kimkat3465k Y Conffrens. Wil Sledgwr. 1895. 1896. The Merthyr Times. The Dowlais Times, and Aberdare, Pontypridd, Rhondda Valley, Rhymney, Tredegar, Brynmawr and Western Valleys Echo. Hurrah! O'r Dowlais ag e! Beth wedwch chwi, gwyr Merthyr nawr wn i? Dyma dwtch i chi yn Brynmawr!

02-11-2020 14.37

● kimkat0001 Yr Hafan www.kimkat.org
● ● kimkat2001k Y Fynedfa Gymraeg www.kimkat.org/amryw/1_gwefan/gwefan_arweinlen_2001k.htm
● ● ● kimkat0960k Mynegai i’r testunau Cymraeg yn y wefan hon www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_mynegai_0960k.htm
● ● ● ● kimkat3465k Y Conffrens: Y Cyfeirddalen 
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_159_y-conffrens_1895-1896_y-gyfeirddalen_3466k.htm
● ● ● ● ● kimkat3465k Y tudalen hwn
....

 

0003g_delw_baneri_cymru_catalonia_050111
(delwedd 0003j)




Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Gal
·les i Catalunya
The Wales-Catalonia Website

Cywaith Siôn Prys - Testunau Cymraeg ar y We

Y Conffrens
Wil Sledgwr
(Merthyr Times. 1895, 1896)
1896 (Rhan 1: Mehefin-Awst)


Y Llyfr Ymwelwyr / El Llibre de Visitants / The Guestbook:
http://pub5.bravenet.com/guestbook/391211408/

a-7000_kimkat1356k
Beth sy’n newydd yn y wefan hon?


---

6665_map_cymru_catalonia_llanffynhonwen_chirbury_070404
(delwedd 6665)

.....           

Map

Description automatically generated
(delwedd 9338c)

http://www.kimkat.org/amryw/1_gwenhwyseg/gwenhwyseg_cyfeirddalen_0934k.htm Y Wenhwyseg - y prif dudalen
http://www.kimkat.org/amryw/1_gwenhwyseg/gwenhwyseg_cyfeirddalen_2184c.htm El dialecte güentià del gal·lès - la pàgina prinicipal
http://www.kimkat.org/amryw/1_gwenhwyseg/gwenhwyseg_cyfeirddalen_1004e.htm Gwentian dialect of Welsh – the main page
.....


11 Mehefin 1896: B0806a, B0806b, B0806c
18 Mehefin 1896: B0805a, B0805b
25 Mehefin 1896: B0804a, B0804b, B0804c


02 Gorffennaf 1896: B0807a, B0807b
09 Gorffennaf 1896: B0808a, B0808b, B0808c
16 Gorffennaf 1896: B0809a, B0809b, B0809c
30 Gorffennaf 1896: B0810a, B0810b, B0810c

06 Awst 1896: B0811a, B0811b

13 Awst 1896: B0876a, B0876b, B0876c
20 Awst 1896: B0875a, B0875b, B0875c
27 Awst 1896: B0874a, B0874b



....

 

 

Text

Description automatically generated

(delwedd B0806a) (
11 Mehefin 1896)



The Merthyr Times. The Dowlais Times, and Aberdare, Pontypridd, Rhondda Valley, Rhymney, Tredegar, Brynmawr and Western Valleys Echo.

11 Mehefin 1896.

Y CONFFRENS.

Jim. - Hurrah! O'r Dowlais ag e! Beth wedwch chwi, gwyr Merthyr nawr wn i? Dyma dwtch i chi yn Brynmawr!

Jack. - Ie, lled dda wir, ond dyw e ddim ond peth i ni wedi weyd or blan. Ryn ni yn gwbod fod Harri Evans yn fachan clever, ag ryn ni wedi bod yn gweyd yn y conffrens y byddai Harri yn siwr o godi enw Dowlais ir lan. O'r holl rai sy wedi caal i magu yn Dowlais, mae Harri yn un o'r blaena yn y byd cerddorol. Mae yn gredit i Dowlais fod shwd fachan talentog wedi cal i fagu yn y dre.
Do's dim doubt nad yw e yn un o fechgyn blaena "Cymru lan Gwlad y gan." Rhwydd hynt iddo, weda i.

Sami. - Wdw i yn credi rin peth yn gowyr a ti, ag wdw i yn gobeithio ceith e fyw yn hir i ddwad a preisis nol i Dowles hefyd. Fe weles i'r watch gas e yn Brynmawr heno, ag un bert om beidis yw hi hefyd. Ond dyma both wdw i yn ffeili'n deg a dyall, beth ma nhw yn mofyn hwtan Dan Davies o hyd? Wen i yn paso heibio'r llall wedi iddyn nhw ddwad nol o Bryn- mowr, a dyna lle we lot fowr o henyn nhw, yn gweiddi “Three cheers for Harri Evans Hwre-e-e-e-e." We hyny yn eitha iawn, ond dyma beth wedd yn gas, wedd rhai o henyn nhw yn screchen "Dan Ballat," a dyna lle we cannodd yn gweiddi “Bw-w-w-w" gymyn byth a galle nhw. Beth we nhw beido sticko i weiddi gyda Harri, a gadel pob un arall yn llony? Ond wdw i yn falch iawn taw nid gwyr y cor o nhw, ond rhyw rai na wen nhw ddim yn blongo i'r cor o gwbl. We nhw yn yn hala i gofio am yr un hyny buon ni yn gneyd sport am dano yn gweiddi “Bah” os dipyn nol, ond taw fel hwrdd we hwnw, a ta fel lloi we rhain. We ni wrth i clwed nhw yn cofio am adnod fach ddysges i slawer dy: "Mwya swn llestri gweigion," a we ni yn meddwl taw nid ddim on yn wag i pene wen nhw, oni bo nhw yn wag i pocedi hefyd, wedi colli arian wrth ddala ar i côre.

Joe. - Ma ti quite right. Ma Cor Dowlais rhy respectable, a ma Harri yn too much of a gentleman to allow the members of his choir to act in such a disgraceful manner. Ma ni sympathiso a Mr. Harri Evans and family in their troubles, ag yn wisho pob success iddo yn y future. Ma gyta hi digon o job for years i dala Mr. Dan Davies. Ond ma ni proposo bo ni yn gatel y subject nawr i'r adjudicators yn Thlandudno i settlo y tro nesa, a ma ni hefyd am rhoi Three cheers i dwy o nhw: three cheers i Harri Evan i climbo'r ladder, a three cheers i Dan Davies i retainso' position fel y Chief Choir Leader of Wales, a ma ni gobeithio na gneiff neb dim shoto ceryg attyn nhw i cal nhw lawr wrth cnoco menydd nhw mas.

Oll. – Hurrah! Hurrah!! Hurrah!!!








 

 

A close up of a newspaper

Description automatically generated
(delwedd B0806b) (
11 Mehefin 1896)


Twm - Wel, wy yn hollol gydfynd taw gadel y canu yn llonydd sy oreu hefyd, rhag ofon y bydd rhywrai yn ein camddeall ni y tro hyn etto, ac er mwyn newid y testun, roet ti, Joe, yn brago dy hunan yn fardd os tycyn nol, ag yn challengo Bachan Ifanc a Mrs. “Hamersmith" am y Gader. A wyt ti yn cynyg ar “Tu hwnt i'r llen?" Dyma destyn yn dy suito di yn noble ar ol bod gyda'r Ysbrydegwyr, ag yr wyt ti yn Sais, ag wy yn gweld wrth waith “Felicia" taw Seisnig yw'r iaith “Tu hwnt i'r llen," er mod i wedi arfer credu taw Cymraeg oedd iaith Paradwys.

Joe - Na, nae ni dim yn cynyg, wath ma gormod o hen warriors yn cynnyg. Tyna fel ma ni gweld hi yn y Local Eisteddfodds ma, os bydd dim ond price o 2s. 6d. yn cael i cynyg am poetry, ma rhai o'r hen Chaired Bards ma mewn at once. Ma nhw dim bolon os na ceiff nhw pob beth i hunen, a dim chance i Amateurs at all. A ma ni weti towli poetry lan fel bad job hys bo poets yn dod yn gwell Liberals, and if you will listen ma song gyta Ned on the occasion, Dere mlan, Ned.

Ned. -

“MAE EISIAU CODI'R SAFON.'
Y mae y byd er maint ei ddrwg
Yn llawn o gystadleuaeth,
A gwelir llawer ael tan wg
O herwydd siomedigaeth
Cadeirfeirdd geir yn cynyg nawr
Am wobr haner coron,
Gan guro’r eiddil gwan i lawr:
Mae eisiau codi'r Safon.

Mewn Penny Reading yn Pendre
Cynygiwyd gwobr fechan,
Er rhoi cyfleusdra'i blant y lle
Ddwyn eu talentau allan;
Ymgeisiodd naw dan bymtheg oed,
Ond ow! cadd'r oll eu siomi
Y Parch John Jones o Maesycoed,
Ddaeth yno i gystadlu.

Am ddarllen yn Ysgoldy'r Nant
Roedd gwobr o chwe cheiniog,
Fe ddaeth yn mlaen rhyw ddeg o blant,
I gynyg yn galonog;
Ond ysgolfeistr Penyfron
A ddaeth mewn modd digwylydd.
I gipio'r wobr fechan hon
Yn orlawn o haerllugrwydd.

Mewn cwrdd llenyddol yn Treglo
Cynygiwyd swllt am benill,
Ymgeisiodd rhai o lanciau'r fro,
Mewn gobaith am ei enill;
Ond 'roent i gyd yn mhell ar ol,
Fe aeth y swllt o'r cwdyn,
I fardd gadeiriwyd wythnos nol,
Yn 'Steddfod fawr Brynrhedyn.

.

 

 

Text

Description automatically generated
(delwedd B0806c) (
11 Mehefin 1896)



Nis gall y gweithiwr tlawd ei fyd
Ragori mewn llenyddiaeth,
Mae'r beirddion fel rhyw gwn a'u bryd,
Am fachu pob ysglyfaeth;
Mae cystadleuaeth wedi myn'd
Yn bwdr i'r gwaelodion
Pob un yn ceisio treisio'i ffrynd
Mae eisiau codi'r safon.

Os bydd i'w gael ychydig glod
Wrth odreu Bryn Parnassus,
Lle gall yr ieuanc, tlawd, dinod
Ymloni yn gysurus;
O ben y Bryn fe ddaw rhyw gawr
O Fardd gan ruo'n erwin;
Gan rym ei lais fe gwympa lawr
Y gwan mewn braw a dychryn.

Os gwelir plant yn llawn o swyn
Yn chwareu'n llon eu calon,
Ar hyd rhodfeydd yr awen fwyn
A chasglu blodau tlysion;
O'r maes fe ddaw yn llawn o bla
Dinystriol trachwant aflan,
Rhyw fwyst-fil erch, ac hawlio wna
Y cwbl iddo'i hunan.

Mae ambell ddiogyn yn y byd,
O'i gadair ni wna godi;
A chadw wna ei draed o hyd
Ar ffordd y lleill o'r teulu:
Ei fryd yw cadw'r ieuainc draw
Rhag derbyn gwres, yr awen,
A byw a wna ar nwyf ail law
Trwy ’sbeilio plant Ceridwen.

Mae llawer un wrth ddringo'r b[r]yn
Yn lle myn'd fynu'n union,
Os clyw am 'sglyfaeth yn y glyn
Fe neidia nol yn union;
Manteisio wna i enill clod
Ar anfanteision tlodion,
Syn ceisio cyrchu at y nod:
Mae eisiau codi'r safan. [sic]

Mae lluoedd nawr ar odreu'r bryn
Yn cwrdd a dirfawr rwystran,
Am fod y rhai anrasol hyn
Yn dramgwydd ar eu llwybrau
O chwi syn rywystro y rhai gwan
Symudwch mlaen yn gyson,
Fel gallant hwythau ddringo'r lan:
Mae eisiau codi'r safan. [sic]

Dros y Conffrens

WIL SLEDGWR

 

 

Text, letter

Description automatically generated
(delwedd B0805a) (
18 Mehefin 1896)



The Merthyr Times. The Dowlais Times, and Aberdare, Pontypridd, Rhondda Valley, Rhymney, Tredegar, Brynmawr and Western Valleys Echo.

18 Mehefin 1896.
Y CONFFRENS.

DAN. - Wel, boys, ma dda gyda fi weld ein hysgrifenwr ni yn dachre ar y waith etto i hala typyn o hanes beth sy yn mynd mlan gyda ni ir Times.

NED. - Ma dda gyda finne hefyd. Ond rhyfedd mor od yw dynion! Ma rhai yn meddwl taw dod mas mae e nawr i gal adfertisio'i hunan erbya Lexiwn y Sleidin Scale!

FRED - Ma nhw shwr o fod yn camsyned am hyny, wath ma enw Wil Sledgwr ar y Board fel member i'r Sleidin Scale os blwyddyn mawr. Ma “Betti Ffowc,” os i chi'n cofio, wedi breuddwydo fod Wil yn cal ei ethol yn ddiwrthwynebiad i gynrychioli y tri gwaith, a dyma shawns wedi dod nawr, wath Dowlais boy sy i fod yn Fembar am y ddwy flynedd nesa. Beth wyt ti yn feddwl am dani, Wil?

WIL SLEDGWR. Wel, fe weda i gymynt a hyn wrthoch chi; wdu i ddim yn credu bod hi'n werth i fi ddod mas a gwbl, wath ta chi yn fy newis i fe wedsen taw self-elected clique i ni, a nad i'n ni ddim yn represento neb ond ein hinterest ein hunain. A tawn i yn dod mas fe ddelo'r bobl mas a rhywnn yn in erbyn i ar unwaith, er mwyn i'n speito ni.

JOE. - Ma ti quite right, Wil; ond dere ti mas, fe stickwn ni fel leeches wrthot ti, ta pwy opposition daw.

WIL SLEDGWR. - Ie, ond dyna'r gwaetha; dos gyda ti ddim glue i chi sticko wrtho i, na digon o wâd ich feedo chi.

TWM. Paid di hido hyny, Wil; fe wmladdwn “ni" o dy ochor di. Fe wyddest ti mai “ni" yw'r boys am wmladd. Y peth i "ni" yn gymeryd atto yr i'r ni'n siwr o'i gario fe i fuddugoliaeth. Fe wyddest ti beth I "ni" wedi neyd yn y gorffenol a pheth allwn "ni" neyd yn y dyfodol etto.
Dere di mas, fe fyddwn "ni" gyda ti, a fe cariwn ni di mewn yn headlong. A chyd a bo "ni" gyda to dos dim eise i ti ofni neb arall; ri'n “ni" yn barod at waith, a dos dim a saif on blan “ni."

Pwy fel y “ni"?
Am wneuthur gwrhydri, does neb fel y “ni."

WIL SLEDGWR. - Diolch yn fawr i ti, Twm, ond dwy i ddim yn credu fod y bobl wedi dod yn aeddfed i weld gwerth dyn syn llafurio ar eu rhan nhw etto.

SHONI - Paid camsyned, Wil bach. Falle mae rhy addfed ma nhw, a wedi dod i weld trwyddot ti. Cofio di, fe fynwn ni ddyn ag aserwrn cefen yndo fe, dyn strait egwyddorol, a digon o benderfyniad ynddo ac annibyniaeth meddwl i draethu ei farn yn glir a didderbynwyneb dros ein hiawnderau ni, a nid rhyw hen Shon-pob-ochor yn troi fel ceiliog clochdy gyda'r gwynt o hyd.


 

 

Text, letter

Description automatically generated
(delwedd B0805b) (
18 Mehefin 1896)

 
WIL SLEDGWR. - Dyma hi etto! Dyw dynion ddim yn gallu cydnabod llafur ac ymdrech. A thyma fel wy yn call yn nhalu am yr oll wy wedi neyd drostoch chi. Ond ma'r hen ddywediad yn eitha gwir: does neb yn gweld gwerth dyn da nes bo nha [?na < hwnna] wedi golli e. Welodd pobl Dowlais ddim o gwerth Dan Davies nes bod e'n mynd oddma, a nhwynte yn gorffod shifto hebddo fe.

JOE – Ma bysnes ni wedi mynd yn shipwreck etto, a mha rhaid i ni chango subject. Beth ta ni meddwl, i cal bod up-to-date, am typyn o outing? Dyma be sy fashiouable nawr, a falle bysen ni co-operato weth wetyn.

DAI - Eilio'r cynygiad.

CAD - Pawb sy drosti i arwyddo.

OLL - (Yn codi dwylaw.)

CAD. All you-nany-mouse. Ond pwy bryd?

PHIL. – Wy’n cynyg Dydd Llun Mabon nesa.

IANTO - Wy yn erbyn hwna, wath dyna dywarnod mar cor yn mynd off i Llandudno.

HARRY - Nage, fe fydd y cor wedi dod nol erbyn hyny, waeth yr wythnos cyn hyny ma nhw mynd off.

IANTO - Gwath byth ynte. Fydd dim gobeth am success o gwbl, weth fe fydd y bobl heb recovero ar ol -

MOCYN - Dim rhagor ar y pen yna. Wdw i yn credu ta ni ddim ond cal yr invention newydd na sy gyda nhw, ma nhw yn galw rhwbeth yn debyg i “Röntgen Rays" arni, a dishcwl miwn ich pene chi, taw core canu welsen ni lle ma'ch menyddiau chi i fod. Gadewch y mater yn llonydd, a rhowch whare teg ir beirniaid i settle pwy yw'r cor gore, fel ma. Joe wedi gweyd yr wthnos ddywetha.

SAMI. - Ma'r adnod nil. wedes i nos Sadwrn dywetha yn taro heno to: “Mwya swn llestri gweigon." Dewch i ni gal gadel y swn nawr a mynd at dypyn bach o sylwedd.

WIL SLEDGWR. - Dim rhagor o swn na sylwedd i fi heno. Dyw'r lot o honoch ddim gwarth [gwerth] taten bob. A taw'n ni ddim ond gwbod bysech chi'n gofyn i fi ail ystyried y mater fe dowlswn i'r jobyn ysgrifenu “Conffrens” i'r lan i chi hefyd.

OLL. - Oh - h - h - h.

Dros y Conffrens

WIL SLEDGWR.

 

 


Text, letter

Description automatically generated
(delwedd B0804a) (
25 Mehefin 1896)


 The Merthyr Times. The Dowlais Times, and Aberdare, Pontypridd, Rhondda Valley, Rhymney, Tredegar, Brynmawr and Western Valleys Echo.

25 Mehefin 1896.

Y CONFFRENS.

Twm - Wel fechgyn, shwt i chi heno bob un? Fe weles i'r rhan fwya o honoch chi yn Bethania heno. Shwt enjoyso'ch chi Dr. Herber Evans.

Beny. - Crand, fel ag oen ni yn erfyn yn gwmws. Roedd Herber fel efe ei hunan, yn siarad yn ddiguro o effeithiol. Ag yn wir roedd yno ganu splendid hefyd, ag yn wir mae'n dreat i glywed Harri Evans yn chwareu yr organ.

Jim. - Odd wir, mae hyna eitha right. Ond os y chi am gal clywed canu yn i ogoniant dewch i'r Odfelars Hall nos y foru i gal clwed y Cor yn mynd trwy'r darnau fydd yn gystadleuol yn Llandudno.

Dai. - Wel, falle bydd hona yn dreat, ond os i chi yn meddwl am gal gwledd mewn gwirionedd dewch chi lawr i'r Drill Hall i Merthyr nos Sul nesaf i glywed Cor

Dan Davies yn mynd trw'r darnau yna.

Ianto. - Wdw i ddim yn cydfynd ar plan yna o gynal concerts ar Nos Sul, a throi dydd yr Arglwydd yn ddydd Masnach.

Dai. - Falle nag wyt ti ddim yn cydfynd a rhwbeth fel na; ond dere di lawr i Ferthyr: fe newidi di dy feddwl ar unwaith. Fe ddeui di i deimlo fod cynal concerts o'r fath yna yn well lawer na mynd i walko gyda dy wedjen i hewl Lover's Lane neu i'r lan i'r Brynau. Fe gei di glywed pregethu ar y ffordd i fynd i'r nefoedd yn unrhyw gapel, ond cera di i glwed y cor am 8 o'r gloch, ti deimli dy fod wedi mynd i'r nefoedd yn gyfan-gwbl.

Mocyn. – Pam? Odyn nhw yn canu cystal a hyny, ynte?

Dai. – O ma nhw yn fendigedig. Toe chi ddim ond eu clwed nhw yn canu “How Sweet the Moonliglight Sleeps," chi deimlech eich bod chi yn cael eich siglo mewn rhyw gawell o foddhad yn nghanol cyflawnder didrai o sweet harmony. Dyna wedyn, "Trip We Gaily o'er the Green"; chi deimlech wrth eu clywed nhw yn canu y darn swynol yna, fod eich enaid yn cael ei wefreiddio i'r fath raddau nes y byddech yn llwyr anghofio eich hunain, ac yn dychymygu eich bod wedi cael eich codi i wrando rhyw beroriaeth hud-ddenol ar lanerchau bythwyrddion Paradwys, ac yn barod i ddawnsio gyda'r cor mewn rhyw foddhad llesmeiriol. Dyna wedyn, "When His Loud Voice in Thunder Spoke." Chi deimlech eich hunain fel pe baech yn ymrolio yn nghanol mor o gerddoriaeth ddiderfyn, gan mor fawreddog y datganiad.





 

 

Text

Description automatically generated
(delwedd B0804b) (
25 Mehefin 1896)


Fred. - Ffordd wyt ti yn gallu dweyd yna?

Dai. - Am fy mod wedi eu clywed, wrth gwrs.

Shoni. - Wyt ti yn gweyd bo nhw yn well na Dowlais te?

Dai. - Nag w i ddim yn gwneyd hyny; nid fy musnes i yw gweyd pwy yw'r gore, wath nid y fi yw’r beirniad i fod.

Ned. - A wyt ti yn dyall rhyw faint o ganu?

Dai. - Wel, os nag wy yn dyall y theory of music, wy'n gwbod pwy fath ganu sy n cynhyrfu fy nghalon i'r gwaelodion.

Joe. - Mae Dai yn cal i cario off gyta enthusiasm altogether, a gall hi dim a judjo yn fair.

Dai. - Dere di lawr i Ferthyr nos Sul fe ddeui dithau i deimlo 'run peth a finnau.

Wil. - Wyt ti yn gweyd fod canu Merthyr yn berffaith ynte?

Dai. - Nag w i ddim yn gweyd hyny hefyd, a phe byddai fe yn berffaith, digon tebyg byddai Dan wedi mynd off i ddwr y mor am spell, wath mae e yn gweitho yn ddigon caled i gal spell.

Charly. - 10. to 1. on the - -

Twm. - Nawr Charley, dropan hi; ti a dy short sy’n dystrywio'r Eisteddfod a'ch gamblo ag yn rhoi achos i ddynion weyd i bod hi wedi mynd yn fwy tebyg i rasus cyffylau na dim arall.

Joe. - Ma ti quite right Twm, a rhywrai o sort yna sy'n treio gneyd Aunt Sally's o'r successful leaders wrth bo nhw dod sha thre hefyd.

Shoni. - Odych chi wedi clwed fod rhywrai wedi gweyd bo nhw yn mynd i gadw mwstwr yn Llandudno, ar gount stopo Cor Merthyr i ganu?

Ianto. - Wdw i wedi clwed hyny, ond wdw i yn ffaelu'n deg a credu fod neb yn South Wales mor ddwl a mynd i neyd shwt ffwliaid o'u hunain a chario shwd nonsense hyny yn mlan.






 

 

Text

Description automatically generated
(delwedd B0804c) (
25 Mehefin 1896)



Harry. - Ie, ond ma dynion mor gynddeiriog ishe meiddi Dan.

Dafydd Benwyn. - Fechgyn anwyl, a gaf fi ddweyd gair neu ddau wrthych? Gadewch y teimladau personol yna naill ochr, a rhoddwch fwy o le i synwyr cyffredin i weithio. Fel y dywedodd Joe Hammersmith, os bydd dyn wedi gwneyd gwrhydri yn y byd, ac wedi ymddyrchafu fel Saul yn uwch o'i ysgwyddau na phawb ereill, y mae ar unwaith yn "Nod i eiddigedd a chenfigen." Os gwelir rhyw un yn mynd i fynu y mae yna gant ar unwaith yn ceisio ei dynu i lawr. Ond nid dyna'r ffordd am dani yn wir; os am gyrhaedd anrhydedd ni ddylid gwneyd hyny ar draul tynu ereill i lawr os am gyrhaedd llwyfan bri na wnewch hyny fechgyn anwyl, trwy geisio tynu neb arall i lawr mewn ffordd diraddiol i fod yn esgynfainc i chwi; ond dringwch yr ysgol yn anrhydeddus, trwy egni a dyfal barhad; os am fyddugoliaethu yn anrhydeddus nac ewch allan i'r ymdrechfa i wylio cyfleusdra i daro eich gwrthwynebydd yn ei wegil, ond ewch fel Dafydd gynt yn mynd i gwrdd a Goliath, wyneb yn wyneb yn enw ac anrhydedd “Cymru lan, Gwlad y gân," ac yna os enillwch ar dir teg, chwi a gewch glod, ac os na fydd i chwi lwyddo ni fydd hyny yn un dianrhydedd i chwi tra yn ymdrechu ar dir teg. Os am fynd i fynu na cheisiwch wneyd hyny trwy ddiraddio ereill, o herwydd cyn belled ag y mae fy nhypyn profiad i yn myned yn y byd yma, pan y gwelaf ddynion yn ceisio diraddio ereill, diraddio eu gwell y maent fel rheol. Pob llwydd i chwi, fechgyn, i ddringo i'r lan ond dringwch mewn modd anrhydeddus, a bydd llwyddiant yn coroni eich ymdrechion yn y pen draw. Carwn yn fawr i wel'd rhagor o uchelgais yn y bobl ieuainc i fynd i fynu, yn lle aros byth a hefyd gyda ffol bethau y llawr; rhagor o waith i'r ymenyddiau, fechgyn a llai o waith i ddyrnau a thraed. Teflwch bob malais, llid, a chenfigen o'r neilldu, a chedwch y frawddeg ysbrydoledig hono yn y cof bob amser: “Cenfigen a ladd ei pherchenog.”

Phil. - Wel done, Dafydd Benwyn, dyna araeth gampus. Nawr fechgyn, dewch ini gael madel yn swn y geiriau buddiol ac amserol hyn, gan obeithio y gadawant ddylanwad da ar bob un o honom.

Dros y Conffrens
WIL SLEDGWR.

 

 

Text

Description automatically generated
(delwedd B0807a) (
2 Gorffennaf 1896)

 

The Merthyr Times. The Dowlais Times, and Aberdare, Pontypridd, Rhondda Valley, Rhymney, Tredegar,

Brynmawr and Western Valleys Echo.

 

2 Gorffennaf 1896.

Y CONFFRENS.

Jack. - Wil, beth yw'r olwg sur yni sy arnat ti heno? Wyt ti'n dishcwl fel se ti wedi cwni'r ochor whith i'r gwely heddy.

Wil Sledgwr - Fe fyset yn dishcwl yn sur dy hunan tae ti yn cal dy humbugan haner cymynt a wy i yn gal, wyddest ti ddim byd am dani o gwbl.

Shoni. - Pwy sy wedi bod yn tynn dy grys dy mas nawr, gwed?

Phil. - Ie gad ui gal clywed gen ti, wath mae'n blain i wala fod rhywun wedi damscel ar dy drad di.

Wil Sledgwr. - Os oes rhaid gweyd wrtho chi fe weda wthoch chi nawr.

Dan. - Ie dyna fydd ore i ti i allwys dy gwd, falle dewi di dypyn yn well wedyn.

Wil Sledgwr. - Wel dyma fe. Ma rhyw lilipwtiaid cocosyddol yn y lle yma, yn ol eu delight benchwyban yn treio ysgrifenu rhyw rigmarole rigymol a'i hala i wahanol lefydd ag i wahanol bersonau yn y lle yma a fine yn cal y bai gyda rhai nag i'n nhw ddim yn gwbod gwell am dana i. Dyna os cwpwl o fishodd nol yn Capel --- fe fu ein cynrychion pensycan [?penysgon] nhw yn cal eu hanfon rhwng aelodau'r cor canu a'r canlyniad fu i rai or bechgyn ar merched mwya anwl oedd yno fynd yn suspicious o hona i ond trw lwc fe ddath rhai o nhw i wbod taw nid ti oedd e, ond ddath pawb o nhw ddim i wbod pwy oedd e. Dyna wedyn yn ---- fe ath rhwbeth rhwng rhyw barties yno. Ag er mwyn gneyd y drvg yn wath, dyma ffwlbri rhyw gocosyn rhibynaidd yn cal i gwasgaru trw'r lle wedyn, a'r suspicion yn dishcyn arna inne ar unwaith, ond y tro hyn etto, fe ddath y rhai blaena o henyn nhw i wbod pwy odd ond trw'r cwbl ma llawer o henyn nhw nad i'n nhw ddim yn gwbod llai nag oedd llaw gyda fi yn y fysnes, pan nag own i ddim yn gwbod dim mwy na'r marw am dano.

Sami - Dyna feI gweles i ddi yn y wlad Wil os byse ei yn hapio liod miwn câ lle we defed wedi cal i lladd, fe we'n cal i bai am y cwbl wedyn.

Joe - Ma suspicion a bothti ti Wil am lot o pethe ma ti gwbod dim am denyn nhw, ag os na nhw yn mynd i cadw mlan a shwt nonesense etto ma i ni quite willing i helpu ti i cal nhw ar Anvil y Conffrens, a dala nhw i ti cal rhoi pwyse hen Sledge mawr yna arnin nhw, a serve them right bydd e hefyd.

Wil Sledgwr, - Very good Joe, ond am danat ti Sami, beth wyt ti'n feddwl wrth beth wedest ti, paid ti galw ci arna i etto onte


 

 

Text

Description automatically generated
(delwedd B0807b) (
2 Gorffennaf 1896)

 
Charly. - Keep ye'r hair on Wil.

Wil Sledgwr. - Dyna hi etto, pwy ddywarnod cyn i fi dori'n ngwallt ble bena byswn ni mynd roedd rhyw hen dacle diwardd yn crio ar in ol i, “Get. ye'r hair cut." Odd dim ots pun a fyse wedgen gyda fi neu beidio odd rhaid iddyn nhw gal dangos ei diffyg sense a'i prinder o good manners o hyd, a nawr wedi i fy dreio pleso'r set hyny, dyma Charly or ochor arall etto yn gweiddi “Keep ye'r hair on," ag wn i ddim ffordd ma cered yr hewl, na sharad dim a neb heb offendo rhyw benweiniaid croendene.

Twm. - Dyna fel mai Wil bach does neb wedi bod yn y byd yma yn gallu pleso pawb, a paid dithe meddwl gelli di bleso pawb hefyd, mae e yn ormod o dasc i ti wir.

Wil Sledgwr. - Ie ond alla i ddim a godde rhyw bethe fel hyn o hyd, os af i miwn i'r Musical Gallery fe fydd rhyw ddau cant ar unwaith yn agor ei llyged fel Tatws Merica arna i ag yn staran a dishcwl mor savage a bysen nhw yn barod i'n llyncu i, ag wedi mynd mas fe fyddan yn sisial a'i gilydd ag yn pointio bysedd ar in ol i.

Mocyn - Gad iddyn nhw islaw sylw Wil bach cadw mlan gyda dy waith heb hido dim am neb o henyn nhw, a phaid a mynd mas o dy gof fel na, ag wy'n meddw taw'r peth gore naw'n ni heno y'w tori'r Conffrens, i Wil gal mynd sha thre yn gynar i gal noswaith dda o gysgu, falle bydd e'u well bore foru.

Ned. - Ie wir Wil dynar gore heno wath gwaith ofar iti feddwl plesio pawb. Dyna fel wy yn i gweld hi bob amser. Dyna'n gweinidog ni mae e'n ddyn bach noble ond dos dim shwt beth ag iddo fe bleso pawb. Mae en gwisgo'n rhy stylish i ateb rhai, ag yn rhy shabby i ateb erill, - mae'i got e rhy hir wrth fodd rai, ag yn rhy fyr wrth fodd erill, - mae e'n sharad yn rhy isel i rai, ag yn gweiddi gormod i erill, - mae e'n pregethu yn rhy athronyddol i rai, ag yn rhy hanesyddol i erill, - yn rhy dduwynyddol i rai, ag yn rhy arwynebol i erill, - yn rhy farddonol irai, ag yn hly ymarferol i erill, ag os gwed e rwbeth am ddyledswyddau, dyna pe fel se fe wedi tynu nyth cacwn am i ben, ag fel rheol, y creaduriaid mwya anghymwys sy'n beirniadu mwya, a paid dithe meddwl gelli di gadw pawb yn folon ond cadw dy mlan at dy ddyledswyddau heb hidio dim beth fydd neb yn weyd am danat ti a chofia Adnod y beirdd “Y Gwir yn erbyn y Byd."

Dros y Conffrens

WIL SLEDGWR

 

 

Text

Description automatically generated
(delwedd B0808a) (
9 Gorffennaf 1896)


The Merthyr Times. The Dowlais Times, and Aberdare, Pontypridd, Rhondda Valley, Rhymney, Tredegar, Brynmawr and Western Valleys Echo.

9 Gorffennaf 1896.

Y CONFFRENS.

Wil Sledgwr - Wel boys, dyma hi heno, fe allwn shiglo dwylo heno i gyd.

Fred. - Gallwti wir, wath i'n ni nawr yn yr un picil a'n gilydd i gyd.

Ianto. - Ond pwy fyse yn meddwl am shwt beth, fed hen Gor Bach naill ochor fel yna yn mynd i faeddu'r whole lot o honom ni.

Sami. - Fe weles i dric bach pert ambeidis yn cal i whare ar yr hiol heno. We lot o gwn yn hwrni ar i gili o byty lwmpin o gig. Dir wen nhw'n hwrni'n ambeidis ag yn dangos i dane ar i gili. We un yn watcho'r llall gwmynt byth a galle fe, ar pishin cig ar llawr, ond dyma rhyw hen gi bach lawer llai o seis na un o nhw yn rhedeg mlan heb wbod iddyn nhw, a whiw ag e a'r pishin cig yn y fan, a bant ag eshag adre gwmyn byth a alle, a dyma'r rhest wedin yn joino gydai'i gili i rhedeg ar i ol u, ond wrth rhedeg fe fwrodd un o nhw yn erbyn wal, his bod e'n ar lawr yn rhondyn, a fe dorodd i glun yn ddoi getyn. Wen i yn gweyd yn i meddwl byse well iddin nhw garco'i hunen, ag edrych at i bisnes yn lle hwrni ar i gili, a run peth wdw i yn meddwl am i core canu ma, byse well iddin nhw dreio peidio hwrni cwmynt ar i gili hefyd, a fel ni rhoi cyfle i rai erill, nag wen nhw ddim yn meddwl dim am denyn nhw, i fyn'd bant a'r price rhynt i dwylo nhw.

Phil. - Fechgyn mae Eisteddfod Llandudno wedi paso, a dewch i ni gal gadel pob peth cyssylltiedig a hi i baso hefyd. Mae'r feirniadaeth wedi cal i rhoi, a gadewch i ni adel y cwbl yn llonydd. Wy yn cynyg nag oes dim rhagor am yr Eisteddfod i gal i weyd, ond gadel rhwng y Beirniaid a'u cydwybodau yn ngoleu beirniadaeth ar uwch scale na'r hyn rownd o'r nyth bran.

Ned. - Wy'n eilior cynygiad ag ma dda iawn gyda i wel'd standard Beirniadaeth wedi codi o Fedd Llanelli i Nyth Bran Llandudno.


 

 

Text

Description automatically generated
(delwedd B0808b) (
9 Gorffennaf 1896)

 

Hugh - Mae'n wir fod safle lleoliad y Beirniaid wedi codi, ond a ydyw safon Beimiadaeth wedi ymddyrchafu sydd gwestiwn arall. Ond i gael gadael y mater yna or neilldu, y mae genyf fater arall i'w ddwyn i sylw ein Cynhadledd, sef, “Y priodoldeb o ganiattau y rhyw deg i gael dyfodiad i fewn i'n plith. Y mae y mater hwn wedi bod ar fy meddwl erys talwm, yr wyf yn gwel'd y rhyw deg yn cael lle ar y gwahanol fyrddau cyhoeddus, ac y maent yn gwneyd gwasanaeth anrhaithol. Y mae yn wirionedd mai gwraig fu'n gyfrwng trwy ba un y daeth pechod i'r byd, ond cofier hyn, y mae y wraig i fod yn gyfrwng i godi y byd etto hefyd, ac yr wyf fi yn cynyg eu bod i gael derbyniad i'n Cynhadledd.

Shoni. - Wy'n eilior cynygiad waeth fe fydd shawns i fi gael wedgen wedyn.

Dai. - Os gadewa ni fenwod i ddwad mewn yma, allwn ni neyd dim a nhw wedyn, fedrwn ni ddim a'i llywodraethu nhw o gwbl, fe fynan y ffordd eu htinain i gyd ac am hyny wdw i yn cynyg gwelliant.

Harry. - Gwaethiant wyt ti'n meddwl spo.

Dafydd Benwyn. - Fechgyn peidiwch a rhanu a'r bwnc mor dyner a hwn. Y mae y fenyw wedi arfer cal ei hystyried ar yr un safle a'r gwrryw gan Hen Genedl y Cymry erioed. Dyna ddysgeidiaeth ein Hen Gyfundrefn ni fel cenedl, ac hefyd y mae Cristionogaoth yn dysgu yr un egwyddor yn hollol, ac heb siarad rhagor, yr wyf fi yn dymuno cadarnhau y cynygiad. Pawb sydd drosto i arwyddo ----- wedi pasio yn unfrydol.

Wil Sledgwr. - Naw'r ynte Joe, dyro y garden hon yn y ffenystr,

LADIES
INVITED TO
ATTEND.

Joe - Tyma hi, un Young Lady wedi dod at once. Order nawr boys, I ni cal rhoi respectable welcome iddo. [Merch ieuanc, tal, gyda gwallt du, a llygaid treiddgar yn dod i fewn].

Miss E. W. - Good evening gentlemen, very dry weather.

Wil Sledgwr. - Is, indede mis. What is the name plase?


 

 

Text

Description automatically generated
(delwedd B0808c) (
9 Gorffennaf 1896)

 
Miss E. W. - My name is Eva Wagltong. Eva was the first woman in the world, and I am the first to enter your Institution.

Wil Sledgwr. - Will you be wiling to take the rewls of this place?

Miss E. W. - O dear me, yes, I know a good deal about the rules of Society. I have travelled a little. I was up at Llandudno last week, and there was some grand singing there. We went hopelessly out of tune, and of course we had no chance of winning, but everybody was talking about Merthyr and Rhymney, you know. But we were wishing that Merthyr would not get the prize. We would rather any choir have it than Merthyr. But when the award was given we were surprised, you won't believe. But we were glad that Merthyr didn't get it; indeed we were shouting with joy" “What will old Wil Sledgwr say now? Wil Sledgwr is the name of some old fellow that writes to the papers about the choirs, you know."

Wil Sledgwr. - Is, Is, we hear about him, serve him right.

Miss E. W - You will excuse me now, gentlemen with your permission I shall call next week again. Goodnight.

Joe. - (Yn agor y drws iddi).

Miss E. W - (Yn troi at Joe). Mr. Newman, excuse me asking you please, who is that gentleman writing at the table please?

Joe. - That's our worthy secretary, Wil Sledgwr.

Miss E. W - Oh, good gracious! do you mean to say that I have been to the Conffrens? Oh dear, dear, my name will be in the papers next week. If I only knew, I would not take a thousand pounds for it. Oh dear, dear!

[Joe. -] Dyna lesson i hona tabeth, a byth e more cautious y tro nuesa tyna fact.

Shoni. - Dyna ddigon o sport am heno ta beth, dyna beth wedd eitha sec in.

Dros y Conffrens

WIL SLEDGWR.

 

 

Text, letter

Description automatically generated
(delwedd B0809a) (
16 Gorffennaf 1896)


The Merthyr Times. The Dowlais Times, and Aberdare, Pontypridd, Rhondda Valley, Rhymney, Tredegar, Brynmawr and Western Valleys Echo.

Y CONFFRENS.


Ned - Helo Dai, pwy oedd y gwrbonheddig yna oedd yn sharad a ti ar dop yr hewl nawr just?

Dai - Ond taw dyna Bob Rhys, bachan, neu i gal bod yn fwy genteel, a i neyd cyfiawnder ag enw y bachgen rhagorol yna, dyna Mr. Robert T. Rees, organydd y Gwernllwyn, ac arwemydd medrus Cor Dirwestol enwog Dowlais.

Jack. - Ie, ac arweinydd llwyddianus hefyd.

Joe. - Quite right, ma ni napod y gentleman yna os lawer dy nawr. Many years ago, wedd y son am dano fe fel vocalist. Wedd e yn canu yn beautiful tenor first class yw e, a ma fe wedi mynd a lot o prices fel vocalist. Ma fe yn charmo audience dim ond i clwed e yn canu, a dyle ni yn Dowlais bod yn proud o hono fel leader y Temperance Choir. Ma Temperance Choir Dowlais wedi bod yn London yn y Temperance Ffestival lot o gweithe, ag wedi enith prices crand yno hefyd. A stim islie i ni mynd nol yn bellach na blwyddyn dywetha, pan dethon nhw nol a first prize, a cas pob un o'r choir medal crand hefyd, a ma nhw yn mynd i London y tro hyn hefyd i canu yn Ffestival, ond stim o adult choir yn mynd i competo tro hyn, ond ma juvenile choir yn mynd i treio.

 

Twm. - Joe, cera at y drws ma rhyw groten fach yna.

 

Joe. - Wel, my little beauty, what is it, please?

 

Merch. - Please, sir, will you please to buy a ticket, sir?

Joe. - What is it for, my little darling?

Merch. - A concert, sir, with the Temperance Choir, to help us to go to London, sir.

Joe. - Come inside my dear. Now lads, here's a chance for you to have a good concert. One of the best of its kind over held in Dowlais. This little girl has a lot of tickets to offer you, and every one of you will buy one, if you have a grain of respect for old Dowlais. There is a grand concert to be held in the Oddfellows Hall, Dowlais, on Thursday next, July 16th, by the renowned Dowlais Temperance Choir, under the leadership of Mr. R. T. Rees. The juvenile choir will render the test piece in the annual competition. Popular prices, 2/- 1/-. and a limited number of 6d tickets. But on behalf of this little lady, and the choir, I most ernestly appeal to you to take the 1(- and 2/- tickets, and when they will be disposed of, the little lady will supply you with the 6d tickets.

Ned. - Mab i bwy yw Bob Rees y ledwr?

 

Dai. - Ond mab i frawd Eos Morlais yw e.

Sami. - Wel, Wel, a mab i frawd Eos Morles yw e, ie fe. O wen i yn leico clwed i wncwl e yn canu yn ombeidis, ag ar gownt enw'i wncwl fe byrna i un garden gyda hi.

Joe. - Daw e round nawr - Now my little darling, come round with me now. Evcryone present ought to take one.

 

(Yn mynd oddiamgylch.)

Merch. - (Yn troi at Joe.) Every one of them bought a card except yourself Sir.

Shoni. - Ah, rhen scemwr! dyna dy ddala di, Joe, yn meddwl i dodjan hi, i beido prynu un dy hunan, ie fe?

Joe. - O na, ma ni pryni un nawr. (Yn derbyn un.)

Merch. - Good night, gentlemen, and thank you all.
 
Wil. - Good night, my girl, and every success to you.


 

 

Text, letter

Description automatically generated
(delwedd B0809b) (
16 Gorffennaf 1896)

 

(Y ferch yn mynd ar garlam.)

Ianto. - Wel boys, nid cyndrwg plan fydde joinu ar Cor Dirwestol hyn am spel i gal shawns i gal cheap trip i'r lan i Llunden.

Wil Sledgwr. - Gormod o’r gwaith yna sy'n cal i neyd: seino'r pledge a joino'r cor nes bod e wedi dod nol o Llunden, a'i adel e wedyn, a thrwy hyny gorfod derbyn recruits mewn i'r cor bob blwyddyn, a'r arweinydd wedyn yn cal gwaith i dori rhai newydd mewn o hyd. Yn y fel hyny dyw'r arweinydd talentog na'r cor ddim yn cal chware teg o gwbl. Yn ngwyneb pethau fel hyn y mae yn syndod fod cor wedi gwneyd cystal gwaith yn y gorphenol. Y mae yn drueni o'r mwyaf fod bechgyn yn gallu cellwair mor druenus a phethau mor bwysig. Gobeithio y bydd pethau yn well o hyn allan, a thyma fy nymuniad i mewn penill:

 

Pob llwyddiant fo i Robert,

A’r cor i fynd yn mlan,

I enill gwobrau lawer

Er clod i “Wlad y gan;”

A boed fod medd-dod erchyll

Yn darlod oll o'r tir,

Fel byddo Gwalia gyfan
Dan faner Dirwest bur.

 

(Nawr joinwch yn y chorus.)

 

Oll. - "I'r lan o ris i ris

Yr elo R. T. Rees

Ni ganwn gyda'n gilydd

Duw'n rhwydd i R. T. Rees.

Phil. - Dyna fachgen rhagorol arall hefyd yn Dowlais yw Mr. John T. Jones, G.T.S.C. Pwy ddwrnod 'roedd cyfansoddiad o'i waith yn cael ei berfformio gan dros 600 o leisiau yn Aberdar. Dyna. arweinydd cynulleidfaol Moriah, ac arweinydd Cymanfaol Baptist Dowlais a Phendarren er pan yinadawodd y byd enwog Dan Davies i Merthyr. Mae e wedi profi ei hunan yn olynydd splendid iddo fe hefyd. Wrth gwrs, mae Dan Davies yn eithriad ar ei ben ei hunan fel arweinydd; nid un o fil yw e, ond un o filiwn; ond wir mae John T. Jones yn fachgen da hefyd.

Twm. - Odi wir, bachan first class yw e, a byse dim ond dipyn bach rhagor o check yndo fe, fe fyse yn mhellach mlan hefyd. Pwy ddiwarnod fe gas i bresento a chloc beautiful gan eglwys a chynnlleidfa Moriah, ag fe leiciwn i glywed Dafydd Benwyn yn darllen y penillion ddarllenwd yn y cwrdd presento hefyd.
Ma rheini yn bictwr da iawn o hono fe. Dewch yn mlan Dafydd.

 

Dafydd Benwyn. - Wel fechgyn, ar eich cais ch i, fe'i darllena i nhw goreu galla, oud ma un peth yn fy erbyn i'w darllen nhw fel leiciwn i; rwyf wedi anghofio fy pectol heno, ond ymdrechaf wneyd fy ngoreu dan yr amgylchiadau. Dyma nhw.

 

 

A close up of a newspaper

Description automatically generated
(delwedd B0809c) (
16 Gorffennaf 1896)


CWRDD ANRHEGU MR. JOHN THOMAS JONES, G.T.S.C.

 

Mae tystebau'n cael eu rhoddi

I bencampwyr mawr yr oes;

Chwim redegwyr a phel droedwyr,

Ac erch ddyrnwyr drwg di foes;

Und nid anrhydeddu dyrnau,

Traed, na choesau heno wnawn;

Ond cydnabod pen a chalon

Brawd o fuchedd deilwng iawn.

 

John T. Jones, ein gwych arweinydd,

Gweithgar frawd dufnyddiol yw;

Un gyssegra'i holl dalentau

I wasanaeth eglwys Dduw;

Nid rhyw gornant drystiog ydyw,

’N chwyddo'u ffromlyd ar ei thaith,

Ond fel afon ddofon lydan,

Mewn tawelwch gwna ei waith.

 

Ei gymeriad pur dilychwin

Ymddisgleiria yn barhaus;

Un o ysbryd boneddigaidd,

Hawdd ei drin heb unrhyw drais;

Ufudd yw a gwasanaethgar,

Diymhongar trwy ei oes;

Ei uwchafnod yw dyrchafu

Enw'r Gwr fu at y groes.

 

Nid gwyllt heliwr am anrhydedd

Eisteddfodol ydyw ef;

Mil gwell ganddo drwytho'i enaid

A cherddoriaeth teulu'r nef;

Hen emynau anwyl Seion

Sydd yn gyson fynd a'i fryd,

A'i brif ymdrech yw dyrchafu

Mawl i'r Iesu yn y byd.

 

Ah! nid yw yr anrheg werthfawr

A gyflwynwyd iddo nawr,

Ond rhyw arwydd o'n hedmygedd

O un garwn ui mor fawr;

Traethu gwerth ei ddefnyddioldeb

A'i rinweddau ef yn llawn,

Mil rhy ddistadl ydyw'r awrlais,

LIawer iawn rhy fyr yw’n dawn.

 

Iddo ef a'I briod hawddgar

Ni ddymunwn einioes hir,

Haulwen ffawd fo'n gwenu arnynt

Tra b'ont yn yr anial dir;

Yn ngoleuni haul Cyfiawnder

Bydded iddynt fyn'd yn mlan;

Hyd nes cyrhaedd gwlad y gwynfyd

I dragwyddol ddyblu'r gan.

 

Dros y Conffrens.

WIL SLEDGWR.

 

O.Y. - Bwriada y bechgyn sylwi ar rhyw bethau ar y ffordd rhwng Aberdar a Hirwaun yr wythnos nesaf i gal typyn o change. - W.S,

 

 

Text, letter

Description automatically generated
(delwedd B0810a) (30 Gorffennaf 1896)


The Merthyr Times. The Dowlais Times, and Aberdare, Pontypridd, Rhondda Valley, Rhymney, Tredegar, Brynmawr and Western Valleys Echo.

30 Gorffennaf 1896.


Y CONFFRENS.

Wil Sledgwr. - Fechgyn, mae'n dda gyda fi eich gweld chi wedi dod mor gryno heno etto, er fod amryw o honom ni wedi mynd off ar holidays. Gobeithio dewan nhw nol yn saff wedi enjoyio'u hunan yn braf. Ma gyda fi ormod o heyrn yn y tan i fynd off leni, a rhaid i fi foddloni i watchan Dydd Llun Mabon i fynd am drip i Aberdar neu rwle agos tebyg.

 

Shoni. - Paid achwyn, Wil bach, a'r fynd i Aberdar. Mae e yn change ardderchog i fynd yno. Fe fu rhai o honon ni yno Mabon dywetha, ag fe enjoyson ni yn grand yno. O'n ni fel se ni wedi newid dwy wlad. Chredith dyn byth ond y sawl sy wedi bod yno gymynt yn well lle i fyw yw e na Dowlais. O'r Gadlys lan i Hirwen, mae gerddi glana weles i o'n llyged erioed.

Phil. - Pam, wyt ti yn galer gweld gerddi a dy glustiau ynte?

 

Shoni. - Nawr Phil, câ dy chops, cyn bo fi yn rhoi whirlad i ty am dy impudence, a gad i fi fynd mlan i weyd am y gerddi. Ma'r hen gwmyn diffrwyth fel wen i wn [sic; yn] arfer meddwl am dano, wedi cal i neyd yn erddi paradwysaidd (fel ma'r dynion mawr yn gweyd). Roedd hi’n bleser i weld y tatws, y cabbage, y cenin, y pys, ar ffa, &c. Ma'r tir yn cal i roi mas yn lots, i'r sawl cymerith am flwyddyn, neu ddwy, neu dair, (fel bo'r tir) a'r ol hyny ma nhw yn codi tipyn o dal bob blwyddyn am dano.

 

Harri. - Pwy sy a'r hawl i godi tal am y tir?

 

Shoni. - Cwestiwn arall yw hwna. Ond dyna fel mai yn bod, ag ma shew o ddynon yn gneyd haner i bywoliaeth o'r pethe ma nhw yn gwni yn y gerddi.

 

Ned. - Wel, fe fues i yn y Parc yn enjoyo'm hunan ta beth. Yn wir mae na walks splendid, ta beth; ag hefyd ma na le crand iawn yn cal i neyd i'r lan yr top; ma nhw shwr o fod wedi gwpla fe nawr; ma pondydd bach a ffalls yna, a pont bert iawn hefyd, ar yn ngair gwirion i ma na le pert dychrynllyd.

 

Frank. - Wel wir, pan bues i yna wedd isha glanhan'r llyn mawr yn ofnadw, ta beth wedd hwnw yn warthus i weld e.

Ned. - O falle bo nhw wedi neyd e erbyn hyn.

 

Joe. - Peth gnath tynu attention fi oedd clwed cymynt yn sharad Cwmrag yno. Mynd am walk trw'r park bechgyn a merched, dynon a menwod, old and young, hen dynon a plant bach, gweithwrs a swells, pob yn yn gweyd Cwmrag. Mynd i'r lan trw street wedyn, pob un yn gweyd mouthful o Cwmrag, a tyna peth refreshing i Welshman, yn cal llond pen o “Shwt i chi heddi.” Tyna fel ma pob un yn Aberdar, ond nage tyna fel ma nhw yn y neighbourhood hyn o bothti hewl Pant, y Bryna, a Lover's Lane, ma nhw fel se nhw yn too big i sharad Cymrag. ond cwni trwyne a wilia rhw hen Sisneg main. Ma gwad ni berwi yn y veins ni wrth gweld cwmynt o Dic Sion Davids yn treio acto fel foriners in their own country.

 

 

Text, letter

Description automatically generated
(delwedd B0810b) (30 Gorffennaf 1896)

 

 

Dan. - Ha, ha, ha, clywch chi "Satan yn ceryddu pechod," boys.

 

Jack. - Dyna fel ma hi boys; “pob un at i ffansi i chi'n gweld," ys gwedodd yr hen fenyw wrth gysanu'r hwch. Y peth dynodd i'n sylw i oedd gweld cymynt o brakes, cabs, a phob math o gerbydau yn mynd i'r lan i gyfeiriad Hirwen ar brydnawn Sul, ag yn gyru nol nos Sul nes odd hi'n arswyd i gweld nhw. Ag fe allen i feddwl fod rhai o nhw wedi bod yn acto'r bonafides, wath oedd y ceffyle a'u boliau yn wag, ond wrth bob argol wedd y dynion a'u boliau yn llawn. Wedd digon o fwstwr dwl gyda nhw ta beth.

 

Dai. - Ie, ag i gwpla'r cwbl, wedd rhai yn blongo i'r cwrdde. Yn lle bod dynion yn i gweld nhw yn settlo a'r brakes i fynd o'u blan nhw, ag aros yn cemetry nes bo nhw yn dod, rhai erill yn mynd yn mlan gan bwyll, a'r brakes yn i dala nhw ar y ffordd. Ond os o'n nhw yn scemo fel yna roedd rywrai yn i gweld nhw er hyny.

Sami. - Fe ffeiles i fynd trw'r Park, wath wer ci gyda fi, a fe ddiflasadd hyny fi yn deg.

 

Twm. - Beth oet ti beido rhoi'r chain am ei wddwg e? wedd hono yn dy boced di.


Sami. - We, wedd y chain yn ym mhoced, ond mae e wedi cal i brinto ar y notis wrth y gêt, "All dogs must be led with a string while in the Park," a we dim llinin yn ym mhoced, a we'n i yn meddwl na netha'r chain ddim o'r tro achos bod string ar y notis.

Dan. - O'r mwnci twp fel ag wyt ti!

 

Ianto. - Son am brakes a'r cabs &c ar hewl Hirwen, roedd hi'n beryglus ofnadwy i drafeili yna hefyd, gan gymynt o beisicla wedd yn mynd mor drychllyd yna; wedd gofyn bo llyged nol a mlan gyda dyn i gadw mas o ffordd rheini, ag wen yn meddwl bod hi'n llawn bryd i'r authorities rhoi treth ar y pethe hyny.

 

Hugh. - Yr ydach yn hoff iawn o chwilio beiau fechgyn, ond pe baech chwi wedi gwneyd fel y daru i mi, nid dyna fyddai eich tôn. Bym yn cysgu dwy noswaith yn y ty lle bu awdwr ffugchwedl "Bob Owen'' yn trigianu; cymerais daith boreu dydd Lluu i fynu trwy Hirwain a Phenderyn, ac i fynu hyd at yr Eglwys; dilynais yr heol haner cylchog heibio i'r fynwent i fynu i'r Bryn cyfagos; dringais i'w goryn, ac o'r fan hono cefais olygfeydd dymunol af y cymydogaethau cylchynol. Bum ar ben maen mawr



 

 

Text, letter

Description automatically generated
(delwedd B0810c) (
30 Gorffennaf 1896)

 
mewn cylch yno., a barnwn wrth yr olwg arno mai adfeilion hen Demi Dderwyddol gyssegredig ydoedd, ac fy mod yn sefyll ar y fan lle bu hen athrawon yn droednoeth cyn hyn yn cyhoeddi doethineb i'r bobl.
Bum ar dwmpathau gerllaw, a thybiwn fy mod yn sangu ar feddrodau hen broffwydi i genedl. Aethum i lawr gerllaw i Bontneddfechan, a deuai geiriau Onllwyn, "Brenin y Marwnadwyr” i'r cof:

 

-          “Mangre hyfryd

A noddfa iechyd yw Pontneddfechan."

 

Yr oedd anian yn yniddangos yn ei dillad goreu, ac wrth syllu ar ei gogoniant arddunol nis gallwn lai na thori allan i waeddi yn ngeiriau swynol y diwedd ar "Mynyddog:”

 

“O anian, pa ryfedd fod dynion

Yn hoffi prydferthion dy wedd?

Bys Duw fu'n dy wisgo'n ddidrafferth

A'r lliwiau prydferthaf a fedd;

’Rhwn baentiodd wefusau y rhosyn

Yn goch ac yn wyn bob yn ail,

A'r hwn roddodd fod i'r wybrenydd

A wisgoedd y coedydd a dail."

 

Mocyn. - Fe fues i yn y cwrdd yn Aberdar ta beth, ag wedd y cyhoeddwr yn eisie, a'r gwenidog yn cyhoeddi yn i 1e fe. Ag ar ol gweyd am cwrdde'r wthnos, dyma fe yn gweyd fel hyn, "Boreu Sabboth nesaf fe fydda i yma am unarddeg o'r gloch, os byw ac iach, ond fydd dim o'ch haner chw i yma. Odd hyny yn hint i fi, bo lot o henyn nhw yno, run peth ag yn Dowles, yn colli'r cwrdd bore sul.

 

Dafydd Benwyn. - Fe garwn innau ddweyd am y cyfarfodydd melus a gefais yn y Gadlys, ac am y teulu anwyl y cefais y fath groesaw ganddynt, a'r mwynhad a gefais yn eu cwmni prydnawn Sabboth. Teimlwn dan y gronglwyd. hon, er nad yw'r teulu hwn etto wedi cyrhaedd i wlad y dedwyddwch, fod yna ddedwyddwch nefol yn y teulu, er eu bod yn myd y galarnadau. Teimlwn yn hapus a chartrefol yn eu plith, er eu bod yn ddieithr i mi yn ol y cnawd -.

 

Shors. (Yn dod fewn yn feddw). Hic, Eshcushwch fi boys - hic - wedi bod off - hic - gyda - hic - ecshcurshon colliersh – hic - yn 'r ecshibishon - hic - a wedi cal llawn bola hefyd – hic – hic - ond wi'n right i wala run shwt - hic - hic - right boys - hic - hic.

Wil Sledgwr. - Dyna drueni nawr, a ninau yn mynd mlan mor hapus fod hwn wedi dod mewn y'n y shap hyn i dowli blast ar y cwbl. Rhaid tori lan nawr a mynd tua thre.

Dros y Conffrens

WIL SLEDGWR.



 

 

Text, letter

Description automatically generated
(delwedd B0811a) (
6 Awst 1896)


The Merthyr Times. The Dowlais Times, and Aberdare, Pontypridd, Rhondda Valley, Rhymney, Tredegar, Brynmawr and Western Valleys Echo.

6 Awst 1896

Y CONFFRENS.

Wil Sledgwr. - Wel boys, oes neb ohonoch chi wedi cal llythyron o wrth y boys sy wedi mynd off ar ei holidays?

 

Dai. - Na dw i ddim yn meddwl fod neb. Ma nhw yn enjoyo u hunen nawr, a chwedyn din nhw ddim yn cofio dim am danom ni. “Out of sight, out of mind."

 

Twm. - Dw i ddim yn gweld bod hi'n reit i ni dori'r Conffrens lan achos bo nhw ddim yma i ni yn ddigon i neyd cworym yma hono, ag fe ewn ni mlan gore gallom ni.

 

Jack y Fochriw. - Wdw i'u meddwl bo shawns i fi weyd gair heno. Ma Band y Fochriw wedi enill dau first prize dydd Sadwrn dywetha yn Briste. Dyna dwtch i chi, boys. Enill dau first prize run diwarnod!

Phil. - Beth yw'r rheswm na fyse nhw yn treio yn South Wales nawr? Os gormod o ofon arnyn nhw?

 

Jack y Fochriw. - Nage, nid dyna beth yw e, ond y ma'r Brass Band Association wedi suspendo nhw, a wedi stopo nhw i gal y prize dywetha enillson nhw achos bo uhw wedi torir Rules medde nhw. Ond dyw'r Band ddim yn danto. Ma nhw yn mynd yr wthnos ar ol y nesa i Newtown, ag i ni yn y Fochriw yn mynd i gasglu i dalu'u hexpenses nhw bob dime. Dyna i chi dwtch, onte boys?

Shoni. - Dyna beth dylen ni fod yn falch iawn o hono fe, fod Mr. E. P. Martin, head manager Dowlais, wedi cal i ddewis yn President yr Iron and Steel Institute. Ma Mr. Martin yn wrboneddig bob modfedd o hono, ac yn llawn delyngu yr anrhydedd hon. Llwyddiant i'r Dowlais boy i lanw'r swydd yn anrhydeddus, weda i.

Dai. - Wdw i'n endorso'r sentiment o waelod i'n nghalon, ag wdw i'n falch iawn am un arall o Dowlais sy wedi cal i anrhydeddu trwy gal i godi i gader yr Undeb Cynulleidfaol, sef y Parch R. S. Williams Bethania. Fe fydd yntau yn siwr o lanw'i le mewn modd tywysogaidd yn ol ei arfer. Hir oes iddo fe a Mr. Martin weda i. Ond fydde hi ddim yn niwed i reporter y Merthyr Times i gofio fod yma weinidogion Ymneillduol ereill yn Dowlais hefyd.

 

 

Text

Description automatically generated
(delwedd B0811b) (
6 Awst 1896)

 
Twm. - Wi'n cydfynd a'r cwbwl boys. Ich chi’n cofio am siarad fu gyda ni am y Cor Dirwestol pwy nosweth. Wel, fe enillodd Cor y Plant y Second Prize, a dim ond un point o'n nhw ar ol y goreu, a dim ond dwy filldir odd gyda rheini i drafeili i'r Crystal Palas, a'n plant bach ni yn trafeili trw'r nos, dim ond just cal amser i gal brecwest a swil fach cyn mynd i gystadlu. Mae'n syndod bo nhw wedi gallu canu o gwbl, ag mae'n glod i ben Bob Rees bod o wedi gneyd y fath waith ardderchog, i'r Comittee am yr arrangements, ag i'r plant am ganu mor ardderchog ar ol y fath drafaelu. Ma nhw wedi cal Silk Banner beautiful i'r Cor, a Grand Certificate hefyd, ag ma cynllun ar waith nawr i roi bob i certificate i'r plant. Pob llwyddiant iddyn nhw.

Phil. - Mae'n dda iawn gyda fi weld fod cantorion Dowlais yn dod i weld gwerth arweinydd da, a bod y fath deimladau cynes gyda nhw at y fath fachan talentog a medrus, Mr. Harry Evans. Ma'r cor wedi voto - 25 iddo am i waith a'i lafur hyny yw, 25 per cent o enillion y Cor. Er ys ychydig amser yn ol roedd cyntach anghyffredin am roi 10 per cent o'r enillion i'r Leader, a gweyd fod e'n hen grabyn shympil am dderbyn cymynt. Ond diolch fod y safon yn codi, a 25 per cent yn cal i roi nawr heb achwyn dim. Wy'n meddwl y dylen ni fod yn llawen i gyd wrth weld yr oes yn gwella, a gwasanaeth a llafur y bechgyn talentog yn cal eu gwerthfawrogi.

Wil Sledgwr. - Mae'n dda gyda fi eich clywed chi yn sharad mewn ysbryd mor foneddigaidd heno bob un, a bod pop peth yn mynd yn mlan mor hapus A chan ein bod mor ychydig o nifer heno, gwell tori lan yn y blas, a chofio'r adnod “Byr a melus."

 

Dros y Conffrens

 

WIL SLEDGWR.

 

 

Text

Description automatically generated
(delwedd B0876a) (
13 Awst 1896)


The Merthyr Times. The Dowlais Times, and Aberdare, Pontypridd, Rhondda Valley, Rhymney, Tredegar, Brynmawr and Western Valleys Echo.

 

13 Awst 1896.


Y CONFFRENS.


Joe. — Ma ni weti returno once more ar ol bod ar holidays. Ma ni weti bod yn Builth a weti enjoyo yn crand hefyd. Wedd y saline yn gwitho yn splendid, a gallwn ni joino a cor nawr, i mynd i ganu am prize.
Byddwn ni siwr o enith hofyd weti ealtycyno saline element yndo ni. Ond odd un draw back yn y Wells: odd dim shwt beth a cal Welsh sermon yno. Odd English sermons yno round about, ond trw ma Welshmen i ni we'n ni mofyn Welsh sermon. A buon ni gofyn i lot o Welsh preachers i rhoi Welsh sermons, ona we'n nhw pathu bob un, a gneyd excuse taw wedi dod yno i enjoyo we'n nhw. Ond tyna beth wedd yn odd: on nhw off yn supplyo rhwle bob un dydd Sul dywetha, mewn llefydd we nhw wedi engago cyn starto o dre, ag wedd e talu ffordd yn net hefyd. We nhw cal holidays gyda churches we nhw ministers, a cal full pay, a wrth cal i hengago i supplyo rhwle arath we nhw cal full pay yno wetyn, a dim ishe gneyd sermon newydd. Ffordd splendid i dala extra turns onte fe? We ni dim yn gweld bod example y Great Teacher yn cal i dangos fel hyny, ta beth. Pan oedd e weti mynd ar pwys well un tro, a weti ishte lawr weti blino, wedd e'n dechre pregethu at once y chance cynta cas e. Ond gall preachers ni dim pregethu os na fydd coin neu rhwbeth at all yn y fargen.

Shoni. — O ma nhw yn dyall y ffordd i garco No. 1 yn net. Ma nhw yn galler gweyd wrtho’n ni, "Derbyniasoch yn rhad, rhoddwch yn rhad." Ond faint geir wythyn nhw heb dal am dano, wn i? Ond dyna beth dynodd i'n sylw i un bore wrth y ffynon. Ar ol agor, ar bobl yn crowdo yno am y cynte, oedd gweld rhyw giant o ddyn, a chot ddu hir, a neised wen, yn dod fel emprwr, a fel se fe'n erfyn i bob un droi o ffordd ei fawrhydi, ag yn parado nol ag yn mlan, ond dim argol am i'r bobl droi o'i ffordd e, ond neb yn gneyd, ond yn cadw mlan yn ol yr adnod "Pobun drosto'i hunan &c.” ag yntau naill ai yn rhy sanctaidd neu yn rhy bwdwr i weithio'i ffordd i hunan mlan trw'r crowd. Tyma fe vn dechreu carthu'i wddwg ag yn peswch mor fawreddog a phe byse yn dishgwyl i'r Beacons i grynu ar ei sodlau wrth ei swn e, ag yn tori mas i weyd, “Wel Wel, tyma le," a nol ag e i ysgrifenu llythyr i'r papur dyddiol ar ddiffyg manners dynion yn y ffynone. Ond jobyn da iddo fe fod e a'i gwt o lythyrenau wedi mynd o'r lle erbyn boreu dranoeth, onte fe fyse fe wedi cal typyn o hanes ei fywyd.

Ned. — Dyna fel uiae, wir, boys. Ond mae yna ochor arall i'r cwestiwn hefyd. Mae'n warthus i feddwl fel ’roedd rhai bechgyn a merched ag i'n ni yn nabod o'r gore yn cario mlan, dim ond mynd mas o'r lle am gwpl o filldiroedd. Ma'r bechgyn yn tori shwt dash I mae'n gas i gweld nhw. Yn wir, ma nhw yn troi ar i'n stymog i ta beth. Bechgyn ifenc yn cerdded ar heolydd mor fawreddog, a'i rings ar eu bysedd, chain crand ar ei gwasgodi, ffyn mawr wedi eu goreuro ag arian yn eu dwylaw, meersham pipes yn eu geneuau, a gwagder yn ei penau. Merched wedyn wrth eu hochrau, a'u ffyn au veils a’u eye-glasses, ac yn smocio cigarettes mor ddigywylydd ar hyd yr heolydd. Wrth eu gweled rown i yn gofyn mewn syndod, "Beth fydd gwragedd a mamau yr oes nesaf? Os mae tyna beth yw'r new woman mae'n llawn bryd i ni fynd ar ein gliniau a gofyn yn daer, Oddiwrth y cyfryw, gwared ni, Arglwydd daionus."





 

 

Text

Description automatically generated
(delwedd B0876b) (
13 Awst 1896)


Mocyn. — Y peth oedd yn fy synu i wedd gweld dynion yn blongo i'r cwrdde ar i holidays yn acto mor ddwl ag we'n nhw. Gallen i feddwl wrth weld rhai o henyn nhw ag syn pretendo bo nhw yn dduwiol iawn yn nhre, ond wedi mynd off, fel lot o ebolion gwyllt wedi cal eu gyllwn yn rhydd, ag yn acto mor anystyriol a bysen nhw heb fod mewn cwrdd nac eglws ariod. Ai rhwbeth feI na wedd y “grefydd round" wedd yr hen hobol slawer dydd yn holi am deni?
Sami. — Fe fues inne yn y wlad, a fe weles rai no sy'n byw yn digon lloglog yn y gwithe yn dangos bo nhw dduwiol iawn ag yn sharad yn y cyfeillache ag yn gweyd “Wele, mor ddaionus ac mor hyfryd yw trigo o frodyr yn nghyd." A dim ond ambell waith ar ddy Sul, a dim byth yn'r wythnos, ma nhw yn cwrdd a'r brodyr yma. We rhwbeth fel na yn ddigyn [ddigon] i hala un o'n anort i i gredu taw dim ond rhwbeth fel côt fowr i fynd o gatre yw crefydd.

Dan. — Dewch nes i dre, boys. Beth oech chi'n feddwl am y mass meeting yna yn Aberdar dydd Llun Mabon dywetha? Weddd P. D. Rees yn mofyn dod mlan a cynyg i starfo'r Sliding Scale.

Miss Beauty. — Eishe starvo hi sy hefyd. Mae wedi dod lawr a'r wages mor isel, nes mae'r bechgyn yn ffaelu cal arian i'n treato ni o dre fel dylen nhw. A pheth arall: i chi'n gwbod bod hi'n flwyddyn naid flwyddyn lion, ond dos dim shawns i'r bechgyn i broposo o gwbl, achos bod y Scale yn cadw'u wages nhw lawr.

Malen Jonea. — For shame, Miss Beauty. Wy'n rhyfeddu attoch chi bo chi'n mofyn gneyd off a'r Sliding Scale, y peth gore welson ni eriod. Wdw i yn cofio cyn ir scale i ddod, a fe gofia hefyd tra bo fi byw, ain y caledi etho i trwyddo fe; a phebaech chithe wedi godde haner cymynt a ges i o galedi, fe gofiech chithe hefyd, a wy'n siwr bysech chi n dymuno am i'r scale gal aros. Ar amser y strike cyn cal y scale rodd Tommy ni ddim yn 7 oed, Jane yn 5, Mary yn 3 oed a James ddim yn cerdded ei hunan, a John ddim ond newydd ddechre gweithio ar ol bod yn gorwedd am fisoedd wedi cal drwg yn y gwaith. Roedd y pedwar plentyn yn dost ar y pryd yn y dwymyn goch, a chyn bo nhw wedi llwyr wella, fe ges innau'n nharo gan y slow fever. O merch anwyl i! dyna amser caled oedd hwnw, a dim arian yn dod ir ty in galluogi ni i gal yr hyn oedd yn eisiau arnom. Fe alla enwi ichwi ugeiniau o deuluoedd yn y lle fu'n diodde yr amser hyny, ac heb allu cymhwyso'u hunen hyd y dydd heddy." Mae'n wir fod y cyflogau yn isel nawr, ond run ni yn cal gwaith cyson; a hefyd mae arian da iawn wedi bod

 

 

Text, letter

Description automatically generated
(delwedd B0876c) (
13 Awst 1896)


yn cal eu henill yn ol y scale. Odych chi'n cofio yr arian da oedd eich tad yn enill er's ychydig flynyddau nol pan gesocli chi piano crand yna, pan oech chi yn tendo'r dancing classes, ac yn cal troi mas fel lady, pan dysgsoch chi smoco cigarettes a llawei o ffwlbri heblaw hyny? Doedd dim un lle o ddifyrwch nad oech chi yn gallu mynd yno, ac mewn eitha style hefyd. Cofiwch taw'r Sliding-scale oedd yn regulato wages eich tad y pryd hwnw. Ag os yw'r prisoedd wedi cwmpo, nid ar y Scale ma'r bai. Y peth goreu i ni wedi weld yw hi, a gobeithio na wela i byth o'r dydd pan bydd y Scale yn cael ei throi heibio, os na fydd rhwbeth arall gwell yn dod yn ei lle hi.

Oll. (yn curo dwylaw ac yn gwaeddi) — Hwre, wel done, rhen fenyw.

Dafydd Benwyn. — Da iawn, Malen, a diolch i chwithau, fechgyn, am ei chefnogi hi. Ffolineb o'r mwyaf yw ceisio tori'r Scale, a dim yn barod gyda ni i gymeryd ei lle hi. Gwir y carem gael gwelliantau arni, ond nid dyna'r ffordd i hyny wrth ei chondemnio i farw. Y mae wedi bod yn foneddiges rhy dda i ni i'w newynu yn awr. Un peth yw tynu i lawr, cofiwch, ond peth arall yw codi i fynu. Gall ffyliaid dynu lawr, ond rhaid cael crefftwr i adeiladu. Fe allaf ddweyd wrthych nawr:

 

“Pan mae bysedd y blynyddau

Wedi plethu ar fy mlien

Yn sidanaidd laes gudynau

Goron flodau almon wen,"

 

fod genyf dypyn o brofiad. l'an oeddwn yn magu'r plant rwyf yn cofio fy mod yn dweyd weithiau wrth weld eu dillad yn garpiog fod eisiau eu newid ond yr oedd Mari, yn ol ei synwyr arferol, yn atteb gan ddweyd, “Gwir Dafydd, ond y mae yn rhaid cael rhywbeth yn well yn eu lle i roi am danynt yn gyntaf." Yr ydych yn cofio yn dda i gyd er ys ychydig flynyddoedd fod yma luaws yn crochfloeddio mewn cyssylltiad a'r gymdeithas Ryddfrydol: "Lawr a'r Caucus." Llwyddasant yn eu hamcan, ond a oedd ganddynt rhywbeth yn well yn ei lle? Nac oedd. Beth fu y canlyniad? Ein taflu i ganol yr anrhefn a'r trybini mwyaf, ac ynddo yr ydym yn ymbalfalu hyd heddyw, yn dyheu am doriad gwawr. Ac os gwnawn i ffwrdd a'r Sliding Scale, heb fod genym rywbeth arall yn barod i gymeryd ei lle, byddwn yn nghanol penbleth ar unwaith. Y mae y Raddeb wedi bod yn llng ddiogel i ni ar gefnfor amgylchiadau am dros ugain mlyuedd, er fod ystormydd ar adegau wedi bod yn curo arni, a ninau wedi gorfod ar rai amgylchiadau i daflu peth o lwyth y llong i'r mor. Ond hyd yn hyn ni fu perygl am einioes neb. Ac a ydym yn awr yn myned i wrando ar fympwyon rhyw bersonau eithafol trwy dyllu gwaelod y llong i ollwng i dyfroedd i fewn, a dim un llestr arall yn barod genym i neidio ar ei bwrdd? Os byddwn mor ffol a hyny, cofiwn nad oes dim ond suddo yn ein haros. Gobeithio y bydd y glowyr yn ddigon call i ystyried y mater yn ddifrifol, ac y bydd i bob peth gael ei wneyd yn eglur cyn y bydd y pleidleisio yn cymeryd lle. Rhwydd hynt i Dafydd Morgan, a diolch iddo am ei attebion doeth a phwrpasol yn nghyfarfod Aberdar.

 

Dros y Conffrens

 

WIL SLEDGWR.

 

 

Text, letter

Description automatically generated
(delwedd B0875a) (
20 Awst 1896)


The Merthyr Times. The Dowlais Times, and Aberdare, Pontypridd, Rhondda Valley, Rhymney, Tredegar, Brynmawr and Western Valleys Echo.

 

20 Awst 1896.

 

Y CONFFRENS.

 

Phil. - (yn canu).

 

Hawddamor i ti Howell

'Rwyt heddyw yn A.C.,

Mae'th ffryndiau oll yn llawen

Wrth weld dy lwyddiaut di;

O’th febyd wyt yn gerddor,

Dadganwr swynol iawn,

Torfeydd mewn cystadleuaetli

Wefreiddiwyd gan dy ddawn.

 

Yn ngwyneb anfanteision,

A blinwn rwystrau'r byd,

Ymdrechaist a gorchfygaist

Yn anhawsderau'i gyd;

Pob llwyddiant i ti etto

I fyned yn y bla'n.

A'th dalent fo'n was'naethgar

I Walia “Gwlad y gân."

 

Dan. — Pwy sy gyda ti heno, Phil?

 

Phil. — Ond Howell Jenkin, bachan bach wedi cal i fagu yn Well-atreet, sy wedi enill y teitl o A.C. Crotyn bach sy'n gweitlio oddiar cyn i fod e cuwch ar ford yma, ac wetli gweitho yn galed oddiar hyny dan y ddaear, ond yn ei oriau hamddenol wedi llafurio yn galed. Mae'n wir fod talent canu i weld yn naturiol yndo fe pan oedd e'n grotyn bach; lleisiwr bach beautiful, wcdi enill llawer gwobr. yn erbyn hen stagers mewn eisteddfodan cyn hyn, ag yn enwedig mewn rhedeg miwsig off at first sight, ag wedi bod yn llwyddianus ac wedi gneyd marks da iawn fel leader corau plant a pharties, lawer gwaith. W'yn falch ofnadw i glwed am dano fe ta beth, ag yn barod i roi three cheers iddo fe.

 

Oll.- Hip Hip Hip Hwre i'r collier bach.

 

Joe. — Ma ni proud hefyd o success David T. Evans fel composer. Ma fe yn dechre gneyd marks crand mewn competition, ag os cadweth e mlan i sticko fel ma fe nawr daw e i'r front hefyd. “Excelsior” oedd i nom de plume e y tro dywetha enillws e, a wen ni gweld e taro net hefyd, a fel hyn ma ni weti canu:

 

D. T. Evans, dal di atti,

Excelsior!

Trwy bob rhwystrau dring i fynu

Excelsior!

Dal yn mlan er gwaetha rhwystrau,

Tor dros ben bob anhawsderau,

A gwrteithia dy dalentau,

Excelsior!

Er cael eto fwy o wobrau

Excelsior!

 

Dy arwyddair fo yn wastad

Excelsior!

Yn ffyrdd rhiuwedd boed dy rodiad

Excelsior!

Dos yn mlaen yn ddewr dy galon,

A'th holl ymdrech fo yn gyson,

I ddyrchafu “Gwlad y Brython."

Excelsior!

Boed it fri yn mhlith enwogion

Excelsior!

 

Ted. — Wel boys, odych chi wedi clwed am y male voice parti newvdd yma sy yn Dowlais nawr dan arweiniad Mr. John Davies, painter? Ma nhw yn gweyd fod parti ardderchog gydag e, a bo nhw yn barod i fynd i gystadleuaeth, er mae parti newydd yw e.

 

 

 

 


Text, letter

Description automatically generated
(delwedd B0875b) (
20 Awst 1896)



Twm. — Parti newydd wir! Nage hen barti yw hwna, ag mae nhw wedi enill lawer gwaith o’r blan.

 

Ned. — Dyna gyd wyt ti yn wybod, ie fe? Fe fu'r painter yn leader parti o'r blan, ond nid y parti hyny sy gydag e nawr, ond parti newydd altogether.

 

Twin. — Beth yw'r rheswm na fyse fe yn stico at yr hen barti?

 

Ned. — Cwestiwn arall yw hwna, ag mae e yn gwestiwn rhy delicate y ni i drafod yn y fan hon.

 

Jack. — Odi ddi gwir fod e wedi cal i dowli mas, achos fod e wedi cammol Cor Merthyr rhyw dro?

 

Ianto. - Dyw hyna ddim bysnes i ni i drafod heno, a chwedyn gadewch e'n llonydd

 

Cad. — Dim rhagor ar y pen yna. Newid y pwnc ar unwaith, a dymunwn bob llwyddiant i'r Parti newydd.

 

Jim. — Wel, wn i ddim beth i sharad arno, wath mae mor anhodd i bleso pawb. Dyna fel mae yn bod bob amser. Os gwed dyn y gwir yn ddi dderbyn wyneb, fe fydde cystal iddo dynu nyth cacwn neu nyth gwenyn meirch ar i ben. Fe wedodd Ioan y gwir slawer dydd yn ngwyneb y Brenin, a fe gas i dowli i'r jail, a fuon nhw ddim yn esmwyth wedyn nes cal i ben e off. A'r run hen ysbryd sy o hyd hyd y dydd heddy. Os gwed dyn i feddwi miwn ‘Conffrens’ neu "gor" neu rhywle arall lle bo lot o ddynion mae'n rhaid i esgymuno fe ar unwaith. Ond dyna sy'n gysur, er y towli mas mar gwir yn dala'n fyw o hyd, ac fe fydd byw hefyd er gwaetha'i gelynion.

 

Will Sledgwr. — Gan bwyll boys, ma llythyr gyda fi i ddarllen i chi, wedi cal i hala o wrth ferch ifanc.

 

Phil. — Gosteg nawr te, boys.

 

Wil Sledgwr. — Dyma fe.

 

Bicicle Vila,

Bloomers Hill.

 

Aug. 15th. 1896.

 

To Wil Sledgwr.

 

You mean scamp at- you are, you ought to be ashamed of yourself. What business have you to write to the Merthyr Times about the young ladies who indulge in the harmless habit of smoking cigarettes? What is it to you, I should like to know? Can't we enjoy ourselves in any way we like without asking you and your mean, impudent companions in the Conffrens? Sometimes you pose as the defenders of the fair sex, but your last attack on our liberties has proved you and your clique to be nothing but most fiendish and inhuman brutes. I ask you, in the name of Lucifer, to leave us alone in the future, and not say a word about our smoking cigarettes, or you will find to your horror some night that the “Conffrens” will be smashed to smithereens by a couple of hundreds of young ladies well-armed with heavy walking sticks. — I remain in anger,

 

Yours &e.,

 

WAX VESTA.

 

Mocyn. — Wel, Wel, dyna fel ma'r new woman yn ysgrifenu, ie fe; os fel yna mae'n bod dyma fel bydda i yn canu o hyn i mas:

 

 

A picture containing text

Description automatically generated
(delwedd B0875c) (
20 Awst 1896)


’Rwyf wedi penderfynu

Byw'n hen fab gweddw mwy;

Ni chaiff y merched ieuainc

Byth roi fy mron tan glwy;

Mi fyddaf byw yn unig

Trwy'f oes heb gwmni mun,

Pob peth fydd eisiau arnaf.

Mi fedra'i wneyd fy hun.

 

Mi olcha’m crys fy hunan,

A phob rhyw bethau man,

A smwddiaf ffront a choler,

Mi fentra'n ddigon glan;

’Rhof ddernyn ar fy siaced,

Mi gwniaf fel y graig,

A dysgaf wella'm sanau

Yn well llawer gwraig.

 

Uwch ben y tan y crogaf

Y tegell llawn o ddwr,

A'r tepot ar y pentan

Gael pryd o du yn shwr;

Caf fwyta faint a fynwyf

Heb wraig yn achwyn dim,

Na danod i mi siwgr

Ai chwerw dafod llym.

 

Mor hyfryd fydd hi arnaf

Gael mynd i'r gwely'r nos,

Heb fenyw yn tafodi

Na dweyd un gair yn gro's;

Boreuau haf a gauaf

Ni chlvwaf swn y wraig,

Yn galw arnaf godi

A’i serch hi’n hollti’r graig,

 

Nid rhaid mynd mas i rodio

I foddio mympwy hon,

A chario'r babi screchlyd

A hithau'n cario'r ffon;

Na chael fy haner mygu

Gan fwg y cigarets,

Na drysu fy synwyrau

Gan storm ei thund'ring threats.

 

Ni wnaf fi byth gyssylltu

A merch yr ysbryd drwg,

A fyn ddifyru'i hunan

Trwy chwilio cwmwl mwg;

Mil gwell a fyddai rhoddi

Ffon onen ar ei chefn,

Dair gwaith y dydd (os coeliwch)

Er treio i dwyn i drefn.

 

Dros y Conffrens

 

WIL SLEDGWR

 

 

Text, letter

Description automatically generated
(delwedd B0874a) (
27 Awst 1896)


The Merthyr Times. The Dowlais Times, and Aberdare, Pontypridd, Rhondda Valley, Rhymney, Tredegar, Brynmawr and Western Valleys Echo.

 

27 Awst 1896.

Y CONFFRENS.

Dan. - Wel boys, mae’r pleser gyda mi heno etto i longyfarch un o fechgyn ifenc Dowlais ar ci lwyddiant yn pasu mor grand i fynd miwn i Goleg Aberystwyth, sef Tommy Jenkins, Market-street. Dyma fachan ag w yn gofio er pan odd e'n grotyn yn yr ysgol rodd rhywbeth yn ryfedd i weld yndo fc pryd hyny. Pan odd y crots erill yn whare o bothty rodd Tommy bach ar i ben i hunan, yn nghanol i study, a pan byse fe yn cal i alw, rodd e wastad a'i lesson yn barod. Wedyn wedi iddo ddechreu gweitho yn Long Work, Cwmbargod, rodd son am dano fe fel bachgen tawel a gweithrar; yr un peth wedyn yn Rhoslas Fochriw; rodd pawb ag oedd yn nabod Tommy yn sharad yn barchus am dano, ag yn gweyd byse fe yn dod yn rhywbeth heb law tori glo. A dyma fe nawr wedi paso i fynd i'r Coleg, a fues i ddim yn falchach am fachan bach erioed. Wedd y dwr yn llanw'n llygaid io falchder, pan clywes i am dano.

Dafydd Benwyn. - Gallaf finau ddweyd yr un fath i Dan yn hollol, ac yr oeddwn yn teimlo mor falch am ei lwyddiant nes i mi ddod yn fardd ar unwaith yn fy hen ddyddiau:

 

Ah Tommy, mae'th lwyddiant rhyfeddol yn lloni

Fy yspryd, nes llanw fy mynwes a chan

O'th febyd y gwyliais dy holl symudiadau,

A theimlwn yn llawen dy wel'd yn dod mla'n;

'Rwy'n cofio'r nos gyntaf dychwelaist ti gartref

'Rol bod yn ngwmpeini dy dad mewn pwll glo,

Dy fam a'th chwiorydd yn foddfa o ddagrau,

Nid â y nos hono byth allan o'n co'.

 

Ond daeth cyfnewidiad: daeth dydd o lawenydd,

Dydd derbyn y newydd o'th lwyddiant mawr di;

Y teulu yn foddfa gan ddagrau llawenydd,

Wrth wel'd un mor anwyl yn esgyn i fri;

Hir oes i ti, Toomy, yn llawn o gysuron,

A llwyddiaut yn ngwinllan dy Arglwrdd o hyd;

Bydd ffyddlon hyd angau, cei goron y bywyd,

A'r nefoedd yn gartref 'rol gadael y byd.

Sami. - Wrth i'ch clwed chi yn son am collegis, wdw i yn bexo na ches i ddim ysgol ariod, a fe leiciwn i ddysgu spellan Sisneg, os ca i rhewyn i’n nysgu i.

Phil. - Dyna jobyn i ti, Joe.

Joe. - Gnewn ni dyscu ti i spello, nawr spella milk.

Sami. - Alla i ddim.

Joe. - Spella fe ar ol ni te: m - i~l - k.

8ami. - M - i - lk.

Joe. - Beth yw hwna nawr?

Sami. - Sana i'n gwbod.

 

Joe - Beth ma ti gweld menwod yn rhoi yn te

Sami. - Rum.

 

Oll. - Ha, Ha, Ha.

 

Joe - Don't laugh in school boys, try again. Spella glass.

Sami. - Alla i ddim.

 

Joe. - Spella fe ar ol ni te: g-l-a-double s.

Sami. - G-l-a-double s.

 

 

Text, letter

Description automatically generated
(delwedd B0874b) (
27 Awst 1896)


Joe. - Beth yw hwna nawr

Sami. - Sana i'n gwbod.

Joe - Beth ma menwod yn rhoi yn ffenestri?

Sami. - Rhacs.

(Oll yn chwerthin etto.)

Phil. - Dyna hi wir, wrth roi rum yn y te, mae rags yn mynd i'r ffenestri.

Nell. - Dyma hi heno to, simplo'r menwod ie fe. Dropwch chi'r fysnes yna ar unwaith. Dyna ore i chi. Beth ma shwt dacle a hyn yn feddwl? Nos Sadwrn dywetha wech chi'n simplo'r merched am smoco sigarets, yr hen scamps di-dda-i ddim shwt ag i chi.

Ianto. - O, gwyddoch chi both weles i heno? We'n i yn dod i'r Conffrens; trw M - - - street, a dyna lle we chwech o ferched ifenc, a un bachan ifanc yn dod yn mlan ag yn tynu packet o cigaretts mas ag yn rhoi bob o un iddyn nhw; a dyma nhw yn dechre arni nes bor hewl yn fwg i gyd. Ag wrth bo li yn paao, wedd un o henyn nhw (a hono yn ferch 1 f - r befyd) yn trweyd bo rhaid lddyn nhw fud yn ofalus na ddethe'r Conffrens' i wbod am denyn nhw. Ond chydig we'a nhw yn feddwl bo ti n paao trw'r mwg a'r y pryd, a nhwynte ddim yn yng ngweld gan mor dew

Twm. – We’n i dod o Bontsarn pwy nosweth hefyd, ag wen i'n gweld dau fachgen a thair merch yn dod gyda'u gilydd, dan smoco shigarets, ag fe smocodd un o henyn nhw dair shigaret mas yn llwyr cyn cyrhaedd Dowlais. Ag os –

Shan. - Nawr, dim rhagor o'ch shimpleth chi. Alla i ddim a godde shwd beth. Rhyw grug o greaduriaid fel chi yn mynd i fychanu menwod ifenc Ble bysech oni bai menwod, wn i?

Mocyn. - Yn Mharadwys.

Peggy. - (Landlady Mocyn yn dod fewn a'r rolling pin yn ei llaw). Y menwod syn i chal i heno etto, ie fe? A tithe Mocyn, o bawb yn y shimplo nhw! Ti ddyle fod y dwetha i weyd dim am denyn nhw, ta beth. Nos Sadwrn dywetha wet ti'n canu gallet ti fyw heb y menwod. Dyma beth yw bachan pert i neyd pobpeth i hunan. (Yn troi at y lleill.) O bob lodger sy wedi bod gyda ti ariod, dyma'r lletwhitha welas i ariod yw'r hen leban salw hyn. Grondwch beth mae e wedi wneyd yr wythnos hyn. Nos Fawrth dywetha fe a'th dreio cwyro'i drowsis gwaith, a fe dorodd bob nodwydd odd gyda fe yn y ty cyn gneyd dim. Nos Iau fe a'th i'r back, a fe ddath miwn ar iâr ore odd gyda fi, a fe rhows hi miwn crochaned o ddwr berw ar y tan, ar cownt iddi gal dydwy wyau wedi berwi yn barod, medde fe. Fe a’th i dreio cookan i swper i hunan heno; fe rows lawn ffrympan o chops ar tan, ag yn lle halen fe dowlodd ddwrned o dry soap arno, a pan gwelodd e hwnw yn cwni i’r lan fe gilodd mas a’i adel yn y man hyny, ag off ag e yma i drin y menwod. Dere ma, Mocyn, os neised poced gen ti, gad weld. Dyma hi to. Cap nos Shon yn i boced e yn lle neised, ag oedd hwnw yn partoi i fynd i'r gwely pan des i mas, a fe fydd wedi tynu’r cwbwl yn garlibwns cyn af fi nol wrth whilo am i gap nos. A rhyw hen set fel hyn sy'n mynd i son am neyd pobpeth i hunen, a shimplo'r menwod, iefe? Dewch mlan ferched, pitchwch miwn iddin ar unwaith, a fe dysgwn ni nhw i sharad.

Ysgrechfeydd o Oh! Oh! Oh! Wb! Wb! Murder.

Trwy lwc daethum i allan heb niwed. Wn i ddim etto sut ma'r lleill wedi ymdaro.

Dros y Conffrens

WIL SLEDGWR.



Y Gyfeirddalen: Y Conffrens, Merthyr Times, 1895, 1896:
 www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_159_y-conffrens_1895-1896_y-gyfeirddalen_3466k.htm

 
Sumbolau:

a A / æ Æ / e E / ɛ Ɛ / i I / o O / u U / w W / y Y /
ā
Ā / ǣ Ǣ / ē Ē / ɛ̄ Ɛ̄ / ī Ī / ō Ō / ū Ū / w̄ W̄ / ȳ Ȳ /
ă Ă / ĕ Ĕ / ĭ Ĭ / ŏ Ŏ / ŭ Ŭ /
ˡ ɑ ɑˑ aˑ a: / æ æ: / e eˑe: / ɛ ɛ: / ɪ iˑ i: / ɔ oˑ o: / ʊ uˑ u: / ə / ʌ /
ẅ Ẅ / ẃ Ẃ / ẁ Ẁ / ŵ Ŵ /
ŷ Ŷ / ỳ Ỳ / ý Ý / ɥ
ˡ ð ɬ ŋ ʃ ʧ θ ʒ ʤ / aɪ ɔɪ əɪ uɪ ɪʊ aʊ ɛʊ əʊ /
ә ʌ ẃ ă ĕ ĭ ŏ ŭ ẅ ẁ Ẁ ŵ ŷ ỳ Ỳ
wikipedia, scriptsource. org
Y TUDALEN HWN /THIS PAGE / AQUESTA PÀGINA:
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_159_y-conffrens_1896_y-cyfeirddalen_3465k.htm
Ffynhonnell / Font / Source: Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Papurau Newydd Arlein.
Creuwyd / Creada/ Created: 12-10-2020
Adolygiadau diweddaraf /
Darreres actualitzacions / Latest updates: 12-10-2020
Delweddau / Imatges / Images:


Freefind:

Archwiliwch y wefan hon
SEARCH THIS WEBSITE
...
Adeiladwaith y wefan
SITE STRUCTURE
...
Beth sydd yn newydd?
WHAT’S NEW?


Ble'r wyf i? Yr ych chi'n ymwéld ag un o dudalennau'r Wefan CYMRU-CATALONIA
On sóc?
Esteu visitant una pàgina de la Web CYMRU-CATALONIA (= Gal·les-Catalunya)
Where am I?
You are visiting a page from the CYMRU-CATALONIA (= Wales-Catalonia) Website
Weə-r äm ai? Yüu äa-r víziting ə peij fröm dhə CYMRU-CATALONIA (= Weilz-Katəlóuniə) Wébsait



Free counter and web stats Statistics for Welsh Texts Section / Ystadegau’r Adran Destunau Cymraeg