|
|
|
|

(delwedd L2131 (18 Ionawr 1916)
|
Y Darian.
18 Ionawr 1917.
Llith y Tramp.
Mishtir Golycydd, —
Falla bo chi'n ffaelu diall be sy’ wedi dwad o hono i, ond ry'ch chi'n cal
ticyn bach o'n hanas gyda'r bachan yna sy wedi bod yn riporto'n symudiata i
yn y Darian. Ond ma hwnnw wedi gwed ticyn mawr mwy na sy'n hanas hed. Rw i'n
gobitho nag os neb yn cretu dim ma fa'n wed am dana i a'r witw fach o'r
Mownt. Ma hi wedi mynd os na all dyn lodjo gyda gwitw fach rispectabl heb i
rywrai wed bo ni'n caru. Fel gwetas i ar ddechra'n llithia ma gen i gariad
gyda'r Red Cross yn Ffrainc, a mi fu am dro yn 'y ngweld pan ôn i yn y Mownt,
a mi rows y witw fach bob croeso iddi. Felly rw i'n gobitho er mwyn y witw
fach i hunan na wed riportars ddim rhacor o lol am danon ni. Dishefoni'n
bridd a chalch, os gwetws Dafydd y Crydd, ma dicon o bethach drwg a da yn y
byd heb ddychmygu dim atyn nhw. Rw i'n cretu hed nag yw'r hen fyd yma ddim
mor ddrwg a ma dynon yn gwed i fod a. Gweta faint o ddrwg sy yndo fa, ma yna
lot o ddynon, yr un fath a'r Caradog Ifans yna, yn cega am bethach na sy'n
bod. Mi rodd yn dda gen i'ch gweld chi yn rhoi corpws y creadur yna yn y feis
ag yn i wasgu a'n deishen dom fel odd a'n haeddu.
Mi welas notyn yn un o
bapura Llundain yn steil Caradog Ifans i hunan yn sylwi ar y'ch llith chi yn
y "Darian," a fues i ddim yn falchach ariod i glywed ci drwg yn
gorfod sgrechan. Mi fydd gen i racor i wed, am Caradog yn y fan. Yn y
cyfamsar ma raid i fi wed ticyn am dana i 'mhunan wrthoch chi. Wel, mi fues o
flan y Medical Bord yng Nghaerdydd, ag i wed y gwir wrthoch chi, odd arna i
whant cal mynd i Ffrainc er mwyn i fi gal gweld Alis, a mi dreies 'u twyllo
nhw yno, ond odd dim iws. Ddei don't want sytsh a y blwmin per of legs as
ddos in Ffrans," mynta un o'r doctoriaid, dan godi i drwyn; "yw
cwdn't ryn, man."
“Don't insylt mi,
man," myntwn inna a wrtho fa, “ai don't want two go dder tw ryn. Ai want
tw go dder tw mêc ddi Jarmans ryn. Yw nefar su a Welshman ryn ecsept afftar
symbodi hw i rynin awe ffrom him."
"Get awe
man," mynta fynta, "yw cwd not ryn affter ddi Jarmans."
“Lwc hiar," mynta
finna, "wan of mei legs is alwes rynin when ddi yddar is wocin, and ddi
leg ddat is wocin areifs efri wher ddi sem teim as ddi leg ddat is rynin, and
ddi Jarmans wil not bi long in Ffrans if ddei go owt of dder as cwic as ai can
go afftar ddem."
“Ond dim gwell, dw i
ddim yn meddwl fod y Medical Bord sy yng Nghaerdydd isie hala'r Jarmans
gartra, ne mi fysan yn gatal i fi fynd ar 'u hol nhw. Odd gen i ddim i neud
ond mynd i enjoio 'mhunan yng Nghaerdydd cyn dechra ar 'y ngwaith yn
Nhreharris. Un o'r pethach cynta es i i weld yno odd y cerflunia o enwocion
Cymru odd yn y Siti Hoi. Wir ma'r rhai hyn yn dda digynnig. Pan own i'n
stydio y rhai hyn dyma ryw ddyn bach serchus iawn yn dwad ymlan ag yn gofyn
beth on i'n feddwl am danyn nhw. Ma nhw'n dda iawn, wyddoch chi beth ma'r
Arglwydd Rhondda yna'n dicyn o chap hed, mynta finna. “Fysach chi'n leico
gweld Ar glwydd Rhondda?" mynta fynta. "Wel, byswn," mynta
finna. “Wel, dishgwlwch arno i te," mynta fynta, a dyma fa'n sefyll o'm
mlan i, a mi fues i bron mynd i ffit. On i ddim wedi bod mor acos i Arglwydd
ariod o'r blan. “Paid a chal ofan, bachan," mynta fynta. “O, Mishtir
Arglwydd Rhondda annwl," mynta finna, "ma'n dda gen i'ch gweld chi,
a byw. Fi yw Tramp y Darian." "Beth ti'n feddwl o rhain?"
mynta fa. “Hwn sy fan hyn a gwymad merch gyda fa sy'n 'y mhyslo i,"
myntwn inna. “O, mynta Arglwydd Rhondda, “ticyn o wag odd y stonecutter nath
hwnna. Odd a wedi clywad fod Dafydd ap Gwilym yn ffond o ferched, a mi gnath
a'n debig i ferch, weli di." “I serfo fa'n reit," mynta finna, “dos
gan neb hawl i fod yn ffond o fwy nag un ferch ar y tro." “Wel, nag os;
rhaid i fynd nawr," mynta Arglwydd Rhondda; "ma golwg dalentog
arnat ti, gobeithio cwrddwn ni yto." Rw i'n teimlo 'mhunan wedi tyfu lot
er pan gwrddas i a fa.
Falla bo chi wedi gweld
yn y Wêls de bei de yn y Western Mail iddyn nhw gico rhyw ddyn mas o'r offis
yno. Yn anffodus i'r Western Mail y fi odd y dyn hynny'n dicwdd bod, ond
wetson nhw ddim o'r hanas i gyd. Mi gewch glywad y tro nesa.
TRAMP.
|
|
|
|
|

(delwedd B0433a) (25 Ionawr 1917)
|
Y Darian.
25 Ionawr 1917.
Llith y Tramp.
Mishtir Golycydd, - Mi
gretas i unwaith y bysa hanas y’n angladd i wedi bod yn y “Darian” cyn hyn, a
chitha a'r darllenwyr i gyd yn eich galar. A wir i chi mi fydda i yn teimlo
weitha wrth ddarllin hanas “marwolaethau a chladdedigaethau” fod marw yn beth
da iawn. Rw i'n credu tasa ambell un dim and gwybod faint sy'n câl i wed ar i
ol a, y basa fa wedi gnend ticyn o hast i fynd mâs o’r byd yma'n gynt.
Cofiwch chi nawr os dicwdd i fi farw rwbryd y bydd
Paragraff bach, twt,
yn ddicon i chi roi ar y'n ol i, er mwyn i chi allu catw lle i rai
erill wêd dicon am rai sy'n llai enwog na fi. Ond rw i'n crwydro, fel arfadd,
ys gwetws y pregethwr wrth i destun.
Wedi i fi fod yn enjoio'm hunan am rai dwarnota yng Nghaerdydd mi glywis fod
Arglwydd Rhondda wedi pyrnu ffyrmament a rhwpath arall. Wyddwn i yn y byd
mawr beth odd ffyrmament, nes i fi ofyn i Ifano. Ma fe'n dicyn o sgolar mwn
Cwmrâg, a mi wedws wrtho i taw “wybren” odd ffyrmament. Yr argian fawr, mynta
finna wrtho 'mhunan, os yw Arglwydd Rhondda wedi pyrnu'r ffyrmament, ni gawn
well tywydd o hyn mâs, ma fe'n ddyn o fusnas ag yn gwpod shwd i neud pethach
yn iawn. A rodd yn ddicon amlwg i bawb fod rhywrai wedi bod yn mismanedgo'n
ofnadw yn offis Ap Caw’n ddiweddar. A ma'r tywydd yn awr wedi dwad yn nes idd
i le na buodd i ys blynydde. Wedi meddwl ticyn mi ddath
Heidïa go dda
i 'mhen i fel ma nhw'n dwad weitha. Mi feddylas y byswn i'n treio’r “Western
Mail” i gyhoeddi. Arglwydd Rhonddia'n Lord of the Ffyrmament, a fel ôn nhw'n
gwed yn y Wêls dê bei dê, dyma ôn i 'n neud yn y Swyddfa pan ddigwyddws y
trychinab. Mi ês i miwn trw'r drws a ôn i’n synnn gweld lle mor steilish
yno. Wedi fi ofyn am yr heditor, dyma
ryw ferch fach yn gwed wrtho i am ddwad ilan yn y lifft gyda hi; a wir, mi
fyswn i'n leico mynd lan yn uwch o lawar gyda hi. Yw wil ffeind him in ddi
heditorial, mynta hi pan on i'n mynd mas o'r lifft, a mi ddangosws y ffordd i
fi trw ryw basedj culach na’r llwybr
sy'n mynd i le gwell. Thanciw, mai diar, mynta finna, a mi gwnnes y'n het
iddi a mi fues bron a chwmpo wrth neud. Mi ges hyd i'r heditorial. Dw i ddim
yn gwpod a odd yr heditor yno ne beido, ond odd yno lot o snyb heditors yn
gwitho gyment a gallsen nhw a dim amser gyda nhw i ddishgwl ar neb.
|
|
|
|
|

(delwedd B0433b) (25 Ionawr 1917)
|
Shentl Men,
mynta fi o'r diwedd, ai
haf brôt yw e good heidïa, “Heidïa,” ebe un o honynt, a “Heidia” ebr y llall.
“Ddi heidia,” ebr dau neu dri o honynt. “Ai'm blowd!” ebr un arall, elsa
nhw'n synnu fod neb wedi mentro dod a “heidïa” dda i offis y Western Mail.
“Hw âr yw,” gofynnai un. “Tramp y Darian,” mynta finna. “He wants mynni,” ebr
un. “Hi is a blwmin burglar,” ebr y llall. “No,” mynta finna, “Lord Rhondda
has bot the ffyrmament, and ai want yw tw get ddi gyfarment tw mâk him lord
of it.” Ond os do fa dyma snwbyn i fi a dyma basged at y mhen i, a dyma nhw’n
cwnnu a finna’n mynd fel brân mwn storm ag yn erbyn rolyn mawr o bapur fel
melin forter, a dyma hwnnw’n troi a dyma gwmp mawr yn y llwybyr cul a dau neu
dri o dano fa. Dw i ddim yn siwr sawl hacsidental deth o dan y cwmp hynny,
ond rw i'n gobitho fod yno rai wedi i châl hi. Drw drugaredd mi gês dicyn o
flân arnyn nhw, ond wrth ffeulu catwr corneli yn y pasedj mi gas ’y nghorneli i ddi’n lled ddrwg, ag ar y stryt
y ces i’m hunan yn sybconshys. Fu
Dyn Talentog
ariod yn nes i dosturio
wrtho'i hunan na buws i adeg honno. On i'n ffeulu symud, a motor car mawr yn
dwad ymlan ar y pryd, a ôn i'n meddwl yn siwr y bysa fa'n mynd dros ’y mhen
i, a wir on i'n teimlo ar y pryd yn ddicon bolon iddo fa nghwpla i o mhoen. Ond
pwy odd yn y motor car ond Arglwydd Rhondda. “Y machgian mawr i,” mynta
fynta, “pe sy wedi dicwdd i ti?” Mi wetas inna'r hanas wrtho fa, a mi
ddishgwlws yn ffyrnig at offis y Western Mail, a mi wetws y bysa yna
“nashynal disaster” arall ar ol hyn. “Ma nhw wedi gneud disastar budur arna
i, ta beth,” mynta finna, “’dos dim grym i symud llaw na throed yndo i, a ma'n nerfs i wedi 'u
shatro. Ddwa i byth yr un fath ag own
i cyn i fi fynd i Offis y Western Mail.” “Paid a malio dim blewyn,” mynta
fynta, “ma gen i stwff i dy wella di,” a dyma fa’n tynnu tin o Sanatogen mas
o' i boced. “Cymer di hwn,” mynta fa, “a mi fyddi'n gallach dyn, a mi fydd dy
nerfs di fel steel. Dim ond i ti gymryd hwn fe ddoi di i deimlo tod y tywydd,
run fath a theyrnas nefodd, i radda pell o’r tu fewn i ti.” A gwir wetws a,
rw i'n teimlo'n fwy talentog o lawar, a'r groes [sic; = goes] ferr sy gen
felsa hi’n tyfu ticyn bach, ac os tyfith y llall synnwn i ddim na ddaw’r
ddwy’r un hyd yto. Odd yn dda gen i gyrradd Treharris, a gweld Ceiriosydd yn
y'n aros i ar y stesion mor siriol a ma'i enw fa'n awgrymu.
TRAMP.
|
|
|
|
|

(delwedd L2165)
(1 Mawrth 1917)
|
Y Darian.
25 Ionawr 1917.
Llith y Tramp.
Mishtir Golycydd, -
Dyma fi yn Nhreharis, a ma ticyn gwell golwg arna i nawr, diolch i Sanatogen,
Fformamint, a Ceiriosydd a'r frawdoliath farddol sy yma, na phan gyrheuddas i
yma. Ond er gwaetha'r olwg odd arna i'n dwad o Gardydd mi ges i dderbyniad
tywysogadd iawn yma, yn enwedlg pan ddath y bobol i ddiall fod Lord Rhondda a
finne'n bartnars. Rw i'n gwpod nawr i fi neud ticyn o flyndar yng Nghardydd,
a taw nid yr wybren yw Fformamint. Ag os nag yw Lord Rhondda'n rheoli'r
tywydd ma fa wedi gneud help mawr i ddyn gwan i ddala dan dywydd garw iawn.
Fel ych chi'n gwpod, mi fues i un amser yn cymryd lot o Blac an Wheit at y
nerfs, a rodd a'n rhoi nerfs ofnadw i fi am oria ar ol i yfad a, ond ar ol
dihuno bora drannoeth, on i'n fwy tepig
I Lô Nag i Lew.
Ond ma Sanatogen yn rhoi nerth yn ol y dydd i fi a chymorth yn ol yr achos.
Dyw a byth yn y ngatal i lawr ar ol 'y nghodi i i'r lan, a synnwn i ddim na
fydda i wedi dod yn ganwr go dda ymhen ticyn wrth gymryd Fformamint. Welas i
shwd le ariod ag odd yn Nhreharris. Fuddylas i ariod fod yno gymint o dalant,
ma dishgwl ar y bechgyn yma'n ddicon i
neud dyn yn fardd, a fel hyn y canws y Tramp iddyn nhw cyn mynd i'r gwely'r
noswath hynny:
I hoff Dreharris ar fy nhaith,
O dan fy nghraith cyrheuddais,
A chroeso mawr cyfeillion brwd
Yn llifo'n ffrwd a gefais.
Yr oedd Gwesynfab yn en plith,
A Gomer fawr Morgannwg;
Ac wedi dod trwy'r storom gerth
Roedd Llew y Berth yn amlwg.
A Gwilym, y Cynghorwr mwyn,
Heb gwyn, er min yr oerni,
A Dafydd o Sir Benfro fras
O'i ras ddaeth i'm croesawu.
A Rhys Ap Ioan, fawr ei hun,
A'r dyn o Bumsaint ddaethent;
Roedd Ifan Isac yno'n llon,
A bron pob dyn o dalent.
A baner enfawr yn ei law,
Heb daw yn hwylio'r ladies
‘Ceiriosydd oedd yn gwaeddi’n llon,
"Come on, my little beauties -.”
Roedd pobol Treharris wedi pendrafynu rhoi'r un anrhytadd i fi ag on nhw'n
roi i rai odd yn od o'r ffrynt, a dw i ddim yn siwr na ges i dicyn bach mwy,
a falla mod i yn i haeddu fa hed, ar ol y profiad ges i yn Nghaerdydd. Nawr,
cofiwch chi, Mishtir Golycydd, fod y'n enw i ar y placard yn Nhreharris yr
wthnos nesa, a mi ofala i fod gwerthwrs y Darian yn i ddangos a, ne mi fydd
yma row.
TRAMP.
|
|
|
|
|

(delwedd J4243)
(14 Mehefin 1917)
|
Y
Darian.
14 Mehefin 1917.
Llith y Tramp.
DRAMA
RESOLFEN.
Mishtir
Golycydd, - Fel gwetas i wrth och chi'r tro dwetha wi'n hala'r ddrama i chi'r
tro hyn, a ma son yma ishws am i rhoi hi ar y stêdj,
cyn i gweld hi, wath ma pawb yn gwpod bydd hi'n dda fel po path ma Fred Tomos
a finna'n neud. Nawr te am dani.
Yr Hact I.
Golygfa 1. — Yn y Cae
Tatws.
[Y Tramp a Fred yn
ymgynghori ar ben tomen o gerrig bron cymint o Thwr Babel; Mari Jones a golwg
foneddicadd a phwyllog arni'n dod i'r cae ag yn dishgwl o'i chwmpas, yna'n
mynd at Fred a'r Tramp.]
Mari Jones: Bora da i
chi'ch dou.
Tramp: Bora da i
chitha, Mari Jones.
Fred Tomos: Bora da,
Mari Jones.
M.J. (yn troi at y
Tramp) Rw i'n gweld ych bod chitha wedi dod i witho yn y cae tatws, run fath
a ni i gyd.
T. (yn synn ag yn
ffrom) Gwitho wedsoch chi. Dishefoni'n bridd a chalch, os gwetws Dafydd y
Crydd, fi'n gwitho! Na, wedi dod yma w i gynghori Fred yma i bido bod mor
ffol a gwitho fan hyn, ta beth.
M.J.: Mi welas yn y
Darian nag ych chi ddim yn credu llawer mwn gwaith.
T. Na dw i'n cretu dim
mwn gwitho, a wi'n mynd i gretu llai o hyd. Dyw dyn ddim wedi i neud i
weitho.
M.J. Otich chi'n
cretu'r peth y'ch chi'n weyd nawr?
T.: I gretu fa! Otw.
Witha i ddim stroc byth ond o'n anfodd.
F.T.: Rych chi'n cretu
mwn bod ar streic o hyd 'te?
T.: Dim shwd beth 'y
machgen mawr i, ma streico'n wath na gwitho.
M.J.: Wel sboniwch ych
geira.
T.: Wei, fel hyn, fonesig
fwyn, ys gwetws Talnwnt, Bertawa, wth sgrifennu am ryw ferch ifanc, dim ond i
ddyn beido gwitho fydd dim isie iddo fynd ar streic.
M.J.: O! Beth y'ch
chi'n feddwi o'r geira hynny, "Satan finds some mischief still for idle
hands to do."
|
|
|
|
|

(delwedd J4244)
(14 Mehefin 1917)
|
T.: Celwdd bob gair y'n
nhw. Ma'r geira yna'n depig iawn i adnota Dafydd y Crydd. Ma rheiny i gyd yn
sefyll ar 'u penna, a wi bron yn suwr taw Dafydd yw awdur y geira yna. Ma
nhw'r un fath yn union a'r pethach ma fe'n neud. 'Sa fa'n gwed fod Satan wedi
twyllo dynon a'u hala nhw i witho a streico a mwrdro 'u henen a'i giddyl pan
ddylsa nhw fod yn enjoio'u hunen, mi fysa'n acos idd i le.
F.T. Dramp annwl, mi
wyddwn ych bod chi 'n ddyn o dalant,
ond feddylas i ariod ych bod chi'n gymint o fishtir ar athrawieutha amryw a
dieithr. Dicon pring wi'n cretu'ch bod chi'n cretu'r peth y'ch chi'n weyd.
T.: Rw i'n i gretu fa
bob gair. Ma gweulodion y modolath i hefyd yn tystio 'mod i'n iawn, a nad yw
dyn ddim wedi neud i witho. Rhywrai erill sy'n hala dyn i witho, a phan ddaw
dynion yn ddicon call withan nhw ddim, a mi fydd Satan a'i gang heb elw, a
nhw fyddan farw o'r colaps a mi fydd dynon byw'n hapus.
F. T.: Wel, Mari Jones,
beth y'ch chi'n feddwl o syniata Tramp y Darian?
M.J. Wn i ddim beth i
feddwl o honyn nhw. Os y'n nhw'n iawn, ma'r Tramp o flan i oes, filoedd o
flynyddodd. Ond os w i'n cofio'n iawn, ma fynta wedi bod yn labro'r nos un
amser.
T.: Wara teg, nawr,
Mari Jones, dyw hi ddim yn deg dannod hen bechota. Odd y nhalant i ddim wedi
datblygu'r pryd hynny. Dw i ddim wedi gneud stroc o waith byth er pan
ddechreues i sgrifennu.
M.J.: Ma Golycydd y
Darian yn talu'n dda i chi, felly
T. Na, wara teg iddo
fynta, dyw a'n talu dim i fi, ond ma rhai erill yn talu'n dda i fi. Dyma bar
o sgitsha ar y nhrad i nawr, sgitsha para byth, ges i gyda'r Cynghorwr pan ôn
i yn y Sefn Sistars am roi ticyn o hanfarwoldab arno. Fues i ariod mor hapus
na mor suwr o ddicon o bopath ag w i ar ol dechra iwso ticyn bach o sens.
|
|
|
|
|

(delwedd J4245)
(14 Mehefin 1917)
|
F.T.: Otich chi ddim yn
cownto fod sgrifennu'n waith?
T.: Nagw, plesar yw a a
ddyla neb neud dim yn y byd yma, os na fydd a'n dewis i neud a ag yn i neud a
wrth i blesar. Ma'n atnod yn rhwla: "Beth bynnag sy dros ben hyn o'r
drwg y mae."
M.J.: Beth newch chi
o'r adnota hyn? "Teilwng i'r gweithiwr ei gyflog"; "Y neb na
weithio na fwytaed chwaith."
T. Wn i ddim pwy nath
yr adnota yna, ond ma nhw'n profi'r peth wi'n wed wrthoch chi. Wrth gwrs os
bydd dyn wedi gwitho mi ddylsa gal gwerth i waith, ond anamal iawn ma fa'n
cal hynny. Ma'r rhai sy'n i hala fa i weitho'n cal mwy na fa am neud dim.
Ma’r atnod arall yna'n riferro at rai sy'n hala rhai erill i weitho er mwyn
iddyn nhw gal byta mwy na sy isie arnyn nhw. Ne felny"bydda i'n sbonio
pethach, ta beth. (Mari Jones yn wincio ar Fred.)
F.T.: Gwreiddiol iawn!
Ond dyma'r Hemployar yn dod.
Hemployar: Bora da.
Y lleill: Bora da, bora
da.
M.J.: Ry'ch chithe wedi
dod i witho ar y rhandir, ys gwetws y Wylan?
H.: Nag w, nid heddy rw
i'n gwitho, ond ar y Sul fel bwy'n galli addoli wrth balu.
(Distawrwydd synn am
ennyd.)
T.: H'm.
H.: Y pwnc mawr y
dyddia hyn yw gorchfygu'r Germans; ag ar y cae tatws y rhaid gwneud hynny. Ma
gydach chi lot o gerrig yna Mr. Tomos, ma'n drueni na ellid gneud i rheina
ddisgyn yn gawod ar ben y Germans.
F.T.: Dyw e ddim llawer
o wahaniaeth gen i ar ben pwy'r ân nhw, phoena i ddim rhagor gyda nhw. Dyma
alotmant i ryw un fysa'n leico'i gal a.
H.: Faint y'ch chi'n
dalu am hwn Mr. Tomos?
T.: Talu, taiu, talu,
beth wetsoch chi ddyn?
H.: Wel, fysa fa ddim
yn deg i neb roi tir am ddim.
T.: Talu! On i'n meddwl
taw fan hyn o'ch chi'n ymladd a'r Germans. Os rhaid talu am dicyn o dir i
ymladd a rheiny? O'n i'n meddwl bysech chi'n cal ticyn o dir i sefyll arno i
ymladd a rheiny am ddim. A ma raid i chi dalu am y tir y'ch chi'n ymladd am
dano? Wel, jiw, jiw, tynnwch y cyrten yna lawr.
|
|
|
|
|
|
|
|

(delwedd 5612)
(27 Medi 1917)
|
Y
Darian 27 Medi 1917
Llith
y Tramp.
Mishtir
Golycydd, — Rw i am i chi gatw'n llith i ar y cwestiwn — beth ddath o John
Jones, Cwmgwrach, alias John Jones, Cwmtawe, nol am dicyn, er i fod a'n
gwestiwn tra phwysig, a gweddillion marwoledig yr ymadawedig yr wedi eu cael
mwn gwahanol ranna o'r Dyffryn, sef Dyffryn Nedd. Hyd yn hyn ma'n amheus iawn puna ai'r rhyw deg ne
ryw ysbryåion o'r lle sy tanon ni fu'n i dynnu fa'n bishis orwth i giddyl. Beth bynnag ma fa wedi mynd, a heddwch idd i lwch a
ys gwetws ych gohebwrs chi. Mi ddylswn weyd fod golwg foddlon iawn ar Mari
Jones a Betsi Gibbs pan adewas i a Resolfan.
Y
gwir ag e, Mishtir Gol., ma raid i fi fod yn ofalus rhag colli mhen y dyddia
hyn. Ma Arglwydd Rhondda a Lloyd George yn meddwl taw nhw sy'n llywodraethu'r
byd. Ond mi alla i fentro gwed wrthyn nag os dim son am u henwa nhw os bydda
i gerllaw, yn enwetig gyda'r merched ifenc a'r gwidwod. A ma enwocrwydd mwy
yn aros i yto. Rodd yn dda iawn gen i weld llith Eryres Penrhwpâl yn ’y
ngwadd i lawr i Rydlewis. Mi gwnnws i geira caretig hi ryw ysfa mynd yndo i
a'r unig ffordd i allu mynd odd mynd heb wpod i widw fach Resolfen a Betsi
Gibbs a Mari Jones, ne chawn i byth fynd oddyno. On nhw'n yn watsho i bob
dydd er pan welson nhw lythyr yr yr Eryres fwyn, a beth nes i un dwarnod ond cwnui ticat i Berdar a gwed mod i’n
mynd i Byrtawa trw Gwm Rhondda.
Wrth
fynd trw Mowntan Hash mi gas Hywal Nedd gip arna i, a mi fuws bron mynd dan y
trên wrth dreio shiglo llaw a fi a rhoi cusan i fi a’r tren wedi starto. Mi
safiws heb gal llawar o niwed, a ma'n depig fod Doctor Arthur Jones wedi
riparo hynny odd ishe arno fa. Rw i’n ddiolchgar iawn iddo am fynd i gymint o
berigl er mwyn i hen ffrind. Wedi'r
ticyn helynt hyn mi ddiallws
hoffishals y lein fod Tramp y Darian yn y tren, a nhw halson weiar i bob
station, a dyna ble odd tyrfa ymhob
stesion wedi dod i ngweld i'n mynd heibo. Ym Mhenrhiwceibr yr oedd Ap Valant
a Benjamin, a disgleirdab awan fyw yn u whynepa nhw, a lot o ffwlscap yn u
'law nhw. Mi letws yr Ap i bapur, a mi
ddechreuws ddarllin:
“O,
fy hawen, rhaid i’m grefu
Arnat ti i ddeffro nawr
O'th gysgadrwydd hir i ganu
Croeso pur i harwr mawr;
Pe bae gennyf bwyntil hang—
Yna startws y tren cyn iddo gwpla’r
pennill cynta. Un syten yw tren y Taff. Rw i'n gobitho haliff Ap Valant y gan lawr i
Rydlewis. Fyswn i'n meddwl fod y pennill yn led dda a styried i fod
|
|
|
|
|

(delwedd 5613) (27 Medi 1917)
|
a wedi i
neud a wrth gwnni ticat.
Wedi i fi gyrradd Pontypridd, odd Brynfab wedi clywad yn y Farchnad, a odd
ynta a'r Cynghorwr Huw T. Richards, a lluoedd o feirdd llai, wedi dod i'r
stesion i roi bendith i fi wrth baso. Châs y Cynghorwr ddim amsar i
fflamychu, ond mi lwyddws Brynfab i wed pennill bach neis wrtho i pan oen
ni'n rheteg o un platfform i'r llall. A fel hyn odd a:
Fe glywir son am hoesa
Am henw'n enwog dramp,
Os hangyhyd
ei goesa
Mae'n grwytryn tan ei gamp;
Y ma gen inna sgupor
Ar fferm yr Endra draw,
Drws onno
hiddo'n acor,
A chroeso mawr pan ddaw.
Thanciw feri ceindli, Brynfab.
Pan on i’n mynd trw Drealo, pwy odd yno ono y'n hen bartnar i ar dramp ys
llawar dydd, sef yw efe W. Basset, o Lechwadd Penrys, a dyma fa'n towlu pownd
o shwgir i’r compartment. a mesur petar miwn i'r compartment. A fel hyn ma'r
mesur:
Dail fel symudol fod,- clau horacl,
Harwr y gwidwod;
Os cloff o glun, wr hynod,
Trwmpyn yw, tramp yw ei nod.
Wrth fynd trw Dreorci, mi welwn Eryr
Parc y Cwm a Iolyn Penpych a'u dwy wracadd wedi dod yno'n chwys dyferol. Mi
rows Eryres Parcycwm ddau bownd o reis i fi
a gwraig yr Iolyn owns o Ffranclin. Pan odd y tren yn starto dyma'r
Eryr yn gwaeddi:
’Rwy'n cofio'r Crwydryn serchog
I'r cwm yn dod fel cilog,
Ac fel y gwnaed hen Gymro neis
Gan bwtin reis yn henwog.
Ond ma raid i fi bido gwed y cwbwl gymrws le odd yno i Byrtawa, ne af i byth
i Benrhiwpal. Falle gweta i air am y Cender rwbryd yto. Mi drois miwn at
Dafydd y Crydd yn Byrtawa, mi fues jist a'i alw fa'n Dewi Sant, wath ma fa
wedi mynd yn ddiwiol iawn yn ddiweddar. Ma fa jist a mynd yn rhy ddiwiol i
sgrifennu i'r Darian. Ma gyta fa lith ar waith ys tair wthnos, mynte fa, ar
goblera. Well i chi roi “tw bi continiwd” fan hyn, Mishtir Gol. TRAMP.
|
|
|
|
|

(delwedd 5592) (29 Tachwedd 1917)
|
29
Tachwedd 1917
Y
Darian
Llith
y Tramp.
Mishtir
Golycydd, - Rodd yn dda iawn gyda fi weld ym Mwrdd y Gol. yn ddieddar fod tri
ne bedwar o'n llithia i mwn llaw gyda chi. Cofiwch chi u catw nhw mwn llaw
hed. Dodd hi ddim yn deg fod Dafydd y Crydd a’r bechgyn erill yna'n cal gwed
y cwbwl am yr henglyn, a finna ddim yn cal 'y mhig miwn. Cofiwchchi gatw'n
llithia i erbyn Steddfod Genedlaethol nesa, a nid i hala nw i'r felin bapur.
Fe neiff yr hyn wetas i am fesura petar lein Byrcan-ed y tro fel beirniatath
ar yr henglynion ddaw i Gastall Nedd. Falla byddwch chi mor garetig a gwed
wrtho i i bwy flotyn ne bren byddan nhw'n canu yno. Onibai fod Dafydd y Crydd
wedi bod mor garetig a rhoi marn i am rai pethach yn i shop, fysa neb yn
gwpod mod i wedi gwed gair ar faterion tra phwysig odd yn cwnnu o Lygad y
Dydd.
Ma
raid i fi wed gair y tro hyn am y Clem Edwars yna fu’n clebran yn y Parlament
dydd Mowrth dywetha. Chlwes i ddim o enw'r dyn o'r blan trw wpod i fi, ond
fyswn i'n leico gwpod a odd an towlu ata i pan odd a’n gwed fod milodd ar
filodd o arian wedi u hala yn Sowth Wels er mwyn cal gan y coliars i stopo
gwitho. Odd a'n sygesto fod yr arian hynny'n dwad o Germani. Dw i ddim yn
gwpod pwy isha cwnnu rhyw hen bethach fel hyn sy nawr. Mi ges i lot o checs
orwth y Ceisar amser dechra'r rhyfal am dynnu'r coliars mas ar streic, a mi
rannas yr arian i gyd rhwng y lebar lidars. Ond mi ddiciws Mishtir Ceisar
wrtho i am i fi roi Stanton yn y Parlament; ches i ddim rhacor o checs, a mi
halws yr hen foi lythyr blagardus ofnadw ata i yn bwgwth hala eroplens a
llonga awyr i fombardo pob ty gwair a, sgupor yn yr Iwneited Cingdom er mwyn
y'n lladd i. Ond mi fydd e'i hunan wedi trigo’n hir cyn bydda i wedi gorffen
trampo. Meddwl w i fod y coliars yn lwcus iawn fod Parlament y wlad hyn a'r
Ceisar yn teimlo shwd intrest yndyn nhw. Ma'r Ceisar yn rhoi arian iddyn nhw
am beido gwitho, a ma'r llywodraeth yn rhoi mwy iddyn nhw am weitho o hyd. Ma
hi'n gwitho'n iawn felny, a. wi ddim yn gwpod pwy isha i Clem Edwars fynd i
shwd stiw.
|
|
|
|
|

(delwedd 5593) (29 Tachwedd 1917)
|
Mi
adewas i Dafydd y Crydd yn Bertawe. Odd a'n fishi iawn y dwarnota hynny'n
hecsamino mesura petar lein odd a wedi gal o'r North. Ma Dafydd yn aiarad
cymint am farddoniath gyda Morgan y Teilwr a Eryr Penpych, nes ma fa’n shwr o
fynd yn fardd i hunan os na feindiff a. Mi fysa hynny’n drychineb ofnadw,
wath ma fa n grydd da iawn, a mi fysa'n resyn garw iddo fynd i iwso'i fynawyd
ar betha gwytnach na lledar.
Wel
rw i'n sgrifennu'r llith hyn o Sgupor Penygaer, a hynny yn Shir Barteifi. Dyw
a ddim iws i fi roi'n adres yn rhy fanol, am fod y Ceisar ar lwc owt am dana
i. Ma Mishtir Defis wedi gneud offis fach deidi iawn i fi yn y sgupor er mwyn
i fi sgrifennu i'r Darian a derbyn ymwelwyr. Ma lot o feirdd yr ardal wedi
bod gyda fi, a ma yma hanner llond y sgupor o fesura petar lein. Falla ceiff
y darllenwyr olwg ar rai o honyn nhw'r tro nesa. Ma Daniel Tomos y postman
yma bob dydd a mai awan ynta'n “bwrlymu” ys gwetws Alfa. I fi dilifrws a'r
llythyr cynta eriod mwn sgupor, a dyma falch odd a o’r anrhytadd. Y bardd
trwma a mwya gwreiddiol sy wedi canu i fi hyd yn hyn yw Ioan Glyndwr, a fel
hyn yr ymfflamychws e pan welws e fi gynta: -
Bellach
gallaf farw’n ddedwydd,
Fe ddaeth gwynfyd i fy rhan, -
Gweld y Tramp! O fendigedig
Fraint yw hon i brydydd gwan!
Cana f’awen nerth dy sgeiriau,
Cana i’w athrylith gref;
Penygaer a chlod ei sgubor
Bellach gyfyd hyd y nef.”
Ioan Glyndwr a'i Cant.
Beirdd
erill o fri mawr sy wedi bod yma yw Cynfelyn a Lias a Gwilym Ceri. Ma 'ma
ardal dalentog iawn.
TRAMP.
|