1228 Gwefan Cymru-Catalonia / la Web de Gal·les i Catalunya. Twynog. Cyfrol Goffa y diweddar T. Twynog Jeffreys, Rhymni.

Dan Olygiaeth Dyfed. Gwrecsam. Hughes a’i Fab. 1912

 



http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_027_twynog_02_1228k.htm

0001z Y Tudalen Blaen

..........1863c Y Porth Cymraeg

....................0009k Y Gwegynllun

..............................0960k Y Gyfeirddalen i Gywaith Siôn Prys (testunau Cymraeg yn y wefan hon)

...................................0094k tudalen mynegeiol “Twynog”

.....................................................................y tudalen hwn / aquesta pàgina


..

 

 

 

 

 

 

 

0860k y llyfr ymwelwyr

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Catalunya i Gal·les
 

 

Cywaith Siôn Prys - Testunau Cymraeg ar y We

 

Twynog

Cyfrol Goffa y diweddar T. Twynog Jeffreys, Rhymni.

Dan Olygiaeth Dyfed.

Gwrecsam. Hughes a’i Fab. 1912

 

Rhan 2

 

Adolygiadau diweddaraf:
28 10 2001; 26 07 2002 cywiro mân wallau teipio

 

      Fersiwn destun sylfaenol / Basic Text Version: 1227k_print kimkat1227k_print

 

Mae gennym hefyd fersiwn PDF o’r tudalen hwn / There is also a PDF version of this page:

                       http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_027_twynog_1912.pdf

 

 

(x81)
TANNAU EREILL TWYNOG.
CERDDI GWASGAREDIG, HEB EU CYHOEDDI O’R BLAEN,
A GYHOEDDIR YN BENNAF YN Y GYFROL HON.

 

RHIF Y GERDD

TEITL Y GERDD

TUDALEN

+1

Cyfeillgarwch

x81

+2

Crist yn cario’r Groes

x90

+3

Cyrrion pellaf Cariad

x98

+4

Dagrau’r Edifeiriol .

x99

+5

Gwraig y Meddwyn

x101

+6

Y Cristion yn y Glyn

x102

+7

Disgwyl Gwawr

x103

+8

Y Fynwent

x104

+9

Edrych ymlaen

x105

+10

Y Wyryf a’r Lili

x106

+11

I chwi (efelychiad)

x107

+12

Y Gair a wnaethpwyd yn gnawd

x108

+13

Bore Saboth

x109

+14

Dim ond disgwyl

x110

+15

Rhyddid

x111

+16

I gofio am danaf fi

x112

+17

“Nid yfwn un dyferyn”

x114

+18

Y Twyllwr

x115

+19

Pan êl y Rhyfel heibio

x116

+20

Y Baban, gwyn ei fyd :

x117

+21

Llynnoedd Bannau Myrddin

x118

+22

Llyn Bethesda

x120

+23

Camwedd

x121

+24

Udgorn Dirwest

x122

+25

Ben Bowen

x123

+26

Arwain fi

x128

+27

Marwolaeth y Milwr

x129

+28

Briwsion o Dorthau Brasach -

x130-x132

+29

Cân yr Henwr

x133

+30

“Pan welodd Efe y ddinas”

x134

+31

Yr Awrlais

x135

+32

Tosturi

x136

+33

Gwenau Elen

x137

+34

Clychau’r Briodas

x138

+35

Dewch i’r Bâd

x139

+36

Pentwynmawr

x140

+37

Dafydd wedi ei eneinio

x142

+38

Methu siarad

x144

+39

Brig yr hwyr

x145

+40

Dyn cyn ei gwymp

x145

+41

Breuddwyd y Weddw

x146

+42

Y Gôf

x147

+43

Ar fedd Islwyn

x148

+44

Y “Fenyw Newydd”

x149

+45

Y Caeth Yn Rhydd

x151

+46

Y Nadolig

x152

+47

Yr Ehedydd

x153

+48

Mae Duw yn dda o hyd

x154

+49

Tŷ ar dân

x155

+50

Uwch y Crud

x156

+51

Morfudd o’r Dolau

x157


(x81)
(+1) CYFEILLGARWCH.
O Air hudolus! ai rhyw freuddwyd yw
Neu belydr gwyn yn nos y byd ’rwy’n byw?
Prin ydyw’r byd yn aml o Gyfeillgarwch;
A chariad sy’n dirywio’n ddifaterwch;
Dyfnderoedd oerion, lleithion, llawn o fraw,
A chaddug anhreiddiadwy ar bob llaw
Yn fynnych sy’n brawychu’m calon wan,
Bruddglwyfus, unig, ar ryw farwol làn;
Gelyniaeth, trais, a chreulonderau enbyd
Sy’n cymmell gorthrwm, a rhyfeloedd ynfyd;
Gwroldeb anianyddol yn brif rinwedd;
A chryfder afresymol yn edmygedd;
Twyll, hunan, balchder, a chybydd-dod atgas
Sydd yn gwenwyno awyr pob cymdeithas;
A throchir cymwynasau gorau dyn
Yn ddwfn mewn rhagfarn hunangarwch blin.

Er hynny, dal ei ffordd mae Cyfeillgarwch,
Ac ymledaena’n ddistaw i’r tywyllwch;
Ymleda weithiau, yn ffurfafen lâs,
I wlitho’n neithdar ar y crindir crâs;
Bryd arall, daw yn wrês, fel bore ha’,
Yn disgyn ar fynyddoedd oerion iâ;
(x82) A’r lle disgynno dry’n baradwys hyfryd,
O ddyfroedd pêr, a ffrwythau pren y bywyd;
A phur awelon sydd yn deffro’r blodau;
Ac engyl hoffant ynddi wneud eu llwybrau.
Os ansefydlog yw y byd erioed,
Yn gwasgu diffuantrwydd dan ei draed;
Mae Cyfeillgarwch cynnes byth yr un
Yn dal i lonno y pererin crin:
Os ä o’r golwg weithiau dros y rhôs,
Fe ddaw yn ol, fel haul ar ol y nos;
A thra bo Cyfeillgarwch yn y byd,
Nid ä yn uffem, ac yn ddrwg i gyd,
Dianga hunanoldeb pan ddaw heibio,
Fel dianc lladron pan yn cael eu gwylio.

Mewn llawer ffordd mae’n cynorthwyo dyn
Yn ddoeth, a distaw, fel y nef ei hun; -
Ei ddafnau sydd yn disgyn ar ein daear
I droi’r anialwch crin yn erddi hawddgar;
A diffodd fflamau hunanoldeb calon
Sy’n llosgi rhinwedd cydymdeimlad dynion.
Ei chwäon iach sy’n dod dros erddi cariad
Y Duwdod, cyfranogi o’u cyflenwad,
A chario’r peraroglau bywiocäol
I awyr drymaidd niwl, a tharth daearol,
Yn heddwch, a thangnefedd tragwyddoldeb
I amser, i’n iachau â rhin anwyldeb.
Cryfhâ, awyddfryd dyn am anfarwoldeb,
I fyw mewn cwmni lle nad oes casineb:
Mae’n difa gwanc am sefyllfaoedd uchel;
A dysgu cydraddoldeb mewn addfwynder;
Rhoi ystyr i’r ymadrodd am gyfeillach
Rhwng y boneddwr, a’r llafurwr tlotach.
Gwasgaru’n ddylanwadau i bereiddio
Cymdeithas rhag i athrod ei dinystrio
A pharotoi y ffordd i egwyddorion
Tragwyddol gariad Duw i ddod i ddynion:
L,ledneisio yr ynfydion anffaeledig
I urddas a gwyleidd-dra cysegredig:
(x83) Cyfnewid tostur trallod dyn yn nefoedd
Ddaearol, â thynerwch ei weithredoedd.

Mae’n rhaid cael adnabyddiaeth rhwng dau berson
Cyn ffurfio Cyfeillgarwch cynnes, ffyddlon:
Cydnawsedd, a chyd-ddealltwriaeth addfed
Cyn caru, ymhyfrydu, ac ymddiried,
I gyd-ymgyrraedd at yr un amcanion,
O dan lywodraeth yr un egwyddorion;
Y teimlad cyffredinol hwnnw sydd
Yn barch, ac ymddiriedaeth trylwyr, rhydd;
A gwrês teimladol, nwydol fel yn Mam
Buredig, gwyd heb ofyn y “Paham,”
I gyd-ddioddef mewn ystormydd geirwon
Neu yn ymlyniad tawel, doeth, cyfeillion:
A serch naturiol at y da a’r prydferth
Gynhyrfa ddyn i losgi’n hunan-aberth.
Fe geir ei ddeddfau sanctaidd yn dragwyddol,
Yn disgyn lawr i’r byd o’r Hanfod Ddwyfol, -
Gwirionedd llachar yw, oddi wrth y Duwdod,
Yn siarad trwy y teimlad a’r gydwybod:
Cysgodion o hapusrwydd y Tri Pherson,
Sy’n disgyn ar y byd i wneud cyfeillion.
Mae yn ymestyn at y pagan anwar,
I wneud ei lwybrau gwyrgam yn fwy hawddgar;
ac yn y gwâr, a’r Cristion, cwyd yn raddol
I dir bendigaid y rhinweddau moesol.
Mae gwaed, ofn, blys, ac elw’n clymu rhai;
Ond ffug-gyfeillach ydyw, gilia’n glau,
Nis medrant uno neb mewn hyfryd hedd,
A thanio’r serch, na ddiffydd oerni’r bedd:
Nis gellir bod yn dyner, naill i’r llall,
Dan nodded Cyfeillgarwch pur, diball, -
Y Cyfeillgarwch hwnnw wna’r “Cymydog”
Caredig, tynor, gofia yr anghenog;
A gwylio’r claf yn nhonnau olaf bywyd.
A thywallt dagrau’n gawod ar ei weryd;

(x84)
Y glyn yn unig a’u gwahana hwy
A glymodd Cyfeillgarwch, ac O’r clwy
Rydd colli un i’r llall, ar làn y bedd,
Medd dagrau dreiglant dros y welw wedd.

O Gyfeillgarwch! mae yn sychu dagrau;
A rhoddi balm i ddyn mewn gorthrymderau;
A lloni’r galon ysig yn y nos
I’w gynnal, nes tyrr gwawrddydd sanctaidd, dlos,
Efengyl y tangnefedd yn y fron,
I nofio iddo’r nef i’r ddaear hon;
Ac yma tra yn rhodio fyddant “oll yn oll.”

Mewn tlodi gwâg ymnesa Cyfeillgarwch,
Ac ar yr aelwyd oer y rhydd hyfrydwch;
Digysur, di-amddiffyn yw y tlawd
Os na fydd Cyfeillgarwch iddo’n ffawd.
Ffurf uchaf yw ar naturioldeb dyn
I wneuthur dau yn onest, ac yn un,-
Yn un mewn cydymdeimlad, a daioni, -
Yn un mewn hunan-aberth, a haelioni:
Mor fwyn siaradant hwy, ac hyd yn nod
Tyneru’r bai, lle byddo bai yn bod.
Cyd-lawenhau yw hanfod Cyfeillgarwch,
A rhaid cael dau i gyd-fwynhau’r hyfrydwch;
Aur-fwnglawdd yw yn natur y ddyniolaeth,
Na chloddir iddo fyth ar dir meudwyaeth;
Cyd-weithio raid i’r ddau yn dy`n am dano;
Cyd-gyfranogwyr yw’r meddianwyr ynddo;
Cyd-weithio â daioni Duw o hyd
I ychwanegu at gysuron byd.
Pob gweithred dda sy’n gwneud y fron yn llawen,
Boed fach neu fawr, mae’n cofio am ei pherchen:
Llawenydd am lawenydd yn cyfnewud;
Tangnefedd am dangnefedd yw’r addewid:
Wrth hynny y dangosir i bob un
Beth ydyw amcan pennaf bywyd dyn:
(x85) Mewn gweithred dda y ceir y teimlad llon,
Sy’n dwyn ysgafnder i’r drom-lwythog fron;
Dwyn gorfoleddus gân felysa’r galon,
A nodau cliria’r gerdd yn ei halawon
Ac ysgrifennu ar y galon fod
Awr fraf ei gor-ddiddanwch wedi dod:
Pob gallu sy’n cryfhau dan y dylanwad,
Pob cynneddf sy’n cyflymu mewn gweithrediad.

Yn ol edrychaf weithiau ar y tir
A deithiais yn ei gwmni, pan yn ir
Fachgennyn gynt yn Eden Mebyd llon,
Yn dechreu gwneud cyfeillion cynta’r fron
Cyn hwylio’n gryf i gefnfor bywyd draw,
Heb gyfaill lawer tro, i ysgwyd llaw;
‘Rwy’n gweld y nos, fy hen gymdeithion bach.
Yn bore godi gyda chalon iach;
A’r dydd o Gyfeillgarwch ar ei hyd,
Cyn gwybod ystyr siom, a gwg y byd;
Os codai rhyw anghydfod, bychan iawn
Oedd ef, äi heibio’n llwyr cyn y prydnawn;
Ni thorrai ar y Cyfeillgarwch cu,
A’r aur-edafedd fai’n ein clymu ni;
Yn awr, yn nawnddydd oes, ar fin y glyn,
Byrr gam ac anadl, a’r llaes wallt yn wyn,
Breuddwydiaf am gyfeillion bore oes,
Fel coed yr Hydref am yr Haf di-loes:
Ond wedi hynny teimlais lawer tro
Yng nghôl unigrwydd, mewn estronol fro,
Fel dyn heb wlith y nef, a gwên ei Dduw,
Nac olion traed un ffrind caredig, byw;
Na gwrthrych teilwng i roi arno’m serch,
Wrth symud rhagwyf rhwng y creigiau erch;
Y dydd yn troi yn nos, heb seren wèn
I daflu pelydr i oleuo’r nen;
Yn teimlo fel ar goll yng nghanol llu,
‘Mron methu symud trwy’r unigrwydd du;
(x86) Ond ar y llwybr unig pellaf hwnnw,
Aml dro y cefais Gyfeillgarwch gloew, -
Cyfeillion cu, a chymwynasau tirion,
Yn cyffwrdd enaid, ac esmwytho’r galon;
Ac hyd yn hyn, ’rwyf yn eu dyled hwy
Medd adgof, sydd a’i emrynt gwlyb dan glwy’:
Llawenydd sydd yn diolch iddynt eto, -
Y blodau hynny ydynt wedi gwywo,
Am wasgar peraroglau ar fy mywyd,
A rhoi melyster i flin oriau adfyd.
I ffrydiau ereill, pan fônt mewn cyfyngder,
Y rhoddaf finnau ddafnau y melyster,
Mêl Cyfeillgarwch a gaiff lifo eto’n
Orlanw fel i dalu’r hen ddyledion.

A gaf fi rifo anian bur fel un
O fy nghyfeilhon? Crewyd hi a dyn
Gan yr un Duw. A’i anadl Ef o hyd
Yw’r bywyd hwnnw sy’n ein dal ynghyd.
O mor gyfeillgar yw - mae’n estyn llaw
I arddel y berthynas hon, o draw, -
Ei choed, a’i blodau daena i’n croesawu;
A chwery ei thelynau mwyn i’n llonni;
Datguddir ei chyfrinion i’n diddanu
Yn sêr y nos, sydd drwy y gwyll yn gwenu;
A’i thafod sydd yn siarad wrth y dyn
Fel pe am ddweud, - nad ydyw wrtho’i hun;
Ond nid oes digon o gyd-ddealltwriaeth
Rhwng bôd rhesymol, a thi, greadigaeth;
Na’r cydymdeimlad hwnnw wna gymundeb
Fel sydd rhwng dyn a dyn, am dragwyddoldeb, -
Y cydymdeimlad meddwl ni cheir yno,
Mynwesau llawn o gariad yn cydgordio;
Yn dewis geiriau godant o ddyfnderau
Calonnau’n fflwch o’r Cyfeillgarwch gorau
Ond af i fyny ar adenydd purdeb
I gwmni angel, yno mewn anwyldeb
(x87) Y ffurfiaf Gyfeillgarwch gwresog, grymus,
A ymlonydda yn dangnefedd melys;
Mi nesaf beunydd at fy Angel-Geidwad,
Caf hwn yn gyfaill, gwrendy fy nymuniad
Pan fyddwyf yn llesghau, a daw fel mellten
Yn syth o ymyl Duw i ymyl f’angen.

Af eto’n uwch, at Dduw, maen Fôd Personol,
A minnau ydwyf berson bychan, meidrol;
Am hynny y mae rhyngom ryw gydnawsedd
I gyfeillachu ar randiroedd rhinwedd;
Ymgyfathrachu mewn Cyfryngwr sanctaidd
Lle try digofaint yn awelon balmaidd;
Ac oerni pechod yn gynhesrwydd tirion,
A dyn â Duw, fel Enoc, yn gyfeillion.

Ha, Gyfeillgarwch! ei brydferthion eto
A welaf ar ei daith yn ymddisgleirio
Edrychwn arno’n nesu i’r ystafell, -
Pob calon sydd yn curo heb ei chymhell; -
Yn curo caredigrwydd, a daioni,
A gwên foddhaol ar bob grudd o’r teulu
Y pethau gorau roddir ar y bwrdd;
Pob dyfais rhag i’r cyfair fyned ffwrdd;
A’r pethau gorau yn yr ymddiddanion
Sydd yno’n cael eu gwau, am oriau meithion:
Cyfoethog gôf, a chwim ddychymyg yno
Sydd ar eu gorau’n cadw draw’r “ffarwelio;”
Pob teimlad drwg sydd wedi dianc ymaith;
Pob dychryn, ofn, a thawch cenfigen, ddiffaith;
O fel y nofiant yno mewn boddineb
Heb arw dòn yn rhychu môr anwyldeb:
O gyfarfyddiad hapus, ni ddaw brad
I fewn i’r cylch, a phlygion o bruddhad:
Mae llonder yn gwefreiddio’r cyfarfyddiad,
Nes gwneud yr annedd yn gartrefle cariad;
A’r “Gweddnewidiad” a’r boddhad arosol
A fynnent aros yno yn wastadol;
(x88) Mor ddedwydd yw y tŷ  sydd yn cysgodi
Y Cyfeillgarwch hwnnw nad yw’n oeri.

Mae glannau môr yn gwneud cyfeillion lu
Pan fyddo blodau’r Haf yn gwenu’n gu;
A blodau cariad dyfant ar y làn
Y sangodd Cyfeillgarwch, yn y man;
Pan wywo blodau’r Haf yn awel Hydref,
Y blodau ereill wridant yn eu cartref.

Yr alltud unig mewn estronol wlad
Sy’n wylo’i einioes allan mewn pruddhad;
Nid ydyw Cyfeillgarwch yn ei fyd
I roddi iddo gyfareddol prudd, -
Eu ffurf, a’u crebwyll, a’u gweithredoedd da
Yn freuddwyd tyner gyda’r hwyrol chwa,
Yn dangos, fel ar ddamwain, yr hyn fu,
Yn ffeithiau gwynion y gorffennol cu;
Munudau esmwyth y gorfennol pell
Sydd yn melysu ei bellenig gell,
Pan nad yw Cyfeillgarwch ond mewn adgof
A’i holl fwynderau’n methu mynd yn anghof.

Ymweithied Cyfeillgarwch i bob dyn,
Ac i bob gwlad, yn ei adfywiol rin,
I sylweddoli breuddwyd y gorffennol.
Yn ffeithiau byw ym mywyd y dyfodol
Ei gyfathrachol naws fo yn cynhesu
Cenhedloedd byd, i’w gwneud yn hapus deulu;
Ymwadiad tawel, ac aberthiad distaw
O fôr o fôr a fyddont yn ymweithiaw;
Ymagor fel yn hyfryd lawnt o flodau
Bwäog lwyni, coedydd peraidd ffrwythau,
Y tegwch hwnnw hardda ardd dynoliaeth,
Fel gardd yr Arglwydd o dan ysbrydoliaeth;
(x89) A Rhosyn Saron hoffa ymddisgleirio
Fel Brenin blodau’r byd a’r nefoedd yno
Mwy byw ac effro ydyw’r holl deimladau
Wrth rodio yn ei ardd, a bwyta’i ffrwythau.

Diolchwn fyth i Dduw am ein cyfeillion,
Gan gadw’r hen wrth wneud y rhai newyddion;
Ni ddaw’r un gaeaf heibio ar ei eithaf,
Ns nos anobaith yn ei hagrwch duaf,
Cenfigen, trais, ac enllib, heb ryw f6l,
Os cawn gyfeillion ffyddlon, llawn o sêl:
Afor anodd, yn y glyn, yw myned rhagom,
Heb ddwylaw tyner Cyfeillgarwch danom,
I ddal y pen, a sychu chwys marwolaeth,
Wrth estyn cwpan olaf gwin brawdoliaeth.
Yng ngoleu clir y Nef bydd Cyfeillgarwch
Yn llawn cyfaredd fyth, a diogelwch;
Y sancteiddiolaf gyfrinachau yno
Ar hyd tragwyddol ddydd, yn dal i’n swyno;
Heb ffino, ac heb ddisgwyl gweled amser
Yn dyfod i roi terfyn ar y pleser.


(x90)
(+2) CRIST YN CARIO’R GROES.
Crist yn cario’r groes! wyt frawddeg fechan iawn ar dafod dyn,
Ond er hynny, dy gynhwysiad synna’r nefoedd fawr ei hun:
Dros ysgwyddau y canrifoedd proffwydoliaeth welodd hyn,
A desgrifiodd daith yr Iesu, dan y groes i ben y Bryn
Ceisiaf finnau nesu yno fel ar derfyn y nos brudd;
Sut y gallaf? Yr olygfa dy`n y dagrau dros fy ngrudd
Mae Caersalem yn llawn cyffro dieithr gyda thoriad gwawr, 
Ac mae’r dydd yn gwlawio diluw o ogoniant gwyn i lawr;
Mae yr haul o draw yn gwrido uwch y dref sy’n llid i gyd
Ar gyflawni y gyflafan dduaf, fwyaf welodd byd.

Jerusalem, a’i theml odidog, sydd
Yn hardd o dan belydrau claer y dydd;
Gerllaw mae Gethsemane dan y gwydd,
Lle bu yr Iesu’n ei unigrwydd prudd;
Mor rhyfedd! - chwysu’r gwaed yn ddafnau cochion
Nes gwridai’r glaswellt fel o ofid calon!

Mae Judas wedi ffoi i’w farwol hynt,
Diflannodd fel drychiolaeth yn y gwynt
‘Rol rhoi y cusan, - y ffug anwyldeb hwnnw, -
A’i gwnaeth i Grist ei hun yn ddeublyg chwerw;
Fe aeth i’w “le ei hun” ar hynt anobaith,
A gwaed yr Iesu ar ei dalcen diffaith.

Aeth heibio’r prawf, distawodd llais gau dystion,
A chiliodd Pilat i’w neuaddau gwychion;
Ond ow! ’roedd sŵn y prawf yn llenwi’r palas,
A’r floedd “Croeshoelier Ef” fel ysbryd atgas;
Edrychai ar bob peth yn wyllt ei dremyn,
A phob symudiad yn bradychu dychryn;
(x91) A chodai’i law fel pe bai am rybuddio
Rhyw ebyll du i gadw ’mhell oddi wrtho.

Mae Petr yn wylo, dwed, - “Gwirionedd mwy
A geisiaf, - y Gwirionedd gwyn tra bwy’;
Aberthaf bopeth i’r Gwirionedd hael,
Fy einioes, os bydd eisieu, er ei gael;
Mor fawr yw dyfnder fy anwiredd noeth,
Yr hwn a wnaeth fy myd yn uffern boeth,
‘Rwy’n teimlo’i faint a’i nerth, ac O! y mae
Yn dwyn i’m henaid aflan boen a gwae,
Os tair gwaith gwedais, mwy na thair mil gwnaf
Gyhoeddi’r Gwir i’r byd am hyn i’m Nâf.”

Ffôdd y disgyblion oll mewn du anobaith, -
“Os ceisiwch fi, gadewch i’r rhain fynd ymaith,
Yn ol eich gofyn chwi mae y rhai hyn
Bob un mor rhydd a chwäon iach y glyn”
Ac yno y pryd hwnnw’r “praidd” a ffôdd
Gan ado’r Bugail Da i’r ’storm a’i tôdd.

Y dorf sydd yn amgylchu y dadleudy,
A Christ yn cael ei arwain o’r carchardy
Y Phariseaid â’u bradwrus wenau
Arweinient fyddin ar ei lwybr, yn forau
Yn llaw casineb mae y sanctaidd bwyll
Dan erledigaeth, dirmyg, gwawd, a thwyll.

Mae’r cyfiawn rhwng y milwyr ar y palmant
Dan ddedfryd farwol Cynghor brid a soriant;
Mae rhai yn ysgyrnygu dannedd amo,
A rhai yn poeri, ereill yn ei daro.
Mae’r gwawd yn codi drachefn a thrachefn,
A’r groes yn cael ei rhoddi ar ei gefn, .
Ac yntau’n crynu’n wàn o dan ei phwys,
A thros ei fin tyrr aml ochenaid ddwys.

Cychwyna yr orymdaith tua’r Bryn,
A’r floedd “Croeshoelier Ef” yn deffro’r glyn;
(x92) Gwŷ r y Sanhedrim gyda thorf gythrybius
O segur-chwilwyr am ryw dôn gynhyrfus,
Ar ran yr archoffeiriaid codant lef
Am fywyd Archoffeiriad mawr y nef.

Ei gorff sy’n clwyfus wedi’r noson arw
Ar ol y “goron ddrain” a’r fflangell chwerw
Fel nodau duaf dyfnder darostyngiad
Ar draethau’r Ymwaghad a’r Ymgnawdoliad:
Cynhydda’r dorf mewn maint a hyfdra creulon,
A Brad yn duo’i threm mor ddu, a’i chalon;
Ond cuddia’r Iesu Ei Ddwyfol Alluowgrwydd
Fel o dan len: mae’r Oen mewn diniweidrwydd
Yn nhwrf y dorf, distawa’i weddi rasol
Fel murmur nant yn nhwrf y môr gerwinol.

Mae y dihalog un yn cael Ei faeddu,
A llanw llid y dyrfa fawr yn codi:
Mae’n mynd yn aberth tanllyd i wallgofiaid
Gynhyrfwyd gan ragfarnau y penaethiaid;
Ychydig ddyddiau sydd er pan yr oeddent
Yn dilyn Iesu, ’r gwyrthiau a edmygent;.
Mor wresog oeddynt, - llawn o’r gair “Hosannah”
Pan oedd y wlad yn erbyn y Messiah,
Pan roddid palmwydd ar y ffordd y cerddai,
Pan daenid blodau hyd y llwybr gymerai;
Mor uchel y canmolent Iesu yno,
Mor frwd y cwhwfanent iddo “groeso!”
Daearol deyrnas yn y blodau welent,
A sŵn “dyrchafiad” ym mhob bloedd a glywent;
Dychmygent weld eu hunain o fewn teyrnas
Ddaearol Iesu, dan lawryfau urddas;
A chyfoeth yn dylifo at eu galwad
O “wlad yr aur” i foddio’u hunangariad.

Ond weithian credant fod eu gobaith gwyn,
Eu helw, - yn Ei arwain tua’r Bryn, -
(x93) Bryn darostyngiad Crist, - hen ddyffryn tlodi -
Lle mae heulwenau’r “byd” oll yn diffoddi;
A hyf arweiniant Ef i’r llwybr hwnnw, -
Can’s diffodd y mae “gobaith drud eu helw;”
Ac wele hwy ym mrad-gynlluniau’r gelyn -
Am weniaeth byd - yn hyf groeshoelio Duw-ddyn.
Ac eco mae cynddaredd hyd y nef,
A’r waedd yn codi’n uwch, - “Croeshoelier Ef.”

Mae Crist yn cario’r groes, - y groes erwinol, -
Yr hon sy’n pwyso arno’n anioddefol,
Ac ar y pryd yn dioddef haid anynad
I luchio cabledd ar ei lân gymeriad;
Mae’n taro’i droed ar y mynyddoedd tywyll,
Dieithriol, pell, cartrefle poenau erchyll,
A digter deddf, cyfiawnder, barn ar bechod,
Ac angau’i hun yn llechu yn y gwaelod.

Mae Crist yn cario’r groes, - nid croes ei hun,
Neu ddarn o bren sydd yn ei gwneud yn ffin, -
Mae croesau byd ar hon yn cydgyfarfod,
A phwyso arno y mae byd o bechod;
Nis gallai’r byd ei hun fyth, fyth ei syflyd,
Ond Crist a’i cariodd hi i diroedd bywyd.

Mae Crist yn cario’r groes! O drist fynegiad
I falais, llid, a dirmyg cenedl anfad,
Fu’n cronni am flynyddoedd yn ei erbyn
Ond heddyw dyrr yn genllif ar ben Duw-ddyn;
Mae twrf dialedd tyrfa fawr yn torri,
A rhu marwolaeth o bob tôn yn codi.

Mae’r lidiog dorf yn drinoo ael y Bryn,
A digter mwy yn torri’n genllif gwyn
Yn y cableddau rithient yn eu hiaith,
A’r creulonderau dduent erchyll waith
Y groes yn pwyso ar Ei gefn briwedig,
A’i ben yn waed dan “goron ddrain” blethedig;
(x94) Dau leidr condemniedig.- un bob tu
Osodwyd er rhoi arno lliw mwy du;
Ond ha! mae cydymdeimlad yn tywynnu
Ar ladron dan y groes o galon lesu;
Mae gras a maddeugarwch yn dylifo
I fron ddiragfarn yn y dyrfa honno;
Ac un o’r lladron welodd Dduw’n ei ymyl,
A’r mab yn cael Ei guddio dan y cymyl.

Mae Crist yn cario’r groes! tra’e nef yn fyw
Yn disgwyl adref y tragwyddol Dduw;
Pan oedd Ei foliant ar holl dannau’r nef,
Fe godai llais o’r byd, -” Croeshoelier Ef.”
“Ni fynnwn hwn,” “Ymaith âg Ef,” adseinia
O graig i graig ar lethrau Bryn Golgotha.

Mae Crist yn cario’r groes! Beth ddaw o hono?
A ydyw ei elynion wedi llwyddo
I gael y fuddugoliaeth? Mor anhebyg
Yw i orchfygwr, dan y gwawd a’r dirmyg;
Ai methiant ydyw trefn yr ymgnawdoliad?
I simoi’r anchwiliadwy Ddwyfol gariad?
O na, mae Crist yn cario’r groes fel rhan
O’i fwriad olaf ar y farwol làn, -
Mynd trwy ddioddefaint fel gorchfygai Ef
Y gelyn ola’n ymyl porth y nef;
Mae cario’r groes yn rhan o gynllun Dwyfol
Mewn ymgnawdoliad gan y Mab Tragwyddol,
A’r ffordd i’r groes, yr hon oedd ddigon garw,
Fel i orfodi ’i anfarwoldeb farw.

Mae Crist yn cario’r groes! er mwyn perffeithio
Ei hun yn Geidwad cyflawn, cydymdeimlo,
A chyd-ddioddef gyda y ddynoliaeth
Yn holl ddyfnderoedd loesion ei naturiaeth;
Perffeithio yn Dywysiog dioddefiadau
A chyd-ymddwyn â dyn dan ei holl groesau

(x95) Mae Crist yn cario’r groes! trwy’r gwawd a’r llid,
Er fod Ei ddynol nerth bron pallu i gyd
Er lludded mawr, er dyfned yw y loes,
Er codi’r ’storm, mae Crist yn cario’r groes
Er fod creulondeb y gelynion hyn
Yn duo yr holl ffordd i ben y Bryn,
A chysgod crwydrol pen y Bryn yn awr
Yn disgyn ar bob cam yn dduwch mawr;
Er fod ysbrydion annwn yno’n cyd-
Gyngreirio âg ellyllon duon byd,
Mae trem y Ceidwad ar y Bryn o hyd -
Y pinacl ucha’i fywyd yn y byd.

Mae Crist yn cario’r groes! mor unig yw,
Heb wenau’i Dad, heb gwmni engyl Duw;
Ond Ef i’r groes a godir cyn bo hir,
Lle gwêl heirdd loewon fryniau’r nefol dir,
Lle’r esgyn uwch pob croes, i’w newydd stâd,
Goruwch angylion i ddeheulaw’r Tad.
Mae Crist yn cario’r groes i ben y Bryn!
Fel dyn yn unig mae yn gwneuthur hyn
Fel Duw, gallasai ddwyn o’r drydedd nef
Angylion gwynion i’w amddiffyn Ef
Un gair o’i enau wrth y dyrfa aflan
A brofai Ei fod Ef yn “Air” ei hunan
Fel pan ddywedodd yn yr Ardd, - “Myfi yw,”
Pryd syrthiodd llu yng “ngwysg eu cefnau” ’n wyw
Gallasai eto gyda gair o’i eneu,
Wneud torf i syrthio’n wyw yng ngwysg eu cefnau
Heb fyth i godi - oni bai, fod cariad
Y Crist yn ymdaith tua Bryn Croeshoeliad.

Mae Crist yn cario’r groes! ond mae Ei liniau
Yn plygu, a gwanhau o dan y pwysau;
Ei gam sydd yn byrhau, a gwelwa ’i wedd,
Er hynny ar Ei drem mae nefol hedd;
Mae weithian wedi methu symud cam,
Er hynny, amyneddgar a dinam,
(x96) Sefydla’i olwg Dwyfol, tawel, tirion,
Ar y rhai hynny geisiant waed Ei galon.

Yn fud y saif y milwyr creulon hyn,
Fel caethion pwysant ar eu gwaewffyn;
Tra’r Iesu’n dàl yn llawn o gydymdeimlad,
Brenhinol, a mawreddog Ei edrychiad;
Arddunedd hunanfeddiaiit anherfynol
A donna drosto yn ogoniant nefol;
Nid oes ymhlith y dyrfa neb mor wyn,
Mor hardd âg Ef yn dringo ael y bryn
Pur ddiniweidrwydd ar ei wyneb welir,
Sŵn tonnau cariad fel o’i fynwes glywir,
Ysblander Dwyfol fel ar ben y Mynydd
Gynt, drosto dyrr yn wedd-newidiad newydd.

Y Phariseaid a’r penaethiaid yrrant
Yn galed arno, am Ei waed sychedant;
Ac yntau sydd yn mynd fel “Oen i’r lladdfa,”
Mewn ymdrech mawr, a lludded yn y dyrfa;
A mellt ystorm Calfaria yn ymrithio
Yn sŵn cynddeiriog yr orymdaith wallgo’;
Ac ar y Bryn o’i flaen mae cwmwl llidgar
Fel barn yn hongian rhwng y nef a’r ddaear;
Ond metha hyn, ynghyd i’r llid a’r cabledd,
Leihau ac oeri cariad a brwdfrydedd
Ein Crist i gario’r groes i ben y mynydd
A marw aml yno’n Fyd-Waredydd:
Mae tynged bywyd byd, o oes i oes,
Yn ymddibynu’i gyd ar gario’r groes.
Ac O! fel mae y chwys a dyfnder lludded
Yn argyhoeddi’r byd o’i ymdrech galed
Ac ambell un a welodd ei Ddwyfoldeb
Fel pelydr haul ar lenni Ei feidroldeb
Sy’n nesu ato, gyda chalon rwygol,
ac ar Ei ruddiau ddagrau byw tosturiol;
Ond ow! mae hyn yn ennyn mwy o gabledd,
Ac yn cynhyrfu tonnau môr dialedd
(x97) Yr archoffeiriaid, a’r penaethiaid creulon
A frysient fry i ollu-ng gwaed ei galon.

Ond pan oedd ar ddiffygio o dan y groes, fel hyn,
Daeth Simon o Cyrene ymlaen ar lethrau’r Bryn, -
Y cymwynaswr gwladaidd, nis gallasai ddal yn hwy,
Heb ddangos cydymdeimlad i’r Iesu dan Ei glwy’;
Os Simon Petr a gefnodd, os pallodd nerth ei fraich,
Daeth Simon o Cyrene a’i ysgwydd dan y baich;
Y cymwynaswr ffyddlon! i Grist ar lethrau’r Bryn,
Cei ddiolch gan holl seintiau y nef am byth am hyn.

Fe gariodd Crist y groes! ac fel mae hyn
Yn dangos pechod du, a phuredd gwyn;
Mae adsain y gwaradwydd, a’r dioddef
Yn disgyn heddyw ar y byd yn dangnef
Mae yr olygfa fyth yn ennyn cariad
Ym mynwes dyn at Aberth Mawr y Ceidwad;
Pan gariodd Crist y groes fe gododd seren
Ein gobaith yn ein du ffurfafen.

Fe gariodd Crist y groes! o’i wir ewyllys,
I fyny’r llethrau trwy’r drychinoedd echrys
Gwneud ffwrdd i phoenau ereill oedd Ei amcan
Wrth fyned dan y poen a’r gwarth Ei hunan;
Gwneudllwybr newydd rhwng y byd a’r nefoedd
I ddynion ymbalfalent yn y niwloedd;
Ffordd “fywiol” ydyw hon i ddringo i fyny
Gysegrwyd gyda bywyd sanctaidd Iesu.
Dylanwad cario’r groes anadla fywyd
I’r byd i ddringo rhiwiau serthion adfyd;
Y ffordd lle mae’r fforddolion drwy yr oesau
Yn derbyn Dwyfol nerth i gario’u croesau.

Mae tannau aur gorfoledd o hyd mewn llawer bron
Wrth edrych dros yr oesau ar yr olygfa hon;
Holl adsain y gerwindeb a gollwyd yn y gwaed,
A blodau gras a chariad brydferthant ol Ei draed;

(x98) A chario’r groes rôdd obaith i’r enaid brwnt dihedd,
Am wlad lle nad oes croesau, a byd lle nad oes bedd.
Bydd sôn am Grist yn cario y groes yn y nef wèn,
Er hynny, gorfoleddu a diolch fydd yn ben;
Bydd bywyd a llawenydd am byth yn cuddio’r loes,
Anthemau llon adseinir am Grist yn yn cario’r groes.


(+3) CYRRION PELLAF CARIAD.
Cariad sydd yn disgyn obry,
I’r ddaeargell dywell, oer,
Lle na fu erioed yn gwenu
Belydr haul, na llewyrch lloer;
Egyr ddorau y carcharau,
Daw i’r nos a seren ddydd;
Rhed ei hunan i gadwynau,
I gael alltud tlawd yn rhydd.

Chwilio’r fynwent am ei chalon
Y bu geneth welw’i gwedd;
ac ynghanol nos trallodion,
Curai haeam ddôr y bedd
Gyda gwawr y bore wedyn,
Clywodd draw gynhefin lef
Croesodd hithau dros y terfyn
At ei chalon yn y nef.

Yn ei wynder a’i dosturi,
Gwelaf gariad dan ei groes;
Ac yn marw’n ddistaw arni,
Heb frycheuyn ar el oes;
O’r tywyllwch clywaf riddfan
Cariad pur o Ddwyfol bryd,
Dan ei glwy’n dibrisio’i hunan
I waredu euog fyd.

(x99)
(+4) DAGRAU’R EDIFEIRIOL.
Bendithiol ddagrau bywyd
O eigion calon dyn,
Yw’r dagrau edifeiriol dwys,
Dan wenau Duw ei hun;
Mor lân, mor bur ddisgynnant
Ar flodau newydd stâd,
A’r gwlith nefolaidd, sanctaidd, sy’n
Eneinio’r nefol wlad.

Nid dagrau yr amddifad,
Na’r weddw lwyd ei gwedd,
Fydd yn y glyn yn rhoi ei phwys
Ar garreg oer y bedd
Na, dagrau calon lawen
Yn curo dan y fron,
Gan bwyso’n ffyddiog ar y Graig,
Sy’n torri mîn pob tòn.

O! ddagrau cyfareddol,
Felysed ydynt hwy,
Yn dod â holl gysuron nef
I’r truan dan ei glwy;
Yn tarddu o’r tragwyddol,
Gan furmur ar eu taith,
Fod ysbryd dyn gan Ysbryd Duw,
Dan y sancteiddiol waith.

Defnynau’n sisial ganu
Alawon gwlad yr hedd,
I lonni y pechadur dan
Gysgodau du y bedd;
Ac yntau yn ymboeni
Wrth eilio’r hapus gân,
A’r adlais hêd i fyny’n syth,
Nes rhoddi’r nef ar dân.

(x100)
Disgynna dagrau anian
Yn loewon gyda’r nos;
A chyfyd cnwd o flodau’n fyw
Ar ol y gawod dlos;
Daw haul y bore heibio
Yn ysgafn ar ei droed;
Mor llon ac iach, mor hardd ei wedd,
A’r bore cynta ’rioed.

Ond dagrau’r edifeiriol,
Rhagorach yw y rhain;
Datguddiant fywyd mwy ei werth,
A bywyd bery’n gain;
Er dued camwedd Eden
Yn hanes marwol ddyn,
Mae’r dagrau’n brawf y daw yn ol
Mor lân a Duw ei hun.

Nid dagrau y colledig
Ar fin y byd a ddaw,
Yn suddo dros y penrhyn pell,
I blith ysbrydion braw;
Ond dagrau calon newydd,
Yn dysgu newydd gân;
A bw¨a hedd cyfamod Duw
O fewn y gawod lân.

Ymgryma’r gwael bechadur
O flaen gorseddfainc Iôr;
A thonnau ei euogrwydd du
Yn chwyddo fel y môr;
Ond dagrau edifeirwch
Ddisgynnant dros ei rudd;
A thros y llif y cenfydd borth
I’w enaid fynd yn rhydd.

Ac yn y fynwes honno
Sydd gan y dagrau’n îr,
(x101) Y planwyd hedyn byth a dŷ f
O fewn y nefol dir;
Ac yno bydd yn fuan
Yng ngardd y sanctaidd fyd;
A llawenychir calon Duw
Gan swyn ei nefol bryd.

O! ddagrau gwerthfawrocaf,
Yn ffordd y palmwydd gwyrdd;
M welaf yn eich gloew lif
I ddyn gysuron fyrdd;
A chwyddo yn afonydd
Wnewch ar eich taith ddi-lyth,
Nes glanio’r Cristion yn wlad
Na welir deigryn byth.

(+5) GWRAIG Y MEDDWYN.
Dwfn wae, a’r duaf newyn, - yw rhyfedd
Brofiad gwraig y meddwyn;
A chysgodau gloesau’r glyn
Hyd elor yn ei dilyn.

I’w distaw gylch o dostur, - daw y gŵr,
Wedi gwario’i lafur;
Ni cha hon ond poen a chur,
Ac eisiau yn lle cysur.


(x102)

(+6) Y CRISTION YN Y GLYN

Ar ben ei thaith mae’m heinioes frau,
Gadewch im’ groesi bellach,
Curiadau’m calon sy’n gwanhau,
Fu’m cam erioed yn fyrrach;
Fy ysbryd ar ei hwyrol daith
Sy’n gweled tragwyddoldeb,
Ac yn dyheu ar làn y traeth,
Am froydd anfarwoldeb.

‘Rwy’n teimlo niwloedd hwyr y dydd,
Wrth nesu at yr afon;
A threiddio trwy fy mynwes brudd
Mae iasau cwsg y meirwon;
Ond ha! mi glywaf dyner lef
Trwy niwl y glyn yn chwyddo,
Yn dweud fod telyn yn y nef
I mi ’rol cyrraedd yno.

Llawenydd bywyd yno fydd
Ymhlith y gwaredigion;
A minnau sydd am fynd yn rhydd,
A’u puredd yn fy nghalon;
Ac yna caiff fy llygaid hyn
Weld yr ysplander nefol,
Dau belydr Haul Cyfiawnder gwyn,
O fewn y fro ysbrydol.

‘Rwy’n gweld y bryniau ’r ochr draw
Yn codi yn y pellter;
A’r pêr awelon yma ddaw
I chwythu arnai’n dyner;
Mae su adenydd yn y nen,
Ha! engyl sydd yn disgyn;
Mae drws y nef o lêd y pen,
Nes yw’n goleuo’r dyffryn.

(x103)
Fy ysbryd sy’n mynd adre’n awr,
I’r wlad a fum yn garu;
Y wlad lle mae llawenydd mawr,
A gwlad fy anwyl Iesu;
‘Rwyf wedi esgyn dros y glyn
I fewn i’r nef drigfannau,
I gwmni’r Brawd fu ar y bryn,
Nis gwn pa le mae angau.

(+7) DISGWYL GWAWR

Y wawr, y wawr a ddeffry
O’i breuddwyd cyn bo hir,
A diluw o brydferthwch ddaw
I dorri dros y tir
Mae pelydr ar ddisberod
Yn yr eangder draw,
Yn treiddio drwy’r tywyllwch prudd,
I ddweud ei bod gerllaw.

Mynyddoedd yr encilion,
Proffwydi natur fawr,
Sydd yn y cwmwl ar ddihûn
Yn disgwyl am y wawr;
Dring hithau’r uchelderau,
A’i gruddiau fel y rhos,
A baner buddugoliaeth daen
Ar orsedd ddu y nos.

Telynau teulu anian
Garolant oll yn awr;
Ac er melysed cwsg y nos,
Melysach cân y wawr;
Ha! dacw’r haul yn dyfod,
O’r dwyrain pell yn rhydd.;
Mewn gosgordd o gymylau claer,
Mae’n ddydd, mae’n ddydd, mae’n ddydd.

(x104)
(+8) Y FYNWENT

Y fynwent brudd, henafol,
Eisteddaf yma’n wàn,
I wrando nodau galar dwys
Yn torri ar y làn;
Mae teimlad dwfn y galon
Yn llifo dros y rudd;
A sŵn y gair marwolaeth fel
Ar dannau’r awel rydd;
Hardd wyneb llawer cyfaill
Ymrithia o fy mlaen,
Wrth weled yn y fangre hon
Ei enw ar y maen;
Yr ywen ddu a geidw
Ei chysgod dros y fàn;
A su yr awel yn ei brig
Yn fraw i’r fynwes wàn;
Gall tyner law celfyddyd
Addurno’i hwyneb hi,
A phlannu coed a blodau pêr
Yn brydferth o bob tu;
Ond er prydferthu’r beddau
A’r blodau mwyaf cun,
‘Ddaeth yno neb erioed o’i fodd
I huno’i olaf hun.

O! fangre gysegredig,
Macpela rhwng dau fyd;
Lle gorwedd llwch anfarwol saint,
Yn ddistaw ac yn fud;
I hon y rhoddir gofal
Y farwol ran gerllaw,
Pan fyddo’r enaid wedi ffoi
I draeth y byd a ddaw;
Mae oesoedd yma’n huno
Eu holaf hûn mewn hedd;
Ond nis gall amser ar ei hyd
Ddiwallu gwanc y bedd.

(x105)
Os ydyw angau’n greulon,
Didderbyn wyneb yw;
A chydradd yw teuluoedd byd
Ar dawel “erw Duw;”
Diddymir amgylchiadau
Pan ddêl yr olaf awr;
Yr un gobennydd fydd i’r tlawd
A’r ymherawdwr mawr;
Er fod gorseddfainc angau
Rhwng beddau llwm dilun,
Agorir mynwent yn y man
I gladdu angau’i hun;
Tywynion anfarwoldeb
Sydd ar y fynwent ddu,
A ffordd y nef yn fythol glir
O fedd yr Iesu cu.

(+9) EDRYCH YMLAEN
.
O Gyfaill! Pam yr ydwyt yn galaru
Ar ol blynyddoedd wedi llwyr ddiflannu?
Paham ’y treuli oriau goreu bywyd
Byth i freuddwydio am fwynhad ieuenctyd?
Pam yr edrychi’n ol mor brudd dy galon,
I ganol drychiolaethau yr encilion?

Ai am fod nwyf dy fywyd yn diffygio?
A rhosliw wrid dy ruddiau yn edwino?
O wirion ffôl! Oferedd iti gwyno,
Yn unig am fod blodau’r haf yn gwywo,
Nid ydyw tlysni blodau brau marwoldeb
Yn ddim ond cysgod gwan o anfarwoldeb.

Mae purach gwanwyn yn dy aros eto,
O dan rosynau yn tragwyddol wrido
Lle nad yw’r saint yn hongian eu telynau,
Yn dawel fud, ar helyg duon angau;
O gyfaill! Dyro ffarwel i’r gorffennol,
A’th fryd ar fawr gynhaeaf y dyfodol.

 

(x106)
(+10) Y WYRYF A’R LILI

Lili wèn, a wnei di addo
Cadw fy nghyfrinach i?
Pan ddaw’r awel grwydrol heibio,
Paid a dwedyd wrthi hi;
A phan ddelo gwlithog berlyn,
Gyda’i fendith ar dy ben,
Fy nghyfrinach cadw wedyn,
Cofia hynny, lili wèn.

 

Fyth ni roddwn fy nghyfrinach
I’r awelon ar eu hynt;
Onide fe elai ’mhellach,
Dweud y cyfan mae y gwynt;
Ond i ti, y ddistaw lili,
Foneddiges benna’r glyn,
Fy nghyfrinach wyf yn rhoddi,
Rhoi i gadw, cofia hyn.

Dal dy wyneb tyner, cryno,
Yma ger tŷ  wyneb i,
Ond rhaid iti gofio eto
Mai cyfrinach ydyw hi;
Wel, yr wyf yn caru rhywun,
Ac, os dwedi mod i’n ffôl,
Minnau ddwedaf fod y rhywun
Hwnnw yn fy ngharu’n ol.

Gwn dy fod di fel y merched
Am ei enw’n awr yn brudd;
Ond fe elli’n hawdd ei weled
Yn y gwrid sydd ar fy ngrudd;
Fe addawodd ddyfod heno
I’m cyfarfod gyda’r nos;
Dacw fe a’i ysgafn osgo,
Ffarwel iti, lili dlos.

(x107)
(+11) I CHWI (+Efelychiad)
Pe meddwn hoew awen
I lunio swynol gin,
A choethder yn ei hacen
A’i barddas oll yn lon,
A bywyd yn ei hedyn
I fynd am oesau lu,
Fel eiddo cân Ap Gwilym,
Fe luniwn honno i chwi.

Pe meddwn law arlunydd
I dynnu darlun hardd,
Mor brydferth a’r blodeuyn
Sy’n gwenu yn yr ardd;
Mor bur a gwawr Mehefin
Yn ei foreuol fri,
Ar nwyfre y gorllewin,
Y darlun fyddech chwi.

Pe medrwn ysgrifennu
Ffugchwedl yn swyn i gyd,
A rhoi y cymeriadau
Yn fyw gerbron y byd
O fewn y rhamant honno
O dan lawryfau bri,
A’i chalon yn ddiwyro’r
Arwres fyddech chwi.

Pe byddwn innau’n arwr,
A byd yn canu’m clôd,
Am wneud gweithredoedd gwrol
I’r oesau sydd yn dod;
Dibrisiwn bob edmygedd
A chlodydd yn ddiri,
Os na chawn yr anrhydedd
O’u gwneud i gyd i chwi.

(x108)

(+12) Y GAIR A WNAETHPWYD YN GNAWD
Y Gair dwyfol ymgnawdolodd, - a Duw
Gyda dyn babellodd;
I fyd drwg ei fywyd drodd, - yn Frawd gwyl,
A dedwydd breswyl ei Dad ddibrisiodd.

Cyn bod angel na thelyn
O fewn y nef, gartref gwyn,
Efe oedd yno’n fywyd, -
Haul o fewn y nefol fyd.

Y Gair a alwodd y dengar heuliau
Yn rhengau dirif i’r eangderau-
Creawdwr tirion mudion gomedau,
A’r Hwn a enwodd ein daear ninnau,
Hwnnw a groesodd y ffin, a grasau
Duw Iôr i isel gyfandir eisiau
Anherfynol oer fannau, - unigedd,
A brofodd haeledd ei bur feddyliau.

Dwyfol Berson union oedd,
Yn siarad â’r amseroedd.

Duw mewn cnawd yn dlawd ei lun, - ac o Iôr
Yn gywiraf ddarlun;
A gwarth eneidiau gwrthun
Yn rhoi ei nôd arno’i hun.

Gwyrth fwyaf rhyfeddaf Iôn
I ail eni gelynion;
Yn ddi-storm mewn newydd stâd, - enaid gwyn,
A gân ei delyn i’r Ymgnawdoliad.

Mnnau, er gorthrwm annwn,
Garaf, a chlodforaf Hwn.
 

(x109)
(+13) BORE SABOTH

O! fore cysegredig,
I lonni’m hysbryd prudd;
Mae peraroglau nef y nef
Yn ei awelon rhydd;
Cysuron tragwyddoldeb
Ddwg imi yn ei law;
A cheidw’m henaid llesg yn llwyr
Yn sŵn y byd a ddaw.

O! anwyl nefol fore,
Caf fynd i balas Iôr
I hedd fwynhau efengyl nef,
Ac uno yn y côr;
Mor felys i fy ysbryd,
Yw sŵn yr hen amen
Sy’n hebrwng gweddi dros y ffin,
At Orsedd Brenin nen.

Pan fyddo gwawr y bore
Yn agor porth y dydd,
Fe egyr drws gofalon byd
I’m gollwng innau’n rhydd;
Mor hyfryd i bererin,
A’i wyneb tua’r nef,
Yw cael diwrnod ar ei hyd
Yn ei gymdeithas Ef.

Anadla’r byd ysbrydol
Yn esmwyth ar y tir;
A su angylion ar eu taith
Sydd yn yr awel bur;
Fy Nuw! ’rwyf yn hiraethu
Am weled nefol wawr,
Y Saboth pur nad yw ei Haul
Yn machlud byth i lawr.

(x110)
(+14) DIM OND DISGWYL

Pan fo’th fynwes wedi blino
Dan ofalon trwm y dydd,
A gofidiau’r byd yn pwyso
Ar dy ysbryd llesg a phrudd
Methu dod o hyd i ffynnon
Yn yr anial crasboeth hwn,
Tithau ar y llwybrau geirwon
Bron yn marw dan dy bwn, -
Dal i sisial mae amynedd -
Bore gwlithog dyrr o’r diwedd;
Mae dy yrfa i dangnefedd,
Dim ond disgwyl.

Galon drist o dan ofidiau,
Paid a grwgnach ar dy daith
Claer belydrau’r nef yn chwareu
Welaf yn dy ddeigryn llaith;
Dim ond disgwyl, enaid olwyfus,
Wrth y groes, o ddydd i ddydd
Gwylio ar dy rawd flinderus
Heddyw mae angylion ffydd.
Sisial, sisial mae amynedd -
Bore gwlithog dyrr o’r diwedd;
Mae dy yrfa i dangnefedd,
Dim ond disgwyl.

Dim ond disgwyl, os yw Satan
Yn dy rwystro i fynd ymlaen;
Ac os daw ei luoedd allan,
Fel cymylau’r nos ar daen
Dim ond disgwyl llaw dy Geidwad,
All dy arwain drwy y glyn
Cofia am y dwyfol gariad
Dorrodd ar Galfaria fryn.
Dim ond disgwyl, medd amynedd,
Bore gwlithog dyrr o’r diwedd;
Mae dy yrfa i dangnefedd
Dim ond disgwyl.

(x111)
(+15) RHYDDID

Canai yr ehedydd tirion
Yn y nef uwchben y bryn
A melodedd ei acenion
Yn mawrhan y bore gwyn;
Pan ddisgynnodd ar y ddaear,
Daliwyd ef mewn rhwyd yn gaeth;
Ac o fewn ei gyfyng garchar,
Collwyd cân y cerddor ffraeth.

Yn y meddwl mae yr awen,
Yn y galon mae y gân
Yno canant yn eu helfen,
Nes rhoi’r byd a’r nef ar dân
Pan gyfynga’r bardd feddyliau
Yng nghorfannau culion iaith,
Mudion yw’r pereiddiaf seiniau
Yng nghadwyni odlau caeth.

Curant eu hadenydd tyner
Fel yr hedydd yn ei gell;
A distawa’r miwsig seinber
Fyth os na cheir ryddid gwell;
Rhyddid ydyw cais meddyliau
Yn eangder calon dyn;
Fel yr hedydd yn y borau,
Pan yn pyncio wrtho’i hun.


(x112)
(+16) I GOFIO AM DANAF FI
Nid oedd ond tri diwmod
Cyn dydd priodas Ann,
I selio ei chyfamod pur
A modrwy yn y Llan;
Ond gyda’r cyfnos tawel,
Aeth gyda’i hanwyl un
I bleser-fâd oedd ar y traeth,
A’r môr mewn esmwyth hûn.

Nid oedd un donn i’w gweled
O gylch y dawel lan;
Ond tonin o wrid ar fôch y fûn,
Pan sonid am y Llan;
Ond O! mae siom yn llechu
Ym mynwes oer y donn
A than ei gwên risialog hi
Mae saeth i lawer bron.

Ar ol eu denu i hwylio
Ymhell i’w pleser daith,
I’r golwg ar y dyfnder mawr
Daeth brad y tonnau llaith;
Cynhyrfodd eu tymherau,
Ac uchel oedd eu nâd;
A’u llid a dorrai’n ewyn gwyn
Ar ben y pleser fâd.

(x113)
Pan oedd eu nerth yn pallu
Ar frig y dyfnder oer,
Cyrhaeddwyd hwn gan forwr dewr
Yng ngoleu gwan y lloer;
Fe nofiodd tuag atynt,
I achub bywyd un;
A throdd yn ol i’i gadarn fraich
Yn cynnal pen y fûn.

Ni choflodd y cariadlanc,
Ym merw gwyllt y donn,
Y blodyn hardd a wisgodd hi
Cyn cychwyn, ar ei fron
Fe daflodd iddi’r blodyn,
A dyma’i olaf grl, -
“Ffarwel, f’anwylyd, cadw hwn
I gofio am danaf fi.”

Cyrhaeddodd hithau’r glannau,
O afael llid y donn;
Ac O! ni roddai’r byd yn grwn
Am flodyn olaf John;
Fe’i cadwodd yn ddi-lygredd,
A’i ddail eneiniodd hi;
A cheidw’n fyw y frawddeg brudd, -
“I gofio am danaf fi.”


(x114)
(+17) “NID YFWN UN DYFERYN”

Aeth heibio lawer blwyddyn faith,
Ar daith dros fryniau Cymru,
Er pan aeth John a’i anwyl Wen
Yn llawen i briodi;
‘Roedd Gwen yn eneth hawddgar, lon,
A John yn fachgen glanbryd,
Ac wedi cadw ’mhell eu dau
Rhag temtasiynau bywyd.

O fewn aur gylch y fodrwy gron
Cawn John a’i anwyl Wenno,
Yn ŵr a gwraig yn hardd eu gwedd,
A thonnau ’u hedd yn chwyddo
Diwydrwydd a darbodaeth sydd
Bob dydd o fewn y teulu,
A phob cysuron dan y nen
Ar John a Gwen yn gwenu.

Ond O! fe ddenwYd John ryw dro
I uno yn y dafarn,
A llawenhau wnaeth Bacchus fawr
Pan dorrodd lawr y cadarn;
O radd i radd, o ris i ris,
Yn is yr aeth ’rol hynny,
A’i wraig a’i blant mewn eisieu bwyd,
Mewn bwthyn llwyd a thlodi.

I fedd y meddwyn syrthiodd John,
A chalon Gwen a dorrwyd,
A’r plant, heb dad na mam yn hwy,
I dloty’r plwy’ ddanfonwyd;
O gwyliwn rhag y cwpan câs,
A diras lwybrau’r meddwyn,
A chaned pawb y byrdwn hwn, - 
“NID YFWN UN DYFERYN.”

(x115)

(+18) Y TWYLLWR
Ar risiau palas ar ryw noson ddu,
Mewn llwm gadachau, rhoddwyd baban cu,
Gan law grynedig mam, -  y fam dwylledig, - 
Oedd bron gwallgofi gyda bron ddrylliedig;
Ac wedi rhoddi’r tamaid olaf iddo,
Cyn rhoddi’r cusan olaf wrth ffarwelio,
Gadawodd ef, a chalon drom a phrudd,
A deigryn ola’i chariad ar ei grudd
Cyn rhoddi llam dros ael ofnadwy’r dibyn,
Yn aberth byw i nwyd twyllodrus adyn.
Ddyhiryn brwnt! beth bynnag yw dy enw,
Tydi a haeddodd fedd y dibyn hwnnw.
Ple bynnag wyt yn byw, beth yw dy safle?
Dylaset fod yn amlwg iawn yn rhywle,
Ac ar dy dalcen enw llofrudd erchyll,
I’r byd dy nabod mwy fel halog ellyll;
Cyfuniad wyt o ddiafl a bwystfil rheibus,
Yn cuddio dichell dan dy wên dwyllodrus
Mae mwy o dduwch pechod ar dy galon,
A mwy o dawch y fall ar dy freuddwydion
Nag un dyhiryn arall ar lithrigfa
Ofnadwy pechod i’r trueni dyfna’.
Tydi, anghenfil, creulon, di-gydwybod,
Fe dyrr dy gamwedd ar dy ben yn gawod;
Cyfiawnder saff yn llidiog uwch dy warthrudd,
A’i gledd yn ysu am drywanu llofradd;
O Gymru gu! yn lân bo’th ddeuddeg sir,
Pan na bo twyllwr aflan ar dy dir.

(x116)
(+19) PAN ÊL Y RHYFEL HEIBIO

“Pan êl y rhyfel heibio,”
Medd milwr yn y gâd,
“Caf weld fy anwyl Wenno
Rhwng bryniau Cymru fâd;
Mae gwawr ei chariad tirion,
Dros frigwyn donnau lu,
Yn oleu ar fy nghalon,
Yng ngwlad y Zulu du.”

“Pan êl y rhyfel heibio,”
Medd gwyryf ysgafn droed,
“Caf weled Arthur eto
Mor llawen ag erioed;
Cawn rodio yr hen lwybrau
Dan dderw cefn y ddôl;
A gloewi addunedau
Pan ddychwel ef yn ol.”

“Pan êl y rhyfel heibio,
Dof adref dros y lli;
A chaiff y fodrwy selio
Ein hen gyfamod ni!
Pan gysgaf yma’n welw,
Dan dyner wlith y nen,
Mae breuddwyd yn fy nghadw
O hyd yng nghwmni Gwen.”

“Pan êl y rhyfel heibio,
T’yrd, Arthur, dros y donn;
Mi wasgaf nes it’ lanio,
Dy lythyr at fy mron;
Fe bery dy serchiadau
Yn loewach na dy gledd;
A ffyddlon fyddaf innau
I Arthur hyd fy medd.”

(x117)

(+20) Y BABAN, GWYN EI FYD

Disgynnai’r cenllysg ar y to,
A rhuai’r gwynt yn nhwll y clo;
A’r fam yn eistedd wrth y tân
Yn hwian cwsg i’w baban glân;
A d’wedai cariad uwch y cryd, - 
Mae’r baban bach yn wyn ei fyd.

Hi wyliai’n ffyddlon uwch ei ben,
Gan ddyfal wnio’i wisg fach, wèn;
A gwelai ’mlaen i’w mebyn cu
Flodeuog haf, heb gwmwl du;
A chanai serch wrth siglo’r cryd,
Mae’r baban bach yn wyn ei fyd.

I fewn y daeth ystorom gref,
Ac yn ei amdo gwelwyd ef;
A gwelwyd gweddw fam ddi-hedd
Yn torri ’i chalon ar y bedd;
Ond er mai gwâg yw’r cynnes gryd,
Mae’r baban bach yn wyn ei fyd.

I fynwes Iesu dros y glyn
Ehedeg wnaeth, anwylyd gwyn;
Ymhlith angylion gwisgwyd ef
Yn aaddurniadau goreu’r nef
A dywed llais o arall fyd, - 
Mae’r baban bach yn wyn o hyd.


(x118)

(+21) LLYNNOEDD BANNAU MYRDDIN

Esgynnwn dros y gorwel,
I ben y Mynydd Du,
I wrando’r llynnoedd tawel
Yn sôn am Gymru fu;
Ymhell o dwrf y trefi,
O gyrraedd tawch y glyn,
Lle mae’r awelon melys
Yn canu yn soniarus,
Y ceir y llynnoedd hyn.

Rhaid dringo llethrau’r mynydd,
Drwy ganol grug a mawn;
A theithio dros y creigydd,
Yn uchel, uchel iawn,
Cyn cyrraedd min y llynnoedd,
Sydd ar y bannau mud;
Fel pe yn gwyl ymguddio
O wydd y byd a’i gyffro,
Mewn cyfareddol hud.

‘Nol dringo dros ysgwyddau
Clogwyni, haen ar haen,
A theimlo fod y bannau
Fel pe yn ffoi o’n blaen,
Y golygfeydd rhamantus
Ymledant o bob tu;
A’r blinder dry yn ganu,
A’r cwyno’n orfoleddu,
Ar ben y Mynydd Du.

Mor hyfryd ydyw sefyll
Yn ymyl y Llyn Bach,
Sydd rhwng y creigiau erchyll
Yn byw mewn awel iach;
Y galon sydd yn suddo
I bêr-lewygol stâd;
Fel pe bai’rllenn yn codi
Oddiar y sanctaidd dlysni,
A dŷ f mewn nefol wlad.


(x119)
O! olygfeydd arddunol,
Mi garwn yma fyw,
Lle mae y byd naturiol
I gyd yn llawn o Dduw;
Daw llawer cwmwl heibio
I’r llyn, i weld ei lun
Ac uwch y donn ddilychwin
Yr oeda fel pererin,
Yn falch o hono’i hun.

Mae yno ddifyr chwedlau
Yn byw y dyddiau hyn,
A ddysgwyd gan y tadau, -
Bugeiliaid glân y llyn;
Yng ngwlad y Mabinogion,
Fel yn y dyddiau fu,
Fe gofir drwy yr oesoedd
Am “Ladi Wen” y llynnoedd,
Ar ben y Mynydd Du.

Dilynwn gefn y mynydd
I olwg y Llyn Mawr,
A dderbyn ar ei ddeurudd
Gusanau cynta’r wawr;
Yn ymyl porth y nefoedd,
Dan nawdd y clogwyn draw,
Wrth gysgu a breuddwydio,
Ei lygad sydd yn gwylio
Y bychan lyn islaw.

Pwy edrydd y cyfrinion
A geidw yn ei fron?
A phwy a egyr gloion
Rhamantau cudd y donn?
Pa bryd y naddwyd gwely
I’r llyn tryloew ’i wawr?
Ai gwir y traddodiadau
Fod dinas dan y tonnau,
Ar ben y mynydd mawr?


(x120)
(+22) LLYN BETHESDA
O! ddyfroedd pur, grisialaidd,
O! gysegredig lyn;
Breuddwydia’r awen ar ddihûn
Ar lan y dyfroedd hyn;
O’i gwmpas bu angylion
Yn oedi ddyddiau gynt;
A braidd na chlywir eto sŵn
Eu hesgyll yn y gwynt.

Yn ymyl Porth y Defaid,
Ar gyrrau Salem draw,
Cynheswyd calon oer y llyn
Gan wres y byd a ddaw;
Mewn blinder a phryderon,
A disgwyliadau syn,
Eisteddodd llawer claf yn hir
Ar lan Bethesda lyn.

Ysbyty anffaeledig
Y nefoedd yn y dref;
Ac yno yn feddygon bu
Angylion glân y nef;
Awelon tragwyddoldeb
Gynhyrfai ddŵr y llyn,
A’r cloff a lamai’n ol i’w dŷ
Heb gofio am ei ffyn.

Nid oedd y llyn ond cysgod
I’r efrydd yn ei boen,
O’r dyfroedd sydd yn tarddu’n bur
O orsedd Duw a’r Oen;
Glân ddyfroedd iachawdwriaeth,
Eigionau’n ras i gyd;
Yn rhoddi bywyd a glanhad
I wahangleiflon byd.

(x121)

(+23) CAMWEDD

Andwyodd Camwedd ein hetifeddiaeth -
I’w lliwgar degwch daeth llygredigaeth;
Y Ddelw ddwyfol gollodd dynoliaeth,
A chynnar gwyrodd o’i chain ragoriaeth;
Dyrwygwydd holl diriogaeth - bro Eden,
A swyn ei heulwen a droes yn alaeth.

Ei natur ddrwg ddwg i ddyn
Arw ddolur i’w ddilyn
A barn Duw a bery’n dân
Enynwyllt yn el anian;
Cymylau pechodau chwith - ga’i nennau,
A’u taran-folltau i’w gartre’n felltith.

Ar ystryw mae’n byw a bod, - hau niwed
I gynhauaf pechod;
Llidiog, ammwyll, digymod-ydyw dyn,
I’w Iôr yn elyn, yn grin i’w waelod.

Ar wag dŷ  yr euog dwl,
Ceir Camwedd yn creu cwmwl.

(x122)
(+24) UDGORN DIRWEST
Ton, - “Marseillaise.”

Mae udgom dirwest ar y bryniau
Yn galw’i byddin fawr ynghyd,
I gwrdd â’r gelyn sydd yn angau
I holl rinweddau calon byd,
I holl rinweddau calon byd;
Dynoliaeth sydd mewn gwae a chyni,
O dan hudoliaeth gref y cawr,
A’i blysiau yn ei suddo i lawr
I ddwfn waradwydd a thrueni
Awn, awn ymlaen yn hyf,
Dan faner wèn y groes;
A chroeswn gledd â’r gelyn cryf,
Sy’n difa blodau’r oes.

Mae gwerin gwlad o dan ei chlwyfau,
Clywch gri ei gweddi yn ei gwaed
Prysurwn, chwifiwn ein cleddyfau
Nes cael y gelyn dan ein traed,
Nes cael y gelyn dan ein traed
Cyfeddach sydd yn ymwallgofi,
A’i lluoedd yn cryfhau o hyd,
A meddwdod am feddiannu’r byd,
Mae’n bryd i Seion ymarfogi;
Ni awn, ni awn i’r gâd,
A difrod ar ein cledd;
Gorchfygwn elyn mawr y wlad,
A dawnsiwn ar ei fedd.

(x123)
(+25) BEN BOWEN
Ben Bowen gu! mor anwyl gennyf unwaith
Fu cwmni sanctaidd dy wanwynol ymdaith;
Fe dreuliaist lawer noson dan fy nghronglwyd
Cyn bod cymylau’n duo’th hyfryd freuddwyd;
‘Rwyf eto fel yn teimlo’th bresenoldeb,
Er iti fynd i wisgo anfarwoldeb;
Mae’th gysgod byth yn aros ar fy annedd,
A’th ddelw ar fy nghalon ddiymgeledd;
A phery cariad yn ei wres diddarfod,
I doddi rhew marwolaeth ar dy feddrod.

‘Rwy’n cofio y tro cyntaf dros fy nôr
Yr aethost ti, a’th fron mor ddwfn a’r môr
O gariad, ac mor llawn a’r nef ei hun
O ser i loewi llwybrau ambell noson flin;
Do, gwelais dy hawddgarwch yn pruddhau,
A’th lygaid bywiog disglaer yn llesghau;
A thithau’n brysio i orffen dy waith mawr,
I Gymru, cyn i’th huan fynd i lawr;
Anodd oedd peidio’th garu di, fy mrawd,
A’th enaid mawr rhwng teneu lèn o gnawd;
Dy ysbryd oedd dynered a’r blodeuyn,
Ac eto’n gryf lle byddai’r nef yn gofyn.

Eisteddwn yng nghysgodau moel Cadwgan,
I’w weld ym more’i ddydd yn torri allan;
Emynnau ac alawon goreu Cymru
A glywodd yn awyrgylch fwyn y teulu
Disgynnai gwlith adnodau ar ei galon,
Ac allor gweddi fynnai ei freuddwydion
Do, ar yr aelwyd pan yn dechreu byw,
Fe deimlodd bethau goreu Beibl Duw;
Bryd hynny hauwyd hedyn y dylanwad
Flodeuodd wedyn yn ei hardd gymeriad;
Ond cafodd weled mam yn tawel huno,
Cyn gweld yr hâd a hauodd yn blodeuo.

(x124)
Fachgennyn hardd; un o wroniaid ffydd,
A wisgodd arfau Duw ym more’i ddydd;
A sylweddolodd mai trwy ddioddefiadau
Y tynnir allan fywyd ar ei oreu;
Athrylith danllyd, a chymeriad hawddgar,
Grasusau’r nefoedd, a rhinweddau’r ddaear,
Gyfunwyd yn ei fywyd pur di-nifwl,
FeI lliwiau hardd y bwa yn y cwmwl.

Yr anwyl Ben! hoff blentyn y deffroad,
Hawdd canu odlau pêr i’r fath gymeriad
Un oedd gynefin â rhodfeydd angylion,
Un a ddeonglodd lawer o’u cyfrinion;
Bydd hanes rhyfedd ei athrylith danbaid
Fel llewyrch haul yn hir ar lawer enaid.

Son am Ladmerydd ieuanc Moel Cadwgan,
A bery lawer oes drwy Gymra gyfan;
Fe garodd Gymru, carodd hithau Ben,
A gwasga’i ddarlun at ei mynwes wèn
Y bardd awenbêr fu yn casglu blodau
Ar gyfandiroedd sanctaidd drychfeddyliau
Ei awen grwydrai ar “dragwyddol heol,”
Dros lawer penrhyn i ardaloedd dwyfol;
Anadlai’n gryf lle mae awenau dewrion
Yn troi yn ol, a blinder ar eu calon;
Ond nerth ei dalent, a’i alluoedd byw,
A ddarostyngodd i Efengyl Duw;
Sedd proffwyd gras oedd pinacl ucha’i fwriad,
A dal yr Iesu mawr i fyd yn Geidwad.

Pan allan yn y “Penrhyn” pell, hiraethu
Yr oedd ei galon fawr am bulpud Cymru
Aeth yno’n llesg, a phryder yn ei gôl,
Ac angeu du yn erlid ar ei ol;
I’w wlad ei hun y cafodd genadwri,
A’i galon am ei dweud o hyd yn llosgi
Addewid fawr oedd ei athrylith olau
I bulpud cysegredig gwlad ei dadau.

 

(x125)
Yn fore iawn, bu’n ymladd âg amheuon,
A llawer saeth anelwyd at ei galon;
Ysbrydion cyfeiliornad yn fyddinoedd
Fu’n gwarchae arno wrth allorau’r nefoedd;
Ond er gwaradwydd, a chyfrwysdra’r ddraig,
Fe safodd Ben yn gadarn ar y Graig;
Gorchfygodd, gwelodd yr amheuon penrhydd
Yn marw yn ddi-nawdd wrth droed y Mynydd.

‘Roedd Peniel yn gynefin iddo ef,
Ac yno cerddai’n aml i wydd y nef
Ac yn unigrwydd dwfn y ddistaw fro,
Cyfarfu âg angylion lawer tro;
Nosweithiau yno dreuliodd yn y nudd,
Nes torrai gwawr y nef, a gwawr y dydd;
I ben y “Mynydd” cyrchodd lawer gwaith
Am adnewyddol ras i ddal y daith;
A deuai’n ol a’i fron yn llawn o hedd,
A thangnef sanctaidd yn disgleirio’i wedd.
Hawdd iawn oedd gweled ar ei welw wyneb
Dywynion haul di-fachlud tragwyddoldeb.

Mewn brwydr bu âg angeu drwy ei oes,
Ar fôr tymhestlog, yn y gwyntoedd croes;
A noethodd gleddyf dros ei egwyddorion,
Yn rhosydd Moab ac yn sŵn yr afon;
Gollyngwyd ato lawer picell danllyd,
Pan oedd cysgodau’r beddrod ar ei ysbryd
Ond gwel y byd, er lladd proffwydi Duw,
Fod y Gwirionedd gwyn o hyd yn fyw.
Pan dorrai’r ddrycin drymaf ar ei ben,
Addfwyned ydoedd a cholomen wèn;
Ni thorrodd dros ei wefus eiriau cabledd,
Ac ni ddaeth tonn o ddial dros ei buredd;
Fe welodd ŵg ar wyneb llawer un,
Am iddo feiddio meddwl drosto’i hun
Ond unplyg oedd, a’i ysbryd yn ddi-falais,
A’i arwydd air oedd, - “Credais, a lleferais.”

(x126)
Ymchwilgar ydoedd am wirionedd gwyn,
Ac wedi’i gael, fe safai drosto’n dynn,
A chariai hwnnw’n obaith byw i’w wlad,
Heb ofni rhagfarn, dichell, na sarhad;
Craff oedd ei drem i weled newydd syniad,
Gan roi ei ddelw’i hun ar bob canfyddiad;
A deuai profiad o’r gwelediad clir
A Ben yn gawr i athronyddu’r gwir.

Pregethwr, bardd, athronydd, ei aml ddoniau
A’i gwnaeth yn eilun anwyl wlad ei dadau;
Eithriadol ddysg a dawn oedd llydan seiliau
Yr adeiladwaith a ddinystriodd angau;
Ieuengaf fardd fy ngwlad, enillaist di
Goronau cynnar, a llawryfau bri;
A bydd dy gân mewn adgof yma’n hir,
Yn creu cân newydd arall yn y tir;
Os na enillaist goron Gwyl dy wlad,
Enillaist serch a chalon Cymru ffld.

Bardd blaen dywynion y Deffroad mawr,
A’i dlws feddyliau fel cymylau’r wawr;
Llawenydd dyfnaf calon wedi’i thanio
Oedd gweld ei wlad o’i breuddwyd yn dihuno;
Fe glywai sŵn telynau gyda’r dydd
Yn canu’n bêr ar fryniau Cymru Fydd;
Cerddorol oedd ei feddwl, fel y chwa,
Sy’n canu cerdd ar dannau ŷ d yr ha;
Fe ganai fywyd cenedl, nes i’r gân
Droi’n fywyd newydd ac yn wladgar dân.

Nid ofnai’r bedd; er hynny carai fyw
I godi’r faner dros ei wlad a’i Dduw;
A thrist ei weled o dan faich cystuddiau
Yn diano dros y donn rhag dymod angau;
Draw, draw, i Affrig o dymherus hin,
Lle nad yw’r haf yn ofni gaeaf blin;

(x127)
Lle nad yw’r blodau byth yn blino tyfu,
Lle nad yw’r helyg ir yn gomedd glasu;
Ymhell o’i wlad, yn canu ac yn wylo,
Fel c’lomen unig yn yr allt yn cwyno
Clwyfedig ydoedd, ac yn ffoi am noddfa,
A’r gelyn ar ei ol yn gryf ei fwa;
Ei unig gysur oedd ei Dduw a’i awen,
A’i unig freuddwyd oedd ei Gymru lawen
Gweddiau gwlad brysurent ar eu hesgyll
I wylio’r bardd ar y “Cyfandir tywyll.”

Yn ol dychwelodd dros y frigwyn donn,
Fel ëos leddf, a “phigyn dan ei bron;”
Yn ol, a delw angeu yn ei wedd,
Yn ol i Gymru i bwrcasu bedd;
Mor brudd oedd gweld ei haul yn mynd i lawr,
A’r nos yn cau ar yr “Addewid fawr.”

Tangnefedd i dy lwch, awenydd pur,
Mae’th ysbryd eto’n aros ar y mur;
A serchus gôf am danat yn y byd,
A sŵn dy delyn yn y wlad o hyd;
Er colli’th wyneb siriol yn y glyn,
Ni thorrir beddrod i dy enw gwyn;
Daw tyrfa fawr sydd eto heb ei geni
I dalu teyrnged i’th athrylith heini;
Edmygir cysegredig ddaear hardd
Y proffwyd, yr athronydd dwfn, a’r bardd.

(x128)

(+26) ARWAIN FI

Dduw tirion, o’th ddaioni, - i wael ŵr
Dyro law’th dosturi;
A thrwy boen a thrybini,
I’r nef wèn, O! arwain fi.

Euog wyf, ar wallgofi, - yn dy nef
Gwrando’n awr fy ngweddi;
Ac o lidiog galedi,
I’r nef wèn, O! arwain fi.

Claf ydwyf, mae clwyfau Eden, - o’m mewn,
A mawr yw fy angen;
Dedwydd o dan dy aden,
O! arwain fi i’r nef wèn.

Yma wylaf am heulwen, - oleuwawr
I loewi fy wybren;
A thrwy donn yr Iorddonen,
O! arwain fi i’r nef wèn.

 

(x129)

(+27) MARWOLAETH Y MILWR
Mae’r milwr dewr yn marw,
A’i gleddyf wrth ei glin;
A’i gyd-wroniaid gwelw
O’i gylch yn wylo’n flin;
Mae gwron cant o frwydrau
A’i fraich yn wan yn awr;
A chleddyf miniog angau
Yn gwyro’i ben i lawr.

Mae’n syllu i’r tywyllwch,
Pa beth a genfydd draw?
Ai catrawd o elynion
A chleddyf ymhob llaw?
A yw yn gweled baner
Yn chwifio yn y gwynt,
I arwain y byddinoedd
Ym mrwydrau’r dyddiau gynt?

Beth yw y llais ddaw heibio,
Ym mreuddwyd hwyr y dydd?
Ai twrw y magnelau
Ar glust yr awel sydd?
Neu adsain buddugoliaeth
Yn honni’r dywell nos,
I swyno calon milwr,
Fel cân rhyw ëos dlos?

 

O na, nid ydyw heddyw

Yn byw i faes y gâd;

Mae’r brwydrau gwaedlyd iddo

Yn dychryn a phruddhad;

Mae llawryf buddugoliaeth

Y gâd yn syrthio’n wyw

Pan fyddo enaid milwr

Yn nesu at ei Dduw.

 

(x130)
(+28) BRIWSION O DORTHAU BRASACH

 

Y CHWARELWR.
Dyn a fâl gyndyn foelydd - ydyw hwn,
Yn dihuno creigydd;
Drwy ei gynion.aflonydd, - i’n trefi,
Mae’n gyrru meini o gwrr y mynydd.

Y BANNAU.
Ymwelwyr i’r cymylau, - dyna ynt,
Yn nôr y tarannau;
Uwch niwloedd y cymmoedd cau,
Anibynol yw’r Bannau.
 
BRYNIAU’R ERYRI.
Bryniau’r Eryri, cewri y cyrrion,
Hen dwyni celyd y mud encilion;
O’r bore clir hyd yr hwyr yn dirion
Y tremia haul ar eu tyrrau moelion;
Arwedd o arddunedd Iôn, - uwch ceugant,
Yw crog ogoniant y creigiau gwynion.

Y GWYN O EIFION.
Teyrn cân, a’i dân yn creu dydd, - disorod
Seraph mawr Eifionydd;
Meddyliau ei salmau sydd
Yu dal anadl awenydd.

EBEN FARDD.
Eben Fardd, bennaf urddas, - awen hwn
Oedd yn haul cymdeithas;
Un o fyrddiwn, a’i farddas
Yn llawn gwrid perllannau gras.

(x131)
Y MYNYDD.
Y Mynydd, cartre’r mwnau, - tàl ei frig,
Tawel fro’r cymylau;
Ac o fewn ei ogofäu,
Aros mae hen baderau.

TAFOD MENYW.
Miniog yw tafod menyw, - all â’i stwr
Gymhell storm o ddistryw;
Arswydol gecrus ydyw,
A chôd lawn o chwedlau yw.

YR ARAN.
Tw`r unig, balchder anian, - gwylio mae
Drigle mellt a tharan;
Ni chollir cylch allor cân
Ar ororau yr Aran..

Y RHOSYN.
Diwyro deyrn y blodau, - yw’r rhosyn,
Brasaf ei aroglau;
Ar ei sedd heb goegedd gau,
Hud a roddwyd i’w ruddiau.

DYFFRYN TYWI.
Dyffryn Tywi, dy:ffryn tawel, - Saron
Ga Seraph i’w arddel;
Hardd fro i’r ddifyr awel
Ymdroi mwy hyd erwau mêl.

 

(x132)

NODDFA.
Lle i enaid gael llonydd, - o olwg
Y creulon ddial ddialydd;
Gelyn draw’n ddigalon drydd
Ni ddaw yno ddihoenydd.

 

PLINLUMON.
Fawreddog drum Phnlummon - oer ei nen,
Bro niwl ac awelon;
Ac o’i frig drwy greigiau’i fron,
Fe dyrr hefyd dair afon.

GLYN CEIRIOG.
Glyn Ceiriog, eilun cariad, - i werin
O lenorol broflad;
Yn hedd y Glyn, magodd gwlad - ein tadau,
Wydnion awenau o dan eneiniad.

MORGAN LLWYD.
Doniwyd y Llwyd o Wynedd - â rhuddin
I farweiddio llygredd;
Diwygiwr gwlad  goruu’i gledd -
Di gryn o blaid gwirionedd.

Y CWYMP
Suddais dan orthrech pechod, - i dir coll
Drwy y Cwymp a’i ddifrod;
Glynu wrth wâg eilunod – drodd fy hedd
Yn fôr dialedd, yn frad i’w waelod.

 

(x133)
(+29) CÂN YR HENWR
Flwyddi cyn i amser dorri
Rhychiau ar fy ngruddiau glân;
Cyn i henaint ddod i liwio
Gwallt fy mhen fel eira mân;
Deliais ëos fechan brydferth,
Ac ni phrisiwn ddim yn gydwerth
A’r un aeth a’m serch yn lin.

Rhoddais honno yn fy mynwes
Er ei diogelu’n gu
Eos oedd a lliwiau’r enfys
Ar ei haden dyner hi;
Pan yn canu yn y carchar,
‘Roedd ei pheraidd lais digymmar
Yn gwefreiddio ’nghalon i.

Pan y chwythai’r corwynt gerwin,
Nid oedd hon yn ymbellhau;
Pan y byddai’r mellt yn gwibio -
Cymyl am y byd yn cau,
‘Roedd ei nodau yn llawn miwsig,
Fel un arall yn y goedwig,
Heb un blinder i’w phruddhau.

Gwelais newid y tymhorau,
Gwelais wywo blodau’r glyn;
Ac ar fannau uchaf bywyd,
Gwelais wae, a gobaith gwyn;
Ond pan ganai fy aderyn,
‘Roedd y byd yn haf neu wanwyn
Trwy’r blynyddoedd dedwydd hyn.

Distaw ac anfoddog heddyw
Wyf yn crwydro wrthyf f’ hun;
(x134) A’r unigrwydd mwyaf llethol
Sydd yn gwneud fy hwyr yn flin;
Hedodd fy aderyn ymaith,

Dyna’r pam wyf mewn anobaith,

O! fy eos brydferth, gun.

 
(+30) “PAN WELODD EFE Y DDINAS”

Dringai’r Iesu yr Olewydd,
Ar ei ffordd i Salem gynt;
Clywai grechwen y tyrfaoedd
Yn ymdonni yn y gwynt;
Gwelai heirdd binaclau’r ddinas
Yn ymestyn tua’r nef;
Ac fe glywai sŵn daeargryn
Yn dynesu at y dref.

Gwelai’r genedl etholedig
Yno mewn anuwiol stâd;
Ac yn cellwair â drygioni
Dan gysgodion Tŷ  ei Dad;
Wylodd ddagrau o dosturi,
Y tosturi puraf gaed,
Dros drueni’r ddinas halog,
Oedd yn gorwedd yn ei gwaed.

Llawer proffwyd gynt a welwyd
Yn ei ddagrau dros y dref
Ond tywelltir drosti heddyw
Ddagrau pur Etifedd nef;
Nid â’n angof gan y mynydd
Gawod serch yr Addfwyn Un;

A sancteiddiach yw’r Olewydd
Wedi dagrau Mab y dyn.

 

(x135)
(+31) YR AWRLAIS
Dacw’r awrlais ar y mur,
Wyneb crwn, a bysedd dur;
Yn ei lais rhybuddion sydd
Drwy y nos a thrwy y dydd;
Tic, tic, tic, yn ddiball,
A’r pendyl yn mynd
O un ochr i’r llall.

Dacw’r awrlais ar y mur,
Heb anghofio’i bregeth bur;
Yn ei neges ar bob llaw,
Clywir sŵn y byd a ddaw;
Tic, tic, tic, yn ddiball,
A’r pendyl yn mynd
O un ochr i’r llall.

Dacw’r awrlais ar y mur,
Tery sain y gloch yn glir
Ffyddlon ydyw yn ei waith, -
Mesur amser ar ei daith
Tic, tic, tic, yn ddiball,
A’r pendyl yn mynd
O un ochr i’r llall.

Dacw’r awrlais ar y mur,
Dywed nad yw’n hoes yn hir;
A phob ergyd rydd o hyd
Dery ddyn i arall fyd;
Tic, tic, tic, yn ddiball,
A’r pendyl yn mynd
O un ochr i’r llall.

Dacw’r awrlais ar y mur,
Dibris yw o boen a chur;
Dwg i gôf y llwybr troed
Na ddaeth neb yn ol erioed;
Tic, tic, tic, yn ddiball,
A’r pendyl yn mynd
O un ochr i’r llall.

 

(x136)
(+32) TOSTURI .
Tosturi: mae ei enw’n dwyn i mi
Adgofion melys am yr hyn a fu;
Pan oedd trueni gyda’i wae’n fy erlid,
Prysurodd hwn i esmwythâu fy ngofid;
Mae’n disgyn ar y ddaear ddu o hyd,
Fel pelydr crwydrol o’r tragwyddol fyd;
Adfywiol ddafn o’r nefoedd ydyw hwn,
Yn llonni bywyd, ac yn cario’i bŵn.

Ymdry ynghanol chwerwedd a chyflafan,
Heb ddafn o chwerwedd ynddo ef ei hunan;
A thry wasgfeuon llym, ac ocheneidiau
Yn ganu pêr yn nyfnder gorthrymderau
Pan fyddo cysur wedi cilio draw,
Bydd hwn â chysur arall yn ei law
Yn brysio âg ymwared i’r adfydus,
Yn obaith ac yn haul i’r fron bryderus
Er dued yw y nos ar lawer meddwl,
Fe geidw hwn ei leufer ar y cwmwl
Fel enfys hardd, nes êl yr aflwydd heibio,
A’i fendith leiaf nid ä byth yn angho’.

Dosturi dwyfol, mae’n dragwyddol hen,
A gwrid ieuenctid ar ei sanctaidd wên
Y meddwl cyntaf a anadlodd Iôr,
Cyn creu y ser, na “rhoddi deddf i’r môr”
Oedd hwn, yng nghyngor bore Tri yn Un,
A gwelir ynddo galon Duw ei hun ;
Nid yw tosturi, sydd yn wy`n i gyd,
Ond llanw cariad yn gorchuddio’r byd,
I nofio enaid yn ei ol drachefn,
I hafan dawel y faddeuol drefn
A’i gadw byth o’r wlad druenus honno,
Lle nad yw sŵn Tosturi’n tramwy heibio.

(x137)
(+33) GWENAU ELEN
Gwelais Elen yn y capel,
Clywais hi yn rhoddi cân;
Ac mi gredais mai rhyw angel
Ydoedd hi o’r Wynfa lân.

Gwelais hi ’r diwrnod wedyn
Oddi draw yn gwenu’n llon
Ac mi deimlais innau’n sydyn
Bigyn serch o dan fy mron.

Yn y gwenu gwelais fywyd,
A chysuron heb ddim rhi’;
Dyna’r wên a droes yn wynfyd
Mwy na gwenau’r byd i mi.

Gwên yn clwyfo ac yn gwella,
Ac yn addaw newydd nyth
Peidied neb mewn gwlaw na hindda
Dynnu’r pigyn hwnnw byth.

Cyfnewidiwyd gwenau lawer,
Cc nid ofer ydoedd hyn,
Mwy na gwên pelydryn tyner
Ar friallu cynta’r glyn.

Ar y wên y rhoes fy nghalon,
ac os d’wedwch mod i’n ffôl,
Dwedaf innau fod y fanon
Gyda’i gwenau yn fy nghôl.

(x138)
(+36) CLYCHAU’R BRIODAS

Foreuddydd y briodas,
Fe ganai elychau’r plwy
A daeth cyfeillion dorf ynghyd,
A bendith gyda hwy;
Digwmwl oedd y bore,
A’r byd i gyd yn wyn
A chariad yn blodeuo’r ffordd
I’r eglwys ar y bryn.

Mae’r clychau’n canu eto
O fewn y clochdy fry,
Yn gywir fel y canent gynt,
Y dydd priodwyd ni;
Aeth ugain mlynedd heibio,
A newid mae y byd;
Ond drwy helyntion gwynt yr oes,
Dy garu ’rwyf o hyd.

Mae’r elychau eto’n canu,
Daeth deugain mlwydd i ben;
Ac amser yn ei ardd ei hun
Wnaeth iti goron wèn;
Dy warr sy’n awr yn crymu
Dan bwys y trigain oed;
Ond O! fy mûn, yr wyt i mi’n
Anwylach nag erioed.

(x139)
(+39) DEWCH I’R BÂD

O! Dewch i fewn i’r bâd,
A chroeswn dros y llyn;
Dibryder yw’r mwynhad
Yn sŵn y rhwyfau hyn.

Glas yw y wybren lon,
A distaw yw y gwynt;
Cawn symud dros y donn
Fel gwennol ar ei hynt.

O! dewch i fewn i’r bâd
I wrando chwedlau’r llyn;
Nid yw y byd a’i frad
Yn blino’r glannau hyn.

Cawn ar y wendon gain
Awelon iach, cytun;
A’r lili heb y drain
O fewn ei stâd ei hun.

Mae pob cerddorol ddawn
Yn taro’r cywair llon;
Ac esmwyth des prydnawn
Yn chwareu ar y donn.

O! dewch i fewn i’r bâd,
A chroeswn dros y llyn;
Dibryder yw’r mwynhad,
Yn sŵn y rhwyfau hyn.


(x140)

(+38) PENTWYNMAWR

Ar ososiad carreg sylfaen “Davies Memorial Hall.”

Gwelaf ddail y coed yn glasu
Heddyw yn y gwanwyn mwyn;
Ac mae’r adar eto’n canu
Cerddi bywyd yn y llwyn;

Gwelaf ffrydlif loew’n disgyn

Dros y llechwedd gwyrdd i lawr;

Deffry holl delynau’r flwyddyn

Heddyw gylch y Pentwynmawr.

Clywaf hefyd yn yr awel
Sŵn angy1ion Gwynfa lân,
Yn Prysuro dros y gorwel
I dŷ  newydd mawl a chân:
Y mae Duw yn hoffi syllu
Dros ymylau’r nef i lawr,
I gael gweled achos Iesu’n
Cychwyn ar y Pentwynmawr.


Os bu esgeulusdra’n aros
Oesau gylch y llecyn hwn;
Os bu’r ardal yn yr hirnos
Fel yn griddfan dan ei phwn;

Gyda bywyd gwanwyn natur,
Torrodd arni ddwyfol wawr;

 Ac mae gobaith nefol flagur,
Eto ar y Pentwynmawr.

Os yw chwildroadau’n cerdded
Dros dy ddaear, Fynwy gu;
Os yw Islwyn wedi myned,

Duw a erys gyda thi;
Gwelaf law yr anweledig
Heddyw’n amlwg ar dy lawr
Yn yr anrheg gysegredig

Hon a roir i’r Pentwynmawr.

(x141)
Bydded seintiau yma’n tyfu
Dau dywynion gras y nef;
Ac yn aros gyda’r Iesu
Yn un dorf gariadus gref;
Gwyned cymeriadau’n hyfryd,
Megis engyl ar y llawr,
Tra yn dringo ffordd y bywyd
Tua’r nef o’r Pentwynmawr.

Deued y Secina dwyfol
I gysegru’r Neuadd bur,
Ac arosed yn wastadol
Gyda’r gwylwyr ar y mur;
Ar allorau’r pererinion,
Llosged tân o nefol wawr
Salmau’r nef fo yn awelon
Awyr glir y Pentwynmawr.

Ceidw’r neuadd yma’n glodus
Enw un o gewri’n tir;
Cofir Jeremiah Davies
Ar y llecyn hwn yn hir;
Cawn fyfyrio’i esboniadau
Yn y babell hon yn awr;
Tra mae’r hen gyfieithydd golau’n
Huno ger y Pentwynmawr.

 

(x142)
(+37) DAFYDD WEDI EI ENEINIO

O’r ’stafell gysegredig Dafydd aeth,
Mor ir a’r rhosyn o dan wlith y nos;
Yr enaint sanctaidd lifai dros ei wisg,
A gweddi’r proffwyd chwyddai yn ei fron
Ei lathraidd wallt o dan yr olew pur
Ddisglaeriai’n danbaid fel llinynau aur,
Ac ynddo gwelai’r huan mawr ei lun
Fel yn y grisial lyn ar foreu teg;
A Duw ei hun a welai’i ddelw bur
Yn araf ffurfio yn ei sanctaidd fron.
Nid oedd yr enaint tywalltedig hwn
Ond arwydd gwan o enaint Dwyfol rin
Dywalltai’r nefoedd yn ei fynwes ef.
Mor dirf a hoenus gwnai yr olew ef -
O’r braidd y plygai’r glaswellt dan ei draed,
Rhyw wefr-dân byw a  deimlai yn ei fron,
Nes dwyn ei feddwl i’i dyfodol draw.

Fe âi y bugail gwridgoch
Yn sioncach ar ei hynt,
I wylio’r praidd i’r lasfron draw,
A’i galon gurai’n gynt;
Fe godai fel uchedydd
O wlith y bore gwyn,
Gan chware’i gerdd wrth ddrws y nef
Yn burach ar ol hyn.

Clogwyni gwlad Judea
Fu ei athrofa ef,
A dwyn y llanc yn deyrn i’w wlad,
Yn ol bwriadau’r nef;
Y Brenin yn y bugail
Ddatblygai ’mhlith yr wyn,
Ymhell o sŵn rhwysgfawredd byd
Gwasgarai’i nefol swyn.

(x143) ’Roedd Ysbrydoliaeth anian
Fel llif o Ddwyfol wawr,
Yn torri dan y nefol chwa
Ar draeth ei enaid mawr;
A’i awen yn ymestyn
Dros gaerau arall fyd,
Gan wreiddio yn y nefol wlad
Yng ngwres yr hinsawdd glŷ d.

Pan ddeuai’r llew cyhyrog
I fysg y defaid mwyn,
Neu’r wancus arth yn gyfrwys iawn,
O’i lloches yn y llwyn,
Fe godai yn eu herbyn
Mewn anorchfygol aidd,
Ao yn gelanedd gwnelai ef
Elynion ei holl braidd.

Ac yno ar y glennydd
Wrth wylio praidd ei dad,
Y dysgodd fod yn filwr dewr
I ymladd brwydrau’i wlad;
Y gofal ffyddlon hwnnw
Oedd yn y bugail llon,
Mewn teyrn llwyddiannus ar ol hyn
A ga’dd y genedl hon.

Pan fyddai’n dwyn y defaid
I ganol porfa fras,
Arweinia’i enaid mawr ei hun
At Dduw, ei air, a’i ras
A Duw yn gwylio’n ffyddlon
Bob cam a roddai ef,
A charu disgyn gylch ei draed
‘R oedd engyl glân y nef.

 

(x144)
Cynghanedd bêr y delyn
O dan ei fysedd o,
 Fel tonnau hedd o arall fyd
A dorrai ar y fro,
Nes oedd y wlad yn nesu
A rhyw foddhaol drem
I wrando’i flwsig peraidd ef
Ar feusydd Bethlehem.

(+38) METHU SIARAD

Ar hyd y dyffryn rhodiem,
Yn chwäon iach yr haf;
Dwy galon oedd yn curo,
Dwy fynwes oedd yn glaf;
Fe ganai pob aderyn
Serch garol yn y llwyn;
A minnau’n fud yn methu
Yn lân a dweud fy nghwyn;
Fy nghalon oedd yn llosgi
O gariad at y ferch;
Ond O! rhy wylaidd oeddwn
I ddweud cyfrinion serch.

 Di-siarad ydoedd hithau,
A llednais, fel fy hun;
Ond gwyddwn fod distawrwydd
Yn gariad yn y fûn;
‘Roedd cariad yn ei llygad,
A chalon yn ei llaw;
A thrydan yn yr awyr
Pan wenai oddi draw;
Pan fyddo geiriau’n pallu,
Ar wefus mab a mûn,
Gall cariad, er yn ddistaw,
Wneud calon dau yn un.

 

(x145)
(+39) BRIG YR HWYR

Mor arddunol ydyw anian
Hwyrddydd haf ar fachlud haul,
Pan na chlywir dim ond hwian
Yr awelon yn y dail;
Croga’r adar eu telynau
Yn yr allt a’r llwyni rhos;
Ond yn effro byddaf finnau
Ar y morfa frig y nos.

Hyfryd rhodio glannau’r afon,
Gyda rhywun frig yr hwyr;
Un a’i gwefus fel y mafon,
Ac yn d’rysu serch yn llwyr;
Er i haul y dydd fachludo
Yn ei borffor dros y bryn,
Haul ar wên yr eneth honno
Dry y nos yn fore gwyn.

Dyma’r eneth wyf yn garu {sic; = charu}
Er y dydd y gwelais hi;
Ac o fewn ei llygad gloewddu,
Gwelaf lun fy nghalon i;
Purdeb glân ef bywyd tirion,
Gwynna,ch yw nag ewyn tonn;
Purdeb gwefus, purdeb calon,
Dyna swyn yr eneth hon.


(+40) DYN CYN EI GWYMP :: 145
Dyn yn Eden, wèn ydoedd - heb un bai,
Yn bur ei amgylchoedd;
Delw Duw, hudoled oedd,
Yn nwyfol liwiau’r nefoedd.

 

(x146)

(+41) BREUDDWYD Y WEDDW

Eisteddai’r weddw druan
Yn isel yn y pant,
Gan wylo’i chalon allan
Uwchben ei thyner blant;
Fe welodd ei gobeithion
Fel ser yn ymbellhau,
A thew gymylau duon
O gylch y bwth yn cau.

Y dydd o’r blaen y cerddodd
I’r fynwent yn ddi-hedd,
I roi yr hwn a garodd
I huno yn y bedd;
Ysbeiliwyd ei chysuron,
Fe’u clöwyd bob yr un;
A chadwodd angeu creulon
Yr allwedd iddo’i hun.

Ond yn y storom arw,
Fe goflodd eiriau Duw,
Fod Barnwr mawr y weddw
Yn dal o hyd yn fyw;
Ni chaiff amddifad galon
Ddyrchafu’n brudd ei llef,
Na thorrir ei hanghenion
Gan Dad sydd yn y nef.

Breuddwydiodd, a diangodd
Ei meddwl dros y glyn;
A sŵn telynau glywodd
Mewn byd tragwyddol wyn;
A gwelodd newydd drigfan,
Heb angen o un rhyw,
A’i theulu bach yn gyfan
Yn gwledda gyda Duw.

(x147)
(+42) Y GÔF
Diflino o weithiwr diwyd
Yw gôf y pentref bach,
A’i oruchwylion celyd
A geidw’i fron yn iach.

Hen gymwynaswr gwerin,
A theyrn yr eingion yw;
A chanu mae ei fegin
Wrth gadw’r tân yn fyw.

Y gwreichion sydd yn. esgyn
Drwy gorn y simne fawr;
Ac ar y tô yn disgyn
Yn gawod boeth i lawr.

Er dued yw ei bentan,
Er llymed yw ei gôd,
Fe dry drysorau allan
A geidw’n wyn ei glôd.

Prioda hwn sylweddau
Mewn cwlwm ddeil yn hir,
I lynnu fel cariadau,
Yn loewon ac yn glir.

Daw’r march at ddrws yr efail
Ac erys yno’n ddof
A chysur i’r anffail
Yw pedol ddur y gôf.

Trwm yw ei forthwyl cadarn,
Heb ergyd yn gwanhau;
A’i fraich sydd fel ei haearn
O hyd yn ymgryfhau.

(x148) Hwn sydd i droi yn sychau
Y creulon waewffyn;
A thry y dur gleddyfau
I fedi cnwd y glyn.

Wrth guro, curo’n gyson,
A llyfnu gyda graen,
Mae’r byd yn sŵn yr eingion
Yn symud yn ei flaen.

(+43) AR FEDD ISLWYN
Daw melys adgoflon, fel awel y dydd,
At feddrod y bardd eneiniedig -,
Ac ysbryd y genedl am oesau a fydd
Yn gwylio ei lwch cysegredig.

Anwyled yw enw y seraff a’r sant,
A ddysgodd y werin i feddwl;
Y pur a’r ysbrydol o hyd oedd ei dant,
A’i wybren a bery’n ddi gwmwl.

Rhy gynnar yw eto i ddweyd faint yw gwerth
Ei dalent i Gymru fynyddig;
Rhy gynnar yw hefyd i ddweyd faint o nerth
Y genedl sydd yma’n glöedig.

Fe roddodd gyfeiriad i awen ei wlad,
I froydd o ddwyfol oleuni;
A chefnodd yn gynnar i fyw ar y stad
Y canodd mor felys am dani.

 

(x149)

(+44) Y “FENYW NEWYDD”

Welsoch chwi y “Fenyw Newydd?”
Glywsoch chwi ei thafod rhydd?
Am y Senedd mae ei hawydd,
I wneud trefn ar bynciau’r dydd;
Mae ei llygaid fel y wawrddydd,

A diwygiad yn ei gwên;

Ac yn ffordd y ddynes newydd,

Nid oes dim yn mynd yn hen.


Er mai bychan yw ei choryn,
Ac nad yw yn llawn i gyd,
Mae ei het i’r wlad yn ddychryn,
Ac yn cuddio hanner byd;
Newydd yw ei thueddiadau,
A’r newydd-deb yn ddi-lun;
Dynes yw yn gwneud ei gorau
I wneud gŵr o honi ’i hun.

Mae yn gwybod pob dirgelion,
Ac yn honni llawer mwy;
Yn ei hymyl mae angylion
Fel cardotwyr ar y plwy’;
Dysg ei rhyw pa fodd i bwytho,
A pherffeithio gwisgoedd cun
Er na ddysgodd sut i lunio
Gwisg erioed â’i llaw ei hun.

Ar goginio mae’n awdurdod,
Ac yn dysgu pawb yn hyn;
Er nas gŵyr am rostio pysgod,
Nac am bobi bara gwyn;
Sut y dysgodd hon ei gwersi,
Ac y daeth i gymaint bri,
Nid yw hynny’n perthyn inni, -
Dynes newydd ydyw hi.


(x150)
Synna fod y byd mor annoeth,
Ac mor bell o lwybrau’r ne’;
Gallai hi cyn bore drannoeth
Roi cymdeithas yn ei lle;
Dywed wrthym sut i wella

Poenau pen, a dlour cefn;

Gŵyr yn well na’r meddyg doetha’

Sut i ddwyn y claf i ddrefn.


Geilw famau i’w cynghori
Am eu plant, a’r modd i’w trin
Sut i’w wisgo, sut i’w porthi,
Er ei bod yn hesp ei hun;
Deil i ddweyd wrth bawb am bopeth,
Yn ol fel y byddai’r chwim;
Ond nid yw y fenyw ddifeth
Fyth yn meddwl gwneuthur dim.

Dynes wâg a dilywodraeth,
Nas gall neb ei dwyn i drefn;
Ac yn cario’i hetifeddiaeth
Mewn sidanau ar ei chefn;
Bu yn meddwl am briodi,
Methodd gyda dau neu dri;
Peidiwch bod yn galed wrthi,
Dynes newydd ydyw hi.

 

(x151)
(+45) Y CAETH YN RHYDD

Eisteddai caethwas mewn caethiwed trist,
A sŵn griddfannau’n torri ar ei glust;
Y creulon feistr â’i fflangell yn ei drin,
A chabledd du yn disgyn dros ei fin;
Ond henffych Ryddid, daeth a bore ddydd,
I chwalu’r nos, a gwneud y caeth yn rhydd;
Fe glywodd gri y truan yn ei waed,
A gwelodd hawliau bywyd o dan draed;
Ni chrewyd dyn i’w gadw mewn cadwyni,
A chreulon dâl am lafur yw trueni.

Fendigaid Ryddid; ar diriogaeth angau,
Mae’n llosgi’r fflangell, ac yn gwella’r briwiau;
Lladmerydd cariad o dynerwch calon,
I ddyn yn hawlio rhyddid yr awelon;
Prysurodd heibio megis angel cu,
A gwaredigaeth lawn i’r caethwas du;
Ar ddaear newydd mae ei draed yn sefyll,
A dagrau melys ar ei raddiau tywyll;
Mae’n rhydd! Yn rhydd o’i orthrymderau chwerwon,
Dynoliaeth mewn caethiwed yn y cyfflon
I fedi bywyd yn ei holl fwynhad;

Ymlawenha dan wybren ddigymylau,

A heulwen rhyddid ar ei dwyfol hawliau.

Y du a’r gwyn mewn cariad a gymodwyd;
Canolfur y gwahaniaeth a ddiddiymwyd;

Yr hen elyniaeth anghymodlawn dderfydd,

A’r blaidd a’r oen a drigant gyda’i gilydd;

Daw’r llwythau ’nghyd heb brofi llid na soriant,

Olygfa hardd! ardiriogaethau rhyddid,
Yn gysgod byw o’r nef sydd mewn addewid.

 

(x152)
(+46) Y NADOLIG

Os ydyw yr haf wedi cefnu,
Os trethwyd y dydd gan y nos,
Os collodd yr allt ei gwyrddlesni,
Os gwywodd y lili a’r rhos;
Addfedodd y grawn ar y celyn,
I ddisgwyl Nadolig i’r coed;
A chlywir carolau y delyn
Yn canu mor bêr ag erioed.

Os ydyw y gaeaf yn arw,

A’r eira yn drwch ar y ffyrdd,

Mae’r eiddew yn las ar y derw,

A dail yr uchelwydd yn wyrdd;

Er chwerwed a llymed yr oerni,

A chlychau o rew ar y gwyrdd,
Y galon oludog sy’n toddi
I gofio y tlawd am y dydd.

Er nad yw y mwyalch yn canu,
A’r eos o’r llwyn wedi ffoi,
Melysach yw  ymgom y teulu
Sy’ cwmpas y bwrdd yn crynhoi
Anwyliaid yn hir a wasgarwyd,
Gan bwya a gofalon y byd,
Nadolig yn ol i’r hen aelwyd
A’u geilw yn gryno ynghyd.

Ar fore y dydd tua Bethlem,
Yn fawl a llawenydd i gyd,
Yr enaid yn ol ddyry gipdrem
I breseb Gwaredwr y byd;
Ei glodydd a ganwyd yn gynnar,
A hyglyw o hyd yw y llef;
“Tangnefedd i ddyn ar y ddaear,
Gogoniant i Dduw yn y nef.”

(x153)

(+47) YR EHEDYDD
Per delynor pen y mynydd
Ydwyt ti, ehedydd bach,
Yn dihuno, gyda’r wawrddydd,
Ac yn byw mewn awyr iach;
Pan yn esgyn i’r cymylau,
Ac yn canu, canu’n rhydd,
Wyt ti’n derbyn drychfeddyliau
O delynau gwlad y dydd?

Yn unigedd yr wybrenni,
Oedi’r wyt, ehedydd brith;
Hawdd yw esgyn wedi trochi
Dy adenydd yn y gwlith;
Ar dy allor yn y glesni,
Pell uwchlaw y mynydd llwm,
Aberth moliant a offrymi
Pan fo’r byd yn cysgu’n drwm.

Hawdd i ddyn anghofio’r ddaear,
Wrth fwynhau dy garol bêr;
Hudo’r meddwl wnei yn gynnar
Tua’r wlad tu hwnt i’r sêr;
Canu’r wyt yn nrws y nefoedd,
Fry ymhell o’n golwg ni;
Tybed fod gwynfydig luoedd
O’r tu draw’n dy wrando di?


(x154)

(+48) MAE DUW YN DDA O HYD

Amddifad oedd y bachgen,
A’i rudd yn llwyd ei gwedd,
A’i riaint yn y fynwent,
Heb garreg ar eu bedd;
Cymylau a thywyllwch
A ddaliodd fore’i oes;
A’i ysgwydd fach a blygodd
Yn gynnar dan y groes.

Fe’i dysgwyd i weddio
Gan fam adnabu Dduw;
A chredodd yn ei galon
Mai dyna’r ffordd i fyw;
Ryw noson dawel, oleu,
Dan bwys y byd a’i gam,
Fe’i gwelwyd ar ei liniau
Ar ddistaw fedd ei fam.

Y weddi ffyddiog honno
Atebwyd yn y nef,
Gan Un sy’n hoffi gwrando
Y tlawd, pan gwyd ei lef
Daeth iddo decach hinon,
A goleu ar ei gam,
Am guddio yn ei galon
Gynghorion pur ei fam.

Pendefig Maes y Ffynnon,
Oedd ar ei stâd gerllaw,
Yn byw uwchben ei ddigon,
Estynnodd iddo’i law;
Darparodd iddo loches
O fewn y palas clŷ d;
A dyna ddwed yr hanes, -
“Mae Duw yn dda o hyd.”

 

(x155)
(+49) TŶ AR DÂN

Mae llewyrch rhyw oleuni dieithr draw
Yn gwasgar drwy’r gymdogaeth ofn a braw;
Fflachiadau welir yn ymsaethu fry
Drwy gonglau dirgel y clöedig dŷ ;
A dyna floedd yn torri allan, - “Tân!
Un arall draw yn adsain, - “Tân! Tân! Tân!”
Tyrfaoedd yn dylifo yno sydd,
A phryder dwfn yn welw ar bob grudd
Y mwg a gyfyd yn golofnau duon,
I wawdio gwaredigaeth o’i afaelion;
Cyflyma’r tân, - ystafell ar ol ’stafell
A ddeifir gan y fflam, ac ar ei linell
Mae’r ’stafell ddistaw honno lle yr huna
Y teulu’n dawel uwch yr erch olygfa;
“Deffrowch! Deffrowch!” medd calon ar lewygu,
“Mae’r tŷ  ar dân! ac angeu’n ei gylchynu;”
“Deffrowch! Deffrowch!” medd mil o leisiau wedyn,
A brig y fflam i entrych nef yn esgyn
Mae’r trawstiau’n clecian yn y fflam ddiomedd,
A’r tŷ  yn syrthio’n aberth i’w chynddaredd;
Ust! dyna sŵn ! mae’r teulu wedi deffro,
A gwaedd ar waedd o ganol mwg yn treiddio
O! pwy anturia drwy y fflam angerddol
I’r gudd ystafell gyda braich achubol ?
Pwy yn y dyrfa anghofia’i hunan,
I gadw’r teulu rhag y ddu gyflafan ?
Ha! dacw wron a gwaredol law
Yn neidio’n eofn drwy y ffenestr draw;
O ganol dinystr drwy agenog furiau,
Gwnaed ffordd diangfa o afaelion angau;
Mae’r teulu’n ddiogel, os yw’r tŷ ’n adfeilion,
A mawl i Dduw yn esgyn o bob calon
.

(x156)
(+50) UWCH Y CRUD

Fy mebyn anwylaf, mor dlws yw dy rudd,
Dibryder yw’th galon, a’th wên fel y dydd;
Er cymaint yw cynnwrf a therfysg y byd,
Hapusach na brenin wyt ti yn dy gryd;
Wyt yma’n ddiofal a’th wybren yn gain,
A’r byd o dy flaen yn ei flodau a’i ddrain
O brysia, f’anwylyd, a thŷ f yn dy flaen,
A chadw dy feddwl yn bur a distaen;
Mae angen dy help yn ei waith ar y byd,
A dal mae i ddisgwyl it’ adael dv gryd;
Mae serch am dy dywys i gylch; fwynhad,
I lanw gobeithion dy fam a dy dad.

O! tyred, fy mebyn, i chwareu yn rhydd
Ar feusydd eangach, allawnach o ddydd;
Cei glywed gwirionedd a’i lais ar dy ol,
Yn deisyf am lety am byth yn dy gôl;
Os trwm fydd y groes i dy ran lawer pryd.
Ei ysgwydd ei hun fydd o dani o hyd;
Os caled y plisgyn, a chwerw ei flas,
O’i dorri, cei dithau gnewyllyn o ras.

O! tyred, fy mebyn, o’th gryd cyn bo hir,
Yn hoew dy gam, a dy barabl yn glir;
Rhy gyfyng yw mebyd, rhy fyddar i’th lef,
O’th flaen y mae bywyd, o’th flaen y mae nef
Er cymaint o’r nef sydd o gwmpas y cryd,
Mae’r meddwl sydd ynddo’n eangach na’r byd.

 

(x157)
(+51) MORFUDD O’R DOLAU

Pan gwrddwn â Morfudd o’r Dolau,
‘Roedd rhywbeth bob amser o le,
A hithau yn wrid hyd ei chlustiau
Yn methu a’m cyfarch o dde.

Yr oeddwn yn meddwl y buasai
Y cyfan yn darfod fan hon;
Ond cariad a daflai ei saethau
Yn ddyfnach o hyd i fy mron.

A gwnes benderfyniad i fyned
I siarad fy serch wrthi hi,
Pan na fyddai un-dyn i’m gweled
Yn nesu mor swil at y tŷ .

Dechreuais y ffordd tua’r Dolau
I garu’r tro cyntaf erioed
Ond methais pan welais y lleuad
Yn edrych trwy frigau y coed.

A d’wedais, - “Pan ddelo y gwanwyn
I garu ym mlagur y llwyn,
Caiff Morfudd fy ngweled yn disgyn
Yn ysgafn dros lethrau y twyn.”

Ond gwanwyn a welais yn pasio,
Ac hefyd yr haf ar ei ol,
A’r blodau yn gwenu a gwywo,
A minnau yn aros mor ffôl.

Fe wyddwn ei bod yn fy ngharu,
Ac hoffi fy ngweled o hyd,
A minnau yn mynd i’r côr canu
Gael gweled fy llun yn ei gwrid.

(x158)
Ond Morfudd a gollais o’r capel,
A’i llais hi a gollwyd o’r gân;
Pryd hwnnw y teimlais oer awel
Yn gwywo’m gobeithion yn lân.

Pe cawsai ryw air o’m cyfrinach,
A dealtl mod innau yn glaf,
Morfudd fuasai yn holliach,
A’r gaeaf a droai yn haf.

Fe fuasai sŵn troed ei hanwylyd,
Wrth nesu at riniog y tŷ,
Yn arllwys i’w mynwes ddedwyddyd,
Ond marw o gariad wnaeth hi.

Bum heddyw yn hir yn y fynwent
Yn eistedd ar garreg ei bedd;
Dagrau yn wylaidd ddywedent
Fy mod yn amddifad o hedd.

A thyma ychydig linellau
A roes ar y garreg wèn hon, -
“Fan Yma Mae Morfudd o’r Dolau,
A chalon Llewelyn o’r Fron.”

Pwy bynnag sy’n berchen serchiadau,
Pwy bynnag all garu yn llon,
Mewn bedd gyda Morfudd o’r Dolau
Mae calon Llewelyn o’r Fron.

Morfudd anwylaf, O! maddau,
WYf unig o hyd dan y donn;
Mewn bedd gyda Morfudd o’r Dolau
Mae calon Llewelyn o’r Fron.


(x158)
Ond Morfudd a gollais o’r capel,
A’i llais hi a gollwyd o’r gân;
Pryd hwnnw y teimlais oer awel
Yn gwywo’m gobeithion yn lân.

Pe cawsai ryw air o’m cyfrinach,
A dealtl mod innau yn glaf,
Morfudd fuasai yn holliach,
A’r gaeaf a droai yn haf.

Fe fuasai sŵn troed ei hanwylyd,
Wrth nesu at riniog y tŷ,
Yn arllwys i’w mynwes ddedwyddyd,
Ond marw o gariad wnaeth hi.

Bum heddyw yn hir yn y fynwent
Yn eistedd ar garreg ei bedd;
Dagrau yn wylaidd ddywedent
Fy mod yn amddifad o hedd.

A thyma ychydig linellau
A roes ar y garreg wèn hon, -
“Fan Yma Mae Morfudd o’r Dolau,
A chalon Llewelyn o’r Fron.”

Pwy bynnag sy’n berchen serchiadau,
Pwy bynnag all garu yn llon,
Mewn bedd gyda Morfudd o’r Dolau
Mae calon Llewelyn o’r Fron.

Morfudd anwylaf, O! maddau,
Wyf unig o hyd dan y donn;
Mewn bedd gyda Morfudd o’r Dolau
Mae calon Llewelyn o’r Fron.

 

YMLAEN I RAN 3: 1229k

 

1051e
mynegai i destunau Cymraeg â chyfieithiadau Saesneg
index to Welsh texts with English translations
·····
0223e
yr iaith Gymraeg
the Welsh language

Ble’r wyf i? Yr ych chi’n ymwéld ag un o dudalennau’r Gwefan “CYMRU-CATALONIA”
On sóc?
Esteu visitant una pàgina de la Web “CYMRU-CATALONIA” (= Gal·les-Catalunya)
Weø(r) àm ai? Yùu àa(r) vízïting ø peij fròm dhø “CYMRU-CATALONIA” (= Weilz-Katølóuniø) Wéb-sait
Where am I?
You are visiting a page from the “CYMRU-CATALONIA” (= Wales-Catalonia) Website

CYMRU-CATALONIA

 

 

 

 

 

Edrychwch ar fy Ystadegau / Mireu les estadístiques / View My Stats