kimkat3808k Gwaith Barddonol Islwyn. 1897. William Thomas (Islwyn), Yr Ynys-ddu, Sir Fynwy (1832-1878) (rhan o Fwrdeistref Caerffili ers 1966).

20-05-2023





 .....

Gweler hefyd / Vegeu tambe / See also:

.....

0003_delw_baneri_cymru_catalonia_050111
..
 
 
 
 
 
 
 

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Catalunya i Gal·les
 
 
Cywaith Siôn Prys - Testunau Cymraeg ar y We
 
Gwaith Barddonol Islwyn. 1897.
William Thomas (Islwyn) (1832-1878).

RHAN 5/9. Tudalennau 400-499.
 


 

 

Map

Description automatically generated
(delwedd 7282)


Shape, circle

Description automatically generated https://translate.google.com/

(Cymraeg, catala, English, euskara, Gaidhlig, Gaeilge, Frysk, Deutsch, Nederlands, français, galego, etc)

...

www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion-prys_386_islwyn_y-gyfeirddalen_3803k.htm
Y Gyfeirddalen.
.....
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion-prys_386_islwyn_000-099_RHAN-1_3804k.htm
Rhan 1. Tudalennau 0-99
.....
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion-prys_386_islwyn_100-199_RHAN-2_3805k.htm
Rhan 2. Tudalennau 100-199.
.....
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion-prys_386_islwyn_200-299_RHAN-3_3806k.htm
Rhan 3. Tudalennau 200-299.
.....
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion-prys_386_islwyn_300-399_RHAN-4_3807k.htm
Rhan 4. Tudalennau 300-399.
.....
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion-prys_386_islwyn_400-499_RHAN-5_3808k.htm
Rhan 5. Tudalennau 400-499.
.....
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion-prys_386_islwyn_500-599_RHAN-6_3809k.htm
Rhan 6. Tudalennau 500-599.
.....
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion-prys_386_islwyn_600-699_RHAN-7_3810k.htm
Rhan 7. Tudalennau 600-699.
.....
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion-prys_386_islwyn_700-799_RHAN-8_3811k.htm
Rhan 8. Tudalennau 700-799.
.....
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion-prys_386_islwyn_800-864_RHAN-9_3812k.htm
Rhan 9. Tudalennau 800-864.
.....

 

A person with a beard

Description automatically generated with medium confidence

A map of the united kingdom

Description automatically generated with low confidence

(delwedd J7768) (delwedd 3181d)


llythrennau duon = testun wedi ei gywiro

llythrennau gwyrddion = testun heb ei gywiro

 

 

 

Text, letter

Description automatically generated

400 GWAITH ISLWYN


Atalio hynny! O f’angylion cu;
Y mae un ffordd — un sydd — i'ch cyrraedd chwi,
Ond nid oes modd i’w hagor
Heb agor bedd i mi.


Fe all y llygaid tanbaid gau
O dan gysgodau angau mwy,
Ond gweld y cyffion yn tyuhau
Am danoch, O nis gallant hwy!
Af ymaith, af ymaith dan faniar fy ngwlad,
A chariad ei hun
Fydd y llymaf fin
Erioed a ddisgleiriodd ar gleddyf fy nhad.

ANWYLDEB CYMRU.


FY Nghymru! mor anwyl yw'th froydd i mi,
A'th fryniau yn duo y nef bellaf fry!
O, gallwn ailenwi yng nghyfoeth fy ngho
Dy Wyddfa Olympw, Hesperia dy fro!
Mae gwledydd y ddaear yn agor o'n blaen,
Mae gwobrau ardderchog godidog ar daen,
Mae llwybrau ysplenydd i gyfoeth a bri,
Anrhydedd a chlod yn agored bob tu;
A'r swynwr ar ben yr heolydd rhos draw
Yn galw'n ddeniadol gan godi ei law;
Ag hanner yr ymdrech fe ddygid i ni
Fil mwy o ogoniant a chyfoeth a bri.
Ond bythoedd y'th garaf, fro hawddgar fy nhadau!
Ac am dy fynyddoedd ymglyma'm serchiadau,
Ac yn dy afonydd ystormus ymlifant,
A chyda'th awelon byth trwot y crwydrant.
Clyw'th ieuainc angylion, ar allor dy fryniau,
Yn tyngu ffyddlondeb i froydd eu tadau!


Boddlonaf ar fwthyn ar ymyl y bryn,
Ond imi gael gweled dy raiadr gwyn.
Tylodi a phrinder sydd well gyda Chymru
Na llawnder y byd a'i ogoniant oll hebddi.

Mae llawer yn gadael eu gwlad i estroniaid,
Mae eraill i ddaear eu gwlad yn
ffyddloniaid.
Fe deithiodd y genedl Ewrob i gyd
Wrth grwydro o barthau dwyreiniol y byd.


ANWYLDEB CYMRU. 401


Ond nid oedd un wlad a atebai ei hawen
O wledydd y byd, ond Cymra nefolwen;
Ac ni chai orffwysfa i'w throed yn un man,
Nes gweled o honi oleuni dy lan.


'R oedd yr Alpau yn uchel, ond gwell ganddi hi
Gartrefu yng nghysgod yr Wyddfa fry;
Er crwydro ar lennydd afonydd oedd fwy,
Dewisodd ei hawen yr Hafren a'r Wy,
'R wyf finnau’n eu dewis, am danynt ’r wy’n canu,
Ac ni chaiff ymfudiaeth fyth byth ein gwahanu.
Ni ddeuaf, fy mrawd, er iti daer erfyn,
O Gymru dylawd, ni chroesaf ei therfyn.
O! dyged Rhagluniaeth dydi yn dy ol
I ddringo’r hen fynydd, i rodio’r hen ddôl!
Fy mrawd! mae’r hen afon yn murmur o hyd
Am rywbeth sy ganwaith rhagorach na’r byd;
Mae angel y dyffryn yn para yr un
I'm derbyn yn ol o bob gwibdaith flin;
O, tyred fy mrawd! Mae angel y dyffryn
Ac awen yr afon yn barod i'th dderbyn.

O Gymru!’r wy'n caru cysgodion dy fryniau
Fel edyn tragwyddol amrywiog eu lluniau;
Mi dybiwn fod engyl i'w gweld yn dy wybrau
Ac ol eu hymweliad yn gwynnu dy lwybrau.
Mae adsain cref anthem yr hen ddiwygiadau
Hyd heddyw yn nofio hyd froydd fy nhadau.
Ar lan ei hafonydd y treuliais heb loes,
Mewn swyn awenyddol, foreuddydd fy oes;
O! bydded fy henaint yn gwywo yn llonydd
Fel derwen lawn oed, ar lan ei hafonydd;
A bydded im yno pan wywo y wedd,

Ar lan ei hafonydd O bydded fy medd!


Ei gwanwyn sydd fel adgyfodiad i mi,
'R wy n hoffi ei haf, eto canmil mwy cu,
Mwy cydnaws â'm hysbryd, yw’r Hydref rhaiadrog
A gwyntoedd y gauaf, y gwyntoedd hiraethog.

Y fath gydymdeimlad rhyfeddol y sydd
Rhwng gauaf yng Nghymru ag ysbryd y prudd.
Am wastraff yr haf, mab afradlon y flwyddyn,
Ac am ei ddigrifwch a'i wylltineb diderfyn,
 


402 GWAITH ISLWYN.


Mae anian yn awr wedi dyfod i angen,
A llwm yw y ddôl, a noeth yw y gangen.
Ei gwlaw sydd yn disgyn fel dagrau difeiriol,
Mae ei breichiau, y noethion ganghennau, yn eiriol
Am bardwn, sef gwanwyn; cynhygiant fel iawn
Eu rhyndod a'u noethni bob bore a nawn.


Mae’r llong yn y porthladd yn barod i gludo
Y dyrfa sy’n awr yn mynd i ymfudo;
Dymunaf eu llwydd ar y moroedd pell,
Ond rhagrith a fyddai dymuno gwlad well;
Os gwell ganddynt hwy wlad o gyfoeth a bri,
Boed iddynt ei chyrraedd, ond Cymru i mi, —
Hen Gymru a’i bara a'i dwfr a'i braint,
Ei nefol fendithion, ei Seion, a'i saint!

PONTARFYNACH.


Er ei huchcdd gorfrawychol, — y fan
Bontarfynach uthrol,
Fry sai’n hyf er oesau’n ol,
Cre' uwch rheieidr crochruol.

STORMIO UFFERN DDU.


(Efelychiad.)


CLYW, Seion! clyw yr udgorn mawr adseinia dros y byd!
Byddinoedd Satan sydd yn awr i'n herbyn oll y nghyd;
Ond, O, mae’n cadben mawr mewn nerth yn ymladd gyda ni,
A bloeddiwn goncwest, concwest lân, wrth stormio uffern ddu.


Cydgan —


Wel, awn oll ymlaen, yn enw’r nef, mae’n llywydd mawr o'n tu,
Ac fel ei hen wroniaid ef, ni stormiwn uffern ddu!

 
Mae’n baner lond y nef yn awr, mor ogoneddus fry!
A helm yr iachawdwriaeth fawr yn gysgod drosom sy;
Enilla milwyr dewr y groes goronau, fyrdd di-ri;
Ein Pen-concwerwr, arch a roes i stormio uffern  ddu.


Mae’r wawr yn torri trwy y niwl, a chastell pechod sydd
Yn crynnu, crynnu hyd ei sail dan hyfryd oleu’r dydd.
Enillwn, mynnwn yn y man, dragwyddol fywyd fry;
Trwy allu’n Ceidwad down i'r lan, a stormiwn uffern ddu!


CENEDL Y CYMRY. 403


CENEDL Y CYMRY.


Y crwydr.


O'R dwyrain pell ar doriad — gwawr oesoedd,
Yr hil yn fyw ydoedd ar lawn fudiad;
Enwog lu’n ymofyn gwlad, — bu gofwy
Boreu, a thramwy heb orthrymiad.


I’r llewin pan ddai’r lluoedd
Enw a dysg Athen nid oedd;
A chyn bod Rhufain glodus — ar eu hynt
Y Cymry oeddynt mewn rhwysg mawreddus.


Mor ryddion a’r afonydd— eu cafwyd;
Er cyn cof olrheinydd,
Dal eu rhan fel cenedl rydd — a'u breiniau
Yn eu treigliadau gynt trwy y gwledydd.


O na bai i'r awen bêr — adgofion
Digyfwng o'r amser!
Ei deisyfiad sy ofer, — mae nifwl
A du gwmwl ar gynfrud Gomer.


Mawr oedd eu grym hwy a'u rhif — ar gyrroedd
Ardaloedd oesau’r Dylif.


Esgynna rhwysg eu hanes
Fyth yn ol ac yn ol nes
Dengyd i wlad angof,
Gwlad lonydd nas cenfydd cof.


Eu hanesiaeth henoesol — a gollir
Mewn gwyllwch anhreiddiol;
Acw o’u rhawd prin y ceir ôl,
Yn y nos gynhanesiol.


Nid oedd ond ar fyd yn dyddhau, — adeg
Ydoedd cyn rhoi enwau
Ar Ewrob a’i gororau, — ei broydd,
Llydain afonydd, a’i gwylltion fannau.


Wrth deithio heibio ar hynt
Rhoddodd y Cymry iddynt
Enwau sydd gan eu sain, — eu cynhwysiad,
A'u dylanwad, yn awdlau eu hunain.


404 GWAITH ISLWYN.


Ar ryw foreu goleu gynt,
Gwlad Albion wiwlon welynt.
Gwynder ei chreig uwch gwendon
Oedd deg wahoddiad i hon.
Enillai 'u serch yn hollawl,
A'u moddion i’w meddu’n hawl.
Glan bell ar geulannau byd,
Lle noddfawr a llonyddfyd,
Anhysbys Ynys unig, — mewn moroedd
Diogel ydoedd, gwlad gloedig.


Digymysg giwdawd Gomer
Aeth yn nawdd rhagluniaeth Ner,
O'i fodd i’r etifeddiaeth,
A hon oll yn eiddi wnaeth.


Cyfion oedd cyfaneddiad — ein cenedl,
Ac union ei thrigiad;
Gweigion oedd y glynnoedd, gwlad
Ofynnai am drigfaniad.


Deuei y wlad dawel hon
O drawddysg y derwyddon,
A'u llwyddiant, yn gawell addysg,
I wledydd pell yn darddell dysg.
Llywydd cred y gorllewin
Yn gynnar oedd gan ei rhin.
Rheidiol i bob efrydydd — i hon ddod;
Celai gu glod fel coleg y gwledydd.


I fawr dwf yn foreu y daeth
Rhyfeddol ddysg serofyddiaeth.


Rhoi llithiau ar y Llwybr Llaethog — fry sydd
Yn fôr o ser tonnog,
Wnai’n seronyddion enwog, — eglurid,
E ddilynid hynt bydoedd olwynog.


Esboniai Idris beunydd — ucheldrefn
A chwyldro ysplenydd
Yr huan seirian y sydd — yn deyrn gwawl,
A'i luoedd nefawl iddo yn ufudd.


Ar y cyrff ser craffus oedd — trem Gwydion;
Enwau 'u lluon adwaenai, a'u lleoedd.


CENEDL Y CYMRY. 405


Y Rhufeiniaid.


Caisar hyd derfyn daear wnai dywys
Ei fyddin enwog i feddu’n hynys,
Ein Caswallon nacaes ei wyllys,
Caid arwyr filoedd ceidr i'w rhyfelwys.


Buan mewn aidd o ben y mynyddau,
Yn odidog disgynnai’r hendeidiau,
Ni arosent nes glanio o'r rhesau,
Dirif Frytaniaid yn dorf i'r tonnau.


Er tirio, er glanio, o'r gelynion,
Ar bob tu I’w drygu, ein pendragon,
Arweiniai ei wronion, — eu pybyr
Fanerog eryr nid ofnai’r gwron.


Yn ol gyrasant, troisant y trawsion,
Draw o’u gwiw lannau, gwnaed i'r gelynion
Ymadaw yn ddiamodion, — mewn brys
O'r hen Ynys, aerwyr anunion.


O
!’r floedd a'r gorfoleddu
Ar y lan gan erfawr lu,
Pan godai’r teyrn faeddai fyd
Ei angor i ddiengyd,
Pan gaid Rhufeiniaid ar fôr,
Dan gur yn gadaw’n goror!


Gynt pan drigynt o dan un pendragon,
Pa fyddin hyf, pwy faeddai henafion
Y genedl enwog! Gnawd i elynion
O'u blaen giliaw, a’r bobl o un galon.


Eithr y elwyf y methai’r cledd
Rhufeinig roi i fonedd
Y genedl, mewnol gynnen
A'i rhoes, arw loes, i'r hil hen,
Bradwriaeth ei brodorion
Ai o dan lwydd Prydain lon.


I'r wlad haeddol, mor niweidiol ymraniadau!
Yn ei chanol, mor resynol ymrysonau!


Yr Ynys Gadarn, er na ysgydwid
Gan ymosodlif trenllif estronllid,
Lli gwenwynol o ddichell gynhennid
Ddifâi’n raddol sail ddofn ei rhyddid.


406 GWAITH ISLWYN.


Afarwy erch ei fwriad — erfyniodd
Ar Rufeiniaid anfad
I ddychwel i'r harddwech wlad,
Heb wir ethryb i'w rhuthriad.


Llwyr ofer yw glewder gwlad
Is engur gur ysgariad,
Rhufeiniaid gaent drwy fewnawl
Fradwriaeth ehelaeth hawl.


Er rhoi iau den ar yddfau’r Prydeiniaid,
Llygru 'u miloedd ni allai gormeiliaid;
Parhai nwyfiant pur eu henafiaid,
A'u dewraf aniaeth er llid Rhufeiniaid.


Gwydr hyf gwedi hir hedd — iawn honnai
I’n hynys ei bonedd;
Mynnai gryfhau seiliau'i sedd,
A'i hadferyd i fawredd.


Gyrrodd Gloyw ar ein gorawr,
Fal drycin, ei fyddin fawr,
Aruthr lu, anrheithio’r wlad,
Hir lwyddo heb orluddiad.


Y corff mewn cadwyn os caid,
Rhy anhawdd rhwymo’r enaid.


Caradawg odidawg, parod ydoedd
Ar y maes weithion al lewion luoedd;
Gair ei folawd a wasgarai filoedd,
Ie, baeddai ei enw eu byddinoedd;
Mur a th
ŵr o gymorth oedd — i'n tadau,
A chnul angau idd y gwychion lengoedd.


Er colli’r dydd, o'r newydd crynhoai
Y Brython eon, ac ailgyneuai
Fflam uchel rhyfel lle y ai — ei ddidlawd
Lewaidd anlanawd, a'i gledd, ni hunai.


Glyw heb ail oedd, casglai blaid, — rhyfelwyr
Filoedd fel âg amnaid;
Ef ei hun fu enaid — y genedl gu,
Ow! ei roi i fyny i Rufeiniaid.


CENEDL Y CYMRY. 407

Rhufain fu lon gael yr eofn flaenor,
Y gorwych wron ynddi’n garcharor,
Hir y synasai wrth rwys aneisor,
Ei fraich gawraidd a'i fawrwech egwyddor.


Ni ofynnai gan fonedd — mawreddog
Am radd o hynawsedd;
Gwron ni chais drugaredd
Yn ddi-fawl, gwell ganddo fedd.


Wedi caethiwo'r blaenor a’i blinai,
Yr eofn Garadawg, Rhufain gredai
Nad oedd yn Albion wron flaenorai
Lewion mwyach, ei hawl ni amheuai.


Ni syniodd am adnoddau — y genedl,
Na’r eginyn gorau
O bur wladgarwch borau,
Oedd a byw nodd heb wanhau.


Buddug flaenorai 'i byddin — wronawl
Orenwog mewn brwydrin,
I Gâl draw gan rwygol drin,
Gyrrai Rufeiniaid gerwin.


Dan erchyll firewyll gormes deffroai
Hen Brydeiniaid, a'u hanian bur daniai,
Ag uchafiaeth lle bynnag y chwyfiai
Hoff luman hon, yn unfflam enynnai
Y wlad gan ryfel dig na arafai;
Drwy ofn ei gwroniaid Rhufain grynnai,
Ei llais a’i gwladol allu ysgydwai
Y tir, a'i gadwyn i'r gwynt ergydiai;
Rhyddid Prydain gain o'i fedd gwnnai;
Dan ei bron, calon gwron a gurai,
Ac i luon rhyddid calon a roddai.


Eithr o fanwl ddisgyblaeth Rhufeiniaid,
A chatrefn ddifai’n milain ormeiliaid,
Gorfu’n dristion i’n hyfion henafiaid,
Er eu henwog wrhydri, droi yn grwydriaid.
Nid eu dewredd, ond trefniad y diriaid,
A barai y dinystr ar Brydeiniaid.


Ow! roddi y derwyddon,
Luoedd m
ŷg, i'r cledd y' Mon!


408 GWAITH ISLWYN.


Heb un nawdd dan wyneb nen
Ond arwydd hoff eu derwen.
Gan alar trwm gwnelai’r tro
I genedl gyfan gwyna

 

Y Saeson.


Trwy frâd Gwrtheyrn, y deyrnas — a gollodd
Ei gallu a’i hurddas,
A chollodd trwy’r erchyllwas
Ei goreu fro, Lloegria fras.


Gwlad oedd er oesoedd di-ri,
Yn feddiant cyn cof iddi;
Collem yn hon ein cyrion a’u ceurydd
A'n coron fawredig trwy’r cam-fradydd.

Dwyn Sacson trawsion trosawdd,
Gweision erch, dan esgus nawdd;
Ond hwy i'r wlad fad ar fyr
Droisant dros oesau’n dreiswyr.

Môr o lid heb nemawr i lan — neu hafn
O hedd, o hyn allan
Yw brad y genedl, pob rhan
Ar gof, yn un frwydr gyfan.

Draw o chulhai cylch ei derch Iywiaeth
O flaeu grymusaf hyf lanw gormesiaeth,
Hyd na chaid onid un delaid dalaeth,
Un darn is hawl o'r hen deyrnas helaeth,
Nid oedd yno Gymro’n gaeth, — nac undyn
Grymai i elyu a gau ormeiliaeth.

Y genedl i eirw gloffwyni— Gwalia
Gwêl yn ymfoddloni,
A'i hoff etifeddiaeth hi,
Ei Rhyddid boreu, eiddi.

Fel creig ar ymyl eigion
Dyfnfawr, yn gwrthdaraw'r don,
Gan gadw'r môr cefnfor cau
Draw o fewn ei derfynau;
O'n goror fel hyn gyrrid
Grymus lanw gormesawl lid.


CENEDL Y CYMRY. 409

Lluoedd o bobloedd y byd — heb wrtharf
Aberthant eu rhyddid
O fodd, er mwyn celfyddyd,
Hedd dau, a dinasoedd clyd.

Ofer eu son am aneddau llonydd,
Ofer yw trafod dirfawr eu trefydd,
Ofer maelion toreithfawr eu moelydd,
Ofer y boen a'r holl lafur beunydd.

Ofer cân, ofer cynnydd,
Ofer oll heb wlad fo rydd.

Pa lesiant yw palasau — dihafal
Eu dyfais a'u ffurfiau,
I ormeswyr am oesau
Gael mewn hedd gwael eu mwynhau?

Rhag camrwysg rhoddai'r Cymry — (bo cofeb)
Y cyfan i fyny!
Troent yn filoedd trahy
I'r maes rhag gormeswr hy.

Cyn yr aberthid Rhydid a'i radau,
Peryglid mad wareiddiad i raddau,
Addoedid celfyddydau, — ysgarthion
Oedd eu holl faelion gerbron eu breiniau.

Aberthid eang barthau — o'r Ynys,
Yr hen derfyn borau,
Mannau prid, er mwyn parhau — ar enwog
Gymru fryniog gof Gomer a'i freiniau,

Troi o’u hafawg bentrefydd — a'u gadaw
I gyd heb breswylydd,
Dwyn garwaf duaf dywydd,
Dwyn oer rew, i fod yn rhydd.
Er mor flin, cynefin oedd
I dân ysu 'u dinasoedd.

Trwm ddinistr i'w meddiannau — eu daoedd
A'u diwyd drafnidau;
Gwell palas dinas ar dân
Na 'u hoff luman yn fflamau!


410 GWAITH ISLWYN.


Er cyrch didawl, cais unawl Sacsoniaid,
Er llwydd a dinystr lluoedd y Daniaid
Gorlidiog, er miniog gledd Normaniaid,
A garw elyniaeth myrdd o greuloniaid,
Y genedl yn genedl gaid, — mal y dydd
Ai drwy afonydd o waed Rhufeiniaid.

Gwae’r fyddin ormesgar a feiddiai
Groesi’r ffin oesol, yn ol ni elai!
O’i du fwriad llwyr edifarai,
Nid buddugoliaeth, ond bedd gelai.

Y safiad wnaeth yn ei thalaeth olaf
O du rhyddid, pa fodd ei hadroddaf!
Uwch gwrthsafiadau’r oesau ei rhesaf,
Yn ddiamheuol hwn oedd y mwyaf.
Rhwysg cadarn Owen Glyndwr ysgydwai
Y tir, a’i gadwyn i'r gwynt ergydiai;
Trwy ei fawr lewdid Rhydid waredai,
Harri goronog ar sedd Lloegr grynai.


Maes Bosworth.


Ni fynnai y genel ymdawelu,
Diau nis difyrrid nes adferu
Un o waedoliaeth y teyrnawl deulu
Prydeiniawl henoesawl i deyrnasu.

Arafodd erch olwyn rhyfel — a bŷs
Bosworth ar ei hechel!
Gorffwysed, safed nes el
Daear a nef draw’n ufel!


Harri Tudur, naturiawl — olynydd
Ein hen linach deyrnawl,
Ym Mosworth, lyw grymusawl — goronwyd,
Ac O, mawrhawyd y gwaed Cymroawl.

Cun didwyll o'n cnawd ydoedd — a'i haniad
O'n henaf frenhinoedd;
Brawd i ni ar Brydain oedd — mwy'n unben,
Ac O mor llawen Cymru a'i lluoedd.

A’r ddraig goch roddai, ar gad
Bosworth, eglur hysbysiad
Mai brenin o deyrnlinach — Brutus oedd
Yno a'i luoedd gwronawl hoew-iach.


CENEDL Y CYMRY. 411


Ein baner pan oedd unbennaeth — Prydain
Yn ein prid waedoliaeth,
Ar y gwych ddydd y ddraig goch ddaeth — i'w bri
Pan y dai Harri i’r penaduriaeth.


Pob deddf o ddirwy ddileid mwyach
Drwy haelioni y Dudorawl linach;
Bu hollol dangnef bellach — yn eiddom,
A rhad arnom dan y wir deyrnach.

Ochyr yn ochyr un achaws — oedd gan
Eu dwy genedl gydnaws;
Diflannodd, trenggodd llid traws, — caseion
Wnai y frwydr hon yn frodyr hynaws.

Drylliodd datododd Tudur — yr uchel
Frawychus ganolfur,
Gaid rhyngom, gwedi'r engur — lid, unem
Ac ymasiem drwy ryddid cymesur.

Un brenin mwyach, a’n breiniau — yr un,
Pa raid wrth gynhennau
Neu frwydrin, a ni'n mwynhau — ’r un gyfran
O iawn weithian â hwythau?

Adeg uniad dwy genel — ydoedd hon
Er diddanwch uchel,
Oddiyma, Gwalia, gwêl
O'r diwedd yn fro dawel.

Er hynny wedi'r Uniad — parhai
Ein priod noddwediad,
Dal i fyw yn genedl fad,
A chenedl heb lychwiniad.


Meddwl Cymru.


Os cynhyrfir gan fawr rwysg ein harfau
A'u hynt mawledig, lyn ein teimladau,
Mae'n hyfrytach cofio am hen frutiau,
Canu am ddilyth rwysg ein meddyliau,
Y cyffroad, dylanwad i lenau
A daflasom wedi adfail oesau,
Y trwydded odiaeth gai’n traddodiadau
Agor drws Ewrob I’n gwir drysorau,
Rhoi uchel feddylddrychau,— dyma rodd,
Molaf y rhad-rodd uwch mil o frwydrau.


412 GWAITH ISLWYN.


Bod o lês i'r byd, hwyluso — meddwl,
Rhoi o'i moddion iddo,
Yw diail waith cenedl wir,
Arddunir y rhodd honno.


Eu meddyliau yn ddiau ynt ddaoedd,
A dawn mwyaf cnydlawn y cenhedloedd,
Mewnol ydynt eu mwn o oludoedd,
Y pur drysor sy’n para drwy oesoedd.


Hen Athen, a Rhufain hithau — i ble
'R aeth bloedd eu cadresau?
A dirfawr glod eu harfau? Ble weithion
Y mae arwyddion o'u mawreddau?


Eu dewrder a'u hawdurdod
Doddodd, ddiflannodd fel ôd.
Holl ledred eu llywodraeth,
A'u grym, i'r diddym y daeth.
Eu caerau nis cyweirir, — hwy weithion
Mewn adfeilion dyfnion nid ofnir.


Ond os soddwyd awdurdod eu seddau
A'u mawredd isod ym moroedd oesau,
Ac eres gnwd eu goresgyniadau
O chwalwyd ar edyn chwyldroadau,
E ddaliodd eu meddyliau — trwy gydol
Gauaf niweidiol mil o gyfnodau.


Ein henwog genedl ninnau — wnai ei rhan
Er ennyn cynheddfau
Gwledydd, yn ei threigliadau — drwy oesoedd
Dyfal ydoedd yn meithrin bryd-flodau.


Mwyach bo rhodfa 'm hawen
Ar hyd feusydd llonydd llên,
I ddilyn ei meddyliawl
Elfen bur, mesur ei mawl.


Trwy’r mawr les bares i'r byd, — y nwyddau
Weinyddodd i efryd,
Pery ei chof mewn parch hyd
Derfyn oesoedd daearfyd.


Dyma ddyfnaf sicraf sail
Ei chlodydd uchel adail.


CENEDL Y CYMRY. 413


Y gwledydd I’n goludog — hengofion
A gaf yn ddyledog;
O'n cofiaethau cyfoethog — y tyfodd,
Ail agorodd llenoriaeth flagurog.


Ewrob draeth a wnaeth yn nhu — ei llên
A'i doniau addien, i'w hadnewyddu,
Pan oedd o'i chwsg dyfngwsg du
Dybryd yn ymddadebru.


Daw marwaidd lesg dymhorau — ar ynni
Dirfawr anian weithiau,
Ei llysiau geir yn llesghau, — cloedig
A rhewedig ei chynhyrchiol radau.


O ddilyn rhwysg meddyliol — cenhedloedd,
Cawn adlif llesghaol,
Traeth hanesiaeth cynoesol — fod adeg
I dir gofeg o wywder gauafol.


Allwysai y Tywyll Oesoedd — ddiod gwsg
Oedd hud gau i'r bobloedd,
Anadlent ar genhedloedd — eiddilwch,
Egwan arafwch am ganrifoedd.


Ynni bryd drwy’r byd beidiai, — a ther haul
Athrylith fachludai,
Lluddedig grebwyll ddodai — 'i bin euraidd
I lawr — trymaidd gwsg marwaidd gymerai.

Athrylith aeth i gaeth gwsg,
Daear amgylch i drymgwsg;
Yn nhirion ardd llenoriaeth
E ffoes cynyrchiolrwydd ffaeth;
A'r awen lân, egwan oedd
Ei llais trwy’r Tywyll Oesoedd.

Gwedi hir auaf gwyw a dirywiol,
Deuai gan wenu adeg wanwynol,
Ffoes trwch tywyllwch y byd deallol,
Ewrop ail gwnnai mewn bri plygeiniol,
Trwyddi yn ei ynni cynhwynol
Cyffrôdd, dihunodd y meddwl dynol.

Adferwyd bryd i’w fawr-rym,
Ond ofer adfer ei rym,


414 GWAITH ISLWYN.


Tra nad oedd gan bobloedd byd
Lyfrau na sail i efryd.
Nid oedd gwychion gofion gynt
I feddwl roi 'i ffurf iddynt;
Haul llên ar ddifancoll oedd
Oll is y Tywyll Oesoedd.

O ba ddiben athrylith ysblenydd
Heb wrthddrych ceinwych all dderbyn cynnydd
Oddiallan? Nid yw ond arddullydd,
Na 'i allu ond eiddaw llaw y lliwydd.

Byd Ewrop oedd heb awdurol — weithiau,
Ac amlinau i ddoniau arddunol
Eu llenwi yn gynlluniol, — a'u hongian
Yn nef eirian llenoriaeth anfarwol.

I'r bryd dynol, dwyfol daeth
Ailwy’n awr o lenoriaeth
Y Cymry, — rhodd bery byth
Yn deilwng o barch dilyth.


Dyma rodd i'r byd ei mawrhau, — enwog
Rodd o odidog draddodiadau.

Hen Gymru oedd enwog am wir ddoniau,
Mwy ni fu Athen am hynafiaethau,
Aruthredd didor, a thraddodiadau,
Awenol aniaeth, a gwronawl enwau
Mawredig gymeriadau — fal ser pur
I lawr hyd Arthur ar asur oesau.

Meddai olud meddyliol, — a thoraeth
Eirian o’r chwedlonol
A naws y ffughanesiol, — hyglod oedd
Am anlloedd, am hyntoedd y rhamantol.

Dihafal draddodiadau hefyd — oedd
Eiddi o'r boreufyd,
Rhai oeddynt yn cyrhaeddyd
Hyd oesau borau y byd.

Mawr drysor y Cymry droswyd,— eu llên
I'r byd llwm drosglwyddwyd,
A thrwyddo llawn waith roddwyd
I’r meddyliol nerthol nwyd.


CENEDL Y CYMRY. 415


Gruffydd ab Arthur.


E beithyn i Gruffydd ab Arthur — barch
Drwy’r byd am ei lafur;
Ar ein holl lên perchen pur
Ys ydoedd, a'i drosiadur.

Cyfieithodd ein cofiaethau, — ein hanes,
A'n hen diaddodiadau,
Rhoes i eraill drysorau
Ein llên i'w cyflawn wellhau.

Ei "Historia" ni lesteirid, — ei lanw
O lwydd nis cyfyngid,
Hyd dir Asia trosid, — a thrwy'r gwledydd
I ddarfelydd y wledd oraf hulid.

Rhedodd drwy eang gylchoedd y Ffrangaeg,
Croesawyd, mynnwyd yn yr Almaenaeg,
Bu ei rad olud i'r ber Idalaeg,
Darllennwyd, esboniwyd drwy'r Yspaenaeg.

Llochodd, mabwysodd y byd — y coelion
Tirion a'r cofion Cymreig hefyd.

Fe wnaeth ein hynafiaethau — yn eiddo,
Noddodd ein meddyliau;
A'n didor draddodiadau
Hoffodd, ymrôdd i'w mawrhau.

Am ddihafal wronion Gwalia,
Iach deuluoedd byd yn chwedleua,
Synnid nifer yn Sandinafia
O dan aur hwyr edyn Aurora.

Defnyddiau wrth fodd athrylith roddwyd
Y gronfa hon o gofion pan gafwyd,
Doniau'r cenhedloedd daniwyd — mae'n hysbys,
O'r diwedd ewyllys bryd ddiwallwyd.

Hen hanes ein brenhinoedd
Eu mawl-destyn arddun oedd,
Cyfriniol broffwydoliaeth
Ein Merddin ddewin a ddaeth
Yn bwnc i lenorion byd, — am oesoedd
Rhedwely ydoedd i ddyfroedd efryd


416 GWAITH ISLWYN.


Ei adfyd a'i dynghedfen, — a’i gystudd
Yn ei gastell draenen,
Ei ddolef ar nos ddulen,
A'i wae yn "y ddraenen wen."


"Arthur” y rhamantau.


Clod pur ein Harthur nerthawl — fu eilwaith
I folawd awenawl
Ganiad yn bwnc gogonawl,
Uwch myrdd o wrthddrychau mawl.

Cynhwysa ffughanesion — y gwledydd
Glod ein pennaf wron
Hyd ei golli yng ngwlad gwyllion, — traethiad
Am ei arfolliad ym mro Afallon.

Myfyrion am ei fawryd,
Gan goethion benbeirddion byd,
Melus geirdd am ei lys gynt
A'i ogonedd a genynt,
Ei odidog farchogion,
A hyfryd grefft y Ford Gron.


Ei lwydd yng nghad Celyddon, — a chofus
Uchafiaeth Caer Faddon,
Gwrolwaith, gwae ar âlon
O'u neshau i'r Ynys hon.

Llannwyd y byd llewinol — â thrydan
Ei weithredoedd nerthol,
Ac o’i hanes orescynol — e ddaeth
Helaeth doraeth o weithiau awdurol.

Enw Arthur aml ei nerthoedd — ym Mhrydain
Mawredig os ydoedd,
Enwocach uchelach oedd
Acw yn odlau'r cenhedloedd.

Y rhyfedd, y mawr hefyd
Elai'n fwy, e lanwai fyd;
Ameuro ei gymeriad
Wnai mil o awenau mad.

A llewych Llŷs Caer Llion — gynyddai
Gan addurn y beirddion,
Nes oedd ei dinasyddion
Yng ngwawl bri fal engyl bron.


CENEDL Y CYMRY. 417


Llawnwych adluniad o'n llên chwedlonawl
Ynt brif-weithiau doniau’r meddwl dynawl,
Dyma ddelid eu gweithiad meddyliawl
A blaenau eu ffrydiau amgyffredawl;
M
ŵn eu cyfoeth mewnawl, — eu gogoniant
A'u mawr riant yw'r meddwl Cymroawl.


Dylanwad ein chwedloniaeth — newidiai
Nodwedd aml lenyddiaeth,
Weithion cawn olion helaeth — o’i weithiad
Yn hoff gynhwysiad aml ffughanesiaeth.


Beier a fynner, e fu — hen addysg
Chwedlonyddiaeth Cymru
O les i echlysu — moes a dewredd
O du rhinwedd drwy’r byd i daranu.


Dygant dramor ddysgedigion — gyffes
O'i gwiw effaith weithion;
Pob Cymro, seinio am swynion — y chwedl,
Na bo o'r genedl neb a rhyw g
ŵynion.


Ni cheir i Gymru na choron — na darn
O deyrnas, na lluon
Dewr ogylch, na phendragon,
Yr oll yn awr yw llên hon.


Rhyddid,


Mawrhaf y Cymry hefyd — am rwyddo
Mawreddog hynt rhyddid,
A rhoi balch engraifft i'r byd,
Hoff arwyr, o'i ddifferyd.


Bythol ymffrostiwn, gwn, yng ngogonedd
Ein gwronion, bu enwog eu rhinwedd,
Nid goresgyn y byd â gau rwysgedd,
Ond diffyn yr iawn derfyn hyd oerfedd,
Mwynhau bro Cymru mewn hedd — gofalus,
Gwyliadwrus i'w gwalio â'u dewredd.


Am ein gorchestion glewion pan glywid
Diffynwyr iawnder is ser gysurid,
Dan erchyll ffrewyll gormes deffroid
Eu hyf luoedd, a'u heirf a ail loewid.


Rhag trawsder creulawn ar ol cyflawni
Eu rhan, a'u llu egwan bron llewygu,
A'u gobaith bellach, bellach ar ballu,
 


418 GWAITH ISLWYN.


A'r dig ormeswr wedi grymusu
Ei fyddin i'w llwyr faeddu, — caid cysur
O gofion Arthur i'w hadgyfnerthu.


I ryddid caid arwyddion
Cymorth ail co' Marathon.


Charles o'r Bala.


O holl odidawg liosawg lesion
Ac amryw ddoniau’r Cymry i ddynion,
Prif rad yw puraf air lon, — rhodd odiaeth!
Mor fuan daeth a môr o fendithion!


Un o honom a enynnai — y fflam
O hoff les oleuai
Genhedloedd filoedd am fai,
Ac am waed a'u cymodai.


Y gair os seliedig oedd, — agorwyd
Ger yr holl genhedloedd;
Ei ladau a'i oludoedd
Iddynt caid yn feddiant coedd.


Os cauedig fu gwyllys Ceidwad
Rhag hil Adda, drwy euog luddiad
Cynoesoedd, y cynhwysiad — dynolryw
Erbyn heddyw a'i g
ŵyr heb enhuddiad.


Pob llwyth fwynhâ o ffrwythau — odiaethol
Cymdeithas y Beiblau;
Ar daenol fôr ei doniau — pellaf blant
Y cwymp ganant acw am y pegynau.


Mynegfys dywys rai duon — eu lliw
Yn lluoedd i'r ffynnon, —
Pan ylch yr Ethiop yn hon
Bydd holliach heb weddillion.


Os un addwyn rodd sy yn eiddi,
Medd hon ddigon i ddieuogi
Dyn dan gollfarn gadarn, a'i godi
I ogoniant y nef o'i gynni;
A ddalio hon, medd hawl i — bob cyfran,
Bywyd ei hunan, pob daioni.


Dugiaid a chadfridogion — nas enwer
Eu gwasanaeth weithion,
Nas canmoler ger gwron
A sant y Gymdeithas hon.


CENEDL Y CYMRY. 419


Am y rhodd hon myrdd myrddiynau — folant
Ior ar felus dannau,
Mawrhânt y Cymro yntau — o wir fodd
Draw a'i hestynnodd dros y tonnau.


A'r hil a'i dygodd fawrhânt, — bydd uchel
Enw gwiw ei genel byth mewn gogoniant.

 
Yr haelwych feddylddrych ddaeth
Yn elw i fyrdd dynoliaeth.


Nis cawn yn hanes cenel — wasanaeth
Na syniad mor uchel,
Nefol effaith ei gwaith gwel
Dros wyneb daear isel.


Diodid, o'i cheidwadaeth
Lles diderfyn i ddyn ddaeth.
Yr oedd yn werth ei pharhau
Heb leihad, yn ei blodau,
I roddi’r fath gyfarwyddyd,
I roi y fath drysor i fyd.
Hi roddodd fwy na rhyddid,
Do, hi roddodd fodd i fyd
Adnabod y Duwdod heb
Len ar Ei ddwyfol wyneb.


Amddiffynnodd, cynhaliodd Nêr
Ei gwmwl uwch pabell Gomer
Er mwyn hyn! Ei rwymyn oedd
A'i ras o'n cylch drwy’r oesoedd.


Awen Cymru.


Pa bobl mor gyflawn o'r ddawn farddonol,
Mor fawrion mewn eiddion awenyddol?
Mae’r wiw gân addien mor ogoneddol,
Yr awen, er yn Eden, mor hynodol?
A'i phur dân mor gyffredinol? — is ser
Y fath nifer dan ei nwyfiaeth nefol?


Mawredig iawn ym Mhrydain — oedd y bardd
A'i burddwys arwyrain;
Am ei urdd ceir mawredd cain
Oestadol er oes Tydain.


420 GWAITH ISLWYN.


Delw o hedd oedd ei wedd wiw,
A’i orllaes wisg awyrlliw.
Ar fardd ni chaid gwaharddiad,
Oedd nawdd ac hed yn nydd câd.

Mor hŷf, rhwng fflamau rhyfel, — y rhodiai!
Elai, a deuai yn ol yn dawel;
Ei ddygiad oedd diogel, — ar helynt
Ef elai rhyngynt fal rhyw angel.

Barddoneg deg oedd pob dysg, — mydryddiaeth
Ac awenyddiaeth oedd pob cynaddysg.

Er pob llethol elynol ddylanwad,
Brawychawl draha a berw chwyldroad,
Er rhwysg camwri, erys cymeriad
A chlod yr awen uwchlaw dirywiad.

Rhodder ehangder iddi,
Y nen yw ei helfen hi.
Mae yn hoffi min affwys,
Tremyn odd y dibyn dwys.
Deil ar daith gwibdaith nes gwêl
Oror iach yr aruchel.
Yn hollol gartrefol trig
Ym mhur
ŵydd y mawreddig.
Ni ddawr cyffredinedd hi, — myn fawredd,
A iach arddunedd i'w chawraidd ynni.


Y gynghanedd.

Mor gu i'r Cymry ei gwedd
Yng ngheinwisg y gynghanedd!


Nyddedig gynghanedd ydyw — ei nawd
A'i nodwedd diledryw,
Y diddadl brofiad hyd heddyw
Mai y wir ddawn Omeraidd yw.

Ei hoffus drefn sydd effaith,
Sydd ddrych o ansawdd yr iaith.

Dolef anian, awr câd elfennol,
Llef y rhaiadr, mynyddllif rhuol,
Darlunia drwy olynol — dreigliadau
O’i tharanau cyflythrennol.

 

Mor nerthol cyflifol lef
Ac adlais ei chlych cydlef!


CENEDL Y CYMRY. 421


Noddi y cynghaneddion — y byddom
Fel buddiawl arwyddion
O fawrddyso; ein cynfeirddion — (sy mwy’n fud) —
A môr golud y Gymraeg wiwlon.


Athrylith i'w rheolau
A'u cryf ddull, câr ufuddhau.


Awelon, nid hualau, — yw y rhain,
Is ei aur adain, i'w eres rodau
Fry hêd ei fyfyriadau, — ag enwog
Odidog ehediadau.


Gemau’r awen Gymrêig — gwych harddwisg
Ei cherddi mawreddig,
Nid ydyw’r drefn nodedig — yn gadwen
Na lludd i awen mewn llaw ddeheuig.

Egyr ei lwybyr ar led,
A rhydd wawl i'r bardd weled;
Llwybyr i’w fyfyr fwyfwy,
Chwilio am air a chael mwy.
Iawn ddaw i awen ddiwyd,
Gair i fardd a egyr fyd.
E dry gair wrth droi o'i gylch
Fyr ymgais, yn fôr amgylch.

Pa le ceir llên mwy eirian,
Pwy edrydd gynnydd y gân!

Bardd erioed fu i ganu’n ogonol
Glod gorchestion y gwron gwladgarol,
Ein niferi anfarwol — o feirdd gynt
Llawn oeddynt o grebwyll awenyddol.

Tyrrau ser ynt dros yr wybr,
O lawned yw y lên-wybr!

Y beirdd Cymreig.

Y godidog Ododin — yn gynnar
Iawn, ganai Aneurin;
Ac arwydd-eiriau gwiw-rin — yn forau
Wnaed i oloesau gan Daliesin.

Ei felus "Ner a folant" — wireddir;
Oedd yn gweld nodweddiant
Uchel ei genel pan gânt
Ag hyder, — "Eu hiaith gadwant."


422 GWAITH ISLWYN.


GoRONwy hefyd a geir o'u nifer,
Mae ei le yn ymyl awen Homer;
Rhodda ei bwyll a'i gerdd bêr — ddrych o ddysg
Ac odiaeth ddigymysg deithi Gomer.


Fe fwriai’n fyw y Fam Fawr — a gorddwys
I’w gerdd athrylithfawr;
Trwy ei wir rym tery’r awr
Fuddugol i fedd agawr.


Ac ar y rhes eres hir
IONAWR hefyd iawn rifir.
Tra bo’n llên y Fellten fydd
Dan gauad yn ei gywydd.
Ail lifa’r Diluw hefyd
Ymchwydd ei frawdd a fawdd fyd.


A gorwych fardd y Gaerwen — hedai hwnt
Hyd entyrch nef awen
Heb ordiest, oedd berchen — ar ysblenydd
Ddawn ddieilfydd, arddunedd ei helfen.


Ar ol yr arddunol feirdd a ddoniwyd,
I'n tadau diau un bwlch adawyd.
I Dduw a'i wiw gysegr bardd a geisiwyd
I Seion fwyn, a WILLIAMS anfonwyd,
Efe i eglwys Iona gymhwyswyd
Ei asbri dilesg a ysbrydolwyd,
Iddo y fawreddog gynneddf roddwyd,
Ie, byw esgyll cerub I’w hysgwyd,
Ei athrylith fendithiwyd — i'w orchwyl,
A'i awen anwyl o'r nef eneiniwyd.


Rhoes ei farddas gyfaddas foddau
I Seion dirion o’i Winderau
Isod, adrodd hynod haeddiannau
Ei Gwaredwr, mynegu 'i radau.
Chwery y genedl ar wych organau
Ei farddoniaeth brofiadon fyrddiynau;
Ai ffyddiog oludog ddisgwyliadau
Nofia ar redlif ei swynfawr odlau
Hyd dawel lennydd gwlad y telynau,
Trem anwyl trwy 'i emynnau — ar hyfryd
Fro y bywyd lle ni chofir beiau.


CENEDL Y CYMRY. 423


Af i dramorol fyd yr Amerig,
Aml Gymro gân yno’n ddigon unig
Ryw odl odiaeth bêr ysbrydoledig
O'n mawr brydydd, — O mor buredig
Y mawl a gwyd o las deml y goedwig!
E gymer awel y dôn Gymrêig
A'i syw nodau i fyny’n synedig.
Ty ei dad gofia’r alltudiedig,
Ei godiad bendigedig, — meithriniad,
Ac addysg fad ei wlad oleuedig.


Ceir a foddia'r teimlad crefyddol,
Yn ei emynnau dyfnion, mewnol,
Boddhant chwaeth genhedlaethol — yr unwedd
Ag eu mir ddullwedd Gomeraidd hollol.


Gwelid egwyl diwygiad
Ar bob llaw’n goleuaw’n gwlad;


Agorai ddôr trugaredd i — ryw dorf
Ar derfyn trueni;
Llawer mil o'n hepil ni — a
chubwyd,
Tyrfa ailanwyd trwy fywiol ynni.


Llif o deimlad mawladwy — mwyach oedd
Yn ymchwyddo fwyfwy
Yn eu hael galonnau hwy, — cronedig
A chauedig neb fawrwech adwy.


Y pur ddwfn! Pwy a'i rhyddha?
Mae’r llesfawr ymarllwysfa?
Awen gun Williams pan ganodd — y llyn
Llawenydd a dorrodd!
Engyl, pan ymollyngodd, — gwrandewynt,
Y ne synnynt, mawl Gomer pan seiniodd!


Ei genedl a ddigonodd — a'i genedl
Gynnes a'i coronodd,
Y pen-geiniad pan ganodd, — a thrwyddo
Yr eiddo i Dduw roddodd.

Yr iaith Gymraeg.


Diau ni fu dan nef âch
A lynai yn ffyddlonach
Wrth ei hiaith, ni werthai hon
Er ystryw nac aur estron.


424 GWAITH ISLWYN.


Draw o oesau borau y byd,
Ei gwylio’r oedd fel gwal ei rhyddid;


Fel arwyddlun arddunol — o'i dilesg
Fodolaeth gwladyddol;
Ydoedd yn gydredol — a'i dilead
Y syniad o lethiad cenedlaethol.


Cenedl nid oes nas cwynir
I’w hiaith hen golli ei thir
Yn raddol gyda’i rhyddid,
A'u rhoi i un bedd rhag orn byd.

 
Y Rhufeinaeg, gyda’r faner — wladol,
Lwydai i anarfer;
Er cynbarch yr aeg geinber
Ei sain ni chlywir is ser.


Am hon hefyd mae’n ofer— clustfeinio
A gwrando o gywreinder, — ni adseinia,
Mwy ni ateba min y Tiber.


Lleferid gan holl fawrion — byd unwaith,
Bu doniau uchelion
Odwych yn trin tynghedion
Daear ar gylch drwy’r aeg hon.


Rhagddi’r elai tra llwyddai’r lluyddion,
Dilynai’r llwybr a dorrai y dewrion,
Gyda hwy e gadwai hon — ei haddef
Mewn tangnef — ac adref gyda’r ceidrion.


A chauedig bellach ydyw, — o fewn
Athrofeydd, heb unrhyw
Noddwyr ond gw
ŷr llên heddyw,
Dug fawr rwysg, ond aeg farw yw.


A'r goethaf Roaeg hithau, — iaith yr hen
Brif athronwyr borau;
Nid oes âch bellach neu bau
Yn ei sisial er's oesau.


Ond iaith Gomer a bery,
Ei sail yn ddiysgog sy;
Er gweled dwys galedi,
A chwerwon droion di-ri,
Noddent, cynhalient yn hy
Yr enwog iaith er hynny.


CENEDL Y CYMRU. 425


Mae’n iaith fyw mewn eithaf hwyl
Ym mryniau Cymru anwyl.
Yma’r erys mor eirian
Ei bri ag yn nyddiau Brân.
Nid ar dariannau dewrion
Amhêus lwydd, mae sail hon;
Ni raid effaith rhaith ar hyn,
Ni raid offer i'w diflyn;
Gnodol aidd y genedl yw
Ei diddos nawdd hyd heddyw.


Am ei chadwraeth mae uchawduron,
Llenwyr odiaeth eu chwaeth, yn feilch weithion;
I dramorawl awdwyr mawrion — ced yw,
Mae Ewrob heddyw’n mawrhau ei buddion.


Hynod wyddor ydyw ei nodweddiad
Ar ieithoedd laweroedd rydd egluriad,
Ceir yn hon ffynnon a chyff eu haniad,
Cu iawn oleuni ar eu cynluniad.


A godidog geidwadaeth
O wawr deg amser y daeth,
Ar hynt oesoedd gynt e gair
Gwawr rwydd o lawer gwreiddair;


Eglurhad ar gynfudiadau,— a bri
Boreuol giwdodau,
Gwelediad i'w treiglifiwiau,
A'u hanes gynt oedd nos gau.


Y Ladinaeg pan yr ymledaenai,
Hen ieithoedd seinber lawer a liwiai,
Ei delw neillduol a raddol roddai
Iddynt, a'u nodwedd hwynt a newidiai,
Drwyddynt ei helfen dreiddiai, — tra ffynnodd
Hir y goddefodd llawer aeg ddifai.


Mae profion ymhob prifaeg — Ewrob o
Fawr bwys y Rufeinaeg,
Ac o'i heffaith fel cyffaeg, — ond o'i llwydd
Mae arwydd yn y lân 0meraeg.


Yn ffrwd bur ei phurdeb oedd, — yn llifo
O bellafion oesoedd,
Er ystryw cêl a rhwystr coedd,
Er a wnaed, yr un ydoedd.


426 GWAITH ISLWYN.


Er drwy egwyl byr ei drygu, — hi wnai
Newydd ymadferu
I’w grym di ail, gormod oedd
I allieithoedd ei llethu.


A diau er bod awydd,
Mwy hyd y Farn, gormod fydd!


O’i rheol os dirywiai, — a silleb
Os alliaith a'i llygrai,
Dihalog eilwaith delai
Yn adferol heb ol bai.


Mae’r hen iaith yn berffaith bur
In eto, fel ffrwd natur.


Cywir y siaredir hi — a newydd
A phur beunydd, mal yn Neffrobani.
Nid o fewn i brid feini — cauedig
Rhyw goleg unig, ond ar glogwyni
Cyniru enwog, mor heini — ag erioed,
Mae’n gref er henoed mewn gorfawr ynni.


Cain dlws ein cenedl yw hon,
Cynnyrch o'i theithi ceinion.
Delw in’ o’r genedl hynod,
Cynnal hon fo’n union nôd.
Em gwahanfur naturiawl,
Rhwymyn yw, caer am ein hawl.


E geir dan y rhod odidog flodau
Na flagurant ond mewn hafawl gyrrau,
Ar lenydd afonydd y Trofannau,
A cheir nodweddion teithi a doniau
Rhyfedd yn anian ein crefydd ninnau,
Na fyddant fyw heb foddau — priodol
Y iaith Omerol ac ei thwym eiriau.


Odiaeth haulflodau ydynt, — hinsawdd dwym
Sydd dymor iawn iddynt,
Ac hêb wres ein haeg bur hon
Gwywo’n anhylon wnelynt.


Fe ddileir ein crefyddol aidd — cynnes,
A'n canu nefolaidd,
A’n pur emynnau peraidd,
Gyda hon, ireiddlon wraidd.


CENEDL Y CYMRY. 427


Ag ysbryd mawl cysonawl ei seiniau,
Pob sant addolgar a gar ei geiriau,
Awr lonydd ar ei liniau — teimla’r ddôr
Yn ebrwydd agor flaen ei brawddegau.


O flaen gorsedd trugaredd, trwy 'i geiriau
Naturiol ydynt ein taer alwadau,
Dyma Iydan adwy i deimladau
Addwyn arllwysiad idd ein holl eisiau.

Mawr glod yr Omeraeg lân
Er drygair a darogan,
Barhao yn ein broydd
Yn ei rod tra delo dydd.
Hen yw, mae eto’n ieuanc,
Newydd drwy elfen ddi-dranc.

Iaith bêr a thyner ei thôn, — dylifiad
O lafar peraidd-don;
Geiriau syw, dengar eu son,
Mal su ymylau Seion.

Iaith bêr a thyner ei thôn
Melus seiniau aml swynion;
Wrth raid, bydd aruthr wedyn — ei seiniau,
Bwrw ei geiriau fel y berw gorwyn.

Swn fal per fwynder ar findant — arian
Ei mêl-eiriau roddant;
A phwnc mawrwych gorwych pan gânt
Fet rhaiadr gauafol rhuant.

Bo’n gamwedd i feibion Gomer, — bellach
Ballu mewn ffyddlonder;
Mawrygu b'ont Gymraeg bêr,
Hyd derfyn byd ei harfer,

Dyhewyd Cymru.

Heb hedd Naf byddai’n ofer— ogoniant
Y genedl a'i gwychder;
Ban uwch y cyfan, cofier,
Ydyw nawdd a chariad Ner.

Crefydd yw cynnydd cenel, — a'i phennaf
Amddiffynnol angel;
Pob rhinwedd hardd dardd lle dêl,
Nid urddas ond o'i harddel.


428 GWAITH ISLWYN.


Pa beth yw gwir werth cenedl, a'i nerthoedd?
Nid caerau, palasau, a gwymp lysoedd,
Neu lawer o fyddin luoedd, — cyfyd
Ei gwir fywyd o'i chysegrfaoedd.


O, pa sawl dengmil o'n hil anwylaf
I ffydd Iôn yn ufuddion ganfyddaf!
O du gwir achos y Daw Goruchaf
Oll o un galon yn llon eu gwelaf,
Rhoi ‘u nerth a'u hamser i'w Naf, — mor unol,
Mor egniol, yn y mawr gynauaf!


Sabbath yng Nghymru.


Sabboth addwyn o glogwyn golygaf
Hyd hyfryd waelod y fro dawelaf,
Ryfedd Walia! dy dorfoedd a welaf
I d
ŷ eu Ner yn myned yn araf;
Am addolwyr bro Salem meddyliaf,
A'i thorf bererinion gyfion gofiaf.

I gyd y Sabbath gedwir
Yn ei waith, dydd Duw yn wir.
Mola pob un mal pe bai
Yn swn taranau Sinai.

Ymorffwys o bwys y byd, — mae’n cenedl
Mewn cynnes addolfryd,
Ymwneyd ag ef, mynd i gyd — ar ei ddydd
I'w d
ŷ’n ufudd, a'u Duw yno hefyd.

Teithwyr beunydd sydd yn son — am ein mawl
Mewn melus adgofion,
Fel rhai glywsent fawl yr Iôn
Is awyr nefol Seion.

Ceir ar Ganan drigfan-drem,
Ceir Sul fel un Caersalem.

Tueddiadau toddedig, — tynerwch
Tan eiriau caredig
Iôr, ydyw eu puredig — addoledd,
Uchel nodwedd o fuch ailanedig.

Poen y Cyfiawn pan y cofiant, — a grym
Ei groes pan y teimlant,
Hoff Waredwr, ffrydiant — eu llygaid llon,
Ac mal gloewon gymylau y gwlawiant.


CENEDL Y CYMRY. 429

Dedwydd wresogrwydd y sy — yn anian
Gynhennid y Cymry;
Hewyd trwyadl, — w
ŷr trahy, — oedd eu lles,
Eu boreuaf hanes a brawf hynny.

Eto’n bur y tân bery — ym moliant
Tra melus y Cymry;
Trwy 'u crefydd aidd santaidd sy, — tan cariad
Fyth o'u cymerifiul mad ni ymedy.

Nid gau offrwm — nid moesffurf digyffro
I foddiaw camrwysg yw crefydd Cymro;
Teifl ei enaid a'i ysbryd diflino
I'w grefydd, llawenydd oll yw honno;
Nid dull anaddas tu allan iddo
Heb hewyd iawnddwys, ond bywyd ynddo;
Traidd ei dylanwad trwyddo, — llywia 'i rawd,
Mae’n wir anianawd, mae’n rhan o hono.

Mewn crefydd beunydd mae’n byw,
Ei nodwedd, ei elfen ydyw.

Am hon y mae 'i ddymuniad,
Nofia yn hon gan fwynhad.
Nid dyledswydd afrwydd yw,
Tâl, llâd, a braint oll ydyw.

Ei graddau gweithgar roddant
Ddwfn nos, bob cynneddf fwynhânt
I fyfyriaw’n llawn awydd
Ar seiliau a phynciau’r ffydd;
Myfyriaw fyth am fwriad
Ac am drefn y cymod rhad;

I efengyl cyfyngu— eu myfyr,
Ymofyn am Iesu,
Ac am yr lawn cyflawn cu
Roes y tâl dros y teulu.

Ac er nas gŵyr y mwyrif
Am ddeddfau, rhodau, a rhif
Y ser a'u lliaws araul,
A threth cyfundraeth yr haul,
Cânt y clod am wybodaeth,
Digon yw, o'r Duw a'u gwnaeth.


430 GWAITH ISLWYN.


Ein digoll weinidogaeth, — am allu
Cymhelliant, trydaniaeth,
A thoddawl areithyddiaeth,
A llawn hwyl, yn gynllun aeth.

Diareb hon drwy y byd, — am ei grym
A'i gwres sydd mor danllyd,
A'r Cymreigaidd aidd a ddyd,
Wedd ddi-fai, ynddi fywyd.

Arddull hon sydd yn gyson ddanghoseb,
Neu lyn lle gwel y genel ei g
wyneb,
O'n dwys grefydd mae’n adysgrifeb — byw,
Arlun ydyw o'n Gomerawl nodeb.


Mae’n adlun o Gymru’n goedd,
O fywyd i golygfaoedd.
Gwêl y genâl glogwyni
Ei fi gwlad enedigol ni,
Ardduniant, uthredd anian,
Oll yn ei dull llawn o dân.
Hon fal ein elogwyni fedd
Iach hwyl ac arucheledd.


Godidog ymgodiadau — o grebwyll
Fel gorgribog fannau,
Ei haruchel feddylddrychau — ydynt,
A'r golwg arnynt fel gwir glogyrnau.

A phan ddaw’r floedd orffennawl,
Y dorf fydd yn fyw drwy fawl;
Mae 'i swn mor rymus inni — mor nerthol,
Mor naturiol, a llyn mawr yn torri.

Digonir De a Gwynedd
A thirion genhadon hedd.

I'w henwog alwad gan Iôn eu gelwir,
Gan yr Iôn ei hunan eu heneinir,
O'i orsedd lân eu byw dân a dynnir,
Y nefol dwyniad gan fil adwaenir,
Y sel llwyddiant nas lluddir, — y teimlad
A'r arddeliad rhad na ddynwaredir.


CENEDL Y CYMRY. 431


Nid y chwareufa au, ond ei chrefydd
Oleu, weina i’r genedl lawenydd,
Ei phur hoen ydyw cofio 'i Phryniawdydd;
Gwrando am dano, dyma 'i dy wenydd.

Rhyfeddawl yw’n crefyddol lwydd, — a’n hedd
Yn nodded ein Harglwydd;
Molwn Ef am le’n ei
ŵydd,
A rheolau 'i air hylwydd.

Moliannwn yma haelioni, — ein Duw,
Bu yn Dad i'n noddi;
Cynnal wnaeth ein cenel ni, — mor llonydd
Y mae, a'i adenydd Ef am dani.

Pa beth ond ei ffyddlonder — dieisor,
Gadwasai hil Gomer!
Ei ddwyfol fraich, addefer,
Fu’n nawdd, a'n preswylfa Ner.

Taenwn ei foliant tyner, — ei demlau
Boed amlach eu nifer;
Gwir rad a goreu hyder,
Goreu nawdd cysegrau Ner.

Digymar had Gomer ŷm, — hyd heddyw,
Dedwyddaf wlad gennym;
Rhyddid a iaith bur eiddym,— dihangol,
Gwaredol, dilwgr ydym.

Rhyfeddod rhyfeddodau — yw ein bod
Yn byw ar y bryniau
Dedwydd, lle trigai’n hendeidiau, — lleoedd
Y bu eu llysoedd mewn gorbell oesau.

Mae’r genedl yma ar gynnydd, — mwynhau
Ei haml yniau mal o newydd.

Heb lesghau pobl liosog ym,
Digonedd o ysbryd gennym,
O eneidiawl rym anodor
I bara mwy tra berwo môr.

O parhâed nodded Ner
A'i gymorth i d
ŷ Gomer;
Cenedl gyfan ddianaf
Mwy bydded yn nodded Naf.
Am oes y byd grymus bo,
A dilesg, hyd nes delo


432 GWAITH ISLWYN.


Yr haul a'i forau olaf,— i ddeffro
O ddyffryn tywyllaf
Y beddau, holl feib Addaf,
Filiynau’n ol, flaen eu Naf!


Bydd rhyw dorf o'r beddrod du
O'n cenedl hoff yn cwnnu,
Hardd dduwiol lu ar ddelw lon
Y G
ŵr fydd biau’r goron.


Cânt nefolaidd euraidd nos
Ar lan anfarwol einioes,
Dygir yn waredigol
I fwynhau "Gorffwysfa’n ol."
Tân eu mawl, rhyfeddawl fydd,
Yn awyr Salem newydd.

ABOU BEN ADHEM A'R ANGEL.


(EFELYCHIAD O LEIGH HUNT.)


ABOU BEN ADHEM, rhad i’w lwyth patriarchus! -
Ddeffrodd un nos o freuddwyd hyfryd-felus.
Goleuni’r lloer droai’r ystafell glyd
Yn rhyfedd hardd, fel darn o ryw ail fyd.
Fe welai angel yn y pelydr milbleth,
Ar lyfr aur yn ysgrifennu rhywbeth.
"Pa beth a ysgrifenni?" holai’n eon —
Rhai hyf i gyd yw’r rhai sy bur o galon —
"'Rwy’n ysgrifennu enwau’r rhai anwylaidd
Sy’n caru’r Arglwydd."


Holai Abou’n wylaidd,
"A yw fy enw i'n eu plith?"


''Nid felly!”
Ond ni wnaeth hyn i Abou ddigalonni —
Anadlodd yng nghlyw’r angel hyn o weddi, —
"O leiaf, ysgiifenna f’enw'n ffyddlon,
“Fel un ag sydd yn caru f’ holl gyd-ddynion.”
Fe wnaeth yr angel hynny, a diflannodd.
Y nos ganlynol eilwaith ymddanghosodd
Ar harddach ffurf; amlygodd iddo enwau
Y rhai a'seliodd Duw â'i gariad gorau —
Ac er ei syndod, a'i dragwyddol les,
Enw Ben Adhem oedd ar ben y rhes.




 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

PENTREF Y GELLI GROES, MYNWY.
Oddiar y ffordd i'r Ynys Ddu.

 

 

 

 

PRESWYLFA'R BARDD.


AR lannerch rhwng eurlwyni
Mewn bro fras, a mwynber fri,
Rhwng cangau a blodau blydd
Y gwanwyn, trig awenydd.


Cerdd falmaidd o beraidd big
Eurog adar o'r goedwig,
Seiniau peroriaeth swynawl,
Dery ei gl
yw yn fyw gan fawl.


Tra cerdd trwy’r fro werdd, côr y wig — a gân
Ogoniant ar dalfrig,
A mawl byw o aml big — er difyrru
A diddanu ei duedd unig.


Gwên blodau gwynebledol
A liwgar addurna’r ddôl  
Sy o flaen ei d
ŷ mor deg
Yn gwrido mewn gwawr hydeg.
 


434 GWAITH ISLWYN.


A gloewfwyn afonig lifa — islaw,
A syw wledd arlwya;
I)il anian afradlona
Dros fronnydd y dolydd da.


Tremia ar ei bron arian
Wedd deg, yn ymchwyddo dan
Anadl tawel awelon,
Araf lu, ar yrfa lon.


A gardd deg o iraidd dwf,
Llwyni eurdeg llawn irdwf,
Yn Eden gain daen o’i gylch,
A thegwch berth o’i ogylch;
A phrennau hoff eu rhinwedd
Dan ffrwythau’n teghau ei gwedd.

CATHL HIRAETH.


Mae Sophia fach,
Mewn arall fyd yn berffaith iach;
Os cafodd yma boen a chur,
Mae heddyw yn y Wynfa bur,
Yn tynnu hawddfyd a mwynhad
O hafaidd dlysau heirdd y wlad,
Fel pawb o’r dedwydd nefol âch.


Y lili dlos,
Aeth megis seren yn y nos
I lawr dan gwmwl dudew erch;
Ac ar ei hol rhed dagrau serch;
Ond colli wnaed ei siriol wedd,
Er hardded, o dan lenni’r bedd
,
Y gruddiau oedd fel dengar ros.


Y dwymyn erch,
Nid oedd ond cennad dwyfol serch,
I'w chyrchu adref gyda brys
Yn gwrel tlws i'r nefol lys;
Lle gwenai blodau fythol-wyrdd
Yng ngolau engyl disglaer fyrdd,
A lathrant yn y Wynfa dderch.

Ar ol fy nith, sef Sophia Thomas, merch fechan Mr. Benjamin a Mrs. Mary Thomas, Twyncarno, Rhymni,


435 EGLWYS MYNYDD ISLWYN.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 


FY CHWIORYDD.

BU gennyf chwaer, a brodyr gennyf fu,
Anwylaf rai! ond cyn erioed i mi
Eu gweled i'w hanwylo, cyn i serch
Frashau ar wledd edrychiad, angau erch
Ofwyodd d
ŷ fy nhad, a chymerth hwy
Bob un i fedd ar ffrwst. Dwfn, dwfn glwy
Oedd hyn i dyner fynwes tad, ac i
Dynerach fynwes mam. Dan ddwyfron gu
Fy nghalon i, bryd hyn, hapusaf bryd,
Nid ydoedd wedi curo ergyd drud
Erioed; nac wedi gyrru’r teimlad brwd
I lan i'r llygad llon i'w troi yn ffrwd
I feddalhau a'u henaint iâ y bedd;
Nac wedi addurnhau â gwrid y wedd
I'w golli ar fyr yng ngauaf henaint blin;
Nac wedi archu ffwrdd ei bywiol rin
I nerthu’r llaw i ddal y pen i lan,
Y pen dan dwys gofalon sy ry wan

 


436 GWAITH ISLWYN.


I ddal ei bwys ei hun; i nerthu’r bys
I d'wyllu yr ysgriflen gwyn, ar frys,
A phrudd gymylau galar bywyd blin;
Ddim wedi rhoi i’r traed ysgogol rin
I gludo tua’r fynwent lun yn ddelw
O alar llawn ei hun a phrudd-der gwelw.

Ni chydnabyddir angau. Ond cei di,
O angau erch, fy ngnydnabyddiaeth i
Am hyna. Cei, o leiaf unwaith wên,
A diolchgarwch unwaith, gan wr llên. —
Cymwynas oedd ei marw cyn fy mod
I wylo ar ei helor, cyn fy nod
O wyll diddymder i oleuni bod,
Goleuni tywyll y tu yma i'r bedd.
Fy chwaer! fy chwaer! fe'th roed i freichiau hedd
I aros dydd hapusach, cyn i mi
Na theimlo bywyd llon, nac ofni angau du.
Y bedd! fy niolch derbyn am ei dwyn
Mor foreu ymaith, cyn i'w llygad mwyn
Wybod pa beth oedd wylo; cyn i'w grudd
Rosynaidd wisgo gwelwedd henaint prudd;
A chyn i obaith farw dan gyllell siom;
A chyn i amser chwyddo’r galon drom
A galar, nes ei thorri’n ddrylliau. Cyn
Blinderau ieu'nctid, bron, aeth drwy y glyn.

Hedd, hedd, fy chwaer! cei yn y fynwent hedd
A chwsg; caf finnau gysgu yn y bedd.

Ni chysgais noson eto. Er pan wyf,
Wyf effro. Nos, i ddyn dan lymder clwyf
Gofidiau bywyd, sydd fel dydd, a dydd
Ei liw yn unig yn wahanol sydd
I nos, yr un mewn trymder dwys, a'r un
Mewn gobaith am ddisgleiriach gyfnod cun.

Ni chysgais eto noson drwyddi. Mae
'R anfarwol yn breuddwydio byd o wae
Rhag fyth i seibiant gloi amrantau’r pridd,
A gwenu ar y marwol. Gwna yn ddydd,
Mewn gofal, yr erchyllaf nos mewn gwyll.
Gwag lwythi y ddychymyg, oll, un ddull
A beichiau rhy sylweddol profiad trwm,
Ddirlethant galon dyn fel creig o blwm.


FY CHWIORYDD. 437


Hedd, hedd, fy chwaer! sychedig wyf am hedd.
Dy frawd gyfrifa’n fendith seibiant bedd
Ar ol caledwaith bywyd. Hoff yw hun,
A melus cwsg, ar derfyn gyrfa flin.
Tra blin yw gyrfa bywyd; blinder llawn
O'r cyntaf gam i'r olaf yma gawn.

Fy nhad a ddengys im’ y ddôl
Flodeuog, lle chwareuit gynt,
A’th wallt yn chwyfo’n mlaen ac ol
Fel arian donnau drwy y gwynt.
A dengys im’ dy gader fach
Sy’n drysor ger yr aelwyd iach.


Bryd hyn nid oeddwn. Nid oedd neb, bryd hyn,
Am danaf fi yn meddwl. Amser cyn
Fy nghyntaf amser oedd. Yn arf aeth Duw

Bryd hyn, er hynny, oeddwn. A! nid byw
Mewn arfaeth yr wyf heddyw; byw mewn poen;
Mewn teimlad, byw; anfynych, byw mewn hoen.
Nid arfaeth mwy. A ariaeth! ar dy hun
Yn fuan blinaist. O ddiddymdra cun!
Na fuaswn eto ynnot yn arfaethedig fod,
Mewn bwriad fyth, heb fyth o fwriad ddod.
Addfedaist yn rhy gynnar, arfaeth lawn!
I mi’n rhy gynnar, ond tydi sydd iawn.
Am hynny prydlawn ydoedd, cyflawn bryd
I mi ymddangos ar chwareu-fwrdd byd,
Yn sylwedd eglur mwy, yn arfaeth gun
Yn gweld, yn byw, yn bod, yn eglur lun.

Ond adref, efryd, adref! A! paham
Y'th archaf adref? Gwn nad wyt ar gam
Wrth grwydro; yn y fynwes gartref mae
Eisteddle y trueni, tarddle’r gwae.
Hi, fel meithrinfa pob trueni, sydd
Yn arllwys allan ofnau nos a dydd.

Blinedig gartref, na chondemnier dyn
Am sangu tir estronol. Ynddo 'i hun
Newyna. Chwant! O na fuasit ti
Yn pallu gyda’r ymborth! Ynnom ni
Wyt gryfed ag ym mynwes Efa wen
Pan gasglai anfarwoldeb ar gangau’r bywiol bren,
Pan wleddai ar afalau bywyd, pan

Lifeiriai balm yn fywiol lif dros fron y Wynfa gan.


438 GWAITH ISLWYN.


Ond adref, efryd, adref! Paroto
Dy hun i ddychwel i dy wellaf fro
Y bedd, lle cwsg fy chwaer, a lle cyn hir
Af finnau i gysgu. Anhebycaf dir
I gwsg ei anrhydeddu â'i bêr swyn;
Ond trymgwsg angau yw, gobennydd mwyn
Na raid ei esmwythau; anwylach pridd
Gan bridd, a nos gan gwsg, na gwên y dydd.
Ond Ann! yn swyn dy gwsg gorffwysa mwy,
Nid oes I’w dorri unrhyw boen na chlwy
Na thristwch prudd. Gylchogylch perffaith hedd
A thaw tragwyddol a gysegra 'th fedd.
Tragwyddol? Cyfeiliornais; nid yw hedd
Y fynwent yn dragwyddol. Cwsg y bedd,
Er trymed ydyw, dorrir; a’i nos brudd,
Foreuddydd anfarwoldeb, dawdd i ddydd.

O na bawn fel fy chwaer! Ar ol i mi
Fwynhau melusder cwsg, am ennyd cu
Rhy fyr, rhy felus i barhau, i lan
O'i eurlys dwyrol dyrch yr haul yn gan,
Ei hun yn oleu, i oleuo’r byd;
Gyr myrdd o'i belydr trwy fy ffenestr glyd,
A lleinw o'm cylch f’ystafell â gwawl pur
Nes cywilyddio 'm cwsg, a deffro 'm cur.

Fy hawddgar Ann! Aeth llawer tymhestl ddu
Dros d
ŷ dy dad, er pan symudwyd di
O hono. Gwgodd ffawd, a throes yr hin
Fu’n hafaidd, yn ystormus. Mordaith flin
Ac wybren dywell gawsom; ton ar don
Yn bygwth dinistr; golchid hyder, bron,
I'r dyfnder dros y bwrdd; a chrynnai ffydd
Ar ben yr hwylbren brau. I addo dydd
Nid oedd serenol obaith, obry — lli;
Corwyntoedd amgylch; a chymylau fry,
Ond cariad glymai’r dwylaw oll yng nghyd
A'i aur-linynau; cariad heriai’r byd
A'i holl helbulon; gan sirioli’r bwrdd
A disglaer lampau gobaith. Mawr oedd twrdd
Y byd am danom, diau soddem mwy,
A chywir oeddynt, soddem o’u rhan hwy.

Rhagluniaeth wisgai brudd gysgodau’n awr,
A'i llwybrau yn y dwfn, heb arnynt wawr.


FY CHWIORYDD. 439


I'r môr a'r nwyddau; aur, meddiannau, oll,
Yn dalpiau deilid dros y bwrdd i goll,
I goll anadferadwy. O fy Ann!
Pe gyda ni, torrasai 'th galon wan
Ynmell cyn cyrraedd porthladd. Oeddit ti
'N ddiogel ar y lan, pan oeddym ni
Mewn perygl ar y môr yn ceisio dwyn
Y dymhestl drom trwy obaith per a’i swyn.

A thi, Eliza! dan gysgodau'r glyn
Orffwysit yn nyfnderau heddwch syn
Ym mynwes ddofn distawrwydd, pan oedd wybr
Rhagluniaeth yn trymhau fwy fwy, a'i llwybr
Yn anchwiliadwy gan dywyllni prudd
Amcanion ei gorchwyliaeth oll dan gudd.

Fy chwaer Eliza, ugain mlynedd prudd
A rhagor, rifir gennym er y dydd
Y'th roed i ofal mynwent Islwyn fry
Gan dyner fam; ni raid wrth goflyfr; hi
Gofnoda'r amser; ceir pob blwyddyn hir
Yn argraffedig ar ei mynwes bur,

Llawn ugain mlynedd! beth! ai dyma’r dydd
I mi dy annerch gyntaf, uwch dy bridd
I ganu’r gyntaf odl? Maddeu im,
Eliza, maddeu, ni 'th adwaenwn ddim!
Erioed ni welais wrid dy wedd, erioed
Ni 'm llonnwyd â dy gân; dy rosyn roed
I'r fynwent wywol yn blygedig em,
Cyn i'w brydferthwch unwaith daro 'm trem.
O chwaer! na chawswn olwg arnat cyn
Dy guddio’n llwyr dan ddyfnion lenni’r glyn.
Dy lais oedd beraidd, gwn, ond nid i mi
Y trefnwyd swynion ei beroriaeth gu,

A Margaret, ti yn faban roed i'r bedd
I godi yn angyles lwys, a’th wedd
I gyd yn anfarwoldeb. Hedd, fy chwaer!
Nes cyfarfyddom flaen yr orsedd glaer.

O Ann! Margaret! Eliza! Hedd i chwi,
Fy hoff chwiorydd, dieithr oll i mi
O ran gwelediad, ond nabyddus trwy
Ddarluniad, ac anysgaradwy mwy.


440 GWAITH ISLWYN.

 

 


Ar fyr disgynnaf atoch i fwynhau
Swyn hun di-dor; yr wyf yn agoshau
Bob awr i'r fynwent; tua'r fynwent mae
Gogwyddiad dyn, terfynol bwynt ei wae!


Canfyddaf linyn y cyfamod hedd
O'r orsedd fry yn cydio yn eich bedd.


 

 

 

 

 

 

 

 

EGLWYS MYNYDD ISLWYN O HEN TWYN TUDUR.

ADGOFION SERCH.


MAE y blodau amryliw mor deg ag o'r blaen,
A'u gwenau fel cynt yn addurno’r waun.
Ond A! diflanedig eu swynion nan
Hebddi hi! hebddi hi! Fy Ann! fy Ann!


Fel cynt ymflagura y lannerch dlos,
Lle canem ein hodlau, lle clymem ein rhos,
Ond diflannodd pob swyn a gysegrai y fan
Gyda hi! gyda hi! Fy Ann! fy Ann!


Caf y wigfa gysgodawg fel o'r blaen yn wyrdd,
Ond mae’r swyn o’r blaen a gysegrai’r ffyrdd?
Diflannodd! diflannodd! a gwag yw’r fan
Hebddi hi! hebddi hi! Fy Ann! fy Ann!


ADGOFION SERCH. 441

Y corau asgellog ynt lawen fel cynt,
A'u tôn fel o'r blaen feddalha y gwynt,
Ond swyn eu telori adawodd y fan
Gyda hi! gyda hi! Fy Ann! fy Ann!

Mae y parlawr yn ddestlus a chryno fel cynt,
Ei hedau a'i nodwydd wele parod ynt!
Ond pwy, O! pwy a'u defnyddia nan?
Nid tydi! nid tydi! Fy Ann! fy, Ann!

Wele’r traeth ger y môr lle y ceraist fi,
Y traeth ger y môr lle y cerais di.
Ond galar im mwy yw ymweled â'r fan
Wrthyf f’ hun! wrthyf f’ hun! gy Ann! fy Ann!


Ni lif hoen gyda’r borau, na hedd gyda'r hwyr,
Ni ddaw seibiant o'r llewin, adfywiad o'r dwyr,
Ni fwynhaf fel o'r blaen olygfa’n un man
Wrthyf f' hun! wrthyf f' hun! Fy Ann! fy Ann!

 
O! a yd wyt o'r nef yn fy nghofio i?
O'r ddaear yr wyf yn dy gofio di!
Mwynhau yr hen gofion yw 'm gorchwyl nan
Wrthyf f' hun! wrthyf f’hun! Fy Ann! fy Ann!


Od yw engyl yn wylo, o'th lygad di
Aml ddeigryn ymdawdd wrth fy nghanfod i
Yn rhodio’n benisel, a'm calon yn wan
Wrthyf f’hun! wrthyf f' hun! Fy Ann! fy Ann!

Od yw engyl yn wylo— a pham nad ynt
O dynerwch yn wylo! — yr wyt fel cynt
Yn wylo fy ngweled o'th orsedd gan
Yn unig! yn unig! Fy Ann! fy Ann!


Na! trist fyddai meddwl yn awr dy fod
Yn wylo; cawd wylo islaw y rhod;
Ond perlau tynerwch yw 'ch dagrau ban,
Tynerwch hapuslawn! Fy Ann! fy Ann!


Saeth angau a dorrodd yr undeb cu,
Dyneraf undeb, oedd rhyngom ni.
Ond i'th ysbryd rhyddedig fy nghalon nan
Sy gywir! sy gywir! Fy Ann! fy Ann!


442 GWAITH ISLWYN.


Er cryfed rhyferthwy’r Iorddonen ddu,
Nawf cariad trwy ‘i thonnau i'r arall du;
Mae drosodd! mae drosodd ar y loewach lan
Gyda thi! gyda thi! fy Ann! fy Ann!

Wyf gyfeillgar â’r beddau dilewyrch mwy
Er pan y'th hebryngais i'w goror hwy;
Os dymuni fy ngweled a gado 'th lys can
Wyf yno! wyf yno! fy Ann! fy Ann!

Er pan yn y fynwent y dodwyd di,
Y fynwent yw cartref fy efryd i;
Os dymuni gymdeithasu â'm meddwl gwan
Cei ef yno, fyth yno, fy Ann! fy Ann!

Os yw efryd ar eilfyd yn dwyn i ddyn
Ddrychfeddwl o'i ansawdd a'i burdeb cun,
Caf ei ddirnad ar fyr, ydwyf ar ei lan
Gyda thi! gyda thi! fy Ann! fy Ann!

Pan enfyn fy Ngheidwad ei engyl i lawr
I'm derbyn o donnau’r Iorddonen fawr,
Gyda hwy I’m croesawu i'r loewach lan
Bydd di! O, bydd di! fy Ann! fy Ann!

A phan yr esgynnom, rhwng myrdd o ser,
Yng ngwawl anfarwoldeb i'r baradwys bêr,
O! rho imi eistedd yn dy gerbyd can
Gyda thi! gyda thi! fy Ann! fy Ann!

MEWN ADGOF.


MAE byd wedi pasio, byd anwyl i mi,
Er pan y gorchuddiai’r dywarchen dydi;
Byd cyflawn o hawddfyd, byd cyflawn o hedd,
Ond byd nad oes heddyw o hono ond — bedd.
J. —!

 

’Rwy’n cofio swn clychau yn Heol yr Ardd,
Pan oeddwn ry ieuanc i'm cyfrif yn fardd;
'Rwy’n cofio swn clychau brydnawnau y Sul,
A thybiwn fod blwyddi fy einioes yn fil.
J. — !


Am Mrs. Davies, Garden Street, Abertawe.


MEWN ADGOF. 448


Mae adgof dy enw yn gymysg i mi,
A hyfryd beroriaeth y môr alarch cu —
Rhyw Fôr Galilea fu hwnnw i mi,
J. —!


Tydi, yn fy nheimlad, oet famaeth i mi,
A "mam" fyth y'th alwn oddiar "fifty three;"

Mabwysiad dy gariad a’m euddioad mewn hedd,
Nes aethost yn sydyn i oror y bedd,
J. —!


Mae Langland yn aros, mae Caswell yr un,
♦♦
Ond olion ein traed ar yr hen draethau cun,
Nid oes heddyw un,
J. —!


Yr olaf brydnawn ar yr hen draethell gu
A dreuliwyd gan un oedd yn anwyl i ti —
Oedd yn anwyl i mi —
Sy’n awr megis breuddwyd o'r hen amser fu,
J. —!


Mae’r byd wedi newid, a minnau, yn awr,
Yn myned i lawr
Ar ol fy anwylion i'r dieithr fyd mawr,
J. —!


Gan siomedigaethau, er nad ydwyf hen,
Anfynych yr edwyn fy wyneb un wên,
J. —!


Ni gawsom, "tu yma," ein digon o fraw,
Ein digon o stormydd, do, ddigon o wlaw,
Gobeithio nad oes yr un siomiant "tu draw,"
J. —!


Ai ber fo y daith,
Ai ber ynte faith,
Cwrdd fi, ti, a'r "lleill," pan ddibenno fy ngwaith
Y gyntaf a welwyf, yn ieuanc neu hen,
Pan ddelwyf o'r tren,
Fo Jane!
Tri eraill,
♦♦♦ a Jane!

 


Blwyddyn marw Miss Bowen.
♦♦ Langland Bay a Caswell Bay, ar oror Browyr.
♦♦♦Ei dad a’i fam, a Miss Bowen.


444 GWAITH ISLWYN.


Y FODRWY BRIODASOL.


Tôn: — “Bugeilio’r Gwenith Gwyn.”


PAN blygem wrth yr allor wen i dderbyn sel ein hundeb,
O!’r fath brydferthwch pur di-len dywynnai ar dy, wyneb;
Ni feddai un brenhinol lys d'wysoges fwy urddadol
Na thi — pan roddais ar dy fys y fodrwy briodasol.


Os chwerwa tymer dan fy mron at wrthrych hoff fy nghariad,

Edrychaf ar y fodrwy hon a derfydd pob drwg deimlad;
Dychwela f’enaid gyda brys I’w londer cymdeithasol,
Fel pan y rhoddais ar dy fys y fodrwy briodasol.

 
Mae’n dwyn i'm cof foreuol hynt, ieuenctid llon a gwridog,
A miloedd o rodfaoedd gynt plith rhos a choed godidog;
O! gallwn fyned er dy fwyn trwy dân, trwy donnau chwyddol,
Pan syllwyf ar y bys sy'n dwyn y fodrwy briodasol.


Mae’n dwyn i'm cof dy gartref cain, a'r hen ystafell dirion
Lle teflais ar y bwrdd o'th flaen aur gawod o fodrwyon;
'Rwy'n cofio'r gwylder oedd, a'r brys, a'r gwrid o degwch dwyfol,
Pan ddodaist gyntaf ar dy fys y fodrwy briodasoL .
Er pan o flaen yr allor gu ein hunwyd mewn ieuenctyd,
Newidiodd popeth onid tri o brif gysuron bywyd,
Yn ffyddlawn in' parhaodd tri heb ysgog dim, sef grasol
Efengyl Nef— ein cariad ni — a'r fodrwy briodasol.


Os oes gan frenhinesau'r byd fodrwyon gwerthfawrocach,
Os ydynt filwaith yn fwy drud, a'u gemau'n gyfoethocach,
Nid ydynt hwy yn gryfach ddim na hon, er mor urddasol;
Nis gall ond angau dorri grym dy fodrwy briodasol.


O'r defnydd goreu, aur i gyd, y mae'n arwyddlun  cymhwys
O'r rhinwedd oreu fedd y byd a'r bennaf ym Mharadwys;
O! nid oes yn y nefoedd fry un rhinwedd mwy urddasol
Na honno a seliasom ni trwy'r fodrwy briodasol.

Briodas mewn gogonedd gaf ym Meibl Duw'n glodadwy,
Mae amddiffynnawl nerth ein Naf anfeidrol ar y fodrwy;
A'r angel ddaw o'i loewaf lys i weled dynes rasol
Yn derbyn ar ei chrynol fys y fodrwy briodasol.


Mae'n gron fel seren, ac mor hardd, ac nid oes ynddi doriad
Na diwedd chwaith, fel serch dy fardd, tragwyddol fel ei gariad;
Os bu i serch ddechreuad llon ar lan y don urddasol,
Fe bery, ie pery'n hwy na'th fodrwy briodasol.


LLE YR WYF FI. 445


Fe dreulia amser eurgylch hon, oer auaf bedd a’i  rhyda,
Ond byth ni dderfydd dan fy mron y serch a gynrychiola;
Ac wedi cyrraedd dwyfol lys mi blethaf flodau nefol,
I’w dodi am yr unrhyw fys yn fodrwy briodasol.


Pe deuai niwed i'th gyfarfod,
Fe fyddai 'm cysur wedi darfod,
Gostyngai f' Awen brudd ei hedyn,
A byth ni chanai odl wedyn.

LLE YR WYF FI.
ER llymed yw y boen a'r gwawd,
Er oered yw yr hin,
Na ddywed mwyach, O! fy mrawd,
O dan dy loes dy fod yn dlawd,
Ti wyt etifedd Ior ei Hun!


Fy mrawd, ymaflaf yn dy law, os dringi gyda mi,
Hyd risiau’r Uchystafell draw, i wrando yr Ewyllys gu.


O! gwrando yr Ewyllys rad, drwy waed a wnaed i ni, —
'Yr wyf yn ewyllysio, Dad, ei ddyfod lle'r wyf fi!'


I bwy y mae'r Ewyllys hon? I ti, i ti, fy mrawd!
Na ddywed mwyach dan dy groes, o dan dy loes, dy fod yn dlawd.


Mae’n rhoi yr ynys fechan hon, sef amser, i’w elynion;
Cyfandir anfarwoldeb oll a geidw i'
w etifeddion.


Cynhwysa yr Ewyllys rad
Orfl
wysfa fry, a thŷ, a Thad;
Mae ynddi wynfyd pur heb groes,
A digon erbyn bythol oes.
Mae ynddi "d
ŷ nid o waith llaw,
Tragwyddol yn y nefoedd draw,"
Ac anfachludol Haul y nef
Gogyfer a'i ffenestri ef
Fyth yn llewyrchu yn ei rym,
Heb ar ei gonglau gorwynt llym
Yn curo byth, nac awel groes
Yn chwythu hyd y fythol oes
Mae ynddi Bren o Fywyd gwir
Sy'n arllwys ar y wefus bur


446 GWAITH ISLWYN.


Ddyferion o anfarwol rin,
Gerubaidd neithdar, ddwyfol win.
Mae ynddi odidocaf blas
Ar ymyl afon lydan las;
O! lys digymar, byth ni syrth,
Mae'th enw di goruwch y pyrth,
O'i fewn mae'th hawliau yn ddi-goll,
Fel perchen yr adeilad oll.
Mae afon loew ynddi hi,
A pherlawg bontydd tros ei lli,
A thyrfa o gerubiaid claer
Yn edrych dros ganllawiau aur
Ai' holl lyngesoedd Duw o’r bron
Yn gorffwys ar ei dwyfol don,
I gyd yn gyfain a di-goll
Ar ol meddiannu’r moroedd oll,
Ar ol meddiannu’r pellaf fôr
Yn eang ymerodraeth lor,
A suddo’r olaf long a fu
Yn dal i fyny’r faner ddu.
Mae ynddi gyfoeth i'r tylawd,
'I'r unig, O! mae ynddi frawd!
Cynhwysa yr Ewyllys wlad
I'r alltud, i'r afradlon dad!

O! gwrando yr Ewyllys rad, drwy waed a wnaed i ni, —
"Ei ddyfod lle’r wyf fi, fy Nhad! ei ddyfod lle’r wyf fi!"

Pa "le" yw hwnnw? Pan fo’r ser yn dangos imi lan
Neu bennarth o'r tragwyddol fyd, edrychaf am y fan.
Pan fyddo’r byd mewn hun, mae’r ser yn sisial am y wlad,
Ac fel yn codi eu lampau’n uwch i ddangos t
ŷ ein tad.
Lle y mae Ef! Er pelled yw y drigfa freiniol fry
Agorodd imi lwybr gwiw drwy waed i'w chyrraedd hi.

'Rwyf fi yn awr ymhell o'm gwlad,
O'r lle'r wyt ti!
O! cofia dy Ewyllys rad,
Fy Mhrynwr, a'r ddeheulaw 'th Dad,
Rho 'th gadwen gref o'm hamgylch i.
O riw i riw tyn fi i'r lan,
Nes caf fy hunan yn y man
Yng nghanol dy ogoniant fry,
Lle yr wyt ti.


ADGOF. 447

CYSTUDD YN Y GWANWYN.


DAETH yn ei dro y gwanwyn llon y flwyddyn  hon fel arfer,
Gan ddwyn i'r nen leshad o’i boen, i'r ieuanc hoen a llonder, —
I mi, fab llên, ni ddygodd ddim ond cystudd llym a gwywder.


Mae wedi agor ar y glas o flaen y plas fu lawen,
Rosynau y Glyn, ryw Seion glau, ond nid rhosynau'r Awen;
Mae wedi cau ar y ddwy foch ddau rhosyn coch y perchen.


'Rol dywed trwy'r ffenestri cau yr adar dau yn pyncio,
A gweled yn ymylu'r ffyrdd friallu fyrdd, dros rifo,
Mor brudd yw gweld yn nrych y bardd y gwyneb hardd yn gwywo!

ADGOF.


WRTH feddwl am ofidiau’r byd, pa galon bron na thyr?
A phwy nad yw yn llawenhau fod bywyd rhai mor fyr?


Byr fu dy fywyd is y ne, dim ond y bore bach,
Ond — Morgan! cefaist yn brydnawn lawn dragwyddoldeb iach.


Beth! tragwyddoldeb iach ar ol oes fer, gystuddiol flin!
O, Morgan! yn dy wynfyd clau ’rwyt ti’n mwynhau ei rin.


'Rym ni yn aros ar dy ol, yng nghol "y cystudd mawr,"
A thi tu allan iddo i gyd, mewn gwynfyd clyd yn awr.


Pe gallwn gredu fyned un o deulu dyn am unwaith
Drwy hyn o fyd, heb unrhyw fai, tydi a gai'r ganmoliaeth.


Bum ar y môr y ddoe brydnawn, mor llyfn oedd, mor llonydd
Meddyliais am dy dymer di— ond dim am ru y 'stormydd.


Tywysen oeddit garodd Ior, wrth agor yn y borau,
Melynodd di i'w Wynfa lon dan ei belydron gorau.


Bu sydyn dro dy gyfiawnhad — mae hynny o hyd yn sydyn —
Ond sydyn fu dy sancteiddhad, a'th ogoneddiad wedyn,


Cyflymodd Iesu, Morgan gun, ei rasol oruchwyliaeth,
I'th gael yn foreu ato i Hun, drwy rin ei brynedigaeth.


Mor beraidd yw dy anthem mwy, ’rol croesi drwy yr afon, —
" Nis gallwn farw mwyach ddim, cydstâd y'm â'r angylion."


Morgan, ffiarwel! daw'th fam, a'th dad, i'r unrhyw wlad yn fuan;
A Duw a gasglo yno oll y teulu heb goll yn gyfan.

 
Er cof am Morgan, mab y Parch. W. Jones, Abertawe, yr hwn a fu farw Awst 3, 1878.


448

 

CYFLWYNIAD Y Caniadau,
I'R
PARCH. DANIEL JENKYNS,
Y CYFLWYNIR Y CANIADAU HYN,
FEL ARWYDD O BARCH,
AC O RWYMEDIGAETH YR AWDWR IDDO
AM HYFFORDIANT CREFYDDOl.
YN NGWANWYN EINIOES,
AC AM lEUENCTID WEDI EI DREULIO
MEWN TANGNEFEDD
A MYFYR TAWEL YN EI GYSGOD EF.
ISLWYN.

Y Parch. D. Jenkyns, Babell, tua 1869.

Y FFOREST.
T
ŷ y Parch. D. Jenkyns; gwelir darn o do y Glyn, tŷ Islwyn, drwy frigau y palmwydd.


Y NEFOEDD. 449

Y NEFOEDD.


Y NEFOEDD! Mae’n ofer— i eiddilyn
Ddal y gorddisgleirder!
Marwol wyf— môr o leufer
Sydd ormod i'm nychdod, Ner.

Hyd yn hyn, da yw i ni — fod y Nef
O dan niwl — fod llenni
Yn dyner iawn am dani,
Gwal uwch haul o’i hamgylch hi.

Gorlawenydd sydd yn soddi —’n meddwl
'Run modd a gorgyni;
Rhaid aros, hir nos, i ni
Weled ein hanfarwoli.

Dyma loewgylch nad amlyga — cariad
Ond cwr o'r olygfa;
Esgyn i ben Pisgah — gweld Caersalem
Ar ambell trem o bell tra yma.

Ond os pell, nid oes palliad— o un rhyw
Yn rhol y datguddiad
Am y dragwyddawl, hyfawl wlad,
Na’r modd in' er ei meddianiad

O radd i radd fe roddid
Prawf ar brawf am y fro brid;
Graddol olynol enwau
Yn ol y nerth i'w mwynhau.

Wedi’r niwl yn duo’r nen,
Y llid, a cholli Eden—
Pa beth fydd Nef i Efa?
Pa air anwylair a wna? —
Y prif deitl, mewn profiad dwys,
I'w bryd oedd ail baradwys.


Ail Baradwys.

Wedi llwyr golli ei bri boreuol,
A'i gyrru allan, allan yn hollol
O'i hawddgar Eden, yr ardd gu, wridol,
A luniai y fedrus law anfeidrol,

Argreffir yr awdl hon drwy ganiatâd caredig I. Jones, Treherbert, cyhoeddwr Pregethau Islwn.
 




450 GWAITH ISLWYN.


O! yr aeth dwys ar ei hol — yn ddibaid
Wanai drwy enaid ein mam druanol!


Aniddan galon Adda
Waedai’n ddwfn am Eden dda.
Cofio’r prennau
Blygol gangau
Dan afalau, bwyd nefolion,
Wnai 'i funudau
Tw deimladau
O hyd oesau, boenau dwysion.


Beunydd gwnai gyferbyniad
O dost ing, rhwng dwy ystâd, —


Eang anial anghenus, — dirinwedd,
Drain, mieri dyrus,
Yr erch yn lle y serchus,— diffeithle
Llwyd, anaele, yn lle Eden hwylus;


Yn lle angylion llawen, — hyfrydawl
Frodyr gynt yn Eden,
Llewod lu mewn llid di-len — heb swyn clau
I’w troi’n eu holau yn eu teyrnwialen.


A'r brid addewid pan ddaeth
I'r hen fyd, o'r Nef odiaeth,
Oedd adferiad rhad o'r oll
Fu encyd ar ddifancoll.


Selio Paradwys eilwaith,
Dedwydd mwy; a mil mwy maith!
Tydi ein Nef wyt, Eden fir,
Adferedig dy wiw frodir.


Yn Nef y Nef cawn fwynhau
Dy engyl heb dy angau,
Dy fyd braf, a dy fywyd bren,
Dirif lu, heb dro aflawen.


Heb fethiant, heb wae fythol,
Heb ddamwain, heb ddim yn ol,
Gwelliant ar dy fwyniant fydd
Yn Nuw, yr Eden Newydd.
Duw’n gwella 'i Wynfa ei hun
Drwy ryw ffyrdd myrdd mwy arddun.


Y NEFOEDD. 451


Clwyfau rhad pen Calfari
All ennill dy "well" inni.
Na 'th holl fwynhad clodadwy
"Enillodd," Ef haeddodd, "fwy."
Cawn goron well, cawn gaerau,
Cref ddôr a braich Ior i'w chau.
Satan a'i falais eto
Nis cawn i'n hyfrydlawn fro,
Un dyn drwg i'r Eden draw
Neu ddraig ni fydd i rwygaw.

Adda ac Efa, er maint eu cofion
O’r hyfryd oror a'r wiw fro dirion,
Mwy rhyfeddawl bythawl eu gobeithion
O'r Eden Newydd sydd a'i hansoddion
A'i sancteiddiol drigolion — trybelid
Uwch gwywo a newid, wych egnion.

Yn raddol yn ol is niwloedd— oesawl
Ai yr hynafawl arlun o’r Nefoedd,
Y cof mad am Baradwys — a'i rhyfedd
Hoen a'i harogledd, wanhai’n yr Eglwys.

Gobaith, dymor maith, fu mwy — o'r Nefoedd
A'u goludoedd, heb un drych gweladwy,
Heb ganllaw, a heb gynllun,
Nes i Ior ddangos ei hun

I'r mwynwedd Abram union, — a'i alw
I’w ddilyn yn fiyddlon
I ryw fro fad, ryw wlad lon
Eirian, fel bro nefolion.

A rhoes ei ffydd ufudd ef
Ail enw ar y loew-nef,
Y lwys etifeddiaeth lân,
Y cu enw oedd Canan.


Canan.

Nid oedd y wlad ddi-ail hon
Ond daearawl dud tirion,
Rhyw faterol ddynol dda,
I'w antur ar y cynta;
Tir bras, lle rhôi natur bron — ei ffrwythau
Hael, a'i moethau, heb ofal amaethon;
Ond deuai y wlad dawel
A’i ffrydiol laeth, maeth, a'i mêl


452 GWAITH ISLWYN


I Abram wrth ymlwybro
Yn rhagarwydd hylwydd o
"Wlad well;" o Nef y Nefoedd
Yr ail gysgod hynod oedd.

 
Ac fel cysgod o ddyfodol — y Nef
Mwynhai y fro hudol;
Yn swynion y presennol
Llawenhai fod gwell yn ol.


Yn ei thiriogaeth efe ni thrigai,
Yma, er hoffused, ni ymorffwysai,
Byw fel "dieithr" wnelai — gyda'i giwdod
Yn ei holl ystod "mewn lluestai;"


Ail i un ofnai lynu
Wrth un gwrthddrych ceinwych cu
Tu yma i wlad rad yr hedd,
I Ganan y gogonedd.

Y foddus etifeddiaeth
Yn ei ddydd i'w ran ni ddaeth,
Ond fel drych di-hafal — draw
Ar ymyl Nef i dremiaw.

Ei phrydferthion heirddion oedd
Yn hafal bron i'r Nefoedd.

'Roedd siriawl erddi Saron — i'w feddwl
Fel rhodfeydd angylion,
A swn tawel awel lon,
Canan fel cân nefolion.

Wedi i'r genedl drwy 'u drygioni — trist
Gael eu troi o honi,
Eu holl Nefoedd oedd y hi — Gwlad Canan,
A chael eu diddan ddychwelyd iddi.

Llawen chwedl y genedl gaeth,
Uwchderau 'i hiachawdwriaeth,
Llon obaith hon yn Bithynia,
A'i goludoedd yn Galadia,
A dewisiad Capadosia,
A holl drysor pellder Asia,
Oedd — ei had-newyddu hi
I lonwych wlad goleuni.


Y NEFOEDD. 453

I'r ryfedd etifeddiaeth
Trwy y Duw-ddyn i ddyn ddaeth,
Lle gwrida’n anllygredig
Bob ceinion trylon, lle trig
Y sant tu arall i'r ser, — mewn purdeb
A dwyfol undeb, uwch pob diflander.


I ninnau hyd heddyw arlun diddan
O'r rhyfedd ogonedd yw’r bêr Ganan;
O! mae hi’n agor, pan fom yn egwan,
O'r loew-Nef fawr, gylcharlunfa eirian
Olynol siriol ddrychlenni seirian,
Aml Escol, fro swynol frasa anian.

Proffwydol ei Hescol hi
O ddawn y Nefoedd inni;
A ffydd fel yspiydd pell,
Fry idd y bêr fro ddi-ball,
Blaenbrawf ffa o Wynfa well,
O doraeth y byd arall.

F' enaid! pan ei i fyny — i Ganan
Gogoniant i'w meddu,
Mewn hedd cei 'i hetifeddu,
Heb elyn na dychryn du.

Yno fyth ni welaf Hethiad
Un i'm herio, neu Amoriad,
Neu anuwiol Gananead,
Ni fydd yno ddifeddianiad.
"Teyrnas sicr," trwy’n Hiesu, yw,
A gwlad ddiogel ydyw,
I'm dilyn daw’r gelyn gau — yn bybyr
I fewn i engur afon angau,
Dyma 'i oll — nis daw 'mhellach —
Ni gawn yn hon ganu’n iach.

Ac im mae cerrig-camu
O fewn y ddofn afon ddu,

Sef y prid addewidion, — hyd y rhain
Mi af drwy yr afon,
Daw aml lu hyd ymyl hon
Efallai o ’nghyfeillion,
O Seion, i'm croesawu,
A rhyfedd rwysg dorf ddi-ri.


454 GWAITH ISLWYN.


O! deued, tua’r diwedd,
Fy mam fad, fy nhad mewn hedd,
Dithau, fy chwaer odiaethol,
Dirion, deg, rho dro yn d' ol,
Hyd fin y d
ŵr dwfn, a doed
Yma obaith fy maboed,
Sy ’nghartref yn Nef yn awr
Diameu ers hir dymawr.


Deuwch I’m dwyn o'r diwedd
I fyw yn yr unrhyw hedd,
I gael draw fuddugol drem
Ar sylwedd mawr Caersalem.

Caersalem.


Os enwog oedd Seion gu,
Eiddil oedd i ddelweddu

Caersalem Nef y Nefoedd, — lle’r erys
Allor Ior y bydoedd,
A'n Hior gwir ei Hun ar goedd,
A'i faith lys, fythol oesoedd.

Adeilad disigl, dilyth,
Ac iddi sylfeini fyth,

Jehofah 'i hunan a'i sylfaenodd,
A llanw ei Dduwdod allan ddododd,
Wyrthiau fil! mae wrth ei fodd — yn gyfan
A'i law ei hunan y'i cyflawnodd.

Am hon ymddyrchafa mur
O wir iasbis eresbur,
Rhy uchel i frawychiad, — neu greulon,
Gyrch eon gwarchaead.

Ni rhaid wrth deml o un rhyw,
Trigfod y Duwdod ydyw.
Addolfa ni fedd eilfyd;
Llawn pob man gan Dduw i gyd.
Ion yw ei holl ddaioni,
Ei hanthem lawn a'i theml hi,
Un Eglwys fawr ei glwys fyd — A! dyma
Gymanfa, wych oedfa fyth uwch adfyd.
Sancteiddrwydd ei harwydd hi — a'i hurddas,
Dim anaddas nid a i mewn iddi;
Tu allan, mewn tywyllwch,
Y trig pob anwiredd trwch.


Y NEFOEDD. 455


Mwynha y Salem Newydd
Ryw dragwyddol ddwyfol ddydd.


Glân fyd y goleu hanfodawl! — ei dydd
Yw Duw claer-bresennawl;
Duw a'r Oen, rhaiadr o wawl
Draw o’u gwedd yn dragwyddawl.


Wele Ner, goleuni yw,
A'i ddedwydd wedd — dydd ydyw.
Dydd hoenfawr, dydd o wynfyd,
Diwedd gwae, — dydd! dydd i gyd!


Ei dirion wedd nis dyrydd
Heb dragwyddoldeb o ddydd.


Ofer gwyneb, ofer gwenau
Y gweledig oleuadau,
Lle mae’r canol fythawl olau,
Duw’n ei odiaeth dywyniadau.

 

Ffaw wyrthiau ynt ei phyrth hi, — rhyfeddol
O loewbur elfennol berl-feini,
A! degwch pob porth digoll,
O wir lân gyfan-berl oll.
Nid oes drwy’r nefawl oesau
Un rhwd certh, na rhaid eu cau,
Na ‘u gwyliaw rhag un gelyn,
Na thrais erch, na rhuthro syn.


Ni welir drwy’r heolydd — un inglawn
Angladd yn dragywydd,
Ol hiraeth na galarydd,
Yn Seion fawr "nos ni fydd."


Ymneshau y mae hoen Seion, — a'r ochr
Hyn i’r echrys afon,
Weithiau i mi anthem hon
Ddygir yn hyglyw ddigon.


Teimlaf pan glywaf bell glod — a mawl mad
Ei mil myrdd, ryw syndod,
Ryw ias bêr, o eisieu bod
Yn iach yn canu uchod.


456 GWAITH ISLWYN.


Ymatal Dad! mae eto —’n rhy gynnar
I'r gân —’rwyf yn suddo, —
A 'mhabell hon ambell awr
I lawr ar ymfalurio.


I bryfyn mae blaen-brofiad
O Nef, yn ormod mwynhad.


Wyf amharod, fy mhuro — sy reidiol
Dros ryw adeg eto;
Drwy dy ras Dad, ryw dro — byddaf addas
I urddas y ddinas ryfedd honno.

Rhodio gaf lannau’r afon
Gain, a lif drwy ganol hon,
Ei d
ŵr wna fythol dorri
Pob syched o'i hyfed hi;
Hoen fawr fydd ymddifyrru
Uwch ei throion ceinion cu,
Gweld lled a golud ei lli, — ac urddas
Y Deyrnas — llynghesoedd Duw arni.

Yn eglur o'r pinaglau — ni welwn
O'n hol ein holl lwybrau
Yn yr anial, a rhiniau — y ddwyfol
Law geryddol, fanwl ei graddau.

Aml dro y bu wylo hir
O'i blegyd,’nawr ddadblygir;
Gawn liw clir, cawn oleu clau
Am ddinistr y meddiannau.

Ar y byd tu draw i'r bedd
Rhyw enw mawr ei rinwedd,
Er mawr fraint i'r saint eto sydd,
Sef y lân orffwysfa lonydd.

Gorffwysfa lonydd.

Y Sabboth per ei seibiant
Yn awr sy’n gysgod i'r sant,
Yn rhag-ddarlun dymunol,
O'i Nef-"Orffwysfa yn ol."
O! mae anian am ennyd
O'i phwys yn gorffwys i gyd;
A'i holl ynni yn llonydd
Drwy’r proffwydol ddwyfol ddydd,
Fel am lwyr-daflu ymaith
Ei gwedd gynt, a'i gwisgoedd gwaith;


Y NEFOEDD. 457

Ei phryd sydd offeiriadol,
Hedd dwfn ar fynydd a dôl;
Arwydd mad i gredadyn
O ryw le gwell ar ol hyn.

Melus weithion
Ei obeithion am Sabbothawl
Dragwyddoldeb, heb y byd
A'i wael bennyd ail-boenawl.

Llafariwn oll o forau
Yr oes, nes ei dwfn hwyrhau,
Dewr weision gyda'r Iesu,
Yn ddi-dor hyd y bedd du;
A'n holl fwriad llafuriwn
Ddydd a nos dros achos Hwn,
Heb ofyn hedd, heb fwynhau
Esmwythyd na blas moethau; —
Ni a gawn mewn gogonedd
Ar ol hyn anfarwol hedd.
O! cawn gynnes fynwes fad
Hoff Iesu i'n fforffwysiad; —
Oesau meithion o lawn esmwythyd
Fry, siriolfawr oesau yr eilfyd,
A byw ar bren y bywyd, — heb gyffraw
O gwsg difraw dan ei gysgod hyfryd.

A'n "gwael gorff” mewn argel ga
Hoffusfaith lawn orffwysfa.

E gyll, e gysga allan — o'i dynged
Had angau ei hunan;
O aua’ bedd cyfyd ban,
Draw ca haf wedi'r cyfan.

Ni adwaenir cyflawnder dywenydd,
Na chlau foliannau y Wynfa lonydd,
Nes dwyn o'r glyn dudew oll o newydd
"Y marwol hwn" gyda mawr lawenydd;
Ei adgyfodiad fydd— orchest bennaf,
Olaf a llawnaf ei Mawr Gynllunydd.

Fe'i rhwymir drwy fawr amharch
Yn y tywyll erchyll arch;
Gadawer mewn ogo dywell,
Yn y ffeiddiaf gulaf gell.


458 GWAITH ISLWYN.


(I’r "hwn" y cylch ryw ennyd
Oedd bell amgylchedd y byd)
Ond cyfyd o’i wywlyd wedd
Ryw haul o anfarwoledd.

 

Ai "hwn" y "gwael" — "hwn" y gwyw
Un adeg — ai  “hwn" ydyw!

"Hwn" y buom, drwy'n bywyd — o lesgedd
Yn ei lusgo'n dristfryd
O hinsawdd i hinsawdd, hyd
Y ddaear hon mor ddiwyd

I ddewis hafaidd aua' — ym mroydd
Mwy rhywiog Idalia,
Neu ger môr treulio'r têr ha'
O ewyllys I’w wella? —

Ai "hwn" erioed fu hwnnw, — sydd a’i ddrych
Heddyw a'i lewych mor ryfedd-loew!


Ie, "hwn" yw, wedi'i newid — i'r ddelw
Urddolwych, drybelid
Dyga anfarwol degid
Delw yr Oen a'i di-ail wrid.


Dim eisieu gofwy mwyach — i’r Idal,
Na rhodio traeth bellach;
Mae’n allu i gyd, mae'n olliach,
Ni fetha n hwy, mae fyth yn iach.

O! nghorff bach, afiach hefyd,
Sy'n brudd gan gystudd i gyd,
Cei dithau ryw forau fydd
Lawenhau yn dy ddelw newydd,
A chodi mewn iach adwedd
I wych barch, o amharch bedd.
Gabriel pan y gwel y gwaith,
Ei dremiad a dry ymaith.


Tydi eto fyddi brif ryfeddod
Y Nef ei hunan, y mwyaf hynod,
Pan fyddi ar ddelw'th briod — synna
Y deg Wynfa dros byth wrth dy ganfod.


O nifer enwau'r 'Stad Nefol, — i mi
Yr un mwyaf swynol,
Mwyaf pur a naturiol
Yw— Ty'r Tad, le rhad ar ol.


Y NEFOEDD. 459


Ty’r Tad.


A! cartref yw y Nefoedd, — yn aros
Rhyw aneirif luoedd.
Ei hollwych ystafelloedd — ddarparwyd,
A’i harddaf aelwyd, i fyrdd o filoedd.


Yno Duw ei Hun sy'n Dad, — a’i wynfawr,
Hanfod oll yn gariad,
Rhyfedd ymorfoleddiad
Yng nghanol ei lwyddol had.


O yr aelwyd fawr! O le difyrrus!
'Rol anhwylderau,’rol anial dyrus;
Rhydd lon, Dad daionus, — in' uwch cystudd
Ei gynnes orchudd, a gwenau serchus.

 
Nadolig, pan y delo, — eto wêl
Y teulu yn gryno,
Ac yn un arlun gwan o —’r cwrdd holliach
Ar y lydanach fawr aelwyd honno.


Ni gawn gwrddyd i gyd ger
Aelwyd Ion, drwy'i law dyner,
Mewn mwynhad anhraethadwy,
Uwch siom ac "ymado mwy,"
Fath orfoledd rhyfeddol
I D
'n Naf fydd dod yn ol!
Yn ol o'r pell anialwch! — eto’n ol
I babell noddol, i bob llonyddwch;
Ie ’nol wedi i ni
Unwaith lwyr ddigalonni.
Yn ol! yn ol i'n hawliau
Yn y clyd nef-gartref clau,
I'n henaid goflaid gyflawn,
Os plant, gogoniant a gawn;
Ei holl blant mewn llwyddiant llon
Fyddant ei etifeddion.


Er eu gwaeleddau a'u hafryglyddiant,
Ei etifeddion eto a fyddant;
Gyda Christ ei hunan cyd-feddiannant
Wlad y gu gân a golud gogoniant.

Mewn rhwysg yn y man yr ant
I’r llawn fodd a'r llon feddiant.


460 GWAITH ISLWYN.


Deuant i'w hoed o'r diwedd, — ym more
Mawr eu disglaer adwedd;
Yr Oen a maith rinwedd— ei lawn di-ail
Fydd eu sail i etifeddu sylwedd.


Oes! y mae glân "drigfan" draw, — palas haf,
I'r iselaf o'r plant gael preswyliaw.


Llawenhawn! "Lle" yw y Nef,
Sylweddol oesawl haddef.

Nid ystâd anweladwy
O dan niwl, ydyw yn hwy.
Ewyllys Crist sydd hollawl
Brawf mai lle yw’r Ne i'n hawl.
Ein lles pan ewyllysiai— o'i gariad,
O flaen ei Dad fel hyn y dywedai; —
“Rho, mewn hedd, i'm Dyweddi
Yn llwyr fod lle yr wyf fi!

 

Lle yr wyf fi.

"Dod, dy Hun, fy nheulu’n iach
Gyda mi i gyd mwyach."


Iawnwych le! clust ni chlywodd, — a llygad
Un eiliad ni welodd
Y bri teg a barotodd
Yr Ior gwir i'r rhai garodd.

Eiddilion yw’n meddyliau — uchelaf,
A chalon yn ddiau
Ni fedd un tyb wna foddhau
Am wawl y bythawl bethau,

"Pethau" gorau ei gariad,
Gorau’r Ion o'i roddion rhad.

 
Gorau Duwdod i gredadyn — yw Nef
A'i mwynhad diderfyn, —
Llwyr agor ei drysor drud
A'i olud oll i elyn.


Nid digon gan Ion in fwynhau — heddwch
A’r dedwyddyd gorau,
Heb loes am fythol oesau
Yn y bêr anfarwol bau; —


Y NEFOEDD. 461


Rhy fychan ein diddanu — yn unig,
Mae’n Hion am ein synnu, —
Am agor, in edmygu — ryw ryfedd
Faith ogonedd, mâd fyth i ganu —

Byw mwy’r tragwyddoldeb myg — diorffen
Yn y bur, lawen, fwyn ber-lewyg.

Sydyn arddanghosiadau — aruchel
O'r mawTwychedd gorau,
Mwynhau gogoniannau’n Hior
A'i ddidor ryfeddodau;
Rhaiadrol orfawrhydri
Duw a'r Oen, oesau di ri.

Gwahanol yw gogonedd
Y dorf fawr tu draw i fedd;
Oes, mae draw raddau lawer
Rhwng y saint fel rhwng y ser;

Ond o hedd a dedwyddyd,
Eu rhan geir yr un i gyd.
Yno i boD enaid bydd
Ei lonaid o lawenydd,
Os telir apostolion
Yn ddwbl yng ngogonedd lon,

Os ceir gan rai ddisgleiriach— coronau,
Nis ceir un hapusach;
Yr un bwrdd fydd i'r un bach, — yr un wledd
Rad, a'r un sylwedd, er draw’n iselach.

Ni fydd dig nac eiddigedd,
Ond cydfyd o hyfryd hedd.

Ni faga Ephraim genfigen — wedyn
At Judah, nac absen,
Ni ddaw un llid prudd na llen
Dros nwyfre y lle llawen.


Ar ei dawel wehelyth
Judah ni chyfynga fyth.


Ac yno yn eu canol — yr Iesu
Arosa’n dragwyddol,
Heb g
ŵyn, heb swyn absennol,
Na neb, "nac ewin yn ol."


462 GWAITH ISLWYN.


ODLAU HIRAETH.


MAE'CH deufab anwyl yn y nef, a chwithau ar y llawr,
Maent hwy yn canu " Iddo Ef," a chwi'n y cystudd mawr;
Paham yr wyli, dirion dad, paham y wyla'r fam,
A hwythau, os o'ch cyrraedd chwi, o gyrraedd pob rhyw gam.
Diolchwch fod i'wch anwyl blant yn engyl pur i lor,
Diolchwch fod i chwi ddau sant yn canu yn y côr —
Y côr ag sydd uwch cyrraedd gloes
I ganu am dragwyddol oes.
Pe buasech yn eu gadael hwy o'ch ol mewn anial croes,
Buasai hynny'n peri clwy wrth ado stormus oes,
Diolchwch idd y dwyfol Dad a'u cymrodd hwy mor glau,
Ac O! pan lanioch yn y wlad dragwyddol, bydd y ddait
n aros ar y lan tu draw
A'u tad a'u mam i ysgwyd Jlaw —
I ysgwyd llaw uwch cyrraedd gloes,
Uwch 'mado am dragwyddol oes.
Rhyw fyd gofidus yw ein byd, y mae y rhai a garwn ni
Yn gorfod dioddef lawer pryd ar ol ein mynd i’w beddrod du —
Ond chwythed stormydd yn eu grym, a deued myrdd o wyntoedd
croes,
Ni chaiif James Henry oddef dim, ni chaiif Jehoiada un loes.
Y mae James Henry gyda Duw, Jehoiada yn angel gwyn,
O! onid gwell y Nef i fyw na rhwng y bryniau cyfyng hyn!
Fe ddylai 'u hanfarwoldeb pur
Yn llwyr felysu'ch cwpan sur.
Hen fynwent lonydd y Twyn Gwyn, gofala am eu llwch mewn
hedd; [bedd,
Mi ddof ryw ddydd â blodyn gwyn i'w blannu'n ddistaw ar eu
Sef blodyn gwyn o'r gwynnaf sydd oblegid gwynfyd yw eu rhan,
A daw y ddau o'r marwol bridd mewn gynau gwynion yn y man.

BEDDARGRAFF HEMAN GWENT.
Mor lom ar ol ei Heman — yw Gwalia,
Gwelwch ei hir drigfan;
A! tan glo mae'r Cristion glân,
Hwyliog angel y gyngan.


Er cof am James Henry a Jehoiada, anwyl blant Mr. a Mrs. James, Dyffiryn Farm, Mynydd Islwyn. Bu y cyntaf farw Ebrill 6ed, 1874, yn chwe mlwydd a deg mis oed; a bu Jehoiada farw yn ebrwydd ar ei ol, sef Mai 25ain, yn bum
mlwydd a saith mis oed.


CARNHUANAWC. 463

CARNHUANAWC.


CARNHUANAWC! O! pa Gymro sy, pa lenor na fawrha ei glod!
Pwy ymhlith beirddion Gwalia gu na wna ei fawl yn haeddawl nod!
Carnhuanawc enwer — digon yw
I greu trwy Gymru deimlad byw.


Diwmod pradd oedd hwnnw pan glywid nad oedd Carnhuanawc
mwy; [glwy.
Y newydd athrist ym mhob man trwy Gymru roddai ddyfnaf
Paham ysbeiliaist, angau du,
Anwylyd Gwalia o'i chol gu?
Gallasai fyw flynyddau hir
I gyfoethogi llên ei wlad,
Fel haul disgleirfawr uwch ein tir
Yn tywallt gwawl gwybodaeth fad.
Ond felly rhyngcild bodd, ein Tad, i ti;
Ein Tad, efelly rhynged bodd i ni.
Do, collodd Cymru ddeigryn, pan o'i nen lenorol hi
Machludodd y fath seren gan oddiar gyhydedd bri.
Gwag yw ei lle; pa seren sy
Yn addas i'w sefyllfa fry!
O'i ol galara’r beirdd ynghyd,
A'u cerddi oll fel yntau’n fud
Yn llanc rhagorai. Pan, yn llaw ei dad,
Y cerddai dros y dolydd gwyrddwawr mad,
Mor llon a'r
ŵyn o'i gylch, e welid dyn
A llenor yn ei wedd a i sylw cun.
Yr wybren glaer a
ŷf uwch ben oleuni’n llifo'r huan ter,
. A'r awel lon ddiddana’r nen ag alaw ei chwibanogl bêr,
Oll gaent, ar doriad gwawr ei ddydd
Ei sylw craff a'i efryd rhydd.
Y rhos a'r lili glwys a gaed yn ymfalchio yn eu harddwch,
Gan daenu 'u swynion gylch ei draed a gwisgo’r dolydd â
Yn llanc chwareuai yn eu plith [phrydferthwch,
Pan yfent falm o gostrel aur y gwlith.


E hoffai rodio trwy y wig, pan wisgai 'i dillad hafaidd, gwyrddion,
E hoffai wrando ar y brig awenau’r pluog delynorion,
A chlywed yr awelon mwyn
Yn tewi i fwynhau y swyn.


464 GWAITH ISLWYN.


Ar lan yr afon teimlai ef,
Anianydd hoff, fel un yn nhref.
Oedd murmur y delorawg don
Mewn cynghora â theimladau 'i fron.
Oedd lawen pan ardremiai'r ser,
Ddodrefnant fry eurlysoedd Ner,
Mor deg ar fynwes loew y lli,
Yn gwneyd y don yn falch o'u bri.
O radd i radd cynyddai. Haul y nen
Ni ddyrch ar unwaith i orseddfainc wen
Rhwysg cyhydeddoL Gyr y wawr ol flaen
I chwerthin fifwrdd o ystia,felloedd cain
Yr wybr bob cwmwl prudd, a gwneyd y nef
Yn barod i roesawu 'i gerbyd ei.
Mae tyfiant i athrylith. Hawlia dawn
Ei hamser cyn yr ymddadblygo'n llawn.
O radd i radd cynyddai. Bore oes
Ei le i lawn ganolddydd bywyd roes.
Ai uchel y gobeithion lanwent fron
Ei dad am rawredd y bachgennyn llon?
Uwch y cyflawniad, llawer uwch ei ddawn
I dad na majn rasddweyd ei uchder llawn
Er mor dra phleidgar rhiaint, er mor ddall
Dan orchudd serch i bob rhyw ffael a gwall.
Y wawr oedd olau; y canolddydd llawn
Oedd ddisglaer; eithr tanbaid oedd y nawn; —
Tanbeidrwydd rhiniau a chyneddfau cu
Yn ddadblygedig yn eu cyflawn fri.
Mae heuliau’n machlud, er mor rwysgfawr yw
Eu tân-gerbydau a'u pelydron byw;
Machludodd yntau. A! nid difi$$g ddaeth
I lennu 'i noawedd disglaer; symud wnaeth
Dros orwel amser a'i orllewin du
I loewach arddrych anfarwoldeb cu.

Ein Cymru, ein hoff Gymru, pwy a fu
Mor llwyrymroddgar i'th wasanaeth di?
Pwy fel efe i'th ddwyn i sylw'r byd,
A thaflu gwawl ar dy deleidion drud?
Gorchestion dy wroniaid gynt, rhai aent yn fyrdd i'r frwydr, boeth,
A baniar rhyddid gyda'r gwynt yn esgyn fry, a'u harfau'n noeth,
Fel caer o ddur yn mudo mlaen, a'u calon ddewr yn nofio'n hy
Mewn môr o lid, tra'n frith ar daen geleiniau gâlon ar bob tu —
Eu holl orchestion draethai'n llawn
Heb liwiad gorddarluniol ddawn.


CARNHUANAWC 465


Nid gwisgo tyb â blodau arddull mae,
Nid honni gwiredd i ddychymyg gau,
Ac nid goreuro mympwy trwy fais dawn,
Ond traethu’r gwir yn syml, y gwir yn llawn.


O grafanc anghof cipiai’n hy
Hen gymeriadau mawr eu bri;
Rhai yn wybrennau disglaer llên
A rhyddid, a gwladlywiaeth hen,
Lewyrchent gynt, ail heuliau mawr,
A Chymru’n olau dan eu gwawr.


Caswallawn Fawr, er marw, byw
Yng ngwaith Carnhuanawc eto yw;
Byw yn ei anghydmarol fri,
A byw yn addurn, Gymru, i ti.
Cynfelyn yn ei rwysg di-len,
A choron gwron ar ei ben
Fyth yn blaguro, yntau sy
Brif em yn "Hanes Cymru" gu.


Yr hwn, O Gymru, a ddarluniai fri
Y gemau gloew a wawlhant dy hanes di,
O fewn dy hanes, i wladgarol drem
Ei hunan heddyw yw y gloewaf em.


Gwladgarwch! nid enw disylwedd oedd iddo,
Ond cadarn egwyddor, ddihalog ei rhyw,
Trwy ddrych ei ymddygiad yn teg ymddisgleirio,
Gan gyffwrdd ei galon deimladol i'r byw.
Gwladgarwch! os dieithr yw neb i'r hoff rinwedd
Efryded Carnhuanawc, ei weithiau a’i fuchedd,
A chenfydd ei theithi ar berffaith gyfunedd
Yn llawn ymgorffoli mewn un nodwedd wiw.


Wladgarwyr mewn enw ac ymffrost yn unig,
Chwi lên-Phariseaid, amgylchwch ei fedd —
Os meiddiwch neshau at y fan fendigedig
Gysegrir a swynion teilyngdod a hedd.
Ei feddrod parchedig raffrithwyr, amgylchwch!
Ac yno, O yno, diwygiad ardystiwch
Yn gywir wladgarwyr, dan wylo dychwelwch
A delw ein gwron yn fyw ar eich gwedd

Bradd fynwent Cwm du, cadw fanol ddisgyblaeth
Ar dyfiant dy borfa dros fronnau dy bridd,
 


466 GWAITH ISLWYN.


Rhag fyth i gysgodion ei gwyrddfwng ehelaeth
Doi bedd ein gwladgarwr â thrymder a hudd;
Fel gem hawdd-nodadwy O! cadw 'i orffwysfa;
Na thyfed ond blodau, y tecaf rai yma,
Ac wyled yr awel pan heibio y crwydra
Ei thôn yn gwynfannus, a'r adsam yn brudd.


Yn nwyfiant calon lawn o wladgar dân
Gadawai gartref clyd dros Gymru lân.
Hyd ffyrdd cerigog ai, wladgarwr mwyn,
Tan wybren drom, ac awel lem, heb gwyn.
Cysegrwyd daiar yr Iwerddon fir
A sang ei droed. Olrheiniai ei holl dir —
A chraffder hynafiaethydd gwir, ac aidd
Gwladgarwr yn mawrhau ei wlad o wraidd
Ei galon — am weddillion mawryd hen
Derwyddiaeth. Ac, i gyfoethogi llên
Ei wlad â darganfyddion, hwyliodd draw
I Lydaw bell. Ei lygad, ar bob llaw
Graff sylwai,’n fyw i bob derwyddol gam,
Neu gromlech, o hynafiaeth yn werthfawroca ddarn.
A! pwy ddarlunia ei lawenydd ef
Pan, wrth ddychwelyd o'i ymchwildaith fawr,
Y gwelai fryniau 'i wlad yn cyfarch nef,
A'u bannau yn cusanu’r wridog wawr,
A phelydr teyrn goleuni’r nen
Yn dawnsio’n drylon ar eu pen.
E welsai’r Alpau tua’r nen yn esgyn, a disgleirder dydd
Tragwyddol yn coroni 'u pen, a'r llithreira’n treiglo’n rhydd
Gronfeydd terwynion oddi fry —
Dros lethrau rhewllyd, aruthr fri!
A'u bannau fel gordyrau syth o deml anian ar y llawr,
Fry yn cofleidio’r nef, ym mhlith mil o gymylau, llon eu gwawr,
Ond iddo ef caed hoffach swyn
Yn nghreig gwyleiddiach Cymru fwyn.


E welsai Iyn Lough Erne fel llen o wydr gloew dan fwa’r nen,
A brith ynysoedd ar ei li fel gemau o addurnol fri,
A'r awel falmaidd ar ei thaith,
Yn cribo brig ei donnau llaith,
A'i ddyfroedd yn ymdaflu fry
Mor wyn â llaeth i'w chyfarch hi;


CARNHUANAWC. 467


Ond iddo ef oedd hoffach swyn
Ger un o lynnoedd Cymru fwyn —
A phelydr teg yn euro 'i bron
A gwrid o wawl; a'r awel lon
Oerllaw yn chwareu 'i haden fad
Yn llwythog o aroglau’r wlad;
A blodau’n amaerwyo 'u glan, —
Y gwridog rôs, y lili gan,
Delw purdeb; a’r flinedig don
Yn cysgu’n esmwyth ar eu bron.
A! iddo ef golygfa fwyn
Oedd hon, yn llawn o farddol swyn.

E hoifai lwch ei wlad, a'i meini cedym hi —
Arwyddion ar barhad o'i hen dderwyddol fri;
Edrychai gyda siriol wên
Ar olion rhwysg derwyddiaeth hen.

Pan welai gromlech drom yn crymu’n ddwys,
Ac ar ei maen-golofnau’n dodi 'i phwys
Yn athrist, wedi llwfrhau o dan
Gorwyntoedd oesau, a chan oed yn wan,
Adgofiai amser pan y gelwid hi
Yn allor, pan y cai grefyddol fri
Ac ebyrth i'w chysegru; archai ef
IV gof y dydd pan gylch yr allor gref
Ymgrymai lluoedd o addolwyr gynt,
A'u gwallt yn chwyfo mewn ceryddol wynt.
Hen allor Pentref Ifan ar ei thri
Ategion, sydd mor ffyddlawn dani hi
Yn ei chryfhau i gynnal brwydr gref,
Tragwyddol frwydr âg awelon nef,
Y rhai yng nghryfach sain eu hudgyrn fry
A fynnent foddi fyth ei harawd hi,
Ei harawd ar dderwyddiaeth, — hon gai drem
A sylw Carnhuanawc. Drudfawr em
Oedd yn ystorfa 'i hynafiaethau cu.
Darllennai ynddi gyfrol lawn ar fri
A mawryd crefydd, ar flagurog wedd
Gynt lanwai’n gwlad o'r gwaelaf fwth i'r sedd.
Meddiannai gwastad Caer Caradawg swyn
A'i gwnai’n hoff fan i'n hynafiadur mwyn.

Ei galon wladgar gurai’n chwym gan lid
At bob dyhiryn a amharchai fedd


468 GWAITH ISLWYN.

Un o wroniaid Cymru. Gwrthrych drud
Hoff ganddo oedd pob camedd, man mewn hedd
O fewn ei briddgawg hunai llwch rhyw dad
Wynebai gynt, tan faniar rhyddid mir,
Estroniaid lu, yn aberth dros ei wlad
Yn golofn aur dan anibyniaeth wir.
Trychwaliad bedd Taliesin yrrai dân
O ddig gwladgarol trwy ei fynwes lân,
Ni fynnai dynnu carreg o un garn
I walio’r llys cywreinfalch, na gwneyd sarn
O lwch gwroniaid, na fai rhaid i brif
Ryfelwyr Groeg, neu ymerawdwyr hyf
Rhufain dragwyddol, gywilyddio mwy
I orffwys yn yr unrhyw fedd â hwy,
A dal eu palmwydd gan orchestion fyrdd
Sydd yn blaguro mewn anfarwol wyrdd.

Pob carreg hen a ddygai ol o hynafiaethol fri
Ar gopa bryn, ar arffed dôl, arddenai 'i sylw cu.
Oedd hoffach ganddo ef na’r harddaf faen
Erioed a dynnwyd o farmorawl haen.

Trysorfa traddodiadol ddysg
Ar ddydd ei angau aeth o'n mysg.
Cyfrinion derwyddoniaeth, pwy
A deifl oleuni arnynt mwy?
Pwy fel efe? Pa fron mor llawn
O'r ddysg, a'r ddarluniadol ddawn!

A! nid ei farwol ran yn unig sydd
Dan dromlen anghof. Yn ei feddrod cudd
Dan fythol glo mae traddodiadau hen
Cyfrinion barddas, a dillynion llên,
Gwybyddus iddo 'i hun yn unig. Hwy
Fel yntau ydynt yno’n ddistaw mwy,
A dedryd anghof arnynt. Yn y bedd
Anghofir dyn, a dawn, a dysg un wedd.

Cyfrinion beirddion Ynys Prydain, pwy
A fedd yr allwedd a’u dadgloa mwy?

Oedd feistr ar ein hiaith, ein hen iaith gu
Ein cenedlaethol berl, a'n pennai fri;
Dyferai ‘i mêl-frawddegau dros ei fin
Mor rwydd â thros aurlafar Gomer gun.


CARNHUANAWC. 469

Ei geiriau tyner, rhai drosglwyddant ffrwd
Teimladau calon lawn o gariad brwd
Yn eu cynhennid fwynder a'u naws flydd
Gan roi i'r meddwl gwylaidd lafar rhydd;
A'r rhai ardebant gyffroadau cryf
Y brwd wladgarwr, a’r rhyfelwr hyf,
Pob gair fel adsain twrf rhyw raiadr llym,
Pob cydsain yn wroldeb ac yn rym, —
Meistrolodd hwynt; ac ar ei alwad, oll
Gweinyddent i roi ffurf i'w dyb di-goll.

Troellau mwynber ei hymadradd hi
Ddefnyddiai fel meistrolgar athraw’n hy.
Dan Lwyni Academus aeth heibio aml awr fwyn,
Ar aden hoen difyrrus wrth ganu 'i rhin a'i swyn.
Ei golud anhreuliadwy eglurai i ddoethion lu,
Ei dyfnder amhlymiadwy a'i hymadferthoedd cu.
Tra’n sugno llaeth gwybodaeth o fronnau addysg lawn,
Tra’n derbyn arlwy odiaeth ar fwrdd clasurol ddawn,
Tra aur-phiolau’r awen yn llawn trysorau’r nef
O'i amgylch — ein hiaith drylen gadwynai 'i efryd ef.
Athrofa goeth ni feddai un swyn i ddenu 'i fryd
Oddiar yr aeg ddysgasai yn blentyn yn ei gryd,
Yr aeg dros fin mam dyner wahoadai gwsg a'i swyn
Aml dro, drwy felus drymder i gloi ei amrant mwyn.
Hon, ar dywyniad bywyd, barablai’n bêr cyn hyn
Wrth lamu'r ddôl arianbryd, wrth ddringo'r gwarsyth fryn;
Yn llys yr uchawduron hi oedd ei aeg drachefn,
Agorai 'i gwreiddiau dyfnion a'i chynghaneddol drefn.

Wedi olrhain hynafiaethau pobloedd hyglod ereill gynt
Anfarwolwyd â choronau buddugoliaeth ar eu hynt,
Troai adref at hynafiaeth ei anwylaf wlad ei hun,
Tafiu gwawl ar ei chyfriniaeth wnaeth yn nod ei lafur cun.
Pan ganfyddai olou newydd ar ryw ran o hanes hon,
Neu draddodiad llwyd a rhydlyd wedi 'i rwygo gan oed bron,
Ymlawenai fel perl-geisydd wedi cael y prif em drud;
Hanes Cymru ddenai beunydd ei chwiliadol ddawn a'i fryd.

Oedd enwog ym mhob gwyddor. Medrai ef
Yn ymyl Newton olrhain bydoedd nef,
A rhyfeddodau’r heuliau rhwysgfawr sy
Ar dân-olwynion yn ymdreiglo fry.
Y blaned Mercher, ger canolbwynt dydd,
Agosaf gâr yr haul; a Gwener sydd


470 GWAITH ISLWYN.


Yn ddelw o brydferthwch; y wech Iau
A'i gofigordd landeg ogylch yn gwawlhau;
A'r welwlwyd Sadwrn, a'i modrwyau sydd
Yn adlewyrchu harddwch teyrn y dydd.
Hwynt oll amodai ar Iydanfron nen,
A mwy, myrdd mwy’n addurno’r tran di-len.


Y rheithiau tragwyddol osododd yr Ior
I lywio ysgogiad y ddaear a’r môr;
Y swyn digyffelyb, y gallu di-draul
Sy’n gwneyd i bob planed addoli yr haul,
Gogwyddo fyth ato, heb fyth ato ddod,
A dawnsio o’i amgylch, bob un yn ei rhod;
Dirnadai hwy’n gywir, a'i hun megis haul
A'u heglurai i ereill yn oleu a hael.


Difyrrai’r teulu gylch y bwrdd a darnau o hynafol ddysg,
Gwasgarai anwy bodaeth ffwrdd,a rhoddai'r cnewyllyn heb y plisg;
Addysgu oedd ei nod di-feth,
A derbyn addysg o bob peth.


Difyrm yn rhinweddol wnai,
Nia porthi blys at gellwair gau.
Cymysgai falm adfywiol mwjmiant gwir
A chwpan addysg a gwybodaeth bur.


Ni theimlid angen testyn lle y byddai yn wyddfodol;’r oedd
Amrywiaeth yn ei addysg e i’r bwrdd, fel i'r areithfa goedd.
A defnyddioldeb nodai’n llawn
Bob testyn a gyflogai 'i ddawn.


Pob munud werthfawrogai’n llawn
Fel drutaf rodd wrth ei mwynhau
Yn chwim ddiflannu. Bore a nawn
Munudau i addoli gai;
Un munud byr mewn gwir addoli Duw,
Gwystl o ddedwyddaf dragwyddoldeb yw.


Efe ei hun yn frig o'r uchaf ryw
Yng ngardd llenyddiaeth, taflai gysgod gwiw
Dros flodau heirdd ond eiddil. Noddfa gref
Gai ieuainc feirdd o dan ei aden ef.
Aml un sydd heddyw’n addurn llawn i’w wlad
Feithrinwyd dan ei arolygiaeth fad.
Y gwledig lanc, a fagwyd ar ael bryn,
Na welodd drem erioed tu hwnt i'r glyn


CARNHUANAWC. 471


A hardd ymledai dan eurflodau fyrdd
Islaw ei ddidrain gartref, oll mewn gwyrdd,
Hwn lanc, ymddifad o bob peth ond dawn,
Dan nawdd ein Price ar fyr a fwriai rawn
O'r fath uchelaf, grawn athrylith wir,
Per ffrwythau dawn o blaniad anian bur.
Addysgai’r meddwl i weithredu’n iawn,
A'r doniau ir i ymddadblygu’n llawn.
Trem bendant a hyderus athraw mad
A feddalhai â gwên siriolaf tad.


Ni thaflai fyth i lawr awenydd ieuanc, pan
Yn dysgu’r aur-gelfyddyd lawr ar lethr Parnassus ban.
Ond rhoddai 'i law i'w ddarwain fry
I'r deml gorona’r mynydd cu,
Lle tardd y ffynnon ddwyfol dêr
A ysbrydola’r odl bêr.


Nid fel y môr yn llyncu’r oll i'w gol —
Gyfoethog anrhaith! — heb roi perlau’n ol
Oedd ef; ond fel y cwmwl gonest sy
Ar ol crynhoi ei laith oludoedd fry
O'r fro werddonog, yn edrydu’r oll
A mwy na iawn am bob mygdarthog goll
Mewn gwlithion balmaidd o ariannaid wawr,
A mêl-gawodydd i ddiwallu’r llawr
A thorri syched egr y meusydd llwfr
Trwy holltau fyrdd sy’n ymddyheu am ddwfr.
Elusengarwch! gwyddai ystyr iawn
Y gair; ei galon oedd ei ystyr llawn,
A'i fuchedd, drych ei galon; ynddi hi
Y rhinwedd nefol yn ei hawddgar fri —
Bri hawddgar Cristionogaeth! — d'wynnai’n hardd
Yn nod i folawd ac edmygedd bardd.

Prif hoffder rhai — och! hoffder islaw dyn —
Yw murio gylch eu haur, a’u lles eu hun
Yn unig ddiben. Bryf! nis gwyddant hwy
Sy’n rhwym wrth lwch, am nod na mwyniant mwy.
Nid felly Carnhuanawc. Rhoddai ef
Yn ol a roddid iddo. Pan fai nef
Yn hael — a phryd nid yw? 'ond graddau sy
Yn rhoddion y drysorfa ddwyfol fiy —
Pan fyddai yn hael wrtho, hael un fodd
Wrth eraill fyddai yntau efo 'i rodd.


472 GWAITH ISLWYN.


Elusengarwch distaw oedd. Y ddawn
Gyfrannai heddyw o orlifiant llawn
Ei deimlad, fory lwyr anghofiai; O!
Fawladwy anghof, prawf perffeithrwydd co.

Ni welwyd un cardotyn llwm yn troi o ddrws ei dŷ
A'i fron yn brudd, a'i wedd yn drwm gan siom a newyn du;
Na! chwarddai gwenau ar ei ael
Wrth ado t
ŷ y prif wladgarwr hael.

Aml fam amddifad, gyda 'i phlant ymddifaid fel ei hun,
Ac argraff o helbulon gant yn rhychau ar ei llun,
Lawenai pan o glogwyn fry
Y gwelai wawr ei wladaidd d
ŷ.

Dywedai, "Fy hofi'ŵyn, mae acw un yn byw
Dosturia wrth ein c
ŵyn, ac ef ein gweddi glyw;
O ddrws ei d
ŷ yn wag nid awn,
Un waith o leiaf digon gawn."
E wyddai 'i fam; a'i fam arddelai’n goedd
A didwyll, eto nid rhagfarnllyd oedd.
Ni ellir fyth darostwng meddwl hael
I raddfa front pleidgarwch; rhagfam wael
Sy bennyd meddwl gwaelach; saeth ym mron
Y drwg a'r cenfigennus ydyw hon.

Ei feddwl oedd ry eang i'w gulhau
I fod yn rhedle i'r fath deimlad gau.
A'r awyr foesol lle chwareuai 'i ddawn
Oedd i'r fath gwmwl yn rhy elaer, rhy lawn
O wawl athroniaeth uchel. Yn ei
ŵydd
Cai Pabydd eglurhau ei farn yn rhwydd,
Er fod ei farn mor groes i'w eiddo ef
-$$g yw tywyllni anwfn i wawl nef.

Anffaeledigrwydd, ai o enau’r glowr tlawd
Ai llys y bwystfil gau, ddirmygai gyda gwawd.
Anffaeledigrwydd! nodwedd yw
Na fedd ond anffaeledig Dduw.

Gwir glod ni wyr am derfyn. Pan o ryw
Rhinweddol, fel y nefoedd di-dran yw.
Rhy gul terfynau gwlad i gynnwys bii
Y fath lên-arwr a Chamhuanawc gu.
Croch donnau’r Hafren yn eu twrf di-daw
Ni allent foddi sain ei glodydd. Draw
Ehedai er pob enllib du ar daen,
Teilyngdod noeth a'i gyrrai’n hyf ymlaen.


CARNHUANAWC. 473


Gwrandawai Lloegr ar ei uchel fri,
Edmygedd llawn a chwyddai 'i mynwes hi.
Dros fryniau Cheviot cludai awel fwyn
Ei orfoleddus glod i'r Alban fry,
A thros y dyfnfor â thrydanol swyn
I Ffrainc trosglwyddid ei enwogrwydd cu,
A thrwy’r cyfandir lledai 'i glod bob llaw,
Ei adsain lonnai wlad yr Ellmyn draw.

Y trwsiad y tu faes oedd hardd, un fodd
A'r dodrefn y tu fewn, Bys natur rodd
Fawreddog gyffyrddiadau ar y t

Fel ar y deiliad. Oedd ei dalcen hy
Yn deilwng o’i athrylith, awgrym cu
Fod angel yno, cyntedd addas i
Y fath ystorfa ddrudfawr o ddysg lawn,
A'r fath gydgasglfa o oludoedd dawn.

Llewyrchai 'i feddwl yn ei lygad mir,
Ac ar ei lawes gwisgai 'i galon bur.
Fe drigai fry mewn hinsawdd foesol, sydd,
Dan belydr bonedd derch, ac awel flydd
A balmaidd rinwedd, yn rhy bur i rith
Ei llygru â'i wenwynilyd, halog chwyth.
Cywirdeb a'i nodweddai’n llawn. I'r gwir
Ei law oedd arf, a'i fuchedd — ardeb clir.

Cyfrolau’n llawn athrylith welem ni
Yn nh&n ei lygad. Oedd ei lygad cu
Ei hun yn enaid; claer, agored ddrych
O galon hawddgar, ac o feddwl gwych.

E feddai glust a ddaliai swyn peroriaeth a'i mêl-ddiliau hi,
E feddai fys ddyhidlai’n fwyn ddyferion ei hudoliaeth gu.
Ei swynion wrthi glymai 'i glyw
Gan wneyd ei enaid iddi’n fyw.
Ai gyda’r wawr i chwyddo’r gerdd
Gysegrai demlau’r goedwig werdd.

Asgellog gôr yr adar cu
Ar lawen ehedfaoedd fry,
Yn arllwys eu cynghauedd lawn,
A pheronaethol awel nawn
A'i hudgorn llon yn chwyddo swyn
Ac eifaith eu telori mwyn,
Byth-Iawen delynorion nef 1
Eu tôn oedd falm i'w galon ef.


474 GWAITH ISLWYN.

Offeryn hoff fy ngwlad! y delyn fwyn!
O'i thannau mel tarawai swyn ar swyn.
Gwnai iddi siarad iaith gwladgarwch pur,
A bywiocau teimladau’r Cympo gwir.

A'i law yn gorffwys ar ei ddwyfron bur,
A'i lygad oll yn dan o deimlad gwir,
A'i wallt yn llaes gudynau ar chwyf fry
Yn brawf o'i serch at anian seml gu,
A'i freichiau’n ymgofleidio ar ei fron,
A'i deimlad gyda 'i bwnc yn chwyddo’n llon,
A'i agwedd oll yn ddelw o sobrwydd llawn,
Gollyngai allan fywiol lif o ddawn.

 

Y fath fudanrwydd lywiai’r dyrfa pan
Lefarai ef! Distawai lluoedd gan
Awyddfryd llawn i ddal ei eiriau drud,
Braidd yr anadlent, oeddynt oll mor fud, —
Mudanrwydd hoffwyr dysg, mudanrwydd doeth
Yn dal defnyddiau ol-ymddiddan coeth.
Ein Cymru, ein hoff Gymru, oeddit ti;
A phob peth ynnot iddo ef yn gu.
Dy feilcn fynyddau, trwy uchelfryd sydd
Yn cyfarch nef, dan wên tragwyddol ddydd,
Gan hoeddi’n eofn anibyniaeth fry
Trwy lais y daran a’r awelon hy, —
A! hoffai wibio drostynt, fry yn nen,
A syllu ar y gwawl yn goron ar eu pen,
A gwrando arawd pêr yr awel lon
Tra adar lu yn lieisio yn ei bron
I'w llonni ar ei gyrfa chwern â swyn
Eu tannau mêl a maws eu corau mwyn.
Dy froydd oll, yn llif o frasder llawn,
Ar fore trylon, neu fyfyrgar nawn,
Olygai ef â threm dreiddgarol un
Yn darllen natur yn ei gwawl ei hun.
Mor llon edrychai ar y dolydd heirdd —
Hoff fannau, oll yn frith o swynion beirdd,
Y dolydd heirdd, dan gnydau chwyfawl chweg
Mor dlws addurnant froydd Gwalia deg!
Cyfoethog fan yng ngheinion natur roed
Yn gartref addas iddo; sang ei droed
Gysegrai’r lle; ac, at yr hyiryd swyn
A ddenai yno Iioffwr natur fwyn.


CARNHUANAWC. 475


Atodai swyn dry’r fro’n gartrefol dir
I'r hynafiadur a'r gwladgarwr pur.
Amaethwyr llon ei ardal! nodwch chwi
Ar lech anfarwol cof, y dolydd cu
Y cerddai’r prif wladgarwr drostynt pan
Ai i maes i yfed balm yr awyr ban
A sugno iechyd o'r awelon pur
A gweld y blodau’n garped dros y tir.
Y mannau cofiwch! cysegredig ynt
Rodfeydd Carnhuanawc trwy‘i isloerawl hynt.
Eich meib addysgwch i'w hedmygu’n llawn,
A'u parchu fyth fel meddiant gwerthfawr iawn.
Na thynner aradr drostynt. Flora dlos!
Byth gwrided arnynt dy hawddgaraf ros.


Bu natur yn afradlawn ar ei rhin
A'i drudfawr roddion pan y ganwyd e.
Nid digon iddi oedd cyfrannu un
Odidog ddawn. Talentau prid y nef
Roed yn sypynau iddo; calon lawn
Trysorau teimlad; bron yn chwyddo dan
Orlifol serch; chwaeth i wahanu’n iawn
Rhwng twrf â chynghan; clyw ddifyrrid gan
Gywreiniaf gord peroriaeth; bysedd chwim
A wnaed i swyno’r tannau pêr i'r dim;
A llygad wahaniaethai rhwng pob lliw
A'u cyffyrddiadau tlysaf; bysedd gwiw
Fel i drydanu’r delyn, felly i
Ddyferu dros flaen ei ysgrifyr cu
Linellau tlysion, ail i natur wiw,
O'r gwrthrych roent ddarluniad teg i'r byw,
Nes twyllo yr edrychwr bron. Oent oll
I'r cynllun mor gyffelyb a di-goll.


Ein cestyll gwag, cynteddau mawryd gynt,
A'u rhagbyrth yn safnrythu’n hyf, a'r gwynt
Yn chwiban trwy eu llysoedd lenwid gan
Ddillynion ymerodraeth unwaith, pan
Archwyfai baner anibyniaeth fry
Ar frynian Cymru hawddgar, pan oedd hi
Mor anibynnol â'r awelon sydd
Yn llonni’r wybren â'i haroglau blydd,
Mor anibynnol â'r afonydd gwrdd
Yn holl eofndra i hyddid dreiglant ffwrdd
Ar hyd ei bronnau, yn ddiystyr o
Ragfuriau’r bryn, ac amdroadau’r fro; —


476 GWAITH ISLWYN.


O’n cestyll gwag, trwy efelyddol ddawn
Ffyddlawn i natur, tynnai ardeb llawn.


Mor gywir y darluniai’r chwyn orchuddiai’r fan lle bu
Gwroniaid yn eu rhwysg cyn hyn yn herio estron lu!
Mor gywir hefyd tynnai ddrych
O'r eiddew’n dringo’r muriau gwych
Yn glynu’n ffyddlawn wrth y wal
Er digter gwyntoedd oesau, mal
A'u breichiau eiddil ar led ban
Yn penderfynu 'u dal i lan
Yn brawf i'r byd a'r wybren faith
O'r hyn fu Cymru deg un waith.

Ei hun yn berffaith rydd, e fynnai ddwyn
I ereill berffaith ryddid. Clywai gwyn
Yr Affricaniaid alltudiedig sy
Dan haiarn law caethiwed a'i drem hy
Yn taflu cwmwl llidiog ar dy wawl,
Amerig! cwmwl digter Duw 1 Y sawl
fyth na archwaethant ddafn o falm hedd
Yng ngwpan chwerw eu bywyd, fyth a'u gwedd
Yn brudd gan dristwch, a'u mynwesau’n llawn
O ddrylliau calon friw, a seibiol nawn —
Pan gloa’r haul ei amrant aur, a phan
Y disgyn hedd i adfywhau y gwan
A pharotoi lluddedig fyd, trwy flydd
Offwysdra, i drallodau arall dydd,
Yn fore iddynt hwy! — y sawl ni chânt
O oes i oes un Sabboth; na fwynhant
Ddisgwyliad am un fendith well na bedd;
Y rhai na alwant angau, uthr ei wedd,
Yn frenin dychryn, ond yn borthor mad
Yng nghyntedd anibyniaeth a rhyddhad, —
Oedd $$rfaill iddynt. Galwai hwynt i gyd
Yn frwiyr o un gwaed, er nad un pryd,
Y cnewllyn nid yw waelach os yw’r plisg
Yn felyn neu yn ddu. Dan wynnaf wisg
Mae’r galon dduaf. Muria’r duaf groen
Fron lawn dynoliaeth yn ei gwae a'i hoen«

Fe dorrid distaw swyn y nos yn aml â saeth ei weddi daer
Yn hedeg trwy yr wybren dlos i fyny i’r orseddfa glaer —
Ei weddi daer am doriad gwawr
Haul rhyddid ar y fagddu fawr.


CARNHUANAWC. 477


Llenyddol Gymdeithasau 'i wlad,
Beth oeddynt heb ei wyddfod mad
Ond cyrff heb anadl, peiriaint cryf
Heb agerdd nac ermigydd hyf.
Eisteddfod wech y Fenni! Pwy
A leinw ei gader ynddi mwy?
Ysgogydd yr holl beiriant mawr
Nid ysgog heddyw yn y llawr.
Y tafod a ollyngai ffrwd
Lifeiriol o wladgarwch brwd
Sy heddyw’n fferru’n iâ y bedd,
Yn fud yn nyfnder bythol hedd.
Efe oedd galon y Gymdeithas bur
A yrrai ynni i bob aelod wir,
Gan fywiocau yr oll. Bu’n dyner dad
IV meithrin hi â llaeth gwybodaeth fad,
A diliau mêl athroniaeth. Dyrchodd hi
I sylw tywysogion. Dododd fri
Ac argraff anfarwoldeb ar ei chlod.
I efelychiad gwledydd gwnaeth hi’n nod.
Gallasai llyw y deyrnas fwya 'i bri
Ymffrostio sefyll wrth ei phenial hi.
Hi yr i'r cysgod gymdeithasau’r byd,
Fel haul yn gorddisgleirio ei amblanedau i gyd.

E gyfoethogai Seren Gomer gu
A darnau drudfawr o drysorfa lawn
Ei hynafiaethau; ac addurnai hi
A gemau disglaer ei lenyddol ddawn.

Tywalltodd ddylif ei athrylith lawn
Trwy gyfrwng syn ei "Gyffrawd." Creol ddawn —
Dawu grea feddylddrychau — ynddo gawn
A drych disgleiriaf o ddarfelydd llawn.
Dylinai olion rhawd gwareiddiad mad
Ac ymerodraeth deg o wlad i wlad.

Anrheithiwr dyn a daear, angau du!
Nid digon i dy wanc ein Hiolo gu,
Ein cuaf Iolo, y disgleiriaf em
Yng nghoron Cymru. Brathid dy saeth lem
I galon Carnhuanawc; cymer mwy
Y cyfan wedi’r fath angeuol glwy.
Paham y daliai’r lluoedd yr arf mwy
Ar ol i'r pencadfridog syrthio! Pwy


478 GWAITH ISLWYN.


Drig yn yr ysgol wedi i'r athro mad
Ddinannu! Heb Carnhuanawc llwm yw’n gwlad.

 
Nid ei wladgarwch a'i athrylith gref
Yn unig drwsient ei gymeriad ef
A thlysau anfarwoldeb. Rhin yr Iawn
Ar Galfari, fu’n nod i'w uchel ddawn.
Dadblygai faner hedd o flaen y byd,
Achubiaeth lawn, a rhadau gras i gyd.


Carnhuanawc yn ei fywyd! Bu yr enw’n swyn i glyw y bardd,
Wrth ei bêr sain yr awen gu esgynnai ar ei haden hardd,
Trwy wybr llên, ei uchel glod
A chwyddai ar bereiddiaf nod.

Carnhuanawc yn y fynwent! Mae yr enw yno’n llawn o swyn
Ei goffadwriaeth sy’n parhau yn bêr fel arogl blodau mwyn.
A thra bo Cymru’n Gymru — bydd
Costrelau serch yn gwlychu 'i bridd.

Rhown her it, angau, er fod oesau maith
O'th flaen yn fantais i gyflawni’r gwaith,
Er fod ein brawd o dan dy farwol glo,
Yn tawel huno yn dy farwol fro,
Rhown her, eofnaf her i'th auaf du
I daflu gwywder ar ei delaid fri.

Rhinweddau Carnhuanawc! Tragwyddol ieuainc ynt,
A phrawf yn erbyn malldod angeuol wywol wynt;
A bythol ieuainc fyddant o dan dymherus hin
Fan, dan helbulon henaint, y trenga amser blID.
A! nid oes gwywder i enwogrwydd gwir,
Na bedd nac angau i gymeriad pur.

Ar ei orffwysfa ’ng ngol y fynwent brudd
Na choder colofn harddfawr. Bro dan hudd,
Mae’n wir, yw’r bedd; hoff fro distawrwydd yw
Lle edwa rhos ein bywyd; yno, gwyw
Yw blodau ir ieuenctid; pryd yr hardd
Sy welw yno; yno mud y bardd,
Ei delyn yno ar gysgodion taw
Fyth hongia; yno barddol swyn ni ddaw;
Ond yno rhinwedd ar anfarwol wedd
Flagura. Rhinwedd heria allu’r bedd


Text

Description automatically generated

CARNHUANAWC. 479


A'i swyngyfaredd, i'w diwreiddio hi
O gof, neu daflu cwmwl ar ei bri.
Bedd ein hoff, hoff Garnhuanawc beunydd sy
Yn olau dan adlewyrch y gwawl fu
Mewn gloewaf riniau yn tywynnu’n llawn
Trwy odrych ei fuchedd a'i odidog ddawn.
Dos, sennwr! sydd a'th halog fys i lan
A'i nod at frychau du, at bethau gwan
Mewn nodwedd disglaer; dos at fedd ein brawd,
A weli yno nod i sen a gwawd?
Rhy gysegredig yw y lle, rhy glaer
Gan loewder haeddiant! Yma llen ni chair.
Disgleiriaf riniau a wawlhânt y fan,
A gobaith adgyfodiad gwell i lan
I wisgo mentyll anfarwoldeb fry
Fel haul gorona y disgleirder cu.

Y bedd! enw arall ar ddistawrwydd. Hedd
Tragwyddol osteg a gysegra’r bedd.
Ond eithriad, Carnhuanawc, dy fedd di;
Y dyn a ddysgwyd yn iaith natur gu,
A ail yfed o'r awelon arawd pur,
A sugno meddwl o'r blodeuyn mir,
Efe — ac O! fy Nghymru! pa sawl un
O'r fath a rifi 'mhlith dy blant dy hun! —
Efe, uwch ben dy fedd, Carnhuanawc gu,
Glyw awenyddion yn adseinio 'th fri.
Neb, dim ni wel; ond sain clodforedd glyw,
Sain haedd ar dannau cof tragwyddol yw.

Yr awel a anadla uwch y lle
I'r fynwent sy’n trosglwyddo marwnad ne.
Y blodau heirdd addurnant fron ei fedd,
Trwy 'u bythcJ wyrdd a'u haniflannol wedd
Ront arlun o brydferthwch ei foes gu,
A'i rwysg dan goron anfarwoldeb fry.
Ni fedd chwarelau’r byd un maen
Wna adail deilwng i'w goffliau,
Mud gyfrwng fyddai marmor cain
Ei fri a'i rinwedd i barhau;
Gwell ambell ddeigryn ar ei fedd
Na mil o feini gwych eu gwedd.
Dewch feirdd, a thynnwn flodyn hardd
Yn wlyb o'r gwlith, yn ffres o'r ardd.


480 GWAITH ISLWYN.


I’w blannu ar ei ddistaw fedd,
Tra ffrwd o ddagrau’n golchi’n gwedd,
A'n gwyneb tua’r ddaear werdd
O canwn iddo olaf gerdd!


Hedd, Carnhuanawc, hedd
I'th lwch yng ngwely’r pridd;
Boed enfys cymod dros dy fedd
Yn arwydd llon o’r dydd
Y gyrra trydan anfarwoldeb drud
Elfennau bywyd trwy fynwentydd byd.

WILLIAM PARRY, 39, PARADE, CAERDYDD.


FE gaed i deulu Myrddin ragoriaeth glân a bri;
Caed rhinwedd hardd cyffelyb i deulu’r Bronwydd gu;
Ond daeth holl ragoriaethau y ddau yn un, yn wir,
Pan wnest ti 'th ymddanghosiad, O William Parry bur.


Dwy nant fu ger eu gilydd o burdeb crisial glân,
Yn gruddfan serch bob hwyrddydd, ond lleddfoedd sain eu cân;
Ond heddyw llwyr anghofiant holl nodau poen a chur,
A'r ddwy a lon gymysgant yn William Parry bur.


O fachgen tlws! mae 'th gariad yn eang, fel y môr;
Ond gwyddost pwy i'w garu, rhag pwy i gau y ddôr;
Mae gennyt lygad craffus, er dim ond agor braidd,
A gelwir un yn ewyrth na pherthyn dim i'th wraidd.


Pa beth sy’n peri hynny, ai bardd wyt tithau i fod,
Rhagorach fil na 'th ewyrth, a llawer uwch dy glod?
Os unwaith bwri allan egin y farddol ddawn,
Gofala 'th dad,’rwy’n sicr, y caiff ddadblygiad llawn.


Mi welaf yn dy wenau serchiadau 'th fam i gyd,
Yr oreu ferch a anwyd i hyn o farwol fyd;
Ac yn dy wrol agwedd, ar ddechreu 'th yrfa fad,
Mi welaf sel anhyblyg a dewrder cryf dy dad.

 
Os cei di einioes hirfaith, aed clod y Fronwydd fawr,
A rhinwedd teulu Myrddin, at lawer oes i lawr,
Y ddau yn gymhlethedig, y ddau yn llawn a chlir —
Bydd ffyddlawn i'th hynafiaid, O William Parry bur.


I'th dad tyf fwyfwy’n debyg, dy gynllun fydd efe;
Yn llwyr, fel fe, ym mhopeth byth ar yr ochor dde;
Dilyna lwybrau 'i rinwedd, gocheli lawer cur,
Ac yna i dangnefedd aiff
illiam Parry bur.


ADGOFION AM BENJAMIN MILES, PANT TYWYLL. 481


ADGOFION AM BENJAMIN MILES, PANT TYWYLL.


A DDERFYDD pererindod anwylaf ysbryd cerdd
Yng nglyn y tywyll feddrod? Na! mae tywarchen werdd
Yn ymyl, beddrod newydd tu hwnt i feddrod du,
Yn galw am ddagrau beunydd ar ol y dagrau fu.

O! fyd y groes a'r beddau, ai ti yn unig gawn?
Ai ni ddaw disglaer forau ar ol y fath brydnawn?
O ben mynyddoedd gobaith edrychaf am y wlad
A seliwyd gynt mewn arfaeth I’w gwynfydedig had.

Afonydd a redasant o'm llygaid, trwy y glyn,
Pan gofiwn a'm carasant iiynyddau maith cyn hyn;
Gweld cyfaill ar ol cyfaill yn pasio'r terfyn maith,
I wynfyd bydoedd eraill, tra ninnau ar y daith.

Mae’n brodyr yn ein gado ar stormus fryniau’r byd,
Eu hunan yn ymado i'r wlad sy’n hedd i gyd;
O henffych ddydd cawn eto gwrdd yn y dawel wlad,
JLle nad oes mwy ymado — un teulu ac un Tad.

Ac eto braidd na chyfeiliornai dyn,
Gan amheu cariad y tragwyddol Gun
Sy’n eistedd ar lifeiriaint Rhagluniaethau,
A’i olwg bythoedd ar dragwyddol draethau;
Gweld haf o'r rhiniau a'r gobeithion llawnaf
Yn troi mewn un-nos yn dragwyddol auaf;
A mynwes lawn o dân a duwiol ynni
Dan gauad bedd ar unwaith yn diffoddi.
Braidd na ofynnai tad galarus beunydd,
A'i fraich yn pwyso ar y beddfaen newydd,
Yn llesg gofleidio’r arwydd olaf mwyach
O enw a chymeriad mil gwresocach —
Paham ei rhoddwyd imi? O paham
Mor deilwng o serchiadau tad a mam,
I*w rwygo ymaith gyda braich mor erwin?
Fe wnelsai gwaelach gardd ar gyfer y fath ddrycin.
Ni chawsom braidd ond hamdden idd ei garu,
Ond haradden braidd i'w deilwng werfchfawrogi,
Ei weled ef yn nhoriad ei hawddgarwch,
Cyn cau o feddrod ar yr holl brydferthwch.
Pe byddai beddfaen am bob calon, gwn
Y byddai llawer uwch y beddrod hwn.
Gwaghawyd ein calonnau uwch ei fedd
O'u gobaith olaf, ac o’u holaf hedd.


482 GWAITH ISLWYN.


Yn dawel, frawd! os yw
Rhagluniaeth nef
I ti heb angor a heb lyw,
Nid felly iddo ef;
Mae’r oll yn olau i dy Dad,
Mae yn ei law gywiraf helm,
Ac yn ei olwg wlad.


Ymdafla ar dy ffydd
Fe ddaw dy Ior —
Fe ddaw yr Iesu atat
Gan rodio ar y môr!
Yn lle dyweyd, — "Drychiolaeth yw,"
Cofleidia ef, dy Frawd, dy Dduw.

A gofyn iddo ef, —
"O Arglwydd, arch i mi
Ddod atat ar y dyfroedd,
Atat fry!
Mae’n werth im ddyfod dros y lli,
Dros fyd o donnau, atat ti."

Nid yr ochr yma’n unig
A roddwyd dan ei law,
Gorchmynna i'w anwylion
Fynd drosodd Yr lan draw;
Ac O, na chlywem ninnau mwy
Yr arch i groesi atynt hwy.

Paham yr wyli, frawd?
A ydyw’r Duwdod mawf
Yn darfod lle y derfydd
Abwydyn gwael y llawr!
Pam y caethiwi’r dwyfol Un
O fewn terfynau deall dy n?

Gad ddwylaw lor yn rhydd,
Gad iddo fynd ymlaen
A'i gynllun mawr o gariad
I mewn i'r byd tu draw i'r bedd a daen;
Un act o gariad yw i gyd
I fyny hyd esgynlawr yr anherfynol fyd.

Cei roi i ddyfroedd teimlad
Lif ddor lawn
Er hynny — mae dy Geidwad
Yn cofio y prydnawn


SARAH ANN LEWIS. 483


Y safodd yntau yn ddi-bris
Ar ymyl beddrod Lazarus.


Fe aeth i nef y nefoedd
A holl deimladau dyn
Yn fywiog yn ei fynwes,
A chalon fel yr un
Sy’n troi yn ddyfroedd ac yn llyn
Ar ol dy anwyl Benjamin.


Y beddargraff.


Y storom a ddisgwylid, yn ei lle
Y porthladd ddaeth, dymunol hafn y ne.
Gofidiau oed a henaint basiodd ef,
A'i ienctyd anfarwolwyd yn y nef.

SARAH ANN LEWIS.*


RHYFEDD yw y cyfnewidiad, Pandy Machen, yn dy wedd;
Mae dy weld yn gwneyd im feddwl heddyw’n brudd am lawer bedd.
Lle na welais ddim ond gwenau, cariad, a siriolder mawr,
Nid oes dim yn awr ond dagrau, nid oes dim ond beddau’n awr.


Ble mae Gwilym llid addfwyn welwyd yma’n llond y lle?
Ble mae’r hyfryd gynghaneddion swynent Ogledd pell a De?
Ble mae Eisteddfodau’r Fenni a'i coronodd lawer tro?
O'r ardderchog wyliau hynny, nid oes dim yn awr ond co.

Darfu’r ymdaith dros y Waren i gael treulio hwyr o hedd
Yn y Pandy gyda’r Awen, darfu y farddonol wledd;
Nid yw per gyfeillach llid im ond adgof erbyn hyn,
Ac mae siriol lais ei briod wedi tewi yn y glyn.

Dacw’r cauadlenni eto — nnwaith eto — oll i lawr;
Angau eto sy’n toi’r Pandy â rhyw gwmwl dudew, mawr.
Pwy, yn awr, fy mrawd, gymerwyd, Sarah Ann, dy unig ferch,
Am yr hon y llwyr gylymwyd holl reffynau aur dy serch?

Pe buasai gennyt ragor o rai tebyg iddi hi,
Ti allesit f'allai hebgor un i law y gelyn du;
Ond ni fedd yr angau galon, ac er nas meddit ond yr un,
T’rawodd hon i lawr yn greulon tra ym mhleth dy freichiau cun.

• Unig ferch D. Lewis, Pandy, Machen, yr hon a hunodd yn yr Iesu Mai 12, 1877, yn 17 oed.
 


484 GWAITH ISLWYN.


Nid oedd dy lifeiriol ddagrau ganddo ef ond gwawd i gyd,
Na dy ryfedd ymdrechiadau i’w hadferu ar bob pryd;
Gweithiai dan ei chyfansoddiad gyda rhyw ffyrnigrwydd mawr,
Ac ni pheidiodd nes i'r babell fechan, frau falurio i lawr.

Ofer cyfoeth, ofer cariad, ofer gobaith, ofer ffydd,
Ofer tadol wyliadwriaeth ar ei oreu nos a dydd;
Ofer newydd ddylanwadau, amgylchiadaü goreu'r byd,
Newid lle a newid awyr fu’n oferedd gwag i gyd.

Ond, fy mrawd, nid ofer ydyw gobaith yr Efengyl fawr;
Erys hwn yn gadarn heddyw ei* ei niynd i fedd i lawr,
Merch i ti — ond chwaer i Iesu, — hawdd y gelli ollwng mwy
Dy iyfeddol afael arni i afaelion Un sydd fwy.

Llawer o dduwiolion enwog, dynion cedyrn yn y ffydd
Oent, er hyn, gan ofn marwolaeth, mewn caethiwed nos a dydd;
Ond dy feich mewn hedd wrandawai ar yr hen Iorddonen ddu;
Nid oedd swn ei chryfion donnau ond peroriaeth iddi hi.

Wedi iddi led-ddyfalu barn rhyw feddyg mawr ei fri,
Nad oedd dim ond marw iddi, dim ond croesi’r afon ddu,
Ni feddyliodd am yr afon, dim ond am yr ochor draw;
Er mor egwan, er mor eiddil, byth ni theimlai unrhyw fraw.

'R oedd ei ffydd yn apostolaidd, ac edrychai ar y bedd
Fel y porth i’r byd nefolaidd, fel poen byr cyn bythol hedd;
“Mae hi drosodd arnaf," meddai, ond dywedai hyn mor llon
A phe buasai’n newydd hyfryd llawn o hedd I’w chlwyfus fron.

Unwaith aeth i Arddanghosfa oedd yn llawn heird J ddelwau mad,
Holai'r fechan — "Beth sydd yma?" " Dyma'r Nefoedd " meddai 'i
"Nage" meddai y fach synedig, "Nid y Nefoedd yw y lle, [thad —
Nid yw’r Arglwydd leau yma, ac nid oes Nefoedd hebddo Fe."

Dwedodd unwaith y carasai fynd i’w Nefoedd gyda'i thad;
Gwell er hyn, fy mrawd, fu iddi dy ragflaenu i'r nefol wlad;
Nid 03S pryder mwy ara dani, dim am dani hi byth mwy;
Sarah Aun, pwy bynnag gwyno, sy uwchlaw pob loes a chlwy.

Hoffai’r môr —’rwyf finnau’n hofii sain y dyfnder, swyn y don —
'Roedd y mòr yn sugno 'i meddwl fry at Dduw a'r Wynfa lon;
O Benarth a'i gopa nerthol syllu wnelai lawer awr,
Ond mae’r môr, Penarth, a'r angau oll tu cefn iddi’n awr.

Canu gyda’r hoff berdoneg wnai 'th anwylaf Sarah Ann,
Canu yn swn yr hen Iorddonen, am "Un a wrendy weddi'r gwan;"
Eiddil oedd ei llais, ond cadarn oedd y G
ŵr ganmolai hi,
A chadd newid y piano am y delyn aur sydd fry


NORA RACHEL. 485

NORA RACHEL.


TYWYDD teg heb awel groes,
Nora Rachel, fu dy oes;
Mordaith fer dros lyn di-don
Cyflym fel drychfeddwl bron,
Yna glanio yn ddi-glwy
Ar y traeth anfarwol mwy.


Nora Rachel, eneth dlos,
Ni chest wybod beth yw nos;
Hanner awr
Yn y wawr
Yna bythol ddydd o hedd;
Yn y wlad tu draw i’r bedd
Ni chaiif Nora eneth dlos
Wybod byth pa beth yw nos.

Aethum frig yr hwyr i'm gardd,
Gwelais yno flodyn hardd,
Aethum eilwaith gyda’r wawr,
Nid oedd yno ond ei sawr;
'R oedd aderyn ar y brig
A'm blodeyn yn ei big.

Cawsom olwg ar dy bryd
Dim ond unwaith, dyna i gyd;
Pan edrychem yr ail waith
Gwelem angel ar ei daith
A thi ganddo, Nora wiw,
Fry fel anrheg teg i Dduw.
Gwelai’r nef ystorm o draw
A'r cymylau’n llawn o wlaw;
Ar ddu wybren canol oes
Gwelai’r niwloedd pell, a'r groes,
A thosturiodd, Nora lon,
Wrthyt cyn it gychwyn bron.
Mynnai it osgoi yn llwyr
Boethder dydd a thrymni’r hwyr.

Pam yr wylwch, riaint cu,
Pan mae Nora’n canu fry?
O, dywedwch, — “Digon yw
Y mae Nora gyda Duw.

Merch Mr. a Mrs. Phillips, Twynyrodyn llouse, Llansamlet, (15 mis oed).


486 GWAITH ISLWYN.


Y mae gennym yn y nef.
Angel blentyn iddo ef.
Mae ein Nora Rachel fach
Heddyw yn dragwyddol iach."

ANNIE MARY.


ARFERAI Annie Mary ddyweyd yn forau iawn, —
" Mi garwn fod yn angel," ‘r oedd yn angel cyn prydnawn.
Yr wyf yn cenfigennu wrth Annie Mary fach,
Am nychu ond am ryw chwe mlwydd, cyn bod yn fythol iach.

Ces lawer storom arw yn ystod f’oes erioed,
Gwyn fyd na buaswn farw pan ddim ond chwe mlwydd oed;
Bu farw Annie Mary cyn teimlo’r boen o fyw,
Cyn cyffwrdd bron â’r ddaear hon, ehedodd fry at Dduw.

Ni welais Annie Mary ond dwy waith yn fy oes,
A theimlais mai rhyw farwol fai, fai iddi deimlo loes;
Yr oedd yn h
ŷn na 'i hoedran, a theimlai’r nef ei hun,
'B un fath a mi, ac aeth a hi, o gyrraedd gofid blin.

Bu chwaer i Annie Mary, sef Nora Rachel fwyn;
Arferai Annie Mary ddweyd, a'i llais yn llawn o swyn, —
"Mi wn pa le mae Nora," gan bwyntio tua’r nef,
Ac yno’n glyd mae’r ddwy ynghyd yn canu "Iddo Ef."

Pan laniodd Annie Mary yn iach yr ochor draw,
'R oedd Nora fach, yn fythol iach, yn estyn iddi ei llaw;
A dug ei chwaer dan goron glaer ger bron yr orsedd wen,
Byth, byth, mae’r ddwy yn canu mwy, i'r G
ŵr fu ar y pren.

Mae’n rhaid i natur egwan i gael ei ffordd i gyd,
Mae’n rhaid i natur wylo ar lan y bedd o hyd;
Er hynny, hoff rieni, mae cysur cryf i chwi,
Mae gennych ddwy yn canu mwy ger bron yr orsedd fry.

Flynyddau'n ol, p'odd cenais i? "Mae gennych blentyn mwy,
Oes ferch yn nef y nefoedd fry," ond ’n awr mae gennych ddwy;
Pam wylwch mwy a chennych ddwy ymysg cerubiaid pur?
Eich unig nod a ddylai fod, fynd atynt cyn bo hir.


Anwyi ferch Mr. a Mrs. Phillips, Twynyrodyn  House, Llansamlet.


ER COF. 487

Mae Nora dros yr afon, ac Annie Mary mwy,
A chulach’n awr yw’r afon fawr i groesi atynt hwy;
Chwi groeswch afon angau yn awr heb unrhyw fraw,
O’u clywed hwy, y ddedwydd ddwy, yn canu’r ochor draw.

 
Mae 'ch cysylltiadau pennaf yn awr yng ngwlad y nef;
Y mae eich dwy anwylaf mwy ger bron ei orsedd Ef;
Beth sydd yr ochr yma i glymu'ch serch yn hwy?
O! dim at sy tu hwnt i'r lli, lle mae y ddedwydd ddwy.

ER COF.

 
CANFYDDAIS long odidog gynt, yn hwylio ger y lan,
Gwydr oedd y môr, cân oedd y gwynt, Paradwys oedd y fan;
Ond trodd yn sydyn o amgylch penrhyn,
A ffwrdd o'm golwg ffodd.
Mi wylais ar ei hol yn hir,
Nes mynd i ben y penrhyn clir,
A gweld yr hafn i'r hon y trodd.


Fel hynny y canfyddais ef yn hwylio un prydnawn,
O amgylch penrhyn angau du, mewn dyfroedd cryfion iawn;
Yn sydyn ffodd — collasom ef —
Tu arall i'r farwolgraig gref,
Ond troi a wnaeth
I ddwyfol draeth,
I mewn i borthladd nef y nef.


Dilynodd Iesu yn ddi-baid mewn anwadalwch pur,
Cysondeb yn ei grefydd gaed o flwydd i flwyddyn hir.

Mae crefydd rhai fel comed wyllt heb reol iddi’n bod,
Ei grefydd ef oedd fel yr haul bob dydd yn llanw ei rhod.

Crefyddol yn y teulu clyd ac yn y drystiog dref,
Crefyddol fyddai ar y stryd fel yng nghynteddau’r nef.

Sefydlog oedd yn Seion gynt fel derwen lonydd gre,
Trwy haf a gauaf, gwres a gwynt, caed Watkins yn ei le.

Galarodd Seion ddyddiau hir ar ol ei blaenor mad,
Fel praidd ar ol eu bugail pur, fel teulu ar ol eu tad.

Addfwynder ar ei dymer gaed, boddlondeb ar ei wedd,
Ac ni oddefai byth i ddim gythryblu ei fewnol hedd.


Am y diwcddar Mr. Watkins, blaenor parchus yn Eglwys y Trinity, Abertawe.


Text, letter

Description automatically generated

488 GWAITH ISLWYN.


Os codai môr gorthrymder byd, parhâi ef yn llon,
Fel llestr ysgafn nefol clyd, fe godai gyda’r don.


Fe godai gyda’r don i’r lan, a suddai’n ol yn fwyn,
Yn erbyn cwrs Rhagluniaeth nef ni chodai air na ch
ŵyn.


Mae’r fordaith drosodd erbyn hyn, newidiodd donnog fôr
Am hafn o anfarwol hedd o fewn i gariad Ior.


Mae’n canu heddyw ar y traeth, lle nid yw’r storm yn dod,
Lle nid oes gofid, poen, nac aeth, na chysgod bedd yn bod.

 
Fel afon ddofn cynyddai'i grefydd ef
Wrth agoshau at fôr dedwyddyd nef;


Preswyliai engyl yn ei hymyl hi,
Bob ochr blodau rhinwedd geid ar daen,
Hi olchai lan cymdeithas ar bob tu,
A phan ymgollai yn y bythol li
Gadawai y byd yn burach nag o'r blaen.


'R oedd awr yn ei gymdeithas ef,
Fel awr ar un o draethau’r nef,
Yng nghlyw rhyw gerdd nefolaidd lon,
Yn hyfryd swn rhyw ddwyfol don.


Gadawodd ar ei ol i'r byd esiampl lawn o ddwyfol hedd,
Gadawodd lwybr gwyn i gyd i lawr hyd borth y bedd.


Ei fywyd sydd fel prydferth ddôl, a thrwy ei chanol lwybyr cul,
O! rhodiwn ninnau yn ei ol, trwy orthryraderau fil.

WILLIAM JOHN, ABERTAWE.


Y MAE fy adgof prudd am dano cf
Fel adgof am ryw angel pur o'r nef,
A welais unwaith yn fy mreuddwyd llon
Yn rhodio ar binaclau’r ddaear hon.
Rhyfeddu’r ym yn awr, er mor hiraethog,
I’r nef ei adael cyd mewn byd mor halog,
Byd nad oedd nemawr cydymdeimlad ganddo,
Trwy ystod bywyd maith, a dim sydd ynddo.
A fu’r fath un, fy nghyfaill, yn ein mysg?
A fu’r fath burdeb mewn daearol wisg?
Wyf bron yn ameu; ond dy ddagrau heddyw
A dystiolaethant mai gwirionedd ydyw.


Cyflwynedig i'w fab yng nghyfraith, Mr. J. Rosser.


Text

Description automatically generated

WILLIAM JOHN, ABERTAWE. 489


Pe byddai cwmwl llawn o farnau'r nef
Yn hongian yn fygythiol goruwch tref,


Un ol fath ef
Mewn heol lonydd, bell, ddienw
Wasgarai’r cwmwl enbyd hwnnw.
Fel dwyfol wynt, ei weddi gref
Ymlidiai’r niwl i gyd o'r nef.

Yr ym yn teimlo pan y collom un
O’i dduwiolfrydedd ef, a'i ryfedd rin,
Fod un dadleuwr llai o'n tu
Er mwyn yr hwn caed Ior o'n hochor ni.

Mor bur trwy ganol halogedig fyd
Y teithiodd ef, mor lân ei wisg o hyd!
Cerddai mor ysgafn dros y ddaear hon,
Ni chasglai ddim o laid ei llygredd, bron.
O! gymaint uwch na ni preswyliai ef
Bob dydd, a'i ymarweddiad yn y nef,
Yn ddigon uchel fry i ganfod gwawr
Ardderchog ddydd yr adgyfodiad mawr,
Pan gwyd ei gorff i'r uchder pur a dwyfol
Lle y preswyliai 'i ysbryd yn wastadol.

Pan fyddai arddanghosfa yn y dref,
Idd ei ystafell ddirgel elai ef.
Ni chlywai braidd olwynion masnach byd,
Na gyriad y cerbydau trwy y ystryd.
Fel môr yn boddi swn y ffrydiau sydd
Yn cydlifeirio iddo nos a dydd,
Efelly môr eangaf Tragwyddoldeb
A lanwai fyth yn uwch ar draeth ei bell dduwioldeb —
Llwyr foddai swn y byd, swn afon araser,
Dros raiadr angau sydd yn syrthio i'r bythol ddyfnder.

Meddyliais heddyw, gyfaill ffyddlawn, gwiw,
Mai yn y pentref y dylasai fyw,
Neu mewn unigaidd d
ŷ ar ael y bryn,
Yn swn y rhaiadr tragwyddol wyn
(Gwyn fel ei ysbryd ef) — rhyw bell uchelfan,
O swn y byd ar fynwes buraf anian.
Ond digon nerthol oedd ei grefydd ef
I fyw yn santaidd yn y boblog dref.
A! digon cref oedd aden ei dduwioldeb
I’w godi ef at bothau tragwyddoldeb
O ganol twrf y byd a'i ddaearoldeb


490 GWAITH ISLWYN.

Nac wylwn mwyach ar ei ol, fy mrawd;
Ond ar ei ol dilynwn yn ei rawd.
Wrth syllu’n ol, y mae ei lwybr ef
Yn oleu nes ymgolli yn y nef.
Cul lwybr oedd trwy ystod einioes faith,
Ond tua phen — godidog ben y daith,
Yn sydyn trodd i'r heoi ddwyfol sy
Yn llawn dragwyddol ffan dorfeydd diri
O waredigion ac angyhon fry.

Ffarwel, ardderchog gyfaill, hyd y borau
cawn dy gwrddyd yn y pell ororau,
Gororau nad oes mynwent yn eu duo,
Na moroedd y inwynhad byth, byth yn treio.
Gorffwysfa gyda’r seintiau fVy sy’n canu,
y rhai nid oedd y byd yn deilwng o'u meddiannu.

ER COF AM ANN.

YM mlodau 'i dyddiau diddan
I fedd oer fe wywodd Ann.
Diau ni roes angau syn
Ymosodiad mwy sydyn;
Amheus wyf am y son
O dorri i lawr Ann dirion.
Ow! dorri mewn rhyw deirawr
Fath degwch i lwch oer lawr!
Ein hygar Ann! Ai gwir yw
Dy roddiad i ar heddyw?
A enhuddwyd brydnawn heddyw
Dy bur wedd — d'wed, ai breuddwyd yw?
Ni elwn i gan alar
Sydyn, i'th ddilyn i'th âr;
Dy gefnder, rhy dyner dyn
I ddylaith oer dy ddilyn.
Gwae ludd! Pwy allai gladdu
Yn nhymor gwawr, Ann mor gu?

Mae’n eira! O, mae’n aros
Ar dy lwch, Ann dyner dlos!
Bwrw ei seintiol buredd,
Eira Duw fyn ar dy fedd.

Priod Mr. Edmund Williama, Pontllanfraith, yr hon a fu farw yn dra sydyn Mawrth 6, 1876, yn 34 oed.


Text

Description automatically generated

Y MORWR. 491

Mae’n hwyr, rhy hwyr i eira,
Ond er mwyn Ann ddiddan dda —
I hardd lân arwyddlunio
Dy burder, gwiwder dy go.

Ber dy oes briodasol;
Mae’n drist gweld Edmund ar ol.
Wylaf od af, wr di-hedd,
Yn agos i'w unigedd.
Fy awen brudd ni fyn bron
Ei weled, wr anhylon.
Aniddan heb Ann beunydd,
Heb Ann a'i serch ba hoen sydd?
O, gwmwl dig! Mal y daeth
Y groglenog Ragluniaeth
Dros ei aelwyd siriolwedd!
Dyddiau rhy forau i fedd.

Ann wenlwys, gorffwys yn gu
Isod, nes delo Iesu
I’th alw o fedd i'th ail fyd,
Faith lwyddfawr fythol hawddfyd.
Doi o'r llwch, wedi’r holl lid,
O âr Beulah’n drybelid;
Gwahanol fythol a fydd
Yn Nuw, dy arwedd newydd;
Gwedd loew, dragwyddol ieuanc,
Uwch gofal trist, uwch gafael tranc.
Hynod fydd dod o fedd dig,
Gyda’r dorf fendigedig,
I fyw byth yn y nef bau,
Heb ail ing, heb ol angau.
Henffych wiwfad bêr adeg,
Fy nghyfnither dyner deg!

Glyn, brydnawn ei hinglawn angladd

Y MORWR.


O, MAE un galon dyner ymhell tu hwnt i'r lli,
Oes, mae un galon heno yn teimlo drosot ti;
Lle cwyd y lan ei hysgwydd o greigiau draws y llif,
A’r tonnau yn addoli wrth draed y creigiau hyf;
Lle eistedd, rhwng y tonnau yr Ynys fawr ei bri,
A’r moroedd yn cydnabod ei maith awdurdod hi;


492 GWAITH ISLWYN.


O! y mae llygad yno yn effro trwy y nos,
A'i dagrau ar ei gradd fel gwlith ar dyner rudd y rhos.
Mae’th gof yn arogl hyfryd, a'th enw’n brid i’w bron,
A'i chariad yn ei mynwes lân ar dan yr ennyd hon.
Hi glywodd lais yr awel fu’n dawel fwyn y dydd,
Yn rhuo o’r mynyddau, a'r storm o'i rhwymau’n rhydd,
Yn galw ar y moroedd i godi ar bob tu,
Trwy 'i hudgorn o daranau, ei nerthol udgorn fry.
O! mae y ddawn ddarlunia yr aeth a’r ofnau syn,
Y pryder, ar distawrwydd, a’r anadlu byr, bryd hyn?
A’i baban ar ei mynwes hi elai at y ddôr —
Y mae ei th
yn sefyll ar ael yng ngwydd y môr.
Yr oedd y tonnau’n disgyn fel deri ar y traeth,
A thaflai’r môr o'i safn gwyn afonydd pur o laeth;
A chodai ambell wendon o eigion du yr aig,
Fel mynydd mawr o ddyfroedd yn uchel dros y graig.
Arweiniai’r gwynt y tonnau yn wynion tua’r lan
Reng ar ol rheng, a gyrrai y gwlaw fel tonnau bau;
A'r mur o greigiau gwynion ym mron y llanw cryf
Orchuddid obry, a'u pennau yn aml dan y llif.
Yn awr arllwysa’r nefoedd ei thrysorfeydd o wlaw
Fel nentydd o'r cymylau, a chwyd y môr bob llaw.
O, mae y ddawn ddarlunia yr aeth a’r ofnau syn,
Y pryder, y distawrwydd, a'r olwg drom bryd hyn?
Edrycha ar ei baban, ei baban tyner, mwyn;
Mae’n gwenu ar ei mynwes, a'i wên yn llawn o swyn.
O na bai llygad gan y storm! Mae’n gwenu ar ei bron,
Angylaidd ddiniweidrwydd yn gwenu’r funud hon.
Edrycha tua y wybren, uwchlaw’r cymylog do;
Mae dinas fawr y ser dan len, a phyrth y nef ynghlo.
Ust, ust! pa brudd ochenaid, pa lais wylofain sy
Ar enau oer yr awel, yn codi o’r eigion hy?
Cyffroa ’i chalon ynddi, a chryna dan ei bron,
Fel taran yn y cwmwl, fel llestr ar y don.
Rhyw gadarn long wrth hedeg, ail eryr dros yr aig,
Fel priddgawg brau ymddrylliodd ar ddannedd cellt y graig,
Lle drylliodd llawer llanw ei donnau beilch i gyd,
Lle torrodd llawer taran ei hudgorn mawr mewn llid,
A lle y crygodd llawer storm a chorwynt croch cyn hyn,
Hi suddodd i’r dyfnderoedd, ac uwch ei beddrod gwyn,
Yn golofn fawr o ddyfroedd i fyny chwydda’r don
A'r dryllion a'r hwylbrenni fel fforest yn ei bron.
A, long gyfoethog, gadarn, mawreddog oedd ei gwedd,
Y ddoe wrth aru’r eigion sydd heno iddi’n fedd;
A bloeddai llawer tyrfa o'r lan, pan welent hi


Y MORWR. 493


O'r gorwel yn dyrchafu, fel duwies ar y lli;
A llawer tro yr hwyliodd hyd brif-ffyrdd pell yr aig,
Ac hwyliodd yn ddiogel hyd ymyl llawer craig.
Ond daeth ei hawr, ei holaf! A mil o donnau hy
A gydymdorrant ar y bwrdd, a thaflant, hyrddiant hi
Yn gyflym, fel llucheden, dros anial gwyllt yr aig,
Nes suddo’n llawn o donnau i'w bedd o dan y graig
Ond ust! pa lef wylofus sy’n codi eto o’r lli?
Pa brudd ochenaid eto, o pa alaethus gri?
Mae calon gwraig y morwr yn chwyddo yn ei bron,
Fel cawod yn y cwmwl, wrth wrando’r adsain hon.
"Rhyw forwr fel fy mhriod,'' hi dybia ynddi ei hun, —
"Brawd, chwaer, i ddatgan iddynt ei syniad nid oes un, —
Rhyw forwr gwlyb o’r tonnau, yn rhynllyd noeth ei fron,
Sy’n ceisio dringo’r creigiau, a'i waed yn rhuddo’r don;
Yn awr ar golli ei afael, a'i ruddiau’n ddu gan fraw,
Y dyfnder aruthr dano, a’r creigiau crog uwchlaw,
O, pwy ddarlunia'i gyflwr, yn noeth i'r dymhestl hy,
Heb noddfa rhag y gwyntoedd, heb gysgod rhag y lli!
Fy mhriod, O fy mhriod," hi dybiai ynddi ei hun,
Tra’n edrych ar ei baban, ei baban teg ei lun, —
“Mae 'th fynwes dithau heno yn oer yng ngwely’r don,
A'r môr yr hwylit arno gynt yn gorffwys ar dy fron;
Ac nid oes golofn ar dy fedd, O, nid oes yno un
I wlitho blodau adgof a dagrau hiraeth cun.
O am gael huno gyda thi ym meddrod maith y don,
Per huno yn dy ymyl, a'th faban ar fy mron!"
O! gwel ei th
ŷ yn plygu ar ymyl serth yr aig,
O! gwel y don yn codi yn llawer uwch na’r graig.
Gwel Iyn o wlaw yn arllwys o gwmwl llawn uwchben
Fel rhaiadr trwy’r agenog do ar hyd ei haelwyd wen.
Y mae y trawstiau oesol yn crynu yn y mur,
A'r gwyntoedd yn eu plygu fel pan yn geinciau ir.
Mae’r nef yn duo hyd y ser, mae’r graig mewn ing islaw
Yn clymu ei hunan wrth y tir gan daflu’r tonnau draw.
Ond llaesu mae y seiliau, a chodi mae y môr,
O! dacw’r tonnau’n rhuthro i mewn fel dilu
w trwy y ddôr.
A phlygodd yr adeilad ar ogwydd tua’r aig,
A threiglai’r oll i lawr i'r môr yn ddrylliau dros y graig.
O! erchyll oedd ei gweled’r ol colli ei gafael fry,
Yn syrthio gyda’r tonnau ar ddrylliau mân ei th
ŷ,
Rhy erch ei gweled yno a'i throed ym medd ei g
ŵr
Am ennyd byr yn ceisio dal ei baban uwch y d
ŵr,
Fel pe’n disgwyl i ryw angel ei ddwyn a thyner law
I gol rhyw famaeth dirion yn y gwledydd tawel draw.


Text, letter

Description automatically generated

494 GWAITH ISLWYN.


A! nid oedd angel yno, a thynnodd ef i’w aig
Yn ol — a suddai’n araf a’i golwg ar y graig.
Bu farw heb ochenaid yn dawel yn y d
ŵr,
Yn ddedwydd marw yr un awr a'i baban hoff a’i g
ŵr.
Hi gafodd ei dymuniad y nos ofnadwy hon,
Cael huno ym medd ei phriod, a'i faban ar ei bron.
Ond braidd na archai’r Nefoedd o'u llys serenol ban
I'r môr ddiflannu byth, a ffoi am byth o wydd ylan.


Y PARCH. W. MORRIS, TY DDEWl.


B'LE mae’r seren fawr a thanbaid a oleuai Gymru fad?
Ac y gorfoleddai miloedd unwaith yn ei llewyrch rhad?
Mae’r tywyllwch tew sy’n canlyn ei machludiad athrist hi
Yn dywedyd pa mor ddisglaer ac mor fawr uwch Cymru fu.

Hi arweiniodd bererinion fel y seren honno gynt,
Pererinion o d
ŷ Gomer at y Ceidwad, hardd-deg hynt;
Ar ffurfafen niwlog amser gogoneddus oedd ei gwedd,
Ond machludodd i ogoniant llawer mwy, dros ymyl bedd.

MoRRis enwog! O mor swynol fu ei ddawn dan ryfedd hwyl!
'R oedd ei lais fel udgorn Seion yn gwahodd y dorf i’r
ŵyl,
G
ŵyl danteithion lachawdwriaeth, gŵyl ddarparodd Duw ei hun
I arddangos ei oludoedd, ac i dorri angen dyn.

Ar esgynlawr y Gymanfa brenin ar ei orsedd oedd,
Ac o amgylch-ogylch iddo clywid Jubiliaidd floedd,
Bloedd tyrfaoedd o droseddwyr wedi cael maddeuant rhad,
Llawen floedd gan bererinion wedi canfod cyrrau’r wlad.

Ar ei daith deffroai’r siroedd, ac os ar y mynydd ban
Y byddai yr addoldy unig, dringai y torfeydd i’r lan.
Nid oedd ond Efengyl yno, ond yng Nghymru digon yw
I grynhoi rhyw dorfoedd dirfawr, a gwneyd y lle yn dý i Dduw.

Dyfod wnaent, parhau i ddyfod er mor unig fyddai’r fan,
Yno llawen gyogyfarfod hen ac ieuainc, cryf a gwan;
Rhaid oedd newid yr addoldy bellach am yr awyr las.
I gyhoeddi, yn eangder natur, drech eangder gras.

Braidd na thybiem weld angylion ar y cwmwl uwch y llu,
Fel yn disgwyl i ryw galon deimlo edifeirwch cu,
A! mor fynych esgynasant o'r odfeuon nerthol hyn
Mewn llawenydd i’r gogoniant, wedi’r bregeth ar y bryn.


DR. JONES. 495

Meistr mawr y gynulleidfa, meistr y Gymanfa fawr!
Mae dy lais yn ddistaw heddyw, mae dy le yn wag yn awr.
Diau melus ydyw gorffwys wedi’r fath lafurus daith,
Ac anhraethol yw y wobr wedi dydd mor llawn o waith.

Gorffwys oddiwrth dy lafur, canlyn mae 'th weithredoedd pur,
Dy ganlyn mae dy alwedigion tua’r nefol dwyfol dir,
Rhai a alwyd trwy arddeliad ar dy weinidogaeth di,
Maent yn dringo bryniau amser ar dy ol yn araf fry.

O’r annhraethol ychwanegiad at ei fwynhad o'r nef ei hun,
Fydd eu gweled hwy yn dyfod yno, bob yn un ag un;
O! mor felus fydd ymddiddan dan gysgodau’r bywiol bren
Am yr oedfa, am y frawddeg a'u cychwynnodd tua’r nen.

Gan y fath awdurdod gerddai gyda 'i weinidogaeth ef,
Gan y sanctaidd hyfdra deimlai i gyhoeddi gair y Nef,
Braidd na thybiem iddo dderbyn ei gomisiwn gyda’r llu
A'i derbyniodd ar y mynydd lle’r esgynnodd Iesu fry.

Ac os ydyw’r llaw yn llonydd fu yn hau, mae’r had yn fyw,
Ac mewn llawer calon bellach aur dywysen aeddfed yw.
Mae y gauaf wedi pasio, gwanwyn gras ar roi ei le
I dragwyddol haf gogoniant sydd i ddwyn y grawn i dre.

DR. JONES.


RHYW fan, os penderfynai — ei gyrraedd,
Nid oedd garw a'i rhwystrai;
Os pell, efe nis pallai,
Heibio rhwystr yy ewybr ai.


E geisiai, nid yr agosaf, — fe rodd
Ei fryd ar y pellaf;
Buan aeth i'r ban eithaf
O lwydd sy — uwch miloedd saf.


Ni flinai nes bod yn flaenaf; — gyda
Y dysgawdwyr pennaf
Drwy sicr gydraddolder y saf;
Bod yn ail oedd bod yn olaf.


Englynion ar gyflwyniad tysteb i'r Parch. J. H. Jones, A.M., Ph.D.


496 GWAITH ISLWYN.


Braf esgyn i Brifysgol — Almaenawl,
Mynnu’r glod uchraddiol;
I'n gwlad ni e gludai’n ol
Ei hurddenw arddunol.


Dychwelodd wedi chwiliaw — anoddyfn
Athronyddiaeth drwyddaw;
Mynnai i dref o’r Almaen draw
Ei llenyddiaeth oll yn eiddaw.


Taenwyd, fe ledwyd o'i flaen — holl grebwyll
Y gerubiaidd Alraaen;
Bro deg o burdeb ar daen,
Bro ddedwydd, beirdd a'i hadwaen.
Iach diroedd uchdaearawl, — ymylau
Melus y tragwyddawl;
Edwyn uchder, gwychder, gwawl,
Haul y Menwyd AlmaenawL


Hollawl ryglyddawl yw’r glod — urddasol
Drwy ddwysaf fyfyrdod;
Eangder o deilyngdod
A llwyr nerth enillai’r nod.


Cychwynnodd heb un noddwr — I’w helynt
O Walia’n ieuangwr;
Heb un o'i du, neb yn d
ŵr,
E ddelai’n ben-raddolwr.


Olrheinia lawer henaeg — rhwydd hefyd
Y sieryd y Syriaeg;
Ie’r hybarch Arabaeg,
Fel y dyner Omer aeg.


Alpau oedd rwystrau ei fawr hynt, — cuchiog
Pan yn cychwyn arnynt;
Gwir anhawdd, geirwon oeddynt,
Ond olgofion weithion ynt.

Ef fagwyd i orchfygu, — llaw anian
A'i lluniodd i faeddu;
Dedwyddyd ei fywyd fu
Am dir uchaf ymdrechu.


CYFLWYNIAD TYSTER 497

Ac ai 'mrawd, ai Cymro ydyw — y gŵr
Gaf mor glodfawr heddyw?
E dâl adrodd, diledryw
Gymro o waed Gomer yw.

Siomedig iawn, os symuda — o'n mysg,
Fyddwn mwy yng Ngwalia;
Mae dymuniad teimlad da, —
Er TIR GOMER TRig YMA.

Teulu di-nod, tylodion ydym, — heb
Ober cymwys eiddym;
Er hyn oll cywir iawn ym,
Mae mynwes gynnes gennym.

O'm henaid y dymunaf — i'n doethawr
Y bendithion pennaf;
Erddo bydded nodded Naf
Trwy 'i helynt i'w awr olaf!

CYFLWYNIAD TYSTEB.


O, PWY sydd yn teilyngu bod
Mor uchel ar fynyddau clod
A'r g
ŵr sydd wedi treulio 'i oes
I arwain dynion at y Groes,
I ddwyn yr aflan at y ffynnon
Agorwyd gynt mewn dwyfol galon?
Fe erys hwn mewn parch y pryd
Pan na fydd cof am fawrion byd.

O dan dywyniad haul prydnawn
Y mae’r cymylau’n brydferth iawn;
Er hyn cymylaw ydynt hwy,
Ac er mor brydferth ynt ni welir monynt mwy.

A chlod y byd, cyffelyb yw
I gwmwl gwan, neu flodyn gwyw;
Ond parch yr un a berchir heno,
Nid cwmwl yw yn myned heibio,
Ond seren fawr
Nad aiff i lawr;


Ar gyflwyidad tysteb i'r Parch. D. Howells, Abertawe.
 


498 GWAITH ISLWYN.


Hi lithra i dragwyddol rod
Ar ol i amser beidio bod;
Llewyrcha yn y deyrnas rad
Sy fry, sef teyrnas fawr y Tad.

Pan elo awel dros y ddôl,
Mae’n gadael tonnau ar ei hol;
Ond buan y llonyddant oll,
A'r argraff a i gyd ar goll;
Ond pan y pasio angel pur
Drwy ganol y ffurfafen glir,
Mae’n gado ar ei ol ffrwd o ddisgleirdeb hir.
A gwel rhyw fardd, ymhen canrifoedd,
Ryw ddarn o'r argraff ar y nefoedd.

Efelly am yr un a berchir heno,
Bydd cof am ei dduwioldeb, wedi ei huno,
Yn aros ar y byd, yn foddion i'w sancteiddio;
Fe erys y disgleirdeb pan fo’r seren
Ei hunan wedi gado y ffurfafen.

Ei gydymdeimlad ef
Ag achos Brenin nef
Sydd eang iawn bob pryd;
Gofala am bob man,
Yr oll, ac nid y rhan;
A dyd ei ysgwydd dan
Y baich i gyd.

Gofala megys tad
Am holl eglwysi’n gwlad;
Edrychant hwy i fyny ato ef
Fel un yn byw o hyd
Yng ngoleu bythol fyd,
Yn y myl nef!

Rhyw batriarchaidd fri
Yn perthyn iddo sy,
Mae’n deilwng iawn
O gael y dysteb hon,
Ac nid yw hi ond ton,
Un don o fôr ein caredigrwydd llawn.

Boed ei brydnawn yn hyfryd glir,
O bydded ei brydnawn yn hir!


ENGLYNION PRIODASOL. 499


Ond er dymuuo hyn, mae’r dydd yn ffoi,
Cymylau’r hwyr yn dechreu ymgrynhoi;
Mae yntau’n sefyll rhwng y ddeufyd
Yn awr rhwng dwy olygfa bywyd,
Ond hyfryd yw y ddwy olygfa;
O'i ol santeiddrwydd pur, o'i flaen tragwyddol Wynfa.
Ac os yw’r llygad fel yn pylu,
Wrth edrych ar y Gair bu hynny;
Ac os yw’r ysgwydd fel yn crymu,
Rhyw nefol faich achosodd hynny.

ENGLYNION PRIODASOL.

 
I’W priodas mae’n hawdd prydu — mae’r hwyl
Mor hawdd ag anadlu,
Fy awen gynnes fyn ganu,
Rhoi mer y gerdd i bâr mor gu.


Fel engyl, uwch gafael angen, — eu ceir,
Is coron tyngedfen;
Ernes wiw yw’r Ynys Wen
Oludog, o'r ail Eden.


Cymydog serchoff y sydd — i minnau,
Er mynych lawenydd,
Pennod o ffraethder peunydd
Bellach o'i gyfeiliach fydd.


Ar hanner nos dos, od wyd — yn ddwysglaf,
Cei ddysglaid o ffraethfwyd;
Ei athrylith ar aelwyd
I Isllwyn byth sy well na bwyd.


Pwynt llonfawr yw Pontllanfraith — teg oror
Lletygarwch perffaith,
Cynheswyd, llonnwyd y llaith,
Croesawyd cennad Crist ganwaith.


Arhoed nodded Ior nef — ar y lle,
Er eu llwydd a'u tangnef,
Eu nawdd hwy fo ynddo Ef,
Eu harweinydd i'r wiwnef.


Cyfansoddwyd ar achlysur Priodas y Parch. J. Davies, Brynmawr, â Mrs. Jones, Poutllanfraith.


 

 

…..

Sumbolau:

a A / æ Æ / e E / ɛ Ɛ / i I / o O / u U / w W / y Y /
MACRONː ā Ā / ǣ Ǣ
/ ē Ē /
ɛ̄ Ɛ̄ / ī Ī / ō Ō / ū Ū / w̄ W̄ / ȳ Ȳ /
MACRON + ACEN DDYRCHAFEDIGː Ā̀ ā̀, Ḗ ḗ, Ī́ ī́, Ṓ ṓ, Ū́ ū́, (w), Ȳ́ ȳ́
MACRON + ACEN DDISGYNEDIGː Ǟ ǟ, Ḕ ḕ, Ī̀ ī̀, Ṑ ṑ, Ū̀ ū̀, (w), Ȳ̀ ȳ̀
MACRON ISODː A̱ a̱, E̱ e̱, I̱ i̱, O̱ o̱, U̱ u̱, (w), Y̱ y̱
BREFː ă Ă / ĕ Ĕ / ĭ Ĭ / ŏ Ŏ / ŭ Ŭ / B5236ː  B5237ː B5237_ash-a-bref
BREF GWRTHDRO ISODː i̯, u̯
CROMFACHAUː
  deiamwnt
A’I PHEN I LAWRː , ә, ɐ (u+0250) httpsː //text-symbols.com/upside-down/
Y WENHWYSWEG:
ɛ̄ ǣ æ

ˈ ɑ ɑˑ aˑ aː / æ æː / e eˑeː / ɛ ɛː / ɪ iˑ iː ɪ / ɔ oˑ oː / ʊ uˑ uː ʊ / ə / ʌ /
 ẅ Ẅ / ẃ Ẃ / ẁ Ẁ / ŵ Ŵ /
 ŷ Ŷ / ỳ Ỳ / ý Ý / ɥ
ˈ ð ɬ ŋ ʃ ʧ θ ʒ ʤ / aɪ ɔɪ əɪ uɪ ɪʊ aʊ ɛʊ ɔʊ əʊ / £
ә ʌ ẃ ă ĕ ĭ ŏ ŭ ẅ ẃ ẁ Ẁ ŵ ŷ ỳ Ỳ Hungarumlautː
A̋ a̋

U+1EA0 Ạ U+1EA1 ạ
U+1EB8 Ẹ U+1EB9 ẹ
U+1ECA Ị U+1ECB ị
U+1ECC Ọ U+1ECD ọ
U+1EE4 Ụ U+1EE5 ụ
U+1E88 Ẉ U+1E89 ẉ
U+1EF4 Ỵ U+1EF5 ỵ
gw_gytseiniol_050908yn 0399j_i_gytseiniol_050908aaith δ δ £ gw_gytseiniol_050908yn 0399j_i_gytseiniol_050908aaith δ δ £ U+2020 †
« »

 
DAGGER
wikipedia, scriptsource. org

httpsː []//en.wiktionary.org/wiki/ǣ

 
Hwngarwmlawtː A̋ a̋
gw_gytseiniol_050908yn 0399j_i_gytseiniol_050908aaith δ δ
 …..
…..
ʌ ag acen ddyrchafedig / ʌ with acute accentː ʌ́

Ə́ ə́

Shwa ag acen ddyrchafedig / Schwa with acute

…..
…..
wikipedia,
scriptsource.[]org
httpsː//[ ]en.wiktionary.org/wiki/ǣ

---------------------------------------
Y TUDALEN HWN: www.kimkat.org/amryw/1_testunau/
sion-prys_386_islwyn_400-499_RHAN-5_3808k.htm

---------------------------------------
Creuwyd: 08-03-2023
Adolygiad diweddaraf : 08-03-2023
Delweddau:

Ffynhonell: Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Newyddiaduron Arlein.
---------------------------------------

Freefind.
---
Archwiliwch y wefan hon
Cerqueu aquest web
SEARCH THIS WEBSITE
---
Adeiladwaith y wefan
Estructura del web

SITE STRUCTURE
---
Beth sydd yn newydd?
Que hi ha de nou?
WHAT’S NEW?


Ble'r wyf i? Yr ych chi'n ymweld ag un o dudalennau'r Wefan CYMRU-CATALONIA
On sóc?
Esteu visitant una pagina de la Web CYMRU-CATALONIA (= Gal·les-Catalunya)
Where am I?
You are visiting a page from the CYMRU-CATALONIA (= Wales-Catalonia) Website
Weə-r am ai? Yüu aa-r viziting ə peij fröm dhə CYMRU-CATALONIA (= Weilz-Katəlóuniə) Websait


Adran y Wenhwyseg / Secció del dialecte de Gwent / Gwentian Welsh
Edrychiadau ar y tudalennau / Vistes de les pagines / Page Views
Web Analytics Made Easy -
StatCounter
Edrychwch ar ein Hystadegau / Mireu les nostres Estadistiques / View Our Stats