kimkat0338k Priodi’r Plant. Beriah Gwynfe Evans. 1898. “Mrs Griffiths,” myntwn i fel na, “rown i’n dod hibo i gael sharad gair bach a chi am danyn nhw yn Ty’nywern.”

17-03-2021 27-11-2017


● kimkat0001 Yr Hafan
www.kimkat.org
● ● kimkat2001k Y Fynedfa Gymraeg www.kimkat.org/amryw/1_gwefan/gwefan_arweinlen_2001k.htm
● ● ● kimkat0960k Mynegai i’r testunau Cymraeg yn y wefan hon www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_mynegai_0960k.htm
● ● ● ● kimkat0331k
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_158_priodi-r-plant_1898_cyfeirddalen_0331k.htm
● ● ● ● ● kimkat0338k Y tudalen hwn


 

0003g_delw_baneri_cymru_catalonia_050111
 (delwedd 0003j)

 

 

 

 

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Gal
·les i Catalunya
The Wales-Catalonia Website

Cywaith Siôn Prys - Testunau Cymraeg ar y We
 
Priodi’r Plant

Beriah Gwynfe Evans
(Papur Pawb. 1898)


Y Llyfr Ymwelwyr / El Llibre de Visitants / The Guestbook:
http://pub5.bravenet.com/guestbook/391211408/



a-7000_kimkat1356k
Beth sy’n newydd yn y wefan hon?

 
---

6665_map_cymru_catalonia_llanffynhonwen_chirbury_070404

(delwedd 6665)

 

PENNOD I. - DAFYDD A FINNAU.

PENNOD II. - DAFYDD A MADLEN, Y FORWYN.

PENNOD III. - MRS GRIFFITHS, TANYBRYN.

PENNOD IV. - LESN FACH I DAFYDD.

PENNOD V. - POLLY, Y FERCH-YN-NGHYFRAITH.

PENNOD VI. - HUGHES, Y SHOP, Y MAB-YN-NGHYFRAITH.

PENNOD VII. - Y PARLWR GOREU A’R JACED NEWYDD.

PENNOD VIII. - YN TANYBRYN.

I fynd ymlaen i Ran 2 (Penodau X-XVI):: www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_158_priodi-r-plant_1898_rhan-2_0339k.htm

I fynd ymlaen i Ran 3 (Penodau XVII-XXIV):: www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_158_priodi-r-plant_1898_rhan-3_0340k.htm

 

 

 

 


None
(delwedd B0896a)

(Papur Pawb. 29 Ionawr 1898). Pennod I.

PRIODI’R PLANT:
sef FFWDAN MAM-YN-NGHYFRAITH

PENNOD I. - DAFYDD A FINNAU.

 

Rw’ i’n credu nad oes un dosparth o bobol yn fyw ar y ddaear wedi cael mwy o gam oddiar ddwylaw pawb na dosparth y Fam-yn-Nghyfraith. O leia, dyna nghred a mhrofiad i, a fe ddyl’swn i wbod, wath rw’ i’n fam-yn-nghyfraith y’n hunan i ddwy o ferched ac i dri o fechgyn, ac yn dishgwl cael bod yn fam-yn-nghyfraith i ddou arall, cyn bo hir iawn. Ac fel y gwedes i, fe ddylswn i wbod, a phan fydda i wedi gweyd yr hanes i gyd wrthoch chi, chi fyddwch chithau’n gwbod gystal a finnau.

 

Wel, nawr, fel gallwch chi wbod shwd mae pethau’n bod, gadewch i fi weyd wrtho chi i ddechreu mai fi yw gwraig Cwmllydan. Chi wyddoch am Gwmllydan, wrth gwrs, - un o’r ffermydd gore rhwng Llandeilo a Chaerfyrddin. Ac er taw fi sy’n ei weyd e, chewch chi ddim pertach gwartheg, na gwell lloced o loi, na glanach llaethdy, na mwy o fleth yn ol yr herwydd, na gwell borded o dwrcis a gwyddau ar y farchnad Yndolig, nag a gewch chi yn Nghwmllydan - a waeth gen i pwy fydd yn ei wbod e. A allwch chi ddim cyrhaedd y marc yna heb gael tipyn bach o brofiad.

 

Rw i’n fam i bump o’r merched smarta’, glana’ welws y’ch llyged chi erioed - a mae pawb yn gweyd eu bod nhw i gyd yn tynu ar ol eu mam.

 

“Mae’r merched yna ‘run spit a chi, Mrs Williams,” mynte Neli, Wil y saer, wrtho i bore heddy diwetha, pan ow’n i’n rhoi tipyn o flawd ceirch iddi gyda’r tamed tshain mochyn, “mae’r merched run spit a chi, Mrs Williams,” mynte hi fel na, “a mae’r bechgyn cas nhw wedi bod yn lwcus, dyna w i’n glywed pawb yn weyd.”

 

A fe ddylse Neli, Wil y saer, wbod, waeth mae hi’n clywed cymaint o glecs a neb yn y plwyf am wn i.

 

Mae tair o’n merched i wedi priodi. Dyna Jane yn Llety’r Ywen, wedi priodi John, mab y Tyddyn, a ffarm fach nobl gyda nhw - wrth y mod i’n edrych tipyn ar eu hol nhw nawr ag yn y man.

 

Mae Lora’n briod a shopwr yn Abertawe. Fe fyse’n dda gen i taw ni’n nes ati fel gallswn i fyn’d i’w gwel’d hi’n amlach, waeth o ran dim w i’n wel’d fe fyse’n dda iddi hi, ac yn enwedig i’w gwr, Mr Hughes, pe bawn i’n fwy cyfleus i roi gair o gynghor iddyn nhw weithiau.

 

Dyna Kate, wed’yn, yn briod a doctor ar bwys Caerfyrddin. Fe geso i lawer o drafferth gyda Kate, fel cewch chi wbod yto.

 

Mae Tomos, y mab hena, yn Tanywern, yn briod a Siwsan, Tanybryn - merch fach brion yn i ffordd, tae hi’n cael llonydd gan i mam, Mrs Griffis, Tanybryn, ond, wrth gwrs, ddim ffit i ddala canwll at un o’n merched i, fel y gwyr pawb sy’n ‘u nhabod nhw.

 

Mae Edward, yr ail fab, wedi agor siop yn Llanelli, a phe bai gydag e wraig fyse’n gwbod y ffordd i wneud y goreu o bobpeth fe’i gnese hi’n brion. Ond - ond fe gewch wbod yto.

 

 

 


None
(delwedd B0896b)

(Papur Pawb. 29 Ionawr 1898). Pennod 1.

Ac mae’n aros gatre yto Sally a Florrie, ond fe fyse nhw wedi myn’d onibai fod genty nhw fam, sy’n cadw llygad ar eu hol nhw. Wel, chi welwch fel ny fod gen i hawl i weyd rhywbeth am drafferthion mam-yn-nghyfreth. Ond chi synech mor lleied o gydymdeimlad w i’n gael gan Dafydd yma - y gwr, chi wyddoch.

 

Rown i’n son am y pethau hyn wrtho fe neithiwr, a beth y chi’n feddwl wnaeth e? Wherthin am y mhen i. A dyma fi’n gweyd wrtho fe: -

 

“Ie, ie, chi ellwch chi wherthin,” myntwn i, “ond credwch chi fi ne bido, nid chware plant yw ‘u codi nhw, a llai na hyny o whare plant yw ‘u priodi nhw, a llai na hyny wed’yn yw edrych ar ‘u hole nhw ar ol priodi!”

 

“Beth wedsoch chi, Dafydd? Mae’r job fwya geso chi oedd cadw’n merched ni rhag priodi? Ie, ie, mae hyny’n eitha gwir mewn un ystyr. Ond mae gwahaniaeth rhwng priodi a phriodi, fel sy rhwng buwch a buwch. Digon rhwydd yw i chi gael ryw short o fuwch ar ben ffair; peth arall yw cael buwch dda, flethog, yn shiwr o fwrw llo yn ei hamser, a phobpeth yn nobl amboutu hi. Ie, ie, dyna’r job, Dafi bach, cael buwch i siwto welwch chi. A dyna lle bu’r job i ninnau gyda’r merched yma, cael bechgyn i siwto nhw.

 

“Beth wedsoch chi, Dafydd? Gallsem ni adael i’r merched siwto’u hunain yn nobl! Gallem, mynte! A b’le bysen nhw nawr, wish, a shwd byse hi arnyn nhw!

 

“Fe fynsoch chi, Dafydd, gael eich ffordd gyda Tomos, a dishgwlwch shwd mae hi arno fe! Dyna chi fargen gas e, ontefe nawr! Dyna chi ferch-yn-nghyfreth fach neis sy gyda chi, ond taw e? A dyna chi fam-yn-nghyfreth sy gyda Tomos, ontefe nawr!”

 

“Beth wedsoch chi, Dafydd? Lodes fach nobl yw Siwsan, gwraig Tomos? Ie, mynta, yn y’ch golwg chi. Lot wyddoch chi am y peth! Tae chi wedi bod yno gyment a fi, ac yn gwbod gyment ag a wn i, fe fyse gyda chi stori arall fentra i! Ac am i mam hi! Y mowredd anwyl! Dyn helpo Tomos druan! Diolch i’r Mowredd fod gan bob un sydd wedi priodi merch i fi fam-yn-nghyfreth sy’n gofalu tipyn mwy am gysur ei merch a’i mab-yn-nghyfreth nag yw mam-yn-nghyfreth Tomos druan yn ofalu am ei gysur e a Siwsan.”

 

“Beth wedsoch chi, Dafydd? Fod Mrs Griffis yno’n ddigon mynych? Odi mynta; rhy fynych lawer yn ol y meddwl i. Tae hi’n gofalu tipyn mwy am ei fferm ‘i hunan gartre yn Tanybryn, a busnesau tipyn llai yn Ty’nywern gyda Tomos a Siwsan, fe fyse’n well i bawb, debygwn i. Ond dyna! allwch chi ddim tyfu cyrn ar dda moelon, na dodi synwyr yn mhenau rhai pobol. Pwy fusnes sy gyda hi, wish, yn Ty’nywern o gwbwl?”

 

“Beth wedsoch chi, Dafydd? Ei merch hi yw Siwsan? Ie, wrth gwrs. Fe wn i hyny gystal a chithe. Fe fyse’n dda gen i tae chi Dafi’n gallu rhoi rhyw newydd i ddyn weithiau. Ie, wrth gwrs, merch Mrs Griffis yw Siwsan. Ond beth am hyny? ‘Y machgen inau yw Tomos, a mae gen i hawl i edrych ar ol y machgen y’n hunan, gwlei! Ond wfft i Mrs Griffis fod yn rhaid iddi hi fusnesa o hyd ac o hyd tua Ty’nywern.”

 

“Beth wedsoch chi, Dafydd? Fod yn dda

 

 

 


None
(delwedd B0896c)

(Papur Pawb. 29 Ionawr 1898). Pennod 1.

bod hi’n busnesa weithiau? Oh, ie, dyna chi Dafydd i’r dim! Pawb yn well na’ch gwraig chi’ch hunan! A beth wnaeth Mrs Griffis wish? Rhoi buwch i Siwsan yn lle’r un drigws ar y clofers yr wthnos ddiwetha! Hawdd gallse hi, wir! Digon bach o waddol rows hi gyda Siwsan, druan a hi! Fe allse rhoi hanner dwsen o wartheg cyn byse hi’n gneud fyny am y diffyg yn ‘stafell Siwsan, poor thing. Mae trueni ar y nghalon i am Siwsan lawer pryd, a dyna un pam w i’n myn’d yno mor amal. Ond pwy fusnes sy gyda Mrs Griffis yno dw i ddim yn gwbod.”

 

“Beth wedsoch chi, Dafydd? B’le bues i’r prydnawn yma? Wel, os oes rhaid i chi gael gwbod, fe fues yn Llety’r Ywen yn gwel’d Jane. Fe allse dyn feddwl wrth y’ch clywed chi’n gweyd, nag os dim lle i fi fyn’d i wel’d ‘y merch y’n hunan! Mowredd anwyl! Pwy y chi’n feddwl else i gwel’d hi ond ei mam? A lwcus i fi fyn’d hefyd, credwch chi fi! ‘Roedd gwraig y Tyddyn, wedi bod yno bore heddy a wedi perswado John i fyn’d a’r gaseg froc i’r ffair Clyngaua i’w gwerthu. ‘Amswynwch, John bach!’ myntwn i, ‘Fe fyddwch yn gwneud peth ffol ymbeidus os gwnewch chi hyny.’ A fe wedes wrthi nhw pam. A ‘doedd gan John, druan, ddim byd gwell i weyd na bod i fam yn meddwl mai dyna fyse oreu iddo. ‘Wfft iti!’ myntwn i, ‘ti a dy fam! Os rhaid iti gael dy glymu wrth ffedog dy fam o hyd?’ A gwedwch chi pwy fusnes oedd gan wraig y Tyddyn i fyn’d i Lety’r Ywen o gwbwl!”

 

“Beth wedsoch chi, Dafydd? Mam-yn-nghyfreth Jane yw gwraig y Tyddyn? Dyna chi yto! Pam na wedwch chi rywbeth weithiau nag w i’n wbod? Ie, wrth gwrs, mam-yn-nghyfraith Jane yw gwraig y Tyddyn. Ond beth am hyny? Ond taw mam Jane w innau? A mae mam yn nes na mam-yn-nghyfraith, gwlei! Ond un rhyfedd i chi, Dafydd! Weles i neb mor dwp a chi erioed! Does dim posib ffysto peth i’ch pen chi! Fel pe bai gan wraig y Tyddyn, am fod John yn fab iddi, well hawl i weyd wrthyn nhw yn Llety’r Ywen beth sydd oreu iddyn nhw wneud na sy gen i, a’n merch y’n hunan yn wraig Llety’r Ywen! Mae gan Jane achos diolch fod genty hi fam sy’n meddwl tipyn mwy am ei chysur hi nag yw ei thad!”

 

Ond dyna chi’n gwmws shwd un yw Dafydd ni, welwch chi! Mae e fel ta fe’n credu y gnese’r plant yn nobl hebddw i, ac am wn i nag yw e mor ddwl a chredu weithe y gnelsen nhw’n well taw’ ni ddim yn myn’d yn agos iddyn nhw, - os clyws dyn shwd beth eriod! Mae’r Mowredd yn i wbod e, dyw e ddim proffit yn y byd i fi i fyn’d i hala’r amser ar eu hol nhw - ond beth arall alla i neud? Dim ond un fam sy gan y mhlant i, a fydd hono ddim gyda nhw’n hir os na chaiff hi dipyn bach fwy o gydymdeimlad gatre nag rw i’n gael nawr gan Dafydd, gan ta pun!

 

Ond fel y gwedes i, mae’r tipyn ple yna yr un nosweth yna yn dangos i chi mor lleied mae Dafydd yn gydymdeimlo a’n ffwdan gyda’r plant. A phan bydda i wedi diben i’r stori i gyd, fe gewch wel’d dylswn i gael rhywbeth gydag e heblaw gneud spri am y mhen i am mod i’n trio edrych ar eu hol nhw tra bydda i’r ochor yma.

 

(I’w barhau.)

 

 


None
(delwedd B0897a)

(Papur Pawb. 05 Chwefror 1898). Pennod 2

PRIODI’R PLANT:
sef FFWDAN MAM-YN-NGHYFRAITH

(Hawlysgrif yr Awdwr.)

PENNOD II. - DAFYDD A MADLEN, Y FORWYN.

 

Ry chi’n gallu deall rhywbeth fath ddyn yw Dafydd ni orwth y sharad wedes i yn y bennod ddiwetha o’dd wedi bod rhyngto ni’n dou’r nosweth hyny. Fel gallech chi wel’d, mae Dafydd yn un od iawn. Fe fyse’n fach gydag e, os gwelwch yn dda, i meio i, fel gwelsoch chi, am mod i’n myn’d i Lety’r  Ywen, at Jane ‘y merch, i roi gair o gynghor withe i John; ac yn ‘y meio i wed’yn am ‘y mod i yn gweyd wrth Tomos, ‘y mab, sy’n byw yn Ty’nywern, am bido grondo gomrodd ar Mrs Griffis, Tanybryn. Mae Mrs Griffis, welwch chi, am fod Siwsan, ei merch hi, wedi cael priodi Tomos ni, yn credu fod gyda hi hawl i fyn’d i sweian faint fyn hi tua Ty’nywern. Ond gan  bwyll, merch i, myntwn i wrthw i’n hunan, dim o dy sweian di tra bydd mam Tomos byw, ta beth.

 

Rwy’n credu, o brysur calon, onibai fi, y byse Mrs Griffis yn rheoli yn Ty’nywern fel mae hi gatre yn Tanybryn. Mor ddigwyddil mae rhai pobol!

 

Mae Tomos ni, fel ‘i dad yn union, heb fawr asgwrn cefn i sefyll dros ‘i reits. A serch bod Dafydd yn ddyn nobl iawn, mae e’n ofnadwy o anghyson a fe’i hunan ambell waith.

 

Ond mae rhyw fan gwan yndo ni i gyd, welwch chi, a mae’r goreu yn ei cholli hi withe. A gwendid Dafydd ni - heblaw tipyn o ddiffyg plwc ac asgwrn cefen weithe pan fydd ishe - yw diffyg cysondeb.

 

Nawr, rho i ddim diolch am neb os na fydd e’n gyson a fe’i hunan. Ro’wn i’n arfer gweyd hyny wrth y plant pan oe nhw gatre stil. “Cofiwch, mhlant i,” wedswn i wrthyn nhw, “byddwch yn gyson a chi’ch hunen ta beth fo. Peidiwch gweyd un peth heddy, a gneud peth arall foru. Cofiwch am yr hen ‘ffeiriad hyny oedd yn pregethu dirwest dydd Sul, ac yn meddwi’n garn ddydd Llun. Doedd dim llawer o fendith ar bregeth hwnw. A phan aeth rhywun i weyd wrtho, fe dylse fe neud ei hunan beth oedd e’n bregethu i bobol erill, dyna wedws e, ‘O!’ mynte fe, ‘gnewch chi fel bydda i’n gweud, a chi fyddwch yn reit eich gwala.’ Ond ry chi’n gwel’d, roedd e’n anghyson a fe’i hunan, a felny dodd e’n cael dim effaith ar y bobol. Pidwch chi bod fel rhen ‘ffeirad hyny, da mhlant i.”

 

Wel, os gwedes i hyny shwrne, fe’i gwedes e gant o withe rwy’n siwr wrth y plant gatre yn nghlyw Dafydd. Ac a gweyd y gwir wrtho chi, ro’wn i withe’n siarad a’r llidiart er mwyn i’r post gael clywed; gweyd wrth y plant, welwch chi, fel gall’se Dafydd ni ddeall: ond wedi’r cwbwl nath e ddim llawer o les i Dafydd.

 

Nawr, mae’n gas gan ‘y nghalon i glywed neb yn canmol ei hunan. Rw i wedi sylwi - a dyna brawf i chi fod gen i lygid yn ‘y mhen, a fe fyse’n dda gen i tae Dafydd ni yn sylwi cymaint ag w i - rw i wedi sylwi mai nid y iar sy’n clochdar ucha’ sy’n dodwy fwyaf cyson. I fi gael dangos i chi nawr. Mae yna hen slaben o iar fawr goesog ar y ei clos yna, chi clywch hi ambell fore yn cloch-

 

 

 

 


None
(delwedd B0897b)

(Papur Pawb. 05 Chwefror 1898). Pennod 2.

dar dros yr holl le.

 

“Gy-gy-gy-gy-gy-gy-co!

 Gy-gy-gy-gy-gy-gy-co!

 Gy-gy-gy-gy-gy-gy-co!”

 

A dyna lle bydd hi, a’i gy-gy-co yn ddigon i’ch byddaru chi, a gneud i chi feddwl jest iawn mai hi sy’n dodwy pob wy yn y ‘sgubor, a’r dowlod a walplat y ‘stabal, a chwbwl! Ond tae chi’n myn’d i edrych yn ei nyth hi, chi gesech hen damed bach o wy dim mwy na marblen, a ddodwiff hi ddim dou ddwsen o weithe yn y flwyddyn! Ond mae yna hen damed fach o iar fach ddu, gyda chlustiau gwynion, dyw hi fawr mwy na’ch dwrn chi i gyd, ac nag yw hi ddim yn clochdar ond rhyw unwaith neu ddwy fach ar ol dodwy, sy’n dodwy jest round i’r flwyddyn, ac mae gyda hi wyau mawr jest digon o bryd i ddyn. Rw i wedi meddwl lawer gwaith am y ddwy iar, a rw i’n gweyd wrth Dafydd weithe:

 

“Dafydd,” myntwn i.

 

“Nan?” mynte fe.

 

“Wyddoch chi, Dafydd, rw i’n meddwl lawer gwaith mod i fel y iar fach ddu yna. Dyw hi’n clochdar dim llawer, ond does dim gwell giar fach na hi ar y clos i gyd; ond am yr hen bishyn lwyd yco sy’n clochdar digon i dynu’ch clustiau chi, dyw hi ddim gwerth ‘i chadw!”

 

A fe fydd Dafydd yn hwerthin, a’r plant yn hwerthin gydag e. Mae nhw’n deall yn nobl mod i’n gweyd y gwir.

 

“Diolch i’r mowredd, mistres,” mynte Madlen, y forwyn fwya, “diolch i’r mowredd mistres nag y chi ddim yn clochdar fel yr iar lwyd, ond gneud eich gwaith yn ddishtaw fel y iar fach ddu.”

 

Mae hyd yn nod y gwasanaethynon, welwch chi, yn deall a gwerthfawrogi mishtres dda. Ro’wn i’n synu, hefyd, i glywed Madlen yn gweyd fel na’r bore hyny, wath cyn brecwast ro’wn i wedi bod ar ei hol hi, ac yn ‘i rowso hi’n biwr am rywbeth oedd hi wedi adel heb i wneyd tua’r llaethdy. Ond rw i’n gweyd stil, os bydd mishtres yn fishtres, ac uwch law pobpeth os bydd y fishtres bob amser yn gyson, mae hi’n shiwr o gael parch gan y gwas’naethynon.

 

Ond dyna ddiffyg Dafydd ni, wed’yn, yw diffyg cysondeb. Fe gochws hyd ei ddou clust pan glyws e Madlen yn gweyd felna, a’r peth cynta naeth e ar ol brecwast oedd myn’d ar ol Madlen i’r llaethdy, a gweyd wrthi - fe’i clywes e a’n nghluste y’n hunan.

 

“Madlen,” mynte fe “os clywa i chi byth ond hyny yn paso remarks ar eich mishtres fel gnetho chi ar frecwast bore heddy’, chi gewch fadel o Gwmllydan y diwarnod hyny.”

 

A maes ag e, fel bollt, a hibo i fi heb y ngwel’d i, waeth ro’wn i’n digwydd bod y tu ol i’r caws list.

 

Ac i fi gael bod yn blaen a gonest a chi yn y mater, ro’wn i wedi gwel’d Dafydd yn gwneyd arwydd ar Madlen i fyn’d tua’r llaethdy pan godws e orwth y ford amser brecwast.

 

Nawr, dw i ddim yn un ddrwgdybus, ond fe wn hefyd y fath rhai ffalst yw merched. A mae Madlen yn lodes smart jolly ymbeidus, a digon o gaish am deni. A rywffordd neu giddyl, does dim ods nawr shwd y buodd hi, fe glywes i ryw sharad rhwng Guto’r gwas a Lisa’r ail forwyn, oedd yn awgrymu fod gan Dafydd, os gwelwch yn dda, olwg ar Madlen. Wrth gwrs, fe wyddwn i’n nobl na allse fod dim byd yn hyny; rwy’n nabod Dafydd yn rhy dda o lawer, er na fyse gen

 

 

 



None
(delwedd B0897c)

(Papur Pawb. 05 Chwefror 1898). Pennod 2.

 

i ddim llawer o dryst i Madlen nac i un ferch arall o forwn o ran hyny, tae hi’n meddwl y gallse hi gael ei ffordd gyda’i mishtir. Ond fe gynhyrfes i drwyddwy pan glywes i Guto a Lisa’r ail forwn, a dyna pa’m etho i i rowso Madlen am y llaethdy, ac nid am fod rhyw lawer o niwed yn y gwaith oedd heb ei wneud yno. Ond ro’wn i am ddangos iddi pwy oedd ben, ac nag oedd dim llawer o iws iddi hi drio hware tricsis yn Nghwmllydan tra fyswn i byw, ta beth.

 

Ry chi’n deall nawr shwd ro’wn i’n synu amser brecwast i glywed Madlen yn talu compliment felny i fi. Ond naeth hyny ddim ond y’n nhueddu i i fod yn fwy drwgdybus pan ddales i Dafydd yn myn’d sha’r llaethdy, ac yn gwneyd moshwn ar Madlen i ddilyn e. A beth netho i, ond whiw a fi miwn i’r gegin fach, ac wrth gefen y caws list fan ‘ny i gael gwel’d a chlywed beth oedd yn myn’d yn mlaen. Dos dim ond trwch palish, welwch chi, rhwng y gegin fach a’r llaethdy, a fel mae’n digwydd mae yno dwll bach yn y palish fan ‘ny - fi gnath e o ran hyny fel gall’swn i wel’d yn ddishtaw bach beth oedd y merched yn wneud yn y llaethdy pan nag oe nhw’n meddwl ‘y mod i’n gwbod. Mae’n dda i fishtres i gadw llygad ar ol y merched. Fe weles i ferch yn tynu gwyneb padell, ac yn yfed ei hanner e un tro - ond fe ga i amser i weyd am hyny a phethe erill tebyg i hyny yto. Ond gweyd am Dafydd a Madlen yn y llaethdy yw ngwaith i ar hyn o bryd.

 

Ro’wn i a’n llygad wrth y twll yn y palish jest gyda bod Madlen wedi dilyn ei mishtir miwn i’r llaethdy. A dyna wedws e wrthi’r peth cynta, fel rw i wedi gweyd wrtho chi.

 

“Madlen,” mynte fe, “os clywa i chi byth ond hyny yn paso remarks ar eich mishtres fel gnetho chi ar freijwast gyne, chi gewch fadel o Gwmllydan y diwarnod hyny!”

 

A maes ag e fel bollt heb ‘y ngwel’d i wrth gefen y caws list.

 

Mae’n hi’n too bad o Dafydd, hefyd, ei fod e’n anfolon i’r gwasanaethynon ‘y nghanmol i lle clywse fe. Ond dyna shwd un yw Dafydd, welwch chi. Anghyson yn un peth, anghyson yn mhobpeth. Am dana i, rw i’n lico bod yn gyson, a dyna pa’m etho i i miwn at Madlen i’r llaethdy wedi iddi mishtir fyn’d maes. A dyna lle’r oedd hi, a chornel ei ffedog yn ei llygad, ac yn esgus tynu hufen llaeth.

 

Fe saces i swllt yn ei dwrn hi, a fe wedes wrthi: “Dyna rhywbeth i chi gael fferings yn Llandeilo, Madlen,” myntwn i. “Rw i’n lico dangos mod i’n deall pan fo gwas’naethynon yn parchu ei mishtres.” A maes a fi.

 

A fe all’swn gym’ryd y’n llw i fi glywed Madlen yn gweyd, “Poor ffelo o mishtir!” pan o’wn i’n ceuad drws y llaethdy ar y’n hol.

 

Rwy’n gweyd y pethe hyn er mwyn i chi gael gwel’d nag oes dim ofon arna i ddangos beth yw’n man gwan i. Os oes gwendid yndw i - ond diolch i’r mowredd, does dim llawer - dyna beth yw, calon rhy dyner. Dw i ddim yn un gas, dw i ddim yn un ddrwgdybus, does dim llawer o gleber yn perthyn i fi, ac uwchlaw pobpeth, dw i nemor byth yn canmol y’n hunan, a rw i’n treio bod yn gyson yn mhobpeth. Ond rw i’n galon dyner, a. dyna’r gwir. 

 

(I’w barhau.)

 

 

 

None

(delwedd B0898a)

(Papur Pawb. 12 Chwefror 1898). Pennod 3.

PRIODI’R PLANT:
sef FFWDAN MAM-YN-NGHYFRAITH

(Hawlysgrif yr Awdwr.)

 

PENNOD III. - MRS GRIFFITHS, TANYBRYN.

 

Sharad own i am gysondeb, ond taw e?  Ond fel aeth y stori yn nghylch Dafydd ni  a Modlen, y forwyn fwya, a’r peth o’m meddwl i. Rw’ i’n lico myn’d a stori i ben ar ol ei dechreu hi, welwch chi. Dw i ddim fel Dafydd ni, er engraipht. Fe ddechreuith Dafydd stori, a fe gadewith hi ar i hanner i fyn’d ar ol ryw stori arall welwch chi, a ddibenith e ddim o hono wed’yn, a wyddoch chi yn y byd mowr b’le byddwch chi yn y diwedd.

 

Rw i’n gweyd wrtho fe’n amal iawn.

 

“Dafydd,” myntwn i wrtho fe, “Dafydd pan bo chi’n mhoilyd dy chi ddim yn gade] y gwys ar i hanner, a throi penau’r ceffylau a blaen yr arad ar groes i’r rhychiau, a bant a chi dyn a wyr b’le. Nid dyna shwd mae mhoilyd, ond myn’d a’r gwys i ben y talar, wrth gwrs. A dyna shwd dylse chi neud gyda stori ar ol dechreu ei gweyd hi, a dyna shwd dylsech chi neud gyda phethau erill hefyd. Ar ol dechreu gyda rhywbeth, myn’d ag e i’r pen neu ddim. Fyddwch chi byth yn gyson heb hyny, a rho i ddim diolch am neb os na fydd e’n gyson.”

 

Dyna shwd bydda i’n gweyd wrth Dafydd ni’n amal iawn. Ond ‘chydig o eifaith rwy’n gael arno fe rwy’n ofni. Rw i wedi gweyd, I a gweyd, a gweyd, nes rw i wedi blino gweyd ond gwasgu ‘i glust mae Dafydd yn wneud drwy’r cwbwl, a’r un peth dronoth ag oedd e cyn hyny. Gwyr daioni mae e’n ddigon i dori calon un dyn i feddwl am drio diwygio tipyn bach arno Ond fel ro’wn i’n gweyd, cysondeb yw’r peth mawr, ac am gysondeb own i’n sharad pan ddath stori Dafydd a Madlen, y forwn, mown. Dw i ddim yn credu fod dim byd yn stori Guto, a Lisa’r ail forwn, yn nghylch fod gan Dafydd olwg ar Madlen, hyny yw, wrth gwrs, dim meddwl na ddylse fod gan fishtir da am lodes o forwn dda, w i’n feddwl.

 

Lodes smart ymbeidus yw Madlen hefyd, - dim ffit, mae’n eitha gwir, i ddala canwyll at un o ferched Cwmllydan, welwch chi. Mae rheini i gyd, fel clywsoch chi Neli Wil Saer yn gweyd, yn tyngu eu mam bob un, er nag w i ddim yn gwel’d fod un ohonyn nhw’n gwmws run peth ag own i yn ei hoedran hi. Dyna Jane, y ferch hena’, mae ei gwallt hi yn debyg anghyffredin i beth oedd y ngwallt i yn ei hoedran hi. Rwy’n cofio nobl fel byse hi ddoe ddwetha dipyn cyn i fi briodi, mod i’n arfer synu’r merched yn Plasbach - ffarm nhad a mam, chi wyddoch - wrth dynu ngwallt lawr a gadel iddo fe gwmpo dros y’n ysgwyddau tu ol i fi, ro’wn i’n gallu eistedd arno fe ar y stol o dana i. Pidwch a meddwl wrth hyny mod i’n falch o ngwallt, welwch chi. Na, diolch i’r Mowredd, dos dim balchder yn perthyn i fi, ond y balchder o fod yn gallu talu’n ffordd, a bod y rhent gyda Dafydd yn barod bob hanner blwyddyn pan

 

 

 

 

 

None

(delwedd B0898b)

(Papur Pawb. 12 Chwefror 1898). Pennod 3.

 

ddaw galw. Fyse fe ddim, ‘chwaith, onibai mod i’n gwbod y ffordd yma. Na, do’wn i ddim yn falch o ngwallt; ‘roedd e’n fwy o boendod i fi na dim byd arall, yn enwedig yn y tywydd twym, tua’r cynhaua gwair a’r cynhaua llafur. Peth sy’n mwrno dyn yn ofnadwy yw pwysau mawr o wallt pryd hyny, ‘nenwedig os daw e’n rhydd, a dod yn bwysau ar eich gwar chi, neu rywbeth fel’ny. Wel, mae gwallt Jane yn debycach i ngwallt i nag un o’r merched erill-er nag w i ddim yn credu fod e cweit mor hir a ngwallt i chwaith.

 

Dyna Lora wed’yn, dannedd man glan, fel dwy res o berlau gwynon, rhwng dwy wefus goch, goch fel ceiros. Mae’n ddigon o sight i chi wel’d dannedd Lora, nenwedig pan fydd hi’n gwenu. Ac mae gyda hi’r wen fwyaf swynol welsoch chi gan neb erioed rwy’n shiwr o hyny - yn gymws fel ‘rown i cyn i fi briodi, a fel rwy yto o ran hyny. Ond os dim o ddannedd a gwen Lora gan Jane, na gwallt Jane gan Lora; ‘roedd y ddou gan eu mam yn ei hamser.

 

A fel’ny am y merched erill i gyd, mae pob un yn tynu ar y’n ol i mewn rhywbeth neu gilydd, ond dim un ohonyn nhw ‘run peth a fi yn mhobpeth chwaith. A fel ro’wn i’n gweyd, er fod Madlen yn lodes smart ymbeidus, ‘dyw hi ddim ffit i ddala canwyll wrth ochor un o ferched Cwmllydan wedi’r cwbwl. Ac heblaw hyny, fe wyddwn i’n eitha da, wedi clywed Dafydd yn rhoi’r fath drimfa i Madlen, yn y liaethdy, pan o’wn i’n edrych arnyn nhw trwy’r twll hyny yn y palish heb i bod nhw’n gwbod, fe wyddwn i’n eitha da, pryd hyny, ta p’un, taw nonsens i gyd oedd Guto a Lisa’n sharad pan glywes i nhw’r tro hyny.

 

Ond fel ro’wn i’n gweyd wrtho chi, ‘does dim cysondeb yn Dafydd ni. Allwch chi ddim bod yn shiwr cewch chi e ‘fory, lle cesoch chi e ddoe, neu heddy o ran hyny. Rwy’n cofio’n nobl shwd ‘roedd e pan oe’ ni’n caru. ‘Roedd e’n: dwli’n deg arna i, welwch chi, ond ‘roedd yno ferch arall, Elen Davis, Glynmawr, bron dwli am dano yntau. ‘Roedd rhai yn gweyd mai lodes smart iawn oedd Elen Davis; ond a gweyd y gwir, weles i ddim byd smart yndy erioed, ond ei thafod, ‘roedd hwnw’n myn’d fel rhod ddwr neu bwll tro, nag oedd dim diwedd i gael arno fe. I chi gael deall, Mrs Griffiths, Tanybryn, mam Siwsan, sy’n briod a Tomos, y mab hena’ i, yw Elen Davis Elen Davis, Glynmawr, oedd hi ‘slawer dydd; Mrs Griffiths, Tanybryn, os gwelwch yn dda, yw hi nawr - a mae hi’n gwbod hyny’n nobl hefyd, ac yn gofalu dangos bob cyfle geiff hi, ei bod hi’n gwbod hefyd. Ond ‘dyw hi ddim yn dangos llawer o’i chwafars pan bydda i’n gwel’d ac yn clywed. Mae hi’n gwybod gwell na hyny hefyd, waeth mae hi’n gwbod mod i’n cofio am yr amser pan oedd hi’n Elen Davis, Glynmawr, ‘a finnau’n Jane Morgan, Plasbach.

 

‘Rown i’n nabod i dolur hi pryd hyny’n nobl. Meddwl cael gafael yn nghwt Dafydd Jones, mab Cwmllydan, oedd hi, a meddwl cael saco’i hunan mewn i Gwmllydan. Dyna’r gwir am dani yw hyna.

 

A ‘roedd i thrico hi i drio cael gafael yn Dafydd pryd hyny’n g’wilyddus. Pan byse fen mynd a llafur i’r felin, fe fyse hi’n shiwr o fod ar y clos rhywle, waeth ‘roedd

 

 

 


None
(delwedd B0898c)

(Papur Pawb. 12 Chwefror 1898). Pennod 3

yr hewl agosa o Gwmllydan i’r felin, chi wyddoch, yn paso trwy glos Glynmawr, ond ‘doedd dim o hyny’n ddigon o reswm dros i Elen fugeila Dafydd yn paso drwy’r clos. A ‘run peth wed’yn pan byse fe’n mynd o’r cwrdd nosweth waith, fe fyse Elen yn shiwr o fod yn y cwrdd y nosweth hyny, ac yn trio’i gore ar ol dod maes i dori ple ag e rywffordd neu giddyl, nes oedd arna i g’widdyl am dani. ‘Rwy’n cofio’n nobl, un nos Fercher, ‘ro’wn i a rhyw ferched erill yn dod lawr o’r ty cwrdd hyd at ben y groesffordd, a ‘roedd Dafydd yn sefyll fan ‘ny, yn dishgwl am dana i. ‘Nawr tae chi’n cymryd y tro ar y llaw ‘hwith, dyna’r ffordd tua’n ty ni, Plasbach, chi wyddoch, ond tae chi’n troi ar y llaw dde, dyna’r ffordd agosa tua Glynmawr.

 

‘Roedd Elen rhyw ddeg llath falle o’m mlaen i, a phan welws hi Dafydd yn sefyll fan ‘ny, dyma hi ato fe, os gwelwch yn dda, ac yn esgus fod gyda hi neges barticular iawn ag e, ac yn ei dynu fe gyda hi ar hyd yr hewl tua Glynmawr.

 

Dyma’r merched erill yn pwtian i giddyl ac yn pwffan ‘hwerthin.

 

“Dyna ti wedi colli Dai, Cwmllydan, heno, Jane fach,” mynte un ohonyn nhw.

 

“Paid a chamsyned, merch i,” myntwn innau. “‘Rwy’n myn’d hibo’r felin. Good night, ferched.”

 

A bant a fi ar ol Dafydd a Elen.

 

“Halo Miss Davis!” myntwn i, pan ddetho i atyn nhw. “Chi sydd yna? ‘Do’wn i ddim yn ych ‘nabod chi ar y cynta’.”

 

A dyma fi’n miwn iddi ple nhw’ch dou bob cam hyd glos Glynmawr. ‘Do’wn i ddim myn’d i adael i Elen gael gafael yn Dafydd fel’ny chwaith, fel cas hi wybod gen i wedi hyny. Ond i feddwl am impidens y ferch yn citcho yn mraich y bachgen fan’ny ar ben y groesffordd a’i lusgo fe gyda hi tua’r Glynmawr Chymerswn i ddim mo’r byd am wneud peth fel ny.

 

Wedi cyrhaedd clos Glynmawr, ‘do’wn i ddim am roi siawns i Dafydd i aros yno ar yn ol i.

 

“Ody chi’n dod, Dafydd,” myntwn i. “Good night, Miss Davis. ni’n dou’n myn’d,” a fe gitshes yn ei fraich e, a bant a ni.

 

A tae chi’n gwel’d gwyneb Elen, Glynmawr, pryd hyny! ‘Roedd e’n ddigon o sight i wel’d e.

 

Ond dyna ddangos i chi shwd un oedd Mrs Griffiths, mam Siwsan, gwraig Tomos ni, pan oedd hi’n ferch ifenc, a mor rhwydd ei droi oedd Dafydd ni, a chi allwch ddeall fel’ny pam rw i’n gweyd mai diffyg cysondeb yw gwendid mawr Dafydd o hyd.

 

‘Nawr mae rhai pobol yn gweyd y mod i’n un galed iawn, a nag os dim maddeu i gael gen i pan fydd rhyw un wedi troseddu yn y’n erbyn i. Ond ‘nawr ry chi wedi gwel’d eich hunan mor ddisail yw gweyd peth fel’ny. Dyna fi wedi gadel i Siwsan, merch Elen, Glynmawr, briodi Tomos ni, drwy’r cwbwl, er bod Elen wedi gneud ei gore i stopo’r fatch rhwng Dafydd a fi. Pe bawn i’n un galed, ac yn cadw gelyniaeth fel mae pobol yn gweyd, fyswn i byth yn gadel un bachgen i fi neud tocs ag un o ferched Elen, Glynmawr!

 

(I’w barhau.)

 

 


None
(delwedd B0899a)

(Papur Pawb. 19 Chwefror 1898). Pennod 3,4.

PRIODI’R PLANT:
sef FFWDAN MAM-YN-NGHYFRAITH

(Hawlysgrif yr Awdwr.)

PENNOD III. - (Parhad.)

 

Nid mod i’n achwyn dim ar Siwsan, cofiwch. Merch fach sweet yw Siwsan, ‘hware teg iddi, llawer ods iddi mam, ac wedi dangos pob parch i fi eriod, ‘hware teg iddi. A tae ei mam yn busnesau tipyn llai tua Ty’nywern fe fyse’n well i Tomos a Siwsan. Er i Elen, Glynmawr, ffaelu cael gafael yn nghynffon Dafydd, Cwmllydan, fe naeth hi fatch nobl wedi’r cwbwl. Teulu weltwdw iawn oedd teulu Tanybryn; a chan fod gwraig Tanybryn wedi marw, fe gas Elen le i fyn’d mewn yn ddidrafferth, a chan mai Siwsan oedd yr unig blentyn, fe gas ‘stafell anghyffredin, a gwaddol gampus hefyd - fe ofales i am hyny, er i fi gael tipyn o job hefyd i bwno yn mhen Dafydd pan yn myn’d i rytyddia yno. Ond fe aeth, a fe wnaeth fargen nobl dros Tomos hefyd o ran hyny, a fe wedws pan ddaeth e nol fod Mrs Griffiths wedi bod yn barod iawn yn y mater, heb godi dim llawer o anhawsder amboutu dim wedse fe. A wir, a gweyd y gwir, fe gas Siwsan fwy nag own i’n ddishgwl. Wn i ddim beth oedd yn mhen Mrs Griffiths, pun ai balchder, ishe dangos i Dafydd a finnau shwd fyd da oedd arnyn nhw yn Tanyobryn, neu ofon byswn i’n mynu tori’r fatch os na chese’ Dafydd i foddloni yn y rhytyddia, neu beth; falle fod tipyn o bob un ohonyn nhw. Ond gan ta pun fe gespwyd mwy nag own i’n ddishgwl gael i Tomos gyda Siwsan, er y mod i’n gwbod yn mlaen llaw debygswn i, cese hi’n golew hefyd.

 

Ond ry chi’n gallu gwel’d ‘nawr orwth yna nag w i ddim yn un sy’n dal llawer o ddigofaint at neb, neu fel y gwedes i, fyswn i byth yn gadael i Tomos ni wneud fyny a merch Tanybryn, wedi i fam hono wneud ei gore glas, a gwaetha’i chalon yn y’n erbyn i pan yn ferch ifanc.

 

Ond diar anwyl! Beth w i’n hwilia i Dyma fi jest myn’d cynddrwg a Dafydd ni, sharad am rywbeth heblaw beth oedd gydi fi! Ond dyma fi wedi dod i ben y llinyn  yto, a ry chithau’n deall yn well nawr pam rw i mor anfolon fod Mrs Griffith: Tanybryn, yn busnesau [sic; = busnesu] cymaint yn Ty’nywern, a ry chi’n deall hefyd shwd nag w i ddm wedi gadel i hen glap dwl Guto a Lisa’r, ail forwn, amboutu Madlen i flino dim ar y meddwl i.

 

PENNOD IV. - LESN FACH I DAFYDD.

 

Dw i ddim yn credu y gallse angel o’r nefoedd fyw gyda Dafydd ni - o leiaf fel gwraig iddo - heb fyn’d mas o natur weithe. Chi wyddoch yn nobl nag w i ddim yn wyllt yn nhymher, na dim byd fel’ny. Na, mae digon rhyngto i a hyny yto, diolch i’r mowredd. Ond fel rwy’n gweyd, mae Dafydd ni yn ddyn i drio amynedd y fenyw ore garnodd y ddaear erioed, ne fyswn i ddim yn colli nhymher ag e.

 

Mae dynon yn sharad am amynedd Job, rhwydd gallan nhw wir! Doedd gyda Job

 

 

 

 

None

(delwedd B0899b)

(Papur Pawb. 19 Chwefror 1898). Pennod 4.

ddim ond gwraig, a gwraig dda fasa ddigwydd, a fel’ny dim diolch iddo fe fod yn amyneddgar a mwn i! Ond pe byse Job yn briod a Dafydd ni, fentra i fe fyse llai o siarad am ei amynedd e!

 

Ond dyna shwd mae’r gwrywod i gyd welwch chi - canmol rhinweddau eu giddyl yn y Beibl a phobman arall am wn  i, llareidd-dra Moses, doethineb Solomon, ac amynedd Job, heb feddwl dim  byd, welwch chi, fod menywod yn llawer mwy llariaidd, a doeth, ac amyneddgar na neb ohonyn nhw. Ond chaiff merch neu wraig ddim clod am rinwedd, tae hi fel angel y goleuni - a ry ni fel’ny rhan fwya ohono ni, ta beth - ond gadewch iddi ffaelu mewn un peth, a hwnw’n amal yn beth digon bach, a fydd dim diwedd ar stwr y gwrywod am ei diffygion!

 

A dyna shwd mae hi gyda fi, welwch chi. Dim gair o son am gymaint w i wedi slafo a ffwdanu ac aberthu er mwyn Dafydd a’r plant; dim diolch am mod i wedi cnoi nhafod gant o weithe yn lle gweyd gair cas pan fyse Dafydd neu wraig un o’r bechgyn neu wr un o’r merched neu rai o’r teulu yn nghyfreth yn shengyd ar y nhroed i a’u tafodau difeddwl. O, na dim diolch i fi byth am y pethau hyn.

 

Ond pan fydda i, ambell waith nawr, yn ffeilu dala, ac yn gweyd gair bach cros yn ol, does dim diwedd ar eu sharad nhw, a fe allsech feddwl wrth eu clywed nhw mai fi yw’r fenyw wacetha a gwyllta ei natur yn y shir i gyd, yn lle fel rw i yn un o’r rhai mwyaf tawel, lleia parod i gynhyrfu, a rhwydda i fyw gyda hi o neb w i’n nabod.

 

Mae ambell i fenyw, fel gwyddoch chi, dos dim posib i’r gwr drwg ei phlesio hi, a all neb fyw mewn heddwch a hi - dyna Mrs Griffiths, Tanybryn, er engraipht, Elen Davies, Glynmawr gynt, mam Susan, gwraig Tomos ni, chi wyddoch. Dyna un, os gwelwch yn dda, y byswn i’n folon ei chownto yn mysg rhai anodd byw gyda nhw. Fe all un dyn a llyged yn ei ben wel’d hyny. Mae hi mas a phawb jest iawn;, mas a Siwsan ei merch ei hunan, mas a Tomos ni, ei mab-yn-nghyfraith, ie, a mas a finnau hefyd o ran hyny! Yr unig un nad yw hi mas ag e am wn i yw Dafydd ni, a mi fyse mas a Dafydd – er fod Dafydd yn un digon rhwydd i fyw gydag ef, hware teg iddo - fe fyse mas a Dafydd onibai ei bod hi’n meddwl y gallse hi’n speito i fwy wrth fod mas a fi ac yn ffrinds a Dafydd.

 

Ond mae cyfrifoldeb ofnadwy ar rai fel na sy’n trio hela rhwng perthnasau a’u giddyl. A dyna beth mae Mrs Griffiths wedi bod yn neud. Am wn i, tae hi’n cael ei ffordd, fe halse rhwng Tomos a’i fam, a rhwng Siwsan a’i mam-yn-nghyfraith, yn gystal a rhwng Dafydd ni a’i wraig. Menyw ofnadwy yw Mrs Griffiths.

 

I fi gael gweyd wrtho chi nawr shwd y buodd hi, ac i chi gael gwel’d gymaint sy’ raid i ambell fam-yn-nghyfreth fel fi ddioddef dim ond am ei bod hi’n trio’i gore dros les a llwyddiant y plant a’r plant-yn-nghyfraith.

 

Fe nghlywsoch i’n gweyd o’r blaen mae merch Mrs Griffiths yw Siwsan sy’n briod a Tomos ni yn Ty’nywern. Ond trwy drugaredd tynu ar ol ei thad ac nid ar ol ei mam mae Siwsan gan mwya.

 

 

 

 


None
(delwedd B0899c)

(Papur Pawb. 19 Chwefror 1898). Pennod 4.
 

Wel, ta pun, yn Ty’nwern mae Tomos a Siwsan yn byw, ac yn Tanybryn mae Mrs Griffiths yn byw. Mae Ty’nywern yn rhy fach o le lawer i bar ifanc gweithgar a digon o fyn’d yndy nhw fel Tomos ni a Siwsan, a rw i wedi bod yn gweyd os dwy neu dair blynedd dylse nhw gael lle mwy. Mae Tanybryn wed’yn yn hen scrongol o le mawr, lle case nhw ddigon o le i wneud tipyn o’u hol ar y lle. Mae Mrs Griffiths wedi claddu’r gwr er’s tipyn, a mae Tanybryn yn llawer gormod o le i un fenyw allu ei fanejo - fe geswn i ddigon o waith i fanejo Tanybryn, chwaethach Mrs Griffiths.

 

Ond, ta pun, rown i’n digwydd bod ar de yn Tanybryn ryw brydnawn, a Mrs Griffiths wedi bod yn dangos y llaethdy a’r rwm caws a ryw bethau fel’ny i fi ac yn canmol y lle a chanmol ei hunan, fel mae hi’n arfer wneud, wyddoch. Ond pwy ddiolch sydd iddi i wneud blith? Mae yno bump ar hugain o wartheg godro, a dwsin o ddefaid godro. A mae gyda hi ddwy forwyn gryf i’w helpu hi i edrych ar ol y cwbwl. Ond fe ellsid meddwl i glywed Dafydd ni yn son am dani weithe nag oes neb tebyg i Mrs Griffiths, Tanybryn. Fe golles i’n nhymher yn enbyd rhyw ddwarnod - amser swper oedd hi, rwy’n cofio’n nobl, a Dafydd ni wedi bod hibo Tanybryn ar y ffordd gartre o Ty’nywern, ac yn canmol Mrs Griffiths, a’r blith, a phethe fel’ny i’r cymylau. Wel, fe ddioddefes i cyd a gallswn i, a wed’yn dyma fi’n tori mas ac yn gweyd:

 

“Wel, wir, Dafydd, un od i chithe, hefyd! Pa’m yn neno rheswm y detho chi gatre heno?”

 

“Nan?” mynte Dafydd.

 

“Pa’m detho chi gatre heno?” myntwn i wed’yn, yn ddigon tawel hefyd, er fod y’n llais i’n crynu mynta.

 

“Beth y chi’n feddwl, Jane?” mynte fe, gan roi i gyllell a’i fforc o’i law.

 

“Oh,” myntwn i, “meddwl ych bod chi’n od iawn i ddod dros y caeau yr holl ffordd o Tanybryn i Gwmllydan ar nosweth dywyll fel hyn pan oedd gyda chi gyment gwell lle, gyment gwell aelwyd, gyment gwell partner, a chyment gwell croeso gyda’r partner hyny, nag sy gyda chi yn Nghwmllydan!”

 

“Jane!” mynte fe, gan edrych fel ffwl arna i.

 

“Ie, ie, mi wn mai Jane yw’n enw i, Dafydd, a mi wn mai Elen yw enw Mrs Griffis, a mi wn fod merch Glynmawr wedi gneud i gore er’s llawer dydd i gael gafael yn nghynffon mab Cwmllydan. A fe fyse’n ddigon bolon iddo fe roi ei hat ar yr hol yn Tanybryn fory nesa yto fentra i, ond chaiff hi ddim o’r pleser hyny nes bydda i wedi myn’d tan y grwys.”

 

“Jane! Tewch son rhag cwiddyl i chi!” mynte Dafydd wed’yn, gan dynu ei niched mas o’i boced a sychu ei dalcen.

 

“Beth wedsoch chi, Dafydd!” myntwn innau. “Y fi i dewi son rhag cwiddyl? Ody e’n rhyw gwiddyl i fi i weyd y rhaid i chi’n nghladdu i gynta cyn gallwch chi gael eich ffordd i fyn’d i hongan y’ch hat yn entri Tanybryn. Ai i fi mae’r cwiddyl fod gwitw Tanybryn yn ffaelu anghofio beth ffilws merch Glynmawr wneud slawer dydd, slawer dydd? Ai i fi mae’r cwiddyl fod ‘y ngwr i’n myn’d hibo Mrs Griffiths at ei ffotdd adre,

 

 


None
(delwedd B0899d)

(Papur Pawb. 19 Chwefror 1898). Pennod 4.

ac yn gorffod ishte fan hyn i’w glywed e’n i chanmol, a’i chanmol, a’i chanmol hi yn ddiddiwedd fel pe na bai neb ddim tebyg iddi i gael yn y byd! Oh, ie! chi allwch chi ddryched, Dafydd bach! a gwasgu’ch dannedd, a sychu’ch talcen a’r hancitsher. Ond neno’r gallu os oe chi’n moyn Elen Glynmawr, pa’m na fyse chi’n ei chym’ryd hi slawer dydd, pan oedd hi’n ddigon digwiddyl i redeg ar ych hoi chi i bob twll a chornel, a’ch gwylad chi’n myn’d i bob ffair a thaith a chwrdd nos waith, a phob peth! Fe fyse’n dipyn mwy gweddus i chi neud hyny, allswn i feddwl, na myn’d nawr ar ei hoi hi tua Tanybryn. Hware teg iddi hi, fe arhosws hi nes doedd hi wedi claddu ei gwr -  ond ry chi’n ddigon digwiddyl i fyn’d nawr tra bo’ch gwraig chi’n fyw. Falle’ch bod chi’n dishgwl i finnau fyn’d o’ch ffordd chi? Ond fe sparia i’ch sport chi, Dafydd bach!  Chewch chi ddim o ngwared i mor rhwydd a hyna, peidiwch chi a chamsyned! Na! fydda i ddim marw un spel fach yto, ta beth, pe bae dim ond i speito gwitw Tanybryn a chithe. Rhog cwiddyl ar ei gwyneb hi, a rhog cwiddyl ar eich gwyneb chithau, Dafydd! Dyna shampl neis i’ch plant, ond taw e nawr?”

 

A gwyddoch chi beth wnaeth Dafydd? Fe ddath wad o lw mawr mas ganto fe! Do, yn y ngwir i! Ag yntau’n aelod yn y ty cwrdd a chwbwl. Pe byse fe’n sailor, neu’n myn’d i’r Eglwys, neu rywbeth fel’ny, fyswn i ddim yn gweyd cymaint.  Ond mae clywed dyn sy’n aelod mewn ty cwrdd yn tyngu a rhegu yn beth ofnadwy iawn, a wyddwn i ddim beth wedswn i.

 

Ond cyn i fi gael amser i weyd dim byd, o ran hyny, dyma Dafydd off fel bollt orwth y ford ac yn stret i’r gwely, heb feddwl am edrych yr anifeiled na dim.

 

Ry chi’n gwel’d nawr gymaint w i’n orffod ddioddef yn dawel fel hyn! Fe fyse unrhyw fenyw arath wedi tynu’r ty i lawr dan y fath amgylchiadau, ond netho i ddim ond gweyd rhyw hanner dwsen o eiriau bach caredig, fel na wrtho fe i’w gadw e o ffordd profedigaeth ac o ffordd Mrs Griffiths, Tanybryn, welwch chi.

 

Chodes i ddim o nghloch na dim wrtho fe, ond ymresymu’n dawel fach ag e fel na, fel gallwch chi wbod pan weda i na sylws ddim un o’r gwasanaethyddon fod dim byd mas o le, wath pan aeth Dafydd i’r gwely ar y pwd doedd yno ddim un ohonyn nhw yn y gegin, er eu bod nhw yno i gyd ar swper ar y ford fawr pan ddechreuos Dafydd a’i hanes am Tanybryn. A chlywes i ddim un ohonyn nhw yn myn’d mas chwaith.

 

A dyma chi brawf arall. Fe etho i i edrych am danyn nhw, a doedd gen i neb ar y llawr ond Madlen, y forwn fwya. Roedd Lisa’r ail forwn wedi myn’d i’r gwely, a Guto wedi myn’d mas i’r ty mas fel arfer i gysgu. A roedd gwyneb Madlen fel y tan pan ddetho i am i phen hi. Wn i ddim pun a oedd y sponer yno yn dishgwl am dani neu bido. Ond i gael gwneud yn shiwr am y peth, pun a wydde hi fod rhywbeth mas o le rhwng Dafydd a fi neu bido, fe ofynes iddi os clyws hi’r sharad rhyngto ni.

 

“Naddo i mistres,” mynte hi. “Roe chi’n clebran rhywbeth wrth mishtir pan ddibenson ni’n swper. Rw i’n myn’d i’r gwely. Good night,” a bant a hi a dim ond ond hyny.

 

A gan fod Dafydd wedi myn’d i’r gwely, gorffu i fi fyn’d mas y’n hunan i edrych os oedd pobpeth yn right gyda’r anifeiled, wath erbyn i fi fyn’d mas. roedd Guto wedi ffoi - wedi myn’d i edrych am ryw groten sy gydag e yn Tanyfedw, meddu nhw.

 

Ry chi’n gwel’d nawr mai arna i mae’r gofal i gyd yn dishgyn os bydd rhywbeth mas o le yn Nghwmllydan.

 

Fe licswn 1 wel’d Mrs Griffiths, Tanybryn, yn poeni a thrafferthu fel’ny tae’r gwr wedi myn’d i’r gwely ar y pwd arni. Dim danger ohoni, fe fentra i hi!

 

Ry chi’n gwel’d nawr fod gyda pnobol achos i ryfeddu swd w i mor amyneddgar, a mor lleied o shawns fyse gyda Job i gael bod yn enwog am ei amynedd tae e’n briod a Dafydd ni yn lle a’i wraig o Wlad Uz.

 

Tranoeth [i] hyny rown i ar de yn Tanybryn, a fe gewch glywed yr wthnos nesa shwd pasodd hi yno, mor ddwl a selffish roedd Mrs Griffiths.

 

(I’w barhau.

 

 


None
(delwedd B0900a)

(Papur Pawb. 26 Chwefror 1898). Pennod 5.

PRIODI’R PLANT:
sef FFWDAN MAM-YN-NGHYFRAITH

(Hawlysgrif yr Awdwr.)

PENNOD V. - POLLY, Y FERCH-YN-NGHYFRAITH.

 

Fel y gwedes i, down i ddim hanner bolon i wel’d Dafydd ni’n myn’d mor amal hibo Tanybryn, nenwedig tra byse Mrs Griffis yno, a hithau’n witw. Nid am fod gen i un amheuaeth am boutu Dafydd ni, cofiwch; dyw hi ddim yn debyg y byse fe yn dryched ar Mrs Griffis tra byswn i yr ochor hyn i’r afon. Ond dos dim iws trysto gwitw, welwch chi, nenwedig pan fo hono wedi bod yn treio jocan a’ch gwr chi pan oedd e’n fachgen ifanc.

 

Felly, fe benderfynes i fyn’d i Tanybryn ym hunan, a fe feddyles os oedd Dafydd yn moyn galw yn Tanybryn y rhoiswn i ddigon o esgus iddo fe bob yn dipyn. Roun i wedi bud yn meddwl am y peth o’r blaen, welwch chi, ond fe rows visit Dafydd ni y tro diwetha yma fath o sumbwl i fi i fynd’ mlaen – a rwy’n credu y cytunwch chi a fi mai servo Mrs Griffis yn eitha reit oedd yr hyn netho i.

 

Wel, ta pun, dyma swd netho i. Pyrnawn tranoeth, wedi i’r sharad hyny gymyd lle rhwng Dafydd a fi, a fynte bant ag e orwth y ford swper mewn hwyl fawr, ac i’r gwely ar y pwd, fe etho i i daclu’n streit ar ol cino.

 

Gan mod i’n myn’d i Danybryn, fe benderfynes wishgo’n nillad goreu. Wthnos neu ddwy cyn ‘ny rown i wedi cael bonet biwtiful yn bresant orwth Polly, y merch-yn-nghyfreth, sy’n briod ag Edward, y mab sy’n cadw shop yn Llanelli. A mae gan Polly well taste mewn milineri na neb a weles i eriod. A dyw i ddim rhyfedd pan ystyrio ni, wath roedd hi wedi bod yn first miliner yn un o shope mawr Llundain, a wedi bod am ddwy flynedd yn Paris hefyd. A mae gyda hi law ryfeddol gyda boneti. Mae bonet o dan ei llaw hi gyda’r peth perta welws y’ch llygid chi ariod, nes bo bron trueni arno chi gwisgo hi gan mor dda a mor bert mae hi’n dryched. Ag i fi gael gweyd y gwir i gyd, nawr, fe fues i’n gros ofnadwy i Edward ni i wneud dim tocs a Polly ar y cynta, wath dyw hi ddim yn dod o ryw deulu uchel yn y byd - yn wir, roedd ei thadcu hi yn withwr wrth y dydd gyda nhadcu yn Plasbach. Ond dos dim ods am hyny nawr, mae’r ddou hen ddyn wedi myn’d, a Pholly wedi dysgu’r grefft yn first rate. Fe weda i wrtho chi ryw dro yto shwd detho i i fod yn folon i Edward ni neud tocs a hi, ond dos gen i ddim amser heddy wath rw i am weyd wrtho chi beth gymws le yn Tanybryn.

 

Ond fel roun i’n gweyd, fe geso’r fonet berta welws ych llyged chi riod yn bresant gan Polly pan fues i lawr yn Llanelli ryw bytheunos cyn yr amser rwy’n son am dano nawr. A fe alla i weyd wrtho chi wrth fynd hibo, os cewch chi gyfle i fyn’d i Lanelli rywbryd, cerwch chi i ddryched i ffenest shop Edward ni, a fe fentra i y cytunwch chi a fi

 

 

 

 

 

 

 

 

 


None
(delwedd B0900b)

(Papur Pawb. 26 Chwefror 1898). Pennod 5.

mai dyna lle mae’r boneti goreu - a’r hatau goreu hefyd o ran hyny - o un lle welsoch chi eriod. A fe alla i weyd wrtho chi hefyd fod y pris yn ddigon resymol - hyny yw ag ystyried fod defnyddiau mor dda yn yr hatau a’r boneti. Chi gewch well bargen yno nag unman y gwn i am dano.*

 

*Rhaid i ni adgofio Mrs Jones, Cwmllydan, fod y frawddeg uchod trwyddi draw yn hysbysiad am siop ei mab a’i merch-yn-nghyfraith. Nid oes dim ond ein parch at ohebyddes mor ffyddlon yn ein rhwystro i groesi’r paragraph allan. Caiff ymddangos y tro hwn, ond codir pris hysbysiad am dano os gyrir ei gyffelyb ryw dro eto. - Gol. “Papur Pawb.”

 

Wel, i fi gael myn’d mlaen a’r hanes - wath dos gen i gynnyg i’r rhai whit what hyny na allan nhw byth ddibenu stori ar ol ei dechreu hi. Fel roun i’n gweyd, fe geso i’r fonet yma yn bresant gan Polly pan own i’n dod gatre o Lanelli ryw bytheunos cyn yr amser rwy’n son am dano.

 

Wel, yn lle dod gatre’n streit o Lanelli, beth netho i’r tro hyny ond myn’d mlan i Abertawe, lle mae Lorah’s ail ferch yn briod a Hughes y Shop. Chi wyddoch, wrth gwrs, am shop Hughes, y mab-yn-nghyfrath, yn Abertawe. Mae hi’n cael ei gadel, fel gwyddoch chi, fel y shop dreperi flaena yn yr holl dre, ac am betha ffansi i fenywod, costiwms, a jacedi, a mantls, a phethau fel ‘ny, mae nhw’n gweyd nag os dim tebyg iddi’r ochor hyn i Lundain.*

 

*Mae Mrs Jones eto’n troseddu rheol y swyddfa. Ond gan mai yn yr un erthygl yr ymddengys y paragraph hwn a’r llall, ni fydd i ni y tro yma ei dwyn o dan y ddeddf. - Gol. “Papur Pawb.”

 

Roedd arna i hwant, a gweyd y gwir i chi, i gael gwel’d beth oedd y pethau mwya newydd yn y ffasiynau i ferched a gwragedd. Dyna un o’r anfanteishion, welwch chi, o fyw yn nghanol y wlad - ambell waith iawn y gallwch chi fod yn y ffasiwn, a mae dyn yn dryched yn hwithig iawn pan yn myn’d i’r dre os bydd e’n mhell ar ol y ffasiwn. Ond rw i wedi trio’n ngoreu hyd yn hyn i bido bod yn mhell iawn ar ol gan ta pun. Fe wyddoch chi, dw i byth yn lico rhican y’n hunan, does dim byd yn gasach gen i na hyny. Ond y gwir a saif wedi’r cwbwl, a does dim ishe i fi, am wn i, fod a chwilydd i arddel nag os dim neb yn y dre yn gwishgo yn stanshach na fi pan fydda i’n lico.

 

Wrth gwrs, nid i fi mae’r clod i gyd am hyny. Mae gen i fontais na sy’ ddim gan bawb, a does arna i ddim cwiddyl gweyd hyny. Nid pob un sy’ a first-clas milliner yn ferch-yn-nghyfraith, fel Polly yn Llanelli, a nid pob un sy’ a mab-yn-nghyfraith fel Hughes Abertawe, a’r show gore o bethe ffansi i fenywod yr ochor hyn i Lundain. Fel ‘ny does dim cymaint o ddiolch i fi, a gweyd y gwir, fod y’n nillad i bob amser yn rhai nag oes dim ishe i fi fod a chwiddyl i harddel nhw. A gweyd y gwir - fel gwedws Neli Wil Saer wrtha i yr wthnos ddwetha i gyd,

 

“Mrs Jones,” mynte hi, “mae’n bleser y’ch gwel’d chi a’ch merched yn dod i’r ty cwrdd

 

 

 

 

 

 

 

 


None
(delwedd B0900c)

(Papur Pawb. 26 Chwefror 1898). Pennod 5.

 

ar ddydd Sul; ma’ch dillad chi shwd rhai anghomon.”

 

“Taw son, Neli,” myntwn i, gan droi twlpyn bach o fenyn mewn pishyn o bapur a’i roi e yn ei ffedog hi gyda’r blawd cyrch a’r bwyd sycan.

 

“Wel nage wir, Mrs Jones,” mynte Neli wed’yn. “Gwyddoch chi beth glywes i rwthnos ddwetha?”

 

“Ryw nonsens fel arfer, Neli, mynta.”

 

“Wel nage’n siriws i chi. Rown i’n digwdd bod yn hewl y farchnad yn Llandilo pan oech chi’n dreivo hibo yn y car, a fe glywes un gwraig ffarm respectabl o’r ochor draw i Dywi yn gweyd wrth wraig y shop oedd yn sefyll gyda hi ar y drws, mynte hi, ‘Rwy’n bound o fyn’d i ga’l golwg ar fonet gwraig Cwmllydan, a jacedi’r merched. Mae nhw bob amser yn shiwr o fod yn werth dryched arnyn nhw.’ ‘Dewch nol hibo yma wed’yn,’ mynte gwraig y shop wrthi hi, ‘fe licswn i gael gwybod beth sy’ genty yn ei bonet, a beth yw shap y jacedi, fel galla i gael rhai run peth a nhw i’r shop.’ Dyna chi’n gwmws fel roe nhw’n gweyd wrth eu giddyl, Mrs Jones.”

 

Hen un lew am ddod o hyd i bethau felna yw Neli, welwch chi. A fe wn i fod shopwyr yn Llandeilo, ie, ag yn Nghaerfyrddin hefyd o ran hyny, yn lico cael rhyw esgus i nghadw mewn ple a nhw ar Sadyrnau neu ddydd marchnad os digwyddai i alw miwn A doedd dim o’r fonet newydd na dim gen i’r dwarnod oedd Neli Wil Saer yn son am dano.

 

Ond i fi gael gweyd yr hanes wrtho chi shwd y buodd hi yn Abertawe. Down i ddim wedi meddwl myn’d yno’r tro hyny, na dim wedi hala gair i weyd na dim byd. Ond rown i am ddangos i Lorah y fonet own i wedi gael yn bresant gan Polly  merch-yn-nghyfraith. Falle licse Lorah, digon hawdd, ddodi un o’r merched o’r shop i neud un run peth iddi hithe. Fyse ddim cymaint o wahaniaeth gen i am hyny, wath mae tipyn bach o ffordd o Abertawe i Gwmllydan, welwch chi, a hit fyse nemawr neb yn ein gwel’d ni’n dwy a boneti run peth gyda ni.

 

Ac heblaw hyny, rown i am gael gwel’d beth oedd y ffasiynau newydd mewn jacedi a mantls a phethau felny. A bant a fi sha Abertawe, yn lle myn’d yn steit gatre o Lanelli. Doedd hyny ddim llawer o dowlad mas o’r ffordd fel gwyddoch chi, dim ond jest o Lanelli i Abertawe, wath dyw hi fawr pellach o Abertawe i Bontarddulais nag yw hi o Lanelli. Felny fe godes i dicet o Lanelli i Abertawe, a bant a fi, a’r bambocs a’r fonet yndi gyda fi.

 

Ond fe whariws cwmpni’r relwe hen dric bach cas ofnadwy a fi wrth ddod nol. Rown i wedi codi return welwch chi o Landeilo i Lanelli, a gan nag os fawr fwy o ffordd o Abertawe i Bontarddulais nag sy o Llanelli i Bontarddulais, fe feddyles i yn ddigon diniwed y gall’swn i gael dod o Abertawe i Bontarddulais am yr un ticet. Feddylws y nghalon i ddim byse nhw’n myn’d i wneud gwahaniaeth.

 

Ond os y chi yn y fan na, cyn i mi ddod i Bontarddulais dyma rhyw hen becor bach yn dod i edrych y ticedi. Fe ddangosais i’n nhiced iddo fe fel y lleill.

 

 

 

None

(delwedd B0900d)

(Papur Pawb. 26 Chwefror 1898). Pennod 5.

 

“This won’t do,” mynte fe.

 

“Beth wedsoch chi?” myntwn i.

“Wnaiff ddim o hwn y tro,” mynte fe.

 

“Pa’m hyny, wys?” myntwn inne.

 

“Ticet o Lanelli i Landilo yw hwn,” mynte fe, “nid o Abertawe.”

 

“Jest run distans yw’r ddou,” myntwn innau.

 

“Rhaid i chi dalu o Abertawe i Bontardulais,” mynte fe - ac os y chi yn y fan gorffod i fi wneud hyny, er fod y ticed gen i o Lanelli trwy Bontarddulais yn reit i wala.

 

“Shwd na i nawr, ynte?” myntwn i wrtho fe. “Cha i ddim am y’n arian o Lanelli i Bontarddulais ?”

 

“Chi gewch ddod am ddim o Lanelli i Bontarddulais,” mynte fe, “os cym’rwch chi’r drafferth i fyn’d i Lanelli a starto oddiyno yto.”

 

Fe fues jest a rhoi cnepyn iddo am i impidens. Dishgwl i fi dalu am fyn’d o Bontarddulais i Lanelli er mwyn cael dod nol am ddim Fe wedes i’r hanes wrth Dafydd ni pan ddetho i adre, a rown i am iddo ysgrifenu at Lord Emlyn neu rywun i gael y hwech nol, gan nag own i ddim wedi bod yn y tren o Lanelli i Bontarddulais, a finnau wedi talu am hyny. Ond beth y chi’n feddwl wnaeth Dafydd yn lle ysgrifenu? Hwerthin am y mhen i. Ond dyn ashwd un yw Dafydd, welwch chi.

 

Ond dyma fi heb weyd am Tanybryn yto. Fe ddaw hyny’r wthnos nesa gwlei.

 

(I’w barhau.)

 

 


None
(delwedd B0902a)

(Papur Pawb. 5 Mawrth 1898). Pennod 6.

PRIODI’R PLANT:
sef FFWDAN MAM-YN-NGHYFRAITH

(Hawlysgrif yr Awdwr.)


PENNOD VI. - HUGHES, Y SHOP, Y MAB-YN-NGHYFRAITH.

 

Ro’wn i wedi dechreu gweyd wrtho chi’r wthnos ddwetha am dana i’n myn’d i Tanybryn i wel’d Mrs Griffis, ond mod i wedi gweyd wrtho chi gynta am y presant neis ges i gan Polly, merch-yn-nghyfraith, yn Llanelli, wyddoch chi.

 

A phidwch chi a meddwl nawr nag os dim cysylltiad rhwng presant Polly a’n visit innau i Danybryn. Mae rhai pobol na chewch chi ddim pen na chynffon ar eu stori nhw pan fo’n nhw’n ei gweyd hi. Ond nid un fel ‘ny w i. Rw i’n lico myn’d a’r stori i ben, ac yn drefnus, a dyna, pa’m y gwedes i wrtho chi am y fonet newydd geso i gyda Polly, merch-yn-nghyfraith. Y fonet hyny, welwch chi, wishges i i fyn’d i Danybryn i wel’d Mrs Griffis, y pyrnawn hyny - a dyna’r tro cynta eriod i fi i gwishgo hi, dyna chi.

 

Ond, fel y gwedes i, fe etho i o Lanelli i Abertawe i roi tro am Lorah’r ferch, a Hughes, y Shop, mab-yn-nghyfraith. A gan nag o’wn i ddim wedi hala gair i weyd wrthyn nhw mod i’n dod, na dim, fe ddetho am ‘i penau nhw heb yn wbod iddyn nhw.

 

Doedd dim o Lorah’n hido rhyw lawer am hyny, chwaith, wath roe nhw’n digwydd bod yn fishi y diwarnod hyny, nid yn gyment yn y shop ag yn y show-room. Wrth gwrs, mae nhw’n gneyd cryn lawer o fusnes yn y shop bob dydd o ran hyny, nid fel shopau Llandilo nawr, lle gallan nhw fyn’d i gysgu hanner eu hamser ganol yr wythnos, os byddan nhw’n lico, o ran y fusnes rwy’n feddwl, er eu bod nhw’n ddigon bishi ddydd Sadyrnau ac ar y ffeiriau. Ond nid fel ‘ny yw hi gyda Lorah, a Hughes, mab-yn-nghyfreth, yn Abertawe. Mae yno ddigon i wneyd jest bob dydd o’r wthnos, ac yn fishi anghyffredin rai prydiau; ond wed’yn, mae rhai diwarnodau yn slacach na’u gilydd - a rodd y diwarnod hyny yn digwydd bod yn slac yn y shop, hyny yw, fel y byddan nhw’n cownto slac yn Abertawe.

 

Ond fel y gwedes i, er ‘i bod hi’n slac, mewn ffordd, yn y shop, roedd hi’n ddigon bishi arnyn nhw yn y show-room. Roedd lot o goods newydd wedi dod miwn y diwarnod cyn ‘ny, a roe nhw’n agor rheiny, ac yn gneyd y show-room fyny erbyn dydd Sadwrn, y diwarnod cynta o’r sale am y tymhor, welwch chi, a dyna lle roedd Lorah a Hughes wrthi ac yndi dros eu penau a’u clustau.

 

“Mam fach! O, b’le dethoch chi, neno’r gallu?” mynte Lorah, pan welws hi fi’n sefyll yn nrws y show-room, waeth ro’wn i wedi myn’d lan yn streit trw’r shop pan wedson nhw wrthw i mai yn y show-room ‘roedd Lorah.

 

“O,” myntwn i, “dim ond galw hibo netho i ar y ffordd gatre o Lanelli. Rw i wedi bod yn aros am ddiwarnod neu ddau gyda Edward a Polly, weldi.”

 

“Wfft i chi, mam, na fyse chi’n hala gair i weyd y’ch bod chi’n dod, neu ynte yn dewis rhyw amser gwell na heddy, gan ta p’un.

 

 

 

 


None
(delwedd B0902b)

(Papur Pawb. 5 Mawrth 1898). Pennod 6.

Chaiff Hughes na fi ddim amser i fod gyda chi heddy. Ry’ ni’n bownd o ddodi pethau’n reit yn y show-room heno, tae hi’n fore fory arno ni’n dybenu.”

 

“Falle galla i helpu dipyn bach arnoch chi,” myntwn i. “Chi wyddoch chi Lorah fod taste anghyffredin gen i mewn peth fel’ny. Ry’ chi’n cofio’r te hyny yn yr ysgoldy gatre yco; fi daclodd yr ysgoldy jest i gyd y’n hunan y pryd hyny, a chi wyddoch gyment o sharad oedd amboutu hyny drwy’r ardal.”

 

“O, flinwn ni ddim ohono chi, mam-yn-nghyfreth,” mynte Hughes, yn dod mlaen, a llon’d ei freiche o fantls a jacedi. Roedd e wedi nghlywed i’n gweyd wrth Lorah, debygswn i.

 

Cyn i fi gael amser i aped e’, dyma swn y gong lawr steirau, a Lorah’n gweyd:

 

“Wel, chi ddethoch at amser cino bach nobl, mami, shwd gino ag yw e’ heddy. Rhaid i chi baso hibo i ni heddy. Dewch, Hughes. Licwch chi, mami, fyn’d i’r bedrwm gynta cyn myn’d i gino?”

 

“Fe licwn i gael lle i dynu’m monet off, ta beth,” myntwn i. “Dw i ddim yn hido am ishte wrth y ford a monet ar y’n mhen i, os galla i helpu.”

 

Fe wedes i hyn dipyn bach yn sych mae’n eitha gwir, wath ro’wn i wedi teimlo tipyn fod Lorah a Hughes mor ddihidans ohona i, gan taw dim ond rhyw dro ar shawns fel ‘ny rw i’n gallu myn’d hibo iddyn nhw, a fyse fawr gen i iddyn nhw i feddwl hyny.

 

“Do’wn i’n styried dim tipyn, mami fach,” mynte Lorah wed’yn, “ry ni mor fishi, welwch chi. Dewch gyda fi i’r bedrwm.”

 

A bant a ni’n dwy, a Hughes off lawr steirau i gino.

 

“Beth sy’ gyda chi yn y bambocs yna, mami?” mynte Lorah, pan o’wn i’n taclu tipyn ar ‘y ngwallt ar ol molchyd.

 

“O, rhywbeth bach geso i gyda Polly, yn Llanelli, i fyn’d gatre gyda fi,” myntwn i’n ddihidans bach.

 

“Os drwg i ddryched arno?” mynte Lorah.

 

“Na, drycha di faint fyn di, merch i,” myntwn innau, gan fyn’d mlaen i godi’n ngwallt.

 

Fe wedes wrtho chi o’r blaen, ond do fe, fod gen i wallt anghyffredin? Ac yn ol y mam i, fe ddylse menyw sy’ a gwallt pert gymeryd gofal ohono fe, a fe fydda i’n trio ngoreu i wneyd hyny hyd y galla i.

 

Ond nid cynt yr agorws Lorah’r bambocs, ac y tynws hi’r fonet maes, na dyma hi’n gwaeddi dros y lle.

 

“O, mami! dyma’r fonet fach fwya biwtiful welws y’n llyged i riod! Rwy’n bownd o gael ei gwel’d hi ar eich pen chi, mam. Gadewch i fi’ch helpu chi i godi’ch gwallt.”

 

A dyma hi yn y’n helpu i, yn gwmws fel roedd hi’n arfer pan yn groten gatre yn Gwmllydan.

 

“Rwy jest anghofio’r ffordd, mami,” mynte hi. “Ond mae gyda chi wallt splendid. Fe fyse’n dda gen i tae gen i gymaint o wallt a sy’ gyda chi, mam.”

 

“Allwn ni ddim cael pobpeth, Lorah fach,” myntwn innau. “Ac os cas Jane ‘y ngwallt i, fe gest ti’n nannedd i, a does dim glanach dannedd yn nhre Abertawe na sy’ gen ti, Lorah.”

 

Fe driwyd y fonet.

 

 

 

 

None

(delwedd B0902c)B0900

(Papur Pawb. 5 Mawrth 1898). Pennod 6.

 

“Rhoswch fyned, mami,” mynte Lorah. Mae ishe codi’ch gwallt chi dipyn bach yn uwch gyda’r shap hyn o fonet, rwy’n meddwl. Dyna hi nawr, first-clas a chetyn!”

 

A wir, pan ddryches i arna i’n hunan yn y clas, yn medrwm Lorah, ro’wn i’n gallu gwel’d fod y fonet yn ‘y ngweddu i’n gampus.

 

“Tria hi ar dy ben di, shwd mae hi’n dy siwto di, wish,” myntwn i.

 

A fe dacles dipyn ar ei gwallt hithau i gael e’ i siwto’r fonet.

 

“Ond dyw hi’n lovely, mami!” mynte hi wed’yn. “Mae’r shap yn newydd, a’r blodeu y mwya tasti weles i slawer dydd. Ond sobor anwl, dyma fi’n hala’in amser fan hyn gyda chi, a Hughes jest a hwanco am ‘i gino. Dewch, mami.”

 

Ond erbyn i ni fyn’d lawr steirau, doedd yno ddim golwg ar Hughes. Roedd e wedi cym’ryd ‘i gino ag off ag e’ yn ol i’r show-room.

 

Rw i’n lico gwel’d dyn yn mindo ‘i fusnes yn nobl, welwch chi; ond, wedi’r cwbwl, pan fo rhywun dierth gyda chi, ry chi’n lico dangos tipyn bach o barch i hwnw, a fe’i cymres hi dipyn bach yn hwith fod Hughes mor ddihidans, a fe ddangoses i hyny hefyd yn ddigon plaen.

 

“Os gwelwch yn dda, ma’am,” mynte’r lodes o forwm oedd yn tendo wrth y ford. “Fe arhosws mishtir am yn agos i hanner awr cyn dechreu cino i’ch dishgwl chi a mishtres lawr ddar y llofft, a fe wedws wrthw i am geisho gyda chi i baso hibo iddo fe, gan ‘i fod e’ mor fishi.”

 

“Pe bae e’n ffarmwr, ac yn stres cynhaua arno fe, fe all’swn ddyall,” myntwn i. “Ond pwy daro sy’ i fod ar shopwr? Does dim gwair na llafur gydag e’n dishtriwo yn y tywydd, ac yn galw arno fe i mroi bob mynyd o dywydd teg geiff e’. Ac am aros am hanner awr i’n dishgwl ni, dyw hyny ddim ond nonsens i’w weyd does dim hanner awr i gyd ddar w i yn y ty, os e, Lorah?”

 

“Rwy’n ofni’n bod ni wedi bod dipyn bach yn hir gyda’r fonet, mami,” mynte Lorah. “Mae hi’n nawr wedi dou o’r gloch, ac am un oedd y gong gino yn cael ei swno.”

 

Ond mae’r amser yn myn’d heb yn wbod i chi rywffordd yn y dre’.

 

Ar gino, fe setlws Lorah a finnau y cese Miss Williams, yr head milliner, fenthyg ‘y monet i am awr neu awr a hanner iddi gael trio gneyd un mor debyg ag y gall’se hi iddi i Lorah.

 

“Rwy’n ofni bydd Hughes yn cadw stwr a fi, hefyd, am gymryd Miss Williams y prydnawn yma,” mynte Lorah. “Mae e’n fishi iawn yn y show-room, a Miss Williams yw jest yr unig un all ‘i helpu e’ yno.”

 

A gwir y wedws hi. Roedd e’n anfolon tost i adel i Miss Williams fyn’d. Roedd yn fach gydag e’, os gwelwch yn dda, i fi adel ‘y fonet yno iddyn nhw dros ddydd Sul, i Miss Williams gael amser i neyd un arall pan na fyse stres. Ond mae gwrywod mor anystyriol. Rwy wedi sylwi’r un peth yn Dafydd ni, a rwy’n ofni nag yw Hughes ddim llawer gwell. A fe wedes i’n meddwl yn go blaen wrtho fe wedi i Lorah a Miss Williams fyn’d i’r workroom i neyd y fonet. Fe aroses i ar ol yn y show-room i gael rhoi unrhyw help all’swn i, a fe gym’res i

 

 


None
 (delwedd B0902d)

(Papur Pawb. 5 Mawrth 1898). Pennod 6.

 

fantais o hyny i weyd gair o’m meddwl wrth Hughes. Roedd e’n rhy gall i weyd llawer nol wrtha i, and fe rowsodd y bechgyn a’r merched yn ofnadw iawn -  a ro’wn i’n specto wrth hyny ei fod e’ ma’s o hwyl yn ymbeidus.

 

Ond os oedd e’, fe ddaeth nol i’w le heb fod yn hir. Roedd e’ wedi agor bocsed o mantls neis ymbeidus, a fe gitshes yn un ohonyn nhw, a fe dodes hi ar ‘y ngwar i, gael gwel’d shwd byse hi’n dryched, a roedd hi’n dryched yn splendid.

 

“Dyma fantl neis,” myntwn i wrth Hughes. “Fe fyse hon yn myn’d yn nobl gyda’r fonet geso i’n bresant gan ‘y merch-yn-nghyfreth yn Llanelli.”

 

Rwy’in credu yn ‘y nghalon i fi glywed e’n rhegu pan drows e’ ‘i gefen arna i i rowso un o’r bechgyn.

 

“Mae gwahaniaeth mawr rhwng dull rhai dynon o ymddwyn at eu perth’nasau yn nghyfreth, Hughes,” myntwn i, pan drows e’n nol.

 

Chymrws e’ ddim arno fe nghlywed i, ond mynte fe, mhen spel:

 

“Gymrwch chi’r fantl yna yn bresant geni, mam-yn-nghyfreth? Os licwch hi, cerwch a hi i rwm Lorah, a phaciwch hi yn y bocs yna i fyn’d gatre gyda chi heno.”

 

Chi welwch mai bachgen piwr digynnyg yw Hughes. Ond banner y peth yw cael mam- yn-nghyfraith all gydymdeimlo a ffwdan dyn mewn busnes. Fe dalws y shwrne ‘i ffordd yn nobl i fi, wath roedd gen i fonet newydd a mantl newydd yn cyrhaedd gatre’r nosweth hyny, heb gostio cinog i fi - ond cost y tren o Abertawe i Bontarddulais, a rwy’n ddig wrth yr hen flagard bach hyny ar y relway hyd heddy am wneid i fi dalu pan oedd gen i diced o Lanelli.

 

Ry chi’n gwel’d nawr shwd ro’wn i’n par’toi i fyn’d i Danybryn at Mrs Griffis y pyrnawn hyny.

 

(I’w barhau.)

 

 

 


None
(delwedd B0903a)

(Papur Pawb. 12 Mawrth 1898). Pennod 7.

PRIODI’R PLANT:
sef FFWDAN MAM-YN-NGHYFRAITH

(Hawlysgrif yr Awdwr.)

PENNOD VII. - Y PARLWR GOREU A’R JACED NEWYDD.

 

Wel, nawr te, am dana i yn Tanybryn.

 

Fel y gwedes i o’r blaen, fe etho i i’r parlwr back yn stret ar ol cino i daclu, a fe dynes y fonet geso i gyda Polly merchn-yn-nghyfraith mas o’r bambocs, a’r fantl geso i gyda Hughes, y mab-yn-nghyfreth, mas o’r dror, a fe wishges y ddwy. A dyna’r tro cynta i fi i gwishgo nhw hefyd. Doedd dim o’r tywydd wedi caniatau i fi gwishgo nhw y ddou ddy Sul diwetha; a fel gwyddoch chi doe nhw ddim gen i’r dydd Sul cyn hyny. Felny down i ddim wedi cael shawns i gwishgo nhw o gwbwl cyn y pyrnawn hyny.

 

Pidwch chi a meddwl wrth hyny nawr mai un wastrafflyd ar bethe w i. Na, fe fentra i weyd na chewch chi neb yn holl Ddyffryn Tywi yn fwy gofalus am i ddillad fel am bob peth arath nag w i. Rw i’n cofio’r hen hweddel mai yn ngenau’r sach mae cynhilo’r blawd, a fydda i byth yn rhydeg dros ben pethau gyda mod i’n ‘u cael nhw: Dw i byth, neu o leia nemor byth, yn gwishgo nillad gore ar ddwarnod gwaith. Rw i wedi bod yn myn’d a nillad ail oreu lawer pryd i de ar ddwarnod  gwaith at rai o’r menywod stansha rhwng Llandeilo a Chaerfyrddin, a dos dim cwiddyl arno i i weyd hyny chwaith. Dillad parch yw  dillad parch, a dillad parch ddylse nhw fod, weda i. Ond fyddan nhw ddim yn barch yn hir os byddwch chi’n ‘u gwishgo nhw i bob man daear.

 

Ond fel gwyddoch chi ‘roedd amgylchiadau neillduol yn galw dros i fi findo’n hits y pyrnawn hyny. Mae tipyn bach o “come up” yn Mrs Griffis, Tanybryn a rown i am ddangos iddi gallswn inau fod “cuwch cwd a ffetan.” Fydd dim byd yn y’n hala i fwy mas o hwyl na gwel’d rhyw un yn cael mantais arnoch chi, neu’n cymryd mantais arnoch chi, am eu bod nhw yn digwydd tori tipyn mwy o swel na chi. Mae’r Mouredd yn i wybod e, does dim rhyw hen ffrwmp a balchder yndw i; welws neb arwlydd o hyny yndw i eriod, rwy’n siwr o hyny, - ond hen beth cas ymbeidus yw i chi ymddangos dan anfantais pan bo chi’n cwrdd a rhyw un fel Mrs Griffis, Tanybryn, sy a jest digon o wynt yndy hi i’w chodi hi oddiar y ddaear.

 

Dyna pam ro’wn i’n gwishgo nillad parch goreu y pyrnawn hyny. A mae’n rhaid i fi weyd roe’ nhw’n dryched yn splendid am dana i. Allswn i i ddim gwel’d yn dda iawn yn yr hen barlwr bach chwaith. Hen dwll o le bach tywyll yw e, a dim lle i roi glas ar y mamplish na dim byd. Rw i wedi bod yn gweyd wrth Dafydd er’s llawer dydd bod hi’n  hen bryd iddo fe fildo ty newydd, rhog i gwiddyl e.

 

Ac i chi gael gwel’d nawr fath un yw Dafydd ni, a mor lleied o gydymdeimlad sy

 

 

 

 


None
(delwedd B0903b)

(Papur Pawb. 12 Mawrth 1898). Pennod 7.

gydag e a’r menywod a’u trafferth. Beth i chi’n feddwl, o brysur calon, wedws e pan ow’n i’n ffaelu penderfynu b’le dodswn i’r shiffaner.

 

“Weda chi, Jane, b’le dodwch chi,” mynte fe.

 

“B’le?” myntwn inau, yn falch anghyffredin i feddwl fod Dafydd yn myn’d i’n helpu i mas o’r dryswch.

 

“Ar ben yr haffdrors,” mynte fe. “Fe all pawb i wel’d e fan ‘ny. Mae’n drueni fod glas mor gwmws a sy yn ddrws y shiffoner yn cael i guddio ar bwys y llawr fan na. Tae e ar ben yr haffdrors, weldi, fe allswn i wel’d i shafo yndo fe bore dydd Sul.”

 

Glywsoch chi fath hen un dwl eriod? Ond dyna shwd un yw Dafydd, welwch chi.

 

Ond er taw fi sy’n i weyd e, does dim neisach parlwr yn un lle yn yr ardal nag sy gen i. Onibai byse chi’n meddwl falle mod i’n rhican gormod arno i’n hunan, fe fyswn i’n gweyd nag os dim un drawing rwm yn nhre Llandeilo, na nemor un yn nhre Caerfyrddin chwaith, sy’n edrych yn well na pharlwr goreu Cwmllydan, dyna chi! A nid rhyw hen bethau brafra sy yno chwaith, ond eitha celfi substantial, y goreu allech chi gael am arian. Dyna shwd le yw parlwr Gwmllydan, os gwelwch yn dda, - a all Mrs Griffis, Tanybryn, ar waetha’i ‘dannedd, ddim dangos dim byd tebyg iddo fe - fel gwedes i wrth Dafydd ni, hefyd, pan oedd e’n brolian a brolian Tanybryn y peth hyn a Thanybryn y peth arall.

 

“Chi a’ch Tanybryn,” myntwn i. “Os parlwr yn Tanybryn yn debyg i barlwr Cwmllydan licswn i wbod? Neu shiffaner a drws glas yndo fe, licswn i wbod?”

 

A doedd gydag e ddim gair i weyd - ond dim diolch iddo fe chwaith o ran hyny.

 

Falle’ch bod chi’n synu mod i’n gweyd am y parlwr goreu yn Nghwmllydan pan own i ar y ffordd i’r visit i Danybryn. Ond cymrwch chi bwyll. Pidwch chi a chamsyned a meddwl nag w i ddim yn gwbod beth w i’n wneud welwch chi. Chi gewch chi wel’d mod i’n eitha reit wedi’r cwbwl, fel arfer. Dw i ddim fel Dafydd ni yn gweyd stori - whiw fan hyn, a whiw fan yco, na wyddoch chi ddim b’le yn y byd y bydd e. Na, nid un fel ny w i’n gweyd stori. Pan fydda i’n gweyd stori rw i’n myn’d yn streit at y point, a dyna shwd w i’n myn’d trwy barlwr goreu Cwmllydan ar y ffordd i Danybryn.

 

Dyma shwd mae hi. Fe wedes i wrtho chi o’r blaen ond do fe, mae hen dwll bach tywyll yw parlwr bach Cwmllydan, a dim glas uwch ben y mamplish na dim. Wel, rown i’n teimlo mai trueni na faswn i’n cael golwg iawn a llawn arno i’n hunan cyn starto sha Tanybryn.

 

Rw i’n lico cael golwg felny cyn myn’d mas, nenwedig os bydda i’n gwishgo rhywbeth newydd am y tro cynta. A fe weda chi pam. Fe weles i hen  dro bach lletwith ymbeidus yn digwydid i fi shwrne. Rown i wedi bod yn Llandeilo fe se [fyse??] ar byrnawn dydd Sadwrn, a wedi prynu jaced barod i fi’n hunan yno. Roedd hyny cyn bod Hughes y Shop, Bertawe, wedi priodi Lorah ni, chi wyddoch; wath byth wed’yn gydag e rwy’n pyrnu pobpeth fel’ny, wrth gwrs; am mod

 

 

 

 

 


None
(delwedd B0903c)

(Papur Pawb. 12 Mawrth 1898). Pennod 7.
 

i’n meddwl dylse pob un helpu ei dylwth ei hunan, ac am fod gwell bargen i gael yn shop Hughes, mab-yn-nghyfreth, nag yn un man y gwn i am dano.*

 

*Yr ydym wedi croesi allan fan yma hanner dwsin o frawddegau yn y rhai y noda Mrs Jones brisiau nwyddau neillduol yn Shop Mr Hughes. Rhaid i ni ddyweyd eto mai fel hysbysiad yn unig y gellir caniatau i beth felly ymddangos. - Gol. “Papur Pawb.”

 

Wel, fel rown i’n gweyd wrtho chi, fe wishges i’r jaced boreu Sul, yn y parlwr bach, a gan mod i wedi cael y’n rhwyestro tipyn bach y boreu hyny, a ngwallt i wedi dod yn rhydd pan own i’n dodi’n monet ar y mhen, roedd hi wedi myn’d dipyn bach yn ddiweddar, a phawb wedi myn’d o mlaen i sha’r cwrdd. Fel’ny fe hastes inau i fyn’d gynta byth y gallswn i ar eu hol nhw, a’r jaced am dana i, wrth gwrs, ond ddales i ddim o honyn nhw nes oe nhw yn nrws y tycwrdd yn myn’d miwn, a fi oedd y dwetha on teulu ni yn myn’d miwn. Mae’n set ni, fel gwyddoch chi, jest yn y pen pella orwth y drws, a fel’ny roedd pawb, wrth gwrs, yn gallu’n gwel’d ni, a chael gwel’d beth sy gyda ni os bydd rhywbeth newydd gyda ni.

 

Wel, fe sylwes i’r boreu hyny fod jest pawb yn edrych arna i’n myn’d lan i’r aley, fel se gyrnau ar y mhen i, a ro’wn i’n meddwl, wrth gwrs, mai edrych ar y’n jaced newydd i oe nhw. A fel’ny roe nhw hefyd, o ran hyny, a fe ddechreues fod yn fwy ples ar y margen, er fod y jaced wedi costi cinog a dimai fach neis i fi. Wath rown i’n meddwl os oedd y’n shaced newydd i’n werth i bawb i ddryched fel ny ar y nol i y tro cynta i fi i gwishgo hi fod rhaid ei bod hi’n rhywbeth onghomon iawn.

 

Wel, mae set Tanybryn jest goferbyn a’n set ni, yr ochor arall i’r aley, a roedd Mrs Griffis yno o’n blaen ni. Pan ishteddes i yn y set a thowlu llygad ar Mrs Griffis fe welwn i bod hi wedi myn’d mor goched a’r gwaed yn ei gwyneb a rown i’n meddwl mai jealous oedd hi am fod gen i jaced newydd. Ond ar ddiwedd y cwrdd, dyma hi’n agor drws y set gynta o bawb, ac yn dod i shiglo llaw a fi, a fe nghadws i fan’ny nes oedd hanner y dynion wedi myn’d mas, a finau’n benwan ishe cael myn’d iddyn nhw gael gwel’d y’n shaeced i. Ond pan dries i agor drws y set dyma hi’n sishal yn y nghlust i: -

 

“Mrs Jones,” mynte hi. “Mae ticet y shop ar y’ch shaced chi tu ol. Dodwch un o’r merched i dynu e bant dyn ewch chi mas.”

 

Ac o’r mowredd anwl! Pan ddishgwyles i dyna lle’r oedd yr hen diced gwr drwg ar gefn y’n shaced i yn blaen i wala, a finau yn y’n hast heb i dynu e bant y bore hyny, a’r hen barlwr bach yn rhy dywyll i fi wel’d y’n hunan yn y glas yn reit. Fe allswn jest suddo i’r ddaear gan gwiddyl wrth feddwl mod i wedi martsho fel’ny holl hyd y tycwrdd a thicet y shop ar gefen y’n jaced i.

 

Rwy’n shiwr fod Mrs Griffis, yr hen bishyn shwd ag yw hi, wedi cael sport neis am y mhen i wedi myn’d mas o’r cwrdd y bore Sul hyny!  

 

(I’w barhau.)



 

 

 

None

(delwedd B0904a)

(Papur Pawb. 19 Mawrth 1898). Pennod 8.

PRIODI’R PLANT:
sef FFWDAN MAM-YN-NGHYFRAITH

(Hawlysgrif yr Awdwr.)

PENNOD VIII. - YN TANYBRYN.

 

[sic; = VIII]

 

Dyma n’n drefnus iawn yn gallu myn’d mlaen a’r hanes a gweyd wrtho chi am y fisit i Danybryn, a dangos selfishness Mrs Griffis i chi. Ry chi’n deall nawr beth own i’n wneud yn y parlwr gore cyn myn’d maes, am nag oedd dim glas ffit i ddyn i ddryched yndo fe i gael yn y parlwr bach. Down i ddim am fyn’d sha Tanybryn welwch chi, a falle ticed y shop yn hongan wrth y fonet, neu yn stico ar y mantl newydd.

 

Wedi satisfyo’n hunan na allse Mrs Griffis gael dim byd maes o le yndw i, dyma fi’n starto i gael myn’d. Ond gyda mod i’n agor drws y parlwr pwy welswn i ond Dafydd ni wedi dod mewn o maes i moyn rhywbeth.

 

“I beg pardwn, ma’am,” mynte fe pan welws e fi gynta, waeth rown i wedi tynu’r veil lawr dros y ngwyneb, a felny welws e ddim o ngwyneb i i nabod i ar y tarawiad cynta.

 

Rown i dipyn bach yn shy hefyd, waeth a gweyd y gwir i chi, dyna’r tro cynta eriod i fi wishgo veil welwch chi. Dyw hi ddim yn ffashwn gyda ni ffordd hyn i wishgo veils, dim ond gwragedd a merched y gwyr mawr. Ond rown i wedi gweled cyment o wishgo arnyn nhw pan own i tua Llanelli ag Abertawe, welwch chi, a Polly, merch-yn-nghyfreth, oedd wedi rhoi’r fonet i fi wedi’n sharso i i wishgo veil gyda’r fonet, fel rown i wedi penderfynu gwneud. A fe netho.

 

Felny pan etho i maes o’r parlwr dwp yn erbyn Dafydd, a’r fantl newydd ar y’n ysgwyddau, a’r fonet newydd ar y mhen, a’r veil lawr dros y ngwyneb, nabyddws Dafydd un tipyn mo hono i.

 

“I beg pardwn, ma’am,” mynte fe, ac yn cochi iddi ddou clust.

 

Un shy iawn yw Dafydd ni, welwch chi.

 

Allswn i ddim pido wherthin i wel’d e’n cochi fan ny o flaen i wraig, ac yn begian y mhardwn i.

 

Ond fe nabyddws Dai y’n llaish i’n hwerthin, a dyma fe’n gweyd: -

 

“Danco chi, Jane, los! - Chi sy ‘na? Fe gredes ta mishtres oedd wedi dod i roi tro am dano ni.”

 

“Falle wir,” myntwn inau. “A begio pardwn y’ch mishtres, a danco’ch gwraig iefe? Neis iawn wir!”

 

“Ry chi’n smart ymbeidus. los! B’le ry chi’n myn’d mor smart a yna? A beth yw’r hen fflwcs yna sy gyda chi dros eich gwyneb?”

 

“Un rhyfedd i chi. Dafydd Ond gwyddoch chi mai veil yw hon?”

 

“Ie, ie, mi wn i hyny’n nobl, ond beth y chi, Jane, yn neud a veil? Dyna beth w i am wbod.”

 

“Falle wir! Fel pe na byse’ch gwraig chi’n ddigon da i wishgo veil gwlei? Cerwch chi i’r trefi yna a fe gewch pob lodes o forwn yn gwishgo veils nawr. Ac os bosib os na alla i wishgo veil ambell waith.”

 

“Ond b’le ry chi’n myn’d?” mynte fe.

 

 

 


None
(delwedd B0904b)

(Papur Pawb. 19 Mawrth 1898). Pennod 8.

“Mae hyny gen i,” myntwn i. “Ry chi’n ganu myn’d a dod pryd myno chi, heb ofyn cenad i neb ond Mrs Griffith, Tanybryn, a mae’n enbed o beth na alla inau gael myn’d weithe?”

 

Atebws e ddim byd am fynyd. Yna mynta fe,

 

“Pryd cawn ni’ch dishgwl chi nol?”

 

“Wn i yni y byd,” myntwn i. “Falle ca i gyment o reso man lle rwy i’n myn’d ag y chi’n gael yn Tanybryn. Ac os fel ny dyn a wyr pryd dywa i’n ol.”

 

“Jane,” mynte fe, braidd yn savage, waeth fe all Dafydd fod yn gas weithe. “Peidwch sharad dwli! Licwch chi i fi ddod i gwrdd a chi’n dod nol?”

 

“Gwnewch chi fel mynoch chi, Dafydd bach,” myntwn inau, yn starto i fyn’d.

 

“B’le ca i ddod i gwrdd a  chi?”

 

“B’le mynoch chi,” myntwn inau, ac off a fi.

 

Fe droies y mhen nol dros y’n ysgwydd ar bwys gat y clos, a dyna lle ‘roedd Dafydd yn sefyll ar step y drws yn dryched ar yn ol i.

 

“Os byddwch chi’n dod i gwrdd a fi, Dafydd,” myntwn i wrtho fe, rhog trueni o’r diwedd: “chi gewch y’n hanes i gyda Mrs Griffis, Tanybryn,” a bant a fi.

 

Wel wn i ddim pryd enjoyes i walk yn debyg slawer dfydd. Roedd gwaith Dafydd ni’n begian y’n mhardwn i wedi gweyd mwy wrtha i nag oedd y glas uwch ben y mamplis yn y parlwr goreu wedi weyd, a mi wyddwn y’n mod i’n edrych yn deidi ymbeidus.

 

Ond fe fues i just a bursto maes i hwerthin unwaith neu ddwy ar y ffordd, pan gwrddswn i a rhai o’r cymydogion, un yn gwneud bow a’r llall yn gwneud cyrtshi. Fe dynws Dafydd, y gof, i hat i fi, wrth fyn’d hibo, a fe wnaeth gwraig y Llety gyrtshi nes twtsh y llawr. Row’n i’n wherthin yndw i’n hunan ar ol myn’d hibo, nenwedig am ben gwraig y Llety, waeth hen un uchel ymbeidus yw hi, just cynddrwg a Mrs Griffiths, Tanybryn; a  ‘roedd cwpwl o eiriau bach cas wedi paso rhyngty hi a fi ar Hewl y Farchnad, yn Llandilo, y dydd Sadwrn cyn hyny.

 

“Dyna ti’r hen ladi,” myntwn i wrthw i’n hunan, wedi iddi hi fyn’d hibo. “Falle byddi di dipyn bach yn fwy gofalus am dy dafod pan gwrdda i di’r tro nesa yn Hewl y Farchnad, yn Llandilo.”

 

A gwir y wedais i hefyd. Roedd hi’n fwy gofalus i thafod. Wedws i’r un gair o’i phen, ond troi bant fel bollt pan welws hi fi’n dod. Roedd hi wedi dod i wybod erbyn hyny, welwch chi, waeth ‘roedd hi wedi’n ngwel’d i yn y tycwrdd, dydd Sul, a’r fantl a’r fonet, ar veil a chwbwl fel rown i’r diwarnod rhows hi’r cyrtshi i fi ar yr hewl pan own i’n myn’d i Danybryn.

 

Dw i ddim yn credu fod gwraig y Llety wedi maddeu iddi hi ei hunan byth am i bod hi wedi rhoi cyrtshi i fi’r diwarnod hyny. A fe wn fod Dafi’r, gof, wedi provoko’i shar arni, waeth fe glywes i Guto’r gwas yn gweyd. Roedd Guto, welwch chi, wedi myn’d i’r efel ryw noswaith, a fe ddaeth gwraig y Llety hibo, a phar o sgitshe yn ei basged i gael eu hoelo.

 

Dyma Dafi’n citsho yn y sgitshe, ac yn edrych arnyn rhw, ac yn gofyn shwdl licse hi cael nhw wedi eu hoelo.

 

 

 

 


None
(delwedd B0904c)

(Papur Pawb. 19 Mawrth 1898). Pennod 8.

“Fe weles bar o sgitshe wedi eu hoelo yn bert ymbeidus gyda gwraig Cwmllydan,” mynte fe. “Licsech chi i fi gneud nhw felny?”

 

Ffordd yr hen wrdrwg i fyn’d amboutu gwraig y Llety, a’i llynu hi maes oedd hyny wrth gwrs, waeth fe wydde well nag w i byth yn gwishgo sgitshe hoelon, dim ond pedol fach yn ol, a phlat bach teneu, teneu, yn mlaen. I gelwydd mawr e oedd gweyd ‘y mod i’n gwishgo sgitshe hoelon. Ond wyddai wraig y Llety, diruan bach, ddim gwell.

 

Ond dyma hi’n codi ei thrwyn. “Na i dim diolch i chi, Dafis! Hoelon plaen w i’n moyn. Dw i ddim wedi dysgu cym up y dre’, diolch i’r mowredld.”

 

“Nag y chi, mi’ch mentra i chi,” mynte fe’n ol. “Ond gwedwch wrtha i, pwy oedd y ledi gwrddsoch chi ar yr hewl, pwy ddiwarnod? Fe glywes eich bod chi, a menywod erill, wedi ffansio ‘i dillad hi’n ymbeidus. A roedd Jack Tydraw yr ochor draw i’r berth, a mae e’n gweyd eich bod chi’n shwr o gofio pwy oedd hi, waeth fe rhoisoch chi gyrtshi mawr iddi wrth fyn’d hibo.”

 

“Ei anwiredd mawr e yw hyny!” mynte hithe, yn cochi fel y tan. “Netho i ddim ond plygu i godi tipyn bach ar ‘y ngardys!”

 

Dyna chi shwd un yw gwraig y Llety. Ond hen foy ymbeidus yw Dafi’r gof.

 

“Un smart y chi, Mrs Jones,” mynte fe wrtha i tranoeth, pan oedd e’n dod i Gwmllydan i wneyd rhywbeth i’r engine chaffo.

 

“Be’ sy’n bod nawr?” myntwn i.

 

“Ow,” mynte fe. “Fe glywes y’ch hanes chi nithiwr, a bod gwraig y Llety wedi rhoi cyrtshi hyd y llawr i chi. A wir, fe gredes i’n hunan mai un o ladies y Gelli Aur oe chi pan gwrddes i a chi.”

 

“Taw son, Dai!” myntwn i. “Mae rhyw hen snecs fel ‘na gen ti stil.”

 

“Chi wyddoch chi well na hyny, Mrs Jones,” mynte fe. “Does, yma ddim menyw arall yn yr ardal all’se neyd i fi feddwl mai un o ladies Gelli Aur yw hi.”

 

Ond rwy’n gweyd am Dafi’r gof stil mai un o’r dynon mwya craff yn yr ardal i gyd yw e.

 

Ond ta beth, mlaen a fi tua Tanybryn, a chnoco wrth ddrws y ffrynt. Mae drws y back yn Tanybryn, ond fydda i byth yn myn’d ffor’ ny. A mae hanner ucha drws y ffrynt yn lass’. Tipyn o hen ffrwmp yn Mrs Griffiths oedd ei gael e’ fel ‘ny. Ond fe atebws ‘i ddiben y tro hyn. Fe ngwelwd i rywffordd drwy’r glass yn y drws, wa’th pan ddaeth y forwn i’r drws, roedd ffedog lan o’i blaen hi, a fe gymra in llw mod i wedi gwel’d hi’n ei chlymu hi am ei chanol wrth ddod drwy’r passage.

 

Dyma hono wed’yn yn gwneyd cyrtshi i fi pan agorws hi’r drws.

 

“Is Mrs Griffiths in?” meddwn i.

 

“Yes, ma’am. Please walk in, ma’am. This way, ma’am,” mynte’r forwn.

 

A finnau jyst a byrsto gan hwerthin, waeth hen lodes o forwn i fi oedd hi, oedd wedi myn’d i Danybryn orwtha i Clangaua cyn diwetha.

 

“I call Mrs Griffiths now, ma’am. Please sit down,” mynte hi, ar ol y’n nhroi i i’r parlwr ffrynt, a thynu ei ffedog dros un o’r stolan [sic; = stolau] yna.

 

(I’w barhau.)

 

 

 Sumbolau:

a A / æ Æ / e E / ɛ Ɛ / i I / o O / u U / w W / y Y /
ā
Ā / ǣ Ǣ / ē Ē / ɛ̄ Ɛ̄ / ī Ī / ō Ō / ū Ū / w̄ W̄ / ȳ Ȳ /
ă Ă / ĕ Ĕ / ĭ Ĭ / ŏ Ŏ / ŭ Ŭ /
ˡ ɑ ɑˑ aˑ a: / æ æ: / e eˑe: / ɛ ɛ: / ɪ iˑ i: / ɔ oˑ o: / ʊ uˑ u: / ə / ʌ /
ẅ Ẅ / ẃ Ẃ / ẁ Ẁ / ŵ Ŵ /
ŷ Ŷ / ỳ Ỳ / ý Ý / ɥ
ˡ ð ɬ ŋ ʃ ʧ
θ
ʒ ʤ / aɪ ɔɪ əɪ uɪ ɪʊ aʊ ɛʊ əʊ /

ә ʌ ẃ ă ĕ ĭ ŏ ŭ ẅ ẁ Ẁ ŵ ŷ ỳ Ỳ
wikipedia, scriptsource. org

Y TUDALEN HWN /THIS PAGE / AQUESTA PÀGINA:

www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_158_priodi-r-plant_1898_rhan-1_0338k.htm

Ffynhonnell / Font / Source:  Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Creuwyd / Creada/ Created: 04-11-2017

Adolygiadau diweddaraf / Darreres actualitzacions / Latest updates: 04-11-2017

Delweddau / Imatges / Images:

 

Freefind:

Archwiliwch y wefan hon
SEARCH THIS WEBSITE
...
Adeiladwaith y wefan
SITE STRUCTURE
...
Beth sydd yn newydd?
WHAT’S NEW?


Ble’r wyf i? Yr ych chi’n ymwéld ag un o dudalennau’r Wefan CYMRU-CATALONIA
On sóc?
Esteu visitant una pàgina de la Web CYMRU-CATALONIA (= Gal·les-Catalunya)
Where am I?
You are visiting a page from the CYMRU-CATALONIA (= Wales-Catalonia) Website
Weə-r äm ai? Yüu äa-r víziting ə peij fröm dhə CYMRU-CATALONIA (= Weilz-Katəlóuniə) Wébsait



 Free counter and web stats Statistics for Welsh Texts Section / Ystadegau’r Adran Destunau Cymraeg