|
|
|
|

(delwedd 5530) (8 Mehefin 1916)
|
8 Mehefin 1916
Y Darian
Shop Dafydd y Crydd.
Mishtir Gol., - Pan ddarllenas i bishyn
Dafydd Gwr Nansen, a'i weld a'n trin y Tramp mor flagardus, fe etho'n ipish
gwyllt. Chlwas i shwd dafod ys llawar dydd. Rwy'n cofio clwad dwy o ferched y
Mera, odd yn gwerthu rhython, yn ffreio unwaith, ond do nhw ddim hannar mor
insyltin iddi'u giddyl a'r dyn sy'n polisho'r Tramp yn y "Darian."
Dyndishefoni! "Pom Pom” mae a'n galw'i hunan. Ystyr hynny'n y Gymraeg,
ma'n depyg, yw Tom Thymb - y bachan hynny odd yn byw mwn bocs matchis. Ma
fa'n gofyn i fi beth wy'n feddwl am y pictwr. Wel, y marn i am dano yw hyn, y
dyla'r hen wraig droi wynab y pictwr at y wal rhag cwiddyl. Beth ma'r pwr
Tramp wedi neud? Ma golwg dicon tlawd
|
|
|
|
|

(delwedd 5531) (8
Mehefin 1916)
|
arno heb'i flingo'n fyw fel hyn. Rwy wedi
ffreio a'r Tramp ymhunan rai troion, ond do ni byth yn taro bilô ddy belt,
nag yn dicio wrth y'n giddyl. Fu neb yn fwy o bartnars ar ol i'r bowt fynd
heibo. R'ych chi'n cofio i fi yng nghenol y ffra addo par o glocs newydd
iddo, dim ond iddo alw heibio'r Shop. Dyna fel dyla petha fod. Pwy sens yw i
ddynon sy'n dysgu'r byd drin'u giddyl fel Eirish. Fe ddyla Pom Pom, a Nansen
a'i gwr gal tri mish o hard lebar am criwalty tw animals.
Fe dreias i neud Hir a Thoddion petar lein i'r tacla hyn, ag er fod 'y ngwad
i'n berwi, fe ffeilas gal llawar o hwyl. Falla taw gwell fysa i fi aros nes
cwlo lawr. Dw i ddim yn siwr oti nhw'n reit yn ol riwl Brynfab: -
Gwr Nansen, beth yw'r ennill - o roi treth
Ar y Tarmp mwn pennill?
I ti'r cnaf chwibanaf bill, - a chorach
A fel yn fwbach o flaen dy ebill.
"Holo, Morgan, ti sy 'na? Dera miwn. Gwelast ti'r 'Darian?' Beth wyt
ti'n feddwl am y dyn sy'n pitsho miwn i'r Tramp?" "Weta chi,
Dafydd, ma peth fel hyn yn tw bad. Mwlsyn o ddyn fysa'n cico dyn cloff
diniwad ar ol iddo ffeilu gweitho. Dos dim bachan mwy gwirion yn y byd na'r
Tramp, a chystal labrwr a gitshws mwn rhaw ariod pa odd'i ddwy gos a'r un
hyd. Ma gen i gwpwl o glowts i Pom Pom a'i dylwth, oblecid ma'r gang i gyd yn
yr un cwtyn”: -
|
|
|
|
|

(delwedd 5532) (8
Mehefin 1916)
|
“'Pom Pom’ - yw bri y domen, - gwas penwag,
Sponer Modryb Nansen;
Garw'i big, a gwr o'i ben
I'w fogel, yn genfigen.
Awff anwar o dras Ffeniaid - ydyw ef,
O dafod melltigaid;
Bitw llesg yn bwyta llaid,
A'i ddannedd yw ei enaid.
I'r 'Darian," un o'r deri - yw y Tramp,
Yn troi mewn mawrhydi;
Ond dyn help! yn wawd i ni,
Wynwnsyn yw Gwr Nansi.
Mae bongler ymhob englyn, - a hurtwch
Yw ei bertaf nodyn;
Gwaradwyddo, damnio dyn
Gais y gwledig asglodyn.
Odlau dwli di heulwen - yw y truth
Ar y Tramp diamgen;
Nis gall y Dai bala'i ben
Greu nonsens fel Gwr Nansen.
Coeg yw y gwr, ceg i gyd, - a'i gordial
Yw blagardio bywyd;
Mwrddwr hollol, mor ddrewllyd
A thail a baw, erthyl byd.
Er i flac mor foel a het, - yn ei wg
Sugno'i waed fel 'ferret,'
Ar acen bur, cawn, 'I bet,'
Y Tramp yn canu trwmpet."
“Campus! Nelsa Freddy Welsh ddim gwell. Tawn i heb gyffro, Morgan, dyma'r
peth gora nest ti ariod yn dy fywyd. 'Rwyt ti wedi rhoi noc owt iddo, ag ma
fa tu fas i'r ring yn'i ddwpwl. Beth wyt ti'n wed, Eryr Pen Pych? Wyt ti wedi
torchi dy lewish?" "Otw, Dafydd, ag fe ros i gwpwl o glatshis iddo,
ond fe ffeilas i a'i setlo fa fel Morgan. Dyma rai o'r lefft handers roias i
iddo": -
|
|
|
|
|

(delwedd 5533) (8
Mehefin 1916)
|
F'awen hwylus fu'n holi - am hanes
Ymenydd o ddifri;
Yn ol trodd; ni welodd hi
Un ounce yng nghopa Nansi.
Trin y Tramp, trueni trwm - yw hynny,
Y fileiniaid cythrwm;
Arosach! nid oes reswm
Ar wado'r cawr drwy y cwm.
Byrhawyd coes y brawd call - drwy soriant,
Rhyw sarrug wraig anghall;
Ac mae cri rhyw Dwrci dall
Ar hanneru'r un arall.
Y blagard mawr a blygwn, - am ei nwydd
Mae yn haeddu pastwn;
Barddonol boeredd annwn
A geir o geg y rôg hwn.
Yr epa taer, pwy wyt ti - i roi clwy
I wr cloff diwyrni?
Ar gasgen brag a whisci,
Trwmpyn iawn yw ein Tramp ni.
Diniwed yn ei awen - yw'r gwawdus
Ergydiwr anniben;
Heddyw prawf o brydydd pren,
Bronownsiodd debar Nansen.
Gwelaf arf gloyw ei fin - ar y paith,
Lle bu'r "Pom" anhydrin;
Dianc fydd rhaid i'r dewin,
Yn smart, a dart yn ei ochor.
Da whara, Eryr. Rwyt titha wedi cal hwyl ddisprad, ond dw i ddim yn gweld fod
y lein ola'n citsho'n dda. Dyw "dewin" ag "ochor" ddim yn
swno'r un peth. “Dafydd bach, odl gudd yw hi." “O, gwed titha hynny.
Chlwas i ddim am y codl hynny o'r blan." Gwen, dera miwn a'r lemwned
'na. Ma gen y boys 'ma ddicon o fwyd i ened am flynydda. Fe fydd yn dda gen y
Tramp ddyall fod y bechgyn sy'n galw yn y Shop yn rhai smart ar'u dwrn, ag yn
barod i helpu'r diniwad.
DAFYDD Y CRYDD
|
|
|
|
|

(delwedd
B2577a) (15
Mehefin 1916)
|
15 Mehefin 1916
Y Darian
Shop Dafydd y Crydd.
Mishtir Gol. - Ma petha'n dishgwl yn ddicon lletwith y dyddia hyn ar dir a
mor, a fyddwn ni ddim nes ymlan wrth gintach a tharo'r bai ar neb. Dos dim
dowt nag i ni'n gneud y'n gora pan ddaw hi'n bwsh, ond dyw'r gora hynny ddim
mor breit ag y bysa ni'n leico. Ma'r gelyn yn y'n catw ni dan law ar y tir,
ag yn y'n boddi ni fel cathod ar y mor. Anodd gwpod beth fydd y diwadd os na
ddaw tro ar betha cyn hir. Rodd Chyrchil yn gwed ar y dechra, os na ddela'r
German Ffleet i'r golwg y bysa fe'n u ceibo nhw mas fel llycod o dwll. Peth
pert iawn odd hynny ar bapyr, ond nid mor bert mwn practis, a ddaw dim llawer
o les o rw frago disynwr fel hyn. O'r diwadd, fe ddethon mas heb 'u ceibo, a
fuo nhw ddim yn hir cyn shinco petar ar ddeg o'n llonga ni yn y ffracas
gynta, a mawr y dadla sy pwy gas y gollad fwya. Ond yr hyn rw i'n anfolon yw
fod y'n collad ni mor fawr. Allwn ni ddim llai nag etrych yn sheepish ar ol
rhoi shwd chalenj i'r gelyn i gwrdd a ni ar y mor. Ma'n hochor ni'n brago fod
y German Ffleet wedi gorffod cilo nol i Heli-go-land, ond dos dim llawar o
gymffwrt yn hynny. Fe fyswn i'n fwy satisffeid pe bysa nhw i gyd mwn
Heli-go-wlyb yng ngweilod y mor. Ma Morgan y teilwr yn teimlo'r un peth, ag
fe nath ddou englyn petar lein i'r batl fel hyn: -
"Hyd y mor diymwared, — taran lleng
Fu'n troi'n llongau'n darced;
A chablu cylch y "bloced”
Wnai dibris nwydau Abred.
Ddigalon fuddugoliaeth! — dibarhad
Yw brol dilywodraeth;
O'u cuddfa i'n difa daeth
Admiraliaid marwolaeth."
|
|
|
|
|

(delwedd
B2577b) (15
Mehefin 1916)
|
Cyn y'n bod ni wedi cal amsar i gymhwso'n iawn, dyma'r newydd sobor fod
Kitjiner yn y gweilod! Beth ddigwyddws, dos neb yn gwpod, ond dos dim dowt
nag odd y Germans ar 'u watsh am dano. Ma nhw'n gwpod am bob mwv yn y wlad
'ma yn well na ni'n hunen. Collad fawr odd colli pen yr Army, yn enwetig Army
a'i chorff wedi tyfu mor fawr. Ma'n wir nag odd bywyd hwn yndo'i hunan yn
ddim mwy o werth na bywyd y rhai erill ath i lawr, ond rodd a’n fwy o werth
i'r wlad ar hyn o bryd. Ma'n Genarals ni'n bring, a dos gyta ni neb arall o
fawr cownt yng ngolwg y Germans. Bachan piwr welas i Kitjiner, ag fe fu'n
eitha trwmpyn i fi pan alwas i'w weld a yn Llyndan ys ticyn yn ol. Y peth
dywetha wetws a wrth shiglo llaw odd, "I shall be very pleased to see
you any time when you come to town." Ond ma fa wedi mynd pwr ffelo, a
cha i byth i weld a yto. Y tric nawr fydd cal dyn i lanw'i le. Ma rhai'n
syjesto Genaral Ffrensh, ond naiff hwnnw mo’r tro. Dyw dyn sy wedi ffeilu yn
y ffrynt ddim yn depig o lwyddo yn y bac. Gwell i hwnnw gal llonydd i
recriwto yn yr Hows of Lords. Un arall sy'n cal 'i enwi yw Bonar Lo, ond ma
gyta ni ddicon o loi ar y mas yn barod. Isha llewod sy nawr.
Fe ddath yma lythyr bora heddy a lot o englynion ar ol Kitjener. Dos dim enw
neb wrthyn nhw, ond rwy'n gweld taw postmarc Treforis sy ar y llythyr. Rwy'n
geso pwy yw'r awdwr, ne awdur ys gwetsoch chitha. Ma a’n eitha bachan, ag
rwy'n siwr 'i fOd a'n Fardd Cadeiriol, os nag yw a n Fardd Corniog hed. Yn ol
y'm meddwl i, dodd dim rhaid iddo fod a chwiddyl 'u harddal nhw. Nelsa
Brynfab yn'i breim dim gwell:
Drwg ynfyd ar eigionfor — a ddaliodd
'Y buddiolaf flaenor;
A huno mae yn y mor,
A’i gangell heb ei gyngor.
Twrw blin y "tair blynedd" — glywodd hwn,
Gloewodd arf gwirionedd;
Ond aer annwn dirinwedd,
I’r dewraf wr dorrai fedd.
Fel Anac, cryf ei lwynau, - rhyfelwr A’i fwled yn angau;
Ac ar gwymp terfysgwyr gau,
Hyf gnuliodd ei fagnelau.
|
|
|
|
|

(delwedd
B2577c) (15
Mehefin 1916)
|
Dyn dinewid, yn haearn, — a rhingyll
Wnai rengoedd yn wasarn;
Yn chwifiad ei gledd cadarn,
Adwaenai byd wyniau barn.
Y drws i dir y Soudan, — o'i guro
Agorodd yn llydan;
A mawr storm ei eirias dan,
Wnai'r Madi yn wr mudan.
Ein mawr angen am rengau - a welodd
I wylio'n buddiannau;
A safai'r oes i'w fawrhau
Yn flaenor ar filiynau.
Trwm ei aeliau, trem hylym, — yn ei wlad
Yn weledydd cyflym;
Llyw a drodd a'i danllyd rym,
Glod arwyr yn glai dirym.
Un o fraich a chalon frwd, — a welodd
Dan ei galed hergwd;
Y gelyn gwael yn ei gwd,
Neu'n garcas yn ei gwrcwd.
Esgeiriog was y goron, — o gadnerth
A gwydnwch Napoleon;
A hawliai i wehilion
Ar ol y briw eli bron.
Bythol obaith i Lybia - adawodd,
A'i diwyg newidia;
Ac ar ei nos gwawrio wna
Bora tyner Britannia.
I Brydain Fawr, byrdwn fu - ei enw, Arweinydd ei chadlu;
Ar ei thwr yn ddewr o'i thu,
Dur chwifiodd i'w dyrchafu.
Rhyddid, ar lwybrau addien, - aros di Ar ystad Ceridwen;
Gwylia yma, golomen,
Ar nos oer yr Ynys Wen.
Rwy'n ddiolchgar i'r bardd, ta pwy yw a, am ganu mor dda ar ol fy hen ffrynd
Kitjener. Ma fe wedi mynd, ond ma'r Army glasgws a ar ol, ag ma'n hen bryd
iddi ddangos beth all hi neud. Ma'r Germans yn dod mlan o hyd o gam i gam,
a'n milwyr ninna fel morgrug ar hyd y streets ymhob tre. 'Dyn nhw'n dda i
ddim fel hyn ond paredo, a fflyrto gyta merched ifinc, a gora po gynta ca nhw
fynd i'r ffrynt i dreio troi'r llif yn ol. Dyna marn i ar y mater, ag rwy yn
siwr o fod yn reit.
DAFYDD Y CRYDD.
|
|
|
|