kimkat0341k Y Conffrens. Wil Sledgwr. 1896. The Merthyr Times. The Dowlais Times, and Aberdare, Pontypridd, Rhondda Valley, Rhymney, Tredegar, Brynmawr and Western Valleys Echo. Hurrah! O'r Dowlais ag e! Beth wedwch chwi, gwyr Merthyr nawr wn i? Dyma dwtch i chi yn Brynmawr!

01-11-2020

● kimkat0001 Yr Hafan
www.kimkat.org
● ● kimkat2001k Y Fynedfa Gymraeg www.kimkat.org/amryw/1_gwefan/gwefan_arweinlen_2001k.htm
● ● ● kimkat0960k Mynegai i’r testunau Cymraeg yn y wefan hon
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_mynegai_0960k.htm
● ● ● ● kimkat3465k Y Conffrens: Y Cyfeirddalen 
http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_159_y-conffrens_1895-1896_y-gyfeirddalen_3466k.htm
● ● ● ● ● kimkat0341k Y tudalen hwn
....

 

0003g_delw_baneri_cymru_catalonia_050111
(delwedd 0003j)

 

 

 

 

 

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Gal
·les i Catalunya
The Wales-Catalonia Website


TAFODIAITH MERTHYRTUDFUL
(Y Wenhwyseg)
Y Conffrens
Wil Sledgwr
(Merthyr Times. 1895, 1896)
(Colofnau 1895)

Y Llyfr Ymwelwyr / El Llibre de Visitants / The Guesthook:
http://pub5.bravenet.com/guesthook/391211408/

a-7000_kimkat1356k
Beth sy’n newydd yn y wefan hon?


---

6665_map_cymru_catalonia_llanffynhonwen_chirbury_070404

(delwedd 6665)

.....           

d nMap

Description automatically generated

(delwedd 9338c)

http://www.kimkat.org/amryw/1_gwenhwyseg/gwenhwyseg_cyfeirddalen_0934k.htm Y Wenhwyseg - y prif dudalen

http://www.kimkat.org/amryw/1_gwenhwyseg/gwenhwyseg_cyfeirddalen_2184c.htm El dialecte güentià del gal·lès - la pàgina prinicipal

http://www.kimkat.org/amryw/1_gwenhwyseg/gwenhwyseg_cyfeirddalen_1004e.htm Gwentian dialect of Welsh – the main page

(O “Newyddiaduron Cymru Arlein (Llyfrgell Genedlaethol Cymru)”. Mae’n debyg bod 13 o benawdau o’r “Conffrens” yn y Merthyr Times yn 1894, ond nid yw’r rhifynnau o’r flwyddyn honno wedi goroesi, gwaetha’r modd)

 

03 Ionawr 1895: G3988a, G3988b
10 Ionawr 1895: G3989a, G3989b, G3989c
17 Ionawr 1895: G3990a, G3990b, G3990c
24 Ionawr 1895: G3991a, G3991b, G3991c
31 Ionawr 1895: G3992a, G3992b

21 Chwefror 1895: G3993

14 Mawrth 1895: B2040a, B2040b, B2040c

28 Mawrth 1895: B1036a, B1036b, B1036c

04 Ebrill 1895: B1034a, B1034b

 

09 Mai 1895: B2020a, B2020b, B2020c

16 Mai 1895: B2019a, B2019b, B2019c (Pennawd 24)

23 Mai 1895: B2016a, B2016b, B2016c (Pennawd 25)

30 Mai 1895: B2014 (Pennawd 26)


13 Mehefin 1895: G3984a, G3984b, G3984c

20 Mehefin 1895: G3958a, G3958b, G3958c
27 Mehefin 1895: G3957a, G3957b, G3957c

....

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd G3988a) (03 Ionawr 1895)

The Merthyr Times. The Dowlais Times, and Aberdare, Pontypridd, Rhondda Valley, Rhymney, Tredegar, Brynmawr and Western Valleys Echo.

 

3 Ionawr1895.

CONFFRENS Y TAPROOM.

 

WIL.- Dyma fe yn dod heno, ag ma rhaid i ni gal gwbod ble buodd e nos Sadwrn dywetha na fyse fe wedi dod i'r Conffrens fel arfer. Nawr beth sy gyda thi i ddweyd drostot ti dy hunan?

 

DYN Y DEATH CLWB. - Fel i chi yn gwbod, mae dynion mewn bysnes a'u hamser nhw yn ansertenol iawn; allwn di ddim a chael pob peth fel mynon ni; ma rhaid i ni ei chymeryd hi fel y daw hi; ag fel i chi yn gwbod mod i yn arfer mynd off am wythnos tua amser y Nadolig, a chan nad oes dim vote gyda ti fe aethum off ar fy holidays y dydd Sadwrn cyn y lecsiwn, a bore heddyw y daethum yn ol.

 

DAN. - Gad i ni gal clywed sut wyt ti wedi cnjoyo dy holidays?

 

DYN Y DEATH CLWB. – Y lecsiwns yw'r berw sydd yn mhob man nawr ag yn wir ma rhai o honynt wedi pasio yn rhyfedd. Roen ni yn meddwl ar ol yr holl areithio a sgrifenu sydd o hyd fod merch Shynkin Bragwr yn colli ei dylanwad, ond yn wir mae dylanwad hi yn gryf iawn. Roen i yn meddwl am stori own i wedi glywed am Christnias Evans. Roedd e yn myned ar daith ar gefn y gaseg wen, ag ar ei o1 e yn mynd yr un ffordd roedd doctor a chyfreithiwr ar gefn bob i geffyl braf; a phan gwelson nhw yr hen bregethwr, meddai'r doctor wrth y cyfreithiwr. “Dere yn mlan i gal gwneyd typyn o sport ohono.” “Mae'n well i ti beidio,” meddai’r cyfreithiwr. “We1, mi treiaf ef beth bynag,” meddai’r doctor ag yn mlaen a nhw un bob ochr iddo a thyma’r doctor yn gofyn iddo, “Beth wyt ti mwrddwr neu garnleidr?” Trodd yr hen Gristmas ei ben, edrychodd ar y doctor; trodd ei ben i'r ochor arall, ac edrychodd ar y cyfreithiwr, ac attebodd, “Dwy ddim yn fwrddwr nac yn garn leidr, ond rwy credu mod i yn y canol rhwng y ddau.” Lled debyg yw hi gyda'r lecsiwns hyn, ac aml i bregethwr wedi ei osod rhwng tafarnwyr a brewers.

 

HUGH. - Rhyw ddodrefn chwithig iawn mewn ystafell newydd, onite, yw Baril, Beibl, a cherwyn darllawydd?

 

JOE. - Mae rhywbeth yn od iawn mewn rooms erith hefyd. Ma ni wedi gweld room yn cal ei decorato yn Merthyr hefyd. Casgen cwrw cas mynd mewn cynta, a wedi cal i ffito yn pen petha'r room a XXX ar talcen e, a ma ni yn guesso bod y XXX yn signifio rhywbeth heb ddangos beth yw y contents, ond ma fel byse fe gweyd, “The XXX signifies that I am to remain here for three years without being removed.” Nesa ath fe ma Hamer mawr i cnoco pob peth lawr i gyd. Ond ma'r scale sy i pwyso bwyd a necessities of life wedi cal i placo ar pwys y drws, a cynta i gal i shifto mas. A ma mandrel a instruments useful erith wedi cael ei gadel out in the cold altogether. Mai pity mawr na byse dynon yn dod i considro beth ma nhw gneyd ta beth.

 

WIL. - Ma Dowlais wedi polo yn dda iawn ta beth, er bod rhai yn gweyd bod Mr. D. W. Jones yn rhy ifanc; ond rwy i yn falch taw dyn ifanc yw e, wath





 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd G3988b) (03 Ionawr 1895)

mae eishe dyn ifanc hoew i aller cario votes dros dri-chant-ar-ddeg-a-haner ar ei gefen, a phob lwc iddo fe weda i hefyd.

 

TWM. - Dyna Mr. Martin wedyn, mae ynte yn ddyn cryf, gwrol i gario votes dros bedwar-cant-ar-ddeg ar y Guardians. Ac yn wir mae e yn wr boneddig o galon dyner iawn i ddynion mewn caledi. Does dim doubt nad oes canoedd o fasgedeidiau o fwyd wedi cael eu cario maes oddiwrthyn nhw mewn cydymdeimlad a dynion mewn caledi, ag ma ugeiniau o ddynion ag sydd wedi cael drwg yn y gwaith o bryd i gilydd allan weyd yr un peth.

 

WAT. - Wel, wir, mae'r hen aelodau wedi cael eu dychwelyd yn anrhydeddus hefyd. Ma hyn yn profi eu bod nhw wedi gwneyd gwasanaeth da yn y gorphenol, ag mae'r gweithwyr wedi dangos parch mawr iddynt wrth fynd mewn o'i plaid mor anrhydeddus ag yn dangos y teimlad da sydd yn bodoli rhwng y meistri a gweithwyr Dowlais.

 

SHONI. - Wel, ma nhw wedi gneyd hi yn galch yn Penydarren ta beth, wrth droi dyn da fel Mr. Williams, Gwaelodygarth, mas ta beth. Beth mae poboI Penydarrenwedi bod yn wneyd? Dyna un o'r pethau mwyaf cywylyddus y clywes i son am dano erioed. Un sydd wedi bod yn gadeirydd y Local Board am flynyddau, a does neb yn gwybod am waith y Board yn well nag ef; dyna ddyn sydd wedi bod yn flaenllaw gyda phob symudiad da yn y lle, a'i enw yn adnabyddus fel dyn da trwy'r wlad, a phobl Peny-darren wedi adel e mas oddiar y District Council yn gyfan gwbl. Gwarthus! Gwarthus, yn wir. Fe ddylai fod cywilydd arno nhw ddangos eu gwynebau byth mwy.

 

SHAMS. - Mae yn dda iawn gyda fi am un peth, bod hawl gyda'r Council newydd i ddewis cadeirydd o'r tu fas iddyn nhw eu hunain. ag fe leicswn i weld Mr. Williams yn cal ei ddewis yn gadeirydd y District Council.

 

DAN. - Fe leicsiwn inne hefyd, ond dyw hi ddym yn right i ddewis dyn sy wedi ei wrthod gan y bobl i fod yn ben ar y fusnes wedyn.

 

NED. - Pe bai Mr. Williams yn cal ei ddewis fe fysen ninau yn colli point arall hefyd. Ma Mr. Williams yn magistrate yn barod, a chwedyn fyse ddim llais gyda'r bobl o gwbl i ddewis magistrate. Mae cymynt a hyna o hawl wedi dod i ni nawr, a dyw hi ddim yn reit i dowli yr hawl o'n llaw nawr, er fod teimlad yn mynd yn gyfiawn o blaid Mr. Williams pan i ni yn meddwl fod e wedi cal cam mawr oddiar law y bobl.

 

DYN Y DEATH CLWB. - Mae eisiau arnaf fynd yn gynar heno; maen ngwaith i ar ol; ond roedd un o honoch yn son bythefnos i heno am ddod mas a fi fel candidate; wy wedi bod yn meddwl gallwn i ddod mas ar y lecsiwn nesa i'r County Council; ydych chi ddim yn meddwl gwnelwn i fember da i chi?

 

DAI. - Waiter, fill this gallon jug, please.

 

WAITER (yn dychwelyd). - It's been paid for, thank you.

 

SAMI. Who is pay for it?

 

MOCYN. - Paid holi rhyw gwestynau fel yna. bachgen. Beth o'r ots sy pwy sy wedi talu am dano? I gal e yw'r pwnc. Wyt ti ddim yn ffalst o gwbl, stim o honot ti yn ystyried taw amser lecsiwn yw hi.

 

SAMI. - Wen i ddim yn ystyried wir. Paswch heibo i fi y tro hyn, fe dreia i fod yn gallach y tro nesa.

 

DYN Y DEATH CLWB. - Wel, nos da i gyd, a meddyliwch am y mater yna erbyn nos Sadwrn nesaf.

 

DYN Y DEATH CLWB.

 

 

 

None

(delwedd G3989a) (10 Ionawr 1895)

The Merthyr Times. The Dowlais Times, and Aberdare, Pontypridd, Rhondda Valley, Rhymney, Tredegar, Brynmawr and Western Valleys Echo.

 

10 Ionawr 1895.

 

Y CONFFRENS.

 

FRANK. - Blwyddyn newydd dda i gyd.

 

DAN. - Yr un peth i tithau a llawer o kenyn nhw.

 

SAMI. - Wdw i yn clwed rhai yn treio sharad yn grand iawn, a ma nhw yn gweyd wrth gwrdd a'i gili, “The compliments of the sison to you.” Beth yw hwnw yn Gwmrag?

 

DAI. - Llongyfarchiadau yr amser o’r flwyddyn i chi.

 

JOE. - Ma ti cweit wrong, Dai. Beth ma ti, Hugh, gweyd?

 

HUGH. - Ydy, mae o yn hollol o le, hogia. Meddwl yr ymadrodd yw, moes-gyfarchiadau y tymhor i chwi.

 

PHIL. – Hear, hear, well done Hugh. Rwy wedi clwed pledo lawer gwaith a dyma'r esboniad gore wy i wedi gal eto. Rhowch glap iddo, boys.

 

OLL. - “Hear, hear,” a churo dwylaw.

 

WIL. – Wel, fechgyn, nid dim o beth yw cael dechre'r flwyddyn yn llawen fel hyn gyda'n gilydd. Ag yn wir nid dim ond ni sy yn ei dechreu hi yn llawen hefyd fel Gwyr y Taproom, ond mae Gwyr y Boards yn lled fywiog lawr tua Merthyr yna hefyd.

 

IANTO. – Ydy wir, mae nhw wedi dechreu yn lled ddoniol yn cwrdd cynta y Board of Guardians newydd y dydd Sadwrn dywetha o'r hen flwyddyn. Ar ol cal cyfreth newydd i neyd off a'r ex-officio yma, dynion wedyn yn dwad rnewn a dynion ag oedd y bobl wedi wrthod. A beth gwell i ni o gal cyfreithe newydd pan ma'r dynion sy'n ein represento ni yn mynd yn erbyn ein teimladau a'n votes ni y cyfle cynta geso nhw wedyn? Gobeithio cofiwn ni am denyn nhw tro nesa hefyd.

 

JOE. - A ma ni ffaelu peidio meddwl am inconsistency rhai o members hefyd, yn objecto i cal son am treio cal hen Chairman y Local Board miwn fel ex-oficio ar y District Council, a wedyn yn secondo propusition i cal dyn heb un popularity yn belongo iddo fe mewn ar y Guardians; a mi ffaelu gwbod pam na byse shame ar y dynon na i dangos i hunen o blan y public; but come you, y nhw sy yn y front wedyn. A ma ni ffaelu dyath hefyd beth yw yr hen bad feeling sy gyda members at i gily, dim ond beito a spito gilydd o hyd; we ni gobeitho byse hen jealousy a hen spite yn cael i claddu gyda hen blwyddyn, a bysen nhw yn dechre Councils newydd a blwyddyn gyda good will towards men a good feeling towards each other, ond bad start ma nhw wedi gneyd indeed.

 

EIK. - Wil, ca'r drws yna; ma --- yn y bar, ag os gwel e ni fydd digon o son ar ol hyn eto.

 

TWM. - Gwelsoch chi'r llythyron yna yn y Times am Mr. Pritchard Morgan a Dan Thomas. Son am gyssondeb! Dyna gyssondeb! Dyna lle ma anghyssondeb Aelod Rhyddfrydol yn y Parlament yn mynd i gongratulato llwyddiant Tori ar y District Council; ei servo fe yn reit yw ysgrifenu am dano fe, ag fe ddyle roi apology i'r Borough am beth mae e wedi neyd hefyd.

 

 

Text

Description automatically generated

(delwedd G3989b) (10 Ionawr 1895)

 

MOCYN. - A gwelsoch bwna yn ysgrifenu bod e yn mynd i'r Plymouth Arms am fod Mr. Thomas yn cadw licer da. Dyna grcdit i ddyn yw gweyd fod e yn leico licer, onte fe?

 

JACK. - Boys, gadewch y subject yna yn llonydd nawr, a dewch i ni gal mynd ar rwbeth arall. Beth I chi'n feddwl am y bills na sy ar hyd y lle am y sacred concerts yna gyda côr Harry Evans? Beth i chi yn feddwl am rheina nawr?

 

SHAMS. - Meddwl yn isel iawn yn wir. Mae'r tafarnau a'r siopiau yn cal eu cau ar ddydd Sul, fel na chaiff y tradesmen ddim gyneyd bysnes; ond os yw'r peth wy wedi glwed yn wir, gneyd arian yw bysnes y côr nawr. Ond beth bena ma nhw yn cwni tal am fynd mewn, a dyna beth gwarthus yw cwni tal am fynd i sacred concert a'r nos Sul! Dyna beth gwarthus gwneyd dydd Sabbath yn ddydd masnach, a gwneyd defnydd neu cam-ddefnydd ddylwn i ddweyd o bethau cyssegredig er mwyn elw arianol.

 

DAI. - Ond ma'r côr wedi mynd i expenses mawr, ag ma eisie arian arnyn nhw i glirior expenses ma nhw wedi mynd iddo; ag ma Harry Evans yn un o'r bechgyn gore yn y lle.

 

PHIL. - Does neb yn ameu gallu Harry Evans; y gwir am dani yw hyn; mae yn anrhydedd i Dowlais bod y lle wedi codi sut fachgen talentog; mae e'n siwr o ddod, os caiff e fyw, yn un musicians gore Cymru. Ond nid dyna'r ffordd i ddod i’r lan yw treio rhedeg dynion da ereill lawr, a meddwl na all neb neyd gwaith da ond nhw eu hunen. Mae’n ffordd sicr i ladd cydymdeimlad y lle; os yw dyn am ddod yn mlan mae rhaid iddo gydnabod fod dynion galluog ereill i gal hefyd.

 

JIM. - Pc byswn i yn ae!od o'r côr yna fe fysen i yn cynyg bo nhw yn gofyn i Dan Davies, Merthyr, ddod i'r lan i gadw cwpl o goncerts iddyn nhw, a rhoi cwpwl o lessons iddynt ar y ffordd i enill prizes a chal y côr i dalu ei expenses ei hynan. Hei, boys, ma’r drws na a'r agor eto, a gwelwch chwi --- yn dishcwl shag drwa yma.

 

DYN Y DEATH CLUB. – Fechgyn, fe leicswn i chi adel hwna yn llonydd nawr, a shurad ar y mater sy wedi bod dan sylw o'r blan, sef dod mas a fi fel candidate i'r County Council.



 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd G3989c) (10 Ionawr 1895)

 

 

IANTO. - Dim rhagor o gwrw heno boys. Dewch i ni gal dropyn o whiskey.

 

HARRY. Dros pwy ward wyt ti yn meddwl dod mas?

 

DYN Y DEATH CLWB. - Dros y ward Gochel-dwmlo.


JOK. - Gentlemen, please rcplinish your glasses. Waiter, fill these glasses - whiskey hot, please.

 

NED. – Rwy yn dymuno eynyg ein bod ni yn cefnogi Dyn y Death Clwb fel ymgeisydd am sedd ar y Cynghor dros Adran Gochel-dwmlo, ac yn addaw defnyddio pob cynllun teg ac anheg, cyfreithlawn, ac ac anghyfreithlawn i'n ddychwelyd gyda mwyafrif mawr ar yr amod ein bod ni yn cael digon o gwrw a licer nes bod yr etholiad drosodd.

 

OLL. - Hear, hear.

 

TWM. - I ni gal bod yn deidi fe gyniga i bod cadeirydd yn cali bigo nawr, ac agent hefyd, a dwy ddim yn gweld neb yn fwy ffit na Wil fel cadeirydd a Twm fel agent.

 

WIL. – Wy yn falch iawn o gal yr anrhydedd o fod yn gadeirydd ag fe na i ngore drosto fe. Bob i lased arall, boys.

 

TWM. - Wel, dwy ddim yn gallu dyall gwahaniaeth rhwng A a throed buwch, ond wy wedi cael dipyn o experience nawr, ag fealla i drafod y cash yn splendid i dalu am y drinks fel na bo Dyn y Death Clwb yn cael ei disqualifyo.

 

JACK. – Stim o hono wedi pasio eto.

 

WIL. - Y fi yw'r Cadeirydd. heb ei baso.

 

JOE. - Order, order, chair, chair.

 

SHONI. - Ma pob peth mas o order.

 

WAT. - Bydd ddistaw; wyt ti wedi meddwi.

 

SHONI. - Paid di gweyd na ragor, onte --

 

WIL. - Order, boys.

 

WAT. - Beth yw dy fygwth di, Shout? Dere mas nawr Twm, gad, fi yn rhydd. Pum mynyd wy'n mofyn at y lot o honoch yn un a un.

 

LANDLORD. - Nawr, boys, beth ywch mwstwr chi? Rwy wedi ffeinaio mas eich bysnes chi nawr, a mas a chi oddi yma, chi a'ch Conffrens. A peidwch dod yma ragor i ysgrifenu a thrafod materion nad i chi’n deall dim o honynt.

 

DAN. - Dyna'r diolch i ni'n gal am ddod yma i hala arian.

 

LANDLORD. - Mas a chi ar unwaith, onte fe anfonaf am y police ar unwaith.

 

IANTO. - Dyma ni wedi cal ein troi mas i'r hewl, a ble ma mynd nesa? Mae yn gwylydd mawr na fyse lle gyda dynion i fynd yma, ta beth. Pwy all ein beio ni am fyn'd i'r tafarnau, pan nad oes gyda ni un lle arall i enjoyo ein hunain. Mae'r Tories yn mynd i godi Constitutional Clwb yna nawr, ond ble ma’r Liberals?

 

GEORGE. - Run ni wedi colli yr unig le oedd gyda ni, a does dim use rhoi lawr taw Conffrens y Taproom sy gyda ni mwy. Mae rhaid ei alw e nawr yn Conffrens hyd bod ni wedi cal lle etc.

 

HARRY. - Gewch weld bo rhaid i ni fynd o’r man hyn eto. Mae Peeler yn dod lawr i'r hewl. Packa dy bapurau lan, Dyn y Death Clwb.

 

HEDDGEIDWAD. - Now, lads, you are not allowed to stop here, you must keep moving, or I must take your names and report you for unlawful assembly.

 

TWM. - We are going now, sir. Good night, boys. Dros y Conffrens,

DYN Y DEATH CLWB.

 

 

Text

Description automatically generated

(delwedd G3990a) (17 Ionawr 1895)

The Merthyr Times. The Dowlais Times, and Aberdare, Pontypridd, Rhondda Valley, Rhymney, Tredegar, Brynmawr and Western Valleys Echo.

 

17 Ionawr 1895.

 

Y CONFFRENS.

 

Mr. Golygwr Anwyl, — Dyma hi wedi dod o r diwedd! Ma'r cwbl wedi mynd yn bendramwnwgl strim stram strellach arnom ni. Ond rwy yn rhoi’r penawd “Y Conffrens” heno etto, fel i chi yn gweld, er mai wrthyf fy hun yr wyf mewn un ystyr. Ond beth pe baech chi ddim ond gwbod pwy sy gyda fi heno, fe fysech yn shwr o fod yn falch taw gyda fi ma nhw, ac nid gyda chi. Dyma enwau rhai o honyn nhw Mr. Prudd-der. Mrs. Gofid, Mr. Isel Ysbryd, Mr. Prjyderrus, Helbulus, Mr. Anobaith, &c., &c. Ac fe dreia i roi gwbod i chi ffordd ceso'n nhw gyfle i ddod atta i hefyd. Mae yn deg i chi gal gwbod taw arnos Sul wy yn ysgrifenu y tro hyn. A mi ro i chi wbod pam hefyd. Fe fuais mas neithwr am oriau yn treio cal gweld rhai o'r boys, a fe wyddoch chi mor stormus oedd hi; ac och! gwae fi, fe ffaeles i weld un o honyn nhw. Ac yr oedd hi yn oer anghyffredin i aros ar y corneli, ac wrth aros ac aros fe ges anwyd anghyffredin, y feiddiwn i ddim mynd i un Taproom neithiwr; fel hyny own i bron sythu yn deg pan aethum i nol i'r ty. Ac erbyn bore heddy roedd yr eira wedi llanw’r lle, ac fe fuais mas yn clirio’r eira yn y back ar ffront just trwyr bore; ac ar ol cinio fe aethum yn nghyd a gneyd tipyn o gounts, waeth i ni, dynion y death clwbs, yn dala cyne yn anil i neyd typyn o gounts ar Ddydd Sul. Roedd mam, chwareu teg iddi, wedi gneyd typyn o dân splendid, ag yn ngwres y tân a rhwng yr anwyd, a blino taflu eira, a'r gofid ffaeli cael gafel yn y Boys nos Sadwrn, a fine yn meddwl mor gryf am ddod mas fel candidate, a gweld nawr nad oes dim shawns os na backiff y bechgyn fi i'r lan, fe syrthias i gysgu yn y gadair fawr, ag fe freuddwydias freuddwyd, ag os leiciech chi gael ei wybod e fe rhof e lawr. Ond ust! mae rhywun wrth y drws; ond stim ods, attebai i ddim o honyn nhw nawr. Ma nhw yn cnoco etto. “No, not to-day' thank you.” Ond dyma'r set yn dod mewn. “Helo

 

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd G3990b) (17 Ionawr 1895)

 

Phil a Joe, chi sydd yna. Dewch yn mlan. Roen ni wedi meddwl taw rhai o'r ben ferched na sy'n gwerthu sand odd na, waeth mae just digon o waith mynd i'r drws i atteb rheina. Dewch yn mlan, boys, bach.”

 

PHIL. — Beth sy'r mater arnat ti? Wyt ti yn hurto, bachan? Stim o nhw mas yn gwerthu sand ar Ddydd Sul.

 

DYN Y DEATH CLWB. - Wdw wir, rwy wedi hurto a danto yn lan; rwy bron rhoi fyny yr ysbryd yn llwyr. Rwyn gwela nawr taw nonsense yw i fy ddod ma fel candidate mwy ag yn fy ngofid man hyn fe gysgais, ag fe freuddwydais mod i wedi bod yn sefyll lecsiwn ag wedi mynd mewn ar y Board of Guardians ag wedi i'r Board gwrdd fe gynygodd rhyw un bod enwai'r members i gael eu cymeryd, ffordd o'n nhw yn votio ond fe roais i gwpwl o eiriau sharp iddo fe, ag fe wedais mae wedi dod yno i neyd gwaith oen ni ag nid i wasto amser gyda rhyw drifles fel hyn. Ac fe ddechreuson ar y gwaith ac fe ddaeth lot o faterion pwysig o'n blaen ag roen i yn gweld gallwn i foto fel byswn i yn dewis, waeth beth o'r ots ffordd gna i nawr pan na ddaw ein henwau ni ddim mas i'r bobl gael eu gweld nhw A chewch chithau ddim gwbod hefyd, waeth dim ond trifle a wasto amser yw e. Ond dyna, beth wy'n sharad? Breuddwyd oedd e wed i'r cwbl.

 

PHIL. — Ma nhw yn gweyd taw dyn dwl wel freuddwyd dwl. Ond dyma Dai yn dod.

 

DYN Y DEATH CLWB. — Dere mlan, Dai bach.

 

DAI. — Mae rhywbeth yn gwynfanis iawn yn dy lais di heno; beth yw'r mater?

 

PH!L. — Mae e yn nghanol y melancholy, a mae e wedi danto dod mas fel candidate ar y County Council.

 

DAI. - Bachan, bachan ofnadw! paid bod yn hen goward fel yna. Cofia ffordd wyt ti wedi nglwed i'n canu lawer gwaith:

 

“Milgwell yw marw’n fachgen dewr

Na byw yn fachgen llwfr.”

 

JOE. — Ma chi son am canu; nawr ma ishe i chi clwed y can ma ni wedi composo neithiwr. Roedd hi yn too stormy i mynd mas neithiwr, a fe etho ni i treio gneyd can, a dyma fe, obity ni yn cael turn out o'r Taproom:

 

Conffrens wedi dod i hobble,

Dead and gone, O!

After hala amser noble,

All alive, O!

Many times we did cyfarfod

Yn y Taproom gyda'r gwirod,

And some time yn yfed gormod,

All alive, O!

Ond mar cwbwl wedi darfod,

Dead and gone, O!

Ar ol bod so gay and merry,

All alive, O!

In the Taproom spending mouey,

All alive, O!

The old landlord come in bouncing,

Troi ni mas i'r hewl heb warning,

Stalward peeler yn dod wedyn,

What’s your names, O?

Ac yn ordro ni “keep moving,

Or your names, O.”

 

 

 

 

 

A picture containing text

Description automatically generated

(delwedd G3990c) (17 Ionawr 1895)

 

Y mae rhywrai nawr yn canu

All alive, O!

Gweld y Conffrens wedi tori

Dead and gone, O!
Y mae'r --- nawr yn jumpo

Ond his friends i gyd yn dawnso,

Wrth ein gweld ni wedi'n twmlo,

Dead and gone, O!
Heb un dropyn i revivo

Dead and gone, O!

 

Mae'r position nawr yn smala,

There's no hope, O!
Ac i ble ma ni mynd nesa?

There's no hope, O!
Wedi colli'r cosy corner

Lle roedd cwrw da a licer,

Ble cawn mwy enjoyo'r amser?

All alive, O!
Gyda'n gily ar ol swper

All alive, O!

Where, where are the men of Merthyr?

Rest in Peace, O!

Cadw brains a coin yn segur

Rest in Peace, O!

And enjoyo on their cushions

Yn lle codi institutions

Er ein cadw rhag temtations,

Cant a mil, O!
The Infernal Drinking Stations,

Cant a mil, O!

Dyn y Death Clwb, cymer rybudd,

Now's the time, O!

Os dod allan fel ymgeisydd

Now's the time, O!
Paid a bod fel yolyn meddw

'N prynu votes am guarts o gwrw,

Or you'll come to diwedd garw

Now's the time, O!
Y mae'n bryd i bribery garw

Now's the time, O!

Joino wnawn a'r Temperance Union,

All alive, O!
Yna ni gawn resurrection

All alive, O!
I respect in town and country,

Gan ein gwell ni gawn ein parchu,

Ni cha'r Taproom mwy ein drygu,

All alive, O!

I anrhydedd cawn ein codi

All alive, O!

 

DAI. — Wel, Joe, nid ti sy wedi gneyd y gân yna enoed.

 

JOE — A ni s'y wedi collecto'r ideas i gyd, ond ma ni wedi bod gyda eitha boy ar cyno yn helpu i cal e rhymo yn mwy correct.

 

DYN Y DEATH CLWB. — Wel done, Joe, yn wir, Eitha clap iddo, boys; mae'n nghalon i yn cwni typyn bach, ag fe roia'r pen heibo nawr i ni gal typyn o secret Council i gal piano typyn ffordd i ni mynd i neyd ar gount i'r election. Waeth rwy yn dod mas trw'r cwbl. Does dim ots os nag wy yn gwbod faint o wahanol drethoedd sy gyda ni i dalu.

 

DYN Y DEATH CLWB.

 

 

 

Text

Description automatically generated

(delwedd G3991a) (24 Ionawr 1895)

The Merthyr Times. The Dowlais Times, and Aberdare, Pontypridd, Rhondda Valley, Rhymney, Tredegar, Brynmawr and Western Valleys Echo.

24 Ionawr 1895.

 

Y CONFFRENS.

 

DAI. — Shwt i chi heno i gyd, fechgyn? Diolch yn fawr bo ni wedi cwrdd a'n gily mor llawen ar ol y storom fawr ddath i gwrdd a ni.

 

SAMI. — Ma nhw'n gweyd taw gyda'i gili yn lote mowr o filoedd ma scadan yn y mor, a pan bo nhw fel hyny bo nhw yn ddigon cryf i stopo llonge i fynd mlan; ond pan bo storom fawr yn dwad ma nhw yn cael i sarnu owrth i gily a'u hwthi ffor hyn a ffor co, a dyna pryd ma'r pysgotwrs yn cal shawns i dala nhw. Ond os dath storom fawr i'n hwthi ni owrth i’n gily, i ni wedi dwad nol at i'n gily heno to; a'r pwnc nesa yw ble i ni mynd i gadw cwrdde o hyn mas, wath ma rhaid i ni gal rhyw le neu weitho tents fel jipshwns mas a'r tips ma, a ma'r tewy yn rhy lib a rhy wêr i neyd hyny nawr.

 

HARRI. - Wel, wy i wedi bod yn pusslo lot i ble ewn i nesa, a wy yn ffaelu gweld gallwn ni gal un lle i'n suito ni os na ewn ni i'r Workhouse.

 

DAN. - Pam wyt yn meddwl am fynd i'r Workhouse, bachan?

 

HARRI. — Wel, dyna pam. Does yma ddim un lle cyfleus i'r public i fydd i enjoyo'u hunen ond y Tap- room, ag i ni wedi cal ein drivo mas odd yno. Does dim Reading Rooms, Free Libraries, Public Parks, Public Baths, Workmen's Institutes, Gymnasiums na dim o'r sort i ni i fynd iddo nhw i enjoyo hunen. Ma yma un Constitutional Clwb, mae'n wir, ond ma rhaid i ni werthu'n principles cyn cal mynd mewn i hwnw. A does yma ddim un Liberal Clwb yn opposition iddo fe. Ag i chi yn gwbod ma dyna lle mae dynon yn cal mynd yma yw pan heb un lle arall yw y Workhouse. Mae gwledydd i ni yn alw yn baganaidd ag yn goel grefyddol yn mhell o'n blan ni ar y pen yna. Pan bo dynion yn teithio yn ngwledydd y Dwyrain mae digon o Kanns a caravanserais yn gyfleus iddyn nhw droi mewn pryd y mynon nhw.

 

PHIL. — Mae un peth da fi yn erbyn y Workhouse, ma dynon dangeris iawn yna.

 

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd G3991b) (24 Ionawr 1895)

 

SAMI. — Wen i yn uso meddwl taw yn y Bedlam ma'r dinion dangeris i gyd.

 

PHIL. - Ie, mae'n wir, ond dyma own i yn feddwl, pe bysen ni yn mynd i'r Workhouse ma na ddynon fyse yn ein rhoi ni lawr mor ishel a paupers a schoolmasters ar unwaith.

 

DAN. — Paid sharad mor fychanus am schoolmasters, Phil. Dyma'r dynon mwya gwybodus a respectable yn y wlad yw schoolmasters. Dyma'r dynion sydd cal i dewis i neyd gwaith urddasol yn y wlad, sef starto dynion ifenc ar ben llwybyr bywyd. A mawr yw y cwylydd i ti bo ti yn treio symplo a bychanu schoolmasters.

 

PHIL. — Paid a camddeall nawr. Nid y fi sy’n bychani schoolmastern, ond rhyw ddynion sy’n mynd i'r Workhouse wy'n weyd sy'n eu bychanu nhw. Rheiny sy'n treio'u rhoi nhw ar yr un level a paupers. Ma nhw yn teimlo yn anghyffredin bod schoolmasters yn cal yr honour o eistedd ar y Board of Guardians, ag ma nhw ar eu gore yn treio piano i cal nhw mas.

 

HUGH. — Gan nad pwy yw y bodau yna sydd am droi ysgolfeistri allan oddiar Fwrdd y Gwarcheidwaid, mi wranta nad yda'n nhw ddim wedi gwneyd i rhyw lawer i ddyrchafu moesau'r werin, ac y mae'r ymgais yna yn nodweddiadol o dafarnwr, oblegid nid yw tafarnwyr fel rheol yn gwneyd rhyw lawer i ddyrchafu y genedl mewn addysg, rhinwedd, a moesoldeb.

 

CHARLY. — Mae ambell i idea dda gyda tafarnwr weithiau hefyd. Y chi'n cofio Dan Thomas pwy ddiwrnod yn cynyg rhoi David Davies, Glebeland, ar y ford. Roedd e wedi dyall taw llestr pridd oedd e, a taw llestr llawn hefyd, waith mynd off a llestri gweigion oddiar y ford ma nhw fel rheol. Ond rwy yn credu fod e ddim yn dyall dim o natur contents llestr David Davies ma'r quality sy yn llestr y dyn yna yn siwr o fod yn gryfach a mwy sylweddol na dim sy yn un botel na jar na chasgen yn y Plymouth Arms, er bod dynion o safle lled uchel yn mynd yna am fod licer da yna.

 

TWM. — Son am David Davies, rhyw greadur bach ofnadw i insulto dynon yw hwna. Clywsoch chi am yr insult ofnadw rows e i Evan Lewis dydd Sadwrn wythnos i heddy.

 

IANTO. — Beth! David Davies wedi insulto Evan Lewis!

 

 

 

Text

Description automatically generated

(delwedd G3991c) (24 Ionawr 1895)

 

TWM. - Ie, wir, mae e yn y papure.

 

IANTO. - Wel, wel, David Davies wedi insulto Evan Lewis! Y dyn bach yna wedi insulto’r “Great and only Evan!” Chlwes i ddim shwt bath erioed; i chi wedi'n hurto i yn lan, wn i ddim beth sy i weyd.

 

DAI. — Ches i ddim shwt syndod eriod a pan own i yn darllen yr hanes bod dyn fel David Davies wedi gallu insulto Evan Lewis. A dyma beth oedd yn blino Evan Lewis yn angyffredin oedd bod ladies yn y room yn clwed y fath iaith anweddaidd, ag fe ath mas (fel plentyn yn mynd i weyd wrth ei fam) i weyd wrth y Chairman bod e wedi cal ei insulto yn ofnadwy. Ond dyna beth oedd yn rhyfedd wedd e yn gorfod gweyd nag wedd e ddim yn gwbod beth wedd ystyr y geire oedd David Davies wedi weyd wrtho.

 

SHAMS. — Wel, wel, dyna gyssondeb onte, boys? Gweyd fod e wcdi cal ei insulto, a ddim yn gwbod ystyr y geire.

 

SAMI. — Ma dynion mowr yn mynd yn wan ambell waith. Fe weles i ddyn os typyn nol yn ffrath iawn ei dafod; fe wedd mishtir y lle ar y dafod, a fe ath i redeg menwod Pengarnddu lawr yn ombeidis; ond yn mhen cwpwl o ddwarnode wedd e yn mynd i’r lan i Pengarnddu i hunan, a dyma'r menywod yn dwad mas i gwrdd ag e, ag yn y shalenso fe, a fe gofiodd ynte'r adnod, “Iach yw pen c----gi [= cachgi] trenoth,” a dyma fe bant a rhoi drad yn tir nath e, a rhedeg shag adre pendigili heb stopo, heb neyd dim o'i waith yn Pengarnddu.

 

IANTO. - Beth oedd y geirie oedd wedi cal eu huso.

 

JAC. — “ Tout a touter.”

 

WIL. — Beth yw ystyr y ddau air yna? Ble ma Joe heno? Nawr wy yn gweld ei eisho fe. Treni na fyse fe yma nawr. Ond son am y d---! [diafol / diawl] mae e wastad ar bwys. Dere mlan Joe, mae eishe i te [ti] explaino i ni beth yw “Tout” a touter.”

 

JOE. — Escuswch fe [fi] gweyd Sisneg. “Tout” is a verb intransitive aud signifies “To ply for, of customers.” “Touter” is a noun and signifies a man who seeketh for customers.”

 

JlM. — Wel, wel, dyna hi yn galch. Pwy insult iddo fe odd ei alw fe yn “Touter” fel na? Nawr, Dyn y Death Clwb, cofia ffor bydd hi os dewi dithau mas fel candidate.

 

DYN Y DEATH CLWB. — Wel, fechgyn, ta faint fydda i yn advertiso o'n hunan, a tha faint o bromises wna i chi, dim ond i fi gal mynd mewn fydda i ddim yn hido ffordd bydda i yn voto wedyn. Cofiwch chi'n syporto i pan ddel yr adeg.

 

OLL. — Ni wnawn, gelli fentro.

 

 — Dros y Conffrens,

DYN Y DEATH CLWB.

 

 

Text

Description automatically generated

(delwedd G3992a) (31 Ionawr 1895)

The Merthyr Times. The Dowlais Times, and Aberdare, Pontypridd, Rhondda Valley, Rhymney, Tredegar, Brynmawr and Western Valleys Echo.

 

31 Ionawr 1895.

 

Y CONFFRENS.

DAI. - Wel, boys, mae yn mynd yn ddoniol nawr ta beth. Oen ni yn meddwl bod y byd yn gwella, oud fel arall mae hi. Mynd yn wa, wa, mae o hyd yn lle dod yn we, we.

 

JACK. - Pam, be sy'n bod nawr, bachan?

 

DAI. - Odych chi ddim wedi clwed y latest, boys?

 

DAN. - Pam, beth yw hwnw te?

 

DAI. - Beth yw hwnw, wir? Odych chi ddim wedi clwed bod Caerdydd yn meddwl dwgyd D. A. Thomas o wrthon ni? Dyna impudence, onte, boys

 

HARRI. - Impudence, ie, a'r impudence mwyaf impudent alle dyn feddwl am dano hefyd. Mae'r D.A. wedi cael ei fagu yn y Boro, wedi mynd i'r Parlament i represento'r boro, ag wedi gweld fod e yn fember da ma Caerdydd yn mofyn ei gael e i represento nhw yn Parlament. Mae yn gwylydd mawr i Caerdydd a'i cholleges a phob peth na fysen nhw yn galler cwni dynon i hunen yn lle mynd i ddwgyd members o lefydd erill na sy ddim wedi cal haner cystal manteision a nhw.

 

JOE. - Boys, excuswch ni am gweyd gair neu dri ar y point. Ma rhaid i ni considro bod lot o Tories yn Caerdydd, a Mr. D. A. Thomas yw y gentleman mwya influential yn Wales nawr; a trw bod Syr Edward Reed yn rhoi seat lan, do's dim dyn yn Wales mwy likely na Mr. Thomas i cadw seat yn safe i'r Liberal Party, a gobeithio byddwn ni bod yn digon loyal i principles i consento i Mr. Thomas i mynd no. Waeth byddai yn everlasting shame i Tori i mynd miwn i Parlament i represento Metropolis of Wales. A ma ni bolon iawn i Mr. Thomas i mynd ta ni dim ond gather trusto bysen ni digon true i principles i sefyth a fighto fel dynon i cal dwy Liberal miwn dros Merthyr wedyn.

 

TWM. - Gad dy lap, yr hen Sais fel ag wyt ti, a paid a son am dy matter o policy of Wales yma. Ymladded Caerdydd drosti ei hunan, a peidio treio mynd off a'n dyn ni. Na, ma gyda ni ormod o respect i Mr. Thomas i adel e fynd off mor cheap.

 

DAN. - Wel, wy yn becso wrth feddwl bod dynon Caerdydd yn treio mynd a Mr. Thomas o wrthon ni. Ond ma un consolation i ni wedi'r cwbl; os aiff e i Gaerdydd fe gewn ni lond cae o gandidates wedyn. a fe fydd shawns noble i rai o honon ni ddala skulks lled dda ar amser y lecsiwn nesa. Ag fe wn i am rywrai sy wedi bod yn ffedo a'r wyddau a thurkeys a hyfed shamphine ar ol lecsiwns cyn byn. A ta ni I ddim ond cael y lle yn glir o D.A. fe gesen ni ddigon o shawns i ddala hobbles wedyn, a threio ffeindio mas pwy fyse yn mynd i'n talu ni ore am weithio drosto fe.

 

 

 

 

Text

Description automatically generated

(delwedd G3992b) (31 Ionawr 1895)

 

 

WIL. - Dyna right, bachan, a tyna'r dyn i fi hefyd i weithio drosto; fe fydd y dyn goreu i forko 'i spondooloos mas. I chi yn gwbod, boys, fel i ni wedi bod yn gneyd o'r blan ar amser lecsiwns i'r Parliament.

 

JOE. - Boys bach, ma pethe na yn sickening i ni meddwl am dano nhw nawr. Faint o pene tost ceso ni, faint o turns collwn ni? faint o gains fydd e i ni? And Just look the other side. Faint o gwaith collson ni? Faint o ddrwg gnethon ni i families i'n hunen? Faint o gofid ceson ni ar ol hyny? A beth, ie beth am personol characters ni? A fi ffaelu peidio llefen wrth meddwl am y change sy wedi bod yn rhai o honom ni. Fe fuon ni yn dynon respectable. And beth wedyn, ma ni wedi bod ar y down grade, a ma rhai o ni nawr yn sport i scums of society. Excuse me for speaking so plain to-night. Let us reform, a treio regaino confidence fellow-workmen once more; let us stick to principles in future; dewch i ni gweithio gyda dynon a character, a peidio rhoi hunen mor cheap a gadael strangers i ddylanwadu arno ni. And let us appreciate and patronise home talent; ma gyda ni yn y Merthyr side o'r Borough, dyn ifanc wedi cael i magu yn y lle, a byse fe yn credit i Merthyr a Aberdar i cal e fel un i represento ni i'r Parlament. Ma ni dim yn mynd i rhoi soft soap iddo fe, ond y plain truth. Ma fe dyn ifanc suitable i gneyd un o'r Young Wales Party, dyn o character yn thorough Nonconformist a Progressive Radical. Dos dim dyn yn y Principality yn mwy ffit na fe i eistedd yn St. Stephan ar pwys Mr. D. A. Thomas, Lloyd George, Frank Edwards, Brynmor Jones, Sam Evans, &c. A dewch i ni cal i coxo fe i dod mas, a gweithio gyda fe i cal mynd mewn fel Dowlais Boy, a nid mynd i gwaeddu gyda a supporto lot o strangers nad i ni gwbod dim o byty nhw.

 

DYN Y DEATH CLWB. - Well i ti stoppo, Joe. Wyt ti wedi dechreu mynd i bregethu; wyt ti ddim yn ystyried pwy amser yw hi, a bod rhaid i ni dori'r Conffens lan heno etto. Dewch i ni gael mynd nawr, boys. Good night. –

 

Dros y Conffrens,

 

DYN Y DEATH CLWB.

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd G3993a) (21 Chwefror 1895)

The Merthyr Times. The Dowlais Times, and Aberdare, Pontypridd, Rhondda Valley, Rhymney, Tredegar, Brynmawr and Western Valleys Echo.

 

21 Chwefror 1895.


Y CONFFRENS.

 

Dyn y Death Clwb a Wil yn cyfarfod.

 

Wil. - Shwt mai os lawer dydd, bachan?. Ma'n dda iawn da fi dy weld di. Own ni wedi [clwed] dy fod yn mynd i'n gadel ni. Os rhwbeth yn y stori, bachan?

 

Dyn y Death Clwb. – Oes, mae'r peth yn wir [i w]ala; fe fydda i yn symud yr wythnos nesa i le newydd a gobeithiol iawn.

 

Wil. – Own i wedi clwed wir, ag wy yn dym[u]no pob lwc iti. Ond beth am y Conffresns o hyn m[as?] Pwy gewn ni yn ysgrifenwr nawr? Disgwl ma na [?] rhyntot ti a fine a'r wal. Wy wedi meddwl am [y] jobyn. a'r peth own ni wedi meddwl oedd y gallet [ti] roi gair bach miwn i fi, ag os gnei di hyny fe dreia inne weithior bont i gal tysteb i tithe, wrth bo ti yn mynd; fel ma’r hymn n’n gweyd: -

 

“Can di benill mwyn ith nain

Fe gan dy nain i tithau.”

 

Dyn y Death Clwb. - Ie, dyna ffordd am dani, bachan, mae'n dda da fi bo ti yn addo starto i fi gal tysteb; own i yn meddwl am son am y peth yn gonfidensial wrthot ti, a gofyn i tithe weithiwr peth i'r lan, ag fe wna inne'r [n] ngore i weitho drosot tithe i gal mynd yn sgrifenydd y Conffrens. Wath dyna fel wy yn ei gweld hi bob amser. Mae A yn helpu B i fynd ar y School Board, a B yn helpu A i fynd ar y County Council. Nid am bo nhw yn gweld cymhwysderau un yn y llall, ond ma nhw yn bartners. Mae egwyddorion yn cael eu sarnu dan draed, a merch Shenkyn Bragwr mor dempting wedyn yn arwain y masses ar ol y rhai syn caru mwya o honi hi. Ond nawr i gal mynd at fysnes. Fe dreis i gal gafel yn Phil a Dai i gal contrivo gyda nhw i gario’r peth mas, wyt ti'n gweld, waeth dyw hi ddim yn right i'r boys i gyd i gal gwbod bo ti a fine yn dyall dim o'n gilydd.

 

Wil. - Dyna reit, bachan. Ag fe roia inne Twm a Dan i starto'r bôl i gal y dysteb i tithe. Ma nhw yn y Flaming Dragon nawr, mi a i heibio yno, a cera dithau ffordd arall, i gal peido dangos bod M wedi gweld ein gilydd o gwbl.

 

Dyn y Death Clwb. - Dyna reit, ag os byddi di yn y Conffrens o'n mlan paid dangos bo ti yn gwbod dim bo fi yn mynd o'r lle, ar gount i rai ereill gal gweithio'r peth mas.

 

Wil. - Dyna reit, so long nawr.

 

Wil yn cwrdd a Twm a Dan yn y Flaming Dragon.

 

Wil. - Helo, fechgyn, shwt i chi heno? Mae’n oer ofnadw ond yw hi. Hyfwch lan, a galwch i’ch glasses miwn. Beth i chi'r yfed?

 

Twm. - Dropyn o Whisky Hot.

 

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd G3993b) (21 Chwefror 1895)

 

 

Dan. - Iechyd da i ti, Wil.

 

Wil. - Thancyw, boys. Dishcwlwch ma dycyn bach nawr. Ma eishie arna sharad gair a chi. Os un o honoch yn gwybod tipyn o hanes Dyn y Death Clwb yn ddiweddar?

 

Twm. - Na, dim ni ddim wedi weld e os lawer dydd, wel os bethawnos ta beth. Ond nawr oen ni just yn sharad am dano pan oet ti yn dod miwn. I ni wedi clwed fod e yn mynd i adel y lle. Wyt ti wedi clywed rhwbeth?

 

Wil. - Odw wedi clwed yn siwr ei fod yn madel.

 

Dan. - Gwelest ti e yn ddiweddar?

 

Wil. - Wy ddim wedi weld oddar y Conffrens dywetha, ond maen fact fod e yn mynd i fadel (bob

o lased arall, boys). Nawr, sylwch nawr am dycyn bach. Gan fod e yn mynd off, ma eishe i ni ddangos typyn o respect iddo fe trwy neyd typyn o dysteb iddo fe.

 

Twm. - Dyna reit bachan, beth wyt ti, Dan, yn feddwl.

 

Dan. - Splendid wir! Wyt ti yn mynd i gynyg e heno?

 

Twm. - Gna i gyda phleser hefyd.

 

Dan. - Fe eilia inne fe. Beth o'r gloch yw hi?

 

Wil. - Mae yn bryd mynd, boys, a nawr cerwch chi mas trw'r ffrynt, fe a inne mas trw'r back, i gal peidio dangos bo ni wedi bod gyda'n gilydd, waeth ma rhai o'r boys ar hyd yr hew1 nawr yn mynd i'r Conffrens.

 

Twm. - Reit; dyna ni off.

 

Yn y Conffrens.

 

Cad. - Wel, fechgyn, dyma ni wedi cwrdd y drydedd waith nawr a dim o Dyn y Death Clwb gyda ni. Oes rhai o honoch yn gwbod os oes rhywbeth yn y riwmor fod e yn mynd i fadel ar lle?

 

Sami. - Wdw i wedi clwed bod e'n mind bant o ma, a bod e yn cal i neid yn Siwperintendant.

 

Joe. – Os ma hi mynd off, ma rhaid i ni cal secretary arall wath ma fe busy times, y School Boards Election a'r County Council Election a tyna Gellifaelog Division ma deputation wedi bod gyda Evan Lewis yn gofyn iddi hi contesto seat etto. Ond byse mwy gentlemanly lawer iddo nhw gofyn i Gwilym James wath fe pia'r seat wrth right. Dylse fe cal first offer ta beth, a, os cese fe gneyd yn alderman i Evan Lewis i cal e wedyn. Gwelwch chi mor respectable ma David Davies yn gneyd. Gadel i Thomas Williams i cal y first chance ar y Lower Penydarren, ac os caiff ei gneyd yn alderman, gall David Davies claimo right i cynyg wedyn. Dylse Evan Lewis gneyd yr un peth. Dyna Gyfarthfa Ward wedyn; shwt mcmber da a Tom Tom yn cal ei insulto wrth dod mas a Watkin Moss. Mae Watkin Moss yn bachgen splendid, ond ma working men yn mynd yn wathach wathach o hyd, a ma Watkin Moss yn dangos i hunan yn mean iawn bod hi meddwl opposo Tom Tom. Byse Tom Tom yn resigno byse ni yn praiso pluck Watkin Moss am ddod mas, but not under the present circumstances. A thyna mai mynd i bod, daw Tori mas fe aiff miwn rhynt y d

 

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd G3993c) (21 Chwefror 1895)

 

 

dwy. Ond dyna Dyn y Death Clwb yn dod. Ma ni isho gwbod os wyt ti resigno cyn bo ni electo secretary arall, cal treio bod yn mwy wise na working men Cyfarthfa, ta beth.

 

Dyn y Death Clwb. - Esgusodwch fi am beidio siarad dim heno. Mae'n nheimladau i yn fy ngorchfygu wrth feddwl am gadal a chi, a thyna gyd all i weyd. Eth - eth - ol - wch - rhyw - un - yn - yn - lle - i (yn tori lawr).

 

Phil. - Wy'n cynyg Wil Sledgwr.

 

Dai. - Eilio'r cynygiad..

 

Cad. - Pawb sy drosto i arwyddo (un o bob tri yn codi eu dwylaw).

 

Wil Sledgwr. - Diolch yn fawr i chi am eich pleidleisiau unfrydol. Doeddwn ni ddim wedi gweld Dyn y Death Clwb er ys bythefnos, ond yr oeddwn wedi clywed ei fod yn ymadael. Ond ni freuddwydiais erioed am gael fy nghynyg, heb son am gael fy ethol, fel olynydd iddo. Ond wrth weld eich bod mor unfrydol, mi ymgymeraf a'r gwaith, a gwnaf fy ngoreu i'w gario allan hyd ag y mae yn fy ngallu er boddlonrwydd i holl aelodau y Conffrens.

 

Shams. - Rwy yn adnabod y District mae Dyn y Death Clwb yn mynd iddo fe yn splendid, ag yn dymuno pob lwc iddo fe. Ond Dyn y Death Clwb, fe garwn weyd un gair yn bersonol wrthot ti. Gobeitho na ei di ddim dros y boundry lein i ddistricts rhai ereill. Ma gyda i frawd yn y District nesa at dy ddistrict di er’s 18 mlynedd, a cofia di beidio mynd dros Bont Cwm Ffrwd i ganvasso dim yn ei ddistrict e. Ma na fachan bach i gal nawr yn dechreu canvasso yno, a phob lwc iddo fe a thithau, ond fe fyddai yn gwylydd mawr i chwi neyd drwg i fywoliaeth fy mrawd sy'n hen Stager yn y lle yn barod.

 

Twm. - Mae un peth arall ddylesen ni gymeryd i ystyriaeth. Mae Dyn y Death Clwb yn ein gadel ni.

 

Ag mae ei wedi'n gwasanaethu ni yn dda, ag wy yn i cynyg bo ni yn rhoi tysteb iddo wrth bod e yn mynd.

 

Dan. - Eilio'r cynygiad.

 

Cad. - Pawb sy dros yna i arwyddo (Pleidleisio bron yr un fath ar tro blaenorol).

 

Shoni. - Wy'n cynyg fod committee i ga1 ei bigo i gario'r peth yn mlan.

 

Dan. - Wy'n cynyg Shoni’n un.

 

Shoni. – Wy’n cynyg Dan.

 

Phil. – Wy’n cynyg, Dai.

 

Dai. - Wy'n cynyg Phil.

 

Ianto. - Wy'n cynyg Sami.

 

(Twm wrth Cad yn ddistaw. “Does neb yn fy nghynyg i.”)

 

Sami. - Gan bwyll, boys. Dyna chi wedi cynyg chwech, a fe fydd Wil a fyne yn dod mewn yn rhinwedd ein swyddi ag i gal i gal odd number fe ddaw Twm miwn a thyna ddigon e gommittee. Pawb sydd dros yna i arwyddo. Wedi pasio.

 

Dyn y Death Clwb. - Diolch yn fawr i chi fechgyn, am eich teimladau da ac unfrydol, down i ddim yn disgwyl son am y fath beth, a phe bawn ddim ond wedi meddwl y byse chi meddwl am roi tysteb i fy fe fuswn wedi cadw oddiyma heno. Nos da i chi' i gyd.

 

Mocyn. - Dewch i ni gal mynd, boys Mae'n rhy oer i aros rhagor, wy ddim yn cofio shwt dywydd eriod. Fyse cant o barau o sgidie fawr o dro cyn cael eu rhanu nawr.

 

- Dros y Conffrens.

 

WIL SLEDGWR.

 

 

Text

Description automatically generated

(delwedd B2040a) (14 Mawrth 1895)

The Merthyr Times. The Dowlais Times, and Aberdare, Pontypridd, Rhondda Valley, Rhymney, Tredegar, Brynmawr and Western Valleys Echo.

 

14 Mawrth 1895.

 

Y CONFFRENS.

 

Wil Sledgwr. — Rwyn gweld i'ch bod chi wedi dod nol etto, ar ol bod ar hyd y lle; rhai ohonoch chi wedi bod yn gweitho yn rhagorol dros yr hyn oedd yn dda ac anrhydeddus, ac i chi yn haeddu cael eich canmol am hyny hefyd. Rwy wedi darllen yr wythnos ddiwedda yma am fachgen wedi “dewis goddef adfyd gyda phobl Dduw yn hytrach na chael mwyniant pechod dros amser, canys edrych yr oedd efe ar daledigaeth y gwobrwy.” Ac yn wir mae taledigaeth y gwobrwy yn eich aros chwithau, a thaledigaeth anrhydeddus fydd hwnw, nid taledigaeth mewn cwrw a licer, a “Gwely drain, a Gwyl dranoeth.” Ond mae'n ddrwg iawn gyda fi nad yw pawb ohonoch chi ddim wedi bod cystal, ond wedi cymeryd eich arwain ar gyfeiliorn fel deillion gan hudoliaeth haid o ddeillion moesol, ac wedi sathru pob egwyddor dda dan eich traed, wedi defnyddio eich talentau a'ch manteision i ddirmygu dynion sydd wedi cysegru eu hoes i lesoli a dyrchafu eu cyd- ddynion, ac wedi direiddio eich hunain i'r fath raddau nes y mae gwehilwn cymdeithas yn gallu fforddio i wneyd testunau gwawd ohonoch; ac y mae taledigaeth druenus yn eich aros chwithau, a thyma fe mewn pedwar gair, “Cyflog pechod yw marwolaeth.”

 

Phil. — Gan bwyll, Wil. Wyt ti wedi newid yn dduwiol ofnadw heno; i ni yn dy gofio dithe yn ddigon brith dy hunan.

 

Joe. — A paid ti mynd i imputo motives fel na, a chofia ma gwell i bod yn brith na bod yn du. Mae chance gyda ni dod yn gwyn rhyw diwarnod wedyn.

 

Cad. — Fechgyn, cymrwch chi bwyll dypyn bach i fi gal gweyd gair neu ddoi wrthoch chi. Wyn began arnoch fod yn rheolaidd heno; ma rhai o honoch chi wedi bod yn afreolus iawn y bythewnos dywetha, ag oedd yn dda iawn gyda fi weld Wil yn dwad lawr a'r sledge mor drwm arnoch chi; mae hishe hi arnoch chi nes bo chi yn crwmi dani. Y gwir am dani, fe ddyle fod cwylydd arnoch chi ddangos i'ch hunen i neb, ag ma rhai nad i nhw ddim wedi troi lan hefyd. Dyna Josi a Wil Drug, ma nhw yn llechu mewn lle neillduol dan yr esgus bo nhw yn mofyn gwbod rhyw race, ond dim ond esgus yw hyny; ma digon o amser gyda nhw i fod ma, a ma nhw yn gwbod taw yma dylen nhw fod, a'n bod nine yn erfyn iddyn nhw i fod yma. Ond dyna ma nhw yn wbod ta nhw ddim ond dod byse rhaid iddyn nhw ddangos pwy ochor fyse nhw; a ta nhw ddim ond

 

 

 

Text

Description automatically generated

(delwedd B2040b) (14 Mawrth 1895)

 

 

dangos eu hegwyddor fe fysen yn mynd yn erbyn y mass, a ta nhw ddim ond treio boddloni'r masses fe fysen yn digio rhyw awdurdodau yn y lle, ag fel hyny mae well gyda nhw fod oddiyma, a ma rhaid treio shifto pob esgus. Cofiwch un peth arall hefyd; ta Wil Sledgwr yw reporter y Conffrens, a neb arall, a peided neb a ysgrifenu dim i'r papyre ond trw law Wil. Ma ddrwg da fi fod rhyw rai yn treio llunio rhyw benderfyniadau o gamoliaeth iddyn nhw'i hunen, a'i hala nhw i'r print, na fuodd dim son am denyn nhw yn gyhoeddus yn y Conffrens. Nawr, Joe, roet ti wedi dechreu siarad pan stopes i ti; cera mlan nawr.

 

Joe. - Wel tyna ma ni gweyd. Ma rhai gyda ni na di nhw hido dim beth gnan nhw dim ond iddo nhw dod yn prominent a cal popularity. Dyna Ifan Bach, ma hi wedi gweyd a gneyd pethau shameful ar amser y lections ma, a ma hi rhy guilty i dod ma heno; ma ni wedi gweld hi yn town, ond daw hi dim miwn cyn bo reporter ni mynd off; a cewch chi gweld hi dod mewn wedyn yn fussy iawn, ond fuss just sythu wrth waitan reporter ni mynd bydd e.

 

Jacky. — Wel, fe geso i amser noble ar y County Council Election yma ta beth; digon o beth fynsen i i yfed a byta, a supporters y dyn wen ni yn gweithio drosto hefyd. Ac i ni wedi cal compliment na fuodd dim lot yn gweitho gyda'u gilydd eriod. Dynion respectable, tawel, pwyllog, sobr, a ddim yn gweyd gair cas wrth neb, ond yn delo fel boneddigion at bawb; ag er fod ein dyn ni wedi colli, mae e yn barod i ddod mas y shawns gynta gaitf e, ag i ni mynd i roi e mewn hefyd.

 

Mocyn. — Wy yn dy clwed di.

 

Twn. — Alli di gredu hefyd.

 

Sami. — I chi yn yn hala i i gotio am grwt drwg yn y wlad; wedd ffarm fach gyda'i dad, ag wedd e yn gweyd wrth i dad un dywarnod, “nhad, ar ol i chi farw fe wertha i'r lle bach ma.” “Wy'n dy gredu di,” medde'i dad; “a fe byrna le bach yn fwy,” medde'r crwt. “Wy'n dy glwed di,” medde'i dad.

 

Dan, — Wy inne wedi dysgu adnod hefyd: “Gwyn y gwel y fran ei chyw.”


Mocyn. — Fe ges i le net diwarnod y Iecshwn ta beth. Liberal wy i chi'n gweld, ond own ni yn helpu Tori diwarnod y lecshwn. Own i wedi cal i'n newis yn y committee, a thrw bod i'n nhwrn i yn cal i dalu, odd hi yn reit i fi neyd i'n nory, ag fe ath y dyn wen ni i'n gweitho drosto mewn yn grand hefyd.

 

Joe. — Wyt ti just yr un peth a'r dyn hyny nad oes dim politics o gwbl gydag hi; dim ots beth, dim ond i ti cal bod yn prominent. Mynd i un public meeting i supporto Labour candidate, i meeting arall i supporto Capitalist the other side of the mountan lawr yn y Valley supporto Liberal add Nonconformist, and on the Hillside supporto Churchman and Conservative. Dim ots beth yn y byd, dim ond cal popularity.

 

 

 

Text

Description automatically generated

(delwedd B2040c) (14 Mawrth 1895)

 

 

Ianto. — Fe welais i beth rhyfedd iawn mewn public meeting tua deng mlynedd yn ol. Roedd y cadeirydd wedi rhoi speech ac yn galw ar un or siaradwyr i anerch y cwrdd. Dyma yntau yn mynd lan, ond gyda hyny dyma rai o'r boys yn y back yn dechreu galw mas, “Dear Mary,” “Dear Anne,” “Dear Lucy,” “Dear Sophia,” &c., a mawr shwt rally fu yno.

 

Charly. — Shwt buodd hi wedyn?

 

Ianto. — Rhaid gweyd yn ol y ffasiwn: “To be continued in our next edition.” Ond ma cimin o amsar er hyny, bachan, dwi ddim yn gallu cofio yn iawn.

 

Harry. — Fe weles inne unwaith ddoi Gatholic gyda'n gilydd, ag oedd y ddau yn Fembers ar y School Board, ag oedd un yn gweyd wrth y llall na fyse fe ddim yn cynnyg y tro ncsaf rhag ofan byser ddau mas. “No, no,” meddair llall, “keep on and I can assist you if required by sparing you a few thousand votes, because the Nonconformist votes will put me in flying.” Hoist,” meddai un arall, “don't be such a fool as to give your votes away.” “Hoist,” meddai yntau nol, dont believe that I am such a fool as that.” “Wel,” meddwn innau, “If you are not a fool, you are a fraud.”

 

Ned. — Rhyw lecshwn rhyfedd fuodd yn Ward Cyfarthfa. Towli Tom Thomas mas, ag yntau shwt fachgen da wedi cal y fath anrhydedd ar y Council, a ninau fel gweithwyr wedi cal ein hanrhydeddu trwyddo. Ma cwylydd arna i fyw yn Cyfartha nawr, ag wy wedi cymeryd ty yn Pendarren, wath y fact ag e mae e lawer iachach lle i fyw yndo mewn ystyr boliticaidd ta beth.

 

Hen Simon. — Wel fcchgyn, fe droiff rhywbeth i'r lan eto, peidiwch digaloni. Own i wedi meddwl rhoi dipyn o'm mhrofiad i chi heno, ond mae'r amser wedi mynd mlan yn mhell, ac os leiciech chi fe roia i dipyn o araeth y tro nesaf.

 

Oll. — Hear, hear.

 

Cad. — Wyn ddiolchgar iawn am addewid Hen Simon, ac fe gaiff e agor y cwrdd y tro nesa, ag mae'n well i adael ein Reporter i fynd nawr, wath mae Ifan Bach just sythu tu fas. — Dros y Conffrens,

WIL SLEDGWR.

 

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd B1036a) (28 Mawrth 1895)

The Merthyr Times. The Dowlais Times, and Aberdare, Pontypridd, Rhondda Valley, Rhymney, Tredegar, Brynmawr and Western Valleys Echo. 28 Mawrth 1895.

 

Y CONFFRENS.

 

Harry. — Wyt ti, Wil Sledgwr, yn edrych yn sobr iawn heno, ag fe allen i feddwl bod hi'n bryd i ti hefyd ag mae yn bryd i ninau ddihuno am ein rights fel members o'r Conffrens hefyd. Beth yw'r llythyr hyn wyt ti wedi hala i fi i fod yma am 5 o'r gloch, a fine yn ei dderbyn e am haner awr wedi saith? Pam na allet ti hala fe mewn pryd i ti gal e mewn amser i fod yma erbyn 5?

 

Wil Sledgwr. — Fe hales i'r llythyron i gyd i chi fel members yr un pryd, fel gallech chi fod yma mewn amser.

 

Tomi. — Pwy lythyron o'n nhw ynte? Ches i ddim un o gwbl.

 

Harri. — Chest ti ddim un, naddo fe? Ag os na chest ti ddim un maen right i ti gal gwbod. Mae llythyron wedi cal eu hala i rai o'r boys yma mewn pryd, a rhai erill wedi cal nhw yn rhy ddiweddar, a thithau wedi cael dy adel heb un o gwbl. Mae Wil yn gwbod bod ti yn foto yn gros iddo fe bob amser, a chwedyn oedd dim ishe i ti gal gwybod ei amcan e, ond wyt ti yn un o honom ni, a chwedyn fe gei di glwed contents y llythyr geso i nawr just. Dyma fe: —

 

Conffrens Chambers,

Littleton.

 

DEAR SIR, You are earnestly requested to attend a special meeting of “Y Conffrens”this (Saturday) evening at 5 p.m. sharp, when a very important question will be finally settled, and some stronger elements than pure water will be disposed of. — Yours faithfully, WIL SLEDGWR.

 

Tomi. — “Yours faithfully,” wir! “Unfaithfully and one-sided” oet ti yn feddwl sposo. Fechgyn, mae pethe fel hyn yn rhy bwysig i gadel nhw yn ddisylw; mae yn llawn bryd i ni edrych mewn i'n interest ein hunain, waeth mae dynion mewn awdurdod yn edrych mewn yn ofalus iawn na cha nhw ddim cam; a dyma Wil nawr, wedi i ni godi fe i'r lan dipyn, yn dechreu defnyddio ei awdurdod yn erbyn ein interest ni, gymynt byth a gall e. W'i yn ystyried rhwbeth fel hyn yn snub ofnadw i ni. Mae e yn snub personol i ni, yn snub i'n rights ni, ag yn snub i'n pocedi ni, a'r pendraw fydd fe fydd ein plant ni yn cael ei deimlo fe.

 

Mocyn. - Mae e yn snub i'n hiaith ni hefyd bod e yn ysgrifenu Sisneg i ni.

 

Wil. — Gadewch i fi gal gweyd —

 

Dan. — Na chei ddim gweyd dim gair, ag os agori di dy hen safn heno etto fe ro'i gystal smack yn dy chops di a gest ti eriod. Dy fundlo di mas yn gorfforol odd'ma ddylem ni neyd. Y cwrcyn diras fel ag wyt ti.

 

Hen Simon. - Fechgyn, cymrwch bwyll dipyn bach. Peidiwch a bod mor fyrbwyll. Cofiwch fod “pwyll yn well nag aur.” Fe ddaw pen y tymhor, a chewch chwithe gyfle i gofio am dano pryd hyny. Os yw Wil wedi troi mas yn groes i'ch disgwyliadau chi, nid efe yw'r cynta sy wedi troi yn fradwr, a nid efe fydd y diweddaf chwaith. Yr wyf fi wedi gweld amryw yn fy oes i yn dechreu yn rhagorol, ar unwaith yn dod i'r lan fel mushrooms (fel y dywedir) ac yn darfod fel cicaion Jonah. Noswaith y bu, ac mewn noswaith y darfu. Pan bo fi yn edrych nol dros ysgwyddau'r blynyddoedd i'r gorphenol rwy'n gwel'd rhyw ail olwg trwy ysbiernddrych y cof ar lawer iawn o gyfnewidiadau rhyfedd yn y byd gwleidyddol. Ond af i ddim nol nawr yn mhellach nag y gallwch chwithau gofio hefyd. Mae y rhan luosocaf o honoch chwi yn gofio yn dda am yr amser pan oedd enw Parnell yn dechreu cael ei gyhaeddi [?gyhoeddi]. Cyn pen ychydig flynyddoedd roedd y genedl Wyddelig

 

 

 

 

Text

Description automatically generated

(delwedd B1036b) (28 Mawrth 1895)

 

yn edrych arno fel rhyw seren ddisglaer yn ffurfafen Rhyddid i'w harwain i Gyfandir dedwydd Ymreolaeth, ond diflanodd yn nhywyllwch cwmwI du iawn, ac yr oedd enw Parnell wedi myn'd yn ddrewdod yn ffroenau holl genedloedd y ddaear cyn i'w gorff farw. Bu boll drigolion Prydain Fawr yn edrych ar Joseph Chamberlain a Jesse Collings fel arwyr i'n harwain yn mlaen dros fynyddoedd moelion angenoctyd i ddyffrynoedd breision lle y caem fwynhau ein hunain i fugeilio a godro ein gwartheg blithion ond y mae y ddau wedi colli eu ffordd yn yr anialwch er's llawer dydd. Gwelsom Tom Ellis, gobaith Cymru ychydig flynyddau yn ol, yn myned yn mlaen yn wrol trwy bob rhwystrau, ac edrychem arno fel arweinydd y genedl Gymreig. Ond y mae John Bull wedi ei ddal a llyffethair swyddol, ac y mae yntau wedi ei golli i feibion Gwalia. Ac wrth wel'd dynion mawr fel yna yn cyfeiliorni peidiwch a rhyfeddu ein bod ni y dosbarth gweithiol yn gwneyd camsyniadau, ac os cawn ein siomi yn y rhai y'n ni yn rhoi mewn swyddi unwaith. Pan ddaw'r tymhor peidiwn a'n hail-ddewis nhw heb gal sicrwydd eu bod nhw yn myn'd i ddiwygio. A goddefwch i mi ddweyd un gair arall os yw Wil wedi gneyd cam a chi nawr, arnoch chi oedd y bai am ei ddewis ef cyn cael gwybod beth oedd ei ddaliadau ond os darfu iddo eich twyllo, efe sydd yn gyfrifol, a dylai gael ei alw i gyfrif ar unwaith.

 

Twm. - Wel done, Hen Simon, wir dyna. araeth dan gamp. Wy'n cydfynd i'r dim ag e, a gobeithio cewn i glwed e yn y Conffrens etto. Ond beth am y lecsiwn, boys?

 

Ianto. — Mae'n debyg bod ni yn myn'd i gal lecsiwn yn Pendarren a ni yn myn'd i roi cystal, os nad gwell, cot i Dan Thomas yn Pendarren a gas Tom Morgan y tro o'r blan. Ond ma na battle dight i fod yn Gellifaelog.

 

Phil. - Oes, battle ddychrynllyd yw hi i fod. Ond trueni fod cyment o gelwydde yn cal i gweyd ar hyd y lle. Dyna beth ofnadw bod dynion yn gweyd taw tools yn llaw rhywrai erill ar gount gwanhau y Liberal votes a chal Tori mewn yw'r dynon hyny fu gyda John Evans yn gofyn iddo fe i dd'od.

 

Dan. — Af i ddim i ganvasso rhagor, ta beth.

 

Ned. Pam bachan?

 

Dan. Dyma pam. Y ty cynta ethim i mewn iddo fe, dyma'r wraig yn towli llawn bwced o ddwr ar i'n nhraws i ag yn gweyd, “Na cheith hwna ddim vote ma ta beth. Wedd e'n gweld y lle yn ddigon da iddo fe neyd arian yndo fe, ond dim digon da i godi plas i fyw yndo, ond ma fe digon da sposo iddo i mofyn honour o hono to. Na chaiff wir, chaiff e ddim vote odd ma ta beth.”

 

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd B1036c) (28 Mawrth 1895)

 

 

Shoni. — Wy ine wed[i] thowli hi i'r lan yn bad job hefyd, waeth dyw e ddim byd ond dysgu dynon i weyd celwdd, a dynon yn rhoi hunen ar hyd y lle fel rhyw watchdogs i watchan i gilydd, a threio pwmpo meddwl hwn a'r llall mas, er mwyn cal rhwbeth i weyd yn fach am danyn nhw. A mae yn llawn bryd tori'r canvasso a'r watchan na lawr yn llwyr.

 

Joe. — Ma ti hala ni cotio nawr am experience ceso ni six years ago. (We ni dim byw yn plwy Merthyr pryd hyny). Wedd lecsiwn yn y ward we ni byw yndo fe, a dwy Liberal Candidate, a wedrl y dwy yn gweitho yn crand. A wedd y second man in the field a of an y first ami hi, a wedd hi yn treio cwbod y secrets hi i gyd. We ni gweithio gyda first Party (a hi ath miwn hefyd). n.

 

Mocyn. — Ie, os o't ti gydag e, bid siwr.

 

Joe. — Gad i ni myn'd mlan. Wedd friend i No. 1 Candidate yn gweyd wrthon ni bod rhyw stranger wedi bod gyda hi several times yn mofyn introduction i'r Candidate, a dim amser gyda friend i mynd gyda hi, a halws i gofyn i ni un noswaith am mynd gyda hi. A ni nabod hi at once, a wedi gweld hi yn funeral gyda mab, a chairman y No 2 Candidate a mynd nol i canvasso together o'r funeral. A wrth bo ni mynd lan, dyma ni gofyn os odd hi supporto No 2. “No,” medde hi, “I intend to support No. 1, but I should like to ask him a few questions first.” Gofynes os taw dyna beth odd i busnes hi nosweth hyny, te private business wedd gyta hi. A gwedws taw obythti Lecsiwn wedd hi mofyn gweld hi. “But,” rnedde hi, “after I shall have an introduction to the Candidate, I don't wish to detain you from your business, a wen ni gweyd quietly bo busnes i fi clwed os taw busnes lecsiwn wedd gyda hi. A tyma ni at plas y candidate, a cnoco drws, a dyma hi dod, a tyma ni introduco hi i'r candidate yn honourable fel Mr. Judas, the Secretary of the Cut-throat League. A tyna candidate galw ni miwn, a tyma hithe mynd mlan yn bold heibo ni, a rhoi llaw i ni, a gweyd “Good night, Mr. Newman, and thank you for your kindness.” “O no,” meddwn i, “I am coming in as well,” a mewn a ni, a ethon ni dim mas hefyd os bod hi yn mynd mas, a buodd hi dim gweth o bod na. There was no water in the pond for him to fish that night, a off a hi nol at i friends a pan gwedws hi bo ni wedi mynd gyda hi, o'n nhw rhegu Cwmbrag, Sisneg, a Irish, a galw hi pob ffwl yn byd, a gweyd byse digon o caneuon am deni yr wythnos nesa, a fe gnethon ni can hefyd, a tyna fe: —

 

Who's the bloke is going o bythti?

He's a Touter;

Gyda cwdyn mawr i casglu?

He's a Touter:

Pob rhyw secrets amser Lections,

Ac yn holi lot o questions

Er mwyn cal yr informations

Gyda lot o suppositions,

He's a Touter,

Er eu troi yn ammunitions,

He's a Touter.

 

Ye aspirants am gal honours,

Watch the Touter;

Closely day and night with horrors,

Watch the Touter;

He's a jackal mewn croen dafad,

And he watcheth pob symudiad,

Nid yw'n segur am un tiliad

Hyd nes llwydda yn ei fwriad,

Watch the Touter —

Gwyliwch rhagddo ef yn wastad,

Watch the Touter.

 

Dros y Conffrens, — WIL SLEDGWR.

 

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd B1034a) (4 Ebrill 1895)

The Merthyr Times. The Dowlais Times, and Aberdare, Pontypridd, Rhondda Valley, Rhymney, Tredegar, Brynmawr and Western Valleys Echo. 28 Mawrth 1895.

 

4 Ebrill 1895.

 

Y CONFFRENS.

 

Jack. - Halo, Hary, sut wyt ti heno? Beth oedd y cage na wedd gyda ti pwy ddywarnod? Wyt ti wedi troi mas yn ddiweddar?

 

Harry. — Dyna'r tro rhyfedda ddaeth i gwrdd a fi eriod, boys. Fe gwrddais a hen fachan yn gwerthu adar, ag wedd dag e adar bach pert anghyffredin, ag yntau yn i brago nhw i'r lan. A fe bymrnes i un o henyn nhw, ag off ag e sha thre. Wedi mynd sha thre ago e wen ni'o galw'n ffrynds miwn i gal i weld e, a nhwynte yn canmol bod e'n dderyn pert. Ond wedd dim argol iddo ddachre canu, ond wedd e’n pigo i blyf. Fe roies yne [= inne, innau] lawn basin o ddwr miwn iddo fe, ond dyma fe i'r dwr, a dyna lle wedd e'n golchi i hunan, a ffusto'i adenydd a splasho'r dwr ar draws y lle i gyd. A wedi iddo gwpla golchi i hunan. beth oedd y deryn pert ond hen lwydyn y to! Ches i ddim shud sec in [?] yn fy mowyd ariod.

 

Mocyn. — Chest ti ddim mwy o gwylydd na geso i un tro wrth fynd i garu. Wedd merch fach smart iawn yn barmaid yn y Flaming Dragon, ag wedd y bechgyn obythti'r lle yn dotio arni, wath wedd hi yn shwt ferch fach lan. Wedd dwy foch goch fach lan, mor goched a'r ceiros gyda hi. Ond un nosweth ffein yn yr haf, fe ddath mas heb un wmbrella, a thyma gawod i law tyrfe yn dod yn ddisymwth, a nine heb ddim cysgod. Ond cyn i'r gawod gwpla, dyna olwg hyll wedd arni! Wedd y dwr glaw wedi golchi'r paent ar hyd ei gwyneb hi i gyd. Weles i ddim cradur mwy hyll yn y mowyd ariod, a es i byth gyda hi ar ol y tro hyny. Ag wyn suspicious iawn o ferched a roses cochion odiar [sic: oddiar] hyny, ag yn barod i weyd gyda Cleifon:

 

“Ar f’einioes nid oes da

O ddilyn y ddol yna.”

 

Phil. — We!, mae gweinidogaeth y dwr yn dod a llawer o bethau i'r golwg. Mae rhyw ffatri ofnadw yn Merthyr nawr obythti'r dwr hefyd, a ma'r ddwy ochor wedi mynd mor bell a'r South a'r North Pole o wrth i gily. Beth am y fusnes hyn fel Pwnc y Conffrens nawr?

 

Ianto. — Ie wir, mae ishe i ni ddod i ddeall y pwnc na, ond wy'n ffaelu'n deg a cydfynd a'r ochor sy'n gweyd dyle'r dwr fod ar yr un principle a'r gas. Os fel gas dyle fe fod, fe ddyle fod meter yn mhob ty wedyn. Fe fydde rhaid cal tap a meter gogyfer a'r teulu, a tap a meter gogyfer a phob un o'r lodgers, a rheiny wedi cal eu numbro gogyfer a phob un, a barnwch chi shwt Babel o le fydde ma wedyn, a fe fydde rhaid cal Sanitary Board yn mhob street wedyn hefyd. Dyna le i ni whylo am swyddi wedyn.

 

 

 

 

Text

Description automatically generated

(delwedd B1034b) (4 Ebrill 1895)

 

Joe. — Ma ni rhoi advice i gadel y subject yna nawr until some future time, hys bo ni wedi cal rhagor o public meetings a writings on the subject. As far as I can see, mae na lot o exaggerations on one side, a very weak points on the other side, and after the subject will be thrashed out thoroughly, a nine understando fe, gnewn ni expresso opinions wedyn, pwy sy right a pwy sy wrong, a ma ni ni wedi enjoyo “Plain Politics” Maenhir wsnos dywetha. Os yw peth ma hi gweyd am y screw yn right, ma fe shameful.

 

Sami. — Wdw i ddim wedi sharad llawer yn y Conffrens, wath ma iaith y wlad mor gryf gyda ti. Wdw yn galler darllen Sisneg yn weddol bach, a'r pethe cynta wy'n edrych am denym nhw yn y Times yw'r “Conffrens,” “Joe Hammersmith,” a “Plain Policitics” [sic] a wy wedi leico'r “Plain Politics” yn ombeidis yr wthnos ddywetha. I gadarnhau beth ma Maenhir wedi weyd, fe weda i dypyn bach ar beth sy wedi hapio i nhad i'm hunan. Wedd e'n gweithio ar ffarm yn y wlad gyda Tori, ag yn byw ar i dir e hefyd. Wedd y lecshwn gynta ddath ar ol iddo fe gal fôt yn hapio ar amser cynhaua gwair, a'r nosweth cyn y lecshwn fe wedodd e ar deilad arall wedd yn gweithio na na fysen nhw ddim yn dod i'r gwaith cyn naw o'r gloch bore trenoth, bo nhw yn mynd i foto, bod y bwth yn agor am wyth, a byse nhwynte miwn pryd erbyn dachre cwyro gwair. Ond fe wedodd y mishtir os bye nhwn yn myn i foto na fyse dim rhagor o waith iddin nhw. Ath y deilad arall i'r gwaith am 6, a fe ath nhad i foto, ag i'r gwaith erbyn 9. Ond fe gas hala nol a gweyd wrtho am fynd at y dyn oedd e wedi bod yn foto iddo'r bore hyny. Nol ag e shag adre wedi colli waith ond ar rfordd fe gwrddodd a ffarmwr arall, a fe wedodd hwnw wrtho fe am fynd at wr boneddig ag wedd wedi gweyd wrtho fe bod ishe dyn arno at waith neilldnol yn y District, a fe rows note iddo fe i fynd atto a fe wedodd hefyd wrth nhad, os na gese waith gyda hwnw am iddo ddwad nol atto fe, a rhoise fe waith iddo hyd os cese fe waith arall. A fe ath nhad, a fe gas jobyn splendid ar unwaith. Ond wedd gofid arall yn dwad; fe gas notis i adel y ty, ond fel hapiodd fod e wedi cwmryd ty i'm mrawd wedd newy briodi, ag wedd hwnw wedi newid i feddwl i ddwad bant i Aberdar, a fe gadwodd nhad y ty iddo i hunan, ag mai e wedi bod yn lwcus byth oddar ny. Mae e wedi pryni'r ty os blynydde, ag yn fishtir arno'i hunan yn y gwaith sy gyda'g e. A fyse fe byth wedi dwad yn abal i byrnu ty byse fe wedi aros yn y ffarm lle wedd e. Ond we dim diolch iddyn nhw i hamcan nhw wedd i starvo fe, ond mae e shwr o fod mwy hapus na nhw heddy.

 

(Y mae y ffeithiau uchod yn hollol wirionedd, a gellir rhoddi cyfeiriadau yr amaethwr gormesol, a'r deiliad ddioddefodd y screw). — Dros y Conffrens, WIL SLEDGWR.

 

 

Text

Description automatically generated

(delwedd B2020a) (9 Mai 1895)

 
The Merthyr Times. The Dowlais Times, and Aberdare, Pontypridd, Rhondda Valley, Rhymney, Tredegar, Brynmawr and Western Valleys Echo. 28 Mawrth 1895.

 

9 Mai 1895.

Y CONFFRENS.

Ned. - Druan a Wil Sledgwr! Mae e yn gwella etto; mae wedi bod yn narrow shave arno, a wir dwy ddim yn credu bod eu ffit i ddod mas nawr hefyd. Helo, Wil, shwt wyt ti yn gwella, bachan?

Wil Sledgwr. - O wy i yn gaino dan bwyll: wy'n credu bo fi wedi rhoi grot iddi tro hyn etto. Shwt i chi'n dod mlan os lawer dydd? Dwy ddim wedi gwel'd dim o hanes y Conffrens oddiar wy i wedi bod yn gorwedd mewn. Pam o'ch chi beidio appwynto rhywun i ysgrifenu typyn o hanes i'r Times?

Eik. - Wel. oedd Dan just a mynd yn dwl eisie cal i ddewis yn beth oedd e yn alw yn “Secretary Pro Tem,” ond odd well gyda ni aros nes bot ti yn dod rhag ofan na fyse fe ddim yn folon rhoi lan i ti wedi i ti wella, shwt gnethon nhw ddelo a ti? Cest ti dypyn o help o'r Disablement Fund gyda nhw, bachan?

Wil Sledgwr. - Na ddo ddim. I chi yn gwbod fod rhaid i ddyn fod ar y list am chwech mis cyn dod yn full member i gal dim mas o hono. Cofiwch chi, fund dda ragorol yw hi, a dewch i ni ofalu, bob un o honom ni i roi rhwbeth atti pan bo'r casglwyr yn dod round yr wythnosau nesa yma. Mae wedi bod yn fendith amrhaethadwy i lawer, pan oedd hi wedi mynd yn dywyll fel y fagddu arnyn nhw. Fund fendithiol yw hi, cofiwh am deni.

Ned. - Ie, fund dda yw hi, ond dw i ddim yn cyd- fynd a'r ffordd sy gyda rhai o honyn nhw i fynd yn rownd dai dynion wedi iddin nhw hala application mewn am help. Dyna nhw yn mynd i dy dyn gweithgar a sobr, wedi gofalu am ei glwbc; rheiny wedi mynd nawr i half pay. Mae gydag e dyed o gelfi splendid a gwraig dda, weithgar, a chryno, yn cadw pob peth yn lan ag yn drefnus yn ei le fel pin mewn papur. Ma na saith o blant, a dim un o rheiny yn dechreu gweithio, a’r fenyw fach bron lladd i hunan wrth slafo i gal bob o damed o fwyd iddon nhw; ond fe aiff y dynion hyn nol, a fe wedan nad oes dim eishe help ar y bobl hyny, bo nhw wrth ben i digon am fod y ty yn llawn o gelfi glan, pan mewn gwirionedd dyna'r dynion sy'n teilyngu cal help. Fe an wedyn i dy rhyw hen racsyn meddw. Pan yn abal i weithio, rodd well gydag e hen hwch slwtaidd, frwnt, feddw, ddidoraeth, ddi-dda-i-ddim o wraig; tri o blant sy gyda nhw, a mae dau o rheiny yn gweithio. Ond does dim i'w weld yn y ty ond olion diogi, medd-dod, ac esgeulusdod. Fe aiff y visitors nol o'r ty yna, a fe ddesgrifian y llwmdra yn druenus, ag fe gymeradwyan i'r Pwyllgor rhoi sum da i'r bobl yna. Mae rhywbeth fel yna yn cefnogi oferedd a diogi.



 

 

Text

Description automatically generated

(delwedd B2020b) (9 Mai 1895)

 

Dan. - Paid di gweyd fod y Disablement yn cefnogi oferedd a diogi.

Tomy. - Dan, paid di cwni dy gloch yn rhy uchel; ma gyda fi gneuen i ti graco. Wyt ti yn cofio pan ces i ddrwg yn Pwllygwynt bod ti yn siarad a fi yn regular, ag yn gofyn i fi hala, application i'r Disablement, a bod ti ar y committee, a byset ti yn gweyd pob peth o fewn dy allu, ac yn rhoi oll bwerau dy ddoniau areithyddol o blaid i ti gal help.
Ond pan gofynes i am help, beth wnest ti? Dweyd nad odd dim eishe arna i, bod hi'n gwylydd i fi ofyn am help, a gallwn i fyw yn splendid heb help, bod gyda ti lot o arian yn y Banc, a tithau yn gwbod o'r gore nag oedd e ddim. Put that in your pipe and smoke it, old boy.

Joe. - Dyna un peth grand ma Disablement Fund gneyd hefyd. Ma fe grand thing i'r rhai sy'n aspirants am public honours i dod mas a coins os bydd son am ejections ond tyna drwg, ar ol i nhw cal success ma nhw dim attendo wetyn bys bo talk o byty election arath. Ond ma chance splendid i nhw gneyd stroke nawr to wrth dod mas i mofyn collections.

Harry. - Ma rhyw gwrdd i fod Dydd Llun Mabon ncsa gyda nhw miwn tafarn, os rhai o honoch chi yn mynd na boys. –

Ben. - Wel, dyw e ddim un dianrhydedd i fynd i dafarn o gwbl, boys. Dyna le ma'r cymdeithasau. dyngarol, committees checks, committees gweithiol, smoking concerts, &c., yn cal eu cynal, a ma dynion prominent yn customers mewn tafarnau hefyd. Mae Magistrates, District Councillors, Guardians, County Councillors, a Parliamentary Candidates yn mynd i dafarnau, a pwy ddrwg yw hi i ninau fynd i dafarnau hefyd?

Joe. - That's true, but don't think that two blacks will make one white. Mae gyda ni County Councillors hefyd sy wedi opposo proposition i cau public-houses ar Election Days, a mae gyta nhw reason am hyny; ma rhai dynon dos gyta nhw dim sufficient personal moral merits to influence the people to support them.

Ianto. - Beth am dysteb Dyn y Death Clwb nawr? Odi ddi wedi mynd fel mar adnod na yn gweyd, “Out of sight, out of mind.” Odir committee wedi gneyd rhwbeth.


 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd B2020c) (9 Mai 1895)

 

Twm. - Odyn i ni wedi bod yn gweitho. Fe ges i fy newis yn Gadeirydd y Pwyllgor, Wil Rhydill yn Drysorydd, a Dan yn Ysgrifenydd. I ni wedi penderfynu i gal darlun o hono fe hunan, ac fe ewn digon pell i dynu hwnw i gal peidio patronizo home trade. Ma anerchiad wedi fframo yn Paris i gal i roi iddo, ag mae Dyn y Death Clwh wedi cal ysgrifenu yr anerchiad ei hunan, achos mae e yn gwbod am ei ragoriaethau ei hunan i gyd, a dim am ei wendidau (ni syn gwbod am rheiny) a does dim use rhoi dim ond rhagoriaethau mewn anerchiad, fel i chi'n gwbod. I ni yn mynd i roi casgliad o standard works iddo, llyfrau da, i chi'n gweld, sef Hanes Twm Shon Catti, Trysorfa'r Plant, Caneuon y Bardd Difyrus, Darlithiau Peggy'r Gleber, cyfrol ail law wedi colli cloriau o Hanes Prydain Fawr, gan Thomas Levi, ag Almanac Francis Moore, &c. Hefyd phwrs o aur wrth gwrs. Mae casglwyr wrth eu gwaith, ag i m wedi penderfynu fod Members y Conffrens i roi bob i haner coron, ag ma rhaid i chi foddloni waith i ni wedi settlo fe, ar peth i ni yn settlo sy i gal sefyll. Fe fydd y cwrdd i gal i gynal mor gynted a dewn ni yn barod, ag ar y diwedd fe gown statement gyda Dan o'r gweithrediadau i gyd yn Seisneg wath i ni wedi cal digon o Gymrag yn y gorphenol, a fe fydd Dan yn dangos typyn o “douch” i Wil Sledgwr a Dyn y Death Clwb y gall e ysgrifenu Sisneg.

Phil. - Ma rhyw son rhyfedd yn y lle nawr am gal Eisteddfod '97 i Merthyr, ag wrth weld dynion cymwys i ffurfio Pwyllgor i'w cal eu henwi own i yn yn synu typyn, ac yn teimlo hefyd, na fyse'n parchus scrifenw'r ni yn cal ei enwi gyda nhw.

Wil Sledgwr. - Rhyngot ti a finau a'r wal, own inau yn teimlo hefyd.

Dan. - Ma Twm wedi angofio un peth mewn cyssylltiad a'r dysteb yr wy i fod i sharad yn y cwrdd tystebu, a hyny yn Seisneg; a pheth arall fe fydd y llun a'r anerchiad yn cael eu dangos yn ffenestr y fish shop am bythefnos cyn y cwrdd. Ond mewn cyssylltiad a Committee yr Eisteddfod, rwyn credu y dylen ni gal ein cynrychioli yna. Dyw hi ddim yn deg bod dosbarth o ddynion call fel ni yn cael ein hanwybyddu; fe ddylen gael cynrychiolaeth deg o gynrychiolwyr i'n cynrychioli yna, wedi eu cynrychioleiddio yn saith cynrychioleiddiach nag y cynrychioleiddiwyd cynrychiolwyr cynrychioledig yn unrhyw gynrychioleiddfa gynrychiolawl o gynrychioledigion cynrychioledig erioed. Ag wdw i yn foddlon mynd yn un fel dyn call.

Hen Simon. - Fy machgen anwyl i, gad yr hen eiriau mawr gwyntog yna ar ol, a siareda fel dy hunan yn naturiol, gwrando beth ddywed Gurnos: -

 

“Os am lefaru wyt nes synu'r byd,

Areithio, darllen, cofia hyn o hyd

Bod yn naturiol ydyw'r gamp i gyd.”

Wil Sledgwr. - Mae'r amser fynu i ti fynd yn ol rheolau'r Clwb. Rwy'n cynyg bod Hen Simon i agor y cwrdd y tro nesaf.

Oll. - Hear, hear.

Dros y Conffrens,

WIL SLEDGWR.

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd B2019a) (16 Mai 1895)


The Merthyr Times. The Dowlais Times, and Aberdare, Pontypridd, Rhondda Valley, Rhymney, Tredegar,
Brynmawr and Western Valleys Echo.

 

16 Mai 1895.

 

Y CONFFRENS. Rhif 24.

 

Phil. — Clywch chi, boys? Ma Ned yn dod dan ganu heno.

 

Ned (yn canu): -

 

“Dau lanc ifanc mynd i garu,

Hei di ri ding, hei di ri di

Ar nos dywylI fel y fagddu,

Hei di ri ding, &c.,

Swn cacynen yn y rhedyn,

Hei di ri ding, &c.,

Troes nhw adre'n fawr eu dychryn,

Hei di ri ding, &c.

 

Dan lanc ifanc mynd i garu,

Hei di ri ding, &c.,

Hefo'r afon ar i fynu,

Hei di ri ding, &c.,

Un a'i wn ar llall ai gledde,

Hei di ri ding, &c.,

Cysgod bedwen troes nhw adre,

Hei di ri ding, &c.

 

Harry. — Helo, Ned, wyt ti yn llawen iawn heno. Beth sy'n bod? Allwn ni feddwl bod ti wedi joino'r Fool a'r Maniac Society.

 

Phil. — Yr idiot dwl fel ag wyt ti! Beth wyt ti yn lapach shwt nonsense dwl? Philarmonic Society wyt ti'n feddwl sposo. Glywsoch chi shwt fwnci twp yn wilia ariod, boys?

 

Harry. — Cymer bwyll, Phil ma dy gro'n di rhwbeth yn dene iawn heno. Beth yw'r rheswm bo ti yn tasgu mor ddychrynllyd'? A wyt tithau wedi mynd yn gantwr hefyd?

 

Phil. — Wdw, wy wedi joino'r Philharmonic, sef cor Harry Evans, ag yn parotoi i fynd i Eisteddfod Llanelli, ag i ni yn mynd i ddod nol ar prise hefyd.

 

Shams. — Fe elli di ranu dy air yn ddoi am hyna o'r goreu; cofia di fod Cor Merthyr yn parotoi hefyd, a fe wyddon i gyd pwy sy'n arwain hwnw. Ag mae Cor Rhymney yn gweithio yn galed, ag ma gyda Harry Evans lawer o dorthau i fwyta cyn daw e fynu fel leader i Dan Davies na John Price. Ma gormod o fost gyda Dowlais lawer bo nhw yn mynd i enill cyn yr Eisteddfod.

 

Dan. — Paid di gweyd dim yn erbyn Cor Dowlais; ma Dowlais wedi gwneyd gwaith ardderchog trw’r blynydde dywetha yma.

 

Mocyn. — Ie, ond Dan Davies oedd yn ledo pryd hyny. Dim ond failure yw hi wedi bod bob tro yn y 3 mlynedd dywedda hebddo fe. Gyda'r eithriad o'r Cor Dirwestol; mae'n wir fod hwnw wedi gneyd marks ardderchog, ag ystyried yr ymdrechion sy wedi cal eu gneyd yn ei erbyn e. Ma, rhyw rai wedi treio gneyd pob spite yn erbyn Bob Rees, ag yn ei alw e yn bob peth drwg. Ma rhyw bersonau i gal na allan nhw ddim gweld un rhagoriaeth yn neb ond rhywrai ma ffansi gyda nhw ynddyn nhw. Beth bena naiff Bob Rees, D W. Jones, J. T. Jones, a rhyw fechgyn ereill tebyg iddyn nhw, bechgyn ag sy ar eu goreu i wneyd lles yn y lle, yn rhoi eu hamser, en talentau, a'u gwasanaeth, er codi'r lle mewn ystyr gerddorol, yn foesol, a chrefyddol, a hyny yn rhad ag am ddim, ag heb fygwth gadel ei hegwyddorion os na chan nhw ragor o gydnabyddiaeth mewn ystyr arianol — ie, os gnaiff rhyw rai ofyn i'r bechgyn yna ddod allan a chor o blant neu barti, fe fydd llythyr mawr cyd a braich yn y papyr yr wythnos ar ol hyny, a rhyw heading tebyg i hyn mewn llythyrenau breision wrth ei ben: — “Another attempt to Wreck the Philharmonic Society.”

 

Phil- — Harry Evans yw'r Leader gore sy wedi bod yn Dowlais eriod.

 

Lewsyn. — Byset ti yn gweyd taw Harry Evans yw'r chwareuwr gore fu yn Dowlais erioed fe fyset yn lles i dy le.

 

Jim. — ‘Roedd Dr. Rogers yn gweyd taw'r cig moch goreu fytodd e eriod oedd yn South Wales.

 

 

 

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd B2019b) (16 Mai 1895)

 

Lewsyn. — Dyna hi etto, towli at y moch o hyd; ond gwyddest ti beth yw ystyr y gair “moch?”

 

Jim. - Moch yw'r hen greaduriaid brwnt a stupsd na, nad i'n nhw dda i ddim ond ei lladd nhw.

 

Lewsyn. — Dyna gyd wyt ti yn wybod aie? Ma’r gair “moch” yn golygu “cyflym, i ddysgu, hoenus, hoew, gwisgi bywiog,” &c., a chofia taw credit i un rhyw gymdeithas yw cael eu galw yn “foch.”

 

George. — Look here, listen to me. I saw men from Merthyr in a certain place, yes, I saw them myself; they were up for the purpose of taking points from Dowlais, and they had copies with them, yes, each of them had a copy; I saw them, yes, listen, I saw them myself, and there was some besides me looking at them; ycs, listen, we were looking at them, they were picking points, and marking their copies, yes, we were looking at them, for a long time, marking their copies, yes, yes, we watched them, yes; what you think of that now? Yes, what you think of that now?

 

Mocyn. — Peidiwch gwrando ar shwt nonsense, boys; does dim eisiau i Merthyr fynd i gasglu poiuts i un man. Mae côr Dan yn ddigon ar y blaen heb neyd rhyw dricks fel yna.

 

lanto. — Ma nhw yn cynyg bets o 10 to 1 ar Dow- lais.

 

Mocyn. — Ydy hwna. yn reit?

 

George. - Yes, listen to me, you see. I know the persons, well, yes, I know them well you see, yes, listen, I know a man who will put down 10 to 1 on the Dowlais Choir, yes, he will do it, listen, you see, I was talking to him last night, yes, you see, what you think of that?

 

Sami. – O dina’r un weles i yn cal mynd bant i'r Bedlen bore heddi. Ond dyma beth wen i yn hala ato fe os joino a côr canu i fynd i'r Isteddfod nawr, ma rhai[d] i ni beido wasto dim o'n lleishe nawr yn un man arall. Ma well i ni adel llyfre Hyme gatre dy Sil, a peidio canu dim yn cwrdd, rhag ofon spwilwn ni'n lleishe cyn mind i'r Steddfod

 

George. — Look here, listen, do you know what I heard of the Merthyr Choir last night, listen, awful thing, yes, you see, its awful, yes, and Dan is afraid of Dowlais too, yes.

 

Jack. — Look, here George, I don't wish to call you a liar, but I cannot listen to you babbling so much. I heard you some months ago giving utterance to some thundering lies ---

 

George. — Don't you call me a thundering liar, if you please, Jack, you see.

 

Shon. — Don't be so hasty-tempeied, George. Take it cool.

 

Wil Sledgwr. - Dim rhagor o'r codi dyrnau yna, fechgyn; i chwi wedi tori dros ben pob rheol, i chi cyndrwg a'r District Council. Hen Simon odd i agor y Conffrens heno, a dewch i ni gal newid y subject nawr, a gwrando beth sy gydag e i ddweyd.

 

 

 

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd B2019c) (16 Mai 1895)

 

Hen Simon. — Wel, fechgyn, mae'r amser wedi mynd tnlan yn rhy bell, ag yr ydych chwithau wedi poethi gormod yn eich tymherau i wrando ar lawer o araeth heno. Ond mi roddaf air neu ddau o gyngor i chwi mewn perthyuas i'r hyn oeddech yn siarad heno. Yr wyf ti wedi bod yn hen eisteddfodwr, ac wedi gweld llawer o gweryla, rhwng beirdd a'u gilydd, a rhwng cerddorion a'u gilydd, ond welais erioed yr un daioni yn deilliaw o hyny. Pan byddo dadl yn codi ar rhyw bwnc, y mae bron yn ddieithriad yn diweddu mewn trin personau yn lle trin pynciau. Fechgyn anwyl, gan nad pryd y byddwch yn anghydweled peidiwch a mynd i ddiraddio eich gilydd oherwydd diraddio eich hunain y byddwch wrth wneyd hyny, ac hefyd mewn dadl bob amser cedwch yr adnod hono mewn cof, “Yn eich amynedd meddienwch eich eneidiau.” Peth arall garwn wasgu at eich meddwl yw, peidiwch byth a dyrchafu unrhyw berson ar draul darostwng rhyw un arall. Y mae Mr. Harry Evans yn fachgen y dylai Dowlais fod yn falch o hono, a dyledswydd pobl Dowlais a'r cylch yw rhoi pob cefnogaeth iddo. Y gwir am dani yw, y mae ei enw yn gosod anrhydedd a'r Dowlais fel lle ei enedigaeth, ae y mae y safle uchel y mae wedi enill fel chwareuydd yn teilyngu sylw cyffredinol. Ond ar bob cyfrif, na ath Duw i ni ei ddyrchafu ar draul darostwng neb arall. O'r ochr arall, yr wyf yn sicr nad oes un dyn yn ei synwyrau a wna amheu am foment nad yw Mr. Dan Davies yn un o'r arweinwyr goreu a fagodd “Cymru lan gwlad y Gân” erioed, ac y mae yr hyn y mae wedi ei wneyd yn ddigon i'w osod yn y lle uchaf fel arweinydd corawl, a hyny heb dynu neb arall i lawr. Peth arall y carwn ofyn i chwi yw hyn: peidiwch a son am y betio a'r gamblo yma sydd mewn cyssylltiad a chanu eisteddfodol. Y fath druenu yw meddwl fod y fath lygredigaeth estronol wedi dod i fewn mewn cyssylltiad a'n sefydliad cenedlaethol cyssegredig. Gadawaf y mater hwn yn awr gan obeithio y caf gyfle i godi fy llais etto, ac y deuwch i gyduno a mi yn erbyn y fath arferiad warthus a ffiaidd.

 

Frank. — Wel, fe ddweda i gymynt a hyn am Harry Evans. Mae e yn ddigon galluog i feirniadu corau cyn y gystadleuaeth, a beirniadu'r beirniaid wedi'r gystadleuaeth.

 

Sami. — Dropa hi nawr. Pwy sy'n smoko shigars ma? Ma sent neis ombeidis gyda nhw. Helo, ti Twm, sit wit ti wedi mynd rin peth a'r gwyr mowr i gyd nawr: neith pib a dybaco ddim o'r tro i ti nawr, on ma rhaid cal shigars.

 

Twm. — Rwyn cal digon o shigars nawr, yn enwedig oddiar pan wy wedi dod yn ddyn cyhoed[d]us gyda'r gwahanol pwyllgorau yma, cadeirydd Pwyllgor Tysteb Dyn y Death Clwb ac yn y blan. Does dim prinder licer, champaine, na shigars arna i byth nawr. Ble byna wyn mynd, any amount o luxuries yw hi nawr heb gosti ddim dime i fi. Row'n i yn Ffair Aberhonddu pwy ddiwarnod, a dyma wr bonednig [sic; boneddig] yn galw arna i, ag yn gweyd wrtho i, “Tom here take this for your own disposal,” a beth oedd e ond haner soverin. Dyna beth yw bod yn ddyn cyhoeddus, i chi'n gweld. Rwy'n trafaelu off, a dwy byth yn cal talu un ddime o'm mhoced fy hunan. Beth yw body yn ddyn cyhoeddus, onte? Rwy'n deall routines y trains yna cystal a Sir W. T. Lewis, a chi wyddoch mor glever yw e. Mae e yn gallu transacto bysnes yn Caerdydd yn y bore, ag yn Llundain yn y prydnawn. Ond rwy i yn deall routines y trains cystal ag yntau. Beth yw bod yn ddyn cyhoeddus onte?

 

Shoni. — Asen grop, dyna ddigon of froth am wythnos, ta beth, Dewch i ni gal mynd, boys.

 

Dros y Conffrens,

 

WIL SLEDGWR.

 

 

Text

Description automatically generated

(delwedd B2016a) (23 Mai 1895)

The Merthyr Times. The Dowlais Times, and Aberdare, Pontypridd, Rhondda Valley, Rhymney, Tredegar, Brynmawr and Western Valleys Echo. 28 Mawrth 1895.

 

23 Mai 1895.

Y CONFFRENS.
Rhif 25.

Dai. - Poor Wil! Poor Wil! Dyma hi heno! Mae wedi dod yn ddeche arnom ni nawr. Fe glywson am fardd wedi lladd bardd arall un tro wrth ei dafodi e, a dyma Wil Sledgwr, poor fellow! wedi cal ei gnoco drws nesa i fynd gan dafod rhywrai. Beth yw'r papur yma sy'n ei law e? Odi e wedi gneyd i wyllys wn i? Dewch i ni gal gweld beth yw e. O’r, Merthyr Times yw e, a darllen report y Disablement Fund oedd e pan cwmpodd e. Dewch i dreio i gwni e, boys. Wil, Wil, Wil, bachan, cwn bachan, gwyddest ti pwy sy ma.

Mocyn. - Wel, wel, does dim cyffrad yndo fe. Odi well i ni mofyn Doctor atto fe.

 

Joe. - Let me fello'i pulse hi, boys. Calon hi sy wedi sinko lawr i sowdwl hi. He will come right again. Ma ni yn mynd i canu dycyn bach iddi, walle startith hyny ddi. Mae wedi bod yn llefen yn dost, nes ma llyged hi coch right. Nawr ma ni starto canu: -

Courage, Slcdgwr, paid a llefen,
Paid a danto;
Fel rhyw ffool ’rol colli wedjen
Paid a danto.
Os oes rhywrai yn direbu,
Ac yn bothran pob rhyw ffwlbri,
Fe fydd Joe at law'n quite ready,
I roi pob assistance iti,
Paid a danto;
Os ceith lorio gwnawn dy gwni,
Paid a danto.

Os yw'th galon fach yn crynu
Paid a danto,
Yn y nos wrth fynd o bythty,
Paid a danto;
Heibio'r Docks a Chwrt y Bwgger,
Mouse Hotel a Phant y Glocsen
O'r hen gaward, paid a llefen,
Bydd y “Conffrens” Boys tu cefen,
Paid a danto
Yn dy watchan rhag cal clowten,
Paid a danto.

Os oes rhywrai mor danjerus,
Cwn dy galon,
Am dy smasho all to pieces,
Cwn dy galon Courage,
Courage, brother, paid a danto,
Altogether gnawn dy backo,
Dim ond i ti ddall i sledgo,
Cawn eu gweld nhw gyd yn twmlo;
Cwn dy galon
Ninau wed'n yn enjoyo,
Cwn dy galon.

Jim. - Now then, ni feelo pulse hi eto; o mai dod lan; un verse fach eto, boys; joynwch chi yn y chorus.

Starta Wil yn awr at waith,
Paid a bod yn lleban llaith;
Dere mas yn awr fel dyn,
Ei eu concro nhw bob un.

Chorus-
Have courage, brother Sledgwr,
Have courage, brother Sledgwr,
Have courage, brother Sledgwr,
We'll back thee to the end.

Wil Slcdgwr. - Cha i ddim llonydd gyda chi sposo, fysen dda iawn gyda fi ta chi'n peidio trwblu dim o hona i, wath wy ar lawr yn lan.

Shoni. - Wel os fel na mae'n bod ma well i ni gal Dan i sgrifenu yn dy le di.

Wil Sledgwr. - Beth, rhoi Dan yn fy lle! Na dim heno, ta beth. Ond ma un peth yn anfanteisiol iawn gyda fi i gwrdd a nhw. Dw i ddim wedi bod yn'r ysgol i ddysgu'r termau clasurol yna sy yn ei report nhw.

Shams. - Dewch i ni cal clwed rhai o’r terms sy gyda nhw.

Wil Sledgwr. - Dyma rai o honyn nhw. - “Vile and under-handed attack,” “Contemptible production,” “Liar,” Mischievious scribbler,” “Disappointed mischief-makers,” &c., &c.


 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd B2016b) (23 Mai 1895)

Dai. - Nid ffol o blan, boys, fyse hala'r Merthyr Times a llythyr Joe Hammersmith ar iaith anweddaidd iddon nhw.

Harri. - Rhyw ddweyd rhyfedd odd gyda un o honyn nhw; leicse fe gal gafel yn Wil Sledgwr yn y nos pan na fyddai police yn handy, a rhoise fe rhwbeth iddo fe i gofio am y part arall o'i fywyd.

Hugh. – Yr oeddwn i wedi arfer barni fod y person yna yn foneddwr, ac yr wyf wedi'm synnu'n ddirfawr ei fod e yn gwneyd bygythion o'r fath.

Sami. - Os wes rhyw faint o wr bynheddig yn blongo iddo fe ma shwr o fod cwyli arno fe nawr fod e wedi gweyd shwt beth. A paid di hido beth ma nhw yn fwgwth, Wil, os wes rhai o nhw yn gwbod y ffordd i uso cleddeife chan nhw ddim o chopo di lan i neid sosingers o honot ti.

Dan. - Trueni na fyser Constitutional Clwb yn barod nawr i gal hala Wil yno ar gount iddo fe gal i gonstitution mewn conditions cryf i gwrdd a nhw yn y nos.

Jack. - Own i wedi addo cwmryd ticket te parti sy i fod yn Town Hall, Pontsarn, ond wn i ddim a oes use i fi fentro mynd drwa na dros y mynydd nawr.

Ianto. - Wel, wn i ddim be sy i ddod o'r byd yn y shap hyn, os yw arweinwyr y bobl yn mynd i roi shwd shampl ddrwg o flan y bobl. Pwy ryfedd bod dynion cyffredin yn actio shabby, os taw siampl ddrwg sy'n cal ei rhoi o'i blan nhw, ag yn dangos shwt natur ddrwg wrth sharad am faterion. Ma na adnod Gymrag yn gweyd, “Rhydd i bob meddwl i farn, ac i bob barn ei llafar?” Ond os gnewn ni'r bobl gyffredin ddatgan ein barn mae rhaid ein cymeryd ni fyny ar unwaith. Own ni yn arfer meddwl taw jobyn da yw bod gwahanol farnau; fe glwas i ddyn un tro yn darlithio ar “Ogoniant amrywiaeth,” ag rown inau wedi arfer meddwl fod gogoniant yn perthyn i amrywiaeth barn fel pob amrywiaeth arall.

Hen Simon. - Fechgyn, cymerwch air o gyngor gen i heno eto. Mae'r adroddiad yna yn y Merthyr Times yn siarad drosto ei hunan; y mae y dymher ddrwg sydd ynddo yn dangos ac yn profi yn ddigon eglur wendid eu hachos. Bob amser pan y gwelwch ddyn yn siarad ar unrhyw bwnc yn colli ei dymher gallwch benderfynu ei fod yn teimlo y tir yn llithro o dan ei draed. Hefyd, pan y gwelir dyn o safle, ac yn swyddog o dan y llywodraeth, yn bygwth dial ei ddigter tu cefn i gyfraith y wlad, gadewer iddo yn llonydd i falu ewyn hyd nes daw i weled ei gamsynied; y mae digter bygythiol bob amser yn arf peryglus ac yn sicr o niweidio ei berchenog ei hun. Hefyd, fechgyn, peidiwch a digaloni yn eich gwaith, y mae y ffaith fod ymosodiadau yn cael en gwneyd arnoch yn sicrhau fod eich ymddiddanion yn gwneyd lles. A digon tebyg nad yw yr ymosodiad hwn ond blaenffrwyth o luaws mawr sydd i ganlyn. Daliwch atti yn benderfynol, a pheidiwch a chymeryd eich dychrynu gan fygythion. Pleidiwch ddaioni, a gwrthwynebwch yr hyn sydd ddrwg, a pheidwch a meithrin ysbryd cenfigenus at neb. Oblegid cenfigen a ladd ei pherchenog.” A tithau, Wil Sledgwr, paid a mynd i ysbryd bygythiol at neb. Paid dal y cleddyf i fynu i ddrygu neb, ond dal gyda'r ysgrifell, a chofia, “The pen is mightier than the sword.”


 

 

 

A picture containing text

Description automatically generated

(delwedd B2016c) (23 Mai 1895)

 


Phil. - Peth arall hefyd, Wil, mae eisiau i ni dreio bod yn gysson a ni ein hunain; yn lle ar ol codi rhyw subject i'r lan, a rhoi cymynt o gyhoeddusrwydd iddi ag oedd bosibl, exposo enwau personau mewn cyssylltiad a'r pwnc hyny, gofyn i reporter y papur i neid note o beth oedd yn cal ei sharad, a chwedyn ar y diwedd yn cytuno nad oedd dim yn werth eu sylw, ac uso rhyw dermau Lladin wedi'n nad oedd pawb yn eu deall nhw. Gan mai Sisnig o'n nhw yn sharad, pam na fyse “Below our dignity” yn galler gneyd tro cystal ag “infra dig”? Pa sawl un honyn nhw allse ddweyd y gair olaf yn llawn?

Ned. - Wel, o'n i yn meddwl mai nid lledwith plan i Wil Sledgwr i neyd hefyd, pan bod e'n teimlo'i hunan yn mynd yn erbyn y wal, fydde uso foreign terms, a chwedyn fydde pawb ddim yn deall fod e'n mynd i'r wal, a fe fyddai yn cael ei gounto yn scolar crand.

Joe. - Mae poetic fever wedi catcho yndo ni nawr, run peth a Mrs. Hammersmith, a tyma cân nawr ar y ffordd i debato: -

Pan bo iaith a geiriau'n pallu,
Say “infra dig”
Arguments a sense yn ffaelu,
Say infra dig;
Pan bo champions yn challenso
Yn cynhyrfu ac yn threatno,
Dal di atti i'w hopposso.
A pan bo ti'n cal dy cnoco,
Say infra dig
'Tis a clever way i shifto,
Say infra dig.

Pan bo'r iaith Gymrag yn fflato,
Say infra dig;
English terms yn pallu servo,
Say infra dig
A dy demper wedi poethi,
Tir o dan dy draed yn colli,
Dal yn wrol, paid rhoi fynu,
Y mae ffordd i scemo trwyddi,
Say infra dig;
Ac yn scolar mawr cei'th gyfri,
Say infra dig.

Beth yw'r ots am sense na sylwedd,
Say infra dig,
Dim ond cario ar y diwedd,
Say infra dig;
Ar ol bothran lot o nonsense,
Llawn o dwyll ac inconsistence,
Does dim eisieu great experience,
Na respect i truth and prudence,
Say infra dig;
Dyna'r ffordd i goncro'r conference,
Say infra dig.

Aros Wil, na, nid ffordd yna,
Dal at y gwir,
Style y cowards ydyw hona,
Dal at y gwir;
Er mor ffyrnig for rhuthruadau,
Paid rhoi ffordd i dy deimladau,
Saf fel gwron ar dy wadnau,
Paid ymddiried mewn dyfeisiau,
Dal at y gwir,
Saif y gwir pe chwalai'r creigiau,
Dal at y gwir.

Wil Sledgwr. - Well done, Joe, wyt ti'n gaino bob cynyg. Fe fyddi di yn opponent cryf i “Mrs. Hammersmith” a “Bachan Ifanc” y Darian erbyn daw Eisteddfod '97 i Merthyr. Cadw di dy dools yn lan erbyn'r wthnos nesa, fe fydd ei heisiau nhw pryd hyny etto.

 

Dros y Conffrens,

 

WIL SLEDGWR.

 

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd G3984a) (13 Mehefin 1895)

The Merthyr Times. The Dowlais Times, and Aberdare, Pontypridd, Rhondda Valley, Rhymney, Tredegar, Brynmawr and Western Valleys Echo.

 

13 Mehefin 1895.

 

Y CONFFRENS.

 

Harri. - Helo boys, mae Wil yn dod yn llawen iawn heno. Glywch chi e'n canu, boys?

 

Wil Sledgwr (yn canu): -

 

“Bydd fyw fy machgen,” ebai ef,

Cei barch ar for a thir,

A chotiwn ninau yn mhob man,

I ddweyd a charu'r gwir.”

 

Shoni. - Wel bachan, wyt ti ar dy uchelfanau heno, ond dwed pam na fyset ti yn hala count y Conffrens miwn yr wythnos ddywetha?

 

Wil Sledgwr. - Fe gnetho i e mas yn right mewn pryd, ond fe etho i off dydd Sul, a ddetho i ddim nol cyn nos Lun, ag oedd y groten yco wedi anghofio posto’r llythyr ag fel hyny fe ath yn rhy ddiweddar.

 

Dan. - Wel, os fel yna buodd hi fe baswn heibio i ti tro hyn, ond paid ti a gadel i hyna ddigwydd eto. Ond beth wyt ti yn feddwl a'n llythyr [yn] y “Dowlais Reporter” yr wythnos hon eto?”

 

Wil Sledgwr. – Wel, os i chi am gal in opinion i am dano, dyma fe: - Cydgrynhoad o eiriau a brawddegau wedi eu cynyrchu gan dymer ddrwg, anllywodraethus, a gwallgofus, nad oes ynddynt yr un gronyn o synwyr, cysondeb, na boneddigeiddrwydd o'r dechreu i'r diwedd. Mewn gwirionedd y mae yn “salach nag islaw sylw,” ag rwy'n credu mae'r peth goreu allwn ni wneyd dan yr amgylchiadau yw cymeryd benthyg gair o un o'i reports e hunan: “Infra dignitatem.”

 

Phil. - Wyt ti eitha right. Wil. Fe weles i rai yn rhedeg i'r shop i mofyn y papur yr wthnos ddywetha, ag yn troi ar unwaith at y llythyr, ond wedi dechre darllen yn towli y papur lawr mewn natur ddrwg, ag yn gweyd rhyw air yn debyg iawn i swn rheg.

 

Ianto. - Fe weles inne hefyd rai oedd wedi bod yn I challens e arnon ni yn dychrynllyd; ond wir yr wthnos ddywetha, pan o'n i yn gofyn iddin nhw am dano fe, yn gweyd nag o'n nhw ddim wedi cal y papur, a'r papur yn boced un o henyn nhw ar y pryd, ond yn i wadu e achos bod cwyli ernyn nhw arddel i llythyr yna.

 

Joe. - Ma ni cytuno a peth ma chi wedi gweyd o bothty merits y letter na, ond ma na false statements a ma rhaid i ni contradicto nhw, for fear bydd rhywrai credu bo hi gweid y gwir. Hefyd ma gyda ni verse ma wise man wedi gweyd: - “Answer a fool according to his folly, lest he be wise in his own conceit.”

 

Jim. - Wel wy innau wedi bod yn meddwl am hyna hefyd. Mae e yn gweyd bo ni yn ymosod arno fe, ond mae darllenwrs y Merthyr Times yn gwbod pwy sy yn ymosod, a nad i'n ni yn gneyd dim nawr ond amddiffyn ein hunain.

 

Jack. - Mae e yn gweyd hefyd y gallir gwel'd wrth yr areithiau rowd yn nghwrdd blynyddol y Disablement Fund beth mae cyfeillion y gweithwyr yn feddwl am “Wil Sledgwr,” pan y mae un sy yn awdurdod yn y Disablement wedi gweyd yn ngwydd tystion taw nid at “Wil Sledgwr” na'r “Conffrens” o'n nhw yn cyfeirio, ag mai nid at neb sy'n byw yn Dowlais chwaith, na Phenydarren.

 

Mocyn. - Hefyd mae'r enwau cas yna mae e yn alw arnom ni yn sharad drostyn nhw i hunen. Mae e yn sticko atti i wcyd am Wil taw “illiterate vilifier, a nondescript loafer” yw e, ond mae 99 o bob cant o ddarllenwyr y Times yn gwbod yn wahanol, ag mae pawb sy'n nabod Wil yn gwbod taw celwydd noethlymyn heb un crys am dano yn galw Wil yn loafer; mi alla i herio'r wlad i ddangos bachgen mwy gweithgar na Wil yn mhob cylch mae e'n troi ynddo, yn ol ei allu a'i amgylchiadau.

 

 

 



 

 

 

 

Text

Description automatically generated

(delwedd G3984b) (13 Mehefin 1895)

 

Twm. - Hefyd, mae e yn gweyd ta Wil yn dod mas yn champion dros Dan Davies pan oedd e yn Dowlais y byse fe yn ei gico fe lawr y steire. Ah! wy'n nabod Dan Davies yn dda, ag mae e gymaint o wr bonheddig ag yw e o leader canu. Weles i ddim o hono fe yn gneyd dim erioed i amcanu gneyd niwed i neb, na weles ddim o hono fe yn gneyd ymosodiad ar neb eriocd ag y gellid rhoi “A terrible Onslaught” uwch ei ben e. Fe ddweda fwy na hyna: mae dynion yn fyw ag yn iach heddy a allan brofi fod y “Dowlais Reporter” wedi bod yn y modd mwya taer yn gofyn am gynyrchion meddwl “Wil Sledgwr” er mwyn eu cyhoeddi mewn newyddiadur poblogaidd, a'r cynyrchion hyny yn ffafr y boneddwr y ceisia ei ddiraddio yn mhob dull a modd heddyw. Beth feddyliech chwi am hyna? Os oes rhai wedi troi gyda'r gwynt, mae Wil yn aros o blaid yr un dyn o hyd. “Facts are stubborn things.”

 

Wil Sledgwr. - Dwy ddim yn arfer rhoi challenge i neb, ond wrth feddwl am yr enwau iselwael a roddir arnom rwy’n cal fy nhemtio i roi un her ar dir deg i'r Dowlais Reporter, er mwyn profi a ydyw termau yna yn eira gweddu ni a'i peidio. A thyma fe: yr wyf yn foddlon dod allan i'w gyfarfod yn y Merthyr Times i ysgrifenu ar unrhyw bwnc, hanesyddol, hynafiaethol, gwleidyddol, gweithfaol, moesol, neu dduwinyddol, ar yr amod ei fod ef yn ysgrifenu yn iaith ei dad a minau i gael yr un fantais i ysgrifenu yn iaith fy nhad; neu ynte boddlonaf i'w gyfarfod ar faes y gystadleuaeth yn unrhyw Eisteddfod Gymreig mewn rhyddiaeth neu farddoniaeth neu ynte cyfarfyddaf ef ar lwyfad unrhyw neuadd gyhoeddus mewn dadl ar unrhyw bwnc rhesymol, a hyny yn iaith “Cymru Lan, Gwlad y Gân,” a boddlonaf i farn y “public opinion” pa un o'r ddau fydd y mwyaf tebyg i “illiterate vilifier, &c.” Hefyd carwn roddi ar ddeall i chwi o berthynas i'r hyn a ddywed mewn perthynas i Eisteddfod Dowlais yn 1891. Dywed fy mod i yn un o'r cystadleuwyr anffodus yn yr Eisteddfod hono ar destun y gadair. Rhoddaf her iddo ef neu unrhyw un arall i profi fy mod i yn cystadlu ar unrhyw un o'r testunau barddonol neu ryddiaethol yn unrhyw un o'r ddwy Eisteddfod yn 1891 neu 1892. Mi ddarfu i mi roddi brawddeg wrth ei gilydd gyda'r amcan o gystadlu ar unrhyw un o'r testunau. Felly nid yw y llysnafedd a geisia daflu a'r ymhoniadau bostfawr a wna yn ateb unrhyw ddyben iddo. Ar y diwedd rhydd awgrym i mi wneyd ymddiheuriad iddo, am rhywbeth sydd yn y “Conffrens” yn cyfeirio at un o'r eisteddfodau hyny. Ni fu genym ni son am un o'r eisteddfodau hyny o gwbl, fel y grwyddoch.

 

 

 

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd G3984c) (13 Mehefin 1895)

 

Joe. - Ishe grammar sy arni hi i dysgu gwbod y difference rhynt future tense a past tense. Wilia bothti cal Isteddfod yn y future buon ni, a ma hi yn mynd nol i'r past am 3 neu 4 years. Pity am deni na byse hi dyath y Conffrens.

 

Eik. - Weles i bictwr pert iawn os typyn nol yn rhyw bapur. Yn 1, roedd e'n grotyn bach pert iawn yn nhre; 2, oedd e myn'd i'r college; 3. yn dechreu delighto mewn foothall; 4, i ben e'n dachre whyddo; 5, yn mynd yn dost iawn; ag yn y diwedd doctor yn gorffod agor i ben e, a beth i chi'n feddwl odd y mater arno, ond foothall wedi tyfu ar i fenydd e. A wir fe eiff hi ddrwg iawn ar ryw rai os oes côr canu yn tyfu ar y menydd nhw.

 

Sami. - Wel, wdw i yn gwel'd Wil Sledgwr yn cal compliment mowr iawn bod e'n cal i roi miwn yn yr un llythyr, a'i glasso fe gyda dynion mor fawr a Mr. Dan Davies a Golygydd y Times ond ma un peth yn i'n hala i gofio am hen hwrdd weles i'n marw o'r bendro, y peth dywetha nath e wedd gweiddi, “Bah.” A ma sgrifenwr y llythyr na hefyd fel se yn y gweld hi ar ben yn deg arno fe, wath ma ynte wedi mynd i weiddi “bah” hefyd.

 

Joe. - Ma ni wedi starto gneyd song ar hwna, a tyma fel ma ni starto: -

 

Pan bo ni yn myn i'r cornel

Ffaelu'n deg a mynd yn mlan;

Cannot get the words together,

Er mwyn cwpla gneyd y gân;

Gallwn ni cal ffordd bach clever

I dod trwyddi'n eitha da,

Llanw chest a gwynt yn barod.

Agor penau, gwaeddi “bah.”

 

Pan bo ni mewn full employment

Gyda rhywrai miwn debate;

Don't give up, but shirk the question

All one side, dewn trwyddo'n nêt;

Peidiwn uso sense i ddadleu;

Dyma'r dodge i ddod o'r ffra,

Casglu gwynt i'r chest yn barod,

Agor cegau, gwaeddi “bah.”

 

Os wrth writo miwn i'r papur,

Wedi'n towli'n glir i'r wal,

Galw'n arguments a synwyr

A phob gwir, yn ffal de ral;

Ag os bydd y cap yn ffito

Peidwn dangos hyny, na,

Throw it to some other village

Tyna'r ffordd, a gweiddi “bah.”

 

Hen Simon. - Da chwi, fechgyn, rhowch heibio nawr; a gan nad pa ymosodiad wneir arnoch etto o'r cyfeiriad yna peidiweh a gwneyd sylw o hono. Fe fuasiwn wedi gofyn i chi adel y cwestiwn ar y dechreu oni bai fod yna rai anwireddau eisiau eu chwalu ond gadewch iddo nawr, waeth “pa fwyaf drinir ar fryntr [sic; fryntni], gwaethaf i gyd y drygsawr.”

Dros y Conffrens.

WIL SLEDGWR.

 

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd G3958a) (20 Mehefin 1895)

The Merthyr Times. The Dowlais Times, and Aberdare, Pontypridd, Rhondda Valley, Rhymney, Tredegar, Brynmawr and Western Valleys Echo.

 

20 Mehefin 1895.

 

Y CONFFRENS.

 

Yn nghanol prysurdeb yr amser, anghotiwyd hysbysu fod cyfarfod tystebu “Dyn y Death Clwb” i gymeryd lle nos Sadwrn diweddaf, ac ar fy nhaith yno goddiwedd[wyd] fi gan Twm a Shoni, a thyma, rywfaint o'r ymddiddan a fu ar y ffordd:

 

Twm. — Nawr Shoni, cofia di nad yw y cadeirydd oedd wedi ei enwi ddim yn dod heno pan buais i yn siarad ag e am ddod. O'n i yn dyall y pryd hyny na fyse fe ddim yn dod, ond dos dim ots am hyny; dyna beth sy eisiau arnon ni yw cal cadeirydd yn ei le fe, a dw i ddim yn gweld neb mwy cymhws na fi'm hunan, ag wdw am i ti, Shoni, gynyg ta fi sy i fod yn gadeirydd, a settla di ar rai o'r boys erill i cilio'r cynygiad; a cofia dithe, Will Sledgwr, i roi report da o'r cyfarfod. Ond dyma ni ar bwys y Flaming Dragon; dewch mewn am bob o lased boys.

 

(Yr oedd amryw o'r bechgyn yna, ond ni chofnodwn ragor o'r ymddiddanion: dechreuwn ar y cyfarfod.)

 

Will Sledgwr. — Wcl, gyfeillion, y mae yn bryd dechreu, ag y mae yn ddrwg iawn gyda ni hysbysufod y cadeirydd oedd wedi ei enwi yn analluog i fod yma; ac er mwyn mynd yn mlaen y peth eyntaf sydd gyda ni i wneyd yw dewis cadeirydd.

 

Sami. — Wdw ddim yn gweld bo dim yn well gyda ni i neid na dewis y dyn hena sy gyda ni heno. Mae yn ddyn call a phrofiadol, ag yn gwbod y ffordd i gario'r cwrdd mlan yn drefnus, a fe ddylen ni barchu henent a challineb bob amser. Felly ’rwdw i yn cynyg Hen Simon.

 

Shoni. — Own i ar in nhrad o flan Sami, ag wdw i yn cynyg Twm.

 

Twm. — Mr. Bombast, os gwelweh yn dda.

 

Phil. — Wy'n eilio Mr. Bombast.

 

Wil Sledgwr. — Dyw cynyg Sami ddim wedi cal ei eilio. Pawb sy dros i Twm — Mr. Bombast ddylwn i ddweyd — i gymeryd y gadair i arwyddo.

 

(Amryw yn codi dwylaw).

 

Hugh. — Yr wyf ii gyda'r hyfrydwch mwyaf yn dymuno eilio y cynygiad fod Hen Simon i gymeryd y gader.

 

Shoni. — Rhy ddiweddar nawr, mae Mr. Bombast wedi paso.

 

Twm. — Barchus garedigion, yr wyf yn teimlo yn ddiolchgar am yr anrhydedd i chi wedi roi i fi heno, er mod i'n teimlo hunan yn hollol anheilwng i lanw’r gader heno. Fe fyse yn dda iawn gyda fi pe byswn i'n gallu gweld y ffordd yn glir i wrthod yn ffafr Hen Simon, ond wrth ich gweld chi mor unfrydol rwy'n gweld taw gwaith ofer fydd i ti wrthod. Wel, fel i chi gyd yn gwbod taw wedi dod yma i ni heno i roi tysteb i'n hen ysgrifenydd ni mae e wedi mynd oddma os cetyn, fel i chi'n gwbod, ag ma'r comittee wedi bod yn fyshu iawn gyda'r gwaith; fe geso'i ncwis yn gadeirydd y committee; i ni wedi llwyddo'n dda iawn yn ein hamcan; ag er fod Dyn y Death Clwb wedi'n gadel ni dyw e ddim wedi'n hangofio ni; fe halodd cheque i ni am dan gini ar gount i'n helpu ni yn mlan gydar gwaith. Rwy' gweld fod lawr ar y program araeth i fod gan y cadeirydd, ond chewch chi ddim o hono heno, waith don i ddim wedi partoi dim ar gownt hyny. Don i ddim wedi meddwl dim mwy na'r marw am gal bod yn gadeirydd heno, ag ma gyda fi'r pleser nawr o alw am Alaw Shinsir i roi can.

 

Shoni. — Wyt ti'n gwbod nad w i ddim i fod ar dechreu.

 

 

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd G3958b) (20 Mehefin 1895)

 

 

Twm. — O ie, nawr wy'n cofio am y sharad fu rhynton ni yn nes i'r diwedd wyt ti i fod. Wel, fe ddaw Eos Cabbage mlan ynte.

 

Dai. —

Mae genyf fi fwthyn a gardd,

Bwrdd crwn a chloc derw hir fain,

Pren gwely mahogani hardd,

A hen gader freichiau fy nain;

A dresser a phewtars mewn trefn,

Ar oll ar fy enw fy hun,

A mochyn mewn cwt yn y cefn,

Does dim byd yn eisiau ond un.

 

Mae genyf fi ddeubar o glocs,

A dillad wna'r tro am yn hir,

A theirpunt ar gadw mewn bocs

A watch gyda'r fwya'n y Sir;

A chyllyll a llwyau diri,

Cwpanau o bob lliw a llun,

Crys main newydd spon; am wn i

Does dim byd yn eisiau ond un.

 

Oll. — Hwre! Encore!

 

Twm. — Wel, ar ol y gan dda, gyflawn, a buddiol yna, mae genyf y pleser nawr o alw ar Ieuan Rhwbel i ddod mlan i roi adroddiad.

 

Ianto –

Pwy na sydd yn gwybod am Huwcyn o'r Nant,

Hen grachfardd llawryfog lloerigion a phlant?

Ei enwog farwnad i Carlo y Ci

A gododd ei enw i fawredd a bri.

 

Ei wych briodasgerdd i grythor New Inn

Ddug iddo anrhegion o gwrw a gin;

Ond pan gwnaeth ei folawd i'r tinker Jim Brown

Cadd agos ei foddi a chwrw'n y Crown.

 

Bu enwog redegfa yn Ffair y Bryn Llys

Rhwng Dafydd o'r felin ag asyn Will Rhys;

A galwyd am Huwcyn, prydyddu a wnaeth

Rith folawd i Dafydd mewn rhyw fesur caeth.

 

Testynau Eisteddfod fu yn top y rhiw

Oent “gan i'r gwybedyn” ac “englyn i'r driw;”

Enillodd y gwobrau o ddeuswllt bob un,

O herwydd cadd Huwcyn y maes iddo i hun.

 

Hir gofia'r tro cyntaf y mentrodd i'r wasg,

Rhyw gan i gwn hela Tregib oedd y dasg;

Rhoes enwau triugain o'r cwn yn ei gan,

A cheisiodd ei chanu yn ffair y Rhos man.

 

Twm. — Ar ol yr adrodd penigamp, meistrolgar, chwaethus, ac addysgiadol yna, y mae genyf y pleser o alw ar Llew'r Rhedyn yn mlaen i roi can.

 

Lewsyn —

 

Mae genyf ebol melyn,

Yn codi'n bedair oed,

A phedair pedol arian

O dan ei bedwar troed;

Fe neidia ac fe brancia

O dan y feinir wen;

Fe redodd ugain milItir

Cyn tynu'r ffrwyn o'i ben.

 

Mi rois fy ngiar i oti

Ar ben y Frenni Fawr,

A deg o wyau dani,

Ar deg a ddaeth i lawr;

Dydd Sul mi eis i'r Eglwys,

Ar barcud aeth a nhwy,

Tra'n berchen giar a chywion,

Nid af i'r Eglwys mwy.

 

Oll. — Encore, Encore, &c., &c.

 

Twm. — Dere nol, Lewsyn.

 

 

 

Text, letter

Description automatically generated (delwedd G3958c) (20 Mehefin 1895)

Lewsyn —

 

Pe caem ni fwyd y bore,

A brecwast gyda'r dydd,

A bolaid fawr o fwdran,

A chinio haner dydd,

A bara chaws bryd godro,

A bwyd wrth fynd i'r glwcod [glwyd],

A swper yn ddigonol,

Ni chwynen ddim am fwyd.

 

Oll. — Hear, hear, a churo dwylaw a churo traed.

 

Twm. — Rwyn sicr fod pawb wrth ei bodd erbyn hyn, a phob meddwl yn enjoyo ar y danteithion melus sydd yma. Nawr ni gawn adroddiad. gan Llwyneithyn.

 

Shams -

 

Ofer ydyw brusho'r geren,

Ofer golchi traed hwyaden,

Ofer ydyw cofio'r ddameg,

Iro tor yr hwch a bloneg;

Ofer ceisio grawnwin deall

Ar fwyeri, drain, ac ysgall;

Ofer disgwyl y fêl-gafod,

Yn ddefnynau ar y mermod;

Ofer, ffol yw'r dyn sy'n tybied

Ei fod heb farn yn medru cerdded;

Ni chariodd ci erioed ei gynffon

Wrth fodd pawb, mae'n hysbys ddigon.

 

Twm. — Dyna adroddiad purion, ond dos dim o'r addysgiadau yn hwna fel y pethau i ni wedi gal o'r blan. Ond fe ewn mlan nawr at brif waith y cwrdd, sef cyflwyno'r anrhegion i Dyn y Death Clwb. Yn awr rwy'n galw ar Jack yn mlan i gyflwyno'r ffon iddo.

 

Jack. — Wel, dw i ddim yn sharadwr cyhoeddus, Mistir Cadeirydd, ond mae'n bleser mawr gyda fi gyflwyno'r ffon hon i Dyn y Death Clwb. Mae yn ffon bert; ie. ie, ffon ragorol yw hi. Wdw i wedi gneyd englyn iddi hi, a tyma fe:

 

Dyma ffon o'r ffeinaf bren — un ysgafn

O bren Ysgawen;

Mae'n llathen llawn o ben i ben;

Fe fwr gawr lawr fel derwen.

 

A dyma fi yn i rhoi ddi i ti, Dyn y Death Clwb, gan obeithio gnei di'r use gore o honi.

 

Twm. — Well done Jack; wyt ti wedi gneyd yn gampus. Yn nesa fe ddaw Harri yn mlan i gyflwyno'r darlun, ag ar ei ol e Will Sledgwr i ddarllen a chyflwyno'r anerchiad, ag ar ol hyny song on the occasion gan Jac; yna fe gewn araeth gan Dyn y Death Clwb. Ust! Ust!

 

Swn o'r tu allan: “Ty ar Dan! Tan! Tan! Tan! Ty ar Dan!!”

 

Felly rhedodd pob un am ei fywyd, chwalwyd y darlun, a drylliwyd yr anerchiad yn chwilfriw yn y ffoedigaeth.

 

Dros y Conffrens,

 

WIL SLEDGWR.

 

 

 

 

Text

Description automatically generated

(delwedd G3957a) (27 Mehefin 1895)

The Merthyr Times. The Dowlais Times, and Aberdare, Pontypridd, Rhondda Valley, Rhymney, Tredegar, Brynmawr and Western Valleys Echo.

 

27 Mehefin 1895.

 

 

Y CONFFRENS.

 

Hen Simon. — Wel, fechgyn anwyl, mae'n dda gan fy nghalon eich gweled mor gryno heno eto ar ol y storm ddiweddaf. Yr oeddwn yn ofni y byddech wedi digaloni ond da genyf fy mod wedi cael fy siomi yn yr ochr oreu. Dyna fel mae hi yn y byd hwn. Byd y gorthrymderan yw e, a'r rhai sydd yn cwrdd a mwyaf o orthrymderau ynddo yw y rhai sydd yn ymdrechu fwyaf i wneyd rhyw ddaioni ynddo. Ond fechgyn, er garwed yr ystormydd, er amled y siomedigaethau, ac er chwerwed yr ymosodiadau, ymegniwch, ymgalonogwch, ac ymwrolwch i fyned yn mlaen; gweithiwch eich ffordd yn mlaen trwy rengoedd y gelynion; torwch trwy bob rhwystrau, a gallaf eich sicrhau fod buddugoliaeth a gwobr yn eich aros. Ie, fechgyn anwyl, gobeithio y bydd pob siomedigaeth, gorthrymder, a helbul fel hyn yn eich dysgu i fod yn fwy amyneddgar, ac yn fwy gwrol nag erioed, ac yn fwy penderfynol i fyned yn mlaen i ymdrechu gadael y byd yma yn well nag oedd pan y darfu i chwi wneyd eich ymddangosiad ar lwyfan bodolaeth. Ymdrechwch “fyw” yn y byd nid yw y diofal, y musgrell, a’r diog yn “byw” o gwbl, ond “bodoli” yn unig y maent, Y mae pysgodyn marw yn treiglo i waered gyda'r dwfr ond y mae yn rhaid cael bywyd i fyned yn erbyn y llifeiriant. Rhoddwch brawf i'r byd eich bod yn feddianol ar fywyd. Rhag eich blino a meithder, terfynaf gydag un gair, a thyma fe; Arwyddair eich bywyd bob amser fo “Excelsior,” “I fynu bo'r nod.”

 

 

 

 

Text, letter

Description automatically generated
(delwedd G3957b) (27 Mehefin 1895)

 

Will Sledgwr. — Rwy'n teimlo yn ddiolchgar iawn i Hen Simon am yr araeth gall a phwrpasol mae e wedi roi heno. Am dano i'n hunan wy'n teimlo'm hunan fel derwen. I chi'n gwbod bo nhw yn gweyd am y dderwen, taw pwy fwya o stormydd mae yn gal taw mwya i gyd o afel mae'r gwreiddie yn gal yn y ddaear. A dyna fel w ynne yn teimlo yn gwmws. Pwy fwya o stormydd sy'n cwrdd a fi, cryfa'i gyd wy'n teimlo'm hunan. A gobeithio bo chithe run peth i gyd, boys. Ond dyma beth sy eishe arnom ni nawr, yw penderfynu beth i ni yn mynd i neyd o hyn mas.

 

Phil. — Wdwi wedi bod yn meddwl am gymryd lle ar rent etto, ond tipyn o job fydd i ni gal cystal lle ag oedd gyda ni o'r blan. Trueni mawr bod e wedi mynd ar dan, a ninnau ddim wedi insuro fe hefyd; ond ma un cysur yn hyny; fydd dim ishe i ni ofni bydd neb yn estyn bysedd arno'n fo ni wedi roi e ar dan o bwrpas ar gount cal arian yr insurance.

 

Harri. — Wn ni ddim beth sy i weyd am gymryd ty ar rent, wath ma'r rhentydd mor felltigedig o uchel. Wen i mewn ty pwy ddywarnod ma'r dynion sy'n byw yndo fe yn gorfod talu punt y mis am dano fe; ond cofiwch taw nid Cymro na Sais yw ei berchen e. Mae ty drws nesa iddo fe yn perthyn i Gwmpni Dowlais, ac yn llawer gwell ty nag e, a hwnw yn ddim ond wheigen y mis. Ag ond yw hi'n beth melltigedig bod y dynion yna yn codi shwt bris am y ty, a'r ty drws nesa yn well ty, a hwnw am hanery pris?

 

Ned. — Fe wn inne am dy yn perthyn i Mr. Atkins am 12s. 6d. y mis, a dyw'r ty drws nesa iddo fe ddim nagos cystal ty. Un swllt ar ddeg y mis oedd hwnw yn arfer bod ond mae e wedi newid dwylo yn ddyweddar, ag mae e nawr yn 23s. 6d. y mis. Ma rhwbeth fel na yn warthis i glywed son am dano.

 

Mocyn. — Wdw inne hefyd yn gwbod am dai oedd yn arfer bod o bothdy 5s. y mis wedi mynd lan i 10s. a 12s. y mis, a rhai erill wedi cwni o 8s. y mis i'r lan i 158., 16s., ag hyd yn nod 18s. y mis. Ond y cwestiwn yw, a ydy'r dynon yna yn talu trethoedd i aped y rhentoedd ma nhw yn gal am y tai?

 

Dai. — O nag ydyw wir, ag fe dreian nhw watchan hefyd os gallan nhw na cheiff yr authorities ddim gwybod beth o rentydd mae nhw yn gal am hen dyllai o dai nag i'n nhw ddim yn fit i foch aros yndo nhw. Ond ma'n dda gyda fi fod y District Council yn mynd i gymeryd y peth mewn llaw. Bendith ar eu penau nhw, weda i. Gobeitho stickan nhw atti, a gobeithio hefyd bydd pob householder yn ddigon o ddyn i roi gwbod yn reit faint o rent mae e yn dalu, heb ofni gwg na bygythion y perchenogion a'u hagents.

 

 

 

 

 

 

 

Text

Description automatically generated

(delwedd G3957c) (27 Mehefin 1895)

 

Sami. — Nid ar berchen teie ma'r bai i gyd hefyd. Wdw i yn gwybod am rai yn cynyg rhagor o rent am deie a dynion yn byw yndyn nhw run pryd. Wdw i yn nabod un ath at berchen y ty wdw i yn lodgo yndo fe, a cynyg 7s. 6d. y mis yn rhagor o rent na ma mishtir i yn dalu am dano fe, ag ynte yn byw yn y ty os blynydde. Ag wedd hi yn cynyg punt yn extra, wedi’n am yr allwe byse hi yn i gal e. A run peth hefyd gweles i ffarmwrs yn gneyd yn y wlad; fe ddyle dynion fel na gal i shibedo am dreio mynd bant a teie oddar bene dynion a tempto dynion i godi'r rhentydd.

 

Joe. — Ma ti quite right; ma dynon mor mean i cal. Di nhw hido dim pwy sceme gnan nhw dim ond i nhw cal cario points mas. Ma ni cofio un tro am trick gwelsom côr canu yn gwneyd. Odd United Choir mawr yn y lle hyny yn practiso i competo miwn Isteddfod, ag oedd big guns y town yn supporto hi hefyd. A wedd hi canu beautiful, in their own estimation of course. Ond fe settlodd rhai i cwni côr plant i mynd i'r un Isteddfod; dodd hi dim yn fighto dim yn erbyn y côr mawr, a byse fe credit byse i dwy côr yn successful. Ond beth nath y rhai oedd yn cymryd interest yn y côr plant, ond i engago'r Town Hall i cal concert i helpu talu expenses y plant i'r Isteddfod, a rhoison nhw bills a cards mas yn gweyd bod y concert yn bod wthnos cyn yr Isteddfod; ond tyma côr mawr yn dachre coco clyste, a peth netho nhwynte ond engago'r Town Hall i cal concert y nosweth o blan y nosweth wedd concert y côr plant i bod. Treio dwgyd tamed o pen y plant bach, poor fellows, ond fe cas y plant i patronizo lawer gweth na nhw. A run peth ma dynon obothdi cal tai dos dim ods gyta nhw beth gnan nhw, dim ond i nhw cal y tai. Ma ni nabod lot o nhw, and thank goodness ma gyta ni rhai house owners yn digon o gentlemen i pido gneyd notice o'i hattempts nhw. Ond ma subject y rents and rates and taxes yn gormod i ni settlo fe heno, a ma gwell i ni adjourno fe hyd y tro nesa. Ma gwell i ni cwrdd yn rhyw Coffee Tavern hyd os bo ni settlo obothti lle i'r Conffrens. Ma policeman ar top yr heol, a gwell i ni mynd nawr, onte cewn i summons for unlawful assembly. Dewch i ni cal mynd quietly, a peidio rhedeg, onte cewn i mynd o blan y beaks am furious driving. Ma hi dod lawr hefyd, down tools, boys.

 

Dros y Conffrens,

 

WIL SLEDGWR.

 

Y Gyfeirddalen: Y Conffrens, Merthyr Times, 1895, 1896: www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_159_y-conffrens_1895-1896_y-gyfeirddalen_3466k.htm

xxxx

Sumbolau:

a A / æ Æ / e E / ɛ Ɛ / i I / o O / u U / w W / y Y /
ā
Ā / ǣ Ǣ / ē Ē / ɛ̄ Ɛ̄ / ī Ī / ō Ō / ū Ū / w̄ W̄ / ȳ Ȳ /
ă Ă / ĕ Ĕ / ĭ Ĭ / ŏ Ŏ / ŭ Ŭ /
ˡ ɑ ɑˑ aˑ a: / æ æ: / e eˑe: / ɛ ɛ: / ɪ iˑ i: / ɔ oˑ o: / ʊ uˑ u: / ə / ʌ /
ẅ Ẅ / ẃ Ẃ / ẁ Ẁ / ŵ Ŵ /
ŷ Ŷ / ỳ Ỳ / ý Ý / ɥ
ˡ ð ɬ ŋ ʃ ʧ θ ʒ ʤ / aɪ ɔɪ əɪ uɪ ɪʊ aʊ ɛʊ əʊ /

ә ʌ ẃ ă ĕ ĭ ŏ ŭ ẅ ẁ Ẁ ŵ ŷ ỳ Ỳ
wikipedia, scriptsource. org

Y TUDALEN HWN /THIS PAGE / AQUESTA PÀGINA:

www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_159_y-conffrens_1895_0341k.htm

Ffynhonnell / Font / Source: Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Papurau Newydd Arlein.

Creuwyd / Creada/ Created: 04-11-2017

Adolygiadau diweddaraf / Darreres actualitzacions / Latest updates: 12-10-2020, 21-12-2017, 04-11-2017

Delweddau / Imatges / Images:

 

Freefind:

Archwiliwch y wefan hon
SEARCH THIS WEBSITE
...
Adeiladwaith y wefan
SITE STRUCTURE
...
Beth sydd yn newydd?
WHAT’S NEW?


Ble'r wyf i? Yr ych chi'n ymwéld ag un o dudalennau'r Wefan CYMRU-CATALONIA
On sóc?
Esteu visitant una pàgina de la Web CYMRU-CATALONIA (= Gal·les-Catalunya)
Where am I?
You are visiting a page from the CYMRU-CATALONIA (= Wales-Catalonia) Website
Weə-r äm ai? Yüu äa-r víziting ə peij fröm dhə CYMRU-CATALONIA (= Wellz-Katəlóuniə) Wébsait



Free counter and web stats Statistics for Welsh Texts Section / Ystadegau’r Adran Destunau Cymraeg