1780k Gwefan Cymru-Catalonia. Nis gallwn astudio ein hen dafodiaith hybarch o eisieu geiriadur cyfaddas iw llwybreiddio. Pa hyd y caiff y rhwystr yma fod ar y ffordd? a pha hyd y caiff y diffyg y cwynir cymmaint oi herwydd aros yn ein llenoriaeth?

http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_066_geirlyfraeth_moelddyn_1858_1780k.htm

0001z Y Tudalen Blaen

..........1863c Y Porth Cymraeg

....................0009k Y Gwegynllun

..............................0960k Y Gyfeirdalen i Gywaith Sin Prys (testunau Cymraeg yn y wefan hon)

........................................y tudalen hwn / aquesta pgina


..

 

 

 

 

 

 

 

0860k y llyfr ymwelwyr

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Catalunya i Galles

Dyma ran o Adran 11 yn y wefan hon, sef

Cywaith Sin Prys - Testunau Cymraeg ar y We

 

GEIRLYFRAETH GYMREIG

MOELDDYN.

Y Brython (2 Gorffennaf 1858)

(delwedd 7375)

Adolygiadau diweddaraf:
2004-02-06 - 2004-02-21


Y Brython. Gorphenaf 2, 1858. Tudalennau 19-20.


IEITHYDDIAETH.
GEIRLYFRAETH GYMREIG.

Y mae llawer wedi ei wneuthur eisoes yng ngeirlyfraeth y Gymraeg, ac y mae llawer yn aros eto heb ei wneuthur. Pan gyhoeddodd y dysgedig Ddr. Dafis ei Eirlyfr Dyblyg Cymraeg a Lladin, a Lladin a Chymraeg - yn y flwyddyn 1632, ymddengys i lawer dybied fod geirlyfraeth ein hiaith wedi cyrhaedd ei pherffeithrwydd eithaf, a chafodd cryn chwech ugain mlynedd fyned heibio heb i un ymgais gwerth ei grybwyll gael ei wneuthur tuag at chwanegu dim at yr hyn a wnaethai yr Athraw goleubwyll o Fallwyd, yn y gangen hon o lenoriaeth..

Fel y mae yn ddigon hysbys, nid Dafis oedd y cyntaf a amcanodd gynnysgaethu ei gydwladwyr geiriadur Cymraeg; ond efe oedd y cyntaf a fu alluog i argraffu ffrwyth ei lafur. Bu i amryw o ddysgedigion penaf Cymru (ac yr oedd cawri o ysgolheigion yng Nghymru yn y dyddiau hyny) ymosod ar y gorchwyl rhyglyddus o gyfansoddi geirlyfr or Gymraeg yn nheyrnasiad y Frenines Elisabeth. Ym mhlith y gwyr enwog a ymroddasant i wahanaethu eu cenedlaeth yn y llwybr hwn, enwir Esgob Morgan, cyfieithydd hybarch y Beibl ir Gymraeg; y Dr. Dafydd Powel, Periglor Rhiwabon, ac un or hynafiaethwyr gododicaf yn ei oes; y Dr. Ioan Dafydd Rhys, awdwr y Gramadeg Cymraeg pedwarplyg a gyhoeddwyd yn Llundain, yn y flwyddyn 1592; Herri Perri, awdwr y llyfr cywrain hwnw, Egluryn Ffraethineb, ac a elwir gan Dafis yn Vir linguarum cognitione insginis; a Henri Salisburi, awdwr y Grammatica Britannica, a argraffwyd yn y flwyddyn 1593. Ond, fel y sylwa y geirlyfrwr hyglod o Fallwyd, ni ddaeth geirlyfrau neb or awduron dysgedig hyn allan mewn argraff, ac nid yw debyg un o honynt gael ei orphen, ond Geirfa Tafod Cymraeg Henri Salisburi yn unig.

Safodd geirlyfraeth Gymreig braidd yn hollol yn yr un man, o amser Dafis hyd ymddangosiad Geirlyfr y Parch. Thomas Richard, o Langrallo, ym Morganwg, yn y flwyddyn 1753. Cyfieithiad yw hwn o Eiriadur y Dr. Dafis, gydag ychydig o chwanegion allan o Archaeologia Britannica Edward Llwyd, ac or Egluriadur ar ddiwedd cyfieithiad Lladin y Dr. Wotton o Gyfreithiau Hywel Dda. Awdwr yr Egluriadur hwn, yng nghyd r rhan fwyaf or cyfieithiad hefyd, oedd yr hynafieithydd dysgedig hwnw, Moses Wiliams. O ran dim a wnaeth Richards ei hun ar faes geirlyfraeth Gymreig, nid oes iddo ond safle pur isel yn mysg ein geiriadurwyr; ond gwnaeth ei Eiriadur, er mor anghyflawn ydyw, ac er mor ychydig o wreiddioldeb sydd yn perthyn iddo, les nid bychan yn.y Dywysogaeth; canys yr oedd Geiriadur Dafis bellach wedi myned yn brin iawn; a chan mai Cymraeg a Lladin, ac nid Cymraeg a Seisoneg, ydoedd, yr oedd yn gyfaddasach at wasanaeth y dysgedigion, y rhai yr oedd lleiaf arnynt o angen am dano, nag at wasanaeth y cyffredin bobl. Cafodd y gwaith hwn dderbyniad helaeth, a chefnogaeth deilwng, gan bob gradd yng Nghymru; a hwn oedd y geirlyfr Cymraeg ar arfer yn gyffredin ym mhlith ein cydwladwyr hyd ymddangosiad Geirlyfr mawr y Dr. Owain Puw, yn y flwyddyn 1803.

Am waith y Dr. Dafis, yr oedd yn orchwyl rhagorol yn ei ddydd; ond y mae ei ddydd wedi myned heibio bellach er ys blynyddoedd lawer iawn; ac y mae weithian yn beth i edrych arno i gryn raddau, fel cywreinwaith llenyddol yn hytrach nag fel geiriadur defnyddiol ac ymarferol. A rhan gyntaf yn unig, sef y dosbarth Cymraeg a Lladin, sydd o gyfansoddiad y Doethor ei hun: talfyriad yw yr ail ran, sef y dosbarth Lladin a Chymraeg, o waith llawer helaethach a ysgrifenwyd gan Tomas ab Wiliam, y Meddyg o Drefriw. Y mae y gwaith gwreiddiol eto ar gael, a dywedir gan rai sydd wedi ei weled, y byddai ei gyhoeddi yn chwanegiad or pwysicaf at ein llenyddiaeth
ieithyddol. Ond r gyfran flaenaf yn unig o Eiriadur Dafis y mae a fynom ar hyn o bryd; ac at y gyfran hno gan hyny y rhaid i ni gyfynygu ein sylwadau.

 

Dechreundd Dafis ar yr iawn lwybr; y mae ei waith yn waith ysgolheigaidd; ac y mae, cyn belled ag y mae yn myned, yn awdurdod bur dda ar ystyron geiriau. Dywed Lewys Morys, yn un oi Lythyrau y Dr. Samuel Pegg, mai gwaith brys yw y Geiriadur hwn, ac nad ywn cynnwys hanner corff yr iaith. Buasai hynafiaethydd Mon yn nes iw le pe dywedasai nad yw yn cynnwys llawer mwy nag un o bob deg o eiriau Cymreig a ddylent fod mewn geirlyfr Cymraeg gweddol cyflawn. Y mae lluaws o eiriau oi fewn na wyddai yr awdwr, er ei holl ddysg, pa beth yn y byd oedd eu harwyddocad; ac y mae llawer ynddo hefyd, yn enwedig geiriau perthynol i anianyddiaeth, wedi eu hegluro yn anghywir.

Nid ymddengys fod Dafis yn gynnefin iawn r Ddeheubartheg ai llenoriaeth; er mai yn y dafodiaith lyfndeg hno y maer cyfan ou rhyddiaith wedi ei ysgrifenu hyd o ddeutu amser y Frenines Elisabeth. Yn wir, nid wyf yn cofio ddarfod i mi weled nemawr o ddim wedi yi ysgrifenu yn y Wyndodeg, heb fod ar fesur cerdd, tan y delom at Destament Gwilym Salisburi ar Esgob Dafis, yn y flwyddyn 1567; ac o bob Cymraeg a ddarllenais erioed, Cymraeg y Testament hwnw yw y fwyaf anystwyth a chlogyrnog. Iaith Gwent a Dyfed a geir yng Nghyfreithiau Hywel Dda, y Brutiau, y Mabinogion, Achau a Bucheddau y Saint, y Trioedd, ac, mewn gair, y cyfan on hysgrifeniadau rhyddieithol, hyd tua chanol yr unfed canrif ar bymtheg. Ymddengys mai cyfieithiad y Beibl ir Gymraeg, trwy waith dysgedigion o Wynedd, a roddodd safle llenyddol gyntaf ir Wyndodeg mewn cyssylltiad rhyddiaith; er bod y cyfieithiad campus hwnw, o ran hyny, yn dwyn nodwedd ddeheuol yn hytrach na gogleddol.

 

Ymddengys i mi fod ein hen gyfansoddiadau rhyddieithol yn llawer gwerthfawrocach, ar y cyfan, nan cyfansoddiadau barddonol, ac y mae yn ddiau genyf eu bod yn fwy defnyddiol ir geirlyfrwr. Ond yn amser Dafis, y beirdd oedd i benderfynu pob peth mewn geiriaduriaeth, ac mewn gramadegiaeth hefyd; ac os na cheid gair yn eu gwaith hwy, prin y buasai neb yn rhyfygu ei gofnodi mewn geiriadur o fath yn y byd; ac arnynt hwy yr oedd tynged yr iaith megys yn ymddibynu. Dechreu geirlyfraeth Gymreig, mewn ystyr, oedd Geiriadur Dafis; ac fel y cyfryw nis gellir rhoi iddo ormod o ganmoliaeth; a byddai yn annheg ei feirniadu yn y pedwerydd canrif ar bymtheg mewn un golygiad arall.

Gyda golwg ar waith gorchestol y Dr. Puw, y mae yn cynnwys miloedd ar filoedd o eiriau Cymraeg na chyfarfyddir hwynt mewn un geiriadur arall, ac nid yw pob llyfr or fath, a ymddangosodd ar ei ol ddim amgen na thalfyriadau lled ddiwerth o hono. Cynnwysa dros gan mil o eiriau Cymraeg, ac yng nghylch deuddeg mil o ddyfyniadau allan o waith gwahanol ysgrifenwyr, or amseroedd boreuaf hyd ddiwedd y deunawfed canrif. Y mae iddo ragoriaethau lawer; ond y mae iddo hefyd golliadau nid ychydig. Anhawdd canmawl gormod arno mewn un golygiad; ac anhawdd beio gormod arno mewn golygiad arall. Am ragorion y geiriadur llafurfawr hwn, y maent yn llawer rhy aml eu crybwyll. Nid oes genym hyd yn hyn ddim cyffelyb iddo; ac ofer ymgais ag astudior Gymraeg, heb ei gynnorthwy. Y mae, fel y sylwa Latham mewn perthynas i waith Grimm ar yr ieithoedd Teutonig, yn beth am byth yn llenoriaeth Cymru.

Ond y mae iddo ei ddiffygion; ei ddiffygion dirfawr ydynt. Nid yw werth dim gyda golwg ar dadogaeth geiriau. Y mae wedi ei gyfansoddi ar egwyddor eirdarddol blentynaidd, na chydnabyddir mo honi gan unrhyw ieithydd cyfrifol, hen na diweddar. Y mae yn creu geiriau, er er mwyn cael gwraidd, fel y tybiai, i eiriau ereill; gwraidd na welwyd erioed mo honynt cyn iddynt ymddangos yn y Geiriadur hwn. Y mae yn rhoi ystyr cyfrinol i eiriau. Trinai y Gymraeg yn y golygiad hwn rywbeth yn debyg ir hyn y trinai Hutchison ir Hebraeg.

Y mae ystyron i luaws o eiriau na roddir iddynt yn ei Eiriadur ef; ac yn y gwrthwyneb, y mae efe yn rhoi i filoedd o eiriau ystyron nad ydynt mewn un modd yn perthyn iddynt; a hyn, nid o anwybodaeth, ond o herwydd ei gyfundrefn ddychymmygol o darddu geiriau. Tadogaeth geiriau oedd yn penderfynu eu hystyr ganddo, ac nid oedd arfer gwlad o nemawr bwys yn ei olwg. A chan fod y gwreiddeiriau yn fynych yn ddyledus am eu bodoliaeth iw ddychymmyg ffrwythlawn ef yn unig, rhaid fod yr ystyron a roddid ir geiriau tarddedig or fath eiriau yn sefyll yn fynych iawn ar sail ddim amgen na thywod.

Barna fod ystyr cyffredinol i eiriau cyn bod iddynt ystyr neillduol; pryd y mae profiad cyffredinol dynolryw yn dangos yn ddigon eglur mai y gwrthwyneb i hyn sydd wirionedd. Gellir barnu na wyddai nemawr am ieithyddiaeth gymharol; ac o hervrydd hyny, ymddengys fod cyssylltiad y Gymraeg ag ieithoedd ereill yn bwnc nad oedd yn ffurfio un ran oi gredo. Yn ol ei Eiriadur ef, iaith yw y Gymraeg yn sefyll yn hollol ar ei phen ei hun, ac yn ddyledus iw gwreiddiau cynnwynol ei hun am bob gair a gynnwysir ynddi. Ac y mae hyn o benchwibandod wedi ei arwain i alltudo, megys dyeithriaid ac estroniaid, rai cannoedd o eiriau Cymraeg pur, ac wedi achlesu ereill nad oes iddynt ond ychydig os dim perthynas ag iaith y Cymry.

Gyda golwg ar ystlen neu genedl geiriau, y mae ym mhell iawn o fod yn arweinydd y gellir ymddiried ynddo; ac am eu terfyniadau lluosog, nid yw nemawr cywirach. Nid yw y pethau hyn ond pethau bychain mewn cymhariaeth, eto er hyny y maent o gryn bwys mewn geiriadur Cymraeg, os amcenir fod iddo yn ddefnyddiol. Mywpwy y Doethor oedd mai gwrywaidd yw yn agos bob gair Cymraeg; er bod hyny yn groes i lafar gwlad ym mhob parth o Gymru, ac yn groes i arfer ein hysgrifenwyr goreu ym mhob oes.

Anhawdd gwybod pa beth oedd yr achos o gasineb neu wrthnaws ein geirlyfrwr llafurus at yr ystlen neu genedl fenywol. Gwyneddwr oedd efe; a chyfaddefir fod yr iaith hytrach yn fwy gwrywaidd yn y Gogledd nag yn y Deheu: ond nid yw yn un parth ir Dywysogaeth hanner mor wrywaidd ag y ceir hi yn ei Eiriadur ef. Yr oedd ei hoffder or terfyniad lluosog ion mor nodedig ai anhoffder o eiriau or ystlen fenywaidd: ac ym mysg pethau ereill, er mwyn dilyn hyn o fympwy, y mae wedi ein hanrhegu gweithredion, ym mhob man yng Ngholl Gwynfa, yn lle gweithredoedd, yr hen ddull arferedig er ys oesoedd cyn cof.

Er cymmaint ei serch ar henafion, nid llai oedd ei wyn ar newyddu a chyfnewid: canys or deuddeg mil o ddyfyniadau a geir yn brithor Geiriadur, y mae peth afrifed o honynt wedi eu cyfnewid ganddo; ac nis gellir bod yn sicr gyda golwg ar nemawr o honynt, eu bod wedi eu gosod i lawr megys yr ysgrifenwyd hwy ar y cyntaf gan yr awduron y mae eu henwau wrthynt;.

Gyda galar, rhaid cyfaddef mai prin iawn y medrai adael i un enghraifft, yn enwedig mewn iaith rydd, fyned trwy ei ddwylaw heb wneuthur rhyw gyfnewidiad ynddi, heb law, bid sicr, ei throi iw lythyraeth ei hun. Y maer beirdd, o wir angen, gryn dipyn yn fwy anhyblyg nar rhyddieithwyr, ac o herwydd hyny, y maent ar y cyfan, wedi ymdaro yn llawer gwell.

Ond heb law bod y dyfyniadau yn cael eu cyfnewid, au troi fel y dylent fod, pa bryd bynag y byddai hyny yn gyfleus i nwythas yr awdwr, y mae yr un ar unrhyw ddyfyniad yn aml wedi ei gyfieithu mewn dwy neu dair o wahanol ffyrdd o dan wahanol eiriau; ac y mae amryw or cyfieithion hyn nid yn unig yn wahanol iw gilydd, ond hefyd yn groes y naill ir llall. I ni, y Cymry, nid yw hyn, hwyrach, o gymmaint pwys; ond y maer Seison wedi sylwi fwy nag unwaith ar yr anghyssondeb hwn, ac yn dibrisior Geiriadur oll or herwydd.

Y colliadau hyn a darddant, gan mwyaf, o hynodrwydd syniadau ar ieithyddiaeth yn gyffredinol: ond y mae weithian, heb law y rhai hyn, ddiffygion ereill yn y gwaith dan sylw, y rhai y mae yn hen bryd bellach i ni amcanu eu cyflenwi. Y mae dros hanner can mlynedd wedi myned heibio er pan gyhoeddwyd yr argraffiad cyntaf o hono; ac yn ystod hyn o amser, ar wasg Gymreig yn fwy bywiog nag y bu erioed, y mae lluaws aneirif o eiriau o bob math wedi eu chwanegu ar y Gymraeg, ac yn cael eu defnyddio yn lled gyffredin. Pan yr ymddangosodd Geiriadur Puw, nid oedd cymmaint ag un Cyhoeddiad Cyfnodol yn yr iaith, ac ni chododd un am rai blynyddoedd wedi hyny; ond weithian y mae genym gryn fagad o honynt; a pha faint bynag a ddichon fod o duedd mewn llenoriaeth gyfnodol i lygru iaith mewn rhai pethau, y mae yn sicr ddigon o luosogi ei geiriau. Y mae yn helaethu iaith, os nad yw yn ei phuro.
Y mae yn chwyddur geiriadur, os nad yw yn coethir gramadeg.

Ond heb law geiriau o dyfiad diweddar, y mae yn eithaf amlwg i bob un cyfarwydd n hen ysgrifeniadau, mewn barddoniaeth yn gystal ag mewn rhyddiaith, fod ynddynt luaws mawr o eiriau na cheir mo honynt yng Ngeiriadur Puw, mae mewn un geiriadur arall sy genym. Ac fel y mae yr hen ysgrifau hyn yn cael eu cyhoeddi y maer diffyg hwn yn dyfod fwyfwy ir golwg, a cyn cael ei deimlo yn ddwysach ddwysach gan astudwyr Cymraeg. Gwnaeth Puw lawer, ond y mae llawer eto yn aros heb ei gyfiawnu.

Y mae hefyd nifer nid bychan o eiriau ar lafar gwlad, geiriau Cymreig pur, a geiriau mor briodol ym mhob ystyr ag unrhyw yn yr iaith: eto ni chofrestrwyd mo honynt hyd yma yn neb or geirlyfrau, ac nid ymddengys fod ein hieithyddion yn talu fawr o sylw iddynt. Clywais gannoedd or fath mewn gwahanol barthau or Dywysogaeth; ond er hyny nid oes genym hyd yn hyn un casgliad o honynt, ac ni chydnabyddir hwynt hyd y gwn i, megys yn perthyn ir iaith Gymraeg.

Yr wyf bellach wedi nodi, im tyb i, y prif ddiffygion yng nghynnwysiad Geiriadur y Dr. Puw; yng nghyd r prif adnoddau or sawl y gellid cael defnyddiau i wneuthur geiriadur rhagorach. Yr wyf wedi gwneuthur hyn, nid er mwyn bychanu y Doethor parchus, ond er mwyn diystyru y gwaith y bu wrtho am ddeunaw mlynedd hirfaith. Nid dyna fy amcan mewn un modd: ond yr wyf yn crybwyll y pethau hyn er dangos fod arnom y dydd heddyw ddirfawr angen am eiriadur Cymraeg newydd, a llawer mwy cyflawn, cywir, ac athronyddol nag un sydd yn ein meddiant. Gwnaeth Johnson orchestwaith yn y Seisoneg, a gwnaeth Puw yntau orchestwaeth mwy yn y Gymraeg: ond nid yw gweithiau yr un o honynt yn cyfateb i angenion yr oes hon. Peth a ddylid ei helaethu ai ddiwygio yn fynych ydyw geiriadur iaith lafaredig.

Y mae y Gymraeg yn tynu mwy o sylw y blynyddoedd hyn ym mhlith y dysgedigion nag a dynodd erioed or blaen. Y mae wedi cymmeryd ei gorsaf yn rheolaidd ym mhlith ieithoedd Ind ac Ewrop; ac ni chyfyngir mor dyddordeb syn perthyn iddi mwyach rhwng mynyddoedd cribog Cymru. Y mae yr Ellmyn wrth y degau yn ei myfyrio; y mae ieithyddion urddasolaf y Ffrancod yn meddwl yn fawr am dani; ac y mae ambell un, hyd yn oed or Seison, yn ymwrthod u rhagfarn, ac yn ymgyrchu i rai o gyrrau pellaf y wlad er mwyn ei dysgu. Ac y maer gwŷr hyn oll yn canfod gwaelder ein geiriaduron, ac yn cwyno yn ddwys or herwydd.

 

Nis gallwn astudio ein hen dafodiaith hybarch o eisieu geiriadur cyfaddas iw llwybreiddio. Pa hyd y caiff y rhwystr yma fod ar y ffordd? a pha hyd y caiff y diffyg y cwynir cymmaint oi herwydd aros yn ein llenoriaeth? A oes dim neb o ddysgedigion Cymru yn barod yn gystal ag yn alluog i ymosod ar y gorchwyl? Nid neb ond gwŷr dysgedig ddylent ymaflyd yn y fath waith; ac ymddengys i mi, o herwydd mwy o resymnu nag un, y byddai yn ddymunol iawn, os nid yn wir angenrheidiol, i amryw on dysgedigion gydweithredu yn hyn o beth; canys heb gydweithrediad amryw on gwŷr galluocaf, byddai yn gryn anhawdd cyflawnu gwaith mor helaeth mewn dull boddhaol. A oes dim modd i ni yn Nhywysogaeth Cymru gael math o Accademia della Crusca, i gasglu a chyhoeddi i ni eiriadur y gellid ei alw yn National Dictionary of the Welsh Language?
.
Gan fod fy ysgrif wedi myned eisioes yn lled faith, gadawaf y pwnc ar hyn o bryd i sylw a than ystyriaeth darllenwyr gwladgarol y Brython.
MOELDDYN

-------------------------------------------------------------------------------------

 

 



DOLENNAU AR GYFER GWEDDILL Y GWEFAN HWN

1796k
Yr iaith Gymraeg

2210k
Mynegai yn nhrefn y wyddor ir hyn a geir yn y gwefan; or tudalen hwn gellir hefyd
chwilior gwefan hwn r archwiliwr mewnol

0052c
Testunau Cymraeg throsiad Catalaneg yn y gwefan hwn
(Textos en galls amb traducci catalana en aquesta web)

1051e
Testunau Cymraeg throsiad Saesneg yn y gwefan hwn
(Texts in Welsh with an English translation in this website)

 

Sumbolau arbennig: ŷ ŵ

Bler wyf i? Yr ych chin ymwld ag un o dudalennaur Gwefan CYMRU-CATALONIA
On sc? Esteu visitant una pgina de la Web CYMRU-CATALONIA (= Galles-Catalunya)
We(r) m ai? Yu a(r) vzting peij frm dh CYMRU-CATALONIA (= Weilz-Katluni) Wb-sait
Where am I?
You are visiting a page from the CYMRU-CATALONIA (= Wales-Catalonia) Website

CYMRU-CATALONIA


Edrychwch ar fy Ystadegau / Mireu les estadstiques / View My Stats