kimkat3526e Bob yn Ddwrnad.
Ysgrifau yn y Wenhwyseg yn y Merthyr Times 1896. Escrits en el gal·lès del
sud-est (güentià). Texts in Gwentian Welsh.
01-12-2020
● kimkat0001 Yr Hafan www.kimkat.org
● ● kimkat2001k Y
Fynedfa Gymraeg www.kimkat.org/amryw/1_gwefan/gwefan_arweinlen_2001k.htm
● ● ● kimkat0960k Mynegai i’r testunau Cymraeg yn y wefan
hon www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_mynegai_0960k.htm
● ● ● ● kimkat3526k Y tudalen hwn....
|
|
Gwefan
Cymru-Catalonia
|
|
…..
(delwedd J7441)
http://www.kimkat.org/amryw/1_gwenhwyseg/gwenhwyseg_cyfeirddalen_0934k.htm
Y Wenhwyseg - y prif dudalen
http://www.kimkat.org/amryw/1_gwenhwyseg/gwenhwyseg_cyfeirddalen_2184c.htm
El dialecte güentià del gal·lès - la pàgina prinicipal
http://www.kimkat.org/amryw/1_gwenhwyseg/gwenhwyseg_cyfeirddalen_1004e.htm
Gwentian dialect of Welsh – the main page
…..
|
16 Ionawr 1896: G3998a, G3998b, G3998c 23 Ionawr 1896: G3970a, G3970b 30 Ionawr 1896: G3971a, G3971b, G3971c 06 Chwefror 1896: G3972a, G3972b, G3972c 13 Chwefror 1896: G3973a, G3973b, G3973c 27 Chwefror 1896: G3974a, G3974b 05 Mawrth 1896: G3975a, G3975b 12 Mawrth 1896: G3995a, G3995b, G3995c 19 Mawrth 1896: G3998a, G3998b, G3998c 26 Mawrth 1896: G3994a, G3994b 02 Ebrill 1896: G4000a, G4000b, G4000c,
G4000d 16 Ebrill 1896: G3997a, G3997b, G3997c 30 Ebrill 1896: G3999a, G3999b 14 Mai 1896: G3996a, G3996b |
|
|
|
|
(delwedd G3978a) (16 Ionawr 1896) |
The Merthyr Times. The Dowlais Times, and Aberdare,
Pontypridd, Rhondda Valley, Rhymney, Tredegar, Brynmawr and Western Valleys
Echo. 16 Ionawr 1896. BOB YN DDWRNAD. [GAN EFILL Y BACHAN IFANC.] ANWYL FOS, -
“AMSERAU MERTHYR," — Pidwch a meddwl fy mod i yn mynd i dwcid
pethach y mrawd, ond ma fe wedi ala want sgrifenu arno i, ac er ei fod e wedi
cal start dda o mlan i, fe fydd rhaid iddo watshan o hyn i mas. Falla byddaf
i yn mynd dicyn bach yr un steil a fe wrth wilia, trw bod ni yn efillod; ond
wyn meddwl pico stwff y munau [aic; munan], yn lle bo fe'n cintach, wath ma
ticyn o'r deleit hyny yndo fa. Catwad e yn i breservs yn y Darian, a fe finda
ina mysnas y munan yn y Merthyr Times. Allwn i feddwl bod cymant a hyna yn ddicon o
beg pardyn i chi a fe, a thyma ti yn dechra ar y ngwaith. I chi'n diall tra
bob yn ddwrnad i chi yn mynd i gal yn stwff i, yn lle bod y darllenwrs yn
diflasu. Os dim amsar gyta'r byd yn awr i ddarllan traethoda hir fel cwta
milgwns ar bob short o destyna, wath ma rhaid i mi bwsho mlan gyta'r oes, a
doti'n ideas ar gefna bysicls a'n wits mewn electric cars. Odd hen fechgyn yn
y byd yn yr “hen amser gynt” yn gallu towli amball strôc electricaidd, a
feddyla ni, yn yr oes fombastyddol hon, dwtsh yn heta iddi nhw wrth baso fel
hyn, a w i yn meddwl towli amball "Ddwrnad” o'u pethach nhw i chi witha
wrth fynd mlan, i ni gal catw mewn cof, bod yn hen dadau ni yn gallu sparclo
ambell waith. Fe fydd hyny yn help i'n catw ni yn yn seis, yn lle bod ni'n
cwni i'r awyr fel balwns pryd bydd dim ond gas yndo ni. "Confound the ancients, they have stolen
all our good thoughts," medda rhw fachan o Sais unwaith, a odd a ddim yn
mhell iawn o'i le allwn i feddwl. Pryd bydd cwpwl ifanc yn caru, yr un hen
stori sy gyta nhw i weid wrth i gilydd ddar amsar odd Adda ac Efa yn winco ar
eu gilydd, pryd o nhw yn waco trw ardd Eden wrth ola lliad. Odd yr hen foy yn
gweid wrth Efa'i wedjan yr amsar hyny, ta hi odd y ferch lana welws a ariod,
a fod a'n colli'i sensis am deni. Os dim dowt gen i nag odd cetyn mawr o wir
yn i stori e, yr amsar hyny, ond ma'r “good thought" yn cal i gario mlan
gyta pob bachan wrth i wedjan hyd y dydd hwn. Tysa'r ferch mor salw a un o
mymis yr Aipht fe fydd i sponar hi bownd o weid bod hi mor lanad ag odd Efa'n
ddeunaw oed, ne fydd a |
|
|
|
|
(delwedd G3978b) (16 Ionawr 1896) |
ddim llawar o gownt genti. Dilyn steil y carwr
cynta i ni o hyd. Just yr un peth yw hi gyta phobpath arall. Ma hyd yn nod
pregethwrs yn Nghymru heddy yn iwso "good thoughts” hen beioniars y
pwlpud Cymreig. Anamal cewch chi bregeth, yn enwedig mewn cwrdd mawr, pan
fydd isha ticyn o hwyl, na fydd rhaid iwso ffiwel o storfeydd anhysbydd yr
hen John Elias, Williams o'r Wern, ne Christmas Evans i gynu'r tân i
wresogi'r gynulleidfa. Ac er fod y ffiwel wedi bod yn llosgi yn ngrats
geneuau pregethwrs Cymru er eu hamsar nhw hyd yn awr y mae yn para i gynhesu
eneidie gystal ag ariod. Brith iawn fysa llawar pregeth, a dôf a llipa, fydda
llawar sashwn a chymanfa, onibai am "good thoughts” hen anshants
pregethwrol Cymru. Yn y byd barddonol etto, y mae sparcs a
"good thoughts” yr hen feirdd yn creu bywyd hyd heddyw. Pwy nad yw yn
lico clywad darna o awdlau "Elusengarwch" Dewi Wyn o Eifion,
"Dinystr Jerusalem" Eben Fardd, “Heddwch" Hiraethog, “Adgyfodiad”
Cynddelw a llu erill allem enwi yn yn nechreu'r ganrif hon? Dishgwlwn nol
wetin ar oes y cywyddau. Mor fyw ma nhw'n para o hyd. Dyna “Cywydd y
Farn" Goronwy Owen, "Cywydd y Drindod" Dafydd Ionawr,
"Cywyddau Morfydd" Dafydd ap Gwilym, a dirif gywyddau erill y
cynfeirdd. Onid yw ysbryd y peth byw yn aros ynddynt o hyd? Ma'n anodd gneid
englyn yn awr na fydd rhw ddelw o'r gynghanedd ne o "good thoughts"
y tadau yndi nhw. Ma rhai o feirdd ysgoleigadd yr oes hon yn gweid bod nhw yn
tori tir newydd, ac yn ffindo ideas newyddion; ond dyn a'u helpo, ma nhwnta
hefyd, er mor glyfar i nhw, yn reido ar gefna'r anshants, ond fod nhw yn
meddwl bod nhw yn fwy cwic na rhywun arall wrth fynd i feusydd fforin i wilo
am deni nhw. Mae eu stwff newydd (?) nhw yn gwinto'n gryf o good thoughts a
good style y Saeson a'r Germans, a fysa'n well gen i fod ticyn o arogl y
nylwth i munan ar y methach i na smel "good thoughts" dynon diarth.
Fe gaiff y new bloods Cymreig weld hefyd na fydd dim cystal para yn y goods
“made in Germany," ac sydd yn yr home made article. Ma'n well iddi nhw
ddysgu reido ponies bach mynydda Cymru yn dda, na mentro ar gefna Arab breed,
a thorough breds, y fforiners. W i wedi gweid amball un o nhw yn cal |
|
|
|
|
(delwedd G3978c) (16 Ionawr 1896) |
cwmp tost cyn hyn wrth ddoti y ceffyla tramor
i neido cloddia a ffosydd cymhariaetha, ac idioms y Gymrag. Ma'n well bod yn
fishdir ar doman yn hunan, na chal yn herlid a'n peco a'n plyfio, wrth fentro
i domena diarth. Ma fforin goods yn
dishgwl yn bert yn ffenestri'r shopa, ond os ych chi yn moin cal stwff i bara
ma'n rhaid cal “Home-brewed," “Homespun," a "Home-made
Articles." I'ch helpu chi i dreilo'r "Dwrnad"
yna a'i ddeijesto yn dda, fe gewch damad o gaws blasus i gwpla. Fe fydd pawb
o'ch darllenwrs yn gwpod ar ol i ti weid ta teilwr odd pwr Trebor Mai
(barchus goffadwriaeth). Dywedodd Gwilym, Alltwen wrtho un tro am wneid
trowser, a i anfon a'r prish am dano. Fe gwplodd Trebor y trowser, ac alodd
grotyn a fe i'r Alltwen, a nodyn yn dweyd mai "Pen Rhaw" odd y
prish, sef gini, ne £1 1s. fel gwetwn ni nawr. Beth nath yr hen wag Gwilym
ond ala hen ben rhaw fel sy gen gloddiwr nol i Trebor druan, ond odd y
bardd-deiliwr up to dic mewn wincad, a fe alws y crotyn nol at yr hen rôg,
a'r englyn canlynol fel bill of account am y trowser:— Tarawsom fargen y trowsers, — yn rhwydd Am "Ben Rhaw” fel Cwacers; Ni fynaf “Rhaw” ddifaners, Rhaw aur sydd etto'n arrears. Tyma fi wedi towli y "Dwrnad” cynta o'r
coffor mawr sy gen i i chi a'r darllenwrs, ac os bydda nhw wrth y tast, ma
racor yn stôr. |
|
|
|
|
(delwedd G3970a) (23 Ionawr 1896) |
The Merthyr Times. The Dowlais Times, and
Aberdare, Pontypridd, Rhondda Valley, Rhymney, Tredegar, Brynmawr and Western
Valleys Echo. 23 Ionawr 1896. BOB YN DDWRNAD. [GAN EFILL Y BACHAN IFANC.] ANWYL FOS, — Ma un hen gymeriad notedig yn y
byd Cymrag wedi croeshi'r lein i'r byd arall yn marwolath yr hen foneddiges
anrhydeddus Lady Llanover (Gwenynen Gwent). Er nag odd hi ddim yn gallu wilia
Cymrag yn ffliwant, nac yn tarddu o wreiddyn Cymruadd, odd pob path Cymru yn
acos at i chalon hi, ac er i bod hi wedi cyrhadd yr oetran mawr o 95 mlwydd
oed, yr odd mor selog yn i opinion a bi hi ariod. Y mae Llanover yn nghenol
cymdogaetha sy erbyn heddy wedi eu trawsfeddianu gan Saeson a Saesaddolwrs,
ond nid yw yr estronaeg yn beiddio gwau ei phig i'r hen balas sydd wedi bod
yn gaerfa i feirdd a llenorion y rhan fwya o'r ganrif bresenol. Dodd dim un
bardd na llenor o nod, o un part o Gymru rhw haner can' mlynadd yn ol, nad
odd a yn gneid pererindod i Llanovar yn ystod i oes i wel'd yr Arglwyddes
Gwenynen Gwent, ac yr odd iddynt groesaw cynhas bob amsar yn enwetig os bysa
genti nhw gwpwl o englynion i'r hen lady. Hi a'i gwr, Syr Benjamin Hall,
startws Steddfota Feni, a fe startws y Steddfota hyny fywyd newydd yn
Nghymru, a fysa yn jobyn da tysa pwyllgora Steddfotol y dyddia presenol, yn
cymryd patrwm o honi. Dyw y rhan fwya o rhai sy yn cal ei cynal nawr yn ddim
ond consarts, ond odd Steddfod y Feni yn tynu talenta mas yn mhob branch o
lenyddiath, a ma Traethawd Gorchestol Mr. T. Stephens, Merthyr, ar “Hanes
Llenyddiaeth y Cymry" yn gofgolofn o honi. W i wedi clywad hen ddynon yn
gweid am yr hwyl o nhw'n gal yno lawar gwaith, ond ma'r rhan fwya o'r hen
garitors odd yn shino yr amsar hyny wedi cilo am byth, a dyma'r Arglwyddes
hitha wedi cefnu ar ei gwlad am y tro cynta ariod dydd Gwener dwetha. Ma
llawar o drysora Cymreig ar i hol hi, na ddyla'r genedl golli golwg arnynt.
Dw i ddim yn meddwl fod i acha hi yn teimlo rhw interest mawr mwn pethach
Cymrag, a fe ddylsa Offisars Iwnifersity Colej, Cardydd watshan shawns i gal
gafal yndi nhw, os bydd posib, yn lle bod nhw yn mynd ar goll. Er cystal hen fenyw odd hi, odd shew'r byd o
odities o bothti ddi. Fe glywas un o'i thenants hi yn gweid unwaith ffordd
odd y merched odd yn i gwasanath hi yn sneco i wishgo yn y ffashwn heb yn
wpod iddi pryd o nhw yn mynd o dre i rhwla. Nawr odd rhaid i'r merched wishgo
fel odd hi'n gweid miwn steil Gymrag. Gown cwta, het ychal, a gwarlen. Odd
hyny ddim yn shiwto i fynd I gwrdd a'n sponars, a beth odd y tacla sly yn
neid, ond catw shiwt spar o'r ffashwn ddwetha mwn rhw dy dicyn o ddistans o'r
palas, a mynd yno i newid y togs pryd o nhw yn mynd i gwrdd a Shoni, ne Twm,
ne Dai, er mwyn cal tiri [?] ticyn o swels wrth gwrs. Er fod yr hen lady yn
glyfar, fe welwch fod y damsels yn glyfrach. Os dim shawns maeddu'r rhyw deg
i fentro dodjis, yn enwetig os bydd sponar yn y cwestshwn. Ma nhw'n nghynt na
Edison a’r Electric Infentshons. |
|
|
|
|
(delwedd G3970b) (23 Ionawr 1896) |
Tua deng mlynadd ar ucian yn ol odd y
byd-enwog Spurgeon yn pregethu yn yr awyr-agorad yn Abercarn, a milodd lawer
wedi casglu idd i glywad a. Yn mhlith y crowd teimlodd Arglwyddes Llanover
chwant ei glywed, a gyrwyd hi yno yn ei cherbyd mewn urddas teilwng o'i
sefyllfa. Pan welodd y dorf fawr pwy odd yn dod, agorwyd ffordd trwy'r canol
i'r cerbyd fynd ymlan at y platform, a bwriadai y foneddiges eistedd ynddo i
wrando yr arch-bregethwr. Ond buan y gorchmynodd Spurgeon i'r Arglwyddes ddod
i'r stage, ac i'r cerbyd gael ei yru ymaith, nag odd e ddim yn arfadd
pregethu i getfyla a cherbyda. Ufuddhawyd ar unwaith, ac nid oedd neb yn
gryndo yn well, nag yn teimlo mwy na'r Arglwyddes. Ar y diwedd ysgydwai law a
Mr. Spurgeon, a'r dagrau ar ei gruddiau, gan ddiolch iddo am ei bregeth
nefoledig. Y mae yr hanesyn yma yn dangos nad odd dim balcher ffronichal yn
perthyn iddi. Fe fysa llawar o'r aristocrats snobyddol yn teimlo'r insult yn
ormod i ddarostwng i sharad a'r pregethwr ar ol cal u hordro felni. Yr oedd yn drugarog lawn tuag at hen feirdd a
llenorion, a derbyniodd llawer o honynt drugaredda oddar ei llaw haelionus.
Clywais am un hen frawd yn ymyl pedwar ucian oed, wedi cal i atal yn unig heb
ffrynd na pherthynas, ac wedi gorffod troi am noddfa i’r Wyrkws. Yr oedd hi
er hyny yn anfon calenig o gini iddo bob Dydd Calan, ac yn cymhell y
swyddogion i fod yn dyner o hono, ac yr oedd trwy hyny yn cal mwy o ryddid na
rhai erill yn y tlotdy. Ond er y tynerwch fe fu farw yno, a chludwyd ei
weddillion mewn coffin plwyf yn ngherbyd y plwyf, i fedd y plwyf. Wedi claddu
yr hen bererin fe deimlodd yr ardal
fod yr hen wron wedi bod yn ddiwyd yn i amsar, a wedi tori cetyn o farc fel
bardd a llenor; a fe gnocson u pena nghyd i neid casgliad i ddoti carag ar i
fedd a. Wedi trefnu swyddogion at y gwaith, un o'r strocs cynta odd ala at y
Lady Llanover am subscripshon, a gwnaeth yr ysgrifenydd hyny yn dra
swyddogol. Buan iawn yr atebwyd y llythyr gan yr Arghwyddes, yn dweyd wrth yr
ysgrifenydd a'r pwyllgor eu bod yn ofalus iawn am gorph yr hen frawd talentog
yn ei fedd, ond mae ychydig o gydymdeimlad a ddangoso nhw shag atto amsar odd
a byw ond ta beth, am iddi nhw rhoi gwpod iddi hi, faint fysa nhw yn gasglu,
a bysa hitha wetin yn fforco mas yn deilwng i o'u hatshwns nhw. Wn i ddim
beth fu'r canlyniad, ond lled depig iddi stico at i gair, ac acto'n deilwng
fel odd hi yn arfadd gneid. Wi yn siwr fod gyta “Creidiol," Rector
parchus y Vaynor, lawar i weid am "Wenynen Gwent," gan y mod i bron
yn cretu ta hi rows start iddo yn y cyfeiriad anrhydeddus y ma fa yndo nawr,
a fe garwn i ta fa yn sgrifenu ticyn yn Gymrag ne Sysneg i'r Merthyr Times am
yr hen foneddiges wladgarol ac iaithgarol. Huned yn dawel yn ngreian Gwent,
ac na feiddied un cerfiwr dori llythyren ar ei chof-golofn ond Cymrag pur. |
|
|
|
|
(delwedd G3971a) (30 Ionawr 1896) |
The Merthyr Times. The Dowlais Times, and
Aberdare, Pontypridd, Rhondda Valley, Rhymney, Tredegar, Brynmawr and Western
Valleys Echo. 30 Ionawr 1896. BOB YN DDWRNAD. [GAN EFILL Y BACH AN IFANC.] ANWYL FOS, — Ma arath y gwladgarwr twymgalon
Mr. Llewelyn Williams, yn Llyndan yn ddiweddar, yn werth iddi phrinto a'i
spredo trwy Gymru o Fôn i Fynwy. Mae yn llawn tân cenedlgarol ac fe ddyla fod
yn meddiant pob un sy yn teimlo dros les ei wlad. Ma'n hen genedl ni yn y
dyddia diwedda hyn wedi cal i bendithio yn fwy nag ariod miwn manteision
addysg. Ysgolion rhydd, ysgolion canolraddol, coledijis ac iwnifersities,
wedi starto trw Gymru gyd, a'n merched a'n bechgyn ni yn dechra bwdo mas fel
egin y gwanwyn ar feusydd y byd meddyliol; ac yn mhen ticyn, os dim dowt na
fyddwn ni yn gallu brago bydd gyta ni gystal champions miwn dysg ag un wlad
dan haul, a na fydd dim isha i ni dwtsh yn capa i neb. Ond ma bwlch pwysig isha'i lanw, a ma Mr.
Williams yn i arath yn rhoi hint ffamws ffordd ma gneid hyny. Fel i chi yn
gwpod fod plant yn gyffretin yn gorffod gatal yr ysgol ar ol cyrhadd bothti
ddeuddeg od, a fydd gyta nhw ddim shawns wetin i ddysgu racor, na pholisho
beth ma nhw wedi ddysgu, pan o nhw yn yr ysgol, wath anamal iawn ma gwithwrs
yn gallu ffwrdo prynu stoc o lyfra iddi plant. Nawr ma'n rhaid i iengtyd gal
rhwpath i neid, a ma nhw yn trilo'n hamsar amddenol, yn herwydd nag os dim
petha gwell yn u gafal nhw, i wara carda, wara cricet, a cico ffwtbol,
&c. Beth bynag, ma Mr. Llewelyn Williams yn syjesto cal Darllenfa
(Reading Rooms) yn mhob cymdogath, a dywed fod hawl gen yn Cynghora
Dosparthol i neid hyn. Wel done, Llew bach, jest y peth sy isha. W I wedi
clywad ugeina, ie, canodd o iengtyd yn achwn na fysa lle o’r short yn yr
ardalodd ma nhw'n byw, ac yn gweid nag os gyta nhw ddim lle i fynd yn y nos
ar ol dodo’r gwaith ond i'r tafarn i drio paso'r amsar. Ma nhw yn anghofio
beth o nhw wedi ddysgu yn yr ysgol mwn cwpwl o flynydda isha na fysa rhw
institiwshons o'r short hyn yn u gafal nhw, i gatw yr ediwcashon geso nhw mwn
blas, a mwn trim. Gobeitho printiff y gwrby[n]eddig i ararth mwn
pamphlet ar frys, i gal cyfifro'n Cynghora Dosparthol i gyd at u gwaith. Pwy
iws iddi nhw gal yr hawl os na na’n nhw iws o hono ? Fe fydda yn fwy o
fendith in gwlad ni o getyn na Lecshurs Dirwestol, na Local Veto. Ma’n rhaid
i ddynon ifanc gal recrieshon ac enjoymant rhwffordd, a pwy ffordd well iddi
nhw gal hyny, na doti hufan dalenta'r oesa o'u blan nhw mwn llyfra da?
Gwetwch chi beth fynwch chi, fe weta i yto wrth Llew, “O'r boy ag e," a
gweted yr holl bobol, "Amen." |
|
|
|
|
(delwedd G3971b) (30 Ionawr 1896) |
W i yn cynyg, syr, fod y
“Ffedorashonists," y "Cymru Fyddists," y Transfaalians, y
Venezuelaists, y Cosmopolitaniaid, a Guardians Merthyr, yn cal i doti i gyd
yn yr un ffetan, a'u shiglo nhw'n dda, i gal gweld pun o nhw ddaw mas gynta,
a'u ala nhw'u gyd wetin i Shimbjyctw nes bod nhw yn dysgu'r ffordd i fiafio
fel dynon sensibl. Ma llawar o dacla yn y byd nag u nhw ddim byth yn
gontented os na fydda nhw mwn row sha rowun. Ma nhw ofan na weliff neb u seis
nhw yn y byd, os na fydda nhw yn cico dwst, ac yn catw mwstwr am rhwpath o
hyd. Ma nhw run shwt a ma'r hen stori yn gweid am y bachan odd yn mynd sha
thre wedi meddwi, "Os gwetiff Mari ni," medda fa, "rhwpath
wtho i pryd a fi i'r ty, fe gaiff glowtan ac os na wetiff hi ddim fe gaiff
glowtan hefyd." Odd clowtan i Mari ta ffordd bysa hi yn acto. Yr un peth
yw hi gyta'r short hyn o ddynon; ta ble bydda nhw, a ta beth fydd yn
mynd mlan ma'n rhaid cal rhandibw
rhwffordd, ondte fydda nhw ddim wth u bodd. All a ddim bod, fod y short hyn
am wella'r byd, ond, “Welwch chi fi” sy ar u fflags nhw wastod, a fe upsetan
y byd er mwyn iddi nhw gal bod yn y ffrynt, yn mhob man galla nhw wan i
trwyna iddo. Rhw betha bach i nhw, ac amcan u bodolaeth yw poeni cymdeithas
yn lle bod y byd yn baradwys heddychol, fel odd “Trebor Mai” yn gweid am y
“Gwibed”: - “Rhag i'r haf, araf eirian, — a'i wên hoff |
|
(delwedd G3971c) (30 Ionawr 1896) |
Gellir dishgwl am storm ddychrynllyd cyn bo
hir yto, yn nepot Guardians Merthyr ac Aberdar, pryd bydda nhw yn dewish un i
lanw lle y bachan yna sy wedi rhoi'i drad yn y tir, ne wedi cymryd y gos, a
bwndal mawr o docins y trethdalwrs, a tocins rhai erill, medda nhw ar i
gefan. Bachan cwic yw a os dim dowt. Odd y teitl reit arno, “Relifin
Offisar," yn i siwto e i'r dim, a ma fa wedi relifo pacad o'u coin yn ol
pob cownt. Falla bydd y trie yn lesn i'r awdurdoda
gorychal i wilo miwn yn fwy clos pwy fydda nhw yn ddewish y tro nesa. Ma
dicon o withwrs gonast heb fod mas o'r district ariod, alsa lanw'r swydd yn
gampus. Dynon wedi cal u geni a'u macu a wedi ala'u hamsar yn y cylch a dim
spotyn du ar u caritors nhw, a ma pob sens yn gweid ta dynon o'r short hyny
ddyla gal y shawns o swyddi o’r short hyn. Mae'n bryd towli'r gem o
weiar-pwlin naill ochor, a gatal i bob un sefyll ar i stwmps i hunan. Ma lle
cryf i gretu nag odd y dewishiad dwetha ddim wth ffodd y majority o’r
trethdalwrs, a ma rhai bron yn glorio fod y boy wedi gneid y tric er mwyn
dangos ticyn o dwtsh i'r big guns pwshws a miwn i'r jobin. Ond wara teg, odd
dim o'u telescopes nhw yn ddicon cryf i weld yn mlan shwd bysa fa'n acto. Wel, os dim i neid nawr ond trio cal gafal
yndo a dod ag e nol, iddo gal gweid i brofiad, os nag yw a wedi cal gormod o
start; a ta pwy gaiff i ddewish tro nesa, bydded iddo enill y swydd trw
deilyngdod yn unig. |
|
|
|
|
(delwedd G3972a) (06 Chwefror 1896) |
The Merthyr Times. The Dowlais Times, and Aberdare,
Pontypridd, Rhondda Valley, Rhymney, Tredegar, Brynmawr and Western Valleys
Echo. 6 Chwefror 1896. BOB YN DDWRNAD. [GAN EFILL Y BACH AN IFANC.] ANWYL FOS, - Ma'r hen ellylles ddychrynIlyd,
"Y Danchwa," wedi bod yn gneid un o'i exploits creulon yto, yn
mhlith merthyron y lofa. Fel ma'r gwitha'r modd, ma bron pob cornal o'r
cylchodd gwithfaol Deheudir Cymru wedi dod i sylw, na fysa dim llawar yn
gwpod fod nhw mwn bod ond bysa'r slotars arswydus sy'n cymryd lle yndi nhw.
Dos dim un lofa yn Rhondda Fach, nag yw ei henw wedi dod i sylw rhyw dro ne'u
gilydd yn herwydd y damweinia calonrwygol hyn. Yr wthnos ddwetha odd enw
"Tylorstown” ar flan pob tafod, yn mhob papyr, ar bob telegraph weir, a
phob telephon trwy'r deyrnas, a'r byd gwaraddedig. Dwrn anga ag un ergyd, mwn
un eiliad, yn dryllio ugeina o gartrefi, yn agor canodd o ffynona dagra, yn
esgor ar gorawd o ruddfan ac ochneidia yn parlysu ardalodd ac yn twmlo gwlad
gyfan i bydew galar ac wylofan! Druan o'r coliar clawd! "Arogla hwn
berygl o hyd." Ma peryglon o'i amgylch yn mhob man fel canons “Tennyson”
yn y "Charge of the Light Brigade." Oh! na fysa rhw fachan yn cal i
eni yn ddicon clyfar i scemo rhw ddodje i stopid martshis dinystriol yr
Ecsploshans! Ma dicon o dacla gweidlyd yn y byd yn scemo arfa a phethach i
ladd dynon clawd, ond ma nhw yn slow iawn yn u scems i achub bywyta. Ma nhw
fel sa nhw yn cownto nag yw gwithwrs clawd dim yn werth boddrach a stydio er u mwyn nhw.
Bachan nêt yw Edison i ffindio pethach mas bothti elictrisity,
a fe licwn i, syr, tysa chi ne rhw wr byneddig arall yn ala ato i drio
ffindo rhw blan i ddoti stop ar stranca erch y nwy tàn-ddaiarol [sic;
tanddaearol]. Ma'n dda gyta fi weld, pan ma rhw smashis fel hyn yn cymryd
lle, nagyw dyngarwch a chydymdeimlad ddim wedi cilo mas o'r byd oltwgeddar.
Na, ma'r catastrophe hyn yn acor calona a phoceti yn dynon cyfoethog ni, a ma
nhw am y cynta yn ala balm elusen i esmwytho dicyn bach ar y clwyfau, ac yn
gweid mwn ffordd blaen bod ni gyd o'r un cnawd, fel odd y bardd yn gweid
lawar dydd — “Ar y cyntaf yn Addaf un oeddym, |
|
|
|
|
(delwedd G3972b) (06 Chwefror 1896) |
Er fod slotars mawr felna yn cal sylw gen y
wlad, ma canoedd o ddamweinia yn cymryd lle yn yn glofeydd ni, nag os dim son
am deni nhw'n ond yn y gymdogath ma nhw'n dicwdd bod. Ma llawar penteulu yn
cal i tori lawr mwn eiliad a llond ty o blant bach ar i ol, heb ddim ar u
cyfar, na un lle gen y witw i droi am damad iddi hi a'r amddifaid, ond at
ddrws Releefin Offisar, a ma llawar o rheiny yn fwy ffit i fod yn wardars y Pentonfil ne
Dartmoor, na bod yn swyddogion i Fyrddau Gwarcheidiol y tlodion. Pan fyddant
yn cyfranu cwpwl o docins i'r weddw
glawd, fe ellid meddwl wrth y scorn fydd ar u gwynepa nhw ta o'u
peceti nhw'u hunen ma'r cwbwl yn dod, ac yn i ordro hi i ddod o flan y
Gardians i steto'i chês a ma llawar o'n mynywod, a bron gystal gyta nhw
starfo a mynd trw'r proses hyny, er nad yw yn un disgres iddynt mwn
gwirionedd. Fe ddyla fod rhw blan i ddod ag amgylchia teuluodd gwithwrs clawd
sy'n cwrdd a'u hanga mwn damweinia unigol, o flan y wlad, a os dim dowt gen i
nag os dicon o ddyngarwrs yn yn gwlad ni, fysa'n falch i roi llaw o gymhorth
mwn cesis o'r fath, llawn cystal a pryd ma lot yn cal i diwadd gyta'u gilydd.
Fe licwn i weld boneddigesa Morganwg a Mynwy
yn bwro'u pena nghyd i starto "Cymdeithas Trugaredd," i watshan
cesis fel hyn, a branshis yn mhob lle ma glofa, i ddod a cownt pwy fydd mwn
sefyllfa o'r short o flaen y brif Gymdeithas. Os bydd i'r ladies gymryd at
rhwpath yn y lein hyn, mo [sic: = ma] nhw yn siwr o lwyddo, wath os dim all
sefyll o'n blan nhw, pryd ma nhw'u torchi'u llewisha. Os dim dowt nag os
llawar o deuluodd mwn amgylchiada o'r short hyn yn goddaf isha, achos nag os
neb yn dod a'u sefyllfa i sylw y rhai sy a coin gyta nhw, wath ma'r
cyfoethogion rhan fynycha yn byw'n ddicon pell o ardalodd y gweithfeydd,
wetin ma nhw o swn a golwg y rhai sy mwn anghau. Pwy Ddorcas gymriff at y
jobin o starto rhw fwfmant yn y lein hyn? |
|
|
|
|
(delwedd G3972c) (06 Chwefror 1896) |
Wedi bod yn son fel hyn am y storms ma gwithwrs
clawd yn gorffod mynd trwyddi nhw, dyma gwmwl arall du iawn yn cwnu yn wybren
y cyfloga. Sleido shag lawr ma'r scal o hyd, a ma'r Audit dwetha wedi
rhoi pwsh arall o 1¼ yn ish yto. Allwn i feddwl fod yn bryd doti
sprag yndi nawr, wath ma milodd o deuluodd yn y wlad yn ffaelu'n deg a chal
dau pen y llinyn i gwrdd fel mae nawr. Treni meddwl fod dynon sy'n risco'u bywyta bob minad o'r dydd yn
ffaelu enill dicon i gatw corph ac enad gyta’n gilydd. Wedi bod mwn danjar
trw'r dydd yn mynd sha thre y nos, ar lawr gen flinder, ond dim cysur yn aros
iddo. Yn lle mynd i gal gorphws ar ol i lafur, y mae yn mynd i genol gofid a
thlodi, ac yn methu cysgu gen bryder wth fethu talu'i ffordd. Yn wir, yn wir,
meddaf i chi, dyla petha ddim bod fel hyn. Pwy galon sy mwn dyn i neid
dwarnod o waith pryd ma newyn yn i wynab e a'r wraig a'r plant. "Teilwng
i'r gweithiwr ei fwyd," ac “Ni ddylid cau safn yr ych sydd yn
dyrnu." Ma sefyllfa’r gwitha glofaol wedi mynd yn druenus o ishal, a
lliaws mawr yn methu cal gwaith o gwbwl. Y mae gormod o farchogath ar gefna
gwithwrs hefyd yn mhob dull a modd, a phob dosparth o gymdeithas yn sugno'r
mêr o'u hesgyrn. Y fath fyddin anferthol sy'n dybynu arnynt am eu cynhaliaeth
yn mhob dull a modd. Ma rijmants dirif yn mynd o ddrws i ddrws, i loffa ar eu
benillion, nes y maent yn gruddfan o dan eu beichia. O paid gormesu'r gweithiwr tlawd, |
|
|
|
|
(delwedd G3973a) (13 Chwefror 1896) |
The Merthyr Times. The Dowlais Times, and
Aberdare, Pontypridd, Rhondda Valley, Rhymney, Tredegar, Brynmawr and Western
Valleys Echo. 13
Chwefror 1896. BOB YN DDWRNAD. [GAN EFILL Y BACH AN IFANC.] ANWYL FOS, — Oti'r byd yn dod yn gallach? W i
yn ffeili gweld i fod a o'r spectol sy gen i, ond falla taw arna i a'r
spectol ma'r bai yn bod. Ma'r pomp, rhialtwch, a'r display, sy gyta phopath
nawr yn mynd i ecses dychrynllyd o ffol, allwn i feddwl; a ma'r show ma'r byd
yn neid, hyd y nôd o angladda yn ddicon i ala dynon sensibl yn hurt, a
chwnu'u dwylo mwn rhyfeddod. Dyna anglodd y Prins Battenburg yr wthnos
ddwetha, yn ol yr hanes odd y proseshon fel Lord Mayor's Show, a'r eclws lle
o nhw'n cwrdd wedi cal i dreso mwn blota o un pen i'r nall run shwt a
Bôl-rwm, a'r gwasanath trwyddi jest fel panorama! Dw i ddim yn gweid llai nag
odd y teulu brenhinol i gyd mwn gofid ar ol y bachan, a pheth dicon neis odd
i'r wlad ddangos simpathy shag ati nhw yn yr amgylchiad, ond odd ala canodd o
buna mwn blota i ddecoreto'r eclws, y coffin, a'r bedd, yn wastraff ar arian
ac yn insult ar gomon sense. Tysa rhw sowdjwr, ne offisar, wedi dicwdd marw
fel gnath e, fe fysa'n wedi gwato fa mwn rhw gornal mas yno, yn lle gneid rhw
ddisplay fel hyn o'i hen gorff gwal a, wath dyw e ddim gwell nawr na llawar
Tommy Atkins sy wedi cal eu cuddio ar fas y gwad mwn gwletydd estronol, na
wyr neb ond Duw lle ma, — "Man fechan ei fedd." Dywedir fod trycedi
o “wreaths" wedi cal i ala o bob part o'r wlad i ddecoreto'i fedd a, er
nag odd dim rhw rwality particular yn perthyn iddo fel dyn, ond i fod a'n
briod sha merch y frenhines ac yn dod o Germany. Ma llawar o ddynon sy wedi
ala ôs gyfan i wella'r byd wedi marw yn y wyrcws a chal i lusgo i'r bedd mwn
hen gart dicon diolwg, a fel odd rhw fachan yn gweid: - “Rattle his bones, over the stones He's only a pauper whom nobody owns." Neu fel y dywedai yr anfarwol Ioan Emlyn am
“Fedd y Dyn Tylawd": - “Swyddwyr cyflog gweithdy'r Undeb
|
|
|
|
|
(delwedd G3973b) (13 Chwefror 1896) |
bod ni yn parchu'n gilydd wth hebrwng un a'r
nall mas o'r hen fyd yma. Ond beth w i yn dowli atto yw, fod teuluodd clodion wth drio dilyn ffashwn
y gwyr mawr, a meiddi un a'r nall mwn steil yn ala'u hunen i ddylad heb isha,
wath ma'n rhaid cal popath yp tw dic nawr, — coffina prishfawr a'r bras
mountins, mwrnin cotshis, a peils o flota, nes ma amball anglodd wth baso
trw'r hewlydd yn depig i flowar shows. Falla bydd rwyn yn gweid fod y lowar
clas mor deilwng i gal u parchu a neb arall. Eitha gwir. Ond efa parch shag
at y marw yw mynd dros ben a chlysta mwn dylad heb ddim isha? Os os rhai yn
cretu yn ffashwn y "wreaths" pob peth o'r gora, ond pwy isha mynd i
shwd ecses gyta nhw sy? Taclad y rheini un tusw bach teidy a rhesymol, os di
nhw yn meddwl fod hyny yn dangos respect i'r marw druan, yn lle cuddio'r
coffin a llanw'r cotshis o nhw. “Afrad pob afraid" medda'r hen ddiareb,
ac “Nid da gormod o ddim." Dyna'r ceryg bedda wetin sy'n britho'n
mynwentydd ni, yn werth milodd a'r filodd o buna, a fydd neb yn gwpod beth
yw'r print sy arni nhw mwn cwpwl bach o flynydda, nac yn cofio dim am y rhai
sy'n gorwadd o deni nhw, a ma llawar o'r ceryg mwya prishfawr, ac
ardderchoca, a'r atnod “Blessed are the dead, which die in the Lord” arni
nhw, mwn llythrena gilt, uwchben rhai o'r caritors gwitha fu yn y byd ariod.
Ma dicon o ragrith a chelwdd, yn mhlith y byw, a ma llawn cymant yn mhlith y
marw, fel ma'r gwitha'r modd, a fysa yn fwy dyngarol a Christionogol, tysa
hanar y cyfoth sy yn yn mynwentydd ni yn cal i iwso i gatw dynon clawd yn
fyw, wath ma lle i ofni fod llawar yn y dyddia presenol yn mynd i'r bedd yn
nghynt na phryd, achos clodi a newyn. Fel hyn odd un prydydd yn gweid lyca fa
gal i gladdu: —
|
|
|
|
|
(delwedd G3973c) (13 Chwefror 1896) |
Ar garag bedd rhw farbwr hefyd yn Lloegar, odd
y leins tytshin hyn: — “Here
lies the remains of Jacob White,
Bydd Eos fwyn yn het Miss Jane, |
|
|
|
|
(delwedd G3974a) (27 Chwefror 1896) |
The Merthyr Times. The Dowlais Times, and
Aberdare, Pontypridd, Rhondda Valley, Rhymney, Tredegar, Brynmawr and Western
Valleys Echo. 27 Chwefror 1896. BOB YN DDWRNAD. [GAN EFILL Y BACH AN IFANC.] ANWYL FOS, - Oti chi'n cofio cymant o gwmpo
mas, a ffraeo sha’u gilydd rhwng dynon ariod a sy nawr? Chewch chi ddim dou
bron i gytuno mwn dim. wath ma pob un isha ffordd i hunan. Ma sponars a
wedjis yn ffraeo sha'u gilydd ac yn cwnu damajis un ar y nall. Ma gwyr a
gwracedd yn cwmpo mas ac yn mynu separashon ordar, ne ddifors. Ma eglwysi o
bob enwad yn eu tro yn anghytuno, ac yn starto capel split. Ma Dafydd Morgan
a Dafydd Domos yn profoco Mabon bothdi'r wyth awr, a ma Mabon yn u profoco
nhwnta nol. Ma "Cymru Fydd" a'r "Federation" yn cicio un
a’r nall, a ma'r papyra Cymrag a Sysnag yn
speito'u gilydd yn mhob ffordd. Ma iwnity wedi cilo o'r wlad, a ma
confflagarashons wedi dod yn u le fa,
a'r piwjalistic epidemic yn reino trw’r wlad, a'r hen egwyddor flagardish
"Trechaf treisied" wedi cal gafal yndo ni'i gyd. Os dich chi yn
moin dod i notis nawr, raid i chi fynd yn erbyn pawb a phobpath, a pido trio
cydweld a neb. Yr unig genius y dyddia hyn yw y gallu i obstructo a rhwstro
yn mhob dull a modd, ac yn mhob man trw gylchodd cymdeithas, o gomitee'r
gwaith lan i'r House o' Commons. Y gallu hwn gwnodd Parnell i sylw fel
arweinydd y blaid Wyddelig, a'r teimlad stwbwr a donciyddol hyn sy wedi dod a
Brumijam Joe i gal i gownto yn un o'r pets politicaidd y dydd. Ma rhai o'r
membars Cymrag hefyd wedi starto yn y lein fwldogaidd hyn, ta shwd dwa nhw
trwyddi. Fysa’n well gen i iddi nhw joino gyta'u gilydd en bloc, i neid u
gora dros i Gymru gal reits. Oti'r Parlamant - hyn sy mwn offis nawr ddim yn
gneid cymant a phromish dim i ni, ond falla ta gora gyd yw hyny, a byddwn ni
yn fwy tebyg o gal rhwpath gyta nhw;
wath tysa nhw yn promish chesa ni ddim, heb iddi nhw acto'n ots nag
arfadd. Di nhw ddim yn cretu mwn
cyflawnu beth ma nhw'n bromish. Golwg ddicon digalon yw gweled cymant o
withwrs clawd yn cerad o un man i'r nall heb ddim i neid, fel sy nawr trw'r
wlad. Ma Merthyr a 'Byrdar yn wilffwl o glawd. Ma sawl gwaith glo wedi stopo,
a chanodd wedi cai u towli i ben yr hewl heb ddim lle i gal y peth sy isha i
gatw corph ac ened mwn undeb a'u gilydd. Ma canodd wedi pwsho miwn i'r gwitha
¡ cylchynol, nes fod pob lle wedi cal i floco lan, a neb yn gallu enill ond y
peth nesaf i ddim. Odd y Tories yn promish bysa hi yn Eldoredo arno ni tysa
nhw yn cal mynd miwn amsar y lecshwn, ond w i yn i gweld hi yn mynd yn fwy
Seiberiayddol o ddydd i ddydd, ddar pryd ma'r whip yn u dwylo nhw, ac os dim
argol yto i'r teid i droi. 0 nhw yn brago ta |
|
|
|
|
(delwedd G3974b) (27 Chwefror 1896) |
gyta'u hochor nhw odd y coin i gal i
speciwleto, a fe licswn i yn ddychrynllyd iddi nhw rhoi efidens o hyny, wath
cheso nhw ddim gwell shawns ariod i ddangos u cwalities dyngarol na starto
llefydd i ddynon gal lle i enill bara chaws, yn yr amsar slac presenol, a fe gesa'u ddiolchgarwch ac
hwre! calonog o ganodd o alwydydd. Fe
glywas i fod rhai o foneddwrs Aberdar yn son am starto Glofa Nant Melin, ac
os yw hyny yn wir, fe fydd yn blyf yn u capa nhw, a os dim dowt gen i na
chofia'r gwithwrs am danynt yn ol llaw, pryd bydd angen yn galw am hyny. Y
mae yma foneddwrs idd u cal sy a dicon o fodd gyta nhw, ac a allant wneid i'r
gwaith dalu'r ffordd os gall rhywun wneyd hyny — Cymry pur sydd wedi gwneid
enwa iddynt eu hunen yn y lein hyn ac yn cal u hystyried yn dywysogion
masnachol gan y wlad. Foneddigion anwl, cymerwch y peth at eich hystyriath, a
bydd eco diolchiadau eich cydgenedl yn parha pan fyddwch chi yn mhriddella
oer y glyn. Ma Gardians enwog Merthyr a ’Byrdar wedi
dewish bachan i lanw lle y Releefin
Offisar sy wedi mynd ar i holiday, a ma'r gosips yn gweid bydd a yn lled
depyg o gwnu damajis arni nhw, am rhoi’r sac iddo heb notis, a'u serfo nhw'n
reit fydd hyny. W i yn gobeithio, ac yn cretu fod nhw wedi bod yn gallach yn
u dewishiad y tro hyn. Ma dymuniad y werin am i’r hen un ddod nol, a fe
glywas rhw fachan yn canu yn y Lion rhwpath yn depig i hyn: - O! tyrd yn ol ar unrhyw bryd, Wn i ddim ar bwy diwn odd y bachan yn canu y pishin,
ond ma dicon o fechgyn yn y plwyf allant neid tiwns nêt i siwto pryd daw a
nol, a fe gaiff Mr. Dan Davies ledo’r cor trw fod a'n glyfar yn y lein yna, a
w i yn cretu bydd a'n eitha bolon, wath bachan piwr yw Dan bach. |
|
|
|
|
(delwedd G3975a) (05 Mawrth 1896) |
The Merthyr Times. The Dowlais Times, and
Aberdare, Pontypridd, Rhondda Valley, Rhymney, Tredegar, Brynmawr and Western
Valleys Echo. 5 Mawrth 1896. BOB YN DDWRNAD. [GAN EFILL Y BACH AN IFANC.] ANWIL FOS. Fe fu rhai o fembars Cyniru yn
wilia’n biwr yr wthnos ddwetha yn yr House o Commons, bothdi cal Miwseams i'n
gwlad ni. Fe wetws Alfred Thomas, membar Pontypridd, bethach i bwynt ag odd
a’n cal amball “Amen” wth fod a’n pregethu cystal, nes fod i stem a'n cwnu.
Odd bechgyn erill yn gweid yn grand hefyd am yn isha ni yn Nghymru a'n bod ni
yn sefyll am gal ein reits fel Scotland a 'Werddon, trw bod ni gystal trumps
a neb sy'n perthyn i Brydan Fawr. Odd pobath yn mynd mlan yn weddol ddecha
nes i'r hen geit yna ma nhw'n galw Stanley Leighton arno dampo ar i drad i'n
insulto ni fel cenedl, trw weid yn bod ni wedi splito o'r wth yn gilydd yn
yfflon racs. Un o dylwth cosmopolitanaidd y Deryn o Gardydd yw hwn, a ma fa
bob amsar yn gwan i fys i'n llyced ni fel cenedl. Yr hen lymyngi hyn fu'n
boddrach o'r blan o ni ddim yn neshon pryd o ni yn moin cal Iwnifersity os
ticyn nol, a ma fa yn pwsho yn yn erbyn ni yn mhobpath i ni yn moin. Ond dyn
a'i helpo fa druan, os neb yn gneid llawar o notis o hono, dim ond werthin am
i ben a, Pwy iws i rhw gocatw fel fe acor i big, pryd ma comons fel Syr
William Harcourt yn cymryd yn part? Fe licswn i weld y shepin hyn yn dod i
Ferthyr ne 'Byrdar ar ddydd Llun Mabon, i ni
dreso ticyn ar i gonstitiwshon a; fe fysa shapsa arno yn mynd sha thre oddma, os nag w i'n camsynad. Beth sy
ar rhw hen dacla fel hyn? Os neb yn un cownt ond y nhw a'u tylwth. Ma nhw run
shwt a odd y bachan yn weid: -
|
|
|
|
|
(delwedd G3975b) (05 Mawrth 1896) |
Pob parch i Mr. Pritchet Morgan, y membar
ianga dros Ferthyr a 'Byrdar fel gwrbyneddig, ond ma acshwns clawd gita fa i
gilio off o'r wth i waith fel ma fa, a
fe ddyla gal u alw i gymtw am u drics. Tysa rhw haliar ne goliar, ne rhw
withiwr arall, yn gneid felna fe gesa nhw'r sac yn ddiseromi, a phob o
summans i fynd o flan Mri. North and Co., am dowli'r gwaith. W i yn cynyg yn
bod ni yn gneid yr un peth o fynta. Pwy sens yw gneid rhw alabalw m»wr amsar
lecshwn a mynd i gost a thrwpwl i ddoti a miwn yn saff a fynta yn cilo off
fel gnath a n gwmws? Ma rhw acshwns fel hyn yn gneid drwg i'r Librals i gyd,
wath ma’r Tories yn watshan o hyd, ac yn gweid ta membar net yw e dros y Boro
hyn, ac yn ala i amsar yn Ostrelia. Dw i ddim yn gweid llai nag yw a'n fachan
piwr pryd ma fa yn nhre, ac yn drwmpyn first-class hefyd gyta phobpath. Ma fa
wedi bod yn gwitho'n driw gyta'i barti, ac yn tori strôc lled dda lawar
gwaith wth spowto yn yr House o Commons; ond ma'n rhaid i fi binsho'i glusta
fa am fwtshan mor amal. Dyn nath lawar o les yn Nghymru odd y diweddar
Lord Aberdar, ond ma'r genedl yn slow iawn yn dod a bysnes ei gof-golofn i
ben. Falla fod peth camsynad wedi bod ynghylch y pwynt tro ddewish Cardydd
fel man i'w gosod i lan. Beth sy isha mynd a phobpath sha Cardydd sy? Fe
allwn i feddwl ta gen Aberdar odd y claim cynta arno trw fod a wedi cal i eni
yn y Cwm, a wedi cal i enw orwth y lle. Arno i ofan fod y chwaer—drefydd
Merthyr a Byrdar wedi colli'r ambishan odd yndi nhw slawar dydd, ac fel dwy
hen fenyw yn mynd ar u gwath. Os dim posib creu rhw fywyd newydd yndi nhw, ne ddod a’r hen
fywyd nol? Fe fu Merthyr yn cal i chownto yn Metropolis y mynydda, a phob lle
arall yn y cylchodd yn ymgolli ynddi
hi ei hun, a phryd bysa rhai o wyr Shir Gar ne Shir Byrteifi yn son am ddod
lan i ardalodd y gweithfeydd o Hirwain i Bontypwl dod i Ferthyr o nhw. |
|
|
|
|
(delwedd G3995a) (12 Mawrth 1896) |
The Merthyr Times. The Dowlais Times, and
Aberdare, Pontypridd, Rhondda Valley, Rhymney, Tredegar, Brynmawr and Western
Valleys Echo. 12 Mawrth 1896. BOB YN DDWRNAD. [GAN EFILL Y BACH AN IFANC.] ANWVL FOS, — Ma bechgyn idd it cal yn y byd hyn
heblaw chi a fi, a w i yn folon clapo cefan pob bachan sy'n gneid i ora dros
gymdeithas. Ma rhwun nawr wedi infento masheen i dynu llun yr ochor tu fewn i
ni, beth fa'n alw yn "New Photography." Ma'n well gen i yr
infenshon hyn na'r New Woman. Wn i ddim beth yw prish un o nhw, ond w i bound
o stoco ticyn o goin i gal un o nhw, wath fe fydd yn handy iawn i fi yn y
capacity w i yndo. Y peth cynta fydda i yn trio ecsperiment arno fydd, tynu
llun ochor tu fewn yn wedjan i, gal gweld os yw i chonshans hi yn reit shag
atto i, yn lle bo fi yn rytag y risc o gymryd atti, a wetin yn gorffod cal
difors cyn pen wech mish. Fe ddyla un o rhain fod gyta pob cwpal ifanc sy'n
caru, a os dim dowt gen i na fydd pass net ami nhw. Arno i ofan bydd yr
infenshon hyn yn spoilo crefft y ffrenologists, wath fe fyddwn yn gallu
cymryd snap shots o bena'n gilydd pryd mynwn ni, ac yn gallu gweld mwn wincad
beth fydd tufewn i'n bocsis ni, a phwy fydd yn gall, a phwy fydd yn ffol, pwy
fydd y dyn, a phwy fydd y donci. 0s dim rhw olwg rhy demtin ar ochor tu fâs i lawar o ni, a arno i ofan bydd cal
pip ar yn inseid ni yn ala paced o hono ni i flysho dicyn bach. Ma llawar o
ni yn gallu cwtsho nawr tu cefan i smeils a phadiath, ac yn llwyddo i dwyllo'n
gilydd felni, ond pan ddaw y "New Photography i rhoddi ffwl fiw o'n
prinsipls gwirioneddol, fe fyddwn yn gallu watshan un a'r llall, a pryd
byddwn ni yn gweld danjar yn y caritor, fe allwn weid, "cip
distans." Fe fydda i ar y lwc owt bob wthnos nawr, am adfarteismant am
dano yn y “Merthyr Times." |
|
|
|
|
(delwedd G3995b) (12 Mawrth 1896) |
Ma Bancwets Gwyl Dewi wedi mynd hibo am y
flwyddyn hon yto, ac odd yn dda gen i wrth ddarllan speetchis y spowtwrs yndi
nhw'u gyd, weld ta addysg Cymru odd yn cal y lle blaena a'r sylw mwya. Ma
peiriant addysg yn gwlad fach ni ar ol blynydda o witho calad, bron wedi dod
i worcin ordar, a phopath yn troi o'n ochor ni, ond fod amball hen gnwbyn
felyniaethus yn trio towli rhwystra ar y ffordd. Fe withws peioniars addysg
Cymru fel Syr Huw Owen, Henry Richards, Lord Aberdar, yn galad drosto hyd eu
bedd, a fydda i yn cretu fod u hysbrydodd nhw yn watshan y streids biwtiffwl
sy'n cal u gneid nawr, a pryd bydd y Prins of Wels yn rhoi start i injin y
Brif Iwnifersity yn Aberystwyth yr haf hyn, fe fydda nhw o rhan u ysbrydodd
yno yn llawenychu os dim dowt gen i. Er pan y dath Ediwceshon Act Foster i
weithrediad ma Cymru wedi starto shag lan, ac wedi gneid yr iws gora o'r
manteishon ma hi wedi gal; ac ma’r tri
coledje, Bangor, Aberystwyth, a Chardydd, wedi maniffactro cystal scolars a
sy'n y dyrnas, a dyna beth sy'n grand fod y rhan fwya sy wedi cal u ediwceto
yn y Coledjis hyn ac ysbryu gwladgarol lond u eneidia nhw. Dyma'r bechgyn sy
a'u hysgwydda yn dyn heddy yn pwsho cerbyd addysg yn y blan. Bechgyn sy’n
meddu ar allu, prinsipl, a dylanwad, ac mwn posishwns sy'n hawlio sylw big
guns yr House o Comons, a'r House o Lords. Chaiff dim un opstacl sefyll yn
ffordd yr ediwceshonal mashienary, gen fechgyn o'r short hyn. Ma nhw wedi cal
blas ar fendithion addysg, a ma nhw yn penderfynu rhoi mwy etto i'r rhai sy'n
dod ar u hol nhw, ac erbyn daw y consarn i gyflawn weithrediad, fe gaiff y
byd deimlo fod yn pwar litl Wels dalenta, allant gystadlu ag Atheniaid
Iwnifersyddol holl wledydd y ddaiar. Ma'r fforiners wedi arfadd danod nag odd
gyta ni ddim dynon gwir fawr yn Nghymru, mwn un ganghan o wybodath, ond o nhw
ddim yn son nag odd yma ddim manteishon i hyny. Bellach ma'r wawr wedi tori,
a haul addysg yn codi yn ffurfafen yn gwlad anwyl ni, a bydd ein meibion a'n
merched, yn blodeuo ar faesydd gwybodath, mor brydferth ac un genedl ar wynab
y belan ddaearol. Amheuthyn i fi odd darllen yn eich rhifyn
diweddaf |
|
|
|
|
(delwedd G3995c) (12 Mawrth 1896) |
am "Y Beirdd yn Chwareu." Odd ticyn o
ddonioldeb yr hen wâd barddol mwn rhwpath felna, a'r hen deimladau cynhas a
brawdgarol, odd yn arfadd bod yn mhl[i]th y beirdd yn mas o'u llinella nhw.
Ma beirdd y dyddia presenol wedi mynd yn hen stoics digyfeillach, ac yn catw
draw orwth u gilydd yn gilwgus, a dowtffwl o un a'r nall. Os dim o'r
combeineshon odd rhyngti nhw slawar dydd iddi weld nawr. Arno i ofan ta dyna
yw'r rheswm bod nhw yn cal u boycotto gymant a ma nhw. Ma'r Steddfota jest i
gyd wedi mynd yn ganu, a os dim shawns i fardd gal dangos i big yndi nhw os
na fydd a yn roi amball englyn yn gratis i'r cadeirydd, ne ledar y côr
buddugol. Ma'n llawn bryd iddi nhw joino gyta'u gilydd i gal u reits ar
blatform yr hen sefydliad odd yn arfadd bod oltwgeddar yn u dwylo nhw. W i
wedi gneid notis hefyd nag i nhw ddim yn dangos u trwyna yn Bancwets Gwyl
Dewi nawr, er ta nhw odd yn arfadd iwlojeiso yr hen Sant yn Nghymdeithasa'r
Cymrodorion bob dydd cyntaf o Fawrth. Yn awr Cownsilors, Aldermen,
Pregethwrs, a Maerod, yw'r leedin powars yn y cyrdda hyn yn mhob tref a
phentref, a dyw bardd ddim yn rhoi cymant a thôst i ysbryd yr hen bererin,
nac yn gwishgo shibwnsin heb son am genhinen yn i got. Wn i ddim beth ddaw o
honi nhw yn wir. Ma'n bryd iddi nhw ddishgwl atti ne fe ga'n u boycotto mas
o'r byd yn lan. Yr unig blatform galla nhw ddangos u trwyna arno nawr yw'r
“Orsadd," a ma Proffeswr Jones yn deinameito hono nawr fel Anarcist
llofruddol: -
Ma Goshen, y Tori, yn dechre speciwleto widd a
fenjans. Ar ol i'r hen wrbyneddig Harcwrt safio ticyn o goin, dyma'r hen Jew
hyn yn u scwandro nhw i brynu toys i'r sowdjwrs. Os dim gobath nawr cal dim
dima at un achos da, tra bydd y giwad hyn wrth rains y llywodrath. Jingo's u
nhw ariod, a Jingos fydda nhw hefyd. Ma'r idea o ala'r miliwna hyn er mwyn
parotoi i ladd dynon, yn ddisgres ar y bedwarydd ganrhif ar bymthag, tra, ma
milodd yn y wlad yn llwgu gen newyn, a dim lle gyta nhw i droi i gal dwarnod
o waith, na thamaid i'w fwyta. Os na ddaw pethach o'r shap hyn heb fod yn
hir, fydd dim isha ordro arfa rhyfal, wath fydd dim dynon yn y wlad hyn idd u
iwso nhw. Fe fyddant wedi starfo, ne wedi mynd yn rhy wan i gario napsac hep
son am "Martini Henri." Fe fydda'n ffitach i'r hen Iddew diened
hyn, a'i bartnars Jingoaidd, i wario'r arian yna i acor gwitha i'r unemployed
gal lle i enill tamad o fara chaws, na'i fod a'n u wasto nhw i brynu bwbachod
i ala ofan ar y brain Germanaidd. |
|
|
|
|
(delwedd G3998a) (19 Mawrth 1896) |
Merthyr Times. BOB YN DDWRNAD. [GAN EFILL Y BACHAN IFANC.] ANWYL FOS, - Dw i ddim yn meddwl ych arwain
chi i ddrain a mieri dryslyd y cynghaneddion, ond ma un o'r beiau
cynghaneddol yn cal i alw gen y beirdd yn ”Gamosodiad," a ma fa wedi ala
fi i feddwl am y camosodiad cymdeithasol, sydd yn yn plith ni fel cenedl, a
chenedlodd erill; sef doti dynon anghwmws mwn posishwns na ddyla nhw ddim
bod. Ma'r bocad yn trawsarglwyddiaethu ar y pen, ac impiwdens a harllugrwydd yn trawsfeddianu sedda
teilyngdod. Ma babaneiddiwch a
gwaseidd-dra cymdeithas yn cyhwfan fflags teganllyd cyfoth, ac yn gwenu'n
Phariseadd o flan urddas fympwyol, nes gneid mashars penysgawn yn ddesbots, a
ma nhw fel yr odd yr anfarwol Cynddelw yn gweid, “Yn ei ystyried yn anrhydedd
i dlodion gal cerdded yn llwch olwynion eu cerbydau." Ma gweniaeth
gwreng yn pothalleiddio'r boneddig ac yn u ala nhw i gretu bron ta duwia i
nhw, er fod y penill canlynol yn bictwr perffath o lawer o nhw: - Paswch hebo i fi am iwso'r “iaith fain."
Odd yn rhaid cal rhwpath main i dynu llunia'r llyngerod yn reit. Dyma fi
yn drosy mhen i'r Sysiiag: “Who steals
my purse, steals trash but he that filches from me my good name, makes me
poor indeed." Distadl iawn yw y "good name" yn y dyddia
dyweddaf hyn, ond ma'r “trash" mwn bri mawr. Trowch ych pen i’r pwynt bo
chi'n dewish, a fe ffindwch fod yn philosophi i yn reit. Bydd Rupert
Llogell-lawn, Ysw., yn torsythu hyd ei lawnt, "wyneb haul llygad
goleuni," tra ma Dafydd Dalentog lawr yn grombil y ddaear mwn chwys a
lludded, ac yn awyr ingol nwyon yn slafio'n galad, i drio enill ticyn i gatw
corph ac ened rhag datgysylltiad. Bydd Syr Huwcyn Lleidryn Etifeddfawr yn
ymflonegu mwn moetha, a Thomas Gristion yn
cnoco'n grynetig wth ddrws y bac am damad o fara. Dyw “good name"
ddim byd yn y byd, ond ma "trash" yn bopath. Fysa'n fwy yn steil yr
os yn awr i weid; "Steal my good name but leave my trash. I chi yn gweld fod camosodiad yn y gwreiddiol,
ond dyna fi wedi i rectiffeio fa yn ddicon plaen i bob dyn o sens, yn ol
rhediad cymdeithas yr ôs hon. Ewch i'r ddarlith ne'r consart, y gaffar fydd y
cadeirydd i'r Steddfod ne'r cwrdd poleticadd, duw'r bocad fydd yn llywyddu;
ac i'r capel, a chewch y mishdir a'r shopwr yn y sêt fawr. Ma padieddiwch a
seboneiddiwch wedi spoilo y rheol bert, "Ei le i bob dyn, a phob dyn yn
ei le." I ni yn brago yn fynych iawn yn yr enw
"Gwlad y menyg gwynion," a ma'r penillion biwtiffwl sy ar y testyn
yn cal u canu mwn hwyl gen Gymry gwladgaro1 yn mhob part o'r byd. Ma'n eitha gwir yn bod ni fel cenedl yn
weddol rydd orwrth drosedda mawr ac ysgeler fel sy'n dicwdd yn mhlith
cenedlodd erill |
|
|
|
|
(delwedd G3998b) (19 Mawrth 1896) |
yn y byd. Ond beth yw yn hanes ni yn ol y cown
sy amdano ni yn y majistret meetings bob wthnos? Ma llawar o gesis yn cymryd
lle yn regiwlar, sy'n ddisgres i'n gwlad ni, mewn blagardath, ysgelerder, cigeiddiwch, a thrythyllwch, yn
ddicon i ala pob Cymro gwladgar i flysho mwn cwilydd. Ma ymddygiada
cythreulig, bwystfiladd ac uffernol, rhai sy'n gwishgo enwa Cymrag yn
anheilwng o ganibals mwya anwaradd welws Robinson Criwso ariod. Ma'r arian
sy'n cal u talu yn y meetings wthnosol hyn yn Shir Forganwg, yn ddicon i
gliro dyled tai cyrdda'r shir i gyd. Ma ugeine o ienctyd yn gwlad ni yn cal u
llusgo i'r jail am ymladdfeydd ac ymosodiada cowardaidd, ac ar ol iddi nhw
fod yno unwaith, ma nhw fel tysa nhw yn gollwng u hunen i fynd gyta'r llif
wetin, nes ma nhw yn mynd yn regiwlar atendants i'r ogofeydd dihedd yna.
Ellir dim gneid rhwpath i ddoti stop ar hyn? Oti ledars y bobl yn gneid u
dyledswydd yn y lein hyn? Os gyta ni gownt fod yn pregethwrs ni yn gweid
amball air yn breifat wrth garitors ishela cymdeithas? W i ofan nag os a.
Falla bod nhw yn cretu bydda nhw yn halogi u gwishgodd esgobyddol wth fynd at
shwd garitors. "Cyfaill publicanod a phechaduried odd y Mishdir mawr yn
arfadd bod, a fydda fa ddim yn un disgres iddi nhw i imitato fe. W i yn cretu
bysa fa yn blan da iddi nhw fisito y polis stashons, trw'u ardalodd ni ar
fora dydd Sul, a mynd o un set i'r nail i gynghori a chysuro ticyn ar y pwr
dabs fydd wedi cal u llusgo yno ar nos Sadyrna. Fe fysant fel lluserna yn u
dadebru nhw i ystyried u sefyllfa ishal ac anghysurus. Pwy all weid yr
infflwens gesa nhw ar y trueiniaid, yn u stêt edifeiriol? Hefyd fe fysa nhw'u
hunen yn cal u stimulteto gen yr olygfa ddifrifol, nes bysa tan eiddigedd
dros sefyllfa'u cyd-ddynon yn u ala nhw i bregethu trw'r dydd wetin yn fwy
gwresog a dylanwadol. Fe faddeuiff y boneddwrs i fi am dowli'r hint iddi nhw.
Teimlad gwirioneddol at fy nghydgenedl yn fwya neillduol sy wedi styro meddwl
i, wath ma'n llawn bryd gneid rhwpath i'r pwynt hyn, ne fe aiff Cymru wen
yn:— Hen wlad y carcharorion, |
|
|
|
|
(delwedd G3998c) (19 Mawrth 1896) |
Ma'n dda gyta fi feddwl fod y cwpwl geira
wetas i, os ticyn nol yn y golofn hon bothti membar ianga Merthyr a Byrdar,
wedi i starto fa nol o Ostrelia. Ma fa
wedi ala i weid bydd e a'r ferch yma gyta ni mwn amsar byr os bydda nhw byw.
O ni yn cretu bysa fa yn gryndo arno i wedi iddo ngweld i yn troi'n safaje.
Fe fydda i yn dishgwl iddo dowli'i got a thorchi'i lewish at i waith ar ol
iddo gyrhadd yma, ne dowli'i jobin yn yr House o' Cominons hibo. Fe all e
witho'n biwr os bydd a'n dewish, ac os caiff a bardwn gen yr etholwrs y tro
hyn, fe ddyla bitsho miwn ffwl pelt i dynu'r amsar ma fa wedi golli nol, a
pido gneid tric o'r short hyn yto. Fe all e fentro na chymriff gwyr Merthyr a
Byrdar ddim mwy na mwy o nonsans er bod nhw wedi ildo ticyn iddo fe achos fod
a'n drwmpyn piwr, ac yn fachan joly. Trybylog iawn yw hi yn dishgwl yn y cylch
glofaol o hyd. Llawer iawn o goliars
profiadol a gwithwrs da yn ffaelu cal gwaith. Rhai erill yn gorffod cerad
milldirodd bob nos a bora, yn lle lodjo, ne symud," wth obeitho daw
petha yn well ceyn bo hir. Diflas iawn yw hi i ddynon mwn oetran, wedi bod yn
byw yn yr un ardal ariod i gwnu u paca
yn u hen ddyddia a trampo ar hyd y wlad i ddishgwl am ddwarnod o waith, ac ar
ol i gal a, ddim yn gallu enill ond y peth nesa i ddim wetin. Ma'r
"Discharge Note" yna hefyd wedi distyrbo'r gweithfeydd trw'r
Deheudir i gyd. Ond ma'n anhodd pido cretu na weliff y mishdri’r mistec o
bwsho hwna mlan, a dwa nhw i derms teidy yn lle towli'r wlad i gonffiwshon
gwath na mae hi’n barod. Ma teimlad y wlad o ochr y gwithiwrs oltwgeddar ar y
matar hyn ddar y dechra, a ma hyny yn
meddwl cetyn mawr. Treini nag yw cyfalaf a llafur ddim yn ymdoddi mwy yn u
gilydd mewn ysbryd a gweithred. Carem eu gweled yn cydfynd yn gytun, a’r
naill yn ymcanu llesoli'r llall, oblegid ma rhyfel rhyng y ddau allu pwysig
hyn yn ddinystriol i bob ochor. |
|
|
|
|
(delwedd G3994a) (26 Mawrth 1896) |
The Merthyr Times. The Dowlais Times, and
Aberdare, Pontypridd, Rhondda Valley, Rhymney, Tredegar, Brynmawr and Western
Valleys Echo. 26 Mawrth 1896. BOB YN DDWRNAD. [GAN EFILL Y BACHAN IFANC.] ANWYL FOS, - I chi a fi yn arfadd gweid ta
"Mor o gân yw Cymru'i gyd," a di ni ddim yn mhell o'n lle, ond ma
tona mor cerddorol yn gwlad fach ni wedi tori dros derfyna "Gwalia lån,
gwlad y gân," nes bod nhw yn mynd dros wynab Prydan Fawr ac America, ac
i barta erill o'r byd. Ma'r Ladies Choir mor gyfarwdd yn ngwlad y Iancies ag
un nhw yma bob tamad, a dyw Jonathan a'i dylwth, ddim yn folon iddi nhw ddod
sha thre ar ol u clywad nhw, a fe glywas i fod sponars gyta rhai o nhw yno,
ac ar ol iddi nhw flino canu bydda nhw yn cal Ianci hysbands a mynd yno i fyw
fel ladies up to dic, mwn pomp a steil a dicon o goin gyta nhw. Dyna'r Royal
Treorcies, a'r Chicago Concerars wetin, yn canu trw Loegar i gyd fel
proffeshonals. Ma nhw nol ag y mlan yn Llyndan yn canu i'r gwyr mawr a
Royalty, nes w i yn cretu fod yn well i'r hen wraig Victoria renti Windsor
Castle iddi nhw gal mynd yno i fyw gyta'u gilydd. Fe fu Tom Stephens a cwpwl
o'i bartnars yn canu yn Bancwet Cymrodorion Llyndan pwy ddwarnod yma, a odd y
Duke o York yno, a fe rows gompliment iddi nhw, a chlapo'u cefna am neid shwd
waith. Ma parti William Thomas wedi bod yno'r wthnos ddwetha yn canu yn y
Cristal Palas a llefydd erill ac yn cal welcwm splendid. Arno i ofan os
pariff pethach fel hyn, bydd y Seison yn twcid yn cantwrs gora ni gyd, fel ma
nhw yn arfadd gneid gyta phopath da sy'n perthyn i ni. Ma shew o'n soloists
ni yn byw a bod yn Llyndan yn barod, a di ni yn Nghymru byth yn cal u gweld,
na'n clywad nhw, ond ar rhw ffleyin fisits. Ond ma un cysur gyta ni er hyny.
I ni yn gallu cwnu cantwrs, a chantoresa fel mysharwms. W i bron cretu amball waith bod yn ienctyd ni
yn mynd ormod i'r lein hyn, a ddim yn cyltifeto'u hunen mwn pethach erill fel
dyla nhw. Dw i ddim yn erbyn canu da, ond "Nid gormod o ddim,"
medda'r hen bobol slawar dydd. Ma'n bechgyn a'n merched ni jest a mynd fel
walking pianos, ne phonographs canyddol. Os dim ond sharps a fflats, a do,
mi, ray yn cal lle yn u meddyla nhw, a os dim iws i rhw dacla fel chi a fi
drio pwsho gair ar i gornal ar un subject arall pan yn u cwmniath nhw. Ma nhw
wedi llyncu cymant o swn fel nag os dim on swn yn dod orwthi nhw. "Os dim ond cregin fydd yn y sach |
|
|
|
|
(delwedd G3994b) (26 Mawrth 1896) |
W i yn cownto fod Syr William Thomas Lewis yn
deilwng i ni ddoti plifyn yn i gapa, am i gynyg piwr a i drio setlo'r dispiwt
sy rhwng y mishdri a'r gwithwrs yn Plymouth. I ni fel Cymry yn falch o Syr
William fel dyn clyfar, ond fod amball bwt o ffra rhyngto ni ag e bothdt'r
Sleidin Scale. W i yn cretu fod a yn eitha trwmpyn shag atto ni yn mhopath
arall, dim ond i gal a mas o'r pit yna, a ma fa felsa fa yn dechra dod yn nes
atto ni na ma fa wedi bod. Ma gyta fa fwy o olwg ar wyr Merthyr a Byrdar na
ma llawar yn meddwl, ac os yw a yn gwisgo'r menyg yn yn erbyn ni amball
waith, ma fa yn u tynu nhw off pryd bydd a yn gweld taro, ac yn doti i law yn
i bocad i helpu llawar achos da, a fe licwn i weld a yn dod yn nes atto ni
yto, wath ma bachan o'i short e yn werth gneid partnars o fa. W i wedi clywad
nag os gyta fe ddim llawar o gewc ar y “Discharge
Note," ac os nag yw e yn i stymoci a, fydd e fawr amsar cyn doti'r
dampar arno, wath fe yw bos y bosis i gyd, o'r top i'r gwilod. Gobeitho roiff
a gic i'r edlych dienwaededig disjargol hyn sy wedi cwnu'i ben i ddistyrbo
heddwch y wlad, na chlywir dim son am dano am dragwyddoldeb. Ma batl y District Cownsils wth y drws a ma hi
yn debig o fod yn lled both mwn un ne ddwy ward yn nghylch Byrdar. Ma Mri.
Tudor Williams a G. George, Y. H., yn erbyn u gilydd yn y dre. Mr. George yw
yr aelod presenol, a dw i ddim wedi clywad llai nag yw a wedi gneid i waith
yn deidy ta beth yw'r achos fod rhai yn moin i newid a. Ma Tudor yn fachan
piwr hefyd ac yn barod i neid lles bob amsar, a wedi cal i eni a'i facu yn y
dre, tra shwd troiff hi mas rhwng y ddau dydd Llun nesa. Ma Dr. Jones wetin
yn dod yn erbyn Mr. Tom Rees yn Ward Cwmaman, Aberaman, a Capcoch. Ma Tom
wedi gwasnaethu yn ffyddlon i'r trethdalwrs a'r etholwrs am bymtheg mlynadd,
fel Gardian, ac ar y Local Board, a'r District Cownsil. Bachan iawn yw Tom
gyta phob mudiad da. Dyw a ddim yn gontented os na fydd a yn gneid rhwpath er
lles y lle wastod yn mhob dull a modd. Ma fa yn Rhyddfrydwr i wilod i galon,
ac yn sowdjwr triw gyta'r Cymdeithasa Dyngarol. Yn A 1 gyta'r gwithwrs yn
mhopath, ac yn eisteddfotwr i'r carn. Ma fa o dype na os dim isha'i newid a,
ac yn barod i neid i dasg bob amsar. Ma'n anhodd gen i gretu fod dyn diarth
fel y Doctor yn mynd i dwmlo Tom mas o'i jobin, trw fod a wedi stico cystal
at i waith am bymtheg mlynedd. Ma arno i ofan ta rhw glic bach sy isha cwnu
row Lecshwnyddol sy wth y gwreiddyn. Fe gewn weld shwd troiff pethach dydd
Llun. |
|
|
|
|
(delwedd G4000a) (2 Ebrill 1896) |
The Merthyr Times. The Dowlais Times, and
Aberdare, Pontypridd, Rhondda Valley, Rhymney, Tredegar, Brynmawr and Western
Valleys Echo. 2 Ebrill 1896. BOB YN DDWRNAD. [GAN EFILL Y BACH AN IFANC.] ANWYL FOS, — Ma'r edlych o nhw yn galw
"Digcharge Noto" arno wedi
marw, a dw i ddim yn cretu bod dim un gwithwr yn fecso ar i ol a. Er na fu a
ddim byw yn hir fe nath lawar o ddrwg mwn amsar byr, a fe fu jest ala batl rhwng y mishdri a'r
gwithwrs a gneid stagneshon of trêd trw r wlad. Fe ddangosws ledars y
gwithwrs blyc lled dda o'r dechra wrth gwnu u dwrna yn i erbyn a. Di nhw ddim
wedi pilo wia bothti a ddar y start, wath o nhw yn gweld y red leit yndo fa.
Treni fod teirants o ddynon yn dod a rhw opstacls fel hyn i dowli injin fawr
masnach ddar y rails. Fe fu injiners y gwithwrs a'r mishdri yn ddicon cwic i
weld yr hymbag hyn, a'i symud a ddar y ffordd; ond fe fuon bron a'i atal a yn
rhy hir, nes fod y wheels jest a mynd yn i erbyn a, a dyna lle bysa crash!
Erbyn heddy fe fysa milodd o goliars
clawd wedi towli’u twls lawr, a milodd o deuluodd a newyn yn sgyrnu yn u
gwynepa nhw, dim ond achos pishin bach o bapur felna. Ma hi jest yn bryd i
gapital a lebar i neid partnars, a phido cwmpo mas mor amal. Dyna fatl gwyr
Plymwth yn cal i setlo'n deidy, wedi iwso dicyn o gomon sens, ond tysa dicyn
o'r stwff preshws hyny yn cal i iwso ar y start, fysa dim o'r holl galetu
wedi bod, a fysa bob ochor yn well off heddy o getyn mawr. Pwy all weid faint
o ddrwg ma'r scuffyl yna wedi neid? Fe fydd llawar yn teimlo orwthi am
flynydda, a rhai am byth. Diolchwn fed y colishon ar ben yn Gwm Merthyr, a
bod y “Discharge Note" wedi rhoi'r cic dwetha. Bu llawar yn melldithio'r |
|
|
|
|
(delwedd G4000b) (2 Ebrill 1896) |
Rhw ôs rhyfadd iawn yw hon i fynd i ecsses
gyta phopath. Ta beth syn cal i gwnu i notis ma'n rhaid rhoi scôp annherfynol
iddo. Dyna'r ffwthol epidemic yn rejo trw bob twll a chornal o'n gwlad ni yn
y sesn, fel nag os dim iws wilia na sgrifeni am ddim arall. Dyna'r beisicl
fefar wetin, ma nhw mor amal a thatws bothdi'r lle, a merched a bechgyn,
mynywod a hen ddynon, ar u cefna nhw, yn spino hibo ni fel ellyllon, a llawar
o bethach erill allsa ni enwi. Ond beth w i am bwynto atto yn fwa neillduol y
tro hyn yw yr ecstreem ofnadw ma dynon yn mynd iddo bothti ddreso bedda yn y
mynwentydd ni ar ddydd Sul y Bloda. I chi yn gwpod ta dyna beth odd dydd Sul
dwetha, a mawr y decoreto fu yn mhob man ar lwch y meirw. Dw i ddim am fynd
mor bell a moin stopid neb i ddoti blotyn bach teidy ne dusw bach rhesymol
rhan hyny, o floda gwynon inosant. Ond ma gweld dynon yn doti llwythi o flota
o bob lliw, a llun, a maintioli, yn nonsans gwageddus allwn i feddwl ta beth.
Ma pawb felsa nhw mwn competishon yn trio maeddu'u gilydd, nes fod mwy o
falchdar ne breid ffashwnyddol iddi weld, na respect i'r rhai sy'n gorwadd, a
ma canodd yn trampo trw ddinas y meirw i weld yr ecsibishon, a paso remarcs
ar y decorashons. I ni yn arfadd gweid os bydd gyta ni barch i rhywun fydd
wedi marw, — "Heddwch i'w lwch," ond arno i ofan fod y ffashwn ddwl
hyn yn disterbo y rhai sy yn huno, a gora'i gyd pwy mor gyntad i ddoti'r brec
arni, wath ma hi yn cal i chario mlan i fwy o ecstent bob blwyddyn. Ma llawar
os dim dowt yn gwastraffu arian sy isha mwn ffordd arall, i gal bod yn y
steil, yn enwetig yn yr amsar clawd presenol. |
|
|
|
|
(delwedd G4000c) (2 Ebrill 1896) |
Ma pwyllgor Steddfod Genedlaethol Casnewydd yn
mynd i blycu clun i ofyn i'r Prins o Wales ddod yno y flwyddyn nesa. Ma
pwyllgora Steddfota bob blwyddyn bron yn began arno ddod, ond dyw a ddim yn
gneid un notis o nhw, a beth ma nhw yn moin poeni'r bachan o hyd fel hyn trw
fod a'n dangos yn blaen nag os dim deleit gyta fa mwn pethach o'r short? Ma
dicon o ddynon enwog yn yn gwlad ni, sy yn y lein lenyddol, a fydda yn fwy
cwmws na fe. Tysa nhw yn ala i ofyn i’r Poet Loret newydd ddod yno, a doti
Syr Lewis Morris a fe, i neid pishis o ganu am y gora, fe gesan lawar mwy o
sport, nag wth ddishgwl ar y Prins. Fe fydda i yn folon baco Syr Lewis trw ta
Cymro yw a, a w i yn parha i gretu ta fe ddylsa fod wedi cal y jobin Loret
hefyd, ond fe licwn i rhoi shawns i'r bachan sy ag e, ddod i'n Olympia ni fel
Cymru iddo gal rhw idea am dano ni, falla gnela hyny les iddo, i ddod i napod
i seis. Os bydd y pwyllgor gystal a gofyn iddo ddod fe roiff y beirdd ffugenw
iddo ar yr Orsadd, fydd yn i siwto fa yn well na'r un gas a gan Lord Salsbri.
Ond ta beth am hyny w i yn dymuno llwyddiant i wyr Casnewydd i neid Steddfod
eligant, a w i yn gwpod rhai bechgyn yno a dicon o go a hed yndi nhw os bydda
nhw yn dewish. Weiar in boys, a dangoswch fod y triw blyd Brythonaidd yn
rytag trw'ch gwithiena chi, er ych bod yn byw ar gyffinia tir y Saeson. |
|
|
|
|
(delwedd G4000d) (2 Ebrill 1896) |
Ma Merthyr ac Aberdar wedi colli un o'r
cymeriada gora a fagwyd yn y cylch hwn ariod, yn marwolaeth y y foneddiges haelfrydig, ac elusengar Mrs.
B.Thomas, mam ein haleod anrhydeddus Mr. D. A. Thomas. Rhyw Ddorcas oedd hon
mewn gwirionedd yn mhob ystyr, a gwelir ei heisiau am flynyddau lawer. Yr
oedd y dryfa anferthol a ddaeth i'w hebrwng i dy ei hir gartref yn amlygiad
o'i pharch, ac o edmygedd pawb tuag atti. Dymunodd gal ei chludo i'r fynwent
ar ysgwyddau ei hen gydardalyddion, ac ni fuont yn ol o ddangos eu parodrwydd
i gyduno a'i dymuniad. Gan fod hanes ei hangladd mwn colofn arall nid gwiw i
fi ymhelaethu. Boneddiges lawn o deimlad, |
|
|
|
|
(delwedd G3997a) (16 Ebrill 1896) |
The Merthyr Times. The Dowlais Times, and
Aberdare, Pontypridd, Rhondda Valley, Rhymney, Tredegar, Brynmawr and Western
Valleys Echo. 16 Ebrill 1896 BOB YN DDWRNAD. [GAN EFILL Y BACHAN IFANC.] ANWYL FOS, - I chi yn fachan lled dda a
chownto o ble i chi'n dod, ond di chi ddim yn acto'n drwmpyn shag at Merthyr,
ne fe fysach yn stico i bleto ta dyna lle ma capital Cymru. Rhynto chi, a fi,
Joe Hamersmith, a Charley Wilkins, fe allsan byrswato Syr John Gorst yn reit
i wala, a chal y Prins o Wales yma wetin i ddoti ffowndeshon stone y Town
Hal1 lawr, fe fysa popath yn scwar. Dim ond i chi gwnu'r pwnc lan yn ych
leedin articl, fe setla i sha'r Prins, wath ma fe a fi yn bartnars piwr ddar
pryd bio i yn wara bacarat gyta fa. W i yn gwpod nag os dim ots gen y Prins
lle bydd y capital, wath diw a ddim yn fachan prowd yn y lein yna at ol. Ma
gwyr Cardydd, Abertawa, Machynllath ac Aberystwth yn catw row dychrynllyd
bothti gal yr honor. Ma'r ffaddar Gladstone yn pwsho'i big mlan hefyd, ac yn
gweid ta Liferpwl yw capital Cymru, achos ta yno cas e i eni. Glywsoch chi
shwd sens ariod? Ma'r G.O.M. a fi yn drwmps piwr wastod, ond w i yn i golli a
yn yfflon racs nawr. Fysa run peth iddo weid ta Tregraron yw y capital, achos
ta yno ma moniwmant Henri Ritshat. Fe allwn i
feddwl fod mwy o reit gen Merthyr na un lle arall i gal y teitl, wath ma lot
o ddynon mawr wedi cal u geni a'u macu yma ariod; ma llawar o nhw wedi marw,
a ma rhai yn fyw nawr. Dyna Syr W. T. Lewis, yn fachan mor glyfar a gallwch
chi gwrdd mwn shwrna o ddwarnod. Ma bachan arall o'r enw Griffiths yn
Ostrelia, wedi bod yn breim ministar ar y gofarmant yno, a beth am y dynon
mawr fel judgis a phopath gas u dysgu yn ysgol Taliesyn Ap lolo? Dyna
argiwmant arall o ochor Merthyr hefyd, ma Gowld King yn fembar arni, a ma fa
wedi dod nol nawr, ac os cymriff e'r peth yn i ben, fe fydd yn lled depig o
roi pwsh da mlan iddi. Nawr trw fo fi wedi starto'r bôl syr, towlwch y cot
lawr, a torchwch ych llewish, a fe ddangoswn i wyr Cardydd a'r llefydd erill,
ta Merthyr sy a'r claim cynta i fod yn gapital o Wales, wath odd hi dre
bwysig a phoblogadd cyn fod Cardydd wedi acor i llycad. Os ta Merthyr gaiff i
dewish, fe fydd shawns net gyta ni pryd daw Home Riwl all round i neid House
u Comons o'r Angel Inn, wath ma fa yn ddicon mawr. Rhaid i ni bitsho miwn
ffwl pelt nes cewn ni beth i ni yn moin. |
|
|
|
|
(delwedd G3997b) (16 Ebrill 1896) |
Ma rhw whims rhyfadd yn perthyn i ni fel
Cymry. Pryd i ni yn starto rhwpath i ni yn ffler up ar unwaith, ac yn dân i
gyd am dicyn bach, ond ar ol i'r whim gynta baso i ni yn oeri, ac ma'r fflam
yn diffodd. I ni yn ffond iawn o son am yn dynon mawr ni, a pryd i ni yn u
colli nhw, i nina yn colli'n sensis yn lan, ac yn starto mwfmants i gatw'u
henwa nhw yn anfarwol. Ond druan a ni, ma'r stêm yn mynd lawr yn gwmws, a ma
injin yr intenshons yn stopid dap. Ma tri mwfmant mlan nawr i drio mortaleiso
hen bilars enwog yn cenedl ni. Fe starton mwn ffwl preshyr, ond fe slacws y
speed yn gwmws. I chi yn diall at beth w i yn pwynto dicon tepig, sef at y
tair moniwmant sy ar waith yn awr i Daniel Owen, Lord Aberdar, a
"Llywelyn ein llyw olaf." Os dim son am un o nhw nawr yn y papyra,
ond dicyn gintach nawr ag yn y man fod y coin yn slow yn dod miwn. Fe allwn i feddwl fod gormod o heirns yn y tan
run pryd. I ni yn dacla mor sensitif fel cenedl, nes yn bod ni yn jwmpo at rhwpath
mwn wincad. Fe ddyla’r tri mwfmant yna gal u completo erbyn hyn, ond fe fydda
biti gneid rhw hanar peth o nhw. W i yn syjesto fod comitee Steddfod Fawr
Llandudno, yn setlo i roi cymant o syrplas fydd gyta nhw ar ol talu'r
ecspensis, shag at foniwmant Llywelyn, i gal i gwpla fa yn deidy. Gobeitho grynda
nhw ar y nghyngor i, a bydd syrplas piwr gyta nhw i roi. W i yn dishgwl bydd y Distric Cownsils newydd
sy wedi starto nawr, yn fwy enerjetic i bwsho Free Readin Rooms mlan. Ma
canodd o ddynon ifanc yn dymuno am deni nhw, er mwyn cal lle i dreulo u horia
hamddenol yn lle cerad bothti'r hewlydd i wastraffu amsar a dysgu nonsans, ne
fynd i'r tafarna i ala tocins. Fe ddyla fod Darllenfa Kydd yn mhob ardal i
gatw ienctyd orwth ddrwg, a'u stimiwleto nhw at wybodath. Ma plant yn cal u
catw yn yr ysgolion nawr spo nhw jest yn ddynon, ond er hyny, ar ol iddi nhw
ddechre gwitho, ma nhw yn anghofio beth ma nhw wedi ddysgu, achos nag os dim
shawnsis i gal llyfra gyta nhw. Nawr ma hawl gyta bob cownsil i starto
Darllenfeydd, a fe ddyla'n neid iws o'r hawl mor gyntad a galla nhw. Ma'n
gwilydd meddwl fod trefydd mawrion gyta ni yn y gweithfeydd heb ddim o'r
short yndi nhw i fechgyn a merched gal enjoymant. Dyna Byrdar, ma son wedi
bod am flynydda am gal un, a fe geson gynyg ar dir i fildo un am ddim, a fe
gasglwyd shew o goin at y gwaith, ta beth sy bod dod o nhw dw i ddim yn gwpod.
Falla wiliff y Cownsil newydd miwn i'r pwnc, i ni gal rhw gownt o honi nhw. |
|
|
|
|
(delwedd G3997c) (16 Ebrill 1896) |
Ma Scwl Bord Byrdar yn dod yn fwy Libral nag o
nhw, a ma nhw yn mynd i roi cwnad prish i'r tetshars. W i yn cownto bod hyny
yn waith sensibl yndi nhw. Plant gwithwrs yw tetshars i gyd jest, a ma'u
rhieni nhw wedi slafo yn galad idd u catw nhw yn yr ysgol, ac wedi talu arian
mawr shag at gal llyfra a phethach erill idd u cwaliffeio nhw, a ma'n deg
iddi nhw gal u talu yn ol u gwerth. Jobin dicon poenis yw tiwtro lot o blant
a naw o bob deg o rheiny a chymant o gythreuldab yndi nhw a gall u crwyn nhw
ddala. Ma isha resarfoiar o amynadd i fod gyta nhw bob dydd, ac ma isha bod
yn weddol o giwt hefyd i wpod ffordd ma'u trafod nhw, wath ma shwd fareiaty o
dempars yndi nhw'u gyd. Dw i ddim yn cretu ta gwastraffu arian y trethdalwrs
yw rhoi wadjis da i'r rhai sy'n polisho menydda ac acshwns y ffiwtshar
jenareshon, a fe fydd hyny hefyd yn doti fwy o ysbryd yn y tetshars i neid u
gwaith Hen fesur fu unwaith mwn bri mawr yn Morganwg
odd y “Triban," ond anaml yn awr y bydd y beirdd newydd yn gneid dim o hono. Yr oedd yr hen
"Nathan Dyfed" (barchus goffadwiaeth) yn hoff iawn o hono a chyfansoddodd
lawar arno, fel erill o feirdd yr un cyfnod. Ma llawar hen “Driban" yn
cynhws ergydion i dre. Ma llawar o
ddarllenwrs “Bob yn Ddwrnod" yn cofio Triban doniol Cynddelw i'r Carw
Coch, tad Prif Gwnstabl Byrdar. Yr oedd y Carw wedi tori goes wth reido epol
gwyllt, an medda'r hen Cyn,— “Fe haedda'r ebol hwnw, |
|
|
|
|
(delwedd G3999a) (30 Ebrill 1896) |
The Merthyr Times. The Dowlais Times, and
Aberdare, Pontypridd, Rhondda Valley, Rhymney, Tredegar, Brynmawr and Western
Valleys Echo. 30 Ebrill 1896 BOB YN DDWRNAD. [GAN EFILL Y BACHAN IFANC.] ANWYL FOS, — Ma Micey Beech wedi bod yn wafo
yn ddychrynllyd bothti'r Budjet yn y Parlament, a'r Tories i gyd yn gwiddi
hwre gyta fa. Fe allwn i feddwl fod Bili Harcot yn crafu'i ben, wth feddwl
fel ma nhw yn mynd i scwandro y tocins odd e wedi
safio, pryd odd r [sic; e]'n gofalu am y cwtyn. Ma bulc mawr y coin i gal
u iwso i brynu twls i fwrdro pwr dabs rhw ddwarnod. Ma arno i want jaco lan
smoco sheegars, shigarets, a ma'n well i chwitha joino gyta fi hefyd, yn lle
bo nhw yn câl proffit ar yn cefna ni'n dou ta beth, i ypoldo y system
rhyfelgar. Ma John Bwl yn getyn o hen goward, arno i ofan. Pryd odd sôn bysa
ni yn cal rap o fatl gyta Merica ne Germany odd a'n moin setlo dispiwts yn
dawal. Odd y Bishop a'r Archbishops a'r gwyr mawr i gyd yn iwso'u inffliwens
i gwasho'r distyrbans, achos o'nhw n meddwl bysa rheiny yn "enemies
worthy of his steel"; ond pryd ma Bwl yn ala'i rijmants mas i South
Affrica i fwrdro treibs bach barbaradd achos rhw bety scwabls, ma'r big guns
Cristionogol mor ddishtaw a'r bedd, ac yn gatal pethach i fynd mlan anyhow
heb gymant a chwnu bys yn erbyn r [sic; y] perfformans. Hen acshwns cnafaidd
yw path [sic; = peth] fel hyn, a ma fa yn dangos diffyg prinsipl. Dyw
Mastiffs, Retreefars, a Newfoundland dogs ddim yn gneid notis o hen gorgwns
bach sy'n cyfarth arni nhw, ond ma nhw yn mynd mlan fel gwrbynddigions
cwnyddol. Ond am John Bwl, os bydd rhw wlad fach yn i insylto fe, ma fa yn
dangos i ddanadd yn gwmws, a dyw a byth wth i fô, os na fydd a yn bombardo
teritories bach paganadd, ac yn twcid u property nhw yn ddiseremoni. Tysa fa
yn iwso'r arian sy’n mynd mâs at u lladd nhw, idd u moraleiso nhw, fe fydda
yn fwy o wrbyneddig o getyn a fe gesa fwy o respect genti nhw. a fe gesa
dynon o'r wlad hyn fwy o lonydd i fynd mlan a'u speciwleshons. |
|
|
|
|
(delwedd G3999b) (30 Ebrill 1896) |
Ma gofyn i ni y ryw wrwaidd i acor yn llyced,
ond te fe fydd yn bad lwc out arno ni cyn bo hir. Ma'n merched, a'n mynwod
respectabl ni gyd yn mynd yn beisiclists, a fe fydd rhaid i ni shiffto drosto
ni'n hunen yn yr howsold diwties cyn bo hir, wath pryd bydd isha taclu cino
ne ddoti patshis ar yn landladies, a'n gwracedd ni ar y wheels, bothti ucian
milldir o dre. Ma idea newydd wedi dod i mhen i, a fe daliff y ffordd yn well
i chi, a fi, a Joe Hammersmith, na scriblo i'r Merthyr Times; a dyma hi, a w
i yn folon i chi'ch dou gal shar yn y speciwleshon, Syr, os i chi yn dewish.
I gwrdd ag arwyddion yr amsera fe weloch fydd rhaid i ni fod yn gallu mynd
trw y capasities sy'n perthyn i'r mynwod, a w i yn meddwl acor rhw short o
Seminary i fechgyn ifanc, i ddysgu gwitho Sewing Masheens, a Mangls a phopath
sy'n perthyn i waith ty. fel Cooking clasis a phethach felni, fel bo ni yn
gallu shiffto drosto ni'n hunen pryd bydd y litl biwties mas yn enjoyo ar u
beicicls, ne mwn Ffwtbol Matshis. I chi'n diall y point nawr, ac ond i ni'n
tri joino, fe gaiff bob un diwtro'r piwpyls yn i franch i hunan. Fe gewch chi
ddysgu'r cwcing clas, Joe dysgu'r mangling, a fina rhoitlesns ar y Sewing
Macheens fel bo dynon ifanc yr ôs yn barod i gwrdd a'r riacshon sy'n dod yn
ffast, ffast i'n cwrdd ni yn y byd. Ma dyn wedi bod yn Arglwydd y greadigath
am spel hir, a ma tyrn of theid wth y drws, os dim dowt, pryd bydd y fenyw yn
Arglwyddes, ac yn demando y rhiwling powar. Fe allwn feddwl mod i'n gweld yr
amsar wedi dod, pryd bydd ych Mistres cyn neido ar y wheel yn y bora, yn ych
ordro chi i gwcan y leg weddar erbyn cino, gwishgo'r plant a'u ala nhw i'r
ysgol, a doti'r ty mwn trim erbyn daw hi sha thre ar ol y trip. Ond bydd a'n
iwsffwll pryd hyny yn bod ni wedi mynd trw'r proses o houskeepin a hous
diwties. Yn lle bod ni yn câl yn blagardo gen yn bettar hâffs am bido gneid
yn dyledswydd. |
|
|
|
|
(delwedd G3996a) (14 Mai 1896) |
The Merthyr Times. The Dowlais Times, and
Aberdare, Pontypridd, Rhondda Valley, Rhymney, Tredegar, Brynmawr and Western
Valleys Echo. 14 Mai 1896 BOB YN DDWRNAD. [GAN EFILL Y BACHAN IFANC.] ANWYL FOS, — Er cymaint i chi a fi yn neid i
drio dod i'r hen fyd yma iddi le, ma golwg dicon lletwith arno o hyd, a'r
bobol yn mynd mlan yn ffordd u hunen fel o speit i ni'n dou. Ma dynon, ne
bethach sy run shâp a dynon, yn ffreio a'u gilydd, yn twcid ddarn u gilydd,
yn ymladd a’u gilydd, ac yn lladd u gilydd. Os dim yn y papyra bron, ond
myrdars: “Maswl Hill Myrdar, Reading Baby Myrdars, Whitechapel Tradjedy”
&c. a ma hyd yn nod yr hen bartnar y “Shah” wedi câl shot. Ia, ma “Brenin
y Breninoedd," mor farw a sgadenyn or farchnad Merthyr. Os dim dowt nag
yw e wedi bod yn achos yn i amsar i ala ugeina, os nid canodd, dros y “wal
ddiadlam” i'r byd tragwyddol, a hyny mwn dull creulon a dideimlad, a chlywas
i ddim son fod yn "Grasusaf Freninas” ni wedi ala llythyr o gondolans at
dylwth neb o rheiny. Ond nawr ma hi mwn ffys a fflystar dychrynllyd, fod yr
hen dyrant barbaraidd Nasr-ed Din wedi rhoi’r cic dwetha, a fe ordrws i gwas
ffyddlon, Lord Salsbri, i ala dispatch trw'r telegraph mwn wincad, at i fab a,
i i bod hi yn teimlo hyd wilod i chalon ar i ol a. A odd hyny ddim yn ddicon
i ecspreso dyfndar i chydymdeimlad hi ar i ol a, heb ala wreath, i ddoti ar
fedd yr hen boenin llofruddiog. Fe allwn ni feddwl bod gyta'r hen wraig
ddicon o le yn nes i dre i sympathy, tysa fa ddim ond yn Merthyr a Byrdar,
lle ma gwracedd a phlant diniwad yn goddaf isha bwyd, a gwithwrs calad sy'n
mentro'u bywyta ddydd a nos, i helpu'i chatw hi yn ffaelu câl dim ond tamad o
grwstyn sych idd u catw 'nhw rhw shap ar dir y byw. Pwy rhyfadd fod i
deiliaid hi yn mynd yn fwy Soshalistic a Chomiwnaidd bob dydd? Odd dicon o
goin gyda'r hen Shah pryd odd a byw, a ma fa wedi gadael ticyn y biwr ar ol
idd i fab, a lled depig fod yr hen wedjan yn meddwl y caiff hi bresant bach
rhw getyn gyda’r bachan syn cal lle'i dad ar orsedd Persia, am ei thrwpwl a’i
gofid ar ol yr hen ddyn. Fe fu dicon o randibw bothtu’r hen greatur pryd bu
yma yn gneid show o’i hunan ys cetyn nol. Odd y Prins a hitha a'r holl git
aristocrataidd yn i fambwslan a, o un lle i’r llall, nes fod yr hen ffwl yn
colli'i ben wth weled y wondars a theimlo'r resepshon odd a'n gal a nhwnta yn
enjoyo acshwns clownyddol a barbaraidd y pwr dab, a r ymholiad cyffredinol yn
mhob man odd, “Have you seen the Shah," &c. Dw i ddim yn upholdo y
prinsipl o saethu, ne fwrdro hyd yn nod hen garitor fel y Shah: ond w i yn
ffaelu diall beth sydd isha gneid cymaint o ffys gan ein Brenines ni ar i ol
a, wath fydd y byd ddim yn glotach ar i ol a. Nath a fawr o les i gwnu
dynoliaeth cyd a bu a byw, fwy na’r gweddill o'i dylwyth Royalyddol erfod a’n
galw i hunan yn “Frenn y Breninoedd!” Shwd benchwibandod sy yn y byd, hyd yn
nod yn mhlith y rhai sy'n proffesu bod nhw yn riwlars y ddaiar, yn ol
gosodiad Duw. |
|
|
|
|
(delwedd G3996b) (14 Mai 1896) |
Nid yn unig y mae cynhyrfiadau personol yn y byd,
ond mae arno i ofan aiff hi’n alabalw cydgenedlaethol. Mae rhw ferw trw
wersyllodd y byd, a ma’n gwlad ni mor ddwfwn yn yr obl, a neb. Jameson’s Ride, a Matabela, yw targats John
Bull, a rhyw gymysga rhyfadd sy gyta nhw. Fe allwn i feddwl bod rhw wrhydri
rhyfadd yn cal i ddangos yn y fysnas, a bod yn offisars a'n sowdjwrs ni yn
glyfar dychrynllyd, wth neid exploits yn y byd sowdjwryddol gyda nofisees
shimpil ac anwareiddedig Affrica. Ond dyw rhwpath felna ddim ond dechra ffra,
ac falla cawn ni deimlo yto o wth rhyw exsploits fe hyn. Falla bod chi, Syr,
wedi sylwi cyn hyn ar grots yn ymladd sha'u gilydd, a dyn mewn oedran yn
pocan i drwyn rhyngti nhw, a fe ddaw dyn arall yn mlan i weld beth yw'r
matar, a chyn diwedd y fysnes fe fydd batl gâs rhwng y ddau fu’n interfeero.
Rhwpath felna w i yn gownto fydd diwadd y squabls sy rhwng Prydain Fawr a
chrots teyrnasyddol tywyll-leoedd y SS Ma Wil German wedi dangos i drwyn yn
lled blaen bothti Ride Jimmy, a ma fa yn lled
depig o fod yn watshan shawns am le i rhoi peltan, os bydd a'n meddwl
galla neid hyny heb gwmp ar i gefan. Wel, dyna fi wedi gweid dicon am y fforiners
yn mhob short o ffordd. Beth ta ni yn dod yn nes i dre am dicyn bach; ma
dicon o destyna yma. W i yn cownto fod rhai o fembars Cymru yn y Parlimant yn
gwitho yn lled dda ar hyn o bryd, er u bod nhw dan y dwr achos majority y
Tories. Ma Lloyd-George yn pitsho miwn fel Teigar, yn mhob pwynt sy'n acor
o'i flan a, a os dim dowt nag yw a’n coclish cetyn ar gonshansis y briged
Doriyddol, er nag os gyta fe ddim shawns i neid marc neillduol. Bachan yw
Llwyd Bach fydd rhaid iddi watshan ar ol idd i whishgars gwleidyddol a gwpla
tyfu, a ma soil lled dda gyta nhw hefyd, wath ma i ben a wedi cal i
ffito yn weddol deidy ar y ticyn corph
sy gento. Strôc lled dda ma’n membar
nina, Dafydd Scuborwen, wedi neid i ofyn am i'r Gyfarmant os nag yw Coliers
yn deilwng o dicyn o help genti nhw yn gystal a'r landownars. Tysa y big guns
aristocrataidd yn dod lawr am dro i blith gwithwrs Merthyr a Berdar am wythnos,
falla bysa gyta nhw rhw damad o gydymdeimlad, fel i dowli hatling o'r miliwna
spar i brynu torth dwy geinog i fechgyn y creitha gleision sy’n ala y rhan
fwyaf o'u hoes “yn awyr ingol nwyon”. |
Sumbolau:
a A / æ Æ / e E / ɛ Ɛ /
i I / o O / u U / w W / y Y /
MACRONː ā Ā / ǣ Ǣ /
ē Ē / ɛ̄ Ɛ̄ / ī Ī / ō
Ō / ū Ū / w̄ W̄ / ȳ Ȳ /
MACRON + ACEN DDYRCHAFEDIGː Ā̀
ā̀ , Ḗ ḗ, Ī́ ī́ , Ṓ ṓ ,
Ū́ ū́, (w), Ȳ́ ȳ́
MACRON + ACEN DDISGYNEDIGː Ǟ ǟ , Ḕ ḕ, Ī̀
ī̀, Ṑ ṑ, Ū̀ ū̀, (w), Ȳ̀ ȳ̀
MACRON ISODː A̱ a̱ , E̱ e̱ , I̱ i̱ , O̱
o̱, U̱ u̱, (w), Y̱ y̱
BREFː ă Ă / ĕ Ĕ / ĭ Ĭ
/ ŏ Ŏ / ŭ Ŭ / B5236ː
B5237ː ![]()
BREF GWRTHDRO ISODː i̯, u̯
CROMFACHAUː ⟨ ⟩ deiamwnt
A’I PHEN I LAWRː ∀, ә, ɐ (u+0250) httpsː
//text-symbols.com/upside-down/
Y WENHWYSWEG: ɛ̄ ǣ æ
ˈ ɑ ɑˑ aˑ
aː / æ æː / e eˑeː / ɛ ɛː / ɪ iˑ iː
ɪ / ɔ oˑ oː / ʊ uˑ uː
ʊ / ə / ʌ /
ẅ Ẅ / ẃ Ẃ / ẁ Ẁ
/ ŵ Ŵ /
ŷ Ŷ / ỳ Ỳ / ý Ý / ɥ
ˈ ð ɬ ŋ ʃ ʧ
θ ʒ ʤ / aɪ ɔɪ əɪ uɪ ɪʊ aʊ
ɛʊ əʊ / £
ә ʌ ẃ ă ĕ ĭ ŏ
ŭ ẅ ẃ ẁ Ẁ ŵ ŷ ỳ Ỳ
Hungarumlautː A̋ a̋
U+1EA0 Ạ U+1EA1 ạ
U+1EB8 Ẹ U+1EB9 ẹ
U+1ECA Ị U+1ECB ị
U+1ECC Ọ U+1ECD ọ
U+1EE4 Ụ U+1EE5 ụ
U+1E88 Ẉ U+1E89 ẉ
U+1EF4 Ỵ U+1EF5 ỵ
g
yn
aith
δ δ £ g
yn
aith
δ δ £ U+2020 †
« »
DAGGER
wikipedia, scriptsource. org
httpsː []//en.wiktionary.org/wiki/ǣ
Hwngarwmlawtː A̋ a̋
g
yn
aith δ δ
…..
…..
ʌ ag acen
ddyrchafedig / ʌ with acute accentː ʌ́
|
Shwa ag acen ddyrchafedig / Schwa with acute |
…..
…..
wikipedia,
scriptsource.[]org
httpsː//[
]en.wiktionary.org/wiki/ǣ
Y
TUDALEN HWN /THIS PAGE / AQUESTA PÀGINA:
Sumbolau:
Y TUDALEN HWN: https://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_306_bob-yn-ddwrnad_1896_3526k.htm
---------------------------------------
Creuwyd / Created / Creada: 08-11-2020
Adolygiadau diweddaraf / Latest updates / Darreres actualitzacions:
15-11-2020, 08-11-2020
Delweddau / Imatges / Images:
Ffynhonell / Font / Source: Newyddiaduron Cymru
Arlein (Llyfrgell Genedlethol Cymru)
---------------------------------------
|
Freefind. Archwiliwch y wefan hon Beth sydd yn newydd? |
Ble yr
wyf i? Yr ych chi'n ymwéld ag un o dudalennau'r Wefan CYMRU-CATALONIA
On sóc? Esteu
visitant una pàgina de la Web CYMRU-CATALONIA (= Gal·les-Catalunya)
Where am I? You are visiting a page from the CYMRU-CATALONIA (= Wales-Catalonia)
Website
Weə-r äm ai? Yüu äa-r víziting ə peij fröm dhə CYMRU-CATALONIA
(= Weilz-Katəlóuniə) Wébsait
Adran y Wenhwyseg /
Secció del dialecte de Gwent / Gwentian Welsh
Edrychiadau ar y tudalennau / Vistes de les pàgines / Page Views
Edrychwch
ar ein Hystadegau / Mireu les nostres Estadístiques / View Our Stats