kimkat0324k Y Cymro Oddicartref. Llythyr or Cadfaes. Brinley Thomas. Y Darian. 25 Ionawr 1917.

09-10-2017

● kimkat0001 Yr Hafan www.kimkat.org
● ● kimkat2001k Y Fynedfa Gymraeg www.kimkat.org/amryw/1_gwefan/gwefan_arweinlen_2001k.htm
● ● ● kimkat0960k Mynegai ir testunau Cymraeg yn y wefan hon www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_mynegai_0960k.htm
● ● ● ● kimkat0324k Y tudalen hwn

0003_delw_baneri_cymru_catalonia_050111
(delwedd 0003j)

..


 

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Catalunya i Galles

Y Cymro Oddicartref. Llythyr or Cadfaes.
Brinley Thomas.
Y Darian. 25 Ionawr 1917.



a-7000_kimkat1356k
Beth syn newydd yn y wefan hon?
Whats new in this webste?



(delwedd 7282)

 

CYFIEITHIAD SAESNEG / ENGLISH TRANSLATION:

www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_154_y-cymro-oddicartref_1917_SAESNEG_0357k.htm

 

 

 

 

None

(delwedd B0434)

Y Darian.

25 Ionawr 1917.

Y Cymro Oddicartref.

 

--

 

Llythyr or Cadfaes.

 

--

 

Annwyl Mr. Jones,-

A mi eto yng ngoror y cymhelri, ymgymeraf ag ysgrifennu gair byw atoch. Yr oedd gwnau Mehefin ar wyneb y wlad [gymeraf ag ysgrifennu gair byrr atoch.] o'r blaen; ond, heno, mae oriau hwyrnos Ionawr yn ysgwyd en llenni o fraw; oer gethin yw'r gwynt, a thuallan eheda'n chwim

 

Ar Edyn Chwyrn

 

hyd fryn a dl, tra clywir cor diddail y wig yn cyfeilio'i alaw ar ei leddfol dant. Mae'n ddechreu blwyddyn, ac unaf Ben, y Prifardd or Pant Teg, i ddweyd:

 

Dy gariad di, Gair y Tad - fo nodded

Dros fy nyddiau'n wastad;

Dy hedd yn wledd i fy ngwlad,

Dyma heno'm dymuniad.

 

Ie, cladder rhyfel, a chladder hefyd ei addolwyr, a diolch am y gred fod

 

Bolsasar Berlin

 

yn gweled y llaw yn ysgrifennu ar y pared, Ti a'th bwyswyd yn y cloriannau ac gaed yn brin." Nid gwiw cael heddwch a'r blaidd i aros; geilw'r byd am hedd digwmwl; wedi gyrru'r blaidd rheibus dros y ffin, ceir hedd i'r gorlan, ac nid cyn hynny. Mawr oedd fy mhleser wrth ddarllen erthygl ardderchog fy hen gyfaill Henry Lewis yn Nharian" Rhagfyr 28, 1916. Deallaf ei fod yn gorwedd yn Ysbyty Cheltenham, wedi misoedd gyda'r fyddin yn Frainc [sic]. Cydymdeimlaf ag ef i'r eithaf, a boed iddo adferiad llwyr yn fuan, buan. Hoffais yn rhyfedd ei syniad mai

 

Rhyw Deulu Mawr

 

yw darllenwyr y "Darian," a phob aelod o'r teulu yn cwrdd tan ei chysgod hael o wythnos i wythnos. Wrth ddarllen ei eiriau i'r cywair hwn, teimlais ryw gariad rhyfedd at Gymru a Chymraeg, ac anghofiais am ennyd yr heldrin fawr. Ymgollais yn y syniad o Gymry yn frodyr, ai "Tharian" en hiaith rhyngddynt pheryglon estronol. Da iawn, Henry, melys meddwl fy mod yn cael y pleser o dy gwrdd bob wythnos wrth fwrdd y 'Darian.' Deui'n wastad i fy meddwl fel

 

Cymro o Athrylith Loew,

 

a chlywaf yn dy eiriau yn y "Darian" ecor dyddiau fu yn Ysgol Sir Ystalyfera, pan yr enillaist enw i'th hunan a chlod i'th iaith drwy dy alluoedd uchelryw yn y Gymraeg.

 

Gyda llaw, Mr. Golygydd, paham na chlywir llais fy hen gyfaill Emrys Evans yn amlach? Gwn ei fod yn dod at fwrdd y Darian bob wythnos, a mawr hoffwn ei glywed yn siarad. Dau gawr Ysgol Ystalyfera oedd

 

Henry ac Emrys;

 

dau Gymro dihafal, ac y mae Prifysgol Cymru heddyw yn falch o'u cyfrif yn aelodau. Ie, Mr. Golygydd, rhowch dro am Emrys, a gadewch i deulu'r Darian ei glywed yn traethu ei farn ar Gymru a Chymraeg.

 

Wel, i ddod yn ol at erthygl Henry Lewis, da oedd gennyf ei glywed yn siarad dipyn yn llym parthed y rhai fyddant, wrth ymgyfoethogi, yn troi i siarad Saesneg. Mac inni gysur, er hynny, wrth feddwl mae plant y 'little knowledge' yw y rhan fwyaf, ac ar gyfrif hynny, gellir eu hesgusodi i raddau helaeth. Dioddef y maent oddiwrth glefyd y wybodaeth fechan, ac am hynny haeddant ein cydymdeimlad. Pe gwnelid 'multiplication sum' o'u hachlysur, cawn fod ymennydd bach a llogell fawr yn cynhyrchu gwthuni, mympwy, a thrueni meddyliol. Ond y mae dosbarth arall, ysywaeth, sy'n siarad Saesneg oddiar y syniad eu bod yn

 

Tyfu yng Ngolwg Eraill

 

wrth wneud hynny; ac, yn wir, ni pherchnogant na llogell fawr na phen meidrol i'w cymeradwyo. Cyfeiriaf at y duedd sy'n ffynnu ymhlith bechgyn a merched ieuainc i siarad rhyw fath ar efelychiad gwael o'r Saesneg ar hyd ein hystrydoedd. Ni fedrant Gymraeg rhesymol gywir, ond y mae eu Saesneg yn resynnus o dlawd. Ceisiant roi'r argraff eu bod wedi derbyn addysg na fedd y cyffredin: ond, yn wir, ffug ddi-lwydd yw hi, a thrueni mawr fod rhieni Cymreig yn foddlon i'w plant ymddwyn mor ffl, ac i dyfu'n destunau crechwen i eraill, drwy werthu eu hanwybodaeth mor rhad. Darfu imi un dydd ar y maes ddod i gyffyrddiad a chatrawd Gymreig. Wrth gwrs, euthum i geisio siarad a rhai o'm cyd-wladwyr, gan deimlo'n falch o'r cyfle i siarad fy heniaith yn yr allfro bell. Gofynnais i un ohonynt ai Cymro ydoedd? Atebodd yn Saesneg mai Cymro oedd, ond

 

Heb Fedru

 

iaith y Cymry. Ni theimlais mor angherddol dros fy iaith erioed, a rhedodd fy meddwl at eiriau Goronwy Ddu o Fn yn ei lythyr i Richard Morris: What if we find our countrymen the greatest strangers to it (the Welsh language)! I blush even to think it, but am afraid that the reflection will be found but too just on Cambria's ungrateful, undutiful sons." Dywedais innau wrth y Cymro (?) hwn, - a gyfrif ei hun yn Gymro, a gwisgo "badge" Cymreig ar ei ysgwydd, y dylasai fod yn medru iaith ei fam. Bu fy amynnedd yn rhy brin i aros am ei ateb. Heb fedru'r Gymraeg o gwbl, yr oedd

 

Ei Saesneg, Druan ag Ef,

 

mor anystwyth a rhwd trwchns, a'i acen mor glogyrnog a chert cerrig yn dod i lawr i hyd ffyrdd ysgythrog y mynydd-dir. Trueni fod rhai o blant Cymru mor annhebig iddi, onide? Tarawiadol yw geiriau J.J.

 

Aradr brd ar ei brodir difaodd

Fywyd tirf ei rhandir.

 

Gwawried y dydd pan fyddo rhieni Cymru yn gofaiu fod eu plant yn medru eu hiaith, cyn crwydro o honynt hyd feysydd iaith estronol, lle na allant rodio'n ddiogel, am nad yw eu seiliau yn ddigon ddi-sigl.

 

 

 

None

 

(delwedd B0435)

 

Cyfeiriodd Henry ymhellach at y perigl yng Nghymru o

 

Coroni Cwaeledd.

 

Gwir, a gresyn hynny! Pan fo nifer o ymgeiswyr yn cynnyg am swydd, yn ami ni ddarllenir barn eu hathrawon amdanynt, a theflir eu tystiolaethau o'r naill du fel scraps of paper.' Holir hanes a helynt eu tadau, a natur perthnasau eu mamau, a gadewir iddynt hongian wrth raffau meinion perthynas. Dihuned Cymru yn y cyfeiriad hwn! Os nad yw ieuengwr yn deilwng o swydd heb alw ar ei dad iw gynhorthwy, chwilied feysydd eraill, lle y medr sefyll ar ei draed ei hyn. Ond gwaeth na hyn ywr hen arferiad yng Nghymru o roi

 

Sais Gwael

 

o flaen Cymro da. Os bydd Cymro a fo wedi graddio'n anrhydeddus ym Mhrifysgol Cymru, yn cynnyg am swydd yn erbyn Sais, fyddo wedi llwyddo yng Nghaergrawnt neu Rydychen i glytio unrhyw fath ar radd, rhoir y flaenoriaeth bron yn ddieithriad i'r Sais uniaith. Hawdd prydyddu mewn hwyl am freudchwydion Glyndwr parthed sefydlu Prifysgol yng Nghymru; ond, beth pe codai yr hen arwr o'i fedd i weled y driniaeth ga graddedigion Prifysgol Cymru yng Nghymru! Cenir mawl ein Prifysgol 'genedlaethol,' ac eto rhoddir y flaenoriaeth yn aml i efrydwyr llai eu gwerth o Brifysgolion Lloegr. Dyma'r rheswm y gwelir Cymry ienanc, wrth adael y Brifysgol, yn gorfod ffoi i Loegr am swydd, tra llwythir Cymru ei hun a Saeson uniaith; ac anodd gennyf gredu y daw Sais i Gyrnru, os bydd yn ddigon da i gael lle yn ei wlad ei hun. Gwelir goreuon Cymru, felly, yn croesi'r ffin i Loegr a gwaelion y wlad honno yn arllwys i fewn i Gymru. Y mae mor wir heddyw ag yr oedd yn nydd Syr Risiart Harbert Hen, pan ganodd:

 

Chwi a ellwch a'ch allwydd

Roi clo ar Sais rhag cael swydd.

 

Cyn goffen, hybysaf fy mhleser wrth ddarllen am sefydliad cynnifer o Gymdeithasau Cymraeg, ac yn wir, mae'n dda gennyf fod iddynt Golofn yn y Darian. Llith ardderchog oedd eiddo Atwebydd at y Golygyddion, ac hefyd erthygl Brynfab ar y Genhinen. Darllenaf gyda hyfrydwch gyfres Bera ar "Maes Llafur Llenyddol." Yr oedd eich erthygl chwithau, Mr. Golygydd, parthed sefyllfsr Darian Ar ben tair blynedd" yn ddiddorol dros ben, a phleser mawr oedd darllen am y fath gynnydd yn nifer ei darllenwyr. Yr ydych yn sicrhau fod rhagolygon y Darian yn well heddyw nag y buont o'r cychwyn. Ardderchog! Cofiaf gyda melyster am eich brwdfrydedd dros y Gymraeg, pan arferwn fynd efoch ar fore Llun i Gastellnedd. Yn ddieu, saif y Darian yn hollol ddyledus i'ch gwladgarwch a'ch gweithgarwch chwi am yr hyn ydyw heddyw - papur yr aelwyd Gymreig. Hir oes i'r Darian, ac i chwithaur Tarianydd. Amddiffyna'n ardderchog hawliau'r heniaith, am yr hon y canodd Glan Wnion:

 

Hon oedd iaith gwlad ein tadau a fun fyw

Yn fawr trwy flin rwystrau;

Diamaur gwir (dim or gau)

Geir yn goron i'w geiriau.

Hen goethedig iaith ydyw,

Y Gymraeg digymar yw.

Hon bery mewn gwyn buredd

Wedi i fyd fynd i'w fedd.

 

Be ddwed John Morris Jones am dani?

 

Gemau'r Gymraeg, mwy eu rhin

Na'r main claer mewn clo eurin.

 

Dyma fi'n terfynu. Disgwyl yr wyf am ddydd buddugoliaeth i mi gael dod yn ol i fy hen gynhefin. Oer iawn ydyw yma. Och fi! Rhag eira gorwyn" yw'm cri er's dyddiau bellach. Hyderaf gael dod yn ol i Gymru, ac, yng ngeiriau Dewi Glan Dulas:

 

Pa ryfedd? Yr wyf mewn profiad yn dweyd

Nad oes, er pob siarad,

Un lle, is haul na lleuad,

Mor annwyl i'm 'r 'Hen Wlad.'

 

Gan obeithio fod y teulu yn holliach, chwithau eich hun yn mwynhau yr iechyd goreu, terfynaf gyda'r dymuniadau cynhesaf.

 

Yr eiddoch yn bur,

BRINLEY THOMAS.

 

 

 

Sumbolau:

a A / / e E / ɛ Ɛ / i I / o O / u U / w W / y Y /
ā
Ā / ǣ Ǣ / ē Ē / ɛ̄ Ɛ̄ / ī Ī / ō Ō / ū Ū / w̄ W̄ / ȳ Ȳ /
ă Ă / ĕ Ĕ / ĭ Ĭ / ŏ Ŏ / ŭ Ŭ /
ˡ ɑ ɑˑ aˑ a: / : / e eˑe: / ɛ ɛ: / ɪ iˑ i: / ɔ oˑ o: / ʊ uˑ u: / ə /
ʌ /
ẅ Ẅ / ẃ Ẃ / ẁ Ẁ / ŵ Ŵ /
ŷ Ŷ / ỳ Ỳ / /
ɥ
ˡ ɬ ŋ ʃ ʧ θ ʒ ʤ / aɪ ɔɪ əɪ uɪ ɪʊ aʊ ɛʊ əʊ /
wikipedia, scriptsource. org


---------------------------------------
Y TUDALEN HWN /THIS PAGE / AQUESTA PGINA:
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_154_y-cymro-oddicartref_1917_0324k.htm

---------------------------------------
Creuwyd / Created / Creada: 20-07-2017
Adolygiadau diweddaraf / Latest updates / Darreres actualitzacions: 20-07-2017
Delweddau / Imatges / Images:
Ffynhonnell / Font / Source:

Freefind.
Archwiliwch y wefan hon
SEARCH THIS WEBSITE
Adeiladwaith y wefan
SITE STRUCTURE
Beth sydd yn newydd?
WHATS NEW?


Ble'r wyf i? Yr ych chi'n ymwld ag un o dudalennau'r Wefan CYMRU-CATALONIA
On sc? Esteu visitant una pgina de la Web CYMRU-CATALONIA (= Galles-Catalunya)
Where am I? You are visiting a page from the CYMRU-CATALONIA (= Wales-Catalonia) Website
Weə-r m ai? Yu a-r vziting ə peij frm dhə CYMRU-CATALONIA (= Weilz-Katəluniə) Wbsait