kimkat0188k Llith y Tramp. Ysgrif yn nhafodiaith Aber-dâr o’r Darian. 1915.

12-05-2023







.....

Gweler hefyd / Vegeu també / See also:

 

 


 (delwedd 0003g)

 

 

 

 

 

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Gal
·les i Catalunya
The Wales-Catalonia Website

Llith y Tramp.

Y Darian. 1915.


Y Llyfr Ymwelwyr / El Llibre de Visitants / The Guestbook:

http://pub5.bravenet.com/guestbook/391211408/


a-7000_kimkat1356k Beth sy’n newydd yn y wefan hon?

Map

Description automatically generated

(delwedd J7523)

.....

Map

Description automatically generated

(delwedd J7058b)

.....

 

● wedi ei orffen

□ dim delwedd

▲ dim testun

Ο testun i’w gywiro

 

O newyddiadur ‘Y Darian’ (Aber-dâr).

● 14 Ionawr 1915  
.....
● 11 Chwefror 1915  
● 25 Chwefror 1915  
.....
● 11 Mawrth 1915  
.....
● 01 Ebrill 1915
● 15 Ebrill 1915
● 22 Ebrill 1915
...
● 06 Mai 1915
● 27 Mai 1915
...
● 03 Mehefin 1915
● 17 Mehefin 1915
● 24 Mehefin 1915
...
● 01 Gorffennaf 1915
● 08 Gorffennaf 1915
● 15 Gorffennaf 1915
● 22 Gorffennaf 1915
● 29 Gorffennaf 1915
.....
● 05 Awst 1915
● 12 Awst 1915
● 19 Awst 1915
● 26 Awst 1915
...
● 02 Medi 1915 
● 09 Medi 1915  (cyfiethiad Saesneg)
● 16 Medi 1915
● 23 Medi 1915
● 30 Medi 1915
...
● 14 Hydref 1915 
● 21 Hydref 1915 
● 28 Hydref 1915 
.....
● 4 Tachwedd 1915 
● 25 Tachwedd 1915 
● 11 Tachwedd 1915 
...

● 2 Rhagfyr 1915  
● 9 Rhagfyr 1915 
● 16 Rhagfyr 1915 
● 23 Rhagfyr 1915 

llythrennau duon = testun wedi ei gywiro

llythrennau gwyrddion = testun heb ei gywiro

 

 

None

(delwedd L2133) (. 14 Ionawr 1915)

Y Darian. 14 Ionawr 1915.

 

Llith y Tramp.

 

Mishtir Gol,—Nid chi odd Bos y "Darian" amsar alas i iddi o'r blan, a ma llawer yn gwed i bod hi wedi gwella mwn gwisg a gwedd. Shaw o beth yw cal gaffer da, ond rhaid cal gwithwrs da hefyd. Tywydd ôr iawn yw hwn i ddyn ar y tramp, ond rwy'n meddwl rhoi mhen lawr dros y geua yma nawr. Rwy mewn addewid am waith labro'r nos yng Nghwm Saerbren, a mi ges lodjins piwr ofnadw. Methadus yw gwr y ty a ma'n ddicon hawdd gweld hynny yn i wymad a. Perthyn i'r Batis ma'r wraig. Dyw hi ddim mor ddefosiwnol a'i gwr, ond synnwn i ddim nag yw hi'n nes i'w lle o lawar. Nid drwg yw menyw fach all groesawu dyn fel fi a phac ar i gefan a. Fuws hi ddim shiffad nag odd hi wedi gneud cwpaned o de a rhoi diferyn o rwpath ynddo hed, wrth gwrs odd hi'n rhoi hwn ynddo fa achos mod i wedi bod yn y tywydd, a rhag i fi gal y ffliwensa. Odd hi'n gweld na fysa hi ddim yn talu iddi gal lodjer a hwnnw fynd yn dost cyn iddo ennill dicon i dalu am i Iodgins. I fi gal gwed ticyn o'n hanas, mi fuas i'n meddwl mynd at y showdwrs un waith, ond gwaetha'r modd ma un gôs i fi'n fyrrach na'r llall. Yr hen Sian Landeilo nath y damage arna i pan own i'n grwt ag yn mynd ar ol Alis i mherch hi. A damage odd hwnnw hed. Rw i'n fyrrach 'y nghoes a ma Alis heb wr byth. Wrth fynd o ffordd côs sgubeJl yr hen Sian mi gwmpas ar y rhew a mi dorres y nghôs. Mi fyswn i'n leico gweld y Germans yn cal hyd i'r hen sgrech. Ma'n ddrwg gen i am Alis hefyd. Rodd llawar fel finna'n leico Alis, ond roedd arnyn nhw ormod o ofn yr hen Sian i fynd yn agos iddi. Fu dim llawar o galon ynddo i at ddim byth oddar hynny.

 

Ar y tramp wi wedi bod ag yn cysgu'n amal run fath a Isaac Lewis wrth tola buwch, os cysgodd Isaac Lewis yno hefyd. Wel dyna fras-linelliad o'n anas i, ddicon am y tro ond chi gewch dicyn rhagor wrth fynd ymlan, a wi'n addo nawr y gweta i anas lot o honoch chi yn y "Darian”. Ma anas rhai o honoch chi'n werth i wed, a ma rhai o honoch chi'r tacla wed haeddu gwed ych hanas. Nawr wi'n mynd i ddechra ym Mhantycrwys. Rodd yno Steddfod. Mi es i yno i gynrychioli gwr y ty 'ma. Ma fa'n fardd a ma hynny'n wath na bod yn Fethadus, a ma gyta fa hawdwl i fewn ar Frwydyr Mons sydd weti costi nosweitha o brytar iddo fa a mwy fyth I'r wraig. Ma nhw'n gwed i fod a'n fardd da, ond gwaetha i gyd byth yw hynny. Tysa fa'n fardd awan barod nawr, fel hwnnw nath y pishin hynny am y

 

"Bachgen bach o Dowlas

Yn gwitho gwaith y tan,"

 

Ac felly yn y blân, mi fysa rhyw blesar i ddyn fel fi yn i gwmpni a. Ond pan ma fo'n tuchan ag yn tynnu i wallt ag yn son am ryw —

 

"Aneirif glaer gysawdiau

Yn yr entrychoedd pell,

A'u milmil fflamawg heuliau'n

Cynhesu broydd gwell,"

 

ma fa tu hwnt i fi. A chi allwch specto shwd ma hi ar y wraig a'r lodgar pan ma dyn felna yn y ty gyda chi.

 

 

 

(delwedd G2082) (11 Chwefror 1915)

Y Darian. 11 Chwefror 1915.

 

Llith y Tramp.

 

Mishtir Gol., — Ma gwr y ty lle rw i'n lodjo yn ishal iawn i ysbryd, a ma'n depig gen i fod bardd yn gallu mynd yn ish na neb arall, a hynny am i fod a'n mynd yn uwch na neb, ne'n meddwl i fod a'n mynd yn uwch ta beth. Ond dw i ddim mor shiwr am hynny, a ma gwraig y ty 'ma o'r un farn a fi. Fe gas i siomi, gwr y ty w i'n feddwl, yn steddfod fawr Pant-y-crwth yn neintin hyndrad and ffortun odd hi pyrtynny. Fe odd yr ail ora ar destyn y gatar. Odd a "ar drothwy'r gogoniant” ys gwetws Homo Ddu, a fe fu raid iddo ishta ar y llawr, a lawr ma fa wedi mynd a fe fydd yna dicyn o waith cwnni arno fa hed.

 

Fe wetws y beirniad taw rhy fach o bowdwr i apad i rif y bwlats odd y gwall mwya yn i hawdwl a, a dylsa fod mwy o farddonol swn canons mwn cyfansoddiad ar "Frwydyr Mons.” Ap Crychydd y Dwr o Gwm Rhyd y Glew odd y buddugol. Fe wetws y beirniad fod gormod o frawddeca llanw yn i hawdwl ynta hed, fel "dwr gwlyb," "tan twym," "lloer wen," a "lleuad felen"—

 

"Y lloer wen yn llwyr weini

Eirian wawl i'n milwyr ni."

 

"Leuad wen, aros heno,

A channa'i lwch annwyl o."

 

Mi welas i fwy nag un ferch ifanc yn colli dacra pan ddarllenws a'r ddwy lein ola, a mi ath y lle mor ddistaw a mynwant, a'r distawrwydd hyn odd un o'r petha gora weles i yn y steddfod.

 

Dyw gwr y ty ddim yn folon ar y feirniadaeth. Fysa neb, medda fe, yn rhoi catar ond catar babi i un alla son am ddwr gwlyb a phetha felny. Ond dos dim dowt gen i nag odd y beirniad yn iawn wath odd gytag e lythrenna wrth i enw a rheiny wedi dwad o'r Merica.

 

Wn i ddim shwd y bysa hi ar i wraig a a finna yn y ty yma onibai i'r gwr ennill ar yr englyn i'r "Gwrcyn,” a dyma fe –

 

"Gwr y gath, go hir ei gwyn,—yn y nos

Mae'n wyllt ac anaddfwyn;

A lleidr o flew llwydwyn

A thad myrdd o gathod mwyn."

 

Fe welwch fod rhwpath yn i ben a hed pan geiff e destyn sy'n i siwto fa. A wir ymhen wthnos ar ol iddo fynd i'r nos wrth golli'r galar fe allws ganu:

 

"Fe ddaeth i mi lygedyn

Yn nos fy siom i'm bwth

Wrth ennill ar yr englyn

I 'gwrcyn' Pantycrwth."

 

Ymhen wthnos wetini rodd a'n son am ddatblygu'r pennill hyn yn bryddast odidog ar "Doriad Gwawr." Wel mi ges i waith labro'r nos a gwaith trwm yw a hed, fyse'n well gen i gynrychioli beirdd mewn steddfota o lawar taswn i ddim ond cal dicon o waith. Ma'r gaffar yma sy arnom ni'n wath na'r un cwrcyn am gatw swn. A mi weta i air am dano fa eto.—Tramp.

 

 

None

(delwedd L2137a) (25 Chwefror 1915)

25 Chwefror 1915.

Y Darian.

Llith y Tramp.

 

Mishtir Golycudd, - Fe glwas i un dyn galluog yn gwed taw yr Ecscwimos odd y rhai mwya tepig o fynd i'r North Pol, achos u bod nhw'n gyfarwdd a'r oerfal a thrafod eira. Mwn eira ma nhw wedi u mhacu. Ma fa'n sefyll i reswm hed taw dynon sy wedi u mhacu mwn pwll glo ddylsa fod yn fficso pris gwaith. Ma nhw'n gwpod beth yw gwitho'n borcyn gwyllt mwn twll rwbish, yn llyncu lluwch a thoddi yn y gwres, a dim amsar gyta nhw'n amal i roi sho o baco rhwng i dannadd. A dyma nhw'n taclu Lords, os gwelwch chi fod yn dda, i setlo pris gwaith dyn clawd, dynon na welson nhw ddim twll rwbish yn u hoes na labrwr nos yn borcyn chwaith. Ma gen i bob dyletus barch i St. Aldwyn, ond chlwas i ddim son i fod a wedi gwitho mwn pwll glo ariod.

 

Mi glwas am un gwr bynheddig odd yn moyn stopo hwtar y pwll yn y bora achos i fod a'n ffaelu cysgu, ond tysa fa'n labro'r nos am wthnos mi alla gysgu a chydwybod dawal, a mi fysa'n leico cal pris da am i waith hed. Dynon a phwysa yn u pocetu nhw sy'n cal y brastar yma a nid dynon a phwysa yn u penna nhw ag yn gwpod beth yw tyrn o waith. Wi'n siwr tysa Sant Aldwyn yn galw yn Shop Dafydd y Crydd i ddoti pris ar scitsha y bysa Dafydd yn towlu'r lapston ato ne wan y minawyd yn i "ben blan" a os gwetws a yn yr englyn hynny.

 

Ma'r gaffar nos yma yn towlu i ngwymad i o hyd taw arnon ni odd y bai am ddoti St. Aldwyn i setlo pethach. All y gaffar nos, medda fe, dalu dim ond yn ol y preis list. Ond os yw'r preis list yn derfyn i dalu am waith, dos yna ddim yn derfyn i'r gwaith ma fa isha am y "preis." Ma fa'n dreifo dyn mas o wynt, a dreifo dyn wedyn ar ol iddo fynd mas o wynt. Ma fa off fel cacwnan trw'r nos

 

 

 

None

(delwedd L2137b) (25 Chwefror 1915)

Ma golwg nerfys arno fa witha felsa fa ar y weiars, a ry ninnau'n gwpod fod mistar ar Mistar Mostyn. Ma gaffars yn uwch na fynta a gaffars yn uwch na rheiny; ma'r gaffars bach ofan cal y sac gan y gaffars mawr. Ticyn o beth yw i ddyn gal y sac, a gorffod mynd i witho ar ol bod yn gaffar. Ma gaffars yn gwasgu ar i giddyl a ma nhw i gyd gyta'u giddyl yn gwasgu cymint a gallan nhw o waith mas o esgyrn y gwithwr, nenwetig rhai sy'n labro'r nos. Falla taw creaduriaid clawd i dosturio wrthyn nhw yw gaffars yn y diwadd. Beth bynnag ma nhw'n dicyn o niwsans. Rodd hen frawd yng Nghwmsaerbren yma yn arfadd gwed ar weddi yn y capel: "Diolch i ti, O  Arglwydd, am awr fel hyn i orfoleddu ym myd y gaffars a'r gorthrymdera." Mi awgrymas i wr y ty y dylsa fa neud can ar berthynas gaffars a gorthrymdar, a ma fa wedi dechra fel hyn:

 

"Y mae pcrthynas gref ddiball

Rhwng gaffars a gorthrymdar,

Pe na fai un ni fasa'r llall,

A'r byd yn well o'r hannar;

Mae'r byd o gaffars yn rhy lawn

I labrwr nos anniddan,

A'r coliar ynta'n chwerw iawn

O dan y baich hyn girddfan.”

 

Ma hi wedi mynd yn stop arno fa fan hyn ys deg diwarnod, a fydd raid iddo gal gwell amsar ar y lleuad i gwpla'r gan. Ma fa'n mynd i witho mas yr eidia taw gaffars yw yr anfeidrol a'r anniddan faich sy'n Ilethu dynoliaeth. Ma'n anodd gwed faint neiff y gan at symud y baich.

 

Beth bynnag dyw a ddim yn depig y bydda i yma pan fydd a'n gorffen y gan. Ticyn o brofedigaeth yw i ddyn sy'n labro'r nos lodgo yn nhy bardd. Ma fa'n hala dwarnota cyfan yng nghwmni Duwias Awen, medda fe, a cheiff y wraig druan ddim gair o'i hen ben a, a ma'n naturiol iawn iddi glepran ticyn gyta fi pan fydd hi'n cal cyfla, ond rw i wedi gweld rhwpath yn llycad gwr a dyma fachan fydd ar y tramp yto.

 

Wi wedi clwad shaw o son am Gwmparc, ag os yw gwr y ty yn mynd i gatw mlan fel ma fa mi fydda i'n mynd yno i dreio am jobyn gyta'r manigar sy yno ag yn mynd i fesur am siwt o ddillad at y tilwr sy yno.

 

 

None

(delwedd L 2136a) (11 Mawrth 1915)

11 Mawrth 1915

Y Darian

Llith y Tramp.

 

Fe wetws y nyrs fu'n gwilad Voltaire ar i wely anga na fasa hi byth wetin yn mynd at wely anga anffyddiwr. Mi wetas inna nag awn i ddim i lodgo i dy bardd byth mwy, yn enwetig os bysa fa'n fardd safonol. A chofiwch chi rw i'n dicyn fach o fardd ymhunan. Ond fydda i byth yn gneud mwy na phetar lein ar yr un testyn, ne wyth witha, a beth bynnag sydd dros ben hyn o'r drwg ma fa. Fydda i byth yn cymryd hawdwl na phryddast yn 'n llaw ond pan fydda i'n ffaelu cysgu. A wi'n meddwl weitha gymint o noswitha digwsg fydd rhai wedi gal i neud stwff sy'n 'n hala i i gysgu mor neis liw dydd gola pan fydda i wedi bod yn labro'r nos. Wel y clasgad yw fod yna rywrai heblaw fi wedi bod yn labro pan ddylsan nhw fod yn cysgu. Fe ddath y peth on i'n ofni yng Nghwmsaerbren. Odd y wraig mas yn rhoi dillad ar y lein a rodd hi wedi rhoi rhyw hen focs mawr dan i thrad a mi ath gwaelod hwnnw miwn o dani, a dyma sgrech, a'r peth cynta glywas odd rhuad fel rhuad llew ar y llofft, a gwr y ty yn dod lawr dros y star a gwreichion o'i lyced a. Chlywsoch chi ariod shwd row fu yno. Yn lle helpu'r wraig druan mas o'r bocs odd a'n bwcwth rhoi "tawddgyrch cadwynog" am i gwddwg a'i chroci ar y lein ddillad "mor wirad a bod deg sill ar ucan mewn englyn." Odd a wrthi medda fe yn "ymgyndynu ag heidia odd gymint a hiwnifars fawr" pan ddath sgrech y wraig ar i draws a a'i hyrddio fa oddar ucheldera Paranasws at lein ddillad a gwraig mwn bocs. Ther iss byt a step, medda fa, ffrom tha sybleim tw tha rhidicwlws. Mi ath yn beryclus i fod yn yr un ty a fa. D'own inna ddim yn leico wado dyn yn i dy i hunan, a gan mod i wedi cal ticyn o bractis gan "Dan bach" ys llawar dydd i iwso'n nyrna on i'n gweld ma'r ffordd ora i fi odd mynd rhag ofan i fi gal 'y nhemtio i ddisgreso Dan, wath ma fe wedi diwycio oddar pan fuws a'n 'y nysgu i i ymladd. Mi grynhoies 'y mhac a mi es i Gwmparc. Cyn i mi gyrradd yno rown i wedi cwpla tair lein o'r gan fach hyn: —

 

"Er gorfod colli dacra

Mi gana fel y larc,

Y golled yng Nghwmsaerbren

Sy'n ennill i Gwmparc."

 

 

 

None

(delwedd L 2136b) (11 Mawrth 1915)

 

Dyna spesimant i'r beirdd newydd o gan heb ddim niwl mwn un lein o honi. Wrth gwrs rodd raid cal lodgins yma yto. Y drwg gyda'r hen fyd yma yw fod cymint o bethach na allwch chi ddim gneud hebddyn nhw, a llawar o bethau y rhaid i ddiodda nhw y gallach chi neu[d] hebddyn nhw. Tasa hi'n haf o h[y]d, fel y dylsa hi fod, mi alla tramp neud heb lodgin. Wedi holi mi ges hanes lle yn "Bwlchyclawdd View Terrace." Mi es yno, a wir rodd yno le digon teidi, ond mi sefws y ngwallt i ar y mhen i pan wetws y wraig honno fod i gwr hitha'n dicyn o fardd a mi fues bron a throi ar y'n sowdwl yn y fan. Yr oedd beirdd a gaffars yn mynd ar fy nerfs a'r pethach nag y'ch chi ddim isie'n gweld nhw sy gyta chi o hyd. Mi ddath y pennill hyn mas fel bwlat - yn gynt na dim nes i ariod or blân,

 

"Wel eto fardd! Af ar fy llw

Lle bynnag af mi fyddan nhw,

Pa bryd daw'r dydd caf fyned trwy

Na wela i fardd na gaffar mwy."

 

Mi ddishgwlws y wraig dicyn yn gas arna i a mi feddylas falla y galla i bardd hi fod dicyn yn fwy grasol na'r bardd on i wedi gorffod ffoi orwtho fa. Beth bynnag on i ddim yn mynd i risco dim, a mi ofynnas am spesimant o'i waith a i gal gweld i bwy ysgol odd a'n perthyn. "Fu a ddim mwn ysgol" medda hitha, "ma fa'n selff-made-man," a mi ath at y cwpwrdd glass a mi dynnws bishin o bapur o'r tepot arian. Dyma i chi englyn o'i waith a, medda hi. Rodd yr englyn fel hyn:

 

“Ar grwydyr daethum i Gwmparc,

Lle hyfryd iawn feddyliais,

Ond o'w'r fath siom, rhyw bot o Gwm

A mynydd llwm a gefais;

Rhyw ddau bwll glo a rhesi tai

A dim ond swn peiriannau,

Bydd Bwlch y Clawdd pan ddaw y dydd

Yn llwybyr rhydd i minnau."

 

O wel, meddwn inna, mi all dyn rhesymol fyw gyda bardd fel hwn. Pan es i mas i weld y lle on i'n gweld fod "englyn" gwr y ty yn trw iawn to netshyr. Wi wedi ffaelu gweld pare yma mhunan. Ma Bwlchyclawdd ar ben y mynydd rhyngoch chi a Chwmocwr, a rych chi'n mynd mas o Gwmparc ffor hyn felsa chi'n mynd mas trw big tepot. Gan mod i wedi dod yma rhaid i fi aros yma am dicyn a gwed ticyn o hanas pethach sy'n mynd ymlan yma.

 

 

 

.....

 

 

None

(delwedd L2135a) (1 Ebrill 1915)

Y Darian.

1 Ebrill 1915

 

Llith y Tramp.

 

Mr. Gol., — Dyma Ie yw Cwmparc. Ma fa'n druenus dros ben. Do's yma neb bron yn derbyn y Darian, ond ma lot o hen gybs yn i darllan hi yn y Readin Rwm. A do's yma ddim llawar o bapra Cymrag arall yn cal u derbyn yma chwaith. Dw i ddim yn llawar o grefyddwr y mhunan, fu gen i ariod lawer o ddileit yn y lein hynny. Pob un a'r ffansi yw hi yn y byd yma. Ond rw i'n cretu tysa'r fath beth yn dicwdd a mod i'n cymryd yn 'y mhen i fynd at rwpath taw at y Salvesion Armi ne’r Eclws yr awn i, a nid at grefydd. A wi'n suwr o hyn tasa Alis a finna wedi prioti's llawar dydd fel buo ni’n meddwl gneud a thasa gyta ni lond ty o blant na fyswn i ddim yn gatal iddyn nhw byrnu a darllan pob short o sothach fel ma plant crefyddwrs Cwmparc yn gwneud. A dyna. be sy gen i yn erbyn crefydd, dos gyda hi ddim syniad iach am ddynoliath. Ma hi'n gatal i'r plant dyfu'n wyllt a phorthi u meddylia ar faw'r wasg. Ma gwr y ty yma a finna wedi bod yn wleua shew ar y matar, a ry'n ni'n ffaeli diall be sy'n mynd i ddwad o'r byd os eiff a mlan fel mae fa'n mynd nawr. Ma llawar nag y’nhw'n darllan dim ond hanas pechota pobol erill a ma dicon o stwff at i galwad nhw. Ma rhai'n gneud arian wrth goginio hanes pechota i rai sy'n leico pethach felny. Ma'r pechaduriad u hunan yn rhai go dda lawar o honyn nhw, ond u bod nhw wedi colli'r ffordd, ond wn i ddim beth i feddwl o rai sy'n byw ar u pechota nhw. Ma 'na un papur — "The Scafingar” ma nhw'n i alw fa, os clywiff hwnnw am ryw scandal aflan yn rhwla ma fa yno ag yn i wasgaru fa dros y wlad. Do's dim siawns gan neb i ddod yn ddyn y dyddiau hyn, mae pawb yn rhy brysur o'i gwmpas e'n gneud arian, ne'u hala arian. Wi'n cretu, tysa'r Salfesion Armi'n cymryd mwy at y plant, y gnelsa nhw well gwaith o lawar, a wi'n gobitho cymriff u  capteniad nhw'r hint. Mi fysa Salfesion Armi o blant Cymru yn siarad Cymrag a chanu Cymrag ar yr hewlydd dyga'r band yn sgubo'r wlad o'u blan, a gymint gwell fysa hynny na bod rhwng y gwalia. Rw i'n apelio at y Captan sy yng Nghwmparc os o's yma un hefyd i glasgu byddin o blant at 'u giddyl a gneud Salfesion Armi o hony nhw i galw'r crots a'r crotesi sy a'u penna n y gwynt yma. Treio catw rhai sy wedi 'u colli ma'r Salfesionists fel rheol, ond rw i'n cretu 'mhunan y tala hi'n well iddyn nhw i gatw rhacor o rai sy heb 'u colli.

 

Wel rw i'n crwydro. Mynd i wed on i y dylsach chi dreio cal rhywun, i werthu ticyn o'r “Darian" yn y Cwm bach hyn. Ma cerad milldir ne ddwy am dani bob wythnos yn ormod, a fydd raid i chi i hala hi o'r offis i fi. On i wedi meddwl gwed wrthoch chi'r tro hyn am helynt fu yn y ty yma un noswath. Rodd y wraig wedi mynd i

 

 

None

(delwedd L2135b) (1 Ebrill 1915)

Dreorchy near Cwmparc, a isha bwyd ar y gwr a finna. Ni geson hyd i becyn bach o reis a ni feddylsom y gallan ni neud pryd o hono fa'n ddidrwpwl. Rhyw ofni on ni taw lled fach fysa fa i ni'n dou; rhyw dri phownd odd a. Ni rhoison a, yn y sospan a dwr arno fa a llaeth. Yna ni ethon i siarad am Dafydd y Crydd a dyfalu pwy odd a. Mi wetws gwr y ty i fod a'n napod un odd yn napod un odd yn napod un odd yn perthyn i Dafydd yn eitha da, a taw crydd odd a hed; a'i fod a'n libral chwrchman i'r carn. Rodd Morgan Huws y tilwr sy yn siop Dafydd wedi gneud siwt o ddillad i hwnnw. A rodd e'n gwed fod Dafydd yn byw rhyngon ni a Byrtawa. Wrth gwrs doen ni ddim llawer callach wath ma llawar o gryddion a thilwriad yn byw rhyngom ni a Byrtawa. Ond tra roen ni'n myrrath a materion rhan erill, mi waeddws gwr y ty mwn dychryn, “Be sy ar y reis yma? Oti'r gwr drwg yndo fa?" Rodd a wedi whyddo'n llond y sospan, a dechra mynd i'r tan, a ni fuon bron a ffoi i rwla. Rodd hi'n sospan fawr a dim ond tri phownd odd ynddi ar y dechra. Beth bynnag mi feddylson i fod a'n rhyw speshal brid o reis, a ni fynson sospan arall, a rhoi i hannar a yn honno a dwr a llaeth yn y ddwy yto er mwyn i ddisychetu fa. Fuo ni ddim pum munud nag odd gyta ni lond dwy sospan, a mi fu raid cal dwy sospan arall orwth y cymdogion a bwcad at hynny. Roen ni'n dechra dychryn ticyn nawr ag yn onfi y bysa'r reis yn llanw'r ty a na fysa yno ddim lIe i neb arall, a ni aIson wraig y ty nesa i fewn. “Wel, y ddwy hen gadi," medda honno, "beth y'ch chi wedi neud?” “Wel, ond y reis yma sy'n mynd yn drech na ni," medda gwr y ty. “Faint o reis oedd gyta chi?" gofynnai'r wraig. "Dim ond tri phownd,” medda gwr y ty. “Wei, y ddou hen drachwant, fysa hannar pownd na lai'n ddigon i chi'ch dou. Ma gyda chi ddigon i neud swpar i bawb sy yn y Terrace yma - Ilond pedar sospan fawr a bwcad! Welas i ariod shwd beth!" Erbyn hyn rodd y wraig wedi dod gartra o Dreorchy, a dyna lle bu wraig y ty nesa a hitha'n werthin am ben gwr y ty a finna, a'r ffordd ora os bydd rhywun yn wherthin yw wherthin gyta nhw, a threio bod dicyn yn gallach y tro nesaf. Son am reis Cwmparc odd gyta phawb yn Nhreorchy drannoeth, a gwyr Bwlchyclawdd View Terrace yn mynd mas o'u co pan odd y crots yn gofyn faint o reis odd yno. Mi ddylswn i fod wedi gweyd wrthoch chi mai ffugenw gwr y ty yw Eryr Parc y Cwm. Ma arna inna whant ffugenw. Chi gewch dicyn o'n hanas n'in darllan y ser y tro nesaf. a falla gan ar ferwi reis.—Tramp.

 

O.N. - Daeth y gan yn barod cyn fi fynd i'r wasg, a dyma hi ar y mesur petar llinell dwpwl:

 

Tri phownd o reis a dwr a llâth

A gymrais i a gwr y ty,

A'i roi mwn sospan i neud ffîd

Na fu'n y byd erioed mo'i bath;

Y triphownd reis mae'n hynod syn

A chwyddodd lan yn llond y lle,

A chafwyd pedair sospan iawn,

A llawn fwcedaid gyda hyn. — T. 

 

 

None

(delwedd L2138a) (15 Ebrill 1915)

15 Ebrill 1915

Y Darian

Llith y Tramp.

 

Mr. Gol., - Falle dylswn i fod wedi gwed wrthoch chi mod i wedi câl gwaith labro’r  nos yng Nghwmparc. Mi fuws yn dicyn o dac rhyngddo i a Mr. Midlton, y manigar. Odda'n gofyn yn suriws i fi pam na fyswn i'n listo, a mi wetas i wrtho fa fod un gos yn fyrrach na'r llall gen i, a na allswn i ddim rhytag ar ol Germans. Mi fu raid i fi neud ecsibishon o mhunan yn cerad iddo fa ar ben y pwll. Mi ofynnws i fi hefyd i bwy gapel on in mynd. Wi ddim yn gwpod os odd a'n meddwl mod i wedi bod dros 'y mhen, ond mi wetas i wrtho fa'n streit nag on i ddim yn y lein hynny. Ma popath yn iawn felny, mynta fa, a mi wetws wrtho i am ddwad i'r gwaith. A wir ma'n dda gen i gal mynd lawr witha i'r pwll wath ma mwy o le lawr na sy lan yng Nghwmparc. Lawr yn y pwll ne ar ben mynydd cewc chi dicyn o Ie yma i wafo. Ma'r gaffars yma'n dishgwl i chi witho fel nigars nawr amsar y rhyfal. Ond dw i ddim yn cydweld a nhw 'mhunan, wath falla bydd yn ddicon anodd cal ticyn o waith yn nes ymlan, a dyw tramp ddim yn gallu edrych ar bethach yn yr un gola a dynon cyffretin. Tysa Alis a finna wedi prioti slawar dydd fel buon ni'n meddwl gneud falla byswn inna'n diffrant, yn enwetig. sa gynnon ni blant. Ond fel ma pethach gyda fi nawr ticyn bach o waith am spel a'r hewl fawr wetin yw hi. Mi fyswn i'n gallu gneud heb y gwaith hed. A wi'n cretu pan ddaw dynon yn gallach y gwithau nhw lai. Wi'n ffaelu'n deg a gweld fod gwitho llawer yn rispectabl yn neb. Pwy anrhytadd i ddyn yw gneud i hunan yn fashun i brodiwso hyn a hyn bob dydd. Chretach chi ddim mor bell gall dyn sy dicyn yn giwt neud i whech chinog fynd. Tysa popol yn byta llai, yn yfad llai, yn gwisgo llai, a cherad mwy fysa dim isia iddyn nhw witho hannar cymint, a mi gesen fwy am yr hyn fysen nhw folon neud hed. Mi gas gwr y ty yma a finna brawf pwy mor bell y galla triphownd o reis fynd.

 

Wel on i wedi addo gwed hanas gwr y ty a finna'n mynd i ddarllan y ser un noswath. Shiwrans man yw e, ond ma fa'n deleito mwn llawar o bethach. Ma fa'n canu ticyn, yn barddoni ticyn, yn llenydda ticyn, mynta fe, ta beth yw hynny yn y byd, a lawar diwarnod yn gneud dim. Dyn dicyn yn od yw a'n cal i styriad, a falla dyw hynny ddim yn od iawn hed. 'Dos dim llawar o waith bod yn od mwn lle fel Cwmparc, lIe ma pawb mor depig idd ei giddyl a llycod mawr mwn twll.

 

Ma fa wedi bod yn hobi gan wr y ty yma, sef Eryr Parc y Cwm, i fynd mas y nos i ddarllan y planeta a'r ser. Mi ges i'r fraint o fynd gytag a un noswath pan on i ddim yn gwitho, ag onibai ticyn o anlwc wrth ddwad gartra mi fysa honno wedi bod yn noswath bleserus iawn. Ni ethon lan i Fwlchyclawdd, y fe'n cario'r defnydd y tent a finna'n cario'r teliscop mwn pishyn o sach rhag i neb feddwl taw speis on ni. Weti i ni gyrradd pen y mynydd dyma fa'n dangos tair ffynnon i n a thri math o ddwr ynddyn nhw er nag on nhw ddim ond chytig o latheidi orwth i giddyl. Weti iddo fa fficso'r tent a rhoi llycad y teliscop at un o'r ser, fe ofynnws i fi os on i wedi clywad am fardd o'r enw Esyllt, a mi wetas i ar unwaith os odd a'n fardd safonol na wyddwn i ddim byd am dano fo, a nag on i ddim isha gwpod chwaith, mod i wedi câl dicon ar y rheiny gyta gwr y ty lle on i o'r blaen. Dyma spesimant o chi o waith Esyllt medda fa: - 

 

 

None

 

(delwedd L2138b) (15 Ebrill 1915)

“Y nef serennog pwy fesur honno

A’i holl lu rhyfedd pwy all eu rhifo?

Eto yr eigion mawr hwn sy'n trigo

Yn Nuw ei hunan; rhyw fymryn yno

Yw'r haul ymhlith dirif ro'r traeth mawr ban, Anfeidrol lan uwch nef i’w darlunio."

 

Dyna ddicon meddwn i, ne mi fydd y mhen i'n mynd yn dost. Mi fynnws roi spesimant ne ddou arall a son ynddyn nhw am annherfynoledd a gogonedd, a phethach felny, ond fe welws os bysa fa'n dala mlan y byswn i “ar y tramp." Mi alla i odda rhyw fesur bach petar llinell fel "Sion a Sian a Siencyn” ne'r "Bachan bach o Ddowlais," ne rwpath bach fydda i wedi neud ymhunan, ond dim hawdwl na phryddast i fi os na fydda i'n ffaelu cysgu, a dodd dim o'u hisha nhw ym Mwlchyclawdd.

 

Allswn i feddwl fod Eryr Parc y Cwm yn diall iaith y planeta i'r dim. On nhw'n gallu gwed wrtho fa i'r funud pryd odd Iladd mochyn a phryd dylsa buwch fwrw llo, and so on. Ma, fa’n gallu. proffwydo lot o bethach hed. Ma fa'n gwed fod y collars i gal coron y bunt o gwnad. 'Dos neb yn gwpod y ffordd i neud almanac yn iawn ond y fe; dyw e ddim wedi gneud dim un yto, ond ma fa i fod yn barod y flwyddyn nesa. Mi welws mod i'n dechra câl annwd wrth rondo arno fa, ond whara teg mi wetws bennill o'i waith i hunan, a fel dylsa pob pennill odd a'n gwella at y diwadd, fel y gwelwch chi wrth i ddarllan a —

 

"Addig annwyd ddwg gynni, - arw fyd, Cynnar fedd o'i brofi,

Ei gadw'n ol o'n gwaed ni

Er undyn wna'r Ser Frandi."

 

A gyda'r gair mi dynnws botelad o thri star o'i bocad a rodd yn well gen i am y tair seren odd ar y botal na'r ser i gyd, a fel hyn y canes i: —

 

"Yr oeddwn yn anwydog

Wrth syllu tua'r nen,

Ac aeth fy ngwar mor stiff a phost

A'm pen yn dost cynddeiriog;

Mi glywn fy mhen yn gwella

Pan ddaeth y ser yn nes,

A buan stwythodd llain fy ngwar

Pan ges thri star i'm cylla."

 

Nawr dyw Eryr Parc y Cwm ddim yn yfwr trwm na finna chwaith, ond peth rhyfadd yw cwmpni. Os gwetws y gwr doeth ma dou ben yn well nag un. Rodd y thri star wedi mynd mor amal a ser y nen pan odd gwr y ty a finna'n mynd gartra. Wn i ddim yn iawn beth ddath o'r teliscop na'r tent, ond fe ddath Eryr Parc y Cwm a finna i le rhyfadd iawn. On ni'n gweld y ser o danon ni i gyd a'r lleuad yn u cenol nhw. Mi soniodd yr Eryr rwpath am esgyn eangdera "i geisio gloewch nen," ond y peth nesa geson ni odd cold bath a weti hynny bustachu mas o bwll o ddwr. Ar ol colli golwg ar y ser ni geson hyd i'r Terrace. Wel, wel, ma rheina wedi bod yn gwitho mwn dwr! medda rhywun wrth baso. Y peth diwetha glwes i cyn mynd i gysgu odd yr Eryr yn bwcwth cwnni i wraig ar i adenydd a mynd a hi am dro dros y Llwybyr Llaethog a dangos Orion a Phleiades iddi. Os clywiff rhywun am y tent a'r teliscop yn rhwla bydded cyslad a rhoi gair i'r Eryr Parc y Cwm, Cwmparc, nr. Bwlchyclawdd. TRAMP.

 

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd 5890A) (22 Ebrill 1915)

22 Ebrill 1915

Y Darian

Llith y Tramp.

 

 

Mr. Gol., - Dyw e ddim yn fontesh i chi bob amsar fod un gôs i chi'n fyrrach ca’r llall. Ma fa'n golycu ticyn o yps and downs yn y byd yma. Wi’n gobitho pan ga i'n atgyfodi y ca i 'nwy gôs fel on nhw cyn i'r hen feniw yna yn Llandeilo, mam Alis, dorri un o honyn nhw i fi. Mi ganws un bardd unwaith, a nid bardd safonol odd a cofiwch, fel hyn:

 

"Huw Huws y goes fechan a'r llall yn goes fawr,

Sydd yma yn gorwedd yng ngwaelder y llawr;

Pan gyfyd i fyny ymhlith [yr] holl saint,

Fe fydd y ddwy goes wedi tyfu'r un faint."

 

Odd rhyw lob yn y "Darian" ys tro nol yn gofyn ble odd y'n beirdd cenedlaethol ni. Wel dyna un o honyn nhw iddo fa. Wi'n mentro gwed wath gen i beth wed Morgan Huws y tilwr na gwr y ty lle on i o'r blân, fod awdwr "Huws Huws y goes fechan” yn fardd cenedlaethol. Beirdd cenedlaethol Cymru yw rhai sy'n gwneud pethach anfarwol, pethach y'ch chi'n difyrru'ch giddyl a nhw, a phethach sy'n catw'r haul ar ych gwymad chi o hyd. Wi'n ffeulu gweld shwd gall bardd safonol fod yn fardd cenedlaethol, wath os neb yn darllan nag yn adrodd i waith a, os na fydd ar rywun isha cysgu'n dost. Cofiwch chi dw i ddim yn ama na all fod dyfodol i'r beirdd safonol mwn rhyw fyd ar ol hwn pan fydd gan ddynon amsar i fynd drw'u hawdla a'n [sic; = a’u] pryddest nhw, ond ma poeni gyda nhw mwn bydlle nad yw dyddia'n blynyddoedd ni ond deng mlynadd a thrican ar gyfartaladd yn ormod. Ma raid i ni gal rhwpath i'n cynnal ni ar hyd y daith. Ma gen i ryw syspisiwn hefyd taw'r pethach sy wedi bod o help i ni yma fydd fwya poblocadd yr ochor draw hed. Fydd well i'r beirdd safonol a beirdd tywyllwch y fagddu edrych ati wath yn ol i ffrwytha yr adnabyddir hwynt. Ond dyna on i'n mynd i wed wrthoch chi ma Huw Huws y goes fechan wedi bod o gysur mawr i fi yn y'n yps an downs, ag i lawar erell y gwn i am danyn nhw sy a'u coesa heb fod yr un hyd. Ma'r gan fach swynol hyn wedi rhoi ticyn o opath i ni y gallwn ni ddishgwl ymlan am rwpath gwell pan ddaw hi'n sgrech arnon ni yn y pen blan yna.

 

 

 

 

 

A picture containing text, newspaper, receipt

Description automatically generated

(delwedd 5890B) (22 Ebrill 1915)

Fel gwetas i yn y wasg ys tro nol on i wedi meddwl cal shiwt o ddillad newydd yng Nghwmparc, ond fe ddath u hisha nhw arna i'n gynt nag on i wedi meddwl. Dodd y dwr y cwmpodd gwr y ty a finna iddo yn y'n llith o'r blan ddim yn rhyw lan iawn a nath a ddim lles i'r dillad fel gwyr pawb yn dda sydd wedi dicwdd cwmpo i le tebig u hunen. Ond dos dim un drwg yn ddrwg i gyd. Ys gwetws yr hen wraig o war Llandeilo slawar dydd, wel, wel, os lloscws y ty ma gyta ni ddigonedd o lutu i'r ardd nawr. Mi gas y tilwr job gen i'n gynt nag on i'n meddwl. Mi halws y nghoesa i fa i dicyn o bemblath wrth 'y mesur. Fe wetws fod un gôs yn hirach na'r llall gen i. Chlwas i neb yn gwed hynny o'r blan mynta finna. Naddo, mynta fynta mwn stwmp. Naddo, mynta fi, gwed ma nhw i gyd fod un yn fyrrach na'r llall. Beth bynnag i chi, heb ymhelaethu os gwetws y beirniad, pan ddath y shiwt i law a finna'n rhoi mhunan miwn yn y trowsis a nghoesa i yn y coesa odd yn apad 'u hyd nhw yn y trowsis newydd, rodd y trowsis yn ceuad y tu ol i fi. Wyddwn i ddim a odd y tilwr yn meddwl newid y ffasiwn ne beido, ond on i ddim am fod mwn ffasiwn ar ben y mhunan. Mi es lawr o'r llofft i gal gweld a alla gwr y ty ne'r wraig roi rhyw ola i fi ar y matar. Mi dyfares i neud hynny hed wath mi fu'r wraig bron mynd i ffits. Onbai'n bod ni wedi colli'r teliscop y nos o'r blaen mi fysa'r gwr wedi mynnu gweld os odd y planeta'n gwed rhwpath ar fatar fel hyn. Dodd dim un o'r ddau yn cofio gweld trowsis felny gan neb yng Nghwmparc o'r blan. On inna'n teimlo taw peth go letwith fysa trowsis yn ceuad, y tu ol i chi. Mi wisges y nghot fawr drostw i a mi es ag e am dana i at y tilwr. Nid trowsis fel hyn on i wedi feddwl gal, mynta fi wrtho. Mi ddishgwlws yn dwp arna i nol a mlan lan a lawr. Wi'n cofio, mynta fi, am bregethwr wedi mynd i fyw i dy newydd, a odd a'n meddwl y byd o hono fa, ond odd un bai arno, rodd drws i ffrynt a yn y talcen, ond pia'r trowsis hyn wedi hala'n ffrynt i i nghefan i. Ond heb ymhelaethu yto, mi welws ble'r odd y drwg; rodd a wedi cymysgu'r ddwy gôs. Ar ol i ni gonsylto a'n gilydd ni bendarfynson taw'r peth gore fysa opereshon fach a'r goesa'r trowsis. Wedi gneud hyn mi ddath idd i le. Ma gen inna shiwt nawr erbyn daw'r tywydd dicyn bach yn well. Wi'n clywad yr hewl fawr yn dechra galw arna i. Dyw a ddim yn bleserus iawn i labro'r nos pan y'ch chi clywad yr atar bach fp canu pan y'ch chi'n mynd i'r gwaith. Ma'n dda taw rhyw hannar dwsin o atar sy yng Nghwmparc, tysa yma gor o honyn nhw fysa yna ddiwadd ar labro'r nos ys tro. Ma yma ddwy ne dair bran yn dwad witha ma rheiny'n fwy o help i chi fynd lawr i'r pwll run fath a ma'r beirdd safonol yn help i chi fynd i dir angof.

 

TRAMP.

 

O.N. — Ar ol i fi roi adres Erys Parc y Cwm yn y "Darian," rw i wedi cal ceisiata am i fi feirn'atu mwn tair steddfod a rhwng yr arian wi wedi sefyll wrth labro'r nos a byw'n giwt a'r arian ga i am feirniatu, a dyw rheiny ddim yn ecstrafagant iawn, rw i'n gweld galla i fyw am whech mis heb witho dim. Lwc owt nawr am ddod a'r beirdd idd 'u sensis. Dw i ddim llawar o fardd y mhunan, ond mi wn i shwd idd i rhoi hi iddyn nhw. Dyw rhaglan yr Eisteddfota ddim mas yto, a wn i ddim yn iawn beth fydd y testyna, ond rw wedi dechra ar 'y meirniatath yn barod. Wi'n gobitho bydda i wedi penderfynu ar ffugenw erbyn hynny. — Tramp.

 

...

 

 

A black and white photo of a document

Description automatically generated with low confidence

(delwedd B2460a)  (6 Mai 1915)

 

 

(Llith y Tramp.)

 

Y Darian. 6 Mai 1915.

 

FFUGENWA.

 

Mr. Gol., - Wn i ddim beth i wed am Dafydd y Crydd. Ma fa'n towlu mod i'n whyddo am mod i'n gallu gneud pennill yn well na fa, a taw dyna pam wi'n whilo am ffug-enw. Dim ffasiwn beth, os gwetws Huw o'r North. Dos dim whyddi'n acos i fi, ond wi'n treio tynnu ticyn ohono fe mas o rai, a falla bydd raid i fi neud rhwpath i ddod a Dafydd idd i briotol faintioli. Arwydd fod dyn dicyn yn ddifalch y dyddia hyn yw fod gynto fa ffugenw. Ma fa o'r gora i siopwrs, bwtsheriad, ocsiwniars a phethach felny i neud u gwaith yn u henwa'u hunen, ag i bregethwrs a ffermwrs os na fyddan nhw'n ddim byd arall. Ond dw i ddim yn meddwl llawar o fardd yng Nghymru os na fydd ganto fe ffugenw, yn enwetig nawr pan mae enwa Cymry a Saeson wedi myned mor depig idd i giddyl. Dos yma ddim mor Gymreig y dyddia hyn a ffugenwa'r beirdd. Ma (Ma) enwa'r beirdd yn dysgu llawar o hanas a siograffi'r wlad i chi, dim ond i stydio nhw'n iawn. Ma nhw'n gwed taw isha bod yn depig i Saeson sy ar y bechgyn yma sy'n rhoi u henwa'u hunen wrth u gwaith. Dodd dim ffugenw gyta William Shecspiar a rheina medda nhw, a ma nhw'n galw'u hunen yn W. J. Gruffydd, yn Morris Jones, J. J. Williams, Parry-Williams, Williams-Parry, a felly mla'n. Gymint gwell fysa i'r rhai hyn wishgo ffugenwa rispectabl. A mae Eryr Parc y Cwm o'r un farn a fi. Mae fe'n gwed taw rhyw dicyn o wendid ddath miwn gyta phlanad y bardd newydd odd pido gwishgo ffug-enw. Odd yr Eryr wedi rhagweld y cwbwl pan drows a'r teliscop at y ser gynta, a ma fa'n mynd i wed hynny yn i almanac. Ond y cwestiwn i fi yw cal ffug-enw i'm hunan. Ma'r afonydd a'r nentydd a'r mynyddoedd wedi mynd i gyd. Ma hannar y trefydd a'r pentrefydd wedi mynd. Ma'r siroedd i gyd, a'r plwyfydd, a'r misodd, a'r gwyla, wedi mynd i gyd yn ffugenwa. Ond ma Eryr Parc y Cwm yn gwed wrtho i y galla i eto gal enw o blith ser y nef. Ma Orion a Phleiadus, ag Arturus a Mercher a Gwener a Iau a Sadwrn a lot fawr o enwa felny i gal lan yna. Dos arna i ddim isha'r enw odd Dafydd y Crydd yn roi i fi. Dyw Eryr Pwdin Reis ddim yn enw o gwbl. Wi'n synnu at Dafydd hed, odd a'n scrifennu felsa fa n jelws o hono i a wedi llyncu lot o warmod lwyd cyn scrifennu. Rw i'n gobitho fod i wraig a wedi darllen i lith a a catwiff hi i llycad arno fa. Ma fa'n galw'r awan yn “lodas neis," a ma wraig y ty yma lle wi'n lodgo yn tyngu fod gyta fa rwyn mwn golwg, cyn bysa peth felna'n dod idd i feddwl a. Rw i wedi cyfieithu i bennill a i'r Sysnag fel hyn: -

 

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd B2460b)  (6 Mai 1915)

 

“Wake up, muse, and come along

And be a lassy nice,

Give me thy help to sing a song

To Eryr Pwdin Reis.

The Eryr wild and gwr y ty

Together went a-spunging,

And in the kitchen bold and free

Had a rice pudding boiling;

For half an hour long or more

It boiled, and vessels bursting,

The Eryr saw and then he swore

That death was in the pudding."

   David the Shoemaker.

 

Ma'r Eryr yn gwed i fod a'n gyfeithad da iawn, cyslad a dim alsa neb neud o'r gwreiddiol. Dyw Dafydd ddim yn delo'n deg a'r Tramps fel cenedl. Ma'r gardians yn gwed fod y Tramps wedi mynd i'r ffrynt bron i gyd, a nag os dim honyn nhw ar ol ond rhai na fysa Kitshnar ddim yn u derbyn nhw fel gnath e a fi. Ond caton pawb mi fysa Dafydd y Crydd yn i lid yn gneud cyflafan ar y pwr dabs sy ar ol ne'n u hala nhw i'r seilam. Pan fydda i'n dod i Byrtawa nesa mi gripa i wallt Dafydd, a hitwn i ddim llawar dod a hynny o dramps alla i gal ar y ffordd gyta fi a rhoi ticyn o waith i'r speshal cwnstabls yna i gardo'i gron e a'i ledar e. A tysa'r tramps druen yn cal u rhoi yn y seilam mi fysa'n fwy rispectabl i fod miwn yno wetin na bod mas gyda Dafydd. Ma Eryr Parc y Cwm yn gwed wrtho i am wed wrth Dafydd am ddarllen ticyn ar i Feibil os o's gyta fa un. Os gen i ddim un ymhunan, ond ma'r Eryr yn gwed fod yndo fa fwy o hanas tramps na neb arall, a taw tramps yw'r rhai gora ma fa'n son am danyn nhw:

 

Apram, Isac a Jacop bell,

A bechgyn gora'r llawr —

Tramps oent hwy tra yma'i gyd,

Yn gwella'r byd wrth geisio'i well.

 

Dyna fesur petai lein i Dafydd, a be sy gydag a i wed nawr? Mi ddylswn wed fod gair wedi dod am y teliscop a'r tent. —Tramp.

 

 

 

 

....

 

 

 

Text

Description automatically generated

(delwedd 5496) (27 Mai 1915)

Y Darian.

27 Mai 1915

 

Llith y Tramp.

 

Mishtir Gol., - Ma Dafydd y Crydd yn treio gneud ffugenw i fi, ond fysa'n well iddo ddala mlan i neud scitsha a chlocs. Rw inna nawr wedi taro ar ffugenw i Dafydd, a rw i am i eneinio fa'n “Dafydd y Crafwr.” Ma fa am yn hala i i'r Seilam ag am dorri nghos arall i. Ma Eryr Parc y Cwm yn gwed fod Dafydd yn suwr o fod yn perthyn i'r hen Sian Landeilo. ’Dyw Dafydd ddim yn fardd nag yn feirniad. Ma fa'n gwed nag odd “llawr” a “bydd” ddim yn hodli. Wel nag o'n; down i ddim am iddyn nhw hodli. Ma fe'n gwed hefyd nag odd Apram, Isac a Japog ddim yn cario poteli o ser yn u poceti! Ond yw Dafydd yn smart, ne'n treio bod, ta beth? Falle nag yw e ddim yn gwpod nag odd y “Three Star” ddim wedi i ’nvento yr amser Apram, ne mi fysa'n suwr o gatw potelad o hono yn y tent erbyn bysa rhywun yn dost. Gwin o'u nhw yfad yr amser hynny, medda'r Eryr yma.

 

Ma Morgan y tilwr wedi gneud cawl o mhennill i wrth i gyfeithu fa, a ma Eryr Parc y Cwm yn gwed yn brysur y dylsa Morgan a Dafydd gal u rhoi yn y stocs - Dafydd am i anwybotath a Morgan am leibal ar Apram Isac a Japog. Er mwyn cael rhwpath i hodli a “seen” ma fa wedi llusgo “canteen” i fesur petar lein ag yn gwed taw trampo i whilo am le i gal cwrw odd tri dyn mowr yr Hen Orchwylath. Ma Eryr Parc y Cwm yn gwed y dylsa fod cwilydd ar y ddau. Ond dyna thal hi ddim o'r ffordd i fi wasto amsar ar y ddou hyn.

 

Wel mi fuas i lawr yn Byrtawa. Mynd i Steddfod y Cymdeithasa Cwmrag on i ŷn y Sentral Hôl, a mi fydd gen i lot i wed am danyn nhw

 

 

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd 5497) (27 Mai 1915)

yno y tro nesaf. Mi alwas heibo i Dafydd y Crydd, ond odd a ddim yn y ty. Odd e a Morgan Huws y tilwr wedi mynd gyda'r plisman a rhyw ddyn i'r Seilam. Wrth ddwad gartre mi glwes shwd buodd hi arnyn nhw. Pan ethon nhw miwn i'r Seilam mi wetws y dyn odd ddim yn gall wrth fishtir y lle – “Dyma fi wedi dod a'r ddou ddyn yma saff i chi, syr. Cymrwch ofal o honyn nhw. Ry'ch chi'n suwr o gal lot o ofid gyda I nhw.”

 

“Y d-d-dyn ofnadw,” medda Morgan Huws.

 

“Fe yw'r dyn sy ddim yn gall,” medda Dafydd.

 

Fe chwerthinodd y plisman, a mi chwerthinodd y dyn odd ddim yn gall am ben y ddou, a wydda'r mishtir ddim pwy rai o honyn nhw i gymryd miwn.

 

“B-b-b-bardd w i,” medda, Morgan Huws.

 

Fe fu hyn bron a setlo tynged Mor-gan.

 

“Ma rhai'n disgwl am scitsha gen inna,” medda Dafydd, a mi dynnws y binewyd mas o'i boced, a rodd hynny'n ormod i'r mishtir a mi ordrws I roi'r ddou dan glo. Erbyn hyn, rodd y plisman wedi cal amsar i sbonio, a mi ddiallodd y Mishtir, a mi wetws wrth Dafydd a Morgan fod yn dda iddyn nhw fod yna un dyn cyfrifol gyta nhw ne na elsa nhw ddim gartra'r noswath hynny. Ma Eryr Parc y Cwm a'i wraig a finna wedi paso fôt o gydymdeimlad a Dafydd a Morgan yn y perigl a'r brofedicath y buon nhw ynddi, ond ar yr un pryd yn datgan ein barn yn onast na fysa fa ddrwg yn y byd iddyn nhw fod miwn am wsnoth ne ddwy. Mi baswd y fôt yn unfydol, on i wedi meddwl rhoi'r englyn nes i i Alis y tro hyn, ond os gwetsoch chitha, Mr. Gol., mi ddaw yn y nesa.

 

Y TRAMP.

 

....

 

 

 

 

None

(delwedd L1926) (3 Mehefin 1915)

Y Darian

3 Mehefin 1915

 

Llith y Tramp.

 

Mishtir Gol. , - Fel gwetas i o'r blan mi ath Eryr Parc y Cwm a finna i Byrtawa. Ma'r Eryr yn gwed taw yn Hundab y Cymdeithasa Cwmrag y buon ni yno, a nid mwn steddfod fed gwetas i yn y llith ddwetha. Ond on i wedi enjoio mhunan cyslad fel nag odd a ddim gwaniath gen pun a steddfod ne Hundab odd yno. Rodd Dafydd y crydd mecis ag y mynecwd o'r blan wedi mynd i dicyn o brofedicath a cheson i ddim o'i weld a. Ma pawb yn gwpod fod yr Hundab hyn yn mynd i neud gwaith mawr. Ma fa'n mynd i scubo'r rhai sy'n gwatu u hiaith o'r wlad ag yn mynd i goti stander bywyd Cymru. Ond wi 'n ofni, fel o'n i'n gwed wrth yr Eryr, na lwyddiff a ddim heb iddo ddod a chroci ne grimeto miwn i'r peth ma nhw'n alw'n gyfansoddiad. Dy'ch chi ddim gwell o fwcwth os nag y'ch chi'n meddwl croci ne losgi'r pechaduriad. Mi fysa croci dou ne dri odd yn yr Hundab yn fwy o werth na'r penderfyniata i gyd. Odd yno rai mwn hwyl fawr yn gwaeddi dros yr hen iaith a nhw'u hunen a'u cywion yn siarad Sysnag gartra. Ma Eryr Parc y Cwm yn gwed wrtho i "nad cyfreithlon i ni ladd neb." A hynny falle ma'r tacla'n wpod. Ma nhw'n gwpod na cha nhw ddim o'u hongian  na u towlu i'r distryctor fel ma nhw'n haeddu. Ond ma gen i gynllun arall. Fe ellir gneud hecsibishwn of horors o henyn nhw, a falla bysa hynny bron cyslad a'u gorffan nhw. Rhwpath fel hyn on i'n feddwl - gneud llun wacs o amball brygethwr a ffeirad a sgwlyn sy'n siarad Sysnag ar i aelwd ag yn y capal a'r eclws a'r ysgol a rhoi bratwr ar u talcan nhw. Mi ellid cal rwm i ddangos y pethach hyn yn yr Hundab bob blwyddyn. Fysa fa ddim yn ddrwg hed cal crocbren a rhoi un o'r dynon wacs hyn i hongian wrthi ynghenol y siambar of horors, a'i roi a ar y platfform yng nghwrdd y nos. Mi fyswn i'n lico gweld rhai odd yn yr Hundab yn hongian, a ma Eryr Parc y Cwm yn teimlo 'r un peth a fi. Mi ellid gneud amod yn y cyfansocldiad y galla unrhyw un gal i lun wacs mas o'i siambar pan alla fa brofi i fed wedi gatal i bechod a'i frad a wedi dechra codi i blant yn Gymry rispectabl.

 

Ma Eryr Parc y Cwm a finna'n barod i roi sypscripsiwn da at starto Siambar, a ry'n ni'n barod i enwi hanner cant i ddechra o brygethwrs, scwlod, ffeiraton, Cymrodorion, beirdd, a bechgyn a merched ifenc i neud i fyny'r horors. Falla gneiff mishtir y "Darian" acor colofn i'r sypscreibars a rhoi lawer ynddi: Eryr Parc  y Cwm, dwy bunt; Tramp, dwy bunt a hannar yr arian geiff a am feirniadu yn y tair steddfod.

 

On i wedi addo, hala'r englyn nes i i Alis y tro hyn, ond ma isha lot o le ar hwnnw, a rhaid i gatw fa tan ryw dro yto. Wi'n gobitho hed y catwch chi'ch llyced ar Dafydd y Crydd, a phido gatal iddo fynd yn rhy ecar arna i ne wn i ddim beth ddigwyddiff iddo fa.

 

TRAMP.

 

 


Text, letter

Description automatically generated
(delwedd 5475) (17 Mehefin 1915)

Y Darian

17 Mehefin 1915


Llith y Tramp.

 

Mishtir Golycydd. — Welas i neb ariod yn mentro gwed cymint o bethach yn i anwybotath a Dafydd y Crydd. Fe wetws mod i wedi mynd i gwrdd ag Alis y'n hen gariad i pan o'n i Byrtawa. Nawr tysa Alis a finna wedi prioti fel buon ni'n meddwl gneud, fysa pethach yn wahanol iawn. A tysa Dafydd y Crydd yn gwpod y cwbwl, fe fysa'n gwpod fod Alis yn Ffrainc pan on i yn Byrtawa. Odd Alis wedi gweld y'n adres i yn Bwlchyclawdd View Terrace, a mi halws lythyr neis ata i'n gwed i bod hi weti joino'r Red Cross ag yn mynd mas i nyrso rhai sy wedi u wowndo wrth ymladd dros eu gwlad. Mi gollas i lawar o ddacra wrth ben y llythyr hyn, a rw i'n mynd i gatw fa'n ofalus.

 

Mi gofias am ddedwyddwch

A fu ym mora ôs,

Ac am yr helynt werw

Pan dorrodd Sian fy nghôs."

 

A thysa Dafydd y Crydd wedi câl anap fel ces i falla bysa'n haws i drafod a. On i'n timlo'n falch fod Alis wedi mynd i wasanaethu ’i gwlad a mi nes i fesur petar lein iddi, a mi gwetas a wrth Eryr Parc y Cwm. Mi welws yr Eryr y gellid gneud y petar lein yn englyn. Wyddwn i ddim o'r blân beth odd y gwahaniath rhwng englyn a rhyw fesur petar lein arall. On i weti canu –

 

 

 

 


Text, letter

Description automatically generated
(delwedd 5476) (17 Mehefin 1915)

 

Y mae Alis annwyl heno,

'N mhell o'i gwlad mwn estron dir;

Minna'n hiledd yma'n wylo,

Dagra gwaed — rwy'n gwed y gwir.

 

Diaist i, medda'r Eryr, gnewch englyn o hono. Beth yw'r gwahaniath, meddwn inna. Wel, mynta fa, mwn cynghanedd ma swn cytseiniad yn clecian. Gnewch y lein gynta yna fel hyn, nawr –

 

Alis annwyl sy heno.

 

Odich chi'n gweld y point, medda fa — fel ma "lisan" mwn un fraich yn apad "lyshen” yn y llall. Ma hwnna'n fwy tepig i whislan na chlecian meddwn inna. Ond dodd a ddim gwahaniath am hynny, medda'r Eryr, tra fasan nhw'n apad y naill y llall. Nawr am y circh, medda fa. Wel am y dyn, meddwn inna, dos dim isia circh ar Alis. Na ond ma'i isia fa ar yr englyn, medda'r Eryr, a dyma fo fel hyn:

 

Alis annwyl sy heno, — a'i hoff rudd

Ar dir Ffrainc yn brwydro;

A minna'n llwm, ow drwm dro

Mewn alaeth yma'n wylo.

 

Ma mwn englyn, medda'r Eryr, bladur a chirch ag estyll. Wn i ddim ble mae e'n ’n câl nhw yn y byd. On i'n gofyn iddo os taw siarad mwn damhegion odd a. Na terma barddol y'n nhw, medda fa. Ond down i ddim fawr callach, a rodd well gen i'r petar lein fel ôn nhw gen i cyn u gneud

 

 

 


Text, letter

Description automatically generated
(delwedd 5477) (17 Mehefin 1915)

nhw'n englyn. A gwed y gwir i chi ma arna i ofan gweld Dafydd y Crydd yn dwad am ’u traws nhw. Criadur sgeler yw'r Crydd. Ma'r englyn hyn yn y marn i'n rhy depig i'r pethach ma Morgan Lewis y tilwr yn neud. Ma fa'n dwad a phopath i neud hodl ag wrth hynny'n gneud codl. Falla bo chi'n cofio am y "canteen." Ma'n depig gen i fod Dafydd a Morgan yn gyfarwydd iawn a lle felny, ond ticyn o cheek odd dod ag Apram Isac a Japog i hodli a hwnnw.

 

Ma Dafydd yn benwan holics achos mod i wedi cal mas iddo fe a Morgan fod yn y Seilam, a fod y dyn on nhw'n atal yno yn gallach na nhwch dau gyta'u giddyl. Ma Dafydd yn treio gwed iddo fod yn Hundab y Cymdeithasa, ond mi ddylsa gal i gymryd lan am ffols pritensis. Fu a ddim yno, ne mi fysa'n gwpod beth odd yno. Siarad trw'i het ma fa, medda Eryr Parc y Cwm. Ma fa'n gwed bydd yr Hundab yn Sais mwn pymtheg mlynadd. Ond tysa fa yn yr Hundab i hunan fysa fa ddim yn gwed hynny. On nhw'n dechra doctora rhai odd a'r dolur Sysnag arnyn nhw. Mi rows merch fach o Berdar gwpwl o bils cenedlaethol net i rai, a rw i'n suwr fod Tom Matho wedi llyncu un o henyn nhw.

 

A ma'n depig fod tipyn o'r dolur ar y dyn on nhw'n galw Lleufar arno fa, a sa chi'n gweld y Dafydd Preis yna o Byrtawa yn rhoi moddion tonic Cymru iddo fa. Fu raid i Lleufar lyncu, nid dôs fach neis, ond llond potal, a wi ddim yn suwr beth ddath o'r botal. A ma arwyddion fod y cwpwl yn gwitho er daioni. Mi fysa'n dda gen i sa Dafydd y Crydd yno. Mi nethe les iddo fa, a fysa dim isio iddo wed cymint o bethach sy ddim yn unol a ffeithia, ys gwetws yr Eryr yma. Y'ch chi'n cofio i fi gâl gwahoddiad i Glydach yn y "Darian" ys ticin yn ol gan W.J.R. Treni mawr na fysa gan y bachgen hyn ffug enw, ma fa'n fardd ag yn fab i fardd. Cofion at Eryr Parc y Cwm. Fues i ariod yn timlo mor sâff a phan on i yn i gwmpni fa.

 

TRAMP.

 

 


Text, letter

Description automatically generated


(delwedd B2270a) (24 Mehefin 1915)

Y Darian

24 Mehefin 1915

Llith y Tramp.

 

Mishtir Gol.,— Mi ffarwelias i a Eryr Parc y Cwm yn Byrtawa, a wir i chi gwaith anodd odd hynny. Hen dderyn ffein yw'r Eryr. Y peth dwetha wetws a wrtho i odd: Fydd drws y ty yco'n agored i chi, Dramp annwyl, unrhyw amser, a gobitho bydd yna le cynnes yn ych calon chitha i Bwlchyclawdd View Terrace. Mi apetas inna mwn petar lein fel hyn:

 

Gwel, Eryr hoff, fy nacra,

Ymatal nid yw'n hawdd,

Ar ol y difyr oria

A gawd ger Bwlchyclawdd.

 

Ma'n depig, medda'r Eryr yto, fod dishgwlad mawr am danoch chi yng Nghwmtawa, a rych chi'n cofio i un o atar erill y "Darian" roi awgrym fod y teliscop a'r tent gollson ni ymhlith y ser ar y fythgofiadwy noson honno wedi disgyn yn rhywla tua Tharran Gwyddon. Mi wela i fwy o isia'r pethach hynny nawr ar ol ych colli chi. Os cewch chi hyd iddyn  nhw halwch air. Reit o, mynta i finna, a chofiwch fod atar Cwmtawa wedi'ch infeito chitha am dro, os cewch amsar dewch i roi tro am danon ni. Wedi i ni wed gwd bei saith gwaith yto, fe ath yr Eryr a mi es inna. Mi es i gyta'r tram car a mi landes yn Ynysforgan. Yno mi welas y cynel a mi feddylas y bysa lle tawelach i dramp gyta glan hwnnw nag ar y ffordd. On i ddim weti climercan ymhell na welwn i ddyn bach yn etrych arna i felsa fa'n meddwl taw jerman spei mwn disgeis on i. Dyma

 

 

 

 

 

 

Text

Description automatically generated

(delwedd B2270b) (24 Mehefin 1915)

fa mlan ata i ag yn cewcan ar y nghos i ag yn y'n llyced i bob yn ail. Tramp y "Darian," mynta fa, o'r diwadd yn syten, ma dy gerddediad yn dy gyhuddo. Fysa fa ddim iws i finna watu, ne mi fyswn yn gneud peth fysa heb fod yn unol a ffeithia, ys gwetws Eryr Parc y Cwm. Mi ddialles taw mishtir y cynel odd y dyn er na wetws a ddim o hynny i hunan. Mi wetws y dyn wrtho i fod disgwlad mawr am dana i yng Nghlytach a fod gohepydd y "Darian” wedi trefnu prosesiwn mawr o feirdd Cwmtawa i ddod i gwrdd a fi, a bysa'r bras band yn canu o'n blân ni a chwrdd croesawu'r Tramp yn yr Asembli Hôl, Pentra Malwod. Wel, mi fues i jest a châl ffit, ag yto on i'n timlo'n ddiolchgar iawn i'ch gohepydd parchus a beirdd Cwmtawa am ’y nghyfrif i'n deilwng o'r fath anrytadd. Gyta hyn rodd bâd steilish yn dwad lan ar y cynel, a mi drefnws y mishtir a'r captan i fi gâl lifft yn hwnnw er mwyn arpad ’y nghos i. Rodd y cynel a'r hewl yng ngolwg i giddyl, a mi halws mishtir y cynel ryw grwt bach i'r hewl i wed wrth y beirdd a'r band am droi nol, a hwthu'r cyrn a chnoco'r drwm gymint a gallan nhw a cherad yn yr un rât a cheffyl cynel am fod y Tramp yn mynd yn y bâd. A dyna brosesiwn odd hwn, fi a'r mishtir a'r captan a'r criw yn y bad a'r band a'r beirdd ar yr hewl. A rodd hi'n well felny i fi o lawer. On i'n câl y miwsic i gyd heb ddim o'r lluwch odd ar yr hewl.

 

 

 

 

Text

Description automatically generated

(delwedd B2270c) (24 Mehefin 1915)

Dyma ni wrth Hewl-y-bont Street, mynta mishtir y cynel, mi landwn ni fan hyn. Wel dyna enw mynta fi. Ie, mynta mishtir y cynel, ma fa'n frawd i Clydach-on-Tawa, yn arwydd sicr o'n dirywiad cenadlaethoi ni'i Cymry ac o aneffeithiolrwydd cyfundrafn addysg y wlad. Mi es i trw Hewl-y-bont Street i'r hewl fawr. Pan welws y Gohepydd fi dyma fa'n towlu i het i'r awyr a'r beirdd i gyd yn gneud yr un peth ag yn gwaeddi, "Tramp y Darian ffor efar. Yna ni ethon gyta'n giddyl ymlan i Hô1 fawr Pentra-malwod. Yno mi ges introdycsiwn i feirdd dirifeti. Ond welas i ddim cwrdd mwn shwd le o'r blân. Rodd yno fordydd hir a lot o shorta o ffid arnyn nhw a photeli o bob lliw a llun, achos fod y tywydd dicyn yn sychetig a'r beirdd weti llyncu lot o luwch. Mi gyhoeddws rhywun fod yno ddiod yn siwto pawb, y templars a'r twmblars, ag am i bob un ddewish pun fynsa fa. Mi fuws hyn bron arwan i dicyn o rifoliwshon. Odd rhai'n treio gwed fod y geira yn rifflecto ar y Tramp a hynny ddim rasol iawn mwn cwrdd croeso. Cyn i ddim annymunol iawn ddicwdd mi gotws Alfa, a mi wetws gwpwl o eira gyta nerth a dylanwad fel hyn: Yn enw'r beirdd a'r bobloedd ac er mwyn anrhytadd y gwr o fri sy weti dod i'n plith, na wnelar ei gwrdd croesawu yn gwrdd croesi. Islaw urddas beirdd yw ymryson ynghylch geira. Gadawer hynny i rai sydd a'u traed yn y pridd. Cofier mai beirdd ydym, ac nad ddylasa geira a dramgwyddant ddynion o radd îs fod yn I rhwystr i feirdd:

 

 

 

 

Text

Description automatically generated

(delwedd B2270d) (24 Mehefin 1915)

Templars a'r twmblars byddwch yn ffri,

Yfwch y peth fo'n cytuno a chi,

Alltudiwch y croesi gwaela'n bod,

Unwn mewn croesaw i Dramp o nod.

 

Mi etholwyd bardd cenedlaethol o'r cylch i'r gatar. Rodd y spitshis i fod after dinnar i gyd. Rodd yno deligram a llythyra wedi dwad nes on i'n ffaelu napod ymhunan. A gwed y gwir i chi on i ddim yn suwr pun a fi na rywun arall on i. On i'n onfi byse raid i fi gwpla'n stori run fath a hwnnw odd yn gwed i hanas yn mynd lan mwn balwn at y ser a'r planeta, a'r rhai'n grondo arno a'u llyced a'u ceca'n acor. Ond pan on i'n paso'r lleuad, medda'r dyn, mi saethws yr hen dorrwr Sapath sy'n byw yno ata i, a mi fyrstws y balwn. Shwd buws hi wetin? mynta rhywun odd yn grondo. O mi ddihunas i, medda'r dyn. On inna'n ofni taw dihuno byswn inna a taw gweledicath odd y cwbl. Ond ma'r peth yn rial, ne dw i ddim wedi dihuno yto. Mi fuodd yn dicyn o ddatla ynghylch riporto'r cwrdd, ond yn y diwadd mi ddiseidwd mod i i riporto'm hunan, na alla neb neud yn well. Rodd llawer o brygethwrs cyrdda mawr, mynta nhw, yn gneud hynny, a pham na allwn inna neud yr un peth a nhw.

TRAMP.

 

 

 

.....

 

 

None

(delwedd J6522a) (1 Gorffennaf 1915)

Y Darian. 1 Gorffennaf 1915.

 

Llith y Tramp. Mishtir Golycydd, — Rw i'n mynd i riporto cwrdd croesawu mhunan y tro hyn, ond alla i ddim riporto'r cwbwl ne mi fysa isha ecstra speshal o'r "Darian." Mi fysa enwa'r beirdd yn mynd a cholofn gyfan, ond os gwetws Alfa nid popol gyffretin yw beirdd a ddician nhw na chican nhw ddim os na fydd'u henwa nhw i gyd yn y papur. Mi etholwd Mistar Ifan Jones (Mynyddfab) yn llywydd y cyfarfod, ag ar ol rhoi y trugaredda o'r golwg a rhoi cymint odd heb dorri o'r llestri mwn lle saff, ond y glasis wrth gwrs, odd pob un yn gofalu am rheiny, mi ddarllenws gohepydd y Darian y llythyra a'r teIigraffs llongyfarchiatol odd weti dderbyn. Rodd y teligraff cynta orwth Dafydd y Crydd a Morgan Lewis y tilwr fel hyn: “Allwn ni ddim dod, a ddethan ni ddim sa ni'n gallu. Rhowch y Tramp ar i ben blan yn y cynél." (Hm, hm, ma nhw'n ffond iawn o'r pen blan.)

 

Teligraff Arthen: "Oes y byd i'r Iaith Gwmbrag. Beth yw hystyr Pentramalwod. Alwch rwpath i'r Sten. Alia i ddim dwad i'r cwrdd; ma Sioned wedi mynd mas. Long lif tha Tramp." (Clywch, clywch.)

 

Teligraff Defynnog: Sori, ma'r picnic wrth y drws." (O! O!)

 

Gol. y Darian: Yn y nesa." (O! Beth ma fa'n feddwl? Oti fa'n mynd i goeddi'r cwrdd hyn yn y nesa ar ol iddo fod, ne oti fa'n mynd i ddod i'r cwrdd nesa? Ma fa mor dywyll a'r bardd newydd.)

Eryr Gwyddon: “Ar y nyth. Y'n ni'n dishgwl y Tramp yn yr ocof." (Clywch, clywch.)

Talnant (dros y Mabinogion): "Ar grwydyr, pob lwc i'r brawd.”

Dafydd Rhys Phylip o Byrtawa.— Llythyr barddonol gen Dafydd fel hyn:

Er byrrad un gos iddo,
Y mae'n hen fachan ffein;
A bydd tra tatws yn yr ardd
Yn fardd y petar lein.
O! yn fardd y petar lein!"

 

 

None

(delwedd J6522b) (1 Gorffennaf 1915)

Llythyr orwth E. T. John, Ysgweiar, M.P.: “Rydw i braidd yn siwr i mi weld Tramp y Darian yn Abertawa. Beth bynnag, mi welas yno ryw ddyn a golwg dalentog arno fo, oedd yn ymddangos i fe tasa fo'n rhedag hefo un goes ag yn cerddad hefo'r llall. Fasa'n dda gyno i taswn i wedi cal introdycsiwn iddo fo. Deudwch wrtho fo, os byth daw o i Shir Fon, am alw yn Llanidan." (Banllefa o gymeradwyath.)

Yn rhag mynd ag amsar y cwrdd mi gynhicws [= cynigiodd] Perllannog fod y llythyra erill tw bi tekn as red, a felny buws hi. Y peth nesa ar y rhaglan odd arath y llywydd, a fel hyn y gwetws a: “Gymrotyr a Beirdd, - Ma'n dda gen i fod yma heno, a ma'n dda gen i gal llywyddu mewn cwrdd i roesawu bardd o'r un clas a fi 'mhunan, a bardd da digynnig yw a hefyd. Wi'n cofio pob lein o farddoniath ma fa wedi hala i'r Darian o'r dechra cynta, a ma nhw'n dda gwd bob un o henyn nhw. Rwy'n gobitho coeddiff e gyfrol o'i waith. (Clywch! chlywch!) Mi fysa llyfr felny'n grêt. Wi ddim wedi bod yn llwyddiannus iawn mwn steddfota, ond rw i'n'cretu fod amsar gwell i'r beirdd cenedlaethol gan fod Tramp y Darian wedi dechra datla'i reits nhw, a nawr –

“Mi ganaf bennill bychan
A nes i gyd ymhunan,
Gwn pan ddaw steddfod caf y gamp
A'r clod gan Dramp y Darian."
Nawr wi'n galw ar fishtir y cynel," a dyma fe ar i drad mwn winc ag yn gwed:
“Fe ddath y tramp mwn urddas
Yn un o fata'r gamlas,
A chant o feirdd ront iddo'n awr
Bu croeso mawr yn eirias." 

 

 

None

(delwedd J6522c) (1 Gorffennaf 1915)

 

Yna mi alws ar Fwyalchen y Darian, a mi ganws hitha fel hyn:

“Pwy fel y Tramp mor hynod
Hoff arwr ein cyfarfod
Sy'n haeddu clodydd bryn a phant
A moliant Pentremalwod."

Odd Gwilym Cynlais, Ap Cledlyn, Alaw Gwyddon, a Tarennydd yno, a on nhw wedi gneud petar lein rhyngthyn nhw'ch petwar fel hyn:

 

“Mae mron yn Ilawn o groeso
I'r enwog wr sy'n crwytro,
Tragwyddol heol iddo fydd
Er gwaeth'r Crydd a'i bendro."

Er mwyn arpad gofod wi ddim wedi cofnodi y ddegfad ran o'r Clywch, clywch," a'r “O, o," a'r “hwre” fu yn y cwrdd. Ond on nhw yno'n llond y lle. Mi ddarllenwd yno betwar a deugan o fesura petar lein, ond on nhw i gyd ar yr un lein. Mi nawd yno spitshis afftar dinar yn ddirifeti, ond odd pawb yn gwed yr un peth a wetws y llywydd talentog ar y dechra, a dos dim isha'u cofnoti nhw. On i'n leico'i clywad nhw er hynny. Odd hi'n dechra mynd yn wyr nawr, a on i ddim yn suwr i ble on i'n mynd i lodgo, ond mi gotws mishtir y cynel a mi wetws fod captan y bad y detho i gyta fa yn angori am y nos wrth Hewl y Bont Stryt, a fod croeso i'r Tramp gal shar o'i gabin e am y noswath. Fu raid i finna neud spitsh ar y diwadd, ond fyswn i weti gallu gwed yn well afftar dinar nag ar ddiwadd y cwrdd, a wi ddim yn cofio'n iawn beth wetas i, ond ma rhai odd yn grondo'n gwed i fi addo gwella lot ar y byd yn y cylch, rw i'm meddwl gneud hed. Mi ganws y Templars Hen Wlad fy Nhada, er mwyn cwpla'r cwrdd yn rispectabl a mi ath pawb gartra. Mi ddath dou o honyn nhw gyta fi drw Hewl y Bont Stryt at y bad, ond chymerson ni ddim amsar i weld fod y bad erbyn hyn wedi angori'r ochor arall i'r cynel, a on ni wedi cerdded ticyn trw'r dyfrodd cyn gweld ble'r on ni a fu raid i ni oifad i ben y daith. Rodd y Captan yn joli boi, a mi ofalws am ddillad i ni newid, a defnyddia cysur yn y cabin. Ma'r siwt newydd ges i yng Nghwmparc wedi spwylo, a ma'r tilwr bach sy'n byw yma wedi cal ordor am un newydd, a ma fa'n gwed y gneiff e siwt fydd yn wocin adfertismant idd i waith a. Ma dyn o'r enw Mistar Smith y Crydd hed yn gwed y gneiff e esgid i fi fydd yn gneud 'y nwy gos i'r un hyd, a galla i listo wetin yn y Clydach Roial Folyntiar Treinin Cor. Ma rhai targats da iawn wedi joino a fa'n barod. TRAMP.

 

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd 5491a) (8 Gorffennaf 1915)

Y Darian. 8 Gorffennaf 1915.

Llith y Tramp.

 

Mishtir Golycydd, Os yw'r fwyalchen yn gwed y gwir mi fuws yna rai pethach yn y nghwrdd croesawu i na wyddwn i ddim am danyn nhw. Wi'n cofio clywad swn canu ond on i'n tw ffar gon i wpod pwy odd yn canu, ond wi'n timlo'n ddiolchgar iawn i Telorydd a Myfyr Baran os buon nhw yno ag os canson nhw. Dw i ddim yn meddwl rhyw dwryn o gân Gwilym Cynlais i'r Tramp chwaith. Dyw hi ddim yn trw tw netshar os gwetws y bachan yna ma Clydach Tomos yn darlithio arno. Ond dyna un rhyfadd yw bardd, a rodd Gwilym druan yn meddwl y bysa'n athrylith i'n disgleirio mwy dim ond rhoi racs am ’y nghorff i, a bysa ’nhalant i'n lanach dim ond rhoi baw ar y ngwymad i. On i ddim yn dost, chwaith, pan ddes i yma, ond odd isha rwpath i hodli a Chlytach a mi wetws Gwilym —"Doed yn holliach.” Trics of the tred yw pethach fel hyn, a rw i'n sylwi fod Morgan Lewis y tilwr yn gneud pethach tepig, os yw Dafydd y Crydd yn i riporto fa'n iawn. Ma'r Crydd wedi llyncu polyn achos i fi fod mor garetig a dangos iddo fa'i anwybotath. Dyna'r diolch y'ch chi'n gal yn y byd yma. Ma fa wedi darllan mwy o lyfra nag w i wedi weld o datws, ond wedi u darllan nhw ma fa. Dyw a dim yto'n gwpod y gwahaniath rhwng "Alis" ac "Allies." Pwy sens yw gwed ma'r Allies sgrifennodd ata i. Ond dyna ma atnod fel hyn ar y pwnc yn rhwla –

"Chwyd y Crydd byth yn uwch na'i lapston.”  

 

 

None

(delwedd 5491b) (8 Gorffennaf 1915)

 

Odd dim isia iddo fe wed fod yr hen Sian Landeilo a fynta'n bartnars. Ma pawb yn gwpod hynny!

Dyma le iawn sy yng Nghlytach yma. Odd yma steddfod mwn tent dydd Satwn, a mi enjoies i mhunan yn grand a rw i'n mynd i wed yr hanes y tro nesa; odd yno litl biwtis o bob man ag onbai mod i wedi cal llythyr orwth Alis, wel, mi fyswn i dros y mhen a nghlusta. Mi welas fishtir y cnel o bell, ond wn i ddim beth odd y matar arno fa odd a'n dishgwl felsa'r doctor wedi gwed wrtho am neud i wyllys. Ne falla'i fod a wedi colli yn y Steddfod, beth wn i.

Wi wedi cal lot o lythyra yn y'n infeito i i lefydd erill. Mi ddath un o Fforestfach fel hyn: Diar Tramp, — Wil yw ceindli onor ys with a fisit. Dder ar meni hiar hw wd leic to see what yw ar leic."

Ddath llythyr arall o Gwm Garw fel hyn: — Tramp y Darian, Diar Syr,—Wi ar dei-in tw see yw at ddi Garw. Feri himportant bisnes.— Ywars triwli."

A llythyr arall o Gwmbychan fel hyn :Mr. Tramp, — We ar hinfeteret consiwmars of ywar prodycsiwns in ddi Tarian. Wi haf meni things tw tel yw. Ddei wêr owt a hyntin hiar ddi oddar dei, and thei côt a litl sheep dog insted of the blwmin ffocs.

Beth ma'r tacla'n sgrifennu Sysnag fel hyn i gyd. Mi af fi am dro i'r Garw 'r wthnos nesa am noswath ne ddwy a mi weta'r hanas ar ol hanas y Steddfod, a Chraigcefanparc a Threforus.

 

 

 

 

None

(delwedd 5491c) (8 Gorffennaf 1915)

Y Darian. 8 Gorffennaf 1915.

 

BYGWTH Y TRAMP.

Mishtir Golycydd,

 

Y mae geni gwyn pwysig aruthrol i ddwyn ger eich bron. Y rheswm mod i'n i dodi e ger eich bron chi yw hyn. Yn ol dim ag wy i'n deall o'r gyfrath, mai chi sy'n gyfrifol am bopath sy'n ymddangos yn eich papur; ac yn awr heb fynd o gylch y llwyn mi weta i beth sy geni. Y mae rhyw un o dan yr enw “Tramp" wedi bod yn scrifennu ich papur chi yr wythnos ddiwetha, ac wrth neyd hynny wedi gneyd lot fawr o ddrwg i fi. Mi explaina i y cyfan i chi, Mishtir Golycydd. Nawr y mae y Tramp wedi gwed i fod e wedi dod i fanc y cnel ar bwys Pont Ynysforgan (mae hyna yn olreit so far) ac i fi ofyn i'r captan roi lifft iddo yn y bad. Wrthotas i ddim lift i neb os bysa fa'n deidi. Mae yna yn reit eto. Ond dyma lle mae'r drwg yn dwad miwn. Mae'r Tramp wedi boddran cyment am y lifft nes mae'r son wedi mynd i gluste'r High Athorities. Ma cwmni'r cnel yn derbyn y Darian er pan ma'r Tramp yn ysgrifennu iddi. Nawr cofiwch hyn, Mishtir Golycydd, dyw'r bate ddim i fod i gario pasingars, yn enwetig tramps. Dim ond gwds ma nhw i fod i gario. Ac yr wy i wedi dod i lot fawr o fwstwr o achos hyn, a dw i ddim yn gwpod yn y byd lle cwpliff e. Mae yn ddicon posib ma'r sac gaf i, a ma'n rhy ddrwg i fi gal y'n stopo o achos rhoi lifft i dramp; ond efe sy wedi neyd y cawl i gyd, ac y ma'n rhaid iddo fe i yfed e'n nawr. Yr wy i wedi bod yn wilia gyta llawar o'r dynion mwya pwysig yng nghwm y Jacks beth sy ore i neyd yn y mater achos ma'n job i yn y balans, ac y mae lot fawr o'r dynion hyn yn gwed - wedi iddi nhw ddarllen y "Darian" — i fod e'n ges o slandar. A dyna o nhw n adfeiso i fi odd hyn, ac am i fi neyd e ar unwaith — Engago Lord Balaclafa i gymryd y ces mwn llaw. Yr wy i'n nabod Mynyddfab yn dda, ac y ma'n siwr o ddod yn drwm arno fynta hefyd achos taw fe odd y Cadeirdd yn Croesawi y Tramp i Clydach. Fe fydd mor tw ffolo i ddilyn os na ddaw apolodgi.

MISHTIR Y CNEL.

 

 

None

(delwedd L2140a) (15 Gorffennaf 1915)

 

Y Darian.

15 Gorffennaf 1915.

Llith y Tramp.

 

Mishtir Golycydd, —

 

Mi halws Llith Mishtir y Cynel fi i stwmp ofnadw. Rw i'n gweld nawr pam odd a'n dishgwl felsa fa wedi yfad fineger yn y Steddfod. Fyswn i'n i gynghori fa i beidio gneud llawar o docs a'r cyfreithwrs yma, ne ma nhw'n siwr o blyfio fa'n borcyn. Oti fa'n cofio am y stori hynny am ddau ddyn wedi ffraeo a'u giddyl a thicyn go lew ys gwetws Lloyd George, o silver bwlets gen y ddou, a nethe neb y tro i setlo'u cweryl nhw ond “gwyr y cwils." Mi fynson y ddou gyfreithwr gore allsa nhw gal am arian a mi roison y ces yn 'n llaw nhw. Odd un o'r ddou gyfreithiwr, fel finna, 'n dicyn bach o fardd, a dyma fa'n hala gair at i annwyl gariadus frawd fel hyn:

 

Dwy wydd dew,
Frawd, bydd gall.
Plyfia di un,
Mi blyfia inna'r llall.

A phlyfio nethon nhw. Os eiff mishtir y cynel i gyfrath yn erbyn y Tramp mi fydd y plyfio i gyd o un ochor. Ma fa'n gofyn am apolodgi. Ond dw i ddim yn gwpod shwd ma gneud un. Mi fuws yn garetig iawn i fi, a wetas inna'n dda am dano fa. Mi fysa apolodgi fel hyn yn dishgwl yn lletwith:

 

“Barchus Syr, — Ma'n felltigedig o ofitus gen i, i fi wed yn y 'Darian' ych bod chi wedi cymeryd trugaredd arnaf a rhoi lifft i fi yn un o fata'r cynel. Yr wyf yn edifarhau mwn sachlian, a lluti ar 'y mhen."

Dyma'r tro cynta i fi ddwad i hobl wrth gamol dyn.

Odd a'n gwed i fod a mwn perigl o golli 'i job, ond dim shwd beth. Ma'r cwmni'n gwpod yn iawn taw un o wyr y dwr yw a, a na chan nhw neb tepig iddo fa am fanigo cynel.

Mi fuas i yn Steddfod y Clydach, a wir mi enjoies i mhunan. Dw i ddim yn meddwl, a gwed y gwir i chi, gall neb enjoio'u hunan fel tramp. On i'n gwpod fod yno lawar ar y lwc owt am dana i, ond odd yno bump dyn run fath a finna, a un gos iddynt nhw'n fyrrach na'r llall, a wydda neb ond rhyw ddau ne dri o feirdd pun odd pun. Mi glywas bo chi, Mishtir Golycydd, yn holi'n dar pun odd ych tramp chi. Mi welas Motryb Nansan o Drebannos hefyd yn dilyn dau o henyn nhw, ond fuws yr hen whar ddim callach. Cymred yr hen wraig gysur, mi alwa i gyda hi un o'r dyddia nesa.

 

 

None

(delwedd L2140b) (15 Gorffennaf 1915)

Y bachan yna sy'n darlithio ar Wil Breian odd yn manijo'r consarn yn y steddfod. Clytach Tomos ma fa'n galw'i hunan. Wn i ddim pam ma fa'n troi i enw o whith. Allwn i feddwl bysa Tomos Clytach yn fwy in ordor. Ond dyna, wats in a nem, os gwetws Twm o'r Nant. Ma Clytach Tomos yn gallu manijo steddfod tan gamp. Ma fa felsa fa wedi i eni mwn steddfod.

Mi ges i lot o ddifyrwch wrth 'u gweld nhw'n cadeiro'r bardd. I gadeiro fa trw ffydd on nhw; odd e'i hunan ddim yno, a mi gymerson fenthyg dyn o'r enw Mr loan Davies odd ar y platfform i neud i job. Y gwr bynheddig hyn, allwn i feddwl, odd cadeirydd y steddfod, a odd golwg urddasol arno fa hed. Ond mi gas ofan ne rwpath pan ddalson nhw'r cleddyf wrth i ben a, a mi ddishgwlws yn dwp iawn felsa fa wedi reseino i gal i ben off. Mi ddath dicyn bach ato'i hunan pan ofynnws Mishtir Eilir Mai "A oes heddwch!" a'r bopol yn gwaeddi “Wes, wes." Un o Shir Bemfro gas y gatar, a dyna pam odd y “Wes, wes," yn dwad mas. Wi'n cretu i'r gwr bynheddig odd yn y gatar yn Ile'r bardd gal mwy o ofan y beirdd pan on nhw'n pelto mesura petar lein ato nag odd a wedi gal o ofan y cleddyf. Mi ddylsa'r steddfod baso fot o ddiolchgarwch gwresoca'r cyfarfod iddo am ddiodda iddyn nhw wed i fod a wedi curo cewri a'i fod a'n fardd mawr a fynta ddim yn euog o'r cyhuddiata.

Mi ges i dicyn o siomedicath ymhunan ym musnas y cadeiro. On i wedi gneud petar lein dda, ond pan on i'n paratoi I fynd i'r stedg, mi welas mod i wedi colli'r papur, a allswn i ddim mentro siarad yn gyhoeddus hebddo fa. Ond os nag es i i'r stedg, mi ath y petar lein yno. Odd J. J. Williams, Trebannos, os gwelwch chi fod yn dda, wedi coti'r papur a mi wetws y mhetar lein I  wrth y bardd. Odd a wedi gweld y bysan nhw'n rhoi ticyn o shein ar y ddou betar lein arall odd gyta fe. Ma raid i fi gal y petar lein nol, ne mi fydd fydd raid i fi roi Motryb Nansen ar i drac e.

Peth arall odd yn gneud i fi deimlo'n well yn y steddfod odd clywad y merched yn canu. Odd y ferch fach bert yna o Stalfera fel yr eos i hunan, a mi nillws wopra yno hed a odd hi'n deilwng o henyn nhw. Cor Stalfera J mllws, ond on i'n leico'r Aman Gli Soseiati, odd y merched odd yn hwnnw yn litl biwtis bob un o henyn nhw, a sa'r beirniad yn sefyll fan lle on i'n sefyll a gweld i gwyneba glan nhw mi fysa’n teinlo u bod nhw uwchlaw beirniatath fel on inna'n teimlo. Falla byddwch chi'n synnu, Mishtir Gol., gweld y llythyr hyn yn dod o Gwm Garw. Mi ddes i yma ffwl spid y dydd Llun ar ol y steddfod. Mi fydda i nol yng Nghlytach er hynny cyn bydd hwn o'r wasg a'n adres i yno fydd Ty Gwair on the flat, Clydach, near Trebannos.

Tramp.

 

 

None

(delwedd 5501) (22 Gorffennaf 1915)

 

Y Darian.

22 Gorffennaf 1915.

Llith y Tramp.

 

Mishtir Golycydd, —

Dicyn yn arw buodd hi arna i ar y ffordd i'r Garw. On i wedi'n shiglo nes on i'n ynconshws bron yn y bws sy'n mynd o Dreforus i Berafan, a chyn i fi ddod ata mhunan yn iawn fe fu raid i fi ddiffendo mhunan. Son am non-assistans, wir, pwy sens yw hynny. Odd yno ryw fachan cloff, didalant, wedi cal i gyhuddo, mynta fe, taw fe odd Tramp y Darian, achos fod un gos iddo fynta'n fyrrach na'r llall. Ma raid fod y rhai odd yn i gyhuddo fa'n dwp iawn os on nhw'n dishgwl im nhalant i yn nhrad y criatur hynny. Fuas i ddim Ilawar gwath o'r beltan rows a i fi pan ddes i lawr o'r bws, ond rw i'n suwr na fydd arno fa ddim isia iwso'i ddyrna. ar ddynon talentog yto ar ol y peth gas e gen i. Os dim raid i ddyn, am i fod a'n dalentog, odda i bob sothach fynd yn rhy ecar arno fa. Falla bydd hyn yn hint i rywun arall hed.

Odd hi'n lled hwyr nos Fawrth arna i'n cyrradd i Bontycymar, ond trw lwc mi gwrddes a Mr. Holderman Sandars, a dyna fachan caretig odd a. Mi ffeindws lodgin i fi gydag un o'r gwidwod bach glana welsoch chi ariod, a mi ges i le ffyrst clas yno hed. Rw i wedi promis i'r witw fach hyn taw i Bontycymar y bydda i'n dod pan fydda i'n

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd 5502) (22 Gorffennaf 1915)

setlo lawr i labro'r nos am dri mis y geua nesa fel arfar. Dydd Merchar mi es i whilo am y ’Darian,' a wedi cerad obothtu dicyn mi ddes i siop bapra dyn o'r o'r [sic] enw Mistar Fox - dyn o dalant ag amynadd mawr sy'n byw yn y Garw. “Gwd mornin, syr; feri ffein mornin," mynta Mr Fox, a rodd ynddo ddicon o sens i ddishgwl yn y ngwynad i a nid ar ’y nhrad i fel ma rhai dynon didalent yn neud. Wleuwch Gwmrag, Mistar Fox, mynta finna, ry'ch chi'n un o Gymrodorion y Garw, a ma fa'n weddus i chi'n anad neb i barchu'r hen iaith. Fi yw Tramp y Darian." “Wel, bendigetig, cant a mil o groeso i chi," mynta Mr. Fox; ishteddwch." Gyda mod i'n ishta dyma'r Bwtshwr i fewn, dyn dicyn yn feirniatol i olwg yw hwn ag yn dishgwl yn ofalus cyn bydd a'n rhoi'r drod nesa lawr a mi sefa yn hir ar un gos cy[n] rhoia fa'r drod arall mwn twll.

Y pwnc odd yn pwyso ar feddwl y Bwtshwr odd y Prins o Wêls Ffynd a'r Local Relûff Ffynd. Mi wetas i nag on i ddim yn napod Mr. Prins o Wels na Mr. Local Reluff. Ar ol iddo sbonio mi ddialles beth odd gytag e, ta rhyw ffynds odd y ddou hyn wedi starto. Wi'n cretu dim yn y Prins o Wels Ffynd mynta fa, ma hi'n depig i ffynd ecsploshwn. Ma nhw'n gwaeddi am arian a ma arian yn llifo miwn. Ond ’dyw'r arian ddim yn cal i hala i gyd, ma nhw ’n catw lot fawr o nhw pan fysa'n dda i lawar u cal nhw. A ma nhw'n gwed fod lot o ffynd y Prins yn mynd yn gyfloca i offishals. Local reluff i fi, a phawb i ofalu am rai sy mwn angan gartra.

Erbyn hyn odd lot wedi dod yno i byrnu'r "Darian," a dyma un on nhw'n

 

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd 5503) (22 Gorffennaf 1915)

galw Shoni arno fa yn clapo cefan y Bwtshwr ag yn gwed wrtho fa - "Da iawn, sens bob gair. Wi'n gwpod am fenyw fach odd isa help, a mi ath un o Bwyllgor y Prins o Wels ati, a mi dynnodd rolyn bapur gymint a chyfrath Moses o'i bocad a mi ddechreuws i holi hi, nes odd y fenyw fach wedi cal ofan ag yn dechra onfi'u bod nhw'n i chymryd hi fel German spei, a dyw hi ddim wedi bod yn dda iawn byth oddar hynny. On i'n gweld un arall o'r enw Dafydd yn partoi i geg i wed rhwpath. Wara teg, mynta fa, ma'n ddicon awdd i ti Shoni wilia'n dwp ar dy gyfar. Ond eiddo Cesar i Cesar o gwetws y proffwyd. Ma arian y Prins o Wels wedi ’u clasgu gen y wlad a sopyn o ddynon wedi gneud aparth i rhoi nhw, a dyw a ddim yn deg ’u rhoi nhw heb infestigesion i hanas y rhai sy'n ’u cal nhw, a fysa rhai sy'n ’u rhoi nhw'n cal ’u syrtjarjo. A rodd ffynd y Prins a'r waith yn helpu ag yn gwasgaru trugaredda cyn i Local Reluff ddihuno.

Betar bi widdowt tham, os ôs incwisisiwn i fod, mynta'r Bwtshwr. Dyma ryw fachan o goliar yn gwed fod lot yn yr hyn odd Dafydd wedi wed. Dodd ffynd y Prins o Wels, mynta fe, ddim yn gwitho fel dylsa hi. On ni'r gwithwrs yn talu wech chinog yr wsnoth at ffynd y Prins er mwyn helpu'r rhai odd mas o waith a rhai odd yn ffeulu cal glo dan ddwy bunt y dunnell, a ninna'n i dorri fa am ddouswllt y dunnell, ond on ni'n ffaelu cal arian mas pan fysa isia, a mi jacon ni ddi lan. Pwy sens odd talu miwn a chal dim mas. Ma rhwpath yn yr hyn wetws y Bwtshwr hed, mynta'r bachan o goliar yto. Ma yna lot o arian ffynds wedi cal ’u cloi lan. Mi weta i hyn, os clasgu arian at rwpath, nhw ddylsan gal ’u hala at y rhwpath hynny.

Odd yno un o'r enw Morgan heb wed dim, a dyma fynta nawr yn gwed dy'ch chi ddim yn gwpod bois beth ma pwyllgor y Prins o Wels ffynd yn neud. Beth am y milodd punne ma nhw wedi roi i'r rhai odd mas o waith ag at y Red Cross a'r Ambiwlans? Otich chi'n gwed nag yw rheiny ddim yn deilwng o'u cefnocath ni? Os dim un o chi'n gallu apad. Wi'n gwpod taw ar ol y cwymp y'n ni'n byw, a ’dyw'r Pastwr Rysal yna ddim wedi dwad a'r mil blynyddodd i ni fel odd a'n addo. Os ewn i i ffeindo beia ar bopath mi fyddwn i gyd cynddrwg a'n giddyl a gwath hefyd. Ie, mynta Mistar Fox, os ewn ni i aros nes byddwn ni wedi'n perffeithio cyn gneud dim, mi fydd y Germans yma'n gynt nag y'n ni'n feddwl. Beth ych chi'n wed Tramp? Rwy' ’run farn a chi, sir, myntwn inna, a mi hala i hanas y cwrdd i'r Darian. Ond mi weta i hyn wrthoch chi i gyd yn ych gwymeta chi. Rw i'n teimlo dros y fenyw fach hynny on nhw'n holi cyn rhoi help iddi! Cyn byswn i'n gwed y'n hanas er mwn help neb mi fytwn y'n het, tawn i byth o'r fan yma. (Hiar, hiar.)

TRAMP.

 

 

None

(delwedd L2145a) (29 Gorffennaf 1915)

 

Y Darian.

29 Gorffennaf 1915.

Llith y Tramp.

 

Mishtir Golycydd, —

Tro byr on i wedi feddwl neud yn y Garw, ond odd mynd i lodjo at witw fach lan yn newid y cwestiwn. Odd hi'n gwed y dylswn i aros i weld y carnifal odd i fod dydd Mercher diwetha. A fel ma rhai sy'n brofiatol yn gwbod ma cais gwitw fach fel hon yn mynd ymhell gyda dynon fel fi. Y peth odd yn pwyso mwya ar y meddwl i odd fod y'n letar bocs i'n depig o fod yn llawn yn y Ty Gwair, nr. Clytach. A on i'n onfi y bysa nhw wedi cywen y gwair a bysa raid i fi aros nes bysa'r gwarthag wedi 'i fyta fa cyn gallwn i apad y llythyra. Odd dim i neud ond hala at Dafydd gwr Motryb Nansan, Trebananos, a mi halws ynta'r llythyra i fi. Rodd y bocs yn llawn. Odd un llythyr diddorol iawn ynddo fa orwth Torial o'r Sefn Sistars; mi ddaw hwnnw a llythyr y bachan o Dreforus yn y nesa. Ond y peth gora o ddicon yn y bocs odd chec am ucan punt orwth y Sherman ejent sy yn Shir Forgannwg, a notyn fel hyn gyta hi: “Somewhere in South Wales. We wass send you dis here check hopin you wass use all der inffluense you haf to keep der colliers from goin to der works, and tell them plenty German money to keep der bloomin lot of dem like gentlemen. Thousands of checks wass being sent owt every day. Iron crosses to follow." Dyna'r lwc ora ddath i fi ys tro, a ma fa'n ffact fod pob meinars egant a phob hatalbwyswr a phob sgrifennydd a phob cadeirydd gwaith weti cal checs a milodd ar filodd o goliars wedi cal checs orwth y Sherman egant, a thanc yw ceindli, syr, weta i, am danyn nhw. Papra Llundan a Chardydd yna nath y drwg, ne mi fysa rhacor o lawer wedi dwad. Nhw dynnws y gath mas o'r cwtyn. Ma nhw mor felltigetig o glyfar. Ma nhw'n gwed fod jyrnalists y Deili Leiar a'r Deili Meil a'r Teimes a rheina yn gallu gweld trw lathad o wal a hono wedi i simento, a hynny heb streino dim ar u llyced, a ma nhw'n gwpod y dirgelion oll. Onibai'r tacla hyn fysa coliars Sowth Wels yn cal 'u catw gyta'r Shermans, a ma cal arian am ddim dicyn yn well na gwitho'n galad am danyn nhw. Ma pawb yn gneud arian o bopath nawr, a pham na alla'r gwithwrs neud arian o'r Shermans. Mi glywas i hed fod lot o checs y Shermans wedi u casho ym Merthyr pan odd Undab Sentars yno, a phob lwc iddyn nhw weta i. Rw i'n teimlo'n flin am fod papra Llundan yna'n gallu dod mor glefar.

 

 

None

(delwedd L2145b) (29 Gorffennaf 1915)

 

Wel mi es i weld Carnifal Mr. Local Riluff yn y Garw, a dyna bopol, on nhw yno wrth y milodd, a mhen ticyn dyma'r band yn canu a'r proseshwn yn mynd a'r Ambiwlans, y Nyrsis, y Scowts, y Ffeiar Briged, a'r Indiaid ar geffyla'n dilyn. Odd yr Indiaid wedi bod yn garetig iawn yn dod yno mor bell. Odd Mr Charles Chaplin yno hed, ma fe ymhob man. Mi welas un yn gwed rhwpath yn 'i glust, a dyma fa'n neido ata i a gofyn – “How go, Mr. Tramp? Pwt symthin in ddi bocs." Ai am onli a Tramp, mynta finna. “Wi ar in ddi sem hot, boy," mynta fynta, mynis I am afftar, tw." Mi rois i rwpath yn i focs a. Odd tyrn owt Mrs. Anderson and Co. yn ticlo'n ffansi i'n fudur. On i'n teimlo hed y byswn i'n leico talu am beint i Meils a Olifar y Plisman a'r Disartar, a wi'n suwr y bysan nhw yn i yfad a. On nhw'n rhoi ticyn o shein ar y carnifal, wara teg iddyn nhw. Odd yno lot o blant wedi gwishgo'n rial litle biwtis. Odd y Ceisar ddim yno yn y golwg, beth bynnag, ond odd  Sarjant Ifans wedi cal weiar am iddo fod ar y watsh. Mi glywas un Mr Maddocks yn gwed y bysa fa'n leico i weld a, a odd a'n suwr na etha fa ddim sha thre yn i gynefinol iechyd, a rodd golwg bendrafynol ar Mr. Maddocks. Mi drois i miwn i siop Mr. Fox, ond odd Shoni, Dafydd, Morgan na'r Bwtshwr ddim yno. Odd Mr. Fox yn gwed u bod nhwythe wedi joino'r Carnifal. Druan o Ffynd y Mr. Prins o Wels, odd Mr. Local Reluff wedi i faeddu fa'n deg heddy, a wara teg i Morgan a Dafydd, on nhw gyta'r winnin seid a'u holl egni.

 

Mi glywas un bachan ifanc call yn gwed taw'r ffordd ora i faeddu'r Shermans fysa hala Charli Chaplin mas atyn nhw, a bysa fa'n suwr o'u hennill nhw'n hôl sêl, ond dyw a'n ddim yn depig y grondan nhw arno. Un seit go ddoniol welas i yn y Carnifal odd gwr bynheddig yn stwffo'i ben mawr mas trw ffenast y llofft ag yn gwaeddi ar y plant mwn Ilais croch fel tarana - "Keep clear there! Keep clear there!" A dyma ryw fenyw fach yn gofyn, “Beth ma fa'n glepran, gwetweh? Ma fa'n rhuo fel tarw Short Horn lan fanna.”

 

Mi glywas un arall o wags y Garw'n gwed, pan welws a'r Ffeiar Briged yn mynd heibo, “Mi gnelsa'r bechgyn hyn hi'n dywydd glyb yn y lle poeth tysan nhw'n mynd yno."

 

Ma nhw'n gwed u bod nhw wedi gneud yn acos i ddeugan punt o'r Carnifal, ond ddim hannar dicon weta i, a styriad fod yna gymint o checs y Sherman ejant wedi dod i'r Garw. Ond rw i ar ran ymhunan a'r lle yn llongyfarch y Pwyllgor am u bod nhw wedi gwitho mor dda i gal ticyn i'r rhai sy'n dipendo ar y morwyr a'r milwyr.

 

Diolch i Dafydd, gwr Motryb Nansan am hala’r llythyra. TRAMP.

 

 

None

(delwedd L2148) (5 Awst 1915)

 

Y Darian.

5 Awst 1915.

Llith y Tramp.

 

Mishtir Golycydd, —

Jobin go galad odd mynd o'r Garw a gatal y witw fach bues i'n aros gyta hi, ond mi fydda i nol yna yto ar fyr rypudd. Tysa Alis a finna wedi prioti fel buon ni'n meddwl gneud mi fysa pethach yn wahanol iawn gyta fi. Wi'n gobeitho bydd y rhyfel yma ar ben heb fod yn hir.

 

Mi alwas i yng Nghwmbychan ar y'n ffordd nol i'r Ty Gwair, a mi glywas shaw o son am "Fardd y Stac." Ma fa wedi wneud can i'r "Hela Llwynog," fuws yno 's ticyn yn ol. Ma'r gan yn depig o neud Bardd y Stac yn anfarwol am wsnotha. Ma'r gan yn dechra fel hyn

 

"Boneddwr mawr o'r Bala

Un diwrnod aeth i hela,"

 

ond mi cewch hi o gyd yto. Ma'n depig nag yw "Cwmbychan” ddim yn hodl a "hela," a taw dyna pam ddath e a Bala miwn iddi, ond ’y marn i yw y bysa'n well iddo fe atal yr hodl i fynd er mwyn câl y gân yn triw to netshyr. Wi ddim yn gweld pam ma raid i'r Bala gâl robo Cwmbychan o'i enwocrwydd, a hynny ddim ond o achos ticyn o hodl. Gobeitho gneiff Bardd y Stac ystyriad y pethach hyn rhag ofan bydd haneswyr mwn oesa a ddaw yn gwed ta rhyw fachan o'r North nath i gân e. Mi geras i o Gwmbychan yn grôs i Gastall Nedd, a mi gwrddas a'r ciwriositi rhyfedda welas i ariod yno— y tram car. Dos dim gialan bysgota na cheffyla'n tynnu hwn, ond ma fa'n mynd fel galla i hunan. Mi glywas un yn gofyn oddar i ben a i fachan odd ar yr hewl ddwad lan. Na, medda hwnnw, "rw i mwn ticyn o hast heddy, a rhaid i fi fynd, gwd, bei. A mlan ath a, a ninna 'n mynd ar i ol a wrth y'n plesar yn nhramcar Castell Nedd.

 

Fel on i wedi addo, dyma fi'n cyhoeddi rhai o'r llythyra. Odd un orwth fachan o Dreforus fel hyn: -

 

"Dear Mr. Tramp, ddi Moristonians haf hyrd of iwar gret rinown, and iff iw can sber a ffiw owars tw fisit ddem, ddei wil bi hinternali obleitshd. And ai want tw tel iw of symthin ddat twc ples hiar iars ago -, a syrtan ministar then lifin hiar berid a wman as iff shi was a man, and ddi matar ôt to bi pwt in ddi Tarian and iw ar ddi man to dw it. Iff iw cym iw wil not ffeind ys ol yp ddi tri hiar, and ai wil thanc iw ceindli, Iwars and so on."

 

Diolch yn fawr i chitha, syr. Cofiwch fi at Risiart Huws a'r beirdd cenedlaethol erill, a mi fydda i gyta mwn dwarnod ne ddou ar ol i fi ddelo a'r coraspons yma.

 

Rodd yma lythyr arall orwth Toriel. A dyma'r ffugenw perta wi wedi [gweld?] yto a ma rhwpath mwn enw. Fel hyn odd llythyr Toriel:

 

"Diar and ffemus sir, — Ai no dder is agrêt dimand on iwar teim and talant, nefarddi-les ai ynhesitetinly ricwest iw to pai a fisit tw ddi Dilas Vali, inasmytsh as ai am shwar iw wil nefar rigret ddi teim iw wil sbend widd ys. I dw ecstra sbeshali entrut iw tw cym becos i haf pyblishd e niw bwc whitsh ôt tw bicyn [?bicym] feri ffemys profeided it gets ffer plei widd ddi critics, sym of whitsh haf olredi prwfd as blynt as e sledj. I want iw tw rifiw mei bwc, syr, nobodi can dw nothin leic iw. Mei ffrend George hw is widd mi in ddi Ty pwyso, and hw bei ddi wei is a man of gret weit, and gret habiliti as wel, ses ddat ddi bwc is unreifald in depth of thôt and ffelisiti of dicsiwn. Ddi bwc is in Hinglish, and dder is nythin leic it. I want iw tw cym hiar, so ddat ai me tel iw what to pwt in ddi rifiw. George, mei ffrend, sends his complamens tw iw. He and mi haf bin feri bisi hiar diwrin ddi streic, pwtin byrdlein efri wher tw catsh ddi Fwvalchen. lwars feri triwli, Toriel, Hinglish Bard, Ty Pwyso, Sefn Sistars."

On i wedi clywad camoliath uchal i lyfyr Toriel, a mi af fi yno idd i rifiwo fa ar ol i fi fod yn Nhreforus. Yn y cyfamsar a fydd y bardd garedicad a hala dau ddwsin o gopia i Ty Gwair, nr. Clydach. TRAMP.

 

 

 

None

(delwedd L2134a) (12 Awst 1915)

Y Darian

12 Awst 1915

 

Llith y Tramp.

 

Mishtir Golycydd, -

Wel ie, ys gwetws Eryr Parc y Cwm, mi es i Dreforus mewn apediad i lythyr y bachan o'r lle, ag os yn dda yn ych golwg chi, syr, mi weda dicyn o'r hanas. Rw i'n lico Treforus yn fudur iawn. LIe da digynny yw a ys gwetws Modryb Nansan, a'r dynon felsa nhw'n gwpod y ffordd fwya decha i etrych ar fywyd. Nid rhyw grancod bach hunanol na wyddoch chi ddim ar y ddaear beth i neud a nhw. Wrth gwrs dw i ddim wedi byw'n hir gyta nhw, a rodd Eryr Parc y Cwm yn arfedd gwed fod isia byw gyta dynon idd'u napod nhw, ond wi'n cretu fod Tramp yn eithriad i'r rheol. Dos dim isia i Dramp fod yn hir cyn gwpod a fydd dynon yn werth i aros gyta nhw ne beido. A ma hyn o fontes gan ddyn rhydd fel fi, os na fydd greso iddo aros fe all fynd, a gora pwy gynta. Ma'r hewl o'i flan a. Nawr, ma'n ffyrst himpresiwns i o wyr Treforus yn ffafriol iawn iddyn nhw. Wi'n cretu o hyd fod shaw o ddynon da yn y byd yma a llawar o rheiny'n byw yn Nhreforus. Pan des i yma odd arna i dicyn o sychad, a pan ddes i at ryw dafarn mi feddyles bysa diferyn o rwpath yn gneud lles i fi, ond pan welas i'r enw -Lam an Flag - a dou ddyn yn mynd miwn ar y pryd fel lams a dou arall yn dwad mas fel fflags, mi dorrodd hynny lot ar y'n sychad i a mi newites 'y meddwl, a odd yn dda iawn i fi mod i wedi newid 'y meddwl y tro hyn ta beth, wath fe ddath rhyw ddyn bach yntau ato i, a mi wetws rwpath fel hyn -

“Esguswch fi, syr, rydw i wedi craffu'n fanwl iawn arnoch chi o wadn eich troed i goryn eich pen, ac ar ol rhoi popath at 'u gilydd a symio i fyny alla i yn 'y myw lai na dod i'r clasgad y'ch bod chi, syr, yn rhywun, a'r rhywun hwnnw yn neb llai nag anfarwol Dramp y 'Darian.'

Odd y dyn bach mor depig i ryw ddyn arall a galla fa fod, ond allwn i ddim llai na theimlo, dan yr amgylchiata i fod ynta'n rhywun. Odd rhwpath ynddo fa odd yn gneud i chi etrych arno fa ddwywaith. Wrth etrych arno mi gofis fod rhyw ddynon bach o'r enw Heberiad wedi bod yn byw yn y wlad ys blynyddodd mawr yn ol - dynon odd yn gallu bryddwyto yn well na neb arall, a on i'n teimlo'n suwr mod i wedi cwrdd a un o hiliocath y dynon bach hyn, ag yn gallu gweld y gorffennol pell fel breuddwd tu ol idd i lycad a.

 

"Ie," mynta fi wrtho fa, "fi yw'r Tramp, ond pwy ga i wed y'ch chi, syr?"

 

"Ma'n bleser mawr gen i," mynta fynta, "gyflwyno mhunan i chi fel Dawkins o Dreforus, gweinitog Carmal.”

 

Mi'n halws i i dicyn o stwmp pan wetws a i fod a'n weinitog, wath fel gwyddoch chi fydda i byth yn gneud dim byd a nhw; dw i ddim yn y lein hynny.

"Gweinitog," mynta fi, "fyswn i byth yn meddwl hynny, ry'ch chi mor depig i ddyn!"

"Tepig i ddyn," mynta fynta, "tepig i beth y baset ti, O Dramp, yn disgwyl i mi fod?"

 

"Wel," mynta finna, "fyswn i ddim yn dishgwl ych gweld chi mor depig i ryw ddyn arall, ond 'dos dim isia i chi son am y peth mwy, mi alla i etrych heibo i'r ffaith y'ch bod chi'n brygethwr gan y'ch bod chi'n ddyn sy’n gallu napod talant. Be sy yn y lle yma heddy? Beth yw'r holl fflags yma? Os yma rywun yn dwad idd i oetran?" mynta fi.

 

"Dyna on i'n mynd i wed wrthoch chi," mynta Mistar Dawkins, "ma yma brosesiwn mawr o Boi Scowts. Ma raid i chi'n esguso i nawr; ma Risiard Huws a Threforfab a finna wedi trefnu lodjin i chi lan ar y graig yna, Dyma'r adres i chi, mi alwn i gyta chi heno os na wela i chi cyn hynny," a dyma Mr. Dawkins off fel bwlat.

 

 

None

(delwedd L2134b) (12 Awst 1915)

Dyma finna'n sytan yng nghenol y crowd a rheiny'n rhetag a finna'n climhercan ar u hol nhw. Mhen ticyn dyma swn y band yn whara, a milodd ar filodd o ddynon ar yr hewlydd; fel digwyddws hi mi etho i'r man reit i weld a chlwad y cyfan. On i dicyn bach yr ochor isha i Gapel Seion pan ddath y prosesiwn mawr heibo, a mi welwn y Private Thomas John Joseph yn cal i gario mwn catar ar ysgwydda'r dynon, a mynd a fa i'r ty'r ochor arall i'r hewl a'r band yn canu. Pwy welswn i, wetyn ond y'n hen ffrind, Mr. Dawkins, yn sefyll ar ben y reilen. Un o aelota'i gapal a odd y Preifat Joseph. Pan welws y bachgan i weinitog mi âth ymlan ato a mi shiglws law ag a, a dyma'r ddou’n llefin fel  plant. Mi ddialles i ar unwaith fod Mr. Dawkins yn rhywun yn Nhreforus, a on i'n fwy argoeddetig nag ariod i fod a'n ddyn er i fod a'n brygethwr.

 

Odd rhyw ddou ddyn yn wleua am lot o bethach ar 'y mhwys i, a mi clywas un o honyn nhw'n gwed ta Jac Meredydd odd Cadirydd Comiti’r Boi Scowts a'i fod a'n Gadirydd campus. Mi lanwiff John gatar go dda, mynta'r llall, ma yna dicyn o drwch ynddo fa. Nid i llanw hi felny on i'n feddwl, mynta'r cynta, ond ma fa'n ddyn o feddwl llytan a neiff a ddim arfadd i ddylanwad i fynd a'r plant i unlle mwy na'u gilydd, a'u gneud nhw'n gynffonna i snobs fel na nhw mwn rhai llefydd. Ma fa'n ddyn a thicyn o bwysa ynddo fa. Wei, bachan, mynta'r llall, wyt ti'n dwad i'r un fan a finna yto; i drwch a sy'n gneud i bwysa fa 'nte. Taw'r hen lob, mynta'r cynta, wyt ti'n wleua am y materol a finna am y moesol a'r ysbrydol sy ynddo fe. O wel, mynta'r llall, wyt ti'n mynd yn rhy bell i fi nawr; wi'n gwpod dim am bethach felna. Odd gen i ddim amser i rondo arnyn nhw yn trafod ymhellach gwestiwn mater ac ysbryd Mr. John Meredydd, ond odd yn dda gen i glywed fod dyn sy a'i enw mor amal yn y "Darian” yn ddyn mor rispectabl o ran ysbryd a chorff hefyd.

 

Odd raid i fi nawr fynd i riporto 'mhunan yn y'n lodjin ar y Graig. Odd wraig y ty yn serchus iawn i fi, a dodd hynny 'ddim yn rhyfadd, wath odd dynon o nod wedi bod yno'n holi am dana i, a Risiard Huws wedi gatal yno fesur petar lein fel hyn:


"Gwna dy hunan, wr golygus,
Yn gartrefol yn Nhreforus,
A llawen fydd gan bawb rwy'n siwr
Wneud gwr o fri'n gysurus."

Un o'r pethach cynta 'nath y wraig fach yma yto odd camol Mr. Dawkins, a fod petwar ar ddeg ar hucan wedi listo o'i eclws a'i fod a'n hala llythyr ne rwpath iddyn nhw bob wthnos. Wel allwn i ddim llai na bod yn falch mod i wedi dod at ddynon mor rispectabl a sy yn Nhreforus, a ma dynon mor dda yn haeddu gwed ticyn o'u hanas nhw.

 

Wrth derfynu, rhaid i fi wed mod i wedi cal llythyr melltigedig orwth Fardd y Stac, o Gwmbychan, cyn i fi ddod o'r Ty Gwair, nr Clytach. Ma fa yn 'y ngalw i'n bob enw, yn blwmin tincar, yn bleddrin hold hidiot, ag enwa erill nag y'n nhw ddimy n ffit i'r "Darian," a hynny i gyd achos mod i wedi coeddi dwy lein o'i gan a yn y "Darian." "For preifat sirciwlasion," mynta fa, odd a wedi gneud y gan i'r boneddwr mawr o'r Bala. Ond mi all e fentro, mi ro i iddo breifat sirculasiwn pan ddwa i i Gwmbychan, yr himpin di-faners shwd ag yw e.

TRAMP.

 

 

None

(delwedd L2149a) (19 Awst 1915)

Y Darian
19 Awst 1915

Llith y Tramp.

Mishtir Golycydd, -
Mi ddath llyfyr Toriel i fi'n saff, wedi ei gyfeirio i'r Ty Gwair, nr. Clytach. Ma gwr Motryb Nansan yn gofalu am y'n letar bocs i yno. On i yn y ty ar y Graig yn Nhreforus yn mynd ati i rifiwo'r llyfyr pan ddath y Mri. Dawkins, J.J., Risiard Huws, Treforfab, a Dafydd Jams miwn i ngweld i.

"Be sy gen y Tramp heno," mynta John'Meredydd.

"Llyfyr Toriel," mynta finna, "rown i'n mynd ati iddi i rifiwo fa yn y 'Darian,' a nawr gan y'ch bod chi wedi dwad falla gnewch chi gymryd rhan o'r cyfrifoldab oddar y'n ysgwydda i."

“Gadewch i ni gal golwg ar y llyfyr," mynta Dawkins.

"Dyma fe."

"Un bach yw a," mynta Dafydd Jams.

"Dyw e ddim gwath o hynny,” mynta J.J.

"Y cwestiwn yw," mynta Treforfab, "a oti Toriel yn fardd a ddeil iddi i rifiwo."

"Hynny yw," mynta Meredydd, "a ddaliff e dicyn o wado arno os bydd isia.

"Y ffordd i wpod a oti e'n fardd," mynta finna, "yw darllen i waith a"; a rodd pawb o'r un farn a fi. Mi ddarllenes inna ddau fesur petar lein o'i gan a i 1915:

"Dan yr helygen, Arglwydd mawr,
Yr wyf yn brudd fy ngwedd,
Yn disgwyl gweld ym mhorth y wawr
Genhadwr Gwlad yr Hedd.

Adenydd trallod mawr sy' ar led,
A'u cysgod yn y wlad;
Trwm aeth wybrennau gwledydd cred
Yn swn taranau'r gad."

"Ma fa'n farddonol, mynta Dawkins.

"Dos dim dowt am hynny," mynta Treforfab.

"A ma fa'n amserol," mynta Risiard Huws.

“Shwd ma fa at y diwadd yw'r pwnc," mynta Dafydd Jams, "ma'r beirdd ym[a] i gyd yn dechra'n dda, ond ma nhw ishta chwt cath at y diwadd.

"Sysnag sy yn y diwadd," mynta finna. "Testun y pishin yw 'The Hounds of Rebellion at Large,' a ma fa'n cwpla fel hyn-

 

 

None

(delwedd L2149b) (19 Awst 1915)

“We'll find, when war will leave the Globe the rose more sweet-of breath,
And beauty yet in nicer robe upon the soil of death!
Philosophy must walk the night, whilst nature frames her loom;
I'll watch the thick dark of the fight, till morning strikes the gloom."

Pan gwples i ddarllan hwn mi dowlws Dafydd James i het lan i ben y ty, a mi waeddws-

"Ma fa'n hathronydd hefyd. Rw i'n leico'r frawddag yna 'Philosophy must walk the night'; welas i ddim o well honna yn yr Herbart Jyrnal ariod. Mi fydda i bryddwyto am honna pan fydda i ar ol defad rhwng y brynia yco."

"Wel wn i ddim," mynta Meredydd, "otich chi ddim yn meddwl nawr bysa'n well i Philosophy fynd i gysgu tan ddaetha bora na cherad y nos."

"Na," mynta Dafydd Jams. "Ma'r bardd yn iawn. Philosophy must walk' Yr unig gwsg sy iddi hi yw'r hyn alws Tom Carleil yn 'Sleep of the Spinnin Top,' pwy fwya llonydd bydd hwnnw mwya ma fa'n fynd. Un peth o ddou am dani. Philosophy must walk or die. Ma Toriel yn Hathronydd."

"Wel rw i'n cretu gallwn ni nawr bendrafynu a oti llyfyr Toriel yn werth rifiw," mynta fi, "hynny yw, a oti fa'n fardd?"

"Rw i'n cynnig," mynta Mr. Dawkins, "y'n bod ni'n i gydnapod a'n fardd o'r radd flaena."

"Gaf fi chwanecu at y pendrafyniad i fod a'n hathronydd hed," mynta Dafydd Jams.

"Cewch os oti'r frawdoliath farddol yma'n cydweld," mynta finna.

"Otin," mynta pawb.

"Wi'n cretu hed," mynta J.J., "na fysa fa ddim allan o le i ni gymeradwyo fa i sylw Gorsadd Beirdd Ynys Prydan am hurdd anrhydeddus yn y Steddfod nesa."

"Wi'n ama," mynta finna, "a dderbynith Toriel hurdd felny wath ma fa'n fudur yn erbyn rhyw seremonia - bardd natur yw a a ma fa'n canu fel ma'r atar yn canu am na all a ddim peido canu. Rw i'n cretu fod yn well 'da fa fod fel finna'n fardd cenedlaethol nag yn fardd safonol, steddfotol, a gorseddol. Ma Toriel yr un fath a W.J. yn clywad smel sepon a the gyta phopath steddfotol. Ond nawr am y rifiw, beth gewn ni wed am y llyfyr? Rych chi'n gweld fod yna lawar o hono fa'n Sysnag. Beth ych chi'n weld ynddo fa, J.J.?"

"Wel dyma gân fan hyn sy'n ticlo'n ffansi i'n fudur, yn enwetig ar ol i chi son am smel sepon," mynta J. J., "a

 

 

None

(delwedd L2149c) (19 Awst 1915)

rw i bron yn suwr ta Gorsadd y Beirdd sy'n i châl hi. Y testun yw 'The Rose Fairy Song or the Awakening.' Sylwch ar y cyfeiriad at y 'cowntar,' allsach feddwl taw W.J. i hunan sy'n canu yma:

'A land of rapine and slaughter,
A land where the devil's at large;
A land of 'attack and counter'
And where every brute will charge.

I dreamt in the twentieth century,
I woke to the middle age,
To days of espionage and treachery,
And Odin is on the stage.'

Pun o'r beirdd yw Odin, ys gwn i?" mynta J.J.

"O Cadfan allwch fentro," mynta Meredydd. >

“Ond beth yw meddwl y bardd, at beth ma fa'n dreifo," mynta finna.

"O bardd natur yw a,” mynta J.J.; "ma fa'n bryddwyto mwn paratws a ma fa'n dihuno mwn rhyw gyflafan beirdd a rheiny wedi gwisgo ag yn ymladd felsa nhw'n fforinars o'r canoloesoedd. Grondwch arno fa yto—

‘I dreamt and a loving fairy
Would meet me there at the gate,—
I woke to the yelp of a fury,
To find me a morass of hate."

"Yn dilyn hwn," mynta J.J., "ma Salm am Obaith, a dyma betar lein-

'Nefol Obaith! arwain blentyn
Sydd yn teimlo'n wan a phrudd;
Arwain fi drwy niwl y dyffryn,
Rho dy lamp pan ballo'm dydd."

"Da iawn," mynta Dafydd Jams, "ma fa'n hathronydd hop timistic hed.

"Ma fa'n naturiol iawn, ta beth," mynta Dawkins, "gweld ticyn o ola ma fa ar bethach ar ol lladd y beirdd. Be sy nesa yna? O ma yma emyna eneinietig a thon, ag yna ma fa'n troi'n Sais unwaith yto a wedi gneud can fawr ar 'As you find it.'

Odd y gan hyn mor gyfareddol nes bu raid i J.J. i ddarllan hi ddwywaith. Ma fa wedi canu ifoliwsion o ddechre hyd ddiwedd y gan ag o ddechra hyd ddiwadd ifoliwsion. "Ma hon," mynta Dawkins, "yn awgrymu 'Tu Hwnt i'r Llen' Gwili?"

Odd Dafydd James yn barnu i fod a'n rhoi lle dicyn rhy amlwg i Mr. Sam Davies, Seven Sisters, mwn ifoliwsion. Odd J.J.'n gwed bysa fa'n rhoi swllt am y gan hon i hunan, a chofiwch ta tair cinog yw'r llyfyr i gyd. Amsar a balla i fi gofnoti pethach wetwd am y Dead Soldier, Mwg Du Armagedon, A Note from my Diary, Melyn Wysg, Alfred Russell Wallace, Axioms, Y Seven yn y Rhyfel Fawr, etc.

 

 

None

(delwedd L2149d) (19 Awst 1915)

 

"Dy'ch chi weti son dim am ddifficion y llyfyr," mynta finna, "a ma isia rheiny mwn rifiw."

 

"Rw i'n cretu dylsa ni wed hyn," mynta Treforfab, "gan fod Lon Tennis a Brownin wedi canu'n Sysnag y dylsa Toriel gyfyngu i'r Gwmrag."

 

"Nid diffig yw hynny ond matar o hopiniwn, mynta Dafydd Jams.

 

"Beth am i horgraff a," mynta Mr. Dawkins, "rw i wedi bod yn pwslo mhen i gal mâs beth yw enw'r llyfr."

 

"Wel, ie," mynta Risiard Huws, "enw go ryfadd ynte yw 'All rights reserved.”

 

Mi sboniws J.J. taw nid yr enw odd hwnnw, ond rhybudd yr awdur nag os gan neb fusnas i iwso'i waith heb ganiatad. Odd a wedi clywad falla am J. J. arall yn mynd a phetar lein y Tramp yn Steddfod Clytach.

 

“Tanau Clwyfedig," medda Mr. Dawkins, "yw enw'r llyfyr, a'r peth sy'n 'y mhwslo i yw shwd ma clwyfo tana.”

 

"Tanna telyn ma fa'n feddwl," mynta Treforfab.

 

"Pwy byth all wed beth ma fa'n feddwl," mynta Dawkins. 'Tanau Clwyfedig’ sy yma, a on i'n arfadd a meddwl taw torri tanna on nhw a diffodd tana."

 

"Hollti blew yw peth felna," mynta Dafydd Jams, "a os ewn ni i ddilyn yr Hathro Morris Jones, hollti blew byddwn ni'n oes oesoedd. Beth yw horgraff. Os y'n ni'n gwpod beth ma dyn yn wed pwy isie mynd idd i grafu a am i horgraff sy, a os na fyddwn ni'n gwpod, byddwn dicyn yn ostyngetig.”

 

"Ie," mynta J.J., "ma hynna'n iawn i rai sy'n gwpod dim am horgraff, ond beth am hwn nawr - Melyn Wysg, a os rhywun all wed beth ma'r bardd yn feddwl?"

 

"Melin falu ar lan yr Wysg," mynta Dafydd Jams.

 

"Yellow (lliw) yw melyn," mynta J.J. "Mill yw melin falu."

 

"Ie ond ma pawb yn gwpod beth ma fa'n feddwl," mynta Dafydd Jams, "a ma hynny'n ddicon i fi. Dyma fardd sy yn y Ty pwyso yn y Sefn, ag heidias yn dod idd i ben ar hannar pwyso dram o lo, a fynta'n rhetag i sgrifennu'r heidia a shalc wrth gefen y drws, a gatal rhwng George yr hatalbwyswr a'r pwysa. Ma ty pwyso'r Sefn yn ddicon o ryfeddod i chi. Ma fa'n farddoniath o'r top i'r gwaelod. Un diwrnod odd a wedi sgrifennu pishin ag yn ffaelu i ffeindo fe pan odd a'n mynd sha thre, a ble y'ch chi'n meddwl odd a wedi i sgrifennu a? Wel ar gefan George. Wi'n cynnig," mynta Dafydd Jams, "y'n bod ni'n hawdurdoti'r Tramp i gymeradwyo llyfyr Toriel i'r holl fyd, ag yn gofyn i bawb sydd a phris peint i spario, anfon am dano yn ol y cyfarwyddwyd at - The Author, Seven Sisters, Neath, Glam.

TRAMP

 

 

 

None

(delwedd L2164a) (26 Awst 1915)

Y Darian

26 Awst 1915

Llith y Tramp.

Mishtir Golycydd, -

On i ddim wedi cwpla hala arian y tshec ges i gan y German Spei am dynnu'r coliars mas a'r streic, a rodd Beirdd Treforus yn gwed y dylsa dyn talentog fel fi fynd i'r Steddfod Genedlaethol am unwaith yn y'n ôs er mwyn i fi gal gweld ticyn o'r byd. Mi foddlones i idd 'u cais nhw, a bant a fi. 'Dw i ddim yn mynd i wed hanas 'y nhaith i chi, wath 'dyw'r bachan yna o Gwmllynfell* ddim wedi cwpla yto. Odd J. J. wedi gwed wrtho i am gofio introdiwso 'mhunan i Dyfed.

[Mae'r "Tramp" yn sôn amb golofn wythnosol arall yn y Darian sef “O Lannau Llynfell i Lan Menai”]

"Pwy yw hwnnw?" mynta finna.

Mi sboniws J. J. pwy odd Dyfed a beth odd a; a mi gofis inna wedi'n mod i wedi gweld i enw fa yn rhwla.

Pan gyrhaeddas i Fangor chretach chi ddim shwd siom i fi odd clywad nag odd Dyfed ddim yno. Ond mi nath holi am Dyfed dicyn o les i fi. Cofiwch chi ma rhwpath mwn gwpod enwa dynon mawr, os byddwch chi'n gallu u prynownso nhw'n iawn. Mi glywes am stiwdant unwaith odd yn gatal yr argraff i fod a'n German Scoler am i fod wedi dysgu gwed enwa Teishendorth a Sclarermachar yn i brecath. I ryw ddyn mawr dros ddwy lath o hyd y gofynnas i am Dyfad, a mi geso chat fach deidi iawn gyta fa, a mi wetws i fod a'n gobeitho y bysan ni'n cwrdd a'n giddyl yto. Pan o'n i'n troi orwth y dyn mawr mi ddath rhyw fachan o'r North ymlan felsa isia cwmni arno fa.

"Oeddwn i'n ych clowad chi sgwrsio hefo Pedr Hir am Dyfad,” mynta fa, "a ydach chi'n nabod Dyfad?"

“Otw," mynta fi.

On i'n gwed ticyn bach gomrod fan byn er mwyn catw 'mhwysigrwydd; a on i'n diall erbyn hyn taw a Phedr Hir on i wedi bod yn wleua, a dyma un enw mawr arall i neud ticyn o fusnas o hono.

"Be 'di y rheswm na tydi Dyfad yn dod i'r Steddfod? Ma fo ar fai mawr, choelia i byth," mynta'r bachan o'r North.

"Ma fa'n dost," mynta finna.

"Taid annwl, tydach chi'n sgwrsio'n chwithig gynddeiriog yn y Sowth acw," mynta fynta.

Fues i fawr o dro'n dangos iddo fa fod "shwd y'ch chi heddy” 'r Sowth llawn cystal a "stachi heiddw'r” North, a "wleua” 'r South dicyn o flan y "sgwrsio” cymysgryw sy yn y North. Mi geuas i i ben a, ond mi ffeules i argyhoeddi fa nag odd popol y Gocladd ddengwaith ar hucan yn gallach a diwiolach na phopol y De. Ond gan fod y bachan o'r Gocladd yn griatur mor interestin mi gas stico gyta fi am ddau ddwarnod a hannar.

Un o'r pethach mawr dynnws y'n sylw i yn y Steddfod odd fod pawb yn "sgwrsio” am absenoldeb Dyfad a phresanoldeb dyn mawr arall o'r enw Cadfan ar y "Maen Llog." On nhw'n gwed fod Cadfan wedi paso penderfyniad yn unfrydol ys llawar dydd na fysa mynd i'r nefodd ddim yn beth i'w chwennych os na chesa fa fynd yno "oddiar y Maen hwn a Choron Harchdderwydd ar i glopa fa, a'i fod a'n falch iawn nag odd Dyfad ddim yno. Mi ges i lawar o ddifyrrwch wrth glywad y beirdd yn "sgwrsio." Ma nhw'n well "chaps" nag on i wedi meddwl o lawar.

 

 

 

None

(delwedd L2164b) (26 Awst 1915)

Peth arall rows dicyn o ddifyrrwch i fi odd clywad rhyw Saeson yn holi pwy odd y fforina oedd ar y llwyfan, a mi wetas inna taw dynon o'r Dwyran pell on nhw wedi dod am dro. On i'n gweld dydd Iau ryw fachan yn i ddillad i hunan gyta'r beirdd, a on i a'r bachan o'r North yn "misio dallt” pwy allsa "fo" fod. On i'n meddwl yn suwr wrth i olwg a y bysan ni'n câl rhyw byrfformans ganddo fa, a ni ethon i dicyn o stwmp y'n dau pan gwnnws a i ddarllan beirniatath. Pwy odd a ond yr Hathro Morris Jones. Mi enjoias i'r cadiro a'r coroni, a wi'n leico'r corno sy wedi bod ar ol hynny. Wi'n gweld fod Dafydd y Crydd yn hysio Morgan y tilwr, a Eryr Pen Pych ar y beirdd, a Brynfab hefyd yn tynnu u crysa nhw mas.

Mi ges hefyd y fraint o glywad Lloyd George- Ma fa dicyn yn od hed fod llwyddiant Steddfod Genedlaethol yn dipendo ar Ministar of Miwnishwns, a on i just yn meddwl y bysa llawn cyslad iddyn nhw dreio câl sail arall idd i llwyddiant hi, ne mi fydd Lloyd George ishta'r dyn hynny welas i mwn llun yn dala'r byd ar i ysgwydda. On i'n leico'r tric nath Cadfan a'r beirdd pan odd Lloyd George yn mynd i "sgwrsio." "Rwan hogia bach," mynta fa, "gofalwch am fesura byrion, cofiwch fod ar y dorf fawr yma eisio clywad rhywun arall heddyw," a weti i lot o honyn nhw atrodd mesur petar lein ne ddau, mi ddath e'i hunan a rhibin o fesur hir mawr ar 'u hoi nhw. Odd i bishin a bron cyd ag arath Lloyd George.

On i'n meddwl taw peth priotol iawn odd paso'r pendrafyniad gynhicws Llew Tec It, yn gwed fod y Cymry'n loial i Frenin Lloegar, wath yn ol y peth wetws y bachan o'r North wrtho i ma Lloyd George wedi bod yn dicyn o rebal unwaith, a fe fydd y brenin yn esmwythach i feddwl ar ol pendrafyniad Steddfod Bangor, a fydd dim isio iddo fa onfi eiff Lloyd George a'i jobyn a. Ma Lloyd George wedi newid shaw er pan smashwd i het silc a yn Bangor. On i ddim yn meddwl llawar o Eos y Gocladd fel canwr. Rw i weti canu felna mhunan ar ben ffair cyn hyn heb ddim telyn yn acos i fi. Falla byswn i'n i leico fa'n well onbysa i'r bachan o'r North wed i fod a'n canu'n well na Eos Dâr. Dyw Eos y Gocladd ddim mor dalentog a ma'i enw fa'n awgrymu.

Mi byrnas i ddrama Pedr Hir ar Owen Glyndwr i ddarllan yn y tren wrth ddod nol, a diawcs i on i ddim yn synnu clywed ar ol hynny fod yr awdurdota a'n llyged ar Pedr ag yn bwcwth i gymryd a lan fel distyrbar of ddi pus am i fod a'n coti i'r gwynt hanas hen drics y Saeson. On i' n clywad fod y Cymry mwn un lle, pan welson nhw'r ddrama hyn yn cal u hacto, yn dishgwl am Sais yn rhwla er mwyn cal rhoi eitha got iddo.

TRAMP.

 

 

 


...

 

.....

 

 

 

None

(delwedd J6520a) (2 Medi 1915)

Y Darian. 2 Medi 1915.

 

Llith y Tramp.

 

Mishtir Golycydd, — Teimlo dicyn bach yn unig w i ar ol i Mr. Dawkins fynd i weitho wrth y gwair i'r Fro. Gobitho na neiff e ddim niwed iddo'i hunan a daw a nol i Dreforus yn i gynefinol iechyd. Ma fa'n depig o ddod, o ran hynny, wath ma fa'n bwlffyn go gryf. Gan fod Motryb Nansen, Trebannos, wedi mynd i ddwr y mor, a Dafydd y gwr yn gorffod gneud y gwaith i gyd, mi es lan un noswath i'r Ty Gwair, nr. Clydach, i gâl y'n llythyra o'r letar bocs er mwyn arbad ticyn ar Dafydd am dro. Yno ma'n adres i o hyd, a Dafydd yw mhostman i. Pan ôn i yng ngwaelod Clytach mi welsom Dafydd yn dod ag yn plygu dan i faich ag yn whysu a thuchan, a bron a chwmpo.

"Wel, Dafydd bach," mynta fi, "be sy'n bod heddy? Be sy gyta chi yn y sach yna?"

"Cyfansoddiata Steddfod Llanlluwch sy wedi dod i chi," mynta Dafydd. "Ma yma farddoniath, ysgrifa, a thraethota'n ddirif. Llai na'u hannar nhw ele miwn i'r letar bocs, odd y postman wedi rhoi'r lleill ar ben y gwair."

“Wel, Dafydd annwl," mynta finna, "beth 'na i? Ma'r Steddfod mwn pythewnos, a mi fydda i fis yn darllen y rhain i gyd."

"Fydd dim isia i chi'n darllan nhw," mynta Dafydd.

"Shwd gna i 'nte?"

"Smelwch nhw," mynta Dafydd.

On i ddim yn moyn gneud mwlsyn o Dafydd a gatal iddo gario steddfod gyfan i Dreforus, a mi wetas wrtho fa am ddod nol i dy Mishtir y Cnel i gâl gweld a fysa'r gwr bynheddig hynny mewn hwyl i ddod a'r cyfansoddiata lawr yn un o'r bata. On i ddim wedi i weld a er pan fu a'n bwcwth cyfrath arno i, a wyddwn i ddim yn iawn shwd shap fysa ar i wymad a pan fysa ni'n cwrdd. Ond odd y mishtir mor serchus a'i fystres bob tamad.

"Nawr," mynta fi, "ma lond y sach yma o gyfansoddiata steddfod, a'r cwestiwn yw shwd ma'u câl nhw lawr i Dreforus, dw i ddim am dorri asgwrn cefan Dafydd yma, a ma'u beirniatu nhw'n ddicon i finna."

“O mi hala i nhw lawr i chi yn un o fata'r cnel," mynte'r mishtir.

Y Darian (The Shield.)  2 September 1915.

The Tramp's Article.

Mr. Editor. – It’s feeling a little bit lonely I am after Mr. Dawkins went to work on the hay in Bro Morgannwg / the Vale of Glamorgan. Hopefully he will not harm himself and will come back to Treforus / Morriston in his usual health. He’s likely to come, for that matter, since he’s a fairly strong stout fellow. Since Aunt Nansen, Trebannos, had gone to the seaside (“to (the) water (of) the sea”) and Dafydd her husband had to do all the work, I went up one night to Ty Gwair (the Hay House / Grass House) near Clydach, to get the letters from the letter box in order to save Dafydd the trouble for a while. My address is still there, and Dafydd is my postman. When I was in lower Clydach we saw Dafydd coming and stooping under the burden sweating and grumbling and on the point of falling down.

 

 

"Well, Dafydd my friend," I asked, "what's the problem today? What have you got in that sack?"

 

"Entries (compositions) for the Llanlluwch Eisteddfod that have come for you," said Dafydd. "There’s an endless amount of poetry, essays and treatises. Less than half of them would go into the letter box, the postman had left the others on top of the grass."

 

"Well, my dear Dafydd," I asked, "what will I do? The Eisteddfod is two weeks away, and it’ll take me a month to resd all these."

 

"There will be no need for you to read them," Dafydd said.

 

"How will I do it then? "

 

"Smell them," Dafydd said.

 

But I didn’t want to treat Dafydd like a packhorse (“didn't want to make a mule of Dafydd”) and let him carry all the Eisteddfod to Treforus, and I asked him to come back to the Canal Master’s house to see if that noble man would be inthe mood to take the entires down in one of the barges. I hadn't seen him since he threatened to take me to court (“threatened law on me”), and I didn't really know how he’d look at me (“what shape would be on his face”) when we met. But the master was just as (“every bit“) kind (“affectionate”) as his wife.

 

"Now," I said, "there’s sackful of eisteddfod entries, and the question is how to get them (“how is getting them”) down to Treforus, I don't want to break Dafydd here's backbone here, and their adjudications are enough for me."

 

"Oh, I will send them down to you in one of the canal barges," said the master.

 

 

 

 

None

(delwedd J6520b) (2 Medi 1915)

"Nawr," mynta finna, "peth od iawn os na fydd yna sachad arall yn y Ty Gwair fory. Erbyn fory on nhw i fod miwn. A falla bydd yna o hyn i ben wsnoth hanner sachad o betha fydd yn rhy ddiweddar yn dod i lawr."

"Nefar meind ddi damedj," mynta Mishtir y Cnel, "mi  ofalith Dafydd a finna 'u cal nhw i'r bad fel byddan nhw'n dod i lawr ond i chi ofalu am rywun idd' u carto nhw o'r cnel i'r Graig yn Nhreforus."

"O fydd hynny'n olreit," mynta finna, "ma wraig y ty lle rw i'n lodjo ar y Graig yn talu dicon am fwyd i Mathias y Grosar, a mi fydd raid i hwnnw hala 'i gart i ddod a nhw i'r ty."

"Campus," mynta Mishtir y Cnel.

Felly, bydded hysbys i gystadleuwrs Steddfod Llanlluwch fod u cyfansoddiata nhw ar y dwr erbyn hyn, a byddan nhw'n ddiocal yn llaw'r beirniad os na ddigwyddiff rhyw ddamwain yn rhwla na fydd neb yn gyfrifol am dani.

"Dyna hynna wedi i setlo," mynta'r Mishtir, "ma raid i fi nawr gâl clywad stori claddu'r cyfall Lasarws yn Nhreforus.”

Mi wetas i'r stori fel ma Risiard Huws a beirdd Treforus yn i gwed hi, a rodd Mishtir y Cnel a'i fystres a Dafydd gwr Nansan yn wherthin nes on nhw bron hollti. Ma'r stori fel hyn. Rodd yna weinitog yn Nhreforus ys llawer dydd-- TRAMP.

[Nodiad: Dyna ddigon y tro hwn. Cyhoeddir eich stori y tro nesaf, felly gorffwyswch am wythnos neu ewch ati i feirniadu a cheisiwch feithrin y dalent i ysgrifennu'n fyr.—Gol.]

 

“Now," I said, "it will be very strange if there isn't another sackful in the Grass House tomorrow. By tomorrow they were supposed to be in (= submitted). And maybe there will be in a week’s time half a sackful that will be too late to come down."

 

"Never mind the damage," said the Canal Master, "Dafydd and I will arrange to get them to the boat so that they come down [to Treforus] but you have to arrange for someone to cart from the canal to Y Graig (“the rock”) in Treforus."

 

"Oh, that will be all right," I said, "the lady of the house where I'm staying at Y Graig is paying enough for food from Mathias the Grocer, and he'll have to send his cart to bring them to the house."

 

"Excellent," said the Canal Master.

 

Therefore, let it be known to the competitors of the Llanlluwch Eisteddfod that their entries are now on the water, and they will be safe in the hands of the adjudicator unless  some accident happens somewhere that no-one will be responsible for.

 

"That's settled then," said the Mishtir, "Now I must hear the story of our friend Lazarus’s funeral in Treforus."

 

I told the story as Risiard Huws and the Treforus poets tell it, and the Canal Master and his wife and Dafydd, Nansen’s (= Ann, Nancy) husband, of Nansan laughed until they almost burst. The story goes like this. There was a minister in Treforus long ago-- TRAMP.

 

[Note: That's enough this time. Your story will be published next time, so rest for a week or make a start on  adjudicating and try to cultivate the talent of not writing at length (“talent to  write briefly”). — Ed.]

 

 

 

 

None

(delwedd L2164a) (9 Medi 1915)

Y Darian. 9 Medi 1915.

Llith y Tramp.

Mishtir Golycydd, —

Rodd yna weinitog yn Nhreforus ys llawar dydd, os gallwch chi gretu pob stori ma Risiard Huws yn wed, odd yn paratoi i fynd i gladdu un o aelota'i gapal. Rodd y gweinitog hyn yn dicyn o ffarmwr gyta'i fod a'n weinitog, a rw i'n cretu i fod a'n ddyn call iawn, callach o lawar na'r cyffretin. Dw i ddim llawar a byrgethwr y mhunan, ond rw i'n cretu i fod a'n help mawr i ddyn allu pyrgethu'n dda os bydd a'n gallu gneud rhwpath arall hed. Rw i'n cretu y gall pyrgethwr ddysgu llawn cymint wrth gnoco ticyn arno i hunan obothtu ymhlith dynon ag wrth fod a'i drwyn mwn llyfra o waith dynon erill. Fydda i byth yn darllan llyfra, ond rw i'n dysgu lot wrth gnoco obothtu. Odd y dyn on i'n son am dano'n ffarmwr-bregethwr, a'r diwarnod hyn yn partoi i fynd i gladdu un o'r aelota, mi ddath ffarmwr arall odd ddim yn byrgethwr i'r ty, a mi ofynnws iddo –

"Otich chi'n dod i'r ffair heddy, syr?"

"Pwy ffair?" mynta'r ffarmwr-byrgethwr.

"Ond ta ffair Landeilo," mynta'r llall, "dewch gyta fi."

Mi siaratodd y ffarmwr-bregethwr lot a fa'i hunan, ag yna mi wetws - "Rw i'n dwad i'r ffair."

A mynta fa wrth un o'r crots bach - "Cera lawr at weinitog y Rhyd a gofyn iddo fa os eiff a'i gladdu i dy'r dyn yna yn y'n lle i. Os na all a fynd cera at ryw weinitog arall; os na all hwnnw fynd cera at un arall. Cera atyn nhw i gyd, ag os na eiff un o honyn nhw cera at y ffeirad."

Mi a'th y crwt bach i ofalu fod y claddu'n mynd ymlaen, a mi ath i dad i'r ffair.

Fu dim isia i'r crwt bach gerad llawar, wath odd gweinitog y Rhyd yn falch o'r jobyn.

"Shwd ddyn odd a? Odd a'n ddyn ffyddlon? Odd a'n ddyn cyhoeddus? Odd a'n ddyn rhinweddol? Odd a'n haelionus ag yn dda i'r achos? Dyna odd rhai o'r cwestiynnau ofynnws gweinitog y Rhyd i'r crwt, a gan nad odd y crwt yn diall dim o'r geira mawr mi wetws "odd, odd” ar ol pob cwestiwn.

“Gwed ti wrth dy dad, y cladda i fa'n barchus, a gall a enjoio'i hunan yn y ffair; mi fydda i'n leico claddu dynon felna," mynta gweinitog y Rhyd.

 

 

 

 

 

None

(delwedd L2164b) (9 Medi 1915)

Pan ath y gweinitog i'r ty rodd yr angladd wedi starto cyn yr amsar, am fod rhywun wedi troi'r cloc ymlan ucan munad. Mi dalws nhw ar y ffordd, a mi ath a nhw i'r Festri. Yno mi ddarllenws a mi weddiws yn Gwmrag, a mi ddechreuws byrgethu ar y cyfaill Lasarws yn huno. Mhen ticyn dyma un yn gwed wrtho fo —

Lwc hiar, mêt, gif ys a litl Hinglish. Wi don't hyndarstand a wyrd of what shi sei."

Mi drows y pyrgethwr i'r Sysnag a mi gas hwyl, nes odd y gwrandawrs yn ffaelu diall beth odd arno fa. On nhw ddim yn suwr a odd a yno i gyd. Beth bynnag i chi ar ol iddo brofi fod y cyfaill Lasarws odd wedi huno'n saff, mi gwplws, a mi ath gyta nhw at y bedd. Mi wetws yma yto y bysa'r cyfaill on nhw'n roi lawr yn dwad lan fel dath Lasarws ryw fora, ond wedi iddo gwpla fan hyn, mi ath rhyw ddyn odd yn syspisiws iawn o bopath odd a wedi wed, ymlan at y bedd a mi geuws i ddwrn, mi shiglws a wrth ben y coffin, a mi wetws –

"No blwmin ffiar, shi wil not get owt of dder. Yw ar seff inyff now, yw old difl.

Nid cyfaill, ond gwraig i ryw nafi odd a wedi gladdu, a dodd hwnnw ddim isia iddi ddod lan yto.

I roi pen ar y mwtwl dyma un o henyn nhw yn troi at weinitog y Rhyd, ag yn gwed wrtho fa-

"Lwc hiar, met, wi ecspect ddat shiw ar mecin a gwd scriw owt of ddis; gif ys a bob tw help things on twneit; ddi preis of a galwn or tw wil bi feri thancffwli risifd."

Ag yn lle cal i dalu am gladdu'r cyfaill Lazarws yn barchus, mi fu raid i weinitog y Rhyd roi pris dwy alwn o gwrw i gwmni un odd yn falch fod i wraig a wedi mynd. Ma'n depig taw'r gwr odd weti troi'r cloc ymlan wath odd sychad arno fa. Odd pethach rhyfadd iawn yn dicwdd ys llawar dydd.

TRAMP.

 

 

 

 

 

 

 

 

A black and white photo of a document

Description automatically generated with low confidence

Y Darian. 16 Medi 1915. Llith y Tramp.

 

Mishtir Golycydd,—Damwen alaethus ddigwyddws i'r bad odd yn dwad a chyfansoddiata Steddfod Llanlluwch i fi i Dreforus. Mi gas mishtir y cnel a Dafydd gwr Nansen dicyn helynt tua Chlytach yma, ond dim byd at y peth ddigwyddws yn nes lawr. Rodd y cyfansoddiata wedi i rhoi'n barchus yn y bad yng ngofal y cnel dreifar, Mr. David Charles, a'r ceffyl, a ma'n eitha posib y byse popeth wedi mynd yn iawn, ond odd cnel dreifar arall, sef oedd hwnnw, Mr. Tommy Daniel, ynte a'i geffyl yn dwad a bad arall o Dreforus. Mi gas ceffyl Tommy Daniel ofan mawr, a mi retws bant a bad y cnel gydag e. Rodd y ddau geffyl yn cwrdd a'i giddyl dan bont Llangyfelach. Er mwyn rhoi hewl rydd i geffyl Tommy mi neidws y ceffyl arall i'r dwr, a mi oifadodd yn i flan a'r bad ar i ol a, ond mi ath y ddau fad i wrthdarawiad, a fuo nhw fawr o dro nag oen nhw yn y gwaelod, ag yno ma cyfansoddiata Steddfod Llanlluwch odd wedi dod i law mwn pryd. Fe fydd yn rhaid cal rhyw gontreifans arall i ddod lawr a'r rhai ddath i law'n rhy ddiweddar. Ma achos y ddamwain yn hysbys erbyn hyn. Fe ddath rhwpath tebig i Seplin, ne eroplen, ne rwpath lan gyda'r cnel orwth bont Ynysforgan, a rodd a'r criatur mwya swnllyd a glyws dyn ariod, a hwnnw halws ofan ar y ceffyl cnel. A beth y'ch chi'n feddwl odd a yn y diwedd? Wel dim ond Motryb Nansen a Trebannos yn dwad nol o Lanstephan a'i banbocs gyta hi. Odd hi wedi colli'r bws yn Ynysforgan o ryw ganllath, a mi ddath lawr at y cnel, a dyna ble'r odd hi yn hannar hedfan a hannar rhetag rhwng banc, y cnel a brig y coed, a'r banbocs ar i hol ag yn rhecu'r bws dreifar yn ddychrynllyd, a rodd hi'n mynd i ddala'r bws yto, medda hi, wrth Bontlowrog, ag yn mynd i dynnu Dafydd yn bishis ar ol mynd gartra am i fod a wedi coeddi preifat letar odd hi wedi hala iddo fa yn y "Darian," a hwnnw'n gollwng y gath o'r cwd am Dafarn Llath Llanstephan. Chemicals odd hi'n wed on nhw'n roi yn y llath, ond ma pawb yn gwpod taw felny ma hi'n spelo "rum," a rodd hi'r bora hyn cyn starto wedi yfad dicon o hono i gal i hunan ar i haten. A'r olwg hynny arni fu'n gymint dychryn i bawb o Ynysforgan i Drebannos. Ma arna i ofan am Dafydd druan, wath hen griatur hawdd iawn i drin yw e pan

 

 

 

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd J4219) (16 Medi 1915)

fydd Nansen obothtu. Fysach chi'n i weld e'n swagro; a whyddo pan odd Nansen yn nwr y mor, ond ma hi a'r ben arno fa am flwyddyn yto. Mi fyswn i'n leico, clywad orwth Dafydd shwd siap odd a'r Motryb pan gyrhaeddws hi, a fant o ddamedj nath hi wetin ar y ffordd lan.

 

Rhaid i chi roi ticyn o ofod i fi ddelo a chorespandans y tro hynt yto. Ma arna i ofan bydd raid i fi fynd o Dreforus er cyslad wi'n leico yma, ond ma cymint o alwata o lefydd erill. Rw i'n onfi nawr taw chytig o opath fydd am labro'r nos y geua nesa. Ma'r witw fach o Bontycymar yn hala ata i'n amal i nghofio i am y'n addewid i hala'r geua yno, ond rhaid bod yn garcus gyta'r gwidwod yma. Mae rhyw fachan o Gwmbychan, ffrind i Fardd y Stac, fyswn i'n feddwl, wedi hala ata i i wed wrtho i am gatw draw o'r Glanna, ne bydd milgi'n dwad ar y'n ol i. Ond os yw i am gatw'i filgi'n iach, fydd well iddo fa i gau a yn y twlc. Ma'r Tramp yn gwpod shwd i ddelo a chwn, a shwd i ddelo a Bardd y Stac hed.

 

Ma bachan arall wedi hala ata i o Bontypridd i ofyn i fi ddwad yno, ag yn cynnig lodgin i fi yn Sgupor yr Hendre, lle ma mishtir beirdd y “Darian" yn byw. Wi ddim yn gwpod a os gyta'r bachan awdurdod ar y Sgupor ne beido, ond falle daw hi'n handi.

 

Mi ges lythyr arall orwth rhyw Dewi Chwefror, o Lansamlet. On i'n meddwl taw rhyw dwll mwg a neb yn byw yno odd Llansamlet, ond ma Dewi Chwefror yn rhoi gola newydd i fi ar y lle. Fel hyn ma fe'n sgrifennu: -

 

Annwyl Mr. Tramp,—Rw i'n dishcwl clywad si fod y'ch anrhytadd yn dod i'r plwy yma. Ma fa'n un o'r plwyfydd mwya enwog mwn bod, a phopol o nod yn byw yma. Yma ma'r Henatur Jordan, tad y plwy, yn byw ym Mharc y Deri. Yma ma Crymlyn fawr ei ddawn a'i awen yn gwreichioni. Yma ma Heilir Mai, a ma fynta'n slebyn. Yma ma Gwilym Betw, dyn mawr arall, a thysach chi'n rhoi ticyn o ialan fetw ar i gefan a pan ddewch chi; nelsa hi ddim drwg iddo fa. Dishefon ni'n brudd, mi gymersa dros awr i fi enwi'r dynon mawr i gyd. A dyna fi 'mhunan; ma Golygydd y "Darian" yn gwpod am dana i'n dda; mi rows e gatar i fi yn Steddfod y Graig. Os bydd yn wiw gyta chi ddwad i'r plwy, halwch hannar gair i'r eiddoch yn frawdol, -  Dewi Chwefror.

 

Wi'n sposo fod Dewi'n iawn gan bo chi'n napod a, Mr. Gol.; chlywas i ddim son am i enw fa o'r blan. Falla taw un o'r dynon mawr hynny sy o'r golwg yw a. Mi af fi yno iddi ecsamino fa un o'r dyddia nesa. TRAMP

 

 

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd J4219) (23 Medi 1915)

Y Darian

23 Medi 1915

 

Llith y Tramp. Mishtir Golycydd, — Odd bardd y Stac, Cwmbychan, yn ffyrnig achos i fi roi dwy lein o'i gan a yn y "Darian.' Ma fa wedi newid ticyn ar y gân oddar hynny fel on i'n syjesto iddo fa, A nawr er mwyn i shalens a i hala i filgi ar 'yn ol i dyma fi coeddi'i gân i gyd. Fel hyn mynta un o'i ffrindia fa, ma hi'n darllen nawr:-

 

Boneddwr o Gwmbychan,

I hela fe aeth allan,

Ar gaseg deneu ddu;

Fe reidiodd ar ei gaseg Hyd gwarter wedi deuddeg

Heb unwaith godi pry'.

Ha, ha etc.,

Heb unwaith godi pry'.

 

O'r diwedd cododd lwynog

Yn ymyl ty cymydog,

A'r corn rows eitha floedd –

A'r holl fytheidd redasant,

A'r llwynog coch ddaliasant,

Ond ci rhyw ffarmwr oedd

Ho, ho etc.,

Ond ci rhyw ffarmwr oedd

 

Wrth fynd yn ol o hela, Daeth y boneddwr tila

Tu yma i Bontrhydfen, Ond chana i ddim ychwaneg,

Mi gwmpas e a'i gaseg I'r afon dros ei ben;

Hi, hi! etc., etc.,

Yn ymyl Pontrhydfen.

 

Ond os rhaid pwt bach etc,

Rhyw witw redws ato,

A chredai'n ddigon siwr Gan nad oedd lwc ar hela,

Ei fod ef am bysgota,

Y pysgod yn y dwr!

He, he! etc.,

Y pysgod yn y dwr.

 

BARDD Y STAC. Cwmbychan. 

 

 

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd J4220) (23 Medi 1915)

Ma fa'n canu dicyn yn steilish hed, felsa fa'n meddwl ticyn o hono 'i hunan. Gan fod mei Lord Bardd y Stac mor ffyrnig yn erbyn i fi fynd i Gwmbychan, rw inna'n mynd yno. A rw i'n dwad trw Aberdar hed, Mishtir Golycydd, a os na gripa i wallta rhai o nhw yna ma'n rhyfadd gen i. Wi'n napod shaw o'r Snecs oddar pan fuas i'n labro'r nos yn y Bwllfa. Ond yn y cyfamsar rhaid rhoi sylw i rwpath arall. Ma rhwpath rhyfadd wedi dwad dros yr hen Sian Llandeilo. Ma'r llythyr a ganlyn yn siarad drosto fa'i hunan:

 

Mei diar hintended syn-in-lo.- Ai am send yw e pêr o stocins ffor e berthdei presant. Ai hôp yw wil not go to ddi Garw to labro'r nos next Wintar. Ai fful feri lonli afftar Alis go awei, and dder is sytsh e lot in ddi pepers abowt har efri dei. Shi is mekin a grand strygl owt dder thei sei. Iwars, feri sori for brecin iwar leg, — Shan.

 

Nawr gwetwch chi os nag ôs pethach rhyfadd yn dicwdd. Ma'r hen wraig wedi gneud yr un mistec a nath Dafydd y Crydd. Ma hi'n meddwl taw Alis yw'r Aleis.

 

Wi'n clywad fod ticyn o gynnwrf yn 

 

 

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd J4221) (23 Medi 1915)

Llansamlet o achos y llythyr halws Dewi Chwefror i fi, a os dim sicrwydd a gaf fi fynd trw'r plwyf yn ddiwrthwynebiad. Ma'r henatur Jordan yn ffyrnig achos mod i wedi tynnu'r coliars mas ar streic, ag yn bwcwth hala'r Mabinogion ar 'yn ol i, a ma Crymlyn yn bwcwth 'y mombardo i, ond ma Heilir Mai a Gwilym Bedw dicyn yn fwy rhesymol. Mi fynna i weld beth alla i neud o honyn nhw yr wythnos nesa. TRAMP.

At Dramp y Darian. Mr. Tramp, — Yr wyf wedi cael mwynhad mawr wrth ddarllen dy llithiau o bryd i bryd yn y "Darian." Pa bryd yr wyt yn myned i roddi tro i dref Aber-y-dar. Nid yw y ffordd ymhell o dy breswylfod presennol. Er dy fod yn ffaeledig - un goes yn fyrach na'r llall — yr wyt yn teithio llawer trwy Gwm Tawe. Fe gei dderbyniad gwresog i "Sweet 'Berdar,” ac yn sicr y cei defnyddiau amryw o lithiau. Dere yn wir, yn fuan. A wyt ti yn adwaen "Eryr Gwyddon" a'r "Fwyalchen"? Os ydwyt, gofyn iddynt hwy ddyfod am dro i'r dyffryn yma. Y mae lle hyfryd i'r Eryr yn Nharren y Bwllfa neu yn yr hen chwareli ar Ben-rhiw-Mynach. Gallai oddiyno weled y cwm yn ei ogoniant. I'r Fwyalchen y mae lle cysgodoI yn nghoed Pen-rhiw-Mynach neu allt Blaengwawr, lle y celai llonyddwch i byncio'i chân swynol ac i weled ysblander y cwm. Disgwyliaf am atebiad pa awr y deui di i Aberdar. -  Ydwyf, UN O'R SNECKS.

 

 

 

 

None

(delwedd L2166a) (30 Medi 1915)

Y Darian
30 Medi 1915

Llith y Tramp.

Mishtir Golycydd, —

O Dreforis yn i ddacra,
Y ma'r Tramp yn awr yn mynd;
Cefnu ar yr hen simddeia
Annwl, ac ar lawar ffrind.
Starto trw Lansamlat enwog,
Nawr yn ngrym ceisiata târ;
Gatal 'tref y mwg' odidog,
Tynnu tuag Aberdâr.

Odd dim gwir yn y su fod popol fawr Llansamlet yn bwriatu'n stopo i i fynd trw'r plwyf. Rhyfadd fel ma riwmors yn mynd ar led.

Mi halas i at Dewi Chwefror i gisio gento gwrdd a fi ar Sgwar Llansamlat a dod gyta fi i'n hintrodiwso i i'r dynon mawr odd a'n wed sy yn y plwyf. Mi gas y llythyr halas i ato dicyn o'i ddileio ar y ffordd achos mod i weti rhoi David February ar yr enfilop, ne mi fyswn i weti starto wsnoth yn gynt. Mi es i i dicyn o stwmp pan welas i Dewi; on i'n dishgwl dyn mwn cot fawr a mwfflar fel ma'i enw fa'n syjesto, ond yn lle hynny dyn mwn cot fach dwt a choler seis seventeen am i wddwg a ddath ata i, a'i olwg a'n fwy tepig i Mihefin nag i'r Mish Bach.

Wel, mynta fi ar ol gwpod ma fe odd a, oti dynon mawr Llansamlat yn werth 'u gweld ? Dishefo ni'n bridd a chalch mynta Chwefror.

Pobol fawr Llansamlet!
Ni fu mo'u bath erioed,
Er pan oedd ein hynafiaid
Yn byw ym mrig y coed.
Pa le ceir cymar Crymlyn -
Yn ynad mawr ei ddawn,
A'i awen fel y delyn
O fore hyd brynhawn.

A'r doeth Henadur yntau
A'i Henadures hael,
'Does yn y bydysawdiau
Mo'u tebig hwy i'w cael,
A'r Bedw mawr a'r Heilir.,—

Dishgwlwch yma, Chwefror, mynta fi, ma raid i chi stopo'r hinjin, ne mi fydd pishis felna'n stopo'r traffic. Cerwch a fi at y dyn mawr 'gosa. A bant a ni at y Crymlyn Villas. Wn i ddim pwy isia'r Villas sy chwaith. Dyma'r lle fydd yn enwog tra fyddo amiwnisiwn yn cal i neud, fel y lle y gnawd ynddo bishin anfarwol i shels. Odd Crymlyn yn ishta mas ar y Iôn ag yn falch iawn i weld Tramp y Darian, fel ma'r dynon mawr i gyd, a on i'n falch i weld ynta hed. Odd a isia i fi fynd i'r ty i glywad y ddarlith ma fa'n neud a'r fyw'n gynnil. Ma fa isia i ddynon fyw fel odd y tada'n byw - yn trw to netshyr. Ond odd gen i ddim amsar i fynd i'r ty, ond mi addewes i byswn i'n mynd yn gadirydd iddo pan fydd a'n gwed i ddarlith. Mi ath Chwefror a finna mlan yn swn bendith Crymlyn:

Yn iach it' Dramp y Darian,
Tyrd yma eto'n fuan,
A chawn bryd hynnw ymgom fawr
A threulio awr yn ddiddan.

Ble ma'r ecsibisiwn nesa i fod, Chwefror? mynta fi. O, mynta fynta, ma raid i chi weld Gwilym Betw, Labar Ludar Birchgrove; ma yna dicyn o dalant yn rhai o'r bois hynny. Odd y Betw'n tynnu tatws yn yr ardd. Pan welws a Chwefror a finna dyma'r twls lawr dder and dden, a wedi'r hintrodycsiwn, “Ar fecos i," mynta'r arweinydd llafur, "pwy feddylse nawr? Dewch i'r ty i weld y cadire a'r corone sy gen i." Y peth cynta welas i yno odd teipreitar. A mynta'r Betw, “Hwn ddylsa fod gyta chi'n sgrifennu i'r Darian." Ond mi fysa raid i fi ddysgu canu piano nghynta. Ma'r Betw'n fardd ag yn llenor o fri, ag er i fod a'n Gymro ma fa depig o ddod yn arweinydd llafur pwysig. A ma isia rhacor o'i short a i gymryd lle y Saeson a'r Scotch a'r Germans sy'n mynd a'r swyddi yng Nghymru. Ma fa weti i gwnnu i byrgethu'n ddiweddar er mwyn iddo fa dreio'i law ar wasanaethu Duw a Mamon, a ma hi'n

 

 

 

 

 

None

(delwedd L2166b) (30 Medi 1915)

mynd yn dda digynnig. Fel gwyddoch chi, dw i ddim yn meddwl dim mwy o ddyn am i fod a'n byrgethwr, ond dw i ddim yn meddwl y bydd a ddrwg yn y byd i'r Betw neud ticyn ar y lein hynny. Weti i ni atal y Betw on ni'n paso'r Hen Bwll, a odd rhyw ddyn mawr tew yn towlu i freicha o bothtu iddo ag yn gwaeddi, "Now, boys, cym on, ffeiar awei," a phwy odd a ond y Giaffar Rhys. Mi fu raid cal ticyn ble gyta fynta. Odd a'n falch iawn gweld y Tramp. "Shwd y'ch chi, bachan? Otich chi ddim am jobyn nawr ?" mynta fa. “Na, ddim ar hyn o bryd," mynta finna, “ond mi gofia i am ych promis chi." Mi ofynnes i iddo shwd odd y gwaith yn mynd. “Ffwl swing," mynta fynta; "ma fa'n mynd yn dda os bydd rhyfal yn rhwla, ond ma'r asma'n ofnatw arno fa pan fydd heddwch yn teyrnasu. Odd arna i ofan fod y Pastwn Rysal yna'n gwed y gwir, a bysa'r mil blynyddodd yn dechra'r flwyddyn ddiwedda, ag yna mi fysa raid cau'r Hen Bwll, a mi fysa hynny'ti golled; ond mynd ma fa'n ffwl swing."

Mi ethon orwth y Giaffar at Heilir Mai, bardd arall odd yn tynnu tatws.

“Ma'r gwrysg braidd yn las," mynta fi.

“Oti'n," mynta fynta, ond ma'r pridd yn sych a'r tatws yn ddigraith, a gwell yw eu tynnu yn awr na chal y tatws yn botes ar dywydd gwlyb. Odd gan Heilir gadira i ddangos yto. Fyswn i'n leico gwpod a os rhyw berthynnas speshal rhwng beirdd cadeiriol a thatws ?

Mynd fu raid i ni yto. Ar y ffordd i'r Lonlas, mi wetws Chwefror wrtho i i fod a'n gweld y Betw'n winco arna i pan on i yn i dy fa, a odd a isia gwpod pam. O, mynta finna, otich chi'n cofio i fi wed yn y Darian mod i wedi cal cheque gan y German Spei am dynnu'r coliars mas ar streic, mi gas y Betw un hed, a ma hi'n suwr o fod wedi dod yn handi iddo fa. O mi gwela hi nawr, mynta Chwefror, a mi ddishgwlws felsa gento fe ddim gwrthwynepid i gwrdd a German Spei cyn nos.

Wedi i ni fynd ymlan dicyn, dyma Barcyderi, mynta Chwefror, a miwn a ni trw'r giat ag at ddrws plas yr Henatur, a chnoco. Dyma'r gwr bynheddig i hunan i'r drws dan chwerthin yn iachus.

Tramp y Darian, mynta fa, - 'dos dim isia, gofyn.

Dos i mewn tydi was mâd—cei roesaw,
Cei rasol dderbyniad;
Llaw rwydd ac ystafell rad,
A milwaith fo'th ymweliad.

Wedi ishte ni geson lot o hanas y plwy ar y ddaear a than y ddaear a nol i'r oesoedd pell. Mhen ticyn dyma'r Henadures yn dod aton ni, a wedi câl hintrodycsiwn iddi, mi wetws i bod hi'n darllan y'n llithia i ag yn cal adeilatath ynddyn nhw. Thenciw fawr, mam, mynta finna. Ma'r dyn yma, mynta'r Henadur, mhen ticyn, yn dishgwl felsa fa'n un alla neud rhwpath o blac and wheit. Nawr on i'n meddwl taw rhyw frud o gwn odd blac and wheit, ond pan welas i beth ddath i'r ford mi waeddes bendigetig, ag er taw nid cwn odd a mi rows dicyn o fynd yn Chwefror a finna. On i'n gwed wrth yr Henatur tysa fa rhoi ticyn go lew o hwn i'r Mapinhogion pan ddon nhw i Barcyderi nesa y bysa Talnant yn suwr o sgrifennu Ilond y Darian yr wsnoth ar ol hynny. Dyma'r lle gore ges i ys tro, a fyswn i'n leico aros yno, ond odd llais yn galw arna i yn Berdar fel odd yn galw ar Pôl ys llawer dydd. Wel rw i'n gobeitho bydd yr Henatur a'i briod byw byth. Mi ganes yn iach i Chwefror ag os dicwdd i fi weld gwaith i law a ymysg cyfansoddiata rhyw steddfod fydda i'n feirniatu, mi fydda'n dyner iawn o hono fa. Wel, dyma fi wedi cyrradd Berdar a'n hadres i ffor ddi presant yw Symwar in Trecynon. TRAMP.

 

 

 

 

None

(delwedd L2167a) (14 Hydref 1915)

14 Hydref 1915. Y Darian.

Llith y Tramp.

Symwar in Trecynon.

Mishtir Golycydd,-

 

Mi gyrhaeddas i Berdar yn ol yr arfath a mi ddishgynnais yn y Parc, a dishefo ni'n brudd os gwetws Dewi Chwefror, dyma le i gwrdd a dynon mawr. A on nhw i gyd yn gwpod wrth y 'ngolwg inna mod i'n ddyn o dalant. Wedi i fi ddechra dishgwl o bothtu dyma ddyn bach a golwg swyddogol arno fa yn dwad ymlan ata i ag yn gwed - "Dyn diarth y'ch chi yn y Parc." "Wel ie," mynta finna, "ond mi fydda i wedi gneud i fyny'r diffyg hynny cyn af fi oddyma; pwy ga i wed y'ch chi, syr?" A mi wetws wrtho o. “O," mynta finna, “shwd y'ch chi, Mistar Parkinson, 'dyw'ch enw chi ddim yn iawn ar ych cap chi." “Nid Parkinson wetas i, ond Parcwyson," mynta fa. "O, gwetwch chi hynny," mynta finna, a'r enw Sysnag sy ar ych cap chi, ma'n depig." "Naga," mynta fynta, "Park Hinspector sy ar y cap. Ond pwy ga i wed y'ch chi?" “Tramp y Darian," mynta finna. “Wel, bendith Japog ar ych pen chi," mynta fa, “ma'n dda gen i gal y fraint a'r anrhydedd o gwrdd a dyn fel chi, ma'n beth od na fysach chi wedi clywad am Parcwyson." "Rw i'n gwpod am danoch chi'n iawn, os neb o sgrifennwyr y Darian nag w i'n gwpod am danyn nhw," y dynon gora yn y byd y'n nhw.' Mi fuodd Dafydd y Crydd dicyn yn drwsgl ar y dechra, ond ma fynta'n gwella gan bwyll. Odd raid i fi addo mynd i de at Parcwyson ryw brynhawn er mwyn i fi gal gweld i leibrari fa. On i'n teimlo'n fwy cartrefol yn y Parc ar ol diall fod dyn talentog yn Hinspector iddo. Ond mi nath Parcwyson dric bach pert a fi wrth matal; mi wetws wrtho i fod Hundab y Baptis yn Hewlfielin a bysa'n werth i fynd i glywad yr Hetgar Jones a Huw Jones yn siarad. Mi weta i hanas perfformans yr Hetgar yto. Ond fuas i ddim mwn shwd le ariod a phan odd Huw Jones yn golchi ar y cwrw a'r whisci a finna newydd fod yn gwed am rinwedda Blac and Wheit yn y "Darian."

 

 

 

 

 

 

None

(delwedd L2167b) (14 Hydref 1915)

 

A wi bron yn suwr taw dyna pam halws Parcwyson fi yno, a falla i fod a wedi rhoi gair i'r pyrgethwr hed y byswn i yno. Wi wedi diall taw ticyn o wag yw dyn y Parc. Y dyn rhyfedda wi wedi gwrdd yn y Parc hyd yn hyn yw y Banistar hat lo, ne barmistar, beth yw'r gair gwetwch? T. Walltar Wiliams yw i enw fa. Ma fa'n son lot am Hiwcen a Berscon — rhyw Germaniaid sy wedi coeddi llyfra i roi gwaith i ddynon mawr idd u darllan nhw. Rw i wedi cal y dyn yma'n hinterestin iawn, a ma'n depig taw fa yw'r hunig fanister yn Nhrecynon, a fyswn i'n meddwl fod un yn itha dicon i Drecynon a Thresalem hed. Rhaid i fi atal dynon mawr y Parc y tro hyn a delo a chorespondans. Mi ges y llythyr hyn o Ystradgynlas: —

 Diar Mr. Tramp, — Ai am fen disapointad in yw. Ai was hecspectin yw hiar hefri wuk, and yw did not cym. I am cipin a litl shop niar ddy stesion, and wd leic iwar cympani. Ai had a lot to tel yw, and ai wanted to sho yw ddi gardin of Gwilym Cynlas whitsh is renowned ofar Wels bei now. Hit as cym a feri himportant spot in ddi hiwnifars ai can tell yw, but hit is difficwlt to sei wher did ddi tw cabetshis gro. Don't bi long til yw cym bac. — Ywars feri triwli, Jeffras."

Ma llythyr arall wedi dwad orwth Dafydd Domos, 207a Cabrics, Cwmbwrla, yn gwed fod pethach yn higil di pigildi yno a'i bod hi'n bwysig i'r tramp fynd yno ar ffrwst. Mi ddaw'r llythyr yn y nesa. Falle gneiff Dafydd Domos hala'r manylion. Os os llawar o frics obothti'r cae, fydd yn well gyta fi ddelo a'r matar trw gorespondans. Be sy ar y Cwmbwrlamiaid na allan nhw fihafio, gwetwch? TRAMP. 

 

 

 

 

 

.....

 

 

 

A picture containing text, receipt

Description automatically generated

(delwedd B2271)  (21 Hydref 1915)

21 Hydref 1915. Y Darian.

Llith y Tramp.

Mishtir Golycydd,-

Fel gwetas i o'r blan, mi fuas i yn Hundab y Baptis yn Hewlyfelin. Dyw'r pethach hyn ddim llawar yn y'n lein i fel y'ch chi'n gwpod, ond odd Parcwyson yn gwed y dylswn i fynd yno i glywad yr Hedgar, a mi es, a dyna un o'r pyrfformsis gora w i wedi weld yto. Ar ol yr hintrodycsiwn, dyma'r Hedgar i'r platfform, a mi synnas i dicyn. On i wedi meddwl fod pob Hem Pi yn ddyn mawr, tew. Dim ond Mapon a John Williams wi'n napod o henyn nhw, a ma nhw'n ddynon sybstanshal. Rw i'n napod Mishtir Stanton hed, a ma fynta wedi treio am yr Hem Pi. Ond dishafoni'n bridd, ys gwetws Dewi Chwefror, dyw'r Hedgar ddim mwy na rhyw wan thyrd o  Mishtir Stanton. Fe wetws yr Hedgar dicyn bach yn neis iawn am Keir Hardie, ond wedi iddo gwpla gwed hyn, fyswn i'n meddwl fod rhywun wedi twtsh a rhyw spring yn rhwla, a dyma fa'n neido 'nol a sefyll yn streit, i drâd a'n glos idd' u giddyd [sic; = giddyl], a'i ddwy law a lawr wrth i ochra fa. Yna, dyma un fraich yn saethu lan, a dyma'r llall lan a honno lawr, y peth perta welsoch chi ariod! Dyma fa'n bwrw un law ymlan yn streit a'r Hall nol. Dyma'r ddwy law mlan gyda'u giddyl yto a fynta'n downso ticyn. Dyma'r ddwy law lan ag yn dwad lawr felsa fa'n treio bachu rhwpath yn yr awyr, a felny buws a am hannar awr. Odd yno ryw fachan blewog o'r North yn ishta yn y'n ochor i, wedi dwad yno'n "ddeligat" medda "fo," a mi ofynnws i fi “Be oeddach chi'n feddwl o'r arath?" Jawcs i myntwn i feddylas i ddim am rondo ar yr arath. Dishgwl ar y perfformans a watsho'r springs yn gwitho bues i a rw i'n rhoi'r ffyrst preis iddo fa'n hunfrytol.

Ma'n ddrwg gyta fi wed fod Parcwyson pan w i'n scrifennu wedi gorffod mynd i Llundan i weld doctor. Rw i'n gobitho daw a'n nol i'r Parc yn iach heb fod yn hir, wath ma fa wedi bod yn help mawr i fi, ag os gneiff tri mesur petar lein bach fel hyn ryw les iddo fa dyma nhw:

Tyrd yn dy ol, Parcwyson,
I hen rodfeydd y Parc,
A chaniad yn dy galon
A'i swvn fel nodau larc.

Ma'r adar yn dy erfyn,
Cwnhingod o un fryd,
Yn synnu, neno'r brenin,
Ble rydwyt ti gyhyd!

A phwy a wyr na chlywi
'R Fwyalchen ar ei hynt,
Ar frig rhyw bren yn canu
Ei nodau per i'r gwynt.

Dyma'r llythyr ges i o Cwmbwrla: - 

Annwyl Mr. Tramp, - Dw i ddim yn gwpod a otich chi'n catw map o'ch teithia ne bido. Os otich chi, fe ddylsach farco Cwmbwrla arno fa, a dyw Abartawa ddim ymhell o Gwmbwrla. A ma nhw yn y ddou le hyn yn teimlo bo chi wedi iselhau ticyn arnyn nhw wrth beido galw yno. Yn lle hynny dyma chi'n mynd off acha whew i Lansamlat gyta Dewi Chwefror. Mi fuo inna yn gwitho yn Brigro, a fel odd y Giaffar Rhys yn gwed odd yr Hen Bwll yn smatic witha a phan ddetho i odd yno rodd ticyn o brown teitus arno hed. Ma'n syndod fod y giaffar i hunan yn catw mor iach a golycus. Ond dw i ddim yn mynd i'ch blino chi, annwyl syr, a hanes y mhunan, a 'dos arna i ddim isia dwad yn enwog fel chi, rhag ofan i fi golli mhen. Ond ma lot o bethach yng Nghwmbwrla allach chi whilo mas, tasach chi ddim ond dwad yma a'r wyntyll yn ych llaw. Fe ofaliff y Dewi, Cwmbwrla, yna ma Dafydd y Crydd yn son am dano, a finna ffeindo lle piwr i chi i lodgo yma. Cofiwch fod Cwmbwrla'n sentar i Abartawa a'r cylch. Yr eiddoch, yn dishgwl am danoch chi, Dafydd Domos, 207a Cae-brics, Cwmbwrla.

 

Ma llythyra wedi dwad i law orwth Fachan o Dredecar, Bardd y Stac, Gwilym Cynles, Eryr Parc-y-Cwm, ag orwth Alis y'n hen gariad a'r witw fach o Bontycymar.

TRAMP.

 

 

 

 

None

(delwedd L2168a)  (28 Hydref 1915)

Y Darian. 28 Hydref 1915.

 

Llith y Tramp.

Symwar in Trecynon.

Mishtir Golycydd, —

Rw i mas o ngho heddy, ag os cas rhywun achos, rw i wedi cal achos. Ma un o gorespondants Dafydd y Crydd wedi gneud leibal arna i, sef yw hwnnw, os gwetws y pyrgethwr, y “bachan o Gwmtawa." A'r gwaetha yw fod Dafydd y Crydd wedi coeddi i bishin a heb gal i enw priodol a. Rhaid i Dafydd ofalu am i shop yn well na hyn. Rw i'n dimando'i enw fa ne mi fydda i'n rhoi'r ditectifs ar waith. Ma'r bachan o Gwmtawe wedi doti "Tramp” i hodli a "German Scamp." Os gwetws Bardd y Stac mi glywiff e racor am hyn.

 

Ma rhyw fachan o Dredecar hefyd wedi hala dau fesur petar lein i fi fel hyn:

 

“Y miraglau! Y miraglau!

Mae eu nabod yn beth hawdd;

Gelwid hwy yn nyddiau'n tadau

Wrth yr enw cocs Penclawdd."

 

“Culture ddywed am Cydweli,

Yn y sand y ceir ystor,

Gregin llwydion ger yr heli,

Gelwir hwy miraglau'r mor."

 

I Dafydd y Crydd y dylsa fa fod wedi hala rhain. Ond falla iddo wneud mistec mwn camgymeriad. Os arna i ddim isia i'r beirdd ddechra hala crecin i fi. Ma'n offis i yn y Parc yn Berdar, a mi fysa toman o firacla cocs a hoistars fel sy wrth dy Dafydd y Crydd yn llitwith mwn lle fel hyn. Ma pawb obothtu Byrtawa yn ffaelu diall be sy'n mynd ymlan yn Nhy Dafydd oddar Steddfod Bangor.

 

Ma'r Bachan o Dredecar yn y'n hinfeito i yno yn bert iawn, a llawar o ddiolch iddo:

 

“I Dredecar dewch am dro,

Mae yma lo a thanwydd,

A rhai teilwng o'r reit stamp

I wneuthur Tramp yn ddedwydd."

 

Ma fa'n gofyn i fi hed os gwelas i yn rhwla fesur petar lein fel hyn ar garrag fedd:

 

“Yma'n gorwedd yn ei wal

Mae'r hen Wil dew o Benrhiwpal;

Gallasai fyw am ddwy oes

Onibai'r gout oedd yn eo [sic; ei]  goes."

 

A ma bachan o Ferthyr, mynta'r bachan o Dredecar, wedi transleto'r pishin i'r Sysnag er mwyn y Saeson a'r Dicod Shon Dafydd sy yno fel hyn:

 

“Here lyeth beyond recall

Old Fat Will from Penrhiw-ball;

He could have lived two ages out

If his leg was free of gout."

 

Wel, ma'n well gen i nghos fer i yto na leg hwnnw a'r gout ynddi.

 

Ddigwyddis i ddim gweld y pishin ymhunan, ond mi welas hwn ar garreg fedd:

 

“Fan yma gorweddaf fi, Wil Hopcyn Huw,

Trugaredd a f'enaid o gwna Arglwydd Dduw;

Fel gwnawn i a ti pe bawn i'n Arglwydd Dduw,

A thitha'n fod meidrol fel Wil Hopcyn Huw."

 

A dw i ddim yn cofio i fi ariod weld cyslad ticyn o cheek ag oedd gan Wil Hopcyn Huw.

 

Ma'r bachan o Dredecar yn gwed wrtho i am i fi ofalu dod yno pan fydd Ap Noah ar ben y Cloc Mawr ar gefan yr hen gilog pres yn ysgrifennu i bishin i'r "Darian," ne os bydd a lawr y bydd e'n suwr o neud i fi dalu am beint iddo fa. On inna wedi meddwl yn suwr taw

 

 

None

(delwedd L2168b)  (28 Hydref 1915)

Ap Noah fysa'r cynta i alw am lasad o Blac and Wheit i fi wath ma fa'n ddyn o hurddas ag yn warcheidwad a mi fysa'n weddus iddo fe o bawb i fod yn hael i'r Tramp. Mi fydda i'n erfyn lot orwtho fa pan ddwa i i'r lle. A wi'n gwpod am fardd a haiarnmwngar oddar war Llandeilo sy yn Nhredecar, sef yw rheiny, Mishtir Llewelyn y grosar a Mishtir Sidney Lewis Tomos, a phan ddaw'r Tramp mi fydd raid i rheiny fforco mas a mynd a'r Tramp am reid yn y motor.

 

Pwy y'ch chi'n feddwl ddath i'r offis yma heddy ond hen ffrind i fi, y bues i'n labro'r nos yr un man a fa, Dafydd Richards, y gwetwr stori gore yn Iwrop, a mi fydda i'n gwed rhai o honyn nhw yn nes ymlân. Odd a'n dishgwl yn hurddasol fel gwrbynheddig, odd i fwstash a'n werth i weld sa ddim ond hynny. A dyna falch odd a i ngweld i. On i'n gofyn iddo beth odd yn bod, os odd a wedi reteiro ne wedi cal ffortshwn ar ol rhwun wrth i weld a'n dishgwl mor dda. O na mynta fynta, rw i'n ddiacon yng Nghalfaria nawr. Jawcs i, mynta finna, os dim siawns am jobyn diacon i finna, ma'r gwaith yn cytuno'n dda a chi. Na, mynta fa, bei balot ma nhw'n dewis, a dim ond rhai sy'n aelota ma nhw'n ddewis. A on i'n gweld mod i mas o hwn yto. Gyda hyn dyma Mishtir Thomas, Ap Morfab, yn dwad miwn ag yn saliwto. “Good gracious," mynta fa, “a dyma'r dyn. Rhaid i mi ymddiheuro am beidio galw o honof yn gynt i ddatgan fy nghroeso i wr o fri i Aberdar. Ond y mae Symwar in Trecynon yn benagored ac yr wyf finnau wedi crwydro llawar i chwilio am yr offis. Ma'n ddrwg gen i ddweyd wrthych, syr, fy mod wedi clywed fod rhai yn ych drwgdybio chwi, a byddwch chwitha'n effro. Mae Cyngor y Dref yn dweyd fod eu hanifeiliaid byw yn lleihau mewn rhif er pan ydych chwi yn y gymdogaeth. Hannar gair i gall."

 

“Otin nhw ddim yn gwed mod i'n lleidir?”mynta finna, “pwy nifeiled ma nhw'n golli?"

 

“Y pedwar-carnolion sy'n gwneud eu tai yn y ddaear, ac pori ar dir y Parc, ac a elwir ar lafar gwlad yn gwnhingod. Mae eu nifer yn lleihau beunydd," mynta Ap Morfab.

 

“Ma popath yn iawn," mynta finna, “gwaith y Cownsil yw dala'r un sy dala'r cwnhingod."

 

A mynta Dafydd Richards: “Rw i'n gweld y trethi'n mynd lan yto, ma'r Cownsil yn suwr o hala mil ne ddwy nawr i ddala'r potsher."

 

Wel daled pob un rwpath neiff les iddo, a weta i ddim rhacor nawr ar y matar hyn.

 

TRAMP.

 

Hol Notiad. — Mi fydd gyta fi air i wed wrth y Llaethferch y tro nesa. — Tramp.

 

 

....

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd J6602) (4 Tachwedd 1915)

Y Darian. 4 Tachwedd 1915.

 

Llith y Tramp.

 

Mishtir Golycydd, — Rw i mwn ticyn o ffics y dyddia hyn. Wi'n ffaelu gwpod yn iawn beth odd ym meddwl y Llaethferch yna o Smutw, pan odd hi'n riffyrro ata i yn y "Darian." Odd a ddim yn ddicon iddi whipo Mishtir Gwernydd Morgan, ond odd raid iddi gal rhoi ergyd llaw-whith i finna, a gwed fod Gwernydd "mor anfrenhinol a Thramp y 'Darian'. Ne felny deallais i ar y cynta. Mi ddes i lawr yn streit atoch chi i'r offis, a fel y'ch chi'n gwpod chi wetsoch chi wrtho i fod y "Llaethferch" yn gwd gyrl, a'i bod hi falla mwn cariad a fi, a taw felny odd hi'n introdiwso'i hunan i fi. Pan on i'n mynd o'ch offis chi mi gwrddas a Mishtir Puw, Golycydd yr "Aberdar Lidar," a mi ofynnas iddo fynta i farn ar y matar. "Dramp annwl,” mynta fynta, "cymrwch ofal o'r merched, dy'n nhw ddim i gellwar a nhw." Wedi i fi fynd ymlaen dicyn bach dyma fi'n cwrdd a dyn mawr arall o'r enw Ap Hefin, a mi ofynnas iddo fynta, a mi wetas wrtho beth odd barn golygyddion y ddou bapur pwysica yn Shir Forgannwg. Mi wetws ynta wrtho i taw rhyw fachgan ifanc wedi mynd i dicyn o oedran odd Golycydd yr Aberdar Lidar, a nag odd i farn a ddim yn saff iawn pan fysa merch ifanc yn y cwestiwn. Mi wetws Ap Hefin hed fod y Llaethferch yn ferch o safle, a na fysa fa'n un dianrhytadd i ddyn i gal cnoc genti hi. Odd a wedi i chlywad hi'n atrodd yn Berdar, a chlyws a ddim gwell ariod. "Mi dynnws y ty lawr yn garlibwns," mynta fa. "Ie, mynta finna, "dyna beth w i ddim yn leico. Ma hi'n tynnu'r tai lawr lle bynnag eiff hi. Peth od na bysa'r plismyn wedi i chymryd hi lan. Ma hi'n suwr o fod

 

 

 

 

 

 

A picture containing text, newspaper, receipt

Description automatically generated

(delwedd J6602b) (4 Tachwedd 1915)

yn gneud collad ofnatw i'r wlad. Os yna dicyn o natur Seplin ynddi gwetwch?" Mi chwerthinws yr Ap, a mi wetws taw ymatrodd ffigyrol odd "tynnu ty lawr am ennill cymeradwyath fyddarol y gynulleidfa. Wrth gwrs odd hyn yn newid ticyn bach ar y cwestiwn. Ddigwyddws Banistar Trecynon ddim dwad i'r Parc ne mi fyswn i wedi i gonsylto fynta hed. Er mwyn i'r Llaethferch gal cyfla i egluro'i hunan dyma fesur petar lein ne ddou iddi: —

 

Pwy wetws wrth y Llaethferch

Mod i yn anfrenhinol?

Rwy'n frenin cofied hi,

Beth bynnag wed rhai popol.

 

Wi'n frenin lled urddasol

A ngair o hyd yn gyfrath;

Be waeth os mewn ty gwair

Bydd gorsedd f'ymerodrath.

 

Mi ges i lythyr arall orwth Mr. Jeffres, Ystradgynles, a dyna dro ynte. Ma fa fel hyn:

 

Diar Mishtir Tramp, — Ai am feri sori tw tel yw ddat ai med a feri ffetal blyndar when ai was reit to yw last teim. Yw no ai tell yw ddat mei shop is niar ddi stesion. Ai was goin tw reit a post scrip to iwar letar tw tel yw ddat ddi shop was niar a pyb as wel, but in mistec ai did reit ddi post scrip to ddi rong letar, and send it to Eryr Gwyddon, and hi and ddi Fwyalchen and Barcud Craig y Nos and Llwyd y Berth were hiar bei retyrn of post ascin ffor the pyb.—Iwars triwli, etc.

 

Wel dyna dro.

TRAMP.

 

 

 

None

(delwedd L2169a) (11 Tachwedd 1915)

Y Darian. 11 Tachwedd 1915.

 

Llith y Tramp.

 

Mishtir Golycydd, —

 

Ma'r bechgyn yma sy'n dwad i'n offis i yn y Parc yn hunfrytol yn gwed fod yn hen bryd i chi gal y'n llun i yn y "Darian," a nag yw hi ddim yn deg fod Dafydd y Crydd yn cal mwy o ffafwr na fi. [Nid ydym wedi cael llun oddiwrthych hyd yn hyn.-Gol.] Dim ond un dyn sy'n disgwl dicyn yn ddu arna i yn y Parc yma, sef yw hwnnw Mistir Cynog Williams. Ma fa ddim yn folon mod i'n cymryd dos o blac an wheit pan fydd i isia fa arna i. Ma fa'n meddwl am nag yw a'n leico blac an wheit i hunan na ddylswn inna ddim i leico fa chwaith. Ond ma rhyw fflo yn i logic a 'swn i ddim ond gallu rhoi mys arno. Wi ddim yn gwpod am un reol well yn y byd yma nag i bawb gymryd y peth ma fa'n leico'i hunan, a felny bydda i'n gweld pawb yn gneud. Ry'ch chi'n gweld fod Dafydd y Crydd wedi dwad ar y 'mhen i yto fel dwy dynall ffeiar brics. Fel hyn digwyddws hi. Rodd y boys yma sy'n dod i gonsylto a fi yn y Parc yn gwed fod ofan Dafydd arna i a nag on i ddim wedi rhoi pocad iddo fa ys tro. Peidwch chi a whalu nonsans, mynta finna, fydd dim isia i fi ond jest twtsh a'r bwtwn na fydd crys Dafydd mas a'i fwnci fa lan a felny buws hi. A rodd yn dda iddo fa gal rhwpath i dynnu i feddwl a oddar y miracla. Gobitho na haliff y beirdd ddim rhagor o grecin iddo fa na mi fydd i siop a wedi tacu, a ma Gwynwawr yn gwed fod perigl i ni golli'r gair crecin o'r iaith. Miracla malwod, miracla cocs, a miracla hoistars ma pawb yn wed yn y Parc yma nawr. A ry'ch chi'n gwpod fod rhai weitha'n galw arian yn grecin heddwch. Miracla heddwch y'n nhw nawr, a ma rhai'n son am firacla peint a felly mlan. Ma Ap Hefin yn gwed y bydd Steddfod Bangor yn enwog byth mwy fel steddfod y miracla a Dafydd y Crydd mor enwog a hynny am u popiwlareiso nhw.

 

Y miracla atgyfodwyd

Yn y Steddfod fawr a notwyd;

I Siop y Crydd o ddoniau'n llawn

Yn hwyliog iawn fe'i gyrrwyd.

 

 

 

 

None

(delwedd L2169b) (11 Tachwedd 1915)

Cyn i fi gwpla'r mesur petar lein arall on i'n feddwl neud, dyma Mishtir Stanton i'r Parc ag yn holi am y "man of talent with the short leg." "Hiar am ai, man," mynta finna. "Well lwc yw hiar now," mynta fynta, "yw myst pwt mi intw Parlament, old man. Yw driw a gret dul of atenshon tw mei seis sym teim ago when yw sed Mister Hedgar Jones is honly wan thyrd of mi. Riali yw myst pwt mi intw Parlament.” "Dishgwl yma, Charlie," mynta finna, "os wyt ti am i fi dy 'bwtian’ di i'r Parlament ma raid i ti wilia Cwmrag, ag yna nid dy bwtian di miwn 'na i ond dy hala di miwn with fflei-in cylars." Brafo, Tramp," mynta Charlie, "ti gweld fi gallu whilia ticyn o Cwmbrag, ond pan ma fi treio gneud spitsh ma'r geira'n pallu dod lan o trâd fi." "O nid yn dy sgitsha dylast ti gatw'r hen iaith," mynta finna. "Ma sens yn hwnna hed," mynta Mister Stanton. "Ond gwed wrth fi," mynta fa, beth wyt ti'n feddwl, af fi miwn i Parlament?" "Debig iawn," mynta finne, "wyt ti'n gweld, Charlie, ma gen ti enw a thicyn o rym yndo fe, a ma dyn a thicyn o swmp go dda ynddo fa o'r tu ol i'r enw, ma hyny'n rhwpath. Nawr dishgwl di ar y dyn arall yna, Mishtir Winstone, ne beth ma nhw'n i alw fa, “ma enw hwna yn i erbyn a, a dynon yn meddwl taw rhyw young lady yw a. Ma nhw yn torri Mister Winstone yn fyr a'i neud a'n Miss Winstone."

 

"Bei gosh," mynta Mishtir Stanton, "ma rhwpath yn hynna hed. Ond gwed wrtho i, beth wyt ti meddwl o R. Timws Jones yma?" "Wel, mi wn hyn," mynta finna, "ma fa'n fanistar hat lo, a wyddot ti'n iawn, Charlie, ma ticyn gomrod o fanistars a chyfrithwrs yn y Parlament nawr. Bachan, ma nhw boso'r shew. 'Dos dim yfflin o sens yn y peth, a ma nhw'n dacla pryd ofnadw idd u catw." "Wyt ti'n siarad sens," mynta Mishtir Stanton. "Otw,” mynta finna, "a wi'n dishgwl wrthot ti, Charie, nawr, i gatw Mishtir R. Timws Jones a Mishtir Winston mas o'r Parlament. Wi'n gwpod ticyn bach o dy hanas di, ag er nag wyt ti ddim yn angal, os yw angylion yn depig idd u llunia, rwyt ti'n well dyn na dim un sy ar y maes hyd yn hyn. Fums hup, Charlie." TRAMP.

 

 

None

(delwedd L2170) (25 Tachwedd 1915)

Y Darian. 25 Tachwedd 1915.

 

Llith y Tramp.

 

Mishtir Golycydd, —

 

Ma raid i fi ddiolch yn galonnog i Dafydd y Crydd am y peth wetws a am dana i yn y "Darian" ddwetha. Ma fa'n meddwl y byswn i'n gneud Membar o Parlament da i Merthyr a Berdar, a rw i o'r un farn a fa. Ma'n syniad i am Dafydd yn uwch nag ariod nawr, a rw i'n cretu fod rhwpath yn Dafydd trw'r cwbwl. Y drwg yw mod i wedi addo syporto Mishtir Stanton a alla i ddim torri ngair nawr. Ma well gyda fi fod mas o'r Parlament am dicyn na thorri ngair. Trueni na fysa Dafydd wedi meddwl am y'n ricomendo i'n gynt. Nid bob dydd cewch chi gyfla ar betwar cant o bunna am neu ddim [neud dim], hanar ych amsar, a'r nesa peth i ddim yr hanner arall. Rw i'n mynd i watsho'r general lecsiwn nesa. Falle gofynith Dafydd y Crydd i Eryr Penpych, ne Morgan y Teilwr, neud cân i fi erbyn bydda i'n dwad mas. Mi gofia i'n dda am danyn nhw ar ol i fi gal y petwar cant.

 

Rw i bron a chal dicon yn Berdar yto. Mi ddigwyddws tro lletwith iawn i fi'n ddiweddar. Rw i bron yn suwr taw boddi fydd y'n rhan i cyn y diwedd. Rw i wedi bod mwn afon, mwn cynel, a dyma fi nawr wedi bod yn llyn y Parc. Own i un noswath yn y Parc ar ol iddyn nhw gau'r glwyd, a wn i ddim shwd buws hi, ond yn y dwr y ces i'm hunan pan ddoes i ata mhunan a mi dynnes at rwpath tepig i dy gwair a mi ges dir dan y nhrad. Ond odd hi'n wath ar y tir nag yn y dwr. On i'n gallu dod o'r dwr i'r tir, ond allswn i yn 'y myw fod o'r tir on i arno heb fynd i'r dwr. Pan gotws y lleuad mi welas taw ar ynys on i. Odd yno dy gwair steilish, ond odd dim gwair ynddo fa, na dim cysgod i whannen. Y peth dwla welas i ariod odd codi ty gwair mwn lle fel hyn a rhoi dim gwair yndo fe wetin. Odd gen i ddim i neud ond marw yno ne fynd nol trw'r dwr, a mi fuws yn deit arna i cyn cyrradd Trecynon. Mi ges fynd i'r gwely tra fu'n nillad i'n sychu, a thrwy garedigrwydd gwraig y ty login fues i ddim llawar gwath.

 

Fyswn i'n syjesto i Gownsil Berdar werthu'r ty gwair. Ma'n suwr byse Ilawer hen ffermwr yn barod i fynd a fa oddyna am ddim a falla roi cwpwl o beints i'r cownslars am dano fa. Ma fa'n dishgwl yn hyll lle ma fa, a ma pawb yn wherthin am ben y cownslars pan ma nhw'n i weld a. Ne os na werthan nhw fa fysa'n well iddyn nhw fynd yr ochor arall i'r Ynys a rhoi sgwt iddi at y lan. Fysa ty gwair ddim mor ddwl fan 'ny ag yng nghanol y dwr.

 

Ma hi'n lecshwn wyllt yn Berdar a ma Mishtir Stanton yn mynd miwn i'r Parlament with fflei in cylars, a ma fa'n ddiolchgar iawn i fi am yr help wi'n roi iddo fa, a mi ddylsa fod. Os dim sens mwn mynd i moyn dwr dros afon na mynd o le fel Berdar a Merthyr i moyn dyn i shir arall. Ma rhai 'n gwed taw Mishtir Winstone yw'r dyn gora yn y byd, a ma hynny'n gneud i fi gofio am y tri teilwr hynny odd yn byw yn yr un stryt. Mi rows un wrth ben i ddrws—"Y tilwr gora yng Nghymru," a phan welws un o'r lleill beth odd y cynta wedi neud mi rows ynta wrth ben i ddrws, "Y tilwr gora yn Hiwrop." Odd rhai'n erfyn bysa'r try dydd yn rhoi wrth ben i ddrws ynta, "Y tilwr gora yn y byd," ond odd hwnnw'n gallach, a mi rows wrth ben i ddrws fel hyn "Y tilwr gora yn y stryt hon," a mi ath y ddau dilwr arall i'r gwellt dan grafu u penna. Falla taw Mishtir Winstone yw'r tilwr gora yn y byd, ond wi'n shiwr taw Mishtir Stanton yw'r tilwr gora yn Berdar a. Merthyr y dyddia hyn. TRAMP.

 

 

 

.....

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd F7968) (2 Rhagfyr 1915)

Llith y Tramp.  2 Rhagfyr 1915.

Mishtir Golycydd, -

On i'n gwed wrthoch chi byswn i'n hala Mishtir Stanton i'r Parlament, a ma fa wedi mynd a hynny gytag ofarthympin madjoriti. A odd yn bwysig iawn i fi gal a i fewn er mwyn iddo dreio catw prishodd pethach lawr. Rw i'n gobitho catwiff a'i lycad ar brish y Blac and Wheit, nid er mwyn i'm hunan, ond er mwyn y rhai sy'n talu am dano i fi. A sa fa'n gwed gair o blaid Mishtir Ffranclin a Mishitr Ringer fyswn i'n ddiolchgar iawn iddo fa. Dybaco rhain fydda i'n smoco, a mi nath y Llywotrath hen droi shabi wrth neud i fi dalu diwti iddi hi ar ddybaco dynon  erill. Y peth rhyfedda yn Berdar yn amsar lecsiwn odd y smel neis odd ymhob man. Odd pawb yn ffaelu diall beth  odd hyd nes iddyn nhw glwad taw'r I.L.P. odd yn câl u rhosto. Nhw fuon o flân y tan am wthnos gyfan, ag yng nghenol y tan hed lawar gwaith a Mishtir Bibins a Stanton a’r bachan yna o Llundan yn u fforco nhw. Odd y beirdd yn gwed na fu dim golygfa debig o'r tu fas i uffern y Bardd Cwsg; dw i'n gwpod dim pwy fardd odd hwnnw. Rhyw fardd, falla, sy wedi speciwleto mwn preifat consarn a wedi cwnni busnes fach iddo'i hunan yn y lle poeth. Wel dos gen i ddim ond gobeitho y bydd yr I.L.Piers yn well dynon ar ol bod yn y tan. Allwn ni neud dim yn well na dymuno'n dda i bawb.

On i ddim yn meddwl wrth hala Mishtir Stantan i'r Parlament y byswn i'n dwad yn fwy enwog nag ariod. Ma nhw’n gwpod am dana i nawr yn Berlin, a rw i wedi cal llythyr melltigedig orwth y Kaiser, y peth mwya insyltin w i wedi gal yto. Ma fa'n darllan fel hyn: -

Syr, -  Yw vos a dyrti old Tramp; yw vas sboil mei litl gêm in Merthyr and Byrdar. Vy yw vos send ddat man Stanton tw Parlament. Yw vos fforget mei ejant vos gif yw ddi tshec when yw vos pwl coliars owt on streic. Praps yw vos not no ddat ai am on tramp meinself, on tramp sins last Ogyst. Ai hav not cym to Wêls iet, but ven ai vos cym it wil be bad lwc owt for yw, yw dyrti hold hidiot. Ai wil haf yw if ai vos tw haf to blo hyp hefri hei shed in Gret Briten. So yw had betar sei ywar prers bifor yw hiar mei canons. Iff yw vos pwt Winston in ai wd haf med yw prins of Wêls.

On i wedi meddwl delo a lot o gorasbondans y tro hyn, ond ma'r Caisar wedi mynd a'r gofod, ond ma raid i fi roi ticyn bach o'r llythyr ges i o'r Onllwyn orwth Mishtir Morgan Jones, Hen Dy:

Barchus Bererin, - Cyfrifwn yn anrhydedd oesol i'r Onllwyn a'r Dyffryn os gwelwch yn dda daflu llewyrch eich urddas ar y gwyllt leoedd anghysbell hyn. Yr wyf yn taer geisio gennych ddyfod, yn arbennig gan fod eich dylanwad mor fawr mewn etholiadau. Mae eich eisiau yma i roi rhai i fewn a chadw eraill allan. Credaf y gall eich dyfodiad fod o fudd arbennig i fy nghyfaill, yr Yswain Jones. Nac anghofiwch ein cais. Cofiwch hyn byddwch yn hollol ddiogel yma. Pe deuai lluoedd y Caisar i Brydain, ni fyddai perigl yn y byd iddynt gael hyd i'r lleoedd hyn.

Dyna beth o'r llythyr; ma fa'n safonol iawn allswn i feddwl, a dyma fachan fydd yn shiglo llaw a'r Sgweier Jones yr wthnos nesa. TRAMP.

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd J7056a) (9 Rhagfyr 1915)

Y Darian. 9 Rhagfyr 1915. Llith y Tramp.

Mishtir Golycydd, Wel, dyma fi wedi cwpla ngwaith yn Berdar. Mi rois i Stanton yn y Parlament, a mi catwa i a miwn yno tra fydd a'n byhafio'i hunan. Wi'n ddiolchgar fawn i Mishtir Hetgar Jones am i hintrodiwso fa i'r dynon mawr yno. Wn i ddim pam ma isha cymint o lol wrth hintrodiwso dyn i'r Senadd chwaith. Ond ma hyn yn ffact, cretwch chi fi, pwy uwcha bydd dynon yn mynd dwla i gyd ma nhw'n mynd. Pan fydda i mwn ty gwair, mi fydd dynon na welas i ariod honyn nhw'n dwad ata i ag yn gallu hintrodiwso'u hunen, ag yn gwaeddi "Helo,shwd ma hi Ian yna?" Ond os byddwch dyn wedi dod ymlan dicyn yn y byd, os dim iws i neb ddishgwl arno fa ond trw gyfryngwr. Hen lol yw hynny i gyd yn 'y marn i. Pam na alse Mishtir Stanton gered miwn i Dy'r Cyffretin a gwed: "Mishtir Speecar, dyma fi weti dod. Bachan bath o Berdar w i, ry'ch chi weti clywad am dana i gyd, a ma Tramp y Darian yn cofio atoch chi." Yn lle hynny odd raid i Mishtir Stanton fynd trw'r dril a chal i ddysgu beth i wed, shwd i symud a shwd i neud bow. Ma'n depig taw Mishtir Hetgar Jones fu'n dreino fa, a rw i'n ddiolchgar iddo fa am hynny. Mi ddylsa neud rhwpath am i betwar cant. Dyw a ddim weti gneud dim ys llawar dydd ond gofyn cwestiwn ne ddou, a fu neb lawar callach o hapedion gas a. Ond gan i fod a wedi bod yn ffein wrth Mishtir Stanton, rw i'n foddlon dod Berdar i weld y perfformans nesa fydd a'n roi yno, dim ond iddo hala hannar gair i fi. Fel o'n i'n gwed yn y'n llith ddiwetha, mi startas i o Berdar i'r Onllwyn i weld y Sgweier Jones. Mi ddes lawr i lo lefal Castall Nedd. I

 

 

Text

Description automatically generated

(delwedd J7056b) (9 Rhagfyr 1915)

 

gâl y Nyth an Brecon. Odd deng mlynadd ar hugan er pan fues i gyta'r relwa hyn o'r blan, a rodd hi'r pryd hynny y relwa ora i Dramp welas i ariod. Rw i'n cofio dod gyta hi o Golbran i Gastall Nedd, a mi startws o flân rhai o'r pasingars, ond odd rheiny o flan y tren ar yr Onllwyn. Mi arosws y tren i'r hingin fynd Ian i'r Banwen i moyn tryc o lo, a tra fuws a fan hynny mi ath y pasingars erill mas i'r mynydd i henjoio'u hunen, a mi es inna i ryw dy i ofyn am dicyn o fara a chaws. Mi ges gyfle i neud yr un peth dair gwaith cyn cyrradd Castall Nedd. Ag erbyn hynny rodd y tren wedi mynd yn fawr. Rodd ynddo fa wageni calch a glo, coed a cherrig, clai a glo man. Rodd yno hefyd fwtshwr, tair menyw'n mynd i'r dre, petwar lodger, dou dramp heblaw mhunan, a dynon. Wi'n cofio'n iawn mod i dicyn yn henach pan gyrhaeddas i Gastall Nedd na phan o'n i'n starto o Golbran. Dyw'r hen dren ddim mor romantig erbyn hyn. Ma fa'n mynd ben i daith yn strut nawr. Mi welas lot o bethach ar y ffordd, and y peth mwya hinterestin i fi odd Ty Pwyso'r Sefn Sistars, lle ma'r bachan hynny bues i'n rifiwo'i lyfyr a'n pwyso glo a George yn watsho na naiff a ddim cam a'r coliars. Pan gyrhaeddas i i'r Onllwyn, mi welwn ddyn tepig iawn fyswn i'n feddwl i desgrifiad on i wedi gal o'r Sgweier Jones, a mi es ato fa. "Mishtir Jones iefe?" mynta fi. "Ie," mynta fynta, a dyma fa'n dishgwl arna i o'r top i'r gwaelod. "Tramp y ‘Darian,'" mynta fa, "ma dy gôs fer yn dy gyhuddo di. Dera  miwn i'r Slôp fan hyn," a miwn ethon ni, a mi ddaw'r hanas yn y nesa.

TRAMP.

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd J7057a) (16 Rhagfyr 1915)

Y Darian. 16 Rhagfyr 1915. Llith y Tramp.

Mishtir Golycydd, — Mi es i mwn stwmp pan welas i’r Slôp. Pwy feddylsa y bysa'r Onllwyn yn symud ymlan gyda'r byd fel hyn. Ma'r Slôp yn Hotel fawr nawr, a chofiwch chi roi'r "o" yn hir yn y gair. Ma gwr bynheddig rispectabl iawn yn i chatw hi hed, sef yw hwnnw, Mishtir William Bowen. A wi'n cretu fod tafarnwrs yn haeddu dod ymlan yn y byd os byddan nhw'n catw stwff gweddol o dda ag yn rhoi ticyn o hen gownt.

"Mishtir Bowan," mynta Sgweiar Jones, "dyma fi wedi dod a ‘Thramp y Darian' i'ch gweld chi."

"Wel, bendith Japog ar ych pen chi," mynta fynta, "ond ma fa wedi dod o flân y blac an wheit yto. Pan welas i yn y "Darian" fod y Tramp yn dod mi ordres wagened o hono fa a ma fa ar y ffordd yn rhwla. Dos yma ddim ond dwy botelad yn y ty."

"Mi fydd dwy botelad yn rhwpath i starto," mynta finna.

"Rhwpath fydd a hed," mynta'r Sgweiar Jones. Cofiwch chi nawr dodd y Sgweiar Jones ddim yn wilia fel w i'n ysgrifennu. Ma fa'n rhoi geira llanw mewn bob cynnig. Ma d--1 a d--it yn dwad mewn gyta fa bob yn ail air. Ma fa'r rhecwr mwya decha w i wedi glywad ys Ilawer dydd. A ma'n shaw o beth os bydd dyn yn dileito mwn rhecu i fod a'n gallu gneud hynny dicyn yn deidi. Dw i ddim yn cwrdd a un o bob cant sy'n gallu gneud y job yn iawn. Mi glywas lawar yn 'Berdar yn treio rhecu, ond odd yn gwiddyl u clywad nhw a sa nhw'n gwpod mor lletwith o'n nhw fysa'n yn i thowlu hi Ian fel bad job. Ma clywad dyn yn rhecu felsa clocsan ar flân i dafod a yn ddicon i droi ar stumog dyn. Ond odd Sgweiar Jones fel gwetas i y'n rhecu'n ddecha, felsa fa ddim yn gwpod i fod a'n rhecu, a mhen ticyn fyddwch chitha ddim yn gwpod i fod a'n gneud. A fyswn i'n meddwl nag yw dyn felny ddim yn gyfrifol am y peth ma fa'n wed; ne os mi fydd gyta fa lot o eira secur i roi cownt am danyn nhw.

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd J7057b) (16 Rhagfyr 1915)

Ond nid 'y musnas i hynny. Y peth pwysica i fi odd fod Sgweiar Jones yn wr bynheddig o'r radd flaena. Ond fuas i ddim yn hir yn diall fod mwy nag un gwr bynheddig yn yr Onllwyn, a wir, mi ges mas mod i wedi cymryd un yn lle'r nall o honyn nhw. On i'n meddwl taw Sgweiar Jones, o Blancellwan, odd gen i, and yn Ile hynny Sgweiar Dafydd Jones, o'r Ffrynt Row, odd yno.

 

"O pidwch a hido," mynta Mishtir William Bowan, "ma un o nhw cysled a'r llall a gwell hefyd. Sgweiar motor-car yw un o honyn nhw, a Sgweiar poni a thrap yw'r nall. A on i'n ddicon satisfeid ar y Sgweiar odd gen i. Yn enwetig pan wetws a fod i fab yn manedging deirector mwn gwaith mawr yn Nantybwch. Ma Mishtir Bowan hed yn un o'r cwmpni. Wi'n gobitho bydd llwyddiant mawr ar y cwmpni hyn, a na cha nhw ddim o’u blino gan streics na hanundebiath na mass meetins na rhyw gomplaints felny. Odd Mishtir Bowan a Sgweiar Jones yn gwed y bysan rhoi gair mewn gyta'r manedgin deirector am iddo roi gwaith ysgafn i fi pan fyswn i'n timlo mwn tiwn i ddechra labro'r nos. Ond dw i ddim yn addo starto am dicyn. Dyw Tramp ddim llawar o werth os na alla a fyw ar i dalant am flwyddyn ne ddwy. Ma lot o fechgyn a dalant yn galw i ngweled i yn y Slôp, a rhai o honyn nhw'n feirdd ag yn ysglodion. Odd un o nhw'n gwed i fod o'n ddyledus i Dafydd y Crydd am neud bardd o hono a nag odd a ddim yn timlo'r un fath byth er pan ddechreuws a ddarllan llythyra Dafydd. Ma gen i lot o fesura petar lein ges i'n gompliments gan fechgyn yr Onllwyn, a ma nhw'n gwed wrtho i am ofyn i chi os yw rhain yn dod dan y rheol whech cheinog, y mesur. Os otin nhw ma nhw'n mynd i acor sybscripsiwn list er mwyn i coeddi nhw. TRAMP.

 

 

 

None

(delwedd L2171a) (23 Rhagfyr 1915)

Y Darian. 23 Rhagfyr 1915. Llith y Tramp.

Mishtir Golycydd, —

 

Pwy feddylsa nawr! On i'n meddwl wrth ddwad i'r Onllwyn mod i'n dwad i le odd mas o'r byd. A gwed y gwir i chi, on i ddim heb fod a thicyn bach o of an y Caisar arna i ar ol i fi fod yn Berdar yn rhoi Stanton yn y Parlament. Wyddwn i ddim na alla un o'i speis e fod ar y nhrac i. Ond ma'r Onllwyn mor depig a gall a fod i ryw le arall. Ma gentyn nhw 'i plwyfi yma a'u cynghora a'i pwyllgora'n ddiddiwedd. A phan o'n i'n meddwl mod i mas o'r byd o'n i yn i genol a. Ma Sgweiar Jones, Ty Talcen, yn gwed wrtho i na all neb fynd mas o'r byd nes bydd a wedi mynd lawr ddwy lath dan y wyneb ag aros yno. Nawr, ma pethach hinterestin iawn yn mynd ymlan yn y rhan hon o'r bydysawd, a phethach barddonol iawn yn cal u gneud yma. Mi ofynnws y plwy yn ostyngetig iawn i'r awdurdota goruchal os bysa nhw mor garetig a'i rannu a'n dair ward — ward i'r Ceunant, lle ma'r bardd Creunantydd yn byw; ward i'r I Seven, lle ma Toriel, bardd arall, yn maniwffactro hanfarwoldab, o ward i'r Onllwyn, lle ma'r ddau Sgweiar yn byw, a lle ma hannar dwsin o frain a jac do yn dod am dro o giwriositi unwaith bob blwyddyn. Mi ganiataws y Cyngor Shir 'u dymuniad nhw. A ma'r plwy nawr yn cael tri membar ar y Cyngor Dosbarth yn lle dou, a dyma le i rywun arall gal ticyn o swydd yto. Ma nhw hefyd yn cal petwar cynrychiolydd ar y Cyngor Plwy - a hynny'n rhoi cyfla am dicyn o ffraeo rispectabl ynghylch buddianna pwysig yr etholedigaetha. Ma'r Sgweiar Jones, Sgweiar y Motor Car nawr, cofiwch, wedi bod yn datla fod hawl gan y Cyngor Plwyf i gohopto yr aelota newydd ar y Cyngor Plwy. A rodd Sgweiar Jones, Ty Talcen, yn gwed y bysa fa yn u co-hopto mwn bothti winc sa fa'n cal, a rodd Wil y Sar o'r un farn a fa. Ond rodd rhai o'r cownsal yn barnu'n wahanol am fod rhain yn sedda newyddion hollol, a nag odd dim yn y gyfrath caniatau co-hopto rhai iddyn nhw. Mi benderfynnws y pwyllgor atal y matar ar y bwrdd am dicyn, a dos yna ddim co-hopto wedi bod pan w i'n sgrifennu. Ag os ca i wed barn y mhunan chela neb byth 'y ngho-hopto i i swydd byth.

 

Ma yma dicyn o ddifyrrwch hed ynghylch y sedd newydd ar y Distric Cownsal. Ma naturiol iawn i'r Onllwyn gal yr anrhytadd o ddewis un i'r sedd hon, wath ma dou yn Ward Toriel yn barod ag un yn Ward Creunantydd, a dyw a ddim ond yn deg i Ward y ddou Sgweiar gal un. Ond pwy fydd a? yw'r cwestiwn mawr. Ma yma gyfarfotydd wedi 'u cynnal gan Sgweiar y Motor Car, a ma lot o gico yn i erbyn a am i fod a, mynta nhw, yn cownto'i hunan yn dicyn gormod o hawdurdod ar y pwnc. Ma bechgyn Llafur yn cico'n ddrychynllyd yn i erbyn a am i fod a'n treio rhytag y shew i hunan, a ma nhw'n meddwl y dylsa nhw gâl un lebar man ar y cownsal. Mi fu Johnny James, y bachan yna o Gwmgors, a Sam Lloyd yma'n rhoi'r Trêds a'r Lebar Cownsal ar y rails. Wn i ddim pam ma nhw'n galw'r bachan yna'n Johnny chwaith. Nid babi yw a. Ma fa mor hen a finna.

 

 

None

(delwedd L2171b) (23 Rhagfyr 1915)

 

Ma'n depig gen i mai ticyn o ofan y bachan George yna sy yn y ty pwyso gyda Toriel yn y Seven sy ar Sgweiar y Motor Car. A ma dyn mwn ofn yn gneud pethach rhyfadd. Mi darws yn i ben a bysa George yn gandidet am sedd yr Onllwyn a fod rhaid iddyn nhw i gatw fa mas ta beth fysa'r gost. Ma fa wedi bod yn gwitho i gatw George mas a George ddim yn meddwl am dreio! Ag wrth dreio gneud bwpach brain o George ma fa'n treio cal i ddyn i hunan miwn. Dyn Sgweiar y Motor Car yw Mishtir Phillips, sy'n catw tafarn ar y Banwen. A'r dyn ma'r gwithwrs wedi ddewis yw William Hughes, bachan sy'n anrhytadd oesol i'r Onllwyn, a William Hughes fydd ar y cownsal hed os yw popol yr Onllwyn yn gall. On i yn y cwrdd fu'n dewis William Hughes, a  wi'n siwr gneiff a fembar da. Ond y peth odd yn y'n synnu i odd y cwestynna ofynnws Mishtir loan Ffatri yno. Odd a felsa fa'n byw yn yr oes o'r blaen. On i'n synnu mwy pan glywas fod a'n ddiacon a ma diaconiaid sy'n syporto'r tafarnwr. Wrth gwrs dw i ddim yn gwed nag yw tafarnwr yn ddicon da i gal syport diaconiaid, a ma nhw'n cal syport mwy na feddylach chi o honyn nhw. Ond ma hi dicyn yn lletwith gan fydda i'n cwrdd a nhw mwn tafarn. pan fydda i gwpod fel ma nhw'n cnoco ar ben hen bwr dabs fel fi. Wi gyta William Hughes a'r gwithwrs y tro hyn, a fe ddylsa fod yn Ddistric Cownselar. Ma fa'n fachan da, a ma fa weti i eni a'i facu ar yr Onllwyn. Nid rhyw hypstart newydd ddod yw a. Neiff a ddrwg yn y byd i bobol yr Onllwyn i ddysgu ticyn o wers i Sgweiar Jones y Motor Car a'r diaconiaid a'r tafarnwr arall yna. Cofiwch chi, ma Mishtir William Bowen y Slôp lle rw i'n galw yn triw bliw. Tysa fe'n treio'i law ar lecsiwn, fe fyswn i'n roi miwn. Dishefoni, dyma Sgweiar Dafydd a'i boni a'i drap i fynd a fi am dro. TRAMP.

 

Hol Notiad. — Jaist i, Mishtir Golycydd, rw i'n ofni mod i ar ol y tro hyn. Yn y cwrdd plwy nos Iau, mi rowd y tafarnwr ar ben y pôl. Ond ma nhw'n gwed nag yw hyn ddim yn ben ar y mwtwl. Ond wn i ddim wir. Rhai ofnatw yw Sgweierod a thafarnwyr a diaconied pan fyddan nhw'n gwitho gyda'u giddyl.—T.

 

 

 

....
Sumbolau:

a A / æ Æ / e E / ɛ Ɛ / i I / o O / u U / w W / y Y /
MACRONː ā Ā / ǣ Ǣ / ē Ē /
ɛ̄ Ɛ̄ / ī Ī / ō Ō / ū Ū / w̄ W̄ / ȳ Ȳ /
MACRON + ACEN DDYRCHAFEDIGː Ā̀ ā̀ , Ḗ ḗ, Ī́ ī́ , Ṓ ṓ , Ū́ ū́, (w), Ȳ́ ȳ́
MACRON + ACEN DDISGYNEDIGː Ǟ ǟ , Ḕ ḕ, Ī̀ ī̀, Ṑ ṑ, Ū̀ ū̀, (w), Ȳ̀ ȳ̀
MACRON ISODː A̱ a̱ , E̱ e̱ , I̱ i̱ , O̱ o̱, U̱ u̱, (w), Y̱ y̱
BREFː ă Ă / ĕ Ĕ / ĭ Ĭ / ŏ Ŏ / ŭ Ŭ / B5236ː  B5237ː B5237_ash-a-bref
BREF GWRTHDRO ISODː i̯, u̯
CROMFACHAUː
  deiamwnt
A’I PHEN I LAWRː , ә, ɐ (u+0250) httpsː //text-symbols.com/upside-down/
Y WENHWYSWEG:
ɛ̄ ǣ æ

ˈ ɑ ɑˑ aˑ aː / æ æː / e eˑeː / ɛ ɛː / ɪ iˑ iː ɪ / ɔ oˑ oː / ʊ uˑ uː ʊ / ə / ʌ /
ẅ Ẅ / ẃ Ẃ / ẁ Ẁ / ŵ Ŵ /
ŷ Ŷ / ỳ Ỳ / ý Ý / ɥ
ˈ ð ɬ ŋ ʃ ʧ θ ʒ ʤ / aɪ ɔɪ əɪ uɪ ɪʊ aʊ ɛʊ əʊ / £
ә ʌ ẃ ă ĕ ĭ ŏ ŭ ẅ ẃ ẁ Ẁ ŵ ŷ ỳ Ỳ Hungarumlautː A̋ a̋

U+1EA0 Ạ   U+1EA1 ạ
U+1EB8 Ẹ   U+1EB9 ẹ
U+1ECA Ị   U+1ECB ị
U+1ECC Ọ   U+1ECD ọ
U+1EE4 Ụ   U+1EE5 ụ
U+1E88 Ẉ   U+1E89 ẉ
U+1EF4 Ỵ   U+1EF5 ỵ
g
w_gytseiniol_050908yn 0399j_i_gytseiniol_050908aaith δ δ £ gw_gytseiniol_050908yn 0399j_i_gytseiniol_050908aaith δ δ £ U+2020 †
« »
DAGGER
wikipedia, scriptsource. org

httpsː []//en.wiktionary.org/wiki/ǣ
Hwngarwmlawtː A̋ a̋
gw_gytseiniol_050908yn 0399j_i_gytseiniol_050908aaith δ δ
…..
…..
ʌ ag acen ddyrchafedig / ʌ with acute accentː ʌ́

Ə́ ə́

Shwa ag acen ddyrchafedig / Schwa with acute

…..
…..
wikipedia,
scriptsource.[]org
httpsː//[ ]en.wiktionary.org/wiki/ǣ

---------------------------------------
Y TUDALEN HWN /THIS PAGE / AQUESTA PÀGINA:
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_125_llith-y-tramp_1915_0188k.htm
---------------------------------------
Creuwyd / Created / Creada: 02-06-2017
Adolygiadau diweddaraf / Latest updates / Darreres actualitzacions: 18-09-2018, 22-11-2017, 03-06-2017, 02-06-2017
Delweddau / Imatges / Images:
Ffynhonnell / Font / Source: Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Newyddiaduron Cymru Arlein.
---------------------------------------
Ble'r wyf i? Yr ych chi'n ymwéld ag un o dudalennau'r Wefan CYMRU-CATALONIA
On sóc?
Esteu visitant una pàgina de la Web CYMRU-CATALONIA (= Gal·les-Catalunya)
Where am I?
You are visiting a page from the CYMRU-CATALONIA (= Wales-Catalonia) Website
Weə-r äm ai? Yüu äa-r víziting ə peij fröm dhə CYMRU-CATALONIA (= Weilz-Katəlóuniə) Wébsait

Freefind.

Archwiliwch y wefan hon
SEARCH THIS WEBSITE
---
Adeiladwaith y wefan
SITE STRUCTURE

Beth sydd yn newydd?
WHAT’S NEW?




Adran y Wenhwyseg / Secció del dialecte de Gwent / Gwentian Welsh
Edrychiadau ar y tudalennau / Vistes de les pàgines / Page Views

Web Analytics Made Easy -
StatCounter

Edrychwch ar ein Hystadegau / Mireu les nostres Estadístiques / View Our Stats