1797k Gwefan Cymru-Catalonia. Os na ddihuna’r Gymraeg, neu ynte gael bywyd newydd, fe dderfydd Ynghymru fel iaith y werin tua’r flwyddyn 1950, neu dyweder 1978, fel ag y darfyddodd Ynghernyw tua’r flwyddyn 1778.

http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_067_gogwydd_1797k.htm

0001z Y Tudalen Blaen

..........1863c Y Porth Cymraeg

....................0009k Y Gwegynllun

..............................0960k Y Gyfeirdalen i Gywaith Siôn Prys (testunau Cymraeg yn y wefan hon)

........................................y tudalen hwn


..

 

 

 

 

 

 

 

0860k y llyfr ymwelwyr

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Catalunya i Gal·les
 
Dyma ran o Adran 11 yn y wefan hon, sef

Cywaith Siôn Prys - Testunau Cymraeg ar y We

 

GOGWYDD YR IAITH GYMRAEG

D. EDWARDES, Crynfryn

Y Geninen (1915) 33

 

(delwedd 7419)

Adolygiadau diweddaraf:
2004-03-17

 

 

 
Y Geninen (1915) 33

GOGWYDD YR IAITH GYMRAEG.

 

Myn rhai mai gair Cymraeg oedd yr un cyntaf a glywodd y byd yma erioed, “Bydded goleuni;” a bod y gair “owr” yn y Beibl Hebraeg am “goleuni” i’w gael hyd heddyw yn wreiddyn yn y gair Cymraeg “llewyrch.” I’r ysgolheigion yma yr iaith Gymraeg siaredid Yngardd Eden, a gwelant Gymraeg glan gloew yn enwau Cain (Ca-un), ac Abel (Ab-ail). Cymraeg siaredid yn yr Arch: ac os gofynwch chwi beth ddaeth o honi wrth Dŵr Babel, atebant yn ddigon rhesymol na fu i bawb weithio wrth Dŵr Babel mwy nag y bu i bawb orfod gweithio wrth Dŵr Llundain. Os collai y bricklayer ei Gymraeg pan yn gweithio wrth y tŵr, ni byddai fawr o dro yn ei dysgu eilwaith pan elai adref at ei wraig a’i blant. Fel hyn nid aeth fawr o’r iaith Gymraeg ar goll yngwastadedd Sinar. Yr oedd yma, o leiaf, ddigon o le i’r hen iaith i osgoi ebargofiant; a dianc a wnaeth hi, meddynt hwy1

 

Darllenwn am y Cymry yn Asia Leiaf dan yr enw Galatiaid; ac, yn wir, yn mhell cyn hyny y mae Alexander Fawr yn cyfarfod â llwyth o honynt ar y Danube. Gofynodd Alexander iddynt beth oedd arnynt fwyaf o’i ofn: atebasant hwythau nad oedd arnynt hwy ofn dim ond ofn y cwympai yr wybren ar eu penau. Nid oes dim amheuaeth nad oedd preswylwyr Ffrainc yn siarad rhyw fath o Gymraeg nes iddynt ddysgu rhyw fath o Ladin oddiwrth y Rhufeiniaid: ac y mae y Gymraeg henaf a feddwn ni yn gynwysedig o ryw ychydig o frawddegau a adawodd y rhai hyn yn ysgrifenedig ar eu hôl. Heblaw hyn, yr oedd Cymraeg yn cael ei siarad Ymhrydain Fawr, ar hyd a lled y wlad. Ond erbyn heddyw nid oes neb yngwastadedd Sinar yn gwybod yr un gair o Gymraeg. Y mae’r llwyth a welodd Alexander wedi myned o’r golwg mor llwyr a phe buasai yr wybren wedi syrthio ar eu penau. Ofer fyddai i neb fyned at y Celtiaid yn Asia Leiaf er mwyn eu clywed yn siarad Cymraeg. Y mae yn yr iaith Ffrancaeg res o eiriau yn aros o hyd o lafar yr hen Geltiaid; ond nid oes haner dwsin o honynt yn dwyn rhith o debygrwydd i ddim ag sydd yn cyfansoddi iaith Gymraeg cenedl y Cymry yn yr ugeinfed ganrif. A phan edrychom ar Brydain Fawr yr ydym yn gweled fod yr iaith Gymraeg ag oedd unwaith yn gorfaelu hyd a lled y wlad, erbyn heddyw wedi gadael y de a’r dwyrain a’r gogledd; ac ni chlywir mo’ni yn cael ei siarad ond ar lain deneu o Gymru — ar lethrau afonydd a nentydd ag sydd yn rhedeg i For y Gorllewin. Yma yn unig y mae ini fesur gwydnedd yr iaith Gymraeg — pa hyd y bydd hi byw fel iaith y werin.

 

Y mae, fel y gwyddys, gyfrifiad o’r boblogaeth yn cael ei chymeryd bob deng mlynedd. Yn 1891 yr oedd Ynghymru 30 o bob 100 na fedrent yr un iaith ond Cymraeg. Yn 1901 nid oedd ond 15 o bob cant; ac yn 1911 yr oedd y Cymry unieithog yn rhifo llai nag 8 o bob cant. Y mae yn amlwg oddiwrth hyn fod y Cymro uniaith yn myned o’r golwg, ac y bydd ef mor brin tua’r flwyddyn 1950 ag ydyw merched yn gwisgo’r het sidan Gymreig heddyw. Os na ddihuna’r Gymraeg, neu ynte gael bywyd newydd, fe dderfydd Ynghymru fel iaith y werin tua’r flwyddyn 1950, neu dyweder 1978, fel ag y darfyddodd Ynghernyw tua’r flwyddyn 1778. Dywedai yr hynod Kilsby mai y gair olaf o Gymraeg a gai ei siarad fyddai gan hen wraig 99 mlwydd oed yn ardal Tregaron. Ocheneidia “Ych-i-fi” gyda’i bod yn marw; a bydd yr iaith Gymraeg farw gyda hi!

 

Yn awr, beth ydyw arwyddion yr amseroedd? Y mae’r plant yn dysgu Saesoneg yn yr ysgolion: a pan ddelo pawb i wybod Saesoneg, a rhai yn gwybod dim ond Saesoneg, y llwybr rhwyddaf fydd siarad Saesoneg ac anghofio’r Gymraeg. Y mae dyn, fel pob peth mewn Natur, hyd yn nod y fellten, yn dueddol bob amser i ddewis y llwybr rhwyddaf. Dywedir mai y ddwy sir sydd yn cadw yn fyw yr iaith Gymraeg oreu ydyw Aberteifi a Meirionydd; a dyma enghraifft o Gymraeg Sir Aberteifi fel y clywyd hi yn Neuadd y Dref yn Llanbedr yn cael ei siarad gan aelod o’r Cynghor Sirol;—

 

“Yr wyf fi yn proposo fod y Surveyor yn gwneyd plan. Y mae’r Main Road Committee yn approvo’r scheme; ac yr wyf finau yn eu supporto nhw, waith rym ni’n bound o brotecto interest y ratepayers.” Y mae iaith o’r fath yna yn dyfod yn fwyfwy cyffredin bob dydd: ac nid oes un o bob deg o’r rhai a gyfarfyddwn ni ynghwrs y dydd a all ddweyd y gair Cymraeg am yr un o’r geiriau canlynol, er y gwyr o’r goreu beth olygant:—

 

Steel-pens, envelopes, note-paper, lawn tennis, motor cars, bicycle, iron-clads, screw steamer, electric telegraph, sleeping cars, electric light, telephone, lifts, tramways, fountain pens, photograph, post cards, perambulators, spring mattresses, torpedoes, breech-loaders, revolvers, competitive examinations, cramming, illustrated magazines, hypnotism, millionaires, volunteers, typhoid, diphtheria, airships, goloshes, suffagettes, sewing machines, Venetian blinds, spiritualism, weather forecasts, moustachios, parcels post, appendicitis.

 

Y mae y geiriau yna i gyd yn dyfod yn fwy-fwy cyfarwydd; a byddai yn anhawdd dychmygu am ergyd fwy creulawn i’r iaith Gymraeg na chyfansoddi traethawd yn cynwys y cwbl o honynt wedi eu Cymraegeiddio. Y mae Sir Aberteifi a Sir Feirionydd yn galw yr iaith siaradant hwy yn Gymraeg; ond y mae gwawd yn dyfod i wyneb y Gogleddwr os gofyn y Cardi iddo,

 

“Shwt rych chi heddi?”

 

A phan elo’r Cardi dros Afon Dyfi a gofyn y ffordd i’r pentref a’r pentref, cyfeirir ef, fe allai,

 

“Ewch efo’r gwrych, heibio’r ligir-lagar, a thrwy’r hwdrath, ac ar eich trwyn.”

 

Fe ddichon fod hynyna yn Gymraeg diledryw; ond Groeg ydyw i’r Hwntw, a gwaeth na hyny.Y mae hyn yn adgoffa i mi dyb yr hen Archddiacon Williams, Ceredigion, yr hen ysgolhaig enwog, am ddechreuad yr iaith Gymraeg. Myntumiai ef mai o’r Roeg y tarddodd, ac nad oes ryw wahaniaeth nawr rhyngddynt hyd heddyw. Dywedai iddo ef, pan yn brif athraw Ysgol Llanymddyfri, fod allan yn y wlad gyda’i nai, ar ddydd marchnad, yn Llanymddyfri. Dychwelent i’r dref, ac fel arferol siaradent Roeg. Cyfarfyddasant â benyw yn myned adref o’r farchnad, yr hon oedd yn methu cerdded yn hollol gywir. Gyda’i bod yn eu pasio dywedodd ei nai, yn Groeg —

 

Hi guni metheuei.

 

Trodd y fenyw yn ol a dywedodd yn sarug,

 

“Nag ydw i ddim wedi meddwi.”

 

Dywedodd y nai yn Groeg fod y fenyw wedi meddwi, ac atebodd hithau yn Gymraeg nad oedd hi ddim wedi meddwi.

 

“Y mae’r ddwy iaith,” meddai yr Archddiacon, “mor debyg a hyna i’w gilydd.”

 

Er mai prin triugain mlynedd sydd er dyddiau’r hen Archddiacon, y mae ymchwiliadau i darddiad ieithoedd wedi malurio ei syniadau ef a syniadau yr oesoedd o’i flaen ef ar y testun. Y dyb gyffredin yn awr yw nad oedd gan y dyn ar y dechreu fawr o eiriau ag y gallai wneyd defnydd o honynt. Prin 200 o eiriau sydd heddyw gan y Cymro neu’r Sais nad ydyw yn medru na darllen nac ysgrifenu, tra y mae llawer o filoedd o eiriau yn gwneyd i fyny yr iaith yn gyflawn. Y mae yn bosibl — ac nid yw yn gwbl annhebyg — y bu yn rhaid i’r ddau ddyn cyntaf siarad â’u gilydd rywbeth yn debyg i’r Prydeiniwr yn China. Rhoddodd ei fys ar ei enau i ddangos fod arno eisiau bwyd; a phan ddeuwyd a’i ginio iddo gwelodd ar y ddysgl ryw greadur bychan wedi ei baratoi yr hwn a dybiai ef mai hwyaden oedd. Cyfeiriodd ato, gan edrych ar y Chinead a’i dygodd iddo; a dywedodd mewn ton ofyniadol, “Wac Wac?” Atebodd y Chinead ef, “Bow Wow.” Y maent yn bwyta cwn bach yn China. Rhywbeth yn debyg i hynyna y myn ieithwyr y dyddiau presenol y bu yn rhaid i’n rhieni cyntaf ar y dechreu ymdrechu, a hyny yn galed, i ddeall eu gilydd: ac nid rhaid fod hyny ychwaith yn dyfetha rhyw lawer ar eu dedwyddwch.

 

“Y mae yn ddiwrnod braf,” meddai’r dyn ieuanc, un tro, wrth y Dr. Silvan Evans.

 

“Beth?” meddai’r Doctor.

 

“Y mae yn ddiwrnod braf,” meddai’r dyn ieuanc eilwaith.

 

“Ni ddeallais i ddim o honoch chwi,” meddai’r Doctor; “nid wyf fi ddim yn clywed yn dda iawn.”

 

Yn awr, rhoddodd y dyn ieuanc ei lais allan:

 

“Y mae yn ddiwrnod braf.”

 

“O ydyw, ydyw y mae hi,” meddai’r Doctor. “Wedi’r cyfan nid yw dyn yn colli nemawr trwy fod yn methu clywed:”

 

a gallasai chwanegu,

 

Na thrwy fod yn methu siarad chwaith.

 

Ond pa fodd y daeth cynnifer o ieithoedd i fodolaeth? Wrth Dŵr Babel, yw yr ateb mwyaf sionc; ond y mae yn llawer rhy sionc i roi cyfrif am y gwahanol ieithoedd fel y maent o’n blaen ni i’w hastudio heddyw. Nid yw hanes Tŵr Babel wedi dyfod i lawr i ni yn ddigon cyflawn ini sefydlu dim arno a rydd gyfrif am ddechreuad ieithoedd.

 

Y mae yn rhaid i’r hil ddynol fod un amser yn un bobl gyda’u gilydd — dyweder ar Fynydd Ararat. Cynnyddasant gydag amser, ac ymwasgarasant ar wahanol adegau i wahanol barthau o’r ddaear. Pan y cyferfydd hiliogaeth dwy adran o’r rhai hyn â’u gilydd ymhen rhai miloedd o flynyddoedd, ond odid na fydd eto yn gyffredin i’r ddwy adran rai o’r geiriau ag oedd ganddynt cyn iddynt ymadael; er engrhaifft; yr enwau oedd ganddynt ar yr haul, y lleuad, y dwfr. O leiaf, gallwn ddisgwyl y bydd rhwy debygrwydd yn aros byth yn rhai o’r enwau yma: ond ni bydd yr un tebygrwydd rhwng yr enwau a roddasant ar ddarganfyddiadau diweddarach. Ac fel hyn yr ydym yn ei chael hi. Y mae iaith yr Indiaid a dynasant yn foreu tua’r dwyrain, ac iaith y Cymry a dramwyasant tua’r gorllewin, yn wahanol iawn heddyw; ac eto y mae ambell i air byth yn aros yr un fath yn y ddwy iaith.

 

Y mae y Gymraeg yn llawer tebycach i’r Roeg nag ydyw i iaith yr Hindwaid. Pam? Am fod yr Hindwaid wedi ymadael â’r drigfa gyntefig gannoedd os nad miloedd o flynyddoedd cyn i’r rhai a boblogasant wlad Groeg ymadael â’r rhai a boblogasant Brydain Fawr. Y mae rhyw ieithoedd ymhellach fyth oddiwrth y Gymraeg nag iaith yr Hindwaid. Dyna iaith yr Awstraliaid ac iaith trigolion cyntefig yr India Orllewinol; prin y gallwn ni gasglu i’n henafiaid erioed fod mewn cyffyrddiad â hwy. Fodd bynag, y mae un gair yr un peth ymhob iaith dros y byd; ac mor belled ag y mae hwnw yn myned gellir gwneyd defnydd o hono yn mhob gwlad. Whishshw, neu shw, yw’r gair—i ddanfon yr ieir oddiwrthym, gan bob cenedl wareiddiedig ac anwareiddiedig. Os Cymraeg oedd yr iaith wreiddiol y mae yn debyg iawn mai dyna yr unig air sydd wedi aros o honi hyd heddyw. Nid rhyw drysor wedi ei roddi ini i’w gadw yw yr iaith Gymraeg, ond adeilad yw a gododd ein henafiaid trwy lawer o drafferth a hir lafur: ac fel pob adeilad arall, y mae yn ddarostyngedig i ystormydd amser guro arno. Y mae wedi dal yn dda. Pan gurodd yr ystorm Rufeinig ar ieithoedd Cyfandir Ewrop nes eu gwneyd mor wastad a’r llawr, fe ddaliodd yr hen Gymraeg Brydeinig yn “iaith beirdd a chantorion, enwogion o fri”; a gellid meddwl ei bod un amser yn ddigon cyflawn i ateb pob galwad arni ar ran gwareiddiad yr oes. Ond erbyn heddyw y mae yn rhy amlwg fod gwareiddiad yr ugeinfed ganrif yn gofyn cwestiynau iddi bob dydd nad yw hi yn gallu eu hateb. Nid yn unig nid yw hi yr gallu diwallu angenrheidiau aelodau seneddol Cymru, ond y mae y Cymro uniaith mewn anfantais o flaen y Cynghor Sirol, y llysoedd gwladol, ac hyd yn nod ar farchnad Tregaron.

 

Y mae gan yr iaith Gymraeg heddyw ei phleidwyr selog. Mawr dda iddynt! Y maent yn ymladd drosti fel dynion. Ond fe ymddengys y nerthoedd sydd yn ei herbyn yn anrhaethol ry gryf iddi; a cholli tir y mae, fel y gallwn weled yn ddigon amlwg, o flwyddyn i flwyddyn.

 

Penderfyned pob un drosto ei hunan, pa un yw y gwladgarwr goreu — ai yr hwn a fyn gadw yn fyw yr iaith Gymraeg, costied a gostio; ai ynte yr hwn a fynai weled y Cymry yn blaenori yng nghylchoedd cymdeithasol y byd gwareiddiedig. Meddai Arglwydd Brougham unwaith —

 

“Fe fynwn i weled pob gweithiwr yn darllen Bacon.”

 

Atebodd Cobbet —

 

“Gwae fi na welwn i bob gweithiwr yn bwyta bacon.”

 

Dyna yn gywir fel y mae hi gyda’r Cymry y dyddiau yma: y mae un dyn am weled pawb yn darllen gweithiau barddonol Llywarch Brydydd y Moch, a’rllall am weled pob Cymro yn galhi cael slice o’r mochyn gyda ‘i frecwast. Nid oes dim achos ini ddiystyru y naill na’r llall; ond os edrychwn ni ar y byd yn ddiragfarn y mae yn rhwydd gweled.mai’r duedd gyffredin yw — gwellau’r bwrdd ac esgeuluso’r bardd.

 

I symio i fyny yr hyn fûm yn geisio egluro: “Dechreuodd yr iaith Gymraeg cyn bod neb wedi dysgu ysgrifenu i gofnodi y digwyddiad; ac os derfydd hi yn 1978 gadewch ini wneyd y goreu o honi hyd hyny. Os “Whishoo” oedd y gair cyntaf, ac “Ych-i-fi” sydd i fod y gair diweddaf iddi, rhwng y ddau gyfnod yna bu yn hen iaith rymus ac ardderchog; a bu y Cymro wrth ei siarad, ar y cyfan, yn bur hapus ac yn llwyddianus. Os bydd raid iddo ei rhoddi i fyny a mabwysiadu yr iaith Saesoneg yn ei lle, ond odid na fydd ef yn llawn mor hapus a rhywfaint yn fwy llwyddianus.

 

............Crynfryn. ...................................................................D. EDWARDES.

 

 



DOLENNAU AR GYFER GWEDDILL Y GWEFAN HWN

1796k
Yr iaith Gymraeg
·····
2210k
Mynegai yn nhrefn y wyddor i’r hyn a geir yn y gwefan; o’r tudalen hwn gellir hefyd
chwilio’r gwefan hwn â’r archwiliwr mewnol
·····

0052c
Testunau Cymraeg â throsiad Catalaneg yn y gwefan hwn
(Textos en gal·lès amb traducció catalana en aquesta web)
·····
1051e
Testunau Cymraeg â throsiad Saesneg yn y gwefan hwn
(Texts in Welsh with an English translation in this website)
 

 

Sumbolau arbennig: ŷ ŵ 

Ble’r wyf i? Yr ych chi’n ymwéld ag un o dudalennau’r Gwefan “CYMRU-CATALONIA”
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web “CYMRU-CATALONIA” (= Gal·les-Catalunya)
Weø(r) àm ai? Yùu àa(r) vízïting ø peij fròm dhø “CYMRU-CATALONIA” (= Weilz-Katølóuniø) Wéb-sait
Where am I?
You are visiting a page from the “CYMRU-CATALONIA” (= Wales-Catalonia) Website

CYMRU-CATALONIA
 
  

Edrychwch ar fy Ystadegau / Mireu les estadístiques / View My Stats