kimkat0266k Perllan Gwyno. 1832. Gan Ieuan ab Gwyno, Llanwyno (= Llanwynno), Gynt O Dòn-Yr-Efail (= o Donyrefail). O anwyl un hynod, / Pen borau bydd barod / I gu firain gyfarfod, / Er rhwymo hir ammod...

14-08-2017
 
● kimkat0001 Yr Hafan www.kimkat.org
● ● kimkat2001k Y Fynedfa Gymraeg www.kimkat.org/amryw/1_gwefan/gwefan_arweinlen_2001k.htm
● ● ●
kimkat0960k Mynegai i’r testunau Cymraeg yn y wefan hon www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_mynegai_0960k.htm
● ● ● ● kimkat0266k Y tudalen hwn

0003_delw_baneri_cymru_catalonia_050111
..
 
 
 
 
 
 
 

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Catalunya i Gal·les
 
 
Cywaith Siôn Prys - Testunau Cymraeg ar y We
 
Perllan Gwyno. Ieuan ab Gwyno. 1832.

(Cynhwysa ddarnau o dafodiaith Morgannwg a Gwent,
neu’r ‘Wenhwyseg’).


Y Llyfr Ymwelwyr / El Llibre de Visitants / The Guestbook:

http://pub5.bravenet.com/guestbook/391211408/


a-7000_kimkat1356k Beth sy’n newydd yn y wefan hon?


 

 


(delwedd 7282)

 

...

 

 


None
(delwedd 5833)



PERLLAN GWYNO,
YN
CYNNWYS AMRAI
O
Ganiadau, Englynion,
&c, &c.
AR WAHANAWL DESTYNAU DIFYR A DIDDANAWL.


GAN IEUAN AB GWYNO,
Llanwyno, gynt o Dòn-yr-efail.


CYHOEDDEDIG GAN EBENEZER DAVIES.

PERLLAN wiw gyfan i gyd - yn felus
O afalau hyfryd;
Perllan heb fanau oerllyd;
Perllan dêr o wiw bêr byd.
I. AB GWYNO.

MERTHYR TYDFIL:
ARGRAFFWYD GAN B. MORGAN.
1832.

 

 


None
(delwedd 5834)


AT GOLEDDWYR AWENYDDIAETH YN GYFFREDINAWL.
 
GYFEILLION,
 
Idd eich nodded chwi yr ydwyf yn cyflwyno y llyfryn bychan hwn, gan hyderu y byddwch mor garedig a thaflu mantell cariad dros y gwallau ac yr anmherffeithrwydd a ganfyddwch ynddo. Y mae yn amlwg i chwi, gyfeillion, nad oes un math o gyboeddiad yn rhagori ar Ganiadau dyddanus, i ddenu bryd yr ieuenctid i ddysgu darllen y Gymraeg yn hyrwydd a deallus.
 
Ydwyf yr eiddoch,
 
Y CYHOEDDWR.

 

 


None
(delwedd 5835)

iv

  
  

  
Y CYNNWYSIAD. TUDAL.

  
  

  
Englynion idd y Gardd o Gerddi ...5 

  
  

  
[Englynion idd y] Fronfraith ...6

  
  

  
Englyn ...6

  
  

  
Cân, achwyniad y Bardd am feddu ei anwylyd ...6

  
  

  
Englynion i anerch Beirdd Ystrad Dyfodwg ...9

  
  

  
Penill ar sefydliad Cymdeithas Omeraidd y Ddinas ...9 

  
  

  
Cân ar nos Galan ...10

  
  

  
Cerdd, ymddiddan rhwng Mab a Merch ...11 

  
  

  
Canmoliaeth i W. Lewis, Yswain ...13

  
  

  
Penill, hiraeth Mab am ymunaw mewn priodas ...15

  
  

  
Englynion i Iolyn ...16

  
  

  
Cân alarus, &c. ...17

  
  

  
Englynion ...19

  
  

  
Cân, cwynfan Mab am ei Gariad ...20

  
  

  
Penill a ddatganwyd ger gwydd Eisteddfod Pontytŷpridd ...21 

  
  

  
Cywydd, yn dangaws anhappus gyflwr llangc gwedi pallu odd ei gariad iddaw ...22

  
  

  
Englyn idd y Bibell ...23

  
  

  
Cân, ymddiddan rhwng Mab a Merch ...20

  
  

  
Englynion ...19

  
  

  
Englyn a Phenill i anerch Ieuan Glanrhondda ...26

  
  

  
Proest gyfnewidiawg idd yr Eira ...27

  
  

  
Englynion idd y Fenyw ...27

  
  

  
[Englynion idd] arwyliant Iolo Morganwg ...28

  
  

  
[Englynion] idd y Delyn ...29

  
  

  
[Englynion idd y] Meddwyn ...29

  
  

  
Cân i Gŵn Hely Mr. W. Williams ...30

  
  

  
Dau Englyn idd y Cŵn ...36

  
  

  
Etwa idd eu Perchen ...36

  
  

  
Etwa i Thomas Williams, Lan Isaf ...36

  
  

  
Idd y Teulu oll ...36

  
  

  
Englyn ...36

  
  

  
Englynion, achwyniad Mab yn niwedd ei Lythyr Caru ...37

  
  

  
Englyn idd yr Omeraeg ...37

  
  

  
Mawl-gerdd i Gŵn Hely y Gilfach ...38

  
  

  
Englynion, cwyn y gwr Penllwyd ...39

  
  

  
[Englynion,] cwynfan y Mynyddwr ...40

  
  

  
  

 

 


None
(delwedd 5836)

PERLLAN GWYNO,

Neu
 
Gasgliad

o
 
GANIADAU AC ENGLYNION, &c. &c.

---
 
ENGLYNION
 
IDD Y GARDD O GERDDI T. O’R NANT.
 
GARDD lon, gyson, gardd gysur, — gardd flodau,
Gardd foladwy lafur,
Gardd emmawg, nid gardd anmhur,
Gardd wiw bér, a gardd dda bur.
 
Gardd gron, hylon, gardd olau – gardd harddwych,
Gardd eurddoeth blethiadau,
Gardd hu, gardd gu, nid gardd gau,
Gardd bur-lwys, gardd o berlau.
 
Gwel ei ardd, prif-fardd, o'i phrofi — ceir lles,
Goreu llwys, o'r gwersi;
Ag urddas Gardd o Gerddi
Bereiddia 'nawr ein bwrdd ni.

 

 

None

(delwedd 5837)

6 PERLLAN GWYNO.
 
--

ENGLYNION
 
Idd y Fronfraith, neu lyfr prydyddawl E. Ll. a Ll. ab Ioan.
 
Ow! Fronfraith, beriaith, burion, - ’nawr reda
Ar aden gysur-lon;
Doeth fydriad mewn lluniad llon,
Eur-wych ystyr orchestion.
 
Eur-glod waith, ar iaith, wir ethawl — beunydd,
A bannau urddasawl;
Caniadau, acen nodawl,
Emynau mwyn, pwy na'i mawl?
 
--

ENGLYN.
 
RHODDAIST i ni, nid bri braf, - ond englyn
Yn anghlod creulonaf;
Pawb helwyr mewn synwyr saf
Ar dy ben — minau bwniaf.

---
 
CAN,
 
Yn cynnwys achwyniad y Bardd am feddu ei anwylyd
.
 
1. FEIRDD ein gwlad, yn fyrdd o glod,
Dan fawr drallod wyf a drylliau,
Am iawn feddu, anwyl foddau,
Yr orau lwys, ddwys o ddawn:

 

 

None

(delwedd 5838)

PERLLAN GWYNO 7


’Rhwy'f dan gûr yn rhodio'n gaeth,
A'm rhan yw hiraeth y'mron marw;
Mwy'n aflawen am fûn loyw,
Clyw fy llw, clafaidd llawn.
Y gofid un yn gyfan,
Yma rhian mwy na rho
Rhagor i mi'r agwedd yma,
On te mi ga' fy'm toi o go',
I fy nistaw fedd a nestyn,
Fydd fy nolur am fy anwyl-ddyn;
A gair i chwi, caraf achwyn,
Gwedi 'nwyn dan dwyn o do,
Ysgrifen o wers gryfaf
Fydd, ow! meddaf, ar fy mhwys, —
Marw ydwyf, morwyn odiaeth,
Ddirfawr alaeth, ddarfu'n lwys;
Gan i'ch araith iach annbirion
Droi o'ch golwg, drych y galon,
Er deisyf, meddaf, nid oes moddion
A'm gwna yn llon, o don ddyn dwys.

2. Hyn o gŵyn o enau'n gu,
Gan ddiferu cân dda firain
O gu rhesau yn gywir-sain,
'Nawr yn gam i'r fain rhof fi;
Er nad oes un arwydd daw
Hon i addaw yn awyddus,
O fod unol ufudd hoenus:
Liwys lon, gron wrth gri,
O sylwa ar iselaf,
Wedd druanaf, waedd a dru;
Mewn dwys ofwy mae'm deisyfiad,
A galarnad oernad hu.
Yn awr os beiddi naws fy'm boddio,
E ga'm natur egwan eto
Wella'n anwyl yn Llanwyno;
Ag iaith y glo ni weithia'n gry'

 

 

None

(delwedd 5839)

8 PERLLAN GWYNO.
 
Ond it', O hynod natur,
Rhoddi cysur rhwydd i'm cais,
Ag ymuno, o gymwys anian,
'Nawr â'r truan heb un trais;
Cawn heb gwynfan, gynnal gwynfyd,
Drysor buan, dros ein bywyd:
Dyna alar dy anwylyd —
Gwrando'n glyd o hyd fy ais.


3. Clyw fy'm cân clau a'm cwyn,
With 'rwy'n achwyn a thi yn achos,
O rhoi im' einio's oer nych hir-nos,
Dan y groes, dyna graith;
Och yw byw, nid iach y bydd,
Dilawenydd da lwydd union.
Gwel y galon lwys dan loeson,
Meinir lon, a minau'n laith:
Mae asen im' yn eisiau,
Dydd o wae nid dyddan wedd;
O chaf hòno i'w chyfannedd,
Iawn ymgeledd, unig wledd,
Iesin cymen osod cymwys,
Yw priodi er paradwys.
Euraidd olwg, orau wiwlwys,
Tyn fy mhwys cyn tanu 'medd.
Cais tirion, crydd, ystyria;
'Hyn a'm llona yw myn'd i'r Llan,
Er sefydlu'n syfyl odiaeth,
Muda’r hiraeth o fy'n rhan;
Yn o1 hyny swn cusanu
Fydd, mi goelia, yn y gwely:
Ni feiddi bellach o fodd ballu
G'lymu'n gu, y clama, â'r gwan.

ENGLYN.


CLYW fy nghŵyn, dirwyn i dori — yr wyf,
A'r awen i rhewi:

 

 


None
(delwedd 5840)

PERLLAN GWYNO 9


Af fi i'r gro, o fawr gri,
I ddiwedd, oni ddewi.

ENGLYNION
I anerch Beirdd Ystrad Dyfodwg.


I CHWI feirdd, wŷr heirdd, o hyd — y talaf
Fawl teilwng, mae'n llawn-bryd,
Am iliaw, o fawr olyd,
Yr awen gain hoywa 'gyd.
Da ydyw dywediadau — yr awen,
A rheol wych orau;
Rhagorawl o rhan geiriau,
Gwiw da ei gwen, gwedi gwau.
Da yw genyf, diau, y ganiad,*
Ddifeth fedrus, ddoeth wir fydriad;
Swn cain addien, sain cynghaneddiad,
Da ymadroddi dawn mydryddiad.
Llywelyn a'i delyn deg,
Feithrina y Frythoneg.

PENILL
Ar sefydliad Cymdeithas Omeraidd y Ddinas.


CYMDEITHAS y cwm dethawl,
Heb soriant bawb yn siriawl,
Yn gymwys rhaid im' ganmawl
Y rheawl eurwawl rhyw.
 
*Odl Mawl i Grist.
 

 

 

None

(delwedd 5841)

10 PERLLAN GWYNO.


Cyd gyrchwn gyda'n gorchwyl,
Mewn anian unawl anwyl,
Gu ddwys-gall gywir ddisgwyl,
Iawn berwyl tra f'o'n byw;
Gan dynu'n gain ein doniau,
Rhwydd eirwir rhoddi'n orau
Ein serchiadau i ddiau ddal;
A'n gofal fyddo'n gyfion
Mewn canäid mwyn amcanion.
Heb gâs yn gyson byddon byw,
Fal cyfryw f'o a'u cyfran
Er rhanu'r hen-iaith eiriau
Trwy Walia wiwlan, rhwydd-lan rhyw.

CAN
Ar nos Galan.


1. POB rhyw lengcyn, pawb sy'n leicio,
Gwrandaw gwaelaidd grydd yn wylo;
O achos Gwen mae ochain gen'i,
Ei bod am 'madael heb ammodi.


2. Pan es i 'mofyn paenes, meddaf,
Mwyn ei geiriau, mûn hawddgaraf,
Yr oedd ynof awydd hynod
Wel'd y borau delai'n briod.


3. I dyb Ieuan diben iauo,
Oedd i ddilyn, doed a ddelo;
Ond er cymwys 'mofyn cymen,
Eitha' suraidd aeth fy seren.


4. Yr oedd golwg ar y g'lomen
Yn fy nodi ar fy aden;
Gweled gwênau hwylus Gweno
O bydew gofid, 'beidio'i
gofio.

 

 


None
(delwedd 5842)

PERLLAN GWYNO. 11

5. Pe aent i rhowndio pwynt yr India,
Ag yna i frysio i froeydd Asia,
Er coffa eurwych Caffararia,
Heb ei rupan pen Ewropia.

6. Main ei haner, meinir union,
Graenus ddwyrudd, gryno ddwyfron,
 Llygaid hyfwyn, lliwgar hefyd,
Syfyl meinwen safia mywyd.


7. Diraid gŵyno, diraid ganu,
Gan eich bod bellach i mi'n pallu;
Ond er mae dilwydd ydyw'm daliad,
Trwy serch mi gura ddrws f' hen gariad.


8. Llon ei haeliau, llawn o eli,
Mwyn odiaeth araul ydyw'm doli:
Gwn y gelli'n gyfan hollawl
Wneud fy einioes i'n wahanawl.


9. Yn lle cyson lais digysur,
’N llwys, fy Elen, llaesa nolur;
Gwel di grydd dan wael geryddon,
Bron a darfod gwaith briw dwyfron.


10. Os hola Beirdd synwyrawl bur dda,
A'r Cantorion, ’nawr cânt eiria';
Iawn yw ateb Ieuan eto,
Crydd y Tòn,* mewn cûr mae'n tiwno.

--
CERDD,
Ymddiddan rhwng Mab a Merch.


MAB.
1. F'anwylyd fwyn ola'
Hawddgaraidd ei geiria',
 
*Tòn-yr-efail, lle'r oedd y Bardd yn preswylio pan gyfansoddodd y Gân uchod.

 

 

None

(delwedd 5843)

12 PERLLAN GWYNO.


Un siriol, ail Sarah,
Dda hoenus Ddianah,
Rho'n glau i fi rhyw glyw, y ferch,
A ydyw'th sain odiaethawl serch
Yn rhedeg arna'i'n rhadawl,
O'th ’wyllys eitha' hollawl,
Er oesi'n wir ddewisawl,
Y foddus fenw fuddiawl,
Un lwysaidd hynod lesiawl, fanawl fûn?
Mewn cŵyn mae'm cân, rho law'r un lân,
O anian un.

Y FERCH.
2. Yr ammod air ymaith,
’Rhwy'n swnio'r a'n synwaith;
’Nol uno'n hael unwaith
Bydd cŵyno'r bai ganwaith.
Taw, fe allai fab, ti elli fod
Oer eitha', clyw, yn with i'r clod;
’Rhwyt hêno yn rhoi tonau,
Da fadrodd â dy fydrau,
Mwyn hynod, mewn awenau,
Y rhoddi ethawl rhaddau,
Heb angof byth, hyd angau ddiau ddwys,
I rhadd wir hedd, nes b'o'n mewn bedd,
Dan gau fedd gwys.


3. O anwyl un hynod,
Pen borau bydd barod
I gu firain gyfarfod,
Er rhwymo hir ammod:
Yn rhwydd cai barch, fy rhian byth
Trwy hynod wedd, tra ynof wyth,
I'th lòni ethawl luniaeth;
Cai f'o orau, clyw fy araith,
Fydd yn fy elw eilwaith,
Dan wênau iawn diweniaith:

 

 


None
(delwedd 5844)

PERLLAN GWYNO. 13


Fy seren fâd heb sur-iaith fwyn-iaith ferch,
Tro'n awr, trwy nôd, i'r c'lwm er clod,
O swyn nod serch.


Y FERCH.
i. Y cyfaill ’nawr cofia,
I letty tylota,
Du fwthyn difoetha,
A 'n gorfydd trwy'n gyrfa:
Mwy gwel y dyn, mae gwael y daw,
’Nol im' mewn llw i rhwymaw'm llaw,
Daw filoedd du ofalon
I'n gwthio, yna'n gaethion;
Gwell rhaddau enwau rhyddion,
Mi goelia, mwy o galon;
Cyn uno canai'n union gyfion gân,
Ni ’munaf mwy, mewn clo mae clwy,
Fel wyf fydd lân.


ENGLYN.


O! wele ’nawr mi wylaf – o golli
Y gallwych hyfrydaf;
Meddyg nid oes im', meddaf,
Byth i nwyn, O! beth a ’nâf.


CANMOLIAETH
Idd yr anrhydeddus Wyndham Lewis, Yswain.


1. POB Cymro pur ei gamrau,
Cu nodwch eich caniadau
Mewn araith mwynaidd eiriau
Yn ddiau yma i ddyn.
Na laeswch mwy i leisio
Bob enyd, bawb f'o'n huno;

 

 


None
(delwedd 5845)

14 PERLLAN GWYNO.


Yn foddus hwn a fyddo
I'n llywio y'mhob llûn.
Beth dâl i Gymro gym'ryd
Rhyw weniaith unrhyw enyd?
Er ei ofid, arw fodd,
Mewn llysoedd mwy nis Ilesia.
Un purion hwn para,
Er ein breintia’ Walia wlad;
O gariad hwn a gariwn
I'r Senedd, ’nawr cydsyniwn;
Ein Llys f’o’n llawn o hwn a'i hâd.


2. Elusen wiw dda lesiawl,
Wna’i rhoddi'n wirioneddawl,
Gan seiniaw yn gysonawl,
Yn foddawl hyn a fydd.
Llon iesin gwaed Llanisian
Sydd fawr-glod Swydd Gwlad Forgan;
Gwyr hynod, gorau anian,
O dan bob seren sydd. —
Ni welwyd yn hen Walia,
Mewn synwyr mwy mi swnia,
Neb mor dda a'r haela' hil,
Yn gynil mi a gana':
Eu clod yn awr mi gluda’
Mewn Ilinella’ gora’ gwedd,
Cynghanedd bur-wedd barod;
Mwyn iesin mi wna' osod
Eu clod yu bennod hyd y bedd.


3. Goruchel ydyw'r achau,
Anrhydedd bonedd benau;
Sain eurwych mewn synwyrau,
A doniau ddynion da.
Er hanu o'r hil enwog,
Da ysgwydd wr diysgog,
Gu wladwr gwiw goludog,
Bûr rhywiog e barba:

 

 


None
(delwedd 5846)

PERLLAN GWYNO. 15


Mae'n sylwi ar iselion,
Cyd gwyna'r gyda'r gweinion,
E rhydd rhoddion mwynion maith
O fadwaith, heb ofidiau;
Un gweddus ei agweddau,
Iddo'n glau rhown heddyw glod,
Mawr hynod, am ei rhinwedd;
Mae'n rhodio mewn anrhydedd
O fewn ei annedd hoenus nod.


4. I'r ladi wiw oludog,
Y ddynes hoyw ddoniog,
Gwir heini aur goronog,
Lân serchog Ion y sydd;
Heb attal y tylotta,
Ddull Odiaeth, hi ddillada;
Mae'n gwênu ar y gwana',
Pawb f’o a'u bronau'n brudd
Yn galw am ymgeledd;
Llon hylwydd, llawn o haeledd,
Yw ei rhinwedd duedd doeth;
O'r cyfoeth ni wnai'r cofion,
Yn llonwedd aent yn llawnion:
Un fal bon ar don nid oes,
Yn un oes gwn ni enwir;
Ei chlod yn awr a gludir,
Mi bena'n wir, mae'n ben yr oes.


PENILL,
Hiraeth Mab am ymunaw mewn priodas ac ei anwylyd.

ERGLYW fi’n gu yn glau,
Ti'n llwyr eill fy ngwellau
O friw fy einioes frau,
Fy'm dyn, â dau air da;
 

 

 

None

(delwedd 5847)

16 PERLLAN GWYNO.


’Rhwy'n achwyn dan fy nych,
Oherwydd sain oedd sych;
Ond gwên dy wyneb gwych
A dro fy'm drych heb dra;
Am nad y'm ni yn awr yn un,
O! ofid glwy am fod y'nglûn;
Caf yma mwy, Ow! am fy mûn,
Fal gelyn, fod heb g'lwm:
’Rhwy'n dwyn fy nghûr am dan fy Ngwen,
Lliw blodau’r Shir, mi bledia heb sen;
Ow! dyna wae fy'm dynes wen,
Byw dan y Ilen yn llwm.


ENGLYNION I IOLYN,
Yn herwydd yr ysgrif a ddanfonodd i Leuad yr Oes, o barthed Melldith Teulu.

Ow! Iolyn, adyn, eheda—ar frys
O'r fro mae dy drigfa;
Tynaist ddwy, nad yw yn dda,
Noeth grebyn, y nhwy'th griba.


A'r Gwellaif e fydd gollwng – er dy wae,
Ar dy wddf sy'n hir-fwng;
Mwy cofia mae mewn cyfwng,
Nid bywyd rhydd bod rhwng *

* Gwenddolen a Nest.

 

 

None

(delwedd 5848)

PERLLAN GWYNO. 17


CAN ALARUS, Yn rhoddi hanes eirwirawl am ddigwyddiad anffodus a gymerodd le yn Ngwestŷ T. E, yn mhlwyf --- swydd --- sef i un odd y llancesau perthynawl idd y tŷ, esgyn i fynu idd y siambr, a dymchwelyd Ilestr yn llawn trwngc uwch ben ystafell Ile'r oedd Cryddion yn gweithiaw, yr hyn a fu achaws o fraw a chythrwfl nid bychan yn eu plith, ac a barodd iddynt gredu eu bod wedi eu goddiweddyd gan yr ail ddylif. Mae'n anhawdd dychymygu y fath olygfa druenusawl oedd arnynt, yn mron eu gorchuddiaw gan y fath lifeiriant dinystriawl.


1. CLYWCH fy swn, mal clych yw’m sain,
Yn gywrain ’rhwyf yn gyru
Hyn o gân, o enau'n gu,
Dda ddoniawl i ddyddanu.
Dyma'r hanes, mae'n wir hynod,
Gorfod ’madaw a'r tŷo dywod,
Gan lif wylofus wthia'n aethys
I mewn i'r parlawr,
Mae'n waeth na'r parlys:
Fe ddaeth y dw'r o'r wybr dew
O achos rew afiachus.


2. ’Roedd pawb a'i fryd heb unrhyw frad,
A’i ganiad yno’n gynes,
Heb feddwl elai'r wybr wiw
I daflu diliw didas:
’Roedd iaith y 'scrythyr wiwglod eglur,
Yno’n swnio yn ei synwyr,

Mai dull mwy tanllyd ddelai’n ddiwyd
Mewn rhyw hyllfodd
Dros yr hollfyd;
Ond dyma'i gwaedd, mi ddyweda'i gyd,
Daeth diwedd byd, mae'n enbyd.

 

 

None

(delwedd 5849)

18 PERLLAN GWYNO.


3. Ar hyn o lif mi glywaf lef,
A dychryn bref yn dechra',
Heb unrhyw daw a i maes o'i dŷ,
Y Coetŷ oedd y cynta';
Mewn trwstan drisdwch, ’doedd fawr difyrwch,
’Roedd rhaid cerdded heb hawddgarwch;
Anniddig noddad ista' ar wastad,
Pan ddelo goflin
Dduliw cyflad;
I ben y gaer e aeth y gwr,
Gan yru'r dw'r yn urad.


4. 'Roedd yno waedd yn rhoddi'n wiw,
Y clod i Dduw'n y c'ledi;
Yr oedd e'n setlo ei fod yn sant
Os el'sai bant a boddi;
Ond yn y galar oedd yn galw
Am weled Mari cyn cael marw;
Ond yn hynod ca'dd Eben wybod
Nad oedd i'w weled
Ond eiddig waelod,
Y llusu tew mor llwys yn toi,
’Doedd Ile i droi o'r drewdod.


5. Pwy feddyl'sai yn ei nyth
Y delai byth fath betha',
I rhoddi braw ar unrhyw bryd
I'n gorfod hyd ein gyrfa?
Och! y graddau i âch o gryddion
Oedd, o ddygiad, yn fon'ddigion:
Gwael oedd gwelad, dan oer driniad,
Hyn o gryddion
Dan gyrhaeddiad;
Y cenllif mawr, heb ganllaw mwy,
Ond nofio trwy'r cynhyrfiad.

 

 

None

(delwedd 5850)

PERLLAN GWYNO. 19


6. Mewn seiniau holl 'roedd Sion yn hyll
O dan ei erchyll orchydd,
Pan oedd ei din o dan dw'r,
O! dyna gyflwr aflwydd;
Mewn gwedd yn gweiddi, 'does Iles mewn llusu
I neb o'r fyddin, ond i foddi;
Mi dro i dreio,
Mae'n dda gweddio;
Heb goll mi rhana' ngwyllys heno —
Y gaseg lwyd mi geisia’n lân
Ei rhoi am gân i gŵyno.*


7. ’Roedd yno dri ar yr un tro
Yn Ileisio yn y llusu,
Yn waeth eu gra'n na nyth o grawn,
Llun crofan yn llawn crafu:
’Nol d'od o'r ymwasg, dyma'i amwisg,
Crach y gwman, yn grych heb gymysg,
Y dw'r pan darfu, bu rhwydd ymrhanu;
Mewn galar rhan
E gilia rhei'ni;
Bron wythnos, clywch, bu'r gweithwyr clau,
’Rwy'n penu, heb fai, yn poeni.


ENGLYNION.


IEUAN a gân heno yn gu — i Ann
O enau mwyneiddgu,
Dda fwriad i ddifyru
Lona'n fyw, a'r lana' fu.


*l'r Bardd am Farwnad.

 

 

None

(delwedd 5851)

20 PERLLAN GWYNO.


Ni fu yn un Ilu un o'i llais, - hefyd
Un gyfan dda ymgais;
Aur olwg oreu welais,
Hon yw'm cân—una â'm cais.


CAN,
Cwynfan Mab am ei Gariad; ar y dôn,
“Rose and Castle,”


1. FEINIR Ion, fwynaidd lais,
Gwrando gais grydd heb gro's,
Ddydd a nos, lwyraf lo's,
With achos aros hon;
Heb ble, pen bloda'r byd,
Eirdda ei gwedd, mai’n hardd i gyd:
Hyn achos o fy afiechyd,
Dirfawr benyd bo'n;
’Rwy'n sal yn rhoi fy sain,
Am ochain nid iach,
Am asen gymmen gain,
Fu rhwng y rhai'n wir âch,
I fod yn yn o fyd
Yn ymgeledd glanwedd glyd;
Diwedda redfa'r düwedd adfyd
Dros ein bywyd bach.


2. Eitha' gwiw, doeth ei gwawr,
Clyw yn awr glâf ei nod;
Clymai'r clod ond it' dd'od
Yn briod, dyna'r briw;
A thyna'r ddefod ddwys
’Nol ’madawiad clymiad glwys —
Ar fy arffed byth cai orphwys,
Beren Iwys, bur o Iiw,

 

 

None

(delwedd 5852)

PERLLAN GWYNO. 21


Fal rosyn eurlyn hardd,
Yn glau mewn gardd mai'n glod;
Pe rhoddai air o wa'rdd,
Darfyddai'r Bardd a bod:
Am hyn, O lef mûn Ion,
Gwel ’rhwy'n brudd, a gwael yw'n bron;
’Does les i’m aswy loeson
Heb i'r ddwys hon dd'od.


3. Gwir e fydd oeraf fedd,
With yw ngwedd, waith fy ngwyn,
Syn oedd swyn, fenws fwyn,
Am it' ddwyn hynota' ddydd;
Diana fwyna' fydd,
Fel oedd Sara, ei synwyr sydd;
Ail Elen hwylus olau
Wna fy rhwymau'n rhydd.
Ceir canu'm clych a'm cloi,
Fy rhoi i fedd fydd rhaid,
I ddiwedd oni ddoi;
Na feddwl ffoi, a phaid
A 'm gyru i fwy o gur,
Y lili bêr; ond hwylia'n bur —
Dy olwg dry fy nolur
Yma'n llwyr mwy o'r llaid.


PENILL
A ddatganwyd gan y Bardd ger gwydd Eisteddfod Pont-y-tŷ-pridd, yn y fl. 1831.

FEIRDD glewion ein gwlad,
Heb frad o un fryd, mewn gwynfyd a'r gwedd,
Mwyn hynod mewn anian, ddawn glân ar ddydd gwledd.
Ein hen-iaith wiw ni,
lawn fri hyn o fro, a ddelo yn ddwys
Wir ganaid ar gynydd mwy beunydd, mae'n bwys;
Ei choledd â chalon, gu'n hynod, gain union,
O frwdlais hyfrydlon, yn ddynion o ddawn,

 

 

None

(delwedd 5853)

22 PERLLAN GWYNO.


Er iesin hir oesiad, iawn addwyn wiw nyddiad,
Awch geirwir iach gariad, f’o’n Ilon hwyliad llawn,
Da ddeniad diddanol, rhagorol a gawn.
Gem doethaidd gymdeithas, Ion heddyw, lun addas,
Mewn harddwch, mae'n urddas, o ras i ni ro'd;
Am hyny gwnawn ninau, o feddwl hu foddau,
Anadlu ein odlau, yn ddiau a ddod
Anrhydedd i'n rhodiad, a'n gwlad o rhan clod.


CYWYDD
Yn dangaws anhappus gyflwr llangc, gwedi pallu odd ei gariad iddaw.


Yn glâf fy Ngwen hoywen hu,
Gwael oeraidd wy'n galaru,
Gwaith dy arch anmharch i mi,
Gwaelaidd fy nrych, O gweli.
Gwel fy nydd yn anniddan,
Gwrando gŵyn oer gŵyn ar gân;
Ann eirian, Ann lân, Ann lwys,
Bur hoywlan, neu berl wiwlwys;
Lliw'r lili a Iloer lana',
Hawddgar, un ddwys, hygar dda;
Ail Suwsan wiwlan wawlwych,
Aurdda dro, hardda ei drych;
Nid oes un gronyn o graith,
Wan eiriau, yn ei haraith:
Llesiawl yw hon, ei llais hu,
Un wychaf, wnaeth fy nychu;
Bob dydd wyf yn brudd a'm bron,
Och, nodaf, dan ochneidion:
Canlyn cetyn ar Giti,
Dda lwys fain, ddiles i fi;

 

 

None

(delwedd 5854)

PERLLAN GWYNO. 23


Hir ganlyn yr un gain lwys
Wnaethym, do, yn eitha' dwys,
Gan feddwl, mewn gwŷn foddau,
Delai bon dan y iau
I'r ammod air, briod braf,
Dda hynod, un ddianaf;
Ond cyson nod digysur
Aeth i son yn eitha' sur,
Gan ballu o'm Gwen bellach;
Cŵyn mewn nych rhaid canu yn iach,
A 'ch gollwng, ’run wych galla’,
Anwyl un wên heno wna.


ENGLYN IDD Y BIBELL.


Y bibell, ddu hell, i ddun — a'i gesyd
Yn gyson ddiogun;
Oer alar yr eulun,
Gwall a bai, O! gwell heb un.

 

CAN
Ymddiddan rhwng Mab a Merch; ar y dôn, “Gwel yr Adeilad."


1 GU seren wiw gysurus,
Y ddynes hoyw ddawnus,
Wiw Ddiana;
Am uno â'm eneth union,
Mewn hiraeth mawr mae'm calon,
Meinwen coelia;
Dan dòn, wy’n brudd o fewn fy'm bron,
A nod annedwydd,
Mewn oerwedd arwydd,

 

 

None

(delwedd 5855)

24 PERLLAN GWYNO.


Yn flin fy aflwydd,
Oherwydd awydd hon,
1m' attal mwy fyn'd atti,
Trwy ballu'r lili Ion.
Mae myd, mewn glŷn fy meinir glyd;
Nid ydwy'n adw'en
Un siriol seren,
lawn fanawl feinwen,
Er gwên y rhai'n i gyd;
Nid oes ond hon a mura
O'm briwia' unrhyw bryd.

Y FERCH.
2. Yn glau rho i mi glywed,
Nid geirwir nod o gariad
Yw dy garol;
Ond gan ddisynwyr senu
Dy dônau er fy'm denu
Yn fwy dynol,
E' fydd, mwv cryno i ni'r crydd,
Rhag ofn hefyd,
I 'n rhedfa i'r adfyd,
I boeni'n bywyd,
Daw gofid yn ddigydd;
I siarad iaith ansiriawl
Nid boddawl i ni bydd:
Gair cro's, yw'th lef, mae'n eitha' Io's,
Os geirwir garu,
O'th fodd fyth fyddu,
Yn wŷn awenu,*
A nyddu ddydd a nos,
Dimond y golwg gulaf
I ti am danaf dos.

* Barddoni.


MAB.
3. Fy meren na fydd werw,
Mewn do-lef ’rhwy'n dy alw
Di anwylyd;


 

 


None
(delwedd 5856)

PERLLAN GWYNO. 25


Ac ar fy ngwendid gwrando,
Fy Elen gwna fy nghofio
Yn fy ngofid:
Sain Sur, i'r gwan sy' dan ei gur,
Na rho, fy rhian,
O ’wyllys allan,
Rho wawl ’run wiwlan,
A dera'r beran bur,
Hoff aurwedd, at offeiriad,
Yw'm galwad, meinir glur.
Gwên gwych, fy'm Gweno dro fy'm drych
I hollawl wella
Ddu lwyr ddoluria’,
A briw fy'm brona',
I'r cla', cyn ro'ir y clych
Tan alar, ti a weli,
Bydd rhaid fy rhoi'n y rhych.


Y FERCH.
4. Ni roddaist un arwyddion
Fod golwg ar dy
Di yn gwaelu,
Ond i fy nhwyllaw yn hollawl
A'th weniaith sy wenhwynawl,
Wrth awenu.
Hyn yw, fy meddwl yn fy myw,
Y bydd dy bennod
Fy nghloi mewn anglod;
Bydd drylliau'th drallod
Yn boendod tra b'wyf byw;
Ond os bydd rhan i'm rhwymo,
I'r clo mi ddeuaf, clyw.
Drwy'm dydd, ’rwy'n swniaw ’rhyn y sydd,
Yn boen mawr beunydd,
Dan gur o gerydd,
Dy gariad gwiw-rhydd,
I'm boddio ddim ni bydd,
Nes uno â thi yn hoenus,
Holl rhwydd o ewyllys rhydd.
 

 

 

None

(delwedd 5857)

26 PERLLAN GWYNO..

 

ENGLYNION.
YR Englynion canlynawl a gyfansoddodd y Bardd yn ddiolchgarwch idd y Cyhoeddwr am fenthyg ei wlaw-rod,
pan oedd yn myned i daith ar hîn afrywiawg.


PARCH i ti purwych eto — ’nawr a gai
’N oreu gu beb wawdio;
Ag oll wynt gallu Ianto
Emyn da am y mwyn do.


Gwn nad o's, agos, mor hygar — Eben
Gu obaith ag hawddgar;
A glyw gŵyn ar dwyn f'o'n da'r,
Fab dofaidd, heb edifar.


Heb ofyn yn bur ufydd—y rhoddodd
Yn rhwyddaidd gysgodydd,
I gadw, heb boen, groen y crydd,
Glew agwedd, rhag gwlawogydd.


It' boed clod, hynod, am hyn — gu Eben,
A gobaith dy dderbyn
I well bro, heb wall na bryn,
Da hirfod ar dy derfyn.


ENGLYN A PHENILL


I anerch y Bardd leuan Glanrhondda.

GROESAW pur eglur rhywioglan, - Ow fardd,
Ar fwrdd Gwyno bychan;
E gaiff nodd, wiw rhodd, i'w rhan,
A maeth hoyw yn mwth Ieuan.


Pe llethit fwy llythyr, wr hyglod air eglur,
Dawn hoyw dan awyr a glywir yn glau;
Da sillau dwys hollawl, bér ddeunydd barddonawl,
Withienau'r iaith unawl o’th enau.

 

 

None

(delwedd 5858)

PERLLAN GWYNO. 27


Proest gyfnewidiawg idd yr Eira.


EIRA yw eurwych hardd,
Eira geir yn oer a'i gwrdd;
Eira'n bur a ûr y bardd,
Eira ai ffo'n erwin ffwrdd.


ENGLYNION IDD Y FENYW.
Testyn Cymmrodorion Caerludd, yn y fl. 1831.


ER rhoddi ar wedd addas — hen Eden,
Hynodawl ei urddas,
Mewn llun yr oedd, llawn o ras,
’Roedd gofid er a gafas.


Er ffrwythau afalan filoedd, - harddaf
Er urddas gwinllanoedd,
Yr enwog un, unig oedd,
Awr ei nwyf, er rîn nefoedd.


Unig oedd dyn ei hunan — cyn gosod
Gwiw gysur deg eirian;
Rian wen o'r un anian,
O fawr rhodd ei Nâf i'w rhan.


Menyw, pwy na ddymuna'—wên hynod
Win anwyl ei gena'?
Llonaidd un i ddun yn dda,
O ras bedd er oes Adda.


Os dyddan ddoeth, lân odiaeth wledd — ceir hon,
Cu rhan fydd ei rhinwedd;
Cysur fy nydd fydd hyd fedd,
Im' o gad ei ymgeledd.

 

 


None
(delwedd 5859)

28 PERLLAN GWYNO.


ENGLYNION
Arwyliant Iolo Morganwg.


O FAWR nych y drych hwn dro — mi gwelaf,
Mae Gwalia yn cwˆyno;
Bob dydd mae yn brudd ein bro,
O alar rhoddi Iolo.


O'i briddio, heno anian — sy'n llwgu,
A’r llygaid ’nawr wylan';
Dan y dòn yn union an',
Gan waethu eu gwedd weithian.


Ni welir ein anwyl Iolo — isod
Yn iesin ddatgeinio:
O! fawr graith ei fyn'd i'r gro;
Oer i ni ei awr huno.


Pen dysg, pen addysg hyddoeth, - pen hoywych,
Pen awen gywreinddoeth;
Pen dawn i'n pen di-an-noeth,
Pen aur cu, pen eirian coeth.


Eiliwr mawrdda, ail oedd i Myrddin;
Mêl yn oreurawl mal Aneurin;
Llawn tylysau Ilon fal Taliesin;
A mawl fydd oesau am feluswin.


Ond er ei ddawn llawn a llâd — yr angau,

Oer ingawl, ga’dd genad;
Ddu alar oedd ei alwad,
Elyn dyn, am hôl hén dad.


Dan gudd, pen brydydd Prydain, - y’th rhoddwyd -
With raddau wr cywrain:
Daw yn lif y dolefain
Ar ol y gwr rheol gain. *

* Ei ddull barddonawl.
 

 

 


None
(delwedd 5860)

PERLLAN GWYNO. 29


ENGLYNION IDD Y DELYN.


TELYN, bur eulun, bair hwyliad — meddwl
O'i moddau gwych rediad;
Llawforwyn fud llafariad,
O ddawn glow i ddenu gwlad.


Melus-lais per-lais pur-lan — y delyn
I deulu'r beirdd mwynlan,
Ro'n ddoniol ragorol gân
Yn llwys orau llais eirian.


O'r delyn i'r dyn y daw — wych bleser,
A wch blysig o'i Ileisiaw;
Yn ol ei rhoi gwna droi draw
Alar heddyw'n hwyl iddaw.

Telyn gain hoywlyn gynila – wythi,

Ethawl pen cerddiada’;
Un firain er yn fora',
A’i mawl bedd a amlha.


Telyn dda fwyn, telyn ddifeth,
Telyn dda lwydd, telyn ddilith,
Telyn ûr boen, telyn aur beth,
Telyn ddawn wledd, telyn ddoi'n wlith.


Gweddus a melus yw mawl — ar delyn,
Orau deulu breiniawl:
Mae'n gwau'n hardd mewn gwên urddawl
I Ner gwiw yn nir y gwawl.


ENGLYNION IDD Y MEDDWYN.


GWELAIS ddyn, feddwyn, anfuddiawl, - yfwr
I ofid anfoesawl;
A'i rediad yn wir radawl;
Eulun dwl ar lun y d—l.

 

 


None
(delwedd 5862)

30 PERLLAN GWYNO


Och! ddrych, edrych pwy adrodd — fath olwg
Fyth welais oddiarnodd;
Y tenau odditanodd,
Uffern i rhadd, ond off rhodd.


Ar hyd heb olyd gweli — dyn gysgai
Dan gysgod hen berthi,
Heb gysur yn agosi
Clau at tan, clyw etto fi.


Ar y dom yn llom a llwyd, - heb fwthyn,
Heb foethus ddanteithfwyd;
Wr diflas e oer daflwyd
’N isel ei ben, eisiau bwyd.


Gwel y rnéddwyn, gwael y moddau,
Syn ei araith, heb synwyrau;
Annoeth ’fferyn, gwarth y ffeiriau — heb barch,
Trolio i anmharch, treulio'r ddimau.


Myn ymryson anmhur rhesau,
Ynfyd oernych trwy'r tafarnau;
Hyll mae golwg oll mewn golau —anllad,
’Fe geir dillad y gwr yu dyllau.


CAN,
O folawd i Gŵn Hely Mr. W. Williams odd y Glôg, plwyf Llanwyno, Swydd Forganwg.


1. ICH' foneddigion gwych fwyneiddgu,
Mewn pryd addas, ’rwy'n prydyddu
Yn gain hwylus i gŵn hela,
Lluniaidd hynod, Ilon eu henwa'.
Mewn llun anwyl yn Llanwyno,
Clywch, mae'u sain fal clych yn swnio.
Pwy a fedr, heb ofidio
O lun nodol, lai na neidio

 

 

None

(delwedd 5863)

PERLLAN GWYNO.
Wrth eu gweled yn cyd hwylio?
Nid ces pryfyn dwys, mi prwfa,
All ddiangyd rhag llaw anga';
Yn llawn loes y llwynog laesa,
Gan mor werw yw'r gena'l ora':
Mae rhai'n dan ei rupan
Yn ben Ewropia.


2. Enwau'r helgwn hynod hwylgu
Gewch yn union, gwych yw hyny,
Gan fod heddy' yn wynfyd addas,
Rhoi clod yw harddwch cludo'u hurddas;
’Nawr heb ble caf enwi Player,
Yn ddiwendid e ddaw Winder;
Fel arth cry' mewn nerth daw Crier,
A’i bur hynt y peraidd Paenter;
’Does fawr dan entrych well na Ranter,
Juno lân a'i sa'n yn hwylus,
Brwd i fil yw Breidy felus,
Wych ei gwedd mewn awch gyhoeddus,
Gyn rhoi farw nid hir erus,
Bob pryfyn f'o’n dirwyn
Trwy bob manau dyrus.


3. Sain hoff etto Choyphul a Lophty,
Llwys fal mapsant yw llais Mopsy;
Ni all na chadnaw hên na cheinach,
Gan anallu fyw yn mhellach,
Pan f'o rhei'ny'n d'od yr unwedd,
Nid budd yw galw am ymgeledd;
Efe gaiff rhodio heb anrhydedd,
Rhwng tarenydd heb dirionedd,
Yn bryfyn sal heb fri na sylwedd,
Ag yn meddwl yn mhob modda',
'Do'i yrfa i ben trwy ddirfawr boena'
Gan mor lluosog yw eu Ileisia',
Bob un a'i ddelw am ei ddala,


 

 

 

 

None

(delwedd 5861)

32 PERLLAN GWYNO.


A'u hergyd yn glochaidd
Fal organ neu glycha'.


4. Beauty eurwych, Tober wrol,
Sy'n awr yn gyru â sain rhagorol,
Mewn Ilef werw maent yn Ilefaru
Yn rhwydd i dy ddiwedd y rheinallt ti ddewi.
E fydd dy allu'n ofid hollol
Am na feddu nerth rhyfeddol,
O'r du ing gael Ile diangol,
Mewn rhyw daren sydd naturiol;
Oeddit weithian gynt gwedi ethol,
Os bydd pryfyn gellir prwfo,
Ar gŵn hela Cymru'n cilo,
Llwynog ffela heb ei ffwylo,
Ond clywed sôn neu do^n am dano,
Yn llyn caiff ei rhanu
Gan gŵn Llanwyno.


5. Os gallaf gadw mewn byll goedwig
O Lanwyno, yn rhyw le'n unig,
’Mhen un flwyddyn fina' floeddia'
Fod y llu cymwys yn llai eu cama';
'Nawr yn dawel mi lettya
Heb hir aros unrhyw fora';
Rhodiaf gynil hyd y gaua'
Gerllaw nrigfa gwna fy nryga';
’Mhell o Lanwyno mi hollol Iyna';
Clywch yn uchel hyn yw'r achos
I lawer rheinallt rhodio hirnos,
Trwy fod a'i ogwydd yn rhy agos
At y gorwych gŵn, ag aros
Mewn man oedd yn wenwyn
I'w ddyddan einio's.


6. Clyw y llwynog clau, paid llunio,
’Fydd fawr Ile wed'yn i ti allu rhodio;
’Nol d'od fe allai'n wrol, ti elli ’difaru,
Mae yma blanhigion a all dy blygu: —

 

 


None
(delwedd 5864)

PERLLAN GWYNO. 33


Heb gam ystyr fe ddaw Gamstar
Cadarn unsain gyda Winsar;
Mi bledia'n daer mae blodau'n daear
I dy hwylio i dir o alar;
Ni bydd yma bardwn, ond bedd ar fyrdar,
I dy aros er dy hiraeth;
Er mae'r taera' o bob naturiaeth,
Un calonog, llawn gelyniaeth,
Nid o Lanwyno bydd dy luniaeth,
Rhag dioddef fawr alar
Dydd dy farwolaeth.


7. Mewn hwyl yn ddiwael gwelai'n ddiwyd,
Gwell gado fy man i gadw ’mywyd;
Nid gwiw i mi oedi yn hyn o ardal,
Rhag ofn mewn awydd i rhai'n fy nial;
Gwn y ’leni ble caf lonydd
I oesi yn dirion, a distawrwydd,
A gwiwlan annedd rhwng y glenydd
Mewn Ile diogel, ni all drwg ddigwydd,
Na chwaith i fy nodi mewn nyth annedwydd;
Ond hyn yw'r gofid sydd yn gyfan,
Fy mod yn ufudd yn fy ofan,
Och! yn rhwym, o achos Roman,
Fyn'd o'm anwyl wlad fy hunan;
Mae golwg mor ffyrnig
Ar Clari a Forman.


S. Heb y rhei'na mae rhai pur enwog,
Mi ga’ eu nodi'n gu odidog,
O gynil achau gene'l awchus,
Mi bledia'u rhan mae blodau’r Ynys; *
E ddaw Rhingwood er ei anga’,
Countas, Boni, ’does mi bena’
Le mewn canol coed i'r cena’;

*Cofied y cantorion mai nid Ynys-y-bwl a olygir, eithr Ynys Brydain.

 

 


None
(delwedd 5865)

34  PERLLAN GWYNO.


Os na fydd Miwsic las yn eisia',
E gaiff ei yru nes ffaelo'i ara';
Y na Ceacer anian sawci,
Ddaw a'i wrych yn grych i’w gyrchu,

Ar wedd lwydaidd idd ei letty,
Er ei aflwydd orau Lovely,
Ar g'oedd yn wastadol
Rhaid gweiddi Stadly.


9. Yn Llanwyno mae llu hynod,
Ar ben bob bora' heb arbed yn barod,
Pan clywir sain yn eglur seinio,
I alw'r gene'l mewn hwyl tuag yno;
Chwi gewch weled olwg hwylus
Ar y rhai'n yn gene'l rhaenus,
Mewn gwên addas ogoneddus,
Rhai craff eurdeg yn gonffwrdus:
Eu llun galon dora bob hên llwynog dyrus;
Yn llawenu plwyf Llanwyno,
A thrwy Morganwg y man eur gano,
Y clychau hynod, clywch mae uno
’N gadarn lwysaf i gyd leiso,
Gan ddweud, parch yn foddus
I’w perchen a fyddo.


10. ’Nawr mi alwa' ar rai o'r helwyr
I dd'od y'mla'n ar gân yn gywyr,
Mewn gair union rhai gora’u anian,
Gwn, a fagwyd y'ngwlad Forgan:
Y Mab o'r Lan sydd Ion arweinydd,
A'i bwynt glana' bant a glenydd;
Thomas Evans, tymer ufudd,
Richard Robert heb un rhybudd,
A 'u rhan yw dilyn fryn a dolydd;
William Morgan, hwylus ergyd,
Thomas Howel tawel diwyd;

 

 

None

(delwedd 5866)

PERLLAN GWYNO.  35


Richard Dafydd frysia hefyd,
Rhys yr Heliwr ni phrisia olyd —
Y cŵn a'u hela
Yw ei anwylyd.


11. Llon yw tario i’r lle tirion,
Heb groes mae galw, a groeso calon,
Bob hawddgarwch, ’rwyf yn gwirio,
Ag haelioni'n gu wyl yno.
Ei meddiannydd mwynaidd union
Mi wela' yw'r haelaf, Williams wiwlon;
Gwr o achau gorau gwychion,
Dda fwyn ddygiad, hen fon'ddigion;
Mae'n Iles wr addas llwys ei roddion;
Pan b'o'r hwylus wr yn hela
E geir llwyddfyd ’nol cael lladdfa;
I'r blys e geir y pleser gora';
’Mhob cyfrinach mwyn cyfrana:
Y Glôg ar bob enyd
Golygwn yn bena’ .


12. ’Nawr mi ddibena ar dyb unol,
Gan rhoi hyn heddy', mae rhai'n yn haeddol
O gael eu galw gyda'u gilydd
Heb boen, a'u cludo'n ben trwy'r gwledydd.
Os rhai o'r helwyr a rhwydd holant,
Pwy fu'n eilio hyn o foliant?
Crydd o draserch traen Llantrisant,
Un all weiddi, byth boed llwyddiant
I'r gene'l iach gynil, ar geinwych ogoniant.
Mab afradlon sy’n hyfrydu
Dilyn cŵn, ag idlo canu.
’Nawr wŷr tawel ’rwyf yn tewi
Wrth yfed iechyd cyfwyn i chwi:
Y Glôg a’r Lan isaf
Yn gu f 'o'n hir oesi.

 

 

None

(delwedd 5867)

36  PERLLAN GWYNO.

DAU ENGLYN IDD Y CWN.

LLAI molawd a rhawd i'r had,— nid haelgan
I helgwn da darddiad:
Ni fu un oes, fwyn oes fâd,
Faith gene'l o'r fath gŵnad.


Y llwynog, halog elyn, -  dan fawr-gur
Daw'r dwfrgi rhy'ddyn',
A’r cathau, i'w safnau syn,
Du oerfaich, a'r dae'rfochyn.


ETWA IDD EU PERCHEN.
RHA 'WN barch gwiw gyfarch gyfion — o glodydd
I glydwr cŵn gwychion,
Trwy hyd ei ddydd llawnddydd Ilon,
Dda goelaid idd ei galon.


ETWA I THOMAS WILLIAMS, LAN ISAF.
YN fwyn, heb ochain, yfwn iechyd
I'r enwog helwr rhinwcdd a golyd,
Heb fyth rhedfa hirfaith adfyd;
Yn buraf hoyw parh'o'i fywyd.


IDD Y TEULU OLL.
GWIR iechyd, hir fywyd f’o, - da hafaidd,
Di ofid ddilyno
Yr hil hyn ar fryn neu fro
Pur addas, nes eu priddo.


ENGLYN.


DAN y llwyn, O mwyn i mi, - brwd addas
Brydyddu o ddifri':
Yr awen nid â i rewi
Drwy hyd yr haf braf y bri.

 

 

None

(delwedd 5868)

PERLLAN GWYNO. 37


ENGLYNION,
Achwyniad Mab yn niwedd ei Lythyr Caru.


CLYW Citi, o ddifri' ddwyfron, - arnaf
Mewn oernych helbulon:
’Does ond un ferch, lwys-ferch Ion,
A laesa fy mawr loeson.


Bob dydd wyf beunydd yn bod — yn achwyn
Yn uchel mewn trallod,
Am dy gael i ddiwael dd'od,
Fy'm dyn, yma dan ammod.


Tra mawr boen tramwy y byd, - a charu,
Och araith Iled oerllyd
Trwy ysgrifen, geinwen gyd,
Di èli i d'anwylyd.


Ni allaf fyw yn hollawl, - er ceisiaw
Hiraeth cusan serchawl
A gefais gynt yn gofawl,
Lles i fi, arllwysaf fawl.

ENGLYN IDD YR OMERAEG.


IAITH dda ei nodded, iaith hên Adda,
laith fêr hoyw, a'r iaith oedd foreua';
laith ffug burion, iaith fo'i bara' — yn addas,
laith gu i deyrnas, iaith gadarna'.
 

 

 

None

(delwedd 5869)

38 PERLLAN GWYNO.

MAWL-GERDD
I Gŵn Hely y Gilfach, plwyf Llantrisaint.

1. CLYWCH holl gwmp’ni llawn o  gampau,
Heb dwyll sy’n medru deall mydrau,
Am un dda gene’l, iawn ddigonawl,
Y mae’n gymwys i ni ganmawl,
Y cŵn yma mewn cain emmawg,
Swn o degwch, sain odidawg;
Rhai’n a haeddai yn rhwydd weddus
Gân o foliant, gwn, yn felus.


2. Ymhob Ile y maent yn Iloni,
Gwell na mapsant glywed Mopsy;
Llawn o hoffter Ilon Loffty;
Geirwir dant pan ’goro Dainty;
Un a blesa pawb yw Bluchar,
Clywch, a Beauty, cloch yw Paentar;
’Rwyf fal mewn dawns wrth glywed Dansar;
Ni ellir ffeindio gwell na Feindar.

3. Efe ddaw Warior o dde i wirio,
A’r man êl Palas bydd apêlio
Am y pryfyn, mi a'i prwfa,
Och i'r geinach awch ei gena’,
Tir y goedwig taer ergydio,
Heb laesu, ond hygar lais ei ego
A fydd yno i foddio anian
Llangciau traserch Tran Llantrisan’.

4. Yna canlyn y cŵn enwog.
Ranger, Rowser, Swaper serchog,
Fenws fwyn, a Famws ffeina,
Rbwn glenydd criwyr glana';
Os bydd heini bryfyn yno,
Pirion cadarn pan y c’odo,
Efe all edrych ar ei oedran
Os cânt gydollwng âg ef allan.

 

 

None

(delwedd 5870)

PERLLAN GWYNO.  39


5. Os bydd Rhingwood, nis baidd rhingo,
Siarman wiwlan fydd yn hwylio
Ar ei hol trwy'r dolydd deiliog —
Eu Ileisia' Ilon a laesa'r llwynog.
Gwerth eu gweled, gwyrth i golwg,
Wna rhai'n ar gynydd ’rhyd Morganwg;
Ond yn fuan i rhoi ’fynu,
Nid oes, ’rwy'n meddwl, fodd i'w maeddu.

 
6. Helwr mawrgu, Gwilym Morgan,
Trwy fawr allu dro fu allan;
Yna teilwng enwi'r Tilar,
Gwir a miwsig, gwir bob amser;
Tomos William, tyma'r hwylys
Gerddwr allan, goreu'i ’wyllys;
A Shon Dafydd sy'n wr difyr,
Yr hwn yn gyson rho in' gysur.

7. At eu hannedd etto i enwi,
Lle ca'dd y cadarn gŵn eu c'odi,
Gydag elfen yn y Gilfach;
Nid oes trwy gyrau'r byd hawddgarach
Gwŷr na rhei'ny, gorau'u rhinwedd,
Yn glud o fwriad rho'f glodforedd;
Yma'n Iliwus mewn modd llawen,
Rho'wn floedd er parchu'n rhwydd eu perchen.


ENGLYNION,
Cwyn y gwr Penllwyd.

YN llwyd y rhoddwyd fy rhan—oedd wychaf,
Er achos un rhiddfan;
With canfod, ond waeth cwynfan,
Ar ol y bleth heb feth fan.

 

 


None
(delwedd 5871)

40  PERLLAN GWYNO,
 
Y babell oreugell rwygwyd, - oernych
 Wedd arnaf a roddwyd;
 Was gorau, ei oes gyrwyd;
 Ow! poen yw llun y pen llwyd.
 
Du orchwyI i dywarchen — fer adeg
 Fwy rhodio’n uchelben;
 Daw i'r llawr yn awr o'i nen,
 O'r hen wylfa ’run elfen:
 
ENGLYNION,
Cwynfan y Mynyddwr.
 

CLYW fy ngwyn ar dwyn oer dig, - man aethus
Mewn eithaf Ile peryg':
Och! O'r fro na chawn wir frig,
Fwyn annedd, o fan unig.
 
Mewn echrys fanau ochrog — yr ydwyf
Yn rhodio fal 'llwynog;
Mae'n boen, clyw, fod ar ben clog
Fal bachyn fol crybachog.
 
DIWEDD.


B, MORGAN, ARGRAFFYDD, MERTHYR.

 

....

 

------------------------------------------------------------------------------

Sumbolau: Æːæːā ē ī ō ū W̄ w̄ ȳ/ ˡ ɑ æ æːɛ ɪ ɔ ʊ ə ɑˑ eˑ iˑ oˑ uˑ ɑː æː eː iː oː uː / ɥ / ˡ ð ɬ ŋ ʃ ʧ θ ʒ ʤ / aɪ ɔɪ əɪ uɪ ɪʊ aʊ ɛʊ əʊ /

ә ʌ ẃ ă ĕ ĭ ŏ ŭ ẅ ẃ ẁ Ẁ ŵ ŷ ỳ Ỳ [ә gæ:r]
---------------------------------------
Y TUDALEN HWN: www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_141_perllan-gwyno_1832_0266k.htm
---------------------------------------
Creuwyd: 10-07-2017
Adolygiad diweddaraf: 14-08-2017
Delweddau:
Ffynhonnell: Llyfrgell Genedlaethol Cymru
---------------------------------------

Freefind:

Archwiliwch y wefan hon
SEARCH THIS WEBSITE
...
Adeiladwaith y wefan
SITE STRUCTURE
...
Beth sydd yn newydd?
WHAT’S NEW?


Ble'r wyf i? Yr ych chi'n ymwéld ag un o dudalennau'r Wefan CYMRU-CATALONIA
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web CYMRU-CATALONIA (= Gal·les-Catalunya)
Where am I? You are visiting a page from the CYMRU-CATALONIA (= Wales-Catalonia) Website
Weə-r äm ai? Yûu äa-r víziting ə peij fröm dhə CYMRU-CATALONIA (= Weilz-Katəlóuniə) Wébsait