1232 Gwefan Cymru-Catalonia / la Web de Gal·les i Catalunya. Tribannau Morgannwg. Tri pheth ni châr un Cristion /
Ÿw dadwrdd haidd o feddwon / Gweld offeirad mâs o'i go / A bÿw lle bo cybyddion

http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_034_tribannau_morgannwg_01_1232k.htm

0001z Y Tudalen Blaen

..........1863c Y Porth Cymraeg

....................0009k Y Gwegynllun

..............................0960k Y Cyfeirddalen i Gywaith Siôn Prys (testunau Cymraeg yn y wefan hon)

........................................y tudalen hwn / aquesta pàgina


..

 

 

 

 

 

 

 

0860k y llyfr ymwelwyr

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Catalunya i Gal·les
 

 

Cywaith Siôn Prys - Testunau Cymraeg ar y We

 

Tribannau Morgannwg

 

 

Adolygiadau diweddaraf:
31 10 2001

 

 

1355ke – English page – traditional verses from Lowland Glamorgan

 

 

*0001**
Rhowch i mi fenthÿg ceffÿl i fynad dros y lan
I garu'r ferch benfelen sÿ'n bÿw ’da i thad a’i mam
Ac os na ddaw hi'n foddog a’i gwaddol gyta hi
Gadawaf iddi'n llonÿdd, wàth bachgan pert w i

*
0002**
Tri pheth ni châr un Cristion
Ÿw dadwrdd haidd o feddwon
Gweld offeirad mâs o'i go
A bÿw lle bo cybyddion

*
0003**
Tri pheth wi'n weld yn lletwith
Hwch a iwc miwn gwenith
Côl o bolon heb un clwm
A Twm y lliprÿn llawith

*
0004**
Tri pheth gasa nghalon
Hen fenÿw glawd afradlon
Gwestÿ llwm, di-lo, di-fawn
A'r parad yn llawn poeron

*
0005**
Tri pheth wi'n farnu'n gydradd
Dÿn meddw brwnt miwn angladd
Gwraig gw^r llên yn tyngu, a sw^n
Rhai'n gyrru cw^n i ymladd

*
0006**
Tri pheth ar wraig sÿ'n hagrwch
Gwallt ansybar shabwch
Plant yn graman yn u crwÿn
A melyn drwÿn gan drewlwch

*
0007**
Tri pheth sÿ'n gas anhywath
Crach ustus miwn cymdocath
Anudonwr dig, a brat
Disynnwr at wasanath

*
0008**
Tri pheth sÿ gas ac anfad
Câl drwg am dda'n lle taliad
Colli parch heb wpod pam
A godda camgyhuddiad

*
0009**
Tri pheth sÿ'n llonni'r bachgan
Gweld gwraig y tÿ^ yn llawan
A'r crochan mawr yn berwi'n ffrwd
A llond y cw^d o botan

*
0010**
Tri pheth wi'n garu beunÿdd
Ÿw digon o lawenÿdd
Mynÿch dramwÿ yn ddi-ble
A ienctÿd y Drenewÿdd

*
0011**
Tri pheth ni saif yn llonÿdd
Ÿw'r niwl ar ben y mynÿdd
A malwodan miwn lle llwm
A thafod Twm Felinÿdd

*
0012**
Tri pheth ni saif heb shiglo
Ÿw llong ar fôr yn nofio
Dail yr aethnan yn yr haf
A thair merch braf yn dawnso

*
0013**
Tri pheth wi'n i hoffi
Offeirad wedi meddwi
Yn bwrw glaw cynhaea'r gwair
A merch â gair drwg iddi

*
0014**
Tri pheth sÿ'n dda gan hwsmon
Câl petwar tymor ffrwÿthlon
Gweld y teulu ar u gwên
A chwrdda hen gyfeillon

*
0015**
Tri pheth nid wi'n i hoffi
Ÿw'r llapitsh, te a choffi
Erlid clecian fel y cloc
A mÿnd i'r lloc at Siani

*
0016**
Tri pheth wi'n garu'n ffamws
Cig, pwdin a phytatws
A chwpan llawn o ddiod dwÿm
A chusan mwÿn gan Catws

*
0017**
Tri pheth wi'n garu ora
Ÿw rwm a llâth y bora
Mÿnd sha'r Hiltwn a Brÿn-sach
I'r bola bach gâl gwledda

*
0018**
Tri pheth sÿ'n cwnnu'n nghalon
Fod gen i arian ddigon
Câl wÿbren haf yn deg uwchbén
A gwena Gwen lliw'r hinon

*
0019**
Tri pheth sÿ'n hardd ar Gymro
Sef dysgu'n graff a ddysgo
Cadw'r gwir rhag mÿnd ar feth
A gweud y peth a fedro

*
0020**
Tri pheth sÿ'n anodd ddigon
Câl ca o don heb feillon
Cwrdd offeirad heb ddim dÿsg
A thwÿn Pen Prÿsg heb ladron

*
0021**
Tri pheth sÿ'n anodd gwpod
Bÿw'n sobor lle bo diod
Napod benÿw wrth i gwên
A thwÿllo hen frithyllod

*
0022**
Tri pheth ni châr y nghalon
Mÿnd ar y nhrâd trw'r afon
Marchogath ebol heb un ffrwÿn
A merch er mwÿn i moddion

*
0023**
Tri pheth ni alla i aros
Ÿw enwÿn tri phythefnos
Bara haidd yn llawn o fran
A menÿn Shiwan Domos

*
0024**
Tri gorchwÿl tra anghynnas
Ÿw hala'r Sul ar negas
Dala'r arad heb un swch
A charu hwch o sgenas

*
0025**
Tri pheth eriôd ni cheras
Ÿw putan, a lladronas
A phydleras ar ben ffair
Ond dyma dair cydmaras?

*
0026**
Tri pheth na châr y ngena
Ÿw afal sur y bora
Grawel moch odd ar y drain
A diod fain Llangana

*
0027**
Tri pheth ni alla i garu
Sw^n llycod yn y gwelÿ
Taith drw'r gwÿnt a'r glaw dros frÿn
A'n esgid yn y ngwasgu

*
0028**
Tri pheth sÿ'n gas gan wladwr
A phawb, beth bynna'u cyflwr
Crefu cwrw, dannod bai
A bwÿdo hen Dai Bwdwr

*
0029**
Tri pheth sÿ'n gas ymhobman
Dÿn yn marchu'i hunan
Clawd yn diodda eisha bwyd
A'r cybÿdd llwÿd miwn caban

*
0030**
Tri pheth sÿ'n gas yn wastad
Gan bawb fo'n berchan teimlad
Anudoni, gwasgu'r gwan
Gwên ffaro gan offeirad

*
0031**
Tri ysbrÿd i ryfeddu
Ÿw ysbrÿd cath yn carthu
Ysbrÿd wilber wrth naill gôs
A dwÿ frân nos yn wyrnu

*
0032**
Tri pheth sÿ'n gas bob amsar
Dysgawdwr dwl difedar
Cigfran warddu'n dallu'r wÿn
A'r blaidd yn dwÿn u hannar

*
0033**
Tri pheth ni alla i aros
Ci reto heb i annos
Bÿw heb fara yn y nghell
A chrefÿdd bell Rhÿs Tomos

*
0034**
Tri pheth ma Mari'n garu
Câl sbonar tynn i gwasgu
Un gyrradd gusan ar i min
A modrwÿ cÿn prioti

*
0035**
Tri pheth sÿ'n gas echryslon
Gweld gw^r a gwriag yn feddwon
Baili'n cario'r gwelÿ bant
A nythad o blant noethon

*
0036**
Tri pheth sÿ'n anodd napod
Dÿn, derwan a diwarnod
Y dÿdd yn hir, y pren yn gou
A'r dÿn yn ddouwÿnepog

*
0037**
Tri pheth wi'n garu mhobman
Ÿw cwrdd a chwmpni llawan
A gwasgu'r enath fach bob nos
A'i lluo'n grôs ddi thalcan

*
0038**
Tri pheth sÿ'n with i wala
Gweld march heb ddim pedola
Hwÿad wÿllt yn cripad craig
A merch-ne-wraig yn ffowla

*
0039**
Tri pheth sÿ'n gas afrifad
Dadleuon dÿn pengalad
Sain ddi-les offeran Sul
A marchnad gul heb drwÿddad

*
0040**
Cas hefÿd dri pheth arall
Y creira a bardd anghall
Tafarn lle ma'r drwg a'i dardd
A cherdda bardd di-ddeall

*
0041**
Tri pheth mwy cas na'r cyfan
Offeirad balch i anian
Prydÿdd pw^l yn fardd y blawd
A clerwr clawd i driban

*
0042**
Tri dawnswr gora Nghymru
Syr Charles o Gefanmabli
Sgweiar Lewÿs Wÿch o'r Fan
A syr John Carne o'r Wenni

*
0043**
Tair Siân a dwÿ Gwenllian
Dwÿ Ann, a Margad fychan
Dwÿ Mari lân, a Leisa ffel
Cydseinian fel yr organ

*
0044**
Tri pheth sÿ'n mÿnd yn ddiffrwth
Blawd ceirch i nithir cramwth
Torri'r pren cÿn crino i frig
A phobi cig yn olwth

*
0045**
Y tri lle oera Nghymru
Ÿw mynÿdd bach y Rhydri
Twÿn y Garth, a Cefan Onn
Lle buo i bron â sythu

*
0046**
Tri pheth ÿw y nymuniad
Bod harddwch yn ymddygiad
Yn denu'r bachgan glana riôd
I addo bod yn gariad

*
0047**
Tri pheth ddymuna i'n hynod
Câl y sawl wi'n garu'n briod
A nerth gan Dduw i fÿw'n gytûn
A marw run diwarnod

*
0048**
Ma gen i grefft o'r gora
Pedoli moch a gwÿdda
Doti iwc ar ycha brain
A dal hwain miwn rhwÿda

*
0049**
Mi welas ferch yn godro
A menÿg ar i dwÿlo
Hilo'r llâth drw glust i chap
A merch Siôn Cnap odd honno

*
0050**
Mi welas ddÿdd ar Mari
A ddelsa mâs i'r baili
I ddishgwl am y bachgan llon
A wnaiff ddi chalon dorri

*
0051**
Mi welas ddwy lydgotan
Yn llusgo côtsh yn llawan
O Ewenni i Gar-dÿdd
 llestri pridd a halan

*
0052**
Mi welas arna i amsar
Ddar hynnÿ nid os llawar
Y troeswn feddwl merch go fawr
Miwn llai na awr a hannar

*
0053**
Mi fus yn caru'n gynnas
A merch o wniadyddas
Rint Bomffân a blân Col-huw
Ma'r lle ma'r bÿw'r angylas

*
0054**
Mi wela Ben-rhiw Meibon
Mi wela Ddyffrÿn Cynon
A'r tÿ^ lle ma yn Aber-dâr
Yr un a gâr y nghalon

*
0055**
Mi geso ngwawdd i gino
Ar binslons wedi stiwo
Bara haidd a dishgil gôd
Ni fu riôd shwd reso

*
0056**
Mi welas deirw corn dwb
A phob dou'n ymladd dwp-dwb
A din disynnwr gita'r rhain
Mi alswn lefan iwb-wb

*
0057**
Mi wela Ben Bwlch Garw
Mi wela Waun Croeserw
Mi wela'r ferch fÿdd mam y mhlant
Mi wela Nantybedw

*
0058**
Mi wela'r man yn ola
Lle cês analad gynta
Dos neb a wÿr ond Duw i hun
Ble hwÿtha i'r un diwetha

*
0059**
Mi halas gant o syllta
A mil o wecheinoca
Wrth yfed cwrw a gwin at Gwen
A'i cholli ar ben y shwrna

*
0060**
Mi gefas gawl i gino
Caf gawl i swpar heno
Fe gaiff y feistras fÿnd i'r diawl
Cÿn yfa i chawl-hi eto

*
0061**
Mi ddysgas fod yn brydÿdd
Ac hefÿd yn felinÿdd
Dysgas hefÿd godi'r doll
Cywreina o'r holl garennÿdd

*
0062**
Mi wela i mhell odd yma
Mi wela Foel y Caera
Ni wela'r ferch sÿdd arna i hwant
Ma'n berchan gant o bunna

*
0063**
Mi wela'r ferch o'r Gelli
Mi wela Ddyffrÿn Llynfi
Mi wela ben y dwarchen las
Mi wela blas y Wenni

*
0064**
Mi welas heddi'r bora
Do, Bili Ben-bwlch Ycha
Guto Fain, a'i fwall gam
Yn trychu am y trecha

*
0065**
Mi fuo lawer blwyddÿn
Yn canu gita'r ychin
Bara haidd a chosÿn cnap
Dim tishan lap na phwdin

*
0066**
Mi gwnnas heddi'r bora
Mi welas gywon gwÿdda
Ecin haidd ac epol bach
Oh bellach fe ddaw Clama

*
0067**
Mi brynas casag felan
Am betar punt a hweugan (wigan)
Cheisha i bÿth o'r bwt yn ôl
Wath bargan ffôl nath Morgan

*
0068**
Mi gwnnas gariad newÿdd
Mi roes yr hen i fynÿdd
Ma'n promiso cwrdd, os ceidw i gair
Wrth Eclws-fair y Mynÿdd

*
0069**
Mi ddeuthum o Lanhari
Yn bennaf rhag ymboeni
I gwrdd â'r Eustons o Dre-frân
I weud y gân odd gen i

*
0070**
Mi wna i bob camp in ddifa
Mi garia i ddw^r miwn sifa
Mi farchoga i odd ma i'r North
Ar giefan torth o fara

*
0071**
Mi wna i bob camp yn gampus
Gwna i afal sur yn felÿs
Mi wna i i'r gweddrod ddod ag wÿn
A brig y brwÿn yn ffigÿs

*
0072**
Mi welas Wil o'r Felin
Yn bÿta naw sgadenÿn
Tatws, erfin, lonad cart
A douddeg cwart o enwÿn

*
0073**
Mi flinas bÿw'n y Blaena
Yn ifad llâth mor dena
Cosÿn glas â blas y maidd
A bara haidd fynycha

*
0074**
Mi fuas yn y Caera
Am lawar o flynydda
Yn gweitho yno am y mwÿd
Nes mÿnd yn llwÿd y ngrudda

*
0075**
Mi fytas gwt o botan
A dwy ne dair pytatan
Ond am y cig thal i mi sôn
Ath Shoni Shôn â'r cyfan

*
0076**
Mi welas long ychrydus
Gan dalad odd i mastus
Yn hwÿlo'n braf sha Brysta'n llin
A lodin o'r Ist Indis

*
0077**
Mi gymra i rÿw hen sgeran
Sha phymthag mlwÿdd ar hucian
Cÿn yr elo-hi'n dywÿdd smart
I dwÿmo part o nghiefan

*
0078**
Mi wela i'r Dimlon domlÿd
A'r wraig fonheddig hefÿd
Mi wela i'r tÿ ar ben y twÿn
Sÿ bron â dwÿn y mywÿd

*
0079**
Mi gwrddas heddi'r bora
 Dafÿdd o'r Felindra
Rhwng tyla'r Cnwc, a Chraig Rhiw-blawd
 golwg glawd i wala

*
0080**
Mi glywas gân y gigfran
Sÿ'n hofran uwch Craig Afan
Fod Gwilÿm Prÿs a'i wallt yn wÿn
Yn tynnu'n dÿnn shag yffarn

*
0081**
Ma'r ceilog coch yn canu
Ma'n brÿd i'r merched gwnnu
Ma'r bachgan bach yn mÿnd sha'r glo
A'r fuwch a'r llo yn brefu

*
0082**
Ma gen i bedwar eidon
Rw i'n gwelad hynnÿ'n ddigon
A cheffÿl gwÿn, nid ywond gwan
O'r gora dan y goron

*
0083**
Ma gen i hwech bustechÿn
U gwell ni ellir erfÿn
Nw dorran gwÿs fu riôd i bath
Am ganllath fel y cordÿn

*
0084**
Ma rhai medelwÿr hwÿlus
Yn neud u gwaith yn campus
Ond am y neill, a u natur laith
Ma ganddÿn waith echrydus

*
0085**
Ond oti-hi'n beth nafus
Fod gwraig yn gwishgo britshus
A mynnu'r pwrs a'r aur i gÿd
Y faedan ysglyfaethus

*
0086**
Ma llawar heno'n wÿlo
Ac erill yn gofidio
Gwell ganddÿn welad Dÿdd y Farn
Na gweled Trarn yn falio
Trarn = Trahárn (Trahaearn)

*
0087**
Ma nghariad i eleni
Yn bÿwyn Sowth Corneli
Yn fain i gwast, yn nêt i phleth
Ma'n wynach peth na'r lili

*
0088**
Ma Taf yn afon rwÿsgus
Ma Taf yn dra pheryglus
Taf a ddygodd fywÿd cant
Ma Taf miwn pant echrydus

*
0089**
Ma'r merched yma leni
 u bwriad ar brioti
Heb ddim i ddoti yn u tai
Ond nw eill dau a babi

*
0090**
Ma effath llysa hwerw
Yn dda i ddÿn rhag marw
Ond dyma'r peth naiff ddÿn yn iach
Ÿw llymad bach o gwrw

*
0091**
Ma'r Fro a i meusÿdd ffwÿthlon
Yn swÿno lawar calon
Ma'r wlad o Lai i Ogwr laith
Yn llawn o waith prydyddon

*
0092**
Ma'n bwrw glaw'n y Blaena
Ma'n dychra pican yma
Ma'n heulo'n deg ar bont Llan-daf
Ma'n dywÿdd braf ym Mrysta

*
0093**
Ma'r Mêr fel môr yn mynad
Ma'r stor hÿn wedi i styriad
Trowch yr eidon i ddwr piwr
Ma'n suwr o dorri i syched
Mêr = pwll dwr mawr yn Sant-y-brid (Pwll y Mêr, Heol y Wig)

*
0094**
Ma llefan mawr a gwaeddu
Yn Ystrad-ffin eleni
A'r cerrig nadd yn toddi'n blwm
Rhag ofan Twm Siôn Cati

*
0095**
Ma Bedffwrd Gymro digri
A i gyfall Ffil y joci
Yn hela oria trist ÿw'r gair
I hwara iair a'r cendi
Iair a'r cendi = ystôl gadno

*
0096**
Ma gwÿr y Wig, medd dynon
Yn meddu ar arferon
Pe u mesurid, led a hÿd
Gwnân faeddu'r bÿd o ddigon

*
0097**
Bechgÿn Shoni Shencÿn
Am ganu gita'r ychin
Dyna u tâl, un math o fwÿd
Sef crwstÿn llwÿd ac enwÿn

*
0098**
Bum bart o dri diwarnod
Yn rhodio Cefan Hirgod
Rhint y dderwan gopa fain
A'r tÿ ar waun y gwaddod

*
0099**
Peth ffein ÿw houl y bora
Peth ffein ÿw bloda'r fala
Peth ffein ÿw cariad fo gerlláw
Dÿn helpo'r sawl fo bella

*
0100**
Dÿn helpo'r mab nas medro
Lwÿr ddilÿn merch a i cheisio
Fe fÿdd hwnnw'n farw'n fud
A i gladdu a i glefÿd yndo

*
0101**
Fi helas yn y Walas
Do, lawar bora diflas
Rhint y gwr a gwraig y tÿ
O'r diwadd fi madawas

*
0102**
Fi wela i Ist Berddawan
A Brithwn wrtho i hunan
Fi wela fferm fawr Castletown
A begars pownd Sain Tathan

*
0103**
Rw i nawr ers llawar blwÿddÿn
Yn bÿwmiwn carchar cyfÿng
Dos gen i le i gwnnu nhrwÿn
Miwn ffald ar dwÿn Trefflemin

*
0104**
Mi wela Frÿn y Betws
Mi wela Gwrt y Mwnws
Mi wela'r tÿ ar ben y twÿn
Lle ma'r un fwÿn yn gorffws

*
0105**
Tra mân yn troi miwn melin
Tra llong yn cario lodin
Tra môr yn tawlu i donna lan
Mi fota ar ran y Stradlin

*
0106**
Y gwr o'r Lela domlÿd
A'r feistras fach gymhenllÿd
Yn awr rw i'n rhÿdd ar ben y twÿn
Nw fuon bron dwÿn y mywÿd

*
0107**
Shoni bach, wr diflin
Sÿ'n gwishgo cap â phlufÿn
Pantalwns a siacad grop
Y fe ÿw top y gegin

*
0108**
Cae'r-lan sÿdd hardd ar fynÿdd
Y Gilfach a'r Tÿnewÿdd
Ond Hendreforgan a'r Graig-las
Sÿ'n maeddu Plascilfynÿdd

*
0109**
Yn y Lela leni
Ma'r tair merch lana'n Nghymru
Enwa rhai sÿdd ym mhob man
Sef Cati, Ann a Mari

*
0110**
Gwaetha'r gwÿnt ÿw hwythu
Gwaetha'r glaw ÿw gwlychu
Gwaetha'r dÿdd ÿw dod i ben
A gwaetha'r Gwen fÿdd pallu

*
0111**
Tra paro mêr miwn asgwn
A charrag las miwn pingwn
A'r ceilog coch yn canu draw
Yn sytÿn daw dÿdd Satwn

*
0112**
Y wÿlan fach adnebÿdd
Pan fo'n gyfnewid tywÿdd
Hi hed yn deg ar adan wen
O'r môr i ben y mynÿdd

*
0113**
Ffordd fer i hala'r gaea
Hir oria tywÿdd eira
Ÿw catar fawr o flân y tân
A llunio cân ddiddana

*
0114**
Ma gen i bedwar bwlÿn
Yn pori brig yr eithin
Nw dorran gwÿs o'r mwÿa gwÿch
Nw gerddan rhÿch i'r blewÿn

*
0115**
Pe bawn yn Nghwmydyffrÿn
Ni fydda arna i newÿn
Cawn gwrw gwÿch heb altro i naws
A bara chaws a menÿn

*
0116**
Ond oti-hi'n rhyfeddod
Bod dannedd merch yn darfod?
A tra bo ynddi anal hwÿth
Ni dderfÿdd bÿth mo i thafod

*
0117**
Diareb ddoth fynega
Mai douparth gwaith i dychra
Dyweda finna yn ddi-feth
Ta cwpla peth sÿ ora

*
0118**
Rÿw noson cês yn shomi
Pan y gofynnodd Mari
Os parod own i ddod sha'r Llan
Cÿn Calan, câl prioti

*
0119**
Yn ddistaw gwedas wrthi
Taw gwell fai i ni oedi
Na mÿnd yn fyrbwÿll tan yr ieu
Fod cariad weithia'n oeri

*
0120**
Wrth ddod o Bont y Lladron
Fi gefas ofan creulon
Clywas fwstwr yn y berth
A dorrws nerth y nghalon

*
0121**
Diofal ÿw'r aderÿn
Ni hau, ni fed un gronÿn
Heb ddim gorchwÿl yn y bÿd
Ond canu rhÿd y flwÿddÿn
Rhÿd = ar hÿd

*
0122**
Eistedda ar y gangan
Gan etrÿch ar i adan
Heb un geinog yn i god
Ond llywio bod yn llawan

*
0123**
Pe bawn i ddim ond medru
Ar ddarllin a sgrifennu
Mi ddanfonwn lythÿr crôs
At Gwen cÿn nos yforÿ

*
0124**
Ma Tomos Gronw wiwlan
Yn caru Martha Ifan
Oh! ma é yn ffarmwr gwÿch
A i bedwar ych a i wagan

*
0125**
Oh na chawn ddod trw gennad
I ôl yn annwl gariad
Yr enath gron, a theg i grân
Ddi chlymu o flân y ffeirad

*
0126**
Peth ffein ÿw llâth a syfi
Peth ffein ÿw shwgwrcandi
Peth ffein ÿw mynad wedi'r nos
I stafall glos i garu

*
0127**
Wrth hela'r ychin weitha
A chroesi tros faenara
Rw i'n llunio llawar pwt o gân
I ferchad glân y Lela

*
0128**
Dywedir ers peth oesa
Ta buwch o'r Fro ÿw'r gora
Ond cÿn boddloni cyflawn serch
Ma rhaid câl merch o'r Blaena

*
0129**
Yr ochor hÿn i'r clochdÿ
Ma'r atgor ora Nghymru
A rhwng hynnÿ a min y môr
Ma calon ôr yn llechu

*
0130**
Ym Merthÿr-mawr ma ceingan
I glanach does yn unman
Mi wn am lawar calon hâl
Hwenycha châl-hi'n wreigan

*
0131**
Ma radwr yn Llangewÿdd
Yn poeni ar bob tywÿdd
Genol nos yn fawr i sgrÿd
Wâth ganddo brÿd na'i gilÿdd

*
0132**
Ma'r frech ar wÿnab Martha
Run faint â wecheinoca
Er colli dou o i dannadd blân
Ma yto'n lân i gwala

*
0133**
Ma gen i hwech o ychin
Yn well na chant o fechgÿn
Os caf gadw rhain yn fÿw
Mi reda i riw Penderÿn

*
0134**
Ma nghariad i eleni
Yn bÿwym mhentre'r Coetÿ
Rw i'n meddwl gofÿn idd i mam
A gâ'r ddi-nam brioti

*
0135**
Ma'r merchad wedi mynad
Dos derfÿn ar u siarad
Yng nghÿlch dillad o bob lliw
A phwÿ sÿ'n bÿwheb gariad

*
0136**
Ma merched bach Sain Tathan
Yn ffaelu troi cramwÿthan
Heb ofÿn cymorth gwr-ne’-was
Ddi thoso mâs o'r ffrimpan

*
0137**
Dou ÿch ÿw Silc a Sowin
Un coch a'r nall yn felÿn
Pan yn aretig yn u hwÿs
Nw dorran gwÿs i'r blewÿn

*
0138**
Nid twÿll ÿw twÿllo twÿllwr
Nid brad bradychu bradwr
Nid lladrad ÿw, mi gwnaf yn dda
Ladrata ddar ladratwr

*
0139**
Pan fyddo mynÿdd Caera
A i gap yn cuddio i gopa
O niwlÿn tew - am hynnÿ taw!
Ma yndi law, mi brwfa

*
0140**
Os pall dy gariad i ti
Paid bÿth a digaloni
Ma meddwl merch yn troi fel rhod
Hi ddichon ddod er hynnÿ

*
0141**
Ma nghariad i eleni
Yn Lloegar - nid yng Nghymru
Ymhlith Saeson duon dig
A fi'n sÿ'n unig hebddi

*
0142**
Fe wedodd mam y nghariad
Na chawswn deg i dygiad
Tra ceir cawnan ar ga ton
Rw i'n dowto hon gamsyniad

*
0143**
Yng ngwaelod Cwm y Dyffrÿn
Ma gwÿsgod idd u erfÿn
Tân o lo, yn wÿch i naws
A bara chaws a menÿn

*
0144**
Os blin y ddalan fyglÿd
Ma bagad yn i herlid
Dros dir a morodd, medda-nw
Gwnath afal mwÿ o ofid

*
0145**
Oh rhyfadd faint y dwli
I'r bÿd sÿ'n câl i gorddi
A'r Sul i'r siôl yn enw llâth
Ma meddwi'n wâth na brandi

*
0146**
Pe basa'r brag a'r berman
A'r hops heb ddod i'r unman
A'r ffiol fach, y bib a'r pot
Fe fasa nghot yn gyfan

*
0147**
Y ferch a'r ddwÿ bleth amlwg
A'r rhupan am i gwddwg
Dera gita fi i roi tro
Sha gwaelod Bro Morgannwg

*
0148**
Yn Sant-y-brid ma nghariad
Yn Sant-y-brid ma mwriad
Yn Sant-y-brid ma merch fach lân
Os caf hi o flân y ffeirad

*
0149**
Mi wela geilog twrci
Mi wela'r ferch o'r Mardÿ
Mi wela'r frân yn hedfan frÿ
Mi wela dÿ Pencelli

*
0150**
Llan-fâs, Llan-fair, Trefflemin
A Smilstwn a'r hen felin
Os aiff cardotÿn am u traws
Caiff fara chaws ond gofÿn

*
0151**
Y neithwr mi freuddwÿtas
Y mod i'n Sant Nicolas
Gita'r ffeirad, sef Wil Twm
Yn clymu clwm priotas

*
0152**
Pan welir pen Môl Caera
Yn gwishgo cap y bora
Odid fawr cÿn hannar dÿdd
Fÿdd ar i grudd-hi ddagra

*
0153**
Y gwr a garo'r doman
A i gasglo i gÿd i'r unman
Mÿnd â hi i'r câ miwn prÿd
A ddaw â'r ÿd a'r ffetan

*
0154**
Rw i'n drician ôd yn seriws
Wrth lyfir mawr yr eclws
Ni welas i riôd shwd lap
A Shoni Cnap Sant Dunws

*
0155**
Mi welas ddÿn a bachgan
Yn bildo pompran dderwan
Ac wedi cwplo yn y fan
Hi gwpws ran i hunan

*
0156**
O stopwch! motrÿb Catrin!
Arafwch yma ronÿn
Chi haeddach iarda ar ych gwar
Am rannu ar yr enwÿn

*
0157**
Pan fyddo'r ên yn crymu
A'r talcan yn crôngrychu
Fe fÿdd y deall mwÿa glew
Tan gwmwl tew prÿd hynnÿ

*
0158**
Rw i'n un o'r crefftwÿr gora
Ar ystarn, stwc a thwba
Ennill arian fel y gwÿnt
A u hala'n gÿnt fynycha

*
0159**
Ta gen i our ac arian
Ta gen i dirodd llytan
Mi rhown nw'n rhÿdd heb unrhÿw ble
Am fÿw yn nhre Llancarfan

*
0160**
Cabitshan ar y baili
Dou dop yn tyfu arni
Y gwÿnt a i chwthodd-hi i'r llawr
A'r hen hwch fawr bÿtodd-hi

*
0161**
Peth ffein ÿw haf a hawddfÿd
Peth ffein ÿw ysgafn iechÿd
Peth ffein ÿw arian lonid pwrs
I dreulo cwrs yn ienctid

*
0162**
Tÿ gwÿn, tÿ glân, tÿ gola
A llawn o bob rhinwedda
Y tÿ gora ar waelod Nedd
Am gwrw a medd ÿw'r Creiga

*
0163**
Os ffaelas yn yn amsar
Câl tyddÿn wrth y mhlesar
Nôl dod i fynwant Aber-dâr
Caf yno'n shâr o'r ddaear

*
0164**
Llan-dw, Llan-daf, Llandocha
Llan-fair, a Llambad Ycha
Llantrisant sÿdd, Llangeinwr sÿw
Llangynwÿd ÿw'r lle gora

*
0165**
Ma merchad bach y Blaena
Yn gwishgo cap a lasa
Motrw our ar ben pob bÿs
A chwt u crÿs yn llapra

*
0166**
Ma merchad Bro Morgannwg
Â'r cyfan yn y golwg
Yn tynnu llawar llencÿn mwÿn
Dros dwÿn i dorri i wddwg

*
0167**
Ma merchad pert gwlad Forgan
Yn gwishgo gyna shidan
Ma rhain mor ffeinad yn u gwast
A chynffon gast Shôn Bifan

*
0168**
Ma merchad bach balch y Coetÿ
A'u bwriad ar brioti
Heb flancad gwelÿ yn y bÿd
A u gyna i gÿd heb dalu

*
0169**
Ma gen i darw nepwan
A phedwar corn ar hucian
A buwch yn dod â llo bob mish
Nid odd i phrish ond hweician


Nepwan = wÿnebwen

*
0170**
Dim gwell hwech ÿch ac arad
Nis gellir bÿth mo u gwelad
Na ffeinach arddwr ar y mâs
Na Morgan, gwas y Sichad

*
0171**
Ma castall yng Ngharffili
A gwelÿ pluf i gysgu
A lle braf i hwara wic
Wrth giefan Picadili

*
0172**
Peth da mhob man ÿw melin
Os bÿdd-hi'n malu'n ddiflin
Ond drwg y dÿn a ddwg y blawd
Odd ar y clawd yn echwÿn
 
*
0173**
Gwae fi na bawn yn gwpod
Am ffordd, heb ddod yn briod
I gâl y canpunt sÿdd yn stôr
Gan ferch yn ochor Llwÿtgod


*
0174**
Ta i'n hela blwÿddÿn gyfan
Heb fwrw dim yn unman
Fai'r dwr i gÿd gan ferch y jawl
Yng nghrochan cawl Cwmsaibran
 
*
0175**
Hen Wil y saer, Cwmsaibran,
A ddringws frÿ i'r nenbran
Ac a waeddws megis cawr
Ar fwli mawr y Gloran

*
0176**
Nôl macu hwch 'n y Blaena
Ac anfon hon i Frysta
Er 'maint a wêl-hi yma a thraw
Yn hwch y daw-hi adra
 
*
0177**
Cadd Prÿs o bantypandÿ
Rhÿw gollad fawr eleni
Sef colli'r tÿ odd uwch i ben
A phart o bren i welÿ

*
0178**
Rodd Prÿs o Bantypandÿ
Yn wr a haedda i grogi
Yn hudo'r merchad wrth y cant
A thawlu'r plant i foddi

*
0179**
Rhÿd y bompran grwca
Pw welas-ti'n mÿnd drwa?
Dy gariad-di, lliw blota'r drain,
Fel cambric main o'r India

*
0180**
Ti gisha iwc o dderi
A gwyrs o Aberhonddu
Mi fynna ddoti'r hwch miwn mwÿth
Cÿn caffo i ffrwÿth y gerddi
 
*
0181**
Gwae fi nad allwn hedfan
Fel brân, dros ben y Ciefan
At y gloÿwa, glana i lliw
Sÿ'n bÿwÿn Aberboedan

*
0182**
Cath ddu, mi glwas ddwedÿd
A fetar swÿno hefÿd
A chadw'r teulu lle ma'n bÿw
O afal pob rhÿw glefÿd
Afal = afael

*
0183**
Fe neida'r gath yn hoÿw
Rhwng gwÿnt a thywÿdd garw
Hi dro i phen-ôl shag at y gwres
Po nesa bo hi i fwrw

*
0184**
Fi waria heddi unswllt
Fe waria fory ddouswllt
A chÿn y colla i ferch i mam
Fi tria-hi am y triswllt

*
0185**
Mi welas iâr o Dwrci
A mil o gywon dani
Pob un o rheini fwÿ nag ÿch
A chelwdd gwÿch odd hynnÿ

*
0186**
Roca'r Sger le garwa
Lle strandws llong Marina
A bwmbast gwÿn i wÿr y Pil
Gwerth petar mil o bunna

*
0187**
Ma Shaco Clerc y Coetÿ
Yn fachgan iawndda lysti
Dos neb mor dâr ag e'n ddi-au
I ddringo grisha'r clochdÿ

*
0188**
Mi welas feinir lysti
Wrth eclws Sant Hilari
Rhaid câl sepon a dwr brwd
I olchi'r rhwd odd arni

*
0189**
Dÿn iach nad allo wenu
Na godda neb i ganu
Mi ddalia i swllt ag unrhÿw un
Mai dyna ddÿn ga i grogi

*
0190**
Y sawl a fynno fwÿta
Dou enllÿn gyda bara
Fe ddyla hwwnw fod yn glawd
Am nithir gwawd o i fola

*
0191**
Mi wela Fro Morgannwg
Golygus ÿw i ngolwg
Mi wela'r tyddÿn lle ma'n serch
Ond nid ÿw'r ferch yn amlwg

*
0192**
Rw i'n hoffi twÿn Llangÿnwd
A'r pentra lle y'm ganwd
A Chiefanydfa, fwÿna nÿth
Anghofia i bÿth dy gronglwd

*
0193**
Oh rhyfadd faint y twrw
Sÿ i glywed drwÿ Gwngarw
Iefan Tomos yn gweud fod glo
I ddod i mâs o hono

*
0194**
Yng nghylchodd plwÿf y Betws
Bu rhai prydyddion ffamws
Iefan Hopcÿn Dÿn-y-nant
Fe gursa gant yn llabws
 
*
0195**
Nid pell o blwÿf y Wenni
Ma merch o'r enw Sali
Hen faedan oerllÿd, sychlÿd, swrth
Hi'm poena wrth i henwi

*
0196**
Ma Dafÿdd Lewÿs lawan
Medd pawb, yn burion fachgan
Am yrru ychin hÿd y gwÿs
Rhag ofan pwÿs y carthbran

*
0197**
Ni cheir ar ôl llafuro
Rhÿw lawar o arlwÿo
Nid os i gâl, miwn amball fan
Ond posal gwan yn paso

*
0198**
Cês gwrw crÿf miwn iolwrch
A chwt o facwn tewdrwch
Nes i mi neud y mol yn llawn
Ar hir brynháwn yn Llwÿn iwrch

*
0199**
Siams Pritshard wÿch o'r Mwntwn
Odd hoff o ddilÿn helgwn
Dodd neb ychwaith ym mhlwÿf yr As
A chystal bras o filgwn
Yr As = yr As Fach (Nash) neu yr As Fawr (Monknash)

*
0200**
Ma gwÿnab y ddaearan
Ag agwadd teg rhag angan
Ma Blân Cwm taf yn lân i liw
I gÿd o'r Griw i'r Graenan

*
0201**
Oh, gwrando'r mab o'r Dola
Er brasad ÿw dy gamra
Efalla doi cÿn diwadd d'ôs
Mor fain dy gôs a finna

*
0202**
Ma'r merchad yn llawenu
Wrth weld y caea'n glasu
Oh! gan weud, fe ddaw'r haf
Ac amsar braf i garu

*
0203**
Pan fyddo'r tifedd candrÿll
Yn mynad ar y gridill
Sÿlwad pawb ar hynnÿ'n sÿth
Ma'r crefftwr bÿth yn sefÿll
Tifedd = etifedd

*
0204**
Mÿnd at y bêl y fforddrÿch
A chanlÿn dawns yn fynÿch
A thawlu coetan, bar a gordd
A neido ffordd y mynÿch

*
0205**
Ma serch yn rwpath rhyfadd
Yn maenu pob amynadd
Rhw anfad wall, rÿw ynfÿd wÿ^n,
(llinell olaf ar goll)

 

_________________________________________

DOLENNAU AR GYFER GWEDDILL EIN GWEFAN
0934k
tudalen mynegeiol y Wenhwyseg
·····
0960k
llên Cymraeg ar y We - “tudalen Siôn Prys Aberhonddu”.
·····
0223e
yr iaith Gymráeg
·····


Ble’r wÿf i? Yr ÿch chi’n ymwéld ag un o dudalennau’r Gwefan “CYMRU-CATALONIA”
On sóc?
Esteu visitant una pàgina of the Web “CYMRU-CATALONIA” (= Galles-Catalunya)
Where am I? You are visiting a page from the “CYMRU-CATALONIA” (= Wales-Catalonia) Website
Weørr am ai? Yuu aarr vízïting ø peij from dhø “CYMRU-CATALONIA” (= Weilz-Katølóuniø) Wéb-sait

CYMRU-CATALONIA










 

Edrychwch ar fy Ystadegau / Mireu les estadístiques / View My Stats