kimkat3210k 11 Awst 1904.Tarian y Gweithiwr. Steddfod ‘Sweet Berdar.'  Ianto Morganwg.

20-03-2019

● kimkat0001 Yr Hafan www.kimkat.org
● ● kimkat2001k Y Fynedfa Gymraeg www.kimkat.org/amryw/1_gwefan/gwefan_arweinlen_2001k.htm
● ● ● ● kimkat0960k Mynegai i’r holl destunau yn y wefan hon
www.kimkat.org/amryw/1_llyfrgell/testunau_i_gyd_cyfeirddalen_4001k.htm
● ● ● ● kimkat0960k Mynegai i’r testunau Cymraeg yn y wefan hon
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_mynegai_0960k.htm
● ● ● ● ●  kimkat2045k Tafodieithoedd Cymru 
www.kimkat.org/amryw/1_cymraeg/cymraeg_tafodieitheg_gymraeg_mynegai_2045k.htm
● ● ● ● ● ● ●  kimkat0934k Y Wenhwyseg
www.kimkat.org/amryw/1_gwenhwyseg/gwenhwyseg_cyfeirddalen_0934k.htm
● ● ● ● ● ● ● ●  kimkat3210k Y tudalen hwn

 

0003g_delw_baneri_cymru_catalonia_050111
 (delwedd 0003j)

 

 

 

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Gal
·les i Catalunya
The Wales-Catalonia Website

Steddfod ‘Sweet Berdar'.
Tarian y Gweithiwr.
Ianto Morganwg.
11 Awst 1904.

Y Llyfr Ymwelwyr / El Llibre de Visitants / The Guestbook:

http://pub5.bravenet.com/guestbook/391211408/


a-7000_kimkat1356k 
Beth sy’n newydd yn y wefan hon?
What’s new in this website?
Què hi ha de nou en aquesta web?

(delwedd 8111)

 

  https://translate.google.com/

(Cymraeg, català, English, euskara, Gàidhlig, Gaeilge, Frysk, Deutsch, Nederlands, français, galego, etc)

Yn Saesneg / In English: www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_254_steddfod-sweet-berdar_11-08-1904_saesneg_3211k.htm

 

 

None

(delwedd 9333) (1/4)

Tarian y Gweithiwr 11 Awst 1904

 

STEDDFOD ‘SWEET BERDAR.'

Gan Ianto Morganwg.

MISHDIR Y DARIAN, — Figinta bydd rhwy scolar neu gilydd yn rhoi atroddiad llawn o'r Steddfod fawr gynhaliws 'snakes' Berdar dydd Mawrth dwetha; ond ta beth am 'ny, walla licsa'ch darllenwyrs chi gal hanas y fatch orwth un ar yr un ffwtyn a nhw'u hunen.

 

Yr own i a mhatnar, Shoni Shirgar, wedi bod yn safio'n cwpwl tocyns ys ticyn bach er mwyn clywed y fatch fawr male voice. Dydd Mawrth a ddath ac yr oen ni'n doi wrth y drysa fel un gwr — Shoni yn wenwn trwyddo o achos rhwpath neu gilydd, a fina yn dost isha clywad y partis a chal siawns i arllws mas 'y neimlata.

 

Dyna hen gonyn yw Shoni os na bydd 'i gap a'n gwmws. Ma pob cleran fach yn ddicon iddi ala fa i dori'r llecha yn rhacs jibwns. Crotyn bach, nad odd a ddim cuwch a hyn, halodd a i golli'i falans dydd Mawrth - crotin bach odd yn gwerthu programs wrth y drysa. ‘Here you are, I'll have a program,' mynta Shoni, ag yn ystyn cinog am dano ishtag arfadd. ‘No, threepence each,' mynta'r tamad crotyn heb fynd i bilo dim wya a’r Shirgar. ‘Threepence for what, licswn i wpod?’ atebws Shoni. ‘For the programs, please,' mynta'r llencyn mor sharpad a Marchant Williams.

 

Ond os odd 'y mhatnar yn cintach wrth byrnu'r program, yr oedd 'i gawl a’n berwi mwy beth dychrynllyd ar ol 'i acor a, a towli 'i lycad drosto.

 

Wir; fe fysa'n brecath i chi weld a! Rodd a'n troi'r dail, ag yn byrmanu rhwpath wrtho'i 'unan, yn gwmws ishta dyn a chollad arno.’ ‘Bachan,' mynta fa o'r diwadd, ‘dyma'r chetath mwya welas i 'riod. Byth na chyffro i! dos dim ond un dalan o brogram 'ma!'

 

 

 

None

(delwedd 9334) (2/4)

Tarian y Gweithiwr 11 Awst 1904

 

'Dim ond un dalan, paid a walu,' myntwn ina, ‘wath yr odd y program yn dishgwl yn gnwbyn o lyfyr.'

‘Os nag wyt ti'n dewish cretu, dishgwl trosto d'unan, ta,' atebws Shoni gan wpo'r program i'n llaw i.

A gwir dywetws a. Walla na chretwch chi ddim, yr odd y program yn llawn o lunia gwyr Berdar, os gwelwch chi'n dda, ag yna wrth'u cwt nhw rhoi un dalan fach i acto fel program i'r Steddfod.

‘Ia, a thalu tair cinog am weld gwynepa ‘snakes’ Berdar!’ mynta Shoni ar ol pum munad o ddishtawrwdd drychynllyd. ‘Beth nesa wysh? A dyma hwn a hwn a hwn a hwn,' mynta fa wetini, ag yn enwi rhestar o dafarnwrs odd a'u llunia ar y program fel tasa fa'n rhwy ddicwddiad od fod tafarnwrs yn cal amball i Steddfod iddi nhw'u hunan whitha.

Yna fe ath mlan i gydmaru'u gwaith nhw ag arfadd bechgyn y Mount gan bwynto mas fel yr odd rheini yn gwitho Steddfod i'r lan ac yn catw cottage hospital i fynd o June i January dim ond o docyns Steddfod y Pasc, tra rodd y rhain heb un polisi mwn golwg ond gwneud y Steddfod yn breifat spec iddi nhw, cwpwl o grachach odd a dicon genti nhw ishws a chynt.

‘Gofyn i ddynon diarth — dynon heb fod yn'u napod nhw, nag yn hito am deni nhw, mwy na tasa nhw'n dod o Abeocuta — gofyn i ddynon diarth i dalu am self-adverteisment iddi nhw, wel, clyw ma, weles i ariod ariod shwd gyflawndar o cheek. Tasa nhw wedi neud rhwpath na ddangos rhwpath yn dilwng o sylw, ishta'r hen Fabon druan ne Marchant Williams, w, bysa rhwpath iddi nhw i ddangos 'u gwynepa.'

A dirwn ymlan fel yna yr odd y mhatnar hyd nes i fi ddoti'r closhar arno. Onbasa i fi neud 'ny, fe fysa'r Shirgar, arno'i ofan, wedi dod i ofid am 'i sylwata cyndeirog, wath own i'n gallu gweld cwpwl o wyr Berdar ar y'n pwys ni a golwg mi dy ladda di ar 'u gwynepa nhw. ‘Wyt ti yn llycad dy le, Shoni bach,' myntwn i gan 'i doddi fa, ‘ond gad hi bellach i ni gal mynd miwn i'r Steddfod.'

‘Reit shiwar!’ atebws ynta, a fe foddlonws i bido wilia racor am y program prish peint, nag am rinwedda gwyr Berdar.

Wetini ar ol paso tan lycad yr hen benshonar wrth y drws, a chal y pitch-mark ar y'n garddwna, i miwn a ni i'r seti swllta (tasa no seti efyd). ‘Llawn ?' Rodd hi'n llawn ishta wy no, a phawb mor dynad yn'u gilydd a phe tasa nhw'n sardins mwn bocs. Rodd 'no amball i fodyn lled dew yn y cornal yn llio'i wefla wrth 'i gweld 'i mor llawn ond gwae fi a mhatnar - rhwng cal y'n gwasgu gan ddynon a chal y'n popi gan y gwres, oen ni bron colli'n anal, ac yn whysu, ta, ishta doi bydlar.

O'r diwadd fe ddath tro y cora meibon i ganu. Y cyntaf ganws odd parti Southport. A wn i ddim pun a ni'n doi odd bartiol ne beth, ond doe'n ni ddim yn'u styriad nhw yn rhwpath ‘extra,' sgeni ddim ofan i ddweyd a, ond yr odd y Shirgar yn mynd tuhwnt i fi.

‘Wn i ddim pwy berswatws rheina'u bod nhw yn gallu canu,' mynta Shoni. ‘Son am swampo Cymru! Wn i am male voice bach yn Nghilcwm 'co a'u middsa nhw'n yfflon.'

Ond ar'u hola nhw dyco barti No. 2 yn stepo i'r lan. Pwy barti yw hwna, wysh? ‘Parti Rhymny, dala i ngap,' atebws 'y matnar. ‘Wyt ti'n reit dy wala,' myntwn ina. 'Parti Rhymni yw a, ed, wath wy'n napod y ledar, a dyco fe weldi yn mynd i ben y gatar.' ‘Itha glap iddi nhw ta,' atebws Shoni nol, a chlapo nethon ni spo'n dilo ni'n gwsg. Ag yn wir fe glapodd pob copa yno (ond gwyr Manchester) wath odd pobun yn gweyd i fechgyn Rhymny gal cam yn Ngarfyrddin ag Abertawa - ma nhw ddylasa gal y first prize. 

 

 

None

(delwedd 9335) (3/4)

Tarian y Gweithiwr 11 Awst 1904

 

Ond, Mishdir y DARIAN, tasa chi ddim ond 'u clywad nhw yn'u hacor i! O! yr on nhw grand! Bechgyn bach y first tenors on nhw ishta flutes; a'r basswrs wetini y first a'r seconds yn u rowlo i ar ‘u hola nhw, a'r hen lew yn y shew tu fas a'i laish trwm yn 'u helpu nhw gymaint gallodd a, er mwyn catw anrhytadd Cymru i'r lan! Ag i fi gal dweyd 'y mrofiad, ishta dynon mwn cyfillach eclws, pan odd boys Rhymny yn canu y pishin cynta, ia a'r ail bishin, ed, own i'n clywad rhwpath yn y ngherad i, yn gwmws ishta pina bach yn y nghefan i. Ac am y mhatnar ta, yr odd e'n jiggo o dan y dylanwad fel dyn wedi 'i fesmariso'n gwmws. Clapo! Mi gretas i na fasa dim diwadd ar y clapo pan gwplson nhw!

‘O Ianto,' mynta matnar mhen ticyn ishta dyn yn dod nol o fyd arall, 'ble'r wy!’

Odd Shoni yn depig i'r hen fachan 'ny odd wedi cwmpo yn feddw ar noswath ola liad wrth ochr pwllyn o ddwr. Glywws rhai o chi'r stori, wysh? Yr odd i wraig, w, wedi dod i alw am dano fa, a dyna hi'n galw ar dop 'i llaish, ‘Morgan.' Neb yn aped. Galw wetini, 'Morga-a-n!' 'Helo!' mynta Morgan, fel dyn mwn swmp. ‘Ble'r ych chi?' mynta'r wraig yn ol. Wedi dishgwl a bothdi a ffili dyfalu ble, dyna'r aped yn dod. ‘Wy ddim yn gwpod wir, Mary fach, ond wy rwla filodd o filldirodd ochor ycha'r sers, ta beth.'

A rhwpath yn depyg y teimlws Shoni mhatnar wrth glywed bechgyn y Rhymni yn 'i warblo hi. Amser a balla, ys gwetws y pregethwr, i fyn'd dros y perfformans bob yn un ac un, ond wn i ddim beth gas beirniad Abertawa i ranco parti Cardydd o flan boys y Rhymny, oblecid nol fel y canson nhw yn Berdar, do'n nhw ddim ffit i ddala canwll iddi nhw. Hefyd rwy i'n barnu bod rhai twtches da drychynllyd gan barti Sweet Perdar ac yn 'u doti nhw yn mlith yr etholedicion ond fe ffilws y beirniad a'u gweld nhw ishta fi, dodd i glust a ddim yn ddicon tena ne rhwpath.

 

 

None

(delwedd 9336) (4/4)

Tarian y Gweithiwr 11 Awst 1904

 

Y pedwar parti gas'u galw mlan i ganu gyta'u gilydd odd Southport, Rhymny, Manchester, a Resolven. Pan glywson ni enw Southport yn cal i alw mas mi gretas y basa Shoni yn mynd dros ben llestri yto, ond dodd dim amser i 'ny nawr wath yr odd isha clywad y feirniatath. O'r tri arall dodd dim doi feddwl geni naca boys Rhymny odd y gwyr gora. Own i weti hongan clod yr hen wlad wrth 'u llewisha nhw, ac yn gobitho na fasa dim un cilbwt yn rhoi y flaenoriath i'r Saeson. A wir, rodd gen i dicyn o fola at barti Resolven - y parti y cymrws Glyndwr Richards at i bolisho fa - ond dabo gomrod o baent nath Tom ishtag arfadd, ne fe fasa wedi neud batl gas am deni.

Ond dyna'r feirniatath yn gneud mas taw cor Manchester odd i phia i, ag wn i ddim shwt teimlas i ar y pryd, a shwt gallws Shoni ddala miwn, achos cretwch chi fi nid joke i fachan yn caru'i wlad a'i cherddoriath odd gweld carn o Saeson ishta rhain yn dod lawr ac yn whado'n bechgyn ni yn rhacs ar 'u tomen 'u hunan. Ond ar gora Cymru'u hunen ma'r bai. Pwy sens yw sefyll mas o flan hen warriors sy' miwn training bob dydd acha chytig wsnotha o bractis. Sens, nag os, a gora pwy gynta y dwan nhw i weId 'ny ed.

Yn ol y feirniatath un bai bach odd ar barti Manchester. R'odd y beirniad yn ffilo roi cownt am dano, mwn un man yn yr ail bishin chas a ddim o'r thrill ag odd a'n dishgwl gal, mynta fe. Fe grafws 'i ben sawl gwaith ond fe ffilws yn deg a chal y rheswm am y diffyg.

‘Tasa fe mond gofyn i fi, mi wetswn i'r secret wrtho,' mynta Shoni wrth y'n ochor i. Ac yr odd i lycid a'n shino ishta bobbi daslers pan yn gweyd.

‘Wel, beth yw a?’ myntwn i yn dywyll y ngwala. Ath y mhatnar yn stwmp i nghlywad i'n holi, wath yr oedd a'n arfadd etrach lan ata i ar fatar o weld.

‘Mi weta wrthot ti,' atebws Shoni gan shapo'i unan ishta cownsilar, ‘y bachan odd yn gofalu am y thrill odd y bachan 'ny o Fanchester gas i rhitag miwn yn Carfyrddin y ddo. Welast ti mo'r hanas ar y ’South Wales’? Odd a wedi mynd mor falch, w, bod y cor wedi meiddi fel yr ath a i orwadd ar genol yr hewl, a dyna lle'r odd a, ishta Mwlsyn Cati Lansaint, yn whara 'i fagla yn yr air yn arwdd 'i fod a'n falch 'i fod a'n fyw. Ag fel Amen crand i'r brecath te fflingws 'i escid — whiw; — trwy ffenast shop godderbyn iddo, ac yn gwiddi 'run pryd nes bo wal y jail yn siglo i gyd — 'good old Manchester!’ Ond dyna bwtyn o blisman yn dod o rwla ac yn colero'r bachan, ond os do fa fe gas gystal clewten ag a gas a 'riod am interfiro rhyngto a Manchester. Y gwir am deni, yr odd y bachan wedi dwli gan lawenydd — widda fa ddim beth odd a'n weyd nac yn neud, a dylsa'r plisman fod yn ddicon call i bido nido mlan mor ddiswmwth. Ond ta beth, ma'r cantwr bach yn y lock-up, a ma fa'n depig o gal cwpwl o fishodd i bico ocwm am 'i rialtwch, oblecid tamad at flas gwyr y bench yn Carfyrddin fydd y cyfle i ddial arno fe am fod Cor Meibon Manchester wedi sarnu cora Cymru dan drad. Ond ta beth, fe alws cor Manchester i golli'r wobor yn Abertawa, ag fe welodd y beirniad 'i isha fa yn Steddfod Berdar, wath fe odd y bachan odd yn gofalu am y thrill.'

Drosof Fi a Mhatnar,

Yr eiddoch,

IANTO MORGANWG.

 

Sumbolau:
a A / æ Æ / e E / ɛ Ɛ / i I / o O / u U / w W / y Y /
…..
…..
MACRON: ā
Ā / ǣ Ǣ / ē Ē / ɛ̄ Ɛ̄ / ī Ī / ō Ō / ū Ū / w̄ W̄ / ȳ Ȳ /
MACRON + ACEN DDYRCHAFEDIG: Ā̀ ā̀ , Ḗ ḗ, Ī́ ī́ , Ṓ ṓ , Ū́ ū́, (w), Ȳ́ ȳ́
MACRON + ACEN DDISGYNEDIG: Ǟ ǟ , Ḕ ḕ, Ī̀ ī̀, Ṑ ṑ, Ū̀ ū̀, (w), Ȳ̀ ȳ̀
MACRON ISOD: A̱ a̱ , E̱ e̱ , I̱ i̱ , O̱ o̱, U̱ u̱, (w), Y̱ y̱
BREF: ă Ă / ĕ Ĕ / ĭ Ĭ / ŏ Ŏ / ŭ Ŭ / B5236:  B5237: B5237_ash-a-bref
BREF GWRTHDRO ISOD: i̯, u̯
CROMFACHAU:   deiamwnt
A’I PHEN I LAWR: , ә, ɐ (u+0250) https: //text-symbols.com/upside-down/
…..
…..
ˡ ɑ ɑˑ aˑ a: / æ æ: / e eˑe: / ɛ ɛ: / ɪ iˑ i: / ɔ oˑ o: / ʊ uˑ u: / ə / ʌ /
ẅ Ẅ / ẃ Ẃ / ẁ Ẁ / ŵ Ŵ /
ŷ Ŷ / ỳ Ỳ / ý Ý / ɥ
ˡ ð ɬ ŋ ʃ ʧ θ ʒ ʤ / aɪ ɔɪ əɪ uɪ ɪʊ aʊ ɛʊ əʊ /
£
ә ʌ ẃ ă ĕ ĭ ŏ ŭ ẅ ẃ ẁ Ẁ ŵ ŷ ỳ Ỳ
…..
…..
Hwngarwmlawt:
A̋ a̋
gw_gytseiniol_050908yn 0399j_i_gytseiniol_050908aaith δ δ
…..
…..
ә ʌ ẃ ă ĕ ĭ ŏ ŭ ẅ ẃ ẁ ŵ ŷ ỳ

Ә Ʌ Ẃ Ă Ĕ Ĭ Ŏ Ŭ Ẅ Ẃ Ẁ Ẁ Ŵ Ŷ Ỳ Ỳ
…..
….

Hwngarwmlawt: A̋ a̋
gw_gytseiniol_050908yn 0399j_i_gytseiniol_050908aaith δ δ
…..
…..
ʌ ag acen ddyrchafedig / ʌ with acute accent: ʌ́

Ə́ ə́

Shwa ag acen ddyrchafedig / Schwa with acute

Ə́Ә ə́ә

DejaVu Serif


Y TUDALEN HWN /THIS PAGE / AQUESTA PÀGINA:
 
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_254_steddfod-sweet-berdar_11-08-1904_3210k.htm

Ffynhonnell / Font / Source:  llyfrgell genedlaethol cymru
Creuwyd / Creada/ Created: 20-03-2019
Adolygiadau diweddaraf / Darreres actualitzacions / Latest updates:
20-03-2019
Delweddau / Imatges / Images:

---------------------------------------

Freefind.

Archwiliwch y wefan hon
SEARCH THIS WEBSITE
---
Adeiladwaith y wefan
SITE STRUCTURE

Beth sydd yn newydd?
WHAT’S NEW?

 

Ble'r wyf i? Yr ych chi'n ymwéld ag un o dudalennau'r Wefan CYMRU-CATALONIA
On sóc?
Esteu visitant una pàgina de la Web CYMRU-CATALONIA (= Gal·les-Catalunya)
Where am I?
You are visiting a page from the CYMRU-CATALONIA (= Wales-Catalonia) Website
Weə-r äm ai? Yüu äa-r víziting ə peij fröm dhə CYMRU-CATALONIA (= Weilz-Katəlóuniə) Wébsait


Adran y Wenhwyseg / Secció del dialecte de Gwent / Gwentian Welsh

Web Analytics Made Easy -
StatCounter

Edrychwch ar ein Hystadegau / Mireu les nostres Estadístiques / View Our Stats

…..

…..

 Adran Testunau Cymraeg / Secció de extos en gal·lès / Welsh-language Texts

Edrychwch ar fy Ystadegau / Mireu les estadístiques / View My Stats