http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_074_john_morris_jones_y_gymraeg_1891_2186k.htm
0001z Y Tudalen Blaen
..........1863c Y Porth Cymraeg
....................0009k Y Gwegynllun
..............................0960k Y
Gyfeirddalen i Gywaith Siôn Prys (testunau Cymraeg yn y wefan hon)
........................................y tudalen hwn / aquesta pàgina
|
0860k y llyfr ymwelwyr |
Gwefan
Cymru-Catalonia
|
|
Ceir rhan o’r erthygl ar
ffurf HTML isod
(Ar y gweill
gennym: tudalennau 53 - 78 heb eu gwneud eto)
Ein sylwadau ni mewn teip llwyd
(Rŷn ni wedi cadw at yr orgraff wreiddiol - ar wahân i ambell
gambrintiad amlwg. Dynodir y tudalennau felly (x20), (x21), ayyb, Mae ŵ, ŷ, **’ i’w
gweld yn y fersiwn hon - mae’n haws i’w teipio felly. Byddwn yn eu cywiro
unwaith y bydd y cwbl wedi ei deipio gennym. Ar ôl sganio’r testun, bu’n rhaid
mynd ar hynt y llwyth o fân wallau - rŷn ni’n meddwl i ni gael hyd iddynt
i gyd, ond efallai bod ambell un heb ei weld gennym)
_____________________________________
(x48) CYMRAEG [YR IAITH]
Dosberthir ieithoedd y byd yn
dylwythau a theuluoedd. Wrth dylwyth y golygir nifer o ieithoedd sydd yn
perthyn oll i’w gilydd, ac yn tarddu oll o un fam-iaith gyntefig. Weithiau, y mae
un o aelodau’r tylwyth yn myned yn fam-iaith ei hun; a’r pryd hyny, gelwir yr
ieithoedd a dardd o honi yn deulu. Fel hyn, ymrana yr holl ieithoedd yn
dylwythau, y tylwyth yn deuluoedd, y teulu yn ieithoedd, ac yna, drachefn, yr
iaith yn gangen-ieithoedd. Ond
I ddangos fod rhyw nifer o ieithoedd yn perthyn i’w gilydd, neu yn aelodau o’r
un tylwyth, rhaid profi fod ganddynt wreidd-eiriau cyffredin; a’u bod yn llunio
eu brawddegau a’u
(tudalen 48)
_____________________________________
(x49) a geiriau ar yr un egwyddor. Os bydd
iaith yn anghyttuno ag ieithoedd unrhyw dylwyth yn y pethau hyn, rhaid ei chau
allan o’r tylwyth hwnw, a chwilio am le iddi mewn un arall; rhaid cael cyttundeb gwreidd-eiriau a
grammadeg i brofi perthynas. A chylch y berthynas ydyw’r tylwyth;, ac ofer ydyw
ceisio profi perthynas rhwng aelod o un tylwyth âg aelod o dylwyth arall. Saif
pob tylwyth ar ei ben ei hun — ei fam-iaith wedi ei llunio o ddefnyddiau
gwahanol, ac ar gynllun gwahanol i fam-iaith yr un tylwyth arall. Y mae pob
tylwyth yn cynnrychioli ymdrech feddyliol wahanol ar y cychwyn, a dull gwahanol
o edrych ar y byd. O’r tylwythau hyn fe dybia’r Proffeswr Freidrich Müller fod
tua chant ym mhlith ieithoedd llafar y byd. Ceir rhestr o 76 o honynt yn yr “Introduction to the Science of Language,”
gan y Proffeswr Sayce. Perthyna’r iaith Gymraeg i’r teulu Celtaidd, a’r
teulu Celtaidd i’r tylwyth mawr Indo-Ewropaidd, neu Ariaidd.
Rhenir
y tylwythau ieithoedd yn wahanol ddosbarthiadau, yn ol natur cynllun sylfaenol
ein hieithoedd; megys, y dosbarth treigliadol (inflectional), gludiol (agglutinative),
didolair (isolating), crynhoadol (polysynthetic), ac eraill; ond y tri
cyntaf yw’r dosbarthiadau pwysicaf. Yn y dosbarth treigliadol, dangosir swydd
gair, a’i berthynas â geiriau eraill yn y frawddeg, trwy dreigliadau, neu
gyfnewidiadau yn y gair; megys, caraf,
ceri, câr; pen, penau; trwm, trom,
trymion. Yn y dosbarth gludiol, dangosir swydd y gair, a’i berthynas, nid
trwy ei gyfnewid, neu chwanegu ato derfyniad sydd ynddo ei hun yn ddiystyr, ond drwy ludio wrtho air âg ystyr llawn iddo. Er enghraifft,
y mae godlike yn esampl o ludiad; o
blegid fod like yn air âg ystyr iddo.
Y mae praying yn esampl o dreigliad;
o blegid nid oes ystyr, yn Saesneg, i ing
ar ei ben ei hun. Yn y dosbarth didolair, ni chyfnewidir dim ar yr un gair
i ddangos na rhyw na rhif, na pherson nac amser. Saif pob gair yn ddidoledig yn
y frawddeg; a dangosir ei berthynas â geiriau eraill y frawddeg drwy ei safle
ynddi, neu drwy gyfrwng geiriau didol eraill. I’r doabarth hwn y perthyn iaith
Catai. Yn yr ieithoedd crynhoadol, fe grynhoir yr holl eiriau mewn brawddeg
megys i un gair cyfansawdd mawr. I’r dosbarth hwn y perthyn llawer o ieithoedd
brodorol yr
Fe
dybiodd ieithegvyr yn hir fod yr ieithoedd treigliadol wedi dadblygu o
ieithoedd gludiol, a’r rhai hyny drachefn o ieithoedd didolair; ac mai yr
ieithoedd treigliadol a adlewyrchai uchafbwynt gwareiddiad, a’r ieithoedd
didolair ddyfnder anwariaeth. Daliodd yr Almaenwyr yn lled dỳn at y
ddamcaniaeth hon - i raddau, fe allai, o herwydd fod yr Almaeneg yn un o’r rhai
mwyaf treigliadol o ieithoedd diweddar Ewrop. Yr oedd hi yn ddamcaniaeth ddigon
naturiol: — yn yr ieithoedd didolair, y mae pob gair ar ei ben ei hun. Y cam
cyntaf oedd gludio wrth ferfau ac enwau y geiriau oedd yn dangos eu perthynas
â’u gilydd; ac yna, fe gafwyd ieithoedd gludiol. Yr ail gam oedd i’r geiriau
bychain gludiedig golli eu grym fel geirau, a myned yn derfyniadau yn unig, heb
ddim ystyr iddynt ond fel terfyniadau. Ond er mor resymol yr edrych y
ddamcaniaeth ar yr olwg gyntaf,
Nid ydyw’r tylwythau treigliadol yn
lliosog, ond y mae dau o honynt yn bwysicach na’r un arall; sef, y tylwyth
Semitig (yn cynnwys Hebraeg, Aramaeg, Arabeg, &c.), a’n tylwyth Ariaidd ni.
Pe byddai modd profi fod y tylwyth Ariaidd yn perthyn i unrhyw dylwyth arall, y
tylwyth Semitig fyddai hwnw; ond y mae pob ymgais i brofi’r gyfryw beithynas
wedi methu. Y mae egwyddor dreigliadol y ddau dylwyth yn wahanol. Yn y tylwyth
Semitig, tair cydsain, megys k-dh-l
ydyw y gwreidd-air; a dangosir y gwahanol dreigliadau trwy roddi gwahanol
lafariaid rhyngddynt. Er enghraitft, kadhala
ydyw “lladdodd,” kudhila ydyw
“lladdwyd,” kadhl ydyw “lleiddiad,” kidhl ydyw “gelyn,” kudhl ydyw “lladdiad,” kôdhêl
ydyw “lladd.” Er hyny, fe dreiglir weithiau trwy arfer terfyniadau; ond
terfyniadau ydyw hanfod y treigliad Ariaidd. Ac er y gwelir, weithiau, gyfnewid
llafariad yn yr ieithoedd Ariaidd, megys trwm,
trom, nid ydyw hyny ond effaith yr hen derfyniadau sydd yn awr wedi colli,
fel y ceisiwn ddangos maes o law. Gwrthbrofwyd hefyd bob ymgais a wnaed i
gyssylltu geiriau Ariaidd a geiriau Semitig, megys y geiriau Sanscrit shash a saptan (“chwech” a “saith”) a’r geiriau Hebraeg shêsh a, shebà. Y mae’r tylwyth Ariaidd yn dylwyth mawr o ieithoedd, heb yr
un berthynas rhyngddo a’r
(tudalen 49)
_____________________________________
(x50) un tylwyth arall er pan barablwyd y
fam-iaith Ariaidd gyntaf.
A
ganlyn ydyw’r tabl o’r ieithoedd Ariaidd, fel y rhoddir ef yn y rhestr a
grybwyllwyd uchod. Yr ydym yn rhanu’r ieithoedd Celtaidd yn ol dosbarthiad
diweddaraf y Proffeswr Rhys, fel y rhoddir ef gan y Proffeswr Sayce yn y
rhagymadrodd i’r ail argraphiad o’i lyfr. Dengys y marc hwn † wrth enw iaith
fod hono wedi marw.—
(α)
Y TEULU INDIAIDD — †Sanscrit; †Prakrit; †Pali, Sigalese, neu Elu;
tafodieithoedd diweddar (Bengalese, Assamese, Oriya, Nepaulese, Kashminan,
Scindhi, Punjâbi, Brahni, Gujarati, Marâthi, Hindi, Hindustani);
Siyâh-pôsh-Kafir; Dard; a Romany (Gipsy) a’i 13 o gangen ieithoedd Ewropaidd.
(α)
Y TEULU INDIAIDD — †Sanscrit; †Prakrit; †Pali, Sigalese, neu Elu;
tafodieithoedd diweddar (Bengalese, Assamese, Oriya, Nepaulese, Kashminan,
Scindhi, Punjâbi, Brahni, Gujarati, Marâthi, Hindi, Hindustani);
Siyâh-pôsh-Kafir; Dard; a Romany (Gipsy) a’i 13 o gangen ieithoedd Ewropaidd.
(β)
Y TEULU IRANAIDD: — †Hên Bersian (Achaemenian); †Pahlavi; Parsi; Neo-Persian;
Kurdish; Beluchi; †Zend (Hên Factrian); Pukhtu (Afghan); Ossetian. Cynnwysir
Armenian yn gyffredin yn y teulu hwn.
(γ) Y TEULU KELTAIDD - Kymric (Cymraeg,
†Cernyweg, Llydaweg, †Gaulish); Gaelic (Gwyddeleg, Manx, Gaeleg yr Alban).
(δ)
Y TEULU ITALAIDD — †Umbrian; †Oscan; †Lladin; Neo-Latin, neu Romanic (Eidaleg,
Sardinian, Gallo-italic, Ffrangeg, Provençal, Catalan, Hispaeneg, Portuguese,
Rumansh, Friulian, Rumanian); †Messapian (Japygian)
(ε)
Y TEULU THRAKO-ILLYRIAIDD: — †Thrakian, Albanian.
(ζ)
Y TEULU HELLENAIDD: — †Phrygian; †Groeg; Groeg Diweddar.
(η)
Y TEULU LETTO-SLAVOVAIDD: —
(1)
Slavic; †Hen Slavonic (Church Slavonic); Bulgarian; Rwsiaeg; Serviaeg;
Slovene; Slovak; Polish, Polabic (Cassubian); †Wend.
(2)
Lettic; †Hen Brwsiaeg; Lithuanian; Lett.
(θ) Y TEULU TEUTONAIDD: —
(1) †Gothic; Low German (Old, Middle,
and New);
†Anglo-Saxon;
Saesneg; Frisian; Dutch;
(2)
High German (Old, Middle, and New);
(3) †Hen
Norse; Icelandic; Swedish; Danish; Norwegian.
Y
mae Brugmann, yn ei “Grundriss der verglezthenden Grammatik der
indo-germanischen Sprachen” (Elements of
the Comparative Grammar of the Indo-Germamc Languages), yn cyfrif y teulu
Indiaidd a’r teulu Iranaidd yn un teulu; yr hwn a eilw efe y teulu Ariaidd, gan
arfer yr enw Indo-Germanaidd am y tylwyth cyfan — ein tylwyth Ariaidd ni. Dyry
efe hefyd yr iaith Armenian yn deulu ar ei phen ei hun.
Fe
roddwyd ar y tylwyth hwn amryw enwau. Y mae ysgolheigion yr Almaen yn hoff o r
enw “Indo-Germanaidd,’ a hyny heb un rheswm arall na’i fod, fel y dywed y
Proffeswr Whitney, “yn cynnwys yr enw tramor a roddwyd ar eu cangen hwy gan eu
congcwerwyr, y Rhufeiniaid.” Gelwir ef yn aml lawn “y tylwyth Indo-Ewropaidd “
Y bai mwyaf ar yr enw hwn ydyw ei fod yn rhy hir. Galwyd ef “y tylwyth
Caucasaidd,” ond nid ydyw’r llwythau Caucasaidd yn Ariaid, oddigerth yr un
llwyth bychan a elwir Iron. Nid ydyw Iron ond ffurf arall ar “Aryan” — yr enw a
roddwyd ar y tylwyth Indo-Ewropaidd gan y Proffeswr Max Müller, a’r enw sydd
wedi ei dderbyn erbyn hyn, gan y rhan fwyaf o ieithegwyr Lloegr. Dywed Max
Müller fod ârya yn digwydd yn aml yn
y “Rig Veda” (sef, casgliad o hymnau
Sanscrit, yr ysgrifeniadau hynaf sydd ar gael mewn iaith Ariaidd), fel enw
cenedlaethol ac enw anrhydeddus Tardda o’r gair arya, sef “aradrwr,” neu “amaeth,” o’r un gwreiddyn ag âr yn Gymraeg. Gellir Cymreigio Aryan yn
Ariaidd, ac arferir ef yma o herwydd ei fod yn gyfleus ac yn fyr, ac yn fwy
arferedig, fe allai, na’r un arall ym mhlith ein cymmydogion y Saeson.
Y mae dau o’r teuluoedd Ariaidd â’u
cartref yn

Teutonaidd / Lettaidd / Slavonaidd /
Scythaidd / Persiaidd / Indiaidd / Daciaidd / Celtaidd / Italaidd / Illyriaidd
/ Groegaidd / Thraciaidd / Phrrygaidd / Armeniaidd / Sarmattaidd
_____________________________________
Dangosir
perthynas tybiedig y teuluoedd byw a meirw â’u gilydd gan Dr. Isaac Taylor, yn
ei “Origin of the Aryans” (tudal. 269), yn y darlun uchod. Fe welir ei fod ef
yn cyfnf y teulu Letto-Slavonaidd yn ddau deulu.
(tudalen 50)
_____________________________________
(x51) Wrth hen safleoedd
daearegol y teuluoedd, a’n perthynas â’u gilydd, fe gesglir mai yn Ewrop, ac
nid yn Asia, fel y tybid gynt, y trigai’r Ariaid cyntefig; sef, y genedl a
lefarai’r fam-iaith Ariaidd. Ond ni pherthyn i ni yma ddadleu y cwestiwn hwnw,
o blegid â chenedl y Cymry, yn hytrach nag â’u hiaith, y mae a wnelo hyny
fwyaf. Gan hyny, ni a
gyfeiriwn y darllenydd at ein herthygl ar y Cymry am drafodaeth ar y pwngc. Am
yr iaith Ariaidd gyntefig, fe’i holrheinir trwy gymmharu ieithoedd y gwahanol
deuluoedd Ariaidd â’u gilydd. Er enghraifft, lle y ceir c yn Gymraeg (megys cant),
fe geir h yn Saesneg (hundred), sz yn Lithuanian (szimta), c yn Lladin (centum), s’ yn Sanscrit (s’ata);
a’r unig sain a all fod yn fam i’r rhai hyn oll ydyw k. Etto, lle y ceir p yn
Gymraeg (pump), fe geir f neu wh yn Saesneg (five, Almaeneg fünf) p neu k yn Lithuanian (penki), qu
yn Lladin (quinque), k, ch, neu p, yn Sanscrit (panchan); a’r unig sain a all fod yn fam i’r
rhai hyn oll ydyw kw. Yn y dull yna
fe olrheinir holl seiniau yr hen iaith gyntefig. Nid trwy gymmharu un gair, neu
ddau, y penderfynir pa seiniau sydd yn cyfatteb i’w gilydd yn yr ieithoedd
diweddar. Gallesid dyfynu enghreifftiau lawer o’r cyfattebiaethau uchod, megys ci — lliosog, cŵn; Saesneg, hound;
Lladin, canis: craidd — Saesneg, heart;
Lladin, cord-; pedwar — Saesneg, four;
Lladin, quattuor; Lithuanian, keturi: pa — Saesneg, who;
Lladin, quod; Sanscrit, kas, ac felly ymlaen. Ac nid trwy fympwy
y penderfynir y fam-sain a gynnrychiolant; ond trwy archwilio natur aeiniau, a
chanfod pa sain wreiddiol a allasai gyfnewid i’r holl seiniau diweddar, yn ol
gweithrediad naturiol y peiriannau llafar. Y cyntaf i osod i lawr ddeddf
cyfattebiaeth seiniau yn yr ieithoedd Ariaidd oedd yr ieithegydd Almaeneg
enwog Grimm; a gelwir hi ar ol ei enw ef yn “Ddeddf Grimm.” Yn canlyn wele dabl
o’r cydseiniaid cyfattebol o Ddarlithiau Cymreig (Welsh Lectures y Proffeswr Rhys, fel eu dyfynir gan y Proffeswr
Sayce:—

1 O flaen v
2 Yn nghanol gair e.e. ruber (eruthros)
3 Nid oedd p
yn bod yn yr ieithoedd Celtaidd boreuol; felly, rhaid ystyried enwau priodol
fel Menapia yn an-Ariaidd, neu, o
leiaf, yn ang-Ngheltaidd.
Y mae’r Proffeswr Sayce yn chwanegu
atynt restr o lafariaid; ond y mae’r rhestr yn anghyflawn: ac er pan gyhoeddwyd
yr ail argraphiad o’r “Introduction to the Science of Language” yn
(tudalen 51)
_____________________________________
(x52) 1883, y mae Brugmann, Hübschmann, ac eraill,
wedi cyhoeddi ffrwyth llawer o ymchwiliad i berthynasau’r llafariaid. Dywed
Brugmann fod yn y fam-iaith Ariaidd y llafariaid hyn — i, î, u, û, e, ê, o, ô, a, â,
. Seinid u fel yr w Gymreig. Seinid e ac o, y mae yn debyg,
yn agored.

Y mae llawer o’r cyfnewidiadau uchod yn
cyrhaedd yn ol, fe allai, i gangen-ieithoedd y fam-iaith gyntefig; ac y mae
llawer o’r seiniau sydd yn y tablau wedi newid yn y gwahanol ieithoedd i
seiniau newyddion, yn ol y deddfau sydd wedi gweithredu ar bob iaith ar wahan:
er enghraifft, aeth mf y gair
Teutonig fimf (Cymr. pump, Llad. quinque) yn f yn Saesneg,
ac wedi hyny aeth yr f yn v; o blegid fif yw y gair mewn hen Saesneg, five
ydyw yn awr; ond ni cheir v yn y tabl
gyferbyn a’r p Gymreig, o blegid
cyfnewidiad cymmharol ddiweddar yn Saesneg oedd newid yr f yn v. Fe welir weithiau
hefyd yn y tablau ddwy sain neu dair yn yr un iaith yn cyfatteb i un sain
wreiddiol.
Y pryd
hyny, yr acen, a safle’r sain wreiddiol yn y gair, sydd i benderfynu rhwng y
gwahanol seiniau diweddar. Fe ddylid crybwyll fod yn y fam-iaith wreiddiol, heb
law y seiniau a geir yn y tablau uchod, y seiniau m, n, ng, l, r fel llafariaid (megys y seinir yr l
yn y gair cathl, neu yr n yn ndw,
sef ydwyf llafar gwlad). Y mae
seiniau diweddar y llafariaid hyn braidd yn ddyrys. Ond fel enghraifft o’r
ffurfiau a gymmerant yn y gwahanol deuluoedd, cymmerwch y gwreidd-air Ariaidd k
d, lle y mae yr
yn
llafariad — yn Gymraeg try yn craidd,
yn Lladin cord-, Groeg
, Saesneg heart.
Gwelir fod llafariad newydd yn tyfu yn y gair; weithiau o flaen yr r, weithiau ar ei hol. Wedi cymmhwyso at
y tablau hyn, a’r seiniau eraill na chynnwysir ynddynt, y deddfau sydd yn
gweithredu ar y seiniau yn y gwahanol ieithoedd, rhaid profi fod pob llythyren yn cyfatteb i’w llythyren cyn y gellir dyweyd fod dan air o wahanol
ieithoedd yn perthyn i’w gilydd. Y mae ieitheg, fel y gwelir, wedi tyfu allan
o’r cyfnod cymmysglyd, pryd y gellid, trwy debygrwydd arwynebol yn y sain,
brofi pob peth heb fod dim yn safadwy; pryd y delid fod perthynas rhwng Cymro a
Gomer, ac y cymmherid enwau Assyriaidd â geiriau Cymraeg. Y mae tebygrwydd
arwynebol rhwng y gair Saesneg call a’r
gair Groeg
, ond cipolwg ar dabl y cydseiniaid a ddengys
nas gall fod dim perthynas rhyngddynt. O’r ochr arall, nid oes fawr o
debygrwydd rhwng benyw a queen; ac etto, edrychwch dan yr gw Ariaidd, a chwi welwch qu yn Saesneg, b yn Gymraeg; ac o’r un gwreiddyn Ariaidd gw
n (lle y mae yr
yn
llafariad) y tardd
y
Groeg, **’zena y Church Slafonic — dau air etto am “wraig,” yr enw Lladin Venus hefyd, a’r gair Groeg
“ceisio’n wraig,” yr hwn a dardd drwy ffurf
hynach
. Y mae ieithoedd, fel pob peth arall mewn
natur, yn tyfu ac yn cyfnewid yn ol deddfau; a thrwy gael hyd i’r deddfau hyny
y profwyd perthynas yr ieithoedd hyn, ac yr olrheiniwyd yr hen fam-iaith
Ariaidd.
Wedi ei holrhain yn y dull hwn, fe geir mai iaith drwyadl dreigliadol oedd y fam-iaith Ariaidd; a pho bellaf yn ol yr olrheinir pob un o ieithoedd y tylwyth, mwyaf treigliadol yr â. Yr oedd yn yr hen Geltig saith neu wyth o wahanol gyflyrau i enw unigol, a therfyniaid gwahanol i bob un. Y mae mewn Lladin clasurol chwech o’r cyflyrau hyny. I ddangos natur y treigliadau hyn, cymmerer y gair Lladin am “frenin,” sef rex. Dyma’r cyflyrau:—
GWEITHREDOL — rex, brenin.
CYFARCHEDIG — rex (O) frenin.
GWRTHDDRYCHOL — regem, brenin.
MEDDIANNOL
— regis (perthyn) i frenin.
DERBYNIOL
— regi (rhoddi) i frenin.
ABLATIVUS
— rege (o, gyda, &c.) brenin.
Wrth gyfarch brenin, dywedir wrtho Rex! (x53)
(tudalen 52)
_____________________________________
(x53) TESTUN AR FFURF HTML I’W WNEUD ETO
(tudalen 53)
_____________________________________
(x54)
(tudalen 54)
_____________________________________
(x55)
(tudalen 55)
_____________________________________
(x56)
(tudalen 56)
_____________________________________
(x57)
(tudalen 57)
_____________________________________
(x58)
(tudalen 58)
_____________________________________
(x59)
(tudalen 59)
_____________________________________
(x160)
(tudalen 60)
_____________________________________
(x61)
(tudalen 61)
_____________________________________
(x62)
(tudalen 62)
_____________________________________
(x63)
(tudalen 63)
_____________________________________
(x64)
(tudalen 64)
_____________________________________
(x65)
(tudalen 65)
_____________________________________
(x66)
(tudalen 66)
_____________________________________
(x67)
(tudalen 67)
_____________________________________
(x68)
(tudalen 68)
_____________________________________
(x69)
(tudalen 69)
_____________________________________
(x70)
(tudalen 70)
_____________________________________
(x71)
(tudalen 71)
_____________________________________
(x72)
(tudalen 72)
_____________________________________
(x73)
(tudalen 73)
_____________________________________
(x74)
(tudalen 74)
_____________________________________
(x75)
(tudalen 75)
_____________________________________
(x76)
(tudalen 76)
_____________________________________
(x77)
(tudalen 77)
_____________________________________
(x78)
(tudalen 78)
_____________________________________
(x79)
(tudalen 79)
_____________________________________
(x80)
(tudalen 80)
...................................
|
DOLENNAU AR GYFER GWEDDILL Y GWEFAN HWN |
Sumbolau arbennig: ŷ ŵ
Nodlyfr
396
Fformat: 100 chwith, 150 de
Ble’r wyf i? Yr ych chi’n ymwéld ag un o
dudalennau’r Gwefan “CYMRU-CATALONIA”
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web “CYMRU-CATALONIA” (= Gal·les-Catalunya)
Weø(r) àm ai? Yùu àa(r) vízïting ø peij fròm dhø “CYMRU-CATALONIA” (=
Weilz-Katølóuniø) Wéb-sait
Where am I? You are visiting a page from the
“CYMRU-CATALONIA” (= Wales-Catalonia) Website
CYMRU-CATALONIA
Adolygiadau diweddaraf: 2005-09-02,
2006-06-15
Edrychwch ar fy Ystadegau / Mireu
les estadístiques / View My Stats