kimkat1225k Isaac Lewis, y Crwydryn Digri gan W R Jones (Pelidros), Merthyr Tydfil. Yr Ail Lyfr. (Blwyddyn: 1908) Cyhoeddedig gan David Davies, Strand, Glynrhedynog. 1225k Gwefan Cymru-Catalonia / la Web de Gal·les i Catalunya - Wales-Catalonia Website.

29-05-2017

http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_015_isaac_lewis_02_1996k.htm

Yr Hafan kimkat0001

..........
2657k Y Fynedfa yn Gymraeg kimkat2657k

....................
2001k Yr Arweinlen kimkat0009k

..............................0960k Cywaith Siôn Prys (Testunau yn Gymraeg) - Mynegai
kimkat0960k

.......................................
y tudalen hwn

 

 

0003j_delw_baneri_cymru_catalonia_050111
..

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Catalunya i Gal·les
 

 Cywaith Siôn Prys - Testunau Cymraeg ar y We

 

Isaac Lewis, y Crwydryn Digri -

Yr Ail Lyfr

W R Jones (Pelidros), Merthyr Tydfil

(Blwyddyn: 1908)

 

(i weld y llyfr cyntaf, ewch yma: 1225k )

0275g_delw_map_cymru_a_chatalonia_llanidloes

 

Ein sylwadau ni mewn teip oren

Rŷn ni wedi cadw at yr orgraff wreiddiol - ar wahân i ambell gambrintiad amlwg. Dynodir y tudalennau felly
(x20)
,
(x21)
, ayyb.

 

 

0384j_isaac_lewis_050905

 

Ail Lyfr. 6ch. (= chwecheiniog)

Isaac Lewis

Y Crwydryn Digrif

Pob Hwlfraint wedi ei ddyogelu.

Cyhoeddedig gan D. Davies, Llyfrwerthwr, &c., Ferndale.

I’w cael gan bob Llyfrwerthwr.

__________________________________________________________

 

0389j_isaac_lewis_cyfrol_2_llyfrau_ar_werth_050905

 

Llyfrau ar Werth

gan D. Davies, Ferndale

Ysgol Farddol gan Dafydd Morganwg 2/-

Ysgol Gymreig 6c.

Adroddiadau i Blant Cymru gan Pelidros 6c.

Hen Gerddi Cymru gan rai o BRIF FEIRDD y ganrif ddiweddaf 6c.

Hen Lyfrau Cymreig (Ystraeon).

Maid of Cefn Ydfa. Cymraeg a Saesoneg.

Elen Deg o’r Cwm. (Gan Awdur “Maid of Cefn Ydfa”). CREIGFRYN HUGHES. 1s.

Y Ferch o’r Scer. Yn Gymraeg a Saesoneg. Gan CREIGFRYN HUGHES.

I’w cael gan bob Llyfrwerthwr.

__________________________________________________________

 

 TUDALEN
(x1):

 

0390j_isaac_lewis_cyfrol_2_tudalen_y_teitl_050905

 

ISAAC LEWIS, Y CRWYDRYN DIGRI

AIL GYFROL

gan W R Jones (Pelidros), Merthyr Tydfil.

POB HAWLFRAINT WEDI EI DDIOGELU

Cyhoeddedig ac ar werth gan

 

D. DAVIES, 1 and 2. STRAND, FERNDALE..

 

__________________________________________________________

 

TUDALEN
(x2): GWAG

 

__________________________________________________________

 

TUDALEN
(x3):

 

Nodiad yr Awdwr.

 

ANWYL DDARLLENYDD, Yn yr ail Gyfrol hon o “ISAAC LEWIS, Y CRWYDRYN DIGRIP,” gosodaf yn dy law yr Ystraeon hyny adawyd allan, ac a ddaethant i’m côf trwy gymhorth cyfeillion i mi a chydnabod ISAAC LEWIS, wedi cyhoeddiad y llyfr cyntaf. Fy unig awydd yn yr ymgymeriad hwn, fel yn y llall, ydyw ceisio cadw cadw ar “gôf-lyfr” ddywediadau ffraethbert un fu yn dra adnabyddus yn ei ddydd yn Nghymoedd Glô Morganwg. Teg yw nodi nad oes a fynof â bywyd a moesau y gwrthddrych, eithr yn unig cadw rhag ddifancoll y ffraethebion cyfoethog gysylltir a’i enw ef, a thrwy hyny ychwanegu rhyw gymaint ar lenyddiaeth ddifyr, brin, ein cenedl. Cyhoeddir y Gyfrol hon, fel y cyntaf, gan Mr. D. DAVIES, Llyfrwerthwr, Ferndale, yr hwn yw perchenog yr hawlfraint (o’r ddwy) yn Gymraeg, a’r cyfieithiad Saesneg ohonynt. Ebrill 16eg, 1908.

 

__________________________________________________________

 

TUDALEN
(x4): GWAG

 

__________________________________________________________

 


(x5, x6):

 

CYNWYSIAD

 

{RHIF YR HANESYN}

{PENNAWD}

{TUDALEN YN Y LLYFR GWREIDDIOL}

 

Nodiad yr Awdwr

x3

 

 

 

 

1 O GYLCH EI WAITH —           

 

 

 

 

h33

Patshis Gwyn             

x7

h34

Cwiro’r Trowsis

x8

h35

Ceffyla’Gwan

x9

h36

Isaac a’i Bartner â gwaith Gôf

x10

h37

Wthian Fach

x12

h38

Dim Gwaith ’ma heddy’     

x13

h39

Gwitho ar Shar

x13

h40

Crotyn Cwrlo

x14

h41

Ti ne’ fi sy’ fod ’ma

x15

h42

Tân! Tân! Tân!

x15

h43

Y rheswm na chawsent waith

x17

h44

Mam-y-lo

x18

h45

Col’ar i chi?

x19

 

 

 

 

II AR Y TRAMP —

 

 

 

 

h46

Tram-tra-râd

x20

h47

Llestar i gario’r Oil

x22

h48

Het y Forwyn

x23

h49

Ffaelu gwel’d dim ynddi

x24

h50

Cwm Rhondda fel ffetan

x24

h51

Dim lle i amheuaeth

x25

h52

Y Lilipiwshans

x26

h53

Dywed “Naddo, wir”

x26

h54

Dyn yn hedfan

x28

h55

Dim Smocio ’ma

x31

h56

Gofyn am Gino arall

x32

h57

Maeddu’r Cybydd

x33

h58

Y Tai Secur

x34

h59

Y Dyn Lwcus

x35

h60

Wado Shift [sic] o Bydlars

x36

h61

Cadw’u Capa’ nhw’n gwmws

x37

h62

Colli’i Wadjan

x38

h63

Tarw yw hi

x39

h64

Fe serfas i a’n reit

x40

h65

Chusaniff neb o nhw hi

x41

h66

Gwasgu Gwa’d ma’s o Ha’rn

x42

h67

Lle net yn y Jail

x43

h68

Y Bara yn y Ffenast

x44

h69

Ddim mellach na Byrcaned

x45

h70

Un bach ar ‘i Oetran

x46

h71

Gwell un “corph” na dou

x46

h72

Pidwch marw man hyn, ta beth

x47

h73

Un o ’Wain y wlad hyn

x48

h74

Doncis Affrica

x50

h75

Baw Caseg

x51

h76

Gweld y Ffram

x52

h77

Three Meils an’ a haff

x53

h78

Taro Un

x54

h79

Ffordd Net i ’Neyd Arian

x55

h80

Gwerthu Cig Llo

x56

h81

Gwerthu Ceiniog o Shrimps

x57

h82

Ledo’r Cawl iddi le

x58

h83

Isaac a’r Dirwestwr

x59

h84

Cyllath heb ddim c’wilydd arni

x60

h85

Byta’r Ci Bach

x61

 

 

 

 




(delwedd 5340)

 (0:) (CLAWR) 


 

 

 




(delwedd 5341)


(x1): TUDALEN TEITL
 
 

 

 




(delwedd 5342)


(x3):
 
Nodiad yr Awdwr.
 
ANWYL DDARLLENYDD, Yn yr ail Gyfrol hon o “ISAAC LEWIS, Y CRWYDRYN DIGRIP,” gosodaf yn dy law yr Ystraeon hyny adawyd allan, ac a ddaethant i’m côf trwy gymhorth cyfeillion i mi a chydnabod ISAAC LEWIS, wedi cyhoeddiad y llyfr cyntaf. Fy unig awydd yn yr ymgymeriad hwn, fel yn y llall, ydyw ceisio cadw cadw ar “gôf-lyfr” ddywediadau ffraethbert un fu yn dra adnabyddus yn ei ddydd yn Nghymoedd Glô Morganwg. Teg yw nodi nad oes a fynof â bywyd a moesau y gwrthddrych, eithr yn unig cadw rhag ddifancoll y ffraethebion cyfoethog gysylltir a’i enw ef, a thrwy hyny ychwanegu rhyw gymaint ar lenyddiaeth ddifyr, brin, ein cenedl. Cyhoeddir y Gyfrol hon, fel y cyntaf, gan Mr. D. DAVIES, Llyfrwerthwr, Ferndale, yr hwn yw perchenog yr hawlfraint (o’r ddwy) yn Gymraeg, a’r cyfieithiad Saesneg ohonynt. Ebrill 16eg, 1908.
 
 

 

 




(delwedd 5343)


(x5):
 
CYNWYSIAD
 
YNWYSIAD
 
{RHIF YR HANESYN} / {PENNAWD}/ {TUDALEN YN Y LLYFR GWREIDDIOL}
 

Nodiad yr Awdwr x3
    
I O GYLCH EI WAITH —  
    
h33 Patshis Gwyn    x7
h34 Cwiro’r Trowsis x8
h35 Ceffyla’Gwan  x9
h36 Isaac a’i Bartner â gwaith Gôf x10
h37 Wthian Fach   x12
h38 Dim Gwaith ’ma heddy’  x13
h39 Gwitho ar Shar x13
h40 Crotyn Cwrlo x14
h41 Ti ne’ fi sy’ fod ’ma x15
h42 Tân! Tân! Tân! x15
h43 Y rheswm na chawsent waith x17
h44 Mam-y-lo  x18
h45 Col’ar i chi? x19
    
II AR Y TRAMP  
    
h46 Tram-tra-râd  x20
h47 Llestar i gario’r Oil  x22
h48 Het y Forwyn  x23
h49 Ffaelu gwel’d dim ynddi  x24
h50 Cwm Rhondda fel ffetan  x24
h51 Dim lle i amheuaeth  x25
h52 Y Lilipiwshans  x26
h53 Dywed “Naddo, wir” x26
h54 Dyn yn hedfan  x28
h55 Dim Smocio ’ma  x31

 

 




(delwedd 5344)


(x6)
h56 Gofyn am Gino arall  x32
h57 Maeddu’r Cybydd  x33
h58 Y Tai Secur x34
h59 Y Dyn Lwcus x35
h60 Wado Shift [sic] o Bydlars x36
h61 Cadw’u Capa’ nhw’n gwmws x37
h62 Colli’i Wadjan x38
h63 Tarw yw hi x39
h64 Fe serfas i a’n reit x40
h65 Chusaniff neb o nhw hi x41
h66 Gwasgu Gwa’d ma’s o Ha’rn x42
h67 Lle net yn y Jail x43
h68 Y Bara yn y Ffenast x44
h69 Ddim mellach na Byrcaned x45
h70 Un bach ar ‘i Oetran x46
h71 Gwell un “corph” na dou x46
h72 Pidwch marw man hyn, ta beth x47
h73 Un o ’Wain y wlad hyn x48
h74 Doncis Affrica x50
h75 Baw Caseg x51
h76 Gweld y Ffram x52
h77 Three Meils an’ a haff x53
h78 Taro Un x54
h79 Ffordd Net i ’Neyd Arian x55
h80 Gwerthu Cig Llo  x56
h81 Gwerthu Ceiniog o Shrimps x57
h82 Ledo’r Cawl iddi le  x58
h83 Isaac a’r Dirwestwr  x59
h84 Cyllath heb ddim c’wilydd arni x60
h85 Byta’r Ci Bach  x61 
 
 

 

 

 




(delwedd 5345)


(x7)
1. O GYLCH EI WAITH  

 

 

h33 Patshis Gwyn
 
Un boreu dydd Llun aeth Isaac yn mlaen at y “partin dwbl” (am y tro cyntaf yn y lle hyny), ac eisteddodd yno gydag eraill o’r gweithwyr cyn myn’d yn mlaen i’w “dalcen.”
 
Cyn hir, sylwai fod amryw o’r Glowyr âg olion gofal arbenig ar eu dillad, a gofynodd;—
 
“Fechgyn! Odd i’n Satwn Pau ’ma Satwn dwetha, ne’ beth?”
 
 
“Pam i ti’n gofyn ’ny, Isaac?” ebai’r bechgyn.
 
“Gwel’d cymant o batshis gwyn ar y’ch dillad ch’i w i,” atebodd yntau, tra chwerthinent oll.
 
 

 

 




(delwedd 5346)


(x8)
h34 Cwiro’r Trowsis
 
Dro arall aeth Isaac i lodjo mewn lle nad oedd posibl cael gan y wraig i gyweirio ei ddillad gwaith, ond pan fuasai Sadwrn Pau yn agos.

Bu yno am ddyddiau lawer â thwll yn ei drowser, ac er gofyn a gofyn nid oedd ffordd cael gan y wraig i dalu sylw iddo. Wedi hir flino ar hyn daeth adref un noson, a gofynodd am y tro olaf iddi:—

“Mishtras! Oti chi’n meddwl c’wiro hwn heno?”

Addawodd y wraîg yn dda, fel arfer, ond boreu dranoeth yr oedd y twll heb ei gyweirio, ac ebai Isaac yn ddistaw, “Mae hyn tw bad, ta beth!”

Cydiodd yn y trowser, ac yn lle ei wisgo taflodd ef am ei ben, gan edrych allan o’r twll, a gwaeddi;—

“Mishtras! ’Na fyr w i’n y’ch gwel’d chi trw hwn.”

Erbyn boreu dranoeth yr oedd y trowser yn gyfan.



 

 




(delwedd 5347)


(x9)
h35 Ceffyla’Gwan
 
Cafodd Isaac lawer o ofid yn ei ddydd gan geffylau gwan. Halier oedd wrth ei alwedigaeth, fel y gwyddoch, ond bu yn anffortunus iawn droion yn ei geffylau.

Gweithiai un tro mewn pwll, ac yr oedd ganddo “un o’r ceffyla’ gwana fu m’wn tac yriod,” meddai ef.

Wrth ddod allan â dram lawn i’r partin dwbl aeth y dram dros y rails. Wedi treio a threio, ond yn ofer, i gael y ddram i’w lle, ebai Isaac wrth o’r bechgyn oedd gerlaw;—

“Welas ti shwd geffyl â hwn o’r blân? Mae o’n rhy wan i dynu’i gwt.”

Dro arall, dan yr un anffawd, - y ddram dros y rails, a’r ceffyl yn wan, ebai Isaac:—

“ ’Ma geffyl yw hwn! Thyniff o ddim cleran ma’s o fasin shwgir.”
 
 

 

 




(delwedd 5348)


(x10)
h36 Isaac a’i Bartner â gwaith Gôf

Aeth Isaac a Sam Fain i “ddishgwl am waith.” Wedi cerdded a cherdded daethant at ryw bwll.

Rhoddodd Isaac eu cais o flaen y Manajer, ac ebai hwn, gan daflu ei lygad drostynt:-

“Pwy waith allwch chi ’neyd?”

“Fe allwn ni ’neyd unrhyw beth sy’ eisha arnoch chi,” ebai Isaac.

“Ho!” ebai’r Gaffer. “Ma’ pob lle lawr yn llawn gen i ar hyn o bryd. Allwch chi droi’ch llaw at waith Gôf?” “Gallwn yn net,” ebai Isaac.

“Ol reit,” ebai’r Gaffer, “Ma’ eisha Gôf a thraw-wr arno i at y tân secur ’co. Cerwch chi’ch dou ato fa, a gnewch gora gallwch chi.”

Yr oedd erbyn hyn yn tynu at amser cinio. Ni wyddai Sam na Isaac ddim, wrth gwrs, am waith Gôf, a’r pwnc yn awr oedd sut i dreulio’r amser nes delai yr awr ginio, oblegyd hyd hyny yn unig, o dan yr amgylchiadau, y bwriadent aros yno.


 

 




(delwedd 5349)


(x11)
Ar eu ffordd tua’r Efail cyfunasant i actio Sais ac “atal dweyd” arnynt.

Felly bu. Wedi cyrhaedd a “stripio,” chwythodd Isaac y tân i fyny, a gosododd ddarn o haiarn ynddo. Bu yr haiarn yn hir cyn poethi digon wrth fodd Isaac, ond o’r diwedd tynodd ef allan o’r tân, ac ebai wrth Sam;—

“St—s—st—str—strei—streic!”

Cododd Sam y Sledj fawr, ac ebai yn ol:—

“Wh—w-ï-wh—w—whe—whêr?”

Atebodd Isaac ef mewn tymher ddrwg;—

“M—m—ma—man! I—i—it—its c—co—col—cold-n-n-n-now!”
a thaflodd yr haiarn yn ol i’r tân. Nid hir y bu’r awr ginio cyn dod felly, ac ebai Isaac:—

“Nawr, Sam! Gad i ni fyn’d!”

“Ond beth am y coin, Isaac?” ebai Sam.

“Gad ti ’ny i fi!” ebai yntau, “dilyn di fi.”

Gwelodd Isaac y Gaffer, ac wedi dweyd eu hwy wedi dod i’r gwaith heb ddim i ginio, cawsant bobo swilt o “sub” i fyn’d i brynu cinio.

Ond ni ddaethant yn ol wedi hyny
 
 

 

 




(delwedd 5350)


(x12)
h37 Wthian Fach
 
Gweithiai Isaac un tro mewn lle ag yr oedd yn arferiad yno gan y Glowyr i gwrdda’u gilydd yn yr un talcen bob pryd bwyd i fwyta eu lluniaeth. Tra yno unai Isaac, wrth gwrs, gyda’r cwmni.

Un dydd, aeth yn siarad brwd wedi’r pryd bwyd yn nghylch gweithio mewn gwythieni bach, a phawb yn dod a’i stori yn nghylch bychander y lle yr oedd wedi bod yn gweithio ynddo.

Yr oedd un o’r bechgyn fel pe yn awyddus iawn i guro pawb eraill a’i ystori, ac ebai yn fostfawr:

“Fe fuo i’n gwitho mewn lle o’n i’n gorffod myn’d ’nôl i’r hewl bob tro o’dd eisha troi’r mandral arno’i.”

“Hy! Beth yw cymant a ’na!”i ebai Isaac yn hamddenol, “fe fuo i’n gwitho m’wn wthian fach lle oni’n gorffod tori canwll yn ’i hanar er mwyn i cha’l i’n ddicon bach i fyn’d miwn ’no!”

 

 

 




(delwedd 5351)


(x13)
h38 Dim Gwaith ’ma heddy’
 
Bu Isaac yn gweithio am ysbaid, fe ddywedir,yn ardal Llanilltyd Faerdref. Un boreu,daeth y Glowyr, ac Isaac yn eu plith, i ben y Pwll, pangafwyd allan fod diffyg ar y peiriant, ac, felly, ’doedd dim gwaith i fod yno y diwrnod hwnw. Cyn troi adref, eisteddodd y Glowyr i ymgomio â’u gilydd ar ben y Pwll.

Yn mhen amser, gwelsant yn dod at y Pwll un oedd yn hynod am fod yn ddiweddar yn dod i’w waith, ac un oedd, fel Isaac Lewis, yn barotach i fyn’d oddiwrth y Pwll nac i ddod ato.Wrth ei wel’d yn llusgo mlaen, gwaeddodd Isaac arno a’i holl nerth, “Der di mlân yn ewn!O’s dim gwaith ’ma heddy’!
 
 
h39 Gwitho ar Shar
 
Nid oedd posibl cael gan Isaac i gymeryd neb ato i weithio yn unman, oddieithr fod Sam Fain o gwmpas yn rhywle.Un tro, gweithiai fel arfer wrth ei hunan, ond barnai y Gaffer fod yn well iddo gael partner. Anfonwyd ato grotyn bitw bach, henach na’i olwg, yr hwn oedd allan o le.


 

 




(delwedd 5352)

 


(x
14) Wedi i’r crotyn, ar gais y Gaffer, gyrhaedd y talcen, edrychodd Isaac arno, fel pe yn edmygu ei faint, ac ebai:—

“Wel, machan i! Faint o ‘hur’ i ti moyn?”

Atebodd y bachgen, ac agorodd Isaac ei lygaid, gan ddywedyd:—

“Bachan! Well i ti ddod a dy dwls miwn, i ni gâ’l gwitho ar shâr. W i ddim yn enill cymant a ’na munan, heb son am danot ti.”

 
h40 Crotyn Cwrlo
 
Dro arall, anfonwyd dyn yn ei faint ato gan y Gaffer. Aeth y bachgen yn mlaen, gan ddywedyd;—

“Isaac, w i wedi ca’l yn hala i witho ar shâr â chi!”“Beth wetas ti?” ebai yntau, “gwitho ar shâr â fi! Chela ti ddim bod yn grotyn cwrlo i fi, warthach na bod ar shâr.”
 
 

 

 




(delwedd 5353)


(x15)
h41 Ti ne’ fi sy’ fod ’ma
 
Wrth ei wel’d mor ddiffaith gyda phawb, aeth y Gaffer ato, gan ddweyd;—

“Isaac! ’Naiff hyn mo’r tro! Ma’ rhaid i ti gym’ryd partner ato ti, ne’ ti ne’ fi sy’ fod ‘ma!”

“Begio’ch pardwn, Mishtir! W i’n folon myn’d ’nawr!” ebai ef, “ond fel hyn, Mishtir! i chi m’wn gwell ffordd i fatal na fi.Os nag yw a waniath ta chi, fe leicwn i’ch gwel’d chi’n myn’d waff, i fi ga’l llonydd i fyn’d mlân â ’ngwaith.”
 
 
h42 Tân! Tân! Tân!
Cafodd Isaac lawer o drafferth yn y lleoedd y bu yn lodjo yn ei ddydd. Un tro gweithiai’r nos yn rhywle, ac yr oedd yn auaf caled iawn.Yr oedd yntau yn gorfod dod i’r tŷ bob boreu heb dân. Fe ŵyr pawb sydd yn gyfarwydd âgweithior nos, mai peth diflas iawn fuasai dod i dŷ oer bob boreu, yn enwedig yn y gauaf.


 

 




(delwedd 5354)


(x16)
Fodd bynag, yr oedd Isaac wedi hen flino ar hyn, ac yn benderfynol o gael gwell trefn ar bethau.- [Un boreu daeth i fewn i’r tŷ, ac wedi gwel’d fod yr aelwyd, fel arfer, yn oer, a’r wraig yn y gwely, rhedodd allan i’r heol gan waeddi’n wyllt:—

“Tân! Tân! Tân!”

Neidiodd y wraig o’r gwely, a rhedodd y cymydogion allan o’u tai, gan ofyn:—

“Yn mhle, Isaac? Yn mhle?”

“Yn mhobman ond t
ŷ ni! atebodd yntau.

Cafodd Isaac aelwyd gynes bob boreu wedi hyny tra y bu yn aros yno.
 
 

 

 




(delwedd 5355)


(x17)
h43 Y rheswm na chawsent waith
 
Pan yn yr America daeth Isaac o hyd i Gymro arall oedd yn “dishgwl am waith.”; Yr oedd gan hwnw becyn a rhaw, ac, yn wahanol i Isaac, teimlai yn dra awyddus am gael gwaith. Ni allai y Cymro siarad Saesneg, ond i gwrdd a hyny ysgrifenydd [sic = ysgrifennodd] Isaac nifer o eiriau yn Saesneg â sialc ar ei rhaw [sic = raw], ac aethant gyda’u gilydd i chwllio am waith. Buont yn tramwy am ddyddiau o bwll i bwll, ond yn methu cael gwaith. I bob man lle’r elent, edrychai y Manajer ar y rhaw, a siglai ei ben dan wenu, a dweyd:-

—”Na, ’does gen i ddim lle i chî:

O’r diwedd, daethant at bwll lle yr oedd Cymro yn Fanejer, yr hwn, wedi darllen yr ysgrifen oedd ar y rhaw, a roddodd yr un ateb iddynt, sef “Dim gwaith i chi ’ma,”

Gan fod hwn yn Gymro, mentrodd partner Isaac ofyn iddo y rheswm na chaent waith yno.

Chwarddodd y Manejer, gan ddweyd, “‘D’ych chi ddim yn mo’yn gwaith! Dishgwl beth sy ar rhaw ’na!”


 

 




(delwedd 5356)


(x18)
Gan na fedrai y Cymro eî ddarllen, gofynodd i’r Manejer beth oedd yr ysgrifen, yr hwn a’i cyfieithodd iddo. A hyn oedd yn ysgrifenedig ar y rhaw — “Able to work, but not willing.”
 
 
h44 Mam-y-lo
 
Aeth Isaac i weithio mewn talcen lle yr oedd y glo yn wan iawn. Hefyd, yr oedd yno lawer o’r sylwedd hwnw adnabyddir gan y Glowyr wrth yr enw, “Mam-y-lo.” Sylwedd ysgafn a diwerth ydyw (fel defnydd tân), ac am hyny gwaherddir ei lanw yn y cerbydau glo.

Ond barnai Isaac, gan fod y glo mor wan, ac felly ei bod mor anhawdd cael “cnapau” yno, mai gwell oedd peidio trin llawer arno, rhag ei ddryllio yn rhy fan i fod o un defnydd o gwbl, ac am hyny llanwai yr oll i’r ddram. Ni fu hyn yn hir cyn tynu sylw y “gwyliwr” ar ben y pwll.

Yn mhen dydd neu ddau, daeth y Manejer heibio i Isaac, gan ddywedyd:-

“Isaac, w i wedi ca’l clywad dy fod ti yn llanw Mam-y-Lo. ’Nawr, rhaid i ti ddropan y gwaith hyn, cofia!” ‘


 

 




(delwedd 5357)


(x19)
“Wir, Mishtir bach! Sguswch chi fi!” ebai yntau, “ond o’n i’n meddwl falla bo hwn rhy ifanc i fi atal a fyn’d ma’s heb ’i ‘Fam’”.
 
 
h45 Col’ar i chi?

Byddai Isaac, fel y mwyafrif o’i fath, yn gorfod sefyll o flaen “ei well” weithiau yn llysoedd barn y wlad. Un tro, yr oedd efe a Sam Fain, ei bartner, wedi cyflawni rhyw drosedd, a dygwyd hwy o flaen yr ynadon yn Merthyr. (Gwyr y cyfarwydd â gwaith tanddaearol y gwneir “pâr o goed” i fyny o “ddwy fraich a cholar”). Fodd bynag, Sais oedd yr Ynad o flaen pa un y dygwyd y ddau droseddwr, er hyny, gallai siarad ychydig o Gymraeg bratiog.

Cymerodd Isaac arno nad allai ddeall dim Saesneg, a bu rhaid i’r Ynad ei holi yn Gymraeg. Yn yr ymdrech o ofyn iddo os mai “colier” oedd, ebai yr Ynad:—
 
“Col’ar i chi?”

“Nace, Syr! Braich w i! Dyma’r colar man hyn” ebai Isaac, gan bwyntio at ei bartner.



 

 




(delwedd 5
358)


(x20)
II. AR Y TRAMP.
 
h46
Tram-tra-râd
 
Agorai y wawr ei llygad clir yn mhell o gyrhaedd llwch Cymoedd Glo Morganwg. Wrth d
ŷ fferm, gerllaw pentref poblog, gwelid rhywun yn prysur lanw golchon moch i hen ystên din. Nid oes eisîau dywedyd mai Isaac Lewis, arwr ein llyfr, oedd.

Yn mhen tuag awr wedi hyn, clywai cwmni difyr yn y Black Lion — t
ŷ tafarn yn y pentref lais rhywun or tu allan yn gwaeddi ai holl nerth: Tram-tra-râd! Tram-tra-râd! Moddion gorar os!

Rhedodd y cwmni allan i wel
d beth oedd y bod, a gwelsant Isaac ar yr heol yn cynyg rhywbeth i’w werthu.

“Isaac, dera ’ma!” ebai un o’r cwmni.

“Beth sy’ gen ti yn y jwg ’na? Beth i ti’n werthu, bachan?”

“Moddion yw hwn!” ebai Isaac, gan besychu yn llydan, “‘ i enw a yw Tram-tra-râd.”


 

 




(delwedd 5359)


(x21)
“Tram-tra-râd!” ebai’r bechgyn. “Beth yw shwd beth ’ny? At beth ma’ fa da, Isaac?”

“Wel” ebai yntau, “Ma’ hwn yn dda at dri pheth.
Mae a’n dda at ddyscu dynon i weyd y gwirwir, at roi stymog dda i ddynon, ac at wella’r cof.”

“Wel, tyma’r latest! “ebai un o’r cwœni, yr hwn oedd â stymog wan ganddo, “Dyma jest y peth sy’ eisha arno i. Shwd i ti’n ‘i werthu a, Isaac?”

Swllt y dos! ““ebai Isaac. “Reit! Dera dos i fi!” ebai’r bachgen.

Wedi derbyn y swllt, llanwodd Isaac glawr y ’stên (oblegyd ’doedd dim arall wrth law i fesur y dôs), ac estynodd ef i’r prynwr. Dechreuodd y bachgen ei yfed, ond cyn pen eiliad yr oedd y clawr a’r moddion yn y gwter, a’r bachgen bron mwgu, yn poeri a gwaeddi — “Golchon o’dd hwna!”

“I ti’n eitha reit!” ebai Isaac, “Golchon o’dd a. ’Nawr, dyna dy ddyscu di i weyd y gwir am unwaith; a rhaid bo stymog lled dda ’ta ti i yfad golchon; a w i’n siwr y cofi di am dano fa am spel fach - beth i chi’n feddwl, fechgyn?”

Cafwyd rali dda, ac aeth y cwmni yn ol i’r tafarn i wario’r swllt.

 

 

 




(delwedd 5360)


(x
22) h47 Llestar i gario’r Oil
 
Galwodd Isaac mewn t
ŷ tafarn ar ei daith, a chan nad oedd neb arall wrth law, gofynodd y tafarnwr iddo am fyn’d drosto i’r siop i ’mofyn dau qwart o bâraffin.

“Ol reit!” ebai Isaac, ac, wedi cael yr arian, cychwynodd i ffwrdd ag ef.

“Aros, i ti ga’l rwpath idd i garia fa, Isaac,” ebai’r tafarnwr.

“O’s dim eisha. Fe ffinda i rwpath idd i gario fa, ’nawr,” ebai Isaac, ac i ffwrdd ag ef.

 Wedi cyrhaedd y siop, a gofyn am yr Oil, ebai y siopwr wrtho, “M’wn peth i ti myn’d idd i gario fa, Isaac?”

“Yn hon, os gwelwch chi’n dda,” ebai Isaac, gan estyn ei het.

Edrychodd y siopwr yn wawdus arno, ond heb ei holi ymhellach arllwysodd yr olew i’r het. Cyn fod y mesur yn wag yr oedd yr het yn llawn, ac ebai y siopwr, “Beth nei di ’nawr? Ma dy het di’n llawn!”


 

 




(delwedd 5361)


(x23)
“Sefwch chi, ’cyn bach! Fe shifta i ddi, ’nawr” ebai Isaac. Trodd ei het wyneb i waered, gan wneud pant yn ei chopa, a dweyd — “Rhowch a yn hwna!”

Felly bu. Aeth yn ôl i’r tafarn a’r dyferyn olew oedd yn y pant yn nghopa ei het. Pan welodd y tafarnwr hyn, gwaeddodd, “Isaac, iefa dyna’r ddou qwart oil?”

“Nace, nace! Ma’r rest tu fiwn iddi!” ebai Isaac, gan droi yr het i fyny. Erbyn hyn, wrth gwrs, nid oedd dyferyn y tufewn na thufaes.


h48
Het y Forwyn
 
Wedi cael maddeuant y tafarnwr am golli’r olew, aeth Isaac i un o’r ystafelloedd i gael spel fach. Yno, gwelai y forwyn wrthi yn gwisgo i fyn’d allan ar yr un neges ag yr aeth yntau. Nid oedd un “gwydr” yno, ac ebai’r forwyn wrtho, “Isaac! Oti’n het i’n gwmws? “

“Wel, wn i ddim, wir! “ ebai yntau, “Mae shwd het òd; pan mae’n gwmws mae’n dishgwl ar gam, a phan mae ar naill ochor mae’n dishgwl yn gwmws. Treiwch i yto.”



 

 




(delwedd 5362)


(x
24) h49 Ffaelu gwel’d dim ynddi
 
Yr oedd morwyn arall yn yr un t
ŷ tafarn, yr hon oedd yn lleithach nar cyffredin, medde nhw. Dechreuodd Isaac siarad â hi, ac heb fawr trafferth cafodd allan fod ei chariad wedi ei gadael, ac ebai yn ffug dosturiol, “Am beth gadews a chi fel’na, w i?”

“Wn i ddim, wir! Alla i ddim gweyd beth welws o ynddo i i ngatal fel’na,” ebai’r eneth, a’r dagrau’n dod i’w gwyneb. “Wel, wir,” ebai Isaac, “Ma’n rhaid ta ffaelu gwel’d dim yndo chi nath a, ne fe fysa wedi stico mlân, suwr o fod.”


h50
Cwm Rhondda fel ffetan  

Un tro, pan ar ei daith yn Nghwm yr Hondda, cyfarfyddodd Isaac â chyfaill. Ebai Isaac wrth y cyfaill, “Rhyw Gwm rhyfadd yw Cwm Rhondda ’ma, bachan!”
“Pam? Be’ sy’ mater arno?” ebai’r cyfaill,

“Wel, ma’ fa’n gwmws fel ffetan,” ebai Isaac. “Dim ond un ffordd sy fynd miwn iddo, a’r un ffordd sy ddod ma’s.”

(Wrth gwrs, yr oedd y Cwm yn wahanol iawn yr amser hwnw i’r hyn ydyw yn awr).



 

 




(delwedd 5363)


(x
25) h51 Dim lle i amheuaeth
 
Galwodd Isaac i fegian, un tro, wrth fwthyn yn y wlad, yr hwn oedd yn nodedig am ei fychander. Trigai yno wreigen fechan oedranus, yr hon a alwodd ar Isaac i mewn i gael tamaid o fwyd.
 Wedi cael ei ddigoni ar fwrdd yr hen wraig, edrychodd Isaac o gwmpas, gan ddechreu “tynu’r llinyn” am geiniog trwy ganmol y bwthyn. Boddiodd hyn yr hen wreigen yn fawr, ac estynodd tair iddo; yna, wrth ei arwain allan, ebai yr hen chwaer, yn hollol ddifeddwl;—

“Wir, ma’n dda gen i i chi alw ’ma ’nawr, wa’th os gen i neb i ga’l i fyta’r bwyd spâr ’ma, ’nawr, ond y mochyn; ag am y bwthyn bach, o’s gen i ddim amheuaeth ma’ dyma’r lle bach mwya cysurus yn y wlad.”

“I chi’n eitha reit,” ebaî Isaac, gan dori ar ei stori, “A phe bysa gyta chi owns o amheuaeth o’s ma ddim lle iddo, ta beth am y mochyn,” ac i ffwrdd yr aeth.



 

 




(delwedd 5364)


(x
26) h52 Y Lilipiwshans

Mewn cwmni llawen unwaith aeth yn siarad frwd am ddynion bach. Dechreuodd rhywun son am y Lilippiwshans, a’u hystranciau ar cawr hwnw o’r enw Gulliver (ystori a ddarllenasai yn un o lyfrau yr ysgol ddyddiol, digon tebyg).

Wedi gwrando am spel methodd Isaac a dal yn hwy, ac ebai:—

“Hy! Beth yw shwd stori a hona! W i’n cofio pan o’n i yn ’Merica i fi ddod ar draws rhyw dreib o ddynon, ’r o’dd mil o nhw yn gallu sefyll ar fodfadd sgwâr, ’r o’dd i llyced nhw gymant o seis a sosers, a ’r o’dd tylla ô1 y frech yn i gwynepa nhw ddicon o le i ddyn guddio’i ddyrna yndi nhw.”


h53
Dweyd “Naddo, wir”

Aeth Isaac i gwmni llawen mewn lle arall, ac yno cyfarfyddodd ag un o’r cymeriadau hyny sydd i’w gweled yn fynych mewn cwmnioedd o’r fath — un am wneyd i bawb gredu fod cronfa doethineb a ffraethineb yn guddiedig ynddo ef, a’i ystum a’i lais yn awgrymu mai efe yw Doethawr y cwmni. Siaradai hwn yn drystfawr a bostfawr ei arddull nes peri i bawb lwyr flino arno.


 

 




(delwedd 5365)


(x27)
Ar hyn trodd Isaac ato, gan ddweyd:— “Dishgwl ’ma! I ti’n fachan clefar, o’s dim dowt. Ond fe ddala i beint o gwrw a ti y gwna i i ti weyd ‘Naddo, wir,’ heb yn wpod i ti.”

Chwarddodd y cwmni’n iachus, ond ffromodd y bostwr yn fawr, ac ebai, fel twrci chwyddedig:— “Fe ddala i beint na ’nei di.”

“Reit!” ebai Isaac, gan godi ei ysgwyddau, a wincio ar y cwmni, “‘ Nawr i ddychra, w i am i ti atab cwestchwn ne ddou i fi.
’Ro’dd na ffermwr un
 tro, a dafad, a buwch, a cheffyl, gytag e yn yr un câ!
’Ro’dd bwlch yn y clawdd rhwng y câ’ ’ny a châ arall. A ’ro’dd y ffermwr eisha ca’l y tri creatur trw’r bwlch hyn i’r câ’ arall. ’Nawr, w i am i ti atab i fi pun o’r tri creatur ’na a’th trw’r bwlch gynta?”

“Wel,” ebai’r bostwr, gan rwbio ei ên. “W i’n meddwl ta’r fuwch a’th gynta.”

“Reit!” ebai Isaac, “Fe wetast y gwir. ‘Nawr, pun a’th wetyn?”

“Wel,” ebai yntau eilwaitb, “w i’n cretu ta’r ceffyl a’th wet ‘ny.”

“‘ Old on!” ebai Isaac yn wyllt, “I ti wedi clywad y ’stori o’r blân, suwr o fod!”
“Naddo, wir!” ebai’r bachgen yn fostfawr.


 

 




(delwedd 5366)


(x28)
“Da iawn,” atebai Isaac, tra chwarddai’r cwmni, “I ti wedi colli’r wadger. ’Nawr, tâl am beint i fi.”


h54 Dyn yn hedfan
 
Galwodd Isaac mewn tŷ tafarn mewn lle gwledig rhywle, fe ddywedir, rhwng Merthyr Tydfil a Chaerphili.

 Achwynai y tafarnwr yn fawr ar arafwch y fusnes yno, ac nid heb achos, gan nad oedd neb, byth, braidd, yn myn’d heibio y ffordd hono. Wrth ei glywed yn achwyn meddyliodd Isaac y gallai fod o help iddo, ac ebai, —”Mishtir! Os rowch chi fwyd a diod i fi, a lle i gyscu, fe ffinda i ddicon o gystymars i chi cyn pen wthnos.” (Yr oedd hyn ar ddydd Llun). Aeth yn fargen yn y man.

“ ’Nawr,” ebai Isaac, “w i am i chi hala rownd i’r wlad ’ma i gyd bora ’fory y bydd dyn yn hedfan o ben clochdy yr Eclws ’ma Dydd Mercher am dri o’r gloch yn y dwetydd (os bydd y tywydd yn atab),
 ac y caiff pawb i wel’d a am ddim.”

“Isaac, i ti’n meddwl bo collad arno i?” ebai’r tafarnwr.
 
“Nagw, nagw! “ ebai Isaac, “Gnewch chi fel w i’n gweyd, os otych chi am ga’l cystymers.”

Felly bu. Gwasgarwyd y newydd drwy’r holl wlad.


 

 




(delwedd 5367)


(x29)
Boreu dydd Mercher wele’r bobl yn tyru o bob cyfeiriad mewn ceirt, eraill ar eu traed, eraill ar gefn ceffylau, fel pe yn myn’d i ffair fawr. Wedi dod, rhaid oedd yn awr cael tipyn o fwyd a diod, a chan nad oedd ond un tŷ tafarn yn yr ardal rhaid oedd cymerryd en lluniaeth yno, er mawr lawenydd i Isaac ai feistr. Erbyn tri or gloch yr oedd tyrfa fawr wedi crynhoi o gwmpas clochdy’r Eglwys i wel’d y dyn yn hedfan.

Yr oedd rhai erbyn hyn yn dechreu twymno o dan ddylanwad y ddiod, ac yn gwel’d y campwr yn hir cyn gwneyd ei ymddangosiad. O’r diwedd, wele Isaac ar ben y clochdy. Tafla ei olwg at y dorf, yna tua’r wybren, yna eilwaith at y dorf. Cyn hir, gwnaeth arwydd ei fod yn myn’d i gychwyn, ac ar hyn torodd banllef o gymeradwyaeth o enau’r dorf. Ond bu rhai bron dechreu ymladd wrth waeddi am ddistawrwydd, er mwyn i’r campwr gael chwareu teg i wneyd ei waith.

Wedi cael distawrwydd, cododd Isaac ei law i gyfeiriad y gvynt, ac ebai wrth y dorf:— “Fechgyn! Ma’n ddrwg gen i orffod gweyd wrtho chi, ond ma’r gwynt yn rhy gryf i fi feddwl treio hedfan heddy’. Dewch chi’i ’ma fory, fe fydd pethach yn well, w i’n suwr.


 

 




(delwedd 5368)


(x30)
Trodd y dyrfa ymaith yn siomedig, a chyda llawer iawn o rwgnach a dadleu. Ond daeth yr ail ddydd, ac er fod cwmni wedi aros o gwmpas y tafarndy drwy’r nos, ac wrth hyny wedi helpu llogell y tafarnwr yn dda, eto, pan ddaeth tri o’r gloch y prydnawn, yr oedd y dyrfa, meddai Isaac, yn fwy na’r dydd blaenorol.

Aeth Isaac eto i ben y clochdy, ac, wedi gwneyd nifer o ystumiau, fel y dydd cyntaf, trodd at y bobl, gan ddweyd;— “Wir, fechgyn! Ma’n ddrwg gen i, ond ma’ rhaid i ddyn ga’l y tywydd reit, cofiwch chi, cyn gall a hedfan. Ma’n rhy gymylog o dipyn heddy’ yto! Ond dewch chi ’ma ‘fory, fe fydd y tywydd yn ol reit, w i’n suwr.”

Aeth y bobl ymaith yn fwy siomedig ac anfoddog na’r dydd o’r blaen. Ond daeth y trydydd dydd, ac erbyn hyn yr oedd y dyrfa yn lluosocach eto. Am dri o’r gloch wele Isaac ar ben y clochdy Wedi edrych o gwmpas, trodd at y dorf gan wenu a dweyd;—

“Fechgyn! Welsoch chi ddyn yn hedfan yriôd?”
 
“Naddo, ni,” ebai’r dorf.

“Wel, shwd i chi’n erfyn i fi allu hedfan, ta?” ebai Isaac. A hyn fu diwedd y rhyfeddod o wel’d dyn yn hedfan.

 

 

 




(delwedd 5369)


(x31)
h55 Dim Smocio ’ma
 
Yr oedd Isaac eto ar y tramp, ac er nad oedd, hyd y gwyddom ni, yn arferol o ysmocio, aeth i fewn i Goffi Tafarn i brynu gwerth ceiniog o fara gyda phîb yn ei ben. O’i flaen ar y mur gwelid mewn llyth’renau breision y geiriau —

“NO SMOKING ALLOWED HERE.”

Safai Isaac, er hyny, wrth y counter, yn hollol ddi-ystyr o’r rhybudd, a’r bîb yn ei ben.

Ar hyn, daeth gwr y ty ato, gan ddweyd:
“Weli di mo’r notis yco? O’s dim smoco i fod ’ma, cofia!”

“Begio’ch pardwn, Syr! W i ddim yn smoco,” ebai Isaac.

“Ddim yn smoco!” ebai’r dyn yn gyffrous, “Ond yw’r bîb yn dy ben di ’nawr! Shwd i ti’n gallu’m atab i fel’na?”
 
“Eitha reit!” W i’n gwpod bo pîp yn y mhen im” ebai Isaac, “Ma’ sgitsha am y nhrâd i hefyd, ond ’dyw hyny ddim yn profi bo fi’n cerad ’nawr, oti a?”

Safodd y dyn yn fud, ac aeth Isaac allan heb y bara.



 

 




(delwedd 5370)


(x
32) h56 Gofyn am Gino arall
 
Yr oedd yn rhaid i Isaac fegian cryn dipyn ar ei daith, gan fod yn well ganddo bob amser fwyta bwyd na’i enill.

Un dydd aeth at ddrws un oedd wedi ei wel’d droion o’r blaen ar yr un neges. Wedi gofyn am damaid i’w fwyta, trodd y wraig ato gan ddweyd:-

“Pe byswn i’n rhoi cino dda i chi, Isaac, ’nelsa chi ddim wetyn!”

“G’nelswn, wir, fe ’nelswn un peth wetyn,” ebai Isaac.

“Beth yw hyny?” gofynai’r wraig.

“Gofyn am gino arall tro nesa’,” ebai Isaac.

 

 

 




(delwedd 5371)


(x
33) h57 Maeddu’r Cybydd

Un dydd dynesai Isaac at d
ŷ yn y wlad. Gwyddai nad oedd modd cael dim oddiyno ond ar waethaf y cybydd drigai yno. Ond doedd dim yn ormod i Isaac. Y tu cefn ir tŷ gorweddai perllan ffrwythlawn, a phlygair coed dan eu golud yn addfedrwydd yr Hydref.

Deallai fod pob afal, a pheran, a phlwmsan, yn y berllan mor werthfawr yn ngolwg y cybydd â’i ddau lygaid [sic] ei hun. Edrychodd Isaac drwy’r ffenestr, a gwelai yr hen frawd yn trafod nifer o sylltau ar y ford. Yr oedd wedi bod yn y farchnad y dydd hwn. Gwelai Isaac fod y drws ar haner agor, ac ebai: - “Nawr, dyma tshawns i fi,” ac aeth i mewn heb guro.

Cyn gynted ag y clywodd y cybydd swn traed ar y trothwy, neidiodd am y sylltau fel dyn yn gafael am fywyd. Ond ebai Isaac wrtho:—

“O’s dim eisha i chi wyllti, ’rhen frawd! W i’n galw miwn i weyd wrtho chi am gloi drws y berllan ’na wa’th ma’ lot o grots yn winco ar y falla [sic, = fala] ’na, o’s amser.”
 Yn ei wylltineb, rhedodd y cybydd allan at ddrws y berllan, er dyogelu’r ffrwythau, ac anghofiodd

 

 

 




(delwedd 5372)


(x34)
...fod swllt neu ddau ar ol ar y ford. Cyn iddo gael amser i ddychwelyd pocedodd Isaac y sylltau, gan ddweyd: -
 
“Ma’ llawn cystal i fi ga’l shâr o nhw, a bo’ nhw yn rwtu man hyn. Fydd a ddim llawar ar ’i gollad o gymant ag w i’n gymryd o wrtho fa.”
 
Ac aeth i ffwrdd.
 
 
h58. Y Tai Secur
 
Un tro, ar ei daith, daeth i gymdogaeth Abercynon (Ynysowen y pryd hwnw). Yn wahanol i’r hyn yw y lle yn awr, nid oedd yno yr amser hwnw ond ychydig o dai, ac yn mhlith yr ychydig hyny ceid rhestr o dai gwag.
 
Daeth Isaac, heibio i’r “tai segur” yma, a gwelai ddyn yno yn sefyll i edrych arnynt. Ebai’r dyn dieithr wrth Isaac: -
 
“Beth sy’ matar fod y tai ma’n secur, fachan?”
 
“Ddyn diarth! ’Sdim o chi’n diall cymant a ’na?” ebai Isaac.
 
“Nagw i, wir,” ebai’r dyn.
 
“Wel, ma hwna’n ddicon hawdd i atab. Ond ta neb sy’n byw yndi nhw!” ebai Isaac, ac i ffwrdd ag ef.
 
 

 

 




(delwedd 5373)


(x35)
h59. Y Dyn Lwcus
 
Aeth Isaac i d
ŷ tafarn. Cyn gynted ag yr eisteddodd yno daeth y forwyn ato, gan ofyn: -
 
Isaac, beth gai ddod i chi?
 
Cusan wedii thwymo, a thipyn o fara chaws, os gwelwch chi fod yn dda, Lisi! Ond stopwch chi, ’ngariad i,” ebai drachefn, “pryd i chi’n myn’d i brioti, ’nawr?”
 
“‘Fory!” ebai’r eneth, mor sionc â’r wanol {sic: = ?wennol}.

 
“‘Fory!” ebai yntau, gan gymeryd arno fod y fflat, “Wel, wir, Lisi, o’n i wedi meddwl bysa chi’n aros i fi, hefyd! Ond tyna, pwy yw y dyn lwcus i fod, wn i?”
 
“O, neb llai na Isaac Lewis!” ebai’r eneth, gan wincio ar ei chariad eisteddai yn y gornel yn gwylio’r symudiadau.
 
“Tyna chi’n wilia dipyn o sens ’nawr!” ebai Isaac. “Nawr, dewch â glased bach o gwrw i fi ar gefan y briotas, ’newch chi?”
 
Talodd rhywun am lasied iddo, a thalodd yntau am hyny drwy ei ffraethebion dihysbydd.
 
 

 

 




(delwedd 5374)


(x36)
h60. Wado Shifft o Bydlars
 
Dro arall aeth Isaac i dŷ dafarn yn nghymydogaeth Aberdar, pan yr oedd “gwaith tân” Abernant yn ei “ffwl fflôt,” ys dywedai ef.
 
Yno eisteddai nifer o bydlars yn diota, ac ebai Isaac wrth Sam Fain, ei bartner, yn ddigon uchel i’r cwmni ei glywed: -
 
“Dishgwl ’ma, Sam! Pe byswn i mon dychra, fe wadwn shift o bydlars.”
 
‘Doedd dim eisiau dweyd rhagor. Neidiodd y cwmni fel c
ŵn cynddeiriog oi gwmpas, ac ebai y cryfaf ohonynt: -
 
Fachan diarth! I tin gweyd y galli di wado shift o bydlars?
 
Otw! ebai Isaac, Ond sa di! Pwy shift {sic} i chi?”
 
“Shift {sic} y dydd,” ebai’r pydlars gyda’i gilydd.
 
“O, shift {sic} y nos o’n i’n feddwl,” ebai Isaac, ac aeth yn chwerthin drwy’r lle.
 
 

 

 




(delwedd 5375)


(x37)
h61. Cadw’u Capa’ nhw’n gwmws
 
“Fechgyn!” ebai bachgen swrth, mewn t
ŷ tafarn un tro, welsoch chi ddim clefrach gwraig tafarn yriôd na hon, w in siwr.
 
Pam? Be sta ti wneyd am deni? ebai Isaac.
 
O, dim, ebair bachgen, ond ta hi ywr dafarn-wraig glefra welas i yriôd. Watshwch chi ddi pan daw rhywrai miwn ma’ (yr oedd cwmni dieithr wedi dod i mewn y pryd hwnw), fydd ’i ddim yn hir cyn gweld rheiny, a’u ledo nhw i’r rwm ora, a dyna lle bydd hi gyta nhw, wetny, nes a’n nhw ma’s, a ______”
 
“Wel, ia, ’sdim o ti’n diall,” ebai Isaac, gan dori ar ei stori, “Pe bysa i’n myn’d ma’s o wrthi nhw am funad, falla ta’i thrin i nela nhw, fel ti! Wet’ny, ma’ well iddi dreio catw’u capa nhw’n gwmws cyd a bydda nhw ’ma, wa’th nid yn amal ma i’n ca’l y short ’na i’r ty ’ma.”
 
Aeth y cwynwr yn fud.
 
 

 

 




(delwedd 5376)


(x38)
h62. Colli’i Wadjan
 
Cyn hir, sylwai un o’r cwmni yn yr un lle fod Isaac fel pe yn wylo dagrau yn hidl, ac ebai bachgen wrtho,
 
“Isaac! Pam i ti’n llefan felna?”
 
“Wedi colli’m wadjan w i,” ebai yntau, gan snwffian llefain, “fe a’th ’i mam ’i off i ’Merica, a fe lefws ’itha’i hunan i’r bedd ar ’i ol ’i; a wir, fydda ina ddim yn hir cyn myn’d ar ’i ol ’itha, ’run ffordd, os na ddaw pethach yn well.”
 
Estynwyd ddiod iddo, a chollodd Isaac ei ddagrau yn hwnw.
 
 

 

 




(delwedd 5377)


(x39)
h63. Tarw yw hi
 
Un dydd aeth perchen ystâd fawr mewn lle gwledig allan am dro i’r caeau. Pan yn dyfod ar hyd yr heol at glwyd un o’r caeau gwelai rywun yn rhedeg tuag ato nerth ei draed o fewn y cae. Isaac, wrth gwrs, oedd y rhedwr.
 
Wedi iddo ddyfod at y boneddwr, a begio’i bardwn am dresbasi, gofynodd y boneddwr iddo beth oedd yr achos ei fod yn rhedeg ato felly; ac ebai Isaac drachefn, gan foes-ymgymru: -
 
“Begio’ch pardwn, Syr! Ond ma’ ta chi fuwch, Syr, yn y ca’ ’na, a bob tro w i’n gwel’d buwch yn staran fel o’dd hona ’nawr, w i’n doti lawr ta’ tarw yw ’i.”
 
Ond y gwir am dani yw hyn. Yr oedd Isaac wedi bod yn cysgu ar y cae drwy’r nos, a llunio yr ystori hon wnaeth rhag ofn cael ei gosbi am dresbasi.

 
 

 

 




(delwedd 5378)


(x40)
h64. Fe serfas i a’n reit
 
Mewn rhan arall o’r wlad, wrth nesu at bentref, cyfafyddodd â merch y Plâs oedd gerllaw. Yr oedd newydd ddod allan o’r carchar am dresbasi ar dir y Plâs.
 
Ebai Isaac, wrth y ferch: -
 
“Miss ____! Sgsuwch chi fi am ych interypto chi ar yr hewl ffor’ hyn! Ond wetsoch chi wrth ych tad rhywdro fod arian i ga’l gen i?”
 
Gwridodd yr eneth i’w dau glust rhag ofn fod rhywun yn ei gwel’d yn siarad â thrampyn diolwg, fel yr ystyriai hi Isaac, ac ebai wrtho yn ffroenuchel: -
 
“Naddo i, wir. A mwy na ’ny, wyddwn i ddim bo arian i ga’l ta chi o gwbwl.”
 
“I chi’n eitha reit,” atebai Isaac, “o’s gen i ddim arian hefyd, ond fe allsa dyn feddwl wrth weld ych tad chi’n y ngospi i am gerad y tir ’ma fod gen i ddicon o arian i dalu’r ffein. Ond dewch chi! Fe serfas i a’n reit! Fe gymras i jail yn lle ’ny, a newydd ddod ma’s w i. – dishgwlwch ar y mhen i, o’s dim blewyn ar ol, a w i jest a starfo.”
 
Cafodd chwech, ac aeth i ffwrdd yn llawen.
 
 

 

 




(delwedd 5379)


(x41)
h65. Chusaniff neb o nhw hi
 
Wrth fynd i un o’i hoff dafarndai, un tro, gwelai Isaac y forwyn wrth y drws yn siarad â rhywun. Yr oedd y forwyn wedi gwrthod dod a diod iddo ef y dydd cyn hynny.
 
Aeth Isaac at y Feistres, ac ebai: - “Mishtras! Os i chi moyn catw caritor y lle ’ma lân, well i chi watshan y forwn ’na sy’ wrth y drws. Mae’n cario mla’n yn bert iawn sha rhywun tu fa’s ’na!”
 
Ar hyn daeth y forwyn i’r t
ŷ. Rhuthrodd y Feistres arni fel arthes gynddeiriog, gan ddywedyd:
 
Margrett {sic}! Os dim racor o’ch sploits chi i fod tu fa’s i’r drws ’ma! Ma’ gormod o fechgyn yn dod ar ych gol chi o lawar (a do’s dim un o nhw yn galw glased ’ma byth). Fe aiff y tŷ ma yn laffin stoc ir dre. R odd hwnan ych cusanu chi nawr, ond odd a?
 
Mishtras! _____
 
“Dyna ddicon. Dim bac ansars i fi cofiwch.
Fe ä i at y drws y munan y tro nesa,” ebai, gan godi ei chloch.
 

 

 




(delwedd 5380)


(x42)
Gwelodd Isaac ei fod wedi gwneyd y lle yn dwym i’r forwyn, ac ebai: -
 
“Iä, iä! Marged fach! Gadewch chi iddi fyn’d at y drws. Chusaniff neb o nhw hi, wi’n suwr.”
 
Ar hyn, trodd y wraig i arllwys ei llid arno ef, ond chwarddai Isaac yn iachus yr ochr arall i’r heol. Trwy yr atebiad parod hwn achubodd ei lle i’r forwyn.
 
 
h66. Gwasgu Gwa’d ma’s o Ha’rn
 
Nid oedd diwedd ar driciau Isaac. Un tro, ebai wrth gwmni llawen mewn tŷ tafarn:
 
Fechgyn! Gwelsoch chi ddyn yn gwasgu gwad mas o harn yriod?
 
Naddo ni,” ebai’r cwmni, ac ebai un ohonynt drachefn: -
 
“Fe ro i beint o gwrw i ti os gwnei di a.”
 
“Reit!
Dera tsho o faco i fi, a esyn y pocar ’co o wrth y tân,” ebai Isaac.
 

 

 




(delwedd 5381)


(x43)
Felly y bu. Wedi cnoi a cnoi y tybaco, cydiodd Isaac yn y pocar, a dechreuodd wasgu a gwasgu (ar yr un pryd, heb yn wybod i’r cwmni, gollyngai sudd y dybaco o’i enau ar hyd y pocer).
 
Cyn hir, gwelant rhywbeth tebyg i waed yn syrthio oddiar flaen y pocer, ac ebai un o’r cwmni: -
 
“Iä wir! Dyna fe hefyd! Dishgwlwch ar y dyferon yn cwmpo.”
 
Clapiwyd cefn Isaac am y tric, a chafodd shâr o’r hyn oedd yn pasio yno.
 
 
h67. Lle net yn y Jail
 
Wrth dramwy drwy ystrydoedd Merthyr un dydd gwelai Isaac grotyn bychan (ar yr hwn yr oedd cnwd tew o wallt hir) yn cael ei ddwyn i’r carchar. Wylai y crotyn yn druenus, ac ebai Isaac wrtho: -
 

 

 




(delwedd 5382)


(x44)
“Sdim eisha i ti lefan felna, bachan! I ti’n myn’d i le nêt. W i wedi bod ’no munan. A ma’n werth i dy short di a fi fyn’d ’no amball waith, ta’ fa ddim ond er mwyn ca’l tori’n gwallt. Wa’th ma’ eisha’n dost arnot ti, ta beth.”
 
h68. Y Bara yn y Ffenast
 
Yr oedd Isaac un dydd yn newynog, fel arfer, ac heb ddim i brynu bwyd. Safai o flaen siop fwyd, fel pe’n methu deall beth oedd yn y ffenestr. Yno yr oedd amryw dorthau wedi eu gosod yn rhesi ar eu gilydd.
 
Ar hyn, daeth cyfaill i Isaac heibio, gan ofyn iddo: -
 
“Isaac, beth ti’n ’neyd man hyn?”
 
“Ffaelu diall beth yw rheina’n y ffenast ’na w i,” ebai yntau.
 
“Bachan! Ond ta’ torthau yw rheina,” ebai’r cyfaill.
 
“Dyna fe!” ebai Isaac, “o’n i mwn pysl pun a ta bara o’n nhw ne beidio.
‘Nawr, os ta tortha i nhw, dyma gyd sy’ gen i weyd, ma’ un o nhw yn y lle ’rong.”
 

 

 




(delwedd 5383)


(x45)
“Yn y lle ’rong!” ebai’r cyfaill, gan feddwl fod rhywbeth o’i le yn y ffenestr.
 
“Ia, yn y lle ’rong!” ebai Isaac, a chan bwyntio at ei gylla gwag, ebai drachefn –
 
“Ma’ mwy o le i un o nhw man hyn, na sy’n y ffenast ’na.”
 
Deallodd y cyfaill yr hint, a phrynodd un iddo.
 
 
h69. Ddim mellach na Byrcaned
 
Fe ŵyr pawb syn gyfrwydd â Merthyr Tydfil mai Pentrebach and Abercanaid” ydyw yr orsaf gyntaf wrth fynd allan oddiyno ar llinell {sic – dim treiglad} Dyffryn Taf.
 
Safai Isaac un tro yn ngorsaf Merthyr yn gwylio tyrfa o bobl yn myn’d gydag Excursion i Lundain. Adnabyddwyd ef gan gwmni o’r rhai oedd yn myn’d, ac ebai un ohonynt wrtho: - “Hylo, Isaac! I ti’n dod i Llyndan?”
 
“Nagw i!” atebodd yntau.
 
“Fuc chi yno yriod?” gofynai un arall.
 
“Naddo i. Fuas i ddim mellach na Byrcaned ar y lein ’na,” ebai yntau, gan symud i ffwrdd.
 
 

 

 




(delwedd 5384)


(x46)
h70. Un bach ar ’i Oetran
Un Dydd Nadolig aeth Isaac i Bontypridd, a galwodd mewn tafarn o’r enw New Inn, lle yr oedd yn dra adnabyddus, ac yn ffafryn mawr. Yr oedd y tafarnwr newydd agor potelaid o “hen Chwisci” ar y pryd. Gan ei bod yn adeg lawen, a phawb, yn enwedig cystymars y New Inn, yn teimlo yn bur rhyddfrydig {sic – dim treiglad} eu calonau, estynodd y tafarnwr lasiad o’r Chwisci i Isaac, gan ddweyd: -
 
“Whwra, Isaac! Nid yn amal i ti’n ca’l tasto wishci o’r short hyn, ma’ hwn yn un-ar-ucian o’d heddy’.”
 
Cododd Isac y gwydryn rhyngddo â’r goleu, ac ebai, -
 
“Wir, Mishtir! Un bach iawn yw a ar i oetran, ta beth.”
 
 
h71. Gwell un “corph” na dou
 
Aeth Isaac at ddrws tŷ unwaith, lle yr arferai alw yn gyson am yr unig rheswm {sic dim treiglad} ei fod bon amser yn cael tamaid yno.
 

 

 




(delwedd 5385)


(x47)
Daeth y wraig at y drws, ac wedi clywed ei stori, dywedodd wrtho: -
 
“Wir, Isaac, mae’n rhaid i chi alw yto! Ma’ Mishtir yn rhy dost i fi feddwl am ’neyd bwyd i chi heddy’. W i’n dishgwl i wel’d a’n gorphan ’i bob munad.”
 
“Wir, Mishtras fach, ma’n ddrwg gen i am y’ch trwpwl chi,” ebai Isaac, “ond dishgwlwch, fydd a ddim cymant o gost i chi ga’l un “corph” na dou yn y ty – wa’th fydda ina ddim yn hir cyn i gorphan ’i os na cha’i rwpath i fyta.”
 
Chwarddodd y wraig yn iachus, a galwodd arno i mewn. Wrth gwrs, ymgais i gael Isaac i ffwrdd oedd yr ystori yn nghylch y gwr. Ond nid yn hawdd y twyllid Isaac, a chafodd bryd o fwyd fel arfer.
 
 
h72. Pidwch marw man hyn, ta beth
 
Dro arall, curodd wrth ddrws ty hen wraig oedd yn enwog am ei dull trwsgl o yru pawb oddiwrth ei drws yn waglaw. Gwyddai Isaac am dani, ac aeth i wajer â chyfaill y byddai iddo ef lwyddo i gael pryd o fwyd ganddi.
 

 

 




(delwedd 5386)


(x48)
Daeth y cyfaill hyd at y glwyd gydag ef, ac ymguddiodd yno i gael gwel’d sut y troai pethau alla. Curodd Isaac wrth y drws, ac wedi cael agoriad gan yr hen wraig, dechreuodd ar ei stori, ond cyn iddo hanner orphen cododd yr hen wraig ei chloch, gan daeru nad oedd dim ganddi hi i roi iddo.
 
“O, wel! Os ta’ felna ma’ i,” ebai Isac, “ma ’run man marw man hyn a rhla arall!”
 
Ac ymgollodd yn swpyn ar draws y trothwy, fel pe yn paratoi i farw. Ar hyn, gwaeddodd yr hen wreigen: -
 
“Bobol anwl, pidwch marw man hyn, ta beth! Dewch miwn! Fe ’na i damed o fwyd i chi miwn wincad, ’nawr.”
 
Felly cafodd Isaac fwyd, ac enillodd y wajer.

 
 
h73. Un o ’Wain y wlad hyn
 
Cyfarfyddodd Isaac un tro â dyn oedd wedi bod yn America. Fel eraill fuont yno, ni welai y dyn hwn ddim yn y wlad hon yn debyg o ran maint i’r pethau mawrion oedd yn America.
 

 

 




(delwedd 5387)


(x49)
Aeth Isaac o gwmpas ag ef i ddangos y lle iddo, ac wrth ei wel’d yn diystyru pobpeth a welai, ebai Isaac ynddo ei hun –
 
“Der di, fe ddaw nhro i cyn bi hir.”
 
Aethant yn ol bryd swper i’r tafarndy, lle y bwriadai y “dyn diarth” aros dros y nos.
 
Erbyn hyn yr oedd Isaac wedi llwyddo i gael “crabyn” o siop bysgod gerllaw. Rhedodd yn ddistaw bach, heb yn wybod i neb, i ystafell wely y dyn dieithr, a gosododd y “crabyn” dan y dillad yn nhraed y gwely.
 
Aeth y bachgen cyn hir i’w wely, gan ei fod wedi blino. Erbyn hyn yr oedd Isaac yn glustiau i gyd. Ar fyr, clywsant ysgrech annaearol yn dod o ystafell wely y dyn dieithr, a rhedodd pawb i wel’d beth oedd yn bod. Yno, cawsant ef wedi neidio allan o’r gwely, a’r “crabyn” yn dal wrth ei droed, a gwaeddai ar y tafarnwr: -
 
“Beth yw hwn sy’n sownd i’n nhrod i?”
 
Atebodd Isaac ar unwaith: -
 
“Un o ‘wain y wlad hyn yw hona, bachan!”
 
Chwarddodd pawb, ac unodd y bachgen, wedi cael y “crab” yn rhydd.
 
 

 

 




(delwedd 5388)


(x50)
h74. Doncis Affrica
 
Un tro, ymwelodd Circus â phentref yn Morganwg, lle yr arhosai Isaac ar y pryd. Aeth ef a’i bartners i wel’d y “tyrn owt.” Tnyai nifer o eliphantod y cerbyd trymaf yn y “tyrn owt.” Pan ddaeth y cawrfilod heibio, edrychodd partners Isaac arnynt mewn syndod, gan ddweyd: -
 
“Beth all y creduried ’na fod?”
 
“Fechgyn!” ebai Isaac, “‘s dim o chi mor dap a ’na, o’s bosib! Ond ta doncis affrica yw rheina. I chi’n gwel’d, ma gyta nhw gwt, - un n^pl, a’r na’ll mlân.”
 
 

 

 




(delwedd 5389)


(x51)
  h75. Baw Caseg
 
Un tro, safai Isaac gerllaw y Bont Harn yn Merthyrtudful, gan edrych ar y dom oedd ar yr heol. Ymddangosai fel pe mewn penbleth. Ar hyn, daeth rhywun ato, gan ofyn:
 
“Isaac! Be sy’n bod? I ti wedi colli rwpath?”
 
“Nagw i. Ffaelu diall beth yw hwn w i!” ebai, gan gyfeirio at y ‘dom’ ar y llawr.
 
“Ond ta ‘baw ceffyl’ yw hwnna!” ebai’r cyfaill.
 
“O iefa! O’n i’n meddwl falla ta’ baw casag odd a!’ ebai Isaac.
 
 

 

 




(delwedd 5390)


(x52)
h76. Gweld y Ffram
 
Dro arall, sylwodd ar rywun yn arwain ceffyl anarferol o deneu heibio, ac ebai Isaac wrth Sam Fain: -
 
“Sam! Iefa ma lle ma’n nhw’n gneyd cyffyla?”
 
“Pam i ti’n gofyn ’ny, Isaac?”
 
“Gweld y ffrâm ’na’n paso o’n i,” ebai yntau.
 
 

 

 




(delwedd 5391)


(x53)
h77. Three Meils an’ a Haff
Yr oedd Isaac a Sam ar y tramp yn Lloegr. Teithiant i gyfeiriad Lerpwl. Ar y ffordd gwelsant ddyn, ac ebai Isaac wrtho: -
 
“Faint o ffordd sy’ o ’ma i Lifarpwl, ddyn diarth?”
 
Gan mai Sais oedd y dyn, bu raid i Isaac ail ofyn y cwestiwn yn Saesneg, ac atebodd y dyn: -
 
“Thri meils an’ a hâff.”
 
“Beth wetws a?” ebai Sam.
 
“O, gweyd fod gyta ni dair mil a rhyw râff yto,” ebo Isaac. “A wn i ddim, Sam, o’s dim llawar o ots gen i am y tair mil ’na, ond beth am y rhaff? Pwy sy’n gwpod i hyd, wn i?
 
 

 

 




(delwedd 5392)


(x54)
h78. Taro Un
Yn nes yn mlaen ar yr heol y daethant at efail gof. Gan mai Sais oeddynt newydd gyfarfod ar y ffordd, a’u bod yn Lloegr, meddyliodd Isaac mai gwell oedd siarad yn Saeseng yma eto. Gwthiodd ei ben drwy dwll y ffenestr, ac ebai, -
 
“What teim is it, plûs?”

 
Gweithiai un o’r gofiaid o’r tu fewn ar bwys y ffenestr. Wedi cael ei ddychrynu gan ben, a llais Isaac yn dod trwy’r twll, tarawodd y gof ef â’r morthwyl ar ei ben, a dywedodd, - “It’s jest stryc won.”
 
Tynodd Isaac ei ben yn ol yn gyflÿm, gan ateb, -
 
“Ei am glad that it didn’t strike twelf.”
 
 

 

 




(delwedd 5393)


(x55)
h79. Ffordd Net i ’Neyd Arian
 
“W i wedi ffindo ffordd nêt i neyd arian!” ebai Isaac wrth gwmni difyr un tro.
 
“Pwy ffordd yw hono?” gofynai un o honynt, yr hwn oedd yn fwy o “rabyn” na’r lleill.
 
“W i ddim myn’d i roi’r secret off mor shêp a ’na!” ebasi Isaac. “Der di ’ma fory a phum punt yn dy law, fe ro i wpod i ti.”
 
Felly bu. Daeth y bachgen â’r pum punt, yn ol y cytundeb.
 
“Nawr! W i moyn ca’l yr arian ar y ford man hyn cyn startio,” ebai Isaac. Rhoddodd y bachgen y pum punt ar y ford.
 
Ar hyny, cydiodd Isaac ynddynt, gosododd hwn yn ei boced, ac ebai –
 
“Tyna ti! Tyna beth yw ffordd nêt i ’neyd arian!”
 
Ond bu raid iddo ei ddychwelyd yn bur gyflym, tra y chwarddai’s cwmni yn iachus.
 
 
 

 

 




(delwedd 5394)


(x
56) h80 Gwerthu Cig Llo

Aeth Isaac at siop gig unwaith, gan ofyn:—

“Ffor’ i chi’n gwerthu’r cig llo heddy’?”

“Pymtheg y pownd!” ebai’r cigydd.

“Pymtheg!” ebai Isaac, gan agor ei lygaid. “O’s dim ryfeddod i Shoni Lwk Owt i brynu fferm pwy ddwyrnod ’ma ta! Ma’ fe shwd fachan am gig llo, i chi’n gwel’d, a ’nawr fe all ga’l llo bach pryd myn a, am ddim.”

 

 

 




(delwedd 5395)


(x
57) h81 Gwerthu Ceiniog o Shrimps
 
Yn nes yn mlaen daeth Isaac at siop bysgod fawr. Yno, ar lestr, mewn lle a,lwg, yr oedd ddalfa dda o frythyllod wedi eu gosod yn daclus, a’r olwg arnynt yn ddigon i godi chwant bwyd ar bwy bynag ddelai heibio. Aeth Isaac atynt, a gofynodd i’r siopwr:—

“Beth y pownd yw’r brythyllod ’ma?”

“Deunaw!” ebai’r siopwr, gan rwbio’i ddwylaw.

“Swêt, y boy! Dewch â werth ceinog o shrimps i fi, os gwelwch chi’n dda!” ebai Isaac yn siomedig.

 

 

 




(delwedd 5396)


(x
58) h82 Ledo’r Cawl iddi le
 
Aeth Isaac i ginio unwaîth gyda chyfaill iddo. Cawl oedd i ginio, a chawl pur “deneu,” fel yr ymddengys. Nid oedd yno ychwaith ddigon o lestri at y pwrpas, a bu raid i Isaac gymeryd ei gawl mewn dysgl dê fawr. Wedi edrych ar gynwysiad teneu y ddysgl, heb ddweyd un gair, tynodd Isaac linyn o’i boced, rhwymodd ef am ddolen y ddysgl, a dechreuodd ei thynu tuag ato. Af hyn, gofynodd ei gyfaill iddo:—

“Beth i ti’n ’neyd, Isaac? “

“Treio ledo hwn iddi le w I,” ebaî “yntau. “Wa’th o’s gytag a ddim un llycad yn i ben - dishgwl arno!”

Wrth y “llyced” golygai Isaac y “ser” sydd bob amser ar wyneb cawl bras.

 

 

 




(delwedd 5397)


(x
59) h83 Isaac a’r Dirwestwr

Ar un o heolydd Aberdar cwrddodd Isaac â Dirwestwr selog, yr hwn a’i hadwaenai yn dda. Aeth y Dirwestwr ato i’w gynghori, gan siarad fel hyn:—

“Isaac, ’sdim o ti’n meddwl, fachan, bo’ i’n bryd i ti dreio diwygio dipyn, a gatal yr hen ddiod ’na! I ti’n gwpod nag o’s dim lles ynddi — ’dyw i ddim ond gelyn perffaith i ti, a —”

“Saf di ‘nawr!” ebai Isaac. “I ti’n gweyd ta’n ngelyn i yw’r ddiod?”

“Otw,” ebai’r Dirwestwr.

“Ol reit!” ebai Isaac. “W i ddim yn gneyd dim ond beth i chi’n ddysgu ta!”

“Beth yw hyny?” gofynai’r Dirwestwr.

“Caru ’ngelyn,” ebai Isaac.

 

 

 




(delwedd 5398)


(x
60) h84 Cyllath heb ddim c’wilydd arni

Ar ddiwrnod “Ffest Clwtb” aeth Isaac i dafarndy yn Glan-y-bâd, gerllaw Trefforest. Fel arfer, daeth yn brydlon, ac yn newynog iawn. Gosododd gwraig y t
ŷ dorth, a lwmpyn o fenyn fresh, a diod, oi flaen.

Nid hir y bu Isaac cyn gwneyd ei ol ar y dorth a’r ymenyn, a galw am rhagor o ddiod. Dechreuodd y wraig deimlo yn anfoddog tuag âto. O’r diwedd cododd Isaac i fyn’d allan i’r tu cefn, ac aeth y wraig at y ford gan feddwl gosod yr hyn oedd weddill o’r neilldu, ond ebai Isaac:—

“Mishtras! ’sdim o fi wedi cwpla yto! Fe ddwa i ’nol at y bwyd ’na, ‘nawr.”

Pan ddychwelodd, ni allai yn ei fyw godi’r ymenyn i’w roi ar y bara. Y rheswm o hyn oedd fod y wraig wedi twymo’r gyllell pan y bu efe


 

 




(delwedd 5399)


(x61)
allan, gan feddwl y buasai hyny yn ddigon o awgrym iddo ei bod yn bryd iddo orphen. Ond ebai Isaac:—

“Neno dyn! Be sy ar y gyllath ’ma?”

“Cwilydd sy arni i’ch gwel’d chi’n byta cymaint!” ebai’r wraig, oedd yn sefyll gerllaw.

“O, sefwch chi! Ma’ gen i gyllath na welws ’i ddim cwilydd yriod!” ebai yntau, gan dynu ei gyllell boced allan, a dechreu lledu’r menyn ar y bara.

Bu raid i’r wraig adael iddo, nes y gorphenodd o’i ran ei hun.
 
 

 

 




(delwedd 5400)


(x
62) h85 Byta’r Ci Bach

Dro arall, aeth Isaac i Ffest Clwb, mewn pryd, ac yn newynog, fel arfer. Ymddengys fod yno le da iawn, ô’r hyn leiaf, bwytaodd ac yfodd Isaac fwy mewn gwirionedd nad allai ei gylla ddal, a theimlai yn bur anesmwyth. Yn y cyflwr ymollyngodd i gysgu.

Cyn hir llanwyd yr ystafell gan bobl awyddus i wneyd eu hol ar y pethau da oedd b’u blaen. Gan fod digon o ddarpariaeth ar eu cyfer, nid oeddynt yn rhy ofalus pa fodd yr ymddygent tuag at y bwydydd blasus. Collent ddarnau o gig, a thatws, a chabej, a diod, ar y llawr, nes gwneyd y lle yn gymysgfa i gyd.

Wedi swpera, aeth y dorf allan i ystafell arall, lle y cynhelid cyngherdd yn nglyn â’r Ffest.

Yn y cyfamser, daeth ci bychan i mewn i ystafell y wledd, ganddechreu llarpio y bwydydd oedd ar y llawr.


 

 

 


(x63)
O’r diwedd, dihunodd Isaac. Cofiodd ar unwaith pa le yr oedd, a’r cyflwr yn mha un yr aeth i gysgu ynddo. Edrychodd ar y llawr. Gwelai yno y gymysgfa o fwyd a diod oedd o’i gwmpas. Methai ddeall paham yr oedd y bwydydd a’r diod ar y llawr felly, a daeth i’r penderfynaid mai ei gylla ef oedd wedî methu dal yr hyn i wasgwyd iddo cyn yr aeth efe i gysgu.

Edrychodd eilwaith, ac fel pe wedi cael cadarnhad pellach i’w feddwl, ebai:—

“Iä. O’s dim dowt am deni! ’Ngwaith i yw hwn!” Yna, gan bwyntio â’i fys, ebai drachefn:— “Dyna’r cig fytas i — a dyna’r tatws — a dyna’r cabej — ond wir, w i ddim yn cofio fyta’r ci bach’ ’na, hefyd!”
 
 
DIWEDD
 





 

 




(delwedd 5401)

 

Gruffydd Wynn. NOFEL GARWRIAETHOL. 6c.
 
Gruffydd Llwyd. Dama Newydd. Gan ROGER THOMAS, Ystalyfera.
1s.
 
Caru, Priodi a Byw.
&c. 6c.
 
Prynwch eich Cherries eich hun. (BUY YOUR OWN CHERRIES). 6c.
 
Hanes Twm Shon Catti (Cymraeg) 1s.
 
Hanes Twm Shon Catti (Saesoneg). &c.
 
Hanes Isaac Lewis. Cymraeg a Saesoneg. Llyfr mwyaf digrif yn yr Iaith. Mewn dau Lyfr yr un. 6c.
 
Bob Owen. NOFEL GYMRAEG.
1s.
 
Dic Aberdaron (Cymraeg a Saesoneg).
6c.
 
The Welshman 1s. 6c.
 
Danfoner am Rhestr [sic] o Lyfrau eraill drwy y post am ddim.
 
Yr oll i’w cael gan -
D. DAVIES, FERNDALE.
 
W.T. Maddock & Co., Printers, Ferndale.

 

 

DOLENNAU AR GYFER GWEDDILL Y GWEFAN HWN

0043c kimkat0043c
Yr iaith Gymraeg

......

0934k kimkat0934k

Y Wenhwyseg - tafodiaith y De-ddwyrain
·····
0005k kimkat0005k
Mynegai yn nhrefn y wyddor i’r hyn a geir yn y gwefan; o’r tudalen hwn gellir hefyd
chwilio’r gwefan hwn â’r archwiliwr mewnol
·····
1051e kimkat1051e
testunau Cymraeg â throsiad Saesneg yn y gwefan hwn

º
 

 

 

 

Adolygiadau diweddaraf:  17-12-2022, 2005-09-07, 2001-10-28

 

Sumbolau arbennig: ŷ ŵ 

Isaac Lewis, y Crwydryn Digri / W R Jones (Pelidros), Merthyr Tydfil / (Blwyddyn: Anhysbys. 1910?)

Ble’r wyf i? Yr ych chi’n ymwéld ag un o dudalennau’r Gwefan “CYMRU-CATALONIA”
On sóc?
Esteu visitant una pàgina de la Web “CYMRU-CATALONIA” (= Gal·les-Catalunya)
Weø(r) àm ai? Yùu àa(r) vízïting ø peij fròm dhø “CYMRU-CATALONIA” (= Weilz-Katølóuniø) Wéb-sait
Where am I?
You are visiting a page from the “CYMRU-CATALONIA” (= Wales-Catalonia) Website

CYMRU-CATALONIA

 

 

 

hit counter script
Edrychwch ar fy Ystadegau / Mireu les estadístiques / View My Stats