1775k Gwefan Cymru-Catalonia. COFIANT Y TRI BRAWD O LANBRYNMAIR A CONWY (1893). Nid yw Llanbrynmair, lle y ganwyd y Tri Brawd, ond gwlad oer, arw ac anghysbell, o ran safle ddaearyddol, y mae fel wedi ei chau i fynu rhwng mynyddoedd moelion Maldwyn, prif gyfoeth y rhai yw mawn, au haddurniadau penaf yw grug a brwyn.

http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_065_tribrawd_1893_5_1775k.htm

Yr Hafan kimkat0001

..........
2657k Y Fynedfa yn Gymraeg kimkat2657k

....................
2001k Yr Arweinlen kimkat0009k

..............................0960k Cywaith Sin Prys (Testunau yn Gymraeg) - Mynegai
kimkat0960k

........................................1760k Cyfeirddalen ar gyfer Y Tri Brawd
kimkat1760k

....................................................y tudalen hwn

 

 


______________________________________________________________________


Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Catalunya i Galles
The Wales and Catalonia Website

______________________________________________________________________

COFIANT Y TRI BRAWD O LANBRYNMAIR A CONWY. 1893.

GAN E. PAN JONES, D.PH., M.A, MOSTYN. (1834-1922)

 

Rhan 5 - Tudalennau x158-x217
Pennod 7: Dychweliad S.R. ...(x158)

Pennod 8: Y Dadleuon...(x188)


_________________________________________________________________________________

Adolygiad diweddaraf :: 2004-02-06 - 2004-02-21

 

(delwedd 7324)

 

 

..............

(x158)

PENOD VII.
DYCHWELIAD S. R., CYFLWYNIAD Y DYSTEB, A DYCHWELIAD G. R. AT DEULU.


Gadawasom S.R. yn niwedd y benod or blaen yn Cincinnati, yn nghwmni y Griffisiaid o Horeb, ar Parch. B. W. Chidlaw, ar ei ffordd i ymweled Chymru. Olrheiniasom ei gamrau yn Tennessee mor fanwl ag y medrem, ac ni chawsom ynddo ddim bai. Naturiol, gan hyny, yw ir darllenydd ofyn, yn neilltuol yr ieuanc, ai yn ddiachos yr erlidid ef mor ddidrugaredd yn Nghymru ac yn America, ac y dangosid y fath wrthwynebiad i wneud tysteb iddo ar ei ddychweliad? Tra fyddo efe ar ei daith o Cincinnati i Liverpool, ni a gymerwn hamdden i egluror amgylchiadau oedd wrth wraidd y gwrthwynebiadau, a hyny a wnawn mor dirion ag, y byddo modd, gan obeithio y llwyddwn i daflu goleuni ar amgylchiadau sydd i lawer yn dywyll, a dangos gwir safle S.R. yn ngolwg y cyhoedd.

Cofied y darllenydd fod yr holl erlid, yr enllibo, y pardduo ar gwrthwynebu fu ar S.R. o bob tu ir mr, wedi cael ei wneud yn gyfangwbl gan ddau bedwariaid o ymyrwyr: un pedwar yn America, a phedwar yn y wlad hon; ond fel yr oedd hi yn dygwydd, yr oedd y ddau bedwariaid i fesur mwy neu lai yn cael eu hysgogi gan yr un ager. Yn America yr oedd y Parchn. Griffith Griffiths, Utica; Morris Roberts, Remsen; y Drych ai gyfarthwyr cyflogedig, un or rhai oedd Eryr Meirion. Yn y wlad hon yr oedd y Parchn. J. Thomas a W. Rees, Liverpool; C.R. ai hybarch dad Cadwaladr Jones, Dolgellau; a hwy yn unig, gall fod yno eraill yn dal eu dillad hwy, ond nid oedd neb ond y pedwar yna yn y wlad hon yn ddigon gwyneb galed i daflu careg yn gyhoeddus at S.R. Naturiol gan hyny yw gofyn, am ba achos yr oedd y gwyr da urddasol hyn yn ymosod arno?

(x159) Teimlai eglwysi Anibynol Cymru pan aeth S. R. i America eu bod wedi eu gadael yn yr anial heb arweinydd, fel y dangoswyd yn barod, ac nid oeddynt yn gweled fod un Joshua yn codi i gymeryd ei le. Buont yn hir fel defaid heb fugail. Cynygiai un ei wasanaeth fan hon, ac un arall fan arall, ond nid oedd y defaid yn gwrando ar eu llais." Nid swydd i'w llenwi drwy benodiad cynhadledd cymanfa yw arweinyddiaeth eglwysi Anibynol: rhaid i arweinydd dyfu yn mhlith y bobl heb yn wybod iddynt; felly y tyfodd Moses heb yn wybod i blant Israel; felly y daeth Parnell yn arweinydd heb yn wybod i'r Gwyddelod; ac felly yr oedd S. R. wedi tyfu yn arweinydd Independia heb yn wybod iddi. Nis gallasai neb ddywedyd pa bryd y dechreuodd arwain. Gwelwyd ambell un wedi dringo i swydd mewn byd ac eglwys y gallai yn briodol ddyweud, A swm mawr y prynais i y swydd hon, swm mawr o waseidd-dra, swm mawr o sebon, swm mawr o ymwthio, ond gallasai S. R. ddyweud ei fod ef wedi ei eni yn freiniol ynddi. Yr oedd yn y wlad ar y pryd rai a ystyrid yn fwy pregethwyr ac yn dywyllach duwinyddion nag ef, ond ni welodd Independia erioed, na ddo, ni welodd Cymru ddyn mor gyflawn ac amlochrog ag ef. Yr oedd holl fanylion trafodiaethau cymdeithas yn wladol a chymdeithasol ar ben ei fysedd yn Gymraeg ac yn Saesnaeg, fel y gellid edrych arno yn fath o eiriadur byw. Yr oedd yn fedrus gyda holl faterion cynhadleddau a threfniadau yr enwad; os byddai eglwys eisiau adeiladu capel, trefnu gweithredoedd y pryniad neu brydles, eisiau arian ar log, neu eisiau gwneud apel am gasgliadau, eisiau tynu allan ddeiseb i'r senedd, neu eisiau gwneud protest yn erbyn gorthrwm, yr oedd S. R. bob amser yn barod, a byddai o reidrwydd neu o ddamwain yn bresenol yn agos bob cyfarfod cyhoeddus.

Gwelwyd yn fuan nad oedd gobaith i unrhyw un gael ei gydnabod yn arweinydd; cai un ddwsin o gyfeillion yn y fan hon, ac un arall ddau ddwsin yn y fan draw, yn barod i (x160)

 

xx

 

 

 

SGAN AMRWD

*0160

*0161

*0162

*0163

*0164

*0165

*0166

*0167

*0168

*0169

 

160 COFIANT

waeddi coroner ef yn ben, ond nid oedd y werin ar miloedd yn cydio yn galonog yn neb. Dyma gyfnod genedigaeth y Cue. Yr ydym yn cofio yn dda am y breuddwyd mawr, mawr hwnw, Anibynia fel Cerbyd (y Goach fawr), o gylcK yr hwn yr oedd nifer o swyddogiori yn eu lifrau, un yn chwythu yn y corn, un yn gofalu am y tal, un yn gwerthu papyrau newyddion, nifer o deithwyr urddasol oddi fewn, ar cerbydwr yn clecian ei chwip gydag arddeliad. Amser difyr oedd hwnw, ond gwnaeth amser y breuddwyd yn ffaith. Credid felly, os na chymerai yr enwad ei arwain gan un dyn, y medrai Cwmni y Goach fawr ddwyn pcthau i drcfn; ond yr oedd gwaith mawr dysgyblu ac egwyddori ar y bechgyn cyn deall eu gwaith. Dymar pryd y buwyd yn llabystu ar yr UN COLEG; ond cyn fod y peiriant ond prin yn symud, wele S. R., yr hen arweinydd, yn son am ddychwelyd, ar perygl oedd iddo ef ddymchwel yr holl adeilad oeddid wedi godi yn ystod y deng mlynedd y bu efe yn America. Pe dychwelasai yn ddystaw, cawsai heddwch: ni fuasai neb yn agor ei enau yn ei erbyn, oddi gerth i chwerthin am ei ben; ond os oedd yn dychwelyd fel ag i fod yn rhwystr ir cynlluniau [oedd ar waith, rhaid oedd ei lethu. Gwyddent yn dda ei fod yn ormod o Gynulleidfaolwr i uno a (< chwmni y cerbyd. Ac ar y graig

hen, PA UN A OEDD S.R. I (;AI,L KI LKTHU AI PF.IDIO,

yr ymranodd yr enwad, ac y mac yn aros yn ddwy garfan hyd y dydd hwn. Nid oedd rhwyg y Cyfansoddiadau yn ddim ond parhad or frwydr am arweinyddiaeth yr enwad, a byddai yn deg ir darllenydd gofio, mai y gwyr. hyny ddaeth allan o dan eu henwau priodol yn erbyn S. R., yn nghyd au canlynwyr (ond fod yr Hen Olygydd wedi myned ir nefoedd), oedd yn arwain gyda rhaniad Coleg y Bala, tra yr oedd cefnogwyr S.R. bron yn ddieithriad, yn pleidio yr Hen Gyfansoddiad. Ein cred yw, pe nad aethai S.R. i America, na fuasai yr un ymhonwr wedi beiddio aflonyddu ar heddwch yr eglwysj. Anibynol, ac na

 

Y TRI BRAWD.

 

 

Y TRI BRAWD. 161

 

fuasai rhwyg mawr, dwfh, Ilydan y Cyfansoddia^au, wedi

cymeryd lie yn y rhengau.

 

Er na feiddiodd ond y pedwar a enwyd ymSdangos o

dan eu henwau priodol yn erbyn S. R., yr oedd ganddynt,

mae yn ddiddadi, lawer o ddysgyblion cuddiedig, cywion

heb fagu plu, y rhai yn mhen deng mlynedd, erbyn helynt

y Bala, oeddynt wedi eu dysgu yn dda i ryfela. Yr oedd

J. R. yn wyliwr da, ac yn weledydd purion, orid arweinydd

gwael. Ni byddai efe byth yn bresenol mewn cyfarfod,

cynhadledd, na phwyllgor, ac ni roddai efe floedd Fr gad"

hyd nes y byddai y cynlluniau yn fis oed; a phe cymerai

rhywun y ddadi i fynu yn y gynhadledd nesaf, m' byddai

J. R. yn bresenol i arwain nac i gefnogi.

 

Ysgrifenai y Parch. D. Rees, Llanelli, at S; R., lonawr,

1865. Wedi egluro ychydig o amgylchiadau yr enwad yn

Nghymru, dywed,

 

" Mae 'Shon' (J.R.) yn eu golchi dros y fraich, ac yn wir,

mae pobl fawr y gogledd yn haeddu cael eu pastwyno.

Dynion self taught anffaeledig, neu hollol ddiddysg, ydynt

y rhai mwyaf sclfis/i a hunanol. Mae Michael Jones a

J. R. yn wcithgar iawn, ac yn cael cas; ond-nid ydynt yn

go! a lu dim am danynt, ac nid oes achos iddynt ofalu, mae

y wlad o'u tu."

 

Yn awr at yr achosion o'r eriid a'r ymosod di^aid fu ar

S. R. yn America. Yr oedd perchenog y Drych yn hwylio

at sefydlu Gwladfa yn y gorllewinyn Kansas, ac ofnid i

S,-R. Iwyddo i droi ffrwd ymfudiaeth Gymreig i .Tennessee,

He oddeutu haner y ffordd o New York i Kansas, gwlad

llawer rhagorach ei hinsawdd, a chyfbethocach ei hadnoddau

na Kansas; a^r ffordd fwyaf cyfleus i^r Drych oedd ymosod

ar S. R.-ni fuasai wiw condemnio'r wlad,diraddio ei

gymeriad, a'i redeg i lawr fel dyn ac fel dinesydd, amau ei

amcanion, a phoeri am ben ei gynlluniau, a galw ar bob

gwr oedd yn <flin wrtho i ddyfod allan Pw gynhorthwyo i

beri i'r cyhoedd golli eu hymddiried ynddo.

 

162 COFIANT

Nid oes.dadl nad oedd ofn ar y Parch. J. Thomas iddo ddychwelyd a dymchwel y cerbyd mawr, a chymeryd y chwip iw law ei hun; ac arnlwg yw fod y lleill yn gweith- redu o dan ei ddylanwad. Gwnaeth C.R. o dro 1 dro lawer swydd fechan digon budr, am y rhai ni chafodd erioed fwy na ffyrling o . gydnabyddiaeth. Yr oedd y Dysgedydd ar Anibynwr yr amser hwn newydd gael eu huno, ac arian Davies, Dolgellau, wedi myned. Yr oedd yn naturiol i Hen Olygydd hybarch y Dysgedydd deimlo wrth weled ci fab yn cael ei gernodio, a cheisio, er yn hen, ddwyn tarian iddo. A gwnacd defnydd digon budr rai troion or hybarch W. Rees, pe i ddiin ond i arwyddo y llythyr hwnw yn erbyn penodiad Ap Vychan yn athraw yn y Bala; a sicr yw, pe cawsai lonydd, na roddasai bin ar bapyr byth yn erbyn tysteb S. R.; a dywed na fuasai yn gwneud y tro hwnw, oni buasai ei fod yn gwneud er mwyn J. Thomas. Yr oedd y Parch. G. ^Griffiths, Utica, mewn cytundeb ar Parch. J. Thomas, i ddwyn allan argraffiad Americanaidd o ryw lyfr oi eiddo, ac am-ei ddylanwad ar gau capel Remsen, mae yr achos hwnw yn aros yn hunan- eglurhaol. \

Cyrhaeddodd S.R. borthladd Liverpool yn y City of Paris Awst 30, 1867. Aeth J.R. yno iw gyfarfod, ar gair cyntaf a glywodd wedi cyrhacdd y landing stage oedd, Mae eich brawd wedi cyrhacdd, aeth i ffordd gyda Mr. Rees y fynud hon. Cafodd hyd iddo yn anedd Mr. George Owen, ty yr hwn oedd wrth y mor. Gadawn i J.R. ei hun hanesyddu yr amgylchiadau,

Cyffyrddais y gloch, a daeth y forwyn ffyddlon ir drws, agorodd ef mor fuan a llydan ag y medrai, ac wrth wneud hyny, dywedai a deigryn llawenydd yn ei llygaid,, mae eich brawd yma^ Aethum yn miaen heb yn wybod i mi fy hun, a chefais ef ei hunan yn lied orwedd.ar y sofa. Adnabydd- odd fi yn union, ac yr oedd yr olwg a wnaeth yn un or pethau nad anghofiaf. Yr oedd efe yn fwy cyffrous na mi, canys yr oedd y cyfarfyddiad yn fwy anisgwyliadwy iddo.

 

i'w

chyfarfod, a thystiai S. R. na ddarfu gweled gwyneb dyn,

erioed godi mwy ar ei galon na'r eiddo ef y waith hon.

Wedi dyfod i'r afon, byrddiwyd y llong gan lu o gyfeillion o

hob math. Ni enwaf hwy, canys nis gwn pa un oedd y

N.'icnaf na^r olaf, na pha un oedd yn gwasgu y Haw dynaf.

\\<'(li c.icl yr ymgeledd fwyaf adfywiol yn nhy Mr. Owen,

anfnnwyd ni, drwy gan'digrwydd Pwyllgor y Dysteb, yn un

0*r ('rrhydnu gore i dv 1). I );ivies, Ysw, Catherine Street, lie

y Ixi S. R. yn ('.'irtrctu :ini wytlinos, a derbyniodd y

Cam hgnvydd nnvy.il cynlu's a fedrid roddi iddo gan un o'r

tculnocdd niwyaf .niwyl a (edd '1'yrus y byd. Cryfhaodd ei

 

?()il)li ,' l)y\viog()(l(l ei ysbryd yn ystod yr wythnos y bu yno.

'^w.ilioddwyd m ill dau y noson hono i ymweledd a

rhwyllgor y Dysteb, a chawsom y derbyniad mwyaf

crofsawus. (^wrandawsom yno anerchiadau byrion. coeth,

a didramgwydd. Sicrhaent nad parch i berson S. R. oedd

wedi eu cynhyrfu i weithredu fel y gwnaethant, gan nad

oedd y rhan fwyaf o honynt ond ieuainc, ac na fuont erioed

o'r blaen yn ei gyfeillach, ond eu bod yn hoffi ei egwyddorion,

ac yn ei barchu am yr un rheswm ag y perchir ef gan yr oesau

a ddaw, canys sicr yw y bydd ei weithiau byw. Mae ef yn

awr yn mhell o flaen ei oes, ac yr ydym ninau o flaen yr oes

wrth ei ddylin. O.s oeddynt yn arfer iaith rhy gref yn yr

ymadroddion hyn wrth son am Bright a Cobden, nid yw

hyn ond pethau wneir yn gynredin mewn amgylchiadau o'r

fath. Yr wyf yn sicr nad ( eneidiau bychain7 sydd gan y

pwyllgor, ac nad ellir eu llethu wrth eu dirmygu. Pregethodd

S. R. y Sul i gynulleidfaoedd mawrion yn Salem newydd 10,

Bethel 2, Tabernaci 6. Gwasgwyd arno i ddyweud ychydig

am America yn Birkenhead nos Lun. Yr oedd y Parch. J.

Thomas yn y gadair i gynal ei gefn; y Parchn. Noah

Stephens, H. E. Thomas, Birkenhead, a C.R. Jones yn cvnal un ochr iddo, ac yr oeddwn inau yn barod i gynal vr ochr a^H P buasai angen, end yr oeddynt hwy yn ddigon. .

Ond y nos ganlynol, yn Hope Hall, yr oedd y prif evfarfod. Hon oedd odfa Pwyllgor y Dysteb; am hon y teimlid y11 brydems. Ystyrient fod llwyddiant neu aflwydd- iant hon y11 brawf o deimladau eu cyd-drefwyr am eu ^y^jygiadau mewn cysylltiad ar dysteb. Testyn S.R. oedd Fy ngwiad, ci hiaith, ai henwogion. John Evans,. y oedd yn y gadair; ac nid yn ami yr etholir ir fath Ie foneddwr sydd yn gwybod yn well pa both i ddyweud, pa bryd i ddywcud, a pha l)ryd i dewi. Lleygwyr oedd yn llenwir esgynl;iwr, ac yn eu plith yr oedd Dr. Davies, 2weinidog y Uedyddwyr. Yr oedd y neuadd fawr yn llawn. Dvwedid f0^ y gynulleidfa yn cynrychioli pob enwad yn Liverpool) a Liverpool yn cynrychioli holl Gymru. Gwnaeth v p-vnullG1*^3- fawr bob peth a allai teimlad a boneddigeidd- rwydd wneud i galonogi y darlitb.ydd. Cynygiwyd diolch- earwch i1 darlithydd gan Mr. R. Rees, un o ddiaconiaid Bethel eihwyd gan W. Hughes, Ysw., mab yr hen anwyl Barch. ^ Hughes, Dinas Mawddwy; cefnogwyd hwy gan Dr Davies. Diolchwyd ir cadeirydd, gan Mr. Parry, Ysgrifenydd Pwyllgor y Dysteb, a Mr. Morris y Trysorydd. Gwnaeth Pb un ei waith yn y dull mwyaf medrus a bonedd- ieaidd. Cyfeiriodd Dr. Davies yn effeithiol at y fraint o i weinidogio efengyl fod ar y macs am 40 mlynedd heb fvlchu eu cymeriadau. Yr wyf yn sicr y teimlai fy mrawd wrtn 8^ Y ^at^ groesaw, yn barod i ofyn, Pa beth wyf ^ a Pba beth yw ty fy nhad i dderbyn pethau fel hyn

Yn Llandudrio y rhoddodd S.R. ei draed gyntaf ar ddaear Cymru. Y cyntaf iw dderbyn a gwasgu ei law oedd Gwalchmai, ac or tu ol iddo yr oedd yr Anibynwyr, y diwygwyr, yr heddychwyr, ar rhyddid-garwyr diguro, Thomas a Joseph Jones, Ysweiniaid, ac eraill, ond ni wiw dechreu enwi. Cawsom oll wiedd gyflawn, wedi ei hulio mewn modd trefnus, ar fwrdd ac ar gost Mrs. Gwalchmai? ac ar y diwedd darllenodd y bardd yr anerchiad canlynol;

Y TRI JBRAWD.

 

 

Y TRI BRAWD.

 

CROESAWIAD I S. R. AR ET DDYCHWELIAD 0 AMERICA

I FRYN LLEWELYN, LLANDXJDNO, AWST 7, 1867.

 

"Ar gyrer, amryw gofion, ' .

I f'enaid daw'r fynud hon,

Ag nil olwg anwylaf,^

Ar wen gwr tirion a gaf.

 

Y doniol un, cstyn law,

At eilwaith ysgwyd dwylaw,

Y Haw a fu yn llywydd

Y pen a'r inc, o'r pen rhydd,

Dymor hir wedi mawrhau

Gwirionedd hawddgar enau :

 

Trosol o bin troi sail byd

A chynwrf ddyrchai enyd :

 

Digon o hen gofion gynt

Oil r ol llawer helynt,

Ofyi liyii ^sin nyCiawnliau

Ycl\ .incg o ^rccliwenau !

 

M (.' S. R, yr nil drcm siriol

A'i vcnaii flyny Id.iu yn ol :

 

Daw gwenan gyda ^wyneb

y difrad yn anad neb ;

 

Gwelaf mai'r un yw golwg

 

Hen gyfaill nas gaill un gwg : " "

 

Ond yr hyn ddaw drwy henaint,

 

Hylhi dyn wna colli daint,

 

Ac er moeli ei goryn,

 

Neu drin ei wallt a'i droi yn wyn,

 

Ei yni a'i-awenydd,

 

A'i wres oil yn aros sydd ;

 

Ac mae cam yr hen Samwel

Eto 'r un faint a'r uri fel,

Yntau yn deg, eto yn dal

Ei hoewder dianwadal !

 

Dedwydd dy weled ydyw

Eto ar barth tir y byw ;

 

Ymwel heddyw a'm haelwyd,

Wron llu a'r cernau llwyd ;

 

Tynu serch o Tennessee

Wna tyner wlad dy eni,

Can croesaw, groesaw grasol, Iti n hir sydd eto n ol;

Hyn o eirian syn arwydd Geir o dy wlad, gar dy Iwydd.

GWALCHMAI.

Diau fod y darllenydd wedi sylwi nad oedd un o weinidogion Liverpool yn y cyfarfod yn Hope Hall. Yr oeddynt fel am olchi eu dwylaw yn llwyr oddiwrth y dysteb, ac fel pe yn herio, Beth fedrwch chwi wneud hebom ni? Ond caw.sant weled.

Trees ci wyneb tua Conwy at ei frawd, ond cyn iddo gael ond ychydig orphwys, yr oedd ar ci daith yn ymweled a chyfcillion yn y de ac yn y gogledd, ac yn mhob lie yr oedd y pyrth yn agor ac yn dyrchafu eu penau oi flaen. Yr oedd y cynulliadau yn fawrion, ar croesaw yn rhywbeth mwy a rhyfeddach nar cyffredin. Byddai weithiau . yn pregethu, -weithiau yn areithio, ac weithiau yn ymgomio;

ond pe na wnaethai ond sefyll o flaen y bobl, buasai y mwyafrif o honynt yn hollol foddlon, Nid oedd dim yn blino cymaint ar y bobl ar ffaith nad oedd moesau a threfn cymdeithas yn caniatau iddynt roddi cheers yn y capeli, ond os na chaent ollwng eu teimladau drwy cheers, gollyngent hwynt yn rhydd mewn cawodydd o ddagrau. Yr oedd inewn rhai lleoedd nifer o ymgeiswyr am aelodaeth wedi aros am dymor i S.R. gael dyfod yno i roddi iddynt ddeheulaw cymdeithas. Ac yr oedd yn y wlad lawer o fabanod wedi eu cadw heb eu bedyddio, yn mhell dros ben yr amser arferol, yn unig er mwyn i S.R. eu cymeryd yn ei freichiau. Gwneid y gore o hono yn mhob lie y byddai, nos Sadwrn a nos y farchnad, y Sul y bore, y prydnawn, ar nos, a pheth cyffredin fyddai ir Ysgol Sul gael ei thori fynu yn addoldai y gwahanol enwadau o gylch y lie y byddai efe yn pregethu, er mwyn i bawb gael cyfle iw weled ai glywed. Pan ar ei ymweliad a Merthyr Tydfyi, canodd Tydfylyn iddo^fel hyn,

 

 

 

 

 

Y TRI BRAWD.

 

 

Y TRI BRAWD. 167

 

"Yn Roberts eawn arafeedd,yn ddilesg

Ddylif o hyawdledd ;

 

Er henaint| mor eirianwedd

Heddyw s^f, gan harddu'i xedd.

 

Yn llewyrch ei alJuoedd,y gwelwyd

 

Goleu mewn anialoedd,

A mawr rin i Gymru o^dd

Ei rodiad a'i weithredoedd.

 

Nodau ei ber * ffaniadau Byrion^sy^

 

Yn swyn i wir feirddion ;^

Pa dlysach, goethach gweithion-

Dawn a bryd, er denu bron?

 

Am bir cncyd yn mro Yanci,y bn

1 Id) uwen i'w loni ;

 

Ilrl) f.iwr hoen, yn ymboeni,

Pun iunl Iocs, ft chrocH, a chri.

 

licrl\vyr fyniti 4 drocdiu,cr ei glod,

Khyw dlic fu 'n ci ddwrdio ;

 

\)v\\ ci fawldiail yw to,

M(H' y (!]/')! ion, am dano.

 

0<ldi draw, brysia 'r awel,i'w roesaw

Yn rasol, a'i arddel ;

 

Yn ei Gymru gu. y gwel

Mor gynes y mae'r genedl.

 

TYDFYLYN."

 

Ond prin yr oedd wedi dechreu anadlu nad oedd y Tys,t

yn ymosod arno, ac yn ei ddysgyblu am ei deithio, ei

bwffio, a'i dysteb ; ond ateb J. R. drosto oedd (a chyfeiriai

ei sylwadau at y Dr. W. Rees a^r Dr. John Thomas) ei fod

yn rhyfeddu eu bod hwy yn anad neb yn cwyno ar deithio,

a phwffio, a thysteb S. R.,nad oedd neb wedi teithio a

phwffio mwy na hwy ill dau, ond nad oedd S. R. yn myned

i un lie heb gael gwahoddiad, ac ychwanega,

 

(< Mae Golygwyr y Tyst yn adgoffa i S. R. y croesaw a\

roddasant iddo ar ei laniad; ond dywedai mwy na 4^g o

COFIANT

ddynion parchusaf yr enwad mai yspryd y bradychwr oedd yno yn rhedeg o flaen loan i ysgwyd Haw, wedi methu o herwydd llais y bobl cael eu ffordd i groeshoelio cymeriad a lladd meddwl a chorph. Ac y mae y ddanodiaeth bresenol yn myned yn mhell i brofi hyn.

Yr oedd y dyddordeb yn y dysteb yn ychwanegu fel yr oedd yr amser iw chyflwyno yn agoshau. Cadwyd cyfarfod hwyliog iawn o roesawiad iddo yn Llanbrynmair Chwef. 10;

bu yno siarad doniol gan bersonau o wahanol amgylchiadatf ac o bob enwad. Diolchai S.R. am y croesaw, a dywedai iddo fod yn hir dan y tbnau, ond ci fod yn credu y bydd iddo eto notio ar frig y dysteb. Penodwyd yno dri o bersonau i gymeryd arian cyfraniadau Llanbrynmair ar ardal (^150) i Liverpool. Yr oedd y cyfarfod mor hwyliog fel yr oedd y Llanbrynmairiaid bron yn credu na cheid ei gystal yn Liverpool.

Nos Fawrth, Mawrth 24, oedd yr adeg i gyflwyno iddo y dysteb, yn Hope Hall, Liverpool. Cynhaliwyd yno de parti yn y prydnawn, ac yno yr oedd Mi.: Parry ar Cambrian Choral Society yn gwasanaethu.

Cymerwyd y gadair gan Caledfryn, yr hwn a ddywedodd ei fod yno am fod S.R. ac yntau wedi bod yn cydlafurio er ys 42 o flynyddoedd yn nglyn a phynciau sydd erbyn hyn yn bynciau y dydd, ac nid oedd wedi cael bwlch yn nghyfeillgarwch S.R. erioedeu bod hwy ill dau ar y maes o blaid rhyddid cyn fod rhyw ymhonwyr sydd am gymeryd yr anrhydedd iddynt eu hunain wedi agor eu llygaideu bod wedi eu herlid au galw yn hereticiaid ac yn derfysgwyr am sefyll o blaid egwyddorion a gyhoeddir heddyw ar benau tai mai hon oedd yr unig dysteb genedlaethol y gwyddai efe am dani; ac mai y rheswm am hyny oedd, mai nid fel dyn sect, eithr fel dyn cenedl, yr oedd S.R. wedi llafurio,iddo fod yn gymwynaswr i Amaethwyr, i laith-garwyr, i Ddyngarwyr, i gefnogwyr Rhyddid, i bleidwyr Heddwch, i Ryddfasnach- wyr, i hyrwyddwyr Cydraddoldeb gwladol a chrefyddol,

 

169

 

 

Y TRI BRAWD. 169

 

i holl deithwyr a llythyr-ysgrifenwyr y wlad^ gan gyfeirio at

ei ysgrifeniadau a'i ymdrechion o blaid gwelliantau yr oes^

ac ychwanegai os oedd wedi camgymeryd mewn rhyw bethau

y gellid dywedyd am dano yn ngeiriau Pope,

 

11 If to his share some trifling errors fall^

Look ;>n lii.s face and you'll forget them all."

 

Dywcdai nn fn etc o im cynhorlhwy i S. R., rhaid felly

fod < i s:vfuillg.irwcli OT galon ; a chyn eistedd i lawr

adroddodd y tri cnglyn hyn,

 

<( Cofus im' cefais Samuelyn gafael

 

Yn gyfaill diogel,

0 bur serch heb oeri 'i zei,

Na newid dan un a,wel.

 

I rai ga'dd help boreuoli godi

0 geudod ffos wreiddiol;

 

Nid iawn na rhadlawn, ar ol

Ceir esgyn, cicio'r ysgol:^

 

Ond am Samuel nid i'm Siom,V-y rhoes

 

Law rhydd cyfaill imi ; \

Mae e'n awrnis myn oeri

Ar y maes yn dwr i mi." y .

 

Dywedodd John Breese wrth roddihanes y dysteb ei bod

wedi ei chychwyn oddiar y teimladau puraf, er fod llawer o

gamliwio a chamddarlunio wedi bod ami, a bod rhai o

gyfeillion S. R. wedi gomedd cydweithredu am yr ystyrid hi

gan rai yn anamserolgweinidogion Liverpool a^u cefnogwyr

yn unig oedd yn credu hyny,eu bod hwy yn flin o^r

lierwydd, ond eu bod wedi cytuno i anghytuno. Nad

oeddid wedi ei chychwyn oddiar gyfeillgarwch personol, gan

mat gwyr ieuainc cymharol anadnabyddus ag S. R. oedd y

rhan fwyaf o honynt hwy, ond eu bod yn nabpd ei

cgwyddoriony gallent ddyweud am dano, "Yr hwn er nas

uwelsom yr ydym yn ei garu." Yr oeddynt dan rwymau

id do am y Cronici, ac am y cymorth oedd wedi roddi

nldynt i m-irfio barn ar bynciau y dydd,-eu bod yn teimlo

L

 

 

 

 

ddynion parchusaf yr enwad mai yspryd y bradychwr oedd yno yn rhedeg o flaen Ioan i ysgwyd llaw, wedi methu o herwydd llais y bobl cael eu ffordd i groeshoelio cymeriad a lladd meddwl a chorph. Ac y mae y ddanodiaeth bresenol

yn myned yn mhell i brofi hyn.

 

 

Yr oedd y dyddordeb yn y dysteb yn ychwanegu fel yr oedd yr amser i'w chyflwyno yn agoshau. Cadwyd cyfarfod hwyliog iawn o roesawiad iddo yn Llanbrynmair Chwef. 10; bu yno siarad doniol gan bersonau o wahanol amgylchiadau ac o bob enwad. Diolchai S.R. am y croesaw, a dywedai iddo fod yn hir dan y tnau, ond ei fod yn credu y bydd iddo eto nofio ar frig y dysteb. Penodwyd yno dri o bersonau i gymeryd arian cyfraniadau Llanbrynmair a'r ardal (150) i Liverpool. Yr oedd y cyfarfod mor hwyliog fel yr oedd y Llanbrynmairiaid bron yn credu na cheid ei gystal yn Liverpool.

 

 

Nos Fawrth, Mawrth 24, oedd yr adeg i gyflwyno iddo y dysteb, yn Hope Hall, Liverpool. Cynhaliwyd yno de parti yn y prydnawn, ac yno yr oedd Mr. Parry a'r Cambrian Choral Society yn gwasanaethu.

 

 

Cymerwyd y gadair gan Caledfryn, yr hwn a ddywedodd ei fod yno am fod S.R. ac yntau wedi bod yn cydlafurio er ys 42 o flynyddoedd yn nglyn a phynciau sydd erbyn hyn yn bynciau y dydd, ac nid oedd wedi cael bwlch yn nghyfeillgarwch S.R. erioed eu bod hwy ill dau ar y maes o blaid rhyddid cyn fod rhyw ymhonwyr sydd am gymeryd yr anrhydedd iddynt eu hunain wedi agor eu llygaid eu bod wedi eu herlid a'u galw yn hereticiaid ac yn derfysgwyr am sefyll o blaid egwyddorion a gyhoeddir heddyw ar benau tai mai hon oedd yr unig dysteb genedlaethol y gwyddai efe am dani; ac mai y rheswm am hyny oedd, mai nid fel dyn sect, eithr fel dyn cenedl, yr oedd S.R. wedi llafurio, iddo fod yn gymwynaswr i Amaethwyr, i Iaith-garwyr, i Ddyngarwyr, i gefnogwyr Rhyddid, i bleidwyr Heddwch, i Ryddfasnachwyr, i hyrwyddwyr Cydraddoldeb gwladol a chrefyddol,

 

*0170

*0171

*0172

*0173

*0174

*0175

*0176

*0177

*0178

*0179

*0180

*0181

*0182

*0183

*0184

*0185

*0186

*0187

*0188

*0189

*0190

*0191

*0192

*0193

*0194

*0195

*0196

*0197

*0198

*0199

*0200

*0201

*0202

*0203

*0204

*0205

*0206

*0207

*0208

*0209

*0210

*0211

*0212

*0213

*0214

*0215

*0216

*0217

 

 

Y Tudalen nesaf:

1776k kimkat1776k RHAN 6

Pennod 9: Y Dadleuon Diweddar...218

 

 

 

DOLENNAU AR GYFER GWEDDILL Y GWEFAN HWN

0043c kimkat0043c
Yr iaith Gymraeg

0005k kimkat0005k
Mynegai yn nhrefn y wyddor ir hyn a geir yn y gwefan

1343k kimkat1343k
Y Cymry yn Amrica

0052c kimkat0052c
Testunau Cymraeg throsiad Catalaneg yn y gwefan hwn
(Textos en galls amb traducci catalana en aquesta web)

1051e kimkat1051e
Testunau Cymraeg throsiad Saesneg yn y gwefan hwn
(Texts in Welsh with an English translation in this website)

 

COFIANT Y TRI BRAWD O LANBRYNMAIR A CONWY (1893). GAN E. PAN JONES, D.PH., M.A, MOSTYN. (1834-1922)

Bler wyf i? Yr ych chin ymwld ag un o dudalennaur Gwefan CYMRU-CATALONIA
On sc? Esteu visitant una pgina de la Web CYMRU-CATALONIA (= Galles-Catalunya)
We(r) m ai? Yu a(r) vzting peij frm dh CYMRU-CATALONIA (= Weilz-Katluni) Wb-sait
Where am I?
You are visiting a page from the CYMRU-CATALONIA (= Wales-Catalonia) Website

CYMRU-CATALONIA

Edrychwch ar fy Ystadegau / Mireu les estadstiques / View My Stats