Isaac Lewis, y Crwydryn Digri gan W R Jones (Pelidros),
Merthyr Tydfil. Yr Ail Lyfr. (Blwyddyn: 1908) Cyhoeddedig gan David Davies,
http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_016_isaac_lewis_02_1996k.htm
0001z Y Tudalen Blaen
..........1863c Y Porth Cymraeg
....................0009k Y Barthlen
..............................0960k Y
Gyfeirddalen i Gywaith Siôn Prys (testunau Cymraeg yn y wefan hon)
........................................y tudalen hwn / aquesta pàgina
|
0860k
y llyfr ymwelwyr |
Gwefan
Cymru-Catalonia
|
|
Ein sylwadau ni mewn teip oren
Rŷn ni wedi cadw at yr orgraff
wreiddiol - ar wahân i ambell gambrintiad amlwg. Dynodir y tudalennau felly (x20), (x21), ayyb.

Ail Lyfr. 6ch. (= chwecheiniog)
Isaac Lewis
Y Crwydryn Digrif
Pob Hwlfraint wedi ei
ddyogelu.
Cyhoeddedig gan D.
Davies, Llyfrwerthwr, &c., Ferndale.
I’w cael gan bob
Llyfrwerthwr.
__________________________________________________________

Llyfrau ar Werth
gan D. Davies, Ferndale
Ysgol Farddol gan Dafydd Morganwg 2/-
Ysgol Gymreig 6c.
Adroddiadau i Blant Cymru gan Pelidros 6c.
Hen Gerddi Cymru gan rai o BRIF FEIRDD y
ganrif ddiweddaf 6c.
Hen Lyfrau Cymreig (Ystraeon).
Maid of Cefn Ydfa. Cymraeg a Saesoneg.
Elen Deg o’r Cwm. (Gan Awdur “Maid of Cefn
Ydfa”). CREIGFRYN HUGHES. 1s.
Y Ferch o’r Scer. Yn Gymraeg a Saesoneg. Gan
CREIGFRYN HUGHES.
I’w cael gan bob
Llyfrwerthwr.
__________________________________________________________
TUDALEN (x1):

ISAAC LEWIS, Y CRWYDRYN DIGRI
AIL GYFROL
gan W R Jones (Pelidros), Merthyr Tydfil.
POB HAWLFRAINT WEDI EI DDIOGELU
Cyhoeddedig ac ar werth gan
D. DAVIES, 1 and 2. STRAND, FERNDALE..
__________________________________________________________
TUDALEN (x2): GWAG
__________________________________________________________
TUDALEN (x3):
Nodiad yr Awdwr.
ANWYL DDARLLENYDD, Yn yr ail Gyfrol hon o “ISAAC LEWIS, Y CRWYDRYN DIGRIP,” gosodaf yn dy law yr Ystraeon hyny adawyd allan, ac a ddaethant i’m côf trwy gymhorth cyfeillion i mi a chydnabod ISAAC LEWIS, wedi cyhoeddiad y llyfr cyntaf. Fy unig awydd yn yr ymgymeriad hwn, fel yn y llall, ydyw ceisio cadw cadw ar “gôf-lyfr” ddywediadau ffraethbert un fu yn dra adnabyddus yn ei ddydd yn Nghymoedd Glô Morganwg. Teg yw nodi nad oes a fynof â bywyd a moesau y gwrthddrych, eithr yn unig cadw rhag ddifancoll y ffraethebion cyfoethog gysylltir a’i enw ef, a thrwy hyny ychwanegu rhyw gymaint ar lenyddiaeth ddifyr, brin, ein cenedl. Cyhoeddir y Gyfrol hon, fel y cyntaf, gan Mr. D. DAVIES, Llyfrwerthwr, Ferndale, yr hwn yw perchenog yr hawlfraint (o’r ddwy) yn Gymraeg, a’r cyfieithiad Saesneg ohonynt. Ebrill 16eg, 1908.
__________________________________________________________
TUDALEN (x4): GWAG
__________________________________________________________
(x5, x6):
CYNWYSIAD
|
{RHIF YR HANESYN} |
{PENNAWD} |
{TUDALEN
YN Y LLYFR GWREIDDIOL} |
|
|
Nodiad
yr Awdwr |
x3 |
|
|
|
|
|
|
1 O GYLCH EI WAITH — |
|
|
|
|
|
|
h33 |
Patshis
Gwyn |
x7 |
|
h34 |
Cwiro’r
Trowsis |
x8 |
|
h35 |
Ceffyla’Gwan
|
x9 |
|
h36 |
Isaac
a’i Bartner â gwaith Gôf |
x10 |
|
h37 |
Wthian
Fach |
x12 |
|
h38 |
Dim
Gwaith ’ma heddy’ |
x13 |
|
h39 |
Gwitho
ar Shar |
x13 |
|
h40 |
Crotyn
Cwrlo |
x14 |
|
h41 |
Ti ne’
fi sy’ fod ’ma |
x15 |
|
h42 |
Tân!
Tân! Tân! |
x15 |
|
h43 |
Y
rheswm na chawsent waith |
x17 |
|
h44 |
Mam-y-lo |
x18 |
|
h45 |
Col’ar
i chi? |
x19 |
|
|
|
|
|
|
II AR Y TRAMP — |
|
|
|
|
|
|
h46 |
Tram-tra-râd
|
x20 |
|
h47 |
Llestar
i gario’r Oil |
x22 |
|
h48 |
Het y
Forwyn |
x23 |
|
h49 |
Ffaelu
gwel’d dim ynddi |
x24 |
|
h50 |
Cwm Rhondda fel ffetan |
x24 |
|
h51 |
Dim
lle i amheuaeth |
x25 |
|
h52 |
Y Lilipiwshans |
x26 |
|
h53 |
Dywed
“Naddo, wir” |
x26 |
|
h54 |
Dyn yn
hedfan |
x28 |
|
h55 |
Dim Smocio ’ma |
x31 |
|
h56 |
Gofyn
am Gino arall |
x32 |
|
h57 |
Maeddu’r
Cybydd |
x33 |
|
h58 |
Y Tai Secur |
x34 |
|
h59 |
Y Dyn Lwcus |
x35 |
|
h60 |
Wado Shift [sic] o Bydlars |
x36 |
|
h61 |
Cadw’u Capa’ nhw’n gwmws |
x37 |
|
h62 |
Colli’i Wadjan |
x38 |
|
h63 |
Tarw yw hi |
x39 |
|
h64 |
Fe serfas i a’n reit |
x40 |
|
h65 |
Chusaniff neb o nhw hi |
x41 |
|
h66 |
Gwasgu Gwa’d ma’s o Ha’rn |
x42 |
|
h67 |
Lle net yn y Jail |
x43 |
|
h68 |
Y Bara yn y
Ffenast |
x44 |
|
h69 |
Ddim mellach na Byrcaned |
x45 |
|
h70 |
Un bach ar ‘i Oetran |
x46 |
|
h71 |
Gwell un “corph” na dou |
x46 |
|
h72 |
Pidwch marw man hyn, ta beth |
x47 |
|
h73 |
Un o ’Wain y
wlad hyn |
x48 |
|
h74 |
Doncis Affrica |
x50 |
|
h75 |
Baw Caseg |
x51 |
|
h76 |
Gweld y Ffram |
x52 |
|
h77 |
Three Meils an’ a haff |
x53 |
|
h78 |
Taro Un |
x54 |
|
h79 |
Ffordd Net i ’Neyd Arian |
x55 |
|
h80 |
Gwerthu Cig Llo |
x56 |
|
h81 |
Gwerthu Ceiniog o
Shrimps |
x57 |
|
h82 |
Ledo’r Cawl iddi le |
x58 |
|
h83 |
Isaac a’r Dirwestwr |
x59 |
|
h84 |
Cyllath heb ddim
c’wilydd arni |
x60 |
|
h85 |
Byta’r Ci Bach |
x61 |
1. O GYLCH EI WAITH
(x7) h33 Patshis Gwyn
Un boreu dydd Llun aeth Isaac yn mlaen at y
“partin dwbl” (am y tro cyntaf yn y lle hyny), ac eisteddodd yno gydag eraill
o’r gweithwyr cyn myn’d yn mlaen i’w “dalcen.”
Cyn hir, sylwai fod amryw o’r Glowyr âg olion
gofal arbenig ar eu dillad, a gofynodd;—
“Fechgyn! Odd i’n Satwn Pau ’ma Satwn dwetha,
ne’ beth?”
“Pam i ti’n gofyn ’ny, Isaac?” ebai’r bechgyn.
“Gwel’d cymant o batshis gwyn ar y’ch dillad
ch’i w i,” atebodd yntau, tra chwerthinent oll.
(x8) h34
Cwiro’r
Trowsis
Dro arall aeth Isaac i lodjo mewn lle nad oedd
posibl cael gan y wraig i gyweirio ei ddillad gwaith, ond pan fuasai Sadwrn Pau
yn agos.
Bu yno am ddyddiau lawer â thwll yn ei drowser, ac er gofyn a gofyn nid oedd
ffordd cael gan y wraig i dalu sylw iddo. Wedi hir flino ar hyn daeth adref un
noson, a gofynodd am y tro olaf iddi:—
“Mishtras! Oti chi’n meddwl c’wiro hwn heno?”
Addawodd y wraîg yn dda, fel arfer, ond boreu dranoeth yr oedd y twll heb ei
gyweirio, ac ebai Isaac yn ddistaw, “Mae hyn tw bad, ta beth!”
Cydiodd yn y trowser, ac yn lle ei wisgo taflodd ef am ei ben, gan edrych allan
o’r twll, a gwaeddi;—
“Mishtras! ’Na fyr w i’n y’ch gwel’d chi trw hwn.”
Erbyn boreu dranoeth yr oedd y trowser yn gyfan.
(x9) h35
Ceffyla’Gwan
Cafodd
Isaac lawer o ofid yn ei ddydd gan geffylau gwan. Halier oedd wrth ei
alwedigaeth, fel y gwyddoch, ond bu yn anffortunus iawn droion yn ei geffylau.
Gweithiai un tro mewn pwll, ac yr oedd ganddo “un o’r ceffyla’ gwana fu m’wn
tac yriod,” meddai ef.
Wrth ddod allan â dram lawn i’r partin dwbl aeth y dram dros y rails. Wedi treio a threio, ond yn ofer,
i gael y ddram i’w lle, ebai Isaac wrth o’r bechgyn oedd gerlaw;—
“Welas ti shwd geffyl â hwn o’r blân? Mae o’n rhy wan i dynu’i gwt.”
Dro arall, dan yr un anffawd, - y ddram dros y rails, a’r ceffyl yn wan, ebai Isaac:—
“ ’Ma geffyl yw hwn! Thyniff o ddim cleran ma’s o fasin shwgir.”
(x10) h36 Isaac a’i
Bartner â gwaith Gôf
Aeth Isaac a Sam Fain i “ddishgwl am waith.” Wedi cerdded a cherdded daethant
at ryw bwll.
Rhoddodd Isaac eu cais o flaen y Manajer, ac ebai hwn, gan daflu ei lygad
drostynt:-
“Pwy waith allwch chi ’neyd?”
“Fe allwn ni ’neyd unrhyw beth sy’ eisha arnoch chi,” ebai Isaac.
“Ho!” ebai’r Gaffer. “Ma’ pob lle lawr yn llawn gen i ar hyn o bryd. Allwch chi
droi’ch llaw at waith Gôf?” “Gallwn yn net,” ebai Isaac.
“Ol reit,” ebai’r Gaffer, “Ma’ eisha Gôf a thraw-wr arno i at y tân secur ’co.
Cerwch chi’ch dou ato fa, a gnewch gora gallwch chi.”
Yr oedd erbyn hyn yn tynu at amser cinio. Ni wyddai Sam na Isaac ddim, wrth
gwrs, am waith Gôf, a’r pwnc yn awr oedd sut i dreulio’r amser nes delai yr awr
ginio, oblegyd hyd hyny yn unig, o dan yr amgylchiadau, y bwriadent aros yno.
(x11) Ar eu ffordd tua’r Efail cyfunasant i
actio Sais ac “atal dweyd” arnynt.
Felly bu. Wedi cyrhaedd a “stripio,” chwythodd Isaac y tân i fyny, a gosododd
ddarn o haiarn ynddo. Bu yr haiarn yn hir cyn poethi digon wrth fodd Isaac, ond
o’r diwedd tynodd ef allan o’r tân, ac ebai wrth Sam;—
“St—s—st—str—strei—streic!”
Cododd Sam y Sledj fawr, ac ebai yn ol:—
“Wh—w-ï-wh—w—whe—whêr?”
Atebodd Isaac ef mewn tymher ddrwg;—
“M—m—ma—man! I—i—it—its c—co—col—cold-n-n-n-now!” a thaflodd yr haiarn yn
ol i’r tân. Nid hir y bu’r awr ginio cyn dod felly, ac ebai Isaac:—
“Nawr, Sam! Gad i ni fyn’d!”
“Ond beth am y coin, Isaac?” ebai
Sam.
“Gad ti ’ny i fi!” ebai yntau, “dilyn di fi.”
Gwelodd Isaac y Gaffer, ac wedi dweyd eu hwy wedi dod i’r gwaith heb ddim i
ginio, cawsant bobo swilt o “sub” i
fyn’d i brynu cinio.
Ond ni ddaethant yn ol wedi hyny
(x12) h37 Wthian Fach
Gweithiai Isaac un tro mewn lle ag yr oedd yn arferiad yno gan y Glowyr i
gwrdda’u gilydd yn yr un talcen bob pryd bwyd i fwyta eu lluniaeth. Tra yno
unai Isaac, wrth gwrs, gyda’r cwmni.
Un dydd, aeth yn siarad brwd wedi’r pryd bwyd yn nghylch gweithio mewn gwythieni
bach, a phawb yn dod a’i stori yn nghylch bychander y lle yr oedd wedi bod yn
gweithio ynddo.
Yr oedd un o’r bechgyn fel pe yn awyddus iawn i guro pawb eraill a’i ystori, ac
ebai yn fostfawr:
“Fe fuo i’n gwitho mewn lle o’n i’n gorffod myn’d ’nôl i’r hewl bob tro o’dd
eisha troi’r mandral arno’i.”
“Hy! Beth yw cymant a ’na!”i ebai Isaac yn hamddenol, “fe fuo i’n gwitho m’wn
wthian fach lle oni’n gorffod tori canwll yn ’i hanar er mwyn i cha’l i’n
ddicon bach i fyn’d miwn ’no!”
(x13) h38 Dim Gwaith
’ma heddy’
Bu
Isaac yn gweithio am ysbaid, fe ddywedir,yn ardal Llanilltyd Faerdref. Un
boreu,daeth y Glowyr, ac Isaac yn eu plith, i ben y Pwll, pangafwyd allan fod
diffyg ar y peiriant, ac, felly, ’doedd dim gwaith i fod yno y diwrnod hwnw. Cyn
troi adref, eisteddodd y Glowyr i ymgomio â’u gilydd ar ben y Pwll.
Yn mhen amser, gwelsant yn dod at y Pwll un oedd yn hynod am fod yn ddiweddar
yn dod i’w waith, ac un oedd, fel Isaac Lewis, yn barotach i fyn’d oddiwrth y
Pwll nac i ddod ato.Wrth ei wel’d yn llusgo mlaen, gwaeddodd Isaac arno a’i
holl nerth, “Der di mlân yn ewn!O’s dim gwaith ’ma heddy’!
h39 Gwitho ar Shar
Nid
oedd posibl cael gan Isaac i gymeryd neb ato i weithio yn unman, oddieithr fod
Sam Fain o gwmpas yn rhywle.Un tro, gweithiai fel arfer wrth ei
(x14) Wedi i’r crotyn, ar gais y
Gaffer, gyrhaedd y talcen, edrychodd Isaac arno, fel pe yn edmygu ei faint, ac
ebai:—
“Wel, machan i! Faint o ‘hur’ i ti moyn?”
Atebodd y bachgen, ac agorodd Isaac ei lygaid, gan ddywedyd:—
“Bachan! Well i ti ddod a dy dwls miwn, i ni gâ’l gwitho ar shâr. W i ddim yn
enill cymant a ’na munan, heb son am danot ti.”
h40 Crotyn Cwrlo
Dro
arall, anfonwyd dyn yn ei faint ato gan y Gaffer. Aeth y bachgen yn mlaen, gan
ddywedyd;—
“Isaac, w i wedi ca’l yn hala i witho ar shâr â chi!”“Beth wetas ti?” ebai yntau,
“gwitho ar shâr â fi! Chela ti ddim bod yn grotyn cwrlo i fi, warthach na bod
ar shâr.”
(x15) h41 Ti ne’ fi
sy’ fod ’ma
Wrth ei
wel’d mor ddiffaith gyda phawb, aeth y Gaffer ato, gan ddweyd;—
“Isaac! ’Naiff hyn mo’r tro! Ma’ rhaid i ti gym’ryd partner ato ti, ne’ ti ne’
fi sy’ fod ‘ma!”
“Begio’ch pardwn, Mishtir! W i’n folon myn’d ’nawr!” ebai ef, “ond fel hyn,
Mishtir! i chi m’wn gwell ffordd i fatal na fi.Os nag yw a waniath ta chi, fe
leicwn i’ch gwel’d chi’n myn’d waff, i fi ga’l llonydd i fyn’d mlân â
’ngwaith.”
h42 Tân! Tân! Tân!
Cafodd
Isaac lawer o drafferth yn y lleoedd y bu yn lodjo yn ei ddydd. Un tro
gweithiai’r nos yn rhywle, ac yr oedd yn auaf caled iawn.Yr oedd yntau yn
gorfod dod i’r tŷ bob boreu heb dân. Fe ŵyr pawb sydd yn gyfarwydd
âgweithio’r nos, mai peth diflas iawn fuasai dod i dŷ oer bob boreu, yn
enwedig yn y gauaf.
(x16) Fodd bynag, yr oedd Isaac wedi hen
flino ar hyn, ac yn benderfynol o gael gwell trefn ar bethau.- [Un boreu daeth
i fewn i’r tŷ, ac wedi gwel’d fod yr aelwyd, fel arfer, yn oer, a’r wraig
yn y gwely, rhedodd allan i’r heol gan waeddi’n wyllt:—
“Tân! Tân! Tân!”
Neidiodd y wraig o’r gwely, a rhedodd y cymydogion allan o’u tai, gan ofyn:—
“Yn mhle, Isaac? Yn mhle?”
“Yn mhobman ond tŷ ni!” atebodd yntau.
Cafodd Isaac aelwyd gynes bob boreu wedi hyny tra y bu yn aros yno.
(x17) h43 Y rheswm na
chawsent waith
Pan yn
yr
—”Na, ’does gen i ddim lle i chî:
O’r diwedd, daethant at bwll lle yr oedd Cymro yn Fanejer, yr hwn, wedi darllen
yr ysgrifen oedd ar y rhaw, a roddodd yr un ateb iddynt, sef “Dim gwaith i chi
’ma,”
Gan fod hwn yn Gymro, mentrodd partner Isaac ofyn iddo y rheswm na chaent waith
yno.
Chwarddodd y Manejer, gan ddweyd, “‘D’ych chi ddim yn mo’yn gwaith! Dishgwl beth
sy ar rhaw ’na!”
(x18) Gan na fedrai y Cymro eî ddarllen,
gofynodd i’r Manejer beth oedd yr ysgrifen, yr hwn a’i cyfieithodd iddo. A hyn
oedd yn ysgrifenedig ar y rhaw — “Able to work, but not willing.”
h44 Mam-y-lo
Aeth Isaac i weithio mewn talcen lle yr oedd y
glo yn wan iawn. Hefyd, yr oedd yno lawer o’r sylwedd hwnw adnabyddir gan y
Glowyr wrth yr enw, “Mam-y-lo.” Sylwedd ysgafn a diwerth ydyw (fel defnydd
tân), ac am hyny gwaherddir ei lanw yn y cerbydau glo.
Ond barnai Isaac, gan fod y glo mor wan, ac felly ei bod mor anhawdd cael
“cnapau” yno, mai gwell oedd peidio trin llawer arno, rhag ei ddryllio yn rhy
fan i fod o un defnydd o gwbl, ac am hyny llanwai yr oll i’r ddram. Ni fu hyn yn hir cyn tynu sylw y “gwyliwr” ar ben y pwll.
Yn mhen dydd neu ddau, daeth y Manejer heibio i Isaac, gan ddywedyd:-
“Isaac, w i wedi ca’l clywad dy fod ti yn llanw Mam-y-Lo. ’Nawr, rhaid i ti
ddropan y
gwaith
hyn, cofia!” ‘
(x19) “Wir, Mishtir bach!
Sguswch chi fi!” ebai yntau, “ond o’n i’n meddwl falla bo hwn rhy ifanc i fi
atal a fyn’d ma’s heb ’i ‘Fam’”.
h45 Col’ar i chi?
Byddai Isaac, fel y mwyafrif o’i fath, yn gorfod sefyll o flaen “ei well”
weithiau yn llysoedd barn y wlad. Un tro, yr oedd efe a Sam Fain, ei bartner,
wedi cyflawni rhyw drosedd, a dygwyd hwy o flaen yr ynadon yn Merthyr. (Gwyr y
cyfarwydd â gwaith tanddaearol y gwneir “pâr o goed” i fyny o “ddwy fraich a
cholar”). Fodd bynag, Sais oedd yr Ynad o flaen pa un y dygwyd y ddau
droseddwr, er hyny, gallai siarad ychydig o Gymraeg bratiog.
Cymerodd Isaac arno nad allai ddeall dim Saesneg, a bu rhaid i’r Ynad ei holi
yn Gymraeg. Yn yr ymdrech o ofyn iddo os mai “colier” oedd, ebai yr Ynad:—
“Col’ar i chi?”
“Nace, Syr! Braich w i! Dyma’r colar man hyn” ebai Isaac, gan bwyntio at ei
bartner.
(x20) II. AR Y TRAMP.
h46 Tram-tra-râd
Agorai y wawr ei llygad clir yn mhell o gyrhaedd llwch Cymoedd Glo Morganwg.
Wrth dŷ fferm, gerllaw pentref poblog, gwelid rhywun yn prysur lanw golchon
moch i hen ystên din. Nid oes eisîau dywedyd mai Isaac Lewis, arwr ein llyfr,
oedd.
Yn mhen tuag awr wedi hyn, clywai cwmni difyr yn y Black Lion — tŷ tafarn
yn y pentref — lais rhywun o’r tu allan yn gwaeddi a’i holl nerth:—
“Tram-tra-râd 1 Tram-tra-râd! Moddion gora’r o’s!”
Rhedodd y cwmni allan i wel’d beth oedd y bod, a gwelsant Isaac ar yr heol yn
cynyg rhywbeth i’w werthu.
“Isaac, dera ’ma!” ebai un o’r cwmni.
“Beth sy’ gen ti yn y jwg ’na? Beth i ti’n werthu, bachan?”
“Moddion yw hwn!” ebai Isaac, gan besychu yn llydan, “‘ i enw a yw
Tram-tra-râd.”
(x21) “Tram-tra-râd!” ebai’r bechgyn. “Beth
yw shwd beth ’ny? At beth ma’ fa da, Isaac?”
“Wel” ebai yntau, “Ma’ hwn yn dda at dri pheth. Mae a’n dda at ddyscu dynon i
weyd y gwirwir, at roi stymog dda i ddynon, ac at wella’r cof.”
“Wel, tyma’r latest! “ebai un o’r
cwœni, yr hwn oedd â stymog wan ganddo, “Dyma jest y peth sy’ eisha arno i.
Shwd i ti’n ‘i werthu a, Isaac?”
“Swllt y dos! ““ebai Isaac. “Reit! Dera dos i fi!” ebai’r bachgen.
Wedi derbyn y swllt, llanwodd Isaac glawr y ’stên (oblegyd ’doedd dim arall
wrth law i fesur y dôs), ac estynodd ef i’r prynwr. Dechreuodd y bachgen ei
yfed, ond cyn pen eiliad yr oedd y clawr a’r moddion yn y gwter, a’r bachgen
bron mwgu, yn poeri a gwaeddi — “Golchon o’dd hwna!”
“I ti’n eitha reit!” ebai Isaac,
“Golchon o’dd a. ’Nawr, dyna dy ddyscu di i weyd y gwir am unwaith; a rhaid bo
stymog lled dda ’ta ti i yfad golchon; a w i’n siwr y cofi di am dano fa am
spel fach - beth i chi’n feddwl, fechgyn?”
Cafwyd rali dda, ac aeth y cwmni yn ol i’r tafarn i wario’r swllt.
(x22) h47
Llestar
i gario’r Oil
Galwodd Isaac mewn tŷ tafarn ar ei daith, a chan nad oedd neb arall wrth
law, gofynodd y tafarnwr iddo am fyn’d drosto i’r siop i ’mofyn dau qwart o
bâraffin.
“Ol reit!” ebai Isaac, ac, wedi cael yr arian, cychwynodd i ffwrdd ag ef.
“Aros, i ti ga’l rwpath idd i garia fa, Isaac,” ebai’r tafarnwr.
“O’s dim eisha. Fe ffinda i rwpath idd i gario fa, ’nawr,” ebai Isaac, ac i
ffwrdd ag ef.
Wedi cyrhaedd y siop, a gofyn am yr
Oil, ebai y siopwr wrtho, “M’wn peth i ti myn’d idd i gario fa, Isaac?”
“Yn hon, os gwelwch chi’n dda,” ebai Isaac, gan estyn ei het.
Edrychodd y siopwr yn wawdus
(x23) “Sefwch chi, ’cyn bach! Fe shifta i
ddi, ’nawr” ebai Isaac. Trodd ei het wyneb i waered, gan wneud pant yn ei
chopa, a dweyd — “Rhowch a yn hwna!”
Felly bu. Aeth yn ôl i’r tafarn a’r dyferyn olew oedd yn y pant yn nghopa ei
het. Pan welodd y tafarnwr hyn, gwaeddodd, “Isaac, iefa dyna’r ddou qwart oil?”
“Nace, nace! Ma’r rest tu fiwn iddi!”
ebai Isaac, gan droi yr het i fyny. Erbyn hyn, wrth gwrs, nid oedd dyferyn y
tufewn na thufaes.
h48 Het y Forwyn
Wedi cael maddeuant y tafarnwr am golli’r olew, aeth Isaac i un o’r
ystafelloedd i gael spel fach. Yno, gwelai y forwyn wrthi yn gwisgo i fyn’d
allan ar yr un neges ag yr aeth yntau. Nid oedd un “gwydr” yno, ac ebai’r
forwyn wrtho, “Isaac! Oti’n het i’n gwmws? “
“Wel, wn i ddim, wir! “ ebai yntau, “Mae shwd het òd; pan mae’n gwmws mae’n
dishgwl ar gam, a phan mae ar naill ochor mae’n dishgwl yn gwmws. Treiwch i
yto.”
(x24) h49 Ffaelu gwel’d dim ynddi
Yr oedd morwyn arall yn yr un tŷ tafarn, yr hon oedd yn lleithach na’r
cyffredin, medde nhw. Dechreuodd Isaac siarad â hi, ac heb fawr trafferth
cafodd allan fod ei chariad wedi ei gadael, ac ebai yn ffug dosturiol, “Am beth
gadews a chi fel’na, w i?”
“Wn i ddim, wir! Alla i ddim gweyd beth
welws o ynddo i i ngatal fel’na,” ebai’r eneth, a’r dagrau’n dod i’w gwyneb.
“Wel, wir,” ebai Isaac, “Ma’n rhaid ta ffaelu gwel’d dim yndo chi nath a, ne fe
fysa wedi stico mlân, suwr o fod.”
h50 Cwm
Un tro, pan ar ei daith yn Nghwm yr Hondda, cyfarfyddodd Isaac â chyfaill. Ebai
Isaac wrth y cyfaill, “Rhyw Gwm rhyfadd yw Cwm Rhondda ’ma, bachan!”
“Pam? Be’ sy’ mater
“Wel, ma’ fa’n gwmws fel ffetan,” ebai Isaac. “Dim ond un ffordd sy fynd miwn
iddo, a’r un ffordd sy ddod ma’s.”
(Wrth gwrs, yr oedd y Cwm yn wahanol iawn yr amser hwnw i’r hyn ydyw yn awr).
(x25)
h51 Dim
lle i amheuaeth
Galwodd Isaac i fegian, un tro, wrth fwthyn yn y wlad, yr hwn oedd yn nodedig
am ei fychander. Trigai yno wreigen fechan oedranus, yr hon a alwodd ar Isaac i
mewn i gael tamaid o fwyd.
Wedi cael ei ddigoni ar fwrdd yr hen wraig, edrychodd
Isaac o gwmpas, gan ddechreu “tynu’r llinyn” am geiniog trwy ganmol y bwthyn.
Boddiodd hyn yr hen wreigen yn fawr, ac estynodd tair iddo; yna, wrth ei arwain
allan, ebai yr hen chwaer, yn hollol ddifeddwl;—
“Wir, ma’n dda gen i i chi alw ’ma ’nawr, wa’th os gen i neb i ga’l i fyta’r
bwyd spâr ’ma, ’nawr, ond y mochyn; ag am y bwthyn bach, o’s gen i ddim
amheuaeth ma’ dyma’r lle bach mwya cysurus yn y wlad.”
“I chi’n eitha reit,” ebaî Isaac, gan dori ar ei stori, “A phe bysa gyta chi
owns o amheuaeth o’s ma ddim lle iddo, ta beth am y mochyn,” ac i ffwrdd yr
aeth.
(x26) h52 Y
Lilipiwshans
Mewn cwmni llawen unwaith aeth yn siarad frwd am ddynion bach. Dechreuodd
rhywun son am y Lilippiwshans, a’u hystranciau ar cawr hwnw o’r enw Gulliver
(ystori a ddarllenasai yn un o lyfrau yr ysgol ddyddiol, digon tebyg).
Wedi gwrando am spel methodd Isaac a dal yn hwy, ac ebai:—
“Hy! Beth yw shwd stori a hona! W i’n
cofio pan o’n i yn ’Merica i fi ddod ar draws rhyw dreib o ddynon, ’r o’dd mil
o nhw yn gallu sefyll ar fodfadd sgwâr, ’r o’dd i llyced nhw gymant o seis a
sosers, a ’r o’dd tylla ô1 y frech yn i gwynepa nhw ddicon o le i ddyn guddio’i
ddyrna yndi nhw.”
h53 Dweyd “Naddo, wir”
Aeth Isaac i gwmni llawen mewn lle arall, ac yno cyfarfyddodd ag un o’r
cymeriadau hyny sydd i’w gweled yn fynych mewn cwmnioedd o’r fath — un am wneyd
i bawb gredu fod cronfa doethineb a ffraethineb yn guddiedig ynddo ef, a’i
ystum a’i lais yn awgrymu mai efe yw Doethawr y cwmni. Siaradai hwn yn
drystfawr a bostfawr ei arddull nes peri i bawb lwyr flino
(x27) Ar hyn trodd Isaac ato, gan ddweyd:—
“Dishgwl ’ma! I ti’n fachan clefar, o’s dim dowt. Ond fe ddala i beint o gwrw a
ti y gwna i i ti weyd ‘Naddo, wir,’ heb yn wpod i ti.”
Chwarddodd y cwmni’n iachus, ond ffromodd y bostwr yn fawr, ac ebai, fel twrci
chwyddedig:— “Fe ddala i beint na ’nei di.”
“Reit!” ebai Isaac, gan godi ei ysgwyddau, a wincio ar y cwmni, “‘ Nawr i
ddychra, w i am i ti atab cwestchwn ne ddou i fi. ’Ro’dd na ffermwr un
tro, a dafad, a buwch, a cheffyl, gytag e yn yr un câ! ’Ro’dd
bwlch yn y clawdd rhwng y câ’ ’ny a châ arall. A ’ro’dd y ffermwr eisha ca’l y
tri creatur trw’r bwlch hyn i’r câ’ arall. ’Nawr, w i am i ti atab i fi pun o’r
tri creatur ’na a’th trw’r bwlch gynta?”
“Wel,” ebai’r bostwr, gan rwbio ei ên. “W i’n meddwl ta’r fuwch a’th gynta.”
“Reit!” ebai Isaac, “Fe wetast y gwir. ‘Nawr, pun a’th wetyn?”
“Wel,” ebai yntau eilwaitb, “w i’n cretu ta’r ceffyl a’th wet ‘ny.”
“‘ Old on!” ebai Isaac yn wyllt, “I ti wedi clywad y ’stori o’r blân, suwr o
fod!”
“Naddo, wir!” ebai’r bachgen yn fostfawr.
(x28) “Da iawn,” atebai Isaac, tra
chwarddai’r cwmni, “I ti wedi colli’r wadger. ’Nawr, tâl am beint i fi.”
h54 Dyn yn hedfan
Galwodd
Isaac mewn tŷ tafarn mewn lle gwledig rhywle, fe ddywedir, rhwng
Achwynai y tafarnwr yn fawr ar arafwch
y fusnes yno, ac nid heb achos, gan nad oedd neb, byth, braidd, yn myn’d heibio
y ffordd hono. Wrth ei glywed yn achwyn meddyliodd Isaac y gallai fod o help
iddo, ac ebai, —”Mishtir! Os rowch chi fwyd a diod i fi, a lle i gyscu, fe
ffinda i ddicon o gystymars i chi cyn pen wthnos.” (Yr oedd hyn ar ddydd Llun).
Aeth yn fargen yn y man.
“ ’Nawr,” ebai Isaac, “w i am i chi hala rownd i’r wlad ’ma i gyd bora ’fory y
bydd dyn yn hedfan o ben clochdy yr Eclws ’ma Dydd Mercher am dri o’r gloch yn
y dwetydd (os bydd y tywydd yn atab),
ac y caiff pawb i wel’d a am ddim.”
“Isaac, i ti’n meddwl bo collad
“Nagw, nagw! “ ebai Isaac, “Gnewch chi fel w i’n gweyd, os otych chi am ga’l
cystymers.”
Felly bu. Gwasgarwyd y newydd drwy’r holl wlad.
(x29) Boreu dydd Mercher wele’r bobl yn tyru
o bob cyfeiriad mewn ceirt, eraill ar eu traed, eraill ar gefn ceffylau, fel pe
yn myn’d i ffair fawr. Wedi dod, rhaid oedd yn awr cael tipyn o fwyd a diod, a
chan nad oedd ond un tŷ tafarn yn yr ardal rhaid oedd cymerryd en
lluniaeth yno, er mawr lawenydd i Isaac a’i feistr. Erbyn tri o’r gloch yr oedd
tyrfa fawr wedi crynhoi o gwmpas clochdy’r Eglwys i wel’d y dyn yn hedfan.
Yr oedd rhai erbyn hyn yn dechreu twymno o dan ddylanwad y ddiod, ac yn gwel’d
y campwr yn hir cyn gwneyd ei ymddangosiad. O’r diwedd, wele Isaac ar ben y
clochdy. Tafla ei olwg at y dorf, yna tua’r wybren, yna eilwaith at y dorf. Cyn
hir, gwnaeth arwydd ei fod yn myn’d i gychwyn, ac ar hyn torodd banllef o
gymeradwyaeth o enau’r dorf. Ond bu rhai bron dechreu ymladd wrth waeddi am
ddistawrwydd, er mwyn i’r campwr gael chwareu teg i wneyd ei waith.
Wedi cael distawrwydd, cododd Isaac ei law i gyfeiriad y gvynt, ac ebai wrth y
dorf:— “Fechgyn! Ma’n ddrwg gen i orffod gweyd wrtho chi, ond ma’r gwynt yn rhy
gryf i fi feddwl treio hedfan heddy’. Dewch chi’i ’ma fory, fe fydd pethach yn
well, w i’n suwr.
(x30) Trodd y dyrfa ymaith yn siomedig, a
chyda llawer iawn o rwgnach a dadleu. Ond daeth yr ail ddydd, ac er fod cwmni
wedi aros o gwmpas y tafarndy drwy’r nos, ac wrth hyny wedi helpu llogell y
tafarnwr yn dda, eto, pan ddaeth tri o’r gloch y prydnawn, yr oedd y dyrfa, meddai
Isaac, yn fwy na’r dydd blaenorol.
Aeth Isaac eto i ben y clochdy, ac, wedi gwneyd nifer o ystumiau, fel y dydd
cyntaf, trodd at y bobl, gan ddweyd;— “Wir, fechgyn! Ma’n ddrwg gen i, ond ma’
rhaid i ddyn ga’l y tywydd reit, cofiwch chi, cyn gall a hedfan. Ma’n rhy
gymylog o dipyn heddy’ yto! Ond dewch chi ’ma ‘fory, fe fydd y tywydd yn ol
reit, w i’n suwr.”
Aeth y bobl ymaith yn fwy siomedig ac anfoddog na’r dydd o’r blaen. Ond daeth y
trydydd dydd, ac erbyn hyn yr oedd y dyrfa yn lluosocach eto. Am dri o’r gloch
wele Isaac ar ben y clochdy Wedi edrych o gwmpas, trodd at y dorf gan wenu a
dweyd;—
“Fechgyn! Welsoch chi ddyn yn hedfan yriôd?”
“Naddo, ni,” ebai’r dorf.
“Wel, shwd i chi’n erfyn i fi allu hedfan, ta?” ebai Isaac. A hyn fu
diwedd y rhyfeddod o wel’d dyn yn hedfan.
(x31) h55 Dim Smocio ’ma
Yr oedd Isaac eto ar y tramp, ac er nad oedd, hyd y gwyddom ni, yn arferol o
ysmocio, aeth i fewn i Goffi Tafarn i brynu gwerth ceiniog o fara gyda phîb yn
ei ben. O’i flaen ar y mur gwelid mewn llyth’renau breision y geiriau —
“NO SMOKING ALLOWED HERE.”
Safai Isaac, er hyny, wrth y counter, yn hollol ddi-ystyr o’r rhybudd, a’r bîb
yn ei ben.
Ar hyn, daeth gwr y ty ato, gan ddweyd:
“Weli di mo’r notis yco? O’s dim smoco i fod
’ma, cofia!”
“Begio’ch pardwn, Syr! W i ddim yn smoco,” ebai Isaac.
“Ddim yn smoco!” ebai’r dyn yn gyffrous, “Ond yw’r bîb yn dy ben di ’nawr! Shwd
i ti’n gallu’m atab i fel’na?”
“Eitha reit!” W i’n gwpod bo pîp yn y mhen im” ebai Isaac, “Ma’ sgitsha am y
nhrâd i hefyd, ond ’dyw hyny ddim yn profi bo fi’n cerad ’nawr, oti a?”
Safodd y dyn yn fud, ac aeth Isaac allan heb y bara.
(x32) h56
Gofyn
am Gino arall
Yr oedd yn rhaid i Isaac fegian cryn dipyn ar ei daith, gan fod yn well ganddo
bob amser fwyta bwyd na’i enill.
Un dydd aeth at ddrws un oedd wedi ei wel’d droion o’r blaen ar yr un neges.
Wedi gofyn am damaid i’w fwyta, trodd y wraig ato gan ddweyd:-
“Pe byswn i’n rhoi cino dda i chi, Isaac, ’nelsa chi ddim wetyn!”
“G’nelswn, wir, fe ’nelswn un peth wetyn,” ebai Isaac.
“Beth yw hyny?” gofynai’r wraig.
“Gofyn am gino arall tro nesa’,” ebai Isaac.
(x33) h57 Maeddu’r
Cybydd
Un dydd dynesai Isaac at dŷ yn y wlad. Gwyddai nad oedd modd cael dim
oddiyno ond ar waethaf y cybydd drigai yno. Ond ’doedd dim yn ormod i Isaac. Y
tu cefn i’r tŷ gorweddai perllan ffrwythlawn, a phlygai’r coed dan eu
golud yn addfedrwydd yr Hydref.
Deallai fod pob afal, a pheran, a phlwmsan, yn y berllan mor werthfawr yn
ngolwg y cybydd â’i ddau lygaid [sic] ei hun.
Edrychodd Isaac drwy’r ffenestr, a gwelai yr hen frawd yn trafod nifer o
sylltau ar y ford. Yr oedd wedi bod yn y farchnad y dydd hwn. Gwelai Isaac fod
y drws ar haner agor, ac ebai: - “Nawr, dyma tshawns i fi,” ac aeth i mewn heb
guro.
Cyn gynted ag y clywodd y cybydd swn traed ar y trothwy, neidiodd am y sylltau
fel dyn yn gafael am fywyd. Ond ebai Isaac wrtho:—
“O’s dim eisha i chi wyllti, ’rhen frawd! W i’n galw miwn i weyd wrtho chi am
gloi drws y berllan ’na wa’th ma’ lot o grots yn winco ar y falla [sic, = fala]
’na, o’s amser.”
Yn ei wylltineb, rhedodd y cybydd allan at
ddrws y berllan, er dyogelu’r ffrwythau, ac anghofiodd
(x34) ...fod
swllt neu ddau ar ol ar y ford. Cyn iddo gael amser i ddychwelyd pocedodd Isaac
y sylltau, gan ddweyd: -
“Ma’ llawn cystal i fi ga’l shâr o nhw, a bo’ nhw yn rwtu man hyn. Fydd a
ddim llawar ar ’i gollad o gymant ag w i’n gymryd o wrtho fa.”
Ac aeth i ffwrdd.
h58. Y Tai Secur
Un tro, ar ei daith, daeth i gymdogaeth Abercynon (Ynysowen y pryd hwnw).
Yn wahanol i’r hyn yw y lle yn awr, nid oedd yno yr amser hwnw ond ychydig o
dai, ac yn mhlith yr ychydig hyny ceid rhestr o dai gwag.
Daeth Isaac, heibio i’r “tai segur” yma, a gwelai ddyn yno yn sefyll i
edrych arnynt. Ebai’r dyn dieithr wrth Isaac: -
“Beth sy’ matar fod y tai ma’n secur, fachan?”
“Ddyn diarth! ’Sdim o chi’n diall cymant a ’na?” ebai Isaac.
“Nagw i, wir,” ebai’r dyn.
“Wel, ma hwna’n ddicon hawdd i atab. Ond ta neb sy’n byw yndi nhw!” ebai
Isaac, ac i ffwrdd ag ef.
(x35) h59. Y Dyn
Lwcus
Aeth Isaac i dŷ tafarn. Cyn gynted ag yr eisteddodd yno daeth y
forwyn ato, gan ofyn: -
“Isaac, beth ga’i ddod i chi?”
“Cusan wedi’i thwymo, a thipyn o fara chaws, os gwelwch chi fod yn dda,
Lisi! Ond stopwch chi, ’ngariad i,” ebai drachefn, “pryd i chi’n myn’d i
brioti, ’nawr?”
“‘Fory!” ebai’r eneth, mor sionc â’r wanol {sic: = ?wennol}.
“‘Fory!” ebai yntau, gan gymeryd
“O, neb llai na Isaac Lewis!” ebai’r eneth, gan wincio ar ei chariad
eisteddai yn y gornel yn gwylio’r symudiadau.
“Tyna chi’n wilia dipyn o sens ’nawr!” ebai Isaac. “Nawr, dewch â glased
bach o gwrw i fi ar gefan y briotas, ’newch chi?”
Talodd rhywun am lasied iddo, a thalodd yntau am hyny drwy ei
ffraethebion dihysbydd.
(x36) h60. Wado Shifft o Bydlars
Dro arall aeth Isaac i dŷ dafarn yn nghymydogaeth Aberdar, pan yr
oedd “gwaith tân” Abernant yn ei “ffwl fflôt,” ys dywedai ef.
Yno eisteddai nifer o bydlars yn diota, ac ebai Isaac wrth Sam
Fain, ei bartner, yn ddigon uchel i’r cwmni ei glywed: -
“Dishgwl ’ma, Sam! Pe byswn i mon dychra, fe wadwn shift o bydlars.”
‘Doedd dim eisiau dweyd rhagor. Neidiodd y cwmni fel cŵn cynddeiriog
o’i gwmpas, ac ebai y cryfaf ohonynt: -
“Fachan diarth! I ti’n gweyd y galli di wado shift o bydlars?”
“Otw!” ebai Isaac, “Ond sa’ di! Pwy shift {sic} i chi?”
“Shift {sic} y dydd,” ebai’r pydlars gyda’i gilydd.
“O, shift {sic} y nos o’n i’n feddwl,” ebai Isaac, ac aeth yn chwerthin
drwy’r lle.
(x37)
h61. Cadw’u Capa’ nhw’n gwmws
“Fechgyn!” ebai bachgen swrth, mewn tŷ tafarn un tro, “welsoch chi
ddim clefrach gwraig tafarn yriôd na hon, w i’n siwr.”
“Pam? Be’ s’ta ti wneyd am deni?” ebai Isaac.
“O, dim,” ebai’r bachgen, “ond ta hi yw’r dafarn-wraig glefra welas i
yriôd. Watshwch chi ddi pan daw rhywrai miwn ma’ (yr oedd cwmni dieithr wedi
dod i mewn y pryd hwnw), fydd ’i ddim yn hir cyn gweld rheiny, a’u ledo nhw i’r
rwm ora, a dyna lle bydd hi gyta nhw, wetny, nes a’n nhw ma’s, a ______”
“Wel, ia, ’sdim o ti’n diall,” ebai Isaac, gan dori ar ei stori, “Pe bysa
i’n myn’d ma’s o wrthi nhw am funad, falla ta’i thrin i nela nhw, fel ti!
Wet’ny, ma’ well iddi dreio catw’u capa nhw’n gwmws cyd a bydda nhw ’ma, wa’th
nid yn amal ma i’n ca’l y short ’na i’r ty ’ma.”
Aeth y cwynwr yn fud.
(x38)
h62. Colli’i Wadjan
Cyn hir, sylwai un o’r cwmni yn yr un lle fod Isaac fel pe yn wylo dagrau
yn hidl, ac ebai bachgen wrtho,
“Isaac! Pam i ti’n llefan felna?”
“Wedi colli’m wadjan w i,” ebai yntau, gan snwffian llefain, “fe a’th ’i
mam ’i off i ’Merica, a fe lefws ’itha’i
Estynwyd ddiod iddo, a chollodd Isaac ei ddagrau yn hwnw.
(x39) h63. Tarw yw hi
Un dydd aeth perchen ystâd fawr mewn lle gwledig allan am dro i’r caeau.
Pan yn dyfod ar hyd yr heol at glwyd un o’r caeau gwelai rywun yn rhedeg tuag
ato nerth ei draed o fewn y cae. Isaac, wrth gwrs, oedd y rhedwr.
Wedi iddo ddyfod at y boneddwr, a begio’i bardwn am dresbasi, gofynodd y
boneddwr iddo beth oedd yr achos ei fod yn rhedeg ato felly; ac ebai Isaac
drachefn, gan foes-ymgymru: -
“Begio’ch pardwn, Syr! Ond ma’ ta chi fuwch, Syr, yn y ca’ ’na, a bob tro
w i’n gwel’d buwch yn staran fel o’dd hona ’nawr, w i’n doti lawr ta’ tarw yw
’i.”
Ond y gwir am dani yw hyn. Yr oedd Isaac wedi bod yn cysgu ar y cae
drwy’r nos, a llunio yr ystori hon wnaeth rhag ofn cael ei gosbi am dresbasi.
(x40) h64. Fe serfas i a’n reit
Mewn rhan arall o’r wlad, wrth nesu at bentref, cyfafyddodd â merch y
Plâs oedd gerllaw. Yr oedd newydd ddod allan o’r carchar am dresbasi ar dir y
Plâs.
Ebai Isaac, wrth y ferch: -
“Miss ____! Sgsuwch chi fi am ych interypto chi ar yr hewl ffor’ hyn! Ond
wetsoch chi wrth ych tad rhywdro fod arian i ga’l gen i?”
Gwridodd yr eneth i’w dau glust rhag ofn fod rhywun yn ei gwel’d yn
siarad â thrampyn diolwg, fel yr ystyriai hi Isaac, ac ebai wrtho yn
ffroenuchel: -
“Naddo i, wir. A mwy na ’ny, wyddwn i ddim bo arian i ga’l ta chi o
gwbwl.”
“I chi’n eitha reit,” atebai Isaac, “o’s gen i ddim arian hefyd, ond fe
allsa dyn feddwl wrth weld ych tad chi’n y ngospi i am gerad y tir ’ma fod gen
i ddicon o arian i dalu’r ffein. Ond dewch chi! Fe serfas i a’n reit! Fe gymras
i jail yn lle ’ny, a newydd ddod ma’s w i. – dishgwlwch ar y mhen i, o’s dim
blewyn ar ol, a w i jest a starfo.”
Cafodd chwech, ac aeth i ffwrdd yn llawen.
(x41) h65. Chusaniff neb o nhw hi
Wrth fynd i un o’i hoff dafarndai, un tro, gwelai Isaac y forwyn wrth y
drws yn siarad â rhywun. Yr oedd y forwyn wedi gwrthod dod a diod iddo ef y
dydd cyn hynny.
Aeth Isaac at y Feistres, ac ebai: - “Mishtras! Os i chi moyn catw
caritor y lle ’ma lân, well i chi watshan y forwn ’na sy’ wrth y drws. Mae’n cario
mla’n yn bert iawn sha rhywun tu fa’s ’na!”
Ar hyn daeth y forwyn i’r tŷ. Rhuthrodd y Feistres arni fel arthes
gynddeiriog, gan ddywedyd:
“Margrett {sic}! O’s dim racor o’ch sploits chi i fod tu fa’s i’r drws ’ma!
Ma’ gormod o fechgyn yn dod ar ych gol chi o lawar (a do’s dim un o nhw yn galw
glased ’ma byth). Fe aiff y tŷ ’ma yn laffin stoc i’r dre. ’R o’dd hwna’n
y’ch cusanu chi ’nawr, ond o’dd a?”
“Mishtras! _____”
“Dyna ddicon. Dim bac ansars i fi cofiwch. Fe ä i at y drws y munan y tro nesa,” ebai, gan
godi ei chloch.
(x42) Gwelodd Isaac ei fod
wedi gwneyd y lle yn dwym i’r forwyn, ac ebai: -
“Iä, iä! Marged fach! Gadewch chi iddi fyn’d at y drws. Chusaniff neb o
nhw hi, wi’n suwr.”
Ar hyn, trodd y wraig i arllwys ei llid
h66. Gwasgu Gwa’d ma’s o Ha’rn
Nid oedd diwedd ar driciau Isaac. Un tro, ebai wrth gwmni llawen mewn
tŷ tafarn:
“Fechgyn! Gwelsoch chi ddyn yn gwasgu gwa’d ma’s o ha’rn yriod?”
“Naddo ni,” ebai’r cwmni, ac ebai un ohonynt
drachefn: -
“Fe ro i beint o gwrw i ti os gwnei di a.”
“Reit! Dera tsho o faco i fi, a esyn y pocar ’co
o wrth y tân,” ebai Isaac.
(x43) Felly y bu. Wedi cnoi a
cnoi y tybaco, cydiodd Isaac yn y pocar, a dechreuodd wasgu a gwasgu (ar yr un
pryd, heb yn wybod i’r cwmni, gollyngai sudd y dybaco o’i enau ar hyd y pocer).
Cyn hir, gwelant rhywbeth tebyg i waed yn syrthio
oddiar flaen y pocer, ac ebai un o’r cwmni: -
“Iä wir! Dyna fe hefyd! Dishgwlwch ar y dyferon yn cwmpo.”
Clapiwyd cefn Isaac am y tric, a chafodd shâr o’r
hyn oedd yn pasio yno.
h67. Lle net yn y Jail
Wrth dramwy drwy ystrydoedd Merthyr un dydd
gwelai Isaac grotyn bychan (ar yr hwn yr oedd cnwd tew o wallt hir) yn cael ei
ddwyn i’r carchar. Wylai y
crotyn yn druenus, ac ebai Isaac wrtho: -
(x44) “Sdim
eisha i ti lefan felna, bachan! I ti’n myn’d i le nêt. W i wedi bod ’no munan.
A ma’n werth i dy short di a fi fyn’d ’no amball waith, ta’ fa ddim ond er mwyn
ca’l tori’n gwallt. Wa’th ma’ eisha’n dost arnot ti, ta beth.”
h68. Y Bara yn y
Ffenast
Yr oedd Isaac un dydd yn newynog, fel arfer,
ac heb ddim i brynu bwyd. Safai
o flaen siop fwyd, fel pe’n methu deall beth oedd yn y ffenestr. Yno yr oedd
amryw dorthau wedi eu gosod yn rhesi ar eu gilydd.
Ar hyn, daeth cyfaill i Isaac heibio, gan ofyn iddo: -
“Isaac, beth ti’n ’neyd man hyn?”
“Ffaelu diall beth yw rheina’n y ffenast ’na w i,” ebai yntau.
“Bachan! Ond ta’ torthau yw rheina,” ebai’r cyfaill.
“Dyna fe!” ebai Isaac, “o’n i mwn pysl pun a ta bara o’n nhw ne
beidio. ‘Nawr, os ta tortha i nhw, dyma gyd sy’ gen i weyd, ma’
un o nhw yn y lle ’rong.”
(x45) “Yn y lle
’rong!” ebai’r cyfaill, gan feddwl fod rhywbeth o’i le yn y ffenestr.
“Ia, yn y lle ’rong!” ebai Isaac, a chan
bwyntio at ei gylla gwag, ebai drachefn –
“Ma’ mwy o le i un o nhw man hyn, na sy’n y
ffenast ’na.”
Deallodd y cyfaill yr hint, a phrynodd un iddo.
h69. Ddim mellach na Byrcaned
Fe ŵyr pawb sy’n gyfrwydd â
Safai Isaac un tro yn ngorsaf Merthyr yn gwylio tyrfa o bobl yn
myn’d gydag Excursion i Lundain. Adnabyddwyd ef gan gwmni o’r rhai oedd
yn myn’d, ac ebai un ohonynt wrtho: - “Hylo, Isaac! I ti’n dod i Llyndan?”
“Nagw i!” atebodd yntau.
“Fuc chi yno yriod?” gofynai un arall.
“Naddo i. Fuas i ddim mellach na Byrcaned ar y lein ’na,” ebai
yntau, gan symud i ffwrdd.
(x46)
h70. Un bach ar ’i Oetran
Un Dydd Nadolig aeth Isaac i Bontypridd, a galwodd mewn tafarn o’r
enw New Inn, lle yr oedd yn dra adnabyddus, ac yn ffafryn mawr. Yr
oedd y tafarnwr newydd agor potelaid o “hen Chwisci” ar y pryd. Gan ei bod yn
adeg lawen, a phawb, yn enwedig cystymars y New Inn, yn teimlo yn bur
rhyddfrydig {sic – dim treiglad} eu calonau, estynodd y tafarnwr lasiad o’r
Chwisci i Isaac, gan ddweyd: -
“Whwra, Isaac! Nid yn amal i ti’n ca’l tasto
wishci o’r short hyn, ma’ hwn yn un-ar-ucian o’d heddy’.”
Cododd Isac y gwydryn rhyngddo â’r goleu, ac
ebai, -
“Wir, Mishtir! Un bach iawn yw a ar i oetran,
ta beth.”
h71. Gwell un “corph”
na dou
Aeth Isaac at ddrws tŷ unwaith, lle yr
arferai alw yn gyson am yr unig rheswm {sic – dim treiglad} ei fod bon amser yn
cael tamaid yno.
(x47) Daeth y wraig at y drws, ac wedi clywed ei stori, dywedodd wrtho:
-
“Wir, Isaac, mae’n rhaid i chi alw yto! Ma’ Mishtir yn rhy dost i
fi feddwl am ’neyd bwyd i chi heddy’. W i’n dishgwl i wel’d a’n gorphan ’i bob
munad.”
“Wir, Mishtras fach, ma’n ddrwg gen i am y’ch trwpwl chi,” ebai
Isaac, “ond dishgwlwch, fydd a ddim cymant o gost i chi ga’l un “corph”
na dou yn y ty – wa’th fydda ina ddim yn hir cyn i gorphan ’i os na
cha’i rwpath i fyta.”
Chwarddodd y wraig yn iachus, a galwodd
h72. Pidwch marw man hyn, ta beth
Dro arall, curodd wrth ddrws ty hen wraig oedd yn enwog am ei dull
trwsgl o yru pawb oddiwrth ei drws yn waglaw. Gwyddai Isaac am dani, ac aeth i
wajer â chyfaill y byddai iddo ef lwyddo i gael pryd o fwyd ganddi.
(x48) Daeth
y cyfaill hyd at y glwyd gydag ef, ac ymguddiodd yno i gael gwel’d sut y troai
pethau alla. Curodd Isaac wrth y drws, ac wedi cael agoriad gan yr hen wraig, dechreuodd
ar ei stori, ond cyn iddo hanner orphen cododd yr hen wraig ei chloch, gan
daeru nad oedd dim ganddi hi i roi iddo.
“O, wel! Os ta’ felna ma’ i,” ebai Isac, “ma ’run man marw man hyn a rhla
arall!”
Ac ymgollodd yn swpyn ar draws y trothwy, fel pe yn paratoi i farw. Ar
hyn, gwaeddodd yr hen wreigen: -
“Bobol anwl, pidwch marw man hyn, ta beth! Dewch miwn! Fe ’na i damed o
fwyd i chi miwn wincad, ’nawr.”
Felly cafodd Isaac fwyd, ac enillodd y wajer.
h73. Un o ’Wain y wlad
hyn
Cyfarfyddodd Isaac un tro â dyn oedd wedi bod yn
(x49) Aeth
Isaac o gwmpas ag ef i ddangos y lle iddo, ac wrth ei wel’d yn diystyru pobpeth
a welai, ebai Isaac ynddo ei hun –
“Der di, fe ddaw nhro i cyn bi hir.”
Aethant yn ol bryd swper i’r tafarndy, lle y
bwriadai y “dyn diarth” aros dros y nos.
Erbyn hyn yr oedd Isaac wedi llwyddo i gael
“crabyn” o siop bysgod gerllaw. Rhedodd yn ddistaw bach, heb yn wybod i neb, i
ystafell wely y dyn dieithr, a gosododd y “crabyn” dan y dillad yn nhraed y
gwely.
Aeth y bachgen cyn hir i’w wely, gan ei fod wedi blino. Erbyn hyn yr oedd
Isaac yn glustiau i gyd. Ar fyr, clywsant ysgrech annaearol yn dod o ystafell
wely y dyn dieithr, a rhedodd pawb i wel’d beth oedd yn bod. Yno, cawsant ef
wedi neidio allan o’r gwely, a’r “crabyn” yn dal wrth ei droed, a gwaeddai ar y
tafarnwr: -
“Beth yw hwn sy’n sownd i’n nhrod i?”
Atebodd Isaac ar unwaith: -
“Un o ‘wain y wlad hyn yw hona, bachan!”
Chwarddodd pawb, ac unodd y bachgen, wedi cael y
“crab” yn rhydd.
(x50) h74. Doncis Affrica
Un tro, ymwelodd Circus â phentref yn
Morganwg, lle yr arhosai Isaac ar y pryd. Aeth ef a’i bartners i wel’d y “tyrn
owt.” Tnyai nifer o eliphantod y cerbyd trymaf yn y “tyrn owt.” Pan ddaeth y cawrfilod heibio,
edrychodd partners Isaac arnynt mewn syndod, gan ddweyd: -
“Beth all y creduried ’na fod?”
“Fechgyn!” ebai Isaac, “‘s dim o chi mor dap a ’na, o’s bosib! Ond
ta doncis affrica yw rheina. I chi’n gwel’d, ma gyta nhw gwt, - un n^pl, a’r
na’ll mlân.”
(x51) h75. Baw Caseg
Un tro, safai Isaac gerllaw y Bont Harn yn Merthyrtudful, gan
edrych ar y dom oedd ar yr heol. Ymddangosai fel pe mewn penbleth. Ar hyn,
daeth rhywun ato, gan ofyn:
“Isaac! Be sy’n bod? I ti wedi colli rwpath?”
“Nagw i. Ffaelu diall beth yw hwn w i!” ebai, gan gyfeirio at y
‘dom’ ar y llawr.
“Ond ta ‘baw ceffyl’ yw hwnna!” ebai’r cyfaill.
“O iefa! O’n i’n meddwl falla ta’ baw casag
odd a!’ ebai Isaac.
(x52) h76. Gweld y Ffram
Dro arall, sylwodd ar rywun yn arwain ceffyl
anarferol o deneu heibio, ac ebai Isaac wrth Sam Fain: -
“Sam! Iefa ma lle ma’n nhw’n gneyd cyffyla?”
“Pam i ti’n gofyn ’ny, Isaac?”
“Gweld y ffrâm ’na’n paso o’n i,” ebai yntau.
(x53)
h77. Three Meils an’ a Haff
Yr oedd Isaac a Sam ar y tramp yn Lloegr. Teithiant i gyfeiriad Lerpwl.
Ar y ffordd gwelsant ddyn, ac ebai Isaac wrtho: -
“Faint o ffordd sy’ o ’ma i Lifarpwl, ddyn diarth?”
Gan mai
“Thri meils an’ a hâff.”
“Beth wetws a?” ebai Sam.
“O, gweyd fod gyta ni dair mil a rhyw râff
yto,” ebo Isaac. “A wn
i ddim, Sam, o’s dim llawar o ots gen i am y tair mil ’na, ond beth am y rhaff?
Pwy sy’n gwpod i hyd, wn i?
(x54) h78. Taro
Un
Yn nes yn mlaen ar yr heol y daethant at efail gof. Gan mai
“What teim is it,
plûs?”
Gweithiai un o’r gofiaid o’r tu fewn ar bwys
y ffenestr. Wedi cael ei ddychrynu gan ben, a llais Isaac yn dod trwy’r twll,
tarawodd y gof ef â’r morthwyl ar ei ben, a dywedodd, - “It’s jest stryc won.”
Tynodd Isaac ei ben yn ol yn gyflÿm, gan ateb, -
“Ei am glad that it
didn’t strike twelf.”
(x55)
h79. Ffordd Net i ’Neyd Arian
“W i wedi ffindo ffordd nêt i neyd arian!” ebai Isaac wrth gwmni
difyr un tro.
“Pwy ffordd yw hono?” gofynai un o honynt, yr hwn oedd yn fwy o
“rabyn” na’r lleill.
“W i ddim myn’d i roi’r secret off mor shêp a ’na!” ebasi
Isaac. “Der di ’ma fory a phum punt yn dy law, fe ro i wpod i ti.”
Felly bu. Daeth y bachgen â’r pum punt, yn ol y cytundeb.
“Nawr! W i moyn ca’l yr arian ar y ford man hyn cyn startio,” ebai
Isaac. Rhoddodd y bachgen y pum punt ar y ford.
Ar hyny, cydiodd Isaac ynddynt, gosododd hwn
yn ei boced, ac ebai –
“Tyna ti! Tyna beth yw ffordd nêt i ’neyd arian!”
Ond bu raid iddo ei ddychwelyd yn bur gyflym, tra y chwarddai’s
cwmni yn iachus.
(x56) h80
Gwerthu Cig Llo
Aeth Isaac at siop gig unwaith, gan ofyn:—
“Ffor’ i chi’n gwerthu’r cig llo heddy’?”
“Pymtheg y pownd!” ebai’r cigydd.
“Pymtheg!” ebai Isaac, gan agor ei
lygaid. “O’s dim ryfeddod i Shoni Lwk Owt i brynu fferm pwy ddwyrnod ’ma ta!
Ma’ fe shwd fachan am gig llo, i chi’n gwel’d, a ’nawr fe all ga’l llo bach
pryd myn a, am ddim.”
(x57) h81 Gwerthu Ceiniog o Shrimps
Yn nes yn mlaen daeth Isaac at siop bysgod fawr. Yno, ar lestr, mewn lle a,lwg,
yr oedd ddalfa dda o frythyllod wedi eu gosod yn daclus, a’r olwg arnynt yn
ddigon i godi chwant bwyd ar bwy bynag ddelai heibio. Aeth Isaac atynt, a
gofynodd i’r siopwr:—
“Beth y pownd yw’r brythyllod ’ma?”
“Deunaw!” ebai’r siopwr, gan rwbio’i ddwylaw.
“Swêt, y boy! Dewch â werth ceinog o shrimps
i fi, os gwelwch chi’n dda!” ebai Isaac yn siomedig.
(x58) h82 Ledo’r Cawl iddi le
Aeth Isaac i ginio unwaîth gyda chyfaill iddo. Cawl oedd i ginio, a chawl pur
“deneu,” fel yr ymddengys. Nid oedd yno ychwaith ddigon o lestri at y pwrpas, a
bu raid i Isaac gymeryd ei gawl mewn dysgl dê fawr. Wedi edrych ar gynwysiad
teneu y ddysgl, heb ddweyd un gair, tynodd Isaac linyn o’i boced, rhwymodd ef
am ddolen y ddysgl, a dechreuodd ei thynu tuag ato. Af hyn, gofynodd ei gyfaill
iddo:—
“Beth i ti’n ’neyd, Isaac? “
“Treio ledo hwn iddi le w I,” ebaî “yntau. “Wa’th o’s gytag a ddim un llycad yn
i ben - dishgwl arno!”
Wrth y “llyced” golygai Isaac y “ser” sydd bob amser ar wyneb cawl bras.
(x59) h83 Isaac a’r Dirwestwr
Ar un o heolydd Aberdar cwrddodd Isaac â Dirwestwr selog, yr hwn a’i hadwaenai
yn dda. Aeth y Dirwestwr ato i’w gynghori, gan siarad fel hyn:—
“Isaac, ’sdim o ti’n meddwl, fachan, bo’ i’n bryd i ti dreio diwygio dipyn, a
gatal yr hen ddiod ’na! I ti’n gwpod nag o’s dim lles ynddi — ’dyw i ddim ond
gelyn perffaith i ti, a —”
“Saf di ‘nawr!” ebai Isaac. “I ti’n gweyd ta’n ngelyn i yw’r ddiod?”
“Otw,” ebai’r Dirwestwr.
“Ol reit!” ebai Isaac. “W i ddim yn gneyd dim ond beth i chi’n ddysgu ta!”
“Beth yw hyny?” gofynai’r Dirwestwr.
“Caru ’ngelyn,” ebai Isaac.
(x60) h84 Cyllath heb ddim c’wilydd arni
Ar ddiwrnod “Ffest Clwtb” aeth Isaac i dafarndy yn Glan-y-bâd, gerllaw
Trefforest. Fel arfer, daeth yn brydlon, ac yn newynog iawn. Gosododd gwraig y
tŷ dorth, a lwmpyn o fenyn fresh, a diod, o’i flaen.
Nid hir y bu Isaac cyn gwneyd ei ol ar y dorth a’r ymenyn, a galw am rhagor o
ddiod. Dechreuodd y wraig deimlo yn anfoddog tuag âto. O’r diwedd cododd Isaac
i fyn’d allan i’r tu cefn, ac aeth y wraig at y ford gan feddwl gosod yr hyn
oedd weddill o’r neilldu, ond ebai Isaac:—
“Mishtras! ’sdim o fi wedi cwpla yto! Fe ddwa i ’nol at y bwyd ’na, ‘nawr.”
Pan ddychwelodd, ni allai yn ei fyw godi’r ymenyn i’w roi ar y bara. Y rheswm o
hyn oedd fod y wraig wedi twymo’r gyllell pan y bu efe
(x61) allan, gan feddwl y buasai hyny yn
ddigon o awgrym iddo ei bod yn bryd iddo orphen. Ond ebai Isaac:—
“Neno dyn! Be sy ar y gyllath ’ma?”
“Cwilydd sy arni i’ch gwel’d chi’n byta cymaint!” ebai’r wraig, oedd yn sefyll
gerllaw.
“O, sefwch chi! Ma’ gen i gyllath na welws ’i ddim
cwilydd yriod!” ebai yntau, gan dynu ei gyllell boced allan, a dechreu lledu’r
menyn ar y bara.
Bu raid i’r wraig adael iddo, nes y gorphenodd o’i ran ei hun.
(x62) h85 Byta’r Ci Bach
Dro arall, aeth Isaac i Ffest Clwb, mewn pryd, ac yn newynog, fel arfer.
Ymddengys fod yno le da iawn, ô’r hyn leiaf, bwytaodd ac yfodd Isaac fwy mewn
gwirionedd nad allai ei gylla ddal, a theimlai yn bur anesmwyth. Yn y cyflwr
ymollyngodd i gysgu.
Cyn hir llanwyd yr ystafell gan bobl
awyddus i wneyd eu hol ar y pethau da oedd b’u blaen. Gan fod digon o
ddarpariaeth ar eu cyfer, nid oeddynt yn rhy ofalus pa fodd yr ymddygent tuag
at y bwydydd blasus. Collent ddarnau o gig, a thatws, a chabej, a diod, ar y
llawr, nes gwneyd y lle yn gymysgfa i gyd.
Wedi swpera, aeth y dorf allan i ystafell arall, lle y cynhelid cyngherdd yn
nglyn â’r Ffest.
Yn y cyfamser, daeth ci bychan i mewn i ystafell y wledd, ganddechreu llarpio y
bwydydd oedd ar y llawr.
(x63) O’r diwedd, dihunodd Isaac. Cofiodd ar
unwaith pa le yr oedd, a’r cyflwr yn mha un yr aeth i gysgu ynddo. Edrychodd ar y llawr. Gwelai yno y gymysgfa o fwyd a diod oedd o’i gwmpas. Methai
ddeall paham yr oedd y bwydydd a’r diod ar y llawr felly, a daeth i’r
penderfynaid mai ei gylla ef oedd wedî methu dal yr hyn i wasgwyd iddo cyn yr
aeth efe i gysgu.
Edrychodd eilwaith, ac fel pe wedi cael cadarnhad pellach i’w feddwl, ebai:—
“Iä. O’s
dim dowt am deni! ’Ngwaith i yw hwn!” Yna, gan bwyntio â’i fys, ebai drachefn:—
“Dyna’r cig fytas i — a dyna’r tatws — a dyna’r cabej — ond wir, w i ddim yn
cofio fyta’r ci bach’ ’na, hefyd!”
DIWEDD

Gruffydd Wynn. NOFEL GARWRIAETHOL. 6c.
Gruffydd Llwyd. Dama Newydd. Gan
ROGER THOMAS, Ystalyfera. 1s.
Caru, Priodi a Byw. &c. 6c.
Prynwch eich Cherries eich hun. (BUY YOUR OWN CHERRIES). 6c.
Hanes Twm Shon Catti (Cymraeg) 1s.
Hanes Twm Shon Catti (Saesoneg). &c.
Hanes Isaac Lewis. Cymraeg a
Saesoneg. Llyfr mwyaf digrif yn yr Iaith. Mewn dau Lyfr yr un. 6c.
Bob Owen. NOFEL GYMRAEG. 1s.
Dic Aberdaron (Cymraeg a Saesoneg). 6c.
The Welshman 1s. 6c.
Danfoner am Rhestr [sic] o Lyfrau eraill drwy y post am ddim.
Yr oll i’w cael gan -
D. DAVIES,
W.T. Maddock & Co., Printers,
|
DOLENNAU AR GYFER GWEDDILL Y GWEFAN
HWN ...... Y
Wenhwyseg - tafodiaith y De-ddwyrain º |
Adolygiadau
diweddaraf: 2001-10-28, 2005-09-07
Sumbolau
arbennig: ŷ ŵ
Isaac Lewis, y
Crwydryn Digri / W R Jones (Pelidros), Merthyr Tydfil /
(Blwyddyn: Anhysbys. 1910?)
Ble’r
wyf i? Yr ych chi’n ymwéld ag un o
dudalennau’r Gwefan “CYMRU-CATALONIA”
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web “CYMRU-CATALONIA” (=
Gal·les-Catalunya)
Weø(r) àm ai? Yùu àa(r) vízïting ø peij fròm dhø “CYMRU-CATALONIA” (=
Weilz-Katølóuniø) Wéb-sait
Where am I? You are visiting a page from the “CYMRU-CATALONIA” (=
Wales-Catalonia) Website
CYMRU-CATALONIA
Edrychwch ar fy Ystadegau / Mireu les estadístiques / View My Stats