kimkat0347k Llith y
Tramp. Ysgrif yn nhafodiaith Aber-dâr o’r Darian. 1916.
01-06-2023

![]()
![]()
![]()
![]()
![]()
.....
Gweler hefyd / Vegeu també / See also:
|
|
|
Gwefan
Cymru-Catalonia
|
(delwedd 4665) |
.....

(delwedd J7058b)
.....
O
newyddiadur ‘Y Darian’ (Aber-dâr).
.....
13 Ionawr 1916
.....
20 Ebrill
1916
.....
18 Mai 1916
25 Mai 1916
.....
01 Mehefin
1916
08 Mehefin
1916
29 Mehefin 1916
.....
6 Gorffennaf
1916
13 Gorffennaf 1916
.....
03 Awst 1916
.....
28 Medi 1916
.....
26 Hydref
1916
.....
23 Tachwedd
1916
...
|
|
|
|
|
Y Darian. 13 Ionawr 1916. Llith y Tramp. Mishtir Golycydd,— Mi ddylswn i fod
wedi hala hanes cwrdd y Sgweiar Jones ar Maesmarchog i chi cyn hyn. Ma fa'n
hen beth erbyn hyn, ond dyw a ddim gwath o hynny, wath ma fa fel caniata
Toriel yn han- harwol. Ma'r Sgweiar yn dicyn o wag, yn fwy o wag na fysa neb
ym meddwl wrth i olwg a. Ma fa'n dishgwl mor sopor a sant, a wi n lxco dynon
sy n well na'u golwg. Ma'r Sgweiar Jones wedi cwni o flan llawar sy ar yr
Onllwyn, a phan mae fa'n cysgu ma'i lyead a'n acor. Nawr pan odd isha ewrdd i
ddewish inembar odd bechgyn smart y pen isha am gal cwrdd yng nghanol y ward,
a meddylwch chi nawr am y ward fel polyn hir, pren tair ar ddeg os myn- nwch
chi, a hwnnw'n balanso ar rwpath dan i ganol a. Os rhowch chi fwy o bwysa ar
un pen mi eiff y pen arall i'r awyr. Nawr odd bechgyn y pen isha yn meddwl,
dim ond iddyn nhw gal y polyn i falanso ar y canol y bysan nhw'n gallu rhoi
dicon o bwyso ar u pen nhw i'r polyn nes bysa'r pen arall yn towlu'r Sgweiar
Jones lan at y ser a lawr wedyn i'r Bristol Channel. Ond cha nhw mono i
felna, mynta'r Sgweiar, a mi rows y pwysa i gyd ar i ben i hunan i'r polyn.
Mi alws gwrdd ym Maesmarchog, a ma nhw wedi bod yn rhecu'n Sysnag yn y pen
isha byth oddar hynny. Wrth gwrs ticyn o rise yw rhoi gormod o bwysa ar un
pen i'r polyn, ma'r pen a'r pwysa'n mynd lawr ag yn stopo dicyn yn sytan pan
ddaw a at y ddaear, ag yn rhoi shoe i chi. Mi risews y Sgweiar Jones y shoe.
Mi ath William Huws a'i barti lan a mi ath y Sgweiar a'i barti lawr, a ma
hi'n dicyn o fydl yma. Oni bai taw'r gwr bynheddig sy'n fishtir y pwll glo yn
y Sefn Sistars odd yn y gatar, mi fysa'r mydl yn fwy, ma mishtir Tomos fel
finna'n ddyn o dalant a dy- lanwad, a ma fa'n gadirydd y Paris Cownsal hed.
Beth bynnag i chi, ys gwetws Mr. Bowan y Slop, rhag of an i wyr y pen isha
neud mwstwr yn y cwrdd odd yno blisman yn barod i dowlu mas unrhw un odd heb
ddim fot fysa'n cadw mwstwr ne ofyn cwestiynna na alia neb 'u hapad nhw fel
ma nhw'n arfadd a gneud mwn cyfarfodydd fel hyn. Mi fuws yno dicyn o ddispiwt
am y list o fotars a lot o ddatla rhwng 1914 a 1915, a rhai dros 1914 a'r
lleill dros 1915. Odd 1915 yn siwto'r Sgweiar yn well na'r un cyn hynny, a hi
gariws yn y cwrdd, a mi gas y Sgweiar i ddyn, ond ma nhw'n bwcwth yn y pen
isha'n ofn- adw. Ma nhw wedi cal mas nawr nag odd dim isia membar cyn 1917, a
ma Mishtir Phillips felny wedi i ddewish flwyddyn yn rhy gynnar yn ol yr
alman- ac. Ma fa run fath a bachan ifanc a'i gariad. Mi fydd yn engaged i'r
ward am flwyddyn cyn ceiff a brioti, a beth yw blwyddyn lie bo cariad. Bwcwth
tor'i'r engagement ma nhw yn y pen isha, ond ma arna i ofan i bod hi'n tw lat
arnyn nhw. Ma'r Sgweiar Jones wedi cwnni o'i blan nhw, a thicyn o Job fydd
iddyn nhw i gal a i'r rhwyd. Ma fa'n dicyn o wag fel gwatas i, a ma'r lleill
yn cymryd u hunen dicyn yn rhy seriws. Heio, syr, shwd y'ch chi, syr,"
myn- ta lais wrth 'y nghefan i'r dydd o'r blan. Mi ddishgwles nol' a mi
welswn ddyn boneddicadd yr olwg arno. Chi yw Tramp y 'Darian,' mynta fa wrtho
i wetyn, rw i'n y'ch nabod chi wrth ych coes." Ma nhw'n gwed taw fi yw
e, ond pwy ga i wed y'ch chi, syr?" Fi," mynta fynta, yw Risiard
Lewis, gynt o Flaen Nant Cellwen, a fi ddylsa fod yno nawr." Twt,"
mynta finna, beth nethech chi a fe ? Chi gewch chi ai finna bobo wech
trodfadd yn ddi- ddiolch i neb pan ddaw'r amsar, a fydd hynny'n ddicon i ni.
A cheiff neb arall ddim mwy." Dw i ddim yn cretu'r athrawiath yna,"
mynta fynta. Fydd raid i chi gretu," mynta finna, a mi welws ynta'r
point. Wel, ma'n dda gen i'ch gweld chi," mynta fynta. Ma llawar o son
am danoch chi trw'r byd. Ma nhw'n dar- llan ych gwaith chi yn y trenshis yn
Ffrainc. Chi a Charlie Chaplin yw'r ddau ddyn enwoca yn y byd. Chi yw'r dyn
mwya talentog sy wedi bod ar yr Onllwyn yto." Diolch yn fawr i chi,
syr," mynta finna, fysach chi lico talu am lased o blac and wheit?"
Gyda phlesar digymysg, dowch i'r Slop," mynta fa. Mi ffeindes i maS mod
i wedi cwrdd a eitha gwr bynheddig, a wi'n diall nag yw a ddim mor hen a ma
fa'n dishgwl, ond i fod a wedi gwynnu'n ifanc. Ma fa'n lot o fardd hed, a mi
nath ddau fesur petar leiii i fi fel hyn: I mi anrhydedd mawr fy oes dd cwrd
a'r dyn a'r fechan goes; Anghofia i byth mo'i ddifyr ddawn Wrth wneud yn wag
y gwydrau llawn. Mi glywais lawer am y Tramp, A chlywais rai'i ei alw'n
scamp, Ond talant fawr sydd gan y dyn, Mae'n sefyll ar ei ben ei hun. Mi
hapedas un fel hyn: Nid ar fy mhen rwy'n sefyll, Die, Ond ar fy nhraed yn
spic and span, Mae iwso 'mhen yn ormod trie Pan fyddo nghoesa yn rhy wan. Wn
i ddim beth ddath o Risiat Lewis y noswath hynny, a wyddwn i ddim beth odd wedi
dod o hono inna nes odd hi bora drannoth pan ges i mhunan wedi bod yn cysgu
mwn dram wag ar ben y screen. TRAMP. |
|
|
|
|
(delwedd
5586) (20 Ebrill 1916) |
Y Darian.
20 Ebrill 1916. Llith y
Tramp. Mishtir
Golycydd, — Ma'n dda iawn gen i weld Mishtir Dafydd y Crydd wedi gwella ag yn
dechra iwso'i sgitsha unwaith yto. Dw i ddim yn gwpod shwd un yw fa am neud
sgitsha, ond ma fa'n gallu i hiwsa nhw! A ma'n dda gen i, sa dim ond er mwyn
Gwen i wraig a, i fod a'n gwella. Siawns na ddaw a nawr gyta'r Gwanwn. Ma
nhw'n meddwl lot o Dafydd yn Whitland yma. Wel, dala'r un peth w i o hyd yn
ddirwestwr i'r carn; dim ond lemwned a phop coch w i'n yfad. Ma'r Vet. yn
para i weyd y drefn am mod i'n llyncu peth mor dena. Ond beth sy gen i i neud
ar ol precath Mishtir Morgan Jones am y ci du. Gyta llaw fe alws Mishtir
Jones yn y sgupor yma'r wthnos ddiwetha. Odd a wedi bod yn Berdar, mynta fa,
yn prygethu gyta R. B. Ma nhw'n gwed na allwch chi ddim cretu'r prygethwrs bob
amser pan ma nhw'n gwed iddyn nhw fod mwn cwrdda mawr. Ond odd Mishtir Morgan
Jones yn gwed iddo fa'ch gweld chi yn Berdar a bo chi'n cofio ata i'n fawr, a
ma raid i fod a'n gwed y gwir felny. A rw i'n ddiolchgar iawn i chi am gofio
am dana i, syr. On i'n gofyn iddo fa shwd odd R.B. 'n prygethu.
"Hardderchog, Bendigetig, Alaliwia,” mynta fa. Ma'n dda gen i fod a wedi
gwella, mynta finna. On, i'n meddwl dim llawar o hono fa pan glywas i fa, a
dw i ddim |
|
|
|
|
|
yn cofio
mod i wedi bod mewn capal byth odd ar hynny, a mi fysa arna i dicyn o ofan
mynd i glywad R.B. Sut felly, Dramp annwyl? mynta Mishtir Morgan Jones. Wel,
fel hyn, mynta finna, odd a'n wynad ofnadw wrth bregethu ag yn bwcwth pethach
cas i'r rhai fysa ddim yn cretu'r pethach odd a'n weyd. A shwd gallswn i
gretu pethach nag on i'n gwpod dim yn u cylch nhw. Odd a'n bwcwth y'n hala ni
i uffarn i gyd os na nelsan ni bopath odd a isia i ni. Nawr dw i
ddim yn gwpod dim am fy lle poeth yna, pun a oti fa i gal ne bido. Ma rhai'n
gwed nag ôs dim shwd le. Mi wetws Gwili 'slawar dydd yn y "Geninan"
taw ceffyl pregethwyr odd uffarn, ac fe "aeth”, mynta fa, "lle'r
aeth ceffylau da." A mi glywas i un dyn galluog yn gwed y dylsa Gwili
fod yn gwpod achos i fod a wedi bod tuhwnt i'r llen. Wn i ddim beth ma
hynny'n olycu, os nage'i fod a wedi cal eitha ffit a wedi gweld ym mhellach
na chyrra'r wlad. Ond hyn yw hi, Mishtir Jones, dw i ddim leico clywad pregethwrs
yn wleua am y lle poeth felsa gyta nhw awdurdod i hala'r sawl fynsan nhw iddo
fa. "Hm, hm," mynta Mishtir Morgan Jones, "mi nelsach chi
brygethwr tan gamp. Na, na, Mishtir Jones, wleua ticyn o sens a chi w i. Mi
wetws R.B. lot o bethach erill fuws yn help i fi beido mynd i rondo ar
brecath byth weti'n. Odd a'n cnoco ar ben rhyw rai odd yn ishta mwn blawd
llif, odd hynny ddim yn help i santeiddrwydd, mynta fa. Wi ddim wedi gweld
neb yn ishta mwn blawd llif, ond tysan nhw'n gneud hynny dw i ddim yn gweld
fod catar esmwth o rawn ceffyla ne groen mochyn ddim yn fwy santadd na blawd
llif. A wi'n ffaelu gweld fod mynd i |
|
|
|
|
(delwedd
5588) (20 Ebrill 1916) |
weld drama
lawar gwath na mynd i amball gwrdd mawr fel odd a'n gweyd. Ma fa'i hunan yn
treio bod mar ddramaticyddol a gall a yn y Pulpud. Ma fa'n cnoco'r Beibil, yn
dangos i ddannadd pan ddylsa fa ddishgwl yn neis, a ma fa'n gwenu fel angal
pan ma fa'n mynd i roi pigad i chi. “Stop, it,
stop it," mynta Mishtir Morgan Jones, "Dramp annwyl, rych chi'n
ymylu ar gaplu hurddas." “Nacw i,
Mishtir,, Jones," mynta nna. Ond sens yw sens. Mi wetws lot o bethach
erill hed, am ferchad hannar porcyn yn y Theatres, a shwd dylsa rhai odd yn
cysgu gyta'u giddyl neud. Rw i'n gwed y gwir on i wedi mynd i deimlo'n
rhyfadd iawn. Odd y bechgyn a'r merched ifenc ofan dishgwl ar 'u giddyl pan
odd a wrthi’n gwed y pethach hyn. A beth odd isha son am danyn nhw o'r
Pulpud. A mi weta wrthoch chi beth arall, Mishtir Jones, dw i ddim yn leico
clywad rhai'n gwed o'r pulpud fod dynon ffein, caretig, cymwynasgar yn mynd i
uffarn os na fyddan nhw’n cretu'r peth ma'r prygethwr yn wed. Os ma dynon fel
hyn sy'n mynd i uffarn, rw i'n mynd yno ’mhunan. Rw i'n credu hyn y bydd dyn
yn fwy tepig o fynd i le da os bydd a wedi bod yn garetig i'r Tramp nag am i
fod a wedi gwishgo silcan a cholar ci wedi i startsho." "Hold
on, hold on, Dramp annwyl, ma arna i ofan ych bod chi'n dirywio,” mynta
Mishtir Jones. “Wel, ma
rhwpath rhyfadd wedi dod drostw i'n ddiweddar er pan ges i'n argyhoeddi gyda
chi, gobeitho nag w i ddim yn mynd yn wâth nag on i. Ond rw i wedi wedi bod
yn rhoi'r pethach on i’n glywad slawar dydd at’u giddyl, a rw i felswn i'n
meddwl y gallswn gretu ticyn yn y Gwaretwr, sa'r
prygethwrs yn rhoi llai o drimins am dano fa. Wel, dyma fi wedi gwed wrthoch
chi, Mishtir Jones, nes ma mhen i'n dost. Peidwch a bod yn ddierth yn y
sgupor yma. TRAMP. |
|
|
|
|
|
27-04 Llith
y Tramp. I Mishtir Golycydd,— Ma raid i fi neud hapoloji y tro hyn. Rw i wedi
i chal hi'n ofnadw er pan ddaeth y 'Darian' ddywetha i Whitland. Mi gas rai
shoe wrth ddarllan y'n llythyr i, na fu ariod shwd beth ariod. Nid yn amal
ma'r Tramp, fel y'ch chi'n gwpod, yn mynd dros ben y llestri, ond mi rows i
drod ynddi y tro dywetha, a ma'n ddrwg gen i am hynny, syr. Ma Mishtir John
Owan, Pantyderi, wedi bod yn bwcwth 'y nhroi i mas o'r sgupo'r; a mi fJa wedi
gneud hynny onibai iddi feddwl taw mynd islaw i fi 'mhunan nes i am dro. Mi
welas Mishtir Morgan Jones yn paso a golwg ffyrnig arno. Mi gotws i law a mi
waeddws, Yr hen Gwdihw, coeddi preifat"hintarfiw yn y Darian!" a mi
ath yn i flan. Pan es i i'r Stesion Hows odd Tom Williams y Fet eto yn
dishcwl fel porciwpein arna i. On i wedi darostwng y'n safon, mynta fa, yn y
Darian ddywetha, wrth atrodd pethach ar ol rhai o bregethwrs y cwrdda mawr.
Odd a'n gwed hefyd na fysa fa ddim yn lies i fi fel Tramp Cenedlaethol t fynd
i rondo 11awar ar bregethwrs am fod isha, i fi gatw'n syniata'n llytan a'n
meddwl yn glir. Pan o'n i'n mynd o'r Stesion dyma fi'n cwrdd a Mishtir
Isac'Rees, a dyma fynta'n gwed y drefn wrtho i fel shishwrn. Odd a am ifi
gofio fod plant yn darllan y Darian, a dylswn i feddwl am yr oes sy'n coti.
Ma Mishtir Rees yn gneud gwaith mawr gyta'r plant yn y band on hop. Mi halws
dicyn o ofan arna i, ond dw i ddim yn meddwl i fod a wedi dicio cyment wrtho
i ag odd a'n treio dangos. ¡Wi'n cretu fod Mishtir Rees yn un o'r dynon gore
yn Whitland. Fel gwetas i, ma'n ddrwg iawn gen i mod i wedi sgrifennu rhai
o'r pethach odd yn y'n llythyr dywetha i, ond ma hyn o gysur i'r rhai sy'n
achwyn, sef yw hynny, mod i'n teimlo'n hollol yr un fath a nhw pan glywas i'r
pethach y 'mhunan. Ond dyha ddicon ar y pen yna nawr. Wyddoch chi, Mishtir
Golycydd, y peth sy'n 'y mlino i yw'r rhyfel. Ma arna i of an na ddaw hi ddim
i ben am amsar maith. Ag os gallwn ni gretu'i- pethach ma nhw'n hala i'r
papura Sysnag, 'dyw'r halleis ddim yn mynd i ennill chwaith. Ma 'na rwpath
rhyfadd iawn yn Germani, rhyw nerth tepig iawn i hatgyfotiad yn mynd ymlan.
Ma hanas wedi dwad yn y papura fod tua phymtheg miliwn a deugan wedi cal i
lladd, a rhoi'r cwbwl at i giddyl o'r start a 'dos dim tair. miliwn yn llai
yno yto! Ma'r Crown Prins wedi marw dair gwaith, ma fa. wedi i ladd dair
gwaith, a mo fa wedi i gladdu ddwywaith a rhai wedi bodYl1 i angladd a. Ma'r
Kaisar ynta wedi bod bron a marw unwaith bob mis er pan ma'r rhyfal wedi
dechra, a ma fa'n fyw o hyd. Y tro diwetha mi gas dicyn o shell a mi shatrwd
i nerfs a, ond synnwn i ddim na fydd a wedi cal nerfs arall o rwla cyn newitiff
y lleuad nesa. Ma raid fod pob showdwr sy yn Germani wedi i ladd lawar
gwaith, a ma nhw yno o hyd. Dyw a ddim yn rhyfadd fod y'n Llywotrath ni'n
ffaelu cytuno shwd i ennill y Rhyfal, wath ma'r Germaniaid yn glyfar iawn, ag
os y'n nhw'n gallu cwnni orwtn y meirw mor amal, ma hi'n dywyll iawn arnon
ni. Wi'n cretu 'mhunan mwn Consgripsiwn, run fath a Ilawar na fydd dim isha
iddyn nhw fynd mas 'u hunen, ond os yw'r pethach ma'r papura Sysnag yn wed yn
wir dw i ddim yn gweld y bydd Consgripsiwn yn Ilawar o beth yn erbyn yr
hatgyfodiad sy'n mynd ymlan yn Germani. Hanes y rhyfal gan Beriah on i'n
arfar ddarllan yn y "Darian. Ond dishefoni'n brudd, er pan w i'n darllan
y papura Sysnag, dyw Beriah ddim miwn ynddi. 'Dyw Beriah ddim yn proffwydo
dim ond pethach sy'n dod yn wir, a dyw a ddim yn sgrifennu pethach sy'n gneud
i'ch gwallt chi gwnni ar ych pen chi wrth 'u darllan nhw. Dw i ddim yn deall
shwd ma'r Llywotrath yn dishgwl i fechgyn listo os byddan nhw'n darllan y
papura Sysnag. Ma nhw'n siarad am hwthu coesa a phenna a breicha dynon i'r
awyr felsa fa'n sport iawn, ag yn hogoniant anfarw,ol. Wi'n synnu. na fysa'r
papura Sysnag wedi gneud y wlad i gyd yn consenhws hobjectors. Wath ma dicon
mwn un papur yn ami i dorri calon llond gwlad o fechgyn go dda. Ma un hen
frawd yn Whitland yma'n catw pob papur Sysnag geiff a er mwyn cal gweld shwd
byddan nhw'n darllan mheri ucan mlynadd yto, os bydda byw i weld hynny. TRAMP |
|
|
|
|
(delwedd J4241a) (25 Mai 1916) |
Y Darian. 25 Mai 1916. Llith
y Tramp. Mishtir
Golycydd,— Falla
synnwch chi glywad mod i wedi dod yn gymytog i chi unwaith yto. On i'n teimlo
pethach yn lled dawal yn Whitland yma, a mi ddigwyddas gal y llythyr hyn o
Habarpennar, sef yw hwnnw, Mowntan Hash. Ma fa'n llythyr orwth ddyn mawr
henwog fel ych chi'n gweld, neb llai na Mishtir Hywal Nedd, bardd a
sgrifennwr o fri, a phregethwr a darlithiwr heb i fath. Fel hyn ma fa:— At
Dramp y Darian. Dalentog
ag hathrylithgar frawd, - Wi'n
ych galw chi'n frawd am mod i mhunan yn dicyn o dramp, a ’dos neb y dyddia
hyn a chwiddyl arno alw i hunan yn Dramp, er pan ddechreuws eich talant chi
ddisgleirio ar lan y 'Darian.’ Wi'n gobitho daw'r llythyr hyn i'r sgupor yn
saff. Ma gen i gais arbennig atoch, sef gofyn yn hostyngedig a ddeuwch am dro
i Habarpennar i weld y dynon mawr sy' yma. Ma nhw'n hiraethu am danoch oll,
ys gwetws yr hapostol, a ma nhw'n teimlo dicyn yn siometig na fysach chi wedi
i ffeindo nhw mas pan oech chi yn Berdar. Ma nhw'n gwed ych bod chi wedi bod
yn ddicon hir yn Whitland nawr, a ry'n ni wedi setlo a'n giddyl i ffeindo
lodgin i chi gyta gwitw fach neis sy'n byw yn y lle yma - un fydd yn siwr o
neud i gora i'ch gneud chi'n gysurus tra fyddwch yma ag am y gweddill o'ch oes
os byddwch yn dewis. Wrth gwrs matar i chi a hitha fydd hynny. Dw i ddim ond
just rhoi'r hint i chi. Ma'r Doctor Arthur Jones yn addo dishgwl ar ol ych
iechyd chi'n rhad ac am ddim tra fyddwch chi yma. Ystyriwch ei cais, dalentog
frawd, a deuwch yma. - Yr eiddoch, hyd byth ac yn dragywydd, HYvVEL NEDD. Gwetwch
chi nawr, Mishtir Gol., os gallsa rhywun wrthod hinfitesion fel hwn? Heb ymgynghori
a chig ag esgyrn neb mi halas i air i wed mod i'n dod. |
|
|
|
|
(delwedd J4241b) (25 Mai 1916) |
Fu'r
son ddim yn hir cyn mynd mas fod y Tramp yn mynd o Whitland, a mi alws llawar
yn y Sgupor yma yn 'u dacra i fecan arna i aros, ond on i'n gwed wrthyn nhw
taw nid tramp fyswn i tyswn i'n aros. Mi halws rhai lythyra i wed fod yn drwg
gyta nhw na fysan nhw wedi galw. Odd un orwth Mishtir Rogers, Rhegwm Isaf,
fel hyn: - Feri Sorri, cant cym tw su your Onor. Ai am a feri bisi man, a man
of bisnes yw no." Mi ddath un arall orwth Mishtir Tom Llewelyn,
Penrhiwgoch, fel hyn: “Ma'n ddrwg gen i bo chi'n mynd, ma'r tywydd yn argoeli
bod yn ffafriol iawn i'r daith; os nag eiff hi'n rhy dwym. Gwres mawr ddaw ar
ol y niwl yma— niwl gaea, glaw niwl gwanwn, gwynt; niwl, haf tes. Felny odd
yr hen bobol yn gweyd a ro'n nhw'n iawn! Rhwydd hynt i chi, halwch dipyn o
hanes y gweithi i fi." Odd llythyr arall orwrth Mr. John James, Croft
Cottage: “Own i'n meddwl taw nol yn y gweithi bysech chi cyn hir. Wi'n cofio
clywed stori am dri bachan o Whitland yn mynd i ben pwll glo i ofyn am waith.
’Dos yma ddim gwaith i chi,' mynta'r gaffer. Ond hoen nhw'n cymell yn daer
iawn, a dyma'r gaffer er mwyn cal llonydd gyda nhw'n gweyd — 'Sefwch chi
nawr, falle dim ond i chi aros deuddydd ne dri y daw lle i chi; mi ddath yma
dri bachan cryf fel chithe'r wthnos ddywetha a mi ddath cwmp mawr arnyn nhw
a'u lladd nhw. Ma yna dri arall yn 'u lle nhw'r wthnos hyn, aroswch chithe i
gal gweld beth ddaw o rheiny.' Nol i Whitland odd hi wedi'n. Ma'n ddrwg gen i
golli'r Tramp. Dewch eto?" Wi'n gweld na alla i ddim rhoi'r llythyra i
gyd. Mi ddylswn weyd wrthoch chi fod Mishtir Morgan Jones a Mishtir G. Higgs
wedi bod ar swper gyda fi y noswath ddywetha cyn i fi ddod oddyno. A dyw a
ddim ond teg gweyd taw Mishtir Jones ddath a'r swper gydag e. Pan glyws a mod
i'n mynd, mi ath lawr i'r afon a mi ddalws samwn a'r leisens newydd sy gydag
a, a mi ddath a phishin o hono fa i'r sgupor yma. Ond y wag penna yma yw
Mishtir Tom Williams y Vet, o'r Stesion Hows. Mi ddath e i gwrdd a fi ar y
ffordd, a mi stwffws rwpath yn garetig iawn i mhocad i, a beth odd a ond potelad
o Blac an Wheit. Mi ddes i a'r botal heb i hacor i Habarpennar er mwyn cal
barn y Doctor Arthur Jones arni. TRAMP. |
|
|
|
|
(delwedd 5561) (1 Mehefin 1916) |
Y Darian. 1 Mehefin 1916. Llith y Tramp. Mishtir Golycydd, — Ma raid i fi weyd
ticyn o'r hanes ffor des i'r Mowntan Hash. Ry'ch chi'n cofio pan ddes i lawr
i Whitland mod i yn yr hecspres a nag odd hwnnw ddim yn meddwl aros yno, a
finna yn ol y cyfarwyddyd yn y "Notice” yn tynnu'r cord i stopio'r trein
"in case of emergency." Mi ges i waith mawr i perswato nhw yn y
stesion i fod a'n cês o hemyrgensi i fi ddod mas yn Whitland. Odd rhai o
nhw'n wleua felsa fa ddim o bwys mynd a dyn o'i ffordd lawr i waelod Shir
Bemro. Wrth ddod nol on i'n pendarfynnu iwso nhrad. Ar rheiny y'n ni wedi'n
bwriatu i symud wedi'r cwbwl. Rw i'n cretu bysa'r byd yma sopyn gwell nag yw
a tysa yma fwy o drad yn symud a llai o whils. Dyw dynon yn gweld neb na dim
nawr pan ma nhw'n symud, dim ond trwyna a gwyneta rhai sy'n ishta ar u cyfar
nhw yn y trein. Rown i'n weddol barod i daith nawr hed. Rych chi'n cofio i'r
Cynghorwr Mishtir Prosar o'r Sefn Sisters y'n anrhydeddu i a phar o sgitsha
pan on i'n mynd o'r Onllwyn; ma rheiny wedi dala'n dda digynnig ys gwetws
gwyr Cwm Tawa, ag yn gysurus dros ben. Wedi clywad fod y Cynghorwr wedi
anfarwoli ei hun wrth roi sgitsha i Dramp y Darian, mi benderfynws Comiti'r
Cop yn y Sefn hala par o'u sgitsha nhwytha i fi a dau bar o lasis a spesimans
o lawar o bethach erill odd gyta nhw yn y shop a chroeso i fi byrnu unrhyw
beth odd gyta nhw yn y Cop pan ddelswn ni i'r Sefn nesa. Welas i ddim llawar
o neb on i'n napod nes on i yn Llanelli. Yno mi ddath rhyw wr bynheddig ymlan
ata i; odda wedi deall mod i'n rhywun. A rhyfadd fel ma'r prygethwrs yma'n
tynnu ata i'n ddiweddar. Y Parch. Llew Morgan odd y gwr bynheddig hyn, a ta
beth yw syniata'r Weslas am y "ddynol natur," ma "natur
ddynol" go dda yn y Llew. Odd a wedi bod yn pyrgethu mwn cwrdd mawr gyta
Weslas Llanelli, a nhw ddylsan fod yn well ar ol grondo arno. |
|
|
|
|
|
Wedi i fi ddod i Bertawa on i'n catw
orwth bawb on i'n napod, ne fyswn i byth yn cyrradd i'r Mownt, a dicon prin y
byswn i'n dod oddyno'n sopor. Mi welas gip ar Fishtir y Cynel yno ag ar
Dafydd Gwr Nansen, a'r olwg ar Dafydd druan yn tystio taw Nansen odd o hyd yn
ben. Ma dyn wedi mynd yn beth gwael hed pan yw a'n ddim ond gwr i hon a hon,
yn enwetig os taw rhyw hen griatur fel Nansen yw honno. Chaiff Dafydd druan
ddim sgrifennu llythyr i'r wasg heb iddo fa'i seino fa fel gwr Nansan. Ma son
mawr am hen gymeriad yn un o'ch dramas chi, Mishtir Gol., a Ned Huw, gwr
Sian, yw hwnnw. Ma nhw'n gwed taw Dafydd gwr Nansen odd yr horijinal. Pan
briota i Alis rw i'n siwr na fydd dim shwd annhrefn yn y'n ty ni. Mi fydd yn
dicyn o job iddi nghal i i adfarteiso mhunan fel gwr iddi, fel ma Dafydd
druan yn gorffod gneud bob wthnos. Ma rhyw dicyn o dalant yn Dafydd, ond dos
ynddo fa ddim asgwrn cefn, a ma'n dda hynny falle, ne mi fysa Nansen yn siwr
o'i dorri fa. Wedi i fi gâl cino lawn yn nhy "Thomas Cafe," 214
High Street, y dyn yna rych chi'n gweld i enw fa yn y "Darian”, mi gnes
hi nawr am dramcar Castall Nedd. Dyma'r unig gerbyd w i'n weld yn trafaelu'n
respectabl yw hwn. Byw a ddim yn i chynnig hi fwy na four miles an hour, a
dyw a ariod wedi bwrw neb lawr wrth fynd. Pan gyrhaeddas i Gwm Nedd dyma ryw
wrbynheddig arall a golwg awdurdodol arno fa yn rhoi i law ar y'n ysgwydd i
ag yn gwed — "Tramp y Darian, tawn i byth o'r fan yma!" A phwy odd
a ond Mishtir Thomas Williams, y Scwl. A dishefoni'n brudd erbyn holi on i
wedi bod yn labro gyda'i dad pan odd a'n gontractor yng ngwaith Fforchygaran.
Wyddoch chi beth, Mishtir Golycydd, chi ddylsech gâ1 Mishtir Williams i
sgrifennu rhacor i'r "Darian." Ma fa’n Gymro o'r top i'r gwaelod, a
ma hynny dicyn yn rhyfadd mwn Scwlmastar. Rw i'n cofio i fi fod bron a chal
ffiflt [sic; = ffit] pan glywas i'n hen scwl ni ar war Llandeilo'n siarad
Cwmrag am Y tro cynta; wath wyddwn i ddim taw Cymro odd John Jones yScwl, a
odd yna dishgwl felsa fa wedi colli i ddigniti wrth neud ag yn troi i wefla
felsa faw ynddy nhw. Pan on i'n siarad a Mishtir Williams dyma ryw fonesig
siriol yn dwad heibo, a mi hintrodiwsws Mishtir Williams fi iddi. Odd hitha
yn scwl-mistras ag yn siarad Cwmrag. Odd hi'n ych napod chi, syr, ag yn cofio
atoch chi, a ron nhw’n y'n hinfeito i'n gynnas iawn i Gwm Nedd ar ol i fi
neud pethach yn streit ym Mowntan Hash. Mi dreia gwpla hanas y daith y tro
nesa. Ma Hywal Nedd yn cofio atoch chi. TRAMP. |
|
(delwedd B2232) (8 Mehefin 1916) |
Y Darian.
8 Mehefin 1916. Llith y
Tramp. Mishtir
Golycydd, Wedi i mi fynd ymlan dicyn yng Nghwm Nedd mi gwrddas a dyn mawr o'r
enw Stanley. Crydd yw a wrth i grefft ag yn nabyddus iawn a Dafydd, Crydd y
Darian. Mi fu raid iddo fa gal hecsamino'n sgitsha, a odd a'n gwed u bod
nhw'n rhai da digynnig. Wi'n cretu sa gen i amsar i spario y byddwn i wedi
cal lot o ddifyrrwch gyda Stanley, ond odd raid climercan ymlan. Pan on i
wedi dod i Bontwalbi, mi welswn ddyn tebig iawn i fi 'mhunan yn dod i gwrdd a
fi, a phwy odd a ond Mishtir Harris y Baptis. “Wel, bachan," mynta fa,
“ma llawer wedi gofyn i fi os taw fi yw Tramp y Darian yn ddiweddar."
Ma'r byd yma wedi bod yn galad wrth Mishtir Harris 'run fath a ma fa wedi bod
wrtho inna, ond fe ddown unna i allu cerdded yn sionc yto ryw ddiwrnod. Fe fu
raid iddo fa gal rhoi pris potelaid o lemwned i fi, a cheisio gen i gofio
galw pan fyswn i'n dod heibo nesa. Mi alwas ar Gefan Rhigos gyda Mrs. Smith,
a rodd hi'n folon i fi gal gneud y'n lodgin ar y dowlod yno cyd a mynswn i,
ond wedi i fi gysgu'n gysurus yno am noswath ma startas yn 'ymlan yto trw
Hirwan a Chwmbach i Gefanpennar. Ma Cefanpennar yn enw dicyn mwy rispectabl
na Mowntan Hash, a ma'n depig fod beirdd a phrygethwyr mawr wedi cwnni odd
yma. Odd yna lot yn dicwdd bod ar y Golf Lines, doctoried a dynon cwrt bach a
sgwlmastars a lot o bethach erill. On nhw'n ffaeli diall pwy odd yn mynd
heibo iddyn nhw dan i faich, ond dyma un o nhw'n gwed. "Yr arcian fawr,
mi wn i pwy ydi o rwan. Tramp y Darian ydi o." A dyma fa'n rhetag i
gwrdd a fi ag yn gwed, “Ddyn annwl, rydw i wedi breuddwydio am danoch chi, a
mi fuas ar lawr neithiwr am oria yn meddwl gneud pryddast fawr i'ch croesawu
chi i'r lle ar y testyn, 'Dyfodiad y Tramp.' Dim ond wyth lein fedras i neud,
a rhaid i chi foddloni ar y rhain hyd nes ca i amsar i neud rhyw ucan pennill
arall, rydach chi'n deilwng o gant." “Diolch yn fawr i chi, syr,"
mynta finna, “ond wn i yn y byd pwy sy'n wleua a fi." “Fi ydi Ap Pedr
Hir," mynta fynta. A tysa dim ond seilin uwch 'y mhen i wi'n credu byswn
i wedi bwrw mhen iddo fa gan fel neidas i gan lawenydd, a dyma ddechra'r
bryddast: “Croeso
Dramp i Aberpennar, Llu sy'n disgwyl
gweld dy goes, Yma hefyd
mae it' gymar Wna'th
gysuro ddyddiau d'oes; Boed dy
gartref byth yn ddedwydd Yng
nghwmpeini'th annwyl Fair, Aelwyd
glyd a llawen beunydd 'Mhell o wynt y teisi gwair.” "Mair
yw i henw felny," mynta finna. “O na," mynta fynta, “nid Mair ydi i
henw hi, ond odd eisio Mair i hodli hefo gwair am y tro." “O rw i'n
gweld," mynta finna, er nag on i ddim yn gweld chwaith. Mi wetws Ap Pedr
Hir wrtho i am fynd ymlan i riporto 'mhunan ar unwaith i Mishtir Hywal Nedd,
a bysa ynta'n dod gyda fi i'n hintrodiwso i i'r widw fach lle on i'n mynd i
aros. TRAMP. |
|
|
|
|
|
22
Mehefin 1916 B2472 |
|
|
|
|
|
29
Mehefin 1916 B2470 Llith
y Tramp. Mishtir Golycydd,— Mi ddarllenais i lythyr Mab y Wawr yn y Darian
ddiwetha, a ma fa'n ddyn rhyfadd ofnadw. Ma Mishtir Hywal Nedd yn gwed y bysa
fa'n leico gwpod pwy yw a. Odd y bachan, ta pwy yw a, yn treio towlu amheuath
ddifrifol iawn ar gywirdeb yr hanas w i'n sgrifennu, a ma fa'n wir a dim ond
y gwir. Dw i ddim yn gwed, fel ma nhw'n gneud yn y llysoedd, u bod nhw'n gwed
y gwir i gyd o'r ddwy ochor pan mae un ochor yn bownd o fod yn gwed celwydd.
Ma llawar gwir yn dda'i gelu ys gwetws Solomon, a dyna un o mhrinsipls i pan
yn sgrifennu'n hanas er adeilatath darllenwyr y Darian. Nawr, ma'r bachan
yna, Mab y Wawr, yn gwed i fod e a Mishtir Hywel Nedd yn gwpod na fuws trad
Ap Pedr Hir ddim ar y Golf Lines ys dwy flynedd a hannar to beth, a ma fa am
awgrymu ta byrddwyto w i, ne fod y'n stori i'n hen iawn. Nawr, wi'n siwr nag
w i ddim yn byrddwyto, a byswn i wedi dechra trampan mwn breuddwyd, mi fyswn
wedi dihuno'r llawar dydd, wath rw i wedi ewmpo i'r dwr ddicon o weitha. Rodd
hynny'n dicwdd yn ddicon amal cyn i fi ddechra yfad lemwned Brynia Cymru, a
phop coch Tomos and Ifans y Porth. Dyna fi wedi setlo'r pishin yna yn lythyr
Mab y Wawr. Y peth nesa' sy gen i i neud yw profi fod trad y "gwr
hir" wedi bod ar y Golf Lines yr amsar y gwetas i mod i wedi i weld a
yno. A ma fa'n sefyll i reswm na fysa fa ddim yno heb i drad. A ma gen i lot
o resyma i brofi mhwnc, dros ucan o honyn nhw tysa gofod yn caniata. Rw i'n
cofio clywad am gyfrithwr clyfar iawn yn pledo ces unwaith, a dodd i gleiant
a ddim wedi troi lan. A dymai r bachan heb ddim wiscars odd yn y gadar a
gwallt ceffyl ar i ben a'n gofyn pam na fysa fa yno 1 Ma gen i dri-ar- hucan
o resyma, mynta'r cyfreithwr, a ma nhw gyta'i gilydd yn anwrthwynebadwy. Yn
gynta, mynta fa, ma'r cleiant wedi marw, yn ail ma fa wedi i gladdu, yn
drytydd Howld on, howld on, dyna ddieon," mynta'r bachan a'r gwallt
ceffyl, dis dim isia mynd a amsar y llys i roi tri ar hucan o resyma pan ma'r
ddou gynta'n llawn ddicon. Y necst'ces iff yw plus." Ar yr un prinsibl fe
fydd yn ddicon i fi wed mod i wedi gweld Ap Pedr Hir a'i fod a wedi rhoi
dechra arwrgerdd ar Dyfotiad y Tramp i'r Mount" i fi, a wedi addo petwar
pennill ar bymtheg arall i gorffan hi a wedi dangos y ffordd i fi i dy
Mishtir Hywal Nedd. Mi allwn i fynd ymlan hyd bora fory i roi profion
diddiwadd a diymwad o'r pethach w i'n sgrifennu. Yr hunig beth allsa shiglo'r
cês w i wedi neud mas fysa i Ap Pedr Hir i hunan wed na fuws a ddim ar y Golf
Lines, ag wedi'n mi fysa raid iddo ynta brofi i bwnc, ag wrth gwrs ma hynny'n
amhosib ar ol y pethach w i wedi weyd, a dyna Mab y Wawr wedi mynd, a
chlywiff neb ddim rhacor yn i gyleh a. Ma fa'p gofyn hefyd beth yw'n negas i
yn y Mownt; wel, tysa fa wedi cymryd ticyn o amynadd a pheido rhoi cyment o
drafferth i fi idd i ddemolisho fa mi fyswn i wedi gweyd beth odd 'y negas
i'r tro hyn, ond nawr ma raid iddo fa aros hyd y tro nesa, ag yna mi- geiff
glywed beth ddath o'r botel hefyd. TRAMP. |
|
|
|
|
(delwedd
J7903a) (6 Gorffennaf 1916) |
06-07-1916 Y Darian.
6 Gorffennaf 1916. Llith y Tramp. "I'r 'Darian,' un o'r deri - yw y
Tramp, Yn troi mewn mawrhydi." — Dafydd y Crydd. Mishtir Golycydd, — Mi addewes i byswn i'n
gwed ticyn o hanas y botal whisci, ond erbyn hyn rw i'n gweld na alla i wed
dim am y botal, ond ma gen i ges go dda beth ddath o'r whisci, a falla bo
chitha'n geso hed, ond ry'ch chi'n geso'n rong y tro hyn beth bynnag. Yfas i
ddim o hono fa. Pan gwnnas i'r bora ar ol cysgu'r noswath gynta yn nhy'r witw
fach o'r Mownt, rodd hi'n alibalw mawr yno. Rodd y bachan o'r North yn dost
iawn, a'r Dr. Arthur Jones yno yn sefyll mwn prytar mawr wrth i ben a ag yn
stwffo rhwpath lawr idd i wddwg a Mishtir Hywal Nedd yn dod miwn i'r ty ar y
pryd. Mi ddishgwlws y Dr. yn ffyrnig iawn ar Mishtir Hywal, a mi ofynnws pam
odd a'n dod a chriatur felny i'r Mownt i dynnu disgrês ar y lle. Feddyg
annwl, mynta Mishtir Hywal Nedd, nid fi ddath a fa yma; dw i ddim yn i napod
a o ddynon y byd. Ai nid hwn yw'r Tramp dynsoch chi yma o Whitland? mynta'r
Doctor. Naga, naga, dishefoni'n bridd a chalch, nid hwn yw'r Tramp; dyma'r
Tramp yn dwad lawr o'r lloft fel gwr bynheddig, a ma fa'n ddyn o dalant fel
finna. A felny hintrodiwswd fi i'r Doctor enwog o'r Mownt. Odd y bachan o'r North wedi câl gafal yn
y botal whisci wedi i fi fynd i'r gwely, a wedi hyfad dicon mynta'r doctor i
feddwi dau geffyl, a odd dim son am y botal yn unlla. Ag wrth weld y comoshwn
odd yndo fa, odd y doctor ddim yn shiwr na alla'i botal hefyd fod yn i gylla
fa. Odd y Witw fach am roi'r sac i'r bachan o'r North dder and dden. Ond odd
rhoi'r sac iddo am rai diwrnota mas o'r cwestiwn wath alla fa ddim symud, a
odd perigl bysa'r Sanitari Othoritis yn symanso'r witw fach tysa hi'n i dowlu
a mas i'r hewl. Ond odd y bachan dicyn callach pan ddath a ato'i hunan, a
synnwn i ddim na ellir gneud rhwpath o hono fa yto. |
|
|
|
|
(delwedd
J7903b) (6 Gorffennaf 1916) |
Nawr, odd Mab y Wawr yn gofyn beth odd
y'n necas i yn y Mownt, a ma'n deg i bawb gâl gwpod, er ta ticyn o
"cheek" yw holi dyn felna hed. Wel yn'n necas benna i yw
hintrodiwso dynon mawr i fi ‘mhunan, a ma lot go dda o henyn nhw yn y Mownt a
styriad fod y Cwm mor gul a gwynt y Dwyrain wedi hwthu cymant o stwff Sysnag
yma. Rw i wedi galw gyda Ap Pedr Hir; ma fa'n Gymro o'r top i'r gwaelod ag yn
ffyddlon i'r hen iaith, er i fod a'n hed mastar yn y Cownsil Scwl. A falla bo
chi'n cofio i fi weld i dad a yn y Steddfod Genedlaethol ym Mangor. A dyn da
digynnig yw i dad, a wi'n synnu na fysa rhacor o bartis drama'r Sowth yn
dysgu drama Pedr Hir ar Owan Glyndwr. Dyma'r testyn a'r ddrama ora yng
Nghymru nawr, a ma dicon o'i hisia hi ym Mowntan Hash. Ma Pedr Hir fel i fab
yn ddyn mawr fel ma'i enw fa'n awgrymu, ag er pan fuas ym Mangor mi glywas i
lot o bethach rhyfadd am dano gan fachan odd ar y tramp fel finna. Ma fa'n byrgethwr ag yn fardd ag yn
ddalithiwr, ag yn fyrddwytwr mawr, ond fuodd yn blisman un adag, a falla taw
fel plisman ma gyta fa'r cleim mwya i hanfarwoldeb, ne felny odd y tramp
hynny'n gwed wrtho i beth bynnag. Odda byth yn rhytag tramp clawd fysa fa'n
weld ar y ffordd i’r loc hup fel ma plismyn yn arfedd gneud er mwyn câl
streipan, ond odd a’n wleua'n ffein a nhw, yn holi u hanas nhw, yn gwed gair
caretig wrthyn nhw ag yn rhoi cwpwl o docins iddyn nhw. A odd gair caretig a
chinog ne ddwy orwth P.C. Pedr Hir yn gneud mwy o les iddyn nhw o lawer na
tysa'n nhw'n mish o jail. Ma'r bachan thynny yn mynd i glywad Pedr Hir yn
pyrgethu bob tro caiff a gyfla arno, a odd a wedi i glywad a'n gwed mwn un
bregath fel hyn: - “Peidwch a bod yn galad wrth y crwydried tlawd yma, sydd
ar hyd y wlad. Ma yna hanas iddyn nhw, a tysach chi'n gwpod hanas y rhan fwya
o honyn nhw a'r stormydd mawr sy wedi curo arnyn nhw, chi deimlech u bod
nhw'n deilwng o gydymdeimlad a thynerwch mawr.” Mi wetas i amen heb wpod i
fi. Ma'n depig na chas P.C. Pedr Hir ddim un streipan gan y Llywotrath am
fynd a thramp i'r loc up, ond falla bydd a'n synnu fora fod yna gymant o
honyn nhw yn i aros a am iddo beido a mynd a nhw yno, a bod yn garetig i'n
short i. Dyw a ryfadd yn y byd fod y mab sy yn y Mownt gystal dyn pan ma’i
dad yn rhagymadrodd mor dda iddo. TRAMP. |
|
|
|
|
|
13-07-1916 Llith
y Tramp. I'r 'Darian, un o'r deri-yw y Tramp, t Yn troi mewn mawrhydi."
—Dafydd y Crydd. Mishtir Golycydd,—Mi hintrodiwsws dyn da digynnyg i hunan i
fi y dydd o'r blan. "Tramp y Darian, rwy'n siwr wrth ych cerddediad a'ch
golwg dalentog chi," mynta fa, a allswn inna ddim gwatu 'mhunan heb fod
yn llai na dyn, ond mynta finna, "Pwy ga i wed y'ch chi, syr? Rw i'n
deall wrth ych golwg chi'ch bod chitha'n rhywun." "Fi," mynta
fynta, "yw plisman y plant ac yn gofalu fod y do sy'n codi yn mynd i'r
ysgol yn rheolaidd i gal'u cymhwyso'n briotol ar gyfar gyrfa bywyd."
"Ma hynny'n .beth pwysig iawn," mynta fina, "ches i ddim ysgol
ymhunan, rw i wedi gorffod byw ar y nhalant o'r start. Drw rym pendarfyniad
rw i wedi dod yn 'un o'r deri,' ys gwetws Dafydd y Crydd, a rw i'n teimlo fod
mesura petai lein Dafydd wedi bod yn tonic rhyfeddol i fi." "Ma gan
Dafydd," mynta Plisman y Plant, amrywiath mawr o ddefnyddia ardderchog*
yn i shop, a ma fa'n phisygwr diail, ond dowch am dro ffordd yma i gyfeiriad
y maen 116g a gorsadd y beirdd i chi gAl gweld peth o effeithiarr storm y bu
Mab y Wawr yn rhoi disgrifiad mor farddonol o honi yn y "Darian."
Noson ofnadw oedd honno: 'Y nef uwchben yn duo A'r corwynt erch yn rhuo, A
chyd a'i nerth yn taro i lawr Y derw mawr a'u darnio. Y cedyrn bethau grynent
Gan rym y storm y plygent, Ond meini'r beirdd a'u gorsedd gref I1 el caerau'r
nef a safent.' "Da iawn," mynta fi, "rw i'n gweld ych bod
chi'n fardd fel Ynihunan,ag,yn gallu gneud mesura petar lein yn bert digynnyg,
ond sefwch chi allswn i feddwl mod 1 wedi'ch gweld chi o'r blan, ne rywun
tepig i chi yn rhwla." "Otichi'n napod J.J. ? mynta fa. "Wel
otw, neno dyn byw," mynta finna, "mi fuws yn y'n helpu i i rifiwo
llyfyr Sysnag Torial pan on i yn Nhreforus." "Wel, ma fa'n firawd i
fi," mynta fynta. "Da iawn," mynta finna, "mi all fod yn
falch o honoch chi. Ma fe wedi ceil talcan da iawn, ys gwetws y coliars, yn
nhre'r mwg a ma fa'n deilwng o hono. Mi ofynnws i fi weti'n oes on i'n rifiwo
IlYfra. "Otw amball un. Y'ch chi'n gweld ma pob tramp rispectabl yn
gneud rhwpath. Ma amball un yn glanhau cloca, un arall yn riparo nymbrelas,
un arall yn dwcyd ffowls, ond sgrifennu i'r 'Darian' a rifiwo a gneud mesura
petar lein, a beirniatu nlwn steddfota bydda i." "0 rych chi'n
beirniatu otich chi? Otich chi'n cal- llawer waith pendarfynnu ar y gora
weitha?" mynta fa. "Wel otw," rnYnta finna, "ma un peth
yn y'n erbyn i fel beirniad, dw i ddim yn Perthyn i un enwad na phlaid, a ma
raid i fi dreio penderfynu pun yw'r gora. Gwedwch chi nawr mod i'n aPtis,
ne'n Sentar, ne'n Wesla, ^e n Heglwyswr, mi fysa'r gatar ne'r goron ne beth
bynnag fysa fa'n mynd yn i bwysa i deulu'r ffydd, a mi fysa hynnY'n arbad
shaw o waith mesur a P lwyso. Ma rhai'n gwed nag yw ynny ddim yn gyfiawnder,
ond ma ba n gymwynasgar iawn a ma llawar f rawd gwan wedi cAl dyrchafiad na
ysa fa byth yn gal heb hynny. 11 1 Hm!" mynta Plisman y Plant, cerwch
ymlan, ry'ch chi'n ddiddorol anghyffretin." "Wel, y'ch chi'n
gweld," mynta finna, "ma Ilawer lWn i wed dros gymwynasgarwch
?steddfodol. Ma nhw'n gwed fod ??ynasgarwch ar dir uwch na ?yhawndar. Ma
nhw'n gwed wrtho i rhyw atnod yn gw?d fel hyn, OnI bydd eich' cynawnder yn
hel- h Lioh! ach na chyfiawnder yr Ysgrif en- ¥ddlOn a'r Phariseaid nid ewch
1 mewn I deyrnas nefoedd.' A ma'n depig ■ ? ? taw Cymwynasgarwch yw'r Yfiawnder
h?ethach. Mi all beirdd cryf neud  gymwynas yn iawn.  
cretu y galla Dafydd y Crydd & 11-1. a Toriel a Morris Jones a finna
& ai i ni fyw'.n iawn ar Yfiawndar, ond meddyliwch chi am ? dyrfa fawr
nag os gyta nhw ddim 8? ? r ?"? fynd i'r nefoedd steddfotol byth ond
trwy gymwynasgarwch rh\ '??' ?"? dda iawn i rheiny fod r?,l 0'r Un
henwad a nhw'n beirniatu. Bwvd cryf iawn yw Cyfiawnder i rai gwa '? ??? ??
cynawnder i rai Un On  erbyn hyn wedi ishta lawr ar "1
felhi'r Orsadd, a fues i ddim Y'l hi" cyn deall fod Mishtir Tom William
??yn a Ilond i enaid a o Hamc ddyn a Ilond i enaid a o awc"n f than a
steddfod. Odd a'n g -ed Y dylswn i gAl gwed yr arath on I ?vedi od Artho fa
ar y maen ?? yn ystw^yt1.h, a rw i'n cretu y dylsa fynta wed yr arath wetws a
wrtho inna yno hed. Ond ma raid gatal honno hyd y tro nesaf. Ma Mishtir Hywal
Nedd yn cofio atoch chi. TRAMP. |
|
|
|
|
(delwedd 5606) (3 Awst 1916) |
Y Darian. 3 Awst 1916. Llith y Tramp. Mishtir Golycydd, - Odd Mab y Wawr ar fai mawr i dowlu dyn
ffein fel Mishtir Ap Pedr Hir i shwd bemblath, a gan fod y gwr bynheddig
hynny wedi gatal y matar i fi idd i benderfynnu, dos dim i neud nawr ond gwed
wrtho fa am gysgu'n dawal a gatal rhyngddo i a Mab y Wawr. Y fe yw e er fod
Mab y Wawr yn gwed na fu e ddim ar y Golf Lincs. Mi ddylswn i wed hefyd fod
yna un blyndar yn y'n llythyr i pan wetas i taw yn y Cownsil Sgwl odd Ap Pedr
Hir. Yn y Cowntin Sgwl ma fa, a ma honno'n uwch o lawar, mynta nhw, a'r plant
sy'n mynd iddi'n fwy o seis, a rw i am neud hapolodgi diderfyn iddo fa. Mi
wetws Ap Pedr Hir stori fach bert digynnig ar ddiwedd i lythyr, a mi glywas
hen frawd o'r Rhos yn gwed stori depig iawn iddi. Odd a'n gwed fod y Doctor
Hedwars, rhyw ddyn mawr sy'n byw yng Nghaerdydd, wedi mynd i byrgethu yng
nghapel i frawd, D. Holifar Hedwars, dyn mawr arall odd yn byw yn Shir Bemro
ag yn sgrifennu i'r wasg fel finna, a rodd y ddau yn depig iawn idd u giddyl.
Dydd Llun ar ol hynny mi ath y Doctor Hedwars mas am dro, a rodd hen frawd
o'r eglwys, odd ddim yn gweld yn dda, mas am dro, a phan welws a Ddoctor
Hedwars mi feddylws taw i weinidog odd a, a mi ofynnws iddo, “Shwd y'ch chi
heddy, Mishtir Hedwars?" A wedi iddo fa sylwi, “O sefwch chi,"
mynta fa, "dw i ddim yn shiwr nawr pun a chi ne'ch brawd sy yma; o
sgusotwch fi, mi wela nawr taw'ch brawd sy yma!" Ma'r bachan o'r North sy'n lodgo yn yr un
ty a fi wedi dwad yn fachan go dda. Ma fa'n ddirwestwr selog byth er pan yfws
a'r botelad Blac an Wheit. ’Dyw a ddim yn moyn clywad son am whisci byth
oddar hynny. Felny ma'n amlwg fod mwy nag un ffordd i neud dyn yn ddirwestwr.
Mi fu raid cal B.A. o Whitland i'n argyhoeddi i, ond allswn i feddwl y bysa
rhoi potelad gyfan o whisci ym mola, dyn am dro cystal a dim. Ma'r bachan o'r North hefyd yn teimlo
hintrest mawr yn y Darian oddar ma'r Gogleddwr yn sgrifennu iddi ar hoyw,
groyw, loyw. Ma fa'n tystio fod y Gogleddwr wedi gneud cawl pys o'r Sol Ffa.
Ma pris y tatws, mynta fe, yn bwysicach na dim byd arall yn y ddadl, a dyw
Sol Ffa, na D.E.E., na Sarnicol ddim wedi mentro twtsh a'r cwestiwn hyn. Os
ca i wed 'y marn y mhunan ar "hoyw," rw in cretu taw unsill odd a
cyn i fi dorri 'nghôs, ond ma fa'n ddeusill odd ar hynny, a ma'r witw fach
yma'n gwed y bydd y tywydd sych a'r gwres yn siwr o effeithio ar bris y
tatws. Ma Dafydd y Crydd yn arfadd gneud popath fydda i'n wed wrtho fa, a
falla gwed a dicyn am hoyw, loyw, groyw a gneud mesur petar lein i'r witw
fach w i'n lodgo gyda hi. TRAMP. |
|
|
|
|
(delwedd 5618) (28 Medi 1916) |
Y Darian. 28 Medi 1916. Llith y Tramp. “I'r 'Darian,' un o'r deri - yw y Tramp,
Mishtir Golycydd,- Llythyr byr sgrifenna i heddy, wath rw i
wedi dihysbyddu fy nerth wrth dreio gneud englyn - y mesur petar lein yna
sy'n clecian, ne'n whislan, ne beth bynnag fydda a, a chi wyddoch fod gneud
gwaith anghyfarwydd yn difa nerth dyn beth bynnag fydd a. Feddylas i ariod y bysa cymaint o waith i gal ambell
glec idd 'i lle. On i wedi mynd lan i ochor y mynydd yma am dro a mi welas
ddraenen wen yn llawn ffrwyth cochion addfed yn y berth, a mi nes englyn iddi
fel hyn: Ddraenen deg a'i grawn yn do, - yr adar
Y Pren Criafol. (Y Gerddinen.) (Y Gerdinen.) Onnen deg a'i grawn yn do - yr adar
Mi fu Andras o row yn y ty yma'r wythnos
ddiwetha. Rodd y widw fach w i'n lodgo gyda hi wedi cal gafel yn yr Inglis
Rifiw ag yn darllen precath Dafydd Bern Dafydd gan Dai Lanlas o Shir
Barteifi. Pan ddath hi at un o bac hed eidias Dai mi fflamws lan a mi dowlws
y rifiw at y mhen i nes own i'n hurt reit, a odd hi'n y'n ordro i mas o'r ty
dder and dden. Pam oet ti'n dod a stwff fel hyn i nhy i?” mynta hi, “yr hen
fochyn shwd ag wyt ti.” Mi dawelws lawr pan wetas i mod i wedi pyrnu'r rifiw
er mwyn cribo ticyn ar wallt Dai Lanlas yn y “Darian.” “On i wedi arfadd catw
ty rispectabl,” mynta hi, felsa hi'n teimlo i bod hi wedi cal baw yn i
dannadd. TRAMP. |
|
|
|
|
(delwedd 5611) (26 Hydref 1916) |
Y Darian.
26 Hydref 1916 Llith y
Tramp. "I'r
'Darian,' un o'r deri - yw y Tramp, Yn troi
mewn mawrhydi." - Dafydd y
Crydd. Mishtir Golycydd,
- Pen welas i lith Mari o Dreharris yn y "Darian" yn rhoi
gwahoddiad i fi fynd yno mi deimlas ryw anesmwythdra rhyfadd ym Mowntan Hash.
A wyddoch chi beth lle digysur iawn sy yma i ddyn o dalant fel fi. Ma nhw'n
Sysnicadd ofnadw yma, ag onibai am ryw gwpwl bach o hetholedigion sy'n para'n
ffyddlon, fysa fa wahaniath yn y byd tysa'r lle'n mynd ar dân. Os nad ych
chi'n cretu'r peth w i'n wed wrthoch chi dewch chi lawr yma gyta'r nos a mi
welwch yr hewlydd yn llawn o bob math o bethach, yn cerad yn ol a blân, yn ol
a blân, yn ddiddiwadd. Ma. nhw'n mynd fel pendil cloc o un ochor i'r llall
i'r lle, heb ddim amcan yn y byd ond treulo sgitsha a dishgwl yn wynepa'u
giddl, a dishgwl yn dwp ma nhw hefyd. Ma
gwanhaniath mawr rhwng y dynon ifenc nawr a phan own i'n grwt yn Llandeilo.
On nhw ddim yn gwishgo mor steilish y pryd hynny, ond odd ticyn o sens yn'u
penna nhw a chymersan nhw ddim llawer am gerad yn ol a blân am oria i
ddishgwl ar 'u giddyl a gwed nonsens wrth baso'i giddyl. Ma'n drueni mawr am
danyn nhw, ond dyna, ar u tada a'u mama nhw ma'r bai, na basan nhw wedi dysgu
ticyn o sens iddyn nhw a'u dysgu nhw i ddarllen a meddwl ticyn a siarad iaith
'u mama. Rw i'n siwr tasa Brynfab yn dod a'i ffust sy gyta fa yn y Sgubor i
Mowntain Hash a dyrnu llond hewl o'r tacla, taw chytig o ŷd gelsa fa i fynd gartra yn 'i sach. Penna gweigion sy gyda
nhw bron i gyd yma. Wrth gwrs
ma yma ddynon da yn y lle yn gneud i gora glas i gatw fa rhag mynd yn wath na
ma fa, a ma hynny'n dicyn o job. Ma yma brygethwrs a beirdd a scwlmastars yn
gneud gwaith da digynnig, ond ticyn o gamp fydd newid y bechgyn a'r merched
ifenc sy'n Johnny Walkers ar hyd yr hewlydd. Dos dim pwysa yndyn nhw, a ma
raid iddyn nhw fynd gyda'r gwynt. Pan wetas
i wrth Mishtir Hywel Nedd mod i'n mynd i matal, mi ath mwn stwmp, a mi wetws
y bysa raid câl cwrdd ymadawol i fi, fod pob dyn mawr yn câ1 cwrdd felny. Ond
odd y bysa'n well cal cynhatladd Pontypridd drosodd yng nghynta, a bysa
hynny'n rhoi ticyn o amser i'r prygethwrs a'r beirdd bartoi i hareithia a'u
hanerchiadau barddonol i fi ar y'n ymadawiad. Yr eiddoch, etc., Y TRAMP. |
....
Sumbolau:
a A / æ Æ / e E / ɛ Ɛ
/ i I / o O / u U / w W / y Y /
MACRONː ā Ā / ǣ Ǣ /
ē Ē / ɛ̄ Ɛ̄ / ī Ī / ō Ō / ū Ū /
w̄ W̄ / ȳ Ȳ /
MACRON
+ ACEN DDYRCHAFEDIGː Ā̀ ā̀ , Ḗ ḗ,
Ī́ ī́ , Ṓ ṓ , Ū́ ū́, (w), Ȳ́
ȳ́
MACRON + ACEN DDISGYNEDIGː Ǟ ǟ , Ḕ ḕ, Ī̀
ī̀, Ṑ ṑ, Ū̀ ū̀, (w), Ȳ̀ ȳ̀
MACRON ISODː A̱ a̱ , E̱ e̱ , I̱ i̱ , O̱
o̱, U̱ u̱, (w), Y̱ y̱
BREFː ă Ă / ĕ Ĕ / ĭ Ĭ / ŏ Ŏ
/ ŭ Ŭ / B5236ː
B5237ː ![]()
BREF GWRTHDRO ISODː i̯, u̯
CROMFACHAUː ⟨ ⟩ deiamwnt
A’I PHEN I LAWRː ∀, ә, ɐ (u+0250) httpsː //text-symbols.com/upside-down/
Y WENHWYSWEG: ɛ̄
ǣ æ
ˈ ɑ ɑˑ aˑ aː / æ æː
/ e eˑeː / ɛ ɛː / ɪ iˑ iː ɪ / ɔ oˑ oː / ʊ uˑ uː
ʊ / ə / ʌ /
ẅ Ẅ / ẃ Ẃ / ẁ Ẁ
/ ŵ Ŵ /
ŷ Ŷ / ỳ Ỳ / ý Ý / ɥ
ˈ ð ɬ ŋ ʃ ʧ θ ʒ ʤ
/ aɪ ɔɪ əɪ uɪ ɪʊ aʊ ɛʊ əʊ
/ £
ә ʌ ẃ ă ĕ ĭ ŏ
ŭ ẅ ẃ ẁ Ẁ ŵ ŷ ỳ Ỳ
Hungarumlautː A̋ a̋
U+1EA0 Ạ U+1EA1 ạ
U+1EB8 Ẹ U+1EB9 ẹ
U+1ECA Ị U+1ECB ị
U+1ECC Ọ U+1ECD ọ
U+1EE4 Ụ U+1EE5 ụ
U+1E88 Ẉ U+1E89 ẉ
U+1EF4 Ỵ U+1EF5 ỵ
g
yn
aith
δ δ £ g
yn
aith
δ δ £ U+2020 †
« »
DAGGER
wikipedia, scriptsource. org
httpsː
[]//en.wiktionary.org/wiki/ǣ
Hwngarwmlawtː A̋
a̋
g
yn
aith
δ δ
…..
…..
ʌ ag acen ddyrchafedig / ʌ with acute
accentː ʌ́
|
Shwa ag acen ddyrchafedig / Schwa with acute |
…..
…..
wikipedia,
scriptsource.[]org
httpsː//[
]en.wiktionary.org/wiki/ǣ
---------------------------------------
Y TUDALEN HWN /THIS PAGE / AQUESTA PÀGINA:
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_125_llith-y-tramp_1916_0347k.htm
---------------------------------------
Creuwyd / Created / Creada: 02-06-2017
Adolygiadau diweddaraf / Latest updates / Darreres actualitzacions: 04-02-2018,
03-06-2017, 02-06-2017
Delweddau / Imatges / Images:
Ffynhonnell / Font
/ Source: Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Newyddiaduron Cymru Arlein.
---------------------------------------
---------------------------------------
Ble'r wyf i? Yr ych
chi'n ymwéld ag un o dudalennau'r Wefan CYMRU-CATALONIA
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web CYMRU-CATALONIA (=
Gal·les-Catalunya)
Where am I? You are visiting a page from
the CYMRU-CATALONIA (= Wales-Catalonia) Website
Weə-r äm ai? Yüu äa-r víziting ə peij fröm dhə CYMRU-CATALONIA
(= Weilz-Katəlóuniə) Wébsait
|
Freefind. Archwiliwch y wefan hon Beth sydd yn newydd? |
|
Adran y Wenhwyseg / Secció del dialecte de Gwent / Gwentian Welsh
Edrychwch ar ein Hystadegau / Mireu les nostres
Estadístiques / View Our Stats |
…