0939 Gwefan Cymru-Catalonia. Ymgom rhwng dau ffarmwr yn nhafodiaith de-ddwÿrain Cymru (Llangynwÿd, Pen-y-bont ar Ogwr), gan Cadrawd (Thomas Christopher Evans 1846-1918). Py shwd i ch’i heddÿ’, Shon Matho? Mae’n dda digynÿg genÿ’ch gwelad. (= Pa sut ÿch chi heddiw, Siôn Matho? Mae’n dda digynnig gennÿf eich gweled.)

http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_025_dydd_marchnad_cadrawd_0939k.htm

Yr Hafan

..........1863k Y Fynedfa yn Gymraeg

....................0009k Y Gwegynllun

..............................0960k Cywaith Siôn Prys (Testunau yn Gymraeg) - Mynegai

........................................y tudalen hwn


..






Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Gal
·les i Catalunya

Adran 11: Cywaith Siôn Prys (Casgliad o Destunau yn Gymraeg)
Apartat 11: El projecte Siôn Prys (Col·lecció de textos en gal·lès)



Ymgom rhwng dau ffarmwr
(Llangynwÿd, Pen-y-bont ar Ogwr)
Cadrawd, 1888




Diweddariad diwethaf
16 06 2000

 

  1268  This page in English (Conversation between two famrers, Llangwnwyd, 1888)

 


NODIAD: Arferodd Cadrawd ‘f’ yn lle ‘ff’ a’v’ yn lle ‘f’ yn ei ysgrif

_______________________________________________________________

Cyvaill yr Aelwyd, Cyfrol 8, 1888.
Cadrawd (Thomas Christopher Evans 1846-1918)

TAVODIAITH Y SIROEDD
RHIV II - TAVODIAITH MORGANWG.

1. YMGOM RHWNG DAU FARMWR {sic} YN NGHANOLBARTH MORGANWG, AR DDYDD MARCHNAD.
GAN CADRAWD.

Cymeriadau:-
SHENCYN DOMOS.
SHON MATHO.


SHENCYN DOMOS: Py shwd i ch’i heddy’, Shon Matho? Mae’n dda digynyg geny’ch gwelad

SHON MATHO: Wy’n weddol iawn diolch i ch’i; shwd i ch’itha, Shencyn Domos? A shwd mae’r teulu? Mae tipyn ‘dd’ar pan y gwelas ch’i o’r bla’n, - di ch’itha ddim mor vynych ag y buoch yn dilyn y marchnatodd yma!

SHENCYN DOMOS: Nag otw’n wir ysgwaethyrodd, mae’r petha o’dd yn blesar ys blynyddo’dd yn ol yn dechra myn’d yn vaich, ac er vod yr anian yn para, mae y gallu yn llai; wel, pilid i gwala yw yr hen wraig oco ys tipyn, mae hitha’ yn mynad ar ‘i gwa’th vel vina’, a do’s genym ni ddim ond trio gnuthyr y gora’ o’r gwaetha’ bellach, a phar’toi ar gyvar myn’d odd’yma.

SHON MATHO: I chi’n gwêd y gwir, mae amsar yn vishi o hyd, ac mae’n g’neud ei ol arnom ni gyd. ‘Dw ina’ ddim vel y gwelas i vi, mae rhyw wynecon dysbrad yn yng nghevan i, rwy’n faelu cysgu’r nos hanar da. Py shwd mae’r plant? y rhai sy’ yn nhre’. Gadewch welad, mae dou wedi priodi, ond ôs.

SHENCYN DOMOS: Os yn siwr, mae Davydd yn byw nawr yn Llety Ngiarad, a Chatws hitha’ yn briod a mab Tycanol, ac yn gnuthyr yn famws, ac yn dechra’ cwnu teulu o blant. Mae y bachgan sy’n weddw, mae e’ yn weddol iach, ond i vod a’n gorvod gwi’th’o’n rhy galad vel mae gwaetha’r modd, ac vel y gwyddoch ch’i, mae y rhai sy’n enill ei b’oliaeth ar drin tir y tymor yma, yn rhwym o slavo, neu vod ar ol

SHON MATHO: I’ch ch’i’n gwedyd y gwir, Shencyn, mae yn vwy anodd d’od ar ddou pen i gwrdd yn awr nag y gwela’s i ‘rio’od, ‘rw’ i a’r plant yn trybaeddu yn hwyr ac yn vora, a fob un yn gnuthyr ‘i ora, ac wedi’r cwbwl yn cial gwaith talu’n fordd.

SHENCYN DOMOS: Shwd mae Betty, y hi yw’r i’anga’, on’ te?

SHON MATHO: Ia’n siwr, a chlwca i gwala yw hi o ran iechyd. ‘Dyw hi ddim wedi bod yn sownd ‘iod, ond bod yspryd da yndi, a dyna sy’ yn i chiatw i vynydd. Shwd mae nhw gyta ch’i? Vi wela’s y bachgan hena’ yn y Bont-vân, ‘do’s dim llawar ‘ddar hyny.

SHENCYN DOMOS: Do’n siwr, ve vu, a chwpwl o vustechi yno ar gownt i gwerthu; ond mawr cy’ lliad o alw sydd am beth velly y mishoedd yma.

SHON MATHO: Ich ch’i’n gwed y gwir, ‘do’s dim shwd beth a chial gwarad o un math o greadur, ‘dw’ i ddim yn covio gwelad amsar mor anodd i ‘neud arian yriod, ac amsar pan y mae cymaint o isha arian hevyd.

SHENCYN DOMOS: Wel, dyma wy’i glwad pawb yn i weud, ag ond bai vod y plant a vina yn catsho gymynt a all yn c’lona’ ni, ni vysen wedi gorvod rhoi’r lle i vynydd ys llawar dydd; ac wn i ddim fordd mae rheiny sydd yn gorvod ciatw tylw’th yn d’od yn rownd yn y byd mawr waeth mae tylw’th yn govyn mwy o amod yn awr na buo’n nhw ‘rio’d. Vi wela’s Risiart o’r Morva yn gorvod promiso punt y mish, i grotan o ‘sgenas vitw vach, yn fair Merchamota diwetha, ac wn i ddim o b’le mae hi’n myn’d i nuthyr i gwerth nhw, a thalu am i b’oliaeth hevyd, oblegid nid pob sort o vwyd naif y tro i dylw’th yn awr vel y gwela’s i, a rhaid i ch’i vindo for b’och ch’i’n wleua, ond te, nhw gwnan i cwt a’ch giadal,  a ch’i gaif y gair gwaetha’. Mae gwishon, wetyny, yn dishgwl cial o ucian i ddeg punt ar ucian o amod yn y vlwyddyn, a giatal pan v’o’n nhw’n gweld bod yn dda, a braidd y cewch ch’i gentyn nhw nuthyr un pwt ar ddydd Sul, ond fwrdd a nhw i wylhersa, yn well i byd, ac yn well i trwshad o lawer na’r rhai sy’n gorvod i ciatw, pryd y gwela’s i bedwar o’r bechgyn apla’n y plwyv yn gwasanaethu yn y G-------, y pedwar am ucian punt yn y vlwyddyn.

SHON MATHO: Ich ch’i’n gwêd calon y gwir, Shencyn, mae’r byd wedi mynd rhagtho, ac os na ddaw rhyw dro ar betha’n sytan, ve vydd rhaid i’r fermwr rhoi vynydd fermu, ta’ beth vydd ein trych wedyn. Y ni sy’n gorvod cario’r pen tryma ym mhob amgylchiad, ac os bydd isha rhagor o arian i gario y’ mla’n y llywodra’th, bydd yr hen fermwr yn siwr o gial i gofa. Mae’r holl betha’ newydd yma sydd wedi dod i’r wlad, nad o’dd son am denyn nhw yn ‘y nghov i, wedi distriwio’r wlad: yr holl vyrdda’ yma sy’ gentyn nhw yn llywodraethu, a’r hai vawr sydd o hyd am ddysceidiaeth; y petha’ hyn greda’ i sydd wedi tynu melltith arnon ni.

SHENCYN DOMOS: Mae llawar o wir yn y peth i ch’i yn i ‘weyd, Shon Matho, ond mae gwahania’th barn am betha’; vel i ch’i’n son, vi wn i gymynt a hyn, pan o’wn i yn las grotyn, wy’n covio gweirwyr yn lladd dwy erw’r dydd, yn ddidraval, ac yr oedd yn dda gian withwyrs y pryd hyny gial job o waith betingo, neu ddyrnu, neu gloddio, a ch’i gelsych glwad y discwrs yn vynych yn yr evel, a’r velin, pwy o’dd y cloddiwr gora’. Ac yr o’dd dyn’on y pryd hyny yn balchio mw’n diwarnod o waith, ond yn awr ‘do’s dim shwd beth a chial dyn a dim llun arno i ‘neud un gorchw’l, ond ma’ nhw’n gwed, os bydd isha tipyn o glerc at rhyw swydd yn rhywla, ma’n nhw’n rhytag ati am y cynta’ wrth y cano’dd, a meddwl i yw bod llawer gormodd o gwnu bechgynach ar ryw swyddi secyr, a rhy vach o ddyscu gwitho.

SHON MATHO: I’ch ch’i’n wleua’n famws, wy’r un varn a ch’i’n gwmws, mae rhyw gonach gian ddyn’on vod y rhento’dd yn rhy ychal, a chiant a mil o esgyson eraill gyta golwg ar yr amsar drwg yma; ond os nad wy’ i’n camsyniad, mae petha’ er’ill yn yn gwascu yn llawer trymach, mae segyrdod, balchdar, a phenwandod yr o’s yn llethu mwy arnon ni vel gwlad a th’yrnas, na’r un baich all y llywodra’th rhoi arnon ni, ac nis gall y llywodra’th ‘chwaith ein gwaretu ni oddiwrtho, ac vel y dywed yr hen ddiarab: -
“Ni all Duw dda i ddirieid.”

Wel, forwelwch yn awr, a choviwch vi atyn’ nhw yn nhre’, Shencyn Domos.


SHENCYN DOMOS: Forwelwch ch’itha’, Siôn Matho; a gobeith’o y cewn gwrddyd yto heb fod yn hir; coviwch vi at y wraig a’r plant.


 
_________________________________________________
DOLENNAU AR GYFER RHANNAU ERAILL O’N GWEFAN
_________________________________________________
 

0394k
Y Wenhwyseg - iaith Gwent a Morgannwg
·····

1051e
mynegai i destunau Cymraeg â chyfieithiadau Saesneg
·····
0043k
yr iaith Gymraeg

Nodlÿfr 80


Ble’r wyf i? Yr ych chi’n ymwéld ag un o dudalennau’r Gwefan “CYMRU-CATALONIA”
On sóc?
Esteu visitant una pàgina de la Web “CYMRU-CATALONIA” (= Gal·les-Catalunya)
Weø(r) àm ai? Yùu àa(r) vízïting ø peij fròm dhø “CYMRU-CATALONIA” (= Weilz-Katølóuniø) Wéb-sait
Where am I?
You are visiting a page from the “CYMRU-CATALONIA” (= Wales-Catalonia) Website

CYMRU-CATALONIA

 

 


Edrychwch ar fy Ystadegau / Mireu les estadístiques / View My Stats