kimkat2075k Llwybrau Bywyd; Neu, Haner Can' Mlynedd o Oes William D. Davies, "Y Cardotyn" o Hyde Park, Scranton, Pa. Utica, N. Y.
T. J. Griffiths, Argraffydd, 131 Genesee St. 1889.
W. D. Davies (William Daniel Davies). (Ganwyd 15 Mehefin 1838, Y Llety, Y Felindre, Pen-boyr, Sir Gaerfyrddin. Bu farw 22 Mawrth 1900, Wrecsam, Sir Ddinbych.) (61 oed).

21-09-2018

● kimkat0001 Yr Hafan www.kimkat.org
● ● kimkat2001k Y Fynedfa Gymraeg www.kimkat.org/amryw/1_gwefan/gwefan_arweinlen_2001k.htm
● ● ● kimkat0960k Mynegai i’r testunau Cymraeg yn y wefan hon www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_mynegai_0960k.htm
● ● ● ● kimkat2067k Llwybrau Bywyd – y Gyfeirddalen
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_232_llwybrau-bywyd_w-d-davies_1889_y-gyfeirddalen_2072k.htm
● ● ● ● ● kimkat2075k
Y tudalen hwn
...

 

0003g_delw_baneri_cymru_catalonia_050111
 
(delwedd 0003)

 

 

 

 

 

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Gal
·les i Catalunya
The Wales-Catalonia Website

Llwybrau Bywyd; Neu, Haner Can' Mlynedd o Oes William D. Davies, "Y Cardotyn" o Hyde Park, Scranton, Pa. Utica, N. Y.

T. J. Griffiths, Argraffydd, 131 Genesee St. 1889. W. D. Davies (William Daniel Davies). (Ganwyd 15 Mehefin 1838, Y Llety, Y Felindre, Pen-boyr, Sir Gaerfyrddin. Bu farw 22 Mawrth 1900, Wrecsam, Sir Ddinbych.) (61 oed).

 

RHAN 3
Tudalennau 240-339

Y Llyfr Ymwelwyr / El Llibre de Visitants / The Guestbook:
http://pub5.bravenet.com/guestbook/391211408/


a-7000_kimkat1356k

Beth sy’n newydd yn y wefan hon?
Què hi ha de nou en aquest web?
What’s new in this website?

---

6665_map_cymru_catalonia_llanffynhonwen_chirbury_070404
(delwedd 6665)

...
llythrennau duon = testun wedi ei gywiro

llythrennau gwyrddion = testun heb ei gywiro
....

 

 



(delwedd E0649) (tudalen 240)

240 LLWYBRAU BYWYD.

They do not worry for their loved ones,

Having gone beyond all care.

How I miss my dear and loved ones,

Through the night and morn again;
Yes, I long to see the dear ones,

But my wish is all in vain.

It is God that gives and taketh,
I must not dispute his will;

But endeavor to regain them,
In a home that's brighter still.

Mwynheais Sabboth dymunol yn y gwahanol foddion crefyddol. Am ddeg, cawsom bregeth goffadwriaethol gan y Parch. O. R. Morris, ar ol yr hen ddiacon ffyddlawn John Jones, yr hwn ydoedd newydd adael y ddaear am y nefoedd. Yr oedd yr amgylchiad yn ddyddorol i mi, gan mai ef fu yn arweinydd parod a siriol i mi pan ymwelais a Bristol Grove y waith gyntaf, pan yn cardota at gapel Hyde Park, Pa., yn 1882. “A'u gweithredoedd sydd yn eu canlyn hwy." Am ddau o'r gloch cafwyd ysgol Sabbothol luosog a llewyrchus. Yn yr hwyr cawsom gyfarfod gweddi dymunol. Dydd Llun aeth Isaac Davies a fi yn ei gerbyd trwy yr ardal, a gadawodd fi nos Lun yn nhy W. J. Williams. Hefyd, cefais amser hyfryd gyda'r Parch. John D. Williams, Foreston, yn y gyfeillach yn y prydnawn, a thrachefn yn y ty. Adroddai Mr. Williams hanesion am enwogion Cymreig yr oes o'r blaen, sef enwogion y pwlpud Methodistaidd. Wrth gwrs, yno y mae Mr. Williams yn ei elfen.

 

 



(delwedd E0650) (tudalen 241)

CHWE' BLYNEDD YN ORUCHWYLIWR. 241

Dydd Merclier, Rhagfyr 22ain, cawsom wledd feddyliol yn nghapel Foreston, dan nawdd Undeb yr Ysgolion Sabbothol. Llywyddwyd cyfarfod y boreu gan y Parch. John C. Jones, Mankato; a chwareuwyd yr organ gan Miss Bertha Roberts. Beirniaid - Y canu, Parch. John C. Jones; yr adroddiaclau, W. W. Williams, Foreston; y farddoniaeth, Parch. John B. Jones (Hendref); traethodau, Parch. Richard Isaac, Lime Spring; cyfieithiadau, W. Theophilus. Cafwyd cyfarfodydd difyr trwy amrywiol ddonianu y bobl ieuainc a'r plant, ac yr oedd dau gor yn canu yn gystadleuol - un dan arweiniad y Parch. Richard Isaac, a'r llall dan arweiniad Roger Owen, Foreston, mab Daniel Owen, Portage City. Enillodd cor y Parch. Rich'd Isaac o un radd o 125; ond rhanwyd y wobr rhyngddynt er hyny. Yn yr hwyr, cynaliwyd math o gyfarfod canu cynulleidfaol, o dan arweiniad y Parch. John C. Jones, pryd y cafwyd caneuon gan Miss Bertha L. Roberts, Caradoc Davies, ac Owen Jones. Bydded iddynt gael gwledd ragorach eto heb fod yn hir. Yna treuliais noson yn nghwmni y Parch. Richard Isaac a'i briod; a thranoeth, ar ol cael tipyn o gymdeithas Mr. Roberts, yn Lime Spring, a Mr. John T. Jones, yn ei store amrywiog, yna aethym yn y tren am Wisconsin.

 

 



(delwedd E0651) (tudalen 242)

242 LLWYBRAU BYWYD.

LLITH XX.

YN PICATONICA A DODGEVILLE. - CYMRY CYFOETHOG.

PREGETHWR CYMREIG OEDRANUS.

O Lime Spring, Iowa, cyfeiriais tua'r dwyrain i Wisconsin. Yn Rewey, aethym yn mlaenaf oil i weled Robt. J. Hughes, goruchwyliwr y Drych, a'i deulu caredig; a dranoeth (y Nadolig) gyda hwy i ganol y sefydliad. Am ddeg yn y bore, cynelid cyfarfod y Feibl Gymdeithas yn nghapel yr A.; am ddau, cawsom wledd lenyddol dda yn Peniel (T. C), dan lywyddiaeth y Parch. Owen Owens, gweinidog yr Annibynwyr; ac yn yr hwyr, gwledd arall o'r un natur dan lywyddiaeth y Parch. John Moses, ond fod y cyfarfod hwn yn rhagori ar un y prydnawn, yn gymaint a bod y plant a'r bobl ieuainc yn cymeryd rhan flaenllaw ynddo. Yn sicr, yr ieuenctyd ddylai gael mwyaf o sylw mewn cyfarfodydd o'r fath. Yn mhlith pethau eraill, cawsom araeth hyawdl gan W. J. Jones, yn erbyn y Drydedd Blaid; yna cododd yr ysgrifenydd i awgrymu y carai gael cyfleustra, ryw noson, i amddiffyn y blaid, ac er nad yw Moses hyd yma wedi ymuno a'r Drydedd Blaid, gosododd o flaen y cyfarfod wahoddiad i mi areithio ar y pwnc y nos Lun canlynol, yn nghapel Peniel. Nid oedd genyf araeth yn barod, ond yr oeddwn yn ddigon beiddgar i addaw cydsynio. Nos Lun a ddaeth, a chapelaid o bobl i'm gwrando; a bu y “Cardotyn" yn ddigon gwyneb galed i siarad ei oreu am tuag awr o am-

 

 



(delwedd E0652) (tudalen 243)

chwe' blynedd yn oeuchwyliwr. 243

ser ar ei hoff bwnc, a bydd yn dda ganddo wneyd hyny yn y lleoedd yr ymwel hwynt, pa bryd bynag y rhoddir cyfle iddo, “heb arian ac heb werth." Gwahoddodd Mr. Moses fi yn garedig i wneyd fy nghartref gydag ef tra yn y sefydliad, ar fferm y T. C, ar hyn, wrth gwrs, y cydsyniais. Wrth sylwi ar ansawdd pethau yn yr ardal, gallwn feddwl fod Moses a'i deulu o un tu, a'r eglwysi a'r gymydogaeth o'r tu arall, wedi bod yn bur ffortunus yn eu huncleb. Ffyna y teimladau goreu rhwng y gweinidog a'r praidd; a sylweddolir y teimlad da hwn gydag anrhegion, nn o'r rhai ydoedd buffalo robe werthfawr a roddwyd i Mr. Moses gan John Jones, mab D. Jones y gof. Ond gwelais yn amlwg nad yw serch Mr. Moses wedi oeri eto at eglwys Minneapolis, yn neillduol at y bobl ieuainc yno, y rhai a amlygasant eu teimladau da tuag ato trwy gyflwyno ffon hardd iddo, yr hon a ddangoswyd i mi, Ar y dydd Ma wrth diweddaf o'r flwyddyn, dechreuais ymweled a theuluoedd yr ardal, gan barhau i wneyd hyny hyd y dydd olaf o'r flwyddyn. Gwelwn gyfnewidiadau pwysig mewn 11a wer teulu y er pan y buaswn yno ddiweddaf. Yr oedd llawer o holi am y Parch. John T. Morris, Bellevue, eu hen weinidog, gan y gwyddent fod Mr. Morris a minau yn gymydogion; ac yr oeddynt am i mi gario eu coiion serchocaf ato ef a'i briod. Ymwelais a'r Parch. Mr. Hughes, gweinidog y Bedyddwyr, yr hwn ydoedd i gael donation dydd Calan. Bore y diwrnod hwnw cyfeiriais fy wyneb tua

 

 



(delwedd E0653) (tudalen 244)

244 LLWYBKAU BYWYD.

Dodgeville, lle y croesawyd fi yn nhy Thomas Davies, ganddo ef, ei briod, Mrs. Roberts, ac Annie. Erbyn agor llythyr a anfonasid i'm cwrdd i Dodgeville, cefais y newydd galarus fod yr un fu yn gofalu am danaf megys mam, yn fwy na neb arall, er's deunaw o flynyddau, yn Hyde Park, wedi marw, sef Mrs. Carson, gyda'r hon y cefais gartref cysurus. Ow! fy mam! Ni f eddyliais pan yn gadael Hyde Park, Awst 13eg, na chawn weled eich gwyneb i'm croesawu adref o'r daith hon. Ond, ha! sylweddolaf heddyw fod eich bendith ymadawol i mi cyn cychwyn yr olaf am byth! Heddwch i'ch llwch, ac angel Duw a wylio eich bedd, hyd oni ddeffroer chwi gan alwad angel arall i fyned i dderbyn gwobr o law y Barnwr cyfiawn, sef croesawiad i chwi i mewn i'r cartref lle na bydd cyfeillion i'ch tristau mwyach. “Ac nis gallant farw mwy." "Ac yn gymaint a gwneuthur o honoch i un o'r rhai lleiaf hyn, i mi y gwnaethoch." Ond, er colli cyfeillion a pherthynasau anwyl a hoff yn mro marwolaeth, rhaid i mi ghistfeinio a cheisio ufuddhau i awgrymiadau bywyd a doethineb at lwybrau dedwyddwch.

Treuliais y Sabboth cyntaf o'r flwyddyn 1887 goreu y gallwn. Aethym i'r ysgol Sabbothol am ddeg, i gapel y T. C. am ddau, i'r un lle i wrando ar y pregethwr ieuanc a gobeithiol, Rees H. Lewis, yn pregethu oddiwrth Heb. 2: 3, “Pa fodd y diangwn ni?" ac am chwech, i wrando y Parch. Sem Phillips, yn nghapel yr A., yn pregethu yn add-

 

 




(delwedd E0654) (tudalen 245)

CHWE’ BLYNEDD YN ORUCHWYLIWR. 245

ysgiadol a thanllyd am y gorpkenol a'r dyfodol, oddiar Iago 4: 14, "Y rhai ni wyddoch beth a fydd yfory." Dydd Llun, Ionawr 3ydd, arweiniwyd fi i weled Cymry Dodgeville, gan y Parch. Bees H. Lewis; a dydd Mawrth, aethym gyda'r hen gyfaill, William B. Williams, i'w gartref yn y wlad. Yn lle yr hen anedd-dy lle y preswyliai y teulu pan fum yno o'r blaen, arweinid fi i balasdy newydd, hardd, lle y'm croesawyd gan Mrs. Williams a'r plant. Bobl anwyl, er fod gan Mr. Williams 14 o blant yn fyw, a'i fod wedi claddu wyth, y mae y teulu yn llwyddo yn y byd. Cymerodd y Parch. Sem Phillips a'i ffyddlawn Charlie fi o gwmpas, o dy i dy, trwy yr oerfel a'r eira, heibio i John Williams, Ty Mawr, a llawer eraill, nes cyraedd erbyn nos dy y wraig weddw, Mrs. Williams. Mine Spring, a'i phlant, lle y cawsom amser difyi\ Dranoeth, ar ol ciniaw yn Nghaergybi, cartref hen arweinydd hawddgar, T. Williams, gelwais gyda Mr. Evan W. Williams, a'r Parch. Wm. Owens.

Boreu Gwener, cychwynais am ardal y Coed, gan gyraedd ty Robert B, Williams erbyn canol dydd. Y mae ef yn dad-yn-nghyfraith i'r Parch. J. T. Morris; a bwriada fyned jti fuan at ei ferch a'i deulu yn Bellevue. Gwelais fod amser wedi gadael ei ol yn lled drwm arno. Cefais ddwy awr o ymgom felus a'r hen Gymro twymgalon, Thomas Thomas, a'i deulu; yna dychwelais i dy Daniel Lewis, lle y cefais gysgod clud rhag rhyferthwy ystorm dair blynedd yn ol, a hefyd y tro hwn. Yr

 

 




(delwedd E0655) (tudalen 246)

246 LLWYBRAU BYWYD.

oedd y teulu yn iach, siriol a chroesawus, er fod yr hin-fesurydd y bore hwnw 44 o raddau islaw zero, ac ar bwys y felin islaw, 50 o raddau! Dywedai nn o wragedd y Coed wrthyf mai yr achos fy mod yn ddigon caled i ddal a mwynhau yr oerfel oedd, nad oedd ynof lawer o ddim ond esgyrn, ac felly f od yr oerfel yn myned heibio i chwilio am diriogaethau mwy cynes. Dranoeth, ar ol gweled teuluoedd John D. Davies a John B. Davies, mwynheais wledd ysbrydol yn nghapel yr Annibynwyr; yna aethym mor bell a thy Edward R. Jones, ac oddiyno i aros dros nos gyda Daniel J. Thomas, lle y cefais amser dyddorol, rhwng cerddoriaeth y teulu a'r ddadl o berthynas i'r Drych, y blaid Waharddol a phynciau eraill. Bore Sabbofch, aethom i gapel y Coed erbyn 10, i wrando ar Mr. Phillips yn pregethu yn fyr a theimladwy ar destyn y Cyngrair Efengylaidd - “Deled dy deyrnas." Ar ei ol, yr oedd yn rhaid cael anerchiad gan y “Cardotyn;" a'r un modd y bu yn nghapel Caergybi yn y prydnawn, a chapel Dodgeville yn yr hwyr.

Yn Dodgeville, dydd Linn, cefais ymgom a Samuel W. Reese, Ysw., cyf reithiwr enwog, a'r hwn hefyd sydd yn rhedeg ariandy yn y lle er's blynyddan, ar ei gyfrifoldeb ei hun. Un o fechgyn Llanbrynmair ydyw Mr. Reese. Ymfudodd oddiyno i Cincinnati; yna symudodd i Dodgeville yn 1852, ac erbyn hyn, ystyrir ef y boneddwr cyf oethocaf yn y dref . Y mae ganddo dri o feibion, ac nn ferch o'r wraig gyntaf. Ar y dydd olaf o

 

 




(delwedd E0656) (tudalen 247)

chwe' rlynedd yx oruchwyliwr. 247

Awst, 1886, priododd ei wraig bresenol, sef Miss Jane A. Owen, chwaer Robert Owen, Ysw., raasnachwr cyfoethog yn Dodgeville. Y niae Mr. Reese newydd fod ar ymweliad a'i ben gyfoedion a'i berthynasau o Lanbrynmair, yn Gonier, Obio. Canmolai eglwys Gomer yn fawr o berwydd ei gofal am ei pblant, canys y mae boll ieuenctyd yr ardal yn aelodau eglwysig. Bwriada Mr. Reese gymeryd taitb fwy bamddenol yr baf nesaf i'r Dwyrain, yn ngbwmni ei briod, gan alw yn Cincinnati gyda Mr. James Griffith, Ysw., ac eraill.

Y mae amryw fasnacbwyr Cymreig eraill yn Dodgeville, sef Capt. D. G. Jones, Jobn Griffith, Wm. J. Wickham, &c. Y mae J. D. Jones, stonecutter, mab-yn-ngbyfraith Mr. Joshua Roberts, Randolph, wedi eangu ei weithdy, er pan y bum yn Dodgeville o'r blaen. Ystyrir ef yn weithiwr cywrain mewn marble , &c. Y mae John Richard Hughes, y gof, hefyd wedi adeiladu efail ei hun, ac yn llwyddo, gallwn feddwl; ond nid wyf yn gweled arwyddion o gynydd. cyffredinol yn y dref, gan fod y gweithiau mwn yn darfod yn gyflym. Cefais groesaw mawr gan Gymry Dodgeville a'r cylchoedd, yn neillduol yn nheulu Thos. B. Davies, a chan y Parch. Sem Phillips a'i briod hawddgar, yr hon sydd ferch i'r Parch. John D. Davies, Dodgeville; ac mae ei mam yn chwaer i'r Anrh. W. T. Davies, Is-Ly wo draethwr Pennsylvania, a Dr. Davies, o "Wilkesbarre. Bum hefyd yn gweled y Parch. John H. Evans, yr hwn sydd wedi methu pregethu

 

 




(delwedd E0657) (tudalen 248)

248 LLWYBRAU BYWYD.

er ys tua blwyddyn. Y mae efe bellach tua 91 mlwydd oed; ond y mae ei ddeall yn fywiog, er fod y corff yn pallu. Yr oedd yn dda genyf ei gly wed yn siarad yn gefnogol i'r Drydedd Blaid. Cefais fwynhau hefyd gryn dipyn o gymdeithas y Parch. Bees H. Lewis, yr hwn sydd wedi derbyn galwad boddhaol i fugeilio eglwysi Dodge ville a Barneveld. Y mae i fod ddau Sabboth y mis yn mhob un o'r ddwy, ac i bregethu yn Gymraeg a Saesneg bob yn ail. Ymddengys i mi ei fod yn un o'r dynion ieuainc mwyaf addawol. Yr Arglwydd a'i bendithio a'r grasusau angenrheidiol, er bod yn weinidog da i Iesu Grist, trwy oes hirf aith. Y mae yn galondid iddo ef a'r eglwys weled ei fod yn gwella o ran ei gorff, yr hyn sydd yn profi fod y lle yn cytuno ag ef. Cefais hefyd ymgom a Judge John T. Jones, yr hwn sydd yn llanw cadair y Probate Judge yn Sir Iowa er ys llawer o flynyddau. Y mae yn parhau yn barchus yn meddwl y Cymry a'r Americaniaid; ac ymddengys i mi yn ddyn didwyll, cyf eillgar a diymhongar. Trueni fod ei iechyd yn w^ael; ond y mae yn well nag y mae wedi bod.

LLITH XXI.

YN BARNEVELD - AR BEN Y MYNYDD GLAS - YN YMYL “Y TRI BEDD" - CYFNEWIDIADAU.

O Dodgeville, aethym gyda'r ceffyl tân i Barneveld, gan fy mod wedi addaw i'r Parch. John H. Davies yn y Gymanfa Gyffredinol yn Milwaukee,

 

 




(delwedd E0658) (tudalen 249)

CHWE' BLYNEDD YN ORUCHWYLIWR. 249

y galwn gydag ef pan fyddai hyny yn gyfleus. Ar ol cerdded tua phedair railltir o gwnipas traed y Mynydd Glas, cyraeddais Pant Coch, cartref y fforddolion Methodistaidd yn yr ardal er's tua 40 ralynedd, er pan gyfaneddwyd y lle gjmtaf gan W. W. Williams, yr hen flaenor ffyddlawn. Ar ol i Williams fyned tua Bristol Grove, Minn., cymerodd y Parch. John H. Davies ei le, ac am y 10 mlynedd diweddaf y mae y Pant Coch, fel arfer, wedi bod yn orphwysfa y pererinion Methodistaidd. Yn awr, y mae Mr. Davies ar adael y he, a Daniel Davies, blaenor y T. 0. yn Barneveld, yn myned i gymeryd ei le; felly ymddengys fod enwogrwydd Methodistaidd i anfarwoli Pant Coch yn y dyfodol fel yn y gorphenol. Aeth Mr. Davies a fi i weled llanerch “y tri bedd," a wnaeth ddeffroi athrylith y "Pererin" i dywallt ei hyawdledd yn y Cyfaill am lonawr. Dranoeth, sef Ionawr 12fed, dyna y Parch. John H. Davies, a Frank, a Tom, yn fy nghymeryd i gyfeiriad y Bine Mounds; ac i fyny a ni yn uwch uwch i ardal y cymylau, nes cyraedd pen y mynydd uchaf rhwng yr Alleghenies a'r Mynyddoedd Oreigiog. Ar ol esgyn 1,000 o droedfeddi, a gweled y golygfeydd harddaf ac eangaf, y mae yn debyg, a welais erioed yn fy mywyd, nid ymfoddlonwn heb esgyn y grisiau celfyddydol, a diosg y menyg oddiar fy nwylaw i gerfio fy enw yn yr uchelder, yn ymyl enwau Dr. Harries, "Scopos," &c.; ond, bobl anwyl! dyna waith oer, cerfio enw uwch ben y Mynydd Glas yn 17

 

 




(delwedd E0659) (tudalen 250)

250 LLWYBRAU BYWYD.

nghanol Ionawr; ac ni chef ais i fy niwallu a bara a llaeth enwyn, na chwaith glywed fy arweinydd yn canu cerddoriaeth y cysgadur, na chwaith eistedd yn nghadair “Scopos," gan ei bod wedi ei meddianu gan nn o angylion gwyn a glan y nefoedd. Gan na roesawyd ni i aros am noson yn yr uchelder, rhaid oedd dychwel i blith daearolion i gardota ciniaw, a digonwyd ni ar fwrdd y cyfaill, Thomas J. Williams, goruchwyliwch y Drych yn Barneveld, yn nghwmni yr hwn, wedi hyny, yr aethym i weled amryw o Gymry y dref , ac yn eu plith y Parch. D. J. Phillips (A.). Y mae gan Mr. Phillips dair o eglwysi dan ei ofal, sef dwy Seisonig, ac un gymysgedig o Gymry a Saeson. Arweiniwyd Mr. Phillips gan Ragluniaeth o Sir Gaerfyrddin, D. C, tua chwe blynedd yn ol i'r maes dymnnol ac iach hwn yn ymyl y Mynydd Glas. Hefyd aeth Mr. Williams a mi i weled yr hen Gristion hynod, Ebenezer Eoach, yna i balasdy Mr. Evan J. Jones, lle y bum dros nos, ac y cawsom amser dyddorol yn ei gwmni ef a'r plant. Er fod Mr. Jones yn gyfoethog o bethau y byd hwn, ac yn meddianu dros 2,000 o erwau o dir, eto teimla mai siomedig a thrafferthus yw y byd hwn, ac yn neillduol y tair blynedd diweddaf, er pan y collodd anwylyd ei fynwes a mam ei blant; ac ar ei hoi hi, y blodeuyn prydferthaf o'u teulu, sef y bachgen ieuengaf. Tn ddiweddar priododd ei ferch henaf, gan adael ei thad, yn ol defod ac arferiad plant dynion. O! na byddai i Mr. Jones

 

 




(delwedd E0660) (tudalen 251)

CHWE’ BLYNEDD YN ORUCHWYLIWR. 251

droi ei wyneb i'r iawn gyfeiriad am elfenau dedwyddweh, fel y byddo wynfydedig yn y byd sydd yr awr hon a'r hwn a fydd.

Boreu dranoeth, ymwelsom a'r ben bererin John Leyshon, yr hwn a gwynai ei fod wedi colli ei anwyl fab Thomas yn afon angen, er pan funi yno o'r blaen; ond gallwn f eddwl fod Mrs. Leyshon, ei ferch yn nghyfraith, yn dyner o hono yn ei henaint. Aethym wedi hyny i weled Henry U. Jones, ac yna H. G. Jones, lle mae angen wedi bod yn gweithio i gymeryd y priod a'r tad ymaith yn mherson Edward Jones, yr hynod a'r enwog flaenor. Dychwelasom i Barneveld, i fwynhau tipym yn rhagor o gymdeithas yr hen Gristion, Ebenezer Roach, ac hefyd Thomas J. Williams, yr hwn sydd ddyn galluog a gweithgar, yn cadw store a warehouse cyfanwerthol, fel y mae yn masnachu gartref ac oddi cartref. Efe oedd y postfeistr o dan y weinyddiaeth Werinol ddiweddaf.

LLITH XXII.

YN MILWAUKEE, EACINE, CHIGAGO A SEFYDLIADAU CYMEEIG IOWA - EFFAITH DA OWAHARDDIAETH.

Aethym am wythnos o orphwys i ddinas brydferth Milwaukee. Cyfeiriais ar fy union i 213 Michigan St., un o gartrefi y fforddolion Cymreig yn y ddinas, yn cael ei gadw gan John O. Morris a'i briod, yr hon sydd chwaer i Gwilym Eryri. Maent ill dau yn llawn o sirioldeb, caredigrwydd a ffraeth-

 

 




(delwedd E0661) (tudalen 252)

252 LLWYBRAU BYWYD.

ineb cymdeithasol. Mwynheais ddau Sabboth yn Milwaukee yn bur gysuras. Yn gyntaf clywais y Parch. D. Ellis Evans, yn nghapel yr A., ac yna y Parch. Edward Joseph, yn nghapel y T. C. Y mae y ddau yn ddynion llafurus ac addawol. Wrth gwrs, aethym i chwilio am Powell, yn ei swyddfa ymfudol, ond yr hen le nid adwaenai mo hono mwy, am ei fod wedi cael swyddfa newydd yn uwch i fyny, ac yno daethym i'w bresenoldeb ef a Gwilym Eryri, mewn mwynhad o'i hoeirasrwyddd a'i sirioldeb arferol, ac ar ei ddeheulaw eisteddai y bardd Moriog - yr hwn sydd fel un yn gollwng dros gof ei hen gydmar, ac yn ceisio un newydd. Credwn y ceir tipyn o ddigrifwch gan y beirdd ar yr achlysur tua'r mis nesaf. Bum yn gweled y bardd Dwyfor, yr hwn oedd wedi ei garcharu gan afiechyd er ys tua dau fis, ond yn araf wella. Hefyd, bum yn gweled Robert J. Owen yn ei balasdy newydd. Canlynodd gofid ef yno; bu raid iddynt dori ei lin ymaith. Y mae yntau yn cyflym wella.

O Milwaukee aethym i Racine; ac ar ol cael derbyniad croesawus, a chyfarwyddyd gan Wm. P. Jones, goruchwyliwr y Drych, ymwelais a'r Cymry. Aehwynent eu bod wedi cael amser caled y ddwy flynedd ddiweddaf, ond fod yr arwyddion yn fwy ffafrriol am y dyfodol, gan fod amryw law-weithfeydd newyddion i gael eu cychwyn yn fuan, a bod yr hen weithiau yn adfywio. Y mae poblogaeth y ddinas tua 20,000, a llawer o honynt yn Gymry

 

 




(delwedd E0662) (tudalen 253)

CHWE' BLYNEDD YN ORUCHWYLIWR. 253

talentog a blaenllaw mewn cyindeithas a chelfyddyd - yn eu plith James B. Morris, blaenor gycla'r T. C.; Pugh a'i Gwni; Morris tfc Pugli; Lewis & Molir; Mrs. Jane Davies; Wickhani & Williams; D. E. Evans; J. E. Jones; O. D. Jones; Griffiths & Mohr ac E. O. Jones. Y niae Dr. E. E. Evans a'i fab wedi adeiladn swyddfa newydd hardd er pan fum yn Eacine o'r blaen. Yn mhlith y cyf alaf wyr gellir enwi H. D. Williams, perchenog y gwesty newydd, yn y ddinas; Anrh. E. P. Howell, T. Isaac Thomas, John E. Thomas, T. Evans, EvanW. Owens, Owen W. Owens, T. J. Evans (blaenor gyda'r A.), John J. Evans, Sr., L. J. Roberts, (blaenor gyda'r T. C), Owen Williams, John T. Williams. Y prif gelfyddydwyr - Thos. D. Howell, D. Eovdands, E. E. Evans, Eees E. Davies, W. L. Williams, Hugh Edwards, Thos. LI. Williams, O. LI. Owens a Robert Eowlands, &c. Y mae gan y Cymry ddwy eglwys yn y dref - un y T. C, dan fngeiliaeth y Parch. Joseph Roberts, a'r un Annibynol dan ofal y Parch. J. P. Williams. Wrth gwrs, y mae yno lenorion, a Syllog fel brenin arnynt. Bobl anwyl! nid oesdiwecld ar enwogion Eacine. Dyna Dr. Thos. E. Williams yn enwog fel meddyg Cymreig, a'r ddau Eowlands yn gyfreithwyr i ostegu cwerylon, ac i drefnu etifeddiaethau, &c. Wele g}Tiyrch athrylith un o feirdd Eacine ar un o arferion drwg y ddinas:

• 4 Y toboofgiaid yn't debygol - o ddwyn Aflwyddiant crefyddol; Anweddaidd, ffieiddwaith ffoL Ehy ddifoes bron i ddiafol.'"

 

 




(delwedd E0663) (tudalen 254)

254 LLWYBRAU BYWYD.

Aethym i dreulio Sabboth a rhai dyddiau yn Chicago. Cefais ddwy bregeth dda ac anogaethol gan y Parch. D. Harries, D. D. - y boreu oddiwrth Math. 5: 13 - 16, “Chwi yw halen y ddaear," ac yn yr hwyr oddiwrth 1 Petr, 2:5, “A chwithau megys meini bywiol," Dywed Dr. Harries ei fod yn well o ran ei iechyd yn awr nag y mae wedi bod er ys llawer o amser. Y mae ganddynt ysgol Sabbothol lewyrchus, dan olygiaeth yrhai canlynol: Arolygydd, D. Eichards; Ysgrifenydd, R. Evans; Profydd, D. R. Williams, yr hwn yw goruchwyliwr y Drych; Arholwr, y Parch. J. T. Evans. Sylwn fod Dr. Harries yn cymeryd dyddordeb yn yr ysgol Sabbothol, trwy fyned o ddosbarth i ddosbarth i'w sirioli, a rhwng pobpeth ymddengys fod achos crefydd yn llewyrchus yn eu plith. Gobeithio y ca y gweinidog a'r eglwys ras igydweithio amlawer o flynyddan mewn cydfwynhad o fendithion yr efengyl.

Chicago cymerwyd h ymaith yn nghyfeiriad y Gorllewin, am 11 P. M., yn un o balas-gerbydau y Chic. & Rock Island R. R., ac ar ol cysgu yn gysurus mewn cadair ogwyddedig, am tua chwe' awr, cefais fy hun yn croesi yr afon fawr Mississippi, rhwng Rock Island a Davenport, ac yna disgynais yn Columbus Junction, ar ol myned tua 240 o filldiroedd. Y cyntaf a adnabyddais yno oedd y Parch. J. E. Jones, gweinidog yr A. yn Long Creek; ac ar ol tipyn o'i gymdeithas ef a'i deulu, aethym rhag blaen trwy Columbus City, gan alw yn ei ther-

 

 




(delwedd E0664) (tudalen 255)

CHWE’ BLYNEDD YN ORUCHWYLIWR. 255

fyn eithaf yn nhy Mr. John Owens. Dymunai Mrs. Owens, sef merch hynaf y cliweddar Barch. Mr. Williams o Bradford, arnaf ei chofio at ei pherthynasau yn Scranton, sef, Mrs. Thomas ei chwaer, a theulu yr Anrh. D. M. Jones. Aethym rhagof trwy y mwd gan alw ar yr hollo Gyrary ar y ffordd, nes cyraedd ty goruchwyliwr y Drych, sef y brawd W. V. Davies, yr hwn yn ewyllysgar a aeth a mi i weled amryw o Gymry yn yr ardal, ac yn eu plith y Parch. T. H. Jones, yr hwn sydd yn weinidog llwyddianus a boddhaol ar eglwys Salem (T. C), ar yr ochr ddeheuol i Long Creek. Y mae yr eglwys hon wedi gwneyd yr hyn y dylai pob eglwys ymestyn ato, sef adeiladu ty hardd a chyfleus at wasanaeth ei gweinidog. Dranoeth, croesais yr afon i diriogaeth yr esgob Richard Hughes, yr hwn a'm derbyniodd i'w dy yn siriol; ac er fod Mrs. Hughes yn glaf 5 daeth gyda fi yn ewyllysgar i weled Cymry yr ardal; ac wrth gwrs, aeth a fi i weled eu capel newydd hardd, yr hwn a godwyd ar ol i mi fod yn Long Creek o'r blaen. Gadawsom ein gilydd yn ngorsaf y Chic. & Rock Island yn Clifton. Y diweddaf yr ymwelasom ag ef yno oedd Mr. Edward J. Davies, yr hwn sydd wedi ymneillduo oddiwrth lafuriaeth amaethyddol er pan welais ef o'r blaen.

Cymerwyd fi ymaith gyda'r gerbydres am Iowa City; a'r Cymro cyntaf a welais yno oedd Mr. D. A. Jones, goruchwyliwr y Drych yn y dref, yr hwn sydd yn fasnachwr mewn offerynau amaethyddol, <fec. Hefyd, cefais dipyn o gymdeithas Wm. Ed-

 

 




(delwedd E0665) (tudalen 256)

256 LLWYBRAU BYWYD.

wards, yr hwn sydd wedi gwerthu ei fferm yn y wlad a dyfod i'r dref i orphwys gweddill ei oes. Y mae amryw Gymry eraill yn ddinasyddion parchus yn y dref, megys Mr. Griffith, store keeper, a Daniel Davies, goruchwyliwr y Gas Co. I Old Man's Creek yr aethym nesaf. Ar ol teithio un diwrnod, cyraeddais erbyn nos i dy Hugh E. Edwards, mab-yn-nghyfraith y Parch. Griffith Roberts, Blue Earth Co., Minn.; a buan y deallais fod imi roesaw i aros dros nos. Treuliais y Sabboth gyda Daniel John a'i briod yn eu ty newydd. Boreu Sul aethym i'r ysgol Sabbothol, a'r cyntaf a'm croesawodd wedi myned i mewn oedd y Parch. D. E. Evans, y gweinidog. Am haner awr wedi pedwar, pregethodd oddiwrth Joshua 3: 15, 16, sef am yr arch yn sefyll yn yr Iorddonen, a'r bobl yn myned trwodd a'r dir sych, &c. - pregeth dda ac o nodwedd athronyddol, yr hon a gydweddai yn o dda ag aelod o Gymdeithas Athronyddol Brydeinig, &c. Yn yr hwyr traddododd bregeth Seisnig oddiwrth Math. 6: 10 - “Gwneler dy ewyllys." Gallwn feddwl fod Mr. Evans a'r eglwys yn boddloni eu gilydd yn lled dda; ond rhyfedd mor gyfnewidiol yw y byd, ac mor symudol a chyfnewidiol yw plant dynion, onide! Pum' mlynedd yn ol, pan y bum yn yr ardal o'r blaen, yr oedd y Parch. O. Morfab Jenkins yn esgob yr eglwys, a'i briod Claudia yn iach a siriol wrth ei ystlys, a thri o blant bychain yn chwareu o'u cwmpas; ond ha! tua thair blynedd yn ol, daeth yn ystorm ar y

 

 




(delwedd E0666) (tudalen 257)

CHWE’ BLYNEDD YN ORUCHWYLIWR. 257

teulu bychan dedwydd; torwyd y fam dyner a siriol i lawr gan frenin braw, a chuddiwyd ei gwedd yn y pridd yn ymyl y capel, a'i hen gartref cysegredig yn myd y Gorllewin; tra yr aeth y gweddw a'r amddifaid yn eu hol i Hen Wlad y Bryniau, oddigerth un blodeuyn, a'r mwyaf amddifad o'r teulu, yr hwn sydd yn cael ei fagu a'i feithrin yn ofalus gan Mrs. John E. Roberts, fel pe bae Rhagluniaeth wedi bwriadu iddo aros yn yr ardal i warchod bedd yr hon a gladdwyd mewn gwlacl estronol, yn mhell oddiwrth fro ei genedigaetb ar Ian y Teifi swynol. Ie, hi a abertbodd holl swynion bro ei henafiaid ar allor gysegredig ffyddlondeb mercb i ganlyn ei gwrthrych yn mhell i wlad machludiad haul, ac i orphwys o olwg rhwymedigaethau y byd! Ac erbyn heddyw, wele y Parch. D. E. Evans (Trelech) a'i deulu llawen wedi dyfocl i lanw lle teulu y blynyddoedd o'r blaen. A thyna y Parch. Evan Roberts, y mae yntau wedi myned i ffordd yr holl ddaear, a chofgolofn hardd wrth ben ei fedd; felly ei le nid edwyn ddim o hono ef mwy. Y mae amryw eraill wedi meirw yn y gymydogaeth yn y pum' mlynedd diweddaf.

Bum yn aros noson yn nhy Mr. Hugh Tudor, ac hefyd gyda Mr. John E. Roberts a'i briod. Tipyn o hyfrydwch yw cael awr o gymdeithas hen bobl dduwiol o'u bath hwy; yna gelwais yn nhy y Parch. D. E. Evans, ac y mae ef a Mrs. Evans a'r plant yn teimlo yn ddedwydd yn eu cartref newydd, ac yn hoffi y lle yn well na Plymouth. Mae

 

 




(delwedd E0667) (tudalen 258)

258 LLWYBRAU BYWYD.

yn parhau i efrydu athroniaeth, gwyddoniaeth, physigwriaeth, &c, yn ogystal a duwinyddiaeth; ac heblaw ei fod yn ysgrifenu i rai o brif gyhoeddiadau yr iaith Seisnig yn aml ar bynciau gwyddoniaeth a chrefydd, addawa roddi peth o ffrwyth ei lafur yn fuan i ddarllenwyr y Drych yn yr iaith Gymraeg. Cefais y pleser o fwynhau cymdeithas yr hen Gristion W. Morris, a'i briod ewyllysgar, a mynai ddyfod a'i gerbyd a'i geffylau gyda fi o gwmpas yr ardal, a'm dychwelyd yn ol i Iowa City, lle ni welir un saloon i werthu y diodydd meddwol, ac nid oes yno un heddgeidwad i'w weled ar yr heolydd. Gwaharddiaeth yn fethiant, ai e?

LLITH XXIII.
YN MHLITH CYMRY IOWA - CYNYDD WILLIAMSBURG -
ARDALOEDD Y GL0FEYDD.

Cefnais ar Iowa City gyda'r Chicago & Rock Island R. R., am Oxford, ac oddiyno aethym i weled Cymry Welsh Prairie, gan gyraedd erbyn nos i dreulio rhai oriau difyr o ffraethineb yr hen bererin O. W. Edwards. Dranoeth, aethym rhag blaen am Williamsburg, a chefais dderbyniad croesawus gan y Parch. Thomas E. Hughes a'i briod; ac yn yr hwyr cefais y fraint o gael cyfarfod dirwestol, yr hwn a gynaliwyd dan nawdd y Temlwyr Da, yr hwn oedd gyfarfod amrywiog o ganu, adrodd ac areithio. Cawsom dair araeth Seisnig gan y tri gweinidog, sef y Parchn. Thomas

 

 




(delwedd E0668) (tudalen 259)

CHWE’ BLYNEDD YN ORUCHWYLIWR. 259

E. Hughes (T. C.), Henry Davies (A.); a William R. Steward, gweinidog y Presbyteriaid yn y dref. Y Sul, drachefn, clywais y Parch. Thos. E. Hughes yn y bore yn pregethu yn ei gapel ei hun, oddiwrth 1 Tim. 3: 15 - ar dy Dduw, ac eglwys Dduw, yr hon yw colofn a sylfaen y gwirionedd; ond prif bwnc y bregeth oedd yr eglwys mewn perthynas â Duw, a thriniai ei bwnc yn wir dda. Yn nghapel yr Annibynwyr, yn yr hwyr, pregethai yn lle y Parch. Henry Davies, oddiwrth Job 23: 3, 7: “O na wyddwn pa le y cawn i ef” - pregeth o ansawdd feirniadol, ac o naws ysbrydol, eto yn ol natur ei destyn. Gallwn feddwl fod yr eglwysi a'r gweinidogion ar delerau brawdol a chyfeillgar a'u gilydd, fel ag y dylent fod.

Dydd Llun, aethym, yn nghwmni y Parch. Thos. E. Hughes, i weled rhai Cymry, gan fyned mor bell a thy Mr. Edward Blythin, yr hwn sydd newydd gael adferiad i'w olwg, ar ol 35 mlynedd o ddallineb. Yn sicr, nid heb achos yr oedd ei lawenydd yn fawr wrth adrodd fel y mae yn medru darllen y Beibl a'r Drych. Yna dychwelasom i'r dref; ac nid allan o le yw dweyd fod Williamsburg wedi cynyddu cryn dipyn er pan y bum yno dair blynedd yn ol, gan fod cangen o'r Chic., Mil. & St. Paul R. R. yn myned trwy eu tref. Mae y ffynon feddyginiaethol a ddarganfyddwyd ar dir 0. R. Jones, yn debyg o wneyd lles i'r dref; ac hefyd, y maent wedi darganfod glo o ansawdd rhagorol yn agos. Fel hyn, gellir tybied fod dyfodol llwydd-

 

 




(delwedd E0669) (tudalen 260)

260 LLWYBRAU BYWYD.

ianus yn aros Williamsburg, yn enwedig os llwyddir, yn ol yr amcan, i symud y county seat o Marengo yno. Er fod Iowa yn Dalaeth Waharddol, y mae pobl oreu Williamsburg yn cael gofid gan gefnogwyr ac yfwyr y diodydd meddwol, meddent hwy; ac un o'r pethau a'm synai fwyaf oedd na chwrddais ond ag un yn proffesu ei fod dros y blaid Waharddol Genedlaethol, a'r un hwnw yw Thomas A. Jones, goruchwyliwr y Drych. Ai tybed fod dinasyddion Williamsburg yn myned i ddywedyd good bye wrth y diwygiad mawr hwn, ac ymfoddloni ar agwedd anfoddhaol yr amser a aeth heibio? Aethym i dreulio diwrnod yn nghymdeithas tri o deuluoedd o Hyde Park, Pa., a'r cylchoedd. Un o honynt oedd yr hen gyfaill Thos. J. Williams, y canwr, a'i deulu, y rhai sydd yn cofio yn gynes at ugeiniau o'u hen gyfeillion yn Hyde Park a'r cylchoedd. Y mae ef a Mrs. Williams, a Tommie, yn edrych yn right ddedwydd mewn ty newydd a chysurus ar eu fferm eu hunain. Henry Jones a'i deulu, gynt o Olyphant, maent hwythau mewn amgylchiadau cysurus yn eu cartref gwledig. Teimlent hwy a minau yn ddrwg fod fy nhrefniant blaenorol yn fy lluddias i aros yn eu cymdeithas. Cefais dipyn o ymgom gyda Mr. Joseph Freeman a'i briod, gynt o Bellevue, Pa., y rhai oeddynt newydd ddychwelyd, wedi bod yno yn gweled eu perthynasau a'u hen gyfeillion. Drwg oedd genyf glywed am farwolaeth amryw o'm cydnabod yno a Hyde Park er pan adawais gartref tua chwe' mis yn ol.

 

 




(delwedd E0670) (tudalen 261)

CHWE’ BLYNEDD YN ORUCHWYLIWR. 261

Wedi aros dros nos yn nghartref T. J. Williams, cymerais y tren i South Amana. Teithiwn ar y gangen o'r Chic., Mil. & St. Paul R. R. sydd yn cael ei gwneycl i Kansas City, ac wedi hyny dros brif linell y Chicago & Rock Island, hyd Camforth, yna gyda changen o'r Chicago & N. W. hyd What Cheer, lle y mae aniryw o Gymry, a rhai o honynt yn enwog fel dinasyddion, arolygwyr, llenorion a beirdd. Yn mhlith y bosses y mae dau Gymro, sef Robert Hughes yn oruchwyliwr dros y gweithiau glo, a William Davies yn is-oruchwyliwr. Yn mhlith y beirdd a'r llenorion, y mae Morgan A. Davies (Athrywyn), Jenkin D. Rees {Gwynlas), a David Jones (Dewi Gwenog). Mae Cymraes o'r enw Mrs. J. Thomas yn cadw ty byrddio yn ymyl gorsaf y C. & R. R. R., yn nghanol y dref.

Ond dyma fi eto wedi cyraedd Muchachinock, a'r Cymro cyntaf a gyfarfyddais yma oeddy Parch. D. R. Lewis (Dewi Mynwy). Achwynai o herwydd gwaeledd iechyd, ond ar ol myned a mi o'r store i'r ty, a chael tipyn o giniaw, cefais ef yn llawer mwy siriol, ac adroddai i mi amryw o'i weithiau barddonol, megys, “O cladder fi yn yr haf," “Wele fi yn driugain oed," “Penillion coffadwriaethol i'r diweddar Barch. J. M. Jones," a “Cân gwraig y meddwyn," a'r "Rhagrithiwr." Treuliais noson yn nghymdeithas M. G. Thomas (Camarch), yr hwn sydd yn fachgen noble; a dranoeth aethym i Excelsior, lle y cefais lawer o Gymry yn roesawus a siriol. Treuliais y Sabboth yn eu

 

 




(delwedd E0671) (tudalen 262)

262 LLWYBRAU BYWYD.

plith, a chlywais y Parch. Lloyd Williams yn pregethu y bore yn nghapel y T. C, ac yn yr hwyr yn y ty ysgol i’r eglwys undebol, fel y gelwir hi. Trueni fod y Cymry yn y lle wedi methu byw yn heddychol yn yr un eglwys. Oddi yma aethym i Oskaloosa, lle nad oes yn awr ond ychydig o Gymry, yn mhlith y rhai y mae Llewelyn Lodwick, y te fasnachwr llwyddianus, ac Edwin Parry, ysgrifenydd rhanbarthol y K. of L., yr hon swydd y mae wedi lanw yn anrhydeddns er's dros dair blynedd, ac hefyd efe sydd yn oruchwyliwr gwaith nwy y dref. Un arall o Gymry anrhydeddus y dref yw Dr. Bevan, ac wrth gwrs, y mae Joseph Jones, y wagonmaker, yn llanw ei le yn en plith. Yn ganlynol ymwelais a Beacon a Givin, ac yr wyf yn awr yn ysgrifenu yn Kirkville.

LLITH XXIV.

YN KIRKVILLE, CLEVELAND, LUCAS, DES MOINES, ANGUS, COLFAX, COUNCIL BLUFFS, RED OAK, AC.

Bum ar ymweliad lled gyffredinol a Chymry Kirkville, a chefais hwy yn bobl garedig. Tybiwn fod yno ddau neu dri chant, oll yn gweithio yn, neu mewn cysylltiad a'r gwaith glo, oddigerth D. D. Davies, yr hwn sydd yn cadw store. Cymro o'r enw Richard Rosser yw yr arolygwr gweithfaol. Un eglwys undebol Gymreig sydd yn y lle, a gallwn feddwl eu bod yn gallu cydfyw yn heddychol a llwyddianus. Oddiyno aethym i Cleve-

 

 




(delwedd E0672) (tudalen 263)

CHWE’ BLYNEDD YN ORUCHWYLIWR. 263

land a Lucas, a chefais y Cymry yno yn debyg i Gymry lleoedd eraill; ond y tri Chymro a gefais yn fwyaf croesawus a chymwynasgar i mi oeddynt Geo. Williams, agent y Drych, Mr. Owen C. Roberts (Pererin) a Mr. Ellis Nichols, heddgeidwad Cleveland, yr hwn ddaeth gyda mi yn ewyllysgar i weled Cymry y dref. Yn Des Moines a'r cylchoedd, ac yn Sevastopol, y mae amryw deuluoedd Cymreig, y Parch. R. W. Hughes, Polk City, yn pregethu iddynt yn achlysurol. Cefais Gymry Angus mewn teimladau digalon, am fod bron yr holl weithiau glo yn segur, a mwy na haner y tai wedi eu gwaghau, dros amser o leiaf. Maent yn gobeithio y daw yn well yno tua diwedd yr haf. Mae o 10 i 15 o deuluoedd Cymreig yn Colfax, yn byw yn lled baganaidd, hyny yw o ran moddion crefyddol; ond yr oedd y rhan fwyaf o honynt yn perthyn i'r gwahanol enwadau crefyddol cyn dyfod i'r lle. Dymunent arnaf ddweyd, os byddai i ryw weinidog parchus alw gyda hwy wrth basio, y byddai yn dda ganddynt gael pregeth neu ddwy. Dau neu dri o weithfeydd glo sydd yno, yn gorwedd rhyw bedair milldir allan o Colfax, a thren perthynol i'r Chic. & R. I., yn myned yno dair neu bedair gwaith y dydd. Bum yn gweled a phrofi dwfr mwnawl elwir y Colfax Springs, yr hwn sydd yn rhinweddol a meddyginiaethol. Y mae yno haf-dy eang a chyfleus i fyrddio pobl yn yr haf, ac y mae golygfeydd eang a swynol o amgylch; a gwelir cerbydresi y Chic. & R. I. yn pasio ar hyd

 

 




(delwedd E0673) (tudalen 264)

264 LLWYBRAU BYWYD.

glan yr afon islaw, lawer gwaith yn y dydcl. Heblaw fod canoedd yn dyfod yno bob haf i geisio iechyd ac adloniant, y maent yn anfon y dwfr gyda'r rheilffyrdd i wahanol barthau o'r wlad, haf a gauaf.

Cipiwyd fi gan gerbydres y Chic. & R. I. i Council Bluffs ac Omaha, lle yr ymwelais ag amryw o'r Cymry; yna aethym i ardal Red Oak i ganol Cymry siriol a llwyddianus, er fod yno rai cyfnewidiadau wedi cymeryd lle er pan y bum yno dair blynedd yn ol, yn gymdeithasol a theuluol. Y mae eglwys y T. C. wedi colli Jones, ei hen weinidog, a'r Parch. Thomas Miles wedi cymeryd ei le; ond y mae yntau yn bygwth eu gadael, a myned i Nebraska i amaethu. Cefais y fraint o glywed Mr. Miles yn pregethu, a gallwn feddwl ei fod yn bregethwr rhy dda i fyned o'r pwlpud at gyrn yr aradr, oddiwrth addysgu bodau moesol i fwydo anifeiliaid. Y mae amgylchiadau felly yn peri i ni ofyn pa un ai yn mlaen ynte yn ol y mae y byd yn myned? Y mae eglwys yr Annibynwyr wedi colli ei gweinidog, ac y maent yn ceisio gan y Parch. J. E. Jones, Long Creek, ddyfod i'w bugeilio. Bum yn gweled y Parchn. Samuel Jones, Richard Jones, a T. D. Thomas, ar eu tyddynod, a gallwn feddwl eu bod yn llwyddo yn y byd hwn. Y mae llawer wedi eu colli o'r sefydliad mewn gwahanol ffyrdd yn ddiweddar, trwy ymfudiaeth a marwolaeth. Teimlir yn hiraethus ar ol John J. Roberts gan eglwys y T. C.

 

 




(delwedd E0674) (tudalen 265)

CHWE’ BLYNEDD YN ORUCHWYLIWR. 265

Ha! yn y llwybrau fel y bu,
Nid oedd i’w weled mwy;

Ei siriol wedd a'i dyner lais,
Ni cheid eu swynion hwy;

A'i le oedd wag - pa le yr aeth?
Y teulu oedd tan glwy';

Yr ateb yw, Mae yn y wlad
Lie na bydd marw mwy.

O Iowa cyfeiriais fy wyneb ar Gymry Plymouth a Dawn, Missouri. Cefais fy hen gyfaill, Benj. T. John, goruchwyliwr y Drych, yn y lle cyntaf, a'i deulu ac eraill, fel arfer; ac yr oedd T. Griffith, y goruchwyliwr yn Dawn, yn siriol a chroesawus, fel arfer. Cefais dipyn o gymdeithas y Parch. H. X. Hughes, gweinidog y T. C, ac hefyd y Parch. Griffith Roberts (A.). Y mae amaethwyr Cymreig Dawn yn weithgar a llwyddianus, heb fod yn ol i ardaloedd eraill mewn gweled gwerth offerynau celfyddydol er eu cynorthwyo i wneyd eu gwaith. Er engraifft, sylwais fod melin wynt Mr. Hugh Tudor yn pympio digon o ddwfr at holl ddybenion y fferm, ac yn malu gwenith, corn, &c. Malodd yn nghorff y ddwy flynedd ddiweddaf 4,000 o fwsieli, heblaw llifio digon o goed tanwydd. Yn yr etholiad yno, y dydd o'r blaen, cafodd T. Griffith fwyafrif am y swydd o gasglydd y trethi, ac etholwyd un o'r brodyr James yn ymddiriedolwr. Treuliais ddiwrnod yn Brookfield, tref wledig rhyw ddeunaw milltir i'r gorllewin o New Cambria, ar yr H. & St. Joe R. R.; ond tri neu bedwar o deuluoedd Cymreig sydd yn aros yno. 

 

 




(delwedd E0675) (tudalen 266)

266 LLWYBRAU BYWYD.

LLITH XXV.

YN NEW CAMBRIA A BEVIER, MO.- HELYNTION Y CYMRY YN WLADOL AC EGLWYSIG.

Ymwelais a New Cambria, Mo., yn nesaf, ac ar ol gweled y brawd Steven T. Jones, aethym trwy y diffaethwch heibio i Morgan D. Jones, yr hwn fu mor garedig a myned a fi yn mhellach fyth rhwng y llwyni, nes y cefais y fraint o weled cartref David Jones, yn mhell y tu ol i'r anialwch. Cwrddais ag ef fel Indiad ar gefn ei geffyl, ac yn rhy brysur i siarad gair a mi, ond cyfeiriai fi at y bwthyn, gan awgrymu arnaf fyned yno i gael golwg ar yr hen wreigan, ac felly y bu. Yn nesaf aethym at weithdy Mr. John Morris, lle y cefais bawb yn siriol a chroesawus, yr hyn a barodd i mi ollwng dros gof, dros amser, ddiystyrwch yr Indiad Cymreig; ond nid wyf am i’r Cymry feddwl wrth yr awgrym hwn na wna Indiaid haner gwareiddiedig America sefyll ar eu llwybr i ddweyd y ffordd wrth deithiwr anghyfarwydd, os gofynir iddynt. Yn fuan cyraeddais at yr hen gyfaill, Thomas Rees a'i deulu croesawus, ac eraill allaswn enwi; ac erbyn nos cyraeddais hyd at y Parch. Edward Thomas a'i deulu siriol. Cefais hwynt yn ymddangos yn gysurus, mewn ty newydd a adeiladwyd iddynt gan yr eglwys; ond gwelwn yno fwlch yn y cylch teuluol, er pan y gwelais hwy o'r blaen, gan i law angeu gymeryd ymaith un perl o'r goron deuluaidd, er ei osod mewn coron fwy ogoneddus yn y

 

 




(delwedd E0676) (tudalen 267)

CHWE’ BLYNEDD YN ORUCHWYLIWR. 267

nefoedd, er yr ymddangosent fel yn medru credu fod pob peth yn y ffordd oreu. Er tristwch Cymry Brush Creek, y mae amryw deuluoedd eraill wedi eu rhwygo er pan fum yno o'r blaen, ac yn neillduol dyna deulu bychan Rees Davies. O'r pedwar siriol oedd yno dair blynedd yn ol, dyna ddau yn y bedd, sef Mrs. Davies a'i brawd-yn-nghyfraith. Rhyfedd fel y mae ychydig flynyddau yn newid wyneb cymdeithas, onide?

Treuliais Sabboth yn Brush Creek - yn yr ysgol Sabbothol yn y bore, yn y bregeth am ddau, ac yn y cyfarfod dirwestol yn yr hwyr. Pregethodd Mr. Thomas yn dda yn y prydnawn, ac nid oes achos ei ganmol fel areithiwr dirwestol yn yr hwyr, gan ei fod ef a'i briod mor ffyddlon ag erioed dros ddirwest, yn bersonol a chymdeithasol, yn ogystal a Gwaharddiaeth Dalaethol a chenedlaethol, er pob gwrthwynebiad. Dydd Llun, daethant fel teulu gyda mi i Gladstone; ac wrth gwrs, yr oedd yn rhaid cael cyfarfod dirwestol nos Lun, pan y cafwyd capelaid o Gymry ac Americaniaid. Yr oedd yn rhaid i Mr. Thomas siarad yn Saesoneg, a rhywun arall dipyn yn Gymraeg o du y blaid WaharddoL Y mae pethau dipyn yn fywiog yn Gladstone, am fod cangen o'r Santa Fe R..R. yn myned drwy yr ardal. Cyraeddais erbyn nos Fawrth i gysgod cronglwyd Evan W. Roberts, a bore dydd Mercher cefais ymgom a'r Parch. G. Griffiths, a thipyn o ddadl dwym ar y pwnc Gwaharddol, ond meddai wrth ymadael, “Bydded i

 

 




(delwedd E0677) (tudalen 268)

268 LLWYBRAU BYWYD.

bawb o honom wneyd ei oreu yn ei ffordd ei hun yn erbyn y fesnach feddwol." Yna cefais ymgom gyda'r Parch. D. James, gweinidog y Bedyddwyr yn New Cambria a Bevier, yr hwn, er ei fod yn iach a siriol y dydd hwnw, sydd erbyn hyn yn dyoddef gan ergyd o'r parlys, fel yr ofnir am ei adferiad. Yn nesaf ymwelais a Chymry South Cambria, a chefais amser difyrus wrth glywed Mr. W. D. Williams a Howells, diacon y Presbyteriaid, yn dadleu egwyddorion crefydd yn ol yr hen ffasiwn,

Yn Bevier cefais fod masnach y glo yn araf, a'r pris am weithio yn isel, fel y mae y bobl yn lled ddigalon. Mwynheais Sabboth yn eu plith - y bore yn nghapel y Presbyteriaid, yn gwrandaw E. L. Jones (Mawddwy Meirion) yn pregethu, a hyny yn lled dda, er mai y Parch. Richard Pugh,. Brookfield, sydd yn gofalu am yr eglwys ddau Sabboth y mis, a'r ddau Sabboth arall yn South New Cambria. Nid ydwyf wedi ei glywed ef yn pregethu, ond y mae y bobl yn siarad yn addawol am ei ddyfodol. Y mae eglwys yr A. heb yr un gweinidog er ymadawiad y Parch. J. Velindre Jones, am yr hwn y siarada llawer yn hiraethus. A dyna y Bedyddwyr, buont hwythau heb yr un gweinidog sefydlog ar ol ymadawiad Cefni, nes y daeth y Parch. D. James i'w gwasanaethu bob yn ail a New Cambria. Am y Parch. Sam. Cheshire Pierce, yn mhlith yr Americaniaid y mae ef yn llafurio.

 

 




(delwedd E0678) (tudalen 269)

CHWE’ BLYNEDD YN ORUCHWYLIWR. 269

LLITH XXVI.

O BEVIER, MO., I MACON CITY, HUNTSVILLE, KANSAS CITY, WYANDOTTE, TOPEKA.

Aethym o Bevier i Macon City, Missouri, ac oddiyno i Huntsville, tref wledig ac ychydig o weithiau glo o gwmpas, yn y rhai y mae amryw Gymry yn gweithio, y rhai a achwynent oherwydd arafwch y glofeydd. Y mae gan y T. C. gapel ac eglwys fechan yn y lle; ac yr oedd y Parch. Richard Hughes yno ar y pryd ar ran y Gymdeithas Genadol, gan mai efe yw esgob cenadol cylch Cymanfa y Gorllewin. Yr oedd yn llawen genyf ei gwrdd fel hyn yn annysgwyliadwy, a'i glywed yn pregethu a chael tipyn o'i gymdeithas, &c. Yn nesaf aethym i Kansas City, Mo., sef un o ddinasoedd mwyaf cynyddol y Gorllewin. Haner canrif yn ol nid oedd ond dau dy, ac un Ffrancwr yn masnachu tipyn a'r Indiaid yn y fangre, ond erbyn heddyw cynwysa y ddinas tua 160,000 o drigolion, ac y mae yn parhau i gyflym gynyddu, am ei bod yn ganolbwynt manteisiol i'r Talaethau cylchynol, a llawer o ffyrdd haiarn yn rhedeg iddi, ac eraill i ddyfod. Y mae cangen o'r Chic, Mil. & St. Paul ar waith, ac i fod yn barod i Kansas City yr Hydref nesaf; ac y mae llaw-weithyddiaeth megys yn dechreu gwreiddio yno. Y mae yno amryw packing houses mawrion eisioes allant gystadlu a rhai mwyaf Chicago.

Saif Kansas City ar Ian orllewinol yr afon Mis-

 

 




(delwedd E0679) (tudalen 270)

270 LLWYBRAU BYWYD.

souri, ac yn Nhalaeth Missouri, ond mae ar y terfyn, a rhan o honi yn Kansas, Gwlad fryniog yw sylfaen y ddinas, ac o dan y pridd arwynebol y mae haenau hawdd eu cloddio o graig galch. Sylwn fod y fasnach feddwol yn ei rhwysg dieflig yn Kansas City. Daethym o hyd i ganolbwynt Cymry y ddinas (yn ymyl y Post Office) yn yr hwn le y mae swyddfa De W. P. Hughes, a swyddfa tanwydd Wm. Rees, o Bevier; ac hefyd lle addoliad yr eglwys Bresbyteraidd Gymreig a ffurfiwyd yn ddiweddar, a man cyfarfod  “Cymdeithas Americanaidd Gymreig Kansas City." Felly gwelir fod y ty yn un o'r tai rhyfeddaf yn y dref, oblegid y ffeithiau a nodwyd, ac oblegid rhesymau nad wyf am ei henwi yma. Sabboth, Ebrill 17eg, aethym yno erbyn tri o'r gloch i'r ysgol Sabbothol, ond oblegid gwlybaniaeth ni ddaeth yn nghyd ond tua dwsin o'r ffyddloniaid. Arolygid yr ysgol gan O. J. Owens (Owen Trosgol), yr hwn sydd hefyd yn oruchwyliwr gweithgar i'r Drych yn y ddinas, ac yn swyddog pwysig yn un o'r prif fasnachdai. Yn yr hwyr aethym yno i'r cyfarfod gweddi, ond bach oedd y cynulliad yn hwn eto, oblegid y gwlaw. Ar y diwedd penderfynwyd gwneyd casgliad gwirfoddol er cynorthwyo eu gweinidog a'u bugail arfaethedig i symud ei deulu o Long Creek, Iowa, i'w plith, mor fuan ag y byddo yn bosibl; a thanysgrifiwyd $30 yn y fan. Bwriada y Parch. Thomas H. Jones symud o hyn i ddiwedd Mai. Nid yw y Cymry yn lluosog iawn yn y dref hyd yma, ond

 

 




(delwedd E0680) (tudalen 271)

CHWE’ BLYNEDD YN ORUCHWYLIWR 271

tebyg fod llawer o Gymry yn anadnabyddus; bydd Mr. Jones yn myned allan i chwilio a'u casglu at eu gilydd. Y mae yno amryw Gymry parchus yn fasnachwyr llwyddianus, megys Henry, Harris & Evans, Merchant Tailors, 13 E. Missouri Ave., yn cadw tua 50 o weithwyr, ac hefyd yn llywydd y Gymdeithas Gymreig Americanaidd; John Lloyd, congl 12th & Liberty Sts., W. Hughes & Son, 107 Main St.; Henry Richards, 1501 Main St.; W. C. Jones, 610 Delaware St.; John Rowlands yn cadw ty byrddio mawr yn 1901 McGee St., lle mae tua dwsin o Gymry yn lletya, ac yn eu plith E. H. Owens (Monafab) a John Roberts (loan Glan Tewi) yr hwn a ddymunai arnaf ei gofio at Dr. Roberts, Utica, fel un o'i ddysgyblion gynt yn Nghaergybi, Mon. M fum ddigon hir yn Kansas City i wneyd fawr o nodiadau teg am y dref na'i thrigolion.

Bum hefyd yn gweled rhai o Gymry Wyandotte; Kas., i'r gorllewin o Kansas City; hefyd yn Rosedale, yr hwn le sydd yn fwy marwaidd nag y mae wedi bod, o herwydd ataliad y felin haiarn tua phedair blynedd yn ol. Gwaith i wneyd pontydd haiarn newyddion yw prif fywyd y lle yn awr, lle y mae amryw Gymry yn gweithio. Aethym yn nesaf i Topeka, Capital Talaeth Kansas; a'r Cymro cyntaf a gwrddais yno oedd Robert E. Davies, goruchwyliwr y Drych, yr hwn a aeth a ni yn llawen i weled amryw Gymry. Y mae Topeka yn dref hardd a swynol yr olwg. Ei phrif ganolbwynt masnachol a gweithfaol yw yr Atckison, Topeka &

 

 




(delwedd E0681) (tudalen 272)

272 LLWYBKAU BYWYD.

Santa Fe R. R., canys yn Topeka y mae canolbwynt y cwmni mawr hwnw; ond wrth gwrs ei gogoniant yw y State Capitol.

LLITH XXVII.

SEFYDLIADAU KANSAS.

Topeka (Kansas) aethym i Carbondale, yn yr Tin Dalaeth, yr hwn le ydoedd yn dra gwahanol i Carbondale, Pa. Methais ddyfod o hyd i un Cymro yno a allasai ddarllen Cymraeg; am hyny penderfynais gerdded i Scranton, yr hon dref oedd yn annhebyg iawn i Scranton, Pa., er mai y gweithiau glo yw prif fywyd y he. Nid oes yno chwaith ond ychydig o Gymry. Scranton aethym i Peterton; tref f echan yn ymddibynu ar y gweithiau glo yw hon eto, rhy w dair milldir i'r dwyrain o Osage City. Haen feehan tua phymtheg modfedd o drwch o lo marchnadol da geir yma, yn cyraedd dan ugeinian o filldiroedd o arwynebedd, sef o Carbondale hyd Arvonia. Dywed y mwnwyr fod y glofeydd yn myned yn dda yn Peterton ac Osage City, ond fod y pris yn isel iawn, meddent.

Yn nesaf, ymwelais ag Osage City, lle y treuliais Sabboth. Yn y bore, aethym i gapel yr Annibynwyr, i glywed y Parch. J. Velindre Jones yn pregethu, oddiwrth loan 14: 15- “O cherwch fi, ced. wch fy ngorchymynion" - pregeth dda, gymelliadol, ond i gynulleidfa feehan. Am 2: 30 y pryd-

 

 




(delwedd E0682) (tudalen 273)

CHWE’ BLYNEDD YN ORUCHWYLIWR. 273

nawn, aethyro. i'r ysgol Sabbothol at y T. C, ac hefyd i'r cyfarfod gweddi yn yr hwyr. Gwan iawn oeddent liwythau mewn rhif, ac ni cliefais y fraint o weled a chlywed Mr. Thomas, eu gweinidog, gan ei fod oddi cartref ar y pryd. Y mae amryw Gymry mewn masnach yn y dref, ac mewn parch a llwyddiant, megys J. D. Jones, yn y fasnach sych-nwyddau, a T. J. Evans, y cerddor, yn cadw music and hook store eang; efe hefyd yw chwareuwr yr organ ac arweinydd y canu yn eglwys y M- E., sef i'r gynulleidfa fwyaf yn y dref. A dyna John Williams, y gof, y mae yntau hefyd yn llwyddo, ac yn bwriadn adeiladu foundry yn fuam T mae T. Howells yn cadw masnachdy llwyddianus iawn mewn bwydydd; a'r Cymry a ddeuant i'r dref, gallant gael cartref cysurus a rhad yn restaurant D. P. Jones, yn agos i'r orsaf. Mae yn y dref feddyg anifeiliaid Cymreig - gwr newydd ddyfod o Gymrn, o'r enw William Thomas, ac y mae yn llwyddianus ytrei alwedigaeth. Cymro o'r enw D. J. Roberts y w golygydd yr Osage City Free Press. Lleinw ef le parchus yn y dref. Bum yn gweled hefyd J. S. Jones yn un o fasriachdai mwyai y dref; y mae ef yn edrych gystal ei olwg ag oedd ddeunaw mlynedd yn ol, yn Scranton, Pa. Gwelais hefyd fod Mr. Griffith F. Jones wedi cychwyn swyddfa gyfreithiol. Ni chefais y fraint y tro hwn o fwynhau cymdeithas hen oruchwyliwr y Drych a'i briod, am eu bod wedi myned i'r Dwyrain ar bleserdaith.

 

 




(delwedd E0683) (tudalen 274)

274 LLWYBRAU BYWYD.

Yn nesaf, ymwelais a Chymry Panteg, Barclay, Reading, ac Arvonia. Cefais noson ddifyr yn nghwmni Nicholas Ddu, a bum yn treio ei argyhoeddi i gredu y dylasent liwy weddio am ragor o wlaw yn Kansas. Cefais y pleser o dreulio Sabboth yn Arvonia. Yn y boreu, bum yn gwrando y Parch. J. Irlwyn Hughes yn pregethu oddiwrth Mat. 27: 50-53, sef am farwolaeth ac adgyfodiad yr Arglwydd, &c, a chawsom ganddo bregeth dda, mewn ysbryd dymunol. Yn yr hwyr, aethym i gapel y brodyr Annibynol, i wrando y Parch. D. Todd Jones yn pregethu oddiwrth Act. 12: 12, mewn perthynas i waredigaeth Pedr o'r carchar a'i rwymau mewn canlyniad i weddi yr eglwys - pregeth dda. Nid yw yr achos crefyddol yn ymddangos yn rhyw lewyrchus iawn yn Arvonia yn bresenol. Teimlwn fod pobl yr ardal yn tueddu i fod yn ddigalon ac of nus oblegid cyfyngder arianol, mewn canlyniad i'r sychder a'r methiant amaethyddol y ddwy flynedd ddiweddaf. Yn ngwyneb hyny, ac am fod amryw wedimyned o eglwys y T. C. yn Arvonia i leoedd eraill, ac i'r bedd, ac am fod ei deulu yn fawr, tueddw T yd y Parch. John Irlwyn Hughes i roddi rhybudd i'r eglwys ei fod am roddi ei gofal i fyny yn mis Awst nesaf. Bydd ef felly yn agored i dderbyn galwad o unrhyw eglwys a garai gael ei wasanaeth gweinidogaethol a bugeiliol ar ol hyny. Gobeithio y bydd i ry w eglwys sydd mewn angen am weinidog, weled ei werth, a sicrhau ei wasanaeth, canys oddiar fy adnabyddiaeth o hono

 

 




(delwedd E0684) (tudalen 275)

CHWE’ BLYNEDD YN ORUCHWYLIWR. 275

er's dros bymtheng mlynedd, credwyf ei fod yn sefyll yn uchel yn mhlith gweinidogion y T. C. mewn ystyr gydmariaethol,- er gwneyd gweinidog sefydlog.

LLITH XXVIII.

CYNYDD EMPORIA, KAS. - LLWYDDIANT Y CYMRY - AMAETHWYR Y CYLCH.

Wele fi wedi bod tua pythefnos yn Emporia a'r cylchoedd. Aethyro. yn gyntaf i fasnachdy Lewis & Edwards, headquarters y Drych i'r sefydliad. Yn ffortunus i mi ac achos y Drych, cyfarfum yno a Mr. R. J. Roberts, yr hwn oedd hamddenol ac ewyllysgar i ddyfod i'm liarwain i weled Cymry y ddinas; ac yr oedd yn un o'r arweinwyr goreu w r yf wedi gwrdd yn fy holl deithiau. Efe yw archddiacon y Presbyteriaid Cymreig yn y dref. Y mae yn cychwyn gyda'i deulu yr wythnos am dro i Gymrn i weled eu perthynasan. Yr Arglwydd a'n hamddiffyno, hyd oni ddychwelont eto i Emporia i'w cartref at eu lluosog gyfeillion. Un o'r pethau cyntaf y sylwais arno wedi dyfod i Emporia y tro hwn oedd, fod y Cymry yn lluosogi yno, ac nid hyny yn unig, ond fod arwyddion fod hen Gymry y dref yn llwyddo ac ymgyfoethogi. Y mae amryw o fasnachdai mawrion yn cael eu rhedeg gan Gymry o'r iawn ryw, y rhai sydd yn byw yn y dosbarth blaenaf o balasdai y dref. Sylwn hefyd fod masnachwyr Cymreig Emporia yn siarad

 

 




(delwedd E0685) (tudalen 276)

276 LLWYBRAU BYWYD.

Cymraeg pur gyda'u plant yn en tai, ac a'u gilydd s,c eraill yn en masnachdai, &c.

Y mae yr eglwysi Cymreig yn cynyddn a llwyddo. Mae agwedd lewyrchns ar eglwys y Presbyteriaid Cymreig, dan weinidogaeth a bngeiliaeth y Parch. John Jones, yr hwn sydd yn dal ei boblogrwydd, er ei fod yma er's 17eg o flynyddan. Yr eglwys Annibynol hefyd, mae hithau yn flodeuog dan ofal y Parch. D. A. Evans. Ac y mae yma eglwys gan y Bedyddwyr, wedi bod dan ofal y Parch. E. "W. Richards, yr hwn a ymddiswyddodd yn ddiweddar. Er fod y dref wedi cynyddu 11a wer er pan y brim yma o'r blaen, nid oes yma law-weithfeydd yn cael <eu hadeiladu hyd yma; ond y maent yn ceisio €odi boom yma yn bresenol, ac ymddengys i mi fod amryw bethan yn cydawgrymu dyfodol llwyddianus i Emporia. Gallwn gasglu fod Cymry y wlad o gwmpas mewn amgylchiadau cysnrus, ond fod sychder yr haf o'r blaen a'r haf hwn yn eu llwfrhau. Y mae y Parchn. Henry Rees a John Jones yn arlwyo bwyd ysbrydol iddynt i'r de o'r dref. Y mae amryw o Gymry amaethyddol yr ardaloedd cylchynol wedi rhoddi i fyny amaethu, a dyfod i'r dref i fyw, a buasai yn hyfrydwch genyf xoddi rhestr o'r cyfryw, gydag enwau masnachwyr Emporia; ond rhaid gochelyd meithder.

Ymddengys i mi fod Emporia yn un o'r trefydd mwyaf prydf erth ei golwg, a gweddus ei hymddangosiad cymdeithasol, o unrhyw nn wyf wedi weled trwy y wlad. Nid wyf wedi gweled ond un, a

 

 




(delwedd E0686) (tudalen 277)

CHWE’ BLYNEDD YN ORUCHWYLIWR. 277

hwnw yn Gyniro! yn feddw er pan wyf yn y dref; ond er fod Kansas yn Dalaeth waharddol, y niae ambell im yn raedru tori y gyfraith waharddol, fel pob cyfraith arall; ac y mae y si fod ambell Gyniro yn Kansas, dan enw crefydd, yn orcliudd i guddio eu cyfrifoldeb, am werthu ac yfed diodydd y fall, ar draws cyfreithiau eu gwlad, a chondemniad y byd Cristionogol a gwareiddiedig. Er hyny, y mae y gyfraith waharddol yn llwyddiant yn Kansas, yn fwy felly nag yn Iowa, yn ol fy marn L Yr wythnos ddiweddaf, pa fodd bynag, profwyd dyn yn Emporia yn enog o ladd ei gyd-ddyn tra dan effaith y ddiod feddwol.

LLITH XXIX.

TREULIO MAI A MEHEFIN, 1887, YN COLORADO - GOLYG-FEYDD AMRYWIOL - Y CYMRY.

Aethym o Emporia, Kansas, i weled y Cymry sydd yn gweithio yn chwarel y Cymro llwyddianns a chenedlgarol, Lewis W. Lewis, Ysw., yn agos i Strong City, lle y mae amryw o Gymry talentog mewn celfyddyd a llenyddiaeth, megys Thos. D. Richards, arolygwr y cloddio; Evan D. Jones, arolygwr y naddwyr, &c. Ar ol mwynhau diwrnod o'u cymdeithas, prysurais rhagwyf i Bnrrton, lle y mae tua phymtheg o deuluoedd Cymreig yn ymddangos mewn amgylchiadan dymunol, y rhan fwyaf yn amaethwyr yn byw mewn gwlad hardd a chynyrchiol.

 

 




(delwedd E0687) (tudalen 278)

278 LLWYBRAU BYWYD.

O Burrton cychwynais ar daith o tua 400 o filltiroecld yn mhellach i'r gorllewin, trwy wlad amrywiog, ar hyd glanau yr afon enwog Arkansas, heibio i amryw o drefydd heirdd a blodeuog. Synwn weled amryw drefydd yn cael eu hadeiladu mewn gwahanol fanau yn y diffaethwch tywodlyd ar y llinell derfyn rhwng Kansas a Colorado; a rhyfeddwn at eangder y cyfandir wrth gofio fy mod yn symud i'r gorllewin er's tua naw mis, ond eto heb gyraedd lawer pellach na haner y ffordd yn groes i'r cyfandir mawr, er fy mod weithiau yn myned yn lled gyflym. Yn mhell cyn cyraedd Pueblo, gwelwn fynyddoedd cribog Colorado yn y pellder gorllewinol, a'u copaau yn orchuddiedig gan eira; a Pike's Peak megys brenin arnynt gyda'i gap gwyn yn ymgodi i'r uchder o dros 14,000 o droedfeddi uwchlaw arwynebedd y mor. Ar ol cyraedd Pueblo aethym i weled yr hen Gymro twymgalon R. W. Owen, South Pueblo; yna ar ol mwynhau tipyn o olygfeydd y dref ieuanc hon wrth droed y Mynyddoedd Creigiog, cymerais y gerbydres ar y Denver & Rio Grande R. R., ar hyd glanau yr Arkansas River, eto rhwng golygfeydd rhamantus ac amrywiog nes cyraedd Coal Creek, yr hwn le sydd tua 5,500 o droedfeddi uwchlaw arwynebedd y mor, ac yn cynwys o fil i ddwy o bobl yn ymddibynu am eu cynaliaeth oddiwrth y gweithiau glo cylchynol. Y maent yn cael gweithio yn lled dda, gan fod yno y glo goreu i'r gorllewin i'r Alleghanies; a dywedir fod llwyddiant

 

 




(delwedd E0688) (tudalen 279)

CHWE’ BLYNEDD YN ORUCHWYLIWR. 279

mawr i aros y cylchoedd hyn rhwng y gweithiau glo a'r ffynonau olew. Y mae em cydgenedl yn lled luosog yn Coal Creek, Rockvale, a Williamsburg - tri lle o fewn rhyw ddwy filltir i'w gilydd, fel tri throed ystol; ond er fod poblogaeth y tri lle yn nghyd o 3,000 i 4,000, nid oes ganddynt ond un capel rhyngddynt, a'r cyfryw yn Coal Creek gan yr Annibynwyr; ac nid oedd gweinidog yr efengyl gan un enwad yn yr ardal nes i'r Parch. M. A. Ellis fyned yno yn ddiweddar, niewn canlyniad i alwad gan yr eglwys. Ymddengys i mi fod yno faes ardderchog i Mr. Ellis weithio. Mai 20fed, yn hollol annysgwyliadwy, syrthiodd i'm rhan i fod yn dyst o'r cyfammod gweinidogaethol rhwng yr eglwys dan sylw ag ef; a chan fod yr eglwys wedi cael ei dewisiad, gobeithiwn y bydd i Mr. Ellis a'i dalentau dysglaer fod dan fendith yr Arglwydd er llwyddiant Cristionogaeth, ac er gwella sefyllfa foesol preswylwyr y rhanbarth gwyllt yma o odreu y Mynyddoedd Creigiog. Sabboth, Mai 22ain, cawsom ddwy bregeth wir dda ganddo - y boreu, ocldiwrth Mat. 7: 11, “Os chwychwi gan hyny, a chwi yn ddrwg, a fedrwch roddi rhoddion da i'ch plant, pa faint mwy y rhydd eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd bethau da i'r rhai a ofynant iddo?" ac yn yr hwyr, pregeth Saesneg oddiwrth Mat. 22: 42, “Beth a debygwch chwi am Grist?"

Y mae Cymry yma yn llwyddo fel masnachwyr; a theilwng o sylw yw mai Cymro sydd yn diwallu y dref a dwfr grisialaidd er ys tua saith mlynedd,

 

 




(delwedd E0689) (tudalen 280)

280 LLWYBRAU BYWYD.

gan ei ddwyn tan y ddaear am tua phum' milldir o ffordcl. Gan fod Mr. J. L. Roberts, trwy ei lafur a'i ddiwydrwydd ei hun, wedi llwyddo i'r fath raddau, y mae yn lled sicr fod ei water works yn ffynonell cyfoeth iddo ef a'i deulu am flynyddau i ddyfod. Trwy gymorth John B. Williams, Coal Creek, a John M. Davies, Ynad Heddwch Rockvale, a'r Parch. M. A. Ellis, cefais ychwanegiad lled dda at restr tanysgrifwyr y Drych yn Coal Creek, Williamsburg a Rockvale.

Aethym rhagwyf am Canon City, tref fechan brydferth, yn ymyl y Grand Canon, lle, dan gysgod y creigiau oesol, y mae penydfa y Dalaeth, er diogelu a chosbi troseddwyr; ac ychydig yn mlaen o'r adeiladau dan sylw y mae tair o ffynonau mwnawl o fewn ugain troedfedd i'w gilydd, a phob un o honynt yn amrywio yn eu blas a'u cyfansoddiad fferyllol. Ar ol gweled tipyn o brydferthwch y dref swynol hon, aethym yn nghwmni Mr. William Z. Lewis, Canon City Hotel, a'i briod, i weled a theimlo rhinwedd y medicinal hot spring baths, y rhai sydd yn ymyl y fynedfa i'r Grand Canon, rhyw filldir a thri chwarter o'r dref. Tymeredd y dwfr yw 102 o raddau, ar ei ddyfodiad allan, a'i gyfansoddiad sydd fel y canlyn: Carbonate of soda, 73.20; of magnesia, 12.80; of lime, 33.50; sulphate of soda, 79.30; chloride of sodium, 16.20; carbonate of lithia, ychydig. Y mae llawer o ddinasyddion y dref, o'r cyfryw ag sydd wedi dyfod yma am iechyd, ac ymsefydlu ar ol cael prawf ar rinweddau y

 

 




(delwedd E0690) (tudalen 281)

CHWE’ BLYNEDD YN ORUCHWYLIWR. 281

dwfr. Nid oes ond rhyw haner dwsin o deuluoedd Cymreig yma hyd yn hyn, ond gan fod yr Atchison, Topeka & Santa Fe R. E. i ddyfod yma yn fuan, a bod y cwinni yn agor gweithiau glo yn ymyl y dref, tebyg y bydd y Cymry yn amlhau yn y gymydogaeth brydferth a rhamantus hon. Os dygwydd i rai ddyfod, gallant gael lle cysurus a rhad yn y Canon City Hotel, lle y bydd Mr. a Mrs. Lewis yn siriol weini arnynt.

Ond dyma fi yn y gerbydres eto, yn myned ar hyd glan yr afon Arkansas i fewn i wddf y Grand Canon, lle y mae y golygfeydd yn ogoneddus o wyllt a barddonol - uwchlaw eu desgrifio. Mae y creigiau tragwyddol ryw 1,000 o droedfeddi uwch ein penau o bob tu, heb na threfn na chysondeb yn yr olygfa, ac yn parhau felly yn destyn syndod am tua phedair milldir o ffordd, gan gipio ein meddwl yn ol am filiynau o flynyddau i'r cyfnodau cyn-oesol, pan oedd y creigian yna yn cael eu ffurfio yn haen ar haen, ac yna yn cael eu hysgwyd o'u lleoedd cynenid, a'u chwythu gan anadl yr Hollalluog i fyny i'r entrych yn chaos toddedig i ail orphwys ar sylfeini newyddion, er cael eu treulio drachefn gan ddyfroedd y mor, ac wedi hyny gan y tywydd a'r llifogydd am gyfnodau anhysbys. Y mae y golygfeydd yn parhau yr un o ran eu nodwedd am tua 120 o filltiroedd, nes cyraedd Leadville; ac nid wyf yn meddwl fod cymaint o olygfeydd rhamantus yn un gadwyn yn y byd a hon.


 

 




(delwedd E0691) (tudalen 282)

282 LLWYBKAU BYWYD.

Ond dyma fi wedi esgyn tua 10,200 o droedfeddi uwchlaw arwynebedd y mor, ac yn edrych ar Leadville a'i rhyfeddodau. Saif Leadville mewn pantle rhwng y mynyddoedd, yn nghanol Talaeth Colorado, tua 151 o filltiroedd i'r de-orllewin o Denver, a 157 i'r gogledd-orllewin o Pueblo, yn agos i darddiad yr afon enwog Arkansas. Tebyg fod Leadville yn un o'r lleoedd rhyfeddaf ar y ddaear. Ei huchder yw 10,213 o droedfeddi uwclilaw arwynebedd y mor; ae amgylchynir hi gan gyfres o fynyddau, fel muriau tragwyddol, y rhai sydd yn orchuddiedig gan eira oesol, ac yn rhai miloedd o droedfeddi yn uwch na'r ddinas. O dref Leadville gwelir copaau rhamantus a brithion y mynyddoedd yn uwch na'r cymylau; ac yn sicr mae yr olygfa yn wir farddonol a gogoneddus. Troer i'r cyfeiriad a fyner, copaau gwynion y mynyddoedd fydd i'w gweled yn mhob man, yn amrywio mewn pellder o 10 i 20 o filltiroedd, gallem feddwl, heb yr un fynedfa yn ganfyddadwy i fyned i'r byd allanol. Ac nid yw Creawdwr pob peth wedi gwneyd ond un porth cyfyng a throellog i mewn ac allan, a'r unig un hwnw tua 120 o filltiroedd o hyd, sef y Grand Canon i Leadville, ond y mae dau neu dri o passes uchel eraill i fewn ac allan, a thrwy un o'r cyfryw y mae cangen o'r Union Pacific R. R. yn myned i ddinas y cymylau, sef y Denver & South Park Division; a dywedir fod y fynedfa hon yr uchaf yn y byd ag y mae cledrffordd yn myned trwyddi. Ar hyd yr holl gylch

 

 




(delwedd E0692) (tudalen 283)

CHWE’ BLYNEDD YN ORUCHWYLIWR. 283

cwmpasog y mae y timber line i'w weled yr un uclider, ond oddi yno i fyny ni welir dim ond creigiau ysgythrog ac eira gwyn. Am adnoddau cyfoeth a llwyddiant Leadville, y mae yn wybyddus i'r byd erbyn hyn, mai meteloedd gwerthfawr o gelloedd y creigiau yw, niegysaur, arian, plwm, zinc, haiarn, copr, &c.; ac er fod y cyffroad cyntaf wedi darfod, y mae yn bur sicr nad yw Leadville ond megys yn ei mabandod; ac yn wyneb y profion o hyn, y mae dwy reilffordd newydd ar waith i'r he, yn ychwanegol at y ddwy sydd yn rliedeg yno eisoes. Y mae agwecld gymdeithasol, foesol, a chrefyddol, Leadville, yn ymddangos yn well nag y dysgwyliem. Wrth gwrs, yr oedd yn rbesymol dysgwyl mai duw y byd hwn fuasai ar yr orsedd yma yn y dechreuad, ac mai prif swyddogion ei lywodraeth fuasai twyll cyfoeth, hapchwareu, pleserau cnawdol, a phenrhyddid moesol, &c; ond erbyn beddyw, trwy drugaredd, y mae yr un cryfach na'r cryf arfog wedi dyfod, a chwifio ei faner yn Leadville annuwiol, fel ag y mae ei demlau a'i weinidogion yn amlhau, ac egwyddorion ei deyrnas yn dechreu dwyn y bobl i'w pwyll, ac i barchu y Sabbothau, trwy beidio gweithio ar y dydd sanctaidd, a myned i leoedd o addoliad, yn lle i'r gwaith, ac i'r gambling houses, a'r diotai.

Nos Sabboth, Mai 29ain, traddodwyd pregeth dda yn y capel harddaf yn y dref, mae yn debyg, sef capel y M. E., gan y gweinidog, ar wyl goffadwriaethol y Grand Army of the Republic, i gynull-

 

 




(delwedd E0693) (tudalen 284)

284 LLWYBRAU BYWYD.

eidfa liardd o tua mil o bobl, ac yr oedd yn bregeth bwrpasol iawn i'r aclilysur; a dydd Llun, Mai 30ain, gwnaed arddangosfa ardderchog gan gymdeithas y 6. A. E., a gwahanol gymdeithasau y dref. Oafwyd cyfarfod mor ddyddorol a Christionogol yn yr Evergreen Cemetery, ag yn unrhyw arddangosfa gyffelyb a welais yn y Dwyrain ar achlysuron o'r fath. Nis gallwn lai nag ymgolli mewn syn fyfyrdod dros amser, wrth weled cynifer wedi cael eu claddu yn nghysgod creigiau bro y cymylau, o rai a gefnasant ar froydd heirdd eu genedigaeth, mewn gwahanol wledydd y ddaear, gan adael hoff berthynasau a chyfeillion, a myned i blith creigiau ysgythrog ac anghysbell gwlad y gorllewin pell, er gwneyd eu ffortiwn o'r trysorau cuddiedig. Bwriadent yn ddiau ddychwelyd ar amser penodedig i'w hen gartrefleoedd, i dreulio gweddill eu hoes mewn llawnder a chyfoeth yn nghymdeithas y rhai a garent; ond, ha! yn lle hyny, wele hwynt wedi eu cuddio yn mro marwolaeth gwlad estronol, heb na brawd na chwaer, nac unrhyw berthynas, i gysegru eu gorweddfa a deigryn hiraeth. Ond er hyny gofelir am eu beddau gan ryw gymwynaswyr. Fel y safwn wrth fedd heb yr un gofadail uwch ei ben, daeth dwy eneth hardd i osod blodau ar y bedd. Gofynais i'm cydymaith, a wyddai ef pwy oedd yn gorwedd yn y bedd yna? "O, gwn," meddai; "fanynaygorphwys gweddillion y Cymro, y henor, y bardd, a'r Cristion, John Preese Jones o Middle Granville,

 

 




(delwedd E0694) (tudalen 285)

CHWE’ BLYNEDD YN ORUCHWYLIWR. 285

N. Y., yr hwn a adawodd ei anwyl deulu ar ol yno tua saith mlynedd yn ol, er dyfod i geisio ffawd rhwng creigiau Colorado; ond ar ol ycliydig ddyddiau o gystudd, cafodd y bardd a'r Cristion hwn ei roddi yn 'medd y dyn tylawd,' yn mhell oddiwrth y rhai a garent fwydo ei fedd a'u dagrau!" Ac yn agos i'r un llanerch gwelwn gofadail hardd i'r deg llanc gladdwyd yn fyw gan yr eira yn Home State Mine, Chwefror, 1880; a dywedid i mi fod dau o honynt yn Gymry, sef H. W., a Josiah Mathews. Ond dyna, rliaid gadael dinas y meirw ar hyn yna.

Nid oes fawr o Gymry yn adnabyddus fel y cyfryw yn Leadville - dim ond rhyw ddeg o deuluoedd Cymreig a ellais ddyfod o hyd iddynt, ond wrth gwrs, gwelais amryw o rai sengl yn ychwanegol. Nid wyf wedi gweled ond un masnachwr Cymreig yn y dref yn masnachu ar ei gyfrifoldeb ei hun, sef Mr. T. G. Roberts, 426 E. 6 St. Gallwn feddwl ei fod ef yn gwneyd yn dda wrth werthu bwydydd, &c. Y mae ef yn fab i'r Parch. Griffith Roberts, Cambria Township, Blue Earth Co., Minn. Bum hefyd, dan arweiniad Mr. Parry, gynt o Middle Granville, yn gweled Oro City, yn agen y creigiau euraidd, rhyw bedair milltir o Leadville, sef un o'r dinasoedd rhyfeddaf ag wyf wedi weled yn fy mywyd.

Aethym o Leadville gyda y Denver & South Park R. R. am 151 o filltiroedd o'r wlad fwyaf ramantus, i fyny ac i waered, rhwng a thros glog-

 

 




(delwedd E0695) (tudalen 286)

286 LLWYBKAU BYWYD.

wyni yn niro y cymylau, a'r pwynt uchaf yr aed a fi oedd Boreas Station, 11,498 o droedfeddi yn uwch nag arwynebedd y mor. Ac er ei bod yn dywydd dymnnol, ac yn ail o Fehefin, yr oedd yno yn oer gan naws yr eira o'n cwmpas. Yna araf ddisgynasom i ddyffryn prydferth South Park, ac o'i fewn cawsom giniaw da yn Como, ac yna daethom rhagom ar hyd llwybr troellog y Platte Biver B. B. nes cyraedd Denver, wedi deg awr o daith ddyddorol. Yr oeddwn wedi tynu darlun o Denver ar rwydlen y meddwl, fel dinas ar fynyddoedd ucliel Colorado; ond yn lle hyny canfyddais ei bod ar Ian y Platte Biver, ar ymyl gorllewinol preri eang a thywodlyd Colorado, ac o fewn rhyw ddeng milltir i odre Mynyddoedd Creigiog y Dalaeth. Synwyd fi hefyd at eangder a phrydferthwch y dref. Gorchuddia amryw filltiroedd o wlad, a'i holl heolydd hirion, llydain, mawrion, a gwastad, yn cael eu nawseiddio gan ddyfroedd rhedegog y Platte Biver o bob tu i'r heolydd, yr hwn a ddosberthir drachefn i ddyfrhau y gerddi a'r perllanau, &c, gan nas gellir ymddibynu dim yma ar y cymylau i beri tyfiant yn y byd llysieuol. Ac un peth arall a dynodd ij sylw fel un o geincian pwysicaf gogoniant dyfodol Denver, oedd ei hysgoldai llnosog, mawrion a heirdd, yr oil wedi eu liadeiladu oddiallan a meini caboledig, neu y priddfeini goreu; ac y mae y distadlaf o honynt mor eang a hardd ag yr ymddengys high school buildings trefydd mawrion y Dwyrain. Dywedir fod

 

 




(delwedd E0696) (tudalen 287)

chwe' blynedd yn okuchwyliwb. 287

poblogaeth y dref yn rhifo tua 80,000. Ehai o'r prif ffeithiau er sicrhau ei llwyddiant parhaol yw ei bod yn brif ddinas Colorado; y mae mewn safle fanteisiol i ddal cyfoeth mwnawl y mynyddoedd gorllewinol; y mae prif reilffyrdd y gorllewin yn canol-bwyntio yma; y mae wedi ffurfio iddi ei hun gymeriad uchel fel tref o hinsawdd iach. Y mae moesoldeb arwynebol y dref yn ymddangos i mi yn llawer uwch nag y dysgwyliais ei weled wrth ystyried perthynas Denver a gwylltineb y Mynyddoedd Creigiog. Nid wyf yn cofio gweled yr un meddwyn yn ystod y saith diwrnod wyf wedi bod yma, er fod teulu y Parch. Win. Charles yn fy nghyflym gludo trwy amrywiol heolydd y ddinas. Ni chefais gynifer o Gymry yma ag a ddysgwyhwn. Canolbwynt Cymry y ddinas yw eglwys Gymreig y T. C, ar yr hon y mae y Parch. Wm, Charles, gynt o Dodgeville, Wis., yn weinidog; a gallwn farnu yn w T yneb yr anf anteision, ei fod ef a'r eglwys yn lhvyddo mor gyflym ag y gellid dysgwyl. Khif aelodau yr eglwys yn awr pan yn flwydd oed yw 47, a gallwn feddwl fod Mr. Charles wedi llwyddo i argyhoeddi aelodau ei eglwys i gredu yn erehylldod arferion llygredig annuwiolion y dref, megys y ball a'r dance, dbc. Fel y gwyr darllenwyr y Drych, y mae yma gymdeithas arall o nodwedd Gymreig, a elwir yn “Cambrian Society;" ac er ei bod o ran ei hamcan o nodwedd ddyngarol a chenedlaethol, eto y mae lle i ofni fod rhai o'i blaenoriaid wedi yfed digon o benrhyddid moesol y

 

 




(delwedd E0697) (tudalen 288)

288 LLWYBKAU BYWYD.

Gorllewin i fedru gwawdio egwyddorion nioesol eglwysi Cristionogol y dref, ac i osod maglau llygredigaeth o flaen ieuenctyd Cymreig y dref, dan nawdd y “Cambrian Society."

Nid oes nemawr o Gymry yn masnachu ar eu cyfrifoldeb eu Inmain yn Denver. Y cyntaf o'r cyfryw a gyfarfyddais yma yw y Parch. W. D. Price, 2,634 Larimer St., yr hwn, gallwn feddwl, sydd yn gwneyd masnach dda mewn bwydydd, &c. Brodor o Sir Frycheiniog yw ef, ac wedi hyny o Carbondale, Pa.; a dymunai arnaf mewn modd neillduol, ei gofio at ei hen gyfaill Thomas Eynon, Hyde Park, Pa. Cymry eraill sydd mewn busnes ydynt John G. Jenkins, yn cadw store esgidiau yn 352^ 16th St.; D. G. Owens, gun-smith, ar Larimer St.; Win, Owen a'i Gwm., wholesale and retail hat store ar 16th St.; John Thomas,^^eller and vjatch maker, 17th St., W. Davies, teiliwr, Larimer St. Wrth gwrs, y mae yma lawer o Gymry mewn gwasanaeth anrhydeddus i'r gwahanol gwmnian a masnachdai, megys Lewis Roberts {Lewis Frycheiniog), golygydd y British American, sef cyhoeddiad wythnosol er budd y Prydeinwyr Americanaidd; W G. J&mes(GwilymDduo Went), y gof, ac amryw eraill o fechgyn nobl a allem enwi. Bum hefyd yn Argo, yn gweled aur, arian, copr, pres, plwm, &c. Yn mhlith y bosses yno y mae y Cymro siriol Thomas Thomas, ac o dan ei olygiaeth ef y gweithia y ffyddlon Wm. Griffith, un o swyddogion eglwys y T. C. yn Denver. Y mae yno bed-

 

 




(delwedd E0698) (tudalen 289)

CHWE’ BLYNEDD YN ORUCHWYLIWR. 289

war neu burop o Gymry caredig eraill yn gweithio. Ar ol dychwelyd i Denver cwrddais a hen gyfaill o Scranton, Pa., yr hwn sydd ddyn ieuanc anturiaethus, sef T. E. James, eyfanwerthwr gwair, clover, feed, glo, coed tan, &c, ar 701 hyd707 loth St. Y raae yn Denver ddau westy Cymreig, sef y Clifton Hotel, yr hwn a redir gan Aste & Jones - y cyntaf yn briod a chwaer Jones. Hefyd mae ei fam weddw yn ngofal Jones, sef chwaer i Nicholas Jones, Cambria, Wis., lle y bnont hwythau yn byw am flynyddau cyn myned i Chicago o'r lle y daethant i Denver. Mae yn y Clifton Hotel le cysurus i Gymry letya, ac y maent yn adnewyddu a harddu y lle yn awr. Y gwesty arall o radd is yw St. Charles Hotel yn ngofal Llewelyn Bees. Bum ar ymweliad hefyd ag Erie, tref tua 30 o filldiroedd o Denver, ar y gwastadedd rhwng Denver a'r Black Hills. Ymddibyna y dref am ei chynaliaeth ar ryw saith neu wyth o weithiau glo, a rhedir un o'r cyfryw gan ddau Gymro, sef Wm. Francis, goruchwyliwr y Drych yn Erie, a Mr. Thos. Bees, y cerddor o Bradford Co., Pa., y rhai sydd hefyd yn gyfranwyr o'r cwmni. Y mae yno ugeiniau o Gymry yn y dref, ond f od llawer o honynt yn myned i'r mynyddoedd yn ystod yr haf, oblegid arafwch y fasnach lo; ac y mae yno eglwys undebol Gymreig dan weinidogaeth iachus yr hen weinidog parchus J. T. Williams, ond y mae ei iechyd yntau yn pallu dan ymosodiadau yr asthma.

 

 




(delwedd E0699) (tudalen 290)

290 LLWYBRAU BYWYD.

LLITH XXX.

TRWY SEFYDLIAD^U NEBRASKA- YN OL I IOWA A WISCONSIN.

Y lle cyntaf yr ymwelais ag ef yn Nebraska, ar fy ffordd yn ol o'r Gorllewin, oedd Trenton, lle tua 233 o filldiroedd i'r dwyrain o Denver, Colorado. Yr oedd un-ar-ddeg o Gymry wedi cymeryd ffermydd tua saith milldir i'r de-orllewin o Trenton; sef Samuel Davies, o ardal Braich-yr-aur, Sir Aberteifi, D. C.; J. C. Owen, Evan Morris a Charles E. Jones, o Van Wert, O.; J. O. Jones, o Vermont; mab y Parch. T. Miles, Red Oak, la.; Joseph Thomas a'i deulu, o Williamsburg, la.; Evan D. Jones, o Long Creek, la., a chyn hyny o Sir Aberteifi; Richard R. Owen, o Turin, N. Y.; John W. Hughes, o Old Man's Creek, la., a John Morris a'i deulu, o Gymru. Gwelir nad oes yno sefydliad mawr o Gymry; ond dichon y cynydda, gan fod yno dir amaethu lled dda, gallem feddwl, ac y mae cenedloedd eraill am werthu. Tybiwyf mai prinder dwfr yw y diffyg mwyaf yno. Nid oes yno eglwys yn perthyn i unrhyw enwad, ond cynelir math o gymdeithas grefyddol gymysgedig o Fethodistiaid, Annibynwyr, Bedyddwyr, &c, a chadwant eu moddion crefyddol yn yr ysgoldy. Teimla y Cymry yn hyderus fod llwyddiant bydol a moesol yn eu haros yno; ac felly y bo, meddaf fi.

O Trenton aethym tua dau gant o filldiroedd yn

 

 




(delwedd E0700) (tudalen 291)

CHWE’ BLYNEDD YN ORUCHWYLIWR. 291

nes i'r dwyrain, nes cyraedd sefydliad Blue Springs a Wymore. Sefydliad gwasgarog yw hwn, gan fod cenedloedd eraill yn gymysgedig a'r Cyniry. Mae ei safle yn un o'r rlianbarthau harddaf a ffrwythlonaf wyf wedi weled ar fy nheithiau. Y mae yma tua deg-ar-hugain o deuluoedd Cynireig, ac, fel y gwyr darllenwyr y Drych, y mae yn eu plith feirdd a llenorion. Mae eglwys gan y T. C. yn nghanol y sefydliad, rhyw chwe' milldir i'r de o Wymore. Nid oes yn mhentref Wymore ond tua thri o deuluoedd Cymreig, ac yn Blue Springs tua yr un nifer; ac un o honynt yw teulu Edward Roderick, brawd James Roderick, Hazleton, Pa. Y mae ef yn cadw y store fwyaf yn y dref, ac y mae ei frawd ieuengaf yn Drysorydd presenol y Sir. Bum yn gweled George Roderick a'i deulu, gynt o Warrior Run, Pa., ar ei fferm, ac y mae yntau yn ymgodi i lwyddiant ar ol ei frodyr. Ymwelais yn nesaf a Pawnee City, lle y mwynheais dri diwrnod o gymdeithas ddymunol hen gyfeillion 28 mlynedd yn ol yn Aberdar, D. C. Yna aethym rhagof tua Salem, Verdon, Stella, Shubert a Nemaha. Aeth y caredig Daniel D. Davies a mi i weled amryw o'r Cymry yn ei ardal ef, a chawsorn amser difyr yn nghymdeithas y Parch. John T. James, Mr. a Mrs. John R. Jones, ac eraill. Yn sefydliad Cymreig Platte Centre, trwy gyfarwyddyd yr unig Gymro yno, sef Mr. Hughes, masnachwr llwyddianus, cefais ymgydnabyddiaeth a Mr. Elias Hughes, yr hwn yn llawen a'm cymerodd yn ei

 

 




(delwedd E0701) (tudalen 292)

292 LLWYBRAU BYWYD.

gerbyd am tua deg neu ddeuddeg milldir i'w gartref ar dyddyn eang, hardd a ffrwythlon, yr hwn y mae am werthu, o herwydd ei fod ef a Mrs. Hughes yn myned yn rhy hen i'w redeg lawer yn hwy. Dyna le dymunol i Gymro cefnog i bwrcasu cartref helaeth a chynyrchiol yn mhlith Cymry, ac o fewn milldir a haner i gapel Cymreig. Mae llawer ychwaneg o dir da ellir brynu yn y sefydliad, o gwmpas y capel Cymreig, yn Shell Creek, ac ar y gwastadtir, ac o gwmpas capel Moriah hefyd, sef ardal Gomer, ac y mae yno wlad hardd a ffrwythlon.

Y mae y Parch. Henry R. Williams yn gwneyd gweinidog da ar eglwysi Postville a Moriah, y rhai a dderbyniant gymorth cenadol gan gyfundeb y T. C, ac y maent yn llwyddo yn dda fel eglwysi ieuainc mewn gwlad newydd. Ar ol ymweled a Chymry y ddau sefydliad, aethym yn nghwmni y Parch. H. R. Williams i sefydliad Sir Wayne, lle y mae rhyw ddeg o deuluoedd Cymreig eisoes, a lle i gant neu ddau yn rhagor i gael ffermydd o dir rhagorol am o $9 i $12 yr erw. Nid oes ofn arnaf ganmol y wlad, ar ol gweled ei harwynebedd a'r cnydau o bob math a gynyrcha y tir. O Red Oak y mae y rhan fwyaf o Gymry y sefydliad wedi dyfod, a Mr. Morris, goruchwyliwr y Drych, yn eu plith; ond cyn hyny daeth amryw o honynt o Dalaeth New York, megys Wm. D. Roberts, brawd D. B. Roberts, cysodydd yn swyddfa y Drych. Hefyd Richard Jones, gynt o Utica, ac

 

 




(delwedd E0702) (tudalen 293)

CHWE’ BLYNEDD YN ORUCHWYLIWR. 293

Edward Davies a Henry E. Evans, ac amryw o'r Janiesiaid o Plainfield a chylclioedd Utica. Mae y sefydliad hwn ryw 60 milldir o Sioux City, Iowa, a'r rheilffordd yn myned o fewn tair milldir iddynt. O un o'r bryniau cylchynol gellir gweled miloedd o erwau o dir rhagorol, yn agored i'r farchnad, ac nid oes eisiau cloddio fawr o ddyfnder er cael dwfr lled dda. Mae yno lawyer o ffynonau yn cynyrchu aberoedd bycliain.

Oddi yno aethym trwy Sioux City i Peterson, Iowa, ac ynrwelais a Chymry caredig Clay County, Iowa. Mae y sefydliad hwn wedi myned trwy gryn lawer o gyfnewidiadau er gwell er pan y bum yno bedair blynedd yn ol. Mae ymddangosiad allanol y gymydogaeth wedi gwella yn fawT, a'r bobl yn ymddangos yn fwy calonog a chysurus eu hamgylchiadau, gan eu bod wedi cael cnydau da er ys blynyddau; a'r flwyddyn hon eto y mae eu daear yn llwythog o'r amrywiol ydau. Erbyn heddyw y mae sefydliad Cymreig Clay Co. yn un o'r rhai mwyaf addawol yn y wlad mewn ystyr amaethyddol; ac mewn ystyr foesol a chrefyddol, gallwn dybio fod yno dir da i egwyddorion Cristionogol flaguro a ffrwytho, ond iddynt gael y cymorth angenrheidiol. Y mae yno ddwy eglwys lled gref - un gan y Bedyddwyr, dan weinidogaeth y Parch. Thomas G. Owens er ys tua thair blynedd; a dywed y bobl yno ei fod yn bregethwr da. Rhifa yr eglwys tua 62 o aelodau. O flaen Mr. Owens bu y Parch. John W. Jones yn gwasanaethu yr

 

 




(delwedd E0703) (tudalen 294)

294 LLWYBRAU BYWYD.

eglwys am tuag 16 mlynedd heb arian ac heb
werth. Mae efe eto yn yr ardal, ac mewn amgylchiadau cysurus dan ei olewydden ei hun, yn gorphwys ar ol wyth mlynedd o weinidogaethu yn Trenton, N. Y., a deng mlynedd drachefn yn Oshkosh a Berlin, Wis., ac wedi hyny un-ar-bymtheg yn Clay Co. Y mae efe yn awr yn ei hen ddyddiau, yn gymdeithaswr siriol a lletygar; a dyna fel y canodd y Parch. Wm, Powell, o Mankato, iddo y dydd o'r blaen, wrth introducio ei hun iddo ef a
minau:

"Mae J. W., fel yr wy'n fyw,

Yn un o'r rhai hyny sydd ffyddlon i Dduw;

Faint bynag o loes a ga'dd trwy ei oes,

O glyned er pobpeth wrth Iesu a'i groes."

Am eglwys y T. C, y maent hwy unwaith eto heb bregethwr, ar ol cael eu haflonyddu am flynyddau gan rai a alwent en hunain yn bregethwyr, a'r eglwys, yn ei diniweidrwydd, yn eu credu, er ei niwed a'i thrallod. Yn enw y nefoedd, pa hyd y gwna gweinidogion gyflwyno rhyw grwydriaid afreolaidd a digymeriad, fel gweinidogion cymwys y Testament Newydd, i eglwysi diniwed? A pha hyd y gwna eglwys Dduw godi dynion i bregethu yr efengyl am eu bod yn dalentog a hyawdl, heb arwyddion o ras, trwy fywyd gweddus? neu ynte oblegid eu bod o deulu offeiriadol, neu barchus, neu am eu bod yn ddysgawdwyr? Credwyf fod yno elfenau eglwys lwyddianus eto. Deallwyf fod peth tir da ellir brynu yn rhad yn mhlith ac o gwmpas ardal Gymreig Clay Co., Iowa.

 

 




(delwedd E0704) (tudalen 295)

CHWE’ BLYNEDD YN ORUCHWYLIWR. 295

LLITH XXXI.

SEIBIANT WRTH FFYNON FEDDYGOL - YN CHICAGO - PRYSURO I GYMANFA VENEDOCIA.

Gan fod pobl gall yn cymeryd seibiant yn misoedd poeth yr haf, er adnewyddiad iechyd ac adloniant nieddwl, tueddwyf finau i ymneilldno i yfed dwfr rhinweddol ffynon “Daff Williams," yr hon sydd ddwy filltir a haner o orsaf Dowsman ar y Chicago & N. W. R. R., yn Sir "Waukesha, Wisconsin. Dywedir fod llawer wedi derbyn lles oddiwrth ddwfr “Glyn Dawen;" a gwnaeth Dr. W. G. Thomas, Waukesha, ymchwiliad fferyllol i'r dwfr, a chafodd brofion had oes ei ragorach fel dwfr meddyginiaethol yn y Dalaeth. Fy mhrofiad i yn bersonol oedd hyn: Trwy fy mod yn cael fy mlino gan ddiffyg treuliad gydag anhwylderau eraill, er's blynyddau, yr oeddwn wedi myned yn lled wan, a'r cylla am wrthod ymborth; ond cyn 24ain o oriau teimlwn fy archwaeth yn fwy awchus at fwyd; ac er yr holl boethder a'r chwysu, enillais saith pwys mewn pedair wythnos.

O Bark River aethym i Milwaukee, ac oddi yno i Chicago, erbyn yr wythnos olaf yn Awst (1887), lle y cyfarfum a Richard E. Roberts, o swyddfa y Drych, yr hwn oedd yn defnyddio ei fis adloniadol i weled rhanau o'r Gorllewin, a chael ymgom a rhai o'r canoedd goruchwylwyr lleol, ac eraill sydd yn gohebu ag ef o dro i dro er's blynyddau. Yr oedd ef a'i deulu wedi bod yn gweled eu perthyn-

 

 




(delwedd E0705) (tudalen 296)

296 LLWYBRAU BYWYD.

asau a chyfeillion yn Gomer, Ohio, Van Wert, &c., a bwriadai ef weled Racine, un o ddinasoedd prydferth glan y llyn, cyn troi yn ol i gwrdd a'i deulu yn Columbus, Ohio. Gan fy mod inau wedi gweled y rhan fwyaf o Gymry Ohio ddwywaith, heb gael y fraint o fwynhau yr un Gymanfa yn y Dalaeth, prysurais i Venedocia erbyn Awst 30, 31, lle y cefais y wledd o weled a chlywed llawer o fy hen gymwynaswyr yn yr amser aethai heibio. Dyddorol oedd gweled fod Cymanfa y T. C. yn Ohio yn symud yn mlaen gyda Christionogion y wlad ar bwnc mawr y dydd, sef pa fodd i ymddwyn at brif felldith foesol a gwladwriaethol yr oes, y fasnach feddwol. Yn ol darlleniad gweithrediadau y Gymanfa o'r blaen, pasiwyd cyfraith waharddol, yn amlygu ei bod yn iawn i'r eglwysi ddiarddel yr aelodau a wrthodant ardystio yn erbyn y fasnach feddwol fel diod gyffredin, &c.; ac yn y Gymanfa hon pasiwyd deddf waharddol, fel nas goddefir yn aelodau eglwysig o fewn cylch y Gymanfa, neb a wertho ddiodydd meddwol, neu a ardretho eu tai at wasanaeth y fasnach feddwoL Felly gallwn ddysgwyl nad yw yr amser yn mhell pan fydd y Gymanfa hon yn argyhoeddi ei deiliaid o'u dyledswydd Gristionogol i ymuno a'r blaid wleidyddol ag y byddo difodi y fasnach feddwol ei hamcan blaenaf, am mai hi yw melldith fwyaf y Weriniaeth, yn foesol, cymdeithasol, a gwladwriaethol. Pregethwyd nos Fercher gan y Parchn. John R. Jones, Ebensburg, a D. Jewett Davies,

 

 




(delwedd E0706) (tudalen 297)

CHWE’ BLYNEDD YN ORUCHWYLIWR. 297

Newark; clydd Iau, am ddeg, gan D. J. Jenkins, Jackson, a Dr. Howell, Columbus; am ddau, gan Owen Jones, Drefnewydd, G. C, ac Ebenezer Evans, Youngstown; ac yn yr hwyr, gan Isaac Edwards, Jackson, ac Edward Thomas, o Gyniru. Yr oedd yr holl weinidogaeth o nodwedd dda, ac ymarferol. Sylwn hefyd fod Cymry Van Wert wedi dysgu y ddyledsv^ydd weddus o brydlondeb wrth ddyfod i'r capel yn lled dda, fel ag yr oedd y capel mawr yn orlawn o bobl o olygfa weddus. Gyda golwg ar bethau yn gyffredinol yn y dref, da oedd genyf weled fod yr holl fasnachwyr, oddigerth y postfeistr a'r cigydd, ac un saer coed, yn Gymry, a Thomas Jones, Ysw., yn ei store fawr ddwbl, ar ben y rhestr. Trueni na bae holl sefydliadau Cymreig y wdad yn efelychu Cymry sefydliad Yan Wert yn y plyg teilwng hwn.

LLITH XXXII.

BYR-GRYBWYLLION AM DAITH TRWY OHIO - CYRAEDD ADREF YN CHWEFROR, 1888.

Wedi gadael Yenedocia, ymwelais a Chymry Massillon, Pigeon Run, Justus, Beach City, Canal Dover, a New Philadelphia, lle y derbyniwyd fi yn garedig i dy J. A. Evans, yr hwn a aeth a mi i weled rhai o'r Cymry, ac yn eu plith John A. Jones, y pri'f gelfyddydwr yn y felin haiarn, Cymro siriol, 20

 

 




(delwedd E0707) (tudalen 298)

298 LLWYBRAU BYWYD.

gynt o Dowlais. Yn nesaf ymwelais a Chymry Barnhill, rhyw chwe' milltir o New Philadelphia. Arosais dros y Sabboth gyda Thos. Phillips (Talfan), yr hwn sydd wedi bod mor feiddgar o dro i dro, ar faes y newyddiaduron, yn gwrthwynebu y Cymro Gwyllt, Mrs. Margaret Roberts, a'r personau a wisgant yD.D. Er y cwbl, ymddyga fel oen yn ei gartref, ac yn ei deulu yn debyg i Gristion. r Efe yw arolygwr im o'r gweithiau gio yno, ac yr oedd y gweithwyr yn siarad yn barchus am dano. Aeth a mi trwy y gwaith, ac er mai y dynion haiarn a dnr yn cael eu gyru gan yr awyr pur (compressed air) sydd yn tori y glo ganddo trwy y gwaith, y mae pob peth yn myned yn mlaen yn esmwyth a threfnus, ac yr wyf yn deall fod yn angenrheidiol cael yn agos gymaint o ddynion i redeg gwaith yn briodol gyda'r peirianau tori glo ag hebddynt.

Gan fyned trwy Uhrichsville a Dennison cyraeddais Sherrodsville, lle y cwrddais a Tafalaw a'i gwmni cerddgar. Gallwn feddwl eu bod yn cymeryd yn bur dda. Y tro olaf hwn llwyddwyd i gaelgan Tafalaw i ganu “Bedd Gelert," a chanodd yn dda, pan gofiom mai dyma y tro cyntaf iddo ganu yn gyhoeddus er's blynyddau. Ond Miss S. A. Tafalaw Jones yw canolbwynt atdyniad y cwmni hwn. Y mae hi ar ddychwelyd i Boston i ymberffeithio yn ei doniau. Llwyddiant iddi, meddaf, i esgyn grisiau gogoniant cerddorol. lle new-

 

 




(delwedd E0708) (tudalen 299)

CHWE’ BLYNEDD YN ORUCHWYLIWR. 299

ydd yw Sherrodsyille, rhyw bump neu chwe' inlwydd oed, yn cael ei gynaliaeth oddiwrth y gweithiau glo. Un o'r prif ddynion sydd wedi rhoddi bywyd roasnackol yn y lle yw W. A. Dayies, Ysw., yr hwn gydag un arall sydd berchenog tri o'r banciau glo. Y mae yn un o'r dynion mwyaf diymhongar yn y he, ac yn mwynhau cyradeithas ei weithwyr. Rhyw 200 neu 300 o Gymry sydd yn yr ardal, y rhan fwyaf yn ymddibynu ar weithiau Mr. Dayies am eu cynaliaeth. Y mae ef a Jas. Owens, Ysw., diweddar o Thomastown, hefyd yn rhedeg y store fwyaf yn y clref. Y mae eglwys Gynulleidfaol Gymreig newydd gael ei chychwyn yno, a gallwn feddwl fod gwir angen am dani i wrthweithio tipyn o ddylanwad ofnadwy y fasnach feddwol yno. Ehedir y gwesty Cymreig gan Mr. D. E. Jones a'i deulu, ac y maent yn cadw lle cysurus a rhad. Bum hefyd yn Dell Roy, lle prydferth rhwng y bryniau, rhyw chwe' milltir i'r dwyrain o Sherrodsyille; ond nid oes yno yn awr ond rhyw chwech o deuluoedd Cymreig, gan fod y gweithiau glo wedi sefyll yno. Aethym yn nesaf i weled yr ychydig Gymry sydd yn Mineral Point, ac oddi yno i droi yn mhlith Oymry Howensteine, Canton, Osnaburg, Alliance, Youngstown, Church Hill, Sodom, Coalburg, Brookfield, Sharon, a Hubbard. Agwedd isel oedd ar y gweithiau yn y lleoedd hyn, gan fod y glo wedi ei weithio allan; ac y mae llawer o breswylfeydd wedi eu gadael yn

 

 




(delwedd E0709) (tudalen 300)

300 LLWYBRAU BYWYD.

angliyfanedd. Pa fodd bynag, y mae llawer o Gymry da wedi aros yn y gwahanol leoedd. Yn mhlith Cymry Church Hill, daethym o hyd i'r Parch. A. S. Phillips, yr hwn a'm harweiniodd o gwmpas hyd oni adawodd fi yn ngolwg Sodom. Antnriais i'r Sodom yma fy lmnan, ac ni welais argoel fod y dinasyddion mor ddrwg a phobl yr hen Sodom gynt. Gan ei bod wedi hwyrhau arnaf , cefais fy nghroesawu i dy y lletygar David Owens a'i deuln caredig; ac nid aflonyddwyd arnaf fi fel ar ymwelwyr Lot gynt. Nid oedd y gymdeithas yn gyflawn, am fod yr erysipelas yn poeni Mr. Owens. Dranoeth eto, aethym rhagwyf tna Coalburg a Brookfield, lle bn fy hen gyfaill, John L. Thomas, ac eraill, yn siriol wrthyf; ac am Sharon, y mae yn edrych yn addawol yno am y dyfodol, ond fod y bobl yn bryderns ar hyn o bryd am fod y nwy naturiol yn gomedd rhoi digon o wres iddynt allu gweithio. Dychwelais trwy Hnbbard i Youngstown, lle cefais y fraint o glywed Abraham Edmunds o Llaneurwg yn pregethu, Sabboth, Hydref 16eg. Nos Lun, yr 17eg, cawsom gyngerdd gan Madam Gwenfil Davies o Gymru, ac amryw o'r cantorion cartrefol yn ei chynorthwyo.

Ond dyna yr elfenau yn fy nghipio eto yn ol i gyfeiriad y de-orllewin, a'r lle cyntaf yr arosais ynddo oedd Canton, tref hardd a bywiog, heb ond ychydig o Gymry ynddi. Coshocton sydd dref wledig, heb ond ychydig o weithian nac o Gymry.

 

 




(delwedd E0710) (tudalen 301)

chwe' blynedd yn obuchwyliwk. 301

Wedi en gweled, cefais y pleser o glywed y Gwaharddwr talentog, Walter Thomas Mills, yn beirniadn gwrthwynebwyr y Drydedd Blaid, gan ddangos ynfydrwydd y dynion a'n gwawdiant am bleidleisio i blaid mor fechan, gan fod yn angenrheidiol i blaid wleidyddol newydd fod fel wedge a blaen tenen a llym iddi, ac yn tewychu at y bon er hollti y log yn llwyddianus. Pangosai fod blaen miniog y wedge "Waharddol yn myned rhagddi yn rhagorol i'r hen logiau diffrwyth er en cymwyso i dan. Yn Zanesviile, cefais y felin rolio, lle y gweithia y rhan fwyaf o Gymry y dref, yn rhedeg ar ei heithaf . Yn nesaf , ymwelais a Granville a'r Cymry cylchynol. Tref wledig yw hon, tuag wyth milltir i'r gorllewin o Newark, ac y mae yn un o'r trefydd prydferthaf o'i maint a elhr weled, yn sefyll mewn gwlad iach a swynol. Prif ogoniant Granville yw y coleg enwog sydd yno gan enwad parchus y Bedyddwyr, lle y mae tua 200 o efrydwyr yn cael eu cymwyso at oes o ddefnyddioldeb; a bwriada yr un cyfundeb sefydlu coleg i'r rhyw fenywaidd yn fuan. Y mae sefydliad o'r fath eisoes gan y Presbyteriaid yn y dref. Y mae gan y Bedyddwyr, y Presbyteriaid, a'r Methodistiaid Esgobawl, addoldai can hardded ag a ellir weled yn y trefydd mawrion; ac y mae eglwys fechan gan y T. C, dan ofal y Parch. D. Jewett Davies, Newark, ac eglwys Gymreig o tua'r un maintioli gan yr A., dan ofal y Parch. J. G. Thomas. Cynelir yr eglwysi Cymreig

 

 




(delwedd E0711) (tudalen 302)

302 LLWYBRAU BYWYD.

yn benaf gan weddillion yr hen sefydliad Cymreig, y rliai sydd wasgaredig yn mhlith amaethwyr yr ardal. Un peth teilwng o sylw yw, nad oes yn y dref yr nn ty i werthu diodydd raeddwol er llithio gwyr ieuainc y coleg; ond y niae cynllwynwyr y pwll diwaelod wedi bod ar eu heithaf i sefydlu y cyfryw o'r tu allan i'r terfyn trefol, a llwyddwyd i fagln tri o'r efrydwyr yn y ffau uffernol, f el y gorfu iddynt adael y coleg heb eu graddio, mewn siomedigaeth a gwarth. Y mae awdurdodau y dref a'r colegau yn penderfynu cadw y fasnach feddwol o'r he, costied a gostio.

Ar y Welsh Hills, rhwng Granville a Newark, trigiana rhai Cymry, ac y mae capel bychan gan y T. C. yno, dan ofal y ffyddlawn David Hughes, lle yr ymgynull i addoli yr ychydig Gymry sydd wedi glynu wrth eu hiaith, fel gweddillion hen sefydliad Cymreig y “bryniau Cymreig" hyn. Dan arweiniad y Parch. D. Jewett Davies, bum yn mhlith Cymry Newark, lle y gwelwn fod yr eglwysi Cymreig yn cyflym farw o henaint, gan fod y bobl ieuainc yn myned i'r eglwysi Seisnig. Teimlo dipyn yn ddigalon y mae y Parch. D. Jewett Davies a J. G. Thomas o'r herwydd; ond er fod y dref yn dra Democrataidd a Seisnigaidd, yr oedd hen ohebydd y Drych o Washington, D. C, y blynyddoedd o'r blaen, yn siarad Cymraeg pur a mi ar yr heol, a hyny tra y clywai yr Americaniaid, er ei fod yn ymgeisydd am Senedd y Dalaeth.

 

 




(delwedd E0712) (tudalen 303)

CHWE’ BLYNEDD YN ORUCHWYLIWR. 303

Ar fy nghyraeddiad i Shawnee, un o'r pethau cyntaf a dynodd fy sylw oedd gwahoddiad Pabyddol i gyfarfod dirwestol, ac am y waith gyntaf penderfynais fyned i glywed tri offeiriad Pabyddol yn areithio dirwest, ac mewn gwirionedd siaradent yn dda, yn yr hen ffasiwn o ddylanwad moesol, ar y pwnc. Wrth gwrs, prin y gellir dysgwyl i'r Pabydd fod yn y flaen-fyddin ddirwestol gyda'r Drydedd Blaid. Cymaint a ellir ddysgwyl i Babydclion wneyd yw dylyn yr ol-fyddin ddirwestol ag y perthyna golygyddion y wasg Gymreig iddi; yna erbyn dydd mawr y frwydr, byddant barod i lanw y rhengoedd ymosodol, er sicrhau y fuddugoliaeth fawr o rwymo y fasnach feddwol, a'i thaflu i “gerwyn fawr digofaint Duw." Nos Lun, Hyd. 31ain, drachefn, cawsom aT\T a thri ehwarter o araeth ddirwestol Gymreig yn nghapel y T. C, gan y Parch. D. Jewett Davies, Newark. Trafodai ef y pwnc yn benaf yn ei w T edd gyfreithiol, talaethol, a chenedlaethol, ac ^vrth gwrs, ei brif amcan oedd dangos yr angenrheidrwydd am y blaid Waharddol. Sylwn fod yn y cyfarfod amryw o'r un syniadan a'r areithiwr, er fod mwyafrif Cymry Shawnee, hyd yma, yn aros yn yr hen blaid Werinol. Cafwyd sylwadau pwrpasol gan y Parch. LI. S. Davies, gweinidog yr A., ar y dechreu, a'r diwedd fel llywydd y cwrdd. Y mae Mr. Davies yn ddyn caredig a chymwynasgar, a chan fod Morgan Hughes, goruchw T yliwr y Drych, yn glaf, daeth i'm hebrwng

 

 




(delwedd E0713) (tudalen 304)

304 LLWYBRAU BYWYD.

hyd New Straitsville. Oddi yno cyfeiriais tua Jackson, Gallia, Cincinnati, a Columbus.

M oddef terfynau fy llyfr i mi gylioeddi fy

lioll lythyrau i'r Drych, yn cynwys lianes fy lioll

grwydriadau yn Delaware, Radnor, Gomer, &c.

Cyraeddais adref i Hyde Park, erbyn Chwefror,

1888, ar ol absenoldeb o ddeunaw mis. O hyny

liyd yn hyn, yr wyf wedi cyfyngu fy nlieithiau i

Dalaeth Pennsylvania.

W. D. Davies.

Hyde Park, Pa., Mawrth 1, 1889.

 

 




(delwedd E0714) (tudalen 305)

AMKYWIAETHAU. 305

AMRYWIAETHAU.

DYFODOL Y TALAETHAU UNEDIG.

PAPYE A DDARLLENWYD O FLAEN CYMDEITHAS ATHRONOL HYDE PARK, PA.

Mr, Llywydd a Boneddigion: Mewn Cymdeithas Athronol o fatb hon, a byny mewn gwlad Werinol, rhesyniol i ni, ar brydiau; geisio dyfalutynged ddyfodol ein gwlad; eto teimlwyf yn wylaidd i draetbu ar destyn mor fawr, eang, dyrys a dirgeledig, o flaen pobl ddiwylliedig ac athronyddol. Pa fodd bynag, gan fy mod yn ddinesydd Americanaidd er's blvnyddau bellach, ac wedi teithio miloedd o filldiroedd ar liyd a lled y gwabanol Dalaethan, gan gadw fy llygaid a'm clustiau yn agored i sylwi ar egwyddorion a symudiadau y bobl, mewn gwahanol ddosbarthiadau o gymdeithas; a clian fy mod yn y cyfamser wedi sjhvi gyda dyddordeb ar y prif symudiadau gwleidyddol, trwy newyddiaduron y gwahanol bleidiau, dylwn fedru eich dyddori am ycliydig amser, wrth geisio ymboli ag arwyddion yr amserau, mewn pertbynas i ddyfodol y Weriniaetb fawr ag yr ydym ni yn cael y fraint o fod yn ddinasyddion o boni, ac yn

 

 




(delwedd E0715) (tudalen 306)

306 LLWYBKAU BYWYD.

arbenig felly yn ngwyneb y ffaith ein bod yn byw mewn gwlad ag y mae ei deddfau a'i chyfreithiau yn hawlio ac yn gorchymyn i'w holl ddinasyddion fod yn wladweinwyr ymarferol.

Cyn y gallwn gael unrhyw fath o ddirnadaeth gwerth sylw, am ffeithiau dyfodol ein Gweriniaeth, rhaid cymeryd cylchdroadau olwynion y cynoesau, yn ogystal a'r presenol i ystyriaeth; ac er gwneyd hyny nis gall y meddwl mwyaf athrylitbgar gyraedd sicrwydd am y dyfodol - y tebygolrwydd ydyw terfyn eithaf y meddwl, am ffeithiau dyfodol mewn ystyr gwladwriaethol. Ond nis gallwn f anylu yn ormodol ar ffurfiad, cynydd, nac achosion dymchweliad rliai o brif deyrnasoedd y ddaear mewn gwahanol oesoedd, er cydmaru yr eiddom ni a liwynt; na chwaith nodi elfenan llwyddiant a pharliad y teyrnasoedd sydd wedi gorchfygu pob elfen beryglus i'w parhad a'u lianrhydedd eenedlaethol am ganrifoedda chenedlaethau; canys pe rhoddem ormod o bwys ar wersi y gorplienol, wrth ffurfio ein syniadau am y dyfodol, caem ein harwain i gyfeiliornadau dyrys. Er engraifft, ni byddai yn iawn i ni broffwydo yr nn dygwyddiadau, a chyfnewidiadan i'n Gweriniaeth ni ag a fu yn ffeithiau i'r Weriniaeth Eufeinig, oblegid gwahaniaeth mawr amgylchiadan y ddwy. Galln y fraich filwrol

 

 




(delwedd E0716) (tudalen 307)

AMEYWIAETHAU. 307

yodedd prif allu llywodraethol y Weriniaeth Rufeinig, ond galki argylioeddiadol y meddwl dynol a Christionogol yw prif allu llywodraetho] y Weriniaeth Americanaidd. Cyflymdra y march oedd terfyn eu cyflymdra symudol hwy; ond cyflymdra y fellten yw terfyn ein cyflymdra trosglwyddol ni. Cymerai fisoedd i hysbysu y dinasyddion Rhufeinig am deyrnfradwriaeth un o'i swyddogion uchelgeisiol, tra y byddai un dydd yn ddigon o amser i gario y cyffelyb newydd i haner can' mihwn o ddeiliaid y Weriniaeth fawreddog hon. Tebyg mai awdurdod rnilwrol y teyrnfradwr gariai y newydd alaethus yn gyntaf iddynt hwy,, tra y gwnai deng mil o dafodau trydanol ac anweledig, draethu i ni yr holl fanylion yn en gwahanol agweddau cyn pen ychydig oriau ar ol darganfod y deyrnfradwriaeth.

Eithr na bydded i ffeithiau o'r fath yna ein gwneyd yn rhy hyderus am ein diogelwch cenedlaethol, oblegid y mae ein Qweriniaeth ni mor agored i ddeddf an anghyfnewidiol achos ac effaith y drwg yn ogystal a'r da, ag yr oeddent hwy 2,000 o flynyddau yn ol; a dylem gadw mewn cof y ffaith f od rhai o nodweddion peryglus y natnr ddynol yn dal en cymeriad yn anghyfnewidiol yn mhob oes a gwlad, ac o dan bob amgylchiad. Pe yr edrychem

 

 




(delwedd E0717) (tudalen 308)

308 LLWYBRAU BYWYD.

yn unig ar ymlygriad cyflym swyddogion gwladol, a phleidiau politicaidd, byddem yn rliwym o ddyfod i'r casgliad naturiol fod Gweriniaeth America ar drancedigaeth, er rhoddi lle i ffurflywodraeth fwy cydnaws a drygioni cynyddol y deiliaid; a phe cymerem yn ychwanegol i ystyriaeth lygredigaethau cyffredinol y wlad, yn bersonol a chymdeithasol, byddem yn debyg o ddyfod i'r penderfyniad y gwelir ein Gweriniaeth cyn hir yn addfed i'r cyffelyb ddymchweliad angliyfaneddol a rhai o brif ymerodraethau cyntefig y byd, megys Babylon ac Assyria, gan ein bod yn gwybod fod orcleiniwr mawr deddfau llywodraethol y bydysawd wedi cysylltu llygredigaeth a marwolaeth yn anwahanol a'u gilydd, yn y byd materol, cymdeithasol, moesol ac ysbrydol. Ond pan gymerwn olwg fwy cyffredinol a theg, gan fantoli rhagoriaethan ein Gweriniaeth yn ngwyneb ei diffygion, byddwn yn debyg o ddyfod i'r casgliad fod elfenau rhinwedd abywyd a marwolaeth yn nghyfansoddiad y genedl a'r wladwriaeth.

Y mae prif nodwedddion Gweriniaeth y Talaethau Unedig, er y dydd y gosodwyd ei thraed ar dir annibyniaeth, hyd y dydd hwn, yn ein hargyhoeddi nad yw ond megys dechreu oes hirfaith a gogoneddns. Ar ddydd ei genedigaeth, torodd

 

 




(delwedd E0718) (tudalen 309)

AMETWIAETHAU. 309

ei hun jn rhydd o gadwyni oesol gortbrwni a tbraws-lywodraeth; a cbyn ei bod yn gant oed,

; rbyddbaodd bedair mihwn o f odan dynol o lyffetb
! eiriau caetbwasiaetb, gan roddi iddynt ryddid gogoneddus plant Duw. Pa fodd bynag, nis gallaf lai nag ofni am ei bywyd, gan fod yn awr dri o lei
i af o angenfilod creulawn yn bygwtb ei darostwng yn ysglyfaetb i'w puteindra; sef yn gyntaf, y Fas
j nacb. Feddwol; yn ail, Cribddeiliaetb Masnacbol;

j ac yn drydydd, Penrbyddid Cyffredinol. A'r dydd bwn, o drugaredd, gwelaf yn eglur ei bod yn deffro o gwsg i sylweddoli y ffaitb fod y sarff feddwol wedi ymlapio am dani, gan fygwtb ei lletbu i farwolaetb anamserol. Gofyniad y byd beddyw jw, A all y Weriniaetb fawr Americanaidd ymryddbau o afaelion uffernol y fasnacb feddwol? Y mae yr atebion yn amrywio llawer. Ehai a ddywedant, nad oes gobaitb, gan fod y dwylaw a'r traed wedi eu llyffetbeirio; ac am fod y swynion gwenwynig wedi myned i mewn byd at yr enaid. Eraill a ddywedant nad oes berygl i'r sarff gyfrwys ladd yr bon

^ sydd yn ei bwydo yn feunyddiol a pbob danteith
i ion; nad yw ond megys yn ei cbofleidio mewn cariad! Ond etifeddion ffydd a ddywedant, fod bywyd y Weriniaetb yn y perygl mwyaf , a bod yn rbaid i'r fasnacb feddwol neu y Weriniaetb farw yn yr

 

 




(delwedd E0719) (tudalen 310)

310 LLWYBRAU BYWYD.

ymdreehfa bresenol, yn ol deddfau eglur achos ac effaith; ac niai y Weriniaeth enilla y fuddugoliaeth eto, yn y drydedd ymdreehfa fawr, fel yn y ddwy flaenorol, gan f od mwy o'i <fclm nag a all fod yn ei herbyn, sef Duw, rhoddwr bywyd a nerth. Eisoes, y mae goleuni gwybodaeth yn ein hargyhoeddi o dwyll y fasnach feddwol, a'n gobaith yw na bydd heddwch mwyach nes llwyr orchfygu yr arthes ddieflig, a'i dymchwelyd i uffern.

Tr hyn sydd yn ei gwneyd yn dywyll ar y Weriniaeth yw, fod ei phlant ei hun yn codi yn ei herbyn i gefnogi y gelyn. Dyna ei merch hynaf sydd yn fyw, sef y blaid fawr Ddemocrataidd, yn dyweyd fod yn rhaid amddiffyn y fasnach feddwol er ei chadw r yn fyw, am mai gwlad rydd yw America, ac am fod y fasnach yn anrhydeddus yn ngolwg preswylwyr y wlad er cyn geni y Weriniaeth! Hawlir fod ei henafiaeth anrhydeddus yn hawlio iddi amddiffyniad ac addoliad yn y dyfodol yn ogystal a'r gorphenol! A dyna ail ferch y Weriniaeth, sef y blaid Werinol, ar y ffens, yn dweyd y dylai yr hudoles gael byw, ond fod eisiau byrhau rhai modfeddi ar y gadwyn drwyddedol, fel nas gallo wneyd dim niwed i'r plant dan 16eg oed; ac er mwyn gwneyd y golled yna i fyny, fod yn rhaid cael temlau ardderchog yr Sigh License er sicrhau

 

 




(delwedd E0720) (tudalen 311)

AMRYWIAETHAU. 311

$900,000,000 o offryraau gwirfoddol i'r dduwies yn

flynyddol fel cynt, yn ogystal a rhyw 60,000 o fywydau dynol i'w liaberthu ar ei hallorau. Ac addawant i'r dduwies, rliag ei cliyffroi, y bydd i'r holl swyddogion gwladol, o'r Arlywydd i lawr i'r swyddog distadlaf o f ewn y tir, i gario ei theitl ar eu talcenau, yn ysgrifenedig mewn llythyrenau eglur, “Mawr yw Diana yr Ephesiaid," yr hyn o'i gyfieithu yw, “Mawr yw urddas yr High Licenser

Ond y mae merch arall wedi ei geni i'r Weriniaith, sef y blaid Waharddol; ac y mae hi yn ymdyngedu i'r Duw byw, hollalluog, i lwyr lanliau cymeriad ei mam oddiwrth bob perthynas a llygredigaeth y fasnach. feddwol, trwy lwyr wahardd gwneyd na gwerthu ei gwenwyn dieflig o fewn teri ynau y wlad! Ac y mae arwyddion yr amserau yn fy argyhoeddi fod y blaid newydd lion i gynyddn ac i lwyddo, nes enill pob awdurdod gwladol, er gorplien y gwaith cysegredig a osodwyd iddi gan Dduw^ i'w wneuthnr, a hyny, fe allai, cyn diwedd y 19eg ganrif o'r cyfnod Cristionogol. Os ystyriwn ddechreuad a cliynydd y blaid Werinol, yn nghyda'r amser a gymerwyd iddi ddifodi caethwasiaeth. oddiar gymeriad y Weriniaeth, gwelwn yn eglur y posiblrwydd a'r tebygolrwydd y bydd i'r blaid Waharddol orphen ei gwaith hithau cyn

 

 




(delwedd E0721) (tudalen 312)

312 LLWYBKAU BYWYD.

diwedd y ganrif hon. Ar ol hyny, tebyg y bydd iddi hithau dynu ei tkraed i'r gwely i farw, a bendith anfarwoldeb ei mam ar ei phen, gan roddi lle i chwaer ieuangach i gyflawni y bedwerydd orchest er anrhydedd y fam Weriniaefchol.

Tebygol mai plaid Cyfiawnder Ymarferol fydd plaid y chwarter cyntaf o'r ngeinfed ganrif; hyny yw, plaid a wna amddiffyn iawnderau y gwan yn ogystal a'r cryf; plaid a wna f antoli yn gyfiawn gyf alaf a llafur, er llwyddiant cyffredinol; plaid a fydd megys porth cyfiawnder i arwain i mewn i gyfnod gogoneddus y milflwyddiant, yr hwn a barlia o leiaf 365 o filoedd o flynyddau. Yna bydd “heddwch fel yr afon, a cliyfiawnder fel tonau y mor;" bydd “Gwr megys yn gysgod rhag y gwres? ac yn lloches rhag y dymestl;" 6 ' ac ni ddysgant ryfel mwyach." Wedi hyny yr adeiledir teml fawr sancteiddrwydd, a gwir ddedwyddwch, pan y bydd lioll deyrnasoedd y byd wedi dyfod yn eiddo i'n Harglwydd ni a'i Grist ef! Onid yw arwyddion yr amseroedcl, a phrofifwydoliaethau y Beibl yn cyd-dystiolaethu fod cyfnod mawr a gogoneddus o'r fath ar wawrio ar y byd; ac mai y Weriniaeth fawr Americanaidd ga yr anrhydedd o fod ar y blaen i ddadblygu a sefydiu yn ymarferol egwyddorion llywodraeth y milflwyddiant? Ond, f e allai

 

 




(delwedd E0722) (tudalen 313)

AMRYWIAETHAU. 313

y cymer hycl ddiwedd yr ugeinfed ganrif i wastad
hau mynyddoedd y traragwyddiadau o'r Talaethau

Unedig a'r byd; ac y bydd cyfnod gwynfydedig

yn dechreu ar ddeckreu y seithfed fil o oes y teulu

dynol.

Ni ryfeddwn pe y clywem rai yn gwawdio fy

syniadau, a'm cyliuddo o fod yn rhy ffyddiog, gan

adgoffa i mi arafwch y diwygiad Cristionogol, a

gwareiddiad y byd am y deunaw canrif diweddaf;

ond byddai yn dda i'r cyfryw gofio y tebygolrwydd

fod mwy wedi ei wneyd yn y ganrif bresenol er

dwyn i ben y cyfnod addawedig, nag a wnaed cyn

hyny, yn ol hyd yr oes apostolaidd, os cymerir i

ystyriaeth yr holl ddiwygiadan gwyddonol, celf
yddydol, cymdeithasol, gwladwriaethol, moesol a

chrefyddol, y rhai a gydweithiant er addf edu y byd

i dderbyn y cliwyldroadau angenrlieidiol. Can'

mlynedd yn ol, cyfartaledd bychan o breswylwyr

y byd a allent bwrcasu y Beibl a'r newyddiadm%

a'u darllen ar ol eu pwrcasn; eithr yn awr y mae

tlodion y ddaear wrth y miliynau yn medru eu

pwrcasu a'u darllen! “Llawer a gyniweiriant, a

gwybodaeth a amlheir." Can' mlynedd jn ol, yr

oedd y gweithiwr bron mor ddarostyngedig i ew
yllys ei feistr ag oedd y ceffyl; eithr yn awr, gall
ai, pe dewisent, ugeiniau o weithwyr Cymreig glan 21

 

 




(delwedd E0723) (tudalen 314)

314 LLWYBRAU BYWYD.

y Tawelfor, gychwyn unrhyw ddiwrnod am bleserdaith mewn palas-gerbydau, am 3,000 ofilldiroedd, yn groes i'r cyfandir, yn y cyflymdra o 30 milldir yr awr; ac yna sicrhau cabin passage yn un o'r agerlongau mawrion, am y 3,000 nesaf, yn groes i'r Werydd, a chyraedd Liverpool yn mhen rhyw wyth niwrnod; yna myned i Gymro i ymweled a'u perthynasau, mewn amgylchiadau mwy hwylus ac urddasol nag y gallai pendefig Prydeinig gan' mlynedd yn ol fyned o Sir Benfro i Lundain i weled gwyneb ei frenin! Y mae yn haws heddyw i'r celfyddydwr neu yr amaethwr Americanaidd esgyn o ris i ris, nes cyraedd y gadair Arlywyddol, i lywodraethu yn llwyddianus 60,000,000 o bobl, nag y byddai gan' mlynedd yn ol i'r un dosbarth gyraedd at yr anrhydedd o gael arwain ceffyl Brenin Lloegr! Felly gwelwn fod yr olwynion celfyddydol, cymdeithasol a moesol, wedi cyflymu llawer yn y ganrif hon, er cludo plant dynion i fyny at safon Duw i ddynion, sef ffyddlondeb a phurdeb i'r gwirionedd.

Nid yw yr amser yn mhell pan fydd safon anrhydedd yr un yn ngolwg Duw yn y nefoedd, a dynion ar y ddaear; ac y bydd gwir anrhydedd mor gyraeddadwy i'r tlawd ag i'r cyfoethog; mor gyraeddadwy i'r anllythyrenog a'r byr ei gyr-

 

 




(delwedd E0724) (tudalen 315)

AMRYWIAETHAU. 315

aeddiadau ag y bydd i'r athrylithgar a'r dysgedig. Gan hyny bydded i ni oil osod yr anrhydedd uchaf yn nod i ni dynu ato, gan wneyd ein goreu i wybod beth sydd iawn, a gwneyd cymaint a allom yn iawn, yn bersonol, cymdeithasol, gwladol, a chrefyddol. Yna cawn iawn fendith Tywysog breninoedd y ddaear yn etifeddiaeth, sef, “Da, was da a ffyddlawn; buost ffyddlawn ar ychydig, mi a'th osodaf ar lawer; dos i mewn i lawenydd dy Arglwydd."

PERTHYNAS CREFYDD, DIRWEST A GWLEIDIADAETH,

Yr hyn a feddyhwn pan yn son am grefydd, yw byw yn weddus, er gogoniant Duw, ein dedwyddwch ein hnnain, a daioni i bawb o'n cyd-ddynion. Felly, ond i ni dalu sylw dyladwy i'r fasnacb feddwol, yn ei dylanwad personol, cymdeithasol a gwladwriaethol, gwelwn yn eglur y dylai dirwest fod yn rlian o'n crefydd mewn dwy wedd yn arbenig: Yn gyntaf, yn gymelliadol; yn ail, yn waharddol.

I. Ond sylwi yn briodol, gwelwn fod yfed diodydd meddwol yn cynyrchu blys annaturiol, a thrwy hyny yn anmharu iechyd corfforol a meddyliol,

 

 




(delwedd E0725) (tudalen 316)

316 LLWYBRAU BYWYD.

nes ysbeilio y dyn o'i harddwch, ei gymeriad, ei ddefnyddioldeb, ei fywyd a'i ddedwyddwch yn y byd hwn, ac am dragwyddoldeb! “Ni cha na diotwyr na chyfeddaehwyr, na meddwon etifeddu teyrnas Dduw." Dyna golled fawr yn canlyn dechreu yfed diodydd meddwol, onide? Felly dylai dyn fod yn ddirwestwr er ei fwyn ei hun.

II. Yn wyneb y profion fod yn fasnach feddwol yn gwneyd cymaint o ddrwg tenluol a chymdeithasol, dylai pob crefyddwr sydd yn caru hes a dedwyddwch ei gyd-greadnriaid wneyd ei oreu i argyhoeddi ei gyd-ddynion i lwyr ymwrthod a hi. Edrycher ar y tlodi a gynyrclia hi mewn miloedd o deuluoedd; a chymaint o ymborth a diliad gwragedd a phlant a ysbeilir ganddi yn barhaus; a'r fath drueni teuluol a chymdeithasol y mae yn gynyrchu trwy y byd, er ein hargyhoeddi o'n dyledswyddau i gymell ac argyhoeddi pawb i ymwrthod a swyn cyfareddol y ddraig feddwol.

III. Ond yn ngwyneb y ffaith fod y fasnach yn cynyddu er gwaethaf holl gymelliadau moesol goreuon y byd Cristionogol, argyhoeddir llawer o honynt o'u dyledswyddau i arfer moddion mwy effeithiol, sef moddion gwaharddol neu gyfreithiol. (1) Gan fod $900,000,000 yn cael eu gwario yn flynyddol yn y Talaethau Unedig am ddiodydd medd-

 

 




(delwedd E0726) (tudalen 317)

AMRYWIAETHAU. 317

wol; (2) Gan fod 600,000 yn cael eu cynal i gario y fasnach yn mlaen yn y wlad, llafur y rliai sydd yn annhraethol waeth na cholled; (3) Gan fod y fasnach yn gwneyd yn flynyddol 10,000 o wallgofiaid, 40,000 o droseddwyr cyhoeddus, 60,000 o gardotwyr, 900,000 o feddwon, a 3,000,000 o ddiotwyr., yn acliosi un rhan o dair o holl glefydau y wlad, ac yn gwneyd colled flynyddol i'r wlad o yn agos i $2,000,000,000, heb son am yr anghysur a'r golled foesol sydd yn canlyn y ffigyrau yna, awdurdod y rhai yw yr Esgob Newman yn y Zion Herald, fel cymelliad i'r blaid Werinol i gymeryd gwaharddiaeth i'w banlawr cenedlaethol; (4) Gan fod y fasnach uffernol wedi cael ei gwau trwy gyfreithiau y wlad; (5) Gan fod y llywodraeth yn trwyddedu y fasnach am tuag un rhan o ddeg o'r derbyniadau, ac felly yn gyfrifol am ddrwg y fasnach - oni ddylai pob Cristion bleidleisio y felldith allan o'r cyfreithiau a'r wlad? Erbyn heddyw, tebyg fod mwyafrif dinasyddion y weriniaeth yn cydolygu yn y pethan yna oil, ond yn amrywio am y modd i symud y drwg gwladol hwn.

Wei, gan y cydnabyddir ef yn ddrwg gwladwriaethol, ac am hyny fod yn rhaid ymddwyn tuag ato yn wladwriaethol, un o'r pethau mwyaf amlwg yw, fod yn rhaid cael plaid genedlaethol o Wa-

 

 




(delwedd E0727) (tudalen 318)

318 LLWYBRAU BYWYD.

harddwyr er symud y drwg, oblegid (1) Y mae gwaharddiaeth Dalaethol yn rhy gyfyng a gwan, am fod y Llywodraeth Gyffredinol yn rhoddi caniatad i fasnachdai yn y cyfryw dros ben y llywodraeth Dalaethol, ac am fod mantais gan y Talaethau cylchynol i ysmyglo dros y terfynau. (2) Am fod y blaid Ddemocrataidd o blaid y fasnach feddwol. (3) Am fod cefnogwyr gwaharddiaeth a chefnogwyr parhad y fasnach yn mantoli eu gilydd yn y blaid Werinol, fel nas gall basio ac effeithioli cyfreithiau gwaharddol. (4) Am y byddai cyfreithiau gwaharddol wedi en gwneyd gan y pleidiau uchod yn gyfreithiau meirwon, o herwydd fod mwyafrif mawr o'n swyddogion yn gaethion i'r blys at y diodydd yn y cyfryw, ac felly yn ol deddf natur, cefnogant ac amddiffynant yr hon gydd anwyl ganddynt. (5) Bydd gan blaid newydd a fo wedi ei ffurfio oddiar egwyddorion dyngarwch a chenedlgarwch Cristionogol ddigon o wroldeb a gonestrwydd moesol i ryddhan y weriniaeth oddiwrth waradwydd y fasnach feddwol. “Eithr gosodant win newydd mewn costrelau newyddion."

GWRTHDDADLEUON YN ERBYN Y BLAID WAHARDDOL.

1. Gobeithia dirwestwyr y blaid Werinol y gwna eu plaid hwy ryw dro gymeryd gwaharddiaeth i'w

 

 




(delwedd E0728) (tudalen 319)

AMEYWIAETHAU. 319

banlawr, ac oddiyno i gyfreithiau y wlad; ond po fwyaf y chwihwn i seiliau en gobaith, tywyllaf oil yr ymddengys i mi am sylweddoliad eu gobaith; oblegid cydymdeimla arweinwyr eu plaid a'r fasnach feddwol, trwy en blys at y diodydd, a'r swyn sydd yn arian a phleidleisiau cefnogwyr y f asnach.

2. Cyhnddir ni o gefnogi y fasnach trwy dynn ein pleidleisiau oddiwrth y blaid fwyaf ffafriol i waharddiaeth; ond yn wyneb y cyhuddiad, credwn ninan fod proffes dwyllodrus y blaid Werinol yn fwy o rwystr ar ffordd llwyddiant y blaid ¥aharddol na gelyniaeth agored y blaid Ddemocrataidd, gan en bod yn llwyddo i dwyllo tyrfa fawr o Waharddwyr o ran barn i aros ynddi hi.

3. Cyhnddir ni o fod yn achlysur o ddwyn tlodi masnach rydd ar y wlad, trwy adael i'r blaid Ddemocrataidd fyned i awdurdod yn lle y blaid Werinol. Edrychwn ninau ar y pwnc yna yn y golenni hwn; sef fod yn well i'r wlad oddef tlodi am ycliydig flynyddau na myned rhagddi i ddinystr anadferadwy mewn hnn dragwyddol, megys y cenedloedd a gollwyd o'r blaen mewn corsydd llygredigaeth. Onid gwell i'r plentyn wialen cerydd yn 11a w cariad ei rieni, na phenrhyddid i lwybrau distryw? Onid gwell i'r claf ddysgyblaeth ymprydiol y meddyg er ei wellhad, na rhydd-

 

 




(delwedd E0729) (tudalen 320)

320 LLWYBRAU BYWYD.

id i fwyta y pethau a fydd yn nerth i'r dwyniyn i'w gario i angeu? Felly onid gwell i'r weriniaeth hon, gan fod ei bywyd mewn perygl, ddewis dysgyblaeth y nieddyg da dros enyd bach, na myned rhagddi mewn rhyfyg ac anystyriaeth i afael pangfeydd colledigaeth? Onid y w banes yr oesoedd yn profi i ni mai hnnan-ymwadiad a gofalgarwch yw y pyrth i lwyddiant a dedwyddwch personol, cymdeithasol a chenedlaethol? Am hyny, yn enw cariad a dyngarwch a Christionogaeth, paham y condemnir ni am sefyll ar ffordd y prif gleddyf sydd gan y diaf ol er difa gogoniant y cenedloedd?

HAELIONI CEISTIONOGOL.

I. Mae dyn yn greadur iiv egwyddori am ei ddyledswyddau.- Un felly oedd yn ei sefyllfa greadigol a pherffaith, canys cawn fod yr Arglwydd ar foreu-ddydd ei fodolaeth yn ei ddysgu, fel bod moesol, yn ei gyflwr paradwysaidd a dedwydd; os felly, pan oedd ei ddeall heb ei dywyllu gan bechod, pa faint mwy felly ar ol iddo gymeryd ei arwain ar grwydr ar hyd llwybran anhygyrch anialdiroedd tywyll y byd moesol! Y mae doethion y ddaear yn gwybod hyn yn mhob oes o'r byd. Medd Syr Isaac Newton, yr athronydd mawr, yn

 

 




(delwedd E0730) (tudalen 321)

AMRYWIAETHAU. 321

ei hen ddyddiau: “Yr wyf fel llanc yn chwareu a'r cregin ar y traeth, a'r mor a'i gyflawnder eto yn ddirgelwch i mi!” “O! am gyfeirio fy ffyrdd i gadw dy ddeddfau," medd y Salmydd; a chawn i Solomon, y doethaf o ddynion, golli ar ei lwybrau! A pha ryfedd, gan fod cwmwl o bechod a chwmwl arall o ddigofaint Duw yn crogi rhwng ein byd ni a ffynonell goleuni? Ond diolch, y mae Tad y goleuni wedi gweled yn dda agor ffordd newydd i'n harwain trwy ac heibio y cymylau tywyll yn ol i fro y goleuni; ac o'i ddaioni, y mae yn gweled yn dda ethol y rhai sydd yn credu i fod yn gydweithwyr a Duw i arwain a chyfarwyddo i, ac ar hyd y ffordd. A clian ei fod yn awdwr trefn, “Gosododd rai yn Apostolion, rhai yn Broffwydi, eraill yn Athrawon," &c.

II. JT blaenoriaid i ofalu am adran arianol y gvjaith. - Sefydlwyd byn yn ddeddf gan neu yn yr oes Apostolaidd, pan y neillduwyd y seitbwyr da eu gair i wasanaethu byrddau, fel y gallai yr Apostolion lafurio yn fwy llwyr yn yr athrawiaeth. Y mae y byd Cristionogol, o hyny byd heddyw, yn cydnabod byn; felly, gan fy mod inau wedi derbyn yr anrbydedd o gael fy rbifo jn mhlith y blaenoriaid, y mae y nefoedd a'r eglwys wedi fy

 

 




(delwedd E0731) (tudalen 322)

322 LLWYBRAU BYWYD.

ngosod dan y cyfrifoldeb o wneyd fy ngoreu er anog pawb at haelioni crefyddol.

III. Mae haelioni Cristionogol yn sylfaen hanfodol llwyddiant yv Efengyl. - Yr egwyddor hon ysgogodd feddwl y Duwdod i gynllunio ffordd o waredigaeth i'r euog, ac a ddaeth a'r ail Berson o'i ogoniant hanfodol a digwmwl i waered trwy y digofaint anfeidrol, a thrwy y cwmwl o euogrwydd sydd yn gordoi y byd! Cawn ef yn gyntaf yn nghanol y cwinwl yn chwilio am y colledig: "Adda, pa le yr wyt ti?" Cawn ef wedi hyny yn adeiladu yr arch, er cadw y byd euog yn fyw; yna yn codi y llanc Joseph o'r pydew, a thrachefn yn ei ddwyn allan o'r carchar. Gwelwn ef yn codi Moses bach o'r afon, ac ar ol hyny yn myned trwy waelod y mor i agor ffordd i rai ar ddarfod am danynt; yna yn ymboeni gyda'r rhai gwrthnysig am ddeugain mlynedd! Cawn ef yn diffoddi angerdd y tan, ac yn cau safnau llewod. “A phwy a draetha ei oes ef?" Gwelwn ef wedi hyn yn dianc am ei einioes i'r Aipht, mewn llestr bychan o bridd! Ie, ie! un mor fawr a Thad tragwyddoldeb yn cymeryd ei wasgu i lestr pridd rhyw haner Hath o hyd, er ei guddio yn ngwlad y caethiwed! Gwelwyd ef yn cael ei gernodio a'i groeshoelio, ac o'i fodd yn myned i uffern er dwyn gydag ef oddi

 

 




(delwedd E0732) (tudalen 323)

AMEYWIAETHAU. 323

yno "y carcharorion oddiar y cadarn," ac er gwaredu y rhai a garcharwyd yn gyfiawn! Dyna haelfrydedd, onide? Dyna yr esiampl a roddes efe i'w ganlynwyr o haelfrydedd Cristionogol. Felly eglur yw, mai haelfrydedd yw sylfaen llwyddiant yr efengyl, yn ogystal a hanfod y gwaith o adeiladu y Jerusalem a ddaeth i waered oddiwrth Dduw.

IV. Gwirfoddolrwydd yw hanfod haelfrydedd Cristionogol, - Nid oes nn weithred o eiddo bod moesol yn teilyngn cydnabyddiaeth, os na fydd yn weithred wirfoddol. O wirfoddolrwydd Duw y tardda ei holl weithredoedd; gan hyny rhaid en bod yn dda a chanmoladwy. Y mae Duw hefyd wedi gosod yr ewyllys yn nghalon dyn i fod yn ysgogydd i'w holl weithredoedd, yn y fath fodd ag y bydd ei ddedwyddwch neu ei annedwydclwch, am amser a thragwyddoldeb, yn ymddibynu ar ein hymddygiadau gwirfoddol; am mai yn yr ewyllys y mae canolbwynt cyfrifoldeb dyn. Gan hyny y nid yw yr egwyddor orfodol yn perfchyn yn wreiddiol i'r byd rhesymol, eithr i'r byd materol, ond wedi cael ei dwyn i fewn yn achlysurol i'r byd moesol, i gyfarfod a rhai fyddo wedi myned allan o'r byd rhesymol fel deiliaid deddf. Nid yw Brenin Seion wedi ordeinio gorfodaeth i fod yn elfen yn ei eglwys o gwbl; nid yw yn gosod gwerth ar j

 

 




(delwedd E0733) (tudalen 324)

324 LLWYBRAU BYWYD.

rhodd anewyllysgar, nac ar ymddygiad y swyddog eglwysig sydd yn gorfodi neb i roddi. Ni bydd y Barnwr yn cydnabod yr un o'r ddwy weithred yn y dydd olaf: “Canys myfi yr Arglwydd a hoffaf gyfiawnder; yr wyf yn casau trais yn boeth-offrwm." Esa. 61. 8. Tybia rhai fod yr Arglwydd yn gorfodi yr eglwys Iuddewig i daln y degwm; ond nid felly yr wyf yn deall. Tybiwyf mai wedi awgrymu iddynt yr oedd yr Arglwydd y priodoldeb iddynt gyfranu y degwm at gynal crefydd, nen at fwyd ysbrydol iddynt eu hunain, gan addaw iddynt fendithion trwy ac am wneyd, a melldith trwy beidio gwrandaw ar ei gyngor ef, yr hwn sydd yn llywodraetlm ar bob peth.

V. Eglur gan hy?iy yw ein dyledsvjydd i anog ein gilydd at haelioni crefyddol. - Y mae llwyddiant yn gofyn haelioni - er cael capel cysnrus a liardd yn ddiddyled; ac er cynal gweinidog yn anrliydeddus i arlwyo i ni ymborth ysbrydol. A dylai fod gan bob eglwys ystafell eang a chyfleus i'r bobl ienainc gyfarfod a'n gilydd i gadw cyfarfodydd adloniadol, crefyddol, a llenyddol. Hefyd, dylai fod yn yr ystafell hon ddarllenfa dda, yn cynwys llyfrau a chyfnodolion ar bob cangen o wybodaeth fuddiol; yna ni fydd llawer o berygl i blant yr eglwysi dyfu

 

 




(delwedd E0734) (tudalen 325)

AMKYWIAETHAU. 325

i fyny yn ddrygionus ac annuwiol ar hyd yr heolydd, yr ystordai, y tafarnau, y chwareudai, &c.

Eto, y mae eangder a mawredd y gwaitk cenadol yn galw arnom anog ein gilydd at haelioni crefyddol. Y mae miliynau Asia, Affrica, America ac ynysoedd y mor, yn galw arnom o ddyfnder trueni a thywyllwck moesol, am anfon atynt liwythau y newyddion da o lawenydd mawr, am “y Bachgen a anwyd erbyn ealedi," er codi y colledig truenus o'r pydewan damniol ac anobeithiol, i ddedwyddwch gwynfydedig a thragwyddol. Ond, medd yr anghrediniol, “Pwy sydd ddigonol i'r pethau hyn?" “Yr ydym yn niethu yn awr a thalu y ddyled sydd ar ein capel, na chwaith gasglu digon i dalu am weinidogaeth, f el yr ydym yn gorfod cael ffeiriau, festivals^ hapchwareuon, <fcc, er ein cynorthwyo i gael pethau i fyn'd rywfodd." Ond gallaf fi ateb yn ddibetrus, y bydd eglwys Dduw, yn nydd ei nerth ef, yn ddigonol i gyflawni angenion y byd! Y mae ewyllys, ffydd a gallu yr eglwys, i gynyddu fel y gareg a welodd Daniel yn cael ei tbori o'r mynydd, ac yn treiglo, gan gynyddu nes llenwi yr holl ddaear. Gwneir lioll anialdiroedd y byd yn erddi paradwysaidd trwy fendith Duw ar haelioni ei bobl. Gellid Cristioneiddio yr holl fyd cyn can' mlynedd i heddyw, trwy

 

 




(delwedd E0735) (tudalen 326)

326 LLWYBRAU BYWYD.

liaelioni yr eglwys a bendith Duw. Gadewch i ni gael gofyn i ffigyrau beth a ddywedant hwy am liyn. Tebyg nad yw poblogaeth y byd heddyw yn 1,500,000,000; ond tybiwn hyny; a Christionogion y byd yn 300,000,000; yna ceir fod pedwar o baganiaid ar gyfer pob Cristion, i'w crefyddoli; a dylem gofio fod yr lioll saint yn offeiriaid. Pe dyblai y Cristionogion yn eu rhif bob ugain mlynedd, enillid yr holl fyd at Grist felly cyn pen haner can' mlynedd! “O," medd rhywun, “o ba le y ceid digon o arian at y gwaith?" Wei, ca ffigyrau lefaru eto ar y cwestiwn yna. Yn ol ystadegau diweddar, dywedir fod $900,000,000 yn cael en gwario yn flynyddol am ddiodydd meddwol yn y Talaethau TJnedig yn nnig, a $600,000,000 am dobaco- neu $1,500,000,000 cydrhyngddynt; sef nn ddolar bob blwyddyn ar gyfer pob dyn byw ar wyneb y ddaear! Talai hyny $1,000 y flwyddyn ar gyfer 1,500,000 o weinidogion; sef un gweinidog ar gyfer pob 1,000 o bobl y byd! Ac os yw y Talaeth.au Unedig yn fyw, er cymeryd cymaint a gwerth. $1,500,000,000 o wenwyn iV chyfansoddiad yn flynyddol, ai tebyg na allai fyw wrth wario y cyfryw er cyfranu bendithion bywyd tragwyddol i'r byd? A chofier nad yw y wlad hon ond rlian fechan o'r byd Oristionogol!

 

 




(delwedd E0736) (tudalen 327)

AMKYWIAETHAU. 327

Ond cymerwn olwg fwy cartrefol eto ar y ffeithiau: $1,500,000,000 gan 60,000,000 o clrigolion, sydd gyfartal i $25 ar gyfer pob enaid byw; felly ^aria mil o bersonan $25,000 yn flynyddol. Yn awr, gadewch i ni gael edrych beth all y gwastraff yna wneyd o ddaioni yn flynyddol:

Cyfraniadau at y capel $2,000

At ystaf ell y ddarllenfa 1,000

At gyflog i'r gweinidog 1,000

I lyfrgellydd a janitor 1,000

I harddu oddi mewn ac allan 1,000

At drysorfa y tlodion 1,000

At y genadaeth gartrefol 2,000

At y genadaeth dramor 3,000

Cyfanswm $12,000

A dyna eto $13,000 yn weddill, at gysuron cartrefol neu deuluaidd. Eithr ni chyfrenir yn flynyddyddol yn awr ond tua $120,000,000, sef prin $2 y flwyddyn ar gyfer pob un yn y wlad! Ac at y Genadaeth Gartrefol a Thramor, ni chyfrenir ond tuag wyth cent y pen ar gyfartaledd. Onid yw y byd eto yn mhell o'i le? “Wei," medd rhywun, “rhaid cofio fod llawer o'r gwastraff dan sylw i iyned i fwyda a dilladu teulnoedd y meddwon sydd yn awr yn dyoddef." Wrth gwrs, ac yr wyf fi, yn y ffigyrau blaenorol, wedi gadael dros yr "haner ar gyfer hyny. Ond credwyf nad yw yr am-

 

 




(delwedd E0737) (tudalen 328)

328 LLWYBRAU BYWYD.

ser yn mhell pan y bydd y gwledydd Cristionogol yn gwahardd masnachu mewn diodydd meddwol a'r tobaco, fel melldithion cymdeithasol. Yn awr, megys cynt, y dywed yr Arglwydd: “Dygwch yr holl ddegwni i'r trysordy, fel y byddo bwyd yn fy nhy." “0," medd yr amaethwr Americanaidd, “nis gallaf fi ddegymu at gynal crefydd, a gofahi am fy nheulu yn briodol." Onis gwyddost fod amaethwyr Cymru dlawd yn gorfod talu y degwm at grefydd arall, a chynal eu crefydd eu hunain a'u teuluoedd hefyd? Ac, medd y gweithiwr cyflogedig sydd yn enill $1.50 y dydd, “Nid allaf finan ddim degymu at grefydd, a byw; byddai hyny yn agos i un ddolar yr wythnos, neu dros $40 y flwyddyn! Na, yr wyf yn cyfrif fod un ddolar y mis yn ddigon i mi gyfranu at grefydd." Fe allai hyny; ond beth pe byddai i ti a'th gyfaill yr amaethwr wneyd yn ol cyngor Duw, er gweled pa f odd y troai pethau allan!

VI. Mae ymarferiad yn hanfodol i hob llwyddiant. - Ehaid i ddyn arfer bod yn haelionus er dysgu bod yn fwy haelionus, fel y gallo fedi y can' cymaint mewn canlyniad, yn ol addewid y digelwyddog Dduw. Er|bod®mor ymarferol ag a fyddo bosibl, awgrymaf rai rheolau ag fyddo yn feithrinfa i'r ysbryd ha elf ry dig:

AMRYWIAETHAU.

 

 




(delwedd E0738) (tudalen 329)

329

1. Dylid gwneyd o leiaf un casgliad y mis ar gyfer y weinidogaeth, a gofalu am y capel.

2. Penoder rhyw frawd cymwys bob mis i siarad ar ryw blyg o haelioni crefyddol.

3. Cyfraned pob un, o'r henaf i'r baban, ryw swm bob mis, pe na byddai ond un cent.

4. Cyhoedder Adroddiad blynyddol o gyfraniadau pawb.

5. Gwneler casgliad gyda chysondeb at gynorthwyo y tlodion.

6. Gwneler casgliad teilwng, yn fisol neu flynyddol, at y Cenadaethau, Cartrefol a Thramor; a chasgliad blynyddol at y Feibl Gymdeithas.

7. Cyflwyner un casgliad blynyddol i gronfa er cynorthwyo i adeiladu capeli yn ddiddyled, fel na byddo yr eglwysi yn cael eu llethu gan log dyled, fel ag y mae yn awr yn rhy gynredinol.

Ond i'r bobl edrych ar bethaii yn iawn, deuent o ewyllys yn fwy haelionus, a thrwy hyny yn fwy dedwydd, a gwell eu liamgylchiadau. Onid yr xlrglwydd sydd yn rboddi ac yn cymeryd ymaith? Os wyt ti yn ymffrostio dy fod yn rhoddi dolar y mis at gynal crefydd, tra y dylesit roddi pedair, cofia y gall Duw r ^gymeryd y tair o'i eiddo oddi arnat, trwy drais dy feistr, neu trwy dy garcharu yn dy wely am rai wythnosau. A thithau, yr amaetbwr, a ddyw^edi di nas gelli ddegymu at 22

 

 




(delwedd E0739) (tudalen 330)

330 LLWYBRAU BYWYD.

grefydd? Oni chymerodd efe geffyl gwerth $150 oddi arnat y gauaf diweddaf, ac yr wyt eto yn byw ar ol y golled! Pe buaset wedi gwerthu y ceffyl ar ddechreu y flwyddyn, er dy alluogi i roddi $50 at wahanol achosion crefydd, buaset $100 yn well allan yn dy logell, a chan' cymaint yn well allan yn dy fynwes. “O, ffolineb! nid yw yr Arglwydd yn gwneyd fel hyn a'r byd," medd rhywun. Wei, os oes yma rywun yn ameu, gadewch i ni gael gwrandaw ar air y dystiolaeth, yr hwn sydd i aros trwy holl oesau y ddaear, ac wedi i amser ddarfod: "A ysbeilia dyn Dduw? eto chwi a'm hysbeiliasoch i. Ond chwi a ddywedwch, Yn mha beth y'th ysbeiliasom? Yn y degwm a'r offrwm. Melldigedig ydych trwy felldith; eanys chwi a'm hysbeiliasoch i, sef yr boll genedl hon. Dygwch yr lioll ddegwm i'r trysordy, fel y byddo bwyd yn fy nhy; a phrofwch. fi yr awr hon yn hyn, medd Arglwydd y lluoedd, onid agoraf i chwi ffenestri y nefoedd, a thywallt i chwi fendith, fel na bo digon o le i'w derbyn. Myfi hefyd a argyhoeddaf er eich mwyn chwi yr ormes, ac ni ddifwyna i chwi ffrwyth y ddaear; a'r winwydden yn y maes ni fwrw ei ffrwyth cyn yr amser i chwi, medd Arglwydd y lluoedd." Mai. 3: 8-11.

Dyna i chwi, ac nid yw efe yn llefaru yn ofer.

 

 




(delwedd E0740) (tudalen 331)

AMRYWIAETHAU. 331

Ac os felly y llefarai wrth yr eglwys Iuddewig, pa faint mwy wrth yr eglwys Gristionogol, yr hon sydd genadol, a'i gwyneb ar yr holl fyd? Os oeddynt hwy yn felldithiol ain ysbeilio y degwm, pa faint mwy ni? Onid ei weision ef yw pob peth? Y mae y gorthrymwyr gwladol yn weision iddo ef: "Moab yw fy nghrochan golchi," medd ef e; a dywed hefyd am y locustiaid a'r lindys, “Fy llu mawr L" Y mae y plaau sydd yn lladd y meirch, a'r gwartheg, a'r defaid, a'r moch, yn eiddo iddo ef. Ond, gyfeillion, nid hyfryd gan Ddnw yw cymeryd ei eiddo oddi arnom; gwell ganddo lawer iawn en derbyn oddi wrthym fel offrymau gwirfoddol, er nad oes eu hangen arno ef , canys, meddai, “Eiddof fi yr arian a'r anr, a'r anifeiliaid ar fil o f^Tiyddoedd." “Paham ynte," medd rbywun, “y mae mor galed a dysgwyl i un tlawd fel fi roddi iddo o'm hangen at ei waith?" Dywedaf i ti: Byddai llwyddiant bydol yn ddamniol i ti heb grefydd; ac asgwrn cefn gwir grefydd yw cynorthwyo Duw i wneyd ag eraill fel y gwnaeth efe trwy eraill i ninau. Felly y mae pob rhodd dda o eiddo y saint er mwyn dyn, ac nid er mwyn y Duw hollgyfoethog. “Profwch fi yr awr hon yn hyn," ynte.

 

 




(delwedd E0741) (tudalen 332)

332 LLWYBRAU BYWYD.

VII. Mae Duw yn hendiihioyn ol y ffyddlondeb. “Yr hwn sydd yn hau yn brin, a fed hefyd yn brin; a'r hwn sydd yn hau yn helaeth a fed hefyd yn helaeth," yw hi yn mhob oes o'r byd - yn y byd moesol yn ogystal a'r byd llysieuol; a gwyn fyd y ddaear yn y man, pan fydd yr lioll saint yn ewyllysgar i hau yn helaeth yn nydd ei nerth ef, ac y byddant hwythau oil yn medi y can' cymaint yn y byd hwn. Yna atebir yn gadarnhaol a sylweddol yr hen ofyniad ameus hwnw: “A enir cenedl mewn un dydd?" Y pryd hwnw y bydd gwyddoniaeth, celfyddyd, a chyfoeth y byd, yn cydweithio, er gwneyd i'r anialwch flodeuo, a'r diffaethwch fel gardd yr Arglwydd, lle y bydd preswylfeydd tawel, ac aneddau llonydd ac heddychol teulu mawr cyffredinol Duw, ar hyd cyfnod hirfaith a gogoneddus y milflwyddiant, pan y bydd sancteiddrwydd yn ysgrifenedig niegys ar ffrwynau y meirch; a phan na ddysgant ryfel mwyach. Gan y “bydd heddwch fel yr afon, a chyfiawnder fel tonau y mor," sef tonau mor cariad Cristionogol, cydweddied y saint ar yr Arglwydd, am iddo anfon yr Ysbryd i agor llygaid, a deall, a chalonau ei bobl, fel y byddont ewyllysgar i'r cynauaf mawr, yn nydd ei nerth ef, “canys llawn yw tywyll leoedd y ddaear o drigfanau trawsder." “Deffro, deffro?

 

 




(delwedd E0742) (tudalen 333)

AMKYWIAETHAU. 333

Seion, gwisg dy nerth; gwisg wisgoedcl dy ogoniant, sanctaidd ddinas Jerusalem."

GWAHABDDIAETH.

Gan mai Dirwest a'r Fasnach Feddwol, mewn gwahanol agweddau, sydd, fe allai, yn cael mwyaf o sylw genyf yn y gyfrol lion, rhesyrool i mi. ei gorphen gyda phenod yn cynwys fy syniadau, nen gyffes o fy ffydd, o bertkynas i'r symudiadaii cymdeithasol a gwladwriaethol yn nglyn a melldith fwyaf y Talaethau Unedig, a'r byd, yn y bedwaredd-ganrif-ar-bymtheg, sef y fasnach feddwol. Bydded i ni gadw mewn cof? wrth drafod y pwnc mawr hwn, ein bod yn byw mewn canrif enwog mewn diwygiadan, celfyddydol, gwyddorol, cymdeithasol, gwladwriaethol a moesol. "Llawer a gyniweiriant, a gwybodaeth a amlheir." Oes ddeallus a chyflym yw ein hoes ni - oes yr ager, oes trydaniaeth, &c. Ddechren y ganrif hon, nis gellid gweled fod y byd wedi esgyn ond ychydig mown gwir wareiddiad a Christionogaeth. Yn y ganrif ddiweddaf, cyfartaledd bychan o'r byd allai ddarllen eu hiaith eu hunain; ond yn yr oes hon, mae y wasg yn prysnr gyflymu y byd i rywle. Yn y ganrif hon y mae y cymdeithasau Beiblaidd, Cen-

 

 




(delwedd E0743) (tudalen 334)

334 LLWYBKAU BYWYD.

aclol a dyngarol, &c, yn codi y byd o'i dywyllwch i fyny at oleuni dysglaer y inilflwyddiant. A'r lle yr oedd cymdeithas yn fwyaf pur y dechreuodd y diwygiadau dirwestol, yn gynar yn y ganrif hon, sef yn y Talaethau Unedig. Yn awr, bydded i-ni edrych ar y graddau ag y mae y diwygiad dirwestol wedi myned trwyddo yn y ganrif bresenol:

Ar y dechreu, cymedroldeb oedd y nod uchaf y cyrcliai y bobl oreu ato; ond buan y dysgwyd liwy fod hwnw yn nod rhy isel. Yna cychwynwyd cymdeithasau llwyr-ymwrthodol, ond dysgasant fod y nod yn rhy isel eto, am fod y fasnach yn cael ei hanrhydeddu yn y cyfreithiau gwladol. Yn Nhalaeth Maine, a rhai Talaethau eraill, daeth y dinasyddion i gredu ei bod yn ddyledswydd arnynt bleidleisio y fasnach feddwol allan o'u cyfreithiau; ac erbyn hyn y mae y blaid Waharddol wedi codi er cael cyfreithiau gwaharddol Talaethol a Chenedlaethol, ac effeithioli y cyfryw gyfreithiau ar ol eu cael. Cychwynodd y blaid hon yn 1869, ac y mae ei phleidleisiau wedi dal i gynyddu yn raddol, fel hyn:

1869 7,183

1872 5,607

1876 9,737

1880 9.678

1884 150,626

1888 .. ......275,000

Lied dda, onide? pan gofiom fod bron holl gyf-

 

 




(delwedd E0744) (tudalen 335)

AMRYWIAETHAU. 335

ryngau llenyddol y wlad, ac hefyd y ddwy blaid fawr wleidyddol fel pe y baent mewn cyngrair a'r fasnach feddwol. a'r diafol ei hun, er lladd y blaid fechan hon. Diameu genyf fod miloedd lawer o bleidleisiau Gwaharddwyr wedi en dinystrio a'u cam-gyfrif, &c, gyda'r amcan o dwyllo y wlad i greclu fod y blaid Waharddol yn lleihau ac yn marw. Ond credwyf na lwyddant mwy, gan fod gwawd, erlid, lladd, gweniaeth, llwgrwobrwyaeth, twyll a chelwydd wedi methu liyd yma. Tr wyf yn credu na lwydda yr hen bleidiau yn hir eto i dywyllu deall, ac i lygru cydwybod, er aberthu egwyddorion gan y dinasyddion ar allor distryw; a chan wired a bod dinasyddion goren y wlad yn liwyrfrydig i gefnu ar yr hen bleidiau, oblegid yr hen orchestion gynt, y mae rhyferthwy o gydwybodolrwydd Cristionogol i ddyfod yn y dyfodol buan, er gym cyngreirwyr nffern oddiar y ffordd, i'w lle en hnnain, ac er cario goreuon y blaid Waharddol i'r swyddan gwladol, gan sicrhau llwyddiant dyfodol y Weriniaeth. Y mae y Gwaharddwyr mor ffycldiog ag erioed. Credwyf fod 250,000 o ddinasyddion goren y Weriniaeth yn teimlo i aros yn en plaid, hyd yn nod pe gwyddent nad yw ein hewyddorion i lwyddo am fil o flynyddan, yn hytrach na bod yn gyfrifol o fod-yn

 

 




(delwedd E0745) (tudalen 336)

336 LLWYBRAU BYWYD.

gyfranog o Iwgr-wobrwyaeth y fasnach feddwol, trwy low license na high license, canys gwerth gwaed ydynt. Gwell gyda ni dreulio oes o wrthdystio yn erbyn pechod gwladwriaethol, na bod yn rhanol gyfrifol gyda 60,000,000 am waed lladdedigion y ddraig feddwol. Credwyf fod Gwaharddiaeth i lwyddo yn y wlad hon o fewn y deuddeng mlynedd nesaf, am fod Llywydd mawr pob peth o'i phlaid, ac am fod barn a chydwybod y bobl o'i phlaid. Credwyf nad oes ond lleiafrif mwyaf llygredig y wlad, yn eu dichellion er arwain y bobl dda yn erbyn eu gilydd, bellach ar y ffordd; ac fel y canlyn y dywedant hwy: “Q-wnaethom amod ag angeu, ae ag uffern y gwnaethom gyngrair. Pan ddel ffrewyll lifeiriol, ni ddaw atom ni, eanys gosodasom ein gobaith ar gelwydd, a than ffalsder y llecliasom." Ond fel liyn y dywed y Llywodraethwr mawr: “Yr hwn sydd yn preswylio yn y nefoedd a chwardd; yr Arglwydd a'u gwatwar hwynt." “A diddymir eich amod ag angeu, a'ch cyngrair ag uffern ni saif; pan ddel y ffrewyll lifeiriol, byddwcii yn sathrfa iddi." Esaiali 28: 15 - 19; Salm 2: 4.

Mae'r Arglwydd yn teyrnasu,

Mae 1 n dyfod gyda rhwysg, Fe wasgar y gelynion,

Truenus fydd eu gwysg;

 

 




(delwedd E0746) (tudalen 337)

AMRYWIAETHAU. 337

Fe ddylent ei gusanu,

Cyn delo yn ei lid, Er gosod pechaduriaid

Tn sathrfa oil i gyd.

Dyweda rhai am bechod,

Nid camwedd ydyw hyn; Mewn cyngrair gydag uffern.

Fe wnawn y du yn wyn: A gwnawn y fasnach f eddwol

Yn dduwies hardd a glan, Trwy urddas yr High License,

Mae swynion yn y tan,

Fe rwymwn y Gwaharddwyr

Dan y gefynau pres, I'w boddi yn y gwirod,

Ddaw uffern ddim yn nes; Nid ydynt ond ynfydion

I'w gyru 'maes o'r byd, Ac yna cawn lonyddwch

O hyn i ddiwedd byd.

Ha! pwy sydd yn eich gwylio

A'i lygad sanctaidd, glan! Gwaharddwr ydoedd Daniel,

A'r llanciau yn y tan: Mae Duw gan y Gwaharddwyr

I'w cynal yn y glyn, Nes enill buddugoliaeth,

Er cael y brwnt yn wyn.

Ffyddlondeb y Gwaharddwyr, A bendith Nefoedd fry,

 

 




(delwedd E0747) (tudalen 338)

338 LLWYBRAU BYWYD.

A gyfyd y ddynoliaeth, O'r gerwyn f eddwol ddu;

Er gwisgo mantell sobrwydd,. Trwy Gristionogaeth fy w,

A gwledda mewn gogonianfc Yn mhresenoldeb Duw.

0! Arglwydd, "Preswylydd y berth/

O! anf on dy Ysbryd i lawr,. O! Seion ddeffroa cyn hir,

O! gwel y cynauaf sydd f awr; O! gwel y paganiaid sydd bell

O fro y goleuni, yn wyw, O! galw'r af radlawn yn ol

O feddiant y cibau, i fyw.

Ai ofer y treuliaist dy nerth?

Ai ofer y collaist dy waed? Ai ofer y daethost mor bell?

Ai ofer y dyfroedd a gaed? Ai draw, yn mhen oesau, y daw,

A rhedeg yn ofer yn awr? Ai ofer cyfamod o hedd?

Ai cysgu mae'r cariad sydd fawr?

Mi glywais dy weddi o'r blaen, Mi 'th welais dan gysgod y pren*

Mi wn am yr Ysbryd y daw, Mi 'gwnaf ef yn Seion yn ben;

Mi af trwy dywyllwch y nos, Mi goda'r colledig yn fyw,

 

 




(delwedd E0748) (tudalen 339)

AMRYWIAETHAU. 339!

Mi guraf nes egyr y drws, Mi 'dygaf yn ol at fy Nuw.

Trwy'r cariad tragwyddol y dof,

Trwy Eden y daethym i lawr, Trwy ddylif o ddwr ac o dan,

Trwy'r llewod yn Babilon fawr; Trwy ddirmyg, ac erlid, a gwarth,

Trwy'r hoelio, y marw, a'r bedd, Trwy wneuthur ewyllys fy Nhad,

Trwy waed, a chyfamod o hedd.

Daw tyrfa can amled a'r ser,

Daw'r aflan a'r Ethiop yn wyn, Daw'm pobl yn fwy ar fy ngwedd,

Daw'r arian a'r aur yn ddibrin; Daw'r llesg fel y cadarn yn awr,

Daw'm byddin yn ffyddlawn i mi, Daw'r byd a'r cenedloedd i'm rhan,

Daw'r Nefoedd yn feddiant i ti.

T gareg sy'n treiglo yn awr,

Hi chwala bechodau y byd, “Ei chynydd fel mynydd fydd mawr,"

Nes dif a'r mynyddau i gyd; Ac yna'r diffaethwch a gan,

A Seion a'i gwisg oil yn gan, Er derbyn ei phriod ei hun,

A'r ffyddlawn wiw Gymry yn rhan~

 

DIWEDD.

 

...

Sumbolau:

a A / æ Æ / e E / ɛ Ɛ / i I / o O / u U / w W / y Y /
ā
Ā / ǣ Ǣ / ē Ē / ɛ̄ Ɛ̄ / ī Ī / ō Ō / ū Ū / w̄ W̄ / ȳ Ȳ /
ă Ă / ĕ Ĕ / ĭ Ĭ / ŏ Ŏ / ŭ Ŭ /
ˡ ɑ ɑˑ aˑ a: / æ æ: / e eˑe: / ɛ ɛ: / ɪ iˑ i: / ɔ oˑ o: / ʊ uˑ u: / ə /
ʌ /
ẅ Ẅ / ẃ Ẃ / ẁ Ẁ / ŵ Ŵ /
ŷ Ŷ / ỳ Ỳ / ý Ý /
ɥ
ˡ ð ɬ ŋ ʃ ʧ θ ʒ ʤ / aɪ ɔɪ əɪ uɪ ɪʊ aʊ ɛʊ əʊ / £

ә ʌ ẃ ă ĕ ĭ ŏ ŭ ẅ ẁ Ẁ ŵ ŷ ỳ Ỳ

gw_gytseiniol_050908yn 0399j_i_gytseiniol_050908aaith δ δ
wikipedia, scriptsource. org


Y TUDALEN HWN /THIS PAGE / AQUESTA PÀGINA:
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_232_llwybrau-bywyd_w-d-davies_1889_3_2075k.htm

Ffynhonnell / Font / Source: archive.org
Creuwyd / Creada / Created:
19-09-2018

Adolygiadau diweddaraf / Darreres actualitzacions / Latest updates: 21-09-2018, 19-09-2018

Delweddau / Imatges / Images:

 

 

 

Freefind:

Archwiliwch y wefan hon
SEARCH THIS WEBSITE
...
Adeiladwaith y wefan
SITE STRUCTURE
...
Beth sydd yn newydd?
WHAT’S NEW?


Ble'r wyf i? Yr ych chi'n ymwéld ag un o dudalennau'r Wefan CYMRU-CATALONIA
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web CYMRU-CATALONIA (= Gal·les-Catalunya)
Where am I? You are visiting a page from the CYMRU-CATALONIA (= Wales-Catalonia) Website
Weə-r äm ai? Yüu äa-r víziting ə peij fröm dhə CYMRU-CATALONIA (= Weilz-Katəlóuniə) Wébsait