teyrasai trwy Ynysoedd — y Deau,
A gair Duw y nefoedd
Yn ei law — taranol oedd
Ei lais uwch delwau oesoedd.

Holl nerth, holl ymadferthoedd — ei enaid
Ar unwaith, ei ddaoedd,
I ereill aent; yr oll oedd — casgledig,
Aberth unedig i byrth Ion ydoedd.

 

Rhyfeddol gydganoliad
O'r oll o'i ailuoedd rhad,
Ei riniau gwiw, ar un gwaith,
Un diben, hynod obaith,
A'i gwnelai’n brif gynhaliad
O fyrdd i'r Genhadaelh fad.

 
Deuai’r ynys dan ei driniaeth — i gyd
Fel gardd iachawdwriaeth,
O'i thrum uchelaf i’w thraeth, — gan radau
Nef yn ddiliau, yn afonydd helaeth.


Gardd o deg wareiddiad oedd,— dan gysur,
A'i phenadur, fel hoff oen ydoedd
Ger ei ddeiliaid, gwir ddelwedd
O uchaf barch i fab hedd.


Forau Sabbath, fawr seibiant, — a rhyfedd
Rhifo dan y llwyddiant
Y lluon i d
ŷ gogoniant — Dofydd,
O gaerau newydd, a ymgrynhoant.


Gweled dagrau hyd eu gruddiau, deg arwyddion,
Pan y clywant ei ogoniant fu dan gwynion,


758 GWAITH ISLWYN.


O dan hoelion dros euogion, drws i agor,
Brawd a chariad ei gyhoeddiad a'i egwyddor.


Rhyw gerub mawr o gariad — yng nghanol
Anghenion — a'i godiad
I filoedd, o adfeiliad — o rwymau
Gallu angau, yn arwydd gollyngiad, —


Cariad penna Raiatea a enynna pan ei henwir;
I’w hoffrymau o aml ddagrau, ei holl eiriau fyth allorir.


A Maurua pan ei cofia hithau wyla, mae ei thelyn
Fu bereiddgar ar anhawddgar helyg galar, gael y gelyn
Ei hanwylyd gennad bywyd, droes â'i hewyd i wawr Seion
Lawer talaeth o ormesiaeth hell baganiaeth oll heb gwynion.


Rarotanga hithau gofia am ei hwylfa dan gymylfawr
Nef, am dani i ddwyn iddi ei oleuni aniflanwawr.

 
Gwên Duw am ei "Gennad Hedd" — chwareuai,
Dan ei hedd hwyliai fal dain ddelwedd
Euraid lun o radlonedd — oedd a'i thon,
Oedd a'i hawelon heb ddialedd.


Llawer angel a’i gwelai — neu gerub
Dan gaer nef a grwydrai,
Am ei llywiaeth hira
ethai, ei llyw pêr
Am hanner awr ddymunai.


Llawer ynys, llwyr unig — am oesau
A'i heuog lwythau, o’i dyfrawg leithig,
Gwelai hon, a goleuni
Uwch haul a'i hamgylchai hi.


Deuai effaith fel diflyg
Am haul, wedi’r cennad myg.


Oceania sy unig — y newydd
Grynhoa o'r goedwig,
O'r iach fro, o'r uchaf frig — ei lluoedd,
Anwyl iawn ydoedd i'w milmil unedig.


Ei gloewaf deg oleuad
A ddug dragwyddol ddyddhad;
Hwyr a borau mor barod


Y GENHADAETH GRISTIONOGOL. 759


I’w llonni hi, a'i holl nod
Fyth am les Polynesia, — ei chlodydd
Ar obennydd y bedd a dderbynia.


Bydd ei lwch er beddawl len
I alar fyth yn ddilen.


Aneddau gwynion oeddynt
Oll â byw gerdd, lle bu gynt
Ie, tonnau gwaed dynawl,
A lleoedd moedd i fawl
Y duw gau; ail fyd a gwyd
Llawn o wawl lle na welwyd
Reiddyn o gyfarwyddyd
Dan orddwl gwmwl i gyd.


I’
w mawl, hon o’i thra aml aidd
Oleuai’r cylch teuluaidd,
Dros ei glau gylchau i gyd
Do addien o ddedwyddyd;
Y pagan mwy gai annedd,
Bwrdd ei hun o beraidd hedd;
Heddyw man i'w ddymuno
Yn bêr fraint, o bob rhyw fro;
Mangre yn fad gariad gylch,
A'i wraig yn hawddgar ogylch,
Dan wedd hyfryd winwydden.
Ffrwyth fyth o hawdd law ddi-len.
Am ei ford, ei blant mwy fydd — rhag gwyraw
I’w gain law fel planigion olewydd.


Moes yn uchel — masnachau
Yma o lwydd yn amlhau,
A diwydrwydd aml-lwyddawl,
Nwyddau, aneddau dan hawl,
A phawb a'u dâ, a phob dôl
Dan addurn Edeneiddiol, —
Dilynir ei dylanwad
Ar dro fyth â’r aradr fad.
Afrifed arfau rhyfel
O'i hol sydd dan fythol sel.
Dydd i furiau deddfwriaeth,
I gaer y ddeddf ei gwawr ddaeth.
Daw a deddfau dedwyddfawr,
A gair y nef geir yn awr
Yn gydweddol, gan foli
Drwy yr oll rad eiriau Rhi.


760 GWAITH ISLWYN.


Yr India Orllewinol.


Awen! tro d' olwg, cawn eto’r diliau
Ar lifeiriad, a'r anfarwol forau.
Ei hynt, O, dilyner hwnt hyd lannau,
Hynt y Genhadaeth hyd bellaf draethau,
Arall ryd y tu hwnt i'r llifiadau;
Newydd genhedloedd a gawn i odlau,
Ogonawl lanw o ganau — i brif draeth
Serfyd barddoniaeth, ehelaeth wyliau.


Daw’r llawenydd i'r Ind orllewinol,
Yno yn forau Martin anfarwol
Godai y faner, dirmyg difenwol
Ni fu ludd ar ei yrfa lwyddol.
A Braun oedd hefyd ar wybren ddwyfol
Y Genhadaeth, oleuad anhraethol
Eiriau, bydd aniflannol — ei gofiant
O eang lwyddiant efengyleiddiol.


Deuai Negroaid dan gywir awydd,
Hygar iawn foesau, o'u geirwon feusydd,
O'u gwawd a'u gloes i godi eglwysydd
I’w Duw o galon gyda eu gilydd
Yn fwyn dorf derfyn dydd, — â chaniadau
Mawl o gorau dyrchai’r aml gaerydd.
Adeiladu a moliannu dan aml loniant;


Pan orffennir haddef, eilir bloedd o foliant.


Eu dydd o boenau pan brid ddibennant,
A bron dawel dros y bryniau deuant
I’w mawr dâl — ac am
ŵr Duw holant,
At ei annedd yn lluoedd y tynnant,
Ac oll yn gwybod y cânt — ddor ddiglo
A gwyl yno o ardderchog loniant.

Pa hoen ail! Ethiopia yn wylo!
Ei miloedd ganant am wledd gu yno.
Tua’r digoniant daliant eu dwylo;
Heirdd dan addysg, a rhyddid yn eiddo
A bythol ddedwyddol eilfyd iddo,
Uchel wlad dawel heb niwl i’w duo,
Nac un o'i myrdd yn cwyno, — faith fwynhad,
Llawnder di-droad, llonder di-dreio.


Y GENHADAETH GRISTIONOGOL. 761


Gwiw drysor, gwaed yr Iesu
Yw peraidd lef y prudd lu.
Ar ei fynwes, dorf anwyl,
Tyner fraint, tan erfawr hwyl
O’u lludded dwys gorffwysant,
Awr lonydd ddigerydd gânt
Ac wrth ddychwel, ucheled
Eu cydgerdd lawngerdd ar led!


Clyw’r mynyddoedd a'r dyffrynnoedd rad hoff riniau
Y Gwaredwr, a'i genhadwr ga wiw nodau.


Cloiau’r paganfyd clyw i’r pegynfor
I’w llaw anegwan, oll, oll yn agor;
Dygodd hyd rewedig ddor — byd oedd gau
Fel âg angau, y dwyfol gyngor.


Greenland.


Agorai iawn londer i'r Greenlandiaid,
Hi iach angorai a changau euraid
O bren y bywyd at bob rhaid, — cangau
O addien riniau’n wyrddion i'r enaid.


Blaguro cawn deg rawn y grog, — cnydiau
O'i haurafalau trwy’r cylch oerfelog.


Yr Esquimaux ar saig mwyn
Yn ngwledd efengyl addwyn,
Am byrth o iâ ymborthant,
Moli Ner am haul a wnant.
Cerdd ddifraw, cyrddau hyfryd,
Mawl ar bell ymylau’r byd!
Torrodd ar eu tai eira
Fôr o les, anfarwol haf.


Un llaw a rydd y pagan llon
Yno ar y pegwn union,
A'r llaw arall heb ballu
Eres ged, ar y groes gu.


Llon yw ei nos, darllen wna,
Dyner awr, dan Aurora,
Ei Destament, yn dyst mwy
O'i oludoedd mawladwy.


Onid rhyfedd gwneyd rhewfyd
A golau hon, oll yn glyd?


762 GWAITH ISLWYN.


Addas i oll ei gwledd syw, — cymhwys pur
I bechadur o bob ach ydyw;
Hidlawg i'r holl genhedloedd, — ordeiniad
I bob gwlad, i bawb ei goludoedd.
Nid oes man i'w hanian hi, — na chartref
Neillduol haddef, lle dêl, eiddi;


Na llwyth o'r byd all lithio — ei mynwes
Rhag myned i geisio,
Helaeth chwyl, eilwaith chwilio
A'i holl fraint am arall fro.

 

Labrador.


Boreu daith hyd Labrador, — rhwng lluon
Yr euogion ni ddewis ragor
O fwyniant; draw ar fynydd
Na welodd haul, ol o ddydd,
Ag eira hyd y fforwel
Y wawr unigaidd a wel —
Hynaws yw pob man os oes — cyfleusderau
Yn y bannau i achub einioes.

 
O ganol Affrig gwena,
Ei mewn-byrth yn hedd-byrth wna.
O gryf lwydd gorfoledda
Yn nghanol diluwiol iâ.


Addas i bawb.


Nid gwlad, ond Crist a phechadur; — nid lled
Y llwyth, ond y natur;
Enaid tlawd a phryniawdur, — frawd dilyth,
Eura byth ei baner bur.


Pwy a'i rhwyma? Palestina a Siberia sy i’w bwriad
Fel eu gilydd; nid oes geurydd un, na cherydd yn ei chariad.


Y neb a gadd ei byw ged,
Mwyn ddewis, pam na ddywed
I’w euog gymydog mwy,
I’w gyfaill am ei gofwy?
O brysied, deued y dydd
Y gwelir benbwygilydd
Deyras cred, bawb gwaredig — fel di-ail
Deg gofadail o flaen byd gwaefydig
O allu hon, a'u holl aidd
Ennill ereill â llwyraidd;
Pan i'r byd rhoddir o rad — ei doniau
A'i theg eiriau gaent hwythau o gariad,


Y GENHADAETH GRISTIONGOL. 763


A phan ddaw pob hoff enaid
Gipir, waredir o'i raid,
Yn glir nerth i glorian hon, — bwys newydd!
Enaid beunydd yn byw i'w dibenion!
Holl ynni arall enaid
Hwyr gain a phlygain o'i phlaid,
A phawb o deulu ffydd — yn genhadbn
Nefol, o galon, fel eu gilydd.

Awydd telyn.


Hoff delyn proffwydoliaeth! — ymaflwyf
Yn dy nwyf brid a wnaeth
I deg fryn gweledigaeth — ddarstain clod,
A'i foroedd hynod o farddoniaeth —
Yn gwlychu’i sail, gwlych y ser,
Digoniant golud Gwiw-ner!

Esau gynt o lwys gantell
Y pur ysprydolfyd pell,
Grisiau uwch caddug yr oesoedd,
Aml dro fu yn syllu nes oedd
Yn Nuw, draw “ddaear newydd"
Heulog ffawd i olwg ffydd.

Ieremi fu ger y môr— o gariad
Bellach geir yn agor;
Diameu’r nefol dymor — a welsai,
A chyrhaeddasai ei cherdd ddieisior.

Daw gwiw gân! Daw gogoniant — daear gron
A'i mawl fel addon, golud milflwyddiant.

Ymgrynhoi mae gwawr y nef,
Gwenau dadguddiad gwiwnef,
Goruwch y ddaear â grym
A dawdd ei delwau diddym
Yn y man, gan ei mynnu
I fawl Ior, aneirif lu
O honi i'w foli, — fyd — difrychau
Araul i'w gyrrau, i'w ailagoryd
A chydgor ser y borau,
Ceinber hwyl, cân i barhau.

Daw borau, Duw a barodd — obeithio,
Y Duw byth na roddodd
Addewid na ddeuodd — i'w choroni,
I’w huchaf oleuni na chyflawnodd, —


764 GWAITH ISLWTN.


Ior a esgynna risiau’i ogoniant,
Cyhoedda wyl o fainc ei addoliant,
O lewin a deau’n filiynau deuant
Hyd ei oleuni, a'i d
ŷ a lanwant;
Iesu yn fyrdd ddewisant, — am oesau
Clywch eu haml floeddiau, clychau milflwyddiant!


Proffwydoliaethau’n ffeithiau hoff aethant,
Yn llaw yr Ior â'u trysor tiriasant,
Eu gwiw heirdd oesoedd a gyrhaeddasant,
Odlau gwiw Esau eu hardal gawsant,
Glannau 'u hafonydd gwiwras hoffasant
Mewn ewyllysiau — mwy enillasant.
Ysbrydion proffwydoliaeth ymlonnant,
Hyd gaer y newydd fyd hwy grynhoant,
Pob breuddwyd gafwyd ar Seion gofiant,
Yn y Genhadaeth odidog nodant
Eu holl farddoniaeth, y llif urdduniant
Y nefol hedd, cynhauaf o lwyddiant,
Y deyrnas a ganasant, — heb un llen
Ei theyrnwialen a'i thrôn a welant.


O newydd egwyl! "y cadwyn" ddygir,
A bloedd oruchel "y ddraig a ddelir,"
Oriau ei ffyniant a'i rhwysg orffennir;
O flaen yr Oen diflanna yr anwir,
O'i deyras ddifaol un ol ni welir.
A, Satan ar lyn o dân gadwynir,
Ei gaerau ni agorir — am oesau,
A'i fanerau i Seion nef yrrir;
Maen o adfeilion pob t
ŵr anfonir,
Yr un borau holl byrth uffern gauir,
Ei genau â chadwyn fydd gau — ni chedwir
Hir oesoedd yno ar seddau anwir
Eu cynhadleddau, pob cennad luddir;
A'u holl atodawl nerthoedd alltudir
Ynghyd o feinciau’r byd, ni arbedir
Un gau. Muriau Pabyddiaeth gymerir
Yr un awr ogylch, gan fam eu rhwygir;
Nod "y bwystfil" ar un hil ni welir;
O'i ol anuwiol teml Duw lanheir;
Ag adfeilion Babel hon fe lenwir,
Y barnol fôr i'w derbyn agorir.
O'i heuog lywiaeth ei chwymp pan glywir
A'i thrwst aruthr hir, — trwy’r uchelion
Yng ngwledd Ion yr engyl a ddihunir.


Y GENHADAETH GRISTIONOGOL. 765


A'r nerthol lloedd gyhoeddir
O gaerau nef, udgorn hir —
"Syrthiodd! syrthiodd o'i sail — y ddinas fawr,"
O allu hynodfawr oll ym adfail!


Ior a ymgoda o Armagedon
Heb o'r eilunod na’r brau elynion
Mwy i'w gweled, na dim o'u gau olion.
Uched ei fawl goruwch eu hadfeilion,
Unig fendigedig Ion, — tragwyddol,
Y Duw a ethol pob gwlad weithion!


Daeth y frenhiniaeth i Naf, — oll bellach
I gywir âch pobl saint y Goruchaf.


I’r wyl daw Israeliaid
O'u llid blin, yn danllyd blaid.


I’w gwaredu heddyw Iesu a ddewisant;
Ei lais bellach hynaws, mwyach nis amheuant;


Peraidd gofio Canan eto a dymuno gweld y mynydd
Ruddwyd ganddo unwaith yno, aiddgar rodio ffyrdd Gwaredydd.


A fu eu cwymp yn fywyd,
A'u barn yn olud i'r byd?
I fyd daw adgyfodiad,
Golud mwy o’u galwad mâd.


I Seion ag uchel law dychwelant,
A'u diail ddawn cenhedloedd ddihunant,
Cenhadaeth Ion goronant, — mawr asbri
Tân eu proffwydi pur eiddi roddant.


Tanbeidiaf delyn Dafydd
Tân ei fawl o blaid hon fydd;
Swyna fyd, — un Seion fawr
Mwy ogylch yn ymagawr.


Anherfynol, O swynol y seinia
Udgom ei hewyd, a'r byd grynhoa.
Eilunaddoliaeth a lawn ddiala,
Gwaed ei hoffeiriaid â'r ergyd fferra;
Afon ei hedd ymddyfnha — i'r holl fyd,
Diderfyn hefyd y dorf a'i nofia.
Rhyddhad! Rhyddhad! fydd y gerdd eheda,
A chysurir anialwch Sahara,
A'i chyflawnder ar uchaf ael India.


766 GWAITH ISLWYN


Himaleh yn ymyl haul
Eurir â'i borau araul.
Eu pennau, yn norau nef — a welir,
A goronir ar gaerau y wiwnef,
Ymgrymant i’r moliant maith — a glywir
Ie, o'u bryndir a'u hwybrendaith.


Daear fydd fynydd i fawl — y gwir Ion,
Ogylch weithion yn Seion bêr-suawl.
Ynddo fyth ni ddifethant,
Yno’n hwy drygu ni wnant.
Eu geirw gleddyfau gurant — yn sychau,
Gorau bladuriau o'u gwaewffyn dorrant.


Ufuddfawr dangnefeddfyd — wna yn awr
A'i gallu dwyfolfawr, o'r gwylltfilfyd.
Gyda’r oen, blaidd di-wg drig, — i'w harchiad
E ddarfu’r gâd drwy y ddirfawr goedwig.


Y dyrfa fawr.


Ond O, yn nrych "y diwedd" — daw’n amlwg
I iawn olwg, ddibenion ei haeledd,
Pan droir anian oll yn daranau,
Y dua’r haul ger awdwr ei olau,
Acw a moliant gyda y cymylau
Yn ei urdduniant a'i fôr haeddiannau
Ar drôn o ser draw’n neshau, — daear
A dwys alar yn gado ei seiliau,
Rhag ei olwg i ffoi i argeliant!
Y lloer yn waed! Yr oll ar newidiant!
Llewyga anian gan ei ogoniant,
A'r mynyddoedd eu hunain am noddiant
Fel ag adenydd rhagddo a ffoant;
Bydoedd ar fydoedd i nos difodiant
Mwy i wyll anghof oll ymollyngant,
Adseiniau tragwyddoldeb atebant,
Terfyn nef, i'r tyrfau wnant — o'u cylchau
A'u gorseddau fel a gair soddant.
Y creig i'w cyrau ogylch
Heddyw gawn yn toddi gylch.
Y bryniau’n donnau o dân
Hwnt oll a dreiglant allan;
Dorau y môr, dirym ynt,
Toddir yr holl fyllt eiddynt.


Y GENHADAETH GRISTIONOGOL. 767


Dydd mawr Duw, diluw o dân,
Dinistr, dymchweliad anian,
Borau o fam, braw i fyd
Arwylfawr ddydd marwolfyd.


Duw furia am dy fawredd
A'th rym, Genhadaeth yr hedd;
Efe ’i hunan blanna faner
Dy fawl syw ar adfail y sêr.
Holl freintiau a hawliau hon — diffynna,
Ei grym arddela ger myrdd o alon.
Ar ei holl wrthodwyr hi,
Ar unwaith daw trueni,
Olwyn barn droir arnynt,
A, perffaith ddiobaith ynt.


"Llid yr Oen," ei holl daranau, — cywir
Eu gollyngir, o ddu gell angau
Y rhwygir yr euogion
I weled addas urddas hon.

Ufuddolion hon yn awr — lond gwynfyd
A dorau eilfyd, dorf anfeidrol-fawr,
Welir tua'i ddeheulaw
Fawr drefn, yn llifeirio draw.


A'u gynau gan ogoniant
Yn wynion oll, i’r nen ânt,
A phalmwydd dan drylwydd draw
O iawn dâl yn eu dwylaw.


Byddin yr Oen o'u beddau’n rhydd — fil myrdd
Fel môr heb geulennydd;
Teyras angau, forau fydd, — wagheir,
Y dorau a gauir yn dragywydd.


Foreuddydd ei fawreddau — yr Oen wêl
Rin ei waed o ffrwythau
Y Genhadaeth yn fawr gnydiau — dibaid,
"Llafur ei enaid" hyd bellaf fryniau,
Hyd olaf fro dawelwawr
Nefoedd y nefoedd yn awr.


768 GWAITH ISLWYN.


Dacw goron ei haelioni,
Hoff awr ei thal, a'i ffrwyth hi;
I’r Oen, ei thorf ar unwaith
Agorodd y fwyn gerdd faith.


Bythol lwyddo, myned ato, gorffwys yno ger hoff swynion
Ei Gymdeithas yn ei urddas, gweld ei balas, gwlad heb olion
Llygredigaeth, un frenhiniaeth fawr ddialaeth, fôr o ddeiliaid
“Yn oleum," wedi 'u golchi o'u hen gynni fyrdd yn gannaid, —


O waith! O effaith! ei ol — fydd olau
Ie, ar fannau byd anherfynol.


At ffon mad genhadwr — beth yw lleithig
Arfoledig y prif Iywiawdwr?
Dilynant, dilynant, lu
Ei fanol hynt i fyny;
Ffrwythau ei wyrthiau di-wall
A diriant ar fyd arall,
A'i ogoniant ar gynnydd
Chwyddol ac anfarwol fydd.
Mwynha ar drumiau y nef — y ffrwythau,
A choronau gorucha’r wiwnef
Fydd y rhai o fodd rydd — pagan iddo,
Ete geir yno ei brif goronydd.
Cannaid baganiaid o'i gylch
Fydd hygar nefoedd ogylch;
A! daw o Asia dywell
Bagan ar ol pagan pell,
O gelloedd Affrig allan
Yn wyn i gyd dan y gân —
Alwyd ganddo ef, eilwaith
Gymhwyswyd, hwyliwyd i'r daith.
Gwynfyd ei hun ganfod ol
Ei deithiau mor fendithiol.


Rhyfeddol gyfarfyddiad
A fydd yn y lonydd wlad
Rhwng y ddau, a'u beiau byth
O olwg y nef ddilyth.
Yno adgofio y gair
A fydd, y cyntaf hedd-air,
Y cwrddyd, y pryd — y pren
A dodd â'i gysgod addien
Hoff
ŵr Duw, y ffrydiau hedd — er ei fai
Yno welai’r tlawd yn ei waeledd.


LLINELLAU I'M HANWYLYD. 769


Ucheled y dynged hon
Hyd binacl ei dibenion
Anwylfawr draw mewn eilfyd!
Llaw aiddgar feda’r ddau fyd.


Cymer i mewn orbellderau — ein bod,
Bydoedd i'w chloriannau;
Bodolaeth hyd draethau — tragwyddolfyd,
Hwnt i farwolfyd, fywyd di-feiau.


Wedi marwol dymhorau — cymer led
Eto ein tynged tu hwnt i angau.
Ei heres linyn a esyd
Am farwol ac anfarwol fyd.

 
Dyn i gyd! dyna ei gair, —
Trwy fyd, trwy ddybryd fedd oer,
O'r gau fedd i'r drigfa aur
Y pell anfarwoldeb pur.


O fawredd rhyfedd ei rhad,
Goludoedd ei gwelediad!


Ail fyd, hoff ennyd, fu coffhau — ei gur
A’i fawr gariad borau,
Cofio’i nerth er cyfiawnhau,
A'i amynedd i minnau.


Bu ryfedd iawn i'm brofi — rhin ei waed,
Troi’n wyn o'm trueni;
Cael glan, ac haul goleuni, — dwyn i’m rhan
Ei nefol anian, fy aileni.

LLINELLAU I’M HANWYLYD.

 
YM mha le bynnag byddaf fi,
Y mae fy nghalon gennyt ti;
Ac nid oedd neb allasai ddwyn
Fy nghalon i ond Martha fwyn.
Fy meddwl fel colomen sydd
Yn hedfan atat nos a dydd,
Mae ynnot rymus serchus swyn
I’m denu atat, Martha fwyn.
 


770 GWAITH ISLWYN.


Pan fyddo’n mhell, y mae dy fardd,
Yn meddwl am Ystryd yr Ardd;
Ac nid oes man mor llawn o swyn
A'r man lle trig fy Martha fwyn.
Dy lygaid mawrion gloewon glân
Enynnant yn fy nghalon dân;
A thwym yw mynwes Isyllwyn
Wrth edrych ar ei Fartha fwyn.


A hoffus waith fy Awen i
Fydd canu am dy degwch di;
Cyd-ddiolch i Ragluniaeth wnawn,
Hi’n cadwodd ni yn dyner iawn
Is ei hailenydd nes ein dwyn
I garu’n gilydd, Martha fwyn.

Mi gofiaf am yr hoffbrydnawn,
A thithau gofi’n dyner iawn;
Pan y teimlasom rymus swyn
Serch yn ein huno, Martha fwyn;
Ar lan y môr yr eisteddasom
Ac yno gyntaf cydgarasom,
Fe wnaed o ddau un enaid yno,
Dwy galon gun yn un fan honno.

Bydd raid i mi ymadaw fory,
Ond nis gall pellder ein gwahanu;
Gadawaf ar fy ol fy nghalon
Yng ngofal cu fy Martha dirion.
Mi fyddaf ffyddlawn i'm hanwylyd,
A ffyddlawn fyddi dithau hefyd,
O! hapus ddydd pan ddof i'th gyrchu,
A'th wneyd am byth yn eiddo i mi.

ENGLYNION I'R GERBYDRES.


PEIRIANT o ddofnwech ddarpariaeth — chwimed
A dychymyg odiaeth;
Rhed ar ei myg rod er maeth,
Yn chwai amser y chwimsaeth.


ER COF. 771


Ei rhodau cyfrgrwn gydredant, — oll yn
Un llinell olwynant;
Gwreichion i'r goruchion ânt
O fol y berwol beiriant.


Nwyddau oddiyma’n haeddol — gluda
I’
r gwledydd estronol,
Gan ddwyn ar gadwyn gydiol
I ninnau nwyddau yn ol.

Treiddia’r mynyddoedd drwyddynt — i gludo
Nwyddau gwledydd tanynt,
I res hon ar ei his nynt
Myg rheidiol amgaer ydynt.

Drwy allu dirfawr dryllir — y bryniau,
Mal brwyn hwy wahenir;
Ac yn hawdd Idris cyn hir
I’r ager a egorir.

Yn gynt na’r adar heda, yr eryr
Arwrol ragflaena,
Heibio’r gwynt yn ei hynt a,
Buan gorwynt ban gura.

Prawf o fedr, ie, prif fodrwy — i fys
Dyfeisedd mawladwy;
Onid ydyw’n nodadwy
I roi un drem arni drwy?

Pery y cadwymp beiriant — o erasbri’n
Eresbrawf, er moliant;
Y to a ddêl a'i gwelant
O'n hol, a rhyfeddu wnant.

Er glaned ei heurog olwynion — chwim,
Er mor chwai e'u troion,
Ac er ei holl ragorion,
Onid tarth yw enaid hon?


772 GWAITH ISLWYN.

ER COF. *

 

Blodeuyn hardd-deg ydoedd, rhy deg i ddaear lawr
Fwynhau y fath brydferthwch, ond am ryw funud awr;
Rhy oer oedd gardd auafol y ddaear farwol hon
I flodyn mor nefolaidd hir wrido ar ei bron.


Er cryfed serch rhieni, a pherthynasau lu,
Er taered oedd eu gweddi am gael ei chadw hi,
Gweddiau dagrau cariad oent aneffeithiol mwy,
Esgynnodd fel angyles o rhwng: eu breichiau hwy.


Mae’n ddigon i angylion roi tro i'r ddaear ddu,
Mae adgof fach am danynt yn fwy na’n haeddiant ni;
Ac eto mae’r ddynoliaeth ar ol eu caffael hwy,
Yn disgwyl iddynt aros, a pheidio dychwel mwy.

 
Rieni tyner, athrist,
Paham yr wylwch? Pam?
Hi gafodd fwy nag amser,
Do, mwy na thad a mam.
Hi gafodd dragwyddoldeb
Digwmwl o fwynhad,
Y nef yn gartref iddi,
A Duw ei hun yn dad.


Na syllwch ar y beddrod,
Ond ar y ser rhai sy
Fel aur ganwyllbren tanbaid
O flaen ei gwynfa fry;
O, acw mae ei chartref!
Mewn bywyd, nid mewn bedd —
Y bywyd sydd yn llifo
O orsedd Duw a'i hedd.


Mae goleu yn y cwmwl,
Er hylled yw ei wedd;
Mae goleu yn y nifwl
Sy’n hongian dros y bedd;
Os mynnwch syllu arno,
O, syllwch gyda ffydd
Sy’n gwneyd y bedd yn oleu,
A chysgod angau’n ddydd.


* Am Miss E. Williams, merch Daniel ac Elizabeth Williams, Pontypridd.


CYMRU. 773

CYMRU.

 
O GYMRU deg! mawrhad hon
Yw 'th iawn waith, Awen, weithion.
Datgan ei bri hi, a'i hawl
I res y gwych a'r oesawl.
Dyro drylen ddadleniad
O'i myrdd o ragorion mad.
Darlunier drwy oleuni
Anian, ei holl geinion hi.
Gwrided rhod ei hynodion,
Gwawr ei bri, yn glaer ger bron.


Pa Filton all farddoni
Yn addas ei hurddas hi?


Ei hamrywiaeth, môr i awen — nofio
Yn ei nwyf a'i helfen;
Gwyrdd yw ei gwisg, hardd ei gwên
A goludog, ail Eden.


Hynodol wlad fy nhadau,
Difyr im yw dy fawrhau.


Myrdd o geinion, mawredd o ogoniant,
Golygfeydd cariadlawn yn llawn lloniant,
Gwiw weunydd yn anadlu digoniant,
Helaeth barthau dan lwythi o borthiant,
A thirion ydau, a'th or-hynodant
Llwyni heirdd anian yn llawn urdduniant
A ffrydiau â'u rhiniau a'th ariannant.
Coedwigoedd filoedd yn fyw gan foliant,
Yn wyrdd-drwsiedig i'w brig neb rwygiant,
Ar ael mynyddoedd oerlym eu noddiant,
Oddiarnom ar chwyf, a'th addurnant.
Awelon oerion ar lawen yriant
Uwch dy ddolydd beunydd a chwibanant,
A gwledd o wiwgain aroglau ddygant;
Rhwng dy ardaloedd a nefoedd nofiant,
Poethwres yr huan eirian a oerant,
A min ei belydr gorlymion bylant,
A'th aur lennyrch a'th awyr a lonnant.


Yn eu bronnau, yn fawr heidiau nawf yr adar, 
I’w difyrru â'u tôn seingu, tannau swyngar.


774 GWAITH ISLWYN.


Anian a'r Celfau eu rhiniau rannant,
Ar dy wyneb eu rhadau a wenant,
Eu rhagorolion tirion bentyrrant
Trwy 'th froydd, dy ddolydd â'u daoedd huliant
Rhoddant it elw, a hardd enw urdduniant,
Ar dy aur-lennyrch a'th bryd arluniant
Ragorion Eden, aur ei gwawr codant
Anfarwol yw dy foliant, — pur foesau
A theg wiw riniau a'th goronant.

I weled ogoned yw dy geinion
Diri, a hygared dy ragorion,
Dy ddeilwydd lluniaidd, dy ddolydd llawnion,
Dy arian afonydd hyd eirian finion,
Ar ewynfrig dig y don — milforiant,
A llawenant rhwng dy ddillynion.


Pa awenydd sydd neu sant
A gân dy holl ogoniant?
Drud ddiliau drwy dy ddolydd
I frashau’n llifeirio sydd.


Afonydd.


Hwnt o'r gorfannau try garw afonydd,
Neiddant acw, rhwygant lechweddau’r creigydd,
I’w troi o'u gyrfa pa rwystr a'u gorfydd?
Mynnant wlithog oludog waelodydd
Heiniau ardelaid ar fronnau’r dolydd,
Dyna eu mannau dan aden mynydd.


Wele deg emau’n goludog gymydd,
Sia eu miwsig ar fynwes meusydd.
Pob seren ysblenydd — ddrych ariannaid
Welaf yn delaid ar lif ein dolydd.


Yn hir, dan len o arian
Ymdreiglant, mwydant bob man.
Weithiau hwy’n dawel welir
Ar eu taith ar fronnau’r tir,
Heb don yn byw o danynt;
Na 'u gwedd yn annog y gwynt;
A than y chwa weithiau’n chwyrn
Eu myr godant mor gedyrn, —
Gyrru pob peth o'u goror
I fynd yn ebyrth i fôr;
Troi eu hanian ariannaid
Ar y ddôl i lygrol laid;


CYMRU. 775


Mewn braw curo dwylaw, dan
Droi‘u holl fyddin gadr allan;
A garw hyll wedd gyrru'u lli
Gorchwyddog, gan grochwaeddi,
Nes ynt y bryniau â'u son — trwy fraw du
Bron ysgaru i'r wybr yn ysgyrion.


Ond derfydd, derfydd eu dig
A'u hamryddull mawreddig
Yn y môr, y môr mawrwyllt,
Diwedd eu taith a'u gwaith gwyllt.


Afon Taf.


Acw ar gyrrau’r creig garwaf
Eofned dull afonTaf!
Creigydd cedyrn, bob cwr eu gwedd codant
Fry i fro asur, lu afrif rhesant,
Yr awelau a'u saethdyrau dorrant,
Goruwch eu gilydd terydd anturiant,
I weld ei berw wrth hyll fwrw’i llifeiriant.
Ar ei llaethwynion drochion edrychant
Yn fyfyriol, yn fanol clustfeiniant
Heinyf adlefau nef i’w dylifiant.
A'r holl chwaon anhirion a heriant,
“Byddwch fud mewn munud," gorchymynnant,
A'u dannedd fel eirf dynnant — i'w horni
O'u llys, a'u torri rhag pob llesteiriant.


Gyr ymlaen, a grym o li — mwy haerllug
Yn ymarllwys iddi
A chwydd o'r arlechweddi, — yna ffwrdd
A'i gwynddwr agwrdd gan gynddeiriogi.

 

Pontypridd


Yn gant i'r afon gu — Pontypridd ddyrch
I’r uch entytch gan ei rhychwantu.


Yng nghofl awel fel enfys fawr — drosti
Rhed ar estyn gorfawr;
Dacw arwyddfwd cyrhaeddfawr, — tyst banwedd
Yn wybr brydwedd o asbri brodawr.


Rhondda,


Rhondda’n gadr raiadrau — i'uthra mewn serch
Dirfawr, i'w hannerch o'i chlysdwr fryniau;
A'i llwyth arfolla hithau, hoffa ffraeth
Sain ei gwarogaeth ar laswyn greigiau,


776 GWAITH ISLWYN.


Amddrychfa fryniog grogawl,
Yn gwrando 'u gwrdd dwrdd didawl.


Gyr rhagddi yn lli mwy llawn
Gan herio’r creig anhiriawn,
A llyncu i'w bru mewn brad
A boddi bloedd trybaeddiad
Y nentydd yn eu hantur
Dros greiglechwedd, dannedd dur;
A digiaw hyd ei heigion,
Gwneyd rhychau brau ar ei bron
Mewn bâr at bob mângarreg
Nes dod i'r gwastatir teg.
Yna’i mawr lif, O! mor lwys
Ar arffed y fro orffwys.


A! der lannerch i'w d
ŵr gwydrol huno,
Dan wên y wawr loewfawr i lyfn lifo,
A thua’r aber ymlithraw heibio,
A'i thrwm lyfndeg offrwm heb braidd gyffro,
Dull araflonydd wedi llwyr flino,
Mewn hunymwadiad tra mwyn yn mudo
Ar frest ffrwythlonfawr y fro — mor raddawl,
Heb greig rhestrawl, heb garreg i rwystro.


Ysgydwa glannau cysgodawg gleinion
Lliwiau hygarddull eu mentyll gwyrddion
Ar ael ei disgleirdeg ddifreg ddwyfron,
I ordegeiddiaw gwrid ei hagweddion.


Tywi.


O wyllt frig Ceredigion
Darweinia Tywi’i lli llon.
Try allan o'i llys banog
Ag uchelfalch freinfalch frog,
Mal un a fai’n ymlonni
Foreu dain, ar fwriad i
Ymdeithio trwy ryw fro fras,
A gweled dolydd gwiwlas,
Gerddi a pherllenni llon,
Glynnoedd a threfydd gleinion,
Rhes swynol o rosynau
Am y wig yn hardd ymwau,
Aneddau o dan huddiad,
Hardd flodau fel mydau• mad,


• Arches.


CYMRU. 777


Gwynfa arweledfa lon
A'i llonnaid o ddillynion.


Yn esgud trefna’i gosgordd
Ar adwyau ffiniau’r ffordd,
I weini i'w bri gerbron
A pharchu ei hoff eirchion.
Daw Brân â’i da i'w bronnau,
A'i holl nwyf i'w llawenhau.
Dulas gan chwerthin dala
Ei gnawd dreth heb gwyno tra
Heddwch Cynen gyhoedda
I fron hon pan ymfwrw wna.
A Chothi, rhedli llawn rhin,
Ymfwria o Gwm Ferwin
A gwir awydd goreon
I gefnogi ei lli llon. —
Gan y rhai hyn, hi fyn fawl
A nwyfiant i'w llys nofiawl.

 
Ar ei glan ceir aml lannerch
A dail syw’n anadlu serch;
Agored wyll hygarwawr
Yn anwyl fel y wyl wawr
Yn yfed neithdar nefawl
O'r gwynt, a phiolau’r gwawl;
A rhengau bryniau fry rhwng wybrennydd,
I’w brig yn wisgedig â glas goedydd,
A'u llwyni banog fel llenni beunydd
Dros hagrwch y safnrythog grog greigydd.
Yma a draw’n emau drud
Gwelir godidawg olud
O gnydau, mannau mwynwych,
I rwymo’r drem ar y drych.

 

Gwy.


Gwy loew firain a deg lifeiria,
A'i mawr oludoedd bob cam arleda,
Brashau â'i heffaith heb bris a hoffa,
Ar lwybr unionsyll ni hyll chwyrnella
Drwy ofer rydafl, ond araf reda
Dros froydd dain, a chain amgylchyna,
Ie, yn llonydd a musgrell huna i
Ar fron y tirwedd, mewn hedd ymnydda,
Rad eres! nes mwynha —’r glannau hygyrch
A'r syw lennyrch ei nodd braslona.


778 GWAITH ISLWYN.


Ond yn donnog ar brydion dihuna,
A thrwy hyf ystum ei nerth orfostia,
Dros gerrig rhydraws gyrra — ar falchwedd,
A thrwy eu dannedd ei llif uthr dynna.


O gariad rhad at Gymru hi reda
Heibio’r gwigoedd lle mewn bri y gwga,
Rhwng coedydd llonydd, ein cestyll hena,
Ar eu boll gamedd mewn trymwedd tremia,
Yn hael ei thon wyla — uwch adfeilion
A hardd-deg olion dy ryddid, Gwalia.

 

Conwy.


Cain yw dy wyneb, Conwy! dy wenau
Gyrhaeddi o'r ser; tyner yw tannau
Adar a'u mawl ar dy aur-ymylau,

Lle chwery awelon lon delynau;
Pur adlais eu per odlau — ddybla’r gerdd,
Difyr gyngerdd rhwng blodeufawr gangau.


Y nef deg a'i gloewdeg oleuadau
Ddifyr fireiniant dy chwyddfawr fronnau,
Gloew-wawr burlen o ddisglaer berlau.
O'r nefol lysoedd bydoedd a'u bodau
Chwarddant pan welant ar dy fron olau
Eu dain agwedd, a chwardd dy wanegau —
Yn eu mawr ofal am gynnal gwenau
A cheinion llon y lluniau — ni rychant,
Sorri nid allant, seirian eu dulliau;
Syllu a rhyfeddu’n fawr
Ar holl luniau’r ser llonwawr.


Ni hardda Conwy â’i dyfroedd ceinwawr
Un ardal anferth; ar red olwynfawr
Tyn ei chyfrolau rhwng mannau mwynwawr
Ar ysblenydd waelodydd teleidwawr,
Bro ffrwythlon, gwiwlon ei gwawr, — mwy'i chynnyrch
Nac amryw lennyrch ein Cymru lonwawr.


Amaerwyir, goleuir ei glannau,
O! mor ddarswynol â myrdd rosynau.
Anian deg ddyd fil o hydeg flodau
Ffres gan ieuenctid, a gwrid gwawr ydau,
Yn frith-gylch pefr, i’w theghau, — yna lawr
A hyd daith laswawr gan fostio’i thlysau.


CYMRU. 779


Olrheinier mwy Dyfrdwy deg
A'i heiriandaith fireindeg.
Hi efryda i fro wiwdeg — aml geinion
Gwull, a hynodion Llangollen hydeg.


A moddau ariannaidd ymddirwyna,
Am y ddôl lon fel sarff ymddolenna,
A'i d
ŵr gloewdeg fel gwydr a gluda,
I frashau goror y fro segura,
Ireiddiol rinwedd rodda, — ysblenydd
Ar hyd ei glennydd yw’r ydau glana.


Pelydr ar belydr draw ar wib olau
Dywallta’r haul ar yr araul ororau,
Drwy ogoniant ei belydrawg wenau
Mil mwy godidog y berthog barthau.
Ar daith y Ddyfrdwy hithau — wna loew ddrych
I’r fro, o lewyrch ei lathr fir liwiau.


Ei gwydr-gynfas yw urddas y werdd-ddol,
Nod ter ei gweddus ymfirost tragwyddol;
Yn ei chylchau, troadau tra hudol,
Dysbleir, egorir drych mwy hygarol.
Dros fronnau mannau dymunol — ffwrdd a,
Ymrwyfa, nydda, O! mor foneddol.
Y nefoedd wisg wên hyfwyn
O'i serch, yn goron i’r swyn.


Diliau y gwlith, anadl y gwlaw — ar fron
Y fro fras sy’n nofiaw;
Telynorion llon gerllaw
Offer hedd i'w phereiddiaw, —
Mawl o gangau! mêl-gyngherdd
Yn addolfa’r wigfa werdd.


Chwardd awelon ar rawd hylon
Drwy fro’r diliau;
Chwyth trwy’r asur uwchben, eglur
Chwibanoglau; —
Hwy ddihunant y diog wyddenau,
A llon ysgydwant eu llawn wisgiadau,
Ie, â rhyglud o'u peraroglau
Llwythant eu hanal, gan ddal gwin ddiliau.


780 GWAITH ISLWYN.


Yna’n bêr iawn y borau — anadlant,
O fry rhannant dros y fro eu rhiniau.
Iddynt yn dra boneddig
Awgryma, arwena’r wig.


Hafren.


Eirian fodd, gyr Hafren fawr
Efo’r elfen gyfrolfawr.
Trysorau têr llawer lli
Roddant eu hystor iddi.
Mawr ofal am yr afon
Sy’n gwau trwy’r bryniau i'w bron; —
Ar ei hystumiau o'u trumiau tremiant,
Ei heofn agwedd a'i bâr gefnogant,
O'r ne ei rhyfedd droion a rifant
Gan gu gynnal ei g
yn a'i gogoniant;
Gyda’r tarth draw gwrandawant — waedd benrhydd
A garw leferydd ei gorlifeiriant.
A rhônt adgyfnerthau rhydd
O’r bannau i lawr beunydd,
D
ŵr o nen i gadarnhau
Tonnau ei gorwylltineb.


Ar eondaith i'r broydd ariandeg
Gyr nentydd yn benrhydd a'u gwlyb anrheg
I’w rhoi’n doll i'r Hafren deg, — cydnabod
Ei hawdurdod a'i mawrhydi eurdeg.


Gan ffynnu mewn gallu, gyr
I’
w thynged a nerth engyr,
Gan gylchu, termu pob tud
I gael y dyfrog olud
I fynwes ei lli di-dor,
Yna’n falch ymchwydda’n fôr.
Y difalch enwad “afon "
O'i heofn nwyf ni fyn hon.


Ar fin ein pur afonydd — difyr gweld
Yn y deifr gwyrdd beunydd
Amrywiaeth mawr eu hawydd — o bysgod,
I gyd i'r gwaelod yn gwau drwy 'u gilydd.
Yn eu helfen anwylfad
A'u cynneddf yn neddf mwynhad.


Y Llynnoedd,


Ar y drych darlathra draw
Aurlynnoedd yp arluniaw


CYMRU. 781

Yr ymylon a'r moelydd
Gylchogylch, a'r sergylch sydd
Yn disgleirio o froydd
Aniflannol ddwyfol ddydd.
Ar loew ddwr oer wele ddrych
O ser y neflys eurwych.


Ar eu glan, eurog lynnau, — yr afiach,
Er rhif ei arteithiau,
A dwysder ei flinderau.
O'i holl loes ga ei wellhau.

Y Rhaiadrau.

Syrth yr hydrwyllt serth raiadrau — a’u sain
Yn synnu wybrennau;
Mwy uchel na thwrf magnelau — trymion
Ar ruthr eon, yw eu haruthr ruau.


Y crogedig greig ydynt — rym dirwystr
Ar ymdorri danynt;
Hydr drwst y rheidr drostynt
Draw, gwel — a arswyda’r gwynt.

Amodau gwyllt-addurnedig, — eu trwst
Eu trem, mor fawreddig!
Eigion o ddwr, gwyn gan ddig, — ymwylltiant,
Yn fawrwych hyrddiant ail cadfeirch erddig.

Y Mynyddoedd.

Draw mewn addurn dwyrea mynyddau
I fro neillduedd yn falch eu gweddau,
Yn uthredd bonedd ymsedda'u bannau
Acw ymhelydr haul, rhwng cymylau,
Mewn garw urdduniant crogant eu creigiau
Yn llwybron ar eu moelion ymylau.

Cadr ydynt er cydruadau — chwaon,
Eu garw ymryson, a'u grym er oesau.

Wedi digio wrth froydd — ein daear,
A’n diog afonydd,
Am roi 'u gwasanaeth mor rydd
A di-boen i'r byd beunnydd,
I’r nef-ororau ar nwyf eryrog
Tua’r haul cu â gallu asgellog,
Wele arddyrchant, O! lu ardderchog
Yn yr awyr dan goron eiryog.


782 GWAITH ISLWYN.


Eneinir eu clogwyni enwog — ban
A gloew seirian fôr glas awyrog.


I fro’r tragywydd ddydd ant,
Ar rawd y dymhestl troediant.

 
Cyfeiriant heb lysiant i balasoedd
Natur a'i phell oruchystafelloedd.
Ar gadeiriau nennau mal brenhinoedd
Mwynhant amddrychfa o olygfaoedd —
Cymylau nosol acw mal ynysoedd
Fry, fry yn nofiaw ar fôr y nefoedd.
O! ddirifedi fydoedd ar fydoedd,
Mil myrdd i'r goleu mal môr o ddirgeloedd,
Eu beilch glogwyni’n rhesi er oesoedd
Gofleidiant nen a'i llawen alluoedd.


Tragwyddoldeb ardebant, — o’u bannau
Anibyniaeth floeddiant.
Haeddol Hedd a orseddant — ar feinciau
Eu hoer neuaddau, a'r Awen noddant.


Ar eu hael, yr awelon — a’r awyr
Chwareuant mor hylon.
Wrth yr wybr am wyrthiau’r Ion — ymgomiant,
A'i fri a ganant heb ofer gwynion.


Lle mae dorau llym daran — yn agor
Gwgus arfdy anian,
Gan ollwng mewn g
ŵyn allan
Fellt a thwrf, llid du, a thân,
Dyna 'u tref yn nef, dan nod
Y darlachar haul uchod.

 


Yn nulliau y nef llawenant
Ar binagl awyr ban glywant
Y deryll sonfawr daran
Uwch ein byd, yn cychwyn ban
I’w gyrfa lidiog erfawr,
Ewybr wedd, a'r lwybr y wawr.
Melltenna trem wyllt anian,
Eofn dwrf, a'r nef yn dân!
Addwyn i'w beilch glogwyni
Ganu oll o'i geni hi.


CYMRU. 783


Galwant acw ar eu gilydd — yn filoedd
I foli 'u Creawdydd.
A’r daran, gawr anian, rydd — i'w creigiau
Uchelaf eiriau â chroch leferydd.


Rhedant weithiau’n ddidor resau
Neu gadwynau yn gydunol,
Gan ddwyn clegrau, crogawl greigiau,
A gallt-ddarnau gwylit-addurnol.


Ac weithiau’n fyrbwyll gwthiant
Mewn bri eu clogwyni gant
Oddar fronnydd broydd bras
Lle tarddant mewn gwyllt urddas.


Clodydd eu Creydd mewn geiriau croewon
Draw a gyhoeddant drwy eu hagweddion.
Daneddog greigiau yn gorau geirwon
Aml eu rhif yn moli’r Ion — yn eu hiaith,
Rhydd eu dirgeliaeth ryddhad i'r galon.


Mor ddifeth y pregethant
Rym a mawredd sedd y sant!
O'u hareithle nwyfreol — i wir dyb
Ardebant law ddwyfol;
Mae pob maen mewn haen yn ol
O fedredd bod anfeidrol.


A chri dwys o'u hochrau dur
Try neint ar eon antur.
Cerigog fron y creigiau — egorant
A'u gerwin ddyrnodiau;
Eu chwys dros echrys ochrau — chwyrndaflant,
Ewynant, gwylltiant rhwng eu gwag holltau.


Plumlimon.


Ei ben Plumlimon beunydd — a gadarn
Goda i fro’r wawrddydd,
Eithr ei draed aruthred rydd
Ar ein goror yn gerydd.

 

Hafren a Gwy, o'i fron gerth — y tynnant
Eu tonnog ddeifr anferth:
Eu Gwy âg ofnadwy nerth
Red tros ei ochrau tryserth.


784 GWAITH ISLWYN.


Yn ei friedd nwyfreol — enhudda
Fynyddoedd israddol;
A’i edyn, dyffryn a dôl,
Nodda yn dra bonheddol.
Dring ef y rhiwiau nefawl
Mewn parch i gyfarch y gwawl.

 
Yn mhob dryghin, saif, fel iesin
Ior, a brenin ar y bryniau.
Fry mor loewbur trwsiai’r asur
Ei ben eglur a'i binaglau!


Bannau Brycheiniog.


Uwch in Bannau Brycheiniog
Ar fron y nef gref yn grog.


Cader Ferwyn.


Cyfeiria Cader Ferwyn — i froydd
Nwyfreol mewn gorfyn:
Maith yrfa! am ei therfyn
Gwelwch y gwawl yn gylch gwyn.


Penmaenmawr.


Penmaenmawr, O! mor gawraidd — â'i ysgwydd
Amrosgo, yr erfaidd
Y mor hyll, mewn mawr aidd - i gadw rhag ton,
A'i throchion mawrion, bob teithiwr miraidd.
Amddiffyn cyflawn cawn rhag cur
Dan ei gesail, dyna gysur.


Cader Idris.


Draw edrych Cader Idris
O'i nen ar ein wybren is.
Gwel yr huan yn torri allan
O'i fro seirian, foreu siriol;
Dyrch ei bannau at daleithiau
Per agweddau’r haul tragwyddol.


Y Berwyn.


Yr un fodd Aran Fowddy
At y ser yn pwyntio sy.
A dir fryn Cader Fronwen
Uwch y byd ddyrcha ei ben.


CYMRU. 785

Eryri.

Dacw glogwyni beilch Eryri
Yn coroni cyrau anian;
Ar eu hochrau, gwylltion greigiau
Yn hagr rengau yn gorhongian.


Saetha 'u bannau trwy gymylau
Megys tyrau, ymgais taerwych;
Eu hagweddau ar binaglau
Asur-gaerau sy ragorwych.


A'r Wyddfa ymgoda, gan
Dorri’r wybrenfwd arian.
Mewn rhwysg myunai oresgyn
Pob nifwl neu gwmwl gwyn,
Nawf lan yn nofiawl ynys
Ar fron y nefoedd drwy frys.
Ar wybr, cyfeilles yr haul
Agora'i olwg araul
Arni bob boreu’n ernes
O rym ei oleu a'i wres.
O’i chadair ordderchedig
Loew draw, lle yr oesol drig,
O dan aniflannol des,
Fry yn nen, falch frenhines,
Tra mynych mae’n tremiannu
I lawr ar fynyddau lu
Y rhai sydd ar orseddau
Ar is yn ei gorfawrhau,
Gan gydnabod ei bod ban
Ar fryniau erfawr anian
Yn Fanon o iawn fonedd
Uchel ei drych, gwych ei gwedd.
Cymylau, rhithiau ar hynt,
Yn nofio ar gefn hyfwynt,
Oddiarnom a'i haddurnant,
I nef ei chroesawu wnant.
A nawf y pelydr nefawl
O'u palas, gwymp lys y gwawl,
Ar frys drwy fôr o asur
Heibio’r pell wawr-lwybrau pur,
Wiw lu nen, i lon annerch
Ei heon ddull a'i thrôn dderch,
Ac ar ei chopa chwarau 


786 GWAITH ISLWYN


Mawl nef, ac ymlawenbau,
Gan ymffurfio’n goron gu
Ariannaid, i'w mireinu.


Y Cyfaneddau.


Yna pentrefydd ym mhob pwynt rifir,
A gwawr eu hadeildai’n teghau’r doldir.
Ar foreu iawndeg oddiar fryndir
Ar wyrdd y gwaelod mor hardd eu gwelir!
Yn foddus fe ‘u canfyddir — rhwng cangau,
A'u holl aneddau dan wullion huddir.


O wlad aneisior! aml ei dinasoedd,
A'i maelyddion yn fawrion niferoedd
Mir eu gwelediad, mawr eu goludoedd,
Mawrwych eu nodeb yn y marchnadoedd.

 
Ardderchog aerwyr, rhyfelwyr filoedd,
Lluon hoew esgud yn eu llawn wisgoedd,
Yn rhesi troediant ein hir ystrydoedd
Yn fawreddog drwy fywiog dyrfaoedd.


Dacw odidog luosog balasau
Yn loew ddamodawl eu haddurniadau,
Llathra marmor fel môr ar eu muriau,
A'u mawrwedd burlwys fel myrdd o berlau.

 
Bro yn llifeirio o fêl — a goIud
Yw ein Gwalia dawel:
Ar bob rbosyn gwenyn gwel
Ar eurgyrch o'u pêr argel.

Flora dêg a'i hanrhegion — adwaenir,
Ei golud dyrir ar ein gwlad dirion:
Brithwau trwy’n glynnau glehiion
Ei lliwiau heirdd wna llaw hon,

Mir ethol o'i hamrywiaethu — ei theg
Gyfoethocaf hwiau
Hwnt o gist nef, er teghau — ein tirlawr
A'i wneyd yn barlawr llawn Eden-berlau.


A! ddiwael waith, y ddôl wen
Ddillada ar ddull Eden.
Glaswellt welir mewn glwyswawr
Wrth chwyfio yn lliwio’r llawr.


CYMRU. 787


A "llygaid y dydd" lliwgu
Yn fflwch eu tegwch bob tu.


Blodau yn wynebledawl — deg wridant,
Hwnt lledaenant eu holl liwiau denawl;
O! ddarnau addurnawl! — y prif berlau
Ynt ar goronau natur gywreiniawL


Ail i ser o wawl siriol — disgleiniant,
Draw hoffed harddant arffed y werdd-ddol!
Glan yw eu dull, gleiniau dôl, — coronant
Amryw urdduniant Cymru orddenol.


Yn y llynnoedd eu lluniau — a chwarddant
Ar iach wyrddion donnau;
Llawen gweld eu lliw yn gwau
Yn agwedd y gwanegau.

 
Yr awelon, tra yr hwyliant — ar fryn
Trwy fro nef, arafant,
Weis y tywydd, distawant
I gael pêr arogl y pant;


O glogwyn, teg golygu — hael doraeth
Heirdd ddoldiro
edd Cymru,
Gwynion feusydd yn gwenu,
Bwyd teg yn addfed bob tu.
A'u gweddau’n llawn gwahoddiad
I’r medelwyr, mudwyr mad.


Pomona fwynha yn hon — gawellaid
O deg wull ac aeron,
Afalau eurwawr mawrion
Yn nglwys law’r angyles lon.


Wele erddi, perllenni pur llawnion.
Yn wyrdd eu dyfrig yn harddu’i dwyfron,
Mor gain i archwaeth eu mir gynyrchion!
Arab welediad, O! wawr ei blodion.


Mae ereill lennyrch mor heirdd, mor llawnion
O harddfrig lwyni a gerddi gwyrddion?
Y cnydau ar hwyliau gyda’r awelon
Yn cwhwfannu acw, haf hinon.


788 GWAITH ISLWYN.


Dyferion glwysion y gwlith — rhif y ser
Yn eu holl fwynder, yn lli o fendith
Ar y gweunydd a'r gwenith,
A mêl-fronnau’r blodau blith.


Dyferion gloewon y gwlaw
Nawseiddiol ynt yn suddaw
Yn nghwmni’r gwlith bendithiol
I ryddhau daiar y ddôl,
Nes y byddo’r fro yn frith
Gan derwyn egin dirith.


Yna bywiol wyneb haul a'i wenau
Dront fry o'u hygain ddwyrain wawr-ddorau,
O dan eu hehedol dywyniadau
Ar eu cain adeg addfeda’r cnydau.
A'u gwawr wybrennol ymwisga’r bryniau
Uwchlaw dolydd iachaol eu diliau.


Mor oludog mewn amrywiol hadau,
Mor dra addurnawl dan gnodawl gnydau,
Yw’r dyffrynnoedd hyfryd hoff eu rhiniau
Ar rwyddai lediad dan fyrdd o flodau.
Y glwys, dihalog lysiau — ar y ddôl
Onid danteithiol iawn ydynt hwythau?


Dan orchudd o gnwd anerchol, — llenni
Llon o ffrwyth toreithiol,
A mir ddull y mae’r ddôl— dan wawr ruddain
Yn hardd, yn firain mewn gwyrdd anfarwol.


Yn mhob parth mae y perthi — yn camu,
Cymaint yw rhifedi
Cnydau rhad y cnau di-ri — glysdyrant,
Draw a ymlynant ar eu haml lwyni.

 

Dyffryn Clwyd.


Ar ogoniant Cymru geinwawr — y clo
Yw Dyffryn Clwyd dirfawr —
Goreudeg wedd, gwridog wawr,— drych o bau
Eden a'i rhiniau ar daen eirianwawr.
Wele nawf awelon nen
Yn ebrwydd ar fron wybren,
Rhai’n dwyn ar win-adenydd
Beraroglau blodau blydd,
Gan bereiddio y fro fras,


CYMRU. 789


Buddlon gaeau ireiddlas,
A llenwi’r Dyffryn llonwawr
A'u hadfywiol siriol sawr,
Tyneru tonnau euraid,
Yr adar, bereiddgar haid.


Ar fan mwy gwiwlan y pelydr golau
Ni ddawnsiasant yn lloniant eu lluniau.
A'u rhiniau odiaeth eiriana ydau
Hoff fron gweunydd, Dyffryn y gwenau,
Gwiw, hynodol ei gnydau — a'i ffrwythydd,
A'i holl ddolydd yn lli o ddiliau.


Ei hoff Glwyd a wastraffa’i goludoedd
Yn afradlonawl dros hyfryd lannoedd
O fawr gariad at y fro a'i gyrroedd,
I ber-frashau diliau ei hardaloedd.
O ddwyfron ei berthog ddyfroedd — sudd da
I’w hâr arllwysa drwy yr holl oesoedd.


Ai’n fwys i engyl glwyswyn — y lluniodd
Llaw anian y Dyffryn?
Lleda’i holl liwiau dillyn
Ar eangfawr glawr y glyn.


Ceir hyfryd a chyd longyfarchiadau
Gwenyn a chaniadgar adar, heidiau,
Y rhai agorant ger y wawr-gaerau
Eu boreu donig ar bêr, bêr dannau.
Anadla swyn hynodawl o'u seiniau
A'r awel dan eu haraul adeiniau.


Gwelir draw ar glawr y drych
Yn ddernyn pert addurn wych
Iach adail gwyngalchedig,
Yn swn cyngherdd y werdd wig.


Hyfryd yw taro difyr dant — yn llon
Dan y llwyni ariant,
I fardd y prif urddiant — yw canu tôn
O dyner galon dan eu hargeliant.
A gwrando ar gywreindant
Adar pêr rhwng blodau’r pant.


Ar hyd ein moelydd rheda ein milod
Aml eu hwynebau, mil, mil i'w nabod,
Amrywion anian, rhai mawrion hynod


790 GWAITH ISLWYN


A nodau brasder heb un dibrisdod,
Rhai tewion, rhi y tywod, — o'r mynydd
Hwnt trwy eu gilyJd pranciant i'r gwaelod.

 
Meirch gwrdd ydynt â mawrwych gerddediad
Yma yn tramwy, eon eu tremiad,
Oll yn arddel drwy uchel edrychiad
Eu hen fawrhydi am heinyf rediad:
Gorlawn o frysiog lidiog welediad
Ydyw holl agwedd danllyd eu llygad.


Tewha cain ychain uchel — ar fywiol
Borfaoedd yn dawel,
A buchod gânt heb ochel
Einioes fad trwy’r Ynys Fêl.

 
Mor delaid ei defaid hi!
Gwel gannoedd ar glogwyni.
Ar ei gwawl-goronog, bannog bennau
Anedda y dillyn ddiadellau.
Yn y nos ceir hwy’n mwynhau — heb dristwch
Eu rhan mewn heddwch ar ein mynyddau.


Y mwnau.


Ei gwyneb, od yw’n gwenu
A nodau can cnydau cu,
Os yw toraeth meus tirion
Yn fawr olud i dud hon,
Golud trech sydd yn llechu
Yn eigion ei bron a'i bru.


Obry ei chalon a'i bru a chwelir,
Ei mynyddau a'i chreigiau chwai rwygir,
Goludoedd yn foroedd o'i bron fwrir,
Draw o’i gwaelodion cyflawnder gludir.
Toreithiau mwnau mir — y creig garw-wedd
Er gwaetha 'u dannedd o'r gwythi dynnir.


Drwy allu tramawr dryllir — hwynt allan,
Golud anian o'i gwely dynnir.


Chwyda Cymru o’i cheudod — ddigonedd
O gynnyrch di-ddarfod:
Lli o aur câ llawer côd
O'i thrysawr aruthr isod.


CYMRU. 791


O'i fynwes Parys Fynydd — arllwysa
Er llesiant y gwledydd
Gyfoeth a hawg o efydd
Rhagorawl, heb dawl, bob dydd.


Anturia llongau o barthau berthawg
Y ddaear, ar anwar fôr ewynawg,
Dros yr ymrolfawr erfawr fyr arfawg,
O flaen anadlau awelau hwyliawg,
Ar rwyfiad i’n tir hafawg — lle llwythant
I ddigoniant ein hefydd gwiw enwawg.


Rhwyga Arfon o fron ei thalfryniau
A morthwylion a chynion, lechennau,
Ie, digonedd i doi ugeiniau
A myrdd o fawrion lwysion balasau.


Cerrig hon yn mhob cyrrau — arferir
Ar fawrion adeiliau;
Noddant dramor aneddau,
Cywir fodd, gan eu cryfhau.


Da ledant i dylodion, — wir luniaeth
I orlonni ‘u calon;
Yn eu tai byn yw eu tôn — "Oes dramawr
Haul i dy ddirfawr oludoedd, Arfon,"


Glo yn gadarn o'n glynau a godir,
A'i oroludoedd trwy Gymru ledir,
Aelwydydd Llundain a gain ddigonir,
A channoedd o ddinasoedd gynhesir,
Tu draw i foroedd glo’n tud arferir,
Am ein glo yn mhob man e glywir.
A theg fendith i gyfandir — Amerig
Yw, yno’i glodig riniau a gludir.


Morgannwg a ddwg ddigon
O’i brid rinweddau o'i bron.
Er oesoedd, y trysawr — obry hunai
Yn ei bron gynhwysfawr,
Ond i ni chwyda yn awr
Ei goludfa ddofn glodfawr.


Yn llechweddau ei berth fryniau
Gwneir rhwygiadau gan ergydion,
Er agor llwybr i eigion


792 GWAITH ISLWYN.


Golud ei bru, gwlad ei bron,
A dwyn allan dunelli
O lo’n fwyd i'n haelwyd ni.


Ac o fronnau’r broydd weithiau
I bellderau dyfn bwll dorrir,
Hyd guddleoedd trysorfaoedd
Ÿ goludoedd, Ìle gwaelodir.


Lluon terydd i’w wyll a anturiant,
Yn ei berfeddion dyfnion nid ofnant,
Rhi ym mol anian obry ymlonnant,
Yn y dyfnderoedd y du fwn dorrant,
Golud y wythen trwy’r gwaelod weithiant,
Pan wyll du anian tunelli dynant.


Haiarn fwn a'i rin fynnir
O ddwrn anian tan eir tir.
Ar ol ei doddi, ei rin — i luoedd
Drwy ein hardaloedd dry yn aur dilin.


Merthyr Tydfil a'i miloedd — gynhalia,
Yma arleda dramawr oludoedd;
Cywreinfawr dirfawr dorfoedd — sy’n ddiwyd
Ag eithaf fywyd yn ei gweithfaoedd.


Ei gweithfaoedd, — genau miloedd
A ganmolant;
Am ei hanlloedd, y teyrnasoedd
I’n tir nesant.


O hynod olwg, trafflith adeiliau,
Fforest o sythion, mawrion ffumerau
Yn wybr uchod, ban hyglod binaglau.
O! mor ddibrinion y myrdd beiriannau —
Offerynau ysol — y ffyrnesiau
A’u rhuau trenawl uwch gawr taranau!
Mantella niwlen mewn dull anolau
Ar y tirwedd, gan enhuddo’r tyrau
Drwy y dydd, y nos edryda weddau
Gan agor ban ffaw luman y fflamau.


A! gyda bod rhod yr haul
Ar oror ei lwybr araul,
A'i lathr glud ar fachludaw
Goleu ddydd o'r ffaglau ddaw!
Y nos hell ni faidd neshau
I olwg y mil heuliau.


CYMRU. 793


Os gwywant y glwys gaeau — dan bla dig
Archwaeth uffernig o'r chwyth-ffyrnau,
Goludog iawn gawn am goll — yr holl dir,
Yn daliad dygir y delid digoll.


Troa bagad, bythol fudiad,
Ar eu galwad, trwy eu gilydd,
O!’r golud, O!’r symud sydd,
Y twrw, y gwau tragywydd.


Ar ael pob gŵr e welir — Masnach! Gwaith!
Gwaith yw’r araith o bob ffumer yrrir.
A Gwaith yw’r aeg a wthir
O wyll erch y pyllau hir.
Y ffyrnau, chwithau chwythwch
Hyn â fflam eich anadl fflwch!
Chwithau wreichion i'r uchafion
Yrrwch hefyd
Yn orddisglair yr arwyddair
Ar wawr rhyddid, —
Ie,’r awelon fry ar eu hwyliant
Eu chwibanoglau wiw leisiau laesant,*
O'u hargel dawel i'ch cyfarch deuant,
Ac ar eich pelydron llon darllennant
Am orhoff hanes Cymru a'i ffyniant,
Ei gwythi, nifer ei gweithiau a’u nwyfiant.


Mawl Cymru.


Mawredig, Gymru, ydwyt,
I’r byd bendith ddirith wyt.
Dan bwys d' oludoedd glwysion
Ar y môr dig cryma’r don.
Trwy’r Cyfandir clywir clod
Dy ddirfawr fwn di-ddarfod.
Hynod son! pa Indiad sydd
I’w wlad na seinia 'th glodydd?


Gan fawrion geinion ni chenfigenna
Wrth fwn serendeg ceindeg Golconda,
Potosi aurfawr ryglyddfawr gloddfa,
Na golud eiriandeg gwlad yr India,
Na bronnau trysorlawn trylawn Awstralia
Trwy yr hon aur mal afon ymlifa
O fru’i mynyddoedd lle’n fôr ymnodda.


To hang down.


794 GWAITH ISLWYN.


Cerddorion mwynion â’u mawl
Adseiniant y wlad swynawl.
Lluon o adar diwall eu nodau,
Rhai llawn o swynion, rhai llon eu seiniau,
O! mor hylawen mewn amryw liwiau,
Y pur ddyhidlant eu peraidd odlau;
Mawl dynnant o’u mêl-dannau, — clyw drawiad
Difyr deimlad o'u cysgodfawr demlau.


Ar dywyniad y wawr a'i da wenau,
Ar hyd y dolydd e red y diliau
Mwyaf danteithiol, swynol o'u seiniau,
Hedd-gynghanedd ar fyrdd o ganghennau
A thrydaniaeth eu haur-donau — denir
Y teithwyr cywir o’u taith i'r caeau,
A’u purai nôd, per-fwynhau — o'r wig werdd,
Ter rin cyngherdd cantorion y cangau.


Natur ddyhidla trwy eu hedd-odliant
Ei holl farddoniaeth — llif o urdduniant;
Syn goedydd y swyn gydiant, — wyrdd resau,
Eu boreu gwisgiadau i'w brig ysgydwant.

 
Dihalog leisiau, O odlau glwysion!
Pur eu difyrrwch, per eu dyferion.
Gwewyr, prudd-der, gwasgara 'u pereidd-dôn
O gelloedd, dirgeloedd dua’r galon.
Eu mil leisiau melusion — ddyrchafant
Fry yn foliant i fro y nef hylon.

 

Celfyddyd.


Clyw drwst y tân-beiriannau,
A’u pib yn chwiban trwy’n pau.


Mwth yr ehedant ar eu maith rodau,
Gan ddwyn rhedol arbedol gerbydau
Oll ar eu hol yu unol linynnau,
Trwy fryn, tros ddôl, ar hedol droadau.
Gan lonni’r nen uwch ben a'u chwibanau,
A bygwth dryllio cerigog greigiau
Trwy eon ddyrnod, a'u torri’n ddarnau,
O! ewybr yriad! mewn byr, byr oriau
Ant heb walldoriad hwnt i bellderau,
Gan ddwyn dynion, newyddion, a nwyddau.


CYMRU. 795


Uwch y meus dillyn try 'u chwim sidellau,
Eofned gyrrant, chwylant uwch aeliau
Llethrog anian, a than ei gwythenau
A dyfnion goluddion ei mwngloddiau.
Saethant i galon a bron y bryniau,
Ymenhuddant yn nghroth y mynyddau.
Yn eu chwyrn helynt ydynt fel tidau
Gwiw, eryrog, yn asio’n gororau.
Ar eu hehedol rodau — trwy rym gwres
Mal yr a'u cludres heb deimlo’r cledrau!

 
Amryw ddinasoedd Cymru ddynesant,
Eu meithderoedd rhyngfilldiroedd dorrant,
Ei pharthau canol fewnol gyfunant
A ei maith orau trwy eu mwth yriant.
Drwy frys, meithderau fyrhant, — yn ddidor
Draw hyd eu goror ar drawiad gyrrant.

Dros ein chwyrnion afonydd — neud diflin
Y teflir crogbontydd,
I barhau eu llwybr rhydd, — er trosglwyddiad
I’w holl fagad uwch deint y llifogydd.

Gyrrant heb segura — dros fôr llidiog
A llwybr tonnog, trwy bibell Britannia.

O frodir glodforedig! — Eden byd
Dan barch coronedig!
Trwy rin natur wyrenig a'i thlysion
A'i dirfawr roddion wyd orfawreddig.

A thrafnidaeth ei threfi hynodir,
Ei phorthladdoedd a'i phyrth a lwyddir,
Ei hyd a'i thoraeth odiaeth a yrrir
Hwnt i'r gwledydd, ar antur hwy gludir.

Da faeloryddion, dihafal raddau,
Eon eu trwythir mewn anturiaethau,
Rhagfwriadant, gollyngant eu llongau
A'u daoedd i flawd moroedd, a muriau
Pren yn nawdd prin i'w nwyddau, — digoniant
Yn gywir ynant i'n gororau.


A dewisolion newyddion nwyddau,
Weithiau â choedydd, weithiau iach hadau,
A gwin maethus i'r gwan, ie moethau,


796 GWAITH ISLWYN.


Neu anghydmharol hafledol flodau,
O deyrnasoedd daear a'i hynysau
Dônt, gan agor deint y gwanegau,
I fewn i'n hangor-fannau — ar frig ton,
A'r awelon yn chwareu â'u hwyliau.


Gyrru i'n rhandir ragorion yr India,
Tirio â chynnyrch, priddlestri China,
Llu enwog hwyliant yn llawn eu gwala
I Gaernarfon ar ol gerwin yrfa
A gwyntoedd tramawr, i nwyddfawr noddfa
Ei phedronglfawr eng erfawr angorfa.
Eu dail ethol ddadlwythant, — eu gwenith
A’u gwin ni omeddant,
Y dre odiaeth edrydant— heb arfgyrch,
A'u henwog gynnyrch i’w hen ogoniant.
Ei hethol lechi llwythant,
Yna’n ol gyda’r don ant.


Mon ffrwythlonfawr gerllaw’r lli,
Mawr olud yn môr heli,


Ynys deg ar fynwes y don, — mor fir
Ei chref randir rhwng chwareufâ'u’r wendon.


Y môr ogylch a'i gylch, gan
Ei murio fryn a marian.
Gwylia ef ei gwely hi
Rhag i don rwygo dani.
Rhydd arfog ddyfroedd erfawr
Gylch ei ffin yn fyddin fawr.


Gwlad hardd a hyglod yw hi, — gardd ddifreg
Ar ddwyfron y gwyrddli:
Ar ei glân y dyfrawg li
Sy addurn gloewlas iddi.


Cynddaredd dannedd y don
Dorrir ger ei gwedd dirion.
Lle angor i’r llongwr yw,
A thud i'r amaeth ydyw.


Ei thir arloesir o bob sur Iysiau
Ac olion holl arwyddion hyll wreiddiau,
Gyrrir y cerrig garw o'r cyrrau,
Ac nid oes atal na thâl, na theiliau
I wneyd ein Mon yn Eden am wenau,
Yn wlad odiaeth am olud o ydau.


CYMRU. 797


Am ei da duon mawr son sydd, — i haid
Ei hanifeiliaid mae hefelydd?


Rhag dig cynddeiriawg y don,
Gerwinder hagr y wendon,
Llongau wrth ddiwall angor
Geir ar ei flan, min y môr;
Lluosydd lle ymarllwysa — holl ffrwd
Llif Ffraw i'r môr lyncfa.
Ac amledd yn hafn Cemlyn,
A rhes yn cylchu pob rhyn.


Ond ho! ei chrogawl Bont uwch yr eigion
Lludda lewyrch ei chynnyrch a’i cheinion;
A gwedd Eryri o'n gwydd yr awrhon,
Hon a gorona ei holl gywreinion.
Wele uchafwaith Gwalia, a chyfion
Orthrech ar fôr, ar fôr a'i arferion,
Tremynt uwch garw-wynt ar gelf dan goron.
Hyd yr hoff wyrthiawl Bont heb drafferthion,
Ar eon yrfa yr awn i Arfon,
O! mor dawel uwch deint y myr duon
A'r dwr ewyndeg, gan ddwrdio’r wendon!
Gorwych daith uwch ymgyrch y don — a’i brad;
Diangawl hwyliad yn nghol awelon.


Rhua don! gyr o dani!
Rho dy lef! berwa dy li!
Rho ddymod agwrdd arni,
Syfia ran o’i saflawr hi!
A! er gwadd fâr a gorddig
Mynyddau o donnau dig,
Er llu mor a'i allu maith,
Ni chwympa darn o'i champwaith.


Dyna gerbydau’n gyrru heb oediad,
A meirch chwai trymion, mawrwych eu tremiad.

 
Mil acw ar ddidwn amlwg gerddediad
Heibio eu gilydd, w
ŷr o bob galwad.
Acw trydar eu cyd-droediad— â bloedd rydd
Y môr dihysbydd, mawr y diasbad;


Tonnau yn berwi tanynt,
A hwythau yn gwau mewn gwynt.


798  GWAITH ISLWYN.

A lli engur y llongau — hwyliawg wedd
Yn nghofl gwynt yn chwarau,
Nid ydynt ar feilchion didau —’r Bont hon
Yn ofni’r eigion na’i eofn regau.

Ond Mon, gardd ein dymuniad,
Er ei myrdd geinderau mad,
A'i thegwch a'i berth agwedd,
A'i gwiw orodidog wedd,
A'i didlawd âr, gysdedlir
Gan ddegau o'n mannau mir.
Brithir ein brodir mewn bri
A myrdd o'r fath falm-erddi.
Golud hardd — gwlad o erddi
Fel Mon, gwlad o falm yw hi.

Bro lawn o eurber lennyrch, — bêr ei sawr
Bro seirian ei llewyrch,
Sywgain baradwys hygyrch, — hulia ’i bron
A mil o geinion a mel-gynnyrch.

Ond pwy, pa Oronwy iydd
Arluniad o’r fro lonydd?
Mor anhawdd adrawdd ei holl
Degwch a'i cheinion digoll.

Gwroniaid Cymru.

Ond trown ei golwg at res
Gwroniaid gwir ei Hanes.
Derwyddawl dadau roddynt
Ehelaeth ddysgeidiaeth gynt.
Eu gwaith a'u rheol, enwog athrawon,
A'u mawr hynodent ym mri ynadoa
Heb wyrni rhannent fel barn awr union
Boenau rhwygawl ar bennau’r euogion.

Yn y fan yma terfyna'r ddau gopi sydd gennyf

yn llawysgrif Islwyn o’r awdl hon. Ysgrifennwyd y ddau gopi yn fanwl iawn; ond y mae’r dalennau olaf, neu ddarnau ohonynt, wedi eu rhwygo ymaith o’r ddau lyfr ysyrif. Yn dilyn ceir hynny sy'n aros ar yr hanner dalennau. Er ehwillo ymhob cyfeiriad tebygol,  methais a chael y darnau coll.)
• • •
I Gymru bu meib eon
A'u nerth yn amddiffyn hon.
• • •

CYMRU. 799


A'i feibion, dewrion eu dydd,
Gludent anfarwawl glodydd.
A'u henwau drwy’r oesau rydd
Ar dân efryd awenydd.
Eidiol Gadarn a ddarniai
Ei alon oll, dial wnai;
Gwas gwrol, âg ysgyren
Yn ei ddig â brig o bren
Ruthrai â bloedd barn arnynt,
Fal Samson y gwron gynt;
Antur eon! tarawai,
Llwyddo ei nod, lladd a wnai:
Rhoddai’r dorf yn eu rhuddwaed,
A'u gwedd yn ddwfn yn eu gwaed.
Rhodri mawr, garw ei drem oedd,
A chadarn ei fraich ydoedd.
Hael waith Caswallon Law Hir
A'i ogoniant a genir.
Ac enw Gruffydd ab Cynan
Trwy y Cymry dery dân.
Yn haeddol dad i noddawl d
ŵr,
Atodaf Rys ab Tewdwr.


Owain Glyndwr, eon ei galondid,
Bu enwog deyrn, bu yn gadernid,
Lluoedd gelynol oll ddigatonnid
Ger bron ei filwyr, a'u haerwyr yrrid
Oll o'i flaen â llif o lid — ar gyhoedd
Aur d
ŵr oedd lle y rhedai Rhyddid.

Wroled ydynt, anfarwawl dadau!
Flodau gwiw’r oesoedd, fawledig resau!
Dewrwych benaerwyr, derch eu banerau,
Arwrweis swyddol ar aur orseddau,
Trwy anibyniaeth ein tirion bennau,
Glew'n eu trinoedd, gloewon eu tariannau,
Trwm eu hergydion a'u trem ar gadau,
Nodedig eu hunedig eneidiau
Am orfrydedd a thramawr fwriadau,
A'r un mor enwog er hyn am riniau.


Tra oesol wybrennydd, tra sail bryniau,
Tra ser yn anian, tra seirian nennau,
A gloew eirianwawl disgleiria 'u henwau.


 

 

 

 

…..

 

Sumbolau:

a A / æ Æ / e E / ɛ Ɛ / i I / o O /’uU / w W / y Y /
MACRONː ā Ā / ǣ Ǣ
/ ē Ē /
ɛ̄ Ɛ̄ / ī Ī / ō Ō / ū Ū / w̄ W̄ / ȳ Ȳ /
MACRON + ACEN DDYRCHAFEDIGː Ā̀ ā̀ , Ḗ ḗ, Ī́ ī́ , Ṓ ṓ , Ū́ ū́, (w), Ȳ́ ȳ́
MACRON + ACEN DDISGYNEDIGː Ǟ ǟ , Ḕ ḕ, Ī̀ ī̀, Ṑ ṑ, Ū̀ ū̀, (w), Ȳ̀ ȳ̀
MACRON ISODː A̱ a̱ , E̱ e̱ , I̱ i̱ , O̱ o̱, U̱ u̱, (w), Y̱ y̱
BREFː ă Ă / ĕ Ĕ / ĭ Ĭ / ŏ Ŏ / ŭ Ŭ / B5236ː  B5237ː B5237_ash-a-bref
BREF GWRTHDRO ISODː i̯, u̯
CROMFACHAUː
  deiamwnt
A’I PHEN I LAWRː , ә, ɐ (u+0250) httpsː //text-symbols.com/upside-down/
Y WENHWYSWEG:
ɛ̄ ǣ æ

ˈ ɑ ɑˑ aˑ aː / æ æː / e eˑeː / ɛ ɛː / ɪ iˑ iː ɪ / ɔ oˑ oː / ʊ uˑ uː ʊ / ə / ʌ /
 ẅ Ẅ / ẃ Ẃ / ẁ Ẁ / ŵ Ŵ /
 ŷ Ŷ / ỳ Ỳ / ý Ý / ɥ
ˈ ð ɬ ŋ ʃ ʧ θ ʒ ʤ / aɪ ɔɪ əɪ uɪ ɪʊ aʊ ɛʊ ɔʊ əʊ / £
ә ʌ ẃ ă ĕ ĭ ŏ ŭ ẅ ẃ ẁ Ẁ ŵ ŷ ỳ Ỳ Hungarumlautː
A̋ a̋

U+1EA0 Ạ U+1EA1 ạ
U+1EB8 Ẹ U+1EB9 ẹ
U+1ECA Ị U+1ECB ị
U+1ECC Ọ U+1ECD ọ
U+1EE4 Ụ U+1EE5 ụ
U+1E88 Ẉ U+1E89 ẉ
U+1EF4 Ỵ U+1EF5 ỵ
gw_gytseiniol_050908yn 0399j_i_gytseiniol_050908aaith δ δ £ gw_gytseiniol_050908yn 0399j_i_gytseiniol_050908aaith δ δ £ U+2020 †
« »

 
DAGGER
wikipedia, scriptsource. org

httpsː []//en.wiktionary.org/wiki/ǣ

 
Hwngarwmlawtː A̋ a̋
gw_gytseiniol_050908yn 0399j_i_gytseiniol_050908aaith δ δ
 …..
…..
ʌ ag acen ddyrchafedig / ʌ with acute accentː ʌ́

Ə́ ə́

Shwa ag acen ddyrchafedig / Schwa with acute

…..
…..
wikipedia,
scriptsource.[]org
httpsː//[ ]en.wiktionary.org/wiki/ǣ

---------------------------------------
Y TUDALEN HWN: www.kimkat.org/amryw/1_testunau/
sion-prys_386_islwyn_700-799_RHAN-8_3811k.htm

---------------------------------------
Creuwyd: 08-03-2023
Adolygiad diweddaraf : 08-03-2023
Delweddau:

Ffynhonell: Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Newyddiaduron Arlein.
---------------------------------------

Freefind.
---
Archwiliwch y wefan hon
Cerqueu aquest web
SEARCH THIS WEBSITE
---
Adeiladwaith y wefan
Estructura del web

SITE STRUCTURE
---
Beth sydd yn newydd?
Que hi ha de nou?
WHAT’S NEW?


Ble'r wyf i? Yr ych chi'n ymweld ag un o dudalennau'r Wefan CYMRU-CATALONIA
On soc?
Esteu visitant una pagina de la Web CYMRU-CATALONIA (= Gal·les-Catalunya)
Where am I?
You are visiting a page from the CYMRU-CATALONIA (= Wales-Catalonia) Website
Weə-r am ai? Yüu aa-r viziting ə peij fröm dhə CYMRU-CATALONIA (= Weilz-Katəlouniə) Websait


Adran y Wenhwyseg / Seccio del dialecte de Gwent / Gwentian Welsh
Edrychiadau ar y tudalennau / Vistes de les pagines / Page Views
Web Analytics Made Easy -
StatCounter
Edrychwch ar ein Hystadegau / Mireu les nostres Estadistiques / View Our Stats