kimkat2068k America, a Gweledigaethau Bywyd: yn Cynwys Darluniad o America, yn Ddaearyddol, Amaethyddol, Mwnyddol, Llaw-weithfaol, Masnachol, Gwladwriaethol, Cymdeithasol, a Moesol, a Chymry y Talaethau Unedig. Ac yn Ychwanegol, Cynwysa y Gyfrol Benodau ar Rai o Bynciau Dyddorol y Dydd, yn nghyda Detholion O "Lwybrau Bywyd", Cyfrol a Gyhoeddwyd gan yr awdwr yn y Talaethau Unedig. Gan William D. Davies, Scranton, Pa., Talaethau Unedig America. Yr Hwn sydd wedi Byw 25 o Flynyddau yn America, ac wedi Teithio y Deuddeg Diweddaf o’r Cyfryw o For y Werydd i’r Tawelfor, fel Goruchwyliwr Teithiol y “Drych”, etc. Merthyr Tydfil. 1897 (Trydydd Argraffiad) (Argraffiad Cyntaf: 1894). W. D. Davies (William Daniel Davies). (Ganwyd 15 Mehefin 1838, Y Llety, Y Felindre, Pen-boyr, Sir Gaerfyrddin. Bu farw 22 Mawrth 1900, Wrecsam, Sir Ddinbych.) (61 oed).

22-09-2018 18.00

● kimkat0001 Yr Hafan www.kimkat.org
● ● kimkat2001k Y Fynedfa Gymraeg www.kimkat.org/amryw/1_gwefan/gwefan_arweinlen_2001k.htm
● ● ● kimkat0960k Mynegai i’r testunau Cymraeg yn y wefan hon www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_mynegai_0960k.htm
● ● ● ● kimkat2067k America, a Gweledigaethau Bywyd – y Gyfeirddalen
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_231_america-gweledigaethau_davies_1894-1897_y-gyfeirddalen_2067k.htm
● ● ● ● ● kimkat2068k
Y tudalen hwn
...

 

0003g_delw_baneri_cymru_catalonia_050111
 
(delwedd 0003)

 

 

 

 

 

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Gal
·les i Catalunya
The Wales-Catalonia Website

America, a Gweledigaethau Bywyd: yn Cynwys Darluniad o America, yn Ddaearyddol, Amaethyddol, Mwnyddol, Llaw-weithfaol, Masnachol, Gwladwriaethol, Cymdeithasol, a Moesol, a Chymry y Talaethau Unedig. Ac yn Ychwanegol, Cynwysa y Gyfrol Benodau ar Rai o Bynciau Dyddorol y Dydd, yn nghyda Detholion O "Lwybrau Bywyd", Cyfrol a Gyhoeddwyd gan yr awdwr yn y Talaethau Unedig. Gan William D. Davies, Scranton, Pa., Talaethau Unedig America. Yr Hwn sydd wedi Byw 25 o Flynyddau yn America, ac wedi Teithio y Deuddeg Diweddaf o’r Cyfryw o For y Werydd i’r Tawelfor, fel Goruchwyliwr Teithiol y “Drych”, etc. Merthyr Tydfil. 1897 (Trydydd Argraffiad) (Argraffiad Cyntaf: 1894).
W. D. Davies (William Daniel Davies).
(Ganwyd 15 Mehefin 1838, Y Llety, Y Felindre, Pen-boyr, Sir Gaerfyrddin. Bu farw 22 Mawrth 1900, Wrecsam, Sir Ddinbych.) (61 oed).

RHAN 1
Tudalennau 000-102

Y Llyfr Ymwelwyr / El Llibre de Visitants / The Guestbook:
http://pub5.bravenet.com/guestbook/391211408/


a-7000_kimkat1356k

Beth sy’n newydd yn y wefan hon?
Què hi ha de nou en aquest web?
What’s new in this website?

---

6665_map_cymru_catalonia_llanffynhonwen_chirbury_070404


(delwedd 6665)

....
llythrennau duon = testun wedi ei gywiro
llythrennau gwyrddion = testun heb ei gywiro

 

 

 


(delwedd E0001) (tudalen 001_clawr)

America, a Gweledigaethau Bywyd

Trydydd Arfgraffiad

Gan William D. Davies, Scranton, Pa.

 

 


(delwedd E0002) (tudalen 002)

W. D. Davies

 

 


(delwedd E0003) (tudalen 003)

America, a Gweledigaethau Bywyd: yn Cynwys Darluniad o America, yn Ddaearyddol, Amaethyddol, Mwnyddol, Llaw-weithfaol, Masnachol, Gwladwriaethol, Cymdeithasol, a Moesol, a Chymry y Talaethau Unedig. Ac yn Ychwanegol, Cynwysa y Gyfrol Benodau ar Rai o Bynciau Dyddorol y Dydd, yn nghyda Detholion O "Lwybrau Bywyd", Cyfrol a Gyhoeddwyd gan yr awdwr yn y Talaethau Unedig. Gan William D. Davies, Scranton, Pa., Talaethau Unedig America. Yr Hwn sydd wedi Byw 25 o Flynyddau yn America, ac wedi Teithio y Deuddeg Diweddaf o’r Cyfryw o For y Werydd i’r Tawelfor, fel Goruchwyliwr Teithiol y “Drych”, etc. (Y Trydydd Argraffiad)

Merthyr Tydfil.

Joseph Williams, Argraffydd, Swyddfa’r “Tyst”. 1897

 

 


(delwedd E0004) (tudalen 005)

C Y NVVYSIAD. RI-IAN 1. TUDAL. PRNOD. I. ll. 111. IV. V. VI. Vll. Vill. X. Xll. Xlll. XIV. XVI. XVII. XVIII. XIX. Rhagarweiniad Atnerica yn Ddaearyddol Cynyrchion Atnaethyddol a Mwnyddol Llaw-weithyddiaeth y Talaethau Ffyrdd Haiarn Arian Cylchredol Llywodraethiad a .Chyfansoddiad y Talaetbau Yr Adran W#inyddol Agwedd Gymdeithasol a Moesol y Talaethau Agwedd Gymdeithasol a Moesol y Talaethau (Parhad) Young People's Society of Christian Endeavour . Woman's Christian Temperance Union Cymdeithasau Ereill Dyfodol y Talaethau Unedig Canrif o Gynydd yr U nol Dalaethau Perthynas y Cymry å'r Talaethau Unedig Tywysogion wedi Cwympo.—Mewn Cyfarfod Dosbarth Scranton, Pa., a' r Cylchoedd Y n Ninas New York.—Y Parchn. Morris, Jones, a Talmage.—V Dathliad Canmlwyddol Gogoneddus Ardaloedd Chwarelatl Pa., Baltitnore, Washington, D.C., Philadelphia, etc. .. 9 13 22 25 26 28 29 35 39 44 48 53 56 63 65 73 75 79 97

 

 


(delwedd E0005) (tudalen 006)

 xxx 6 PENOD. XXI. XXII. XXIII. xxrv. xxv. xxvr. xxvll. xxvlll. xxrx. xxx. xxxl. xxxll. xxxlll. xxxrv. xxxv. xxxvl. xxxvll. xxxvlll. CVNWYSIAD. Cychwyn am Dair Blynedd o Daith . Trwy Ranau o Wisconsin Gwibdaith trwy Minnesota . Gwibdaith trwy Iowa Gwibdaitb trwy Missouri Gwibdaith trwy Kansas O Denver i Utah O Salt Lake City i San Francisco San Francisco ac Oakland, Californta Trwy Oregon i Washington Seattle, Tacoma, Big Bend, Washington, etc. O Washington, trwy Montana, hyd Minneapolis, Minnesota . Gwibdaith trwy South Dakota Gwibdaith trwy Nebraska Gwibdaith trwy Ranau o Iowa Gwibdaith trwy Ranau o Wisconsin . Chicago a Rhanau o lllinois Johnstown, Pa. Nodiadau ar Brif Sefydliadau Cymreig y Talaethau Unedig.. 254 TUDAL. 103 119 125 131 139 144 154 164 173 J 77 182 204 . 210 223 226 235 244 251

 

 


(delwedd E0006) (tudalen 007)

 CYN&YYSIAD. R I-IAN 11. TUDAL. Canys pwy a ddiystyrodd Ddydd y Pethau Bychain 262 Fy Nhaith trwy y Byd Arferion yn ffurfio Cymeriad Pleser leuenctyd I Gymru ac yn 01: A Nodi«lau ar y Daith yn Bancr America Bwthyn. fy Nhad CWyn Pleidio Sobrwydd Rhyfedd Waitli V Sabbath Deigryn Golygfeydd Moes•ol Llais y •Meddwyn Myfyrdod Tragywyddoldeb Yr Ysgol Sabbathol Ceisio Gwir Grefydd Trefn khagluniaeth Boreu Nadolig Peryglon y Byd V Cariad Tragywyddol V Perygl o Esgeuluso y Beibl Hiraeth am y Nef Dyben i Waith Dt1W Y Ddau Gyfamod Dymuniad Deigryn Mam 267 268 269 271 273 274 277 278 279 281 284 292 295 295 296 296 296 297 298 298 299 300 300 301 301 302

 

 


(delwedd E0007) (tudalen 008)

 8 CYNWVSIAD. Gweriniaeth America Gwin Cymundeb TUDAL. 303 304 Paham y dylid bod yn fwy gofalus o Blant nag o’r Trysorau Penaf? Yr Awdwr fel Casglydd Crefyddol " Da, Was Da a Ffyddlawn " Perthynas Crefydd, Dirwest, a Gwleidiadaeth Crancyddiaeth Ddirwestol . Penarglwyddiaeth y Fasnach Feddwol Y Fasnach Feddwol Haelioni Cristionogol Cyfalaf a Llafur . V Tlawd a'r Cyfoethog 307 311 313 313 318 321 323 325 333 336 Amrywiol Deimladau yr Awdwr ar ei iadau Americanaidd " A'm Llygaid Arnat y'th Gynghoraf" Ffair Gyd-genedlaethol Golumbaidd y Chicago yn y Flwyddyn 1893 Pedwar o ryfeddodau yr Unol Dalaethau Ail-ddyfodiad Crist Dymuniad y Cristion Sirioldeb Plant i'r Teithiwr Beth yw Bywyd? Unigrwydd yr lesu Bachgen a Aned i Ni " V Drwydded i'r Nefoedd Cartref Grwydr338 340 Byd yn 342 390 391 400 400 402 403 405 406 407

 

 


(delwedd E0008) (tudalen 009)

 RTIAGARWEINTAD I'R TRY DYT)D ARGRAFFIAD. VNAWS heb gryn lawer o bryder yr anturiais gyflwyno yr Argraffad Cyntaf o’r Gyfrol hon i'r cyhoedd; ond da genyf allu dy hysbysu ei bod wedi derbyn cymeradwyaeth a gwerthiant y tuhwnt i'm dysgwyliadau. Yn gyntaf, cafodd Adolygiadau canmoladwy gan gyhoeddiadau o eiddo y gwahanol enwadau yn Nghymru. Meddai Bancr ac Amserau Cymru: " Ac ni ddichon y llyfr wneyd dim ond lles i'r hwn a'i darIleno," &c. Ac meddai Seren Cymru: " Ceir yma ddarluniad manwl a helaeth o holl sefydliadau Cymreig y Talaethau, yn nghyda hanes Ffair y Byd, a detholion o weithiau yr Awdwr. Edmygwn dön bur ac ysbryd crefyddol y llyfr," &c. Ac meddai y Celt: Dyma gyfrol i bawb a ewyllysiant siarad yn synwyrol am America," &c. A'r Goleuad a ddywedai: " Am y rhan gyntaf a'r rhan fwyaf o gymvvys y gyfrol hon, nid oes genym ddim ond canmoliaeth i'w roddi," &c. Ac yn awr, gan fod tan adolygiadol y cyhoeddiadau ereill o’r un nodwedd cymeradwyol, gadawn ar hynyna. A gwnaeth gwerthtl yr Argraffad Cyntaf a'r Ail o chwe' mil o gopiau galonogi yr Awdwr i barotoi y Trydydd Argraffad hwn, gyda rhai cyfnewidiadau ac 2

 

 


(delwedd E0009) (tudalen 010)

 10 RHAGARWEINIAD. ychwanegiadau, fel ag y mae yn hyderus genyf y bydd i'r Trydydd Argraffad gael cystal derbyniad a'r Cyntaf a'r Ail. Ac os felly, bydd i'r " hwn sydd yn hatl, ac i'r hwn sydd yn medi, lawenychu yn nghyd." Felly, yr wyf yn mawrhau y fraint o gael cyflwyno y Trydydd Argraffad o AMERICA A GWELEDIGAETHAU Bvwvn i Gymry Gwlad y Gån yn iaith y penillion canlynol:— 'Rwyf heddyw'n anrhegu hen wlad fy hynafiaid, Lle gyntaf y gwelais oleuni y dydd, V wlad ag yr yfais o' i ffrydiau grisialaidd, A'i bywiol awelon, gan rodio yn rhydd. 'Rwy'n chwenych anrhegu hen wlad y Brythoniaid, Gwlad swynol gerddoriaeth y ddurtur a'r gog; A nefol ganiadau y meibion a'r merched Am nef y gogoniant, a'r lesu yn nghrog. 'Rwy'n chwenych anrhegu preswylwyr Gwyllt Walia, Fel adgof i minau fod yno yn byw, Trwy foreu-ddydd bywyd, yn ffurfio cymeriad, 'Nol ffydd fy hynafiaid, am grefydd a Duw. Yn Nghymru derbyniais aneirif fendithion, Nad oes is y nefoedd yn gwybod eu gwerth; Er cynal fy ysbryd ar daith yr anialwch, Wrth chwilio uwch llvvybrau Preswylydd y Berth. O fyd y Gorllewin y ceisiaf ddychwelyd, Er gosod fy anrheg wrth draed fy mam-wlad; Sef lloffon fy mywyd, a chynyrch fy llwybrau, Er ceisio llesoli—boed hyn er boddhad.

 

 


(delwedd E0010) (tudalen 011)

 RHAGARWEINIAD. Nid ydyw y Gyfrol ond ysgafn adseiniad O fawr gyfrifoldeb preswylwyr y byd, O hau egwyddorion a ddygant dangnefedd Yn ngwyneb datguddiad y frawdle a fydd. O! gyfaill, os teimli i feddu fy llyfr, Cyn gwybod yn sicr ei fod ef o fudd, Anogaf yn wylaidd—gwna fynu ei ddarllen, Er gwel'd a oes ynddo drysorau yn nghudd. •Gan mai o’r ddaear a dyfnder y creigiau Y cloddir y perlau, yr arian, a' r aur, Myn wel'd a oes yma sylweddau a bery, Gan oleu-ddysgleirio mewn meddwl a gair. YR AWDWR. Mehefil! 15fed, 1896. 11

 

 


(delwedd E0011) (tudalen 013)

 R TIAN 1. AMERICA YN DDAEARYDDOL, GWLADWRIAETHOL, CYMDEITHASOL, P ENC) 1) 1. AMERICA VN DDAEARYDDOL. R mai yr Unol Dalaethau yn benaf olygir yn nghynwys y gyfrol hon, eto, gweddus yw dechreu gyda Daearyddiaeth y Cyfandir Americanaidd. Gelwir America yn " Fyd y Gorllewin," eto, rhenir ef i ddau gyfandir, neu y " Byd Newydd; " er nad yw ond un, gan fod y culdir sydd yn eu huno tua 40 0 filldiroedd o led. Gelwir y rhan ddeheuol yn America Ddeheuol (South America), yr hon sydd tua 5,000 0 filldiroedd o hyd, ac yn agos i 2,000 0 filldiroedd o led; a gelwir y rhan ogleddol o’r Byd GorIlewinol yn America Ogleddol (North America), a mesura y rhan hon eto 5,000 0 filldiroedd o hyd, a 2,000 0 led, ar y cyfartaledd. Eto, gwneir tri rhaniad mawr ar America Ogleddol, sef Mexico, neu y gweriniaethau canolbarthol, yn y dehau; y Talaethau Unedig yn y canol; Canada, netl y tiriogaethau Prydeinig,

 

 


(delwedd E0012) (tudalen 014)

 14 AMERICA, yn y gogledd; ond å'r canol, sef calon y cyfandir, y mae a wnelom ni yn benaf. Felly, sylwn yn gyntaf ar Ddaearyddiaeth y Talaethau Unedig. El HYD. O För y Werydd i'r Mör Tawelog—2,600 0 filldiroedd. El LLED. O'r gogledd i'r dehau, tua 1,600 0 filldiroedd. Ond anhawdd amgyffred eangder ac amrywiaeth y wlad fawreddog hon yn y cyfanswm fel yna, gan ei bod yn cynwys o fewn ei therfynau ddigon o adnoddau i gynal mil o filiynau o boblogaeth, o leiaf; ond, diamheu, anhawdd i Gymry Gwyllt Walia allu credu fod yr Unol Dalaethau Americanaidd yn ddigon eang a chyfoethog i gynal eu hunain gymaint o boblogaeth ag sydd ar wyneb yr holl ddaear heddyw. Y mae y Talaethau Unedig yn cynwys 51 0 dalaethau a thiriogaethau, a rhai ohonynt, ar eu penau eu hunain, gymaint bedair neu bump o weithiau ag yw Lloegr, Ysgotland, Cymru, ac lwerddon yn nghyd. Gan hyny, tuag at gael y darllenydd i ddeall yn iawn faintioli yr Unol Dalaethau, gosodwn ger bron bob talaeth a thiriogaeth, wrth eu henwau, yn nghyda rhif y milldiroedd petrual yn mhob un ohonynt, ac hefyd eu poblogaeth yn y flwyddyn 1890. Wele yn gyntaf gynydd y boblogaeth ar hyd y ganrif hon hyd y flwyddyn 1890. CVNYDD POBLOGAETH Y TALAETHAU UNEDIG 1800. 1810. 0 1800 HYD 1890. —7,239,000, cynydd 0 3628 y cant. 1840.—17 3366 3251 32 •52 35.83

 

 


(delwedd E0013) (tudalen 015)

 15 1860. 1870. 1880. A GWELEDIGAETHAU BYWYD. —31,443,321, cynydd 0 35' 11 y cant. 2265 30•08 28•oo Y n unol ag Vstadegau am y flwyddyn 1890 Alabama, milldir. petrual, 52,250, poblogaeth, 1,513,017 Arkansas, California, Colarado, Connecticut Delaware, Florida, Georgia, Idaho lllinois, Indiana, Iowa, Kansas Kentuckv Louisiana, Maine, Maryland, Massachusetts Michigan, Minnesota, Mississippi, Missouri, Montana, Nebraska, Nevada, New Hampshire, New Jersey, New York, North Carolina, North Dakota, Ohio, 53,845, 158,360, 103,925, 4, 990, 2,050, 58,680, 59,475, 84,800, 56,650, 36,350, 56,025, 82,080, 40,400, 48,720, 33,040, 12,210, 8,315, 58,915, 83,365, 46,810, 69,415, 146,080, 77,510, 110, 700, 9,305, 7,815, 49, 170, 92,250, 68, 645, 41,060, 1,208,130 412, 198 746,258 168,493 391 , 422 84,385 3,826,351 2, 192,404 1,911,896 1,118,587 661,086 1,042,390 2,238,943 2,093,889 1,301,826 1 , 289,600 2,679, 184 132, 159 1,058,910 45,761 376,530 I , 444,933 1,617,947 182,719 3,672,216

 

 


(delwedd E0014) (tudalen 016)

 16 Oregon, milldir. Pennsylvania, Rhode Island, South Carolina, South Dakota, Tennessee, Texas, Vermont, Virginia, Wash in gton, West Virginia, Wisconsin, Wyoming, Cyfanswm AMERICA, petrtlll, 96,030, poblogaeth 45,215, 1,250, 30,570, 79,800, 42,050, 265,780, 9,565, 42,450, 69, 180, 24,780, 56,040, 97,890, 2,634,500 , 313,767 5,258,014 345,506 1,151,149 328,808 1,766,518 2, 235,523 332,422 1,655,980 349,290 762,794 1,686.880 60,705 61 , 908, 906 Eto y Tiriogaethau:— Arizona, milldir. petrual, 113,020, District of Columbia , New Mexico, , Oklahoma, Utah, * Alaska, Indian Territory, Cyfanswtn 70, 122,580, 39,459, 84,970, 514,700, 69,991, 944,790, Cyfanswm yr 011 3579, 290, poblogaeth, 59,620 230.392 153,593 61,834 207,905 40,000 119,000 872,344 62,781,250 Hawddach dyweyd y ffugyrau uchod na'u hamgyffred, onide? y rhai a brofant mai mawr yw arwynebedd y Talaethau Unedig. Dywedir fod un ran o bedair o dir yr Unol Dalaethau eto heb ei werthu (heblaw y tir sydd wedi ei neillduo i'r Indiaid, yn nghyda 369,529,600 0 erwau yn Alaska), yn y gwahanol dalaethau, fel y canlyn:— * Y mae Utah wedi cael ei derbyn yn dalaeth i'r Undeb ddechreu 1896.

 

 


(delwedd E0015) (tudalen 017)

 A Alabatna Arizona Arkansas California Colorado Florida Idaho Kansas Louisiana Michigan GWELEDIGAETHAU BVWYD. ERWAU O DIR. 807,947 54 ,608, .531 5,091.313 50, 132,281 2,806,587 734.080 1, 172,518 724,232 6,510,611 978,416 808, 799 74,558, 143 10,799,332 42,385,734 54,720,863 19,500,555 6,324,863 13,006,396 35,231,466 871,087 52,055,248 567,586,783 17 Minnesota Mississippi Missouri Montana Nebraska Nevada New Mexico North Dakota.. Oklahoma Oregon South Dakota. Utah.. Washington Wisconsin Wyoming Cyfanswm o erwau Ond dylid cadw mewn cof fod y rhan fwyaf o’r uchod ddiffaethwch anial, creigiog, a thywodlyd, ac heb ddigon o ddwfr i'w amaethu, neu yn rhy gorsiog i' w ddiwyllio. Ond tebyg y bydd i gyfnewidiadau yr hinsoddau, ac athrylith celfyddydol, i ddarostwng yr oll at wasanaeth dyn ac anifail yn y dyfodol agos a phell.

 

 


(delwedd E0016) (tudalen 018)

 18 AMERICA, El LLVNOEDD eto a awgryma fawredd y wlad. Y mae gan y Talaethau Unedig o'i mewn lynoedd digon llydain i Loegr, a Chymru, ac lwerddon i gael eu boddi o’r golwg o fewn eu glänau. Dyna— Llyn Superior yn 380 0 filldiroedd o hyd, a 120 0 led Llyn Michigan yn 330 0 hyd, a 60 0 led. Llyn Erie yn 270 0 hyd, a 50 0 led. Llyn Huron yn 250 0 hyd, a 90 0 led. Llyn Ontario yn 180 0 hyd, a 40 0 led. Gellid enwi amryw yn rhagor o lynoedd llai. Mae AFONYDD y Talaethau Unedig yn fawrion hefyd. Mississippi, hyd o’r mar i darddle pellaf y dwfr a garir ganddi, 4,100, seftarddle Missouri. Missouri eto, o'i tharddle hyd ei harllwysiad i'r Mississippi, 2,900, hyd y mar, 4,100. Arkansas Rio Grande San Francisco Columbia Nebraska Colorado yn California Yellowstone Ohio Kansas Tennessee . Cumberland Alabama Susquehanna Potomac Delaware Hudson A gellid enwi rhagor. 3,000 1,800 1,300 1,200 1,200 1,100 1 ,ooo 950 900 800 500 500 500 500 400 350

 

 


(delwedd E0017) (tudalen 019)

 A GWELEDIGAETHAU BYWYD. MVNYDDOEDD. Gall y Talaethau Unedig ymffrostio yn amlder ac uchder eu mynyddoedd, megys:— T ROED- MILLDIR. FEDDI. OEDD. St. Elias yn Alaska . uchder 17,850 neu 3} Mount Whitnev vn California Mount Shasta Mount Rainier yn Washington Long's Peak yn Colorado Pike's Peak Fremont's Peak yn Wyoming.. Mount St. Helen's yn Washington Mount Hood yn Oregon Mount Washington (White Mountains) yn N. Hampshire Mount Marcy (highest) yn New York Mansfield (highest of Green Mountain) yn Vermont Peaks of Otter yn Virginia 14,887 14,442 14,444 14,271 14,216 13,570 13,400 11,225 6,285 5,402 4,280 4,260 2} 2} 234 2} 2. 2 1 3 3 A gellid enwi llawer yn rhagor o fynyddoedd uchel; ond gan mai rhoi bras ddarluniad O'r Talaethau Unedig yw ein hamcan, bydd byrdra yn weddus. Felly, awgrymwn y tebygolrwydd fod yn agos haner arwynebedd y Talaethatl a'r Tiriogaethau yn fynyddig, a'r gweddill yn wastadeddau bychain a mawrion. A chan fod ffeithiau y benod hon megys yn codi y llen er dangos eangder a mawredd y Talaethau, dengys. ffugyratl y benod fod y Talaethau Unedig a'u Tiriogaethau (a gadael allan Alaska eang), yn cynwys cymaint o filldiroedd petrual ag sydd dan Brydain Fawr a'r lwerddon, Norway, Sweden, Denmark, Germany, Awstria, Holland, Belgium, Ffrainc, Spaen, Portugal, Switzerland, Italy, Groeg, a Turkey yn

 

 

 

 20 AMERICA, Ewrop, a Palestina, Japan, a China briodol yn nghyd. Poblogaeth y cyfryw wledydd yn nghyd yw 650,000,000, tra nad yw poblogaeth y Talaethau Unedig eto ond 62,781,250 yn 1890, er fod adnoddau cynaliaeth y cyfryw yn fwy nag eiddo y gwledydd cyferbyniol yn nghyd! TVMHEREDD. Yr hinsawdd eto, yn gymhariaethol, yr hyn a ddengys ei bod o nodwedd gymedrol. Wele yn can lyn gyfartaledd yr hinsoddau yn ngwahanol barthau y wlad am y tair blynedd diweddaf:—Albany, N.Y., 504; Cincinnati, Ohio, 56•o; Chicago, lll., 48•8; Omaha, Neb., 49•5; Denver, Col., 492; Salt Lake City, Utah, 503; San Francisco, Cal. , 550; Portland, Or., 51 •4; Silka, Alaska, 439; St. Paul, Minn., 439; Galveston, Texas, 70•5•, &c. CVFARTALEDD BLYNYDDOL V GWLAW. New Vork City, N.Y. Pittsburgh, Pa Cleveland, Ohio Washington, D.C. Detroit, Michigan Fort Leavenworth, Kan. Pretoria, lll. Fort Randall, Dekota Fort Garland, Col. Fort Bridgen, Utah San Diego, Cal. Sacramento, Cal. San Francisco, Cal... Dalles, Oregon Fort Snelling, Minn. Fort Colville, Wash. Fort Defiance, Arizona Charleston, S. Carolina New Orleans, Louisiana 43 0 fodfeddi. 37 37 37 30 31 35 16 6 6 9 21 21 21 25 9 43 51

 

 


(delwedd E0018) (tudalen 020)

x 20 AMERICA, Ewrop, a Palestina, Japan, a China briodol yn nghyd. Poblogaeth y cyfryw wledydd yn nghyd yw 650,000,000, tra nad yw poblogaeth y Talaethau Unedig eto ond 62,781,250 yn 1890, er fod adnoddau cynaliaeth y cyfryw yn fwy nag eiddo y gwledydd cyferbyniol yn nghyd! TVMHEREDD. Yr hinsawdd eto, yn gymhariaethol, yr hyn a ddengys ei bod o nodwedd gymedrol. Wele yn can lyn gyfartaledd yr hinsoddau yn ngwahanol barthau y wlad am y tair blynedd diweddaf:—Albany, N.Y., 504; Cincinnati, Ohio, 56•o; Chicago, lll., 48•8; Omaha, Neb., 49•5; Denver, Col., 492; Salt Lake City, Utah, 503; San Francisco, Cal. , 550; Portland, Or., 51 •4; Silka, Alaska, 439; St. Paul, Minn., 439; Galveston, Texas, 70•5•, &c. CVFARTALEDD BLYNYDDOL V GWLAW. New Vork City, N.Y. Pittsburgh, Pa Cleveland, Ohio Washington, D.C. Detroit, Michigan Fort Leavenworth, Kan. Pretoria, lll. Fort Randall, Dekota Fort Garland, Col. Fort Bridgen, Utah San Diego, Cal. Sacramento, Cal. San Francisco, Cal... Dalles, Oregon Fort Snelling, Minn. Fort Colville, Wash. Fort Defiance, Arizona Charleston, S. Carolina New Orleans, Louisiana 43 0 fodfeddi. 37 37 37 30 31 35 16 6 6 9 21 21 21 25 9 43 51

 

 


(delwedd E0019) (tudalen 021)

 A GWELEDIGAETHAU Mount Vernon, Alabama Fort Haskin, Oregon Silka, Alaska' Neah Bay, Wash. COEDWIGOEDD. BVWYD. 66 0 fodfeddi. 66 83 123 21 Y mae cyflawnder bron o bob math o goed yn tyfu yn y Talaethau Unedig; eto, efallai fod miloedd o Gymry y fam-wlad heb wybod fod rhai o’r talaethau heb ond ychydig o goed marchnadol yn tyfu ynddynte Gellir myned yn unionsyth am ganoedd o filldiroedd, yn rhai o’r talaethau, heb weled na phren na llwyn yn tyfu ynddynt, megys gwastadeddau mawrion canol y wlad yn benaf, oblegid prinder gwlaw, oerfel y gauaf„ nodwedd y tir, &c. Ond ceir cyflawnder o goed mewn llawer o’r talaethau, megys talaethau glanau y moroedd, a'r llynoedd, a'r afonydd mawrion, &c. Yn New York, Michigan, Wisconsin, &c., yn y Dwyrain, ac yn Oregon, Washington, a California yn y Gorllewim Gwelais lawer o goedwigoedd mawrion tua glänau y Tawelfor. MAWREDD Y COED. Y mae 92 0 redwood grove yn Caleveros County, Cal. , yn rhyfeddol eu maintioli. Y mae 10 ohonynt dros 30 0 droedfeddi o dryfesur, a'r tälaf yn 237 0 uchder, ac yn 3,500 0 flynyddoedd o oed. Eto, y mae mewn grove arall yn Tulare County, Cal., goeden yn 276 0 droedfeddi o uchder, a 108 0 amgylchedd wrth y ddaear, ac yn 76 troedfedd 12 troedfedd yn uwch i fyny a dywedir fod un yn California yn 375 0 droedfeddi o uchder, 34 0 dryfesur, a 3,500 0 flynyddoedd o oed. Dywed ystadegwyr fod tua 400,000 0 filldiroedd petrual o dir coed i'r gorllewin o afon fawr Mississippi, heb gyfrif Alaska, a thebyg fod llawer mwy na hyny i'r dwyrain i'r un afon cyn iddo gael ei glirio er rhoddi lle i'r arnaethwyr llafurus.

 

 


(delwedd E0020) (tudalen 022)

 PEN OD 11. C V NVR CHI ON AM A ETH V D DO L M W NV D DOL. AN fod y Talaethau mor eang ac amrywiog eu tir a'u hinsoddau, naturiol dysgwyl amrywiaeth cynyrchion hefyd. Rhifa y ffermydd yn bresenol dros 4,500,000 0 wahanol faintioli yn cael eu gweithio. Wele un ohonynt:—Yn Texas y mae un fferm ddefaid 0 400,000 0 erwau, lle y porthir 0 100,000 i 600,000 0 ddefaid. Yn y flwyddyn 1879, tuag un ran o naw o’r tir gwrteithiadwy oedd dan driniaeth, sef 164,215 0 filldiroedd petrual, a gwerthwyd o ydau i wledydd tramor, dros ben cynal dyn ac anifail o'u mewn eu hunain, 283,000,000 0 fwsieli. Cynyrch gwenith y wlad am 1892 oedd 0 fivsieli, a chyfartaledd ei werth ar y fferm 624 cents y bwsiel. V cynyrch gwlan, 330,000,000 0 bwysau, a defnyddiwyd gartref yn ystod y flwyddyn 480,000,000 0 bwysau. Ac yn ol ystadegau cymedrol, yn ol y ffeithiau uchod, pe bai yr holl dir arddadwy dan driniaeth, gallai cynyrch y tir gynal 450,000,000 0 bobl a' u hanifeiliaid, ac eto werthu i wledydd tramor 2,554,000,000 0 fwsieli o ydau; ac eto dywed un awdurdod uchel yn y eyfeiriad hwn, sef Mr. Edward Atkinson, y gellid, oddiar y tir ag oedd dan driniaeth yn y flwyddyn 1879, oncl ei drin yn briodol, gynyrchtl digon o ydatl i gynal 100,000,000 0 boblogaeth, ac allforio cymaint arall a wnaed y flwyddyn dan sylw. Eto, cynyrcha y tir lawer o goed marchnadol, a chotwm, siwgr, tobacco, a bron bob math o ffrwythau coed, &c.

 

 


(delwedd E0021) (tudalen 023)

 AMERICA. CVNYRCH MWNYDDOL V TALAETHAU. 23 Dyma ffynonell anhysbyddadwy o gyfoeth o'u heiddo eto. Rhwng 1870 a 1880, cloddiwyd o greigiau y Talaethau Unedig werth 746,613,792 dol. o fwnau gwerthfawr: ac o’r flwyddyn 1849 hyd ddiwedd 1889 werth 2,730,077,152, ol adroddiad swyddogol arolygwr yr Unüed States Mint; ac y mae yr Unol Dalaethau yn cynyrchu haner 11011 aur ac arian y byd. Cloddir haiarn yn awr mewn 23 0'r talaethau, a gallai amryw o’r cyfryw, yn unigol, gyflenwi holl angenion y byd am y cyfryw ddefnydd. Y mae glo eto yn anhysbyddadwy mewn llawer o’r talaethau a'r tiriogaethau. Tebyg fod 0 10 yn eu daear ugain cymaint ag sydd yn holl wledydd Ewrop yn nghyd, fel yn y flwyddyn 1880 yr oedd yr Unol Dalaethau ar y blaen i holl wledydd y ddaear mewn cynyrchu mwnau o bob math, ac yn fwy na holl gynyrch mwnyddol Cyfandir Ewrop, Asia, Affrica, South America, Mexico, a'r Tiriogaethau Prydeinig oll gyda'u gilydd. Y n 1888, yr oedd cynyrch mwnyddol yr Vmherodraeth Brydeinig yn werth 289,601,385 dol., ac eiddo y Talaethau Unedig yn iverth dol.; ac eto nid yw yr Olaf ond megys dechreu ymddadblygu. YR AUR A'R ARIAN. Ceir rhai ffeithiau dyddorol am aur ac arian y wlad yn adroddiad E. O. Leech, y Dirprwywr Bathol, am 1892. Cynyrch aurgloddiau y Talaethau Unedig yn 1892 oedd 33,000,000 dol., oddeutu cyfartaledd blynyddoedd diweddar. P wysai cynyrch y cloddfeydd arian wns, yn werth, yn ol cyfartaledd pris arian yn y farchnad yn ystod y flwyddyn, 50,750,000 dol., netl 74,089,900 dol. mewn arian bathedig. Dengys hyn leihad 0 300,000 wns yn y cynyrch arianol rhagor y flwyddyn flaenorol. Prynodd y Llywodraeth, yn unol å'r gyfraith a fabwysiadwyd Gorphenaf 14eg, 1890,

 

 


(delwedd E0022) (tudalen 024)

 24 AMERICA. 54,129,725 wns o arian pur, yn costio 47,394,291 dol., neu gyfartaledd 0 87b sent yr wns. o’r arian hwn bathwyd 6,333,245 0 ddarnau dolar yn ystod y flwyddyn„ Dadforiwyd o aur yn y deuddeg mis 18,165,056 dol., ac allforiwyd 76,735,592 dol., yn dangos colled 0 58,570,536 dol. O arian dadforiwyd 31,450,968 dol., ac allforiwyd 37,531,301 dol., coiled 0 6,090,333 dol. Gwerth yr holl aur yn y wlad Ionawr raf, 1893, mor agos ag y gellir barnu, oedd 649,788,020 dol., a'r arian dol. Y n ystod y flwyddyn lleihaodd yr aur ar law 39,005,000 dol., a chynyddodd yr arian 46,000,000 dol. Vr arian mewn cylchrediad Ionawr raf, 1893, oedd dol., ychwanegiad 0 12,928,124 dol. yn ystod y flwyddyn. Vchwanegwyd 12,000,000 dol. at aur y byd. Daeth 2,000,000 dol. O'r ychwanegiad o Awstralia, a thros 9,000,000 dol. o Affrica Ddeheuol. Vchwanegwyd oddeutu 7,000,000 wns at arian y byd, trwy gloddio 4,600,000 wns yn Mexico, a 2,400,000 wns yn Awstra1ia.—O'r Drych.

 

 


(delwedd E0023) (tudalen 025)

 PE NOD 111. LLAW-WEITHYDDIAETH V TALAETHAU. MAE gan y Talaethau eto fanteision i brysuro yn y blaen mewn llaw-weithyddiaeth, oblegid tri rheswm: 1. Y mae pob defnyddiau at wasanaeth llaw-weithyddiaeth i' w gael yn helaeth gartref heb fyned i wledydd tramor i'w prynu. 2. Dywedir fod gwell gweithwyr yn y Talaethau Unedig nag unrhyw wlad arall. 3. Y mae gwell a pherffeithiach peirianau ac offerynau yno nag unrhyw wlad arall, meddir. Ac yn y flwyddyn 1880, yr oedd cynyrch llawweithyddol yr Unol Dalaethau yn werth 629,000,000 dol. yn fwy nag eiddo Prydain Fawr; ac anfonodd y Talaethau o'u porthladdoedd y flwyddyn ag oedd yn diweddu canol 1892 0 nwyddau amaethyddol a llawweithfaol gwerth 1,070,818,429 dol. Ystyrir fod mwy na chymaint ddwywaith o ddaear gynyrchiol i'r gorllewin o afon Mississippi nag sydd i'r dwyrain iddi, heb gyfrif Alaska na thiroedd y meteloedd. A phe y gorfodid i 192,000,000 0 bobl fyw yn Texas, ni byddai yn dewach ei phoblogaeth na Lloegr. Felly gellir gofyn gyda synedigaeth: Beth fydd y Talaethau Unedig mewn gwerth amaethyddol, mwnyddol, a llaw-weithyddol yn mhen can' mlynedd eto? 3

 

 


(delwedd E0024) (tudalen 026)

 PEN O D FFV RD D HA IA RN. MAE gan y Talaethau eisoes ganoedd o filoedd o filldiroedd o gledrffyrdd i drosglwyddo eu cynyrch presenol. Oes, y mae ynddynt ddegau o gorfforaethau mawrion yn meddu miloedd o filldiroedd o ffyrdd haiarn, ac yn werth ugeiniau o filiynau o ddoleri bob un. Y mae y Pennsylvania Central R.R. Co. yn meddu 8,800 0 filldiroedd a throsodd; ac y mae amryw o gorfforaethau cyffelyb trwy y Ivlad. Y n Mehefin, 1892, yn ol adroddiad swyddogol yr U nol Dalaethau, wele dalfyriad o eangder a gwerth cledrffyrdd y Talaethau:— Milldiroedd o Ffyrdd wedi eu gwneyd.. Rhif y Corfforaethau Rhif yr Ager-beirianau y Clud-gerbydau Y Gweithwyr Gwerth arianol mewn doleri .. Rhif y Teithwyr Blynyddol Tunelliad Trosglwydd Blynyddol Yr Enillion Blynyddol, mewn doleri Traul Flynyddol Yr Elw Lladdedigion Blynyddol Gweithwyr arnynt Neu un o bob ,563 1,822 33,136 1,215,092 821,415 10,226,748,134 560,958,211 485,402,369 1, , 407 , 343 780,997,996 , 347 2,554 222

 

 


(delwedd E0025) (tudalen 027)

 AMERICA. Rhif Clwyfedigion Blynyddol y Gweithwyr Neu un o bob Rhif y Teithwyr Blynyddol a Laddwyd Neu un o bob Rhif y Teithwyr Blynyddol a Glwyfwyd Neu un o bob 27 28,267 29 376 3,227 173,833 Wele yn can lyn brofion o werth masnachol cyfoeth y Talaethau Unedig a'u cyflym gynydd:— Yn y flwyddyn 1880, yr oedd yn cael ei brisio yn 43,642,000,000 dol.; ac yn 1890, yn 61,459,000,000; tra yn y flwyddyn 1880, nad oedd gwerth ymherodraethau Rwsia a Thwrci, yn nghyda Sweden, Norway, Denmark, Itali, Awstralia, Deheubarth Affrica, a Deheubarth America yn nghyd ond gwerth 43,000,000,000 dol., sef llai na gwerth yr Unol Dalaethau yn yr un flwyddyn.

 

 

(delwedd E0025b) (tudalen 028)

 PEN OD V. ARIAN CVLCHREDOL. R arian mewn cylchrediad yn 1888 oedd dol. Holl dderbyniadau arianol Llywodraeth y Talaethau Unedig yn 1890 oedd dol. Treuliau yn yr un flwyddyn, dol. Llög ar y Ddyled W ladol yr un flwyddyn, dol. V Ddyled W ladol yn 1893, 600,000,000 dol. Y mae arian y Talaethau Unedig yn cael eR1 gwneyd o feteloedd gwerthfawr, megys aur, arian, &c., ac ag arian papyr i gynrychioli y gwahano feteloedd; a'r holl arian cylchredol yn cael eu gwneyd gan y Llywodraeth Gyffredinol. Yr aur yn ddarnau 20 dol., 10 dol., 5 dol., 2b dol., a 1 dol.; yr arian, yn benaf, yn ddarnau I dolar, sef un cant o sentiau; a darnatl 50 sent, a darnau 25 sent, a darnau 10 sent, a darnau 5 sent, a 3 sent. Eto, gwneir darnau 5 sent, 2 sent, a 1 sent o gopr, V maent wedi bod yn gwneyd arian papyr o werth 5 sent i fyny i fil o ddoleri; ond yn y blynyddoedd diweddaf, ni welir mewn cylchrediad ond rhai gwerth 1 dol., 2 dol., 5 dol., 10 dol., 20 dol., 50 dol., 100 dol., 500 dol., a 1,000 dol., a'r oll un ai yn enw y Llywodraeth Gyffredinol neu y National Banks. Y mae arian y Talaethau Unedig yn fwy syml ac hawddach eu cyfrifnag ydyw arian Lloegr, ac yn hawdd cymharu eu gwerth ag arian Lloegr, canys nid oes fawr o wahaniaeth gwerth rhwng sent America a dimai Lloegr; a 25 sent America a swllt Lloegr; a 5 dolar America a phunt Lloegr,

 

 

(delwedd E0025c) (tudalen 029)

 PEN OD VI LLVWODRAETHIAD A CHVFANSODDIAD V TALAETHAU. MDDENGVS i mi fod y Talaethau Unedig yn meddtt y gyfundraeth lywodraethol oreu yn Y byd, yr hon sydd sylfaenedig ar y gwirionedd fod pob dyn i fod yn gydrÄdd, mewn rhyddid a chyfrifoldeb, yn ngwyneb cyfreithiau moesol a gwladol. Ac yn awr, amcanwn egluro, mewn crynodeb byr, drefniadau llywodraethol y Talaethau, y rhai sydd yn cael eu gwneyd i fyny yn wreiddiol o wahanol dalaethau annibynol (13 mewn rhif), y rhai yn wirfoddol a gydaethant i fewn i'r Undeb Cyffredinol, ac amodau yr Undeb yn caniatau hawl hunan-lywodraethol i bob talaeth. Medda pob talaeth lywodarethwr, deddfwneuthurfa (y mae y deddfwneuthurfeydd talaethol yn cael eu gwneyd i fyny o ddwy adran, a'r uchaf i gael ei hethol gan y bobl fel yr isaf), uchel ac isel-lysoedd cyfreithiol er rheoleiddio a chadw trefn, a llawer o is-swyddogion gan y tair cangen yna i weinyddu mewn casglu arian i gyfarfod threuliau talaethol, &c. Vr holl swyddogion o bwys i gael eu hethol gan fwyafrif o’r dinasyddion yn eu talaeth, neu ranbarth. Rhaid cael m wyafrif o ddinasyddion unrhyw diriogaeth o blaid bod yn dalaeth yn yr Undeb cyn y cant y fraint; ond ar ol cael eu derbyn i'r Undeb, ni bydd hawl gan unrhyw dalaeth droi allan o’r Undeb pan fydd i'r Llywodraeth Gyffredinol wneyd rhywbeth yn groes i'w barn hi, am fod yr oll wedi myned i fewn i'r Undeb Cyffredinol i gael eu llywodraethu gan y mwyafrif cyfansoddiadol.

 

 


(delwedd E0026) (tudalen 030)

 30 AMERICA, CVFANSODDIAD YR UNOL DALAETHAU. Y mae eu galilu cyfreithiol a llywodraethol yn cael ei ffurfio yn y Ddeddfwneuthurfa Genedlaethol (Congress). Vr adran uchaf o’r cyfryw (sef y Senedd) yn cael ei chyfansoddi gan ddau Seneddwr, yn cynrychioli pob talaeth, wedi cael eu hethol gan fwyafrif aelodau deddfwneuthurfa y dalaeth a gynrychiolant. Felly, y mae cymaint o allu gan dalaeth fechan a thalaeth fawr yn yr adran hon o’r Ddeddfwneuthurfa Is-Arlywydd y Talaethau Unedig sydd Genedlaethol. i fod yn llywydd y Senedd. Rhaid i bob Seneddwr fod yn 30 mlwydd oed cyn y bydd yn etholadwy; i ddal ei swydd am chwe' blynedd; ac i gael 5,000 dol. y flwyddyn o gyflog, a thaliadau treuliau o'i gartref i Washington, D.C., ac yn 01. Gelwir yr adran isaf o’r Congress yn Dj y Cynrychiolwyr, am fod pob aelod ohono yn cael ei ethol gan fwyafrif dinasyddion y gwahanol ranbarthau— ac etholiad y rhai hyn i Congressional Districts; gymeryd lle bob dwy flynedd. Tybiwyf y byddai yn fendith er gwneyd y wlad yn fwy esmwyth a chyson pe bai hyd tymhor aelodau T 9 y Cynrychiolwyr yn bedair neu bum' mlynedd yn lle dwy. Rhaid fod yr ymgeisydd yn 25 mlwydd oed cyn y bydd yn etholadwy, ac yn ddinesydd er's saith mlynedd; a chyflog blynyddol aelodau y ddau Dj yr un faint, sef 5,000 dol. y flwyddyn, gyda chost y daith oddicartref i Washington, D.C., ac yn 01; ac i gael eu talu o Drysorfa y Llywodraeth Gyffredinol. Y mae y ddwy adran hon o’r Congress Americanaidd yn dal perthynas debyg i'w gilydd ag ydyw adranau Senedd Lloegr. Eu dyben a'u gwaith yw gwneyd cyfreithiau i amddiffyn a llywodraethu holl bobl a meddianau trwy yr holl Dalaethau a'r Tiriogaethau a feddienir gan y Talaethau Unedig; a'r

 

 


(delwedd E0027) (tudalen 031)

 A GWELEDIGAETHAV BYWYD. 31 Congress yw canolbwynt awdurdod pob cytundebau gwledydd ereill, a chyhoeddi rhyfel, a'i gario yn mlaen,; ac hefyd gwneyd eyfreithiau i lywodraethu masnach fewnol a thramor, ac i gasglu arian, tollau ar nwyddau tramorol, a threthi mewnol er talu treuliau y fyddin a'r llynges, yn nghyda holl dreuliau arianol y Llywodraeth Gyffredinol, gartref ac oddicartref. Rhaid i'r Congress, dan IW personol pob aelod, beidio ag ymyraeth hawliau mewnol unrhyw dalaeth, yn ngwyneb amodau Cyfansoddiad yr Undeb Cyffredinol; a'r unig ffordd gyfreithlon i yrnyraeth å'r cyfryw yw trwy welliant cyfansoddiadol. Rhaid i ddwy ran o dair o’r ddau Dj o’r Congress fod dros y gwelliant i gychwyn; yna anfonir ef i Ddeddfwneuthurfeydd yr holl Dalaethau, a daw yn rhan o’r Cyfansoddiad Cyffredinol a Sylfaenol pan y gwna tair rhan o bedair o’r cyfryw gymeradwyo y gwelliant. Ac wedi hyny, bydd yn rhaid i'r talaethau ag oedd yn ei erbyn ei gydnabod a'i barchu fel y Cyfansoddiad gwreiddiol.

 

 


(delwedd E0028) (tudalen 032)

 PEN OD V 11. VR ADRAN WEINYDDOL. AE y Congress wedi canol-leoli gweinyddiad llywodraethol y cyfreithiau yn swydd yr ARLVWYDD. A thebyg fod mwy o awdurdod gweinyddol yn ei law nag unrhyw un o benau coronog Ewrop. Etholir ef i' w swydd yn anuniongyrchol gan holl ddinasyddion y Talaethau Unedig, fel y canlyn:—Yn gyntaf, ymgasgla pob plaid wladwriaethol bob 4 blynedd, mewn Cynadledd Genedlaethol, a phenoda y mwyafrif o’r cyfryw y ddau berson mwyaf cymhwys, yn ol eu barn, i fod yn ymgeiswyr eu plaid am yr anrhydedd o fod yn Arlywydd ac Is-Arlywydd y Talaethau Unedig am y 4 blynedd canlynol, i ddechreu ar y 4Ydd o Fawrth y flwyddyn ddyfodol; ac y mae yr etholiad i fod yr ail ddydd Mawrth o’r Tachwedd blaenorol i ben blwyddyn yr Arlywyddiaeth. Ond nid enwau y ddau ymgeisydd dan sylw a fydd ar docynau tuebol cefnogwyr y gwahanol bleidiau, ond enwau cynifer o ddinasyddion eu plaid yn eu talaeth eu hunain ag a fydd o rif yn cynrychioli eu talaeth yn y Ddeddfwneuthurfa Genedlaethol; a'r blaid a fydd wedi cael mwyaf o bleidleisiau dros ei hymgeiswyr i'r Llys Etholiadol (Electoral College) a fydd a hawl i gwrdd yn eisteddle eu llywodraeth dalaethol, i bleidleisio dros ddau berson i'r ddwy swydd uchaf a fedd yr Unol Dalaethau. Yna selir eu dewisiad, ac anfonir ef i ofal

 

 


(delwedd E0029) (tudalen 033)

x AMERICA. 33 Llywydd Senedd y Llywodraeth yn Washington , ond nid yw yr etholwyr hyn yn rhwym gyfreithiol i bleidleisio dros y personau a enwyd gan Gynadledd Genedlaethol eu plaid; ond y maent hwy i arfer eu barn am deilyngdod personol yr holl ymgeiswyr i'r swydd Arlywyddol, ac i duebu dros y mwyaf cymhwys i'r swydd, yn ol eu barn eu hunain. Ac ar y dydd penodedig, yn mhresenoldeb dau D' y Congress, tyr Llywydd y Senedd y seliau, a chyfrifir pleidleisiau aelodau Coleg Etholiadol yr holl dalaethau; ac yna cyhoeddir y rhai a fydd wedi cael mwyaf o bleidleisiau yn etholedigion y bobl i fod y ddau swyddog uchaf yn y Weriniaeth am y pedair blynedd nesaf. Ond os na bydd unrhyw ddau wedi cael y mwyafrif angenrheidiol, y mae y Cyfansoddiad yn darparu fod i ddau Dj y Congress i'w hethol o blith yr holl ymgeiswyr, fel y canlyn •.—T9 y Cynrychiolwyr i ffurfio yn Goleg Etholiadol i ethol Arlywydd, &c. Os bydd un neu ragor o gynrychiolwyr dwy ran o dair o’r talaethau yn bresenol, ac un bleidlais fydd gan bob talaeth, a bydd mwyafrif o’r holl dalaethau yn angenrheidiol i ethol Arlyvvvydd•, a dwy ran o dair o’r Senedd yn ofynol i ethol Is-Arlywydd o blith yr ymgeiswyr, a mwyafrif o’r holl Seneddwyr yn angenrheidiol i ethol; yna, ar y 4Ydd o Fawrth, cymer y ddau •eu lleoedd i lywodraethu am bedair blynedd, a bydd gan yr Arlywydd tua 180,000 0 is-swyddogion, a chyflog yr oll yn 90,000,000 dol. y flwyddyn, Y mae yr Arlywydd yn meddu awdurdod Commander-in-Chiefar y fyddin a'r llynges; a thrwy gydsyniad dwy ran o dair o’r Senedd, y mae ganddo awdurdod i wneyd cyfamodau llywodraethau tramor, a phenodi ei gyfrin-gynghor, barnwyr, llysgenadon, &c. Y mae yr holl arian cylchredol i fod dan ei olygiaeth, a'r holl wasanaeth llythyrgludol trwy yr 11oll dalaethau a'r tiriogaethau, &c. Ei gyflog yw

 

 


(delwedd E0030) (tudalen 034)

 34 AMERICA. 50,000 dol. yn y flwyddyn. Barnwyf y byddai yn dda newid y Cyfansoddiad er gwneyd y tymhor Arlywyddol„ yn saith mlynedd yn lle pedair, ac i wahardd ail dymhor i'r unrhyw Arlywydd. V drydedd gangen fawr o awdurdod y Talaethau Unedig yw yr UCHAF-LYS (SUPREME COURT). V Llys hwn yw yr awdurdod uchaf ar ystyron pob cyfreithiau; ac edrychir ar y gangen hon fel yr adran fwyaf ymddiriedol, o ran barn a chyfiawnder, a'r fwyaf rhydd O'r tair cangen fawr oddiwrth y perygl o wyro barn, oblegid dylanwadau drwg uchelgais personol a gwladwriaethol. Ac y mae y Llys hwn yr awdurdod uchaf ar feddwl holl gyfreithiau talaethol, cenedlaethol, a chyf-genedlaethol. Y mae aelodau y Llys hwn yn dyfod i awdurdod trwy apwyntiad yr Arlywydd, a chefnogiad y Senedd ac i aros yn y swydd cyhyd ag y byddont yn gymhwys. Eu cyflogau:—Prif Farnydd, 10,500 dol.; ei gydfarn— wyr cyfrinachol, 10,000 dol.; a'r Barnwyr Cylchdeithiol (Justices of Circuit Courts), 6,000 dol. y flwyddyn.

 

 


(delwedd E0031) (tudalen 035)

 AGWEDD PEN O n V 111. GVMDEITHASOL A MOESOL TALAETHAU. AN ystyrio darllenwyr y gyfrol hon y ffaith fod Talaethau Unedig America yn fath o ddinas noddfa i wehilion pob gwlad wareiddiedig, ac anwareiddiedig a allo gyrhaedd yno, er's ugeiniau o flynyddoedd, y mae yn naturiol iddynt dybio eu bod, o angenrheidrwydd, yn druenus o ddrwg a llygredig, Wel, fel un ac sydd wedi byw dros chwarter canrif yno, ac wedi teithio ar hyd a lled y Talaethau am dros 12 mlynedd, gan gadw fy llygaid a' m clustiau yn agored i sylwi ar agwedd, cymeriad, a symudiadau cymdeithasol y Weriniaeth, ceisiaf roddi darluniad cywir a theg mewn braslun cyffredinol ohoni. Y mae yn hyderus genyf y bydd i'r darlun ymddangos yn harddach na dysgwyliad y darllenydd. Dechreuwn gyda'r ochr ddu. Fel y mae holl ddynolryw wrth natur wedi myned yn ddrwg wrth arferiad„ &c., felly y mae pob gwlad newydd, gan fod amryw elfenau yn cydweithio er ffurfio cymeriad drwg iddi. 1. Bydd arwynebedd y wlad yn wyllt, yn anial, ac anwrteithiedig i gychwyn; a phob amser, y mae gan olygfeydd ac amgylchiadau ddylanwad er ffurfio cymeriad y preswylydd. 2. Y mae Percentage mawr o sefydlwyr gwlad newydd yn bobl ddrwg ac annuwiol cyn gadael eu gwlad enedigol; felly nid rhesymol dysgwyl iddynt fod yn well mewn dyrysni a chorsydd gwlad newydd.

 

 

 

 

 

 

 


(delwedd E0032) (tudalen 036)

 36 AMERICA, 3. Y mae llawer o’r crefyddwyr ymfudol yn cefnu ar eu gwlad gyda'r amcan o ymgyfoethogi mewn gwlad newydd; a chyda yr amcan hwnw yn benaf ar y meddwl, a manteision crefyddol yn brin yn y wlad fabwysiedig, fel, rhwng y cwbl, nid rhyfedd os bydd y cyfryw yn cael eu llywodraethu gan yr awydd i ymgyfoethogi rywfodd. Felly, rhwng pob peth, nid rhyfedd gweled nodwedd gymdeithasol a moesol preswylwyr gwlad newydd yn gymharol ddrwg. Ac hawdd tybio fod pob arferion drwg a chyfryngau llygredigaeth mewn helaethrwydd mewn gwlad o’r fath. Bydded i ni sylwi yn fyr ar rai o’r prif bethau ac arferion sydd yn llygru cymdeithas yn y wlad dan sylw. Y n gyntaf, sylwn ar y FASNACH FEDDWOL a'i dylanwad. Y mae ystadegau yn profi fod preswylwyr y Talaethau yn gwario ar ddiodydd meddwol yn ie, mil o filiynau! flynyddol o leiaf 1,000,000,000 dol.; ond creda rhai ystadegwyr fod y swm yn ddeuddeg cant o filiynau, a'r golled anuniongyrchol tua yr un swm. Dyna wastraff arianol mawr, onidé! Cyn dechreu son am y drwg moesol yn bersonol, teuluol, cymdeithasol, crefyddol, &c.; y tlodi, ingoedd, trueni personol, teuluol, a chymdeithasol yn y byd hwn a'r byd a ddaw; ystyrir fod meddwon y wlad yn rhifo; a bernir fod y fyddin feddw yna yn gwario yn flynyddol tua 600,000,000 dol., sef tua haner yr hyn a werir am ddiod, a'r haner arall gan y rhai sydd ar y ffordd i fod yn feddwon. Ac yn ail, enwir y TOBACCO fel un o’r pethau sydd yn gwneyd drwg mawr, yn uniongyrchol ac anuniongyrchol. Y mae y ffaith fod 600,000,000 dol. yn cael eu gwario yn flynyddol ar y nwydd brwnt yna gan breswylwyr y Talaethau yn dyweyd rhywbeth am y cymeriad cyffredinol, gan

 

 


(delwedd E0033) (tudalen 037)

 A GWELEDIGAETHAU BVWYD. 37 gofio, o’r tu arall, faint a gyfrenir yn wirfoddol gan yr un bobl at bethau da Cristionogaeth. HAP-CHWAREU sydd un o bechodau mawr America. Dywedir fod 400,000,000 dol. yn flynyddol yn cael eu gwario mewn ansicrwydd yr hap-chwareu yn y Talaethau, a thebyg nad yw preswylwyr unrhyw wlad agos mor ddwfn yn y llygredigaeth hwn phobl y Weriniaeth dan sylw. Arwyddair cymeriad llawer o’r boblogaeth yw, " Cyfoethogi, os gellir, yn gyfiawn; cyfoethogi anyhow;" ac yn yr ysbryd yna y mae miloedd yn colli eu heiddo a'tt hunain yn nghorsydd yr hap-chwareu,. trwy eu hawydd anghymedrol i ymgyfoethogi! Y mae GWASTRAFF eto yn ofnadwy o gyffredinol. Tebyg fod mwy yn cael eu gwario o arian am deganau plant, a'r fire-works y pedwerydd o Orphenaf, nag a fyddai yn ddigon i dalu am fwydydd holl breswylwyr Cymru bob blwyddyn. Mae PENRHYDDID yn bechod amlwg trwy yr holl Dalaethau, a hyny mewn rhan, yn ddiau, trwy gamddeall ystyr rhyddid Gwerinlywodraeth; ac yna canlyn esiamplau drwg ereill, a grym arferiad yn prysuro y genedl tuag at ryw ddinystr ofnadwy, os na ddaw diwygiad. LLWGR-WOBRWVAETH sydd elfen ddrwg a pheryglus iawn yn y Talaethau. Y mae lle i ofni mai policy, ac nid egwyddor, sydd yn llywodraethu ymddygiadau mwyafrif mawr o’r bobl. Bernir gan rai o bobl oretl y Weriniaeth, fod arian y fasnach feddwol, ac arian y corfforaethau mawriom yn rheoleiddio ymddygiadau mwyafr.if mawr o ddeddfwneuthurwyr, a swyddogion gwladol—o'r Arlywydd i

 

 


(delwedd E0034) (tudalen 038)

 38 AMERICA. lawr hyd y ceisbwliad lleol! ac arian y cyfryw, drachefn, yn prynu dylanwad twyllodrus y Wasg i dwyllo y dinasyddion i duebu o bolisi yn groes i'w cydwybodau ddydd yr etholiad, fel ag y mae egwyddor a chydwybod yn ofnadwy o rad yn marchnad y Talaethau Unedig y blynyddoedd hyn, ac y mae llwgr-wobrwyaeth yn un o’r gelynion mwyaf peryglus a fedd y Weriniaeth. Yr hyn sydd yn ei gwneyd yn ofnadwy o ddifrifol yw y ffaith fod crefyddwyr yn cyfranogi yn ormodol o’r holl nodweddion drwg dan sylw, ac arferion drwg ereill ellid enwi, sef mynychupartics o bob math, a'r ddawns, chwareuaethau, chwareudai o bob math, &c., fel mai y canlyniad naturiol yw, nad oes fawr o arian i'w gael yn wirfoddol i gynal crefydd, fel ag y mae yn rhaid cael Parties, festivals, Pic-nics, excursions, ffeiriau, a hap-chwareu yn ei wahanol agweddau ac enwau i ddenu a thyntl arian rywfodd a phob modd o logellau pobl i gynal crefydd. Gobeithiwn ein bod wedi dangos digon o ochr ddu y Weriniaeth i ateb y dyben yn y fan hon. Ond, diolch i'r Nefoedd, am fod ochr well yn perthyn i'r Weriniaeth Americanaidd mewn ystyr gymdeithasol a moesol. Fel yn yr ystyr -ddaearyddol, gwneir " yr anialwch yn ddoldir, a'r diffaethwch fel gardd yr Arglwydd." Felly, sylwn eto ar bethau da y Weriniaeth mewn ystyron cymdeithasol a moesol.

 

 


(delwedd E0035) (tudalen 039)

 PEN OD 1 X. AGWEDD GVMDEITHASOL A MOESOL V VLWN yn gyntaf ar gyfanrif a chynydd Cristionogion yn y Talaethau Unedig o’r flwyddyn 1800 hyd 1890. Enwadau uniongred Eglwysi yn 1800 Gweinidogion eto 3,030, yn 1890 2,651, Aelodau Eglwysig eto 364,872, 142, 599 93,776 13,417,180 Ac os gosodwn y Cristionogion Pabyddol i fewn, saif fel y canlyn:— Eglwysi yn 1800 Gweinidogion eto 3030, yn 1890 2,701, Aelodau Eglwysig eto 464,872, 150,122 102, 108 21,694,219 Oddiwrth adolygiad blynyddol y New York Independent o sefyllfa grefyddol y wlad a safle y gwahanol enwadau, yr ydym yn cael golwg bur galonogol ar bethau. Nid yw crefyddwyr wedi llaesu dwylaw, na chrefydd wedi colli tir. I'r gwrthwyneb, y mae cynydd mawr wedi bod. Yn ystod y pum' mlynedd er 1890, bu ychwanegiad 0 19,000 0 eglwysi; 10,000 0 weinidogion, a 3,500,000 0 gymunwyr. V Pabyddion sydd luosocaf, gyda 7,742,774 0 aelodau; yna daw y Methodistiaid Esgobol gyda 5,438,969; y Bedyddwyr, 3,928, 106; y Presbyteriaid, 1,458,999; Dysgyblion Crist, 923,668; y Protestaniaid Esgobol, 626,290; y Lutheriaid, 1,390,775; a'r Cynulleidfaolwyr, 600,000. Rhifa Saint y Dyddiau Diweddaf 234,000, a'r luddewon 139,500.

 

 


(delwedd E0036) (tudalen 040)

 40 AMERICA, Wrth gychwyn gyda yr ochr oreu o’r pwnc„ gosodwn ger bron rai ffeithiau ystadegol a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn y Drych, gan y Parch. Richard T. Jones, sef gweinidog llwyddianus mewn eglwys. Bresbyteraidd yn Philadelphia, Pa., ond a fagwyd gan y Trefnyddion Calfinaidd yn sir Aberteifi ac America. " Y n y flwyddyn 1800, pan nad oedd poblogaeth y wlad yn lluosog, yr oedd yn y wlad aelod eglwysig am bob pedwar-ar-ddeg tuallan i'r Eglwys; yn 1850, un am bob saith; ac yn 1890, un am bob pedwar. Dengys y ffeithiatl hyn mai ar ei onzvard march mae yr Eglwysv ac nis gall holl allu y tywyllwch atal ei llwyddiant. Ond o bosibl y dywed rhywun o’r doethion mai yn mhlith yr anwybodus a'r tlodion mae y pregethwyr yn llwyddo i ddylanwadu ar y teimladau, gan orfodi dynion i dderbyn eu credo hwy. Gwir i'r Athraw Mawr ei Hun orchymyn pregethu yr Efengyl i'r tlodion, ac nis gall yr un gweinidog fod yn ffyddlon i' w alwedigaeth os yn esgeuluso y tlawd. Beth am ddylanwad Cristionogaeth ar y dysgedig? Wel, y gwir ydyw fod ein dynion dysgedig, ie, a phrif feddylwyr ein gwlad, yn ddigon dysgedig i weled rhagoriaeth Cristionogaeth. Ymdrochant eu heneidiau yn mar cariad Duw. Cymerer, fel engraifft, golegau ein gwlad. Gan' mlynedd yn 01, yr oedd yn y wlad hon tuag ugain o golegau; ac fel engraifft o ddylanwad Cristionogaeth yr amser hwnw, cymerer Yale. Pan yr ymgymerodd Timothy Dwight å llywyddiaeth y coleg, cafodd yno ddwy gymdeithas lenyddol, a'r ddwy yn myned o dan yr enw Ton Paine Society. Hefyd, cafodd yno gant a deg o fyfyrwyr, ac yn eu plith ddim ond dau yn aelodau eglwysig—dau o gant a deg! Heddyw gall ein gwlad ymffrostio mewn dros bedwar cant o golegau, yn mha rai y mae dros chwech ugain mil o fyfyrwyr. Y n mha rai o’r colegau hyn y ceir cymdeithas wedi ei galw ar ol yr anffyddiwr Tom

 

 


(delwedd E0037) (tudalen 041)

 A GWELEDIGAETHAU BYWYD. 41 Paine? Y n hytrach, yn lle cymdeithasu i ddadleu yn erbyn Cristionogaeth, ceir cymdeithasau ac adeiladau drudfawr lle cyfarfydda y myfyrwyr i ganu mawl i'r Athraw Mawr. Eto mae triugain a phump o bob cant o’r myfyrwyr trwy y wlad yn aelodau eglwysig. " Can' mlynedd yn 01, nid oedd dau o bob cant, yn awr triugain o bob cant. A ydyw y ffeithiau hyn yn dangos fod yr Efengyl yn colli ei dylanwad? Dywedai yr anfarwol Gladstone yn ddiwedda? ei fod ef yn ystod ei fywyd cyhoeddus wedi dyfod i gyffyrddiad å thriugain o feddylwyr penaf Ewrop, ac o’r cyfryw, eu bod i gyd ond pump yn ganlynwyr ffyddlon i'r Hwn a ddywedodd: ' Myfi yw y ffordd, y gwirionedd, a'r bywyd.' Yn mhlith y tlawd a'r cyfoethog, yr anwybodus a'r dysgedig, mae Crist yn allu. Ac nid yn unig mae yr Eglwys yn cynyddu mewn nifer yn gyflymach nag erioed, ond hefyd mewn gweithgarwch crefyddol. " Tua deng mlynedd yn 01, proffwydodd archanffyddiwr o’r wlad hon y byddai chwareudy yn cael ei adeiladtl yn mhen deng mlynedd am bob addoldy trwy y wlad. Ychydig wythnosau yn 01, anfonodd y Parch. Dr. Kynett, o’r ddinas hon, ato i'w hysbysu fod y deng mlynedd ar ben, ac yn ystod y flwyddyn ddiweddaf i'w enwad (y Methodistiaid Esgobol) ei hunan adeiladu chwech o addoldai am bob diwrnod trwy y flwyddyn, gan ofyn i'r gau-broffwyd wneyd proffwydoliaeth am y deng mlynedd nesaf. Dywed yr efengylwr: ' Canys y rhai oeddynt yn ceisio einioes. y Mab Bychan a fuont feirw.' Beth yw y casgliad? Y Mab sydd eto'n fyw. Y tafodau sydd wedi llefaru, a'r dwylaw sydd wedi ysgrifenu yn erbyn y Mab sydd yn pydru yn y bedd; ond y Mab sydd eto'n fyw; ac am fod y Mab yn fyw, byw ydyw yr achos." Da genym sylwi hefyd fod yr Eglwysi Efengylaidd yn dangos yni mwy y deuddeg mlynedd diweddaf yn 4

 

 


(delwedd E0038) (tudalen 042)

 42 AMERICA, y Talaethau nag o’r blaen, gan ddangos mwy o gynydd a gwell nodweddion ymarferol; ond— Nid yw eto ond dechreu gwawrio, Fe gwyd yr haul yn uwch i'r lån. Cyfranodd yr enwadau Efengylaidd at y Genadaeth Gartrefol am y flwyddyn 1890, yn y Talaethau Unedig yn nghyd, 0 ddoleri, cyfartaledd ar gyfer pob aelod, 56 sent; ond y mae rhai o’r enwadau yn rhoddi yn llawer gwell na'u gilydd, a saif aelodau y Cynulleidfaolwyr ar ben y rhes yn eu cyfraniadau at y Genadaeth Gartrefol, sef 277 dol. yr un; ac yn nesaf atynt saif y Presbyteriaid, trwy gyfranu 1 •50 dol. y pen; y Protestaniaid Esgobol yn nesaf (Eglwys Loegr), sef 1.39 dol. y pen; Bedyddwyr y Gogledd, 81 sent y pen; Methodistiaid Esgobol y Gogledd, 39 sent y pen, &c., lle y dylasai y cyfraniadatl fod ddeg cymaint o leiaf. Ac yn ol ystadegau y T. C. yn yr Unol Dalaethau am 1891-1892, cyfranasant at y Cenadaethau y cyfartaledd o un dolar a thair sent ar gyfer pob aelod, neu 513 sent y flwyddyn. " Eto y mae lle." CVMDEITHASAU DA, Cristionogol, eto a wnant lawer o dda yn y Talaethau Unedig, er gwrthweithio yr elfenau drwg o'u nlewn, a gwnawn nodiadau o rai ohonynt. Y n gyntaf, YR VSGOL SABBATHOL. Er yr ystyriwn yr Vsgol Sabbathol yn un o gangenau mwyafbendithiol yr eglwysi Cristionogol, eto, teimlwn yn briodol enwi y cyfryw fel sefydliad ar ei phen ei hun, ac qfallai y mwyaf dylanwadol er Cristionogeiddio y Talaethau o’r holl sefydliadau da o'u mewn. Y n ail, Y FEIBL GYMDEITHAS AMERICANAIDD A THRAMOR. Gwna y Gymdeithas hon lawer mewn gwahanol foddau

 

 


(delwedd E0039) (tudalen 043)

 A GWELEDIGAETHAU BYWYD. 43 er gosod y Beibl i wneyd gwaith ar galonau ac ymarweddiad dinasyddion y Weriniaeth; felly, trwy y gymdeithas ragorol hon, ä y Beibl mewn gwahanol ieithoedd i holl deuluoedd y Talaethau, yn ogystal ac i wledydd pellenig y byd. Yn drydydd, THE YOUNG MEN'S CHRISTIAN ASSOCIATION eto a wnant lawer o ddaioni trwy eu cymdeithasau lleol o’r eiddynt, yn grefyddol a llenyddol, &c., ac yn arbenig yn eu hadeiladau ardderchog yn y dinasoedd mawrion. Yn bedwerydd, CYMDEITHASAU Y TRAETHODAU CREFYDDOL. eto a wnant lawer o waith da. Ac y mae yn y Talaethau 3,804 0 Ddarllenfeydd Cyhoeddus, yn cynwys yn nghyd 50 0 lyfrau ar gyfer pob 100 0 bobl.

 

 


(delwedd E0040) (tudalen 044)

 PEN OD X, YOUNG PEOPLE'S SOCIETV OF CHRISTIAN ENDEAVOUR. AE hon eto yn un o’r cymdeithasau mwyaf bendithiol er cymhwyso yr oes sydd yn codi i weithgarwch a defnyddioldeb, er mwyn llwyddiant dyfodol y Weriniaeth fawr Americanaidd, a'r byd; ac wele yn canlyn sylwadau o'm heiddo yn y Drych, ar ol bod yn eu cynadledd flynyddol yn Minneapolis, Minnesota, Oorphenaf 9-12, 1891. " Llawer a gyniweiriant, a gwybodaeth a amlheir." Yr ydym yn byw mewn oes gyflym a symudol. o’r 9fed hyd y 12fed cyfisol, yr oedd yn ymgynulledig yn y ddinas hon bymtheg mil o gynrychiolwyr cymdeithasau yr Young People's Society of Christian Endeavour o bob rhan o’r Talaethau Unedig a Chan ada—wedi ymgasglu yn enw yr Arglwydd, gyda chymaint o sél a hunanymwadiad a hwylusdod yn eu nodweddu ag a nodweddai ein tadau pan äent i Gymanfaoedd Cymru ddeugain mlynedd yn 01. Ac er fod tipyn o wahaniaeth yn y dull o gario yr hen Gymanfaoedd hyny yn. mlaen, gellir dyweyd eu bod o dan ddylanwad yr un Vsbryd Mawr a Thragywyddol. Un gwahaniaeth yn Nghymanfaoedd Cymru oedd, mai ychydig o’r prif offeiriaid yn unig a bregethent ynddynt, tra yr oedd canoedd yn offeiriadu ac yn proffwydo yn hon—o'r llanc deg oed hyd y mab pedwar ugain mlwydd, fel yr oedd yr Vsgrythyrau hyny a'u cyffelyb yn cael eu gwireddu: " Eich meibion chwi a'ch merched a broffwydant, a'ch gw9r ieuainc a welant weledigaethau."•

 

 


(delwedd E0041) (tudalen 045)

 AMERICA. 45 Y mae cyfryngau a moddion yn newid, ond y mae egwyddorion Cristionogaeth yn aros, ac yn dysgleirio fwyfwy hyd oni ddaw canol dydd y Mil Blynyddoedd. Wrth feddwl am y draul fawr arianol i gludo tua 15,000 0'r Cristionogion hyn at eu gilydd, o bell ac agos, i Minneapolis, tra nad oes ond ychydig, mewn cymhariaeth, yn cael ei wneyd yn arianol at efengyleiddio y byd paganaidd, tueddid fi i ofyn gyda Judas, "1 ba beth y bu y golled hon? " Ond erbyn edrych a gwrando ar y rhai hyn am ddau neu dri diwrnod, yr wyf wedi newid tipyn o'm barn a'm teimlad; oblegid mewn oes mor aflonydd a hon, rhaid wrth gynhyrfiadau ac arddangosiadau o’r fath hyn er diwygio y byd, ac y mae llawer o Vsgrythyrau proffwydiaethol am bererindodau a chymanfaoedd fel hyn, megys, " A bydd yn y dyddiau diweddaf i ddeg o bob tafodiaith y Cenedloedd ymaflyd yn ngodre gwr o luddew, er myned i fyny i Jerusalem o flwyddyn i flwyddyn i addoli." Pa beth bynag am wirionedd llythyrenol yr Vsgrythyr yna am y Jerusalem newydd yn Palestina gan yr luddewon, y mae y cynulliad ardderchog o’r International Y.P.S. C.E. yn Minneapolis yn adlewyrchiad ardderchog o adlewyrchion gogoneddus y Beibl am y dyddiau diweddaf. Yr oedd deg-ar-hugain o wahanol enwadau Cristionogol yn cael eu cynrychioli gan genadon o tua 50 o dalaethau a thiriogaethau y Talaethau Unedig a Chanada. Yr oedd yno frodorion o Affrica, India, a Japan. Gwnai 67 0 genadon lefaru ar waith y Gymanfa fawr mewn 63 0 fynydau, heb wahaniaeth oedran, lliw, iaith, rhyw, na chenedl: yn eu plith yr oedd yr hen, y penwyn, a'r llanc deng mlwydd oed, Indiad o Affrica, ac un o frodorion China. Y mae rheolau, arferion, a llenyddiaeth y gymdeithas ieuanc, fyw, ddeng mlwydd oed hon, yn ymgymeryd a rhwygiad mewn gwahanol blygion personol a chymdeithasol, gan gymeryd i

 

 


(delwedd E0042) (tudalen 046)

x 46 AMERICA, fewn y byd llysieuol, anifeilaidd, a dynol. Wele yn canlyn rai o' u hymrwymiadau i'w gilydd ac i Grist:— 1 .—Vmrwyrnant i ymarfer eu doniau mewn ufudd-dod yn yr Eglwys er gwasanaeth a lles cyffredinol. 2.—Ymrwymant i ymwisgo mewn ysbryd cenadol, yn bersonol, eglwysig, a chyffredinol. 3.—Ymrwymant i astudio bwydydd a diodydd, a' u harfer yn ol doethineb, fel moddion i gael y corff a'r meddwl yn gryf a sanctaidd, er gogoneddu Duw a g wasanaethu eu cenedlaeth. V maent yn cyhoeddi anathema wrth ben alcohol yn ei holl ffurfiau, a'r tobaco, a'r te, a'r com, cig nloch, &c. 4.—Cyhoeddant ryfel yn erbyn pob creulondeb at y creadur direswm, gan enwi y drwg o ladd yr adar er cae y plu i' w gwisgo ar benau y boneddigesau, &c. 5.—Codai y miloedd ar eu traed i ymrwymo i' w gilydd ac i Dduw, i roddi dwy sent yr wythnos o leiaf, at Gymdeithas Genadol Dramor eu henwad eu hunain tuag at Gristioneiddio y byd. Os yw y V.P.S.C.E. i lwyddo a chynyddu mewn rhif ac ymroad yn ystod y deng mlynedd nesaf fel yn y deng mlynedd cyntaf o'u bodolaeth, ca teyrnas y diafol ei hysgwyd oddiar ei sylfeini. Y n 1895 y mae y Gymdeithas yn rhifo rhwng dwy a thair miliwn o aelodau, ac yn ymeangu ei changenau i wahanol wledydd. ' 'Yr Arglwydd sydd yn teyrnasu: cryned y ddaear, llawenyched ynysoedd lawer." Yr oedd ynysoedd y mar yn anfon anerch ar adenydd y fellten trwy waelod y mar at y gynadledd fawr hon yn Minneapolis ar adeg ei heisteddiad. Diau mai nid allan o le yn y fan hon yw cydnabod nad yw pobl ieuainc ein cenedl ni mor ddefosiynol gyda rhanau ysbrydol crefydd ag yw ieuenctyd yr Americaniaid, yn fechgyn a merche& Beth bynag am ffyddlondeb gyda phethau amgylchiadol crefydd, da genyf weled cymdeithasau pobl ieuainc yn llawer o eglwysi Cymreig y gwahanol

 

 


(delwedd E0043) (tudalen 047)

 A GWELEDIGAETHAU BYWYD. 47 enwadau ar hyd y Talaethau, a deled yr ysbryd oddiwrth y pedwar gwynt i wneyd ieuenctyd cenedl y Cymry, plant gwlad y Beibl a'r Ysgol Sabbathol, yn weithgar, ewyllysgar, a chymhwys i fod ar y blaen yn y ddyledswydd a'r fraint o fod yn gydweithwyr Duw er efengyleiddio y byd drwg a thruenus. Mewn oes i wireddu y Proffwydoliaethau, Am waith yr Efengyl, r'ym ynddi yn byw; Mewn oes i ddadblygu elfenau goleuni, Am Haul y Cyfiawnder, y nefoedd, a Duw. Dywedwyd gan dystion yr Hen Oruchwyliaeth, Yn llewyrch y lleuad, ac hefyd y ser, Fod plant i broffwydo o dan yr Efengyl, Ac hefyd mewn moliant i ganu yn ber. Ac yn Nghymdeithasau y Christian Endeavour, Trwy'r Unol Dalaethau, ac hefyd y byd, V gwelir y caethion o' u rhwymau yn rhyddion, A'r plant a'r henafgwyr yn rhodio yn nghyd. 'Nawr gwelir yn nrych egwyddorol y Beibl, Ac hefyd trwy brofiad dadblygol y saint, Fod gweithio yn ngwinllan yr Arglwydd yn ieuanc Yn arwain i fywyd tragywyddol a braint.

 

 


(delwedd E0044) (tudalen 048)

 PEN OD X 1. WOMAN'S CHRISTIAN TEMPERANCE UNION. Y MA un o’r cymdeithasau mwyaf ardderchog a welodd ein byd erioed. Dyma un o gymdeithasau yr egwyddorion, ac nid cymdeithas y policy; ac efallai fod yn gystal i mi ddyfynu y ma ysgrif o'm heiddo, a gyhoeddais yn y Drych, yn rhifyn Gorphenaf 23ain, 1891. " CENADAETH Y MERCHED (WOMAN'S CHRISTIAN TEMPERANCE UNION). " Goddefer i mi ambell dro fel hyn esgyn o'm llwybr daearyddol i diriogaethau llwybrau moesol, a sylwi ar weithrediadau y W.C. T.U. Yr ydym yn byw mewn byd o gyfnewidiadau a chwyldroadau. Dyna hanes ein byd ni o’r dechreuad. Gwelwyd ef yn berffeithrwydd tegwch ac fangre paradwysaidd tua chwe' mil o flynyddoedd yn 01, a'n rhieni cyntaf yn mwynhau amrywiaeth gogoneddus yn y byd naturiol ac ysbrydol mewn dedwyddwch pur. Ond ha! daeth chwyldroad dinystriol ar faes y prawf. Y n lle gogoneddu Creawdwr pob perffeithrwydd mewn mwynhad o amrywiaeth anhysbydd yn mro paradwys, taflwyd amheuaeth i'r maes mwyaf tyner a chymhwysaf i ddwyn ffrwyth buan, sef calon merch; yna gwelwyd y llestr gwanaf yn syrthio ar draws y llestr cryfaf, nes dymchwelyd o’r ddau, a threiglo dros ddanedd y creigiau, nes anffurfio y llestri aur, a niweidio y ddelw nefol,

 

 


(delwedd E0045) (tudalen 049)

 AMERICA. 49 a llwyr golli yr olew sanctaidd oedd ynddynt; a gwelwyd hwy yn cydynldreiglo i waered yn is, is, rhwng creigiau arferion drwg am bedair mil o flynyddoedd, fel yr ymddangosai y llestri aur mor ddiwerth a hen lestri efydd gwrthodedig. Ond ar hyd yr holl amser, gwelwyd rhyw Un yn araf a gofalus ddisgyn rhwng creigiau daneddog y dyfnder ar ol y llestri aur colledig; ac er llawenydd tragywyddol, yn mhen y pedair mil o flynyddoedd, cafodd hyd i'r llestri wedi glynu yn eu gilydd trwy bob curiadau yn mharthau isaf y ddaear. Er syndod, gwelwyd y Celfyddydwr anfeidrol am yr ail waith yn cymeryd y llestr gwanaf o ystlys y cryfaf, ac yn ei ail-ffurfio er dal olew tywalltedig i' w ddefnyddio wrth goethi ac adnewyddu yr hen lestr gwreiddiol. ' Canys wele morwyn a fydd feichiog,' ac ' Wele, Bachgen a aned i ni, Mab a roddwyd i ni, a bydd y llywodraeth ar ei ysgwydd Ef, a gelwir ei enw Ef Rhyfeddol,' &c.; felly, ' Gogoniant yn y goruchaf i Dduw, ac ar y ddaear tangnefedd, i ddynion ewyllys da.' Am chwe' mil o flynyddoedd y mae meibion dynion yn parhau i gosbi y merched oblegid y ' camwedd; ' ac ar hyd yr un amser, mae y merched wedi bod yn ceisio ymgodi i' w safle deilwng a chynenid; ac ymddengys i mi fod y Brenin Mawr yn rhoddi awgrymiadau i ddynion fod yn y merched gymhwysderau hefyd i adferu y byd, ar ol ei ddymchwelyd. Ond oblegid arafwch y byd yn credu hyn, araf yw y diwygiad Cristionogol; a drwg genyf ddeall ein bod ni fel cenedl yn arafach na'r Americaniaid i weled cyfaddasder y merched i ddybenion diwygiadol. Ond amlwg yw mai rhai da i weithio yw y merched pan o fewn eu cylch eu hunain; ac y mae yn sicr fod y merched yn gweithio yn eti cylchoedd eu hunain pan yn cymhell y dynion i wneyd eu dyledswyddau. Yr wyf fi yn sicr yn fy meddwl fy hun fod y W.C. T.U. yn gweithio yn eu cylch eu hunain pan yn cymhell eu

 

 


(delwedd E0046) (tudalen 050)

 50 AMERICA, gwjr, eu brodyr, a'u meibion i bleidleisio yn erbyn y fasnach feddwol, a holl gefnogwyr y fasnach ddamniol" Tebyg, pe yr edrychem yn deg i gychwyniad a chynydd yr holl ddiwygiadau ar dudalenau hanesyddiaeth, y gwelem fod rhan bwysig o’r clod yn ddyledus i'r merched, ac yn arbenig felly o fewn y ganrif hon yn y Talaethau Unedig. Beth wnaeth fwy at addfedu barn a chalon dinasyddion y Weriniaeth at ryddhau y caethion Negroaidd nag ymroad Harriet Beecher Stowe wrth gynyrchtl " Uncle Tom's Cabin," &c. A'r un modd y merched yw prif elfenau bywyd, neu asgwrn cefn y diwygiadau Dirwestol trwy y blynyddoedd. Pwy bynag ga y clod am waith y Blaid Waharddol ar ol dyfod i awdurdod, y mae yn sicr fod rhan helaeth o’r clod am a wnaed hyd yma yn perthyn i ffyddlondeb a chydwybodolrwydd aelodau cymdeithas ardderchog y W.C.T.U.; a da y gwyddai y gelynion hyny pan y cyflogid bron holl gyflegrau yr hen bleidiau politicaidd i ymosod ar y fyddin hon er ei chwalu ar hyd y blynyddau diweddaf. Ond er siomedigaeth i'r oll ohonynt„ y mae byddin y W.C. T.U. yn lluosocach a chryfach nag y bu erioed, ac yn mhellach nag erioed oddiwrth ddyfod i unrhyw gytundeb å'r fasnach feddwol. No compromise yw ei harwyddair; a chan wired a bod y W.C. T.U. wedi myned i gynghrair ymosodol gyda'r blaid Waharddol yn erbyn y prif elyn ar ffordd llwyddiant gwladol, cymdeithasol, a moesol, ceir gweled y fyddin undebol hon yn fwy byw a chryfach nag erioed, ac na bydd i gynllun yr anwybyddu ar ddydd yr etholiad, sydd yn cael ei ddeddfu mewn gwahanol dalaethau„ chwaith lwyddo i fygu y diwygiad hwn. Bydded i'r merched da ar hyd y Talaethau, sydd yn aelodau o gymdeithas ddyngarol a Christionogol y W.C.T.U.„ barhau i waeddi yn nghlustiau y dinasyddion, Dialwch ni ar ein gelyn dinystriol-—y fasnach feddwol, ein prif wrthwynebydd, yr hwn sydd yn peryglu a gwaradwyddo

 

 


(delwedd E0047) (tudalen 051)

 A GWELEDIGAETHAU BYWYD. 51 ein personau, tlodi ein teuluoedd, ac yn melldithio ein cysuron tymhorol ac ysbrydol, hyd oni bydd iddynt ddyweyd gyda'r barnwr anghyfiawn, Nyni a'ch dialwn, rhag i chwi ein syfrdanu ni; ac er eich mwyn chwi, ni a fwriwn y fasnach feddwol i bydew y felldith, o dan seliau cyfreithiol, ac a osodwn holl swyddogion y Weriniaeth i'w gwylio rhag adgyfodi ohoni mwy hyd ddiwedd y Milflwyddiant; ac yn gymaint ag i'r felldith ddyfod arnoch chwi a ninau am flysio ffrwyth y pren gwaharddedig, bydded y fendith ar eich penau am eich cariad a'ch sél er difodi ein prif demtasiynau ar lwybrau chwantau pechadurus. Os twyllwyd gwraig gan swynion twyll Diafol ar y dechreu, I fwyta o’r gwenwynig bren, A thori y cyfreithiau, Nes dwyn trueni ar ein byd, A miloedd o felldithion: Daw trwyddi hi ac Adda'r Ail Ffordd dda o’r dyfroedd dyfnion. Mae llygaid profiad ganddi mwy, A chraffder i adnabod Gwenieithug dwyll holl flysiau'r byd Mai angeu yw eu hanfod; Ac os trwy chwantu yn yr ardd V collwyd pren y bywyd, GWyr mai trwy ysbryd i wahardd Daw moddion i adferyd. A thrwy yr IV onlan's C. T. U. , A byddin y Gwaharddwyr, Llwyr oruchafiaeth sydd i dd'od Daw miloedd o’r Gwerinwyr, A Democratiaid yr un modd, O gariad at y merched, Gosodir sél y tueb flwch Dros ddwfr a llaeth i' w yfed.

 

 


(delwedd E0048) (tudalen 052)

 52 AMERICA. Ac, fel Deborah mewn mawr sél, Gwna merched y Talaethau, Arweiniant y Gwaharddol gad Dros ffniau y gwrthgloddiau; Ac yna cenir iddynt glod Dros fil o genedlaethau, A llwydd eu gwlad nlewn sobrwydd pur Yn goron ar eu penau."

 

 


(delwedd E0049) (tudalen 053)

 PEN OD X 11. CVMDEITHASAU EREILL. V GVMDEITHAS GENEDLAETHOL DDIRWESTOL (THE• NATIONAL TEMPERANCE SOCIETY). MAE hon yn un o’r cymdeithasau mwyaf ardderchog, yr hon a sefydlwyd yn y flwyddyn 1866. Ei hamcan yw dysgu llwyrymwrthodiad oddiwrth bob math o ddiodydd meddwol fel diod gyffredin, yn bersonol, a gwaharddiaeth gyfreithiol i'r fasnach feddwol, yn wladol. Y mae gan y gymdeithas yn awr 2,0000 fathau o lenyddiaeth mewn cylchrediad, o’r un tudalen tract hyd y llyfr mil o dudalenau, a dau gyhoeddiad cyfnodol, sef y National Temperance Advocate misol, a'r Youth's Temperance Banner yn fisol ac yn haner misol. SONS OF TEMPERANCE, eto, sydd yn gwneyd llawer i wrthweithio arferion drwg, ac i gefnogi arferion da. Sefydlwyd y gymdeithas hon yn 1842, ac y mae ganddynt yn awr tua 1,500 0 gymdeithasau lleol. GOOD TEMPLARS sydd gymdeithas dda o’r un nodwedd, yr hon a sefydlwyd yn 1851, ac yn awr yn rhifo 9,887 0 gymdeithasatt lleol, yn cynwys yn nghyd tua 410,996 0 aelodau. Y mae gan y

 

 


(delwedd E0050) (tudalen 054)

 54 AMERICA, TEMPLARS OF HONOR AND TEMPERANCE gymdeithasau trwy yr holl Dalaethau, a gwnant lawer o les. Y mae yn y Talaethau lawer o gymdeithasau da ereill allesid manylu arnynt, megys: — Royal Templars of Temperance, Sons of Jonadab, Independent Order of Rechabites, &c. Yn y flwyddyn 1893, yr oedd 83 0 gyfnodolion Dirwestol yn cael eu cyhoeddi, a 42 ohonynt yn wythnosol. Ac oni bai ein bod am ochelyd meithder, gallem enwi llawer yn ychwaneg o gymdeithasau Cristionogol a Dyngarol, ac o yveithredoedd ardderchog personol cyfoethogion, &c., a'r oll yn cydweithio er puro a dyrchafu preswylwyr yr Unol Dalaethau. Ond rhaid i ni eto wneyd sylw o un ymffurfiad mawr pwysig diweddar, ac sydd o egwyddor dda tuag at buro yr 11oll Dalaethau yn wladwriaethol, cymdeithasol, a phersonol, sef y BLAID WAHARDDOL, yr hon a ffurfiwyd yn y flwyddyn 1869 gan yr elfen fwyaf lygadog a phur o’r dinasyddion; ac er holl gynllwynion cefnogwyr y fasnach feddwol a'r hen bleidiau politicaidd, &c., y mae y blaid newydd hon wedi araf gynyddu, yn ol y ffugyrau hyn, dros ymgeisydd y blaid am y gadair Arlywyddol:—1869, 7,183; 1872, 5,607; 1876, 9,737; 1880, 9,678; 1884, 150,626; 1888, 225,000; 1892, 275,000. Cydnabydda un o wrthwynebwyr y Blaid Waharddol, ag oedd yn gwybod y ctrgelion, fod 250,000 wedi cael eu dinystrio a'u rhanu rhwng yr hen bleidiau o bleidleisiau Gwaharddol yr etholiad Arlywyddol yn 1892; felly dylasai y blaid newydd gael tua 500,000 0 gredyd gan yr adroddiad swyddogol, yn lle 275,000. Credaf mor ffyddiog ag erioed fod egwyddorion y blaid hon i lwyddo er puro y Tälaethau Unedig oddiwrth lygredigaeth y fasnach feddwol, &c. Yn ol y New York Vice, yr oedd yn

 

 


(delwedd E0051) (tudalen 055)

 A GWELEDIGAETHAU BYWYD. 55 nechreu 1896, 15 0'r Talaethau, yn cynwys 14 miliwn o boblogaeth, ar 558 0 filoedd o filldiroedd petryal, dan gyfreithiau Gwaharddol yn hollol, neu Waharddiad Lleol (Local Of)tion), sef yn gwahardd gwneyd na gwerthu y diodydd meddwol—kansas, Maine, North Dakota, South Dakota, Vermont, Alaska, ac Indian Territory; yn rhanol Waharddol —Alabama, Arkansas, Florida, Georgia, Mississippi, North Carolina, South Carolina, Tennessee. Ond nid oes yr un blaid NVaharddol hyd yn hyn mevvn awdurdod i wneyd y cyfreithiau dan sylw yn effeithiol. Ond y mae y blaid newydd Waharddol yn amcanu at hyny, Ac yn y fan . yma gosodaf ger bron bapyr a ddarllenwyd genyf o flaen Cymdeithas Athronol Hyde Park, ac a gyhoeddwyd yn y Drych, ar gais y Gymdeithas.

 

 


(delwedd E0052) (tudalen 056)

 PEN OD X 111. DYFODOL V TALAETHAU UNEDIG. (PAPVR A DDARLLENWYD O FLAEN CVMDEITHAS ATHRONOL HYDE PARK, PA.) Mr. Llyzvydd a Boneddigion, — EWN Cymdeithas Ath ronol o fath hon, a hyny mewn gwlad Werinol, rhesymol i ni, ar brydiau, geisio dyfalu tynged ddyfodol ein gwlad; eto teimlwyf yn wylaidd i draethu ar destyn mor fawr, eang, dyrys, a dirgeledig, o flaen pobl ddiwylliedig ac athronyddol. Pa fodd bynag, gan fy mod yn ddinesydd Americanaidd er's blynyddåu bellach, ac wedi teithio miloedd o filldiroedd ar hyd a lled y gwahanol Dalaethau, gan gadw fy llygaid a'm clustiau yn agored i sylwi ar egwyddorion a symudiadau y bobl, mewn gwahanol ddosbarthiadau o gymdeithas; a chan fy mod yn y cyfamser wedi sylwi gyda dyddordeb ar y prif sym udiadatl gwleidyddol, trwy newyddiaduron y gwahanol bleidiau, dylwn fedru eich dyddori am ychydig amser wrth geisio ymholi ag arwyddion yr amserau mewn perthynas i ddyfodol y Weriniaeth fawr ag yr ydym ni yn cael y fraint o fod yn ddinasyddion ohoni, ac yn arbenig felly yn ngwyneb y ffaith ein bod yn byw mewn gwlad ag y mae ei deddfau abi chyfreithiau yn hawlio ac yn gorchymyn i'w holl ddinasyddion fod yu wladweinwyr ymarferol. Cyn y gallwn gael unrhyw fath o ddirnadaeth gwerth sylw am ffeithiau dyfodol ein Gweriniaeth,

 

 


(delwedd E0053) (tudalen 057)

 A GWELEDIGAETHAU BYWYD. 57 rhaid cymeryd cylchdroadau olwynion y cynoesau, yn ogystal a'r presenol, i ystyriaeth; ac er gwneyd hyny, nis gall y meddwl mwyaf athrylithgar gyrhaedd sicrwydd am y dyfodol—y tebygolrwydd ydyw terfyn eithaf y meddwl am ffeithiau dyfodol mewn ystyr gwladwriaethol. Ond nis gallwn fanylu yn ormodol ar ffurfiad, cynydd, nac achosion dymchweliad rhai o brif deyrnasoedd y ddaear mewn gwahanol oesoedd, er cymharu yr eiddom ni hwynt; na chwaith nodi elfenau llwyddiant a pharhad y teyrnasoedd sydd wedi gorchfygu pob elfen beryglus, i'w parhad a'u hanrhydedd cenedlaethol am ganrifoedd a chenedlaethau; canys pe rhoddem ormod o bwys ar wersi y gorphenol, wrth ffurfio ein syniadau am y dyfodol, caem ein harwain i gyfeiliornadau dyrys. Er engraifft, ni byddai yn iawn i ni broffwydo yr un dygwyddiadau a chyfnewidiadau i'n Gweriniaeth ni ag a fu yn ffeithiau i'r Weriniaeth Rufeinig, oblegid gwahaniaeth mawr amgylchiadau y ddWJ . Gallu y fraich filwrol ydoedd prifallu llywodraethol y Weriniaeth Rufeinig, ond gallu argyhoeddiadol y meddwl dynol a Christionögol yw prif allu llywodraethol y Weriniaeth Americanaidd. Cyflymdra y march oedd terfyn eu cyflymdra symudol hwy; ond cyflymdra y fellten yw terfyn ein cyflymdra trosglwyddol ni. Cymerai fisoedd i hysbysu y dinasyddion Rhufeinig am deyrnfradwriaeth un o'i swyddogion uchelgeisiol, tra y byddai un dydd yn ddigon o amser i gario y cyffelyb newydd i haner can' miliwn o ddeiliaid y Weriniaeth fawreddog hon. Tebyg mai awdurdod milwrol y teyrnfradwr gariai y newydd alaethus yn gyntaf iddynt hwy, tra y gwnai deng mil o dafodau trydanol ac anweledig draethu i ni yr holl fanylion yn eu gwahanol agweddau cyn pen ychydig oriau ar ol darganfod y deyrnfradwriaeth, Eithr na fydded i ffeithiau o’r fath yna ein gwneyd yn rhy hyderus am ein dyogelwch cenedlaethol, 5

 

 


(delwedd E0054) (tudalen 058)

 58 AMERICA, oblegid y mae ein Gweriniaeth ni mor agored i ddeddfau anghyfnewidiol achos ac effaith y drwg yn ogystal a'r da ag yr oeddynt hwy ddwy fil o flynyddau yn 01; a dylem gadw mewn cof y ffaith fod rhai o nodweddion peryglus y natur ddynol yn dal eu cymeriad yn anghyfnewidiol yn mhob oes a gwlad, ac o dan bob amgylchiad. Pe yr edrychem yn unig ar ymlygriad cyflym swyddogion gwladol a phleidiau politicaidd, byddem yn rhwym o ddyfod i'r casgliad naturiol fod Gweriniaeth America ar drancedigaeth, er rhoddi lle i ffurflywodraeth mwy cydnaws drygioni cynyddol y deiliaid; a phe cymerem yn ychwanegol i ystyriaeth lygredigaethau cyffredinol y wlad, yn bersonol a chymdeithasol, byddem yn debyg o ddyfod i'r penderfyniad y gwelir ein Gweriniaeth cyn hir yn addfed i'r cyffelyb ddymchweliad anghyfaneddol rhai o brif ymherodraethau cyntefig y byd, megys Babilon ac Assyria, gan ein bod yn gwybod fod Ordeiniwr Mawr deddfau llywodraethol y bydysawd wedi cysylltu llygredigaeth a marwolaeth yn anwahanol å'u gilydd yn y bya materol, cymdeithasol, moesol, ac ysbrydol. Ond pan gymerwn olwg fwy cyffredinol a theg, gan fantoli rhagoriaethatl ein Gweriniaeth yn ngwyneb ei diffygion, byddwn yn debyg o ddyfod i'r casgliad fod elfenau rhinwedd, a bywyd, a marwolaeth, yn nghyfansoddiad y genedl a'r wladwriaeth. Y mae prif nodweddion Gweriniaeth y Talaethau Unedig, er y dydd y gosodwyd ei thraed ar dir annibyniaeth hyd y dydd hwn, yn ein hargyhoeddi nad yw ond megys dechreu oes hirfaith a gogoneddus. Ar ddydd ei genedigaeth, torodd ei hun yn rhydd o gadwynau oesol gorthrwm a thraws-lywodraeth; a Chyn ei bod yn gant oed, rhyddhaodd bedair miliwn o fodau dynol o lyffetheiriau caethwasiaeth, gan roddi iddynt ryddid gogoneddus plant Duw. Pa fodd bynag, nis gallaf lai nag ofni am ei bywyd, gan fod yn awr dri

 

 


(delwedd E0055) (tudalen 059)

A GWELEDIGAETHAU BYWYD. 59

 

o leiaf o anghenfilod creulawn yn bygwth ei darostwng yn ysglyfaeth i'w puteindra; sef, yn gyntaf, y Fasnach Feddwol; yn ail, Cribddeiliaeth Masnachol; ac yn drydydd, Penrhyddid Cyffredinol. A'r dydd hwn, o drugaredd, gwelaf yn eglur ei bod yn deffro o gwsg i sylweddoli y ffaith fod y sarff feddwol wedi ymlapio am dani, gan fygwth ei llethu i farwolaeth anamserol. Gofyniad y byd heddyw yw, A all y Weriniaeth fawr Americanaidd ymryddhau o afaelion uffernol y fasnach feddwol? Y mae yr atebion yn amrywio llawer. Rhai a ddywedant nad oes gobaith, gan fod y dwylaw a'r traed wedi eu llyffetheirio, ac am fod y swynion gwenwynig wedi myned i mewn hyd at yr enaid. Ereill a ddywedant nad oes berygl i'r sarff gyfrwys ladd yr hon sydd yn ei bwydo yn feunyddiol â phob danteithion; nad yw ond megys yn ei chofleidio mewn cariad! Ond etifeddion ffydd a ddywedant, fod bywyd y Weriniaeth yn y perygl mwyaf, a bod yn rhaid i'r fasnach feddwol neu y Weriniaeth farw yn yr ymdrechfa bresenol, yn ol deddfau eglur achos ac effaith; ac mai y Weriniaeth enilla y fuddugoliaeth eto, yn y drydedd ymdrechfa fawr, fel yn y ddwy flaenorol, gan fod mwy o'i thu nag a all fod yn ei herbyn, sef Duw, Rhoddwr bywyd a nerth. Eisoes, y mae goleuni gwybodaeth yn ein hargyhoeddi o dwyll y fasnach feddwol, a'n gobaith ydyw, na bydd heddwch mwyach nes llwyr orchfygu yr arthes ddieflig, a'i dymchwelyd uffern. Yr hyn sydd yn ei gwneyd yn dywyll ar y Weriniaeth yw, fod ei phlant ei hun yn codi yn ei herbyn i gefnogi y gelyn. Dyna ei merch hynaf sydd yn fyw, sef y blaid fawr Ddemocrataidd, yn dyweyd fod yn rhaid amddiffyn y fasnach feddwol er ei chadw yn fyw, am mai gwlad rydd yw America, ac am fod y fasnach yn anrhydeddus yn ngolwg preswylwyr y wlad er cyn geni y Weriniaeth! Hawlir fod ei hynafiaeth anrhydeddus yn hawlio iddi amddiffyniad ac addoliad yn y

 

 


(delwedd E0056) (tudalen 060)

 60 AMERICA, dyfodol yn ogystal a'r gorphenol! A dyna ail ferch y Weriniaeth, sef y blaid Werinol, ar y ffens, yn dyweyd y dylai yr hudoles gael byw; ond fod eisieu byrhau rhai modfeddi ar y gadwyn drwyddedol, fel nas gallo wneyd dim niwed i'r plant dan 16eg oed; ac er mwyn gwneyd y golled yna i fyny, fod yn rhaid cael temlau ardderchog yr High License er sicrhatl dol. o offrymau gwirfoddol i'r dduwies yn flynyddol fel cynt, yn ogystal a rhyw 60,000 0 fywydau dynol i'w haberthu ar ei hallorau. Ac addawant i'r dduwies, rhag ei chyffroi, y bydd i'r holl swyddogion gwladol, o’r Arlywydd i lawr i'r swyddog distadlaf o fewn y tir, i gario ei theitl ar eu talcenau, yn ysgrifenedig mewn llythyrenau eglur, " Mawr y w Diana yr Ephesiaid," yr hyn o'i gyfieithu yw, " Mawr yw urddas yr High License." Ond y mae merch arall wedi ei geni i'r Weriniaeth, sef y blaid Waharddol; ac y mae hi yn ymdynghedu i'r Duw byw Hollalluog i lwyr lanhau cymeriad ei mam oddiwrth bob perthynas llygredigaeth y fasnach feddwol, trwy lwyr wahardd gwneyd na gwerthu ei gwenwyn dieflig o fewn terfynatl y wlad! Ac y mae arwyddion yr amserau yn fy argyhoeddi fod y blaid newydd hon i gynyddu ac i lwyddo, nes enill pob awdurdod gwladol, er gorphen y gwaith cysegredig a osodwyd iddi gan Dduw i'w wneuthur. Ar ol hyny„ tebyg y bydd iddi hithau dynu ei thraed i'r gwely i farw, a bendith anfarwoldeb ei mam ar ei phen, gan roddi lle i chwaer ieuengach i gyflawni y bedwerydd orchest er anrhydedd y fam Weriniaethol. Tebygol mai plaid Cyfiawnder Ymarferol fydd y blaid nesaf mewn trefn; hyny yw, plaid a wna amddiffyn iawnderau y gwan yn ogystal a'r cryf; plaid a wna fantoli yn gyfiawn gyfalaf a llafur, er llwyddiant cyffredinol; plaid a fydd megys porth cyfiawnder i arwain i mewn i gyfnod gogoneddus y Milflwyddiant, yr hwn a barha o leiaf 365,000 0

 

 


(delwedd E0057) (tudalen 061)

A GWELEDIGAETHAU BYWYD. 61

 

flynyddau. Yna bydd “heddwch fel yr afon, a chyfiawnder fel tònau y môr;" bydd "Gŵr megys yn gysgod rhag y gwres, ac yn lloches rhag y dymhestl;" " ac ni ddysgant ryfel mwyach." Felly yr adeiledir teml fawr sancteiddrwydd a gwir ddedwyddwch, pan y bydd holl deyrnasoedd y byd wedi dyfod yn eiddo i'n Harglwydd ni a'i Grist Ef! Onid yw arwyddion yr amseroedd a phroffwydoliaethau y Beibl yn cyddystiolaethu fod cyfnod mawr a gogoneddus o'r fath ar wawrio ar y byd, ac mai y Weriniaeth fawr Americanaidd ga yr anrhydedd o fod ar y blaen i ddadblygu a sefydlu yn ymarferol egwyddorion llywodraeth y Milflwyddiant? Ond, efallai, y cymer hyd ddiwedd yr ugeinfed ganrif i wastadhau mynyddoedd y tramgwyddiadau o'r Talaethau Unedig a'r byd; ac y bydd cyfnod gwynfydedig yn dechreu ar ddechreu y seithfed fil o oes y teulu dynol.

 

Ni ryfeddem pe y clywem rai yn gwawdio fy syniadau, a'm cyhuddo o fod yn rhy ffyddiog, gan adgoffa i mi arafwch y diwygiad Cristionogol, a gwareiddiad y byd am y deunaw canrif diweddaf: ond byddai yn dda i'r cyfryw gofio y tebygolrwydd fod mwy wedi ei wneyd yn y ganrif bresenol er dwyn i ben y cyfnod addawedig nag a wnaed cyn hyny yn ol  hyd yr oes apostolaidd, os cymerir i ystyriaeth yr holl ddiwygiadau gwyddonol, celfyddydol, cymdeithasol, gwladwriaethol, moesol, a chrefyddol, y rhai a gydweithiant er addfedu y byd i dderbyn y chwyldroadau angenrheidiol. Can' mlynedd yn ol, cyfartaledd bychan o breswylwyr y byd a allent bwrcasu y Beibl a'r newyddiadur, a'u darllen ar ol eu pwrcasu; eithr yn awr y mae tlodion y ddaear wrth y miliynau yn medru eu "Llawer a gyniweiriant, a pwrcasu a'u darllen! gwybodaeth a amlheir." Can' mlynedd yn ol, yr oedd y gweithiwr bron mor ddarostyngedig i ewyllys ei feistr ag oedd y ceffyl; eithr yn awr gallai, pe

 

 


(delwedd E0058) (tudalen 062)

 62 AMERICA. dewisent, ugeiniau o weithwyr Cymreig glän y Tawelfor gychwyn unrhyw ddiwrnod am bleserdaith mewn palas-gerbydau, am 3,000 0 filldiroedd, yn groes i'r cyfandir, yn y cyflymdra 0 30 milldir yr awr; ac yna sicrhau cabin Passage yn un o’r agerlongau mawrion, am y 3,000 nesaf, yn groes i'r Werydd, a chyrhaedd Liverpool yn mhen rhyw wyth niwrnod; yna myned i Gymru i ymweled å'u perthynasau mewn amgylchiadau mvvy hwylus ac urddasol nag y gallai pendefig Prydeinig gan' mlynedd yn ol fyned o sir Benfro i Lundain i weled gwyneb ei frenin! Y mae yn haws heddyw i'r celfyddydwr, neu yr amaethwr Americanaidd, esgyn o ris i ris, nes cyrhaedd y gadair arlywyddol, i lywodraethu yn llwyddianus 60,000,000 0 bobl, nag y byddai gan' mlynedd yn ol i'r un dosbarth gyrhaedd at yr anrhydedd o gael arwain ceffyl Brenin Lloegr! Felly gwelwn fod yr olwynion celfyddydol, cymdeithasol, a moesol wedi cyflymu llawer yn y ganrif hon, er cludo plant dynion i fyny at safon Duw i ddynion, sef ffyddlondeb a phurdeb i'r gwirionedd. Nid yw yr amser yn mhell pan fydd safon anrhydedd yr un yn ngolwg Duw yn y nefoedd a dynion ar y ddaear; ac y bydd gwir anrhydedd mor gyrhaeddadwy i'r tlawd ag i'r cyfoethog; mor gyrhaeddadwy i'r anllythyrenog a'r byr ei gyrhaeddiadau ag y bydd i'r athrylithgar a'r dysgedig. Gan hyny, bydded i ni oll osod yr anrhydedd uchaf yn nod i ni dynu ato, gan wneyd ein goreu i wybod beth sydd iawn yn bersonol, cymdeithasol, gwladol, a chrefyddol. Y na cawn iawn fendith Tywysog breninoedd y ddaear yn etifeddiaeth, sef—" Da, was da a ffyddlawn; buost ffyddlawn ar ychydig; Mi a'th osodaf ar lawer; dos i mewn i lawenydd dy Arglwydd."

 

 


(delwedd E0059) (tudalen 063)

 PE NOD x IV. CANRIF O GYNYDD YR UNOL DALAETHAU. ID oes ar dudalenau hanesyddiaeth engraifft o unrhyw wlad arall wedi llwyddo yn gyffelyb i'r Unol Dalaethau am y can' mlynedd diweddaf. Yn y flwyddyn 1783, pan y gwnaed cytundeb heddwch Lloegr, yr oedd arwynebedd y Talaethau yn 830,000 0 filldiroedd petryal; ond yn awr y mae yn 0 filldiroedd petryal Ac o’r flwyddyn 1790 hyd 1890, y mae y boblogaeth wedi cynyddu o 3,929,214 i 62,622,250! Ac yn y cyfamser, wedi derbyn 15,600,000 0 ymfudwyr o wahanol wledydd y byd, heb golli eu nodweddion Gweriniaethol. Y n 1790, yr oedd eu morlanau yn mesur 1,680 0 filldiroedd; ond can' mlynedd yn ddiweddarach, mesurai glänau morawl y wlad 33,907 0 filldiroedd o hyd! Y mae yn bresenol 4,595,000 0 ffermydd yn cael eu gweithio, yn cynwys 650,000,000 0 erwau, ac yn werth 13,000,000,000 dol., ac yn cynyrchu yn flynyddol werth 4,000,000,000 dol. Eu mwngloddiau eto a ddengys gynydd dirfawr. O fewn y can' mlynedd diweddaf, y mae eu mwngloddiau aur wedi cynyrchu gwerth 1,904,881,769 dol. o aur pur; a gwerth 1,073, 170,000 dol. o arian pur o'u mwngloddiau arian. Y n y flwyddyn 1890, cloddiwyd 18,000,000 0 dunelli o fwn haiarn o'u mwngloddiau, gwerth 151,200,410 dol. Eto, y mae tua haner cledrffyrdd y byd o fewn terfynau yr Unol Dalaethau. Cydnabydda Mr. Walter Besant, Golygydd y London fod Fortnightly Review, am fis Gorphenaf, 1893,

 

 


(delwedd E0060) (tudalen 064)

 64 AMERICA. trafnidiaeth fasnachol mewndirol yr Unol Dalaethau yn gymaint a thrafnidiaeth fasnachol holl Ewrop yn nghyd, ac yn werth dros 50,000,000,000 0 ddoleri y flwyddyn. Yn y flwyddyn 1810, yr oedd nifer llaw-weithfeydd cotwm y Talaethau yn 168, ac yn rhedeg 90,000 0 spindles; ond yn y flwyddyn 1890, yn rhedeg 15,000,000 o werthyd (spindles) mewn 904 0 law-weithfeydd, ac yn werth 354,020,843 dol.; yn rhoddi gwaith i 221,585 o bobl, ac yn talu i'r cyfryw yn gyflogau 69,489,272 dol. yn flynyddol. Y mae cynyrch gwerth llafur blynyddol y cyfryw yn 267,981,724 dol. Oran' mlynedd yn 01, nid oedd llaw-weithfa silk yn y Talaethau: ond yn awr, y mae 50,913 yn gweithio yn y cyfryw, ac yn enill yn flynyddol mewn cyflogau 19,680,318 dol. Y mae yn anfon gwerth 87,298,454 dol. o sidan i'r farchnad yn flynyddol. Nid oes ystadegau yn dangos fod llaw-weithdai gwlan yn y Talaethau Unedig yn y flwyddyn 1790, tra yr oedd y sefydliadau er gweithio gwlan o'u mewn yn y flwyddyn 1890 yn rhifo 2,489, ac yr oedd 219,132 0 bobl yn gweithio yn y cyfryw, ac yn enill 76,660,742 dol. o gyflogau bob blwyddyn. Cynyrch blynyddol yr oll yn werth 337,768,524 dol. Yn ddiweddar, y mae ugeiniau o weithiau alcan wedi cael eu hadeiladu yn y Talaethau unedig. Ac yn ngwyneb ffeithiau o’r fath, y mae yr holl fyd gwareiddiedig yn gofyn: Beth a ddaw o’r Weriniaeth fawreddog hon?

 

 


(delwedd E0061) (tudalen 065)

 PE NOD PERTHVNAS V CYMRY A'R TALAETHAU UNEDIG. MAE y berthynas hon wedi dechreu cyn geni y Weriniaeth; ie, mor bell yn ol a'r ddeuddegfed ganrif—pan ddaeth y Tywysog Madog a'i gwmni yno. Y mae hanesyddiaeth yn profi fod y Cymry wedi bod yn elfen werthfawr yn y boblogaeth er's canoedd o flynyddoedd, ac yn arbenig er amser dyfodiad William Penn, yr hwn a laniodd yn Philadelphia yn y flwyddyn 1682; ac oddiar y dydd hwnw hyd heddyw, y mae y gwaed Cymreig yn helaeth yn yr elfen lywodraethol trwy y Talaethau. Ceir enwau Cymreig yn aml yn mhlith y bobl trwy y Talaethau Gogleddol, Deheuol, Dwyreiniol, a Gorllewinol, fel ag y mae y disgynyddion Cymreig yn ganoedd o filoedd o fewn terfynau y Weriniaeth. Dywed ystadegau y Llywodraeth am y flwyddyn 1890 mai 83,000 0 Gymry sydd yn y Talaethau; ond tebyg nad oedd yr ystadegau hyn yn cyfrif ond y Cymry ag sydd wedi eu geni yn Nghymru, ac eto yn fyw, tra yn cyfrif ugeiniau o filoedd o blant y cyfryw ag sydd wedi eu geni yn y wlad yma yn Americaniaid. Barna yr Anrhyd. Thos. L. James, Cyn-Bostfeistr Cyffredinol y Talaethau Unedig, fod cymaint o Cymry yn y Talaethau ag sydd yn y fam-wlad. Y mae y Parch. E. C. Evans, M.A., yn ei gyhoeddiad misol, sef y Cambrian, yn ei ymchwiliad ystadegol, yn gosod rhif y Cymry yn y Talaethau Unedig yn 400,000.

 

 


(delwedd E0062) (tudalen 066)

 66 AMERICA, Y mae yn hyderus genyf finau fod yn byw yn y Talaethau haner miliwn o Gymry ag y maent hwy, netl eu rhieni, wedi dyfod o Gymry yn y ganrif hon; ac efallai haner hyny yn cyfrif eu hunain yn Gymry o iaith a gwlad, sef 250,000. Y n awr, amcanaf roddi bras nodiadau am Gymry y prif dalaethau fel ag yr wyf fi wedi eu gweled ar fy symudiadau yn ystod y 12 mlynedd yr wyf wedi bod yn teithio yn eu plith, gan sylwi arnynt mewn ystyr fydol, grefyddol, &c. Ac os boddlawn gan y darllenydd, arweiniaf ef yn hamddenol am wibdaith trwy brif sefydliadau y Talaethau Unedig. Cofier fod bron yr oll 0'r ymweliadau a'r symudiadau a fydd yn y penodau dilynol wedi eu gwneyd o fewn y pedair blynedd diweddaf genyf fel goruchwyliwr teithiol y Drych, ac wedi eu cyhoeddi genyf yn y Drych fel gohebydd. Cychwynwn ar Pan Mör y Werydd yn Ocean Grove, N.J. Er nad oes yma lawer o Gymry, yr wyf am gychwyn yma er treiÖ gwneyd ein teithiau mor gyson a chyflawn ag y barnwyf o ddyddordeb ac addysg i'r darllenydd. NEILLDUOLION DVMUNOL OCEAN GROVE, N.J. Gan fod y tywydd yn boeth, a'm cyfansoddiad inau yn wan i ddal y gwres, tueddwyd fi i ddyfod i gael gorphwysdra ar län y mar yma, ac i ddysgwyl amser gwell i weithio dros y Drych. Ac yn awr, wele fi megys ag un troed ar y mar, a'r llall ar y tir; neu, mewn geiriau ereill, rhwng dau för mawr, llydan, a dwfn—yr un i'r dwyrain yn dair mil o filldiroedd o led, ac yn cynwys yn ei ddyfroedd ryfeddodau wrth y miloedd, yn nghyda dirgelion dirifedi o eiddo y Creawdwr doeth a da; ar y tu Gorllewinol, y mae mar mawr a llydan, yn cynwys mwy o ryfeddodau na'r un dwyreiniol: y mae yn fwy o led, yn fwy o ddyfnder, ac yn fwy amrywiog a rhyfeddol yn ei gyfansoddiad a'i

 

 


(delwedd E0063) (tudalen 067)

 A GWELEDIGAETHAU BYWYD. 67 ysgogiadau ofnadwy. Cyfansoddir y cyntaf o ddyfroedd; cyfansoddir yr ail gan gydgyfarfyddiad ac ymgymysgiad dynoliaeth o wahanol dylwythau y ddaear. Cynhyrfir un yn barhaus gan ddeddfau anianyddol, a chynhyrfir y llall yn barhaus gan ddeddfau anianyddol a moesol. Y mae y blaenaf yn cludo llongau a'u marsiandiaeth werthfawr i wahanol wledydd y ddaear; ac y mae yr Olaf yn cario yn ddyddiol ei filoedd llongau yn llawn o farsiandiaeth werthfawrocach i borthladdoedd y byd moesol, ysbrydol, a thragywyddol. Y mae tönau y blaenaf fel pe yn cystadlu am oruchafiaeth, ac weithiau fel yn bygwth dymchwelyd a gorchuddio y ddaear a dinystr; yn gyffelyb y mae gronynau yr Olaf fel pe yn ymdrechu am yr uchafiaeth, ac weithiau yn ymgynddeiriogi yn dönau grymus ac ofnadwy, fel pe yn penderfynu dymchwel y genedl i ddinystr buan, ond wedi hyny yn gorfod llonyddu wrth lais yr Hwn a ddywedodd wrth y mör: " Hyd yma yr ei, a dim yn mhellach." Un o’r pethau cyntaf a dynodd fy sylw ar y pedwerydd o Orphenaf ydoedd boneddiges yn gofyn ai nid Cymro oeddwn; a thybiai ei bod yn abnabod fy ngwyneb. Atebais, wrth gwrs, mai Cymro oeddwn, a gofynais ai Cymraes oedd hi. Atebodd hithau mai David Jones, y göf, o Philadelphia, oedd ei thad. Yna cofiais fy mod wedi ei gweled yn nhj ei thad ddeng mlynedd yn 01, pan ar fy nhaith i Gymru; ac iddynt fel teulu ddangos sirioldeb mawr i mi y pryd hwnw, fel y maent yn arfer gwneyd Chymry dyeithr yn eu dinas, os cant gyfle. Y mae bron holl Gymry America yn gwybod am David Jones a'i genedlgarwch. Yn nesaf, aethum i'r camp ground rhagorol sydd yma, yr hwn a agorir am y tro cyntaf yr haf presenol. Caed cyfarfod dyddorol, cynwysedig o ganu a darllen y Datganiad Annibyniaeth, ac araeth ardderchog gan yr Anrhyd. Chåmrey Shaffer, o New York. Yr oedd

 

 


(delwedd E0064) (tudalen 068)

 68 AMERICA, yn dda genyf ei glywed yn siarad mor gryf ar ddyledswydd dinasyddion y Weriniaeth i ymfyddino yn erbyn y fasnach feddwol iYdd yn gwneyd cymaint o ddifrod ar eu meibion a'u merched trwy y wlad. Pe bai y wlad i gyd fel y lle hwn, byddai yn wlad ddedwydd. Nid oes yma un lle i werthu diodydd meddwol na thobaco, ac ni oddefir dawnsio o fewn y dref. Cyfrifir fod yma tua 25,000, y rhai a ymgynullant yn ddyddiol i addoli Duw y duwiau, ac Arglwydd yr arglwyddi. Saif Ocean Grove ar län yr Atlantic Ocean, rhwng Long Branch ac Atlantic City, ac y mae yn un o’r lleoedd mwyaf dymunol am adloniant ac adfywiad •corfforol a meddyliol. Cychwynwyd ef rai blynyddoedd yn ol gan y M. E. Camp Association, a pharha i gynyddu. Y mae y traeth yn ddwy filldir o hyd, yn wely tywodlyd, heb ddim ceryg i'w wneyd yn anhyfryd i' r ymdrochwyr; ac o’r tu ol i'r rodfa dywodlyd yma, y mae rhodfa goed chwe' llath o led, a thua dwy filldir o hyd, ac ugeiniau o feinciau i'r pleserwyr eistedd i edrych ar ryfeddodau yr eigion. Y mae yma amryw o ymdrochfeydd celfyddydol; ac mewn cysylltiad å'r cyfryw y mae lleoedd i gael amrywiaeth adloniadol, gormod yn awr i mi geisio eu henwi. Hefyd, y mae yma lynau o ddwfr croew yn myned oddiwrth län y mar allan i'r wlad, lle y mae degau o fadau at wasanaeth y pleserwyr. Gellir edrych ar Ocean Grove ac Asbury Park fel un dref, yn cael ei gwneyd i fyny o balasau a bwthynod, ac aneddau •cyhoeddus hardd a phrydferth. Nid oes yma ond ychydig o fasnachdai, mewn cymhariaeth i drefydd yn gyffredin. Rhif y boblogaeth yn y gauaf yw 5,000; ond yn yr haf, amrywia 0 20,000 i 40,000. Gallwn feddwl mai dyma y lle tebycaf o ran ei nodweddion i'r •darluniad a rydd y Beibl o’r nefoedd o un lle ar y ddaear; yn un peth, am nad oes yma leoedd i werthu y diodydd meddwol; a gallwn dybied fod y bobl y

 

 


(delwedd E0065) (tudalen 069)

 A GWELEDIGAETHAU BVWYD. 69 rhai mwyaf dedwydd yn y byd; pawb yn ymbleseru, yn hen ac yn ieuainc, heb neb i'w weled yn gweithio ond megys o bleser. Ac heblaw ei fod yn lle o adfywiad corfforol, y mae yma hefyd foddion iachawdwriaeth ysbrydol; a cheir yma ddanteithion yr Efengyl wedi eu harlwyo yn ogoneddus gan wasanaethwyr cymhwys Frenin Seion, yn benaf dan ofal y M. E. Camp Meeting Association. Y mae ganddynt dri lle cymhwys at eu gwasanaeth: (1) Tabernacl mawr, yn mesur 168 troedfedd ysgwar, digon o faint i gynwys 1,200 0 bobl i eistedd; (2) Tabernacl arall, yn ymyl y cyntaf, harddach a mwy perffeithiedig, yn ddigon eang i ddal 2,000 o bob], gallwn feddwl; (3) Y Cysegr Sancteiddiolaf ar y Camp Ground, yr hwn a ddeil tua 300 0 bobl. Ac yn ychwanegol, y mae ganddynt fath o Dabernacl hardd ar län y mar, yn swn y tönau, lle y cadwant gymanfa fawr yn Sabbathol, pan fyddo y tywydd yn ffafriol. Cefais y fraint o fod yn un o’r cyfryw y Sabbath diweddaf, ac yr oedd yn fawreddog a gogoneddus—y bobl gyhoeddus ar y stage o flaen y babell yn gwynebu at y mar, a'r rhan fwyaf o’r miloedd ar y traeth a'u eefnau at y mar, a'u gwynebau at y gweinidogion. Y n wir, cyfarfod rhyfedd oedd hwn—y mar a'r gynulleidfa megys yn cyd-ddyrchafu eu mawl i'r Brenin Mawr, llywydd ac adferwr pob peth. Un peth striking iawn a ddygwyddodd oedd i faner wen gael ei chodi ar agerlong ardderchog oedd yn marchog yr eigion mawr heibio i ni, yr hyn a wnaed o warogaeth i'r olygfa ar y län, gan y gwyddent mai addoli Duw y duwiau, sef Brenin Seion, yr oeddys. Y n eu tro, gwnaeth y miloedd ar y traeth a'r areithfa gyfnewid y cyfarchiad, trwy ysgwyd eu miloedd cadachau gwynion uwch eu penau, o foddhad wrth weled y rhai sydd bell ar y mor yn dyrchafu baner wen yn arwydd o warogaeth i wasanaethwyr a chynrychiolwyr y Brenin ag y mae ei orseddfainc yn y nefoedd.

 

 


(delwedd E0066) (tudalen 070)

 70 AMERICA, DELAWARE WATER GAP- -BANGOR—SOUTH GIBSON— LONG POND, ETC. Ar ol bod bythefnos yn Ocean Grove, aethum drwy ranau o wlad brydferth New Jersey i Delaware Water Gap, lle rhamantus rhwng creigiau, clogwyni, a choedydd cysgodol, ar län afon enwog Delaware. Dylifa canoedd o bobl y trefydd i'r lle nodedig yma bob haf am adgyfnerthiad iechyd ac adloniad corfforol a meddyliol, ac i ymguddio rhag angerddolrwydd gwres yr haul. o’r orsaf ni welir ond ychydig aneddau, gan fod y pentref a'r hafdai mawrion cyhoeddus yn wasgaredig rhwng y clogwyni ysgythrog: ac y mae yn yr anialwch cylchynol lawer o olygfeydd dyddorol i'r pleserwyr, sef ffrydiau, rhaiadrau, &c. Tebyg mai yr olygfa fwyaf dyddorol i'r daearegwyr yw edrych ar y modd y mae yr •afon Delaware yn, neu wedi, gwneyd ei mynedfa trwy y mynydd uchel, yr hwn sydd yn esgyn o bob tu i'r afon, megys muriau maluriedig, am ganoedd o droedfeddi o uchder. Dichon iddo gael ei rwygo gan ddaeargryn mewn cyfnod cynoesol, neu, o bosibl, ei dreulio gan ryferthwy y mar yn y cyfnod pell, pan oedd ei dönau cynddeiriog yn teyrnasu ar y rhanbarth yma o’r ddaear, ddeng mil neu ragor o flynyddau yn 01. Y n nesaf, ymwelais a chwarelwyr Bangor, yr hwn le sydd tua deg neu bymtheg milldir i'r de o Delaware Water Gap. Nid oedd Bangor yn bodoli yn 1868. Dechreuodd y chwarelwyr Cymreig gloddio yn yr ardal, ac oddiar hyny y mae Bangor yn cynyddu yn barhaus mewn pwysigrwydd masnachol a chymdeithasol. Mae yn y dref ddau gapel Cymraeg—un gan y Trefnyddion Calfinaidd, a'r llall gan yr Annibynwyr; ac yn awr gapel gan y NVes1eyaid Cymreig. Gweinidogaeth deithiol a geir yu y blaenaf; ond yn achlysurol, gweinyddir gan y Parch. Ellis W. Jones,

 

 


(delwedd E0067) (tudalen 071)

 A GWELEDIGAETHAU BYWYD. 71

 

yr hwn sydd yn byw yn y lle er pan ddaeth drosodd o Gymru tua dwy flynedd yn 01. Gweinyddir yn yr Olaf gan y Parch. John Williams. Aethum o Fangor i ymweled ag ychydig Cymry Slateford, ac yna dychwelais i Hyde Park. Ar ol mwynhau rhai dyddiau o gymdeithas fy nghyfeillion yno, cymerodd Henry Harries, South Gibson, fi yn ei gerbyd i'w gartref, ar län Long Pond, oddeutu 28 neu 30 milldir i'r gogledd o Scranton. Y mae Long Pond a'i bysgod yn atdyniad i ganoedd o bleserwyr o wahanol gyfeiriadau bob haf; ac y mae yr amaethdai o gwmpas y llyn yn llawnion o ymwelwyr yr adeg yma o’r flwyddyn. Yn ymyl Long Pond y mae y mynydd uchaf yn Pennsylvania, sef Elk Hill. Un diwrnod, cymerodd Mr. Harris amryw ohonom yn ei gerbyd i gopa y mynydd; ac y mae golygfeydd eang, heirdd, ac amrywiog i' w gweled oddiyno. Ceir golwg ardderchog ar y wlad am ugeiniau o filldiroedd o amgylch, a dywedir y gellir gweled New York a Philadelphia drwy bellwydr ar ddiwrnod clir. Canfyddir tri-ar-ddeg o lynoedd o'i gopa trwy bellddrych, a saith gyda'r llygad noeth. Amgylchynir Long Pond ac Elk Hill gan sefydliad Cymreig Dundaff a South Gibson. Mae yn y sefydliad un eglwys Gymraeg, dan ofal y Parch. Daniel Daniels; ac y mae y gwas ffyddlon hwn i lesu Grist yn parhau yn gryf a bywiog gyda gwaith yr Arglwydd yn ei hen ddyddiau. Yn ffortunus iddo ef, daw amryw o weinidogion i'r sefydliad am iechyd ac adloniant yr adeg hon o’r flwyddyn, a phregethant yn achlysurol yn lle yr hen dad Daniels. V Sabbath diweddaf, sef Awst 17eg, yr oedd yno y Parchn. Dr. Williams (B.), Hyde Park, a D. W. Morris Taylorville. Pregethodd Mr. Morris y boreu yn rhagorol, oddiwrth y geiriau hyny, " Ffordd y bywyd i'r synwyrol sydd fry, i ochel uffern obry." Yn yr hwyr, pregethwyd yn

 

 


(delwedd E0068) (tudalen 072)

x 72 AMERICA. Gymraeg a Saesoneg gan Dr. Williams yn rhagorol„ oddiwrth hanes Joseph yn cyflwyno ei dad i Wydd Pharaoh. Mae yn y sefydliad yr wythnosau hyn bregethwr ieuanc gobeithiol o’r enw Griffths, yr hwn a bregetha yn achlysurol yn lle Mr. Daniels; ac nis gallaf lai nag edmygu y gwr ieuanc hwn, am ei fod yn dyfod i Dundaff o’r coleg bob blwyddyn i weithio ar fferm yn wythnosau y cynhauaf, er enill arian i' w gario trwy ei gwrs colegawl, a pharotoi ei hun i fod yn weinidog cymhwys y Testament Newydd. Yr Arglwydd a'i bendithio. Rhag blino darllenwyr y Drych, rhaid i mi derfynu heb wneyd nodiadau ar nodweddion personol cymeriadau nodedig y sefydliad, megys Evan ap Zac, Thomas Evans, Thomas Rees, Thomas Maxey, &c. -4

 

 


(delwedd E0069) (tudalen 073)

 PE NOD x VI. TYWYSOGION WEDI CWYMPO.—MEWN CVFARFOD DOSBARTH. AN fod y Drych yn lled ffyddlon i ddangos ei wrthddrychau i'r byd megys y maent, gallai y bydd fy ngwael bethatl i, o leiaf, yn fanteisiol i fod yn gyferbyniol i ohebiaethau rhagorach yn yr arddangosfa; canys yn ymyl y gwael y mae yn hawddach gweled rhagoriaethau cynyrchion gwir athrylith. Pe bawn yn un o feibion athrylith, byddai yn hyfrydwch genyf ddyddori darllenwyr y Drych a chynyrchion amrywiol, mewn canlyniad i arsylliadau oddiar gopäau amrywiol fynyddau athrylith. Yr wyf wedi gweled a chlywed llawer er pan ysgrifenais o’r blaen, pe bawn yn medru dethol yn gyfaddas dywysenau rhagorol at eich gwasanaeth. Yr wyf wedi bod mor uchel ag y gallwn i geisio arsyllu ar haul bywyd U. S. Grant yn machludo, ac yr oeddwn yn cyfranogi o’r galar ar ei 01, ac o’r parch a'r anrhydedd a delid iddo gan y byd, fel dyn mawr mewn athrylith a ffyddlondeb yn ngwasanaeth ei wlad. Gwelwn hefyd o ben un o’r mynyddoedd uchel haul bywyd un o dywysogion Seion yn machlud yn ngwlad fy nhadau. Cyffyrddodd y newydd hwn fy nheimladau, nid yn unig oblegid y golled ar ei ol i'r cyfundeb Methodistaidd, ond hefyd am fy mod i ac yntau wedi cael ein magu yn yr un ardal, a bod son am ei gladdedigaeth yn Nghlosygraig yn adgyfodi yn fyw i'm cofolygfeydd swynol mebyd ac ieuenctid. Un o’r argraffadau hyny oedd gweled y Parch. John Harris Jones, M.A., Ph.D., 

 

 


(delwedd E0070) (tudalen 074)

6 74 AMERICA. yn myned i ffwrdd i'r ysgol, wedi bod ar ymweliad Chlosygraig a th9 ei dad; ac y mae yr edrychiad hwnw o'i eiddo arnaf yn fyw yn fy meddwl yn awr mewn gwlad bell, ar ol tua 40 mlynedd o argramadau newyddion yn yr un meddwl. Rhyfeddol yw argraffadau y meddwl dynol, onide? Ond dyna, y mae John Harris Jones ac U. S. Grant wedi myned at yr orsedd fawr i gael eu barnu fel dynion ar wahan i bob teitlau daearol. Oddieithr eu bod wedi meddianu y " gareg wen," a'r " enw newydd " wedi ei ysgrifenu arni " gwaed yr Oen," bydd yn dragywyddol druenus arnynt, oblegid dyna yr unig deitl a wna basio marwolion y ddaear i wynfyd y nefoedd. Dyna eto un arall o dywysogion Seion wedi myned ar ol y ddau flaenaf i sefyll o flaen yr un fainc i gael ei farnu fel hwythau, sef y Parch. Edward J. Hughes, West Bangor. Perthyn i'r ddaear y mae ey deitl yntau, er cystal ydyw. Pa fodd bynag am ddirgelion y byd ysbrydol, y mae yn eglur ein bod ni, fel cyfundeb Methodistaidd yn N halaeth Pennsylvania, yn teimlo colled fawr ar ol un mor ffyddlon O'n plith; ond tebyg fod eglwys West Bangor yn ei theimlo yn fwy, oblegid agosach perthynas. Ei anwyl deulu gafodd golled anadferadwy; ondy mae yn gysur mawr i'r holl alarwyr fod Barnwr y gweddwon a thad yr amddifaid eto yn fyw. Vr oeddwn y Sadwrn a'r Sabbath diweddaf yn Nghyfarfod Dosbarth Deheuol Pa., yn Danielsville, a theimlid y golled yn fawr gan y cyfarfod am golli y ffyddlawn Hughes o’r dosbarth eiddil a gwan.

 

 


(delwedd E0071) (tudalen 075)

 PE NOD X V 11. SCRANTON, PA., A'R CVLCHOEDD. YLWN fan yma fod Scranton yn awr yn cynwys tua 80,000 0 boblogaeth, ac efallai fod un ran o bedair o’r cyfryw yn Gymry, a'n cydgenedl mor anrhydeddus a llwyddianus ag unrhyw ddosbarth o’r dinasyddion yn yr ystyriaeth o’r amgylchiadau. Y mae yma fwy o Cymry nag sydd mewn unrhyw ddinas arall yn y Talaethau. Y mae o'i mewn saith o gapelau Cymreig, ac hefyd filoedd O'n cydgenedl yn myned i'r eglwysi Seisonig. Gweithiau glo yw prif gynyrch masnachol Scranton a'r cylchoedd, ond y mae yno hefyd felinau haiarn, dur, blawd, sidan, &c. Saif y ddinas yn agos i gwr gogledd-ddwyrain talaeth William Penn, a thua 150 0 filldiroedd o New York City, Carbondale 18 milldir i'r gogledd, Wilkesbarre a Kingstown tuag ugain milldir i'r dehau, ac ugeiniau o drefydd ereill ar hyd y dyffryn cyfoethog hwn 0 10 careg. Er mwyn i'r darllenydd gael syniad am y dyffrynoedd poblogaidd hyn o Gymry, sef dyffrynoedd Lackawanna a Wyoming, gan wynebu ar y gogledd yn gyntaf, awn gyda'r trén am tua chwe' milldir heibio llawer o fån bentrefl a gweithiau glo, gan aros yn Olyphant, lle y mae mil neu ddwy o Gymry, a thri o gapeli Cymreig, gan yr Annibynwyr, y Bedyddwyr, a'r Trefnyddion Calfinaidd. Awn i'r trén eto, yr hwn a'n cymer am saith milldir yn mhellach i'r un cyfeiriad, heibio Peckaville, lle y mae rhai ugeiniau o fwnwyr ac amaethwyr

 

 


(delwedd E0072) (tudalen 076)

 76 AMERICA, Cymreig, a chapel gan y Trefnyddion Calfinaidd, ac heibio Winton, ac Archbald Wyddelig, nes cyrhaedd Jermyn, lle y mae rhai canoedd o Gymry eto, a chapeli gan y tri enwad Cymreig crybwylledig. Awn i'r cerbyd eto, yr hwn a'n cymer am dair milldir yn mhellach i'r un cyfeiriad, a byddwn yn Carbondale, sef Athen Gymreig gogledd-ddwyrain Pa. yn yr amser gynt, ond araf wthiwyd hwy oddiyno gan y Gwyddelod; ond y mae gan y tri enwad Cymreig crybwylledig eu capeli a'u heglwysi yno, ond tebyg nad oes ond y Trefnyddion Calfinaidd yn cynal y gwasanaeth yn yr hen iaith yno. Awn rhagom eto i'r un cyfeiriad am chwe' milldir yn ychwaneg, a byddwn yn Forest City, lle y mae cant neu ddau o Gymry, ac eglwys wedi ei ffurfio gan yr Annibynwyr. Lle glofaol pewydd yw hwn. Dychwelwn yn awr ar hyd yr un ffordd i Scranton, ac awn. i gyfeiriad y dehau am dair milldir, heibio Belle Vue, lle y mae eglwys gan y Trefnyddion Calfinaidd, nes cyrhaedd Taylorsville. Y mae yma eto ganoedd o Gymry, a thri chapel Cymraeg, un gan bob un o’r tri enwad. Awn eto rhyw dair milldir yn mhellach, heibio Old Forge, lle y mae llawer o deuluoedd Cymreig, ac eglwys wan gan yr Annibynwyr. Moosic eto, yr ochr arall i afon Lackawanna, lle y mae ugeiniau o Cymry, a chapel ac eglwys wan gan y Trefnyddion Calfinaidd, a rhyw dair milldir yn mhellach byddwn yn Pittston, lle y mae canoedd o Gymry, a chapeli Cymreig gan yr Annibynwyr a'r Bedyddwyr; yna, awn rhagom eto am tuag wyth milldir, heibio amryw o fan bentrefi glofaol, megys West Pittson, Wyoming &c., ar ochr orllewinol afon Susquehanna, a Mill Creek, Miners' Mills, Parsons, &c., ar ochr ddwyreiniol yr afon, nes cyrhaedd Wilkesbarre. Y mae yn Miners' Mills eglwysi gan y tri enwad, ac yn Parsons gan yr Annibynwyr a'r

 

 


(delwedd E0073) (tudalen 077)

 A GWELEDIGAETHAU BVWYD. 77 Bedyddwyr. Tref fawr weithfaol eto yw Wilkesbarre, poblogaeth 0 37,718, a llawer o’r cyfryw yn Gymry, ac y mae yno chwech o eglwysi Cymreig, gan fod yma eglwys gan y Wesleyaid Cymreig, dwy gan yr Annibynwyr, un gan y Bedyddwyr, a dwy gan y Trefnyddion Calfinaidd. • Awn rhagom eto i Ashley, rhyw ddwy filldir o Wilkesbarre, ac y mae yma eto ganoedd o Gymry, ac eglwys Gymraeg dan ofal y Parch. Hugh Hugh, gan y Trefnyddion Calfinaidd; a dwy filldir yn mhellach i'r un cyfeiriad byddwn yn Sugar Notch, lle y mae ugeiniau o Gymry, ac eglwys gan y Trefnyddion Calfinaidd; a dwy filldir yn mhellach eto byddwn yn Warrior's Run, lle y mae canoedd o Gymry, ac eglwysi gan y tri enwad Cymreig; a rhyw dair milldir yn mhellach eto deuwn i Alden a Wanamie, lle y mae ugeiniau o Gymry, a'r Annibynwyr a'r Bedyddwyr yn cynal crefydd yno. Eto awn am tua thair milldir i'r un cyfeiriad, a chyrhaeddwn Morgan Town, lle y mae gwaith glo, a llawer o Gymry, ac eglwys gan yr Annibynwyr. Y n awr trown yn ein holau, ac yn y pellder o tua phum' milldir deuwn i Nanticoke, lle y mae canoedd o Gymry, ac eglwysi gan y tri enwad Cymreig. Cychwynwn eto i gyfeiriad y Gogledd am dair milldir, gydag ochr orllewinol Susquehanna, nes ycyrhaedd Plymouth, sef tref lofaol eto, lle y mae rhai miloedd o Gymry, ac eglwysi cryfion gan y tri enwad Cymreig. Awn rhagom eto i'r un cyfeiriad am dair milldir, a byddwn yn Edwardsdale a Kingston, ar gyfer Wilkesbarre, a thua dwy filldir o’r afon rhwng y ddwy ddinas Olaf; ac y mae yn Edwardsdale a Kingston eto lawer o Gymry, ac eglwysi Cymreig gan y tri enwad. Dyna ni wedi gwneyd bras nodiadau am y dyffrynoedd poblogaidd dan sylw; ond cofier fod ynddynt lawer o fan bentrefi heb eu henwi genyf, a llawer o Gymry yn wasgaredig ar hyd yr holl ddyffrynoedd; a llawer O'n cydgenedl yn flaenllaw

 

 


(delwedd E0074) (tudalen 078)

 78 AMERICA. fel goruchwylwyr glofaol, &c., ac amryw Gymry yn berchenogion glofeydd. Ac yn awr canlynwch fy llwybrau fel yr ymddangosasant yn y Drych, gan ddechreu yn Efrog Newydd yn Mai, 1889.

 

 


(delwedd E0075) (tudalen 079)

PE NOD x v lll.* VN NINAS NEW YORK—V PARCHN. MORRIS, JONES, A TALMAGE—V DATHLIAD CANMLWYDDOL GOGONEDDUS. Al wythnosau yn 01, cymerwyd fi ymaith o blith fy nghyfeillion yn Scranton, ac yn mhen rhyw bedair awr a haner yr oeddwn yn ninas fawreddog New York, lle, er mawredd ac eangder ac amrywiaethau y ddinas fwyaf ei gogoniant ar y cyfandir Americanaidd, yr wyf, hyd yma. yn llwyddo i ddal fy hunaniaeth yn mhlith yr ymgymysgfa symudol sydd yma ddydd a nos. Yr wyf wedi cael cysgod ac amddiffyniad cysurus yn 11, Jane Street, dan nawdd teulu siriol John J. Williams, y rhai sydd mor siriol a lletygar yma ag oeddynt yn arfer bod yn Danielsville, Pa., wrth droed y Mjnydd Glas. Bam yn clywed y Parch. E. J. Morris, yn nghapel yr Annibynwyr, ar 11th Street, a phregethai yn dda i gynulleidfa o wrandawyr astud, ar " Adgyfodiad Arglwydd y Bywyd." Yr oedd y bregeth yn wir darawiadol, gan mai Sabbath y Pasg ydoedd. Ond y mae Mr. Morris ar adael eglwys ei ofal mewn pryder a hiraeth ar ei 01, er fod tri o bersonau wedi cynyg ychwanegu 300 dol. at ei gyflog, os arosai, Tebyg fod Mr. Morris yn teimlo fod anrhydedd yn ei rwymo wrth ei addewid i eglwys Seisonig ei enwad yn * Y mae y Benod hon wedi ei hysgrifenu Ebrill, 1889.

 

 


(delwedd E0076) (tudalen 080)

 80 AMERICA, Wilkesbarre, Pa. Båm hefyd yn clywed y Parch. J. Mostyn Jones yn pregethu yn nghapel y Trefnyddion Calfinaidd, 13th Street, ac y mae ef yn bregethwr da, brwdfrydig, ac ymarferol. Mae yntau wedi gorphen ei chwe' mis yn New York; ac yr wyf yn clywed a swyddogion blaenllaw yr eglwys yn siarad yn uchel am dano fel pregethwr, Cristion, a dyn. Gwnai Mr. Jones weinidog a bugail da a diberygl i un o eglwysi cryfion y Corff yn y wlad hon. Credaf y byddai yn gaffaeliad i'r Cyfundeb pe y llwyddai un o’r eglwysi gweigion i'w gadw yn y wlad hon. Yr wyf yn gweled fod yn New York lawer o Gymry anrhydeddus a llwyddianus mewn masnach a chymdeithas, ac aml un o’r cyfryw wedi ac yn ymgyfoethogi; ond gan y cymerai lawer o ofod y Drych i wneyd nodiadau personol am y cyfryw, cran eu bod yn lluosog, gwell peidio dechreu, gan mai y " Dathliad Canmlwyddol " sydd yn cael y sylw mawr yma y dyddiau hyn. Wrth gwrs, cariwyd fi gan edmygedd Cristionogol i glywed Dr. Talmage yn y Brooklyn Tabernacl. Aethum yn gyntafi'r cyfarfod gweddio 0 9-30 hyd 10.30, ac yr oedd yn werth myned lawer pellach i weled a chlywed pobl o wahanol barthau o’r byd yn cydweddio a chanmol Awdwr a Bywyd iachawdwriaeth y byd. Yr oedd yno rai o’r Talaethau Deheuol fel y Talaethau Gogleddol, ac o Ewrop ac Asia, yn cydganu a chanmol. Gwnaeth tri o ddychweledigion Cristionogol Japan siarad am lwyddiant crefydd lesu Grist yn eu gwlad, gan dystiolaethu i'r cyfarfod y bydd eu cenedl yn genedl Gristionogol yn fuan. Yna agorwyd y drws i ni fyned i'r Tabernacl, yr hwn a ddalia tua 6,000 0 gynulleidfa o wahanol wledydd, megys y miloedd hyny ar ddydd y Pentecost gynt; a phregethodd Dr. Talmage oddiwrth hanes yr Arglwydd yn agor llygaid gwas Eliseus i weled y fyddin fawr angylaidd ag oedd 'vvedi cael ei hanfon i amddiffyn y proffwyd rhag byddin

 

 


(delwedd E0077) (tudalen 081)

 A GWELEDIGAETHAU BYWYD. 81 Assyria. Cymhwysai yr hanes er dangos fod amddi• ffyniad Aglwydd y lluoedd wedi bod, ac i barhau i fod, dros y Talaethau Unedig. Dywedai ei bod yn sicr ganddo fod lesu Grist yn myned i feddianu y wlad hon iddo ei Hun, a hyny trwy yr " etholflwch," ac y bydd iddo buro y wlad oddiwrth dwyll, celwydd, a llygredigaeth gwladwriaethol y dyddiau presenol trwy bleidleisiau a chydwybodolrwydd y dinasyddiön yn ysbryd yr Efengyl. Olrheiniai ofal Duw dros y wlad hon am y 150 mlynedd sydd wedi myned heibio, er dangos seiliau ei ffydd am ddyfodol gogoneddus y -cyfandir hwn, fel eiddo i Grist. Dydd Llun, Ebrill 29ain, aethum i gael pleserdaith ar yr agerfad McManus i'r Naval Parade, er cyrchu Arlywydd y Talaethau Unedig o Elizabethport i New York. Yr oedd yno 0 500 i 1,000 0 wahanol fathau o agerlongau; ac, wrth gwrs, yr oedd yr olygfa yn fawreddog, tuhwnt i ddim a welwyd ar ddyfroedd New York erioed o’r blaen. Can' mlynedd i'r un dydd yr oedd Washington yn dyfod yr un modd trwy Elizabethport, er cael ei urddo yn Arlywydd cyntaf y Talaethau Unedig, ar y llanerch lle y mae cofadail ohono yn awr ar Wall Street; ond nid yn y fath arddangosfa fawreddog ag yr oedd ei olynydd, sef yr Arlywydd Harrison, yn dyfod i ddathlu ei goffadwriaeth canmlwyddol, Ebrill 29ain, 1889. Ond er fod Harrison yn Arlywydd cenedl gyfoethog, wedi cyrhaedd ei chan' mlwydd oed, gallwn feddwl wrth edrych ar ei wedd a'i arddangosiad symb ei fod yntau, fel Washington, yn ddigon mawr a chall i ymdeimlo mai gwas y genedl ac Arlywydd mawr pob peth yw ef yn mawredd ei ogoniant. Dydd Mawrth, y 30ain, eto ar hyd prif heolydd dinas New York, gorymdeithiai yr Arlywydd ac uchelswyddogion y Llywodraeth Gyffredinol a'r gwahanol Dalaethau, a thua 50,000 0 filwyr y Talaethau. Dywed y papyrau dyddiol na welwyd y fath olygfa fawreddog

 

 


(delwedd E0078) (tudalen 082)

 82 AMERICA, erioed o’r blaen yn y ddinas. Yn ngwyneb y gwahaniaeth mawr rhwng y dydd hwn a'r arddangosfa gan' mlynedd yn 01, beth, tybed, fydd yr arddangosfa ddaucanmlwyddol? Mor fyr a darfodedig yw oes a gogoniant swyddogol dyn ar y ddaear, onidé! O gywreinrwydd, wrth weled gorwychder milwrol y byw y dydd hwn, cododd rhyw ymofyniad ynwyf i ofyn, Pa le y mae U. S. Grant heddyw, yr hwn oedd mor ddiweddar ag awenau milwrol a llywodraethol y Talaethau yn ei law, a'i enw yn cael ei anrhydeddu gan y miliynau uwchlaw pawb ag oedd yn fyw? Ar ol syllu am tua phedair awr ar ogoniant milwrol y wlad yn pasio, penderfynais fyned gyda'r gledrffordd ddyrchafedig am rai milldiroedd i Riverside Park, i weled lle gorweddfa y Cadfridog Grant; ac O! fel y mae y byd yn myned heibio, onidé? Tra yr oedd gogoniant gweledig rhai byw y Talaethau Unedig yn gorymdeithio heolydd dinas fawr ymherodrol y Weriniaeth, yn nghürr dystaw y cyfryw, mewn unigedd tawel, cysgai Grant heb glywed swn yr udgorn a'r tabwrdd milwrol—y rhai mor ddiweddar a glywyd gan y byddinoedd yn adseinio ei awdurdod fyw buddugoliaethus i'w croniclo ar dudalenau hanesyddiaeth. Wele ef heddyw wedi cael ei adael o’r neilldu yn ddisylw gan y gwroniaid byw a fu yn ffyddlon ac ufudd ymladd dan ei orchymyn, ac yntau wedi dadwisgo ei urddau swyddogol, ac yn gorwedd yn medd syml, ond anrhydeddus, y dinesydd Americanaidd, heb ond ei enw, U. S. Grant, yn nodi man ei orweddle, gyda baner ei wlad wrth ei ben, a'r blodau yn perarogli ei orweddle uwchlaw yr afon Hudson. Ond o ran ei gymeriad, y mae ef yn fyw yn mhlith ffyddloniaid y wlad yn y byd lle na chydnabyddir ond ffyddlondeb yn teilyngu anrhydedd ac anfarwoldeb. Ond dyna, dyna, wele America heddyw yn profi fod yr hyn oedd dda yn nghymeriadau y meirw, megys.

 

 


(delwedd E0079) (tudalen 083)

 A GWELEDIGAETHAU BYWYD. 83 Washington, Lincoln, Grant, Garfield, &c., yn fyw yn nghymeriad y genedl, felly y mae gobaith am ddyfodol gogoneddus i'r Weriniaeth. Y mae anerchiadau enwogion y wlad yn ng19n å'r Washington Centennial yn profi mai egwyddorion Cristionogaeth sydd wedi codi y Weriniaeth i'w safle bresenol, ac sydd i' w chodi eto yn uwch yn y dyfodol. Ond nid priodol i mi dreio gwneyd sylwadau yn ol trefniadau y tri diwrnod mawrr Dyma ddydd Mercher, Mai raf, eto, å'i arddangosfa y tuhwnt i'w desgrifio mewn mawredd a gwychder cymdeithasol, celfyddydol, masnachol, &c. Oblegid cynhwrf a rhyfeddodau, y mae yn anhawdd i mi wneyd sylw ar bob peth. Båm yn gweled Robert C. Jones yn y Castle Gardenr yn y porth mawr lle y gollyngir tlodion y byd i fewn i ddinas noddfa y gorthrymedig. Y mae ef yn llawn o sirioldeb a chroesaw Ewythr Sam, yn danfon ymfudwyr wrth y miloedd i'r Gogledd-orllewin, Dakota, &c. Ond dyna, gwell diweddu y llith hon gyda'r Arddangosfa Fawr Ganmlwyddol, mewn gobaith y bydd boddlon gan Arlywydd Mawr y byd materol a moesol fendithio yr wyl gyda llawer o fendithion ereill er codi y dinasyddion a'r Arlywydd yn uwch, uwch„ fel deiliaid byd masnach, fel y byddo ein Gweriniaeth Americanaidd gael ei chodi hefyd i ben pinacl gwareiddiad a Christionogaeth gyda hwy, er dedwyddwch preswylwyr y byd. YN NEW YORK A BROOKLYN—CYMRY TALENTOG— AMSER DA GYDAG ANEURIN FARDD. New York, Mai 1 leg.—Cyn gadael New York, y ddinas fawr, aethum i weled a chlywed y Cymro enwog, y Parch. D. Parker Morgan, M.A., yn eglwys " Yr Orphwysfa Nefol," a phregethai yn dda i Ion'd yr eglwys o gynulleidfa o ymddangosiad anrhydeddus ac astud. Prynodd y gwr parchedig fy " Llwybrau

 

 


(delwedd E0080) (tudalen 084)

 84 AMERICA, Bywyd " yn siriol. Hefyd, cefais y pleser o glywed y Parch. Francis Jones, Abergele, yn nghapel y Trefnyddion Calfinaidd. Y mae yn bregethwr da, yn ymresymwr cryf, ac yn meddu cryn lawer o’r hen dine, fel y dywedir, ond ddim mor hyawdl a rhai o areithwyr mwyaf poblogaidd ein cenedl. Diamheu genyf y bydd ei bregethau yn gymeradwy, ac o duedd adeiladol yn y gwahanol Dalaethau tra y parhao ei ymweliad byd y Gorllewin. Båm yn ymweled å John Lloyd Thomas, yn mhrif Swyddfa Genedlaethol y blaid Waharddol, a siaradai y Cymro enwog hwn yn ffyddiog am ddyfodol y blaid dan sylw er difodi y fasnach uffernol. Båm hefyd yn mhrif swyddfa y National Temperance Publication, ffynonell arall o’r dyfroedd byw sydd yn llifo yn filoedd o ffrydiau grisialaidd er disychedu a bywhau y bobloedd sydd dan effeithiau dinystriol y gwenwynydd meddwol ar hyd y Talaethau. Gwelais hefyd y swyddfa lle y mae y Voice ryfedd hono yn cael ei hanfon allan wrth y canoedd o filoedd bob wythnos i gario lleferydd Duw at ddynion er eu deffro i ymryddhau o fynwes y ddraig feddwol cyn y darfyddo am y genedl. Trwy fendith yr Arglwydd, y mae y cymdeithasau uchod a'u cyffelyb, fel dyfroedd Ezeciel, yn cynyddu, yn eangu, yn dyfnhau, er holl gynllwynion cefnogwyr y fasnach wirodol yn eu herbyn; ac y mae yr ail gymdeithas a enwyd yn No. 58, Reade Street, New York, yn gwerthu ffrwyth y winwydden yn bur ac anweithiedig at wasanaeth yr eglwysi, fel na byddo raid iddynt ymhalogi wrth y Bwrdd Sanctaidd trwy ddiodydd gwenwynig y pwll diwaelod. Mwynheais gyfarfod ymadawol y Parch. E. J. Morris, nos Fercher, Mai 8fed, lle y siaredid yn barchus am y gwr parchedig gan amryw o Gymry blaenllaw y ddinas. Diau y bydd colled dinas New York yn enill i Wikesbarre.

 

 


(delwedd E0081) (tudalen 085)

 A GWELEDIGAETHAU BYWYD. 85 Bam ar ymweliad a Chymry Brooklyn, ac yn eu plith daethum o hyd i'r Parch. John Evans, brawd Ednyfed, yr hwn sydd weinidog llwyddianus ar un o’r eglwysi Bedyddiedig Americanaidd. Gan fod yr eglwys wedi dechreu adeiladu capel newydd hardd, y mae Mr. Evans yn teimlo i wrthod galwad eglwys Jackson Street, Scranton, Pa., er mor dda oedd yr alwad, ac er fod tylwyth Mrs. Evans yn byw yn Scranton. Merch ydyw hi i B. Hughes, Ysw., prif oruchwyliwr tanddaearol cwmni y D. L. & W. R. R. Cefais ymgom å'r Parch. John E. Lloyd, yr hwn sydd Gymro talentog a llwyddianus ar un o eglwysi Presbyteraidd Brooklyn. Er nad yw ef mor adnabyddus trwy y Talaethau a llawer, y mae yn Gymro cyflawn, wedi ei fagu yn sir Ddinbych, Gogledd Cymru, ac yn briod a Chymraes, sef merch Hugh Davies, Vsw.,. Slatington, Pa., ac yr wyf wedi clywed ei fod yn fedd• ianol ar gryn lawer o’r tan Cymreig fel pregethwr. Arweiniwyd fi gan ryw edmygedd Cymreig i'r Prospect Park, i weled yr enwog a'r pen-bardd Aneurin Jones, Vsw. Wrth gwrs, yr oeddwn yn teimlo tipyn o bryder wrth fyned ato, rhag mai oerllyd y buasai ei ymddygiad tuag ataf, gan ei fod wedi esgyn i gylchoedd urddasol yn ninasoedd mawrion New York a Brooklyn—canys, fel y gwyddys, y mae tuedd mewn llwyddiant bydol i ddiystyru rhyw grwydriad o'm bath i. Heblaw hyny, y mae ef ar ben y rhestr o lenorion a beirdd y genedl Gymreig, ac yn cael edrych arno yn gyffredin fel barnwr creulon pan yn mantoli y beirdd llenorion; felly, yr oedd yn naturiol i mi grynu rhag ofn y buasai yn fy nhroi mewn diystyrwch ond, er fy ar ol gweled fy " Llwybrau Bywyd; ' syndod, cefais y llew mawr fel oen, ac yn siriol a chroesawus, a phan wnes esgusawd dros gynyg fy llyfr iddo, " O, mi a brynaf dy lyfr atn ei fod yn llyfr Cymraeg, pe na byddai dim teilyngdod ynddo,'h

 

 


(delwedd E0082) (tudalen 086)

x 86 AMERICA, meddai; a chwanegai, gan wenu, " Paid ti a'n hofni ni y beirdd a'r llenorion yma, canys yr wyt ti a ' Llwybrau Bywyd ' yn rhy uchel i ni anturio ceisio gwyntyllio y cyfryw." Gan hyny, bellach, teimlaf fy hun mewn awyrgylch eang, rydd, a chysegredig, fel, os bydd i ryw grach-lenorion geisio galw sylw y bydysawd at ryw frychau o bechodau o eiddo yr awdwr neu dd wasg, ni bydd yn werth talu y sylw lleiaf iddynt. Ar ol i Archdderwydd cenedl y Brythoniaid fy nhrwyddedu i'r drydedd nef lenyddol, gorchymynodd i un o'i ganoedd gweision gyrchu y march a'r cerbyd er myned å'r cardotyn ar hyd filldiroedd o rodfeydd parciau cyhoeddus ei ddinas, er dangos i mi ogoniant swynol y golygfeydd o bob tu; ac, wrth gwrs, yr oedd harddwch y coed a'r blodau amryliw, a'r meusydd gwrteithiedig, tuhwnt i ddychymyg. Y mae awdurdodau dinas Brooklyn wedi gosod canoedd o weinidogion at wasanaeth yr athrylithgar Arolygydd Jones i gydweithredu gweinidogion anweledig Creawdwr pob gogoniant yn mhrydferthiad y golygfeydd, er dedwyddoli a difyru rhyw 800,000 0 ddinasyddion breiniol y ddinas, yn ogystal a'r miloedd pererinion a ymwelant å hwy bob blwyddyn; a dywed Mr. Jones wrth Pat, " Dos," ac efe a ä; ac wrth Martin, " Gwna hyn," ac efe a'i gwna. Yr oedd awdurdod fy ngwahoddwr yn cyrhaedd hyd län y mar yn Coney Island, lle yr oedd nifer o weithwyr yn prysur adgyweirio y rhwygiadau a wnaethai " Dafydd Jones " yn ei gynddaredd rai wythnosau yn 01. Wrth ddychwelyd ar hyd rhyw chwe' milldir o avenue lydan ac unionsyth rhwng Coney Island a Prospect Park, cyfarfyddem ag ugeiniau o gyfoethogion ac ereill yn eu cerbydau heirdd, yn cael eu cyflymtl gan eu meirch porthianus; fel, rhwng y golygfeydd a' r ymwybyddiaeth fy mod fel gwahoddedig yn ngherbyd un o swyddogion y ddinas fawr, a'r cyfryw yn ben-bardd fy nghenedl, t.eimlwn fy

 

 


(delwedd E0083) (tudalen 087)

 A GWELEDIGAETHAU BYWYD. 87 hun yn cael fy marddoneiddio. Byd rhyfedd yw ein byd ni, onide! Wyth mlynedd ar hugain yn 01, sef yn 1861, pan yn llanc yn mhlith y lluaws yn myned i Eisteddfod Genedlaethol Aberdar, sir Forganwg, D.C., gwelais am y waith gyntaf ar y llwyfan, yn mhlith tywysogion fy nghenedl, fy ngwahoddwr, Aneurin Fardd, yn y gadair feirniadol yn cydfeirniadu å'r anfarwolion Eben Fardd ac Emrys, pan y cadeiriwyd y buddugol Nicander ar yr awdl, " Cenedl y Cymry," er fod y cadeirfeirdd Cynddelw, Hwfa Mon, Cefni, Gwilym Elid, &c., yn yr ymdrechfa. Heddyw, ar ol wyth-ar-hugain o gylchdroadau amser, wele fi yn cael un o’r enwogion hyny wedi dal i etifeddu anrhydedd, ac hefyd wedi esgyn i safleoedd o urddas ac anrhydedd mewn dwy o brif ddinasoedd y Weriniaeth fawr Americanaidd; ac i olwg fy nghof, nid yw yn edrych fawr hynach heddyw ar ben bryn anrhydedd byd y Gorllewin nag y gwelwn ef mor bell yn ol ar ben pinacl anrhydedd cenedl henafol y Celtiaid Derwyddol! Cefais fwy o hynawsedd dynol a Christionogol yn Mr. Jones na'm dysgwyliad; ac wrth gael tipyn o ymgom a dadl anrhydeddus ag efar Ddirwest a Gwaharddiaeth, nid wyf wedi ei gael yn agos mor bell yn llygredigaeth y fasnach feddwol ag oeddwn i a llawer ereill o ddarIlenwyr y Drych wedi tybio wrth ddarllen ambell englyn cellweirus o'i eiddo yn pleidio y cwrw a gwrthwynebu Gwaharddiaeth. Er fod asgwrn cefn lled stiff ganddo, ryfeddwn i fawr na welir Aneurin Jones yn dyfod allan mewn ysbryd dyngarol, gwladgarol, a Christionogol o blaid y Drydedd Blaid Waharddol cyn diwedd ei wasanaeth daearol. Amen. YN UTICA, WATERVILLE, BRIDGEWATER, A PLAINFIELD: CWRDD A HEN GYFEILLION. Båm yn nghwmni Mr. William C. Cudd (Bardd Cudd), o gwmpas Cymry Utica, er profi eu tymherau,

 

 


(delwedd E0084) (tudalen 088)

 88 AMERICA, a chawsom ein boddhau wrth werthu 65 0 " Lwybrau Bywyd " iddynt. Bendith ar eu penau, meddaf. Yn nesaf, ymwelais Chymry Waterville a'r cylchoedd ac er fy mod wedi ymweled hwy ar adeg anfanteisiol, derbyniwyd fi yn llawen, a gwerthais yno 15 0 lyfrau, er yr holl brysurdeb yn ngljn å chynhauaf yr hopys. Wedi treulio Sabbath yno i fwynhau gweinidogaeth y Parch. E. R. Lewis, o Scranton, Pa., a sirioldeb amryw o hen gydnabyddion, cyfeiriais am Bridgewater, lle y cwrddais ag amryw o hen gymwynaswyr y dyddiau gynt, megys yr hen bererin John E. Jones, a'i deulu siriol; Robert J. Williams, a'i briod, a'i frawd-ynnghyfraith, Thomas Watkins, yr hwn a fu yn garedig i mi yr amser gynt pan yn ceisio cadw lesu Grist o’r carchar. Drwg oedd genyf weled y dyddiau blin wedi caethiwo Mr. John E. Jones yn ei dj, fel nas gallai fyned o gwmpas megys cynt. Oddiyno, troais fy ngwyneb tua bryniau Plainfield. Y tro o’r. blaen, tua saith mlynedd a haner yn 01, yr oeddwn yn dringo trwy yr eira ar fy nhraed a' m dwylaw i fyny i'r allt serth ar amcan; ac yn ddamweiniol, aethum i amaethdy William Richards, lle y lladdwyd yr eneth anrhydeddus hono a ddewisai farw dros anrhydedd ei chymeriad yn hytrach na chyfeillachu ag un anheilwng o'i serchiadau. V tro hwn, wele fi yn dringo yr un llwybr ganol haf; ond erbyn cyrhaedd yr amaethdy dan sylw, yr oedd pethau wedi newid yn fawr yn ol cylchdroadau amser—yr ysgubor lle y cyflawnwyd y gyflafan wedi ei difodi, a'r glaswellt gwyrddlas yn palmantu y llanerch; y tad wedi myned o doriad calon i orphwys i ymyl yr hon a dorwyd ymaith yn anamserol i ddinas y meirw; a'r gweddill o’r teulu wedi myned o’r hen gartref dedwydd gynt er ceisio anghofio yr ystormydd a chwalodd y teulu Clyd! Wrth adgofio yr amgylchiadau, ac wrth edrych ar y llanerch, eisteddais i sibrwd rhywbeth fel y canlyn

 

 


(delwedd E0085) (tudalen 089)

 A GWELEDIGAETHAU BYWYD. Wele'r fangre yr aberthwyd Ynddo eneth fwynlon gu! Marw wnaeth yn yr ymdrechfa, Gwyn y w ei chymeriad hi • Hi wrthsafodd yr anghenfil Dieflig, llawn o drachwant du • Er ei lladd, mae hi yn ddysglaer Gyda yr angylaidd 111. Caner clod mewn g wir edmygedd Gan ei rhyw, i' w haberth drud; A'i llesiampl fyddo'n gaerfa Iddynt hwythau ar bob pryd; Uwch ei bedd gosoder colofn Hardd a phur o farmor gwyn, A boed iddi enw newydd Gan ei Hior ar Seion fryn. 89 Wrth gwrs, aethum i weled teulu y Parch. John S. Adams, y rhai gynt fuont mor dda i mi; ond pen y teulu, yr hwn a fu yn gydymaith ffyddlawn a difyr i mi y tro o’r blaen—ei le nid edwyn mohono mwy. Aeth dros y mör a thrwy Gymru i wlad a garai ar ei daith, tua th! ei dad a'r Ganaan nefol. Yr oedd Mrs. Adams yn siriol a chysurus yn nghanol ei phlant, ond ei bod yn teimlo yn hiraethus am Libbie, yr hon sydd yn rhy bell iddi fyned i'w gweled—rhwng Inynyddoedd Colorado. Ond yr oedd amgylchiadau yn galw arnaf fyned rhagwyf eto heibio yr hen frawd Rowland Jones, nes cyrhaedd cartref teulu hawddgar John Williams. Da oedd genyf fod Mrs. Williams yn well ei hiechyd nag a fu. Derbyniwyd fi yn llawen hefyd gan yr hen flaenor, Moses Davies, er ei fod yn brysur gyda'r cynhauaf. Wrth deithio ar hyd y bryniau iachus, sylwn fod y bobl bron oll yn mwynhau iechyd da; ond yr oedd R. C. Richards, unig fab y drallodus Mrs. W. C. Richards, yn wael ei iechyd; felly y mae Mrs. Richards yn cael ei rhan helaeth o ofidiau er's un 7

 

 


(delwedd E0086) (tudalen 090)

 AMERICA, mlynedd ar ddeg. Rhyfedd y nerth y mae hi a'i mab yn gael i ddal y cwbl yn dawel, gan ymddiried yn yr Arglwydd. Cefais y fraint o gyfeillachu ychydig å'r Parch. Robert G. Jones, yr hwn sydd yn gwasanaethu y Trefnyddion Calfinaidd yn Plainfield a'r cylchoedd. Y mae ef yn fachgen ieuanc duwiol a chymeradwy, gallwn feddwl, ond fod ei iechyd dipyn yn wan. Hefyd, cefais ymgydnabyddiaeth am y waith gyntaf å'r Parch. O. W. Roberts, yr hwn sydd wedi gwasanaethu eglwys yr Annibynwyr yn lied gymeradwy er's tua phum' mlynedd. Gadawodd yntau argraff ar fy meddwl ei fod yn ddyn duwiol, cyson, a da; a dywedid wrthyf ei fod yn bregethwr cymeradwy. Treuliais Sabbath ar y bryniau, a chefais glywed un o’r pregethau goreu a wrandewais erioed, gan y Parch. E. R. Lewis, Scranton, ar " Allu Duw i adgyfodi y saint o’r bedd i anfarwoldeb bywyd tragywyddol." Wrth adael Plainfield, gweddus i mi ddywedyd i mi ddechreu a diweddu fy ymweliad gyda Mr. a Mrs. Richard C. Richards, brawd i'r diweddar Wm. C. Richards, a chefais amser dedwydd yn eu cymdeithas. VN REMSEN, PROSPECT, STEUBEN, MARCY, SIR LEWIS ETC.—CVFNEWIDIADAU. Wele fi eto yn sir Oneida, N.Y. V tro cyntaf i mi fyned i Remsen oedd saith mlynedd yn 01, yn y cymeriad o gardotyn, a pharchwyd fi; a'r tro hwn, cefais dderbyniad siriol yno gan y Proff. E. C. Evans, M.A., a'i briod a'i rhieni, John Hughes. J. W. Roberts, Dr. Williams, Parch. Edward Davies, T. L. Morgan, ac ereill. Treuliais Sabbath dymunol yno yn gwrando ar Mr. Evans yn nghapel y Trefnyddion Calfinaidd, ac ar T. Henry Jones, o Landdeiniolen, yn nghapel yr Annibynwyr. Ni chefais gyfleusdra i glywed y Parch. John F. Humphreys (A.); y Parch. Henry Thomas

 

 


(delwedd E0087) (tudalen 091)

 A GWELEDIGAETHAU BYWYD. 91 na'r Parch. J. Seth Jones. Aeth J. W. Roberts a mi mewn cerbyd i weled Cymry ardaloedd Penycaerau. Enlli,; yna, és i Prospect, ac un o’r rhai cyntaf a welais yno oedd Mrs. Gwen Morris, gweddw y diweddar Barch. Evan Morris, Penycaerau, yr hon ddymunai arnaf ei chofio at y Parch. Richard F. Jones. Nid y lleiaf cymwynasgar o Cymry caredig yr ardal y cefais J. W. Jones a John T. Jones. Wedi m wynhau rhan o’r Cwrdd Dosbarth yn y Nant, cyfeiriais fy llwybrau i East Steuben ac Alder Creek. Yn yr ardal Olaf mae Bethel, lle y gweinidogaetha y Parch. E. Davies, golygydd y Cenadwr. Yn Collinsville, sir Lewis, dangosodd David Roberts, Poi-t Leyden, ei hun yn foneddwr mor hynaws ag y cawsom ef saith mlynedd yn 01; a chlywais yno y Parch. Albert Evans, o Rome, yn pregethu gyda deheurwydd. Yr oedd 61 addysg yn amlwg iawn arno, a diau y gwna bregethwr llwyddianus. Cefais fod Ellis Lewis wedi adeiladu palasdy newydd hardd ger Constableville; ac yr oedd y teulu yn siriol, fel arfer. Wedi galw heibio Cymry sir Lewis, ymwelais Holland Patent, gan gael Mr. Meredith a'i deulu yn eu perffeithrwydd arferol. Arweiniwyd fi o gwmpas y pentref hwnw a Trenton gan y pregethwr ieuanc Richard Hughes, yr hwn sydd yn hynod gymeradwy gan y ddwy eglwys Annibynol. Dylwn grybwyll, hefyd, i mi gael yr hybarch T. T. Evans yn ymddangos yn llea gryf, er wedi gadael ei wyth-deg oed. Y n Floyd, gwelais fod rhai o’r hen sefydlwyr wedi eu symud gan angeu neu amgylchiadatl er pan fuaswn yno saith mlynedd yn 01, megys y Parchn. John R. Griffith a D. M. Owens, Mri. Owen Griffith a W. A. Jones; ond yr oedd llawer yn aros ac yn gwisao sirioldeb, megys William Jones, y canwr, a'i deulu. Treuliais noson yn nh.9 ei fab, Owen, a'i briod, yr hon fu yn gweini arnaf yn nhj ei thad yn Wisconsin

 

 


(delwedd E0088) (tudalen 092)

 92 AMERICA, flynyddau yn 01. Cyfnewidiol ydyw bywyd, onide I' Yn •Ile y Parch. D. M. Jones gwasanaetha y Parch. Thomas E. Jones gyda'r Trefnyddion Calfinaidd, a'r Parch. Hugh R. Williams, gynt o Plainfield, a ofala am braidd y diweddar Mr. Grimth. Gwerthais gynifer o'm " Llwybrau Bywyd " yn Floyd ag mewn unrhyw ardal yn ol rhif y boblogaeth; a dyddorol i mi oedd edrych ar Mrs. Owen, chwaer y " canwr," yn ei ddarllen heb ei gwydrau, er yn 96 mlwydd oed. Gellir ei chyfrif hi yn un o ddarllenwyr hynaf y Drych. Ar fy ffordd i Marcy, cefais ymgom å Griffith Humphrey, Holland Patent, yr hwn a ddymunai gael ei gofio yn gynes at y Parch. R. F. Jones. Prynodd ef a dau o'i weision fy " Llwybrau." Treuliais noson yn nhj Mrs. Davies, merch yr hen weinidog parchus, y diweddar Barch. Daniel Davies, Aberporth, sir Aberteifi. Mae cartref Mrs. Davies wedi bod yn noddfa i ganoedd o weision Duw fyddent yn pregethu yn Marcy. Y n nghartref W. O. Roberts, fel lleoedd ereill, gwelwn fod angeu wedi bod yn gweithio er pan fuaswn yno o’r blaen. Båm yn aros noson gyda'r dyddan R. C. Roberts, Deerfield; ac ar fy ffordd i Utica, rhaid oedd galw gyda'r hen batriarch W. D. Williams, yr hwn a ymddangosai i mi braidd yn ieuengach nag wyth mlynedd yn 01. Bendith arno. ARDALOEDD CHWARELAU VERMONT A NEW YORK —VCHYDIG ORIAU YN SARATOGA. O Utica, aethum, gyda chyflymdra yr am yr ail dro i ardaloedd y chwareli. Erbyn cyrhaedd West Pawlet, Vt., prin yr adnabyddwn y lle ar ol wyth mlynedd o ddyeithrwch. Pentref bychan ydyw ar y terfyn rhwng New York a Vermont, yn cael ei boblogi yn benaf gan Gymry o ardaloedd y llechi yn Ngogledd Cymru. V cyntaf ohonynt ddaeth i'r lle i agor chwarel, tua 17 mlynedd yn 01, oedd Owen Evans,

 

 


(delwedd E0089) (tudalen 093)

 A GWELEDIGAETHAU BVWYD. 93 blaenor ffyddlon gyda'r Trefnyddion Calfinaidd, yr hwn sydd wedi gwerthu ei chwarelatl, ac yn bresenol yn amaethu rhyw dair milldir yn uniarwydd y bryniau cyfagos. Rhifa Cymry West Pawlet tua 300; ond nis gwelais ond dau fasnachwr Cymreig yn y pentref. Mae yno ddau gapel Cymreig—eglwys y Trefnyddion Calfinaidd, dan fugeiliaeth y Parch. Edward Roberts, a'r eglwys Annibynol, dan ofal y Parch. T. M. Owens. Yn mhlith y beirdd a'r llenorion, gellir enwi J. Cynfrig Jones, goruchwyliwr caredig y Drych; Melynfardd, Dewi Glan Dulas, y Bardd Du, a Threbor; a theilwng o grybwylliad yw enw Gwilym Wyllt, fel cerddor o gryn enwogrwydd. Erbyn cyrhaedd Granville, gwelais fod y lle wedi cynyddu yn ddirfawr er pan fuaswn yno o’r blaen. Yr oedd amryw o’r Cymry yno yn siriol iawn, megys Joseph Williams a'i deulu, yr enwog Glanmarchlyn, Hugh W. Hughes, Vsw., &c. Adnabyddir y diweddaf fel brenin y chwarelau, a siaredir yn barchus iawn am dano, ond yn bryderus am fod ei iechyd yn dadfeilio. Teimlai yntau ei hun yn colli y dydd dan bwys afiechyd ysgyfeiniol; ond hyderir fod llawer o flynyddoedd eto yn ei aros. Da genyf glywed, ar ol gadael yno, ei fod yn llawer gwell. Mae y ddwy eglwys Gymraeg yn Granville yn debyg i'r eglwys hono a ddywedai, " Cyfoethog wyf," &c. Trueni oedd gweled llawer o blant y breintiau mawr, yn grefyddwyr, beirdd, llenorion, &c., yn gaethion gwirfoddol ac yn rhwym wrth gadwyni eu blys, o gwmpas temlau yr High License. O, chwi, Gristionogion yr High and Low License, pa fodd y medrwch chwi wynebu y lladdedigion hyn yn nydd mawr y cyfrif, yn mhresenoldeb y Barnwr cyfiawn? Os yw yr Hen Lyfr Mawr yn dyweyd y gwir, fod pob gweithred i gael ei dwyn i farn, pa elw fydd gofyn gyda Cain y diwrnod hwnw, " Ai ceidwad fy mrawd ydwyf fi? " Ha! ddarllenwyr y Drych, pe y

 

 


(delwedd E0090) (tudalen 094)

 94 AMERICA, treuliech ddau neu dri diwrnod ar ol dydd y tål yn Granville, N.Y., i edrych ar wedd asymudiadau llawer o rai fagwyd yn anwyl ar fronau yr Efengyl, credaf y gallech gyd -wylo a mi wrth eu gweled, os oes tipyn o ddyngarwch a chenedlgarwch yn eich mynwesaur Gadawsom y lle mewn gobaith y bydd i'n cydgenedl yno esgyn mewn crefydd a phob rhinwedd. Treuliais Sabbath cysurus yn Middle Granville. Cawsom bregeth dda gan y Parch. Edward Roberts, y gweinidog, yn y boreu; Vsgol Sabbathol lewyrchus yn y prydnawn; a chyfarfod amrywiog yn yr hwyr. Vmddangosai yr addoldy a'r gwahanol foddion crefyddol yn weddus; ond gallwn feddwl fod y Cymry wedi lleihau mewn rhif yn nghorff yr wyth mlynedd diweddaf. Y n Poultney, derbyniwyd fi yn siriol gan S. T. Jones a'i briod; ac aethum rhag fy mlaen am South Poultney, lle y cwrddais llawer o Gymry siriol, ac y cefais y pleser o dreulio seiat gyda hwy yn eu capel newydd. Da oedd genyf ddeall a gweled fod y Parch. John W. Morris yn gymeradwy a llwyddianus yn eu plith fel pregethwr a bugail. Yr oedd ef a Mrs. Morris yn anfon eu cofion gyda mi at bobl Slatington; ond gan na byddaf yn debyg o gyrhaedd yno am ddau neu dri mis, gwnaf hyn drwy y Drych. Y mae Poultney yn un o’r trefi bychain prydferthaf; ac er boddhad i mi, cefais fod rhai Cymry yn mhlith y prif ddinasyddion fel meddianwyr chwarelau, &c., megys Griffths a Nathaniel, a Thomas Edwards, a Moses J. Jones, a'r brodyr Williams; a dyna W. H. Rowlands fel cyfreithiwr poblogaidd; R. J. Humphrey, y postfeistr, a pherchenog a golygydd The Poultney Journal, heblaw ereill allesid enwi. Oddiyno aethum trwy Farnamsville, lle y gwelwn bethau wedi newid yn fawr—Hugh G. Hughes wedi cael ei gymeryd ymaith i fyd yr ysbrydoedd, a'r palas

 

 


(delwedd E0091) (tudalen 095)

 A GWELEDIGAETHAU BYWYD. 95 lle y trigianai mewn mwynhad o helaethrwydd wedi ei losgi, a'i chwarelau yn nleddiant ereill! Wedi gweled gwynebau siriol amryw o’r Cymry, cyfeiriais tua Fair Haven, lle y derbyniwyd fi gan y Parch. Edward Thomas, yr hwn sydd yn gwasanaethu yn ffyddlavvn eglwysi y Trefnyddion Calfinaidd yn Fair Haven, Hyde Patch, a Hyderville. Wedi gweled y rhan fwyaf o Gymry yr ardal, aethum trwy y lleoedd cylchynol hyd Castleton, pentref gwledig prydferth rhwng Fair Haven a Rutland, lle y cymerais dipyn o orphwys adloniadol yn nghwmni y Cymro caredig, John J. Jones, yr hwn sydd wedi cael ei benodi i gynrychioli Cymanfa New York yn Nghymanfa Gyffredinol y Trefnyddion Calfinaidd yn Wilkesbarre y mis nesaf. Cwyno tipyn yr oedd bechgyn y chwarelau o gwmpas Fair Haven, ond gallwn feddwl fod Cymry y dref iach a phrydfefrth hon mor gysurus eu hamgylchiadau ag unrhyw ardal Gymreig yn y wlad, a chanddynt ddwy eglwys Gymreig. Vr un Annibynol sydd dan ofal y Parch. John \Villiams. Cefais dipyn o ymgom gweddw Ionoron Glan Dwyryd; ac yn hen gartref y bardd, cwrddais a Thenorydd y Bryniau. Wrth ddychwelyd o Vermont, rhaid oedd i minatl fyned trwy Saratoga; ond gan ei bod yn gostus i aros yno—y gwestai yn codi 0 3 dol. y dydd i fyny—ymfoddlonais ar gerdded rhai milldiroedd o’r heolydd, a phrofi o’r dyfroedd iachusol, gan ymadael dan yr argyhoeddiad fod cymaint o wir ddedwyddwch i' w gael y tu allan i Saratoga ag sydd o'i mewn, er yr holl wychder yno. Profai gwynebau y boneddigon a'r boneddigesau yno i mi mai rhai yn chwilio am rywbeth nad oedd ganddynt yr oedd llawer ohonynt; ac wrth weled mor wag ac anmherffaith yw ,iachawåwriaeth y byd hwn, aeth fy meddwl yn mlaen trwy ffydd i edrych ar ragoriaeth gogoniant y Jerusalem Nefol, yn y fangre lonydd lle y bydd prenau y bywyd yn tyfu

 

 


(delwedd E0092) (tudalen 096)

 96 AMERICA. o gwmpas ei heolydd, ac oddeutu ei hafon, lle y bydd dedwyddwch ei dinasyclclion yn gyflawn, am y byddant wedi eu cwbl iachåu. Mae rhai lleoedd eto yn nhalaeth New York a ddylwn nodi, megys Rome, lie y mae llawer o Gymry, a chapelau Cymreig gan yr Annibynwyr a'r Trefnyddion Calfinaidd; Madison County eto, lle y nlae sefydliad mawr o Cymry, ac eglwysi gan yr Annibynwyr a'r Trefnyddion Calfinaidd: eto, Cadarogus, sefydliad Cymreig lled fawr, yu agos i derfyn gorllewinol y dalaeth, heb fod yn m hell iawn o Buffalo, ac y mae yno eglwysi gan y tri enwad; ond, rywfodd, nid wyf wedi ei gwneyd yn gyfleus i ytnweled phobl dda y sefydliad hwn o gwbl. Dychwelwn unwaith eto i Utica cyn gadael y dalaeth, oblegid Utica yw canolbwynt Cymry y dalaeth hon, ac y mae wedi dyfcd yn bwysig genedlaethol, gan mai yno y cyhoeddir y Drych cenedlaethol, a'r Cyfai//—cyhoeddiad enwadol y Trefnyddion Calfinaidd yn America. Y no y mae archddiacon y Trefnyddion Calfinaidd yn byw, sef T. Solomon Griffiths, Ysw. Yn Utica hefyd y cyhoeddir y Wawr, cyhoeddiad enwadol y Bedyddwyr. Y mae capelau ac eglwysi gan y pedwar enwad Cymreig yno, ond y Trefnyddion Calfinaidd a'r Annibynwyr yw y cryfaf o lawer. Yn awr dychwelwn i Bennsylvania.

 

 


(delwedd E0093) (tudalen 097)

 PEN OD X 1 X. ARDALOEDD CHWARELAU PA., BALTIMORE, WASHINGTON, D.C., PHILADELPHIA, ETC. VCHWVNWN y tro hyn yn Mangor, Northampton Co., tref tua chan' milldir o ddinas New York. Y mae yno lawer o Gymry, o chwarelau sir Gaernarfon yn benaf. Y mae yma gapelau ac eglwysi gan y pedwar enwad Cymreig. Wind Gap sydd ardal y llechi, rhyw chwe' milldir i'r gorllewin o Fangor; y mae yma ugeiniau o Gymry, a'r tri phrif enwad Cymreig yn ceisio cynal eglwysi yno. Awn rhyw ugain milldir i gyfeiriad y gorllewin (heibio i Chapman's Quarry a Danielsville, lleoedd ag amryw Cymry), a byddwn yn Slatington, lle y mae -llawer o Gymry, a chapelau ac eglwysi gan y tri enwad yno eto. Y mae y lle hwn fel canolbwynt ardaloedd chwarelau Pennsylvania. Ar ol gweled rhai o Gymry Bethlehem, ymwelsom a Catasauqua, &c.; ond gan fod y gweithiau wedi bod yn sesrur, nid oedd llawer o lwyddiant i ni yno y waith hon. Yn Slatington, cawsom bethau yn debyg i arfer, a'r tair eglwys Gymraeg heb yr un gweinidog sefydlog i'w gwasanaethu. Steinsville sydd ardal wledig rhwng Slatington a Reading, lle y mae ychydig o Gymry yn gweithio mewn tair chwarel; yn eu plith, y mae William Roberts a'i deulu yn preswylio yno er's yn agos i 40 mlynedd. Yn Reading, cefais hamdden i ymwele.d Mr. Thomas Edwards a'i deulu, sef yr unig deulu lle mae y Drych yn cartrefu yn y ddinas, am a wn i; ac hefyd,

 

 


(delwedd E0094) (tudalen 098)

 98 AMERICA, croesawyd " Llwybrau Bywyd " i aros yno. W edi hyny, aeth y ceffyl tan a lli yn gyflym i gyfeiriad Columbia, trwy feusydd hyfryd, ffrwythlawn, a gwrteithiedig; yna dros y Susquehanna am York, ar fy ffordd i West Bangor, lle yr oedd John Humphrey yn yr orsaf yn dysgwyl am danaf, a Mrs. Humphrey yn barod i'm croesawu. Arweiniwyd fi i goed ger llaw, lle yr oedd y pwnc Gwaharddol yn cael ei feithrin trwy areithyddiaeth a cherddoriaeth. Da oedd genyf weled pobl yr ardal yn gweithio yn frwdfrydig o blaid y diwygiad dan sylw, ac nad oedd y Cymry ar ol yn yr ymdrech. Gwelwn yn bresenol y Parchn.J. E. Harris, John Cadwaladr, a phrif Cymry y lle. Mae Mr. Harris ar fyned am daith o ddau fis i Gymru er mwyn ei iechyd. Gallwn feddwl ei fod yn gwneyd yn dda fel bugail eglwys y Trefnyddion Calfinaidd; ac yr oeddwn yn deall fod Mr. Cadwaladr yn para yn gymeradwy gan eglwys yr Annibynwyr. Da oedd genyf weled brawdgarwch yn ffynu rhwng y ddau weinidog a'r eglwysi. Bu y Parch. Mr. Harris, a Mr. J. S. Davies, goruchwyliwr lleol y Drych, gyda mi yn ymweled a Chymry yr ardal. Y mae y chwarelau yno yn gweithio yn lled dda, a'r ceryg yn para i gael eu cymeryd yn y farchnad, am fod y pris yn isel. O West Bangor, aethum i Baltimore, am yr ail waith yn fy mywyd, a chefais wahoddiad o bell oddiwrth y Parch. John Wynne Jones i gymeryd fy noddi yn ei dj ef tra yn y ddinas. o’r amryw Cymry ag wyf wedi weled mewn gwahanol barthau o’r wlad, nid wyf wedi gweled neb wedi enwogi ei hun fel gweinidog yr Efengyl yn mhlith yr Americaniaid yn fwy na'r Parclr John Wynne Jones. Y mae yn Gymro etoao waelod ei galon, er ei fod yn llafurio, yn benaf, yn mhlith yr Americaniaid er pan yr aeth i'r weinidogaeth; a gall wneyd cymaint o waith a dau neu dri o ddynion. Cychwynodd fath o achos cenadol yn agos i Canton

 

 


(delwedd E0095) (tudalen 099)

x A GWELEDIGAETHAU BYWYD. 99 flynyddoedd yn 01; ac y mae wedi casglu ugeiniau o filoedd o ddoleri yn mhlith cyfoethogion Baltimore er adeiladu eglwys hardd, a thj gweinidog, a darllenfa rydd i dlodion yr ardal; hefyd cartref i'r hen a'r amddifaid, &c. Cyhoeddir ganddo bapyr misol o’r enw Christian Work among the Masses. Mae ME Jones yn gaplan i'r Presbyterian Eye, Ear, and Throat Charity .Hospita1 yn ninas Baltimore. Heblaw ei fod wedi adeiladu eglwys, yn rhifo yn agos i 200, mewn, ardal newydd, y mae yn pregethu unwaith y Sabbath yn Gymraeg i Cymry Canton; felly, rhwng pob peth,. gwelir fod Mr. Jones yn Gymro mawr, ac yn weithiwr mawr mewn corff mawr dros 200 0 bwysau. Y n nghanol ei holl ofalon, parodd calon fawr Mr. Jones iddo ddyfod ar wibdaith gyda mi i Washington, D.C., ac nid oes achos dyweyd iddo fyned a mi i weled prif ryfeddodau cartrefle Llywodraethol y Weriniaeth fawr Americanaidd. Gofod a ballai i mi fanylu ar ryfeddodau y ddinas ag y mae cymaint o son am dani; ond dywedaf yn gyntaf nad oedd golygfeydd allanol y ddinas i fyny å'm syniad am ei gogoniant ymddangosiadol mewn adeiladau, wrth ystyried ei bod yn brifddinas y Weriniaeth. Dyna adeilad y Capitol, nid yw o fawr gredyd i'r genedl; ond chwareu teg, y mae teimlo llaw y celfyddydwyr, fel ag y gellir dysgwyl iddo ddyfod yn fwy teilwng o’r genedl. A dyna y " TY Gwyn," nid yw i fyny i'w enw ac urddas prif swydd y Llywodraeth. Ond y mae yno rai pethau ac adeiladau sydd yn adlewyrchu anrhydedd ar y genedl, megys cofadail Washington, er nad yw ei dwrgyloedd yntau yn orphenedig. Y mae ef yn fawreddog oddiallan ac oddifewn. Codwyd rhyw ddeg ohonon gyda'n gilydd mewn cerbyd esgynedig trwy ei ganol. am 500 0 droedfeddi; ac wrth esgyn a disgyn yn araf,. gwelem y cerfwaith caboledig, mewn llythyrenau a cherfwaith arwyddluniol, yn cynrychioli canoedd o

 

 


(delwedd E0096) (tudalen 100)

 100 AMERICA, dalaethau a gwledydd, a chymdeithasau amrywiog; ac yn eu plith gwelwn " Gareg Cymru," ac yn argraffedig arni mewn llythyrenau mawrion o aur, os gwelais yu iawn yn y llewyrch trydanol: "Fy iaith, fy ngwlad, fy nghenedl—Wa1es—Cymru am byth." Felly, ni bydd i'r iaith Gymraeg fyned o anrhydedd tra y saif y gofgolofn fawreddog hon. Credir fod Colofn Washington yn ddigon cadarn i allu sefyll am filoedd o flynyddau yn y dyfodol pell! Eto, cyn dystewi am ddinas ein Llywodraeth, nodaf y ffaith i mi gael y fraint o siglo llaw ag un o brif swyddogion ein Llywodraeth, yn ei frys cyn myned ohono i Gyfrin-gynghor yr Arlywydd a'i swyddogion, sef John Wanamaker. Mewn atebiad i'm sylw wrtho fy mod yn falch o’r fraint o gael ysgwyd llaw ag un o brif swyddogion y genedl ar fy ymweliad å'r brifddinas, dywedodd; " O! I am only a small letter carrier." Yn sicr, mae Wanamaker yn deall beth yw gwir fawredd, sef gwasanaethu, ac nid arglwyddiaethu. Yn awr, dychwelwn i Philadelphia. V pellder o Washington i Baltimore yw tua 40 0 filldiroedd, a 96 yn ychwanegol i Philadelphia. Dinas fawr fordwyol a llaw-weithfaol yw hon, ac yn cynwys tua 1,046,964 0 boblogaeth, a rhai miloedd o’r cyfryw yn Gymry, a miloedd o Americaniaid y ddinas yn ddisgynyddion Cymreig, yn nghyda llawer o’r wlad o gwmpas wedi ei pherchenogi gan Gymry yn amser William Penn, &c. Nid yw y Cymry wedi bod yn llwyddianus i feithrin eglwysi Cymreig tyn y ddinas—i lawr y maent wedi myned bob tro y cynygiwyd cael eglwys; ac y mae y Trefnyddion Calfinaidd newydd gychwyn eglwys yno eto, ond y mae yn rhy gynar i wybod a oes llwyddiant i fod y tro hwn ai peidio. Yn awr, cefnwn ar " Ddinas y Cariad Brawdol," a gwynebwn ar y parthau glofaol, gan fyned i gyfeiriad y gogledd am tua 60 milldir. Safwn yn gyntaf yn

 

 


(delwedd E0097) (tudalen 101)

A GWELEDIGAETHAU BYWYD. 101

 

Lansford a Summit Hill, ar gwr deheuol Glo Careg Pennsylvania. Y mae canoedd o Gymry yn y cylchoedd hyn, a chapelau gan yr Annibynwyr a'r Bedyddwyr yn y lle blaenaf. Coal Dale, dwy filldir yn mhellach i'r gogledd. Y mae yma eto lawer o Gymry, a chapel gan yr Annibynwyr.

 

Awn rhagom trwy Tamaqua, a chadwn i'r gorIlewin am ryw ugain milldir, nes cyrhaedd Pottsville —  canolbwynt Schuylkill Co. Y mae y Cymry wedi bod yn lluosog yma, ond y maent yn lleihau yn gyflym, fel ag y mae y capelau Cymreig wedi eu cau. Rhyw bedair milldir yn mhellach i'r gorllewin y mae Minersville lofaol. Y mae llawer o Gymry yma eto, ond nid cymaint ag oedd flynyddau yn ol. Y mae eglwysi yr Annibynwyr a'r Bedyddwyr yn fyw, ond eglwys y Trefnyddion Calfinaidd wedi marw. Awn yn nesaf i'r cyfeiriad gogledd-ddwyreiniol am ryw bum' milldir, a byddwn yn St. Clair. Rhyw ddeng milldir i'r gogledd y mae Mahonoy City, lle y mae canoedd o Gymry, ac eglwysi gan yr Annibynwyr a'r Bedyddwyr. Y mae llawer o Cymry, hefyd, yn y lleoedd bychain cyfagos, megys St. Nicholas, Gilberton, a Mahanoy Plain. Yn nesaf, ymwelwn â Shenandoah City. Y mae yma ganoedd o Cymry, a chapelau gan y tri enwad enwedig eto; ond achos y Bedyddwyr yw y cryfaf yma. Awn i gyfeiriad y gorllewin eto, ac yn mhen rhyw bum' milldir byddwn yn Gerardville; tair milldir yn mhellach, byddwn yn Ashland, lle y mae llawer o Gymry, a chapelau gan yr Annibynwyr a'r Bedyddwyr. Amryw filldiroedd yn mhellach, y mae Mount Carmel — ugeiniau o Gymry yma eto, a chapel gan yr Annibynwyr Cymreig. Rhyw naw milldir yn mhellach, a byddwn yn Shamokin; y mae yma ganoedd o Gymry, ac eglwysi gan yr Annibynwyr a'r Bedyddwyr. Yn awr, trown ein gwynebau i'r dwyrain eto, ac awn rai degau o filldiroedd, a deuwn i Hazleton; y mae

 

 


(delwedd E0098) (tudalen 102)

102 AMERICA.

 

canoedd o Gymry o gwmpas y dref hon. Y mae eglwysi Cymreig gan yr Annibynwyr a'r Bedyddwyr yn Audenried, rhyw dair milldir oddiyno; ac eglwys gan yr Annibynwyr yn Jeansville, dwy filldir yn mhellach; a thair milldir yn mhellach eto, yn Beaver Meadow, y mae eglwys gan yr Annibynwyr. Awn rai milldiroedd i'r gogledd eto, trwy Drifton, lle y mae rhai Cymry; milldir neu ddwy yn mhellach y mae Freeland, lle y mae ugeiniau o Gymry; dwy filldir yn mhellach eto, a byddwn yn Upper Lehigh, lle y meddienir y gweithfeydd glo gan Cymry o'r enw Powell.

....

...

Sumbolau:

a A / æ Æ / e E / ɛ Ɛ / i I / o O / u U / w W / y Y /
ā
Ā / ǣ Ǣ / ē Ē / ɛ̄ Ɛ̄ / ī Ī / ō Ō / ū Ū / w̄ W̄ / ȳ Ȳ /
ă Ă / ĕ Ĕ / ĭ Ĭ / ŏ Ŏ / ŭ Ŭ /
ˡ ɑ ɑˑ aˑ a: / æ æ: / e eˑe: / ɛ ɛ: / ɪ iˑ i: / ɔ oˑ o: / ʊ uˑ u: / ə /
ʌ /
ẅ Ẅ / ẃ Ẃ / ẁ Ẁ / ŵ Ŵ /
ŷ Ŷ / ỳ Ỳ / ý Ý /
ɥ
ˡ ð ɬ ŋ ʃ ʧ θ ʒ ʤ / aɪ ɔɪ əɪ uɪ ɪʊ aʊ ɛʊ əʊ / £

ә ʌ ẃ ă ĕ ĭ ŏ ŭ ẅ ẁ Ẁ ŵ ŷ ỳ Ỳ

gw_gytseiniol_050908yn 0399j_i_gytseiniol_050908aaith δ δ
wikipedia, scriptsource. org


Y TUDALEN HWN /THIS PAGE / AQUESTA PÀGINA:
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_231_america-gweledigaethau_davies_1894-1897_1_2068k.htm

Ffynhonnell / Font / Source:
Creuwyd / Creada / Created: 19-09-2018

Adolygiadau diweddaraf / Darreres actualitzacions / Latest updates: 22-09-2018, 21-09-2018, 19-09-2018

Delweddau / Imatges / Images:

 

 

Freefind:

Archwiliwch y wefan hon
SEARCH THIS WEBSITE
...
Adeiladwaith y wefan
SITE STRUCTURE
...
Beth sydd yn newydd?
WHAT’S NEW?


Ble'r wyf i? Yr ych chi'n ymwéld ag un o dudalennau'r Wefan CYMRU-CATALONIA
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web CYMRU-CATALONIA (= Gal·les-Catalunya)
Where am I? You are visiting a page from the CYMRU-CATALONIA (= Wales-Catalonia) Website
Weə-r äm ai? Yüu äa-r víziting ə peij fröm dhə CYMRU-CATALONIA (= Weilz-Katəlóuniə) Wébsait