kimkat0256k Siencyn Ddwywaith. 1873. Remsen, Efrog Newydd. Hanes Unwaith Am Siencyn Ddwywaith;  Sef  Y Pethau Mwyaf Hynod Yn Ei Fywyd,  Yn Nghyda Rhai Traethodau, A Thalfyriadau O’i Bregethau, &C., &C.;  Hefyd Ychydig Awgrymiadau Am Minnesota, A’r Cymry A  Wladychant Yno.

 

17-07--2017
 
● kimkat0001 Yr Hafan www.kimkat.org
● ● kimkat2001k Y Fynedfa Gymraeg www.kimkat.org/amryw/1_gwefan/gwefan_arweinlen_2001k.htm
● ● ●
kimkat0960k Mynegai i’r testunau Cymraeg yn y wefan hon www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_mynegai_0960k.htm

● ● ● ● kimkat2557k Mynegai i Hanes Unwaith am Siencyn Ddwywaith www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_087_Siencyn Ddwywaith_1872_090106_2667k.htm

● ● ● ● ● kimkat0262k Y tudalen hwn

 

0003j_delw_baneri_cymru_catalonia_050111
(delw 0003)
..
 
 
 
 
 
 
 

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Catalunya i Gal·les
 
 
Cywaith Siôn Prys (Casgliad o Destunau yn Gymraeg)
El projecte Siôn Prys (Col·lecció de textos en gal·lès)

_______________________________________


Siencyn Ddwywaith
1873
Utica, New York State

 
RHAN 3 – tudalennau 200-282

 

 

0285_map_cymru_trefynwy_061117
(delw 0285)

 

 

 

Yn  ôl i rhan 2 (tudalennau 100-199):  kimkat0255k www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_087_Siencyn Ddwywaith_1872_090106_rhan-2_0255k.htm

 

 

a’r Parch. Griffith Samuel

yn South Bend.

 

Tudalennau’r llyfr heb eu cywiro, ar wahân i 200-206

 

 

 

 

 

 

(x200)
Mae y Parch. Philip Peregrine yn gweinidogaethu iddynt yn Butternut Valley yn awr, a minau pan y gallwyf; a’r Parch.
Griffith Samuel

yn South Bend. Ffurfiais hefyd un eglwys Bresbyteraidd ar y Big Cottonwood, a dwy Ysgol Sabbothol. Yr wyf yn myned yno yn barhaus yn awr ac yn y man, ac hefyd i Lake Crystal, a manau eraill. Mae Minnesota yn rhedeg trwyddi ger llyn sydd ger yr Afon Goch i Fort Snelling, ger St. Paul. Mae y gogledd-ddwyreiniol iddi yn lled goediog, a’r rhanau gorllewinol yn brairies llydain, agos yn wastad, a llawer o lynoedd o wahanol faintioli, ac yn brinach o goed. Mae’r priddellau yn gyffredin o ugain modfedd i ddeugain o ddyfnder. Gwlad hynod yw am wenith, ceirch, haidd, rhyg, corn, cloron, gwair, a phorfeydd. Ei dyfroedd sydd iachus, a llawn o bysgod. Mae ynddi gyflawnder o gwningod, hwyaid, a ieir y prairies, a gwyddau yn y gwanwyn a’r hydref. Mae ei railroads yn aml, ei threfydd masnachol yn lluosogi, a digonedd o lo mewn rhai manau ynddi.

Mae yma bedwar neu bump o sefydliadau Cymreig; ond hwn, yn Swydd Blue Earth yw y mwyaf o lawer. Yma y mae chwech o gapeli gan y Trefnyddion Calfinaidd; dau gan y Cynulleidfaolion, heblaw amryw ysgoldai lle yr arferir addoli yn yr iaith Gymraeg. Gellir cael cartrefleoedd o gant a thriugain o erwau am ganoedd lawer o  filldiroedd, ond talu pymtheg dolar i’r Llywodraeth; a digonedd o leoedd eraill am bris isel, yn ol y gwahanol fanau, a’r cyfleusderau y byddont, a’r driniaeth a gawsant. Mae yn lle dychrynllyd i feddwon, a dynion diog. Gwna y naill rewi i farwolaeth yn eu meddwdod, tra y bydd y llall yn sicr o ddyoddef mwy nag sydd raid iddo yn y gauaf. Mae dwy section o bob
 

 



(delwedd B0201)

(x201)

plwyf wedi eu trwyddedu, er mwyn addysg y plant. Bernir ei bod yn hynod iachus — awyrgylch sych, deneu, a llewyrch haul digwmwl y rhan fwyaf o’r amser; y tywydd yn bur sefydlog — ambell ystorm ddychrynllyd — y mellt yn oleu iawn, a’r taranau yn gryfion a thrystfawr.

………O Minnesota braf,
……Ac iachaf yn y byd,
………Mor hyfryd yn yr haf
...
………Yw byw lle na bo’r cryd;
…………De’wch atom, Gymry, yn ddioed,
…………Heb aros dim, os gellwch dd’od


 



(delwedd B0202)

(x202)

Y PARCH.
MORRIS ROBERTS, REMSEN, A MR. WILLIAM MAXY, CARBONDALE.

Amrai flynyddau yn ol, yr oedd Cymanfa yn Carbondale, a llawer o bobl wedi ymgynull yn nghyd. Yn un o’r oedfaon yr oedd Mr. Roberts yn pregethu; pan tua haner ei bregeth, wedi myned i hwyl wrth ddyweyd am drefn y cadw, dywedai am railroad fawr yr iachawdwriaeth, clywid Maxy yn dyweyd, “Amen, Amen,” fel y byddai yn arfer. Yn mhen ychydig, dywedai Morris, gan droi ei law yn ei wallt, “Bobl fach, ar y railroad hon y mae y locomotive dwyfol, a thrain noble ar ei hol.” Dyma dair o’r ceir, y Gymdeithas Genadol Dramor, mae hon yn cario’r efengyl i wledydd paganaidd., Parhäai Maxy i waeddi, “ Amen, Amen.” Ychwanegai at hyny hefyd, “O’r goreu, fy ngwas i.” Dyma gar noble arall, y Gymdeithas Genadol Gartrefol, mae hon yn cynorthwyo eglwysi gweiniaid, sydd yn analluog i gynal y weinidogaeth yn eu plith eu hunain, ac i blanu eglwysi newyddion mewn lleoedd oeddynt amddifad o’r efengyl o’r blaen.
“Amen, Amen, dyna hi, fachgen.” Dyna gymdeithas arall, y Gymdeithas Feiblau, i roddi Gair y Bywyd yn mhob iaith, i holl drigolion y byd. “Amen, Amen, dyna hi eto, fachgen.” Dyna gymdeithas arall hynod iawn, sef y Gymdeithas Draethodol. Mae yn hon le i’r merched a’r gwragedd i fyned a’r efengyl i’r tai, ac i bob man lle y byddo dynion. “Amen byth, dyna hi eto.” Mae cymdeithas arall yn awr ar droed, ac un enwog yw hi hefyd, sef y
 


 



(delwedd B0203)

(x203)

Gymdeithas Ddirwesol, i wneyd y meddwon yn sobr, i newynu yr hen saloons budron yma, a dysgu dynion i fyw fel y dylent; dyma y ffordd i gael y byd i drefn. briodol. Ioan Fedyddiwr yw yr engineer — dysgyblion Ioan, jumpiwch i mewn iddo gyda brys. Pan oedd Mr. Roberts yn dyweyd am y gymdeithas hon, trwy nad oedd Maxy yn ddirwestwr, ac yn caru llymed, yn lle dyweyd “Amen,” fel cynt, ysgydwai ei ben, a dywedai, “He, beth yw hyna sydd gen’t ti?”

“Wedi dybenu yr oedfa, awd i dy Mr. Maxy i de (un caredig a lletygar iawn ydoedd). Pan wrth y bwrdd, gofynodd Mr. Roberts i Maxy, paham na buasai yn dyweyd “Amen” pan oedd ef yn dyweyd am y Gymdeithas Ddirwestol, fel ag y gwnai pan oedd yn dyweyd am y cymdeithasau eraill? Yr ateb a gafodd oedd, “Nid wyf fi ddim yn ’mofyn dy gymdeithas ddirwestol di, ’does dim o’i heisiau arno i.”

Roberts — “Nid yw yr yfed yma yn gwneyd dim lles i chwi, fe fyddai yn well i chwi o lawer iawn ei roddi heibio.”

Maxy — “Yr wyf fi yn gwybod yn well na hyny; pan y byddwyf fi yn tyllu yn y gwaith, a’r llwch yn dyfod i’m genau, a minau yn gweithio yn galed, mae llymed bach y pryd hwnw yn fine iawn; neu yn yr hwyr, ar ol bod yn ddyfal trwy’r dydd, mae yn gysurus anghyffredin i gael llymed y pryd hyny hefyd, wel’ di.”

Roberts — “Wel, Maxy, mae yn rhaid i chwi joinio dirwest, neu mae yn rhaid eich diarddel o’r eglwys. Mae gyda ni yn awr, yn State New York, engine fawr, ac yr ydym yn cylymu y chain am yddfan yr hen stympiau, ac y mae yn eu tynu hwy o’r gwraidd bob




 



(delwedd B0204)

(x204)
 
un; ac yr wyf fi yn meddwl fod yn rhaid tynu yr hen yfwyr yma hefyd o’r eglwysi.”

Maxy — “Nid alli di ddim, fy ngwas i; yr oeddwn i yn aelod yn eglwys Cross, Penmaen, cyn i ti gael dy eni, na son am danat ti na dy ddirwest; nid wyf fi ddim wedi meddwi erioed, nid alli di wneyd dim i mi. Am dy engine sydd gyda ti, yn State New York, i godi stympiau, eu gadael hwy i bydru eu hunain yr y’m ni yma, ac y mae yn llawn cystal i ti fy ngadael inau yn llonydd, ni fyddaf fi ddim yn hir ar dy ffordd di, nac ar ffordd neb arall ychwaith.”

PREGETH.

“Crist a’n llwyr brynodd oddiwrth felldith y ddeddf, gan ei wneuthur yn felldith trosom; canys y mae yn ysgrifenedig, Melldigedig yw pob un sydd yn nghrog ar bren.” — Gal. iii. 13.

Planwyd Cristionogaeth yn foreu yn Galatia, yn y flwyddyn 50, gan Paul, ac yn y flwyddyn 54 ymwelodd â hwynt. Act. xvi. 18, 23. Ysgrifenwyd yr epistol hwn o Corinth. Ni bu Paul yn Rhufain am 10 mlynedd wedi hyn. Hwn yw yr epistol cyntaf a ysgrifenodd. Yr oedd yr eglwys hon yn gymysg o Iuddewon a Chenhedloedd; yr olaf oeddynt luosocaf. Prawf galarus o lygredigaeth foesol dynolryw yw, fod personau neillduol, ac eglwys hefyd, yn llaesu ac yn ymollwng oddiwrth burdeb athrawiaeth yr efengyl hyd yn nod yn nyddiau Paul. Diffyg y Galatiaid yn benaf oedd, cymeryd eu tynu ar gyfeiliorn gan eu hathrawon Iuddewaidd, y rhai a ddywedent, oddieithr iddynt gymeryd eu henwaedu nad allent fod yn gadwedig,


 



(delwedd B0205)

(x205)

gan osod y ddeddf yn lle Crist. Er eu gosod ar eu gocheliad yn erbyn y cyfeiliornad hwn, mae yr apostol yn dangos mai trwy ffydd y cyfiawnhawyd Abraham, ac nad oes neb yn wir blant i Abraham ond y rhai sydd yn credu yn Nghrist; a bod y rhai a ymlynant wrth weithredoedd y ddeddf, fel sail eu cymeradwyaeth gyda Duw, dan felldith.

Mae dwy ffordd i fywyd, un i’r dieuog, a’r llall i’r euog; a chan ein bod ni oll yn euog, fod yn rhaid ymwadu a’r gyntaf, trwy ein bod tan felldith y ddeddf; ac felly, mai yr olaf yw ein ffordd ni, sef trwy ffydd yn Nghrist.

I. Ystyriwn ein sefyllfa dan felldith y ddeddf. Mae y ffaith yn anwadadwy, oblegid pe na buasem dan felldith y ddeddf, ni buasai eisiau ein gwaredu oddiwrth y fath felldith.
Yn fwy neillduol. .

1.  Mae ein bod yn ddarostyngedig i felldith y ddeddf, yn   golygu   ein   bod   dan   rwymau   anughyfnewidiol i ufuddhau iddi.    Y fath yw y ffaith, nas gallwn byth ymryddhau o’n rhwymau i garu Duw a’n cymydog, trwy un amgylchiad a ddichon ddigwydd trwy holl gylch ein bodolaeth.   Nid yw pechod yn ein rhyddhau, mwy nag yw tori amod yn rhyddhau oddiwrth gytundeb.    Nid yw gras yn gwneyd hyn, oblegid gwaith hwn yw gosod y gyfraith yn ein calon, ac ofn Duw ynom.

2.  Ein, bod dan rwymau i ufuddhau a chadw y gyfraith.    Darfu i ni ei throseddu yn ei holl ranau.    Er nad yw pob un yn euog o’r un math o ddrwg a’r llall yn hollol — o gyflawni yr un pethau, mae pawb wedi ymadael oddiwrth fuchedd Duw, ac wedi troseddu egwyddorion rhwymedigaeth, ac felly yn euog o’r cwbl.



 



(delwedd B0206)

(x206)
 
 
Mae caniatau un pechod, yn dangos nad ydym yn ymgadw oddiwrth bechodau eraill oddiar un parch i’r Arglwydd, ond oddiar ryw îs-ddyben sydd yn rhy fyr o ogoniant Duw; am hyny y mae’r Iuddew a’r Cenedl-ddyn tan bechod.
Rhuf, iii. 10. “Nid oes neb cyfiawn; nac oes un.” Iago iii. 10.

3. Wedi troseddu y gyfraith ddwyfol, a myned yn ol am ogoniant Duw, hyd yn nod pan y mae ufudddod yn rhanol wedi cael ei wneyd, yr ydym yn anocheladwy tan felldith. Mae pob cyfraith a chosb yn gysylltiedig a hi, onide ni byddai ynddi rym. Mae y gyfraith ddwyfol wedi cysylltu marw a’i throseddiad. Mae bendith a melldith yn perthyn iddi; y naill i’r ufudd a’r llall i’r anufudd, a chan ein bod ni yn perthyn i’r desgrifiad olaf, yr ydym tan y felldith. Gan hyny, gadewch i ni wneyd ymchwiliad i gynwysiad y gair brawychus hwnw, “ Melldith y ddeddf.”

(1.) Mae yn gosb yr hon a weinyddir, neu a dybir ei bod, oddiwrth uwchlaw gallu dynol. Nid ydyw rhegfeydd a melldithion dynion drwg, ond yn gosod allan eu hannuwioldeb a’u dymuniadau llidiog at eraill; ond y mae melldith sylweddol yn dyfod oddiwrth Dduw, neu ryw un tan ei awdurdod. Pan ddatganodd Noah y felldith ar Ham, yr oedd yn gwneyd hyny trwy ddylanwad prophwydoliaeth; a phan anfonodd Balac am Balaam i felldithio Israel, yr oeddid yn tybied ei fod yn cymdeithasu a’r Duwdod, neu ryw allu anweledig. Nid yw melldith y brenin hudoledig, neu offeiriaid pabaidd, ddim yn y byd; ond y mae bod dan felldith Duw yn beth dychrynllyd, ac nid oes diangfa.

(2.) Mae melldith deddf gyfiawn Duw yn rhwymo’r pechadur i gosb dragywyddol.
Yr oedd bygythiadau


 



(delwedd B0207)

(x207)

ofnadwy yn dilyn y troseddiad o gyfraith Moses. Deut. xxviii. 15—19. Er fod y melldithion hyn yn benaf yn cael eu bygwth am bethau tymhorol, ag y gall dynion dan yr efengyl ddianc, eto y maent dan felldith ysbrydol, yr hon sydd yn llawer mwy ofnadwy, sef eu taflu ymaith oddiwrth nawdd Duw am byth, mewn anobaith am ymwared. Nid yw y bywyd presenol ond oediad o’r llid a fydd.

II. Ein prynedigaeth. “Crist a’n llwyr brynodd oddiwrth felldith y ddeddf, gan ei wneuthur yn felldith trosom.”   1. Md dyma y mesur oedd y gyfraith yn ei ddarparn.  Nid yw, ychwaith, yn ol dull a threfn cyfiawnder per-  sonol, ond darpariaeth hynod o ddyfais y Pen-Llyw-  ydd ei hun. Nid yw y gyfraith yn darparn cyfnew-  idiad personan, ond yn gofyn yr enaid a bechodd i  farw. Pe buasai i'r gyfraith redeg ei chwrs, bnasai yn  rhaid i ni oil farw. Mae darpariaeth prynedigaeth yn  gyfan-gwbl o ras.   2. Mae ein rhyddhad oddiwrth y felldith yn cael ei  effeithio mewn ffordd sydd yn diogelu anrhydedd y  gyfraith, yn gystal ag iachawdwriaeth y pechadur.   Mae dau fath o brynedigaeth — trwy bris, nen werth,  a thrwy allu, ac y mae y ddau yn ateb i'n sefyllfa ni.  Pan y byddo y llywodraeth drosom yn dreisiol, nid oes  heddwch i gael ei wneyd a'r gelyn, na phris iV gynyg  am ei waredigaeth, ond rhaid gosod nerth yn erbyn  nerth ; ond pan y byddo gallu i gadw yn gaeth yn gyf-  iawn, rhaid i'r rhyddhad gymeryd lie trwy dal neu  heddychiad. Mae gwaredu cyfaill o law gelyn, fel y  gwaredodd Abraham Lot, trwy rym arfau ; ond y car-  charor a gedwir yn gyfreithlon a ollyngir trwy iawn

 


 



(delwedd B0208)

(x208) HAKES  BTWYD

neu daliad, fel y rhyddhaoddd Paul Onesimus, neu Juda Benjamin. Mae ein rhwymau i gyfraith Duw yn gyfiawn, a’n haeddiant o’r felldith felly hsfyd. Nid gwiw amcanu treisio y gyfraith ddwyfol. Rhaid i’r hwn sydd yn oymeryd y gorchwyl o ryddhau y troseddwr roddi boddlonrwydd i gyfiawnder dialeddol. Yr oedd yr aberthau dan y gyfraith yn gosod allan y drychfeddwl o ryddhad a maddeuant trwy waed y cymod.

3.  Mae y cymeriad a roddir yma i osod allan ddyoddefiadau ein Harglwydd yn gryf iawn.   Fe’i gwnawd yn “ felldith drosom “—yn wrthodedig gan nefoedd a daiar; yr unig Pod difrycheulyd er cwymp dyn a fu byw yn y byd yn cael ei drin fel pe buasai yr unig bechadur.    Rhoddodd ei enaid yn aberth dros bechod yn y fath fodd ag i ddangos fod pechod yn cael ei gondemnio yn y cnawd, neu yn ein natur ni, a bod yr Arghvydd wedi rhoddi arno ef ein hanwiredd ni i gyd. Yr oedd Job yn achwyn fod ei ddolur yn fwy na’i ocheneidiau, a Jeremian yn dy weyd ei fod yn un a “ welodd flinder;” ond both oedd eu dyoddefiadau hwy i’w cyferbynu a’r eiddo Crist yn yr ardd, ac ar y groes? “ Na ddyweded y rhai a welsant adfael Jerusalem mwy-ach, beth yw y llid a’r dig hwn?”    Edrychwn i Galfaria, a gwelwn Fab Duw yn trengu dan y felldith drosom yno.

4.  Effeithiau y dyoddefiadau hyn yw ein prynedigaeth, a’n gwaredigaeth pddiwrth felldith y ddeddf. Yn awr, gan fod cyfiawnder wedi cael cyflawn foddlonrwydd, mae Duw yn ymddangos yn ei wir gymeriad, “yn gyfiawn, ac yn cyfiawnhau y neb sydd o ffydd Iesu.”   Mewn cadw pechaduriaid yn ei Fab, mae Duw

T PAKCH. JENTKIH”


 



(delwedd B0209)

(x209)

yn llawn mor hoff o’i gyfiawnder, a gelyn i bechod, a phe buasai yn condemnio y pechadur i ddinystr. Rhuf. ni. 24—26. Mae iachawdwriaeth yn gyfiawn gydag ef. Ps. cxxx. 7, 8. “ Disgwylied Israel am yr Arglwydd, o herwydd y mae trugaredd gyda’r Arglwydd, ac aml ymwared gydag ef; ac efe a wared oddiwrth eu holl anwireddau.”

CASGLIADAU.

1. Gwelwn ddiogelwch a dedwyddwch credinwyr. Nid yw y felldith mwyach yn sefyll yn eu herbyn, a’r holl fendithion yn eiddo iddynt. Fe ddyry Duw iddynt bob peth gyda Christ.

2. Mae iachawdwriaeth yn awr yn cael ei chynyg yn rhad i bechaduriaid, a Christ yn barod i dderbyn pwy bynag a ddel. “ Gwyn eu byd pawb a ymddiriedant ynddo ef.” Amen.

PEEGETH.

“ Tr wyf yn marw beunydd.”   1 Cor. xv. 31.

Nid oes achos i ni gyfyngu ystyr ein testyn, ond derbyniwn ef yn yr olwg gyffredinol, yn mha ystyr y gallasai Paul ddyweyd hyn, ac yn mha ystyr y mae yn briodol i ninau ei arferyd.

Yr oedd ef yn marw beunydd, o herwydd yr oedd yn wastad mewn perygl wrth bregethu yr efengyl. 2 Cor. xi. 23—28. Hwyrach nas gallwn ni fod mewn cymaint o beryglon a Paul, eto yr ydym Mg^^hy^berjgJJbob awr, ac yn agored i ddigwyddiada”u!YFydym yn cael ein cylchynu gan ddynion drwg a direswm, tymerau a


 



(delwedd B0210)

(x210)

HAKES   BYWTD

dichellion y rhai a allant ein dinystrio. Qnid ydym mewn byd sydd yn llawn o faglau—breuolder y corff, curiadau y gwaed, &c.?

2.  Yr oedd Paul yn marw beunydd, nid yn unig yn gyfansoddiadol, ond hefyd yn dyngedol.    Y fynyd y dechreuasom fyw, yr oeddym yn dechreu marw.   Yr ydym yn siarad am farw.   Mae amryw o honom yn haner marw yn barod, a rhai yn rhagor.    Mae amryw o’n cysylltiadau yn feirw, a’n cysuron, a’n gobeithion. Yr ydym wedi claddu llawer o gyfleusderau, o ddyddiau a blynyddoedd, ac y mae pob dydd a mynyd yn ein dwyn at ddiwedd y cwbl.   Gwrthun yw cyfyngu marw i’r weithred o ysgariad y corff a’r enaid; nid yw hyn ond yr ergyd olaf.

3.  Yr oedd Paul mewn ystyr foesol yn marw beunydd. Marw i wrthddrych, yn ol yr Ysgrythyr, yw, nad oes dim mwyach a fynom ag ef.    Cyfrifwch eich hunain yn farw i bechod.    Os ydym wedi marw i bechod, pa fodd y byddwn byw mwyach iddp ef?    Croeshoelio yr hen ddyn, y cnawd, ei wyniau a’i chwantau; marweiddio gweithredoedd y corff, croeshoelio y cnawd.   “ Yr wyf yn marw beunydd.”

4.  Yr oedd Paul ynjDarod i ymddatod pa bryd bynag y buasai hyny yn cymeryd lle.   A’r dyn sydd o’r un meddwl sydd yn ystyriol i barotoi i farw—mewn sefyllfa ac agwedd addasi farw yn ddiogel ac yn dawel.   Marw i ogoneddu Duw—i gael  mynediad helaeth i deyrnas dragywyddol ein Harglwydd Iesu Grist.   Mae yn rhaid i hyn ddechreu gyda dymuniad yr apostol, i enill Crist, a’n cael ynddo ef.   Nid oes dim yn cael ei wneyd i bwrpas er parotoi erbyn tragywyddoldeb nes y gallwn ddyweyd, “ I’th ddwylaw di y gorchymynaf fy ysbryd.”

Y  PARCH.


 



(delwedd B0211)

(x211)

“ Ti a’m gwaredaist, O Arglwydd Dduw y gwirionedd.” Nid ydyw llais y nefoedd yn cyhoeddi neb yn wynfyd-^ edig ond y rhai sydd yn marw yn yr Arglwydd. Mewn sefyllfa o undeh a chymuhdeh ag ef; ei gyfiawnder ef yn rhoddi hawl, a’i ras yn em gwneyd yn gymwys i gael rhan o etifeddiaeth y saint yn y goleuni.

5. Yn yr achos hwn dylem, nid yn unig fod yn barod mewn teimlad, ond disgwyl yn weithredol; wedi gwregysu em lwynau, a’n lampau yn gyneuedig; y gydwybod yn bur, ac yn dawel; ein serch wedi ei dynu oddiwrth bethau daiarol, fel pan ddelo y wys, ein bod yn foddlon i fyned, ac nid gwaeddi am arbediad, a dywedyd, “ Paid a mi, fel y cryfhawyf, cyn fy myned ac na byddwyf mwy.” Mae hyn yn gwastadhau y llwybr tua’r lorddonen, ac nid taro ein traed wrth y mynyddoedd fcywyll yn ddisymwth. Mae sydynrwydd amgylchiad yn gwylltio y teimlad, ac yn gyru y meddwl i ymddyrysu. Hwyrach na wna angau ddyweyd pa bryd y daw, na pha fodd trwy gystudd. Os na chredwn ni hyn, ni chredem ychwaith pe cyfodai un oddiwrth y

ro/ritvro-                   •*

meirw.



PKEGETH.


 



(delwedd B0212)

(x212)

“ Y mae afon, a’i ffrydiau a lawenhant ddinas Duw.”—Salm xlvi. 4.

Pa beth a all yr afon hon fod, ond y cyfamod tragywyddol hwnw oedd Duw wedi ei wneyd dg ef, at yr hwn yr oedd ei feddwl yn cyrchu, pan yr oedd pob ffrwd arall wedi sychu i fyny. Er nad oedd ei dy felly gyda Duw; dyna oedd ei holl ddymuniad, er nad oedd yn peri iddo flaguro. Pa beth yw ffrydiau yr afon. HAKES  BTWTD

yma, ond y cysuron hyny yr oedd Dafydd yn eu mwynhau oddiwrth y cyfansoddiad dwyfol hwn? Gwaed Iesu, dylanwadau yr Ysbryd Glan, athrawiaethau ac addewidion yr efengyl, ordinhadau crefyddol a moddion gras. Mae pedair ffordd y gall ffrydiau afon lawenhau dinasvddion.                       -              “*~~”

~*»~”...... J......-

I.5 Yr olwg arnynt.   Nis gall dim fod yn fwy pleserus a dymunol i’r rhai sydd yn archwaethu pryd-ferthwch natur, na rhodio wrth ochr ffrydiau bywiog a grisialaidd.   Gweled y pysgod yn chwareu, yn esgyn a disgyn ar wyneb y don; y llysau gwyrddleision yn ymsymud a siglo ar wyneb y crych gloy w; swn y dyfroedd yn llithro heibio i’r clogwyni, ar hyd y ceryg llyfnion; lliw y gwaelod yn ymddangos trwy belydr yr haulwen yn y ffrwd, a’r awel yn brigwynu symudiad y crych; y prenau yn ymestyn ac yn plygu eu brigau ar hyd yr ochrau, yn cusanu y dwfr; y coed llathraidd ac uchel-frig yn cysgodi a gorchuddio wynetpryd yr aber oddiar y clogwyni a’r pantau cylchynog.    Dyma le i ddyn o feddwl ac archwaeth i fyfyrio; i’r bardd i chwareu ei awen fwyn, a’r arluniwr ei bwyntil.    Ond beth yw yr olwg a gaiff y Cristion wrth syllu ar ei ffynonau ef? Mor amrywiol, mor anwyldeg, ac mor argraffiadol ar ei feddwl a’i galon yw y gwrthddrychau a ymddangosant iddo!   “Bydd melus fy myfyrdod am dano—mi a lawenychaf yn yr Arglwydd.”

i f 2.)Masnach. Mae yn annhraethol fanteisiol i ddinas j focTyn agos i ddyfroedd, gan ei fod nid yn unig yn I gwneyd masnach yn alluadwy, ond hefyd yn hawdd ac I nelaeth. Humber sydd wedi gwneyd Hull mor enwog, | a Thames, Lundain. Trwy nerth afonydd a dyfroedd y

Y PAECH. JEJTKIN


 



(delwedd B0213)

(x213)

I

mae marsiandiaeth yn cael ei gario o amryw ddinasoedd i eithafoedd y ddaiar, a’u hynodi mewn cyfoeth a gwychder. Ar hyd y ffrydiau hyn y mae’r Cristion yn derbyn cyfoeth i’w enaid, i’e, trysorau annhraethol eu gwerth a pharhaus.
Trwy y rhai hyn y mae yn delio a’r wlad bell. “ Gwell yw ei marsiandiaeth hi na marsiandiaeth o arian, a’i chynyrch hi sydd well nag aur coeth.”

/ 3.}Ffrwythlonrwydd. Meddyliwch am dir sych, lle na3 oes dim dwfr i’w gael; mor ddymunol fyddai ffynonau dyfroedd yn ymwthio o’r creigiau a’r bryniau llwm, ar hyd y tywod melyn, ar eu goriwaered, er cynyrchu y borfa a chorsenau brwyn. Dewisodd Lot wastadedd Sodoma, yn agos i’r lorddonen, am ei fod yn ddyfradwy fel gardd yr Argwydd.

A ddarllenasoch chwi erioed eiriau Balaam, yn darlunio gwynfydedigrwydd Israel. “ Ymestynant fel dyffrynoedd, ac fel gerddi wrth afon; fel olewydd a blanodd yr Arglwydd; fel cedrwydd wrth ddyfroedd.” Onid y Cristion yw y pren a blanwyd wrth afonydd dyfroedd, yn tyfu mewn bywyd dwyfol, wedi ei add-urno a grasau yr Ysbryd, yn pyngu a ffrwythau cyfiawnder, trwy Iesu Grist, er mawl a gogoniant Duw.

s**”‘\

(4.
Er cyflenwi angen. Beth a wnelai dinas heb yr elfen ddyfrllyd, werthfawr? Bob amser amcana’r gelyn atal ffordd y dwfr i’r ddinas, er mwyn iddi roddi fyny iddo. Yr oedd rhifedi llu brenin Assyria gyda Eab-saceh yn bostio, mai a gwadn ei esgid y buasai yn sychu dyfroedd Jerusalem. Ni bydd ar y saint eisiau. “O deuwch i’r dyfroedd—y dwfr a roddwyf fi iddo a

HANES BTWYD 


 



(delwedd B0214)

(x214)

fydd ynddo yn ffynon—os oes ar neb syched, deued ataf fi ac yfed—cymerwch o ddwfr y bywyd yn rhad.”

If such the sweetness of the stream,

What must the fountain be, Where saints and angels draw their bliss

Immediately from thee?

PEEGETH.

“ Nac ymrysonwn a Duw.”—Act. xxiii. 9.

~*\ I.’1 Dangoswn pa fodd y gellir dyweyd fod dynion yn

ymryson a Duw:

1.  Pan y byddont yn casau ac yn anmharchu ei bobl.

2.  Pan y byddont yn atal ac yn dystewi ei weinidogion i bregethu.   Chwithau hefyd a erlidiant.   
Y gyfraith o unifurfiad a daflodd ddwy fil o weinidogion o’u swyddi.   Lladd ei dystion.

3.  Yla dangos gwrthwynebiad i’r gwirionedd.    Jer. xliy. 16,17.   Y maent i bob gweithred dda yn anghy-meradwy.

4.  Pan yn amlygu anfoddlonrwydd, a beio gweinyddiadau ei ragluniaeth.   Job xl. 2. “Ai dysgeidiaeth yw ymryson a’r Hollalluog?”   
Esa. xly. 9.  “ Gwae a ymrysono a’i luniwr.”‘ Rhuf. ix. 20. -” Yn hytrach, O ddyn, pwy wyt ti, yr hwn a ddadleui yn erbyn Duw?” Yn dyweyd, Da yw ymddigio yn erbyn Duw.   Esa. yiii. 21.   Pan y byddo Duw yn taro, mae y pechadur am daro yn ol.

5.  Pan yn mygu argyhoeddiadau, gan wneyd trais a’u cydwybodau.    Gwnaeth y cyn-ddiluwiaid hyn dan bregethiad E~oah, a’r Iuddew anghrediniol dan wein

Y  PARCH.  
JENKIN JBKKINS.                


 



(delwedd B0215)

(x215)

idogaeth yr apostolion.    Act. xxiy. 25.   “Dos ymaith ar hyn o amser,” &c.   Mat. xiii. 14, 15. “ Gan glywed yjcjywch, ond ni ddeallwch.” \Iu Ystyriwn ddrygedd y fath ymddygiad.

1.  Ms gall gelyniaeth yn erbyn Duw ddeilliaw ond oddiar  anwybodaeth  o  Ddtiw, a   thyb  hunanol o’n doethineb ein hunain.   Jer. v. 3, 4.

2.  Mae yr ymgyrch hwn yn wag a disylwedd.  1 Cor. x. 22. “ Ai gyru yr Arglwydd i eiddigedd yr ydym? A ydym ni yn gryfach nag ef?”    Esa. xl. 21.   “ Yr hwn a wna yn ddiddym farnwyr y ddaiar,” &c.   Caled yw gwingo yn erbyn symbylau.    Luc xiy. 31.   “ Neu pa frenin yn myned i ryfel yn erbyn brenin arall,” &c.

3.  Bydd y diwedd yn druenus.   Mewn ymrysonau eraill, dichon y canlyniad fod yn amheus.
Yma mae yn sicr o fyned yn erbyn y dyn.   Job ix. 4. “ Mae efe yn ddoeth o galon, ac yn alluog o nerth,” &c.   Heb. x. 31. “ Peth ofnadwy yw syrthio yn nwylaw y Duw byw.”

4.  Gwell yw dyfod i gymod ag ef gyda brys.   Mae y ffordd yn rhydd, Cyfryngwr yn barod, a heddwch trwy waed y groes.   2 Cor. v. 19, 20.    “ Sef bod Duw yn Nghrist yn cymodi y byd ag ef ei hun.”   Mat. v. 25. “Cytuna a’th .wrthwynebwr ar frys.”   Esa. xxvii. 5. “ Neu ymafled yn fy nerth, fel y gwnelo heddwch a mi, ac efe a wna heddwch a mi.”

5.  Os na wneir i fyny yn y byd hwn, bydd yn rhy ddiweddar am byth.   Yn awr yw yr amser cymeradwy. Yn y byd a ddaw bydd y gagendor wedi ei sicrhau.  Ps. 1. 21, 22. “ Deallwch hyn yn awr, y rhai ydych yn annghofio Duw, rhag i mi eich rhwygo, fel na byddo gwaredydd.”   “Hyn a wnaethost, a minau a dewais.”


 



(delwedd B0216)

(x216)

ttANES  BYWYD

PKEGETH.

“ Yr hwahefyd a’aseliodd.”—2 Cor. i. 22.

Yr Ysbryd Glan yn cael ei osod allan fel sel, a chredinwyr yn derbyn argraff ei sel ar eu calonau a’u meddyliau.

I. Sel oedd yn cael ei defnyddio i gadarnb.au ac awd-urdodi ysgrifen-brawf (document).    Gwelwn hyn yn Jer. xxxii. 9, a Nek. ix. 38.   Holl fendithion cyfamod Duw sydd yn cael eu selio drosodd gan yr Ysbryd i’l credadyn pan yn edifarhau a chredu yr efengyl.

II.  Yr oedd sel gwr yn cael ei rhoddi ar ei eiddo, i’w wahaniaethu oddiwrth eiddo pawb arall.   Bzec. ix. 4; Dat. vii. 2.   Wrth ein hy.sbryd y gwyddys eiddo pwy ydym.   Os eiddo Duw, yr ydym wedi ein selio gan Ysbryd Duw.   Yr ysbryd sydd yn tystiolaethu.

III. Sel a osodir i ddiogelu pethau gwerthfawr. Yn awr y saint yw y jewels, a’r llythyrau.   Yr Ysbryd sydd yn selio ei bobl, a phob peth a feddant i fywyd tragywyddol.

IV. Trwy selio y mae delw gwr yn cael ei rhoddi ar ei eiddo. Felly mae yr Ysbryd wrth selio plant Duw yn gosod delw Duw ar ei eiddo, sef goleuni, gwirionedd, cyfiawnder, cariad, santeiddrwydd, a ffyddlondeb, &c. Dyma y sel sydd ar yr holl deulu. Pa le bynag y gwelwch un o deulu Duw, yno y gwelwch ei ddelw ef hefyd.

1.  Dynion sydd yn dangos yr Ysbryd y seliwyd hwynt ag ef.

2.  Na thristawn yr Ysbryd a’n seliodd hyd ddydd prynedigaeth.

T PAKCH. JERKIN JENKINS.


 



(delwedd B0217)

(x217)

3. Cysurus yw bod dan sel y Brenin byth ac yn dragywydd. Ioan i. 29. “ Wele Oen Duw, yr hwn sydd yn tynu ymaith bechodau y byd.”

I. Yr enw a roddir i Iesu Grist, “ Oen Duw.”
Oen oedd arwyddlun o

1.  
Ddiniweidrwydd, dieuog, didwyll, dilygredd, perffaith, difai.

2.  Amyneddgar ac addfwyn, yn ngwyneb dirmyg a gwawd Pilat, a’r archoffeiriad. “ Fel oen yr arweiniwyd efi’rlladdfa.”

3.   Defnyddioldeb.—Ei gnawd yn fwyd yn wir—ei waed yn ddiod yn wir; a’i wlan yn wisg oreu—cyfiawnder y saint.

4.   Oen—aberth dyddiol dros bechodau dyddiol  y genedl.

5.  Oen y Pasg—aberth mawr blynyddol dros y genedl; yn oen blwydd, perffaith-gwbl, o’r gorlan, a’i ladd yn nghanol y gynulleidfa; ei rostio, heb dori asgwrn o hono; ei waed ar gapan y drws ac ar y ddau ystlys-bost, i ddiogelu ei holl deulu.     O! edrychwn arno trwy ffydd, nes byddo ein calonau yn cynesu ato.

6.  Iesu oedd Oen Duw yn ei briodol ystyr; ei unig-anedig Fab, ei hanfodol gydradd, uwch nac angelion, wedi ei ethol, a’i anfon, a’i uno a’r natur ddynol; yr hwn a roddodd ei hun yn aberth dros bechodau y byd; yr hwn a gymeradwywyd gan y Llywydd ar ei orseddfainc.

II. Yr hyn y mae Iesu Grist yn ei wneyd fel Can Duw—” tynu ymaith bechodau y byd.”

1. Tynu ymaith bechodau y byd.—Trwy ei ufudddod a’i angau; fe dynodd ymaith y felldith oddiar bob un sydd yn credu, &c. Anrhydeddodd y gyfraith, bu farw yn



 



(delwedd B0218)

(x218)

HANES

Y PARCH.
JElfKUT JENKINS. aberth dros bechod. Tit. n. 4. Dat. v. 9. Eph. i. 7. Heb. ix. 26.    1 Ioan ni. 5, a iv. 14.    1 Tim. n. 3—6.

2.  Y mae yn tynu ymaith euogrwydd pechod pob un a edifarhao ac a gredo, drwy faddeu, cyfiawnhau, mabwysiadu.

3.  Y mae yn tynu ymaith halogrwydd pechod trwy ei ras, ei Ysbryd, a’i waed — golchi, a phuro.    Heb. xii. 24.    Esa. liii.

III. Y sylw difrifol a weddai y pethau hyn gael. — “Wele Oen Duw, yr hwn sydd yn tynu ymaith bechodau

1.  Wele Oen Duw yn nirgeledigaethau ei gnawdoliaeth.   O mor isel y daeth.   
Rhyfedd ei gyfansoddiad. Mab a roddwyd; Emmanuel, Duw gyda ni.

2.  Wele ef yn rhyfeddodau ei fywyd — bywyd santaidd, gofidus, hunanymwadol, dyoddefgar, eto yn wyrth

O drugaredd a gras.

3.  Wele ef yn nyfnderoedd ei ing yn Gethsemane, a’i enaid yn aberth dros bechod, yn yfed y cwpan erchyll, yn drist hyd angau.

4.  Wele ef yn nyoddefiadau a dirmyg y groes, yn cael ei lusgo i ben Calfaria — ei groeshoelio rhwng dau leidr, yn marw dan dywyllwch y nefoedd, cryndod daiar, a rhwygiad y creigiau.

5.  Wele ef yn adgyfodi oddiwrth y meirw — yn angau

1 angau, yn dranc i’r bedd; caethiwodd gaethiwed, derbyniodd roddion i ddynion.

6.  Wele ef ar ei orsedd gyfryngol.   Gorphwys yn lle llafur, gogoniant yn lle dirmyg, eistedd ar ddeheulaw Duw yn lle y groes.

Pa fodd y mae i ni edrych ar Oen Duw?

 

 




 



(delwedd B0219)

(x219)




1.  
Gyda pharch a gostyngeiddrwydd yn edrych ar Arglwydd y lluoedd.

2.  Gyda chalon ddrylliog, a chywilydd wyneb o herwydd pechod.

3. Gyda llygad ffyddiog at yr hwn a fu farw yn ein lle.

4.  Gydag ymgysegriad diolchgar iddo o’r hyn oll ag ydym.

5.  Gyda goruchel barch iddo, a hyfrydwch ynddo. (1.) Cymellwch bawb i edrych arno, a rhoddi eu

hunain iddo.

(2.) Yr holl fyd a’i gwel cyn bo hir.

(3.) Y saint a gant ei weled cyn bo hir mewn gogoniant.

PEEGETH.

“Yr hwn yn ein hisel radd a’n coflodd ni, o herwydd ei drugaredd a bery yn dragywydd.”—Salm cxxxvi. 23.

I. Ein sefyllfa isel.   “ Yr hwn yn ein hisel radd.”

1.  Isel radd fel teulu—o’n tad diafol, a hwnw yn gelwyddog o’r dechreuad; yn rebel yn erbyn Duw— slanderer, llofrudd, anghyfiawn, ansantaidd, yn cynhyrfu pob drwg sydd yn y byd; yn achos o bob gofid ag y cyfarfyddodd y byd ag ef erioed.

2.  Isel radd o ran ein cymeriad.     Criminals condemniedig,   yn  y carchar  gan  ddwyfol  gyfiawnder, cortyn am y gwddf, dan y ddedfryd.

3.   Yn y carchar, yn slaves i ddiafol a’n nwydau llygredig ein hunaiu, yn feddwon, yn lladron, yn gas genym Dduw.

4.  
Yn dlodion, noeth, newynog, aflan, a dilewyroh.


 



(delwedd B0220)

(x220)

HASTES B1WTD

5.  Yn afiachus, yn wallgofus, yn sicr o farw oni cheir meddyginiaeth.

6.  Yn ddibarch, yn ddigyfeillion, heb lygad yn tosturio wrthym.

II. “ Yr hwn,” sef Duw, “ yn ein hisel radd a’n cofiodd m.” Nyni wrthryfelwyr annheilwng, nyni blant diafol, nyni a haeddodd fod yn uffern byth ac yn dragywydd. “ Coflodd m,”

1.  Yn ei dragywyddol arfaeth, cyn bod y byd.  
O diolch iddo.

2.  “ Cofiodd ni,” ac a wnaeth drefn i’n hachub o’n holl drueni a’n hiselder mawr.

3.  “Cofiodd ni,” ac “nid arbedodd ei briod Fab, ond a’i traddododd ef drosom ni oll; pa wedd gydag ef hefyd na ddyry efe i ni bob peth?”

4.  “A’n cofiodd ni,” ac a ddanfonodd ei efengyl, a’i weision, a chenadwri y cymod atom ni, gan ddeisyf dros Grist, “ Cymoder chwi a Duw.”

5.  “A’n cofiodd ni,” gan orchymyn i’w holl ragluniaethau i fod yn foddion i ddeffroi ein meddwl cysglyd, fel Manasseh yn y dyrysni, a’r afradlon yn ei newyn.

6.  “A’n cofiodd ni,” ac a gynhyrfodd ei deulu i arfer moddion gras, cyrddau gweddio, ysgol Sabbothol, esbonio yr Ysgrythyrau, canu mawl, egwyddori, cyngori, a rhoddi esiamplau da o’n blaen.

7.  “A’n eofiodd ni,” drwy gynhyrfu ei deulu i ddylanwadu arnom ni; fel y gaethes yn nhy Naaman, fel yr hen wraig o Samaria, ac fel y rhai hyny oedd yn llefaru bob un wrth ei ^ymydog.

8.  “A’n cofiodd ni,” ac a ddanfonodd ei Ysbryd i godi a donio gweisiou, a chynorthwyo ei deulu yn ei waith mawr; i ddylanwadu trwy y moddion i argy-

T PARCH. JENKIN JENKINS.               


 



(delwedd B0221)

(x221)

hoeddi y byd o bechod, i droi o dywyllwch i oleum, o feddiant satan at Dduw, i ail eni, i weled Crist ac i gredu ynddo, a chael bywyd—maddeuant, heddwch, mabwysiad i deulu Duw, ac i holl ragorfreintiau ei drefn rasol ef.

III. Y cynhyrfiol achos o gael ein “ cofio yn ein hisel radd.
“O herwydd fod ei drugaredd yn parhau yn dragywydd.” Paham y cofiodd Duw hwynt yn eu hisel radd?

1.  Nid o herwydd eu bod wedi cael cam; O nage, yr uniondeb mwyaf a gawsant.   Ein bai mawr oedd, pechu yn erbyn Duw.

2.  
Nid am eu bod yn analluog i gadw deddf Duw, ond eu hanallu oedd eu cariad at bethau gwaharddedig.

3.   Nid oblegid iddynt gael eu twyllo.    Cywilydd wyneb iddynt gymeryd eu twyllo gan elyn, nas gallai wneyd dim niweid iddynt.

4.  Nid am eu bod yn ceisio trugaredd.   Nid oedd neb yn ceisio Duw.

5.  Nid am eu bod yn haeddu;  haeddu eu damnio byth yr oeddynt.

6.  Nid am i Grist farw; ond fe garodd fel y rhoddodd ei anwyl Fab i farw, fel y byddai byw pawb a gredant yn ei enw ef.

2. “ O herwydd ei drugaredd.” Efe a fwriadodd ein cofio ni; fe wnaeth drefn addas, ar bob ystyr, i’n cofio ni; a dygodd ni i edifarhau, i gredu, ac i dderbyn y drefn hono; o herwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd, am hyny y mae yn parhau i gofio rhai yn eu hisel radd, yn eu dwyn i afael trefn achub, a’u cynal ar daith yr anialwch; efe a’u cynal i fyned trwy yr lorddonen, a thrwy y farn; yr hwn yn ein hisel radd a’n cofiodd ni yn mhob amgylchiad.


 



(delwedd B0222)

(x222)

HANTSS BTWYD

PKEGETH.

“ Owyn ei fyd y dyn a wrandawo arnaf, ac a wylio yn ddyfal betmydd wrth fy nrysau, eaa warchod wrth byst fy rhkyrth i.” —Diar. viii. 34.

I. Sylwn ar lefaru Grist, ac iawn wrando arno.

1.  Beth a ddywed Crist wrthym, felv Cyfryngwr. (1.) Ein bod wedi pechu, a myned yn ol am ogon

iant Duw; ein bod wedi ein damnio, Duw wedi digio, yr orsedd dan gwmwl; teulu wedi gwrthryfela, y gyfraith wedi ei throseddu.

(2.) Bfe a ddywed am drei’n fawr ei Dad i gadw yr euog; iddo ddanfon ei Fab i geisio ac i gadw y rhai a gollasid; yn lawn dros bechod, i ddatod gweithredoedd y diafol.

(3.) Efe a ddywed am reol derbyniad i’r drefn— edifeirweh tuag at Dduw, a ffydd tuag at ein Harglwydd Iesu Grist, ufudddod i’w gyfreithiau, hunan-ymwadiad a phob arglwyddiaeth arall, a’i ganlyn yn y byd.

2.  lawn wrando ar Grist.

(1.) Gwrando yn astud, am fywyd, yn ddeallus.

(2.) Ffydd sydd yn dyfod trwy glywed, a chlywed trwy air Duw.

(3.) Deigryn ar lygaid ffydd yw edifeirweh tuag at Dduw.

(4.) Ffydd sydd yn derbyn Crist, yn ufuddhau iddo, yn hunan-ymwadu, codi’r groes, a’i ddilyn trwy glod ac anghlod.

II. “ Gwylio yn ddyfal beunydd wrth fy nrysau.”

Nodwn ar ddrysau Duw i gyfranu. Darllen, myfyrio, gweddio, canu, addoli yn ddirgel, teuluaidd, a chyhoeddus. O nior ddyfal bennydd y mae yr euaid newynog wrth ddrysau ei Dduw. yn gwylio am gardod.

T  PARCH.  JEKKIIf JEN’KISTS.


 



(delwedd B0223)

(x223)

III.  “ Gwarchod wrth byst fy mhyrth i.”

1.   Pyrth Duw sydd fel pyrth y dinasoedd gynt. Yma yr oedd eisteddfa cyngor, barn, cyf’arwyddyd, ac amddifFyniad.

2.  Wrth byst fy mhyrth.   Dyma holl swyddogion eglwys Dduw—esgobion, henaduriaid, efengylwyr, ac athrawon, &c.

3.  Yr holl deulu yn gwarchod yma, wrth enau yr henuriaid.  Y pregethau, cyfarfodydd gweddio, yr ysgol Sabbothol; yma y maent yn cael Crist, a phob goleuni, cyfarwyddyd, a nerth, i’w ddilyn yn y byd.   Yma y maent yn gwarchod ddydd a nos, fel tlodion wrth elusendy, a chleifion wrth feddygdy.

4.  Byddant yn fuan yn myned trwy’r pyrth i deyrnas nefoedd.

IV.  “ Gwyn ei fyd, canys y neb a’m caffo i a gaiff fywyd, ac a feddiana ewyllys da gan yr Arglwydd.”

1.  Caiff fywyd.

(1.) O heddwch a chymeradwyaeth gyda Duw.

(2.) Fywyd rhydd oddiwrth lywodraeth pechod, a’i ganlyniadau.

(3.) Fywyd o santeiddrwydd ger bron Duw a dynion.

(4) Fywyd o dderchafiad i’r berthynas uchaf—meibion Duw.

(5.) Fywyd o anrhydedd a’r dedwyddwch mwyaf.

2.  “ Ac a feddiana ewyllys da gan yr Arglwydd.” (1.) Ewyllys da Preswylydd y Berth.   Yn ei ffafr y

mae bywyd, ac yn ei wg y mae marwolaeth,

(2.)
Os cael ewyllys da Duw, y mae yr oll a fedd, a’r

oil a all, o’n plaid, er ein cysur a’n dedwyddwch.
1. A ydym ni yn gwrando arno.   2. Yn gwylio yn

ddyfal.   
3. Ac yn gwarchod wrth byst ei byrth.  Gwyn

dy fyd.


 



(delwedd B0224)

(x224)

HANES  BYWTD

PBEGETH.

“ Yr iachawdwriaeth sydd yn Ngkristlesu.”~2 Tim. il. 10. I. Y testyn a ddengys i ni y gogoneddus Waredwr, Iesu Grist.

1.  Crist, neu Eneiniog.   Crist oedd, nid yn unig yn rhodd y Tad, ond yn rhodd neillduedig ac eneiniedig Duw i ni bechaduriaid; wedi tywallt ei Ysbryd arno yn ddifesur, gan ei osod a’i law ei hun yn Gyfryngwr cyfamod newydd, yn Frenin, Prophwyd, ac Offeiriad.
Dent, xviii. 15.   Heb. ni. 1.    1 Tim. vi. 15. Luc. iv. 18.

2.  Iesu, hyny yw, Achubwr—wedi ei eneinio yn Waredwr.   Pel Gwaredwr, y mae yn feddianol ar anfeidrol urddasolrwydd, hollalluog allu, diderfyn dosturi, a dihysbyddol haeddiant.

II. Yr hyn sydd yn Nghrist Iesu—”yr iachawdwriaeth sydd yn Nghrist Iesu.” Yr iachawdwriaeth a gynwys fod euogrwydd a thrueni, ac yn tybied gwaredigaeth oddiwrthynt. Yn awr, yr iachawdwriaeth sydd yn Nghrist Iesu—

1.   Sydd iachawdwriaeth berflaith, hollol, gwbl, i ddileu euogrwydd, i ddiffodd trueni, gwaredu o berygl, cyflawnhau, maddeu, heddychu, adnewyddu ar ddelw Duw, a derchafu i fywyd tragywyddol gorflf ac enaid.

2.  Sydd iachawdwriaeth bresenol, nid un i ddyfod. Bi gwaredigaethau a’i mwynhad sydd i’w meddianu yn awr.   “ Yn awr yw yr amser cymeradwy.”    “ Trwy-ras yr ydych yn gadwedig.”   “ Ond yn awr goleuni ydych yn yr Arglwydd.”     “ A wnaethpwyd yn agos trwy waed Crist.”

3.   Sydd iachawdwriaeth dragywyddol—iachawdwr-

T PARCH. JESTKI5T JBKKINS.


 



(delwedd B0225)

(x225)

iaeth cyhyd a pharhad yr enaid. “ Minau ydwyf yn rhoddi iddynt fywyd tragywyddol.” Gogoniant tragywyddol. 2 Tim. n. 1. “ Gan gael i ni dragywyddol ryddhad.” Heb. ix. 12—15. Y cai y rhai a alwyd dderbyn addewid yr etifeddiaeth dragywyddol.

III. Y testyn a’n cyfarwydda at yr unig ffynon lle mae cael yr iachawdwriaeth. Yr iachawdwriaeth sydd yn Nghrist Iesu.

1.  Iachawdwriaeth sydd yn ei berson.   Efe yn bendant yw yr iachawdwriaeth.    “ Wele, Duw yw fy iachawdwriaeth.”   
Esa. xii. 2, a xlix. 6.   Simeon a ddywed iddo weled Crist—” Fy llygaid a welsant dy iachawdwriaeth, yr hon a barotoaist ger bron wyneb yr holl bobloedd.”

2.  Iachawdwriaeth sydd yn ei waed ef.   Efe yw yr lawn.   Trwy ffydd yn ei waed ef.    Rhuf. ni. 25. Prynedigaeth trwy ei waed ef.   Eph. i. 7.    Col. i. 14.   Wedi ein prynu a gwerthfawr waed Crist, megys oen difeius. 1 Pedr i. 18, 19.

3.  Iachawdwriaeth sydd yn ei enw.    Canys nid oes enw arall dan y nef wedi ei roddi yn mhlith dynion, trwy yr hwn y mae yn rhaid i ni fod yn gadwedig. Act. iv. 12.    Nid oes iachawdwriaeth yn neb aralL Maddeuant pechodau yn ei enw ef.    Pregethu yn ei enw ef.   Mabwysiad trwy gredu yn ei enw ef.    Ioan i. 12.   Y caffoch fywyd yn ei enw ef.

4.  Iachawdwriaeth sydd yn N”gair neu efengyl Crist. Atoch chwi yr anfonwyd gair yr iachawdwriaeth hon. Act. xiii. 26.   Efengyl eich iachawdwriaeth. Eph. i. 13.

5.  Iachawdwriaeth sydd rodd Crist.    Minau ydwyf yn rhoddi iddynt fywyd tragywyddol.     
Ioan  x.  38. Coron cyfiawnder, coron y bywyd, coron y gogoniant. 226

HASTES  BTWTD


 



(delwedd B0226)

(x226)

2 Tim. iv. 8.    1 Pedr v. 4.   Dat. n. 10.    Ioan xyii. 2, a

Ti. 8.

6. lachawdwriaeth sydd yn gynwysedig yn benaf mewn mwynhad o Grist—ei ffafr, ei ddelw, ei bresenoldeb, a’i deyrnas.

(1.) Bechadur, wele Berson addas i ti, ac iachawd-wriaeth gyflawn ynddo.

(2.) Yn awr, yn ddioed, dere yma i ymofyn am dani.

(3.) Gochel i’r tymor fyned heibio er dy fywyd.

(4) Nid oes iachawdwriaeth yn neb arall.

PKEGETH.

eithr

“ Y peth yr wyf fi yn ei wneyd, ni wyddost ti thr ti a gei wybod ar ol hyn.”—loan xiii. 7.

yr awr hon;

I. Y mae ymdriniaeth Duw gyda’i bobl yn fynych yn dywyll a dirgelaidd iawn. “ Ni wyddost ti yr awr hon.”

1.  Cyfeiriwn hyn at yr oesoedd gynt—hanes Jacob, &c.;   Israel   yn   cael   eu   harwain   ddeugain   mlynedd, daith  pymtheng niwrnod;  Lazarus yn marw; dyoddefiadau ei bobl yn y byd; Blias yn yr ogof; Jeremian yn y carchar; Daniel yn ffau y llewod; y llanciau yn y ffwrn dan; tori pen Ioan yn y carchar.

2.  Edrychwn ar yr oes bresenol—pobl Dduw mor ychydig ydynt mewn cydmariaeth i’r lluaws, &c., mor dlawd, mor gystuddiol; mor uchel, mor gyfoethog yw anflyddwyr, &o.; yr eglwys fel gardd fechan, a’r byd mawr, eang, yn ddiffeithwch, &c.

3.  Nid yw yr Arglwydd yn bresenol yn chwenych i

T  PARCH.  JEWKITf


 



(delwedd B0227)

(x227)

ni wybod y dirgeledigaeth.au hyn. Nid ydym eto wedi ein cymwyso i. edrych ond ar y pethau presenol yn unig. Nis gallwn edrych yn ol nac yn mlaen—ein goleuni sydd anmherffaith—uid dydd, ac nid nos. Gwy-bod dirgeledigaethau a’n hangymwysa i ddefnyddiol-.deb a mwynhad.

TI. Y dirgeledigaethau yma a gdnt eu hollol ddad-guddio.
“ Ni wyddost ti yr awr hon; eithr ti a gei wobod ar ol hyn.”

1.  
Llawer o bethau a wybyddir ar y ddaiar.   Jacob a wybu nad oedd pob peth yn ei erbyn yma ar y ddaiar. Dyddiau diweddaf Job oeddynt ragorol; Martha a Mair a wybuant paham na ddaeth Iesu cyn marw eu brawd; llawer sydd yn awr yn gwybod beth oedd y bwlch cyfyng yma, a’r adwy galed acw; pob peth yn glir yn awr.

2.  Yn y nefoedd y cawn wybod y cyfan yn berfi’aith. Yno y bydd galluoedd ein gwybodaeth yn berflaith, digwmwl, a thragywyddol  oleuni—yn perffaith  weled cysondeb holl oruchwyliaethau Duw tuag atom.

III. Y dylanwad ymarferol a weddai i’r mater hwn gael arnom ni.   Fe ddylai gynyrchu

1.  
Presenol foddlonrwydd.—”Y peth yr wyf yn ei wneyd.”   Y mae yn gwneyd pob peth yn ddoeth ac yn dda, yn berflaifch, a ffyddlon.   Efe yw ein Tad, ein Achubwr, ein Brawd, a’n Priod, &c.

2.  Meddyginiaeth ddifiael i anobaith.    Nid yw gorchwylion y byd, na’r eglwys ychwaith, yn llaw Satan, nac yn llaw dynion, nac yn ein llaw ein hunain.   Yr Hollalluog sydd yn cynal, yr Anfeidrol ddoeth sydd yn cyfarwyddo, ac yn goruwchlywodraethu pob peth er ei ogoniant ei hun, a lles ei anwyl deulu yn y byd.

3.  Bydded ynom amynedd i ddisgwyl am ddadgudd-


 



(delwedd B0228)

(x228)

HANKS  BTWTD

iad gan yr Arglwydd yn ei amser da ei hun. Ein braint yw disgwyl yn ffyddiog wrtho.

4.  Ein cynhyrfu at bob dyledswydd.    Dyledswydd sydd yn wastad yn eiddom ni; digwyddiadau yn eiddo Duw.   Dan. xii. 13.

5.  I godi hiraeth am y nef.    Sefyllfa aniheus nid yw ddymunol. Yn awr mewn cyfyng-gyngor—mewn rhan yn oleu. Yno yn glir, boddhaol, perffaith wybodaeth— llawenydd annrhaetbadwy a gogoueddus; y pur o galon yno yn gweled Duw.

(1.) Gwelwn ein anmherffeithrwydd presenol. (2). Eboddwn ein holl achos yn ei law, ac ufuddhawn iddo yn hollol.

(3.) Cawn ddeongliad o’i holl ffyrdd yn y nef. (4.) Pwy heddyw a rydd ei achos yn ei law fawr?

PEEGBTH. 

“ Na chofia yr anwireddgynt i’n herbyn; brysia, rhagflaened dy dostur drugareddau ni, canys llesg y’n gwnaethpwyd.”— Salm Ixxix. 8.

Y testyn a gynwys weddi addas i’r duwiol yn mbob amgylchiad. Nid yw yn bosibl-teimlo ein annheilyngdod yn rhy ddwys, neu alaru am ein pechod yn ormodol ger bron yr Arglwydd, gan hyny cymwyswn y testyn at ein heneidiau ein hunain, ac mewn ysbryd cywir a difrifol, llefwn ar yr Arglwydd, “ Na cbofia yr arwiredd gynt.”

I. Poenus i’r Gristion yw edrych yn ol ar ei anwiredd gynt. Dau ddosbartb, y rhai ydynt,

1. Y rhai hyny a gyflawnasom cyn ein dychwelyd.

Y PAECH. JENKIS JENKIKS.               


 



(delwedd B0229)

(x229)

Er i Dduw o’i ras eu maddeu y dydd y dycbwelasom ato yn edifeiriol, eto yr ydym yn cofio eu mawredd a’u drygedd, a’r drugaredd a’u maddeuodd.

2. Yr anwiredd a wnaethom ar ol cael maddeuant, cymeradwyaeth, a mabwysiad i deulu Duw; rhai o wendid, rhai trwy rym profedigaetb, a llawer iawn o gariad at bechod. Cywilydd wyneb, a galar, a hunan-ffieiddiad, a weddai i ni ger bron Duw. Fe weddai i ni eu cofio, i’n cadw yn wastad yn y llwch wrth ei draed.

II.  Teimlad isel presenol o’i herwydd.   “ Canys llesg y’n gwnaethpwyd.”

1.  Weithiau yn isel iawn o fwynhad; dim archwaeth at bethau ysbrydol, dim heddwch, dim llawenydd, &c.

2.  Yn isel iawn, bron yn anobeithiol; yr enaid wedi ei daflu i lawr—amheuon ac ofnau—rhyw ddydd y syrthiaf yn llaw Saul, bron a llesmeirio.   
O mor Iesg!

3.  “Llesg iawn.”   Cystudd corfforol, gwendid medd-wl, dyddiau blin a nosweithiau gofidus, &c.

III.  
Gweddi addas i’n sefyllfa.    “Na chofia yr anwiredd gynt—os creffi ar anwiredd, O Arglwydd, pwy a saif?”

1.  Mae yn ymbil am i gosb pecbod gael ei throi ymaith.   “ Na, chofia yr anwiredd gynt—ac na chosba fi yn dy lid.”

2.  Mae yn gweddio.   
“ Rhagflaened dy dostur drugareddau ni.”   Nid oes dim mor addas a thrugaredd i’n hymgeleddu yn mhob amgylchiad, ac i’n rhagflaenu rhag pechu yn erbyn Duw, rhag myned i dir rhyfyg, a rhag, ar y llaw arall, fyned i dir anobaith.   “Rhagflaened dy dostur drugareddau ni.”

3.   
Mae yn gweddio am gymorth uniongyrchiol— “Brysia.”   Y presenol yw amser Duw bob amser, ac a


 



(delwedd B0230)

(x230)

HASTES  BYWYD

ddylai fod ein hamser ninau hefyd.   “ Yn awr yw yr amser cymeradwy.”

CASGLIADAU.

1.  Bydded i’r coffadwriaeth o’r pechodau gynt ein cynhyrfu ni i wyliadwriaeth yn erbyn pechu yn bresenol.

2.  Bydded i drugaredd Duw ein cynhyrfu i ddiolchgarwch a hyder.

3.  Yr edifeiriol all ddyfod yn awr i gael trugaredd.

PEEGETH.

“ Calon ddrylliog gystuddiedig, O Dduw, ni ddirmygu.”— Salm li. 17.

I. Sylwn ar galon gyfan, fel dinas heb ei thori, byddin heb ei dryllio ar y maes, yn gyfan yn ei sefyllfa.

1.   Wedi ei hamgaeru ag anghrediniaeth, a’i thoi hefyd.

2.  Am hyny yn byw yn ddiserch at Dduw, a santeiddrwydd.

3.  Yn anedifeiriol o herwydd pechu yn erbyn Duw.

4.  Yn anufydd, yn annerbyniol o’r efengyl, yn wrthryfelgar.

II. Y moddion y mae Duw yn ddefnyddio i ddryllio y galon, i ddryllio caerau anghrediniaeth, a’i dyrau, a’r pyrth.

1. Addysg rhieni, perthynasau, athrawon ysgol Sab-bothol, deddf, efengyl, cystudd, rhagluniaeth, Boanerges, Meibion Diddanwch, gweddiau, cydwybod, a’r Maes-lywydd, yr Ysbryd Glan.

Y PARCH.  JENKIN  JENKINS.


 



(delwedd B0231)

(x231)

2. O y rhyfel caled sydd i dori mur anghrediniaeth sydd yn amgylcliynu y galon! Ond pan dorer, dyna’r galon wedi dryllio, y pyrth wedi agor, a’r tyrau wedi syrthio.

III.  Yn awr darluniwn galon ddrylliog gystuddiedig.

1.   Wedi ei dryllio, y mae’r goleuni wedi  tywynu ynddi, y mae yn awr yn gweled ei thruenus gynwr a’i phechod.

2.  Wedi gweled, y mae yn teimlo cywilydd a galar o herwydd pechu.

3.  Yn dwfn ymostwng ger bron Duw, mewn sachlian.

4.   Yn gadael ei bechod, ac yn dychwelyd at yr Arglwydd.

5.  Yn diolch, ac yn derbyn Mab Duw, a threfn ei ras.

6.  Efe a wna wir a difrifol ymofyniad am iachawd-wriaeth, fel Manasseh, y tair mil, a cheiwad y carchar.

IV.  Pedwar cyngor i’r galop ddrylliog gystuddiedig.

1.  Gadawed y drygionus ei ffordd, a dychweled at yr Arglwydd.

2.  Ymofyned am faddeuant a chymeradwyaeth, trwy ffydd, ac edifeirwch yn enw a haeddiant Iesu Grist, y Cyfryngwr.

3.  Listied tan ei faner o galon, a bydded ffyddlon iddo.

4.  Bydded fyw ar ras ei Arglwydd, i fynegu ei rinweddau.

V.  Ni ddirmyga Duw y galon ddrylliog gystuddiedig.

1.  Na wna, mae hyny yn groes i natur rasol Duw.

2.  Na wna, mae hyny yn groes i drefn rasol Duw ei hun.

3.  Na wna, mae hyny yn groes i’w eirwiredd ei hun.


 



(delwedd B0232)

(x232)

SANES  BYWYD

4.  Na wna, mae hyny yn groes i’w gyhoeddiad brenhinol.   Deuwch ataf fi, bawb sydd yn llwythog a blinderog.  Salm xxxiv. 18.   Bsa. i. 18. Byddant fel gwlan.
Esa. Ivii. 15.   Mat. xi. 28.

5.  Na wna, mae hyny yn groes i’w hen a’i hoff ymddygiad tuag at y drylliedig o galon—Manasseh, Da-i’ydd, y Publican, Magdalen,  Zaccheus, pnblicanod a phechaduriaid, y lleidr, y tair mil, Saul o Tarsus, y Goririthiaid;  derbyniad dieithriad a gafodd pob un drylliedig o galon gan Iesu Grist erioed.

2. M ddirmyga Duw y galon ddrylliog gystuddiedig.

(1.) Ond efe a’u derbynia i’w ras maddeuol a’i ffafr.

(2.) I’w dy a’i deulu, fw hymgeleddu, eu santeiddio, eu dysgu, eu harwain, a’u cymwyso i fod yn eiddo iddo.

(3.) Efe a’u derbyn i’w ogoniant byth ac yn dragywydd.

CASGLIADAU.

1.  Calon gyfan raid farw.

2.  Deffroed y rhai difraw.

3.  Gobeithied y drylliedig o galon yn ei Dduw, &c.

PEEGETH.

“ Ac i Dduw y byddo y diolch am ei ddawn annhraethol.” —2 Cor. ix. 15

I. Y rhodd y cyfeirir ati.—Y rhodd yw yr Arglwydd Iesu Grist, a roddwvd gan Dduw er iachawdwriaeth y byd.

1. Y gair rhodd sydd yn ein cyfarwyddo at yr, egwyddor rasol, ar yr hon y rhoddwyd Onst.
Nis dan-

JAKCH. JENKIN JENKIKS.


 



(delwedd B0233)

(x233)

fonwyd ef i arddelwyr cyfiawn, nac i rai yn ei haeddu; nid fel rhodd haelionus i ddeiliaid tlawd, ffyddlon, end fe’i rhoddwyd fel gweithred rasol a thrugarog i’r tlawd truenus, gresynus, ac annheilwng.

2.  Y dull yn mha un y rhoddwyd y rhodd yma.
(1.) Trwy addewid, fel i’n rhieni cyntaf—i Abraham. (2.) Mewn cysgodau, aberthau, &c.—Oen y pasg, a’r

aner goch.

(3.) Mewn prophwydoliaethau—Siloh Jacob, Prophwyd, fel Moses; Gwaredwr Job, i’r hwn y mae yr holl brophwydi yn dwyn tystiolaeth.

(4.) Yn weithredol, yn nghyflawnder yr amser—yn yr amser, y lle, a’r dull y rhag-ddywedwyd am dano.

3.  Y dybenion mawrion a fwriadwyd wrth roddi y rhodd yma—dwyfol ogoniant y rhoddwr, gwaredigaeth y byd, dymchweliad i holl alluoedd Satan.

II. Annhraethol werth y rhodd fawr yma.

1.   Y mae felly yn ei gwreiddyn.—Ffrwyth cariad annhraethadwy.   
Felly y carodd Duw y byd.  Pa faint, nis gwyr dynion nac augelion.

2.  Annhraethol yn ei werth.—laith sydd ry dlawd i osod allan berl mor uchel bris—Seren foreu, Haul cyf, iawnder, Bara y bywyd, Bywyd y byd, Goleuni y byd, Canolbwynt y bydysawd, Ffynon bodolaeth, Gwreiddyn pob gwynfyd, Da penaf pob creadur, Cymwynaswr y ddaiar, Arglwydd y nefoedd, a’i holl ogoniant.

3.  Annhraethol yn ei bendithion.—Rhodd yw hon yn yr hon y mae yr holl fendithion eraill yn gynwysedig—rhodd y rhoddion, a chyfrwng holl drugareddau Duw—goleuni, bywyd, maddeuant, heddwch, cyfiawnhad, mabwysiad,  santeiddhad, a gogoniant   tragywyddol.


 



(delwedd B0234)

(x234)

HANES   B1WTD

4. Annhraethol yn ei pharhad.—Mae pob peth ar y ddaiar yn ddarfodedig a chyfnewidiol, ond y rhodd yma sydd arosol, anghyfnewidiol a thragywyddol—yr un ddoe, heddyw, ac yn dragywydd.

III. Annhraethol rodd sydd yn galw am ddiolchgarwch gwresocaf.—” I Dduw y byddo y diolch am ei ddawn annhraethol.”

1.  Diolchgarwch i Dduw a ddylai fod o galon wresog, edifeiriol a ffyddiog—yr holl enaid, calon, a bywyd, yn diolch am y Mab.

2.   Diolch weddai fod yn wastadol, bob amser, yn mhob man.—” Ei foliant a fyddo yn fy ngenau yn wastad.”

3. Diolchgarwch a fydd gan yr holl waredigion yn y nefoedd am dragywyddoldeb. Gwrando arnynt. Dat. vii. 10. “ Ac yn llefain a llef uchel, gan ddywedyd, lachawdwriaeth i’n Duw ni, yr hwn sydd yn eistedd ar yr orseddfainc, ac i’r Oen.”
Halelnia, Amen.

CASGLIADAU.

1.  Rhodd fwyaf y nefoedd.—Dere yma, yr euog.

2.  Trysor penaf dyn.

3.   Dyledswydd pawb yw ei dderbyn, a diolch am dano byth.

PRBGETH.

“ Calon ddrylliog, gystuddiedig, O Dduw ni ddirmygi.”— Ps. li. 17

Rhydd y Salmydd batrwn ardderchog o brofiad enaid wedi colli ei le, ac yn deimladwy o hyny yn ei wir ymostyngiad, a’i wir ymofyniad am faddeuant,.adnewyddiad, a ffafr Duw.

T PAKCH. JENKIN JENKINS.


 



(delwedd B0235)

(x235)

I. Ymdrechwn i ddarlunio calon ddrylliog, gystuddiedig. Nid calon ddrylliog oddiwrth golledion a thrallodion, a thristwch y byd hwn, &c., ond yn benaf o herwydd pechu yn erbyn Duw, a’i lywodraeth Ian, a’i efengyl rasol.

1.  Calon ddrylliog sydd wedi ei thrwyadl argyhoeddi o bechod.
Nid siarad llawer heb deimlo pla y galon. Mor angenrheidiol yw gwir adnabyddiaeth o’n cyflwr drwg.

2.  Calon ddrylliog sydd yn teimlo dwfn alar o herwydd pechu yn erbyn Duw—calon yn toddi, yn ymollwng o fiaen Duw o herwydd pechu yn ei erbyn, ei Chrewr, Cynaliwr, a’i Hachubwr.

3.  Calon ddrylliog sydd yn dwfn ymostwng ger bron Duw.—Hunan fawr ar lawr; enaid mewn sachlian; Duw yn fawr yn ei olwff.

4.  Calon ddrylliog a wna rydd a chalonog gyffesiad o’i bechod.   Edrychwn ar ddechreu y Salm—y publican a’r afradlon,

5.  Calon ddrylliog a wna wir a difrifol ymofyniad am iachawdwriaeth.
Adn. 9—12.—Manasseh, y tairmil, ceidwad y carchar, Paul. “ Wele, y mae efe yn gweddio,” a phob enaid edifeiriol, &c.

II. I galonogi y galon ddrylliog, gystuddiedig—” ni ddirmygi.” Na, fe edrych Duw arno gyda thosturi a thynerwch; efe a wrendy dy gwyn a’th gri, efe a iacha y galon ddrylliog, efe a dry alar yn llawenydd, nos yn ddydd, a hyny dan ganu. Gallwn ymorphwys yn dawel y gwna Duw hyn. .

1.  Gyda golwg ar ei ddwyfol berffeithrwydd, y mae Duw yn dda, cariadlawn, graslawn, a thragarog.

2.  Gyda golwg ar ei ymddygiad at y drylliog, cystuddiedig, Agos yw yr Arglwydd at y drylliog o galon.


 



(delwedd B0236)

(x236)

HAKES  BTWYD

Ps. xxziv. 18. Deuwch yr awr hon. Bsa. i. 18. Ar hwn yr edrychaf, sydd yn crynu wrth fy ngair.
Esa. Ixvi. 2. Manasseh, Dafydd, y Publican, Zeccheus, Paul, Magdalen, a’r lleidr.

3.  Ar ei ddwyfol gyhoeddiadau.   Ps. xxxiv. 18. Mat. xi. 28.

4.  Ar drefn ei ras.—Y mae y cyfan yn profi na ddirmyga Duw yr enaid drylliog—ei ddwyfol berffeithderau, ei gyhoeddiadau, a’i ymddygiadau, a threfn ei ras, oll yn dywedyd i’th gysuro.

III. Cyfarwyddyd i’r drylliedig, cystuddiedig o galon: 1.   Gadawed  y drygionus ei ffordd—gadawed bob pechod.

2.  Gostyngedig a ffyddiog ddisgwyl wrth Dduw yn nhrefn ei ras.

3.  Yn galonog ac yn hollol ymorphwys ar Berson a haeddiant Crist am gymeradwyaeth gyda y Duw y pechasom yn ei erbyn.

4.  Gwisgo am danom yr Arglwydd Iesu Grist o flaen Duw a dynion, i fod yn ddysgyblion proffesedig a phenderfynol iddo byth—cymeryd i fyny y groes, a’i ddilyn trwy glod ac anghlod.

CASGLIADAU.

1.  Rhaid i’r balch, anwybodus, a’r digred farw.

2.  Deffroed y difater am ei fywyd.

3.  Gobeithied y drylliedig o galon yn ei Dduw.

T PABCH. JBNKIK JENKINS,


 



(delwedd B0237)

(x237)

PEEGETH.

“ Oblegid cyd-stad a’r angelion.”—Luc xx. 86.

Sefyllfa ddyfodol teulu y ffydd—cyd-stad a’r angelion. I. Dynion yn eu cyflwr gwreiddiol oeddynt islaw yr angelion.

1.  Angelion a gawsant y flaenoriaeth mewn bodol-aeth.    Yr oeddynt yn dystion o greadigaeth y byd; hwy a welsant ryfedd waith Duw, ac a ganasant yn nghyd.   Job xxxviii. 4.   S&r y boreu.

2.  Angelion a gawsant drigfan mwy uchel a dyrchafedig na dyn.   Dyn a grewyd o’r ddaiar, i fyw ac i lywodraethu arni.   Angelion oeddynt i fyw yn uchel drigfanau y Goruchaf, yn llys ymerodrol Duw, yn mhresenoldeb digyfrwng y Duwdod, yn nisgleirdeb ei ogoniant, o flaen ei orseddfainc, &c.

3.  Angelion a gawsant natur uwch na ni.   Tebygol yw mai ysbrydion pur ydynt, wedi eu donio a galluoedd mawrion, o uchel wybodaeth—bodau perffaith o degwch a hawddgarwch, a nerthol i gyflawni ewyllys Duw.   Dyn a wnaed ychydig yn is na’r angelion—y link nesaf yn ngraddau bodolaeth.

II. Y saint trwy ras a ddyrchefir yn gyd-stad a’r angelion.

1.  Y saint a fyddant yn gyd-stad a’r angelion mewn gwybodaeth—cyneddfau wedi eu dyrchafu—corff ysbrydol fel corff Crist.

2.  Cyd-stad mewn purdeb, mewn calon a bywyd— heb frycheuyn na chrychni, yn llawn o ddelw Crist

3.  Cyd-stad mewn dedwyddwch.    Pob achos gofid


 



(delwedd B0238)

(x238)

HANBS  B1WTD

wedi darfod—pob ffrwd o ddedwyddwch yn gorlifo—

digrifwch yn dragywydd.

4.  Cyd-stad mewn urddasolrwydd.   Byw mor agos i’r un orsedd, gweithio yn yr un gwaith, yn cyd-addoli yr un Duw.

5.  Yn gyd-stad mewn anfarwoldeb.—Yn iraidd fel angel, yn blodeuo fel ieuenctyd anfarwol, yn gyd-stad diderfyn, ja ogoneddus fodolaeth.

III. Bydd y saint ar rai golygiadau yn rhagori ar angelion mewn gogoniant.

1.  Y bydd eu per lawenydd yn felysach na’r eiddo yr angelion.    Ni wyr yr angel ddim am lawenydd am faddeuant peeked, am waredu oddiwrth felldith deddf, a thragywyddol wae, &c.; edrych yn ol ar y trueni a haeddasant—edrych yn mlaen ar y drugaredd.

2.  En perthynas & Duw fydd yn n6s na’r angelion.— Nid perthynas creadur a Duw yn unig fel angel, ond meibion wedi eu geni o Duw—Duw wedi ymddangos yn en natur, a hwythau a ymddangosant yn gyfranogion o’r dduwiol anian; y berthynas yn tra rhagori ar berthynas angelion; cnawd o gnawd y brodyr yw Crist.

3.  Anrhydedd y saint a fydd yn fwy na’r angelion.— Eistedd gyda Christ ar ei orsedd—barnu y byd—y barnwn ni angelion; casglu yn nghyd efrau, a’u rhwymo; y wraig ar ei ddeheulaw.

4.  Can y saint fydd yn uchaf.—Angelion a ganant am ddwyfol santeiddrwydd a daioni  Duw a’i gyfiawnder; ond y saint a roddant yr anthem allan—Teilwng yw yr Oen, yr hwn a laddwyd, ac a’n prynaist ni i Dduw trwy dy waed dy hun.   Dat. v. 8—12, &c.

T PARCH.  JBKKIK JENKINS.


 



(delwedd B0239)

(x239)

CASGLIADATJ.

1.  O, y fath anogaeth i ymgais am fod yn santaidd fel teulu Duw.

2.  Os am fod yn gyd-stad a’r angelion, ceisiwn eu hefelychu.

3.  Bydded i’r mater dynu ein meddwl i’r nef, lle mae Crist.

PKEGETH.

“Tlodais, ac efe a’m hachubodd.”—Ps. cxvi. 6.

Y testyn sydd yn brofiad cyifredinol holl bobl Dduw. Pwy sydd heb gyfarfod a goruchwyliaethau chwerwon, a’u dwyn yn dlawd ac isel yn fynych. Cymerwn olwg ar rai amserau y’n dygir yn bur dlawd, ac y’ri hachubir.

I.  Fe’n dygir yn dlawd trwy ein dwyn i deimlad o’n heuogrwydd a’n perygl.    Cyn hyn yr oeddym yn fawr, ac yn falch; ond yn awr yn y pydew erchyll, yn euog, tlawd, a than farn Duw,.yn edifeiriol, a Duw yn achub trwy ei Air, ei weision, a’i Ysbryd Santaidd.

II.  Trwy gystudd corfforol o amrywiol ddoluriau.— Bfe a’m hiachaodd, ac a’m hachubodd, ac a adferodd iechyd i mi.

III.  Trwy Hinder a thrallod, gan fusiness ac amgylchiadau, amddifadiad  teulu,  a thlodi.     Efe   a’m hachubodd trwy roddi nerth, gras, &c.

Trwy demtasiynau blin, tost, adfydus—picellau y fall—nithio fel gwenith. Ej;o, Efe a weddiodd drosof, fel na ddiffygiai fy ffydd, ac a drefnodd ei ras a’i ragluniaeth i achub fy enaid.


 



(delwedd B0240)

(x240)

HAKES   BTWYD

V.  Trwy ofnau ac amheuon yn suddo fy ysbryd, yn tywyllu fy meddwl, ac yn fy nwyn i dir anobaith. Eto, yr Arglwydd a’m cynorthwyodd, ac a dywynodd  ei wyneb arnaf; cododd fi o’r pydew erchyll, ac a osododd fy nhraed ar y graig, ac a hwyliodd fy ngherddediad, ac a roddodd yn fy ngenau ganiad newydd.

VI.  Trwy fy ngwendidau a’m pechod.—Y mae y rhai hyn yn fy suddo ac yn fy nhlodi; a hwy a ddistrywiant fy ngobaith, fel y maent yn distrywio fy heddwch, oni b’ai cymorth yr Arglwydd; ond y mae efe yn cynal, yn cadw, yn adfywio, ac yn adferyd fy enaid o ddydd i ddydd.

1. Oni ddyelm ni fyw yn ddiolchgar i Dduw o’r galon?

2.  Onid yw yn wrthddrych teilwng o’n hymddiried penaf?

PKEGETH.

“ Am hyny wele, mi a’i denaf hi, ac a’i dygaf i’r anialwch, ac a ddywedaf wrth fodd ei chalon; a mi a roddaf iddi ei swinllanoedd o’r fan hono, a dyffryn Achor yn ddr^s gobaith; ac yno y can hi, fel yn nyddiau ei hieuenctyd, ac niegys yn y dydd y daeth hi i fyny o wlad yr Aipht.’’—Hosea n.14, 15.

I. Gwelwn yma ymddygiad Duw tuag at ei eglwys

1.  Ei denu, a’i dwyn, drwy ragluniaeth a gras. (1.) Drwy ddawn tyner, ac ymddygiadau tyner.

(2.) Drwy ragluniaeth dyner, yn rhoi llawer neu yn oymeryd llawer oddiwrthym; tyner yw hyn i achub bywyd.

2.  Ac a’i dygaf i’r anialwch.   I weled mai mewn anialwch mawr y rhae, o ran ei chyflwr gwrthgiliedig.

Fel anialwch, (1.) Diffrwyth.   (2.) Tywyll.  (3.) Di-

T PARCH.  JENKIN  JENKINS.


 



(delwedd B0241)

(x241)

ymgeledd. (4.) Creaduriaid ysglyfaethus. (5.) Drain a dyrysni. (6.) Lleisiau lawer. (7.) Agored i gollr’r ffordd. (8.) O gyflwr truenus!

3.  Llefaru wrth fodd ei chalon.    (1.) Dywed am ogoniant trefn ei ras.    
(2.) Digonolrwydd yr aberth. (3.) Helaethrwydd yr addewidion. (4.) Drygedd pechod. (5.)   Gogoniant santeiddrwydd.    (6.)   Caiff pob peth gydweithio er daioni iddi.

4.  Rhoi gwinllanoedd iddi o’r fan hono, sef dan y weinidogaeth efengylaidd.

(1.) Ysbryd gweddi. (2.) Hyfrydwch yn y gwaith. (3.) Tawelwch cydwybod. (4.) Cymdeithas gyda Duw.
(5.) Cysur dan y groes. (6.) Hyder.wrth orsedd gras. (7.) Nerth newydd i dynu yn mlaen.

5.  Dyffryn Achor yn ddrws gobaith iddi.    Ei ysfcyr yw drws gofid, ac yn ddarluniad o ddrws edifeirwch efengylaidd am bechod.

(1.) Dyffryn Achor oedd yn ddrws neu agorfa i wlad Canaan; felly hefyd y mae edifeirwch yn ddrws ag sydd yn agor i’r Ganaan nefol.

(2.) Yma y declireuodd Achan ofidio Israel.
Mewn edifeirwch y mae gofid ar holl blant Duw yn dechreu.

(3.) Yn nyffryn Achor y dechreuodd rhyfeloedd Canaan.
Yn nyffryn edifeirwch y mae rhyfel y Cristion yn dechreu.

(4.) Yn nyffryn Achor y llabyddiwyd Achan. MeWn edifeirwch y mae pechod yn cael ei groeshoelio, gan yr edifeiriol ei hun.

(5.) Yma y tynwyd y diofryd beth ymaith o Israel. Trwy edifeirwch y tynir y llaw a’r llygad deau ymaith.

(6.) Yma y lladdwyd Achan.    Trwy edifeirwch y

 


 



(delwedd B0242)

(x242)

HANBS  BYWYD

T  PAECH.


lleddir pechod, ac y ceir presenoldeb Duw, a sylfaen i obeithio am lwyddiant.

II. Ymddygiad yr eglwys tuag at ei Duw. “ Yna y can lii, megys yn nyddiau ei hieuenctyd, ac megys yn y dydd y daeth i fyny o wlad yr Aipht.”

Pedair emyn y gwrthgiliwr.

1.  Yr hwn a’n coflodd ni yn ein hisel radd, ac a’n dychwelodd yn edifeiriol at draed ein Duw.

2.  Yr hwn a faddeuodd yr holl bechod mawr i gyd.

3.  Am ddarostwng ein holl chwantau a’n nwydau.

4.  Fel Israel ar Ian y Môr Coch, wrth ddyfod i fyny o’r Apht.

PKEGETH.

“ Ai pechadur yw, nis gwn i; un peth a wn i, lle yr oeddwn i yn ddall, yr wyf fi yn awr yn gweled.”—loan ix. 25.

Y testyn sydd atebiad y dyn a gafodd ei olwg. Yr Iuddewon, yn lle diolch am y wyrth, ac arwydd eglur o’r Messiah, yn dechreu ei gyhuddo ei fod yn bechadur. Yna y dall a lefarodd eiriau y testyn, &c. Y mae llawer eto nas gallant ddadleu pynciau mawrion, ond gwyddant yn brofiadol pa beth yw dyfod o’r tywyllwch i’r goleuni.
Ein pwnc yw, crefydd brofiadol, bersonol, a’i chadernid.

I. Natur y profiad personol yma. Y mae yn brofiad 1. O hollol gyfnewidiad. Un waith yn ddall, yn anwybodus o Dduw, o honom ein hunain, o’r gwirionedd, o fendithion crefydd, a’i breintiau, a’i dyledswyddau —dall naturiol ac ysbrydol, ond yn awr yn gweled en cyflwr, eu perygl, a’r Meddyg, a’r drefn rasol i achub

 

 




 



(delwedd B0243)

(x243)


 

 



enaid, a phob peth ynddi.   
Dyma brofiad personol o grefydd Mab Duw yn yr enaid.

2.  Y mae yn gyfnewidiad o’r pwys mwyaf.   Pa beth sydd yn gyffelyb i’r golwg?   Unig ddymuniad y dall oedd cael agor ei lygaid.   Y pwys mawr o weled, i fyw a marw yn dduwiol.    O am gael ein golwg!

3.   Y mae yn ddwyfol gyfnewidiad.    
Nid o hunan effaith, nid un wedi ei effeithio gan gyd-greadur, &c. 2 Cor. iv. 6.

4.  Mae yn gyfnewidiad o’r gras a’r drugaredd fwyaf. Heb ei deilyngu na’i haeddu, yn rhad i un a aned yn ddall.

5.   Cyfnewidiad a effeithiwyd gan foddion annhebygol iawn.  Drwy glai a phoeryn—yn debycach i ddallu na gwella.   Nid oedd dim rhinwedd yn y clai, nac yn y dwfr yn llyn Siloam, am hyny rhaid ei fod o Dduw. Yn awr, trefn gras yw, credu yn Iesu Grist, yr hwn a groeshoeliwyd.   Dyma ffordd Duw i roddi iddynt eu golwg, fel y gwelont eu trueni, ac y dychwelont at Dduw, yn edifeiriol, a flyddiog mewn Gyfryngwr.

II. Y dystiolaeth yma a rydd y fath brofiad o Grist a Christionogaeth; y dyn yma a ddyg dystiolaeth o allu Crist a’i ddwyfoldeb; mae hyny yn profi mai efe oedd y Messiah. Yr Iuddewon a gawsant yn hwn y dystiolaeth.fwyaf eglur ag oedd bosibl; ei dad a’i fam, • a llawer oedd yn ei adnabod, yn dyweyd mai yn ddall y ganed ef. Gadewch i ni chwilio y dystiolaeth a rydd Cristionogion o’u profiad i ddylanwadau crefydd ar eu calon a’u bywyd.

1. Eu tystiolaeth a berthyn i’r hyn y maent yn wybodol bersonol o hono. Nid gwybodaeth dybiedig, &c., ond yr hyn a wyddant, fel y dall, ei fod yn gweled.


 



(delwedd B0244)

(x244)

HAKES  BTWTD

1

Felly y Cristion, efe a wyr fod cyfnewidiad hollol ynddo mewn calon a bywyd.

2.  Eu tystiolaeth sydd yn ddiduedd.  Nid oes iddynt ddim budd o dwyllo neb, nac iddynt gael en twyllo. Md oes iddynt ddim mantais fydol, ond anfantais.

3.  Eu tystidlaetb.au sydd gyson £’u gilydd i gyd, yn mhob oes a graddau.   Pawb yn dyweyd yr un peth, ac yn mwynhau yr yn bendithion, er nad ydynt o’r yn farn am athrawiaethau, eto y maent o’r un farn am effaith dwyfol ras ar eu heneidiau.

4.  Eu tystiolaeth sydd yn cael ei sicrhau drwy brofiad.   “Lie yr oeddwn i yn ddall, yr wyf yn awr yn gweled.”    Onid oes cyfnewidiad amlwg yn y Cristion, yn ei fywyd a’i fnchedd?   Edrych arno yn ei dy, yn ei deulu, yn yr eglwys, ac yn y gymydogaeth.

5.  Y maent yn dwyn eu tystiolaeth dan bob amgylchiad, trwy glod ac anghlod, parch ac anmharch;’ yn dlawd ac yn gyfoethog, yn hen ac yn ieuanc, yn rhyddion ac yn gaethion, le, y maent yn tystio mewn gofid, pruddder, tlodi, saldra, carchar, tan a ffagodau, a dirdyniadau, le, tystio ar yr anadl olaf, o wirioneddol effaith crefydd ar eu heneidiau.

CASGLIADAU

1.   Dysgwn  ei bod yn ddyledswydd ar gredadyn i ddwyn dystiolaeth am Grist, a’i allu i achub, drwy eiriau, tymerau, ac ymarweddiad, o gariad a pharch at Grist a’n cyd-ddynion.

2.  Anogwch bawb i dderbyn y dystiolaeth yma, ac arferwch bob moddion efengylaidd at bob dyn.

3.  Y mae ymwrthodiad a’r dystiolaeth yma yn arddangos gelyniaeth y galon gnawdol yn erbyn Duw a santeiddrwydd.

Y  PAECH.  JENKIK JESTKtNB.                


 



(delwedd B0245)

(x245)

PEEGETH.

“ A bu, fel yr oedd efe yn dywedyd hyn, rhyw wraig o’r dyrfa a gododd ei llef, ac a ddywedodd wrtho, Gwyn fyd y groth a’th ddyg di, a’r bronau a sugnaist. Ond efe a ddywedodd, Yn hytrach, gwyn fyd y rhai sydd yn gwrando gair Duw, ac yn ei gadw.”—Luc xi. 27, 28.

Mae ein testyn yn nodi amgylchiad yn yr hwn y llefarodd gwraig o’r dyrfa, yr hon oedd yn gwrandaw Crist.    Yr hyn oedd Crist wedi ei wneyd oedd bwrw cythraul mud o ddyn.    Mae llawer o ddynion a chythraul mud ynddynteto; ni fedrant lefaru wrth eu cyd-greaduriaid, er eu bod yn hollol adnabyddus a hwynt. Mae rhyw ystyfnigrwydd cythreulig ynddynt i’w weled yn amlwg iawn ar rai amserau.   Nid oedd neb yn ameu nad oedd Crist wedi bwrw y cythraul allan o’r dyn, ond pa fodd a thrwy ba allu yr oedd y ‘weithred wedi cymeryd lle, yr oedd y bobloedd yn rhyfeddu, a rhai yn dyweyd mai trwy Beelzebub, penaeth y cythreuliaid, yr oedd Crist yn medru bwrw allan gythreuliaid.    Yn yr adnodau dilynol, mae Crist yn dangos nad yw Beelzebub mor ffol ag yr oeddynt hwy yn priodoli ei fod; nad oedd ty wediy mranu yn ei erbyn ei hun yn medru sefyll, ac na fuasai teyrnas Satan yn sefyll ychwaith os oedd Satan wedi ymranu yn ei erbyn ei hun; fel pe buasai yn dyweyd, Nid yw Satan ddim mor ffol a hyny; yn lle bwrw cythraul allan, efe a garai i fwy o’r rhyw hyn fyned i mewn i’r dyn, oblegid byddai ei deyrnas ef yn gryfach felly; ond wrth iddo fwrw un allan, fod ei deyrnas yn gwanhau, ac nad oedd yn bosibl iddi sefyll. Mae yr ysbryd aflan yn gryf ac yn arfog, ac yn cadw ei neuadd mewn heddwch; ond y mae rhyw un cryfach nag ef wedi cymeryd meddiant o’r dyn hwn—wedi cy


 



(delwedd B0246)

(x246)

HANBS BYWYD

meryd meddiant o’r arfau yn y rhai yr oedd efe yn ymddiried ynddynt, ac yn Mianu ei anrhaith ef at bethau gwell. Yr wyf fi wedi dyfod i ddinystro gweithredoedd y diafol; ac y mae un sydd yn gryfach nag ef, a thrwy hwnw y bwriwyd. y cythraul o’r dyn. Yr wyf fi yn erbyn y cythraul, a myfi a fwriodd y cythraul o’r dyn; a phwy bynag sydd yn fy erbyn i, gyda y cythraul y mae. Fe ddichon yr ysbryd aflan adael y dyn am dymor, a myned ar ei dro ar hyd leoedd sychion, oblegid mao efe yn blino ambell waith aros yn yr un man. Gwna ymddangos yn wahanol i’r hyn ydyw mewn gwirionedd; gall ymrithio fel angel y goleuni, a bod yn debyg i’r Phariseaid yma, yn lled foeeol yn ngolwg dynion—yn gweddio llawer yn gyhoeddus—yn gwneyd yn llydan ei phylacderau, ac yn degymu y mintys a’r anis, &c.; ond nid yw y pethau hyn yn taro ei archwaeth gystal a bod yn ei elfen ei hun; yna bydd wedi ymgyngori ag ef ei hun yn dyweyd, Myfi a af yn ol i’r dyn lle yr wyf wedi bod. Mae efe yn awr yn Pharisead selog, gall wneyd llawer mwy drosof fi nag o’r blaen, oblegid gall dwyllo mwy wedi cymeryd y tir y mae yn sefyll arno na phan yr oedd yn ei liw ei hun. Mewn cudd wisg grefyddol efe a ddyrysa yr holl wersyll; byddaf fi a’r saith diafol eraill sydd yn fy llaw yn sicr o wneyd grymusder gyda hwna. Gwnaf fi fwy mewn croen dyn nac mewn un llwybr arall, a bydd diwedd y dyn hwnw yn waeth na’i ddechreuad. Pel yr oedd efe yn dywedyd y pethau hyn, rhyw wraig o’r dyrfa a gododd ei llef, ac a ddywedodd wrtho, Qwyn fyd dy fam, fod ganddi fachgen mor gall; mae yn gwy-bod ac yn deall dichell a thwyll y Phariseaid i drwch y blewyn.
Mae yn dda genyf dy glywed yn eu trin mor

Y ‘PAECH.  
JENKlST  JEKKISTS,


 



(delwedd B0247)

(x247)

eglur a didderbyn wyneb. Dywedodd Crist, Mae fy mam yn wynfydedig, ond mi. a ddangosaf iti am rai mwy gwynfydedig; mae perthynas ysbrydol a mi yn tra rhagori ar unrhyw berthynas naturiol. Nid Crist yn ei chroth, ond Crist yn ei chalon a geidw ei henaid i fywyd tragywyddoi.

I. Sylwaf ar yr hyn a elwir yma yn Air Duw.—Gair ydyw cyfrwng trosglwyddiad meddwl o’r naill berson i’r llall. Wrth Air Duw y deall wyf yr Hen Destament a’r Newydd—y rhanau hyny o’r Beibl sydd yn dechreu gyda Genesis, ae yn diweddu gyda Malachi; a’r hyn sydd yn dechreu gyda Matthew, ac yn diweddu gyda’r Dadguddiad. Yr wyf yn ymwadu a’r hyn a elwir llyfrau yr Apocrypha. Yr ydym yn ymwrthod a’r llyfrau hyny fel gwir air Duw. Nid ydym yn gwadu nad yw y rhan fwyaf o’r llyfrau hyn, fel gwaith dynion eraill, yn onest fel dynion; ond yr ydym yn dadleu nad oedd eu hysgrifenwyr o dan gyfarwyddiadau uniongyrchol anffaeledig Ysbryd Duw, o herwydd y rhesymau canlynol:—

1.  Yr oedd yr ysgrifenwyr eu hunain yn addef nad oeddynt felly.

2.  Mae amryw bethau gwrthnn yn cael eu nodi a’u cyrneradwyo ynddynt, megys aberthu i gythreuliaid, &c.

3.  Rhoddodd Malachi, pan yn dybenu ei brophwydoliaeth, awgrym i’r eglwys na fuasai prophwyd i godi ynddi mwy hyd oni chodai Ioan Fedyddiwr.   “ Wele, mi a anfonaf i chwi Blias y prophwyd, cyn dyfod dydd mawr ac ofnadwy yr Arglwydd.”

4.  M soniodd yr efengylwyr, Crist, na’r apostolion, yr un gair am un o lyfrau yr Apocrypha mewn un man.    
Cyfeirient yn aml at lyfrau Moses, Job, y Salm-


 



(delwedd B0248)

(x248)

JBYWYI)

au, a’r prophwydi. Mae yn rhyfedd, os bwriadwyd hwynt i fod yn rheol ffydd ac ymarweddiad, na buasent yn dyweyd yn rhyw le, megys y mae yn ysgrifenedig yn llyfr y Maccabeaid, Bstras, Story Susannah, Bell a’ Ddraig, neu y tri llanc yn ymryson am y goreu, neu ryw beth o’r fath; ond nid oes dim son am yr un o honynt, mwy na phe buasent heb fod mewn bodolaeth.

Mae y Beibl yn cael ei alw yn Air, yn y rhif unigol, o herwydd ei gysondeb; nid geiriau, ond Gair. Nid oes anghysondeb mewn gair; dewiswch y gair a fynoch, nid oes ynddo yr un anghysondeb. Er engraifft, dywedwch Duw, diafol, dwfr, tiki, neu ryw air arall, nid oes yno un gwrthddywediad. Ond pe dywedem, Duw drwg, diafol gostyngedig, dwfr sych, tan oer, rhae yma anghysondeb. Pe dywedem, Duw da, diafol balch, dwfr gwlyb, neu d£n poeth, nid oes yma yr anghysondeb lleiaf.

(1.) Mae y Beibl mor gyson a gair. Mae ei hanesion, wrth eu cyferbynu a’u gilydd—ei brophwydoliaethau yn y cyflawniadau o honynt—y seremoniau a’r aberthau yn cael eu sylweddoli, yn profl yn eglur fod yma gyfangorff o berffeithrwydd cyson a’u gilydd.

(2.) G-elwir ef yn Air Duw, oblegid ni allai neb arall fod ei awdwr. Nid yw ein hamgyffrediadau ni yn medru treiddio i wybyddiaeth ond am bum’ dosbarfch o fodau deallawl. Gwrtlmn yw meddwl y gallai unrhyw fod arall wneyd Beibl fel hwn. Nid oes gan yr ych, yr asyn, y pysgodyn, yr aderyn, na’r un ymlusgyn, gymwysderau at y fath orchwyl; maent yn gwbl anghyfaddas. Nid oes genym ar ol ond angelion a chythreuliaid, dynion da a drwg, a Duw ei hunan.
Nis gallai yr angelion da, na dynion da, fod yn dda, os twyllwyr

T PAfiCH. J.E.NKI.N  JEHKINB.


 



(delwedd B0249)

(x249)

a chelwyddwyr ydynt. Os hwy a wnaethant y Beibl, paham yr oeddynt yn beiddio dywedyd, Fel hyn y dywed yr Arglwydd, canys genau yr Arglwydd a’i llefarodd, &c. Ysgatfydd rhai y diafol, neu ryw ysbryd drwg arall a’i gwnaeth. Mae y llyfr hwn yn groes i amcan y diafol. Prifamcan yr ysbryd drwg yw amddifTyn a chadarnhau ei deyrnas. Am y llyfr hwn, mae ei holl ranau yn anelu at ddinystrio teyrnas Satan, a chadarnhau teyrnas Mab Duw.

Nis gallai dynion drwg fod yn awdwyr o’r Beibl, er mor amrywiol ydynt. Ni fuasai halogwyr Sabbothau yn dyweyd, “ Gofia gadw yn santaidd y dydd Sabboth;” na’r cybydd, “ Gwreiddyn pob drwg yw ariangarwch;” na’r celwyddwr, “ Pfiaidd gan yr Arglwydd wefusau celwyddog.”
Nid oes yr un arferiad drwg gan ddynioo. nad yw y Beibl yn ei gondemnio. Nid oes genym yn weddill o’r holl ddosbarthiadau ond Duw ei hunan, ac y mae efe yn deilwng awdwr o hono. Nis gall neb arall wneyd y fath lyfr a hwn. Mae holl berffeithderau y Duwdod i’w gweled yn amlwg trwyddo yn ei holl ranau—ei ddoethineb ei santeiddrwydd, ei gyfiawnder, ei dragywyddolrwydd, ei anghyfnewidioldeb; i’e, ei amynedd, ei ddaioni, ei drugaredd a’i ras yn cydgordio yn ogoneddus trwyddo; ac nid oes diffyg gallu yn y Duwdod, a bydd yn sicr o wneyd yr hyn y mae wedi lefaru, oblegid Duw gwirionedd ydyw, heb anwiredd. Anmhosibl yw myned Gair Duw yn ddirym.

II. Ein dyledswydd tuag at y Gair—ei wrando, a’i gadw.

Yn gyntaf, Ei wrando—ei leferydd Ef ydyw.

1. Mae yn cynwys cenadwri sydd yn dal perthynas a ni gan ein Crewr, ein Cynaliwr, a’n Llywodraethwr.


 



(delwedd B0250)

(x250)

HAKES  BYWTT)

2.  Y modd i’w wrando—yn ystyriol, yn bwyllog, yn ddeallus, yn ddibartio], a phersonol drosom ein hunain.’   Nid dan gysgu, ond yn effro; nid am dymor, ond holl ddyddiau ein bywyd; nid fel barnwyr, ond fel pechaduriaid; nid i’w anghofio, ond i ddal yn well; nid i’w gam-ddefnyddio mewn un ystyr, ond i’n hiawn hyfforddi. Dylem wiando y Gair ryw beth yn debyg fel y mae dyn yn gwrando ewyllys perthynas cyfoethog ac agos ar ddydd ei angladd.   
Mae’r Iesu wedi marw, ac y mae ei destament mewn grym.   Mae rhyw beth wedi ei adael i ni.

“ Fe brynodd i ni fwy na’r byd, Ar groesbrenun prydnawn.”

3.  Ei wneuthur.—Mae rhyw beth ymarferol yn y Gair. Mae tuedd mawr mewn dynion i wybod pa beth a gant, yn  hytrach   na  pha  beth a wnant.     Rhaid  gwneyd ewyllys Duw.   Nid yw ei gwybod ond un peth, mae ei gwneyd yn beth arall.   Mae anwybodaeth o’r Gair yn bechod;   ond mae gwybodaeth o hono, a pheidio ei wneyd, yn bechod mwy—mae hwn yn euog o amryfusedd. “ Yr hwn ni wybu, ac a wnaeth bethau yn haeddu ifonodiau, a gurir  ag ychydig ffonodiau.    A’r gwas hwnw, yr hwn a wybu ewyllys ei Arglwydd, ac nid ymbarotodd, ac ni wnaeth yn ol ei ewyllys Ef, a gurir a llawer ffonod.”    I bwy bynag y rhoddwyd llawer, llawer a ofynir ganddo.   Mae cyfrifoldeb dyn yn mesur yn ol ei gymwysderau a’r manteision a gafodd.    Rhaid rhoddi y dalent at y cyfnewidwyr, ymladd a’r gelyn, rhedeg yr yrfa, cymeryd gafael yn y bywyd tragywyddol, glynu wrth yr Arglwydd, ac ymdrechu i fyned i mewn trwy y porth cyfyng.

;. •  :. “;:

T  PAKCH.  JENKIN  JERKIN’S.               


 



(delwedd B0251)

(x251)

Rhaid codi’r groes ac nid ei gwneyd, A charu ‘r brodyr gyda dweyd; A choncro peeked o bob rhyw, Os wrth y Beibl y mynwn fyw.

“ Cred yn yr Arglwydd Iesu Grist, a chadwedig fyddi.” Yr hwn a barhao hyd y diwedd a fydd cadwedig.

III. Y fendith gysylltiedig a gwrando Gair Duw a’i gadw—bod yn fwy gwynfydedig na dal y berthynas agosaf a neb pwy bynag, yn ol y cnawd, hyd yn nod a’r Iesu ei hun! Mae bod yn perthyn i ddynion mawr, enwog mewn dysg, doethineb, cyfoeth, ac anrhydedd, yn fraint fawr iawn. Ystyriai Elizabeth yn fraint o’r mwyaf gael ei chyfarch gan Mair; eto hi a lefodd a llef uchel, gan ddywedyd, “Bendigedig wyt ti yn mhlith gwragedd, a bendigedig yw ffrwyth dy groth di.
O ba le y daeth hyn i mi, fel y delai mam fy Arglwydd ataf fi?” A dywedodd Mair, “ Efe a edrychodd ar waeledd ei wasanaethyddes, oblegid, wele, o hyn allan yr holl genedlaethau a’m galwant yn wynfydedig.” Dywedodd y wraig o’r dyrfa y gwir, ni wnaeth yr Iesu ei hameu yn y mesur lleiaf; eto rhoddodd wers y bydd cof am dani byth, “ Yn hytrach gwyn fyd yr hwn sydd yn gwrando gair Duw, ac yn ei gadw.” Yr oedd gan Grist barch mawr i’w fam. Dywedir am ei rieni, “Ac efe a fu ostyngedig iddynt.” Pan oedd efe ar y groes, dywedodd, “ O wraig, wele dy fab;” ac er ei boenau i gyd, rhoddodd ofal ei fam i’r dysgybl oedd yn sefyll gerllaw. Er y cwbl, ymddengys nad yw perthynas naturiol ddim yn worth ei harddel mewn cvferbyniad i’r berthynas ysbrydol yma a nodir. Pan oedd Crist yn llefaru wrth y torfeydd, dywedodd un wrtho, “ Wele, y raae dy fam a’th frodyr yn sefyll allan yn dy geisio di. Ond efe a atebodd ac a ddywedodd wrth yr hwn a


 



(delwedd B0252)

(x252)

HANES   BTWTD

ddywedasai wrtho, Pwy yw fy mam i, a phwy yw fy mrodyr i? Ac efe a estynodd ei law tuag at y dysgyblion, ac a ddywedodd, Wele fy mam i, a’m brodyr i; canys pwy bynag a wna ewyllys fy Nhad yr hwn sydd yn y nefoedd, efe yw fy mrawd i, a’m cliwaer, a’m mam.” Pel pe dywedasai, Nid wyf fi yn arddel neb i fod yn perthyn i mi ond fy nysgyblion, y rhai sydd yn gwneuthur ewyllys fy Nhad yr hwn sydd yn y nefoedd, yr hwn sydd yn gwrando gair Duw ao yn ei gadw.

ADLEWYKCHIADAU.

1.  Mae modd i fod yn perthyn i Grist; Brenin y bremnoedd yw, ac Arglwydd pawb oll; Brawd yw o gnawd y brodyr.    Br fod ei wir ddysgyblion yn aml yn cael eu diystyru a’u dirmygu gan lawer, nid yw gywilydd ganddo ef eu galw hwy yn frodyr; ac y mae. yn ewyllysio, er ei fod yn y goruwchleoedd, iddynt hwy-thau hefyd fod gydag ef.

2.  Bobl anwyl, a oes arnoch chwi ddim awydd arddel Iesu yn awr yn nydd gras?    Os gwnewch, gwna yntau eich arddel chwithau pan ddel yn ngogoniant ei Dad, gyda’r angelion santaidd.

3.  Nyni sydd yn proffesu Crist, ac sydd ar ei enw, ymdrechwn lawer am fod yn fwy tebyg iddo, o’r un ysbryd ag yntau.    “ Od oes neb heb Ysbryd Crist ganddo, nid yw hwnw yn eiddo ef.

4.  Mae yn  rhyfedd fod Crist yn sefyll cyhyd wrth ddrws calon y pechadur, yr unig un a all ei Iesau ef, ac yntau yn dyweyd o hyd.
Ni fynwn ni mo hwn i deyrnasu arnom.   O, dychwelwch at Fugail ac Esgob eich eneidiau.

“ Iesu, difyrwch f enaid drud,

Yw edrych ar dywedd; Ac mae llyth’renau d’ eaw pur,

Tn fywyd ac yn hedd.”

T  PARCH.  JEHKIN JESTKIITS.

PKEGETH.


 



(delwedd B0253)

(x253)

“Canys cyflog pechod yw marwplaeth; ei’thr dawn Duw yw bywyd tragywyddol, trwy Iesu Grist ein Harglwydd.”—Raul, vi. 23.

Yn y bennod hon darlunir pechod dan yr enwan meistr a brenin, a gras neu gyfiawnder yn gyferbyniol i hyny. Mae pechod yn feistr caled, ond gras yn hollol wahanol; y naill yn teyrnasu i farwolaeth, a’r llall yn teyrnasu i fywyd didranc. ‘Gwnawn rai sylwadau ar bechod, yna ar ddawn Duw.

I. Pechod. Beth ydyw? Mae Iago yn dyweyd mai anghyfraith ydyw. Eraill a olygant mai trosedd o gyfraith Duw, neu anghyflawniad o honi ydyw. Dy-wed Gweddi Gyffredin, neu Lyfr Eglwys Loegr, mai gwneyd y peth ni ddylasem ei wneuthur, a pheidio gwneyd y peth a ddylasem ei wneuthur ydyw. Nid oes genym wrthwynebiad i’r un o’r golygiadau uchod, eto fe ddichon, er mwyn ei egluro yn mhellach, mai priodol yw dyweyd, mai diffyg yw, oblegid lle bynag y mae pechod mae yno ddiffyg. Diffyg cyfiawnder yw anghyfiawnder, diffyg santeiddrwydd yw aflendid, diffyg da yw drwg, a diflyg doethineb yw ffolineb. Nid oes diffyg yn y nefoedd. Diffyg i gyd sydd yn uffern. Rhyw le cymysgedig yw y ddaiar—er fod yma lawer o dda, y mae yma lawer o ddrwg hefyd. Duw a wnaeth bob peth, eto ni wnaeth ef bechod, oblegid nid peth ydyw pechod, ond diflFyg peth ydyw.

Eto, ysgatfydd mai anliawdd yw peidio enwi pechod yn beth, o ddiffyg iaith i osod ein meddwl allan, neu ryw ddiffyg arall. Ond yr ydym yn sicr nad yw Duw yn awdwr o hono. Nid oes pechod ynddo ef, ac nid


 



(delwedd B0254)

(x254)

HAKES B1WTB

dichonadwy yw iddo roddi i arall yr hyn nad yw yn eiddo iddo ei hun. Purdeb, uniondeb difeth sydd yn ei natur a’i weithrediadau. Wele hyn a gefais, wneuthur o Dduw ddyn yn uniawn. Br iddo ei greu felly, nid oedd dan y rhwymau lleiaf i’w gadw neu ei atal rhag pechu. G-waith anhawdd yw golygu pa fodd yr oedd yn ddichonadwy i Dduw, ar dir cyflawnder, i wneyd dyn yn gyfrifol am ei weithrediadau, heb ei fod yn berchenog ar gymwysder i wneyd hyny. Nid yw dyn dan rwymau anianyddol i wneyd da, onide nid oes ystyr i’r gair rhinwedd, neu i wneyd drwg, onide ni byddai arno bechod.

Mae y gyfraith foesol yn llawn anogaethau i wneyd daioni, ac yn llawn gocheliadau rhag gwneyd drwg. Yr addewidion i ufudddod o’r naill du, a’r bygythion o’r tu arall, a brofant hyn. “ Na ddyweded neb pan demtier ef, Gran Dduw y’m temtir—canys nid yw efe yn temtio neb.” Er fod dyn yn greadur amgylchiadau, eto y mae yn weithredydd gwirfoddol. Nid yw cam-ddefnyddiad o’r cymwysderau yn ei ddiddymu, mae y cymwysderau yn parhau yr un, a’r rhwymedigaeth yn ddigyfnewid; pe amgen, po fwyaf o ddrwg a wnel dyn gwnai ymryddhau o’i rwymedigaethau. Nid; felly, bydd dyn dan rwymau i roddi ufudddod i Dduw a’i gyfraith byth, ac felly i barhau tra byddo Duw yn Dduw, ac yntau yn ddyn. Mae rhwymau y creadur rhesymol yn sylfaenedig ar berthynas. Yn ol y berthynas sydd rhyngddo a Duw ei hun, ac ag eraill, y mesurir ei ddyledswyddau. Nid yw gras yn ei gyfnewid, ac nis gall pechod ei ddiddymu byth. Sylwaf, yn

I. Ar bechod a’i gyflog—marwolaeth. Gwahaniaethir pechod yn wahanol ddosbarthiadau, fel y canlyn.

T PA.KCH.  JENKIN JENKINS.


 



(delwedd B0255)

(x255)

1. Pechod gwreiddiol a gweithredoL Pechod gwreiddiol yw pechod ein natur, a phechod gweithredol yw pechod ein hymddygiadau.    Er fod Duw wedi gwneyd dyn yn uniawn, syrthiodd drwy anufudddod.   Nid yn y cyflwr yr oedd Adda ynddo cyn iddo bechu y cawsom ni ein bodolaeth, ond yn y sefyllfa yr oedd wedi myned iddi drwy ei anufudddod.    Mae yn gynwysedig yn y gogwyddiad sydd yn y meddwl, neu y tueddiadau sydd ynom at y drwg yn hytrach na’r da.   Mae y gogwyddiad hwn i’w gaufod mewn plant yn gyffredinol; maent yn dysgu gwneyd drwg gyda mwy o rwyddineb na da, ac yn caru pethau cnawdol a daiarol yn fwy na phethau ysbrydol a duwiol.

Pechod gweithredol—byw yn ol y tueddiadau hyny Bydd yn y natur lygredig, a gweithredu yn groes i ddeddfau yr Arglwydd yn bersonol.

2.  Pechod anifeilaidd, a phechod cythreulig.    Pechodau anifeilaidd ydynt, glythineb a meddwdod, anlladrwydd a godineb, diogi a musgrellni, brynti a chysgu yn oedfaon gras.   Ond pechodau cythreulig ydynt, llid, malais, cenfigen, cabledd, celwydd, serthedd, lladrad, llofruddiaeth, twyll, a dichell twyllodrus.   Mae y naill yn cael ei goleddu gan y rhan anifeilaidd o’r dyn yn fwy na’r ysbrydol, a’r llall gan yr enaid yn fwy na’r corff.

3.  Pechod o fodd, a phechod o anfodd.   Yr wyf fi yn credu mai o’u bodd y mae dynion yn pechu bob amser. Haera rhai eu bod yn pechu o’u hanfodd, a chyfeiriant at yr adnodau hyny sydd yn yr epistol a ysgrifenodd Paul at yr Rhufeiniaid, (vii. 15.) “Canys yr hyn yr wyf yn ei wneuthur, nid yw foddlawn genyf;  canys nid y peth yr wyf yn ei ewyllysio, hyny yr wyf yn ei

I


 



(delwedd B0256)

(x256)

HAKES  BTWTD

wneuthur; eithr y pefch sydd gas genyf, hyny yr ydwyf yn ei wnenthur.” Mae Paul yma yn siarad am y ddeddf, ei bod yn ysbrydol, ond ei fod ef yn gnawdol, a’i fod yn ewyllysio gwneuthur da, a bod y drwg gydag ef yn bresenol. Gwir fod y cnawd yn rhyfela a’r ysbryd, a bod y rhai hyn yn gwrthwynebu en gilydd.
Gwyr pob Cristion rywbeth am hyny. Trwy’r cwbl, o’n bodd yr ydym yn pechu. Eglurwn y mater fel hyn.

Pan oeddwn i yn Dundaff, tua dechreu y cynhauaf gwair un flwyddyn, ryw brydnawn hogais y bladur, a gosodais hi mewn trefn.   Yn y prydnawn hwnw fcorais ddwy ystod o amgylch y cae, gan benderfynu rhoi fyny yr hwyr hono, myned i’r gwely yn gynar, a chodi am bedwar o’r gloch boreu dranoeth, fel y buaswn wedi tori cryn ddarn cyn i boethder yr haul ddyfod arnaf. Ond wedi swper, daeth cyfaill o’r Hen Wlad a llythyrau i mi;  wrth ddarllen y llythyrau,  ao ymddiddan am wahanol bethau gyda’r cyfaill, aeth yn hwyr, nid aethum i gysgu yn brydlon, a phan ddaeth pedwar o’r gloch yn y boreu, yr oeddwn yn gaeth yn ngafaelion cwsg, felly, nid y peth da yr oeddwn yn ei ewyllysio y nos o’r blaen yr oeddwn yn ei wneuthur, ond y drwg, sef ammharu ac anghymwyso fy hun i wneyd fy nyledswydd. Mae penderfyniadau yn cael eu tori fel hyn, a’r dyn yn ymollwng i wneyd yr hyn nad yw yn ewyllysio.    Ar y pryd y mae y weithred yn cael ei chyflawni, y mae y dyn yn ei gwneyd o’i fodd.    O fodd ei galon y mae y gweddiwr yn gvreddio, ac o fodd ei galon y mae y cablwr yn cablu, y naill yn dywedyd y gwirionedd, a’r llall yn dywedyd ei gelwyddau.
4. Pechodau yr Aipht a phechodau Canaan.—Mae y

h

Y  PARCH.  JESTKItf


 



(delwedd B0257)

(x257)

cyntaf yn cynwys y rhai y mae yn eu cyflawni cyn iddo ddyfod at grefydd, a’r olaf ar ol iddo ddyfod. Yn y naill sefyllfa a’r llall, mae ei rwymedigaethau yn parhau yn ddigyfnewid.

5.  Pechod maddeuol a phechod anfaddeuol.    N”id oes yr un pechod na chabledd na faddeuir i ddynion ar dir gwir edifeirwch.    Onid oedd y Corinthiaid wedi bod yn ettog o’r pechodau niwyaf ysgeler—yn odinebwyr, eilunaddolwyr, torwyr priodas, masweddwyr gwr-ryw-gydwyr, lladron, cybyddion, meddwon, difenwyr, a chribddeilwyr.   Nid meddwl yr apostol oedd, na fuasai y rhai oeddynt wedi bod yn euog o’r pechodau hyn yn cael etifeddu teyrnas Dduw, ond y rhai a fyddent yn parhau yn y fath erchyll bechodau, yn anedifeiriol; oblegid yn adnod 11 y mae yn dywedyd, “A hyn fu rhai o honoch chwi; eithr chwi a olchwyd, eithr chwi a santeiddiwyd, eithr chwi a gyfiawnhawyd, yn enw yr Arglwydd Iesu, a thrwy Ysbryd ein Duw ni.”   Pe yr ychwanegem at hyn bechodau Manasseh, Mair Magdalen, a’r lleidr ar y groes, byddem wedi dyfod o hyd i’r pechodau mwyaf erchyll a gyflawnwyd yn y byd erioed.   “Nid ydym am roddi terfyn ar Sant yr Israel. Duw’r maddeu yw ei enw, ac efe a ddichon yn gwbl iachau y rhai sydd yn dyfod at Dduw trwyddo Ef. Pedr hefyd a wadodd ei Arglwydd dair gwaith; do, efe a dyngodd ac a regodd, a gwnaeth hyn dair gwaith, ar ol ei holl dystiolaethau gwahanol a gwrthwynebol i hyn!   Rhyfedd y fath bwll dwfn y darfu iddo syrthio iddo; ond mwy rhyfedd oedd y gras a’i cododd i’r Ian. Do, fe’i codwyd ef i fyny o’r pydew erchyll, ac allan o’r clai tomlyd, a gosodwyd ei draed ef ar y graig, a hwyliwyd ei gerddediad tua thir y bywyd.   Ond am gabledd Q 


 



(delwedd B0258)

(x258)

HAKES   BTWTD

yn erbyn yr Ysbryd Glan, yr hwn yw y pechod anfadd-euol, nid oes maddenant am hwnw, yn y byd hwn nac yn y byd a ddaw. Mae anfeidrol gyfiawnder, doethineb ac uniondeb y Duwdod wedi gosod n6d mor ddu ar y pechod hwn, fel y mae wedi penderfynu na wna ei fadden. Pe byddai y dynion duwiolaf yn gweddio dros y rhai sydd yn euog o’r pechod yma, hyd yn nod Noah, Daniel, a Job, ni wrandawai Duw arnynt. “ Canys os o’n gwirfodd y pechwn, ar ol derbyn gwybodaeth y gwirionedd, nid oes aberth dros bechod wedi ei adael mwyach. Heb. x. 26. Mae Ioan yn dyweyd am bechod i farwolaeth, nad gwiw deisyf yn ei gylch; a Christ wedi dyweyd ei hunan, “Oni t’addenwch i ddynion en camweddau, ni faddevi eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd eich camweddaiT chwithaii.” • Bu Julian, yr Ymerawdwr Rhui’einig, yn proffesu crefydd Crist; wedi hyny trodd yn bagan erlidgar i Ddtiw a’i achos. Gwawdiai Fab Duw, gan ei alw yn fasdard, ac yn Galilead, a phob enw er ei ddirmygn. Pan oedd yn rhyfela yn erbyn y Persiaid, daeth saeth oddiwrth y gelyn i’w galon. Wedi iddo ei thynn allan, daliodd ei law i dderbyn y gwaed a ffrydiai allan o’r archoll, a thaflodd ef i’r awyr; a chan edrych i fyny, dywedodd yn uchel, “ O, y Galilead, ti a’m maeddaist.” Chwi gablwyr sydd yn mathru Mab Duw, ac yn difenwi Ysbryd y gras, arswydwch, oblegid nid oes aberth mwyach wedi ei osod dros bechod.

6. Pechod bach a phechod mawr.—Gwir fod rhai pechodau yn fwy na’u gilydd, ond mawrion ydynt oll yn ngolwg Duw. Barnodd ef yr hwn yr ydym wedi pechu yn ei erbyn, yr hwn sydd yn medru mesur pechodau, a’u pwyso wrth yr hyn y maent yn haeddu,

T PARCH.  JENEIN  JENKINS.


 



(delwedd B0259)

(x259)

fod yn rhaid cael lawn anfeidrol am danyxt, neu gosb dragywyddol o’u herwydd.

. 7. Pechod gwybodus, a phechod mewn amvybod.— Pechod mewn anwybod oedd Paul wedi ei wneyd wrth gablu ac erlid eglwys Dduw; ond cafodd drugaredd. Yr oedd rhai o’r rhai a groeshocliasant Grist wedi ei wneuthur mewn anwybod. Gweddiodd Crist drostynt, “ O Dad, maddeu iddynt, canys ni wyddant pa beth y maent yn ei wneuthur.” Nid y peth y mae dyn yn ei wybod y

mae y gyfraith yn ei ofyn, ond y peth a ddylai wybod.

8. Pechodau duon, gwynion, a brithion, fel defaid Jacob.—!N”id wyf yn dyweyd fod eu gwahaniaethu fel hyn yn gymeriadan priodol, ond felly y maent yn cael eu henwi gyda dynion. Pechod du yw y pechod y mae arall wedi ei wneyd yn dy erbyn di; mae hwnw yn gy-ffredin yn ddu arswydus. Pechod gwyn yw y pechod yr wyt ti wedi ei wneyd yn ei erbyn ef—nid ydoedd fawr o beth—ni fuasai raid iddo byth wgu arnat am beth mor lleied—nid ydoedd ond y peth lleiaf. Rhaid ei fod yn hynod groen deneu; nid oeddit ti ar y cwbl prin yn nieddwl ei fod yn ddrwg yn y byd. A’r pechodau brithion ydynt y pechodau hyny yr ydych yn eu cyfaddef wrth eich gilydd pan y byddoch yn gwneyd heddwch y naill a’r llall; ond mae pob pechod yn ddu i gyd yn ngolwg yr Arglwydd.

II. Cyflog pechod yw marwolaeth.—Teilwng i’r gweithiwr ei gyflog. Mae yn haeddu marw; i’e, a marw byth.

1. Mae dyn yn farw ysbrydol, mewn dieithrwch oddiwrth fuchedd Duw. Syniad y cnawd, marwolaeth jw, yn gwbl amddifad o weithrediadau bywyd ysbrydol;


 



(delwedd B0260)

(x260)

HASTES BTWTI)

nid oes dim yn ei holl ysgogiadau yn santaidd; mae yn llawn hunanolrwydd, ac yn byw mewn drygioni—yn gas ganddo am Dduw a’i waith.

2.   Mae yn gondemniol farw, wedi ei ddedfrydn i ddyoddef cosb dragywyddol am ei drosedd.

3.  Mae gwahaniaeth rhwng gweision dynion a gweision pechod.   Nid yw y cyntaf yn gofalu am y gwaith, nao yn earn ei wneyd, ond yn fawr am y cyflog; oad yr olaf, nid da ga,nddynt y cyflog, ond yn hoff iawn o’r gwaith.    Gan tod y cyflog yn dilyn  y gwaith, wedi gwneyd y gwaith rhaid derbyn y cyflog.   “ Yr hwn sydd yn hau i’r cnawd, o’r cnawd a fed lygredigaeth.” Mae yn cynwys ysgariad oddiwrth bob dedwyddwch am byth, yr hon yw yr ail farTrolaeth.

III. “ Dawn Duw yw bywyd tragywyddol, ti’wy Iesu Grist ein Harglwydd.”

1.  Rhodd Duw, nid anrheg.—Mae rhodd yn golygu ei bod yn anrhwymiadol o du y cyfranwr, ac yn anhaeddianol o du y derbyniwr.   Nid elw i Dduw oetid amcan y rhoddwr wrth roddi y rhodd, ond elw tragywyddol y dyn.

2.  Mae y rhodd hon yn deilwng o Dduw i ddynio annheilwng ac anhaeddianol.

3.  Mae yn rhodd yn ol ei gyfoeth a’i ras.—Mae yn abl—pob awdurdod yn ei law—yn Ben Arglwydd nefoedd a daiar.   Mae yn rhodd dialw yn ol.

4.  Mae yn rhodd heb ei disgwyl, a thu draw i amgyffredion dynion.   Pwy a ddychymygodd i Victoria roddi Tywysog Cymru i farwolaeth yn lle teyrnfradwyr ei llywodraeth?   Neb erioed.   Er syndod i angelion a dynion, “Felly y carodd Duw y byd,fel y rhoddodd efe ei unig-anedig Fab,” &c.   
Mae hanes yn dy

Y  PABCH.  JBSTKIK JENKINS.


 



(delwedd B0261)

(x261)

weyd fod gan Philip o Macedon, tad Alexander Fawr, ferch, a bod ei Brif Lywydd wedi ymgyfathrachu a hi, a’u bod yn myned i briodi, ac i’r Llywydd ofyn i’w thad am gynysgaeth gyda hi. Rhoddodd Philip rwyd anferth yn llawn o aur iddo mewn canlyniad.
Anfonodd yntau yn ol, fod ei haner yn llawn ddigon—na feddyliodd ef erioed am gymaint a hyny. Yr ateb a gafodd oedd, fod ei haner yn llawn ddigon i’r General ofyn; ond nad oeddynt i gyd ddim yn ormod i Philip i’w rhoddi. “ Nid ag arian ac aur y’ch prynwyd oddiwrth eich ofer ymarweddiad, ond a gwerthfaw™ waed Crist.” “ Yn hyn y mae cariad, a ni eto yn bet.:aduriaid, i Grist mewn pryd farw drosom ni.” Mae bywyd tragywyddol, a phob bendith arall yn deilliaw trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Efe yw cyfrwng holl weinyddiadau y Duwdod, mewn creu, cynal, ac achub. Mae Efe yn awdwr iachawdwriaeth dragywyddol i’r rhai oll a ufuddhant iddo.

ADDYSGIADAU.

1.  Mawr ddrwg pechod yw yr achoa haeddianol o farwolaeth Crist—yr hwn ni wnaeth bechod, ac na chaed twyll yn ei enau.

2.  Mawredd trefn gras, dawn Duw, bywyd tragywyddol trwy Iesu Grist ein Harglwydd.    Amen.

“ Mae gwlad o etifeddiaeth deg,

Yn arcs pawb o’r saint; Ni ddichon dyn nac angel byth,

Amgyflred gwerth eu braint.” 


 



(delwedd B0262)

(x262)

HANES  BTWYD

PREGETH.

“ Gan hyny pwy hynas sydd yn gwrando fy ngeiriau hyn, ac yn eu gwneuthur, mi a’i cyffelybaf of i wr doeth, yr hwn a adeiladodd ei dy ar y graig; a’r gwlaw a ddisgynodd, a’r llifeiriaint a ddaethant, a’r gwyntoedd a chwythasant, ac a ruthrasant ar y ty hwnw, ac ni syrthiodd, oblegid sylf aenasid ef ar y graig. A phob un ar sydd yn gwrando fy ntieiriau hyn, ac heb eu gwneuthur, a gyffelybir i wr ffol, yr hwn a adeiladodd ei dy ar y tywod; a’r gwlaw a ddisgynodd, a’r llif-ddyf roedd a ddaethant, a’r gwyntoedd a chwythasant, ac a gurasant ar y ty hwnw, ac efe a syrthiodd, a’i gwyinp a fu fawr.”-—Mat. vii. 24-28.

Mae geiriau ein testyn yn gasgliad o bregeth Crist ar y mynydd.   Y bregeth oreu a bregethwyd erioed.
Crist oedd y pregethwr goreu o neb fu, sydd, neu eto a ddaw.   M lefarodd neb fel y dyn hwn.   Yr oedd yn perffaith adnabod ei wrandawyr, yn dyweyd y pethau mwyaf angenrheidiol iddynt eu gwybod a’u .gwneyd. Nid yn unig yr oedd yn dyweyd y pethau mwyaf perthynol  iddynt,  ond hefyd  gwasgai y  gwirioneddau hyny yn ddwys at eu cydwybodau.   Yn y bregeth hon mae efe yn cyhoeddi naw gwynfydedigrwydd i gymeriadau neillduol, ac yn dangos beth yw gwir gymeriad ei gaulynwyr.   Parhad y gyfraith a’r prophwydi, gan esbonio ysbrydolrwydd y gyfraith yn wrthwynebol i draddodiadau y tadau.   Nid yw cyflawniad allanol ac arwynebol o’n dyledswyddau yn ddigonol, gau fanylu pa fodd y mae yn. rhaid eu gwneuthur hwynt.   Pa bethau sydd i’w gwneyd, a pha bethau sydd i’w gochelyd.   Pa fodd i weddio, a pharodrwydd Duw i gyfranu.   Anogaeth gref i ymdrechu myned i mewn trwy y porth cyfyng.   Ymogelu rhag gau brophwydi, ac i adnabod dynion wrth eu ifrwythau.   Y dichon dynion

Y   PAKCH.  JEKTKIN JENKINS.


 



(delwedd B0263)

(x263)

alw ar enw yr Arglwydd, heb eu bod hwy na’u gwaith yn gymeradwy gan Dduw yn y diwedd.

Yn llythyrenol ac uniongyrchol, mae geiriau ein testyn yn perthyn i’r rhai oedd yn gwrando Crist ar y pryd, eto y maent yn dal yr un berthynas a holl wrandawyr yr efengyl trwy holl oesau y byd. Ynia y mae holl wrandawyr yr efengyl yn cael eu cyffelybu i ddau ddyn—un yn wrandawr y gair heb ei wneuthurj a’r llall yn wrandawr y gair ac yn ei wneuthur.

Nid yw ein testyn yn perthyn i’r pagan iaid, neu y rhai nad yw yr efengyl ganddynt, ond i wrandawyr y gair yn unig. Ac y mae yn perthyn i’r rhai hyny i gyd, bob un o honynt.

I. Y maent yn lled debyg i’w gilydd mewn amryw bethau.

1.  Dan ddyn ydynt, yn gwrando yr un geiriau, y naill fel y llall; o’r un gelfyddyd, pob un yn adeiladu ei dy.    
N”is gellir profi fod gan y naill gryfach synwyrau a chyneddfau na’r llall.   Maent ill dau yn ddeiliaid yr un ddeddf, yn gwynebu yr un farn, ac i gael eu pwyso yn yr un clorianau.    Y ddau i fyw. byth mewn eilfyd, yn berchenogion eneidiau anfarwol, ac yn bwriadu ao yn meddwl am ddedwyddwch tu draw i’r bedd.

Nid oedd yr un yn well adeiladydd na’r llall, yn ol a allwn ni ei wybod.
Yr un manteision a chyfleusderau, ac yn aml yn mwynhau yr un doniau. Mae yn rhaid mai rhyw beth tu draw i olwg dynion yw y gwahaniaeth rhyngddynt.

2.  Maent yn cael yr un profion y naill fel y llall, i brofi eu tai—y gwlaw, y gwynt, a’r llif-ddyfroedd.   Mae y rhai hyn oll yn brofion addas o waith pob un, nid yw y naill yn gwneyd gwaith y  ““‘      Y gwlaw yn


 



(delwedd B0264)

(x264).

BTWYB

Y  PAEOH.  JEtfKTK

26S

profi y td, y gwynt y muriau, a’r llif-ddyfroedd y syl-feini.    
Byddant yn sicr o ddwyn tystiolaeth gywir.

(1.) Nid oes dim mor addas a’r gwlaw i brofi y t6, bydd hwn yn sicr o ddyweyd y gwir, os ydyw y td yn ddiddos, neu os yw yn gollwng defni i’r ty. Mae cystuddiau, tlodi, llwfrdra, a gwahanol gawodydd o ddygwyddiadau; yr anifeiliaid yn meirw, ein perthynasau yn ein hesgeuluso, ac yn eiu gadael pan byddo mwyaf angen wrfchynt. Aml ydyw y dyferion sydd yn eiu hoes yn dyfod i brofi ein tai; byddant yn sicr o ddwyn eu tystiolaeth arnom.

(2.) Y gwynt yn profi y muriau.   Hid oes gyffelyb iddo, os bydd yr agen leiaf yn y mur, y diffyg mwyaf anhawdd ei ganfod yn y drysau a’r ffenestri, yn ei osodiad ar y sylfaen, bydd hwn yn sicr o’i hysbysu.    Yr ydym ni, sydd yn byw yn yr hinsawdd gogleddol, yn gwybod am hyn, yn hollol brofiadol.    Yn aml bydd y gwynt yn gwneyd ei ffordd i’n haneddau mewn lle nas gwyddom, eto gwyddom ei fod yn gwneyd ei ffordd drwy ryw fan neu gilydd; mae yno ryw wall wedi bod yn yr adeiladydd, drwy ryw anocheliad neu gilydd. Felly y mae gyda’r hwn sydd yn gwrando y gair, cyfyd rhyw ystorm o ryw gyfeiriad neu gilydd, ac ysgydwir ef yn ei sefydlogrwydd, ei dymer, ei egwyddorion, ei ddeall, a gogwyddiad ei ewyllys. Daw rhyw awel rymus o siomedigaeth mewn cyfeillion, a gwna y diafol eiorou i’w ysgwyd yn ei ogr, yn lled ddiesgeulus, er rhwyn iddo fyned gyda’r gwynt.   Chwantau ieuenctyd, cyfeillach lawen; gwna rhyw wynt croes ei chwythu mor bell, weithiau, fel nas gwyr yn y byd i ba le y mae wedi myned. 


 



(delwedd B0265)

(x265)

(3.) Y llifeiriaint a brofant y sylfeini.—Mewn gwlad fel Palestina, lle yr ymruthra y dyfroedd ar y gori-waered oddiar ei mynyddoedd cribog ar draws y clogwyni danynt, mae grym y tonau yn fawr iawn. Ar amserau, ar ol toddiad yr eira ar y mynyddoedd, ymarllwysant gyda ffyrmgrwydd ar draws pob peth a fyddo ar eu ffordd. Dadwreiddiant y coedydd, dymchwelant y muriau, dadsylfaenant y tai, a gyrant hwy gyda’r tonau, nes y byddant yn y diwedd wedi eu gwthio i’r mdr marw, lle bydd pob gobaith am dariynt wedi diflanu am byth.
Os na byddwn yn adeiladu ar Grist a’i eiriau am fywyd tragywyddol, i lawr y daw ein holl obeithion. Nid yw dywediadau Plato, Seneca, a’r philosophyddion yn sylfeini digon safadwy i adeiladu arnynt; traddodiadau y tadau, yr anffyddwyr, nac unrhyw hunan-gyfiawnder o eiddo dynion; i’e, hyd yn nod elusenau, proffes allanol o grefydd yn y gynulleidfa fwyaf uniawngred, yn ddigon o sylfaen i ymddibynu arni.

Dywed Crist dan yr enw, “fy ngeiriau hyn,” nas gall ei eiriau ef ei hun ein cadw heb eu gwneyd; hyny yw, eu credu yn ffyddiog, a’u hymarferyd yn ein bywyd a’n hymarweddiad—rhaid i ni eu gwneyd. Mae ufuddhau yn well na brasder hyrddod. Mae yr adeilad i fod yn pwyso yn gwbl ar y sylfaen. “ Sylfaen arall nis gall neb ei gosod heblaw yr un a osodwyd, yr hon yw Iesu Crist.”

Sylfaen gref yw ‘r Arglwydd Iesu, Arno ‘r vryf am adeiladu; Ac fe ddeil y sylfaen hono, Pan bo ‘r ddaiar hon yn tauio.


 



(delwedd B0266)

(x266)

HANES  BYWYD

ADDYSGUADAU.

1.  Yr hwn sydd yn adeiladu ar Grist, y mae wedi cloddio yn ddwfn, wedi cael gafael yn y graig, ac yn ymddiried  yn  gwbl  ynddo am  fywyd  tragywyddol. Gwna hyder a gobeithion hwn sefyll yn ddigryn er gwaethaf y gwlawogydd mwyaf a ddaw arno, y gwyntoedd cryfaf a ruthrant yn ei erbyn, a llifeiriaint afon aiigau ni syflant ei sail.

2.  Y siomedigaeth echrys a gaiff y rhai nad ydynt ond gwrandawyr y gair yn unig.—Ar ol yr holl wrando trwy yr holl flynyddau, eu sel dros eu henwad, a’u hymgais i wasanaethu dau Arglwydd, i lawr yr a eu holl drafiferthion, yn ofer yn y diwedd.    Bydd y ty wedi  syrthio pan y bydd fwyaf angenrheidiol iddynt wrtho—pan y bydd yn rhy ddiweddar i ail gynyg ei adeiladn.    Bydd y golled yn anadferadwy am byth— eu bywyd yn terfynu, eu cyfleusderau yn dybenu, a’u holl freintiau yn ymadael a hwynt—yr haf wedi darfod, y cynauaf wedi myned heibio, a hwythau heb fod yn gadwedig; heb obaith, na Duw yn y byd.   Amen.

“ Am graig i adeiladu,

Fy enaid chwilia ‘n ddwys, Y sylfaen fawr safadwy,

I roddi ami ‘th bwys; Bydd rhelus yn yr afon

Gael craig a’m deil i’r Ian, Pan byddo ‘r ‘storom olaf

Yn euro ar f’enaid gwan.”

Y PARCH. JEHKIN  JBKKINS.


 



(delwedd B0267)

(x267)

CAPEL Y T. O. YN CAMBKIA, MINN.,

YK HYTST A  ELWIK  “ HOBEB.”

Adeiladwyd y capel hwn tua’r flwyddyn 1857. Yn yr amser hwnw yr oedd y defnyddiau yn hynod ddrud, ac anhawdd eu cael ond am bris uchel, a hyny yn fwy am nad oedd arian i dalu i lawr am ei adeiladu. Y fath oedd prinder arian yr amser hwnw, fel yr aeth mewn dyled, a’r 116g bedair dolar y cant yn y mis. Gau mai braidd newydd ddyfod yma yr oedd y rhan fwyaf o’r aelodau, a bod amgylchiadau eraill yn eu gwasgu ar y pryd—y banciau yn tori, a’r adeiladwyr yn bygwth gwerthu y capel, daeth amryw o’r ymddiriedolwyr ataf, gan hysbysu eu sefyllfa, a dymuiio arnaf wneyd rhyw beth, os oedd yn bosibl, er eu dwyn o’r cyfyngder yr oeddynt wedi myned iddo. Penderfynais y buaswn yn myned i ymweled a’r gwahanol sefydliadau Cymreig trwy Wisconsin, Ohio, a Pennsylvania, gan ofyn yn ostyngedig am gynorthwy. Rhoddwyd hysbysiad o hyn yn y Drych, a’r Gyfaill. Nid oeddwn yn bwriadu aros fawr yn Wisconsin, gan fy mod am brynu yr amser, ac mai yn Ohio—y sefydliadau lle bu y nifer luosocaf o’r rhai a ddaethant yma, yn byw—oedd y manau tebycaf i lwyddo yn fy amcan.

Gan mai hwn yw y capel cyntaf a adeiladwyd gan y Cymry yn Nhalaeth Minnesota, a bod y rhai yr oeddwn yn gofyn eu cydymdeimlad wedi cael cyfraniadau y rhai oeddynt yn bresenol dan y baich, dadleuais yn hyf mai eu dyledswydd hwythau oedd cadw achos Iesu Grist rhag myned i warth mewn sefydliad mor newydd


 



(delwedd B0268)

(x268)

HASTES  BYWYD

Nl wnaethym ddim gwahaniaeth rhwng y naill -mwad na’r llall, arian oedd eisiau arnaf fi, ac yr oedd yn rhaid i mi eu cael.    Trwy fy mod wedi ymgymeryd a’r gorchwyl, yr oedd fy mhenderfyniad mor gryf na fuaswL yn dychwelyd hebddynt yn fy ol.    Wedi cyrhaedd ardal Gomer, Ohio, pregethu yno ar y Sabboth, a chael caniatad i gasglu, nid aethym i ofyn i neb dranoeth, trwy eu bod wedi cyhoeddi pregethwr o eiddo y Trefnyddion Calfinaidd i fod yno y noson olynol, ac yn dymuno arnaf finau bregethu gydag ef.   Beth a wnaeth y pregethwr hwn ond defuyddio ei ddylanwad hyd y medrai er fy lluddias i gyrhaeddyd fy amcan yn eu plith, gan ddyweyd eu bod hwy yn. eu Cymanfa flynyddol wedi penderfynu na buasai neb yn cael casglu yn eu plith hwy heb ganiatad y Cyfarfod Tri-misol. Gan mai Independiaid oedd pobl Gomer, mai at gapel ar enw y Trefnyddion Calfinaidd yr oeddwn yn ymofyn eu hewyllys da, a bod un o’u pregethwyr hwy eu hunain yn dangos y fath wrthwynebiad, penderfynais na buaswn yn gyru yn galed yn erbyn rhwystrau, er nad oeddwn am roddi i fyny ychwaith, yn ol fel yr oedd amryw yn fy nghyngori i wneyd.    Arosais yno “am Sabboth arall, a chefais garedigrwydd nid bychan gyda hwynt.   Ni chefais wedi hyn fawr o wrthwynebiad, er fod yr amser hwnw yn hynod o farwaidd.  Bu y Parchedigion H. Powell, Robert Williams, John Evans, a John Jeffreys, yn hynod siriol i mi, a chyflawnais fy mwriad yn hollol.

Oofus genyf, pan oedd rhai yn gofyn i mi pa fodd yr oeddwn yn llafurio felly dros y Trefnyddion Calfinaidd, a minau yn un o’r Indepediaid, fy mod yn eu hateb, Beth a allaswn i oddiwrth mai yn y Mynydd Bach y

Y  PARCH.  JBNKIST


 



(delwedd B0269)

(x269)

cefais fy nwyn at grefydd, ac nid yn Llangeitho? Dy-wedais fy mod wedi bod yn dileu dyled oddiar amryw gapelau perthynol i’r Independiaid—mai ambell i Fethodist fyddai yn rhoddi i mi y pryd hwnw; ond yn awr, mai ambell i Annibynwr oedd yn gwneyd, a bod plant Adda a llawer mwy o sel dros eu henwad na thros achos Duw. Tueddwyd fi hefyd i ddyweyd fy mhrofiad—fod un fuwch yn well i bregethwr na deu-ddeg o aelodau eglwysig—fy mod yn cael godro hono yn ddiddig ddwywaith y dydd, ac mai y llaeth olaf oedd y goreu; ond pan y byddwn yn ceisio godro tipyn arnynt hwy, eu bod yn cicio yn enbyd, ac nad oedd fawr yn dyfod oddiwrthynt yn y diwedd. Trwy y cwbl, gwelais rai, wrth ystyried eu hamgylchiadau, yn lled haelionus, yn neillduol yn Johnstown a Pomeroy. Mae y capel hwn yn awr yn ddiddyled, a’r Parch. David M. Jones yn fugail yr eglwys. Dyinunwyf iddynt lwyddiant mawr.


 



(delwedd B0270)

(x270)

HANES BYWYD     TERFYNIAD YB HANES, NEXT AIR YN  MHELLAOH.     Wrth ddybenu yr hanes hwn, nid wyf yn teimlo yn  hollol, fy mod wedi cyflawni fy nyledswydd heb nodi  yr hyn a ganlyn.   Yn y lie cyntaf, carwn ddyweyd gair am fy nhad  fy hun, yr hwn a'm magodd yn dyner. Derbyniwyd ef  yn aelod crefyddol yn y Mynydd Bach, Morgan wg, pan  yn 12 mlwydd oed, gan yr Hybarch Lewis Rees, a  pharhaodd yn ffyddlon gyda'r achos hyd ei farw, yr  hyn a gymerodd le yn Dundaff, Pa., yn y flwyddyn  1836. Bu yn ddiacon yn y Mynydd Bach am flyn-  yddau lawer, a phan y cymerodd y diweddar Barch.  David Davies ofal yr eglwys Gynulleidfaol yn Eben-  ezer, Abertawe, y fath oedd yr ymlyniad rhyngddynt,  fel y parhaodd fy nhad i wasanaethn yno hefyd yn yr  un swydd hyd farwolaeth ei hen weinidog parchus, a  rhai blynyddau wedi hyny. Yna, o herwydd pellder y  ffordd, cyfyngodd ei hun i'r Mynydd Bach hyd y dydd  y daeth drosodd ar ol ei blant i Dundaff. Bu farw, fel  y bu fyw, yn ffyddlon hyd y diwedd. Bydd ei goffad-  wriaeth yn anwyl gan y rhai a'i hadwaenai tra y bydd-  ont hwythau yn aros yr ochr hyn i'r bedd.   Joseph Jenkins, tad fy anwyl wraig. Ganwyd ef yn  agos i Lanfair Muallt, D. 0., yn y fl. 1791. Derbyn-  iwyd ef yn aelod eglwysig yn moreu ei oes, gan yr  Hybarch David Williams, Troedrhiwdalar. Daeth i ? r  America yn y fl. 1823, a sefydlodd yn Bradford, Pa.  Efe oedd y cyntaf o'r Cymry a sefydlodd yn yr ardal



 



(delwedd B0271)

(x271)

 

 

 



hono. Yr amser hwnw yr oedd yr ardal lle y gosododd ei babell ynddi yn anialwch disathr. Dilynodd y Cymry ef o un i un—mae y sefydliad Cymrcig hwn yn bresenol wedi dyfod yn dra hysbys, ac wedi dyrchafu i radd uchel o enwogrwydd. Bu am flynyddau yn ddiacon, pan yr oedd yr eglwys yn wan ac heb weinidog. Yn aml pregethai am flynyddau yn dra derbyniol, eto ni chymerai arno ei fod yn bregethwr, pan y byddai arall a honai y swydd yn bresenol ar y pryd. Yr oedd yn hynod ei gof, a chyfarwydd yn yr Ysgrythyrau, hanesyddiaeth, ac yn y celfyddydau; nid yn aml y ceid ei fath mewn gwybodaethau yn gyffredinol. Bu yn lletygar iawn holl ddyddiau ei einioes; yn ddidderbyn wyneb, yn hon, ac yn medru llywodraethu ei deimlad yn hollol, hyd ei anadliad olaf. Ymwelodd a ni yn Minnesota ddwy flynedd cyn ei farw, a chladdwyd ef yn barchus, gyda phruddder dwys, yn mysg ei gymydogion, ei garenyddion, a’i gyfeillion crefyddol, gyda thristwch a galar dwys ar ei ol.

Pe ddichon nad anfuddiol, cyn rhoddi fy ysgrifbin heibio, fyddai nodi gair nen ddau fel hyn:—Ddarllenydd hynaws, paid a bod yn rhy hyf a hnnanol. Gorfodwyd fi yn Minnesota, rai blynyddau yn ol, i fod yn dyst yn erbyn un oedd wedi bod yn tori coed ar dir ei gymydog. Yr oedd gan y troseddwr gyfreithiwr hyf a haerllug. Yn. nydd y prawf, gofynodd i mi gyda gwedd o ddiystyrwch, “How many of this man’s trees did he cut?” Dywedais wrtho yn araf ac ystyriol, gan fy mod ar fy llw, “Few.” Mewn gwawd, dywedodd, “ Few, how much is few? Can’t you be more definite than that? How much is few?” Atebais ef yn dawel, “ Less than many.” Edrychodd arnaf gyda yr anfodd-


 



(delwedd B0272)

(x272)

HASTES  BTWTD

lonrwydd mwyaf, a dywedodd, “ Many, how much is many; tell me that, if you can?” Atebais ef, “ More than few.” Wrth weled ei fod yn cael ei ddyrysu fel hyn, gofynodd i mi gyda gw6n ragrithiol, “ Stop, rhy dear fellow, I wish to ask you from where did you come?” Atebais, “ That has nothing to do with this point. Judge, your Honor, call this man to order.” Gorfn iddo eistedd i lawr yn nghanol chwerthiniad swyddogion y llys.

Ychydig gyda dwy flynedd yn ol, pan ar daith yn Pennsylvania, dymunodd yr eglwys Gynulleidfaol yn Birmingham arnaf, wrth fyned heibio, arcs am ychydig gyda hwynt.    Yr oedd rhyw annoethineb cyfrinachol rhwng eu gweinidog a rhai o honynt mewn perthynas i wraig barchus, brydweddol, yn yr eglwys.    Cyhoeddwyd yr hanes, mewn cellwair, yn y papyrau Saesonig ar hyd Pittsburgh a’r gymydogaeth.   Mewn canlyniad, effeithiodd y fath chwedl deimladau terfysglyd ac annymunol yn y naill tuag at y llall o’r pleidiau, nad oes ond amser a’i llwyr ostega.   Br fy mod wedi ymddwyn mor ddibartiol ac anmhleidgar, yn ol fel yr oeddwn i yn deall pethau, nid wyf yn meddwl fy mod wedi rhoddi hollol foddlonrwydd i’r naill ochr na’r llall hyd heddy w. Creadur anhawdd* i’w drin ydyw dyn; o bob creadur, hwn yw yr un mwyaf aflywodraethus.    Mae Duw yn medru ei drin, bydded y peth y byddo. Rhaid i mi gyfaddef, yr wyf fi wedi methu lawer gwaith.    Cefais sirioldeb mawr yn eu plith, a dymunwyf heddwch Duw, yr hwn sydd uwchlaw pob deall, i ail drigianu eto yn eu mysg.

Amryw flynyddau yn ol, bu ambell un mor gymwyn-

T  PAKCH.  .TESTKIST  JENKINS.


 



(delwedd B0273)

(x273)

asgar ag addaw ysgrifenu fy hanes ar ol i ,mi farw. Hwyrach eu bod hwy yn tybied y byddent byw ar fy ol.
Yr wyf yn dybenu y llyfr hwn yn ninas Utica, “N”. Y., yn mhell oddiwrth fy nheulu, yn fwy na haner claf am fy nghartref. Mae gweddill fy oes yn niwl i mi, ond gwn nad oes ond ychydig o honi ar ol. Dymunwyf fod yn ddoeth i ddeall hyn, i ystyried fy niwedd, fel y dygwyf fy nghalon i ddoeth?neb. Amen.


 



(delwedd B0274)

(x274)

HANES   BIWYD

NODIADAU AE SIENCYN DDWYWAITH,

GAN lOKTHRYN GWYNEDD.

Clywais lawer o son yn Nghymru ac yn America, er ys llawer o flyneddau, am Siencyn Ddwywaith; ac ail adroddwyd i mi lawer o’i hanes a’i ffraetheiriau, ar fy ymweliad cyntaf a’r Unol Dalaethau, yn y fi. 1851-52, Yr oedd ef« wedi bod yn gweiuidogaethu cyn hyny am flyneddau yn ninas New York, (lle yr urddwyd ef, Tachwedd, 1832,) ac yn Dundaff,  Pa.,  a Newark a Granville, Ohio,  a  Sugar  Greek,  Armstrong, Pa., a Dod’geville a Welsh Prairie, Wis.    Yn Wisconsin yr oedd efe y pryd hyny, ond ni thelais ymweliad A’r dal-aeth hono y pryd hyny.    
Yn 1855 y symudodd efe i fyw i Minnesota, lle y mae eto yn ddefnyddiol a chysurus.    Yr oedd gair mawr a pharchus iddo gan weinidogion, diaconiaid, ac aelodau, a gwrandawyr, yn gy-ffredinol.   Ond yr oeddynt yn ei ddarlunio i mi, y pryd hyny, fel rhyw hen Gymro rhyfeddol o od, afler, a diofal am ei wisg, ac am ei wallt, a’i wyneb; ac yn orlawn o ffraethebau parod a tharawiadol.    Ac yr oedd y bobl yn gyffredin yn cofio llawer o ranau o’i bregethau a’i ffraeth ddywediadau, ac yn eu nail adrodd i mi gyda llawenydd a chwerthin.

Adroddwyd llawer o’i hanes, a’i_bregethau, a’i ffraetheiriau, gan y bobl yn dra gwahano] i’r moddau gwirioneddol y cymerasant le, ac i’r hyn a ddywedodd Mr. Jenkins ei hunan. Digwydda hyny yn am] wrth ail adrodd hanesion, a phegethau, a ffraetheiriau.
Creodd

Y  PARCH.  JENKIN  JENKINS.


 



(delwedd B0275)

(x275)

hyn awydd cryf ynwyf i gael gweled a chlywed y dyn hynodol hwn. Ond ni chefais gyfleusdra felly hyd y flwyddyn 1867, pan y talodd Mr. Jenkins ymweliad fi llawer o’r eglwysi yn Pennsylvania.
Cefais lawer o’i gymdeithas bersonol, a chlywais ef yn pregethu lawer o weithiau y pryd hyny. Bu yn lletya vn fy nhy yn Mahanoy City, Pa., Mehefln 10, 1867. Dyna yr amser y tynais ei ddarlun (mewn pencil), ac y mae yn fy meddiant eto, ac yn werthfawr yn fy ngolwg. Cadwaf efynofalus. Mae yn ddarlun llawer mwy cywir na’r photograph a ddanfonodd Mr. Jenkins ei hun i mi o Minnesota. Nid wyf yn hoffi hwnw. Nid yw hwnw yn sicr yn ardeb cywir o hono ef; mae hwnw yn ei osod ef allan, i’r rhai nas gwelsant ef erioed yn bersonol, fel y dyn hyllaf ar wyneb y ddaiar! Ac nid yw gwir ddelweddau ei wynebpryd i’w gweled ynddo. Nid dyn felly yw Mr. Jenkins. Pfuflais farn fy hunan am daiio. Cyhoeddaf hi yn awr i’r byd, mewn ychydig ymadroddion, fel y eanlyn:

Pan welais i Mr. Jenkins, yn 1867, ac wedi hyny yn Minnesota, yn niwedd y fi. 1870, ac yn Utica, N. Y., Mawrth, 1872, yr oedd yn edrych yn dda a chalonog. Yr oedd ganddo wisg o ddillad duon da, ond yr oedd yn lled ddiofal am danynt. Dyn cryf, esgyrnog ydyw, o daldra cyffredin, dichon, 5 tr. 8 m., o ysgogiadau arafaidd, yn gwarn ychydig wrth gerdded, ond yn ymsythu yn sydyn, ac yn gogwyddo ei ben yr ochr arall, pan yn adrodd rhyw hanesyn difyrus; mae yn hoff o gau ei lygaidjweithiau, wrth siarad; bryd arall edrycha yn graffus yn myw eich llygaid, ac ar ol ei adrodd, egyr ei lygaid mawrion yn fwy fyth, chwytha yn ei ffroenau mawrion, a chwerthina yn uchel (hearty laugh)


 



(delwedd B0276)

(x276)

Dyn h                                    mae ganddo wyneb llyfn,

glandeg, a gwridgoch; ptu iwr, crwn, uchel; talcen nodedig uchel a llydan; gwallt du fel y fran; aeliau duon cryfion iawn, bron fel yr hen bererin duwiol, y diweddar Barcb. Lewis Powell, gynt o Gaerdydd, D. C.; llygaid craffus, bywiog; trwyn lled hir, a ffroenau llydain; g6n ucbaf fer; gwefusau teneuon; g^n isaf fer a main; gwddf lled hir, ond nid tew; clustiau bychain, teneuon; a llais tra hyglyw, ond nid perseiniol. Sieryd yn uchel ac eglur; swnia bob gair, sill, a llythyren, yn gywir ac eglur. Mae yn ddarllenwr Cymreig nodedig dda; ac yn bregethwr campus. Gogwydda at y ffraeth a’r digrif. Cyfansodda ei bregethau yn syml a thlws, a thraddoda hwynt yn hollol ddiboen, yn ei ddull hynodol ei hun yn hollol. G-all wneyd i dyrfaoedd wylo a chwerthin bron ar unwaith.

Ei gryfder penaf ef yw ffraethder (wit). Mae hyny yn reddfol ynddo yn y ty ac yn yr areithfa; ond y mae weithiau yn rhedeg i eithafion, trwy arfer iaith rhy gy-ffredin, a rhy anweddus i’r areithfa efengylaidd. Ond y mae wedi arfer hyny drwy yr holl flyneddau- maiti iddo ef gael dyweyd ei feddwl yn hyf fel y myno; ofer fyddai i neb geisio ei rwystro, a gwae y dyn a amcanai hyny. Un gair o eiddo Jenkins a drywanai ei gnawd a’i esgyrn; ac y mae y bohl yn gyffredin yn awr yn goddef iddo, ac yn disgwyl iddo ddyweyd y pethau a fyno, fel y myno; ac ni byddai yn Siencyn Ddwywaith yn ngolwg y miloedd heb hyny. “Mae yn dra difyrus i’w wrando. Ar yr amser sychaf, gall dynu gwlaw o gymylau y nef; ac hyd yn nod ar flu y bedd, gorfoda chwi i lawenhau. Kid wyf yn deall ei fod yn llenor Cymreig coethedig, ac nid yw ei lawysgrif yn dlos,

Y   PAROH.  JEKKIN   JENKINS.


 



(delwedd B0277)

(x277)

na’i frawddegau yn gywir yn aml, ac nid oes ganddo drefn dda mewn dim a wnelo nac a ddywedo; tebyga felly i’r anfarwol Christmas, Evans.   Yr oedd yn rhaid gweled a chlywed hwnw, cyn y gellid ei adnabod yn iawn; annichon oedd ei ddarlunio ar bapyr.    Credwyf mai felly y bydd gyda Siencyn Ddwywaith.    Am hyny cyngorwyf yr holl genedl Gymreig i fynu ei weled a’i glywed, os gallant, ac i brynu ei lyfr gwerthfawr, pris $1, pan ar ei deithiau yn America, ac yn Nghymru. Mae efe yn sicr yn werth i’w weled ac i’w glywed; a bydd ei lyfr, sef “ Hanes Unwaith am Siencyn Ddwy-waith,” yn dra hynodol, fel yntau, ac yn ychwanegiad gwerthfawr  at  ein  llenyddiaeth.    Bydd  yn  debyg i Hanes “ Gadsby o Manchester” a “ Siencyn Penhydd.”
Prynir a darllenir ef gan y miloedd.   Tybiwyf mai y Parch. Ed. K. Lewis  (lorwerth  Callestr), Pottsville, Pa., a minau, a gyngorodd Mr. Jenkins gyntaf i ysgrifenu a chyhoeddi ei hanes ei hunan.   Rhoddais gry-bwyllion byrion am dano ef yn y Gyfrol I. o “HANES CYMRY AMERICA.”    (Gwel Hanes Minnesota, yn Dos. B, sef “ T Qorllewin Pell.”}

Mae Mr. Jenkins yn gyfaill anwyl, yn Gristion da, yn ddyn llawn o synwyr cyffredin, yn bregethwr rhagorol, yn yr iaith Gymraeg a Saesonaeg; yn dduwinydd gwir ysgrythyrol; yn barchus yn ngolwg yr holl enwadau crefyddol, ac yn weinidog cyfrifol ac enwog yn ngolwg yr Americaniaid. Mae yn awr tua 68 mlwydd oed. Bum yn lletya yn ei dy, ar ei dyddyn rhagorol, ger capel Horeb (T. C.), yn Blue Earth Co., Minnesota, yn niwedd 1870. Mae ei briod, Mrs. Jenkins, yn foneddiges grefyddol a siriol (gynt Miss Ann Jenkins, inerch Mr. Joseph Jenkins, tyddymvr, Bradford Co.,


 



(delwedd B0278)

(x278)

HAKES  BTWYTl

Pa.,) ac y mae ganddynt amryw o feibion a merched. Mae ei ail ferch ef yn un o’r athrawesau mwyaf parchus a dysgedig yn Mankato, Minnesota. Enw ei wraig gyntaf oedd Sarah, merch Christmas a Catherine Dayies, o’r Crwys, ger Abertawe, D. C. Ymfudodd gydag ef i New York, a bu hi farw yn mhen blwyddyn ar ol hyny, a chladdwyd hi yn barchus yn mynwent capel y Bedyddwyr Saesnig, yn Amity St., tua’r fi. 1833. Codwyd gweddillion marwol y rhai a gladdwyd yno, a symudwyd hwynt i fynwent y Cymry, sef y Cypress Hill Cemetery, ar Long Island, er ys blyneddau. Yno y mae ei gweddillion hi, a’r Parch. Shad-rach Davies, a lluoedd eraill o Gymry parchus yn gorwedd.) Dymunwyf fawr lwyddiant i’r Parch. Jenkin Jenkins, a dirfawr werthiant i’r “ Hanes Unwaith am Siencyn Ddivywaith.”

LLAIS   Y  BBIRDD.


 



(delwedd B0279)

(x279)

LLYFH Y PARCH. JENKIN JENKINS.

Addawodd Siencyn Ddwywaitb.—yn gofres

O un .gyfrol berffaith,., I’n swyno ‘i Hanes Unwaith, A pliob digwyddiad yn ff’ailh.

Oesi a wna pob hanesyn—am Mr

Wedi marw Siencyn; Dysg plant Miljhnyddiant fel hyn, Ei arabedd yn rhibyn

Yn ddiau, os ca’dd Siencyn Ddwywaitb.—fyw,

Ni cha fedd ond unwaith: Yn rhyw le o’r ddaiar laith, Y cul fedd gwnaed celfyddwaith.

Ac ar ei gareg er gwirio—y lle ‘r

Penill hwn aroso Byth, yn NgTwettrren y Beirrdd bo, Gydag arf gwedi gerflo,

“ Ar y gwamalfyd drwg yma—Siencyn

Roes ei winciad ola’; Credadyn, a dyn nrwy da K weithredoedd ni tbroedia.”

Eos G-LAN TWECH.


 



(delwedd B0280)

(x280)

LLAIS   T ‘BBTRDD.

Y PARCH. JENKIN JENKINS.

as,y

BEIRDD.


 



(delwedd B0281)

(x281)

BNOLYNION  A GYFANSODDWYD   WBDI   DARLLEN MSB.   Y   1O.YRR, “ HANB8 UNWAITH AM SrENCYN DDWY WAITS.”

Dymuawyd am ei hanes,—y dyn call,

A’r doniau cu, eres; Yn yllyfr gwelir er lles Greinion ei galon gynes.

Buan gylchrediad, a bywyd—i’r llyfr,

Fo er llwydd ieueuctyd; Unwaith y “ ddwywaith” a ddyd Hanes ei dda oes ddiwyd.

Arabydd diarebol—yw ‘r arwr— Mae ‘i eiriau ‘n drydanol; Llona gall, lleinw ei gol A syniadau swyn hudol.

T gyirol aed fel olwyn—o dan gwyllt,

Yn dwyn gwerth ar Siencyn; Ynddi gwel deithi y dyn,

Lwyr daflodd lawer dieflyn.

IBTJAN DDU.

Nid ofer yw y difyr waiti,—myn’d dros, Myn’d drwy ‘i “ Hanes Unwaith;” Fel hyn, i’n dilyn ar daith, Oni ddaw ‘i Siencyn Ddwywaith?”‘

Ni cliwynem, pe mil a chanwaith,—o gaol Cyd-gwrdd “Siencyn Ddwywaith;” Arosfyn llawer oes faith, Yn swyn ei “Hanes Unwaith.”

OBFNI


 



(delwedd B0282)

(x282)

ENGLYNION I LYFR Y PARCH. JENKIN  JENKINS (SIENCYN DDWYWAITH).

O’i oes enwog “Hanes Unwaith,”—yn llawn,

Sy’n llyfr “ 8iencyn Ddwywaith;” Difyr i gyd, efo’r gwaith, Y treulir hynt hir, eilwaith.

Yn ddiwyd bu “ Siencyn Ddwywaith, ‘—i wneyd

I ni ‘r fath gydymaith; Tra ‘nsyn! trwy ‘i “ Hanes Unwaith,” Daiar a’i gwel ef dair gwaith.

 

------------------------------

Sumbolau: Æːæːā ē ī ō ū W̄ w̄ ȳ/ ˡ ɑ æ æːɛ ɪ ɔ ʊ ə ɑˑ eˑ iˑ oˑ uˑ ɑː æː eː iː oː uː / ɥ / ˡ ð ɬ ŋ ʃ ʧ θ ʒ ʤ / aɪ ɔɪ əɪ uɪ ɪʊ aʊ ɛʊ əʊ /

ә ʌ ẃ ă ĕ ĭ ŏ ŭ ẅ ẃ ẁ Ẁ ŵ ŷ ỳ Ỳ [ә gæ:r]
---------------------------------------
Y TUDALEN HWN: www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_087_Siencyn Ddwywaith_1872_090106_rhan-3_0256k.htm
---------------------------------------
Creuwyd: 26-07-2017
Adolygiad diweddaraf: 26-07-2017
Delweddau: 
Ffynhonnell: -
---------------------------------------

Freefind:

Archwiliwch y wefan hon
SEARCH THIS WEBSITE
...
Adeiladwaith y wefan
SITE STRUCTURE
...
Beth sydd yn newydd?
WHAT’S NEW?


Ble'r wyf i? Yr ych chi'n ymwéld ag un o dudalennau'r Wefan CYMRU-CATALONIA
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web CYMRU-CATALONIA (= Gal·les-Catalunya)
Where am I? You are visiting a page from the CYMRU-CATALONIA (= Wales-Catalonia) Website
Weə-r äm ai? Yüu äa-r víziting ə peij fröm dhə CYMRU-CATALONIA (= Weilz-Katəlóuniə) Wébsait

 

 



CYMRU-CATALONIA

DIWEDD / FI / END 

hit counter script

Edrychwch ar fy Ystadegau / Mireu les estadístiques / View My Stats