1771k Gwefan Cymru-Catalonia. COFIANT Y TRI BRAWD O LANBRYNMAIR A CONWY (1893). Nid yw Llanbrynmair, lle y ganwyd y “Tri Brawd,” ond gwlad oer, arw ac anghysbell, o ran safle ddaearyddol, y mae fel wedi ei chau i fynu rhwng mynyddoedd moelion Maldwyn, prif gyfoeth y rhai yw mawn, a’u haddurniadau penaf yw grug a brwyn.

 

http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_065_tribrawd_1893_1_1771k.htm

Yr Hafan kimkat0001

..........
2657k Y Fynedfa yn Gymraeg kimkat2657k

....................
2001k Yr Arweinlen kimkat0009k

..............................0960k Cywaith Siôn Prys (Testunau yn Gymraeg) - Mynegai
kimkat0960k

........................................1760k Cyfeirddalen ar gyfer Y Tri Brawd
kimkat1760k

....................................................y tudalen hwn

 

 


______________________________________________________________________

 
Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Catalunya i Gal·les
The Wales and Catalonia Website

______________________________________________________________________

COFIANT Y TRI BRAWD O LANBRYNMAIR A CONWY. 1893.

GAN E. PAN JONES, D.PH., M.A, MOSTYN. (1834-1922)

 

Rhan 1 - Tudalennau x1-x8

Tudalennau Teitl

At y Darllenydd...x4

Cynwysiad...x8
_________________________________________________________________________________

Adolygiad diweddaraf :: 2004-02-06

 

 

 

Ein hychwanegiadau ninnau fellÿ: (Nodÿn: .........)

__________________________________________________________________

 

 

(x1)

COFIANT Y TRI BRAWD O LANBRYNMAIR A CONWY.

GAN E. PAN JONES*, D.PH., M.A, MOSTYN.

(Nodÿn: *1834-1922)

 

HEFYD,

Y PRYDDEST GOFFADWRIAETHOL

GAN ONLLWYN BRACE.

 

BALA: CYHOEDDEDIG GAN H EVANS.

 

(x2) (tudalen weili)

 

(x3) YN DEYRNGED O DDIOLCHGARWCH CALON

AM GEFNOGAETH GYSON

A CHYDYMDEIMLAD SYLWEDDOL YN YR AMSER

A AETH HEIBIO Y CYFLWYNIR I’R

“WERIN A’R MILOEDD”

Y GYFROL FECHAN HON O ADGOFION

AMY TRI BRAWD

O LLANBRYNMAIR A CONWY

GAN YR AWDWR.

 

 

(x4) AT Y DARLLENYDD.

 

Wele Gofiant Y Tri Brawd o Llanbrynmair a Conwy, o’r diwedd yn llaw y darllenydd. Yr wyf yn dyweud “o’r diwedd,” o herwydd fod cymaint o gwyno yn y wlad eisiau ei gael yn gynt. Mae’n wir fod blynyddoedd wedi myned heibio er pan noswyliodd yr olaf o’r teulu, a rhesymol fuasai dysgwyl y codasid iddynt garnedd fechan cyn hyn, ond pan ddywedaf nad oes ond pymtheg mis er pan ddaeth y defnyddiau i’m llaw i, gwn na ddelir fi yn gyfrifol am yr oediad.

 

Nid oeddwn erioed wedi breuddwydio y daethai y pleser pruddaidd o ysgrifenu y COFIANT i’m rhan i, pe amgen buaswn wedi cadw cofnodion manylach o honynt, ac o’m cymdeithas a hwynt. Ber, mewn cymhariaeth, fu fy adnabyddiaeth bersonol o honynt, ond yr oeddwn yn nabod enwau “Riaid y Cronicl” a “Bechgyn Llanbrynmair,” er yn blentyn. Yr oedd eu henwau yn gysegredig gan fy anwyl Fam, a siaredid yn barchus am danynt ar aelwyd fy hen weinidog, y Parch. S. Griffiths, o Horeb, fel yr aethum i’w caru a’u hedmygu heb yn wybod i mi fy hun, ac ni fu ganddynt ffyddlonach dysgybl yn y wlad. Yr oeddwn yn eu hedmygu am eu hunplygrwydd a’u cysondeb yn sefyll o blaid yr hyn a ystyrient yn wirionedd, gan nad pa un a fyddai hyny yn boblogaidd ai peidio. Drwy ein bod yn cydymdeimlo ar wahanol amgylchiadau, ac yn rhwyfo yn yr un cwch, deuem yn fynych i gyfarfyddiad a’n gilydd, fel o’r flwyddyn 1870, pryd y daeth S.R. a G.R. i fyw i Conwy, bu ein cydnabyddiaeth bersonol yn gyson, tyner, a difwlch, hyd y diwedd; a than deimlad nad teg i goffadwriaeth y TRI WYR HYN, y rhai a garwn mor fawr, rhai a ysgrifenodd gymaint, gael eu gadael heb i neb ddyweud gair am danynt, yr ymgymerais a’r gorchwyl.

 

Nid wyf yn dysgwyl fy mod wedi llwyddo i foddloni pawb, ni wnaed hyny erioed eto. Gwn y dywedir fod ar y COFIANT dri bai mawr, gan nad faint yn ychwaneg:

-1. Mae llawer o bethau ynddo ddylasai fod allan;

-2. Mae llawer o bethau allan ddylasai fod ynddo;

-3. Dylasid dyweud y peth sydd ynddo yn wahanol ac yn well.

 

Yr oedd genyf dri nod o’m blaen wrth ysgrifenu:

-1. Taflu goleuni ar amgylchiadau y gwyddwn oddiar ymgom bersonol a hwynt, a thrwy ysgrifau a adawsant ar eu hol, oedd yn bwysig yn eu golwg;

-2. Dyweud y cwbl (x5) mor onest a didderbyn wyneb ag yr arferent hwy wneud pan yn fyw;

-3. Cadw y Tri Brawd yn y golwg drwy yr oll, ac nid cymeryd mantais arnynt i fachu hanes neb arall wrthynt, fel y gwna rhai; ac os wyf wedi llwyddo yn y pethau hyn, dibwys genyf gael fy meio am y lleill.

 

Bu rhaid i mi ddwyn iddo mewn gwahanol gysylltiadau enwau rhai personau y buasai yn dda genyf eu gadael allan, ond ni ddywedais air am neb, ond mor bell ag yr oedd yn angenrheidiol mewn trefn i daflu goleuni ar helyntion y Tri Brawd.

 

Awgrymai llawer, drwy fod y Tri wedi croesi yr afon er ys cymaint o amser, a llu o’u cyfeillion wedi eu canlyn, nad oedd ond gobaith gwan y byddai i’r anturiaeth dalu drosti ei hun. Ond diolch i’r “werin a’r miloedd,” mae y gefnogaeth wyf wedi gael eisoes yn ddigon o sicrwydd ar y pen hwn.

 

Dymunaf ddiolch yn garedig i’r cyfeillion fu mor barod i’m cynorthwyo, drwy roddi i mi fenthyg llyfrau, llythyrau, a chofnodion. Estynodd cyfeillion Llanbrynmair a’r cylch gymorth i dalu am ddarlun yr Hen Gapel a’r Diosg. Cynorthwyodd cyfeillion Conwy i dalu am ddarluniau Capel y Dysteb a’r Gofgolofn; a dygodd y perthynasau, Mr. W. Jones, Amwythig, a Mrs. Williams, Conwy, dreuliau y darluniau eraill. Diolch hefyd yn garedig i Mr. O. Evans, Conwy, am dynu darluniau y Capel a’r Gofgolofn yn rhad ac am ddim, a gall y neb fyddo yn ewyllysio eu cael ganddo ar gardiau am swllt yr un. Yr wyf dan rwymau hefyd i gydnabod Mrs. Jones (gynt Miss Breese, o Cerrigydruidion), a rhyw wraig garedig o Lanbrynmair, y naill am gael darlun y Diosg, a’r llall am ddarlun o’r Hen Gapel. Cefais hefyd lawer o gymwynasau o wahanol gyfeiriadau, y rhai nas gallaf enwi bob yn un. Derbynied pawb fy niolch am a wnaeth.

 

Yr oeddwn wedi clywed fod amryw ysgrifau mewn llaw a’r gyfer y COFIANT, ond yr oll a welais i oedd eiddo Mr. William Jones ac eiddo y Parch. R. Mawddwy Jones, pa le yr aeth y lleill nis gwn.

 

Gwelir ynddo ychydig o wallau orgraffyddol, ond gan y gellir yn hawdd ddeall beth ddylent fod, nid oedd yn werth genym eu cywiro.

 

Diolch i’r Dosbarthwyr am eu ffyddlondeb. Hyderaf y cewch yn y COFIANT rywbeth i sirioli, i gryfhau, ac i oleuo eich meddwi. Yr Eiddoch yn ffyddlon,

 

Mostyn, Rhagfyr 28, 1892.

E. PAN JONES.

 

(x6) LLUN: HEN GAPEL, LLANBRYNMAIR

Hen Gapel, Llan-bryn-mair

(x7) LLUN: Y DIOSG; LLANBRYNMAIR

 

Y Diosg, Llan-bryn-mair

(x8) CYNWYSIAD.

Eu Haniad a’u Hymdaith yn Llanbrynmair...x9

Y Tri yn troi o Llanbrynmair...x37

Yr Helbulon yn Tennessee...x64

S.R. a Rhyfel America...x74

Eu Bywyd yn Brynyffynon...x91

Tysteb S.R. a’r Gwrthwynebiadau...x117

Dychweliad S.R. ...x158

Y Dadleuon...x188

Y Dadleuon Diweddar...x218

Y Tri yn Brynmair...x286

Adgofion a chwynion am y Tri Brawd...x324

Eu Cofion a’u Carnedd yn Llanbrynmair...x335

Rhestr o’r Derbynwyr...x349

 

Y DARLUNIAU.

Hen Gapel Llanbrynmair...x6

Y Diosg: hen Gartref yr Riaid...x7

J. R. yr Hynaf...x15

Brynyffynon, Tennessee...x55

Brynmair, Conwy...x187

S.R. yn ddyn ieuanc...x243

J. R. yn ddyn ieuanc...x259

Y Tri Brawd yn eu henaint...x287

Capel y Dysteb, Conwy...x323

Y Gofgolofn yn Conwy...x334

             

 

Y Tudalen Nesaf
1772k kimkat1772k RHAN 2
Pennod 1: Eu Haniad a’u Hymdaith yn Llanbrynmair..x8
Pennod 2: Y Tri yn troi o Llanbrynmair...x37


 

 

 

DOLENNAU AR GYFER GWEDDILL Y GWEFAN HWN

0043c kimkat0043c
Yr iaith Gymraeg
·····
0005k kimkat0005k
Mynegai yn nhrefn y wyddor i’r hyn a geir yn y gwefan
·····
1343k kimkat1343k
Y Cymry yn América
·····
0052c kimkat0052c
Testunau Cymraeg â throsiad Catalaneg yn y gwefan hwn
(Textos en gal·lès amb traducció catalana en aquesta web)
·····
1051e kimkat1051e
Testunau Cymraeg â throsiad Saesneg yn y gwefan hwn
(Texts in Welsh with an English translation in this website)
 



COFIANT Y TRI BRAWD O LANBRYNMAIR A CONWY (1893). GAN E. PAN JONES, D.PH., M.A, MOSTYN. (1834-1922)
·····
Ble’r wyf i? Yr ych chi’n ymwéld ag un o dudalennau’r Gwefan “CYMRU-CATALONIA”
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web “CYMRU-CATALONIA” (= Gal·les-Catalunya)
Weø(r) àm ai? Yùu àa(r) vízïting ø peij fròm dhø “CYMRU-CATALONIA” (= Weilz-Katølóuniø) Wéb-sait
Where am I?
You are visiting a page from the “CYMRU-CATALONIA” (= Wales-Catalonia) Website

CYMRU-CATALONIA

Edrychwch ar fy Ystadegau / Mireu les estadístiques / View My Stats