http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_072_hanes_y_bibl_cymraeg_2176k.htm

0001z Y Tudalen Blaen

..........1863c Y Porth Cymraeg

....................0009k Y Gwegynllun

..............................0960k Y Gyfeirddalen i Gywaith Sin Prys (testunau Cymraeg yn y wefan hon)

........................................y tudalen hwn / aquesta pgina


..

 

 

 

 

 

 

 

0860k y llyfr ymwelwyr

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Catalunya i Galles

Cywaith Sin Prys - Testunau Cymraeg ar y We

 

Hanes y Bibl Cymraeg

Thomas Levi (1825-1916)

Blwyddyn Cyhoeddi: 1876

(delwedd 7282)

Adolygiadau diweddaraf:
2005-10-04 2005-10-13

 

 

Ein sylwadau ni mewn teip oren

 

Rŷn ni wedi cadw at yr orgraff wreiddiol - ar wahn i ambell gambrintiad amlwg. (Maer anghysondebau yn yr ysgrif, megis hen / hn yn ddiwahn)

 

Dynodir y tudalennau felly (x20), (x21), ayyb

 

Ar l sganior testun, bun rhaid mynd ar hynt y llwyth o fn wallau - rŷn nin meddwl i ni gael hyd iddynt i gyd, ond efallai bod ambell un heb ei weld gennym eto.

 

_______________________________________________________________________________________

Hanes y Bibl Cymraeg. Cyhoeddwyd yn y flwyddyn 1876

LEVI, THOMAS (1825-1916), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd.

Ganwyd 12 Hydref 1825, ym Mhen-rhos ar bwys Ystradgynlais

_______________________________________________________________________________________

 

Hanes y Bibl Cymraeg - clawr y llyfr

 

 

(x - v) RHAGYMADRODD.

Diammheu y bydd yn dda gan y darllenydd Cymreig gael crynodeb byr o hanes y BIBL CYMRAEG, ar ymdrechion clodfawr a wnaed gan ein tadau iw gyfieithu, ei argraphu, ai ledaenu. Yr ydym yn ddyledus am ein hyfforddiant yn hanes y Bibl, a hanes bywyd ei gyfieithwyr ai ledaenwyr, i amryw awduron, megys Llyfryddiaeth y Cymry - Cymru, - Gwyddoniadur &c.; ond yn benaf am y cyfieithiadau i Welsh Versions and Editions of the Bible, gan Dr. Thos. Llewelyn, 1768. Buom yn y British Museum yn darllen ac yn cydmaru yr argraphiadau cyntaf o Destament Salesbury, a Biblau Dr. Morgan a Dr. Parry ac eraill; ac yr oedd yn llawen iawn genym gael yno y fath gronfa ragorol o hnlyfrau Cymraeg, (x - vi) mewn llawysgrifau yn gystal ag mewn print. Mae yno faes ardderchog yn aros Hanesydd Cymreig i ddyfod iw chwilio, a chasglu ei ffrwythau.

 

Yn y gyfrol fechan hon, yr oeddem dan orfod i fod yn fyr. Ond gwnaethom ein goreu i roddi hanes mor gywir ac mor gyflawn ag oedd yn bosibl. Hyderwn y bydd darlleniad y llyfr, ar olwg a rydd ar ofal Rhagluniaeth ddwyfol am genedl y Cymry, yn darparu dynion cymhwys i drosglwyddo y gyfrol werthfawr - Gair y Bywyd - iw dwylaw, yn adgoffa i ni ein rhwymedigaethau ir Arglwydd. Dymunem hefyd iddo gadarnhau ein ffydd yn y Bibl, ac ail enyn ein cariad ato; fel y byddo i werin ein gwlad ei dderbyn fel gair Duw, pwyso ar ei dystiolaethau cedyrn, ac ymdrechu fwyfwy i weithio allan ei egwyddorion gogoneddus mewn bywyd ac ymarweddiad sanctaidd.

ABERTAWY.

 

(x - vii) CYNWYSIAD.

 

 

 

TUDALEN

PENNOD I.

LLYFR DUW

x1

PENNOD II.

CASGLIAD LLYFRAU Y BIBL

x4

PENNOD III.

CYMRU CYN CAEL BIBL ARGRAPHEDIG

x7

PENNOD IV.

Y TESTAMENT CYMRAEG PRINTIEDIG CYNTAF TESTAMENT SALESBURY

x16

PENNOD V.

BIBL DR. MORGAN

x22

PENNOD VI.

Y BIBL CYMRAEG PRESENOL

x30

PENNOD VII.

YMDRECHION I GYFLEWNI CYMRU A BIBLAU

x34

PENNOD VIII.

HANES PRIF GYFIEITHWYR Y BIBL
I. WILLIAM SALESBURY
x52
II. RICHARD DAVIES, D.D.
x59
III. THOMAS HUET
x64
IV. DR. WILLIAM MORGAN
x64
V. DR. RICHARD PARRY
x66
VI. DR. JOHN DAVIES
x68
VII. EDMUND PRYS
x73
VIII. REES PRICHARD
x76

x52

PENNOD IX.

LLEDANEWYD Y BIBL YN MYSG Y CYMRY
I. ROWLAND HEILYN
x82
II. THOMAS MIDDLETON
x83
III. CRADOC, POWELL, AC EDWARDS
x85
IV. STEPHEN HUGHES
x88
V. THOMAS GOUGE
x90
VI. GRIFFITH JONES
x92
VII. PETER WILLIAMS
x97
VIIII. THOMAS CHARLES
x103

x82

PENNOD X.

GWERTH A DYLANWAD Y BIBL

x111

 

 

(x1) HANES Y BIBL CYMRAEG.

 

PENNOD 1.

LLYFR DUW.

 

Llyfr Duw yw y Bibl. Datguddiad ydyw o feddwl Duw i ddyn; dyna deallir wrth ei alw yn Ddatguddiad Dwyfol. Cymhwyswyd dynion duwiol, trwy ddylanwad yr Ysbryd Gln, i dderbyn, a throsglwyddo, y Datguddiad hwn, trwy air, neu ysgrifen; dyna ddeallir wrth Ysprydoliaeth Ddwyfol.

 

Am hyn gelwir y llyfr hwn yn Ysgrythyrau, neu Ysgrifeniadau Sanctaidd. Gelwir ef yn Hn Destament a Thestament Newydd, oddiwrth fod yr Arglwydd yn arfer galw y berthynas rhyngddo ef ai bobl ar yr enw Testament, sef Gyfamod. Gelwid yr enw ar y cyntaf ar y berthynas hono; ac wedi hyny ar y llyfr yn mha un yr oedd y berthynas, y Testament, (x2) neu y Cyfamod hwnw yn ysgrifenedig. Gelwir ef Bibl, neu Lyfr, oddiwrth y gair Groeg, Biblos, ac y mae ei bwysigrwydd yn teilyngu iddo yr anrhydedd oi alw, Y LLYFR.

 

Moses, gwas yr Arglwydd, oedd awdwr ysprydoledig y llyfr cyntaf yn y Bibl; ac Ioan, apostol Iesu Grist, oedd awdwr ysprydoledig y llyfr diweddaf, geiriau olaf yr hwn sydd yn glo ar Lyfr Duw. Ac er fod mwy na phumtheg cant o flynyddoedd rhwng amser Moses ac Ioan, a bod degau o awdwyr gwahanol, mewn gwahanol wledydd, oesau, ac amgylchiadau, wedi bod yn ysgrifenu rhannau or Llyfr yn y cyfwng hwn, eto y mae perffaith unoliaeth, mewn athrawiaeth ac amcan, yn rhedeg trwy yr oll.

 

Mae y Bibl yn lyfr y byd. Nid llyfr cenedl, nac oes, na gwlad, ond llyfr dynoliaeth. Mae yn wir ei fod, ar un olwg, yn lyfr cenedlaethol; yn llawn o nodweddion Iuddewig. Ond, ar yr un pryd, y mae yn lyfr cyffredinol - yn lyfr yr holl fyd, yn fwy felly nar un llyfr a ysgrifenwyd erioed. Nid yw amgylchiadau gwledydd na threigliad amser yn effeithio dim ar gymhwysder ei wirioneddau. Y mae mor gymhwys i Gymry y bedwaredd - ganrif - ar - bumtheg ag ydoedd i Iuddewon Palestina filoedd o flynyddoedd yn ol.

 

(x3) Nodwedd arbenig arall yn Llyfr yr Arglwydd ydyw, ei fod mor gyfieithadwy.

 

Er mai llyfr wedi ei gyfieithu ydyw y Bibl Cymraeg (fel Bibl pob cenedl heddyw), eto mae ei Gymraeg yn safon yr iaith. Deallwn hefyd ei fod felly yn mysg cenedloedd yn gyffredin. Pa lyfr mor Gymreigaidd ar Bibl Cymraeg? Ac am ba gyfieithiad arall y gellid dywedyd hyn?

 

Llyfr y llyfrau yw y Bibl. Duw yw ei Awdwr; gwirionedd yw ei gynwys; ac iachawdwriaeth yw ei amcan. Rhoddwch i mi y Llyfr, meddai Syr Walter Scott, ar ei wely angau. Pa lyfr? gofynai ei was, heb ddeall am ba gyfrol yr oedd yn galw. Paham y gofynwch hyny? ebe yntau, nid oes ond un!

 

Nis gellir hysbysu amcan y Bibl yn well na dyweyd mai datguddiad ydyw or Duw mawr yn Nghrist Iesu, yn cymodi y byd ag ef ei hun. Dyma amcan yr holl Fibl, yr Hn Destament yn gystal ar Newydd. Mae yr Hn Destament yn dechreu gyda hanes dyfodiad pechod ir byd, ac addewid am Grist i waredu oddiwrtho; ar Newydd yn dechreu gyda hanes genedigaeth y Grist hwnw. Cysgod o hono Ef ydoedd Moses; gwelodd Abraham ei dydd; canodd Dafydd am dano; a hysbyswyd Ef gan yr holl brophwydi. Duw, wedi iddo (x4) lefaru lawer gwaith a llawer model, gynt wrth y tadau trwy y prophwydi, yn y dyddiau diweddaf hyn a lefarodd wrthym ni yn ei Fab.

 

 

PENNOD II.

CASGLIAD LLYFRAU Y BIBL.

IR Iuddewon yr ymddiriedwyd am ymadroddion Duw. Ond yr oedd gofal uwch na gofal dynion yn gwylio dros eu cadwraeth. Gofalodd rhagluniaeth y nefoedd yn rhyfedd am danynt trwy holl chwyldroadau y genedl Iuddewig; ac ou dwylaw hwynt y derbyniwyd y trysor gwerthfawr gan yr holl genedloedd.

 

Wedi i Moses orphen ei ysgrifeniadau rhoddodd hwynt ir oneiriaid, meibion Lefi, iw gosod mewn cadwraeth ar ystlys arch y cyfamod (Deut. xxxi. 9, 26). Yn niwedd Llyfr Josua dywedir iddo yntau ysgrifenu y geiriau hyn yn llyfr cyfraith Duw (Jos. xxiv. 26). Yn mhellach yn mlaen eilwaith, cawn Samuel yn ysgrifenu mewn llyfr, ac yn ei osod gerbron yr Arglwydd (1 Sam. x. 25). Yn hir ar ol hyn, dywedir i Hilciah, yr archoffeiriad, gael llyfr y gyfraith yn nhŷ yr Arglwydd (2 Bren. xxii. 8). Dywed Esaiah, Ceisiwch allan o lyfr yr Arglwydd, a darllenwch (Esai. xxxiv. 16). (x5) A dywed Daniel mai wrth y llyfrau y deallai amser caethiwed y genedl.

 

Mae traddodiad yr Iuddewon yn dywedyd i lyfrau yr Hn Destament gael eu gorphen au casglu yn nghyd gan Ezra, yr hwn a barotoisai ei galon i geisio cyfraith yr Arglwydd, ac iw gwneuthur, ac i ddysgu yn Israel ddeddfau a barnedigaethau; ac efe oedd ysgrifenydd cyflym yn nghyfraith Moses, ac yr ydoedd llaw yr Arglwydd ei Dduw arno ef (Ezra vii. 6,10). Cynorthwyid ef yn y gorchwy] pwysig hwn gan Haggai, Zechariah, Nehemiah, a Malachi. Fel hyn y cadwyd ac y casglwyd yn nghyd ganon, neu lyfrau ysprydoledig yr Hn Destament. Cydnabyddai yr Eglwys Iuddewig hwy fel y cyfryw; a rhoddodd Iesu Grist ei hun sl awdurdod ddwyfol arnynt - Y Gyfraith, ar Prophwydi, ar Salmau - trwy eu cydnabod, yn wir, yn Air Duw.

 

Mae genym fwy o sicrwydd am awdwyr llyfrau y TESTAMENT NEWYDD, ond llai o hysbysrwydd am y rhai au casglodd yn nghyd yn un llyfr.

 

Ymddengys mai y gyfran gyntaf or Testament Newydd a ysgrifenwyd ydoedd llythyr yr Eglwys yn Jerusalem at yr Eglwys yn Antiochia (Act. xv. 23-29). Yn fuan ar ol hyn dechreuodd Paul ysgrifenu ei lythyrau. A thra yr oedd Paul yn defnyddio pob hamdden (x6) a gai i ysgrifenu at eglwysi, a phersonau unigol, yr oedd Matthew, Marc, a Luc wrthi yn ysgrifenu yr Efengylau, ar ddau olaf, fel y bernir, dan gyfarwyddyd Pedr a Paul. Tuar un amser yr oedd Iago, Pedr, a Judas yn ysgrifenu eu hepistolau. Bernir fod yr oll or Testament Newydd wedi ei orphen ar adeg marwolaeth Pedr, oddigerth ysgrifeniadau Ioan - yr epistolau, yr Efengyl, ar Datguddiad.

 

Nid oes sail i dybied fod unrhyw fwriad i gasglu yr ysgrifeniadau hyn yn nghyd ar yr amser yr ysgrifenwyd hwynt, gan eu hawdwyr na neb arall. Am beth amser buont yn aros yn berchenogaeth ir rhai yr ysgrifenwyd hwynt atynt. Nid oedd yr un eglwys yn meddu ar fwy na dau or llyfrau hyn, ar rhan fwyaf heb yr un. Am y pedair Efengyl, tebygol fod un o honynt yn Rhufain; un yn Neheudir Itali; un arall yn Palestina; ar llall yn Asia Leiaf. Yr oedd yr unig gopi o Lyfr yr Actau, gydag Efengyl Luc, yn meddiant y Theophilus hwnw. Or un epistol ar ugain, yr oedd pump yn Groeg a Macedonia; pump yn Asia Leiaf; un yn Rhufain; ar lleill yn nwylaw personau unigol. Ni anfonwyd y Datguddiad, maen debygol, ond i eglwysi Asia.

 

Yr oedd yr holl lyfrau hyn, os nad wedi eu hysgrifenu gan yr Apostolion, wedi derbyn eu (x7) hawdurdod uniongyrchol. Ac fel yr oedd yr Apostolion yn marw, teimlid anghen am ychwaneg o gopiau ou hysgrifeniadau. Gyn hir casglwydyr Efengylau yn nghyd. Ca?glwyd hcfyd yn raddol yr Epistolau. Detholwyd yn ofalus y llyfrau awdurdodedig oddiwrth lawer o efengylau ac epistolau diawdurdod oeddent wedi eu hysgrifenu. Ac erbyn oddeutu diwedd y bedwaredd ganrif yr oedd yr oll or Testament Newydd, fel y mae yn awr genym ni, wedi ei gasglu yn un llyfr, ai dderbyn gan yr holl Eglwysi yn ysgrythyrau dwyfol, fel yr Hn Destament.

 

PENNOD III.

CYMRU CYN CAEL BIBL ARGRAPHEDIG.

Cafodd Cymru ei breintio r Efengyl yn fore. Tybia llawer i Joseph o Arimathea fod yn y wlad hon yn pregethu. Dywedir hefyd mai Lucius (Lles ap Coel), Brenin y Brytaniaid, oedd y brenin Cristionogol cyntaf yn yr holl fyd; ac iddo anfon at Eleutherius, Esgob Rhufain, i ddymuno arno anfon dysgawdwyr Cristionogol i Brydain, fel y gallai ei ddeiliaid (x8) glywed y newyddion da o lawenydd mawr am y Ceidwad - Crist yr Arglwydd.

 

Mewn atebiad ir cais, anfonwyd Dyfan a Ffagan yma, yn y flwyddyn 180. Tua dau gant a haner o flynyddau wedi hyn (430) daeth Garmon a Lupus yma, o Ffrainc, i wrthwynebu cyfeiliornadau Pelagius. Yn 540 daeth Awstin Fynach drosodd i Loegr. Daliodd yr Efengyl ei thir yn rhyfeddol o dda yn Nghymru hyd y ddeuddegfed ganrif, pan osodwyd iau haiarn Pabyddiaeth arni, ac yr amddifadwyd hi oi llyfrau. Gwnaed cyfraith yn y flwyddyn 1400, gan Harri IV., i atal i un Cymro ddysgu ar lyfr, a chadwyd hi mewn grym am ddigon o amser ir wlad golli ei chwaeth at ddarllen, fel y bu argraphu yn y byd yn hir heb ir Cymry fod yn well o hyny.

 

Mae profion diammheuol fod rhanau or Bibl, os nad yr holl Fibl, gan y Cymry, mewn ysgriflyfrau yn ystod y cyfnod hwn. Cyfieithodd TALIESIN, bardd enwog o ymyl Llanrwst, yr hwn oedd yn ei flodau yn 540, pan ddaeth Awstin Fynach i Brydain, ranau or Bibl. Math o arall-eiriad barddonol ydoedd o Ddeg pla poeni yr Aipht, Llath Foesen, neu wialen Moses, ac ychydig am Dduw a Christ.

 

Cyfieithwyd rhanau or Bibl hefyd gan DAFYDD DDU o Hiraddug, bardd cyfrifol arall (x9) oedd yn ei flodau oddeutu 1349. Mae ei waith ef yn cynwys rhan fawr or Salmau, rhan or bennod gyntaf o Efengyl Luc, can Zacharias, cyfarchiad i Mair gan yr angel, cn y tri llanc, o chan Simeon. Arall-eiriad barddonol, neu ar gynghanedd, yw ei waith yntau. Dyma siampl or cyfieithiad, o gyfarchiad yr angel Gabriel i Mair:

 

Gabriel a anfoned yn gennad y gan Dduw i ddinas yn Galilea, yr hwn a elwir Nassareth, i briodi morwyn gwr a elwid Joseph, o lwyth Dafydd. Ac enw y forwyn oedd Mair. A phan ddaeth yr angel i mewyn attai y dywawd ef, Hanffych gwell Fair gyflawn o rad Duw gyda thi bendigaid yngyfrwng y gwragedd. A phan erglw Fair hyny, cynhyrfu a wnaeth, a meddyliaw pa ryw gyfarch oedd honna.

 

A dywedyd a oryg yr angel wrthi nac ofnha. Fair, canys ti a gefaist rad y gan Dduw, ti a ymddygu feichiogi ith groth ac essgory ar fab, a elwy ei enw Iesu, a hwnw a fydd gwr mawr, a Mab y gelwir ir Goruchaf, ac efe a rydd yr Arglwydd Dduw iddaw esteddfa Dafydd ei Dad.

 

Nid oedd yr ysgrifau hyn iw cael ond yn llyfrgelloedd y cywrain ar dysgedig hyd y flwyddyn 1801, pryd y casglwyd ac y cyhoeddwyd y cyfan yn yr Archeology of Wales, (x10) trwy lafur Owen Jones (Owain Myfyr), Dr. Owain Pughe, ac Edward Williams (Iolo Morganwg).

 

Mae yn ddiau fod rhanau eraill or Bibl yn Gymraeg yn ystod y cyfnod a nodwyd. Gwelodd Dr. Richard Davies, Esgob Tyddewi, pan yn llanc, Bum Llyfr Moses yn Gymraeg, mewn ysgrifen, yn nhŷ ewythr iddo, yr hwn oedd ŵr dysgedig. Yr oedd hyny tua chanol teyrnasiad Harri VIII. (oddeutu 1527). Barna rhai y gallai hwnw fod wedi ei gyfieithu gan William Tyndal, yr hwn oedd frodor o Gymru, ar Protestant a gyfieithodd y Bibl gyntaf ir iaith Saesneg, ac a ddyoddefodd ferthyrdod yn wobr am y gorchwyl. Dywed Esgob Davies, yn ei lythyr argraphedig gyda Thestament William Salesbury: -

 

Yn lle gwir, ni ffynodd genifi erioet gael gwelet y Bibl yn Gymraeg: eithr pan oeddwn fachcen, cof yw cenyf welet Pump Lyfr Moysen yn Gymraeg, o fewn tu yewythr ym oedd wr dysgedig; ond nid doedd neb yn ystyr y llyfr nac yn prisio arno. Peth ammheus ydiw (ir a wnni) a ellir gwelet yn oll Cymru un hnFibl yn Gymraeg ir penn golledwyt ac y speiliwyt y Cymry oy holl lyfrau. Eithr diemmay yw cenyf fot cyn hynny y Bibl yn ddigon cyffredin yn Gymraeg. (x11) Perffeithrwydd ffydd y Merthyron, eglwyswyr a lligion, sydd brawf fod yr Ysgrythyr Ln cenddynt yn i iaith eu hunan. - Hefyd, y mae cenym ni yn Gymraeg amryw ymadroddion a diarhebion, yn aros fyth mewn arfer, a dynwyt o berfedd yr Ysgrythyr Ln ac o ganol Efengyl Grist. Yr hyn sydd brofedigaeth ddigonawl fot yr Ysgrythyr Ln yn mhen pob bath ar ddyn, pan y dechreuwyt hwynt, a phan y dygwyt i arfer gyffedinawl: megis, A Dvvw a digon; heb Ddvvw heb ddim, - A gair Dvvw yn uchaf, - y Map rhd, - Ni lafar, ni weddia, nid teilwng iddo ei fara, - Eglwys pawb yn ei galon, - Cyn wired ar Efengyl, - Pan nad oedd rhyfedd na thyf post aur trwy nen tŷ yr anwir, - Drwg y ceidw diawl ei ws, - I Ddvvw y diolchwn gael bwyt, a gallu ei fwyta, - Rhad Dvvw ar y gwaith; ac eraill or fath hyn. Y mae llawer o enwau arferedig gynt yn mhlith y Gymry yn brawf ychwanegol o hyny; megis Abraham, Esgob Mynyw; Adda Fras, un or beirdd; Aaron, un o benaethiaid Gwlad Forgan; Asaph, Esgob Llanelwy; Daniel, yr Esgob cyntaf yn Bangor; Iago ab Idwal; Joseph, Esgob Mynyw; Samuel Benlan, offeiriad dysgedig; Samson, y chweched Esgob ar ugain, ar diweddaf, yn Mynyw; ar cyfryw eraill a goffeir yn fynych yn yr (x12) hnachau. Y mae hyn yn dangos fot yr Ysgrythyr Ln yn wybodedic iawn gan ein hynafieit gynt. Y mae prydyddiaeth Taliesin, benbeirdd, yn gwiriaw yr un peth, yr hwn oedd yn byw yn amser Maelgwn Gwynedd, yn y chweched ganrif.

 

Mae penill cyfarwydd Taliesin fel hyn: -


................ Gwaer offeiriad byd,

.................Nys anghreifftia* (TROEDNODYN: *Cherydda) gwyd , (TROEDNODYN: bai)

.....................Ac ny phregetha;

.................Gwae ny cheidw ei gail,

.................Ac ef yn fugail,

.....................Ac ny areilla;

.................Gwae ny cheidw ei ddefaid,

.................Rhag bleiddiaur Rhufeiniaid,

.....................Ai ffon gnwpa.

 

Mae y tystiolaethau hyn yn brofion eglur fod y Bibl, neu ranau helaeth o hono, mewn ysgriflyfrau, yn meddiant ein hynafiaid ni y Cymry yn fore iawn. Y tebygolrwydd yw iddynt eu colli trwy erledigaethau a rhyfeloedd gymerodd le yn y cyfnod rhwng y chweched ar bumthegfed ganrif.

 

Y darnau cyntaf or Bibl a argraphwyd erioed yn Gymraeg ydoedd mewn llyfr bychan Cymraeg, pedwar-plyg, a gyhoeddwyd yn Llundain yn y flwyddyn 1546. Hwn yn wir oedd y llyfr cyntaf a argraphwyd erioed yn yr (x13) iaith Gymraeg, oddigerth mai Cymraeg ydoedd Prymer Salesbury, a argraphwyd yn 1531. Ond nid oes sicrwydd yn mha iaith oedd hwn. Teitl y llyfr Cymraeg a nodwyd ydoedd, -

 

BEIBL. Yn y Llyvyr hwn y Traethyr Gwyddor Kymraeg. Kalendyr. Y Gredo, neu bynkey yr ffydd Catholig. Y Pader neu Weddi yr Arglwydd. Y deng air Deddyf. Saith rinwedd yr Eglwys. Y Kampay arveradwy, ar Gweddiau Gocheladwy a Keingen.

 

Nid oedd ond math o almanac, a bernir fod gan Syr John Price, or Priordy, Aberhonddu, law yn ei awduriaeth. Gosodwyd y Beibl mewn llythyrenau mawrion ar ben y ddalen gyntaf, er mwyn galw sylw, am fod y Bibl y pryd hwnw yn ddyeithr iawn yn Nghymru, a bod y rhanau or Bibl a nodir yn y teitl uchod ynddo.

 

Tystiai Iolo Morganwg wrth Dr. Malkin fod un Thomas Llewelyn, Glyn Eithinog, or Rhigos, gerllaw Glyn Nedd, Morganwg, yr hwn oedd fardd enwog a Phrotestant o ddysg a duwioldeb neillduol, ac yn byw yn amser Edward VI. a Mari ac Elisabeth - fod y gwr hwn, wedi cyfieithu y Bibl i Gymraeg da, o gyfieithiad Seisonig William Tyndal, odddeutu y flwyddyn 1540. Myn rhai fod (x14) cyfieithwyr y Bibl presenol wedi gwneyd defnydd o gyfieithiad Llewelyn; ond y imae eraill yn gwrthddywedyd.

Dywed Ioan Tegid, yn ei ddarlith ar Fedd Gwr Duw, i hn gyfieithiad or pedair Efengyl, yn un llyfr, fod yn llyfrgell Eglwys Gadeiriol Llanelwy am oesoedd. Cyfrifid ef yn gyfieithiad hn yn y flwyddyn 1282, fel y gellir gweled oddiwrth lythyr nodded a braint Archesgob Caergaint y flwyddyn hono, yn caniatau i offeiriaid yn perthyn i eglwys Llanelwy y rhyddid i gario y darn hwnw or Testament Newydd o amgylch y wlad, er mwyn ei ddangos ir neb a chwenychai ei weled. Yr oedd y llythyr hwnw wedi ei ysgrifenu yn Lladin; wedi ei Gymreigio darllena fel hyn: -


...... Cylch - lythyr Ioan, Archesgob Canterbury, yn caniatau i Ganonwyr Llanelwy, yn Nghymru, i gariaw oddiamgylch yr Ysgrythyrau.

 

...... Y Brawd Ioan, &c., ir holl offeiriaid, yn gystal ag ir gwyr lleyg, yn Esgobaethau Coventry, Lichfield, Henffordd, ar holl Esgobaethau Cymreig, iechyd, a thangnefedd tragywyddawl yn yr Arglwydd. Y llyfr neu eiriau yr Efengylau yn perthyn i Eglwys (x15) Llanelwy, a elwir yn gyffredin wrth yr enw ENEGLTHEN, yr hwn sydd, fel y deallasom, mewn cyfrif mawr a pharch gan drigolion o bob gradd yn mharthau Cymru ar cyffiniau; ac am fwy o resymau nag un, a gludir ar droion yn barchus o amgylch y wlad, fel yn beth sanctaidd, gan offeiriaid yn perthyn ir eglwys a enwyd uchod. Nyni, gan hyny, yn cael ein tueddu i gymeradwyo y cyfryw arferiad a ddymunem i chwi dalu pob anrhydedd ir llyfr ac ir personau, y rhai a ddarlunir yma, sydd yn ei ddwyn ef oddi amgylch, gan ddeisyfu arnoch, er mwyn y parch sydd genych i Grist, yr Hwn yw Awdwr yr Efengylau, i ganiatau ir offeiriaid y soniwn am danynt, ymdaith yn eich plith, gydar llyfr dywededig, ac iddynt allu llawenhau oblegyd ddarfod iddynt hwy gael diogelwch a llonyddwch yn eu mynediad, eu hansawdd, ac yn eu dychweliad yn ol.

 

...... Rhoddwyd o dan ein llaw, yn Lambeth,

Gorphenaf 14eg, o flwyddyn ein Harglwydd 1282.

 

Yr oedd y cyfieithiad uchod yn Llanelwy hyd amser yr Esgob Goldwell, rhagflaenydd Richard Davies. Collodd Goldwell yr esgobaeth ar esgyniad Elisabeth ir orsedd, am (x16) na throai yn Brotestant. Aeth i Rufain, lle y bu farw. Bernir iddo gymeryd hn ysgriflyfr yr Efengylau yno gydag ef, ac y gallai ei fod yn aros eto yn mysg trysorau y Vatican. Pa fodd bynag, nid oedd yn Llanelwy yn amser yr esgob dylynol - Richard Davies - onide, buasai yn sicr o fod wedi crybwyll am dano.

 

PENNOD IV.

Y TESTAMENT CYMRAEG PEINTIEDIG CYNTAF. - TESTAMENT SALESBURY.

Dygodd y diwygiad oddiwrth Babyddiaeth, yn yr unfed ganrif ar bumtheg, lawer o fendithion i Brydain Fawr, ac nid y lleiaf o honynt oedd lledaeniad yr Ysgrythyrau Sanctaidd dros y wlad yn iaith y bobl. Yr ydoedd hyn yn ddechreuad cyfnod newydd a bendigedig.

 

Dyma y pryd y cafodd y Saeson eu Bibl. Yr oedd Wickliff wedi cyfieithu y Bibl ir iaith Saesneg mor fore ar flwyddyn 1380; ond y cyfieithiad printiedig cyntaf ydoedd un William Tyndal. Argraphwyd y Testament Newydd yn 1526, ar Hen Destament yn 1532. Cafodd ef ei ddienyddio, yn wobr am ei (x17) wasanaeth. Diwygiwyd ei gyfieithiad gan Coverdale ar Archesgob Cranmer. Yn 1603 apwyntiodd y Brenin Iago 54ain o ddynion dysgedig i arolygu a diwygio y cyfieithiad. Bu 47ain o honynt wrthi am flynyddoedd; ac yn y flwyddyn 1611 y cyhoeddwyd y Bibl Seisnig Awdurdodedig.

 

Yn y flwyddyn 1562 neu 1563 penderfynwyd, trwy weithred Seneddol, -

 

Fod y Bibl, yn cynwys yr Hn Destament ar Newydd, yn nghyd a Llyfr Gweddi Gyffredin, a Gweinyddiad y Sacramentau, i gael eu cyfieithu i iaith y Brython, neu y Gymraeg, a bod y gwaith i gael ei arolygu, ei ddefnyddio, ai gydnabod gan Esgobion Llanelwy, Bangor, Tyddewi, Llandaf, a Henffordd, ai arferyd yn yr eglwysi erbyn y laf o Fawrth 1566, dan ddirwy, os na chyflawnid, o ddeugain punt yr un ar yr esgobion.


Fod un copi printiedig o leiaf or cyfieithiad hwn i fod ar gyfer ac yn mhob eglwys yn Nghymru, i gael ei ddarllen gan yr offeiriaid yn amser yr addoliad dwyfol, ac ar brydiau eraill, er lles ac arferiad y neb a hoffai fyned ir eglwys ir perwyl hwnw.

 

Hyd oni byddo ir cyfieithiad hwn or Bibl ar Llyfr Gweddi Gyffredin gael ei orphen ai gyhoeddi, fod yr offeiriaid yn Nghymru i (x18) ddarllen, yn amser yr addoliad cyhoeddus, yr Epistolau, ar Efengylwyr, Gweddi yr Arglwydd, Erthyglau y Ffydd Gristionogol, y Litani, ar cyfryw ranau eraill or Llyfr Gweddi Gyffredin, yn yr iaith Gymraeg, ag a gymeradwyid gan yr esgobion a nodwyd uchod.


Fod, nid yn unig yn ystod y cyfwng hwn, ond dros byth wedi hyny, Biblau a Llyfr Gweddi Gyffredin Seisnig i fod yn mhob eglwys a chapel eglwysig yn y wlad hono.

 

Ond er rhoddi awdurdod Seneddol wrth y gorchymyn, ymddengys mai ychydig o sylw dalodd yr esgobion ir ddeddf hon, beth bynag oedd yr achos. Mae yn sicr nad oedd y ddirwy mor fawr ag i beri eu dychrynu at eu dyledswydd, er fod deugain punt yr amser hwnw yn llawer mwy nag ydyw heddyw. Ac y mae yn ddigon posibl y buasai cadw y gyfraith hono yn costio mwy o arian i bob dim or esgobion na swm ei ddirwy. Ceisia rhai eu hamddiffyn trwy ddyweyd fod yr amser yn rhy fyr, - dim ond tair neu bedair blynedd, - ac nad oedd y ddeddf yn pennodi ar ddynion i gyflawni y gwaith, nac ar gyflog iddynt am hyny.

 

Beth bynag, yn ganlyniad ir ddeddf uchod, yn y flwyddyn 1567 - blwyddyn yn hwy nar amser a ordeiniwyd gan y Senedd - (x19) cyhoeddodd William Salesbury ei gyfieithiad or Testament Newydd, mewn llyfr pedwar-plyg, yn cynwys 399 o dudalenau - neu, yn hytrach, o ddalenau, gan nad oedd ond un tu ir ddalen yn cael ei rhifnodi. Yr oedd wedi ei argraphu mewn llythyren ddu (flewog, fel y gelwir hi), ac wedi ei ddosbarthu yn llyfrau a phennodau, fel y mae genym ni yn bresenol. Yr oedd cynwysiad hefyd o flaen pob llyfr a phennod, ac eglurhd geiriau tywyll ar ymyl y dail; ond nid oedd cyfeiriadau at adnodau eraill, am nad oedd ond ychydig or llyfrau olaf wedi eu rhanu yn adnodau. Yr oedd amryw wŷr dysgedig wedi cynorthwyo yn y cyfieithiad hwn. Cafodd Llyfr y Datguddiad ei gyfieithu gan T. H. C. M., fel y dengys ymyl y ddalen, sef Thomas Huet, Canghellwr Mynyw, neu Tyddewi. Cyfieithwyd yr Ail Epistol at Timotheus, yr Epistol at yr Hebreaid, Epistol Iago, a dau Epistol Pedr, gan D. R. D. M., sef Dr. Richard Davies, Menevensis, neu Esgob Tyddewi. Yr oedd y cwbl, heblaw hyn, wedi ei gyfieithu gan William Salesbury. Ar ymyl y ddalen yn niwedd ail Thessaloniaid y mae y geiriau canlynol: -


O Lyver Cenedleth oll yd y van hyn, W. S.; ar Epistol iso D. R. D. M. ei (x20) translatodd.

 

Gyferbyn a dechreu 2il Timotheus dywedir, W. S., yr vn hwn a ddau iso.

 

Gyferbyn a dechreu Hebreaid dywedir, D. R. D. M., yr vn hwn at yr Ebreiat, ac y ddau i Petr ac vn i Iaco.

 

Gyferbyn ag epistol cyntaf Pedr y mae D. R. D. M.

 

Gyferbyn a 1 Ioan y mae, W. S., tri Ioan ac vn Judas.

 

A gyferbyn a dechreu y Datguddiad y mae, T. H. C. M., a translatodd oll text yr Apocalypsis yn iaith i wlat.

 

Argraphwyd ef yn Llundain yn y flwyddyn 1567, gan Henry Denham, ar draul Humphrey Toy. Yr oedd y teitl-ddalen fel hyn, -

 

Testament Newydd ein Arglwydd Iesu Christ. Gwedi ei dynnu yd y gadei ŷr anghyfiaeth air yn ei gylydd or Groec ar Llatin, gan newidio ffyrf llythyren gairiaedodi. Eb law hyny y mae pop gair a dybiwyt y vot yn andeallus, ai o ran llediaeth y wlat, ai o ran ancynefindery deunydd, wedi ei noti ai eglurhu ar ledymyl y tudalen gydrychiol.

 

Yn niwedd y llyfr mae y geiriau hyn, -

 

Imprinted at London, by Henry Denham, at the costes and charges of Humphrey Toy, dwelling in Paules Church Yard, at the sign of the Helmet. Cum privilegio ad imptimendum solum. Anno 1567. Octob. 7.

 

(x21) Mae y Calendar hefyd wedi ei osod i mewn ar ei ddechreu, a chyflwyniad yn Saesneg, Ir dra Rinweddol ac Ardderchog Dywysoges Elisabeth, &c., gan y prif gyfieithydd, ac epistol Cymraeg maith at ei gydwladwyr gan Dr. Davies, Esgob Tyddewi. Mae y copi or argraphiad hwn sydd yn y British Museum mewn cyflwr rhagorol. Ar ei ddiwedd, heblaw y pethau a nodwyd, ceir TABUL Y GAHEL yr Epistole ar Euangelon y ddarllenir yn yr Eglwys trwyr blwyddyn [sic], &c. Mae cerflun, cyffredin iawn o ran gwaith celfyddyd, yn egluro Mat. 13, i. (ad. 44, debygem). Darlun o ddynion yn bargeinio ydyw, ac odditano, mewn llythyrenau cochion,

 

........ Gwerthwch a vedrwch o vudd

.........(Llymar man lle maer modd

..........Ac mewn ban angen ni bydd)

..........I gael y peri goel hap wedd.

 

Mae rhai adnodau yma a thraw yn darllen yn drwsgl a chlogyrnaidd, a llawer o eiriau anneallus ac annghymreigaidd yn cael eu defnyddio. Mae eraill yn darllen yn llithrig a naturiol. Dyma yr adnod gyntaf yn mhennod olaf y Testament: - Ac ef y ddangosodd i mi afon pur o dwr y bywyd yn dysclaero mal y crystal, yn dyfod allau o eisteddle Dyw ar (x22) Oen. Hysbysir fod y cyfieithiad wedi ei wneyd gyda gofal a ffyddlondeb or Groeg ar Lladin, a bod arolygiad yr oil, ac yn enwedig ei gyhoeddiad, yn cael ei wneyd gan William Salesbury, trwy bennodiad, meddai ef, ein tra gwyliadwrus Fugeiliaid, Esgobion Cymru.

 

PENNOD V.

BIBL DR. MORGAN

Ni chafwyd argraphiad or holl Fibl Cymraeg, er gwaethaf gorchymynion a dirwyon Seneddol, am fwy nag ugain mlynedd ar ol cyhoeddi y Testament Newydd. Ac nid yw yn debyg fod un cysylltiad rhwng y gorchymyn Seneddol a aeth allan, a chwblhd y gwaith gan Dr. Morgan. Beth bynag, yn y flwyddyn gofiadwy, 1588, cyhoeddwyd yn Llundain, yn gyfrol fawr unplyg, Y Bibl Cysegrln, sef yr Hn Destament ar Newydd, a chafodd Cymru y trysor penaf ddaeth erioed iw rhan, sef y Datguddiad Dwyfol yn ei hiaith ei hunan. Ficer Llanrhaiadr yn Mochnant, Sir Ddinbych, ydoedd y Dr. William Morgan hwn. Wedi (x23) hyny, yn 1595, gwnaed ef yn Esgob Llandaf; ac yn 1601, yn Esgob Llanelwy, a bu farw yn 1604.

 

Cyfieithodd y gŵr da hwn, neu bu ganddo y llaw flaenaf mewn cyfieithu, yr oll or Hn Destament, ar Apocrypha, or iaith wreiddiol ir iaith Gymraeg, diwygiodd y cyfieithiad blaenorol or Testament Newydd, a dygodd allan argraphiad cyflawn a destlus or holl Fibl, wedi ei argraphu yn Llundain gan Christopher a Robert Barker, yn y flwyddyn 1588.

 

Yr oedd y ddau Barker yn byw dan arwydd Pen-y-Teigr, yn Paternoster Bow, ac yn cadw maelfa yn Mynwent St. Paul, dan arwydd y Ceiliog Rhedyn. Yr oeddent yn deilliaw o deulu cyfrifol, ac wedi cael yr hawlfraint i argraphu yr ysgrythyrau gan y Frenines Elisabeth. Adnewyddodd y Brenin Iago yr hawlfraint i Christopher, mab Robert Barker. Dywedir fod Robert Barker wedi talu tair mil o bunau am ddiwygio y cyfieithiad Seisnig or Bibl. Ond er hyny yr oedd mor wallus fel y cafodd ef, ai gydymaith, Martin Lucas, eu dirwyo i dair mil o bunau, oherwydd y gwallau.

 

Pan orphenwyd y Bibl Cymraeg,(x24) anrhegwyd Deon a Glwysgor Westminster chopi or gwaith, am y caredigrwydd ar cymhorth a dderbyniodd y cyfieithydd oddiar ddwylaw y clerigwyr dysgedig, ac yn enwedig y Deon, Dr. Gabriel Goodman. Mae y copi hwnw hyd heddyw yn eu llyfrgell. Mae wedi ei argraphu yn yr hn lythyren ddu Frytanaidd. Mae ynddo gynwysiad o flaen pob pennod, ar pennodau wedi eu rhanu yn adnodau. Mae peth cyfeiriadau ar ymyl y dail, llythyr Lladin o gyflwyniad ir Frenines Elisabeth ar ei ddechreu, ar Calendar ynddo; ac y mae wedi ei rifnodi wrth y dalenau, ac nid y tudalenau. Nifer y dalenau ynddo ydyw 555.

 

Nid oes gwybodaeth beth gymhellodd Dr. Morgan i ymgymeryd r gorchwyl pwysig o gyfieithu yr Ysgrythyrau. Nid yw yn son ei hun, ac nid yw yn debygol ychwaith iddo gael ei anog gan na brenines nac esgob. Y tebygolrwydd yw iddo ymgymeryd ar gorchwyl o hono ei hun, oddiar deimlad or anghen mawr, ar galw oedd am dano. Oblegyd yr oedd galw mawr am y Bibl, er fod yr yspryd Pabyddol yn gryf, ac yn groes iawn i roddi y Bibl yn nwylaw y bobl gyffredin. Yr yspryd Pabyddol hwn, yn ddiau, (x25) gynhyrfodd bobl Llanrhaiadr - ei blwyfolion ei hun - yn erbyn y ficer dysgedig, i daenu celwyddau am dano, a chyhoeddi nad oedd yn alluog i wneyd y cyfieithiad. Nid yn unig anfonwyd hyn at ei esgob, ond hefyd at Archesgob Caergaint er mwyn gosod rhwystrau ar ei ffordd i fyned yn mlaen. Gorfu iddo ymddangos o flaen yr archesgob, yn bryderus iawn, mewn canlyniad. Ond, fel y bydd yn dygwydd yn fynych, trodd gelyniaeth ei wrthwynebwyr yn fantais or mwyaf iddo. Wrth ei holi gwelodd yr Archesgob Whitgift yn fuan ei fod yn ysgolor o radd uchel, ac yn feistrolgar yn yr Hebraeg ar Groeg, a gwelodd yr un mor amlwg ddichellion drygionus ei gyhuddwyr. Gofynodd yr archesgob iddo, A fedrwch chwi y Gymraeg yn gystal ar Hebraeg? Atebodd y ficer yn ostyngedig, Gobeithio, fy arglwydd, y goddefwch chwi i mi eich sicrhau y medraf iaith fy mam yn well nag un iaith arall. Wedi hyn cafodd bob cefnogaeth a chynorthwy oddi ar law yr Archesgob.

 

Gwelwn nad oedd amgylchiadau y ficer Morgan yn gyfryw ag y gallasai fyned dan draul argraphu y Bibl oni bai iddo dderbyn cymhorth oddiar ddwylaw eraill. Cyfaddefa (x26) hyn ei hun yn ei lythyr cyflwynol ir Frenines Elisabeth. Ac wedi ei ddechreu, meddai yn hwnw, diffygiaswn o ran anhawsder y gwaith a mawredd y gost, a dygaswn bum llyfr Moses yn unig at yr argraphwasg, oni buasai ir Parch. John Whitgift, Archesgob Caergaint, achleswr dysgeidiaeth, amddiffynwr gwirionedd, a thirion wrth ein cenedl ni, fy nghynorthwyo, fy nghymhorth i haelioni, ai awdurdod, ac ai gynghor, i fyned yn mlaen. Yn ol ei esiampi ef, daeth gwŷr da eraill yn gynorthwyol i mi, sef Esgobion Llanelwy a Bangor (Dr. Hughes a Dr. Bellot, maen debyg), Dr. Dafydd Powell, Mr. Gabriel Goodman, Deon Westminster, Mr. Edmund Prys, Archddiacon Meirionydd, Mr. Richard Vaughan, Periglor Lutterworth, wedi hyny Esgob Bangor, Caerlleon, a Llundain.

 

Mae Wood yn dyweyd iddo gael ei gynorthwyo gan Dr. Richard Parry, wedi hyny, Esgob Llanelwy; ond barna Dr. Llewelyn mai camsyniad ydyw hyn, wedi codi oddiwrth y rhan gymerodd Parry ddeng mlynedd ar ugain ar ol hyn, mewn dwyn allan ail argraphiad or Bibl, gan nad yw Morgan ei hun yn coffa ei enw yn mysg ei gynorthwywyr. Ceisiodd Syr John Wynne, o Wydyr, ger (x27) Llanrwst, ddifrio yr Esgob Morgan or anrhydedd o gyfieithu y Bibl, trwy edliw ei fod yn ei gyfieithiad wedi cael mantais a chynorthwy gweithiau Esgob Davies a W. Salesbury, y rhai a wnaethent ran fawr o hono, ond fod Morgan yn cymeryd yr enw iddo ei hun am y cwbl. Ond nid oes sail ir dystiolaeth hon. Mae y cyfieithiad ei hun yn ddigon o wrthdystiad iddi. Os defnyddiodd Morgan weithiau y gwŷr enwog a nodwyd, yr oedd ei ddiwygiad arnynt yn cynwys llawn cymaint o lafur, os nid mwy, na phe buasai wedi gwneyd cyfieithiad hollol annybynol arnynt. Yr oedd gwraidd yr edliwiad yma mewn teimlad drwg fu yn ffynu rhwng yr esgob a Syr John yn nghylch y degwm. Mae yn debygol fod Salesbury wedi marw cyn hyn, a bod Dr. Richard Davies wedi marw hefyd. Mae yn sicr fod gan Dr. John Davies law yn Mibl Dr. Morgan, a gallasai fod gan bersonau eraill hefyd, y rhai, oddiar resymau anhysbys i ni, y cadwyd en henwau allan.

 

Ond am y gwŷr a nodwyd, dywed Morgan iddynt ei gefnogi ai gynorthwyo. Cafodd fynedfa rydd iw llyfrgelloedd, ac edrychasant dros ei gyfieithiad, gan ei gywiro ai ddiwygio. A thra yn Llundain yn arolygu argraphiad (x28) y Bibl, yn nhŷ Dr. Goodman, Deon Westminster, y gwnelai ei arosiad.

 

Or diwedd cafwyd y Bibl yn gyflawn yn argraphedig yn yr iaith Gymraeg; ond yr oedd y cyflenwad o hono yn brin, mor brin fel nad oedd mwy nag un Bibl yn mhob plwyf, a hwnw mewn man nad oedd y bobl yn prisio fawr am fyned ato. Yr oedd y ddeddf a basiwyd agos ddeng mlynedd ar ugain cyn hyn, yn gofyn am Fibl i bob eglwys. Ond fel y methwyd cadw y gyfraith mewn dwyn allan Fibl Cymraeg o gwbl, maen bosibl ddigon iddynt fethu mewn nifer digonol, pan ddaeth allan, ar gyfer yr eglwysi. Dywed Walker fod nifer yr eglwysi y pryd hwnw tuag wyth cant; ac os ychwanegir at hyny yr eglwysi cadeiriol, ar capeli esmwythid (chapels of ease), nis gallant fod yn llai nag o naw cant i fil. Nid oedd yr agraphiadau o lyfrau yr amser hwnw yn cynwys ond nifer bychan wrth eu cydmaru ag argraphiadau presenol. Ystyriai argraphydd y Bibl Saesneg argraphiad o bumtheg cant yn rhif mawr, ar gyfer holl Loegr. Buasai, felly, haner y nifer hwnw yn rhif mawr iawn ar gyfer Gymru. Yn wir buasai pum neu chwech chant i Gymru yn ymddangos yn argraphiad mawr. Ond ni (x29) fuasai hyny eilwaith lawer mwy na haner

cyflenwi yr eglwysi, heb son dim am anghenion yr Anghydffurfwyr, a theuluoedd y wlad yn gyffredin. Ymgymeriad ardderchog oedd eiddo Dr. Morgan; dangosodd wroldeb penderfynol i gwblhau y gorchwyl; cyflwynodd drysor anmhrisiadwy ei werth in cenedl geidw ei enw mewn coffadwriaeth anfarwol; eto, wedi iddo ef orphen ei waith pwysig, yr oedd newyn angeuol am Air y bywyd yn llenwi y wlad o gwr bwy gilydd.

 

Yr oedd y Testament Newydd fel y cyhoeddwyd yn Mibl Dr. Morgan wedi ei gyfieithu, fel yr hysbyswyd, ai gyhoeddi gan Salesbury a Davies, ac ni wnaeth Morgan ond ei ddiwygio. Yr oedd Morgan wedi ei ddiwygio eilwaith, ac yr oedd yn barod ganddo ir wasg pan fu farw yn y flwyddyn 1604. Pa un a oedd yn bwriadu cael argraphiad arall allan or holl Fibl, ac os felly, ei gael i gyflenwi anghenion yr eglwysi, neu ei gael at wasanaeth mwy cyffredinol y wlad, nid yw yn hysbys. Nid yw yn hysbys ychwaith pa un a gyhoeddwyd ei gopi diwygiedig ef or Testament Newydd ai peidio.

 

(x30)

PENNOD VI.

Y BIBL CYMRAEG PRESENOL.

YN y flwyddyn 1620, yn mhen 32ain o flynyddau ar ol cyhoeddiad Bibl Dr. Morgan, dygodd Dr. Richard Parry, olynydd Morgan yn Esgobaeth Llanelwy, argraphiad diwygiedig or Bibl Cymraeg allan. Gwnaeth hyn oddiar anogaeth ei galon ei hun, wrth weled anghen dirfawr y wlad am Air Duw. Yr oedd erbyn hyn, nid yn unig ddiffyg Biblau yn nheuluoedd y wlad, ond dywed Parry fod y rhan fwyaf or eglwysi heb y Bibl, a lle yr ydoedd, ei fod yn dreuliedig ac wedi ei ddarnio, a neb yn meddwl am ddwyn allan argraphiad newydd. Yr oedd argraphiad diwygiedig or Bibl Saesneg newydd ei gyhoeddi, dan awdurdod y Brenin, a bu hyn yn foddion iw gynhyrfu yntau i gael argraphiad diwygiedig or un llyfr gwerthfawr iw gydgenedl, y Cymry. Yr oedd yn glod mawr i feddwl a chalon Esgob Parry iddo ymgymeryd r fath orchwyl pwysig oddiar y fath gymhelliadau.

 

Yr oedd y diwygiadau a wnaed gan Dr. Parry mor bwysig fel y gellid ei alw yn (x31) gyfieithiad newydd. Argraphwyd ef yn Llundain, gan Norton a Bill, yn y flwyddyn 1620. Anfonwyd copi o hono yn anrheg ir Brenin Iago, yr hwn sydd iw weled yn awr mewn cloriau ardderchog yn y British Museum. Bibl mawr unplyg ydyw, mewn llythyren ddu, wedi ei ranu fel y Bibl blaenorol, a chyfeiriadau Bibl y Brenin Iago ar ymyl y dail. Mae y calendar ynddo, a chyflwyniad Lladin ir brenin, yn yr hwn y mae yr esgob yn nodi yr hyn ai cymhellodd i ymgymeryd r gwaith. Mae hefyd ar ei ddechreu lawer o addurniadau cerfluniol, a ddefnyddid ar y Bibl Saesneg yn gystal ar un Cymraeg yn y dyddiau hyny.

 

Efallai y byddai yn dda gan y darllenydd i gael ychydig o siamplau or tri chyfieithiad, er mwyn cael cipolwg ar y cyfnewidiad a wnaeth Dr. Morgan ar gyfieithiad Salesbury, ar cyfnewidiad wnaeth Dr. Parry ar gyfieithiad Dr. Morgan.

 

 

SALESBURY.

DR. MORGAN.

DR. PARRY

Matt. xxiv. 16.

Ffieidd-dra y difaethwch.

Ffieidd-dra annhraithiol.

Ffieidd-dra anghyfanedd.

Luc. xix. 4.

Ffigis bren gwyllt.

Ffigyswydd gwylltion.

Sycamorwydden.

(x32) Act iii. 21.

Yr un vydd ir nev ei dderbyn, yd yr amser yr adverir yr oll bethae, &c.

Yr adnewyddir pob peth.

Yr hwn sydd raid ir nef ei dderbyn hyd amseroedd adferiad pob peth.

Act xxvii. 9.

Wedi cerdded llawer amser.

Yn ol hir amser

Ac wedi i dalm o amser fyned heibio.

Rhuf. xii. 3.

Na bo i neb ddyall nwchlaw y dyler dyall.

(Yr un modd.)

Na byddo i neb uchel-synied yn amgen nag y dyled synied.

Rhuf. xiii. 6,7.

Ys synwyr y cnawt, angeu yw.

Canys y mae synwyr y cnawd yn farwolaeth.

Syniad y cnawd, marwolaeth yw.

Col. i. 10.

Fal y rotioch yn deilwng gan yr Arglwydd, ai voddhau ev yn pop dim.

Gan ryglyddu bod yn mhob dim.

Gan ddwyn ffrwyth yn mhob gweithred dda.

Phil. i. 21.

Canys yr Christ ys ydd un ym bywyth, ac yn angeu yn enilliath.

Canys byw i mi (yw) Crist, ac elw yw marw.

Canys byw i mi yw Crist, a marw sydd elw.

2 Pedr. ii. 13.

Brychay yntynt, a thriselynay.

Brychau ydynt a tharyselynau.

Brychau a meflau ydynt.

 

 

Iawn hysbysu fod y dysgedig Dr. John. Davies, person Mallwyd, ac awdwr y Gramadeg Cymraeg yn yr iaith Ladinaidd, ar Geirlyfr, wedi bod yn gymhorth mawr ir esgob i ddwyn ei Fibl allan. Cyhoeddodd ei Ramadeg yn y flwyddyn 1621, a chyflwynodd (x33) ef ir Esgob Parry. Dywed, yn ei Ragymadrodd, ei fod wedi treulio llawer o amser am fwy na deng mlynedd ar ugain, i astudio iaith ei wlad, a bod ganddo ryw law yn nghyfieithiad y ddau argraphiad or Bibl iddi. Byddwn, ychwanegai, yn arferol o ddychwelyd oddi wrth y gorchwyl ysgafn hwn (fel ei gelwir) efo mwy o awydd, a chydag astudrwydd a diwydrwydd newydd dau-ddyblyg, at y pethau pwysfawr hyny (sef pregethu yr efengyl, a chyfieithu yr Ysgrythyrau Sanctaidd ir iaith Gymraeg.)

Y cyfieithiad hwn, galwer ef yn wreiddiol neu ddiwygiedig, o eiddo Dr. Richard Parry, Esgob Llanelwy, ydyw y Bibl sydd genym ni yn awr, ar hwn sydd wedi bod gan y Cymry am fwy na dau gant a haner o flynyddoedd. Nid oes dim cyfnewidiadau o bwys wedi eu gwneyd ynddo byth oddiar hyny. Dim ond cyfnewidiadau bychain, megys gosod prif lythyrenau yn lle rhai bychain, newid y dull o sillebu rhai geiriau, a phethau dibwys cyffelyb. Gogleddwyr gan mwyaf, os nid yr oil, oedd y cyfieithwyr. Yr oeddent oll yn ysgoleigion o radd uchel, ac mor ddysgedig yn yr Hebraeg ar Groeg, fel y dywedir nad oes gan un genedl ar y ddaiar well (x34) cyfieithiad or llyfr Dwyfol nag sydd gan y Cymro. Ystyrir ei iaith hefyd yn safon ir Gymraeg y dydd heddyw, er ei fod yn ganoedd o flynyddoedd o oedran, fel mae Bibl y Brenin Iago yn ei gysylltiad r iaith Seisnig.

PENNOD VII.
YMDRECHION I GYFLENWI CYMRU A BIBLAU.

Cyhoedwyd argraphiad unplyg or Bibl yn Rhydychain yn
1690, ac adnabyddid ef wrth yr enw Bibl Esgob Lloyd, am fod gan Dr. William Lloyd, Esgob Llanelwy, law yn ei ddygiad allan. Yr oedd arolygiad ei argraphwaith dan ofal un Pierce Lewis, boneddwr o Sir Fn, oedd y pryd hwnw yn Ngholeg yr Iesu. Nid oes gwybodaeth beth oedd y nifer ddanfonwyd allan yn un or argraphiadau unplyg or Bibl; ond amlwg yw eu bod wedi eu bwriadu yn benaf, os nid yn hollol, at wasanaeth yr eglwysi; ac nid yw yn debyg fod unrhyw argraphiad yn fwy na nifer yr eglwysi, os ydoedd gymaint.

Am agos can mlynedd ar ol i Brydain dori ei chysylltiad Phabyddiaeth, bu Cymru heb (x85) yr un Bibl oddigerth yn ei heglwysi plwyfol, ai chapeli eglwysig, ar eglwysi cadeiriol. Nid oedd unrhyw ddarpariad wedi ei wneyd ar gyfer y werin, mwy na phe buasai dim a fynai y bobl a gair yr Arglwydd, or hyn lleiaf, dim mwy na myned unwaith yr wythnos ir eglwys i wrando darllen ryw ychydig o hono. Yr oedd plyg mawr yr argraphiadau blaenorol hefyd yn eu gwneyd yn rhy drwm a chostus ir bobl yn gyffredin iw defnyddio. Buasai plyg llai yn fwy manteisiol yn mhob ystyr.

Daeth yr anrhydedd o barotoi y cyflenwad cyntaf or Bibl ir werin Gymreig i ran dau o henuriaid dinas Llundain, y rhai oeddent Gymry, ac yn teimlo y dyddordeb mwyaf yn lleshd eu cydgenedl. Dywed Mr. Strype, yn ei Survey of London, ddarfod i Mr. Rowland Heylin, Henuriad yn Llundain, hanedig o Gymru, yn garedig ac anrhydeddus, ar ei draul ei hun, yn nechreuad teyrnasiad Charles y Cyntaf, ddwyn allan argraphiad llai o faint, a mwy hwylus at wasanaeth y bobl. Argraphiad wyth-plyg ydoedd hwn, a ddygwyd allan yn 1630. Dywed Dr. Llewelyn fod Mr. Strype yn camsynied wrth ddyweyd i Mr. Heylin ei ddwyn allan yn hollol ar ei draul ei hun. Yr oedd Syr Thomas Middelton, brodor o (x36) Gymru, yr hwn oedd hefyd yn ynad, ac yn henuriad yn Llundain, yn gydweithiwr ag ef, ac yn gyfranwr haelionus at yr amcan rhagorol. Dywed rhai fod eraill wedi cynorthwyo yn y gorchwyl hwn, ond na wnaed eu henwau yn hysbys. Beth bynag, ir ddau foneddwr haelionus hyn, an cynorthwywyr, mae Cymru yn ddyledus am y Bibl cyntaf o blyg hylaw, at wasanaeth y werin.

Yn y flwyddyn 1654, daeth ail argraphiad or Bibl wyth-plyg hwn, yn cael ei brintio gan Flesher, ai werthu gan S. Brewster dan lun y Tri Bibl, yn ymyl St. Paul, yn Llundain. Yr oedd argraphiad 1630 wedi myned yn llwyr, ac argraphiad or Testament Newydd, yn ddeuddeg-plyg, a gyhoeddwyd yn 1647. Yn awr, yn mlwyddyn gyntaf Oliver Cromwell, yr oedd agwedd foesol y wlad wedi newid llawer, a galw mawr am argraphiad arall or Bibl bychan. Argraphwyd chwe mil o hono; a dyma y tro cyntaf y ceir y nifer a wnaed mewn unrhyw argraphiad yn cael ei nodi. Yr oedd pregethwyr teithiol yn awr yn dechreu tramwy ar hyd Gymru, yn dyfod i wybod agwedd y wlad, a syched y bobl am Air Duw. Dywedir mai i Charles Edwards, awdwr Hanes y Ffydd, yn nghyd a dau or pregethwyr (x37) teithiol, Vavasor Powell a Walter Cradoc, yr oedd Cymru yn ddyledus am yr argraphiad hwn or Bibl. Bu pregethwyr teithiol yn Nghymru, am flynyddau lawer, yn cael eu galw yn Gradocs, oddiwrth Walter Cradoc. Nid oes gwybodaeth pwy aeth dan draul yr argraphiad lliosog hwn. Yr oedd y Bibl wedi codi i fri uwch nag erioed yn Mrydain y dyddiau hyn. Yr oedd gwybodaeth Ysgrythyrol wedi dyfod yn bwnc y dydd, a dyfyniadau or Ysgrythyrau ar bob achlysur yn beth cyffredin a phoblogaidd. Yr oedd Cymru hefyd yn destyn mwy o sylw nag arfer. Yr oedd yr Amddiffynwr, Cromwell ei hun, o haniad Cymreig. Cynyrchodd yspryd y dyddiau hyny gyfraith er lledaeniad yr Efengyl yn Nghymru, ac nid rhyfedd ir unrhyw yspryd gynyrchu argraphiad newydd or Bibl Cymraeg.

Er lliosoced oedd yr argraphiad a nodwyd uchod, nid hir y bu cyn ei fod wedi ei werthu yn llwyr. Pan wnaed ymchwiliad yn 1674, nid oedd dros ugain copi o hono iw gael ar werth yn ninas Llundain, na mwy na rhyw ddeg ar ugain trwy holl Gymru. Parodd hyn ddwyn argraphiad arall o wyth mil o gopiau, yn 1678 - yr argraphiad lliosocaf or Bibl a (x38) wnaed hyd yn hyn. Gwasgarwyd mil o gopiau o hono yn rhad yn mysg tlodion, a gwerthwyd y lleill am y pris isel o bedwar swllt yr un wedi eu rhwymo. Yr oedd hwn yn cynwys yr Apocrypha, Llyfr y Weddi Gyffredin, ar Salmau Cn: Dygwyd yr Argraphiad hwn allan trwy ymdrechion y Parch.
Stephen Hughes, Abertawy, a Mr. Thomas Gouge, Sais, o Lundain, yn cael eu cefnogi gan yr Archesgob Tillotson. Cymro oedd Stephen Hughes, a drowyd allan o Eglwys Meidrim, Sir Gaerfyrddin, pan ddaeth gweithred yr Unffurfiad mewn grym, ac yr oedd yn un or dynion mwyaf gweithgar, ac ymroddedig i ddyrchafu ei wlad yn ei oes. Yr oedd Gouge yn Ymneillduwr; ac er mai Sais ydoedd, yr oedd yn un or cymwynaswyr penaf a welodd Cymru erioed. Allan o enill o gant a haner o bunau y flwyddyn, rhoddai gant punt at achosion daionus, heb ddefnyddio ond yr haner cant i wasanaethu ei anghenion ei hun. Yr oedd yn gwario y rhan fwyaf or arian hyn ar Gymru, mewn sefydlu ysgolion ynddi, a thalu am gyfieithu ac argraphu llyfrau at ei gwasanaeth. Ac yr oedd y gwr da wedi cael cydweithiwr, or un feddwl ac or un galon, yn Mr. S. Hughes. Bu Gouge farw cyn fod (x39) y ddarpariaeth hon o Fiblau wedi rhedeg allan; ond cafodd Hughes fyw i weled anghen eto am argraphiad ychwanegol, ac yr oedd wedi darparu pob peth yn barod tuagat [sic, = tuag at] hyny, pan fu farw, tuar flwyddyn 1687; ond nid ymddangosodd yr argraphiad nesaf or Bibl wyth-plyg hyd y flwyddyn 1690.

Argraphiad 1690 oedd yr olaf yn y 17eg ganrif. Hwn oedd y pedwerydd argraphiad wyth-plyg or Bibl, ar seithfed argraphiad o gwbl hyd y pryd hwn.

Cyhoeddwyd amryw argraphiadau or Bibl yn ystod y 18fed ganrif, nad yw yn perthyn i amcan y llyfr hwn i roddi hanes fanwl am danynt. Eto, nid anmhriodol fyddai rhoddi crybwylliad byr.

Yn y flwyddyn 1718 cyhoeddodd y Gymdeithas er Lledaenu Gwybodaeth Gristionogol, argraphiad wyth-plyg or Bibl Cymraeg, printiedig yn Llundain, gan brintwyr y brenin, Ioan Basged, &c. Amcan y Gymdeithas hon ydoedd anfon allan Fiblau a Llyfr y Weddi Gyffredin i ddeiliaid Prydain. Hyd yma, yr oedd pob argraphiad or Bibl Cymraeg wedi ei ddwyn allan trwy ymdrechion personol. Y Bibl hwn oedd y cyntaf a argraphwyd gan y Gymdeithas hon yn Gymraeg. Adnabyddir (x40) ef wrth yr enw, Bibl Moses Williams, am mai y Parch. Moses Williams, ficer Defynog, Sir Frycheiniog, oedd yn arolygu yr argraphwaith. Yr oedd yn hwn welliadau ar argraphiadau blaenorol. Rhoddodd oes y byd ar ben uchaf y dail; rhoddodd yr Apocrypha, yn nghyd a gweddiau a chanonau yr Eglwys Sefydledig, yn gysylltiedig r Bibl. Ac er mwyn cyfarfod theimladau Ymneillduwyr, bu mor haelfrydig a gadael i nifer or argraphiad ddyfod allan heb y Gweddiau Cyffredin, &c. Daeth y rhai hyn allan o flaen y lleill ac y mae y dyddiad arnynt flwyddyn yn gynt, sef 1717.

Dygwyd argraphiad arall allan gan y Gymdeithas a nodwyd, a than arolygiad yr un gŵr, sef y Parch. M. Williams, yn 1727. Yr oedd hwn yn cynwys taflen o arwyddocd geiriau anghyfiaith; ond yr oedd heb gynwysiad y pennodau, na chyfeiriadau ymyl y dail, ac yr oedd cwyno mawr
arno or herwydd.

Dygwyd argraphiad arall eto allan yn Nghaergrawnt, printiedig gan Joseph Bentham, printiwr ir brif-ysgol, yn y flwyddyn 1746. Gelwir hwn yn Fibl Morys, am mai dan arolygiad Risiart Morys o Fn y daeth allan. Cyhoeddwyd hwn eto gan y Gymdeithas er (x41) Lledaenu Gwybodaeth Gristionogol. Yr oedd yn ol trefn Bibl Moses Williams, ond fod amryw bethau wedi eu hychwanegu ato, megys mapiau teithiau
Israel yn yr anialwch, a theithiau yr Apostolion, tablau arian, pwysau, a mesurau, &c. Gwnaeth y Gymdeithas gyhoeddi yr argraphiad hwn ar anogaethau taerion y Parch. Griffith Jones, Llanddowror, Sir Gaerfyrddin. Yr oedd yr Ysgolion Rhad oedd ef wedi sefydlu trwy y wlad yn magu y fath nifer o ddarllenwyr newyddion, ar darllenwyr hyny yn galw am Fiblau. Dywedai Mr. Jones na wnelai llai na deuddeg mil o Fiblau gyflenwi anghen y rhai oedd wedi, neu ar y pryd yn, dysgu darllen yn ei ysgolion ef. Yr oedd perthynas arbenig rhwng yr argraphiad hwn ag Ysgolion Griffith Jones. Yr oedd dros ddeuddeg cant o bunau wedi eu casglu ar gyfer y draul; ond yr oedd amodau yn nglyn r cyfraniadau ir perwyl: -Fod y personau y mae eu henwau isod wedi cytuno i gyfranu y symiau a roir gyferbyn au henwau tuagat argraphu y Bibl Cymraeg a Llyfr Gweddi Gyffredin, iw lledaenu yn y dull canlynol: - Fod iddynt gael eu rhoddi yn ddidl ir tlodion teilwng, yn enwedig y rhai hyny a gyrchent at weinidog eu plwyf i adrodd (x42) Catechism yr Eglwys o flaen y Gynulleidfa, &c. Yn ail, Fod yr arian a ddaw oddiwrth werthiant y cyfryw Fiblau, ir rhai ag sydd yn alluog ac yn ewyllysgar iw prynu hwynt, i gael eu defnyddio i gynal yr Ysgolion Rhad Cymreig, felly i ddysgu y rhifedi mawr iawn y rhai nad ydynt eto yn medru darllen. Yr oedd yr amodau hyn yn rhwymo y tlodion i fod yn gysylltiedig r Eglwys Sefydledig cyn y gallasent gael eu Biblau yn rhad; am hyny gwnaeth rhai Anghydffurfwyr ymdrech mawr i gael nifer o Fiblau yr argraphiad hwn heb fod mewn cysylltiad r Eglwys.

Dygwyd argraphiad arall allan or Bibl hwn dan olygiad yr un gŵr, sef Risiart Morys, wedi ei argraphu yn Llundain eto, gan y Gymdeithas a nodwyd, yn 1752; ac yr oedd nifer y ddau argraphiad yma yn ddeng mil ar ugain. Y Parch. G. Jones, Llanddowror, fu yn offerynol i gael yr argraphiad hwn hefyd allan.

Cawn argraphiad arall yn cael ei gyhoeddi gan yr un Gymdeithas yn 1769, wedi ei argraphu yn Llundain gan Mark Basket. Cafodd Dr. T. Llewelyn, ir hwn yr ydym yn ddyledus am y rhan fwyaf o hanes y cyfieithiadau or Bibl ir Gymraeg, gan y Gymdeithas i (x43) argraphu rhai miloedd yn fwy nai bwriad, er mwyn cyflawni diffygion yr Ymneillduwyr. Yr oedd yr argraphiad hwn yn rhifo oddeutu ugain mil. Mae y Parch. E. Evans (Ieuan Brydydd Hir), yn ei Rybudd ir Darllenydd, yn nglyn i Gasgliad o Bregethau, yn adolygu yr argraphiad hwn, ac yn beio yn llym, amryw gyfnewidiadau a gwallau oeddent yn codi oddiar anghymhwysder y rhai a edrychent ar ei ol, fel golygwyr. Y mae yn terfynu yn y geiriau hyn: -

Ond da i gwnaethent hwy yn y peth hwn, yn fy marn i, ag i bawb a ddelo ar eu hol hwynt, i olygu argraphiad yr Yscrythur Ln, ddilyn argraph neu ddull yscrifenniad y dyscedig ar parchedig Escob Rissiart Parry, ar Doctor Davies o Fallwyd, yn argraphiadau y Bibl Cyssegrln, a ddaethant allan yn y flwyddyn
1620 a 1630; gwŷr a oeddent yn deall iaith eu gwlad yn rhagorol, a chanddynt gariad iw gwlad au hiaith, ag i eneidiau dynion. Nid fel y gormesiaid Seisnigaidd yn ein dyddiau drwg ni, y rhai ni fedrant, ac ni fynant, wneuthur yr hyn a weddai i fugeiliaid ffyddlon. Duw yn ei drugaredd a symudo ymmaith ei farnedigaethau oddiarnom, ag a ganiatao ini gannwyllbren ei Air sanctaidd yn ein (x44) iaith ein hunain, ac escobion a fedront yscrifenu, pregethu, a darllen Cymraeg. Amen.

Yn y flwyddyn 1770 y cyhoeddodd y Parch. Peter Williams, o Sir Gaerfyrddin Y Beibl Sanctaidd; sef yr Hn Destament ar Newydd, gyda Nodau a Sylwadau ar bob Pennod. Caerfyrddin: argraphwyd dros y Parch. Peter Williams.
1770. Dymar waith gyntaf ir Bibl gael ei argraphu yn Nghymru, ac y mae hyn yn glod nid bychan i hen dref Myrddin. Dyma y Bibl mwyaf adnabyddus yn Nghymru, a mwyaf hoff gan y genedl o ddydd ei ymddangosiad hyd y dydd hwn. Mae Bibl Peter Williams yn air teuluaidd trwy holl Gymru, ac yn cael ei ystyried yn un o ddodrefn hanfodol pob teulu bellach am fwy na chan mlynedd. Argraphwyd wyth mil o honynt, a gwerthid hwynt am bunt yr un wedi eu rhwymo. Yr oedd Richard Morris wedi rhoddi dau fap iw harddu, fel y gwnaethai William Jones (tad Syr W. Jones) a Biblau y blynyddau 1746 a 1752. Dyma yr esponiad Cymraeg cyntaf hefyd ar y Bibl. Mae yn wir fod un John Evans, athraw yn y celfyddydau, wedi cyhoeddi Cysondeb y Pedair Efengyl bum mlynedd o flaen Bibl Peter Williams, ac yr oedd hwnw yn cynwys nodiadau byrion ar adnodau. Ond (x45) eiddo Peter Williams oedd yr esboniad Cymraeg cyntaf ar bob pennod or Bibl. Dygwyd dau argraphiad arall or Bibl hwn allan yn y ganrif hono, sef un yn 1781, ar llall yn 1788.

Yr oedd yn ofynol wrth ddewrder a phenderfyniad meddwl digyffelyb i un dyn gychwyn ar y fath lafur i ysgrifenu sylwadau ar bob pennod or Bibl, ar drafferth ar draul o argraphu y cyfryw lyfr, mewn argraph-wasg Gymreig. Mae ef yn adrodd y cymhelliadau barodd iddo ymaflyd yn yr ymgymeriad pwysig: -

Mae mor anghenrhaid, tebygaf, ir Cymry wrth agoriadau ar y Bibl ag ir Saeson. Mae ein hanwybodaeth cymaint ar eiddynt hwythau, an heneidiau yn gwbl mor werthfawr. A phaham na buasai rhywrai yn dodi esboniad byr ar y Bibl, nis gwn i, oddieithr am fod gormod gelyniaeth at rym duwioldeb yn para eto yn ein mysg, ar un yspryd Pabaidd am gadw y bobl mewn anwybodaeth, fel y gwelir wrth gymaint o halogi y Sabboth y sydd, trwy chwareyddiaeth, dawnsiau, &c., neu wag ddymuniad eraill i ddiwreiddio a dileu yr iaith Gymraeg yn llwyr or byd; neu o eisiau calon i ymosod yn nghylch y fath orchwyl maith a phwysfawr? Yn wir, yr oedd, hyd (x46) yn ddiweddar, brinder o Fiblau yn gystal a diffyg esboniadau, Cymraeg; canys er cynifer argraphiadau fu o hono, ac er mor fynych y dosbarthwyd, eto, trwy ryw esgeulusdra neu wall drefn, yr oedd amryw deuluoedd heb un Bibl ganddynt, ie, rhai a fawr ewyllysient ei gael, yr hyn a gododd ynof ddirfawr hiraeth am weled rhyw wŷr addas ir gwaith yn ei gymeryd mewn llaw. Eithr wedi dysgwyl dros flynyddau, heb weled dim argoelion, ond yn y gwrthwyneb yn clywed fod llaweroedd, a gwŷr Eglwysig rai, yn chwenych dwyn Biblau Saesneg ir Cymry yn lle Cymraeg, ni fedrwn ymatal yn hwy, eithr cychwynais i fyned yn nghylch y gwaith. A chan nad oedd nemawr yn credu y dygid y fath orchwy] pwysig i ben, nid oeddynt awyddus i gryfhau fy mreichiau yn y dechreuad; eithr calonau llaweroedd a agorwyd o bryd i bryd pan ym gwelsant yn trafaelio, a rhoisant eu dwylaw yn garedig im cynorthwyo iw ddwyn ii byd, fel yr wyf yn rhwymedig, bellach, i ddiolch i Dduw a dynion, am gymhorth cyfamserol nes gorphen yn gysurus.

Nid yw yr esboniad ond byr ac anmherffaith; pa fodd bynag, ddarllenydd Cristionogol, o ddiffyg gwell, gwna ddefnydd o hwn. (x47) Nid wyf yn cymeryd arnaf ddeongli y cwbl, nac i ganfod eithaf y dirgelwch a gynwysir yn yr Ysgrythyr Ln, er fod genyf ysgwyddau llawer o ddysgawdwyr enwog i sefyll arnynt, megys Ostervald, Lightfoot, Ainsworth, Hall, Babington, Trap, Henry, Pool, Hammond, Burkitt, &c. Ond gallaf yn hyf ddyweyd mai cariad at fy nghenedl, y Cymry, a gwir ddymuniad am eu hiachawdwriaeth, am cymhellodd i ysgrifenu yr hyn a ysgrifenais; ac y mae yn dda genyf gael cyfle fel hyn i fwrw fy hatling ir drysorfa, ac i fod o ryw ddefnydd dros yr Efengyl yn fy nydd am cenedlaeth.

Cyflawnodd ei orchwyl yn dda. Ac mor bell ag y mae ei esboniad yn myned, y mae yn rhagorol; a gosododd ei genedl dan rwymedigaeth fythol iddo. Fel y canodd ei farwnadydd iddo: -

......... Os yw Cymrun chwe chan milldir,
..............Wedi mesur fel maen awr,
..........Ac oi mhewn dri chant o filoedd
..............O drigolion gwerin fawr,
..........Gwn pe chwilit ei mhaith gonglau,
..............Braidd ceit ardal, plwy, na thŷ,
..........Heb u haddurnon awr Biblau,
...............Ffrwyth dy lafur dirfawr di.

Dygwyd un argraphiad arall o Fibl bychan (x48) allan yn Nhrefeca, yn y flwyddyn 1790, gan y Parchedigion Peter Williams a D. Jones, gyda nodau ysgrythyrol ar ymyl y ddalen. Gelwir hwn yn Fibl John Cann. Dywedir mai gweinidog perthynol ir Bedyddwyr, yn Holand oedd y John Cann hwn. Dyma yr oll or argraphiadau or Bibl a ddygwyd allan hyd ddechreu y ganrif bresenol. Mae yr argraphiadau yn y ganrif hon yn rhy aml i ni iw dilyn gyda manylwch, ac mae yr ymdrechion llwyddianus i gael cyflenwad o Fiblau iselbris, ac esboniadau buddiol, i Gymru wedi bod yn dra rhagorol. Yr oedd sefydliad Cymdeithas y Bibl yn nechreu y ganrif hon, trwy offerynoliaeth un or meibion goreu a fagodd Cymru - y Parch. Thomas Charles, Bala, - yn foddion mwy effeithiol na dim or blaen, nid yn unig i gyflenwi Cymru Biblau, ond i gyflenwi anghenion pob gwlad, a rhoddi

Bibl i bawb o bobl y byd.

Bydd y daflen ganlynol, wedi ei chymeryd or Gwyddoniadur, yn rhoddi golwg ar un drem, yn fanylach nar hanes flaenorol, ar y gwahanol argraphiadau or Bibl, neu ranau o hono, or dechreu hyd ddechreuad y ganrif bon.

(x49)
1551. Argraphwyd yr Efengylau ar Epistolau, o gyfieithiad W. Salesbury. Tuar un amser cyhoeddwyd y Credo. Gweddi yr Arglwydd, ar Deg Gorchymyn, gan Syr
John Price.

1567. Y Testament Newydd. Cyfieithiad W. Salesbury.

1588. Yr holl Fibl ar Apocrypha, gan Dr. W. Morgan.

1603. Y Salmau ar Gn, gan y Cadben Gwilym Ganoldref.

1620. Yr holl Fibl ar Apocrypha, gan Dr. Parry, - sef y
cyfieithiad awdurdodedig.

1630. Yr holl Fibl, ar Apocrypha, Llyfr Gweddi Gyffredin, ar Salmau Gn, &c, mewn wyth-plyg. Dyma y plyg bychan cyntaf at wasanaeth y werin.

1647. Y Testament Newydd, deuddeg-plyg, heb gynwysiad ir pennodau. Mil o gopiau.

1648. Ail argraphiad or Salmau Gn, gan yr Archddiacon
Edmund Prys.

1654. Yr holl Fibl, wyth-plyg. Chwe mil o gopiau. Bibl
Cromwell.

1654. Y Testament Newydd, mewn llythyren frasach. Mil
o gopiau.

1672. Y Testament Newydd, gydar Salmau mewn rhyddiaith ac ar gn. Dwy fil o gopiau, wyth-plyg.

1678. Yr holl Fibl, yn nghyda Llyfr Gweddi Gyffredin.
Wyth mil o gopiau; wyth-plyg.

1690. Yr holl Fibl. Deng mil o gopiau; wyth-plyg.

1690. Yr holl Fibl; wyth-plyg; yn Rhydychain; at wasanaeth yr eglwysi. Mil o gopiau. Bibl yr Esgob Llwyd.

1718. Y Bibl, mewn wyth-plyg; deng mil o gopiau. Bibl M. Williams, dan nawdd y Gymdeithaa er Lledaenu Gwybodaeth Gristionogol.

1727. Y Bibl, mewn wyth-plyg; pum mil o gopiau, dan nawdd yr un Gymdeithas.

1746. Y Bibl mewn wyth-plyg; Caergrawnt. Pumtheg mil o gopiau; dan nawdd yr un Gymdeithas.

1752. Y Bibl, mewn wyth-plyg; pumtheg mil o gopiau.
Llundain; dan nawdd y Gymdeithas uchod.

(x50) 1752. Y Testament Newydd, gydar Salmau; wyth-plyg; dwy fil o gopau.

1769. Y Bibl mewn wyth-plyg, gan yr un Gymdeithas. Ugain mil o gopiau.

1770. Y Bibl, mewn pedwar-plyg; gyda sylwadau ar bob pennod, gan Peter Williams. Caerfyrddin. Mae hwn wedi myned trwy nifer mawr o argraphiadau.

1779. Y Testament Newydd.

1789. Y Bibl, mewn unplyg; Llundain. At wasanaeth yr eglwysi; gan y Gymdeithas a nodwyd.

1790. Y Bibl, mewn deuddeg-plyg, gyda chyfeiriadau John Canne; Trefeca, dan arolygiad y Parch. P. Williams. Cyhoeddwyd argraphiad arall o hono yn Nghaerfyrddin.

1799. Y Bibl, mewn wyth-plyg.
Deng mil o gopau, yn nghyd a dwy fil or Testament Newydd ar wahan. Rhydychain, gan yr un Gymdeithas, a than arolygiad y Parch. J. Roberts.

1800. Y Testament Newydd, wyth-plyg. Rhydychain.

Yr Argraphiadau hyn, oddigerth 10,000 o gopau or Testament Newydd mewn gwahanol blygiadau, a argraphwyd yn yr Amwythig, yn y flwyddyn 1800, oedd yr oll a wnaed cyn ffurfiad y Fibl Gymdeithas Frytanaidd a Thramor. Gwerthwyd argraphiad 1799 mor fuan ag y cyhoeddwyd ef; ac nid oedd y bedwaredd ran or wlad wedi ei diwallu. Fel mai prinder Biblau yn Nghymru arweiniodd i sefydliad y Gymdeithas; felly un oi gweithredoedd cyntaf, wedi cael ei sefydlu, oedd cais i gyfarfod r anghen hwn oedd ar y Cymry am Fibl. Penderfynodd y Gymdeithas, yn 1804, (x51) wneyd argraphiad or Bibl ar Testament Cymraeg. Y nifer a orchymynwyd ydoedd 20,000 o Fiblau, gyda 5,000 o Destamentau yn ychwanegol mewn llythyren frasach.
Ac un o brif sylfaenwyr y Gymdeithas - y Parch. T. Charles, or Bala - fu yn parotoi y copi ir wasg. Or flwyddyn 1806, hyd 1855, mae y Fibl Gymdeithas wedi gwasgar y nifer canlynol o Fiblau a Thestamentau: -

Biblau

417,489

Testamentau

479,567

Dwyieithawg, Cymraeg a Saesneg

.86,166

Y cyfan

933,222*


TROEDNODYN: * Gwyddionadur, dan y gair Beibl.

Mae y Gymdeithas er Lledaenu Gwybodaeth Gristionogol, yn yr un cyfnod wedi gwasgar nifer mawr, heblaw amryw argraphiadau o Fiblau teuluaidd, &c., eraill sydd wedi eu cyhoeddi gan wahanol argraphwyr. Wrth roddi y cwbl at eu gilydd, y mae yr oll a argraphwyd or Ysgrythyrau Sanctaidd, yn yr iaith Gymtaeg, mewn gwahanol fanau, ac ar wahanol amserau, yn fwy na miliwn o gopiau! Nid oes un genedl arall ar wyneb y ddaiar wedi cael y fath gyflenwad or Ysgrythyrau yn eu hiaith eu hunain.


(x52)
PENNOD VIII.
HANES PRIF GYFIEITHWYR Y BIBL.

I. William Salesbury.
Mae esgeulusdra nodedig wedi bod i gadw hanes fanol o fywyd y boneddwr ar ysgoloi enwog hwn. Mae yn hysbys ei fod yn deilliaw o un o hen deuluoedd mwyaf cyfrifo] y Dywysogaeth. Ail fab ydoedd i Ffoulk Salesbury, Ysw., Plas Isaf, Llanrwst, yn Sir Ddinbych. Enw ei daid ydoedd Robert Salesbury, yr hwn ydoedd bedwerydd mab i Thomas Salesbury Hn, o Lleweni, ger Dinbych. Daethai i feddiant o etifeddiaeth y Pls Isaf trwy briodas Gwenhwyfar, unig ferch ac etifeddes Rhys ab Einion Fychan, or lle hwnw.

Am eu haniad dywed y Parch. Walter Davies, Y Salsbriaid oeddynt o ch Normanaidd, a dywedir mai gyda Gwilym y Goresgynydd y daeth y cyntaf or enw ir ynys hon, yn y flwyddyn 1066. . . . . Trwy fynych ymbriodi ac ymgyfathrachu ag etifeddesau Cymreig, daeth y Salsbriaid, fel rhai (x53) Normaniaid gwiwgof eraill, o enwau Herbert, Stradling, Basset, Turberville, &c., yn Gymry gwladgar, o barth gwaed, ac iaith, a serchiadau.

Ganed William Salesbury yn gynar yn yr unfed-ganrif-ar-bumtheg. Derbyniodd egwyddorion cyntaf ei addysg yn Nghymru. Yna symudodd at brif ffynonell addysg y wlad Rhydychain, lle yr enwogodd ei hun fel ysgolor. Aeth i Thavies Inn, Llundain, i astudio y gyfraith, a bernir iddo symud oddi yno i Lincolns Inn. Yr oedd erbyn hyn yn medru naw o ieithoedd gwahanol, heblaw y Gymraeg ar Saesneg, sef yr Hebraeg, y Galdaeg, y Syriaeg, yr Arabaeg, y Roeg, y Lladin, y Ffrengaeg, yr Eidalaeg, ar Hisbaenaeg. Yr oedd felly, fel ieithydd, wedi curo ei nai fab cyfyrder - yr hybarch Edmund Prys, Mydrydd y Salmau Cn.

Pan basiwyd y gyfraith Seneddol i gyfieithu y Bibl ir iaith Gymraeg, yn y flwyddyn 1563, ymddengys ir esgobion oeddynt wedi eu gosod dan gyfrifoldeb y gwaith, droi eu golwg ar unwaith at William Salesbury, ysgolor or radd flaenaf, a Phrotestant or mwyaf zelog, fel y mwyaf cymhwys i ymgymeryd r gorchwyl o gyfieithu yr Ysgrythyrau, aC (x54) anogasant ef i ymaflyd yn y gwaith. Yr oedd yn byw y pryd hwn yn Cae Du, yn mhlwyf Llansanan, yn Sir Ddinbych, lle mynyddig, anghysbell, ac allan or byd, megys. Yr oedd yr hn ystafell ddiaddurn y bu yn dwyn yn mlaen ei lafur pwysig, yn cael ei dangos hyd ychydig o flynyddau yn ol, ac yr oedd yn neillduol o ddirgel, er mwyn ysgoi llid yr erlidwyr. Yn ystod teyrnasiad Mari Waedlyd, yr oedd ei zel Brotestanaidd wedi ei wneyd yn wrthrych dygasedd y frenines ar Pabyddion. Felly gwnaeth ei ystafell mor ddirgel fel nad oedd yr un fynedfa iddi ond trwy dwll or simdde. Bu Salesbury yn aros yn Llundain i arolygu argraphiad ei Destament. Ar Testament hwn, wedi ei ddiwygio yn gyntaf gan Dr. Morgan, ac wedi hyny gan Dr. Parry, yw y Testament Newydd Cymraeg a ddarllenir gan y werin heddyw.
Dywedir, yn Nghofiant Syr John Wynn, o Wydir, fod Salesbury wedi ymgymeryd r gorchwyl o gyfieithu yr Hn Destament hefyd ir Gymraeg, ai fod wedi cyfaneddu gyda Dr. Richard Davies am oddeutu dwy flynedd ir amcan hwnw; ei fod wedi myned yn mlaen yn mhell gydar gorchwyl, ond yn anffodus i ddadl godi rhyngddynt am ystyr a gwreiddyn (x55) gair, yr hwn y mynai yr esgob ei fod fel hyn, ac y mynai Salesbury ei fod fel arall, ac ir ymryson hwn derfysgu ac atal y gwaith. Dywed hefyd, iddynt, tra fuont gydau gilydd, gyfansoddi homiliau, a llyfrau, a nifer mawr o draethodau yn yr iaith Gymraeg. Parodd yr anghydwelediad r Esgob, neu rywbeth arall, iddo roddi ei ysgrifell heibio, yr hyn a drodd allan yn golled fawr ir Cymry, gan ei fod yn llenor mor enwog, ac yn Hebrewr di-ail.

Ar farwolaeth Robert ei frawd, yr hwn oedd heb un mab, dim ond dwy ferch, daeth yn berchen llawer o feddianau, yn nghyd a llys y Plas Isaf; ond preswyliodd am gryn dymhor wedi hyny yn Cae Du.

Cyhoeddodd amryw lyfrau heblaw y Testament. Efe gyhoeddodd y llyfr cyntaf a argraphwyd yn yr iaith Gymraeg, yn y flwyddyn 1546, sef math o almanac. (Gwel tudal. 13) Yn y nwyddyn ganlynol, cyhoeddodd Eirlyfr Saesneg a Chymraeg, cyflwynedig trwy genad ir brenin Harri VIII. Imprinted at London, in Foster Lane, by me John Waley,
1547. O flaen y Geirlyfr mae John Waley, y prenter, yn danfon anerch ar popol Kymry. Dywed Thomas Fuller, yn ei nodiad ar y Geirlyfr: -

(x56) Y boneddwr hwn (Salesbury) o gariad at ei iaith enedigol, a gyfansoddodd Eirlyfr Saesneg a Chymraeg byr; yr hwn yn gyntaf, mewn modd anghyhoedd a gyflwynid i, ac a gymeradwywyd gan, y brenin, Harri VIII. (Tudyr, o ochr ei dad, o waed Cymreig), ac yna a argraphwyd yn gyhoeddus yn y flwyddyn 1547. Rhai dynion ymrysongar a ddadleuant yn erbyn defnyddioldeb y gwaith hwn, gan nad oedd ar y Cymry ddim anghen, nac ar y Saeson ddim awydd am lyfr or fath. Ond gwybydded y cyfryw ei fod yn fuddiol ir ddwy genedl; ir Saeson er mwyn cyrhaedd, ir Cymry er mwyn cadw, yr iaith hono. Cyrhaedd; - oblegyd, gan ei bod yn iaith gyntefig, nid yw yr hynafiaethydd ond cloff hebddi (yr hyn a wn trwy fy niffyg fy hun) i ddeall yr ychydig allan o lawer o weddillion y genedl hono sydd eto ar gael. Cadw; - gan fod yr iaith hono, fel eraill, trwy ddiffyg arfer yn agored nid yn unig i lygriad, ond ebargofiad, yn ol cyfaddefiad y brodorion eu hunain. Yn wir, y mae pob geirlyfrau yn dra buddiol, gan fod geiriau yn dwyn pethau ir tafod; ac fel y dywed Plato, mai enw, neu air, yw offeryn addysgiant, ac y mae yn arwain gwybodaeth i mewn ir deall. Pa fodd bynag, (x57) gan nas gellir dechreu a diweddu dim ar unwaith, llyfr Salesbury (fel y cyntaf or fath) a gynygiodd ar, ond ni chwblhaodd, y gorchwyl; ac wedi hyny, fei gorphenwyd gan eraill. *

TROEDNODYN: * Fullers Worthies.

Mae Strype, yn ei Annals, yn galw yr awdwr yn Wyllyam Salesbury of Llanrwst, gent, ac yn dyweyd ei fod yn bartner uJohn Waley, y prenter, yn y patent am saith mlynedd i argraphu y Bibl Cymraeg.

Llyfrau eraill a ysgrifenwyd gan William Salesbury oeddynt, Dymchweliad Allor uchel y Pab; Arweiniad hawdd ac eglur ir Iaith Gymraeg, yn nghyd r olaf yn Saesneg hefyd, ar oll yn y flwyddyn 1550. Yn 1551, cyhoeddod Kynifer Llyth a Ban or Ysgrythur ac a Ddarllenir yr Eccleis pryd Comun, Sulieu, ar Gwilieu trwyr Vlwyddyn. O Gamhereicat William Salesbury, Llundain. Yr oedd hwn yn cynwys cyfieithiad or rhanau or Efengylau ar Epistolau ag a arferid yn ngwasanaeth yr Eglwys. Yn yr un flwyddyn hefyd yr ysgrifenwyd Rhetoreg, neu Egluryn Ffraethineb, gan yr un awdur dysgedig. Gadawyd y gwaith hwn mewn ysgrifen gan Salesbury ar ei ol; ac ar ddymuniad ei gr, (x58) John Salesbury, o Leweni, adolygwyd ef, ac ychwanegwyd ato, gan y Parch. H. Perri, B.D. yr oedd hwn yn draethawd godidog iawn, yr hwn a gyhoeddwyd yn pedwar-plyg yn Llundain. Yr oedd y llyfrau hyn oll wedi eu hysgrifenu gan Salesbury cyn cyfieithu y Testament Newydd, lle y gwelir ei fod wrthi yn ddyfal am ugain mlynedd cyn ymddangosiad ei Destament yn cyfoethogi ei genedl a llyfrau or mwyaf buddiol. Nid yw amser marwolaeth Salesbury, mwy nag amser ei enedigaeth, yn hysbys. Dywed Syr John Wynn iddo farw yn 1599; ond barna eraill ei fod wedi marw cyn y flwyddyn 1596, os nad cyn 1593, pan gyhoeddwyd Egluryn Ffraethineb gan Perri.

Mae Cymru yn rhwymedig iawn i lafur y gŵr enwog hwn, nid yn unig am y rhodd anmhrisiadwy o gael Testament Newydd ein Harglwydd yn brintiedig yn yr iaith Gymraeg, ond hefyd am y dn neu yr yspryd uchel a chrefyddol a roddodd ir wasg Gymreig yn y cychwyniad. Cychwynodd y wasg Saesneg gyda llyfrau ysgafn ac anfuddiol, ac y mae ei llenyddiaeth wedi ei llygru gan ffrydiau parhaus or cyfryw gymeriad hyd heddyw. Ond yr oedd y llyfrau cyntaf a argraphwyd (x59) yn yr iaith Gymraeg, yn llyfrau buddiol, crefyddol, ac anghenrheidiol. Cynrychwyd bls at y cyfryw yn ein cenedl, sydd wedi ei gadw hyd heddyw, fel nad oes nemawr lyfr o ddim pris yn ein plith heb fod arogl crefyddol arno.


II. Richard Davies, D.D.
Mab ydoedd Richard Davies i Dafydd ab Gronw, offeiriad Cyffin, ger Conwy, yn Sir Gaernarfon. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1501, mewn lle a elwir Pls y Person, a derbyniodd ei addysg golegawl yn Rhydychain. Yn y flwyddyn 1550, anrhegwyd ef gan y Brenin Edward VI., a ficeriaeth Burnham, ac phersoniaeth Maidsmorton, yn Swydd Buckingham. Ond ar esgyniad y Frenines Mari ir orsedd collodd y cyfan, a gorfu iddo ddianc allan or deyrnas, i Geneva. Aeth ai wraig drosodd gydag ef, a dyoddefodd lawer yno, gan ei fod yn dybynu ar elusen ei gyd-ffoedigion cyfoethocach.

Wedi bod yno yn nhir alltudiaeth am dair blynedd, dysgodd y Ffrangaeg mor dda fel y gallai bregethu ynddi, a chafodd eglwys yno i weinidogaethu ynddi, yr hyn a roddodd iddo gynaliaeth gysurus. Yn Geneva, y ganed (x60) tri oi feibion, sef Thomas, Peregrine, a Jerson. Ar farwolaeth y Frenines Mari, ac esgyniad Elisabeth ei chwaer, dychwelodd iw wlad, a chafodd y bywioliaethau a gollodd yn ol. Yn lonawr 1560, dyrchafwyd ef i Esgobaeth Llanelwy. Ni fu ond oddeutu pumtheg mis yn Esgobaeth Llanelwy, oblegyd ar yr 21ain o Fai, 1561, trosglwyddwyd ef i Esgobaeth Tyddewi, yn yr hon esgobaeth y parhaodd am fwy nag ugain mlynedd. Yr oedd wedi ei raddio yn D.D. yn y flwyddyn
1560, a chyfrifid ef yn un o wŷr dysgedicaf ei oes.


Yr oedd Dr. Richard Davies, nid yn unig yn ddyn dysgedig, ond yn Brotestant zelog, ac yn Gristion diledryw ac ymroddedig. Fel y dangoswyd eisoes, yr ydym yn rhwymedig iw lafur ef, mewn cysylltiad i gydymaith Salesbury, am y Testament Newydd cyntaf yn brintiedig yn y Gymraeg. Efe, yn nghyd Salesbury, gyhoeddodd hefyd, yn yr un flwyddyn ar Testament, Y Llyfr Gweddi Gyffredin, at wasanaeth yr eglwysi. Cyhoeddodd bregeth Saesneg hefyd ar farwolaeth Iarll Essex, yr hon a draddodwyd ganddo yn Nghaerfyrddin, yn 1577.

Yn y cyfieithiad newydd or Bibl Saesneg, a wnaed trwy orchymyn y Frenines (x61) Elisabeth, yr hwn a adwaenir yn gyffredin wrth yr enw Bibl Parker, a gyhoeddwyd yn 1568, rhoddwyd gofal llyfrau Joshua, Ruth, ar ddau Samuel iw hadolygu au cydmaru r gwreiddiol i Dr. Davies.

Mae y llythyr maith a rhagorol a gyhoeddodd yn nglŷn a Thestament Salesbury, yn ddigon o brawf ei fod yn Brotestant cadarn yn dduwinydd da, yn wladgarwr calonog, yn hanesydd craffus, ac yn efengylaidd ei olygiadau. Geilw y Cymry yn serchog a difrifol i ddeffroi ou cwsg, ac i dderbyn a gwerthfawrogi y rhodd ardderchog oedd yn awr yn cael ei chynyg iddynt. Dwg ar gof iddynt y modd y cadwodd yr hen Gymry yr Efengyl yn ddilwgr yn eu gwlad, dros amryw oesoedd, ar erledigaethau a ddyoddefasant or herwydd. Dengys pa fodd y cawsant or diwedd eu llygru gan Babyddiaeth, ar modd y cafodd eu llyfrau eu dinystrio, nes iw holl lenyddiaeth, or braidd, gael ei dyfetha. Mae yn mawrygu y fendith oedd wedi dyfod gydar gelfyddyd newydd o argraphu, ond yn cwyno fod y Cymry wedi elwa mor lleied aml; ond yn awr, yr oedd y Testament Newydd yn dyfod allan iddynt yn eu hiaith eu hunain, a hyderai na fyddent yn hir cyn cael yr holl Fibl yn gyflawn iw dwylaw.

(x62) Dylasem hysbysu fod yr Esgob Davies yn fardd o radd uchel hefyd, a bod amryw oi gyfansoddiadau ar gof a chadw.

Pan symudwyd yr Esgob o Lanelwy i Dyddewi, dywed Syr John Wynn, iddo lywyddu yno yn deilwng o hono ei hunan, ac er anrhydedd in cenedl, gan amlygu ei hoffder trwyadl or Gogleddwyr, y rhai a gyfleai efe yn lliosog mewn bywioliaethau Eglwysig yn ei esgobaeth, ai hoff ddywediad canlynol yn wastad yn ei enau, Myn y firi faglog, myfi ach planaf chwi, y Gogleddwyr, tyfwch os mynwch. Efe a gadwai dŷ rhagorol, gan gadw yn ei wasanaeth y brodyr ieuangaf or tai goreu yn y wlad hono, ir rhai y rhoddai gynhaliaeth ac addysg dda, gydai blant ei hun. Achwynir arno iddo dlodi yr esgobaeth yn fawr, tuagat arlwyo iw deulu lliosog, trwy brydlesu y tiroedd, a gadael y tai i fyned yn adfeilion.

Bu farw Tachwedd 7fed, 1581, yn y llys esgobol yn Abergwili, yn 80ain mlwydd oed, a chladdwyd ef yn yr eglwys. Wrth ailadeiladu eglwys Abergwili yn 1850, daethpwyd ar draws bedd yr esgob. Nid oedd ar ei feddrod ond llechfaen gyffredin y wlad, ai enw ef arni, a dim ond ei enw, yn nghyd r flwyddyn y bu (x63) farw, 1581. Canfyddwyd arch yn y beddrod, ac ysgrifen yn rhedeg ar hyd ei hymylau; a darllenwyd enw yr esgob ar yr arch. Rhoddodd Dr. Thirlwall, Esgob Tyddewi, wyddfaen mynor, ar ei draul ei hun, ar fr y ganghell uwch ben ei fedd, ac ar y mynor y mae a ganlyn yn argraphedig:


Er Coffadwriaeth am
Y GWIR BARCHEDIG DAD YN NUW,
YR ESGOB RICHARD DAVIES, D.D.
Ganwyd ef yn mhlwyf Gyffin, ger Aber Conwy, yn
Ngwynedd;
DYGWYD EF I FYNY YN NEW INN HALL, RHYDYCHAIN;
Codwyd ef i ESGOBAETH LLANELWY, Ionawr 21ain, 1559,
AC IR ESGOBAETH HON (TY DDEWI) MAI 29AIN 1561.
BU FARW TACHWEDD 7FED, YN y FL. 1581,
Oddeutu LXXX. oed;
AC A GLADDWYD YN YR EGLWYS HON.
Efe a gyfieithodd JOSHUA, BARNWYR, RUH, 1 SAMUEL, ar
2 SAMUEL yn y BIBL SAESONEG,
Pan ddiwygiwyd yr hen gyfieithiadau o dan arolygiad
Yr ARCHESGOB PARKER yn y fl. 1668;
Ac efe hefyd a gyfieithodd
1 TIMOTHEUS, YR HEBREAID, IAGO, 1 PETR, AR 2 PETR,
YN Y TESTAMENT NEWYDD CYMRAEG,
A gyhoeddwyd a chan mwyaf a gyfieithwyd
gan WILLIAM SALESBURY, or Pls Isaf, ger Llanrwst,
yn y fl. 1567.
---------

ESGOB oedd ef o ddysg bur a duwiol
A diwyd mewn llafur;
Gwelir byth trar Ysgrythur,
Ol gwir oi ofal ai gur. Tegid.

 Er Coffadwriaeth am 
Y GWIR BARCHEDIG DAD YN NUW, 
YR ESGOB RICHARD DAVIES, D.D.


(x64)
III. Thomas Huet.
Nid oes genym nemawr o hanes y gŵr da hwn, ond bydd ei enw mewn coffadwriaeth felus gan y Cymry fel cyfieithydd llyfr y Datguddiad yn Nhestament Cymraeg William Salesbury. Mae llythyrenau cyntaf ei enw wrth y cyfieithiad, sef T. H.; C. M. Hyny yw, Thomas Huet, Cantor Mynyw, neu Cantor Meniv. Yr oedd yn brif gantor Tyddewi or flwyddyn 1562 hyd 1588, ac offeiriad Cefnllys, yn Sir Frycheiniog, a Diserth yn Sir Faesyfed. Bu farw Awst 19eg, 1591, a chladdwyd ef yn Eglwys Llanafan, Brycheiniog.


IV. Dr. William Morgan.
Dyma y gŵr da ag y mae Cymru yn ddyledus iddo am ddwyn yr holl FibL allan yn yr iaith Gymraeg. Cyfieithodd ef ai gynorthwywyr yr oll or Hen Destament ar Apocrypha, a diwygiodd Destament Newydd William Salesbury; a chymerodd y gorchwyl iddo lawn deng mlynedd o amser.

Mab ydoedd i William, neu John, Morgan, o Ewybrnant, plwyf Penmachno, Sir Gaernarfon; ai fam oedd Lowri, ferch William ab Ifan (x65) ab Madog ab Ifan Tegin, or Betws. Nid oes dim oi hanes boreuol ar gael. Cafodd ei ddysgeidiaeth yn ngholeg St. Ioan, yn Mhrifysgol Caergrawnt. Yr oedd yn dysgu yn gyflym, a chymerodd bedwar o deitlau yn olynol yn y Brifysgol; sef B.A. yn 1568; A.M. yn 1571; B.D. yn 1578; a D.D. yn 1583.
Gafodd Ficeriaeth Trallwng, Sir Drefaldwyn, yn Awst 1575, a bernir mai hwn oedd ei bennodiad cyntaf. Wedi bod yno am dair blynedd symudodd i Llanrhaiadr-yn-Mochnant, Sir Ddinbych, lle y dechreuodd yn ebrwydd ar ei waith clodfawr o gyfieithu y Bibl.

Wedi gorphen ar y gwaith, bu am tua blwyddyn yn Llundain yn arolygu ei argraphiad, ac yn y cyfamser, yn cael llety croesawgar gan Dr. Gabriel Goodman, Doeon Westminster, yr hwn y mae yn ei gydnabod yn gynhes yn nghyflwyniad y gwaith. Yn y flwyddyn y gorphenodd ei Fibl, gwobrwywyd ef phersoniaethau Llanfyllin, a Pennant-Melangell; ac yn 1594, ychwanegwyd iddo bersoniaeth Dinbych. Yn 1595, yn dra haeddianol, ac ar orchymyn pennodol y Frenines Elisabeth, rhoddwyd iddo gadair esgobol Llandaf; ac yn 1601, cafodd Esgobaeth Llanelwy, lle bu farw Medi 10fed,
1604, ac y (x66) claddwyd ef yn ei brif eglwys heb gymaint a gwyddfaen i ddangos ei fedd. Dywed Syr John Wynn o Wydir ei fod yn ysgolor campus yn yr ieithoedd Groeg a Hebraeg, ac iddo farw yn ddyn tlawd. Os haeddodd unrhyw Gymro gof-golofn i gadw ei enw yn barhaus o flaen llygaid ei gydwladwyr, fe haeddodd Dr. William Morgan hi. Nid yw Cymru mor ddyledus i neb un oi beirdd, ei cherddorion, ei gwleidiadwyr, ai rhyfelwyr ag ydyw i William Salesbury, Richard Davies, William Morgan, John Davies, a Richard Parry, cyfieithwyr y Gyfrol ddwyfol ir heniaith Gymraeg. Bendigedig fyddo eu coffadwriaeth. Priodol iawn y canodd Sion Tudur i Dr. Morgan:

..... Cei glod o fyfyrdod fawr,
...... A da dylych hyd elawr,

...... Tra gwnair tai, tra caner tant,
...... Tra fo Cymron cau amrant.

V. Dr.
Richard Parry.
Mab hynaf oedd ef, ac etifedd, John Parry, o Bwllhaulog, yn Rhuthin, Sir Ddinbych, a ganed ef yno, yn ol Cymru, gan y Parch. O. Jones, yn 1560. Dywed Llyfryddiaeth y (x67) Cymry mai oddeutu y flwyddyn 1578 deunaw mlynedd yn ddiweddarach y ganed ef, ac iddo farw yn 1623, yn 45ain oed. Ofnwn fod yr olaf yn gamsyniol, oblegyd felly buasai wedi ei wneyd yn esgob pan nad oedd ond 26ain oed.

Bu am dymor dan addysg yn ysgol Westminster, o dan yr enwog W. Camden, un o ysgoleigion penaf ei oes, ac awdwr hanesiaeth Brydeinig a elwir Britannia. Oddiyno aeth yn o ieuanc i Rhydychain. Dywed amryw or haneswyr iddo fod am dymhor yn brif-athraw yn ysgol Rhuthin; mae eraill yn barnu mai is-athraw a fu yno.

Yn y flwyddyn 1592, gwnaed ef yn Ganghellydd Bangor, a derbyniodd, yn yr un flwyddyn, ficeriaeth Gresford. Yn 1598 cafodd ei D.D., ar flwyddyn ganlynol cafodd Ddeoniaeth Bangor. Ar esgyniad y Brenin Iago I. i orsedd Lloegr, yr oedd ganddo feddwl mor uchel oi ddysgeidiaeth, fel y dyrchafodd ef i Esgobaeth Bangor, yn Rhagfyr 1604.

Ymgymerodd r gorchwyl o ddiwygio cyfieithiad yr holl Fibl, oddiar ei awyddfryd personol i wneyd y cyfryw wasanaeth iw genedl, heb unrhyw gymhelliad at hyny gan neb oddiallan. Mae rhai yn groes iw osod ef yn mysg cyfieithwyr yr Ysgrythyrau, gan na (x68) wnaeth ond diwygio cyfieithiadau oeddent or blaen wedi eu gorpheun.
Tybia eraill fod yr hyn a wnaeth mor fawr a phwysig, fel y gellid ei alw yn gyfieithiad newydd. Mae yn amlwg fod anghen diwygiad ar y Bibl, fel y gadawyd ef gan Dr. Morgan; ac y mae mor sicr a hyny fod Dr. Parry yn gwbl gyfaddas at y gorchwyl. Yr oedd orgraph Salesbury yn ddrwg, yr iaith yn anystwyth, a phur anneallus. Gwellhaodd Dr. Morgan lawer iawn ar yr iaith; ond rhoddodd Dr. Parry ef i ni mewn iaith ag sydd yn safon y Gymraeg hyd y dydd hwn. Gwnaeth wasanaeth i genedl y Cymry, fydd yn glod anfarwol iw enw.

Yr oedd yn dal bywioliaeth Diserth yn Sir Fflint, gydai esgobaeth, a byddai yn treulio peth amser yno ar adegau. Mae yno faes or enw Cae yr Esgob; ac yn y persondy hwnw y bu farw yn 1623, yn mhen oddeutu dwy flynedd ar ol cyhoeddi y Bibl, a dwy flynedd o flaen y brenin.


VI. Dr. John Davies.
Adwaenir y gŵr da hwn wrth yr enw Dr. Davies o Fallwyd. Mab ydoedd i Dafydd ab Sion ab Rhys, gwehydd wrth ei alwedigaeth (x69) yn mhlwyf Llanferras, yn Sir Ddinbych. Nid yw ei fod yn yr alwedigaeth hono yn brawf fod ei amgylchiadau yn isel, am fod gwehyddiaeth y pryd hwnw mewn bri uwch nag ydyw yn bresenol. Ganed ef tuar flwyddyn 1570. Dywed y Cambrian Plutarch iddo dderbyn ei addysg foreuol yn ysgol Rhuthin, oedd wedi ei sefydlu ychydig flynyddoedd cyn hyny gan Dr. Gabriel Goodman, ac mai ei athraw yno oedd Dr. Richard Parry, a ddaeth wedi hyny yn Esgob Llanelwy. Ond dywed Enwogion Cymru, nas gallasai fod yno yn yr ysgol Ramadegol enwog a sefydlwyd gan Deon Goodman, gan na sefydlwyd hono hyd 1595, tra yr oedd Dr. Davies wedi derbyn ei raddau yn Rhydychain, a dychwelyd yn ol iw wlad yn 1592; ac mai camsyniad yw dyweyd mai Dr. Parry oedd athraw Davies yn yr ysgol hono. Tybia y gallasai fod Parry wedi gosod i fyny ysgol anghyhoedd yn ei dref enedigol, ac mai yn hono y bu Dr. Davies dan ei addysg. Beth bynag, y mae yn sicr fod cyfeillgarwch calon wedi ei enyn rhwng Parry a Davies yn yr adeg hon, na ddiffoddodd tra parhaodd y ddwy galon i guro.


Yn y flwyddyn 1589 y dechreuodd Dr. Davies ar ei fywyd athrofaol, yn Ngholeg yr (x70) Iesu, Rhydychain. Wedi bod yno bedair blynedd, ac ennill clod fel ysgolaig, a chael ei raddio yn B.A., yn 1593, dychwelodd i Gymru, ac ymroddodd i astudio iaith, duwinyddiaeth, a hynafiaethau ei wlad. Y flwyddyn ganlynol, derbyniodd ei urddau eglwysig, ond ni chafodd unrhyw ddyrchafiad swyddol am ddeng mlynedd. Yn 1604, ychydig cyn dyrchafiad Parry i Esgobaeth Llanelwy, cafodd Davies Bersoniaeth Mallwyd, yn Sir Feirionydd, gan y Goron.

Yn y flwyddyn 1608 dychwelodd i Goleg Lincoln, yn Rhydychain, ond nis gellir dyweyd pa faint fu ei arosiad yno y tro hwn. Ar ol hyn, cafodd amryw ffafrau oddiar law yr Esgob. Gwnaed ef yn Ganon Llanelwy yn y flwyddyn 1612, ar blynyddau dilynol cafodd fywioliaethau Llanymawddwy, a Darowain, Llanfair a Llanefydd, yr hyn a wnaeth ei amgylchiadau yn bur gysurus. Felly y dengys cywydd Robert ab Heilyn iddo:

...... Mae iti renti drwy rs,
........
Mab dewrddoeth, mwy bo durddas,
........
Mallwyd sydd am wellhd sant,
........
A Mowddwy yn eich meddiant,
........
A Llanfair blaenfaur heb ludd,
........
Llawn afael, a Llan-Nefydd.

Cafodd ei D.D. o Goleg Lincoln yn 1616, (x71) neu S.T.D., fel y byddid yn ei roddi y pryd hwnw. Y mae yn sicr iddo fod yn gynorthwy pwysig iawn ir Esgob Parry i ddwyn y Bibl allan. Heblaw y llafur hwn, cyfoethogwyd llenyddiaeth Gymreig llawer o lyfrau gwerthfawr o eiddo Dr. Davies. Yn 1621 cyhoeddodd Ramadeg or iaith Gymraeg yn Lladin. Yn 1632, cyhoeddodd ei Eiriadur enwog, yr hwn, yn ddiau, a fu yn brif orchest ei fywyd. Yr oedd un Thomas ab William, neu Syr Thomas William, o Drefriw, wedi gadael ar ei ol, mewn llaw-ysgrifen, Eirlyfr Lladin a Chymraeg.
Ymgymerodd Dr. Davies a gwella a helaethu hwnw, a chyfansoddi Geirlyfr Cymraeg a Lladin ato. A dyma y Geirlyfr y treuliodd Dr. Davies oriau hamddenol deugain mlynedd oi fywyd iw gwblhau



Heblaw amryw lyfrau eraill a gyhoeddodd, cyfieithodd ir Gymraeg y Namyn-un-deugain Erthyglau, gyda Phenderfyniadau Cristionogol Parsons. Casglodd drysorau lawer hefyd mewn barddoniaeth a hanesiaeth Gymraeg. Gadawodd ar ei ol gyfrol drwchus o tuag 800 o dudalenau mewn ysgrifen fn brydferth, yn cynwys Awdlau, Cywyddau, Caniadau, Pryddestau, &c., y rhan fwyaf wedi eu copio or Llyfr Ooch o Hergest, a rhai (x72) or Llyfr Du, a llyfrau eraill. Wrth ddarllen llyfrau, byddai yn gwneyd nodiadau ar ymyl y dail. Ar ol ei farwolaeth, casglodd James Davies (Iago ab Dewi) o Bencadair, y nodiadau hyn, a chyhoeddodd hwynt yn llyfr.



Yr
oedd yn ddyn dymunol a chariadus iawn yn mysg ei gymydogion. Cododd bont gerllaw Pont-y-Cleifion, ar ei draul ei hun. Ail adeiladodd hefyd y clochdy a changhell yr eglwys, ar periglordy, ar ei draul ei hun; a gadawodd ardreth lle a elwir Dol-ddyfi, i dlodion y plwyf tra fyddo dwfr yn rhedeg.

Yr oedd wedi priodi merch Rhys Wynn, Ysw, o Llwynon, chwaer gwraig yr Esgob Parry; a chan nad oedd plant ganddo, gadawodd ei feddianau iw neiaint. Bu farw yn Mallwyd ar y 15fed o Fai, 1644, yn 74ain mlwydd oed, a chladdwyd ef yn nghangell Eglwys Mallwyd. Cerfiwyd yr argraph canlynol yn Lladin ar ei gareg fedd, ond y mae erbyn hyn wedi treulio ymaith.

John Davies, Dysgawdwr Duwinyddiaeth Cysegredig, Periglor Eglwys blwyfol Mallwyd, a fu farw y 15fed dydd o Fai, ac a gladdwyd ar y 19eg, B.A. 1644. Mwy er coffa ei rinwedd nai enw.

Yr
oedd Dr. Davies, nid yn unig yn rhs (x73) flaenaf ysgoleigion ei oes, ond yr oedd yn un or rhai mwyaf diflino a dihunangar yn ei lafur, a gadawodd ar ei ol drysorau anmhrisiadwy at wasanaeth y genedl.




VII.
Edmund Prys.

Mae Dr. Morgan yn coffau amryw gynorthwywyr eraill iddo yn nghyfieithiad y Bibl; megys, Dr. Dafydd Powell, Ficer Rhiwabon, Richard Fychan, o Lutterworth, ac Edmund Prys, Archddiacon Meirionydd.

dafydd powell,
mab ydoedd ef i Hywel ab Dafydd ab Gruffydd ab Ithel. Ganed ef yn 1552. Addysgwyd ef yn Rhydychain. Cafodd ei B.A. yn 1572, ei M.A. yn 1576, ei B.D. yn 1582, ai D.D. yn 1583. Yr oedd ganddo amryw swyddogaethau heblaw Ficeriaeth Rhiwabon. Yr oedd yn ddyn dysgedig iawn, ac yn llenor galluog a diwyd. Dygodd lawer o lyfrau pwysig allan, a gadawodd lawer o ysgrifau gwerthfawr ar ei ol, y rhai, yn anffodus a aethant ar ddifancoll. RICHARD VAUGHAN neu FYCHAN D.D., oedd enedigol o Nyffryn, lle rhwng Tydweiliog ac Edeyrn, yn Lleyn, Sir Gaemarfon. Oafodd ef ei addysgu yn Nghaergrawnt. Yr oedd yn berson Lutterworth (x74) ar yr adeg y bu yn cynorthwyo Dr. Morgan yn nghyfieithiad y Bibl. Yr oedd hefyd yn Archddiacon Middlesex, a chanddo ganoniaeth yn eglwys gadeiriol Wells. Gwnaed ef yn esgob Bangor yn 1595; yn mhen dwy flynedd symudodd i Gaerlleon, ac oddiyno i Lundain, lle y bu farw yn y flwyddyn l607.

Ond y mae EDMUND PRYS yn haeddu coffd, nid yn unig am iddo gynorthwyo Dr. Morgan gyda chyfieithu, ond yn benaf fel awdwr y Salmau Cn. Yr oedd y Cadben W. Middleton (Gwilym Ganoldref) tuar un amser ar Archddiacon yn troi Salmau Dafydd i fesurau caethion y Gymraeg, ond dan amgylchiadau pur wahanol. Yr oedd y Cadben allan ar gefn y Weilgi, neu mewn gwledydd tramor, yn ngwasanaeth ei frenines, yn nghanol bloddest y fyddin, a mwg a thn brwydrau poethion ar Spaeniaid; a rhyfedd iawn oedd gweled dyn yn yr amgylchiadau hyny yn astudio Salmau peraidd ganiedydd Israel, ac yn cyflawni y gorchwyl tra anhawdd ou troi i linellau cynghaneddol y pedwar mesur ar ugain. Yr oedd y ffaith yn ddiau yn un o ryfeddodau yr oes. Pa bryd bynag y dechreuodd ar y gorchwyl, tystia ai ysgrifen ei hun yn nglyn r Salm (x75) olaf iddo ei orphen y 24ain o Ionawr 1595, mewn ynys yn India y Gorllewin.

Ond yr oedd amgylchiadau yr Archddiacon yn wahanol iawn yn ardal dawel guddiedig Maentwrog, y mesur a gymerodd yn fwy hawdd a syml, ar amcan yn rhagorach. Ganed ef yn Maentwrog oddeutu 1541. Cafodd ei addysgiad yn Nghaergrawnt, lle y cafodd ei raddio yn A. O. Wedi derbyn ei urddau Eglwysig ymsefydlodd yn Ffestiniog, ac yn y flwyddyn 1576, pennodwyd ef yn Archddiacon Meirionydd. Yr oedd yn ieithwr enwog, ac yn feistrolgar mewn wyth o ieithoedd. Yr oedd hefyd yn fardd o fri uchel, ac y mae ugeiniau oi gywyddau yn awr ar gael. Ond ei brif waith oedd troi llyfr y Salmau ar fesur mydryddol, at wasanaeth yr Addoliad Dwyfol. Mae wedi glynu wrth yr un mesur, bron yn gwbl, yr hwn a adnabyddir oddiwrth waith Prys wrth yr enw Mesur Salm. Mae nifer mawr oi benillion yn fedrus a llithrig, ac yn profi ei fod yn gyfarwydd hwy yn yr iaith wreiddiol; ond y mae llawer eraill yn glogyrnaidd, gan ei ymdrech i gadw yn rhy lythyrenol at y testyn. Dywedir iddo eu cyfieithu fel hyn o wythnos i wythnos, at wasanaeth ei eglwys ei hun, ac iddynt gael eu (x76) canu oll yno cyn eu cyhoeddi. Ond ystyried yr amser yr ysgrifenwyd hwynt, y mae yr iaith, ar mydr, yn sicr, yn deilwng o ganmoliaeth uchel. Yr oedd yr archddiacon yn hanu, o ran ei dad ai fam ai wraig, o waedoliaeth Cymreig anrhydeddus. Mae y rhan fwyaf oi gywyddau yn rhyw ymgom gecrus rhyngddo ef a bardd arall or enw William Cynwal, ac yn annheilwng o ŵr dysgedig, a swyddog mor uchel yn yr Eglwys. Cododd deulu mawr; bu farw yn 1624, yn dair blwydd a phedwar ugain oed, a chladdwyd ef yn mynwent Maentwrog; ond
nis gŵyr neb am ei fedd. Ei arwyddair ydoedd Mor anwyl yw Meirionydd.




VIII.
Rees Pritchard.
Yr ydym wedi beiddio rhoddi enw y Parch. Rees Pritchard, Hen Ficer duwiol Llanddyfri, yn mysg cyfieithwyr y Bibl, er na chyfieithodd ef, yn ystyr gyffredin y gair, yr un gyfran o hono. Yr oedd, er hyny, yn cydoesi, mwy neu lai, r oll or cyfieithwyr, gan iddo gael ei eni tuar flwyddyn 1579, ei ordeinio yn
1602, a bod dyddiad ei Ewyllys, yr hon a wnaed pan oedd yn glaf o gorph, yn (x77) 1644. Nis gwyddom pa hyd y bu byw ar ol gwneyd ei Ewyllys. Er na chymerodd ran yn nghyfieithiad y Bibl, gwnaeth gymaint a neb o honynt i daenu gwirioneddau y Bibl yn mysg y werin Gymreig, trwy offerynoliaeth Canwyll y Cymry. Tan y Bibl oedd yn cyneu ei ganwyll, a daliodd i lewyrchu yn ddysglaer yn nghanol tywyllwch dudew y wlad. Yn wir, ar un olwg, yr oedd ei lyfr yn gyfieithiad or Ysgrythyrau cyfieithiad o Gymraeg trwsgl, dwfn, ac anneallus William Salesbury, a Dr. Morgan, i Gymraeg mwy deallus a sathredig y werin. Yn ei linellau At y Darllenydd, dywed:



............Am weld dwfn-waith enwog Salsbury,
.............Gan y diddysg heb ei hoffi,
.............Cymrais fesur byrr cyn blaened,
.............Hawdd iw ddysgu, hawdd iw styried.

Mae ei lyfr yn cynwys crynodeb gwerthfawr o athrawiaeth y Gair Dwyfol, mewn ffurf gyml a sathredig i daro meddwl y werin yn yr oes yr oedd yn byw ynddi; ac hefyd yn ddesgrifiad byw a gonest o gyflwr anwybodus a llygredig y wlad, yn gystal offeiriad a phobl. Dyfynwn yma ychydig o benillion allan oi Gynghor i Wrando a Darllain (x78) Gair Duw, yr hwn sydd yn cynwys 87 o benillion cyffelyb. Mae yn beth tebygol ir Cynghor gael ei gyfansoddi ar ol cyhoeddiad y Bibl wyth-plyg rhad yn 1630, gan ei fod yn cyfeirio fwy nag unwaith at ei bris, sef coron arian.



......... Bwyd ir enaid, barar bywyd,
............Gras ir corph, a maeth ir yspryd,
............Lamp ir droed, a ffrwyn ir genau,
............Yw Gair Duw, ar holl Sgrythyrau.

......... Gwerth dy dir, a gwerth dy ddodrefn,
............Gwerth dy grys oddiam dy gefn,
............Gwerth y cwbl oll sydd genyd,
............Cyn bech byw heb Air y bywyd.

......... Tost yw aros mewn cornelyn,
............Lle na oleuor haul trwyr flwyddyn;
............Tostach trigo yn y cwarter
............Lle na oleuor Gair un amser.

......... Gad y wlad, y plwyf ar pentre,
............Gad dy dad ath fam ath drase,
............Gad y tai ar tir yn ebrwydd,
............Lle na byddo Gair yr Arglwydd.

........... Maer Bibl bach yn awr yn gyson,
............Yn iaith dy fain iw gael er coron;
............Gwerth dy gry^s cyn bod heb hwnw,
............Maen well na thref dy dad ith gadw.

......... Gwell nag aw, a gwell nag arian,
............Gwell nar badell fawr ar crochan,
............Gwell dodrefnyn yn dy lety
............Ywr Bibl bach na dim a feddi. (x79)

......... Ni chyst Bibl i ni weithian
............Ddim tu hwnt i goron arian;
............Gwerth Hn ddafad a fydd farw
............Yn y clawdd ar noswaith arw.

......... O medr un or tylwyth ddarllain
............Llyfyr Duw yn ddigon cywrain,
............Fe all hwnwn ddigon esmwyth
............Ddysgur cwbwl or holl dylwyth.

......... Ni fydd Cymron dysgu darllain
............Pob Cymraeg yn ddigon cywrain
............Ond un mis-gwaith (beta yw hyny?)
............Os bydd ewyllys ganddo i ddysgu.

......... Gwradwydd tost sydd ir Brutaniaid
............Fod mewn crefydd mor ddieithriaid,
............Ac na wyr eu canfed ddarllen
............Llyfyr Duwn eu hiaith eu hunain.

Fel yr awgrymwyd eisoes, Gogleddwyr gan mwyaf, os nid yr oll, oedd cyfieithwyr y Bibl, ac y mae yn hynod fod y prif rai yn dal cysylltiad glanau afon Conwy neu Cynwy. Tarawodd y syniad hwn y bardd Gwalchmai, fel y mae wedi cylymu cn ar
GLANAU CYNWY AR BIBL CYMRAEG,yr hon y cymerwn ein rhyddid iw gosod yma. Credwn na byddwn yn troseddu yn erbyn ei hawdwr caredig wrth wneyd; ac y mae yn bur bwrpasol i bwnc y gyfrol fechan hon. (x80)

........ Draw yn nharddiad bychan cyntaf
..........Afon Gynwyn ael y bryn,
..........Lle gadawai lethrau Meirion,
..........Ac y treiglai tuar glyn :
......... Rhedai
r enwog DOCTOR MORGAN
...............At ei dyfroedd gloywon hi,
..........O Ewybrnant, ai ysgrifell
...............Er ei gwlychu yn y lli.

....... Wrth gyfieithu
r Ysgrythyrau
...............O drysoraur iaith Hebraeg,
..........Er cyflwyno iw gydwladwyr
...............Fibl cyflawn yn Gymraeg,
..........Ynan mlaen trwyr nentydd llifain
...............Dawel heb na thn na thrwst,

..........Neu ymchwyddon afon nerthol
...............Ar y dyffryn hyd Lanrwst.

........ Yma rhedai WILLIAM SALSBRI,
...............Or Plas-isaf, gydai bin,
..........Am ei dwfr i ysgrifenu
...............Y gwirionedd, lin ar lin,
..........Pan y rhoddair anrheg gyntaf
...............O Efengyl nef i ni,
..........Ac y gwnai gwaed ei galon
...............Inc oi dyfroedd dysglaer hi.

........ Ynar DOCTOR RICHARD DAVIES,
...............Cyn ei harllwys draw ir mr,
..........Or Plas Person yn y Gyffin,
...............Redai dan arweiniad Ior,
..........Gydai bin-sgrifenu buan
...............At ei ffrydiau, droent eu lliw,
..........Ar ei amnaid, er darlunio,
...............Ar ddalenau, eiriau Duw. (x81)

........ Ah!r hen afon
- r wyf yn ammheu
...............Pun a gawsit lifo rioed,
..........Dros y mynydd yn rhaiadrau
...............Hyd y ceunant, wrth ei droedy
..........Oni buasai itin barod
...............Droi yn inc or duai liw,
..........I roi ar y memrwn oesol
...............Yn ein hiaith oraclau Duw.

........ Rhyfedd, fel mae pob cymdogaeth
...............Yn ymffrostio ou gwŷr mawr,
..........Nid oes odid ardal ddinod
...............Ar na fagodd enwog gawr;
..........Clywch Philistia, gyda Thyrus,
...............Ethiopia hefyd, gwn,
..........Oll yn dwedyd am eu campwr
-
...............Cofiwch, Yno ganed hwn!

........
Os eir heibio tref y Bala,
...............Clywir yno cyn bo hir
..........Am gymdeithas fawr y Biblau,
...............Anwyd ar ei breiniol dir;
..........Ac os holir am ei hanes,
...............Yna etyb pawb or bron,
..........Am yr hyn syn ei hynodi
-
...............Cofiwch, Yno ganed hon!

........ Ah!r hen afon
- pan ofynir
...............Eto ar dy lanau llaith,
..........Ple y ganwyd y cyfieithydd
...............Roes y Bibl yn ein hiaith,
..........Ninau ath ddyrchafwn dithau
...............Uwch afonydd hyd yn grwn,
..........Ac wrth enwi glanau Conwy
...............Dwedwn, YNO GANED HWN! (x82)

 

PENNOD IX.
LLEDAENWYR Y BIBL YN MYSG Y CYMRY.

Heblaw yr hyn a ddywedwyd eisoes am ymdrechion y cymwynaswyr rhagorol hyn i gyflenwi anghenion Cymru r Ysgrythyrau Sanctaidd, yr ydym yn rhoddi y bennod hon i gofnodi eu henwau. Nis gallwn ond rhoddi nodiad byr iawn ar bob un o honynt, ac y mae yn bosibl ein bod yn gadael rhai allan ddylasai gael eu rhifo yn eu mysg.

I. Rowland Heilyn.
Brodor ydoedd y gŵr hwn o Sir Drefaldwyn, ac un or teulu or un enw o Bentreheilyn, yn mhlwyf Llandysilio. Ymsefydlodd yn Llundain, a daeth yn henadur a sirydd yn y ddinas. Yr oedd yn Gymro cenedlgarol, ac yn llenor galluog. Gosododd ei genedl dan rwymedigaeth arbenig iddo, yr hyn a geidw ei enw yn anwyl yn nheimlad pob Cymro, trwy fod yn brif offeryn i ddwyn argraphiad or Bibl allan, mewn plyg llai, ac ar bris isel, at wasanaeth y werin, yn y flwyddyn 1630. Er y cynorthwyid ef gan (x83) eraill, dygai y rhan fwyaf or baich ei hun; a diammheu nad baich bychan oedd hwnw. Efe hefyd a gyhoeddodd yr Arferiad o Dduwioldeb, yn Gymraeg, yn nghyd a Geiriadur at wasanaeth ei gydwiadwyr. Bu farw yn 1634, heb adael etifedd ar ei ol, ac aeth ei eiddo, trwy briodas merch iddo, i deulu or enw Congreve. Yr oedd yn ewythr i Dr. Peter Heylin yr hanesydd.

II. Thomas Middleton.
Un o deulu enwog Gwaenynog, Sir Ddinbych, ydoedd Syr Thomas Middleton; mab Richard Middleton, llywodraethwr Castell Dinbych o dan deyrnasiad Edward VI., Mari, ac Elisabeth. Normaniaid oeddent o wreiddyn, ond trwy briodasau olynol, daethant yn Gymry o waed, ac o yspryd. Brodyr i Syr Thomas oedd William Middleton (Gwilym Ganoldref), awdwr y Salmau Cn, Ffowc Middleton, a Syr Hugh Middleton. Aeth Syr Thomas i Lundain yn ieuanc, a daeth yno yn farsiandwr cyfoethog. Daeth yn henuriad, yn ynad, ac, yn 1614, yn Arglwydd Faer Llundain. Prynodd etifeddiaeth Castell y Waun, Sir Ddinbych, ac efe oedd cyff teulu Middleton y lle hwnw. Efe (x84) gyda Rowland Heylin, aeth dan faich yr argraphiad or Bibl Cymraeg yn 1630, at wasanaeth y werin Gymreig. Dywedir fod ganddo ef law hefyd mewn dau argraphiad dilynol. Am y gwasanaeth hwn i gyflenwi Cymru a Gair yr Arglwydd y dymunai y Parch. Stephen Hughes fendith y genedl arno. Yn ei ragymadrodd i Lyfr y Ficer, dywed,

Yr wyf yn dymuno om calon ar Dduw, ar fod i bob bendith ysprydol a thymhorol ddisgyn ar bob un o hiliogaeth Syr Thomas Middleton, yn Ngwynedd, neu un lle arall: Rhodded Duw iddynt fendithion aneirif, fel tywod y mor, fel glaswellt y ddaiar, ac fel sr y nefoedd. A bydded i bob un sydd yn Nghymru yn caru Duw, ac yn hiraethu am iachawdwriaeth eneidiau anfarwol, gyduno i gyhoeddi ou calon, Amen, ac Amen boed felly. O Arglwydd grasol, bendithia epil Syr Thomas Middleton, a bydded ei enw dros fyth yn anrhydeddus.

Methodd i ni gael dyddiad ei enedigaeth nai farwolaeth. Ei frawd, Syr Hugh Middleton wnaeth yr Afon Newydd i gyflenwi Llundain dwfr. (x85)

III. Cradoc, Powell, ac Edwards.

Dywed Llyfryddiaeth y Cymry mai Walter Cradoc a Vavasor Powell fu yn offerynol i gael argraphiad 1654 or Bibl Cymraeg allan. Ond dywed Dr. Llewelyn, Yr ydym yn ddyledus am yr argraphiad hwn i Mr. Charles Edwards, awdwr y llyfr Cymraeg a elwir Hanes y Ffydd. Mae yn bosibl fod y tri hyn yn cydweithio yn y gorchwyl anrhydeddus o gael chwe mil o gopiau o Air Duw iw cydgenedl, yn awr pan oedd Cymru i raddau wedi deffro, ac yn estyn ei dwylaw am dano.

Walter Cradoc ydoedd un o Anghydffurfwyr boreuol Cymru. Ganed ef yn Nhrefeca, Llangwm Uchaf, Sir Fynwy, tuar flwyddyn 1600. Derbyniodd ei addysg yn Rhydychain, a bu yn gurad yn Llanbedr y Fro a Chaerdydd; ond ataliwyd ef i bregethu am na fuasai yn darllen Llyfr y Chwareuon yn yr eglwys ar y Sabboth. Cafodd ei droi allan yn 1633. Bu wedi hyn yn gurad yn Wrexham. Ond cododd ei weinidogaeth danllyd erledigaeth yn ei erbyn, a gorfu iddo ymadael. Teithiodd ar hyd Gymru gan bregethu yn mhob ardal, a dychwelyd llawer at yr Arglwydd. Parodd (x86) terfysgoedd y wlad iddo ef ai gydweithwyr adael Cymru. Buont yn Bristol am dro, ac wedi hyny yn Llundain. Bu ef am rai blynyddau yn gweinidogaethu yn All Hallows, yn Llundain. Yn 1646 dychwelodd i Gymru, a threuliodd weddill ei oes yn ei ardal enedigol, yn Nhrefeca, lle y bu farw Rhagfyr 24, 1659. Bu yn pregethu ddwy waith o flaen y Senedd. Cyhoeddwyd cyfrol oi bregethau yn ystod ei fywyd; ac ail gyhoeddwyd hwynt gan Charles or Bala, ac Oliver o Gaerlleon, gyda hanes bywyd yr awdwr, yn 1800.

Ganed Vavasor Powell yn Cnwc Glas, Sir Faesyfed, yn 1617, o deulu parchus. Gorphenodd ei addysg yn Rhydychain. Gafodd ei arwain i ffordd iachawdwriaeth yn benaf trwy weinidogaeth Gradoc, a daeth yn gydymaith iddo yn ei lafur ai ddyoddefiadau fel pregethwr teithiol. Yr oedd yn bregethwr selog a thanllyd iawn, yn meddu ar ddoniau anarferol, ai lafur yn ddiball.
Ar doriad allan y rhyfel cartrefol ffodd yntau oi wlad. Bu yn Llundain, a lleoedd eraill yn Lloegr, am bedair neu bum mlynedd. Dychwelodd eilwaith i Gymru, mor selog ag erioed. Bu am yspaid yn gaplan yn myddin y Brenin. Yn 1649, bu yn pregethu o flaen Arglwydd Faer Llundain, ar flwyddyn (x87) ganlynol o flaen y Senedd. Ar esgyniad Charles II. daeth ei erlidwyr arno, cymerasant ef i fyny, a bwriasant ef yn ngharchar. Mor gynted ag y cai ei draed yn rhyddion, pregethai eilwaith, a gwrthodai gydymffurfio a chymeryd y llwon. Bu yn garcharor yn Nhrefaldwyn fwy nag unwaith, ac yn ngharchar Amwythig. Wedi hyny am ddwy flynedd yn ngharchar Fleet Street, Llundain; ac wedi hyny yn ngharchar Portsmouth am bum mlynedd. Byddai yn pregethu yn muarth y carchar, ac amryw yn myned iw wrando. Or diwedd, gwanychodd ei gaethiwed iechyd ei gorph. Bu farw yn y carchar Hydref 27ain, 1670, yn yr 11eg flwyddyn oi garchariad, y 33ain oi weinidogaeth, ar 53ain oi oedran. Yr oedd yn un or dynion mwyaf unplyg, gonest, caredig, a haelionus yn ei oes. Arferai ddyweyd fod ganddo le mewn gwelyau i ddeuddeg yn ei dŷ, i gant yn ei ysgubor, ac i fil yn ei galon. Cyhoeddodd nifer mawr o lyfrau.


Nid oes nemawr ddim o hanes Charles Edwards ar gael; ond y mae ei lyfr rhagorol ar Hanes y Ffydd yn golofn arosol o goffadwriaeth iddo. Mae y Parch. Walter Davies yn dyweyd iddo gael ei eni yn (x88) Rhydycroesau, yn mhlwyf Llansilin, Sir Dinbych. Dywed John Edwards, Ysw., o Great Ness, yr hwn a honai fod yn berthynas iddo, nad oedd ond un Charles yn y teulu, ac i hwnw gael ei eni yn Cynlleth, yn yr un sir, ac mai mab ydoedd i Robert Edwards. Beth bynag, y mae yn sicr ei fod yn ysgolor Cymreig uchel, yn Gristion dysglaer, ac yn wasanaethwr selog iw genedl, mewn pethau ysprydol.



IV. Stephen Hughes
Ganed y Parch. S. Hughes yn nhref Caerfyrddin oddeutu y flwyddyn 1622. Mae hanes boreuol hwn hefyd dan len. Dywedir iddo ddyfod i bersoniaeth Meidrym, yn Sir Gaerfyrddin, yn
1645, ac y mae ei gan ragymadroddol i Lyfr y Ficer yn awgrymu iddo fod yn gwasanaethu yn mhlwyf Merthyr, yn yr un sir. Yn y flwyddyn 1662, trowyd ef allan or eglwys; ond yr oedd yn cael ei oddef yn achlysurol i bregethu yn yr eglwysi plwyfol ar ol yr adferiad. Yn fuan ar ol ei droad allan or Eglwys, priododd ddynes dduwiol o Abertawy, a daeth i fyw yno, lle treuliodd weddill ei oes lafurus. Parhaodd i deithio trwy Sir Gaerfyrddin, fel cynt, i bregethu trwy yr holl wlad, (x89) sefydlu eglwysi, a gosod y bobl ar waith i ddysgu darllen y Bibl, a pha fodd i rodio a rhyngu bodd Duw. Mae llawer o Eglwysi cynulleidfaol y sir hono yn awr, o blaniad Stephen Hughes. Yr oedd yn bregethwr Efengylaidd, a bu yn foddion i droi llawer at yr Arglwydd.

Cyhoeddodd ef, ai gyfaill, Mr. Gouge, lawer o lyfrau Cymraeg gwerthfawr, a gwasgarent hwy yn helaeth, gan eu rhoddi yn fynych am ddim, os byddai y bobl yn rhy dlawd iw prynu. Gosodasant i fyny amryw ysgolion, yn nhrefi y Dywysogaeth, i ddysgu darllen y Bibl ac elfenau cyntaf gwybodaeth. Dywedir fod o dri i bedwar cant o honynt wedi eu sefydlu yn Nghymru yn
1675, a bod tua dwy fil o blant tlodion yn derbyn addysg ynddynt. Dygai Mr. Hughes ei hun draul cant o honynt. Ac enillodd glod neillduol yn ei ymdrech lwyddianus i gael argraphiad cymhwys or Bibl at wasanaeth y werin

yn cynwys wyth mil o gopiau. Dywedir mai trwy ddylanwad Hughes a Gouge y sefydlwyd y Gymdeithas er Lledaenu Gwybodaeth Gristionogol gyntaf yn Llundain. Cyhoeddodd Hughes argraphiad o Lyfr y Ficer, gyda rhagymadrodd oi flaen. Yr oedd yn ddyn hael a diragfarn, ac yn cael (x90) ei garu yn fawr. Gelwid ef yn Apostol Sir Gaerfyrddin. Ond yr oedd ganddo elynion, a thaflwyd ef unwaith i garchar Caerfyrddin. Bu farw mewn tangnefedd yn Abertawy, yn 1688, pan oddeutu 65 mlwydd oed, a chladdwyd ef yn Eglwys Ifan ; ond ni osodwyd gwyddfaen i gadw y llanerch mewn coffadwriaeth.

V. Thomas Gouge.
Nid Cymro oedd Gouge; ond y mae yr hyn a wnaeth i Gymru yn haeddu parch ac edmygiad y genedl. Ganwyd ef yn ninas Llundain, Medi 19eg,
1605, a chafodd ei addysgu yn Eton a Chaergrawnt. Yr oedd yn fab i Dr. William Gouge, Blackfriars. Wedi gorphen ei addysg, a chymeryd y gradd o M.A., ymsefydlodd yn Colsden, gerllaw Croydon, yn Surrey. Yn 1638, symudodd i eglwys St. Sepulchre, Llundain, lle y bu yn gwasanaethu ei swydd bwysig gydag ymroddiad canmoladwy am 24ain o flynyddau. Yr oedd nid yn unig yn ffyddlon a llafurus yn y pwlpud, ond yr oedd yn ddifiino yn ei lafur i ymweled r cleifion ar tlodion, a chyfranu yn helaeth at eu hanghenion. Torodd deddf Unffurfiaeth ef allan or Eglwys yn 1662; ond buan, (x91) y cafodd o hyd i faes newydd iw lafur ai haelfrydedd.

Nid oes gwybodaeth beth drodd sylw Gouge at Gymru; ond tebygol ydyw iddo ddyfod i gyffyrddiad Stephen Hughes neu Charles Edwards, neu rai or Cymru oedd yn mynychu Llundain ir diben o gael Biblau a llyfrau at wasanaeth y Dywysogaeth. Dechreuodd ei lafur cariadus at Gymru tuar flwyddyn
1670, ac erbyn 1674, yr oedd ei gynllun wedi ei gyflawni; a pharhaodd yn ddiball yn ei ymdrechion hyd ei farwolaeth, Hydref 29ain, 1681, pan oedd yn ei 77ain mlwydd oed. Yr oedd ei lafur yn gynwysedig mewn codi ysgolion yn Nghymru i ddysgu darllen Saesneg a Chymraeg, pregethu ar ei ymweliadau, a chael llyfrau Saesneg wedi eu cyfieithu ir Gymraeg, an gwasgar yn mysg y bobl. Efe fu yn foddion i gael Holl Ddyledswydd Dyn, Yr Ymarfer o Dduwioldeb, a llawer eraill o lyfrau ir iaith Gymraeg, au gwasgar ar ei draul ei hun. Dywedir ei fod yn cynal rhai canoedd o ysgolion, trwy holl brif drefi Cymru, a daliodd yn mlaen gyda hwy hyd ei farwolaeth; ond gan mai ysgolion i ddysgu Saesneg oeddent gan mwyaf, diflanasant yn fuan wedi i Gouge farw. Yr oedd Griffith (x92) Jones yn deall anghen a chwaeth y genedl yn llawer gwell, a chymerodd ei gynllun afael nerthol a llwyddianus. Un o brif weithredoedd caredigol Gouge ydoedd mynu argraphiad or Bibl Cymraeg yn 1678, yn cynwys wyth mil o nifer, ar bris mor rhesymol, i gyfarfod anghenion y wlad. Rhoddwyd mil o honynt yn rhad ir tlodion, a gwerthid y lleill wedi eu rhwymo yn daclus am y pris isel o bedwar swllt. Er nad oedd ganddo ond cant a haner o bunau y flwyddyn ei hunan at fyw, yr oedd yn rhoddi dwy ran o dair o hyny at y gorchwylion a nodwyd. Fel hyn, rhoddodd y dyn duwiol a haelionus hwn y genedl Gymreig dan rwymedigaeth arbenig, a bydd ei goffadwriaeth yn felus a bendigedig.

VI. Griffith Jones.
Ganed y Parch. Griffith Jones, o Landdowror, yn mhlwyf Cilrhedyn, Sir Gaerfyrddin, yn y flwyddyn 1683. Addysgwyd ef yn ysgol Ramadegol Caerfyrddin. Cafodd ei ordeinio i urdd diacon gan Esgob Bull yn
1708, ac i gyflawn urddau y flwyddyn ganlynol. Yr oedd yn meddu ar gyneddfau a doniau naturiol rhagorol, wedi ei enill at grefydd trwy (x93) ddarlleniad y Bibl a llyfrau duwinyddol, ac or cychwyn yn bregethwr call, difrifol, ac efengylaidd. Yn 1711 cafodd fywioliaeth Llandeilo-Abercowyn, ac yn 1716, cafodd ficeriaeth Llanddowror, ar hwn le y mae ei enw wedi ei fyth gysylltu. Arferai hefyd wasanaethu Llanllwch, gerllaw Caerfyrddin. Yn perthyn ir gynulleidfa hon oedd y foneddiges ieuanc, Bridget Vaughan, briododd wedi hyny ag Arthur Bevan, Ysw., o Lacharn, ar hon a adnabyddir fel Madam Bevan, ac a fu o gynorthwy mawr i Mr. Jones yn ei lafur i ddyrchafu ei genedl.

Bu Mr. Jones ar fwriad i fyned allan yn genadwr i India, dan y Gymdeithas er Lledaeniad yr Efengyl mewn Gwledydd Tramor; ond, yr oedd Rhagluniaeth wedi darparu maes eang iddo ef iw weithio yn ei wlad ei hun, ac ymroddodd yntau at y gwaith pwysig gydag yspryd teilwng oi Arglwydd.

Heblaw ei lafur dirfawr gydai bregethu poblogaidd a llwyddianus ar hyd a lled y wlad, yn 1730 cychwynodd ei Ysgolion Cylchynol enwog, y rhai a fuont o gymaint bendith i Gymru. Ei arferiad o gasglu ei gynulleidfa yn nghyd o flaen Sabboth y Cymundeb, iw holi, au hegwyddori yn Ngair (x94) Duw, arweiniodd ei feddwl at yr anghenrheidrwydd o foddion cyffelyb i ddysgu y werin i ddarllen. Byddai yr ysgolfeistri cyflogedig yn myned ar gylch, o bentref i bentref, er rhoddi mantais addysg ir neb oedd yn sychedig am dano. Cafodd gynorthwy pwysig gan gefnogwyr cyfoethog, fel yn mhen deng mlynedd, yr oedd ei ysgolion yn rhifo
128, a nifer y rhai a ddysgwyd ynddynt yn 7595. Yn 1761 yr oedd yr ysgolion wedi chwyddo i 218, a nifer y rhai a ddysgwyd i ddarllen mewn un flwyddyn yn 10,000; ar nifer a ddysgwyd mewn pedair-blynedd-ar-ugain, yn ol adroddiad Mr. Jones ei hun, yn 150,212. Yr oeddent, wrth gwrs, i ddynion mewn oed yn gystal ag i blant. Ar ei farwolaeth gadawodd 70007. yn llaw ei ffrynd. Madam Bevan, tuagat gynaliaeth yr ysogolion hyn, a gadawodd y foneddiges haelfrydig hono 10,000l. ar ei hol, ir un perwyl. Cyhoeddodd Mr. Jones 24ain or pamphled a elwid Welsh Piety, y cyntaf yn 1737, ar olaf yn 1760. Math o adroddiad flynyddol ydoedd o weithrediadau yr ysgolion. Yr oedd ei lafur llwyddianus gydar ysgolion yn creu anghen mawr yn y wlad am Fiblau; a llwyddodd, fel yr awgrymwyd eisoes, i gael dau (x95) argraphiad or Bibl at wasanaeth y genedl yn 1746 a 1752. Ac er ei lafur dirfawr gyda phregethu, addysgu, a holwyddori, ysgrifenodd a chyfieithodd amryw lyfrau buddiol at wasanaeth y Cymry, megys Esboniad ar Gatecism yr Eglwys yn cynwys corph o Dduwinyddiaeth; Galwad at Orseddfainc y Grs; Ffurf o Weddiau; Hyfforddwr at Orseddfainc y Grs; Cynghor Rhad, Anogaeth i Folianu Duw, Llythyr ar y Ddyledswydd o Egwyddori; Casgliad o Ganiadau E. Pritchard, &c. Cafodd wrthwynebrwydd dirfawr yn ei ymdrechion daionus, oddiwrth esgobion ac offeiriaid; erlyniwyd ef yn Llys yr Esgob, ac ysgrifenwyd llyfr bustlaidd iw ddiraddio; ond ni chafodd dim lesteirio ei ymroddiad duwiolfryd a zelog dros enw ei Arglwydd ac achubiaeth eneidiau ei gyd-ddynion. Efe fun foddion dychweliad Madam Bevan, a Daniel Rowlands, offeiriad bach Llangeitho, a lluoedd eraill ddaethant yn gydweithwyr yn efengyleiddiad y Dywysogaeth. Mae Cymru yn fwy dyledus nag y tybir yn gyffredin i Seren fore Llanddowror, am ei chyflwr crefyddol presenol; ac nid oes ond y dydd mawr a ddengys y gwaith dirfawr a wnaed gan yr (x96) offeiriad duwiol hwn. Mae yn chwithig iawn, os nid yn waradwydd ar Gymru, ei bod wedi gadael y fath ddyn heb un Bywgraphiad. Dywed Williams, yn ei Farwnad:

....Dacwr Biblau teg a hyfryd,
........Ddeg-ar-ugain filoedd llawn,
.....Wediu trefnu i ddod allan
........Trwy ei ddwylawn rhyfedd iawn;
........Dau argraphiad glan ddiwygiad,
...........Llawn, ac isel bris ir gwan;
........Mewn cabanau fe geir Biblau
.......... N awr gan diodion yn y man.

........Hi Ragluniaeth ddyrus helaeth,
...........Wna bob peth yn gydsain lawn;
........Dwed nad gwiw argraphu Biblau
...........Heb eu darllen bwy yn iawn;
........Daeth yn union ag ysgolion
...........O Werddon for i Hafren draw;
........Rhwng y defaid maer bugeiliaid
.......... Nawr ar Sgrythyr yn eu llaw.

Wedi gwasanaethu ei genedl yn ol ewyllys Duw, gyda ffyddlondeb a llwyddiant mawr, efe a hunodd yn yr Arglwydd, yn nhŷ ei ffrynd, Madam Bevan, yn Llacharn, Ebrill 8fed, 1761, yn 77ain mlwydd oed, a chladdwyd ef yn Llanddowror. (x97)

VII. Peter Williams.

Nid oes un enw yn fwy hysbys yn y Dywysogaeth nag enw Peter Williams; oblegid y mae Bibl Peter Williams yn llyfr a brawddeg gartrefol i ni oll. Ganwyd ef gerllaw Llacharn, yn Sir Gaerfyrddin,Ionawr 7fed, 1722. Yr oedd ei rieni yn gyfrifol, ai fam o nodweddiad tra chrefyddol, dan weinidogaeth y Parch. Griffith Jones, Llanddowror. Bu ei dad ai fam farw pan oedd Peter oddeutu 12 oed; ond gadawodd addysg grefyddol ei fam argraff annileadwy ar feddwl y plentyn. Dygwyd ef i fyny gan ewythr iddo o du ei fam. Yr oedd ynddo awydd er yn blentyn at y weinidogaeth, a throai ei holl fryd at lyfrau.

Pan yn 17 oed, gosodwyd ef mewn ysgol eglwysig yn Nghaerfyrddin, yr hon oedd ar y pryd dan lywyddiad y Parch. T. Einion, lle y parhaodd am dair blynedd. Yn y cyfamser, daeth Whitfield i Gaerfyrddin i bregethu; ac er ir athraw rybuddio yr efrydwyr nad elent iw wrando, aeth Peter a thri ereill yn llechwraidd i wrando y gwr dyeithr. Y bregeth hono fu yn foddion troedigaeth iddo. Aeth iw lety y noson hono yn ddyn arall. Daeth y peth yn hysbys trwy yr holl ysgol, a thrdd ei (x98) gyd-efrydwyr o hyny allan iw ddirmygu. Yr oeddwn bellach, meddai, yn Fethodist; ac yn eu cyfrif hwy, digon oedd hyny i roddi anfri tragywyddol arnaf.

Symudodd o Gaerfyrddin, pan oddeutu 21 oed, i gadw ysgol yn Cynwil. Yn 1745 cafodd ei urddo gan yr esgob i swydd diacon, a chafodd guradiaeth Eglwys Gymun, gerllaw Llacharn. Ond aeth yn rhy weithgar ei fywyd, ac efengylaidd ei athrawiaeth, i gael ei oddef yno yn hir. Yr oedd yntau, fel y Methodistiaid eraill, yn pregethu y pechod gwreiddiol, cyfiawnhd trwy ffydd, ac ail enedigaeth. Cyhuddid ef hefyd o bregethu mewn plwyfi eraill; ac am ei holl bechodau, gwaharddodd yr esgob iddo bregethu am dair biynedd.

Wedi hyn daeth i Abertawy, i wasanaethu dwy eglwys un Gymreig ac un Seisonig. Ond ni fynai boneddigion Abertawy ychwaith mo hono ef, ai athrawiaeth, ai ddiwygiadau.
Aeth oddiyno i Langranog yn Sir Aberteifi; ond oblegid yr un achos eto, ni bu yno ond deufis. Wrth weled fod y drws yn cael ei gau yn erbyn ei weinidogaeth yn yr Eglwys Sefydledig, yn y flwyddyn 1746 ymunodd r Methodistiaid, pan nad oedd ond 24 mlwydd oed, a bu yn llafurio yn eu mysg gydag (x99) egni a llwyddiant mawr am agos hanner can mlynedd. Fel pregethwr yr oedd mewn un peth yn rhagori ar y rhan fwyaf oi gydoeswyr sef mewn llafur i gyfansoddi ei bregethau yn gyflawn cyn eu traddodi. Os byddai eraill yn rhagori mewn doniau, ac mewn hwyl, byddai ganddo ef bregeth dda bob amser. Yr oedd hefyd yn gweithio yn galed yn teithio yn barhaus, yn cymeryd y fantais ar bob cyfleusdra i bregethu yr efengyl ir bobl, ac yn barod i feiddio pob peryglon a ddelai yn ei ffordd. Ni ddyoddefodd neb yn ei oes fwy o erlidiau a blinderau. Aml y gadawai y fan y pregethai wedi ei daenellu i waed fel gwlaw. Nid gormod fyddai dyweyd iddo wynebu mwy o beryglon, dyoddef mwy o galedi, ac arloesi mwy ar Gymru, na neb oi frodyr urddedig. Yn ei gysylltiad r wasg, gwnaeth fwy er diwyllio llnyddiaeth grefyddol Gymreig na neb yn y ddeunawfed ganrif. Cyhoeddodd ei Fibl Teuluaidd, gyda sylwadau ar bob pennod, a chyfeiriadau ar ymyl y ddalen, yn y flwyddyn 1770, a dyma yr Esboniad Cymreig cyntaf erioed ar y Bibl. Cymaint oedd awydd y wlad am dano, fel yr oedd y trydydd argraphiad yn ymyl ei orphen cyn marwolaeth (x100) Mr. Williams, ar tri argrapbiad yn cynnwys o ddeuddeg i bumtheg mil o gopiau. Ac yn mhen tair blynedd ar ol ymddangosiad yr argraphiad cyntaf or Bibl, cyhoeddodd y Mynegair Ysgrythyrol; a chan mai hwn eto oedd y llyfr cyntaf or fath yn yr iaith Gymraeg, rhaid ei fod wedi costio llafur dirfawr iddo. Yn 1790 cyhoeddodd argraphiad o bedair mil o Fibl bychan Canne, yr hon anturiaeth a drodd yn golledus iawn iddo. Cyfieithiodd amryw lyfrau defnyddiol eraill or Saesoneg.

Cododd dadl rhyngddo ai frodyr ar bwnc o athrawiaeth cysylltiedig Pherson Crist, barodd lawer o flinder, ac iddynt dori eu cysylliad n gilydd. Yr oedd capel Heol y Dŵr, Gaerfyrddin, wedi ei godi ar dir Peter Williams; cadwodd feddiant or capel hwnw, i fod yn faes llafur hyd ddydd ei farwolaeth. Bu farw Awst 8fed, 1796, yn ei 75am mlwydd oi oedran, a chladdwyd ef yn Llandyfeiliog. Yr ydym wedi rhoddi yma yn fyr, brif ddygwyddiadau un or dynion mwyaf defnyddiol i Gymru or holl feibion a fagodd. Gwir ddywedodd ei Farwnadydd:

.....Tra fo Cymru yn medru darllen,
..........Am dy enw fe fydd son,
......A thra argraph-wasg a phapyr,
..........Nid anghofir am dy bon, (x101)

 

Thomas Charles, Y Bala



(x102) GWAG

(x103)

......Pan bo enwau rheinyn pydru,
..........Heddyw sydd o enwau mawr,
......Fe fydd d enw oesoedd eto
..........Yn dysgleirio fel y wawr.

VIII. Thomas Charles.
Mab ydoedd Thomas Charles i Rice Charles, Pant Dwfn, Llanfiangel, gerllaw pentref St. Clears, tua deng milldir o dref Caerfyrddin. Ganwyd ef Hydref 14eg, 1755. Amaethwr oedd ei dad, a bwriadai godi Thomas ir weinidogaeth. Dechreuodd ei addysgiad mewn ysgol yn ymyl cartref, yn Llanddowror. Yno y daeth i gyfeillach ag un Rhys Hugh, un o ddysgyblion Griffith Jones, ac ymddyddanion y dyn duwiol hwn wnaeth yr argraphiadau crefyddol cyntaf ar ei feddwi. Yr oedd yr argraphiadau hyn mor ddwys, fel yr ymunodd yn blentyn r Methodistiaid, a bu yn foddion i ddwyn crefydd i mewn iw deulu.

Yn 14eg oed symudodd ir ysgol Ymneillduol yn Nghaerfyrddin. lonawr 20fed, 1773, pan yn 17eg oed aeth i wrando Rowlands Llangeitho, a dywedai ir bregeth hono wneyd nefoedd a daiar yn bethau newydd iddo o hyny allan byth.

Pan yn 20 oed (1775) symudodd i (x104) Rydychain. Trwy ymdrech galed y gallodd gynal ei hun yno. Buasai wedi gorfod gadael y lle, oni bai i Ragluniaeth agor calonau ychydig o gyfeillion iw gynorthwyo. Derbyniodd urdd diacon i bregethu yn Rhydychain, yn
1778, a threfnodd i fyned i wasanaethu fel curad yn Ngwlad yr Haf. Cyn myned, talodd ymweliad r Bala, ac aeth ef ar daith, gydai gyfaill, y Parch S. Lloyd, offeiriad duwiol a chyfoethog, trwy ranau o Ogledd a Deheudir Cymru, a galwasant ar eu ffordd i wrando Rowlands Llangeitho.

Wedi gorphen y daith hon aeth at y guradiaeth a nodwyd, ac yn mhen rhai misoedd enillodd ei B.A. yn Rhydychain. Ar ei ymweliad r Bala, daeth i gydnabyddiaeth boneddiges ieuanc or enw Miss Jones, yr hon oedd gydai mham yn cadw prif siop y dref; ac yn Awst 1783, ymunodd hi mewn gln briodas, a dyna fu yn achlysur symudiad Mr. Charles ir Bala i fyw.

Bu am ddwy flynedd wedi ymsefydlu yn y Bala yn gwasanaethu fel curad yn Llanymowddwy a Shawbury, ond yr oeddent yn mhell iawn, ar ffyrdd yn anhygyrch. Daeth achwyniadau hefyd yn ei erbyn, ei fod yn holi plant yn yr eglwysi, ac yn myned ar draws y (x105) ffurfiau cyffredin, a gwaharddwyd yr eglwysi iddo. Bu yn hir yn dysgwyl am ddrws agored o rywle, ai galon yn llosgi mewn awydd am waith, gymaint fel y cynygiai wasanaethu yn rhad.

Wedi hir aros, heb obaith, penderfynodd ymuno r Methodistiaid. Yr oedd hyn yn 1785, pan yn 30am oed. Bellach cafoddd ei fywyd gyfleusdra i ymddadblygu, a buan y daeth gwerth y dyn yn hysbys ir wlad. Pan bregethodd gyntaf yn Llangeitho, dywedodd Rowlands, Rhodd yr Arglwydd ir Gogledd yw Charles. Profodd ei eiriau yn wirionedd tu hwnt i ddysgwyliad neb. Mae ei ddylanwad yn fyw heddyw, nid yn unig yn y Gogledd ond trwy Gymru oll, ac yn mhell tu hwnt iw therfynau.

Cymerodd Mr. Charles gyflwr ysprydol y wlad at ei galon, ac ymroddodd fel dyn Duw i gyflenwi ei diffygion. Dyn anarferol ydoedd, nad oes gan y wlad nemawr oi fath i ymffrostio ynddynt. Dyn llawn o yspryd gwir apostolaidd. Anhawdd enwi neb arall roddodd gychwyniad, neu ysgogiad effeithiol yn mlaen, i gynifer o sefydliadau mor bwysig ac anfarwol. Hauwr sefydliadau ydoedd, fyddant byw hyd ddiwedd y hyd. (x106)




Heblaw ei lafur diball i bregethu yr efengyl yn Nghymru a Lloegr, cymerodd achos yr ysgol Sabbothol yn achos iddo ei hun; rhoddodd ffurf newydd iddi, rhagor y peth ydoedd yn Lloegr, trwy ei gwneyd yn foddion addysg grefyddol i ddynion mewn oed, yn gystal a moddion i ddysgu darllen i blant ac eraill. Efe ddechreuodd gasglu gwahanol ysgolion yn nghyd, au harholi yn gyhoeddus. Nid oes dim tu yma i ddatguddiad y dydd mawr a ddengys y llafur a gymerodd, ar rhwystrau a gafodd, cyn gosod yr ysgol Sabbothol yn Nghymru ar y sane dymunol y gwelodd hi cyn iddo farw.

Heblaw yr ysgol Sul, sefydlodd lawer o ysgolion dyddiol cylchynol, i symud o ardal i ardal, er cynorthwyo i ddysgu darllen, a byddai eu gofal au cyfrifoldeb ar ei ysgwydd ef. Bu yn foddion i sefydlu ysgolion ar ffurf y rhai Cymreig hefyd yn ynysoedd ac ucheldiroedd Ysgotland. Bu gyda thri eraill, ar gais y Gymdeithas Wyddelig, ar daith trwyr Iwerddon, er sefydlu moddion cenadol ir wlad hono. Bu yn brif offeryn cychwyniad y Fibl Gymdeithas, yn y flwyddyn 1804.
Arolygodd a diwygiodd argraphiadau or Bibl a gyhoeddwyd gan y Gymdeithas hono. Cynaliai (x107) ohebiaethau cyson yn mlaen a phrif weinidogion a llafurwyr Cristionogol yn Lloegr, Ysgotland, ac Iwerddon. Ac yn nghanol yr holl orchwylion hyn, a lliaws nad ydym wedi eu henwi, mynodd amser i ysgrifenu ei Drysorfa Ysprydol, ei Eiriadur Ysgrythyrol ar Hyfforddwr, &c., y rhai fu o gymaint gwasanaeth i Gymru, ag ydynt, i fesur mawr, yn cadw y gŵr enwog yn fendith arosol yn mysg ein cenedl.

Mae yn draddodiad cyffredin mai dagrau geneth yn wylo am Fibl gynhyrfodd Mr. Charles i ddyfeisio ffordd i gael Biblau at wasanaeth y werin. Cawsom hanesyn ychydig flynyddoedd yn ol, trwy law ein cyfaill, Mr. B. O. Rees, Dolgellau, sydd yn un tebyg iawn ir un a ardroddir fel y tarddiad cyntaf chwyddodd yn y diwedd i sefydliad y Bibl Gymdeithas. Ychydig amser yn ol bu farw hn ŵr or enw Lewis William, Llanfachreth, ger Dolgellau, yr hwn a fu, yn ei ddyddiau boreuol, yn cadw ysgol dan Mr. Charles. Yn mysg y plant a fynychai ei ysgol yr oedd un Mari Jones, Cwrt, Aberganolwyn, yn ngodrau Sir Feirionydd, yr hon oedd ar y pryd hwnw o 14eg i 15eg oed. Dysgodd ddarllen yn fuan, a dechreuodd ei mheddwl anesmwytho yn nghylch achubiaeth ei henaid. Nid oedd (x108) ganddi yr un Bibl, ond yr oedd un mewn perthynas iddi, o fewn dwy filldir iw chartref, ac elai yno yn fynych iw ddarllen. Cynyddodd ei syched am Air Duw mor fawr, fel y penderfynodd ddyfeisio i gael Bibl iddi ei hun. Dechreuodd ystorio pob ceiniog ddelai iw llaw. Wedi casglu swm, cynghorwyd hi i geisio cael Bibl trwy Mr. Charles or Bala. Un diwrnod, cychwynodd tuar Bala, yr holl ffordd, lawn 28ain milldir, ar ei thraed; ond erbyn cyrhaedd yno, yr oedd Mr. Charles wedi myned iw wely. Cafodd lety noson gydag un Dafydd Edward, diacon gydar Methodistiaid, ac aeth gyda hi bore dranoeth at Mr. Charles. Wedi adrodd y neges, dywedodd Mr. Charles : Mae yn flin iawn genyf weled y ferch yn gorfod dyfod yr holl bellder hwn, ond yr wyf yn ofni, yn wir, nas gallaf gael Bibl iddi, oblegyd mae Biblau yn brinion iawn.

Disgynodd ei eiriau fel taran ar yr eneth, a thorodd allan i wylo yn hidl. Tynodd dagrau Mari ddagrau i ruddiau y gweinidog tyner galon; ac wedi mynyd o ystyriaeth, dywedodd, Chwi gewch Fibl! Cyrhaeddodd Fibl iddi, talodd hithau yr arian iddo, a throdd ei dagrau galar ar unwaith yn ddagrau gorfoledd, a gwnaeth i Mr. Charles ar diacon (x109) gydwylo hi mewn gorfoledd. Dywedodd Mr. Charles, gan droi at y diacon:

Wel, Dafydd Edward, onid yw yn beth blin iawn, fod y fath brinder Biblau yn y wlad, a bod geneth fel hon yn gorfod cerdded wyth neu ddeg milldir ar ugain i geisio cael Bibl? Os oes rhywbeth iw wneyd tuag at lenwi y diffyg hwn, ni orphwysaf nes ei gyflawni.

Mae y Bibl hwnw yn awr ar gael, wedi ei anfon erbyn hyn, debygem, i lyfrgell Coleg Newydd y Bala. Bibl wythplyg tew ydoedd, wedi ei argraphu yn Rhydychain,
1799, ac y mae enw Mari Jones, Cwrt, arno, yr hon a adroddodd yr holl hanes, ychydig amser yn ol, ar ei gwely angau.

Yn Rhagfyr, 1802, aeth Mr. Charles i Lundain, a chafodd gyfleusdra i ddodi anghen Cymru am Fiblau o flaen Pwyllgor Cymdeithas y Traethodau Crefyddol; gwnaeth ei ardroddiad argraph ddwys iawn ar feddyliau y pwyllgor hwnw, ac yn enwedig ar feddwl y Parch. Joseph Hughes, gweinidog y Bedyddwyr, ac un o ysgrifenyddion y Gymdeithas hono, yr hwn a atebodd, Os gellid ffurfio Cymdeithas i gyflenwi Cymru r Bibl, paham nad ellid i ddiwallu y deyrnas yn gyffredmol, ar byd? Cymerwyd y pwnc i fyny, ac ar y (x110) 7fed o Fawrth, 1804, ymgyfarfu tua thri chant o ddynion difrifol perthynol ir gwahanol enwadau crefyddol yn y London Tavern, ac yno y ffurnwyd y FIBL GYMDEITHAS FRYTANAIDD A THRAMOR, yr hon sydd wedi cyflawni amcan ei sefydliad uwchlaw clod.

Yn y flwyddyn 1799, wrth deithio dros fynydd Mignaint, ymaflodd oerfel yn mawd llaw aswy Mr. Charles, yr hwn a waethygodd gymaint fel y bu ei fywyd yn y perygl mwyaf, a gorfu ir meddygon dori y bawd ymaith. Cynaliwyd cyfarfod gweddi i erfyn am ir Arglwydd arbed ei fywyd. Yn y cyfarfod hwnw, gweddiai un Richard Owen, gan gyfeirio at Hezeciah, am ir Arglwydd estyn pumtheg mlynedd yn ychwanegol i Charles: Oni roddi di bumtheg mlynedd, o ein Duw, er mwyn dy eglwys ath achos! Bu son mawr am y weddi hono. Dywedodd Mr. Charles wrth y gŵr ei hun, tua blwyddyn cyn ei farwolaeth, Wel, Richard Owen, mae y pumtheg mlynedd agos i fyny! A dim ond wythnos oedd yn fyr or pumtheg mlynedd, pan fu farw, Hydref 5ed, 1814, wythnos cyn ei fod yn 59 mlwydd oed. Claddwyd ef yn mynwent fechan eglwys Beuno, yn Llanycil, yn ymyl Llyn Tegid, filldir or Bala. Mae cofgolofn ardderchog yn (x111) awr yn barod iw gosod i fyny yn y Bala, er coffadwriaeth am dano.



PENNOD X.
GWAITH A DYLANWAD Y BIBL.

Goddefed y darllenydd i ni, cyn rhoddi y pin heibio, ei adgoffa o werth dirfawr y Bibl ir byd, ac oi ddylanwad iachusol a phur ar feddwl ei efrydydd yn bersonol, ac ar gymdeithas yn gyffredinol. Gormod gorchwyl ydyw rhoddi hanes y Bibl Cymraeg o ran ei ddylanwad i wareiddio y genedl, i ymlid ymaith ofergoeliaeth ac arferion annuwiol, i buro moesau, i sancteiddio y galon, i sefydlu heddwch a thangnefedd, ac i gynal eneidiau dan feichiau trallod a gorthrymder y bywyd hwn.

Llyfr y bywyd yw y Bibl, wedi ei ysgrifenu i addysgu a hyfforddi pob oes a chenedl. Nid oes neb ag sydd wedi canfod ei ogoniant, a theimlo ei nerth ai ddylanwad, a gyfnewidiai y gyfrol hon am holl lyfrau a llenyddiaeth y byd. Nid oes ond y byd tragywyddol ei (x112) hunan all egluro holl nerth a dylanwad y Bibl i buro, gwareiddio, a bendithio.



Wrth edrych arno yn unig fel cyfansoddiad dynol, mae y Bibl yn llyfr rhyfeddol yn llyfr ar ben ei hun; e, yn llyfr y llyfrau. Nis gallai holl lyfrgelloedd y hyd, mewn duwinyddiaeth, athroniaeth, hanesiaeth a barddoniaeth, fforddio defnyddiau ddigon i wneyd y fath drysor cyfoethog o hufen athrylith, doethineb, a phrofiad dynol. Mae yn cynwys gweithiau oddeutu deugain o awduron, ar rhai hyny yn perthyn i bob cylch o gymdeithas, o orsedd y brenin hyd gwch y pysgotwr; ysgrifenwyd ef yn ngwahanol oesau cyfnod hir o un cant ar bumtheg o flynyddau, ar lanau y Nilus yn yr Aipht, yn anialwch Arabia, yn ngwlad yr Addewid, yn Asia Leiaf, yn Groeg goethedig, ac yn Rhufain ymerodrol; mae yn dechreu gydar greadigaeth, ac yn gorphen gydar gogoneddiad yn y diwedd, wedi desgrifio yn y cyfwng rhyngddynt, holl gamrau datguddiad dwyfol, a dadblygiad ysprydol dyn. Defnyddia bob ffurf o gyfansoddiad llenyddol; cwyd i fyny i uchder eithaf, a disgyn i ddyfnder dyfnaf dynoliaeth; mesura holl gyflyrau bywyd; mae yn gynefin a phob trallod a gwae; cyffyrdda a phob llinyn o gydymdeimlad; (x113) cynwysa fywgraphiad ysprydol pob calon ddynol; mae yn gyfaddas i bob dosbarth o gymdeithas, fel y gellid ei ddarllen gydar un dyddordeb gan y brenin ar cardotyn, gan yr athronydd a chan y plentyn. Mae mor gyffredinol a dynoliaeth ei hun, ac yn ymestyn y tu hwnt i derfynau amser i diriogaethau diderfyn tragywyddoldeb. Mae y cyfuniad digyffelyb yma o ragoriaethau dynol, ar unwaith yn awgrymu ei nodwedd ai darddiad dwyfol, fel y mae oll-berffeithrwydd dynoliaeth Crist yn brawf oi Dduwdod.

Ond dylid cadw mewn cf o hyd mai llyfr crefydd yw y Bibl. Efe sydd yn dysgu yr unig grefydd wirioneddol, gyffredinol, yr hon sydd i lyncu i fyny iddi ei hun yn y diwedd holl grefyddau y hyd. Llefara wrthym ar y pynciau uchaf, ardderchocaf, a phwysicaf a all byth gael ein sylw, a hyny gydag awdurdod orchfygol ac anwrthwynebol. Mae yn medru dysgu, adeiladu, rhybuddio, dychrynu, tawelu, a chalonogi, mewn modd na fedr yr un llyfr arall ei ddynwared. Gafaela yn nyfnderoedd mwyaf dirgelaidd cyfansoddiad rhesymol a moesol dyn; treiddia fel cleddyf llym daufiniog hyd wahaniad yr enaid ar yspryd, a barna feddyliau a bwriadau y galon. (x114) Dylanwada fel lefain sanctaidd ar bob gallu yn y meddwl, ac ar bob teimlad yn y galon. Cyfoethoga y cf; dyrchafa y rheswm; bywioga y dychymyg; cyfarwydda y farn; cynhyrfa y serchiadau; llywodraetha y nwydau; adfywia y gydwybod; nertha yr ewyllys; enyna fflam sanctaidd ffydd, gobaith, a chariad; pura, dyrchafa, a sancteiddia yr noil ddyn, a chyfyd ef i undeb bywiol Duw. Mae ganddo oleuni ir dall, nerth ir diffygiol, bwyd ir newynog, a diod ir sychedig; mae ganddo gynghor mewn gorchymyn neu siampl i bob sefyllfa mewn bywyd, cysur yn mhob trallod, a balm i bob clwyf. O holl lyfrau y hyd y Bibl yw yr unig un nad ydym byth yn blino arno, ond yn dyfod iw edmygu ai garu fwyfwy po fwyaf yr ymarferwn ag ef. Fel yr adamant, tafla ei lewyrch i bob cyfeiriad; fel y ffagl, po mwyaf yr ysgydwir hi, mwyaf y mae yn goleuo; fel y llysieuyn, po mwyaf y gwesgir ef, hyfrytaf yw y perarogl.* TROEDNODYN: *Dr. Schaff. Dyma ddiwygiwr mawr y byd, yr hwn sydd i uniawnu gwyrni pechod, ac i ddwyn oddiamgylch adferiad pob peth.

Nid oes dim yn abl cynyrchu cymeriad mor nerthol, cymhelliadau mor bur, a bywyd mor (x115) oruchel a gwirionedd y Bibl. Beth bynag fyn dynion ddyweyd am dano; o ba le bynag y daeth; pwy bynag ydyw ei awdwr; mae yn ffaith mai y dynion fu byw agosaf at y Bibl arweiniodd y bywyd goreu welodd y byd erioed. Edrychwch ar dduwiolion y Bibl; ar apostolion lesu Grist; ar Hn dadau yr Eglwys Gristionogol; ac ar ddiwygwyr mawr y gwahanol oesau; dynion wedi eu gwneyd gan y Bibl oeddent. Nid yw yn debyg y buasai enw Luther yn hysbys ir byd, oni bai iddo daro wrth y Bibl hwnw ar astell lychlyd y mynachdy. Y Bibl hwnw gwnaeth ef yn Luther. Edrycher ar fywyd

 

ddiwygwyr Cymru, fu yn arloesi ein gwlad on blaen ni, ar rhai yr ydym ni wedi myned i mewn iw llafur hwynt. Dynion yn credu y Bibl oeddent. Dynion wedi eu gwneyd nid gan addysg, na llyfrau, na manteision cymdeithas, ond gan y Bibl. Dynion a Gair Duw wedi suddo iw calon. Biblau byw oeddent yn cyniwair trwy y wlad, an dylanwad yn trydanu calonau difater, yn goleuo tywyllwch y bobloedd, ac yn gwasgar perarogl bywyd sanctaidd y ffordd y rhodient, sydd yn byw ac yn parhau yn dragywydd.

Mae hanes pob cenedl a gradd yn llawn (x116) esiamplau er dangos ei ddylanwad rhyfeddol i oleuo y meddwl, a sancteiddio y galon. Cafwyd yn diweddar gan ddyn oedd wedi arfer byw yn ddyeithr ir Bibl addaw eistedd am awr bob hwyr gydai wraig ar yr aelwyd i ddarllen cyfran o hono. Yn mhen rhai dyddiau, safodd ar ganol y darllen, trodd at ei wraig, a dywedodd, Wraig, os yw y llyfr hwn yn wir, yr ydym ni yn mhell on lle

Rhyw noswaith, ychydig ar ol hyn, dywedodd eilwaith, Wraig, os yw y llyfr hwn yn wir, yr ydym ni yn golledig. Yr oedd wedi ei lyncu i fyny erbyn hyn, gan gynwysiad y llyfr dwyfol; ac un noswaith, codedd ei ben or llyfr, a dywedodd wrth ei wraig gyda threm a thn obeithiol, Wraig, os yw y llyfr hwn yn wir, gallwn gael ein hachub! Bu y darlleniad yma dan fendith yr Arglwydd yn foddion dychweliad y gŵr ar wraig, a gwnaeth fywyd oedd or blaen yn hunanol a diffrwyth, yn sanctaidd a defnyddiol. Ar peth a wnaeth ar y ddau hyn, y mae wedi ei wneyd ar filoedd, ac yn ei wneyd yn barhaus.

Treuliodd y meddyliwr galluog, ar athronydd enwog, John Locke, y pedair blynedd ar ddeg olaf oi fywyd i astudio y Bibll teimlai y fath fawredd yn y datguddiad o ddoethineb a (x117) daioni Duw yn nhrefn iachawdwriaeth, fel nas gallai ymatal rhag torri allan i waeddi, Oh, ddyfnder golud daioni a gwybodaeth Duw! Pan ofynodd perthynas iddo beth oedd y ffordd feraf a sicraf i gyrhaedd gwybodaeth wirioneddol or grefydd Gristionogol, ei ateb ydoedd, Astudied yr Ysgrythyrau Sanctaidd, yn enwedig yn y Testament Newydd. Mae hwn yn cynwys geiriau bywyd tragywyddol. Y mae ganddo Dduw yn awdwr, iachawdwriaeth yn amcan, a gwirionedd heb ddim cymysgedd o gyfeiliornad yn foddion.

Mae y Bibl yn cyfranu rhyw fath o nerth i gymdeithas, neu wladwriaeth, cyffelyb ir hyn y mae yn roddi i berson unigol. Mae yn aileni gwledydd, ac yn rhoddi math o fywyd tragywyddol iddynt. Mae ei fywioldeb ai nerth yn treiddio iw sefydliadau au harferion, yn eu puro or gwraidd ac yn rhoddi sefydlogrwydd iddynt. Y Bibl sydd wedi codi Prydain iw sefyllfa uchel yn mysg teyrnasoedd y ddaiar.

Pan dalodd pennaeth o Affrica ymweliad r wlad hon amryw flynyddoedd yn ol, synwyd ef yn fawr, a gofynodd ir Frenines. Beth oedd y dirgelwch am lwyddiant ei theyrnas ? Estynodd Victoria Fibl iddo, ac atebodd, Y lle y mae hwn wedi gael yn (x118) fy nheyrnas, dyna y dirgelwch. Mae nerth Prydain, nid yn ei chleddyf, ei mhagnel, ai hamddiffynfeydd, ond yn ei Llyfr. Hd anllygredig yw, yn byw ac yn parhau yn dragywydd. Cleddyf yr Yspryd yw gair Duw. Trwy ei nerth ef y dymchwelir teyrnas y diafol, ac yr adsefydlir cyfiawnder a heddwch ar y ddaiar. Mae dynion drwg wedi arfer ei gasu, ei gablu, ai losgi, ond mae y Bibl yn byw i weled ei holl elynion yn trengu. Bywiol a nerthol ydyw.

Cawn gan mil o galonau Cymreig heddyw i ddyweyd gyda ni, Hen Fibl anwyl, bydd fyw byth. Trysor penaf ein gwlad ; ein coron, ein gogoniant, a dyrchafydd ein pen. Perl gwerthfawrocach na mynyddoedd Cymru, au holl drysorau. Tydi sydd wedi goleuo ein tywyllwch, wedi tynu ein beichiau oddiar ein hysgwyddau, wedi tori y llyfetheiriau oddiam ein traed, wedi agor dorau ein hn garcharau, a chyhoeddi i ni y rhyddid gogoneddus ar hwn y rhyddhaodd Grist ni. Tydi sydd wedi dyrchafu ein gwlad goruwch holl wledydd y ddaiar; wedi melusu pob bendith dymhorol i ni, ac wedi dwyn mil myrdd o fendithion tragywyddol in meddiant. Tydi sydd wedi datguddio i ni y golud anchwiliadwy, yr (x119) etifeddiaeth anllygredig, y goron anniflanedig, ar deyrnas dragywyddol. Tydi sydd wedi crogi lampau tanllyd i ni yn nhynel tywyll cysgod angau, ai droi yn oleu ddydd. Tydi gynaliodd ein tadau wrth y stanc ar ffagodau, ac a barodd iw cn esgyn gydar main ir nefoedd. Tydi fu yn gosod dy adnodau gwerthfawr yn glustog dan benau ein mamau iw dal uwchlaw y dn wrth groesi yr hn Iorddonen. Wrth nerth dwyfol yr hon adnod y buont yn hongian pan oedd y hyd yn colli dan eu gwadnau, a chr a chyfaill yn cael eu gyru yn mhell. I, dywedwn eto. Hen Fibl anwyl, bydd fyw byth, yn yr enaid o fewn, ac yn y hyd oddiallan; bydded dy law yn ngwar dy holl elynion; darostwng hwynt dymchweliad tragywyddol! Llywodraetha o for i for, ac na fydded diwedd ar dy freniniaeth mwy.
_______________
penillion.


.......O Arglwydd da, argrapha
...........Dy wirioneddau gwiw,
.......Yn rymus ar fy meddwl
...........I aros tra fwyf byw;
.......Mwy parchus boed dy ddeddfau,
...........Mwy anwyl nag erioed;
.......Yn gysur i fy nghalon,
...........Yn llusern i fy nhroed. (x120)



_______________


.......Mae dy Air yn abl farwain

...........Trwyr anialwch mawr yn mlaen,
.......Mae yn golofn oleu, eglur,

...........Weithiau o niwl ac weithiau o dn;

.......
Maen ddibl, ynddo fe,
...........Fwy nar ddaiar, fwy nar ne.

_______________


.......O fewn i gloriau hwn
...........Mae dwfn feddwl Duw;
.......Pob iot o hono beryn hwy
...........Nar nef, gwirionedd yw;
.......Y llwon yw ei sail,
...........Gwaed Addar Ail ywr sl;
.......Mwy gwerthfawr yw nag aur Peru,
...........Llawn yw o laeth a m1.

_______________


.......Dyma Fibl anwyl Iesu,
...........Dyma rodd deheulaw Duw;
.......Dengys hwn y ffordd i farw,
...........Dengys hwn y ffordd i fyw,
.......Dengys hwn y codwm erchyll
...........Gafwyd draw yn Eden drist;
.......Dengys hwn y ffordd i fywyd
...........Trwy adnabod Iesu Grist.

 

_______________


(DIWEDD Y LLYFR)



DOLEN GYSWLLT ALLANOL:

Ar y dudalen hon yng ngwefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru y mae bywgraffiad Thomas Levi

http://yba.llgc.org.uk/AnaServer?ybawbo+582956+aview.anv+v=av&l=c



DOLENNAU AR GYFER GWEDDILL Y GWEFAN HWN


1796k
Yr iaith Gymraeg

2210k
Mynegai yn nhrefn y wyddor ir hyn a geir yn y gwefan; or tudalen hwn gellir hefyd
chwilior gwefan hwn r archwiliwr mewnol

0052c
Testunau Cymraeg throsiad Catalaneg yn y gwefan hwn
(Textos en galls amb traducci catalana en aquesta web)

1051e
Testunau Cymraeg throsiad Saesneg yn y gwefan hwn
(Texts in Welsh with an English translation in this website)

 

Sumbolau arbennig: ŷ ŵ

Hanes y Bibl Cymraeg / Thomas Levi / 1876

Bler wyf i? Yr ych chin ymwld ag un o dudalennaur Gwefan CYMRU-CATALONIA
On sc? Esteu visitant una pgina de la Web CYMRU-CATALONIA (= Galles-Catalunya)
We(r) m ai? Yu a(r) vzting peij frm dh CYMRU-CATALONIA (= Weilz-Katluni) Wb-sait
Where am I?
You are visiting a page from the CYMRU-CATALONIA (= Wales-Catalonia) Website

CYMRU-CATALONIA

 

Edrychwch ar fy Ystadegau / Mireu les estadstiques / View My Stats