kimkat3596k Y Caniedydd Cymreig. The Cambrian Minstrel; Being A Collection Of The Melodies Of Cambria, With Original Words In English And Welsh; Together With Several Original Airs. John Thomas (Ieuan Ddu). Merthyr Tydvil. 1845

01-03-2021

● kimkat0001 Yr Hafan 
www.kimkat.org
● ● kimkat2001k Y Fynedfa Gymraeg www.kimkat.org/amryw/1_gwefan/gwefan_arweinlen_2001k.htm
● ● ● kimkat0960k Mynegai i’r testunau Cymraeg yn y wefan hon 
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_mynegai_0960k.htm
● ● ● ● kimkat3596k Y tudalen hwn....



 

0003g_delw_baneri_cymru_catalonia_050111
 (delwedd 0003j)




Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Gal·les i Catalunya
The Wales-Catalonia Website

Dic Siôn Dafydd a Chati Siân Dafydd

Y Saisaddolwyr yn hanes Cymru

Y Llyfr Ymwelwyr / El Llibre de Visitants / The Guestbook:
http://pub5.bravenet.com/guestbook/391211408/

a-7000_kimkat1356k
Beth sy’n newydd yn y wefan hon?

---


6665_map_cymru_catalonia_llanffynhonwen_chirbury_070404

(delwedd 6665)

 

.....

(O'r wikipedia Gymraeg 12 Mawrth 2021)

 

 

Dic Siôn Dafydd

Cymro sy'n gwadu iaith ei fam yw Dic Sion Dafydd (neu Dic Siôn Dafydd) ac fe ddefnyddiwyd yr idiom yn wreiddiol mewn cerdd ddychanol a gyhoeddwyd yn 1803 gan y bardd a phamffledwr gwleidyddol John Jones (Jac Glan-y-gors) (1766-1821). (Gweler gwaelod y tudalen am fanylion am Jac Glan-y-gors).

 

Yng ngherdd Jac Glan-y-gors mae Dic yn Gymro anllythrennog anwybodus, "mab Hafoty'r Mynydd Mawr", sy'n ymfudo o gefn gwlad Cymru i ddinas Llundain er mwyn "ymddyrchafu" yn y byd. Mae'n dod yn farsiandwr dillad llewyrchus yn Llundain, ond mae'n cuddio ei wreiddiau ac yn cymryd arno ei fod wedi anghofio'r Gymraeg yn llwyr er mwyn plesio ei gyfeillion Seisnig cyfoethog. Ond yn y diwedd mae ffawd yn troi yn ei erbyn: mae'n colli ei fusnes ac yn gorfod dychwelyd i Gymru yn dlawd i ddioddef gwaradwydd ei gydwladwyr, yn cynnwys ei fam ei hun.

 

Ac wedi gwneud ei hun i fyny,

I wlâd Cymru fe aeth bob cam,

Yn ei gadair yn ergydio,

Yn gweiddi, 'Helo' wrth fotty ei fam.

 

A Lowri Dafydd dd'wedai ar fyrder,

"Ai machgen anwyl i ydwyt ti?"

"Bachgen Tim Cymraeg; hold your bother,

Mother you can't speak with me."

 

A Lowri a ddanfonai'n union,

Am y person megys Pâb,

A fedrai grap ar iaith y Saeson,

I siarad rhwng y fam a'r mab!

 

Yna'r person nôl ymbledio,

A'i tarawodd ar ei ffon,

Nes oedd Dic yn dechrau bloeddio,

O iaith fy mam, mi fedra hon.

 

Byth ers cyhoeddi'r gerdd am y tro cyntaf mae pobl wedi defnyddio'r ymadrodd i gyfeirio at unrhyw Gymro sy'n cefnu ar ei iaith a'i ddiwylliant er mwyn llwyddo yn y byd Seisnig. Gellir ei gymharu gyda'r "Ewyrth Twm" Americanaidd, caethwas du sy'n chwerthin ar ben ei wreiddiau ei hun er mwyn ennill ffafr y bobl wynion.

 

Mewn ail gerdd, mae balchder a drygioni Dic yn ei ddifetha yn Llundain, ac mae'n gorfod dod yn ôl i Gymru mewn tlodi. Defnyddir yr ymadrodd Dic Siôn Dafydd yn aml heddiw ar gyfer Cymro sydd yn cymryd arno golli ei iaith a'i hunaniaeth Gymraeg.

 

Cafwyd sawl cerdd arall am Ddic Sion Dafydd, yn enwedig yn y 19g, e.e. y faled boblogaidd gan Abel Jones (Y Bardd Crwst). Ym marddoniaeth yr 20g ceir epigram ar yr un testun gan Sarnicol:

 

Er gwadio'i dir, a gwadu ei iaith,

'Doedd o na Sais, na Chymro chwaith,

Ond bastard mul,—'roedd yn y dyn

Wendidau'r mul i gyd ond un;

Fe fedrodd Dic, ŵr ffiaidd ffôl,

Adael llond gwlad o'i had ar ôl.[1]

 

Cyfeiriadau

Sarnicol, Blodau Drain Duon (Gwasg Gomer, 1935)

 

 

 

Y Drych. 5 Ebrill 1900. Dic Shon Dafydd Gam.

www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion-prys_315_y-drych_05-04_1900_dic-shon-dafydd-gam_3599k.htm

 

 

O Bob Parth. Gan Parthsyllydd. Aberdare Leader. 22 Tachwedd 1919. Yn y rhifyn diweddaf o'r Welsh Outlook darfu i'r golygydd labyddio golygydd y Darian a meini - meini lled drymion a geirw hefyd. Trosedd gwr y DARIAN ydoedd melldithio Saeson trahaus, a Saisaddolwyr oeddynt, yn ei dyb ef, yn cael gormod o'u ffordd o dipyn yn "hen wlad fy nhadau."

www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion-prys_314_parthsyllydd_saisaddolwr_aberdare-leader-22-11-1919_3597k.htm

 

Prawf Dic Siôn Dafydd. Celt Llundain. 1902.

www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion-prys_316_prawf-dic-sion-dafydd_celt-llundain_1902_3600k.htm

 

 

 

(O'r wikipedia Gymraeg 12 Mawrth 2021)

 

John Jones (Jac Glan-y-gors)

 

Awdur pamffledau gwleidyddol a bardd dychanol oedd John Jones (Jac Glan-y-gors) (10 Tachwedd 1766 – 21 Mai 1821), a anwyd yng Ngherrigydrudion, 

 

Ei fywyd

Ganwyd a magwyd Jac Glan-y-gors yn ffermdy Glan-y-gors ym mhlwyf Cerrigydrudion, yn fab i Margaret a Laurence Jones. Treuliodd ei lencyndod yn gweithio ar y fferm deuluol, hyd yn 23 oed. Fe'i addysgwyd yn Ysgol Ramadeg Llanrwst (Ysgol Rad Llanrwst) am gyfnod.

 

Symudodd i Lundain yn 1789 i weithio mewn siop yn y dref honno. Yn ôl un ffynhonnell, ffodd yno oddi wrth gwŷr y gyfraith, wedi iddo wrthod ymuno â'r milisia lleol, un o ugeiniau a godwyd yng Nghymru yr adeg honno am fod yr awdurdodau'n ofni goresgyniad y Ffrancod, a bygwth torri tŷ'r person lleol, un o'r enw Rowlands, ar ei ben. Yn 1793 roedd yn rhedeg tafarn y Canterbury Arms, Southwark. Ar 23 Gorffennaf 1816 priododd â Jane Jones (née Mondel; merch o Whitehaven) yn eglwys y plwyf, Bermondsey.

 

Yn 1818 cymerodd denantiaeth y King's Head yn Stryd Ludgate yn 1818, a fu'n gyrchfan i Gymry Llundain a bu farw yno yn 1821.

 

Cymdeithasau llenyddol Llundain

Yn Llundain daeth yn aelod blaengar o Gymdeithas y Gwyneddigion yn 1790, yn yr un flwyddyn â Twm o'r Nant ac Edward Charles. Roedd yn un o sylfaenwyr Cymdeithas y Cymreigyddion er hyrwyddo'r Gymraeg. Ef hefyd oedd un o gychwynwyr Y Greal, ar ran y Gymdeithas honno.

 

Ei waith llenyddol

Yn ôl traddodiad lleol arferai Glan-y-gors eistedd ar garreg fawr ar lan ffrwd ger y fferm i brydyddu. Perthyn i draddodiad y bardd gwlad mae ei gerddi cyntaf, yn gerddi mawl neu ddiolch i ffrindiau a chymdogion; "cerddi achlysurol".

 

Cyflwynodd syniadau radicalaidd Thomas Paine i'r Cymry drwy'i ddau lyfryn enwog Seren Tan Gwmmwl (1795) a Toriad y Dydd (1797). Bu rhaid iddo ffoi o Lundain a llechu yng nghymdogaeth Cerrigydrudion am gyfnod mewn canlyniad; roedd yr awdurdodau'n llawdrwm ar unrhyw un a gefnogai syniadau'r Chwyldro Ffrengig.

 

Ysgrifennodd nifer helaeth o faledi hefyd, gan gynnwys Hanes offeiriad wedi meddwi (Person Sir Aberteifi), Yr hen amser gynt (addasiad o Auld Lang Syne) a Cherdd Dic Siôn Dafydd, sy'n dychanu Cymry Llundain am droi eu cefn ar yr iaith Gymraeg.

 

Llyfryddiaeth

Seren Tan Gwmmwl a Toriad y Dydd, (Lerpwl, 1923). Adargraffiad o'r testunau gwreiddiol gyda rhagymadrodd gan Hugh Evans.

Richard Griffith (gol.), Gwaith Glan y Gors (Llanuwchllyn, 1905). Detholiad o'i gerddi yng Nghyfres y Fil gyda rhagymadrodd gan Carneddog.

 

 

 

 https://translate.google.com/

(Cymraeg, català, English, euskara, Gàidhlig, Gaeilge, Frysk, Deutsch, Nederlands, français, galego, etc)

...
llythrennau duon = testun wedi ei gywiro

llythrennau gwyrddion = testun heb ei gywirov

 

 

 

Sumbolau:

a A / æ Æ / e E / ɛ Ɛ / i I / o O / u U / w W / y Y /
ā
Ā / ǣ Ǣ / ē Ē / ɛ̄ Ɛ̄ / ī Ī / ō Ō / ū Ū / w̄ W̄ / ȳ Ȳ /
ă Ă / ĕ Ĕ / ĭ Ĭ / ŏ Ŏ / ŭ Ŭ /
ˡ ɑ ɑˑ aˑ a: / æ æ: / e eˑe: / ɛ ɛ: / ɪ iˑ i: / ɔ oˑ o: / ʊ uˑ u: / ə / ʌ /
ẅ Ẅ / ẃ Ẃ / ẁ Ẁ / ŵ Ŵ /
ŷ Ŷ / ỳ Ỳ / ý Ý / ɥ
ˡ ð ɬ ŋ ʃ ʧ θ ʒ ʤ / aɪ ɔɪ əɪ uɪ ɪʊ aʊ ɛʊ əʊ /

ә ʌ ẃ ă ĕ ĭ ŏ ŭ ẅ ẁ Ẁ ŵ ŷ ỳ Ỳ
wikipedia, scriptsource. org

Y TUDALEN HWN /THIS PAGE / AQUESTA PÀGINA:
www.[] kimkat.org/amryw/1_dic-sion-dafydd/dic-sion-dafydd_mynegai_2093k.htm

Ffynhonnell / Font / Source: archive.org
Creuwyd / Creada / Created: 12-03-2021
Adolygiadau diweddaraf /
Darreres actualitzacions / Latest updates: 12-03-2021
Delweddau / Imatges / Images:



Freefind:

Archwiliwch y wefan hon
SEARCH THIS WEBSITE
...
Adeiladwaith y wefan
SITE STRUCTURE
...
Beth sydd yn newydd?
WHAT’S NEW?


Ble'r wyf i? Yr ych chi'n ymwéld ag un o dudalennau'r Wefan CYMRU-CATALONIA
On sóc?
Esteu visitant una pàgina de la Web CYMRU-CATALONIA (= Gal·les-Catalunya)
Where am I?
You are visiting a page from the CYMRU-CATALONIA (= Wales-Catalonia) Website
Weə-r äm ai? Yüu äa-r víziting ə peij fröm dhə CYMRU-CATALONIA (= Weilz-Katəlóuniə) Wébsait


Statistics for Welsh Texts Section / Ystadegau’r Adran Destunau Cymraeg
hit counter script
Edrychwch ar fy Ystadegau / Mireu les estadístiques / View My Stats


DIWEDD