kimkat3810k Gwaith Barddonol Islwyn. 1897. William Thomas (Islwyn), Yr Ynys-ddu, Sir Fynwy (1832-1878) (rhan o Fwrdeistref Caerffili ers 1966).

18-05-2023





 .....

Gweler hefyd / Vegeu tambe / See also:

.....

0003_delw_baneri_cymru_catalonia_050111
..
 
 
 
 
 
 
 

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Catalunya i Gal·les
 
 
Cywaith Siôn Prys - Testunau Cymraeg ar y We
 
Gwaith Barddonol Islwyn. 1897.
William Thomas (Islwyn) (1832-1878).

RHAN 7/9. Tudalennau 600-699.
 


 

 

Map

Description automatically generated
(delwedd 7282)


Shape, circle

Description automatically generated https://translate.google.com/

(Cymraeg, catala, English, euskara, Gaidhlig, Gaeilge, Frysk, Deutsch, Nederlands, français, galego, etc)

...

www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion-prys_386_islwyn_y-gyfeirddalen_3803k.htm
Y Gyfeirddalen.
.....
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion-prys_386_islwyn_000-099_RHAN-1_3804k.htm
Rhan 1. Tudalennau 0-99
.....
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion-prys_386_islwyn_100-199_RHAN-2_3805k.htm
Rhan 2. Tudalennau 100-199.
.....
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion-prys_386_islwyn_200-299_RHAN-3_3806k.htm
Rhan 3. Tudalennau 200-299.
.....
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion-prys_386_islwyn_300-399_RHAN-4_3807k.htm
Rhan 4. Tudalennau 300-399.
.....
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion-prys_386_islwyn_400-499_RHAN-5_3808k.htm
Rhan 5. Tudalennau 400-499.
.....
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion-prys_386_islwyn_500-599_RHAN-6_3809k.htm
Rhan 6. Tudalennau 500-599.
.....
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion-prys_386_islwyn_600-699_RHAN-7_3810k.htm
Rhan 7. Tudalennau 600-699.
.....
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion-prys_386_islwyn_700-799_RHAN-8_3811k.htm
Rhan 8. Tudalennau 700-799.
.....
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion-prys_386_islwyn_800-864_RHAN-9_3812k.htm
Rhan 9. Tudalennau 800-864.
.....

 

A person with a beard

Description automatically generated with medium confidence

A map of the united kingdom

Description automatically generated with low confidence

(delwedd J7768) (delwedd 3181d)


llythrennau duon = testun wedi ei gywiro

llythrennau gwyrddion = testun heb ei gywiro

 

 

 

600 GWAITH ISLWYN.

 
Pam trwyddo’r addawaist im fendith a gwynfyd,
A thithau'n diwreiddio yr haf yn ei wendid?
A droes wir grefydd yn hyllig ffreulondeb?
Pa beth, ai llofruddiaeth a brad yw duwioldeb?
Ond os rhaid cael aberth o'm natur syrthiedig
Ai nid oes ond Isaac yn addas i'w gynnyg?
Os nad oes fyn arall, ai nid oes ond Abram
$$$w daraw â'r gyllell, i'w losgi ar wenfflam?
Ai nid oes un llwybr i mi fod yn ffyddlawn
I arch y Goruchaf ond trwy fod yn greulawn?
O Dduw! ai ffyddlondeb i ti yw llofruddiaeth,
Datodydd cylymau a deddfau naturiaeth?
Od yw’n ddichonadwy, gad, gad yn fy nghafael
Fy Isaac anwylaf, a chymer fy Ismael,
O herwydd pa fodd yr edrychaf yng ngwyneb
Fy hoffus gymares ar ol y creulondeb?
Beth! myned at Sarah ’nol lladd ei phriodfab?
Beth! tremio ar fam ’nol llofruddio’i hanwyl fab?
Os oes y fath gyni yn y rhagolygiad,
Pa gyni anhydraith fydd yn y cyflawniad?
Pe buasai ei haeddiant yn esgus i'r weithred, —
Un felly nid ydyw, un felly ni fuodd,
$$$th holl orchymynion erioed ufuddhaodd, —
O! pa fawr greulondeb a fyddai llofruddio
'R fath blentyn ag Isaac heb achos drwg ynddo.
A! byddaf fy hunan yn wawd i’r cenedloedd,
A'm crefydd yn warthrudd yng ngolwg y bobloedd."

Gwell ganddo fai goddef y gyllell ei hun
Nag idd ei anwylfab gael teimlo ei min,
Ond nid oedd amheuaeth o fewn ei fron friw,
Rhy uchel i'w ameu oedd archiad ei Dduw.
Ar ol cael yr archiad (feallai trwy sain
Mewn rhyw weledigaeth y noson o'r blaen)
Cyfododd yn foreu, ar doriad y wawr,
Pan wenodd yr huan dadebrodd fel cawr;
Heb aros ei weision, yn fywiog ei lun
Cyfrwyodd yr asyn â'i ddwylaw ei hun.
Yn brudd, ond yn wrol, cychwynnodd i'r daith,
A choed y poeth offrwm yn barod i'r gwaith,
Cymerodd anwylfab ei fron gydag ef,
A'i ddeulanc ufuddol i archiad ei ief;
Heb un o'r ymdeithwyr ond Abram iawn nod
Yn deall pwy ydoedd yr aberth i fod.


ABRAM YN ABERTHU ISAAC. 601


$$$w wraig ni fynegodd y diben tra phrudd
Rhag idd ei hanwyldeb orchfygu ei ffydd;
A, Isaac! ychydig a deimlit o boen,
Ni wyddit, ni wyddit, ti ydoedd yr oen.


Tra teithient hwy yn araf yn y blaen,
Ardremiai Isaac ar yr agwedd gain
Orwychai natur ar y werdd-las ddôl
Ar ochr y ffordd, ac weithiau troai'n ol
Ei dreiddgraff drem i hen Feersebah wlad,
Er cael un olwg mwy ar d
ŷ ei dad.
Tra syllai,’r hoffus d
ŷ yn fychan ai,
Tra teithiai 'mlaen y bychan ai yn llai;
Ac felly'n llai nes iddo fynd yn ddim,
Nod anweledig idd ei lygad llym;
Ond cyn ei guddio hwnt i’r bryniau ban
A gydymchwyddent rhyngddo ef a'r fan,
Meddyliodd, — "Dacw'm genedigawl fro
A th
fy nhad, lle caf ’nol dychwel o
Yr yrfa hon wir hoen a mwyniant maith,
Digonol daliad am ofidiau'r daith;
Ac at yr oll, ac uwch yr oll i mi,
Caf roesaw mam yng nghôl ei breichiau hi."

Y llanciau hwythau oeddynt lon eu llun,
Ond pruddaidd oedd y patriarch ei hun;
Nid llon oedd ef, llon nid allasai fod,
Pa loniant oedd i'r fath anedwydd nod?
Drych oedd ei drem o’i boen a'i fewnol bwys,
A'i wedd sefydIog o'i fyfyrdod dwys.
Ond pan y clywai’i fab yn son am dref,
A’r hoenfyd wedi dychwel gaffai ef
Yng ngholedd breichiau ei anwylaf fam,
A! treiddiai dychryn trwy ei fron fel fflam
Yn ffloew enynnu, neu fel llymfin saeth
Yn gwthiaw trwy ei galon ef er aeth
A thradwys boen. Pa ryfedd? Gwyddai ef
Os parchai'i Dduw, na ddeuai 'i fab i dref
Byth mwy, ac na chai rhwng hoff freichiau mam
Arfolliant mwy, na nodded cu rhag cam.

Anwyldeb fynnai eilwaith gael y dydd,
Ond eilwaith brwydrodd a gorchfygodd ffydd.
Mor feithion oeddynt ddyddiau'i ymdaith brudd, —
Yr eiliad fer yn awr, yr awr yn ddydd,


602 GWAITH ISLWYN.

 
Ar dydd yn flwyddyn braidd! Fel hyn mae cur
Yn dal y dringlyn, gan wneyd byr yn hir.
Er mor agored oedd ei fewnol glwy
Pob trem ar Isaac a'i agorai’n fwy,
Gan gymaint oedd ei gariad at yr oen
Pob newydd drem a barai newydd boen.
Ar wyneb hoff ei fab pan edrych wnai
Ail ymagorai'r clwyf oedd agos cau,
A’r archoll fewnol eisoes oedd yn ddofn
Ai'n ddyfnach gan achosi dwysach ofn.


"Mhen tridiau y patriarch edrychodd, o hirbell canfyddodd y fan;”
"Aroswch," 'bai ef wrth y llanciau, a ninnau a ddringwn i lan;"
Cymerodd holl goed y poeth offrwm i'w gosod ar ysgwydd yr oen,
Esgynnodd i ddatod y cwlwm oedd rhyngddo a bywyd o boen.
Wrth ddringo i gopa'r uchelfryn, a chamu dros raddau'r pellhad,
Nid rhyfedd i Isaac ymofyn "Mae oen y poeth offrwm, fy nhad?"
Meddyliai, — "Pa beth yw ei ddiben fy arwain i glogwyn y bryn,
Er cael yr holl barotoadau — pa les ydynt hwy heb y myn?
Ond rhag i ddynoethiad y diben ar unwaith achosi dwys boen,
Amlygodd i Isaac yn raddol mai ef oedd yr aberth a’r oen:
Atebodd y patriarch tyner â doethder oedd braidd goruwch dyn, —
"Am oen y poeth offrwm, fy mhlentyn, Daw edrych o'i ras iddo'i hun."
Er hynny yr oedd y gofyniad, a'r tyner gyfarchiad, "Fy nhad"
O’r newydd yn tanio’i anwyldeb, gan ddiffodd creulondeb a brad;
A! braidd nad atebai i'r holwr, â hiraeth gan ddyfned ei glwy,
"Na alw'r hwn fydd dy lofruddiwr, O Isaac, yn dad i ti mwy."


Ond yng ngorddwysder ei dufewnol boen
Ac absenoldeb pob daearol hoen
Myfyriai Abram ar addewid Ner
Y byddai’i had rhyw ddydd fel rhif y ser;
Yn yr addewid hon ymaflai ffydd
Er ei orfoledd ar yr adeg brudd.
Er hyn nid oedd ei sefydlogrwydd hi
Yn hollol gau o'i fron amheuon du;
Braidd mewn distawrwydd na chyfeiriai ef
At reswm er esbonio trefn y nef,
Gan sibrwd wrtho'i hun, — “Mae'n sicr y gall
Fy Nuw gwblhau'r addewid hon heb wall
Fel pob addewid arall; ond a oes
Modd cael y diben trwy’r fath archiad croes —


ABRAM YN ABERTHU ISAAC. 603


Croes yn fy nhybiaeth i, a lladd yr had,
Etifedd unig yr adde
wid fad?
Yr archiad a'r addewid yn ddiau
Roed gan yr un, ond amlwg nad yw'r ddau
Er hynny'n unol, herwydd sut y gall
Duw fynnu'r naill heb esgeuluso’r llall?
Beth! oni rhowd addewid gan fy Ner
Y buasai hil fy mab fel rhif y ser,
Neu'n amlach fyth, fel tywod man y môr?
A! cofio’rwyf, hyn a addawodd Ior.
Ond eilwaith ef a archodd i myfi
Aberthu’m mab ar ben Moriah fry.
Fy mab! fy mab! fy unig fab! O Dduw,
Abertha'r tad, a boed i’r mab gael byw!
Os marw a fydd, rhaid marw gydag ef
D'addewid d'hun, a dryllio trefniant nef.
Os llwyr ddiwreiddir yr hoff wreiddyn hwn,
Ow! nid oes obaith mwy am gangen, gwn.
Y sylfaen yw, os dadymchwelir hi
B’le rhoir yr adail a addawaist Di?
Ond ust! Ynfydu ’rwyf wrth amheu Duw
Atalia, reswm!"

Meddyliodd eilwaith, — "Diau dichon Duw
O waelod bedd ei adgyfodi'n fyw,
Oblegid onid gwyrth y gwyrthiau oll
Ei lunio ef, a'i eni mor ddigoll
O fru gwywedig fam yn nawn ei dydd,
Pan oedd o henaint bron yn safn y pridd?
Yr hwn a greodd yn y groth oedd gau
A ddichon adgyfodi yr un mor glau;
Os lleddir Isaac trwy orchymyn Naf,
Isaac yn ol trwy ail orchymyn gaf."

Credadyn oedd, a dysgodd ffydd ef i
Ymostwng dan alluog law ei Ri,
Ac nid i ddadleu mewn amheuaeth croes,
Ond ufuddhau, os rhaid, trwy lemaf loes.
Ni phrofwyd aur erioed mewn poethach tân, —
O hwnnw ni ddaeth aur erioed mor lan.

Tra'n dringo'r bryn oedd gwedd y mab yn llon,
Ond gwedd y tad fradychai ofnau’ifron,
Da gan y naill oedd cyrraedd pen y daith;
Ond pe buasai'n hirach lawer gwaith
Diamheu y buasai'n llawer gwell


604 GWAITH ISLWYN.

Yng ngolwg Abram, er ei bod mor bell
Ag ymdaith tri diwrnod o'i hoff wlad;
Llawn dri diwrnod eraill hoffai'r tad
Eu cael, i beth? Och, ai i roi amharch
Ar Dduw, trwy oedi cwblhau ei arch?
Nid felly; ond i gael am dymor mwy
Hoff gwmni Isaac, cyn eu rhannu hwy
Dros byth, o leiaf ar y ddaear hon.
Y meddwl am ysgariad rwygai’i fron;
Ond cariad, gorfu arnat roi y dydd,
A'r goron, a'r gogoniant oll i ffydd.
'Nol dringo idd y gosodedig fan,
A chodi'r allor gref mewn trefn i lan,
Mewn geiriau a amlygent yr un pryd
Y diben erch a'r modd, ill dau ynghyd,
Dywedodd, — O! mor anhawdd ydoedd hyn —
"Fy mab, ti ydyw aberth pen y bryn!
O Isaac! pe y goddefasai Duw
Buaswn farw fy hun i ti gael byw;
Ond ni wna hyn, dewisodd Ef dydi,
Bydd farw o’th fodd, er cael anfarwol fri,
Wrth dy aberthu mewn angeuol boen
Wyf yn aberthu pob daearol hoen;
Un cysur mwy nis meddaf yn y byd,
Dy golli di yw colli'm holl ynghyd;
Ond rhaid ymostwng i ewyllys nef.
Nid wyt rhy dda i'th roddi iddo Ef
A'th roes i mi; yn ol ei archiad doeth
Abertha 'th fywyd yn y ffaglau poeth.
Cryf yw fy serch, ond cryfach air fy Nuw,
O, ffarwel Isaac "

Pwy ond yr Anfeidrol allasai amgyffred
Y teimlad dyryslyd a ddaliai'r diniwed
Pan archodd ei dad iddo gymryd ei rwymo
Yn ddioed ar allor a godwyd â'i ddwylo?
Yr ydoedd y newydd mor brudd a disymwth,
Ac angau'n melltenu i'w wyneb mor safnrwth,
Ac yntau mor ieuanc a hoew yn ei flodau,
Yn erbyn ei ladd yn dra chedyrn resymau.
Edrychai'n synedig, gorchuddid ei wyneb
A glesni angeuol yn lle a'r disgleirdeb
Y funud o'r blaen a belydrai o hono,
Cyn derbyn hysbysiad o'r dynged oedd iddo
Gallasai wrthsefyll, a rhwystro cyflawniad


ABRAM YN ABERTHU ISAAC. 605

 

Gorchymyn ei dad, pe yn groes idd ei deimlad,
Heb nemawr o ymdrech, o herwydd gwywedig
Oedd Abram gan henaint a phoen estynedig.
Gallasai daer ymbil am hollol arbediad
A'r cyfryw resymau a rwygent hoff deimlad
Y patriarch tyner; ac hefyd gallasai
Ddiengyd o grafanc marwolaeth, pe ffoisai
O glogwyn Moriah lle’r oedd i’w aberthu.
Ond Isaac ni fynnai fel hyn wrthwynebu
Ar ol iddo feddwl mai Duw oedd yr awdwr,
Mai aberth y weithred, mai ‘i dad yr offrymwr.
Ymostwng a fynnai; gan godi ei ddwylo
I dyner gofleidio ei dad cyn ei rwymo
Wrth goed y poeth offrwm; a braidd nad estynnodd
Ei ddwylaw a’i draed idd y rhaffau o'i wirfodd.
O ddeublyg ufudd-dod! O undeb ysblenydd
Rhwng Isaac ag Abram, rhwng rhodd ag offrymydd;
Nis gwyddom p'un fwyaf o'r ddau i'w rhyfeddu,
Ai'r mab yn ymostwng, ai'r tad yn aberthu.

 

Mewn cred sefydlog yn ffyddlondeb Duw
Y cai er marw yma, eilwaith fyw
Fry mewn dedwyddach gwlad, uwch cyrraedd poen,
Man y teyrnasa bythol hedd a hoen,
Rhoes Isaac
dduwiol, fel ufuddaf fyn,
Ei hun wrth draed ei dad, yr hwn yn syn
A "ymaflodd ynddo" pan mewn cyflawn oed,
$$$w rwymo draed a dwylaw wrth y coed.

 

Ar ol ei rwymo yno'n wael ei lun,
A chael un olaf gusan iddo’i hun,
Ac un i'r fam, cyfodai'r gyllell hir
Oedd yn ei law, i roddi'r marwol gur
A'r ergyd cyntaf, heb roi ergyd ail,
Ac heb ystyried (gan mor wan y sail i
$$$w ddisgwyl) y gallasai calon ddwyf


Edifarhau ar ol y cyntaf glwyf.
Ar unwaith penderfynodd ladd yr oen,
Er rhoddi pen ar unwaith idd ei boen;
Angeuol boen! ni fynnai weld ei waed
Yn araf lif porfforaidd is ei draed.
Wrth godi’r gyllell uwch law gwddf yr oen,
Ei fyfyr dwys a barai ddwysach boen.
Nid oedd ond Duw ddirnadai’r mewnol gur
Ddyrwygai ’i enaid yn yr ymdrech bur,


606 GWAITH ISLWYN.

 
A’r tanllyd brofiad ar Moriah fryn;
Ni phrofodd neb, ni ddaliodd neb fel hyn.
Darluniad oedd o'r aberth eilwaith fu
Ar allor Duwdod er gwneyd cymod cu
Ac arddanghosiad teg o'r ymdrech ddwys
Rhwng Duw a'i Fab pan oedd dan ddwyfol bwys
Pechodau’r eglwys ar Galfaria fryn,
Gerllaw Moriah, oesoedd wedi hyn.
Wrth godi’r gyllell, O! pa frwydr gref
O groes deimladau rwygai’i fynwes ef.
Tra archai Duwdod o'i orseddfainc fry,
"A duwiol aidd abertha 'th fab i mi,"
A thra’n ei fron cydwybod godai’i lef
Mewn llwyr gydgordiad ag ewyllys nef,
Gwrth-honnai serch nad ydoedd hyn yn iawn,
Neud mynnai gael y fuddugoliaeth lawn
Ar y gelynion hyn, a braidd o glwy
Na foddai’i lais ei nefol leisiau hwy.
Gorchymyn Duw! rhy uchel oedd ei hawl
Idd ei amharchu am holl fydoedd gwawl.
Gwell ganddo fuasai tremio ar y ser
A'r heuliau fyrdd trwy ymherodraeth Ner
Yn cyd-ddiffoddi gan ymhyrddio trwy
Yr eangderau i ddiddymdra mwy,
A bythol anghof, nag i arch ei Dduw
Ddioddef gwarth trwy anufudd-dod gwyw.
Ond eto’r oedd yn gyferbyniol i
Orchymyn Duw anwyldeb rhiaint cu;
Os ymostyngai idd y naill heb wall,
Rhaid oedd dibrisio, llwyr ddibrisio’r llall.
Anwyldeb tad at unig fab ei fron,
O, rhyngddynt hwy pa gadwyn gref oedd hon;
Mor anhawdd oedd ei thorri hi yn lân,
Trwy lwyr wahanu’r rhai oedd ddiwahan,
Mewn pur anwyldeb yn ymglymu’nghyd
Fel unig ddau fai’n cyfaneddu byd!
Darostwng serch! gwaith goruwch rheswm yw,
Anghyrhaeddadwy ond trwy ras ein Duw;
Gras gafodd Abraham, a thrwyddi hi
Gorchfygodd serch i’w fab o serch i'w Ri.

 

Wrth godi’r gyllell braidd na synnai holl
Fyddinoedd anwfn yn nhrigfannau coll,
A bythol dân. Ehedai 'u huchel deyrn
Dros oror uffern o'i gadwynau heiyrn


ABRAM YN ABERTHU ISAAC. 607


Ar chwai adenydd hwnt i'r tanllyd lyn
Nes cyrraedd clogwyn derch Moriah fryn.
Mor uchel ydoedd ei uffernol hoen
Pan welai’n wir mai Isaac oedd yr oen,
Ac Abram yr offrymydd! Meddai ef, —
'N awr dacw derfyn i’r addewid gref
Gynt roed i Adda yn fy erbyn i,
Am ‘Had y wraig' a'r hon o enau Rhi
'N ol hynny gadarnhawyd iddo ef
Sydd yma’n dryllio’i fab â'r gyllell gref.
Mae Isaac hoff, yr addawedig had,
Yn rhwym, a'i wddf dan gyllell lem ei dad;
Mae’r arf i lan i’n awr dacw ef yn troi
Ei fin i lawr â dirfawr rym er rhoi
Y ddyrnod! Brysia nesaf eiliad! Caf
Ar honno 'm gwynfyd ar addewid Naf."
Ar hyn, er siomedigaeth i'r archdeyrn uffernol,
A gwirfawr orfoledd i'r patriarch duwiol,
Pan ydoedd y gyllell a gallu’n dychwelyd
I roddi y ddyrnod yn unol a’r ddedfryd,
Pelydrodd o'i amgylch oleuni nefolaidd
Tra clywai chwym-chwyfiad adenydd angylaidd,
Gwrtherchwyd y ddedryd, ataliwyd y ddyrnod,
Mewn eiliad gan "angel y bythol gyfamod,"
Yr Hwn a grochfloeddiodd wrth weld ei ufudd-dod, —
"Na chyffwrdd ag Isaac, atalia y ddyrnod.
O herwydd gwn weithian trwy hyn i ti 'm hofni,
Gan ’nawr na wrthodaist dy unig fab imi."
Y gyllell lem finiog a godwyd i glwyfo,
A'r dwylaw crynedig ddefnyddiwyd i rwymo,
Ddatodent y rhaffau, rhyddhaent yr offrwm,
'N ol derbyn gorchymyn i dorri y cwlwm.
Mewn ystyr ysbrydol yr ydoedd arbediad
Y mab idd y patriarch fel adgyfodiad
O fedd; mewn ewyllys’r oedd wedi’i aberthu,
Am hynny mewn effaith’r oedd wedi ailgodi.
Dychlamodd i fyny oddiar yr allorfa;
A'r cyntaf gofleidiodd ar ol y ddiangfa
Oedd Abram, yr hwn pan o’i amgylch edrychodd
“Yr hwrdd yn y drysni" mewn dalfa ganfyddoedd;
Offrymodd yr hwrdd yn boeth offrwm i Dduwdod
Yn lle ei anwylfab. A!’r oedd hyn yn gysgod
O’r hwn a offrymodd ar glogwyn Golgotha
Yn ddwyfol boeth offrwm i ddyn gael diangfa.
Ar ol iddynt losgi yr offrwm yn fanlwch,


608 GWAITH ISLWYN.
 
O gopa Moriah dychwelent mewn heddwch
Gan beraidd ymgomio â'u gilydd wrth ddisgyn
Ag araf gerddediad hyd ael yr uchelfryn,
Nes cyrraedd y fan lle gadawsant y llanciau
Y rhai oedd yn aros yn llon eu gwynebau;
Heb un yn absennol cychwynnodd y teithwyr
I gyd tua 'u cartref fal ffyddlawn grefyddwyr.
Ar foreu’r dydd hwnnw ychydig feddyliai
Y patriarch, pan ar brydnawn y dychwelai
Yn ol y ffordd honno, y buasai i anwylyd
Ag ef yn cyd-deithio mor llawen a hyfryd.
Nid oedd tri diwrnod eu hoenfawr ddychweliad
Ond megis tair awr, ran mor llon oedd eu teimlad;
Yr oedd eu hymddiddan fal swyngerdd melusber
Yn byrhau y ffordd, ac yn byrhau yr amser.
Mor fawr oedd eu hoen pan ddaeth gwlad Feerseba
Ar unwaith i’r golwg, a'u hoffus breswylfa!
Pan o fewn ychydig i'r t
ŷ, Isaac redodd;
Gan adael o'i ol ei gyd-deithwyr, prysurodd
I fynwes hen fam; a thra ymgofleidient
Ym mreichiau eu gilydd, y rhelyw a ddeuent.
Uwch dirnad yw’r syndod a'r llonder a barodd
Amlygiad y tad o'r hyn oll a ddigwyddodd;
Ar Isaac edrychai’r holl deulu mewn undeb,
Fel un wedi codi o ddyffryn marwoldeb.

PRIODAS. ♦

 
Y RHEFFYNAU aur orffennwyd,— a'r ddau
O wir ddewis unwyd,
Y golomen gylymwyd,
Mae'n hardd ran, mewn euraidd rwyd.


G
ŵr doeth o gywir deithi, — gŵr hyfawl
O grefydd ddiwyrni;
Enillodd, fe’i haeddodd hi,
Oedd addas i'w ddyweddi.


O, nodded Ior eu blynyddau, — a phan
Orffenno eu dyddiau,
At engyl dros bont angau
I ddedwydd hedd aed y ddau.


♦ Mr. Thomas â Miss Fisher, Glandare Factory, Aberdar.


Y GROES. 609

Y GROES.

A! PWY ddychmygai heddyw wrth ei weled
Dan hoelion dur yn wylc ar y groes,
Ei ddwylaw'n wlyb gan waed, a thorf wargaled
A'u gwawd yn dyfnhau ei farwol loes,
A chlwyf ar glwyf yn agor, enbyd boenau,
A llid y nef fel môr, a'i eigion holl yn donnau,
Yn chwyddo'i lanw dros y pen sydd uwch na'r holl wybrenau
Heb unrhyw gaer i dorri min a grym y gorlifiadau.

O! pwy ddychmygai wrth ei glywed yno
Mewn dirfawr ing yn llefain, “O fy nhad,
Mae'th hawddgar wên? Paham’rwyt yn ymguddio?"
Tra’r floedd yn de
ffro adsain creigiau'r wlad,
Ac ogof ar ol ogof yn ei hateb,
"Paham! Paham!" a Duw yn llennu’i wyneb.

Pwy dybiai mai y Mab ei hun sydd yma
Dros ddynion yn gwaghau’i wythienau i gyd;
A'i galon fawr tan ddyrnod braich Jehofah
Yn plygu ac yn torri dan y llid!

A ydych yn ei adwaen, chwi nefolion?
Ai nid yw llen mor ddofn a hon yn dallu arch-angylion?

A!’r ydych yn ei adwaen yn ei waed;
A chyda’r gwaed yn gweld bendithion fil
Yn llifo allan, afon lawn o ras
Tua phob cyfeiriad, gan orchuddio’r byd.
Mae yna fwy na gwaed i'ch golwg chwi,
Ac nid yw’r croesbren yn terfynu 'ch trem.
Iawn yw y gwaed! Ni raid dywedyd hyn;
Mae’r ddeddf yn ddistaw, a fuasai gynt
Yn ysgwyd caerau’r nefoedd â'i tharanau,
Gan fygwth diorseddu torf o engyl,
O ddynion wedi eu gwneyd yn engyl mwy
Trwy riniau’r gwaed, sy’n lliwio’r croesbren fry.

Iawn yw y gwaed, a iachawdwriaeth lawn;
A, mor afreidiol im hysbysu hyn;
Mae llais cyfiawnder yn y nef o'n blaen,
A dinas Duw yn crynu gan ei floedd,
"Boddlonwyd," oddiar ei orsedd fawr;



610 GWAITH ISLWYN.


Ei orsedd sydd yn gyfiawn wrth ryddhau
Byd llawn o garcharorion, tra y Ceir
Ei gallu yn seiliedig ar y groes,
A'i haur golofnau’n ddwfn yn y gwaed,
O'r golwg wedi eu sicrhau am byth.
Gadarnai fainc! pwy all ei hysgwyd hi?
Gorseddfainc gras, gorseddfainc iawnder yw,
Gras trwy gyfiawnder yn teyrnsau mwy,
Mae gras yn gyfion ar orseddfa o Iawn.

Angylion! pam mor ddistaw? A, y mae
Y floedd "Boddlonwyd," o enau Duw ei hun,
Yn fil rhy bêr, yn fil rhy lawn o swyn,
I neb a'i clywo, bydded gerub glân,
Ymaflyd yn ei delyn arian mwy,
Nes llwyr ddistawo ’i hadsain olaf hi
Trwy holl wybrennau tragwyddoldeb draw.
Boddlonwyd! bloedd o Sinai danllyd yw,
O udgorn barn, a lawnder yn ei chwythu.
Ac O, pa angel, plith aml gorau’r ser
All efelychu tôn Trugaredd, pan
Yn syrthio ar wddf Cyfiawnder i'w gofleidio,
Ar wedd foddhaol dangnefeddus mwy,
Ar ei ddychweliad o'r gyfryngol frwydr;
Ei lais yn fwyn gan drugarawgrwydd pêr,
Ai hyfryd arogl o foddlonrwydd llawn
Yn esgyn hyd y nefoedd i'w foddhad
O'r aberth brwd ar allor pen y bryn;
Ei gleddyf yn ddiddefnydd yn ei wain,
Camedig arf, a'i farwol fin yn bwl
'R ol taro yn erbyn calon Duw mewn cnawd.
Pwy efelycha gân coroniad hon,
Wrth esgyn i'w gorseddfainc weu o ras,
A'r ddeddf yn edrych arni gyda gwên,
Gan estyn ei theyrnwialen haiarn fry,
Ac engyl Duw, afrifol dorf, yn crynu
O'i blaen, pob un a'i goron yn ei law,
Tra hoeddai allan — “Ras! teyrnasa byth!
$$$r lan, i’r lan a llifddor cariad mwy,
A gollwng fôr dy radau dros y byd,
Eisteddaf mewn gogoniant ar y lli.
O caed y byd ei gyfran yntau bellach
O hedd, gollyngdod, iachawdwriaeth lawn;
I mi agorwyd ffynnon ddofn o waed
Dan galon Duw! ac ni sychedaf byth;


Y GROES. 611

Teyrnasa, Ras! Bydd hollalluog mwy.
Te
yrnwialen iawnder yw'th deyrnwialen di,
Cyfiawnder Duw a'i dododd yn dy law.
Ysgydwa hi o fôr i fôr, a thrwy
Holl oesoedd amser, nes i'th olaf wyrth
Waghau y bedd, a chael y dorf ynghyd,
Anfeidrol lu, a'm delw arnynt oll,
Heb ar eu gwedd frycheuyn hagr mwy,
Yn newydd lwyr fel Adda o ddwylaw Duw.
Hyd dragwyddoldeb cadarnhaf dy sedd."
Buasai hi, Trugaredd, lawer oes
Yn wylo’n athrist ger yr orsedd hon
(A barotowyd cyn sylfaenu’r byd),
Heb hawl i esgyn ar eisteddfa deg,
Yn wylo, fod ei thrysorfaoedd llawnion
O oes i oes yng nghau, heb fodd i'w hagor,
Yng nghallu Duw ei hun, hyd oni ddaeth
Yr archoffeiriad y tu fewn i'r llen, —
Yn goch o'r groes, a'i werthfawrocaf waed
Dros odre’i wisg yn dyferynu i lawr, —
A'r allwedd ganddo! ’r unig un a wnai!
Derbyniodd hi o law y gyfraith, pan
Ddistawodd ei tharanau, ac y llannwyd
Ei holl wybrenau â thragwyddol ddydd,
Pydd disglaer o dawelwch ac o bedd,
Na fydd machludiad bythoedd ar ei haul
A gododd rhwng cymylau Calfari
Brydnawn, pan droes y dydd ei hun yn nos.
"Gorffennwyd! " Gorfoleddai wrth y gair
Yn awgrym oedd i'w môr o radau mwy
Lifeirio a chynhyddol fythol lanw,
A golchi myrdd o ynys dywell amser
I araul lan y paradwysol dir.

A dorrodd hi? y galon eang honno!
Lle tarddodd hedd-feddyliau fyrdd am ddyn;
Yr hon ym mynwes Duwdod fu’n ymchwyddo
Nes gwthio allan y priodfab cun,
Ei wisgo a chnawd, ar agwedd gwas, a'i anfon
$$$r blaned bell a distadl hon, yn unig fel rhyw estron
I gyrchu y gwrthddrychau i dre i gon y fynwes dirion
A'u cannu yn yr olchfa lawn lifeiria’n rhad o'i galon.


Hi dorrodd! Do, tarawyd hi â gwialen
Cyfiawnder, fel y graig yn Horeb flin.


612 GWAITH ISLWYN.

Dewch, wywedigion, dyma fedd i'ch angen;
A! troes difiaethwch Calfari yn llyn o ddwfr i ddyn.

"Ar uchel le" agorwyd yr “afonydd"
Sy’n gweithio 'u ffordd o fro i fro, a'u dyfroedd yn ddihysbydd,
O dan araf chwyddo dros y byd i’w baradwyso o newydd.


Try’r anial maith yn Eden mwy,
O dan eu bywiol ffrydiau hwy.
Agorer iddynt redfa well
Ar fyr trwy galon Asia bell;
Eu llanw orchuddio a chyfoeth ne
Arlethrau beilchion Himaleh.


O, chwyddwch dros gadwyni Altai fry,
I ddyfrhau tu draw yr anial du,
A llonni bron Siberia brudd ddi-loer
Sy’n wylo’n unig yn y gogledd oer.


Mae’r pydew’n ddwfn. Amled ei rinweddau
O, llanwer yma holl ddyfrlestri’r byd!
Mae môr islaw. Ac nid yw’r myrdd o radau
Gaed eto, ond ffrydiau o'r cyflawnder drud.
Drud? cabledd yw! A, gwelaf haul Calfaria
A'i haeddiant yn sugndynnu’r môr dros aurgeulanau’r wynfa,
A balm awelon gras o fry yn chwyddo’r llanw yma.


O, clyw y floedd o'r loewach lan,
Tyrd yma’r eiddil, yma’r gwan,
Ac yf hyd lanw, yf heb werth,
Yf fywyd a thragwyddol nerth.


Fel dyfroedd oerion i'r sychedig enaid
Yw’r ffynnon falm agorwyd dan ei fron;
Wyf dawel mwy! ni theimlaf un angenrhaid
Ar ol archwaethu bywiol ddyfroedd hon.
Dilynaf hi, y ffrwd o fythol lawnder,
Dros lawer craig, trwy ddyrysleoedd amser,
Nes llifa ymaith dros ddisgynfa angau
$$$r môr tragwyddol, na adnebydd donnau;
Fywhaol ffrwd ar grasdir llwm yn tarddu
Nes llifo i'r tawel tor o hedd, a minnau arni.


Y GROES. 613


Eisteddaf a dechreuaf ganu
Yn hapus bythoedd. Mae pob dafn o hon
Ei hun yn ffynnon, a thragwyddol darddu
Y mae —’rwy’n teimlo ’iI gallu! — dan fy mron.
Ar godiad tanbaid haul y dydd diweddaf,
Bydd dyfroedd hon yn tarddu i'r lan, a thawel fyddaf.

Dros grasder amser sydd yn wyw gan siomiant,
Heb wawr un llannerch rôs yn euro’i wedd,
Yn llawen teithiaf mwy, tra blodau diflant
Y ddaear yn gogwyddo tua’r bedd,
I gyd yn wyw! A, er yr anial garw,
Mae yma un blodeuyn nad yw mwy yn marw!

Ei wraidd ddyfrheir foreuddydd a phrydnawn
Gan ddyferynau o lif yr afon lawn,
Sy’n ffrydio ar ein hol trwy ddiffaeth ffyrdd
I gadw’i wreiddyn fyth yn ir, a’i frig yn wyrdd.
Do, gwywodd aml flodyn gwiw
Oedd ddwfn ei wraidd, a theg ei liw,
Holl swynion bywyd ynddo ynghyd,
Aur anfarwoldeb ar ei wrid,
Flodeuyn o baradwys well
Yn wylo am ei hinsawdd bell;
Rhy dyner filwaith oedd dy wedd
I ddal awelon oer y bedd.
Ond gyr y blodyn hwn i lawr
Ei wraidd yn is o awr i awr;
O'r nef mân-ddarlun teg ei wawr,
Y gobaith am baradwys Duw,
Y gobaith gwell am fywyd yw.

O ddwyfol ffynnon, mae ei dwfr yn oeri
Sinai, tra’n darllen ar gyfrolau o fwg
Ddigofaint Duw, a'r fellten yn amlygu
Heyrn lythyrennau’r ddeddf ar lenni o wg.
Mae’i frig yn oer! Ffwrdd tawdd y tew golofnau;
A, gwel ei ben uwchlaw mewn gloew wybrenau.

Clir yw yr wybren uwch ei ben
A golau hyd y drydedd nen.
Holl heuliau’r nef o'u nennau claer
Arllwysant eu pelydron aur,
Foddlonrwydd disglaer, ar ei frig,
Heb yn eu pelydr liw o ddig.


114 GWAITH ISLWYN


Cyfiawnder ar y ffordd tua maes y lladdfa,
A'i gleddyf yn disgleirio ar ei glun,
A llid yn duo’i ael, eisteddodd yma
Gan syched am foddlonol waed yn flin.
Archwaethodd! Yfodd lawn yn fôr o honi,
A throes yn ol gan ado’i gleddyf ynddi.

ANGAU.


PA beth yw angau? "Beth?" yw’r adsain gawn
O enau’r mawr ei ddysg, a'r mawr ei ddawn;
Ymdrechion oesoedd, troent yn feth,
A'r diwedd ydoedd dyblu — Beth?


Canmoler doethion Groeg, mawr oeddynt hwy,
Ond ar oer fin y bedd beth ydynt mwy?
Anwybodusion dall a thlawd
Yn methu gweled cam o'u rhawd.

Socrates onest, O ar d' enaid trist
Na thywynasai gwawl efengyl Crist,
$$$r hon sy’n dangos angau prudd
Fel bore wawr rhagorach dydd,
Gan ysgrifennu ar y bedd,
“Mynedfa i dragwyddol hedd!"

ADGYFODIAD.


O ADGYFODIAD! mae y gair yn hedd;
Lliniara ddwysder gwae, siriola’r bedd;
Y mae yn cylchu’r fynwent brudd
A disglaer enfys bythol ddydd.
Yr udgorn dwyfol gân — nid amser mwy!
Y ser yn deilchion mân ymddrylliant hwy;
Yr udgorn gân, a'i adsain fydd,
Tragwyddol fywyd, bythol ddydd.


HIRAETH.


NA chawn etifeddu’r wlad lle nad oes flinder mwy,
Ond canu am iachawdwriaeth rad rhinweddau mad ei glwy.

O dan awelon croes y byd ehed fy meddwl fry;
Mae acw yn hedd, yn hedd o hyd. Bro dawel ydyw hi.


A phan y cwynaf dan y groes, y mae’r orffwysfa draw;
Ni theimlir yno faich na gloes, ni phrofir yno fraw;


ABERTH CRIST. 615


Lle nid oes siomiant byth yn bod, na chalon aflan mwy,
Ond canu i'r Oen dragwyddol glod am hynod rin ei glwy.

Mae yno aniflannol ddydd heb gwmwl prudd na llen;
A thorf brynedig yno bydd o gylch yr orsedd wen.

Ni dderfydd yno’r anthem bêr am haeddiant Iesu a'i glwy;
Pan losgo’r byd, pan syrthio’r ser, yn caau byddant hwy.

O dyma etifeddiaeth lawn, aniflanedig ryw;
Cyfiawnder haeddiant dwyfol lawn, cyfiawnder Duwdod yw.

YR YSGOL SABBOTHOL. ♦


AWN tua’r Ysgol Sul, awn i gyd,
Gwna ni yn barod erbyn ail fyd,
Erbyn ystorm gorthrymder pan ddaw,
Erbyn taranau angau draw.
Dewch, dewch, unwch o'i phlaid,
Dan ei hadenydd mae hedd di-baid,
Unwch oll, unwch oll, unwch o’i phlaid.

ABERTH CRIST.


RHOES, rhoes,
Anfeidrol aberth drwy ei loes,
A'r ddeddf o blaid yr euog droes.
Uwchben y groes ymdorri wnaeth
Y cwmwl o anfeidrol lid.
Ac arno’i gyd heb arbed daeth.


O pwy
A draetha i oes lwyddiannus mwy,
A'r tâl am ddioddef marwol glwy!
Fe 'u codir hwy i entrych nef,
Y dorf aneirif, erbyn hwyr,
Ag achub llwyr ddiwellir ef.


Iawn! lawn!
O felus air, mae’n seinio’n llawn
Hyd eithaf nef y nef brydnawn;
Y gyfraith gawn yn hedd i gyd,
Cyfiawnder hefyd wrth y groes
Ei gleddyf droes o blaid y byd.

♦ Cyfansoddwyd ar gais Mr. J. D. Jones, Rhuthyn, i ateb i dôn “Riflemen Form.”


616 GWAITH ISLWYN,

MORGAN HOWEL.


MORGAN HOWEL! Pwy yng Nghymru na chlybu am yr enw? Pwy
Yn yr enw na chydnebydd ddyn o riniau, fwy na mwy?
Ymherawdwr y gymanfa,un uwch o'i ysgwydd na'r holl lu,
Darfu ei isloerawl yrfa, huna yn y fynwent ddu.


Efe oedd efengylwr o'r iawn ryw,
Yn rhannu bwyd i'r enaid, ac yn byw
Ei hunan arno. Yn y cudd a'r c’oedd,
I Iesu Grist, gweinidog ffyddlawn oedd.


Pregethai boenau uffern gyda nerth,
Pregethai hedd a hoen y nefoedd ferth;
Taranai fel o groth Gehenna gref,
Pryd arall gwenai fel yng ngwydd y nef;
Ymsuddai i ddyfnderoedd anwfn fawr,
Ymgodai ar adenydd dwyfol wawr;
Bygythiai, crefai; gwgai, gwenai’n fwyn,
I alarmu dyn o hun a marwol swyn
Ei bechod, ac i'w osod ar ei draed
Yn effro, a'i edrychiad tua’r Gwaed.
O fry gollyngai’r gadwyn euraid gref,
I godi’r gynulleidfa tua’r nef.
Dros eang gnydfawr feusydd cariad Ior
Yn fynych rhodiai; edrych ar ystor
Ac anchwiliadwy olud trefniant gras
Oedd ei hyfrytaf waith. Bu fyw yn fras —
Bywioliaeth angel oedd — ar ddwyfol wledd,
Ac arlwyfiadau hael efengyl hedd.

Teyrn oedd ef yn yr areithfa, a’i ddeiliaid, y gwrandawyr oll;
Pan daranai, crynai’r dyrfa fel pe yn safn pydew coll;
Ei effeithlawn Anathema greai arswyd drwy y fron,
Ond ei adfloedd bêr Dihangfa a lonyddai arswyd hon.

Wrth gyhoeddi gweinidogaeth damnedigaeth uwch y llu,
Ei seraffaidd ddrychfeddyliau dreiglent fel tân-donnau hy;
Nes oedd adamantaidd furiau, cedyrn dyrau uffern gref,
Yn ymysgwyd gan ryferthwy ei athrylith danllyd ef.

Pan gyfeiria’i areithyddiaeth at gyfundraeth cyfiawnhad,
Pwy ddarlunia weithrediadau ein teimladau mewn mwynhad!
Mor gyfoethog mewn profiadau nefol oedd ei fynwes gun,
Mor feistrolgar y chwareuai ar organau teimlad dyn!


CYWYDD FFYDD. 6l7


A gorddyfnion ddrychfeddyliau, pwysfawr fel mynyddau’r byd,
Uchel fel rhodfeydd yr eryr, chwareu wnai â difyr fryd.
Tra y syllai ar ddwyfol-ddull rhyfedd Faban Bethlehem,
Gwenai’r Awen yn ei arddull, fflamiai’r seraff yn ei drem.

Braidd na thybiem, wrth ei wrando, fod rhyw Gerub mawr tu cefn,
Yn dadlennu’n ffyddlawn iddo ryfeddodau’r ddrudfawr drefn,
Gan dywallt cefnllif o feddyliau i’w fynwes o ffynhonnau nef,
Yntau wedyn yn ei arllwys ar ein traws yn afon gref.

Safai beunydd fel rhyfelwr, a phencampwr ar y mur,
Gan amddiffyn athrawiaethau a chyfreithiau Seion bur;
Pan fai perygl, gwaeddai’n uchel, — “Ymarfogwch, weision IOR!
Gwelwch Satan ar y rhagfur, gwelwch uffern wrth y ddôr!"

Arddanghosai’r Groes ogoned, megis sail a baner hedd,
A'r "grawnsypiau mawrion addfed hongiant arni" ‘n ddefnydd, gwledd;
Gwledd o basgedigion breision, a phuredig loew win,
Gwledd ddigonol i anghenion nef a daear, Duw a dyn.

Yn y Groes y cafodd fywyd. wrth y Groes y mynnodd fyw,
Hi oedd unig nod ei ymffrost, unig sail ei obaith gwiw;
Ei fawreddog ddrychfeddyliau, — anghymharol berlau’r oes, —
Dreiglent oll fel disglaer rodau amgylch ogylch Haul y Groes.

Pen Calfaria! dyma gartref ei fyfyrdod trwy ei oes,
Yma gwleddai ar yr aberth, yma syllai ar y groes;
Gan frwdfrydedd ei feddyliau, hawdd oedd dwedyd yn ddi-len
Iddo dreulio ei flynyddau ar y mynydd, wrth y pren.

Ei gorff yn unig drengodd. Mae ei glod
Yn fyw, ac, fel ei enaid, bydd mewn bod,
Cof, a thragwyddol rwysg, edmygedd arch
Tra chrefydd a theilyngdod pur mewn parch.

Nid delw farw ga ddynodi’r fan
Lle tawel huna ei ddaearol ran,
Ond anfarwolion wylant nos a dydd
Gylch-ogylch ei orweddfa dywell, brudd,
A dagrau’n gwlawio drom eu hathrist wedd
A feddalhant ei fyth-rewedig fedd.

CYWYDD FFYDD.


MYNEDFA uwch man adfyd,
Taith ban, uwch artaith y byd;
Rhyw glodus ragwelediad
O nwyfol wledd nefol wlad;


618 GWAITH ISLWYN.


Nen ymroddiad mawreddog
Ar Grist, a rhinweddau’r grog
Enaid yn bwrw ei hunan —
Dir bwys! ar Waredwr ban,
Gan ymddiried trwy gredu
Ar iawn mad y Ceidwad cu —
Yw didwyll ffyrdd credadyn,
A diwael ddeddf duwiol ddyn.
Oferedd yw ffydd farwol,
Neu ffydd y morwynion ffol:
Ansawdd hon sy ddienaid,
A buan, buan hi baid.
Yng nghroth y tan Satan aydd
Yn credu mewn Creawdydd;
Credu mae ei deulu dig
Yn y ffyrnau uffernig;
Coeliant ddull hanfod Celi
Yn y iawn drefn, Un yn Dri.
"Mae Duw," medd yr anuwiaid;
"Cyfaddef â rhwyddlef raid."
Ond tra credant, rhegant Ri,
O dan eu heiyrn gadwyni.
Yr iawn ffydd, seren hoff yw,
Ein hodiaeth huan ydyw;
Llygad i ddwyn holl eigion
Bytholddrych i'r llewyrch llon.
I goll a ein rheswm gau
Yn ingol lynclyn angau;
Eithr ffydd ar ei haruthr ffo
Er hyn ni luddir yno;
Tyr noll folltau angau hyll,
Hi a ysgwyd ei hesgyll,
Mantella mewn tywyllwch,
Hed i’r llen, gan adaw’r llwch;
Yna eheda'n odiaeth
I drem yr anfarwol draeth,
Gan dderchafu'r nenlenni
$$$n tremiad a'n nodiad ni.
O ensawdd nid yw’n ansicr,
Gair Duw yw sail y gred sicr.
Ni syflir hon o'i safle
Trwy ofer nwyd, tra fo’r ne;
Gorawys ar Geidwad cadarn
Diau y bydd wedi barn.


CYWYDD FFYDD. 619


Er grym tân, er garm tonnau
Gnodawl boen y gnawdol bau,
Cywir astud yw’r Cristion
Trwy y ffydd dieilfydd hon.
Trwy ei drych edrych adref,
Tremia’n hy hyd dramiau nef.
Heibio'r ser e brysura,
Heibio’r ser heb aros a,
Trwy dyn gred tra dan y groes
I hael annedd ol einioes.
O rwng blwng yr angau blin
A dieflig âl dyflin
Hi rydd drem o’r euraidd draeth,
Mir olwg uwch môr alaeth.
Cadwyn ydyw, yn cydio
Y duwiol â'r freiniol fro
Orfras, lle trig mewn arfri
Ei gwrthrych uchelwych hi.
Ergydia yr orgyden
Drwy’r llid y tu draw i'r llen,
Ac hyd ddolennau’r gadwyn
Wr beinif a i'r nef fwyn,
I fro werdd y gerdd ddi-gaeth,
A chyfan orachafiaeth.
Da nawd credadyn ydyw,
Dirion wr, ei darian yw,
Rhag picellau’r fall-allu
O ias ffwrn ddwys uffern ddu;
O’i amgylch ogylch heigiant,
$$$w enaid niwaid ni wnant.
Hyll chwa o bicellau chwym
Drecha a'i aes yn drachwyra.
Y saethau tanllyd sythion
A barant fraw brwnt i’w fron,
Ddiawchir, arbylir ban
Dorrant ar draws ei darian.
Yr unig aes i'r enaid
Yw’r iawn ffydd, yr hon ni phaid.
O rasau da, rhes hi dyn
A'i cheinlaw idd ei chanlyn,
Gobaith ydyw effaith hon,
A chariad yw ei choron;
O’i brasder a'i ffloewder fflwch
Dyfera edifeirwch;


620 GWAITH ISLWYN.

 
Haeledd pur a thosturi
Yw ei pherffaith effaith hi;
Rhydd i’r Cristion nwyflon nerth,
Eryr-nwyd ac arwr-nerth;
Ar y môr, hir ymaros
Rodda hi i ni yn nos
Gwasgfeuon, helbulon byd,
A phrofion hyfion hefyd;
Gwedd f’Arglwydd welaf drwyddi,
Dwg dangnef y nef i ni;
Ddwyfol rodd, hyfawl wreiddyn
Ffyddlonder a dewrder dyn, —
Mor drist yw bod yn Gristion
Ar enw, heb rinau hon!

Diddadl ffydd yn y Duwddyn
A'n cyfiawnha, cofiwn hyn.
Ni ro Dduw i ni ryddhad
O gryf ingol grafangiad
Ing, a phech, angau, a phyd
Enynbwll annwn enbyd,
Heb inni bwyso beunydd
Ar hoff iawn y Mab drwy ffydd.

Iawn gred yw’r rhedle drudlon,
Ffordd hyfryd ar hyd yr hon
Y nawf bendithion y nen
I dir ing, i dre angen,
Er enwog gyfoethogi
Ein daear anhygar ni,
A dwyn eneidiau dynion
Yn ol i hedd anwyl Ion,
Brasder a llawnder yn lli
O ogoniant ddwg inni.
Mwy’n addas er f’amnoddi
Yn Ner boed fy hyder i;
A phan yng ngherth ryferthwy
Angau a'i byd ing y bwy,
O fy Ngheidwad, fy Nghudwr, [?Nghadwr]
Pan yn wan o dan y d
ŵr,
Pan ddaw ffrydiau, dagrau’r don,
A gerwinder y wendon
Hyd fy ngrudd, O! boed fy nghred
Ddewrwych, a'm holl ymddiried
Ynnod, ti hoffusnod ffydd,
Fy Nhad, fy rhad Waredydd!


Y GWEDDNEWIDIAD. 621

Y GWEDDNEWIDIAD.

X. Yr Ymgnawdoliad — Gwaeledd ymddanghosiad allannol y Gwaredwr — Achlysurol anlygiad el ogoniant mewn gwyrthlau — Ei hoffder o anian — Cydymdeimlad anian âg ysbryd duwiolfrydedd — Cysegredigrwydd y mynyddoedd fel mangreoedd o amlygiadau dwyfol.

ISELED Brenin Caersalem,
Bythol Lyw hon, yn Bethlehem!
Yn ddyn bach mewn cadachau,
Duw a geir wedi’i waghau,
Duw yn nelw a dull dynoliaeth
$$$w deddf-le dioddefawl aeth.

Rhaid oedd, i'w fwriad addas,
Guddio’i fawredd â gwedd gwas,
Fel nad ofnai bai y byd
Am arall ei gymeryd.

O fyd y tlotaf ydoedd
A g
ŵr dirmygedig oedd.

Du boen, gofidiau beunydd
Rif y ser i'w yrfa sydd.
Heb gartref cawn ef a wnaeth,
Ie, i fyd gartref odiaeth.

Ond ambell awr well, rhyw wyrth,
Gollyngiad gallu engyrth,
A gyhoeddai o'r gaddug
Mai Ior oedd dan y mawr hug;
Elfennol stormlef anian,
Diau ai’n fud yn y fan.
Anian gyfan a gofiai
Ei iawn lef, ac yn ol ai —
Yr un a phan yr enwodd
Ar ei fainc y ser o'i fodd;
Tawela’r gwynt i'w alwad,
Yn ol gyr elfennawl gad.

Ei natur wael, gwael ei gwedd
Agenai, a'i ogonedd
Heibio y llen ambell awr
A lifai yn oleufawr.


622 GWAITH ISLWYN.

Urddunant Natur ddenai
Ei galon, yn hon mwynhai
Olwg ar ei Dad eilwaith,
Ail-gofio, cymuno maith.
Anian ei hun yn unig
Ger ei burdeb oedd heb ddig.
Addas i gymdeithas Duw
Oedd hon heb ogwydd annuw.


Llawer hwyr a'r lloer arian
Uwch y byd yn dyrchu ban,
A'r bryniau i’r wybrennawl
Eangder dyfnder di-dawl
Dwyfol-Ionydd yn diflannu,
Unigrwydd distawrwydd bob tu, —
Y gwelid ef yn gwyliaw
Siriol drefn y serlu draw,
Oedd un a wyddai 'u henwau,
O fan is eu hail-fwynhau.
Hawdd i'm Ner oedd eu mwynhau,
Sylfaenydd eu hoesawl fannau.
Hir addolai’r arddeliad
O allu dwys llaw ei Dad.
Ger eu Hawdwr gwnai 'u gwridiad
Y nef a'i myrdd yn fwy mad.
Nefeedd uwch ein nefoedd ni
A ddelent i’w addoli.

Tra hoff ydyw Natur a'i hedd,
O fwriadau duwiolfrydedd;
A’i bryniau a bêr enwir
Fel borau gaerau y gwir,
Fel engyl yn ymyl nef
Arweinian tua'r wiwnef.

Ior erchai’i batriarchiaid
Dihalog i'w gofio gaid,
O ganol difenwol fyd
I wyddfa fel newydd-fyd,
O dawelwch diwaelod
Enwog le i seinio’i glod.
A wneddyw ar fynyddoedd
O'n tu, O pa faint oedd!
Atebai o frig Tabor
Ac o leithig unig Hor.


Y GWEDDNEWIDIAD. 823

Fe drefnai Sinai yn sedd
I gynnal ei ogonedd
Anfarwol, ac adferyd
Ei gyfraith berifaith i'r byd.
Syw cofio Pisgah hefyd
Araul fan yn yr ail fyd.


A dewisodd bryd Iesu
Yn y corff, eu bannau cu;
Tan oer loes tynnu i'r lan,
Gweddio yno’i hunan.

Yr haul yn machlud — Iesu a thri o'i ddisgyblion wedi cyrhaeddyd pen mynydd Tabor — Yr olygfa oddiyno - Dinodedd y Mab yng nghanol ei weithredoedd goffoneddus ei hun - Y disgyblion "wedi irymhau gan gysgu" yn cael gorffwys ar drum cyfagos.


Lleddfai’r cymysg derfysg dig,
Anian glywid yn unig.
O olwg cuddiai’r heulwen
Dan fôr o borffor ei ben.
Y llewin fyd â llen fawr
Gaerai i mewn bob gorawr.

Yn eu taith yr ennyd hon
Ar riwiau Tabor eon,
Iesu a thri o'i weision
Ffurfiau llwyd mal breuddwyd bron,
Ar eu hynt sefynt yn syn
Gei ei uchelaf goryn, —


Pedr ac Iago ac loan
Yn ei iach gyfeillach fan.

Pa gerdd, O pa gywirddawn
Ddarlunia’r olygfa lawn?
O'i hwyrhau mwy swynfawr oedd,
I gyd mwy edmyg ydoedd.
Pa wylltedd yn y pellder,
Pa saib gyda thymp y ser, —
Crib oesawl cyrrau Basan
Yn myned ar led i'r lan;
A’r niwl fel coron eilwaith
Mwy gwych a gemog o waith;
Bennau goruwch bannau byth
Trwy y gofod tragyfyth.


624 GWAITH ISLWYN.


Ymeangu, ymhongian,
Aml big mewn cymylau ban;
Ei guchiog drumiau gochid
I fawr rwysg ag olaf wrid
Yr huan, a'i serth riwiau
Ail llif o aur yn pellhau.
Tua’r deau tra diwen
Y dyrchai Gilboa’i ben.
Hermon gwyn ei goryn gaid.
Ban o degwch bendigaid.
Enwau cun ym mlaen ac ol,
Ac Un mwy yn y canol!

Anian trwy Ganan i gyd
Oedd ddwyfawl; naws o ddeufyd,
Gyda’i thawel awelon,
Porth y nefoedd ydoedd hon.
Engyl nef yn gartrefol,
Wnai’n wyn bob dyffryn a dôl.

Er ceined a gwyched gwedd
Anian a'i holl ogonedd,
Addas oedd iddi suddo
O ddiderfyn fryn i fro
$$$r ddofn nos, ar addfwyn wedd,
$$$w Naf fwynhau tangnefedd;
$$$r ddofn nos er addef ei Naf
Yn natur dyn yr hynotaf;
Rhag ei wedd troi’i mawredd mad
A'i chlod i dir machludiad.

Rhyfedd gweled ar ofwy
Y Mab yn edrychwr mwy!
Hynod im ganfod y g
ŵr
A'r gwaith yn fwy na’r gweithiwr.
Adail y ser yn dal sydd,
Mor dlawd mae’r adeiledydd!
Olwyn anian yn ddi-lesg,
A'r llaw fu’n ei lluniaw’n llesg.
Gwelwn y rhod yn treiglo’n rhydd,
A'r llaw lu’n ei lluniaw’n llonydd.

Ar drum cysgodfawr o draw
Ei weision gaent orffwysaw.
Efe’n flin mewn gerwin gur
Yn llefain yn y llafur,


Y GWEDDNEWIDIAD. 625


Yn rhwym o dan yr amod
A wnai i Dduw cyn ei ddod,
Hwythau mewn per gyweithas,
Drwy haeledd rhyfedd ei ras,
Yn rhodio neu’n huno’n ol
Ewyllys oedd rydd hollol;
Y diail Fugail dan faich
A'i ddefaid oll yn ddifaich;
Ag addwyn ras eu godde
Dwyn y llwyth du yn eu lle.
Yn yr Ardd ni waharddai,
Addfwyn Oen, eu goddef wnai.
Gadawai hwynt, — y gwaed i’w hau,
Gadawai hwynt, — gwaedai yntau.


III. Crist yn gweddio - Gweddi yn ei chysylltiad a dyrchafiadau ysbrydol ac (dg) amlygiadau o ffafr Duw — Y Gweddnewidiad — Ymddanghosiad Moses ac Elias "mewn gogoniant" —Y gogoniant cyfryngol goruwch darluniadaeih y darfelydd — Llewyrchiad y disgleirdeb nefol yn dihwno y disgyblion — Eu syndod a'u gorfoledd.

Yr unigedd rhyfeddawl
O'i fewn a ddeffroai fawL
Ystyrion y distawrwydd
Diau roent gymhelliad rhwydd.
Dewis holl lwydd mantais lle
I edryd ei fryd adre.


O'r addolfyd arddelfawr
Tua’r nef troai yn awr.
A dwylaw 'mhleth adolwyn
Ei Dad â dymuniad mwyn.
Ar wedd wylaidd rhoi’i ddeulin
Ar y llawr er oerfawr hin.
Gwrandaw’r weddi weddiai,
Agor nef â dagrau wnai;
Eitha dwys ceir wrth ei dôr
Yr Atebydd ar Tabor.
Rhoddodd fawredd ar weddi,
A'i waith oll cydblethai hi.
Yn ei hadsain elai’n wyl
Ei gyrchiad at bob gorchwyl,—
Ei gynor i ogonedd,
A'i ddôr i nefolaidd hedd



626 GWAITH ISLWYN.


Palas cymdeithas ei Dad;
Ei hynodawl fynediad
$$$w lawn ing — nid elai’n ol
Hyd ei boenau dibenol;
Pan y llefai rhoddai’i rhan
I symud baich Gethseman.
Dwyfolach dwysach deisyf
Yn y cur oedd, "llefain cryf."


Enwog fynyddau anian
Yn y niwloedd bythoedd ban
Ddwyreant i heirdd riwiau
Eu nef bell, o'r dyfnaf bau.
O gudd ddy
wynnoedd gweddi
A hedd ei chysgodau hi,
I fyd uwch y cyfyd Ion
Ei blant uwch pob helyntion,
$$$w fynwes, uchel-fannau
Ael y nef i lawenhau.
Prif dyrau temlau teimlad
A ddaw fyth o'r weddi fad.


$$$
r lan oddiar ei liniau
Galwai Ior Ef i'w eglurhau
Yn ei forau lawn fawredd
Trwy fad newidiad ei wedd.

 
Fel yr huan eirian ai
Ei wyneb, gordywynnai;
A'i leufer ogylch lifai,
A hwyr nos yn fore wnai.
Heibio bwriai bob arwydd
O farwol len, erfawr lwydd!
Ai pob tranc i ddifancoll,
Gwendid yn gadernid oll.
Yn ol i'w ddwyfol wedd ai,
Y dyn i'r duwddyn doddai.
Pelydron ei ogoniant
Fel môr o ddydd filmyrdd ant
Yn ddiball o'i gorff allan,
A'i wisg oll a'r byd sy gan.
Wybrennau yn olau ynt
Gan eu mad dreiddiad drwyddynt.
O'i amgylch ef y Nefoedd
Mal gwisg gan yn hongian oedd.


Y GWEDDNEWIDIAD 627

Ymweddai i’w fintai fach
Fel y mae y mae mwyach,
Gan addurn gogoneddawl
Ei waelaf wisg lif o wawl.

Rhydd eilfyd brawf arddelfawr,
Gyr ei weis goreu ai wawr.
Cedyrn maith y gyfraith gynt
O ganol nef ddisgynnynt;
Rhoddwr, diwygiwr di-wall,
A dirient o fyd arall.

 
Moses â'i law rymusol
A gipiai, gyrhaeddai’r rhol
Ddwyfol o ganol y gwg
Doai y byd â duwg;
Elias hefyd, gloai
Ddôr wybr pan i weddi’r ai;
Heddyw is ser y ddau sant
Gwiw a gawn mewn gogoniant.


Bu rhyfedd iddynt brofi
Rhyw nef ar ein daear ni,
Ie’r trwyadl bortread
O hynny fydd y nef fad.


Disgleirdeb eu hwyneb hwy
O'u rhyfedd freintfawr ofwy
Gynyddai’n ogoneddawl,
Gwychach oedd eu gwisgoedd gwawl.
Iddynt ail-ogoneddiad
Urddolfawr oedd, ailfawrhad.
Rhyfedd ogonedd gwiwnef
Ai’n uwch yn ei bresen Ef.


Yng ngwawl y cyfryngawl fri
Darfelydd dry i foli;
O fawr barch dyferu’ ibin,
Goddelwi, plygu’i ddeulin;
$$$w derfyn sydyn neshau,
Dibyn anfeidroldebau.


Byd uwch amwib dychymyg
A egyr mwy ei gwr myg.


628 GWAITH ISLWYN.

 
Y ter ogoniant araul
Oedd uwch na chanolddydd haul
Gylchynnai, wysiai ’i weision
I wynfa’r olygfa lon;
Ar y gwlith, O fendith fad,
Dihuno gan dywyniad
Urddasol fawredd Iesu,
Coneddiad eu Ceidwad cu.


Synnu ble’r oent dros ennyd
Ym mha fan, ie, 'mha fyd!
Syn ofyn ai y nefoedd,
Ai sang i lys engyl oedd.


O y lloniant a'u llanwodd,
Y nef, y tangnef a'u todd, —
Ei weled ef fu waelaf
Yn dragwyddol nerthol Naf;
Y g
ŵr dan ofidiau gant
Is ei groes a garasant,
Tan y wyrth a'r taen o wawl
Addefynt oll yn ddwyfawl;
Y wyneb oedd yn mam byd
Yn wael ac oll yn wywlyd,
Fel yr haul fe elai’r oll
Yn degwch mwy na digolL
Addefynt gwrdd o ddeufyd
I harddu heb ranu’i bryd.

Y ddoe y wisg ydoedd wyw,
Rhedawl ysblander ydyw;
Gwyneb ni thry neb yn awr
Rhag rhod ei wyddfod haeddfawr.


Gweledigaeth hiraethol
Eglwys Naf, gwel oesau’n ol,
Yn merthedd a mawredd mir
Ei ddelw a sylweddolir.
Yno wele ei Hanwylyd,
Mae’n hawddgar oll, di-goll i gyd.
Bron ffydd ar y mynydd mad
A geir yn glaf o gariad.
Ni chaed dilwydd arwydd o
Ei ddinod agwedd yno.
Tragwyddol, dwyfol, difeth,
Du nos ar hyd Nazareth!


Y GWEDDNEWIDIAD. 629


Ar ol edrych ei wych wedd
Hir adeg, a i anrhydedd,
Draw mwynhau ardrem newydd,
Rhyw hoff awr o ffenestr ffydd,
Oedd anhawdd gan mor ddenawl,
Mor ryfedd ei wedd a'i wawl,
Droi am un am un munud
O'u per hwyl i ganfod pryd
Ie’r urddol nefolion
Fwyhaent yr olygfa hon,


Y ser a'u llu sy araul
A dilen yn absen haul;
Gerllaw, eu gwawr a'u llewyrch
Huddir oll yn welwaf ddrych.
Cyffredin radd i'w haddef
Engyl yn ei ymyl Ef.


Er hardded gwychder eu gwedd
A'u gynau gan ogonedd,
O wawl uwch efelychiad
Oedd yr holl fawreddau rhad.
Yn y darlun arddunawl
Efe oedd y pwnc o fawl,
Addas oedd rhoi y ddau sant
Yn hudd y gogoneddiant.


IV. Cynhygiad Pedr — "Ac efe eto’n llefaru" cwmwl yn neshau — Hynodrwydd y cwmwl fel arwydd o bresenoldeb Duw - Y disgyblion wedi myned i mewn iddo yn ymbarotoi i glywed Duw yn llefaru — Y gorchymyn dwyfol.

 

Tristyd yn y byd bob awr
Ordoa’n llwybrau diwawr;
Er dod o bechod, beichiau
Yma o hyd yn mwyhau.
Er hynny daw i ran dyn
Eiliadau nefol wedyn,
A lloniant ambell ennyd
Gwyd y fraich uwch baich y byd.
A phan y daw rhyw ffyniant,
Rhyw awr ragorfawr o gant,
Dymuniad ein bryd mwynwedd
Ydyw parhad y pur hedd.
A Phedr pan oedd yn edrych
Ar ddi-drai fawredd y drych,
Diochain fwynhad uchod,
Yno fyth dymunai fod.


630 GWAITH ISLWYN.

"I bob un y gwnawn babell
Yma, O pa wynfa well,
Un i ti, canol-bwynt holl
Degwch y nef oedd digoll;
Un i ti sydd yn tywys
Llu’r gwawl â'th cyfeiriawl fys;
O nef oll y pennaf Un,
Ac o'i hanllesg lu’r cynllun."

Yn y gair ni ymsyniai’r sant
A gynlluniai, gan y lloniant,
Roi meibion gwynion y gwawl,
Puredig rai ysbrydawl,
Drachefn mewn byd o ddefnydd,
Mewn pebyll serfyll in sydd

Ni chofiai’n ei uchafiaeth
Y corff a'i amodau caeth,
Ond aros heb achos byth
Ei gofio yn dragyfyth,
Preswyliaw draw ar oer drum
Erch ael-dro yr ucheldrum.

Od oedd mewn dyryswch di-dawl
Y gwas ydoedd esgusodawl.
Dibechod wendid bychan,
Hawdd iawn fu faddeu’n y fan;
Difai i gariad ofyn,
O fwynhad, aros fan hyn.
I duedd bur da oedd bod
Aros o'i achos uchod.

Ond tra’r oedd yn llefaru
Ac oll mewn perlewyg cu,
Ymledai cwmwl hydeg
I doi yr olygfa deg.
I mewn iddo, fawr ofwy
Yn sydyn pan elyn' hwy
Ofnasant, araf nesu,
Syndod, gor-ryfeddod fu.

Meddwl am y cwmwl cain
Y dydd hir gaed i ddarwain
Eu tadau yn gadau gynt
Hyd gyrrau’r wlad a gerynt;
Dewisai’r Duwdawd osod
I ni y cwmwl yn nod


Y GWEDDNEWIDIAD. 631

O'i breswyl; a bu i'r oesoedd
O’i wyddfod cu’n addefiad coedd.
Gorbell gwmwl yn gerbyd
Gipiai pan ofwyai fyd,
Ar Horeb, erfawr arwydd,
Ei farnol osodol swydd,
Hen drugareddfa unwedd,
Arwyddo yno ei hedd.


O’i fawr urddas addas oedd,
Godidog gysgod ydoedd.
Gedy y byd ar godiad
I gôl arddunol ryddhad;
Delwedd o arddunedd yw,
O fyd y pellaf ydyw,
I nef y nesaf hefyd,
Arwydd rhagorlwydd i gyd,
A'i lenni arwyddluniant
Drachefn oesoldrefn y sant,
Ei bod yn ormod i ni
Tra isod dreiddio drwyddi.
Ond diddwl gwmwl o’i gylch,
A gwawr hygar o’i ogylch,
A ffolau benbwygilydd
Fel borau ddorau’r wawr ddydd, —
Nid fel blin gwmwl Sinai
Ddaliai i fyd ddelw o'i fai,
Nid arwydd deddf a dorrid,
Nid trysorfa llymdra a llid, —
Trwy hwn nid oedd taranau
A'u gawr yn rhwysgfawr barhau,
O'i ras ei hun eilun oedd,
Di-lid gordawel ydoedd.
Tabor yn ddiystorom
Oedd hyfryd â phryd ddi-ffrom.
Ynddo ymbarotoynt
Fel eu tadau gorau gynt
I wrando’r mawr Ior a’i arch;
Ac Iehofa wnai 'u cyfarch
A llef o'r cwmwl nefawl,
Arddelaf ei hynaf hawl, —
“Fy anwyl Fab anfonais,
Uchel yw, gwrandewch ei lais."
Geiriau o'r mawr ragorawl
Ogoniant, hoeddant ei hawl.


632 GWAITH ISLWYN.

 
Ger bron hynod wyddfod Duw
A gorddwys air y Gwir-Dduw,
Mor ddirym a diddym dyn!
E beidia fel abwydyn.
Rhoi ’i lef o gant y nefoedd
A'n daear gain adsain oedd;
A'i eres arch roddai’r ser
I ddu amdo diddymder.
Yn swn gorchymyn y Sant
Eitha isel syrthiasant
Ar eu hwyneb heb obaith
O fraw maith ymadfer mwy.
Ond hawdded idd y Duwddyn
Eu hadfer o'r isder hyn!
Os eaiff â'i fys eu cyffwrdd
Eu hofn ffy ’n y fan i ffwrdd.

Y Gweddnewidiad yn cynnwys prawf o'i ddwyfol fabolaeth - Ac o ragoroldeb Crist ar yr holl broffwydi a fu o'i flaen, a’i uchelach awdurdod — Y gyfraith ym mherson Moses, a'r proffwydi ym mherson Elias, yn dwyn tystiolaeth iddo — Testyn yr ymddiddan, "Ei ymadawiad ef" - Dyddordeb y testyn o farwolaeth Crist i lu y nef — Ymddibyniad eu dedwyddwch arno - Anfarwoldeb yr enaid yn dyfod i'r golwg yn ymddanghosiad Moses ac Elias - Dynoliaeth weddnewidiedig Crist yn rhagddanghosiad o ogoniant "Y corff a fydd.”


Os gwelsai rhai ar ei wedd
Huliad o bell ddwyfoledd
Duwdawd yn y cnawd cyn hyn,
A! mwyach nid amheuyn'.
Iddyn' niwl ei ddynoliaeth
A'i llen yn dryloew oll aeth,
A'i bur ddwyfoldeb araul,
Yn wychach, hoewach na’r haul;
“Hwn yw fy Mab!" ni fu mwy
Le i hud anghoeliadwy.
Os bu’i urddas heb ei arddel,
Cafwyd uchelaf sicraf sel.
Gwaelod erthygl diwrtheb
Gaed yn awr nas ysgwyd neb
Yn eu credo, Creawdwr
Fydd yn dragywydd y g
ŵr.
A pheidiodd y proffwydi
Oll yn awr; mae 'u gwell i ni.
Anfonodd Ion o’i fynwes
Ddau bennaf o'r harddaf res,
Ddau dyst mai Ef oedd destun
Eu holl ddatguddiad ei Hun.


Y GWEDDNEWIDIAD. 633


Gwelid hwy ar ofwy rad
Gyda’r tragwyddol Geidwad,
Y canol-bwnc cynnal-bur
O'u pell ddatguddiadau pur.
Yr oeddynt hwy’n fawreddig,
Un ar fellten-goch froch frig
Horeb, a'r ddeddf ddiwyraw
Yn dân o lid yn ei law,
Y llall yn beiddio holl lid
Addolwyr na arddelid;
Ond darfod mewn diderfyn
Swyddog mae’r ddau enwog hyn.
Un swyddog in sy heddyw,
A Duwdod mewn dyndod yw.
Yma o lwg Carmel ai,
Gwelodd a synnodd Sinai.
Darfod wnai’i fawrwych dyrfau,
Tabor oedd bwynt i barhau.


Gorhoff gaer y ffigyrau, —
Gwiw i ffydd ei hadgoffhau,
Ei rhodfa mewn hir adfyd
Er oesau borau y byd, —
Tua Cheidwad, gweladwy
Oedd ei chyfeiriad mad mwy.

Moses, mewn hanes, mwyn oedd,
O fyd llareiddiaf ydoedd,
Deddfwr ond hynod addfwyn
A modd hael i gydymddwyn;
Ond mwynach i'n dymuniant
Neu fwy’isel ni fu y sant
Na phan yn gweld gorffeniad
I ddifyr hedd ei fawrhad;
Adeilad proffwydoliaeth
O fawr nawdd, o'i ddwylaw ddaeth,
E fwynhai ei weld y fan hyn
Yn ymdoddi am y Duwddyn.
I ddal enw is boddlawn oedd,
Erioed gweinyddwr ydoedd.
Un o ach uchelach oedd
Yr lachawdwr, uwch ydoedd
Yn ei berson al burswydd
Yn ei bêr lawnder a'i lwydd.


634 GWAITH ISLWYN.

Ei ganlynwyr gaen' lonydd
I fwynhau hoff oriau ffydd, —
Ar donnau anghrediniaeth
Canfod golau-trumiau traeth!
Canfyddant acw yn foddawl
Ei ddyfod trwy hynod hawl,
Weithion ei ddanfon gan Dduw
A'i arddel ef yn wir-Dduw.
Oedd hyfawl i'w ffydd hefyd
Fel y gair dwyfol i gyd;
Archu gwrando arno Ef
A’i ufuddawl gyfaddef
Yr oeddid, cyfarwyddaw
Y byd o lwyrfryd i'w law.
Er fod Moesen hen yno,
Ai ’i fawryd i gyd dros go'.
Gwrylaidd gerllaw y gwelynt
Y g
ŵr daranai’r ddeddf gynt.
Y dadguddiad mawladwy,
Beddai’i fawl — y Mab oedd fwy!


Yno gwiwlon y gwelent
Ddau dyst mwy — ddau Destament;
Mawrion swyddogion y ddau
Yn unol eu hanianau, —
Efe yn y canol fyth
Yn dal y prifle dilyth,
A’i lawnedd yn dolennu
Y ddau yn un cynllun cu.
Dygai’r sylweddoliad digoll,
Hwynt yn un, yntau yn oll.
Addas oedd pwnc y ddau sant,
Y groes a agorasant
$$$w meddyliau — modd helaeth
I ddwyn yr ergyd pan ddaeth.
Y ddu nos oedd yn neshau,
Dibenion ei ddrud boenau,
Eglurhad di-gel ar hyn
Roddai eu geiriau iddyn';
Rhyw dreiddiad mawr i drawddysg
Iehova ddaeth, ryfedd ddysg.
Pwy a ddywed rifedi
Ac a draeth bynciau di ri
Y Nef! Pa destun hyfawl
Wahodda fyth newydd fawl!


Y GWEDDNEWIDIAD. 635


Dorau myfyr egyr hi
Drwy fydoedd diirifedi.
A, ceinaf bwnc y nef bêr,
Y canol-bwnc anwyl-ber,
Yw angau y Cyfryngydd,
Yn ei phwnc mae’n un â ffydd.
Ar lan anfarwol einioes
E geir ail fawrhau y groes
Dyma gun destun y daith,
A mawl Caersalem eilwaith.
Dewis "ei ymadawiad"
O flaen myrdd filiynau mad.
Dyna bwnc nid i un byd,
Addefawl gan y ddeufyd.
Am oesoedd bu’n destun dwys
O bryder i Baradwys;
Drwy y ser pryderus son
Am aberth wnai ei meibion.
Trobwynt llwydd a dedwyddyd
Rhyw lu o fewn yr ail fyd
Fu’r disgwyliad mad am hyn
A rodd yn foreu iddyn
O gerbyd oesoedd gorbell
Fynedfa i'r wynfa well.
A'r lawn, sef y cyflawniad,
Ydoedd y pris, pris parhad
Eu trigiad yn y wlad lwys
A’u rhodiad yn Mharadwys.
Nefoedd clau, grawnsypiau sant,
Am angau’r groes ymhongiant.
Y groes a gywir esyd
Faen hawl i anfarwawl fyd.
Salem, palasau eiloes,
Gwelwch eu grym gylch y groes.
Hyn rydd i rad wlad y wledd,
At ei sail, eto ‘i sylwedd.
Defnydd y dragywydd gân
A'i swm yw ing Gethseman.
Cofio’r wylo a'r hoelion
A fydd gwledd ddiddiwedd hon.

I'w meddyliau golau gaid
Tywynnawl ar hynt enaid.
Yn awr ni phetrusai neb,
Awr i wela anfarwoldeb.


636 GWAITH ISLWYN.

 
Gwnelai Tabor agoryd
Yr ysbrydol fythol fyd.
O ryw fyd drwy hyfryd hynt
Y ddau eilwaith a ddelynt,
Yn nerthol heb ol y bedd
Mwy ar eu hygar agwedd,
Rhyw liw anfarwol ieuanc
Uwch newidion troion tranc,
Yn hoenus hwylus eilwaith
I ddilyn diderfyn daith.
Prawf oedd o'r pur Ryfeddod,
Sef bythol anfarwol fod.

Gwyddfa fu’r olygfa lon
Di-niwl, i weld yn hylon
Forau Barn oddiarni,
Forau hedd ein hadwedd ni,
Hynod forau’n hadferiad
O fedd, i ryfedd fawrhad.
Draw glaned ol ragluniaw
Ceir hoff ddull y corff a ddaw!
Rhagluniad o'r goleuni
Pur fydd am ein natur ni.
Troaf i weld y portread
O’r hyn a fydd ar ddydd rhyddhad.

EFENGYL FWYN, EHED!


EFENGYL fwyn, ehed! nes amgylchynnu’r byd.
Am rin yr aberth dwed, yr aberth dwyfol drud;
A chyda thi y newydd aed
Am rym ei groes, am werth ei waed.

Hyd Affrig dywell dos, myrddiynau yno sydd
O dan gymylau’r nos yn wylo am y dydd.
O! agor iddynt ddorau’r gwawl
I ddydd o fywyd, dydd o fawl.

Gostega’r byd o'th flaen; myn, yn lle rhyfel, hedd;
A blodau cariad taen i baradwyso’i wedd.
A'th faner fawr yn hardd ar led,
Efengyl fwyn, ymlaen ehed!


FY MREUDDWYD. 637

FY MREUDDWYD.

BREUDDWYDIAIS freuddwydd bêr. A chyda hi
Yr oeddwn ym mharadwys; ac ar lan
Afonydd bywyd a gorfoledd pur,
Yn yfed anfarwoldeb a mwynhad.
Tragwyddoledig ein hieuenctid oedd,
Ac anfarwoldeb mewn llythrennau aur
Yn ymddisgleirio’n danbaid ar ein gwrid,
Ein palmwydd, a'n coronau. 'R oedd pob awel
Yn llon gan adsain rhyw seraffig gerdd,
A'i hanadl yn beroriaeth ac yn hedd.
Ond er mor gyflawn y gynghanedd bêr,
A'r cyngord er mor berffaith, medrwn i
Ddosbarthu’r lleisiau, a dynodi rhai
O blith y lleill, trwy gynefindra hoff
A'u tonau pan, yn bererinion llesg
Yn wylo am eu gwlad, y chwyddent fawl
Yr Oen a'u prynodd gynt ar Galfari,
Ar Galfari â'i werthfawrocaf waed.
O!’r golygfeydd gylchogylch oedd ar daen;
Ac ar bob tu, O!’r myrdd drigfannau hedd!
Rhyfeddu’r oeddwn nad oedd yno fedd
Na cholofn brudd i angau, can's o fyd
Llawn o fynwentydd erch y daethom ni;
Ac oeddwn wedi ymarfer cymaint mwy
A meddwl am y pridd, a chrwydro dan
Gysgodau oer y glyn mewn efryd dwys,
Fel braidd y meiddiwn ddychymygu fod
Un byd heb fynwent, na gobeithio cyrraedd
Bro lle na chyfaddefir rhwysg y bedd.
Dywedodd wrthyf, a dywediad oedd
A wnaeth fy nef yn gan mil mwy nefolaidd,
Ac ar fodolaeth am y cyntaf dro
A seliodd ddymunoldeb, — "Byd rhy uchel
I saethau angau yw y nef, rhy glaer
$$$r nos dragwyddol hudda’r fynwent drom,
A mil rhy danbaid i'w chysgodion prudd.
Y Bywyd yw ein Pentywysog ni,
Yr hwn â gair sy’n anfarwoli bydoedd,
Tad Tragwyddoldeb ei fawreddog enw,
A thragwyddoldeb ei breswylfa deg.
Teyrnasa’n frenin, ie, ar frenin braw,
A'i droed ar wddf y creulawn. Ganddo Ef


638 GWAITH ISLWYN.

 
Mae agoriadau uffern ddofn ei hun,
A phan y myn dadgloa hi, gan ollwng
Y carcharorion o'u cadwynau’n rhydd,
Afrifed lu, yn anllygredig mwy.
Mae adgyfodiad yn ei ffafr, a bedd
Heb obaith adgyfodiad yn ei wg."


A! byd heb fedd, heb siomiant, a heb boen,
Drychfeddwl droai unrhyw fyd yn nefoeddi
Gan edrych arni hi. f’anwylyd hoff,
Angyles deg yn awr, heb ar ei hael
Farwoldeb mwy, ymaflwn yn ei llaw
A oedd mor wyn nes y buasai’r lili
Yn cywilyddio, ac yn galw ei hun
Yn aflan, gan ogwyddo tua’r lli
I geisio dagrau i wylo am fwy purdeb.
Ymaflwn yn ei llaw, fy hun yn angel,
A'm gwedd, a'm cân, a'm geiriau yn angylaidd oll,
Ac wedi llanw ein phiolau aur
O afon bur y bywyd — dafn o'r hon
Pe ei dyhidlid ar y dyfnaf fedd
Ysgydwai’r fan â nerthoedd anfarwoldeb, —
Cydlawenhaem â gorfoledd mwy
Na’r hwn a chwyddai fron yr addfwyn dad,
Pan orchymynnai y pasgedig lo,
Y fodrwy, a'r newyddaf oreu wisg,
I roesaw yr afradlon tua thref,
A selio’i adgyfodiad â gorfoledd.
Mil mwy na’r llondra a orlanwai’r llys
Pan, hwyr y dydd, wrth ddychwel dros y parc
A ledai’n wyrddni pur o flaen y palas,
Y synnid y ffyddlonach frawd gan sain
Yr uchel ddawns, a'r wybr oll o gylch
Yn darstain gan gynghanedd, a'r awelon
O'u hystafelloedd fry yn gwrando’n syn
Heb nerth i gychwyn i'w difrodawl hynt,
Oll wedi eu tynera gan y swyn,
Eu gwyllted wedi ymdoddi yn fwyneidd-dra,
A'u penderfyniad — bod yn ddistaw mwy,
Oddieithr rhoi i'r gyngan ambell chwydd,
A chludo 'mhellach y beroriaeth hedd
Er synnu ereill a'i phereidd-dra hi,
A chreu trwy’r ddaear a'r wybrennau draw
Un cyflredinol deimlad o edmygedd;
Mil mwy na’r mwyniant a orlanwai fron


FY MREUDDWYD. 639


Y patriarch hybarch, hyd orlifiant, pan
Yng Ngosen deg, y gwelai o'r teyrn gerbyd
Yn disgyn briflywiawdwr bro yr Aifft,
Ac ar ei wddf yr wylai londra’n lli
Wrth adwaen a chofleidio ynddo fab, —
Cydlawenhaem â llawenydd mwy,
A mwy llawenydd nag a deimlem pan
Y cyfarfuom am y cyntaf dro
A'r lan y môr, a'r tonnau oll yn fud,
Yn ofni treiglo’n drystfawr tua’r traeth
Rhag aflonyddu ein cyfeillach bêr,
A pheri ini flinder, pan yr oeddym
Yn dechreu talu rhan o’n teyrnged fawr
I gariad, deyrn hawddgaraf, a phan oedd
Dy saethau, serch, yn glynu yn ein mynwes,
A'u blaenau y pryd hynny oll yn falm,
A rhyw felusdra ym mhob archoll ddofn,
Pob archoll yn rhy ddofn i'w dileu,
Pan deimlem fyrlymiadau’r ffynnon lawn
O gariad pur o fewn ein mynwes, — ffynnon
A darddai allan a chyflawnder mwy
Gan orddylifo beunydd, wedi hyn;
A phan y teimlem ein calonnau ieuainc,
Ein hewyllysiau, a'n gobeithion oll,
Yn llwyr ymwadu â phob personolaeth,
Gan wrthod ymfodoli ar wahan —
Un enw, un galon, un ewyllys mwy;
Pan deimlem gyntaf aurlinynnau serch
Yn ffurfio rhyngom y tragwyddol undeb
Nad elli di, O amser, ei wanhau,
Na thi, O fedd, ei dorri fyth, tydi
Sy’n torri cytundebau’r byd o'r bron,
Gan ddryllio pennaf gyfamodau dyn,


Llawenydd oedd, anfarwol, a di-drai.
O! mor wahanol i'r gorfoledd gynt
A fyrlewyrchai fel y fellten chwim
Gan ffoi, a chadarnhau breniniaeth nos!
Mor felus ein bodolaeth mwy! ac O!
Mor hawddgar, Anfarwoldeb, oeddit ti,
Diddymdra yn erchyllach nac erioed,
Melusdra pur, heb ddafn o chwerwder oedd,
Heb siomiant, tragwyddoldeb o fwynhad,
A heb ochenaid, ton a chwyddid fyth
Gan saint ac archangylion yn gytun.


640 GWAITH ISLWYN.

 
Cydlawenhau yr oeddym fod ein rhan
A'n hetifeddiaeth yn yr hapus fyd,
Byd hapus anfarwolion, lle ni chwyth
Un awel oer i wywo blodau bedd,
Lle na adwaenir ond un tymor teg,
Un gogoneddus Haf, a Duw yn Haul
$$$w dragwyddoli â gwawl ei bresenoldeb,
A lle ni’th enwir di, O Frenin braw,
Ond fel gormeswr gorchfygedig — ti!
A greulawn ddrylliaist y llinynnau aur
Gylyment ein calonnau ni ynghyd,
Gan anfon un i’r fynwent yn ei blodau,
A chladdu’r llall mewn tristwch cyn ei farw.

Tra chwarddai mewn gorlondeb ar ein hael
Un o brydferthaf wenau anfarwolion,
Arllwysem ein llawenydd gorlifeiriol,
A hoeddi wnaem ein goruchafiaeth lawn,
Mewn cân a dynnai sylw’r engyl fry
Pan dan gysgodion teg y bywiol bren
Gwleddent ar oludoedd anfarwoldeb.
Cân oedd am oruchafiaeth ar y bedd,
A buddugoliaeth oedd yr acen fwyn
A seiniwn ym mherffeithrwydd lloniant, pan
Ddadglodd y wawr fy amrant, ac y ffodd
Fy nef a'm holl ddedwyddwch gyda’r nos.

Y WENYNEN.


RHWNG melfodrwyau y Wenynen lon
Eheda draw yn llawen heibio’r llys
Gan ddwyn ystôr aml flodyn gyda hi.
Pan rodiwn fore heddyw dros y parc,
I yfed iechyd-roddawl rin y chwa,
Hi ddeuai heibio gydag awel dydd,
Mor llon â’r wawr, a'i bryd ar gasglu mel.
Diwydrwydd oedd ei si, a'i hagwedd oll
Gweithgarwch wedi ymgorffoli oedd,
Mor foreu, ac mor fywiog ar ei thaith.
Gerllaw agorai rhosyn teg ei fynwes
I wên y wawr, a balm y bore wlith,


Y WENYNYN. 641


Gorffwysai arno’n llon, a rhwng ei ddail
Ymguddiai nes ymsuddo yn ei fêl.
Rhyfeddu’r oeddwn na fuasai hi
Yn sylwi fel fy hunan ar ei liw
A oedd mor deg nes gwridai’r wawr o gwilydd
Weld blodyn tlawd yn gwisgo tecach ael,
Ac ar y ddaear berl na fedd y nef.
Disgwyliwn iddi sefyll, oll yn syn,
I sylla ar ei harddwch, a thrachefn
I syllu, a thrachefn gan deced oedd,
A'i si yn ddistaw gan edmygedd mwy;
Ond hi ni, thremiai ar ei ddengar wrid,
A'i wawr, er hardded oedd, ni thynnai’i sylw.
A dwedwn, tra y nofiai drwy y mêl, —
“Wenynen fach, wyt ddoethach na myfi."

Drachefn aethum allan y prydnawn,
Brydnawn drachefn cyfarfyddais hi
Yn casglu’r diliau mêl, dan lawenhau.
A thybiais fod y blotiau heirdd ynghyd
Wrth agor eu mêl-fronnau iddi hi,
Yn dwedyd, — "Boddlawn
ŷm, wenynen fach,
I ti ymguddio rhwng ein tlysion ddail
A gwledda yno, herwydd gado’r wyt
Ein harddwch, nod ein hymffrost, heb ei gyffwrdd;
Nid fel y chwa sydd yn anrheithio’n gwrid,
Gan ddwyn ein gwawr, a chyda’n gwawr, ein holl."


Ac wele hi yn gorffen gyda’r dydd,
Fel y dechreuodd gyda’r dydd, ei thaith.
Yn llawen mewn mwynhad prysura adref
I gyfoethogi ei thrysorfa fêl.
A dwedaf, — "O na bawn, wenynen fach,
Ar derfyn pob diwrnod fel tydi
Yn ddedwydd ac yn llon, dan lawenhau
Wrth nesu tua 'm cartref gyda’r nos.
Brydnawn, pan eilw y tywyllwch uthr
Ei fyddin o gymylau fry i'r wybr
I amgylchynnu gorsedd nos â braw,
O, na bawn ymwybodol fel tydi
Fod diben fy modolaeth wedi’i gyrraedd,
A gwaith y dydd, oll, gyda’r dydd, ar ben.
Anaml y byddaf fi yn foddlawn pan
Yn dychwel tua 'm bwth; anamlach fyth



642 GWAITH ISLWYN.


Yn gorfoleddu’n uchel fel tydi;
A mwy anaml drachefn yn gyfoethog.
Nid ofni di y ganaf llym pan ddaw,
Y gauaf llym sy’n peri i bawb ofni.
Diwydrwydd dry yn haf dy auaf di,
A'i noethni enbyd yn gynhesrwydd pur.
Pan gwyna’r dryw, o dan yr awel lem,
Hyd awr machludiad, am ychydig fara,
O drothwy i drothwy, yn gardotyn llwm,
A phawb yn ddisylw, a'u calonnau’n oer,
Oer fel y gauaf— delw oerni ei hun,
Tydi wyt ddedwydd yn dy gartref clyd,
A brasder haf lifeiria ar dy alwad.
Wyt berffaith anibynnol ar y byd,
Heb angen camu dros dy drothwy fêl
I ofyn am elusen gan gymydog.
A gwenu’r ydwyt o'th ystorfa fras
Ar bob diogyn heibio ddêl ar grwydr
I geisio gan y gauaf y digonedd
Na lif ond o gostrelau aur yr haf.
A gartref mae dy gyfoeth oll yng nghadw,
Dy hunan yn ei wylio a'i fwynhau;
Heb ar wasgarfa un o'r diliau aur,
Nac ar anturiaeth ddafn o'th gyflawnder.

Rhwng melfodrwyau fil, ehed! ehed!
Wenynen fach, wyt ddoethach na myfi;
A’th efelychu fydd fy ymgais mwy.
Ni'm twyllir fyth gan ymddanghosiad teg,
Ond gyda thi y galon brofaf bellach,
A rhoddaf i'r egwyddor fy holl sylw.
A threuliaf haf fy amser, a'm holl nod
I gasglu golud erbyn tlotach awr,
A chnwd toreithfawr o rinweddau da
A grasau gwell, nes llonni gauaf du
Y bedd ei hun, ac fel y byddo mwy
I mi yn haf o obaith ac o hedd;
A thragwyddoldeb yn ymagor draw
Yn olygfaoedd o ogoniant pur.

A gwobrau dy ddiwydrwydd yn hongian oll o'th gylch
Rhwng dy fodrwyau heirdd ehed! ehed!
Ac wrth ehedeg, llawen bydd fy mod
Yn ddisgybl i ti, wenynen fach.


Y BARDD.  643

Y BARDD.

EI wisg oedd seml fel ei Awen gu,
A gostyngeiddrwydd oedd ei uchaf fri.
Gwrthodai’r byd, ac ymryddhâi o'i swyn,
Gan gynnal beunydd ei gymdeithas fwyn
Uwchlaw, â’r lloer; islaw, â'r edn sydd
A'i delyn fach yn llonni temlau’r gw
ŷdd.

Ei enaid swynid i addolgar dymer
Gan lais peroriaeth a'i hudoliaeth gu,
I chwyddo cerdd y cerub gôr mwyneiddber
Dyrchafai, gyda’r dôn, i'r wynfa fry,
Lle chwytha sereiff eu tragwyddol offer
Nes llanw tragwyddoldeb â phereidd-der.

Ar ael y bryn pan gyda’r cwmwl gwibiai,
A'r wawr yn euro bron y dwyrain draw;
O! pwy ddarlunia y llawenydd deimlai,
Yr hedd anfarwol brofai, pan gerllaw,
Y brysiai heibio awel fwyn dan ganu,
Adeiniog gôr o'i mewn yn per delori.

Ar odreu’r waun, o flaen ei dŷ ymledai,
O flaen ei d
ŷ yn wastad ac yn wyrdd,
Afonig deg, ond wylaidd, ymddolennai,
A'r awel bêr, ag ysbail gerddi fyrdd,
Yn chwarau ar ei glannau paradwysaidd,
Ei cherdd yn llon, a'i hanadl fyth yn falmaidd.


Ni welwyd yn ariannu mynwes dyffryn,
Yr haul ei hun ni welodd loewach lli;
Yr haul, a wel o ddwyrain i orllewin,
Ni welodd afon fwy ei rhad na hi.
A’r lloer a wenai pan y gwelai’i darlun
Yn crynu ar y lli, yn brudd gyferbyn.

 
Gwasgarai ei brashaol ddiferynau
I bob blodeuyn a wylai ar ei glan,
Pob tlawd flodeuyn gan syched a alarai,
A’i ddyfrig yn wywedig ac yn wan.
Danfonai aml risialaidd wydraid ato,
Nes deffro’i wên drachefn, a’i adfywio.


644 GWAITH ISLWYN


A’r rhosyn yn ei wisg o ruddwawr berlau,
A'i wedd frenhinol yn urddasu’r lli,
Ymwelai gyda’r wawr, a'i chrisial donnau
Wrth olchi’r glannau, yn edmygu’i fri,
A brysiai ffwrdd, yn eofn rhwng y creigiau,
Gan siarad am ei Duw, y Môr! a'i cheraint hoff, y tonnau,

Amgaerid ei breswylfa hyd y nefoedd
A beilch fynyddoedd, muriau natur gref;
$$$w huchaf frig yn gynnes gan goedwigoedd,
Eu hunig wisgoedd, llwyr amgaerent ef.
A dysgent iddo, fry o'u huchelfaoedd
I ddiystyrru’r byd, a cheisio’r nefoedd.

Pan wenai gwanwyn er eu bannau oerion,
A'i gwenau yn cynhesu 'u hoeraf fan,
Pan ad-ddeffroai’i chwyth y coedydd meirwon,
Gan archu’r bywyd tirf o’r gwraidd i'r lan
$$$r uchaf frig i'w guddio mewn gwyrddlesni,
I adgryfhau y cangau, a'u cysgodi
Rhag gwg y gauaf du, sydd, er yn marw, yn gwgu;

A phan ym myrdd o lwyni ar lechweddau
Y beilchion fryniau, y deffroai’r gân
Mor bêr a swynol nes ymgrymai’r bannau
O'u gwawl-orseddau yn yr wybren lân
I wrando, nes i'w celltaidd fron hiraethu
Am lais i chwyddo’r nefol gerdd, neu dant i'w hefelychu
Ac uwch eu wybrol uchder hwy tua’r haul i'w harddyrchafu;

Pan dorrai hun, gauafol hun y llysiau,
Gan hongian ar ganghennau’r berllan sydd
Aml swp blodeuog, oll yn addo ffrwythau
A thymor llawnach a disgleiriach dydd,
Dy ddydd disgleiriach di, O haf! a'th dymor,
Pan gân y ddôl, pan chwardd y bryn, a thi’n blaenori’r cydgor;

Pan cyngherdd ei hadeiniog delynorion
Yn llanw’r wigfa ag addoliad glân,
Gan agor llygaid teg y blodau tlodion
Tra’n cysgu ar glustog oer yr eira mân, —
O! pwy ddarlunia hedd y bardd, tra Anian
Yn rhoi o'i breichiau ei hoffusaf faban,
Y ddaear lom, i'w mamaeth deg, y gwanwyn
$$$w gwisgo a'i mynwesu fel ei phlentyn?


Y BARDD. 645


A phan y deuai’r haf o lys yr huan,
Yr huan sydd yn fythol haf ei hun,
O’i oleuedig lys pan droai allan
Ei drem yn eirian, angerddolaf gun,
Pan ffoai’r gwanwyn rhag ei wyneb tanllyd,
Gan roi i fyny’r byd fel llencyn harddbryd
$$$w arolygaeth ef, ragorach athro,
I ddwyn ei ddoniau allan a'i berffeithio,
Addfedu’i rawn, a thynnu’i rin o hono;


Pan dan ei wres angerddol digalonnai
Yr afon loew wrth chwilio am yr aig,
A phan rhag llid ei belydr tan ymguddiai
Dan nawdd y goedwig neu’r grogedig graig,
Hyd nos, pan ail-ddechreuai’i phererindod,
Yn llaw y lloer, a'i bron yn oer i'w gwaelod,
Y lloer, ei hun sy yn wylo am ei phriod, —


O! pwy ddarlunia hedd y bardd, pan felly
Dilennai Anian ei thrydanbaid wedd?
O! pwy ddarlunia’i londer, pan i fyny
Esgynnai’r haul yn rhwysgfawr tua’i sedd,
Ac yn ei gerbyd gydag ef yn esgyn
Y dydd, sydd gydag ef yn codi ac yn disgyn?

Rhwng rhyfeddodau teg y bore ddydd,
Y bore ddydd sydd oll yn rhyfeddodau,
Ei anadl yn iachau y galon wan
Sy’n gwywo dan awelon gorthrymderau;
A'i gorau yn addoli ar y brig,
Gan ddeffro, ‘i adddoIi’r wig a'i blodau,
Nes troi yn deml i Dduw bob llannerch werdd,
Pob teimlad pur i Dduw, i Duw bob cerdd, —

O! pwy all grwydro rhwng ei geinion llon
Heb deimlo’i fron yn llanw gan hyfryddwch,
A thros yr ymyl yn ymchwyddo’n fawl
I Dduw, yn gân ddi-dawl o ddiolchgarwch?
Dihunwch, feirddion, gyda’r bore ddydd,
Fel beirdd y gw
ŷdd, y pluog feirdd, dihunwch
Ddeffroes deg y bydoedd, effro byddwyf
Pan elwi di, a chyda thi y dringwyf
Y bryn ar d'alwad, i addoli yno,
I weld y nos yn gadaw’r nef dan wylo,
Yn gadaw’r nef, fel Adda’r ardd yn gado
Ac i ganu am y dydd, nes yn yr haul y delo.


646 GWAITH ISLWYN.

Ar ol i’r wawr, ar floedd yr huan, gychwyn
Ei hun yn effro i ddeffroi y byd,
A gosgordd aur o belydr nef yn canlyn,
Ac ar ei grudd yn chwarau’r tecaf wrid,
O!’r fath berlewyg drwy ei fynwes deimlai
Y bardd, pan gyda hi dros fryn a dôl y crwydrai.

Rhoes natur lygad angel i Arlwynor,
Nes gwelai natur yn angylaidd oll,
Rhyw fendith ymhob hin, ac ymhob tymor
Gyflawniad o gyfundrefn fawr ddi-goll.
Mawrygai’r haul, nid am ei orddisgleirdeb,
Ond am ei fod o Dduw yn danbaid ardeb.

Edrychai tua’r bryniau addurnedig
A choronedig ag ysblander dydd,
Eu seiliau yn y creig yn garcharedig,
Mor ansyfledig yn y dyfnder cudd, —
Edrychai arnynt oll fel arwyddluniau
O allu ymherodraeth Duw, a bythol rym ei eiriau.

Y Duw sydd a'i lywodraeth yn ymestyn
Dros fydoedd filoedd, a thrwy oesoedd,
O! pwy gynhwysa’i feddwl ef! Pa linyn
Fesura ei amcanion, blymia’i ffyrdd,
Ei ffyrdd sy’n anchwiliadwy fel ei hunan,
Nes rhydd efe o hono’i hun wawl eglurhaol allan?

Pan lenna niwl yr huan, pwy a ddywed
Yr wyla anian mwyach byth dan len?
Ti’r Dwyfol Haul! na fyddwyf mor wargaled
A galw’n gwmwl ar dy orsedd wen
Bob goruchwyliaeth lem a chwytho droswyf.
Fy Nuw! gwna fi yn foddlawn, nes atat fry y delwyf.

Dysgasai’r bardd ar dymor teg ieuenctyd,
Nid yw ieuenctyd yn aml yn dysgu hyn,
Pa fodd i ddwyn yn esmwyth feichiau adfyd,
Pa fodd i ysgafnhau aml groesau’r glyn.
Yn forau cymylodd seren ffawd; yn forau
Y dysgodd yntau wenu dan gymylau.

I uchelfeydd dadguddiad aml y dringai,
Efengyl iddo roes yr aden gref,
Y ddaear yn y dyfnder pell ddiflannai
Y ser ni welai, ’r oedd yr oll yn nef,
Yn nef mewn gobaith llawn, nef mewn disgwyliad;
Ei etifeddiaeth hardd mewn rhagwelediad.


Y BARDD. 647

Oddiyno’n deg cydmarai’r byd ac amser,
A nefoedd, tragwyddoldeb, barn, a Duw,
Cydmarai fôr o lid, â dafn o londer,
Tragwyddol farw, â thragwyddol fyw,
Gan benderfynu’n llwyr o du’r dyfodol
Ymddygai fel yng ngwyddfod Duw, ar drothwy’r byd tragwyddol.

Yn fynych pan yn crymu dan flinderau
A olchent fel llifeiriaint dros ei ben,
Edrychai ar gysylltiad amgylchiadau
Y ddaear hon, a rhai y nefoedd wen.
“Yr un Rheolwr acw sy’n teyrnasu,"
Dywedai gan gyfeirio uwch yr haul,
"Yr un eangfawr drefn sy’n gweithredu,
Os drwg y cyntaf fyd, bydd dda yr ail;
Mae gwobr bywyd oll tu hwnt i angau,
Tu hwnt i angau ma
e fy ngwobr i;
Er amled yma yw fy ngorthrymderau,
Bydd lawer amlach fy mwynderau fry.
Yn dawel bellach, fry y mae fy nghalon,
Fy Nghanan deg, fy etifeddiaeth wiw;
Fy mrodyr fry, a fry fy holl gyfeillion,
Yn dawel bellach! fry y mae fy Nuw."

Fel hyn y canai; cân gorfoledd ydoedd;
Fel morwr ar y llif yn cofio’i wlad
Nes ebargofio’r don, a swyno’r gwyntoedd
Oll i ddistawrwydd byr â'i odl fad;
Fel angel ar hir grwydr yn cofio’r nefoedd
Tra’n olrhain ser-balasoedd pell ei Dad,
Wrth weld y nef o bell, fel hyn y canai,
Ac yn y gân y nef yn agos deimlai.

Pan na fo llygad yn agored isod,
Y ser ddisgleiriant ar orseddau’r gwawl;
A'u corau glwys o engyl ganant uchod
Pan bydoedd fyrdd yn fyddar, odlau mawl;
A'r rhaiadr, rhwng y bryniau pell yn chwysu,
Ddisblea’irwysg a'i ryferthwyol allu,
Pan nad oes ond y creigiau hurt a'r cwmwl tlawd yn syllu.

Y môr dan chwyddo eilw ei gedyrn luoedd
O'u gwersyllfeydd islaw’r ryfelgar don,
I fyny geilw eu difrodawl nerthoedd,
i floeddio "I’r gad," a chwareu ger ei fron,


648 GWAITH ISLWYN.

 
Pan nad oes draeth i weled a rhyfeddu,
Na phlaned i fawrhau i'r ser ei allu,
Dim ond y gwyntoedd byrbwyll yn rhodresu,
A'r nos ar fron y llydan fôr yn cysgu,
Heb don yn ddigon croch i'w deoro a'i haflonyddu.

Arlwynor, pan yn canu, fyth ni holai
Pwy a'i mawrygai, pwy ganmolai’r gerdd.
Ei lais yn bêr a glywid pan na fyddai
Gerllaw ond awel dlawd drwy’r goedwig werdd
O flaen y curwlaw’n ffoi, ac wrth bob ogof
Yn bloeddio "Noddfa!" fod y gwlaw yn wallgof.

Mae’n rhaid i ner ddisgleirio. Seren ydoedd
Arlwynor a'i disgleirder ynddi’i hun;
Tywynnai nes goleuo’r holl amgylchoedd
Pan na fai i'w mawrhau, edmygwr un.
Pe cysgai’r byd hyd ganol dydd, cyfodai
Y wawr fel cynt, a'r haul fel cynt ddilynai,
Ac iddo’i hun a natur ymddisgleiriai.

A phwy, ag sydd yn ofni Duw, yn disgwyl
Ei wobr a'i fawryd mewn disgleiriach rhod,
O! pwy, ond sydd ag hunan iddo’n anwyl,
Na nef na Duw’n fwy anwyl, fynnai fod
Yn aruthr beth yng ngolwg plantos amser?
Yn llyfu’r byd fel hyn, fy enaid, fyth na'th weler.

Arlwynor a adwaenai uchelfrydedd,
Uchelfryd am dragwyddol fywyd oedd,
Coronau’r saint, a phalmwydd eu hanrhydedd,
Canmoliaeth Duw, ac nid gwerinol floedd.
Ni feddai’r ddaear iddo ddymunoldeb,
Cyrhaeddai ei uchelfryd dragwyddoldeb.

Dan wylo, gyda’r cwmwl gwyn
Fe hoffai wibio dros y bryn
A'i olwg tua thecach byd!
Flaen llysoedd heirdd, dewisai ef
Y bryn, agosaf fan i'r nef,
A’i g
ŵyn parhaus am wybr fwy clyd,
A thecach byd.

Oddiar ei glogwyn balchaf hoffai edrych
Ar deyrn y gwawl yn deffro, oll yn dân,
Ei drem yn fywyd oll, a'i dalcen claerwych
Yn t'wynnu’n deg drwy ddôr y dwyrain glân;


Y BARDD. 649


A thwrf olwynion ei ddydd-gerbyd harddwych
O bell yn llwfrhau y nos, gan wasgar llenni’r entrych;
A delw deg y borau llon
Yn crynnu ar y don,
Gan euro’i bron.


A hoffai edrych ar y loew afonig
O'r graig orgelltaidd yn ymdorri’n rhydd,
Gan ymson am ei chadw yn gaethedig
Gyhyd, a threulio’i dyf roedd i wylo am y dydd.
O! hoffai’i gwrando ar ei gwibdaith unig
Yn blino’r awel bêr, y blodau teg, a'r gw
ŷdd
A daâent oll eu noddawl freichiau drosti,
A thaer ofynion am breswylfa'r weilgi,
Lle’r oedd ei henw’n darfod, a'i hanes yn terfynu.

 

Ni chaed y glyn crisialaidd heb ei swynion,
Deniadau fil ddisgleiriant ar ei li;
Hardd gylch o rôs yn euro ei odreon,
A rhwng eu gwndiau, aml lili gu
Mor deg a santaidd nes y byddai’r wendon
Argyhoeddedig o'i gwylltineb eon,
Yn llwfrhau, gan suddo’n ol i wylo yn yr eigion.

A theimlai’i galon ysbryd gwrolfrydig
Pan welai’r goedwig dal yn dringo fry;
A'r dderwen hybarch, gref, ei hun yn goedwig,
A phob gwyrdd gang yn deml i adar lu,
O fry yn syllu ar ei delw fawreddig
A'i chawraidd ddarlun yn urddasu’r lli,
A dwedai, — "F'athrawes wyt, dderwen fawreddog!
Ac O! fel tydi na bawn yn sefydlog."

Y greadigaeth, deg ei gwawr, oedd iddo’n gartref clyd,
A'i holl wrthrychau fach a mawr yn berthynasau o un fryd.

Aelodau’r un gymdeithas hardd,
A hwy cymunai megis bardd.

Ymlonni’r oedd pan ddelai Mai,
Dan wrido’n deg, a llawenhau
I euro bron y lannerch dlos,
A gwlawio ei hawddgraraf rôs,
A gwisgo natur yn ei mantell werdd,
A deffro swyn y goedwig, sain y gerdd
Pan dawdd ireidd-dra rew y gro,
A phan amranta dros y fro
Y gwlithog emau, ail i ser,
A'u llygaid yn fwyneidd-dra per.


650 GWAITH ISLWYN.

 
Pan ymddanghosai’r lleuad dlos ar fron yr wybren dawel fry,
Yn drist, er yn frenines nef a'r nos, fel tyner frawd cysurai hi,
A'i wên a sychai’r deigryn prudd
Gymylai ei mwyneiddiaf rudd.

 
Pan dros y gorllewinol gaer
Disgynnai’r dydd-lywiawdwr claer,
A phan y cauai ’i lygaid llon
Rhwng gwyrddwawr gauadlenni’r don,
Arlwymor o'i arsyllfa fry
A wyliai ei chyfodiad hi,
A fry anadlai odl bêr
$$$w chyfarch, gyda thorf o ser.


"O leuad dlos,
Deg fanon nos,
Rhwng ser yn orseddedig fry,
Addolgar fydoedd ar bob tu,
Anfeidrol gôr yn llawenhau,
O, pam yr wyli di?
O, pam yr wyli i drist-hau
Ý côr seraffig fry?


"Deg loer, paid a galaru;
O paid; rhy gannaid, rhy gu
Ydyw 'th ael di, a’th olau,
O flaen nef i’w haflunhau.
Soddi, ymguddi o'm g
ŵydd
Yn nagrau dy unigrwydd.


“Yng ngrym eu cariad atat ti
Disgynna’r ser o'u nennau fry,
I orfoleddu yn dy wawl,
Mawrygu 'th wedd, a chathlu 'th fawl.
Bydd lawen, leuad, gyda hwy,
Ac una yn eu hanthem mwy.


“Ond gweddus it, ymddifad lom
Y deigryn llawn, y galon drom.


“A! gwelaf nad yw’r bydoedd fry
Heb alaeth, fwy’n daear ni,
Mae rhai yn wylo heblaw dyn.
Cymylir disglaer ael y ser,
Ac wylant ar eu thronau ter,
Fod gweddw athrist, welw ei llun,
Yn crwydro drwy y nef ei hun,
A'r llusern arian yn ei llaw


Y BARDD. 651


Yn chwilio conglau nefoedd draw
Am wrthrych ei ffyddlondeb cun,
Yn brudd, ac wrthi ei hun."


Un borau llon, tra nofiai’r awel beraidd
Fry drosto ar arianwawr lif y dydd.
A'i hanadl gan aroglau fil yn falmaidd
Arlwynor dmy ei ardd ymgrwydrai’n brudd;
Fel cwmwl dros ei wedd ymdaenai prudd-der,
Ac nid oedd yn ei lygad belydryn o siriolder.

Y blodau oll o gylch a wenent arno
Gan gydymdeimlo’n fwyn, a'u lliwiau teg
Ddiableid ger ei fron; o'u mynwes iddo
Anadlent eu haroglau mwyaf chweg.
Ond disylw oedd o’u gwahoddiadau tawel;
Nid yfai anadl chweg y wawr, na balm yr awel.

Ond un blodeuyn teg, a lon gyfarchai
Ei droed, rhwng arwelyau heirdd y lili a'r rhos,
Y tecaf y mhlith mil, ei sylw dynnai
Tra’n athrist cerddai drwy’i baradwys dlos.
Edrychai arno, a thrachefn edrychai,
Ac wedi methu edrych mwy, i wylo ymneillduai,
A thrwy ei ddeigryn llawn — ei lygad mawr ddisgleiriai,
Fel tanbaid haui drwy wybren wlawog t'wynnai.

“O flodyn teg dy wawr!" dywedai ef dan wylo,
“O flodyn per dy sawr! mae 'th wedd yn awr yn deffro
O dan fy mron, adgofion prudd
O decach ffawd, a gloewach dydd.

"Adliwia 'th wawr, mor deg, ei hawddgar wrid i mi;
A theimlaf drwy dy rogl, mor chweg, felusdra’i gwefus hi.
O, wyla, flodyn, yn y bedd
Mae swyn ei min, mae gwrid ei gwedd.

"Dy fynwes, lawn o fêl, tydi egori i’r boreuddydd hardd,
Efelly yr agorai hi ei chalon lawn o serch i’w  bardd.
A’m mynwes iddi hi, yr un mor rad,
Oedd lawn melusion serch a balm mwynhad.

"Pan wyt flinedig, bronnau’r rhos egorent i'th gofleidio’n gun;
A hithau, fy angyles dlos, lonyddai 'mron pan fyddwn flin;
Ac O! mor hapus oedd fy rhan
A'm pwys ar fynwes deg fy Ann! "


652 GWAITH ISLWYN.

 
“AWN HYD BETHLEHEM.”


GOLLEDIG ddyn! O! ar dy rudd
Na weler mwyach ddeigryn prudd,
Na digalondid yn dy drem;
Tyrd gyda mi, dan lawenhau
A chanu’n iach, yn iach i wae,
A'n mynwes oli yn hedd, ein dau
O! awn hyd Bethlehem.


Golledig ddyn! bydd lawen, bydd
Yn llawen fel yr wyt yn rhydd
O rwymau’r gospedigaeth lem.
O! gwened gobaith ar dy rudd,
O! t'wynned yn dy drem.
Gwel ragwawr y tragwyddol ddydd
Yn torri uwch rhandir Bethlehem.


Er colli y baradwys gu
A Duw, a nefoedd, gyda hi,
O! bydded llon dy drem.
Ar ol mae Eden fwy ei bri,
Baradwys loR! Ac nid jrw bell,
I weld ei haul a'i bywyd hi
O! awn hyd Bethlehem.


Am hawl i'r etifeddiaeth well
O! awn hyd Bethlehem.
O! pwy sy’n wylo dan ei loes?
O! pwy sy’n gruddfan dan ei groes?
Gan siomiant pwy sy’n drist ei drem?
Fy mrawd yw ef! Ac awn ein dau
Ynghyd, dan uchel lawenhau,
Ein dau hyd Bethlehem,
Mewn hyder cael ein llwyr wellhau
Ynghyd ein dau hyd Bethlehem.


Heb deimlo’n lleddfu min y loes,
Yn ysgafnhau trwm bwys y groes,
O! pwy edrychodd, pwy a droes
Erioed tua Bethlehem?
Ni theimla’r fynwes arall loes,
Ni wel y llygad arall groes —
Y llygad welodd Bethlehem.


Fry dacw seren yn neshau
O'r dwyrain deg, dan lawenhau,
Chwardd gobaith yn ei threm.


YR IESU A WYLODD. 653

Ac wele, ceisio Ceidwad mae,
Y Ceidwad gaed ym Methlehem.
Orboblog Asia! danfon di
Dy gynrychiolwyr gyda hi
Oll, tua Bethlehem.
Brys, ddoethion! cyfarfyddwn chwi
I ganu, i foli, ym Methlehem.

"YR IESU A WYLODD."


PWY? yr Anfeidrol! O, a fu y llygaid
A oleuasant fil o heuliau cannaid
A chreol drem, oll, oll yr unrhyw forau,
A fu eu heurlif hwy’n eneinio beddau!
O beth! a oes mewn dwyfol lygaid ddagrau?


Rhaid i'r ddynoliaeth wylo; i Dduw ei hun
Drist-hau a cholli dagrau ar agwedd dyn.
A, collodd fwy na dagrau "yn y cnawa;"
Yr oedd y Duwdod yn y dyn yn dlawd:
A Theyrn y nef ar ddynol ddull yn wawd.

 

 
Mae’r baban bach, cyn gweled dim yn eglur,
Yn wylo’n fedrus. Y mae wylo’n natur.
Mae’r hen, ar ol i hwyrnos amser lennu
Y ser sy’n edrych allan drwy’r ffenestri,
Yn wylo fel o'r blaen, a’i ddagrau gloewon
Ar lan y bedd yn drwm eu llif, fel afon
Yn chwyddo gan drymhau gerllaw yr eigion.


Disgleiriaf eigion fyddi, Feddrod du,
Os liifa i'th fron ein holaf ddeigryn ni.
Ein holaf ddeigryn! A, ddedwyddaf ddydd
Y tawdd i'r bedd, gan adael ar ein grudd
Ddigwmwl londer i dywynnu drwy
Hir ddydd y nef, a gwawr na wywa mwy.

 
A, ddisglaer rudd, na hedodd cwmwl drosto
Ym myd y gwawl, dan ddagrau oer mae’n gwywo,
A chyn bod henaint agos, yn heneiddio.
Hynotaf olwg! mae yr Iesu yn wylo,
A'r nef i gyd, tra’r engyl yn eneinio
Y sêr a'u dagrau i syllu yn dyner arno.
Mae’n fwy wrth wylo yma na phan ydoedd
Yn galw i fyny dorf o danbaid fydoedd


654 GWAITH ISLWYN.

O wendid a diddymdra, i addurno
Y gwagle draw, a bod yn dystion iddo.


Dos, ddyn anedwydd, tua’r bedd dan wylo,
Aeth mwy na dyn o'th flaen trwy ddagrau yno.
Distewch, greuIoniaid! teg i minnau weithian
Ar lan fy medd, glan bedd fy arall hunan,
Waghau y cwmwl a orlethol brudd-der
Sy’n pwyso ar y fron, trwy gafod fwyn a thyner.
Agora llanw o ddagrau f’aeliau heno,
A’r bedd yw’r traeth lle hoffant dorri arno;
Agenog lan, nad oes un trai o honi,
Na digon, wedi i oesoedd wylo, iddi.


Dall yw y llygad nad oes deigryn weithiau
Yn lleddfu ’i lewyrch, yn ireiddio ’i aeliau;
Beryglus wybren nad oes gafod ynddi,
Na chwmwl fyth mewn prudd-der yn ei llennu.
O! y mae dagrau yn santeiddio’r olwg,
A thra cymylo’r byd daw’r nef yn amlwg.
Mae’r ser yn loewach, tecach yr wybrennau
Pan welom hwynt trwy gafod drom o ddagrau.


O! deced wyt, ti wawr yr Adgyfodiad
O lan y bedd pan syllom ar dy godiad,
Olygfa hardd! tra’n llygaid fel y borau
Mewn môr o wlith yn agor eu hamrantau.

O, na atalier addoer lif fy nagrau,
Ni fynnwn lygad sych tra’n crwydr ym myd y beddau.
Ofnadwy gosp, fynd trwy y byd heb wylo,
A gweled bedd yn agor, heb ofidio, —
Yn agor ac yn cau ar drysor bywyd,
Oll mewn un dydd, oll mewn un angladd hefyd.


$$$r fynwes drom, O,’r fath ryddhad yw deigryn
Ar ol ei wrthddrych obry i’r bedd yn disgyn.
Mor deg, mor weddus yno yw ei weled
A'i dyner li yn sennu’r beddfaen caled.
Nid caled chwaith; mae’n wylo mewn distawrwydd,
Ac yno saif o'i wrthddrych fyth yn arwydd,
Saif fyth i ddadgan ei rinweddau yno
$$$r dieithr grwydr yn ei ddagrau heibio,
Pan nad oes gan y byd, na chais na chof am dano.
Na pheidiwyf wylo, rhag i'r maen ei hunan
Ymdoddi i’r bedd, ac wylo ei fynor allan.


YR IESU A WYLODD. 655


O! tardded odd y ffynnon rhwng f’amrantau
Fyth newydd lif i wlitho newydd feddau, —
Mae ambell fedd yn newydd fyth, heb wywder ar ei flodau.


Adwaenaf ddyn a'i galon wedi gwywo
Wrth yfed anadl oer y bedd, na ofnai heno
Un croes, un anffawd gwaeth na methu wylo.
Heb ddagrau, A!’r fath angeu fyddai teimlo
Ar lan y bedd, — y bedd sydd fel y blodyn
Oleua’i fron, yn ffres; agored fel y rhosyn
Degeiddia’i rudd, rhy deg i'r fath anghenfil! —
Daeth un ymlaen a gwawdiai’i ddeigryn eiddil;
Dywedai wrtho, yn y fan distawodd,
Ar oll ddywedai oedd, — "Yr Iesu a wylodd."


"Yr Iesu a wylodd." lawn ei efelychu!
Holl ddyled dyn yw gwneuthur fel yr Iesu.
Ar feddrod cyfaill, crefydd bur yw wylo.
Bu dagrau o’r nef ar fedd cyn hyn yn nofio.
Anuwiol edrych ar y bedd heb ddagrau,
Heb brudd-der yn tywyllu yr amrantau.


“Yr Iesu a wylodd," teilwng yw i ninnau
A santaidd, wedi’r gafod hon, esmwytho’r bedd â dagrau.


Fe wylodd ef, do, — pan drwy ogof angau
Y gwelai y ddisgleiriach lan yn olau;
Pan welai’r beddrod drwyddo, a ffordd yn tywys
Ymlaen i ganol nef o'i eigion echrys;
Pan welai obry’r marwol rydlyd ddrysau
Yn llamu oddiar eu heyrn golynau,
A'r caeth yn rhydd, a bywyd yn goleuo
Ei rudd drachefn, a'r bedd yn agor iddo
Nad yw yn agor ond i yfed dagrau
A disychedu ei hun â newydd ffrydiau,
Yn agor i ail-gau ar anrhaith o ocheneidiau.
"Fe’i hadgyfodir," meddai ef, ac eto
Ar rudd ei adgylodiad mae yn wylo.
O! y mae un yn gwylio bedd bob borau,
Ac nid yn gwylio’r awr a ddryllia’i ddorau
I ollwng ei anwylaf o’i ddyfnion brudd ororau,
Na! gwylio’r borau oer yr egyr unwaith eto
$$$w dderbyn yntau i mewn, a chau am oesoedd arno.


656 GWAITH ISLWYN.


YR ADGYFODIAD.


YMDDRINGAF i'r wybrennau fry hyd risiau’i addewidion ef,
Teg foreu anfarwoldeb sy yn gwawrio dros fynyddau’r nef.


Un ffagl yw’r greadigaeth fawr, anfeidrol fflam yn ennyn fry,
A choch yw’r nef â’i thanllyd wawr, a heuliau yw ei chynnud hi.


Mil, mil o fydoedd lysg o'i blaen, a'u hulw dywylla’r nef uwchben;
Marworyn du yw'r huan cain, mae'r sêr yn wylo ar fronnau'r nen.
Tra thwrf cerbydau Ior gerllaw,
Caleda’r wybren laes gan fraw;
A cheula’i môr o hylif ter
Yn balmant i osgorddlu’r ser.


Chwydd ar ol chwydd o'r ddwyfol gân
Fry, clyw yn lledu’r wybren dân!
A, dyna’r Brenin yn ei swydd,
Mae’r fam a’r Barnwr yn ein g
ŵydd.


Ar fainc o berlau yn ymyl Duw,
Arch-angel o oruchel ryw
Ddechreua weithrediadau’r dydd,
A bloedd yr adgyfodiad rydd.


Cwyd udgorn bywyd at ei fin,
Aruthrol udgorn Duw ei hun;
Anfeidrol dwrf! brawycha’r nen,
Gogwydda, a syrth y goron o ser oddiar ei phen:
Disgynnant, fyrdd ar unwaith, gyda’r llef
Fel cawod drom o berlau drwy y nef.


Uwchlaw ehed yr adsain gref
O fyd i fyd, o nef i nef;
A thyr fyddardod angeu ’i hun,
A chwyd a gwrendy y fynwent flin.


Fel euog flaen ei farnwr dua’r haul,
A nos dragwyddol orffwys ar ei ael;
Fel lamp mewn tymestl, derfydd ar ei hynt,
A diffydd fel y ganwyll yn y gwynt.


Siomedig loer! ar ol ei hirfaith alar,
A goddef gwawd y nef, a thraha blin y ddaear,
Rhwng tanau fyrdd yn rhynu, a'i bron o eira’n oer,
Diflanna fyth o'i thawel rôd, siomedig, unig loer.


YR YSBIADUR. 657


I chwilio yng ngolau ffaglau’r farn am fedd diddymdra per,
Diflanna nwnt yn angladd fawr y ser.


Dydd angeu’r greadigaeth gref,
A dydd diffoddiad lampau’r nef, —
Mae’n gwawrio o'r orseddfainc draw,
A chwmwl ar ei ol ni ddaw.

GLAN EBBWY.
O dawel eigion dy orweddfa gudd
Tywynna gwawr yn oleu, er yn brudd,
Gwawr a gyrhaedda hyd y tanllyd forau
Y cyfyd Haul rhwng niwloedd erch y beddau.
Mae trefn Duw a'i breichiau am dy lwch,
Mae addewidion ar dy fedd fel gwlith y wawr yn drwch;
Ac fel y ser, o'r nef sy n gwylio'th gell,
Yn oleu, er yn uchel, — yn sicr, er ymhell.

AETH BLWYDDYN HEIBIO.


Aeth blwyddyn heibio o'th gwsg, anwylaf un!
Ar lan dy fedd, O! parcher dagrau’r blin
Sy’n ceisio, eto’n methu, cysgu ei hun.
Aeth blwyddyn heibio! Pe mesurid hi
A chadwen teimlad, byddai’n oes i mi,
Dechreuad eiloes yw; aeth heibio’r gyntaf,
Ar lan y beddrod hwn y bu’i hanadliad olaf.
A, Flwyddyn lesg! Hir, araf fu dy gamrau,
Ond ’roedd yr hin yn wleb, a throm fu’r gawod ddagrau.

YR YSBIADUR
YR Ysbiadur roes y bydoedd — pell
Yn y pur uchafoedd
Oll i ddyn — yr aliwedd oedd
Yn drysor cudd drwy oesoedd.


Planedau golau gyda 'u gilydd — gaf
Trwy’i gyfwng ysblenydd
Yn chwareu fel chwiorydd
Uchel eu dawns gylch haul dydd.
 


658 GWAITH ISLWYN.
 
I bellaf oedd y diball ofod — sylla
Tros holl waith y Duwdod,
Ni wna pellder un palldod
Drwy bell anfeidrolder bod!


Gloewder ddalla’r gweledydd; — angel yw
Yng ngwlad y tragywydd;
Blina ar rwysg ysblenydd
Yr holl ser gerllaw y sydd.

 
Nos fud wna’n lwysaf adeg; — nos yw 'm dydd,
Nesa 'm Duw i'm gofeg;
Goleudymp engyl gloewdeg;
Dinas Duw yw y nos deg!


Yr hyn yw’r Beibl at olrheiniad — crefydd
Yw’r drych cryf i'r cread;
Teyrnas Ior ddaw trwy’i neshad
$$$n g
ŵydd, fel ail ddatguddiad.

FY NGARDD.


MAE ’nhestyn cu yn peri imi feddwl
Am euroes fu, heb gamwedd a heb gwmwl;
Mae’n dwyn i'm hymyl ryw ddi-ail orffennol
A'i buredd megis puredd cylch serenol;
'Rwy’n cofio rhywrai elwid yn angylion
Arferent rodio gyda mi hyd finion
Rhyw afon bêr ei sain, fel gwir gyfeillion,
A'u llygaid megis heuliau o ddisgleirdeb,
A'u gwisg yn blygion fyrdd o anfarwoldeb.


Rhwng "dyn" a "gardd," O! mae rhyw hen berthynas
Sy’n dwyn i'm cof fy nheg foreuol urddas,
Fy ngenedigaeth fraint, ar lannerch dawel
LIe’r oedd yr oll yn hardd o orwel i bell orwel.
Ai adgof am y wiw berthynas forau
Sy’n gwneyd yr ardd i mi y lannerch orau?
Ai hyn sy’n gwneyd im dyfu perth mor dewfrig
O gylch y lle, rhag pob difrodwr hyllig?
Nis honnaf hyn, ond tybiaf fod a fynno
Adgofion Eden â phob garddwr eto.

Ple bynnag y sefydlo dyn ei drigfod —
Pa un ai gwych ai gwael fo ei breswylfod —


FY NGARDD. 659


Mae’n dyfod yno yn ganol-bwynt addas,
A buan iawn fe wena gardd o'i gwmpas
Fel rheidrwydd cynta i natur.
Er symudo
I fyw i ddinas fawr, nid erys yno
Heb "chwareu" ganid yn rhywddull flaen ei annedd
Er na fo onid mymryn o amgylchedd
Mor werthfawr iddo ydyw prin dyfolion
Ei gyfyng lawnt, pan ddelo gwanwyn tirion
A'i bwyntel aur i liwio’r unig rosyn
A'r lili weddw wyla wlith gyferbyn!
Mor werthfawr y gwyrddolion adblanedig
O ardd ei riaint mewn pell ddyffryn unig,
Wrth syllu arnynt cofia’r alltudiedig
Am sain y gog, ac anthem fyrdd-blethedig
Y ddwyfol eos a arferai ganu
Mewn coedwig ddofn a wnai dawel lennu
Hen gartre’i febyd llon; fe ddaw i'w adgo
Aml wyneb teg na chawn fyth mwyach yno;
Mae’n gweld y berth o gelyn oedd fwy iesin
Dan eira Rhagfyr nag yn nhes Mehefin.


Neu os na ellir lawnt, fe wna’r dinesydd
Ryw ddynwaredu’r ardd o fewn ei geurydd.
Fe ddyrcha yn ei ffenestr glaer fwaog
Flodeu-ddal hardd, ac aml i gawg godidog
Yn dal ei briod flodyn, a'u haroglau
Yn dwyn y wlad i gof bob hwyr a borau.

Rhowch i fardd fwth a gardd, rhowch im hardd eisteddfa;
Cangau coed, oesau oed, plethwch yn orseddfa.

Rhowch y byd gau i gyd idd y gŵr a'i caro;
Bwth a gardd foddia fardd, dyna ddigon iddo.

Mudaf hwnt tua’r ffwnt pan fo’r gwres yn greulon;
Dwyfol draw yw y gwlaw oera’r llosg belydron.

Ni welais i olygfa ’rioed mor hardd
A ffwnt yn chware cawod yn yr ardd,
Rhyw ddynwaredol gwmwl oddi isod —
Mae fel pe’n gwawdio’r cymyl gweigion uchod.
Amoeriad hyfryd dros y cyfan rydd,
Mae megis gwlith y nos ar dân y dydd.


660 GWAITH ISLWYN.

Mae anian wrth ei bodd. Mae fel pe bai
Yr oll yn fywyd, ac yr oll yn Fai.
Ymfeinia ’nghlyw o dan y per fwynhad,
Mi glywa’r blodau’n canu am y wlad
Lle nid yw blodau’n gwywo. Clywaf si
Fel pe bai engyl yn fy ymyl i.
Nefolaidd oerder! braidd na wnelwn i
Ryw grefydd deg o'th dawel hanfod di.
Pan chwery ffyntiau’r Palas Crisial gwych,
O! gallai engyl synnu wrth y drych,
Wrth gyfoeth dyfais eu hieuangaf frawd,
Gan ofyn, — “Beth a fydd pan ddyrch i rawd
y tragwyddolion, uwch cadwynau cnawd?"
Mae’r oerdir yn adfywio f’awen i,
Cawoda ei henglynion ar bob tu
I lonni’r clywgar flodau — O! maent hwy
Yn deall iaith fy ngwên a'm hawen mwy.
Marmoraidd ddelw’r serchior Cupid llon
O dan y gafod, dry yn enaid bron —
Gwel! mae’n anadlu bron! a'i lemaf saeth
A'i ddyfn swynion, i ddwy fynwes aeth.
Edrychai Oweno yn fy gwyneb syn
A chaethion oem ein dau i'r serchior gwyn,
A ninnau, ie, ’n dau, heb wybod hyn.

Adeiliais im fy hun dan gysgod bryn
D
ŷ wrth fy modd. Nid yw yn fawr, er hyn
Y mae yn ol fy hoffaf archwaeth i,
Yn sylweddoliad o hen freuddwyd cu.
Mae gennyf ardd tu ol, a lawnt tu blaen
Yn Eden o wyrddolion teg ar daen.
Caiff cadfridogion wrando seinio 'u clod,
A rhodio ar yr enfys fel eu rhod,
A byw ar fawl fel awyr, a mwynhau
Gogoniant fel eu hetifeddiaeth glau;
Rhagorach hawddfyd filwaith fydd i mi
Fesuro 'm lawnt yn deg rodfaoedd cu,
Rhai’n union, rhai yn grynion, rhai yn groes,
A rhai o luniau ffyrdd ein marwol oes;
Olwyno’r rhysod coch ar ferfa law
I deg addurno’r llwybrau troiog draw
Sy ddigon hoen i mi. Caiff Prydain Fawr
Newidio ei gweinyddiaeth heb im ddawr;
Caiff Ffrainc ddymchwelyd ei gormesol deyrn,
A siglo’r byd wrth daflu’i thrymion heyrn.


FY NGARDD. 661


$$$w gwisgo drannoeth, ’n ol ei harfer hi,
Angnyfnewidiol fydd fy ymchwil i —
Addurno 'm lawnt, gwrteithio 'm cefn-ardd gu.
Mae rhywbeth newydd yn yr ardd o hyd,
Rhyw egin newydd fyth, rhyw newydd bryd;
Rhyw greol wyrth o'r impiad cynta’ rioed;
Rhyw santaidd wen ar flodeu hen eu hoed
Fel rhai’n par'toi i farw; ereill sydd
Mor ieuainc â phelydron gwawr y dydd;
A rhai o ganol oed, yn sobr eu gwedd
Fel rhai yn dechreu meddwl am y bedd.

Mae rhywbeth newydd yn yr ardd bob dydd,
Mae’n arlun im o datguddiadau ffydd
Sy fythoedd yn darganfod pethau gwell
Ym myd yr ysbryd — byd y pur, y pell.

Tyrd gyda mi, fy Ngweno gu, i'm gardd,
A gwybydd beth sy’n swyno calon bardd;
Gwel acw’r gwinwydd dringol — plygu'n drwm
Y maent gan aml i rawnswp, ddwyfol glwm;
Dyferant gan addfedrwydd, wylo n brudd
Mae’r gwinrawn am nad oes a yfo 'u sudd;
'Rwy’n caru y pren ceirios, a'r pren per,
Fel amrywiaethau gallu creol Ner;
Ond pennaf destyn y farddonol ddawn,
Yw’r pren afalau yn ei flodau llawn,
Y mae yn fyd o harddwch ynddo’i hun,
A theimla yr edrychydd bron yn flin
Fod tegwch mor ddi-ail i roddi lle
I ffrwythau gwiw mor fuan; mynnai e
Ei gadw yn ei flodau llawn o hyd,
I gael rhyw ddrych i weled gwyneb pryd
Hawddgarach gwrthrych fry yn nef y nef —
Merch Seion gynt a'i cyffelybai ef
I bren afalau ym mysg prennau’r coed
A'i ffrwyth i'w harchwaeth y melusa ’rioed,
Tra’n yfed o'i afalau neithdar nef
Cai ddiogelwch bythol o “dan ei gysgod ef."

Nis gwn pa un sydd fwyaf i'w fawrhau
Ai’r prydferth ai’r defnyddiol yn fy ngardd;
Ond prin y gellir gwahaniaethu’r ddau;
Mae’r hardd mor ffrwythlawn, mae y flrwyth mor hardd.


662 GWAITH ISLWYN.

 
Nis gall y pys roi 'u ffrwyth i'n byrddau llon,
Cyn bwrw allan liwiau’r enfys bron
A thalu idd eu hirion gynnal-goed
Trwy 'u gwisgo â'r prydferthwch tlysa ’rioed.
Os prydferth yw y blodau ar bob llaw
Maent hefyd yn ddefnyddiol — iechyd ddaw
O'u hyfryd beraroglau, fel pe bai
Angel yn ysgwyd ei adenydd clau
Gan donni’r awyr las, a pheri fod
Rhyw lanw o iachusrwydd pur yn dod;
Difroda’r haint y ddinas, ond pan ddaw
I ymyl banc o flodau, cilia draw.
Pan fyddo’r blodau mewn dadblygiad llawn,
O'u haml ogonedd diliau mêl a gawn.

Ceir cyfoeth arwyddluniol yn yr ardd
Gogyfer a gwahanol droion oes,
Ceir gwnllion i'r briodas-allor hardd
O liwiau’r wawr, a rhai at droion croes.
Rhowch flodau llon eu lliw ar ael y fun
Wnaeth fore heddyw gartref iddi ei hun
Wrth fodd ei chalon.

Dacw newydd fedd

A gauwyd ddoe o dan yr ywen brudd,
O, dodwch arno flodau trist eu gwedd
A dyfodd anian erbyn niwliog ddydd
O gydymdeimlad a'r ddynoliaeth sy
Yn gwneyd ei goreu i'w gwrteithio hi,
A thynnu allan y prydferthion cudd
Ym mynwes hadau hon yn cysgu sydd;
Rhowch flodau trist ar ael y weddw lom,
Y blodau hynny sydd yn siarad siom;
Ac eto, er i auaf erch eu cau,
Yn agor eilwaith yn y gwanwyn clau,
Gan addo draw yr adgyfodiad cun,
A'r gallu ddaw â bore gwell i ddyn.

Pan bêr anadlo gwanwyn fywiol rin
I ddeffiro’r blodau o'u gauafol hun
I fywyd newydd o brydferthwch cu,
Pan ymgryfhao’r haul yn raddol fry,
Mor ddedwydd im yw gwylio’r gwenyn llon
Yn sugno mêl o aml flodeuog fron!
Gan efelychu eu rhagofal pur,
Gofelais daenu blodau-wely nur


FY NGARDD. 663


Yn union flaen eu cwch, ei drwsio’n dda,
A'i gadw’n iach o bob rhyw chwynnol bla.
Y fath ddedwyddyd yw eu gwylio’n araf
Anturio allan at y rhos agosaf,
Heb ar y cyntaf ond cusanu’n frysiog
Y wefus goch fel rhai hyd eto’n ofnog
Ac yna cilio’n ol; ond ymhyfhau
Yn fuan mae y gwiw gasgllyddion clau
A suo im eu diolchiadau chweg
Am barotoi y fath baradwys deg,
Ac nid oes yn yr ardd flodeuyn prid
Na fynnant hwy gusannu’i fêl i gyd
A'i gludo idd eu cwch â'r swynol su
Sy’n gytôn a holl seiniau anian gu.


Os yn yr ardd y syrthiodd dyn o'i ogoneddus fainc i lawr,
Y mae yr enw gardd ynglyn â'i iachawdwriaeth fawr.


Yn Eden deg os tynnodd dyn
Anfeidrol ddyled arno’i hun,
Yng Ngethsemane tâl a gaed
Myrdd mwy na thal mewn chwys o waed.

O ardd yr ing a'r chwys o waed, cei le’n yr anthem iddo ef!
Pob dafn o'r gawod ddwyfol gaed dry’n fôr i nofio myrdd i'r nef.

Mewn gardd enillodd angau’r dydd, fe’i maeddwyd ar ei ddewis lawr;
O fedd mewn gardd, yn fythol rydd cyfodai fy Ngwaredwr mawr.

I'm gardd pan rodiaf, tua’r pasg,
Adgofiaf yr anfeidrol wasg
O'm hachos i fu ar fy Nuw;
Mae’r blodau’n wylo wrth fy nhraed
Fel pe yn cofio’r chwys o waed
A dorrodd o'i anfeidrol friw.

I'm gardd pan rodiaf gyda gwawr
Y Sul, mi gana am Iesu mawr
Yn dod o'r bedd yn fyw,
Yn dod o'r bedd yn Dduw!
Pan godai’r pen o'r tywyll fedd
Fe godai’r teulu oll un wedd,
Aneirif deulu Duw.


664 GWAITH ISLWYN.

 
Gardd yw y nef, ac iddi hi
Cyn blanfa yw ein daear ni;
Yn ein hanialfyd, er mor wyw,
Y tyfir blodau tecaf Duw.
O goed yr anial hwn y llunia ef
Yr harddaf ddodrefn sy 'mhalasau’r nef.
Dan drymder hiraeth, llymder siom,
Mi wylais lawer cawod drom
Ar ol y blodau dyfais i
Yng nghysgod twymna ’nghalon gu;
Ond nid wyf fi yn wylo mwy,
I ardd sy well adblannwyd hwy.
O! tyfu maent â llwydd di-ffael
Gyferbyn a'r tragwyddol haul.
Awelon afon bywyd sy
Yn chwareu fyth eu clychau fry.
Addfedwyf finnau yr un modd,
Na syched pechod fyth fy nodd,
A phan y'm torro angau i lawr
I engyl boed yn ber fy sawr,
Yn ddigon per i'm rhoi o ri
Tragwyddol flodau’r wynfa fry.

FY RHOSYNAU.


O! MAE 'm rhosynau yn fy adwaen i,
Gan ddiolch im drwy bêr-aroglau cu
Am ofal maith fy llaw. Ymdrecha rhai
O 'mlodau nur, fyw’n hir, i mi fwynhau
Eu ceinder yn yr hwyr. Mae ambell un
Yn llonni y "dydd byr" a Rhagfyr oer ei hun
Yn fil prydferthach am fod arno wên
Wrth wywo yn hwyrfrydig, marw’n hen.
O Chwefror! brysia ymaith! Ebrill glau,
Cyflyma 'th hynt, a thithau, ddwyfol Fai!
I mi gael eilwaith weld fy mlodau llon
Yn adgyfodi eilwaith ger fy mron.
Mae llawer wedi marw, ond mae mil
Yn aros eto o'u hadblanedig hil,
Mor debyg idd eu rhiaint, fel nad wy
Ar ol yr hen yn teimlo galar mwy.


DISTAWRWYDD Y PBEGETHWR. 665

DISTAWRWYDD Y PREGETHWR. *


BOED ysgafn, feirdd, eich sang, a sobr eich gweddi;
Tywarchen gysegredig danoch sy!
A thi yr awel, O! na chwyth mor hy!
Llwch sant, prynedig lwch, gysegra’r bedd.

 
Henry! mor bêr dy hun,
A'th hedd, mor felus yw,
Ac O! mor hapus fry dy ysbryd cun
Yn nhrigfa pob hapusrwydd — mynwes Duw!

Ni faidd y byd dy hawlu, y byd
Erioed ni 'th hawliodd di,
Rhy fychan oedd ei oll i lanw 'th fryd,
Y nef ei hun oedd nod dy ymgais gu.

Bri, cyfoeth, mawl, dirmygit hwy i gyd;
Ac uwch yr haui — nef-dueddedig fod! —
Cyrhaeddi dy uchelfryd; uchel fryd
Am fri uchelach fyth. Yr oedd dy nod
Na’r ser yn uwch, na fyddai uwch y ser
I ti nid uchel fyddai. Buot fyw
Y puraf fywyd, yn nhwrf eilfydoedd ter,
Y nef yn d' ymyl, ac yn d' ymyl — Duw.

Henry! yr wyt yn ddistaw. Ni chaf air
Er gwylio 'th fedd am oesau. A! mor fud,
Ond llawn o eiriau, llawn o eiriau aur
Er hyn, yw dy weithredoedd aml a drud.
Dy riniau o'th gymeriad yw y drych,
Ac ni raid ofni pwy a'i gwel; na phwy
O engyl puraf eilfyd, er mor wych,
Fesurant yno ddelw dy fuchedd mwy.
Dy goffadwriaeth yw 'th areithfa gu,
A'r hen effeithiau y pregethwyr mwy,
A nerthol dy hyawdledd ynddi hi,
A gloew dy enwogrwydd ynddynt hwy.


Myfi ni 'th folaf. Arall sydd a 'th fawl —
Yr eglwys, ac a'th fawl yn well na mi;


• Y Parch. Henry Jones, o Laneirwg.


666 GWAITH ISLWYN.

Gwasanaeth i enwogrwydd rydd yr hawl,
Anfarwol, yna, yw 'th enwogrwydd di.
O! pwy’n fwy gwasanaethgar yn ei oes,
A phwy ymdrechodd gymaint i fawrhau
Yr hwn, dros ddyn fu’n gwaedu ar y groes,
Dros ddyn yn gwaedu, a thros ddyn yn yfed gwae.

Henry, yr wyt yn ddistaw, distaw fel dy feddrod du
Sydd hyd ei waelod yn ddistawrwydd pur.
Mae ereill yn llefaru drosot ti,
Oes, ereill gawsant drwot farwol gur,
A balm iachaol hefyd drwot ti,
Y balm a lif fel afon lawn dros lethrau Calfari.

Oes! yn y fynwent hon drysorau drud
A brynwyd gan y Mab dan ddwyfol glwy
A dirfawr swm goludoedd lon i gyd,
Trysorau y cyfamod ydynt hwy,
A dacw fedd lle dan gysgodion prudd
Y gorffwys un o honynt. Dy fedd di
O Gwilym,
trysor mil rhy ddrud i'r pridd,
Ac i'r oer, ddiserch fynwent, mil rhy gu.

Dy seren deg fachludodd cyn i'th ddydd
Braidd gyrraedd y cyhydedd. Aeth i lawr
Yn danbaid dros orllewin amser prudd,
Ac anfarwoldeb yn teghau ei gwawr!
Machludodd; ond i godi’n decach try
Yn nwyrain hawddgar tragwyddoldeb pell;
O dan orllewin mwy ni chuddir hi —
Nid oes orllewin i'r ffurfafen well.

A, dedwydd fuot, gyrraedd porthladd hedd
A hafn anfarwoldeb, cyn i'th wedd
Adnabod rhychau henaint prudd, a chyn
I nychdod blin gael mantais i'th arwain tua’r glyn
Yn araf, eto’n erchyll. Tyner fu
Y law a'th drawodd — llaw dy Geidwad cu!
Rhagluniaeth falmaidd oedd; ystorm o hedd oedd hi;
Bu daw!
♦♦ ac ymagorodd porthladdoedd nef i ti.

 
Y Parch. William Lewis, o Laneirwg.
♦♦ Tawelwch.


i'm cyfaill pereduR. 667


YR lEUANC HEN.


Wrth edrych ar fy agwedd yn y drych,
A methu cael y gwrid rhosynog fu,
A gweld bob newydd forau newydd rych,
O! braidd bryd hynny nad amheuwn i
Gywirdeb cofnodiadau’r Beibl mawr
O ddydd fy ngenedigaeth, dywyll ddydd,
Nodiadau ag sydd eto’n loew eu gwawr,
Yr inc heb sychu bron, a'r lawsgrif sydd
Fel gwaith y ddoe.

$$$
M CYFAILL PEREDUR.


PEREDUR hoff! addurner di
A myrdd o ser disgleiriaf bri.
O! ar dy ben, awenol frawd,
Ei chorn i gyd gwaghaed ffawd.

Ymro i wasanaethu Duw,
Ymro, gwasanaeth odiaeth yw.
Y nefoedd weno ar dy waith,
A'r nefoedd a derfyno 'th daith.

Cysegra 'th awen fyth i Ner,
A bydded fel dy enw’n bêr;
Angyles deg, anadled hi
Fyth yn awyrgylch Calfari.

Na ddisgwyl di am wenau ffawd,
Twyll ydyw hi a'i gwên, fy mrawd;
Am wên y nef, O, disgwyl di,
Mae bywyd yn ei gwenau hi.

Mewn meddiant, clod, gwatwargerdd yw,
A'r llawryf, yn y llaw sy wyw;
Gwatwara’r disgwyliadau chweg,
A gwywa flagur gobaith teg.

Anrhydedd araul mwyniant llon, O pwy
Erioed a'u gwir, a'u llawn fwynhaodd hwy?
O bell tryloew fel y cwmwl ynt,
A ffoant, fel y cwmwl yn y gwynt
Mae’r gorwel fyth yn agos, fyth yn hardd,
Efelly CORON clod i drem y bardd;


GWAITH ISLWYN. 668


Ond saf, Peredur, saf! Na cheisia hwy,
Po fwy y ceisi, ymbellhant yn fwy,
Os mynni ddilyn, teimli’r mwyniant cu
Oll yn y drafferth ac nid yn y bri;
Yr ymdrech yw y wobr, ac nid y goron deg;
Y llafur yw y taliad, ac nid y moliant chweg.


Peredur, 0! bydd foddlawn, di,
Ar fynwes deg dy Fargaret gu;
Cysuron daear hulio'ch fftrrdd,
A gwlawied nef gysuron fyrdd.

YNGLYNION GNODAU. ♦

GNAWD i ddialgar cofio,
Gnawd i garwr ddrwgdybio,

Gnawd i bregeth adaw’r co.


Gnawd i yfwr sych geff,
Gnawd i ragrith wyneb teg,
Gnawd i ddiathrylith goleg.


Gnawd i lwfr wangalon,
Gnawd i flin aml gwynion,
Gnawd i Gymro dant a thôn.


Gnawd i ymddifad ddagrau,
Gnawd i dduwiol weddiau,
Gnawd i wely esmwythau.


Gnawd i wenieithwr chwant swydd,
Gnawd i ymroddgar lwydd,
Gnawd i asyn ystyfnigrwydd.


Gnawd i wron ddifrodi,
Gnawd i hael eluseni,
Gnawd i rwnt feio y ci.

 
Gnawd i brydydd arwyrain,
Gnawd i olud adain,
Gnawd i Wyddel chwain.


Gnawd i rudd ogoned ros,
Gnawd i falch godwm agos,
Gnawd i euog gashau’r nos.

•Gnawd, cyfystyr ag arferol.

YNGLYNION GNODAU. 669


Gnawd i awen dylodi,
Gnawd i athrofa goethi,
Gnawd i ffol ganmol ei gi.


Gnawd i awdl y gadair,
Gnawd i bryddestwr anair,
Gnawd i farwnad pen ffair.


Gnawd i fardd ddychymygu,
Gnawd i bwyllog arafu,
Gnawd i olygydd enw du.


Gnawd i 'r enfys aml liwiau,
Gnawd i goeg aml eiriau,
Gnawd i ragrith y ddau.


Gnawd i don ewynu,
Gnawd i garwr wenu,
Gnawd i 'r hen ganmol a fu.


Gnawd i aur wyro’r ddedryd,
Gnawd i foddlawn ddedwyddyd,
Gnawd i bryddest hyd.

Gnawd i falcher ddwyn gw'radwydd,
Neud gwael ffugio sancteiddrwydd?
Gad i'th gymydog ei swydd.


Gnawd i fyrbwyll fachnio,
Neud gwae y drwg yw cofio?
Y dymestl ddyd werth ar do.


Gnawd i ymchwilgar wrando,
Neud corach sy’n ymchwyddo?
Doeth yw tewi er bod co.


Gnawd i'r doethaf ddistawrwydd,
Neud ffol ni
ŵyr ei ogwydd?
Beia dy frawd yn ei
ŵydd.


Gnawd i hogyn gynghori,
Neud gwyrth i fardd gyfoethogi?
Po amla’r aur gore’r bri.


Gnawd i esmwyth wedd anfwyn,
Onid y iach sy’n achwyn?
Tydi â'r law wen, taw a'th g
ŵyn.


670 GWAITH ISLWYN.

SYR ROBERT PEEL.


GLYW didwyll mewn gwleidiadaeth — gweledig
Oleudwr ein talaeth,
Piler hon, pa le yr aeth,
Hyglod addurn gwladyddiaeth?


Erch haddo llewyrch addien, — a gloewder
Ein gwladol ffurfafen,
Di-wawl yw’n llenorawl nen
Ar ol y disglaer haulwen.


Enwog a noddfawr yn ei gyneddfau,
A thra enwog ei deithi a'i riniau,
A digyfeisor am landeg foesau,
O, mor nodedig plith mawrion dadau!
Athrylith a'i ther olau — bendigaid
Daniodd ei enaid, huan o ddoniau.

Ei lys oedd lys elusen,
A llorf ’i ffyddloniaid llên.
Seren fawr, a gwawr ei gwedd
Yn eirian gan ogonedd;
Hyd y nen lledai’n hynod
Ar wybren ddisgleirwen clod;
Gwae! i'r beddrod-gysgodion
Gaddugo a huddo hon.
Bydd drahaus y bedd drwy hyn,
Par foledd i'n prif elyn.

Agored adail, lawn o gardodau
A môr o drysor i dorri eisiau!
Yma arllwyswyd, cawodwyd cedau
Hyglod i'r rheidus, a gwlawiwyd rhadau.
Cwynion yn fywiog ganau — a droid,
A hoen gyfrennid i unig fronnau.
$$$r dduwies rhyddid ei hurddas roddai,
A'i chwaer fwyn heddwch ei arf a noddai.
Eres haul ydoedd, i'r oes a ledai
Ddydd o lawenydd, a'i wedd a lonnai
Ei wlad, a'r awel hedai — dan chwiban
Ei glodydd eirian drwy’r gwledydd yrrai.
A'r adsain ar gain gynnydd
Ar ol yn oes oesoedd sydd.


SYR ROBERT PEEL. 671

Gywired oedd i'r goron, — gywired
$$$n hawddgaraf Fanon!
Drwy ymlyniad tad at hon
Argoeliai deyrngar galon.

Ac angel yn y cyngor — i gynnal
Gogoniant ein goror;
Acw drwy ei ddydd cadwai’r ddor
Yn ddiogel ddiegor.
Gwawdiai’n dawel y gelyn,
A barrau y dorau’n dyn.

A dygai fyd i'w deg fam,
Ysgydwai’n hynys gadarn
Nes amgylch ogylch agor
Ei mil porthladdoedd i'r môr.
A throdd byth ei thirwedd bêr
Fel India o gyflawnder.
Digaerai y deg oror
Fel un maes o flaen y môr.
Ac archodd i'r don gyrchu
Dros bellder y dyfnder du
Olud y byd i'w wlad bêr,
A'i mynediad mewn hyder
Heibio’r holl wledydd heb raith,
Hyd derfyn y byd hirfaith.
Galwodd o benrhyn golau
Y môr i ddig ymryddhau,
Ac anfon fel o'r cynfyd
Ei borth yn rhad dros y byd.

Ei ach derbyniai o uchder bonedd,
Ond ei fawr enw dyfai o rinwedd,
Ei ddawn a'i rodiad oedd ei anrhydedd;
Teilyngdod pur, dyna fur ei fawredd.
Uchel ei barch, uwchlaw bedd, gogoniant
Uwch ebargofiant, uwch bâr y geufedd!

Hawdd i filoedd ei foli,
Hawdded tôn heddyw i ti!
Tonau per, tannau parod,
Fyrdd gawn i'th eglurlawn glod.
Gwlith i fyg oleuo 'th fedd
Lonnant dy farwol annedd.
Gleiniau mân, gloew yn eu mysg,
Gemau’r amrantau’n gymysg


672 GWAITH ISLWYN.

Ddagrau, li, ddygir i lan,
Ddisdyllir ddwysed allan
O'r galon i argoeli
Môr di-draeth ein halaeth ni.
A thawel yr awel red,
Yn dawel ei ch
ŵyn dywed
Uwch y fan, a chaf yno
Loewai frig lili y fro
Yn methu dal gan alar.
Y lloer, gun ei lleuer, gâr
Wlawio, i bêr dyneru
Y gro coeth, ei dagrau cu.
A delwedd o'i nodwedd wna
Aml flodyn mal haf leda
Ger y bedd, anhawddgar bau.
Y rhosyn teg ei rasau,
Rhoed beunydd ardeb hynod
O ser disgleirder ei glod.

YR YMFUDWR A'I GARIAD.


Y Mab.

Mae’r llong yn barod yn y porthladd draw,
Mae’r llanw yn ei rym,
Clyw’r gloch ddiwedda’n canu — rho dy law,
Rho 'th ffarwel im.


Y Ferch.

Fy llaw a roddaf it; hi fu cyn hyn
Yn dwym gan gariad cu,
Mae heddyw’n oer, mae fel yr eira’n wyn
Mewn môr o ddagrau neithiwr golchais hi
Fy nghalon wedi ei llongddryllio sydd
Ar draeth ystormus siomedigaeth brudd;
'Rwyt tithau, f'unig fywyd-fâd,
Ar hwylio i estronol wlad.

Cydgan.

O! creulon fu’n huno ar fore mor llon
$$$n hysgar mewn nos mor ofnadwy a hon.

Y Mab.

Clyw gân y morwyr, nerthol wŷr, wrth dynnu'i mewn â breichiau dur
Yr olaf raff sydd rhwng y llong â'r tir.

Y Ferch.

Ond O! mae’r gadwyn sy’n ein huno ni
Yn ddigon hir i fyned gyda thi


A close-up of a text

Description automatically generated with low confidence

YR YMFUDWR A'I GARIAD.  673


Dros foroedd pella’r byd
Nis gall y don
Ond gloewi hon.
Rhyw dderwen gref yw serch,
Ni all ystormydd erch
Ond gyrru’i gwreiddiau’n ddyfnach
I eigion mynwes merch.

Cydgan.

O! pam na fyddai cariad farw
Ar awr mor oer, ar storm mor arw!

Y Mab.

Ti wyddost mai tylodi llym
Sydd yn fy ngyrru i ymfudo
O! nid oes dim ond hynny — dim
Ond newyn yn ei farwol rym
A allai beri im dy ado.
Mae eang fyd tu hwnt i'r don,
Paradwys deg y gweithiwr llon,
Caf le i'r fraich haiarnaidd hon
I weithio er dy fwyn;
Breuddwydiais neithiwr freuddwyd claer
Fy mod wrth droed y mynydd aur,
Mi welwn f’hun ar frig y don
Yn dod yn ol i'r hafn hon
A chennyf gyfoeth fwy na rhi.
Prydnawn nefolaidd ydoedd, tawel
Angylion ganent yn yr awel;
Yr oeddit ar y lan,
Yn ffyddlon, er yn wan,
Yn edrych fythoedd tua’r fan
Lle collaist d' olwg arnaf fi;
Mi neidiais ar y draethell hon
$$$th guddio bythoedd yn fy mron.

Y Ferch.

Breuddwydiais innau freuddwyd blin.
Yr oedd blynyddau wedi treiglo
A minnau’n marw wrthyf f' hun,
Fy olaf awr oedd honno;
Mi 'th welwn di at fy ngorweddfa’n dod
$$$n golwg i mor brydferth ag erioed,
Er bellach yn dri ugain oed;
Anghofiais yno 'mhoen a 'maich
Wrth hyfryd farw ar dy fraich.

Cydgan.

Pa fodd, pa fodd, drugarog Dduw,
Y gallwn heb ein gilydd fyw!
 


674 GWAITH ISLWYN.
 
Y Mab.

Ffarwel, ffarwel! Mae’r olaf gloch yn canu,
Un funud eto cyn ein llwyr wahanu!
Ffarwel, anwylyd! Gobaith, hedd, ffarwel!
Ffarwel, ddedwyddwch! O ddedwyddwch llon,
Bydd farw, trenga ar y draethell hon!


Y Ferch.

Nis gallaf ddweyd yr olaf air
Pe rhoddid imi fyd o aur;
Ddydd bywyd, dos;
Tyrd, fythol nos!
Mi grwydraf bellach wrthyf f’hun
Heb yn fy wybren seren un.
O! pam yr wyt mor swynol, serch,
$$$n denu i'r fath anial erch?

Y Mab.

Ust! Beth yw’r goleu newydd sydd
Yn gwawrio ar fy ysbryd prudd?
O bwrw 'th goelbren gyda mi,
Mi weithia 'th fordaith dros y lli
Rhydd cariad a dedwyddwch im'
Ryw allu nefol, wyrthiol rym.


Y Ferch.

Mi ddof dan ganu yn dy gôl,
Mi awn drwy angau ar dy ol.


Cydgan.

Mae clychau’r nef yn canu, awn ynghyd
Fel engyl dedwydd a newydd galon tua’r newydd fyd;
Mae’r don yn suo addewidion pur
Am undeb maith i ni mewn rhyw ddedwyddach tir.


Y BUGAIL A’I GI.


MEWN bwthyn clai ar fynydd pell ’roedd bugail tlawd yn byw
Yng nghwmni’r cwmwl du a'r storm o olwg dynol ryw.

Arferai godi gyda’r wawr i wylio’i ddefaid glân,
Dihunent hwy wrth swn ei droed a'i beraidd gynnar gân.


Ond eira amser erbyn hyn a gaed yn gwynnu’i ben;
Ei gam oedd fyr, a'i anadl tyn wrth araf rodio ael y bryn
Arwyddai fod y nos yn dod,
A'i yrfa bron ar ben.


Ni feddai yno, wrtho’i hun, un cyfaill ond ei gi,
Rhagorach câr na llawer dyn, ffyddlondeb ydoedd hwn ei hun,
Gwell na chyfeillion lu.


ECHRYSLONRWYDD RHYFEL. 675


Mor hoff oedd hwn o'i feistr gwiw!
Gadawai ef wrth odrau’r rhiw i orffwys ar ei ffon
Tra’r ai ei hun ar ol y praidd i'w cyrchu ger ei fron;
Unigedd maith, a'r "dyddiau blin"
A wnaeth y ddau yn awr yn un.


Cyfarthai ar yr awel bron
A chwythai ar oedrannus fron
Ei feistr cu;
Ei gryglyd ru ar hanner nos
Arwyddai fod yr anedd dlos
Yn gastell digon cry.


Ond un prydnawn dychwelyd wnaeth
O'r storom fawr, yn llesg a llaith,
Eisteddodd yn ei gadair fawr;
A bore drannoeth codai’r wawr
I ddeffo’r greadigaeth gref,
Ond methodd mwy ei ddeffro ef.
Ei hiraf olaf hun oedd hon
A rhewodd ffynnon bywyd dan ei fron.


Y bore ddaeth; a'i ffyddlawn gi
Edrychai yn ei wyneb cu,
Gan ddisgwyl y cyfarchiad llon
Arferai ddod o'i enau ef;
Ei balf a ddododd ar ei fron
Mor ysgafn a niwl y nef;
Cyfarthai gydag isel ofnus lef
Ond bythoedd nis dihunodd ef.
Fe lyfai’i ddwylaw yn ddi-baid
Ond eira angau yn eu hoeri gaid.
Deallodd y creadur tlawd
Ei fod heb gyfaill, câr, na brawd;
Ac wrth ei draed, mewn hiraeth llwyr
Bu yntau farw cyn yr hwyr.

ECHRYSLONRWYDD RHYFEL.


MAE’r frwydyr drosodd, a'i tharanau hy
Yn tawel ddarfod ar y nefoedd fry;
Gwanhau, gwanhau ceir twrf y fagnel bell
Ar hyd ymylon yr olygfa hell.
Ac ambell belen di-os yr wybren flin
Fesura arwydd prif drueni dyn


676 GWAITH ISLWYN.


Ar linell erchyll o ddifaol dân,
A ddeifia’r cwmwl teg fel rhol o wlan.

 
I ble yr ei, O filwr blin dy wedd?
Yn ofer yma chwili di am fedd!
Gorwedda i lawr, a'i ddryll o dan ei ben,
A thry ei olwg olaf tua’r nen,
Ac nid oes neb yn dyfod! Cwyd ei law —
A! nid oes yna onid gwynt a gwlaw;
A thyn hi’n ol, a gesyd hi yn brudd
I dwymno ar ei galon mwyach sydd
Ar oeri yn dragwyddol. Yn ei fron
A'i gwaed a'i dyfnion glwyfan cuddia hon.


“Pa beth a wnaethum fel yr haeddwn hyn?"
Ymgwyna’n brudd a'i waed o'i gylch yn llyn,
A'i aeliau’n rhuddwawr gan y marwol li,
A'i oll yn gwaedu ar allorau bri
Ei fywyd, a'i drefniadau teg i gyd,
A'i fyrad gobeithion yn un aberth drud,
A disgwyliadau teulu cyfan mwy
Yn pruddaidd edrych ar ei farwol glwy,
Ac yna ar eu bedd tragwyddol hwy.

“Pa beth a fu fy mhechod fel y'm caed
Yn gorwedd yn y diwedd yn fy ngwaed,
Ymhell o d
ŷ fy nhad, a'm priod wiw
Aml fôr a maith gyfandir o fy nghlyw?"
Bydd dawel, Filwr! Rho dy farwol faich
I huno ar gydwybod fel ar fraich,
Yr unig fraich a feiddia wthio’i hun
Rhwng bydoedd ereill a siomedig ddyn.
Tu draw i lawer môr y trigant hwy
Y gofyn lawnder ganddynt waed dy glwy.
O fewn eich llysoedd, dedwydd ydych chwi,
Sy’n dwyn y camw
edd dan yr enw bri,
Eich glythoedd esmwyth tynnwch at y tân,
A chyda’r offer per tarewch y gân,
A'r cauadlenni o borfforaidd wawr
Gollyngwch dros y ffenestr amliw fawr,
A hongier pennaf ysplanderau’r byd
O'ch amgylch, arwyddluniau rhwysg i gyd.
A! syniwch rywbeth am y dyrfa fawr
Sy’n gorwedd heno ar y rhewllyd lawr,
Yn tawel farw yn eu gwisgoedd gwaed,
Heb ond y graig ddeifiedig dan eu traed.


ECHRYSLONRWYDD RHYFEL. 677


A gwyntoedd nef yn gwywo dan eu cwyn,
Heb seren fry a ddeffry er eu mwyn,
Anfonedigion eich uchelfryd chwi,
Eich cyflogedig weision, feibion bri.
Pwy roes y Rhyfel, beiriant erch, ar waith?
Ac ym mha le y g
wnaed y farwol raith,
A phwy a'i seliodd hi? Tyrd yma, gwel
A yw y lladdfa hon yn dwyn dy sel;
Derbynia 'th ran o'r gwaed — dy ran o bwys
Y barnol faich a'r cyfrifoldeb dwys.


Y gwirion Filwr! Pam buasit ti
Yn teimlo digter at yr estron du
Na welaist wawr ei wyneb hyd y dydd
Y cyfarfuoch dan y gawod radd —
Y gawod waed a leidiai’r cadfaes prudd?
Paham y chwyddai gorfyn fynwes un
Ar ol pob aberth ac ymdrechfa flin
Na feiddia edrych goru
ch bedd di-faen
Na allai cariad fyth, er rhodio’n ol a blaen,
Ei nodi ar y ddiofrydig waen —
Na meithrin gobaith gael ei enwi mwy,
Na bod am ennyd y tu faes i'w glwy,
Na disgwyl yn y diwedd awr o hedd
I estyn i law cyfaill ddim a fedd —
Dim cymaint ar ei ol a darn o gledd!
O, am ba beth gadawai ef ei wlad
A'i deulu hoff, ei nefoedd o fwynhad,
A swynion cariad ar ei ol i gyd,
A'r hon sydd iddo ef yn fwy na’r byd?
Gadewch ef yma; mae ei blentyn mad
Yn dechreu per-feistroli’r enw "tad;"
Y mae gobeithion ei foreuddydd gynt
Yn troi’n sylweddau am ei lawen hynt,
Per freuddwyd mebyd am ddedwyddwch pell
Yn torri gyda rhagluniaethau gwell,
Gan euro cylchoedd bywyd bob yr un,
A'i wisgo oll â dymunoldeb cun:
Gadewch ef yma. Na! mae rhaith y llys,
A chanmil lleisiau’r wlad yn gofyn brys,
Mae’r offer erch yn barod ar bob llaw,
A'r llongau’n aros yn y porthladd draw;
Dos ymaith, was y miloedd, myned raid;
Ac os na ddeui’n ol, nef Duw! fe ddaw dy waed.


678 GWAITH ISLWYN.


Mor hyf a gorwych gynau oedd ei wedd!
Fe godai gyda’r wawr fel herodr sedd
A'i wisg yn llachar oll, a'i fron ar dân
Gan farwol nwyfiant y filwrol gân.
Paham oedd raid ei wisgo â'r fath wawr
$$$w ddenu ymaith tua’r lladdfa fawr,
A throi ei fynwes gan ysplander drud
Yn fflam o rwysgedd, tua maes y llid,
A boddi ei feddyliau ar ei awr
Ddiweddaf byth, yn nhonnau’r gydgerdd fawr?
Fel hyn y barnwyd y buasai ef
Gymhwysaf i wynebu’r ymdrech gref —
Gymhwysaf i anghofio ‘i hun a’r nef.
A! degan anwybodaeth! Sylli di
Ar fellt dy gleddyf, ar dy wisg o fri,
Ac ar allanol addurniadau’th radd,
A'th newydd arf, y borau cyn dy ladd?
Dwed, onid wyt yn teimlo fod dy wlad,
A'th filoedd brodyr yn ei broydd mâd,
I gyd i'r milwr yn garedig iawn,
Ei wisgo megys â disgleirder nawn?
A! ateb ini heno pan y bydd
Yr oll yn nofio ar y tonnau rhudd.

Tri ugain mil! ardderchog oedd eu gwedd!
Gallasai’r nen oleuo ar eu cledd
Ei huchaf res o fellt, a'r gwawrddydd pell
Droi yn ei ol o flaen y borau gwell
A ffurfid â'u hysplander hwynt ar hyd
Y bryniau crynol o symudol bryd.
Gallasai’r nefoedd ddal eu hun fel drych
Goruwch y fath ddisgleirder maith a gwych.
Ond braidd y cred Marwolaeth erbyn hyn
Mai ef a biau anrhaith ael y bryn!
O! echryslonrwydd Rhyfel! Gormod yw
I ysbryd barn ei hun ac angeu gwyw.
Nesha y bedd yn araf! Cymer hwy
I eigion mawr o hedd ar unwaith mwy,
Fel un a ofnai rifo’r yspail maith —
A ofnai feddwl am ei erchyll waith.


Gorwedda y trueni erch a maith
Ymhell tu allan i holl gylchoedd iaith.
Fel ambell uchder o ogoniant ter,
Fel dwyfol fraich a groga dros y ser;


ECHRYSLONRWYDD RHYFEL. 679


Fel ambell feddwl o gerubaidd bryd,
A gerdd ymylon y tragwyddol fyd,
Nas gellir ond eu gweld a'u synio’n fud
Mewn enaid-ddyfnder yn y mewnol fyd,
Lle y mae geiriau a phob cysgod sydd
Yn bythol ddarfod yn y dwyfol ddydd;
O, felly y ceir ambell annwfn dru,
Ac ambell eigion o erchyllrwydd du,
Arswydol olygfeydd o wywdra maith,
Rhy bell, rhy ddyfnion byth i blymiad iaith.
O'r braidd y gall y meddwl noeth ei hun
Ymddal ar ymyl y gwelediad blin.
Mae’r storm o waed yn gyrru ieithoedd byd
Dan graig distawrwydd yn dragwyddol fud.


Dod am dy galon dyner, fron o ddur,
A selia’n awr ffynhonnau 'th deimlad pur,
A bydd yn hyf i rydio’r llynnoedd gwaed,
A chlwyfo rhai bob ennyd dan dy draed,
A thyred gyda mi i faes y llid,
Fel bronnau uffern sydd yn waed i gyd,
Y gallai hon ei wisgo ef i gyd
Ger bron ei theyrn ellyllig, fel ei gwrid.
Mil ar ol mil o glwyfedigion gwel,
Bob un yn dal ei law lle mae y bel
Neu’r farwol saeth, neu ddarn y cleddyf dur
A dorrwyd, dorrwyd yn y galon bur.
Rho imi ddiosg fy hanfodol hun,
Dduw’r nefoedd! na âd imi fod yn ddyn,
A gweled y fath fôr o wae, bob ton
Yn llanw calon wag, ryw isel fron
A draethwyd♦ i bob gwae yr ennyd hon.
Na chlywer ynnof gur fy nghalon lawn,
Sy’n curo fel wrth ddôr tragwyddol iawn.
Ac O! na chofiwyf uwch y lladdfa hon
Fod ffynnon o dynerwch dan fy mron,
Rhag wylo fy modolaeth ffwrdd i gyd
Mewn deigryn erfawr allai godi’r byd.
A! dyma ddrych i ellyll ddal ei hun
Heb grynu yn ei wydd; ac eto, dyn
A gawn wrth wraidd yr holl welediad blin.
Ar hyd y brif-ffordd cyfarfyddwn hwy,
Dorfeydd o ffoaduriaid dan eu clwy,
Rhai’n siglo a rhegfeydd gynteddau’r bedd,

 
• Shored — Traeth, traethu.


680 GWAITH ISLWYN.

 
Ac ambell un yn cwympo ar ei gledd, —
Rhai’n gyrru ar eu gwaed-liwiedig feirch,
A rhai bob tu yn glynu wrth y seirch, —
Rhai’n rhwygo 'u gwaedlyd wisg i gau y dwy,
Neu mewn gwallgofrwydd yn ei ledu’n fwy, —
Rhai’n torri yr angeuol bel o'u traed,
Ac ambell un ar weddi yn ei waed.

Tyrd eto 'mlaen, pell yw y cadfaes prudd,
A theithio raid dros lawer milldir rudd;
Men ar ol men o feirwon ddaw ymlaen,
A llawer magnel fawr, prif beiriant brad,
A yr yn ol, yn mygu oll i'r gâd.
Y storom bylor donna las y nef,
A'r wybren droir gan ei sawyr ef.
Ai dyma’r pentrei teg a welsai’r wawr
Fel bron o wynfa yn gwyl-wynnu’r llawr?
Tyrd, eistedd arni, a bydd fawr a llon,
Ogoniant i eistedd ar y gamedd hon,
A thorf o weddwon ac amddifaid syn
O'th amgylch ar y cerig oerion hyn,
A llu o biant yn llefain ar eu tad
Yn noethion hyd eu henaid — mamau mad
Yn troi yn wallgof byth o faes y gâd.
Ogoniant! eistedd yma fyth, a'th draed
Yn gorffwys ar geuledig fainc o waed,
A doed y byd i'th weled ar dy fainc,
A'r oesoedd heibio â chlodforol gainc.

Pa fodd yr awn? Y mae y meirw yn cau
Y brif-ffordd fawr, a'r gwaed yn gorddyfnhau;
Ymgolla’r llwybyr draw mewn tref o dân,
A môr o fwg yr dros y nefol drân.
Fel gwlad o farwor ar y gwynias lawr
Y gorwedd mwy y goedwig eang fawr.
Rhaid troi o amgylch hyd y meusydd gwyw,
A aml aml rychir gan y ffrydiau byw.

Dewch, dewch, drueiniaid gweddwon, gyda ni,
Blant hanner noethion, a chwiorydd cu,
A'r nefoedd rhwygwch â'ch alaethus lef,
Ac os na chlyw y byd, fe glyw, fe gofia’r nef.

O, faes y lladdedigion! Mor eang ac mor faith!
Barn! onid mwy na digon gwlad gyfan i'r fath waith!
Ofnadwy’r golygfaoedd mewn un prydnawn a wnaed,
Mynyddoedd ar fynyddoedd o wywdra ac o waed.


ECHRYSLONRWYDD RHYFEL. 681

Agorwyd pyrth marwolaeth oll fel i dderbyn byd,
A thaflodd colledigaeth ei ragbyrth ffwrdd i gyd.
Ei ragarwyddion araf, nych ysbryd, gwaeledd gwedd,
Sydd yn rhybuddio’r tlotaf o agoshad y bedd.
Fel â llifeiriant sydyn eu torrwyd oll i lawr,
Disymwth daeth y gelyn, fel nos ar draeth y wawr.
I mewn y daeth fel afon, fel pe y troesid byd
O flaen ei famau dyfnion yn adwy fawr i gyd.
Pell gadwyn o ddyffrynnoedd a daenwyd mewn un dydd
O amgylch i'w heithafoedd yn wely i ddistryw rhudd.
$$$r ellyll mawr ymorwedd aml ddyfnder erch mewn gwaed,
Neu edrych yn ei fawredd trwy’r niwloedd rhudd a wnaed.

O am luniedydd ffyddlon, a dynnai’r drych di-wawr,
Hyd at y byw a'r galon, a hongia i maes yn awr,
A barai weld yr aelod ar ol ei gado’n wyw —
Braich gref— draw ar y gwaelod yn crynu, ac eto’n fyw, —
A allai daflu’i chryndod fel bywyd, ar ei len —
Barasai i lawer syndod, fuasai gynt mor wen —
Nes peri i tithau ‘i chanfod yn duo hyd y gwaed,
Tra llun rhyw gadfarch uchod ar ddisgyn arni â'i draed.
O am luniedydd uchel a dynnai ar ei len
Wirionedd erchyll Rhyfel, A, nid y rhwysgfawr ben
Yn gyrru heibio’r rhesau, gan floeddio, hardd a gwych;
Ac nid y llachar rengau yn goroleuo’r drych,
Ac nid "y tro ysplenydd," a'r gwych wrolwaith draw,
Ac nid y rhuthr dieilfydd er clwyfau bron a llaw, —
Ond tyfol fryniau’r meirwon, a'r byth-lydanol ddrych
Ar grugiau y marchogion, dan ddrylliau’r harnais gwych,
A gobaith mil o weddwon yn cwympo ar bob awr,
A'u cyfaill mwyaf ffyddlon yn gwingo ar y llawr;
Ac er ei ddiaelodi, a'i roi dan fôr o draed,
Y fagnel yn ei nodi, ac yntau yn ei waed
Yn gwaeddi ar greulondeb, ar ddistryw, byd a nef,
A'r belen dân yn ateb i mewn i'w galon ef.
Hyn yw gwirionedd Rhyfel, ac O, na cherfid ef
Yn nyfnaf liwiau’r gorwel a bythol wawr y nef,
Pe y goddefai’r nefoedd i'r gwae-ddarluniol bin
Gael yn eu dwyfol wawroedd ei drochi fyth i hyn.
Na roed y bywyd-luniau i blaid y frwydyr fawr,
Gyferbyn â'u calonnau i hongian onid awr.

Aroswch, nentydd, ar y bryniau draw!
Mae eisiau eich gwelyau ar bob llaw
$$$r ffrydiau cyfoethocach. Seren glaer,
Paid dithau godi y wahanlen aur


682 GWAITH ISLWYN.

 
Na gollwng dydd y nefoedd. Mae y byd
Yn gorfoleddu yn y dyfnach gwrid —
Y gwawr o waed — gwyd i'w goleuo hwy
I araul fryniau anfarwoldeb mwy.

O, echryslonrwydd Rhyfel! Pennaf prawf
$$$n golwg mwy ar donnau’r gerdd a nawf. —
Rhy erchyll yw ei faes taranol ef
I gennad cariad, cennad gras y nef,
Hedd-gennad y graslonaf Iesu, ddod
O fewn ei gylch â geiriau’r dwyfol Fod.
Efe a welir yn y farnol gell
Yn dysgu’r euog am y ffordd sy well;
Ar hyd ymylon holl ddyfnderoedd gwae,
Eigionau pechod, ac arferion gau,
A gyfarfyddir yn ei swydd o nedd
Yn rhodio fyth, gan drwsio ar y bedd
Lamp anfarwoldeb, a rhoi gair y nef
I losgi yn ei borth tywyllaf ef;
Yr hwn sy’n cynrychioli gras yr Ior,
A rhad ei weinidogaeth fel y môr,
Yn dal agorion yr anfarwol fyd,
A hedd-lythyrau gorsedd Ior i gyd;
Yr hwn sy’n rhoi i'r galon dduaf wnaed
Ryw fywyd arall byth â dwyfol waed,
Gan droi y cwmwl oddiar dynged dyn,
A bryniau ’i dragwyddoldeb: — Ryfel blin!
Ni faidd efe neshau o fewn dy drân —
Dy amgylch o daranau ac o dân.

O, rhodder in' heno nos ddyfnaf y nef,
Ym mhyrth y cymylau mae’r dymhestl gref
Yn aros i'w harwain i lawr ar y byd,
A gyrru o fynwes y nefoedd i gyd
Adgofion y gâd â'i tharanau ei hun,
A chipio adseiniau y rhyfel rhy flin
Rhag cyrraedd o honynt orseddfainc yr Ior,
Rhag wylo o amser ei ddeigryn — y môr.

Draw hongier y nos goruwch bryniau y llid,
Holl arled y nefoedd, fel elor wisg byd.
Rhy erchyll y gwae i welediad y ser,
Cenhadau bytholfyd, claer dystion ein Ner;
A, llawer golygfa o bechod a llid
Ddaliasant cyn yma yn ddistaw a mud!


ECHRYSLONRWYDD RHYFEL. 683

O ffenestr oruchaf y nefoedd, a saf
Gyferbyn â gorsedd dragwyddol eu Naf,
Ugeinmil o weithiau syllasant i lawr
Ar lawer golygfa ofnadwy ei gwawr;
Ond trwy y cymylau a'u holltau di-wawr
Ni feiddia un seren ymddangos yn awr.
Cyfiawnder ei ser-ddiffoddiadur a ddyd
Ar lampau y nef oedd goruwch y fath fyd.
A oes yr un angel y nos erchyll hon
Yn cyffwrdd y ddaear, fel awel y don?
Mae oriau ar fyd pan y cyfyd y nen
Ei ser a'i hangylion tu acw i'r llen,
Heb ado ond pechod a barnau a llid
I lanw ffordd amser a llywio y byd.

Ac nid yw hyn, yr oll o'n hamgylch sydd,
Ond porth y gwae a'r ymddifadrwydd fydd.
Ehed yr haul dros lawer blwyddyn faith,
A phasia genedlaethau yn ei daith
Cyn colli golwg ar effeithiau prudd,
A chanlyniadau yr echryslawn ddydd.
Fe daen cysgodion y mynyddoedd hyn
Dros haul cenhedlaeth arall. Codir llyn
Y gwaed ymffronawl hwn a'i donnau rhudd
A llawer cafod lawn, ry lawn o ddagrau’r prudd.

Ehed y newydd gyda brys y wawr:
O, famau pell, ymddifaid fil yn awr,
Ymbarotowch, bob calon unig lom,
I dderbyn mwyach nos dragwyddol siom.
O, bydded braich rhyw angel tyner mwy
O dan eu henaid pan y teimlont hwy
Eu holl ategion a'u daearol hedd
Yn cwympo amgylch-ogylch hyd y bedd;
Tra lleufer tanbaid dros y wlad a'r dref
Gan ysbryd Rhyfel, fel pe mynnai ef
Roi golau i'r ymddifaid weld eu clwy,
A lamp i'r weddw uwch eu beddau mwy.

Clyw wyfrau’r pellebyr ar gryndod i gyd,
Fel pe y trosglwyddai air olaf y byd,
A'r olaf air glywir gan lawer a fydd
Yr olaf ddeilllir hyd derfyn eu dydd.
Fellt! fellt! pam eich gwlychir yn nhonnau y môr,
Rhai fry a oleuech genhadau yr Ior,


684 GWAITH ISLWYN.


A'r engyl-osgorddion mor danbaid a gaed
Yn rhodio y nefoedd tra bydoedd dan draed?
Paham y dadraddiwyd yr ysgol i ddyn
Sy’n dringo’r cymylau a'r storom ei hun,
Y rhoed i'w wialen a'i arch eiddil ef
Wahanu’n dragywydd fôr asur y nef,
Nes rhodiai i ochr y duwiau a'r hanl
A thramwy fel angel y melltbarth di-draul?
Ai nid oedd o'r blaen ddigonolrwydd rhy fawr
O ffyrdd i newyddion ar fyd mor ddi-wawr?
Gweddusach oech chwi i newyddion y nen,
A'r ddwyfol ohebiaeth tu acw i'r llen,
Tu draw i'r wahanlen gymylau a ddyd
Iehofa yn blygion o amgylch y byd,
Na faidd ond yr haul ar orseddfainc y nawn
Ei throi hi o'r neilldu, neu’r dymhestl lawn.

Paham mor awyddus, wrolion y gad,
I anfon ond enw y bachgen i'w dad?
Ai nid oes ond aden y fellten a wna?
Ust, ust, a oes allu o'r nefoedd a â!
Mae llong yn yr hafn yn aros y gwynt— 
Rhy araf ei hwyliad, rhy hirfaith ei hynt!
O, gallai’r amddifad fwynhau llawer hun
Tra byddai hi’n aros yr awel a'r hin,
A gallai obeithio aml fore a hwyr, —
“Caf ledu y bwrdd iddo eto, pwy
ŵyr!"
A gwelid cymylau a gwenau o hedd
O'i chalon newidiol yn lliwio ei gwedd;
Na! lleibier ffynhonnau ei bywyd mewn awr,
A gwywed mewn eiliad ei gweddi a'i gwawr,
A rhoer yr elorwisg i lawr ar y bwrdd
Cyn byddo y wawr a'i gwên decach yn cwrdd.
Ewch ynte, fellt buain, a thorred y dydd
Ar fyrdd o aelwydydd bedd-oerion a phrudd.
Arloeswch y llwybyr dros fynydd a dôl
$$$r daran a'r Duw sydd i ddyfod ar ol.

Gwlyb yw y borau, rian lon,
Bydd dawel ger yr aelwyd hon.
Y mae y ffordd yn oer a llaith,
Bydd hapus heddyw gyda'th waith,
A chân y dôn y carech chwi
Ar oriau per ei harfer hi,
Pan fyddai’r haul o dan y don,


ECHRYSLONRWYDD RHYFEL. 685


A natur oll — oll fel un dyner fron,
A chysgod y mynyddoedd pell
Yn disgyn fel o fydoedd gwell.

 
Clych ar ol clych — bydd dawel! Erfawr lu
Yn llenwi yr ystrydoedd ar bob tu!
Y mae dy galon lawn fel ton,
Yn codi ac yn chwyddo’r fron,
Na ddylai chwyddo ond i dderbyn
Gorffwysiad angel teg gyferbyn.
Dos ynte allan gyda’r llu.

Yng nghysgod hwyr fe’i gwelwyd hi
Yn dychwei dan dragwyddol glwy,
Byth byth ni rodiodd allan mwy.

Dyneraf nefoedd! er pob gwae a llid
Gawn yn ymhongian bythoedd dros y byd,
Ac yn cofleidio ’i gaerau a'i wag rodres,
Gan guddio ei fynyddoedd yn eich mynwes —
Ai hyn sydd i barhau? Dywedwch chwi,
Sy’n gweld y pell a’r dwyfol ar bob tu,
Ai nid oes seren o addewid lon
Yn tramwy draw ar flaen y blaned hon,
Gan ddisgwyl am ei hadeg? Onid oes
Ar fryniau amser, er y gwyntoedd croes,
Ryw lamp aniffoddedig, arwydd gwan
O ddyddiau gwell a heddwch yn y man?
Y mae y ser yn edrych ar y byd,
Yn para i'w ofwyo ef i gyd,
Fel pe bai ganddynt eto feddwl mawr
$$$w sylweddoli ar y bel ddi-wawr,
Ac fel pe byddent yn ei wylio ef,
I ryw ddibenion gwell, dros Dduw a'r nef.

A welwyd Duw yn rhodio trwy y byd,
Yn unig ac yn addfwyn ac yn fud,
Ar ymdrech anghydmarol i'w leshau
A'i ddwyn i fyny o gysgodion gwae,
A'i seilio ef goruwch y ser ryw bryd
Fel gorsedd ei ogoniant uwch pob byd?
A daflwyd dros ei Dduwdod wisg o gnawd,
A droes efe euogrwydd gwae a gwawd
Holl faich y byd, fel diffyg, drosto’i hun,
Yn unig i oleuo tynged dyn,
A throi ei dragwyddoldeb tywyll ef
Yn ddydd diderfyn dros uchderau’r nef?


686 GWAITH ISLWYN.


A fu ei chwys fel dyferynau drud —
Fel dyferynau gwaed uwchben y byd?
Ac O, ai hyn yw ffrwyth yr ymdrech flin,
Ai dyma’r oll a syrth i ran prynedig ddyn!


Prysura ymlaen yn dy rod, y blaned dywyllaf dy wawr,
Mae oesoedd dedwyddach yn dod, a'u borau yn nesu bob awr.
O ganol myrddiynau y ser dewisodd y nefoedd dydi
Yn gartref i gariad eu Ner, a'i radau anfeidrol eu rhi.


Fe roddodd ei fywyd cyn hyn ar riwiau llifeiriol y gwaed,
A rhuddwyd uchelion y bryn o'r rhychau ofnadwy a wnaed;
Bu ddirfawr ei bryniad ar bren; gwneir, gwneir, fe derfynir y llid;
Fe fythol symudir y llen orchuddiai ddyfodol y byd.

 
O forau hapusaf i ddyn! a ddygwyd i mewn gyda llef
Angylion y wynfa ei hun a seren ddiweddaf y nef,
Y seren a gododd mor dêr i arwain y bywyd i’r byd,
A aeth i orffwysfa y ser ’rol awr o wasanaeth mor ddrud.


Fe dorrodd y wawr gyda hon — y wawr sydd yn gofyn y byd
A'i holl hanesyddiaeth o'r bron i dorri ar hyd-ddo i gyd,
Nes byddo ei borau yn llawn, a'r tragywyddoldeb a fydd
Yn agor i dderbyn ei nawn — i dderbyn cyflawnder ei dydd.


Bu ryfedd i engyl y nef eu galw uwchben y fath fyd,
I chwyddo y gân ag un llef, fod Brenin o hedd yn ei gryd;
Fod eto ar ol yr holl wae, rhyfeloedd yr oesoedd a'u llid,
Rhyw faner o hedd yn neshau, y deyrnas sy’n gariad i gyd.


Tad tragwyddoldeb a ddaeth yn faban eiddilaf ei lun,
A gwisgo ein natur a wnaeth, fel arwydd cyfamod â dyn,
Fel arwydd tragwyddol o hedd, o'i fwriad i uno y byd
A'r bydoedd tu acw i'r bedd, yn deyrnas o gariad i gyd.

Jerusalem! O, ryfedd fu dy ran,
Ei dderbyn ef â thyner lef i'r lan;
Rhyfeddol fu dy fraint, goruwch pob gwyrth,
Gael agor i dywysog nef dy byrth, —
Tywysog bywyd a thragwyddol hedd,
Yr oedd graslondeb yn tyneru’i wedd,
A dagrau o deimladrwydd ar ei rudd,
Yn fwy na’r nef oedd oll, ac eto’n brudd!
Ogoniant! dywed ar ba fainc o aur
Eisteddaist ti mor ddwyfol ac mor glaer
Ag ar yr ebol hwnnw? Nid oes draw
Ond cangen lawn o flodau ymhob llaw;
Na chawell saethau mwy, na chleddyf blin,


ECHRYSLONRWYDD RHYFEL. 687


Na chalon ga ddioddef onid un;
Na baner ond a gyfyd Ior ei hun
Am dano’i hunan mwyach, natur dyn!
Ferch Sion, cân! Dywedwch wrthi hi,
Fynyddoedd santaidd draw, a'r nefoedd fry, —
“Dy frenin sydd yn dyfod, lyw y nef,
A'i deyrnas o dangnefedd gydag ef.
Y mae yn addfwyn, a'i orseddfainc gun,
A'i gallu a'i sylfeini ynddo’i hun,
A'r oll o'r gwaed ollyngir dros ei sedd,
Ei galon ddofn ei hun — ei hun a'i medd.
Tywysog heddwch yw, ac iddo ef
Y rhoed y byd a gorsedd fawr y nef.
Fe ddygir gwledydd a phegynau’r byd
I droi o fewn ei deynias ef i gyd."
Dywedwch, addewidion dyfnion Duw,
Pa bryd y daw pob cenedl a phob rhyw
O dan ei ddwyfol faner? O, pa bryd
Y daw y borau yr agora’r byd
Byrth y cenhedloedd iddo fel y gwnaeth
Jerusalem gynt ar ei brynol daith;
Fe ferchyg ar y nefoedd aur yn awr,
A dwg y nefoedd gydag ef i lawr.
Dydd mawr y diarfogiad dros y byd —
Dydd troad arfau rhyfel gau i gyd
Yn offerynau hedd — fe ddaw, fe ddaw,
A chwydd o gariad gwyd y nefoedd draw.


Ar derfyn pob dydd o ryfeloedd a châd,
Pob erchyll brydnawn o orthrymder a brad,  
Fe glywodd y nefoedd ar derfyn y dydd
Ochenaid yr haul dros y tonnau pell rhudd,
Pan gydocheneidiai â'r bryniau a'r môr
Am jubili natur a meibion yr Ior,
Pan gyfyd gweithredoedd ardderchog ei law
Yn rhyddion a phur ar y nef oedd gwell draw,
O'r fflam a gyneuir ar orsedd eu Ner —
Y fflam a ail newid y ddaear a'r ser,
A llosgi y byd hyd y dyfnder y daeth
Pla pechod hyd ato gan ddifa’i holl waith;
Pan na cha yr huan oleuo un byd
Ond fyddo yn deml i'r Anfeidrol i gyd,
Na disgwyl yn brudd am y fachludol awr,
Na theimlo un pryder i ddilyn y wawr.
Dileir terfynau teyrnasoedd y byd,


688 GWAITH ISLWYN.

 
A bydd fel y nef yn agored i gyd
I santaidd eneidiau, angylion, a Duw,
Ei dramwy o amgylch fel un wynfa wiw.
Cyd-toddir y cyfan i'r deyrnas o hedd
A daen hyd y bydoedd tu acw i'r bedd.
Terfynau marwolaeth ofnadwy ei hun
Ni welir yn atal tramwyad y dyn;
Fe gerdd lle y mynno yn nheyrnas ei Dduw,
Y deyrnas a una bob ansawdd a rhyw.
Bydd newydd y ddaear, a newydd y nef
O dan ei lywodraeth a'i luman hael ef.
Teg fwa o oesol gyfamod a ddyd
Rhwng nef oedd a nefoedd, rhwng byd pell a byd.
A throir arf-dyroedd y bobloedd dod un
Yn demlau tawelwch i heddwch ei hun.
Dinasoedd y ddaear orweddant i gyd
Ar dangnefeddusrwydd yn dawel eu pryd,
Heb gaerau o'u hamgylch, heb gysgod bryd hyn
Ond arlen y nefoedd ac ymyl y bryn.
A'r ser ni ddihunir ag adsain un llef
Ond fyddo’n sancteiddrwydd — yn foliant i’r nef.
Pob milwr a rydd ei ryfelwisg ar dân
I ddifa adgofion y rhyfel yn lân,
A'i arf yn y goelcerth a dawdd hyd y carn,
A blodau oleuant radd feusydd y fam.
A sychir ffynhonnau gelyniaeth i gyd,
A heddwch a leinw holl oesoedd y byd,
A lledir y byd dwyfoledig ei wedd
Fel gwên anherfynol o gariad a hedd.

Dymunol, O, dymunol fel y wawr,
A'i gwên raslonaf ar ei thyner awr,
Dymunol fel paradwys fydd dy wedd,
Grwydredig fyd, pan lif banerau hedd
Ar hyd dy fryniau oll, a rhandir du y bedd.
Fe ga y rhian aros byth, a bod
Ar fraich ei dewisedig, heb i glod —
Y clod sy’n byw ar waed a distryw rhudd —
Ddwyn mwy y dafnau bedd-oer ar ei grudd.
A daw yr hwyl i mewn i'r aber tawel
Yn bur a thangnefeddol fel ei hawel.
Brenhiniaeth heddwch gyda gallu ddaw,
A'i seren well i ddyfnder Affrig draw;
Gwedd natur a'i theyrnasoedd is i gyd
A ail ddychwelir gyda Phen y byd.


Y GENHADAETH GRISTIONOGOL. 689


Y GENHADAETH GRISTIONOGOL.

"Yng nghyflawnder yr amser."


BETHLEHEM, bytholai hi— ei seren
A fu siriol arni;
Rhyfeddol wawr fu iddi
Gwedi nos — "Duw gyda ni."

Ac yno’n gyflawn canwyd — ei thestyn,
A'i thystiawl lu welwyd
Yn y wawr a gain eurwyd
A'u cyrhaedd-bell linell lwyd.


Y dyner addewid a’n rhyddhaodd
Yn rhin yr heddwch i'n rhan arwyddodd
Forau y ddaear, pan erfawr dduodd
Ac am olau ein ffawd y cymylodd;
O dir ei wenau Duw a'i harweiniodd,
Heibio yr oesau yn ei law brysiodd,
Ar lun Naf yma safodd,— deg derfyn!
Yn nelw y Duwddyn ei niwl a doddodd.

A'r brid addewid, bêr ddydd,
Oedd Dduw, y mawr Addawydd.

Duw y goleuni ar deg olyniaeth
Y Nef-Benadur yn faban odiaeth, —
Ei dawel eni, gâr dielyniaeth,
$$$w hynaws yrfa o fynwes arfaeth, —
Camp Duwdod cwmpawd helaeth — ei gariad
O enwog fwriad, ar lawn gyfeiriaeth.

Newydd anwylaf! Pa ddawn ehelaeth
Gawn i ehedeg â'r bêr Genhadaeth
$$$r bellaf oror! Pwy ga’r flaenoriaeth
O agor dôr y fawr iachawdwriaeth,
Taro y dôn, dwyn trydaniaeth — bywyd,
Y newydd i'r byd am lawn ddarbodaeth?

Os canodd oesau cynnar— draw, weled
Rhyw olau tiriongar
Addewid bell i'r ddaear, — dylem ni
Addoli yn ddialar.
 


690 GWAITH ISLWYN.

 
Pwy a gawn at ragddawn rydd
A dwyfawl dannau Dafydd —
Gywrain gamp, grynai i gyd
Ag urddolfawr gerdd eilfyd —
A ddyd in' y newydd dant
Yn miloedd graddau’r moliant?


"Gwelsom ei seren ef yn y Dwyrain.”

 
Cennad ter yn uchder nen
Roddes Ior, arwydd seren.
Dewis swydd duwies iddi
Wnai Ion wrth ei hanfon hi.
Dug "y doethion," deg deithiau,
Liw nos gan ymlawenhau,
O fryniau y borau ban,
Gwlad haul a golud dilan,
A thoriad y wyrth araul
Y tir y coronir haul —
Hyd y man caed brawd i minnau — y man
Bu dymuniad oesau,
Yn ddyn bach mewn cadachau — gan forwyn
Ar fynwes addwyn heb eirf na seddau,
Heb roesaw yn ei breseb
Na dôr yn agor gan neb.


Duw yn y cnawd, ein cân yw, — a’r prifnod
Yng nghlod yr angel ydyw.

Bu dorau y byd arall,
Eilfyd y bywyd di-ball,
O ogoniant i wir lwyddiant yr ail Addaf,
Yn ddifolltau ar golynau o'r aur glanaf,
$$$r angylion i’w rheng olaf - agor
Ogylch ein byd gwaelaf
Newydd fawl y drefn ddwyfolaf, — chwarau
A thelynau’r Genhadaeth lawnaf.


Gweis oeddynt, negesyddion
$$$r hael genadwri hon.


Y swydd fu urddas iddynt;
A’u batheiniau gorau gynt,
Arwyddion nefol raddau
Tan glod, ddiosgent yn glau,
Eu gwneyd yn ras-genhadon
A chôr hedd i ddechreu hon.


Y GENHADAETH GRISTIONOGOL. 691


I ddwyn y foreugerdd aur
Ar gu nodau’r Genhadaeth.


Od wylodd un o deulu
Y nef lân, dirionaf lu
Erioed, bu’n awr — yr adeg
Y daeth dydd cenhadaeth deg
Araeth yr angel eurwawr
Fyth i ben gyda’r wen wawr.

Galw y cenadon cyntaf.

Aeth yr Iesu, ei thrysor,
Yn y man hyd fin y môr.
A'i addwyn braidd a wahoddodd
I leiaf rai’r fraint haelaf rodd
O ddwyn goruchel ddoniau —’r Genhadaeth
I heulwawr dalaeth y mêl a’r diliau,
Difyrwaith gras hyd forau —’r eangiad,
Hyd agoriad yr hollfyd i'w gyrrau.

Trwy odiaeth alwad tra eu detholai,
Y laswawr don tra eu glwys ordeiniai,
Heibio’r ddwys awel braiad, braidd y suai;
A llais ei Ior y môr ni ymyrrai,
Hyd ei ewyn ymdawai, — i’w eigion
Arian ei lifion o'r niwl a yfai.

"Teyrnas lon yn ter neshau!" — hyn ydyw
Eu cenhadaeth forau,
Sylwedd y cyntaf seliau — a dorrwyd,
Nes eu hagorwyd â difloesg eiriau.

Ior a dywynnodd mwy ar eu doniau,
Ac eurodd edyn eu cyrhaeddiadau
A dwyfol danbeidiaf olau — y wyrth!
Oleua hyd engyrth waelod angau.

Ar eu hynt araf tirion y torrai
Dydd y Genhadaeth, a’r "deuddeg" nodai
I ddwyn y deyrnas a sylfaenasai
Hyd olaf oror y wlad lifeiriai
O laeth a mêl, hen lwythi a'i molai.
Agor ei faner gymodgar fynnai
Yn y syw Ganan, lle y disgynnai
Llawer addewid, fel lloer a ddeuai,


692 GWAITH ISLWYN.

 
Olau hanerog, a'i rhagflaenorai,
Ar edyn oesoedd tra y dynesai.
$$$w frodyr e fwriadai — y blaenffrwyth,
Heibio ei dylwyth o flaen byd elai.


A thrwy egwyl y deg a thrigain — nôd
Y Genadaeth firain,
A lled a gallu ei hadain
A’i nen i gyd fu’r Ganan gain.

Ei hadenydd gadwynwyd,— ei hodiaeth
Ehediad gyfyngwyd
$$$r fro gan Ior fawrhawyd — y Seion
A'i addewidion erioed ddiodwyd.

A chyn agor ei chynhygion — i'r byd,
A'r bêr lechwedd Seion
Torrai ei hysbryd tirion — i wylo
Am awr y gado a'i môr o gedion;

Yr awr y rhoddai ei Rhi
Ryddid y ddaear iddi;
Byd o faes, heb ado fyth
Ataliad i'w rhad dilyth,
Na môr dan ddôr o ddwyrain
I deneu gwr y don gain.

Gyda’r awel ei golwg a droai
Tua’r gwledydd peli hwnt, a'r goleudai;
Glan ar ol glan i'w golwg olynai
Hyd yr ewynol fôr♦ draw daranai, —
Y byd unigol paganol gwynai,
Heb ar ei eiddiledd un braidd ddaliai,
I fedd o lennol dwyll ymfoddlonai,
Heb uwch ei fedd o haeledd a wylai.
Eu poenau a'u gwaeledd pan y gwelai,
O'i haddien fynwes y cais ddanfonai,
Mynych oedd, paham na chai — roi helynt,
A dwyn iddynt y Gair adnewyddai
Eu henaid, a'u dihunai
I fyw byth heb gofio bai.

“Dileu pechod trwy ei aberthu ei hun.”

Neshâi terfyn Seion — y pryd hyn,
Parod oedd angylion
T
ŷ Dafydd yn toi’i defion,
Duwiol hil, i adael hon.


Môr y Canoldir.


Y GENHADAETH GRISTIONOGOL. 693


A! er ei gwarth ceir ei gwedd
Yn hygar mewn unigedd.


Y Genhadaeth gun oedid, — ei hadeg
O hyd a bellhaid
Gan Dduw, a'r gain addewid
I fyd llawn, nes darfod llid; —


Rhaid oedd i'r nefoedd yn ol
Ei gweddus fri tragwyddol,
Ofyn dros elyn seiliau
A gwir rym i drugarhau,
A chynnyg heddwch union
Ym maith rwysg a grym ei thrôn.


Beiddiai dyn, fel gelyn gau,
Reolaeth Ior a'i hawliau;
A throes, trwy aruthr rysedd,
Ei fryd ar syflyd y sedd
Dragwyddol, a rheoli
Fel Ior ar ei hadfail hi.


Rhoes le deddfau Ior, i’w nwydau a’u hawenau yn ei wyneb!
Troes o uchder ei gyfiawnder acw, a mwynder y cymundeb
A fwynhai pan ei galwai, ei dihunai nodau Eden;
Ior ddirmygodd, gwrthryfelodd, a theilyngodd fythol angen.


Ior welodd, barnodd y byd
I boen tragwyddol bennyd.
$$$r nef mewn taranau aeth, — am y bai
E fawr enynnai dros ei frenhiniaeth;
Gemai â ser uchder hon,
A chaerai am ei choron;
A'i holl Dduwdod cysgodai
Oesoedd fil ei sedd ddi-fai.


O wydd dyn ei wedd a dodd,
A'i fellt y nef a holltodd
O’i flaen, tra i'w ddwyfawl lys,
Elai â mawredd dilys.


Yn ei holl urdd ni allai
Y nefoedd byth faddeu bai;
Na chodi y pechadur
O'i erch boen yn ei braich bur;


694 GWAITH ISLWYN.


Na dwyn yr enaid annuw
I addas gymdeithas Duw,
I fwynhau rheiddiau ei rhad
A gorwedd yn ei gariad
A'i hedd mwy, heb ddiddymhad
Du ethryb y dieithriad —
O'i uchel wydd nes sychid
Ag Iawn llawn eigion y llid.

 
Cyn anfon cenhadon hedd
A geiriau o drugaredd
$$$r holl fyd, rhaid rhoi’r llef fawr —
Ei ddeddf a'r orsedd haeddfawr
O’r newydd gadarnhawyd, — a'i hawliau
Uchel, hyd frigau ei chlod fawrygwyd.
Durym ei holaf daran — ar ddwyfawl
Ehangiad hollawl ollyngwyd allan.


A phan y caed gwaed a gwerth
Er ein cadw, rin cydwerth,
Fel llawn deyrn fe allai’n Duw
Gynnyg i'r euog annuw
Lawnaf gymod, a bod byth
Yn deilwng, yn lon di-lyth.
A'i holl genhadon ellynt
Ar eu nefol oesol hynt
Arganmol y ddwyfol ddawn,
A dwyn yr amod uniawn
Yn hyf, ar dirion ofwy —
“A Ner cymoder chwi mwy,
Mewn Iawn mae’n foddlawn i fyd — truanaf
$$$w heddwch haelaf mwyach ddychwelyd."


Deuai’r ddwyfol fythol fainc — trwy’r iawn mawr
$$$w ras haeddfawr yn danbaid orseddfainc.
A throid cadernid Duw,
A myrdd yniau’r mawr-Dduw,
Ei gyfraith a'i heffaith hi
A'r lwyddawl reol eiddi,
Dygid cyfiawnder di-goll,
Awdurdod y Duwdod oll, —
Ran odiaeth, yr un adeg
O du y Genhadaeth deg.


Y GENHADAETH GRISTIONOGOL. 695


Daeth yr awr ddirfawr i ddwyn
Y ddeddf gan Oen oedd addfwyn,
I fyned i galedi
Diarbed, i'n harbed ni.


Y rhad gâr adawai’i goron, — aml fawl
Mil fyrdd o nefolion,
A Duw ’nghyd, am dynghedion
Galar y ddaear brudd hon.

O gallai trwy deg ollwng
Ei holl fawredd rhyfedd rhwng
Dyn unig â dig ei Dad,
Ynnill nôd ei ddymuniad —
Dwyn tangnef y nef yn ol, — cymodi
Duw y goleuni â byd gel ynoI;
O gallai hyn ag holl hawl
A defnyddiau dwfnhaeddawl
Ei aberth, beiddiai nerthoedd
Y ddau fyd i gyd ar goedd;
A! dirmygai drem agwrdd
Annwfn i gyd, ofnau gwrdd
Y pennaf olaf elyn,
A'i rym yn deg, er mwyn dyn.
Y bai gymerai er mwyn
Diorchuddio drych addwyn
Duw mewn hedd ar orsedd rad,
O fodd am dangnefeddiad,
Yn deisyf ein dewisiad
Mwy o drefn y cymod rhad.

Edifeirwch fel Duw fwriodd — o'i wydd,
A'i waed ni ataliodd,
Ei rin yn gawodydd rodd
Hyd yr allor a'i drylliodd.
O'i galon ffyddlon y ffodd
$$$n cadw, pan y cododd
Ior ei gledd am ryglyddawl
Aberth o fytholwerth hawl.

Ataliai â chymod di-Iyth
A nodai y Farn â'i waed fyth;
A grym Iawn gor-rwymai hi — wrth "y pren,"
Gwerth prid ein cymodi!
Lle gyda’r gwaed caed yn codi
Gwell oesoedd a nefoedd i ni.


696 GWAITH ISLWYN


Amor, O ddydd y cymod,
Mae Duw, ie Duw, yn dod
O'r nef i dangnef a dyn,
Oll yn ol i gol gelyn.
Nid gelyn byth! Daw golau
I lwysol nef ol lanhau
Eto holl faes ei natur,
Fel y bo yn ddwyfawl bur
I Dduw roi reiddiau ei ras
A'i dethol i’w gymdeithas —
I fyny pan anfonir
Cenhadon, gweision y gwir,
I ddinasoedd, ynysau
Daear oll, er diwair hau
Grasau nef, a groesaw’n ol
Elynion afradlonol —
Cymell y gelyn pellaf
I ryfedd dangnefedd Naf,
Ymadael heb amodau
A'i fuchedd o gamwedd gau,
Dilyn hedd Duw o lawn nôd,
Dan obaith ei adnabod
Fwyfwy, a'i dduwiol fyfyr
Hyd y bedd roi’i fywyd byr
Yn wasanaeth gysonawl
I lon fyth, a'i oll yn fawl.

O fan ddiweddaf einioes,
Galwa ef tua'r gref groes
Ar unwaith, rym taranol
Y felldith heb rith ar ol!
Duon lengau beiau’r byd
O'u hoesoedd pellaf esyd
O flaen ei groes, fel un grym,
A! nid oedd onid diddym.
I bwys ei lawn llawn, a llif
Torrawl ei haeddiaint dirif.

Darfu byth holl dyrfau barn,
Eilfyd o anfeidrolfarn
A ddiffoddwyd, claddwyd cledd,
Do, olaf arf dialedd.

 

“A’r ddaear a gryniodd.”


Acw ar ogwydd y gwelid y creigiau
A llidiol wylltedd, â lledawl holltau,


Y GENHADAETH GRISTIONOGOL. 697

 
Eres ddifancoll o'u gorseddfeinciau,
Duw Ion a gododd y byd yn gadau,
Gallu wybrennawg, a llu y bryniau,
Taran dorf awr, holl natur yn dyrfau,
I hoeddi allan trwy erfawr ddulliau
Hawl y G
ŵr hynod aml ei goronau,
Anherfynol uwchddynol haeddiannau
Y person a waedodd — pris eneidiau!
Ennuddwyd y mynydaau, — braw a'u todd,
A tharanodd natur o'i thronau.

Y mawr huan fachludai o ganol
Ei frenhiniaeth; a'r sedd fawr enynnol
A gaed yn euro brig y don hwyrol,
Heibio hi tynnai ei gerbyd taniol
Ar unwaith, a’i lamp grynol — gwnai soddi
Ei dain oleuni is y don lennol!

Wedi llawn gyrraedd â braich ei haeddiant
Agorion heddwch, a dwyn gwir noddiant
Duw a'i holl eiddion o du llwyddiant
Y Genhadaeth, gwawr odiaeth gwarediant,
Marw i gynnal ei dramawr ogoniant,
Beddu ei elyniaeth mewn boddloniant
A mynnu ei ddymuniant — prynu byd,
Ei fryd, awr hoff, esyd ar orffwysiant.

Seliwyd y bedd, tra’i seiliau
Oeraidd oll yn ymryddhau.

“Nid yw Efe yma.”

A! buan y cododd yn Ben-Ceidwad
Ag eofn nodwedd, heb gyfnewidiad,
Er ei ddrych hyfawl a'i orddyrchafiad
A'i eirian goron, yr un ei gariad,
A'i fore, fore fwriad — galw dynion,
Fyd o elynion, fod ailuniad —
Rhyngom mwy trwy’i angau mad — â’r Barnwr,
Hedd i droseddwr di-haedd drwy suddiad,
Hedd tragywydd trwy gauad — y camwedd
Yn rhyfedd lawnedd ei fawr foddloniad.

Pa eiriau nodant lawnder Pryniawdwr,
Dihafal radau dwyfol Waredwr
Yn codi o'r bedd! Llawn Dangnefeddwr
Bellach ydyw, a diball lachawdwr,


GWAITH ISLWYN.

 
Cyflawn o haeddiant, ac O, fel Noddwr
A braich ei allu uwch pob archollwr,
Ar hyf luyddion yn orfoleddwr,
O allu angau yn fawr Ollyngwr!
Fyd! gwel dy Adgyfodwr — a mawredd
Goruchaf agwedd mwy na Gorchfygwr.
Eiriolwr mawr ei hawliau — dry’n bennaf
A llais uchelaf, y llys uwch heuliau.

Diodid ein Brawd ydyw
O'r un cnawd, Brawd i bob rhyw;
Oruchaf Gyfathrachwr,
Dyn a Duw ynghyd yn d
ŵr
O nawdd i ddynion eiddil
Helaeth amrywiaeth yr hil.
Er hyn, o fawr drueni
Am ei nawdd ni wyddem ni.
Byd oedd heb wybod heddyw
Ei ddyfod, a i fod yn fyw.
Ei radau trysoredig
Er yn ddi-drai, ynddo drig;
A ni yn marw o newyn
Oll heb wybod darbod hyn.

Efe yn ddyfroedd o fywyd — gloewfawr,
Heb glaf i gymeryd,
Neb braidd a godai ei bryd
Na’i phiol mewn hoff hewyd.

Y gollfam wedi’i barnu
"Yn y cnawd," a'i dyrnawd du,
A gweinion fyrdd dan gyni
Heb wybod ei darfod hi!

“Ewch i'r holl fyd.”

Dadleniad y Genhadaeth
A dydd hon o’r diwedd ddaeth.

I'r Olewydd, mynydd ei ddymuniad,
Ei dyner wyn o dan ei arweiniad
Gesglid ar ei fwynaf olaf alwad,
I wrando gair yr hynod agoriad
Dydd y warediaeth, diwedd ar oediad
Y Genhadaeth odidog ei nodiad.
Bu eu santeiddiaf fwynaf glustfeiniad
I eiriau dedwydd yr awdurdodiad —


Text

Description automatically generated

Y GENHADAETH GRISTIONOGOL. 699


“Ewch allan, allan at bob cynhulliad,
Bywyd cyhoeddwch, bod y cyhuddiad
Oesol drosodd, a sail y dyrysiad.
Heddwch, heddwch, yw y gwahoddiad,
Maddeuant helaeth, nid moddion taliad;
Ar edifeirwch cywir adferiad."
Wledd uchel, ail heddychiad! — fod Duw Ion,
Ie dan goron, i gyd yn gariad.


Nefoedd a'u mael feddai mwy,
Awdurdod Duw a'i ardwy.
Brenhiniaeth fawr y nennau,
Iehofa roes i'w fawrhau,
Ei tharan drom a'i thrôn draw, — a’i llywiad
I ddaliad ei ddeheulaw.


O nen y nerth brenhinawl
Gyrhaeddasai, rhoddai’r hawl
$$$w anwyl weision weini
Maeth y Genhadaeth i ni.
Anfonai hwynt o'i fynwes —
Y blaenaf o'r uchaf res,
Ag holl odidawg allu
Gorsedd o drugaredd gu.
A rhad Genhadaeth yr hedd
Eurid â breiniol fawredd;
Fel deddf o'r brif orseddfainc,
Ag hawl o anfeidrawl fainc,
Hawl i sylw, a theyrnlys lon
Yn nodi ei chenhadon;
A nodded brenin iddi,
Ior a'i nerth i'w harwain hi,
A barnu, barnu y byd
A gwarthus fodd a'i gwrthyd.


Rhoddwyd iddo fawreddau — y nefoedd
Yn afon ddilannau;
Llywyddiad gallueddau — teyrnasoedd
Eitha’r ynysoedd, a throion oesau,


Fel y gallai a ddewisai, noddi ’i weision,
Gwylio drostynt yn eu helynt fel anwylion,


A dwyn pob anghrediniaeth
I fawr iawn goll, i farn gaeth.


 

 

…..

 

Sumbolau:

a A / æ Æ / e E / ɛ Ɛ / i I / o O / u U / w W / y Y /
MACRONː ā Ā / ǣ Ǣ
/ ē Ē /
ɛ̄ Ɛ̄ / ī Ī / ō Ō / ū Ū / w̄ W̄ / ȳ Ȳ /
MACRON + ACEN DDYRCHAFEDIGː Ā̀ ā̀ , Ḗ ḗ, Ī́ ī́ , Ṓ ṓ , Ū́ ū́, (w), Ȳ́ ȳ́
MACRON + ACEN DDISGYNEDIGː Ǟ ǟ , Ḕ ḕ, Ī̀ ī̀, Ṑ ṑ, Ū̀ ū̀, (w), Ȳ̀ ȳ̀
MACRON ISODː A̱ a̱ , E̱ e̱ , I̱ i̱ , O̱ o̱, U̱ u̱, (w), Y̱ y̱
BREFː ă Ă / ĕ Ĕ / ĭ Ĭ / ŏ Ŏ / ŭ Ŭ / B5236ː  B5237ː B5237_ash-a-bref
BREF GWRTHDRO ISODː i̯, u̯
CROMFACHAUː
  deiamwnt
A’I PHEN I LAWRː , ә, ɐ (u+0250) httpsː //text-symbols.com/upside-down/
Y WENHWYSWEG:
ɛ̄ ǣ æ

ˈ ɑ ɑˑ aˑ aː / æ æː / e eˑeː / ɛ ɛː / ɪ iˑ iː ɪ / ɔ oˑ oː / ʊ uˑ uː ʊ / ə / ʌ /
 ẅ Ẅ / ẃ Ẃ / ẁ Ẁ / ŵ Ŵ /
 ŷ Ŷ / ỳ Ỳ / ý Ý / ɥ
ˈ ð ɬ ŋ ʃ ʧ θ ʒ ʤ / aɪ ɔɪ əɪ uɪ ɪʊ aʊ ɛʊ ɔʊ əʊ / £
ә ʌ ẃ ă ĕ ĭ ŏ ŭ ẅ ẃ ẁ Ẁ ŵ ŷ ỳ Ỳ Hungarumlautː
A̋ a̋

U+1EA0 Ạ U+1EA1 ạ
U+1EB8 Ẹ U+1EB9 ẹ
U+1ECA Ị U+1ECB ị
U+1ECC Ọ U+1ECD

 ọ
U+1EE4 Ụ U+1EE5 ụ
U+1E88 Ẉ U+1E89 ẉ
U+1EF4 Ỵ U+1EF5 ỵ
gw_gytseiniol_050908yn 0399j_i_gytseiniol_050908aaith δ δ £ gw_gytseiniol_050908yn 0399j_i_gytseiniol_050908aaith δ δ £ U+2020 †
“»

 
DAGGER
wikipedia, scriptsource. org

httpsː []//en.wiktionary.org/wiki/ǣ

 
Hwngarwmlawtː A̋ a̋
gw_gytseiniol_050908yn 0399j_i_gytseiniol_050908aaith δ δ
 …..
…..
ʌ ag acen ddyrchafedig / ʌ with acute accentː ʌ́

Ə́ ə́

Shwa ag acen ddyrchafedig / Schwa with acute

…..
…..
wikipedia,
scriptsource.[]org
httpsː//[ ]en.wiktionary.org/wiki/ǣ

---------------------------------------
Y TUDALEN HWN: www.kimkat.org/amryw/1_testunau/
sion-prys_386_islwyn_600-699_RHAN-7_3810k.htm

---------------------------------------
Creuwyd: 08-03-2023
Adolygiad diweddaraf : 08-03-2023
Delweddau:

Ffynhonell: Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Newyddiaduron Arlein.
---------------------------------------

Freefind.
---
Archwiliwch y wefan hon
Cerqueu aquest web
SEARCH THIS WEBSITE
---
Adeiladwaith y wefan
Estructura del web

SITE STRUCTURE
---
Beth sydd yn newydd?
Que hi ha de nou?
WHAT’S NEW?


Ble'r wyf i? Yr ych chi'n ymweld ag un o dudalennau'r Wefan CYMRU-CATALONIA
On soc?
Esteu visitant una pagina de la Web CYMRU-CATALONIA (= Gal·les-Catalunya)
Where am I?
You are visiting a page from the CYMRU-CATALONIA (= Wales-Catalonia) Website
Weə-r äm ai? Yüu äa-r viziting ə peij from dhə CYMRU-CATALONIA (= Weilz-Katəlouniə) Websait


Adran y Wenhwyseg / Seccio del dialecte de Gwent / Gwentian Welsh
Edrychiadau ar y tudalennau / Vistes de les pagines / Page Views
Web Analytics Made Easy -
StatCounter
Edrychwch ar ein Hystadegau / Mireu les nostres Estadistiques / View Our Stats