kimkat0928k ‘Ni’n Doi’, sef Hanes Ysmala Dai a Shoni yn y Rhyfel. Gan Glynfab. 1918. “Pishyn o waith Mynyddog, w i’n gretu oodd y pishyn ganas i nawr. Ma fa’n iitha pert, a yn atab y mwfmants yn well na allwn i ddishgrifio. Os yw y pishyn yn goparplêt, a jail ‘i fod am ‘i brinto fa yn y papra...”

 

2017-06-03 / 17-42

 

● kimkat0001 Yr Hafan www.kimkat.org

● ● kimkat2001k Y Fynedfa Gymraeg www.kimkat.org/amryw/1_gwefan/gwefan_arweinlen_2001k.htm

● ● ● kimkat0960k Mynegai i’r testunau Cymraeg yn y wefan hon www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_mynegai_0960k.htm

● ● ● ●  kimkat0190k Mynegai i lyfrau gan Glynfab www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_017_glynfab_mynegai_0190k.htm

● ● ● ● ●  kimkat0928k Y tudalen hwn

 

 

 

0003_delw_baneri_cymru_catalonia_050111
(delwedd 0300)


Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Gal·les i Catalunya


Cywaith Siôn Prys (Casgliad o Destunau yn Gymraeg)
El projecte Siôn Prys (Col·lecció de textos en gal·lès)


Ni’n Doi
Glynfab. 1918

6512_delw_map_cymru_pc_drenewydd_050112
(delwedd 6512)

 

Dyma i chi un o lyfrau Glynfab yn nhafodiaith y de-ddwyrain - sôn y mae am anturiaethau Dai a Shoni, dau fachan ysmala ‘o ochrau Caerffili.’


Ni’n Doi
Ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif ac ar ddechrau’r ugeinfed cyhoeddwyd swmp o ddeunydd poblogaidd (llyfrau, dramâu, erthyglau) yn nhafodiaith De-ddwyrain Cymru (“Y Wenhwyseg”). Erbyn hyn mae’r dafodiaith hon wedi diflannu o’r tir i bob pwpras ar ôl i bobl y cymoedd ddechrau cefnu ar y Gymráeg a chodi eu plant yn Saeson yn negawdau cyntaf yr ugeinfed ganrif. Ond ar yr adeg hynny - a hyd at ryw hanner canrif yn ôl - hon oedd y dafodiaith ag iddi y nifer fwyaf o siaradwyr o blith y tair tafodiaith bennaf (De-ddwyrain, De-orllewin, Gogledd).



(delwedd 5108K)

Mae ein sylwadau isod mewn teip oren
 

 



(delwedd 0419a (clawr blaen)



(clawr blaen) (clawr gwyrdd tywyll yw’r clawr gwreiddiol - yr ym ni wedi newid y lliw i’w wneud yn haws ei weld)

Llyfr mwyaf Difyrus yr Iaith.
‘Ni’n Doi.’


Sef Hanes Ysmala DAI a SHONI yn y Rhyfel.


Gan GLYNFAB.


CARMARTHEN.

W. M. EVANS & SON, HALL STREET.


PRIS SWLLT.

(dim tudalennau x1, x2, x3)

 

 

 

 

 



(x4) (= tudalen gwag)

 

 

 

 




(delwedd 4402) (tudalen 5)

(x5)

 

THIRD EDITION

‘NI’N DOI.’

Diccyn o Anas Dai a Finna a’r Ryfal. “I gatw’r en Dafottiath yn fyw.”

Gan GLYNFAB. [Awdwr – “THE RAVEN”, Buddugol yn Eist. Gen. 1911; “SILVANO,” a Nofelau eraill.]

‘Shift y Bora.’

CAERFYRDDIN: W. M. EVANS A’I FAB, SWYDDFA “SEREN CYMRU”.

Cymraeg safonol:

Ni’n Doi = Ni ein Dau.
Dicyn o Anas Dai a Finna a’r Ryfal = Ychydigyn / Tipyn o Hanes Dai a Finnau a’r Rhyfel.

I gatw’r ên Dafottiath yn fyw = I gadw’r hen dafodiaith yn fyw.

 

 

 

 




(delwedd 4403) (tudalen 6)

(x6)
First Edition:................... 1918
Second Edition:...............
1919
Third Edition:.................. 1920


 

 

 

 



(delwedd 4404) (tudalen 7)

(x7)

 

(Ein hychwanegiadau ninnau yw’r rhifau mewn print oren)

Cynwysiad.


(:1) Shwrna Ginta – “Racymattrodd.”
(:2) Yr Ail Shwrna – “Ar y Ffordd Sha Gardydd.”
(:3) Y Dryttydd Shwrna – “Yn Gardydd.”
(:4) Y Betwarydd Shwrna – “Off gytta’r Train i’r Camp.”
(:5) Y Bimfad Shwrna – “Yn y Camp yn Cal y’n Shapo.”
(:6) Y Wechfad Shwrna – “Mynd i Settlo Squars â Will.”
(:7) Y Seithfad Shwrna – “Racor o Shapo.”
(:8) Yr Wythfad Shwrna – “Shoppa Dicyn yn Bolougne.”
(:9) Y Nawfad Shwrna – “Noswath o Gonsitro.”
(:10) Y Ddecfad Shwrna – “Yn Nes at Will y Kaisar.”
(:11) Yr Unfad-Shwrna-ar Ddeg – “Off Sha’r Trenches.”
(:12) Y Ddoi-Ddecfad-Shwrna – “Yn y Baw a’r Slwdge.”
(:13) Y Dryttydd-Shwrna-ar Ddeg – “Talu’r ‘en Wech.”
(:14) Y Betwarydd-Shwrna-ar Ddeg – “Wmladd Dychrynllyd.”
(:15) Y Bymthecfad-Shwrna – “Wado Mlan a’r Wmladd.”

 

 

 

 



(x8) (= tudalen gwag)


 

 

 

 



(delwedd 4405) (tudalen 9)

(x9)

 

(:1) SHWRNA GINTA.

 

“RACYMATTRODD.”

O ni’n doi yn ishta ar y partin dwpwl, yn y ddwy-a-naw, ym mwll y Winsor, un diwetydd dydd Gwenar, Dai a finna. (Glofa Windsor, Ynys-y-bŵl, Rhondda-Cynon-Taf)

“Shoni,” mynta Dai yn syttan, “Wy ti’n darllan yr Ecco spo, a yn gwpod diccyn o anas y ryfal ma.”

“Ottw, ottw, bachan,” myntwn i. “Wy ti’n cretu mod i weti câl y ngwnni o dan dwbin?
No fears my, boy.”

“Sdim eesha i ti golli di wallt, Shoni; dim on gofyn o ni; shwt ma petha, otti fe My Nabs o Berlin jest cal diccon?”

“Wel,” myntwn i, yn eetha’ prysur nawr, “Wel, ma arno i ofan, Dai, y cymrith a diccyn racor cyn cal diccon, bachan.”

“H’m,” mynta Dai, yn symud y bilsen bacco o un ochr idd i ben i’r ochor arall, “H’m.”

Odd lot yn yr “H’m”, na, cretwch chi fi. odd. O odd. Odd Dai wedi cal cwnnad da, a weti passo’r standards yn yr yshgol-bob-dydd. Peth odd Dai ddim yn wpod am Martha Matics a Jograffy, a phetha felnâ, odd a ddim gworth i chi a finna foddran y’n pen o bothdi fa. I gâs i gwnni y drws nesa i’r wyrcws, on dyw ynny ddim yn gwêd fod Dai yn dlawd, mwy na gwêd

 

 

 

 



(delwedd 4406) (tudalen 10)


(x10) fod bachan yn geffyl achos iddo gal i gwnni yn acos i stapal. A gweyd y gwir, fi allsa Dai shiglo o bothdi iccan punt yn i boccad ar ddiwadd y mish, ar ddydd Satwrn pai.

“Dim weti cal diccon, bachan! Cistal i ti a fi joino’r showdwrs; i garrantia i y caiff a ddiccon wettyny,” mynta Dai.

“Right O’ bachan,” wetas i, “eetha bolon,” a fi setlon miwn bothdi shiffad.

“Scrifenna at King George, Shoni, a gwed bod ni’n dod.”

“Sdim eesha, bachan,” myntwn i, “dim on mynd lawr sha Gardydd a – there you are.”

“I’m your man,” mynta Dai, yn cwnni ar i drâd, a yn roi stretch idd i freecha. “Yes, Shoni, I’m your man, a cistal i’r Kaisar bacco’i fox, a gweyd goo’-bye wrth y glomman sy gytta fa. I should like to see My Nabs procrastinated, ser.”

“Ble wyt ti’n cal y geira mawr na Dai?” myntwn i.

“O, wrth ddarllan y pappra,” mynta Dai, yn lleti frest. “Wel, nawr Shoni, pryd ewn ni? Walla daw Will-eddin-galad gytta ni, ma Will yn ddicon tal.”

“Diccon tal! Otti wir ddyn; fydda fa ddim ffôl o blan i lifo Will yn i annar, a neyd doi showdwr o no,” myntwn i.

“Paid a’n ela i wyrthin, Shoni, paid wir,” mynta Dai.

“Cistal i Will geesho mynd yn spessial constable, Dai, er mwyn watcho diccyn sha thre.”

“Ia,” mynta Dai, “a sa fa’n cwrdd â German, dim on cwmpo ddwywaith fyssa eesha arno, cyn bod i ben a miwn trw drws i dŷ, fel ergyd o raw.”

 

 

 

 



(delwedd 4407) (tudalen 11)

(x11) I wyrthinson y’n doi nes bo’n ochra ni yn stitches.

I ddath Morgans yr Under-Manager eebo.

“Ar fencos i boys,” mynta fa, “be sy’n bod? Otti chi off o ar y’ch penna?”

“Wel,” wetas i, “dyw i ddim gworth troi’r gath yn y batall; cistal gneyd clean breast;
ma Dai a finna yn myn’d i joino’r Regilars.”

“Whew!” mynta Morgans, fel swn gwynt trw dwll y clo. “Whew! Na bombshell i Will o Berlin. Ottich chi’n wir, boys?”

“Ottin, ottin,” mynta Dai, “os dim eesho pilo wia o bothdi’r fisnas.”

‘Catw di wallt’ mynta Morgans, “W i’n gweyd dim i di fychanu di, w i’n dy fraggo di a Shoni bob amsar. W i’n falch fod boys o’ch short chi yn barod i roi poced or’tbaginet i’r Germans. Cerwch y’ch doi, a i fydd gwaith yn barod i chi ym mwll y Winsor, - os dewch chi nol yn fyw.”

I ethon y’n tri mor ddishtaw a’r bedd. W i’n gwpod fod dwr yn llanw llicced Morgans, wath i gwelas a yn i sychu fa off â llewish i got.

“Good-luck, boys,” mynta’r Under-Manager, a off yr ath a fel llechetan.

“Bachan piwr yw Mock,” mynta Dai.

“Ia,” myntwn i.

A gweyd y gwir i gwnnws lwmpin bothdi size wi Plymouth Rock yn dwll y ngwddwg i.

Cyn starto mas, i ishteddson diccyn. O ni’n gweld Dai fel sa fa’n stidio, a chympohir i dorrws mas i ganu. Odd Dai yn diccyn o fardd, a weti ennill llawer peeshin wech miwn cwrdd attrodd.
O nw’n wispran fod boys yr

 

 

 

 



(delwedd 4408) (tudalen 12)

(x12) ysteddfota mawr a ofan Dai, a yn i gatw fa mas o’r ring o spite. On rwng gwyr y clecs a’u bisnas. Weetha odd i ganion a yn ddiccon i ela ceffyl i wyrthin, on nawr, wrth feddwl am fatal, i dynsa ddwr mas o fricsan. Ma gân Dai.

Ffarwel i Mock yr over-man,
Ffarwel i’r partin dwpwl,
Pan greiddw’n ni y’n doi Berlin
I gaiff y Kaisar drwpwl:
Ffarwel i’r Winsor a’r glo mân,
Y cogs a’r sprags am diccyn,
Lle nesa gwelwch Shoni a Fi
Fydd yn “Red Cow” yn Berlin.

Bu Shoni unwaith yn i dro
Yn Fireman Pwll Winsor,
Yn myn’d a lamp i drio gas,
Caiff ddiccon yn y Kaisar,
Wath dyna wêd pappyra’r wlad
Am Will Berlin bob amsar,
Ma fe – sdim doubt o bothdi’r peth –
Yw’r “European Blower.”

“Gad i nawr Dai,” myntwn i, a’r dwr yn ryttag lawr i mocha i, “Gad i Dai bach.”

“Hoult Shoni,” mynta Dai, “dychra w i. Os na allu di jofadd diccyn o fyrddoniath shwd jofeddi di’r bwlets a’r baginets. Bachan, bachan, cŵn di galon.”

“Fire away, Dai,” myntwn i. “ Nid jofadd sy’n plwmpo dwr mas o’n llicced i, on gweld bachan bach o weethwr, fel ti, yn gallu gweetho cân, na os dim eesha i King George fod a chwilydd i ongan i ar wal y back kitchen, yn Buckin-am Palace.
Fire away, Dai, w i’n barod.”

 

 

 

 



(delwedd 4409) (tudalen 13)

(x13) I gossodd diccin ar i ben, a ma fa off fel llysŵan.

Ma’r hyd yn gwpod erbyn ‘yn
Beth sydd i neyd a Blower,
‘Eb wasto munad – clirio’r âr –
Roi brattish lan bob amsar;
A phan ewn ninna – Shoni a Fi –
I glirio’r âr yn Berlin,
Rown Brattish – “made-in-Wales” i’r lan
I ddiffodd tân y gelyn.

“Bachan,” myntwn i, “na Dyfed, a Gwili, a Job weti câl Knock-down blow. Ma’r ddwy line ddiwetha na yn ddiccon i roi snuffar ar i cnwylla nw am byth. Na ddiccon nawr Dai, ne i fydd Will o Berlin yn Sant Elena cyn di fod ti’n cwppla.”

“Stoppa nawr Dai, alla i ddim jofadd sôn am y crottesi. Put the brake on, Dai, w i’n becan arno ti,” myntwn i.

“Wel,” mynta Dai, yn wyrthin, “sdim diolch i fi stoppo. W i’n ffeilu cal gair i ottli â Maggie Elen.”

“W inna’n cofio am ddim ond y ‘Dwymyn Felen’; i gês i onno nes y mod i’n cratchan (cratshan = to creak). Newita’r enw bachan, ne, gwêd – ‘Maggie dirion.’”

“I ethot a’r gair o men i bachan, “ mynta

 

 

 

 



(delwedd 4410) (tudalen 14)

(x14) Dai, “Maggie dirion gaiff i fod. I ddechrwn ytto.”

Ffarwel i Mary Catherine dlos,
Ffarwel i Mary Catherine dirion,
I ewn i’r gad i golli’n gwâd.

“Ma i yn stop trucks to, Shoni.”

“Cymmar bwyll, bachan,” myntwn i, “stidia ddicyn.”

“Got ‘im,” mynta Dai, a’i licced yn dishgleero. “Got ‘im, myn yffryd i.”

Ni ewn i’r gad i golli’n gwâd,
Ewn ar y “Spree” yn union!

“Na ergyd, Shoni, yn y line ddiwetha na, na sdim eesha i fi dinni nhap i neb.”

I gwnsan yn syttan, a off a ni i weelod y pwll; i lan yn y carredge fel ergyd o fwa sath, a chympohir i greiddson y lodgins.

(:2) YR AIL SHWRNA.  

 

“AR Y FFORDD SHA GARDYDD.”

I folchson y’n doi yn gwick, i wisgon, a i yfson dê, a nawr pu’n o ni’n doi odd i wêd wrth wraig y lodgins. O ni’n pocan Dai, a Dai yn y mocan i ymlan. O’r diwadd i facws Dai ddicon o cheek i fwmlan rwpath.

I gasglws Mrs. Jones fel sa chi’n towli llond scleish o gols pôth ar i thraws i.

 

 

 

 



(delwedd 4411) (tudalen 15)

(x15) “Beth!” mynta onno. “Joino’r showdwrs?”

“Peedwch screchan, Mrs. Jones,” mynta Dai, mor gool a chwcymer. “Sdim eesha screchan. Ottin, ottin, ma Shoni a fi’n myn’d i joino’r Welsh Ridgemant yn Gardydd y fory nesa.”

I ath mas o’r gecin fel perth o ddraen, a na beth odd llefan.

“Otti ddi’n bwrw glaw?” wetas i.

“Bwrw glaw,” mynta Dai, yn eetha sharp; “w i’n cretu ma dwr sy’n cwmpo o licced Mrs. Jones i’r bwccat yn y back-kitchen.”

Ddath i ddim nol am amsar, on, pan ddath i, odd i doi licced i fel llicced scatan. Wetws i ddim, dim on staran arno ni’n doi fel sa collad arni.

“Wel, boys,” mynta i, “ma’n ddrwg gen i am ddoi fachan ryspectable fel chi, y’ch bod chi’n meddwl am joino’r fath set,” a off a i sha’r gecin. I ddath nol men ticcyn yn shiglo’i chwt fel jack-a-daw.

“Mrs. Jones,” mynta Dai, “Ma pob bachan ryspectable, pob bachan gworth i alan, sy’n caru i wlad, yn joino. Dyw’r tacla sy’n catw nol ddim gworth i notisso. I ninna’n doi yn cretu ma dyletswydd pob bachan shengal, cryf, a iach yw attab King George trw wêd – ‘I’m your man, myn-yffrydi.’ I ni’n mynd sha Gardydd. Dewch chi, Mrs. Jones, i dwca i bâr o glocs o wrth wedgen y Kaisar, a i ddwa a nw’n ôl yn bresant i chi.”

Wel, os do fa, i newitws Mrs. Jones, a anodd gwpod pun a wyrthin ne lefan odd i, rwpath rwng “Ton-y-botel” a “The March of the Men of Harlech,” rwy alf an’ alf. On i ddath idd i lle.

I ath yr anas drw’r pentra fel sa chi’n tano

 

 

 

 




(delwedd 4412) (tudalen 16)


(x16) shavins; odd rai yn clochdar, rai yn y’n ryttag ni lawr, on pan glyw-ws y ddwy wedgen, ma i yn iwb-wb-murdar.

Raid i chi gesso lot o’r anas o bothdi matal a’r ddwy wedgen, a shiglo llaw a Mrs. Jones. Y lle nesa fydd y stashion. I ethon i’r stashion, gwnson bobo diccat i Gardydd, a miwn a ni i’r carredge.

“Right!” mynta’r guard.

“Ay, ay,” mynta Dai, “Ow are you?”

“Bachan,” myntwn i, “paid neyd mwnci o d’unan. Gweyd wrth yr injindriver odd y Guard.”

Odd menyw fach eetha bert, a chrottin bach bothdi petar ôd, i mab i allwn i feddwl, yn ishta yn un pen; menyw arall a diccyn o dwtch ladi yn y cornal arall, a Dai a Finna. Na’r cwmpni bob cam sha Gardydd.

“Allwn i feddwl ma Sysnag ma rai’n wilia,” myntwn i, yn wispran yn nglust Dai.

“I trafota i nw sa’ nw’n wilia French, ne German, ne High-talian,’ mynta Dai.

“W i’n gwpod ni, on walla ma gwell bod yn dawal; sdim shw beth a napod dynon na menywod yn yr ôs ma,” wetas i.

Sysnag a lot o dwang odd y fenyw fach yn wilia a’r crottyn, a’r ladi yn towli amall i air i miwn, allach gretu ma o Yorkshire, ne o weelod Shir Bemro, odd i’n dod. Odd y crottyn bach yn fishi yn sycno loshin.

“Os na watchith y fenyw fach y crottyn i daccith,” mynta Dai: “cistal i fi roi warnin idd i.”

“If I nevar to move,” mynta Dai wrth y fach, “that crwt will be chokin.”

 

 

 

 





(delwedd 4413 (tudalen 17)
 

(x17) Gytta’r gair ma fa yn dychra corndaci.

“Plump im on is back,” wetas i.

I gitchws Dai yn scrwff i wddwg a, a i shiglws a fel tarriar yn shiglo lligotan.

“Thenkyew ser,” mynta i, “you ave saved my boy.”

“Ay, ay,” mynta Dai. “It was a good job the loshin did come out, or praps the doctors in Cardiff would ‘ave to give im a ‘Epidemic.’”

I ffeelodd y ladi a pheedo smilan nawr.

“Bacha, Dai, ma gen ti Sysnag fel Membar o Parlamant. Wy ti weti ticclo’r fenyw fach, ar fencos i.”

“Gâd i Shoni. I don’t want any of your suppliments, Mr. Morgan,” mynta Dai.

I wyrthinws y fenyw fach, a i wetas,

“Wot a appy lot you colliars are,” mynta’r ladi.

“Ay, ay,” mynta Dai, yn cwnni ar i drâd. “The carredge is gettin very stuffy mum, I better open a bit of the window jest to ‘putrify’ the air.”

Wel, i gretas i y byssa’r ddwy yn cal bobo ffit wrth fel o nw’n shiglo gan wyrthin.

“O ow droll,” mynta’r ladi, “a regilar Malapro.”

Sa chi’n gweld Dai yn lleti fel un o gilicod twrcis y Cwm.

“Gat fi’n llonydd,” mynta fa, “Shoni, wy ti’n eetha sâf yn y ngwmpni i. W i weti darllan diccon ar y llyfra bach na – Mother Seigel’s Syrup – idd i styffaglan i yn French a German eb son am Gymrag a Sysnag.”

 

 

 

 



 


(delwedd 4414) (tudalen 18)


(x18) “We ave come to the conclusion that you are two Welshmen going to join the army,” mynta’r ladi.

“Ay, ay,” mynta Dai, “an your conclusion is A1 at Lloyd.”

I stoppws ytrain yn stashion Cardydd, a diolch am ynny, ne w i’n cretu y byssa’n raid cal raffa i gatw’r ddwy fenyw rag mynd yn bishes, o nw’n wyrthin o yd.

(:3) Y DRYTTYDD SHWRNA.

 

“YN GARDYDD.”

“Otti di fag di’n sâf ?” myntwn i.

“Otti, otti, cer mlan. Remembar, my friend, you are now in the ‘Necropolis’ of Wales,” odd attab Dai, “a nawr am bip ar y Marcws o Bute.”

Odd na blisman tidy yn sefyll tu fâs i’r stashion, a fi gwelas a yn towli llicad arno ni.

“Go on, Shoni,” mynta Dai, yn roi eetha scwt i fi. “Go on my comrade in arms. Remembar we are two ‘extinguished’ men to-day. Off a ti’n straight at y Marcws o Bute.”

Ma’r bobby yn dod mlan.

“Excuse me, gentlemen, the Marcws is not at ’ome.”

“Not at ’ome, myn yffryd i,” mynta Dai, “Tisn’t often a pub goes from ‘ome.”

 

 

 

 




 


(delwedd 4415) (tudalen 19)

(x19) “I beg your pardon boys,” mynta’r bobby.

“H’m,” mynta fa, yn peswch fel sa fa yn ngenol y pâs,

“Otti chi ddim yn y’n napod i boys?”

“I avent any ‘complexion’ of you,’ mynta Dai.

“No recollection wy ti’n feddwl, Dai,” mynta’r Bobby. “Dai Jones a Shoni Morgan on tefa?”

“You ave knocked the cokernut down with the first ball,” mynta Dai.

“I chi’n cofio Ted Williams briotws a Polly, merch yr Under-Manager yn mwll y Winsor?”

“Dyn-di-shefon-i!” myntwn i.

“Paid a recu, Shoni,” mynta Dai.

I nabyddson y’n gilydd miwn shiffad, a i gretas i na fyssa ni ddim yn cwppla shiglo deelo.

“Os ma yn y Marcws fyddwch chi’n aros eno, i boppa i miwn i gal chat,” mynta Ted, “a diccon tepyg y galla i roi cwppwl o dips i chi shwd i fiafio o flan yr officars.”

I fydawson a’n gilydd, a off a Dai a Finna sha’r Marcws o Bute, tafarn bach eetha omely; i geson lodgins yn gwmws, achos fod gwraig y tŷ yn gnithder i war-yng-nghyfraith Mrs. Jones y’n lanlady ni. Yno lle buon ni, fel doi bwnsh, yn smoko a wilia, nes i Ted Williams wân i beeg miwn o bothdi wech o’r gloch, wedi gwishgo yni shuit ddiwetydd.

“All ’ail,” mynta Williams.

“No,” mynta Dai, “It is not all ale, we ave some portar an’ cider, or wotevar your Majesty would like.”

Na grottan bert diginnig yn dod miwn.

“Dinner is ready, gentlemen,” mynta i.

 

 

 

 


 


(delwedd 4416) (tudalen 20)

(x20) Miwn a ni i’r dining room y’n tri.

“Ffamws. wir ddyn,” mynta Dai, “Duck an green peas an chips: Cistal i ni fytta yn arty, walla chaiff Shoni a Fi ddim chips nes bo ni yn y Red Cow yn Berlin.”

Ordson bobo “lewishyn” i ifad gytta’n cinno, a na buzzle i chi’r Ragabites i ffindo mas beth ifson ni. Cympohir i ddath y grottan i miwn a’r pwdin.

“My purty gel,” mynta Dai, “Where is the conflaggratoin?”

“Bachan,” wetas i, “paid bod mor ewn ar y grottan.
Ble ti’n cal y geira mawr na? Wy ti fel ‘walkin Accordian.’ ”

“Allu di, Shoni, beedo trio’r geira mawr; w i’n gwpod beth ti’n feddwl – ‘walkin concrudance’ on tefa.
Eesha gwel’d y fflamma round i’r pwdin o ni!”

Odd Ted yn bytta’n arty, a mynta; Dal, yn winco ar y grottan, “I am afraid our butty will die from avocation between the puddin an everything!”

Ddibenson, a ma’r peepa mas, ma’n well i beeb na shigards.

“Well, boys,” mynta Ted, “I chi’ch doi yn sâf o gal promotion.”

“Os cwnna i yn ddiccon uchal i fod yn Bompadour i fydda i weti ‘ratifyo to infection’,” mynta Dai.

Smilan nath Williams.

Am wyth o ni yn Drill ‘All, buildin mawr yn acos i’r Marcws. Sa chi’n gwel’d y boys odd no, fyssach yn gwpod fod y Kaisar ar gal i setlo.
Odd no un bachan o bothdi wech a dwy, slimyn tal, a chot goch gento.

 

 

 

 



(delwedd 4417) (tudalen 21)

(x21) “Pwy yw wnna bachan a brest yn depyg i Ropin Goch?” mynta Dai.

“Bachan, ma wnna yn slight, walla gna nw ‘fwa sath’ ne ‘blatur’ o no.”

Gytta’r gair ma’r officars yn dod a Ropin Goch yn un o nw.

“Jest the short of men,” mynta’r chief officar, “‘ealthy an strong, both over six feet.”

“Ay, ay,” mynta Dai, “the doctor in Dinas said our institutions was all right.”

“I can see your ‘constitutions’ are all right,’ mynta’r officar.

“Are you going to medjar us for shuits?” mynta Dai.

“Pass on,” mynta fa.

A “on” a ni i room fach ar y law wîth.

Na le! Odd y gola na ma nw’n i alw yn “indecent light,” yn gneyd y lle fel gola ddydd.

Ma nw’n gweŷd i fod a mor ddishglar nes ma’r “Oil” weetha yn douto pun a cwnnith a ne beedo.

Cympohir i ddethon mâs yn ddoi showdwr glana glapsoch chi’ch llicced arni nw ariod.

Miwn wsnoth o ni yn stasion y Westarn yn barod i starto i’r camp, a na growd odd yn y’n gwel’d ni off!

“Etrych co,” mynta Dai, yn pippan trw ffenast y carredge, “ar y crowd.” Ettrych ar y bloke co.

W i’n cretu ma German Spy yw a, a barnu wrth i beeg a.”

“Wel, ble ma di German Langwedge di?” myntwn i.

 

 

 

 



(delwedd 4418) (tudalen 22)

(x22) “I ro drial iddo nawr,” mynta Dai.

“Eau-de-Cologne!” mynta fa.

Wimlws y bloke ddim.

“Ma rwpath yn rong, Dai. Wy ti’n siwr ma German wy ti’n wilia?


“Siwr? Ottw, ottw” mynta Dai, “wath i beeco fa lan netho i o ar bottal scent odd gyt ta Mrs. Jones: odd “Made in Germany,” ar weelod y bottal.”

“Wel, treia diccyn o French, Dai,” wetas i.

“Cognac,” mynta Dai. I shiglws y bloke diccyn ar i gôs.

“Wy ti ar i drack a Dai,” myntwn i, “ma fa’n byw yn eetha acos i Ffrainc allu di fentro.”

“ I dreia Belgium,” mynta Dai . “Saturdach!”

I drows i roun fel wirligwgan. Belgian odd a, un o’r bois gatws y Germans nol nes i ni ddod yn barod. Y’n dyletswdd ni yw elpu’r Belgians: i ymladdson fel dynon. Na pam ma Dai a Fi weti joino’r showdwrs, i Ni’n Doi yn mynd i dalu nol.

(:4) Y BETWARYDD SHWRNA.

 

“OFF GYTTA’R TRAIN I’R CAMP.”

Miwn a ni i’r train y’n doi. Licswn sa gwyr Shirgar, Shir Bemro, a Shir Barteifi yn gweyd “train” a llon pen o “a”. Ry depyg i chi yn i wêd a bob amser i’r merchettach sy yn cal i cwnni yn y boardin school. Na gwetwch “train.” O’r gora ta, na ni weti gneyd rwy ddioni yn y’n “os” ta beth.

 

 

 

 



(delwedd 4419) (tudalen 23)

(x23) I wistlws yr injin. Wir ddyn ma’r gair “wistlws” yn y’n ela i i gofio am stori fach glywas i am weethwrs tân yn acos i ______, os sdim ots ble, os a. Rai o bydlars Shir Fynwa o nw. Odd y railway yn ryttag yn acos i lot o dai, a fel odd i’n diccwdd, i ddath dyn mas o dŷ pan odd yr injin yn passo. I gas i ladd ar y spot.

Gorffod câl inquest, on i gas y bobby draffarth mawr i gal jury. O’r diwadd gorffod iddo alw deuddag o’r gweethwrs tân i miwn ar i ffordd sha thre. I ddotwd Dai-pull-up yn foreman o ddryccioni, a fi alwd yr injinairs.

“ Ti yw’r injinaire?” mynta’r foreman.

“Ia.”

“Troaist ti yr ‘en andle fach na?”

“ Pwy andle wy ti’n wilia o bothdi fa?” mynta’r injinaire.

“Yr andle fach na sy’n gneyd i’r injin wistlan.”

“Do.”

“Wistlws i ?”

“Do.”

“Na ddiccon,” mynta’r foreman.

Fu’r jury yn cwnsela am diccyn, on o’r diwadd i gwnws Dai-pull-up ar i drad a i wetws y verdict: “Wilful murdar yn erbyn yr injin, but recommended to mercy achos i bod i weti wistlan.”

‘En stori yw i, on sdim shw beth a anghofio peth felna.

“Ble o ni? O ia, i wistlws yr injin – a off a ni. Cympohir i ddethon i stashion, stoppws y train, a i ddath clempyn o ddyn mawr, a locsis melyn, i miwn i’r carredge. Sais odd a’, o ni’n gwpod wrth i gewc a. R’un fan

 

 

 

 



(delwedd 4420) (tudalen 24)



(x24) i fi wêd, fuas i ariod lawar gytta’r train, dim on diccyn o Gluttach i Bompridd, ac i geso i drate wrth fynd o Gardydd sha’r camp. Pippan mâs o ni ran fwya o’n amsar; ettrych ar y ffermydd, dishgwl ar y côd, yr atar, a’r gwiningod, a Dai yn smoko.


I notissas fod bachan y locsis melyn a smile yn woblan bothdi cil i foch a.

“Smila di,’ myntwn i wrth y’n unan, “w i’n ynjoyo pippan mas trw’r ffenast ar y byd a’i betha.”

“Un,” wetas i, “Doi-tri-petwar-pum-wech.”

“Bachan,” mynta D:ai, “beth di’n reckno? Wy ti’n mynd i roi gair mâs i ganu?”

“‘Nacw,” myntwn i.

“Wel, o ti’n gwmmws ‘run peth a sa ti’n mynd i bitcho tune ‘Clycha Abardyfi,” mynta Dai.

“Na, saith,” wetas i.

I bippws Dai mas drw’r ffenast.

“Beth sy gytta ti, Shoni?” mynta, fa.

“Gweld y poor dabs na yn gorffod aros yn y câ, a’u dillad yn jibbadares, a i allwn gretu i bod nw bron starvo. Poor dabs. A ninna ‘n kicko cymant o row o bothdi ffeedo’r Belgians. Startwn yn y’n gwlad y’n unen. Na number eight. Gwêl di fa? Ma wnna’n wath i olwg na un o nw.”

“Shoni, Shoni, ca di ben,” mynta Dai, “bachan, bachan, nid ffarmwrs i nw, on’ shâps dynon i ela ofan ar y brain a’r jackadaws.”

“Your friend seems to ynjoy the train,” mynta’r boy a’r locsis melyn.

“Ay, ay,” mynta, Dai, a’i wynab mor gochad a

 

 

 

 


 

(delwedd 4421) (tudalen 25)

(x25) chrib giar odd yn mynd i ddetwi, “ay, ay, ‘e as got inslamation of the brain. Look ere my man, remembar we are two showdars of the King, an we are not going to be resulted by any one.”

I ddishtew-ws y boy a’r locsis, a i a’th mas yn stashion Casnewydd.

“I geias i fox wnna, Shoni,” mynta Dai, “a ma’n dda i fod a weti mynd mas; fydd dim eesha ordro crownar i gatw inquast nawr.”

Off a’r train, a ma stashion fach berta welsoch chi ariod yn dod i’r golwg, odd i’n flôta o un i’r platform i’r pen arall. I slow-ws yr injin, a ma i’n stop.

“Ettrych co, Shoni,” mynta Dai, yn pwynto’i fys at gartws jest tu fas i’r stashion, “Ettrych co, dishgwl bachan!”

“Wela i ddim on doi gart,” myntwn i, “cart mawr a chart bach o dano fa.”

“Bachan,” mynta Dai, “ma’r tro cinta i fi weld cart bach yn sucno’r ‘en gart.”

“Wyt ti, Dai,” myntwn i, “yn depyg i bishin welas i yn y Mail, os blynydda nol. Ladi odd yn cal i symynso am grualty to chickens, peedo rhoi bwyd i’r tacla bach. Ma’r stori yn eetha gwir, os na wetws y Mail gelwdd. “A’nt you ashamed of yourself?” mynta’r Judge, yn eetha saucy.”

“I thought,” mynta’r ‘ladi, yn snwffan llefan, “I thought the old ‘en would give them plenty of milk.”

I wyrthinws pawb yn y police cwrt.

“Wel,” mynta Dai, “ma’r tro cinta ariod i fi glywad i fod yn bosib i ti ottro giar.
Ia myn yffryd i.”

Na fel treulson ni’n amsar ar y shwrna sha’r camp. Story a story wettyny.

 

 

 

 



(delwedd 4422) (tudalen 26)


(x26) “Bachan,” myntwn i yn syttan, “ble ma cân Mishtir? Cystal i fi idd i thoncan i on tefa? Beth ti’n weyd?”

“Ia, ia,” mynta Dai, “mas a i Shoni.”

CAN MISHTIR (Can y Rhyfel).

O Gaerdydd i ben Caergybi,
Chlywir ddim ond diarebu
Ar y Kaisar - dyn a’r andras
‘Rhwn a luniodd yr alanas.

“Galanastra, melldith, difrod,”
Ydyw’r hanes sydd yn dyfod.
Ar ein clustiau’n gyson, cyson,
O gigyddfa’r Armageddon.

Belgium ddiwyd a anreithiwyd,
Ei haelwydydd a anmharchwyd;
Berlin mwy a adnabyddir
Fel Gehenna fawr mewn gwewyr.

Udgorn rhyfel a udganwyd
Draw yn Canadia fe’i clywyd;
Yn Awstralia yr adseiniodd
Llais pob gwron a’i atebodd.

Yn New Zealand fe ddeffrowyd
Teimlad gwladgar - a chynhyrfwyd
Deiliaid Prydain, trwy’r bedryfan,
Rhedodd ffrwd deyrngarol allan.

Daeth o Rwsia ddewr gatrodau
I amddiffyn gwlad eu tadau;
Daeth y Cossak hyf a’i biccell
I roi taw ar frad a dichell.

Thyn y Jap mo’i gap i Gaiser;
Gwell gan Foer ei George o lawer;
Ni fyn glewion gwlad y delyn
Blygu elin i deyrn yr Ellmyn.

 

 

 

 



(delwedd 4423) (tudalen 27)


(x27) Syna’r fall! Fe wrida Satan
Tra yn gwylio y gyflafan;
Mae’r ellyllon yn rhoi rhybudd
Am “front seat” i Billy’r Cigydd.

Dwed pa beth, naw’r Billy’r Kaiser,
Fu wrth wraidd y gwaith ysgeler ;
Onid trais ac hunanoldeb
Heddyw sydd yn rhychio’th wyneb?

Onid “digter” dyn hunanol?
Onid “trachwant” dyn annynol,
Onid “blys” am lywio’r cread
Fu’n dy ysu’r bodyn anfad?

Nid yw “gwaedd” y llu anghenus
Nid yw “gweddi” yr adfydus;
Nid yw “ymbil” y gwyryfon
Ddim i’th glustiau, Gaiser creulon!

Daw, fe ddaw y “Dydd,” fel d’wedi,
Fe ddaw pen i’th holl ddireidi
Ond ni fydd yn “ddydd gorfoledd”
I ti’r Ellmyn di-drugaredd.

Dydd yw hwnnw sydd ar wawrio,
Pan i’th welir wedi’th lorio;
Pan y clywir, llef gwareiddiad,
Yn adseinio, creigiau’r cread.

Beth? Nid “ti” sydd yn gyfrifol
Am y Rhyfel erch andwyol?
Am yr Uhlans oent fel geri
Ar ol sychu y seleri?

Nid tydi? Bydd son am danat
Fel dy gefnder – Pontius Pilat;
Golch dy ddwylo – byddent duon
Pe bae’r byd i gyd yn sebon.

Nero yr ugeinfed ganrif,
Gwrando - rhaid fydd rhoddi cyfrif

 

 

 

 



(delwedd 4424) (tudalen 28)


(x28) Am bob Ffrancwr a Phrydeiniwr
Syrthiodd yn y gad fel milwr.

Am bob Goorkai, Sikh, ac Ellmyn
Sydd o dan briddellau’r dyffryn
Am bob gweithred hyll ysgeler
Wnaed i foddio balchder Kaiser.

Saf am enyd fer i syllu
Ar dy gampwaith, os y gelli
Fagu nerth, ah pa sawl truan
Laddwyd i foddloni “hunan.”

Daw y “Dydd” bydd Tommy Atkin
“Quite at home” ar strydoedd Berlin!
Pan fydd Dai a Shoni ddoniol
Yn neuaddau’th balas breiniol.

“Wacht on Rhine” yw’th gan wladgarol,
Fe newidir hono’n hollol;
Boys Shiigar a ddont ar garlam –
Canant “Sospan Fach” it’ William.

O! fe’th gospir di, y Kaiser!
Beth yw’r gosp? Fe ddywed amser;
Ebe Rees: rhown iddo’n union
Bymtheg mis o “indigestion.”

I St. Helena, o’r alanas,
I dreulio oes o benyd caethwas;
Ebe arall - doeth ymattal –
Mae “Un” a dal – “‘Rhwn bia dial.”

Cyfyd cri y lladdedigion,
Tery ddiscord i’w freuddwydion
Synnwn ddim pe bai i ddychryn
Rewi gwaed y Kaiser cyndyn.

Fechgyn Cymru! Cofiwch Glyndwr
Gafodd gryd yn Nhreffgarn, - arwr
Suglodd wlad drwy wi byrbyrwch;
Loriodd luoedd drwy wladgarwch.

 

 

 

 



(delwedd 4425) (tudalen 29)

(x29) Fechgyn Cymru! Fynwch chwithau
Weled Cymru Fâd dan greithiau?
Fynwch glywed trwst yr Ellmyn
Yn anrheithio Gwlad y Delyn?

O Eryri, yspryd Arthur
Danio eich gwladgarwch pybyr;
Ni cha Kaiser a’i gatrodau
Gochu glaswellt Gwlad ein Tadau!

“Bachan,” mynta Dai, “na beth yw cân sy’n roi ‘yspryttiath’ miwn dyn, fel ma’r prygethwrs a’r ffeeraton yn weyd. Screggo Will o Berlin fydd y jobbin nes. Beth ti’n weyd Shoni?”

“Ia, lar y mencos i,” myntwn i, “i fydd na dwcsid o bwlffagan pan gwrddiff ‘My Nabs’ â Ni’n Doi.’

“Cana, gân, Dai, jest i gwnni’n calon ni.”

“Right you are,” mynta Dai, a i ddechrws.

“Mae ‘en lâd fy nata yn anwl i mi,
Glâd beirdd a chantorion, enwoccion o fri;
Ei gwrol ryfelwyr, glatgarwyr tra mâd,
Dros ryddid collasant eu gwâd.
Glâd, - gla -.

Ma i’n stop, a fel y gwetws Watcyn Wyn,

“I gysgws a’r ‘wlad’ yn i enau.”

Odd Dai nawr yn wrni fel un o beepa’r eggsost ar ben pwll y Winsor, a fi settlas i i lawr, a’n nrad ar y sêt, i gal neppyn, a, am w i’n wpod, i slippas inna, i wlad y byrddwyton. I welas mwy miwn byrddwyton na bippas i ariod a’n llicced arni nw ar ddi-un.

Byrddwyton yw’r boys am “cheap trips.” O ni cyn ‘ir, wynab yn wynab a Will o Berlin. Sa chi yn i weld a’n spriwingad wrth geesho dod mas o’n ngafal i! Yr arcol! Na sight! Odd in worth talu wech i weld yr olyccfa, odd myn

 

 

 

 



(delwedd 4426) (tudalen 30)

(x30) yffryd i. Ond - ma ergyd ar y’n ngoppa i fel sa sledge Dai’r gôf yn y’n ngyrradd i. I needas ar y’n nrad, i ddinws Dai achos y mod i weti damshal ar i gorn a, a beth welson i on bachan o dickat-collectar yn smilan.

“Tickets, please, gentlemen,” mynta, fa, “You change ‘ere for the camp. I see you are gallant boys on your way to the front.”

I roison y’n tickats i lan, a i catws nw, i ethon ninna i mas i’r platform. Odd i’n dywyll erbyn ‘yn. Cympohir ma fachan y moto yn dod diccon awdd i napod a wrth i ddillad lletar. I slingws y’n cwta ni ar i gefan i ddilynson a, a miwn a ni i’r moto fel doi farcws.

“Bachan o wr-boneddig odd y tickat-collectar na, Shoni,” mynta Dai. “Os dewn ni nol yn fyw, i licswn i gâl i wodd a i gâl dishglad o de gytta ni yn y Marcws o Bute yn Gardydd.”

“Poop- poop,” mynta’r moto.

“Right o,” wetas i.

“Ay, ay, myn yffryd i,” mynta Dai.

A ma ni off i ddrecsiwn y camp.

(:5) Y BIMFAD SHWRNA.

 

“YN Y CAMP YN CAL Y’N SHAPO.”

Bothdi annar awr weti wech i dynson yn acos i’r camp. I ddotws y shaffer y brake mlân, a i stopson dwp o flân tent mawr, a mâs a ni.

“Landed, ar mencos i,” mynta Dai.

I dalson bobo annar coron i’r shaffer am y ride, a bobo wech yn extra iddo gal llewishyn ne ddoi ar ddiwadd y shwrna , wath odd i’n eetha ôr, a’r shaffer yn good short.

 

 

 

 



(delwedd 4427) (tudalen 31)

(x31) Ma fachan tal yn dod mlan, a ar ol dishgwl a starân diccyn, diccon awdd gwpod ma un o’r crachach odd a. On’ cofiwch chi, bechgyn ffamws yw bechgyn y crachach. I ni weti bod yn i ryttag nw lawr, a sportan ar i pen nw. Odd Esgob Llundan, mynta’r pappra, weti gweyd i bod nw’n wara gormod o polò, a golf, a football. On wara teg i’r crachach. Pippwch ar y pappra. Pwy sy’n ledo’r showdwrs? Pwy sy’n shoutan Stick-it-Welsh? Pwy sy’n stoppo’r ambylance i cymryd nw yn ginta, er mwyn i rwy poor dab o showdwr cyffretin i gâl y chance? Pwy sy’n cwmpo yn lleepa ar fas y gâd wrth geesho catw anrytadd Pryttan Fawr i’r lan? Pwy sy’n sceepo’r Germans o’u blân? Dyrllenwch beth ma’r showdwrs bach cyffretin yn scrifenni o’r trenches. Beth? Our officar was a ‘ero. Wara teg i’r crachach, ma nw weti dangos i unen yn ddynon.

O ni jest mynd i “wyl, wir ddyn.” I ddath y bachan ifanc y mlân
.
“Wot company?” mynta fa

“Only Shoni an’ me,” mynta Dai, yn pwsho i gap ’nol ar i wecil. You can join us if you like.”

“I see,” mynta’r bachan ifanc. “I don’t mean that. But come along, I will put you right. Were are you from?”

“Dinas,” wetas i, yn twymo at y bachan, o ni’n gweld ma thoroughbred odd a.

“Cardiff Welsh Ridgemant,” mynta Dai.

Cyn y galla chi dowli wink, i’n arwinws ni’n doi i miwn i’r tent mawr.

“Give these gentlemen refreshmants,” mynta fa, a i dowlws bishyn coron ar y cowntar. Odd y waitars yn bowo, yn scrapo, a yn syrro, sdodd yn arswd idd i gweld a’u clywad nw.
Wrth fynd mas i wetws

 

 

 

 



(delwedd 4428) (tudalen 32)

(x32) “Ynjoy yourselves my lads, I will ‘unt up the pyrticilars,”

I ynjoyson, ar mencos i, pobo blatad o sossinjers, a thattws, a bobo lewishyn o --. Cistal i gatal i ar y strokan na, ma na gymant o iwancry yn erbyn roi “rum” i’r showdwrs sy ‘yd i byrddwytydd yn y dwr a’r slwdge yn y trenches. Gewch amsar i gesso’r “missin word” tra bydd Dai a Finna yn bwtcherach y Germans. Os dim eesha gweyd ma nid “rum” odd a, wath dyw rum a sossinjers byth yn concordo un amsar mynta’r boys sy’n gwpod.

I ddath y bachan ifanc nol, a i welson miwn wincad ma un o’r officars odd a.

“Line B. Tent No. 2,” mynta fa.

“Thenkyw ser,” mynta ni gytta’n gilydd, fel sa ni’n canu duett - “Gwys i’r Gâd.” Off ag e, a off a Ni’n Doi.

Tent o’r short ora odd a; diccon o ddillad gwely, a dim on’ Ni’n Doi.

Bothdi naw odd yr ylectric light yn cal i ddiffod, a i ethon y’n doi i’r gwely. I ddi-unson fel arfadd o bothdi annar awr weti petwar, on odd i’n dywyll. All coliars ddim peedo dino yr un amsar a arfadd, na fel ma i yd yn nod ar ddy’ Shul yn y gweetha.

“Cisca diccyn,” mynta Dai, “i ni’n siwr o glywad y cornat yn canu pan fydd eesha cwnni.”

On cyn bo’r cornat yn canu o ni’n doi mas yn cal walk roun’i’r tent.

“Ma beth yw ffresh âr,” mynta Dai. “Os dim lliwch i dicclo twll di wddwg di mas ma, Shoni, âr ffresh sy ma. I do feel the air very aggravatin’ this mornin’, it as made a new man o me.”

“Ay, ay,” myntwn i, yn ceesho scrapin diccyn o

 

 

 

 



(delwedd 4429) (tudalen 33)

(x33) Sysnag, “Ay, ay, Dai, I am of the same confirmation, it are ffresh âr.”

Na’r bugle yn canu; a off a ni i’r ranks. Sa’r Kaisar yn y’n gweld ni, i gesa ffit. Sdim eesha gweyd beth odd yn mynd mlan bob dydd, ôs a? Drill, drill, drill. I geson y’n “drillo” nes y cretas i y byssa ni yn syrffeti ar y consarn.

Y men bothdi tair wthnos i geson y’n promoto; i gas Dai a finna y’n gneyd yn gorporals. Un noswath i geson y’n galw i dent yr Officar, y bachan piwr ny dalws am refreshmants y noswath ddetho ni i’r camp.

“I expect a spessial lettar by train from the Commandar-in-Chief,” mynta fa. “You are two trusty fellows, please go to the stashon to fetch it.”

Sa chi yn y’n gweld ni a’n penna yn yr âr.

“Na bromotion, Shoni,” mynta Dai, “i liccas i y bachan na pan dalws a am y sossinjers.
Do ar mencos i.”

“Right,” myntwn i, “ bachan piwr yw wnna.”

O ni ar y ffor’ nol, a yn syttan ma laish yn gweyd,

“Who goes there?”

Stopson.

“Who goes there?”

I attepws Dai. “Dai Jones, Dinas Cross, an’ Shoni Morgan, Yet-y-bompren.”

“Advance Dai Jones an’ Shoni Morgan,” mynta’r llaish, “an’ give the countersign.”

I sefson fel doi ddelw, a wyddwn i ar y weddal nes i’r llaish ddod mlan, a gweld baginet yn twtch a stwmog Dai, a phistol yn pointo at y men i. I ath crips dros y ngefan i, rwpath fel sa snow-ball yn

 

 

 

 



(delwedd 4430) (tudalen 34)

(x34) cwrso lawr i main y nghefan i, a cholsyn pôth yn starto ryttag ar i ol a i geesho i ddala fa. Sentry odd no!

“Boys ‘en wlad y Brynia,” mynta’r llaish, “shwd i chi?”

Ted Williams y bobby odd a, newydd gyrradd o’r train. I wetws wrtho ni i fod a weti câl i bromoto yn Lifftenant, a ryngo ni’n tri odd dim gopath ir Kaisar gal byw yn’ir.

Fu na ddim llawar o gysseitmant am bothdi mis. On un noswath odd Dai a finna weti cal yn ela i ffarm i wilo am diccyn o gig moch i gal i ffreio fa yn frecwas i’r officars. Odd na wispran weti bod am “spy” yn y camp, a notiss weti roi am i bob un fod yn wide-awake. Odd bothdi milltir i’r ffarm. Off a ni yn eetha jokose.

“Eisht,” myntwn i, “ma rwy swn ar y law with. Eisht Dai.”

I stopson.

“Hoch, hoch.”

“Bachan na iaith German,” mynta Dai. “W i weti darllan rwpath tepyg yn y pappra.”

I symitson mlan, fel sa ni’n cerad ar wia.

“Hoch, hoch, hoch,”

“Paid mwfid, Shoni.” mynta Dai, “ma fachan bach o Gymro daccliff y boy. I â i i gal pip.”

Odd y swn yn para, a i ath Dai mlan i fola’r clawdd. On i ddath nol miwn clippad.

“Chap miwn dillad llwyton yw a, yn crippan ar i drad a’i ddeelo. Now for it comrade,” mynta Dai.,

Yn ddishtaw, fel sa ni yn cerad miwn slaps, miwn parlwr gwrboneddig, i nesson at y “spy.”
Dros y

 

 

 

 



(delwedd 4431) (tudalen 35)

(x35) clawdd a Dai, a ma i’n scuffle! Odd y screchan a’r gwichlad yn ddiccon i ollti pilyn y’ch clust chi.

“Low tackle!” mynta Dai. “Play the game mun.”

Ma i yn ddishtawrwdd.

“Cnoi efa? Kicko efa?”

Eisht-taw-son am diccyn to.

“Where’s the Ryfaree?” mynta Dai. “Off side, off side.”

Wir ddyn allsach gretu fod foothall match yn cal i wara.

I netho spring dros y clawdd.

“Ere’s the Ryfaree,” myntwn i, yn wyrthin nes o ni jest mynd yn gatta. “Alf time, Dai.”

Mas a’r electric lamp, fflashas y gola. Na bantomine! Beth welas i on Dai ar ascwrn i gefan yn wthi fel mecin a thwll yndi, a mochyn, bothdi petar-scôr-ar-ddeg yn twrio’r ca, yn eetha tawal.

“Co’r ‘Spy’ Dai,” wetas i.

I gretas y ceswn i gompulsions ar y spot.

“Catw’r secrat, Shoni,” mynta Dai. “Paid gwêd wrth Ted, ne i fyddwn yn sport i’r camp.”

Wetas i ddim, a ma’r tro cinta i’r anas ddod mas miwn print ôr, fel ma nw’n gweyd. I’r ffarm a ni, a i geson y cig moch. Wrth fynd nol i’r camp i dorrws Dai y dishtawrwdd.

“Na’r ‘sell’ mwya geso i yn y’n ôs, Shoni; ma arno i want mynd nol i dori scleishen o’r German spy na.”

“Der mlan,” wetas i, “der mlan.”

Pan greiddson ni’r camp odd no alibalw o’r short ora: odd taligrafft weti cyrradd yn gwed fod y’n Ridgemant ni i fynd i’r front. Odd y boys yn ryttag o un tent i’r llall, yn gweiddu nes odd Solsbri Plain

 

 

 

 



(delwedd 4432) (tudalen 36)


(x36) yn ecco. I joinso’n ninna pan ddiallson ni beth odd achos y randiboo.

“Shoni,” mynta Dai, “we are booked for the Red Cow in Berlin my boy as shure as nineteen pence. Cistal i My Nabs y Kaisar shâpo’i wyllys, ma na ‘gome to’ i fod am ladd plant bach, a merchettach, a mynwod, a ‘en ddynon. Os, ôs. I fydd William o Berlin yn gorffod shifto’i lodgins. Gobeetho ma fi fydd yn i garco fa am y wech mish cinta. Fydd bytta tin-tacks ddim yn roi mwy o bôn iddo na fydd e’n gâl undar Dai Jones’ tratemant. Dim on Wil a finna! Yr arcol na lle fydd circus myn yffryd i. Bachan ------------.”

Wn i ddim beth fyssa Dai yn wêd yn racor sa’r bugle yn peedo apto canu ar y pryd. W i’n gwpod fod Dai yn eetha parod i gitcho yn scrwff i wddwg a, a shiglo’r anal mas o no. Ryttag? Odd myn yffryd i, pob un yn falch fod y Commandar in Chief weti’n peeco ni mas. Sdim eesha roi’r pyrticilars, on i fentra weyd tho chi, i fydd anas Ni’n Doi ar fâs y gad siwr o neyd i’ch gwallt chi -os ôs gwallt i gal gytta chi, - i gwnni fel brwsh câns. Fel y canws Dai, -

“Ni ewn i’r gad i golli’n gwâd,
Ewn ar y “Spree” yn union.”

 

 

 

 



(delwedd 4433) (tudalen 37)

(x37)

 

(:6) Y WECHFAD SHWRNA.

 

“MYND I SETTLO SQUARS Â WILL.”

I ddath y bora, bora’r “Kick off” odd Dai yn i alw fa. Odd yr officars yn brasgamu nol a blân, a’r showdwrs yn bisnessan fel sa chi’n acos i gwch gwenyn. W i’n siwr bod bona clusta Will o Berlin yn ddiccon pôth i chi bopi blotars o’u blân nw.

O ni’n cal amall i bip ar Lifftenant Ted, on wrth gwrs odd a yn y’n napod ni, a dim yn y’n napod ni ar y pryd. Ryw weyd bach od yw wnna, ontefa? On i chi’n diall beth w i yn wilia o bothdi fa. Fel officar odd a ddim yn y’n napod ni - yn gorffod catw dishtans, on fel partnar odd a’n tywli amall i winc pan yn cwrlo’i fystash.

On i’n falch i weld a fel y gwetws bachan o fardd

“Yn gneud cest fel brest brān.”

Ma ni off yn nrecsiwn y stashion.

“Cŵn ddou dickat i Berlin,” mynta Dai, yn cellwar diccyn, “a taligraffta at Wil, a gwed –

‘Meet me by moonlight alone.’”

“Gwell peedo bachan,” myntwn i yn sbortan diccyn. “Na, gwell peedo, ar mencos i, i fydd ynny yn i ddoti fa ar y watch. Na, Dai, i goleri fa eb yn wpod daliff y ffordd”.

“Daliff y ffordd, Shoni? Gnaiff walla. Os cwrddiff Wil a fi, i dwlla ffordd âr trw’r boi, a fydd dim eesha spyin’-glass i bippo ar y sers a’r planeta wettyny.

 

 

 

 



(delwedd 4434) (tudalen 38)

(x38) Miwn i’r train a ni.

“Ergyd a phwff, a miwn annar wiff
Hwlti, heltar, skilt a skeltar.
Ffwrdd a ni fel rai ar baddella
Ne rês o diccella
Link lonk wrth gynffon ci.”

Pishin o waith Mynyddog, w i’n gretu odd y pishin ganas i nawr. Ma fa’n eetha pert, a yn attab y movemants yn well na allwn i ddishgrifo. Os yw y pishin yn “gopparplate,” a jail i fod am i brinto yn y pappra, os dim i neyd on jofadd diccyn o bunishmant. I na i wech mish yn rwydd ar ol croppo mystash y Kaisar.

Ma Southampton o’r diwadd! Yr arcol na sight! Llonga a llonga, a mastis wrth y milodd, fel sa chi’n gweld gallt fawr o gôd cinna-banes.

Bâta bach wrth y cannodd, stemars wrth y milodd, a showdwrs fel crowd o forgrug, ne’r jack-i-jwmpars i chi’n weld yn y câ amsar lladd gwair. Chlappas i ddim o’n llicced ar gymant o boppath ar yr un pryd ariod.

“Shoni,” mynta Dai, “Bachan, ma rwpath yn depyg i sgyrshon Pwll y Winsor i Ilfrancwn. Bachan ma soppyn o boppath.”

“Os,” wetas i, a men yn acor allsach stwffo magna bona i miwn iddo. “Os wir Dai. Ma beth yw golyccfa ar mencos i.”

Mas a ni i’r platform a golwg ffyrs arno ni, yn barod i waith.

“Fall in!” mynta’r officars.

I ddishgwilws Dai arno i.

“Fall in!” mynta fa.
“I ble bachan diarth?

 

 

 

 



(delwedd 4435) (tudalen 39)

(x39) I’r docs a’r dŵr ôr? Dim o di ‘Fall in’, di my boy.”

“Fall in.”

Ma Ted yn dod a yn wispran.

“All right boys”

“Ffamws,” myntwn i.

“Wel, ‘Fall in’, ready to go eu board the troopship” mynta Ted.

“Aros dicyn bach, Ted,” mynta Dai. “Os rwy sense fod eesha mofiad i’r llong, a dicon o fâta yn secur yn y docs?”

“Cer ‘mlaan, Dai,” mynta Ted, “gad di jôcs, Dai. Cofia di fod ti a Shoni yn ryw short o officars, a bod eesha i chi garco dicyn ar y showdwrs cyffretin.”

“Bachan,” myntwn i, “o ni weti angofio y mod i’n gorporal.”

Same ere,” mynta Dai.

Left - Right.

Ma ni off yn grôs i’r pro-mened-i, y drylla a’r baginets, a bwndal ar y’n cefna ni, fel Dai Pen-rhiw yn newid i lodgins.

Mark time!

“Sdim shalc da fi,” mynta Dai.

“I beth?” wetas i.

“I mark time,” mynta Dai. Ma rwpath fel ’yn yn ela ira’th arno i wrth feddwl am farco drams ym Mwll y Winsor. W i’n cretu sa well gytta fi i rippo top a thorri pwccins na ryw wara plant fel ’yn.”

I greiddson y dec o’r diwadd, mor appus a dou ganary bach miwn crâge.
Na randiboo! Odd i’n wath na Ffair Llwnpia.

 

 

 

 



(delwedd 4436) (tudalen 40)



(x40)All ’ands on deck!

W i’n diolch fod Ted ar y’n pwys ni pan glywws Dai y command - ‘All ’ands on deck!’ Ma fa’n dychra recu!

“Wel Shoni,” mynta fa, “This is the last straw that breaks the camomile’s back. All ’ands eu deck! No fears my boy, ma’n well gen i ‘down tools’ na doti’n neelo ar y deck. Beth sy’ i stoppo’r bois â’r trâd nôth na i ddamshal ar y neelo i? On strike, mynyffrydi.”

Best joke of the war,” mynta Tèd. “Dewch chi boys ma’r llong yn starto sha Ffrainc.”

I sobrws Dai, a i wyrthinws pan ddiallws a ma galw’r sailors
at i jobs odd yshtyr ‘All ’ands on deck!

Gen-u-ine,” mynta Dai. “‘Ma beth yw trip!”

I fuon yn walko diccyn ar ’yd y deck i gâl pip ar y môr, on cympohir i âth gwynab Dai fel y shalk.

“Shwd ti’n teemlo Dai?” myntwn i

“Teemlo?” mynta fa. “Teemlo rwpath tepyg i’r whale ar ol iddo lyncu Jona - something like a ‘revolvar’ inside.

I ffeelws weud racor. Os gen inna ddim gwell na doti dots,
rwpath fel yn..........................................................

I fydd y dots yn ddicon o iaith i ddangos shwd o Ni’n Dou yn teemlo ar ddychra y shwrna sha Ffrainc, wath o ni’n gwpod fawr o ddim am beth odd yn mynd mlan.

Sa Wil o Berlin yn câl dose “extra superfine” (fel ma nw’n weyd

 

 

 

 



(delwedd 4437) (tudalen 41)



(x41) ar y cwta cân,) o glefyd y môr fyssa ddim want arno starto ryfal am i ôs. On, erbyn y bora o ni’n dou fel crics.

“Shoni,” mynta Dai, “dim racor o glefyd y môr i’r bachan ma: ma’n well da fi gerad sha Ffrainc, sa ni’n gorffod i thrafeulu ddi yn drotnoth. Bachan, odd y’n inside i fel sa rasus moto-cars yn cymryd lle no.”

Same ’ere,” myntwn i. “Odd y men i fel sa sâr pen pwll yn drilo twlla yndo i neyd gwacar i ridlo glo mân.”

“Shwd ti’n teemlo nawr?” mynta Dai.

“Fel y boy,” myntwn i. “Yn eetha parod i frecwas. I alla weud fel conductor y tramcar - plenty o room inside.”

“W inna yn shapo rwpath yn depyg,” mynta Dai. “A os na ddaw feed cympohir ma gen i set o ddannadd alla i i roi yn y pawnshop.”

‘Ma gloch yn tinklan.

“Beth yw’r gloch na, Dai?” myntwn i.

“W i ddim yn gwpod os nace bachan yn gwyrthi oil sy na, ma fa’r un swn a cloch y bachan sy’n gwyrthu paraffin yn Dinas.”

I geson wpod miwn crack; i ddâth Ted mlan.

Wake up, boys, file on to brecwas’.”

Off a Tèd, a i symutso ninna gytta’r crowd.

“Arno i ofan, Shoni,” mynta Dai, “ma diccyn o fwyd eetha tough sy yn y’n weetan ni, cyn bo eesha file idd i dacla fa. I dreia i gillath bock i starto.”

I wyrthinas i, a i wetas ma yshtyr ‘file’ odd mynd mlan, rwpath tepyg i - gwt, gwt wrth y ngwt i.

I grampws Dai yr idea, a miwn â ni i’r

 

 

 

 



(delwedd 4438) (tudalen 42)



(x42) rwm. Y chi wedi clywad ’aid o wydda yn cacklan wrth fytta sôg; wel, na amcan i chi o’r row yn y rwm pan ô ni i gyd yn bytta. On wara teg, on tefa, llanw drams gwâg o ni.

Odd Ted weti bod yn drwmpyn unwath ytto, a weti catw bord fach roun’ i Dai a fi. Coffee, a bara a ’am odd i frecwas.
Dicon? O odd wara teg. Ar genol y ford odd dishgil fach yn llawn o fwstart, a llwy yn i chenol i.

Arfadd Mrs Jones, gwraig y lodgins, odd doti mwstart ar yn plâts ni, na pam odd Dai yn synnu wrth weld y llwy.

“Allu di fentro, Shoni,” mynta Dai, “ma style newydd o fytta mwstart sy ma. Bobo lond llwy ar y tro. I should like to ’ave an ‘exclamation’ from our friend, Ted.

“Wel,” myntwn i, “ma let go ar lwyad Dai.”

I fytas lond llwy, i dasgws y dwr o’n lliced i.

“Beth di’n llefan Shoni?” mynta Dai.

Cofio yn syttan netho i am ’en wr y nacci gâs i groci am dwccid defed,” myntwn i. “Treia lwyad, Dai. Ma fa’n first-class.”

I dreiws Dai lwyad, a ma’r dwr yn tasgu mas o’i liced a.

“Beth di’n llefan, Dai,” myntwn i, jest ollti eesha wyrthin.

“Llefan achos na cheso ti di groci gytta di dacci.”

Wyrthin fuo ni’n doi am amsar, a mlân a’r frecwas.

“Myn yffridi, Shoni, sa ni eb gâl brecwas fysa raid i fi lyncu pâr o brops i ddal ochra’n stwmog i’r lan,” mynta Dai.

I ddibenson, a ma’r cornat yn kicko row. Off

 

 

 

 



(delwedd 4439) (tudalen 43)



(x43) a ni, a’n anal yn y’n dyrna., a miwn wincad odd pob un yn sefyll ar y deck i gal i expecto.

“Passa di neeshad book ma,” mynta Dai, “ma’r mwstart yn briweddu o ’yd, i di dâla di nol yn droring-rwm My Nabs yn Berlin.

Odd Dai yn fachan o natur dda, odd ddim diccio yn i anas a, a o ni’n gwbod yd a lled ‘i fwcwth a. I ddath yr “expection” i ben, a i geson rwpath fel ‘free an’ easy’.
Rai yn pippo ar y môr, rai yn lorchan ar y deck, rai yn cerad nôl a blân. Y môr yn wyrdd, a mor smooth a billiard table y Queen’s. Amall i stemar yn dod i’n cwrdd ni; a llong ’hwylia (sic = wylia) wettyny yn tacan nol a blân, yn depyg i Will Mab Ann yn i thrackan i sha thre o’r clwb ar nos Satwrn pai. Man-o-War ar ôl ’ny.

“Dishgwl Dai,” myntwn i. “‘Co long gnociff dwll yn gweelottion llonga’r Kaisar.”


“Ia, myn yffrydi,” mynta Dai.

Chollson ni ddim golwg ar dir Lloegar yn ’ir cyn i fachan miwn cot a ribbana weiddi mas trw dromboon -

Land Ahoy!

“Bachan o ble yw wnnw, Shoni?” mynte Dai.

“Pwy?” myntwn i, “y bachan a’r tromboon?”

“Nace, y bachan ma fa’n i alw yn Landa. W i weti clywad Dai Oi a Shoni Oi, on’ chlywas i ddim fod bachan o’r enw Landa wedi joino’r Welsh Ridgemant”.”

“Bachan, Dai,” myntwn i, “Gweud fod y tir yn acos ma fa.”

“O, i ni jest cyrradd Bo-loug-ne ta?”

 

 

 

 



(delwedd 4440) (tudalen 44)



(x44) “Ottin, ottin, bachan, co’r docks yn y golwg,” myntwn i.

“Ia wir ddyn, wy ti’n eetha rait, Shoni. Co nw.”

Ma’r bugles yn canu, yr officars yn rytag, y showdwrs yn mwstro, a chyn po Dai a finna yn câll amsar i acor y’n lliced ma’r troop-ship yn stoppo. Mlan to dicyn bach, a wiw a ni i ochor y landin’ stage.

Sôn am waith arn Dwlash! Y wistlan, y stêm, an’ so on, odd gwaith arn Dwlash on rwpath fel côr plant wrth ochor Côr Caradog os slawar dydd.

Myn amsar o ni’n sefyll ar y landin’ stage, showdar tw showdar, fel sa Wil meiswn sych weti bod yn gneyd wal o ono ni.

Ma Ffrench Officars  yn passo i gal pip gytta’n officars ni, a dicon awdd darllan wrth i gwynepa nw i bod nw weti cal i pleso.

Form fours. - Left wheel - March!

Off a ni sha’r Barricks yn Bolougne, yn canu, fel y Royal Male Voice, y don ‘Tipperary’, yn Gwmrâg a Sysnag, yn betwar part, a ar bwla yn annar dwsan o barts fel bysa’r ’wyl –


“O mae’n bell iawn i Gwm-y-Rhondda...”

Mishtir Ni’n Dou nâth y geira, a ma’n worth i chi gâl i clywad nw.
Watchwch y Shwrna nesa.


 

 

 

 



(delwedd 4441) (tudalen 45)

(x45)

 

(:7) Y SEITHFAD SHWRNA.

 

“RACOR O SHAPO.”

O ia, ma’r chorus o ni’n ganu.

.....Mae yn bell i - Rhosllanerchrugog,
.......Ac i Llanfair — P. G.;
.....Mae yn bell iawn — Gwmsyfiog,
.......Aberaeron a Thondu;
.....Good-bye Cwmyrecclws
.......Ffarwel Mountain Ash,
.....In i’n mynd i setlo squârs a’r Kaisar
.....A chroppo’i — fystash.

I chi boys y Solffa, yn diall y strokes na; ma’r dôn Tipperary a lot a jerks yndi, fel sa chi’n câl ffit o iccoops ar genol y gân. Ne a bod ni’n câl cydmariath arall, fel ma’r ffeeraton yn arfadd gweyd, fel bachan yn cal twtches o reumatics yn i drôd wîth bob dwy lath. Ma na erc yndi. Notissoch chi?

...............”Mae yn bell i - Rhosllanerchrugog.”

I fuas yn ceesho gan Dai i roi’r enw right ar y short ma o ganion, y canion a’r erc. W i’n cofio’’n ffresh pan ddath y gân mas ginta y’n bod ni’n doi yn ishta ar ddram wâg. Na wetws Dai y pryd ynny ma short o “Syphonated notes” o nw’n cal i galw gytta boys yr A.C. i shiglas y men ar y pryd, fel sa ni’n douto — odd a yn ry depyg i swn syphon o soda water an’ so on, a ma nw’n gweyd wrtho i ma yn


 

 

 

 



(delwedd 4442) (tudalen 46)



(x46) y “so on” ma’r drwg.” Walla ma fa. W i’n cofio cacwnan yn cerad ar y’n llaw i pan o ni’n grotyn ni’n grottyn, i geeso beecad nes i fi screchan.

“Beth sy’n bod,” mynta mam.

“Yr ’en gacwnnan ma ishteddws lawr ar y’n llaw i,” myntwn i, yn para i neyd wep.

Odd y cerad yn eetha diniwad, y “so on,” yr ishta, nath i fi deemlo.

On mlan o ni’n mynd. I gretas i wir ddyn, y byssa’r ffenestri yn cracco, a’r slâts yn fflyan eebo men i wrth fel odd y boys yn rattlo’r “R”s yn Rhosllanerchrugog. I gas Dai ordars gan yr officars i newid y geira yn y chorus rag ofan gneyd damage i’r tai. I nath ghorus mor bertad ag a glywsoch chi ariod, i gewch donc arno jest nawr. Sa chi’n gweld y merchettach yn tywli lliced arno ni (ar y showdars i gyd w in feddwl, w i ddim shwd sledge a mynd i frawlan ma arno Ni’n Doi o nw’n dishgwl, er y’n bod ni yn ddoi fachan eetha glân).

“Are we down-’earted?” mynta un o’r boys.

“No,” mynta’r Ridgemant yn un llaish, fel swn tyrfa. Os odd un yn gweiddu Dai odd wnnw. Ma officar acha cefan ceffyl glâs gola yn dod at Dai.

“Don’t yell like that my man,” mynta fa, “or the Crown Prince will ’ear you, an’ you’ll put a stop to the war.”

I gwnnws gwrych Dai, i ath i wynab mor gochad a thomato. I blyccas y men, a ngên ar y mrest fel crottan fach pan yn cal shawns ar y cusan cinta, ’w i’n gwpod fod gwyn y’n lliced i yn y golwg.

“Eisht, Dai, paid a attab: jofedda fel dyn,” myntwn i.

 

 

 

 



(delwedd 4443) (tudalen 47)

(x47) I jofeddws wara teg, a cympohir odd a’n gweiddu cistal a neb.

“Sdim use attab Officar,” wetas i.

I greiddson y Barricks.
Na le! Yr arcol odd no flags a ribbana o bob lliw a llun.

“Shoni,” mynta Dai, “the perforation is perfection. Dishgwl ar y fflags na, na beth yw sight, ar mencos i, werth i ettrych arno.”

I ishteddson wrth y ford; odd poppath yn barod, te, bara menyn, teeshan gurrans, teeshan blât, jams a jellies. Odd yn bleser ettrych ar y “feed.” Ma’r officars yn dod eebo, a i ath eisht — taw — son drw’r lle, a phawb yn clustfeeno ar i ora i gal clywad y speeches. Bachan ifanc, golyccus wetws diccyn i starto. I startws i speech bothdi dychra anas y Cymry, a yna’n crippan mlan trw’r oesoedd nes cyrradd y spot yn Ffrainc lle nath y Cymro i’r Sais fytta bwnshin o genin. Odd a’n drate wir ddyn.

“Shoni,” mynta Dai, “allu di fentro fod na stwff M.P. yn y cheppyn na, os daw a’n fyw o’r ryfal. W i yn licco’i dorrad a, good short fydd a w i’n cretu.”

I dwymws at i destyn, fel mai nw’n gweyd, a a ma i off. I glywas bantnar (sic = bartner) i fi yn dishgrifo prygethwr odd a diccyn o gift o’ the gab, i fod a’n bwrlwmu geira mas fel trochion sepon. A na fel odd ‘wn. Mowcedd annwl! Mlan a ge trw’r Crimea, a Ffrainc, a Waterloo, a’r Boer War a phob war arall am wn i. Nawr a yn y man, odd gento fa gwestshwn.

“Who came out on top?”

Odd a’n attab wettyny

“Gallant little Wales!”

Fe’n windws ni gyd i’r lan, fel windo

 

 

 

 



(delwedd 4444) (tudalen 48)



(x48) gramaphone, a gorffod iddo stoppo o achos y randiboo.

“Now my gallant Welshmen,” mynta fa. “I want you to make an attack’, not upon the Germans, but upon the good things laid before you you on the tables by the kind ladies of Bolougne. Now — Charge!

Ar ol i bawb stoppo wyrthin i ddychreison ar y bwyd, a i fytson yn arty cretwch chi fi.

“Dai,” myntwn i a phishyn o deeshan yn y men. “I ti’n galw enw’r lle ma’n wrong bachan. Bolong wetws yr officar, Bo-long-ne wetast ti.”

“Wel,” mynta Dai, “Bo — Bo, Long - Long, Ne — Ne on tefa, Beth neyd di o na Shoni. Paid a chleppran; passa’r shigligwt na ma; wnna sy’n depyg i jam.”

“Shigligwt!” myntwn i, “Jelly yw wnna bachan.”

“Wath da fi beth yw’r enw, passa fa ma, ma fa’n depyg i’r piscotyn na yn Cwmyrecclws a strings yn ongan mas o’i inside a; dere waff Shoni.”

I netho fel odd Dai yn mofyn. Wel, i fu Dai yn cwrso pishyn o’r jelly roun idd i blât am amsar.

“Shoni,” mynta fa, “ma’r peth tepycca i cyclin’ track Carfyrddin welas i ariod: ma’r tammad jelly ma bothdi cyrradd y sixth lap, cistal i ti ganu’r gloch i fi gâl y final sprint.”

“Treia fa ar di lwy,” myntWn i.

“W i’n cretu ma’r ffordd ora, os na fiafith a wettyny i glymma gordin roun ddo,” mynta Dai.

Ma’r byta ar ben.

 

 

 

 



(delwedd 4445) (tudalen 49)

(x49) “Ope you ’ave enjoyed yourselves, my men,” mynta un o’r officars.

“O ay, myn yffrydi,” mynta Dai.

I ddotas i’n llaw ar i wefla fa, a i watas:

“Ca di fox, er mwyn dyn, Dai, ne i di boppan di i miwn i’r guard-room cyn y diwadd.”

“Right O, Shoni,” mynta Dai, “on allwn i ddim peedo attab y bachan, wath w i weti cwmrid ffansi yndo. Gobeetho ma fe fydd wrth y ngefan i pan bippa i ginta ar fechgyn y sossinjers, a i fydd no gneua gwair.”

“You are at liberty to smoke,” mynta’r officar, “but first of all I ’ave great pleasure in calling on Corporal Dai Jones to entertain us with Tipperary — in Welsh.”

Walla na wetas i ddim o’r blân fod Dai a fi yn yn ddoi dop tenor yn y Dinas Male Voice. Wel, na’r gath mâs o’r cwtin. I ath Dai lan i’r platform, a i ath yr officar i unan at y piano i wara’r ac-com-pan-i-ment. I ddechrws wara! Na wara! I gofias am beth wetws bachan bach i fardd o fardd (‘en bantnar i fi) am Bowen Dwlash

...........”Piano bach ar bob pen bys.”

A na fel odd yr officar yn wara. I ddechrws, fel y gwetas i, a ma Dai yn roi start. Odd pawb yn llicced i gyd, a’u penna a’u clusta yn acor.

Ma’r gân —

...”MAE YN BELL IAWN I GWM-Y-RHONDDA.”

...Llawer Cymro ieuanc aeth i Lundain ar ei hynt,
...“Stick-it” yn ei natur fu yn troi y swllt yn bunt,
...Nid anghofiodd gretydd, na chynghorion mam a thad,
...Erbyn heddyw mae yn ymladd dros ei anwyl wlad.

 

 

 

 



(delwedd 4446) (tudalen 50)

(x50) ..............Cydgan —

...Mae yn bell iawn i Gwm-y-Rhondda
......Ac i Lanfair P.G.
...Awn i’r gâd yn wrol dyrfa
......Tua Berlin ar y Spree:
...Good-bye ein cariadon,
......Ffarwel Gwlad y Gân,
...Awn i setio squârs a Billy’r Kaistar,
......A’n mynwes ar dân.

Cofia yn y frwydr am Wroniaid Cymru Fad, Glyndwr a Llewelyn fuont feirw dros eu gwlad; Yspryd Arthur ddyry nerth i’w fraich i drin y cledd, Dros Hen Brydain hoff ymladda’n ddewr, — yn ddewr fedd.

..............Cydgan.

Cofia am anrhydedd Gwlad yr Hen Geninen Werdd,
Loriodd fyd pan yn ymryson ar lwyfannan Cerdd:
Cofia eiriau Haggard ddewr am “Stick-it Welsh,” a bydd
Prydain Fawr, er gwaetha’r Huns, o hyd yn Brydain Rydd

..............Cydgan.

“Banllefa o gymradwyath” fel ma nhw’n gweyd yn y pappra, na’r anas pan gwpplws Dai i gân. On os buas i jest cal ffit ariod ma pryd odd i. Ar ol i’r clappo, smootho lawr, ma’r officar yn cwnni. “After such a treat,” mynta fa, “we long for more. There are English lads present, an’ I call on Corporal Morgan to sing a translation of the words.”

.......”Tis a long way to Rhonddda Valley.”

I etho i lan i’r platfform, a ma’r geira yn Sysnag fel y canas i nw.

Many a youthful Cymro went to London in his day,
“Stick-it” in his nature turned his shillings pounds they say,
Loved his home-religion, prized his parents’ last behest,
Now he’s fighting bravely for the Land that he loves best.


 

 

 

 



(delwedd 4447) (tudalen 51)

(x51) Chorus:

...Its a long way to Rhondda Valley,
......And to Llanfair P.G.,
...Round the flag we daily rally,
.....Now for Berlin-on-the Spree:
...Good-bye dear old Cambria,
.....Farewell sweethearts all,
...On we go to settle with the Kaisar,
.....We’ve heard Duty’s call.

He remembers Gwalia’s heroes on the field with pride,
Glyndwr and Llewelyn who for Cambria fought and died
Arthur’s spirit still gives strength to him the sword to wield,
For old Britain now he fights upon the battlefield.

....................Chorus.

He remembers Gwalia’s banner was one day unfurled,
Celebrating “Victory in Song” throughout the world:
Haggard’s all-inspiring “Stick-it Welsh” remembers he,
And rememb’ring lets the Huns know Britain must be free.

....................Chorus.

Wrth beth o ni’n weld trw gornal y’n llicced i gwnnws pob coppa walltog ar i trâd i weiddu - Bravo. A na’r lot yn joino yn y chorus.
Na ganu, wel, na fe, gesswch.

Duty is off tobacco,” mynta’r officar.

Ma ni mas a’n peepa miwn shiffad, a off yn smoko, nes odd y room fel gwaith coppor Glandwr. Cympohir sa chi am beeco rwyun mas o’r crowd fyssa’n raid i chi gerad o bothdi a mecin yn y’ch deelo i wthi’r mwg bant. Miwn annar awr odd y mwg yn ddicon tew i chi dorri scleishes o no i neyd carpat. I ddath yr officar roun i shiglo deelo a phob un o ni.

“Wy ti’n gwpod Dai,” myntwn i, “pwy w i yn gretu yw y gent a’r mystash brith?
Sir John French, na ti.”

 

 

 

 



(delwedd 4448) (tudalen 52)

(x52) “Efa, bachan,” mynta Dai miwn stwmp.

“Efa?”

“Ia. ia,” myntwn i.

“Silence,” mynta llaish fel swn ootar y Winsor. “Sir John French wishes to address you.”

“Wetast y gwir Shoni,” mynta Dai, “wetast y gwir, fe yw a wir ddyn.”

“Men of Wales!” mynta fa. I’n camolws ni i’r cymyla.

Alla i ddim cofio poppath wetws a on ma’r winding up ta beth’.

“Now that the Welshmen ‘ave arrived the Kaisar bettar look out.”

Na chi eira, on tefa. I ethon trwyddo ni fel sa ni’n citcho yn andles yr ylectric machine na yn y ffeira.

(:8) YR WYTHFAD SHWRNA.

 

“SHOPPA DICYN YN BOLOUGNE.”

“W i off am dro trw Bolougne bora fory,” mynta Dai, “i gal pyrnu pickshar cards i’r ddwy wedgen. Ddiwid di, Shoni?”

“Dwa i os naiff yr officars y’n gatal ni,” mytwn i.

“Y’n gatal ni? Gnânt on gofyn, allu di fentro,” mynta Dai.

 

 

 

 



(delwedd 4449) (tudalen 53)

(x53) I ofynson, a i synson pan wetwd wrtho ni fod ’awl i’r showdwrs fynd mas am dair awr trw Bolougne.

I ethon y’n doi, a i ddath Lifftenant Ted gytta ni. Sefson o flan shop o “fancy goods” yn y ffenast, ethon miwn. Odd no ladi yn ceesho bargenna a’r shoppwr ar y pryd.

“Bachan,” mynta Dai, “na depyg yw’r shoppwr ma i Mainz odd yn catw shop watches yn Yet-y-bompren; ma fa’r un gewc.”

“Ma lliced da gytta di Dai,” mynta Ted. “Ma fa’n depyg bachan.”

I gitchws Dai miwn ornament bach o ar y cowntar idd i jidgo fa. I drows y shoppwr a i wetws yn French, “Permettez-moi.”

“Pair-met-ay-mwah,”- i wyrthinws Dai.

“Beth ma fa’n wêd, Shoni?” mynta Dai.

“Rwpath o bothdi bytta mŵar,” mynta Ted.

“Eisht Dai,” myntwn i, “eisht.”

“I want a pickshar card,” mynta Dai.

“Veuellez vous asseoir,” mynta’r shoppwr.

“Wel, myn yffryd i,” mynta Dai “i fyddwn ma am fish.”

“Catw di wallt,” myntwn i, “w i’n cretu ma gweyd fod lle am ‘fooze’ ar y ‘squar ‘ ma fa. I wetws rwpath yn depyg i voo-sa-swâr: ma fa’n swno’n depyg Ted?”

“Otti, otti,” mynta Ted yn smilan.

“Shoni,” mynta Dai, ôs dim on’ pop weti passo lawr trw :twll y ngwddwg i o ar y gydawson ni y Marcws o Bute. I ro i un yn môn i glust a jest nawr.”

“Coola lawr Dai,” mynta Ted, “i ddiallwch y’ch gilydd miwn shiffad. Coola lawr.”

I drows y shop i dendo’r ladi, on miwn bothdi munad ma fa nol at Dai.

 

 

 

 



(delwedd 4450) (tudalen 54)

 

(x54) “S’il vous plait,” mynta fa, yn wên o glust i glust.

“No,” mynta Dai, “I don’t want any silver plates. I want a card with a pickshar mun.”

“Day Kahrt?” mynta’r shoppwr.

“Beth wetws a?” mynta Dai yn werwi.

“Moyn cart? Otti fa’n cretu y mod i yn dod i Boulogne i wyrthu glo? Dim fears my boy.”

I dynnws Dai garden o’i bock, a fi dangosws i i’r shoppwr.

“Tres bien, tres bien,” mynta’r Frenchman.

“Three be ’anged!” mynta Dai. “Croca di unan, ne croca’r Kaisar.”

I ath y shoppwr i room fach, a fi ddath y ol a llond dwplar o bickshar cards.

Right O, me boy,” mynta Dai. “Wy ti’n dychra acor di licced: ma rwpath yn di gen di bachan diarth. Bachan, Shoni, w i’n peeco French i lan fel yr awal.”

I gitchws Dai miwn petar pickshar card.

“Kahtr?” mynta’r shoppwr.

“Sdim ots,” mynta Diai, “ Os dim reesha catar arno i, bachan diarth, i shifta i ar y nrâd. I am takin’ these. Ow much?”

I dywlws Dai swllt ar y countar, i ddishgwilws y shoppwr ar y coin, a i rows newid nol yn arian Ffrainc. Wrth bo ni’n mynd mas, i wetws

“Au Revoir.”‘

“Who’s at war?” in mynta Dai. “Everybody mun. Ware ’ave you been brought up? All the bloomin’ world is at war mun, cant you see our showdars shuits.
Do you think we are blongin to a circus?”

 

 

 

 



(delwedd 4451) (tudalen 55)

(x55) “Der mlan, Dai,” myntwn i.

Mas a ni i steppin y drws, ar shoppwr yn sefyll gytta ni, yn jabran a shotto’i freecha, a smilan,

“So long,” mynta Dai.

“A bientot,” mynta’r shoppwr yn French.

“Buan to,” mynta Dai, yn tro roun a startan. “Ar mencos i bachan, w i’n cretu ma bachan o war Llandeelo yw’r shoppwr ma weti’r cyfan - Clywast ti i ‘bartin shot’ a, - Buan to?”

“Ti’n gwpod yn y byd, walla ma fa wir ddyn,” mynta Ted, “wath ma boys Shirgar a Shirbarteifi yn môb twll a chornal. I ddyrllenas i pan o ni’n grottyn, i bo’ nw weti cwrdd a bachan o war Abarystwth yn gwyrthu. sana yn acos i’r North Pole. I ganws un o’r boys a’r gwallt ‘ir rwpath fel ’yn

Dyma ni miwn eira oesol,
Dyma ni yn mendraw byd,
Dyma Gardi efo’i elor
Weti gwyrthu’i sana’i gyd.”

“Bachan,” mynta Dai, “ma tonc angladd yn wnna.”

“Anglodd,” mynta Ted, “beth di’n wilia. Elor ma nw’n galw’r consarn na sy fel côs racca yn dala.’r sana.”

“O,” mynta Dai. “Efa wir ddyn. Mawr yw di wybôtath ti. Olive oil!’

“Tanks,” mynta’r Frenchman.

Off a ni i ddreckshwn y Barricks.

“Rosswch,” mynta Ted. Rosswch diccyn bach boys.

I rosson.

 

 

 

 



(delwedd 4452) (tudalen 56)

(x56) “Beth sy yn di lewish di, Mishtir Lifftenant?” mynta Dai. “Ma rwpath w i’ n gwpod.”

“Os Dai, ma fa,”‘ mynta Ted.

“Beth yw’r secrat Ted?” myntwn i.

“ ’Yn,” mynta Ted, yn smootho’i fystash. “Walla na wetas i ddim o’r blan, eu ma wâr i fi yn catw ‘walk lâth’ yn Bolougne.”

“Bachan,” mynta Dai, yn sefyll ar i sottla, “Wâr i ti?”

“Os, os. I briotws a Frenchman odd fwtlar i wrboneddig yn Shir Bemro, a ma nw nawr yn Bolougne yn i gneyd i yn A1. Stoppa, Dai, i fi gâl cwppla, w i’n gweld di bîg di yn dychra acor. Wel, ma gwoddiad i chi’ch doi i ddod gytta fi y diwetydd ma i gâl dishglad o de. Cistal mynd nol sha’r Barricks, i na i boppath yn all right gytta’r officars. Off a chi, fi’ch dilyna i chi jest nawr, ma raid i Lifftenant gatw dishtance.”

“Os, os”, myntwn i, “os, os.”

I ethon y’n doi sha’r Barricks. O bothdi doi o’r gloch o ni’n tri yn ishta yn parlwr gora tŷ wâr Ted.
Na beth odd gresso, ia, myn yffryd i. Cyn tê i geson, beth odd Dai yn i alw fa yn Sham-pag-nee, rwpath tepyg i bop, ne ddiod fain o ran i liw, a eetha, diniwad ar y start. Weta i ddim racor, nawr, on walla bo chi yr ’en warriars yn gwpod, a chitha’r Ragabites - fel y bleenor gollws i fochyn - yn specto. Wel, odd a’n gryfach na lemonade. Odd, odd. On’ i focws dishglad o de y ddoi dwmlar cinta o Sham-pag-nee, a odd Dai a finna yn eetha clir y’n penna.

Son am diod fain! W i’n cofio i Dai a Finna fynd am dro sha Gardydd, ar ddiwetydd Satwrn. I ynjoyson y’n unen. Do wir ddyn. I geson bip ar y docks, a nol a ni yn dawal

 

 

 

 



(delwedd 4453) (tudalen 57)

(x57) fach lan trw Bute Street. Ma rwpath od miwn pippo ar y mor i gwnni sichad. Os wir ddyn. Yr alan sy yn y dwr mynta’r druggistar, a ma wnnw yn apal i analiso poppath. Wel treiwch a ta os y’ch chi’n douto.

I droison miwn i rai o’r tyfarna, a wettyny, wrth ddod trw St. Mary Street, i droison i miwn i amall i dafarn yn lle shimplo un street a chwnni r’un arall.

“Treat all alike,” mynta Dai, with droi i Queen Street, i ddrecshwn stashion y Taff.

I ethon i miwn nawr a yn y man, a o’r diwadd greiddson y stashion erbyn y train un-ar-ddeg.

“Dishgwl am gompartmant i ni’n unen, Shoni,” mynta Dai.

“Right O Dai,” myntwn i.

I wilas am un a fi ceso fa.

“Der mlan Dai,” myntwn i, “Ma gompartmant genuine.”

I ddath Dai, yn tacklan diccyn odd a, a miwn etho ni. I ishteddws Dai yn un pen, a i gysgws dap; i ishteddas inna yn y pen arall, a o ni’n slwmran miwn wincad. Odd newid trains y pryd ynny yn Mompridd.

Ma ddrws y carredge yn cal i acor, a slimmin tal, tena, o dickat collector yn dangos i bîg.

I ddiunas i.

“Tickat please,” mynta fa, yn eetha saucy.

“Right O, bachan diarth,” myntwn i, “Ma tickat da fi i gâl.”

“Let’s ’ave it,” mynta fa, “And wake your butty, I can’t keep the train waitin.”

 

 

 

 



(delwedd 4454) (tudalen 58)

(x58) “Dai,” myntwn i, “ Diuna bachan. Ma gwrboneddig yn moyn di dickat ti.”

I gwnnws Dai ar i ledorwadd, a un lliccad yn annar acor.

“ ’Olo,” mynta fa, “ ’Olo, bachan diarth! Pwy wyt ti?”

“Portar, portar,” mynta’r boy. “Let’s ’ave your tickat.”

“Portar myn yffryd i,” mynta Dai, yn ffwmlan yn boccad i wascod. “Wy ti’n fwy tepyg i ddiod fain lawar. Wra, a chera’n weddol o gwick, ne i na i fwa sath o ti.”

Mas o’r train yr ethon ni.

O ia, te yn tŷ wâr Ted, on tefa, na destyn y brecath.
I ynjoyson ni y turn out. On, fel y gwetws gwaddan yr esgid ar ol i’r sprigs dreelo mas - “ma yn bryd matal,” i ddath yn bryd i ninna fatal a wâr Ted. Odd i’n slashan o fenyw bert diginnig, odd i’n siwr o fod yn worth pymtheg swllt o flan y ffeerad.

Wrth gwrs gorffod i ni ifad bobo dwmlar ne ddoi o Sham-pag-nee, a wir ddyn odd a’n ffine. W i’n ffeelu diall beth sy eesha i’r Blue Ribbans gicco cwmant o row o bothdi fa, sa nw’n cal twmlar ne ddoi, w i bron yn siwr y byssa want racor arni nw. Rwy short o “uppar ten” ymlith y pop brigade, allwn i feddwl, y byssa ni’n consitro shampagnee.

Nid arath ar ddirwast yw beth wetas i, w i’n cofio flynydda nol i “signo” mawr gymryd lle. Odd no un en frawd yn gweld i ddyfotol yn eetha tywyll, weti arfadd cal glassad i swppar bob nos, a pan byssa fa’n mynd ar shwrna ar dywydd pôth.

“Beth ga i ifad ar ol ’y

n,” mynta fa.

 

 

 

 



(delwedd 4455) (tudalen 59)

(x59) “O, Ginger Beer,” mynta”r gwinitog.

“Ginger Beer?” mynta’r ’en foy.

“Ia, ia,” mynta’r gwinitog.

Men wthnos odd yr ’en foy yn mynd ar daith, a i alws miwn tafarn bach ar i ffordd.

“Pint o gwrw Mrs. Jones os gwelwch yn dda,” mynta fa.

“Glywas i y’ch bod chi Shôn weti signo,” mynta Mrs. Jones, yn cewcan yn eetha cellweris.

“Do, do, on dewch a phint o gwrw fel arfadd,” mynta, Shon, “a os ôs tammad o gingar diccwdd bod gytta chi, dewch a wnnw efyd.”

I nath Mrs. Jones fel odd yr ’en foy yn mofyn.

“Nawr Mrs. Jones,” mynta, fa, “Ma’r gingar on tefa? A ma’r “Beer” on tefa? Wel, dotwch y ddoi at i gilydd, a na nw fel twice-one-are-two - Ginger-Beer. Ma gen i awl i ifad ginger-beer, yn ol peth wetws i gwinitog.”

“Iechyd da, Mrs. Jones.”

Wel, ble o ni? O, ia, bobo dwmlar o sham-pag-nee.
Shigglwd llaw goo’-bye a wâr Ted, a i fydawson. Odd y Lifftenant yn gorffod weetan i weld gwr i wâr.

Jest pan o Ni’n Do yn acos i’r Barricks i wetas wrth Dai.

“Aros yn ol diccyn bach, Dai, a watcha os w i yn cerad yn straight.’

“Right O,” mynta Dai.

“Wel,” myntwn i, “Ottw i yn cerad yn straight?”

“Ottit, ottit; wy ti’n cerad yn eetha straight, on i licswn i gâl gwpod pwy yw’r bachan sy gytta ti,” mynta Dai, yn wilia fel sa marblan yn i been a, “Ottit, ottiyt.”

 

 

 

 



(delwedd 4456) (tudalen 60)

(x60) “Bachan, snêb da fi,” myntwn i.

“W i’n gweld doi, myn yffryd i,” mynta Dai.

I welas fod y Sham-pag-nee weti cwnni i gopyn Dai.

“Arno i ofan di fod ti’n dychra gweld yn ddwpwl,” myntwn i
.
“Dwpwl ne beedo, eetwn i ddim llawar colli turn i gal mynd i de i dŷ wâr Ted ytto, Shoni,” myntai Dai.

I gitchas yn i fraich a, a miwn a ni i’r Barricks. Ma’r bugles yn canu cympohir, pawb yn ryttag i’r ranks, a ma officar yn gneyd speech.

“Prypare to move to the base tomorrow,” mynta fa.

“Cistal ela taligrafft at Will i Berlin, i weyd y’n bod Ni’n Doi yn dod i gal dishglad o de gyta fa a Mrs. Kaisar,” mynta Dai.

“Na,” myntwn i, “Y ffor’ ora yw roi suprise i My “Nabs.”

Erbyn y bora odd pob un yn barod i starto i’r base.

 

 

 

 



(delwedd 4457) (tudalen 61)

(x61)

 

(:9) Y NAWFAD SHWRNA.

 

“NOSWATH O GONSITRO.”

 

Y noswaith na, o’n Ni’n Doi yn ishta yn room y gwely; Dai yn shino’i ddryll, yn ishta ar weelod y gwely, a finna yn gomffwrddis yn ynjoyo’n unan ar en fox sepon. Odd dim llawar o glepar yn mynd mlan ryngo ni, o nacodd - odd i weti dod yn amsar prysur - gwynepu’r ryfal yn i fan gweetha.

“Ma diccyn o jobin o’n blan ni nawr, Dai,” myntwn i.

“Os, ôs, ma fa w i’n gwpod,” mynta Dai, yn para i rwbbo.
.
“Diccyn o ’edin galad, Dai,” myntwn i.

“Ia, ia,” mynta Dai, yn gwascu i ddwy wefus mor dỳn a chorcyn miwn pottal bop. “Ia, ia, bachan.”

“Ma arno i ofan bydd raid uso dinah-mite,” myntwn i.

“Diccon tepyg,” mynta Dai.

“Peth onatw yw ryfal, Dai,” myntwn i, “ i fydd yn ddobbino ar lawar i boor dab.”

“Bydd diccon tepyg,” mynta Dai. “Passa’r garrag oci na ma: passa’r garrag oci, Shoni.”

I bassas y garrag oci.

“W i’n cofio clywad ffeerad yn prygethu bothdi dychra’r ryfal, a yn gweyd geira fel y geira wetws


 

 

 

 



(delwedd 4458) (tudalen 62)


(x62) John Bright. I cofias nw’n syttan. Ma nw,” myntwn i, “ar bishyn o bappar.”

“Half the people that talk about war have not the slightest idea what it is. In a short
sentence it may be summed up to be the combination and concentration of all the horrors, atrocities, crimes, and sufferings, of which human nature or this globe is capable.”

“ Na beth odd gweyd,” mynta Dai.

“Ia,” myntwn i, “On pwy ddechrws y ryfal ma?”

“Will o Berlin,” mynta Dai.

“Pwy benniff i?” myntwn i.

“Ni’n Doi,” mynta Dai, yr rwbbo’r baginet nes odd a’n dishgleero. “Ni’n Doi, Shoni, os nacw i’n camsyniad.”

“Beth ma’r Germans yn i gretu,” myntwn i, “Na ôs dim awl da neb i fyw os nag yw a’n Deuton. na Ni’n Doi mas o ni, Dai. I ni fel glâd yn wmladd dros gal wara teg i wletydd bach fel Belgium, am gyfiawndar, am gal awl i fyw. Ottin, ottin, Dai, wmladdwn dan ganu.”

“Passa’r garrag oci na nol, Shoni,” mynta Dai, “I fydd y baginet cympohir mor sharpad a nyttwdd. Pan gwrddiff Will o Berlin a blan wn i fydd yn ffeelu diall pwy sy’n i gocclish a mynyffryd i.”

Sharpo’r baoinet odd Dai o ‘yd.

“Dan ganu” myntwn i, “Ia, Dai, fel y gwetws Mishtir Ben Davies, y canwr mawr na, ar ol bod yn canu i’r poor dabs yn yr ospital, -

“They are ‘appy with only one arm or one leg an ar thankful they ware not blown to pishes.”

 

 

 

 



(delwedd 4459) (tudalen 63)


(x63) “Glewion wlad y Brynia!” mynta Dai. “Gwetws Mishtir Ben na bachan?”

“Do,” myntwn i.

“Wel,” mynta Dai, yn stoppo’r garrag oci, “Wy ti’n gwpod fod diccyn o fyrddoniath yn y ngôpyn. i, a i weta am y Tenor o Bartawa - Ben – D - getic.
Wy ti’n gweld y point?”

“First Class, Dai, wir ddyn,” myntwn i. “Cistal mynd sha’r gwely, i fydd y clarinet yn kicko row cyn dydd.”

“Aros diccyn bach Shoni,” mynta Dai, ma pwt o bennill da fi.

Ffarwel Bolougne,
We shant be long,
Fore ketchin Will the Kaisar;
I shafa’r Bwtchwr,
Gna wir ddyn,
A’r baginet yn razar.

O ni’n strippo’n doi pan ddath swn trad i’n dishturbo ni; i etho i acor y drws, bippas mas, a beth welas i on showdwrs yn mynd a cheppyn i’r guardroom. I wisprws un o’r boys ma German Spy odd a.

“Ma wnna’n saf am gwad,” myntwn i.

“Otti gobeetho,” mynta Dai, “on ar mencos i ma boys y’n Llywottrath ni yn eetha slack o bothdi German Spies. Ma nw’n gweyd i bod nw wrth y milodd yn y’n glâd ni o ‘yd. Na beth odd pob German Waitar – Spy. Ma eesha clymu lot o fois y’n Llywottrath ni yn soun wrth gwppwl o German Spies am bothdi mish.

“On, cwestshwn y dydd yw - Beth neir a Bill y Kaisar.”

 

 

 

 



(delwedd 4460) (tudalen 64)



(x64) Walla gwetiff Will na odd a ddim yn rysponsible am i showdwrs meddw,” myntwn i.

“Gweted Will beth wetiff a,” mynta Dai. “No go my boy. You William is the gaffar, weta i, an so look out for your mystach.”

I grafws Dai i ben am diccyn bach, on cympohir ma fa’n cymryd swn, a yn pitcho un o ffancy tunes y Prif Winitog.

“BETH NEIR A BILLY’R KAISAR.”

Beth neir a Billy’r Kaisar
Ia, dyna destyn byd, -
I feddwl diccyn arno,
A gneyd - ma’n eetha pryd;
Prioti’r cecryn creelon
A phetar gwraig r’un pryd,
Câl petar mam-ynghyfrath
I greepo’i wallt o ‘yd.

Cistal i chi’r “top tenors” ddala mas diccyn ar ol “mam-ynghyfrath” er mwyn i’r ‘en wraceddd i gal amsar i greepo, ontefa?”

“Bachan, bachan,” myntwn i, “beth fysa anas Will wettyny? Fyssa dim blewyn ar i ben a cyn pen wthnos, a i fyssa dangar i’r cooks yn i balas a idd i fistako fa am bledren o lard.”

“Wel,” mynta Dai, “i newitwn y dune.”

Beth neir o Billy’r Kaisar, ser?
Wel, nid cal dant am ddant,
Ma ynny yn ry dda i un
Fu’n tori deelo plant:
Na, saethu shot, bob dydd, nawn i,
A ynta’n soun’ wrth bren, -

 

 

 

 



(delwedd 4461) (tudalen 65)

(x65) Gan ddychra wrth fys bawd i drod,
A lan i goppa’i ben.

“Bachan, bachan, stoppa wir ddyn,” myntwn i, yn wyrthin nes o’n i’n shigglo. “Stoppa, ne wy ti’n siwr o weetho gwacar o My Nabs.”

“Ia, Shoni,” mynta Dai, “ Os dim yn ry ddrwg i un sy’n spwylo byd; ma Wil bron ela Ewrop yn garlibbwns, fe a’i officars, - w i’n doti’r lot yn yr un cwtin.”

“Go on Dai,” myntwn i, “mlan a ti ar mencos i.”

“Ia, Shoni,” mynta Dai. “Ar ol y ‘muskatel practice’ fel ma’r showdwrs yn galw diccyn o seithu at dargat, wettyny i brynswn fecin dwpwl powar, a chwppwl o boun’s o beepyr, a fi wthwn y peepyr trw’r twlla am bothdi wthnos.”

“Stoppa wir ddyn,” myntwn i, “Wy ti’n greelon dychrynllyd; wyt mynyffrydi. Wy ti’n ela âth trw’n ngefan i.”

“Ath! Beth di’n gleppran?” mynte Dai. “ Faint o âth ma’r mynwod a’r plant bach yn Belgium a Ffrainc weti deemlo? A sdim eesha mynd mor bell. Cer i Scarbro, cer i Yarmouth, cer i Llundan. Beth am dywli bombs at rai odd ddim miwn dillad showdwrs? Beth am shinko llonga yn yr Irish Sea? Beth am ollwn’ torpedo at Ospital Ship? Play the game William weta i. Sdim awl gytta neb on showdwr i seithu, a w i’n beccso diccyn o bothdi Will mab Ann.”

“Beth o bothdi Will mab Ann,” myntwn i
.
“Wel, wy ti’n cofio’r German ni odd yn catw shop watches yn accos i’r Yet?”

“Ottw, ottw,” myntwn i, “Wad y mlan.”

 

 

 

 



(delwedd 4462) (tudalen 66)

(x66) “I ath Will mab Ann a watch i dacci iddo i gal i thaclu ddi i fynd; i cas i nol, a cherws i, byth. I symitws y bloke cyn pen wthnos, a ma Will weti tyngu, y lladdiff e fa, ne rwy German arall. Nawr, be sa ynny’n diccwdd? I gesa Will gwrt marshall, a’i seithu miwn gwâd ôr.”

“Sdim eesha i ti feccso Dai,” myntwn i “fyssa’n raid i Will mab Ann gal diccyn o ‘dutch courage’ cyn y mentra fa gitcho miwn dryll. Rwpath tepyg i stori’r ligotan fach fyssa anas Will w i’n’gretu.”

“Beth yw’r stori’r ligotan Shoni? Gwêd i.”

“Myn depyg,” myntwn i, “fod bothdi anar dwsan o’r ‘young swells,’ ma nw yn i galw nw, weti cal gwoddiad i dreelo noswath yn rooms bachan odd a diccon o ‘goin.’ Odd no swppar ffirst class yn i aros nw a diccon o whisky a port wine, a Sham-pag-nee. I fytson a i ifson amsar bytta, a i ifson a i smokson am oria ar ol ynny. Bothdi un o’r gloch i ddechreuson fatal, a cympohir dim on gwr y tŷ odd ar ol. I ddath i was a i gliro’r ford, i ishteddws y swell ifanc i gal y ‘final lap’ fel ma nw’n gweyd. I gwnnws miwn amsar, a i geeshws i thrackan i sha drecshwn y room gwely. Struggle odd i, ar mencos i, wath odd John Barleycorn weti bod yn interfero a’r taligrafft odd o’i ben a idd i drad a. Odd cwmant o sense a odd yn i ben a yn wispran - cer i’r gwely, ond chesa’i drad a ddim ‘chance’i dderbyn y necas. On i gwnnws, a fi geeshws fwfyd, on yr arcol, i gnocws yr annar pottal whisky, odd ar ol, i lawr, a i ddath y whisky i mas nes gneyd pwllyn bach ar y llian bord. I gadewn ni i’r boy i ffindo’i ffordd sha’r gwely, i ni weti cwppla ag e.

Miwn twll yn y wal odd lligottan fach weti bod yn pippo ar y party, a want diccyn o’r feed. Ma i mas o’r diwadd, a lan i ben y ford.
Wrth fynd o un

 

 

 

 



(delwedd 4463) (tudalen 67)



(x67) briwsionyn i’r nall i ddigwyddws lysco’i chwt trw’r whisky. I stoppws! Ma’n depyg na all lligotan ddim jofadd cwt gleeb. I liws i chwt. I goccws i phen, odd rwpath yn eetha nice yn i flas a. I lyscws i chwt o bwrpas nawr, a i llîws a’n sych ytto. Na’r performance fu am diccyn, on o’r diwadd i deemlws diccyn o’r effath. Yr arcol i stoppws, i ishteddws ar i thrad ol, a mynta’r ligotan fach – “Now, where is the bloomin’ cat?”

Na beth ma nw yn i alw yn “Dutch Courage” Dai, a i fydd eesha llawer i dro roun i’r poun’ ar Will mab Ann cyn y mentriff a daclo German.
Nawr Dai, os os racor o fyrddoniath gytta ti mas a ge.”

“Stori fach eetha bert,” mynta Dai, “a ma i siwr o fod yn genuine, wath ma’r pappra’n gweyd ma trw gal i drencho a brandy ne whisky, ma’r sbowdwrs o Germany yn macu diccon o blwck i wynepu’n boys ni.
Nawr am shâfad i My Nabbs ytto, a yna sha’r gwely.”

Gneyd “Records” o’r wylofan,
A o’r screchfeydd i gyd;
O “swn y shells” fu’n llosci
Eglwysi perta’r byd:
Eu roi miwn gramaffon nawn i,
Cloi’r Kaisar a’i holl griw
Miwn chains, miwn room, i wrando
Tra bydd ‘r en set yn fyw.

I sobras i wrth glywad Dai. O ni’n cofio geira’r Yshgol Sul o bothdi madda i’n gilydd. Ar mencos i i gatwas y meddwl yn dawal, wath rwng sharpo’r baginet a gneyd pynnillion, odd Dai weti mynd mor werw a Welsh tarriar o flan casgan a mochyn daiar yndi.

“Paid ettrych, Shoni,” mynta fa, “ma meddwl am yr avoc weti’n ffyrnico i. I jibetson lond ca o’r

 

 

 

 



(delwedd 4464) (tudalen 68)

 

(x68) taccla sa ni’n cal ’alf a chance. Der sha’r gwely.”

I ethon sha’r gwely, a w i’n siwr ma byrddwyto am Germans fuo ni drw’r nos. I gysgson yn first class, a Ni’n Doi odd y cinta i attab y bugle bora wettyny. Odd na fwfyd o bothti, a ar ol brecwas dda i startson sha’r stashion. I miwn i’r carredges, a phawb mor appus a atar y to o flan cwtin feed yn stappla cyffyla’r Winsor.

Odd merchettach a phlant Bolougne yn y stashion wrth y cannodd, a phob un yn becan am dammad o strap, ne neepan, ne fwttwn, ne rwpath. I ddath gwr war Ted i weyd goo’-bye efyd.

“Vive L’Angleterre! “ mynta brawd yngyfrath Ted.

“Ay, yndeed, “ mynta Dai. “I am of the same conclusion. I am afraid these boys an’ gels will “tare” everything off. Bachan, Shoni, os na stopiff y merchettach ma, ma arno i ofan bydd raid i fi gal llond dishgil o bast, i basto nillad at i giddil, fydd dim bwttwn ar ol cympobir.”

Trw lwc i startws y train, a off a ni, ne w i’n cretu y byssa raid i Ni’n Doi wmladd a Will o Berlin yn y’n cryssa nos.
Off a ni yn nes at Will. Vive L’Angleterre!

 

 

 

 



(delwedd 4465) (tudalen 69)


(x69)

 

(:10) Y DDECFAD SHWRNA.

 

“YN NES AT WILL Y KAISAR.”

Off a’r train a ninna’n canu “Mae yn bell iawn i Gwm-y-Rhondda, ac i Llanfair P. G.’

“Bachan,” mynta Dai, “Beth yw’r P.G. na?”

“Wn i yn y byd, os nacce Pottin’ Germans yw a,” wetas i.

“Wel, na fydd i, Shoni,”myntai Dai, “Di ni ddim yn cal llawar o amsar i gal spel ar y partin’ dwpwl nawr. Ma rwy ddrams gwag o ‘yd yn weeto i gal i llanw, on nes at Will i ni’n mynd. Ma’r shifto o bothdi ma y’n ela i i gofio am Dai Evans pen steps.”

“A finna, ‘efyd,” myntwn i, “Shifto o ‘yd odd anas Dai.”

“Ia, ia,” myntwn i. “O nw’n gweyd fod y ieir a’r cilocod weti arfadd cal i shifto o dŷ i dŷ mor amal, sa nw’n on’ gweld furniture van yn dod yn acos i’r ty, o nw’n ryttag i’r back yard, yn cwmpo ar i cefna a’u bagla i’r lan yn barod i’r dynon i glwmi coesa nw.”

“Na fydd anas Will, cympohir w i’n gobeetho,” mynta Dai, ‘“a fi glwma i i fagla fi with a vengeance.”

I wyrthinws Dai, a mynta fa.

“Rwy short o Arry Lauder fyssat ti, Shoni, sa ti’n cal cwnnad ar gyfar y Music ‘Alls.”


 

 

 

 





(delwedd 4466) (tudalen 70)

(x70) “Right O,” myntwn i, yn canu “Mae yn bell iawn i Gwm-y-Rhondda.”

“Ettrych ar yr ecclws na yn yfflon jibbadares! Dishgwl ar y fferm co,” myntwn i.

I ddishgwilws Dai.

“Na effath German Kultur;” myntwn i.

“Beth yw wnnw bachan, rwy freed o ffowls,” mynta Dai yn wyrthin.

“Wel, nace Dai,” myntwn i. “Nid ffowls efyd, on raid lwo y mod i weti darllan yn y pappra lawar gwaith am German ‘foul’ deeds. Nace Dai, anodd gwpod beth i weyd; rwy short o grefydd allwn i feddwl yw Kultur.”

“Short yw i, myn yffryd i,” mynta Dai. “Rwy grefydd od sy’n dishtrywo Cathedrals, a phalasa, a tai y Belgians bach; yn lladd ‘en ddynon, a gwallt fel eira, a phlant bach wrth y cannodd. Os short o grefydd yw Kultur catwad Billy’r Kaisar i yn i fambox ar mencos i. W i ddim yn i mofyn i, there you John Morgans.”

“Arno i ofan fod peth o no weti cyrradd y wlad ‘on, eeshws,” myntwn i.

“Weti cyrradd bachan! Wel ma fachan bach gymriff i nockeelato y siawns ginta gaiff a, yn lle bo fa yn citcho’r complaint. Sa well da fi gal y lumbago, ne sciatica na’r clefyd na, wath myn yffryd i, ‘clefyd’ yw crefydd o’r short.”

“Otti, Dai, ma, fa weti cyradd. Na beth yw ighar (higher) criticism a’r New Threeology fuws fel influenza drw bwlpitta’r wlad os blynydda nol. Rwpath o Germany mynta nw. Odd y boys ifanc a’r gwallt cwrlog a’r trilby ‘at, a’r chaps ifanc a’r colars roun a’r Jim Crows a’u lliced ar fynd yn ffeeraton, want roi treial i’r ‘made


 

 

 

 



(delwedd 4467) (tudalen 71)

 

(x71) in Germany religion ’’ma. On’short o dân shavins odd a, a i ddiffotws. Ma lot o’r prygethwrs a’r ffeeraton a teitla made in Germany, Ph.D, an so on. On’ cofia di w i’n gweyd dim yn erbyn y teitla, ma’r boys, ddiccon tepyg weti gorffod
passo saminations eetha calad. Ottin, ottin.”

“Wel,” mynta Dai, “I wetast fod Will o Berlin a’i officars weti setlo ela’r medals geso nw yn Mryttan yn ol. Os netho nw, i gingora i’r boys sy weti cal teitla o Germany, idd i bwndlo nw”n nol er mwyn bod yn quits a Will.”

“W i’n cretu,” myntwn i, “fod rwpath tepyg weti anar setlo. Ta beth, ma rai o foys y
cwrdda yn gwed na randawa nw ddim ar brygethwr ne ffeerad y prygethu os ceso nw i teitla o ffactri Will o Berlin. A beth sy miwn teitl? W i’n cofio am gwrdd politics yn Rummy, a lot o’r big bugs, yr M.A.’s a’r D.D.’s, a felly yn y blan yn brygawthan. On’, ma fachan bach o weethwr yn cal i alw i wilia.

“Ma eesha diccyn o gymshon,” mynta fa, “i gwnni ar y nrâd i wilia yn goeddus yn ngenol dynon y dygrees. On walla naggich chi’n gwpod fod teitl da fi. Os, ôs. I alla i scrifenu C.C. wrth gwt y’n enw. Pan aptwch chi scrifenu ato i o ’yn i mas, cofiwch ddoti - ‘John Jones, C.C.,’ Cistal teitl a un sy ma ’eno. A pheth arall, i alla i ddangos o leia wyth o fedals nillas i wrth gal y dygree o C.C. C.C., o ia! Comman Coliar - a wyth corn caled ar y neelo i - wyth o Mabon’s Medals.”

I ath yn wâ, wâ, drw’r cwrdd.

“ ’Ear, ’ear, ar mencos i,” mynta Dai. “Wy ti a fi Shoni a Systificats o’r colledge na, on’ottin i? Eetha right. Pwy eesha mynd sha Germany i foyn crefydd a gwell stwff da ni yn nre.”


 

 

 

 



(delwedd 4468) (tudalen 72)

(x72) “Allwn i weud racor, Dai,” myntwn i, “On i weta fel y prygethwr o dop Shirgar - ‘Nis ymelaethaf.’ Bachan i ni’n tynu yn acos i’r Base siwr o fod, on alla i ddim peedo cofio stori - “Nis Ymelaethaf”.

“Beth yw onno? Mas a i Shoni ,” mynta Dai, yn glusta i gyd.

“Gwinitog miwn cwrdd,” myntwn i, “yn brygethwr da, a ’en wraig, odd yn eelod da fe, yn cretu nag odd dim o’i short a i gal. Na brygethwr, mynta i, yw y’n gwinitog ni. Ia, chi.”

“Twt, twt,” mynta bachan odd yn diccyn o wag, “Twt, precath o bappyr sy da fa.”

“Nace, nace,” mynta Mari, yn werwi.

“Ia, ia, watchwch a, Mari,” mynta’r wag.

“Gna,” mynta i, “i â i ochor y gallary dy Shul nesa.”

I ath Mari fel y gwetws i, a i dychreuws y gwinitog i brecath cympohir. Pyrnanwn pôth odd i yn yr ’af, a gorffod acor ffenast sha cefan y pilpit. Cyn diwadd y brecath i ddath pwff o wynt yn syttan a fi wthws rai o ddail y brecath mas drw’r ffenast. Chollws y gwinitog ddim o’i ben, on i wetws yn eetha cool.

“Yn bimfad ac yn ola, - on nis ymelaethaf.”

I gwnnws Mari ar i thrâd ar ochor y gallary a i wetws, “Sdim diolch i chi, ser, ath y’ch pimfad ac yn ola chi mas drw’r ffenast gytta pwff o wynt. Do, do, wath i gwelas a’n mynd yn fflyan.”

I ddicciws wrth y gwinitog, a rwng poppath fi wnnw ddim yn ’ir cyn cwnni i back ar i gefan, a mynd i wilo am dalcan atrall.

I stoppws y train am diccyn, o eesha ’ewl glir, a na ni’n cal pip ar y North of France.



 

 

 

 



(delwedd 4469) (tudalen 73)

(x73) Odd dim llawar o ol clocs y Germans i weld: o nw weti cyrradd ’yd at 30 miles i Paris, on weti gorffod troi nol, a odd genti nw fawr amsar spar i ela clecs na gneyd avoc. O nw’n ry depyg i Mock Cefan-Bryn yn ryttag sha thre achos fod taro Ty-Coch am stidio pattrwn i drowsis a! I wistlws yr injin a off a ni.

Yn fora, cyn bo’r oil weti clippo’i licced, o ni’n landed yn y Base.

Mas a ni, boys yn ryttag i shigglo deelo; motors yn toot-toot; showdwrs fel gwlith y bora wywrddydd, fel i ni’n canu yn y cwrdd; tramcars o Piccadilly; cyffyla, da, a phoppath allach feddwl am dano - shang-di-fang drw i gilydd.

“Ma ni,” mynta Dai, yn stretcho’i freecha. “Ma ni, bachan, yn y Bath an’ West of England, Shoni.”

Tents fel mush-rooms, mwg fel gwaith tin Llanelly, a phob un ar i ora yn ceesho ffindo mas ble odd a i fod. Diolch am Ted; i ddath “my lord,” a fi’n arweenws ni i’n lodgins, a odd yn dda da ni gal snwffan diccyn ar smell soup.

I geson diccyn o gleppran am awr ne ddwy, fel y gwetws yr officar penna, i gal jest napod i’n giddil.

“You will be comrades soon in the trenches,” mynta fa. “Form a comradeship now that will make you stick it to the end.”

O Ni’n Doi yn smoko yn eetha jokose pan ddath bachan o Sais ymlan.

“Pwy yw wn, bachan?” mynta Dai, “ma fa’r un drawad a Mockyn Brattish.”

“Ma fa,” myntwn i, “Ma fa’n shotto’r ’en drâd wîth na yr un spit a Mock.
Otti wir ddyn.”

Ma’r boy yn dod mlan.

 

 

 

 



(delwedd 4470) (tudalen 74)

(x74) “Ow are you?” mynta fa; “ave you got a bit of bacca to spare. I ave left my pouch on the sheffoneer in Bolougne.”

I dwymson at y bloke miwn wincad, os dim yn well na diccyn o joke i symento calonna.
O nacos

“Ay, ay,” mynta Dai, yn estyn i fox bacco.
“Elp yourself mate.”

“We might as well smoke bacca together now,” mynta fa. “it is the smoke of Black Marias we’ll
ave soon.”

“Black Maria?” mynta Dai, yn staran. “Otti onno ma, ta?”

“Pwy?” wetas i.

“Black Maria?” mynta Dai. “Bachan, wy ti ddim yn cofio yr ’en fenyw ni odd yn byw yn dŷ top Queen Street? Odd i’n arfadd gweetho ar ben y tips. Ia, allu fentro bod i ma.”

“Bachan, paid wilia nonsance, Dai,” myntwn i.

“Nonsance? Black Maria o nw’.n galw onno. On w’n gweyd i bod i mor frwnt, y byssa raid cal un o’r lamps na sy gytta’r paintars yn crafu paint off o ar y drws, cyn dychra i wmolch i!”

“Sd.im mynwod yn wmladd bachan.” myntwn i.

“Wel,” mynta Dai, walla gwetid di nag ôs Jack Johnsons yn wmladd.”

“Wot is Black Marias an’ Jack Johnsons?” myntwn i.

“Cannons my lads,” mynta fa.

“O,” mynta Dai, “She is not a ooman then?”

 “No, of course,” mynta’r Sais.
“I am blowed,

 

 

 

 



(delwedd 4471) (tudalen 75)

(x75) you Welsh chaps can sing an’ fight; but aftar all you are conundrums.”

Ma Dai ar i drad.

“Wot!” mynta fa. “Wot! You call us conundrums agen an’ I’ll knock you into small coal.”

Odd i got a off miwn wincad.


(:11) YR UNFAD-SHWRNA-AR DDEG.

 

“OFF SHA’R TRENCHES.”

O ia diccyn o scwffwl rwng Dai ai’r Sais, ontefa, ddibenws y ddecfad shwrna. Wel, mlan a’r anas ta. I needas i ryngo nw; i fyssa Dai weti tynu’r bachan yn ribbana on bai i fi geesho doti brake ar i fashine ia.

“No offence old chap,” mynta’r Sais.

“Can I fence?” mynta Dai. “I ddangosa i ti pun a alla i fenso ne beedo. Galw di Conundrum arno ni to, a fi di ddota di ar ascwrn di gefan yn cellar Will o Beilin. Sa mas.”

Ma Ted yn dod

“Be sy mattar, Dai?,” mynta Ted. “Wy ti fel bull-tarriar.”

“Y bachan ma alws Conundrum arno ni,” mynta Dai, a’i wefla’n ffroth i gyd.

I wyrthinws Ted.

 

 

 

 



(delwedd 4472) (tudalen 76)

(x76) “I only said,” mynta’r Sais, “that the Welsh chaps can sing an’ fight an’ that they were Conundrums.”

“Dai bach, gwisg di got; talu compliments i ni y Cymry ma’r bachan. I ni shwd dynon od a out-of-the-common ma’r byd yn ffeelu’n deg a’n diall ni. Ffeelu diall shwd i ni’n gallu canu a sportan, a galavântân pan ma’r shells yn fflyan fel cessar o bothdi’n penna ni. Ddim yn diall y bachan o ti Dai, fel Shân fach a’r prygethwr. Myn depyg fod y grottan fach weti cal ffrock newydd; y ath i’r cwrdd, a odd prygethwr diarth yn ’oli’r atnota.

“Pwy a’ch gwnaeth chwi?’“ odd y cwestshwn gath Shân fach.

“Mari Jones nath y corff a mam nath y godrau,” mynta Shân fach, wath y ffrock newydd odd yn llanw i phen i. Shigla law a’r bachan.”

“Shiggle,” mynta Dai, yn estyn i bawan. “Shiggle mun.”

I shiglws y bachan law a Dai, a na lle buo nw yn smoko miwn heddwch unwath ytto.

“I pity the Kaisar,” mynta’r bachan, “when our friend meets him. It reminds me of the story of the Deacon.”

“Wot’s the story?” myntwn i.

“A deacon in a well known church was ser­iously ill. As he was very popular among the congregation, a notice was posted in front of the church, to inform his friends of his condition. It read :—

One o’clock. Deacon Jones very ill.”

Two o’clock. Deacon Jones is worse and sink­ing rapidly.”

Three o’clock. Deacon Jones dead.”

 

 

 

 



(delwedd 4473) (tudalen 77)

(x77) A wag passing by that evening read the notice, and, seeing no one in sight, added at the bottom: -

“Seven o’clock. Great excitement in heaven. Deacon Jones has not yet arrived. The worst is feared.”

When our friend meets the Kaisar, there will be some feathers flying about. Mrs. Caisar will probably put a notice up: -

“The Kaisar has not come home to tea. The worst is feared.”

“Bachan cloi yw wn,” mynta Dai. “Shiggle ’ands agen myn yffryd i.”

I fi Dai yn ddishtaw am diccyn, odd a weti gweld i gamsyniad. On i glosws at y bachan a na lle buo nw’n wilia fel sa dim weti diccwdd. Fel ma petha bach yn starto petha mawr on tefa, o eesha diall y’n giddil. Na fel buws i gytta’r par ifanc odd newydd brioti. Gwr ifanc yn dod miwn i’r tŷ o’r ardd, y wraig ifanc yn gweyd:

“John, cwnnwch y shishwrn na sy ar ‘sill’ y ffenast a dewch a fa i fi.”

“Shishwrn?” mynta John. “Cillath odd na Mari.”

“Nace, John, shishwrn odd na.”

“Nace. Mari, cillath odda na; w i ddim mor dwp nag w i’n gwpod gwaniath rwng cillath a shishwrn.”

“O,” mynta Mari. “Y fi sy’n dwp efa? I â i nol at mam.”

Ma’r dwr yn ryttag o’i llicced i, i baccodd i box a off a i. I gwrddson men mish.


 

 

 

 



(delwedd 4474) (tudalen 78)

(x78) “Na ddwl i ni weti bod,” mynta Mari, “Cistal i ni fynd at y’n giddil ytto.”

“Right o,” mynta John.

I ethon a am gwppwl o ddyrnota odd poppath yn A1. Wrth swppar un noswath i wetws Mari: -

“Dishgwl mor ddwl buo ni dim on’ achos shishwrn.”

“Ia,” mynta John, “i wetast ti shishwrn a i wetas i cillath.”

“Ia John,” mynta Mari, a llond i phen o fara menyn, “Ia, on’ shishwrn odd a.”

Ma’r randiboo yn dychra to a off a Mari at i mam.

Na fel buws petha am yn acos i flwyddyn on i ath Mari yn eetha tost o ryw ffeevar a i cartwd i i’r Ospital. I wetwd yr anas wrth John, a fi ath am dro idd i gweld i. Odd fawr gopath am wella a allsa Mari ddim wilia fawr ddim.

“Mari “ mynta John, yn ceesho snwffan diccyn, “pan wellwch chi raid i ni starto byw gytta’n giddil ytto. a uso diccyn o sense.”

“Raid John,” mynta Mari miwn llaish gwan.

“Dim on’ shishwrn;” mynta. John. “Twt, i fuon yn ddwlach na phlant.”

“Do,” mynta Mari, a’i llaish yn mynd yn wannach. “John!”

I nesws John at ochor y gwely, a ma Mari yn cwnni doi fys nes gneyd shap shishwrn.

“John,” mynta i, “John.”

Wara’r ddoi fys odd Mari fel shishwrn; odd i’n ffeelu wispran, a na fel buws i farw yn pleto o ’yd ma shishwrn odd a.



 

 

 

 



(delwedd 4475) (tudalen 79)

(x79) O ia, Dai a’r bachan diarth. Odd wnnw yngorwadd ar ascwrn i gefan yn wyrthin, w i’n gwpod fod Dai yn gweyd rwpath smala.

“Share the joke,” mynta Ted.

“Pwt o bennill Sysnag netho i o barch i’r bachan ma,” mynta Dai.

“Wel,” myntwn i, “Read it out, Dai.”

“Ma fa,” mynta Dai.

.....”Let the Kaisar send ’is showdars
.......In excursion trains to fight;
.......Let ’im shovel Black Marias
.......An’ Jack Johnsons day an’ night;
.......’E will find the Welsh Conundrums
.......Always ready for a fight,
.......When ’e chucks the sponge for evar
.......Then ’e’ll know that Right is Might.”

I ddath yn amsar gwely, a da i gal a, wath y bora nesa o ni’n starto i’r Front i neyd y’n ran i ddoti snwffar ar ganwll Will y Kaisar, a walla, ’eb opâth am wely am wthnosa.



Wrth gwnni yn y bora i wetws Dai:-

“Erbyn ettrych, Shoni, ma’r gair Conundrum weti nicklo i. Ma cymant o’r beirdd ma a doi enw, ma want arno i ddoti’r enw miwn yn y’n enw i. Shwd fyssa, ‘Dafydd Conundrum Jones’ yn dishgwl yn y ‘Seren’ bachan? Dim ffol, Shoni? Bethdi’n weyd?”

“Na fel byddi Dai,” myntwn i. “Os ewn ni nol yn fyw, i fyddwn yn di napod ti fel Mr. Conundrum Jones.”

 

 

 

 



(delwedd 4476) (tudalen 80)

(x80) “Wot’s in a name?” mynta Dai, na wetws Shakespeare.

“Lot my boy,” myntwn i. “W i’n cofio stori am dad yn mynd a babi at ffeerad i gal i fydyddio yn Yr Ecclws.”

“Name the child,” mynta’r fferad.

“Dinah M.,” mynta’r tad.

“A funny name,” mynta’r ffeerad. “Wot does the ‘M’ stand for?”

“It depends,” mynta’r tad.

“It depends?” mynta’r ffeerad.

“Yes ser. If she grows up a nice sweet-tempered girl like ’er father, I’ll call ’er - Dinah May.”

“Yes. Very good,” mynta’r ffeerad,

“But if she grows up a surly, naggin’, ’ot-tempered ooman like ’er mother, then I’ll call ’er - Dinamite.”

Off ar train sha -

“O ia, sdim awl gweyd enw’ lle, ôs a, Shoni,” mynta Dai.

“Nacos bachan,” myntwn i, “Mar Censor yn byrticilar iawn.”

“Censor? Pwy yw’r bloke? Bachan sy a’r contrack i neyd sense o’n llithyron ni?” mynta Dai.

“Rwpath eetha tepyg,” myntwn i.

I basws y train stashion -, stopyws yn - er mwyn i’r injin gal anal, a mlan wettyny i ----; a mas a ni. Mlan a ni i ----.

“Ma ni yn y Front, Dai, a’r trenches o fiwn cyrradd,” myntwn i. “Bwccla lan! W i’n cofio geira Mock yr Overman -

“Os dewch chi nol yn fyw.”


 

 

 

 



(delwedd 4477) (tudalen 81)

(x81) “Torcha di lewish, wath ma gwaith calad o’n blan ni.”‘

“Nel Referendem,” mynta Dai.

“Nil Desperandum, wy ti’n feddwl Dai,” myntwn i.

“Wath gen i beth yw ia,” mynta Dai. “I newn drenches y Sossinjer yn banarmonium cyn pen wthnos ar mencos i.”.

Ma’r ordiars yn dod! Cant o onno ni i starto i’r trenches er mwyn i’r poor dabs odd yndi nw os tri dwyrnod i gal spel. Off a ni drw’r côd mor ddishtaw a lliccod; mlan dros bishyn agorad, pob un yn crippan fol brôca, a plwmp a ni i’r trench.

“Landed,” mynta Dai.

“Yn ble?” myntwn i, a’r slwdge yn splashan ar ’yd y ngoesa i, “Yn ble Dai?”

“Yn y swmp ar mencos i. Ia Shoni,” mynta Dai. “Ble ma’r itchwr iddo gal cnocco ar yr injinaire i’n cwnni ni dros y fflanges. Ma
le! Jaist ariod w i weti bratu shuit o ddillad first-class eeshws; on der di Shoni, i gaiff our friend Will o Berlin dalu’r teelwr am y shuit nesa. Caiff, myn yffryd i. Now the fire works begin.”

“Bachan, na dop line i bwt o bennill,” myntwn i.

“Cistal cnocco cwppwl o lines at i giddil, Shoni, efa?”

“Ia,” wetas i, yn crafu peth o’r slwdge o ar y’n ngwynab.

..........Now the fireworks begin
..........Tell my Nabs, Will of Berlin,
..........In the trench he’ll find Ni’n Doi,
..........Now Bill repent, a ynny’n gloi.

“Na, ddiccon ar Will a’i fab, Shoni.”

Yn y trenches o’r diwadd!


 

 

 

 



(delwedd 4478) (tudalen 82)

(x82)

 

(:12) Y DDOI-DDECFAD-SHWRNA.

 

“YN Y BAW A’R SLWDGE.”

O ni weti darllan llawar am biccil y trenches, a erbyn ’yn ma ni’n gwpod trwy brofiad. Dim i neyd on bod yn folon. Cwttar, a diccyn o ddwndar yndi, yw trench, a thwlla yn depyg i lefla bach; amall i “man-’ole” fel ni’n gweyd, lle i scwtto miwn pan fyssa Mrs. Maria a Mrs. Johnson yn teemlo want gneyd aftar-noon call.

Pan fyssa’n nw’n dod odd yr officars yn y’n pyrswato ni i weyd - “Not at ’ome”, r’un peth a’r gwyr mawr, yr uppar ten (a’r gwyr bach ’efyd) pan i nw ddim on speakin’ terms a’r tacla sy’n galw.

O bothdi’r - “Not at ’ome” na odd yn raid bod yn byrticilar. W i’n cofio am fenyw fach odd a diccyn o ’en gownt i’r packman fuws ddim yn ddiccon pyrticilar. Odd i weti gweyd wrth i chrottan fach, os desa’r packman i ettrych am i arian, am weyd - Mothar’s not at ’ome, Ser.

Un bora dy’ Llun, pan odd y fenyw fach yn cwrlo’i gwallt, i ddath y packman ’eb yn wpod. I ryttws y fenyw fach lan i’r stars gan weyd, -

“Not at ’ome, cofia Liza fach,” mynta i.

Stars cerryg odd i’r tŷ yn mynd lan o’r gecin sha’r lofft, a drws ar y gweelod. Odd y sâr ddim weti bod yn ddiccon pyrticilar gyta gweelod y drws efyd, odd

 

 

 

 



(delwedd 4479) (tudalen 83)

(x83) no le gwag rwng y drws a’r steps. I geiws y fenyw fach y drws, a i ddath y packman i miwn.

“Mothar at ’ome, little girl?” mynta fa.

“Mothar is not at ’ome,” mynta Liza fach yn cochi fel tân.

I ddishgwilws y packman at weelod y stârs.

“ O,” mynta fa, “Not at ’ome? Wel, tell your mothar when she coes from ’ome next time to take ’er feet with ’er.”

Odd trad y fenyw fach yn y golwg o dan weelod y drws.

Yr un peth gytta’r Jacks a’r Marias, odd dim use gatal dim yn y golwg. Fyssa’n ard lines ar Will o Berlin sa fa miwn trench, wath, a barnu wrth i bittwr a, i fyssa blan i fystash a yn siwr o bocan i’r golwg o ’yd.
Na pam ma Will yn lodgo miwn tent yn ddiccon pell o’r trenches. Odd i’n dywyll dychrynIlyd a dim on’ amall i ganwll ne lamp, man ’yn a man arall, wath odd boys y Sossinjers ’eb fod yn bell.

“Bachan,” mynta Dai, “i ni fel sa’ ni’n barod i starto talcan yn yr ’Ouse Coal, a ettrych ar y gola nôth.”

“ Ottin, wir ddyn,” myntwn i, “i licswn weld gola ddydd i ni gal dychra’r performance.”

Ishta o Ni’n Doi pan ddath officar eebo.

“Right boys?” mynta fa yn wispran.

I begson ninna’n penna.

“German trenches within two ’undred yards; keep quiat an’ listen for the Marias an the Johnsons; cool does the trick lads,”

I beggon y’n penna wettyny.


 

 

 

 



(delwedd 4480) (tudalen 84)

(x84) “Snipars are busy about ’ere, keep your eyes open,” mynta fa, a off ag e ar ras trw’r trench at y boys erill.

“Na shawns i ti Dai gytta’r snipars na i ddangos beth allu di neyd,” myntwn i.

“Ia, figinta Shoni,” mynta Dai, a shawns i titha ’efyd. Wel, i newn y’n gora, ond cofia gatw wrth y’n ochor i, showdar to showdar - Ni’n Doi - wath ma ingagemant gytta ni yn y Red Cow yn Berlin.”

“Gwrando Dai,” myntwn i, “ma ddarllenas i yn un o’r pappra.

“The collier boys of our Company have earned undying fame: we have a party employed in tunnelling or sapping, and they have done fine work. Their hard-heading experience is worth untold gold to our side now. The Commanding Officer of the Welsh came down the trench whispering, Now you men of the Welsh and boys from Monmouthshire, show them what you can do.’”

“Sa fa ma nawr,” mynta Dai, “i wetswn -Ay butty we will mynyffryd i. I licswn gal clip ar y bora, Shoni, w i’n teemlo nawr fel sa ni’n weeto i’r aliar ddod a drams.”

“Gwrando to, Dai,” myntwn i.

“The flower of the aristocracy as well as the flower of the democracy were giving their lives in the service of the country.”

“Y gwyr mawr a’r gweethwrs on tefa,” mynta Dai.

“Ia, ia,” myntwn i, “rwpath yn depyg i’r ’en bennill,-

.....”Pawb o’r brotyr yn gyttun
......Eb neb yn tynnu’n gros.”


 

 

 

 



(delwedd 4481) (tudalen 85)

(x85) “Ia, ond y Pro-Germans,” mynta Dai. “I grogswn i pob Pro-German wrth winadd i drad, ma nw’m wath na’r Germans i unen. Otti pawb o’r brotyr yn gyttun yw’r point? Beth am y submarines sy yn i dodgan i roun’ Shir Bemro? Ma nw’n bell o Germany. Ble ma nwn cal i supply o oil i’r injins, a bwyd i’r morwrs? Na gwppwl o gwestshyna licswn i gal attab idd i nw, Shoni. Ma amo i ofan fod rai o’r brotyr eb fod yn gyttun.”

“Ma rwpath yn beth di’n weyd, Dai,” myntwn i.

“Os Shoni. On’ ma gytta Ni”n Doi waith o’n blan, a sdim amsar gytta ni i ffindo’r ‘ins a’r outs.’ Gwaith y blokes sy’n cal yr arian mawr yn y Parlamant yw dod o ’yd i’r racsach sy’n elpu Will.”

Odd y Germans weti cal ffit o ddishtawrwdd, na shwt odd Dai a finna yn cal amsar i foddrach o bothdi submarines. On’ cyn i’r oil gal amsar i acor drws y ffront ma ergyd gan y Black Marias.

“Wiw,” mynta Dai dan i anal, “mar consart yn dychra a Will o Berlin yn wara Bonapart’s March ovar the Alps ar i yrdigyrdi.”

I bippws Dai yn sly dros ben y trench.

“Eisht, Shoni,” mynta fa, “ma ddoi liccad fel doi golsyn o dân yn dod yn acos; now for the first shot.”

I anelws Dai at y ddoi liccad, on cyn iddo dano ma laish bach yn gweyd, - “Miaou!” Ma ’yn yn eetha gwir, cath fach odd no.

“Wel,” mynta Dai, “sa ni’n gwpod fod catha’r Germans yn dod mas i wmladd, i fysswn weti dod a’r ’en gwrcyn melyn o’r lodgins, i netha wnnw avoc ar gatha’r Germans.’

‘Pws, pws,” mynta Dai.


 

 

 

 



(delwedd 4482) (tudalen 86)

(x86) I ddath y gath, odd in eetha swcci; gitchws i yndi, a i dotws i yn y man-’ole.

“Eisht,” mynta Dai, “ma rwpath yn dilyn y gath.”

I bippws ytto. Odd i’n fwy gola erbyn ’yn, gwelswn a’n plyccu diccyn.

“Eisht,” mynta fa.

Yn syttan i straitnws i unan.

“Got ‘im,” mynta fa.

Ma i’n struggle! Y peth cinta ddath i’r trench odd ’’elmet German; y nesa, dryll, a wettyny, fel cwtin o flawd llif, German showdar - clempyn o fachan listy. Listy ne beedo, odd Dai weti golei fa, a chympohir odd y bloke ar ascwrn i gefan yn y trench a Dai yn i annar dacu fa.

“Gott in ’Immel!” mynta’r German.

“Got you wotevar an’ were-evar,” mynta Dai. “Cistal i ti gau dy fox. Os ta ‘Immel’ wy ti yn galw twll di wddwg, wetast ti ariod mwy o wir miwn un anal.”

“Don’t kill - don’t kill?” mynta’r ’en wlanan.

“Shut up bachan diarth,” mynta Dai, “or you’ll frighten the cat.”

“Give in, - give in, make me prisonar,” mynta fa.

“Ay, ay,” mynta Dai, “I’ll tie you safe an soun’ a shot you into the gob.”

“Welsh?” mynta’r poor dab, a lliw i wynab a fel bar o sepon melyn.

“Ay, ay,” mynta Dai

“Like Welsh,” mynta fa.

“Ottit figinta,” mynta Dai, “weti cal di ddala. Gorwadd yn dawal boy bach.”

“Travelled in Wales,” mynta fa.


 

 

 

 



(delwedd 4483) (tudalen 87)

(x87) “Bachan, ma My Nabs a chistal Sysnag a Ni’n Doi,” mynta Dai. “Shut up now.”

I ddath yn officar eebo.

“Numbar one, ser,” mynta Dai.

I glappws yr officar Dai ar i gefan, i wetws men ticcyn,

“Corporal, tie ’im fast, and carry ’im back, an ’and ’im ovar to our men.”

I nethon ar unwath, a o ni’n ol yn y trench pan ddechreuws y cenyns roaro.

“Travelled in Wales,” myntwn i. “Do ddiccon tepyg, a box o’i flan yn gwyrthu studs a bwtwna. Na ma’r Germans weti neyd am flynydda. Ma nw’n gwpod am bob twll a chornal. Spies odd bob coppa. Ma nw’n siwr o fod yn gwpod am bob drws back a thwlc mochyn yn y Yet.”

Ma i off! Dim ond ping, ping, y drylla! Odd pob un yn cyscoti - yn pippan ar y Germans, a, os odd shawns, yn gollwn ergyd.

“Na, numbar two,” mynta Dai. “I cas i yn i dalcan, a fi gwmpws fel stack gwaith bricks. Wel, ma i; ma rwpath yndi yn depyg i dune roun’ - Yr Aberdar Market Cries - pob un ar i ora yn ceesho dala’i giddil. Ma i’n dychra twymo, otti ar mencos i.”

I glywas ferch ifanc yn gweyd am ’andle y tepot i fod a mor dwymad a “Chariad pythywnos ôd.”
A na fel ma i ma, Shoni. Tana mlan myn yffryd i.


 

 

 

 



(delwedd 4484) (tudalen 88)

(x88)

 

(:13) Y DRYTTYDD-SHWRNA-AR DDEG.

 

“TALU’R ‘EN WECH.”

Odd y Germans yn cwmpo fel skittles miwn ali-bwl-binna, on’, raid lwo, odd lot o’n boys ninna yn i chal i ’efyd. On na beth yw ryfal. Ma rai dynon yn catw randiboo os dyrllena nw fod ’yn a ’yn o’n boys ni weti lladd, ishta sa nw’n creta fod yn raid
clirio’r Germans ’eb golli bywytta o’n ochor ni.

Nonsance yw rwpath felna. No, no, boys. Give an take yw i miwn ryfal, a os gallwn ni gal y “give” yn fwy na’r “take” ma poppath yn all right.

“Cease firing,” mynta’r officar.

I nethon wath ma’n depyg fod y Germans weti cal diccon am diccyn bach, ta beth.

“Rush the trenches,” mynta’r officar.

I nethon ynny efyd! Yr arcol, na beth odd mynd! I nillson y trenches. Son am ladd gwair! Fel y gwetws Will Macci yn Coduon o ni’n meti’r Germans fel ni’n torri bona cabbedge. Erbyn ’yn o ni’n nes o ddoi cant o latheidi i Berlin, lot o’r Germans yn brisnars ar ascwrn i cefna yn stidio’r sers, a lot mor farw a oelon clocs.

“Good old Wales,” mynta Dai.

I geson spel.


 

 

 

 



(delwedd 4485) (tudalen 89)

(x89) “Bachan,” mynta Dai, “Otti ddi ddim yn bryd te? I allswn gwatto cwlffin o fara chaws yn eetha rwydd.”

“Wish-sh-sh-!”

“Beth odd wnna, Shoni?” mynta DaL

“Un o’r Snipars, allu fentro,” myntwn i.

“Efa bachan,” mynta Dai, “ar mencos i i gretas i ma swn tecil yn berwi odd a.”

I dynnws i beeb mas i gal smoke.

O chi’n gallu gweld lot o’r Germans yn i brasgamu ddi dros ben bryn bach; o bothdi milldir off, a dim on amall i boerad o wrth y Jack Johnsons fu yn y’n dishturbo ni am bothdi dwy awr.

“You deserve a rest,” mynta’r officar, the blaggards ’ave ’ad enough for a bit.”

I ishteddson ar ochor y trench, odd eesha spel, odd wir ddyn ar ol dwy noswath yn y trench yn wmladd fel tigars. I ddath bachan diarth i ishta wrth ochor Dai a fi, Sais o north.o Loegar. Weti wilia diccyn i dynnws gwppwl o lithyron mas o boccad i
wascod, a pittwr o grottan bert dychrynllyd. “There’s the little gel that will meet me at the stashion wen this bloomin’ war is ovar,” mynta fa. I gitchws Dai yn y
llithyra a i dyrllenws nw.

“Oh,” mynta Dai, “Ay, ay, if I nevar to move.” (= Cymraeg: Tawn i byth o’r fan)

“Read that one out mate,” mynta’r bachan.

I ddyrllenws Dai y llithyr yn uchal, a fl geson bip ar y pittwr.

“Ay, at,” mynta Dai, yn rwy annar snwffan, wath i gofiws am Mary Catherine a Maggie Elen. “Ay, ay, ffirst cliss mynyffryd i.”

“Sa cistal da fi beedo gweld llithyr y boy ma, Shoni,” yn rwbbo droppin o ddwr odd yn tricklan lawr i foch a, “byssa ar mencos i.”


 

 

 

 



(delwedd 4486) (tudalen 90)

(x90) “First class my boy”, mynta Dai, yn ando’r llithyr nol.

I ddishgwilson ar y bachan, - odd golwg od arno fa.

“Take the lettar mun,” mynta Dai.

Wimblws y bloke ddim.

“Jaist i,” myntwn i, yn shigglo fel deilen, “ma rwpath ar y bachan, Dai.”

I ddishgwilson ytto! Odd a mor farw a ffost, yn ishta fel pren, a’i ddoi liccad a fel y glass. Yn ochor i dalcan a i welson spottyn o wâd. Odd y poor dab weti câl bwlat trw i fenydd tra odd Dai yn darllan i lithyr a. Allwch gesso teemlata Dai a fi, sdim dishgrifo i fod. On, na beth yw ryfal! I ddath yr atnod ddiscas i yn blentyn i’n meddwl ni’n doi, -

“Canys yn yr awr ni thybioch.”

I ddath yr officar eebo, a fi garson y poor dab o’r trench, a nol ag e iddi gladdu miwn gallt o gôd ar bwys, i ddotson y llithyra yn y’n poccad, a phittwr y grottan - i gariad - ar i frest a.

“W i’n teemlo at y grottan,” mynta Dai, “a i ela i i weyd wrthi.”

I ethon nol i’r trench yn eetha trisht, on i gollas Dai yn syttan. I weiddas, -

“Dai Oi.”

Dim attab.

“Wel,” myntwn i, “ta ble ma Dai i fydd yn saf, gobeetho y cwrddiff a a’r Crown Prince, a i fydd no sight, yn depyg i’r gath yn crage (craj) y cynaries, i fydd diccon o
blyf yn fflyan o bothdi i neyd ticcyn gwely.”

Ma’r Sais fu Dai yn cal scwffwl ag e yn dod mlan.

“Were’s your butty Morgans?” mynta fa.

“I don no,” myntwn i.


 

 

 

 



(delwedd 4487) (tudalen 91)

(x91) “Gone on is own ’ook I spose,” mynta’r Sai. “Well I ’ope he’ll meet the Kaisar.”

Miwn o bothdi awr odd no rackets yn acos i’r trench: i gitchws pob un yn i ddryll; ma’r officars yn ryttag, a ma un yn gweyd,

“Wot the ——— is up? Where’s your butty Morgans?”

Gair bach eetha cryf yw’r strokan na, ma gan yr yr officars awl i weyd a weetha. Ma amall i air fel na yn sharpo dyn, fel ma mwstart yn sharpo blâs y cig. Ma weiddu o’r diwadd, -

“Shoni Oi! Der ma! Der ma bachan.”

“Wel ar mencos i,” myntwn i, “Ma Dai weti dala My Nabs.”

I ryttws y Sais a finna i wilo am Dai, a mowredd, i fuas jest mynd yn yfflon drw wyrthin. Na lle odd Dai, i wallt a’n ffliwch, i got a’n acor, i drywsis a’n slwdge, a’i wynab yn wad.

“Be sy gytta ti, Dai?” myntwn i, yn shigglo gan wyrthin.

Dwy ligotan ffrenig, spo,” myntai Dai, yn pwffan jest mas o anal.

Doi German yn gorwadd ar i yd ar y llawr odd no, a phen un wedi itcho wrth drad yr un arall; odd raff o dan gessal y bachan blân.

“Bachan,” mynta Dai, “W i weti llysco box
cwrlo am flynydda, on ma’r jobbin cletta w i weti treio’n llaw arno, llysco’r ddoi sclemyn ma.”

“Haul away! Haul away,” mynta Dai, yn toncân Cydgan y Morwyr.

Ma fa’n dychra Ilycso’r ddoi German fel sa cart llysc gento.

“ ’Old on, Dai,” myntwn i. “Gad nw gerad.”


 

 

 

 



(delwedd 4488) (tudalen 92)

(x92) I stoppws Dai a i ddotws y Sais i law ar frestis y ddoi Sossinjer i gal ffindo mas os o nw’n fyw.

“Gad nw gal diccyn o anal Dai,” myntwn i.

“Right O,” mynta Dai, “On sw ni eb dala nw i fyssa lot o’n boys ni eb anal. Doi snipar i nw, a ma bobo fwlat genti nw yn ‘inside passengars’ o ddryll Dai Jones.”

“Walla cera nw nawr,” myntwn i.

W i’n cofio am anglodd trempyn yn starto o Berdar i Mardy, os blynydda nol. Odd dim on bothdi annar dwsan o goliars yn apal i atal i gwaith y dwyrnod ni, a nid wara plant odd cario coffin trwm i lan dros y mynydda. Odd yn raid cal spel yn amal. Odd na en wraig fach yn byw wrth weelod y mynydd, a fel llawar o en wracedd eesha cal gwpod poppath. I safws y coliars jest o flan i drws i, i gal wiff cyn dychra dringo. I ddath yr en fenyw fach i steppyn y drws, a ma’r gymanfa pwnc yn starto.

“Dear, dear,” mynta i, “Boys bach, ottich chi’n mynd y mell?”

“Ottin, wraig fach, ottin, i’r Mardy,” mynta un o’r boys.

“Pwy yw a, fechgyn?” mynta i.

“Neb nawr, motryb,” mynta’r boys, “on trempyn odd a.”

“Dear, dear, ottich chi.yn mynd idd i gario fa bob cam?” mynta’r fenyw fach.

“Wel, naccin wraig fach, dim ond i dop y mynydd,” mynta’r boy.

“Dear, dear! A beth wettyny?” mynta i.

 

 

 

 



(delwedd 4489) (tudalen 93)

(x93) “Wel, wraig fach,” mynta’r boy, “ma fa weti addo cerad wettyny.”

I ath y fenyw fach i’r tŷ mor gwick a brythill yn ryttag o dan garrag. On, odd gwaniath ma,! allsâ’r ddoi scelffyn ma gerad, a cherad geso nw i’r camp. Y bora wettyny odd gan Will o Berlin ddoi snipar yn llai, a deiar Ffrainc ddoi fawgi yn fwy yn! chrombil i. “Dead O” odd i anas nw. I wetws Dai yr anas.

Weti gatal y trench yn ddishtaw, a cherad mlan diccyn, ddath at ddâs o wair.
I bippws o bothdi, a beth welws a on par o scitsha yn pocan mas o dan y gwair.

“H’m,” mynta fa, “i ddaw rain yn andy.”

I rows eetha blwck, a ma’r scitcha mas, a rwpath yndi nw - German cyfan! Wiw ag e ar i gefan ar y llawr. Ma Dai yn cyrradd un yn môn i glust a, i glwmws a, a i ddotws neeshad bock yn i ben a i stoppo fa i gatw row.

“Na wnna’n sâf,” mynta Dai.

On yr arcol! Ma bâr arall yn pocan mas! I gitchws yn reiny to a mas a nw. Yr un peth, gweelottion German,a i gas y boy wn yr un driniath. Beth odd i neyd? Wel! dim on gneyd “cart llysc” o’r ddoi. A na nath a.

Lwc i Dai i fi a’r Sais i glywad a yn gweiddi, Shoni Oi. Odd Dai weti talu’r - “ ’En Wech.” I ethon i gal golwg ar y Shop Scitsha - y ddâs wair. Odd no dwll dwfwn yn y chenol hi, a diccon o fwyd am dair wthnos. I ddath yr “Early Closing Act” i weetho ar y shop scitsha ma, o do.


 

 

 

 



(delwedd 4490) (tudalen 94)

(x94) “Na betwar o’r Sossinjers yn di gwtin di Dai,” myntwn i.

“Ia, Shoni,” mynta Dai, “W i’n cretu na i fel Robinson Crusoe, torri ack ar bost am bob un setla i.”

“Yn y rate wy ti’n mynd mlan, fydd dim diccon o bostis yn Ffrainc i ti roi’r score i lawr,” myntwn i yn wyrthin.

“Eisht! Ma i’n alibaloo ytto!”

“Ready to charge the Germans,” mynta’r officar.

Ma ni lan miwn rhiffad.

“Long work nawr Dai,” myntwn i.

Ma’r Kernal yn gweiddu.

“Is Dai Jones an Shoni Morgan presant?”

I gamson mas y’n doi a i wetson

“Presant, Syr.”

“Then,” mynta’r Kernal, “‘let the battle proceed.”

Off a ni fel trucks o lo cnappa yn rwshian lawr drw’r screens ar ben Pwll y Winsor.


 

 

 

 



(delwedd 4491) (tudalen 95)

(x95)

 

(:14) Y BETWARYDD-SHWRNA-AR DDEG.

 

“WMLADD DYCHRYNLLYD.”

Na startws y fisnas – clywad swn y tins a’r sospana yn rattlo ar y barb-wire, odd ’yn yn arwdd fod y Germans yn crippan yn acos. Mas a ni, fel y gwetas i, ishta trucks o lo cnapyn yn twmlan lawr i’r screens, dim eu baginets to baginets. eu fuo ni fawr amsar yn setlo’r crowd na, o nw a’u deelo lan miwn shiffad, a annar cant yn brisnars cyn bo chi’n cal amsar! beswch. Odd i’n ddiccon! ela ceffyl! wyrthin, odd wir ddyn.

Nol a nw! eu miwn ticcyn! welson fachan yn cario bachan arall ar! gefan; ddethon mlân. German yn cario un o’n Tomis ni odd no. O na, dyw’r Germans ddim! gyd yn flaggards, a odd wn y apal! frygawthan diccyn o Sysnag.

“This Tommy an me,” mynta fa, “worked for fourteen years in the same shop in Cardiff; we don’t want to fight; it is the Kaisar’s fault.”

I garson y Tommy i’r Ospital, a fi ddath y German bob dydd i ofyn shwt odd a. Na beth odd tywli marwor tanllyd ar y’n penna ni on tefa? Son am “farwor tanllyd!” W i’n cofio anas am ’en bâr - Shon a Mari - odd yn byw yn Shir Fynwa. O nw wastod yn ffreio, a bob mish, odd odd Shon yn symynso Mari, ne Mari yn

 

 

 

 



(delwedd 4492) (tudalen 96)

(x96) symynso Shon am i wado i. Odd y Justice yn lan-lord i’r ’en gwppwl, a wet cal en ddicon ar i squabbles nw.

“Wy ti Mari,” mynta fa, “weti arfadd tendo’r Yshgol Sul?”

“Ottw, ser,” mynta Mari, yn gneyd cwrtshi.

“Wy ti walla weti darllan diccyn ar y scrithyr,” mynt afa.

“Ottw ser,” mynta Mari.

“Wy ti’n gwpod rwpath o bothdi’r atnod na sy’n gweyd am bentyri marwor tanllyd ar i ben a.”

“Ottw, ser, w i’n cretu,” mynta Mari.

“Wel, cer sha thre, a threia diccyn o’r marwor tanllyd ar ben Shon; ma arno i gweelydd gweld y’n neelaton (= fy neiliadon) i o mlan i fel ’yn bob mish. Cerwch sha thre y’ch doi,” mynta’r Justice.

I ethon sha thre fel y gwetws a. Y pen mish ar ol ’yn ma¡r ddoi ytto po flan y bench.

“Mari, Mari,” mynta’r Justice, “Chi’ch doi sy na to?”

“Ia ser,” mynta Mari yn eetha compose.

“Be sy’n bod Mari?” mynta’r Justice.

“Ma Shon weti’n wado i nes mod i yn ‘Black eyes’ dros y ngefan i a mreecha i gyd,” mynta Mari.

“Black eyes ar di gefan di, Mari!” mynta’r Justice. I wyrthinws pob un odd yn y cwrt.

“Ia, ser,” mynta Mari.

“Sdim shw beth a ‘black eyes’ ar gefan neb,” mynta’r Justice, “roun i’r lliced ma black eyes, Mari.”


 

 

 

 



(delwedd 4493) (tudalen 97)

(x97)Wath gen i ser,” mynta Mari, “On ma spots cwmment a phishyn coron yr Old Age ar ’yd y ngefan i. I gewch i gweld nw os liccwch chi.”

A ma Mari yn gwneyd moshwns i strippo.

“ ’Old on, Mari,” mynta’r Justice, jest ollti eesha wyrthin. “I di gretwn di ar di air. Gnewn, gnewn.”

“Cretwch ne beedo ma nw ma,” mynta Mari, yn gwascu y dannadd doti at i giddil, “Ottin, ottin, ma nw ma, ser.” “Treiast ti’r marwor tanllyd, mari?” mynta’r Justice.

“Na ddo ser,” mynta Mari.

“Pam ni ferch?” mynta’r Justice.

“Achos odd dim marwor tanllyd yn diccwdd bod o dan y grât ar y pryd,” mynta Mari.

“Beth wetast ti?” mynta’r Justice. “Dan y grât?”

“Ia ser,” mynta Mari, “On i dreias y peth mwya tepyg, i dywlas lond patall o ddwr poth ar i draws a, on i ath yn wath yn lle yn well. Dim on y mwnsho (= fy mhwnsio i) i fuws a y rest o’r diwetydd.”

Ma i’n “wa-wa” trw’r cwrt i gyd.

“Mari fach,” mynta’r Justice, “nid na o ni’n feddwl nid tywli lleeti (= lliti, lludu, lludw) ne ddwr poth, on bod yn garetig wrtho. Cerwch sha thre a threiwch diccyn o gareticcrwdd.”

I ethon, fraich ym mraich, fel par ifanc newydd brioti; chlywas i ddim i bod nw yn y cwrt-pen-mish wettyny, a diccon tepyg fod Mari weti stoppo scwro’r grât i gal gafal nmiwn marwor tanllyd, a weti treio rwpath arall yn lle scaldan Shon a dwr pôth.


 

 

 

 



(delwedd 4494) (tudalen 98)

(x98) On, na’r point, i dywlws y German ma farwor tanllyd careiccrwdd ar y’n penna ni, a i gloson atto ar ol ’’yn. I gas fynd i’r lock-up, wrth gwrs, nes byssa’r ryfal ma ar ben.

“It is the Kaisar an the Chancellor an the chief officers ave engineered this War;” mynta fa, “an they are traitors to our country. They ave poisoned the minds of the nation, an deliberately deceived the people.”

Na wetws a, a ma geira mor fawr na, ma arno i ofan y cracciff y machine printo. I glywas rwy un yn gweiddu. Dai odd a.

“Be sy’n bod Dai?” myntwn i.

“Ma scleishyn o nghlust i off,” mynta fa.

“I ti weti safio yn angomon Dai,” myntwn i.

“Dant am ddant, clust am glust, Shoni,, on tefa? I fynna i scleishyn o glust rwy German yn i le fa,” mynta Dai.

“I beth, bachan?” myntwn i, “Os stitchi di wnnw ar di glust ti i fydd poppath wy ti’n glywad ar ol ynny yn rwy alf-an-alf, rwy gross breed rwng German a Chwmrag.”

“Clust am glust,” myntai Dai.

Odd na lot o’r criatur na odd o dan Balaam os llawar dydd yn Dai. Unwath y gwetsa fa, odd i’n ddobbino ar i neb droi Dai nol. Odd i’n eetha plaen fod na fachan a phen scwâr, fel ma nw’n galw’r Germans, i gal gwpod, rwy ddwyrnod, beth odd ffindo pishyn o’i glust a’n eesha, rwpath i chi yn i alw fa yn Arfath, on tefa?

I symmitson nol am bothdi milltir a annar o’r trenches i gal anal am noswath ne ddwy.
No buo ni miwn ty fferm yn bytta, yn gorwedd

 

 

 

 



(delwedd 4495) (tudalen 99)

(x99) yn cyscu, wath o ni weti cal amsar calad. Odd y scouts yn dod a’r anas am y Sossinjers bob wip-stitch (bob whip-stitsh = constantly) a o ni’n gwpod y’n bod ni yn eetha saf am spe The Singin’ Showdars ma’r Germans yn y’n galw ni, a ma fachan â llaish tenor yn roi start i’r Marsellaise yn Gwmrag. Ma betar line o’r dychra a diccyn o’r diwadd. W i ddim yn cofio’r pishyn cenol a i nath Dai betar line o’r frest. Gobeetho na ddiccyiff yr awdwr gwreiddiol ddim. Os naiff a ôs dim i neyd on treio’r marwor tanllyd, on w i ddim yn gweyd pun o nw - pun a ’Ome Brew Mari, ne un yr Yshgol Sul. I gaiff wpod os cicciff a row. Ma’r pennill. -

...”Chwi feibion dewrion Gwlad y Bryniau,
.......Clywch clywch yr udgorn croch o draw;
.....Llewelyn sydd yn chwifio’i ddreigiau,
.......A’i gleddyf gloew yn ei law.
....Gwrandewch ar ddadwrdd y gelynion,
.......Ust, clywch yr erchyll ryfelgri,
.....Doed glewion fyrdd o fro a bryn
.......I daro’n ddewr dros ryddid Cymru.
.....Ymlaen, ymlaen i’r gad!
.......Dadweinied pawb eu cledd!
.....Ni awn, ni awn, dros freiniau ein gwIad,
.......I Ryddid neu i’r bedd.”

W i ddim yn cofio enw’r awdwr, yr unig beth w i yn i gofio y mod i’n fembar o barti cymyshg yn -----, pan o ni’n grottyn, a yn practiso’r pishyn ma.Odd y ledar ddim yn A.C. ne G. and L., a felly yn y blan, on i gwnnws want ledo cor’ arno, mor syttan a sa fa yn cal twtch o frech y ieir. Amsar y practice odd a’n colli i bitch-fork yn amal, a o dan ford, yn wilo am i bitch-fork odd a’n treelo y ran fwya o’r Yshgol Gân.
Na sy’n smala, odd y cor bach yn canu


 

 

 

 



(delwedd 4496) (tudalen 100)

(x100) llawn cistal pan odd y ledar o dan y ford, a phan fyssa fa yn wafo i ffreecha uwchben y ford. Am wn i ma rwpath
tepyg fyssa i eddi gyta pack o ledars.

Cyn i’r German prisnars gal i ela nol i ath Dai i gal shigglo deelo a bachan marwor tanllyd, a i ddath a chwlffyn o black bread y Germans yn speciman

“Wel,” mynta Dai, “ma lwn yn ddiccon calad i ela insuggestion ar drackshon injin, myn yffryd i.”

“Otti wir ddyn,” myntwn i. “On odd y poor dabs yn gweyd i bod nw yn cal i annar starvo, a’r officars yn cal Igh Life.”

“Wel Shoni, ma i yn wanol gytta ni,” mynta Dai. “Ma arno i want catw y speciman ma, a’i ddoti yn garrag sylfan i’r bungaloo w i yn meddwl i fildo yn Cwmrecclws.”

Y noswath ma i geson wpod fod wmladd o’r right short yn y’n aros ni men cwppwl o ddwyrnota; a os ca i alf-a-chance i ddodgo’r Censor, i gewch anas y scwffwl yn ----, somewhere in France, fel ma nw’n gweyd.

 Odd pappra Ffrainc yn gweyd fod y Germans weti troi y Grand ’Otel Bruxellois yn Casino. I chi’n gwpod spo beth yw Casino; rwy short o gamblin consarn, yr un peth a’r ’en ford fach roun na yn y ffeira, a’r en belen fach goch na yn rolo nes cwmpo i un o’r cwtches scwar. Na shw beth yw Casino, on i fod a’n rwpath on a large scale, fel y gwetws Ianto Black ’Orse pan yn caru clampen o Sysnas.

“I am goin to be married on a large scale,” mynta fa.

Odd a’n eetha right efyd, large scale odd i ar mencos i. I ath i wraig a i sefyll ar y penny- in-the-slot


 

 

 

 



(delwedd 4497) (tudalen 101)

(x101) weighin mashine yn un o’r stashions; i drows y nyttwdd mor syttan nes taro y peg arn nes y cretws y Station-master fod yr Irish Express miwn collision. Odd y glomman yn pwyso bothdi icean score, i a ath yr ‘and i gwrso roun i wynab y mashine, a na wetso nw idd i bara mlan am ddwyrnod.

Wrth gwrs, allwch chi ddim cretu pob stori, on odd gwraig Ianto yn glatchan o fenyw olyccus; a na sy’n smala, criatur bach eetha salw odd Ianto. On sdim ots am ynny. Y Sysnas odd i dryttydid wraig a.

Odd gan Ianto fachan ol bartnar, bachan glan listy.

“Ianto.” mynta wnnw, Shwd ma rwy glimmlercyn bach salw fel ti yn manago i gal gwraccedd? Ma fi yn cheppyn eetha likely, yn ffeelu cal un.”

“Wel,” mynta Ianto, yn lispan ar flan i dafod, “Wel, Ropin, oth w i’n thalw w i’n therchus.”‘

Ble o ni? O ia, wilia o bothdi’r Casino. No buo nw yn bytta, yn ifad, a gamblo uwch ben i diccon. I gollws un o’r officars fwndal o bappra pyrticilar, odd rwy un weti i twicid nw mas o’i boccad a. Na lle odd alibaloo! Y diwadd odd, i grocws rai o’r officars i unen. Tro arall, ar ol eetha booze i fu’r Anoverians, y Bavarians, y Saxons, a’r Prwssians yn wmladd a’u giddil, a i gas pump i lladd.

“ ’Ear, ’ear,” mynta Dai. “Na waith i’r Parish Councils i acor cwppwl o Casinos yn y Consternation Camps ar yd a lled y wlad, i geson warad o’r scrwff i gyd wettyny.

“Ia,” myntwn i, “a sa ni’n gallu coccso My Nabs o Berlin i joino’r wara i gesen waradicath walla.”

 

 

 

 



(delwedd 4498) (tudalen 102)

(x102) Eisht! Ma doi ne dri o Scouts yn dod a’u anal yn i dwrna! Be sy gytta nw? Ma golwg eetha prysur arni nw? Wel, catwch y secrat. Y Germans ar fryn bach o bothdi milltir off. Ia, ia, a ma Ni’n Doi gytta’r rest, yn cal y contrack i fynd mlan i gliro’i Rwbbetch off o ar y bryn. Goo’bye now wotevar.

(:15) Y BYMTHECFAD-SHWRNA.

 

“WADO MLAN A’R WMLADD.”

Wiff o Ringars a felly yn y blan!

Trw gyttol y nos odd cenyns y Germans yn clatcho arno ni eb stop, a phan bipws y wawr ma’r “ping-pong” yn y’n plastro ni o’r German lines.

Pan gwnnws yr oil odd dim byd yn dangos fod rwpath mas o’r cyffretin i gymryd lle fwy na rwy ddwyrnod arall, wath i geson amsar eetha tawal ar ol y pipprad roiso ni i showdwrs My Nabs. On’, pan dynnws y brynna i cryssa nos, i welsen y gola yn fflashan ar fôr o baginets. Odd showdwrs Will o Berlin yn dod ar y tramp shag atto ni ytto.

Ma nw’n dod fel câ o wenith, cot wrth got, penlin yn rwbbo penlin, shouldar to shouldar, fel i chi’n darllan am y Zulus ne’r Arabs yn Affrica ne’r Soudan. I chi weti gweld pittwr o’r short miwn tai bach yn y wlad.

Dod o nw, a ninna’n aros, a phoppath yn barod


 

 

 

 



(delwedd 4499) (tudalen 103)

(x103) fel sa ni’n growd ar weelod y pwll yn weeto i’r fireman ddod nol o’i roun’.

“Shoni,” mynta Dai. “Ma i o’r diwadd! Watch oir ne glin bren, ar mencos i.”

“Catw’n gool, Dai,” myntwn i.

“Right you are, Shoni,” myntai Dai.

Nes o nw’n dod. Brigades o wyr trad a amall i gap ryngi nw; yn y gaps odd y gwyr cyffyla yn cicco’r dwst. Y cenyns trymon ar i ol nw fel byttynna duon, a’r eu dacla bach, y quick-firers fel clêr meirch o flan pawb.

Shwt o ni’n teemlo wrth i gweld nw? Raid cal dickshonary newydd yn yr iaith Gymrag cyn y galla i roi “true supscription,” fel ma nw’n gweyd yn y
pappra Sysnag.

Odd y fflags, ma a co, yn fflappan rwpath tepyg i glwttin llestri y line dillad. Dim swn bugle, a dim swn drwm; o nw weti gatal y “brass band” ar ol yn rwy le. Walla ma ynny odd ora, wir ddyn, wath all dyn ddim wmladd llawar yn wara cornat ne dromboon, a fyssa ddim llawar o shâp ar y bachan odd yn wara’r ‘drwm fawr’ miwn scyffle. Anodd roi pocad o’r baginet a drwm fawr yn ongan wrth y’ch gwddwg chi.

W i’n cofio brass band yn cal starto yn ----- a i gas Ropin y bwtchwr i neyd yn ddrwmmwr. Odd gan Ropin diccyn o beth ma nw yn i alw fa yn gorporashon, a diccon o le i’r drwm fawr i orwadd arno. Criatur byrr o gorff odd Ropin, rwpath tepycca’r byd i bledran Iard weti i ffito â phâr o goesa.

I ddysgws y band i wara yn angomon o dda, a i ddath diwetydd y first parade, - y march mas trw’r pentra.
Na sight! I fuws pagad o’r mer


 

 

 

 



(delwedd 4500) (tudalen 104)

(x104) chettach a r gwraccedd miwn styrrics am wthnos o achos wyrthin - Na beth odd wthi! Odd bocha Will mab Ann. jest byrsto wrth wara’r clarinat. Dai Pen Steps, cendar Will, odd yn wara’r cornat a gwynab fel sa fa yn ngenol y mwmps. Chi allsach weld y gwithienna ar wddwg Moccyn yr Itchwr odd yn wara’r wnt-a-yma, y tromboon, a o nw’n ettrych fel coesa y ford fach roun’ sy yn y ffront room yn dala y Family Bible a’r brass clasps.

Yr arcol! Cyn po’r band trw ’Igh Street odd gwynepa pob un o’r warwrs mor gochad a lopstar ar ol i fyrwi.

On, i mishtir nw i gyd odd Ropin y Drwmmwr. Wel, i gretas i, y byssa’r drwm yn fflintars, gan fel odd Ropin yn clatcho. Wrth ettrych ar y band yn marcho shag atto chi dim ond drwm o chi’n weld, a jest diccyn bach o gôpin Ropin, a’r wŷs yn cwnni fel stêm o dwbbin golchi.

Mlan a’r band!

I ddethon, miwn amsar, i ewl gros, i ath y warwrs y mlani un ewl, a Ropin, tn wyddo fel pollath i’r ewl arall. Weedda Ropin ddim am y partin dwpwl, a
mlan ag e ar i ’ook i unan. On, wara teg, i alla weyd ’yn, i gas mwy o growd idd i ddilyn a na’r boys odd yn wara’r brass instrymiants. O do, i ddath y pentra i gyd ar i ol a, yn wyr, gwraccedd, a phlant eb son am y cwn.

“Ropin,” mynta, un o’r wags, “Cistal i ti gymryd spel ar wado’r drwm.”

“Not undar the circumferances,”‘mynta Ropin.

“Na sy ora, bachan,” mynta un arall.

“Ddim fears,’ mynta, Ropin, “tra bo’r band yn wara.”


 

 

 

 



(delwedd 4501) (tudalen 105)

(x105) I stoppws yn syttan! I ddishgwilws o bothdi fel bachan a chollad arno. I lawr a’r drwm, a off âg e sha thre fel llychetan. I gas Ropin dwtch creelon o brain ffeevar ar ol ’yn.

Walla ma gwpod anas Ropin ma Will o Berlin a ofan arno i’r band fynd ar goll.

Ma nw’n dod, y Germans w i’n feddwl a nid y band; Officars yn gyrlappo o un bwnshyn o showdwrs i un arall. Co un, eetha, stylish yn ishta acha cefan ceffyl fel sa fa weti cal poun’ ne ddoi o “iron-shavins” i frecwas. Dim gysseitmant o’n ochor ni. O nw’n depyg i donna’r mor yn rolan ar y trath. Wrth y’n ochor ni y Welsh, odd y showdwrs na, dy’n cal i alw yn Zouaves, y chaps bach na a’r cappa cochon, yn perthyn i Ffrainc.

Fel odd yn oil yn cwnni yn uwch, a baginets y Germans yn dod yn fwy i’r golwg, chi allsach weld y Frenchmen bach brown ma yn fyw i gyd. Welso chi Welsh tarriar ar ol iddo gal pip ar ligotan ffrenig? Os do fa na idea i chi.

Mas a’n cenyns mawr ni i’r tir agorad, i lawr a snouts cenyns ar ymyl y trenches - Wiw! Ma i off! Lan a’r Zouaves a’r Welsh - Ni’n Doi yn y ffront rank eb ofan Will na neb o’i freed a.

Tacla bach smala yw’r Zouaves, o nw’n jocan â wyrthin wrth ryttag i gwrdd a’r Sossinjers fel sa nw miwn picnic Yshgol Sul. Mae’n well gan Zouaves, mynta nw, gal shawns ar faginet charge na sa nw’n cal gwoddiad i ffest clwb. Odd ridgmants erill yn dychra mwstro, y gwyr cyffyla miwn cwtches bach rwng y brynna, pob showdwr yn sefyll wrth ben i geffyl yn barod i needo i’r saddle miwn bothdi shiffad.

Mlan a gwyr cyfflya’r Germans i neyd ffordd i’r gwyr trâd, ma diccyn o stretch gytta nw i


 

 

 

 



(delwedd 4502) (tudalen 106)

(x106) ddod, a llawar i fwlat yn barod i ddoti stop arni nw.

“Poor dabs.” A mynta un o’r boys sy yn scrifenu i’r pappra. -

“Worthy of a better cause an’ a better Kaisar.”

Ma’r Zouaves yn sefyll fel wal! Co German ar ol German wiw dros ben i geffyl yn cwmpo yn farw cêg, cha nw ddim ride acha cefan ceffyl ytto. Volly ytto gan y’n drylla ni, a’r Zouaves. Ma’r German cavalry ar y’n penna ni, on i ni’n sefyll eb fwdgid - y rank ginta yn annar penlino a’r baginets yn pointo shag i lan; yr ail rank yn annar plygu yn barod i gymryd i lle yn y ffront; y ranks wrth i cefan nw yn tano nes odd i yn arswd i clywad nw, - yn tano, ia, fel clock-work. Sôn am ddoi drain miwn collision! Wel, na rwpath tepyg.

Crash ar ben y’n baginets ni a’r rank ginta’ o’r Germans; miwn a’r baginets i frestis y cyffyla, a reiny yn screchan fel bota dynol, a’n cicco fel y venjance! I brofws y rwsh diccyn yn ormod i ni ar y pryd, a gorffod i’r rai allsa neyd gwmpo nol i’r second rank. Ma’r second rank yn y ffront rank nawr a’r baginets yn barod, amsar eetha calad i allwch gretu.

On, i ddath yr amsar i ollwn’ y’n gwyr cyffyla ni yn rydd, a ma nw’n dod, fel sa nw yn rasis y Derby, y cyffyla gynrwg a’r dynon am gyrradd y Germans. I ddalson cyffyla’r Germans yn i gwendid; mlan yr etho nw fel mashine lladd gwair trw’r Sossinjers. Welso chi y Red Indians, yn show Buffalo Bill yn mynd roun’ a roun’? Wel, na fel nath y’n gwyr cyffyla ni a’r Germans, a ar ol gneyd avocc yn ranks y scamps - “they wheel out of the line of fire.”


 

 

 

 



(delwedd 4503) (tudalen 107)

(x107) Na line fach yw Sysnag jest i gal spel fach.

I nillson y battle. Nol a’r gwyr trad, wath odd i gwaith nw weti neyd, yn grand efyd. I adawson y poor dabs odd weti cal i clwyfo i boys yr ambylance; - a’r marw - i ofal Duw y Ryfeloedd.

Erbyn ’yn ma gwyr trâd y Germans weti cyrradd o fiwn ergyd tân y drylla; ma pob motfadd o’r tir ma nw’n cerad arno weti cal i fesur. Ma Ni’n Doi, a boys erill y Welsh, yn gorwadd o’r golwg tu cefan i’r spot netho ni avoc a’r German cavalry. Mlan o nw’n dod! On’ - mlan i Anga.

Ma’r trenches yn dychra cleppran - seventy five thousand rifles roar as one, mynta pappar Sysnag, a eetha gwir efyd! I safws Germans fel sa earthquake weti diccwdd. Dose a all idd i nw. Ma’r Germans yn stoppo, - yn shigglo - fel tŷ pan bo ’ên waith o dano fa yn roi ffordd, - yn cwmpo nol, a ar unwath yn ceesho ryttag nol i’r lle y detho nw o ono, - rai o nw, ia, - dim on rai.

Na ffordd y cwpplws “The Battle of -----”.

[Ma Ni’n Doi, fel sa chi’n gweyd, ar weelod y pwll, weti cwppla “Shift y Bora.” Os cystal gatal y gath mas o’r cwtin ma Shwrnion “Shift y Diwetydd” (sef “Y Partin Dwpwl”), Pris 1/5, a Shwrnion “Shift y Nos” (sef “Y Twll Cloi”), Pris 1/5, yn awr yn barod.
Elwch daligrafft i’r office am gopies].

 

 

 

 



(delwedd 4504) (tudalen 108)

(x108)

LLYFRAU

CYHOEDDEDIG GAN W. M. EVANS A’l FAB,
Swyddfa “Seren Cymru,” Caerfyrddin.

WELSH DRAMAS

-----------------

Y FERCH O CEFN YDFA. Drama Gymraeg Newydd, yn awr yn barod. Gan J. BONFYL DAVIES,
Treorky.
Pris 1s. 3g.; trwy’r post 1s. 5c.

Y PERL DIADDURN neu “ENW DA.” Drama Gymraeg Newydd, mewn Tair Act. Gan E. E. HUGHES.
Pris 1s 6g.; trwy’r post 1s. 8g.

Cymeradwyaeth.- “Y mae plot y Ddrama hon yn gywrain a chyffrous. Nid oes foment anniddorol yn yr holl olygfeydd.”- GWILI.

TEULU BRONYGRAIG. DRAMA AR ADDYSG. Drama Newydd ar Addysg, gan Z. MATHER. Gyda Rhagymadrodd gan SYR ED. ANWYL. Tuedd yr holl Ddrama hon ydyw ein dwyn i garu dysg a goleuni yn hytrach nag anwybodaeth a thwyllwch.
Pris 1s. 6g.; trwy’r post 1s. 8c.

DIC SION DAFYDD (RICHARD JONES-DAVIES, ESQ.). Y Ddrama mwyaf (sic) poblogaidd a llwyddiannus yn yr iaith. Gan y Parch. J. TYWI JONES.
Pris 1s. 6g.; trwy’r post 1s. 8c.

JACK MARTIN, neu BOBL LLANDDERWYDD. Mae y Ddrama hon yn llawn o humour, ac wedi ei threfnu fel ag i fod yn un o’r chwareuon mwyaf derbyniol. Gan y Parch. J. TYWI JONES.
Pris 1s. 6g.; trwy’r post 1s. 8c.

ELUNED GWYN OWEN, neu YR ENETH GOLL. Credaf y bydd i’r agweddau i fywyd ein gwlad, drwg a da, Cymreig ac Anghymreig a bortreadir yn y Ddrama hon, yn ddyddorol ac yn adeiladol. Gan y Parch. J. TYWI JONES.
Pris 1s. 6g.; trwy’r post 1s. 8c.

SAMSON A DALILAH. Drama Ysgrythyrol (seiliedig ar Barnwyr XVI.), mewn Pump Act,. Caneuon a Chydgannau yn y Sol-ffa.
Gan J. BONFYL DAVIES.

Pris 7c.; trwy’r post 9c.

 

 

 

 



(delwedd 4505) (tudalen 109)

(x109) 16 o Lyfrau Adroddiadol.

l.-YR ADRODDWR IEUANC.
Yn cynnwys dros Hanner Cant o Ddarluniau Syml a Byrion at Wasanaeth y Plant. Gan y Parch. J. TAFIONYDD DAVIES.
Pris 1s.; trwy’r post 1s. 2g.

2.-ADRODDLYFR DIRWESTOL. Yn cynnwys Dadleuon, Caneuon, a Darnau priodol i’w hadrodd.
Gan AWENYDD.

Pris 1s.; trwy’r post 1s. 2c.

3.-Y GWENITH GWYN. Amcenir i’r llyfr hwn fod at wasanaeth yr Yagol Sabbothol a Chyfarfodydd Llenyddol. Gan y Parch. D. OLIVER EDWARDS.
Pris 1s. 3g.; trwy’r post 1s.
5c.

4.-YR ARDD FLODAU. Un o’r llyfrau goreu i Adroddwr, &c. Gan yr un Awdwr.
Pris 1s. 3g.; trwy’r post 1s. 5c.

5.-Y PREN AFALAU. Llyfr yn cynnwys Traethodau, Dadleuon, &c., at wasanaeth yr Ysgol Sabbothol a’r Cyfarfodydd Blynyddol. Gan yr un Awdwr.
Pris 1s. 3g.; trwy’r post 1s. 5c.

6.-Y DADLEUWR. Yn cynnwys Casgliad o Ddadleuon Digrif a Chrefydclol. Gan y Parch. D. Oliver Edwards.
Pris 1s. 6g.; trwy’r post 1s. 8c.

7.-LLYFR YR ADRODDWR. Yn cynnwys Casgliad o Adroddiadau. Dadleuon, ac Ymddyddanion. Gan AWENYDD.

Pris 1s. 3g.; trwy’r post 1s. 6c.

8.-YR ADRODDWR DIFYRUS. (The Welsh Comic Reciter.). Sef Adroddiadau, Dadleuon, Caneuon ac Actau Difyrus. (English and Welsh.) Gan T. M. MORGAN.
Pris 1s. 4g.; trwy’r post 1s. 6c.

9.-Y DADLEUWR DIFYRUS. (Welsh Comic Dialogues.) Sef Casgliad o Ddadleuon Difyrus.
Pris 9c.; trwy’r Post 11c.

I1.-YSGOL YR ADRODDWR, ei hanes cyntaf, 82 tud., yn cynnwys Gwersi Yr Adroddd, gyda darluniau Eglurhaol, gan y Parch. J. Gwrhyd Lewis; Yr Hanes Olaf, 62 tud., yn cynnwys darnau Adroddiadol gan tua 60 o Bigion Beirdd y Genedl, detholedig gan Cynalaw.
Pris 1s. 6g.; trwy’r post 1s. 8c.

 

 

 

 



(delwedd 4506) (tudalen 110)

(x110) LLYFRAU ADRODDIADOL.

11.- YR ADRODDWR YSMALA, sef Adroddiadau, Dadleuon, Caneuon, Difyrus a Ffraeth, cymhwys i Gyfarfodydd Adloniadol a Chystadleuol.
Gan D. Luther
1s. 6g.; trwy’r post 1s. 8c.

12..-Y DADLEUWR YSMALA. Welsh and English Humorous Sketches. Gan amryw Awdwyr.
Pris 1s. 6g.; trwy’r post 1s. 8c.

13.-DADLEUON BUDDUGOL. (Buddugol yn Eisteddfod Genedlaethol Caerfyrddin.) Yn cynnwys Deg o Ddadleuon at wasanaeth Cyfarfodydd Llenyddol.
Pris 8c.; trwy’r post 9c.

14. -YR ADRODDWR DONIOL. Casgliad o Adroddiadau a Chaneuon Digrif, allan o Farddoniaeth Telynog.
Pris 1s.; trwy’r post 1s. 2c

15. -Y RHOSYN DIWEDDAF, sef Darnau Barddonol a Rhyddiaethol, yn gymhwys fel Adroddiadau. Gan Alltud Glyn Maelor (Awdur “Y Fodrwy Aur”).
Pris 7c.; trwy’r post 8c.

16.- PERLAU ADRODDWR, yn cynnwys dros 70 o Ddarnau Adroddiadol. Gan Cynalaw.
Pris 1s.; trwy’r post 1s. 2c.

_________________

LLYFRAU DYDDOROL.

“Y GWIR ANRHYDEDUS D. LLOYD GEORGE: Ei Hanes o’r Cryd i’r Cyfrin-Gynghor,” gan y Parch. J. TAFIONYDD DAVIES. Un o’r Llyfrau Rhataf a gyhoeddwyd o’r Wasg Gymreig erioed. Cynwysa 12 o Benodau, 100 o Dudalenau, ac amryw Ddarleniau-Cyfaddas iawn fel Anrheg i Bobl Ieuaingc.
Pris 7c.; trwy’r post 9c.

THE RIGHT HON. D. LLOYD GEORGE: The Story of his life. By REV. J. TAFIONYDD DAVIES. (English Edition.) Price 7d., through post 9d.

Y FFRAETHEBWR, yn Cynnwys Casgliad o Ffraeth-Ddywediadau, Byr-Chwedleuon, &c.
Pris 7c., trwy’r post 9c

 

 

 

 



(delwedd 4507) (tudalen 111)

(x111) LLYFRAU DYDDOROL.

IRFON MEREDYDD: Nofel Newydd gan Elwyn a Watcyn Wyn. Yn darlunio cymeriadau gwladol y Dê fel Rhys Lewis, rhai y Gogledd. Pris 1s. 2g., mewn Llian 1s. 6ch. Dylai pob Cymro ei ddarllen.

LLYTHYRAU CARU BUDDUGOL: Yn cnnnvys Amryw Lythyrau Caru Buddugol yn Gymraeg a Saesneg, &c., gan Ap Noah.
Pris 7c, trwy’r post 9c.

JOHN JONES: Yr Hen Gymmeriad Ysmala. Ei Hanes a’i Ystraeon Digrif. Y Llyfr mwyaf difyrus a doniol yn yr iaith. Llawn o WIT Gymreig.
Pris 7c.; trwy’r post 9c.

CARU, PRIODI A BYW. Y Llyfr Poblogaidd. Argrafflad Newydd. Gan y Parch. R. Gwesyn Jones, D.D.
Pris 7c.; trwy’r post 9c.

JOHN JONES: an Original Welsh Character. His History, Adventures, and Witty Sayings. “A book full of Mirth and Humour.” By Taf. (English Edition.)
Pris 7d., post free 9d.

HANES DIC ABERDARON A TWM O’R NANT. Dau Gymeriad Hynod. Mewn Un Llyfr, Pris 7c.; trwy’r post 9c.

DYWEDIADAU DAFYDD EVANS, FFYNONHENRY. (Wedi eu dethol allan o’i Gofiant.) Llyfr Dyddorol a Darllenadwy.
Pris 7c.; trwy’r post 9c.

CASGLIAD O GERDDI CYMRU, sef Casgliad o Gerddi gore y Genedl, wedi eu dosranu yn dri Dosbarth: 1af Caneuon Gwladol; 2il y Dosbarth Digrifol; 3ydd Dosbarth y Delyn.
Pris 7c.; trwy’r post 9c.

GWEITHIAU BARDDONOL TELYNOG, yn cynnwys nifer fawr o Bryddestau, Awdlau, Caniadau Digrif a Gwladgarol, Cywyddau, ac Englynion; yn nghyda Byr Gofiant o’r Awdwr Talentog. (Y Pedwerydd Argraffiad.) Wedi eu rhwymo yn gyfrol hardd.
Pris 2s. 6c., trwy’r post 2s. 10c.

COFIANT DAFYDD EVANS, FFYNONHENRY,
gan y Diweddar Barch. Benjamin Thomas (Myfyr Emlyn). Pris 1s. 2g. Y Cofiant mwyaf gwreiddiol, doniol, digfirol - y mwyaf bywyd debyg yn y Gymraeg.
Trwy’r post 1s. 4c.

 

 

 

 



(delwedd 4508) (tudalen 112)

(x112) LLYFRAU DYDDOROL.

YR YSGOL FARDDOL.
Gan Dafydd Morganwg. Y Pedwerydd Argraffiad yn awr yn barod. Yn cynwys Cyfarwyddau eglur i ddeall Rheolau Barddoniaeth Gymreig. “Dylai yr Ysgol Farddol gan Dafydd Morganwg fod yn llaw pob bardd ieuanc.” - Hwfa Môn. Mewn Llian destlus, lythyrenau aur, 3s.


COFIANT Y PARCH. EVAN THOMAS, CASNEWYDD.
Gyda nifer o’r Erthyglau Mwyaf Galluog a Ysgrifenodd, a Darlun Rhagorol o hono ar Acme Paper, gan y Parch. W. Jones (Ap Rhys), Casnewydd. Yn Rhwym mewn Llian Hardd.
Pris 2s.

JOHN PLOUGHMAN’S TALK (Dywediadau John Ploughman); Neu Siarad Plaen i Bobl Plaen. Gan y Parch. C. H. Spurgeon. Mewn Gwisg Gymreig gan y Parch. Thos. Morgan, Skewen. Gwerthwyd dros 400,000 o’r llyfr byd-enwog hwn yn Seisneg.
Pris 1s. 2g.; trwy’r post 1s. 4c.; mewn llian hardd 1s. 6ch.

JOHN PLOUGHMAN’S PICTURES (Darluniau John Ploughman); Neu Ychwaneg o Siarad Plaen; Bobl Plaen. Gan y Parch. C. H. Spurgeon. Cyfieithiedig gan y Parch. Thos. Morgan. Darluniadol trwyddo. Gwerthwyd dros 200,000 o’r llyfr enwog hwn yn Seisneg.
Pris 1s. 2g.; trwy’r post 1s. 4c.

DRYCH Y PRIF OESOEDD: Yn cynwys hanesion am hen âch y Cymry, eu dyfodiad i Brydain, rhyfeloedd a fu rhyngddynt â’r Rhufeiniaid, y Brithwyr, a’r Saeson; a’u moesau gynt cyn troi at Gristioiogaeth. Hefyd, traethir am bregethiad a llwyddiant yr efengyl ym Mhrydain, athrawiaeth y brif eglwys, a moesau y prif Grist’nogion. Gan Theophilus Evans.
Pris 1s. 2g,.; trwy’r post 1s. 4c.

EFAIL Y GOF. Sef Ymddiddanion ar Brif Bynciau’r Dydd. Y Llyfr Poblogaidd.
Pris 1s. 2g.; trwy’r post 1s. 4c.

LLAWLYFR DUWINYDDIAETH, Gan y Parch. John Stock, yn nghyd a Hysbysiad Rhagarweiniol gan y Parch. C. H. Spurgeon. Cyfieithiedig gan y Parch. Thos. Nicholas.
Pris cyhoeddedig 4s.
Pris gostyngol 2s., trwy’r post 2s. 4c.

 

 

 

 



(delwedd 4509) (tudalen 113)

(x113) LLYFRAU DYDDOROL.
Chwe’ Cheeiniog (sic) yr un.

CYFRES “CORONAU” O LYFRAU GWOBRWYON.
Yn Cynnwys Cronfa o Wybodaeth Fuddiol a Dyddorol i Ddarllenwyr yn Gyffredinol.

1. Coron Llafur; yn cynwys hanes -
1. Thomas Charles, B.A., o’r Bala
2. Howel Harris o Drefeeca
3. William Williams o Bantycelyn
4. Daniel Rowlands o Langeithio
5. Dr. Doddridge, Gweinidog yr Efengyl
6. Francis Spira, y Gwrthgiliwr oddiwrth Brotestaniaeth, a’i gyflwr arswydus mewn anobaith.
7. Moses Roper y Caethwas, ei Ddiangfa ryfedd a’i ddyfodiad i Brydain.
Pris 6ch., trwy’r post 7c.

2. Coren Diwydrwydd; yn cynnwys hanes -
1. John Wesley
2. George Whitfield
3. Samuel Hick, Efengylwr hynod
4. Ned Wright y Pechadur Mawr, a ddaeth yn Gristion gloyw
5. Darganfyddiadau rhyfeddol o fyd arall mewn Llewyg
6. Anerchiad i Ieuenctyd ar rai o elfenau bywyd llwyddiannus.
Pris 6ch., trwy’r post 7c.

3. Coron Gwroldeb; yn cynnwys hanes -
1. Martin Luther
2. Brad y Powdwr Gwn, sef dyfais y Pabyddion er dinystrio y Protestaniaid
3. Yr Archesgob Cranmor a’i Ferthyrdod
4. Gau-Grefyddwyr
5. Yr Erlidigaethau a’r Merthyriadau ar y Cyfamodwyr yn yr Alban.
Pris 6ch., trwy’r post 7c.

4. Coron Anrhydedd; yn cynnwys hanes
1. John Howard, y Dyngarwr nodedig
2. Oberlin, Gweinidog Protestanaidd enwog
3. William Wilberforce, Prif Offeryn Diddymiad y Gaethfasnach
4. Albert Dda, Priod-Dywysog y Frenines Victoria.
5. Syr Hugh Owen a’i Weithrediadau diaionus i’w wlad.
Pris 6ch., trwy’r post 7c.

5. Coron Goruchafiaeth; yn cynnwys hanes -
I. Yr Huguenots, sef y Diwygwyr Protestanaidd yn Ffrainc
2. John Roberts y Crynwr. Ymdiddanion rhyngddo âg Esgob Caerloyw
3. Peter Williams, Awdwr yr Esbioniad ar y Beibl
4. Jospeh Harris, Sylfaenydd a Gol. “Seren Gomer”
5. John Elias o Fôn.
Pris 6ch., trwy’r post 7c.

 

 

 

 



(delwedd 4510) (tudalen 114)

(x114) LLYFRAU DYDDOROL

6. Coron Werthfawr; yn cynnwys hanes
1. Y Cospedigaethau y sonir amdanynt yn yr Ysgrythyrau
2. Dinystr Jerusalem, y Gyflafan fwyaf arswydus a welodd y byd erioed
3. Teml Juggernaut, yn yr India
4. Socrates yr Athronydd, ei Fywyd a’i Farwolaeth
5. Cyfieithiad a Chyfieithwyr y Beibl i’r iaith Gymraeg
6. Triugain o fân-hanesion i ddenu y meddwl i lwybrau Duwioldeb a Rhinwedd.
Pris 6ch., trwy’r post 7c.

7. Coron Buddugoliaeth; yn cynnwys hanes 1. Y Chwilys Pabaidd a’i Weithrediadiau arswydus
2. William Penn, y Crynwr Cydwybodol a Dyngarol
3. John Penry, Efengylwr LIafurus a Diwygiwr Puritanaidd a’i Ferthydod
4. John Jones o Dalysarn, Desgrifiad o hono fel Pregethwr.
5. Ynys Madagascar: Llafur y Cenhadon Cymreig yno a’r Erledigaeth a fu arnynt yno.
Pris 6ch., trwy’r post 7c.

8. Coron Sobrwydd; yn cynnwys hanes
1. Dr. Benjamin Franklin o’r America
2. Treial Alcohol, cyhuddedig o Ysbeilio, Llofruddio, a Drygau aneirif ereill
3. John B. Gough, y Darlithydd Dirwestol angydmarol o’r America
4. Merched Cymru: eu Cymeriad a’u Sefyllfa bresenol
5. Bywyd Meddwyn a’i Gyflwr truenus
6. Thomas Edwards yr Helw-heliwr, a ysgrifenwyd ganddo ef ei hun o’i Alltudiaeth.
Pris 6ch., trwy’r post 5c..

Y BEDYDD EFENGYLAIDD. Traethawd Rhyddfrydig ar y Bedydd Efengylaidd yn ol y Testament Newydd, gan y Parch. D. M.:Williams, Rhondda.
Pris cyhoeddedig 1s. Pris gostyngol 4c., trwy’r post 5c.

YR YSTORGELL: Yn cynnwys Hanes Bywydau Personau Hynod - Teithiau, Anturiaethau, a Darganfyddiadau ar Dir a Môr - Prif Chwildroadau a Rhyfedeodd Hen a Diweddar - Amgylchiadau neillduol yn Hanes y Byd a’r Amserau - Rhyfeddodau Natur a Chelfyddyd - a materion ereill adeiladol i filoedd Cymru.
Bargen Ardderchog!
Pris ls., trwy’r post, 1s. 3c.

 

 

 

 



(delwedd 4511) (tudalen 115)

(x115) LLYFRAU BARDDONIAETH, &c.
_____________________________

Blodau-Gerdd Newydd, sef yr AWENYDD, yn cynnwts Casgliad o agos i 150 o Brif Ganiadau Gwynedd, a Deheubarth, ar Destynau moesol a difyrus, o gyfansoddiad Awduron hen a diweddar. At yr hyn yr ychwanegwyd Awdl odidog ELUSENGARWCH, gan y diweddar DEWI WYN o EIFION.
Pris, mewn llian, 2s. 6c.; trwy’r post 2s. 9c.

Barddoniaeth Cynddelw: yn cynnwys Awdlau, Cywyddau, Englynion, Pryddestau, Caneuon, ac Emynau, ar destynau Gwladol, Crefyddol, Marwnadol, ac amrywiol. Dan olygiad IOAN ARFON. Hefyd TRAETHAWD ar fywyd ac Athrylith Cynddelw, gan y Parch.J. SPINTHER JAMES, M.A. Gyda Darlun o’r Awdwr.
Cyhoeddedig am 5s. 6ch.;
Pris Gostyngol, wedi eu rhwymo yn hardd mewn llian, 3s. 6ch.; trwy y post 3s. 9c..

Gwaith y Parchedig Evan Evans (Ieuan Brydydd Hir), yn cynnwys Awdlau, Cywyddau, ac Englynion, yn nghyd ag yn agos i hanner cant o’i Lythyrau at amryw bersionau. Hefyd, yn Saesoneg, “THE LOVE OF OUR COUNTRY,” a Poem, with Historical Notes; and also a Treatise, entitled, “A short View of the State of Britain from the time of Maximus the Tyrant to the final Conquest of Lioegria (England) by the Saxons,” ‘&c. Golygiedig gan D. SILVAN EVANS, B.D. Cyhoeddedig am 3s. 6ch.; Pris Gostyngol mewn llian, 2s. 6ch.; trwy’r post 2s. 9c.

Teithiau a Barddoniaeth Robin Ddu Eryri: yn cynnwys hanes ei fywyd, wedi ei ysgrifenu ganddo ef ei hun, yn mha un y gosodir allan ei deithiau yn Ewrop ac Amerig, yn nghyd a’r holl helyntion a’r dygwyddiadau a gyfarfu y dyn rhyfedd hwn yn ei oes; hefyd ei Gyfansoddiadau Barddonol.
Y cyfan wedi eu hadolygu a’u trefnu ganddo ef ei hun. Arddurnir y gyfrol hefyd â darluniau cywir o’r Awdwr, Gutyn Peris, Twm o’r Nant, Richard Llwyd, Lewis Morris, Thomas Pennant, ac Esgob Heber. Cyhoeddedig am 5s.; Pris Gostyngol 3s. 6ch., mewn llian; trwy’r post 3s. 9c.

 

 

 

 



(delwedd 4512) (tudalen 116)


(x116) LLYFRAU SAFONOL.

GEIRIADUR MATHETES. Argraffiad Newydd yn awr yn barod, y cynnwys Nodiadau Eglurhaol, &c., ar bob pwnc a berthyn o fewn gwybodlaeth ddynol. Mae yn Llyfrgell ynddo ei hun. Yn.gyflawn mewn Tair Cyfrol.
Prisiau - Mewn Croen Llo (3 cyf.) ₤3. Haner Rhwym eto ₤2 15s.

HANES Y BEDYDDWYR YN NGHYMRU, Gan J. Spinther James, M.A. (Yn Gyflawn mewn Pedair Cyfrol.)

Cyf. 1.- Mewn Llian, 8s.; Haner Lledr, 10s.; Croen Llo, 10s. 9c.

Cyf. II. - Mewn Llian, 7s.; Haner Lledr, 9s.; Croen Llo, 10s.

Cyf. III. - Mewn Llian, 7s.; Haner Lledr, 9s.; Croen Llo, 10s.

Cyf. IV. - Mewn Llian, 7s.; Haner Lledr, 9s.; Croen Llo, 10s.

GEIRIADUR Y BARDD, sef Geirlyfr Odlyddol at wasanaeth y Beirdd; yn yr hwn y trefnir y geiriau yn ol eu Hodlau (ac nid yn ol y llythyren gyntaf, fel y trefnir Geiriaduron yn gyffredin). O dan Olygiad CYNDDELW. At yr hyn yr ychwanegwyd CYFRINACH BEIRDD YNYS PRYDAIN: cynnwys ef Llwybryyddiaeth ag Athrawiaeth ar y Farddoniaeth Gymraeg a’i Pherthynasau yn ol trefn a dosparth y Prif Feirdd gynt ar y Gelfyddyd wrth Gerdd Dafod. Gan IOLO MORGANWG. Y ddau wedi eu cydrwymo, Pris 7s. 6ch.

GWEITHIAU FLAVIUS JOSEPHUS, yn cynwys Hynafiaethau yr Iuddewion, yn nghyd a hanes eu Rhyfeloedd hyd ddinystr Jerusalem; traethawd Josephus ar Hades, mewn atebiad i’r Groegiaid; ac amddiffyniad Josephus i hynafiaethau yr Iuddewon, yn erbyn Apion; yn nghyd ag amddiffyniad i dystiolaethau Josephus, o berthynas i Iesu Grist, Ioan Fedyddiwr, ac Iago y Cyfiawn. Cyfieithiedig o’r Groeg a’r Hebraeg, yn nghyda nodiadau eglurhaol, hanesyddol, bywgraffiadaol, beirniadol, a daearyddol; testynau cyfeiriol o’r Ysgrythryau, ac Amseryddiaeth cywir yr amrywiol hanesion. Gan William Whiston, M.A. At yr hyn yr ychwanegwyd, Parhad o hanes yr Iuddewon hyd y dydd hwn, gan Dr. Bradshaw a’r Parch.
John Mills, Llundain.
Pris Gostyngol, llian 11s., Croen llo 15s.


DIWEDD Y LLYFR

 

 

 



Dolennau Cysylltiedig
·····

Cyfeirddalen y Wenhwyseg – llyfrau eraill yn nhafodiaith y De-ddwyrain, nodweddion y dafodiaith, ayyb
kimkat0934k www.kimkat.org/amryw/1_gwenhwyseg/gwenhwyseg_cyfeirddalen_0934k.htm
....
 
Nodweddion tafodiaith y De-ddwyrain - dengys y gwahaniaethau rhwng Cymraeg llenyddol a’r Wenhwyseg: “cadair”, Y Wenhwyseg “catar”, etc

kimkat0926k www.kimkat.org/amryw/1_gwenhwyseg/gwenhwyseg_nodweddion_y_wenhwyseg_0926k.htm
.....
 
Y testun hwn (Ni’n Doi) mewn orgraff gysonedig

kimkat1351k http://kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_045_hunan_gymhorth_01_1898_1351k.htm
·····

Aquesta pàgina en català (text en el dialecte del sud-est de Gal·les)
kimkat1060kc http://kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_017_nindoi_01_1060kc.htm
·····

This page in English (text in south-eastern Welsh)
kimkat1061ke http://kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_017_nindoi_saesneg_06_1061ke.htm

 

Ac os cewch chi flas ar y storïau bach uchod, cerwch hefyd at kimkat1225k  Isaac Lewis y Crwydryn Digri www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_015_isaac_lewis_01_1225k.htm


Mae’r llyfr i gyd yma ar ffurf delwau, ac ar ar ffurf print. Mae yma 116 o dudalennau

 

 


Sumbolau arbennig: ŷ ŵ

Diweddariad diwethaf 18-03-2017, 11-11-2006, 09-12-2005, 17-07-2001,

www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_017_nindoi_01_0928k.htm

Ble’r wyf i? Yr ych chi’n ymwéld ag un o dudalennau’r Gwefan “CYMRU-CATALONIA”
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web “CYMRU-CATALONIA” (= Gal·les-Catalunya)
Weø(r) àm ai? Yùu àa(r) vízïting ø peij fròm dhø “CYMRU-CATALONIA” (= Weilz-Katølóuniø) Wéb-sait
Where am I? You are visiting a page from the “CYMRU-CATALONIA” (= Wales-Catalonia) Website


CYMRU-CATALONIA

fel ma-nw’n weud ar y cwta (??rails??) cân)

DIWEDD / FI / END 

hit counter script
Edrychwch ar fy Ystadegau / Mireu les estadístiques / View My Stats