kimkat2070k America, a Gweledigaethau Bywyd: yn Cynwys Darluniad o America, yn Ddaearyddol, Amaethyddol, Mwnyddol, Llaw-weithfaol, Masnachol, Gwladwriaethol, Cymdeithasol, a Moesol, a Chymry y Talaethau Unedig. Ac yn Ychwanegol, Cynwysa y Gyfrol Benodau ar Rai o Bynciau Dyddorol y Dydd, yn nghyda Detholion O "Lwybrau Bywyd", Cyfrol a Gyhoeddwyd gan yr awdwr yn y Talaethau Unedig. Gan William D. Davies, Scranton, Pa., Talaethau Unedig America. Yr Hwn sydd wedi Byw 25 o Flynyddau yn America, ac wedi Teithio y Deuddeg Diweddaf o’r Cyfryw o For y Werydd i’r Tawelfor, fel Goruchwyliwr Teithiol y “Drych”, etc. Merthyr Tydfil. 1897 (Trydydd Argraffiad) (Argraffiad Cyntaf: 1894). W. D. Davies (William Daniel Davies). (Ganwyd 15 Mehefin 1838, Y Llety, Y Felindre, Pen-boyr, Sir Gaerfyrddin. Bu farw 22 Mawrth 1900, Wrecsam, Sir Ddinbych.) (61 oed).


21-09-2018

● kimkat0001 Yr Hafan www.kimkat.org
● ● kimkat2001k Y Fynedfa Gymraeg www.kimkat.org/amryw/1_gwefan/gwefan_arweinlen_2001k.htm
● ● ● kimkat0960k Mynegai i’r testunau Cymraeg yn y wefan hon www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_mynegai_0960k.htm
● ● ● kimkat2067k America, a Gweledigaethau Bywyd – y Gyfeirddalen
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_231_america-gweledigaethau_davies_1894-1897_y-gyfeirddalen_2067k.htm
● ● ● ● kimkat2070k
Y tudalen hwn
...

 

0003g_delw_baneri_cymru_catalonia_050111
 
(delwedd 0003)

 

 

 

 

 

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Gal
·les i Catalunya
The Wales-Catalonia Website

America, a Gweledigaethau Bywyd: yn Cynwys Darluniad o America, yn Ddaearyddol, Amaethyddol, Mwnyddol, Llaw-weithfaol, Masnachol, Gwladwriaethol, Cymdeithasol, a Moesol, a Chymry y Talaethau Unedig. Ac yn Ychwanegol, Cynwysa y Gyfrol Benodau ar Rai o Bynciau Dyddorol y Dydd, yn nghyda Detholion O "Lwybrau Bywyd", Cyfrol a Gyhoeddwyd gan yr awdwr yn y Talaethau Unedig. Gan William D. Davies, Scranton, Pa., Talaethau Unedig America. Yr Hwn sydd wedi Byw 25 o Flynyddau yn America, ac wedi Teithio y Deuddeg Diweddaf o’r Cyfryw o For y Werydd i’r Tawelfor, fel Goruchwyliwr Teithiol y “Drych”, etc. Merthyr Tydfil. 1897 (Trydydd Argraffiad) (Argraffiad Cyntaf: 1894).
W. D. Davies (William Daniel Davies).
(Ganwyd 15 Mehefin 1838, Y Llety, Y Felindre, Pen-boyr, Sir Gaerfyrddin. Bu farw 22 Mawrth 1900, Wrecsam, Sir Ddinbych.) (61 oed).

RHAN 3
Tudalennau 204-299

Y Llyfr Ymwelwyr / El Llibre de Visitants / The Guestbook:
http://pub5.bravenet.com/guestbook/391211408/


a-7000_kimkat1356k

Beth sy’n newydd yn y wefan hon?
Què hi ha de nou en aquest web?
What’s new in this website?

---

6665_map_cymru_catalonia_llanffynhonwen_chirbury_070404
(delwedd 6665)

...
llythrennau duon = testun wedi ei gywiro
llythrennau gwyrddion = testun heb ei gywiro
....

 

 


(delwedd E0200) (tudalen 204)

X1. WASHINGTON, TRWY MONTANA, MINNEAPOLIS, MINNESOTA. HYD O COULEE, WASHINGTON, 1 MINNEAPOLIS. OULEE City, Washington, sydd ddinas yn mhlith y creigiau, rhyw 21 0 filldiroedd o Almira; ac mor bell ag y gwelwn i, yr unig esboniad ar y paham yr adeiladwyd dinas tyn y fath le y w y ffaith mai dyma yr unig fynedfa fanteisiol i fyned rheilffordd trwy y creigiau i gyfeiriad Seattle; ac y mae ffordd å'i nod i'r cyfeiriad hwnw wedi cyrhaedd Coulee City eisoes, sef cangen o’r Northern Pacific R.R., a thebyg y bydd y Ile yn derfyn cyfnewid parhaus, gan ei fod 124 0 filldiroedd o’r Ile cyfnewidiol nesaf i'r Dwyrain, sef Spokane City. Dywedir mai y gangen hon fydd prif ffordd y cwmni i'r Sound pan ddaw yn barod, gan y bydd dros 100 milldir yn nes i'r mör na'r brif-ffordd bresenol. A dywedir y bydd i'r Great Northern R.R. fyned drwy y ddinas, er llwyddiant mawr i'r lie. Er mai tir amaethu gwael sydd o gwmpas, bydd Coulee yn debyg o ddyfod yn ganolbwynt masnachol i lawer o amaethwyr; ond bydd y ffaith mai dwfr gwael sydd o gwmpas, oherwydd presenoldeb alkali, yn sicr o filwrio yn erbyn ei llwyddianQ Y mae yn Ile dipyn yn rhamantus, ond y mae digon o leoedd a'i cura yn yr ystyr hwn hefyd. Y mae yn y dref a'r cwtllpasoedd ryw chwech neu saith o deuluoedd Cymreig; a'r cyntaf yr ymwelais å'i ranch oedd

 

 


(delwedd E0201) (tudalen 205)

AMERICA. 205 John R. Lewis, gynt o Braddocks, ger Pittsburg, Pa. Cefais ef a'i briod yn groesaWus a siriol. Y mae yn y Ile er's tua wyth mlynedd, ac yn gwneyd yn dda, gallwn feddwl, gan ei fod yn godro 30 0 wartheg---rhyw 50 sydd ganddo—ac yn perchen llawer o geffylau. Y mae wedi cael ei ethol am yr ail waith yn County Commissioner gan y blaid Werinol. Y n nesaf, ymwelais Wm. D. Evans, gynt a Zanesville, O.; ac ar y ranch y gwelais i yntau. Levi Salmon yntau a berchenoga lawer o dir i fewn ac allan o’r dref, ac y mae yn gweithio wrth ei grefft hefyd, sef göf. Aethum i faelfa George R. Roberts a Thomas Parry, yr helaethaf yn y lie. Yil nesaf, ymwelais Thomas Roberts, brawd George R. , o ardal Wild Rose, Wis.; a gwelais ddwy o'i chwiorydd hefyd, sef Mrs. Thomas Parry, a chwaer ieuanc arall a welswn yn flaenorol yn nhj ei thad yn Wisconsin. Y n ei chwmni yr oedd Miss Davies, merch Henry Davies, Wild Rose, ac awgrymwyd i mi y bydd i rai o hen lanciau Big Bend lwyddo i' w cadw rhag dychwelyd i Wisconsin. Gallwn feddwl y byddai yn fendith fawr i ddegau o lanciau ranchy.ddol y Bend gael merch bob un i'w cysuro, yn Ile eu hunigrwydd. Gwelais hefyd yr hen lanc Wynn Evans, yr hwn sydd wedi gadael ei ranch bruddglwyfus a myned i Coulee City i werthu coed, er hwylusdod i'r urdd i adeiladu cartrefi ar gyfer cyfnewidiad .teilwng. Lled dda, Wynn, boed i tithau lwyddo. Ar ol cael ciniaw da gan Mrs. John R. Lewis, aethum fel Indiad ar gefn pony Indiaidd, yn ol tair milldir yr awr am tua 14eg o filldiroedd, i dj David Edwards, Dyffryn Paradwys. SPOKANE FALLS. Hebryngodd Mrs. Hammond fi yn ei cherbyd o ardal Beulah, Big Bend, i gyfeiriad Wilber, i gwrdd å'r trén i'm cymeryd i Spokane Falls; a'r Cymro cyntaf y

 

 


(delwedd E0202) (tudalen 206)

 206 AMERICA, daethum hyd iddo yno oedd John J. Davies (Manodfab), a bu ef a'i briod yn hynod garedig. Nid oes yno lawer o Gymry yn bresenol, am fod boom Spokane wedi darfod, a dim gwaith i'w gael yno. Gwelais T. R. Davies, y Parch. D. Davies, gweinidog yr Annibynwyr, David Rees, Edward Evans, a John a Benjamin Lewis a'u teuluoedd, a rhai Cymry ereill, ond nid oeS églwys Gymraeg yn y ddinas. Y mae y ddinas wedi ei Ileoli bob tu i raiadrau Spokane, y rhai sydd yn fanteisiol i droi yr afon yn wasanaethgar i yru llawer o beirianau. Y maent eisoes yn gyrti melinau maltl a Ilifio, a cherbydau trydanol a rhaff-lusgol ar hyd yr heolydd; ond ymddengys i mi rod Spokane wedi gor-redeg ei hun allan o wynt, fel ereill o ddinasoedd y Sound; ond y mae gan Spokane fanteision daearyddol er sicrhau dyfodol llwyddianus. Ar Mehefin 17eg, cefais yr ystorm o fellt a tharanau, gwlaw a chenllysg, drymaf a gefais er's llawer dydd, tra yn nhj Manodfab; a digrif o beth oedd gweled Mrs. Davies yn pobi yr ieir a'r cywion i fywyd yn, ar, ac o gwmpas yr ystorm, ar ol boddi ohonynt yn y rhyferthwy, fel na chollodd yr un ohonynt. Y mae Mrs. Davies yn famaeth anturiaethus, dyner, a gofalus. Cychwynasom am y Dwyrain unwaith eto, gan fyned trwy gvYr o Idaho, ac yn mlaen trwy Montana fynyddig, ar hyd glänatl cahgen ddwyreiniol yr afon Columbia. Gwelais lawer o dir amaethu da yn y dyffrynoedd a'r Ilechweddau; acar ol tua thri chant o filldiroedd o symud, cyrhaeddasom BUTTE crrv, dinas y meteloedd gwerthfawr. Yr wyf yn gweled llawer o debygolrwydd yn Butte, Montana, i LeadYille, Col.—tebyg yn eu ffurf ddaearyddol, eu cyfoeth daearegol a mwnawl, a'u hagwedd drefol, masnacllol, a moesol. Aethum yn gyn taf i Butte City

 

 


(delwedd E0203) (tudalen 207)

 A GWELEDIGAETHAU BYWYD. 207 Hotel, Ile cysurus i Gymry aros, yn cael ei gadw gan Mrs. Bowen, Cytnraes o Ddowlais, a'i phlant. Y n nesaf, cwrddais å'r Parch. S. Cheshire Pierce, yr hwn oedd wedi dyfod i'r ddinas er's tua dau fis, gyda'r bwriad o godi eglwys Gymraeg yn Butte. Aeth ef gyda mi i weled Cymry y ddinas, ond nid oedd i mi lawer o lwyddiant Drychyddol yn Butte, gan fod y Parch. O. Griffth (Giraldus), wedi ei chanfasio yn llwyr a llwyddianus naw mis yn flaenorol; ac hefyd yr oedd llawer o’r gweithiau yn sefyll pan oeddwn i yno. Bu Thomas Parry, goruchwyliwr ffyddlon y Drych, gynt o Ring, Oshkosh, Wis., gyda mi yn gweled amryw O'n cydgenedl; ond gan fod Mr. Pierce wedi rhoddi darluniad manwl o Butte a'i Chymry yn y Drych yn ddiweddar, ni ddysgwylir i mi helaethu. Treuliais Sabbath yn y dref. Aethum y boreu i gapel y Presbyteriaid, a chafwyd gwasanaeth da i gynulleidfa olygus. Am ddau, aethum i'r ysgoldy i wrando y Parch. S. Ch. Pierce yn traddodi pregeth Gymraeg ar " Moses yn dewis adfyd gyda phobl Dduw, gan wrthod pob anrhydedd Aifftaidd; " eto, yn yr hwyr, cawsom bregeth arall ganddo ar y testyn : " Y mae yn rhaid eich geni chwi drachefn." Gwingo tipyn y mae Cymry Butte dan weinidogaeth Mr. Pierce, ac yn arbenig y bregeth ddyrchafol am Mehefin 1 leg; ond y mae ef yn penderfynu gwneyd ei oreu i gychwyn eglwys Gymraeg yno. Amheus ydym a lwydda ar draws yr aml anhawsderau sydd ar y ffordd. Y n y Ile cyntaf, y mae y bobl yn gorfod gweithio nos a dydd, Sabbath ac wythnos, yr hyn sydd yn ei gwneyd yn anhawdd i'r dynion a'r merched allu myned i'r cwrdd; yn ail, y mae yr arferion o fynychu Ileoedd o wag bleserau, ac yfed diodydd meddwol, yn sychtl a lladd ysbryd crefydd; yn drydydd, ychydig o Gymry crefyddol a gwir selog sydd yno hyd yma; yn bedwerydd, nid oes le cyfleus a sefydlog gan ein cydgenedl i addoli. Pa fodd bynag, credwn y gall Ysbryd

 

 


(delwedd E0204) (tudalen 208)

 208 AMERICA, yr Arglwydd, trwy ffyddlondeb ei bobl, orchfygu yr holl anhawsderau hyn. Er fod teyrnas pechod wedi cael gafael tiffernol ar Butte, fel pob Ile newydd o’r fath yn y Gorllewin, y mae y gwahanol gangenau o fyddin 61 yr Hwn sydd gryfach na'r cryf arfog wedi dechreu ymosod ar amddiffynfeydd pechod, ac nid y Ileiaf beiddgar ac ymosodol yw y Salvation Army; a pha un bynag a yw Mr. Pierce yn meddu digon o’r nerthoedd angenrheidiol oddiuchod i allu sefydlu eglwys Gymraeg anrhydeddus yn Butte ai peidio, y mae yn sicr genyf nas gall y diafol a'i ganlynwyr gadw Cristionogaeth allan o’r ddinas mwy. Fel y mae y bobl yn cloddio i ddyfnder creigiau Butte am y meteloedd gwerthfawr, felly y bydd Cristionogaeth yn cloddio i waered trwy y creigiau celyd o ddrwg arferion, nes dyfod o hyd i drysorau cuddiedig yn y dyfnder, a'u codi i' w puro a'u cyfaddasu i'r adeiladaeth nefol, saer ac adeiladydd yr hon yw Duw. Cymerwyd fi ymaith unwaith eto i gyfeiriad y Dwyrain am tua 1,200 0 filldiroedd, cyn gadael y gerbydres, nes cyrhaedd dinas fawr Minneapolis. Y n gyntaf, aethum trwy 500 0 filldiroedd o amrywiaeth Montana. Nid yw y wlad agos mor ramantus a diffaith wrth groesi gyda'r Northern Pacific, trwy Washington, Idaho, Montana, a Dakota, ag ydyw wrth groesi trwy Colorado, Utah, Nevada, a California. Yr oedd y rhan fwyaf o’r 500 trwy Montana, o Butte hyd derfyn Dakota, yn dir gwrteithiedig. Y na daethom trwy yn agos i 400 0 filldiroedd o arwynebedd North Dakota, y rhan fwyaf yn Roling Prairie, a llawer ohono yn dangos gweryd da, a chnydau go dda i'w gweled yno, gan eu bod wedi cael mwy o wlaw nag arfer. Yn ganlynol, daethum dros 200 0 filldiroedd o dir Minnesota, gwlad ffarmio go lew, o Fargo i Minneapolis. Y n awr, gan fy mod wedi dychwelyd o’r hyn a ystyriwn yn Orllewin fynyddig ac amrywiog, teimlaf

 

 


(delwedd E0205) (tudalen 209)

 A GWELEDIGAETHAU BYWYD. yn foddlawn. Er fod y treuliau arianol yn fawr, ac er na thalai i mi droi fawr oddiar y brif ffordd i weled y rhyfeddodau, am fod y göd yn rhy ysgafn, gwelais lawer o amrywiaeth y Gorllewin yn fy nghyflym symudiadau mewn pum' mis o amser; ac, wrth gwrs, ni allasai fy nhameidiau yn y Drych gynwys y filfed ran o’r hyn a welais. Erys genyf lawer o adgofion dymunol am a welais, ac a glywais, ac a deimlais yn y Gorllewin, a'i phethau, a'i phobl; ac er fy mod wedi gorfod cefnu ar groesaw a sirioldeb miloedd o'm cydgenedl ar hyd y Gorllewin, y mae yn rhyw foddhad i mi yn yr ymwybyddiaeth ei bod yn bosibl i ni ddal i fyny y gydnabyddiaeth fel hyn trwy y Drych o dro i dro. Terfynaf y tro hwn mewn adgofion diolchgar, ac ewyllys da at breswylwyr y mynyddoedd a'r dyffrynoedd, a gwastadeddau moelion a choediog hyd länau y Tawelfor aflonydd :— Rhyfeddwn yn gyson fawr waith y Creawdwr, Ei holl amrywiaethatl a'nl gyrant yn syn, Yr oll a amrywiant yn eu neillduolion, Er Ilenwi y celloedd yn mynwes y dyn; Mae dyn, fel ei Grewr, yn meddu nodweddion Er gweled mewn mwyniant y bodau bob un; Er hyny, gall ganu yn nghysgod y creigiau, Heb weled gwareiddiad, ac wrtho ei hun! Y teulu a welwyd yn nghanol gwareiddiad Y n hom gwedd anian, ei thlysni, a'i nerth, A glywais yn nghanol unigrwydd y goedwig Y n canu addoliad Preswylydd y Berth; Gall dyn yn niffeithwch eithafoedd y ddaear Droi'r oll er cynaliaeth, a Ilonder mawr werth; Er hyny, mi welais yn is na'r bwystfilod, Rai'n cablu bodolaeth eu Crewr yn serth.

 

 


(delwedd E0206) (tudalen 210)

 PE NOD X X X 11. GWIBDAITH TRWY SOUTH DAKOTA. AR YMWELIAD AM TRO CYNTAF A SEFYDLIADAU CYMREIG DAKOTA. 'R diwedd daethum i weled " Gwlad yr Addewid," South Dakota; a'r dref gyntafyr ymwelais å hi oedd Plankinton (Ile y cartrefa Edward E. Williams, a'i deulu, gynt o Dodgeville, Wis.—Yr oeddynt yn gadael y dref hono am y wlad newydd hon pan yr oedd y Cardotyn yn Dodgeville yn casglu at gapel Hyde Park, Pa., naw mlynedd yn 01). Oddiyno cyfeiriais i'r wlad i chwilio am y Cymry; ac ar ol myned rhyw chwech neu saith milldir i gyfeiriad y de-ddwyrain, cyrhaeddais, fwthyn Owen Owen, yr hen lanc; ac, O! bobl anwyl, dyna olygfa! Gan na byddai ond rhyfyg i mi geisio ei darlunio, gwell gollwng Ilen dystawrwydd dros yr olygfa. Yn nesaf ymwelais Hugh Hughes, a'i deulu, o Dodgeville— teulu siriol a chroesawus. Mae Hughes yn un o’r rhai beiddgar mewn digrifwch, ac yr oedd ar ei uchel fanati pan yn fy anog i adferteisio yr hen lanc sydd yn cartrefu yn ei deulu, sef Robert Roberts, brawd-yn-nghyfraith W. E. Powell, tywysog Dakota. Wrth wrandaw ar Hughes, gallwn feddwl mai un gwylaidd iawn gyda'r merched, ac heb ddysgu y ffordd i garu, yw Roberts; a dywedai Htlghes wrthyf am ddyweyd wrth y merched fod Roberts yn llanc hawdd ei garu, a bod ganddo ddau chwarter section o dir bras Dakota, saith o geffylau, a thua 30 0 wartheg. A gallwn i dybio wrth edrych ar

 

 


(delwedd E0207) (tudalen 211)

 AMERICA. 211 wedd Roberts yn gwrandaw y buasai yn dderbyniol ganddo gael llythyr caru oddiwrth ryw ferch hawdd ei charu i fod yn wraig ar un o ffermydd mawr Dakota. Ar ol gwerthu y Drych i Roberts, a " Llwybratt Bywyd " i Hughes, aeth Frank (un o geffylau enwog Dakota) a fi yn ei gerbyd i gartref William Parry; ac wrth y modd y daliai Frank ei glustiau, tybiwn ei fod yn was ffyddlawn ac ewyllysgar i weithredoedd da; canys ar ol myned a ni i derfyn taith y dydd, aeth a'i feistr ieuanc, Hughes bach, i'w gartref yn ddyogel. Ar ol cael noson o adnewyddiad nerth, aeth Griffth Parry a Prince a fi yn y gart o gwmpas i weled Cymry yr ardal. Richard Oliver a'i deulu, gynt o ardal Waukesha, Wis., y rhai a welsant amser caled yn Dakota rhwng cropiau gwael ac iechyd gwael; Richard M, Parry a'i deulu, yntau o ardal Waukesha, a gallwn feddwl yn gwneyd yn lied lew ar haner milldir o dir, gyda 0 400 i 500 0 ddefaid, ond ei fod wedi colli cymhares ei fywyd er's tua dwy flynedd; John L. Reynolds a'i deulu, gynt o Faesteg, sir Forganwg„ D.C., teulu dyddan, ond fod iechyd Reynolds yn wael; Thomas Jones a'i deulu, hwythau o ardal Waukesha, ae yn edrych yn siriol a chalonus; ac yna teulu David T. Williams, yr hwn sydd oddicartref yn y Black Hills yn gweithio, a Mrs. Williams a'r plant yn gwneyd yn Ada ar y fferm. Dychwelasom i fwynhau Iletygarwch teulu William Parry, y rhai sydd yn gwneyd yn gysurus yn Dakota, ar dri chwarter section o dir. Y mae Mrs. Parry yn ferch i'r hen ddiacon ffyddlon gynt o Seion, ac wedi hyny o Jerusalem, Wales, Waukesha, Wis., ond a aeth y flwyddyn ddiweddaf i'r Jerusalem sydd fry o fewn y Ganaan nefol. Symudodd Parry a'i deulu o Waukesha, Wis., ddeng mlynedd yn ol i Spain, Wyoming; chwe' mlynedd yn 01, oddiyno i'r Ile hwn. Treuliais y Sabbath gyda Rees E. Jones a'i deulu, goruchwyliwr y Drych yn yr

 

 


(delwedd E0208) (tudalen 212)

212 AMERICA,

 

ardal, ac un o deulu y Park, Waukesha. Mrs. Jones sydd ferch i Watkin J. Evans o’r un ardal, a sym udasant i Plankinton, Dakota, tua deng mlynedd yn 01, a hwy oeddynt y Cymry cyntaf i sefydlu yn y gym ydogaeth hon. Er y blynyddau sychion mewn gwlad newydd, y maent yn gwneyd yn dda ar 480 0 erwau o dir ardderchog. Cawsant gnwd rhagorol eleni o wahanol gynyrchion. Båm hefyd yn gweled y Parch. J. G. Harrison; ond gan mai yn nghanol llwch a phrysurdeb y llawrdyrnu yr oedd, ni chawsom lawer o ymgom. Gallwn dybio mai amaethu ae nid pregethu y mae Mr. Harrison, canys nid yw yn pregethu i eglwys fechan y Trefnyddion Calfinaidd yn bresenol, am ei bod hi yn teimlo yn rhy wan i gynal gweinidog, gan nad oes ond rhyw 12 0 deuluoedd Cymreig yn yr ardal; ond y maent yn dysgwyl gweled rhagor o Gymry yn dyfod i'r wlad ffrwythlon a hardd ar ol y flwyddyn gynyrchiol hon. Ar ol cael fy hebrwng gan y caredig Rees E. Jones yn ei gerbyd yn ol i Plankinton, cymerodd cerbydres y Chic., Mil. , & St. Paul fi yn ol i Mitchell, ac oddiyno i'r North trwy Woonsocket, tref newydd fywiog ar Junction y Southern Minnesota a'r James River Division. Ni allais ddyfod o hyd ond i ddau Gymro. Os bydd rhyw Cymry yn gorfod aros dros nos yn y dref, y mae Ile cysurus yn Dumont House. Troais fy ngwyneb i'r Dwyrain unwaith eto, am 30 0 filldiroedd, nes cyrhaedd Roswell; ac yna, myned chwe' milldir i'r Gogledd nes cyrhaedd at y Cymry, Ile cefais orphwysfan gysurus yn nheulu Thomas Williams, y rhai ddaethant yma wyth mlynedd yn ol 0 ardal Foreston, Iowa. Wrth edrych arnynt hwy a'u heiddo, argyhoeddir ni iddynt fod yn weithgar a llwyddianus, gan eu bod wedi magu deg o blant, a'r oll yn fyw, a chwech ohonynt wedi priodi, ac yn byw o gwmpas yr hen bob], oddigerth Richard, yr hwn sydd yn byw ger

 

 


(delwedd E0209) (tudalen 213)

 A GWELEDIGAETHAU BYWYD. 213 Blaenycae, Wis. Yr oedd Mr. Williams yn filwr am y ddwy flynedd ddiweddaf o’r Rhyfel Cartrefol, ac yn bresenol pan roddodd Lee a'i filwyr eu harfau i lawr a'r boreu yr wyf yn ysgrifenu y nodiadau hyn, daeth i law trwy yr express hen ffon gamgymalog, wedi cael ei chaboli o wreiddyn laurel root, yr hwn a bigodd Mr. Williams i fyny yn ei erwindeb gwreiddiol ar y maes yn Hatchers Run, Yirginia, ar ol y rhyfel. Rhoddodd hi yn anrheg i' w dad, sef Richard Williams, Nant, ger Cambria, Wis., ar farwolaeth yr hwn yr aeth i feddiant Evan Hughes, teiliwr, Racine, yr hwn a foddodd yn llyn Michigan yn ddiweddar; ac heddyw daeth y ffon enwog i law y perchenog gwreiddiol, a thebyg y bydd iddi aros yn y teulu o oes i oes fel relic teuluol am ganoedd neu filoedd o flynyddau. Y mae rhyw bymtheg o amaethwyr Cymreig yn yr ardal, bron yr oll 0 Wisconsin, sef Thos. Williams Nant, a'i blant, a'u teuluoedd; William J. Williams brawd y brodyr o Lwyn Mwyn, Bark River, Wis., ond wedi hyny o Lime Spring, Ia., a theuluoedd eu plant pedwar o blant Edward Morgan, Bark River, y rhai a bechenogant ffermydd; tri o’r Felix's o ardal Waukesha; a thri o blant Howell Jenkins; T. T. Thomas; dau o blant William Lewis, Foreston, Ia., &c. Y mae Cymry yr ardal hon mewn agwedd addawol eu hamgylchiadau yn ugwyneb cynhauaf da y flwyddyn hon. Y mae tir da o ymddangosiad hardd ganddynt; ond hwythau, fel Cymry Plankinton, mewn ystyr grefyddol dipyn yn llwydaidd, am mai gwlad newydd yw, a'r Cymry wedi ymranu, a'r rhai ieuengaf wedi ffurfio rhai o’r eglwys Bresbyteraidd, ond yr hen bobl ieuenctyd yn dal moddion crefyddol fel eglwys y Trefnyddion Calfinaidd, a'r Parch. John Isaac Hughes yn pregethu iddynt ryw unwaith yn y mis. Wrth gwrs, yr oedd pregeth hynod y pregethwr hynod ny dderbyniol ganddynt.

 

 


(delwedd E0210) (tudalen 214)

 214 AMERICA, O Roswell aeth y trén å fi am naw milldir i Howard, Ile y'tn derbyniwyd yn yr orsaf gan y bardd a'r Ilenor diwylliedig, Ifor Cynidr Parry; ac y mae ef yn weithiwr o ddifrif, beth bynag yr ymafla ynddo i'w wneuthur a rhaid ei fod yn weithiwr mawr,. canys y mae yn gweithio ei fferm ei hun, a'i briod ag yntau yn rhedeg restaurant a maelfa yn llwyddianus, mewn adeilad o’r eiddynt eu hunain ar y brif heol yn nghanol y dref. Y n mhellach, y mae Mr. Parry ar y blaen gyda y diwygiadau gwladwriaethol fel Gwaharddwr, ac hefyd y mae å'i holl enaid gyda phlaid newydd ei bob]. PO fwyaf y byddys yn ei gymdeithas, mwyaf oll y bydd ei alluoedd a'i egwyddorion yn dysgleirio. Y mae yn mwynhau beirniadu y beirdd, y cerddorion, a'r adroddwyr; ac am yr elocutionists a'r adroddwyr mawr, gosoda Ben. Griffiths o flaen y Bardd Coch, am fod yr Olaf yn camseinio y llafariaid, &c. Ystyria hefyd Miss Lizzie G. Harris yn rhagori ar Cynonfardd mewn hyawdledd. Ond gofod a balla i mi wneyd sylw o'i holl feirniadaethau. Dymunai arnaf ddychwelyd ei gofion at Dewi Cwmtwrch, John Jenkins, Scranton, ac ereill o'i hen gyfeillion. Ni ddaethum ond at un Cymro arall yn Howard, sef Hugh L. Hughes, o Portage, Prairie, Wis., yr hwn sydd yn rhedeg Lumber Yard eang yn y dref. Ar ol ffarwelio theulu Parry, sef Mrs. Parry (chwaer D. D. Jones, Scranton), a thri o fechgyn, a geneth iach, fywiog, a deallgar, aeth Parry a fi yn ei gerbyd am tua 11 0 filldiroedd i gyfeiriad y dwyrain, nes cyrhaedd ardal o Cymry, Ile y mae tua 40 0 deuluoedd Cymreig croesawus, diwylliedig, a gobeithiol eu hamgylchiadau, yn ngwyneb y cynhauaf da y flwyddyn hon. Oblegid Iluosogrwydd, elai yn rhy faith i wneyd sylwadau teuluol bob yn un ac un, er mor ddymunol, ar rai ystyriaethau, fuasai hyny. Mewn ystyr grefyddol, Y mae pethau yn ymddangos yn addawol yn eglwys Y

 

 


(delwedd E0211) (tudalen 215)

 A GWELEDIGAETHAU BYWYD. 215 Trefnyddion Calfinaidd, dan ofal y Parch. John Isaac Hughes, yr hwn sydd yn barchus a llwyddianus fel gweinidog. Y mae yno gynulleidfa hardd, a chapel Ilawn o bob oedran a gwahanol ddoniau; a Chan fy mod yn eu plith ar Sabbath yr Ysgol Sabbathol, cefais fantais i glywed eu gwahanol ddoniau, ac ystyriwn hwy yn cymharu yn ganmoladwy åg eglwysi yr hen sefydliadau Dwyreiniol, fel yr ymddengys mai dim ond blwyddyn neu ddwy yn ychwaneg o lwyddiant amaethyddol a wna yr eglwys yn hunan-gynaliol a chryf. Diamhetl y bydd yn dda gan gyfeillion y Parch. John Isaac Hughes glywed ei fod ef a'i detllu å'u bryd ar, ac ar ben y ffordd i lwyddo fel teulu, yn amaethyddol yn ogystal ag yn eglwysig. Y mae eglwys Bresbyteraidd Seisonig yn yr ardal, a rhai Cymry yn perthyn iddi, megys y Parch. R. W. Jones. Da oedd genyf weled y ddau weinidog Cymreig hyn yn gyfeillion, ac yn siarad yn barchus am eu gilydd. O Winfred, cymerodd cerbydres y Chic., Mil., & St. Paul fi am 147 0 filldiroedd i gyfeiriad y gogleddorllewin, hyd Aberdeen, tref ieuanc brydferth, Ile y preswylia rhyw bum' mil o drigolion—tref ganolbarthol ar brairies eang Dakota fras. Rhed y Chic., Mil. , & St. Paul i bedwar cyfeiriad ohoni. y Chic. & N.W. i ddau gyfeiriad, a'r Chic. & G. W. i ddau gyfeiriad; ond isel yw masnach yno yn bresenol, oblegid methiant y cnydau y ddwy flynedd ddiweddaf. Nis gallwn ddyfod o hyd ond i bedwar o detlluoedd Cymreig yn y dref, sef y Parch. D. T. Rowlands, yr hwn sydd yn cryfhau eto ar ol ei glefyd diweddar; Wm. O. Williams yno yn cadw Tivery stable eang; Mrs. Mary J. Cardy a'i meibion; ae E. G. Davies a'i deulu. Aeth y Chic. , Mil., & St. Paul R.R. fi 26 0 filldiroedd i'r Gorllewin eto, hyd Ipswich, tref sirol Edmunds Co., yr hon, efallai, a gynwysa fil o boblogaeth, ac amryw o’r prif ddinasyddion yn Cymry. Dyna

 

 


(delwedd E0212) (tudalen 216)

 216 AMERICA, J. H. Hughes yn sirydd, a John Williams, mab Benj. Williams, o Picatonica, yn y Recording Offce; James D. Jones, gynt o Bristol Grove, Minn., yn bostfeistr, a'i frawd yn ei gynorthwyo; ac y mae gan Jones drug store eang; hefyd, J. Picton a T. H. Williams yn masnach yr esgidiau; Robert J. Roberts yn y gwaith saer coed; J. Owens, y gof, ac E. O. Williams, masnachwr dillad, a wnant yn dda; L. E. Evans, a'i frawd, gynt o Newark, a gadwant hardware store; Wm. D. Jones, y cigydd, ac amryw Gymry ereill, sydd yn barchus iawn. Y no mae Griffth Jones, hen oruchwyliwr y Drych, yr hwn sydd yn ei wely yn wael ei iechyd; ac yn ymyl y dref y mae John E. Thomas, gynt o Summit Hill, Pa., yn meddianu dau chwarter section o ffarm o fewn milldir i'r ddinas, ac yn gwneyd yn dda. D. D. Rees, o sir Gaerfyrddin, D.C., sydd wedi adeiladu y ty harddaf yn y dref, ac y mae yn barod i dderbyn gwraig i'w gysuro. Perchenoga ddwy neu ragor o ffermydd. John Prosser a geidw livery lwyddianus. Tebyg fod yno ragor ag y dylaswn eu henwi, pe buaswn yn fwy cyfarwydd yn y Ile. Y mae Morris a Davies, y ranchers, yn byw yn y dref yn rhanol, ac ar y ranch, yr hon sydd dros 20 milldir i'r North West. Powell a saif 12 milldir i'r dehau o Ipswich. Cerddais hyd at gartref D. M. Jones, rhyw haner y ffordd rhwng y ddwy dref, cyn gorphwys; yna aethum heibio y brodyr Rowlands, D. D. Jones, D. Jones, W. D. Jones, Peter Evans, Evan G. Jones, Robert Jones, George Morris, John Jones, a D. A. Jones, hyd at gartref John P. Hughes, Ile y cwrddais dwy o ferched Mr. Benjamin Williams, goruchwyliwr y Drych yn Picatonica, Wis.—un yn cydgario cyfrifoldeb teulu J. P. Hughes, a'i chwaer yn addysgu plant Dakota ar gyfer dyledswyddau bywyd. Ar ol noson o orphwys, aethum yn ol am filldiroedd i gyfeiriad y de-orllewin, heibio i John Lewis, R. Reneman, John Davis, John

 

 


(delwedd E0213) (tudalen 217)

 A GWELEDIGAETHAU BYWYD. 217 Evans, a theulu D. Lamb, Mrs. J. J. Williams, D. Evans, John B. Evans, ac hyd gartref John W. Williams, yr hen lanc, Ile y Iletyais noson arall. Y na aethum heibio Thomas Owen, John J. Jones, John Richards, Mrs. Roberts, Joseph Williams, Hugh Evans, Thomas Davies, Richard H. Williams, Owen R. Thomas, William U. Williams, Levi Davies, ac O. E. Williams, un o hen arweinwyr y Cardotyn yn Foreston, Iowa, naw mlynedd yn 01, a mwynheais fy hun yn ei gartref dros y Sabbath. A'r prydnawn aeth a fi i gapel y Trefnyddion Calfinaidd, a gosodwyd y pregethwr dyeithr i bregethu yn absenoldeb y Parch. R. Y. Griffths; ond gan ei bod yn Sabbath gwyntog yr oedd y gynulleidfa dipyn yn deneu. Y mae ganddynt gapel eang a chwaethus. Oddiyno aethum i gapel helaethach a harddach yr Annibynwyr, i glywed eu gweinidog, y Parch. J. T. Lewis, a chawsonl bregeth addysgiadol ar hanes Ruth a Naomi; ond yn yr hwyr, rhoddodd ei le i'r pregethwr dyeithr. Dydd Llun, aethum rhagwyf o (19 W. U. Williams, i weled Cymry Powell City; a'r cyntaf o’r cyfryw oedd Daniel Williams; wedi hyny D. T. Hughes, maer y dref, a'r hen frawd Morgans, y gof. Oddiyno at John J. Rees, ac yn Olaf ymwelais Llywellyn, y postfeistr, a'r unig fasnachwr yn y dref. Nid yw Powell wedi ei boomio fel Tacoma a Seattle. Ni welais na star na th9 segur yn Powell City. Aethum rhagwyf i'r tuallan i'r ddinas, heibio i gartref y Parch. R. Y. Griffths, O. Thomas, D. D. Jones, Wm. T. Jones, Griffth Jones, Hugh Evans, Hugh Roberts, Hugh Griffith, cynoruchwyliwr y Drych, yr hwn oedd wedi cael ei gaethiwo i' w wely gan dri o glefydau, fel yr ofnid am ei adferiad. Y n nesafymwelais Seth Lewis, y Parch. J. T. Lewis, John L. Morris, Thomas M. Evans, Thos. A. Evans, W. Thomas, Griffth Pritchard, Thomas R. R. Jones, D. Morris, Parch. John H. Griffiths, Evan 15

 

 


(delwedd E0214) (tudalen 218)

 218 AMERICA, Jenkins, Owen Jones, Rowland Williams, Evan Williams, John Pugh, E. S. Williams, Thomas Lloyd Davies, a John Griffths. Dyma fi wedi enwi Cymry ardal Powell yn Iled lwyr, ond tebyg fod degau wedi cefnu a rhoi anair i'r wlad dda—hyny yw, gwlad dda, hardd ei harwynebedd, a bras ei phridd. Credwyf na bydd achos i Gwilym Eryri gywilyddio o’r detholiad a wnaeth i fod yn sefydliad Cymreig, canys nid efe sydd gyfrifol am wlaw bob amser. Gallwn feddwl y bydd i ardal Powell lwyddo yn y dyfodol, pa un a fydd i'r Cymry gadw eu gafael yno ai peidio. Tebyg fod eu crop yn ysgafnach eleni nag yn unrhyw ran arall o Dakota; ac y mae yr ysgall Rwsiaidd yn ychwanegu pryderon y bobl, ar gefn sychder y tair blynedd diweddaf. Oblegid amrywiaeth anffodion gwlad newydd, tipyn yn galed y mae ein cydgenedl wedi ei chael hyd yma, ac, o ganlyniad, y tai dipyn yn wael a chyfyng. Aethum yn nesaf i Plana, tref rhyw ddeng milldir i'r dwyrain o Aberdeen. Nid oes llawer o Gymry yn byw yn y dref, dim ond y Parch. Owen Jones a'i briod; eithr y mae yno dri thj byw @nd fod dau ohonynt yn weigion), capel y Trefnyddion Calfinaidd, gorsaf y Great Northern, y Post Offce, a star eang o amrywiaeth gwerthadwy, yr hon a gedwir gan Daniel Jones, mab Thomas Jones, Lake Emily, Wis. Teilwng o sylw yw fod holl fusnes tref Plana yn cael ei redeg gan y Cymro ieuanc hwn, ac efe yw y postfeistr. Mae yn rhedeg granary, ac yn prynu Yd y wlad gwmpasog i'w anfon i'r gwledydd pell. Hefyd, mae yn ynad heddwch, yn gofiadur y fwrdeisdref, ac yn ddiacon a chyhoeddwr gyda yr Hen Gorff yn y dref; ond yn ol arfer masnachwyr mawrion y trefydd, y mae Mr. Jones yn byw allan yn y wlad, o’r tuallan i'r city limits. O gwmpas y dref y mae tua 25 0 deuluoedd Cymreig, ac ymwelais hwy yn Iled gyffredinol, gan ddechreu

 

 


(delwedd E0215) (tudalen 219)

 A GWELEDIGAETHAU BYWYD. 219 gyda Robert Thomas a Robert Owen, y diacon, a'i deulu, Ile y teimla pawb yn gartrefol ar unwaith. Aethum heibio Thomas E. Williams a Thomas Ellis, Ile y cefais noson o orphwys; yna ymwelais a John Hughes, John T. Williams, a Moses Roberts, hen ffrynd mawr eto i'r Drych. Rhaid oedd aros noson gyda Morgan G. Jones a'i deulu. Mab yw ef i'r hen dad Evan E. Jones, Bangor, La Crosse, Wis., a Mrs. Jones sydd ferch i'r hen frawd John Protheroe, o’r un Ile. Hysbyswyf eu cyfeillion yn Wisconsin eu bod hwy a'r plant yn iach a llawen, ac yn cofio atynt. Y n mhlith y lluaws, ymwelais a chartref W. J. Rowlands, a dymunai Mrs. Rowlands arnaf mewn modd arbenig ei chofio at bobl Utica, yn neillduol at ei hen gyfeilles Mrs. Richard E. Roberts. Gallwn feddwl fod Cymry yr ardal wedi dal yn o dda trwy y blynyddau aflwyddianus sydd wedi myned heibio. Ysgafn yw y cropiau yma fel yn Powell y flwyddyn hon, yn amrywio o bump i bymtheg o fwsieli i'r erw. Y mae eglwys y T.C. yn edrych yn Iled lewyrchus o dan ofal y gwr ieuanc gobeithiol Owen Jones, gynt o Chicago, am yr hwn y siaredir yn barchus gan bobl ei ofal. Rhifa aelodau yr eglwys tua 50. A rhai o’r Cymry o gwmpas Bath i'r eglwys Saesoneg, am fod yr eglwys Gymraeg dipyn yn mhell. Arosais noson yn y göf, yr hwn å'i briod gymerant ddyddordeb mewn meithrin " Pure Breed S. S. Hamburgs," ac mae yn llwyddo gyda hwy. Tranoeth aethum rhagwyf eto am Langford, tua 35 0 filldiroedd i'r gogledd-ddwyrain o Bath, a'r Cymry cyntaf y daethum o hyd iddynt oedd W. Ap Williams a'i feibion. Nid oes llawer o Gymry yn y dref, ond yr ychydig sydd, yn mhlith y prif ddinasyddion—W. Ap Williams yn retired gentleman; yr Anrh. Richard A. Rowlands a'i feibion, yn rhedeg un o’r masnachdai

 

 


(delwedd E0216) (tudalen 220)

 220 AMERICA, helaethaf yn y dref; Aneurin Owens, mab W. Owen* Caledonia, Wis., a Robert, ei frawd-yn-nghyfraith, o Blaendyffryn, Wis., yn masnachu mewn gwenith; R. E. Jones, mab Wm. W. Jones, Bath, yn rhedeg livery stable eang; a'r hen frawd John T. Roberts, gynt o gylch Utica, N.Y., yn amaethu yn llwyddianus yn ymyl y dref. Y mae Rowland Williams, brawd yr AP, hefyd yn y dref—dyna yr oll y daethum o hyd iddynte Spain yw canolbwynt Cymry sir Marshall. Y no y mae eu Post Office a maelfa nwyddau Evan O. Jones, gynt o ardal Welsh Prairie, Wis. Mae gweithfa D. Jones, y göf, gynt o Columbus, Wis., hefyd yn y dref; gorsaf gan y Chic. , Milwaukee, & St, Paul; capel gan y T.C.; a phreswylfod gan Evan R. Owen, gynt o Caledonia, yn ei ymyl—dyna sydd yn gwneyd i fyny dref Spain. Y mae yn Spain gapel tlws yn ddiddyled, ac yr oedd ynddo gynulleidfa luosog Sabbath, Hydref 25ain, pan oeddwn i yno, yn gwrando y Parch. J. H. Griffth, o Powell, yn traddodi dwy bregeth dda, gyda thipyn o’r hen dinc Gymreig ynddynt. Y mae gwlad dda, hardd, o dir bras, o gwmpas Spain, ac 0 20 i 30 0 Gymry yn dal meddiant tirol. Cawsant gnydau go dda y flwyddyn hon, a gellir tybio y bydd i hwn ddyfod yn sefydliad llwyddianus mewn amser cyfaddas.. Cynaliwyd Cyfarfod Dosbarth yn Winfred y dydd Olaf o Hydref, a'r cyntaf o Dachwedd. Dechreuwyd y gynadledd am 10 boreu Sadwrn, dan lywyddiaeth y Parch. J. Isaac Hughes, gweinidog y lie, yr hwn ethole wyd yn llywydd am dair blynedd. Ysgrifenydd y cyfarfod oedd y diacon Henry Foulkes. Yr oedd yr holl eglwysi yn cael eu cynrychioli, a cherid y gweithrediadau yn mlaen• yn esmwyth, mewn ysbryd pwyll. Dangosodd y cyfarfod nad yw pobl Dakota ar ol yr oes mewn moesau, trwy benderfynu nad yw yn iawn i Gristionogion gymeryd rhan mewn rhedegfeydd. Y n y seiat gyffredinol, cafwyd ymdrafodaeth dda ar y

 

 


(delwedd E0217) (tudalen 221)

 A GWELEDIGAETHAU BYWYD. 221 bymthegfed Sal m. Nos Wener, cafwyd pregeth Saesoneg gan y Parch R. Y. Griffth, Powell; nos Sadwrn, gan y Parchn. Owen R. Morris, Bristol Grove, Minn., a Joseph Roberts, Minneapolis; ac am 10 boreu Sabbath, gan Owen Jones, Plana, a R. Y. Griffth, Powell am 2, R. Y. Griffth a Joseph Roberts; ac am 7 yr hwyr, Owen R. Morris a Joseph Roberts. Teimlwn fod yr holl bregethau yn dda, a'r capel yn llawn o wrandawyr astud. Gellir dysgwyl ffrwyth da yn ymarweddiad Cristionogol yr ardalwyr. Fel diweddglo ar garedigrwydd Cymry siroedd Lake a Miner, mwynheais noson o letygarwch yr hen frawd Rowland Pritchard, yr hwn sydd yn bwriadu myned yn fuan i Oregon at ei berthynasau; yna hebryngasant fi yn llawen i gwrdd å'r trén i Howard. Ar ol cael gwerthu y Drych i Hughes, ac ysgwyd llaw good bye å theulu Parry, aethum rhagwyf am Madison, gan ymweled chartref John B. Jones, ac yna myned rhagwyf mor bell a Flandreau, Ile y gwelais John H. Roberts, y cigydd, gynt o ardal Waukesha, Wis., ac wedi hyny o Clay Co., Iowa. Y mae ef Yll edrych yn dda, ac yn gwneyd masnach helaeth. Gwelais y ffyddIon Ddrychwr, Owen R. Roberts a'i deulu, allan ar eu fferm. Mae yntau hefyd a'i briod o ardal Waukesha, a gallwn dybio eu bod yn gwneyd yn dda. Nid oedd David Price, o’r un ardal, gartref, ond gwelais ei briod, yr hon adwaenwn naw mlynedd yn ol ger Bethesda, Waukesha, a gwerthais y Drych i David G. Williams. Gwelais Mr. Bebb, amaethwr Cymreig arall; yna aethum rhagwyf trwy Egan a Sioux Falls, hyd Sioux City, Ia., gan gefnu ar wlad yr addewid—Dakota. Yn awr gallaf dystiolaethu i mi ei chael yn well na'm dysgwyliad—mwy o wlad wastad ac o dir da nag a welswn mewn unrhyw dalaeth arall yn yr Undeb, a gwell ffyrdd; a chefais y Cymry yn ymddangos yn well eu hamgylchiadau nag y tybiwn cyn eu gweled.

 

 


(delwedd E0218) (tudalen 222)

 222 AMERICA. Tebyg hefyd fod moesau y dalaeth ar y blaen i'r rhan fwyaf o’r Talaethau, a phrawf o hyny yw ei bod yn Dalaeth Waharddol. Y n fy holl symudiadau ni welais ddim effaith y diodydd meddwol ar neb; ond gwelais rai Cymry mewn ysbryd i felldithio Gwaharddiaeth, am na cheid diodydd meddwol hyd yn nod yn y drugstores, ac am fod rhagrithwyr ar y blaen gan y Gwaharddwyr! Dyna arguments cryfion yn erbyn Gwaharddiaeth gan rai a alwant eu hunain yn Waharddwyr, onide! Rhwng pob peth, tueddir fi i dybio y bydd Dakota yn mhen deng mlynedd eto yn un o’r talaethatl amaethyddol mwyaf llwyddianus. Dymunaf fendith a nawdd oddiuchod ar Dakota a'i phobl wrth gefnu arni.

 

 


(delwedd E0219) (tudalen 223)

 PE NOD X X X 111. GWIBDAITH TRWY NEBRASKA. TRWY SEFYDLIADAU NEBRASKA—YN OL 1 IOWA A WISCONSIN. LLE cyntaf yr ymwelais ag ef yn Nebraska, ar fy ffordd yn ol 0'r Gorllewin, oedd Trenton, Ile tua 233 0 filldiroedd i'r dwyrain o Denver, Colarado. Yr oedd un-ar-ddeg o Gymry wedi cymeryd ffermydd tua saith milldir i'r de-orllewin o Trenton, sef Samuel Davies, o ardal Braichyraur, sir Aberteifi, D.C.; J. C. Owen, Evan Morris, a Charles E. Jones, o Yan Wert, O.; J. O. Jones, o Yermont; mab y Parch. T. Miles, Red Oak, Ia.; Joseph Thomas a'i deulu, o Williamsburg, Ia.; Evan D. Jones, o Long Creek, Ia., a Chyn hyny o sir Aberteifi; Richard R. Owen, o Turin, N.Y.; John W. Hughes, 0 Old Man's Creek, Ia.; a John Moses a'i deulu o Gymru. Gwelir nad oes yno sefydliad mawr o Gymry; ond dichon y cynydda, gan fod yno dir amaethu Iled dda, gallvvn feddwl, ac y mae cenedloedd ereill am werthu. Tybiwyf mai prinder dwfr yw y diffyg mwyaf yno. Nid oes yno eglwys yn perthyn i unrhyw enwad, ond cynelir math o gymdeithas grefyddol gymysgedig o Fethodistiaid, Annibynwyr, Bedyddwyr, &c., a chadwant eu moddion crefyddol yn yr ysgoldy. Teimla y Cymry yn hyderus fod llwyddiant bydol a moesol yn eu haros yno; ac felly y bo, meddaf fi. O Trenton, aethum tua dau gant o filldiroedd yn nes i'r dwyrain, nes cyrhaedd sefydliad Blue Springs

 

 


(delwedd E0220) (tudalen 224)

 224 AMERICA, a Wymore. Sefydliad gwasgarog yw hwn, gan fod cenedloedd ereill yn gymysgedig å'r Cymry. Mae ei safle yn un o’r rhanbarthau harddafa ffrwythlonaf wyf wedi weled ar fy nheithiau. Y mae yma tua deg-arhugain o deuluoedd Cymreig; ac, fel y gwyr darllenwyr y Drych, y mae yn eu plith feirdd a Ilenorion. Mae eglwys gan y Trefnyddion Calfinaidd yn nghanol y sefydliad, rhyw chwe' milldir i'r de o Wymore. Nid oes yn mhentref Wymore ond tua thri o deuluoedd Cymreig, ac yn Blue Springs tua yr un nifer, ac un ohonynt yw teulu Edward Roderick, brawd James Roderick, Hazleton, Pa. Y mae ef yn cadw y store fwyaf yn y dref; ac y mae ei frawd ieuengaf yn Drysorydd presenol y sir. Båm yn gweled George Roderick a'i deulu, gynt o Warrior Run, Pa., ar ei fferm, ac y mae yntau yn ymgodi i lwyddiant ar ol ei frodyr. Ymwelais yn nesaf a Pownee City, Ile y mwynheais dri diwrnod o gymdeithas ddymunol hen gyfeillion 28 mlynedd yn ol yn Aberdar, D.C. Y na aethum rhagof tua Salem, Yerdon, Stella, Shubert, a Nemaha. Aeth y caredig Daniel D. Davies mi i weled amryw o’r Cymry yn ei ardal ef, a chawsom amser difyr yn nghymdeithas y Parch. John T. Jones, Mr. a Mrs. John R. Jones, ac ereill. Y n sefydliad Cymreig Platte Centre, trwy gyfarwyddyd yr unig Gymro yno, sef Mr. Hughes, masnachwr llwyddianus, cefais ymgydnabyddiaeth å Mr. Elias Hughes, yr hwn yn llawen a'm cymerodd yn ei gerbyd am tua deg neu ddeuddeg milldir i'w gartref ar dyddyn eang, hardd, a ffrwythlon, yr hwn y mae am werthu, oherwydd ei fod ef a Mrs. Hughes yn myned yn rhy hen i'w redeg lawer yn hwy. Dyna le dymtlnol i Gymro cefnog i bwrcasu cartref helaeth a chynyrchiol yn mhlith Cymry, ac o fewn milldir a haner i gapel Cymreig Mae llawer ychwaneg o dir da ellir brynu yn y sefydliad, o gwmpas y capel Cymreig, yn Shell Creek, ac ar

 

 


(delwedd E0221) (tudalen 225)

 A gwastadtir, ardal Gomer, Y mae y GWELEDIGAETHAU BYWYD. 225 ac o gwmpas capel Moriah hefyd, sef ac y mae yno wlad hardd a ffrwythlon. Parch. Henry R. Williams yn gwneyd gweinidog da ar eglwysi Postville a Moriah, y rhai a dderbyniant gymhorth cenadol gan Gyfundeb y Trefnyddion Calfinaidd, ac y maent yn llwyddo yn dda fel eglwysi ieuainc mewn gwlad newydd. Ar ol ymweled Chymry y ddau sefydliad, aethum yn nghwmni y Parch. H. R. Williams i sefydliad sir Wayne, Ile Y mae rhyw ddeg o deuluoedd Cymreig eisoes, a Ile i gant neu ddau yn rha gor i gael ffermydd o dir rhagorol am 0 9 dol. i 12 dol. yr erw. Nid oes ofn arnaf ganmol y wlad, ar ol gweled ei harwynebedd a'r cnydau o bob math a gynyrcha y til. O Red Oak y mae y rhan fwyaf o Gymry y sefydliad wedi dyfod, a Mr. Morris goruchwyliwr y Drych, yn eu plith; ond cyn hyny, daeth amryw ohonynt o Dalaeth New York, megys William D. Roberts, brawd D. B. Roberts, cysodydd yn swyddfa y Drych. Hefyd, Richard Jones, gynt o "Utica; Edward Davies; Henry E. Evans; ac amryw o’r Jamesiaid o Plainfield a chylchoedd Utica. Mae y sefydliad hwn ryw 60 milldir o Sioux City, Iowa, a'r rheilffordd yn myned o fewn tair milldir iddynt. O un o bryniau cylchynol gellir gweled miloedd o erwau o dir rhagorol, yn agored i'r farchnad; ac nid oes eisieu cloddio fawr o ddyfnder er cael dwfr Iled dda. Mae yno lawer o ffynonau yn cynyrchu aberoedd bychain. .00

 

 


(delwedd E0222) (tudalen 226)

 PEN OD X X X IY. GWIBT)AITH TRWY RANAU O IOWA. YMWELIAD BRYSIOG A SIR CARROLL, DES MOINES, A LLEOEDD EREILL YN IOWA. ETH UM am y waith gyntaf i weled Cymry ardal a'r cyntaf y daethum at ei sir Carroll; anedd-dy oedd eiddo Samuel Hughes, un o amaethwyr mwyaf trefnus yr ardal, ac un o fechgyn sir Gaerfyrddin. Ar ol noson o orphwys, gwerthais y Drych i Rowland Hughes; ac yna aethum i werthu llyfr i Jacob Davies, gan ei fod ef yn derbyn y Drych. Gelwais gyda John Morgan a'i deulu, rhai o ffyddloniaid y Drych, a gwerthais ddau lyfr i Mr. Morgan. Ymwelais å'r Parch. William J. Davies, yr hwn welswn y blynyddau o’r blaen yn Kansas. Y mae yntau yn amaethwr llwyddianus, ond myn amser i ddarllen y Drych, fel pob ffermwr goleuedig. Båm lwyddianus hefyd gyda'r ffyddlon Jacob W. Morgan. Aethum heibio mab S. Hughes a Phillips, nes cyrhaedd at Ebenezer Jones, gynt o Scranton, Pa. Y mae ef a'i briod yn gallu amaethu yn dda, gallwn dybio; ac nid oes angen dyweyd i mi gael croesaw mawr yno. Ar ol noson o orphwys, aethum heibio Joseph Lewis, Thos. Evans, gynt o gylchoedd Scranton; ac yr oedd Mrs. Evans yn holi gyda dyddordeb am ei pherthynasau yno. Gallem feddwl fod y tetllu yn llwyddo fel amaethwyr. Gwelais Henry Thomas a Griffith Thomas, un arall eto o gylchoedd Scranton, Pa., ac wedi hyny o Beacon, Iowa, Ile y cafodd ei wraig. Y na aethum mro

 

 


(delwedd E0223) (tudalen 227)

 AMERICA. bell a Mrs. Thomas, yr hon oedd o fewn ychydig i dd byn y Drych; ac yna heibio David Hughes a Mrs. illiams, gynt o Oskaloosa, Ia., yr hon gyda'i phlant sydd yn ymladd ag anhawsderau goreu y gallont. Cyrhaeddais erbyn nos Sadwrn at un o deuluoedd Scranton eto, sef teulu David C. Jones, Ile y'm derbyniwyd mewn croesaw cyflawn gyda chofion am yr amser gynt. Heblaw eu bod yn llwyddo fel amaethwyr, cefais brofion eu bod yn llwyddo mewn crefydd; ac nid annyddorol oedd genyf ysgwyd llaw ag Arthur, y mab ieuengaf, fel un o'm cydfynychwyr i'r Band of Hope ar hyd blynyddoedd ei febyd. Da oedd genyf ddeall ei fod wedi cadw ei ardystiad yn erbyn y gwirodydd meddwol a'r tobaco hyd y dydd hwn, er llawenydd i'w rieni, a dyogelwch ac anrhydedd iddo ei hun. Rhaid oedd myned eto heibio Mrs. Phillips, un arall o ffyddloniaid y Drych, a Thomas Morgan, ac Ebenezer Evans; ac, wrth gwrs, cefais enwau y ddau i dderbyn y Drych er mwyn bod yn y byd Cymreig. Cefais un arall o hen ddarllenwyr y Drych, Daniel Christmas a'i detllu, yn iach a dedwydd. Cefais David Edwards a'i briod, gynt o Scranton, wedi cyfnewid cryn dipyn er pan adwaenais hwy gyntaf 20 mlynedd yn 01. Da oedd genyf weled fod Edwards yn cryfhau o'i lesgedd corfforol a meddyliol yn ddiweddar. Aeth fi yn ei gerbyd i weled John Lewis a'i briod, ffyddIoniaid y Drych eto, o gylchoedd Scranton yn yr amser gynt. Mae Mrs. Lewis yn ferch i'r hen Gymro twymgalon T. Davies, Pen Canal, Pittston. Mwynheais hefyd gymdeithas y ffraeth D. H. Davies a'i deulu yn fawr. Dyna yn agos holl Gymry sefydliad Cymreig Carroll, ond Daniel Davies a Lewis Edwards, y rhai oeddynt dipyn o’r ffordd i fyned i'w gweled. Y mae gan Gymry yr ardal ffermydd da, a chefais yr oll ohonynt yn bobl groesawus a charedig; a chan i mi

 

 


(delwedd E0224) (tudalen 228)

 228 AMERICA, fod yn eu plith dros y Sabbath, cefais dri chyfarfod pregethu, gan fod dau bregethwr dyeithr a Gwaharddol yno. Un oedd y Parch. T. D. Thomas, o Red Oak, gan yr hwn y cawsom ddwy bregeth dda ar " Grefydd ymarferol," un yn Gymraeg a'r llall yn Saesoneg, i'r bobl ieuainc yn erbyn temtasiynau yr oes. Cymerwyd fi rhagwyf i gyfeiriad Des Moines, Ia., a chwrddais chymwynaswr yn y Cymro J. O. Hughes, yr hwn y bu son am dano yn y papyrau Yll ddiweddar fel y llythyrgludydd mwyaf poblogaidd yn Des Moines, gan iddo gael mwy o bleidleisiau na neb ohonynt, ac, mewn canlyniad, cael gwibdaith rad i weled ei hen gyfeillion yn Brookfield, Ohio, a'r Dwyrain. Aeth a mi i weled amryw o’r Cymry yn Sevastapol, a chawsom amryw o enwau newyddion. Aeth Thomas Morgan, y teiliwr, gyda mi i weled amryw o fasnachwyr y dref, ac yn mhlith ereill, L. B. Thomas, Samuel Jones, Thomas Hopkins a'i frawd, sef meibion Thomas Hopkins, un o hen ddarllenwyr y Drych, Roberts, Johns, ac Evans, cadwyr restaurants. Gwelsom ddau gyfreithiwr Cymreig, sef D. W. Evans, 95, Clapp Block, a T. J. Evans, R. 35, o’r un adeilad. Y mae y ddau yn Cymry parchus o ardal Williamsburg, Ia., ac yn d'od yn mlaen yn dda yn yr alwedigaeth gyfreithiol. Mae T. J. Evans, ac un arall, yn rhedeg papyr misol, a elwir The Rural Northwest; ac, wrth gwrs, mae yn cymeryd y Drych. Siarada Cymry Des Moines am sefydlu Cymdeithas Dewi Sant yn fuan; ac yr oeddynt yn awyddus am law-reolau oddiwrth rywrai er cyfarwyddyd i gychwyn. Gellir anfon y cyfryw at T. J. Evans, Attorney, 35, Clapp Block; neu Thomas T. Morgan, 224 W., 3rd Street. Wrth gwrs, båm yn gweled M. G. Thomas, arolygydd glofaol, yr hwn yntau sydd yn edrych yn dda a siriol. Wrth gwrs, ni ellais gael mantais i weled yr holl Gymry yn mhrifddinas Iowa. Da oedd genyf ddeall fod y Cymry yn

 

 


(delwedd E0225) (tudalen 229)

 A GWELEDIGAETHAU BYWYD. 229 parhau i gynal moddion crefyddol Cymreig dan nawdd yr enwad Cynulleidfaol parchus yn Sevastapol, neu South Des Moines. Y mae yno amryw o Gymry yn gweithio yn y glofeydd. Drwg oedd genyf weled yr hen frawd Hugh Hughes yn wan ei iechyd, a'i gymhar hefyd yn achwyn; nid yw henaint yn dyfod ei hunan. Evans oedd y Ile nesaf yr ymwelais ag ef, a chefais y Cymry yn debyg i arfer. Oddiyno, aethum trwy Oskaloosa i Carbonado. Yr oedd wedi bod yn ymdrechfa rhwng y cwmni a'r gweithwyr yno yr haf diweddaf, a'r Cymry fel pe heb dd'od i'w tymherau eto ar ol colli yr ymdrech. Gallwn dybio fod ein cydgenedl wedi digio wrth Dduw a dynion, ac wrthynt eu hunain, fel nad oedd ond rhyw wyth neu naw o bobl mewn oed yn yr Ysgol Sabbathol na'r cwrdd cyhoeddus yn yr hwyr, Ond gobeithiwn eu bod mewn gwell agwedd foesol na'r golwg allanol, gan fod y mWd yn anterth ei nerth yn Carbonado y Sabbath yr oeddwn yno. Mae Robert Roberts a rhai ereill yn ffyddlawn i'r capel er yr holl anhawsderau. Bydded i'r holl Gymry adnewyddu eu nerth moesol a chrefyddol yn Carbonado. Er fod poblogaeth Beacon yn cynyddu, gallwn dybio fod yr iaith Gymraeg yn cyflym farw yno—dim addoliad Cymraeg yn y capel mwyach. Arosais noson yn Givin y waith hon eto, er fod llawer O'n cydgenedl wedi eu gwasgar oblegid y streic. Y mae Mrs. Mary R. Jones yno bwrdd llawn i ddigoni teithwyr y ffordd haiarn; ac y mae amryw Gymry ereill yn amaethu o gwmpas; ond gan fod y mWd yn fawr, maddeued y cyfryw am beidio myned i' w gweled y waith hon. Y n nesaf, aethum i weled Cymry Kab, gwaith glo newydd, rhyw bedair milldir i'r gogledd-orllewin o Ottumwa, ac y mae yno amryw o hen gydnabyddion o wahanol fanau, megys D. D. Jones a'i deulll, o Gwm Rhondda, ac wedi hyny o Kirkville; D. P. Jones, ei

 

 


(delwedd E0226) (tudalen 230)

 230 AMERICA, fab-yn -nghyfraith; hefyd, Richard Price, mab-ynnghyfraith Thomas John, o Scranton, Pa., yr hwn sydd yn gwneyd yn Iled dda, ac yn anfon ei gofion at berthynasau a chyfeillion yn Hyde Park; Joseph H. Rees, y cerddor, a'i deulu, o Aberdar; Richard Martin a'i deulu, o Kirkville; John M. Williams a'i deulu o’r un Ile; David Morgan, o Dredegar, D.C.; ac Abram Morgan ac Edward Evans, a'i deulu, o Cleveland, Ia. Nid oes yn y dref foddion crefyddol Cymraeg eto. Wele y tameidiwr ar y cyntaf o Ionawr, 1892, wedi cael ei gau i fewn gan y gwlaw rhewllyd yn nghartref y croesawus Morris Peat. Teulu crefyddol, darllengar, yw y teulu hwn—darllenwyr y Beibl ac esboniadau gyda chysondeb; ac, wrth gwrs, mae y Drych yn boblogaidd hefyd yn y teulu er's dros 40 mlynedd; a dyma finau yn rhagluniaethol mewn Ile cysurus i gyfarch fy miloedd gyfeillion ar hyd y Talaethau, megys rhwng y ddwy flwyddyn 1891 a 1892. Gallaf edrych yn ol gyda boddhad a diolchgarwch i Dduw a dynion am fy nyogelwch a chysuron corfforol a meddyliol ar hyd y flwyddyn ddiweddaf. Flwyddyn yr 01, yr oeddwn o fewn esgobaeth y Parch. Hugh X. Hughes, " Cranc y Myglus; " ond byddai yn dda i'r rhai a'i herlidiant ef am efengylu yr ymsancteiddio oddiwrth aflendid a gwastraffy tobaco gofio nad ä dim aflan i fewn i'r deml fawr ysbrydol, Ile y bydd H. X. Hughes a'r holl waredigion yn gallu tyntl dedwyddwch yno oddiwrth bethau uwch na mwg y ddalen wenwynig. Oddiyno aethum i sylwi ar amrywiaeth daearyddol a chymdeithasol New Cambria, Mo., Bevier, a Kansas City; trwy sefydliadau Cymreig Kansas a Colorado fynyddig a gwyllt; trwy Utah gyfoethog ac amrywiog, Nevada arw, California eurog a hafaidd, Oregon goediog a newydd, Washington ieuanc ac annadblygiedig, Idaho wyllta mwnyddol, Montana fynyddig a mwnyddol, y Dakotas amaethyddol, a Minnesota, Nebraska, ac Iowa ddiwylliedig a

 

 


(delwedd E0227) (tudalen 231)

 A GWELEDIGAETHAU BYWYD. 231 breision. Bellach, dyma fi wedi teithio miloedd o filldiroedd ar y drén ac ar draed, heb gyfarfod å'r un ddamwain nac unrhyw siomedigaeth o bwys, na chymaint a diwrnod o afiechyd i luddias fy symudiadau, mor belled ag wyf yn cofio, yn hyd y flwyddyn; tra wedi mwynhau yr anrhydedd o wneyd miloedd o gyfeillion newyddion, ac heb gynhyrfu neb i fod yn elynion; hyny yw, nid wyf yn cofio fy mod wedi ymddwyn at neb yn hyd y flwyddyn yn y fath fodd ag y byddai eu cyfarfod yn codi gwrid euogrwydd i'm gwyneb. Yr wyf yn siarad fel hyn yn yr ymwybyddiaeth ein bod ni oll yn aelodau i'n gilydd yn y byd hwn; ac yn arbenig felly, yr wyf fi er's blynyddau yn gyfrifol i'm cydgenedl trwy y Talaethau am fy ymddygiadau. Felly, gan fod cymaint ohonoch yn gwylio fy symudiadau trwy y Drych cenedlaethol, yr hwn sydd yn adlewyrchu symudiadau o bell ac agos, gweddus i minatl ar ddechreu y flwyddyn 1892 eich cyfarch oll mewn adgofion diolchgar, a dymuno i'n holl ddarllenwyr Flwyddyn newydd dda, ddedwydd, a llwyddianus. Aeth heibio y flwyddyn, sef naw-deg-ac-un, A'i chynyrch i dir hanesyddiaeth; Ni chysgodd hi eiliad yn ystod ei hoes— Bu farw, ond byw ei hamrywiaeth. Derbyniodd i' w mynwes holl hadau y byd, o’r creigiau gwneir eto eu cloddio; Derbyniodd y drwg yn ogystal a'r da, Fe welir yr oll yn blaguro. Y fesen a syrthiodd i dywod y Illör, A chladdwyd hi yn y gwaelodion, A wthir i'r gwyneb mewn cyfnod sydd bell, A'r dderwen ddadblygir yn brydlon : A pherson a gladdwyd y flwyddyn o’r blaen, Trwy Grist a gyfodir i fywyd; Y n mhlith y ffyddloniaid, mewn cyfnod sydd well, Gwna eto ddadblygu mewn gwynfyd.

 

 


(delwedd E0228) (tudalen 232)

 232 AMERICA, Nid pawb sydd yn dechreu y naw-deg-a-dwy A welir yo cael ei diweddu; Bydd rhai sydd yn hau llygredigaeth y cnawd Mewn gwaeau yn dechreu ei fedi : Ond pawb sydd yn hau yr had gwerthfawr a da,. Mewn maes wfth reolau y bywyd, Ar ddiwedd y flwyddyn o’r amser sydd draw Gånt fedi mewn meusydd sydd hyfryd. Dywedir gan rai sydd yn addfed o farn, A chryfion o ddoniau mantoli, Nad oes yr un weithred o eiddo y dyn O gwbl yn myned i golli; Ond cerfia gymeriad ar greigiau y byd, Nas gellir byth mwy ei ddifodi; Bydd i olion ei draed ar dywod y mör Mewn oesoedd sydd bell ei ddeongli! Mae pawb yn aredig, ar hefyd yn hau, A phawb a fydd eto yn medi, Mewn byd darfodedig a'r byd i barhau, Heb ronyn yn myned i golli; Os hau yn annuwiol a fyddys yn awr, Yr unrhyw a fyddys yn fedi; Os hau i sancteiddrwydd, y gwynfyd a ddaw Fydd cyflog y rhai sydd yn credu. Felly bydded i'r Ysbryd Mawr ein cynorthwyo i hau yr had da, fel y caffom fedi mewn gorfoledd. Ar ol cefnu ar garedigrwydd Morris Peat a'i deulu, aethum rhagwyf trwy yr oerfel, o nerth i nerth, nes cyrhaedd cronglwyd yr hen bår Iletygar Hugh Tudor a'i briod, a chefais hwy fel arfer. Yna treuliais Sabbath eto yn mhlith y saint yn Old Man's Creek, a chawsom ddwy bregeth dda gan eu gweinidog, y Parch. J. E. Jones, un yn Gymraeg a'r llall yn Saesoneg, a chawsom gyfarfod hwylus y Y.P.C.E. Dydd Llun, aeth Owen R. Williams, goruchwyliwr y Drych, a fi o gwmpas yr ardal, ac yr oedd tipyn o anhwyldeb y grip yno ar y

 

 


(delwedd E0229) (tudalen 233)

 A GWELEDIGAETHAU BYWYD. 233 pryd. Yr oedd yr hen frawd D. H. Jones yn parhau i achwyn am greulondeb y crydcymalau. Ar ol gorphwys noson arall yn nghartref y cyfaill Daniel John a'i deulu, aethum rhagwyf i weled hen gyfeillion y Gogledd. Cefais fod David D. Jones wedi gadael ei gartref daearol yn ngofal ei weddw a'i blant er pan yr ymwelais hwy y flwyddyn o’r blaen, ac yntau wedi myned i'r byd mawr anadnabyddus i beidio dychwelyd mwy. Gwelais y siriol William J. Rowlands a'i deulu —yntau yn gorwedd yn ngharchar y grip; bydded iddo gael adferiad buan. Cefais Mrs. Rowland Rees hefyd yn dyoddef creulondeb y grip; John Rees yn gaeth gan y crydcymalau; Humphrey Griffiths yn ei gornel dywyll fel arfer, gan ei fod wedi colli ei olwg ar y byd allanol er's blynyddau, ond dywedai fod yr hen wraig a'r ferch y n darllen y Drych iddo gyda chysondeb. Aethum rhagwyf nes cyrhaedd cartref yr hen frawd D. R. Thomas, a chefais efyn y dyfroedd dyfnion hyd yr én, gan fod Ilifeiriant angeu wedi cymeryd cydymaith ei fywyd i'r bedd y dydd Sadwrn blaenorol, sef Ionawr 2i1; ond siaradai ef yn gall yn yr ystorm. Yr oedd Mrs. Hughes a'i dau blentyn yno, wedi dyfod o Trenton, Nebraska, i weled ei mam yn ei chystudd Olaf, ac i'w hebrwng i ei hir gartref. Oddiyno cyfeiriais at John Breese a'i deulu; yr oedd yntau eto dan law y gelyn cyffredin. W edi galw heibio Robert ymgysgodi rhag yr ystorm. Rhaid oedd myned dros ben ei wahoddiad i aros yn hwy pan ddaeth yr hinsawdd yn gyfaddas, canys nid wyf am gymeryd mantais anghymedrol ar letygarwch neb. Iowa City ydyw un o ddinasoedd mwyaf enwog a chanolbarthol Iowa; hyny yw, canolbarthol mewn ystyr gymhariaethol. Y ma yr oedd y State Capitol pan oeddy dalaeth yn ei mebyd, cyn symud y cyfryw i Des Moines, dinas mwy canolbarthol mewn ystyr 16

 

 


(delwedd E0230) (tudalen 234)

 234 AMERICA. ddaearyddol. Gan i'r awdurdodau talaethol fendithio Iowa City State University, erysy ddinas yn haul neu leuad i'r dalaeth eto, gan fod yn bresenol tua 1,200 0 bobl ieuainc y Dalaeth yn cael eu diwyllio a'u goleuo mewn gwahanol gangenau addysg fuddiol er Iles cyffredinol. Aeth y Cymro talentog, poblogaidd, a charedig Daniel Davies, goruchwyliwr goleuni celfyddydol y ddinas, a fi i weled y sefydliad talaethol goleuedig dan sylw, a chefais fod yn ngwasanaeth y sefydliad addysgiadol hwn chwech o adeiladau mawrion, treuliau y rhai sydd tua 52,000 dol. yn flynyddol; felly, gwelir fod y sefydliad yn ffynonell bywyd mewn gwahanol ystyriaethau i Iowa City. Y mae yn arddangosfa ddaearegol ac anifeilaidd ysefydliad gasgliad amrywiaethol da. Mae gan yr Y.M.C.A. adeilad newydd hardd yn y dref, gwerth 40,000 dol. Poblogaeth y dref yw 0 8,000 i 10,000. Nid oes yno ond ychydig o Gymry yn byw.

 

 


(delwedd E0231) (tudalen 235)

 PEN OD X X X Y. GWIBDAITH TRWY RANAU O WISCONSIN. YCHWELWN yn awr trwy ranau o Wisconsin. Croeswn o Iowa i Illinois, gan groesi Mississippi yn Savannah, acynaawn gyda'r Chic. , Mil. , & St. Paul R.R., i gyfeiriad y Gogledd, gan groesi y Ilinell i Wisconsin yn Belvit; ac yna teithiwn am oriau nes cyrhaedd Madison, tref eisteddfa Llywodraeth Wisconsin : gan nad oes yma lawer o Cymry, awn rhagom eto å'n gwyneb ar y Gogledd-orllewin am rhyw 30 0 filldiroedd, a byddwn yn Baneville, wrth droed y Mynydd Glas, Ile y mae sefydliad o Gymry llwyddianus o gwmpas, a'r gwahanol enwadau Cymreig yn addoli yn eu Aliaith eu hunain. Awn rhagom etc, i'r un cyfeiriad anl rhyw 15 milldir, a byddwn yn Dodgeville, sef tref ag sydd yn ganolbwynt masnachol i ardal Iled fawr o amaethwyr a mwynwyr plwm, yn dreflled Gymreigaidd, ac eglwysi gan y tri enwad Cymreig yn y wlad o gwmpas. Aeth y ceffyl tan ni eto am ardal Picatonica Wis., ac ni orphwysais nes cyrhaedd cartref Robert J. Hughes, goruchwyliwr y Drych; a chawsom noson ddyddan yn ei gwmni ef a'i briod, a'r Parch. W. M. Jones, a hen arweinydd y Cardotyn yn yr ardal ddeng mlynedd yn 01. sef Benjamin Williams. Ar ol cael pryd da o fwyd, aeth y gweinidog a'r diacon trwy dywyllwch y nos i'w cartrefleoedd; ac ar ol adferiad nerth dranoeth aethum inau, yn ol fy arfer, ar ol pum'

 

 


(delwedd E0232) (tudalen 236)

 236 AMERICA, mlynedd o absenoldeb, i weled gwynebau yr ardalwyr, a'r cyfnewidiadau cymdeithasol. Cefais y rhai byw yn siriol a chroesawus, ond fod y creulawn grip yn Ilethu mewn llawer teulu yn y gymydogaeth. Gwelwn fod angeu wedi gwneyd bylchau mawrion mewn• teuluoedd, yn mhlith yr hen, y canol oed, a'r ieuanc; ond gan y byddai yn anhawdd i mi gofio yr oll a gollwyd yn mro marwolaeth er pan y båm yn yr ardal o'rblaen, nid enwaf ond tri o’r tywysogion a gymerwyd ymaith o fewn y deuddeng mis diweddaf. Dyna y Parch. John Moses, y dyn mawr cryf hwnw bnm' mlynedd yn 01; ie, cryf o gorff, cryf o feddwl, cryf ei gymeriad fel dyn, fel Cristion, ac fel gweinidog yr Efengyl, wedi ei golli o hen faes ei lafur, ac arall wedi cymeryd ei le. Heddyw, cyn nemawr o fynydau ar ol i mi fyned i'r persondy, Ile yr oedd y Parch. John Moses a'i deulu yn fy nghroesawu y tro o’r blaen, wele Mrs. Moses yn cael ei harwain fel ymwelydd i' w hen gartref gan olynydd ei phriod; ac wrth fy ngweled inau yma, pa ryfedd oedd gweled dagrau adgofion yn treiglo o'i llygaid? Ha! cyfnewidiol yw y byd; ca pawb eu trallod rywbryd! Yr ail a nodaf a gymerwyd ymaith trwy angeu oedd John Jones, y göf, un o flaenoriaid Peniel (T.C.), blaenor o radd dda, llawn gras ymarferol. Y trydydd, a'r Olaf a enwaf, yw y diweddaf ddiacon John W. Jones, blaenor yn eglwys y T.C. yn Carmel, yr hwn a gymerwyd ymaith yn ddisymwth yn ddiweddar, ar ol tri diwrnod o gystudd dan y grip, a theimlir yn chwerw ar ei ol gan yr eglwys a'r ardal, oblegid colli ei bresenoldeb cyfeillgar, a'i ddefnyddioldeb ' doeth a da. Er fod y blaenaf o’r tri wedi ei gytneryd ymaith er's yn agos i flwyddyn, y mae serchiadau yr ardalwyr heb oeri ar ol ei golli hyd eto. " Coffadwriaeth y cyfiawn sydd fendigedig." Y mae Mrs. Moses, ei weddw, a'i mab, wedi symud i fyw i Plateville, er mwyn addysg y llanc.

 

 


(delwedd E0233) (tudalen 237)

 A GWELEDIGAETHAU BYWYD. 237 Deallwyf wrth y bobl eu bod yn cael eu boddhau yn y Parch. W. M. Jones, eu gweinidog newydd, a' i fod yntau yn teimlo yn foddhaol yn maes ei lafur, ond fod tipyn o hiraeth arno ef a Mrs. Jones a'r plant ar ol eu hen gartref yn Minnesota, Ile y buont am 17 0 flynyddau yn gwneyd yn dda. Båm yn ei gwmni dros y Sabbath, ac yn nau gapel ei ofal; a chan fod yn rhaid i mi weithio, ni chefais y fraint o'i glywed ef yn pregethu, na chwaith yr hen frawd, y Parch. Owen Owens, gweinidog yr Annibynwyr yn Bryn Seion. Båm hefyd yn gweled y Parch. Hugh Hughes (B.), yr hwn sydd yn yr ardal er's tua 29 0 flynyddau. Y mae henaint a'r grip, ac hiraeth ar ol cymhar ei fywyd, bron a'i lethu i farwolaeth. Dymunai arnaf ei gofio at y Parch. J. P. Harries, ei frawd-yn-nghyfraith, Nanticoke, Pa., a'r Parch. J. T. Morris, Bellevue. Yr oedd llawer o Gymry yr ardal yn holi am yr Olaf, ac yn anfon eu cofion ato. Cefnais ar Picatonica a'i hamrywiaeth unwaith eto, gan wynebu ar " Dad y Dyfroedd," a'i groesi rhwng Prairie du Chien a McGregor, ac oddiyno rhwng y creigiatl a'r afon, nes ei chroesi eto ger La Crosse, Ile yr arosais i weled rhai o’r Cymry, yn eu plith, Lewis Jones y " Proffwyd," yr hwn sydd yn addaw ysgrifenu heb fod yn hir ar y Proffwydoliaethau a'r Cymry. Dywedai wrthyf, yn mhlith llawer o bethau rhyfedd, mai y Cymry fydd yn llywodraethu y byd yn y Mil Blynyddoedd, ac mai CY1nro oedd Melchisedec, brenin Salem! Ond dyna, ca y byd Cymreig glywed proffwydoliaethau Mr. Jones oddiwrtho ef ei hun, os cyflawna ei fwriadau. Aeth a fi i weled Robert Jones a John O. Jones. Oddiyno aethum i Bangor, a chefais y bobl yno yn debyg i'rtro o’r blaen, a bu y Parchn. H. M. Pugh, D.D., a H. Davies, yn groesawus a chymwynasgar i mi, gan fy arwain i weled Cymry y dref. Clywais y Parchedigion

 

 


(delwedd E0234) (tudalen 238)

 238 AMERICA, hyn yn pregethtl i'w cynulleidfaoedd. Treffechan yw Bangor, ac o nodwedd Gymreig, gan fod llawer o amaethwyr Cymreig o gwmpas. Awn eto å'n gwyneb i'r Dwyrain, ac yn mhen rhyw chwe' milldir byddwn yn ardal Gymreig Fish Creek. Y n mhlith y rhai y cefais gryn ddigrifwch yn eu cymdeithas yn Fish Creek, Wis., yr oedd Steven Rees, o Scranton, Pa., sef brawd Mrs. William Jones, a bydded hysbys i'w holl gydnabyddion yn Scranton ei fod yn gwella fel amaethwr, a bod ei ddigrifwch yn aros gydag ef, yr hyn sydd yn ei wneyd yn boblogaidd yn Fish Creek; ond bu yn galed iawn arno ar y dechreu, gan fod y byd anifeilaidd yn chwerw wrtho fel dyeithrddyn yn y fro. Er engraifft, nodaf rai o drallodion Steven Rees yn ei gartref newydd, fel y gallo ei hen gydnabyddion gydymdeimlo ag ef. I gychwyn, aeth fel amaethwr i fwydo yr ychain, ond er syndod, dyna ddau o’r creaduriaid corniog yn cyd-osod cu cyrn dano, ac yn ei daflu, druan, i gyfeiriad bro y cymylau; ac ar ol troi yn ei ol i gyfeiriad y ddaear, disgynodd ar y das wellt, fel na laddwyd ef, ond torwyd dwy o'i asenau. Y dydd arall aeth mewn båd i ddal eogiaid ar wyneb afon La Crosse, ac yn y man dyna bysgodyn maivr yn edrych o ddifrif ar poor Steve o waelod yr afon, gan roi llam tuag ato. Mewn braw, bu agos i'r gwron syrthio i'r ochr arall i'r båd a boddi, wrth geisio dianc; ond daeth allan yn ddiangol y tro hwn. Drachefn, un dydd, fel bugail da, aeth Steve i blith y defaid, gan gymeryd yr oen yn ei fynwes i'w ddwyn gartref yn llawen; ond gan fod ci bach gan y bugail, dyna y fam yn taro ei throed ar y ddaear, gan blygu ei phen ar y bugail da i ofalu am ei hoen bach rhag y ci, a chymerodd Steve yr awgrym, gan ddechreu rhedeg å'r oen bach yn ei fynwes; ond er dychryn i'r bugail, dechreuodd y ci redeg ar ei 01, a'r ddafad ar ol hyny, gan dybio fod perygl colli ei hoen. Y na dechreu

 

 


(delwedd E0235) (tudalen 239)

 A GWELEDIGAETHAU BYWYD. 239 odd hyrddio ar y ci bach a sodlau y bugail nes dychrynu y ddau bron hyd angeu; ac yn ei gyfyngder taflodd y bugail newydd yr oen i' w fam, a rhedodd adref dan grynu i adrodd am ei drallod a'r waredigaeth a gafodd. Ond fel mai gwaethaf y modd, nid yw diwedd anffodion galwedigaeth newydd yn darfod y fan yna, canys y dydd arall pan oedd Steven, a Jones, ei frawdyn-nghyfraith, yn cwympo coeden chalon wag, dyna Steve yn gosod y fwyell i bwyso ar y ddaear, a meddai, " A oes squirrels yn y celloedd yma weithiau, Bil? " " A ydynt yn ymosod ar " O oes," meddai hwnw. ddynion weithiau, dywed? " " Y mae rhai hedegog yn disgyn ar ddynion weithiau, ac yn myned dan ddillad pobl," meddai Jones. Sylwyd ar olion pryder yn ngwyneb ein gwron, a'i fod yn poeri ar ei ddwylaw i osod y fwyell unwaith eto ar fön y pren calon -agored. Y n fuan gwelwyd ef yn syrthio, a chan wired a hyny, wele wiwer fawr yn syrthio allan o’r pren, ac yn neidio ar gefn Steve Rees, druau, gan blanu ei ewinedd trwy rhyw fodfedd o frethynau i groen cefn un o fechgyn mwyaf doniol Scranton, yr hwn a neidiai i fyny ac o gwmpas fel y wiwer, er treio ysgwyd yr ymosodydd ymaith, yr hwn, ar ol rhoi ysgwydfa dda i wär Steve, a neidiodd i wur yr edrychydd chwerthingar yn ymyl, er cosbi hwnw am chwerthin mewn cyfarfod mor ddifrifol. Dyna i boys Hyde Park rai o drallodion eu hen gyfaill wrth gychwyn yn ei alwedigaeth newydd; ond erbyn heddyw y mae yr ychain, y pysgod, y defaid, a'r gwiwerod yn parchu presenoldeb awdurdodol overseer fferm fawr Dr. Jones a'i fab, ac yn wir y mae y " chicken fruit," a phethau da ereill, yn dygymod yn dda å'r cyfaill Steven Rees yn Wisconsin bell. Aethum rhagwyf eto o dj i d' nes cyrhaedd cartref yr hen frawd Jenkins, yr hwn sydd am fyned i Scranton, Pa., yn fuan gyda'i ferch, Mrs. W. W. Williams, Providence, i fwynhau hamdden diwedd oes. Cyfeiriais

 

 


(delwedd E0236) (tudalen 240)

 240 AMERICA, eto am Rockland, Sparta, a Blaendyffryn, gan gyrhaedd gorphwysfa ar fferm Peter Williams; ac yna, ar ol noson o orphwys, aethum i gyfeiriad D. R. Roberts, Ile yr oedd Mrs. Roberts yn sal. Mewn cyfeiriad arall gwelais Hugh S. Hughes, a lluaws o hen gyfeillion; ac wedi teithio bryn a phant, cyrhaeddais breswyl Isaac Jenkins, y drws sydd wedi bod yn agored i mi bob tro y båm yn Blaendyffryn ar hyd y deng mlynedd diweddaf. Gwelwn olion cyfnewidiadau yn yr ardal bob tro, trwy farw ac ymfudo, trwy heneiddio, priodi, &c., ond elai yn rhy faith i fanylu yn bresenol. Dychwelais i Sparta, Ile nad oes llawer o Cymry. Wrth gwrs, y mae R. E. Jones, goruchwyliwr y Drych, yno yn ffyddIon fel arfer; ac y mae y Cymro poblogaidd, E. R. Jones, yn cadw yr American House, Ile cysurus i aros. Perthyna i'r gwesty artesian wellyn tywallt cyflawnder o ddwfr rhedegog meddyginiaethol mewn pedwar o wahanol leoedd yn y tj; a'r ystabl eang sydd yn perthyn i'r ty, yr hon sydd yn ddigon mawr i gynwys 52 0 geffylau. Am Mr. Jones, gellir dyweyd ei fod o gymeriad da, ac yn adnabyddus fel un o hen swyddogion poblogaidd y sir. Erys amaethwyr y cymydogaethau yn ei d! tra yn marchnata, &c. Mae Roberts a Jones yn parhau i lwyddo fel masnachwyr, ac mae yno amryw o Gymry ereill, megys W. J. Williams, E. R. Evans, Rowland Jones, a J. W. Evans, yr hwn sydd yn rhedeg melin ddwfr i wneyd fframiau drysau a ffenestri, ac yn gwneyd yn dda, gan fod ganddo ddigon o ddwfr bob amser. Gan fod Mr. Evans yn myned yn hen, tebyg y gwerthai pe y deuai dynion cymhwys yn mlaen am stand o’r fath. Y mae E. P. Evans hefyd yn cadw store; ac y mae yn y dref amryw deuluoedd Cymreig ereill, megys gweddw y Parch. R. Williams a'i merched, Thomas Richards, T. L. Phillips, D. R. Williams, William Jones, D. F. Jones, y cyfreithiwr, un o ddinasyddion mwyaf talentog y

 

 


(delwedd E0237) (tudalen 241)

 A GWELEDIGAETHAU BYWYD. 241 ddinas, ac ereill. Yr oedd cyfarfod Gwaharddol gan ddinasyddion y ddinas y noson yr oeddwn yno, Ile yr oedd tua 1,000 0 gynulleidfa frwdfrydig am gau allan y fasnach feddwol o'u dinas brydferth a moesol y flwyddyn ddyfodol, fel y flwyddyn ddiweddaf, am fod Gwaharddiaeth yn gwahardd; ac er credyd i ni fel cenedl, o’r pedwar fu yn areithio, D. F. Jones, Ysw., oedd yr areithiwr diweddaf a goreu o ddigon. Diamheu genyf ei fod yn un o’r areithwyr Gwaharddol cryfaf a fedd Wisconsin heddyw, os nad y Talaethau. Ar ol ei glywed yn siarad nos Lun, awgrymai rhai o’r bobl y byddai iddynt ei anfon i' w cynrychioli yn y Gydgynghorfa heb fod yn hir. Llwyddiant iddo i ddringo i fyny; credaf fod digon o asgwrn cefn moesol ganddo i allu gwrthsefyll llygredigaeth politicaidd yn llwyddianus ac anrhydeddus. Y mae Gwaharddiaeth yn fyw eto, ac y maent yn methu ei lladd yn Iowa, er fod y boss mawr Clarkson wedi dyweyd y dylid ei lladd yno er mwyn cadw bywyd y G.O.P.! Treuliais y Sabbath, Tachwedd 4Ydd, yn Randolph, Wis., a chefais y fraint o glywed y Parch. Thomas Foulkes yn pregethu am ddeg y boreu. Yr oedd yn pregethu yn Ngharmel yn yr hwyr, ond cefais awr neu ddwy o'i gymdeithas ganol dydd. Y mae Mr. Foulkes yn parhau i bregethu yn gryf; ond dywedai ei fod yn teimlo ei hun yn gwanhau o ran ei iechyd, ac yn analluog i ddyfod i'r Cyfarfod Dosbarth. Ond yr oeddwn i wedi gosod fy mryd ar fyned i'r cyfarfod hwnw yn Caledonia; ac er mwyn bod yno yn brydlon, gadewais Randolph gyda'r trén cyntaf boreu Llun am Portage. Oddiyno cerddais dros yr afonydd Wisconsin a Baraboo, a'r ty Cymreig cyntaf y troais iddo oedd eiddo y wraig weddw, Mrs. Jones, No. 4. Er ei bod hi a'i merch yn prysur ddarpar ar gyfer. derbyn dyeithriaid y Cyfarfod Dosbarth, taer wahoddai fi i letya yno dros nos; ond gan fy mod wedi bwriadu gorphen fy

 

 


(delwedd E0238) (tudalen 242)

 242 AMERICA, ngwaith yn yr ardal cyn y cyfarfod, aethum rhagof. Cyn nos, cyfarfyddais å'r Parch. Thomas J. Rice, a rhaid oedd i mi fyned i aros gydag ef a'i deulu caredig. Tranoeth, aethum rhagof, gan ymweled yn gyntaf å'm hen arweinydd, Hugh Roberts, a'i deulu croesawus; ac wedi hyny, aethum heibio i'r cape]. Y n ychwauegol at yr hen gapel Ile yr addolid pan y båm yno o’r blaen, y mae ganddynt gapel newydd hardd, tua chymaint ddwywaith a'r hen un; ac felly gwelwn nad yw eglwys Caledonia wedi bod yn cysgu yn ystod y tair blynedd diweddaf—ac, fel y deallaf, y mae bron a bod yn ddiddyled. Aethum heibio cartref D. D. Owen, Ile y cawswn gynt fwynhau Iletygarwch y teulu. Er fod Mr. Owen wedi symud i Portage i fyw, y mae ei fab eto yn cynrychioli y teulu yno. Cefais anedd-dai Thomas Williams ac ereill megys cynt. Mae W. R. Evans wedi symud i Portage i fyw, ond mae rhagoriaethau y teulu yn cael eu cynrychioli yn y ty yn mherson un o’r merched, yr hon sydd wedi cael cydymaith caredig a hawddgar yn mherson Mr. John Rowlands. Båm can belled i fyny y dyffryn a thi Mr. Hugh Edwards, ond nid oedd ef mor groesawus i mi y tro hwn a'r tro o’r blaen, gan i mi ddyweyd wrtho fy mod yn perthyn i'r blaid Waharddol, ac yntau, ar yr ochr arall, yn credu yn y blaid Werinol. Dywedai nad yw ein plaid ni yn dda i ddim ond cynorthwyo y blaid Ddemocrataidd. Oherwydd prinder amser, nis gellais ymweled a thai Mr. Wm. Owen, Mrs. Phillips, ac ereill. Cliriodd y cymylau, a chawsom dywydd dymunol yn ystod y cyfarfodydd : ac yr oedd cynrychiolaeth dda wedi dyfod yn nghyd o’r gwahanol ardaloedd. Nos Fawrth, cafwyd y bregeth agoriadol gan y Parch. D. Jones, Lake Emily, ar y 24ain o Reolau Dysgyblaethol Cyffes Ffydd y Trefnyddion Calfinaidd, sef y " Ddyledswydd o ddiwydrwydd personol gyda dyledswyddau bydol"—

 

 


(delwedd E0239) (tudalen 243)

 A GWELEDIGAETHAU BYWYD. 243 pregeth led anogaethol a theilwng o gymeradwyaeth ymarferol pob Cristion. Am wyth boreu Mercher, agorwyd y Gynadledd, dan lywyddiaeth y llywydd rheolaidd, y Parch. John R. Jones, Hendref, a chafwyd pedair awr o gyfarfod gwir ddyddorol mewn ymdrin å gwahanol faterion y dosbarth; ac yn mhlith pethau ereill, cafwyd adroddiad manwl a boddhaol y cenadon ymweliadol gan y Parch. David Davies, Oshkosh. Hefyd, btl tipyn o siarad brwdfrydig mewn perthynas i'r drysorfa gynorthwyol i hen weinidogion, sef pa un a fydd er budd yr holl weinidogion, ynte y rhai angenus yn unig? Bu sylw byr ar ardystiad dirwestol fel amod aelodaeth eglwysig; a therfynwyd y pwnc mewn cymeradwyaeth o’r rheol a fodola eisoes trwy awdurdod y Cyfarfod Dirwestol a'r Gymanfa, sef, bod ardystiad dirwestol yn amod aelodaeth. Cafwyd sylw ar yr arferiad drwg o ddefnyddio tobaco; ac anogwyd y plant a'r ieuenctyd i beidio dechreu ymwneyd å'r arferiad llygredig. Pasiwyd, hefyd, na dderbynir neb i bregethu os na wnant lwyrymwrthod åg ef. Fel hyn, gwelwn fod y Cyfarfod Dosbarth hwn yn teimlo eu cyfrifoldeb a'u rhwymau i fod ar y blaen i gondemnio arferion drwg, ac i gefnogi arferion da. Derbyniwyd Owen Jones, brawd y Parch. J. R. Jones, Hendref, fel ymgeisydd am y weinidogaeth, ac anogwyd ef i fyned i'r ysgol. Y n y seiat gyffredinol am ddau, siaradwyd yn dda gan amryw weinidogion ac ereill ar yr angenrheidrwydd o feithrin cariad brawdol. Cafwyd pregethau da yn yr hwyr gan y Parchn. J. K. Roberts a David Pugh, yr hwn oedd mewn galar ar ol claddu ei fab. Am ddeg, dydd lau, pregethwyd gan David Davies a John J. Roberts; am ddau, gan Daniel Thomas a John R. Daniel; ac am saith, gan John R. Jones, Hendref, a David Williams. Ystyriaf i ni gael cyfarfodydd rhagorol o’r dechreu i'r diwedd.

 

 


(delwedd E0240) (tudalen 244)

 PE NOD X X X YI. CHICAGO A RHANAU O ILLINOIS. YMWELIAD A MILWAUKEE, RACINE, A CHICAGO—Y FFAIR FAWR—TEML HYNOD. WN rhagom eto, heb aros mewn rhagor o ardaloedd Cymreig, nes cyrhaedd Milwaukee. Yn ystod fy ymweliad a Milwaukee, Wis., gwelais fod pethau yn myned yn mlaen yn debyg i arfer—amryw adeiladau newyddion mawrion yn cael eu hadeiladu, ac eglwys y Tefnyddion Calfinaidd yn Iled lewyrchus dan ofal y Parch. John E. Jones, ac wedi gwneyd basement eang a chyfleus dan y capel er pan y buaswn yno ddwy flynedd yn flaenorol. Y n Pike Grove gelwais gyda Mrs. Wynne, a Joseph Davies, ei mab-yn-nghyfraith, a'i deulu; ac aeth ef a minau mewn adgofion yn ol tuag Aberdar yr amser gynt. Aethum heibio Thomas Davies, Mrs. Parry, William Williams, a Mrs. Catherine Williams, a'r plant, gan gyrhaedd erbyn nos i gael cysgod rhag y 'storm, a bwrw lludded am yr ail waith yn nghwmni y Iletygar R. E. Rowlands. Tranoeth aethum rhagwyf i weled Cymry ardal Franksville, megys teuluoedd David Jones, Mrs. Gittens, John M. Roberts, John P. Howell, &c. Y mae yr Olaf yn curo ei frawd, y Parch. H. P. HOwe11, D.D., Columbus, 0., mewn cario trwch o gnawd; ac y mae yntau a'i briod, fel y Dr. a'i briod, yn gyflawn o sirioldeb a natur dda. Troais fy ngwyneb am Racine am y tro cyntaf er's

 

 


(delwedd E0241) (tudalen 245)

 AMERICA. 245 dros bum' mlynedd, a derbyniwyf fi yn siriol gan W. P. Jones, goruchwyliwr Ileol y Drych, a'i deulu. Wrth fyned oddiamgylch gyda'r cymwynaswr J. Lloyd Williams, Ysw., sylwn fod Racine yn adnewyddu ei nerth y flwyddyn hon yn fasnachol a phob modd arall; llawer o dai newyddion yn cael eu hadeiladu, ac y mae F'ewythr Sam yn myned i adeiladu ty newydd hardd at wasanaeth gweision ei blant. Tebyg fod yr elfen Gymreig mor amlwg ac anrhydeddus, ar gyfartaledd, yn Racine ag yn unrhyw dref yn y Talaethau. Poblogaeth y ddinas yw 25,000. Y mae eglwys y Trefnyddion Calfinaidd a golwg lewyrchus a llwyddianus arni, dan weinidogaeth ac arweiniad y gweinidog ieuanc llwyddianus R. T. Roberts. Rhifa yr eglwys tua 250, ac y mae arwyddion bywyd yn y gwahanol foddion; maent i fyny å'r oes trwy rbddi gwaith i'r bobl ieuainc a'r plant yn yr Ysgol Sabbathol, a'r Y.P.S.C.E., &c. Ar y nos Sabbath yr oeddwn yno, y plant yn benaf oedd yn cynal y moddion; ac yr oedd yn un o’r cyfarfodydd goreu a gefais erioed. Yr oedd o nodwedd genadol trwyddo, a chasgliad cenadol ar y diwedd. Yr oedd y Parch. Mr. Roberts yn ei elfen gyda'r plant, a'r canu yn dda dan arweiniad John H. Jones. Prysuro wnelo yr amser i holl eglwysi y saint roddi mwy o waith adloniadol, crefyddol, a chenadol o’r fath i'r plant a'r bobl ieuainc yn Sabbathol, mor aml ag y gellir eu parotoi. Büm hefyd yn gwrandaw y Parch. Thomas Evans, gweinidog yr Annibynwyr, yn pregethu i eglwys ei ofal, a chawsom bregeth dda ganddo ar Dat. xix. 12 : " Ac ar ei ben yr oedd coronau lawer," &c. Da oedd genyf ddeall ei fod yn gwneyd bugail cymeradwy i'r eglwys, yr hon a rifa tua 125; a da -oedd genyf sylwi fod y ddau weinidog Cymreig yn gyfeillgar, gan gydweithredu weddus, megys ag y gweddai i weinidogion Efengyl le*tl Grist.

 

 


(delwedd E0242) (tudalen 246)

 246 AMERICA, YN CHICAGO, DINAS FFAIR Y BYD. Erbyn cyrhaedd Chicago, dydd Llun, Mehefin 13eg, yr oedd Panorama y nefoedd yn gordoi y ddinas. Daeth cyclone yn ei rwysg o’r Gorllewin, gan gyrhaedd y ddinas fawr yn gynar yn y prydnawn, gan dywallt mellt, gwlaw, a chenllysg, yn gymysgedig å llais yr Hollalluog, nes awgrymu i'r meddwl ystyriol fod ganddo ryw gWyn yn erbyn y ddinas. Dymchwelwyd adeiladau, lladdwyd personati lawer, ac anafwyd ugeiniau; a dywedai y papyrau ddydd Mawrth fod yr ystorm wedi bod yn fwy chwerw wrth Chicago nag wrth unrhyw le arall. Hwyr y 13eg, yn nghapel y Trefnyddion Calfinaidd, allan o ddialedd yr ystorm, cawsom wledd feddyliol wrth wrando darlith ragorol y Parch. G. Ellis, M.A., Bootle, ar " Hanes y Genadaeth Fethodistaidd Gymreig," yn benaf, am y can' mlynedd sydd wedi myned heibio, a " Llwyddiant yr Enwad yn Mryniau Cassia yn ystod yr haner canrif diweddaf." Dydd Mawrth, y 14eg, aethum i weled Ile " Ffair y Byd." Nid wyf am ddangos fy mod yn ddigon dwl i dreio darlunio esgyrn a gewynau yr amryfal adeiladau eang ac amrywiol. Clywais Joseph Cook un waith yn dyweyd mai enaid dyn sydd yn adeiladu corff iddo ei hun i breswylio ynddo; ac yn gyffelyb y mae athrylith y byd yn y misoedd hyn yn adeiladu corff cyfaddas iddo arddangos ei hun ynddo yn 1893. Mae y syniad yn fawreddog—athrylith Americanaidd yn bwriadu adeiladu corff mewn dwy flynedd yn gyfaddas i arddangos cynyrch athrylith y byd gwareiddiedig ac anwareiddiedig am y chwe' mil o flynyddoedd sydd wedi myned heibio, yn nghyda deongli gwaith bysedd Creawdwr mawr y bydysawd ar elfenau y greadigaeth am filiynau o flynyddoedd cyn amser Adda. Amlwg yw, os gellir gorphen y corff mawreddog hwn yn deilwng, yn ol y bwriad, erbyn Mis Mai, 1893, y bydd yn

 

 


(delwedd E0243) (tudalen 247)

 A GWELEDIGAETHAU BYWYD. 247 ogoneddus, tuhwnt i amgyffred neb; a ryfeddwn i ddim na byddai yn policy da i lawer ohonom ddyfod i weled corff Ffair y Byd tua'r gauaf nesaf, pan y byddo y tywydd yn oer, a digon o le i ni weled rhyfeddodau y corff, yn bytrach nag anturio dyfod yma yn ngwres yr haf i weled gogoniant y corff a'r enaid mawr a fydd yn amlygu eu hunain yn ystod misoedd Ffair y Byd. Gan y dylid cael mis o leiaf i syllu ar y rhyfeddodau, bydd yn beryglus i'n Ilogellau, a'n hiechyd, a'n dyogelwch corfforol, ac yn sicr o fod yn beryglus i gyfansoddiad meddyliol llawer ohonom : gan hyny, bydded i ni dreio bod yn gall, " Canys y rhai a dybiasant eu bod yn ddoethion, hwy a aethant yn ffyliaid," yw hi yn am] gyda phethau gweledig. Rhaid gweithio o ddifrif ar y corff ac o gwmpas ei draed er ei gael yn barod tnewn amser cyfaddas; eto, cynghorwn i awdurdodau y Ffair i beidio gweithio ar y Sabbathau, na threfnu i gadw y Ffair yn agored ar y Sabbathau, ar draws gorchymyn pendant Arglwydd mawr y greadigaeth, rhag iddo ddigio, a gorchymyn i'r elfenau ddymchwelyd y cwbl, megys mewn un awr. Ai tybed nad oedd y rhuthrwynt ddydd Llun, y 13eg, yr hwn wnaeth filoedd o ddoleri o niwed i adeiladu yr Arddangosfa, yn awgrym i'r awdurdodau i gofio y gw• ionedd, fod " yr Hwn sydd yn uwch na'r uchaf yn wylied, a bod Un sydd uwch na hwynt," ac yn drech na hwy? Ar ol blino cerdded rhwng rhwydwaith esgyrn sychion a dignawd yr adeiladau dan sylw, aethum i weled teml y W.C.T.U., ar gongl heolydd La Selle a Monroe, yr hon a sylfaenwyd Tachwedd raf, 1890, ac a orphenwyd Mai 1 af, 1892. Hyd yr adeilad yw 190 troedfedd, Iled 96, uchder 262, neu 13 0 loriau; a chostiodd 1,200,000 0 ddoleri. Prisir y tir o dano yn werth 1,000,000 0 ddoleri. Gofynir 200,000 0 ddoleri o renti am y gwahanol ystafelloedd. Y n sicr, mae y deml hon yn un o’r adeiladau harddaf yn Chicago, yn

 

 


(delwedd E0244) (tudalen 248)

 248 AMERICA, anrhydeddu enw un o undebau Cristionogol mwyaf pur y bed waredd gan rif ar bymtheg, sef y World's W.C.T.U., yr hwn a ffurfiwyd yn y flwyddyn 1874, yn ei gynadledd flynyddol yn Cleveland, Ohio; ac yn ol ei adroddiad am 1891, y mae ei aelodaeth yn 200,000, heblaw fod 200,000 0 blant yn perthyn i'r Loyal Temperance Legion. Blagurodd y Gymdeithas ardderchog hon o’r Temperance Crusade, 1873-4; ond erbyn heddyw y mae ganddynt 47 0 gymdeithasau talaethol a chwech tiriogaethol, ac y mae ganddynt gymdeithasau Ileol mewn 10,000 0 fanau yn y Talaethau Unedig. Maent hefyd wedi ffurfio cymdeithasau yn Canada, Prydain Fawr, Awstralia, Hawaiian Islands, New Zealand, India, Japan, Madagascar, South Africa, a bron yn mhob gwlad wareiddiedig ar y ddaear. Ei hamcan yw sobri y byd, trwy argyhoeddi a goleuo yn bersonol i lwyrymwrthod å diodydd meddwol, a thrwy wneyd cyfreithiau gwaharddol yn wladwriaethol. A chofier mai nid cymdeithas mewn enw yn unig yw yr W.C. T.U. Dosbartha ei hun i wahanol adranau byw ac ymarferol. Y mae ganddi ei hadran lenyddol, a phrif swyddfa y cyfryw yn ei theml yn Chicago. Anfonodd allan y flwyddyn ddiweddaf tua 130,000,000 o dudalenau o clan diwygiadol trwy yr Union Signal, Young Crusader, &c. Felly, gorfoledded y ddaear, gan fod Cristionogaeth yn ffurfio ei byddinoedd ymosodol ar beehod yn ei wahanol ffurfiau; a gwae y cynghreirwyr a ymffurfiant i ymosod ar y byddinoedd a arweinir gan Dywysog Mawr Cristionogaeth. 'Dyw hi eto ond dechreu gwawrio, Fe gwyd yr haul yn uwch i'r lån. Ar ol cael y fraint o ysgwyd llaw å'r Parchn. D. Harris, D. D. , a Trogwy Evans, ac amryw o lenorion, beirdd, a cherddorion Cytn reig dinas Ffair y Byd, megys D. R. Williams, Bismark, John M. Jones, Ap Madoc, E.

 

 


(delwedd E0245) (tudalen 249)

 A GWELEDIGAETHAU BYWYD. 249 M. Evans, D. Roberts, &c., bernais mai gwell i mi oedd peidio ceisio dyweyd y cwbl am Eisteddfod Fawr y Byd Cymreig, &c., ond deallwn fod y Pwyllgor yn gweithio yn hyderus. Aethum i edrych am yr enwog W. E. Powell, bardd Dakota; ond nid oedd ef yn ei swyddfa. Fodd bynag, gwelais ei is-swyddog, Robert C. Jones, ond golwg dipyn yn bryderus oedd arno am fod ei feistr wedi myned i blith Indiaid y Gorllewin. Ofnai y cawsai Gwilym ei scalpio fel na chelai ef (Bob) weled croen llyfn ei ben bach twt byth mwy. O Chicago cyfeiriais am Big Rock, Ill., am y waith gyntaf. Y cyntaf o’r Cymry yr ymholais am dano oedd yr hen gyfaill y Parch. Griffth Roberts a'i briod caredig; ac ar ol mwynhau eu cymdeithas hwy, dechrettais gerdded o gwmpas i weled fy nghydgenedl. Cefais y Parch. John Jones, gynt o Columbus, 0., yn edrych yn dda; hefyd, y mae Mr. James, gweinidog ieuanc eglwys y Bedyddwyr, gynt o ardal Oshkosh, Wis., a'i briod, yn dyfod yn mlaen yn dda yn eu maes newydd. Nid oedd Mr. Ingram na'i briod gartref, ond gwelais D. C. Jones a'i briod, y rhai sydd yn rhedeg fferm. Yr oedd y tywydd yn boeth, y ffyrdd yn ddrwg, a'r tywydd yn rhy anffafriol i mi ymweled a phawb; ac ni welais chwaith y Parch. G. R. Evans, gweinidog yr Annibynwyr Cymreig, gan ei fod oddicartref ar y pryd. Ychydig o Gymry sydd yn Streator. Y mae gan yr Annibynwyr Cymreig gapel yma, a'r Parch. Timothy Jones yn weinidog ar yr eglwys. Clywais ef yn pregethu yn dda boreu Sabbath, Mehefin 19eg; ac yn yr hwyr, clywais y Parch. J. Canaid Hughes, gweinidog y Bedyddwyr Seisonig, yn pregethu ar " Ddyfod Crist lesu i'r byd i gadw pechaduriaid." Ymddengys Canaid yn bregethwr ieuanc gobeithiol. Y mae yn feistr eisoes ar areithyddiaeth, a deallaf ei fod yn llwyddiant yn maes ei lafur. Yr oedd y capel yn llawn, 17

 

 


(delwedd E0246) (tudalen 250)

 250 AMERICA. ac yr oeddynt yn bedyddio yno y noson hono. Derbynia 1,200 0 ddoleri y flwyddyn yn gyflog. Y mae Streator yn cynyddu fel tref. Heblaw y gweithiatl glo, y mae yno amryw weithfeydd gwydr, Y Cymro cyntaf welais yn Braceville oedd D. J. Hughes. Achwyn yr oedd bron bawb yno. Golwg isel hefyd oedd ar bethau yn Braidwood mewn ystyr weithfaol; ond sylwn fod yno luaws mawr o demlau duw Bacchus. Gelwais yn nesafynJ01iet; dinas fywiog' gynyddol, yn cynwys tua 35,000 0 boblogaeth, heblaw y plant drwg ac y mae talaeth Illinois yn gasglu yno. Y mae yno amryw law-weithfeydd, ac yn eu plith waith alcan yn cael ei adeiladu; ac amryw Gymru yn wasgaredig yn y ddinas—yn eu plith H. W. Morgan, gynt o Brynmawr, D.C., a J. T. Davies, gynt o Williamsburg, Iowa, yr hwn sydd yn gwneyd masnach eang mewn sychnwyddau yn Rhif 415, Case Street. Gadewais y Ile hwn am Cincinnati, taith o tua 300 0 filldiroedd.

 

 


(delwedd E0247) (tudalen 251)

 PEN OD X X X Y 11. JOHNSTOWN, PA. ETH UM o Youngstown, Ohio, trwy Hubbard a Coalburg, ac arosais noson yn y Ile Olaf i fwynhau cymdeithas y Ilenor siriol T. J. Powell. Y na aethum i weled Cymry Sharon, yn nghymdeithas Mr. Williams, goruchwyliwr Ileol y Drych. Erbyn cyrhaedd Johnstown, Pa., gwelais fod y dref wedi ymadnewyddu llawer er pan fuaswn yno yn Chwefror, 1890. Y mae y tair eglwys Gymraeg wedi adeiladu capelau newyddion heirdd, ac yn ymgryfhau dan wasanaeth tri o weinidogion da a llafurus, sef y Parchn. George Hauge (B.), gynt o Sharon; D. Jewett Davies (T.C.), gynt o Yan Wert, O.; a T. A. Humphrey (A.). I ddyn dyeithr, nid oes olion y gyflafan fawr i'w gweled ar y ddinas nac ar y teuluoedd Cymreig. Tachwedd 4Ydd, aethum yn nghwmni y Parch. J. T. Morris, Belle Yue, a merch Ebenezer James, i ben mynydd dinas y meirw, ac yno sylweddolid llawer o olion boddfa fawr Mai 31ain, 1889, pan y darllenem gofgolofnau llawer o deuluoedd cyfain a foddwyd yn y rhyferthwy, ac ugeiniau o’r cyfryw yn enwau Cymreig. Trwm oedd sylwi ar lanerch gysegredig beddrodau 771 o bersonau anadnabyddus a foddwyd yn nymchweliad yr hen Johnstown, heb ddim ond careg o farmor gwyn uwch eu penau, yn Ilefaru dystawrwydd y bedd uvvchben dirgelwch hanes y marwolion a gysgant odditanodd hyd foreu y codi mawr. Ar gofgolofn fawr y

 

 


(delwedd E0248) (tudalen 252)

 252 AMERICA, colledigion hyn y mae delw merch yn cyfeirio å'i bys tua'r nefoedd, er adgoffa i'r rhai byw yr ymwybyddiaeth fod hanes yr oll mewn cadw ar y llyfrau fry, fel y bydd hanes y rhai hyn mor gyflawn adnabyddus a hanes neb ohonom pan ddarllenir dirgelion pawb ar g'oedd y bydysawd! Os daeth y rhyferthwy heb neb yn ei ddysgwyl I Johnstown i filoedd er braw, 'Roedd llawer ohonynt o gyflwr yn barod, Ac olew mewn lamp yn y llaw; A'u gwisgoedd yn weddus, a'r drws a agorwyd, A hwythau a aethant i fewn I ddarllen eu henwau ar lyfr y bywyd, Trwy'r Cyfaill a roddwyd yn lawn. Horatio oedd y Ile nesaf yr ymwelais ag ef, sef Ile glofaol, tua 60 milldir i'r gogledd o Bellwood ar brif linell y Pennsylvania Railroad; ac y mae yn y Ile ganoedd o Gymry, a dwy eglwys Gymraeg. Y gyntaf a'r gryfaf, y mae yn debyg, yw eiddo yr Annibynwyr, yn berchen capel hardd ac wedi talu am dano, a'r achos yn ei wahanol ranau yn edrych yn Ilewyrchus, ond fod gwir angen am weinidog da i'w gwasanaethu. Y mae ganddynt yno gantl da, dan arweiniad y cerddor Thos. Y. Evans, gynt o Morris Run. Mae gan eglwys y Bedyddwyr gapel newydd tlws, yr hwn a lenwir yn dda å chynulleidfa lewyrchus, dan weinidogaeth y Parch. D. C. Edwards, yr hwn a fedyddiodd 15 0 bobl ieuainc y Sabbath yr oeddwn i yno. Mae canu da ganddynt hwythau, dan arweiniad Wm. Jones. Ymwelais yn nesaf Lindsay, Ile y mae mwy o Gymry nag yn Horatio. Mae yno hefyd ddwy eglwys Gymraeg, a chapel tlws gan y Bedyddwyr, ac y maent newydd gael gweinidog da i'w gwasanaethu, sef y Parch. D. C. Edwards, gan yr hwn felly y mae maes eang i wneyd dak)ni rhwng yma ac Horatio. Y mae

 

 


(delwedd E0249) (tudalen 253)

 A GWELEDIGAETHAU BYWYD. 253 gan yr Annibynwyr eglwys addawol yma hefyd, ond heb gael capel hyd yma; ac y mae yr eglwys, pan mewn undeb ag eglwys Horatio, yn sefyll mewn gwir angen am weinidog da. Punxsutawney eto sydd ddinas gynyddol, ac yn ganolfan i'r pentrefydd glofaol, ond nid oes yma lawer o Gymry. Y Cymro cyntaf a gwrddais yn y dref hon oedd y Parch. Jacob T. Howell; dyn croesawus, cymwynasgar, a chenedlgarol, ac yn weinidog llwyddianus a phoblogaidd ar ddwy eglwys Bresbyteraidd Seisonig yn yr ardal er's tua saith mlynedd. Cwrddais hefyd Thomas E. Jones, gynt o Morris Run, ac y mae yn swyddog mewn ariandy yno, ac yn un o’r dynion ieuainc mwyaf parchus yn y dref.

 

 


(delwedd E0250) (tudalen 254)

 PEN OD X X X Y 111. NODIADAU AR BRIF SEFYDLIADAU CYMREIG Y TALAETHAU UNEDIG. ELE ni, ddarllenydd, wedi bod am ryw bedair blyneddto wibdaith yn mhlith Cymry America, ond y mae llawer o sefydliadau Cymreig eto nad ydym wedi bod ynddynt, na chymaint a'u henwi, a llawer o filoedd o Gymry wedi eu colli yn y genedl fawr Americanaidd; gan hyny, esgusoder fi am beidio manylu gydag unrhyw gangen a ymdrinir arni yn y gyfrol hon, oblegid elai hyny a ni yn mhell y tudraw i amcan a therfynau y cyfryw. Felly, bydded i ni roddi ger bron grynodeb byr o nodweddion y prif sefydliadau yn y gwahanol dalaethau. Dechreuwn gyda NEW YORK. Y mae yn y dalaeth hon filoedd lawer o Gymry mewn cylchoedd anrhydeddus mewn masnach, gwladwriaeth, celfyddyd, ac amaethyddiaeth. Y mae miloedd o Cymry o bob gradd yn ninas New York a'r cylchoedd yn gyfoethogion, masnachwyr, celfyddydwyr o bob math, a llawer yn swyddogion mewn swyddi gwladol a masnachol. Y mae gan y Trefnyddion Calfinaidd gapel ac eglwys lewyrchus yno; a'r un fath gan yr Annibynwyr; ac hefyd gan y Bedyddwyr; ond y blaenaf o’r tri yw y lluosocaf. UTICA. Y mae Utica yn ganolbwynt i holl Gymry y dalaeth, gan ei bod yn cael ei hamgylchynu gan ardaloedd amaethyddol Cymreig. Heblaw fod Utica yn enwog

 

 


(delwedd E0251) (tudalen 255)

 AMERICA. 255 fel canolfan Cymry y dalaeth, y mae yn ganolbwynt Ilenyddol Cymry America, gan mai yno y cyhoeddir newyddiadur cenedlaethol y genedl, sef y Drych enwog. Y mae gan y pedwar enwad Cymreig bob un ei gapel yn y ddinas, a'r Trefnyddion Calfinaidd a'r Annibynwyr sydd luosocaf yno. Cymry o Ogledd Cymru yn benaf sydd yn Utica a'r cylchoedd. Y mae Cymry ardaloedd amaethyddol y cylchoedd yn gysurus eu hamgylchiadau; meddant dir cymharol dda, cymhwysach i godi anifeiliaid nag ydau, efallai. Y mae gan y Trefnyddion Calfinaidd 26 0 eglwysi yn y dalaeth, ond fod llawer ohonynt yn wan iawn, gan fod yr hen Gymry yn marw, a'r plant yn Americaneiddio, yn ymfudo, &c. Nid yw holl aelodau cylch y Gymanfa, a chymeryd wyth eglwys Yermont i fewn, ond 2,050, a chyfranant rhyngddynt at wahanol achosion crefydd tua 17,200 dol. y flwyddyn. Y mae gan yr enwad Annibynol 21 0 eglwysi yn y dalaeth. Y Bedyddwyr Cymreig eto yn wanach na'r Cynulleidfaolwyr yn y dalaeth. Nid wyf yn cofio fod gan y Wesleyaid un eglwys Gymraeg y tu allan i Utica. YERMONT. Y mae amryw filoedd o Gymry yn y dalaeth hon, o Ogledd Cymru yn benaf, gan mai chwarelau ceryg tai a gwenithfaen, yn benaf, sydd wedi eu tynu yno. Y n Fair Haven, Middle Granville, Granville, Poultney, West Pawlet, Blissville, Farnhamsville a'r cylchoedd, y mae bron holl Gymry y dalaeth hon; ac, wrth gwrs' y mae llawer ohonynt dros y terfyn yn Efrog Newydd. Fel y nodwyd yn barod, mewn ystyr grefyddol, y mae Cymry Yermont yn nghylcll Cymanfaol New York. PENNSYLYANIA. Tebyg fod mwy o Cymry yn y dalaeth hon nag unrhyw dalaeth arall yn yr Undeb, a rhenir hwy yn dri dosbarth, sef y dosbarth mwnyddol, a weithiant y

 

 


(delwedd E0252) (tudalen 256)

 256 AMERICA, glo careg, a'r chwarelau ceryg yn nwyreinbarth y dalaeth, a'r glo tyner yn y rhan orllewinol; yn ail, y dosbarth masnachol a chelfyddydol yn nhrefydd y llawweithfeydd, megys Philadelphia a Pittsburg, &c.; ac yn drydydd, y dosbarth amaethyddol yn ngwahanol barthau o’r dalaeth. Mae Cymry y dalaeth hon yn amrywio llawer yn eu hamgylchiadau, rhai yn gyfoethog, ereill yn dlawd, ac yn wasgaredig trwy holl gylchoedd cymdeithas. Am yr enwadau crefyddol Cymreig yn y dalaeth hon, tybiaf nad oes llawer o wahaniaeth nerth rhwng y tri prif enwad; ond tebyg mai y Cynulleidfaolwyr yw y lluosocaf. Nid oes ond ychydig o’r Wesleyaid Cymreig yn y dalaeth. Rhifa eglwysi yr Annibynwyr yn Pa. 50, ond fod rhai ohonynt wedi eu troi yn Saesoneg; y Trefnyddion Calfinaidd, 35; a'r Bedyddwyr, efallai, tua yr un nifer. OHIO. Saif Ohio yn ail o’r talaethau am rif ei Chymry. Rhenir Cymry y dalaeth hon eto rhwng holl ddosbarthiadau y bobl. o’r tri prif dosbarth a enwais yn Pa., credaf mai yr amaethwyr yw y mwyaf yn Ohio. Dyna ardaloedd Palmyra a Paris yn rhai eang; Newark, Granville, Radnor, Troedrhiwdalar, Gomer, Sugar Creek, ac eiddo Yan Wert yn sefydliadau helaeth; a dyna sefydliadau Jackson a Gallia eto, sef sir Aberteifi America. Y mae amrywiaeth, hefyd, yn nodweddu tir yr ardaloedd amaethyddol hyn. Y mae tir o’r fath oreu tua Gomer, Yan Wert, Radnor, &c.; ac mae sefydliadau Jackson a Gallia yn " W lad yr asgwrn," fel ei gelwir, oblegid gwaeledd ei daear anwastad. Mae amaethwyr yr holl sefydliadau a enwyd mewn amgylchiadau cysurus; a Chymry y trefydd yn gymhariaethol dda eu hamgylchiadau. Mewn ystyr grefyddol, y Trefnyddion Calfinaidd sydd luosocaf yn y dalaeth hon; y mae gan yr enwad 42 0 gapelau ynddi; gan y Cynulleidfaolwyr 0 35 i 40—mae rhai ohonynt wedi troi

 

 


(delwedd E0253) (tudalen 257)

 A GWELEDIGAETHAU BYWYD. 257 yn Saesoneg, fel ag y mae yn anhawdd i mi gofio y manylion. Gwan yw y Bedyddwyr Cymreig yn Ohio; efallai fod yno tua 10 0 eglwysi yn cynal moddion Cymreig yn rhanol. WISCONSIN yw y nesaf o ran rhif ei- Chymry, efallai. Amaethyddol yw nodwedd y dalaeth hon; felly, amaethwyr yw mwyafrif mawr ei Chymry, a gallaf enwi tua 15 0 sefydliadau Cymreig, a rhai ohonynt yn fawrion, megys cylchoedd Racine, sefydliad mawr Waukesha, sefydliad mawr Welsh Prairie, ardal Oshkosh, ardal y Coed, Berlin, ardal Wild Rose, Caledonia, ardal Columbus, Watertown, Ixonia, Barnesville, Spring Green, DodgeYille, Picatonica, blaen dyffryn La Crosse, Fish Creek, a Bangor, La Crosse. Tir amaethu canolig, at ei gilydd, sydd yn Wis., a'r Cymry mewn amgylchiadau da. Mewn ystyr grefyddol, y Trefnyddion Calfinaidd yw y lluosocaf yma eto, gyda 42 0 eglwysi; y Cynulleidfaolwyr yn nesaf, thua 26 0 eglwysi; y Bedyddwyr, gyda _phrin 10 0 eglwysi yn cael pregethu Cymraeg ynddynt; a'r Wesleyaid ag un capel Cymraeg, a hwnw yn ardal Oshkosh. IOWA. Y mae llawer o Gymry yn y dalaeth hon hefyd. Amaethyddol dda yw nodwedd y dalaeth hon, er fod ynddi gryn lawer o weithiau glo, a'r Cymry, wrth gwrs, yn rhanu eu nerth rhwng y ddwy gangen uchod, fel arfer; ond yn ffodus, y mae mwyafrif ein cydgenedl yn y dalaeth hon yn amaethu y tir ar eu heiddo eu hunain, yn hytrach na gweithio i ereill tan y ddaear, &c. Y mae yn Iowa bump o sefydliadau Cymreig mawrion a chyfoethog, sef Long Creek, Old Man's Creek, Williamsburgh, Red Oak, Clay Co., ac amryw o rai llai. Y mae Cymry y dalaeth hon hefyd o nodwedd grefyddol. Tebyg mai yr Annibynwyr sydd luosocaf yma; y mae ganddynt yn y dalaeth tua

 

 


(delwedd E0254) (tudalen 258)

 258 AMERICA, deg o eglwysi, a'r Trefnyddion Calfinaidd tua deg. Prin y gellir dyweyd fod gan y Bedyddwyr eglwysi Cymraeg yn y dalaeth hon, na chwaith y Wesleyaid, ond medda y Bedyddwyr un go lewyrchus yn Clay Co. MINNESOTA. Talaeth amaethyddol yw hon eto, a rhyw bedwar o sefydliadau Cymreig ynddi, sef Blue Earth Co., ardal Coed Mawr, La Sewer Co., ardal Bristol Grove, ac ardal Tracy, ac y mae y blaenaf yn un o’r. sefydliadau Cymreig mwyaf a harddaf yn America; y mae agwedd lwyddianus ar holl amaethwyr Cymreig y dalaeth, ac y mae llawer o Gymry yn Minneapolis a St. Paul, &c. Y mae gan y Trefnyddion Calfinaidd ddeuddeg o eglwysi yn y dalaeth, a phedair gan yr Annibynwyr Cymreig, yr wyf yn meddwl. Nid wyf yn cofio am yr un eglwys Gymraeg gan y Bedyddwyr na'r Wesleyaid yn y dalaeth hon. SOUTH DAKOTA. Talaeth newydd, fawr, amaethyddol, o ddaear dda, yw hon, a Ile i lawer yn rhagor o Gymry i sefydlu ynddi (gwel hanes fy nhaith trwyddi, tudalen 210). Y mae ynddi amryw sefydliadau Cymreig addawol, yn Plankinton, Lake, Miner, Edmunds, Brown, Marshal Counties, &c. Y mae gan y Trefnyddion Calfinaidd chwech o eglwysi bychain yno, a'r Annibynwyr till, os wyfyn cofio yn iawn. NEBRASKA. Talaeth newydd eto, o dir corn da, rhwng yr afon Missouri a'r Mynyddoedd Creigiog, ac amryw sefydliadau Cymreig llwyddianus ynddi eisoes, megys sefydliadau Wayne Co., Platt Center Co., Blue Springs, Nordan, Trentoll, &c. Cofiaf am chwech o eglwysi gan y Trefnyddion Calfinaidd, dwy gan yr Annibynwyr, un gan y Bedyddwyr, a rhyw ddwy undebol.

 

 


(delwedd E0255) (tudalen 259)

 A GWELEDIGAETHAU BYWYD. KANSAS. 259 Talaeth y Prairie eto i'r dehau o Nebraska, a dau neu dri o sefydliadau Cymreig go lwyddianus, sef Emporia, Arvonia, Bala, &c. Y mae Cymry yn gweithio ar y glo tua Osage a Peterton, &c. Y mae gan y Trefnyddion Calfinaidd bedair eglwys yn y dalaeth; yr Annibynwyr saith, os wyf yn cofio yn iawn; a'r Bedyddwyr rhyw dair. MISSOURI. Y mae y Cymry yn cael eu teimlo yma hefyd, gan fod yn y dalaeth filoedd ohonynt, mewn gwahanol gylchoedd, ond mewn gweithiau glo y mae mwyaf, sef yn Bevier a Huntsville, a'r cylchoedd, &c. Y mae dau sefydliad amaethyddol Iled fawr yn y dalaeth, sef New Cambria a Down; ac y mae gan y tri enwad Cymreig eglwysi yn y gwahanol ardaloedd hyne Perthyn i Dalaethau y Dehau y mae Missouri, ac nid yw pethau yn edrych mor Ilewyrchus ynddi ag yn y Talaethau Gogleddol. Y mae miloedd o Cymry yn wasgaredig trwy yr holl Dalaethau Deheuol, ond yn Missouri, West Yirginia, Kentucky, Tennessee, Maryland, a Georgia, efallai, y mae mwyaf o Gymry, i'r dehau o Mason & Dickson Line. Ni charwn gymhell Cymry i .ymfudo i'r Talaethau Deheuol, oblegid hinsawdd boeth a dirlethol sydd yno. Gwlad y nigger yw yn naturiol. Y Talaethau Gogleddol yw y Ile goreu i Gymry, yn ol fy marn i, ac y mae digon o le ac amrywiaeth gwaith yn y Talaethau hyn i'r holl Gymry a ddymunai ddyfod drosodd am ugeiniau o flynyddau. Y mae bron yr oll eglwysi Cymraeg yn y Talaethau Gogleddol. o’r 195 0 eglwysi sydd gan y Trefnyddion Calfinaidd yn y Talaethau Unedig, nid wyf yn cofio ond am chwech yn Missouri, i'r dehau o Mason & Dixon Line; ac o’r 170 sydd gan yr Annibynwyr, nid wyf yn gwybod ond am saith i'r dehau o’r un Ilinell;

 

 


(delwedd E0256) (tudalen 260)

 260 AMERICA, ac o’r 62 sydd gan y Bedyddwyr, nid wyf yn cofio ond am dair yn y Talaethau Deheuol. Ond priodol yw nodi y ffaith fod canoedd o weinidogion Cymreig yn Ilenwi pwlpudau y gwahanol enwadau Seisonig Gogleddol a Deheuol, yr hyn sydd brawf fod y genedl Americanaidd yn gweled rhagoriaethau crefyddol ein cenedl. Felly bydded i'n cenedl ddal yr hyn sydd ganddi, fel na ddygo neb ei choron. Nid wyf ychwaith am fod yn gyfrifol am gymhell Cymry y fam-wlad i dd'od i America, oblegid y mae siomedigaethau yn y Talaethau Uliedig, fel pob gwlad arall. Y mae yn rhesymol i ddarllenwyr y gyfrol hon ddysgwyl i mi ddyweyd pa dalaethau yw y rhai goreu i ymfudo iddynt, faint o gyflogau delir mewn gwahanol dalaethau, &c. Wel, y mae yn fwy anhawdd i mi wneyd hyn nag y meddyliai dyn ar yr olwg gyntaf, oblegid, YN GYNTAF, am fod cyutaint o amrywiaeth yn chwaeth ac amgylchiadau yr ymfudwyr eu hunain, fel mai nid yr un Ile, na chwaith yr un gwaith, a fydd yn ateb pawb. YN AIL, credaf fod mwy o anwadalwch yn y Talaethau Unedig na Chymru; felly, pe bawn i yn canmol Ile arbenig yn y gyfrol hon, am ei bod yn myned yn dda yno pan y gwelais i ef, a'r bobl yn cael rhyw ddwy, neu dair, neu bedair, neu bump, neu chwech, neu saith o ddoleri y dydd, yn ol y gwahanol oruchwylion, ac i rai o’r darIlenwyr daflu eu hunain o amgylchiadau cysurus yn Nghymru er myned i'r Ile da dan sylw; ac wedi cyrhaedd yno, efallai y byddai y cwbl wedi sefyll, a miloedd o’r bobl yn segur, ac heb wybod b'le i fyned. Neu, pe y dywedwn am ranbarth y gellid cael 160 o erwau o dir da am ddim ond myned yno i'w feddianu a'i amaethu, ac i rai o amaethwyr Cymru fyned

 

 


(delwedd E0257) (tudalen 261)

 A GWELEDIGAETHAU BYWYD. 261 yno yn ol fy nghymhelliad am daith o ryw bedair, neu bump, neu chwe' mil o filldiroedd, ac erbyn cyrhaedd yno ddeall fod yr holl dir wedi ei feddianu cyn iddynt hwy gyrhaedd. Felly, yr wyf ar fy ngwyliadwriaeth rhag fod yn euog o gamarwain neb. Fy nyben yn y gyfrol hon yw rhoddi rhyw fras ddarluniad cyffredinol o bethau fel yr wyf fi wedi eu gweled ar hyd a Iled y Talaethau Unedig, yn yr ymwybyddiaeth fod miloedd o Gymry Gwlad y Gån yn teimlo dyddordeb yn mhethau neu wrthddrychau Ilomon y llyfr hwn. Y mae yn dra sicr genyf fod y Talaethau Unedig yn meddu mwy o gymhellion cydnaws åg ysbryd ac amgylchiadau y Cymry ymfudol nag unrhyw wlad arall ar wyneb y ddaear. Rhy gyfyng yw Cymru i ddal ei thrigolion, A phrin yw ei chynyrch i gynal y rhai'n, Ond gwrol ei phlant yn ngwyneb cyfyngder, A cheisiant eangder estronol yn rhan. Ac yn y Gorllewin, a chanol y moroedd, Agorwyd dihangfa i dlodion y byd; A miloedd a fegir rhwng bryniau Gwyllt Walia A gyrchant yn gyson i' w meddu mewn pryd. Gwna'r Unol Dalaethau eu siriol roesawu I ganol ei mynwes heb ddichell na brad; Mae ganddi ei meusydd, a llawer o ddyfroedd, I' w rhanu rhwng llawer, a hyny yn rhad.

 

 


(delwedd E0258) (tudalen 262)

 RHA N 11. YN CYNWYS DARNAU NEILL-DUOL O WAITH YR AWDWR, MEWN RHYDDIAITH A BARDDONIAETH, AR DESTYNAU CREFYDDOL, MOESOL, ETC. HEFYD HANES MANWL O FFAIR Y BYD YN CHICAGO YN 1893. CANYS PWY A DDIYSTYRODD DDYDD Y PETHAU BYCHAIN? OFYNA Ysbrydoliaeth y gofyniad uchod yn yr ymwybyddiaeth ei bod yn ofnadwy o wrthun ac afresymol i neb yn meddu ar synwyr cyffredin ddiystyru dim am ei fod yn fach; gan mor amlwg yw dylanwad pethau bychain ar y byd, a chan mor amlwg yw y gwirionedd fod y rhan fwyaf (os nad yr oll) o bethau mawrion y byd

 

 


(delwedd E0259) (tudalen 263)

 AMERICA. 263 wedi bod yn fychain rhyw dro. Bu y dderwen unwaith yn y fesen fach; a gydag ymofyniad gwylaidd y gweddai i ni ofyn, Pa mor fechan oedd y germ ag y ffurfiodd y Creawdwr y dderwen, neu y fesen gyntaf ohono? Ni charem ddiystyru yr hen syniad, sef fod y Creawdwr wedi creu y ddaear ar y chwech diwrnod cyntaf, a'r dyddiau o bedair awr ar hugain yr un, ac iddo greu y ddaear i'w maintioli presenol o fewn yr amser byr hyny; ond esgusoder fi am ddyweyd fod y tebygolrwydd mwyaf fod dyddiau y greadigaeth yn gyfnodau meithion, yn rhy hir i ddyn allu eu mesur, gan mai dyddiau gwaith Duw oeddent, ac nid dyddiau dyn, a bod mil O'n blynyddoedd ni megys un dydd iddo Ef. Y mae yn amlwg i'r daearegwr fod y sand stone ag sydd yn ganoedd o filldiroedd o hyd ac o led, ac yn ugeiniatl o droedfeddi o drwch, wedi bod yn filiynau dirifedi o dywod man yn ngwaelod y mor, cyn i haenau o ddefnyddiau gwahanol i gael eu ffurfio ar ei chefn, er eu gwasgu yn nghyd i fod yn un graig. Gwybyddir drachefn fod y gair " Bydded " wedi gorchymyn i filiynau afrifed o’r coralod bychain adeiladu y graig galch yn ngwaelod y moroedd, i fod yn sylfeini i'r mynyddoedd mawrion ar y sychdir mewn cyfnodau dilynol. A phwy a fedr ddywedyd pa faint o filiynau o flynyddau fyddai yn rhaid i ddyn fyned yn 01, er gweled Pen Saer y greadigaeth yn gosod ei linyn mesur ar gyfaneddle y ddaear, ac i'w weled yn gosod ei cholofnfaen hi (efallai mewn gronyn bywydol, yn rhy fychan o faintioli i'r llygad dynol allu ei weled), " Pan y cydganodd ser y boreu, ac y gorfoleddodd holl feibion Duw "? a " A wyddit ti yna y genid tydi? ac y byddai rhifedi dy ddyddiau yn fawr? " Felly, po fwyaf y sylwn, amlycaf oll fydd y gwirionedd, mae araf ac hamddenol y mae Duw yn gwneyd ei waith, ac nad doeth i ddyn ddyweyd am ddim a welir, " Wele wrthddrych nad yw wedi tyfu dim er pan .y cafodd

 

 


(delwedd E0260) (tudalen 264)

 264 AMERICA, fodolaeth," gan mai amlwg yw fod Duw yn mwynhatt rhoddi cynydd i'w fodatl créedigol ar ol eu creu a'u ffurfio yn ddirgel yn y germ bychan. Eto, chwerw yr ymwybyddiaeth fod y rhan fwyaf o’r teulu dynol y n mynu ymarfer ag arferion, neu ddrygau bychain, ag sydd yn cynyddu fel cadwyn ar gadwyn am yddfau preswylwyr y byd, er eu suddo i waelod mör o wastraff a thrueni personol a chymdeithasol. Enwn un neu ddatl o arferion, er eu bod yn cael eu cyflawni a'tt cychwyn fel pethau bychain a dibwys gan grefyddwyr fel annuwiolion gwledydd Cristionogol y byd; er hyny, y maent gyda'u gilydd yn ffurfio mynyddoedd mawrion o wastraff, a moroedd o drueni, yn ddigon llydan a dwfn i lyncu o’r golwg y mynyddoedd mawrion crybwylledig, y rhai a gladdant yn fyw filiynau o fodau dynol dan eu gwadnau yn ngwaelod moroedd o drueni anobeithiol. Enwn yn gyntaf yr arferiad ac y mae miliynau o’r teulu dynol yn ymarfer hi bob dydd, sef rhoddi 5 sent am lasaid o ddiod feddwol er ei yfed. Dyna beth dibwys yn ngolwg y byd yw rhoddi 5 sent (neu, yn iaith Cymru, tair ceiniog), am lasaid o ddiod, onide? Ond ai dibwys hyny? Onid yw y glasaid yn arwain i'r ail, a'r trydydd, a'r pedwerydd, &c.? A'r ffrwyth fydd meddwi ac ymladd, a myned gartref i labyddio y wraig a'r plant; ac, mewn canlyniad, llawer o ofidiau„ a thlodi, ac angen, a thrueni yn y byd hwn a'r byd a ddaw. Eto, dangoswn fel y mae y 5 sentiau bychain am y ddiod feddwol yn chwyddo pan ddeuant at eu gilydd. Y mae yn yr Unol Dalaethau Gristionogol dros 60 miliwn o bobl, ac y maent gyda'u gilydd yn yfed yn flynyddol werth tua mil o filiynau o ddoleri (1,000,000,000 dol.), yr hyn sydd tua 17 dol. ar gyfer pob dyn, dynes, a phlentyn yn y wlad, neu dros dair punt y pen am y ddiod feddwol ddiangenrhaid a dinystriol. A chyda sobrwydd rhaid cyfaddef fod

 

 


(delwedd E0261) (tudalen 265)

 DETHOLION. 265 Prydain Fawr, a gwledydd Cristionogol ereill y byd, yn Ilawn mor ddwfn yn ffosydd diota a meddwdod ag yw yr Unol Dalaethau! A bydded i ni ofyn mewn tristwch galarus, Pa faith o rai a ystyriant eu hunain yn Gristionogion a gyfranant fwy bob blwyddyn ar allorau duw Bacchus nag at grefydd lesu Grist, er proffesu bod yn ganlynwyr i'r Olaf? Dyna y tobaco gwenwynig eto, er cased yw, y mae Ile i ofni fod mwyafrif mawr o’r rhyw wrywaidd yn y byd Cristionogol, mewn man symiau, yn offrymu yn wirfoddol bob blwyddyn fwy ar allorau blys y ddalen werdd nag a gyfranant ar allorau crefydd, er gwella eu hunain a'r byd. Cyrrana pobl yr Unol Dalaethatl bob blwyddyn ar dobaco tua 600,000,000 0 ddoleri; gwna hyny dros ddeg doler, neu ddwy bunt y pen, ar gyfer y plant a'r ,oll! Beth pe cai arian y ddiod feddwol a'r tobaco eu troi at achosion cenadol, er dwyn y byd i'w le? Buan y cyflawnid yr addewidion, pan y bydd anialwch moesol y byd yn blodeuo fel rhosyn, a'r diffeithwch fel gardd yr Arglwydd, &c. Ond er llawenydd i'r holl ddaear, y mae Cristionogion y byd yn dechreu credu yn ymarferol mai cydweithrediad pethau bychain yn benaf sydd yn symud y byd. Ac o fewn y ganrif hon, yn y goleuni hwn, y mae miloedd o gymdeithasau cenadol, cartrefol a thramor, wedi eu ffurfio, er gwella y byd; ac y mae y man gyf• raniadau arianol o eiddo unigolion yr eglwysi at y gwahanol gymdeithasau yn chwyddo trysorfeydd y cyfryw yn afonydd, a llynoedd mawrion, er cario Ilongau bendithion yr Efengyl, er iachawdwriaeth preswylwyr y ddaeår. Nac anghofiwn mai yr hyn a eilw y byd y drygau bychain (yn benaf), .sydd wedi, ac yn dinystrio y byd; ac "tnai cydweithrediad llawer o weithredoedd bychain da a ddaw a'r byd i'w le eto. IS

 

 


(delwedd E0262) (tudalen 266)

 266 DETHOLION. Dyferynau man y cwmwl Sydd yn ffurfio'r nentydd oll, Ac yn yr afonydd mawrion Nid ä gronyn bach ar goll; A'r holl foroedd mawrion llydain, Man ronynau yw eu nerth, Nid di-bwys y pethau bychain, Medd Preswylydd Mawr y Berth. Mån laseidiau y diotwyr Chwyddant yn afonydd trais; M wy o yfed ac o feddwi Glywir beunydd trwy eu llais; Ac os yw yr aur a'r arian I'r tafarnwyr oll yn troi, o’r Ile dylai fod dedwyddwch, Pob cysuron sydd yn ffoi. Mån offrymau y ffyddloniaid At achosion crefydd Crist, Trwy eu rhoddi mewli cysondeb, Lonant lawer ca1oll drist; Ffrydiau mawrion, byw, rhedegog, Ydyw cyfraniadau'r saint, Er adfywio byd colledig, Mwy a ddaw garu'r fraint. Nid YW blychau bach cenadol Llawer mil o blant y saint, Ond rhagflaenu mwy o lwyddiant, Ae offrymau mwy eu maint; Ewyllysgar fydd tylodion, Hefyd cyfoethogion fyrdd, I gyfranu aur ac arian, Er cael mwy i'r nefol ff_vrdd.

 

 


(delwedd E0263) (tudalen 267)

 DETHOLION. FY NHAITH TRWY Y BYD. CYCHWYNAIS yn eiddil a gwan, Heb allu i sefyll yn syth, Nis gall'swn gyflenwi fy rhaid O holl ddarpariadau y byd; Ond ereill, trwy gariad a greddf, Y n llwybrau amynedd a ffydd, A wnaethant gyfeirio fy nhraed, Nes teimlwn fy nwylaw yn rhydd. Ac yna pan ddaethum yn llanc, Gwynebais anialwch y byd, Heb wybod terfynau y daith, Mewn Iled, na faint fyddai o hyd; Ond clywais ar aelwyd fy nhad, Trwy adsain caniadau fy mam, Fod Brawd a'm harweiniai'n ddi •goll, Uwchlaw y pa fodd a'r paham. Ac yna fe'm gwelwyd fy hun Y n cloddio a chwilio fy ffawd, Yn nghanol anialwch y byd, Fel un heb na chyfaill na brawd; Ac eto mi welwn fy mod Yn symud bob dydd yn y blaen, Ar brydiau mewn dyfroedd a llaid, Ac weithiau mewn mamau o dån. o’r dyfroedd fe'm codwyd i'r lätr, A'm gwisgoedd a olchwyd yn Ian, Trwy'r Gwr a osodwyd yn lawn, Fe'm cadwodd yn nghanol y tan; A nertha fi tra ar fy nhaith, Rhag Ilithro a cholli fy nhra'd, Fe drefna fy llwybrau o hyd, Rhag tori ewyllys ein Tad. 267

 

 


(delwedd E0264) (tudalen 268)

 268 DETHOLION. Cyfamod a wnaeth Ef cyn byd, Er cadw fy mywyd yn fyw, Fy angel gwarcheidiol yw Ef, A'i lusern a rydd yn fy llaw; A'r Cariad tragywyddol yw sail Y bywyd ddarparwyd i mi; Ni'm collir, er gwaeled fy ngwedd, O afael y Duwdod yn Dri. Wrth nesu at derfyn fy nydd, Nid ofnaf dywyllwch y nos, Na chwaith rhag rhuadau y Ili', Troir dychryn marwolaeth yn 01; Ac yna äf trwodd yn iach I'r WIad o ddedwyddwch i fyw, Mwynhaf ddarpariadau y wledd Y n ninas a phalas fy Nuw. ARFERION YN FFURFIO CYMERIADe COFIA, ddyn, yn mhob symudiad O dy eiddo tra yn rhydd, Mai arferion sydd yn ffurfio Cymeriadau nos a dydd; Arferiadau mån niweidiol Sydd yn gwneyd pechadur mawr, A fo'n felldith i gymdeithas, Gyda'r nos a chyda'r wawr. Ac mai man rinweddau bywyd, Pan yn ieuanc ac yn wan, Wnant gyd-ffurfio hardd gymeriad, I ddysgleirio yn y man; Gwneyd yn dda o bur egwyddor, Gwyd y dyn yn uwch i'r län, I eisteddfa'r tywysogion, Ac sydd ganddynt Dduw yn rhan.

 

 


(delwedd E0265) (tudalen 269)

 DETHOLION. Paid a bod yn anystyriol O'th arferion yn y byd, Gan mai hwy a wnant dy lunio I'th gymeriad ar bob pryd : Ac os drwg ac anystyriol, Cyflog pechod fydd dy ran; Ond os da fydd dy arferion, Fe'th goronir ddydd y farn. PLESER IEUENCTYD. IEUENCTYD Ilon a hawddgar, Gwrandäwch ar fy nghån, Tra'n son am hanfod pleser Ddwg heddwch yn y bla'n; Mae pleser gwag'r annuwiol Fel machiad tan o ddrain, A diffodd yn siomedig Y n ebrwydd wna y rhai'n. Gwae'r ceisio yn y dafarn Ddedwyddwch Ile nid yw, Neu ynte mewn chwareufa— Lle'r ffol i geisio byw; Afradlawn yw bucheddau Mynychwyr Ileoedd cudd, A chant yn Ile'u hynfydrwydd Law wag a chalon brudd. Edrychwch mewn difrifwch Mewn pryd cyn myn'd ar goll, Er gwel'd mai ffug-bleserau, Ynfydrwydd, yw yr oll; Ac nad yw nöd eu pleser Y n uwch na chwant y cnawd, 269

 

 


(delwedd E0266) (tudalen 270)

 270 DETHOLION. A'r gyflog ydyw gwagter, A myned yn dylawd. Os cant bleserau ffugiol I'w nwyd am fynyd awr, Ar lwybrau i dylodi, Tra yma ar y llawr,— Beth am y byd trag'wyddol, A bod o hyd yn gaeth, A'r enaid heb bleserau Tra'n myn'd o ddrwg i waeth Ond O! ieuenctyd hawddgar, Mae ochr well i'w chael, Sef ochr y pleserau Sydd fel goleuni haul, Y n adlewyrchu pleser I fynwes dyn ei hun, Wrth dywallt gwir oleuni I galon llawer un. Y n llwybrau defnyddioldeb Ceir pleser i barhau, A heddwch yn y fynwes Heb dralJod, poen, na bai; Ceir harddwch a sirioldeb Mewn ewyllysgar blant, Ac hardd yr holl ieuenctyd Na charant felus chwant. Cånt bleser a hyfrydwch Wrth arfer ufuddhau Y n nghymdeithasau buddiol Y duwiolfrydig rai; Mewn gwaith fo dda ceir pleser Sylweddol yn ddilai, Ceir ynddo heddwch nefol, Fel mar heb län na thrai.

 

 


(delwedd E0267) (tudalen 271)

 DETHOLION. O! credwch fi, ieuenctyd, Fod pleser a boddhad I'w gael yn y presenol Y n brydlon ac yn rhad, I bawb a rodiant lwybrau Doethineb ar eu hyd, Ac yna yn nedwyddwch Y nefoedd, gwyn eu byd. 271 1 GYMRU AC YN 014; A NODIADAU AR Y DAITH YN BANER AMERICA. CYCHWYNODD y brawd John T. Evans a minau o Hyde Park er ymweled å Chymru, ddiwedd Gorphenaf, 1874; ac yn ol ein bwriad, aethom trwy Philadelphia am y waith gyntaf yn ein bywyd. Cawsom yno dipyn o gymdeithas a chyfarwyddyd y Cymro enwog, gwladgarol, a chenedlgarol, Dafydd Jones y Gof, fel ei gelwir a gwelsom dipyn o arwynebedd y ddinas. Hefyd, sylwasom ar sylfeini adeiladau yr Arddangosfa Ganmlwyddol yn cael eu tori ar gyfer y flwyddyn 1876. Ond dyna, i Gymru yr oeddem am fyned, onide? Wel, aethom i'r agerlong Indiana, ac aeth hono a ni rywfodd dros a thrwy y mar garw ei dönau, a gadawodd ni yn ddigon sych yn Llynlleifiad. I ffwrdd a ni am y gerbydres, gan ein bod am gael Cymanfa y Trefnyddion Calfinaidd, yr hon oedd i'w chynal yn Mhontrhydfendigaid, sir Aberteifi; ac aeth y ceffyl tan ni yn ffyddlawn hyd Aberystwyth erbyn y nos. Cychwynasom yn foreu ddydd mawr yr wyl i'r Gymanfa; ac am wyth o’r gloch y boreu, cawsom bregeth dda gan yr Americanwr, y Parch. H. P. Howell, y pryd hwnw o Milwaukee, Wis., ond yn awr o Columbus, Ohio. Ar y maes, am ddeg, pregethwyd yn rhagorol gan

 

 


(delwedd E0268) (tudalen 272)

 272 DETHOLION. y Parch. Howell Powell, yntau o America, ond yn y Jerusalem nefol er's blynyddau; ac ar ei 01, pregethodd yr enwog Barch. Edward Matthews. Y n y prydnawn, cawsom y fraint o wrando ar y Parchn. William Williams, Abertawe, ac Owen Thomas, os iawn y cofiwyf. Felly, talodd y ffordd i ni frysio i gael rhan o’r Gymanfa, heblaw fod gyda ni genadwri frawdol, a newydd da o wlad bell, i'r hen Gristion, Miss Phillips, chwaer y Parch. John Phillips, Bangor gynt, oddiwrth ei brawd, William Phillips, o Hyde Park, Pa. Erbyn heddyw, y mae y tebygolrwydd mwyaf fod y tri wedi cyfarfod i beidio ymadael mwy mewn gwell cartref na'r bwthyn y magwyd hwy ynddo yn Mhontrhydfendigaid. Oddiyno aethom rhagom trwy Dregaron, Pencader, Llandysul, ac yn y blaen i Langeler. Yr oeddwn erbyn hyn yn rhodio hen lwybrau fy mebyd a'm hieuenctid : ac O! fel yr oedd yr hen adgofion yn adgyfodi i'm croesawu i ail-wledda ar swynion boreu oes ar hyd yr hen lwybrau cysegredig! Ond, ha! yr oedd dail surion siomiant yn y wledd hon i mi, am fod y golygfeydd wedi newid, rhai o’r hen fythynod wedi diflanu, a'r hen wynebau a adwaenwn gynt, bron oll, wedi ynlfudo i ryw wlad sydd yn mhell, bell tu draw i för amser, i beidio dychwelyd mwy, megys ag y daethum i o wlad machlud haul. Y n yr hen breswylfeydd nis gwelwn yr hen wynebau gynt; O na, gwynebau dyeithr bron yn mhob ty; ond yma a thraw, yn ambell i dj, tybiwn fy mod yn gweled yn ngwynebau rhai o’r penau teuluoedd, trwy olion amser a gofalon, a siomedigaethau byd, linellau o’r gwynebau a adwaenwn gynt yn mhlith y cyfoedion fu yn cydchwareu å mi; yna eisteddem i lawr i gydfyned yn ol i ail-fyw yn ddychymygol, megys, y gwynfyd ag oedd wedi cymeryd ei adenydd ac ehedeg ymaith i froydd y byd tragywyddol. Er ein boddhad, delai yr hen olygfeydd,

 

 


(delwedd E0269) (tudalen 273)

 DETHOLION. 273 yr hen gymdeithion, yr hen bleserau gynt i'n presenoldeb gyda chyflymdra angylion; ond ebrwydd y gadawent ni yn unig, am eu bod hwy wedi gadael y byd materol er's llawer blwyddyn, a chymeryd eu Ile yn mhlith gwrthddrychau y byd ysbrydol, gan addaw ein croesawu ninau ryw ddiwrnod i'w cymdeithas, fel y gallom yn y byd hwnw ail-fyw yr amser gynt yn fwy sylweddol nag erioed. BWTHYN FY NHAD. Ml aethum i'r bwthyn fy magwyd, I geisio fy mam a fy nhad, A'r saith hyny gawsant eu magu Y n siriol o gwmpas eti tra'd; Ond, Och! y gwynebau ni welwn, Gwag ydoedd yr hen aelwyd lån; Na chwaith y caniadau ni chlywn Fel oeddynt o gwmpas y tan. Wedi myned i fyd yr ysbrydoedd Er's tro y mae pedwar o’r naw, Ac un sydd yn nhir Patagonia, Ac arall yn Washington draw; Un arall yn teithio'r Talaethau, A dati sydd yn Ngwalia yn byw; A gesglir y gwasgaredigion I gwmni'r angylion a Duw? Båm yn gosod cofadail uwch ben bedd yr hon a T0ddes i mi fronau i sugno : båm yn myfyrio uwch beddrod fy nhad; båm yn y Ileoedd y cafodd fy rhieni eu magu; båm yn y capel y dygent ni iddo yn eu dwylaw i addoli yr Arglwydd; a båm yn gweled y rhan fwyaf o’r Ileoedd ag y treuliais y deng mlynedd

 

 


(delwedd E0270) (tudalen 274)

 274 DETHOLION. ar hugain cyntaf o'm hoes. Y na cefnais ar Gymru am yr ail-waith, ac ar lawer o berthynasau a hen gyfeilliod, er dychwelyd trwy Lynlleifiad, a thros y mar garw i Efrog Newydd, prif borthladd fy ngwlad fabwysiedig. CWYN GALARNAD ddirwestol a leinw fy mron, Fel dyfroedd y ceisia ymdywallt; Maent hwy sydd yn yfed diodydd y fall Y n peri i mi wylo yn ddyfn-hallt; Mae amser i chwareu a chanu yn Ilon, Ac amser i fawr orfoleddu; Ond amser i wylo, å'm calon yn brudd, I mi yn awr sydd yn gweddu. Y n foreu gadewais drigfanau y Tvvlad, Lle'r oeddwn i gynt yn preswylio, Y n cyd-lawenychu ag engyl y nef, Mewn gwynfyd nas gallaf anghofio; Ond Cariad a'm dygodd i gyrchu yn ol Y defaid a aeth ar gyfeiliorn; At ffrydiau o ddyfroedd, a phorfa sydd fras, Daw'r oll a'm canlynant yn tlnion. Ar blant y ddynoliaeth y galwaf yn fwyn I ddyfod ar ol fy nysgeidiaeth; Doethineb wrth fesur, a deall yn hael, O! de'wch ar ol fy ngwybodaeth; Paham mewn oferedd yr yfwch heb ball Wirodydd a'ch gwna yn ynfydion? Mi wylaf oblegid eich gweled yn mhell O'm ffrydiatl iachaol a' m ffynon.

 

 


(delwedd E0271) (tudalen 275)

 DETHOLION. 275 Gwna'r rhai'n ddisychedu y truan a'r Ilesg, A'm dwfr barha yn ddiddarfod; Afonydd sydd genyf yn tarddu heb ball, Paham na chymerwch o'm diod? O! deuwch yn brydlon, a phrynwch yn rhad, Heb arian, heb werth 'rwyf yn rhoddi : O! wylaf mewn ofn y gwelaf ryw ddydd Ddiodydd y pwll yn eich boddi. Dynoliaeth wrthnysig, O! gwrandaw fy lief, Dy blant ymgeleddaf yn•dirion; O'm Ilestr tywalltaf laeth, olew, a mél, I bawb a'm canlynant yn ffyddlon; A gwledd anghymharol yn mhalas fy N had A roddaf i bawb ewyllysio; Ond, eto, ceir gweled yn wylo ryw ddydd Laweroedd yn awr sydd yn gwawdio. 'Rwyf wedi cyhoeddi trwy oesoedd y byd, " Na chwenych y gwin pan gynhyrfo," Rhag trwy ei effeithiau, heb obaith yn Nuw,. Y n uffern y bydd it' ymdreiglo; Er hyny, mae rhai a wenieithiant i mi, Gan addaw dros byth fy nghofleidio, Y n yfed yn gyson o’r gwenwyn ag sydd Y n boddi mil myrdd gan eu damnio. O! ddeillion, a fynwch chwi wario yn ffol Eich arian a'ch nerth trwy eich bywyd, Am ddrwg ac angeuol ddiodydd y ddraig, A'ch gyrant i dir angenoctyd? Pa bethatl a fedwch tu arall i'r bedd, Os heuwch bob dydd lygredigaeth, Ond sylwedd euogrwydd cydwybod o hyd> Gan ochain mewn gwae ac anobaith?

 

 


(delwedd E0272) (tudalen 276)

 076 DETHOLION. I wledydd rwy'n rhoddi diodydd yn rhad, A dorant eu syched yn gyflawn. Y n ffrydiau y tarddant dan riniog fy nhj, Ac änt trwy y ddaeafyn ffyddlawn; Ond och! er yn golled o fythol barhad, Y ddiod losgedig a fynant, Am hyny 'rwy'n wylo o'u plegid fel tad, A hwythau yn ynfyd a chwarddant. Ond hwythau a wylant yn chwerw ryw ddydd, Ac yna yn foreu a'm ceisiant, A minau'r pryd hyny yn gwledda yn Ilon, Fy ngwyneb byth mwy ni. chanfyddant; Eu hamser a ddarfu, a hwythau yn 01, Heb ddwfr i dori eu syched; Dyferyn i oeri y tafod ni fydd : O! pwy a ddesgrifia y golled? Cynygiais eti harwain, er garwed eu taith, A'u Ilenwi phob dymunoldeb, A'u gwisgo a dillad nas gwelir eu hail, Nes cyrhaedd i dir anfarwoldeb; Ond hwy a'm gwatwarant yn ynfyd a ffol, Nes ydoedd eu hafwedi dårfod : Am hyny fe bery ett gauaf dros byth Mewn gwae yn y pydew heb waelod. Ond er i filiynau fy ngwrthod yn hyf, Gan yfed elfenau trueni, Fe'm canlyn dyrfaoedd can amled a'r ser, Yn ddyogel i fro y goleuni; Ac yno cant wledda ar ffrwythau y coed A dyfant ger afon y bywyd, Gan feddu cyflawnder y Duwdod yn un, Mewn gwynfyd a bery yn hyfryd.

 

 


(delwedd E0273) (tudalen 277)

 DETHOLION. PLEIDIO SOBRWYDD. 277 MAE llais Ysbrydoliaeth at blant y ddynoliaeth O ddechreu yr oesau yn para yr un; Er syrthio a chodi, a cheisio a cholli, Gwna eto eu galw i'w mynwes ei hun. Oherwydd fod miloedd o rai diymgeledd Y n dyoddef ereulondeb ynfydion y byd, Am hyny adseinia mwyn lais Ysbrydoliaeth, O agor dy enau dros rai sydd yn fud! Paham y gwnei hepian? paham y gwnei gysgu? A ydyw dy galon o gareg neu ddur? Paham na wnei wylo, a deffro i weithio? Mae bywyd y meddwon yn greulon yn wir. Pwy gyfrif y gwragedd rhinweddol a lethwyd, Neu eto a wthir i waelod y bedd? Trwy greulon gyfeddach anwyliaid eu mynwes, Pa galon na theimla wrth weled eu gwedd? Pa faint o amddifaid a gweddwon a wnaethpwyd? Pa faint a gollasant ddysgeidiaeth a dawn? Y n Ile rhagorfreintiau boreuddydd y bywyd, Hwy gawsant gymylau hwyr-ddydd y prydnawnMae miloedd sydd eto heb weled goleuni, Trwy lais Ysbrydoliaeth, yn gwaeddi yn groch Ar bawb sydd chalon a all gydymdeimlo, Difoder y gwirod a'r gwin sydd yn goch. Chwychwi sydd llygaid a medr i weled Effeithiau ofnadwy diodydd y fall, A fedrwch chwi dewi a pheidio cyhoeddi Y n erbyn y gelyn bob dydd yn ddiball?

 

 


(delwedd E0274) (tudalen 278)

 278 DETHOLION. I faes yr ymdrechfa rhwng dirwest a meddwdod, Gwahoddir trigolion y ddaear i gyd; Y n erbyn dylanwad y fasnach uffernol, O agor dy enau yn achos y mud! RHYFEDD WAITH DUW. FE welir rhyfeddodau fyrdd Trwy'r greadigaeth faith; Efe ag sydd tu draw i'r oll, Anfeidrol yw ei waith! Ei fysedd Ef a wnaeth yr holl Wrthddrychau yn y byd; A'r heuliau grogodd Ef mewn trefn Trwy'r nefoedd ar ei hyd. Pe rhagddo'r äi dychymyg dyn Trwy'r eangderau maith, A phasio myrddiwn myrdd o ser Bob eiliad ar ei daith. A myn'd heb orphwys nos a dydd Dros oesau rif y dail; Er hyn, ni welaf ddim ond cwr O waith y Créwr hael! Ond yn yr iachawdwriaeth wiw Bydd cyfoeth Duw heb len, Y n y Jerusalem sydd fry O fewn i'r nefoedd wen. Gwyn fyd y dysglaer deulu fydd Yn sefyll ger ei fron; cant yfed byth o'i gariad Ef, A gwel'd ei wyneb Ilon.

 

 


(delwedd E0275) (tudalen 279)

 DETHOLION. Ni welodd llygad dyn erioed, Ni ddaeth i'w galon chwaith, Y darpariaethau fydd gan Dduw I drag'wyddoldeb maith. Tu draw i oesoedd rif y Ser, A rhif y tywod man, Y n mhlith y gwaredigol lu, Dechreuol fydd y gån. Bydd trag'wyddoldeb ar ei hyd, A'r oll sydd ynddo'n bod, Y n methu ag amlygu'n llawn Weithredoedd Duw a'i glod. Y SABBATH. O BOB rhyw ddyddiau a fwynheir, Y Sabbath wyf yn weled Y mwyaf gwerthfawr er Ileshad, Rhag trallod, poen, a lludded; Yr jch a'r asyn, yn ddiau, Chwenychant ddydd i orphwys; I'r rhai'n yn dirion Duw a wnaeth Y Sabbath yn baradwys. Ond dynolryw hyd eitha'r byd Ddylasent werthfawrogi Y dydd a roddes Brenin pawb, Er mantais i'w addoli; Mae hwn yn ddydd i bob rhyw radd I orphwys rhag blinderau, O swn olwynion byd, mewn hedd, Dan gysgod Craig yr Oesau. 279

 

 


(delwedd E0276) (tudalen 280)

 280 DETHOLION. Mae'r Sabbath ddydd yn arlun gwan O Eden Baradwysaidd, Pan oedd y ddaear oll i gyd Mewn harddwch heb anwiredd; Pan y blodeuai anian oll Mewn tegwch a gogoniant, A dyn yn hardd ar ddelw Duw Y n seinio can a moliant. A chan i Adda syrthio'n ol O Eden a'i holl swynion, Mwy anhebgorol 'nawr i ni Yw'r Sabbath a'i fendithion; I glomon a lluddedig rai Mae'n rhoddi meddyginiaeth, Ac hebddo byddai yr holl fyd Y n gruddfan mewn anobaith. Sabbathau sydd i berchen ffydd Fel ffrwythau pren y bywyd, Er nerthu y blinedig rai I deithio tua'r gwynfyd; A dyfroedd pur yn ffrydiau byw Ar hyd y ffordd i Ganaan, Er disychedu a glanhau Y rhai oedd gynt yn aflan. Pellddrychau y'nt o uchel radd myd y gorthrymderau, Er dangos bro sydd uwch y ser„ Y n rhan i blant y dagrau; Cerbydau ydynt i'r holl saint, I'w cludo i'r orphwysfa, O fewn i'r drydedd nef, Ile bydd Holl deulu Duw yn gwledda.

 

 


(delwedd E0277) (tudalen 281)

 DETHOLION. Ni welodd llygad dyn erioed, A'i galon ni ddych'myga, Am filfed ran y cariad-wledd, Y Sabbath ni ddarfydda; Y deml hardd yn ninas Duw, A'r Oen fydd yn ei chanol, A'r gwaredigion oll 0 fewn Y Duwdod anwahanol. DEIGRYN. Y DEIGRYN pur, beth ydyw hwn? Beth ydyw ei sylweddau? Pwy a'i cynyrcha? a pha bryd? A ydyw yn ddiddechreu? Ai brodor yw o’r nefol fyd? A ydyw yn dragywyddol? Ai deilliaw wnaeth o ddynolryw? A ydyw yn anfeidrol? A ydyw yr angylion glan, Neu hwy sydd wedi eu colli, O fewn i'r nef, neu uffern ddofn, Y n medru ei gynyrchu? Aydyw beirdd sydd fawreu dawn, A chryfion eu cyneddfau, Y n medru llwyr ddeongli hwn, A mesur ei derfynau? Fe ddywed llais sydd dan fy mron Nas gellir byth gyflawni Darnodiad llawn ag ysgrifbin o’r deigryn crwn a'i deithi,— Am fod ei swynion fel y gwlith Y n tynu eu hadnoddau 19 281

 

 


(delwedd E0278) (tudalen 282)

 282 DETHOLION. o’r dyfnder, ac o’r nefoedd fry, Mae'n för o ryfeddodau! Dau fath o ddeigryn welaf fi O fewn y greadigaeth, Sef deigryn anobeithiol ddyn Yn ngolwg colledigaeth; A'r ail genedlir dan y fron Trwy gariad mewn trallodion, Ac ynddo ddelw Duw mewn cnawd, A'r nefoedd a'i hanfodion. Un deigryn leinw'r fynwes brudd O drallod, poen, a dychryn, Am fod anobaith dan y fron Y n difa megys gwyfyn; Ond deigryn gobaith, dyna'r perl Sydd megys y.sbail rhyfel; A Duw y duwiau geidw hwn Fel enaint yn ei grostrel. Mawr ddyfnder o drueni sydd Y n cyfansoddi deigryn; Ac hefyd cariad uchel ryw Sydd eang a diderfyn; Mae iaith yn pallu, am ei fod Y n cynwys yr Anfeidrol, Ac hefyd gyfrifoldeb dyn Sydd ryfedd a thragywyddol. Paham y ceisir gan y bardd Ddywedyd beth yw deigryn, Gan fod ei darddiad draw yn mhell, Mewn byd sydd yn ddiderfyn? Rhyw föd ysbrydol ei dad, O fangre anweledig, A sylweddolir ef o fewn Y fynwes archölledig.

 

 


(delwedd E0279) (tudalen 283)

 DETHOLION. Mae deigryn pur, fel dyn ei hun, I bara yn drag'wyddol, A drych a fydd mewn byd a ddaw I ddangos yr Anfeidrol; Perl anmhrisiadwy ydyw ef Y n ngofal Duw y duwiau; Holl ddagrau'r saint, fe'u ceidw byth Y n burayn ei gostrelau. Os gellir traethu cynwys gwae Plant dynion mewn cystuddiau, Ac hefyd gynyrch cariad Duw, Sydd ryfedd a diddechreu; Fe ellir hefyd yr un modd, O fewn yr un terfynau, Egluro'r holl hanfodion sydd Y n cyfansoddi dagrau. Ar ddagrau dysglaer fel y ser Y llygaid a esgorant, Ac a amlygant rhwng dau fyd Ddirgelion a gogoniant; Cynyrchir hwy mewn mynwes friw, Trwy obaith, ffydd, a chariad, Er gwaredigaeth o bob gwae Trwy bryniant trist y Ceidwad. Er Ileied yw y deigryn pur, Mae ynddo fawrion bethau; Mae ynddo för i'w nofio byth, Sydd ryfedd ei wrthddrychau; O'i fewn argreffr, fel o bell, Holl blygion colledigaeth, Ac hefyd iachawdwriaeth gras, A delw Duw mewn arfaeth. 283

 

 


(delwedd E0280) (tudalen 284)

 284 DETHOLION. Rhyw gysegredig fyd yw hwn, Nas dichon pawb ei weled , Rhy ddwfn i'r angylion yw! Rhy uchel i gythreuliaid! Ha! Duw mewn cnawd a greodd hwn, Ac nid i'w ddadansoddi; Ond careg wen a' r enw yw Gan lesu a'i Ddyweddi. GOLYGFEYDD MOESOL. A MYFI, yn mhlith miloedd, yn teithio taith annychweladwy, daethum at Odre mynydd uchel, ac yr oedd y brif ffordd yn pasio ar ei aswy; ond er ei fod yn uchel, teimlwn awydd i esgyn i'w gopa, am y tybiwn y cawn oddiyno weled yr holl ardaloedd ag oeddwn i fyned trwyddynt, yn nghyda chyrau'r wlad ddymunol* Ac yn fy awyddfryd gadewais y ffordd ar fy aswy, gan esgyn heibio i gyflawnder o goed ffrwythau; a thra yr oedd eu ffrwythau maethlon a'u harogl balmaidd yn adfywio fy natur luddedig, yr oedd swn yr awelon yn Sio rhwng y dail, a pheroriaeth y car asgellog o' m cwmpas yn cynhyrfu fy enaid i addoli Creawdwr a Chynaliwr y rhai hyn oll. A thra y rhyfeddwn at brydferthwch y blodau a gusanent fy nhraed, clywn lais o'm hol yn dywedyd wrthyf: " Ni wisgwyd Solomon yn ei holl ogoniant fel un o’r rhai hyn." Tybiwn, gan fod llwybrau dyn wedi eu palmantu å'r fath brydferthwch, fod yn rhaid fod ynddo Ef ei Hun ogoniant mwy rhyfeddol. Y na daethum i agorfa fanteisiol i weled yn mhell ar yr ochr aswy, ac yno eisteddais dan gysgod pren i fwynhau yr olygfa. Ychydig yn mlaen o’r fan y troais i'r mynydd, gwelwn fod ffordd yn troi i'r dde oddiar y brif-ffordd, gan ddisgyn i ddyffryn hardd a swynol, ac yr oedd ei

 

 


(delwedd E0281) (tudalen 285)

 DETHOLION. 285 ymddangosiad yn ddeniadol. Ar y groesffordd, yr oedd dau fynegbost, ac mewn llythyrenau mawrion y geiriau hyny yn argraffedig ar yr un gyfeiriai i'r •dyffryn : " Gwna yn llawen Wr ieuanc yn dy ieuenctid, a llawenyched dy galon yn nyddiau dy ieuenctid, a rhodia yn ffordd dy galon, ac yn ngolwg dy lygaid;" a'r llall a gyfeiriai ar hyd y brif-ffordd, ac yn argraffedig arno : 's Ffordd y bywyd sydd fry i'r synwyrol, i ochel uffern obry." Sylwn fod llawer o’r pererinion yn sefyll i ystyried •i ba le yr oedd y ddwy ffordd yn arwain; ond yr anystyriol a gyflyment i waered, gan ddewis mwyniant pechod dros amser; ond y rhai synwyrol a äent ar hyd y ffordd ag oedd yn gogwyddo ar i fyny, gan ymwroli fel rhai yn ceisio gwlad, er fod llawer ohonynt yn gruddfan a galaru am fod eu cyfeillion a'tl perthynasau yn cefnu ar y ffordd dda. Yna, pan ddaethum ataf fy hun, yr oedd cysgodion y nos yn dechreu taenu eu mantell droswyf mewn unigedd tir anadnabyddus, a'r holl olygfa yn diflanu o'm golwg; a chan fod yr hin yn ddymunol, tybiais y gallwn orphwys a chysgu hyd y boreu Ile yr oeddwn yn ddiberygl; ac wedi i mi gyflwyno fy hun i ofal Tad ein hysbrydoedd, gosodais fy mhen i orphwys ar fön y pren, a chysgais. Ond yn fuan breuddwydiais fy mod yn cael fy amgylchu gan fwystfilod. Mewn braw deffroais, gan esgyn rhwng y cangenau a gysgodent droswyf; ac yn awr clywn ruadau bwystfilod yr anialwch " yn ceisio eu bwyd gan Dduw." Nid oeddwn yn meddwl am y fath berygl ychydig amser yn 01, pan yn cyflwyno fy hun i ofal Gwyliedydd yr holl ddaear; ond diolch, " Wele ni huna ac ni chwsg Ceidwad Israel." Yna cefais fod Pensaer pob perffeithrwydd wedi darparu dyogelfa i mi rhwng cangenau y pren; ac ar ol i mi blethu y man geinciau yn gylch o'm cwmpas, teimlwn fod fy ngwely yn un paradwysaidd, canys yr oedd yr awelon

 

 


(delwedd E0282) (tudalen 286)

 286 DETHOLION. yn fy siglo yn yr eangder, ac uwchben gwelwn fur allanol Palas y Brenin Mawr; ac O! y fath olygfa ogoneddus—yr oedd megys mar gwyrddlas yn gorchuddio'r eangderau diderfyn, a'i feini megys miloedd o berlau anmhrisiadwy yn dawnsio ar ei wyneb, gan adlewyrchu gogoniant ei Adeiladydd, yr Hwn sydd yn preswylio o'i fewn, " yn y goleuni nas gellir dyfod ato." Tra y sibrydwn yr Ysgrythyrau hyn : " Gogoniant yr Arglwydd fydd yn dragywydd glwydd a lawenycha yn ei weithredoedd; " Mor ardderchog YW Dy weithredoedd, O Arglwydd; cysgais hyd oni ddaeth y wawrddydd, a pheroriaeth y car asgellog i'm cymhell i groesawu brenin y dydd ar ei " ddyfodiad allan o'i ystafell; " yna disgynais i ddiolch i'r Hwn y perthyn iddo ddiangfåau rhag marwolaeth, gan ddeisyf Ei nawdd ar hyd y dydd. Cychwynais tua chopa'r mynydd; a pho uchaf yr awn, anhawddaf ydoedd ei ddringo; ond erbyn canol dydd, daethum i gysgod craig, ac yn fy lludded eisteddais å'm gwyneb tua'r de, pryd yr ymagorodd gweledigaeth o'm blaen nas gwelir yn aml ei chyffelyb. o’r fan hono gwelwn holl derfynau y dyffryn swyngyfareddol y cyfeiriais ato o’r blaen; ac O! y fath dwyll sydd yn y byd, canys o’r fan hon ymddengys y dyffryn crybwylledig y mwyaf twyllodrus o holl ddyffrynoedd y byd. Cyn y dechreuwyf ei ddarlunio, bydded hysbys nas gallaf ond nodi rhai o'i brif nodweddion, canys y mae iddo ystyriaethau tragywyddol ac anolrheiniadwy, am hyny ceisiaf gadw o fewn terfynau gwirioneddau eglur a diymwad y byd moesol : " Canys fe ddygir pob gair a gweithred i farn, pa un bynag a fyddo ai da ai drwg." SEFYLLFA DDAEARYDDOL Y DYFFRYN.—Rhedai mewn cyfeiriad de-orllewinol, ar draws y cyfandir mawr hyd ymyl y mar brwmstanaidd y clywsom am dano. Terfynid ef ar y tu deheuol gan greigiatt

 

 


(delwedd E0283) (tudalen 287)

 DETHOLION. 287 ofnadwy tir cysgod angeu; ond yn ogleddol gan fynydddir hardd a ffrwythlon. Yr oedd ffurf fewnol y dyffryn, fel y nodais o’r blaen, yn ei gWr dwyreiniol, yn hardd, ffrwythlon, a swynol ei olygfeydd; ond po bellaf i'r gorllewin yr elai, yr oedd yn dyfnhau, ac felly, yn gyfatebol, yr oedd ei lechweddau yn myned yn fwy ofnadwy a pheryglus; ac yr oedd ei ganolbarth mor ddwfn fel nad oedd y preswylwyr un amser yn gweled goleuni haul, a gorchuddid hwy bob amser gan gwmwl du o darth a mwg, ac felly " rhodient wrth lewyrch eu tan eu hunain, ac ymlenwent yn ol eu cynghorion eu hun." POBLOGIAD Y DYFFRYN.—Pob10gid ef, yn benaf, gan ymfudwyr o wledydd ereill. Fel y nodais o’r blaen, yr oedd llawer yn myned iddo yn y cirr dwyreiniol; ond yr oedd llawer yn rhagor yn myned iddo o’r mynydd-dir gogleddol—rhai mewn cerbydau ardderchog, ereill ar feirch, ac ereill ar draed, ond yr oeddynt oll yn cyflymu fel ynfydion dros y ffyrdd llydain oedd yn tywys i dywyllwch tragywyddol; ond sylwn fod miloedd yn myned i waered yn anfwriadol yn y dull a ganlyn : Yr oedd y terfyn rhwng y mynydddir a'r dyffryn yn anmhenderfynol, ac yr oedd cilfachau o’r Olaf yn rhedeg yn mhell i'r blaenaf; ac felly, rhedai ceinciau o’r mynydd-dir rhwng y cyfryw gilfachau; a chan fod miloedd o breswylwyr y mynydd-dir yn ymbleseru ar y cyfryw glogwyni, yr oedd llawer ohonynt yn syrthio drosodd i'r dyfnder islaw. Byddai rhai feirw yn eu cwympiadau, ereill a dorent aelodau fel nas gallent adfertl eu hunain i ddyogelwch, ereill a syrthient i byllau Ileidiog nes difwyno eu hunain mor ddrwg fel y digalonent ddychwelyd yn eu budreddi at eu hen gydnabod, ond dewisent yn hytrach fyw a marw yn eu cyflwr. Eithr gwelwn lawer yn dringo i fyny ar eu traed a'u dwylaw dros y creigiau serth; ac O! y fath olygfa druenus oedd arnynt, rhai yn ddeill

 

 


(delwedd E0284) (tudalen 288)

 288 DETHOLION. ion, ereill yn glomon, ereill å'u gwynebau mor welw a rhai yn dianc o safn angeu—eu llygaid yn gochion, a'u geneuau yn glöedig gan syched, eu cnawd yn rhwygedig, a'u dillad yn aflan a charpiog. Och! nis gallaf eu darlunio, canys iaith a balla. Tra yr oeddwn yn synu uwchben yr olygfa druenus, nesaodd ataf hen foneddwr o ymddangosiad anrhydeddus, gan gyfarch gwell i mi; ac wedi iddo eistedd wrth fy ochr, gofynodd i mi : " Y cyfaill, o ba le yr ydwyt yn dyfod? ac i ba le yr ydwyt yn myned? a pha beth a geisi mewn unigedd yn y mynydd hwn? " Atebais ef, fod fy hynafiaid yn ddinasyddion o’r hen Baradwys, ond iddynt encilio o'u gwlad freiniol i wlad bell, ac oddiyno fy mod yn dyfod i geisio " gwlad well," yr hon a gollwyd; a chan fy mod wedi clywed fod Brenin presenol y " wlad ddymunol " yn gyfathrachwr mi, a'i fod wedi anfon cenadau at ei holl berthynasau gwrthryfelgar i' w gwahodd adref, gan addaw adferiad iddynt o’r holl ragorfreintiau a gollwyd, a hyny yn rhad; am hyny, ar fy mhererindod yr wyf, mewn gobaith y cyrhaeddaf y wlad, ac y derbynir fi i ffafr y Brenin. Esgynais y mynydd hwn gan dybied y gallwn weled oddiyma y ffordd tuag yno, trwy ardaloedd dyeithr i mi, ac wele fi yn rhyfeddu uwchben dyrys ryfeddodau'r byd. Y na sylwai yr ymwelydd : " Y cyfaill, y mae pob peth yn dda, canys yr wyf fi yn un o weision Brenin y wlad yr wyt ti yn ei cheisio, wedi fy anfon allan yn wyliwr ac yn gyfarwyddwr i rai fel tydi; ac os cymeri dy gyfarwyddo genyf, ti a fyddi yno yn sicr yn yr iawn bryd; a rhag i ti amheu fy ngonestrwydd, wele i ti sél y llywodraeth." Amlygais iddo fy llawenydd o gyfarfod å'r fath gyfaill ag ef, gan ei fod yn rhoddi y fath gysur i mi, ddyeithr lluddedig; yna gofynais iddo a fyddai gwrthwynebiad ganddo egluro i mi rai o’r golygfeydd ag oedd o flaen ein llygaid. Atebodd yntau nad oedd, am fod yr holl

 

 


(delwedd E0285) (tudalen 289)

 DETHOLION. 289 ardaloedd a welem yn adnabyddus iddo. Y na cymerodd yr ymddyddan a ganlyn le rhyngom Gofynais.—Beth yw enw'r dyffryn ofnadwy yna? Cyfarwyddwr.—Y mae mwy nag un enw arno, sef (1) Anghymedroldeb. (2) Meddwdod. (3) Dystryw. Gof.—l ba deyrnas y perthyna efe? Cf.—Un o brif dalaethau teyrnas y tywyllwch ydyw; ac y mae holl drefnyddiaeth y dyffryn yn cael ei gario yn mlaen wrth gyfarwyddyd diafol a Satan. Gof.—Faint yw oedran y dyffryn? Cyf.-—Y mae yn agos can hyned a'r byd. GM.—A ydyw pawb a fu, y sydd, ac a ddaw i breswylio i'r dyffryn yn eiddo tragywyddol i Satan? Cf.—Ydynt, oddieithr yr ychydig sydd yn llwyddo i ddianc oddiyna. " Oblegid ni chaiff na chyfeddachwyr, diotwyr, na meddwon etifeddu Teyrnas Nefoedd." Y mae yr holl ddyffryn a'i gyflawnder o dan felldith Duw. Gof.—Os felly, pa fodd y mae Satan yn llwyddo i gael cymaint i'r fath drueni? Cf.—Am ei fod yn dduw y byd hwn, ac felly yn -meddu cyflawnder o gyfoeth y byd er darparu pob math o swynion i ddenu yr anystyriol trwy fwyniant presenol. Gof.—Gan nad yw y dyffryn yn cynyrchu ond ychydig neu ddim o angenrheidiau bywyd, o ba le y maent yn cael eu holl adnoddau cynaliol? Cf.—o’r mynydd-dir a elwir Tir Cymedroldeb. " Pob peth sydd gyfreithlon i mi; ond nid yw pob peth yn Ileshau," &c. Gof.—Pa fodd yr ä cymaint o'i breswylwyr i'r ,dyffryn tywyll islaw? Cf.—Trwy lawer modd : (1) Ti a weli fod yr holl fynydd-dir yn gogwyddo i'r dyffryn, fel y mae yn anhawdd gwybod y terfyn mewn llawer cymydogaeth, ac, oblegid hyny, y mae miloedd mewn difaterwch yn

 

 


(delwedd E0286) (tudalen 290)

 290 DETHOLION. myned yn rhy bell, oherwydd " Y mae y goleuni sydd ynddynt yn troi yn dywyllwch; " a'r canlyniad yw, änt rhagddynt o ddrwg i waeth dros y clogwyni dinystriol. (2) Trwy fod llawer yn ymhyfrydu mewn chwareu ar y clogwyni peryglus, er dangos eu dewrder a'u hunan-lywodraeth gwag-ymffrostgar! Ond Och! Ilithro y mae traed y rhan fwyaf ohonynt uwch ben y dyffryn anadferadwy, gan dreiglo i waradwydd tragywyddol! Gof.—Gan fod cymaint o breswylwyr y mynydddir yn myned i ddinystr meddwol y dyffryn yn barhaus, paham na ddarperid rhyw waredigaeth, megys mur uchel, er atal pawb rhag myned iddo? Cyf.—(l) Nid yw y Barnwr cyfiawn yn gweled yn dda ddarostwng dyn o'i urddasolrwydd creadigol, trwy gymeryd ei ryddid moesol oddiarno fel creadur cyfrif01E (2) Y mae y ddarpariaeth ddyogelaf a'r fwyaf anrhydeddus wedi ei hamlygu; ac, ond i ni esgyn i ben y mynydd hwn, mi a'i dangosaf i ti, fel y gweli nad oes ei chyffelyb o ran dyogelwch ac anrhydedd gwynfydedig. Y na dringasom i gopa'r mynydd, ac O! y fath olygfeydd rhyfeddol a welem yn awr; yr oedd truenusrwydd y dyffryn meddwol yn fwy amlwg, ac felly yr olygfa yn fwy ofnadwy. Hefyd, gwelem oddiyno fwy o nodweddion peryglus Tir Cymedroldeb, yn nghyda'r cyfrifoldeb ofnadwy y mae miloedd o blant y goleuni yn myned dano, trwy broffesu eu bod ar y ffordd uniawn i ddyogelwch moesol a dedwyddwch, ond ar yr un pryd, trwy eu hesiamplau rhyfygus, yn cyfeirio y miloedd anystyriol ar hyd llwybrau chwant, dros y Ilechweddau sydd yn naturiol ymollwng i anghymedroldeb a dystryw tragywyddol; ond yn awr y mae golygfeydd rhagorach yn hawlio ein sylw. I'r gogledd o’r Mynydd-dir Cymedroldeb, yr oedd gwlad eang ac ardderchog—yr oedd ynddi ei hun yn cynwys pob angenrheidiau cysur a dedwyddwch; ond er bod yn

 

 


(delwedd E0287) (tudalen 291)

 DETHOLION. 291 eangach a rhagorach yn mhob ystyr na holl wledydd y byd, eto nid oedd ond ychydig o’r cirr deheuol ohoni wedi ei phoblogi, tra yr oedd miloedd o filldiroedd ohoni yn cynwys ei mynyddoedd a'i bryniau, ei ffynonau a'i ffrydiau, ei hafonydd a'i llynoedd, ei choedwigoedd a'i meusydd blodeuog, ei hanifeiliaid pedwar carnol a'i chorau asgellog, i harddu a dadseinio'r holl fröydd paradwysaidd å'u peroriaeth cerddgar; ac yr oedd yr holl amrywion crybwylledig megys ag un Ilef yn gwahodd y teulu dynol yno i fyw, allan o ardaloedd peryglus a melldithiol. Gof.—Beth yw enw'r fath wlad odidog? Cf.—Ei henw yw Llwyrymwrthodiad. Gof.—Paham y gelwir hi ar yr enw yna? Cf.—Am fod ei sefydlwyr yn llwyrymwrthodwyr oddiwrth bethau meddwol. Gof.—Pa faint o amser sydd er pan ddechreuwyd ymsefydlu yna? Cf.—Y mae miloedd o flynyddau, ac y mae fy Arglwydd wedi adeiladu y tyratl a weli er coffadwriaeth am rai enwog a ymsefydlodd yna yn yr oesoedd gynt. Dyna y ddau dWr ardderchog yna sydd yn ymyl eu gilydd; adeiladwyd hwy yn agos yr un amser, o gwmpas tair mil o flynyddau yn 01, er cof am Samson a Samuel; ac wele ddinas a thWr y Rechabiaid, y rhai sydd i gael eu cynrychioli yn llys fy Arglwydd Frenin trwy holl oesau'r ddaear, yn wobr am iddynt ymneillduo i'r tir hwn oddiwrth swynion anghymedroldeb; ac y mae yr holl dyrau a weli yn cynrychioli rhai o weision penaf y Goruchaf, trwy wahanol oesau y byd, megys Daniel a'i gyfeillion, loan Fedyddiwr, &c. Gof.—Paham na bai mwy o ymfudo i'r wlad ragorol hon? Cf.—Am fod meddylfryd calon dyn wedi myned ar ol oferedd, gan ymgyndynu yn erbyn elfenau gwir ddedwyddwch; ond cyn cychwyn dywedaf i ti bethau

 

 


(delwedd E0288) (tudalen 292)

 292 DETHOLION. cysurol : Hyd yn ddiweddar, edrychai'r bobl ar y wlad hon fel tir alltudiaeth, ac nad yw gymhwys ond i rai neillduedig i ddybenion neillduol; eithr gan fod goleuni yn cynyddu, a gwybodaeth yn amlhau, y mae pawb yn dyfod i ddeall mai hon yw y wlad ddedwyddaf dan yr haul, a bod yma ddigon o le i bawb i ymhyfrydu, a chroesaw i bawb ddyfod i'w hetifeddu, ac wele fel y mae y bobl yn dyfod iddi o bob cyfeiriad; ac yn y wlad ragorol hon y bydd i Grist a'i saint gyd-deyrnasu dros fil o flynyddoedd, ac y mae yr amser yn agos. "' Canys pan weloch y dail yn tori allan," &c. " Canys byr waith a wna yr Arglwydd ar y ddaear." " A'r gair a ddaw allan o'm genau, ni ddychwel ataf yn wag; eithr efe a wna yr hyn a fynwyf, ac a lwydda yn y peth yr anfonais ef o'i blegid; " " Gwyn eu byd y rhai sydd yn gwneuthur ei orchymynion Ef, fel y byddo iddynt fraint yn mhren y bywyd, ac y gallant fyned i mewn drwy y pyrth i'r ddinas." LLAIS Y MEDDWYN. LLAIS y meddwyn at y Cristion Y w, Cofia fi! Bydd i mi yn gyfaill ffyddlon, Gwna wrando'm cri : Mae fy iaith yn dorcalonus, Yn mhob modd yn waradwyddus, A'm holl fuchedd yn anweddus; O! cofia fi. 'Rwyf yn difa yn afradlon, O! cofia fi; Mae fy synwyr ar gyfeiliorn, O! cofia fi :

 

 


(delwedd E0289) (tudalen 293)

 DETHOLION. Gwna'm synwyrau yn gyfeillion I fy nheulu mewn trallodion, Mae fy ngwraig a'm plant yn noethion O! cofia ni. Hwynt sydd gartref yn newynu, O! cofia ni; Minau'n feddw mewn trueni, O! cofia ni! Cofia fi wrth orsedd gweddi, Er Ileshad i mi a'm teulu, Gall dy Dduw ein llwyr waredu; O! cofia ni. Os wyt un all garu arall, O! cofia fi; Cerir di dros byth yn ddiball, O! cofia fi: Os dy draed a •ganlyn lesu, Beth a'th atal ataf nesu, Er cyfranu gwerthfawr wersi? O! cofia fi. Gwna ymwrthod å'r diota, O! cofia fi: Rhag it' fyn'd heb fara i fwyta, Fel ydwyf fi : Trwy ddiota daw trallodion, Dillad carpiog ac archollion, A thebygu i ellyllon; O! cofia fi. Gwnei aberthu man bleserau, Os cofi fi; Cedwi'n mhell o’r tai tafarnau, Os cofi fi : 293

 

 


(delwedd E0290) (tudalen 294)

 294 DETHOLION. Y no meglir myrdd gan Satan, I'r trueni, fel fy hunan; Cadw o’r pydewau aflan; O! cofia fi. Enill fi trwy fwyn gynghorion, O! cofia fi; Tywys fi at Ddirwest wiwlon, O! cofia fi : Fel y profwyf eto fywyd I fy hun a'm teulu hefyd; Dirwest sydd yn llwybr gwynfyd; O! cofia fi. Gan dy fod yn gyfaill lesu, O! cofia fi; Pan ag Ef yn cymdeithasu, O! cofia fi : Deffro, Gristion, er fy ngwared, Canlyn Geidwad pechaduriaid, Trwy Ei waed y mae ymwared; O! cofia fi. Gwybydd hyn yn awr yn ebrwydd, Mawr wobr sydd I bob un a drodd bechadur At blant y dydd; Cuddia luaws o bechodau, Tyna'n rhydd o ddygyn-rwydau, Gan waredu o safn angeu— Rai fel fy hun. Achub un rhag bedd y meddwyn Sydd elw mawr; Ar ol caffo ddyfroedd bywyd, Mawr fydd ei ddawn :

 

 


(delwedd E0291) (tudalen 295)

 DETHOLION. Ffrwytha fel y gronyn gwenith, Tyn at Ddirwest trwy athrylitfr, I gymdeithas bydd yn fendith; Gwna lawer iawn. Ac yn mhlith y gwaredigion Hardd fydd ei wedd; Gyda'r palmwydd dan ei goron Tu draw i'r bedd; Ac yn mhell o dir trueni, Am fod Dirwest wedi ei godi o’r pydewau sydd yn boddi, I'r nefol hedd. MYFYRDOD. Ml wn i raddau beth a fu, Nis gwn pa beth a ddaw; Ond hyn a wn, mai dyogel wyf, Tra yn y Ddwyfol law. Am hyny ceisio wnaf bob dydd Ei hoff gymdeithas rad, I'm tywys trwy y ddyrys daith o’r byd i'r Ganaan wlad. TRAGYWYDDOLDEB. PRYSURO 'rwyf yn mlaen bob dydd I'r trag'wyddoldeb maith; Dy enw sydd yn fawr yn wir, Beth ynot fydd fy ngwaith? Nesåf at Dduw, tra ar fy nhaith, I geisio nodded gref, Er hau i'r Ysbryd hadau pur, I'w medi ar fryniäu'r nef. 295

 

 


(delwedd E0292) (tudalen 296)

 996 DETHOLION. YR YSGOL SABBATHOL. MOR werthfawr yw yr Ysgol hon Bob Sabbath trwy y wlad, Er arwain plant yn ol at Dduw Trwy ffydd a chyfiawnhad. De'wch iddi, i'enctyd hawddgar, Ilon, Cewch ynddi wir fwynhad, A dysgu'r fordd o d'wyllwch du Y n ol i dj eich Tad. Rhyw gysgod yw yr Ysgol hon, A'r Sabbath a'i mwynhad, o’r Ysgol uwch, a'r Sabbath gwell, Tragywyddol eu parhad. CEISIO GWIR GREFYDD. MWYNHAF fy amser ar y llawr, Mi dreulia'm dyddiau oll, Y n ceisio Duw i'm henaid gwan, Rhag myned byth ar goll. Os wyf yn awr yn ddu fy Iliw, Pwy Wyr na ddof yn wyn, Trwy haeddiant gwaed yr Oen a fu Y n marw ar y bryn. TREFN RHAGLUNIAETH. TREFN Rhagluniaeth sy'n cyfnewid Ein trigfanau ar y llawr; Cefnu wnes ar fwyn gyfeillion— O! pa le y maent yn awr? Rhai yn rhodio gwyneb daear, Rhai yn gorphwys yn y bedd!

 

 


(delwedd E0293) (tudalen 297)

 DETHOLION. A ddaw mantais i mi eto Mewn rhyw fodd i wel'd eu gwedd? Cawn, gobeithio, bawb ohonom, Mewn llawenydd a mwynhad, Pan na bydd ymadael mwyach o’r gwyn fyd, a thj ein Tad. Cwrdd å'n gilydd ydym yma Y n ddamweiniol ar ein taith; Ond cawn gwrdd heb byth ymadael Draw ar y drag'wyddol daith. Y no bydd trag'wyddol wledda Ar gynyrchion arfaeth wiw, Sefy " gwin a'r pasgedigion " Sydd i'w cael ar " Fynydd Duw." BOREU NADOLIG. DYMA foreu heb ei fath Wedi gwawrio, O fawr werth i ddynolryw, Boreu i'w gofio; Chwilio am dano tyrfa fu, Cyn ei weled, Ymhyfrydu ynddo bu'r Patriarchiaid. Chwant sydd arnaf ddyweyd y fath Foreu ydyw, Wrth y rhai na Wyr ei werth, 'Nawr yn groew; Er nas gallaf, yn fy myw, lawn fynegi Am y boreu bu llu'r nef Y n mawrygu. 297

 

 


(delwedd E0294) (tudalen 298)

 298 DETHOLION. PERYGLON Y BYD. PERYGLUS fyd wyf ynddo'n byw, Heb wybod beth a ddaw; Heb gyfarwyddyd syrthio wnaf Wrth Wyro yma thraw; T rwy d'wyllwch barnol ar bob tu, A chreigiau geirwon, serth; Ond yn y Ilewyrch oddi fry Mi äf o nerth i nerth. Y CARIAD TRAGYWYDDOL. 'ROEDD mar o gariad pur Y n nhrag'wyddoldeb pell, Er cario Ilong cyfamod gras Gyda'r newyddion gwell. Y niddangos wnaeth y Ilong Gynt yn mharadwys wiw, Y n llawn bendithion heb eu hail At angen dynolryw. A sefyll wnaeth y Ilong Ar ben Calfaria fryn, Ac yno Ilifo wnaeth y mar, Er golchi'r brwnt yn wyn. Y Ileidr aeth yn lån, A thyrfa gydag ef, Er llanw'r Ilong o berlau heirdd, I'w nofio tua thref. Mae'r Cadben ar y Ilong, A siriol yw ei wedd; Ac ar y bwrdd mae tyrfa fawr Y n canu hymnau hedd.

 

 


(delwedd E0295) (tudalen 299)

 DETHOLION. Pan él y Ilong yn ol I borthladd gwlad yr hedd, Dechreuir can na dderfydd mwy Gan dyrfa ar Ei wedd. Y PERYGL O ESGEULUSO Y BEIBL. GWNA esgeuluso yn ei bryd Efrydu Geiriau Duw, Golli y cyfarwyddyd llawn, Er myn'd i'r nef i fyw. Mae darllen rhai'n yn ras bob dydd, treulio bywyd Ilon; Bydd fel y cadben wrth y llyw, Wrth fyn'd o dön i dön. Ond heb eu Ilewyrch yn y nos, Wrth deithio yn y bla'n, Fe,'gyfeiliornir yn y niwl, Os heb y " golofn dån." Collir bendithion rify gwlith Tra yma ar y llawr; A!dechreu colli fyddys byth I drag'wyddoldeb mawr. Collir gwybodaeth ucha'i gradd Sydd ar y ddaear hon, -Atchollir nef a ffafr Duw! Pwy brisia'r golled hon? Gwna esgeuluswr geiriau Duw Golli y nefo-dd wen, A chollir enaid yn y niwl, A melldith ar y pen. 299

 

..

 

 

Sumbolau:

a A / æ Æ / e E / ɛ Ɛ / i I / o O / u U / w W / y Y /
ā
Ā / ǣ Ǣ / ē Ē / ɛ̄ Ɛ̄ / ī Ī / ō Ō / ū Ū / w̄ W̄ / ȳ Ȳ /
ă Ă / ĕ Ĕ / ĭ Ĭ / ŏ Ŏ / ŭ Ŭ /
ˡ ɑ ɑˑ aˑ a: / æ æ: / e eˑe: / ɛ ɛ: / ɪ iˑ i: / ɔ oˑ o: / ʊ uˑ u: / ə /
ʌ /
ẅ Ẅ / ẃ Ẃ / ẁ Ẁ / ŵ Ŵ /
ŷ Ŷ / ỳ Ỳ / ý Ý /
ɥ
ˡ ð ɬ ŋ ʃ ʧ θ ʒ ʤ / aɪ ɔɪ əɪ uɪ ɪʊ aʊ ɛʊ əʊ / £

ә ʌ ẃ ă ĕ ĭ ŏ ŭ ẅ ẁ Ẁ ŵ ŷ ỳ Ỳ

gw_gytseiniol_050908yn 0399j_i_gytseiniol_050908aaith δ δ
wikipedia, scriptsource. org


Y TUDALEN HWN /THIS PAGE / AQUESTA PÀGINA:
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_231_america-gweledigaethau_davies_1894-1897_3_2070k.htm

Ffynhonnell / Font / Source: llyfr a brynwyd trwy’r post am $35 gan lyfrwerthwr yn UDA, Awst 2018
Creuwyd / Creada / Created:
19-09-2018

Adolygiadau diweddaraf / Darreres actualitzacions / Latest updates: 21-09-2018, 19-09-2018  

Delweddau / Imatges / Images:

 

 

Freefind:

Archwiliwch y wefan hon
SEARCH THIS WEBSITE
...
Adeiladwaith y wefan
SITE STRUCTURE
...
Beth sydd yn newydd?
WHAT’S NEW?


Ble'r wyf i? Yr ych chi'n ymwéld ag un o dudalennau'r Wefan CYMRU-CATALONIA
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web CYMRU-CATALONIA (= Gal·les-Catalunya)
Where am I? You are visiting a page from the CYMRU-CATALONIA (= Wales-Catalonia) Website
Weə-r äm ai? Yüu äa-r víziting ə peij fröm dhə CYMRU-CATALONIA (= Weilz-Katəlóuniə) Wébsait