kimkat3597k Prawf Dic Siôn Dafydd. Celt Llundain. 1902.Wel, yr oeddwn yn arfer byw mewn tyddyn bychan digon llwm. Ond wrth dreigliad amser, a chan mai gwael oedd ei furiau ar y cyntaf, dechreuodd ddadfeilio. Cyn i mi gael amser i'w adgyweirio, torodd storm o fellt a tharanau ar ei ben, a thynwyd ef i lawr gan y Llywodraeth am ei fod, meddent, yn beryglus.

15-03-2021

● kimkat0001 Yr Hafan
www.kimkat.org
● ● kimkat2001k Y Fynedfa Gymraeg www.kimkat.org/amryw/1_gwefan/gwefan_arweinlen_2001k.htm
● ● ● kimkat0960k Mynegai i’r testunau Cymraeg yn y wefan hon
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_mynegai_0960k.htm
● ● ● ● kimkat0960k Mynegai i’r adran “Dic Siôn Dafydd”
www.kimkat.org/amryw/1_dic-sion-dafydd/dic-sion-dafydd_mynegai_2093k.htm
● ● ● ● ● kimkat3597k Y tudalen hwn....

0003g_delw_baneri_cymru_catalonia_050111
 (delwedd 0003j)

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Gal
·les i Catalunya
The Wales-Catalonia Website

Prawf Dic Siôn Dafydd.
Celt Llundain. 1902.

Y Llyfr Ymwelwyr / El Llibre de Visitants / The Guestbook:
http://pub5.bravenet.com/guestbook/391211408/

a-7000_kimkat1356k
Beth sy’n newydd yn y wefan hon?

---

6665_map_cymru_catalonia_llanffynhonwen_chirbury_070404

(delwedd 6665)

.....

I’w wneud / To be addded: Cyfieithiad Saesneg isod / English translation below

I’w wneud / Per fer encara: Cyfieithiad Catalaneg isod / Traducció catalana avall

RHANNAU:

01 Tachwedd 1902 

08 Tachwedd 1902         

15 Tachwedd 1902

22 Tachwedd 1902

Heb eu gwneud (17-03-2021)

29 Tachwedd 1902

06 Rhagfyr 1902

13 Rhagfyr 1902

Text

Description automatically generated

(delwedd J4470) (Celt Llundain. 1 Tachwedd 1902.)

Celt Llundain. 1 Tachwedd 1902

PRAWF DIC SION DAFYDD.

ALLEGORI DDRAMAYDDOL GAN LLEWELYN WYN.

BARNWR. YR ANRHYDEDDUS SYR CARU CYFIAWNDER.

CLERC Y LLYS. Mr. Cryno.

COFRESTRYDD Y BARNWR. Mr. Digyffro.

GWAS Y BARNWR. Mr. Clir-ei-lais.

DADLEUWYR. DROS YR ERLYNIAD. Mr Cymraeg, yr erlynydd. Mr. Llên Cymru. Mrs. Crefydd Cymru (gwraig Mr. Llên). Miss Addysg Cymru, merch Mr. Llên. Mr. Gwareiddiad. Dr. Hanes. Heddgeidwad Gor-selog.

DROS Y GARCHAROR. Mr. Masnach. Mr. Codi-yn-y-byd, mab y carcharor. Miss Balchder, merch y carcharor. Mr. Rhith-Gwareiddiad. Dr. Rhagfarn.

CARCHAROR. DIC SHON DAFYDD.

RHEITHWYR. Mr. Cydwybod (blaenor), Mr. Union, Mr. Chwareu-Teg, Mr. Gwel'd-bob-ochr, Mr. Geirwir, Mr. Didderbyn-wyneb, Mr. Gonest, Mr. Diofn, Mr. Tawel, Mr. Synwyrol, Mr. Diwylliant, Mr. Deallgar. 

MR. CRYNO yn galw ar y Rheithwyr wrth eu henwau. Hwythau yn ateb, ac yn cymeryd eu lle yn sedd y Rheithwyr. 

Yna rhydd Mr. Cryno iddynt y siars canlynol, a hwythau yn sefyll ar eu traed: - 

“Boed i chwi farnu yn gywir ac yn gyfiawn rhwng cenedl y Cymry a'r carcharor wrth y Bar, fel yr ateboch i'ch cydwybod yn ol llaw."

Yna eistedda'r Rheithwyr i lawr; a Mr. Cryno, gan droi at y carcharor, a ddywed: - 

"Garcharor wrth y Bar, cyhuddir di o fod wedi ymosod mewn modd creulon ac ysgeler ar Mr. Cymraeg, a'i glwyfo yn fwriadol a chyllell lem, gyda'r amcan o'i lofruddio ar y bymthegfed o Fedi diweddaf, yn Heol Rhagfarn, gerllaw Palas Ymffrost. Beth yw dy atebiad, a wyt Euog ai Dieuog?"

Text

Description automatically generated
(delwedd J4471) (Celt Llundain. 1 Tachwedd 1902.)

DIC SION DAFYDD (yn sefyll yn y doc rhwng dau heddgeidwad) "Dieuog, fy Arglwydd."

MR. GWLADGARWR: Myfi sydd dros yr Erlyniad.

MR. UCHELGAIS: A minau dros y Carcharor.

MR. GWLADGARWR: Rhynged bodd eich Arglwyddiaeth, a Foneddigion y Rheithwyr, er fod genyf brofiad hir erbyn hyn, nid wyf yn cofio un adeg pan y teimlwn gymaint o gyfrifoldeb yn gorphwys arnaf ag y gwnaf heddyw. Saif y carcharor o'ch blaen am drosedd ffiaidd ac enbydus. Cyhuddir ef o glwyfo, gyda'r amcan o ladd, un o gymwynaswyr penaf ein cenedl ni, sef Mr. Cymraeg. Ond er gwyched cymeriad yr erlynydd, ni ddymunwn, ar un telerau, i chwi fod yn yn euog o'r anghyfiawnder lleiaf tuagat y carcharor, ac yr wyf yn rhwym o ofyn i chwi, os bydd ynoch yr amheuaeth lleiaf ynghylch ei gyfrifoldeb, i ddychwelyd dedfryd o Ddieuog." Credaf, serch hyny, fod genyf brofion diymwad o euogrwydd y carcharor, a'i fod, er ys blynyddau, wedi bod yn dyheu am, os nad yn cynllunio marwolaeth Mr. Cymraeg yn y modd mwyaf creulon a didrugaredd. Ymddangosa trosedd y carcharor yn waeth yng ngoleuni ei berthynas agos a Mr. Cymraeg. Pan oedd y carcharor yn faban, Mr. Cymraeg fu yn ei fwyda, yn siglo ei gryd, yn ei fagu a'i faethu, ac yn ei addysgu. Yn wir, nid gormod dyweyd mai Mr. Cymraeg oedd yr unig gyfaill a feddai y carcharor yn y byd pan oedd yn ieuanc. Pan ddaeth y carcharor i oedran gwr, penderfynodd fyned i fyw i Lundain, ac yn ystod ei arosiad yn y brif-ddinas priododd Miss Ymffrost, a bu iddynt ddau o blant, Mr. Codi-yn-y-byd, a Miss Balchder. Bu'r erlynydd yn ymweled a theulu'r carcharor amryw droion yn Llundain, ond er fod y carcharor ei hun am dymhor yn ymddangos yn falch ei weled, ym mhen amser oerodd ei gyfeillgarwch, ac ni fynai ei wraig a'i blant

Text

Description automatically generated
(delwedd J4472) (Celt Llundain. 1 Tachwedd 1902.)

siarad a'r hen gyfaill fu yn dynerach na mam ac yn well na thad i'r carcharor. Llwyddodd amgylchiadau'r carcharor yn ddirfawr, ac ym mhen tymhor prynodd ychydig ffermydd yn yn ei hen ardal, a chododd balas bychan yno o'r enw Palas Ymffrost, lle mae efe a'i deulu wedi bod yn byw hyd yn awr. Dygaf dystion o'ch blaen y rhai a glywsant y carcharor yn bygwth Mr. Cymraeg. Cewch glywed fel y tyngodd y lladdai ef y cyfleu cyntaf a gaffai, fel yr anogodd ei gymydogion i'w drin gyda dirmyg ac amharch, ac fel y gwnaeth ei oreu i wneyd bywyd ei hen noddwr yn faich ac yn ddolur iddo. Cewch glywed, hefyd, fel y bu raid i Mr. Gwareiddiad, boneddwr adnabyddus i chwi oll, ac un o ffryndiau anwylaf yr erlynydd, rybuddio'r carcharor un waith o'i berygl os gosodai law i gyffwrdd a Mr. Cymraeg. Fe edrydd Mrs. Crefydd wrthych fel y bu yn llygad-dyst o un ymosodiad creulon o eiddo'r carcharor ar Mr. Cymraeg, a chewch glywed gan Mr. Llen, Miss Addysg, a Dr. Hanes am falais a chenfigen y carcharor yn erbyn yr erlynydd. Fel yr oedd y blynyddau yn pasio, cynyddai adgasrwydd a digofaint y carcharor. O'r diwedd yr oedd ei natur ddrwg yn ymylu ar wallgofrwydd, ac ond iddo wel'd gwyneb hynaws a golwg wladaidd a siriol Mr. Cymraeg, elai ei nwydau gwyllt yn drech nag ef, a, thorai allan i felldithio ac i fygwth y diniwed. Ar y bymthegfed o fis Medi diweddaf, digwyddodd Mr. Cymraeg ei gyfarfod mewn heol gul sydd yn arwain i Balas Ymffrost. Gelwir yr heol ar ol enw un o gyfeillion y carcharor, yn Heol Rhagfarn. Ar ol ychydig ymddiddan, syrthiodd y carcharor ar Mr. Cymraeg, a chlwyfodd ef yn ei ben a chyllell. Cariwyd Mr. Cymraeg i dy gerllaw, a elwir Calon-Cenedl, ac yno bu Dr. Hanes yn gweini arno hyd oni adferwyd ef i'w iechyd. Fe ddywed Dr. Hanes wrthych natur yr archoll oddiwrth ba un yr oedd Mr. Cymraeg yn dioddef. Dyna'n fyr hanes yr helynt i chwi. Chwi, foneddigion, sydd i benderfynu p'un a wnaf brofi y cyhuddiad neu beidio. Galwaf y tyst cyntaf, - Mr. Cymraeg!

MR. CYMRAEG.

MR. CLIR-EI-LAIS: Mr. Cymraeg! Mr. Cymraeg!

Text

Description automatically generated
(delwedd J4473) (Celt Llundain. 1 Tachwedd 1902.)

MR. GWLADGARWR: Mr. Cymraeg, chwi yw'r erlynydd yn yr achos hwn?

Mr. CYMRAEG: Ie, syr.

Mr. G.: Ac yr ydych yn byw ar eich stad eich hun mewn palas bychan o'r enw Cymru?

Mr. C.: Ydwyf, syr. Yno yn unig yr wyf wedi bod yn byw er's amser bellach.

Mr. G.: 'Rwy'n meddwl eich bod unwaith yn berchen ar lawer ystad arall, megis Cernyw, Ystrad Clwyd, Lloegr, ac ereill.

Mr. C.: Do syr; ond collais hwynt drwy drais a brad, a thrwy fy nifaterwch fy hunan. Ac, yn wir, mae yn ddrwg genyf ddyweyd fod y carcharor a'i gyfaill Mr. Rhith-Gwareiddiad wedi llwyddo i ddwyn oddiarnaf ran o'm hystad olaf.

Mr. G.: Yr ych chwi a'r carcharor yn hen gydnabod?

Mr. C.: Ydym; y fi magodd e', ac a'i dododd ar y ffordd i enill ei fywioliaeth.

Mr. G.: A ydych wedi parhau yn gyfeillion?

Mr. C. Na, syr, ar ol i'r carcharor symud i Lundain i fyw, oerodd ein cyfeillgarwch, a chefais y fath dderbyniad diflas yn ei dy un tro fel y cedwais oddiwrtho hyd nes y dychwelodd o Lundain i'w hen ardal.

Mr. G.: Dywedwch wrth y llys, Mr. Cymraeg, mor fyr ag y medroch, hanes ymddygiad y carcharor tuag atoch ar ol iddo ddychwelyd o Lundain.

Mr. C.: Ni fu wythnos yn yr ardal heb ddangos ei adgasrwydd o honof. Nid oedd dim yn rhy ddrwg ganddo i ddyweyd am danaf; gwnaeth ei oreu i ladd pob cyfeillgarwch a ffynai rhyngof a Miss Addysg, Mrs. I Crefydd, Mr. Masnach, Mr. Cyfraith, ac ereill o'm hen gyfeillion a chan ei fod wedi byw yn Llundain yr oedd ganddo gryn ddylanwad ar y gwanaf a'r anwybodusaf o'm cymydogion, a chollais lawer ffrynd drwy ei enllib.

Text, letter

Description automatically generated
(delwedd J4474) (Celt Llundain. 1 Tachwedd 1902.)

Mr. G.: A wnaeth ef eich bygwth o gwbl?

Mr. C.: Do llawer gwaith y bygythiodd fy Iladd, gan ddyweyd na wawriai Ilwyddiant ar yr ardal hyd nes i mi gael fy symud i ffwrdd, ac fy mod yn cadw fy neiladon neu'm tenantiaid mewn gwaeth cyflwr na chaethweision.

Mr. G.: A glywodd neb ef yn eich bygwth?"

Mr. C.: Nis gallasai pobl beidio ei glywed! Nid oedd byth yn anelu cuddio ei farn, ac yr oedd yn ymhyfrydu, gallwn dybied, yn ei fygythion i'm herbyn.

Mr. G.: Yr ydych yn cofio y bymthegfed o fis Medi diweddaf?

Mr. C.: Ydwyf, yn dda.

Mr. G.: A welsoch chwi'r carcharor y dydd hwnw?

Mr. C.: Do; cyferfum ag ef mewn heol fechan, gul, a brwnt sydd yn arwain i'w dy.

Mr. G.: Beth yw ei henw?

Mr. C. Gelwir hi yn Heol Rhagfarn, ar ol Dr. Rhagfarn, un o ffryndiau goreu'r carcharor.

Mr. G.: A beth ddigwyddodd pan gyfarfuoch eich dau?

Mr. C.: Gofynodd y carcharor i mi os oedd y son yn wir fy mod yn myn'd i Eisteddfod Bangor boreu dranoeth?

Mr. G.: Aroswch fynud, Mr. Cymraeg. 'Rwy'n credu nag oeddech chwi wedi eich gwahodd i'r Eisteddfod?

Mr. C. Nac oeddwn; 'doeddwn i a threfnwyr yr Eisteddfod ddim ond "ffryns gwr b'n'ddigion” (chwerthin). Y carcharor oedd eu heilun ac iddo ef a'i deulu, Mr. Codi-yn-ybyd a Miss Balchder, y rhoddent y lle amlycaf yn yr wyl.

Mr. UCHELGAIS [yn codi]: Mae hyn, fy arglwydd, yn dra dyddorol, ond nis gallaf wel'd beth sydd a fyno a'r achos hwn.

Y BARNWR: Nis ymddengys fod y cysylltiad yn eglur iawn, mae'n rhaid i mi ddyweyd.

Mr. GWLAD.: Daw y rheswm yn eglur i'ch arglwyddiaeth yn y man. Pa fodd y daethoch i feddwl myn'd i'r Eisteddfod heb eich gwahodd?

Text, letter

Description automatically generated
(delwedd J4475) (Celt Llundain. 1 Tachwedd 1902.)

Mr. C.: Gan mai fi yw perchen yr Eisteddfod, a chan i mi ei nhoddi pan oedd y carcharor a'i deulu yn ei dirmygu, meddyliais ei fod yn ddyledswydd arnaf ymweled a hi bob amser hyd yn oed heb wahoddiad. Gwesgid arnaf i wneyd hyn hefyd, gan fy nghyfeillion, Mr. Gwareiddiad a Mr. Llen Cymru.

Mr. G.: Ac at hyn y cyfeiriai'r carcharor ar y bymthegfed o fis Medi, aie?

Mr. C.: Ie; ac atebais inau fod y son yn eithaf gwir.

Mr. G.: A beth ddigwyddodd wedyn?

Mr. C. Collodd y carcharor bob hunanfeddiant, gwaeddodd allan nad oedd modd i'm cadw yn dawel heb fy Iladd, neidiodd arnaf, a chyn i mi wybod rhagor, gwanodd fi a chyllell lem.

Mr. G. [wrth y cwnstabl], Dangoswch y gyllell. [P.C. Gor-selog yn rhoddi cyllell yn llaw Mr. Cymraeg.] Ai dyna'r gyllell?

Mr. C. Ie; 'rwy'n ei hadnabod yn dda. Mae wedi bod yn eiddo i'r carcharor er ys blynyddau, a chafodd hi yn siop Mr. Aniolchgarwch.

Mr. G. Wel, beth ddigwyddodd wedi i chwi gael eich gwanu?

Mr. C.: Rhaid fy mod wedi syrthio i lewyg, oblegid nid wyf yn cofio dim mwy hyd nes y dyhunais mewn ty gerllaw, o'r enw Calon Cenedl. Y canlyniad fu i mi fethu bod yn bresenol yn yr Eisteddfod ym Mangor.

[Mr. Gwladgarwr yn eistedd.]

Mr. UCHELGAIS: 'Dych chwi, Mr. Cymraeg, a'r carcharor ddim yn ffryndiau er's llawer dydd?

Mr. C. Nac ydym; byth oddiar pan ddechreuodd ef ddyfod ymlaen yn y byd.

Mr. U.: Ie, Mr. Cymraeg, mae Ilawer heblaw chwi yn cenfigenu wrth weled ereill yn llwyddo [chwerthin]. Yr ydych wedi adrodd wrthym pa fodd y digwyddodd yr helynt ar y

Text, letter

Description automatically generated
(delwedd J4476) (Celt Llundain. 1 Tachwedd 1902.)

bymthegfed o fis Medi, a'r modd y bu'r carcharor yn eich bygwth. Gadewch wel'd, ydych chwi ddim wedi bod yn bygwth y carcharor?

Mr. C.: Dim erioed, syr. Buaswn yn siglo llaw ag ef un amser.

Mr. U.: 'Nawr, 'nawr, Mr. Cymraeg. Ai ni ddywed'soch wrthym fod y carcharor wedi dwyn rhan o'ch ystad Gymreig oddiarnoch?

Mr. C.: Do: mae hyny yn eithaf gwir.

Mr. U.: 'Dydych chwi ddim yn foddlon iawn i hyny, Mr. Cymraeg, mae'n hawdd deall?

Mr. C.: Nac ydwyf, bid siwr.

Mr. U.: Ac nid oes genych feddwl uchel iawn o'r carcharor am ei ran o'r gwaith?

Mr. C.: Eithaf gwir.

Mr. U.: Ac yr ych wedi bod yn ei wawdio ar brydiau, a'i alw yn benfeddal, ac yn y blaen?

Mr. C.: Feallai i mi wneyd.

Mr. U. (yn sarug): Nid “feallai” wyf yn ’mofyn, syr. Do neu naddo?

Mr. C.: Do.

Mr. U.: 'Nawr, syr, cofiwch eich bod ar eich llw. A ydych chwi'n cofio Brad y Llyfrau Gleision?

Mr. C.: Ydwyf.

Mr. U.: Ai ni fygythiasoch y pryd hyny yru'r carcharor yn alltud o'r wlad?

Mr. C.: Defnyddiais rhyw eiriau o'r fath.

Mr. U.: A ydych chwi'n cofio i chwi ffraeo a'r Barnwr Homersham Cox?

Mr. C.: 'Rwy'n ei gofio ef yn ffraeo a fi (chwerthin).

Mr. U.: Ac yr ydych yn cofio, mi wn, i chwi gyhuddo'r carcharor y pryd hyny o ddwyn cam dystiolaeth yn eich erbyn?

Mr. C.: Ydwyf: a dywedaf yr un peth eto.

Mr. U.: Ac eto, syr, ydych yn foddlon siglo llaw ag ef?

Mr. C.: Ydwyf, os gwna dynu ei eiriau yn ôl.

A picture containing text, newspaper, receipt

Description automatically generated
(delwedd J4477) (Celt Llundain. 1 Tachwedd 1902.)

Mr. U. - Ie, 'rown i'n meddwl fod “os” yna yn rhywle (chwerthinj). Mae'r carcharor wedi eich cyhuddo o fod yn galed wrth eich  deiliaid?

Mr. C.: Ydyw, syr; cyhuddodd fi lawer gwaith o'u trin yn waeth na chaethweision.

Mr. U.: Ac y mae rhai o'ch deiliaid wedi eich cyhuddo o'r un peth?

Mr. C.: Oes: rhai o honynt sydd wedi dod dan ddylanwad y carcharor.

Mr. U.: Ie, dyna ddywedwch chwi! Ai nid am eich ymddygiad tuagat eich deiladon y mae'r carcharor wedi bod yn eich bygwth?

Mr. C.: Dyna fu ei esgus.

Mr. U.: Ei “esgus” meddech chwi, syr; ei reswm meddaf finau. 'Nawr, gadewch i ni ddod at y bymthegfed o Fedi. 'Roedd hi'n boeth iawn y diwrnod hwnw?

Mr. C.: Oeddi tes bach Gwyl Fihangel.

Mr. U.: Yr oeddech ar y ffordd i Eisteddfod Bangor?

Mr. C.: Oeddwn.

Mr. U. Ac yr oeddech, bid siwr, yn ddig iawn am na dderbyniasoch wahoddiad i fod yno?

Mr. C. Wel, oeddwn.

Mr. U.: Ac, mi gredaf, eich bod wedi cyfarfod a rhai ffryndiau?

Mr. C.: Oeddwn.

Mr. U.: Ac yr oeddynt wedi bod yn cydymdeimlo a chwi?

Mr. C.: Oeddynt.

Mr. U.: Pan gyfarfuoch a'r carcharor, a ddywed'soch wrtho y gwnaech ei drechu cyn y diwedd?

Mr. C.: Do; dywedais rywbeth i'r perwyl yna.

Mr. U.: Ac yr oeddech, mewn gair, yn penderfynu cael y goreu arno?

Mr. C.: Yr oeddwn yn sicr y gwnawn ei faeddu ryw ddydd neu gilydd.

Mr. U.: Ei faeddu, aie? Yr ydych wedi bygwth y carcharor droion?

Mr. C.: Dim erioed.

Mr. U.: Ai ni ddywed'soch wrth ei fab,

Text, letter

Description automatically generated
(delwedd J4478) (Celt Llundain. 1 Tachwedd 1902.)

Mr. Codi-yn-y-byd, y gwnaech ei ysgubo ef a'i deulu o'r wlad ryw bryd?

Mr. C.: Do; fe ddywedais hyny, a dywedaf hyny'n awr. Hwy yw perygl mwyaf Cymru ar hyn o bryd

Mr. U. (dan wenu): Ie, ie, yr ym yn gwel'd eich meddwl 'nawr. Y carcharor oedd prif gynghorwr Pwyllgor Eisteddfod Bangor?

Mr. C.: Ie, felly clywais.

Mr. U.: Ac yr ydych yn credu mai ar ei gyngor ef y gomeddodd y pwyllgor eich gwabodd i'r wyl?

Mr. C.: 'Rwyf yn sicr o hyny.

Mr. U.: Ac yr oeddech yn ddig wrtho?

Mr. C.: O, 'doeddwn i ddim wedi disgwyl gem o enau llyffant

Mr. U.: Llyfant? Ai dyna y gelwch y carcharor?

Mr. C. (dan chwerthin yn wawdlyd): 'Rwy'n tynu fy ngeiriau yn ol. 'Dydynt ddim yn gwneyd chwareu teg a'r llyffant

Mr. U.: Nid ydych, Mr. Cymraeg, mor ieuanc ag y buoch?

Mr. C.: 'Rwy'n meddwl, syr, fy mod yn ieuengach na chwi (chwerthin).

Mr. U.: Feallai hyny, syr, ond gadewch i mi ddyweyd fy mod mewn gwell cas cadw na chwi (chwerthin). A wyf yn iawn wrth ddyweyd eich bod yn teimlo oddiwrth bwysau henaint?

Mr. C.: Na; nis gallaf ddyweyd hyny, er nad ydwyf mor ysgafndroed ag y bu'm unwaith.

Mr. U.: Onid yw'r darfodedigaeth yn gryf yn eich teutu? Ai ni fu eich chwaer, Miss Cernywaeg, farw o'r clefyd?

Mr. C.: Do.

Mr. U.: Ac onid yw eich brawd, Mr. Llydawaeg, yn dioddef oddiwrth yr un afiechyd?

Mr. C.: Na; tybiai'r meddygon unwaith ei fod, ond camsymed oedd hyn, a'r hanes diweddaf a glywais oedd ei fod yn gwella'n gyflym.

Text, letter

Description automatically generated
(delwedd J4479) (Celt Llundain. 1 Tachwedd 1902.)

Mr. U.: Ac onid yw eich cefnderwydd, Mr Gwyddelaeg a Mr. Albaenaeg, yn dyhoeni dan yr un clefyd?

Mr. C.: Nid yw y meddygon yn unfryd ynghylch y mater, ond y maent yn unfarn erbyn hyn mai nid clefyd cyfansoddiadol ydyw, ond clefyd yn deilliaw oddiwrth ddifaterwch ynghylch jeu hiechyd.

Mr. U.: Ai nid yw yn wir eich bod chwithau unwaith neu ddwy wedi llewygu gan wendid?

Mr. C.: Do; flynyddau yn ol, ar ol ysbaid hir heb faeth, llewygais, ond yr wyf wedi llwyr wella erbyn hyn.

Mr. U.: Peth twyllodrus iawn yw iechyd,

Mr. Cymraeg 'Nawr, fe ddywed'soch wrthym i'r carcharor eich gwanu a chyllell. A wel'soch chwi'r gyllell yn ei law?

Mr. C.: Gwelais rywbeth fel cyllell yn ei law.

Mr. U.: Ble tarawyd chwi?

Mr. C.: Ar ochr fy nghern [gan ddangos y graith.]

Mr. U.: Ac ar ol derbyn yr ergyd, collasoch bob ymwybodaeth?

Mr. C.: Do.

Mr. U.: 'Nawr, Mr. Cymraeg, ai nid cael eich gorchfygu gan eich teimladau a'r gwres a wnaethoch, a bwrw eich pen, wrth syrthio, yn erbyn careg?

Mr. C.: Nage 'rwy'n siwr. Gwelais a theimlais y gyllell oedd yn llaw'r carcharor.

[Mr. Ucheigais yn eistedd.]

Mr. GWLADGARWR: Mae blynyddau mawr oddiar pan lewygoch o'r blaen?

Mr. C.; Oes, syr. Yr own yn sal iawn yr adeg hyny, a bu Mrs. Crefydd yn fy nyrsio.

Mr. G.: Feallai y cawn ragor o'r hanes ganddi hi. 'Does dim sail dros ddyweyd i chwi lewygu ar y bymthegfed o Fedi cyn cael eich clwyfo?

Mr. C.: Nac oes.

Mr. G.: 'Nawr, Mr. Cymraeg, p'un ai chwi neu'r carcharor siaradodd gyntaf ar y dydd hwn?

Mr. C.: Y carcharor, syr. Nid oeddwn byth yn dyweyd gair wrtho os na gyfarchai ef fi'n gyntaf.

Text, letter

Description automatically generated
(delwedd J4480) (Celt Llundain. 1 Tachwedd 1902.)

Mr. G.: Mae'r carcharor wedi bod yn ymyryd llawer rhyngoch chwi a'ch deiladon?

Mr. C.: Ydyw, lawer iawn yn gwneyd ei oreu i'w troi yn anfoddog, ac yn cynyg pob math o lwyddiant iddynt os ymadawent oddiwrthyf.

Mr. G.: Ac y mae wedi llwyddo gyda rhai?

Mr. C.: Ydyw, gyda Mr. Maesyfed, fel engraifft.

Mr. G.: A beth am y lleill?

Mr. C.: Y mae tri neu bedwar o'r rhai ereill wedi haner fy ngadael hefyd. Ond maent yn dechreu canfod eu camsynied, wrth wel'd fod Mr. Maesyfed ymhell ar ol mewn addysg, mewn diwylliant, ac mewn gwir fwyniant wedi fy ngadael.

Mr. G. Un gair am Frad y Llyfrau Gleision a'r Barnwr Cox. Cyhuddwyd chwi ganddynt o fod yn aniweir, yn anwybodus, ac yn gelwyddog?

Mr. C.: Do.

Mr. G.: A oedd sail dros y cyhuddiadau hyn?

Mr. C.: Dim gwell sail na geiriau enllibus y carcharor a'i ddau gyfaill, Dr. Rhagfarn a Mr. Rhith-Gwareiddiad.

[Mr. Gwladgarwr yn eistedd i lawr.]

Y BARNWR: Dywedasoch i'r carcharor golli pob hunan-feddiant cyn eich taro. Beth oeddech yn feddwl wrth hyn?

Mr. C.: Ei fod, fy arglwydd, mewn nwydau cynddeiriog.

Y BARNWR: A welsoch chwi ef erioed o'r blaen yn yr un nwydau?

Mr. C.: Do, lawer gwaith. Yr oedd yn fynych fel creadur gorffwyllog pan yn ei dymherau drwg. Y

 BARNWR: A ydych yn meddwl, wrth ddyweyd hynyna, nad oedd bob amser yn gyfrifol am ei weithredoedd?

Mr. C.: Nid oedd yn fwy cyfrifol nac ereill wedi colli eu hunan-feddiant “Llid-gwallgofrwydd byr” medd yr hen ddiareb.

[Mr. Cymraeg yn gadael sedd y tystion.] (I'w barhau.)      

A picture containing text, newspaper, receipt

Description automatically generated

(delwedd J4481) (Celt Llundain. 8 Tachwedd 1902.)

Celt Llundain. 1 Tachwedd 1902

PRAWF DIC SION DAFYDD.

ALLEGORI DDRAMAYDDOL GAN LLEWELYN WYN.

BARNWR. YR ANRHYDEDDUS SYR CARU CYFIAWNDER.

CLERC Y LLYS. Mr. Cryno.

COFRESTRYDD Y BARNWR. Mr. Digyffro.

GWAS Y BARNWR. Mr. Clir-ei-lais.

DADLEUWYR. DROS YR ERLYNIAD. Mr Cymraeg, yr erlynydd. Mr. Llên Cymru. Mrs. Crefydd Cymru (gwraig Mr. Llên). Miss Addysg Cymru, merch Mr. Llên. Mr. Gwareiddiad. Dr. Hanes. Heddgeidwad Gor-selog.

DROS Y GARCHAROR. Mr. Masnach. Mr. Codi-yn-y-byd, mab y carcharor. Miss Balchder, merch y carcharor. Mr. Rhith-Gwareiddiad. Dr. Rhagfarn.

CARCHAROR. DIC SHON DAFYDD.

RHEITHWYR. Mr. Cydwybod (blaenor), Mr. Union, Mr. Chwareu-Teg, Mr. Gwel'd-bob-ochr, Mr. Geirwir, Mr. Didderbyn-wyneb, Mr. Gonest, Mr. Diofn, Mr. Tawel, Mr. Synwyrol, Mr. Diwylliant, Mr. Deallgar. 

(Parhad). TYST 2. MR. LLÊN CYMRU.

Mr. GWLADGARWR. Mr. Llên Cymru!

Mr. CLIR-EI-LAIS. Mr. Llen Cymru! Mr. Llen Cymru!

[Mr. Llen yn dyfod ymlaen i sedd y tystion.]

Mr. G. Mr. Llên Cymru yw eich enw yn Ilawn, 'rwy'n meddwl?

Mr. Llên. Ie: gelwir fi felly i'm gwahaniaethu oddiwrth fy mrodyr ieuengach, Mr. Llên Ffrainc, Mr. Llên Lloegr, a'r lleill.

Mr. G. Chwi, mi gredaf, yw'r henaf o'ch teulu?

Text

Description automatically generated

(delwedd J4482) (Celt Llundain. 8 Tachwedd 1902.)

Mr. Llên. Fi yw'r henaf sydd yn fyw. ’Rwyf yn ieuengach na Mr. Llen Canaan, Mr. Llen Groeg, a Mr. Llen Rhufain, ond y maent hwy wedi myn'd er's llawer dydd.

Mr. G. Yr ydych yn adnabod yr erlynydd?

Mr. Llên. Ydwyf; hen gyfaill anwyl i mi ydyw. Cawsom ein cyd-fagu, ac yr ym wedi bod yn ffryndiau mawr drwy gydol ein hoes.

Mr. G. Ac yr ydych yn gwel'd eich gilydd yn fynych?

Mr. Llên. Nid oedd braidd ddiwrnod yn pasio heb i ni weled ein gilydd, ac wedi i mi briodi, gyda ni y mae wedi gwario pob dydd Sul.

Mr. G. Mae'r erlynydd a'ch gwraig yn hen ffryndiau, 'rwy'n meddwl.

Mr. Llên. Ydynt, er iddynt fod am flynyddau bron yn ddieithriaid i'w gilydd. Bu'r erlynydd a finau yn afiach am amser flynyddau yn ol, a rhoddodd y meddygon ni i fyny sawl gwaith. Dywed Dr. Hanes y buasem ein dau wedi darfod am danom oni bai am ymroddiad a thynerwch Mrs. Crefydd.

Mr. G. 'Doech chwi a Mrs. Crefydd ddim yn briod yr adeg hono?

Mr. Llên. Nac oeddem. Nis gwyddwn fawr yn ei chylch cyn fy afiechyd, a theimlwn beth rhagfarn yn ei herbyn. Ond pan oeddwn ar fin darfod am danaf daeth dau wr i ymweled a mi. Enw y naill oedd Morgan Llwyd, ac enw y llall oedd Stephen Hughes. Pan welsant fy nghyflwr i a Mr. Cymraeg, dywedasant fod yn rhaid i ni gael nurse dda. Daethant a Mrs. Crefydd i'r ty, a gweinyddodd hi arnom gyda'r fath ofal fel y gwellasom yn fuan. Ac wedi fy llwyr adfer, gofynais iddi os gwnelai fy nghymeryd er gwell neu er gwaeth, ac unwyd ni mewn glan briodas gan Williams, Pantycelyn.

Mr. G. Ai pan yn yr afiechyd hwn y llewygodd Mr. Cymraeg?

Mr. Llên. Ie: yr oedd yn dihoeni am dymhor

Text

Description automatically generated

(delwedd J4483) (Celt Llundain. 8 Tachwedd 1902.)

hir, ac nid oedd neb yn gofalu am dano. A phan ddaeth Mrs. Crefydd i'w weled yr oedd mewn rhyw fath o lewyg marwol.

Mr. G. A ydych yn adnabod y carcharor?

Mr. Llên. Ydwyf, o ran ei weled, ond nid wyf yn cofio i mi siarad ag ef oddiar pan oedd yn blentyn.

Mr. G. 'Rwy'n meddwl ei fod yn fwy cyfeillgar a'ch brawd ieuanc, Mr. Llên Lloegr, nag yw a chwi?

Mr. Llên. Clywais ddyweyd ei fod yn ymffrostio ei fod yn gyfarwydd iawn a'm brawd, ond gwada fy mrawd ei fod wedi cael adnabyddiaeth o hono erioed.

Mr. G. A welsoch chwi'r carcharor erioed yng nghwmni Mr. Cymraeg?

Mr. Llên. Do: gwelais hwy yn cyfarfod weithiau, ond ni fyddent ond ambell waith yn siarad a'u gilydd. Yn wir, y mynud y gwelai Dic Sion Dafydd yr erlynydd, un ai croesai i'r ochr arall i'w osgoi, neu pasiai ef gan edrych yn wgus a digllawn arno, neu canlynai ef a bygythion a chelanedd.

Mr. G. Beth oedd y bygythion, Mr. Llên?

Mr. Llên. Clywais ef unwaith yn bygwth Mr. Cymraeg os elai yn agos i dy fy merch, Miss Addysg dro arall tyngodd na chelai Mr. Cymraeg byth ond hyny groesi trothwy Mr. Cyfraith.

Y Barnwr. Pa hawl, tybed, oedd ganddo ef i wahardd tai pobl ereill i'r erlynydd?

Mr. Llên. Arferai ddyweyd fod hen gyfraith eto mewn grym yn atal Mr. Cymraeg.

Mr. Uchelgais. Pasiwyd y fath gyfraith, fy arglwydd, yn y flwyddyn 1536 yn nheyrnasiad Harri'r Wythfed, ac erys hyd y dydd heddyw ar ddeddf-lyfrau'r wlad.

Mr. Gwladgarwr. Eto, fy arglwydd, ystyrir y gyfraith yn llythyren farw erbyn hyn. Y Barnwr. 'Rwy'n synu nad yw'r gyfraith farbaraidd ffol ac anheg wedi cael ei llwyr ddiddymu yn yr oes oleu hon gan Senedd ein gwlad.

[Cymeradwyaeth yn y llys.]

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd J4484) (Celt Llundain. 8 Tachwedd 1902.)

Mr. Clir-ei-lais. Gosteg gosteg! Y Barnwr. Nis gallaf oddef arddangosiad o deimlad fel hyn yn y llys! Nid ty chwareu, ond llys cyfraith, ydyw hwn! Os digwydd y fath beth eto, gorch'mynaf i'r llys gael ei glirio.

Mr. G. A wyddoch chwi beth oedd teimlad Mr. Cymraeg tuagat y carcharor?

Mr. Llên. Clywais ef yn dyweyd lawer gwaith y dylid ymddwyn yn dyner tuagato, fod mwy o fai ar ei ben nag ar ei galon, ac fod ereill wedi ei arwain ar gyfeiliorn, megis Mr. Rhith-Gwareiddiad.

Mr. G. Un gofyniad arall, Mr. Llên. Pa bryd clywsoch chwi'r carcharor yn bygwth Mr. Cymraeg y tro diweddaf?

Mr. Llên. Yr wythnos olaf yn mis Awst diweddaf clywais ef yn bygwth llindagu Mr. Cymraeg os meiddiai ddangos ei big yn Eisteddfod Bangor.

[Mr. Gwladgarwr yn eistedd.]

[Mr. Llên yn haner troi ymaith.]

Mr. Uchelgais. Aroswch fynud, Mr. Llên, peidiwch bod mor frysiog. Mi hoffwn inau gael gair neu ddau gyda chwi. Yr ydych chwi a Mr. Cymraeg yn gyfeillion mawr?

Mr. Llên. Ydym.

Mr. U. Ac yr ych yn elyn i'r carcharor?

Mr. Llên. Nac ydwyf; nid ydwyf yn elyn i neb.

Mr. U. Ddim yn elyn i neb, syr! Atebwch fy nghwestiwn. A ych chi ddim yn elyn i'r carcharor?

Mr. Llên. Nac ydwyf.

Mr. U. Ai nid ydych wedi ei wawdio droion ar goedd gwlad mewn gwatwargerdd a thuchangerdd?

Mr. Llên. Wel, do, mi wnes hyny.

Mr. U. Ai ni fuoch yn ei wawdio mewn 'Steddfod Genedlaethol?

Mr. Llên. Gaton pawb, feiddiwn i ddim! Fe sydd yn y gadair yno bob amser (chwerthin).

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd J4485) (Celt Llundain. 8 Tachwedd 1902.)

Mr. Clir-ei-lais. Gosteg I gosteg!

Mr. U. Dewch, dewch, Mr. Llen, peidiwch a chwareu a'r cwestiynau fel yna. Cofiwch,, syr, os gallwch, fod rhyddid a chymeriad dyn yn crogi ar bob gair! 'Rwy'n hyderu y gwnewch chwi bwyso o hyn allan eich geiriau, yn fwy manwl. A fuoch chwi yn adrodd gwatwargerdd ar y carcharor yng Ngorsedd y Beirdd?

Mr. Llên. Do, syr, cyn iddo roddi oriawr newydd i'r Archdderwydd.

Mr. U. 'Rown i'n meddwl y daethem ni o hyd i'r gwir cyn y diwedd! A ydyw Mr. Cymraeg o dymher wyllt?

Mr. Llên. Mae mor addfwyn a'r oen, syr.

Mr. U. Pwy sy'n siarad am wyn, syr? Gofyn wnes i os yw
Mr. Cymraeg o dymher wyllt?

Mr. Llên. Nac ydyw, syr.

Mr. U. Ydych chwi'ch cofio Brad y Llyfrau Gleision?

Mr Llen. Ydwyf, a llawer heblaw fi.

Mr. U. Peidiwch hidio am y lleill, syr. Ai ni fu yr erlynydd mewn tymher gynddeiriog yr amser hyny?

Mr. Llên. Do, fe fu yn sefyll i fyny dros ei hawliau.

Mr. U. O'r goreu; ac wrth sefyll i fyny dros ei hawliau, bu'n dyweyd pethau caled am y carcharor?

Mr. Llên. Do.

Mr. U. Ac fe ddywedodd na chelai Cymru lonydd cyn cael gwared ar dylwyth Die Sion. Dafydd?

Mr. Llên. Do: fe ddywedodd rhyw eiriau tebyg.

Mr. U. Ac fe ddywed'soch chwithau rywbeth cyffelyb?

Mr. Llên. 'Rwy'n meddwl i fi wneyd.

Mr. U. 'Rych yn meddwl, syr! A ddywed'soch chwi, neu naddo?

Mr. Llen, Do, syr.

Mr. U. Atebwch yn onest, ynte, a pheidiwch ceisio cam-arwain y llys! Rych yn cofio helynt y Barnwr Cox?

Mr. Llên. Ydwyf.

Text, letter

Description automatically generated
(delwedd J4486) (Celt Llundain. 8 Tachwedd 1902.)

Mr. U. Ai ni ymosododd Mr. Cymraeg ar y Barnwr nes ei yru ar ffo?

Mr. Llên. Do.

Mr. U. Ydych chwi'n cofio i'r Barnwr Ridley nacau gadaw i Mr. Cymraeg agor ei ben yn y llys?

Mr. Llên. Ydwyf, yn dda.

Mr. U. Ai ni ddwrdiodd Mr. Cymraeg ef gyda'r fath hyawdledd o Gaergybi i Gaerdydd fel y darfu i'r Barnwr dynu ei eiriau yn ol?

Mr. Llên. Clywais felly.

Mr. U. "Clywais” eto! Pam nas atebwch ofyniad eglur mewn modd diamwys? Do neu naddo?

Mr. Llên. Do.

Mr. U. A glywsoch chwi'r carcharor yn galw'r erlynydd yn falldod gwlad, ac yn rwystr ar ffordd llwyddiant ei gyfeillion a’I ddeiladon?

Mr. Llen. Do, lawer gwaith.

[Mr. Uchelgais yn eistedd.J

Mr. Gwladgarwr. Gyda golwg ar helynt y Barnwr Ridley, a oedd gan Mr. Cymraeg hawl gyfreithlon i siarad yn y llys?

Mr. Llên. Oedd.

Mr. G. Ac y mae'r Barnwr dysgedig yn cyfaddef erbyn hyn iddo ymddwyn yn fyrbwyll?

Mr. Llên. Ydyw.

[Mr. Gwladgarwr yn eistedd.]

Y Barnwr. Dywed'soch ychydig yn ol fod Mr. Cymraeg o'r farn fod mwy o fai ar ben nac ar galon y carcharor?

Mr. Llên. Dyna oedd ei farn, fy arglwydd.

Y Barnwr. Beth yw eich barn chwi eich hun?

Mr. Llên. Mai eiddilyn ydyw o ran corff a. meddwl.

Y Barnwr. Dyna i gyd, Mr. Llên.

[Mr. Llen yn eistedd i fawr.} (I'w barhau.)

A picture containing text, newspaper, receipt

Description automatically generated
(delwedd J4465) (Celt Llundain. 15 Tachwedd 1902.)
(Celt Llundain. 15 Tachwedd 1902.) (Celt Llundain. 15 Tachwedd 1902.)

Celt Llundain. 15 Tachwedd 1902

PRAWF DIC SION DAFYDD.

ALLEGORI DDRAMAYDDOL GAN LLEWELYN WYN.

BARNWR. YR ANRHYDEDDUS SYR CARU CYFIAWNDER.

CLERC Y LLYS. Mr. Cryno.

COFRESTRYDD Y BARNWR. Mr. Digyffro.

GWAS Y BARNWR. Mr. Clir-ei-lais.

DADLEUWYR. DROS YR ERLYNIAD. Mr. Gwladgarwr.

DROS Y GARCHAROR. Mr. Uchelgais.

TYSTION. Mr Cymraeg, yr erlynydd. Mr. Liên Cymru. Mrs. Crefydd Cymru (gwraig Mr. Llên). Miss Addysg Cymru, merch Mr. Llên. Mr. Gwareiddiad. Dr. Hanes. Heddgeidwad Gor-selog Mr. Masnach. Mr. Codi-yn-y-byd, mab y carcharor. Miss Balchder, merch y carcharor. Mr. Rhith-Gwareiddiad. Dr. Rhagfarn.

CARCHAROR. DIC SHON DAFYDD.

RHEITHWYR. Mr. Cydwybod (blaenor), Mr. Union, Mr. Chwareu-Teg, Mr. Gwel'd-bob-ochr, Mr. Geirwir, Mr. Didderbyn-wyneb, Mr. Gonest, Mr. Diofn, Mr. Tawel, Mr. Synwyrol, Mr. Diwylliant, Mr. Deallgar.

(Parhad)

Mr. Gwladgarwr. Mrs. Crefydd Cymru

TYST 3. MRS. CREFYDD CYMRU.

Mr. Clir-ei-lais. Mrs. Crefydd Cymru! Mrs. Crefydd Cymru!

Mr. Gwladgarwr. Yr y'ch chwi yn briod a'r tyst diweddaf?

Mrs. Crefydd. Ydwyf, er's blynyddau lawer bellach.

Mr. G. Maddeuwch i mi am ofyn i chwi. Yr ydych chwi lawer yn hyn na'ch gwr?

Mrs. C. Ydwyf, gryn lawer yn henach.

Mr. G. Chwi yw'r henaf ond dau o'ch teulu, mi gredaf?

Text

Description automatically generated
(delwedd J4466) (Celt Llundain. 15 Tachwedd 1902.)

Mrs. C. Ie: mae fy nwy chwaer - Eglwys Groeg ac Eglwys Rufain - dwy efeilles - yn henach na mi; ond fi fu'n magu fy chwiorydd, Crefydd Gwerddon a Chrefydd Lloegr.

Mr. G. Ac yr ydym wedi clywed am eich gwasanaeth da i Mr. Cymraeg a'ch gwr yn eu hafiechyd. Nid yw eich gwaith da wedi ei osod o'r neilldu oddiar pan briodasoch?

Mrs. C. Na: mae fy mhriodas wedi fy ngalluogi, drwy fy ngwr,  Mr. Llen, i helaethu terfynau fy nylanwad yn ddirfawr.

Mr. G. Ac yr ydych yn ffryndiau mawr a'r erlynydd?

Mrs. C. (gyda theimlad). Nis gallaf byth anghofio fy nyled iddo ef am ei nodded i mi pan oeddwn yn ddigartref.

Mr. G. Byddai yn gymhorth i'r llys pe's dywedech yr hanes, Mrs. Crefydd.

Mrs. C. Wel, yr oeddwn yn arfer byw mewn tyddyn bychan digon llwm. Ond wrth dreigliad amser, a chan mai gwael oedd ei furiau ar y cyntaf, dechreuodd ddadfeilio. Cyn i mi gael amser i'w adgyweirio, torodd storm o fellt a tharanau ar ei ben, a thynwyd ef i lawr gan y Llywodraeth am ei fod, meddent, yn beryglus. Ond yn lle codi bwthyn arall i mi, danfonwyd fi i fyw dan gronglwyd fy chwaer, Crefydd Lloegr. Yno y bu'm yn dyhoeni am ysbaid yn ei phalas gorwych, heb weled neb, braidd, o'm hen gydnabod ond y carcharor a Mr Rhith-Gwareiddiad. Llwyddodd y carcharor i wenwyno meddwl fy chwaer yn erbyn Mr. Cymraeg fel y gwrthododd ei ollwng i ymddiddan a mi o gwbl. Pan ddes i wybod hyny, eis allan o'i phalas er fod yr hin yn wlyb ac oer, a minau heb le i fyned iddo. Yna clywais gan Mr. Morgan Llwyd a Mr. Stephen Hughes, dau o'm caredigion penaf, fod Mr. Cymraeg yn gorwedd yn glaf mewn caban bychan ar ochr y mynydd moel, ac ar eu cais eis yno i'w nyrsio ef a'i gyfaill. A phan wellhaodd
Mr. Cymraeg o'i afiechyd

Text, letter

Description automatically generated
(delwedd J4467) (Celt Llundain. 15 Tachwedd 1902.)

cododd gartref newydd i mi yn yr hwn yr wyf yn byw hyd heddyw.

Mr. G. A ydych yn adwaen y carcharor?

Mrs. C. Adwaenwn ef pan yn fachgen, ond ni fu'm yn siarad ond ychydig ag ef wedi ei ddychweliad o Lundain.

Mr. G. A welsoch chwi ef yn yr adeg yr ych newydd gyfeirio ati?

Mrs. C. Mae genyf bob lle i gofio ei wel'd. Un diwrnod gwelodd
Mr. Cymraeg a finau yn edrych ar y ty newydd oedd yn cael ei godi i mi drwy haelioni Mr. Cymraeg. Collodd y carcharor, gallwn feddwl, ei synwyrau am beth amser, syrthiodd ar Mr. Cymraeg gan ei guro yn ddidrugaredd a phastwn onen wyllt, nes iddo lewygu. Yna cyhuddodd fi o flaen yr ynadon o droseddu yn erbyn cyfraith y tir, a thaflwyd fi i garchar, am dymhor, ac nis gollyngwyd fi yn rhydd hyd nes y pasiwyd y Ddeddf Goddefiad.

[Mr. Gwladgarwr yn eistedd.]

Mr. Uchelgais. Mrs. Crefydd, mae blynyddau lawer oddiar pan daflwyd chwi i garchar?

Mrs. C. Oes.

Mr. U. Ac nid ych chwi a'r carcharor byth wedi siarad a'ch gilydd wedi hyny?

Mrs. C. Nac ydym.

[Mr. Uchelgais yn eistedd, a Mrs C. yn ymadaw.]

Mr. Gwladgarwr. Miss Addysg Cymru

Mr. Clir-ei-lais. Miss Addysg Cymru TYST IV. Miss ADDYSG CYMRU.

Mr. G. Un o ferched Llen a Chrefydd I Cymru ydych chwi?

Miss A. Ie'n siwr, yr wyf yn un o'u plant.

Mr. G. Ac yn sicr yn un o'r rhai harddaf! A ydych yn byw dan yr un gronglwyd a hwynt hwy?

Miss A. Na; nid wyf yn byw yn yr un ty, er fy mod yn gwario oriau bob dydd yn eu cwmni. Yr oeddwn yn awyddus i gael ty i mi fy hun, lle gallwn weled fy nghyfeillion heb flino dim ar fy rhieni, a thrwy garedigrwydd Mr. Cymraeg llwyddais i godi'r fath dy.

Text

Description automatically generated
(delwedd J4468) (Celt Llundain. 15 Tachwedd 1902.)

Mr. G. Yr ych chwi a Mr. Cymraeg felly yn gyfeillion?

Miss A. Ydym, mae'n dda genym ddyweyd, ar hyn o bryd.

Mr. G. Ai ni fuoch bob amser, ynte? Miss A. Pan oeddwn yn fychan, a'm rhieni yn dylawd iawn, bu

Mr. Cymraeg yn gyfaill ac yn gymwynaswr mawr i mi, a pharhaodd ein cyfeillgarwch yn ddifwlch hyd nes i mi fyn'd i fyw i dy fy hun.

Mr. G. Beth ddigwyddodd wedn? Miss A. Pan eis i fyw i fy nghartref newydd, un o'r rhai cyntaf ddaeth i'm gwel'd oedd y carcharor.

Mr. G. Un cwestiwn yn y man hyn. A oeddech yn ei adnabod o'r blaen? Miss A. Yr oeddwn wedi clywed son am dano, ac wedi ei wel'd weithiau. Ond ni wnai edrych arnaf y pryd hwnw, am fod fy rhieni yn bobl dlawd.

Mr. G. Felly, y tro cyntaf i chwi siarad ag ef oedd pan alwodd yn eich ty newydd? Miss A. Ie daeth ef a chyfaill iddo i'm gwel'd gyda'n gilydd. Dywedodd wrthyf mai

Mr. Gwareiddiad oedd enw ei gyfaill, a chan fod fy rhieni wedi'm dysgu i barchu

Mr. Gwareiddiad, yr oeddwn yn falch iawn i'w wel'd. Ym mhen ychydig cynghorodd

Mr. Gwareiddiad fi i gau fy nrws yng ngwyneb

Mr. Cymraeg, gan ei fod yn ddyn anwybodus, digyrr eriad, ac anwaraidd. Dywedodd wrthyf iddo gael ei gospi gan sawl Barnwr am droseddau anfad, ac nad oedd yn deilwng i eistedd mewn cornel ty gwraig na geneth barchus. Yr oeddwn yn ieuanc iawn ar y pryd, ac wedi fy syfrdanu gan fy nhy a'm bywyd newydd. Mae yn gywilydd genyf orfod cyfaddef i mi wrando ar y carcharor a'i gyfaill, ac i mi gau drws fy nhy yn erbyn

Mr. Cymraeg, yr hwn a'i rhoddodd i mi.

[Miss A. yn tori allan i wylo.]

Mr. G. Dewch chwi, Miss Addysg, treiwch

Text

Description automatically generated
(delwedd J4469) (Celt Llundain. 15 Tachwedd 1902.)

feddianu eich hun, er y gwn mor galed yw i chwi roddi eich tystiolaeth. Beth ddigwyddodd wedyn?

Miss A. Fel y des i adnabod y carcharor a'i gyfaill yn well, ac y cynyddwn mewn profiad a gwybodaeth o'r byd, deuais i wybod mai nid Mr. Gwareiddiad, ond Mr. Rhith-Gwareiddiad, oedd ffrynd y carcharor. Un diwrnod cefais adnabyddiaeth o
Mr. Gwareiddiad ei hun, a gofynais iddo beth oedd ei farn am
Mr. Cymraeg. Ar ei gynghor taer, gofynais faddeuant Mr Cymraeg, a chroesawais ef drachefn i'm ty. Ac yno y mae ac y bydd byth yn un o'r gwahoddedigion uchaf ei fri a'i anrhydedd.

Mr. G. A wyddoch chwi rywbeth am berthynas Mr. Cymraeg a'r carcharor?

Miss A. Nis gwn ond yr hyn a ddywedais, a hyn yma ymhellach. Pan ddanfonais am Mr. Cymraeg ar gyngor Mr. Gwareiddiad, aeth y si ar led, a daeth y carcharor i'm gwel'd yn llawn llid a digofaint. Dywedais wrtho na wrandawn mwyach arno, ac yna trodd yn ddigllawn allan o'r ty. Ar drothw’r drws cyferfu a Mr. Cymraeg, a rhoddodd hergwd iddo a phastwn, gan waeddi y byddai'n rhaid iddo ddefnyddio moddion ereill yn y man i gadw Mr. Cymraeg yn ei le.

Mr. G. Faint o amser sydd oddiar hyn?

Miss A. Y chydig cyn helynt Gorphenaf oedd.

[Mr. Gwladgarwr yn eistedd.]

Mr. Uchelgais. 'Dych chwi a'r carcharor ddim yn ffryndiau, Miss Addysg?

Miss A. Nac ydym, wedi iddo fy nhwyllo.

Mr. U. Ac yr ydych yn ei ddirmygu a'i ffieiddio?

Miss A. Nid oes salach creadur nag ef ar wyneb daear las heddyw!

Mr. U. Aroswch fynud, Miss Addysg! Mr. Cymraeg gododd y ty i chwi, ynte?

Miss A. Ie.

Mr. U. Ac yn fuan ar ol i chwi ei gael, cauasoch eich drws yn erbyn aw iwr y rhodd 'Rych chwi, Miss, yn gwybod rhywbeth am salwch cymeriad!

[Mr. Uchelgais yn eistedd.] (I'w barhau.)

None

(delwedd J4487) (Celt Llundain. 22 Tachwedd 1902.)  

Celt Llundain. 15 Tachwedd 1902

PRAWF DIC SION DAFYDD.

ALLEGORI DDRAMAYDDOL GAN LLEWELYN WYN.

BARNWR. YR ANRHYDEDDUS SYR CARU CYFIAWNDER.

CLERC Y LLYS. Mr. Cryno.

COFRESTRYDD Y BARNWR. Mr. Digyffro.

GWAS Y BARNWR. Mr. Clir-ei-lais.

DADLEUWYR. DROS YR ERLYNIAD. Mr. Gwladgarwr.

DROS Y GARCHAROR. Mr. Uchelgais.

TYSTION. Mr Cymraeg, yr erlynydd. Mr. Liên Cymru. Mrs. Crefydd Cymru (gwraig Mr. Llên). Miss Addysg Cymru, merch Mr. Llên. Mr. Gwareiddiad. Dr. Hanes. Heddgeidwad Gor-selog Mr. Masnach. Mr. Codi-yn-y-byd, mab y carcharor. Miss Balchder, merch y carcharor. Mr. Rhith-Gwareiddiad. Dr. Rhagfarn.

CARCHAROR. DIC SHON DAFYDD.

RHEITHWYR. Mr. Cydwybod (blaenor), Mr. Union, Mr. Chwareu-Teg, Mr. Gwel'd-bob-ochr, Mr. Geirwir, Mr. Didderbyn-wyneb, Mr. Gonest, Mr. Diofn, Mr. Tawel, Mr. Synwyrol, Mr. Diwylliant, Mr. Deallgar.

(Parhad).

Mr. Gwladgarwr. Mr. Gwareiddiad!

Mr. Clir-ei-lais. Mr. Gwareiddiad! Mr. Gwareiddiad!

TYST V. MR. GWAREIDDIAD.

Mr. G. Yr ych chwi yn hen gyfaill i Mr. Cymraeg?

Mr. Gw. Efe oedd fy nghyfaill cyntaf yn y rhan hon o'r byd.

Mr. G. Y mae Mr. Cymraeg, 'rwy'n meddwl, yn un o'ch cynrychiolwyr yma?

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd J4488) (Celt Llundain. 22 Tachwedd 1902.)  

Mr. Gw. Ydyw'n siwr, ac ni chefais ei ffyddlonach mewn un cwr o'r byd. Nid yw yn gwrandaw ar bob stori ffol, ac nid yw yn rhedeg ar ol oferedd. Y mae yn wr diwylliedig, ac yn caru heddwch, hynawsedd, a gwirionedd. Gallaf ddyweyd yn onest na chefais erioed was mwy trylwyr nag efe, na goruchwyliwr gwell a mwy goleuedig ar fy nghyfoeth.

Mr. G. Chwi glywsoch beth ddywedodd Miss Addysg am Mr. Rhith-Gwareiddiad. A ydych yn perthyn i'ch gilydd?   

Mr. Gw. Ydym; y mae'n haner-brawd i mi, a dywedir ein bod yn debyg iawn i'n gilydd. Amcana ef ychwanegu at y tebygolrwydd drwy wisgo mor agos ag y gall i fi, ac y mae hyd yn oed yn dynwared fy llais a'm geiriau a'm hystumiau. Mae wedi creu cymaint o anrhefn ym mhob man fel yr wyf wedi ei orfodi i alw ei hun wrth ei enw llawn, sef Rhith-Gwareiddiad. Ond mae llawer eto yn cael eu twyllo ganddo.

Mr. G. A ydych yn adnabod y carcharor?

Mr. Gw. Na; nis gallaf ddyweyd fy mod yn ei adwaen, a phan y nesaf ato, cilia draw. Bu'm yn ei rybuddio unwaith i beidio niweidio Mr. Cymraeg.

Mr. G. Beth berodd i chwi ei rybuddio?

Mr. Gw. Gwelais ef yn bygwth Mr. Cymraeg un diwrnod ar drothwy ty Miss Addysg, ac eis ato i'w gynghori i fod yn dawel.

[Mr. Gwladgarwr yn eistedd.]

Mr. Uchelgais. Un o'ch gweision chwi yw Mr. Cymraeg?

Mr. Gw. Ie.

Mr. U. A welsoch chwi'r carcharor yn taraw Mr. Cymraeg?

Mr. Gw. Naddo.

Mr. U. Mae genych weision ereill yn y wlad hon heblaw Mr. Cymraeg, megis Mr. Saesneg, Mr. Masnach, ac felly yn y blaen?

Mr. Gw. Oes.

Mr. U. Ac y maent hwy yn weision ffyddIon hefyd?

Mr. Gw. Maent yn weision tra ffyddlon, ond nid wyf yn teimlo mor sicr o'u doethineb

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd J4489) (Celt Llundain. 22 Tachwedd 1902.)  

ar bob amgylchiad ag wyf o Mr. Cymraeg.

[Mr. Uchelgais yn eistedd a Mr. Gwareiddiad yn sefyll.]

Mr. G. Dr. Hanes!

Mr. Clir-ei-Iais. Dr. Hanes! Dr. Hanes!

TYST VI. DR. HANES.

Mr. Gwladgarwr. Yr ydych chwi yn hen gyfarwydd, Dr. Hanes, a'r erlynydd?

Dr. Hanes. 'Rwy'n cofio'r dydd y'i ganwyd; 'rwy'n ei gofio yn blentyn bach yn yr ysgol yn ymladd wrth ochr Llewelyn a Glyndwr yn erbyn Iorwerth a Harri; 'rwy'n ei gofio'n dawnsio wrth swn telyn Dafydd ap Gwilym. Gwelais ef yn dadblygu dan gyfarwyddyd tyner a thadol yr Esgob Morgan bu'm yn gweini arno ar ei wely cystudd; bu'm yn cyd-lawenau a Mrs. Crefydd pan adferwyd ei iechyd; ac yr wyf wedi bod yn ymhyfrydu yn ei nerth a'i nwyfiant newydd oddiar hyny.

Mr. G. Y mae Mr. Cymraeg yn ddyn iach ynte?

Dr. Hanes. Mae ei galon fel y gloch; mae ei holl aelodau yn iach; ac er fod ei gylla ychydig yn wan ar adegau, nid oes un rheswm paham nas gall oroesi llawer iawn o'i frodyr ieuengaf.

Mr. G, Y chwi fu'n gweini iddo yn ei gystudd yng Nghalon Cenedl?

Dr. H. Ie'n siwr.

Mr. G. Beth oedd ei gyflwr pan welsoch chwi ef?

Dr. H Yr oedd yn dechreu dod ato ei hun. Yr oedd clwyf ar ochr ei gern, ac yr oedd wedi gwaedu llawer. Tywelltais olew i'r clwyf, ac ni fu'n hir cyn cael adferiad llwyr.

Mr. G. Clywsoch Mr. Cymraeg yn adrodd pa fodd y derbyniodd yr archoll? A ddywedech chwi, a barnu oddiwrth natur y clwyf, y gallai fod wedi ei dderbyn yn y modd a ddesgrifid ganddo?   

Dr. H. Nid yn unig gallai, ond credaf fod hyny yn debygol iawn.

Mr, G. A welsoch chwi'r gyllell hon o'r blaen?

Text

Description automatically generated

(delwedd J4490) (Celt Llundain. 22 Tachwedd 1902.)

Dr. H. Do.

Mr. G. Ym meddiant pwy oedd hi pan welsoch hi o'r blaen?

Dr. H. Ym meddiant y carcharor.

[Mr. Gwladgarwr yn eistedd.]

Mr. Uchelgais. 'Dyw cylla Mr. Cymraeg ddim yn gryf, Dr. Hanes?

Dr. H. Ddim mor gryfed, dywedwch, a chylla Mr. Saesneg (chwerthin). Mae ef yn gallu llyncu pobpeth heb deimlo poen ar ol hyny.

Mr. U. Ac y mae Mr. Cymraeg wedi llewygu unwaith neu ddwy?

Dr. H. Ydyw.

Mr. U. Ac mi allai fod wedi llewygu ar yr wythfed o Fedi?

Dr. H. Ni fyddai hyny, wrth gwrs, yn ambosibl, er ei fod yn beth lled anhebygol.

Mr. U. A phe bai wedi llewygu, a syrthio yn erbyn careg lem, gallai hyny esbonio'r clwyf welsoch ar ochr ei gern?

Dr. H. Ni fyddai yn amhosibl.

Mr. U. Dywedwch i chwi weled y gyllell ym meddiant y carcharor. A welsoch chwi hi ganddo ar y cyntaf o Fedi?

Dr. H. Naddo; oblegid ni welais y carcharor y dydd hwnw.

[Mr. Uchelgais yn eistedd.]

Y Barnwr. Yr ych yn adnabod y carcharor?

Dr. H. Ydwyf, fy arglwydd, er yn blentyn.

Y Barnwr. Beth ddywedech yw ei allu corphorol a meddyliot?

Dr. H. Nid yw ei allu corphorol ond bychan, a'i allu meddyliol yn llai fyth. Mae ei feddwl mor wamal fel y mae'r lleiaf yn ddigon i'w gynhyrfu a'i wallgofi.

Y Barnwr. A ydych yn ei ystyried yn hollol lawn?

Dr. H. Prin yr hoffwn ddyweyd hyny. Y mae ganddo ddigon o synwyr i wneyd a chadw arian, a dim rhagor.

[Dr. Hanes yn eistedd.]

(I'w barhau.)

xxxxx

xxxxx

(delwedd J4491) (Celt Llundain. 29 Tachwedd 1902.)

(delwedd J4492) (Celt Llundain. 29 Tachwedd 1902.)

(delwedd J4493) (Celt Llundain. 29 Tachwedd 1902.)

(delwedd J4494) (Celt Llundain. 29 Tachwedd 1902.)

(delwedd J4495) (Celt Llundain. 29 Tachwedd 1902.)

(delwedd J4496) (Celt Llundain. 29 Tachwedd 1902.)

29-11-1902
http://papuraunewydd.llyfrgell.cymru/view/3106370/3106376
PRAWF DIC SIGN DAFYDD. ALLEGORI DDRAMAYDDOL GAN LLEWELYN WYN. BARNWR. YB ANRHYDEDDUS SYR CARU CYFIAWNDER. CLERC T LLYS. I COFRESTRYDD Y BARNWR.

Mr. Cryno.

Mr. Digyfiro. GWAS Y BARNWR.

Mr. Clir-ei-lais. DADLEUWYR. DROS YR ERLYNIAD. I DRos Y CARCHAROR.

Mr. Gwladgarwr.

Mr. Uchelgais. TYSTION. Mr Cymraeg, yr erlynydd.

Mr. Masnach.

Mr. Llen Cymru.

Mr. Codi-yn-y-byd, mab y Mrs. Crefydd Cymru carcharor. (gwraig

Mr. Llen). Miss Balchder, merch y Miss AddysgCymru,merch carcharor.

Mr. Llen.

Mr. Rhith-Gwareiddiad.

Mr. Gwareiddiad. Dr. Rhagfarn. Dr. Hanes. Heddgeidwad Gor-selog. f'f VJARUHABUR. Drc SION DAFYDD. JRHEITHWYR.

Mr. Cydwybod (blaenor),

Mr. Union,

Mr. Chwareu-Teg,

Mr. Gwel'd-bob-ochr,

Mr. Geirwir,

Mr. Didderbyn-wyneb,

Mr. Gonest,

Mr. Diofn,

Mr. Tawel,

Mr. Synwyrol,

Mr. Diwylliant,

Mr. Deallgar. (Parhad),

Mr. Gwladgarwr. Heddgeidwad Gorselog

Mr. Clir-ei-lais. Gor-selog Gor-selog! TYST VII. HEDDGEIDWAD GOR-SELOG.

Mr. G. Yr ych yn Heddgeidwad yn y Pentre? Hedd G. Ydwyf.

Mr. G. Ar yr wythfed o Fedi danfonwyd am danoch? Hedd G. Do; ar yr wythfed o Fedi o'r flwyddyn hon eis i Balas Ymffrost i gymeryd y carcharor i'r ddalfa. Beth ddigwyddodd pan aethoch yno? Hedd G. (yn tynu llyfr allan o'i logell). Dywedais wrtho fy mod yn ei gymeryd yn rhwym ar gyhuddiad o glwyfo

Mr. Cymraeg gyda'r bwriad o'i lofruddio, a rhybuddiais ef y defnyddid unrhyw beth a ddywedai yn ei vrbyn ar ddydd y prawf.

Mr. G. A beth atebodd? Hedd G. Dywedodd ei fod yn falch fod

Mr. Cymraeg wedi cael ei ddolurio, fod

Mr. Cymraeg yn elyn iddo ef ac i'r wlad, ac wedi gwneyd ei oreu i'w ddirmygu a'i sarhau ar goedd yr ardal a'r wlad.

Mr. G. A fuoch yn Heol Rhagfarn ger llawlr ty? Hedd G. Do.

Mr. G. A gawsoch afael mewn rhywbeth yno? Hedd G. Do; yn agos i'r fan lle codwyd yr erlynydd cefais y gyllell hon. (Yn dangos y gyllell).

Mr. G. Dyna'r gyllell ddangosoch i'r erlynydd ychydig amser yn ol? Hedd G. Ie, syr.

xxxxx
[Mr. Gwladgarwr yn eistedd.]

Mr. Ucbelgais. A ddywedodd y carcharor ddim yn rhagor? Hedd G. 'Dwyf fi ddim yn cofio iddo ddy-weyd rhagor.

Mr. U. Ddywedodd ef ddim i Mr Cymraeg ei alw yn fradwr? Hedd G. Do, mi ddywedodd

Mr. U. Dynaddigon.

Mr. Gwladgarwr. Gadewch i'r tyst orphen ei frawddeg.

Mr. U. O'r goreu, ynte.

Mr. G. Dywedodd iddo ef a

Mr. Cymraeg ymrafaelio, i

Mr. Cymraeg ei alw'n fradwr, ac iddo yntau ar hyny ymosod arno.

Mr. U. A yw hyna ar eich llyfr? Hedd G. Nac ydyw.

Mr. U. Mae peth o'r siarad ar y llyfr? Hedd G. Oes.

Mr. U. Pam nad ydyw'r cyfan yna? Hedd G. 'Down i ddim yn tybied ei fod yn bwysig.

xxxxx
[

Mr. U. A phwy ych chwi, syr, i benderfynu drosto ei hun beth i adrodd a beth i beidio 'Rwy'n gwrthod gofyn rhagor i'r tyst hwn, ac yn gofyn i'ch arglwyddiaeth i'w gymeryd mewn llaw. Y Barnwr. Rhaid i mi gyffesu fy mod wedi fy syfrdanu wrth glywed y tyst hwn. Mae wedi ymddwyn yn flfol, yn anheg, ac yn answyddogoL Buasai ei drosedd yn fawr dan unrhyw amgylchiad; pan mae rhyddid dyn yn cael ei bwyso yn y glerian, mae ei drosedd yn felldigedig Mae ei ymddygiad yn warth ac yn gywilydd i'r holl lu Ni ddylid celu gair a syrthiodd dros wefusau'r carcharor pan gymerwyd ef i'r ddalfa, pa mor ddistadl bynag yr ymddengys.
Ein dyledswydd ni yma, ac nid y Cwnstabl, yw penderfynu a yw o bwys neu beidio. (Gan droi yn sarug at yr Heddgeidwad), Ewch o'm gwydd, cyn i mi eich danfon i garchar. 'Rwy'n tynghedu yr awdurdodau i gymeryd eich ymddygiad i'w hystyriaeth ddifrifol. (Heddgeidwad Gor-selog yn ymlusgo ymaith).

Mr. Gwladgarwr. Dyna'r achos dros yr erlynydd, fy Arglwydd.

Mr. Uchelgais. Gyda chaniatad y Llys, nid wyf yn bwriadu gwneyd anerchiad yn y cyfwng hwn, ond cadwaf yr ychydig sylwadau yr wyf am wneyd hyd nes y cawn wybod yr oil o'r dystiolaeth. Y Barnwr. Fel y mynoch,

Mr. Uchelgais.

Mr. U. Yna galwaf ar fy nhystion ar unwaith.

Mr. Masnach!

Mr. Clir-ei-lais.

Mr. Masnach

Mr. Masnach! TYST I. MR. MASNACH.

Mr. U. Yr ydych yn adnabod y carcharor,

Mr. Masnach?

Mr. Masnach. Ydwyf yn dda.

xxxxx
Mr. U. A

Mr. Cymraeg?

Mr. M. Nis gallaf ddyweyd i mi gael adnabyddiaeth drylwyr o hono erioed. Yn wir, mae ei olwg mor wladaidd a'i ymddygiad mor anfoesgar nas gweddai i wr o'm sefyllfa gymdeithasol i fod fod yn rhy gyfarwydd ag ef.

Mr. U. A ddywedech chwi fod

Mr. Cymraeg yn wr addfwyn?

Mr. M. (yn wawdlyd). Addfwyn, syr? Un o'r bobl fwyaf tymherus a gyferfum erioed! Eto, yr cedd yn dwyllodrus yn ei dymher. Weithiau goddefa bob anfri a sarhad a deflir arno yn dawel brydiau ereill bydd y gair lleiaf yn ddigon i enyn ei natur boeth yn fflam losgedig.

Mr. U. A welsoch chwi'r carcharor ag ef gyda'u giiydd?

Mr. M. Do; ambell waith. Yr oedd y carcharor yn treio bob amser ei osgoi, a llawer gwaith y siarsiodd fi i beidio gwneyd dim ag ef.

Mr. U. Paham y cynghorai hyny?

Mr. M. Dywedai fod

Mr. Cymraeg yn cael dylanwad niweidiol iawn ar yr oil o'i gyfeillion, ei fod yn rhwystr ar ffordd eu llwyddiant, ei fod yn anfoddlon i'w gweled yn codi yn y byd, a'i fod yn eu hanalluogi i droi yn safleoedd uchaf cymdeithas. Cynghorodd fi i beidio gwneyd dim rhagor o

Mr. Cymraeg nag a fuasai'n gymhorth i mi i wneyd arian ar ei gefn.

Mr. U. Pan gyfarfyddai'r ddau a'u gilydd, pa fodd yr ymddygent?

Mr. M. Byddent bob amser yn ffraeo a'u gilydd. Nid cynt y clywai

Mr. Cymraeg y carcharor yn siarad nag y dechreuai ei wawdio, a'i gyhuddo o aniolchgarwch a ffolineb a phethau cyffelyb.

Mr. U. A beth wnelai y carcharor?

Mr. M. Fel rheol, amcanai osgoi

Mr. Cymraeg; ond os methai yna ni wnai ond chwerthin ar ben geiriau enllibus ac ymddygiad ffol yr erlynydd.

Mr. U. Diolch i chwi,

Mr. Masnach. (

Mr. Uchelgais yn eistedd).

Mr. Gwladgarwr. Aroswch ychydig,

Mr. Masnach, mae genyf finau un neu ddau gwestiwn i'w gofyn.

xxxxx
Mr. M. Un neu ddau cant, os mynwch.

Mr. G. Byddaf yn hollol foddlon, Mr, Masnach, os caf atebion gonest i'r un neue ddau. 'Rwy'n meddwl i chwi wahardd eich siop i

Mr. Cymraeg ar rai adegau?

Mr. M. Do; pan oedd yn gwneyd ei oreu yn fy erbyn.

Mr. G. Yn gwneyd ei oreu yn eich erbyn Pa brawf sydd genych, syr, dros wneyd y fath gyhuddiad?

Mr. M. Wel, syr, felly y clywais gan y carcharor, a

Mr. Rhith-Gwareiddiad, a Dr, Rhagfarn ddegau o weithiau.

Mr. G. A dyna'r prawf sydd genychaie? Ai ni ddywedodd y carcharor wrthycfe hefyd fod yr erlynydd yn elyn i

Mr. Gwareiddiad?

Mr. M. Do.

Mr. G. Chwi glywsoch beth ddywedodd

Mr. Gwareiddiad heddyw?

Mr. M. Do.

Mr. G. Pa fodd y gallwch gysoni y ddau ddywediad?

Mr. M. Nis gallaf fi eu cysoni.

Mr. G. Ai nid ydych yn credu i'r erlynydd gael ei gyhuddo ar gam?

Mr. M. Ymddengys yn debyg.

Mr. G. Ac os felly, y carcharor sydd wedi; dwyn cam-dystiolaeth yn ei erbyn?

Mr. M. Ie.

Mr. G. 'Nawr,

Mr. Masnach, os dywedodd y carcharor anwiredd yn un peth, ai nid yw yn debygol ei fod wedi eich twyllo wrthè ddyweyd fod

Mr. Cymraeg yn elyn i chwi?

Mr. M. Mae hyny yn bosibl.

Mr. G. A adwaenech chwi y diweddar

Mr. David Davies, Llundain?

Mr. M. Adwaenwn efe fu un o'm cynrychiolwyr mwyaf llwyddianus yn y wlad.

Mr. G. Yr oedd efe a'r erlynydd ym ffryndiau mawr?

Mr. M. Oeddynt.

Mr. G. Chwi wyddoch hefyd am fasnachwyr Llundain, fod llawer o honynt yn ddeiliaid i

Mr. Cymraeg?

Mr. M. Gwn.

Mr. G. 'Rwy'n gobeithio y dengys hyn fa chwi nad yw'r erlynydd erioed wedi bod ync elyn i chwi. A glywsoch chwi

Mr. Cymraeg erioed yn cynyg ymgymodi a'r carcharor?

xxxxx
Mr. M. Do, mi ai clywais.

Mr. G. Beth oedd ateb y carcharor?

Mr. M. Fy Arglwydd, a oes rhaid i ms ateb hwn? Y Barnwr. Oes, os nad ydych am eich carcharu am ddi-ystyru'r llys

Mr. M. Wei, syr, pallu wnaeth, gan eis alw'n falldod gwlad, yn rhwystr ar ei ffordd, ef a'i gyfaill

Mr. Rhith.Gwareiddiad, ac n2t. fyddai gobaith am yr ardal cyn cael gwared am byth arno ef.

Mr. G. Pa bryd y cymerodd y siara(& hyn le?

Mr. M. Ychydig cyn helynt yr wythfedt o Fedi. (

Mr. Gwladgarwr yn eistedd).

Mr. Uchelgais. Yr ych yn ffryndiau mawr a

Mr. Saesneg,

Mr. Masnach?

Mr. M. O, ydwyf: fy ffrynd goreu yn y byd yw efe.

Mr. U. Ac fe glywsom fod

Mr. Saesneg a'r erlynydd yn berthynasau. A ddywedodd

Mr. Saesneg wrthych erioed rywbeth am yr erlynydd?

Mr. M. Do; mai efe oedd fy ngelyn? gwaethaf yn y wlad hon.

Mr. U. Dyna ddigon, diolch i chwi,

Mr. Masnach. Y Barnwr. Un gair, dyst. A fygythioddl

Mr. Cymraeg chwi erioed.

Mr. M. Dim yn fy ngwyneb, fy Arglwydd. Y Barnwr. Casglaf nad ydych chwi ac, yntau ddim yn adwaen eich gilydd yn dda iawn. Ar b'un mae'r bai am hyn arno ef neu arno chwi?

Mr. M. O, f' Arglwydd, mae'r erlynydd fel llawer ereill wedi gwneyd ei oreu i'm hadnabod yn well, ond mae'n rhaid i wr yn fy sefyllfa i dynu'r llinell yn rhywle. (

Mr. Masnach yn ymadael). (I'w barhau.)
 
(delwedd J4497) (Celt Llundain. 6 Rhagfyr 1902.)

(delwedd J4498) (Celt Llundain. 6 Rhagfyr 1902.)

(delwedd J4499) (Celt Llundain. 6 Rhagfyr 1902.)

(delwedd J4500) (Celt Llundain. 6 Rhagfyr 1902.)

(delwedd J4501) (Celt Llundain. 6 Rhagfyr 1902.)

(delwedd J4502) (Celt Llundain. 6 Rhagfyr 1902.)

6-12-1902
Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau  Dyfynnu  Rhannu
PRAWF DIC SION DAFYDD. ALLEGORI DDRAMAYDDOL GAN LLEWELYN WYN. BARNWR. YR ANBHYDEDDUS SYR CARU CYFIAWNDER. CLIEBC Y LLYS. COPEESTBYDD Y BAENWE.

Mr. Oryno. |

Mr. Digyffro. GWAS Y BABNWE.

Mr. Clir-ei-lais. DADLEUWYR. DBOS YR ERLYNIAD. I DRos Y CARCHAROR.

Mr. Gwladgarwr.

Mr. Uchelgais. TYSTION. Mr Cymraeg, yr erlynydd.

Mr. Masnach.

Mr. Llen Cymru.

Mr. Codi-yn-y-byd, mab y Mrs. Crefydd Cymru carcharor. (gwraig

Mr. Llen). Miss Balchder, merch y Miss AddysgCymru,merch carcharor.

Mr. Llen.

Mr. Rhith-Gwareiddiad.

Mr. Gwareiddiad. Dr. Rhagfam. Dr. Hanes. Heddgeidwad Gor-selog. l GAECHABOB. Drc SION DAFYDD. RHEITHWYR.

Mr. Cydwybod (blaenor),

Mr. Union,

Mr. Chwareu-Teg,

Mr. Gwel'd-bob-ochr,

Mr. Geirwir,

Mr. Didderbyn-wyneb,

Mr. Gonest,

Mr. Diofn,

Mr. Tawel,

Mr. Synwyrol,

Mr. Diwylliant,

Mr. Deallgar. (Parhad).

Mr. Uchelgais.

Mr. Codi-yn-y-byd

Mr. Clir-ei-lais.

Mr. Codi-yn-y-byd TYST II.

Mr. U. Mab y carcharor ydych chwi?

Mr. O. Ie, syr, ei fab hynaf.

Mr. U. Ac yr ydych yn adnabod yr erlynydd?

Mr. C. O ran ei wel'd, yn unig. 'Dyw e' a finau ddim yn troi yn yr un dosbarth cymdeithasol.

Mr. U. A wyddoch chwi os yw eich tad ac yntau yn gyfeillgar a'u gilydd?

Mr. C. Gwn nac ydynt er's blynyddau lawer. Mae fy nhad a'i deulu yn gyfeillgar iawn a

Mr. Saesneg, ac nid yw

Mr. Saesneg a'r erlynydd yn gallu cydfyw am foment.

xxxxx
Mr. U. A glywsoch chwi'ch tad yn siarad &'r erlynydd yn ddiweddar?

Mr. C. Do ychydig cyn yr amgylchiad hwn. Clywais yr erlynydd yn difrio nhad am ei fod wedi fy nysgu i i beidio sylwi ar yr erlynydd, a dywedodd hefyd fod fy nhad yn ddirmyg i bob dyn meddylgar ac yn waradwydd i'r wlad a'i magodd.

Mr. U. Rhywbeth ymhellach?

Mr. C. Dywedodd lawer yn rhagor, ond mae yn siarad y fath dafodiaith isel a Ilygredig fel nas deallwn y cyfan ddywedodd.

[Mr. Uchelgais yn eistedd.]

Mr. Gwladgarwr. 'Doeddech chwi ddim yn deall yr oil ddywedai'r erlynydd wrth eich tad?

Mr. C. Dim yr oil.

Mr. G. Ond deallech beth ddywedai'ch tad?

Mr. C. Gwnawn.

Mr. G. Beth ddywedodd?

Mr. C. O, dim o bwys.

xxxxx
Mr. G. 'Nawr, syr, atebwcb fy ngwestiwn, a gwnawn ninau benderfynu p'un a oedd o bwys ai peidio. Beth ddywedodd?

Mr. C. O, dywedodd wrtho mai gwell fyddai iddo beidio dangos ei big yn yr Eisteddfod nac yn un lle arall lle yr oedd gwyr b'nddigion yn cydgwrdd.

Mr. G. Rhywbetb yn rhagor?

Mr. C. 'Rwy'n meddwl iddo ddyweyd hefyd y gwnae efe a'i deulu oroesi'r erlynydd.

Mr. G. 'Dywedasoch fod

Mr. Saesneg a'r erlynydd yn methu cydfyw. A wyddoch chwi eu bod wedi cydfyw mewn llawer man am flynyddau?

Mr. C. Na wyddwn.

Mr. G. A glywsoch chwi'r erlynydd erioed yn dyweyd gair yn erbyn

Mr. Saesneg? Mi. C. Naddo, ddim fy hunan.

[Mr. G. yn eistedd .J

Mr. Uchelgais. Ond nid ydych chwi'n gyfarwydd iawn a'r erlynydd?

xxxxx
Mr. C. O, nac ydwyf.

Mr. U. Gyda golwg ar beth ddigwyddcdd rhwng eich tad a'r erlynydd, - yr oeddent bob amser yn ffraeo a'u gilydd?

Mr. C. Oeddent, bob tro y cwrddent yr o'ent mcr grots a fhi a hwth (chwerthin).

[Mr. Codi-yn-y-byd yn ymneillduo.]

Mr. Uchelgais. Miss Balchder

Mr. Clir-ei-lais. Miss Balchder! Miss Balchder I TYST III.

Mr. Uchelgais. Merch y carcharor ych chwi, Miss Balchder? Miss Balchder. Fi mo'yn rhoi evidence yn Sasneg, if you please. Y Barnwr. Gwnewch eich goreu yn Gymraeg, Miss Balchder, ac cs methvuch, bid siwr cewch droi at y Saesneg.

Mr. Gwladgarwr. 'Rwy'n ymgymeryd na wnaf fi ofyn llawer o gwestiynau i'r ferch ieuanc.

Mr. Uchelgais. Yr ych yn adnabod yr erlynynydd? Miss Balchder. Fi'n nabod fe? Oh, Mo The idea

Mr. U. O ran ei we!'d? Miss B. Fi wedi gwel'd e' ar y street sometimes

Mr. U. Glywsoch chi e'n siarad a'ch tad? Miss B. Do fi wedi clywed yr hen blackguard now and then yn siarad a papa. Oh, he is a most dreadful man!

Mr. U. Ar ba delerau oeddynt? Miss B. Fe'n blagardo papa everytime they met, and he had the impudence to say the other day that I was worse than my dear papa.

[Mr. Uchelgais yn eistedd i lawr mewn anobaithj

xxxxx
Mr. Gwladgarwr. A beth atebodd eieh tad? Miss B. Oh, my papa gave him a bit of his mind, and so did I I The idea that an old frump like that should dare talk to me

Mr. G. 'Rwy'n gwel'd, Miss Balchder, nag ych chwi ddim yn hoff o'r erlynydd? Miss B. Fi? How ridiculous I despise him 1

Mr. G. Ond yr ych yn tosturio wrtho oherwydd iddo gyfarfod a damwain? Miss B. Not I, indeed Serve the old frump right? What business has he to run down papa and me to everybody? The sooner he dies or gets locked up for life in a library the better for him and the country, too I

[Mr. Gwladgarwr yn eistedd.]

Mr. Uchelgais.

Mr. Rhith-gwareiddiad

Mr. Clir-ei-lais.

Mr. Rhith-gwareiddiad I TYST IV.

Mr. Uchelgais.

Mr. Rhith-gwareiddiad, clywsom eich bod yn haner-brawd i

Mr. Gwareiddiad.

Mr. R. Ydwyf: ond dymunwn ddyweyd, er ei fod ef yn ychydig yn henach na myfi, mai fi sydd wedi etifeddu mwyaf o dir.

Mr. U. Yr ych yn adnabod y carcharor?

Mr. R. Ydwyf: efe yw fy nghyfaill agosaf yn y parth hwn o'r byd. Yn wir, gallaf ymddiried fy holl fuddianau iddo yn eithaf diogel. Mr, U. A beth am yr erlynydd?

Mr. R. Adwaenaf yntau hefyd, er nad ydym yn rhyw lawer o gyfeillion.

Mr. U. A pha fath ddyn yw ef o ran ei dymher?

Mr. R. Gwr poeth, sarug, cul-feddw], rhagfarnllyd, a dialgar y gwelais i ef erioed. Mae yn llawn nwydau drwg, bob amser yn barod i feddwl yn isel am ei well, ac i ffraeo a phawb na welant lygad yn llygad ag efe.

Mr. U. A glywsoch chwi ef yn siarad erioed am y carcharor?

Mr. R. Do: lawer gwaith, a phob amser yn yr ysbryd gwaethaf. Dirmygai ef oherwydd ei fod yn codi yn y byd, a melldithiai ef am iddo fy nwyn i i Gymru. Dywededd, nid urwaith na chanwaith, mei fi a'r carcharor cedd gyfrifol am y gau ddybenicn, y chwareuon isel, y diffyg chwaeth, yr iaith sathredig, yr arferion penchwiban, ie, ac hyd yn oed y troseddau anfad sydd yn ncdweddu trigolion rhai parthau o Gymru.

Mr. U. A ydych yn cofio un adeg yn neillduol?

Mr. R. Cofus genyf i'r carcharor a minauc ei gyfarfcd ar ddiwedd yr haf eleni ychydig ar ol i'r Barnwn Gwilym Williams draethu ei feddwl ar ddylanwad Cymdeithasau'r Cymmrodorion ar fcesau gwerin Morganwg. Bygythicdd y carcharor a finau mewn modd arswydus, a diweddodd drwy ddywedyd pe's gellid ein difetha ni ein dau, y byddai Cymru yn Hen wlad y IT enyg gwynion."

Mr. U. A oedd ef mewn difrif ar y pryd, neu yn cellwair?

Mr. R. Yn ceUwair? WeJ, os gwelais i murder yn llygad neb yr oedd yn llygad yr erlynydd y pryd hwnw.

Mr. U. Pa bryd yn yr haf y digwyddodd hyn?

Mr. R. Tua diwedd mis Awst. r. U. Felly, ychydig cyn yr helynt hwn?

Mr. R. le'n siwr.

[Mr. Uchelgais yn eistedd.]

xxxxx
Mr. Gwladgarwr. 'Dych chwi a'r erlynydd ddim yn gyfeillion?

Mr. R. Nac ydym, diolch i'r nef I

Mr. G. Ac nid ydych chwaith yn ffryndiatt a'ch brawd,

Mr. Gwareiddiad?

Mr. R. O, 'rwyf fi'n ffond iawn O hono efy ond mae ef wedi cenfigenu wrthyf am fy mod yn fwy poblogaidd nag ef.

Mr. G. Ac ai nid yw'n wir eich bod yn ceisio dirgymhell pobl mai

Mr. Gwareiddiad ydych chwi?

Mr. R. 'Does dim eisieu i fi eu dirgymhell.

Mr. G. (yn sarug). 'Nawr syr, atebwch y cwestiwn, a chewch areithio wedyn.

Mr. R. Na, ni wnes erioed.

Mr. G. 'Nawr, syr, cofiwch eich bod ar eich llw. Ai ni fuoch yn cymeryd arnoch mai, Gwareiddiad oedd eich enw?

Mr. R. Do: ond - 

Mr. G. Ac ai ni wnaeth eich brawd eich gorfodi i alw eich hunan wrth eich iawn. enw?

Mr. R. Do.

Mr. G. Wel, syr, ffordd y dywedwch n& cheisioch ddirgymhell pobl mai chwi oedd

Mr. Gwareiddiad?

[Mr. R. yn methu ateb.]

Mr. G. Dim ateb? Wel, awn ymlaen, Yr ydych yn cashau

Mr. Cymraeg?

Mr. R. Ydwyf: efe yw'r dyhiryn gwaelaf yn y wlad.

Mr. G. Ac yr ydych wedi bygwth ei Jadd, pe caech gyfle?

Mr. R. Gwnawn un peth a allwn

Mr. G. Da chwi, syr, treiwch gadw eich: meddwl ar fy ngwestiwn. A wnaethoch fygwth ei ladd pe gallech?

Mr. R. Do a byddai'n fendith i'r wlad a'r genedl pe'i symudid ef allan o'r ffordd.

Mr. G. (dan wenu ar y rheithwyr). Fe wet y rheithwyr 'nawr faint o ymddiriedaeth i, osod ar eich tystiolaeth chwi yn y mater hwn.

[Mr. Gwladgarwr yn eistedd.J

Mr. Uchelgais.

Mr. Rhith-gwareiddiad. Er eich bod yn cashau'r erlynydd, a ydycb wedi dyweyd un gair o anwiredd ar eich llw heddyw?

Mr. R. Dim gair.

[Mr R. yn ymneillduo.] (I'w barhau.)

13 Rhagfyr 1902

http://papuraunewydd.llyfrgell.cymru/view/3106388/3106394

RAWF DIC SION DAFYDD. ALLEGORI DDRAMAYDDOL GAN LLEWELYN WYN. BARNWR. YE ANRHYDEDDUS SYR CARU CYFIAWNDER. CLEBC Y LLYS. I COFEESTEYDD Y

Mr. Cryno. |

Mr. Digyffro. GWAS Y BARNWR.

Mr. Clir-ei-lais. DADLEUWYR. Dnos YR ERLYNIAD. I DROB Y CARCHAROR.

Mr. Gwladgarwr.

Mr. Uchelgaie. TYSTION. Mr Cymraeg, yr erlynydd.

Mr. Masnach.

Mr. Llen Cymru.

Mr. Codi-yn-y-byd, mab y Mrs. Crefydd Cymru carcharor. (gwraig

Mr. Llen). Miss Balchder, merch y Miss AddysgCymru,merch carcharor.

Mr. Llen.

Mr. Rhith-Gwareiddiad.

Mr. Gwareiddiad. Dr. Rhagfarn. Dr. Hanes. Heddgeidwad Gor-selog. UAECHABOE. DIE SION DAFYDD. HHEITHWYE.

Mr. Cydwybod (blaenor),

Mr. Union,

Mr. Chwareu-Teg,

Mr. Gwel'd-bob-ochr,

Mr. Geirwir,

Mr. Didderbyn-wyneb,

Mr. Gonest,

Mr. Diofn,

Mr. Tawel,

Mr. Synwyrol,

Mr. Diwylliant,

Mr. Deallgar. (Parhad).

Mr. Uchelgais. Dr. Rhagfarn

Mr. Clir-ei-Iais. Dr. Rhagfarn I Dr. Rhagfarn TYST V.

Mr. Uchelgais. Dr. Rhagfarn, yr ych yn hen gyfarwydd a'r carcharor a'r erlynydd? Dr. R. Ydwyf.

Mr. U. Yr ych wedi clywed y dystiolaeth heddyw ynghylch yr hen anghydfod rhwng y ddau. A ydych yn cydfyn'd a'r hyn ddywedwyd? Dr. R. Gwir bob gair.

Mr. U. Yr ydym wedi clywed fod y carcharor weithiau bron gwallgofi? Beth yw'ch barn chwi, fel ei feddyg? Dr. R. Gallaf ddyweyd na fu erioed hynawsach na thirioned dyn na'r carcharor. Mae yn hail fellow well met mewn ty a thafarn, mewn eglwys neu football field. Mae yn un o'r bobl fwyaf synwyrol wn i am dano, ac yn bollol anhebyg i wneyd niwed i neb.

Mr. U. A wnaethoch chwi edrych ar glwyf yr erlynydd? Dr. R. Do.

Mr. U. Beth ddywedech chwi am y modd y daeth o hyd iddo? Dr. R. Gwn fod yr erlynydd yn dioddef oddiwrth y bendro ambell waith, a'i fod wedi llewygu fwy nag unwaith. Mae yn eiddilyn o ran corff, meddwl, ac yst&d, ac mor nwydus fel y gellir ei alw yn wallgofddyn ambell i dro. Nis gall oddef gair o gerydd, er mor dyner, na chydymod a'r gwrthwynebiad lleiaf. Fy marn yw iddo gael fit o'r bendro pan gyferfu a'r carcharor, ac iddo syrthio i lawr mewn haner llewyg, a tharo ei gern yn erbyn careg lem, ac mai dyna oedd achos ei glwyf.

Mr. U. A ddywedech y gellid achosi'r clwyf gan gyllell? Dr. R. Mae hyny'n bosibl: ond nid yn debygol.

[Mr. Uchelgais yn eistedd.]

Mr. Gwladgarwr. 'Rych chwithau a'r erlynydd yn elynion er's blynyddau? Dr. R. 'Does dim posibl i foneddwr fodyn ffryns a'r fath borcyn gwael!

Mr. G. Fe ddywed'soch eiriau celyd yn ei erbyn ym Mrad y Llyfrau Gleision? Dr. R. Dim haner digon caled i siwtio'r fath ynfydyn carpiog 1

Mr. G. Ac yr ych wedi dyweyd yn gyhoeddus y dylid rhoddi pen ar ei einioes? Dr. R. Drwy rym cyfraith, syr

Mr. G, O'r goreu. Ond ai ni ddywed'soch fod bai ar y fam-faeth a'i derbyniodd i'r byd na fuasai wedi ei lindagu cyn iddo siarad gair? Dr. R. Credaf, fel meddyg, ei fod yn ddyledswydd i amddifadu pob erthyl brwnt o anadl einioes, a gwae fi na fuasai'r erlynydd wedi derbyn y fath driniaeth.

Mr. G. Gyda Haw, Dr. Rhagfarn, gan eich bod yn siarad fel meddyg," a ydych wedi pasio arholiad meddygol yn y wlad hen? Dr. R. Naddo.

Mr. G. Ymh'le ynte y graddioch? Dr. R. Yn yr un Brifysgol, syr, ag y graddiodd

Mr. Rhith-Gwareiddiad, sef, ym Mhrifysgol Anniwylliant yn Ymherodraeth Nwyd a Dallbleidiaeth.

Mr. G. Mae'n dda genyf glywed eich qualifications, Dr. Rhagfarn.

[Mr. Gwladgarwr yn eistedd.] Y Barnwr. Dr. Rhagfarn, a welsoch chwi'r carcharor erioed wedi colli ei dymher? Dr. R. Wel, f'arglwydd, do, unwaith neu ddwy? Y Barnwr. Oedd yr erlynydd gerllaw ar y pryd? Dr. R. Oedd: fe oedd achos y dymher ddrwg. Y Barnwr. A oedd y carcharor fel pe wedi eolli ar ei hunan? Dr. R. Wei, 'roedd yr erlynydd yn ddigon i yru'r callaf yn walJgof

[Dr. Rhagfarn yn ymadael.]

Mr. Uchelgais. Rhynged bodd eich Arglwyddiaeth a Boneddigion y Rheithwyr. Yr ydych erbyn hyn wedi clywed y ffeithiau i gyd, ac fe feiddiaf ddyweyd eich bod er's amser wedi penderfynu na chlywscch erioed a'ch clustiau'r fath sotbach mewn Ilys cyfraith o'r blaen. Yn awr, pwy yw'r erlynydd? Clywsoch ei gymeriad. Dyn nwydwyllt, sarug, cas, yn wastad yn chwythu bygythion a chelanedd yn erbyn pawb na phlygant lin o'i flaen ef, os gwelwch fod yn dda. 'Does ddadl nad ydyw er's blynyddau wedi dilyn y carcharor droiau a'i fygythion a'i enllibau. A oes un o honoch, foneddigion, heb fod yn sicr yn eich meddwl y buasai'r erlynydd wedi rhoddi taw oesol ar y carcharor pes gallai? Ond mae wedi methu. Er ei ddirmygu a'i enllibio mewn ffair a marchnad, mewn tref ac eglwys, mewn steddfod a chwrdd pregethu, mae Die Sion Dafydd yn fyw o hyd. Ac felly, o'i gasineb angerddol, ar ol methu ei yru ar ffo, mae

Mr. Cymraeg yn meddwl cael gwared arno drwy eich help chwi! Beth yw'r hanes glywsom heddyw? Ar bryanawngwaith ym mis Medi cyferfu'r ddau elyn drwy ddamwain yn agos i dy'r carcharor. 'Does neb wedi beiddio awgrymu fod y carcharor wedi cynllunio'r cyfarfyddiad. Anhap a damwain oedd y cyfan. A pha beth oedd stad meddwl y ddau, un at y llall? Clywsoch fod Die Sion Dafydd wedi llwyddo i gadw'r erlynydd allan o Eisteddfod Bangor. A oedd hyny'n dueddol i wneyd Die yn waeth ei dymher? Die oedd wedi enill y dydd: yr erlynydd mewn nwydau, fel y gorfu iddo gyfaddef wrthyf.
Dyna'r ddau yn decbreu siarad, un yn bygwth y llall, fel y gallwch gasglu. Yn y cythrwfl, syrthiodd

Mr. Cymraeg i'r llawr. Clywsoch ei hanes gan y meddygon. Mae ei feddyg ei hun yn gorfod cydnabod fod yr erlynydd wedi llewygu unwaith neu ddwy o'r blaen. Ydych chwi ddim yn meddwl mai'r stori fwyaf rhesymol yw iddo syrtnio'r tro hwn, a tharo ei ben yn erbyn careg lem?
Cofiwch, 'doedd neb arall yno ar y pryd, dim ond y ddau hyn. Nid oes eisieu i mi ofyn i chwi, p'un o'r ddau wnewch gredu? Digon i mi yw gofyn, a ych yn sicr, tuhwnt i bob amheuaeth, mai'r carcharor wnaeth glwyfo

Mr. Cymraeg? Os oes yr amheuaeth lleiaf yn eich mynwesau, yna gollyngwch y carcharor yn rhydd, - yn rhydd i fyn'd yn 61 at ei deulu i fyw bywyd tawel, heddychlon a daionus fel y gwnaeth cyn i'r helynt hwn ei ysgaru oddiwrth ei anwyliaid a'i geraint a'i gyfeillion

Mr. Gwladgarwr. Nid oes eisieu i mi, Foneddigion y Rheitbryr, eich cadw ond am foment neu ddwy ymhellach. Gallwch benderfynu gystal a gwell na minau ar eich dedfryd. Dywedodd fy nghyfaill dysgedig wrthych os ceddech mewn amheuaeth y dylecfc ollwng y carcharor yn rhydd. Ie, ond ccfiwch y dylai'ch amheuaeth fod wedi ei sylfaenu ar reswm. Gofynaf i chwi, a oes amheuaeth rhesymol yn eich meddwl ynghylch enwogrwydd y carcharor? Un peth sydd sicr, i

Mr. Cymraeg gael ei glwyfo. Pa fodd? Dy-wed ef yn bendant mai'r carcharor a'i clwyfodd a chyllell. Pan ddangoswyd y gyllellyna iddo, dywedodd, Un fel yna oedd yn llaw'r carcharor pan darawodd fi." Cafwyd gafael yn y gyllell gan yr Heddgeidwad ger llaw'r fan y syrthicdd yr erlynydd. Pan gyhuddwyd y carcharor o'r trosedd, beth wnaeth? A wnaeth ef wadu? Dim o'r fath beth. Tystiodd yn haerllug ei fod yn falch i'r erlynydd gael ei glwyfo. Foneddigicn, ni wnaf ymhelaethu. Os ydych yn credu'r Heddgeidwad, eto mae'r carcharor yn euog. Os hyn yw eich barn, gwn na wnewch betruso rhcddir i'ch barn ei llafar. Y Barnwr. Foneddigion y Rheithwyr; ar ol y gwrandawiad astud a roddasoch i bobdarn o'r dystiolaeth, ac ar ol yr areithiau medrus yr ych wedi glywed, ni wnaf eich cadw yn hir gyda geiriau o'm heiddo i. Mae yn wir ddrwg genyf weled gwr fel y carcharor yn sefyll wrth y bà r, a gwn y bydd yn galed i chwi wneyd eich meddyliau i fyny. Ond yr ydym yma i wneyd cyfiawnder ac i wneyd y gylraith oil yn oll, a pha mor galed bynag y bo, rhaid i chwi a minau wneyd ein dyledswydd yn ddi-dderbyn-wyneb. Mae'n amlwg fod anghydfod yn ffynu rhwng yr erlynydd a'r carcharor er's blynyddau lawer. Nid ein gwaith ni heddyw yw chwilio p'un oedd ar fai yn hyn. Feallai fod bai ar y ddwy ochr-nis gwn. Ond nid yw yn erbyn cyfaith y tir i ddau wr fod yn elynion. Yn wir, dysa sydd yn rhoddi gwaith i'r cyfreithwyr I Ond mae gorfodiaeth ar i bawb fyw'n heddychlon a'u gilydd. A'r cwestiwn sydd genych chwi i'w ateb yw. A wnaeth y carcharor glwyfo'r erlynydd a chyllell ar yr wythfed o Fedi? Os do, a oedd rhywbeth yn ymddygiad yr erlynydd yn cyfiawnhau'r weithre? Gyda golwg: ar y cwestiwn cyntaf, mae'n anhawdd gweled pa fodd y gellwch osgoi dyfod i'r farn i'r carcharor glwyfo'r erlynydd. Chwychwi, foneddigion, sydd i farnu, nid myfi. Nis gallaf ii, ond rhoi fy 'mhiniwn i chwi.. Os nad yw yn werth eich sylw, gadewch ef naill ochr. Chwi sydd yn gyfrifol am eich dedfryd, nid myfL Ond fel y dywedais, anhawdd genyf fi ddirnad pa fodd y gellwch osgoi'r canlyniad. Stori feddal, gallwn gredu, yw'r stori am lewyg yr erlynydd. 'Does dim prawf o'r fath beth: tystiolaeth Dr. Hanes yw nad yw'r erlynydd. wedi llewygu er's blynyddau lawer. Dywed

Mr. Cymraeg iddo wel'd y gyllell yn llaw'r carcharor. A yw

Mr. Cymraeg y dyweyd celwydd noethlymyn? A yw wedi dod i'r llys i dyngu anudon? Anhawdd genyf gredu hyny. Mae'n ffaith i'r Heddgeidwad gael cyllell y carcharor gerllaw: pa fodd y daeth y gylleIl yno, yn agored? Gofynodd

Mr. Gwladgarwr i chwi osod pwys ar yr hanes roddodd yr Heddgeidwad o'r siarad fu rhyngddo ef a'r carcharor pan gymerwyd ef i'r ddalfa. Ond ar ol y dull afreolus y rhoddodd yr Heddgeidwad ei dystiolaeth yn y llys, mae'n rhaid i mi ofyn i chwi i beidio rhoi dim sylw i'r rhan yna o'r dystiolaeth. Os felly y dowch i'r penderfyniad mai'r carcharor glwyfodd yr erlynydd, cyfyd cwestiwn arall,-A oedd rhywbeth yn ymddygiad yr erlynydd yn cyfiawnhau'r weithred? Eto, chwi sydd i benderfynu. Ni wnaf ond esbonio'r gyfraith. Hyn yw cyfraith, tir ar y pwnc. Mae hawl gan wr i amddiffyn ei einioes drwy gymeryd ymaith einioes arall, os nad oes modd arall. Os gwel gwr elyn yn anelu dryll ato, mae ganddo hawl i'w saethu. Os ymosodir ar wr gan arall a chleddyf, mae ganddo hawl i drywanu'r arall hwn a chleddyf. Ond os ymosodir ar wr gan arall a'i ddyrnau'n unig, nid oes hawl gan y gwr i amddiffyn ei hun a chyllell neu gleddyf, neu bistol. Yn awr, a oedd y carcharor mewn perygl am ei fywyd pan gyferfu a'r erlynydd yn heol Rhagfarn ar yr wythfed o Fedi? Nid oedd gant yr erlynydd, yn ol yr hyn a glywsom, na ffoTh

xxxxx

xxxxx

(delwedd J4503) (Celt Llundain. 12 Rhagfyr 1902.)

(delwedd J4504) (Celt Llundain. 12 Rhagfyr 1902.)

(delwedd J4505) (Celt Llundain. 12 Rhagfyr 1902.)

(delwedd J4506) (Celt Llundain. 12 Rhagfyr 1902.)

(delwedd J4507) (Celt Llundain. 12 Rhagfyr 1902.)

(delwedd J4508) (Celt Llundain. 12 Rhagfyr 1902.)

(delwedd J4509) (Celt Llundain. 12 Rhagfyr 1902.)

(delwedd J4510) (Celt Llundain. 12 Rhagfyr 1902.)

12 12 1902

http://papuraunewydd.llyfrgell.cymru/view/3106388/3106394

Newyddion  Dyfynnu  Rhannu
PRAWF DIC SION DAFYDD. ALLEGORI DDRAMAYDDOL GAN LLEWELYN WYN. BARNWR. YE ANRHYDEDDUS SYR CARU CYFIAWNDER. CLEBC Y LLYS. I COFEESTEYDD Y

Mr. Cryno. |

Mr. Digyffro. GWAS Y BARNWR.

Mr. Clir-ei-lais. DADLEUWYR. Dnos YR ERLYNIAD. I DROB Y CARCHAROR.

Mr. Gwladgarwr.

Mr. Uchelgaie. TYSTION. Mr Cymraeg, yr erlynydd.

Mr. Masnach.

Mr. Llen Cymru.

Mr. Codi-yn-y-byd, mab y Mrs. Crefydd Cymru carcharor. (gwraig

Mr. Llen). Miss Balchder, merch y Miss AddysgCymru,merch carcharor.

Mr. Llen.

Mr. Rhith-Gwareiddiad.

Mr. Gwareiddiad. Dr. Rhagfarn. Dr. Hanes. Heddgeidwad Gor-selog. UAECHABOE. DIE SION DAFYDD. HHEITHWYE.

Mr. Cydwybod (blaenor),

Mr. Union,

Mr. Chwareu-Teg,

Mr. Gwel'd-bob-ochr,

Mr. Geirwir,

Mr. Didderbyn-wyneb,

Mr. Gonest,

Mr. Diofn,

Mr. Tawel,

Mr. Synwyrol,

Mr. Diwylliant,

Mr. Deallgar. (Parhad).

Mr. Uchelgais. Dr. Rhagfarn

Mr. Clir-ei-Iais. Dr. Rhagfarn I Dr. Rhagfarn TYST V.

Mr. Uchelgais. Dr. Rhagfarn, yr ych yn hen gyfarwydd a'r carcharor a'r erlynydd? Dr. R. Ydwyf.

Mr. U. Yr ych wedi clywed y dystiolaeth heddyw ynghylch yr hen anghydfod rhwng y ddau. A ydych yn cydfyn'd a'r hyn ddywedwyd? Dr. R. Gwir bob gair.

Mr. U. Yr ydym wedi clywed fod y carcharor weithiau bron gwallgofi? Beth yw'ch barn chwi, fel ei feddyg? Dr. R. Gallaf ddyweyd na fu erioed hynawsach na thirioned dyn na'r carcharor. Mae yn hail fellow well met mewn ty a thafarn, mewn eglwys neu football field. Mae yn un o'r bobl fwyaf synwyrol wn i am dano, ac yn bollol anhebyg i wneyd niwed i neb.

Mr. U. A wnaethoch chwi edrych ar glwyf yr erlynydd? Dr. R. Do.

Mr. U. Beth ddywedech chwi am y modd y daeth o hyd iddo? Dr. R. Gwn fod yr erlynydd yn dioddef oddiwrth y bendro ambell waith, a'i fod wedi llewygu fwy nag unwaith. Mae yn eiddilyn o ran corff, meddwl, ac yst&d, ac mor nwydus fel y gellir ei alw yn wallgofddyn ambell i dro. Nis gall oddef gair o gerydd, er mor dyner, na chydymod a'r gwrthwynebiad lleiaf. Fy marn yw iddo gael fit o'r bendro pan gyferfu a'r carcharor, ac iddo syrthio i lawr mewn haner llewyg, a tharo ei gern yn erbyn careg lem, ac mai dyna oedd achos ei glwyf.

Mr. U. A ddywedech y gellid achosi'r clwyf gan gyllell? Dr. R. Mae hyny'n bosibl: ond nid yn debygol.

xxxxx
[Mr. Uchelgais yn eistedd.]

Mr. Gwladgarwr. 'Rych chwithau a'r erlynydd yn elynion er's blynyddau? Dr. R. 'Does dim posibl i foneddwr fodyn ffryns a'r fath borcyn gwael!

Mr. G. Fe ddywed'soch eiriau celyd yn ei erbyn ym Mrad y Llyfrau Gleision? Dr. R. Dim haner digon caled i siwtio'r fath ynfydyn carpiog 1

Mr. G. Ac yr ych wedi dyweyd yn gyhoeddus y dylid rhoddi pen ar ei einioes? Dr. R. Drwy rym cyfraith, syr

Mr. G, O'r goreu. Ond ai ni ddywed'soch fod bai ar y fam-faeth a'i derbyniodd i'r byd na fuasai wedi ei lindagu cyn iddo siarad gair? Dr. R. Credaf, fel meddyg, ei fod yn ddyledswydd i amddifadu pob erthyl brwnt o anadl einioes, a gwae fi na fuasai'r erlynydd wedi derbyn y fath driniaeth.

Mr. G. Gyda Haw, Dr. Rhagfarn, gan eich bod yn siarad fel meddyg," a ydych wedi pasio arholiad meddygol yn y wlad hen?
Dr. R. Naddo.

Mr. G. Ymh'le ynte y graddioch? Dr. R. Yn yr un Brifysgol, syr, ag y graddiodd

xxxxx
Mr. Rhith-Gwareiddiad, sef, ym Mhrifysgol Anniwylliant yn Ymherodraeth Nwyd a Dallbleidiaeth.

Mr. G. Mae'n dda genyf glywed eich qualifications, Dr. Rhagfarn.

[Mr. Gwladgarwr yn eistedd.] Y Barnwr. Dr. Rhagfarn, a welsoch chwi'r carcharor erioed wedi colli ei dymher? Dr. R. Wel, f'arglwydd, do, unwaith neu ddwy? Y Barnwr. Oedd yr erlynydd gerllaw ar y pryd? Dr. R. Oedd: fe oedd achos y dymher ddrwg. Y Barnwr. A oedd y carcharor fel pe wedi eolli ar ei hunan? Dr. R. Wei, 'roedd yr erlynydd yn ddigon i yru'r callaf yn walJgof

[Dr. Rhagfarn yn ymadael.]

xxxxx
Mr. Uchelgais. Rhynged bodd eich Arglwyddiaeth a Boneddigion y Rheithwyr. Yr ydych erbyn hyn wedi clywed y ffeithiau i gyd, ac fe feiddiaf ddyweyd eich bod er's amser wedi penderfynu na chlywscch erioed a'ch clustiau'r fath sotbach mewn Ilys cyfraith o'r blaen. Yn awr, pwy yw'r erlynydd? Clywsoch ei gymeriad. Dyn nwydwyllt, sarug, cas, yn wastad yn chwythu bygythion a chelanedd yn erbyn pawb na phlygant lin o'i flaen ef, os gwelwch fod yn dda. 'Does ddadl nad ydyw er's blynyddau wedi dilyn y carcharor droiau a'i fygythion a'i enllibau. A oes un o honoch, foneddigion, heb fod yn sicr yn eich meddwl y buasai'r erlynydd wedi rhoddi taw oesol ar y carcharor pes gallai? Ond mae wedi methu. Er ei ddirmygu a'i enllibio mewn ffair a marchnad, mewn tref ac eglwys, mewn steddfod a chwrdd pregethu, mae Die Sion Dafydd yn fyw o hyd. Ac felly, o'i gasineb angerddol, ar ol methu ei yru ar ffo, mae

xxxxx
Mr. Cymraeg yn meddwl cael gwared arno drwy eich help chwi! Beth yw'r hanes glywsom heddyw? Ar bryanawngwaith ym mis Medi cyferfu'r ddau elyn drwy ddamwain yn agos i dy'r carcharor. 'Does neb wedi beiddio awgrymu fod y carcharor wedi cynllunio'r cyfarfyddiad. Anhap a damwain oedd y cyfan. A pha beth oedd stad meddwl y ddau, un at y llall? Clywsoch fod Die Sion Dafydd wedi llwyddo i gadw'r erlynydd allan o Eisteddfod Bangor. A oedd hyny'n dueddol i wneyd Die yn waeth ei dymher? Die oedd wedi enill y dydd: yr erlynydd mewn nwydau, fel y gorfu iddo gyfaddef wrthyf.
Dyna'r ddau yn decbreu siarad, un yn bygwth y llall, fel y gallwch gasglu. Yn y cythrwfl, syrthiodd

Mr. Cymraeg i'r llawr. Clywsoch ei hanes gan y meddygon. Mae ei feddyg ei hun yn gorfod cydnabod fod yr erlynydd wedi llewygu unwaith neu ddwy o'r blaen. Ydych chwi ddim yn meddwl mai'r stori fwyaf rhesymol yw iddo syrtnio'r tro hwn, a tharo ei ben yn erbyn careg lem?
Cofiwch, 'doedd neb arall yno ar y pryd, dim ond y ddau hyn. Nid oes eisieu i mi ofyn i chwi, p'un o'r ddau wnewch gredu? Digon i mi yw gofyn, a ych yn sicr, tuhwnt i bob amheuaeth, mai'r carcharor wnaeth glwyfo

Mr. Cymraeg? Os oes yr amheuaeth lleiaf yn eich mynwesau, yna gollyngwch y carcharor yn rhydd, - yn rhydd i fyn'd yn 61 at ei deulu i fyw bywyd tawel, heddychlon a daionus fel y gwnaeth cyn i'r helynt hwn ei ysgaru oddiwrth ei anwyliaid a'i geraint a'i gyfeillion

xxxxx
Mr. Gwladgarwr. Nid oes eisieu i mi, Foneddigion y Rheitbryr, eich cadw ond am foment neu ddwy ymhellach. Gallwch benderfynu gystal a gwell na minau ar eich dedfryd. Dywedodd fy nghyfaill dysgedig wrthych os ceddech mewn amheuaeth y dylecfc ollwng y carcharor yn rhydd. Ie, ond ccfiwch y dylai'ch amheuaeth fod wedi ei sylfaenu ar reswm. Gofynaf i chwi, a oes amheuaeth rhesymol yn eich meddwl ynghylch enwogrwydd y carcharor? Un peth sydd sicr, i

Mr. Cymraeg gael ei glwyfo. Pa fodd? Dy-wed ef yn bendant mai'r carcharor a'i clwyfodd a chyllell. Pan ddangoswyd y gyllellyna iddo, dywedodd, Un fel yna oedd yn llaw'r carcharor pan darawodd fi." Cafwyd gafael yn y gyllell gan yr Heddgeidwad ger llaw'r fan y syrthicdd yr erlynydd. Pan gyhuddwyd y carcharor o'r trosedd, beth wnaeth? A wnaeth ef wadu? Dim o'r fath beth. Tystiodd yn haerllug ei fod yn falch i'r erlynydd gael ei glwyfo. Foneddigicn, ni wnaf ymhelaethu. Os ydych yn credu'r Heddgeidwad, eto mae'r carcharor yn euog. Os hyn yw eich barn, gwn na wnewch betruso rhcddir i'ch barn ei llafar. Y Barnwr. Foneddigion y Rheithwyr; ar ol y gwrandawiad astud a roddasoch i bobdarn o'r dystiolaeth, ac ar ol yr areithiau medrus yr ych wedi glywed, ni wnaf eich cadw yn hir gyda geiriau o'm heiddo i. Mae yn wir ddrwg genyf weled gwr fel y carcharor yn sefyll wrth y bà r, a gwn y bydd yn galed i chwi wneyd eich meddyliau i fyny. Ond yr ydym

xxxxx
yma i wneyd cyfiawnder ac i wneyd y gylraith oil yn oll, a pha mor galed bynag y bo, rhaid i chwi a minau wneyd ein dyledswydd yn ddi-dderbyn-wyneb. Mae'n amlwg fod anghydfod yn ffynu rhwng yr erlynydd a'r carcharor er's blynyddau lawer. Nid ein gwaith ni heddyw yw chwilio p'un oedd ar fai yn hyn. Feallai fod bai ar y ddwy ochr-nis gwn. Ond nid yw yn erbyn cyfaith y tir i ddau wr fod yn elynion. Yn wir, dysa sydd yn rhoddi gwaith i'r cyfreithwyr I Ond mae gorfodiaeth ar i bawb fyw'n heddychlon a'u gilydd. A'r cwestiwn sydd genych chwi i'w ateb yw. A wnaeth y carcharor glwyfo'r erlynydd a chyllell ar yr wythfed o Fedi? Os do, a oedd rhywbeth yn ymddygiad yr erlynydd yn cyfiawnhau'r weithre? Gyda golwg: ar y cwestiwn cyntaf, mae'n anhawdd gweled pa fodd y gellwch osgoi dyfod i'r farn i'r carcharor glwyfo'r erlynydd. Chwychwi, foneddigion, sydd i farnu, nid myfi. Nis gallaf ii, ond rhoi fy 'mhiniwn i chwi.. Os nad yw yn werth eich sylw, gadewch ef naill ochr. Chwi sydd yn gyfrifol am eich dedfryd, nid myfL Ond fel y dywedais, anhawdd genyf fi ddirnad pa fodd y gellwch osgoi'r canlyniad. Stori feddal, gallwn gredu, yw'r stori am lewyg yr erlynydd. 'Does dim prawf o'r fath beth: tystiolaeth Dr. Hanes yw nad yw'r erlynydd. wedi llewygu er's blynyddau lawer. Dywed

Mr. Cymraeg iddo wel'd y gyllell yn llaw'r carcharor. A yw

xxxxx
Mr. Cymraeg y dyweyd celwydd noethlymyn? A yw wedi dod i'r llys i dyngu anudon? Anhawdd genyf gredu hyny. Mae'n ffaith i'r Heddgeidwad gael cyllell y carcharor gerllaw: pa fodd y daeth y gylleIl yno, yn agored? Gofynodd

Mr. Gwladgarwr i chwi osod pwys ar yr hanes roddodd yr Heddgeidwad o'r siarad fu rhyngddo ef a'r carcharor pan gymerwyd ef i'r ddalfa. Ond ar ol y dull afreolus y rhoddodd yr Heddgeidwad ei dystiolaeth yn y llys, mae'n rhaid i mi ofyn i chwi i beidio rhoi dim sylw i'r rhan yna o'r dystiolaeth. Os felly y dowch i'r penderfyniad mai'r carcharor glwyfodd yr erlynydd, cyfyd cwestiwn arall,-A oedd rhywbeth yn ymddygiad yr erlynydd yn cyfiawnhau'r weithred? Eto, chwi sydd i benderfynu. Ni wnaf ond esbonio'r gyfraith. Hyn yw cyfraith, tir ar y pwnc. Mae hawl gan wr i amddiffyn ei einioes drwy gymeryd ymaith einioes arall, os nad oes modd arall. Os gwel gwr elyn yn anelu dryll ato, mae ganddo hawl i'w saethu. Os ymosodir ar wr gan arall a chleddyf, mae ganddo hawl i drywanu'r arall hwn a chleddyf. Ond os ymosodir ar wr gan arall a'i ddyrnau'n unig, nid oes hawl gan y gwr i amddiffyn ei hun a chyllell neu gleddyf, neu bistol. Yn awr, a oedd y carcharor mewn perygl am ei fywyd pan gyferfu a'r erlynydd yn heol Rhagfarn ar yr wythfed o Fedi? Nid oedd gant yr erlynydd, yn ol yr hyn a glywsom, na ffoTh

Sumbolau:

a A / æ Æ / e E / ɛ Ɛ / i I / o O / u U / w W / y Y /
ā
Ā / ǣ Ǣ / ē Ē / ɛ̄ Ɛ̄ / ī Ī / ō Ō / ū Ū / w̄ W̄ / ȳ Ȳ /
ă Ă / ĕ Ĕ / ĭ Ĭ / ŏ Ŏ / ŭ Ŭ /
ˡ ɑ ɑˑ aˑ a: / æ æ: / e eˑe: / ɛ ɛ: / ɪ iˑ i: / ɔ oˑ o: / ʊ uˑ u: / ə / ʌ /
ẅ Ẅ / ẃ Ẃ / ẁ Ẁ / ŵ Ŵ /
ŷ Ŷ / ỳ Ỳ / ý Ý / ɥ
ˡ ð ɬ ŋ ʃ ʧ θ ʒ ʤ / aɪ ɔɪ əɪ uɪ ɪʊ aʊ ɛʊ əʊ /

ә ʌ ẃ ă ĕ ĭ ŏ ŭ ẅ ẁ Ẁ ŵ ŷ ỳ Ỳ
wikipedia, scriptsource. org

Y TUDALEN HWN /THIS PAGE / AQUESTA PÀGINA:
www.[] kimkat.org/amryw/1_testunau/sion-prys_316_prawf-dic-sion-dafydd_celt-llundain_1902_3600k.htm

Ffynhonnell / Font / Source: archive.org
Creuwyd / Creada / Created: 25-01-2021
Adolygiadau diweddaraf /
Darreres actualitzacions / Latest updates: 25-01-2021
Delweddau / Imatges / Images:

Freefind:

Archwiliwch y wefan hon
SEARCH THIS WEBSITE
...
Adeiladwaith y wefan
SITE STRUCTURE
...
Beth sydd yn newydd?
WHAT’S NEW?

Ble'r wyf i? Yr ych chi'n ymwéld ag un o dudalennau'r Wefan CYMRU-CATALONIA
On sóc?
Esteu visitant una pàgina de la Web CYMRU-CATALONIA (= Gal·les-Catalunya)
Where am I?
You are visiting a page from the CYMRU-CATALONIA (= Wales-Catalonia) Website
Weə-r äm ai? Yüu äa-r víziting ə peij fröm dhə CYMRU-CATALONIA (= Weilz-Katəlóuniə) Wébsait

Statistics for Welsh Texts Section / Ystadegau’r Adran Destunau Cymraeg
hit counter script
Edrychwch ar fy Ystadegau / Mireu les estadístiques / View My Stats

DIWEDD