kimkat3524k Y Conffrens. Wil Sledgwr. 1895. 1896. The Merthyr Times. The Dowlais Times, and Aberdare, Pontypridd, Rhondda Valley, Rhymney, Tredegar, Brynmawr and Western Valleys Echo. Hurrah! O'r Dowlais ag e! Beth wedwch chwi, gwyr Merthyr nawr wn i? Dyma dwtch i chi yn Brynmawr!

03-11-2020 10.00

● kimkat0001 Yr Hafan www.kimkat.org
● ● kimkat2001k Y Fynedfa Gymraeg www.kimkat.org/amryw/1_gwefan/gwefan_arweinlen_2001k.htm
● ● ● kimkat0960k Mynegai i’r testunau Cymraeg yn y wefan hon www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_mynegai_0960k.htm
● ● ● ● kimkat3465k Y Conffrens: Y Cyfeirddalen 
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_159_y-conffrens_1895-1896_y-gyfeirddalen_3466k.htm
● ● ● ● ● kimkat3524k Y tudalen hwn
....

 

0003g_delw_baneri_cymru_catalonia_050111
(delwedd 0003j)




Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Gal
·les i Catalunya
The Wales-Catalonia Website

Cywaith Siôn Prys - Testunau Cymraeg ar y We

Y Conffrens
Wil Sledgwr
(Merthyr Times. 1895, 1896)
1896 (Rhan 2: Medi-Rhagfyr)


Y Llyfr Ymwelwyr / El Llibre de Visitants / The Guestbook:
http://pub5.bravenet.com/guestbook/391211408/

a-7000_kimkat1356k
Beth sy’n newydd yn y wefan hon?


---

6665_map_cymru_catalonia_llanffynhonwen_chirbury_070404
(delwedd 6665)

.....           

Map

Description automatically generated
(delwedd 9338c)

http://www.kimkat.org/amryw/1_gwenhwyseg/gwenhwyseg_cyfeirddalen_0934k.htm Y Wenhwyseg - y prif dudalen
http://www.kimkat.org/amryw/1_gwenhwyseg/gwenhwyseg_cyfeirddalen_2184c.htm El dialecte güentià del gal·lès - la pàgina prinicipal
http://www.kimkat.org/amryw/1_gwenhwyseg/gwenhwyseg_cyfeirddalen_1004e.htm Gwentian dialect of Welsh – the main page
.....


03 Medi 1896: B0859a, B0859b

10 Medi 1896: B0883a, B0883b

17 Medi 1896: B0882a, B0882b, B0882c

24 Medi 1896: B0890a, B0890b, B0890c

 

01 Hydref 1896: B0879a, B0879b

22 Hydref 1896: B0878a, B0878b, B0878c

29 Hydref 1896: B0877a, B0877b, B0877c

 

03 Rhagfyr 1896: B0884a, B0884b

10 Rhagfyr 1896: B0893a, B0893b, B0893c

17 Rhagfyr 1896: B0892

24 Rhagfyr 1896: B0889

....

 

 

Text

Description automatically generated
(delwedd B0859a) (
3 Medi 1896)


The Merthyr Times. The Dowlais Times, and Aberdare, Pontypridd, Rhondda Valley, Rhymney, Tredegar, Brynmawr and Western Valleys Echo.

3 Medi 1896.


Y CONFFRENS.

Dan. - Wel Boys, shwt mae heno?

 

Mocyn. - Atebed pob un drosto'i hunan. Wdw i ddim yn dda iawn, ta beth, ag wdw i siwr na weda i ddim yn erbyn y menwod heno ta beth; ac os clywa i rhywun yn gweyd un gair yn fach am denyn nhw fydda i'n cilo mas ar unwaith.

 

Twm. - Fe newidwn ni subject heno. Fe leicswn i alw'ch sylw chi at Fembers School Board Merthyr, yn enwedig dau o Ddowlais. Os yw'r hyn welais i yn yr Echo am denyn nhw yn wir, mae'nllawn bryd i'r Conffrens' i gymeryd at eu hachos nhw, a rhoi gwbod iddyn nhw beth yw'n barn ni am denyn nhw.

 

Shoni. - Beth sy'n bod nawr ynte?

 

Twm. - Wel ar gownt i ni weld y peth yn glir, mae'n rhaid i ni ddechre gyda'r District Council. Os cwpwl o wythnose nol fe ddath David Davies Glebeland mlan a cynygiad o flan y council i ystyried y priodoldeb o feddwl am gal recreation grounds, hyny yw, i gal llefydd cyhoeddus i ni a phawp erill i fynd i enjoyo'n hunen, yn lle bo ni yn gorffod sefyll ar y corneli, a chal y demtasiwn i fynd i'r tafarne. Ag mae yn drueni ofnadwy na allen ni gal rhyw le i fynd hefyd. Dyna Aberdar, er engraifft: mae park ardderchog gyda nhw. Ag ro'dd “Wellington Bach” Merthyr yn gweld bod ishe'r un peth arnon ninnau, ag fe alwodd sylw y council at hyny, (a phe byswn i yno fe fyswn i yn rhoi good clap iddo fe hefyd). Ond fe'i gwrthwynchwyd e ar unwaith, ag fe gariwd y dydd i beidio gneyd sylw o’r peth, ag fe a'th un mo'r bell a gweyd fod yr hewlydd yn ddigon da i ni. Gobeitho rhoiff voters y ward mae e'n esgys represento yr hewl iddo yntau yn y lecshwn nesaf hefyd, yn lle seat ar y council. Wedi iddi fynd yn fflat ar bwnc y recreation grounds, fe baswd penderfyniad wedyn i ofyn i Femibars y School Board i adael y playgrounds yn agored i'r plant i chwareu yndyn nhw ar ol amser yr ysgol. Yr wythnos ddywetha fe ddath y cais o flan y school board, fe cynygiwyd ac eiliwyd fod y cais yn cael ei ganiattau, gan Wills Merthyr a Gray, Merthyr Vale. Er mor groes i ni iw egwyddorion y ddau yna, mae'n rhaid rhoi compliment yddyn nhw am hyn. Ond dyma “welliant” yn cael ei gynyg gan y Parch R. S. Williams, Dowlais, a'i eilio gan y Parch LI. M. Williams, Dowlais, ac fel y mae yn warthus i adrodd aeth y mwyafrif gyda nhw, a dim ond y cynygydd a'r eilydd dros y cynygiad gwreiddiol.

 

Joe. - Shame, shame, can that be true? Is it possible that a Nonconformist minister in the person of the Rev. R. S.
Williams could be so unmanly as to propose that the playgrounds be closed against our loving innocent children, and turn them into the streets, to be in danger of being run over by cabs, busses, and brewery drays, where they will hear the most filthy and abominable language, where they will come accustomed to evil doings, and led into the greatest temptations? And that proposition was seconded by the Rector of Dowlais Excuse me for speaking English to-night, as my blood is boiling, and I cannot express myself in Welsh. When thinking that two men professng to be followers of Him who said “Suffer little children to come unto me,” could be hard enough to act so unworthy of their calling.

 

 

Text

Description automatically generated
(delwedd B0859b) (
3 Medi 1896)

 
Jim. - Dyna R. S. Williams, does dim plant gydag e'i hunan am wn i, ag mae e'n byw mewn lle nag yw swn plant yn disturbo fawr arno fe. Dyna'r rector wedyn. Mae yntau yn byw mewn lle naill ochor bron, ag mae gydag e le i'w blant i chwareu heb fynd i'r hewl o gwbl, (ag mae nhw yn gweyd wrtho'i fod lle hwnw wedi bod yn recreation ground cyffredinol i'r gweithwyr. pe bae nhw wedi gneyd y defnydd priodol o hono). Ond dyma'r cwestiwn yw hwn: Ble caiff ein plant le i chwareu? Fe dywedodd un gyda priodoldeb “Mae'n rhaid i blant i chwareu, ond does dim lle yn Dowlais gan nad beth am Merthyr.” Dyna Caeharris a Phenywern, 'roedd y cae rhwng y ddau le yna yn agored, ond ma rhestr o dai yn cael eu hadeiladu yno nawr, ac oddi yno trwy Dowlais yn gyffredinol does dim lle o gwbl ond yr heolydd. Dyna rhwng Gellifaelog a Top Pendarren mae typyn o le yno, ond beth yw e? Yr hen le mwyaf afiach a gellir meddwl am dano, hen domeni o ysgarthion y lle; ac nid yw yn rhyfedd yn y byd fod cynifer o blant yn y gymydogaeth hyny yn meirw o wahanol dwymyna, pan y meddylion eu bod yn treulio eu hamser chwareu yn gymysg a chruglwyth o ddrewdod ac afiechyd.

 

Nans. - Wyt ti'n gweyd calon y gwir. Wdw i'n ffaelu deall na alle'r plant diniwed, druain bach, gal playground yr ysgol rydd i whare yndo fe. Ma'r volunteers wedi bod yn cal mynd miwn yna, ond wn i ddim a odyn nhw yn mynd mawr na beido; ag fe dynodd rheini y swings a phethe wedd gyda'r plant lawr i gyd ar gount iddyn nhw gal lle, medde nhw. A dyna hefyd wdw i'n cofio'r playground yna lawer mwy o size nac mae e nawr. Slawer dydd odd lle yna i'r bechgyn ar benau'u hunen, i'r merched ar benau'u hunen, ag i'r infants ar benau'u hunen, ond nawr ma lot o erddi wedi cal i cau mewn, a stim nagos cyrnynt o le yna ag odd slawer dydd. Ond gan nad beth fe ddyle'r plant gal lle i fynd naill ochor i whare.

 

Dafydd Benwyn. - Er mewn syndod at ymddygiadau ein cynrychiolwyr, yr wyf wedi derbyn boddhad neillduol wrth eich clywed yn siarad heno. O bawb, dylai arweinwyr y bobl wneyd pobpeth yn eu gallu i gael pob drws yn agored i arwain y plant o olygfeydd a pheryglon corfforol, meddyliol, ac ysbrydol. Ar bob cyfrif dylai y rhai a honant eu bod yn olynwyr yr Apostolion, ac yn genhadau dros yr Hwn a dderbynodd blant yn ei freichian, wneyd eu goreu yn mhob ystyr i weithio allan y gorchymyn hwnw o'i eiddo. “Portha fy Wyn.” Peth chwithig fyddai meddwl fod doethineb Solomon wedi mynd yn ffolineb, gwroldeb Llewelyn wedi mynd yn fethiant, a'i wladgarwch a'i genedlgarwch wedi eu ddiorseddu gan rhywbeth nas gellir rhoi gwell enw arno na “Chreulondeb at blant bychain.” Dyledswydd pob llafurwr yn Ngwinllan y Brenin yw arfer pob tynerwch at “Flodau'r Oes,” a'u gosod bob amser yn yr awyr buraf, a'r hinsawdd iachaf i ymddadblygu fel y delont i brydferthu a pherarogli gardd Cymdeithas.

 

Dros y Conffrens

 

WIL SLEDGWR.

 

 

Text, letter

Description automatically generated
(delwedd B0883a) (
10 Medi 1896)


The Merthyr Times. The Dowlais Times, and Aberdare, Pontypridd, Rhondda Valley, Rhymney, Tredegar, Brynmawr and Western Valleys Echo.

 

10 Medi 1896.

Y CONFFRENS.

Wil. - Wel, boys, beth yw'r pwnc i fod heno?

Twm. - Recreation grounds.

Dai. - Paid son am rheini nawr mae'n rhy ddiweddar; mae'r gaua'n dod.

Shoni. - Mae'n auaf ar ymenyddiau'n representatives ni ar y Public Boards hefyd allwn i feddwl, wath din nhw ddim yn gallu gweld fawr er ein lles ni ta beth, a ma na ddigon o stormydd.

Harri. - Beth gwell i ni o stormydd y boards? Dos dim glaw yn dod o wrthyn nhw i lanw'r pondydd i ni gal dwr i starto'r gwaith, ta beth.

Ned. - Ie, ond nid stormydd naturiol i nhw, ond stormydd yn cal i hachlysuro gan gasgliad o gas, rhagfarn, a jealousy yn upper garrets y members, a chymylau nad oes dim a fyno natur a nhw o gwbl yn arllwys eu cynwysiad o felldithion ar benau'u gilydd. Ag man nhw yn taro yn erbyn i gilydd nes bo taranau yn crynu'r lle. Ond dyna'r gwaetha, dyw'r taranau yn clirio dim o'r awyr, ond i llanw hi'n wath, wath, o hyd,

Jack. - Ie wir wathach, wathach, mae n mynd o hyd.

Phil. - Hoi, clywsoch beth oedd y Parch LI. M. Williams yn weyd yr wthnos o'r blan, bod lle wedi cal i roi gan Lord Windsor i bobl Dowlais i enjoyo'n hunen ar y Bryniau. Mae'n drueni mawr na fyse Rector Dowlais yn gwbod typyn o hanes y lle yn well. Nol peth wy wedi glwed, does gyda Lord Windsor ddim byd i neyd ag e, er mae fe yw'r landowner, ond mae y Dowlais Company wedi leso’r Bryniau, a charedigrwydd y D.I.Co. fel lesees a'u swyddogion yw bo ni yn cal mynd i'r Bryniau o gwbl. Cael ein goddef a'n caniattau i ni i fynd i'r Bryniau, a does dim hawl gan unrhyw barti, picnic, football, na chricet i gal i gynal yno heb ganiattad. A dos dim hawl gyda ni i fyned i'r Bryniau o gwbl heb fynd trwy breifat property, neu fynd round about i'r Pant, neu yn round i Gellifaelog ag i'r lan trwy'r hewl yna fu gweithwyr Plymouth yn wella os typyn nol.

Dan. - Ffor wyt ti yn gweyd hyny? Ond os hawl yn mynd i'r lan i'r Bryniau, yn strait o hewl Pant i Tai'r Efail.

Phil. - Oes, mae wir, ond preifat property yw hono, a charedig rwydd y Dowlais Company yw bo ni yw cal cerdded drosti o gwbl.

Jack. - Wel, dyna beth arall am y Bryniau hefyd. Mae e'n lle rhy arw i blant i whare yno, heblaw fod e'n rhy bell i blant i fynd yno. Ma na gymynt o greygydd, a chwareli, a phyllau fel nad yw e'n ffit i blant bach i fynd wrthyn i hunen yno, er ar yr un pryd fe ddylen fod yn ddiolchgar iawn i'r lesees a'u swyddogion am bod y fath run yn cal ei ganiattau i ni yno, ac y mae y caniattad hwnw yn fendith anmhrisiadwy i ni. Ond dylai Rector Dowlais fod yn gwybod mai i'r diweddar Syr John Guest, Lord Wimboine, ei olynydd, a'u swyddogion y mae i ni ddiolch am y fendith hon, ac nid i Lord Windsor.



 

 

Text, letter

Description automatically generated
(delwedd B0883b) (
10 Medi 1896)



Shan. - Yn ngwyneb fod y Bryniau mor bell ag mor ddanjerus i blant, pan na allen nhw gal y playgrounds i whare?

 

Ben. - Ma members y School Board wedi gwrthod y fendith yna. ag nawr ofer dadl wedi bara. Din ni ddim gwell o gau drws y stabal wedi'r ceffyl gilo mas. Ond fe dreiwn ni fod ar look out pan ddaw'r lecshwn nesa, os byw ac iach.

 

Mocyn. - Mae gyda ti un pwnc ar fy meddwl, ag nawr yw'r amser i godi e i sylw, ag nid dim ond i ni, ond y British Women's Temperance Association, y Rechabites, Sons of Temperance, y Good Templars, gwyr y capeli, a phawb arall sy'n teimlo dyddordeb yn lles trigollion y lle.

 

Peggy. - Beth yw hwnw te, bod e mor bwysig?

 

Joe. - Ma'n too late heno i ddechreu ar y cwestiwn, a gadewn e nes bo ni cal gweld os bydd pregethwrs, ffeiradon, a temperance leaders yn cymeryd rhyw interest yn welfare ni, ar y Temperance question.

 

Dai. - Os na fyddan nhw yn well na ma nhw wedi bod ar y playground question, fyddan nhw ddim llawer o beth.

 

Cad. - Books by heno, boys, a dewch i ni gal mynd ar bwys cornel yr American Stores, wath stan ni ddim un lle public arall i fynd.

 

Dros y Conffrens

 

WIL SLEDGWR.

 

 

Text

Description automatically generated

(delwedd B0882a) (17 Medi 1896)



The Merthyr Times. The Dowlais Times, and Aberdare, Pontypridd, Rhondda Valley, Rhymney, Tredegar, Brynmawr and Western Valleys Echo.

17 Medi 1896.

Y CONFFRENS.

Dai. - Helo Shoni, beth yw hwna sy' gen ti heno?

Shoni. - Program Eisteddfod Dowlais yw e.

Dai. - Pryd mai i fod?

Shoni. - Dydd Llun Mabon dywetha o'r flwyddyn.

Dai. - Very good, dyna chance i ni am gystadleuaeth boys. Beth yw'r testunau g'wed?

Shoni. - Testunau Sisneg i nhw bron i gyd. Dewch i ni gal gweld nawr. Dyma cwrdd y bore. Mae unarddeg o items ar y program, ond dim ond tri o honyn nhw yn Gymrag, sef, adroddiad i ferched dan 15 oed, adroddiad i grots dan 15, a duet i denor a bass Cwrdd y prydnawn: 10 item ar y program, dim ond tri o rheini wedyn yn Gymrag, sef, adroddiad, ymgom, a'r brif don. Cwrdd yr hwyr wedyn: 6 items, ag un o rheini yn agored i'w wneyd yn Gymraeg neu Seisneg. Dyna i chi 27 o items, 20 o rheini yn Seisneg, un yn Gymraeg neu Seisneg, a chwech yn Gymraeg.

Yr Oll. – Shame! Shame!

Hugh. – Cywilydd! Cywilydd!

Dan. - Helo Hugh, dyna snub i ninau iefe.

Shoni. - Dyma un peth cymeradwy iawn. Mae yno 3 o lywyddion i fod, sef un yn mhob cwrdd, a dyma beth sy'n grand, tri o'r hen Dowlais schoolboys i nhw, bechgyn wedi cael eu cwni yn Hen Ysgol Dowlais, ac wedi codi i safle anrhydeddus. Er fod “Officers y Teachers' Association” wrth ysgrifenu yn y Merthyr Times yr wthnos dywetha fel tase nhw am fychanu Hen Ysgol Dowlais, ond ma well iddyn nhw i beido, waith mae cystal bechgyn wedi cael eu codi yn yr Hen Ysgol Rydd, ag a godwyd mewn unrhyw ysgol yn y deyrnas. Fe allwn ni enwi ugeiniau heblaw'r tri gwr bynheddig sy a'u henwau ar y program, ond stim amser heno, (ond fe weda i un gair rhwng cromfachau wrth yr “officers” hyn, fod well iddyn nhw gymryd pwyll, rhag ofyn ffeindian nhw bo nhw yn gneyd camsyniad yn y ffordd ma nhw yn mynd yn mlan, ag os cymeryth y “Conffrens” attyn nhw falle ca'n nhw gwpwl o gnau caled i'w cracio. Dyw ysbryd ac arddull y llythyr yr wthnos ddywetha ddim yn reflecto yn dda iawn ar eu character nhw fel athrawon yr oes sy'n codi). Ond i gal dod nol at y pwnc: dyw e ddim ar y program fod un o'r llywyddion i siarad yn Gymraeg. Ag fe weda wrthoch chi beth arall mor bell ag ma'r programs yn dangos yn Seisneg ma'r ‘gân agoriadol' i fod yn mhob un o'r tri cyfarfod.

Twm. - Wel, wel, odyn nhw yn meddwl starfo'r iaith Gymraeg?

Shoni. - Allwn i feddwl i bod nhw.


 

 

Text, letter

Description automatically generated
(delwedd B0882b) (
17 Medi 1896)

Miss. B. - O, the Welsh Language is dying out fast, and good riddance after it, the English is so much lighter on the chest, you know.

Ned. - Wel, os yw'r iaith Gymraeg i fynd gobeithio mae i'r nefoedd aiff hi ar ol marw.

Joe. - Pidiwch chi bexo dim; dyna le ma hi'n mynd, wath dyna o ble ma hi wedi dod, fel gwedodd un French Profesor: “French is the language of birds, German is the language of horses, English is the language of men, but Welsh is the language of angels.”

Sami. - Beth taen ni yn cal gair neu ddoi gyda Dafy Benwyn ar yr iaith Gwmrag? Di'n ni ddim wedi glwed e'n sharad os cetyn nawr. Dewch mlan Dafy.

Dafydd Benwyn. - Peidiwch credu yr un gair fod yr Iaith Gymraeg yn mynd i farw. Y mae yn wir fod llawer yn ceisio darogan fod ein hiaith anwyl bron tynu ein hanadliad olaf, ond nid yw hyn ond mympwy ffol crachfoneddigion anwybodus o’n hiaith, baldordd perthynasau penysgafn Dic Shon Dafydd.
Y mae y Gymraeg yn anadlu yn hynod o rwydd heddyw. Nid oes yr arwydd lleiaf or asthma, bronchitis, na'r darfodedigaeth yn ei chyfansoddiad. Gwir fod cylch terfynol y diriogaeth lle y siaredir Cymraeg wedi cyfynqgu llawer hyd yn oed yn y ganrif ddiweddaf, ond er hyny y mae ei gafael yn gryfach heddyw yn nghalonau tyrfa fawr o drigolion ‘Gwlad y menyg Gwynion,' nag y bu erioed o'r blaen, Os oes rhai yn darogan ei hangau, mae y miloedd am ei chadw yn fyw. Ie:

“Os treisiodd y gelyn fy ngwlad dan ei droed,
Mae hen iaith y Cymry mor fyw ag erioed”

a byw wnaiff hi hefyd i weled llawer o'r proffwydi gau yn myned i dir anghof, a thwmpathau beddau daroganwyr ei hangladd, dan bwysau olwynion amser yn gydwastad a'r llawr. Ac os ydyw pwyllgorau eisteddfodau yn ceisio ei hanwybyddu, credaf yn ddiysgog, gyda Bardd Nantglyn, “nad oes lle i amheu na thrig yr Iaith Gymraeg hyd na byddo amser mwyach. Tra mor, tra Brython. Oes y byd i'r Iaith Gymraeg.” Ac wrth bob un o dylwyth Dic Shon Dafydd dywedaf, yn ngeiriau y bardd

A oes cywilydd arnat
Mai Cymro yw dy dad?
Paham yr wyt am wadu
Dy enedigol wlad?
A oes rhyw beth yn perthyn
I deulu Gwalia Wen,
Sy'n ddigon i dy gyfiawnhau
Am droi a phlygu'th ben?

Os wyt am siarad Seisneg
Gwna hyny'n llawn a llon,
Nes byddo'r Sais uchelfalch
Yn synu ger dy fron;
A phan fo't yn llefaru
Ein heniaith anwyl ni,
O dyro iddi chwareu teg,
Paid ai llurgynio hi.


 

 

Text

Description automatically generated
(delwedd B0882c) (
17 Medi 1896)


Joe. - Well done, David Penwyn. We ni gweyd byse ni cal sense gyda ti. Tyna lot o pills splendid i'r hen set sy'n ignoro'n beautiful language ni.

Phil. - Beth yw testyn y traethawd yn yr eisteddfod yna?

Shoni. - Stim traethawd na barddoniaeth i fod yna.

Harri. - O eisteddfod o ffashwn newydd yw hon i fod ynte? A oes dim i fod yna ond canu?

Malen. - Jobyn da fod traethodau a barddoniaeth wedi adel mas ma rhwbeth fel yna yn spoilo plant yn deg. Dyna fi y dywedydd yma wedi hala rhew grotyn

Wil sy gyda fi i'r farchnad i brynu tepot, a beth i chi'n feddwl ddath e nol ond “Llyfyr Trwmpyn” y “Bachan Ifanc,” a gorfod i fi neyd te mewn decanter nawr cyn dod i'r “Conffrens.” Fe fyse'n jobyn da iawn i fi ta llyfre a barddoniaeth wedi mynd mas o'r byd.

Mocyn. - Son am y “Bachan Ifanc,” nawr wedd e'n gweyd fod hi bryd i'r beirdd i fynd ar streic, ond dyma spario'i sport e. Mae'n dod yn lock out arnyn nhw o'r eisteddfodau nawr. Ond os aiff hi mlan fel hyn, fe fydd hi'n siwr o ddod ar y cantwrs fel odd y “Bachan Ifanc” yn gweyd: “Chan nhw ddim pishis i ganu bob yn dypyn.”

Shoni. - Ond ma cystadleuaeth i fod mewn gneyd sane, chryse merched.

Sami. - Odi rheini i fod yn Sisneg hefyd?

Shoni. - Dyma beth arall hefyd mae cystadlu i fod gan fenwod a gwyragweishon mewn Ambulance, a chystadlu hefyd mewn acto play, peth ma nhw yn galw dramatic sketch arno fe.

Jim. - O wel te wir, os dim races ffetane a whilo whilbar a rhyw games fel hyny i fod yna?

Shoni. - Taw son,

Jim. Paid a dangos dy hunan yn shwt ffwl dwl. Ond fe weda i wrthot ti am un peth sy ar y program yn dy siwto di i'r dim. Tro di i page 12, fe gei weld fod y best brands o gwrw a licer a cigars yn cael i advertiso arno fe.

Jim. - Os cigaretts yn cal ei hadvertiso yna hefyd, i gal treto'r merched?

Phil. - Wel, fe glwes i fod cysylltiad agos iawn wedi bod rhwng yr eisteddfod a'r dafarn, ond rown i yn meddwl fod yr hen gysylltiad hwnw yn darfod 'nawr.

Ned. - Paid cymryd dy gamarwain am fod advertisement cwrw ar y program. Fe weles i advertisment cwrw a licer ar brogram cymanfa ganu os typyn nol.

Wil. - Mae'n well i ni i gadel hi heno etto; mynd yn wath wath, ma hi fel bo ni'n mynd mlan.

Dros y Conffrens

WIL SLEDGWR.

 

 

Text, letter

Description automatically generated
(delwedd B0890a) (2
4 Medi 1896)


The Merthyr Times. The Dowlais Times, and Aberdare, Pontypridd, Rhondda Valley, Rhymney, Tredegar, Brynmawr and Western Valleys Echo.

Y CONFFRENS.

Harri. - Wel boys, mae gyda fi cuestiwn i ofyn heno ar y start. Wdw i yn gweld papurau ar y welydd weithe a “B.W.T. A” arny nhw, ag wdw i yn ffaelu'n ded a gneyd mas beth ma nhw yn olygu. Wdw i yn deall rhai llythrene, a gwbod bod M.P. yn golygu Mishtir Pudlers; ond am y “B.W.T.A” wdw i yn ffaela dyall beth yw e.

Joe. - Dim hagor o nonsense. But listen ma ni yn mynd i explaino fe. Meaning y B.W.T.A. yw British Women's Temperance Association. Society o fenwod yn gweitho dros Temperance yw hi a Lady Somerset yw y President, a ma branches o'r Society wedi cal i formo all over the country, a ma un yn Dowlais.

Dafydd Benwyn. - Yn wir y mae arnom rwymau mawr i ddiolch am fod y Gymdeithas fendigedig hon wedi e ffurfio. Rhwydd hynt iddi, ddywedaf fi. Ac os goddefwch i fi ddarllen ychydig benillion i chwi fe wnaf. Yr wyf wedi gweld fod cymaint yn cael ei gyfansoddi i'r “Dyn Meddw” gan y beirdd, ond ychydig iawn i'r “Ddynes Feddw” Ac fel y gwyddoch fod dylanwad y ddynes feddw yn fwy niweidol o lawer nag eiddo y dyn meddw. Ond bendigedig, o'r ochor arall, gall ei dylanwad fod yn fwy effeithiol i sobreiddio'r byd hefyd. Pob llwydd a bendith ar y B.W.T.A., yn awr am y gan:


Y DDYNES FEDDW.


Os am wel'd darlun cyflawn, byw,
O bechod yn ei hagrwch,
Pencampwaith creadigaeth Duw
Yn ddarn o gythreuleiddiwch,
Y deml hardd yn garnedd erch,
A choron byd yn chwilfriw,
Creulonedd ar eisteddle serch,
O gwel y ddynes feddw.

Rwy'n cofio'i gweld yn eneth fad,
Yn llawn o ddiniweidrwydd,
Yn eilun calon mam a thad,
A'i gwen a'i gwnai yn ddedwydd
O'u serch hwy 'roe'nt i'r fun ddinam,
Y gwydriad damniol hwnw!
Tynerwch dall, a siampl mam,
A'i gwnaeth yn ddynes feddw.


Arwyddion claer o fywyd gwyn,
Ar foreu oes ganfyddid,
'Doedd neb yn meddwl dim pryd hyn,
Am stormydd blinion adfyd ;
Dan gochl ffug, a thwyll y byd,
Cai'r gelyn drwg ei gadw:
Ond enill nerth a wnai o hyd,
I'w gwneyd yn ddynes feddw.



 

 

Text

Description automatically generated
(delwedd B0890b) (2
4 Medi 1896)



Boreuddydd ei phriodas hi,
Oedd orlawn o lawenydd,
Dadgenid dymuniadau lu,
Am “Einioes hir a dedwydd,”
“Dechreuad dydd o hedd oedd John
Yn cyfri'r boreu hwnw,
Ni ddaeth dychymyg idd ei fron
Am weled Mair yn feddw.


Y gelyn fagwyd o dan gudd,
Sy'n graddol ddod i'r golwg,
A grym y blys o ddydd i ddydd
Sy'n dyfod yn fwy amlwg;
Ond byddar ydyw John o hyd

I wrando'r siarad hwnw,
Sy'n beth cyffredin trwy'r y stryd
Fod Mair yn ddynes feddw.

Hwyrfrydig yw i gredu'r gwir,
Trwy ddichell caiff ei ddallu,
Ond cloff yw'r celwydd, a chyn hir
Ca'r cyfan ei ddinoethi;
Ei ruddiau sydd gan ddagrau'n llaith,
A'i fron mewn teimlad chwerw,
Wrth orfod sylweddol i'r ffaith
Fod Mair yn ddynes feddw.


Ow ddarlun trist! anghofia'r fam
Ei thyner blentyn sugno;
Trwy'r dydd a'r nos mae'n derbyn cam,
Nis medra hi dosturio;
Pwy fedr ddal 'rolygfa hon,
I werd y gwan yn marw?
O eisiau maeth o'r famol fron,
A'r fam yn ddynes feddw.


Och cilio wnaeth pob gobaith gwyn,
Am heulwen siriol hawddgar,
Mae'r cartref anwyl erbyn hyn,
Yn uffem ar y ddaear;
Pob hedd a chysur wedi ffoi,
A gwaeau yn ei llanw,
A'r gwr mewn blinder wedi'i gloi,
Am fod y wraig yn feddw.


Y priod hoff fu n llawen gynt,
Mewn gofid sy'n ymboeni,
Yr eurwallt chwifiai yn y gwynt
Sydd nawr yn cyflym wynu;
Y rudd fu'n siriol fel y wawr
Sydd nawr yn hollol welw,
Mewn prudd-der sudda'i ysbryd lawr
Am fod y wraig yn feddw.


 

 


Text

Description automatically generated
(delwedd B0890c) (2
4 Medi 1896
)




Tywyllwch amgylchiadau'r byd,
Sydd wedi cau am dano,
Ac ymbalfalu mae o hyd
Heb seren i'w gysuro;
Ei ffryndiau a'i gadawsant ef
Yn ei gyfyngder chwerw.
Ac ni chaiff fwyniant is y nef,
Am fod y wraig yn feddw.


Yn nghwmni ei gydweithwyr llon
Mae'n teimlo'n brudd ac unig,
Chwerthiniad rhai'n sy'n frath i'w fron,
A theimla'n ddirmygedig;
Ar derfyn dydd i'w gartref a,
Ond nid oes hedd yn hwnw
Chwanegiad i'w ofidiau ga
Wrth wel'd y wraig yn feddw.

 
Nid oes dim ymborth yn y ty
Mae'r arian wedi'u gwario;
Y dodrefn yn anrhefnus sy'
A'u haner wedi'u gwystlo;
A'r gadair front eistedda lawr,
Och'neidia am gael marw;
Gruddfana mewn enbydrwydd mawr,
Am fod y wraig yn feddw.


Drugarog Dduw, O tyr'd ar frys

Arweinia'r anystyriol,
Sydd yn beunyddiol suddo'n is,
I wel'd ei chyflwr damniol;
A gadael ei phechodau ffol,
A phleidio dirwest hawddgar
Fel delo'r aelwyd eto'n ol
Yn nefoedd ar y ddaear.


Yn mlaen yr elo Dirwest lon
Yn gyson ar ei chynydd,
Nes llwyr lefeinio'r byd o'r bron
Ag egwyddorion sobrwydd;
Fel caffo'r hen archelyn du
Ei hollol ddiorseddu,
A phlant y llawr yn dod yn llu
Wrth draed yr addfwyn Iesu.

Mocyn. - Well done Dafydd. Dyna ddarn gwerth ei adrodd mewn cwrdd Dirwestol, os cymeriff un o fembers y B.W.T.A. atto fe. Ac er mwyn i'r “Conffrens” gal darfod yn ei flas, fe gynyga i bo ni yn gadel heno gyda diolchgarwch i Dafydd Benwyn.

Dros y Conffrens

WIL SLEDGWR.

 

 

Text, letter

Description automatically generated
(delwedd B0879a) (
1 Hydref 1896)

The Merthyr Times. The Dowlais Times, and Aberdare, Pontypridd, Rhondda Valley, Rhymney, Tredegar, Brynmawr and Western Valleys Echo.

 

1 Hydref 1896.

Y CONFFRENS.

Wil Sledgwr - Mister Golygwr, mae'n rhaid i chi'n excuso i heno am fod yn ysgrifenad i mor aniben, waeth nid yn y chambers i ni wedi cwrdd heno, ond wrth ddod nol o angladd. Fel i chi'n gwbod bod hi'n ffasiwn gyda ni i sefyll wrth glwyd y fynwent hyd nes bo'r corff a'r tylwyth yn mynd miwn, a chwedyn ma rhai o honom ni yn ynj-nd miwn, erill yn troi nol, (odd gyda fi reswm dros droi nol, waeth odd ishe arna i fynd nol miwn pryd i'r "Conffrens"). Ond cyn bo fi yn troi nol, dyma Shoni yn dod mlan atta i, ag yn gofyn i fi:

Shoni – Holo, Wil, os matchen gyda ti bachan?

Wil Sledgwr - Os, ond wyt ti ddim yn mynd i smoco man hyn, wyt ti?

Shoni - Odw i. Pam? Wyt ti ddim yn gweld y lot yco yr ochor draw yn smoco i chalon hi ishws?

Wil Sledgwr - Ydyn ma nhw, ond stim rhaid i ti smoco am bo nhw yn smoco. Dyw dau ddu ddim yn gwneyd un gwyn, a fe ddylet ddangos fwy o barch i'r marw na mynd i borthi dy flys cyn bod ei gorff wedi mynd miwn trw'r glwyd.

Shoni - Nawr, nawr, dim rhagor o lol, dere mlan a matshyn, (yn ei thanio).

Dan - (Yn dod mlan). Ar dy ol di Shoni - Pwff - pwff, - pwff. Thenkyou Shoni, odd hi'n angladd gryf, ond odd hi?

Shoni - Tyn yn mlan, Dan, onte fe golli dan nawr.

Dan. - Pwff - pwff - pwff. O mai'n right i wala. Odych chi'n dod miwn am bobo lased, boys?

Wil. - Na, i ni yn mynd nol i'r "Conffrens."

Dan - O ie wir hefyd, ond fydda i ddim yn hir ar i'ch ol chi nawr.

Shoni - All reit, cofia am hyny nawr.

Wil. - Dere mlan Shoni; beth yw'r newydd gore sy gyda ti?

Shoni. - O stim yn neillduol gyda fi,

Wil. - Dere a rhywbeth cyffredinol ynt.

Shoni. - Wen i'n cydgered i'r lan a dyn lled respectabl, wdw i ddim yn gwbod i enw fe, ond odd e'n gweyd wrtho i fod snwbad ofnadw i ni yn y Dowlais Notes" yr wthnos hon yn y Times, a'r cwestiwn cynta ma'r reporter yn ofyn yw “Are not the three adjudicators Welshmen." Ag wedd y dyn hyn yn gweyd fod enwau saith o adjudicators ar y programe, a'r cwestiwn oedd e ofyn oedd, sawl un o’r saith sy'n abal i sharad Cymraeg ar y platform? Ag am y chairman, wedd e'n gweyd byse hi'n burion peth i ni ofyn hyny nol i'r reporter os gall un o rheini sharad Cymraeg yn bublic. Ag hefyd, os nag yw y dernyn i'r plant yn Sisneg hefyd gyda Cymraeg, ag a all e roi ei air mae nid yn Sisneg bydd y rhan fwya yn cystadlu ar hwnw. Ma'r reporter hefyd yn boddrach rhwbath bod cyntach am na fyse traethawd yna, a bod rhyw previous eisteddfod wedi cal ei chynal a neb wedi dod mlan i ateb i enw wedi galw'r enwau i gal rhoi'r prize, ag wedd y dyn hyn yn gweyd wrtho i bod ishe explanation ar hyna, achos oedd e hunan, medde fe, wedi bod yn beirniadau trathode yn ddiweddar, ag yr oedd saith yn cynyg, ond nid dim ond hyny wedd eisteddfod yn Dowlais Dydd Nadolig dywetha, a "chadair" yn cal ei rhoi yno am 100 llinell o farddoniaeth, a fe ddath pedwar ar bymtheg o gyfansoddiadau miwn. Ag wedd e'u gweyd nad oedd dim ishe i'r pwyllgor i simplo'r llenorion; ag fe enwodd rhyw ddwsin neu





 

 

Text, letter

Description automatically generated
(delwedd B0879b) (
1 Hydref 1896)



ragor am wn ni o draethodwyr buddugol yn Dowlais heblaw gwyr y broadcloth ar neisedi gwynion. Ond heb fynd ar ol manylion dyma'r penderfyniad wedd y dyn hyn yn dod iddo cedd, (1) Fod llenorion yn cal cam gan y beirniaid beirniadaeth dda a manwl yn cael ei rhoi ar fechgyn fydde'n gneyd swn, ond dim beirniadaeth yn ami iawn ar sylwedd. Ag yn amal iawn mae'r beirniaid llenyddol yn gallu fforddio i beidio mynd i'r eisteddfodau, dim ond hala apology a'r ffugenwau sy i gal i gwobrwyo. Pwy gysur i dreio yw rhwbeth fel hyny? (2) Cam gan y comittees. Fe roian wobr o gini am ddadganu solo, ond lawer llai na hyny am draethawd neu ddarn o farddoniaeth sylweddol. Mae'r anghyfartalwch yn y gwobrwyon am swn a sylwedd mor afresymol, nes mae'n llawn bryd i'r llenorion i godi fel un gwr a myny dywygiad yn y byd cystadleuol. Ag oedd un yn y cwmpni yn gweyd bod y pwyllgor wedi gneyd yn orall iawn, os o'n nhw wedi cyrhaedd amcan neillduol, bed hi'n well lawer iddyn nhw adel traethudau a barddoniaeth mas nag insulto rhagor ar lenyddiaeth Cymru lan.

Wil. - Wdw i ddim yn digio wrth y reporter. Nid arno fe ma'r bai; wedi cal i gamarwain mae e. Fe leicswn i gal chat gyd ag e', wath ma nhw yn gweyd taw bachan neis iawn yw e. Fe allen ni roi rincl neu ddoi iddo fe.

Shoni - Byswn ni yn dy le di, fe ofynwn i i Joe Hammersmith i weyd wrtho fe i alw yn y “Conffrens" ambell waith.

Wil. - Dishcwl, dyma lot o'r boys yn aros ar bwys y Mad Bull. Helo boys, beth i chi'n waitan?

Twm. - Aros i chi'n doi i ddod i gal mynd miwn am lased.

Wil - Rhaid i chi beido bod yn hir ynte. [Yn mynd i fewn.]

Ned. - Wdw i ddim wedi gweld y ferch yna o'r blan.

Phil. - Newydd ddod yma y mae hi; mae hi wedi bod yn gwsneithu gyda ffeirad yn y wlad ond dodd hi ddim yn leico yno, achos odd hi'n ffaelu cal mynd i'r Ysgol Sul.

Harri. - Byse merch gyda fi leicswn i byth i gweld hi'n mynd i wasneithu at ffeirad na phregethwr. Fe glwes i am ferch os typyn nol wedi mynd i wsneithu a bregethwr Sentars, ag oedd hi wedi arfer mynd i dy cwrdd Baptis, ag fe ofynodd un bore dy Sul yn ddigon tidy os cele hi fynd i Ysgol Lan'r Afon y prydnawn hwnw, a dyma fel yr attebodd hono hi nol, "Fe gei fynd heddy, ond dim y Sul nesa na'r Sul ar ol hyny, waith ar ol heddy wyt ti'n bound o fynd i Ysgol Pen Nebo."

Beny. - Fechgyn, peidiwch wlia rhwbeth fel yna mewn tafaru. Trowch y sharad. Ust! mae rhywun yn dod.

Mocyn. - (Yn dod fewn). Boys, gwyddoch chi bod Dafydu Benwyn ar yr hewl yn whilo am danoch? Mae e wedi bod lawr yn y “Conffrens," a wedi dod mas i ddishcwl am danoch chi, a nawr halodd e fi miwn yma.

Dai. - Dyma hi yn ddechre, boys. Fei cewn ni ddi ar ol hyn. Where llync hwn lan Mocyn a paid gweyd wrth Dafydd bo ti wedi'n gweld ni. Fe gilwn ni mas trw ddrws y back nawr, nawr off a ni at once boys.

Felly torwyd i fyny,

Dros y Confirms

WIL SLEDGWR.

 

 

Text, letter

Description automatically generated
(delwedd B0878a) (
22 Hydref 1896)


The Merthyr Times. The Dowlais Times, and Aberdare, Pontypridd, Rhondda Valley, Rhymney, Tredegar, Brynmawr and Western Valleys Echo.

 

22 Hydref 1896.

 


Y CONFFRENS.

 

Dafydd Benwyn. - Y mae yn dda iawn genyf weld eich bod wedi dod yma mor gryf heno etto. ac yn edrych mor galonog. Ond y mae yn flin iawn genyf fod yn rhaid eich galw i gyfrif am eich absenoldeb yn y gorphenol, ac am eich ymddygiadau anheilwng. Yr oeddwn yn meddwl eich bod yn dechreu codi r safon, “a dyfod yn fwy tebyg i ddynion ond cefais fy siomi yn ddirfawr. Ar ol penderfynu i bleidio sobrwydd a moesoldeb, a dewis y lle hwn i gynal y Conffrens, “wedi llithro yn ol, a dychwelyd fel ci at ei chwydfa, ac fel hwch wedi ei golchi yn ymdreiglo yn y dom.” Y mae y “Conffrens“ diweddaf yn profi pa le y buoch y uoson bono, ac nid oes eisiau galw tystion yn mlaen i brofi eich euogrwydd, ac y mae yn syndod imi os nad oes arnoch gywilydd ohonoch eich hunan. Y mae fy nheimladau yn rhy gynhyrfus i siarad llawer heno, ond gan fod y Parch Phares Lucifer Bruce yma yr wyf yn cymeryd yr hyfdra i ofyn iddo ef i siarad ychydig eiriau ar eich ymddygiadau anheilwng.

 

Parch Mr. Bruce. - Mr. Cadeirydd, dyma y tro cyntaf i mi fod yn mhlith aelodau y “Conffrens“ adnabyddus. Yr wyf wedi darllen llawer o'ch gohebiaethau, ac yr oeddwn wedi ffurfio barn am danoch eich bod yn ddynion beth bynag. Ond pan ddaethum i wybod pwy a pha beth yw eich cymeriadau cefais fy siomi yn ddirfawr. Yr ydych wed bod yn son am godi safon cymdeithas safon llenyddiaeth, safon cystadleuaeth, a safon moesoldeb a chrefydd ond y mae yr oll safonau yna yn llawer rhy uchel i chwi, yr eppil anrasol fel ag yr ydych nid ychydig ond hiliogaeth yn son am fwrw allan gythreuliaid.a rhyfyg o'r mwyaf ynoch yw son am godi unrhyw safon. Hands off! Y mae eich dwylaw yn rhy lygredig i gyffwrdd a dim ag sydd a thuedd ynddo er daioni. Y mae yn warthus meddwl fod rhyw greaduriaid o safleoedd isel, anwrteithiedig eich dysgeidiaeth, ac mor wael eich cymeriadau, yn son dim am unrhyw safon, oblegyd nid oes genych chwi yr un safon i rodio wrthi, oud yr ydych fel pysgod meirw yn cael eich caiio gan lyfeiriant pechod i for marw colledigaeth, Y mae eich enwau yn ddrewdod yn ffroenau dynion moesol y lle, ac y mae pob peth a wnewch yn insult ar unrhyw gymdeithas a thuedd ynddi i wneyd daioni. Ar lawr yn ffosydd llygredd a phechod yr ydych yn ymdryhaeddu yn barhaus, ac yn enw synwyr cyffredin dylech droi o'r neilldu mewn gwarth a chywilydd, a rhoi lle i mi, fel ysgob Penygarn, a gweinidogion a dirwestwyr i wella'r ardal a chodi safon cymdeithas. Yr wyf fi ac ereill yn gwybod gormod am danoch i oddef i wehilion cymdeithas i son am godi safon moesoldeb a chrefydd --

Dan. - Dyna ddigon, Mr. Bruce. Alla i ddim godde rhagor gyda chi i drin i'n caracters ni, wath nid wrth drin caracters ma codi safon ta beth.

Ned. - Wyt ti'n eitha reit, Dan, ag ma'r ffordd ma Mr. Bruce yn mynd mlan yn siwr o fod yn gam a'r safon hefyd, ag fe glywes i gan gyda Hugh yn ateb y pwrpas. Dere mlan, Hugh, i ni gal ei chlwed hi.

 

 

 

 

 

Text

Description automatically generated

(delwedd B0878b) (22 Hydref 1896)

 

Hugh. –

Pa beth yw safon bywyd pur?

Sydd gwestiwn gwir briodol;

Ond llwyr egluro hwn yn glir,

Nis gall y dyn hunanol;

Rhaid dod i lawr o Benygam

I ddyffryn gostyngeiddrwydd,

Cyn bod yn deilwng i roi barn

Ar beth yw safon crefydd.

 

Mae rhai yn honi bod yn gall

Wrth drin y diodydd meddwol;

A hwythau druain yn feddw ddall

Ar ysbryd ffugsancteiddiol;

Os llithra rhywun yn y byd

Fe geisir tori'i galon,

Gan rai sy'n llawn o dwyll i gyd

Yn gwneuthur cam a'r safon.

 

Y pechod anfaddeuol 'nawr

Yw myned i dafarndy;

Nid yw holl ddrygau gwaetha'r llawr

At hwn ddim i'w cymharu;

Bradwriaeth, camdystiolaeth, trais,

Cybydd-dod, balchder calon;

Yn erbyn rhain ni chyfyd llais;

Mae hyn yn gam a'r safon.

 

Mae rhai yn gwisgo ruban glas,

Ar Ddirwest gwnant areithio,

A galwant bob rhyw enwau cas

Ar bawb nas gwnant ardystio;

Cyflogant rai i draethu'n hy'

Eu clod mewn wythnosolion,

A chasgen o XXXX 'n y ty;

Mae hyn yn gam a'r safon.

 

Os gwelir rhywun yn y byd

Wrth ymdaith wedi'i glwyfo;

Y Lefiaid teithiol hyn i gyd

Ant o'r tu arall heibio;

Ac ni wnant ymgeleddu'r tIawd,

Na rhwymo ei archollion,

Ond taflant ar ei ben bob gwawd

Mae hyn yn gam a'r safon.

 

Rhaid myned i bysgota clod

Yn gysson oddi cartref;

Os bydd ychydig elw'n dod,

Y praidd sy'n gorfod dioddef:

Ar bob rhyw fudiad da er lles

Rbaid 'mosod fel ellyllon,

Os na ddaw iddynt ran o'r pres;

Mae hyn yn gam a'r saK_n.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Text

Description automatically generated

(delwedd B0878c) (22 Hydref 1896)

 

 

Ac os gwna llanc heb neisied wen

Rhyw beth i'w hanfoddloni,

Yn fuan iawn caiff ar ei ben

Bob melldith ei chyhoeddi;

Tu ol i glawdd ffugenw cudd

Y llecha'r llwfrgwn creulon,

I gynllwyn am ei waed bob dydd:

Mae hyn yn gam a'r safon.

 

Nid yw côt ddu na neisied wen

Yn gwneuthur neb yn dduwiol;

Nid ruban glas a dirweat pen

Sy'n gwneuthur dyn rhinweddol

Rhaid lladd pob hunanoldeb cas,

A difa balchder calon,

A thaflu twyll a rhagrith mas,

Cyn dod i'r lan a'r safon.

 

Os am gael gweled codi'r byd

O bydew erchyll llygredd,

Rhaid taflu ffwrdd y ffug i gyd,

A rhodio ffyrdd gwirionedd;

Mae'n rhaid cael cariad Dwyfol byw

I lywodraetha'r galon,

A dilyn siampla'r Blaenor Gwiw,

Trwy fyw yn ol y safon.

 

Dafydd Benwyn. - Dyna ddigon nawr, Hugh, ag os mai fel yna yr ydych yn cyfiawnhau eich hunain am eich camymddygiadau, fe fynwn siarad ar y pwnc etto, gan ei bod yn rhy ddiweddar heno.

 

Mocyn. - Mae wedi mynd yn anrhefnus hollol yma nawr, ac er mwyn i ni gal leader i'n dwyn ni yn fwy unol, fe ro'i'n aelodaeth fynu, er mwyn rhoi shawns i gal lle i r “Hen Simon” i ddod nol, i gymeryd yr arweinyddiaeth.

 

Joe. - Ma ni gwpod bo ti, Mocyn, yn dwl, ond tyma idea dwla dath i pen ti ariod. Mo'in “Hen Simon” nol yn leader i ni, a fe weti marw! Byse hyny exactly run peth a doti dyn weti marw i politics yn leader of the Opposition in the House of Commons. Dewch i ni cal tori fynu nawr cyn cal clwed rhacor o nonsense.

 

Dros y Conffrens

 

WIL SLEDGWR.

 

 

Text

Description automatically generated
(delwedd B0877a) (
29 Hydref 1896)


The Merthyr Times. The Dowlais Times, and Aberdare, Pontypridd, Rhondda Valley, Rhymney, Tredegar, Brynmawr and Western Valleys Echo.

Y CONFFRENS.

Shoni. - Foneddigesau a boneddigion, dyma un noswaith nodedig yn ein hanes ni wedi dod etto, sef noswaith ein swper ni, ag rwy'n siwr fod pob un o honoch wedi enjoyo yn grand. Ag nawr, gan fod y bordydd wedi cal eu clirio, fe gewn dypyn o goncert, ag er mwyn bod yn drefnus wy n cynyg fod Mocyn i gymeryd y gadair.

Dai. - Eilio'r cynygiad.

Shoni. - Pawb sy dros i godi ei law. (Pawb yn codi dwylaw, a Mocyn a'i ddwy law i fynu).

Mocyn. - (Yn rhedeg i'r gadair). Mr. Cadeirydd, boneddigion a boneddigesau, wdw i yn falch iawn ar yr anrhydedd i chi wedi roi drosto i heno i fod yn gadeirydd i gwrdd mor respectable. Own i ddim wedi meddwl ariod am gal i'n anrhydeddu ar fath anrhydedd anrhydeddus, a bod yn gadeirydd anrhydeddus i gwrdd mor anrhydeddus. A gweyd y gwir wrthoch chi, wen i wedi meddwl unwaith i adael “Y Conffrens”. Ond ar ol cal yr anrhydedd hon, wdw i gweld y cwmpni yn rhy anrhydeddus i gadel nhw nawr, ag wdw i yn penderfynu i anrhydeddu “Y Conffrens” a mhresenoldeb etto. Wdw i'n gweld fod lawr ar y program yma fod araeth i fod gan y cadeirydd, ond gan fod y program yn faith, nid am na allwn i roi araeth grand i chi, cofiwch, ond am fod y program yn faith, a chyn bo ni yn mynd yn mhellach wdw i'n galw ar Shoni i fod yn is gadeirydd am fod e wedi bod mor garedig a nghynyg i yn gadeirydd, wdw i'n gweld fod hyny yn deg, fel ag i ni wedi bod yn sha[r]ad wrth ddod heno.

(Shoni yn cymeryd yr is-gadair).

Mocyn. - Y peth cynta ar y program nawr yn toast i'r Frenines. A ma rhaid i fi weid gair am deni, ond cyn mynd yn mhellach fe neiff pob un gal ei lass yn llawn hyd y top nawr. (Y waiters yn llanw glasses pawb), A i ddim i gadw amser i weid llawer am y Frenines. Mae pawb yn gweyd taw hi yw'r Frenines ore yn i cof nhw. Mai'n hen iawn nawr, a ma nhw yn gweyd hefyd bod hi'u dew iawn, ag yn cal ei blino gan y gout. Ma genti galon deimladwy iawn. Os bydd explosion wedi bod dan ddaear, neu rwbeth arall lle ma lot o ddynion yn cal eu lladd, mae'i secretary hi yn hala llythyr o sympathy o hyd, ag fe gewn weld yn y papyre wedyn: “A letter of sympathy from the Queen” Peth arall, mai yn fenyw haelionus iawn hefyd. Waeth os bydd menyw yn rhwle wedi cal tri o efillod mae hi wastod yn hala tair punt i gal helpu i magu nhw. Ag nawr y peth lleia allwn ni neyd yw hyfed iechyd da iddi hi ag fe ganwn gyda'n gilydd. “God save the Queen.”

 

Pob un ar ei draed nawr. “The Queen.”

 

Oll. - The Queen. (Yna canu).







.

 

 

Text, letter

Description automatically generated
(delwedd B0877b) (
29 Hydref 1896)

 

Mocyn. - Galwch ar y waiters i gal llanw'r glasses etto.

 

Nawr ynte fe ewn ni mlan a'r peth nesa ar y program, “Toast y Prince of Wales a'r lleill o'r Royal Family” i gal i gynyg gan yr is gadeirydd.

 

Shoni. - Mishtir Cadeirydd a chwmpni i gyd, ma gyda fi nawr y pleser o gynyg toast i'r Prince of Wales a r Royal lot i gyd. Ma nhw yn gweyd taw eitha trwmpyn yw'r Prins. Fe fuodd heibio Merthyr yr haf dywetha, ond actodd e ddim yn eitha boy pryd hyny, na fyse fe yn galw heibio'r “Conffrens,” a rhoi bobo drink i ni. Ond dyna fel buodd hi. Ma nhw yn gweyd fod delight mawr gydag e miwn rasis ceffyle a phethe o'r short hyny, a bod i cyffyle fe yn enill weithe pun a bydd rhai erill yn gynt na'i gyffyle fe neu beidio. Ma nhw yn gweyd fod lot o bethe da erill yn perthyn iddo fe, ond chymera i ddim amser nawr iw henwi nhw un ac un, ag am y rhai erill o'r Royal Family weda i ddim, ond fod y blwmin lot yn byw ar ein cefnau ni i gyd. Mae'r merched yn priodi yn dda, a'r bechgyn yn lwcus i gal swyddi uchel, ag nawr wdw i yn gofyn i chi godi ar i trad i yfed Iechyd Da i Mr. Prins of Wales a'r rhest i gyd o'r Royal Family. The Prince of Wales and the rest of the Royal Family.”

 

Oll. - “The Prince of Wales and the rest of the Royal Family.”

 

(Canu). God bless the Prince of Wales

Phil. - Mishtir Cadeirydd a chwmpni oll, ma gyda fi charge yn erbyn Ned. Dyw e ddim wedi codi i yfed toast y Queen na'r Prince ond ishte lawr, a rhoi gap ar i ben pan wen ni yn canu.

Ned. - Meindia di dy fysnes di hunan, a gad di rhynto i a'm missnes.

Phil. - Wdw i yn dweyd dylen ni fyn'd dros y toasts yna etto, a peri i Ned gwni gyda ni.

Ned. - Na pheri di ddim i fi gwni.

Phil. - Fe na i ti gwni nawr.

Ned. - Cadw dy ddwylo off, Phil, onte fe ro i smack yn dy chops di.

 

Ben. - Os nag wyt ti'n obeyo, cymer hyna, (yn taflu glasied o ddiod i'w wyneb).

Ned. - (Yn ei ddallineb, yn taflu y bwrdd ar ei ochr a thori dwshin o wydrau gan golli eu cynwysiad).

 

Mocyn. - Er mwyn anrhydedd “Y Conffrens“ peidiwch cadw rhagor o fwstwr. Eistedd lawr yn dawel, Ned, a rhoddwch chi fechgyn lonydd iddo nawr, a dewch i ni gal mynd mlan at y peth nesa, sef adroddiad gan Glan-Cwmdwr.

 

Glan-Cwmdwr. - (Ar ol pesychu a charthu ei wddf yn dechreu adrodd). Y testyn yw “Yfed Iechyd Da”




 

 

Text, letter

Description automatically generated
(delwedd B0877c) (
29 Hydref 1896)


“Gelyniaeth sydd yn llanw'r wlad,

A miniog yw'r tafodau;

Ac ar yr orsedd y mae brad

Yn erbyn hen ddefodau;

Gwobrwyon mawrion roi'r i'r bardd,

Am dduo cymeriadau,

A chablu defod dda, a hardd,

Fu'n barchus gan ein tadau.

 

Y mae'r Dirwestwyr heddyw'n bla,

At ddrwg maent yn amcanu;

Yn erbyn yfed “Iechyd Da,”

Cyflogant feirdd i ganu;

Ond er i duchan lanw'r gerdd

Saernia'r bardd gwatwarus,

Bydd mantell defod dda yn werdd

A'i “hyfed” yn soniarus.

 

Mae'n ddefod hen, a mawr eu bri

Gan wreng a boneddigion,

A defod enwog iawn oedd hi

Yn nyddiau r cyntetigion:

Bydd byw ein defod byth, Ha! ha!

Wel peidiwch cadw twrw,

Ond dewch ac yfwch “Iechyd Da”

Ni fu erioed well cwrw”

 

(Gwaeddi hwre a churo traed a dwylaw).

Ned. - Trueni na fyddet ti yn adrodd y darn i gyd, yn lle ei adael ar ei haner ond gan bo ti yn ei adael fe af fi mlaen ag e.

 

“Ti ddyn, ystyria cymer bwyIl,

Mae'th eiriau yn rhyfygus,

A'th holl syniadau di gan dwylI

A wneir yn dra dirmygus;

Os yw y ddefod hon yn hen,

Mae'r diafl ei thad yn henach;

Un drwg yw ef er gwaetha'i wen,

Ac nid yw hi'n amgenach.

 

Pa ddyn erioed a glywodd son

Am gysgod o ddaioni,

Yn canlyn cas lafoeriog dôn

Y gwyr sy'n afradloni?

Y rhai'n wrth yfed iechyd da

Ysbeiliant dai newynllyd,

Ac yn lle'r iechyd yfir pla

O'r ddiod goch wenwynllyd.”

 

Amryw. - Bundle him out: Bundle him out.

 

Ac allan y cafodd fynd yn nghanol y rhegfeydd mwyaf cableddus. Ond gan fod hanes y cyfarfod yn faith, gadawaf ef ar ei haner heno, gan wneyd 'run fath a'r ysgrifenwyr mawr i gyd sef rhoi,

 

To be continued

 

wrth ei gwt e.

Dros y Conffrens

WIL SLEDGWR

 

 

Text, letter

Description automatically generated
(delwedd B0884a) (03 Rhagfyr 1896)


The Merthyr Times. The Dowlais Times, and Aberdare, Pontypridd, Rhondda Valley, Rhymney, Tredegar, Brynmawr and Western Valleys Echo.

3 Rhagfyr 1896.

 


Y CONFFRENS.

Mishtir Golygydd - Mae'n deg i chi gal gwbod ar y start bod Wil Sledgwr wedi cal y sac gyda ni.
Dyma'r achos bo chi heb gal y Conffrens os rhai wthnose nawr. Yr ath e i roi hanes odd yn mynd mlan gyda ni yn y swper, ag odd yr hen ffwl mor dwp a mynd i roi'r hanes gorrect, hyny yw, rhoi'r gwir i gyd heb dynu dim ar y brwsh paint drosto fe. Ag fel i chi'n gwbod, neith hyny ddim o'r tro bob amser. Ma'r hen adnod hyny yn aros o hyd, “Llawer gwir yn dda ei gelu." Ond dodd Wil ddim a digon yn i hen glopa fe i weld trw rhwbeth fel hyny, ag yn meddwl mor fawr o hono i' hunan, na alle neb ddim o'i stopo fe. Ond fe ddangoson ni iddo fe beth allen ni neyd. Fe roison ni stop arno fe i roi rhagor o hanes y hwper yn y papur er fod e wedi rhoi “To be continued'' wrth gwt y llythyr dywetha halodd e miwn. Fe ddath hi'u sudden stop arno fe, a fe ddangoson ni iddo fe taw “Finis” ddyle fod yna. A'i servo fe yn reit hefyd. Pan cwrddson ni wedyn, wedd e yno miwn shwt stiw a fuss fel se fe yn berchen ar y cwbl, a bo rhaid i ni gwmpo miwn I beth bena fyse fe yn dewis; ond fe gas i dowli mas fel bralyn i’r hewl, a fe brintson ni garden ar drws y Conffrens “No admittance for Wil Sledgwr." Ond mae e wedi bod wrth y drws sawl gwaith yn began am gal dod miwn i sharad drosto i' hunan, ond stim onon ni yn mynd i dynu'n hunen lawr mor ishel a gadel iddo fe gal dod miwn i'n plith ni ragor. I ni wedi paso'r sentense arno fe, a ma rhaid iddo fe fod yn foddlon ar hyny. Mae e am weyd bod e wedi cal cam, wrth i dowli e mas heb trial ar y case, a rhoi mantes iddo fe i amddiffyn i hunan. Ond dyw rhyw hen scwbyn fel fe ddim gwerth i hala amser o'i blegid e, a gofalwch chithe, Sir. Gol, na fo chi ddim yn derbyn dim o wrtho fe hefyd, onto fe allwch chi fentro na phrynwn ni ddim o'ch papyr chi ragor. A fe wyddoch chi o'r gore na allwch chi ddim mynd mlan am bythefnos heb i'n help ni, waeth ni fel Conffrens sy wedi'ch cadw chi ar








 

 

Text, letter

Description automatically generated
(delwedd B0884b) (03 Rhagfyr 1896)




i'ch trad hyd yn hyn. A chwedyn gofalwch ni nawr nag os dim gair o wrth rhen Wil i ddod mas mwy, onte fe fydd i'ch payur [sic; papur] chi yn rhacs jibedeers ar unwaith. A fel bo chi yn gwbod y fi yw ysgrifenydd y Conffrens o hyn y mas. R'odd y boys yma yn mofyn dyn call, clever, i gal gneyd fynu am blunders ofnadw Wil; ag i fi odd y dyn mwya cwmws o'r lot i gyd, ag fe geso'n ethol yn ddiwrthwynebiad; oedd yno neb yn fit i gal i gynyg yn opposition i fi. Ond ma lot o henyn nhw yn teimlo yn ofnadw na fyse nhw wedi cal ei cynyg, er byse hi run man i drio hala gwydd i weu sane, neu hala mochyn i lledfan au hala nhw i sgrifenu llythyr. A whare teg hefyd, dodd neb yn gweld dim un chymhwysder yndo nhw ond nhw'i hunen. Dyw hi ddim gwerth i fi hala details i penodiad i chi, wath odd y cwbl yr un ochor i gyd, a fel bo chi yn gwbod pwy wdw i: fi yw Ianto Scrafell. Chewch chi ddim gwbod i'n adress i nawr, onto fe ddaw golygwrs papyre erill i wbod am dano i, a fe fyddan yn mofyn i fi ysgrifenu idd i papyre nhwynte hefyd, Ond wdw i ddim yn mynd i anrhydeddu neb am gwasanaeth ond i chwi. Dyma ddigon o ragymadrodd i chi nawr. Rhaid mynd at waith, onte fe aiff y porch yn fwy na'r Eglws, ys gwedsan nhw.

 

Dai - Wel boys, man dda iawn gyda fi weld i hysgrifenwr newydd ni wrth i waith, a gobeitho i caiff e ddigon o gomon sense i wbod beth i roi miwn yn y Conffrens, yn lle bod fel rhen Wil Dwp yna yn rhoi’r cwbl i gyd er mwyn i bawb wbod am bob peth sy yn mynd mlan gyda ni. Wdw i gobeithio bydd y lesson ma Wil wedi gal yn rybudd iddo fe ffordd i neyd. Ma gyda ni lot o bethe ar y program nawr, ag i gal dechreu fe leicswn i gal gwbod beth yw barn y Conffrens gyda golwg ar roi cwrw i wyr y Wyrcws y Nadolig.

Fred. - Ie, pwnc pwysig yw hwna; godewch i mi weyd fy marn o bothti e.

 

Dai - Cynyg postpono hyd wythnos i heno.

 

Joe. - Eilio'r cynygiad. [Y cynygiad yn cael ei basio.] Dewch yma yn gynar i gyd yr wythnos nesa.

 

Dros y Conffrens,

 

IANTO SCRAFELL.

 

 


Text

Description automatically generated
(delwedd B0893a)
(10 Rhagfyr 1896)


The Merthyr Times. The Dowlais Times, and Aberdare, Pontypridd, Rhondda Valley, Rhymney, Tredegar, Brynmawr and Western Valleys Echo.

Y CONFFRENS.

Twm. - Wel Boys, dyma ni wedi cwrdd heno i drin mater pwysig iawn, ac y mae yn well i ni o hyn i mas, pan yn trin mater o bwys i'r Conffrens i gyd, i gal y drysau yn nghau, a pheidio gadel neb i ddod miwn ond trwy dicet. Fe ddewisha i rhyw gwpwl o’r rhai fydda i yn weld yn ffit i'r gwaith i fod yn fath o Secetiv Comitee i drefnu ffor ma cario pob peth yn mlan, ag i ranu'r ticets i'r sawl bo ni yn gweld bod yn dda. Ag falle gallwn ni gal rhyw ddynon mawr yma weithe i explaino rhyw bynciau dyrus i ni, a fydd yn interesting i bob un fel i gilidd, ond dim ond y selected lot fydd i gal i clwed nhw. Nawr wy'n galw ar Harry i ofalu am y drws, a Dan a Shoni i fynd mas i ranu ticets, i'r rhai sy i gal dod miwn i gal clwed y sharad ar y pwnc o roi cwrw i wyr y Wyrcws. Gofalwch chi nawr, boys, taw dim ond rhai yn perthyn i'n clic ni sy i gal admittance. Yn awr ynte at waith.

Daniel. - Anwyl ffryndiau, carwn gael y pleser o fynegu breuddwyd rhyfedd a gefais neithiwr i'ch clywedigaeth, a thyma fe. Breuddwydiwn fy mod yn nhlotty M-- ar Ddydd Nadolig, ac yr oedd aelodau Bwrdd y Gwarcheidwaid wedi pasio, trwy fwyafrif mawr, fod preswylwyr y Tloty i gael peint o gwrw yr un gyda chiniaw ar Ddydd Nadolig, a chymerodd ymddiddan dyddorol iawn le rhwng un o'r tlodion a'i beint, ac mor agos ag y gallaf gofio fel hyn y bu:

 

Pôper. - Fy hen gyfaill anwyl, mae'n dda gan fy nhalon dy weled.

 

Peint. - Da genyf fina gael dod o hyd i tithau hefyd. Sut yr wyt ti yn teimlo er ys llawer dydd?

 

Pôper. - Yn hiraethus iawn am dy weld yr fi wedi bod yn wir, ac O! nis gallaf byth ddesgrilio ty nheimladau pan dderbyniais y newydd cysurlawr dy fod yn cael dod i dalu ymweliad a mi. Disgwyliwn mor ddyfal nes yr oedd pob dydd fel mi? Ac O, teimlwn fod y borau heddyw cyhyd a blwyddyn. Ond dyma ti wedi dod o'r diwedd. Bendith ar dy ben.

 

Peint. - Y mae yn hawdd genyf dy gredu yn wir. Ond cefais lawer o waith i gael caniattad i ddod, ac ni chawswn ddod o gwbl hefyd, onibai fod yn y lle foneddwyr wedi talu fy nghludiad.

 

Pôper. - Felly wir, diolch byth am danynt ddywedaf fi. Yn awr mynaf gusan ar dy wefus. (Yn ei godi at ei fin). O  gusan melus! Teimlaf fod rhywbeth ynddo yn rhedeg fel gwefrdan trwy fy holl gyfansoddiad. Mynaf un arall etto. Bendigedig Y mae dy gusanau dymunol fyth yn para yn eu blas, llawn cystal ag erioed. Rhaid cael un arall etto.

 

Peint. - Cymer bwyll, neu ynte ti wnai fy llyncu i fyny yn llwyr. Gad i ni gael ymgomio typyn am yr hen gyfeillion fu gyda ni yn y Mad Bull, y Roaring Lion, a'r Flaming Dragon.

 







 

 

Text, letter

Description automatically generated (delwedd B0893b) (10 Rhagfyr 1896)




Pôper. - Ie'n wir, amser hyfryd oedd hwnw, pan oedd ein  cymdeithas mor felus, fel yr anghofiais ofalon y byd yn llwyr, ac yr aberthais bobpeth er mwyn dy gwmpeini. Ie, er mwyn dy gwmni di yr aberthais gysuron fy ngwraig a fy mhlant, yr esgeulusais fy ngwaith, ac yr haner newynais fy nheulu, y collais fy nghartrcf clyd, ac yn y diwedd y cefais fy arwain yma, i gael fy amddifadu o'r holl bleserau gynt, ond yn unig byw ar drugaredd ereill. Ond yr hyn sydd wedi colli dy gwmni siriol di. Mynaf gusan etto -- ac etto. O mor felus a swynol! Teimlaf mewn hwyl i ganu:

 

“Mor hyfryd yw cwrdd a chyfeillion”

 

cusan arall etto, -- ac etto.

 

Peint. - Cymer bwyll. Yr wyt yn fy ysbeilio yn gyflym wrth fy nghusanu.

 

Pôper. - O fy hen ffrynd anwylaf, nis callaf beidio. Ond sut mae dy hen gydnabyddion sydd ar ol?

 

Peint. - O, y mae amryw o honynt ar y ffordd yn gyflym i ddod yma i gadw cwmpeini i ti, a rhai wedi mynd, ac ereill ar y ffordd i waeth lle.

 

Pôper. – Beth! Amryw o honynt ar y ffordd yma ddywedaist? Gwarchod fi! Er mwyn pobpeth paid a'u hanfon yma, oblegid byddai eu presenoldeb hwy yma yn ychwanegu fy ngofid, ac yn gwneyd y lle yn uFfern i mi.

 

Peint. - Ond cofia hyn, fy hen ffrynd. Nid oes genyf drwydded i anfon fy nghanlynwyr i un lle ond y tlotty, y gwallgofdy, y carchar, y crogbren, ac i --

 

Pôper. - Taw bellach, dyna ddigon. Gwn mae un creulon iawn wyt ti. Ond etto y mae y fath swyngyfaredd yn perthyn i ti fel nas gallaf ymattal rhag dy gusanu etto -- ac etto -- ac etto. Beth! A wyt yn gwrthod dy gusan i mi yn awr ar ol gwneyd y fath aberth i ddod i dalu ymweliad a dy hen gyfaill?

 

Peint. - Yr wyt wedi fy llwyr ysbeilio, fel mae ofer fydd i ti fy nghusanu mwy, am dy fod wedi llyncu i fynu yr holl ddefnyddiau cysur oedd ynof i ti. Felly dyma ti yn dy adael yn awr, er mwyn dychwelyd at fy ngwaith o ddamnio ereill etto.

 

Pôper. - O fy nghyfaill, a ddarfu i ti fy ngadael fel yna ar ol dyfod attaf ar ymweliad a gwên mor deg a chusan mor swynol Och, gwae fi. Gwên Judas oedd dy wên, a chusan bradwr oedd dy gusan. Gadewaist wenwyn aspaidd ar ol yn fy nhyfansoddiad. Deffroaist fy ngwanc a'th blys i'r fath eithafion, fel yr rhoddwn fyd cyfan, pe yn fy meddiant, am gael etto ragor o wenwyn. Y mae fy mlys deffroedig oddifewn i mi fel llew gwancus yn rhuo am ysglyfaeth, ac nis gwaeth genyf pa ddrwg a wnawn er mwyn ei ddiwallu. q, pa. beth a wnaf? Y mae fy nhyflwr yn resynus i'r cithaf. Clywais cyn hyn am feddygon yn yfed turpentine, fferyllwyr yn cymeryd methylated spirits, ac ysgrifenwyr yn yfed inc; ie, clywais am eraill yn gosod napcynau mewn lampau er tynu allan fumes y gasoline er dofi eu gwanc am bethau meddwol. Ac och, fi teimlaf finnau y gallwn yfed afon o hylif brwmstanaidd. O! rhoddwn fy mywyd am ddracht o wirod i ddofi fy ngwanc llosgedig, ac y mae yr holl bethau annioddefol hyn wedi cael eu dwyn oddi amgylch gan ymweliad byr fy hen gyfaill Mr. Peint.






 

 

Text

Description automatically generated
(delwedd B0893c)
(10 Rhagfyr 1896)


Onibai am y Peint ni fuaswn wedi esgeuluso fy hun, wedi amharu fy iechyd, wedi tori calon fy mhriod, wedi newynu fy mhlant. Ie, onibai am hwn buaswn heddyw yn ddyn iach a hoew, mewn amgylchiadau cysurus, gyda fy nheulu anwyl yn bwyta fy nghiniaw Nadolig ar fy aelwyd fy hun, yn llawen a chysurus, yn lle bod yma yn resynus, ac yn faich ar gefn y plwyfolion. Melldith fo ar ben y sawl a agorasant y drws heddyw i'r Peint yna i ddod i mewn i wneyd fy mynwes yn uffern. Ac etto, nis gallaf beidio galw allan am ragor o gwrw.
O am Peint etto - un - un arall - ie un - dim ond un. O pa beth a wnaf am un, - ie, dim ond un diferyn, ar flaen bys i oeri fy nhafod. Ust! dyma fe yn dod.

 

Diable. – Ha! Ha! Ha! Sut yr wyt yn teimlo nawr?

 

Pôper - Un Peint etto, os gwelwch fod yn dda, Syr.

 

Diable - Ha! Ha! Ha! Da genyf fod y Peint yna wedi gwneyd ei waith gystal arnat. Llwyddais o dan enw caredigrwydd, a theimlad dros y tlawd, i gael y drws yn agored i anfon y Peint i fewn. Bu Gweision y Brenin Emanuel, yn enw Sobrwydd a Moesoldeb, yn gwneyd eu goreu i fy rhwystro. ond gorchfygwyd hwy gan fy Nhywysogion a'm deiliaid ffyddlon. Ac nid oes un sefydliad, o'r tlotty i fyny i'r Senedd, nad wyf yn gallu gyru fy nwyddau dinystriol iddo. Y mae yn wir nad wyf wedi cael derbyniad er ys blynyddau gan Ben Coronog Prydain Fawr, ond y mae i mi dderbyniad croesawgar yn y Senedd-dy. Yn Senedd-dymhor 1895, yn Refreshment Department St. Stephan, gwerthwyd gwerth £3985 11s. 11d., o win a gwirodydd poethion; a gwerth £537 16s. 6d. o gwrw. Felly yr wyf yn cael derbyniad yn mhob dosbarth, ac y mae genyf weision ffyddlon i mi i anfon ychydig yn awr ac yn y man i ddeffro y llosgfa.ysawl am drwyth y faril yn y rhai hyny nas gallant dalu am dano. Son am dywysogion a'u cerbydau, pwy a all ymffostio mewn mwy o gerbydau na mi! Clyw swn carnau fy meirch, a thrwst olwynion fy ngherbydau.

Daniel - A chyda hyn deffroais gan swn wagin bragwr yn pasio ar yr heol, ac wele, breuddwyd oedd."

Ianto. - Dyna freuddwyd gwerth ei astudio am wythnos.

 

Dros y Conffrens

 

IANTO SCRAFELL.

 

 


None
(delwedd B0892)
(17 Rhagfyr 1896)


The Merthyr Times. The Dowlais Times, and Aberdare, Pontypridd, Rhondda Valley, Rhymney, Tredegar, Brynmawr and Western Valleys Echo.

IANTO SCRAFELL A'l GONFFRENS.

 

SYR, - Y mae, y bodau ychod pwy bynnag ydynt, wedi creu chwant arnaf finau i ysgrifenu gair neu ddau i'ch newyddiadur clodwiw, os y gwelwch hwy yn werth eich sylw. Nis gwn yn y byd pwy yw y scrafellwyr yma, ond credwyf, er fod y testyn a gymerasant yn werth sylw, fod yma destynau yn nes i dre yn llawer rheitiach iddynt i'w trafod a'u chwalu a'u ddangos yn eu lliw priodol i'r werin o weithwyr sydd yn Dowlais, a chredwyf mai nid anfuddiol fyddai enwi ychydig benau, gan obeithio, os na wel un o'r rhai ieungaf rai o honynt yn werth i'w trafod, y bydd yr hen Shencyn yn bresennol i godi y mater i'w sylw, os nad ydynt o dan scriw gafferyddiaeth.

 

Y cyntaf a'r mwyaf pwysig, gredaf fi, ydyw rhoddi ychydig gynnorthwy i'n brodyr a'n cydweithwyr yn Abercynon, fel na byddont hwy a'n teuluoedd yn gorfod goddef eisiau. Os goddefwch i mi ddweyd fy marn yn y fan yma, dylai ein harweinwyr yn Dowlais wrido am eu bod mor ddifater o'n cydweithwyr. Gwnant bob peth yn ei gallu er helpu  y tlawd a'r anafus yn nhre ond beth am dy gymydog yn Abercynon? A raid i'r rhai yma roddi fewn i hen brisoedd bychain bychain Dowlais drwy gael eu starfo o eisiau ychydig help? Na, deffrown at ein gwaith a'n dyledswydd, a hyny ar unwaith.

 

Yr ydym yn myned inwaith eto drwi y ffurf o ffurfio undeb a gobeithio y daw rhywbeth ohono, ond rhag ofn iddo niweidio y meistr dechreia rhywrai godi rhwystrau yn barod felly nid ydyw y rhagolygon yn rhy ddisglair. Ond rhag i mi wneyd niwed i'r abwydyn gwan, tawaf ar hyn o bryd am yr undeb, ond gan nad pa un ai a ddaw undeb neu beidio, gallwn ar unwaith ddangos ein cydymdeimlad mewn gair a gweithred at y bobl a nodais. Gwnaethom yn dda iawn yn amser streic Plymouth.  Pa faint mwy ein dyledswydd i wyr Abercynon? Nid ydyw yr hyn sydd wedi ei wneid yn werth sylw rhwng cynifer. Ond rhag i mi fyned a gwaith y Conffrens ar ol ei roddi iddynt, gadawaf Abercynon yn awr, gan obeithio y gwnaiff y galluog Ifan dyni ei scrafell drosom am ein hoerfelgarwch.

 

Y mai genyf amryw benau eraill garaswn weled rhichiai yr yscrafell arnint, ond yn gymant ag i fod yr uchod yn eang, a bod y Nadolig wrth y drws, ag efallai Ifan yn myned ar i holidays, fe all anghofio rhai ohonynt; felly terfynaf yn awr, gan ddymuno gwyliau llawen i bawb yn y swyddfa, ag hefid i wyr Y Connrens - Yr eiddoch hyd y tro nesaf,

 

Dowlais.

 

HEN GOLIER..

 

 


None
(delwedd B0899)
(24 Rhagfyr 1896)


The Merthyr Times. The Dowlais Times, and Aberdare, Pontypridd, Rhondda Valley, Rhymney, Tredegar, Brynmawr and Western Valleys Echo.

24 Rhagfyr 1896.


Y CONFFRENS.

Dai – Wel, beth yw y rheswm na fysa hanes y cwrdd 'r wthnos ddywetha miwn yn y Times gyda ti Ianto?

Ianto. - Fe ddath amgylchiadau neullduol i gwrdd a fi, gorfod i ti fynd ar dypyn o fysnes, a fe ffaeles roi'r count yn barod miwn pryd; fe es ato fe mor gynted ag y gallwn, a fe hales e miwn mor gynted byth ag oedd bosib, ond rown i yn rhy ddiweddar, ag fel hyny nid arna i oedd y bai, na'r Golygwr chwaith.

Twm. - Wel, fe gei bardwn y tro hyn, ond cofia di nag yw e ddim i ddygwydd etto, onte fe gei di y sac ar unwaith, a fe fynwn ni Wil Sledgwr nol etto.

Ianto. - Wil Sledgwr, ie fe? Mofynwch chi e nol nawr os i chi'n dewis. Wdw i yn eitha bolon i chi, a chofiwch chi nad w i ddim yn mynd i gymeryd fy hwmbwgan fel hyn. Dyma fi yn rhoi'r tools lan i chi nawr, a mofynwch Wil nol pryd mynoch chi,

Twm. - O na na, cera di mlan, Ianto bach; down i ddim yn y feddwl e; jocan own i; cera di mlan a dy waith.

Dan. - Gad dy nonsense nawr, Twm, a dewch i ni gal gweld am y llythyr ddath mas yn y Times ’r wythnos ddywetha o bothti'r Conffrens. Ddarllensoch chi e, boys?

Shoni. - Wdw i wedi ddarllen e, a rhw lythyr od iawn w i yn y weld e. Mae e yn gweyd bod e yn mynd i roi penau i ni sy'n nes i dre na'r pethe i ni yn sharad arnyn nhw o hyd. Ond y lle y mae yn mynd i ddechreu yw lawr i Abercynon, a phwy nes i dre yw hwnw? Byse fe yn gweyd yn nes i Bontypridd, fe fyse yn nes i'w le getyn.

Ben. - Fe wyddoch nad os neb o honon ni yn perthyn i'r Comitee Gweithiol, ag os oes gydag e rhyw gyhuddiad yn erbyn y gweithwrs, trw bod e yn ‘Hen Golier,' ma shawns gydag e beth na sy gyda ni, a stim gyda ni i interfero a'i waith e o gwbl. Ond cered e ai fysnes i'r man reit, ag yn y ffordd reit, a gadawed rhynto'n ni a'n bysnes i'n hunan.

Harry. - Gadewch hwna yn llonydd, weda i, a dewch i ni gal sharad typyn am y Nadolig, waith ma hwnw wrth y drws, ag fe fydd wedi myned heibio cyn cawn ni gwrdd etto.

Phil. Wdw i yn dyshcwl y Nadolig i baso hefyd, ta dim ond ar cownt cal llonydd gyda'r hen ddisturbers na sy ar hyd yr hewl bob nos. Son am common disturbers; ond ma rhai'n yn public disturbers.

Sam. - Wedd y bachgen sy'n cydgysgu a ti yn gyndeirog pwy nosweth ishe cal codi y ffenest a towli'r cynwys llester neillduol miwn i drwmpet un o henyn nhw i gal gweld os byse nhw yn ddistaw wedyn.

Ianto. - Esguswch fi heno; ma rhaid i fi 'ch gadel chi nawr; ma gyda fi fusnes pytycilar ishe i neyd heno.

Shoni. - All reit ynte; ond cofia di fod y Conffrens yn cal mynd miwn mewn pryd yr wthnos hon.

Dros y Conffrens,

IANTO SCRAFELL.

 

 



Y Gyfeirddalen: Y Conffrens, Merthyr Times, 1895, 1896:
 www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_159_y-conffrens_1895-1896_y-gyfeirddalen_3466k.htm

 
Sumbolau:

a A / æ Æ / e E / ɛ Ɛ / i I / o O / u U / w W / y Y /
ā
Ā / ǣ Ǣ / ē Ē / ɛ̄ Ɛ̄ / ī Ī / ō Ō / ū Ū / w̄ W̄ / ȳ Ȳ /
ă Ă / ĕ Ĕ / ĭ Ĭ / ŏ Ŏ / ŭ Ŭ /
ˡ ɑ ɑˑ aˑ a: / æ æ: / e eˑe: / ɛ ɛ: / ɪ iˑ i: / ɔ oˑ o: / ʊ uˑ u: / ə / ʌ /
ẅ Ẅ / ẃ Ẃ / ẁ Ẁ / ŵ Ŵ /
ŷ Ŷ / ỳ Ỳ / ý Ý / ɥ
ˡ ð ɬ ŋ ʃ ʧ θ ʒ ʤ / aɪ ɔɪ əɪ uɪ ɪʊ aʊ ɛʊ əʊ /
ә ʌ ẃ ă ĕ ĭ ŏ ŭ ẅ ẁ Ẁ ŵ ŷ ỳ Ỳ
wikipedia, scriptsource. org
Y TUDALEN HWN /THIS PAGE / AQUESTA PÀGINA:
www.[] kimkat.org[] /amryw/1_testunau/sion_prys_159_y-conffrens_1896_rhan-2_3524k

Ffynhonnell / Font / Source: Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Papurau Newydd Arlein.
Creuwyd / Creada/ Created: 12-10-2020
Adolygiadau diweddaraf /
Darreres actualitzacions / Latest updates: 03-11-2020, 12-10-2020
Delweddau / Imatges / Images:


Freefind:

Archwiliwch y wefan hon
SEARCH THIS WEBSITE
...
Adeiladwaith y wefan
SITE STRUCTURE
...
Beth sydd yn newydd?
WHAT’S NEW?


Ble'r wyf i? Yr ych chi'n ymwéld ag un o dudalennau'r Wefan CYMRU-CATALONIA
On sóc?
Esteu visitant una pàgina de la Web CYMRU-CATALONIA (= Gal·les-Catalunya)
Where am I?
You are visiting a page from the CYMRU-CATALONIA (= Wales-Catalonia) Website
Weə-r äm ai? Yüu äa-r víziting ə peij fröm dhə CYMRU-CATALONIA (= Weilz-Katəlóuniə) Wébsait



Free counter and web stats Statistics for Welsh Texts Section / Ystadegau’r Adran Destunau Cymraeg