kimkat2069k America, a Gweledigaethau Bywyd: yn Cynwys Darluniad o America, yn Ddaearyddol, Amaethyddol, Mwnyddol, Llaw-weithfaol, Masnachol, Gwladwriaethol, Cymdeithasol, a Moesol, a Chymry y Talaethau Unedig. Ac yn Ychwanegol, Cynwysa y Gyfrol Benodau ar Rai o Bynciau Dyddorol y Dydd, yn nghyda Detholion O "Lwybrau Bywyd", Cyfrol a Gyhoeddwyd gan yr awdwr yn y Talaethau Unedig. Gan William D. Davies, Scranton, Pa., Talaethau Unedig America. Yr Hwn sydd wedi Byw 25 o Flynyddau yn America, ac wedi Teithio y Deuddeg Diweddaf o’r Cyfryw o For y Werydd i’r Tawelfor, fel Goruchwyliwr Teithiol y “Drych”, etc. Merthyr Tydfil. 1897 (Trydydd Argraffiad) (Argraffiad Cyntaf: 1894). W. D. Davies (William Daniel Davies). (Ganwyd 15 Mehefin 1838, Y Llety, Y Felindre, Pen-boyr, Sir Gaerfyrddin. Bu farw 22 Mawrth 1900, Wrecsam, Sir Ddinbych.) (61 oed).


21-09-2018

● kimkat0001 Yr Hafan www.kimkat.org
● ● kimkat2001k Y Fynedfa Gymraeg www.kimkat.org/amryw/1_gwefan/gwefan_arweinlen_2001k.htm
● ● ● kimkat0960k Mynegai i’r testunau Cymraeg yn y wefan hon www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_mynegai_0960k.htm
● ● ● kimkat2067k America, a Gweledigaethau Bywyd – y Gyfeirddalen
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_231_america-gweledigaethau_davies_1894-1897_y-gyfeirddalen_2067k.htm
● ● ● ● kimkat2069k
Y tudalen hwn
...

 

0003g_delw_baneri_cymru_catalonia_050111
 
(delwedd 0003)

 

 

 

 

 

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Gal
·les i Catalunya
The Wales-Catalonia Website

America, a Gweledigaethau Bywyd: yn Cynwys Darluniad o America, yn Ddaearyddol, Amaethyddol, Mwnyddol, Llaw-weithfaol, Masnachol, Gwladwriaethol, Cymdeithasol, a Moesol, a Chymry y Talaethau Unedig. Ac yn Ychwanegol, Cynwysa y Gyfrol Benodau ar Rai o Bynciau Dyddorol y Dydd, yn nghyda Detholion O "Lwybrau Bywyd", Cyfrol a Gyhoeddwyd gan yr awdwr yn y Talaethau Unedig. Gan William D. Davies, Scranton, Pa., Talaethau Unedig America. Yr Hwn sydd wedi Byw 25 o Flynyddau yn America, ac wedi Teithio y Deuddeg Diweddaf o’r Cyfryw o For y Werydd i’r Tawelfor, fel Goruchwyliwr Teithiol y “Drych”, etc. Merthyr Tydfil. 1897 (Trydydd Argraffiad) (Argraffiad Cyntaf: 1894).
W. D. Davies (William Daniel Davies).
(Ganwyd 15 Mehefin 1838, Y Llety, Y Felindre, Pen-boyr, Sir Gaerfyrddin. Bu farw 22 Mawrth 1900, Wrecsam, Sir Ddinbych.) (61 oed).

RHAN 2
Tudalennau 103-203

Y Llyfr Ymwelwyr / El Llibre de Visitants / The Guestbook:
http://pub5.bravenet.com/guestbook/391211408/


a-7000_kimkat1356k

Beth sy’n newydd yn y wefan hon?
Què hi ha de nou en aquest web?
What’s new in this website?

---

6665_map_cymru_catalonia_llanffynhonwen_chirbury_070404


(delwedd 6665)

...
llythrennau duon = testun wedi ei gywiro

llythrennau gwyrddion = testun heb ei gywiro
....

 

 


(delwedd E0099) (tudalen 103)

PE NOD X X.
CVCHWVN AM DAIR BLVNEDD O DAITH.
N awr, ceisiwn ddilyn ein taith am dair blynedd
drwy y Gorllewin, sefy blynyddoedd 1890-92.
Cychwynwn o Scranton ddiwedd Ionawr,
1890, ac awn ryw 225 0 filldiroedd cyn aros ar ben yr
Allegheny Mountains i Ebensburg, hen sefydliad
Cymreig, Ile y mae canoedd o Cymry amaethyddol,
&c., a rhyw haner dwsin o gapelau Cymreig, ond eu
bod bron colli yr hen iaith ohonynt. Awn rhagom
eto am ryw 100 0 filldiroedd (heb aros yn Johnstown
enwog hyd oni byddwn yn dychwelyd), a byddwn yn
Pittsburgh, yr ail dref yn nhalaeth William Penn, a
llai na 100 milldir o Ebensburg. Y mae glofeydd a
llaw-weithfeydd Pittsburgh a'r cylchoedd yn enwog;
ac O'r 238,617 0 drigolion y ddinas, y mae miloedd yn
Cymry. Y mae eglwysi gan y tri enwad Cymreig yma
eto. Y mae miloedd yn ychwaneg O'n cydgenedl yn
wasgaredig yn y man drefydd o gwmpas, megys Allegheny City, Braddock, Mackeesport, Homestead, &c.
Awn rhagom eto am ryw 50 0 filldiroedd i'r gogledd-orllewin, a byddwn ar y Ilinell derfyn rhwng Pennsylvania ac Ohio yn Sharon, Ile y mae llawer o Cymry, ac
eglwysi gan yr Annibynwyr a'r Bedyddwyr. Awn ryw
dair milldir yn mhellach i'r gorllewin, a byddwn yn
Brookfield, Ile y mae llawer o Cymry wedi bod, ond
yn cyflym leihau am fod y glo yn darfod. Awn ryw
dair milldir eto, a byddwn yn Coalburg, Ile y mae cryn
lawer o Gymry eto yn wasgaredig, ond yn Ileihau am

 

 


(delwedd E0100) (tudalen 104)


104
AMERICA,
yr un rheswm ag yn Brookfield. Ryw dair milldir
oddiyma y mae Hubbard, mewn cyffelyb amgylchiadau
a'r ddau le Olaf, ond fod yma waith haiarn. Sodon,
ychydig filldiroedd i'r gorllewin, yn yr un agwedd
ddirywiedig. Church Hill, ryw dair milldir i'r gorIlewin, mewn cyffelyb agwedd. Y mae y Ileoedd yna
ol1 wedi bod yn flodeuog a Chymreigaidd iawn, ac
eglwysi Ilewyrchus gan y gwahanol enwadau Cymreig
ynddynt; ond y cyfryw wedi marw neu yn araf ymddadfeilio. Wele ni yn awr yn cerdded tair milldir
o Church Hill i Youngstown, tref weithfaol, yn cynal
rhyw 33,220 0 bobl, a miloedd o Cymry ynddi, ac
eglwysi Iled gryfion gan y tri enwad Cymreig yno.
Dwy filldir yn mhellach, a byddwn yn Girard, tref a
thua 2,000 0 boblogaeth, a llawer O'r cyfryw yn Gymry,
yn gweithio yn y felin haiarn, &c. Pum' milldir yn
mhellach i'r gogledd, a byddwn yn Niles, tref o tua
4,250 0 boblogaeth. Gweithiau haiarn, &c., sydd yma
eto, a llawer o Cymry yma yn byw, a'r tri enwad Cymreig yn addoli ar wahan. Mineral Ridge eto sydd heb
fod yn mhell; ardal lofaol, wedi bod yn enwog, ond yn
dadfeilio. Awn i'r gorllewin am tua 25 0 filldiroedd,
a byddwn yn Alliance, tref 0 7,607 0 boblogaeth.
Gweithfa beirianol fawr sydd yn gwneyd y dref hon
yn fywiog, yr hon a berchenogir gan Gymro llwyddianus a chyfoethog O'r enw Thomas Morgan, ac y mae
llawer o Cymry yn gweithio iddo ef. Y mae yrna
eglwysi llwyddianus gan yr Annibynwyr a'r Trefnyddion Calfinaidd yn yr hen iaith. Awn ryw 10 milldir i'r gogledd eto, a byddwn yn ardal amaethyddol
Palmyra a Paris, &c.; ac, yn ddiweddar, y mae gweithiau glo hefyd yn y gymydogaeth. Sefydliad Cymreig
yw hwn, a chapelau gan y tri enwad ynddo. Awn
i'r un cyfeiriad eto am tua 40 0 filldiroedd, a byddwn
yn Newburgh a Cleveland, ar län llyn Erie, poblogaeth pa rai yw 261,352. Gweithiau haiarn, &c., yw

 

 


(delwedd E0101) (tudalen 105)



A GWELEDIGAETHAU BYWYD.
105
prif fywyd y cylch hwn, ac y mae yma filoedd o
Gymry, ac eglwysi gan y tri enwad Cymreig. Awn
ryw 39 0 filldiroedd i'r dehau, a byddwn yn Akron,
tref fywiog, law-weithfaol, yn cynal 27,6ol, a llawer O'r
cyfryw yn Gym ry, ond heb fawr o sél Gymreig. I'r
dehau eto y mae llawer o leoedd bychain glofaol, a
chanoedd o Gymry yn wasgaredig rhyngddynt, megys
Massillon, Canton, Straitsville, Beech City, Canal
Dover, New Philadelphia, Justus, &c. Vn awr awn
am ryw 200 0 filldiroedd drwy y Ileoedd canlynol, hyd
Cincinnati, &c..
VMWELIAD BRYSIOG A ZANESVILLE, GRANVILLE,
NEWARK, COLUMBUS, A CINCINNATI, OHIO.
Gadawsom ein gilydd y tro diweddaf yn Justus,
Ohio. Oddiyno aethum i weled Cymry Zanesville
unwaith yn rhagor, ac ymddangosai i mi mai araf
ddarfod y mae y Cymry a'r Gymraeg yn y dref; fel
prawf o hyny, gellir crybwyll fod yr eglwys Gymreig
wedi marw. Arfaethwn fyned oddiyma i ymweled
Chymry Shawnee a New Straitsville a'r cylchoedd, ond
amgylchiadau y gweithiau glo a' lluddiai y waith
hon. Y n nesaf, ymwelais a Chymry Welsh Hills a
Granville, a chefais fod pethau yn yr ardaloedd hyny
yn debyg i'r hyn oeddynt y troion O'r blaen. Treuliais
rai dyddiau yn Newark, gan fyned boreu Sabbath i
glywed y Parch. E. J. Jones yn pregethu ar " Gyfraniadau arianol at gynal crefydd," ac yr oedd ei syniadau
ef a'r eiddo finau yn cydredeg, sef mai eiddo yr
Arglwydd YW y ddegfed o'.n henillion fel y seithfed
ran O'n hamser, ac mai am yr hyn a roddwn dros ben
y degwm at grefydd y rhoddir credid i ni yn y nefoedd
fel " rhoddion gwirfoddol." Eglwys o Annibynwyr
Seisonig sydd ganddo ef, a'r aelodau yn rhifo rhwng
400 a 500; efe hefyd gychwync dd yr eglwys amryw
flynyddau yn ol, a gallwn feddwl fod ei lwyddiant i'w
8

 

 


(delwedd E0102) (tudalen 106)


106
AMERICA,
briodoli yn benaf i'w gallineb a'i sirioldeb fel dyn a
bugail da. Am ddau, aethum i wrando pregeth dda
gan y Parch. G. James Jones (Llew O'r Llain) yn
nghapel yr Annibynwyr Cymreig; ac yn yr hwyr
gwrandewais ar y Parch. Wm. Matthews yn nghapel y
Trefnyddion Calfinaidd, a phregethodd yntau yn dda.
Araf wanychu y mae yr eglwysi Cymreig yn Newark.
Columbus oedd y Ile nesaf yr arosais ynddo, a
thybiwn fod y ddinas hardd hon wedi cynyddu, a
chael ei harddu yn fawr er pan fuaswn yno O'r blaen,
a bod y Cymry yn cynyddu mewn rhif yno. Cefais y
fraint o dreulio Sabbath yn mhlith fy nghydgenedl
yno—y boreu yn nghapel yr Annibynwyr; ond yn Ile
cael y fraint o wrando ar y Parch. G. Jones yn pregethu,
gorfu arnaf fi, ac yntau, a' r gynulleidfa, wrandaw ar
bregeth diacon ar " Haelfrydedd Cristionogol." Deallwyf fod yr eglwys hon ar gychwyn adeiladu capel
newydd mewn Ile m wy canolog O'r ddinas. Y prydnawn, aethum i gapel newydd a hardd y Trefnyddion
Calfinaidd, a diamheu genyf fod hwn yn un O'r capelau
mwyaf a harddaf a fedd ein cydgenedl yn y Talaethau;
ond sylwn ar un diffyg pwysig ynddo, sef fod yr ystafell sydd at wasanaeth y cyfarfodydd wythnosol ac ysgol
y plant yn rhy gyfyng o lawer, tra y gallesid ei gwneyd
gymaint arall o leiaf heb anharddu y brif ystafell; a
gallesitl yn rhwydd dafln y ddwy yn un i ateb angen
cynulliadau mawrion ar adegau neillduol. Gorfodwyd
fi i wneyd y sylw hwn wrth weled yr ystafell yn
anghysurus o lawn nos y gyfeillach, tra, o bosibl, nad
oedd y drydedd ran O'r eglwys yn bresenol. Gwelais
fod gan yr eglwys hon un O'r Ysgolion Sabbathol
fwyaf a harddaf ag wyf wedi weled gan fy nghydgenedl
yn y wlad. Y n yr hwyr, llanwyd pwlpud Dr. Howell
gan y Parch. D. Jewett Davies, a chawsom bregeth
dda. Eto, nos Lun, cawsom araeth ddirwestol ganddo,
un O'r areithiau goreu a glywais erioed; h•e, araeth

 

 


(delwedd E0103) (tudalen 107)


A GWELEDIGAETHAU BVWVD.
107
deilwng o bwnc mawr y dydd. Nid oes berygl i Mr.
Davies gyfiawnhau y rhai a fynant gefnogi trwyddedu
y fasnach feddwol.
TN CINCINNATI ANNI..TWIOL—YR ACHOSION CVMREIG—
DVRCHAFIAD 1 GVMRO DALL—DIRWEST.
Ar ol cyrhaedd Cincinnati, aethum i weled amryw
Gymry; a'r noson gyntaf aethum i'r gyfeillach yn
nghapel yr Hen Gorff ar College Street. Vmddangosai
yr hen wynebau yn naturiol i mi, ac yr oedd y Parch.
Owen Evans, eu hen weinidog, yn eu harwain yn dda.
Dydd Sul, Mehefirw 25ain, yn y boreu, pregethai Mr.
Evans yn nghapel yr Annibynwyr Cymreig i'r ddwy
gynulleidfa Gymreig gyda'u gilydd, er boddlonrwydd
i bawb. Gwelais yno Dr. Jones, gweinidog yr eglwys,
yn edrych yn dda ac urddasol, a'i farf cyn wyned a'r
eira. Yn y prydnawn, aethum i'r cyfarfod cyhoeddus
dirwestol yn y Music Hall, yr hwn a gerid yn mlaen
dan drefniad y W.C.T.U., gyda Miss Frances E. Willard
yn arwain. Cafwyd anerchiadau grymus gan Dr.
Poole, o New York, a Dr. Leonard, a'r cadeirydd
Dickie, ar ran y National Prohibition Committee. Yr
oedd yno hefyd ganu da, ac o ddwy i dair mil o wrandawyr yn bresenol. Yn yr hwyr, aethum i gapel y
Trefnyddion Calfinaidd i glywed y Parch. O. Evans
eto yn traddodi pregeth Saesoneg dda i ieuenctyd y
ddwy eglwys Gymreig.
Mae un gwr ieuanc ymroddgar o Gymro yn teilyngu sylw oherwydd ei waith yn trechu anffodion, sef
E. Roberts, ieuengaf, mab Edward Roberts, 15, Harrison Street. Pan yn 16 oed, tra yn dysgu bod yn
beirianwr, aeth dur i'w lygad; ac ar ol ceisio adferiad
am dair blynedd, collodd ei olwg yn llwyr naw mlynedd
yn ol. Yna bu am chwe' blynedd yn sefydliad talaethol
y deillion yn Columbus, a daeth allan gyda'r gradd o
athraw cerddorol, ac am y tair blynedd diweddafy mae

 

 


(delwedd E0104) (tudalen 108)


108
AMERICA,
wedi bod yn gwneyd yn dda fel cyweiriwr seiniau
offerynau cerdd er boddlonrwydd i'w gefnogwyr, fel ar
yr 16eg cynfisol y cafodd ei benodi yn athraw ar y
dosbarth y bu ef ynddo yn derbyn ei addysg am chwe'
blynedd. Y n mis Medi nesaf, bydd iddo lanw un O'r
cadeiriau athronol yn y sefydliad talaethol bendithiol
dan sylw. Dyna wers eto i bobl ieuainc sydd yn cyfarfod a gwrthwynebiadau mewn bywyd i beidio llwfrhau
a digaloni. Penderfyniad a dyfalbarhad yw y ffordd i
lwyddiant gyda phob da, onide?
Treuliais y trydydd o Orphenaf yn Cincinnati, a
chlywais y ddau weinidog Cymreig yn pregethu yn
dda i'w cynulleidfaoedd. Ond wfft i Cincinnati annuwiol! Cadwasant y FouHh trwy y Sabbath blaenorol
trwy saethu, &c. Tebyg fod hon yn un O'r dinasoedd
mwyaf annuwiol ar y cyfandir, gan fod yma gymaint
o Germaniaid ac Italiaid nad oes ganddynt barch i
Dduw, na dyn, na Sabbath.
AR YR AFON OHIO O CINCINNATI 1 IRONTON, CE>ö
TERVILLE, CORA, OAK HILL, A • SEFYDLIADAU
EREILL.
Y mae America yn " fangre afouydd a ffrydiau
llydain." O, y mae America yn fawreddog ei hamrywiaeth! Aethom i'r palas nofiedig yn Cincinnati, yr
hwn a gychwynodd a ni i fyny yn erbyn nerth y dwfr
am bump y prydnawn ar hyd Mason a Dixon Line,
gan ddadblygu o flaen ein llygaid amrywiaeth golygfeydd ymylon gwisgoedd Ohio a Kentucky. Am
chwech O'r gloch, galwyd ni ar y bwrdd i fwynhau
swper amrywiog a da; ac wedi blino edrych, aethom
i'r gwely i orphwys. Boreu dranoeth yr oedd y golygfeydd yn newyddion, a'r hin yn ddymunol. Parotowyd
boreufwyd blasus i ni gan feibion Ham am chwech O'r
gloch; ac erbyn naw yr oeddym yn Portsmouth, tua
120 0 filldiroedd o Cinpinnati; a chyrhaeddasom

 

 


(delwedd E0105) (tudalen 109)


A GWELEDIGAETHAU BVWYD.
109
Ironton, 30 0 filldiroedd yn mhellach, erbyn un O'r
gloch. Mae taith gyda'r badau ar yr afonydd yn curo o
ddigon daith ar y rheilffyrdd, os na bydd brys ar y
teithiwr.
Tipyn yn ddigalon y cefais y Cymry yn Ironton,
gan fod y melinau wedi bod yn sefyll. Aethum rhagwyf eto gyda'r gledrffordd hyd Davies' Station, ardal
Penuel, a gwnes fyr ymweliad â'r rhan fwyaf O'r hen
gydnabyddion; yna rhagwyf eto tuag ardal Sardis, Ile
y cefais y Cymry yn debyg:i arfer. Teithiais trwy y
gwres, a thros bant a bryn, nes cyrhaedd ardal Nebo,
enw â rhyw swyn yn perthyn iddo i mi er's llawer o
flynyddoedd, sef yr adeg y clywn mam yn nefol seinio
acenion yr hen emyn hwn pan yr oeddwn yn un O'r
rhai bychain yn chwareu o gwmpas ei thraed:—
Dwy aden colomen pe cawn,
Ehedwn a chrwydrwn yn mllell,
i gopa bryn Nebo mi awn,
I weled ardaloedd sydd well;
A' m golwg tu arall i'r dw'r,
Mi dretlliwn fy oriau i ben,
I ganu am goncwest y Gwr
A hoeliwyd rhwng daear a nen.
Rhoddais i fyny i orphwys dros y Sabbath dan nawdd
ac yn nghymdeithas Mrs. Elizabeth Parry a'i phlant.
Nid oedd y Parch. W. R. Evans, y gweinidog, gartref;
ond yr oedd y gweinidog ieuanc, Joshua Griffths, yr
hwn sydd wedi gorphen cwrs ei addysg yn Marietta,
yn pregethu yn ei le yn y daith hon yn absenoldeb
Mr. Evans, yr hwn sydd wedi myned i geisio adferiad
iechyd. Aeth y Parch. W. O. Jones gyda mi i weled
rhan O'r ardal, a chefais bawb yn siriol, heb lawer o
gyfnewidiadau, ond fod amryw O'r hen bobl wedi marw
er pan y buaswn yno O'r blaen, megys Erasmus Morris
y diacon; John Davies, New York; Mrs. John B.
Jones a'i merch hardd, ac ereill.

 

 


(delwedd E0106) (tudalen 110)


110
AMERICA,
Treuliais noson yn Cora gyda John D. Davies a'i
deulu; ac aeth Mr. Evans gyda mi i weled Cymry y
dyffryn bychan, megys Thomas Davies, Mrs. Walters,
yr hon a wylai ar ol ei ffyddlon gym har a fil farw y
gauaf diweddaf. Aeth y ffyddlon John R. Jones a mi
mor bell a chartref John Ll. Jones, mab y diweddar
Thomas Jones, Drainllwyn, yr hwn a fil farw Ionawr
diweddaf, yn 89 mlwydd oed. Brodor oedd ef o Landdewibrefi, sir Aberteifi, D.C. Cwrddais a Mrs. John
B. Jones, gweddw hen gyfaill i mi, sef Thomas Jones,
Blaenafon, fel yr adwaenwn ef tua Hyde Park, Pa.,
acw, a gwelwn ddagrau adgofion yn treiglo o'i llygaid.
Diau genyf y bydd yn dda gan lawer yn Hyde Park
glywed fod Mrs. Jones yn aelod yn eglwys yr Annibynwyr yn Ty'nyrhos.
Aethum rhagom eto o dj i d! , gan gefnu ar Cymry
caredig y bryniau hyn, ar hyd y llwybrau dyrys, nes
gweled Cymry ardal Bethel. Treuliais Sabbath yn
Oak Hill; a'r boreu cefais bregeth dda gan y Parch.
Caleb Samson (A.), i gynulleidfa lewyrchus. Y n y
prydnawn a'r hwyr, cefais ddwy o bregethau da gan
y Parch. J. Mostyn Jones i gynulleidfa fwy. Dydd
Llun, Gorphenaf 18fed, ymwelais hen gartref daearol
y diweddar hen ddiacon, J. H. Jones, Tanygors, un O'r
hen arweinwyr casglyddol ddeng mlynedd yn ol i'r
Cardotyn o Hyde Park, Pa." Da oedd genyf gael y
fraint, yn ymyl ei hir gartref, i gyflwyno blodeuyn
edmygedd i'w goffadwriaeth. Pan aethum o gam i
gam at Tanygors, ar hyd yllwybr a gerddodd ef filoedd
o weithiau, gwelwn wynebau ugeiniau o'i hen gyfeillion wedi dyfod fel finau i hebrwng ei weddillion i d'
ei hir gartref. " Yr hwn oedd, ac nid yw, er ei fod,
sydd a'i weithredoedd yn ei ganlyn i'r bedd, ac a änt
o'i flaen mewn coffadwriaeth i'r nefoedd." Cafodd
John H. Jones gladdedigaeth dywysogaidd, a gweinidogion y dosbarth yn cymeryd rhan un ai yn y t9, wrth

 

 


(delwedd E0107) (tudalen 111)


A GWELEDIGAETHAU BVWYD.
111
y bedd, neu yn y capel; ond teimlwn mai y Parch.
William R. Evans a gurodd yr hoelen ar ei phen wrth
siarad am yr ymadawedig fel blaenor, gan sylwi mai y
blaenoriaid a'r pregethwyr gwael sydd yn gwybod
fwyaf am hunanymwadiad yn y byd, ac yn cael y daledigaeth waelef o bawb. Mae pawb am gario y
pregethwyr Inawr rhag taro eu traed wrth gareg, a
châtlt gyflogatl tywysogaidd: ond gwae y pregethwyr
gwael —ceryg tramgwyddus sydd ar hyd eu llwybrau,
a cheryg yn dyfod i' w gwynebau ae o'u hol. Ac am y
blaenoriaid, gwae, gwae hwynt yn fwy fyth! Rhaid
i'r blaenor ofalu am arian, bw•yd, a Ilety i'r pregethwyr
cartrefol a thramor. Rhaid iddo ef fod yn y seiat a'r
cwrdd gweddi ar ganol y cynhauaf fel canol y gauaf;
rhaid iddo ymweled â'r cleifion a' r cwerylwyr yn mhell
ac agos, ar draul esgeuluso ei amgylchiadau ei hun;
a phan ddaw y cardotwyr heibio, rhaid i'r diacon osod
swm da i ddechreu y tanysgrifiadau ar y llyfr, heblaw
eu porthi a'u Iletya, a myned gyda hwy am ddyddiau
trwy yr ardal. Rhaid i'r blaenor fyned i'r Cwrdd
Dosbarth a'r Gymanfa ar ei draul ei hun, ac O! gwae
efyn ei gyflog ar y ddaear. Rhywbeth tebyg oedd yn
bwrlymu allan o enau Mr. Evans am ryw bymtheg
mynyd. Yn ol barn yr holt siaradwyr, a llawer ereill,
yr oedd y diacon John H. Jones, yr hwn a lanwodd y
swydd yn amyneddgar a ffyddlon am ddeugain mlynedd, wedi nlyned i wisgo " coron cyfiawnder."
Symudais eto yn mhlith y byw a'm gwyneb i
gyfeiriad Moriah (T.C.), a Centerville. a threuliais y
noson gyn taf dan nawdd y Parch. Isaac Edwards a'i
deulu siriol. Aethum rhagwyf trwy y gwres mawr o
nerth i nerth, gan alw er gweled y Parch. John Lloyd,
gweinidog y Bedyddwyr yn Oak Hill, ond nid oedd
gartref. Edrychai y Parch. Evan S. Jones yn gryf a
bywiog yn ei hen ddyddiau. Cefais y Parch. S. Jones,
gweinidog y Bedyddwyr Cymreig yn Centerville,

 

 


(delwedd E0108) (tudalen 112)


1 12
AMERICA,
mewn profedigaeth oblegid afiechyd peryglus y mab.
Wedi cael ymgom â'r Parch. John M. Jones, goruchwyliwr•y Drych, {'i detlltl siriol, aethum rhagwyf am
ardal Bethania (T.C.) a Carmel (A). Teneu a gwasgarog yw y Cymry ffordd hon. Erbyn y Sabbath'
cyrhaeddais ardal Moriah, yr hon, efallai, yw yr eglwys
fwyaf byw ac addawol yn mhlith Cymry Ohio, gan fod
y capel yn llawn, a'r mwyafrif yn bobl ieuainc, a
phlant ffyddlawn a diwylliedig. Y boreu. cawsom
bregeth dda gan y Parch. Evan S. Jones, a Ilon'd y Ile
o Ysgol Sabbathol iewyrchus, a chapelaid o bobl
ieuainc yn benaf yn yr hwyr yn gwrando pregeth a
phregethwr dyeithr.
O OAK HILL, O. , 1 COLUMBUS, LIMA, GOMER, VENEDOCIA, MILWAUKEE, ETC.—-DVFAIS WERTHFAWR.
Ar ol y wledd Gymanfaol yn Oak Hill, O. , olwynais hi tua Columbus i fwynhatl Sabbath dan weinidogaeth felus y Parch. H. P. Howell, D.D. Wedi hy,ny
aethum i weled rhai o Cymry Delaware-a Throedrhiwdalar, ac yn eu plith D. D. Davies. Treuliais noson
ddyddan gyda Robert Rowlands, Radnor, yna ymwelaisâ theulu M. Meredith, perchenog gweithiatl calch,
&c., yr hwn a enillais i fod yn dderbyniwr O'r Drych.
Yn Radnor hefyd gwelais y Parchn. Richard R. Jones
(T.C.), a Daniel A. Evans (A.), a chefais hwy a' u
teuluoedd yn iach, siriol, a chroesawus. Gan fod y
Cymry yn hell oddiwrth eu gilydd, ac yn colli eu
hiaith, nid aethum i weled llawer ohonynt.
Ar ol ytngom yn Lima â'r Cymro twymgalon
Thomas H. Jones, mab y diweddar " Josiah Brynmair,"
cyfeiriais trwy y gwlaw mewn cerbyd cauedig am
Gomer; ond troais at Sugar Creek yn gyntaf, Ile y
gwelais yr hen wynebau a'r hen gymwynaswyr gynt,
gan mwyaf; ond canfyddid olion amser yma thraw.
Bâtn yn ymddyddan â'r Parch. M. Cadwaladr, yr hwn

 

 


(delwedd E0109) (tudalen 113)


A GWELEDIGAETHAU BVWVD.
sydd yn gwasanaethu eglwys yr Annibynwyr yn Sugar
Creek, ac â'r Parch G. Thomas, gweinidog eglwys
newydd yr un enwad yn Vaughnsville, Ile y mae capel
hardd yn cael ei adeiladu ganddynt. Vmddengys
y bydd i lawer o eglwys Go-mer adgyfnerthu yr
eglwys hon. Hefyd, y mae Mr. Thomas yn gweinidogaethu yn foddhaol i eglwys fechan y Trefnyddion Calfinaidd yn Sugar Creek. Onid yw y byd yn prysuro
at y Milflwyddiant? Arwydd arall o hyn ydyw yr hyn
a welais yn Vaughnsville, sef gwaith gweinidog yr
M. E. yn bedyddio mewn tair o wahanol ffurfiau, sef
drwy daenelliad O'r cwpan, trwy drochiad yn yr afon,
a thrwy daenelliad ar län yr afon. Ni bydd eisieu
pedwar capel a phedwar gweinidog mewn conglau yn
y wlad, Ile y bydä un capel ac un bugail yn ddigon i'r
ol1. Gwelir pawb yn un yn nghariad brawdol yr
Efengyl, yn Ile ymfyddino megys cynt i hollti blew
duwinyddiaeth yr oesoedd tywyll. " Gorfoledded y
ddaear, llawenyched ynysoedd lawer; am na ddywed
pob un wrth ei gymydog mwyach, adnebydd yr
Arglwydd, oblegid pob un ohonynt, O'r hynaf hyd yr
ieuengaf ohonynt, a'm hadwabyddant I, medd yr
Arglwydd."
Cefais y fraint o glywed y Parch. W. Meirion
Davies, Gomer, yn traddodi un O'r pregethau coffadwriaethol goreu a glywais erioed boreu Sabbath,
Mehefin 15fed, er cof am y Cristion hynaws W. A.
Jones. Hefyd, dangoswyd pob sirioldeb i mi gan bobl
dda Gomer, a phrynwyd fy llyfr gan ddynion goreu y
sefydliad, megys y meddygon enwog Jones a Davies,
er mai anllythyrenog yw yr awdwr. O ran hyny, nid
dynion mawr sydd yn diystyru pethau bychain. Sylwn
fod y ddau feddyg teilwng yn medru bod yn ddefnyddiol yn Eglwys Dduw, yn gystal a ffyddlon a llwyddianus yn eu galwedigaeth. Cefais dipyn o gymdeithas
y Ilenor a' r gohebydd Edward Williams, yr hwn sydd

 

 


(delwedd E0110) (tudalen 114)


114
AMERICA,
yn siriol, er fod yr aelodau yn pallu. Y n Gomery mae
yr athrylithgar William Roberts yn byw—yr hwn sydd
wedi cael breinteb er Hydref, 1878, am ddyogel-lamp
er arbed bywydau yn y nwy tanddaearol. Nodwedd y
lamp hon yw diffodd pan y byddo nwy peryglus yn
ymgasglu o'i mewn. Yr wyf wedi gweled llawer math
o lampau yn ystod y pnm' mlynedd ar hugain diweddaf; ond er bod yn mhlith y tanddaearolion bethau,
credaf fod hon yn rhagori ar bob dyfais. Gwelais
dystiolaethau dynion cymhwys i farnu yn rhoddi
cymeradwyaeth uchel iddi: ond gan nad yw Mr.
Roberts yn gyfoethog, i allu gosod ffrwyth ei athrylith
yn y farchnad, tebyg y cymerir hi yn ol ei gwerth ar ol
i'r freinteb redeg allan. Yr oedd Robert W. Griffiths,
prif fasnachwr Gomer, yr hwn hefyd sydd yn bostfeistr, a goruchwyliwr y Drych, yn edrych yn gryf, ac
yn ffraéth ei leferydd. Y noson ddivveddaf i mi yno
cefais fwynhau open air concert ar y scwar, gan ieuenctyd yr ardal, er elw y seindorfbres Gymreig; ac yr oedd
ice cream blasus i'w gael ganddynt.
Ar ol cefnu ar Gomer, bâm am noson dan gronglwyd yr hen Gristion Jacob Price, arfy ffordd i weled
Cymry siriol Leatherwood; a Chyn yr hwyr dranoeth
cyrhaeddais gartref dedwydd John B. Davies, yr hwn
aeth a mi yn ei gerbyd i Delphos unwaith yn rhagor.
Oddiyno aeth y brawd Thomas W. Jones a mi yn ei
gerbyd hyd at deulu caredig yr hen gyfaill Evan Rees,
Horeb. Y n ng11VVr pellaf yr ardal cefais Evan L. Jones
yn gweithio yn galonog ar ei ddyddyn gwrteithiedig,
Ile y gwelswn ef tuag wyth tnlynedd yn flaenorol
yn nghanol y goedwig, ac yn dechreu eu clirio.
Yr wyf yn sylwi fod amaethwyr gweithgar yn newid
llawer ar olwg eu ffermydd mewn chwech neu wyth
mlynedd. Siaradai Mr. Jones am y Gorllewin pelly
ac yn neillduol am ei hen gyfaill campyddol yn Scale
Diggings, Califfornia, Jesse Hughes. Byddai yn dda

 

 


(delwedd E0111) (tudalen 115)


A GWELEDIGAETHAU BVWVD.
115
ganddo glywed oddiwrtho. os yw ar dir y rhai byw yn
rhywle.
Ni chefais y pleser o glywed y Parch. D. Jewett
Davies yn pregethu i'w gynulleidfa, am ei fod heb
ddychwelyd o gladdedigaeth yr hynaws a'r ffyddlon
ddiweddar D. J. Jenkins, Jackson; ond cefais glywed y
Parch. Thomas Roberts yn traddodi pregeth ragorol
ar " Roddi y serch ar y pethau sydd yn y nefoedd, ac
nid ar y pethau ar y ddâear " (Col. 111.
z). Gwelwn
bethau yn gyffredinol yn debyg i arfer yn mhlith
Cymry Van Wett, ond fod wynebau siriol wedi eu colli
o amryw O'r teuluoedd trwy oruchwyliaeth angeu. Y
teulu gafodd yr archoll Olaf yno yw teulu D. W. Evans,
Ysw., trwy foddiad eu hanwyl fab Tommy, yr hwn
oedd wedi trysori iddo ei hun enw da fel dyn ieuanc
crefyddol, cerddor addawol, &c.
O Dalaeth Ohio cymerais wibdaith trwy Indiana
ac Illinois, i Wisconsin, heb aros nemawr yn Chicago
fawr y tro hwn. Treuliais y Fourth yn Milwaukee
Ellmynaidd, ar län llyn Michigan, gan edrych ar y
plant, hen ac ieuainc, yn difa eu harian er gwneyd tan,.
mwg, a swn. Eglur yw nad yw preswylwyr y Talaethau Unedig wedi eu perffeithio mewn doethineb
eto. Treuliais Sabbath hefyd yn y ddinas. Y boreu
cefais y fraint o glywed y Parch. John E. Jones yn
traddodi ei bregeth gyntaf fel bugail eglwys y Trefnyddion Calfinaidd. Barnaf i'r eglwys ddangos craffder
a chwaeth dda yn ei ddewisiad. Yn yr hwyr, aethum
i wrando y Parch. W. Griffths yn pregethu i'w gynulleidfa yn nghapel yr Annibynwyr ar Jefferson Street, a
chawsom bregeth dda ganddo yntau. Credaf fod y
ddwy eglwys Gymreig yn ffodus yn eu gweinidogion,
os na allwn eu cyfrif yn mhlith y dosbarth blaenaf o
ran hyawdledd areithyddol. Wrth gwrs, bâm yn
swyddfa y porthor mawr gorllewinol, Gwilym Eryri„
ac yr oedd ef a'i is-swyddog, David Moses, yn edrych

 

 


(delwedd E0112) (tudalen 116)



116
AMERICA,
yn dda a llawen fel arfer, ond yr oedd Moriog yn
absenol ar y sick list. Gelwais gyda T. Lloyd Roberts
(Dwyfor) yn ei fasnachdy sidanaidd. Er nad oedd
yno iawer o nwyddau i' w gweled, y mae Dwyfor yn
gwneyd masnach gwerth o gant i gant a haner o
filöedd o ddoleri y flwyddyn. Nid oedd yn adeg
fanteisiol i ganfasio Cymry y ddinas, am fod y knights
of Pythias o holl Dalaethau yr Undeb yn Ilenwi y dref.
.Bernir fod tua 15,000 ohonynt yn gorymdeithio yr
heolydd prydnawn dydd Mawrth, Gorphenaf 8fed.
TN ARDALOEDD WAUKESHA, BARK RIVER, IXONIA,
COLUMBUS, CAMBRIA, ETC.
Ardal Waukesha.—Y Ile cyntafy disgynais yn yr
ardal hon oedd Wales, Ile y bu ysgwyd dwylaw
gwresog â'r Maer, John J. Williams, yr hen bererin
Cädwaladr Jones, a'r Parch. John Owen Jones, gweinidog newydd Jerusalem a Bethesda. Bâm yn aros
dros y Sabbath yn nheultl caredig y Parc, ac yn yfed o
ddwfr adfywiol ffynonau Williams y Wern,
Ile Y
gwelais Moriog yn mwynhau ei seibiant ac yn ymiachau. Aethum rhagof tua Gennesee Depot, nes
,cyrhaedd cartref cysurus John Roderick. Cefais fod
Cymry ardaloedd Soar, Tabernacl, a Seion, yn bur
gysurus. Mewn cerbyd newydd dwy olwyn, aethum
yn nghwmni y Parch. D. M. Jones trwy ardal Waterville. Tebyg fod Mr. Jones wedi prynu y gert hon fel
y gallai droi yn fyr a chyflym ar ei fferm newydd, rhag
colli yr amser angenrheidiol i ysgrifenu ei " 'Pistolau "
i'r Drych. Gallaf hysbysu nad yw eglwysi ei ofal yn
blino ar wasanaeth y gwas da hwn i lesu Grist.
Yn ardal Bark River, cefais fod yr hen gyfaill
William James yn gwella yn dda ar ol ei hir gystudd;
felly hefyd Mrs. Davies, priod Dewi R. Davies, Welsh
Island, y Ile cysurus y cefais gysgod a chroesaw ynddo
ar fy ymweliad cyntaf â'r ardal flynyddau yn ol.

 

 


(delwedd E0113) (tudalen 117)


A GWELEDIGAETHAU BYWYD.
117
Teimlo braidd yn llwfr y mae Cymry y sefydliad
oblegid fod y chinch bugs yn bwyta defnydd eu bara
cyn ei gasglu O'r meusydd. Sylwn hefyd fod amryw
deuluoedd wedi cael eu rhwygo gan angeu. Cefais y
fraint o glywed y Parch. D. E. Phillips (A.) yn pregethu yno. Y madawodd ef o Blue Mounds neu
Barneveld er mwyn ei iechyd, ac y mae yn gofalu yn
bresenol am eglwys Seisonig yn Dousman.
Am y pedwerydd tro, cyrhaeddais ardaloedd
Ixonia a Watertown. Achwynai amaethwyr y Ile
cyntaf oherwydd cropiau gwael. Goruchwyliwr y
Drych yno y w H. E. Humphrey, ac yr oedd ef yn siriol
fel arfer. Btltn yn Iletya noson yn nghartref J. E.
Humphrey, brawd G. H. Humphrey; mae yntau yn
gymdeithaswr dymunol. Dymunai Evan T. Evans,.
Robert Parry, Lewis Lewis, a lluaws ereill, gael eu cofio
at y Parch. J. T. Morris, Bellevue, Pa., eu hen weinidog. Mae y ddwy eglwys Gymreig heb yr un
gweinidog; ond tebyg fod y Parch. O. O. Jones, o
Dakota, yn bwriadu cymeryd eu gofal hwy yn nghydag
eglwys Watertown. Pan yn cael fy arwain o gwmpas
y Ile diweddaf gan John Evans, deallais mai marwaidd
oedd masnach, am fod y Chicago, Mil. , & St. Paul
R. R. wedi symud eu gweithiau oddiyno.
Yn Columbus, arferwn aros y troion O'r blaen gyda
Uriah Davies; ond y tro hwn, gan ei fod ef wedi
ymfudo i'r wlad nefol, dan gronglwyd y caredig G. D.
Roberts, y göf, y cefais loches a dyddanwch. Mae y
Cymry o ran rhif yn dal yn debyg i arfer. Ychydig yw
masnachwyr Cymreig y pentref, sef Luther Davies,
olynydd ei dad, Uriah Davies; O. H. Williams, y dodrefnwr chwaethus; Miss Ann Griffths yn gwerthu
gwisgoedd merched; a William Hughes yn gofalu am
ymborth i'w gymydogion. Mae G. D. Roberts yn
llwyddianus gyda'i waith haiarn a dur; a rhana Dr.
D. C. Davies ei amser rhwng y cleifion a'i geffylaue

 

 


(delwedd E0114) (tudalen 118)


118
AMERICA.
Gwelais fylchau mewn amryw deuluoedd, ond ar ol y
Parch. John J. Roberts yr oedd yr hiraeth mwyaf
,cyffredinol.
Yn Cambria, sylwais ar gyfnewidiadau mawrion
mewn ystyr gymdeithasol. Treuliais Sabbath yn
111 halasdy newydd y Parch. R. H. Evans, yr hwn hefyd
a glywais yn pregethu i Ionaid capel mawr y Trefnyddion Calfinaidd. Da genyf ddeall nad yw ei
gynulleidfa ae yntau yn blino ar eu gilydd. Nid oes
gweinidog ar eglwys yr Annibynwyr nac ar yr eglwys
Bresbyteraidd; ond cafwyd dwy bregeth gan y gwr
ieuanc gobeithiol John Thomas o Jackson, O. , y
Sabbath yr oeddwn yn y pentref. Cefais yr Hen Lanc
o Cambria yn arweinydd dyddan. Oddiyno cyfeiriais
am Welsh Prairie, Ile yr oedd yn hyfryd cyfarfod
hen gymwynaswyr, ond yn drist gweled Ileoedd amryw
O'r hen breswylwyr yn wag. Mae y Parch. John
Hammond yn bur gymeradwy yno fel bugail eglwys
Seion a Jerusalem. Cefais bob sirioldeb yn Welsh
Prairie, ac hefyd yn Portage Prairie.

 

 


(delwedd E0115) (tudalen 119)


PE NOD X X 1.
TRWY RANAU O WISCONSIN.
Y N i mi ymadael O'r cylchoedd, daeth ein
tywysog ymfudol, Gwilym Eryri, a thywysog
mawr addysg Cymru, y Prifathraw Edwards,
ar ymweliad Cambria; a phregethodd yr Olaf ddwywaith i Ionaid capel o bechaduriaid—unwaith oddiar y
testyn difrifol, " Gosodwyd i ddynion farw unwaith," a
sylwn fod dagrau yn treiglo dros aml rudd. Aeth y
ddau dywysog rhagddynt tua Columbus, ac addawai y
bardd ymfudol fyned gyda gwrthddrych ei ofal mor
bell a Chicago. Yr oedd yn y Gymanfa eithriadol hon
amryw o weiniâogion y Corff, ac yn eu plith y Parch.
Thomas Foulkes, Randolph, yr hwn sydd yn gwella eto
ar ol hir gystudd, a'r Parch. Richard Isaac a'i briod o
Lillie Spring, Iowa, ar eu ffordd i'r Dwyrain i weled
hen gyfeillion a pherthynasau, ac er adferiad iechyd.
O CAMBRIA, WISCONSIN, 1 ARDAL RANDOLPH A'R
CVLCHOEDD.—ODDIVNO 1 SEFYLIAD OSHKOSH.
Ar ol cefnu ar Cambria, gelwais yn nhai y Cymry
ar fy ffordd i Randolph, gan gael hamdden ganol dydd
yno i weled William E. Thomas, ac heibio S. S. Jones,
mor bell a chartref Thomas D. Roberts, y trefnwr, cyn
noswylio. Tranoeth cyfeiriais fy nghamrau i weled
Cymry y dehau O'r dref, gan gerdded nes cyrhaedd
cyn nos i gartref John Owen, gynt o Prosceiron, yr
hwn sydd wedi meddianu un O'r ffermydd goreu yn
Randolph. Yn Mlaenycae, gelwais yn gyntaf gyda
D. M. Davies, yna gyda John J. Jones, Edward J.

 

 


(delwedd E0116) (tudalen 120)


120
AMERICA,
Breese, &c., nes cyrhaedd cyn nos hyd gartrefle Griff*
R. Williams. Ar ol adnewyddiad nerth aethum i weled
John R. Williams, ei frawd, ond nid ydynt yn frodyr
gwleidyddol, gan fod Griffith yn Waharddwr crancyddol, a John yn Werinwr llawn mor grancyddol.
Cefais ymgom dymunol gan William J. Jones a'i
deulu, gynt o Wilkesbarre a Plymouth, Pa., a gallwn
feddwl fod yr hen fwnwr•hwn y n gwneyd amaethwr
da. Y Ile y cefais ddrws agored nesaf oedd hen
gartref O. P. Roberts, yr hwn a breswylir yn awr gan
Ellis R. Roberts, ei fab, a'i deulu, gan fod yr hen
breswylydd wedi cefnu ar y byd hwn er pan y bâm
yno y tro O'r blaen. Erbyn myned oddiyno i hen
breswylfod Ellis Ellis, nid oedd yntau yno i'm croesawu fel yn y blynyddoedd O'r blaen, gan ei fod wedi
myned i'r wlad Ile nis gallant farw mwy; ond yr oedd
Mrs. Ellis yno yn ei hunigrwydd, ond nid mor ffraeth
a siriol a chynt, gan fod siomiant a hiraeth yn gwneyd
eu hol ar ei gwedd. Wedi galw ar yr hen ddiacon
Foulk R. Roberts, cefais fod y rhai sydd yn edrych
trwy ffenestri yn pallu.
W edi cyrhaedd eglwys T. C. Blaenycae, derbyniwyd fi yn siriol gan y Parch. John R. Daniels a'i briod
yn eu ty newydd. Yn sicr, y mae yn anrhydedd i'r
eglwys hon ei bod wedi adeiladu ty newydd hardd i'w
gweinidog ger y capel, er hwylusdod iddo i'w gwasanaethu yn ei hen ddyddiau, yn hytrach na'i adael i
fyned i faes newydd. Nid oedd Thomas R. Roberts,
fy hen gerbydwr, yn ei balasdy y tro hwn; ond gwelais
John Jones, saer maen, a'i briod, yn edrych yn dda.
Robert L. Roberts a ymddangosai fel un wedi colli
ffynon ei gysuron yn y bywyd yrnai ar ol cael ei amddifadu o gymhar ei fywyd rai wythnosau yn ol. Yr
wyf yn cofio am y ddadl ddyddorol hono a gefais gyda
hi a Mrs. Jones, ei chyfeilles, ar Waharddiaeth; ond ei
Ile sydd wag, a gallwn farnu mai mynwes Roberts sydd

 

 


(delwedd E0117) (tudalen 121)


A GWELEDIGAETHAU BVWYD.
121
yn gallu sylweddoli y gwagder hwnw yn llawn. Y
bwlch nesaf a welais trwy law angeu er pan y bam yn
yr ardal O'r blaen oedd yn nheulu John Morris, Lake
Emily, gan fod yr hen chwaer Mrs. Evans, mam G. H.
Humphreys, Utica, wedi ei chymeryd ymaith. Gwnaed
bwlch hefyd yn nghartrefy diweddar Joseph Williams,
gan fod angeu wedi ei symucl yntau oddiwrth ei waith
at ei wobr.
Yn nesaf, aethum i gartref y diweddar Robert T.
Williams, hen oruchwyliwr y Drych; ond yr oedd
yntau a'i briod wedi myned i beidio dychwelyd mwy,
gan eu bod ill dau wedi naturiol addfedu i diriogaeth
anfarwol y nefoedd. Cafodd pob un O'r ddau fyw
dros 80 mlynedd ar y ddaear. Eto cefais fod Ellis
Rowlands wedi gadael teuluoedd y ddaear, ac hefyd
Miss Jones, merch John J. Jones. Fel hyn, gwelir fod
pobl yn profi chwerwder marwolaeth y ffordd yma fel
yn mhob ardal. Treuliais Sabbath yn y gymydogaeth,
a chlywais bregeth goffadwriaethol y diweddar Joseph
Williams yn nghapel Lake Emily, gan y Parch. David
R. Jones, a'r un bregeth ganddo y prydnawn yn
nghapel Blaenycae.
Gwelwn fod Randolph ar gynydd—tai newyddion
yn cael eu hadeiladu, eglwys y Trefnyddion Calfinaidd
yn cynyddu, organ newydd yn eu capel, a hwythau yn
chwilio am weinidog newydd yn Ile y diweddar ffyddIon Barch. Thomas Foulkes. Gwan yw eglwys yr
Annibynwyr yn parhau. Y mae J. W. Owen, goruchwyliwr y Drych, yn edrych yn dda, a'i faelfa yn llawn
o bethau buddiol at wasanaeth y cwsmeriaid. Bâm
wrth ddrws gweddw y diweddar Barch. Thomas
Foulkes, ond nid oedd yno neb i agor—efe wedi
myned O'r ty i beiGio dychwelyd mwy, a Mrs. Foulkes
wedi myned O'r cartref dros amser. Felly cymerais y
trén am ardal Oshkosh. Gadawyd fi yn y gwlaw a'r
mird yn Pickett Station, a ffwrdd fi gan gyrhaedd
9

 

 


(delwedd E0118) (tudalen 122)


122
AMERICA,
erbyn ciniaw i anedd-dy John H. Hughes, Ile yr
oedd Mrs. Hughes yn dyoddef fel un o gleifion y
byd. Aethum rhagwyf nes cyrhaedd amaethdy Owen
Morgan, goruchwyliwr y Drych, a'i deulu croesawus,
ac wedi hyny trwy yr ardal yn Iled fanwl, gan gael
pethau yn debyg i arfer, ar y cyfan; y Parch. John
K. Roberts, gweinidog eglwys y Trefnyddion Calfinaidd yn Mheniel, a'i deulu, fel arferol y Parch. D. M.
Davies yn parhau i wasanaethu eglwys yr Annibynwyr,
ac wedi cael un o ferched Spring Water yn wraig; a'r
Parch. Thomas Roberts yn parhau i lafurio gydag
eglwys y Wesleyaid. Ond eglwys y Bedyddwyr oedd
heb fugail, gan fod Dr. Jones wedi myned ymaith.
Cefais y mwynhad o dreulio Sabbath yn nghwmni y
Parch. Richard F. Jones a' i ferch, a'i eglwys, sef
Bethesda (T.C.), a da oedd genyf ddeall fod Mr. Jones
yn gwneyd yn dda yn ei faes newydd —pawb yn ei
ganmol, ac hen ac ieuanc yn dyfod i'r eglwys trwy ei
weinidogaeth. Gan fod Mr. Jones wedi arfer aros
cyfnod Iled hir yn yr un Ile, tebyg y bydd iddo
dreulio gweddill ei oes yn mhlith pobl dda y gymydogaeth hon. Bydded iddynt barhau am lawer
o flynyddoedd i gydweithio a chyd-deithio tua'r
nefoedd, meddaf. Yr oedd Mr. Jones a Miss Jones
yn amlygu cofion cynes at bobl Scranton, yn enwedig
yr eglwys y buont yn myned i mewn ac allan ynddi
am tuag wyth mlynedd.
Oshkosh oedd y Ile nesafyr ymwelais ag ef. Gwlyb
oedd hi yno, fel nas gallwn fyned lawer o gwmpas y
Cymry. Y Cymro cyntaf yr ymwelais ag ef oedd yr
hynafiaethydd P. A. Griffiths, fferyllydd; a sylwn ei
fod efyn parhau i chwilio i hen hanesyddiaeth cenedl
y Cymry. Addawa benod yn fuan yn y Drych fel
ffrwyth ei ymchwiiiadau diweddaraf mewn perthynas i
Myrddin Wyllt, &c. mm yn gweled yr hen frawd
Ebenezer Williams, a goruchwyliwr Ileol y Drych,

 

 


(delwedd E0119) (tudalen 123)


A GWELEDIGAETHAU BYWYD.
123
Harry M. Jones, yr hwn a edrycha yn dda ar ol
dychwelyd o Gymru. Bâm hefyd yn gweled Evan
Davies, yr hwn sydd wedi colli cymhar ei fywyd er
pan y bâm yn y dref O'r blaen; ac, wrth gwrs, bâm
gyda'r Parch. David Davies a'i deulu, a chefais ef yn
nghanol ei waith fel arfer. Yr oedd yn teimlo yn
llawen am fod geneth fach dlos O'r enw Emma wedi ei
hychwanegu at y teulu er y 29ain o Ebrill. Y mae y
teulu ol1 yn gwneyd yn dda.
Yn nesaf, gwnaethum ymweliad brysiog a Chymry
Berlin. Gan ei bod yn wlyb, gwelais y chwarelwyr
eu tai y rhan fwyaf, ac aethum trwy y gwlaw a'r
m vVd i weled amryw o Gymry y Coed. Ni welais
Evans, gweinidog yr Annibynwyr, y tro hwn, ond
dywedai Thomas G. Davies, y baswr, wrthyf ei fod yn
parhau yn barchus a llwyddianus.
Y n awr, awn am tua 25 0 filldiroedd trwy y coed a'r
anialwch tywodlyd, yn nghanol gwlaw, i Wild Rose.
Cefais y Cymry yno yn iach a chroesawus, ond yn
tueddu i gwyno oblegid methiant cynyrchion y
flwyddyn hon, mewn canlyniad i sychder yr haf.
Daliant eu profedigaeth, pa fodd bynag, fel Cristionogion, gan gredu fod Duw rhagluniaeth yn ymddwyn
tuag atynt yn y ffordd ddoethaf.
Mae eglwysi y Trefnyddion Calfinaidd yn ardal y
Wild Rose yn Ilewyrchus dan ofal y Parch. Daniel
Thomas; ac nid wyf wedi gweled dim arwyddion eu
bod yn blino ar eu bugail, ond yn hytrach O'r ochr
arall, y maent yn bobl ddigon call a deallus i weled
fod eu gweinidög yn deilwng i'w anwylo a'i werthfawrogi. Siaradai hyd y nod aelodau Gwerinol ei
eglwys yn barchus am dano, er ei fod ef yn gweithio
â'i holl egni dros y blaid Waharddol. Canmolent ei
areithiau fel rhai o fewn ychydig i fod yn Waharddwyr;
ac ymddengys i mi fod tua haner Cymry y sefydliad
eisoes yn Waharddwyr cyflawn. Nos lau, Hydref

 

 


(delwedd E0120) (tudalen 124)


124
AMERICA.
28ain, c]ywais araeth Saesoneg alluog gan y Parch.
Daniel Thomas, yn Spring Water, i gynulliad anrhydeddus, y rhai a wrandawent arno yn astud am ddwy
awr; ond ar y diivedd, cododd y Parch. Timothy Jones
i ddyweyd ei fod ef eto yn parhau yn Werinwr, a chan
fod yr etholiad yn agos, y carai ef glywed rhai yn codi
i ddadleu o blaid yr hen bleidiau; eithr nid oedd neb
ond ef ei hun yn teimlo i wrthwynebu syniadau
Thomas. Ar yr un adeg, yr oedd y Parch. John J Roberts, Columbus, yn areithio yn Soar, capel y Trefnyddion Calfinaidd, dros y blaidaWaharddol; a nos
dranoeth yn Nghaersalem, yr oedd y Parch. John J.
Roberts a John Daniels yn sefyll i fyny dros yr un
achos da, ac yn siarad mewn modd grymus ac argyhoeddiadol. Drachefn, cynaliai y W.C. T.U. eu
cynadledd sirol yn y Wild Rose, Hydref 29ain a'r
30ain; ac nid oes braidd achos dyweyd eu bod hwy yn
gefnogol i'r blaid Waharddol. Eto, y Sabbath, yr
3rain, cafwyd chwech o bregethau galluog i gapelaid
o bobl yn Nghaersalem; felly, rhwng pob peth, gwelir
nad yw pobl Wild Rose ar ol eu hoes. Yr wyf fi wedi
gweled llawer O'r wlad, ond ymddengys y wlad o
gwmpas Wild Rose yn un O'r rhanbarthau mwyaf
diffaeth yr olwg arni ag wyf wedi weled ar fy holl
deithiau; ond O'r ochr arall, ymddengys i mi fod y
bobl ar y blaen mewn rhinweddatl cymdeithasol a
chrefyddol, fel y teimlaf fod yr hen broffwydoliaeth
ogoneddus hono yn cael ei gwirio A bydd i'r
anialwch flodeuo fel rhosyn, a'r diffaethwch fel gardd
yr Arglwydd."
Gadewais Wild Rose mewn graddau o hiraeth ar
ol siriol wynebau fy nghydgenedl. Aed fi am ryw
bymtheg milldir gan y cymwynasgar Evan M. Owen
yn ei gerbyd, yn nghwmni y Parchn. John J. Roberts,
Columbus, a John Daniels, Blaenycae, hyd Plainfield;
ac oddiyno cymerwyd ni yn gyflymach gyda'r gerbydres trwy Portage.

 

 


(delwedd E0121) (tudalen 125)


PE NOD X X 11.
GWIBDAITH TRWY MINNESOTA.
WN yn awr am dros 200 0 filldiroedd, heb aros
ond rhwng cysylltiadau y cars, nes cyrhaedd
Mankato, Minnesota. Ar fy nhaith yn mlaen
i'r Gorllewin, arosais tua phedair awr yn La
Crosse, ar län Tad y Dyfroedd, Ile y cefais hyd i
Gymro, megys talp o aur yn y twr llwch, yn mherson
J. Lewis James; a bâm am tua thair awr yn gwrando
arno yn bwrlymtl allan hyawdledd ei athrylith o'i
drysorfa feddyliol ar wahanol gangenau gwybodaeth;
er mai ei hoff bethau yw pynciau duwinyddol. Ystyriwyf ef yn feddyliwr gwreiddiol ac annibynol; ac y
mae ei esboniadau yn wahanol i'r hyn a geir gan
esbonwyr yn gyffredin. Wrth brynu copi o' m
Llwybrau Bywyd," awgrymai ei fod yntau am
ysgrifenu a chyhoeddi cyfrol ryw dro.
Wedi teithio ar hyd y nos, cyrhaeddais Mankato,
Minn., am y pedwerydd tro; ac yn fuan yr oeddwn yn
nghymdeithas y masnachwr llwyddianus R. J.
Thomas; y dilladwyr, Richard a John F. Jones,
meibion y diweddar David F. Jones (brawd gweinidog
Hyde Park, Pa.); ac O. E. Richards (Morgrugyn),
goruchwyliwr Ileol y Drych, a masnachydd mewn
bwydydd. Fy hen gyfaill yn Nghwm Rhondda,
chwarter can rif yn ol, James Griffths, nid yw mwy;
ond da oedd genyf weled ei weddw a'i blant yn dra
chysurus.
Cefais fwyniant mawr yn Nghyfarfod Dosbarth y
Trefnyddion Calfinaidd, a gynaliwyd yn Saron, ardal
y Coed Mawr. Llywyddwyd gan y Parch. T. E

 

 


(delwedd E0122) (tudalen 126)


126
AMERICA,
Hughes, a chyflawnwyd y swydd o ysgrifenydd gan y
Parch. W. Machno Jones. Sylwn fod y gweinidogion
yn ofalus o deimladau eu gilydd mewn brawdgarwch
wrth drin pethau dyrys yn y cynadleddau; a'r diaconiaid yr un modd yn bwyllog a doeth. Cafwyd cyfarfodydd cyhoeddus da. Y n y seiat gyffredinol, bu siarad
addysgiadol ar Ddameg yr Hauwr. Pregethwyd yn
dda nos Fercher gan y Parch. Owen Jones, Chicago, ar
Ffydd; " ac ar ei ol gan y Parch. J. Roberts, Minneapolis, ar " Ddyn yn cael ei demtio gan ei chwant ei
hun." Am 10 boreu lau, pregethwyd gan y Parchn.
W. M. Jones a G. Roberts fel hwy eu hunain—y cyntaf
ar " Hanes Joseph," a'r Olaf ar " Zaccheus y publican;"
am 2, gan y Parchn. J. C. Jones ar " lachâd y claf ar
län llyn Bethesda," a Joseph Roberts ar " Gynydd
lesu Grist ger bron Duw a dynion; "
am 6, gan y
Parchn. John Roberts, Judson, a T. E. Hughes,
Cambria. Yr oedd yr holl bregethau yn gymeradwy
iawn. Da oedd genyf ddeall fod y Parch. W. A. Jones,
gynt o Utica, N.Y., yn llanw ei faes llafur mor dda yn
y Coed Mawr trwy y blynyddoedd. Teimlwn fod holl
Gymry y sefydliad yn parhau yn eu cymeriad da fel
pleidwyr gwahanol rinweddau, ac yn arbenig mewn
sirioldeb a Iletygarwch. Cymerwyd fi oddiyno yn
gyntaf yn ngherbyd y Parch. W. A. Jones, ac wedi
hyny gan y cerbydau cyflym yn Mankato, unwaith
eto ar fy ffordd yn mlaen i wlad yr amaethwyr. Ar ol
cyrhaedd ardal Seion, sir Blue Earth, yn ngherbyd y
siriol Peter Lloyd, trysorydd y sir, a thraddodi fy
araeth yno, bâm yn ymweled â'r Cymry yn bur
gyffredinol, ac yn eu plith teuluoedd D. J. Jones,
Popples, y doniol Evan Lewis, a John A. Jones.
Talodd yn dda i mi aros yn nh9 Mr. Jones i fwynhatt
hyawdledd barddonol y par hynod. O'r ddau, Mrs.
Jones sydd lawnaf O'r ysbryd barddonol, ac adroddodd
i mi amryw o'i chyfansoddiadau. Teimla yr hen

 

 


(delwedd E0123) (tudalen 127)



A GWELEDIGAETHAU BYWYD.
127
gymeriad gwreiddiol, Humphrey E. Jones, yn gynes at
y Drych, er ei fod dros 80 mlwydd oed; mae am barhau
i dderbyn ei hoff bapyr hyd ei fedd. Treuliais noson
yn nhj y Parch. J. C. Jones; ond er fod yno bob
sirioldeb a chroesaw, teimlwn wagder a chyfnewidiad
mawr, canys, er pan fuaswn yno bedair blynedd yn
flaenorol, yr oedd y fam a'r cyntafanedig wedi cefnu
am gartref gwell a mwy parhaus yn y nefoedd, gan
adael y tad a'i ddau blentyn ieuengaf mewn galar, ond
nid fel rhai heb obaith. Da oedd genyf ddeall fod Mr.
Jones yn parhau i lwyddo yn maes ei lafur, ac yn
myned yn fwy poblogaidd o hyd. Treuliais y nosweithiau dilynol gyda'r Parch. John Roberts; teulu y
Parch. T. E. Hughes (yr hwn a'i briod oeddynt oddicartref); W. E. Williams, Glanyllyn; a W. J. Jones
yn ardal Judson. Treuliwyd Sabbath yn Jerusalem,
yn gwrando ar y Parch. W. Machno Jones yn pregethu
ar " Letygarwch;" a chefais brawf hefyd fod Mr. Jones
yn gweithio allan yr egwyddorion a bregetha yn ei
fywyd. Gan nad oedd pobl Lake Crystal yn gwerthfawrogi " Llwybrau Bywyd " y Cardotyn, aethum i
gael tipyn o gymdeithas yr Anrhyd. Richard Lewis a'i
deulu; a gelwais gyda Griffith Lewis hefyd ar fy ffordd
yn ol i Mankato.
Gellir dyweyd fod ardal eang y Cymry yn sir Blue
Earth yn un O'r ardaloedd mwyaf dymunol yn y
Talaethau Unedig, yn ddaearyddol, amaethyddol, a
chrefyddol. Mae Mankato, eisteddle lywodraethol y
sir, yn dref brydferth, ac yn meddu amryw o fanteision
llaw-weithfaol er meithrin ei chynydd dyfodol. Saif
yn nghwr dwyreiniol y sefydliad Cymreig, ac ä dwy
reilffordd trwyddi, sef y Chic., Mil. , & St. Paul, ac un
arall yn rhedeg drwodd o Omaha i St. Paul a Minneapolis. Ar y Ilinell Olaf, tua phymtheg milldir o
Mankato, y mae tref ieuanc gynyddol Lake Crystal,
yr hon sydd yn bygwth cystadlu â Mankato mewn

 

 


(delwedd E0124) (tudalen 128)


128
AMERICA,
rhai ystyriaethau. Un fantais o'i thu gyda phethau
Cymreig yw, ei bod yn nes i ganol y sefydliad amaethyddol. Adeiledir yno gapel newydd perthynol i'r
Trefnyddion Calfinaidd; a hwn yw yr wythfed capel
perthynol i'r enwad yn y sir. Mae gan yr Annibynwyr un eglwys yn South Bend, ac un arall yn Cambria,
y ddwy dan ofal y Parch. Humphrey R. Jones—" Y
Diwygiwr."
O Minnesota, eyfeiriais am ardaloedd Lime Spring
a Foreston, Iowa. Goruchwyliwr y Drych yno yw
Richard J. Roberts, a gwnaethom yn rhagorol yn ein
crwydriadau trwy y sefydliad. Pan yn dychwelyd
adref yn hwyr un noson dan ymgomio yn y tywyllwch,
aeth yn dro arnom, ond cefais orchymyn caeth gan
Mr. R. i beidio dyweyd sut y bu. Oddiyno aethum i
Bristol Grove, Min., trwy yr anialwch; ac erbyn
cyrhaedd t' John R. Williams, yr oeddwn ytl dra
lluddedig. Sylwais fod fy noddwr yn gryn lenor a
bardd; ac hefyd, dyddanwyd ni gyda ffraethineb
Noah Hughes, yr hwn a gyfansoddodd yr englyn canlynol i Angeu:
I roi gosteg ar bob rhyw gystudd—daw
Angeu, dwys ymwelydd;
Ond Duw mâd o'i rad a rydd
Ail yni yn y fro lonydd.
O nerth i nerth, cyrhaeddais d' Isaac Davies,
goruchwyliwr y Drych, Ile y treuliais Sabbath dymunol.
Y n y boreu, pregethodd y Parch. Owen Jones, o
Chicago; ac ar ei ol cawsotn bregeth goffadwriaethol
am un O'r aelodau gan y Parch. O. R. Morris. Nos
Lun, drachefn, traddododd Mr. Jones bregeth dda.
Yr wyf wedi cyfarfod â'r dyn ieuanc hwn mewn amryw
fanau, ac y mae yn rhoddi boddlonrwydd Iled dda i
bawb, yn ol a ddeallais. Cefais, fel arfer, lety dros
nos yn nghartref teulu y diweddar Barch. John D.

 

 


(delwedd E0125) (tudalen 129)


A GWELEDIGAETHAU BYWYD.
129
Williams, ond ei le nid edwyn mohono ef mwy; ac y
mae Mrs. Williams wedi cael hir gystudd, ond yn
teimlo ei hun yn well. Ni chefais lawer o gwmni y
cymdeithaswr dyddan Richard Jones, Penllyn, oherwydd rhwystrau galwedigaethol; nac, ychwaithi y
pleser o fwynhau sirioldeb y Parch. Richard Isaac a' i
briod, gan eu bod oddicartref yn y Dwyrain. Holai
llawer yn bryderus am eu hiechyd a'u dychweliad.
Sylwn fod teimladau anwyl at Mr. Isaac yn ei ardal;
bydded iddo gael adferiad iechyd a dychweliad buan.
Gan fod Richard J. Roberts a'i briod wedi rhoddi
heibio lludded amaethyddol, y maent yn hamddenol
yn cadw cartref Mr. a Mrs. Isaac, ac yn trefnu i'w
croesawu adref. Am y waith gyntaf, cefais ychydig o
gymdeithas y Parch. William W. Davies, Foreston, yr
hwn sydd yn parotoi ar gyfer arholiad ordinhadol.
O LIME SPRING, IOWA, 1 WILLOW CREEK AC OMAHA—
YN MHLITH CYMRY RED OAR A'R CVLCHOEDD.
Ar ol ymweled a Chymry cylchoedd Lime Spring,
Iowa, yn Iled hwyr, gofalodd Hugh W. Williams, yn
ddyogel ar fwrdd y trén rhwng dau a thri O'r gloch y
boreu, ac yna cipiwyd fi 150 0 filldiroedd yn nghyfeiriad y Gorllewin hyd Spencer. Ar ol noson o orphwys,
cymerwyd fi yn ngherbyd un o weision F'ewythr Sam
am ryw 16 milldir dros y Prairie noeth, hyd at anedd
y siriol Evan P. Griffths, Willow Creek, yr hwn sydd
yn un o ddarllenwyr ffyddlawn y Drych; yna at d'
John E. James, Ile y'm croesawyd i aros dros y
Sabbath. Yr oedd cartref Edward L. Evans, fel arfer,
yn llawn o belledigion Israel, y rhai a ddeuant ar y
dydd gosodedig i Seion i addoli; ac yr oedd sirioldeb
Mr. a Mrs. Evans yn gwneyd y lluosog fwytawyr yn
gartrefol. Gan fod y Parch. D. R. Davies wedi rhoddi
gofal gweinidogaethol eglwys y Trefnyddion Calfinaidd

 

 


(delwedd E0126) (tudalen 130)


130
AMERICA.
i fyny, cawsom ddwy bregeth dda gan yr Hybarch
J. D. Davies (A.), yn awr o Spring Green, Wis. Bâm
yn nghapel y Bedyddwyr Cymreig, ac yn nghwmni eu
gweinidog, y Parch. J. T. Lloyd, yr hwn sydd lwyddianus a chymeradwy yn ei faes newydd. Y maent
wedi adeiladu capel newydd hardd, ac yn gorphen talu
am dano cyn dydd ei agoriad. Sylwn fod ardal Gymreig Clay Co. yn llwyddo mewn ystyr amaethyddol a
chrefyddol. Cefais sirioldeb a chroesaw mawr trwy y
sefydliad; ac wrth gefnu, cofus genyf i'r hen frawd
William Powell ddymuno arnaf ei gofio at ei hen
gyfaill Thomas Eynon, Hyde Park, Pa.; hefyd,
Richard Owen a'i briod ddymunent gael eu cofio at
bawb o'u hen gyfeillion tua Bellevue a Scranton, ac yn
arbenig Lewis Roberts a David Samuel.

 

 


(delwedd E0127) (tudalen 131)


PENOD XXIII.

GWIBDAITH TRWY IOWA.

YMWELIAD A CHYMRY SEFYDLIAD RED OAK A
WALES, IOWA.


Ar fy mhererindod, ymwelais â dinas fawr glän
afon Missouri, sef Omaha. Nid yw ein
cenedl mor lluosog yno ag oedd flynyddoedd yn ol, gan fod y bobl ieuainc wedi gorfod ymadael oherwydd marweidd-dra masnachol. Trwy i mi
aros yno dros y Sabbath, cefais fantais i sylwi ar
agwedd grefyddol eglwys y Trefnyddion Calfinaidd, a
drwg oedd genyf weled y fath wendid cymdeithasol.
Cynelid Ysgol Sabbathol y boreu, a phregethwyd yn  
yr hwyr gan y Parch. John R. Johns, eu gweinidog,
yr hwn oedd ar eu gadael i fyned i wasanaethu eglwys
Salem, Long Creek, Iowa. Sylwn nad oedd arwyddion fod yr eglwys yn Omaha wedi blino ar ei gweinidog,
ond mai ef oedd yn teimlo fod yr eglwys yn rhy wan
i'w gynal, a bod yn rhaid iddo ofalu am ei deulu.


Cefnais ar Omaha, a'm gwyneb ar sefydliad Red
Oak. Yn nhref Red Oak aethum yn gyntaf i weled
yr hen gyfaill, y Parch. T. D. Thomas a'i deulu; ac ar
ol noson o'u cymdeithas, aeth y brawd a fi yn ei gerbyd
am ryw ddeng milldir i'r ardal Gymreig. Wedi ymdwymno yn dda, a chael ciniaw gan Mr. a Mrs. Hugh W. Jones, aethom rhagom eto gan gefnu ar ein gilydd wrth dy Wm. J. Williams; ac yna, yn ol fy arfer, cyfeiriais am dŷ Robert Owen, a chartref yr hen frawd
Watkin Jones, Ile yr oedd yn rhaid i mi aros noson.
Cefais y Parch. Richard Jones a'r hen wraig mor siriol

 

 


(delwedd E0128) (tudalen 132)


132
AMERICA,


ag arfer; hefyd y ffraeth Wm. H. Jones a'i deulu,
Ellis Jones, John Jones, yr hen frawd Lewis Jones a'i
deulu, John Rowlands, a Mrs. Williams, gweddw y
diweddar John Williams. Gorphwysais noson gyda
David D. Evans a'i deulu, a dymunai Mrs. Evans arnaf
ei chofio at ei hen gyd-chwareuyddes boreu oes, sef
Mrs. H. P. Howell, Columbus, Ohio. Magwyd Mrs.
Evans yn Tyddyn Meurig, Towyn, Meirionydd; a rhag
i mi anghofio ei chofio at ei hen gares pan gyrhaeddaf
Ohio, er mwyn bod yn ffyddlawn, gosodaf y genadwri
yn y Drych, fel y gallo Mrs. Howells (yr hon sydd yn
gweled pob peth gwerthfawr ar ei wyneb) weled fod ei
hen gymhares yn byw yn gysurus mewn tŷ hardd
ar fferm werthfawr gyda ei phriod, a mab, a thair
geneth, a'r oll yn llawen a chysurus. Gwelais Mrs.
Pritchard megys wrthi ei hun, gan fod ei theulu mawr
wedi chwalu trwy dreigliad amser; yna ymwelais â'r
hen frawd John W. Davies, gynt o Picatonica, yr hwn
a ymddangosai yn foddlawn i'w dynged yn mhlith y
moch a'r gwartheg. Yr oedd Robert Thomas a'i
deulu yn edrych yn dda; a Griffth Jenkins a'i eiddo
lluosog, fel pobl gall yn mhlith y miloedd, am weled yr
hen Ddrych yn dyfod eto i sirioli y teulu yn wythnosol.
Yn nesaf, aethum i weled David G. Jones a'i deulu, ac,
wrth gwrs, y maent hwythau yn dychwelyd at y Drych.
Gelwais heibio Mrs. Jenkins, Wm. Lloyd, a Henry
Thomas. Mae Mr. Thomas yn ddyn a ffermwr rhagorol; ac oni bai ei fod yn rhy wylaidd i ddal llawer o
ganmoliaeth, gallwn bentyru wmbredd ar ei goryn.

Ymwelais â chartrefi Wm. Jones, Wm. Owen, a
Mrs. Hughes a'i merched; ond ar ol myned yno trwy
y mẁd, yr oedd y merched wedi myned i ffwrdd, fel y gorfu arnaf droi yn ol yn siomedig. Nid oes fawr o
lwc i'r hen lanciau gyda y merched, rywfodd. Wedi
mwynhau croesaw yn nhŷ Griffith Thomas, aethum
heibio Wm. Evans a Samuel Morgan, y diweddaf yn

 

 


(delwedd E0129) (tudalen 133)


A GWELEDIGAETHAU BYWYD.
133


holi yn galed am y Dwyrain a'r Gorllewin, gan enwi
Proff. Thomas Price, San Francisco; Job Harris, 
Scranton; ac ereill o'i gyd-ysgolorion yn yr Ysgol
Sabbathol yn Nhredegar, D.C., pan yn hogiau. Ymwelais yn nesaf â Lot J. Hughes a Rees Jones, ac,
wrth gwrs, teimlai y darllenwr a'r myfyriwr da hwn i
ddychwelyd i ysgwyd llaw â'i hen gyfaill y Drych.
Gelwais gyda T. R. Jones a Robert Owens. Drwg
oedd genyf weled Mrs. Owens yn wael ei hiechyd.
John Davies, y saer, oedd y nesaf ar fy llwybr, ac wedi
hyny David W. Jones, yr hwn a'm croesawodd dros
nos. Edrychai Mrs. Roberts, Mrs. Jones, a Vaughan
Davies a'i deulu yn dda a siriol; felly hefyd D. J.
Williams (y canwr), James Edwards, David M. Davies,
Hugh J. Evans, John R. Owen, John Wood, ac
Evan Jenkins — y diweddaf am fyned i Gomer Newydd,
Wayne co., Nebraska.


vn Wales, cartrefa y Parch. H. R. Williams,
gweinidog cymeradwy a pharchus y Trefnyddion
Calfinaidd, yr hwn sydd hefyd yn fasnachwr llwyddianus yn y dref a'r ardal, ac efe sydd yn cyfryngu
rhwng F'ewythr Sam a'i blant. Y ma hefyd y mae D.
Davies a'i deulu, yn gwasanaethu y blaenaf fel masnachwr; hefyd Hugh Edwards; y Ilenor a'r bardd
J. R.' Hughes, y gof•, a Dr. D. W. Williams, gynt o,
Youngstown, Ohio, yr hwn a ddaeth i'r drefer pan fâm
yno O'r blaen, ac y mae wedi adeiladu ty newydd ar
gyfer y wraig y mae yn myned i'w phriodi yn fuan—
neu ddylai briodi, O'r hen Ileiaf, rhag myned yn hynach
hen lanc. Da genyf glywed yr ardalwyr yn canmoL
Dr. Williams fel meddyg llwyddianus a Christion
ffyddlawn; a diamheu genyf y bydd yn dda gan ei farn
a'i berthynasau glywed hyn. Mab ydyw i'r diweddar
Barch. John W. Williams, Youngstown, Ohio.
Yr anedd-dy nesaf sydd ar fy llwybr yw amaethdy
John G. Jones, blaenor y Corff yn yr ardal; a chan

 

 


(delwedd E0130) (tudalen 134)


134
AMERICA,
mai gydag ef y mae teithwyr ymweliadol Methodistaidd yn cael cysgod, wrth gwrs, y mae derbyniad i
minau yno bob tro y deuafi Gomer. Y n nghartref
Thomas Jones gwelais nifer o foneddigesau hardd a
siriol, nes fy ngwneyd i dipyn yn wylaidd; felly
aethum yn y blaen i gartref cysurus Job Sylvan us, Ile
yr arosais noson. Gwerthais y Drych i David Sylvanus
a'i deulu siriol; yna ymwelais âg Edward E. Jones yn
ei hen gartref, gan ei fod ef a'i briod wedi dychwelyd
o Red Oak i gadw cartref i'r plant sydd yn gweithio y
fferm. Oddiyno aethum i weled yr hen bererin John
Francis a'i briod, y rhai sydd yn edrych yn iach;
E. D. Evans, y cawswr; W. H. Edwards a'i deulu; a
Benjamin Lewis. Nid oedd Thomas E. Edwards
gartref, gan ei fod wedi colli ei iechyd er pan y bâm
yno y flwyddyn O'r blaen. Bydded iddo gael adferiad
buan, meddaf. Nid yw iechyd Mrs. Edwards yn dda
chwaith. Cwyno hefyd yr oedd Mrs. Evans, Tyddyn
Meurig Yr oedd yn rhaid i mi aros dros nos gyda
Peter Williams a' i briod. Wel, yr wyf wedi enwi y
rhan fwyaf O'r Cymry yn un O'r ardaloedd amaethyddol
goreu yn y wlad. Efallai i mi anghofio rhai; a dyma
ddau na elwais gyda hwy—D. W. Rees a John L.
Williams—un o ffyddloniaid y Drych.
Yn fy ymweliadau diweddaf â Lucas a Cleveland,
Iowa, golwg oer a gwywedig a gefais ar y ddwy dref—
y gweithfeydd glo yn darfod, tua haner y tai yn wag,
llawer O'r Cymry wedi symud, a'r eglwysi Cymreig
wedi marw. Ond y mae yna Gymry yn weddill. Aeth
Thomas Daniels â fi o amgylch Cynlry Lucas; ac yn
Cleveland cefais dipyn o gymdeitha.s y Parch. Samuel
Jones, George Williams, Richard T. Richards, ac ereill.
Oddiyno cyfeiriais am Cedar Mines a Hiteman, y rhai
sydd yn agos i Albia, ar y C.B.Q.R.R. Gweithiau glo
sydd yn y Ileoedd hyn eto, ac, wrth gwrs, aethum inau
yno i chwilio am y Cymry. Yn Cedar nid oes ond

 

 


(delwedd E0131) (tudalen 135)


A GWELEDIGAETHAU BYWVD.
135
rhyw dri neu bedwar o deuluoedd Cymreig; yn eu
plith teulu y Parch." Wm. H. Thomas, Kansas City, a
Wm. Evans, gynt o Cleveland, Ia. Gwaith glo newydd
sydd yn Hiteman, a rhyw 12 neu 15 0 deuluoedd Cymreig, y rhan fwyaf o Kirkville, ac yn eu plith amryw
yn derbyn y Drych. Nid oes ganddynt gapel Cymreig
eto; ond tebyg y bydd iddynt ffurfio eglwys heb fod
yn hir, yn unol â'n cymeriad cenedlaethol. Aeth y
Parch. D. Morgan gyda fi yn ewyllysgar i dai y
Cymry.
Yn ganlynol ymwelais Willard ac Appanoose, Ile
mae dau waith glo newydd o fewn milldir a haner i' w
gilydd, tua deng milldir i'r de o Ottumwa, ar y Chicago,
Milwaukee, & St. Paul R.R. Cwrddais ag amryw o
hen gydnabyddion, y rhan fwyaf ohonynt wedi dyfod
yn ddiweddar o Kirkville anghyfanedd, ac yn eu plith
Richard Rosser, y boss; D. G. Davies (Bedwelltydd),
goruchwyliwr y Drych yn Appanoose; y caredigThos.
G. Thomas; Rich. Price, mab-yn-nghyfraith Thomas
John, o Scranton, Pa.; William James, brawd i'r
Jamesiaid o Bellvue, Pa.; a Henry Thomas a'u teuluoedd. Mae defnyddiau eglwys undebol Gymreig dda
yn y dda le newydd hyn, os try y glo allan yn ffafriol;
ond hyd yma, bygwth gyru y bobl i ffwrdd y mae
ggwedd y glo. Ottumwa sydd dref gynyddol, yn cael
ei hamgylchynu gan amryw o weithiau glo, &c., a thair
o brif ffyrdd haiarn y dalaeth yn myned drwyddi;
mae yno hefyd rai Cymry.
Wedi hyny ymwelais Welsh Prairie, rhwng
Williamsburg ac Iowa City. Tenet10 y mae teuluoedd
Cymreig y sefydliad, rhwng yr ymfudo a'r marw; ond
mae eglwys Gymreig y Trefnyddion Calfinaidd yn
parhau i ymdrechu yn siriol a ffyddlawn dan ofal y
Parch. Edward Joseph, yr hwn sydd yn myned tua
naw milldir o Williamsburg bob wythnos, drwy bob
tywydd, i wasanaethu yr eglwys fechon hon. Cefais y

 

 


(delwedd E0132) (tudalen 136)


136
AMERICA,
pleser o weled a chlywed Mr. Joseph yn egwyddori
pob oedran mewn cerddoriaeth ac egwyddor y Tonic
Sol-ffa; a gwelwn ar unwaith ei fod yn athraw llwyddianus, oblegid yr oedd yr holl ddosbarth, O'r hen bobl
hyd yr eneth bum' mlwydd oed, yn medru sefyll i fyny
i arwain y dosbarth ar hyd nodau y gwahanol donau.
Boreu Sabbath, cawsom bregeth dda gan y Parch. Mr.
Joseph yn Welsh Prairie; ac yn yr hwyr mwynheais
y pleser o wrando y Parch. R. E. Roberts yn traddodi
pregeth ragorol i'w gynulleidfa yn eu capel newydd
hardd yn nhref Williamsburg. Credwyf fod dau
weinidog da gan yr eglwysi Cymreig yn y dref hon.
Y mae Williamsburg wedi cynyddu llawer er pan
y mae y C.M. & St. P.R. R. yn myned trwy y lie. Bu yr
hen frawd Thomas A. Jones, goruchwyliwr y Drych,
gyda mi yn gweled Cymry y dref—yn eu plith amryw
o hen gyfeillion o Scranton, Pa., a'r cylchoedd, megys
Henry Jones a'i deulu, gynt o Olyphant; a William, ei
fab, a'i deulu, gynt o Jermyn; Mr. a Mrs. Freeman,
gynt o Bellvue; Thomas J. Williams a'i deulu, gynt o
Hyde Park. Amser a gofod a ballai i mi helaethu ar
gyfnewidiadau amser ar y rhai hyn, na chwaith enwi
yr holl gyfeillion y dymunent arnaf eu cofio atynt;
ond gan na fwriadaf ddychwelyd i Pennsylvania,
bydded i berthynasau a chyfeillion y rhai uchod
dderbyn eu hanerch a'u cofion mewn modd cyffredinol
fel hyn. Oddiyno aeth Tommie, mab T. J. Williams,
y canwr, a fi yn ei gerbyd i gwrdd â'r trén i South
Amana, fel y gallwn gael y trén am Iowa City, Ile y
croesawyd fi yn siriol gan Daniel Davies, goruchwylwyr cwmni nwy y ddinas.
Ar ol noson o orphwys, aethum i weled Cymry
caredig Old Man's Creek unwaith eto, a gwelwn fod
pethau yn myned yn mlaen yn lied wastad yno, heb
fawr o gyfnewidiadau er pan y buaswn yno O'r blaen.
Cefais y fraint o dreulio Sabbath yn eu plith, a chlywed

 

 


(delwedd E0133) (tudalen 137)


A GWELEDIGAETHAU BYWYD.
137
y Parch. J. E. Jones yn traddodi un bregeth Saesoneg
dda; wrth gwrs, traddododd y pregethwr dyeithr ei
bregeth yntau. Aethum trwy Columbus City i weled
Cymry da Long Creek, ac yn eu plith amryw o ffyddIoniaid y Drych, megys W. Anwyl, Rich. Peters, John
R. Owens, D. J. Evans, &c., nes cyrhaedd preswylfod
W. V. Davies, Ile y' m derbyniwyd yn roesawgar. Wedi
hyny aethum rhagwyf o nerth i nerth nes cyrhaedd i
dj y ffraeth lenor a bardd Malgwyn Mon, yr hwn, ar
ol prynu " Llwybrau Bywyd," a fynai fyned a mi yn ei
gerbyd am rai milldiroedd i weled y ffyddloniaid
Edward Humphreys a Joshua W. Owen. Dywedai
Malgwyn ei fod am gadw ei gyfamod â'r Drych yn dda
hyd y diwedd. Cefais y Cymry bron ol1 yn siriol trwy
y sefydliad; a thrwy fod plant yr ardal bron yn ddieithriad yn darllen a deall Cymraeg yn dda, er ei bod
yr ardal Gymreig hynaf y tn gorllewinol i Mississippi,
gwerthais yn dda O'm llyfr. Mae hon yn un O'r ardaloedd amaethyddol tnwyaf llwyddianus; ac am agwedd
grefyddol yr ardal, mor bell ag y gwelais i, mae yn
gyffelybi ardaloedd ereill. Dyna eglwys y Trefnyddion
Calfinaidd (Salem), y maent yn gynulleidfa gref, yn
Ilon'd eu capel, ac yn ddigon cyfoethog i allu talu
cyflog anrhydeddus i weinidog a bugail O'r radd oreu;
ofid rhywfodd y maent yn anffortunus yn hyn, ac yn
awyddus am weinidog da i'w gwasanaethu yn sefydlog.
Y mae gwr ieuanc O'r enw Powell, o Gymru, yn .eu
gwasanaethu yn achlysurol, ond am ymadael, gallwn
feddwl. Dymuniad yr eglwys yw cael gweinidog a
theulu ganddo i lenwi y ty hardd ond gwag sydd
ganddynt ar ei gyfer. A dyna eglwys yr Annibynwyr
yn Seion yn dangos cryn lawer o arwyddion eglwys
obeithiol, pe y caent weinidog da i'w calonogi yn
ysbryd yr Efengyl. Y maent wedi adeiladu capel
newydd a hardd yn ddiweddar, ac wedi talu am
dano. Yn Bethel (Clifton), maes gofal y Parch.
10

 

 


(delwedd E0134) (tudalen 138)


138
AMERICA.
Richard Hughes, " Esgob y Gorllewin," mae gan y
Methodistiaid gynulleidfa addawol o bobl ieuainc a
phlant, mewn capel dymunol; ac y mae eu canu yn
dda dan arweiniad Mr. Hughes, diweddar o Berlin,
Wis. Ni chefais y pleser o gwrdd â'r esgob gartref,
am ei fod yn Minnesota yn cardota at gapel Omaha,
ond cefais ei briod a'i blant yn siriol. Cefais ymgom
a H. Richards, goruchwyliwr y Drych; mae ef, heblaw
bod yn Ilenor da, yn wrthwynebwr gwrol hefyd i'r
fasnach feddwol a myglys.
Oddiyno aethum rhagwyf gyda'r gangen rhwng
Chicago a Kansas City O'r cwmni enwog Chic., Mil.
a St. Paul R.R. i Mystic, tref lofaol gynyddol ar y
ffordd 36 0 filldiroedd i'r de-orllewin o Ottumwa. Nid
oes llawer o Gymry yno, ond ä y gwaith yn mlaen yn
gyson, ac enilla y glowyr 0 60 i 80 0 ddoleri yn y mis.
Mae hefyd yn waith dyogel a chysurus i rai sydd wedi
arfer glo Pick. Fel y dywedais flwyddyn yn ol,
rhedir dau waith yn llwyddianus gan y brodyr
Lodwick, gynt o Youngstown, 0., ac y maent wedi
gwella llawer o gwmpas y glofeydd er pan y bâm yno
O'r blaen—adeiladu sheds uwchben rhwng y glofeydd
a'r arllwysfa i'r R.R. cars, &c. Mae tua 100 yn
gweithio iddynt, ac y maent mor llwyddianus fel
gwerthwyr glo fel mai hwy sydd yn gwerthu glo tri o
gwmniau ereill dan yr enw Pittsburgh & Western
Fuel Co., Mystic, Iowa. Gofalir am y busnes gartref
gan Llewelyn, ac y mae David yn gofalu am werthiadau yn ngogledd-orllewin Iowa, gan gartrefu yn
Spencer. Mae William, yntau, yn teithio i werthu i
gyfeiriadau ereill. Llwyddiant iddynt, meddaf, i
barhau i lwyddo yn eu masnach, gan eu bod yn
etifeddu cymeriadau da.


 

 


(delwedd E0135) (tudalen 139)


PE NOD
x x IV.
GWIBDAITH TRWY MISSOURI.
YMERAIS y gerbydres ar y Chic., Mil., & St.
Paul eto am ryw gan' milldir, nes cyrhaedd
Dawn, Mo., Ile yn gyntaf yr aethum i chwilio
am Thomas a John Griffths yn eu maelfa. Y peth
cyntaf a dynai fy sylw oedd y ffaith fod y llythyrswyddfa yn maelfa Thomas Griffths; a rhwng hyny
a goruchwyliaeth leol y Drych, &c., gwelwn fod y
brawd yn parotoi i wneyd ei hun yn ddefnyddiol yn y
byd. Cefais ef a'i gynorthwywr yn iach a siriol, fel
arfer, er fod llawer o achwyn oblegid yr anwydwst ac
anhwylderau ereill. Cefais y ffyddlon Thos. H. Lewis
yn beryglus wael ei iechyd, a'r un modd D. P. Williams,
a Mrs. Isaac T. Jones, Rich Creek. Aeth y Parch. H. X.
Hughes a fi yn ei gerbyd i weled y Cymry ar y ffordd
i Plymouth; ac wedi hyny aeth y ffyddlon Benjamin
John a fi i weled Cymry ei ardal ef. Teneuo yn fwy
na pheidio y mae Cymry Low Gap, heblaw eu bod yn
Seisonigeiddio, fel na chefais lawer o lwyddiant yn eu
plith. Ar ol mwynhau dau ddiwrnod o gymdeithas
Mr. a Mrs. John, aethum yn ol eto am Dawn. Treuliais
Sabbath unwaith eto gyda Chymry Dawn. Aethum
yn y boreu i gapel yr Annibynwyr i glywed y Parch.
Griffith Griffiths, gweinidog yr eglwys, yn pregethu
oddiar Dat. xiv. 1-3—pregeth oedd yn dangos llawer o
feddwl. Tipyn yn deneu oedd y gynulleidfa, oblegid
afiechyd yn y teuluoedd a'r mWd ar y ffyrdd. Y prydnawn, és i gapel y Trefnyddion Calfinaidd i glywed y

 

 


(delwedd E0136) (tudalen 140)


140
AMERICA,
Parch, H. X. Hughes, esgob y gwrth-dybacowyr, a
chawsom bregeth wir dda ganddo yntau, oddiar yr
Ysgrythyr, " Llawenhewch yn hytrach am fod eich
enwau yn ysgrifenedig yn y nefoedd," &c. Yr oedd
yn dda genyf glywed ei gynulleidfa yn canmol pregeth
Mr. Hughes, ac yn ei ganmol fel eu gweinidog a'u
bugail; ac am eu capel, credaf ei fod mor gysurus a
gweddus ei olwg a'r rhan fwyaf o gapelau gwledig ein
cydgenedl trwy y wlad. Tra y mae gweinidogion Dawn
wedi arfer cefnu ar eu• heglwysi ar ol ychydig o flynyddau, y mae y Parch. H. X. Hughes yn gymeradwy
gan ei wrandawyr a phobl ei ofal yn awr ar ol 17 0
flynyddoedd o weinidogaethu yn yr ardal. Bugeilir
eglwys y Bedyddwyr gan y Parch. Thomas M. Griffiths.
Ni chefais gyfleusdra i'w glywed ef yn pregethu, ond
clywn bobl ei ofal yn ei ganmol fel pregethwr, bugail,
a Christion•, ac y mae gair da iddo gan aelodau o
eglwysi ereill yr ardal, ac yn eu plith siaradai y Parch.
H. X. Hughes yn barchus a chanmoladwy am danc
Yr ail Sabbath eto, cefais ddwy bregeth gan y Parch.
G. Griffths yn nghapel yr Annibynwyr, un ohonynt
ar " W rando yr Efengyl yn ddiofal ac anhellwng,"—
pregeth dda, wynebagored, a llym; a'r ail, pregeth
goffadwriaethol ar ol yr hen frawd John H. Davies.
Cymerwyd fi gan James D. Evans i'w gartref, ac wedi
hyny i Chillicothe, ar fy ffordd i Brookfield, i weled
ychydig o hen ffryndiau, sef Dr. J. S. Evans a'i fam a'i
chwiorydd, a theulu Edward Williams, &c.
Erbyn cyrhaedd New Cambria, Ofer oedd myned i
chwilio am y Parch. John Irlwyn Hughes, ond cefais
dderbyniad croesawus yn n 119 David Morris. Y n
mhlith y Cymry a welais yr oedd Thomas John, yr
hwn oedd wedi bywiogi llawer er's blwyddyn, gan ei
fod wedi cael ymgeledd gymhwys o Bevier; Dr. Jones;
Steven Jones, arolygwr y Drych; E. E. Edwards, &c.
Y cyntaf O'r tu allan i'r ddinas yr ymwelais ag ef oedd

 

 


(delwedd E0137) (tudalen 141)


A GWELEDIGAETHAU BYWYD.
14 L
y Parch. J. Velindre Jones; ac, wrth gwrs, yr oedd yn
rhaid i mi aros tipyn yn ei balasdy ef i fyned dros
helyntion yr amser gynt mewn hen adgofion, ac i
fwynhau ei sirioldeb ef a'i briod. Gelwais hei io
Robert Jones, Proff. Hughes, &c.; ac, wrth gv rs,
aethum i weled y Parch. G. Griffiths yn ei gartref. Yr
oedd ef â'i holl egni yn adeiladu t' newydd i'w fab; ac
oblegid prysurdeb, yr oedd pob un ohonom yn ddigon
ewyllysgar i brynu yr amser mewn diwydrwydd, ac i
ffwrdd a mi trwy y mird eto o dj i dl nes cyrhaedd un
o'm gorpwysfanau, sef palasdy Evan Roberts a'i
briod, Ile y gorphwysais ddwy nogon a diwrnod, nes
aeth yr ystorm heibio.
Aethum rhagwyf eto i weled Cymry Palmyra;
a Chyn y Sabbath, cyrhaeddais i fwynhau Iletygarwch
y diacon Thomas J. Davies. Nid oedd llawer yn y
capel boreu Sabbath, oherwydd eu bod heb bregethwr.
Vn nghwtnni Thomas Rees, eyfeiriais am gapel Brush
Creek yn y prydnawn, ond ni chefais brofion o sél
mnwr yno chwaith; a chwynai y bobl fel defaid heb
fugail. Siarad yn barchus a hiraethus yr oeddynt ar
ol colli y Parch. Edward Thomas a'i deulu O'r ardal.
Y maent wedi rhoddi galwad i'r Parch. John T. Evans,
Arvonia, i ddyfod i'w gwasanaethu, ond heb ateb y
mae ef eto. Mae y diacon Rees Davies a'i deulu yn
myned i fyw i Gymru fach Iowa (Wales), i gael mwy o
Gymraeg. Nid yw pethau yn gwella mewn ystyr
Cymreig chwaith yn Glasston; maent hwythau yn
debyg i ddefaid heb fod ganddynt fugail; ac am
eglwys Salem, i'r de o New Cambria, y maent hwy, fel
y chwaer eglwys yn y dref, wedi alltudio iaith eu tadau
trwy gyflogi Sais yn weinidog yn Ile y Parch. J. Irlwyn
Hughes. Mae eglwys Gymreig gan yr Annibynwyr
yn y dref, dan ofal y Parch. J. Velindre Jones, a
chawsom bregeth dda ganddo Sabbath, Chwefror 14eg.
Deallwyf fod y Parch. Thomas M. Griffiths, Dawn, yil

 

 


(delwedd E0138) (tudalen 142)


142
AMERICA,
pregethu Cymraeg i eglwys y Bedyddwyr yn New
Cambria yn achlysurol. Byddai yn ddymunol genyf
wneyd mwy o nodiadau personol, ond elai fy nhameidiau yn rhy fawr a diflas.
Cyrhaeddais Bevier, Mo., Ionawr 2 lain. Swn
cwyno glywn yno ar fy nyfodiad allan O'r trén am fod
y gwaith glo yn araf iawn er's dau fis. ond ni chymerais fy nychrynu i ffwrdd; ac yn fy symudiadau o
gwmpas, gwelwn nad oedd pethau mor galed ag
y tybiwn ar y dechreu. Treuliais Sabbath yn mhlith
Cymry Bevier unwaith eto. Aethum y boreu i gapel
y Trefnyddion Calfinaidd. Eglwys wan yw hon heb
yr un gweinidog yn bresenol, gan fod y gWr ieuanc, y
Parch. Richard Pugh, yr hwn fu yn gwasanaethu yr
eglwys ar hyd y blynyddoedd diweddaf, wedi myned i
Lake Forest, Chicago, i berffeithio ei addysg. Bâm
yn Ysgol Sabbathol y Bedyddwyr am ddau O'r gloch,
ac yr oedd pethau yn ymddangos yn Ilewyrchus.
Gweinidog yr eglwys ar hyn o bryd yw y Parch. J. M.
Lloyd, ac mae efe yn gweithio yn egniol er boddlonrwydd i'r eglwys a'r gynulleidfa, gallwn feddwl. Y n
yr hwyr, bâm yn nghapel yr Annibynwyr; hon yw yr
eglwys luosocaf a'r fwyaf lewyrchus O'r tair eglwys
Gymreig. Gwasanaethir yno ar hyn o bryd gan R. H.
Owen (Monafab), yr hwn sydd yn rhoddi boddlonrwydd lied gyffredinol, fel y dengys y ffaith fod deunaw
o blant a phobl ieuainc yn cael eu derbyn yn aelodau
cyflawn y, Sabbath hwn, a thri arall yn gofyn derbyniad O'r newydd. Vn ystod fy arosiad yno, parodd
boneddigesau yr eglwys un noson i Mr. Owen vvylo o
lawenydd fel nas gallai ddyweyd dim, trwy eu gwaith
yn ei ddilladu a gwisg newydd o'i draed i'w goryn. Vr
oedd y gynulleidfa nos Sabbath hefyd yn Ilefaru yn
uchel am eti pregethwr newydd. Bydded iddo barhau
i wneyd daioni, er llwyddiant crefydd ac anrhydedd
iddo ei hun. Y mae ein cydgenedl yr elfen gryfaf yn

 

 


(delwedd E0139) (tudalen 143)


A GWELEDIGAETHAU BYWYD.
143
fasnachol, amaethyddol, a chymdeithasol yn Bevier;
ond pe y dechreuwn wneyd nodiadau personol, elai y
tameidiau yn rhy fawr ac aml i gael eu gwerthfawrogi
yn gyffredinol, gan fy mod yn teithio mor gyflym.
Macon City oedd y Ile nesafi mi aros ynddo; ac
nis gallais ddyfod o hyd ond i ddau Gymro yn y dref,
sef William Jones, y gof, yr hwn sydd yn gwneyd
llawer o fasnach mewn offerynau amaethu o bob math,
wageni newyddion, &c. Mae ef yn ddarllenwr cyson
O'r Drych. Yr ail Gymro yw J. J. Davies, yr hwn sydd
yn masnachu mewn wyau, &c. Ar fy ffordd i HuntsVille, gelwais yn Moberly i weled yr unig ddarllenwr
Cymreig, sef W. B. Jones, yr hwn sydd frodor o Drelech, sir Gaerfyrddin, D.C. Ar fy nyfodiad allan O'r
trén yn Huntsville, croesawyd fi gan yr hen gyfaill
William A. Davies, yr hwn aeth a fi i'w dj ac i weled
Cymry y dref. Lleihau y mae y Cymry ytna, gallwn
feddwl, gan fod rhai yn myned ymaith; ac yr oedd y
Parch. W. W. Thomas yn cefnu, yn ol cymhelliad
Cymry Carbonado, i wasanaethu eglwys y Trefnyddion
Calfinaidd yno. Ca eglwys wan Huntsville golled ar
ei ol, ond bydd yn enill i'w faes newydd. Araf iawn
yw y glofeydd yn Huntsville, fel Ileoedd ereill.

 

 


(delwedd E0140) (tudalen 144)


PEN OD X X V.
GWIBDAITH TRWY KANSAS.
N nesaf aethum i Kansas City, Mo., sef un o
ddinasoedd mwyaf cynyddol' y Gorllewin.
Haner canrif yn ol, nid oedd ond dau de', ac
un Ffrancwr yn masnachu tipyn â'r Indiaid yn y
fangre; ond erbyn heddyw, cynwysa y ddinas tua
160,000 0 drigolion, ac y mae yn parhau i gyflym gynyddu, am ei bod yn ganolbwynt manteisiol i'r talaethau cylchynol, a llawer o ffyrdd haiarn yn rhedeg
iddi, ac ereill i ddyfod. Y mae can gen O'r Chic. , Mil.
and St. Paul ar waith, ac i fod yn barod i Kansas City
yr Hydref nesaf; ac y mae llaw-weithyddiaeth megys
yn dechreu gwreiddio yno. Y mae yno amryw Packing
houses mawrion eisoes allant gystadlu rhai mwyaf
Chicago.
Saif Kansas City ar lâtl orllewinol yr afon Missouri,
ac yn nhalaeth Missouri, ond mae ar y terfyn, a rhan
ohoni yn Kansas. Gwlad fryniog yw sylfaen y ddinas,
ac o dan y pridd arwynebol y mae haenau hawdd eu
cloddio o graig galch. Sylwn fod y fasnach feddwol
yn ei rhwysg dieflig yn Kansas City. Daethum o hyd
i ganolbwynt Cymry y ddinas yn ymyl y Post Office,
yn yr hwn le y mae éwyddfa W. P. Hughes, a swyddfa
tanwydd Wm. Rees, o Bevier; ac hefyd Ile addoliad
yr eglwys Bresbyteraidd Gymreig a ffurfiwyd yn
ddiweddar; a man cyfarfod Cymdeithas Americanaidd Gymreig Kansas City." Felly gwelir fod y ty yn
un O'r tai rhyfeddaf yn y dref, oblegid y ffeithiau a

 

 


(delwedd E0141) (tudalen 145)


AMERICA.
145
nodwyd, ac oblegid rhesymau nad wyf am eo henwi
yma. Sabbath, Ebrill 17eg, aethum yno erbyn tri O'r
gloch i'r Ysgol Sabbathol; ond oblegid gwlybaniaeth
ni ddaeth yn nghyd ond tua dwsin O'r ffyddloniaid.
Arolygid yr ysgol gan O. J. Owens (Owen Trosgol), yr
hwn sydd hefyd yn oruchwyliwr gweithgar i'r Drych
yn y ddinas, ac yn swyddog pwysig yn un O'r prif
fasnachdai. Yn yr hwyr, aethum yno i'r cyfarfod
gweddi; ond bach oedd y cynulliad yn hwn eto,
oblegid y gwlaw. Ar y diwedd, penderfynwyd gwneyd
casgliad gwirfoddol er cynorthwyo eu gweinidog a'u
bugail arfaethedig i symud ei deulu o Long Creek,
Iowa, i'w plith, mor fuan ag y byddo yn bosibl, a thanysgrifiwyd 30 dol. yn y fan. Bwriada y Parch. Thomas
H. Jones symud o hyn i ddiwedd Mai. Nid yw y
Cymry yn lluosog iawn yn y dref hyd yma, ond tebyg
fod l.lawer o Gymry yn anadnabyddus; bydd Mr. Jones
yn myned allan i'w chwilio, a'u casglu at eu gilydd.
Y mae yno amryw Cymry parchus yn fasnachwyr
llwyddianus, megys Henry, Harries, ac Evans, merchant
tailors, 13, E. Missouri Avenue, yn cadw tua 50 0 weithwyr, ac hefyd yn llywydd y Gymdeithas Gymreig
Americanaidd; J. Lloyd, congl 12th & Liberty Streets;
W. Hughes & Son, 107, Main Street; Henry Richards,
1,5ol, Main Street; W. C. Jones, 610, Delaware Street;
John Rowlands yn cadw ty byrddio mawr yn 1,9ol,
McGee Street, Ile mae tua dwsin o Gymry yn Iletya,
ac yn eu plith R. H. Owens (Monafab), a John Roberts
(loan Glan Towi), yr hwn a ddymunai arnaf ei gofio at
Dr. Roberts, Utica, fel un o'i ddysgyblion gynt yn
Nghaergybi, Mon. Ni fâm ddigon hir yn Kansas City
i wneyd fawr o nodiadau teg am y dref na'i thrigolion.
Bâm hefyd yn gweled rhai o Cymry Wyandotte,
i'r gorllewin o Kansas City; hefyd yn Rosedale, yr
hwn le sydd yn fwy marwaidd nag y mae wedi bod,
oherwydd ataliad y felin haiarn tua phedair blynedd

 

 


(delwedd E0142) (tudalen 146)


146
AMERICA,
yn ol. Gwaith i wneyd pontydd haiarn newyddion yw
prif fywyd y Ile yn awr, Ile y mae amryw Gymry yn
gweithio. Aethum yn nesaf i Topeka, prifddinas
Talaeth Kansas: a'r Cymro cyntaf a gwrddais yno
oedd Robert R. Davies, goruchwyliwr y Drych, yr hwn
a aeth ni yn llawen i weled amryw Gymry. Y mae
Topeka yn dref hardd a swynol yr olwg. Ei phrif
ganolbwynt masnachol a gweithfaol yw yr Atckison,
Topeka, and Santa Fe R. R. , canys yn Topeka y mae
canolbwynt y cwmni mawr hwnw; ond, wrth gwrs, ei
gogoniant yw y State Capitol; a chan fod y Farmers'
Alliance yn cael cymaint o sylw, teimlais awyddfryd i
weled cynrychiolwyr y dalaeth yn eu Deddfwrfa.
Gwnaed fy awyddfryd yn fwy i'w gweled a'u clywed
ar ol darllen yn y Kansas City Journal (Gwerinol), fod
cynrychiolwyr y bobl yn Topeka yn cael eu gwneyd i
fyny o Anarchiaid, Comunistiaid, a Repudiators, a'u
bod wedi cynyg gwerthu digon o bleidleisiau am 30,000
o ddoleri i ethol Ingalls yn Seneddwr. Os oedd hy.ny
yn ffaith, dywedais ynwyf fy hun, " Ca y Gwaharddwyr
bellach eu hanadl atynt am enyd bach, tra y byddys
wrth y gwaith o wneyd pen ar y Farmers' Alliance."
Pa fodd bynag, llwyddais i gael golwg ar y creaduriaid
rhyfedd dan sylw, wrth eu gwaith cysegredig ar ran eu
talaeth; ac os ydych chwi yn y fan yna, ymddangosent yn y diwedd yn debyg i bobl ereill! Vr oedd yno
un tebyg i fwnwr yn siarad am benodi rhyw bwyllgor
ar gost y dalaeth i wylio dros iawnderau rhyw fodau
sydd yn cloddio y glo O'r ddaear. Syndod, onide? Ac
un arall yn debyg i amaethwr yn gwrthwynebu gohirio
o foreu ddydd Gwener hyd rywbryd yr wythnos ddilynol, am fod ganddynt lawer o waith eisieu ei wneyd!
Wrth gwrs, nid oedd y deddfwneuthurwyr hyn o ymddangosiad mor fawreddog a deddfwneuthurwyr y
Talaethau DMtyreiniol; ac y mae yn debyg mai dyna
un O'r rhesymau sydd gyda " nhw" dros ddyweyd wrth

 

 


(delwedd E0143) (tudalen 147)


A GWELEDIGAETHAU BYWVD.
147
y wlad fod "Kansas yn myn'd, ac wedi myn'd 'r cwn."
Edryched y byd yn awr am y lladdfa fawr yn Kansas
Waharddol, gan fod tri neu bedwar O'r duwiau mawrion wedi digio, ac mewn cynghrair! Ai tybed y gall
y dalaeth ddiniwed, onest, gydwybodol, dduwiolfrydig
hon ddal ymosodiadau dieflig y cynghreirwyr diegwyddor dan sylw? Amser a ddengys, onide? Nid yw
y diwedd eto. Y maent yn bygwth y bydd i'r dynion
mawr gadw eu harian o Kansas. Ai tybed y bydd i
bobl y dalaeth, megys pobl Omaha, gymeryd diod y
duwiau er codi eu hysbrydoedd, a chael arian yn ol i'r
dalaeth? Ond dyma fi yn gadael deddfwneuthurwyr
Topeka, mewn crediniaeth fod yna gryn lawer o synwyr cyffredin a gwroldeb moesol i allu dal mwy na
dysgwyliadau llawer. Efallai, wedi y cwbl, na lwyddir
i wthio y forwynig Kansasyddol o ganol y cyfandir
Gwerinol i waelod mör trais a gorthrwm!
O Topeka (Kansas), aethum i Carbondale, yn yr
un dalaeth, yr hwn le ydoedd yn dra gwahanol i
Carbondale, Pa. Methais ddyfod o hyd i un Cymro
yno a allasai ddarllen Cymraeg; am hyny. penderfynais gerdded i Scranton, yr hon dref oedd yn anhebyg
iawn i Scranton, Pa.; er mai y gweithiau glo yw prif
fywyd y lie. Nid oes yno ychwaith ond ychydig o
Gymry. O Scranton aethum i Peterton; tref fechan yn
ymddibynu ar y gweithiau glo yw hon eto, t-hyw dair
milldir i'r dwyrain o Osage City. Haen fechan tua
phymtheg modfedd o drwch 0 10 marchnadol da geir
yma, yn cyrhaedd dan ugeiniau o filldiroedd o arwynebedd, sef o Carbondale hyd Arvonia. Dywed y mwnwyr fod y glofeydd yn myned yn dda yn Peterton ac
Osage City, ond fod y pris yn isel iawn, meddent.
Yn nesaf, ymwelais ag Osage City, Ile y treuliais
Sabbath. Yn y boreu, aethum i gâpel yr Annibynwyr,
i glywed y Parch. J. Velindre Jones yn pregethu, oddiwrth loan xiv. 15: " O cherwch Fi, cedwch fy ngor

 

 


(delwedd E0144) (tudalen 148)


148
AMEIUCA,
chymynion." Pregeth dda, gymhelliadol, ond i gynulleidfa fechan. Am 2.30 y prydnawn, aethum i'r Ysgol
Sabbathol at y Trefnyddion Calfinaidd, ac hefyd i'r
cyfarfod gweddi yn yr hwyr. Gwan iawn oeddynt
hwythau mewn rhif; ac ni chefais y fraint o weled a
chlywed Mr. Thomas, eu gweinidog, gan ei fod oddicartref ar y pryd. Y mae amryw Gymry mewn masnach yn y dref, ac mewn parch a llwyddiant, megys J.
D. Jones yn y fasnach sych-nwyddau, a T. J. Evans,
y cerddor, yn cadw music and book store eang; efe
hefyd yw chwareuwr yr organ ac arweinydd y canu yn
eglwys y M.E., sef i'r gynulleidfa fwyaf yn y dref. A
dyna John Williams, y gof, y mae yntau hefyd yn
llwyddo, ac yn bwriadu adeiladu foundery yn fuan. Y
mae T. Howells yn cadw masnachdy llwyddianus
iawn mewn bwydydd; a'r Cymry a ddeuant i'r dref,
gallant gael cartref cystirus a rhad yn restaurant D. P.
Jones, yn agos i'r orsaf. Mae yn y dref feddyg anifeiliaid Cymreig—gwr newydd ddyfod o Gymru, O'r enw
William Thomas, ac y mae yn llwyddianus yn ei
alwedigaeth. Cymro O'r enw D. J. Roberts yw golygydd yr Osage City Free Press. Lleinw ef le parchus yn
y dref. Bâm yn gweled hefyd J. S. Jones yn un o
fâsnachdai mwyaf y dref; y mae ef yn edrych gystal
ei olwg ag oedd ddeunaw mlynedd yn ol, yn Scranton,
Pa. Gwelais hefyd fod Mr. Griffith F. Jones wedi
cychwyn swyddfa gyfreithiol. Ni chefais y fraint y
tro hwn o fwynhau cymdeithas hen orucllwyliwr y
Drych a'i briod, am eu bod wedi myned i'r Dwyrain ar
bleserdaith.
Yn nesaf, ymwelais Chymry Panteg, Barclay,
Reading, ac Arvonia. Cefais noson ddifyr yn nghwmni
Nicholas Ddu, a bam yn treio ei argyhoeddi i gredu y
dylasent hwy weddio am ragor o wlaw yn Kansas.
Cefais y pleser o dreulio Sabbath yn Arvonia. Yn y
boreu, bam yn gwrando y Parch. J. Irlwyn Hughes yn

 

 


(delwedd E0145) (tudalen 149)

A GWELEDIGAETHAU BYWYD.
149
pregetlltl oddiwrth Matt.  xxvii. 50-53, sef am farwolaeth ac adgyfodiad yr Arglwydd, &c., a chawsom
ganddo bregeth ddaj mewn ysbryd dymunol. Y n yr
hwyr aethuul i gapel y brodyr Annibynol, i wrando y
Parch. D. Todd Jones yn pregethu oddiwrth Actau
xii. 12, mewn perthynas i waredigaeth Pedr O'r carchar
a'i rwymau, mewn canlyniad i weddi yr Eglwys—
pregeth dda. Nid yw yr achos crefyddQ1 yn ymddangos yn rhyw lewyrchus iawn yn Arvonia yn
bresenol. Teimlwn fod pobl yr ardal yn tueddu i fod
yn ddigalon ac ofnus oblegid cyfyngder arianol, mewn
canlyniad i'r sychder a'r methiantamaethyddol y ddwy
flynedd ddiweddaf. Y n ngwyneb hyny, ac am fod
amryw wedi myned o eglwys y Trefnyddion Calfinaidd
yn Arvonia i leoedd ereill, ac i'r bedd, ac am fod ei
deulu yn fawr, tueddwyd y Parch. John Irlwyn Hughes
i roddi rhybudd i'r eglwys ei fod am roddi ei gofal i
fyny yn mis Awst nesaf. Bydd ef felly yn agored i
dderbyn galwad o unrhyw eglwys a garai gael ei
wasanaeäll gweinidogaethol a bugeiliol ar ol hyuy.
Gobeithio y bydd i ryw eglwys sydd mewn angen am
weinidog weled ei werth, a sicrhau ei wasanaeth,
canys oddiar fy adnabyddiaeth ohono er's dros
bymtheg mlynedd, credwyf ei fod yn sefyll yn uchel
yn Illhlith gweinidogion y Trefuyddion Calfinaidd,
mewn ystyr gymhariaethol, er gwneyd gweinidog
sefydlog.
W ele fi wedi bod tua phythefnos yn Emporia a'r
cylchoedd. Aethum yn gyntafi fasnachdy Lewis ac
Edwards, headquarters y Drych i'r sefydliad. Yn ffortunus i mi ac achos y Drych, cyfarfum yno Mr. R. J.
Roberts, yr hwn oedd hamddenol ac evvyllysgar
ddyfod i' m harwain i weled Cymry y ddinas; ac yr
oedd yn un O'r arweinwyr goreu wyfwedi gwrdd yn fy
holl deithiau. Efe yw archddiacon y Presbyteriaid
Cymreig yn y dref. Y mae yn cychwyu gyda'i deulu

 

 


(delwedd E0146) (tudalen 150)


150
AMERICA,
yr wythnos nesaf am dro i Gymru i weled eu perthynasau. Vr Arglwydd a'u hamddiffyno, hyd oni ddychwelont eto i Emporia i'w cartref' at eu lluosog
gyfeillion. Un O'r pethau cyntaf y sylwais arno wedi
dyfod i Emporia y tro hwn oedd, fod y Cymry yn
lluosogi yno; ac nid hyny yn unig, ond fod arwyddi0'.1
fod hen Gymry y dref yn llwyddo ac ymgyfoethogi.
Y mae amryw o fasnachdai mawrion yn cael eu rhedeg
gan Gymry O'r iawn ryw, y rhai sydd yn byw yn y
dosbarth blaenaf o balasdai y dref. Sylwn hefyd fod
masnachwyr Cymreig Emporia yn siarad Cymraeg
pur gyda'u plant yn eu tai, ac â'u gilydd ac ereill yn
etl masnachdai, &c.
Y mae yr eglwysi Cymreig yn cynyddu a llwyddo.
Mae agwedd lewyrchus ar eglwys y Presbyteriaid
Cymreig, dan weinidogaeth a bugeiliaeth y Parch.
John Jones, yr hwn sydd yn dal ei boblogrwydd, er ei
fod yma er's 17eg o flynyddoedd. Vr eglwys Annibynol, hefyd, mae hithau yn flodeuog dan ofal y Parch.
D. A. Evans. Ac y mae yma eglwys gan y Bedyddwyr
wedi bod dan ofal y Parch. E. W. Richards, yr hwn a
ymddiswyddodd yn ddiweddar. Er fod y dref wedi
cynyddu llawer er pan y bâm yma O'r blaen, nid oes
yma law-weithfeydd yn cael eu hadeiladu hyd yma;
ond y maent yn ceisio codi boom yma yn bresenol, ac
ymddengys i mi fod amryw bethau yn cydawgrymu
dyfodol llwyddianus i Emporia. Gallwn gasglu fod
Cymry y wlad o gwmpas mewn amgylchiadau cysurus,
ond fod sychder yr haf O'r blaen a'r haf hwn yn eu
llwfrhau. Y mae y Parchn. Henry Rees a John Jones
yn arlwyo bwyd ysbrydol iddynt i'r de O'r dref. Y
mae amryw o Cymry amaethyddol yr ardaloedd cylchynol wedi rhoddi i fyny amaethu, a dyfod i'r dref i
fyw; a buasai yn hyfrydwch genyf roddi rhestr O'r
cyfryw, gydag enwau masnachwyr Emporia, ond rhaid
gochelyd meithder.

 

 


(delwedd E0147) (tudalen 151)


A GWELEDIGAETHAU BYWYD.
151
Vmddengys i mi fod Emporia yn un O'r trefydd
mwyaf prydferth ei golwg, a gweddus ei hymddangosiad cymdeithasol, o unrhyw un wyf wedi weled trwy
y wlad. Nid wyf wedi gweled ond un, a hwnw yn
Gymro! yn feddw er pan wyf yn y dref; ond er
fod Kansas yn dalaeth Waharddol, y mae ambell
un yn medru tori y gyfraith Waharddol, fel pob
cyfraith arall; ac y mae y si fod ambell Gymro yn
Kansas, dan enw crefydd yn orchudd i guddio eu
cyfrifoldeb, am werthu ac yfed diodydd y fall ar draws
cyfreithiau eu gwlad, a chondemniad y byd Cristionogol a gwareiddiedig. Er hyny, y mae y gyfraith
Waharddol yn llwyddiant yn Kansas, yn fwy felly nag
yn Iowa, yn ol fy marn i. Yr wythnos ddiweddaf, pa
fodd bynag, profwyd dyn yn Emporia yn euog o ladd
ei gyd-ddyn tra dan effaith y ddiod feddwol.
Aethu1Å o Emporia, Kansas, i weled y Cymry
sydd yn gweithio yn chwarel y Cymro llwyddianus a
chenedlgarol, Lewis W. Lewis, Ysw., yn agos i Strong
City, Ile y mae amryw o Gymry talentog mewn celfyddyd a Ilenyddiaeth, megys Thomas D. Richards,
arolygwr y cloddio; Evan D. Jones, arolygwr y
naddwyr, &c. Ar ol mwynhau diwrnod o'u cymdeithas
prysurais rhagwyf i Burrton, Ile y mae tua phymtheg
o deuluoedd Cymreig yn ymddangos mewn amgylchiadau dymunol, y rhan fwyaf yn amaethwyr, yn byw
mewn gwlad hardd a chynyrchiol.
O Burrton, cychwynais ar daith o tua 400 0 filldiroedd yn mhellach i'r gorllewin, trwy wlad amrywiog,
ar hyd glänau yr afon enwog Arkansas, heibio i amryw
o drefydd heirdd a blodeuog. Synwn weled amryw
drefydd yn cael eu hadeiladu mewn gwahanol fanau
yn y diffaethwch tywodlyd ar y Ilinell derfyn rhwng
Kansas a Colorado; a rhyfeddwn at eangder ycyfandir
wrth gofio fy mod yn symud i'r gorllewin er's tua naw
mis, ond elo heb gyrhaedd 'lawer pellach na haner y

 

 


(delwedd E0148) (tudalen 152)


152
AMERICA,
ffordd yn groes i'r cyfapdir mawr, er fy mod weithiau
yn myned yn Iled gypym. Yn m hell cyn cyrhaedd
Pueblo, gwelwn fynyddoedd cribog Colorado yn y pellder gorllewinol, a'tl copäau yn orchuddiedig gan eira;
a Pike's Peak megys brenin arnynt, gyda'i gap gwyn
yn ymgodi i'r uchder o dros 14,000 0 droedfeddi uwchlaw arwynebedd y mar. Ar ol cyrhaedd Pueblo aethum
i weled yr hen Gymro twymgalon R. W. Owen, South
Pueblo; yna rhag blaen i Denver, taith rhwng pump a
chwe' chant o filldiroedd, dros wyneb gwastad a llydan
y cyfandir newydd; ac wele fi rhyw 30 0 filldiroedd i'r
gogledd o Denver, Sef yn Erie, pentref glofaol bychan
ar y Prairie, yn ngolwg y creigiau oesol, a'u penau yn
ymddyrchafu uwch y cymylau. Arafyw y gwaith wedi
bod yn Erie yn ddiweddar, ac oherwydd hyny y Cymry
yn teimlo yn isel eu meddwl, a rhai yn gadael y Ile.
Y mae y Parch. John T. Williams yn debyg fel ag yr
oedd bedair blynedd yn ol, ond y mae yn teimlo y babell
yn dadfeilio, meddai, fel nad yw yn gallu pregethu mor
aml a chynt. Treuliais Sabbath yno, a gwelwn mai
gwan yw yr eglwys Gymreig, er fod digon o Gymry i
wneyd eglwys a chynulleidfa go lew, pe bai pawb yn
ffyddlon. Y mae Mr. Francis, goruchwyliwr y Drych,
ar y ,blaen yma fel arfer. Cefais dipyn o ymgom hefyd
â'i bartner gweithfaol, sef Thomas G. Rees, y cerddor,
gynt o Bradford Co., Pa. Y mae efyn edrych mor dda
yn awr a phan yr adnabyddwn ef yn Aberdar tua 30
mlynedd yn ol. Ond wele ni yn ymadael Chymry
siriol a hen adnabyddion Erie et0i ac yn debyg o beidio
cwrdd mwy yn y byd hwn. Bu agos i Thomas Griffths
a'i faelfa gael eu chwythu i'r cymylau tuag wythnos
yn ol gan ryw ddyhiryn.
Bâm yn gweled Cymry Lafayette. Aeth Micah
Williams fi mewn cert tuag yno ar ol rhyw geffyl
gw_vllt, trwy y m YVd, yr ia, a'r eira, fel pe y buasem yn
dianc rhag yr Indiaid cochion. Vr oeddym yn myned

 

 


(delwedd E0149) (tudalen 153)


A GWELEDIGAETHAU BYWYD.
153
fel Jehtl gynt, a bu agos i ni rai troion gael ein troi ein
dau O'r gert i'r cwteri mWd. Y n Lafayette gadawyd fi
yn ngofal y cyfaill John T. Jenkins; ac ar ol gweled
rhai o Cymry y dref, aethum yn nesaf i Coal Park, tref
ryw filldir i'r dwyrain o Lafayette. Un gwaith glo sydd
yno, yr hwn a berchenogir gan yr hen Gymro D. W.
Davies, gyda'r hwn yr aethum dan y ddaear. Y mae
ganddo tua 14 0 droedfeddi 0 10 da yn yr haen a weithia,
a thala 87} cents y dunell i'r mwnwyr. Y mae dros
haner ei weithwyr yn Gymry. Mae glofeydd Coal Park
a Lafayette yn myned yn well na gweithiau Erie, am
nad ywy glo yno ond tua phedair troedfedd o drwch,
ac o xanlyniad yn costio mwy i'w dori, fel nas gallant
ei werhhu mor rad. Dywedir y bydd i'r glofeydd yn y
cylchoedd hyn barhau am lawer o flynyddoedd eto.
Da oedd genyf ddeall fod Cymry Denver yn cefnogi
cwmniau Cymreig Erie trwy brynu eu glo.
11

 

 


(delwedd E0150) (tudalen 154)


PEN OD x x VI.
O DENVER 1 UTAH.
A RHA U i gynyddu mae Denver, ac y mae
ynddi lawer o adeiladau ardderchog wedi eu
hadeiladu er pan y bam yma bedair blynedd
yn ol, mor fawreddog a phrif adeiladau dinasoedd
mawrion y Dwyrain, megys New York a Chicago.
Mae ei phoblogaeth yn 110,000. Saif rhwng neu ar
ddwy afon, 5,195 0 droedfeddi uwchlaw arwynebedd y
mar, ac ystyrir hi yn un O'r dinasoedd iachaf a harddaf
yn y byd, a thebyg mai ychydig a all gystadlu hi
mewn cynydd, cyfoeth, a harddwch. Y mae ynddi
lawero Gymry, y rhai sydd wedi adeiladu capél hardd
er pan y bâm yno y tro O'r blaen, a rhif yr aelodatl
eglwysig wedi dyblu mewn pedair blynedd. Y mae
eu hen weinidog, y Parch. William Charles, wedi
myned i orphwys, a gWr ieuanc o Gymru, O'r enw y
Parch. David Edwards, wedi cymeryd ei le. Y mae
canu da ganddynt dan arweiniad Charles Davies, yr
hwn sydd yn cynrychioli cwmni glo Cymreig Erie yn
Denver. Mae y Bedyddwyr wedi cychwyn Ysgol
Sabbathol hefyd yn ddiweddar, ac y mae hyny wedi
gwneyd bwlch yn eglwys y Trefnyddion Calfinaidd.
Ond ni theimlwn awydd canfasio Denver y tro hwn,
gan ei bod yn adeg farwaidd am waith, a llawer O'r
Cymry yn segur mewn canlyniad. Y mae yn y dref
lawer o bobl ieuainc o wahanol barthau O'r Talaethau,
ac amryw o Utica, dinas y Drych, ac yn eu plith Miss
Ellen Watkins, chwaer Mrs. R. E. Roberts. Mae
Denver yn dygymod hi yn dda.

 

 


(delwedd E0151) (tudalen 155)


AMERICA.
155
Boreu Chwefror 25ain, cefnais ar Denver am naw
O'r gloch, gyda'r Denver & Rio Grande R. R. , gyda
godre y Mynyddoedd Creigiog am 120 0 filldiroedd,
gan gyrhaedd Pueblo tuag un O'r gloch, ar ol pasio
llawer o olygfeydd rhamantus, heblaw Colarado
Springs, cyrchfa llawer o geiswyr iechyd a phleser.
Poblogaeth y dref yw 10,000, a saif 72 0 filldiroedd o
Denver. Ei huchder yw 5,982 0 droedfeddi; ac oddiyno canfyddir y Pike's Peak penwyn yn cusanu y
cymylau yn yr uchder 0 14,147 0 droedfeddi, sef copa
pen Colarado fynyddig, rhyw wyth milldir i'r gorllewin
O'r draf. Pueblo sydd dref law-weithfaol. Gelwir hi
ond nid yw ond baban
" The Pittsburg of the West; "
mewn cymhariaeth i Pittsburg y Dwyrain eto, o leiaf.
Ei phoblogaeth yw 25,000, a'i huchder yn 4,667 0 droedfeddi. Y mae rhai ugeiniau o Gymry yn y dref, ac yn
gweithio yn benaf yn y felin ddur. Nid wyfyn gwybod
am Gymry mewn masnach ond y Brodyr Hughes,
gwerthwyr coed, y rhai sydd yn perchenogi ierdydd yn
Denver, Trinidad, a Pueblo. Gyda'u chwaer y cefais
gysgod tra yn y dref, sef Mrs. M. A. Roberts, 114,
East 9th Street, gweddw Robert M. Roberts, gynt o
Milwaukee, Wis. Hen gartrefle gweinidogion teithiol
yr Annibynwyr pan yr ymwelent a Milwaukee oedd eu
ty hwynt, gan fod Mr. Roberts yn ddiacon parchus
hyd ddiwedd ei oes. Dymunai Mrs. Roberts arnaf ei
chofio at Dr. Gwesyn Jones, ac ereill o'i hen gydnabyddion.
Yn nesaf, aeth y gerbydres ar y Denver and Rio
Grande R.R. a fi 32 0 filldiroedd i gyfeiriad y Gorllewin
hyd Florence, trefwedi ei hadeiladu er mwyn ffynonau
olew yr ardal, gyda phoblogaeth 0 1,000. Ei huchder
yw 5,199.
Yn nesaf, ymwelais Coal Creek, Rockvale, a
Williamsburgh, pentrefi yn ymyl eu gilydd, rhyw bum'
milldir O'r Florence, Atchison, & Santa Fee R.R. Mae

 

 


(delwedd E0152) (tudalen 156)


156
AMERICA,
gweithiau glo yn y ddau le Olaf, ond nid oes yno gynifer o Gymry ag oedd ynddynt bedair blynedd yn ol,
am fod y weinyddiaeth weithfaol wedi newid; ac yr
oedd John M. Davies, goruchwyliwr y Drych yn Rockvale, wedi myned i Canon City i weithio. Am Coal
Creek, y mae hithau wedi rhedeg i lawr, fel ag y mae
llawer O'r tai a'r masnachdai yn segur; a'r capel mawr
Cymreig a'r eglwys heb yr un gweinidog; ond y mae
wedi rhoddi gwahoddiad i'r Parch. D. E. Evans (Trelech), o Red Oak, Iowa, i ddyfod i' w gwasanaethu.
Nid yw ef wedi ateb yr alwad hyd yn hyn. Credaffod
yn Coal Creek faes cymhwys i weinidog da i weithio a
gwneyd daioni. Yr oedd y capel mawr yn llawn y nos
Sabbath yr oeddwn yno, yn gwrando pregeth Saesoneg.
Dywedir fod poblogaeth Coal Creek tua 1,500, ac y
mae gan dduw Baachus wyth o demlau yno; felly,
gwelir fod y duw meddwdod lawer yn fwy poblogaidd
yn Coal Creek na Duw y capelau!
Canon City sydd dref fechan brydferth, enwog fel
Ile i aros i geisio ychydig o adloniant corff a meddwl;
ac yma y mae penydfa Talaeth Colarado. Gwelais
yno yr hen gyfaill John M. Davies, gynt o Bellevue, Pa.,
a llawenydd iddo ef a minau oedd cael ysgwyd llaw fel
dynion rhyddion o fewn awdurdod dysgyblaethol y
carchar. Gyda sirioldeb ar ei wyneb, dymunai arnaf
ei gofio at ei holl gyfeillion, hyd yn nod O'r Penitentiary. Yn gwylio y drwgweithredwyr gyda gWn yn ei
law y gwelais ef.
O COLORADO 1 UTAH.
Grand Canon yw un o ryfeddodau y byd. Eir i
mewn i'r agen chwarter wedi tri y prydnawn. Y mae
y creigiau o bob ochr yn 2,627 0 droedfeddi o uchder,
a saith milldir o hyd. Yr wyf yn rhoddi i fyny geisio
desgrifio y golygfeydd rhamantus. Anl 5-35 yr oeddwn
yn Salida, poblogaeth yr hon yw 3,000. Saif 217 0

 

 


(delwedd E0153) (tudalen 157)


A GWELEDIGAETHAU BYWYD.
157
•filldiroedd o Denver, mewn uchder 0 7,049. Y ma y
mae y Denver a'r Rio Grande R.R. yn cangenu—un
gangen yn cadw i' r gogledd heibio Leadville, a'r
gangen arall yn cadw i'r de, heibio Gunnison, Crested
Butte, Black Canon, a Montrose, ac yn cwrdd â'r
gnngen newydd yn Grand Junction, 425 0 filldiroedd o
Denver. Dewisais fyned gyda'r broad gauge; a'r Ile
cyntaf yr arosais ynddo ar ol gadael Salida oedd LeadVille, yn mro y cymylau; ac yr oedd yr ol1 yn orchuddedig gan eira gwyn. Pan gyrhaeddais yno, nis gwelwn
arwyddion o lawer o gynydd er pan y buaswn yno
beda:-r blynedd yn ol.
Saif Leadville mewn pantle rhwng y mynyddoedd, yn nghanol talaeth Colarado, tua 151 0 filldiroedd i'r de-orllewin o Denver, a 157 i'r gogleddorllewin o Pueblo, yn agos i darddiad yr afon enwog
Arkansas. Tebyg fod Leadville yn un O'r Ileoedd
rhyfeddaf ar y ddaear. Ei huchder yw 10,213 0 droedfeddi uwchlaw arwynebedd y mar; ac amgylchynir hi
gan gyfres o fynyddau, fel muriau tragywyddol, y rhai
sydd yn orchuddiedig gan eira oesol, ac yn rhai miloedd o droedfeddi yn uwch na'r ddinas. O dref LeadVille gwelir copäau rhamantus a brithion y mynyddoedd yn uwch na'r cymylau; ac yn sicr mae yr olygfa
yn wir farddonol a gogoneddus. Troer i'r cyfeiriad a
fyner, copäau gwynion y mynyddoedd fydd i'w gweled
yn mhob man, yn amrywio mewn pellder 0 10 i 20 0
filldiroedd, gallem feddwl, heb yr un fynedfa yn ganfyddadwy i fyned i'r byd allanol. Nid yw Creawdwr
pob peth wedi gwneyd ond un porth cyfyng a thröellog
i mewn ac allan, a'r unig un hwnw tua 1200 filldiroedd
o hyd, sef y Grand Canon i Leadville; ond y mae dau
neu dri o passes uchel ereill i fewn ac allan, a thrwy un
O'r cyfryw y mae cangen O'r Union Pacific R.R. yn
myned i ddinas y cymylau, sef y Denver & South
Park Division; a dywedir fod y fyn edfa hon yr uchaf

 

 


(delwedd E0154) (tudalen 158)


158
AMERICA,
yn y byd ag y mae eledrffordd yn myned trwyddi. Ar
hyd yr holl gylch cwmpasog y mae y timber line i' w
weled yr un uchder; ond oddiyno i fyny ni welir dim
ond creigiau ysgythrog ac eira gwyn. Am adnoddau
cyfoeth a llwyddiant Leadville, y mae yn wybyddus i'r
byd erbyn hyn mai meteloedd gwerthfawr o gelloedd
y creigiau yw, megys aur, arian, plwm, zinc, haiarn,
copr, &c.; ac er fod y cyffroad cyntaf wedi darfod, y
mae yn bur sicr nad yw Leadville ond megys yn ei
mabandod; ac yn ngwyneb y profion o hyn, y mae
dwy reilffordd newydd ar waith i'r Ile, yn ychwanegol
at y ddwy sydd yn rhedeg yno eisoes. Y mae agwedd
gymdeithasol, foesol, a chrefyddol Leadville yn
ymddangos yn well nag y dysgwyliem. Wrth gwrs, yr
oedd yn rhesymol dysgwyl mai duw y byd hwn fuasai
ar yr orsedd yma yn y dechreuad, ac mai prifswyddogion ei lywodraeth fuasai twyll cyfoeth, hapchwareu,
pleserau cnawdol, penrhyddid moesol, &c.; ond erbyn
heddyw, trwy drugaredd, y mae yr Un cryfach na'r
cryf arfog wedi dyfod a chwifio Ei faner yn Leadville
annuwiol, fel ag y mae Ei demlau a'i weinidogion yn
amlhau, ac egwyddorion Ei Deyrnas yn dechreu dwyn
y bobl i'w pwyll, ac i barchu y Sabbath, trwy beidiO
gweithio ar y dydd sanctaidd, a myned i leoedd o
addoldai yn Ile i'r gwaith, ac i'r gambling houses, a'r
diotai.
Nos Sabbath, Mai 29ain, traddodwyd pregeth dda
yn y capel harddaf yn y dref, mae'n debyg, sef capel y
M. E. , gan y gweinidog, ar wyl goffadwriaethol y
Grand Army of the Republic, i gynulleidfa hardd o tua
mil o bobl, ac yr oedd yn bregeth bwrpasol iawn i'r
achlysur. Dydd Llun, Mai 30ain, gwnaed arddangosfa
ardderchog gan gymdeithas y G. A. R., a gwahanol
gymdeithasau y dref. Cafwyd cyfarfod mor ddyddorol
a Christionogol yn yr Evergreen Cemetery ag yn
unrhyw arddangosfa gyffelyb a welais yn y Dwyrain

 

 


(delwedd E0155) (tudalen 159)


A GWELEDIGAETHAU BYWVD.
159
. ar achlysuron O'r fath. Nis gallwn lai nag ymgolli
mewn synfyfyrdod dros amser wrth weled cynifer wedi
cael eu claddu yn nghysgod creigiau bro y cymylau, o
rai a gefnasant ar froydd heirdd eu genedigaeth, mewn
gwahanol wledydd y ddaear, gan adael hoff berthynasau a chyfeillion, a myned i blith creigiau ysgythrog
ac anghysbell gwlad y Gorllewin pell, er gwneyd eu
ffortiwn O'r trysorau cuddiedig. Bwriadent, yn ddiau,
ddychwelyd ar amser penodedig i' w hen gartrefleoedd
i dreulio gweddill eu hoes mewn llawnder a chyfoeth
yn nghymdeithas y rhai a garent; ond, ha! yn Ile
hyny, wele hwynt wedi eu cuddio yn mro marwolaeth
gwlad estronol, heb na brawd na chwaer, nac unrhyw
berthynas, i gysegru eu gorweddfa deigryn hiraeth.
Ond er hyny, gofelir am eu beddau gan ryw gymwynaswyr. Fel y safwn wrth fedd heb yr un gofadail
uwch ei ben, daeth dwy eneth hardd i osod biodau
arno. Gofynais i'm cydymaith a wyddai ef pwy oedd
yn gorwedd yn y bedd yna? " O gwn," meddai; " fan
yna y gorphwys gweddillion y Cymro, y Ilenor, y
bardd, a'r Cristion, John Preese Jones, o Middle GranVille, N.Y., yr hwn a adawodd ei anwyl deulu ar ol yno
tua saith mlynedd yn ol, er dyfod i geisio ffawd
rhwng creigiau Colarado; ond ar ol ychydig ddyddiau
o gystudd, cafodd y bardd a'r Cristion hwn ei roddi yn
' medd y dyn tlawd,' yn mhell oddiwrth y rhai a
garent fwydo ei fedd â'u dagrau! " Y n agos i'r un
llanerch gwelwn gofadail hardd i'r deg llanc gladdwyd
yn fyw gan yr eira yn Home State Mine, Chwefror,
1880; a dywedid i ni fod dati ohonynt yn Cymry, sef
H. W. a Josiah Matthews. Ond dyna, rhaid gadael
dinas y meirw ar hynyna.
Nid oes fawr o Gymry yn adnabyddus fel y cyfryw
yn Leadville—dim ond rhyw ddeg o deuluoedd Cymreig a ellais ddyfod o hyd iddynt; ond, wrth gwrs,
gwelais amryw o rai sengl yn ychwanegol. Nid wyf

 

 


(delwedd E0156) (tudalen 160)



160
AMERICA,
wedi gweled ond un masnachwr Cymreig yn y dref yn
masnachu ar ei gyfrifoldeb ei hun, sef Mr. T. G.
Roberts, 426, East 6th Street. Gallwn feddwl ei fod
ef yn gwneyd yn dda wrth werthu bwydydd, &c. Y
mae ef yn fab i'r Parch. Griffth Roberts, Cambria
Township, Blue Earth Co., Minn. Bâm hefyd dan
arweiniad Mr. Parry, gynt o Middle Granville, yn
gweled Oro City, yn agen y Creigiau Euraidd, rhyw
bedair milldir o Leadville, sef un O'r dinasoedd
rhyfeddaf ag wyf wedi weled yn fy mywyd.
Wele fi wedi cael fy nghludo yn ngherbydres y
Denver a'r Rio Grande R. R. am ryw 400 0 filldiroedd
yn mhellach i'r Gorllewin, rhwng, a thros, a thrwy
greigiau a mynyddoedd Colorado ac Utah; a chyda
phriodoldeb y gallwn alw y wlad yn ddiffaethwch
gwag, erchyll, heb fawr o breswylwyr dynol ynddi, nac
yn wir, fawr o greaduriaid dofion ac adar. Gwelais
un aderyn yn esgyn i'r nefoedd oddiar ddyffryn y
Grand River, fel pe yn dyweyd fod y ddaear yn rhy
oer a digymdeithas iddo, a'i fod am gymeryd ei aden
i'r byd gwareiddiedig i geisio dyddanwch. Wrth sylwi
ar yr holl amrywiaeth rhamantus ac eangder y golygfeydd, y Panorama fawreddog ag oeddwn yn melltenu
drwyddi, delai dywediad Evan Ty Clai, yn hanes
Siencyn Penhydd, i'm cof gyda nerth. Pan aeth ef i
ben un o fryniau Cymru, a gweled mwy O'r wlad nag
a welsai erioed O'r blaen, yn yr olwg ar eangder y
wlad, codai ei ddwylaw mewn syndod, gan ddywedyd •
" Wel! wel! dyna eang yw y byd; "
felly y teimlaf
finau. Wele fi wedi cychwyn i'r daith hon er's dros
flwyddyn o Scranton, Pa., i gyfeiriad y Gorllewin pell;
ac er myned ganoedd o filldiroedd ambell ddiwrnod,
ac er syndod, yn nghanol clawdd ceryg asgwrn cefn y
cyfandir wyf eto, sef Ilochesfeydd anhygyrch Mormoniaeth, heb wybod a fydd i mi allu cyrhaedd erchwyn
gorllewinol gwely y gwareiddiad Americanaidd byth

 

 


(delwedd E0157) (tudalen 161)


A GWELEDIGAETHAU BYWYD.
161
ai peidio, gan fod yn agos fil o filldiroedd eto rhyngwyf
a'r pared gwlyb, halenog, sef y Tawelfor. Rhyw
ddeunaw milldir i'r dehau o Pleasant Valley y mae
gwaith glo, ac amryw Gymry yn gweithio; ond gan i
mi gwrdd a rhai O'r cyfryw yn y Junction yn gorfod
myned i ffwrdd am fod y gwaith yn darfod yn araf,
bernais yn annoeth fyned yno.
Spanish Fork, ar wastadedd eang o ddaear fras,
66Å o filldiroedd o Denver, a 54 0 Salt Lake City, oedd
y Ile nesaf i mi aros. Dyfrheir y dyffryn gan ddwfr
eira, yr hwn a doddir ac a redir yr haf trwy feusydd
celfyddydol; ond yr oedd tair milldir O'r orsaf i'r dref,
yr hon sydd mewn fork yn nghysgod y graig (mewn
ymddangosiad), yn ol ei henw, a'r tai yn Iled wasgaredig, ac yn dai Iled wael ar y cyfan. Poblogaeth y
Ile sydd rhwng tair a phedair mil. Mae y Cymry yn
elfen flaenllaw yn y dref, ac yn Iled luosog, ond fod
llawer ohonynt heb allu darllen Cymraeg, Wrth
gwrs, tref Formonaidd yw; ond y maent mor debyg i
bobl ereill fel na buaswn yn gwybod wrth ymddygiadau y Cymry eu bod yn perthyn i'r sect hono; a
chefais hwynt yn garedig a siriol. Aeth Mri Thomas
Charles Martell a D. T. Davies gyda fi yn ewyllysgar
i weled darllenwyr Cymreig y dref. Un peth hynod
welais yno oedd, fod yr amaethwyr yn byw yn y dref,
mewn pridd-dai, bron ol1, ac erw neu ddwy o ardd yn
perthyn i bob ty. Sefydlwyd fel hyn er mantais
amddiffynol yn amser yr Indiaid. Hefyd, y mae gan
y bobl eu masnachdai cydweithredol (co-operative) i
brynu eu holl nwyddau, a thrwy hyny y maent yn
cyfranogi O'r elw; a deallwn fod ein cydgenedl mewn
amgylchiadau da yn gyffredin. Cynaliant un gwasanaeth crefyddol yn Gymraeg bob wythnos.
Provo City ydyw county seat sir Utah: pellder o
Denver, 689 0 filldiroedd; poblogaeth o tua 7,000;
uchder, 4,517 0 droedfeddi. Ystyrir Provo yn un O'r

 

 


(delwedd E0158) (tudalen 162)


162
AMERICA,
trefydd prydferthaf a berthyn i'r boblogaeth Formonaidd yn y diriogaeth. Y mae yr heolydd yn llydain, a
dwfr rhedegog bob ochr, ac hefyd rhai coed i' w cysgodi.
I'r de O'r dref, y mae llyn o ddwfr croew, yr hwn sydd
30 0 filldiroedd o hyd, ac wyth o led; ac i'r gogleddddwyrain, y mae y Wasatck Mountains yn orchuddiedig gan eira, yr hwn sydd yn toddi yn yr haf, ac yn
cyflenwi y dref a chyflawnder o ddwfr pur trwy wely
afon Timpanogas. Gelwir Provo yn ardd Utah, a diau
genyf ei bod yn Ilenwi ei henw yn yr haf. Mormoniaid yw prif boblogaeth y dref, ond fod y cenedloedd
yn prysur gynyddu mewn rhif yno. Y mae gan y
Mormoniaid bum' capel yno, ac un Tabernacl hardd
ac eang i gynal eti cymanfaoedd; pedwar capel gan y
cenedloedd; a thua un-ar-ddeg o demlau duw Bacchus.
Dywed y Mormoniaid mai gwareiddiad y cenedloedd
sydd wedi dyfod a'r cyfryw demlau halogedig i' w tref,
gan fod dysgyblaeth eu heglwys hwy yn gwahardd i' w
haelodau fasnachu mewn diodydd meddwol. Nid oes
fawr o Cymry o iaith yn Provo. Y cyntaf O'r cyfryw
yr aethum i chwilio am dano oedd John Jones Davies
(leuan Ddu), yr hwn sydd yn adnabyddus i ddarllenwyr y Drych er's blynyddau fel gohebydd, bardd, a
Ilenor o radd dda. Cydnabyddid ef felly yn Nghymru
gan y byd Ilenyddol, oblegid ei gynyrchion Ilenyddol
mewn gwahanol gangenau. Ganwyd ef yn Alltwen,
Pontardawe, sir Forganwg, D.C.—yn yr un ty ag y
ganed Ednyfed ynddo. Un o orchestion Ilenyddol
Olaf leuan Ddu yw ei ffugchwedl ar Llewelyn ein
Llyw Olaf," a bwriada ei chyhoeddi yn llyfr yn fuan.
Ni chefais adnabyddiaeth bersonol o leuan Ddu O'r
blaen; ond er boddhad i mi, cefais ef yn foneddwr
croesawus a chymdeithasgar, cenedlgarol a Ilengarol;
ac er mai tref Seisonig yw Provo, y mae Mr. Davies yn.
arfer Cymraeg yn ei deulu, fel ag y mae ei blant yn
ddarllenwyr Cymraeg; a dywedai un ohonynt mai y

 

 


(delwedd E0159) (tudalen 163)


A GWELEDIGAETHAU BYWYD.
163
Drych yw y newyddiadur goreu yn y byd! Os bydd
yn gyfleus i rai O'r pregethwyr neu lenorion Cymreig
alw yn Provo, Utah, gallant fod yn hyderus y bydd
croesaw iddynt gan deulu leuan I)du. Er byw yn
ngwlad y Mormoniaid er's blynyddau, y mae Mrs.
Davies a'r mab hynaf yn para yn Fethodistiaid o hydGalwedigaeth Mr. Davies yw gwerthu llyfrau; ac y
mae 'n Ilenwi amryw swyddau anrhydeddus yn yr
urddau Mormonaidd. Aeth a fi i weled amryw O'r
frawdoliaeth, megys John G. Jones, Evan W ride, a'r
Parch. David John, yr hwn sydd Archesgob yn yr
eglwys Formonaidd, ond a fu yn weinidog gyda'r
Bedyddwyr yn Nghastellnewydd Emlyn. Mae ef yn
Gymro siriol, selog, ac yn Ilenor ac ysgolhaig uchelradd. Mewn amddiffyniad i gymeriad moesol ei gydgenedl, sicrhäi ef ac leuan Ddu i mi nad oedd un
Gymraes yn Provo yn cydymffurfio âg amlwreiciaeth,
mewn 7,000 0 boblogaeth; a dywedent mai ychydig o
Formoniaid sydd y dyddiau hyn yn meithrin amlwreiciaeth, er eu bod yn credu fod yr athrawiaeth yn
Ysgrythyrol. Ond gan fy mod ar gyrhaedd i Salt
Lake City, ac yn bwriadu aros yno rai dyddiau, tebyg
y bydd genyf ragor i' w ddyweyd y tro nesaf ar Formoniaeth.

 

 


(delwedd E0160) (tudalen 164)


PEN OD x x Vll.
O SALT LAKE crrv 1 SAN FRANCISCO.
TREULIO SABBATH YN SALT LAKE clTY, SEION Y
MORMONIAID.
AWRTH 8fed, yr oeddwn yn Salt Lake City.
Yn ol yr hen ddywediad, " Bydd Rufeiniwr tra yn Rhufain," ac, mewn rhan, o
chwilfrydedd ymofyngar, aethum boreu heddyw i'r
Ysgol Sabbathol yn un O'r capelau Mormonaidd, yr
hon a ddygid yn mlaen mewn ffordd oedd yn dangos
llawer o ddiwylliant yn ngwahanol gangenau addysg
a chrefydd. Ond am yr adran Sacramentaidd, yr oedd
y tri neu y pedwar cant o aelodau, O'r hen bobl penwyn hyd y babanod dwy a thair blwydd oed, yn cydgymeryd O'r bara a'r dwfr, er cofio fod bywyd a
marwolaeth Tywysog y Bywyd yn gyfaddas at angen
moesol pob oedran, yn unol ag addysg yr Eglwys
luddewig, a'r ffaith fod y Beibl yn profi fod yr Eglwys
Gristionogol yn fwy haelfrydig ei bendithion na'r
Eglwys luddewig.
Am ddau O'r gloch, aethum i'r Tabernacl mawr, yr
hwn sydd hir-grwn ei ffurf, a'i nen oddiallan ac oddifewn ar ffurf bâd â'i wyneb i waered. Dywedir ei fod
yr adeilad mwyaf yn y byd heb golofn i ddal ei nen, a
gall 12,000 0 bobl eistedd o'i fewn, a deall y Ilefarwr
mor eglur yn y pellder ag a ellir mewn llawer capel
heb fod yn 40 troedfedd o hyd. O'r tu ol i'r areithfa
yr oedd un O'r organau mwyaf yn y byd, ac hefyd cor
canu yn rhifo tua 350, yn cael ei arwain gan Gymro o

 

 


(delwedd E0161) (tudalen 165)


AMERICA.
165
Pencader, sir Gaerfyrddin, D.C., O'r enw E. Stephens
ac yn sicr i chwi, yr oeddynt yn canu yn dda, a bwriadant fyned i gystadlu i Eisteddfod Fawr y Byd yn Chicago
yn 1893. (Y cor hwn a enillodd yr ail wobr 0 1,000 dole
yn yr Eisteddfod dan sylw.) Am chwech yr hwyr eto„
aethum i gyfarfod y Mormoniaid. Nid oedd dim yn
wahanol yn y cyfarfod hwn i gyfarfodydd pregethu yn
gyffredin, ond fod y pregethwr yn gwneyd cylch y
cenedloedd anghrediniol yn eangach na'r pregethwyr
yn gyffredin. Y mae gan y Mormoniaid 22 0 leoedd
addoliad yn Salt Lake City, Ile y cynelir gwasanaeth
crefyddol, Sabbathol ac wythnosol, yn debyg i enwadau
ereill; a dim ond prydnawn Sabbath yr addolir yn y
Tabernacl.
Y mae gan y cenedloedd hefyd amryw gapelau
yn y dref, ond nid oes yr un gan y Cymry fel y cyfryw;
ond y mae ein cydgenedl wedi cychwyn Ysgol Sabbathol, ac wedi ffurfio Cymdeithas Gymreig Dewi
Sant. Hefyd, y maent yn dechreu son am eglwys a
chapel. Gobeithio y daw hyn yn sylwedd bendithiol,
oblegid y mae yn y ddinas filoedd o Cymry, a chredaf
nad yw Salt Lake City ond yn ei babandod eto.
Heblaw ei bod wedi llwyddo mor ryfeddol fel Seion
ddaearol y Mormoniaid, y mae ei chysylltiadau manteisiol i fod yn gyrchfa adloniadol ac iachaol, ar gyfrT
eishamrywiaeth daearyddol a'i hinsawdd ragorol, yn
debyg o sicrhau dyfodol enwog iddi. Hefyd, y mae ei
sefyllfa ganolog i gyfoeth mwnawl Utah a'r MynyMoedd Creigiog yn addaw iddi ddyfodol dysglaere
Gorphenaf 24ain, 1847, y sylfaenwyd y ddinas gan
Brigham Young a 142 0 ganlynwyr Mormonaidd; ond
yn awr y mae ei phoblogaeth yn 50,000. Gorchuddia
10,000 0 erwau o dir, sydd bron yn wastad; ac, mewn
canlyniad, y mae ei heolydd yn uniawn a rheolaidd, ae
yn 132 0 droedfeddi o led, gyda chyflawnder o ddwfr
grisialaidd oddiar y mynyddoedd yn dyfrhau y ddinas

 

 


(delwedd E0162) (tudalen 166)


166
AMERICA,
a'r wlad o gwmpas. Rhwng y coed ar hyd ochrau yr
heolydd, a'r dwfr rhedegog bob ochr, credafei bod yn
hardd a swynol yn yr haf; ond, wrth gwrs, nid oes
llawer o arwyddion cyfoeth mawr ynddi hyd yn hyn ar
yr adeiladau a'r heolydd, oblegid rhaid cael amser i
ddwyn hyny oddiamgylch.
Pa fodd bynag, wrth edrych ar orwychedd yr
.adeiladau o eiddo yr Eglwys Formonaidd, nis gall yr
edrychydd ystyriol a diragfarn lai na rhyfeddu ac
edmygu eu llwyddiant yn ngwyneb anhawsderau
pwysig. Edrychaf fi ar hyn ol1 fel awgrym i'r byd
Cristionogol beth allesid, a beth ddylid wneyd er cael
y byd i drefn; a chredaf nad yw yr amser yn mhell
pan y bydd esiamplau da Mormoniaid yn peri i'r
byd Cristionogol edrych ar ganlynwyr Joseph Smith
fel un O'r enwadau uniawngred, pan y byddant wedi
llwyr ymlanhau oddiwrth waradwydd yr amlwreic.iaeth. Diamheu y bydd eu teml ardderchog yn gofgolofn i'r oesau a ddaw o dduwiolfrydedd a ffyddlondeb
yr eglwys hynod hon yn yr haner can rif cyntaf o'i
bodolaeth yn eu Jerusalem newydd, ar ben y mynyddoedd, megys yr hen Demi, yn cael ei hamgylchynu
gan fynyddau Palestina. Y mae y deml hon wedi cael
ei hadeiladu cheryg mawrion o farmor. Ei hyd yw
186 troedfedd a 6 modfedd, ei Iled yn 99 troedfedd; ac
y mae iddi chwech o dyrau, a'r prif un yn 200 troedfedd o uchder. Yn argraffedig ar ei thalcen mawreddog y mae a ganlyn: " Holiness to the Lord. The
House of the Lord, built by the Church of Jesus Christ
of Latter Day Saints: Commenced April 6th, 1853;
Dywedir fod " F'ewyrth Sam " am
completed——
gymeryd y deml hon oddiar y Mormoniaid, ond byddai
hyn yn fwy o waradwydd i'r Weriniaeth na chysegrysbeiliadau cyffredin.
Y n mhlith y miloedd Cymry sydd yn nghylchoedd
Dinas y Llyn Halen, y mae llawer o wyr athrylithgar;

 

 


(delwedd E0163) (tudalen 167)


A GWELEDIGAETHAU BYWYD.
167
oni ni Wnaf sylwi ond ar un O'r cyfryw-y tro hwn, er
m wyn gochelyd meithder, sef Proff. Evan Stephens,
arweinydd y cor canu cynulleidfaol 0 350 yn y Tabernacl. Agorodd ef ei lygaid ar y byd yn Alltfechan,
Pencader, sir Gaerfyrddin, Mehefin 28ain, 1854. Y
degfed plentyn ydoedd i David a Jane Stephens, y rhai
a ymdrec.hasant ei gadw yn ysgol y pentref nes y
dysgodd ddarllen ac ysgrifenu, a chyfrif tipyn; a
gofalodd ei fam ei ddysgu i ddarllen Cymraeg. Daeth
i America pan yn 12 mlwydd oed, yn nghwmni ei
rieni, gan gychwyn o län afon Missouri yn groes i'r
mynyddoedd gyda wagen a iau o ychain, hyd oni chyrhaeddasant Utah, y wlad addawedig; a'r flwyddyn
hono enillodd gadair yn Willard, tref fechan yn Box
Elder County. Wrth fugeilio defaid ar lechweddau y
creigiau y dysgodd ddarllen cerddoriaeth, yn benaf
trwy weithio ar ddarnau O'r " Delyn Gymreig a
"Chydymaith y Cerddor," pan yr oedd ei enaid cerddorol yn Ilifo allan i ddyddori y defaid a'r adar ar lechweddau anhygyrch anialwch y wlad bell. Y mae gwir
athrylith, fel y dwfr bywiol, rhedegog, yn tori ei ffordd
trwy greigiau yr anialwch, nes dyfod i wastadeddau
gwareiddiad, er disychedu ac adfywio creadigaeth
I)uw; ac yn ol yr hen ddywediad, " Practice makes
master." Pan oedd ein harwr yn 17 mlwydd oed,
cafodd ei ddewis yn arweinydd cor; a dadganwyd tri
o'i gyfansoddiadau ef ei hun gan y cyfryw gor mewn
cyngerdd O'r eiddynt yn ol llaw, sef dau gydgan ac un
deuawd. Ar yr un pryd, parhäi i weithio ar y fferm.
Pan yn 25 mlwydd oed, aeth i Logan i gysegru ei
holl amser at gerddoriaeth, i ddysgu ereill, a diwyllio
ei hun, gan weithio deg awr y dydd i ddysgu ereill;
ac yn y cyfnod yma cyfansoddodd dair drama, y rhai
a ddadgenid ganddo ef a'i ddysgyblion er boddlonrwydd i'r cyhoedd; ac yn y cyfamser addysgai 200
o blant. Ar ol dwy flynedd o waith caled yn Logan

 

 


(delwedd E0164) (tudalen 168)


168
AMERICA,
City, gwynebodd ar Salt Lake City, a llwyddodd i'r
fath raddau fel, cyn pen blwyddyn, yr oedd ganddo
dros 900 dan addysg gerddorol o wahanol ddosbarthiadau: a'r flwyddyn ganlynol cyflogwyd efyn Broffeswr
Cerddoriaeth yn yr University of Deseret, Salt Lake
City, gyda phrif dalentau y ddinas yn derbyn addysg
gerddorol wrth ei draed. Fel ffrwyth ei lafur, cynaliasant amryw gyngerddau mawreddog yn y Tabernacl
mawr Mormonaidd, yn mhresenoldeb 12,000 0 wyddfodolion. Yr oedd wedi dysgu rhai o'i ddysgyblion i
ganu darnau a berthynant i'r gwahanol genedloedd a
wnant i fyny 'yr Eglwys Formonaidd, ac fel diweddglo
canai ef ei hun " Hen W lad fy Nhadau," gyda mil o
blant yn canu y cydgan yn Gymraeg, gan barablu y
geiriau mor eglur a phe buasent Gymry.
Y n y flwyddyn 1885, penderfynodd Mr. Stephens
fyned i Boston i berffeithio ei hun, trwy gymhorth G.
W. Chadwick a Geo. E. Whitney; a Chyn ei ymadawiad rhoddodd ef a 500 0'i ddysgyblion gyngerdd yn y
Tabernacl i 12,000 0 bobl, a'r holl ddarnau a ganwyd
wedi eu cyfansoddi gan Mr. Stephens ei hun. Felly
gwelwch nad wyf yn cymeryd colofnau y Drych i
arddangos cymeriad cyffredin, ond un O'r cerddorion
mwyaf llwyddianus ac athrylithgar ar gyfandir
America. Ni chymerodd iddo ond deng •mis i fyned
trwy y gwersi yn Boston, pryd y dychwelodd i faes ei
lafur yn Salt Lake City; a pan y bu P. S. Gilmore yn
y ddinas, yr oedd gan Stephens gor 0 500 0 leisiau
mewn oed, a 1,000 0 blant yn cymeryd rhan yn y
gyngerdd. Hefyd, mae wedi corffori Choral Society,
yn rhifo 350 0 leisiau, yn dysgu caniadaeth gysegredig
ac amrywiaethol; a thebyg mai Cor y Tabernacl yw y
cor eglwysig goreu yn y byd. Os wyf yn iawn yn y
dywediadau uchod, gwelir mai nid yr Eisteddfodau
sydd yn gwneyd pawb yn fawr a defnyddiol, wedi y
cyfan; canys nid yw Proff. Stephens wedi bod yn

 

 


(delwedd E0165) (tudalen 169)


A GWELEDIGAETHAU BYWYD.
169
nemawr o Eisteddfodwr erioed, nac wedi enill gwobr
Ei&teddfod, er iddo fod yn ail i Gwilym Gwent. Nid
yw wedi cystadlu er's chwe' blynedd. Y mae Smith and
Brainard wedi cyhoeddi amryw o'i gyfansoddiadau, yr
ol1 0'r rhai a rifant bump neu chwe' chant, yn cynwys
songs, duetts, trios, quartettes, glees, anthems, choruses,
dramas, cantatas, &c. Yn ngwyneb hyn, tebyg y bydd
rhai cerddorion yn gwenu yn amheus, gan ofyn yn
wawdus, " Pwy sydd yn Ilefaru? A ddichon dim gwir
athrylith wreiddio a dadblygu yn Seion y Mormoniaid,
rhwng creigiau diffaith Utah bell? " Wrth y cyfryw
dywedaf, Tyred a gwel, heb wydrau rhagfarn ar dy
lygaid.
Nis gallaf fanylu ar amrywiaeth golygfeydd Salt
Lake City, megys Fort Douglass, beddau Brigham
Young a'i wragedd, &c. Y mae yn y ddinas amryw
Gymry masnachol cyfoethog a llwyddianus, megys
Elias Morris, John S. Lewis, Wm. N. Williams, John
W. Jones, D. L. Davies, H. F. Evans; hefyd Morris a
Eynon, glanhawyr carpedau o Fish Creek, Wis., y rhai
sydd yn llwyddo. Erfyn Mr. Morris ei gofion at D.
Morris, a'r Jamesiaid, a'r Parch. Pugh, a phawb o'i
hen ffryndiau yn Fish Creek. Cymry llwyddianus
ereill yw John a Wm. Griffths, o Arvonia, Kansas, a
Chyn hyny o Gwm Tawe, sir Forganwg, D.C., y rhai a
gadwant amryw weddoedd i gario nwyddau yn y dref.
Wrth gwrs, cefais eu henwau hwythau at y Drych. Y
mae llawer o Gymry ereill mewn safleoedd ac amgylchiadau anrhydeddus o fewn ac allan i'r Eglwys Formonaidd, ond rhaid ymatal y tro hwn, gan gefnu ar y
ddinas a'i thywydd hafaidd, a'i hamrywiol swynion, er
gwynebu ar y Gorllewin eto.
O TTTAH 1 LANA U Y TAWELFOR.
Cefnais ar Salt Lake City, gan fyned gyda glän y
Llyn Halen mawr, yr hwn a orchuddia 2,500 0 filldir12

 

 


(delwedd E0166) (tudalen 170)


170
AMERICA,
oedd ysgwar. Ei ddyfnder cyfartal yw 20 troedfedd;
ei hyd, 120 0 filldiroedd; a'i led, 45 0 filldiroedd. Elai
y Denver & Rio Grande R.R. a fi trwy wastadedd isel,
rhwng y llyn mawr a'r creigiau ysgythrog, ar y tu
gogleddol, nes cyrhaedd Ogden, terfyn gorllewinol y
Denver & Rio Grande R.R., Ile mae rhyw saith o ffyrdd
haiarn yn cwrdd. Y mae Ogden yn dref hardd, gynyddol, mewn dyffryn isel, er ei bod 4,286 0 droedfeddi
uwchlaw arwynebedd y mar. Amgylchynir hi gan
fynyddau pen -wynion. Ei phoblogaeth y w tua 15,000;
pellder o Denver, 771 0 filldiroedd. Mormoniaid yw y
mwyafrif mawr yn Ogden hefyd, ac nid oes yno ond
ychydig o Cymry. Ymddengys i mi gael yr holl
ddarllenwyr Cymreig i dderbyn y Drych, sef Griffith
Williams, diweddar o Gydweli, sir Gaerfyrddin, D.C.;
John Thomas, gynt o Mountain Ash, sir Forganwg,
D.C.; H. H. Thomas, arluniwr llwyddianus yn y dref,
yr hwn fu ar daith genadol yn Nghymru yn ddiweddar
dan nawdd yr Eglwys Formonaidd; a John Mathews,
gynt o Gwm Tawe, sir Forganwg, D.C.
Aethum oddiyno rhagwyf eto trwy eangder amrywiol 0 300 0 filldiroedd hyd Palisade Junction, Ile y
bwriedais gymeryd y trén i fyned i Eureka, Ile mae
amryw o Gymry; ond gwarchod pawb! yr oedd rhaid
talu 16 dol. am deithio 90 0 filldiroedd! Wedi deall
hyn, penderfynais gymeryd y gerbydres nesaf i gyfeiriad y Gorllewin. Y peth a dynai fwyafo fy sylw am y
naw awr y bâm yn Palisade oedd sylwi ar gaethwas i'r
diodydd meddwol yn wirfoddol yn gwasanaethu ei
arglwydd gorthrechol, gan fyned at y bar yn y gwesty
bob deng mynyd!rwy y dydd i gael tanwydd ar y tan.
Llawer gwaith y clywais ef yn dyweyd wrth y bartender, " The ten minutes are up! " ac yn hawlio ei
lwnc. Dyna gaethiwed ofnadwy, onide? Siaradai yn
rhesymol a boneddigaidd ar bethau yn gyffredin, ond
cydnabyddai ei fod bron allan o arian; ac eto, yn

 

 


(delwedd E0167) (tudalen 171)


A GWELEDIGAETHAU BYWYD.
171
wirfoddol (o ran pob ymddangosiad), yn rhoddi gwerth
pum' sent neu ragor O'r elfen losgadwy yn ei ymysgaroedd bob deng mynyd!
Cychwynais am y Gorllewin yn nghanol ystorm
eira; ac wrth fyned yn mlaen yr oedd amrywiaeth y
golygfeydd yn fy nyddori; ond un O'r pethau mwyaf
dyddorol i mi oedd y twyll a ymddangosai yn eangder
y golygfeydd o'm cwmpas. Er engraifft, pan tua
phump neu chwe' milldir i'r gorllewin o Palisade,
dyna ni yn myned i mewn i ddarn o wastadedd megys
bwrdd. Vmddangosai i'm llygaid fel fferm go fawr, yn
cael ei hamgylchynu chlawdd ceryg, a thop y wäl
wedi cael ei wyngalchu; ond gwarchod pawb, er ein
bod yn y fast train, buom rhwng dwy a thair awr yn
croesi y llanerch, yr hon oedd dros 60 milldir o hyd.
Yn y cae mawr twyllodrus hwn y mae gorsaf Battle
Mountain, ac amryw o gabanod Indiaidd o gwmpas; a
sylwn pan oedd y gerbydres yn cychwyn O'r orsaf hon
ar Indiad a'i wraig yn eistedd ar risiau un O'r cerbydau,
ac yno y buont am oriau. Pa beth a ddaeth ohonynt,
nis gwn; dyna Ile yr oeddynt yn synfyfyrio hyd oni
ddaeth yn nos—o leiaf, pryd yr aethum i gysgu ar yr
olwynion. Deffrowyd fi yn Colfax, 689 0 filldiroedd o
Ogden; ac yna aethom rhagom eto trwy ddiffaethwch
California, gan araf ogwyddo i waered i ddyffryn
Sacramento; a chyda goleuni y dydd daeth gwyrddlesni y gwanwyn a blodau amrywiol yr haf i'n Sirioli.
Rhyfedd yw cyfnewidiadau y byd, onide! Prydnawn
dydd Mercher mewn ystorm eira gauafaidd y mynyddoedd, a thranoeth yn mwynhau golygfeydd hafaidd
glän y Tawelfor.
Yn Ile myned y ffordd föraf o Sacramento, yr hon
sydd 90 0 filldiroedd, aethum trwy Stockton, Lathrop,
a Tracy, sef 140 0 filldiroedd trwy wlad hardd, ffrwythIon a blodeuog-—tua yr haner cyntaf O'r daith yn wastadedd ardderchog, a thua 50 milldir trwy wlad fryniog,


 

 


(delwedd E0168) (tudalen 172)


172
AMERICA.
wrteithiedig O'r top i'r gwaelodion; ac os nad oes enw
ar y wlad fryniog hon, teimlwn y dylai gael ei galw yn
W lad y Bryniau Hyfryd, neu Bryniau Paradwys. Aeth
y gerbydres a fi dros lawer O'r mar, fel pe buasai yn
penderfynu myned dros y Mör Tawelog tua China bell;
ond dyna stop yn ymyl y dyfroedd dyfnion, ar ol bod
tua 14 0 fisoedd yn croesi y cyfandir llydan, amrywiog.
I Lywodraethwr mawr yr elfenau y byddo y diolch am
nad oes dim niwed wedi dygwydd i mi yn fy holl
symudiadau tröellog yn groes i'r cyfandir mawr; ac
yr wyf yn hyderu nad wyf finau wedi bod yn niweidiol
i neb ar y daith dröellog. Gyda ein bod wedi gosod
ein traed ar blatfform yr orsaf ar y dyfroedd, i ffwrdd
a fi gyda y lluaws i'r agerfad, yr hwn a aeth a ni rai
milldiroedd dros ddyfroedd y Tawelfor; ond yn hytrach
na myned a fi rhagwyf at Asia, aeth a fi o län tref Oakland i län dinas fawr y Tawelfor, San Francisco, a
thebyg y bydd darllenwyr y Drych yn dysgwyl i minau
ddyweyd rhywbeth am dani.

 

 


(delwedd E0169) (tudalen 173)


PE NOD
x x Vill.
SAN FRANCISCO AC OAKLAND,
CALIFORNIA.
AN Francisco, dyma brifddinas gwlad yr haf
tragywyddol. Y mae ynddi ei hamrywiaeth
dirifedi, fel nad gwiw i mi amcanu rhoddi
cyfrif O'r filfed ran O'r hyn a welais yn y
ddinas fawr gyfoethog hon. Y mae wedi cael ei hadeiladu ar gant o fryniau, a digon o le i' w helaethu ar gant
yn ychwaneg o fryniau prydferth i gyfeiriad y dehau
O'r ddinas. I'r gorllewin y mae parc mawr cyhoeddus
y ddinas, yr hwn sydd eangach ei derfynau na Central
Park dinas New York; ac i'r gorllewn o hwnw y mae
y mar mawr Tawelog. I'r gogledd O'r ddinas y mae
y Golden Gate a'r culfor sydd yn arwain i fewn i un O'r
porthladdoedd naturiol helaethaf yn Y byd. I'r
dwyrain y mae y porthladd naturiol dan sylw, yr hwn
sydd bymtheg neu ugain milldir o hyd, a thua wyth
milldir o led rhwng San Francisco ac Oakland. Felly,
yr Olaf sydd ar y prif dir, a'r brifddinas ar y blaendir,
rhwng y mar mawr a'r bau.
Bâm trwy y Ileoedd mwyaf dyddorol i ddyeithrddyn. Yn gyntaf, aethum i ben rhai O'r bryniau
allanol er gweled nodwedd ddaearyddol y ddinas, a'r
golygfeydd cwmpasol O'r mar; a theimlwn i'r olygfa
dalu yn dda am y dringo. Aeth yr hen gyfaill a'r
Cymro twymgalon gynt o Scranton, Pa., Dr. H. Isaac
Jones, a fi i weled llawer O'r golygfeydd hyd at ymyl

 

 


(delwedd E0170) (tudalen 174)


A GWELEDIGAETHAU BYWYD.
175
W. D. Williams, D. D. , gweinidog y Plymouth Church,
San Francisco—capel hardd, ac eglwys yn rhifo 500 0
aelodau. I)iau fod yn San Francisco lawer o Gymry
nas gellir dyfod o hyd iddynt, fel Cymry, canys mae
yn ddinas fawr, yn cynwys tua 400,000 0 eneidiau o
bob cenedl. Dywedir fod y preswylwyr yn eithafol o
annuwiol; ond, wrth gwrs, gan na welais i ond yr
arwynebol o wedd ac arferion y ddinas, ac na fernais
yn ddoeth ymweled â'r saloons, y dawnsleoedd, y
chwareudai, &c., nid wyf fi gymhwys i farnu agwedd
foesol y ddinas yn ei chudd-leoedd. Ond syiwn fod
agwedd fasnachol y ddinas yn fwy beiddgar nag a
welswn O'r blaen, yn arbenig ar y Sabbathau, canys
tebyg nad oes gyfreithiau i gyfyngu ar fasnach Sabbathol, o unrhyw fath, ond rhyddid i bawb fyned yn
ol eu tueddiadau eu hunain. Sylwn hefyd fod y
detholion arddangosiadol yn arddangosfeydd yr arlunwyr o nodwedd fwy anllad nag a welswn ar fy holl
deithiatt; a thebyg fod detholion arddangosfa yr
arlunwyr yn gystal adlewyrchiad o gymeriad moesol
dinas a dim ellir gael, oblegid y mae yr artist mewn
mantais dda i ddeall chwaeth y cyhoedd. Pa fodd
bynag, er fod San Francisco, yn ol pob tebyg, yn
ddinas fwy annuwiol a llygredig ei muesau na dinasoedd y dwyrain yn gyffredin, y mae yno weithio dros
grefydd a moesau da gan filoedd lawer o Gristionogion, dyngarwyr, a gwladgarwyr; a bydded iddynt
lwyddo i wneyd y ddinas fawr hon yn fwy teilwng O'r
bendithion ag y mae Llywodraethwr Mawr pob peth
wedi ymddiried iddi. Tueddir fi i farnu fod Oakland
yn fwy crefyddol, yn fwy pur ei moesau a'i harferion,
na San Francisco, a'r amgylchiadau yn fwy ffafriol
iddi gadw ar y blaen yn yr ystyron yna yn y dyfodol.
Masnachwyr a gweithwyr San Francisco sydd yn cyflym
adeiladu Oakland fel cartrefi dymunol i fyw o dwrw y
brifddinas, ond y mae masnach yn araf gynyddu yn

 

 


(delwedd E0171) (tudalen 175)


A GWELEDIGAETHAU BYWYD.
175
W. D. Williams, D. D. , gweinidog y Plymouth Church,
San Francisco—capel hardd, ac eglwys yn rhifo 500 0
aelodau. I)iau fod yn San Francisco lawer o Gymry
nas gellir dyfod o hyd iddynt, fel Cymry, canys mae
yn ddinas fawr, yn cynwys tua 400,000 0 eneidiau o
bob cenedl. Dywedir fod y preswylwyr yn eithafol o
annuwiol; ond, wrth gwrs, gan na welais i ond yr
arwynebol o wedd ac arferion y ddinas, ac na fernais
yn ddoeth ymweled â'r saloons, y dawnsleoedd, y
chwareudai, &c., nid wyf fi gymhwys i farnu agwedd
foesol y ddinas yn ei chudd-leoedd. Ond syiwn fod
agwedd fasnachol y ddinas yn fwy beiddgar nag a
welswn O'r blaen, yn arbenig ar y Sabbathau, canys
tebyg nad oes gyfreithiau i gyfyngu ar fasnach Sabbathol, o unrhyw fath, ond rhyddid i bawb fyned yn
ol eu tueddiadau eu hunain. Sylwn hefyd fod y
detholion arddangosiadol yn arddangosfeydd yr arlunwyr o nodwedd fwy anllad nag a welswn ar fy holl
deithiatt; a thebyg fod detholion arddangosfa yr
arlunwyr yn gystal adlewyrchiad o gymeriad moesol
dinas a dim ellir gael, oblegid y mae yr artist mewn
mantais dda i ddeall chwaeth y cyhoedd. Pa fodd
bynag, er fod San Francisco, yn ol pob tebyg, yn
ddinas fwy annuwiol a llygredig ei muesau na dinasoedd y dwyrain yn gyffredin, y mae yno weithio dros
grefydd a moesau da gan filoedd lawer o Gristionogion, dyngarwyr, a gwladgarwyr; a bydded iddynt
lwyddo i wneyd y ddinas fawr hon yn fwy teilwng O'r
bendithion ag y mae Llywodraethwr Mawr pob peth
wedi ymddiried iddi. Tueddir fi i farnu fod Oakland
yn fwy crefyddol, yn fwy pur ei moesau a'i harferion,
na San Francisco, a'r amgylchiadau yn fwy ffafriol
iddi gadw ar y blaen yn yr ystyron yna yn y dyfodol.
Masnachwyr a gweithwyr San Francisco sydd yn cyflym
adeiladu Oakland fel cartrefi dymunol i fyw o dwrw y
brifddinas, ond y mae masnach yn araf gynyddu yn

 

 


(delwedd E0172) (tudalen 176)


176
AMERICA.
Oakland hefyd. Rhifa ei phoblogaeth tua 60,000, ac y
mae ynddi amryw o Gymry llwyddianus, ac ymddengys i mi fod Richard Jones, Ysw., goruchwyliwr y
Drych yn Oakland, yr hwn sydd yn cadw masnachdy
eang ar Broadway, yn un O'r rhai mwyaf felly.

 

 


(delwedd E0173) (tudalen 177)


PEN OD X X 1 X.
TRWY OREGON 1 WASHINGTON.
O SAN FRANCISCO 1 OREGON crry A BEAVER CREEK.
AWGRVM 1 YMFUDWYR.
ELE fi wedi cefnu ar California hafaidd ac
euraidd. Gadewais San Francisco gyda'r
C. P. R.R., nos lau, Ebrill 2i1, am 9, gan
fyned trwy ddyffryn eang, hardd, a ffrwythlon y Sacramento am tua 200 0 filldiroedd; ac wedi hyny am tua
100 arall ar hyd glän yr afon Sacramento, trwy wlad
ddiffaith, goediog, a mynyddig, gan ymdröelli o gwmpas a rhwng bysedd traed y mynyddoedd, heibio Castle
Crag, a Lower ac Upper Soda Springs, a Shasta Springs,
Ile y mae y tren yn aros i'r teithwyr gael yfed O'r Soda
Water sydd yn tarddu allan O'r ddaear, a'r Ile y mae
miloedd o boteli yn cael eu Ilenwi ohono i' w hanfon i'r
marchnadoedd. Rhwng un a dau O'r gloch dranoeth,
wedi gadael San Francisco, yr oeddym yn ciniawa yn
Sisson, ar ben mynydd, 338 0 filldiroedd o brifddinas
glänau y Tawelfor. Yna dechreuem ddisgyn rhwng y
mynyddoedd penwynion, ar hyd eu Ilechweddau, a
thrwy eu hesgyrn, a thros y pontydd yn groes i agenau
y creigiau; ac yr oedd y rheilffordd y teithiem arni
i'w gweled yn ddwy linell filoedd o droedfeddi odditanom, fel pe buasent yn ffyrdd gwahanol. Rhwng
pump a chwech O'r gloch y prydnawn, yr oeddem yn
croesi y State Line i Oregon, 405 0 filldiroedd o San
Francisco. Ar ol disgyn O'r mynyddoedd, cyrhaeddasom

 

 


(delwedd E0174) (tudalen 178)


178
AMERICA,
ddinas brydferth Ashland, yn nghanol dyffryn
amaethyddol o ddaear dda. Y ma, hefyd, mae swyddogion y ffordd yn newid. Dyma y nos yn cau rhyw 200
milldir o dir Oregon O'n golwg; ond dranoeth, daethom trwy ryw gan' milldir o wlad amaethyddol go lew
(ond fod llawer yn y golwg yn fryniog a choediog ar
bob tu) gan ddisgyn yn Oregon City, 757 0 filldiroedd
o San Francisco. Ar ol dringo ar i fyny trwy Oregon
City nes cyrhaedd pen y bryn, aethtlm allan i'r wlad i
gyfeiriad Beaver Creek; a'r teulu Cymreig cyntaf y
daethum ato oedd teulu Thomas Davies, un o ddarIlenwyr ffyddlawn y Drych. Wedi ciniaw croesawus a
thipyn o ymgom difyr, aethum rhagwyf heibio i
breswylfod Morris Roberts; ond nid oedd yno neb
gartref i groesawu yr estron hwn. Gelwais yn nesaf
yn nh9 Daniel Williams, Ile y derbyniwyd fi yn siriol,
a gwerthais iddo y Drych. Arosais dros y Sabbath
gyda D. F. Harries; a rhwng sirioldeb y teulu a
chwmni H. Rees, yr hen lanc doniol o Emporia,
Kansas, a John O. Jones, hen lanc arall, a derbyniwr
y Drych, y rhai a letyent yn nhl Harries, cefais amser
difyr. Gorfu arnaf fyned gyda hwy i'r maes i ddysgu
Ilosgi coed, er gwneyd Ile i lafurio y ddaear; ac yr
oeddwn yn mwynhau y gwaith yn Iled dda am dro, oni
bai y mwg Ilosgedig lanwai fy llygaid.
Boreu Sabbath, Ebrill 5ed, aethum i gapel y Presbyteriaid, i glywed y Parch. Richard W. Jones, o
Miner Co., South Dakota, yr hwn a bregethodd yn
dda. Gallwn feddwl fod Mr. Jones yn llygadu am
leoedd i ddyfod â rhai o'i ffryndiau o Dakota i ardal
Beaver Creek. Bugeilir yr eglwys dan sylw gan y
Parch. John Sylvanus, Cymro siriol, yr hwn sydd wedi
bod yn llafurio ev's blynyddau ar y frontiers, ond a
ddechreuodd bregethu yn Johnstown, Pa., lawer o
flynyddau yn ol, gyda'r Annibynwyr. Bim y prydnawn yn Ysgol Sabbathol yr Annibynwyr, ac yn eti

 

 


(delwedd E0175) (tudalen 179)


A GWELEDIGAETHAU BYWYD.
179
capel yn yr hwyr, ond ni chefais y fraint o weled na
chlywed yr hen gyfaill, y Parch. R. Mawddwy Jones,
gynt o Gomer, Ohio, gan ei fod oddicartref. Da oedd
genyf ddeall fod Mr. Jones yn llwyddo yn y Gorllewin
pell. Heblaw yr eglwys Gymraeg sydd dan ei ofal yn
Beaver Creek, y mae ganddo dair o eglwysi Saesoneg
dan ei ofal mewn gwahanol fanau O'r wlad newydd
yma. Da genyf ei fod ef a'r Parch. Mr. Sylvanus mor
llwyddianus i gychwyn adeiladu eglwysi newyddion
yn y wlad newydd obeithiol hon.
Bâm yn gweled Cymry yr ardal yn Iled gyffredinol.
Y mae tua 35 0 amaethwyr Cymreig yn wasgaredig ar
hyd a Iled tua chwech neu saith o filldiroedd o wlad
dda; ac y mae yno le i ugeiniau yn ychwaneg i brynu
ffermydd mewn gwlad o dir da er cynyrchu cnydatt
toreithiog o ydau, a phob math o ffrwythatl coed. Ond
gwlad goediog yw, a gwaith caled fydd clirio y tir a
byw. Y pren mwyaf a welais yno oedd un yn tyfu ar
fferm y Parch. R. M. Jones, yr hwn a fesurai 30 0
droedfeddi o amgylchedd. Mae yr hinsawdd rywbeth
rhwng hinsawdd yr Hen W lad ac eiddo y Talaethau
Dwyreiniol. Ni cheir dim o werth o rew ac eira; ond
ceir llawer o wlaw y gauaf a'r gwanwyn. Gellir prynu
tir yno am wahanol brisoedd, 0 15 dol. yr erw hyd 60
dol., yn ol y tir a'r gwelliantau. Buasai yn ddymunol
genyf wneyd sylwadqu personol a theuluol am yr ol1„
ond rhaid ymatal.
Tref fechan yw Oregon City, rhwng y creigiau ac
ar y bryniau, gyda phoblogaeth o rhwng 3,000 a 4,000,
Mae y dref wedi cynyddtt yn ddiweddar, mewn canlyniad i gychwyniad llaw-weithfeydd, megys gweithfa
gotwm a melinau papyr, Mae yno allu dyfrol da oddiwrth gwymp yr afon Willamette; a'r cwymp hwn
sydd yn cynyrchu gallu trydanol Portland, ryw 18
milldir oddiyno. Nid oes yn Oregon City lawer o
Gymry; ond gwelais Mr. Price, y teiliwr, gynt o

 

 


(delwedd E0176) (tudalen 180)


180
AMERICA,
Venedocia, Ohio; y mae golwg dda arno ef a'i deulu.
Siaradai Price yn barchus am ei hen gymydogion yn
Ohio.
O OREGON A WASHINGTON,
Cyrhaeddais yn ddyogel i Portland, Oregon—
Saif y ddinas
Metropolis of the North-west."
gynyddol ar län orllewinol yr afon fordwyol Willamette, deuddeg milldir O'r afon Columbia, a 110 0'r Mör
Tawelog gyda'r afon. Ar ochr ddwyreiniol yr afon y
mae dinas East Portland, poblogaeth yr hon sydd tua
10,000. Cynwysa Portland 60,000, a dywedir ei bod y
drydedd yn y byd mewn cyfoeth, yn ol rhif ei phoblogaeth. Y mae ganddi ddwy fantais arbenig i lwyddo:
Y n gyntaf, y mae yn borth mordwyol i gynyrch
4,000,000 0 erwau o dir bras dyffryn yr afon Willamette; ac hefyd yn agos i wddf yr afon Columbia—yr
afon fawr sydd yn dyfrhau gwlad sydd bedair gwaith
cymaint a Thalaeth New York. Heblaw hyny, y mae
y ddwy afon yn rhai O'r meithrinfeydd salmon cyfoethocaf yn y byd; ac y mae pump o reilffyrdd mawrion y
Gorllewin yn rhedeg i Portland, yr hyn, yn nghyda
hinsawdd ragorol Oregon, sydd yn debyg o sicrhau
llwyddiant dyfodol mawr i'r dinasoedd.
Nid wyf wedi gweled llawer o Gymry yn y ddinas,
ond diau fod yno fwy nag y gallwn ddyfod o hyd
iddynt, gan nad oes ganddynt yr un cyfrwng cenedlaethol Cymreig rheolaidd i'w dwyn at eu gilydd. Gwir
eu bod yn ymgynull yn achlysurol i gael ambell
bregeth Gymraeg pan ddaw pregethwr heibio. Deallwyf fod y Parch. R. Mawddwy Jones, Beaver Creek,
yn myned i bregethu iddynt unwaith y mis. Ryfeddwn
i ddim pe y clywn cyn hir eu bod wedi ffurfio eglwys
Gymraeg; ond teimlant fod eisieu gweled rhagor o
'Gymry da yn dyfod i'r ddinas yn gyntaf, yna cael dyn
ieuanc duwiol a gweithgar yn weinidog—un all

 

 


(delwedd E0177) (tudalen 181)


A GWELEDIGAETHAU BVWVD.
181
bregethu yn y ddwy iaith. Maent eisoes yn cwrdd yn
Sabbathol i ganu caniadau cysegredig, dan arweiniad
y cerddor a'r architect enwog, y Proff. T. J. Jones, gynt
o Youngstown, Ohio, a Chyn hyny o sir Gaerfyrddin,
D.C., sef O'r sir oreu yn y byd i fagu dynion enwog, yn
ol barn a theimlad y rhai a fagwyd yno. Daeth rhyw
haner cant o Cymry Portland at eu gilydd y Sabbath
yr oeddwn i yno i glywed pregeth o ffasiwn newydd,
gan bregethwr o ffasiwn newydd, a hwnw hefyd wedi
cael ei fagu yn sir Gaerfyrddin; ac er nad oedd y
pregethwr yn teimlo yn yr hwyl oreu, cafwyd cantl
rhagorol o lyfr cantl newydd y Parch. D. S. Thomas.
Gan fod Portland yn borthladd manteisiol i lwytho
gwenith, y mae yno lawer o longau Cymreig yn dyfod
i fewn, a bâm ar fwrdd un ohonynt, yn nghwmni H. M.
Thomas a Proff. T. J. Jones, sef y Parthenia, perthynol
i Abertawe, D.C., dan lywyddiaeth y Cadben Griffith
Davies, o dref Aberteifi; ac yr oedd pump O'r dwylaw
yn Gymry. Y mae y Cadben Davies yn gymdeithaswr
da a charedig.

 

 


(delwedd E0178) (tudalen 182)


PEN OD X X X.
SEATTLE, TACOMA, BIG BEND, WASHINGTON, ETC.
ND wele fi wedi cefnu ar Portland ac Oregon.
Aeth y N. P. R.R. a fi ar hyd ddyffryn y
Willamette a'r Columbia am tua 40 0 filldiroedd trwy dir amaethu da, nes croesi y Columbia. Y
mae tua 50 milldir o wlad rhwng afon Columbia a
Tacoma, a llawer ohoni yn dir tywodlyd, cerygog, a
diwerth i' w amaethu. Am dref Tacoma, wn i ddim yn
iawn beth i'w ddyweyd am dani; ond gellir dyweyd ei
bod yn edrych yn dref hardd, ac yn cael ei ffurfio ar
gynllun mawreddog a chostus, gan arian o wahanol
gyfeiriadau; ond gallwn dybio fod eisieu adeiladtl
llaw-weithdai lawer er cynal y dref newydd yn
esmwyth yn ei maintioli presenol. Ar gWr deddwyrain Puget Sound y mae Tacoma, fel nas gallaf
weled y bydd y drafnidiaeth drosglwyddol yn unig yn
ddigon i' w chynal yn llwyddianus yn ei maint presenol, gan fod cymaint o' i chwiorydd ieuainc glanatl y
Tawelfor yn cystadlu hi fel pyrth trosglwyddol.
Wrth gwrs, y mae yn Takoma hefyd, fel pob dinas
arall, rai Cymry yn ceisio ffawd, ond gan y bwriadaf
weled rhagor o Tacoma eto cyn troi A' 111 gwyneb i'r
Dwyrain, efallai y bydd genyf ragor i'w ddyweyd am
dani yn y dyfodol.
Aethum rhagwyf eto am y Gogledd am tuag ugain
milldir, trwy dir Iled ffrwythlon, Ile y mae amryw o
fân bentrefydd newyddion. Codi hopys yw hobi pobl

 

 


(delwedd E0179) (tudalen 183)


AMERICA.
183
y wlad hon. Vchydig o filldiroedd cyn cyrhaedd
Seattle, yr oeddem yn cwrdd â'r gledrffordd gul a' m
cymerodd i Black Diamond (pasiwn yma am fod fy
chwaer ieuengaf a'i theulu yn Black Diamond yn byw,
ac yn dysgwyl am danaf) a Franklin, y rhai a safant
rhyw 30 0 filldiroedd i'r dwyrain o Seattle. Lle
newydd mewn gwlad wyllt yw Black Diamond, e'r glo
sydd wedi rhoi bodolaeth i'r dref yn nghanol anialwch
coediog ac anwastad o dir Iled ddiffrwyth mewn ystyr
amaethyddol, gan mai tywod a cheryg grafelog yw y
wlad O'r bron, er fod trwch digonol o ddaear ar y
wyneb mewn llawer darn i wneyd daear gynyrchiol.
Deallais fod y boblogaeth tua 800. Heblaw tai byw, y
mae yn y dref neu y gymydogaeth ddau ystordy, tair
saloon, un capel, ac un ysgoldy. Tebyg fod tua haner
y boblogaeth yn Cymry, a Chymry yw y goruchwylwyr sydd dan y priforuchwyliwr, Morgan W. Morgans,
yr hwn sydd yn dal cymeriad da gan y gweithwyr. Y
mae y capel wedi ei adeiladu, a thalu am dano gan y
cyhoedd; ond y Cymry a ffurfiodd yr eglwys—yn gyntat
yn eglwys Annibynol, ac wedi hyny ffurfiodd y Bedyddwyr eglwys, ac yn awr mae y ddwy eglwys yn meddianu y capel bob yn ail Sabbath, gan bregethu Cymraeg
y boreu a Saesoneg y nos. Nid oes yr un gweinidog
sefydlog yn y Ile. Y mae yno Ysgol Sabbathol
lewyrchus dan arolygiaeth John Talog Davies, gynt o
Hyde Park, Pa., yr hwn sydd yn un O'r bobl nas gellir
peidio eu gweled a'u gwerthfawrogi pa le bynag yr
elont, ar gyfrif bywyd pur a chyson. Mae Mr. Davies
hefyd yn meddu cymhwysderau i fod yn ddefnyddiol
fel arweinydd cymdeithasol. Sylwn fod David D.
Morgan, goruchwyliwr y Drych yn Black Diamond, yn
un o Gymry mwyaf goleuedig, caredig, a siriol y Ile.
Mae yn ddyddorol ambell dro cael golwg O'r Ile hwn ar
ben gwyn mynydd Rainier, yr hwn sydd yn dangos ei
hun uwchlaw y cymylau, yn aml yn yr uchdero 14,000

 

 


(delwedd E0180) (tudalen 184)


184
AMERICA,
o droedfeddi uwch arwynebedd y mar, ac yn y pellder
o tua 50 milldir i'r dwyrain oddiwrthym. Y dydd O'r
blaen, gwelwn ei ben gwyn uwchlaw tair haen o
gymylau, a'r mynydd yn ganfyddadwy rhwng y tri
cwmwl; yr oedd yr olygfa yn fawreddog.
FRANKLIN.
Saif y lofa neu y pentref hwn ryw dair milldir
i'r dwyrain o Black Diamond, a chysylltir y
ddau le gyda rheilffordd gul y cwmni. Saif yn yr
anialwch mwyaf anhygyrch bron a welir yn y mynyddoedd. Y mae y rheilffordd, y dref, a'r gweithiau,
fel pe y baent wedi cael eti naddtl a'u hoelio ar lechwedd craig mor serth a tho ty o arddull Gothic, a'r
Green River aflonydd yn rhuo ganoedd o droedfeddi
yn y dyfnder islaw. Gallwn feddwl fod yn Franklin
le peryglus iawn i greaduriaid meddw. Gan nad oesy
fath beth a ffyrdd i fyned at y tai, y mae pawb yno yn
gorfod dysgu cario beichiau, a phawb yn cario eu glo
tan mewn sachau ar eu hysgwyddau wrth ddyfod adref
O'r gwaith. Go galed, onide, yw cario sachaid 0 10 ar
ysgwydd ar hyd llwybrau geifr gwylltion ar ol gweithio
diwrnod yn galed! Mae yno amryw Gymry a adwaenwn mewn gwahanol fanau, er fod llawer wedi myned
ymaith, gan nad ond ychydig o waith sydd wedi bod
yno er's blwyddyn neu ddwy. Dysgwylir amser gwell
yno heb fod yn hir, gan fod gwaith newydd bron a bod
yn barod i godi glo, a Chymro, O'r enw W. P. Williams,
yw y prif oruchwyliwr. Gobeithir y bydd i'r Cymry
sydd wedi gorfod myned i ffwrdd i weithio i gael
dychwelyd at eu teulttoedd i Franklin heb fod yn hir,
a Jack, y cigydd, yn un O'r cyfryw. Dylai tin, o leiaf,
o feirdd Llwyn y Bilwg ddychwelyd i'r fangre farddonol hon. Golwg oerllyd ofnadwy sydd yn awr ar hen
gastell y beirdd, ar ol i'r ol1 ohonynt ei adael yn
aghyfanedd! Pe galW11 wrth y porth am Wil O'r

 

 


(delwedd E0181) (tudalen 185)


A GWELEDIGAETHAY BYWVD.
185
Mynydd, yr ateb gawn fyddai: " Nid yw efe yma; y
mae wedi myned i ffordd yr holl ddaear i beidio
dychwelyd mwy; "
a phe y galwn wrth y porth am
bresenoldeb Gwydderig, yr ateb fuasai fod muriau y
castell yn galaru ar ol acenion ei lais, am nad ydynt
i'w clywed mwy. Pe galwn yn siolnedig am bresenoldeb yr englynwr enwog Dewi Ogle i groesawu
hen gyfaill O'r Dwyrain, gwnai dystawrwydd bro
marwolaeth sisial am dano yntau: " Y mae wedi dianc
oddiyma er ceisio ei drysorau colledig am nad oedd
heddwch • " ac y mae Jack, y cigydd, wedi myned i
chwilio am anfarwoldeb yn mhlith marwolion Carbonado. Gogoniant Llwyn y Bilwg a ymadawodd!
Y mae yn Franklin eglwys undebol Gymreig,
ond tebyg fod yr ysbryd sectol am ei rhanu ytl ddwy,
fel y gallo yr afon redeg rhyngddynt. Bâm yno un
nos Sabbath, ac yr oedd yno gynulliad da yn gwrandaw y pregethwr O'r ffasiwn newydd. Nid oes yr un
capel yn Franklin eto; yn yr ysgoldy y maent yn
addoli.
Dyma wlad iawn am wlaw yw Washington. Gwlaw
bron bob dydd, a rhai dyddiau o wlaw mawr trwy y
dydd—gwlaw y boreu a'r prydnawn—gan wlychu nos
a dydd.
AIL DAMAID O FRANKLYN, WASHINGTON.
Cofus gan y darllenwyr i mi roddi brasddarluniad
Iled arw o Franklin, Wash., yn y Drych am Mai 14eg;
ond daeth i'm rhan i ymweled â'r Ile yr ail waith, Mai
17eg, a bobl anwyl! y mae wedi myned trwy chwyldroad mawr mewn byr amser, gan fod bodau duon y
fagddu wedi dyfod i feddianu y Ile fel yr eiddynt hwy.
Vmddengys i mi fod y byd o'i le cyn y buasai dynion
gwynion yn meddwl am fyw a marw rhwng danedd
y graig yn y fath le ofnadwy; ondl O'r diwedd, wele
ganoedd o fodau O'r un Iliw a'r glo, a mwy garw a
13

 

 


(delwedd E0182) (tudalen 186)


186
AMERICA,
pheryglus eu hymddangosiad nag ysgythredd y golygfeydd daearyddol o'u cwmpas, wedi ei drawsfeddianu. Os
oes rhyw gymydogaeth o'rddaear wedi ei llwyr fed dianu
gan dywysog y fagddu fawr, tebyg mae Franklin yw ei
brif wersyllfa; oblegid ar ochr y graig uwchben rhaiadrau dyfnion yr afon Werdd, gwelwn ganoedd o weision duon y gWr drwg, wedi cael eu harfogi â'r arfau
mwyaf dinystriol er lladd y dynion gwynion a feiddient
aflonyddu ar ddim o fewn y terfynau haiarn daneddog;
ac oddiallan i'r terfyn haiarn crybwylledig, yr oedd yn
agos i gant o angylion dinystriol dan arfau, ac mewn
croen dynion gwynion, yn cadw pobl wynion i ffwrdd.
Fel y gWyr darllenwyr y Drych, pobl anturiaethus ydym
ni y gohebwyr yma, felly yr oeddwn inau am wneyd
prawf ar fyned trwy y wersyllfa ofnadwy hon, os yn
bosibl; a chan fy mod am adael gwlad wyllt y Gorllewin
yn fuan, aethum a'm his-swyddog, David Morgan, gyda
mi er ei gymhwyso i ofalu am y Gorllewin ar ol fy ymadawiad; ond wrth fyned dros y llwybr cul tuag yno,
tipyn yn ofnus oedd fy nghydymaith, a phan rhwng y
gwersyll a'r afon, dyna bump o ergydion yn cael eu
tanio o ddrylliau yn nghysgod y llwyn a chraig yr afon
yn ein hymyl. " Bachgen, bachgen, 'dyw hwn ddim
yn sâff i ni," gwaeddai Morgan; ond llwyddais i'w
galonogi, ac ar ol gweled rhaiadrau a dychrynfeydd y
dyfnder, troisom ein gwynebau yn ol ac i fyny am
wersyll y bodau duon. Pan ar waelod rhyw gant o
risiau, gwelem ar eu top bedwar o wylwyr arfog mewn
crwyn gwynion, a thyna un ohonynt yn gwaeddi,
" Holt! you cannot pass this way." Rhoddais ar
ddeall iddo fod genyf hawl yn swyddfa Ewythr Sam ag
oeddynt wedi ffensio i fewn, yna caniatasant i ni
ddringo y grisiau; ac ar ol deall ein bod yn rhywrai,
dyna ddau ohonynt yn myned O'n blaen, a'r trydydd
arfog yn cyd-gerdded ni heibio i rai o fodau duon O'r
tu fewn i'r ffens, a dyna Ile yr oedd golygfa ac iaith

 

 


(delwedd E0183) (tudalen 187)


A GWELEDIGAETHAU BYWYD.
187
unol llywodraeth ac egwyddorion eu tywysog du;
ond diolch, nid oedd awydd nac angen am i ni aros yn
yr uffern ddaearol hon.
Vmddygiad teilwng o deyrnas pechod oedd cadw
canoedd o ddynion gwynion am fisoedd allan o waith,
i aros i'r gwaith gychwyn, nes gwario yr arian oedd
ganddynt, ac yna eu gyru i ffwrdd er rhoddi eu Ile i
genedloedd o liw eu tad diafol. Yr oedd hyn yn galed
i ddynion gwynion i'w ddyoddef; a dyna Samuel Price,
prifbeirianydd y cwmni, un O'r bechgyn mwyafanrhydeddus yn Washington, yn teimlo i ymddiswyddo yn
hytrach na chydymffurfio â'r fath fradwriaeth. Un o
fechgyn Scranton, Pa., yw Price, yr hwn oedd enwog
yn y Baners Brass Band, ac efe yw arweinydd y Franklin Brass Band, y seindorf enwocaf ar länau y Tawelfor. Gan fod holl aelodau y Band dan y felldith
negroaidd hon, y maent eisoes wedi cael cyfres o
wahoddiadau i fyned i gynal cyngerddau i'r dinasoedd
cylchynol, a llwyddiant iddynt, meddaf. Ond nid yw
y diwedd eto yn Franklin ofnadwy! "A gasgl rhai
rawnwin oddiar ddrain, neu figys oddiar ysgall? "
NEW CASTLE A SEATTLE—LLWVDDIANT A CHYNYDD
NODEDIG.
Cymerwyd fi ar yr olwynion yn nesafi New Castle,
Wash. Y mae y Ile hwn mewn gwlad goediog, wyllt,
ac anwastad, rhyw dair milldir i'r dwyrain o Lake
Washington, a rhyw ddeg neu bymtheg milldir i'r
(Iwyrain o Seattle. Gwaith glo sydd wedi rhoi bodolaeth i'r Ile hwn eto. Pentref bychan o dai cyffredin
sydd yma, ac un faelfa berthynol i'r cwmni, dwy saloon,
capel Pabaidd, a chapel arall rhwng yr Annibynwyr
a'r M.E.—yr holl wasanaeth yn Saesoneg, oddigerth
ambell bregeth Gymraeg gan ymwelwyr, i ryw bytntheg o deuluoedd Cymreig. Y mae llawer o Gymry
wedi myned O'r Ile i amaethu, &c. Vr oeddwn wedi
arfaethu cael gweled Howell T. Jones, a'i deulu, yn

 

 


(delwedd E0184) (tudalen 188)


188
AMERICA,
New Castle, ond er fy siomedigaeth, yr oeddynt hwy
wedi cael eu gwthio rhyw ddeuddeg milldir tu ol i'r
anialwch i rywle, a methais anturio wrthyf fy hun mor
bell i'r coed i chwilio am danynt, er mor ddymunol
fuasai genyf eu gweled. Cwrddais âg amryw yn New
Castle a adwaenwn O'r blaen, mewn gwahanol fanau o
Gymru a'r Talaethau Dwyreiniol, ac un O'r cyfryw
oedd Mrs. D. Evans, merch Mrs. Parry, janitor capel
yr Annibynwyr yn Cincinnati, O. Yr oedd yn llawen
ganddi gwrdd chydnabod yn nghoedwig Washington bell, a dymunai arnaf ei chofio at ei mam, os
buaswn yn myned i Cincinnati heb fod yn hir; a rhag
ofn nad äf yno yn fuan, wele fi yn gwneyd hyny trwy
y Drych, a bydded hysbys i chwi, Mrs. Parry, fod
Lizzie yn edrych yn dda a siriol yn ei byd newydd; a
bydd yn gysur i chwi glywed fod gair da i Mr. Evans,
ei phriod, gan Gymry y camp. Y maent hwy, fel y
rhan fwyaf O'r teuluoedd Cymreig, yn derbyn y Drych,
er cael hanes y Dwyrain a'r byd bob wythnos, a darfu
i Gymry y camp a John J. Morgan, megys arweinydd
arnynt, orchymyn i'r pregethwr ffasiwn newydd
draddodi ei bregeth iddynt yn eu capel tlws.
Yn nesaf, aethum trwy dair milldir o goedwig,
hyd 1Än Llyn Washington; ac yna cymerwyd fi dros
wyneb y cyfryw a rhwng ei länau prydferth i Seattle,
un o ddinasoedd mwyaf prydferth a chynyddol glänau
y Tawelfor. Saif ar rai milldiroedd o dir anwastad ar
län dwyrain Puget Sound; a chan fod y dref yn codi
am ganoedd o droedfeddi uwchlaw y dwfr, y mae
golygfeydd swynol a barddonol i'w gweled o ben rhai
o fryniau y ddinas. I'r gorllewin gwelir milldiroedd
o ddyfroedd dysglaer y Sound; a thu draw i hyny
gwelir mynyddoedd mawreddog a rhamantus yr Olumpus, yn eu hamrywiaeth barddonol.
I'r gogledd ceir
amrywiaeth gwlad newydd; i'r dwyrain gwelir Llyn
Washington; a thu draw i goedwigoedd glänau y

 

 


(delwedd E0185) (tudalen 189)


A GWELEDIGAETHAU BVWVD.
189
cyfryw, uchelderäu y Cascade Mountains, a Mynydd
Rainier â'i ben gwyn, mawreddog, uwch y cymylau.
Y mae yn Seattle fasnachdai mawreddog a chostus, a
gystadleuant yn dda mewn maint a gwychder
masnachdai dinasoedd ma-wrion y Dwyrain. Y mae
rhwydwaith Iled gyflawn o street cars yn myned i
wahanol barthau y ddinas, yn cael eu gyru yn benaf gan
drydaniaeth ac ager. Er mai ieuanc yw y dref, y mae
ynddi rai adeiladau cyhoeddus sydd yn gredyd iddi,
megys llysdy newydd, eang, ac adeiladau addysg, &c.
Mae yn Seattle rai canoedd O'n cydgenedl, ac
amryw ohonynt yn llanw cylchoedd anrhydeddus, yn
gymdeithasol a masnachol; ac o bosibl mai Griffith
Davies, Ysw., postfeistr presenol Seattle, ddylai gael
ei enwi fel ar ben y rhes. Tair blynedd ar hugain yn
ol, adwaenwn ef fel torwr glo yn Belle Vue, Scranton,
Pa., ond penderfynodd fyned i geisio ei ffawd yn y
Gorllewin pell. Aeth i California, ac yno cadwodd ei
olwg i fyny ar uchelfanau y byd. Aeth i'r ysgol yno,
er mantais iddo ei hun esgyn i fyny; yna aeth am
daith i Sandwich Islands, ac ysgrifenodd hanes y daith
hono i'r Drych, fel ag y mae yn gofus gan lawer. Vn
ddilynol aeth i Oregon a Washington fel llyfrwerthwr,
gan weithio yn galed a llwyddo. Cawn ef mewn
amser yn cadw un O'r ystordai llyfrau mwyaf mawreddog yn y gogledd-orllewin, sef yn Seattle, ac yn cael
ei losgi allan yn adeg y tan mawr yn y ddinas hon tua
dwy flynedd yn ol, er colled 0 15,000 i 20,000 oddoleri.
Wedi hyny cychwynodd faelfa i werthu té a chom, yr
hon sydd yn talu yn dda, dan ofal Dan Davies, ei frawd,
a Tom Leyshon, ei frawd-yn nghyfraith, ac ereill. Vn
ddiweddar, heb ei cheisio, cafodd ei benodi i un O'r
swyddi mwyaf anrhydeddus ac ymddiriedol yn Washington, sef Postfeistr Seattle, a deallwyd ei fod ar y
blaen yn mhlith aelodau a swyddogion y Chamber of
Commerce, a chyfoethogion Seattle; a phrawf o hyny

 

 


(delwedd E0186) (tudalen 190)


190
AMERICA,
yw y ffaith mai efe oedd yn arwain y Postfeistr Cenedlaethol Wanamaker ar ei ymweliad diweddar. Gan ei
fod ef a minau yn dipyn o gyfeillion 22 0 flynyddoedd
yn ol, penderfynais roddi prawf arno pan awn i Seattle,
a da genyf weled nad oedd wedi anghofio yr atnser
gynt mewn ymchwydd llwyddiant. "Ti " a " thithau "
oedd yn rhaid iddi fod, megys cynt; a rhaid oedd
myned gydag ef i giniaw i'r Chamber of Commerce, a
myned gydag ef i'w d', ac i weled tipyn o gwmpas y
ddinas. Ond dyna, rhaid gadael y cyfaill ar hyn,
mewn gobaith y bydd iddo barhau i etifeddu anrhydedd cymdeithasol a gwladol, ac esgyn uwch, uwch,
mewn graddfa gwir ddoethineb a duwioldeb, " yr hon
sydd fuddiol i bob peth." Y mae amryw ereill, fel yr
awgrymais, yn anrhydeddus a llwyddianus mewn
gwahanol gylchoedd, megys Rees P. Daniels, cyfreithiwr, yr hwn hefyd sydd yn gwneyd yn dda fel
real estate agent; William Jones, a Daniel Jones, ac
ereill, yn yr un fasnach. Cefais fod yno amryw Gymry
fel adeiladwyr llwyddianus, megys Hughes, Williams,
a Hughes, &c., ac y mae un O'r brodyr Hughes yn
aelod O'r Ddeddfwrfa. Edward T. Morgan yw arolygwr
gweithiau glo y rhanbarth ar ran y Llywodraeth; a
chedwir masnachdai gan G. R. Owen, M. Tudor, a T.
D. Thomas. Y mae gan y Cymry eglwys Bresbyteraidd
Gymreig yn y ddinas, dan ofal bugeiliol y Parch. J.
Michael Hughes; ac fel y deallwyf, maent yn dyfod yn
mlaen yn dda mewn capel tlws. Ni chefais glywed y
Parch. Mr. Hughes yn pregethu boreu Sabbath, Mai
3Ydd, oblegid yr anffawd o foddiad y Cymro Hugh S.
Hughes, gynt o Utica, N.Y.; ond yr hwyr yr oedd yno
gynulliad da o Cymry o wahanol barthau O'r Talaethau a Chymru, a gallwn feddwl fod Utica a Scranton
yn cael eu cynrychioli yn dda. Y n mhlith fy adnabyddion O'r ddinas Olaf, heblaw y Postfeistr Davies a'i
berthynasau, mae Jenkin Morgan ac E. Mason, James

 

 


(delwedd E0187) (tudalen 191)


A GWELEDIGAETHAU BYWVD.
191
Oliver, John F. Jones, Robert a William Jones,
Buasai yn ddymunol genyf wneyd nodiadau personol
am y teuluoedd hyn, a llawer ereill o ddyddordeb i
gyfeillion a pherthynasau y cyfryw ar hyd y Talaethau,
ond gofod a ballai. Cefais dipyn o ymgom â'k Parch.
S. J. Bassett, yr hwn sydd yn byw yn Seattle er pan y
rhoddodd ofal eglwys y Bedyddwyr yn Roslyn i fyny.
Mai 6ed oedd ddydd mawr yn Seattle, pan y darfu
i ni, y bobl, roddi derbyniad mawreddog i Harrison,
Wanamaker, a Rusk, &c., fel prif swyddogion y wlad.
Dyma y,trydydd tro i mi fod yn mhlith y dinasyddion
i roesawu ein Harlywydd er pan y mae yn ei swydd.
Megys ag y gweddai i bobl bwysig, tybiwn yn ddyledswydd arnaf fod yn mhlith y bobl fawr i osod urddas
ar yr arddangosfa fawreddog hono yn New York
ddechreu Mai, 1889, Ile y cwrddais â'r Arlywydd
Harrison am y waith gyntaf; ac oddiar .hyny, hyd oni
chyfarfuasom ar län y Tawelfor, yr ydym ein dau wrth
wasanaethu ein cenedlaeth wedi bod yn cystadlu mewn
rhedegfa yn groes i'r cyfandir mawr. Oherwydd
prysurdeb O'r ddau tu, ni chawsom hamdden i gael
ymgom yn Washington, D.C.; ond yn Pittsburg,
cyfarfuasom yr ail waith ddechreu 1890; a chan i mi
ei guro o rai wythnosau i'r terfyn gogledd-orllewin, yr
oedd yn weddus i mi fod a rhan yn y derbyniad
Washingtonaidd hwn; ac yn awr, ar ol gweled ein
Llywydd yn troi yn ei ol i'r Dwyrain, tebyg y dysgwylir
i minau ddychwelyd. Tebyg na chafodd yr Arlywydd
dderbyniad mwy boddhaol ar ei wibdaith nag a gafodd
yn Seattle, brenines y gogledd-orllewin, oblegid rhagoriaeth amrywiaeth mar a thir. Er fod yr hin braidd
yn wlyb, yr oedd y troi allan yn deilwng a theyrngarol; a digrif o beth oedd gweled yr Arlywydd a'i
gwmni yn gwenu yn siriol wrth weled y swyddogion
yn hamddenol araf yn agor llwybr trwy y dorf at yr
areithfa, heb yr un pryder gweladwy yn ngwyneb neb

 

 


(delwedd E0188) (tudalen 192)


192
AMERICA.
am ddyogelwch personol yr ymwelwyr, yn yr ymwybyddiaeth fod gwareiddiad glänauy Tawelfor uwchlaw
perygl yn yr ystyr yma. Tebygfod yr hinsawdd llaith
a chymedrol yn cadw y gwaed a'r meddwl mewn
tymher dda yn y rhan yma O'r wlad.
Y n awr, efallai y dysgwylir i mi ddyweyd gair am
atdyniad masnachol presenol Seattle, ac arwyddion ei
dyfodol. Wel, y mae Seattle wedi llwyddo hyd yma
nes fy synu i ac ymwelwyr ereill; a thyna dystiolaeth
yr ymwelwyr urddasol diweddar o Washington, D.C.
Y mae digon o le i helaethu y ddinas i ddal 2,000,000
o bobl, a chredaf fod ei manteision yn debyg o sicrhau
llwyddiant dyfodol iddi; ond, ar hyn o bryd, ymddengys ei bod wedi gorgynyddu ynfwy na'r hanfodion
cynaliaeth; hyny yw, nid oes yma nemawr o lawweithfeydd i roddi gwaith rheolaidd a sefydlog i'r
bobl; a'r canlyniad yw, fod miloedd O'r bobl ddaethant yma i adeiladu y ddinas ar ol y tan wedi gorfod
ymadael i geisio gwaith mewn Ileoedd ereill, fel ag y
gwelir llawer o dai yn weigion eisoes. Y mae yn
amlwg mai nid pobl yn gweithio sydd eisieu yma yn
awr, ond pobl y cyfalaf, i adeiladu llaw-weithfeydd o
wahanol fathau; a chredaf ei bod yn rhy ddiweddar,
ac yn rhy gynar i bobl ag ychydig o arian i suddo y
cyfryw mewn tir a thai yn bresenol yn Seattle. Ond
y mae prif ddinasyddion Seattle yn dechreu teimlo yr
angenrheidrwydd am hyn; a'r dydd O'r blaen dywedai
Daniel Jones, Ysw.—Cymro o Williamsburgh, Iowa—
yr hwn sydd wedi dyfod yn gyfoethog yn Seattle yn y
real estate business, ei fod ef wedi cymeryd mewn llaw i
ffurfio cwmni llaw-weithfaol, a chredir ei fod yn meddu
ar gymhwysderau i lwyddo yn y cyfeiriad hwn hefyd.
Yn groes i Lyn Washington, pedair milldir o
Seattle, mae Kirkland yn dechreu cael ei hadeiladu ar
gyfer y felin ddur a haiarn yno. Bydd y felin fawreddog hon yn cyflogi tua 4,000 0 weithwyr. Ychydig

 

 


(delwedd E0189) (tudalen 193)


A GWELEDIGAETHAU BVWYD.
193
yn rhagor o fath hon a sicrha ddyfodol llwyddianus i
Seattle a' r cylchoedd, gan y bwriedir i'r felin fod ar
ben y rhes o felinau dur y Talaethau Unedig. Felly,
rhwng pob peth, y mae arwyddion dyfodol llwyddianus
i Seattle, er y gellir dysgwyl tymhorau o gyffroad a
seibiant cymharol, bob yn ail.
YMWELIADAU AG AMRYW SEFYDLIADAU YN
WASHINGTON.
Mai 26ain, cefnwyd ar berthynasau a chyfeillion
yn Black Diamond, canys yr oeddym wedi blino ar
swn y rhyfel a'r streic o achos düwch Franklin; a
thranoeth, ar ol gweled rhai cyfeillion yn Seattle,
aethom ar gefn Greyhound dros y dwfr heli am ryw
25 0 filldiroedd, a dygwyddodd joke go lew ar n. J.
Coster. Gan ei fod ef a Chymro arall wedi arfaethu
dyfod am ran O'r daith gyda ni, meddai Coster (fel
awdurdod ar bethau y glänau, yn ol ei enw), " Brysiwch,
nid oes gyda chwi ddim amser i'w golli; dof ar eich
hol yn brydlon ar ol b—a, canys yr wyf fi yn gyflymach; " ac, wrth gwrs, ufuddhawyd, a ffwrdd ni. Pan
oeddym wedi cychwyn ar gefn y Greyhound, gwelem
Coster yn dyfod yn gyflym heibio y cornelau. Yr
oeddym yn dysgwyl y buasai yn nerth ei gyflymdra ag
un llam yn gallu disgyn ar gynffon y Greyhound o
leiaf, canys nid oeddym dros ugain llath O'r län pan y
gwelem ef yn sefyll ar unwaith, gydag un llaw ac un
troed i fyny, ac adenydd ei gob yn nofio yn yr awelon;
a chan i mi ei weled yn proffesu yn y Drych yr wythnos flaenorol ei fod yn feistr ar bob peth yn y glänau
gorllewinol yma—pan welwn ef yn sefyll yn Ile llamu,
gwaeddais, " Llamwch, nid oes gyda chwi ddim amser
i'w golli." Ond er cyflymed rhedegwr yw Coster,
curodd y Greyhound ef i Tacoma o yn agos i ddwy
awr; a phe buaswn i yn arlunydd da, rhoddaswn
ddarlun o Coster yn sefyll ar un troed, gyda'r troed


 

 


(delwedd E0190) (tudalen 194)


194
AMERICA,
arall, dwy law, a dwy aden yn nofio yn yr awel uwchben dyfroedd y dyfnder mawr. Tebyg pe buasai yr
eneth hono o yn cydfwynhau yr olygfa, y buasai
tynged un arall yn cael ei benderfynu am byth.
Ar ol cyrhaedd Tacoma, aethum i chwilio am
Cymry y ddinas, gan fyned yn gyntaf i d' Thomas B.
Davies, hen arweinydd Cor y Dyffryn, Plymouth, Pa.,
flynyddoedd pell yn y gorphenol; a Chyn pen pum'
mynyd ar ol myned i'r t' yr oeddwn yn cydfwynhau
pryd da o dé yn nghwmni gwragedd llawen adwaenwn
yn Scranton, Pa. Rhyfedd y fath gyfarfyddiadau sydd
yn y byd yma, onide? Y gyntaf oedd Mrs. Llewelyn
Jones, merch y diweddar Morgan Thomas, Hyde Park;
yr ail, Mrs. Wm. Price, gynt o Providence; y drydedd,
Mrs. Isaac Williams, merch i'r hen chwaer Mrs.
Davies, Decker's Alley, Scranton; a Mrs. John Francis,
merch Rees Davies, Belle Vue. Dyna hwy—cwrdd
felly yn annysgwyliadwy mewn gwledd dé hen gydnabyddion filoedd o filldiroedd oddicartref; ac yr
oeddynt ol1 yn siarad yn ganmoladwy am eu cartref
newydd yn Tacoma. Aeth Mr. Davies mi i weled
amryw o Cymry, a gwnaeth y Parch. W. H. Roberts,
gynt o New York Mills, hefyd ei ran droswyf. Bu yr
hen gyfaill Llewelyn Jones hefyd yn dangos y ddinas i
mi. O'i chymharu i Seattle, nid hawdd i ddyn dyeithr
benderfynu pa un sydd yn rhagori. Gallwn feddwl
fod gan Seattle well porthladd, a gwell gwyneb ar y
Sound, ond fod gan Tacoma well arwynebedd daearyddol am heolydd, &c., ac y mae ynddi lawer o balasau
heirdd a chostus. Dywedir i mi hefyd fod moesatt
Tacoma yn burach nag eiddo Seattle, gan ei bod yn
cadw plant China allan yn hollol. Vmddengys fod
manteision masnachol mewn-dirol a morawl y ddwy
dref yn Iled gyfartal; ond, wrth gwrs, yn ol ei hoedran, Tacoma sydd wedi rhedeg gyflymaf, ac y mae yn
bygwth myned heibio i Seattle. Ond nid oes nemawr

 

 


(delwedd E0191) (tudalen 195)


A GWELEDIGAETHAU BYWYD.
195
o Gymry yn wybyddus fel y cyfryw, nac unrhyw gymdeithas Gymreig yn Tacoma.
Yn nesaf, cymerwyd fi ymaith eto ar yr olwynion
am y Dwyrain bellach, ac arosais yn gyntaf yn South
Prairie, Ile na welais ond un Cymro, sef Mr. Foulkes;
ond yn Cascade Jut, rhyw filldir yn mhellach i'r
dwyrain, y mae Mrs. Mary Lewis ac S. D. Evans yn
byw. Y n Burnett, rhyw filldir arall i'r gogledd O'r
Cascade Jut, ceir ychydig o deuluoedd Cymreig yn
gwneyd eu bywioliaeth oddiwrth y lofa; a thebyg mai
Mr. John R. Meredith yw y mwyaf cyhoeddus ohonynt.
Wilkesau oedd y Ile nesaf yr ymwelais ag ef, rhyw
dair milldir eto o Burnett. Mae yno ddau waith glo,
ac amryw deuluoedd Cymreig, a Wm. Wilkins, gynt o
Franklin, yn oruchwyliwr ar un ohonynt. Oddiyno
cymerwyd fi drosodd i
CARBONADO,
Ile y cefais dderbyniad siriol gan Mr. a Mrs. John H.
Jenkins, y rhai sydd yn ffyddlawn ofalu am y Drych yn
y Ile. Aeth Mr. Jenkins fi i lawr i'r dyfnder i weled
rhyfeddodau y canyon a'r gweithiau; a gellir dyweyd y
cymhara Carbonado o ran golygfeydd rhamantus• yn
weddol a Franklin; ond y mae tref Carbonado yn
sefyll mewn Ile dymunol, gwastad, uwchben y canyon,
yn ngwaelod yr hwn y mae yr afon gynddeiriog, a'r
mynedfeydd i'r glofeydd ganoedd o droedfeddi yn y
dyfnder serth. Cynwysa tref Carbonado rai canoedd
o dai gweithwyr, un faelfa, un saloon, un capel, tri
ysgoldy, ac un ysbyty. Arolygir y cwbl gan y Cymro
talentog, D. T. Davies, yn cael ei gynorthwyo dan y
ddaear gan Evan W. Lewis, ac ar y ddaear gan Lew
Davies ei frawd. Fel y deallaf, mae y cwbl yn myned
yn mlaen yn esmwyth yno er boddlonrwydd ac elw i'r
cwmni a'r gweithwyr; a thebyg fod yn gweithio dan y
ddaear 500 neu 600 0 ddynion, a'r rhan fwyaf ohonynt

 

 


(delwedd E0192) (tudalen 196)


196
AMERICA,
yn Cymry. Ni welais un Chinead na'r un dyn du yn
y camp. Am agwedd foesol y bobl, gallwn feddwl fod
pobl Carbonado yn debyg i leoedd ereill glänau y
Tawelfor. Sylwn fod teml duw Bacchus yno yn llawn
o addolwyr ddydd a nos, a'r arian a enillir yn ogofeydd
y creigiau yn myned yn ewyllysgar er prynu yr hylifau
brwmstanaidd! Aethum i deml y Duw byw boreu
Sabbath, ac yr oedd yno gynulleidfa fechan yn gwrandaw y Parch. David Thomas yn traddodi pregeth
Gymraeg. Aethum hefyd i'r Ysgol Sabbathol, Ile yr
oedd capelaid o blant ac ieuenctyd dan arolygiad
D. W. Davies, ac yn cantl yn dda, ond sylwn fod
athrawon yn brin yno. Y n yr hwyr, yr oedd y capel
yn mron yn llawn yn gwrando Mr. Thomas yn pregethu yn Saesoneg. Barnwn fod Mr. Thomas yn breggethwr sylweddol a chyson, ac yr oedd y cantl yn dda.
Ond er nad oes yn y Ile ond un eglwys ar gyfer mil
neu ddwy o boblogaeth Gymreig a Seisonig, nid oedd
ond tua dwsin yn aros ar ol yn y gyfeillach nos
Sabbath! Y mae genyffy syniadau am yr achosion o
hyn, ond nid oeddwn yn rhydd i'w dyweyd pan yno.
Y mae i bob deddf ac arferiäd eu cynyrch a'u canlyniadau naturiol. Y mae miloedd o bobl glänau y Tawelfor yn teimlo eu bod hwy yn byw o flaen eu hoes, ac yn
mhell uwchlaw Cristionogaeth, a chredant mai y capelau sydd yn achos o dynu y cyflogau i lawr, ac am hyny
y maent yn cablu crefydd a'i phethau. Vr wyf wedi
cwrdd llawer Cymro yn dadleu dros y fath syniadau,
gan daeru nad yw y Beibl ond cymysgfa o baganiaeth
ac ofergoeliaeth; a siaradant am danom ni sydd yn
credu y Beibl a'i egwyddorion fel rhai bach o feddyliau,
a thywyll ein hamgyffredion, ac O! fel y tosturiant yn
wawdus wrthym! Y mae gwlad newydd y Gorllewin
yma yn edrych arnom ni yn y Dwyrain fel yr edrycha
llanc 17 oed ar ei rieni, yn mhell islaw iddo ef mewn
gwybodaeth a dealldwriaeth, gan gredu fod eisieu i'r

 

 


(delwedd E0193) (tudalen 197)


A GWELEDIGAETHAU BYWYD.
197
hen bobl fyned oddiar y ffordd iddo ef gael y cyfleusdra
i redeg y fferm, neu y faelfa, neu yr ariandy i g-—l
ROSLYN.
Dyma fi wedi cael fy symud rai ugeiniau o filldiroedd trwy a rhwng y Cascade Mountains garw, ac
amrywiog, a gwyllt eu golygfeydd, nes cyrhaedd
Roslyn, can' milldir i'r dwyrain o Tacoma. Gwaith
glo sydd yma, yn perthyn i N.P.R.R., ac y mae yno
amryw Gymry o wahanol barthau O'r wlad a adwaenwn
yn y dyddiau gynt. Gwelais yno John R. Jones a'i
briod o Danielsville, Pa.; Mr. Jones, y peirianwr o
Scranton, a'i briod, sef merch Thomas Evans, Providence, Pa.; William Z. Williams, o Coal Creek, Col.;
E. J. Matthews, o Ohio; William Rees; John Edwards,
&c. Bydded hysbys i' w perthynasau a'u cyfeillion eu
bod yn edrych yn Iled dda. Er mai tipyn yn araf yw
y gwaith ar hyn o bryd, dywedir fod Roslyn i barhau
yn boblogaidd yn hir, am fod yno lawer 0 10, a'r
gwythienau yn dda a chyson, heb ormod pitch, ond y
mae yno lawer o bobl dduon. Nid oes eglwy.s Gymraeg yn y Ile.
SPRAGUE.
Cymerwyd fi eto i gyfeiriad y dwyrain am rai
ugeiniau o filldiroedd, ar hyd glän Yokima River,
Wash., trwy wlad Iled ddiffrwyth, nes cyrhaedd yr
afon fawreddog Columbia, a thrwy Pasco Junction i
Sprague, tref o tua 2,000 0 boblogaeth. Prif gynaliaeth y dref yw ei bod yn derfyn cyfnewid ar y
N.P.R.R., ac hefyd yn cynwys Machine Shops y
cwmni. Mae yn ganolbwynt masnachol i ddarn mawr
o wlad amaethyddol, ond ei fod yn dir gwael o gwmpas
y dtef. Nid oes llawer o Gymry yn y ddinas, ac nid
oes ganddynt eglwys Gymraeg ar hyn o bryd; ond y
mae yno rai Cymry parchus a llwyddianus. Dyna
Fred L. Jones, gohebydd y Drych, y mae ef yn berchen

 

 


(delwedd E0194) (tudalen 198)


198
AMERICA.
llawer o dir ac anifeiliaid; y Parch. D. E. Davies a
John N. Lewis a gadwant fasnachdai bwydydd; a Miss
Evans, Millinery Store; hefyd, ceidw Mr. Morris
Evans y National Hotel ar bwys yr orsaf—y Ile goreu
yn y dref i Gymro dyeithr pan ddaw allan O'r trén i
geisio t' cyhoeddus. Y mae ef a'i briod yn siriol a
charedig. Bu Fred L. gyda fi yn gweled rhai O'r
Cymry, a dymunai arnaf ei gofio at ei gefnder, Lewis
Roberts, Bellevue, Pa., a William Roberts, Scranton,
a phawb a fyddo yn holi am dano. Gallwn farnu wrth
ei agwedd ef a'i deulu fod y Gorllewin pell yn dygymod
yn Iled dda hwy.
BIG BEND.
Aed fi rhagwyf eto hyd Sheney, Ile y mae y
gangen R.R. i fyned i Big Bend yn cychwyn; a chan
fod genyf tua chwech awr i aros am y trén, ac wedi
clywed fod Phillip Jones yn byw rhyw ddwy filldir yn
y wlad, yn ol fy elfen, cerddais tuag yno. Erbyn i mi
gyrhaedd y nod, yr oedd y ffordd wedi myned yn
bedair milldir; ond nid oedd yn edifar genyf i mi fyned
wedi deall fod y teulu yn groesawgar, a chanddynt
laeth enwyn rhagorol, sef fy hoff ddiod, gan eu bod yn
godro tua 30 0 wartheg. Y mae y teulu yn gwneyd yn
lied dda, gallwn feddwl, yn eu cartref newydd. Mab
y Cymro Cloff o Wisconsin yw Mr. Jones. Aethum
yn nesaf am yn agos i gan' milldir yn ol i'r gorllewin,
sef i gyfeiriad Big Bend, yn nghwmni D. M. Stephens;
ac ar ol colli y gerbydres am wyth O'r gloch yn Almira,
aethom am ddwy awr dros y Prairie agored nes cyrhaedd
ei d'; ac yr oedd y tlawd hwn yn barod i orwedd ar
ol cerdded tua 14 0 filldiroedd. Wedi derbyn o sirioldeb y teulu caredig hwn, y rhai a adwaenwn yn y
Dwyrain, ae\hum i weled teulu Mrs. Alice E. Jones,
gynt o ardal Wild Rose, Wisconsin. Tebyg ei bod hi
yn gwneyd yn dda, trwy fagu ceffylau a gwartheg yn
benaf, er iddi gael ei gadael yn weddw gyda chwech o

 

 


(delwedd E0195) (tudalen 199)

A GWELEDIGAETHAU BVWYD.
199
amddifaid yn fuan ar ol cyrhaedd ei chartref newydd,
ryw wyth mlynedd yn ol. Cefais fod Stephen Evans,
mab D. Evans, y teiliwr, o ardal Soar, Jackson Co.,
Ohio, yn berchen tri chwarter sedion o ranch; a thrwy
gydweithrediad ei briod, sef merch Daniel Rees, o
ardal Nebo, Ohio, y maent wedi dechreu magu stock
dda, a'r prawf o hyn ydyw fod ganddynt fachgen bach
newydd, cryf, a golygtts. Y n nesaf, aethum rhagwyf
i dj D. C. Edwards, gynt o ardal Moriah, Ohio; ac y
mae ef a'i briod, sef merch D. Evans, Soar, Ohio eto,
gyda phedwar o blant, yn edrych yn iach, siriol, a
llwyddianus. Y maent hwythau wedi meddianu digon
o dir i sicrhau digon o waith iddynt fel teulu am lawer
o amser. Thomas Roberts, gynt o Zansville, Ohio, a
berchenoga 480 0 erwau o dir—rhyngddo ef a'i fab.
Dymunai arnaf ei gofio at ei fab a'i hen gyfeillion yno.
Er chwilio am Hugh M. Jones, methais a'i gael;
gobeithiwn ei fod wedi myned i chwilio am ei asen
golledig, oblegid y mae ganddo 320 0 erwau o dir, ac
arno eisieu cynorthwy i'w gweithio. Mae gan John J.
Hughes 480 0 erwau o fewn i filldir i Almira, ac mae
yntau mewn angen ymgeledd. Perchenoga Griffth
Hughes, ei frawd, tua 250 0 erwau; clywais ei fod ef
am gychwyn tua'r Dwyrain yn fuan i geisio cymhares.
Teithiais ryw dair milldir dros y Prairie gwyllt nes
cyrhaedd cartref trefnus R. T. Roberts, o Racine, Wis.,
sef cefnder y Parch. Joseph Roberts. Maent yn
gwneyd yn dda, ac yn hynod siriol. Dyma un O'r
cartrefi mwyaf golygus yn y dyffryn, er nad ydynt
wedi bod yno ond prin dair blynedd. Ar ol cael noson
o'i gymdeithas, mynai Roberts ddyfod i'm hebrwng yn
ei gerbyd; a llwyddwyd i werthu y Drych i John
Evan Williams, gynt o ardal Oshkosh, Wis., yr hwn
O'r diwedd sydd wedi priodi gwraig (ac y mae pump
neu chwech-ar-hugain o dirddalwyr Cymreig yn mro
y Big Bend eto mewn gwir angen am wragedd).

 

 


(delwedd E0196) (tudalen 200)


200
AMERICA,
Yn nesaf, aeth y cymwynaswr ffraeth John J.
Hughes gyda fi yn ei gerbyd am tua deunaw milldir
J. Jones, ac yn ail yn nhj yr hen lanc John R. Jones,
gan yr hwn y mae llawer o dir ac anifeiliaid, a thj
newydd teilwng i dderbyn y dodrefnyn penaf. Ar ol
cyrhaedd cartref Hugh J. Hughes, gwnaeth Mrs.
Hughes arlwyo i ni giniaw da, wedi ei gymysgu a
ffraethineb merch O'r radd uchaf. Aethum heibio yr
hen bererin Owen Humphrey, dros bant a bryn am
amryw filldiroedd, nes cyrhaedd cartref Robert P.
Roberts a'i briod, gynt o ardaloedd Ixonia, Wis., a
Lime Spring, Ia. Y mae ganddynt fferm dda, ac
maent mewn amgylchiadau cysurus, ond nid yw iechyd
Mr. Roberts yn gryf. Ar ol gorphwys diwrnod dan
eu nawdd, ac ymweled â'u cymydog Thomas Hughes
a'i deu.lu, gynt o Red Oak, Iowa (ond ei briod o
Berlin, Wis.), gan y rhai y mae baban braf, daeth Mr.
Roberts a'i gerbyd i' m danfon o gwmpas ac ar draws
y bryniau, hyd at gartref y Parch. James Howell,
gweinidog yr Annibynwyr yn yr ardal, yr hwn yntau
a'm harweiniodd i at yr hen bererin John Williams,
ar fy ffordd i dj Benjamin Williams, Ile y' m derbyniwyd yn siriol. Y na esgynais hyd at balasdy
Richard Hammond, tad y Parch. John Hammond,
Bangor, Pa., a chefais amser da gyda hwy. Y mae
gan Mr. a Mrs. Hammond ranch dda; ond teimlo
yn unig maent heb blant, a John eu mab yn mhell.
Teimlwn dipyn yn ddrwg nas gallwn weled holl Cymry
Big Bend, oblegid eu bod mor wasgaredig, oddicartref,
&c. Yn awr, tebyg y dysgwylir i mi ddyweyd fy marn
am y wlad.
Y mae arwynebedd y tir yn lied wastad am ugeiniau o filldiroedd, fel y gellir aredig bron yr ol1 ohono
yn hawdd. Gweryd o liw llwydwyn sydd yno bron ol1,
a digon o ddyfnder, ond bod yno ddarnau mawrion

 

 


(delwedd E0197) (tudalen 201)


A GWELEDIGAETHAU BYWVD.
2ol
a bychain o dir cerygog nas gellir ei drin. Mae yno,
pa fodd bynag, lawer o ffermydd heb ddim O'r tir
cerygog dan sylw. Ceir y ddaear oreu ar ben y bryniau
i'r gogledd o Ddyffryn Paradwys, ac yn ardal Beulah.
Gwelais springs da o ddwfr ar rai O'r ffermydd, ond y
mae bron yr ol1 yn gorfod cloddio er cael dwfr mewn
cyflawnder — o ddeg i gan' troedfedd o ddyfnder.
Tebyg fod y cyfartaledd tua 50 troedfedd. Y mae y
dwfr o ansawdd a blas go dda, er fod cryn lawer
o alkali ynddo yn gystal ag yn y tir. Mae yr hinsawdd
yn dymherus. ac o duedd i fod yn sych yn yr haf; ond
nid ydynt yn cael anhawsder i godi man ydau, tatws,
&c. Pan y gofynaf i'r bobl pa fodd y maent yn hom
byw yn y Big Bend, yr ateb unffurfiol gaf ganddynt
ol1 yw: " Da, ond fod y wiwerod bron a'n trechu. Y
mae digon o waith i un neu ddau ohonom eu hymladd
bron yn gyson am y misoedd y bydd yr ydau yn tyfu;
ac y mae y creaduriaid bychain yn myned yn rhy
galed i rai O'r ffermwyr, ac yn bwyta yr holl gnwd."
Fy marn i yw, y bydd hon yn un O'r rhanbarthau
amaethyddol harddaf yn mhen ychydig flynyddau; a
dywedai D. M. Stephens (un O'r ysbiwyr Cymreig
hyny) wrthyf am ddyweyd ei fod ef wedi dyfod i
feddianu y wlad, a bod gydag ef dri chwarter section o
dir; ac nad yw yn edifar ganddo ei fod wedi dyfod i'r
Big Bend. Bydded hysbys i'n cydgenedl nad oes
rhagor o dir y Llywodraeth i' w gael; ond daw llawer
o dir i'r farchnad yn fuan ag y mae annealldwriaeth
yn ei gylch rhwng y Llywodraeth a chwmni y rheilffordd. Gellir sefydlu arno yn awr, ac aros am y dyfarniad. Bydd y siawns gyn taf gan y rhai hyny i' w gael
fel homestead, neu trwy dalu i'r cwmni. Yn awr, y
mae tua chant o ffermydd 0 160 0 erwau yr un yn
meddiant rhyw 50 0 Gymry; a gellid meddiantt cant
yn ychwanegol yn y ffordd a nodais o fewn cylch 20
milldir ysgwar, a delai y Big Bend felly yn un O'r
14

 

 


(delwedd E0198) (tudalen 202)


202
AMERICA,
sefydliadau Cytnreig cryfaf yn y Talaethau. 0 500
dol. i 1,000 dol. sydd yn ddigon i gychwyn yn dda ar
fferm, gyda diwydrwydd a bendith. Buasai yn llawer
gwell genyf fi gychwyn ffarmio yn y Big Bend nag yn
nhir coediog y Soupd.
Y mae eglwys Gymraeg Beulah (T.C.) wedi myned
i lawr, gan nad oes gweinidog gan yr enwad yn y
Big Bend. Pe deuai gweinidog da i Ddyffryn Paradwys, tebyg yr ail-ffurfid eglwys Beulah, ac y deuai
rhagor o Gymry i' w plith. Ant yn awr i eglwysi
Saesoneg y Presbyteriaid a'r Annibynwyr. Mae dwy
eglwys gan yr Annibynwyr Seisonig dan ofal y Parch.
James Howell, yr hwn sydd yn bregethwr da a Christion cyson.
Y mae gan y Trefnyddion Calfinaidd gapel newydd
tlws yn nghanol Dyffryn Paradwys, a hwnw wedi talu
am dano cyn ei agor; a bwriadant gael y Parch. Joseph
Rob:rts, Ysgrifenydd y Gymdeithas Genadol, yno i' w
acror, ac i osod dwylaw swyddogol ar benau y tri
blaenor a etholasant y Sabbath O'r blaen, sef Robert T.
Roberts, Racine; Dxvid Edwards, gynt o Moriah,
Jackson Co., Ohio; a John Evan Williams, gynt o
Bethesda, ardal Oshkosh; a chan fod tua 35 0 Gymry
yn dal tir o gwmpas y capel heb fod yn rhy bell i
ddyfod iddo ar y Shbbathau, a digon o dir gan lawer
ohonynt i wneyd dwy neu dair o ffermydd, dylai
pwyllgor y genadaeth wneyd pob ymdrech i gael
gweinidog cytnhwys i'r maes addawol hwn yn ei
wendid cychvvynol. Y mae ganddynt ddwy erw o
gladdfa wedi ei gau i fewn, a thri wedi eu claddu yno
eisoes; a'r gyntaf a gladdwyd yno wedi cael bedd a
chofadail wir chwaethus. Wrth basio un diwrnod
wrthyf fy hun, aethum i fewn, a darllenais yr argraff
goffadwriaethol ganlynol: —" Esther, anwyl briod
George R. Roberts. Bu farw Awst 26ain, 1889, yn 23
mlwydd oed." Nis gallwn lai na cholli deigryn yn yr

 

 


(delwedd E0199) (tudalen 203)


A GWELEDIGAETHAU BYWYD.
203
ymwybyddiaeth ei bod wedi gadael ei rhieni, sef Elias,
o Jackson Co., Ohio, i fyned gyda ei chydymaith i
geisio ffawd yn Nyffryn Paradwys y Washington bell;
ond, ha! yn Ile sylweddoli eu bwriadau, dyma y
cyfamod yn cael ei dori; ac yn Ile cael oes hir o gymdeithas ei George, wele hi o ran ei chorff, fel rhagredegyddes llawer o'i chydgenedl, wedi myned i
gysegru dinas y meirw. Yn nystawrwydd y llanerch,
sibrydwn a ganlyn:—
Y ma mewn hedd y gorphwys dy gorff
Yn mro Paradwys y llawr,
Ac angel gwarcheidiol a wylia dy fedd
Hyd ganiad yr udgorn mawr.
Dy haul a fachludodd, a hi eto yn ddydd,
Yn ngwlad y Washington bell;
Ond cododd dy haul, nid i fachlud mwy,
Vn mro y Baradwys well.

xyz

 

...

 Sumbolau:

a A / æ Æ / e E / ɛ Ɛ / i I / o O / u U / w W / y Y /
ā
Ā / ǣ Ǣ / ē Ē / ɛ̄ Ɛ̄ / ī Ī / ō Ō / ū Ū / w̄ W̄ / ȳ Ȳ /
ă Ă / ĕ Ĕ / ĭ Ĭ / ŏ Ŏ / ŭ Ŭ /
ˡ ɑ ɑˑ aˑ a: / æ æ: / e eˑe: / ɛ ɛ: / ɪ iˑ i: / ɔ oˑ o: / ʊ uˑ u: / ə /
ʌ /
ẅ Ẅ / ẃ Ẃ / ẁ Ẁ / ŵ Ŵ /
ŷ Ŷ / ỳ Ỳ / ý Ý /
ɥ
ˡ ð ɬ ŋ ʃ ʧ θ ʒ ʤ / aɪ ɔɪ əɪ uɪ ɪʊ aʊ ɛʊ əʊ / £

ә ʌ ẃ ă ĕ ĭ ŏ ŭ ẅ ẁ Ẁ ŵ ŷ ỳ Ỳ

gw_gytseiniol_050908yn 0399j_i_gytseiniol_050908aaith δ δ
wikipedia, scriptsource. org


Y TUDALEN HWN /THIS PAGE / AQUESTA PÀGINA:
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_231_america-gweledigaethau_davies_1894-1897_2_2069k.htm

Ffynhonnell / Font / Source:
Creuwyd / Creada / Created:
19-09-2018

Adolygiadau diweddaraf / Darreres actualitzacions / Latest updates: 21-09-2018, 19-09-2018  

Delweddau / Imatges / Images:

 

 

Freefind:

Archwiliwch y wefan hon
SEARCH THIS WEBSITE
...
Adeiladwaith y wefan
SITE STRUCTURE
...
Beth sydd yn newydd?
WHAT’S NEW?


Ble'r wyf i? Yr ych chi'n ymwéld ag un o dudalennau'r Wefan CYMRU-CATALONIA
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web CYMRU-CATALONIA (= Gal·les-Catalunya)
Where am I? You are visiting a page from the CYMRU-CATALONIA (= Wales-Catalonia) Website
Weə-r äm ai? Yüu äa-r víziting ə peij fröm dhə CYMRU-CATALONIA (= Weilz-Katəlóuniə) Wébsait