kimkat3809k Gwaith Barddonol Islwyn. 1897. William Thomas (Islwyn), Yr Ynys-ddu, Sir Fynwy (1832-1878) (rhan o Fwrdeistref Caerffili ers 1966).

13-05-2023





 .....

Gweler hefyd / Vegeu tambe / See also:

.....

0003_delw_baneri_cymru_catalonia_050111
..
 
 
 
 
 
 
 

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Catalunya i Gal·les
 
 
Cywaith Siôn Prys - Testunau Cymraeg ar y We
 
Gwaith Barddonol Islwyn. 1897.
William Thomas (Islwyn) (1832-1878).

RHAN 6/9. Tudalennau 500-599.
 


 

 

Map

Description automatically generated
(delwedd 7282)


Shape, circle

Description automatically generated https://translate.google.com/

(Cymraeg, catala, English, euskara, Gaidhlig, Gaeilge, Frysk, Deutsch, Nederlands, français, galego, etc)

...

www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion-prys_386_islwyn_y-gyfeirddalen_3803k.htm
Y Gyfeirddalen.
.....
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion-prys_386_islwyn_000-099_RHAN-1_3804k.htm
Rhan 1. Tudalennau 0-99
.....
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion-prys_386_islwyn_100-199_RHAN-2_3805k.htm
Rhan 2. Tudalennau 100-199.
.....
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion-prys_386_islwyn_200-299_RHAN-3_3806k.htm
Rhan 3. Tudalennau 200-299.
.....
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion-prys_386_islwyn_300-399_RHAN-4_3807k.htm
Rhan 4. Tudalennau 300-399.
.....
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion-prys_386_islwyn_400-499_RHAN-5_3808k.htm
Rhan 5. Tudalennau 400-499.
.....
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion-prys_386_islwyn_500-599_RHAN-6_3809k.htm
Rhan 6. Tudalennau 500-599.
.....
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion-prys_386_islwyn_600-699_RHAN-7_3810k.htm
Rhan 7. Tudalennau 600-699.
.....
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion-prys_386_islwyn_700-799_RHAN-8_3811k.htm
Rhan 8. Tudalennau 700-799.
.....
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion-prys_386_islwyn_800-864_RHAN-9_3812k.htm
Rhan 9. Tudalennau 800-864.
.....

 

A person with a beard

Description automatically generated with medium confidence

A map of the united kingdom

Description automatically generated with low confidence

(delwedd J7768) (delwedd 3181d)


llythrennau duon = testun wedi ei gywiro

llythrennau gwyrddion = testun heb ei gywiro

 

 

 

 

500 GWAITH ISLWYN.

Sanctaidd fo eich aidd trwy eich oes — eich dau,
Dal arch Duw mewn pur-foes,
Dal honno tra deil einioes
A llaw gref yn Gelligroes.


A darpariad Iôr y Purwr — a ddwys
Gyfaddaso 'ch cyflwr,
I rodio ’ngwydd Gwaredwr,
Wedi’r daith a rhydio’r d
ŵr.

Y GWANWYN.


GWANWYN ddwg a ennyn ddawn — holl anian,
Yn llawenydd cyflawn,
Gwedi hir gwsg daear gawn
Wythwaith bywiocach weithiawn.


O’i gwely rhew geilw ar hon, — a deffry
O'i diffrwyth hun weithion;
Natur at ei llafur llon
A ddwg newydd egnion.


Gwanwyn bair geinion borau, — a thlysa’r
Berth laswerdd â blodau,
Agorodd glwm pob gardd glau,
Rhoes anadl i’r rhosynau.


Y gw
ŷdd o'r newydd grynhoant — glydwch
A goludoedd tyfiant,
Cau mewn hedd am y cwm wnant,
Y mynyddoedd amnoddant.


Yr awel bêr a chwery — âg arogl
Fy ngardd gywrain obry;
Caf hon yn cau i fyny
O ros teg hyd ddrws y t
ŷ.


Mor ddedwydd y myrdd adar! — eu cyngerdd
Wna’r cangau yn llafar
O fawl byw; gwylltryw a gwâr
A gân y fawlgerdd gynnar.


Y gro’n nawseiddio y sydd — o’i rewrwym,
Mae’r aradr yn hollrydd;
Pwy a draeth hoen amaethydd?
E gwyd i'r dasg gyda’r dydd.


ER COF. 501

ER COF.


YR wyf yn meddwl ambell bryd mai hyfryd ydyw marw,
Cyn hwylio i maes o'r hafn clyd i’r môr a'r storom arw;
Cael troi yn ol i fynwes Duw
O hafn mebyd, hyfryd yw.


Pan fyddo rhosyn yn yr ardd yn gwrido yn y boreu,
Gwell filwaith i ryw angel hardd ei dorri ar ei oreu;
A'i gipio i'r baradwys dlos,
Cyn teimlo awel oer y nos.


Wrth weld o bell y dwyfol dir, lle mae hi ’nawr yn gwrido,
"Gwell ydoedd," medd y deall clir, "gwell oedd i’r nef ei chludo;"
A llonydd ydyw’r deall gwiw,
Ond llonydd lyn o ddagrau yw.

O fynydd pell y Dwyfol Air er gweld y ddinas nefol,
Y porth o berl, y llys o aur, lle mae hi mwy’n gartrefol,
Eu gweld yr ym drwy gawod drom
O ddagrau, a thrwy niwl o siom.

Pwy feddyliasai, gan mor hardd eich rhosyn anghydmarol,
Fod awel angau yn yr ardd deuluaidd mor gynarol!
Tra syllech ar ei thegwch, daeth
Y marwol wynt, a gwywo wnaeth.

O! cofiwch beunydd, er mai angau du
A’i dygodd. nad oedd ef ond gwas i'r Un
Ddywedodd unwaith, “Dygwch ataf fi
Blant bychain, dygwch i fy mynwes gun."
Yr oedd yn dlawd bryd hwnnw, ac heb le
I dderbyn ei gyfeillion, nac i roi
Ei ben ei hun i lawr pan fyddai’r ne
Yn duo, a goleuni dydd yn ffoi;
Ond erbyn heddyw mae’r anfarwol fyd
Oll yn ei feddiant, t
ŷ ei Dad i gyd,
I dderbyn ei gyfeillion pan fo gwedd
Y byd yn duo dan gymylau’r bedd.

Mae’n hoffi y rhai bychain; trugarha
Wrth eu heiddilwch, a'u cymeryd wna
I'w fynwes, cyn bo awel adfyd croes
Yn dymhestl ar anialwch canol oes.


Cyflwynedig i Mr. a Mrs. Jones, Barford Street, Llundain, ar farwolaeth eu plentyn.


502 GWAITH ISLWYN.


Pwy
ŵyr am brofedigaeth fel efe,
Am wae y byd; ac O, am wynfyd ne?
Fe deithiodd ffordd y byd yn wael ei wedd,
A chafodd hi yn arw hyd y bedd,
A threfna i’r rhai bychain lawer pryd
Ddiangfa foreu rhag holl boenau’r byd.


Efe sy’n gwybod p'un ai hwyr ai boreu,
Ai mordaith faith ai mordaith fer, sydd oreu.

 
Du yw y cwmwl; ond tragwyddol ddydd
Tu ol i'r cwmwl du yn torri sydd;
Mae llygad all ei weled — llygad ffydd.


Blin yw’r ysgariad; ond tragwyddol fydd
Y cyfarfyddiad draw a ddaw ryw ddydd.
O! mor wahanol fydd ei dull a’i gwedd
Pan nesaf cwrddoch y tu draw i'r bedd!
Angylaidd nerth yn lle y gwendid fu;
Yr hyn sydd farwol wedi 'i lyncu fry
Gan fywyd; y cynheddfau boreu llym
Yn ddadblygedig mewn anfarwol rym;
Ei mebyd gyfnewidir yn y nef
Am fesur oedran ei gyflawnder Ef.

RHUDDOS Y MORFA.


OBRY ger y gloew araflyn
Sy’n ariannu bron y dyffryn,
Wele ruddos hardd y morfa
Yn crechwenu mewn gorffwysfa.
Hoffa’r lleoedd mwyaf dirgel,
Lle mae’r d
ŵr yn fwyaf tawel,
Gan ysgoi y deifr a'r nentydd
Sy mewn bâr a chyffro beunydd.
Mae ei ddail yn fawr a chyflawn,
Yn addurno ‘i frigyn blodlawn;
A'i felynliw, ddisglaer flodyn,
Hongia’n berl goruwch y gloewlyn.
Mae ei floenos wrth flaendarddu
Fel botymau yn amgylchu
Ei flodeuyn prif ragorol
Sydd yn eistedd yn y canol.
Chwardd y d
ŵr wrth dynnu ffyddlon
Ddelw o'i flodau ar ei ddwyfron;
Yntau fostia yn ei ddarlun
Fel addolwr yn ei eilun.


Y GWYDDFID. 503


Y GWYDDFID.


PRYDFERTHWCH perth yw’r gwyddfid pêr,
Yn rhedeg dros ei brigau fry;
O hardded yw ei flodau ter
Wrth ddringo porth y gwladaidd d
ŷ,
Yr hwn o fewn blodeuog len
Ymguddia fel paradwys wen!


Ei flodau a eirianir gan
Dra channaid a melynaidd liw,
A'u glendid a goronir dan
Ribynau coch, linellau gwiw.
Wrth edrych ar eu mantell hwy,
Pa flodyn fostia'i fantell mwy?


O dan gysgodau’r goedwig fry
Ymlecha bwthyn bach mewn taw,
Y poplys a'r derw hybarch sy
Yn furiau uchel ar bob llaw;
Ond mil anwylach iddo ef
Na’r poplys hardd, na’r dderwen gref,
Yw’r gwyddfid; hwn mynwesa’n llon,
A chlym ei frigau wrth ei fron.
Ond am ei help i'r blodyn llawn
Mae’r arogl yn anadlu iawn.


Wrth weld y dderwen hen a blin
Yn gwywo’n araf, gan lesghau;
O dan holl amrywiaethau’r hin,
Mae’r gwyddfid wrthi’n trugarhau,
Gan droi ei freichiau am ei bon
A'i changau noeth, tra pheraidd dôn
Asgellog gwyntog gorau’r nen
Yn adymlonni ar ei phen;
A'r fantell hon o'i bon i'w brig,
Ca adwarogaeth gan y wig,
A nerthir yr oedrannus bren
I watwar holl awelon nen.

JOHN JAMES.


MAE arnaf hiraeth ar dy ol, fy mrawd,
Wrth gofio’r mynych ymddiddanion gawd,
Yr ymddiddanion am y ddwyfol drefn,
Y codwm du a chodi dyn drachefn.


Blaenor yn y Babell, sir Fynwy.


504 GWAITH ISLWYN.


Yr wyf yn edrych ar dy ol i'r nef,
Fel Eliseus o lan Iorddonen gref,
Ond ofer edrych — cauodd cwmwl du
Ar gerbyd Israel a'i farchogion fry.


Troi yn fy ol drachefn rhaid i mi
O lannau yr Iorddonen hebot ti,
Fel yntau heb Elias, ond pe cawn
Ryw barth o'th ysbryd, cwyno mwy ni wnawn.


Mae’r tywydd garw drosodd gyda thi,
Y mynydd olaf wedi 'i groesi sy,
Ac nid oes afon o dy flaen ond un
A honno ydyw afon Duw ei hun.


Mae dod i'r oedfa yn y gauaf oer
Heb olau seren ac heb olau lloer,
A'th ffon, a’th lusern fechan yn dy law,
Er wrth dy fodd, mae hynny drosodd draw.


Ei feddargraff.


Gweddiwr mawr, gorchfygwr ydoedd ef,
Nid ffurf, ond bywyd oedd ei weddi gref;
A phan orffennodd y ddaearol daith,
Lle’r aethai’r weddi y gweddiwr aeth.


AR OL Y FRWYDR.


(VlCTOR HUGO.)


FY nhad oedd enwog am wrhydri eon;
Mor enwog, hefyd, am dynerwch calon.
Y nos ar ol y frwydr echryslonaf
Aeth allan gyda 'i filwr-was ffyddlonaf,
Dros faes y gwaed.


Yn araf y marchogent,
Oblegid tagai’r meirw’r ffyrdd yr elent.
Yng nghanol y distawrwydd erch fe glywai
Lais gelyn o Yspaenwr a syrthiasai
Y diwrnod hwnnw o dan farwol friw,
Yn llefain— "D
ŵr! O, dŵr! yn enw Duw?”
Fe roes fy nhad ei fflasg i'w was, gan erchu,
"Rho lwnc i'r truan hwn cyn iddo drengu."
Tra plygai’r gwas i estyn iddo’r gostrel,
Anelai yr Yspaenwr lawddryll ddirgel
Yn union at fy nhad, a'i ben gwronwych
A noethwyd oll ol blufog het uchelwych: —
"Rho iddo’r fflasg’r un fath," dywedai nhad,
A dewrder cariad faeddodd dewrder câd.


SANT PAUL. 505

SANT PAUL.

Ymgom Nereus ac Urbanus.

 
NEREUS ifanc un hwyr a safai
Gerllaw’r Tiber, a dyner ymdonnai
Trwy Rufain, — sain yr afon a'i swynai,
Ac â'i ddwfn brudd-der tyner cyd-donnai;
Ei drylen ddysgawdwr welai —’n agos,
Is hudd y nos Urbanus ddynesai.


Ag eira amser ei goryn
Oedd yn fawreddus weddus wyn,
Yn eglwys Rhufain hyglod
Ni fu neb yn fwy ei nod;
Gloew sant yn ei heglwys oedd,
Henadur ffyddlawn ydoedd.


Er y llid a’r digter llawn — adegau
Erledigaeth greulawn,
Ei ffydd cadwodd, daliodd, do,
Er Nero,
ŵr anhiriawn.


Er hynny prudd yw’r hanes,
Wylai’n awr, delai yn nes;
Ei enaid oedd yn flin dan — faich llwythog,
Bwriai ei ddrylliog bruddeiriau allan; —


"Bore heddyw, — ai breuddwyd — yw y peth?
Ein Paul a aberthwyd;
Ein sancteiddiaf uchaf
ŵr,
Ein noddwr ddienyddiwyd;


Du gaddug yw’r digwyddiad, — Nereus,
Ar awyr fy mhrofiad;
Ofnadwy gyfnewidiad
I'm mynwes sy, trwm noshad!


Fe doa nos fyd yn awr — e dduodd
Ei awyr lydanfawr;
Fyd-ledol wybr foesol fawr; — dy haul ffodd,
E ddiflannodd dy ddwyfol lonwawr.


"Clyw uwch y ser y clych sydd — yn ninas
Ein hanwyl Waredydd,
Canant fil gyda 'u gilydd — am lanio
O’n Paul yno, sant mor ysblenydd.


506 GWAITH ISLWYN


"Diodid caffaeliad ydoedd — efe
At fywyd y nefoedd;
Y prif rhwng mil o filoedd,
Draw yng ngwlad yr engyl oedd.


"Galar gerdd glywir i gyd — a nodau
O anedwydd dristyd,
Drwy’n daearol farwol fyd,
Mae rhwyg mawr o'i gymeryd.


"I'm c
ŵyn o hyd mae cynnydd
Wrth son, a fy hiraeth sydd
Yn chwyddo wrth gofio y g
ŵr a'm trodd,
Efe a'm harweiniodd at fy Mhrynwr.


"Fe yrrodd y ddoe’n forau — am danaf,
Fe 'm denodd â'i eiriau
I ddewis marw’n ddiau — gydag ef,
A gyrru adref o'm holl grwydrau.


"Ac er chwerwder y carchard
ŷ i mi
'R oedd mal claer balasd
ŷ,
Neu wrth ardeb porthord
ŷ
Yn agor i fro’r nef fry.


"Rhyw gyffindref o'r nefoedd,
O wlad engyl ymyl oedd."
Y duwiol
ŵr a dawai — blinderus
Hiraeth alaethus ei nerth a lethai;


Ond ei frawd, yn llawn brwdfrydedd— holai
Am yr helynt ryfedd,
Torrai allan mewn taeredd,
Wrth y sant hiraethus wedd; —


"Urbanus, dyro bennau — o hanes
A hynod nodweddau
Ein Paul anfarwol, o forau
Hyd hwyr ei ddydd, dyro y ddau.


"Syn dwrf y ddinas nid yw,
Darfyddodd holl dwrf heddyw,
A swn dydd, mae’r nos yn deg,
Yr adeg oreu ydyw.


SANT PAUL. 507


"Trwy fyd, pa wybrau ter fal — caredig
Buredig wybrau Idal!
Dyna’r lloer ar donnau’r lli,
Gwenloer ar donnau’r gwynli.


"A! mae y ser fel am son
Am yr enaid mawr union,
Heddyw aeth heibio iddynt
Ar ei lon anfarwol hynt.
Nyni, yr awr hwyrawr hon
Gawn lonydd gan elynion.

 
Oedrannus wyd, a’r hanes sydd — i gyd
Yn dy gof yn newydd;
Adwaenit y duwinydd
A di-ffael geidwad y ffydd."


Y sant yng ngoleu y ser
Ger y Tiber atebai, —


Yr erlidiwr.


"A! mae y dyn a all ddweyd am dano,
Y llaw neu bwyntel all ei iawn baentio?
Na fai arlunydd anfarwawl heno,
Rhyw gerub i harddwych loew-wych liwio
Ar wal y nen, wir ddarlun o hono!


Fôr o destyn! pwy all ei darlunio?
Fy noniau sydd yn ei ddwfn yn suddo,
Ar hyd ei ymylon rhaid im hwylio,
Ar hyd ei finion y rhodiaf heno;
Chwennych gweld cilfach o hono—’r ydwyf,
Rhywan wyf y fath ddyfnfor i nofio.


"O genedl Israel ei ganwyd, — yn ol
Deddf y nef enwaedwyd,
A'r Iddew ieuanc roddwyd — dan uchel
Law Gamaliel — a'i feddwl gymylwyd,


"Ei bennaf anwylaf nod
Oedd ofer ffurf neu ddefod.
Mawr oedd ef ym more ’i ddydd
Yn ei wlad fel erlidydd;
Yn ei lid anuwiol oedd,
Erlidiwr marwol ydoedd;
Troi y ffydd newydd yn ol,
Hyn oedd ei bwnc beunyddiol;
Er mai rhwyddach, hawddach, oedd
Rhoi mur i droi y moroedd.


508 GWAITH ISLWYN.


"Pennaf elyn, erch offeryn archoffeiriaid,
Yn dinistrio, heb ail iddo 'mysg y bleiddiaid.


"Chwythu celanedd erch weithion — a wnai,
E gablai’r disgyblion,
Ac hoffai roi mewn cyffion
Y rhai oedd ar y ffordd hon.


"Ac er mwyn eu cadwynaw
A chryf lwydd ac â chref law
Rhaid ydoedd awdurdodiad
O lys crefyddol y wlad.
Cai’r hawl gyfreithiawl o frad
Y ffwyrawl archoffeiriad;
A chadarn, bellach, ydoedd,
Llaw y g
ŵr, galluog oedd;
Mewn hwyl at ei orchwyl aeth,
O lawn a phur elyniaeth.


"Y si i Damascus aeth
Am Saul a'i ormes helaeth,
A'i ddu awydd i ddial,
A'i fod yn dyfod i’w dal,
Braw i’r saint a barai’r son,
Enw Saul a'u gwnai’n iselion;
Ei enw pan glywent, clywent rygniad cloion
Yn agoryd i ddyfngelloedd geirwon,
Yno eu gwthiaw, a’u rhoddi’n gaethion
Am eu crefydd, o dan rwymau cryfion;
Braw ddodai yn eu breuddwydion — nosawl,
Ochrau amheriawl carcharau mawrion.


"Ymhell o'i flaen adwaenir — yr hy lew
Drwy 'i lawn ru daran-glir,
Gerwin o'i flaen y gyrrir — yn llidiawg
Ei ru amholltawg am lawer milldir;
Iaith lawn erledigaeth lem,
Geiriau Saul o Gaersalem,
Oent o'i flaen, nes adwaenid
O bellder lawnder ei lid.


"Ofn a'u todd o fewn eu tai,
Nid oedd un a'u diddanai.
'Saul! Saul! yr echrys elyn,
Ow! mae'n dod i'n rhwymo’n dyn;
I ble y ffown, bobl y ffydd,
I drigo rhag y drygydd?


SANT PAUL. 509


Diniwaid fel defaid ym,
Er hyn nodau'r farn ydym.
Ofer yw, rhag ei fâr ef,
Yn noddi mewn un haddef;
Cais o fewn Damascus fawr,
Bob cafell, cell, ac allawr;
Aroswn, fel gwnai’r Iesu
I’w greulon elynion lu.'


Y troedigaeth.,


"A! pan wylent, yr oedd y pen elyn
Mwy fel un diddim o flaen y Duw-ddyn,
Hwnt ar ei yrfa, yn taer taer erfyn
Am rad arbediad, eiddil abwydyn;
Mewn braw wedi syrthiaw’n syn — ei lid mawr
A'i allu dirfawr ddaeth oll i derfyn.


Wele yr ofnadwy elyn, mwyach,
Cawraidd ei grafanc yn cwrdd a'i gryfach;
Goria haul un g
ŵr iselach — ni fu,
Wedi ei blygu heb allu bellach.


Erfawr nefol-gloch arfaeth
Trwy y nef taro a wnaeth
Ei hawr deg ar hanner dydd,
Awr Naf i droi’r anufudd.


Fe yrrai Iesu o fry ei wysiad,
Am ei gerbydau tra mygr heb oediad,
Ac eirian gerbyd cariad — tragwyddawl
Ddewisai i’w ogonawl ddisgyniad;
A daeth mewn rhwysg anhraethol
Ac urddas, er cwrdd â Saul;
Deuodd o'i lys, nid oedd lai
Yn ei olwg a wnelai,
Fyth i alw y fath elyn,
A tharo Saul â thro syn;
Yn urddas ei deyrnas daeth
Fry o nen ei frenhiniaeth.
Disgleirdeb ei wyneb oedd
Loew fel teg heuliau filoedd;
Oedd ry-fawr yn awr i neb
Boeri yn ei bur wyneb.
Ymof ynnaf am funud, —
Ai efe fu'n godde’n fud?
Ai ei waed Ef, Brynwr da,
Lifeiriodd ar Galfaria?


510 GWAITH ISLWYN.


Ai Ef yw’r hwn drosof a roes
Y drud iawn drwy waed ei einioes?
Fu’n wylo dan fy nyled
Ar y groes? Pwy’n awr a gred?
Yr Un yw Ef er hynny,
Ac O! i’r tlawd mae’n Frawd fry.


'Rhag ei olwg syrthia'r gelyn, — llenna
Dallineb ei dremyn;
I ddyfnder iselder syn
Taranfollt Ior a'i enfyn.


"Fe alwodd o'r nef olau
Fel hyn, ar y gelyn gau —
‘Rho d' ateb, pam rhaid iti
Fy erlid, fy erlid I;
Paham Saul?'
'Pwy yma sydd?'
Isel lefai Saul ufudd,
‘Godidog i gyd ydwyt,
O, pwy mewn llwydd, Arglwydd, wyt?'


"O bosibl, tybiai eisoes
Mai Hwn oedd Ef ar gref groes
A roddodd ei waed rhuddwawr,
Er ei fod bellach mor fawr;
Yn Salem gwelsai’r Seilo
Ar ei draed, hwyrach, ryw dro,
A'r deuddeg gyda’r Duw-ddyn,
Ar ei rawd mewn cnawd cyn hyn.
Cofiai wyneb y cyfion,
Fe allai’r awr erfawr hon.
Ond os oedd petrusdod syn,
Ys hedodd ffwrdd yn sydyn;
Peidiodd y syn ‘Pwy ydyw?'
Rhoes ei air mai’r Iesu yw;
'Os wyf fawr, Iesu wyf ti
Drwy wledydd byd erlidi,'


"Y chwerw elyn a ddechreuai holi
Yn awr, a dur ei galon ar dorri, —
'Ba waith i' f’enaid, pa beth a fynni
Mwy im ei wneyd? O, gwna yma 'm nodi
Os addas wyf, i’th swyddi — o'th wiwdeb
O Iesu, ateb, ydwyf was iti! '


SANT PAUL. 511


"O’i ras atebai’r Iesu
Ar hyn, i'r gelyn, — mor gu! —
'I dy daith cyfod a dos — odd yna
I'r ddinas gyfagos;
Dy fuchedd gyda f’achos — cei 'i gweled
Ac yno ’th dynged ga’n noeth ei dangos.'


"Esgynnai Iesu i ganol — ei esgud
Osgordd tragywyddol,
A’i rwysg fel afon ar ol
Drwy nef, ddisgleirder nofiol;
Aeth i’r nef, a tharan oedd — yn y fan,
O'i ol hyd eirian uchelderoedd.


"Gorweddai Saul yn y gorddwys alaeth,
Wrth weled greuloned ei elyniaeth,
Ac holl led eigion ei golledigaeth,
Heb un goleud
ŷ ar binagl odiaeth;
A! gweld yn glir yn wir wnaeth— do cyn hir,
Oleuni iach dir, sef glan iechydwriaeth.


"Drwy gaddug du argyhoeddiad,
Drwy’r barn l
ŷs y tywys ein Tad
Ei holl bobl o dywyll bau,
Fry i bêr fro y borau.
Ior a ddysg cyn eu rhyddhau
Dynned yw eu cadwynau;
Am ei feiau yntau oedd
Yn yfed llid y nefoedd.


"Baich ydoedd ei bechodau, — fe welai
Filoedd ei gamweddau,
Deuai y ddeddf i’w dyddhau
O fynwent eu cuddfannau.
"Dallineb ei lygaid allanol, — teg wawr
Oedd at y gwyll mewnol;
Cadd wg oedd fwy caddugol,
Gorchuddiai niwl Sinai Saul,

 


"I godi, rhy lesg ydoedd
Braidd yn awr, rhyw briddyn oedd;
Hwythau, y rhai gyd-deithynt
Gydag ef, ei giwed gynt,
Ar hyn, wnaent ei arweiniaw,
Yn wyl
ŵr, erbyn ei law.


512 GWAITH ISLWYN.


"Tua’r ddinas gadarn a braw arnynt,
Rhyw gamau araf yn awr gymerynt;
A’u Saul yn eiddil, iselion, oeddynt,
Lu diras heb un addas ben iddynt;
Trwy ei phorth uchel i mewn yr elynt,
A'i hystrydoedd yn ddistaw a rodiynt
Nes i d
ŷ un Judas y deuynt,
Ac yno yn iach cenynt — i'w llywydd,
Yn ei isel dywydd Saul adewynt.


"Gorwedd dan euogrwydd du— ei gamwedd
Oedd gwmwl llydanddu,
Llid tân yn gorfelltenu
Yn nos drom ei fynwes dru.


"Duw o hyd yn gwrando heb
Roi eto air o ateb.


"Ei Geidwad ni wnai ei godi — o'r don,
Er mor daer ei weddi,
Nes gweled ddyfned oedd hi,
Nad oedd un gwaelod iddi.


“Môr oedd ei argyhoeddiad,
Enbyd fôr, a'r bywyd fâd
Dwyfawl mor hir yn dyfod,
Drwy donnau dig dridiau’n dod!


"Ond, O ras hynod, ar ol
Oes o draha distrywiol,
Y trydydd dydd drylliai Duw
Ar unwaith rwymau’r annuw;
Y trydydd dydd rhydd yr ai,
Efo 'i Geidwad fe godai;
Y trydydd sydd dydd rhyddhad
E godai fel ei Geidwad;
Yn y fan esgynnai o fedd
Pechod i newydd-deb buchedd.
Anfarwol eirian forau
Ydoedd hwn; dechreu dyddhau;
Dydd folir gan wledydd filoedd
A dydd gwyn i'r cenelddyn oedd.
Pan wenai, pan dorrai’r dydd
I weini i Saul lawenydd,


SANT PAUL. 513

Y rhyfedd ddwyfolwawr hefyd
Dorrai ar bob rhandir o'r byd,
Dwyreai’r haul draw ar hyn,
Canolddydd i'r cenelddyn.

"Ananias, addas ŵr,
A nodwyd yn genhadwr.
Hwn oedd yn Gristion addien
Ymysg saint Damascus hen.

"Fe welai un nos nef-olau’n nesu,
Tragwyddol urddasol osgordd Iesu;
O fôr y gloewbur leufer e glybu
I'w syn orchwyl Ddwyfol lais yn archu; -

“'Dos heb aros,' meddai’r Dwy fol Berydd,
‘Was y nef, i d
ŷ Judas yn ufudd,
Cyfod a dos! Saul yno sy lonydd
Ar ei liniau, y gorfawr erlynydd,
Yr eofn Saul ar f’enw sydd
Yn galw yn ddigywilydd.'

"Ar ei hynt yn fore aeth
A’i dirion genadwriaeth.
Pan welodd, safodd yn syn,
Wrth gael y nerthawg elyn
Yn deisyf er gwaed Iesu
Am hedd a thrugaredd gu.
Olew pur i’w gur gerwin
Dywalltai, tywalltai win,
Bu’n nos hir heb un seren,
Ond torrai’n awr y wawr wen,
Disglaer foreu maddeuant
Oleuai Saul yn loew sant;
Danghosai, cyffesai 'i ffydd
Heb oedi drwy y bedydd.

"Arwydd gwaradwydd fu’r Groes
Hyd hyn o gyfnod einioes,
Ond troai mewn tarawiad
Yn gun arwyddlun o rad,
O barch a thrugaredd bur,
A chodiad i bechadur,
Fe lifai nefol leufer
Am urddas hon, moroedd ser.
Gwelai Saul yn ei gloes hi
Ddigon i'w ddieuogi;
 


514 GWAITH ISLWYN.

Gwelai yn hon lwybr glanhau,
Rhyfeddol lwybr i faddau;
Gwelai fraint ar Galfari,
Duw’r heddwch welai drwyddi.
Ar y groes fe roes ei fryd,
Ei fyfyr a'i fai hefyd;
Yn dawel, enaid euog
Bwysodd ef ar y gref Grog,
Ac hi a fu’n bwnc ei fawl
O hyn allan yn hollawl,
Bu ryfedd ganddo brofi
Maddeuant o’i haeddiant hi.

"Dyn i Dduw, dyn newydd oedd, — rhoes ei hun
Yno’n was i Iesu’n oes oesoedd.
E roes ei hunan i’r Iesu yno,
Cyflwynodd o’i fodd bob cynneddf iddo;
A'i holl fwriad yn awr oedd llafurio
Yn ei wasanaeth dirion nes huno;
A, wasanaeth! mae’n swyno — engyl gwyn
I roi y wiw delyn aur o’u dwylo,
I gerubiaidd gôr roi heibiaw
Er mwyn hon eu cân drylon draw.


"Dewr oedd ef pan dorrai ddadl,
Troai, pan droai’n drwyadl.

"Drosodd o blaid yr Iesu —’r aeth efe
Wrth farn yn llywyddu,
G
ŵr di-ail i'w gredo oedd,
Cawr ydoedd ar ol credu.
"O dduaf niwl Iddewiaeth — drwodd, ai
Draw i ddydd Cristnogaeth,
A chanfod mewn undod wnaeth,
Y perygl a'r ddarpariaeth.


"Ai’n llwyr oll, yn ei holl rym,
O’i henrawd, yng nghyfanrym,
Mawrhyf ei gyn-gymeriad,
Y llew oedd heb un lleihad,
Yn ei ynni cynhwynol,
Rhy eon ef i i’w droi’n ol.


"Ei nerthol anian wrth ei hail lunio,
A'i gryfder dur, ni wnaed ond eu puro;
Deuai y sêl fu’n erlid y Seilo,
A'i gau nerth eon i'w gynorthwyo,


SANT PAUL. 515


O’r hynod awr honno — troes ei nerthoedd
Oll, a chwbl ydoedd, bellach i’w bleidio.


Myned i Arabia.

 

"Er hynny nid ar unwaith — y deuai’r
Duwiol
ŵr yn berffaith
At alwad apostolwaith,
I'w barotoi bu rhaid taith.


“Ac o swn Damascus aeth,
Swn uchel ei masnachaeth,
I Arahia — dyna’r daith
A'i addasai i'w ddwyswaith.


"Beunydd ei lonydd orchwyl yno,
A'i wastadawl waith oedd astudio
Anfarwawl lên y Gyfrol honno
Sy a'i sylwedd yng nghroes y Seilo.
Gwelai awduron hon yn uno
Ym mhob man i draethu am dano;
Ceid hwy heb antur yn cydbwyntio
Bob un yn gytun tuag ato,
O’r holl oesoedd cydarllwyso
'N helaeth oedd eu tystiolaeth iddo.


"Hoff delyn proffwydoliaeth,
Ar ol ei nefol swn aeth
Nes dyfod i Ddinas Dafydd, — is aur
Wawl y seren newydd,
A chael di-ffael wrth-ddrych ffydd
Oll yn y preseb llonydd.


"Gwelai Moesen, addien ŵr,
Oedd fawreddog ddeddfroddwr,
Dafydd hefyd a i ddwyfawl
Delyn — prif am emyn mawl —
Selyf, ac Esay eilwaith,
A'r holl res nefolres faith
A gafwyd o broffwydi,
Gwelai yr holl ddisglaer ri
Wedi cwrdd mewn undod cu
Yng nghroes ac angau’r Iesu.


"Seiliwyd ef yn ei grefydd — ai obaith
Yn Arabia lonydd,
A phan amheuid y ffydd
Dileai 'i wrthddadleuydd.


516 GWAITH ISLWYN.

"Yn feddylgawr dirfawr daeth
Yn addysg duwinyddiaeth.

"I eraill byddai hiroes
Yn rhy fer, yr hwyaf oes,
I ryw rannol feistroli
Pynciau’n crefydd newydd ni —
A! cedyrn bynciau ydynt,
Ac mor hen ag Eden gynt —
Ond ef, uwch testyn dwyfol — pan safai,
Buan deallai y bennod ollol;
Fel y mellt, gorgyflym oedd,
Eneidiawl fellten ydoedd.

"Yn fuan ei newydd fywyd — dyfai
I’r dwyfol ieuenctyd,
I'r gwiw londer a’r glendid
Sy’n teghau y saint i gyd.
"Adeg meithriniad ydoedd
I'w grefydd deg, adeg oedd
I ddal cymdeithas a'i Dduw, — heb fariaeth
Na du elyniaeth ei genedl annuw.

"Yno yfai o’r cymundeb nefol
Barhaus ynni i’w grefydd bersonol,
Ac fel agoriad gardd deg flagurol
Dadblygai’n ddifai ei anian ddwyfol,
Nerth hon a fwriai ei flrwyth anfarwol
Ia gwanwyn y gymdeithas ogonol.

"Iesu ei hun roes yno —’n ddigwmwl
Ei feddwl ef iddo.
Rhoes i’w law drefn rasol hedd,
A'i gwirionedd yn gryno.

"Efengyl hedd a fu yng nghlo,
Rhoddes ei hallwedd aur iddo.

"Yn aml addefai mai o law ddwyfol
Y cawsai ef yr efengyl nefol —
Eang ei doniau, heb gyfrwng dynol,
Hon draw a gadd o'i ffynnon dragwyddol
Yn bur, ac oll heb ol — o’r cymysgedd
A ddaw drwy lesgedd daearawl ysgol.

"Yn ei nerth cyflawn yn awr — fe elai
Ein nefolaidd flaenawr
I'w yrfa iyfedd wirfawr,
I weithio mwy ei waith mawr.


SANT PAUL. 517


"Yn ol o’i unigedd duwiol deuai
I'r glodus Damascus, ymgymysgai
A’r brodyr ffyddlon — pob sant ymlonnai
Wrth ei weled, ac uwch y wyrth wylai.
Yno ar fyr ei ddawn a arferai,
A'r groes hyd ei oes a erlidiasai
Weithion a bregethai. — a'r saint beunydd
Yn eu ffydd newydd a gadarnhâi.

"Gwrthddadleuon yr Iddewon
Yn ysgyrion a wasgarai,
Ar bob adeg grym ei ofeg
A'i resymeg fawr a'u siomai.

"Mal cerigos yn ymyl creigiau — oedd
Eu heiddil resymau;
Eu geiriau geid fel gro gau
Dinerth, wrth gryfion donnau.

"A! fradwyr! cydfwriedynt
I’w ladd ar ryw nosawl hynt;
Gwylio y pyrth gan ddisgwyl Paul
I’w ladd o lid dialeddol;
Ond efe mewn hynod fodd — dros y mur
Er eu llid engur o'u llaw dihangodd.


Mynd i Jerusalem.

"Yn awr i Salem," Nereus, "elai
O hyd a nos — a phan y dynesai
Y gwiw wylsant, at y man lle gwelsai
Yr Iesu gyntaf, yn syn fe safai.
Am y fawr-wyrth wnaed yno myfyriai,
Y golwg i’w gof galwai —’r llais tyner,
A'r gloew-wych leufer o’i gylch a lifai.

"Nos lawn o ser, nos lon a siriol — oedd,
A'r claer lu serenol
Difai, yn rhoi y dwyfol — ddisgleirder
Y sydd ar hanner y nos ddwyreiniol.

"‘O daith'! e ddwedai weithian,
'O fythoI ryfeddolfan!
Hynodawl gychwynfan ydwyt
Fy mythol les, fy Methel wyt;
Drwy fydoedd dirifedi
Od af, nid anghofir di!'


518 GWAITH ISLWYN.


"’A! gwn e fydd dda gennyf ddod — yma
O barthau gwynfa bêr i'th ganfod,
Gwedi myfyr byr uwch ben
I lle a'i gofion llawen.'


"Yn ddilesg rhagddo elai
Yn fwy hwylus hoenus ai.


"Fe ai’r saint oll i fraw syn — yn Salem
Weled Saul mor sydyn,
Diau ni wnaent hyd yn hyn — heb gryf brawf
Fyth goeliaw fod y fath ddig elyn
A Phaul yn cofleidio'r ffydd,
Y llew hwnnw yn oen llonydd.

"Ond Barnabas ei gydwas gwedyn,
Yn gyfaddas a'u dug ef iddyn;
Profai alwad sicr y prif elyn, —
'Ar hanner dydd' drwy enau'r Duw-ddyn;
O ddirbarch gwnaent dderbyn — y g
ŵr enwog
I’w caer odidog fel credadyn.

"O am fawr-gamp a grym Yirgil,
Bardd pennaf hynotaf ein hil,
Weithiawn i iawn ddarlunio
Y cwrdd o ardderchawg go
Rhwng Paul a'r Apostol Pedr.
Addefaf, mi wyf ddifedr.

"Ar hoff hynt ai Pedr a Phaul,
Rhyw hanner nos serenol,
Er mwyn ymweld â’r mannau — a fyddant
Ryfeddol trwy'r oesau,
Lle y gwelir llu golau— o'r nef lon
Y gwaredigion gwiw ar adegau.

"Paul ddymunai weld ple oedd y mynydd
Lle bu’r Iesu’n gwaedu rhudd gawodydd
Ar y pren, lle rhoi’r Prynnydd — lawn pennaf
I ddeddf Naf drwy ddioddef yn ufudd,
Lle trymhaai anian, lle holltai’r meini,
Bu’r haul ei hunan heb roi 'i oleuni,
Calon y cread tirion bron torri.

"Yn ddi-swn elai’r ddau sant;
Gardd Iesu gyrhaeddasant,
Lle y caed coch waed o'i chwys,
A'i boen fel môr heb ynys.


SANT PAUL. 519


A! môr o lid marwol oedd
Ofnadwy heb hafn ydoedd.
Ar ael Calfaria eilwaith —
Ond ofer yw unrhyw iaith
I roi desgrifiad o'r hynt,
Y llwydd a’r ennill iddynt."

Yn ei hanes Calfaria pen enwodd,
Yma’r hoffusaf sant ymorffwysodd,
A Phaul weithian o'i olwg ddiflannodd,
A'i holl enaid Calfaria a’i llanwodd.
A'r sant Nereus yntef
Yn awr edrychai i'r nef;
At ei athraw draw fe drodd
Ei dad yng Nghrist, a dwedodd, —

"Un hoen ddymunwn innau, — rhoi hwylus
Dro, Urbanus, i grwydro ar bennau
Y mynyddoedd rhai oeddynt
Leoedd mad i Geidwad gynt

"I minnau O! am hoenus — awr lawen
Fry ar ben Calfaria, Urbanus!
O! am drem ar Gethseman
Y sy fyth yn gofus fan.

"Oni chaf adeg gun cyn fy huno
I weled Salem a gwlad y Seilo,
Deuaf o'r lwys Baradwys i'w rhodio,
O ne dychwelaf ryw bryd i’w chwilio.

"Rho hanes y gwyr union — im eto,
Nac ymatal weithion,
Rhyfeddol i'r nefollon
Sy fry, yw’r hanes fawr hon."

Ar hyn y sant oedrannus — ai ar ol
Yr helynt fawreddus
Eilwaith, desgrifiai’n hwylus— deithiau Paul,
A'i gynhyddol lafur gogoneddus.


Y teithiau cenhadol.

"Llonyddwch heddwch ni chai —’n y ddinas,
Oddiyno floai,
I duedd Tarsus deuai — rhag bariaeth
Ffyrnig anuwiaeth fel ffwrn gyneuai.


520 GWAITH ÍSLWYN.


"Judea a adawodd,
Tua 'i faes mawr tramawr trodd,
O'i wirfodd aeth i'w yrfa — yn llawn sel,
I'w helynt uchel o Antiochia.

"Os bu gras drwy yr oesau heb groesi
O’r fechan Ganan, at fyd o gynni,
Hwyliai yr adeg ar ol hir oedi
Na ofnai fyned dros derfyn-feini,
Y deg adeg i godi — ei faner,
Bu blwyddyn Ner i bobloedd aneiri.

"Paul glywai uchod y môr yn codi,
Môr iachawdwriaeth yn mawrwych dorri;
A'r hil ddynol ar ei hael ddaioni,
Cenhedloedd gannoedd yn ymddigoni.

"Ef pan anfonwyd, gorffennwyd ffiniau,
Ai’n newydd fyd heb yr hen ddefodau;
Efe ail cerub uwch gafael caerau
Uwch niwl gododd, uwch hen olygiadau,
I gylch tragwyddol y Perffaith Olau,
Fel nad oedd bellaich un gwerth mewn achau,
Nac un dylanwad mewn cnawdol enwau;
E welai oferedd dynol furiau,
Twyllodrus wenieithus wahaniaethau

.

“Wrth edrych ar fawrwych fôr
Ogylch im yn ymagor,
Heb derfyn i’r gorwyn gylch,
Ond yr hygar odreugylch
Draw sydd yn priodi’r ser
Gloewon, a'r don, mor dyner,
A! y mae hyn yn mwyhau
Fy eiddilion feddyliau;
Daw o bell angder di-baid,
Rin i ehangu’r enaid;
Daw’r môr a'i ehangder maith
I mewn i ddyn am unwaith, —
A phenrhyn ffydd, lonydd lan
Ger eilfyd, rhagorol-fan;
Paul mal angel ymwelai
Uwch y niwl, ac edrych wnai
O'i feiddiol arsyllfa addas
Ar y fawr drefn, ar fôr rhad ras;
Llond hanfod y Duwdod oedd,
A'i led anfeidrol ydoedd.


SANT PAUL 521


O! pam y rhaid lluddiaw’r groesaw grasol
Rhoi unrhyw ffin am fôr anorifennol,
Golud ein Naf, a’r galwadau nefol?
Yno ar fin y môr anherfynol,
Denwyd, enillwyd ef yn hollol
O'i wael hanerawg gulni blaenorol,
I gyhoeddi’r Efengyl dragwyddol,
Ei doniau cyffredinol — difesur
I bob creadur, ac i bawb credol.

"Ni lesteirid gan un cul ystyriaeth
Ei hael wahoddiadau i'r wledd odiaeth;
E ledai ogylch yr alwedigaeth
I ateb angder y per ddarpariaeth;
Nis atelid ei fawr apostoliaeth
Gan wael gybydd-dra didda Iddewaeth
O'i ffau feindra’r hen gyfundraeth — drengai,
I’w bedd mwy elai ac heb ddim alaeth;
Ai i'w bedd a chanai’r byd
Iach garol uwch ei gweryd.

"E fynnai i afonydd — gras y nef
Groesi’n awr geulennydd
Palestin, a'u rhoddi’n rhydd
O'u hargaeau’n dragywydd.

"Paul a estynnodd berl Palestina,
Ei chyfrol ddwyfol am ffyrdd Jehofa,
Ei budd i holl feib Adda, — ei deddf wen,
Ei hen rymus awen, a'r Messia;
Ple rhy ddwfn, pa hil ry ddu,
Rhy gaeth, i Paul bregethu!

"Ei weinidogaeth, Ior a'i bendigai,
I fyrdd o waelion Ef a'i harddelai,
Môr o ddylanwad mawr a ddilynai
Ei waith, a llwyr ddyfethai — baganiaeth,
Eilunaddoliaeth o’i flaen ni ddaliai.

"Ar ei ol, pa le bynnag yr elai,
Eglwys fywiog flodeuog adawai,
Canol-bwnc o gred o’r hwn ymledai
Y goleu nefol gorfeiddiol feddai
Ogylch trwy lydan wlad nes diflannai
Y niwl a'r duwch a'r cwbl ordoai.


522 GWAITH ISLWYN.

 
"O wlad i wlad fel angel ehedai
Yn odidog am Iesu dywedai,
Efengyl lon dros y don a daenai,
A'i hoffus alwad i Paphos elai.


“Ei heang olud a efengylodd,
Yn Lycaonia cerdd jubil canodd;
A llawer yno’n rhyddion a roddodd,
A'i gredlythyr di-os a ddanghosodd;
Y wyrth! trwy brifwyrth yno fe brofodd
Diau’n y fan mai Duw a'i hanfonodd.


"I Ewropa awr hapus — tarawai
Yn Troas fawreddus;
Awr a ddug i diroedd hon
Newyddion gogoneddus.


"E gadd weledigaeth gu,
Liw nos fe welai’n nesu
Ryw
ŵr o bell ororau,
O bell Macedonia bau.


"A gorddwys ofid y gŵr ddeisyfodd, —
'Am y gair Macedonia a'm gyrrodd,
Mi yn ofynnwr yma anfonodd,
Ti a’r rhad drysawr, O tyred drosodd!’


"Yn ufudd i'r alwad nefol — hwyliai
I’w helynt genhadol,
Amddifad oeddym o ddwyfol
Oleuni pur nes glaniai Paul.


"Ni fu un llong ar gefn lli
Erioed ag uwch mawrhydi;
Cenhadlong i'r cenhedloedd,
A dawn nef ar y don oedd;
Yr haul llon oreurai’r lli
A'r don wareuai dani.


"Caraswn ei gweld yn croesi — y llif
A'r llwyth dwyfol ynddi
O’r nef i'n cyfandir ni,
Y lan efengyl inni.


"Ai’r haeddawl
ŵr mawreddus — heb oedi
I Philippi mewn hoff hwyl hapus.


SANT PAUL. 523


"Y Sul elai Paul a Silas— ill dau’n
Mhell o dwrf y ddinas
I weddi-fangre addas
Ar lan afon lydan, lâs.

 
"Deuai un Lydia yno, — oedd astud
Gan dawysder i wrando;
Gwnaeth gras ei fawr dramawr dro
Ar ei rhan, yr awr honno.

"Tywysen gynta oedd Lydia lon
O doraeth Ewropa dirion;
Ei theg ysgub flaenffrwyth oedd — a gasglwyd,
Gynauaf wyd gan ras gwiw y nefoedd.

"Buan yn eu herbyn hwy — fe godai
Torf gadarn ruadwy,
Enbydus gylch heb adwy,
Na man o ddiangfa mwy.

"Gan y dorf anwar mewn bâr fe 'u bwriwyd
I'r carchar nesaf i mewn a gafwyd,
Obry y drysau cry a sicrhawyd,
A hwy yn y gell dywell adawyd.


"Ar hanner nos er hynny
Y ddau frawd haeddfawr a hy,
Ganent hwylus felus fawl
Yn ei heigion unigawl;
Yn eu cell gaethedig hon
Yr oeddynt hwy yn rhyddion;
Ni wnai’r creulon gyffion gau
Yma ddal eu meddyliau.


"A hwy yn gweddiaw, Ior a'u gwrandawodd
Yn y fan, a’i ddaeargryn anfonodd,
Ac ar hanner nos, crynodd — dyfnaf sail
Yr oesawg adail, Ior a'i hysgydwodd;
Y drysau cryfion geirwon agorwyd,
A'r carcharorion yn rhyddion roddwyd;
Er mor gedyrn, eu rhwymau ergydiwyd,
Ac urddas Paul a Silas a seliwyd.

"I geidwad y lle gadarn
Ydoedd fel gwawr Dydd y Farn;
Daeargryn, eneidgryn oedd,
Ofnadwy o'i fewn ydoedd;


524 GWAITH ISLWYN.


Tywyswyd ef at Iesu
Yn y fan, a thangnef fu.


"Trodd ein sant tua’r ddinas hen,
Y goethaf ddysgedig Athen;
Yno bu’n pregethu y gwir,
‘Y Duw hwnnw nid adwaenir.'
Oddiar y byd anfarwol
Tynnai’r llen niwlen yn ol.
Wrth reol gwir athrawiaeth,
Profi’n ddoniol nerthol wnaeth,
Y codi o’r bedd cadarn,
Y'r ail fyd, a’r Olaf Farn.


"Hoff
ŵr Duw, offeiriad oedd — yn addas
Weinyddu i'r Nefoedd,
Ac hynodlu’r cenhedloedd, — ei enwawg
A'i odidawg offrymiad ydoedd.


'PIannai mewn llwydd ysblenydd,
Eglwysi, hoff erddi ffydd;
Ymwelai, delai ar daith
Yn ol, i’w chwynnu eilwaith;
Dygai’r ail weinidogaeth
Gynhyddiant i'w ffyniant ffaeth,
A thyfent fel wrth afon
Nefawl lif o'r Wynfa lon.


"O du yr efengyl deg — fe wnai gamp
Fwy nag un o’r deuddeg;
A chynnydd mawr ychwaneg — rhagorodd,
Heibio hwy rhedodd mewn byr adeg.


"Llafurio wnaeth yn llawer helaethach
O ochr ei Ner, er dechreu yn hwyrach;
Ar y maes fe weithiai yn rymusach
O du crefydd gan ei hewyd cryfach,
Ar ysblenydd adenydd llydanach;
I’r byd mewn tymor bach, — dros bob ymyl,
Rhoe’r Efengyl, ar yrfa ehangach.


"Cadarn dros ei bwnc ydoedd, — calonnog
Ger bron enwog w
ŷr a brenhinoedd.


"Gan daran ei genadwri — crynodd
Coronog fawrhydi,
Uchod heibio rhôd ei bri
Yn ei gadwen gwnai godi.



SANT PAUL. 625


"A phan amddiffynnodd — ei hoff hawliau,
Ffelix a ddychrynnodd,
Y Dydd Olaf, loewaf lys
A ddilys sylweddolodd.


"Rhy eglur gwelai’r rhaglaw
Y Fam Olaf drymaf draw;
Y môr yn unfflam eirian,
Y lloer deg oll, oll ar dân;
Mynwent hwnt i fynwent fawr
Yn y m
ŵg yn ymagawr,
Ac o niwl barn cnul y byd
Draw a seiniai dros ennyd!


"A Ffestus a hoffai eistedd — o dan
Ei donnog hyawdledd,
Ai’n syn ar ei uchel sedd
Wrth rwyf ei araeth ryfedd.


"Sylfaenai, pilerai Paul ei araeth
Yn ddwfn a theg ar graig rhesymegiaeth;
A chodai o'r sail fel adail odiaeth
Mewn llwyraf fanylaf gyfunoliaeth,
Maen uwch maen mewn cysonwych ymuniaeth,
A byw urddunol flodau barddoniaeth
Yn ymagor, a grawn dychymygiaeth
Yng nghrôg o’r oludog adeiladaeth —
Mae’n wyrth o addurn mewn areithyddiaeth,
Yn nefol, uwch pob dyn-efelychiaeth.


"Siomi pawb wna rheswm pur,
Ni etyb hwn i'n natur
Ai chyrhaeddfawr wych reddfau,
Ni bydd ef yn ein boddhau
Oni roir ar yr arlun rhydd — byngau
O aur afalau y darfelydd.


"Paul fel huan daflai allan
Oleu eirian, wiw leuerydd
Gwres o'i eiriau a'i lythyrau
Geid, a golau, gyda 'u gilydd.
Wrth fwynhau y golau gwyn
Ar hyd ystyr ei destyn,
Teimlo’r ydym rym ei wres
Ac hoen ei ysbryd cynnes.


526 GWAITH ISLWYN.


"Y dyfnaf destyn nid ofnai,
Egniol
ŵr, i’w ganol ai;
O hyn i barn, ail ni fydd
I'w gawr-afael ar grefydd.
Datguddiwyd i broffwydi
Gwr ei maes ehangfaes hi;
Ar uwch tir yn llewyrch teg
Y dydd— e gai y deuddeg
Fwynhau ar ucheldrefn Ner
Oleuach trem o lawer;
Ond cyrrau, rhannau, er hyn
Roddwyd yn eglur iddyn;
Ymyl o'r efengyl fawr
A'i da amwiw am dymawr;
A! nid rhan o'i hamcan hi,
Rhyw unig gwr o honi
A welai Paul, ond unoliaeth — cyfa
A chyfandra mawr ei chyfundraeth;
Ei lygad welai ogylch
Y dwyf ol ragorol gylch
Newyddion wirioneddau,
Am un gwir mil mwy yn gwau.


"Y cyfan oll cofio wnai,
A'r swm, pan ymresymai.
Y gadwen sydd i godi
Tua’r nef ein natur ni,
I godi dyn i gader,
I lys sydd uwch haul a ser;
Fe ddilynodd ei rhyfedd ddolennau
O lys y cariad a'r bwriad borau
O ael a dibyn anfeidroldebau,
O awyr fythol yr hen arfaethau,
Do, fe 'i dilynodd hyd adfyd-lannau
Amser — trwy amser a'i holl flinderau,
I fro iach engyl, y fro uwch angau;
Wrth ddolen y dirgel hen ragluniad,
Caf yn hon y cyfiawnhad, — yna gwen
Ddolen gain addien y gogoneddiad.


O gadwen fawr fendigedig! od wyf
Yn d'afael clymedig,
Dirwyni di ryw unig — gwael fel fi,
A draw bydd codi o'r ledd cauedig!


SANT PAUL. 527


"Athroniaeth ai ar wyneb,
Chwareuai hyd yr ochr, beb
Daraw i'r gorddyfnderoedd,
Wyneb gwir ei randir oedd;
Iddewaeth hynafiaethol — unfodd gaid
Yn rhoi ei holl enaid i'r allanol;
Enaid y pwnc oedd nod Paul,
Y faith wythien fythol
O wiredd prid godidog
Y sydd dan grefydd y grôg.

 
"Athronwyr, dysgawdwyr gynt,
Rhyw eiddil fadwyr oeddynt
I gyd, yn ofni gadaw
Y glennydd llonydd gerllaw;
Ond ef — Columbus crefydd! — a hwyliai
O olwg y glenn
ydd.
Elai’r enwog olrheinydd
I fawr a phell gefnfor ffydd!
Yn y drydedd nef.

"Mewn rhyw ias nefolias fyg,
A rhyw lawen berlewyg,
Cipiwyd ef i'r loewnef lwys
Ryw bryd, fry i Baradwys;
Anfarwolion y fro welai, — y saint
Goruwch swn gofidiau,
Yn y nefol bythol bau,
A’r angylion rhwng heuliau.

"O'i flaen y Wynfa lonydd — oludog
Ymledai’n ysblenydd
Dan dragwyddol ddwyfol ddydd, — ei mwyniant
A'i ther ogoniant oedd fyth ar gynnydd.

"Aeth i eil-bwynt bythol-bell
Yng Ngwynfa, ryw Bisgah bell,
A cherub gwych i'w arwain,
Ar ei fawr gyrch drwy’r fro gain;
A gwelai’r ddinas glaer oddiyno,
Ei godidawgrwydd o hyd yn chwyddo,
Rhes uwch rhes o balasau i roeso
Y dorf ddi-rif trwy ei phyrth sy’n llifo
Odd ein daear, heb angladd yn duo
Ei llon heolydd, neb o'r llu’n wylo.

"Ond ef, o'i wibdaith nefol
Uwch haul nen, ddychwelai’n ol.


528 GWAITH ISLWYN.


"Rhyw fer wib cyn ei erfawr waith — oedd hon
O ddyddanus effaith,
Neu drem, o flaen ei drymwaith,
Ar wiw fyd ei wobrwy faith;
Rhyw gip drem ar gopa draw,
Bêr Sabboth! brysiai heibiaw.


“A! fe rodd fore heddyw
Ei ail daith — bytholdaith yw.
Rhyddhad, ymadawiad oedd,
Fe aeth i aros fythoedd.


"O flin ddwysgur! wyf fel yn ei ddisgwyl
O'i hynt uwch heuliau, hwnt o'i uchelwyl
Ar gyrch, ond gau yw’r gorchwyl — am dano
I'n aros heno, Nereus anwyl.

“Nereus fwynaf! ni fedraf adrodd
Y llid, y gofid, y trallod gafodd;
Gwae, echrys ddig, a chroesaw a ddygoddi
O ymyl du angeu’n aml diengodd.

"Mileinig erledigaeth
Ef yn nod bennaf a wnaeth;
Gloew nod i'r gelyn ydoedd,
Ac o fyd amlycaf oedd.
Iddewaeth, Paganaeth, gynt
Dwy eiddig wrthblaid oeddynt,
Unai y ddwy anynol
O lid pur i erlid Paul.
Addfwyn
ŵr, goddefai nych
O fewn carcharau’n fynych.
Ar fordaith deirgwaith gwnai’r don
Agawr ei fedd yn eigion,
A braidd y diangai’n brin
O'r môr a'r storom erwin,
A llidiwyd ei drallodau
A brad rhy gerth brodyr gau.

 

Iesu’n unig.


"Ond barnai, cyfrifai’n fraint
Ei ddyfal ddioddefaint;
Ni thybiai, ni farnai fod
Neb, neb, yn werth ei nabod
Is nen ond Iesu’n unig!
Er mwyn ei air dygai’r dig.


RACHEL. 529

I’w ddilyn ef boddlawn oedd
Drwy ganol pob dryghinoedd,
Dilyn drwy newyn, drwy nos,
Drwy syched, dros ei achos.


“O'i fodd aberthodd y byd,
Moethau, a phob esmwythyd;
Ei dalent a'i fodolaeth
I waith nef yn aberth wnaeth.


"Diddym oedd pob dedwyddyd
Neu barch feddiannai y byd,
At orffen mewn llawenydd
Ei hoff oes a chadw’r ffydd;
Ei bwnc, tu yma i'r bedd — oedd gweithio
A llafurio yn ei holl fawredd,
Yr hoffusair 'Gorffwysaw '
Oedodd hyd y byd a ddaw.


"Tyred! mae’r wawr yn torri!
Rhodio’n ol sy raid i ni.
O'i pher hun Rhufain ddeffrôdd
O feddau cwsg; darfyddodd
Si yr afon; y ser hefyd
Ganant yn iach bellach i'n byd,
Dywed eu hymadawol
Eiriau hwy — ‘Dewch ar ei hol.’ "

RACHEL.*


O PAHAM y suai’r don
Ar y lan, mor swynol,
Rachel fach, gan lanw 'th fron
A breuddwydion nefol?
Seiniai’n bêr fel cloch y Sul,
Eto nid oedd ond dy gnul!

Eang yw Amerig fyd
Ni chest ti er hynny
Ddim ond bedd o honi i gyd,
Gellsid hyn yng Nghymru —
Gellsid mwy, sef uwch dy ben
Las dywarchen Cymru Wen.

• Cyflwynedig i Mr. Lemuel James Jermyn, Pa., America, ar ol ei anwyl briod, merch y Parch. William Jenkius, yr hon a fu farw Mawrth 26ain, 1876.
 


530 GWAITH ISLWYN.


Ywen Gwalia, enwog wedd,
Fuasai yn cysgodi,
Rachel fach, dy fore fedd —
Maen Cymreig i’w nodi,
A phereiddiaf feirdd dy wlad
I goffhau 'th rinweddau mad.


Lemuel aeth ag ysgafn fron
Idd ei lon Amerig,
Ddaeth yn ol yn brudd ei wedd
Idd ei annedd unig
Gerllaw Nant y Felin Fach
Lle buasai gynt mor iach.

Gwelais ef yn gyrru i lawr
Blwyf-ffordd gul yr Ynys,
Nid oedd i'w roesawu’n awr
Neb ond mam oedrannus;
Gwelais wrth ei frys a'i wedd
Fod ei Rachel yn ei bedd.

Eto yn ei gerbyd bach
Dygai yn ei ymyl
Ogoneddus eneth iach,
Un o fyd yr engyl —
Byw dlysineb Alice Ann
Wnai fy swyno yn y fan.

Delw 'i mam ddaeth ar ei gwell,
Do, yn fyw i adgof,
Ac nis gwnai Amerig bell
Beri dim ebargof;
Nid oes goleu digon ter
I Alice Ann ond goleu ser!

Ni fu ’rioed hawddgarach mun,
Ni fu un fwy anwyl;
Wedi ei gweled, darfod wnaeth
Hiraeth am dy anwyl
Rachel. Alice Ann y sy
'N ddelw fyw o'th ysbryd fry.

Wedi holl ofidiau’r daith,
Wedi’r maith helbulon,
Wedi’r marw mewn estron wlad
A'r ysgariad creulon,
Cewch gyfarfod oll yn iach
Wedi’r cyfan, Rachel fach.


DAVID HOWELLS, ABERTAWE. 531

DAVID HOWELLS, ABERTAWE.


I ERAILL boed eu harwyr,
A'u grymus hewydus w
ŷr;
Rhoddes Naf urddas i ni
A geir yn tra rhagori, —
Ardderchog Weinidogaeth
O nefol ryfeddol faeth,
Yn llosgi y'ngwawl dwyfawl dân — areithfa
Orwemp, olyna rym Paul ei hunan.


Ond er holl ddisgleirder glwys
Uchela areithfa’r oes,
Mae’n gruddfan tan drallod dwys;
Niwl tew angladdol â'i toes.

Hiraeth sy ym mhyrth Seion,
Am roi sant mwya’r oes hon
I lawr i dawel orwedd,
Haul ein byd dan lenni bedd.


Duw fu Dduw i Dafydd Hywel, — Duw fu
Hyd fedd yn ei arddel;
Mwynhau Duw mewn ne dawel
'N awr mae’r sant tramawr ei sel.

Canu llawn dau can llinell — am wron
Mawr y Ddwyfol Babell,
Sy lawen i'r awen rydd —
Sy grefydd i'r ysgrifell.

O fawrion daear pa fri’n y diwedd
At hedd-weinidog sanctaidd ei nodwedd?
Nid yw enwogion byd yn eu hagwedd
A'u dewis fawryd ond us oferedd;
Dyna rod o anrhydedd! — uwch cymyl
Miloedd o engyl deimla eiddigedd.

Calfaria oedd yn cael ei fryd, — a'r Iawn
Oedd rym ei holl fywyd;
Ei fyfyr a'i gof hefyd
Fry gai Calfaria i gyd.

Hywels anwyl seiniodd — i ryfeddol
Dorfeydd hyd y gallodd,
Y G
ŵr a'n bore garodd,
A mawr fael y marw o’i fodd!


532 GWAITH ISLWYN.

Y marw o'i fodd; Y mwya rhyfeddol!
Cywir etifedd y cariad dwyfol
Yn rhoddi 'i hunan, drysor haeddiannol,
I wared enaid o'i wae dirdynnol, —
Hyn oedd ei bwnc beunyddiol — swm odiaeth
Ei fyw weinidogaeth orfendigol.

Ei ddiben ydoedd byw i eneidiau,
A'u bythol wared o dynged angau;
Effaith ei araeth wnai lyffetheiriau
Pechod, dan ddyrnod Gair Duw, yn ddarnau;
O danodd syrthiai cadwynau — caethion
Mwy yn adfeilion mewn oedfa olau.

Elfennau geidw Calfiniaeth — ddiysgog
Oedd esgyrn ei araeth;
A thrwy ei gref athrawiaeth,
Creigiau i eneidiau wnaeth.

Cadd yn forau ddwyfol seliau,
A nef-nodau’r anfonedig;
Cadd y gorau gredlythyrau —
Addoliadau arddeledig!

O gallaf, galwaf, i go — y nefawl
Wedd addurnawl a’r nawdd oedd arno
Ar esgynlawr mawr yn Môn,
Ar y maes plith grymusion, —

Mae dydd y gymanfa fawr yn gwawrio,
Weithion mae awr dirion deg ar daro;
O, clyw yr emyn yn cael ei rwymo
Yn offrwm pereiddfwyn i'w gyflwyno;
Yn ei hwyl swynawl ein Hywels yno
A mawredd gyfyd — mor hawdd ei gofio.
A! dyna 'i wyneb wedi 'i eneinio,
A goleu’r farn yn llewyrchu arno.
Clywch Aaron a'i syn glych aur yn seinio;
Swn y lliaws mawr sy yn llesmeirio,
Mae ugain mil o'n hil oll yn wylo,
Tra, uwch iddynt, ei lais yn trech chwyddo —
O'r Amen a'r ymuno — ogoned
Derfyn, heb ludded, a'r dorf yn bloeddio!

Mae hen bobl yn min y bedd — hyd heddyw
Mewn diddan orfoledd,
Ar ael oes yn cofio’r wledd,
DifrifawI oedfa ryfedd.


DAVID HOWELLS, ABERTAWE. 533


Ailanwyd yr
ŵyl honno — ugeiniau
Gan yr Ysbryd trwyddo;
Duwiol dad ysbrydol do
Oedd hwn i luoedd yno.


Pa allu dawn, pwy all dynnu
Arlun o'r gwynwawr loew-wawr lu —
Y gogoneddedig waredigion
Gai i'w roesawu o gaerau Seion, —
Y croeso rhyfedd’r ol croesi’r afon —
Gan ei hyf alw gerbron teg nefolion
Fel eu tad drwy rad yr lon — ddisgleiriaf
Pur lu hygaraf, perlau ei goron?

 

I’w bulbud hoff, ble bu dyn
O’i radd a'i nerth a'i wreiddyn,
Yn glynu mor galonnog
Wrth fawr gred areithia’r grog?
Didewi hyd y diwedd,
Aeth o'i bulbud i'w fud fedd.

Am oes, y Cyrddau Misol — lywyddodd
Drwy lwyddiant bendithiol;
Yma o hyd y mae ol
Ei athrawiaeth a'i reol.

Drwy gariad a'i ragorion, — trwy’n Hiesu
Teyrnasodd yn Seion;
Dyn iraidd, a dawn Aaron,
A'm swyn bryd fel Moesen bron.

O nifer meib tangnefedd — ni fu neb
Yn fwy 'i nod a'i fawredd;
Gwnai 'i ireidd-der adfer hedd — i’r praidd glwys,
A bwriai’r eglwys ail berarogledd.


Sobrwydd dwyfol difrifoldeb — y g
ŵr
Oedd gerydd diwrtheb;
Baeddu’n hwy nis beiddiai neb — gan dyner
Eres anwylder ei bresenoldeb.


Pa sant fel ef, mor nefol,
A'i hir lwybr mor loew o'i ol?


Nid mwy dilen ol-lwybr seren
Yn y loewnen, gan oleuni;


534 GWAITH ISLWYN.


Erys naws ei ras i ni,
Am eiloes bydd ymholi;
G
ŵr a chyngor goruwch angof,
A'i eiriau fel gemau i gof,
Perlau fydd glwys eiriau y sant
A dlysant ddyfodol oesoedd.


O'i ol ef, had ei lafur
Dwfn, i bell a dyf yn bur,
Er aros dan nos yn hir,
Had da gweddi dadguddir;
Rhinwedd Gair Duw’r hedd a drig,
Goreu had anllygredig.


O'i ddifeius hardd fywyd,
Awyr ber sy ar y byd;
Awyr bêr gwawr y borau
O'i bur oes wna hir barhau;
Cof o’i wiw yrfa sy fel cyfeirfys
Tua’r ne dawel i'n tirion dywys;
Wedi angau, dengys! — i'n cyf’rwyddo
Ei iach ddiwyro fuchedd a erys.

 
Daeth y bywyd-gerbyd gwyn,
A neidiodd mewn munudyn
Acw i loew fainc Elias, — a gyrrwyd
Gan gerub mewn urddos
Hyd yr wybr yng nghlud rhad ras,
Heibio heuliau i'w balas.


Pyramid er peri mawl, — pe caffai
Ofer a fyddai i'w gof rhyfeddawl;
Enw dyn Duw! O dyna d
ŵr
Faedda waith pob celfyddwr;
A i'r lan drwy y loewnef
Ban hyd anfarwoldeb nef.


Was difai! gorffwys, Dafydd,
Hyd y nefol ddwyfol ddydd
Yr agora’r Ior gwiwras
Eto rydlyd glô’r Crug Glas!
O, di-boen yw d' obennydd;
Hun y saint yn fôrddwfn sydd.
Seraff goleugraff gai log
O gael estyn it glustog,


DAVID HOWELLS, ABERTAWE. 535

 
Hen was i'r addfwyn Iesu
A geir i'w engyl yn gu;
O caerog le yw y Crug Glas
I'r hyn sydd farwol o'r henwas.
Hynod gaer, nid a o go
Am ennyd ddim o hono.
Mil henffych fawrwych forau,
I'th Ior ddod obry i'th ryddhau,
A'th ail lunio i’th loewnef
Yn ol ei gorff heulog ef.


Anwyl ŵr, pwy gawn i'w le
Er tywys Abertawe?
Ni wel y dref, farwol dro, —
Ei Lot sancteiddiol eto.
Oedd un waredai ddinas
Drwy fawredd rhyfedd ei ras;
Rhyw aden ddisglaer ydoedd;
Diau rhyw fur i'r dref oedd;
Drwg ludd fu i'r dre o'i gladdu.
Esgud oedd i wisgo du;
Eang oedd i'w gynhebrwng e
Barotoad Abertawe;
Gweinidogion bron heb rif,
Henuriaid yn aneirif.


Apostol henafol nef
A roddwyd i'w hir haddef;
Angladd oedd i angel-ddyn,
Y dorf oedd braidd ddiderfyn;
O fewn y dorf Galfinaid,
Efengyl ag engyl gaid,
Aneirif yn ei arwyl — yn tynhau
Eu myg reffynau am ei gorff anwyl.
Y glwys angylion gloisant
O dan sel feddrod ein sant;
Aent ag allwedd y bedd ban — ar odiaeth
Oreu wasanaeth, i'r Iesu 'i Hunan; —


I
esu a edwyn ble gosodwyd — gwerth
Y gwaed unwaith gollwyd;
E fywiocâ 'i lwch, fe i cwyd
Yn deilwng o'r lawn dalwyd.


Os yn deilwng o'r syn daliad — beth fydd
"Y corff a fydd" yn nydd gogoneddiad!


536 GWAITH ISLWYN.


UDGORN Y JUBILI MILFLWYDDOL.


CHWYTHWCH yr udgorn ar glogwyn Moriah!
Adref, Iddewon, adref!
Agorwyd pob porthladd ar lan Palestina,
Adref!
Nid oes ar ffiniau’r wlad un fyddin mwy dan arfau;
Yn ol, anfarwol had, i'r mel-ororau!
Mae’r ffordd yn rhydd, mae’r lle yn barod,
Hawddamor ddydd gollyngdod.


Chwythwch yr udgorn ar glogwyn Moriah!
Udgorn rhyddhad yr Israelaidd had,
A chwydded yr adsain, eryrol arwyrain,
I bellaf ororau pob ynys a gwlad;
Wyntoedd y nefoedd, yr anthem O eiliwch!
Dros bennau mynyddoedd,
Dros donnau y moroedd,
Ei hadsain danfonwch!


A chwi’r addewidion,
Hoff berlau plant Seion,
Yn fil ac yn fyrdd eich bendithion gawodwch;
Bellach try 'ch geiriau
Oll yn drysorau;
I lawr o'r nefoedd gwlawia eich perlau dwyfol drud,
Eich golud tywalltedig a gyfoethoga’r byd.


Ond chwythwch yr udgorn ar glogwyn Moriah!
Adref, Iddewon, adref!
Yn ol yn ddi-nâg
Mae phiol y felldith yn wag;
Mae’r pomgranadau’n pyngu gan addfedrwydd llawn yn fyrdd;
A choed talfrigog
Yn oroludog
Mewn aeron eurog,
Bereiddiaf lwyth, yn plygu, a'u cysgod dros y ffyrdd.
Deuwch fyrdd i'r wledd! mae’r cangau eurog wawr,
Gan olud ffrwythau, a harddwch blodau, oll yn cusanu’r llawr.


Libanus wisg ei fantell werdd,
Gan ychwanegu swyn pereiddiaf gerdd
Adeiniog gorau
Rhwng bytholwyrdd gangau,
I'ch croesaw adref
Dan faner tangnef;


UDGORN Y JUBILI MILFLWYDDOL. 537


A'r diliau mel drwy’r dolau mad,
Yn llifeiriant
A'ch llon wahoddant
Yn fyrdd i'r Ganan fad.


Chwythwch yr udgorn ar frig Himaleh!
Iddewon y dwyrain trowch adref i gyd
O gonglau y byd!
Yn ol yn ddi-nâg,
O Dan hyd Beersheba
Mae Canan yn wag!
Poblogwch ei chaerau!
Esgynnwch ei bryniau!
A thaenwch eich pebyll dros lennyrch ei broydd,
A phlannwch eich baner ar gopa pob mynydd,
Sef hen faner Dafydd, dan nawdd yr hon gynt
Anturiodd eich tadau yn fyrddiwn ar hynt,
A bloedd buddugoliaeth yn chwyddo o'u rhengau
Nes hollol ddistewi hyfgorau y gwynt.

Ar lannau y Danube yr udgorn O chwythwch!
Adref, Hebreaid, adref!
Dan chwyfawl luniau tangnef,
O Poland fel dylif ar Ganan tywelltwch!
Gwisg Mynydd yr Olewydd
Ei fantell orysblenydd;
Mae’r myrtwydd yn eu bythol wyrdd
A'u harddwch yn teghau ei agwedd;
A'r palmwydd uchel, mal breninoedd beilchion, tal ar ddeiliaid fyrdd,
Mor syth yn sefyll ar ei lechwedd,
Yn arluniau bri a mawredd.
A'r olewydden fras ar chwyf, dan awel nen
Ac awgrym wybren las, gorona 'i ben.

A Charmel ar roesawol wedd grechwena dan ffrwythlonrwydd,
Fel brenin ar ei sedd rhwng amldra a digonolrwydd,
Mae 'i frasder yn llifeirio dros ei ysgwyddau i lawr,
A choed yn taflu drosto eu gwisg o eurog wawr.
O odrau Môr Canoldir, man
Y gylch ei draed yng nghawg y don,
Hyd ddyffryn Jesreel ymestynna, dan
Fil myrdd o winwydd llon,
Y rhai orffwysant ar ei fynwes eu cangau gwan, dau lwyth o rin,
Yn flin gan wres, yn drwm gan win.


538 GWAITH ISLWYN.


I lan Iddewig lu!
I lan i'r Ganan gu!
Mae glannau’r afon sy’n ariannu bronnau Escol,
Yn wlyb gan ddagrau gwin, yn llif o frasder bywiol,
Ac yn huddedig dan gangau tewfrig, cyffelyb i'r oludog gangen gynt
A dorrwyd yno gan Osea ar ysbiol hynt
Rhwng blodlawn goed y werddfro.

Pentrefydd glannau Môr Tiberias sydd
A mwd o flodau dros eu muriau’n hudd,
Yn disgwyl eich myrddiynau i lan
I'w llanw rawy
A gyrru ffwrdd y Tyrciad didrain, gwan,
Sydd yn halogi a'i gân a'i weddi eu cysegredig awyr hwy.

I lan Iddewig lu!
I lan i'r Ganan gu!
Dirymwyd braich y pagan,
Dymchwelwyd sedd y Sultan,
A chwalodd anadl barnol wynt
Holl ddeddfau y Divan!
Hebreaid! ar fuddugol hynt
I lan — yn fyrdd i lan!
Mae baniar Calfan yn chwyfio’n uchel fry
Uwch tyrau Caercystennyn, i lan, waredig lu!

Ond chwythwch yr udgorn ar glogwyn Calfaria!
Lle rhoes eich Messiah, Iddewon, brydnawn
I gyfraith Jehovah oludoedd o lawn.
Dewch adref i'ch gwlad, i fynwes eich Tad,
Messiah deyrnasa ar orsedd ei rad.
Wylwch, O! wylwch, wrth weled eich tadau
Yn gwawdio eu brenin yn nyfnder ei boenau.

Edrychwch ar ei glwyfau yn arllwys llif o waed,
A'r porffor ddyferynau’n ddrud berlau dan ei draed.

O! syllwch ar y bywiol ffrwd o'i ystlys lif, brydnawn,
Mae fyth yn newydd, fyth yn frwd, gan rinwedd dwyfol Iawn.

Mae’r drem yn ergyd farwol i'ch anghrediniaeth oesol.

A Iesu dirmygedig! "Ti"
Gydfloeddiwch, " yw ein Siloh ni."


I lan, brynedig lu! I lan i'r Ganan gu!
A baner Cristionogaeth yn chwyfio ar bob tu.


PA BETH YW lEUENCTID? 539


Ehed côr yr awelon, a pheraroglau’r wlad,
Dros fronnau’r gerddi gwyrddion i ddyblu eich mwynhad.


A Hebron ymddyrcha ei ben i'r wybr arian
Dan goron o eira i'ch croesaw i Ganan.


Mae’r ffordd yn rhydd, mae’r lle yn barod,
Croesawiad sydd, a bloedd gollyngdod!


Clywch chwythiad yr udgorn ar glogwyn Moriah!
Yn ol yii ddi-nag!
O Dan hyd Beersheba
Mae Canan yn wag.

YR ARGLWYDD SY 'N TEYRNASU.


YR Arglwydd sy’n teyrnasu ar orsedd tragwyddoldeb;
Ei law sy’n dal i fyny y ser mewn undeb.
Un awgrym o'i ddigllonder ef
Ddifodai afrif fydoedd nef.


Yr Arglwydd sy’n teyrnasu! Frenhinodd crynwch!
O flaen ei gadarn allu i'r llawr ymgrymwch;
O farwol lwch! na fyddwch hy—
Yr Arglwydd yn teyrnausu sy.


"Yr Arglwydd sy’n teyraasu " medd myrdd o fydoedd;
“Diderfyn yw ei allu" cân sereiff nefoedd;
Rhown ninnau chwydd i'r anthem fry —
"Yr Arglwydd yn teyrnasu sy! "

PA BETH YW lEUENCTID?


IEUENCTID? Blodyn hardd
O dyner blaniad Duw
Yn ymddadblygu ar fron gardd
Ddiflannol amser, yw.
Ddyn ieuanc! dod dy flodyn gwiw
Yn offrwm per ar allor Duw,
Fel yr adblanner ef brydnawn
I’r wynfa sydd o'r fath eurflodau’n llawn.


540 GWAITH ISLWYN.

Y NOS YN MYNEGU GWAITH EI DDWYLAW EF.

O MOR oludog ydyw
Y nos mewn gemau eurliw
Sy’n addurniadau ar ei mantell fry;
Cyfoethoff mewn cyfrolau,
Ar ddwyfol ryfeddodau,
A rhwysg Hollalluawgrwydd, ydyw hi.


Mor hyawdl yw’r ser gorbell
Ddisgleiriant ar ei mantell
I hoeddi allan "waith ei ddwylaw Ef!"
Dyfnderoedd ei ddoethineb,
A mawredd ei diriondeb,
Mynegant oll yn iaith cerubiaid nef,


Ai mantell dywell nos,
Ai llif disgleirder dydd,
A daen ar fynwes wybren dlos,
Dadleniad o Dduw rydd,
Ac ol ei fysedd cywrain sydd
Ar lenni nos, fel pelydr dydd.

GWAGEDD O WAGEDD, GWAGEDD YW Y CWBL.

YN hawddgar acw ymdaen cymylau gloew a llon
Dros fynwes dlos yr wybren gain yn ddodrefn heirdd i'w bron,
Ond pethau munud ydynt! Mwy
Ni welir ond eu gwagle hwy.


Amryliw flodau hardd dan berlawg wlithion fyrdd,
Hawddgared ynt ar fronnau gardd a than y perthi gwyrdd,
Arluniau tegwch nef! Ond A!
Tra swynant, gwywant dan y chwa.


Y wig mewn mantell werdd yn llawn o gorau llon
Mor swynol ydyw! Ond, pan nesaf gwelaf hon,
Ni fydd ar gangen ddeilen werdd,
Nac ar un brigyn adsain cerdd.


Prydferthwch, pan y chwardd ar rudd ieuenctid gwiw,
O! mae yn hyfryd, mae yn hardd. A! hefyd, mae yn wyw.
Dy farwol chwythiad angau rydd,
Yr hawddgar, dan oerlenni pridd.


MACHLUDIAD HAUL. 541


Cyfeillion, dan wên llwydd ymdyrrant ar bob llaw,
Ond gwged ffawd — mor rwydd y ffoant hwythau draw!
Gyfaill! mae’r nodwedd yn rhy ddrud
I'w gael o fewn isloerawl fyd.


Serch — wyla yntau’n brudd uwch ben y bedd
Lle mae y fam neu’r chwaer dan gudd yn nistaw fynwes hedd.
Byw’n fynych mae ar bethau fu,
A siomiant yw ei derfyn du.


Ar bob isloerawl beth sydd o ddaearol ryw,
Argraffer yn ddi-feth, — "Byr, diflannedig yw!"
A bather yr un ddedryd erch
Ar bob daearol swyn a serch.


Am olygfaoedd sy o aniflannol ryw
Rhaid troi ein golwg fry i’r wynfa wiw
Lle nad yw hedd na chariad, trwy
Oes Duwdod, yn diflannu mwy.

MACHLUDIAD HAUL.


HYD danbaid lethr y nen olwyna teyrn y dydd,
Ei gerbyd tân uwch ben, ac O! ’r fath londer sydd
Trwy’r lewin-ymerodraeth, pan
Ganfyddir ei wynepryd can.


Hawddgared agwedd nen dan swynol wrid, brydnawn!
Chwardd dan oludog len, a llif o loewder llawn,
Pan tua’r gorllewinol gaer
Y try y teyrn ei wyneb claer.


Y gloew orielau’n hongian sy ar bared wybren fawr,
Pan fachlud ef, ddodrefnir fry â lliwiau gwych eu gwawr,
Prydferthwch paradwysol daen
Hyd gwr y nef-olygfa gain.


Cymylau hardd bob llaw ar lawen weddau sy
Yn cynnal uchelwyliau draw i roesaw’r brenin fry,
Yn fil a myrdd hebryngant ef
I lawr i’w orllewinol dref.


Y ddôl nwyfreol fry a wisg ei thecaf wedd
Yn barch i'r gwawl-lywiawdwr sy yn disgyn i'w orffwysfa hedd,
O gwr i gwr yr wybr ddi-Iid
Degheir ag un borfforawg wrid.


542 GWAITH ISLWYN.


O! bydded nawn fy nydd byr innau’n loew fel hyn,
Croesawed engyl fi, a boed goleuni yn y glyn,
Machludiad hapus yna fydd,
Machludiad i dragwyddol Ddydd.

Y SER.


PAN safai’r Crewr fry ar fainc o loewaf wawr,
Dyferai berlau fyrdd bob tu o’i goron ddisglaer, fawr,
A'r perlau drudfawr droent uwch ben
Yn ser arddunawl ar fron nen.

AMSER.

 
RHAIADR chwyrn yw amser ddaeth
O fôr tragwyddoldeb maith —
Rhaiadr yrr i'r môr yn ol
A dynolryw yn ei gôl.


Raiadr cyflym! O!’r fath rif
Sydd yn cysgu ar dy lif,
Wedd frawychol, yn feunyddiol heb un ofn;
O fy Nuw! beth fydd eu braw
Yr anedwydd ddydd a ddaw
Pan gyrhaeddir yr arllwysfa dywell ddofn?

 
Tra y plethwyf yn y llwyn
Y funud hon fy odlau mwyn,
Aruthr syniad! mae dy donnau, raiadr braw,
Yn chwymhyrddio tros y dibyn
Anfarwolion fyrdd i lynclyn —
Duaf, dyfnaf lynclyn tragwyddoldeb draw!


Heno, pan y byddaf fi
Yn gorffwyso, a llaw ddu
Cwsg yn taenu llen distawrwydd dros y glyn,
Cofia f’enaid! bob munudyn
Bydd y dwfn anfeidrol lynclyn
Yn dig olchi i'w waelodion filoedd syn.


Yr un dynged i bawb! Minnau
Chwym ysgubir gan ruthriadau
Y llifeiriant marwol hwn i'r bythol fôr.
Boed dy agoredig freichiau
Yn fy nerbyn draw o'r tonnau
Rhag fy nghuddio fyth o danynt, rasol Ior!


I'R ERYR. 543

I'R ERYR.

ADERYN hyf, draw, draw yn nen
Chwareui'n iach awyr awen.
Y nef oll, dy athref yw,
A'th dalaeth odiaeth ydyw.
Gweli fry y gloewfawr haul,
A'i gôr planedawg araul
O’i gylch ar balmant y gwawl
Yn llawenu’n llu unawl.


Uwch miloedd o gymylau fel arian nofiawl sy
Ar fron yr uchelderau chwareua 'th aden fry.
Dy fryd sydd ar y nefoedd, dy ffordd sydd yn y gwawl,
Lle chwardd carolau bydoedd a myrdd delynau mawl.


Wyt frenin uchelfrydig ar fron yr wybr fry,
Yn addurn gwir foneddig, mawreddig drem mor hy;
Derchedig draw uwch adar ar lachar araul le,
O! hydeg em digymhar fry’n harddu dwyfron ne.

 
O! disgyn ar dy asgell
O'r pur uchelderau pell,
Disgyn i'r bryn wybrennawl
Draw geir yn cofleidio’r gwawl,
Arluniad rho o'r lân-wybr
Di-rif ryfeddodau’r wybr.


Pa olwg ar wymp heuliau? — a pha drem
Hoff draw ar leuadau
Ddyry Ner i addurnhau
Ei goeth greadigaethau?


Gwed pa ogoned geinion, — pa fodau
Pa fydoedd uchelion,
Sydd fry ger gorseddfa’r lon
Yn urddo’n nennau heirddion.


Pa ryw seiniau per swynawl
O nefolaidd fwynaidd fawl,
O ogoniant, lifant i lawr
I'th anan lys a'th orawr,
Dros oriel uchder seirian
Y ser o'u trybellder ban?
Telynau plant y loewnef,
A pher nod, offer y nef,


544 GWAITH ISLWYN.


O'r llysoedd fry arllwysant
Fawl eurber ar dyner dant,
A chlywi 'u huchel awen,
A'u cerdd bêr yn nyfnder nen!


Mawreddog ardrem roddi
O’r nen ar ein daear ni
Yn ei rhod maith yn rhedeg
Ar heinyf daith trwy nef deg.


Ei golygfaoedd hi, er gwyched yw eu gwedd,
A ddiystyrri di fry ar dy sedd;
Môr arian o ddisgleirder dydd
Yn nofio’n loew o'th amgylch sydd.


Uchelaf fryniau’r llawr, fel beilch glogwyni sy
Yn saethu i wybren fawr, ddirmygi di!
Rhy wael eu balchaf ardwr hwy
I ddenu trem dy lygad mwy.


A phwy, ar ol un daith trwy fro y nen,
A gweld ardderchog waith ei Dduw uwch ben,


Yr ystafelloedd tryloew fry,
A'r ser yn ddodrefn arnynt sy,
Pwy, wedi’r fath olygfa lon,
Fyth dremiai ar y ddaear hon?


Yr wybr! yr wybr o hyd
Yw’r nod o'th flaen,
Dirmygi bob pelydryn clyd
Pob cwmwl ysgafn cain
A dreigla trwy’r eangfawr drân
Sy rhyngom ni a'r wybren lân.


I lan i nefol lys llywodraeth Ner
Edrychi am ol ei ddwyfol fys ar seirian dyrau’r ser
Fel glwys lusernau’n hongian sy
Ar bared tragwyddoldeb fry.


Wyt arlun teg o ffydd fel eryr nefol sydd
Yn esgyn heibio cyfundraethau fyrdd
Ar aden iachawdwriaeth
I godi plant marwolaeth
I ddisglaer wynfa hedd dau goron urdd.


I’R ERYR. 545


Ar ei haden aur eheda fy enaid tlawd i fyny,
Dring o fyd ing, dianga o dynged abred obry;
A thrwy ei swyn dyrch fi yn fwyn ar glogwyn er golygu
Y Salem sy ar fryniau fry, ogoned dref, yn gwenu.

 
Ni chyfaddaswyd llygad dyn i weld tir pell y wynfa lon;
Na 'i glyw i dderbyn adsain cun peroriaeth hon;
O! awn i lan ar asgell ffydd i glogwyn Pisgah y dadguddiad dwyfol,
Oddyno gwelwn wawr dedwyddach dydd yng ngoleu pur y Seren Fore siriol —
Y seren welodd Balaam hen oddar glogwyni Peor gynt,
Yn codi’n hardd a siriol wên uwch Palestina, ar rad hynt,
A chôr o sereiff yn ei dwyn ymlaen,
O wybyr tragwyddoldeb, gyda bloedd, —
"Gogoniant yn y goruchafion cain
I Dduw, a'i wyllys da i ddyn ar goedd."


O! awn i glogwyn Pisga! ffydd yw yr aden,
Mae yno lawn olygfa, oes, ar well Eden. —
Nefol Eden yn drylawn o flodau
Gardd eirianedig â gwir addurniadau
Mawredd o lewyrch! myrdd, myrdd o liwiau
O gywreiniaf goronau — cerubiaid,
O! mor gannaid dan amrywiog wenau;
Hoff rinwedd dawdd o'i phrennau
Glystyron i’n llon wellhau.


Gwelaf y wlad! a gloewaf lu —’r engyl
Rhwng ei choed yn canu!
O dyna gêd — Eden gu
I ddyn heb ei haeddiannu.


Dring, dring i glogwyn Pisga! ffydd yw y glust;
Gwel hwnt glogwyni gwynfa — ond gwrando! ust!
Pa geirdd ar aden nefol wynt sy’n dod?
Carolau gwaredigion ynt, uwch, uwch y rhod!


Melused yw’r beroriaeth a dery 'm clyw mor hyfryd
Ar dannau iachawdwriaeth o bau y bywyd!


Ffydd sydd yn agor dôr y wynfa gan ollwng ataf
Lif curaidd y beroriaeth yma o'r nefoedd uchaf!


Eryr! er maint yw 'th fraint a'th fri,
Nid ydwyt ti
Ond pryfyn bron, yn ymyl hon,
Yn iach!
Uchelach hi!



546 GWAITH ISLWTN.


"Y NOS Y BRADYCHWYD EF."


MAE awrlais Salem fawr ar daro tri, *
I fewn i byrth y dref arllwysa myrdd a defosiynol fri,
Gan guddio’r ffyrdd fel cwmwl du.


Dinasoedd Palestina ymwaghant,
Torf cydd arllwysir trwy bob porth ynghyd;
Hebreaid fry i ddinas Seion ânt
A phroselytiaid o bell barthau’r byd.
Fel arlen drom yn cuddio'r cysegredig lawr
Eu trefn, yn aml fel gloewon ddagrau’r wawr.


Arlannau’r Neil! arllwyswch yr holl had
Iddewig, a'r holl ddychweledig lu.
A thithau, falch Euphrates, o bob gwlad
Addurna 'th lannau, danfon feibion cu.


I lan! i lan! i Salem gref
Y dônt o dan fanerau nef!


Pentrefydd glannau Môr Tiberias, trowch
Eich dylifo ymwelwyr tua’r fan!
A chwi o ardal yr Iorddonen dowch
I'r lan! i'r lan!


Mae awrlais Salem fawr ar daro tri!
O Dan hyd Beersheba traidd y swyn,
Fel un symudol fôr dan donnau trwm di-ri
Ymdreigla'r dorf gan ganu anthem fwyn.
Cysegrir bryniau holl Palestina
A phêr adseiniau mawl! mawl Jehofah!


A hithau, ymherodres byd
Ar lannau’r Tiber, heddyw’n dderch ei thrôn,
Er mor baganaidd, ddenfyn feibion drud
I iswybrennawl brif-gaer lon.
A Hebron, hen ei pharch
Arllwysa 'i llu
I'r ddinas gu
Lle mae y Deml, a lle y bu yr Arch.


“Delid yr oen pasg ar y degfed dydd, a lleddid ef ar y pedwerydd ar ddeg,
yn y cyfnos, neu rhwng y ddau hwyr; sef tua thri o'r gloch yn y prydnawn."


[Nid Islwyn yw'r bardd mawr cyntaf wnaeth i awrlais daro cau ei ddyfeisio. — Gol.]


Y NOS Y BRADYCHWYD EF. 547


Dros fryniau Canan
Trwy 'i broydd eirian,
Tra cerddant yn y blaen,
A'r diliau mêl ar daen,
Rhwng pomgranadau ac aeron gorau, bereiddied yw eu can!
Mor hoff y cofiant hwy "ar gyfer Jericho,"
Y modd y daeth eu tadau trwy yr afon ddofn i'w bro,
A'r dull y syrthiodd muriau’r ddinas gynt
O flaen eu hunol floedd y seithfed hynt.

O flaen Gibeon
Ymlama calon
Yr Iddew yn ei fynwes gan foddhad,
Wrth gofio’r modd y safodd bydoedd nef
Yn ufudd oll wrth lef
A gweddi un o bennaf gewri 'i wlad.


Ond brys! mae awrlais Salem wedi taro tri!
Prydnawn pedwerydd diwrnod Abib yw,
Mae Oen y Pasc yn barod ym mhob t
ŷ,
A'r bara croyw, a'r surion ddail, yn ol gorchymyn Duw.


Myrdd, myrdd fwytânt!
A phlentyn bychan sy
Yn holi ym mhob t
ŷ,
"Fy nhad, mae’n syn
Beth yw’r gwasanaeth hyn?"
"Hwn yw’r gwasanaeth," etyb ef,
"Osododd Duw y duwiau yn gof o waredigaeth gref
A nos rhyddhad ein tadau,
A rhwysg ei estynedig fraich
Wrth arwain Israel ffwrdd heb faich."

 
Myrdd, myrdd fwytânt! A! cysgod yw eu pryd,
Anghofio wnant y sylwedd drud.
Mae’n nos!
Ond trwy y prif heolydd
Llewyrcha lampau celfydd,
Nes gwisgo y nos brudd
A darn o fantell dydd.
Ond anaturiol
Yw’r gwawl celfyddol,
A thraha ar orffwysdra anian leddf,
Mae’n groes i'w deddf.


548 GWAITH ISLWYN.


Symuda torfoedd o bob oedran
Yn ol a blaen, i mewn ac allan.
Mewn rhodres cerddant bob ystryd
A balchder ar eu gwyneb pryd.


Clywch olwynion y cerbydau
A chyrn a charnau
Yn dadsain yr holl dref
Fel daeargryn gref!


Ond pwy, atolwg, yw y ddau
Draw sydd yn agoshau
At ddyn yn dwyn ystenaid o ddwfr?
Mae 'u gwedd yn hynod, er yn lwfr.


Dilynant ef tu cefn i’r dref,
Nes dod i uchystafell fawr
Lle parotônt y pasc, ac ymhen awr
Un ar ddeg hynod ereill sy’n eu cwrdd.
Eisteddant oll o gylch y bwrdd.


Pwy, pwy yw’r un dieithrwedd sy wrth ben y bwrdd?
Mae mawryd — tlodi, galar — bri, oll yn ei wedd yn cwrdd.
Difrifwch tragwyddoldeb sydd
Yn seddu ar ei agwedd brudd.
O hynod un! rhyfeddol yw,
Ai dyn ai angel? dyn ai Duw?
Pelydron anfeidroldeb ar ei rudd
Mewn dwfn fawrhydri yn tywynnu sydd.


Y mae’r cerbydau ar hyd y rhodau yn rhedeg â mawr rym,
Ond nid yw rhwysg Caersalem dref
Yn tynnu trem o'i lygad ef
Na 'i sylw ddim.
Gweithreda 'i feddwl mawr
Ar bethau uwch y llawr,
Ac uwch y ser i gyd;
Y mae fel un mewn sobrwydd dwys
Wrth weled pechod yn ei bwys
A Duwdod yn ei lid!


"Hwn yw fy ngwaed," O seiniau syn!
"Dywelltir drosoch," beth yw hyn?
"Hwn yw fy nghorff a ddryllir, fy nefaid, drosoch chwi,
A mi yw’r Oen a leddir o dan y gyllell ddu."


Y NOS Y BRADYCHWYD EF. 549


"Un o honoch chwi
A'm bradycha i!"

Rhyw un ffyddlon
Ar ei ddwyfon —
"Arglwydd ai myfi?"
A! etyb gwên fwyneiddlon
"Nid tydi! Nid tydi!"

Un arall o hyf agwedd
A mynwes lawn o bryder,
Ond trem yn dân gan ddewrder, —
"Arglwydd ai myfi?"
Distawrwydd â gwên dyner
Awgrymant "Nid tydi."

Cynnwys arswydol
Y geiriau brawychol
"Un o honoch chwi
A’m bradycha i"
Barha yr adsain o fraw trwy’r ystafell;
A dyfneir ei effaith trwy sobrwydd perffaith a distawrwydd y nos dywell.

Un ofnus ei drem,
Fel pe brathai drwy ei galon saeth lem,
Yn hunan-gollbarnedig,
A llais a thôn grynedig, —
"Athraw, ai myfi?"
Tarana dwyfol wg ar rudd
Yr Athraw prudd —
"Tydi!"


"Daeth, daeth yr awr nodedig, yr arfaethedig nos,
'R hyn wyt ar fedr ei wneuthur ar fyrder gwna, a dos!"
"Dos!" bloeddied Salem! eglur yw mai Siloh sydd
Dan ddieithr friw yn yr ystafell hon yn gudd.


Deffrowch! deffrowch! drigolion Salem gref.
Mae Siloh yn eich plith, A! dyma Ef.
Bloeddiwch uwch Gwyl y Pasc — fyth darfu hi.
Mae’r sylwedd mawr ei Hunan gyda ni.


550 GWAITH ISLWYN.


Tyrd, gynrychiolwr Aaron, i’r uchystafell ddistaw.
Y ddwyfronneg a'r aureffod a'r meitr, dod heibiaw.
Ar odrau 'th fantell na flagured bomgranad mwy,
A'r clych o aur — distawed fyth, fyth eu hadsain hwy.
A chwi y Lefiaid enwog gylchogylch y bwrdd dowch,
Eich addurniadau eurog wrth draed y Siloh rhowch.
Symuder pob canwyllen wael
O flaen tanbeidrwydd dwyfol haul.

 
Ymollynged y cadwyni aur, a syrthied y wahanlen!
Dos, genedl-ddyn, i mewn lle mae’r drugaredd fan dan aden
Ymledawl y cerubiaid — dos, ysgydwa law â'r Iddew mwy.
Cysgodau prudd y ddeddfol nos, llwyr ddiflanasant hwy.


Chwi Ethiopiaid duon, heb ofn na chledd na chlwy,
Ewch, ewch i mewn yn eon; nid oes wahanlen mwy.


I mewn, genhedloedd, i'r santeiddiola!
Mae IOR y lluoedd ar drugareddfa
Fil gwell yn gwenu arnoch a thangnef ar ei wedd,
A myrddiwn o gerubiaid yn chwareu gylch ei sedd.


Moriah! goddef i bob pagan is y nen
Ymddringo dy arlethrau fry, a moli ar dy ben.
Mae’r ddau yn un! mae’r mur ar lawr!
Rhwng dyn a dyn nid oes wahaniaeth’n awr.


Ond clywch! —
Mae awrlais Salem fawr yn taro un!
A sobrwydd nos yn prudd gysegru’r dre.
Distawrwydd a thywyllwch yn gytun
Ar ysgafn gamrau gerddant trwy y lle
Mor bruddaidd, fraich ym mraich, gan ddwyn
Y ddinas oll i'w meddiant trwy 'u llygad-gloawl swyn.
Mae’r lle ym mynwes trymder
Yn ddistaw fel y bedd;
Felly mae’r nos bob amser
Pan na chyffroir ei hedd.


Ond nid oes un cyffroad
Yn llys yr Archoffeiriad;
O'r bwthyn tlawd i’r breiniol dŷ
Distawrwydd sy,
O ddyffryn Jehosaphat i frig Moriah fry.


Y NOS Y BRADYCHWYD EF. 551


Cwsg, Satan lywiant holl dorfeydd y dref;
Hir y disgwyliwyd,
Taer y gweddiwyd,
Craff yr edrychwyd,
Manwl ymholwyd,
Ond pan y cafwyd
Y dwyfol berl, dibrisiwyd
A diystyrrwyd ef.


Nid oes yn awr o'r fintai hon ond deuddeg gylch y bwrdd.
Mae syndod, tristwch, galar, ym mhob bron fel amryw ffrydiau’n cwrdd.


Ust! pwy sy’n rhodio yr ystryd!
Clywsom ei sangiad ar y palmant coedd —
Heddffeidwad! Ai obaith rhy ddrud —
Nid archoffeiriad oedd.


Gwrandawn fath ddieithr eiriau ddyferant dros wefusau
Y dirmygedig Grist ar nawn ei greulawn ddioddefiadau;
Ysgydwa beraroglau hedd o'i hardd agwedd a’i frawddegau.


"Chwenychais fwyta’r Pasc yn fawr, blant, gyda chwi un waith yn hwy
Cyn rhoi fy hun yn basc; ond ar y llawr ni fwytaf o hono mwy,
Mwynhawn yr wyl fawr nesa
Ar fwrdd fy Nhad yng ngwynfa."


Mae’n ganol nos! Ymsudda’r dre
Yn ddyfnach, ddyfnach i brudd fynwes taw;
I dorri ar orffwysdra’r lle
Nid oes ond ambell gerbyd yn gyrru yma a draw.

Ymddengys heirdd lusernau’r rhod
Yn llawnach o ddisgleirder,
Taerineb, a thryloewder,
Nag yr arferant fod.
A ydych chwi, ser, o’ch meinciau yn nen
Yn llygadrythu ar eich Ner dan farwol len!

Ond clywch! o'r uchystafell lom ymddyrcha adsain cân;
A thyr ei swyn trwy gaddug y nos drom i'r wynfa lân,
Lle eilir hi gan sereiff fyrdd rhai feddant lwys dafodau tân.


Rhyfeddwch, ser! wrth weld yr Oen
Yn canu ar brydnawn ei boen,
A'i ffyddlawn unarddeg, waredig rai,
O'i gylch yn chwyddo mawl y gân ddi-fai.


552 GWAITH ISLWYN.


O synnwch fydoedd draw! oferedd, gwn,
Dirgymhell syndod ar fath fyd a hwn,

Clywch adsain olaf y rhyfeddol dôn
Wrth esgyn tua gorsedd lon!

Try’r fintai allan i'r ystryd yn awr,
Cydrodiant tua muriau Salem fawr,

A thros furmurawl li afonig Cedron
Sy’n treiglo rhagddi gyda si yn llawn breuddwydion.

Hoff fryn Olewydd! uwch dy glod
Na’r holl fynyddau is y rhod,
I'r ardd sydd ar dy lechwedd dring
Fy Ngheidwad ’nawr mewn dwyfol ing.
Mae’n gorwedd ar dy lethr heb ortho,
A gwlith y nos yn disgyn arno;
Ei unarddeg o'i amgylch sydd
Yn ffyddlawn, eto’n cysgu’n brudd,
A gweddi ddofn eu hathraw gwiw
Yn torri’n ddarn acenion ar eu clyw.

A'i wyneb ar y glaswellt oer
Dan wybren drom ddi-Ioer, —
O! gwelwch ef dan wg y nef
Euogrwydd byd arno a roir.
O! dacw ddafnau trwm o waed yn llifo’n chwys o borffor wawr,
A Chariad Duw yn dal ei chwpan rhad i'w derbyn pan ddefnynnant tua’r llawr.
Trysora yn ei chawg bob dafn llawn
I'w roi i'r ddeddf yn hollddigonol lawn.

A chwyd i lan bob blodyn pur dan draed,
I weld a oes o dan eu cysgod ir ryw ddafn o'r gwaed.

Iesu fy Nuw! mae’r glaswellt tan dy draed
I’n llaith gan ddwyfol waed.
Gwaed enaid yw!
Gwaed dyn ym mynwes Duw!

Cedron li! ychydig a feddyli di am rin y dafnau heno sydd
Yn gymhlith âg oer wlithion y nos bradd
Yn notio ar ymchwyfol laswellt gardd
Gethsemane, gerllaw yr hon y chwardd
Dy ddwfr ar yrfa nosawl lwfr.


Y NOS Y BRADYCHWYD EF. 553


Arafach! mwynach! O awelon nef!
Ystyriwch pwy yw Ef
O flaen eich oerllyd chwythiad sydd
Yn rhynu dan yr wybren brudd.
Ef gynt a rodiai ar eich edyn
Pan ar eich taith dros fryn a dyffryn.


O ddeddfau anian fawr! pam na ataliwch chwi
Eich prwyaeth munud awr er mwyn yr addfwyn Ri?
Agorwch borth y dwyrain hardd ac archwch gerbyd taniol
Yr haul i lan, i dwynnu uwch yr ardd yn foreuach nag arferol.

Neu ymddiosged y wen loer
O'i gemwisg arian oer,
A rhwysged hi
Mewn cerbyd o dân fry,
A thafled ffrwd o wres i lawr
Am unwaith ar ei Chrewr mawr.

Gorchmynnwch wyntoedd hyf y nen
I'w hystafelloedd yn y fro uwch ben.

Trowch Gethsemane ardd
Yn deml hardd,
Ddisgleiriach na’r un farmor sy
Yn goron lathr ar ben Moriah fry.
Addurner hi â dodrefn ser y nen,
Disgleiried drosti berlau fyrdd heb len.
Ac ar ei gloew orielau
O rhowch seraffig gorau
A phrif organau nef y nef,
Fw llanw â pheroriaeth ddwyfol gref.


Trowch Cedron obry’n llif o arian;
A gwisgwch yr Olewydd,
A'i feilchion balmwydd,
A mentyll o aur eirian.

Os gormod hyn, archwch na wylo nef
Ei dagrau oer, oer mwyach arno ef .

A boed —
Ond taw!
Pa oleu dieithr draw!
Mae dyfroedd Cedron yn disgleirio
Gan ffaglau tân trwy’r wybr yn chwyfio.


554 GWAITH ISLWYN.


Mae’r goleu uthr yn dod
Nes! nes! mae brad yn bod.
Clywch sangiad traed trymion
Tu yma i lif Cedron.
Pa leisiau garw erchyll
Ar lechwedd y bryn tywyll
Yn llwon halogedig
Yn rhwygo’r wybr grynedig?
Wele loewon gleddau milwyr
Yn melltennu trwy’r drom awyr,


Mae’r Eryr ar daen,
Mae’r fyddin o'i flaen!
" Codwch—
Awn!"

"DAETH YR AWR"

DAETH yr awr! Iscariot, dos,
Yng nghudd ym mantell nos
I lys yr archoffeiriad, o flaen y fyddin fawr,
Cytuna bris y Ceidwad, daeth yr awr!


Mae’r llys yn eistedd
Mewn rhwysg a mawredd
Yn disgwyl dy ddyfodiad mwy,
Dos! brysia! gwerth ef iddynt hwy.
Na saf i ddadleu ynghylch y pris,
Derbyn y cynnyg cyntaf — brys!


"Daeth yr awr!"
Medd y Gwaredwr mawr
Ei hun, o awydd cariad llawn
I roi ei waed yn fythol Iawn.


Brys! adyn, brys! y mae
Caersalem fawr yn huno,
Ac nid oes neb yn cyffro
Ond archoffeiriaid gau.


Diffoddwyd yr holl lampau
A'r cyhoedd oleuadau.
Mae pob ystryd yn dywyll,
Yn unig mae gwawl erchyll


DAETH YR AWR. 555


Yn ffenestr palas Caiaphas draw,
Ac ambell ffagl fel arlun braw
Yn goleuo’r Lefiaid fry
I’r palas d
ŷ.


Iscariot, ffwrdd!
Mae’r arian ar y bwrdd.


"Daeth yr awr!" Dihunwch lengau!
Mwy na chloer eich amrantau.
Brys! parotowch y ffyn, a phlethwch goron ddrain,
Ac awchwch eich cleddyfau, a gloewch bicell fain.


Mae’r pridwerth wedi ei nodi,
Mae’r darnau wedi eu talu.


I’r gwersyll daw ar frys
Ýr archoffeiriaid,
Mae ffaglau tanbaid
Yn symud gylch y llys.

 
Par'towch y gorsen frau, a’r glaerwen wisg frenhinol,
A threfnwch y pren gau a'r hoelion llym arteithiol!


Wele y bradwyr!
I lan a'r Eryr!
Yn fyddin fawr aed, aed eich llengau dan ddisglaer arfau
Daeth yr awr!


"Daeth yr awr!"
Annwfn fawr!
Arllwysa 'th luoedd yn fil o filoedd o'th wersyll tân yn awr!


Daeth yr awr! yr awr i brofi dy rwysg a'th allu,
A bythol gadarnhau dy sedd neu 'i chwalu’n llwyr i'r llawr.


Gyr, gyr dy fyddin fawr yn donnau o lid du,
Pob ton yn ellyll rholfawr — ac annog hi
A'i chadarn allu i lwyr orfygu penwron Calfari,
Er bythol adfer trwy’r aruthr ddewrder yr orsedd gref, y goron deg, a’r bri,
A gollodd gynt ar faes y wynfa fry.

 


"Daeth yr awr!"
Brys! Simon brys!
O! gwel y chwys
Dros ael y Siloh
Hyd ôl y gwaed sy’n llifo


556 GWAITH ISLWYN,


Gan bwys y groes
A marwol ing y loes.
Mae rhinwedd yn y chwys, —
Ond brys, Simon! brys!
Hyd lethr Golgotha dwg un pen
O'r melldigedig warthus bren!


Tyrd gyfraith y nef yn dy gyflawn arfogaeth
I gwrdd â Meichniydd dynolryw’n llawn llid!
Dy fyrddiwn o barnau
Am fyrddiwn o feiau,
Gwagha ar ei ben eu digofaint i gyd!
Dy hawliau cedyrn oll, tarana â llid mawr!
I'w ateb yn ddi-goll, — "Daeth, daeth yr awr."


I
blannu baner tangnef a'r Duwdod ar y llawr,
I ddwyn y crwydriaid adref i fynwes y nef fawr,
I brofi hoen anhraethol,
A theimlo hedd anfarwol,
A dechreu cân dragwyddol —
"Daeth yr awr!"

"GORFFENNWYD."


GORFFENNWYD! clybu’r rhwysgfawr haul, a ffoes
O
ŵydd y byd, a’i wên yn wg a droes.
Pan welai 'i Grewr yn gogwyddo 'i ben
Fry cauai 'i amrant aur o flaen y nen!
A throai i ffau ddyfnaf y nos gudd
I geisio ei galarwisg fwyaf brudd —
Ac yn y fantell dywell, a'i lygad hardd ynghau,
Rhwng bydoedd dychrynedig ymdreiglodd gan dristau.


Gorffennwyd! suddodd y drydanol lef
Trwy greigiau fyrdd i fro’r ddaeargryn gref;
Pan glywodd ffoes ei hôn— deffrodd mewn llid —
Rhoes ru brawychol trwy ddyfnderoedd byd —
Er galw ei dychrynfeydd yn fyrdd i lan
A'i holl ysgydwol nerthoedd i'r un man,
I ymdorri oll ar unwaith trwy aruthr nerth a bri
Fel myrddiwn o fagnelau dan wadnau Calfari.


Gorffennwyd! aeth y gair yn fywiol li
O anfarwoldeb tua’r fynwent ddu.


A PHEDR A GANLYNODD O HIRBELL. 657


A nofiodd torfoedd ar ei donnau byw
Dan ddwyfol ddelw yn ol i fynwes Duw.
Gorffennwyd! teimlwyd grym yr adsain hy
Trwy’r Deml goronai ben Moriah fry!
Ymrwygodd y wahanlen gan ddwyfol rin y gair,
A gwelai byd prynedig y drugareddf a aur.

"NEF A DAEAR A ANT HEIBIO, EITHR FY NGEIRIAU I NID ANT HEIBIO DDIM."


POB lleuad a arianna nen-amrodau’r haul-gyfundraeth, dr
ŷ
Yn gorff o wyll dan ddyfnaf len, a gwaed bruddha 'i harianwedd fry!
Ond ymddisgleiria 'm geiriau cedyrn, pan
Dan fôr o waed y trenga pob lloer gan.


Y ddaear fawr, gan oed yn flin, a'i gwisg yn llwyd gan yrfa faith,
Newidia'n llwyr; ar newydd lun cychwynna fry i'w newydd daith,
Ond pan ar arall wedd adlunir hi
Anghyfnewidiol fydd fy ngeiriau i.


Ei bryniau beilchion, fry yn entrych wybr, y rhai ag her wrthdront y corwynt hyf
Ataliol furiau ar ei rwysg a'i lwybr, llwyr — llwyr ddynoethir eu sylfaeni cryf!
Pan ruthrant heibio’n erfawr gyrff o dân —
Myrdd "gyda thwrf," saif, saif fy ngeiriau glân.


Yn ei funudau olaf, yr haul fry a syrth i fythol gwsg rhwng llenni prudd!
Yn gawr blinedig cau ei amrant cu, ac yn ei lys ni enir arall ddydd!
Ond pan daen nos dragwyddol dros y nen
Fy ngeiriau i ddisgleiriant yn ddi-len.


Corwyntoedd barn, yn llawn elfennau llid pan chwythant drosodd o eilfydoedd draw

Diffoddant ddisglaŵr lampau’r nef i gyd, gan chwalu myrdd o ser i lwch mewn braw!
Ond pan o fod dysgubant nennau fry
Ar Allu Duwdod saif fy ngeiriau i!

“A PHEDR A GANLYNODD O HIRBELL."


NA chollbarner yn rhy lym un gwir gredadyn, pan
Fo’r brofedigaeth yn ei grym, a’i galon ynddo’n wan.
Nid marw yw yr anian well —
"Pedr a ganlynodd o hir bell."


558 GWAITH ISLWYN.


Ni feddai yr eondra gynt na’r galon wrol gref,
Teimladau dyn, diflannol ynt— efelly 'i deimlad ef;
Ond ni ddiffoddwyd yr egwyddor well,
Er gwanned oedd — "canlynodd o hir belL"


Nid oedd ei gariad at ei Athraw pur yn llosgi’n fflam o fewn ei fron yn awr,
Ond meddai eto un wreichionen wir, dra egwan, fel pelydryn cynta’r wawr,
Gwreichionen rhwng llif-ddyfroedd uffern hell
Ond dwyfol oedd — "canlynodd o hir bell."

E. MORGAN, CAERDYDD.


DYWEDWYD wrthyf, farw Ieuan bur,
Ac wylais pan ddywedwyd. Ond, ai gwir
Fod saint yn marw? A! nid angau mwy
Yr hyn a elwir angau; iddynt hwy
Porth anfarwoldeb hapus yw y bedd,
Gwawr dydd tragwyddol, dôr i balas hedd;
Ystorom arw, nid llonoddrylliad fu;
Ym mhorthladd hedd ar draeth y wynfa gu
Diangol yw y morwr; gwisg o bridd
Yn unig soddodd yn yr eigion cudd.


Diangfa oedd; rhyddhad o garchar blin
I awyr rydd eilfydoedd; newid hin —
Y rewllyd am yr hafaidd; gerwin fôr
Am hafn o fythol hedd yn nheyrnas Ior.
A wylais ddydd ei angau? Beth! ar ddydd
Ei ogoneddiad! Codais yn groes brudd
Amgylchiad ddygodd goron iddo ef,
Aniflanedig wobr anwylion nef.


Haeddasai’r gem gadarnach gist; y gem
Ddisgleiriai’n loew, ddi-rwd, dan hin ry lem
Mewn cleidy, angel ydoedd; haul rhy bur
I’r ddaear halog ddal ei wawl yn hir
Heb geisio taflu drosto aml len ddu,
A galw hynny’n ddiffyg. Ond ei fri
A'i nodwedd, pan ddisgynnodd llenni’r glyn
I gau’r olygfa flaen ein llygaid syn,
A'i hagor fry yng ng
ŵydd angylion nen,
Ei fri, bryd hyn, oedd araul a di-len.


E. MORGAN, CAERDYDD. 559

Ffo, enllib! ffo oddiwrth ei fedd ar frys.
Brycheuyn du nid oes i feiol fys
Ei nodi yma. Dyn, cywiraf ddyn,
A Christion i'w goroni, yma sy’n
Ymorffwys hyd y farn, pan, ger y hyd
Y cyfiawnheir ei egwyddorion drud.

 
Yng nglan yr angeuol li,
Yng ngholedd yr angeu li,
O’i flaen hwnt fe welai nef
Aurlannau yr oleunef;
Bro lawn o bur oleuni,
A Ior yn haul i'w rhan hi;
Bro sereiff a’u bras oror,
A'i llonder mal llawnder môr.
Gwelai’r wlad, a disglaer lu,
Ogoned, yn cydganu
Ar finion yr afonydd
Dan y ras-orseddfa sydd.


Gwelai gerub â gloew goron
Yn ei law, o flaen awel lon
Ato’n hedeg tan nodi, —
"Y brawd hoff, dyma 'th wobr di."


Howel, dan chwarae 'i delyn
Yng nghôl gwawl, yn angel gwyn,
Safai draw i'w roesawu
I’r lan o'r ymchwyddfawr li.
Ar aden oreuredig
Dygai ei frawd i deg frig
Derch yn nef, — “Edrych yn awr "
Lefarai dan lif eurwawr
Goleuni tanbaid gloewnef, —
"Oddyma noda y nef
Oludog, yn ymledu
'N olygfeydd chweg, teg, bob tu.
Gylchogylch gwel iach agwedd
Nefolion gwynion eu gwedd.
Gwel Uriel mewn gwawl eirian,
Odla’n bêr â’i dely’n ban.
Gabriel ar frig y wybren
Gwel yn uwch nag heuliau nen.
Clyw’r aneisor gôr a gant,
Foreu wawr ein hadferiant,


560 GWAITH ISLWYN.


Fawl i Dduw, floedd o hewyd
Am ddyddiwr, prynwr mewn pryd.


"Pa eirian degwch! y prynedigion!
Bennau hygaraf, bob un a'i goron,
Dan awyr heddwch i gyd yn rhyddion,
Uwch acw a welir yn iach eu calon.
Yn aur-balasau eu Ner heb loesion
Gogoniant ddygant, nef-foneddigion!


"O hynod olwg! weld dyn a'i deulu
O dan y goron a Duw’n ei garu;
Ei boenau drosodd; a'i ben, drwy Iesu,

Ogoned a’r angel, er gwan drengu.


"Mor iach, oll, a mawrwych, ynt!
Godidog werth gwaed ydynt.
Prynwyd hwy ar y pren dig,
Do, â gwaed y bendigedig.
Gwaedodd y bendigedig
I'w prynu, do, ar y pren dig.
Ninnau, wehilion anian,
Ddargipiodd, tynnodd o'r tân;
Drwy ei waed yn der wedi
Cannwyd a glanhawyd ni."


Goleuni tanbaid lanwai’r glyn o'i flaen;
Gloew lampau’r addewidion, fyrdd ar daen,
Yr addewidion am adgodiad gwell,
Arllwysent oleu trwy’r olygfa bell
Hyd eigion tragwyddoldeb, nes hyfhau
Ei galon yn yr ymdrech. Syllu wnai
Yn siriol ar y bedd; nid carchar du
Y galwai’r fangre, ond gorweddfa gu
I'r corff ymorffwys ynddi yn swyn hedd
I adnewyddu 'i nerth. Yr oedd ei fedd
Yn ddisglaer drwyddo. Iachawdwriaeth bur
Lewyrchai drosto’n enfys tangnef clir.

Anrheithiwr marwol! Pam y dygaist di
Brif berl trysorfa 'm serch, fy nghyfaill cu,
Fy nghuaf gyfaill? Diflas, diflas mwy
Yw cyfeillgarwch; gwaeda serch dan newydd glwy.
Ardystiaf ar dy feddfaen, Ieuan gun,
Y byddaf bellach gyfaill im fy hun


SALM. 561

Fel, ar fedd arall, na alarwyf mwy.
A! nid cyfeillion gwir mo honynt hwy
A elwir felly, felly berchir gan
Y galon ddidwyll. Cyfaill ym mhob man,
A than bob tymhestl, cyfaill, cefais di,
Mor gywir a fy nghalon f’hun i mi!


Ei frawd! trwy natur hoff ei frawd, ac un
Trwy brofiad; dau dyneraf frawd mewn un;
Brawd mewn ffyddlondeb a orbwysai fyd, —
Nac wyla, gyfailL Wylo, afraid yw;
Ei frawd, feithrinwyd yn yr unrhyw gryd,
Trodd wylo’n efryd syn am ennyd-— clyw
Y floedd trwy anadl addewidion Duw,
Hyf floedd yr olaf udgorn, olaf ddydd
Y ddaear, pan y dyrch, a'i babell bridd
Yn danbaid anfarwoldeb, a'i holl lun
Yn ddelw o ogoniant Duw ei Hun.

MAWL I DDUW.


FY enaid! O bendithia Dduw!
Rho iddo beunydd foliant byw.
A boed dy nerthoedd oll ar dân
O santaidd barch i'w enw glân.


O! nac anghofia 'i ddoniau fyrdd
Sy’n gwlawio 'u cyfoeth dros dy ffyrdd.
Ar dannau mawl chwareua mwy,
Cân am eu digonolrwydd hwy.


Yr hwn sy’n maddeu 'th feiau’n llawn,
Yn dryllio 'th gadwyn den mewn Iawn,
Yn soddi 'th bechod yn ei waed,
Gan glymu 'th elyn wrth ei draed,


Yr hwn wellha dy glwyfau du
A dwyfol falm o Galfari
Gan dynnu’r niwed o bob clwy, —
Fy enaid, Ef addola mwy.


Duw a'th gorona, fore a nawn,
A chyfoeth ei drugaredd lawn,
Gwaredu 'th fywyd hefyd mae
O ddistryw a thragwyddol wae.



562 GWAITH ISLWYN.

I'th lawn ddiwallu nos a dydd
Goludoedd o ddaioni rydd;
Y mae bendithion pur ei ras
Mor aml a gwlith y ddaear lâs.


Dy gamrau âg ymenyn ylch,
A môr ei radau lif o'th gylch;
Fy enaid, O! addola Dduw,
A'm nerthoedd oll, ei enw gwiw.

O DDYFNDER MOR.


O DDYFNDER môr euogrwydd du
Y llifais Arglwydd arnat ti;
Fy ngweddi ar dy orsedd clyw,
A sylwa ar fy nghalon friw.

Os creffi ar anwiredd, pwy
A saif o flaen dy wyneb mwy?
Ond mae maddeuant gyda thi,
Ac fel y'th ofner hedd i ni.

Rho imi, Arglwydd, falm dy glwy,
Ac ar dy air gobeithiaf mwy;
Disgwyliaf am dy wên yn awr
Yn fwy na’r gwylwyr am y wawr.

Disgwylied Israel am ei Dduw,
Addoled ef â chalon friw;
Tangnefedd sydd, a noddfa gref,
Ac aml ymwared gydag Ef.

Y BUGAIL MAWR

YR Arglwydd yw fy Mugail mawr,
Ni theimlaf eisiau ar y llawr.
O dan ei law arweiniol ef
Dan ganu rhodiaf ffordd y nef.

Gwna imi orwedd, hafaidd hin,
Mewn porfa welltog, lawn o rin,
Tra chwyth aroglau’r nef oedd fry
Ar hedd-awelon Calfari.

At ffynnon prynedigaeth lawn
Tywysa 'm henaid, fore a nawn,
A disycheda dorf ddi-ri
Gerllaw ei dyfroedd tawel hi.


SALM. 563

Pan af ar grwydr o'r gorlan bur
Fy nghanlyn wna trwy anial dir;
O safn y bleiddiaid mae’n rhyddhau
Gan ddychwel f’enaid o bob bai.

Er mwyn ei enw arwain fi
Yn gywir i'r baradwys fry,
Hyd lwybrau ei gyfiawnder pur
Trwy fyrdd o faglau’r anial dir.

Pe rhodiwn ar hyd glyn y bedd,
Pe gwelwn angau ar ei sedd,
Nid ofnwn niwed na braw syn,
O'm blaen goleuni lanwai’r glyn.

Anfeidrol Fugail! yr wyt ti
A'th dyner wialen gyda mi,
Ac yn yr ymdrech olaf hon
Fy nghysur fydd fy ffydd, a'th ffon.

Yng ngwydd fy holl elynol lu
Ariwyi haelaf ford i mi,
A phiol fy nymuniad sydd
Yn llawn i’r ymyl, nos a dydd.

Daioni a thrugaredd, trwy
Fy mywyd, a’m canlynant mwy.
Preswyliaf, Arglwydd, yn dy d
ŷ
Nes fy rhyddhau i'th wyddfod fry.

ARGLWYDD Y LLUOEDD.

ARGLWYDD y lluoedd, ein Hior ni!
O! mor ardderchog yw dy fri,
Yr hwn osodaist uwch y nef
Ogoniant dy freniniaeth gref.

O enau plant y peraist fawl
A gallu i ostegu’r sawl
Na seiniant dy ardderchog glod
Ti Awdwr bydoedd, Awdwr bod!

Pan syllwyf ar y nefoedd fry
Godidog waith dy fysedd di,
Y lloer a'r ser a denaist draw
Fel perlau oddiar gledr dy law,


564 GWAITH ISLWYN.


Pan syllwyf ar eu mawredd hwy
Pa beth yw dyn, O Arglwydd, mwy
I ti ei gofio, neu o'r nef
Ymweled â'i breswylfod ef?

Y GROES.


GWELD Iesu ar y pren dan bwys euogrwydd byd,
A'r gyfraith ar ei ben yn arllwys cronfa 'i llid,
Enynna ynnof fywiol dân
O gariad at ei enw glân.

Yn ymyl croes fy Nuw eisteddaf fore a nawn,
Llif yno ddyfroedd byw, tardd yno fôr o lawn,
A heibio hon y ffrydia lli
Dyr fy angerddol syched i.

Nid ofnaf ing na gloes na dyfais uffern gref,
Pan syllwyf ar y groes, a gwaed ei galon Ef
Yn llifo dros ei wisg brydnawn,
Yn frwd gan rin anfeidrol lawn.

Mae’r gwaed-ddefnynnau drud dreiglasant dros y pren
Ar gadw fry i gyd yng nghawg trugaredd nen.
Anturiaf at yr orsedd mwy
Yng ngrym eu digonolrwydd mwy.

Gydwybod! dring i lan i fynydd Calfari,
Gwel Dduw’n ymgrymu dan lwyth dy euogrwydd  du!
A thawed dy gyhuddol lef
Fyth, fyth o flaen ei angau Ef.

Yn llonydd eistedd mwy gan ganu wrth y groes,
Na rydd i'm calon glwy, na phâr i’m mynwes loes.
Hedd mwyach! Ýmlonydda di
Dan aden waedlyd Calfari.

Fy enaid clwyfus, bydd gynefin iawn â'r groes,
Dring yno nos a dydd am falm iachâ dy loes —
Y balm o Gilead yno gaed,
Balm dynnwyd gynt o'r drutaf waed.

COFIAF CHWL

ETIFEDD Gorsedd Duw— rwy’n myned at fy Nhad,
Yn natur dynol ryw, i'w fynwes dyner fad.
Ond dan y goron danbaid try,
Ganlynwyr ffyddlawn, cofiaf chwi


EMYN. 565


'Rwy’n myned at fy Nhad byth mwyach i'w fwynhau,
O flaen ei wyneb rhad i fythol lawenhau,
Ond pan ym môr ei fwyniant fry,
Fy hoff ddisgyblion, cofiaf chwi.


'Rwy’n myned at fy Nhad i'm llys brenhinol draw,
Lle mae’r deyrnwialen fad yn barod fry i'm llaw;
Ond pan uwch bydoedd daliaf hi,
Fy hoff ddisgyblion, cofiaf chwi.

'Rwy’n myned at fy Nhad, i blith seraiffiaid nen,
Rhai folant f’enw rhad o gylch fy ngorsedd wen,
Ond rhwng mel-fwyniant eu tôn fry —
Tôn fyth-chwyddedig — cofiaf chwi.

O! cofiaf chwi pan fydd y bydoedd tan fy nhroed,
O cofiaf chwi! rhai fu mor ffyddlawn im erioed!
O rhwng y dwyfol swynion fry,
Ar frig gogoniant, cofiaf chwi!

HAWDDAMOR, NOS.

FY Nuw! fy Nuw! bendigaf Di
Am flodau iechyd, blodau bri;
Ac am eu torri a'u gado’n wyw
Bendigaf di fy Nuw! fy Nuw!

O! tyner oedd yr awel fwyn
Anadlai arnaf hedd a swyn;
Ond gwell y dymhestl; profais drwy
Ei chwythiad hi dynerwch mwy.

Islaw y lloer gwell wybren ddu,
I’n troi at wybren loewach fry;
Hawddamor, nos! trwy 'th lenni prudd
Canfyddaf wawr tragwyddol ddydd.

Gorffwysdra pêr wobrwya’r groes,
A llwyr iachad ganlyna’r loes;
Rhaid, rhaid i'r fynwes deimlo drwyddi
Pan dynnir gwraidd y drwg o honi.

Trugaredd gwywo y cysuron pêr
O’m blaen a daenai llaw Rhagluniaeth Ner;
Enillfawr fu y golled honno im,
Enillais nefoedd, ac ni chollais ddim.


566 GWAITH ISLWYN.

CYFAILL.*

AM lawer blwydd bu’n troi o gylch ei fedd,
Mae er y ddoe o'i fewn ar dawel wedd.
Os trwm ei faich tra yn y fuchedd hon,
O! ysgafn yw’r dywarchen ar ei fron.
Llewyrcha mil o addewidion ter
O'r ogof nosawl hon, fel mil o ser;
Mae dôr i fythol ddydd o'r ddofn gell,
A rhydlyd borth i fyd i fywyd gwell.


Gorffwysa di! a dod dy ben i lawr
Ar arffed iâ y bedd mewn hedd yn awr.
Mae’n bryd it orffwys, O! y mae yn bryd
I'r fron dawelu wedi gwaedu cyd,
I fys oer angau gau dy aeliau blin
Yn nhawel nos y bedd a'i falmaidd hun.
A! nos y bedd! mae honno fyth yn dawel,
A thrwyddi hi ni chwyth ystorm nac awel.

O'th fynwes flin ni chwyd ochenaid eto,
Ac ni ddaw gwaedd i'r distaw fedd i'th ddeffro.
Rhy ddwfn yw ym mro distawrwydd obry
I leisiau’r byd ei gyrraedd i'th gythryblu;
Rhy ddwfn, rhy hell; ond A! mae un all alw
Y bedd i'w
ŵydd, a thorri hun y marw,
A chyfaill hoff a brawd i ti yw hwnnw!
O! forau teg ddwg ar ei awel fry
Yr hollalluog lef o'r nef i ni!
Deg wawr a egyr ddôr y fynwent brudd
I ollwng iddo y tragwyddol ddydd!
Hardd, O! fy nghyfaill, fydd dy wedd bryd hyn
Wrth ddod i fyny o gysgodau’r glyn,
Wrth esgyn tua’r nef yn dawel fry
Rhwng chwyldroadau’r farn a'i thyrfau hi,
Yn dawel fry! a'r beddau’n wag bob llaw,
Y byd yn cau a'r nef yn agor draw.

REBECCA JONES, PONTYPRIDD.


LAN y d
ŵr elai’n hyderus, — Iesu
Eisoes yno’n daclus!
Gwelai draw argoel di-rus
O nefolaidd lan felus.

* Mr. D. Bowen, Abertawe.


CAROLINE MARY DAVIS. 567


Gwelai fyd y bywyd di-ball,
A goleu dyrrau gwlad arall.


Ar obennydd ffydd ei phwys — mor addien
Ymroddai i orffwys;
Goleuni dydd yn y glyn dwys,
Goleuni i gerdded glyn gorddwys.


Croesawiad corau Seion, — a'i cherddi
Ddoent i'w chwrdd i'r afon;
Melus tua’r ymylon
Oedd tonau hedd tannau hon.


Hyd ochrau nef dechreu wnant — âg engyl
Gyngherdd y gogoniant,
Hithau dyn yr odiaeth dant
Ar ymylau’r môr moliant.

 
Efrydu’r hen fwriadaeth — yw ei gwaith,
Chwilio’r gwythi helaeth
Geir o rasol adferol faeth,
Drwy ddirfawr ddyfnderoedd arfaeth.


Iach mwyach uwch amheuaeth, — a llonydd
Uwch llanw anghrediniaeth,
Ar ol y storm a'r alaeth
Hinon nef ei phrydnawn wnaeth.

I arlwy fawr yr ail fyd, — yr elai
Ar ol hirfaith dristyd;
Gylch y bwrdd cafodd gwrddyd
A glân deulu’r gân i gyd.

CAROLINE MARY DAVIS.*


DROS Aber-Iâ ymdaenodd cwmwl du,
A daeth yr hwyr a'i gawod ddagrau fawr,
Yn sydyn, do — pan na feddyliem ni
Ond am y wawr.


'R oedd seren deg yn gwawrio ar y byd
Yn llawn o bob prydferthwch a phob swyn,
Hi oedd canolbwynt serch y teulu i gyd,
Sef Carey fwyn.


* Bu farw yn Aber-Iâ, Penrhyndeudraeth, Gorffennaf 17, 1877, yn 18 oed.


568 GWAITH ISLWYN.


Rhy ddwyfol oedd ei gloewder i barhau
Ar farwol rod — rhy anwyl oedd yn wir
Gan Iesu a’i angylion, in fwynhau
Ei gwên yn hir.


Mewn teulu’n ofni Duw, pan fyddo un
Yn mynd a gormod o’n serchiadau ni,
Mae Iesu’n trugarhau, ac ato 'i Hun
Fe 'i cymerth hi.


Mor fyr yw deunaw mlynedd! Ond mor faith
I gael mwynhau Angyles gyda ni!
Wrth gofio yr ymdeithydd, hir fu 'th daith,
O Carey gu!


Cael gormod nefoedd ar y ddaear hon
Yw colli nefoedd y tu draw i'r bedd;
Mae Iesu yn cymysgu’r prudd a'r llon
Er mwyn ein bythol hedd.


Os swynol oedd y Nef, rieni cun,
I chwi o'r blaen, mwy swynol yw yn awr —
Oblegyd mae eich merch anwyla’n un
O'r “dyrfa fawr."


Mae dolen newydd rhyngoch’nawr a'r Nef,
Un ddolen llai wrth hyn o farwol fyd;
Fel hyn, o un i un, datoda Ef
Y rhwymau i gyd.


Mor hawdd fydd marw pan fydd marw mwy
Yn ddim ond mynd at yr anwylaf rai
Garasom yma — oll uwch loes a chlwy,
Heb boen na bai!


Wrth gofio’r ymadawiad yn y glyn,
Yr ingol loes, a’r olaf ysgwyd llaw,
Mor felus fydd cyfarfod wedi hyn
Yr ochor draw!


O! fendigedig, ddwyfol ochor draw!
Yr ochor draw i gystudd, poen, a chledd,
A’r ochor draw i bechod — daw! fe ddaw!
Tu draw i'r bedd!


O! plannwch flodau o'r siriolaf liw
Bob gwanwyn ar ei bedd, sef lliwiau hoen,
Fel haedda un sy’n canu gyda Duw
A chyda’r Oen.


CANED CLYCHAU RHONDDA. 569


Mae’n gamwedd wylo gormod ar ol un
Na wyla byth ond hynny; un sy i ddod
O lwch Meirionnydd, fel yr Iesu ei hun,
Yn gerub fod.

Y PARCH. DAVID MORRIS, CAPEL HENDRE,
SIR GAERFYRDDIN.


NI sonnid am ei ddysg, ac eto, pwy
Ddywedai’n well am rinwedd marwol glwy?
Dyferai 'i weinidogaeth ar y llu,
Gan yr eneiniad dwyfol oddi fry
Mor felus traethai am faddeuant llawn,
A'r ffordd i fywyd trwy anfeidrol lawn!
Bod yn offeryn iachawdwriaeth dyn,
Pa fraint gyffelyb yn y nef ei hun?
Etifedd oesoedd, anherfynol fod,
Ei achub ef sydd hawl i fythol glod;
Tydi a gefaist yr uchelfraint fawr,
A'th le sydd uchel yn y nef yn awr.

CANED CLYCHAU RHONDDA. •


CANED clychau Rhondda’n awr,
Gyda’n hun-llef fonllef fawr;
Ac er bod y gaua’n dod,
O! na wywed dail y coed —
Aer Broneirion ddaeth i'w oed,
Aer y Cymro gore erioed.


Dowch i fyny, dowch yn fyrdd,
Dan fanerau, lond y ffyrdd,
Dowch, wynebddu fyddin fawr,
Seiniwch glod eich llyw yn awr;
Offerynau tawel hedd
Yw ei arfau, nid y cledd;
Cenwch iddo ddydd ei oed,
Aer y Cymro gore erioed.
Cymwynaswr fel ei dad
Fyddo mwy’r etifedd mad;

• Ar ddyfodiad Edward Davies, Llandinam, i'w oed, Mehefin 1873. Y gerddoriaeth gan Mr. J. Thomas, Blaenannerch, yn awr Llanwrtyd.


570 GWAITH ISLWYN.


Nid oes eisiau mynd ymhell,
Nid oes eisiau cynllun gwell;
Un yw gweddi Cymru fad, —
Boed y ’tifedd fel y tad!


Oes o haf fo 'i oes o hyd, oes o hedd;
Oes o gân fo 'i oes i gyd, hyd y bedd;
Boed y dwysen fel yr had,
Boed y 'tifedd fel y tad!
Cenwch glychau, seiniwch glod
Aer y Cymro gore erio'd.

GWEDDI.


DAN y cauwyd dorau Eden, safai’r euog yno’n hir,
I fwynhau yr olwg olaf ar y ffrwythau dros y mur;
Toddai ymysgaroedd cariad wrth ei weled dan ei friw,
A gadawodd yn ei ymyl allwedd Eden uwch ei rhyw.


Gweddi yw yr allwedd honno, agoriad yw i'r wynfa fry;
Nid oes porth ar gaer y nefoedd a wrthsaif ei gallu hi;
Ymagora’r nefoedd iddi hyd yr orsedd ddwyfol bell,
Fel yr ymagorodd unwaith o flaen yr archoffeiriad gwell.


Mae y gwylwyr archangylaidd yn ei chroesaw ar ei thaith,
Pan y delo Gweddi heibio, agor, agor, yw ei gwaith;
Mae ei thrwydded yn ei mynwes, gall ei ddangos os bydd raid,
Ysgrif o dan law cyfiawnder, dan sel fawr o werthfawr waed.


Dyma’r ddolen sydd yn uno gwendid dyn a gallu Ior,
Dyma’r traeth i roi ein llestri ar y dwyfol fythol fôr;
Dyma’r aber lle cyferfydd afon dymuniadau dyn,
A di-derfyn fôr trugaredd, sydd a'i led fel Duw ei hun.


Gallu hon, nid meidrol ydyw, O! nid dynol yw y fraich
Fo i'r lan ar ystum gweddi, ac nid gormod unrhyw faich;
Mae pechadur ar ei liniau wedi mynd yn fwy na dyn,
Yno mae y gwan yn gadarn, â chadernid Duw ei hun.


Braich yr angel ydoedd rymus sydd yn cynnal sail y byd
Ac yn dal y Greadigaeth wrth ei gilydd led a hyd,
Ond ar Peniel cyfarfu a'i grymusach, plygodd hon
Dan y weddi, er na phlygodd erioed dan bwys y ddaear gron.


LAZARUS. 571


Olwyn fawr ei nerth a'i gallu ydyw Gweddi; pan y try,
Fe ysgoga holl olwynion nef a daear gyda hi;
Rhoed Rhagluniaeth ar y ddaear, Eiriolaeth yn y nefoedd fry,
Y ddwy olwyn fawr, i symud ar ei hechel ryfedd hi.


Gweddi yw y porth i deml
Amlygiadau wyneb Duw
Gweddi a
(Gadawyd yn anorffennol ar ganol brawddeg.)

LAZARUS.


“Y MAE fy nghyfaill Lazarus yn huno,
Yr wyf yn myned i'w ddeffroi o'i fedd."
Mor hyf siaradai! 'R oedd awdurdod ganddo
I rwymo angau, a malurio 'i sedd;
'R oedd ganddo lef a wnai i angau wrando,
A rhoddi ei brynedig bwrcas iddo.
Nid honnwr gau sydd yma’n ymfawrygu;
Diddym wr angau yw’r Ymdeithydd blin!
Mae ynddo fawredd, ynddo ddwyfol allu,
Mae anfarwoldeb hefyd ynddo 'i hun;
Pan gwyd ei fraich, tyr heiyrn byrth marwolaeth,
A chryn y bedd, gan addef ei lywodraeth.


"Y mae fy nghyfaill Lazarus yn huno."
Ei gyfaill? Yr oedd ganddo ambell un!
Un yma a thraw yn rhoi ei galon iddo,
Ei galon iddo, pennaf Gj$$faill dyn;
Ac er ei fod yn hawddgar oll i ddenu,
Un yma a thraw geir eto yn ei garu.


“Fy nghyfaill." Peth cyffredin yw yr enw;
Ond pwy all blymio 'i ystyr llawn al bwys?
Adwaenwn un oedd ddigon mawr i'w lanw,
'R oedd yno ddyfnder, yno sylwedd dwys;
Caed môr o ystyr yn yr enw yno,
Nad oedd gan amser linyn idd ei blymio.


Lle oer a phrudd yw’r bedd i ddodi ynddo
Anwylyd cu, i huno hirfaith oes;
Pa le mae’r llun angylaidd? O, ai yno!
Fe rydd pob newydd adgof newydd loes;
Iesu! y mae f’anwylyd innau’n huno,
Pa bryd y deui heibio’r bedd i’w deffro?


572 GWAITH ISLWYN.

MEWN GWLAD BELL.*

MEWN gwlad bell mae’n galed byw — A! mor bell
Dy Gymru bur heddyw;
Pallai dawn, er pelled yw,
A dweyd anwyled ydyw.


Pen Arth a'i gopa nerthol, — hen Gaer Dydd,
Ger y dôn Hafrenol,
A Llandaf plith meillion dôl,
Ddaw i olwg feddyliol.


Dy galon a'th gred gwylia! — d' hoff awr i
Ado Ffrainc a wawria;
Nid yw pluf ei rhwysg ond pla;
Gwell tawelwch Gwyllt Walia.

CLOD LLETYGARWCH. **


CEIR yn nhorfoedd Caernarfon — wr hynod
Ei riniau at estron;
Fel cyfaill daw, a'i law lon
Roesawa deithwyr Seion.


Dygodd o Geredigion — garedig
Radau i fro Arfon,
A chlywaf iach alawon
Dwyfol lais y Deifi lon.


Lle hoenfawr, llawenfyd — bore a hwyr
I bererin esyd,
Enwog le i deimlo’n glyd,
Lle uchradd megys Llechryd.


Brawd i saint, a'i briod sydd — chwaer iddynt
O uchraddol grefydd,
Dros dirion hoff feibion ffydd
Mawr boen a gymer beunydd.


Yn ei heddwch a'i nodded — Duw fyddo
Hyd fedd yn eu gwared;
A'r oes i'r eiloes pan red,
Gwlad engyl fo 'u gloew dynged.


* Englynion i Mr. John Davies, Caerdydd, pan oedd yn aros yn Ffrainc.
** Englynion cyflwynedig i Mr. a Mrs. Stephens, Uxbridge-Square, Caernarfon.


D. R. STEPHENS 573

D. R. STEPHENS.

STEPHENS! A, enw cyffrous i Gymro,
Cynhyrfa deimladau llenorion y byd;
Dros wefus y bardd fel dil mel y mae’n treiglo,
Ac i'r hynafiaethydd mae’n felus a drud;
Stephens! mae’r enw yn deffro adgofion
O lenor dysgedig, a chyfaill cariadlon,
Y pennaf ei ddoniau, y mwynaf o ddynion,
A'r uchaf ei glod o feib Gomer i gyd.


Yn wrol lanc ym more 'i oes
I lwyr ddiwydrwydd fe ymroes,
Gan benderfynu mynd ymlaen
Er rhif y rhwydau oedd ar daen
Dros dyner lwybr ieuenctid, rhoes
Ei fryd ar ddod yn gawr yr oes.
Dros feusydd ffrwythlon llawnion llên
Yn fynych syllai gyda gwên
Wrth oleu canwyll, pan nad oedd
Masnachol dwrf nac erchyll floedd
I beri cyffro, pan fai taw
O orsedd gwyll yn taenu braw
Hyd gyrrau’r arddrych. Llawer tro
Pan fyddai Abergwyddon fro
A'i holl drigolion yn ddi-feth
I deyrn y nos yn talu treth,
Efe oedd effro gyda’r gwaith
O gyfansoddi gwreiddiol draith.


Gwreiddiolder meddwl, dull, a dawn,
Feddiannai, a thrysorfa lawn
O bob gwybodaeth. Medrai ef
Athroniaeth byd, athroniaeth nef.
Deallai y gwyddiannau oll
A'r celfyddyaau yn ddi-goIl.
Oedd hyddysg yng nghyfrinion llên
Derwyddon a phrydyddion hen.
Helyntoedd holl deyrnasoedd byd
Adroddai â deallus fryd;
A chyfundrefnau’r nefoedd gron
Gaent gylchle eang yn ei fron.


Nid trwy ddylanwad mawrion byd y daeth
I sylw, bri, a pharch. Nid aur a'i gwnaeth


574 GWAITH ISLWYN.


Yn fawr yng ngolwg mawrion. Nid trwy hawl
Ucheledd bonedd y cyrhaeddodd fawl;
Na, am ei lwyddiant a'i anrhydedd cun
Dyledwr oedd i'w ymdrechiadau 'i hun.
Trwy rym athrylith, ac ymroad llawn
I fyfyr, trwy ymdrechu fore a nawn,
Y dringodd dros ataliol fryniau fyrdd
Nes cyrraedd gorsaf bri, a phalmwydd gwyrdd
Anfarwol glod. Gwir, yn nhywyniad gwawr
Ei einioes, na chyfrifid ef yn fawr —
Fel na chyfrifir eraill lanciau sydd
Ymhlith y dorf yn cychwyn gyrfa 'u dydd —
Er hyn, pan ymddadblygai 'i ddoniau mir
Yn loew a phrydferth megys blodau ir,
Pan wrth y bwrdd yn rhoi desgrifiad rhad
O gampau a chyfreithiau hen ei wlad,
Pan drwy y wasg yr ymddisgleiriai’n gu,
Pan o'r areithfa y llywyddai’r llu,
Ei enw gerfid gyda boddus wên
Ar faen bytholiant ymhlith cewri llên.


Anfarwol Stephens! Hyfryd yw y swydd
O adgoffhau dy riniau. O mor rwydd
I fardd adgofio bardd, a chanu 'i holl
Rinweddau ar gyfodlddull yn ddi-goll!
Cyffrous i'n serchiadau yw’r coffhad
O'th ddoniau mwynion a'th ragorion mad;
Eu coffa, digon yw; ni raid wrth baent
I
'w gorddarlunio’n rhwysgfawr, herwydd maent
Yn ddisglaer oll o hanfod, ac yn hardd
Naturiol, fel y wridog wawr pan chwardd
Yn drylon uwch y dwyrain borth, neu pan
Lewyrcha’r haul ar orsedd y gwawl can.


Haelionus ddoniau, berlau’r nef
A afradlonwyd arno ef
Anwylyd anian!
Yng ngwawr ei ddydd tywalltodd hon
Anfarwol lif o ddawn i'w fron
O'i phiol arian.


Efe, fel y winwydden gun
Yn plygu dan ei llwyth o win
Gyfrannai fendith;


D. R. STEPHENS. 575


Caem ymddigoni fore a nawn
Ar glysdwr o’r pereiddiaf rawn —
Grawn ei athrylith.


Eanged oedd cylch ei wybodaeth! Pwy all ei amgyffred i gyd?
Ei ddeall grafangai athroniaeth a holl hanesyddiaeth y byd;
Olrheiniai helyntoedd yr oesau, y brwydrau, a'r troion di ri,
O frwydr arwrol Caerdroia hyd syrthiad Hungaria o'i bri.
Ei feddwl cyrhaeddgar grafangai syniadau athronwyr y byd;
A gwyddai orchestion rhyfeddol y mawrion llenyddol i gyd;
Ei gof oedd drysorfa ddihysbydd o berlau ysblenydd y beirdd,
Lle cadwai brif geinion eu hodlau a phrif addurniadau eu ceirdd.

Ei dafod oedd arfedig ag hyawdledd greddfol pur,
A llymach oedd ei eiriau nag edlymaf saethau dur.
I'r frwydr ai o du ei wlad fel arwr dewr, a'i gledd
Gylchogylch yn pelydru gwawl tragwyddawl wir a hedd.
Ar faes y wasg pan frwydrai’n hyf a'i arf i'r lan, dros hon,
Gelynion fyrddiwn er mor gryf arswydent ger ei fron.

Ei wlad! mor gywir oedd ei serch at hon!
Hi oedd anwylyd ei ryddgarol fron.
Ei gariad ati oedd y ffynnon lawn
Lle tarddodd ffrwd ei areithyddol ddawn.
Defnyddiai arf y wasg i'w diffyn hi
Rhag cleddau’r cyfryw fynnent droi ei bri
I warth, a'i nerth i wendid, gan sarhau
Ei barddas a'i llenyddiaeth trwy fodd gau.
Elynion Gwalia! gwrthwynebwyr blin!
Mor aml y cawsoch deimlo treiddiol fin
Gwladgarol gledd ein Stephens, pan i'r gad
Y rhedai gyda’r floedd "Fy ngwlad! fy ngwlad!"
Ei frwd areithiau fel colofnau dur
Barhant yn dystion o'i wladgarwch pur;
A'i urddas fel gwladgarydd fydd yn fawr
Tra byddo mab i Gomer ar y llawr;
A'i fri flagura yn ei gyflawn rwysg
Tra thon yn Hafren a thra dwfr yn Wysg.

Trwy gyndreigliadau amser medrai ef
Ddynodi aml helyntoedd Gwalia gref.
Ei araeth ddisglaer daflai oleu llawn
Ar frudiau’n gwlad o'i bore hyd ei nawn.
Carnhuanawc arall oedd. Ni roddai ef
Ddychymyg wael yn lle hanesiaeth gref;
Ac ni chynhygai res haeriadol faith,
I lenwi gwagle man na fyddai ffaith.


576 GWAITH ISLWYN.


Ni chelai’r digwyddiadau anhoff, mwy
Na’r godidocaf rai. Darluniai hwy,
Yr hoff a'r anhoff, da a drwg, ynghyd,
Fel pe’n ysgrifio hanes estron dud.
Trychwalai bentwr dychymygion hen,
A'r hyn fai wir adroddai gyda gwên.
Olrheiniai hynt pob brodawr, arfog wr,
O ddydd Caswallon fawr hyd gawr Glyn D
ŵr.

Ei gedyrn wir areithiau dros ei wlad
Oent drylawn o wrhydri dinacad.
Milwrol gywair a arferai ef
Fel gwron hyf yng ngwyneb byddin gref.
Y pentwr hagr o drawshoniadau du,
I'n herbyn luniwyd gan elynion lu,
Ar ben y gâlon dynnodd ef i lawr
Fel Samson ddewr ar frig Philistia fawr.
A tharian gwiredd troai yn ddi-lwfr
Bob cledd yn babwyr, a phob saeth yn ddwfr.

Ei iaith a garai fel y carai 'i wlad,
Pan ddaeth yn wr bu iddi’n dirion dad
A chadarn amddiffynnwr; cafodd hon
Y fangre fwyaf cynnes yn ei fron.
Ar dannau cof chwareuai yn ddi-goll
Ei phigion barddol a llenyddol oll.
Diffynnai 'i bonedd, gan amlygu 'i rhwysg,
Ar lannau Derwent fel ar lannau’r Wysg.

Ei waed ymferwai trwy 'i wytheni clyd
O'i galon hyd ei draed, gan ffoi i'w gryd
A chochi’n ddigllawn ar ei ddwyrudd, pan
Sarheid ei iaith, ni waeth ymha ryw fan —
Caerodor ai Caer Dydd; ei serch oedd frwd
Ar lannau’r Tafwys bell un fodd ag Ebwy ffrwd.

Ymreddfai glewder beunydd yn ei fron,
Egwyddor llwyrymroddiad lywiai hon.
Cyn ymgymeryd ag un gwaith o bwys
Meddyliai, pwyllai, adfeddyliai’n ddwys,
Rhagbrofai 'i nerth a'i gymhwysderau, gan
Droi tremiant rhagolygawl i bob man
Lle nythai rhwystr, yna 'i efryd iawn
Esgorai’n brydlon ar ymroad llawn,
Yr hwn, fel gorchwyl-roddwr ar ei daitfai
Yn rhoddi gwaith ar bawb, a phawb ar waith,


D. R. STEPHENS. 577


Gyflogai ei gyneddfan a'i boll ddawn
I ddwyn ei farn i fuddugoliaeth lawn.


Ei air oedd fel ei weithred; a'i ddi-ffael
Weithredoedd fel ei eiriau, oll yn hael.
Dau agwedd ni adwaenai; yr un oedd
Ei agwedd yn y cudd ag yn y coedd;
Nid Cristion yma, ac anffyddwr draw,
Ond Cristion ym mhob man, pell a gerllaw.

Ei galon yn ei wyneb oedd; a'i wedd
Oedd ddrych o'i feddwl a'i dufewnol hedd.
Ni wasanaethai unrh
yw amcan brwnt
Mewn dirgel fodd; ymgodai 'mhell tu hwnt
I gylch dibenion gau. Dyrchafai’r gwir
Fel yn ei gredo, yn ei fywyd pur.
Ei addewidion ffrwythent mewn cwblhad,
Yr oll ddywedai a gyflawnai’n rhad.
Diniwed fel colomen oedd; pa bryd
Y bu y fath ddawn a'r fath gywirdra ’nghyd
Yn yr un fron? Mabanaidd oedd ei wên
Er mai rhyw Ercwlf oedd ar feusydd llên.
Ymgomiai’n llon a rhydd a’r glowr tlawd
Heb wrido, fel pe iddo’n dyner frawd.

Uwch profedigaeth oedd mewn gwael ystad,
A dilwgr ymhlith mawrion penna 'i wlad.


Ei gredo arddeledig ddaliai’n dyn
Mewn modd disigl a gair di-dwyll; er hyn
Ni wyrai i eithafion o un tu,
At ei wrthbleidiau tra chymedrol fu.
Tra y diffynnai 'i farn ei hun, heb loes
Gwrandawai eraill yn dyfarnu’n groes.


Ei eiriau tyner a anadlent hedd,
A delw haelfrydedd chwarddai ar ei wedd.
Ei gannaid lygaid, fel dwy belen dân
O fron yr huan, neu fel pelydr glân
O goron angel, daflent ynni trwy
Y galon lesg. Athrylith trwyddynt hwy
A ymddisgleiriai yn eu llewyrch hardd,
Gloew ddrychau dawn, cyfryngau meddwl bardd.
Hwy welent anian fel y dylai bardd
Ei gweled, oll yn rhyfedd, oll yn hardd,
Ac oll yn dangos Duw. Adwaenent ol
Ei ddwyfol fys ar fynydd, ffrwd, a dôl.
  


578 GWAITH ISLWYN.


Gorfawrion oeddynt fel ei ddoniau ter,
Pur fel ei feddwl, disglaer fel y ser
Pan dduaf yw y nos. Brycheuyn du
Nid oedd i huddo eu hysblander cu.
Pan yr areithiai ar ryw bwnc o bwys
Eu trem oedd benderfynol, sobr, a dwys,
Mor sobr a'i feddwl. Cynrychiolent holl
Syniadau’i fron; amlygent yn ddi-goll
Tu faes a oedd tu fewn; ei galon lân
A threm ei lygad ydoedd ddiwahan.

A phan y troai disglaer lif ei ddawn
I redle pynciau difyr, llon a llawn
Oedd eu hagweddiad; swyn dyddordeb roent;
Ac fel ei feddwl, dianwadal oent.


Ei dymer bob amser oedd dawel a siriol,
Fel wybren ddigwmwl yn gwenu mewn gwawl;
Didwylledd oedd un o'r nodweddau rhagorol
Enilloedd i'w enw ymddiried a mawl;
Sirioledd ei anian, a swyn ei areithiau,
Ac arddull lifeiriol ei ysgrifeniadau,
Ai aidd dros lenyddiaeth ei wlad a'i defodau,
Fawrheir drwy’n gororau a llafar di-dawl.

 
Nid fel pryfedyn gwael yn glynu wrth y llawr
Oedd, ond fel seraff haul yn cychwyn gyda’r wawr.
Dros gant y byd ymdaflai ef
I ganol rhyfeddodau’r nef.


Yn ei awenyddol yrfa ffoai hwnt i blith y ser
Sydd yn hongian yn y gwagle wrth linynau troedle Ner.
Gyda’r beirdd hyd ffyrdd Gaer Gwydon brysiai ar adenydd mawl
I ddarganfod heirdd ddadblygion gallu Ior ym mroydd gwawl.


Oedd ei galon yn feithrinfa egwyddorion rhyddid mad;
Ewyllysiai roi diangfa i gaethweision pob rhyw wlad;
Amddiflynnai resymoldeb rhyddid llafar, rhyddid barn,
Gan arddangos anuwioldeb gwladol a chrefyddol sarn.


Unai ffrydiau ei wybodaeth ag ehelaeth lif ei ddawn,
Gan droi trochion ei athrylith eilwaith ar y llifiant llawn;
Yna gyrrai’r holl ryferthwy ar draws durol furiau trais
Nes y dadgylymai’r caerau er eu hoesol rym a'u mais.


D. R. STEPHENS. 579


Ryddid! Do, ti gefaist orsedd gadarn yn ei fynwes lon,
Rhoddodd it anwylaf annedd yng nghynhesaf gell ei fron;
Wyla! wyla! mae dy noddwr heddyw’n huno yn y bedd;
Mae ei fath i ddal y bwa? Mae ei ail i drin y cledd?


Efe fel seren fawr addurnai wybr llên,
A Chymru dan ei wawr arwisgai hygar wên,
Drwy ei llenorol wybren hi
Llewyrchai ar gyhydedd bri.

 
Llafurwyr trwy ei uchel ddysg a wnai yn athronyddion pur;
Fel hardd oleuad yn eu mysg pelydrai wawl athroniaeth wir,
Nes gwneyd y bwth mynyddig gwael
Yn ddelw o athrofa hael,
A’r tad yn athraw prif di-goll
Ar fyfyrdodau’r teulu oll.


Er uched ei deilyngdod, balchder du
Ni feiddiai lechu yn ei fynwes gu.
Ei folawd lifai dros bob gwefus gun,
Ond ni ddyferai dros ei fin ei hun.
Nid mwy ei ddawn na 'i wylder, ac nid llai
Ei haeddiant na’r cydfoliant uchel gai.


Ni wyddai beth oedd gweniaith ond trwy glust,
A phan lefarai truthiwr, gwedai "Ust"
Ailadrodd beiau eraill fyth ni wnai,
A'r neb a'u hailadroddai a gashai.
Heb fai i'w gelu, pa angenrhaid oedd
Brawychu rhag enllibwr cudd neu goedd?
A'i fawl yn chware ar bob tafod, pam
Y ceisiai neu yr hoffai weniaith gam?


Yn uchelwyliau 'i wlad pwy fel efe
I ddal y ffrwyn lywyddol yn ei lle?
Hil Gomer, ym mhob cenedlaethol wledd
Wrandawent arno megys teyrn ar sedd.
Pan ymgynhullai ein llenorion cu
Efe oedd uwch o'i ysgwydd na’r holl lu.
Cai glust a threm y dyrfa fawr i gyd!
A rhwym ei ddawn cadwynai eu holl fryd.

 
Teyrn yr Eisteddfod! Un o'i fedr a'i ddawn
I arwain ei gorchwylion mwy ni chawn;


580 GWAITH ISLWYN.


Yn hon, y gwan wnai’n gryf, yr oer wnai’n frwd
Llifeiriai 'i ddawn fel hwyad dros y ffrwd.


Ei drem darawai gryn drwy fynwes graig
Fai’n erbyn Cymro, Cymru, a Chymraeg;
A chreai wrid ar rudd y gorfalch ddyn
A fynnai wadu 'i wlad a'i iaith ei hun.


Areithiai yng ngwydd torf o arwyr llen
Heb drem yswilgar na rhagrithiol wên.
A phan areithiai byddai doethion byd
O'u gwadn i'w coryn fel yn glust i gyd,
A'u genau oll dan glo am oriau maith,
A'u holl dafodau wedi anghofio 'u gwaith,
Heb neb yn yngan gair, na neb o’r llu
Yn colli brawddeg na drychfeddwl cu.


Areithiai nes bai bronnau myrdd yn un
Orysfa danllyd o wladgarwch cun,
Nes bai dwy genedl mawr eu bri a’u grym
Yn ysgwyd llaw gan floeddio "Brodyr ym!"
Areithiai nes y synnai torfoedd llawn
Fod dyn yn meddu’r fath angylaidd ddawn,
Nes bai’r areithiwr pennaf yn eu plith
Yn methu meddwl am areithio byth.


Ond nid yng nghymeriadau’r bardd,
Y llenor, a'r gwladgarydd hardd,
Yn unig, y rhagorodd ef,
Pregethai bur Efengyl nef.


Os anfarwolwyd Groeg a Rhufain trwy
Hyawdledd eu hareithwyr digred hwy,
Clyw Gymru! gwlad hyawdledd, daeth i ti
Trwy arawd Stephens enwog, fil mwy bri.
Distewch baganiaid! ynnoch bri nid oes
Wrth Stephens yn areithio gwaed y groes.


Er tewi y llais fu yn trosglwyddo’r byw
Hyawdledd gadwai gynt ei fawl yn fyw,
Er hyn ei fawl bâr i anadlu trwy
Ei goeth draethodau; cofgolofnau hwy
O’i fawryd ynt, a mwy safadwy no
Uchelfeilch bigadeiliau’r Aifftaidd fro.


CALEDFEYN. 681


Distewch, alarwyr! Pam y rhaid i chwi
Wrth wylo, pan mae cyfrwng gwell i'w fri
Ddisgleirio drwyddo? Mwy gadewch y dasg
O dragwyddoli 'i gof a'i fri i'r wasg —
I'r wasg sy’n gwrido gan ei dlysni hardd,
A'r hon dan gnwd ei ddoniau llawn a chwardd
Y funud hon, ac, hyd dro olaf rhod
Y ddaear, fydd yn ffyddlawn glud i'w glod.

CALEDFRYN.


DWYS adgof ynnof ennyn — yn dyner
Ond enwi Caledfryn;
Trwy y gwlaw a niwl tew’r glyn
Mae delw’r bardd i'm dilyn.


I'm dilyn mae ei hudolus — wyneb,
A'r wên oedd mor serchus,
A'i fyw eiriau llafarus, — hyawdled
Ei ryfedd bêr wefus.


O fyrdd-ddoniog fardd Anian! — dy gynllun,
Dy ganllaw, dy gyfan,
Ydoedd natur loewbur lân; — cyweiries
Dy awen eres, dannau arian.


Swn y gwlaw yn syn glywaf — hanner nos,
Neu ar nant clustfeiniaf,
Neu ar ser, neu aeg rhos haf —
A hen gyfaill lon gofiaf.


Nis ceir fath ansoddeiriaeth — i Gomer,
Na gemau mor odiaeth,
'Fath burder na choethder chwaeth
I ardduno barddoniaeth.


Dwed i fi, dad fy awen — ai ’th reol
A'th athrawioeth drylen
Oedd y nant — neu gerdd y nen
Nos loew — neu eos lawen?


At yr awen hon, tra hi’n huno, — daeth
Dy Rothsay fawr heibio;
A'i tharan dwrf uthr iawn, do,
Wnai i ddiffrwyth ddawn ddeffro.


582 GWAITH ISLWYN.  


Mor fyr, O frawd, mor farwol — yw einioes,
Fel ennyd diflannol!
Fath frys wnaeth Emrys o’th ol! — ac Emlyn ]
A Robert wedyn, er eu bri tadol!


Ninnau ddeuwn yn ddiau, — cawn orwedd
Cyn hir gyda chwithau;
A godidog, O dadau,
Yn y nef eich ailfwynhau.

ER COF.*


GWELAIS olygfaoedd tyner, darnau o Baradwys wir,
Gwelais gartrefleoedd lawer rhwng mynyddoedd Cymru bur;
Cartref tyner, clyd, a llonydd, y Baradwys oreu yw,
Lle yr hofffa y chwiorydd Cariad a Dedwyddwch fyw.


Ond ni welais unrhyw gartref ar fy ymdaith, ar fy rhawd,
Yn rhagori mewn dedwyddwch ar dy gartref di, fy mrawd,
Yr oedd yno gyfarfyddiad o’r elfennau swynol sy
Yn gwneyd cartre’n sylweddiadol o ddymuniad cariad cu.

Heibio i'th aneddfa lonydd daethum eilwaith ar fy hynt;
Prudd-der oedd a llwyr ddistawrwydd lle bu llais gorfoledd gynt.
Ble mae’r wyneb hawddgar siriol a oleuai’r annedd hon?
O, pa le mae’r llais croesawol glywid ar y trothwy llon?

Onid ofer ydyw ffurfio cysylltiadau tyner, cu,
Pan mae angau yn eu dryllio — yn eu rhwygo ar bob tu?
Nid yw’r undeb mwyaf tyner, mwyaf cryf, ond edef frau
I ystormydd glyn marwolaeth ruthro mewn a'i thorri’n ddau.

Nid yw tegwch ar y ddaear, nid yw cariad ar y llawr,
Ond blodeuyn ar y mynydd, lle y chwyth ystorom fawr;
O, paham y mae ei harddwch yn ein denu, pan nad oes
Mur o'i gylch, na chysgod drosto rhag awelon cryfion croes.

Mae dy gartref heddyw’n dywyll, mae dy fynwes heddyw'n brudd,
Cwmwl galar ar dy ysbryd, deigryn hiraeth ar dy rudd;
Anhawdd iawn yw dwyn unigedd wedi’r fath gymdeithas lon;
Anhawdd newid y fath borthladd tawel, clyd, am frig y don.


* Am Mrs. Hopkins, gwraig Mr. Thomas Hopkins, Aberdar, bu farw Chwefror 22,
I863, yn 42 oed.




LLINELLAU GALARNADOL. 583


Dioddefai hirfaith gystudd gan ymddiried ynddo Ef,
Fel y dioddefe’r morwr yr ystorm a'i dwg i dref;
Hawdd yw dwyn y don uchelaf os teimlir mai’r ddiweddaf yw;
Hawdd yw nofio’r afon olaf rhyngom a Pharadwys Duw.


Mae dwy ochr i Ragluniaeth, ochr oleu, ochr ddu,
Ond y wyneb niwlog tywyll droir fynychaf atom ni;
Henffych ddydd pan gaffom esgyn i uchelder clir y nef,
I gael canfod wyneb goleu ei ragluniaeth ryfedd ef.


Goleu yw y wyneb arall, ie’n awr, pe gwelem ni,
Gan mor danbaid ei ddisgleirdeb ar yr ochr heulaidd fry
Treiddia ambell i belydryn eisoes atom; yn y nef
Gwelwn mwy, uwchlaw y niwloedd, oll yn haul ei gynllun ef.


O, paham yr hed dy feddwl tua’r llonydd fedd o hyd?
Uwch y ddaear, uwch y cwmwl mae ei chartref dedwydd clyd;
Nid oes ond y marwol yna, fry gorffwysa’r ysbryd byw,
Yr anfarwol, wedi llwybro’r ofnus daith, ar fynwes Duw.


Cyfnewidiad gwynfydedig gafodd, wedi dyrys hynt,
Nerth a hoen tragwyddol fywyd lle bu marwol gystudd gynt;
O ffynhonnau nef mae’n yfed dyfroedd anfarwoldeb pur,
Byw ar ffrwythau pren y bywyd sy’n cysgodi’r dwyfol dir.

 

LLINELLAU GALARNADOL.*


DUWIOLDEB, O Duwioldeb, pwy draetha fyth dy werth
Pan fyddo afon angau yn chwyddo yn ei nerth?
Tydi i fyw wyt ddigon, a'th lewyrch gylch y bedd
A wna y fangre dywell yn borth tragwyddoI hedd.

Mor llawn o hyder oeddynt, ei geiriau hi a'i gwedd,
Ar derfyn olaf amser, ar ymyl oer y bedd;
Dieithriwch tragwyddoldeb, torfeydd yr eilfyd raawr,
Nid ofnai — braich duwioldob a'i daliai’n hyf yn awr.

Chwennychai braidd ymddatod i fyned ato ef
A dynnodd ei serchiadau ymhell cyn hyn i'r nef;
Hi deimlai rwymau’r ddaear yn llaes o'i hamgylch mwy,
A boddlawn oedd i angau eu hollol ysgar hwy.

Os anial fu y ddaear i'w theimlad ar ei thaith,
Tra phell fynyddau Canan a welai ambell waith;
Ac yn y nos dywyllaf llewyrchai seren ffydd,
Nes aeth yr oll o'i hamgylch yn llawn tragwyddol ddydd.


* Ar ol Mrs. Barbara Roberts, Factory Cae Draw, Merthyr.


584 GWAITH ISLWYN


Gadawodd goffadwriaeth o fendigedig ryw,
Adgofiodd ymarweddiad gysegrwyd oll i Dduw;
Adgofion bywyd santaidd oedd lawn o dduwiol hedd —
Pa gyfrodd well i'w gadael ar ol, wrth fynd i'r bedd?


Nid erbyn tywydd garw a gorthrymderau du,
Nid crefydd erbyn marw a ewyllysiai hi;
Ei bywyd oedd ei chrefydd, ei bywyd oedd y bedd
Yr ofnai ei chael ynddo heb deimlo’r dwyfol hedd.

 
Disgleiriai ei duwioldeb fel seren ar y nen,
Fel dinas a osodir ar fryn, uwch cyrraedd llen;
Santeiddiol oedd dylanwad ei bywyd ar bob llaw,
A'i geiriau a anadlent aroglau’r wynfa draw.


Mor beraidd yw adgofio ei hymddiddanion hi
Pan oedd yn dechreu teimlo nerth yr Iorddonen ddu!
Ymgodai’r dyfroedd weithion a glan y byd oedd bell,
Ac hollol anyddorol yn ymyl bydoedd gwell.


O, pan y collai 'i gafael ar bethau byd yn lân,
Gafaelai yn y Ceidwad a adwaenasai o’r bla'n;
Nid newydd orchwyl iddi oedd pwyso ar ei fraich,
Cyflawnodd hynny filwaith nes milwaith golli 'i baich.


Er ofni lawer adeg mai methu wnai bryd hyn,
Dadguddiai’r addewidion golofnau yn y glyn;
Yr oedd y dydd yn torri, dydd o dragwyddol hedd,
Ac olaf niwl amheuaeth ddiflannodd tua’r bedd.


Ei beddargraff ym Mynwent Capel y Graig, ger Merthyr.


I wlad engyl diangodd — uwch hiraeth,
A'i choron a wisgodd,
A’i phoen yn awr gorffennodd,
Yn ddi-dranc lawenydd drodd.

ER COF. *


COFNODWN mai cyfiawn ydoedd, — yn llanw
Yn llonydd ei gylchoedd;
A'i foes ef, mynegfys oedd
I ffyrdd nef, — ffordd y nefoedd.


Gyda’r
ŵyn yr addfwynaf — ei galon,
Fugeilydd tyneraf;
Ond rhifai gyda’r hyfaf
Rhag pob llwgr hy yn nh
ŷ Naf.


* Am Mr. Richard Jenlrins, diacon gyda’r Trefnyddion Calfinaidd, Castellnedd,
yr hwn a fu farw Mai 16, 1863.


CAN O GLOD. 585


CAN O GLOD.*


ALAW, — "GLAN MEDDWDOD MWYN."


PE meddwn bereidd-der côr tyner y dail,
Mi ganwn am ddoniau a rhiniau’r g
ŵr hael;
Pe meddwn brydferthion yr enfys a'r wawr
Mi 'u rhown i addurno fy nghaniad yn awr.
O, pwy sydd mor haeddol o glodydd ein gwlad
A'r gŵr sydd i'r tlodion yn dirion — yn dad?
Mae hwn yn rhagori ar gewri y gâd;
Uchelaf ddedwyddyd ei fywyd ei yw —
Nid trin a dyfetha, ond cadw yn fyw,
Nid clwyfo a brwydro, ond gwella y briw.

Pa enw mor nefol a "chyfaill i'r tlawd?"
Pa gyfaill mor dirion, mor brydlon a'n brawd?
Ei law sydd yn agor, fel cwmwl y ne,
I wlawio ar dlodion tra llymion y lle;
Ac wedi’r cawodydd, newidia eu gwedd
Gan wanwyn ysbrydol o londer a hedd,
A'r awen gu lawen gorona eu gwledd;
Pwy draetha’r dedwyddwch a'r heddwch a roed
Trwy 'i ryfedd haelioni, i rai o bob oed —
Ni fu ei addfwynach na 'i rwyddach erioed.

Fe guddia 'i haelioni drueni o hyd,
Fel llanw yn cuddio y draethell i gyd;
Mae 'i galon bob pryd ar ei roddion mor hael
A'r cefnfor ar donnau, a'r Hydref ar ddail;
Ymedy y don yn dragwyddol a'r lan,
A phalla gwlith-emau y boreu aur ban,
Cyn caua ei ddôr rhag y rheidus a'r gwan;
Yn ol at ei ffynnon yr afon a red,
Mehefin a rewa, a Rhagfyr a fed,
Cyn gwelo gardotyn yn gado heb ged.

Mae miloedd yn casglu trysorau i'w cloi,
Ond HUGHES sy’n eu casglu i'w rhannu a'u rhoi;
Mae llawer yn claddu eu heiddo i gyd
Rhwng muriau ariand
ŷ, o gyrraedd y byd; —
Mewn lle llawer sicrach mae golud ein brawd,
Mae’n gweled ymhellach, o uchder ei ffawd —
Y goreu ariand
ŷ yw calon y tlawd;
Bydd hwn yn dwyn cysur a llog yn ol llaw,


* I Richard Hughes, Ysw., Ynystawe.


586 GWAITH ISLWYN.


Mae’r bath hyn yn pasio, yn treiglo tu draw
Yn nwyfol newidfa y byd mawr a ddaw.


Mae 'i elusengarwch o dyfiant mor fawr,
Fel gwyrdd-bren cyfoethog mae’n cuddio y llawr;
O dano mae gweiniaid yn ddedwydd a chlyd
Pan chwytho y corwynt, pan wgo y byd;
Pan wywo o’i amgylch bob deilen, pob rhin,
Mae 'i wyrdd ef yn para, a'i ffrwythau yr un
I bawb yn gyfrannog beth bynnag fo’r hin;
Ac nis gall storm arwaf y gauaf a'i gur
Ond gyrru ei wreiddiau yn ddyfnach i’r tir,
A gwasgar ymhellach ei arogl pur.


Pan gwyno y gweithiwr ar brinder ei ran,
A blodyn ei obaith yn wyw ac yn wan,
Fel cariad ei hunan fe 'i gwelir yn dod,
A maethu’r methedig yn unig ei nod;
Dan ofal mor dyner cwyd gobaith ei ben,
Ail wisg ei liw goreu dan oleu y nen,
Yn siriol ei wenau fel wybrau di-len;
Ac ar ein dyngarwr, am fawredd ei rin,
Daw bendith y truan adfydus a blin,
Y nesaf at fendith Jehofa ei hun.


Ni welir ei weithwyr dan fraw ger ei fron,
Ei wyddfod sy’n gysur, a'u llafur sy’n llon; .
Ni weithiant o ofn, na pharch oer ychwaith,
Gwir gariad yw’r goreu i gymhell at waith;
Yn ysgol tiriondeb hwy ddysgant yn rhwydd.
Y wers fawr o gariad at awdwr eu llwydd,
Nes agos anghofio awdurdod ei swydd;
Anturient yn eon, rai dewrion, o'i du,
A bywyd ei hunan aberthent yn hy
Dros feistr mor dyner, dros gyfaill mor gu.

Mae’n arddel unoliaeth yr holl ddynol ryw,
A hawliau y gweision fel hawliau y llyw;
Mae’n teimlo cylchrediad y gwae trwy yr holl
Gyfundrefn ddynol, fel uncorff di-goll;
Mae’n teimlo’r dolennau tragwyddol y sy’n
Cydrwymo yr uchel a’r isel yn un,
Y cryf wrth yr eiddil, yr iach wrth y blin;
Mae’n cario ei gredo oll allan mewn grym,
Gan roddi o'i haf at yr hyll auaf llym
O'i balas i'r bwthyn, a'r cwbl am ddim.


ER COF. 587


Nid oes un gerddoiiaeth mor beraidd yn bod,
Na charol mor bur i glyw’r nefoedd yn dod,
A santaidd beroriaeth amddifaid llesg mân
Wrth anfon i fyny eu diolch ar dân;
Nid yw y filwrgerdd yn myned i'r lan
Ymhellach na 'i hadsain — i’r nef yn y fan
Aiff diolch y gweithiwr, a'r weddw ar wan;
O, felus beroriaeth! mor ddwyfol pob nod,
Mor grynol gan deimlad! o'r galon mae’n dod.
A all yr angylion offrymu’r fath glod?


Yng nghanol peroriaeth mor odiaeth ei rhin,
O, caffed hir einioes heb loes na thro blin;
Caed henaint arddunol yn nodded ei Naf,
Fel huan yn machlud ar derfyn yr haf;
A phan y gorffenno, boed engyl bob llaw
Rhai welsant ei holl gymwynasau islaw,
I'w gludo i’r Wynfa, y drigfa bêr draw;
Ymddifaid a gweddwon a ddeuant mewn hedd,
Ac Elusengarwch ei hun at ei fedd,
A deigryn o hiraeth yn gwlitho eu gwedd.

ER COF. *


YN ngardd eich serch angerddol — fe ledai
Dau flodyn gwanwynol;
A! gwywo wnaent! cydgau’n ol,
Yng ngauaf gwynt angeuol.


Yn sydyn Thomas ehedodd — o'ch mysg,
Chwim asgell a gafodd;
Llaw angel ollyngodd i'w law fach wen
Aur gadwen, i'r wiwnen a'i harweiniodd.


Ar ei ol yn ewybr elai— ei frawd,
Ar frys fe 'i dilynai;
O gylch y bwrdd fe 'i cwrddai,
Moli Ner yn ei ymyl wnai.


Duw a'i cymerth o fyd camwedd — i fyd
Sydd heb fai na llygredd;
Byd o hoen bywyd a hedd,
Uwch i ofid a cheufedd.


• Am Thomas a Daniel, plant y Parch. J. Williams, gweinidog y Bedyddwyr, Ynysddu. Cyflwynedig i'w rhieni.


588 GWAITH ISLWYN.


Pan mae’r ddau’n mwynhau mewn hwyl — ogoniant,
Dan ganu mewn gorhwyl
Yn y lawn nefol
ŵyl, — pam wylwch chwi
Mwyach, rieni, am eich rhai anwyl?


Riaint tyner yn y tonnau, — na foed
Ynfydion deimladau;
Tua’r ne a chartre Naf,
Yr arwaf ffordd yw’r orau.


Fe all y Gŵr sy’n Gyfaill gorau
Roi gollyngdod o oer gell angau,
Llwyddodd i gael allweddau —’r bedd enbyd,
Draw myn agorwyd ei drymion gaerau.


Engyl sydd beunydd uwchben
Eu bedd, y ddau fab addien,
Ac o dan eu seirian sel,
Uwch dinistr bydd llwch Daniel.
Eich Daniel o'i fedd isel ddaw,
Arddelir ar y ddeheulaw;
A geilw Ef Thomas hefyd
O'r un bedd, ddydd barn y byd.


A! myfyriwch am forau — yr ail gwrdd,
Ar ol gwae a thonnau,
Ar ol ing, ar ol angau, — mewn gwledydd
Lle na bydd nac archoll na beddau.

PELLEBYR MOR Y WERYDD.
CORONFAWR gamp cywreinfyd,— a cholofn
Uchelaf celfyddyd,
Dyfais i uno deufyd
Sy ben ar ddyfeisiau byd.


Amser a phellder a ffodd, — milltiroedd,
Mellteiriau a'u hysodd,
Edyn y gwynt i'r hynt rodd,
Mewn tarawiad mynd trwodd.


Rhyfedd, ym mherfedd mawrfor, — adeinio
Meddwl dyn a'i gyngor;
Rhyngwaith trwy wely’r angor,
Edyn y mellt dan y môr.


MYDDFAI. 589

“MYDDFAI."


ATHRYLITH teg a llwyddiant, O! pa bryd
Eich unir eto, ac yr ewch ynghyd?
Dynghedfen ddall, rhoer iti lygaid mwy
I weld rhinweddau a'u gwobrwyo hwy.
Llawn yw’r palasau o waelion mawr eu twrw,
Mae engyl mewn bythynod yma’n marw.
Saf! dyma fedd— bedd angel o ddynolryw,
Un na wobrwywyd gennyt fel y cyfryw.
Nesha yn wylaidd; sarnwyd digon arno,
Do, yn ei fywyd, pan y medrai deimlo.
Ofnadwy fedr! pwy na fyddai hebddo?
Mae’r bedd yn oer, oer; da nad yw y galon
Fu’n teimlo oerni mwy y byd, yn teimlo weithion.
Fe 'i llwythwyd â theimladau nes ei phlygu
Dan wywo tua’r bedd, a'i bythol dorri.

Myddfai! ni awn a'r ieuanc llon ei wedd,
A chryf ei gariad, at dy lonydd fedd,
I'th ysbryd sisial yn yr awel fwyn
Wamalrwydd dynol serch, newidiol swyn,
I godi ei olwg tua’r ser uwchlaw,
A chlymu 'i serch ar fydoedd tecach draw.

O! a oes byd lle nid yw diniweidrwydd
Yn fai, yn nod i enllib a gwaradwydd,
Byd lle mae rhinwedd yn hollalluawgrwydd?
Ail dinas deg, ysblenydd ei phalasau,
Ond heb warchawdlu a diffyniol furiau,
Yw’r fron ddiniwed yma a’r galon hawddgar
A fyddo 'm syml, agored, anochelgar;
Delw o'r golomen oedd dy galon drwyddi,
Ni wnaed i sarff cyfrwysder drigfa ynddi,
Calonnau felly amlaf sydd yn torri.

Mae’n rhyfedd iawn na welwn fwy yn wylo
Ar lan dy fedd; ai nid yw neb yn cofio
Y mil hynodion gynt, a'r hawddgar riniau,
A'th ddiniweidrwydd, coron dy nodweddau?
Na, gwell gan enllib dremio ar dywyllni
Y nos, nag ar y ser sydd yn disgleirio drwyddi.


Y Parch. T. J. Willams.


590 GWAITH I8LWYN.


Y mae cymylau ar y wybren loewaf,
A brychau ar y lleuad deg pan decaf.
O pwy, a deimlodd allu amgylchiadau,
All gofio y diffygion man a'r brychau,
Rhy fan i'w gweld heb fwyadurol ddrychau?
Mae troion yn y cawraidd fôr; mae creigiau
Yn deddfu 'i gwrs, gan fesur rhawd ei donnau,
A gyrru’r uchaf lanw yn ol, gan ddryllio 'i wynion resau.
Mae ambell dymhestl yn rhywyllt i’w dofi,
A'r llongau cryfaf, harddaf, weithiau’n soddi —
O, pwy all feio dyn a'i galon wedi ei thorri?

Ac er fod prudd-der yn heneiddio 'i wedd,
Ac aml adgof yn cythruddo 'i hedd,
A nychdod yn byrhau bob dydd y ffordd i'w fedd,
Fe ddaliai’r arf i'r lan dros air ei Dduw,
A'i asgell noddai 'i egwyddorion gwiw.
A'i ddagrau oll yn had, ymlaen yr ai
Trwy’r llafur blin gan wylo a chan hau,
Yn fendith, fel y cwmwl tlawd ei bryd
Sydd, tra yn wylo’n cyfoethegi’r byd;
Neu fel y lloer sydd yn goleuo’r llawr,
Gan ddangos heuliau fil o bell, ser o dragwyddol wawr,
Tra hi ei hun mewn bythol hanner dydd
Yn drom ei gwedd, heb lewyrch ar ei grudd,
Ond llewyrch dagrau, gwawr tawelwch prudd.

A, Myddfai! pwy mor ddiwyd, er mor flin, —
Un llaw yn sychu’r deigryn gloew, ac un
Yn gwasgar hadau hedd a rhinwedd cun?
O! hapus cludo yr ysgubau draw
A'r unrhyw ddagrau-eneiniedig law.
Angylion ddont i’w cludo gyda thi,
I ysguboriau anfarwoldeb fry.
Mae’r deigryn olaf wedi ei wylo mwy,
O, nid oes dagrau yn eu costrel hwy.

Teilyngdod pur! rhaid iddo fythol fyw,
A chwyddo ymlaen, hollalluawgrwydd yw.
Ac nid yw’r rhwystrau ar ei lwybr sydd,
Ond cregin man ar ffordd y llanw rhydd;
Ymlaen ymchwydda i ddisgleiriaf dir
A thraeth tawelaf anfarwoldeb clir.
Ryddedig ysbryd, gorffwys yn dy hedd,
Mae 'th enw fyth uwch cyrraedd rhwd y bedd.


MYDDFAI.  591


A thi a'i cododd â dy haedd i'r lan,
Saif ar ei wadn ei hun heb ateg wan,
A ni bydd farw tra bo rhinwedd byw,
Anfarwoledig fel dy enaid yw.
Ar allor cof mil o gyfeillion cu
Enynna byth fflam dy enwogrwydd di.
A llawer un erioed ni welsai 'th wedd
Offryma i deilyngdod ei ddeigryn ar dy fedd,
A phlanna yno flodyn hardd a pher,
Gan sisial "Myddfai!" ac edrych tua’r ser.
Pan grwydro’r athrist heibio’r fynwent hon,
A phrudd-der yn fynyddoedd ar ei fron,
O, troed i mewn, ei gyfaill yma sydd,
Dyweded, "Myddfai!" ac ysgafnach fydd.


Agored caed ei galon ar bob pryd,
A, rhy agored! dyna oedd ei fai.
Ei rinwedd fuasai mewn diniwed fyd.
Ychydig wyr y rhosyn noeth ei fron
Wrth roesaw y wenynen deg i mewn,
A’i chylchu a'r modrwyon goreu o fêl,
Fod colyn ac anrheithydd yn ei mynwes.
Ni wyddai yntau hyn nes teimlo’r rhwyg.


Tyrd Gymru, wlyb dy lygad, tyrd ymlaen,
Dy ddagrau gwlawia yma, a'th flodau taen.
Un gollodd fwy na dagrau erot ti,
Wrthododd er dy fwyn uchelach bri,
Myddfai sydd yma. Wyla ar ei fedd,
A chais ei ail i gydio yn ei gledd.
Yr oedd ei Gymru yn baradwys gain,
A’i gwylltedd yn ogoniant pur o'i flaen;
Ei bryniau ynghlwm wrth yr wybrennau ban,
A'r tanbaid wawl o'i cylch fel môr di-lan,
Dragwyddol lanw, yn golchi llawer byd,
O! ’r oedd yn hardd, yr oedd yn deg i gyd.

 


Ei wlad, ei genedl, A, rymusaf eiriau!
Byw oedd i berlewygol swn yr enwau.
Cyffrodd ei galon wrth yr adsain filwaith,
A thrwy galonnau fil fe chwyddai’r effaith.
Un oedd ei galon ef, pan deimlai ‘i hunan,
A greai deimlad ymhob bron tu allan.
Ei wlad, ei iaith, ei arwydd-eiriau oeddynt,
A mynnai barch, a mynnai nodded iddynt,
Ei hun eu noddwr, a'i aden lydan drostynt


592 GWAITH ISLWYN.


Ac, O, y mae peroriaeth yn yr enw
"Fy ngwlad," sydd uwch na bloedd y byd a'i dwrw.
Oes, Walia! y mae ynnot swyn sy’n clymu
Dy feibion wrthyt, gan eu rhwymo i'th garu.
Hyf wylltion fryniau! doder fy mhreswylfa
Rhwng eich cysgodion pell, rhamantawl drigfa,
Lle hoffa’r daran rolio yn ei mawredd,
A natur ar ddistawrwydd wastraffu ei hyawdledd.
O, caffwyf grwydro hyd eich llethrau tawel,
Yn ddedwydd mwyach gyda’r oen a’r awel.


A, Myddfai! blentyn anian, blentyn Cymru,
I ti, pa boen, pa fwyniant gwell na syllu
O’r bryniau draw ymhlith y claer wybrennau,
Ar ddolydd Gwalia’n fras gan fyth-lifeiriol ddiliau,
Tra llaw y gwanwyn yn eu llorio â blodau?
I
ti, pa gerdd mor fwyn â thôn yr awel,
Pa gynghan fel ei hodlau hi gerllaw afonig dawel?
A syn addolit ar y bryniau hyfion,
Tra siglai’r daran eu colofnau cryfion,
Ofnadwy rwysg, a’u bannau moel, fel byddin,
Yn symud ffwrdd ar arch, ar ysgwydd y daeargryn.


Yr oedd dy natur yn farddonol drwyddi,
A natur yn farddoniaeth oll i ti;
Yr afon deg a nefoedd o ser ynddi,
A’i chyfoeth o drysorau llawer lli;
A’r mynydd fry’n goresgyn y cymylau
Wrth ddringo’r wybrol riw tua gloewach nennau,
Barddoniaeth oedd o lawysgrif Duw, y gwreiddiol gymeriadau; 
Dy awdlau, ’r dolydd heirdd; a'th feirdd, y bryniau.


Ar dawel draeth dy feddwl anian chwyddai
Ei llanw o ogoniant fore a nawn,
Ac yno ei goludoedd aml adawai
Adgofion fil am Dduw yr argraff lawn.
I ti yr oedd gan froydd, ser, a chreigiau
Eu môr o ystyr oll a’u mil tafodau.


A! nid yw natur fud, nyni sy fyddar;
Nyni sy ddall, mae natur oll yn hawddgar.


O, pwy anghofia 'i areithyddol ddawn,
Oedd fel y môr, yn ddwfn, llydan, llawn.
A phwy na chludwyd ar ei lanw pur
I lannau ebargofiant, araul dir.


MYDDFAI 593

Arweiniai’r dorf i fyd uwchlaw y ser
Yng nghlaer oleuni’r Seren Fore der.
Paradwys arall, Eden yn y nef,
Oedd swyn ei araeth, swyn ei fywyd ef.
Ac O, pa ryfedd fod ei olwg draw
Ar fydoedd eraill, gwynfa deg uwchlaw,
Efe, na theimlodd yma fawr mwynhad,
Ond lludded blin heb seibiant, a thrymder heb ryddhad?

"Y dyn Crist Iesu," hollalluog Geidwad,
Ei angau, a'i fuddugol adgyfodiad,
Ac adgyfodiad byd o feirwon ynddo,
Achubiaeth byd o golledigion drwyddo,
A, dyn a'i bwnc! y môr a lyncai 'i ddoniau,
Gan guddio traeth ei feddwi byth â llanw o ryfeddodau.

Fel nen o ser, paradwys aml ei rhos,
Y meddylddrychau drwy ei bregeth dlos;
A siriol fel y bore caed ei wedd
I'r dyrfa pan ddadblygai faner hedd.
Ei fêl-frawddegau, fel wybrennau Mai,
Dyhidlent fendith, rhinwedd i leshau.
Hyd faes y gair ymlaen arweiniai’r llu
Gan wlawio rhos athrylith yn dryfrith ar bob tu.
A nerth ei feddwl, swynion aml ei ddawn
I’w eiriau roddent effeithiolrwydd llawn.

Mil, mil o lygaid nofient mewn tynerwch
Adwyau glain i ffrydiau edifeirwch;
Ac aml rudd teg liwiog gan ieuenctid
Dan rin ei ddawn â deigryn tecach wlithid.
Fel cwmwl o wybrennau teg y wynfa,
Dyferai nefol wlaw a mwynder dros y dyrfa,
A thynnai i lawr wawl o seraffaidd burdeb,
A thrydan o wybrennau anfarwoldeb.
A chodai ffrwd o ddagrau glwys i fyny,
Drwy nerth ei feddwi a’i sugndynol allu,
Un modd a'r lleuad yn pentyrru’r tonnau
Mynyddfawr, trwy naturiol ddylanwadau,
Nid fei yr awel, yn eu cynddeiriogi
Trwy chwythu a chodi twrdd yn wallgof a chrochwaeddi.

Cenhadwr heddwch! swydd o nefol ryw,
O nefol roddiad a chymhwysiad yw.
 


594 GWAITH ISLWYN.

Pa angel, O! pa gerub disglaer fry
Na rwydd adawai y baradwys gu,
A'i goron a'i ogoniant ynddi hi,
Am fantell proffwyd, swydd cyhoeddwr hedd,
Cyhoeddwr bywyd y tu draw i'r bedd?
Odidog waith! a i safle wrth y groes,
Dy safle di, O Myddfai, drwy dy oes.

A thros ardderchog faes clasurol ddysg
Aml grwydrai, fel gwenynen plith y rhos
A'u gwrid sy’n euro gruddiau teg yr ardd,
A'u bronnau ar dorri gan ystor o fâl.
Arwrfardd mawr yr oesoedd, sydd a'i ddawn
Yn fwy mawreddog na tharanllyd nerth
Achilles o flaen caerau Ilion gynt,
Pan grynai’r duwiau a Hector ger ei fron;
A Virgil bêr; a mil mildlysog feirdd
Ei Gymru hoff, — adwaenai hwynt i gyd.
Treuliasai lawer awr o felus gof
Mewn bydoedd eraill gyda Milton fawr.

Ond beirdd y Beibl ei anwylion oent,
Beirdd bro y diliau, bro’r llifeiriol laeth.
Ar drumau beilch Judea aml y bu
Yn gwrando, wedi ei ysbrydoli oll,
Ar gerdd Esaiah o serafiaidd awen
A mab Hilciah, beirdd o urddiad Duw.
Darllennai’n aml, a'i galon oll ar dân,
Farddoniaeth tragwyddoldeb yn eu cân
Edmygai 'u hebediadau uchel ter,
A'u meddylddrychau o fyd uwchlaw y ser.
A mynych wylai dan gysgodau’r nawn,
Wrth weld Ezekiel, o ardderchog ddawn,
A dagrau yn eneinio 'i odlau cu,
Tra’n cofio ‘i wlad ar lannau Cedar li.
A mil telynau Israel yn wylo ar helyg fry.

Tywynnai gwawr serchawgrwydd ar ei wedd,
Fe'i lluniwyd i fwynhau melusion hedd.
Ar nawn tawelaf wedi claddu’r dydd
Ym mhorffor ddyfnder y gorllewin prudd
Pan gasglai’r teulu’n llawen a chytun
Gerllaw y tân, a'i chwedl gan bob un,
O! pan eisteddai yn y gadair fawr,
Y fflam ei ganwyll o gartrefol wawr.


MYDDFAI. 595

Adfywiai oll, a thaflai'i galon brudd
Ei baich i lawr yn ysgafn fel y dydd,
Tra gwawr o londer yn goleuo 'i rudd.

Bedd! bedd! O swynol air i'r fynwes glwyfus flin,
Y balmaidd gwsg! dros oesoedd pair yr olaf, hwyaf hûn.
A, Myddfai! gorffwys yn dy fedd,
Os nad oes yno rwysg, mae yno hedd.

O, pwy fu’n gweini, gyfaill, arnat ti,
A phwy a gaed i ddal dy ben i'r lan
Pan olygai yn ystorom angeu du
I lawr i'r dwfn fedd, fel deilen wan?
Pan oerai ’th fynwes, a phan wywai ’th wedd,
O! a oedd yno a lefarai hedd?

Fe suddai 'th galon yn dy fynwes brudd
Dan rym yr ergyd olaf, hyd y bedd;
O, pwy a gaed i'th adgoffhau o'r dydd
Y cwyd yn ysgafn ac yn iach ei gwedd,
A'i holl archollion wedi 'u llwyr iachau,
Archollion siom a chyfeillgarwch gau?

A! do, gobeithiaist aml waith cyn hyn,
Rhy lawn o obaith — dyna bechod dyn,
Gobeithiaist pan y teithit lwybrau’r glyn
Gael gwenau lluoedd o gyfeillion cun;
Bu Un yn ffyddlawn, do, fe lynodd Un;
A digon gaed,’r oedd Hwnnw’n fwy na dyn.

Mae Cyfaill sydd â'i gariad yn parhau
Yn angeu, a thu draw, mewn nefol fyd;
Un sydd yn ymyl fyth i esmwythâu
Y fynwes drom, a gwneyd y bedd yn glyd.
A'i engyl ddoent yn dorf i'th gludo di
Trwy ogof angeu i'r baradwys fry.

A, dywed im sydd yma ar lan dy fedd
Yn wylo gyda’r awel drom ei chân,
A nos o brudd gymylau ar fy ngwedd,
Fy nghyfaill, dywed, pwy o'r dyrfa lân
A’th gyfarfuant ar y glannau gwell
Tu draw’r Iorddonen, glannau’r Ganan bell?

Ym mhlith y fintai gyntaf oni chaed
Y seraff o Lwynffortun oll mewn hwyl,
Al fawl i gyd am rinwedd iawnol waed,
Yn gwahodd ei fywgraffydd tua’r wyl?

 

596 GWAITH ISLWYN.


Yn angel perffaith mwy, heb unrhyw ffael,
Na deigryn ar dy rudd, na chwmwl ar dy ael.
Af adref! a gadawaf di fan hyn,
Paham yr wylwn dan gymylau’r glyn,
Lle nid oes neb yn wylo ond y byw.
Ystafell gwsg i'r corff blinedig yw,
I huno, a thawelwch yn ei doi,
Nes geilw Duw daranau’r Fam a'i thwrf i'w ad-ddeffroi,
A’th alw allan i'th goroni draw,
Rhwng torf o engyl, tra’r byd ar dân islaw.

O! pe bai teimlad yn gwresogi’r bedd,
Ac ambell air yn torri ei erchyll hedd,
Erchyll i’r byw yn unig, gwn, fy mrawd,
Gwn na achwynit ar y fangre dlawd
Ei bod mor unig ac mor drom ei gwedd,
Ti, ’r unig yn dy fywyd, Myddfai, fel yn dy fedd.
A gwell unigrwydd tawel, lle nid oes
Wahaniaeth ond mewn enw rhwng brawd a gelyn croes.
Byd poblog, hwn! ceir milmyrdd ar bob tu,
Ond trwyddo teithio’n unig, digysur, wnaethot ti,
Y modd y crwydra’r welw loer drwy’r nefoedd,
Gan wylo a thristhau rhwng torf o lawen fydoedd.
Mae croesaw llawn a hedd ym mro y beddau
I'r blin siomedig, aml a thrwm ei ddagrau.
Elusen oedd gorffwysdra wedi blino,
A bedd pan nad oedd bywyd i'w ddymuno.
Af ar dy ol, fy mrawd, af yn dy gamrau
Pan ddêl yr awr, y loewaf o'r holl oriau,
I geisio bedd ar lannerch werdd a thawel,
A thristyd yn tyneru llais ei hawel.

PRIODAS. •


CAED yr hawddgar bâr drwy’r byd — hoff wenau
Ffyniant a dedwyddyd;
Un teg haf fo’r hynt i gyd
Heb auaf yn eu bywyd.
Ar yr heol fawr i'r ail fyd, — crefydd
Fo 'u cryfaf bwynt hefyd,
Y pwynt cain sydd yn arwain hyd
Fro lonfawr anfarwol wynfyd.


• Mr. Daniel Roberts, Merthyr, â Miss Keturah Lewis, Eglwys Newydd, Gorff. 15, 1862.


ABRAM YN ABERTHU ISAAC. 597

ABRAM YN ABERTHU ISAAC.


BU Abram mewn disgwyliad hir
Am fab yn ol addewid wir;
O'r diwedd ganwyd iddo ef
Ei Isaac hoff trwy wyrth y nef;
Mawr oedd ei hoen wrth gael y rhodd
Anwylaf hon, trwy ryfedd fodd,
Ond mwy ei obaith am leshad,
Ac helaeth fendith trwy ei had,
Tra hoff y sylwai ar ei wedd
Wrth grymu’n dawel tua’r bedd;
Ond hoffach rhagolygai’r awr
Y byddai yn genhedlaeth fawr.


I
saac ydoedd fab ei henaint, nod disgwyliad, colofn nerth;
Ni chyfrifai yn ogymaint berlau o anhraethol werth;
Cafodd ar ei enedigaeth ail fodolaeth iddo 'i hun,
Yn addfedrwydd ei ddynoliaeth fywyd i’w waeleddawg lun.
Hoffai sylwi ar y baban yn ei egwan foreu lun;
Pan y daeth yn hoewlanc heini hoffai sylwi ar y dyn.
Anwyl ydoedd — dyn neu faban, cryf neu egwan — iddo ef,
Yn eu gilydd hoff ymglyment fal dolennau cadwyn gref.
Hwy feddiannent wir dduwioldeb yn ei phurdeb,yn ei gwraidd;
Oeddynt un mewn duwiol deimlad, hefyd un mewn nefol aidd;
Hoff gan Abram archiad Isaac, Isaac iddo yntau’n was,
Oedd y ddau o dan lywodraeth egwyddorion dwyfol ras.
Pa ryfeddod fod anwyldeb yn eu hasio hwy mor gun?
Yr oedd Isaac yn gywirddrych o'r foreuol wedd ei hun,
Pan edrychai yn ei wyneb gwelai’r dull oedd arno gynt,
Iddo’r ydoedd ei gymdeithas yn ail fwynhad o'i fabol hynt.


Ond er mor anwyl ydoedd ef,
Nid oedd ond un o roddion nef
Yr hon ofynnai Duw yn ol,
O'i rad ewyllys, idd ei gôl
Ei hun, yn gyfiawn a di-gam
Er profi crefydd Abraham,
Yr hwn â'i lais a alwodd ef
I wrandaw ar ewyllys nef.
Mal ufudd was i air ei Ri
Atebodd yntau, — "Wele fi
Yn barod ’nawr i gredu’r oll
A addewi im, neu yn ddi-goll,


598 GWAITH ISLWYN.


Os archiad gaf, ymostwng i
Yr archiad hwnnw o’th enau di."
Diau disgwyliai’r duwiol dad
O enau Duw addewid fad,
Neu sicrwydd o’r addewid gref
Gynt a gyhoeddodd iddo ef,
Pan droes yn llon o d
ŷ ei dad,
Er prawf o'i ffydd, i estron wlad,
Gan adaw’r fan oedd anwyl gynt,
A dryllio rhwymau 'i fabawl hynt.
Ond O! mor anhebygol yw
Disgwyliad dyn i fwriad Duw;
Os aml mae’r naill yn addaw hoen,
Mor aml mae’r llall yn peri poen!
Pan archodd Duwdod, O! mor glau
Troes obaith cu yn obaith gau.
Gwrandawodd, nid addewid fwyn,
Ond uthr orchymyn, dygn i’w ddwyn,
Nad allsai lai na gyrru hoen
O'i fynwes, lai na pheri poen,
A chodi braw i lywio sedd
Y fynwes gynt lle llywiai hedd.
A! wedi’r haf a’i ffrwyth di-goll
Oer auaf ddaeth i wywo’r oll,
Gan lwyr ddiwreiddio’r mwynder llon,
A phlannu drain yng ngwraidd y fron.
Braidd na ddywedai ef ar goll, —
"I'm herbyn i y mae hyn oll."
Ond os nad ydoedd archiad Duw
Yn unol â theimladau briw
Y patriarch, â'i gydwybod ef
Cydunol oedd ewyllys nef.


Gorchymyn oedd a ddrylliai galon ddur,
Dwfn glwyf gan hynny roes i fynwes bur
Y fath serchoglawn dad ag ydoedd ef,
Er maint ei barch i union arch y nef
Oedd cleddyf ym mhob gair, a saeth i'w fron
Ym mhob llythyren ddu o’r gyfraith hon;
"Cymer dy fab" nid bwystfil o un rhyw,
Na gelyn chwaith, na’r cyfaill mwyaf gwiw,
Na dieithr, er fod Abraham ei hun
Mor gymwynasgar idd y dieithr ddyn;
"Yr awr hon,” heb ohirio i’r awr ail,
Na chaniatau diwrnod iddo gael


ABRAM YN ABERTHU ISAAC. 599


Myfyrio neu ystyried beth a wnai,
Pa un ai gostwng ai anufuddau; —
"Dy unig fab" etifedd ei ystad,
Ac addewidion y cyfamod mad,
Ei unig fab o Sarah, fwynaf un;
Nid Ismael, ond yr "unig fab" ei hun, —
"Yr hwn a hoffaist" uwch pob arall ddyn,
"A hoffaist" fel dy enaid hoff dy hun; —
"Dos rhagot i Foriah," rhandir pell,
Yn araf, gan fyfyrio’r weithred hell;
"Ar allor boeth offryma ef i mi,"
A llosg ei gorff yng nghroth y ffaglau cry,
"Ar fryn a ennwyf wrthyt," nid mewn cell,
Ond acw ban ar frig Moriah bell,
Mewn man cyhoeddus lle canfydda’r nef,
A dyn, ac angel, ei aberthiad ef.
Pa warth ar grefydd a ddygasai hyn,
Offrymu unig fab ar amlwg fryn?
A pha wael engraifft i holl ddynol ryw,
Aberthu mab gan anwyl was i Dduw?
Yng ngwyneb hyn, mor ryfedd oedd i'w ffydd
Orchfygu’r ofnau oll, a chael y dydd.


Pa anatebadwy resymau amrywiol,
Allasai’r credadyn eu dwyn yn naturiol
Yn erbyn yr archiad o enau y Duwdod,
Er llunio esgusawd i lwyr anufudd-dod?
Pe buasai y patriarch yn wrthwynebol
O gnawdol dueddfryd i’r arch awdurdodol,
Gallasai resymu, — "A yw’r Gorchymynnydd
Yn fod digyfnewid, yn holl-uniawn barnydd?
Os yw, pam yr archodd i mi drochi 'm dwylaw
Yng ngwaed fy anwylfab, a’i greulawn labyddiaw
A llymfin y gyllell, ei daraw mal gelyn,
Heb unrhyw gyhuddiad o drosedd i'w erbyn?
O Dduw’r trugareddau! a ydwyt greuloned
Ag erth ymddigrifo yng ngwaed y diniwed?


"Pa le mae 'th uniondeb? Pa le mae 'th drugaredd?
Os lleddir fy Isaac, gwarthruddir dy orsedd.
Pam rhoddaist ef i mi? A pham y disgwyliais
Hir dymor am dano, gan wedi y cefais
Y rhodd amhrisiadwy, yr wyt yn ei gofyn
Yn aberth i fflamau a dwyfol orchymyn?


 

 

…..

Sumbolau:

a A / æ Æ / e E / ɛ Ɛ / i I / o O / u U / w W / y Y /
MACRONː ā Ā / ǣ Ǣ
/ ē Ē /
ɛ̄ Ɛ̄ / ī Ī / ō Ō / ū Ū / w̄ W̄ / ȳ Ȳ /
MACRON + ACEN DDYRCHAFEDIGː Ā̀ ā̀, Ḗ ḗ, Ī́ ī́, Ṓ ṓ, Ū́ ū́, (w), Ȳ́ ȳ́
MACRON + ACEN DDISGYNEDIGː Ǟ ǟ, Ḕ ḕ, Ī̀ ī̀, Ṑ ṑ, Ū̀ ū̀, (w), Ȳ̀ ȳ̀
MACRON ISODː A̱ a̱, E̱ e̱, I̱ i̱, O̱ o̱, U̱ u̱, (w), Y̱ y̱
BREFː ă Ă / ĕ Ĕ / ĭ Ĭ / ŏ Ŏ / ŭ Ŭ / B5236ː  B5237ː B5237_ash-a-bref
BREF GWRTHDRO ISODː i̯, u̯
CROMFACHAUː
  deiamwnt
A’I PHEN I LAWRː , ә, ɐ (u+0250) httpsː //text-symbols.com/upside-down/
Y WENHWYSWEG:
ɛ̄ ǣ æ

ˈ ɑ ɑˑ aˑ aː / æ æː / e eˑeː / ɛ ɛː / ɪ iˑ iː ɪ / ɔ oˑ oː / ʊ uˑ uː ʊ / ə / ʌ /
 ẅ Ẅ / ẃ Ẃ / ẁ Ẁ / ŵ Ŵ /
 ŷ Ŷ / ỳ Ỳ / ý Ý / ɥ
ˈ ð ɬ ŋ ʃ ʧ θ ʒ ʤ / aɪ ɔɪ əɪ uɪ ɪʊ aʊ ɛʊ ɔʊ əʊ / £
ә ʌ ẃ ă ĕ ĭ ŏ ŭ ẅ ẃ ẁ Ẁ ŵ ŷ ỳ Ỳ Hungarumlautː
A̋ a̋

U+1EA0 Ạ U+1EA1 ạ
U+1EB8 Ẹ U+1EB9 ẹ
U+1ECA Ị U+1ECB ị
U+1ECC Ọ U+1ECD ọ
U+1EE4 Ụ U+1EE5 ụ
U+1E88 Ẉ U+1E89 ẉ
U+1EF4 Ỵ U+1EF5 ỵ
gw_gytseiniol_050908yn 0399j_i_gytseiniol_050908aaith δ δ £ gw_gytseiniol_050908yn 0399j_i_gytseiniol_050908aaith δ δ £ U+2020 †
« »

 
DAGGER
wikipedia, scriptsource. org

httpsː []//en.wiktionary.org/wiki/ǣ

 
Hwngarwmlawtː A̋ a̋
gw_gytseiniol_050908yn 0399j_i_gytseiniol_050908aaith δ δ
 …..
…..
ʌ ag acen ddyrchafedig / ʌ with acute accentː ʌ́

Ə́ ə́

Shwa ag acen ddyrchafedig / Schwa with acute

…..
…..
wikipedia,
scriptsource.[]org
httpsː//[ ]en.wiktionary.org/wiki/ǣ

---------------------------------------
Y TUDALEN HWN: www.kimkat.org/amryw/1_testunau/
sion-prys_386_islwyn_500-599_RHAN-6_3809k.htm

---------------------------------------
Creuwyd: 08-03-2023
Adolygiad diweddaraf : 08-03-2023
Delweddau:

Ffynhonell: Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Newyddiaduron Arlein.
---------------------------------------

Freefind.
---
Archwiliwch y wefan hon
Cerqueu aquest web
SEARCH THIS WEBSITE
---
Adeiladwaith y wefan
Estructura del web

SITE STRUCTURE
---
Beth sydd yn newydd?
Que hi ha de nou?
WHAT’S NEW?


Ble'r wyf i? Yr ych chi'n ymweld ag un o dudalennau'r Wefan CYMRU-CATALONIA
On soc?
Esteu visitant una pagina de la Web CYMRU-CATALONIA (= Gal·les-Catalunya)
Where am I?
You are visiting a page from the CYMRU-CATALONIA (= Wales-Catalonia) Website
Weə-r am ai? Yüu aa-r viziting ə peij from dhə CYMRU-CATALONIA (= Weilz-Katəlouniə) Websait


Adran y Wenhwyseg / Seccio del dialecte de Gwent / Gwentian Welsh
Edrychiadau ar y tudalennau / Vistes de les pagines / Page Views
Web Analytics Made Easy -
StatCounter
Edrychwch ar ein Hystadegau / Mireu les nostres Estadistiques / View Our Stats