2667k
Siencyn Ddwywaith. 1873. Remsen, Efrog Newydd.
http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_086_y_dduwioleg_1873_2666k.htm
Yr Hafan
..........1863k Y Fynedfa yn Gymraeg
....................0009k Y Barthlen
..............................0960k
Cywaith Siôn Prys (Testunau yn Gymraeg) - Mynegai
........................................y dudalen hon
|
|
Gwefan Cymru-Catalonia |
|
SGANIAD AMRWD –
TUDALENNAU WEDI EU CYWIRO: 000-051, 120-133, 199-206
------------------------------------------------(x001)
HANES UNWAITH AM
SIENCYN DDWYWAITH;
SEF
Y PETHAU MWYAF HYNOD YN EI FYWYD,
YN NGHYDA RHAI TRAETHODAU,
A THALFYRIADAU O’I BREGETHAU, &c., &c.;
HEFYD YCHYDIG
AWGRYMIADAU AM MINNESOTA,
A’R CYMRY A
WLADYCHANT YNO.
GAN JENKIN JENKINS.
UTICA,
N.Y.
T. J.
GRIFFITHS, ARGRAFFYDD, EXCHANGE BUILDINGS.
1872.
------------------------------------------------(x002)
AT DDARLLENYDD YR AIL ARGRAFFIAD, AC ERAILL.
AT Y DARLLENYDD.
ANWYL GYFEILLION—
Mae argraffiad y ddwy fil gyntaf wedi
gwerthu yn rhwyddach nag y dysgwyliais, er ys agos i flwyddyn yn ol. Nid oeddwn
yn meddwl argraffu ychwaneg; ond gan na chafodd braidd haner y sefydliadau
Cymreig gynyg ar y llyfr, penderfynais roddi mil arall trwy y wasg.
Gwir mai difias yw cadw llyfrau ar law ar ol y draul o’u gwneyd; eto, er mai
nid hyn yw fy ngofid presenol i, mae arnaf ofid arall, sef methu ateb y gofyn
sydd am y llyfr, o herwydd nad ydyw genyf ar law. Mae y llwyddiant a gefais yn
rhoddi hyder na byddaf yn golledwr yn yr argraffiad hwn eto.
Dymunaf dalu fy niolchgarwch diffuant i’r rhai a’m cefuogasant yn barod, gan
ddysgwyl yn galonog hynawsedd y rhai y bwriadaf ymweled â hwythau yn fuan.
Yr eiddoch, &c.,
JENKIN JENKINS.
GWELLIANT GWALL.—Ar tudalen 185, a’r 19eg llinell, yn lle “Dafydd”
Thomas, darllener “ Griffith” Thomas.
------------------------------------------------(x003)
Yn gymaint a bod awydd cyffredinol yn ffynu yn mysg y Cymry yr ochr hon i’r
Werydd am weled Hanes Bywyd Siencyn Ddwywaith wedi ei gyflwyno i’r cyhoedd
ganddo ef ei hun, a bod yr awydd hwnw yn deilliaw oddiar y dywediadau a adroddir
am dano gan wahanol bersonau, barna ei hen adnabyddwyr mai teg a phriodol
fyddai iddo ef ei hun roddi desgrifiad cywir o’r hyn a gymerodd le yn
gysylltiadol âg ef yn nyddiau ei ymdaith trwy y byd yma.
Hefyd, pan ar ei daith yn Nhalaeth Pennsylvania, er ys yn agos i dair blynedd
yn ol, yn ei ymweliad â’i frawd, Evan Jenkins, Dundaff, cadwyd cyfarfod yn
Minersville, yn cael ei lywio gan y Parch. Mr. Walking (yn awr o Racine, Wis.),
ac ereill, yn dymuno i hyn gael ei wneyd gyda brys. Rhoddasant y cefnogiad
gwresocaf i’r fath anturiaeth, a chafodd yr ysgrifenydd yr anogaethau cryfaf o
amrywiol fanau eraill, nes o’r diwedd yr addawodd gyflawni eu cais; ac ar ol
addaw, rhaid bellach ymaflyd yn y gorchwyl, neu fod yn euog o’r cymeriad
gwrthun o fod yn anffyddlon. Mae llawer o rwystrau ar ffordd yr awdwr, yn
neillduol i roddi darluniad o rai o’r amgylchiadau yr aeth drwyddynt, gan yr
anhawsder sydd i beidio nodi enwau rhai personau a fuont yn dwyllodrus a
dichellgar tuag ato. Gan na wna cyfeiriadau personol fel hyn un lles, gwell eu
gadael o’r neilldu. Nid doeth i yrwr cerbyd yw ymdrybaeddu i daflu pob careg a
boncyff sydd ar ei ffordd; gwell iddo fyned goreu y gallo heibio iddynt, a’u
gadael o’r neilldu. Felly penderfynwyd gadael heibio y pethau isel, gwael, a
bawaidd, a ellid eu nodi, yn hytrach
nag ymdroi o’u cwmpas yn yr ysgrif hon.
Gan fod cymaint o bethau dyddorol a buddiol, y carai y darllenydd eu gwybod,
wedi cyfarfod â Siencyn Ddwywaith, amcenir rhoddi crynodeb byr o honynt, heb
ychwanegu atynt, na thynu oddiwrthynt. Nid wyf erioed eto wedi amcanu boddloni
na thramgwyddo neb ar draul aberthu egwyddor. Bellach nid gwiw i mi, yn niwedd
fy oes, geisio cyfarwyddo fy hun mewn rhyw gastiau newyddion; gwell genyf na
defnyddio sebon meddal, a gwenieithio, pan y byddo amgylchiadau yn galw, lefaru
yn gadarn am y pethau yr wyf yn eu credu yn gryf — tramgwydded y neb a
dramgwyddo, a digied y neb a ddigio.
Ysgatfydd fod
ambell un yn barod i ddyweyd wrth fyfyrio fy ysgrif, “Yn wir, nid yw y peth,
wrth ystyried mai gweinidog yr efengyl a’i gwnaeth; nid oes ynddi fawr o ras.
Yr
------------------------------------------------(x004)
wyf yn cyfaddef yn rhwydd nad oes ynddi yn agos gymaint ag a ddymunwn fod. Ar
yr un pryd, dywedaf wrth yr un hwnw, pwy bynag yw, nad oes ganddo ef ddim i’w
spario i mi. Os oes ganddo ef a minau ychydig o ras, dylem fod yn ddiolchgar
iawn. Dylai fod cywilydd arnom fod mor lleied genym ein dau; ond byddwn galonog
fod rhagor i’w gael, a bod modd i ddyfod yn feddianol arno, trwy ddidwyll arfer
moddion priodol; byddwn ddiwyd iawn.
Wrth bregethu i gynulleidfa o
bersonau dieithr, y rhai na’m clywsant yn flaenorol, barnant yn gyffredin fy
mod yn odiach, neu yn rhyfeddach na dynion eraill; ond yn mysg y rhai sydd yn
fy adnabod, ac wedi cynefino a mi, nid ydynt yn gweled nac yn clywed dim
dieithriol ynwyf. Os cenfydd y
darllenydd ryw bethau dieithriol, mewn dull neu ymadrodd, yn y llyfr hwn,
gallant fod yn sicr nad amcanwyd dim ynddo felly genyf fi. Oddieithr fod rhyw wallau wedi llithro trwy yr argraffwasg, mae y dull a’r
pethau wedi eu malu yn melin fy myfyrdod fy hun. Os dywedir nad oes hawl genyf i wneyd defnydd o ddrychfeddyliau
eraill, yr wyf yn barnu yn ostyngedig fod pwy bynag a ddywedo felly yn saethu
dros y nod. Eto, gan fod y Creawdwr
doeth a da wedi rhoddi dawn neillduol a phriodol i bob dyn, dylai ymlwybro yn
ol y dawn a roddwyd iddo, yn lle ceisio cerdded wedi ei wisgo ag arfau Saul;
eto, ambell waith gellir gwneyd defnydd o gledd y gelyn i dori ei ben ag
ef. Mae gwell awch ar y fath arf nag
sydd ar geryg llyfnion, er rhai yn ein cod ni ein hunain y byddant.
Gan mai yn mysg y Cymry yr wyf wedi bod yn
llafurio agos fy holl oes, iddynt hwy yr wyf yn cyflwyno yr anrheg fechan hon,
cyn ymadael a’r byd, fel y gallont weled fy nhaith trwy yr anial, pan y byddwyf
wedi canu yn iach i bob gwrthddrych
dan
haul.
……………………………Pererin wy’n y byd,
.. …………………………….Ac alltud ar fy hynt,
……………………………Yn
ceisio dilyn ol y praidd,
………………………………A’r
tadau sanctaidd gynt.
Mae llawer
iawn o’m hen gyfeillion inau, y rhai y bum yn pregethu am flynyddau iddynt,
wedi myned i ffordd yr holl ddaiar; maent heddyw uwch gafaelion a thrafferthion
y byd hwn, a byddaf finau yn fuan wedi eu canlyn, gobeithiaf, i’r wlad well.
Pwy a wyr na chaiff rhyw rai hyfrydwch oddiwrth y llyfr hwn pan y bydd y bysedd
sydd yn ysgrifenu y llinellau hyn wedi llonyddu yn llwch y bedd?
Yr eiddoch yn y rhwymau goreu,
JENKIN
JENKINS.
------------------------------------------------(x005)
..................................CYNWYSIAD.
Tu. dal. (= tu dalen)
At y Darllenydd …8
Hanes Bywyd y Parch. Jenkin Jenkins…7
..................................TRAETHODAU, &c.
Pregeth…45
Y
Golygfeydd Diweddaf ar Fywyd Boneddiges Urddasol…57
Ysbryd Maddeu…71
Archesgobaeth yn mhlith yr Annibynwyr yn
Nghymru...74
Sylwadau ar y Llythyr Blaenorol, gan “Carwr
Crist a’i Weision”…79
Archesgobaeth yn Nghymru yn mhlith yr
Annibynwyr...82
Iawn Crist…87
Rhagfarn Crefyddol…93
Gweddi y Ffydd…117
Taith drwy Dalaeth Ohio…155
Ymweliad a Chymru…163
Hanes Rowli a’i
Deulu...171
Gwneyd rhan Tangnefeddwr…175
Y
Convention...191
Dosran y Ceffyl “
Dic”...193
Moses Strong…195
Ffurfiad Eglwysi…197
Gair am Dalaeth Minnesota…199
------------------------------------------------(x006)
Y Parch. Morris Roberts, Remsen,
a Mr. William Maxy, Carbondale…203
Pregethau…204—206
Capel y T. C. yn Cambria, Minn...207
Terfyniad
yr Hanes, neu Air yn Mhellach...270
Nodiadau ar Siencyn Ddwywaith, gan Iorthryn Gwynedd, 274
..................................LLAIS Y BEIRDD.
Llyfr y Parch. Jenkin Jenkins,
gan Eos Glan Twrch…279
Y Parch. Jenkin Jenkins, gan Ieuan Ddu…280
Englynion i Lyfr y Parch. Jenkin Jenkins, gan
Cefni…380
------------------------------------------------(x007)
HANES BYWYD Y
PARCH. JENKIN JENKINS.
GANDDO EF EI HUN.
Ganwyd gwrthddrych y cofiant hwn nos Sadwrn, y
29ain o Orphenaf, 1803, yn Tirfordfawr, plwyf Llangyfelach, swydd Forganwg,
Deheudir Cymru. Yr oedd yn un o wyth o blant; efe oedd y trydydd. Mae y
ddau hynaf eto yn Nghymru; ei dad, ei fam, a’i
dair chwaer, wedi marw. Bu farw brawd iddo hefyd yn ninas Caerefrog
Newydd; ac y mae brawd arall iddo yn awr yn fyw yn Dundaff, swydd Susquehauna,
Pa. Pan yn blentyn, tynai sylw cyffredin, am ei fod yn un hynod fywiog, a’i
ddau lygad du mor dreiddgar a chyflym yn ei edrychiad craff. Y cof cyntaf sydd
ganddo am ddim, braidd, yw ei fod yn myned ar y Sabbothau tu ol i’w fam ar gefn
y ceffyl i Mynydd Bach, lle yr oedd yr hybarch David Davies yn gweinidogaethu,
lle hefyd yr oedd ei rieni yn aelodau; yr hwn weinidog a’i bedyddiodd yn ei
fabandod. Cofus ganddo pan yn angladd ei daid (tad cu), fod yr hen weinidog yn
dyweyd ar y bregeth angladdol hono, “fod yr hen frawd Jenkin Jenkins wedi bod
yn ffyddlon iawn am lawer o flynyddau gyda’r achos yn Mynydd Bach; ac er ei fod
yn awr wedi ein gadael, pwy a wyr,” meddai, gan gyfeirio ei fys, ac edrych at y
man lle yr oedd ei wyr yn eistedd, “ na ddaw yr un bach acw, yr hwn sydd yr un
------------------------------------------------(x008)
enw ag yntau, i lanw ei le ef mewn gronyn.” Cyrhaeddodd y dywediad, nid yn unig
y gynulleidfa, ond yr un bach hefyd, nes iddo wylo yn hidl.
Treuliodd Jenkin rai blynyddau, pan oedd o naw i ddeuddeg oed, yn lled ddifater
ac anystyriol. Er fod arno ofn ei dad yn aml, gwnai ddianc ar y Sabboth i
chwareu gyda’i gyfoedion ar hyd yr ardal. Gwelid hwy yn aml yn mysgu nythod, yn
dringo y coedydd, yn yspeilio perllanau, yn neidio am y pellaf, a nofio am y
goreu. Unwaith, ar hwyr Nadolig, yr oedd saith o honynt yn Mhontlasau, yn nhy
Mr. Thomas; penderfynasant gael gwydd i swper. Gan nad oedd yr un gan y teulu,
bwriwyd coelbren i ddau fyned i rywle am un. Syrthiodd y coelbren ar Siencyn yn
un o’r ddau. Yr oedd William, mab Gorslan, yn ein cymdeithas, yr hwn a’n
hanogai a’i holl egni i fyned, a’r lleill fel yntau am i ni fyned, a dyfod yn
ol gyda brys. Gan nad oeddym erioed, yr un o honom, wedi bod yn lladrata
gwyddau, yr oedd yn anhawdd iawn genym fyned; beth bynag, myned a wnawd. Gan
fod Gorslan yn agos, awd yno, a daliwyd gwydd fawr, fras. Wedi i’r bwrdd gael
ei hulio, a phawb eu lloni, gofynodd William pa le y darfu i ni ei chael hi?
Atebodd Siencyn ef gyda gwen, mai yn Gorslan. Chwarddodd pawb yn iachus ond un,
ac enw hwnw oedd William, Gorslan.
Tua’r amser hwn, yr oedd gwrthddrych y cofiant presenol yn yr ysgol ddyddiol yn
Llangyfelach. Yn aml iawn byddai yn cael ei osod i ymladd â bechgyn mwy nag ef
ei hun. Trwy ei fod yn llaw-chwith, fel rhai o’r Benjaminiaid gynt, yn
gyffredin deuai allan yn orchfygwr. Byddai ganddo rai cyfeillion gwresog bob
amser. Nid ei gryfder corfforol, ond ei ragwelediad o
.
------------------------------------------------(x009)
bethau
a barodd iddo fod mor llwyddianus yn ei ymgyrchiadau. Er ei fod weithiau yn
cael ei ddal yn ei ystranciau, trefnai lwybr i ddyfod allan yn rhwydd.
Gwasanaetha yr hyn a ganlyn er dangos ei lwybr yn yr ysgol:— Rhyw ddiwrnod yr
oedd yn ymbleseru i daflu darnau bychain o galch a ddelai yn rhydd oddiar y mur
oedd tu cefn iddo, at y merched. Gwnai bachgen arall yr un peth, a eisteddai
agosaf ato. Ymhyfrydai y bechgyn wrth weled y merched yn anesmwyth. Tynodd yr
amgylchiad sylw y meistr, a gwelodd y ddau euog yn parhau yn eu drygioni. Galwodd
y ddau wrth eu henwau i ddyfod ato. Dywedodd wrth yr hwn a enwodd gyntaf am ei
ddrwg, a bygythiodd ef yn arw; ond mai y ddedfryd bresenol oedd, fod yn rhaid
iddo syrthio ar ei liniau, cusanu y wialen fedw, a dyweyd na byddai iddo wneyd
y fath weithred byth mwyach. Teimlai y bachgen hwn yn annymunol iawn; y fath
oedd ei ystyfnigrwydd, nes y gorfuwyd ei blygu drwy ddefnyddio y wialen; amrai
fflangellau a gafodd; llanwai ei ysgrechfeydd yr holl ysgol. Cyn iddo ymostwng,
cnoai y wialen ddwywaith neu dair, a bu raid iddo ei chusanu yn y diwedd, ac
addaw na byddai iddo byth mwy wneyd y fath beth. Pan welodd yr ail y modd yr
ymddygodd y cyntaf, a’r driniaeth a gafodd, penderfynodd gymeryd llwybr
gwahanol. Safodd yn syml o flaen ei feistr. Pan geisiodd ganddo blygu ar ei
liniau, gwnaeth hyny yn rhwydd. Gorchymynwyd iddo roddi cusan i’r wialen;
gwnaeth hyny. Hefyd, dywedodd wrtho am addaw na byddai iddo wneyd y fath beth
mwy. Addawodd yntau; cododd ac aeth i’w le dan wenu. Gofynodd ei feistr iddo
paham yr oedd yn gwenu? Yr atebiad a gafodd oedd, “ Am fy
------------------------------------------------(x010)
mod wedi dysgu y wers mor rhwydd ar gost arall.” Unwaith arall, yr oedd ysgol
rad yn eglwys y plwyf, ac yn mhlith eraill yr oedd gwrthddrych y cofiant yma yn
un yn yr ysgol. Byddai offeiriad y plwyf ar rai amserau yn ymweled â ni, ac yn
ein holi yn Nghatecism yr Eglwys. Wedi iddo gael atebiad boddhaol gan amrai,
gofynodd i un arall, “Beth yw dy enw di?” Ateb. Jenkin. Gofyniad.
Pwy roddes yr enw hwnw arnat ti? Ateb. Fy nhad, pan y’m bedyddiwyd yn
enw y Tad, a’r Mab, a’r Ysbryd Glan. “Dywedwch,” meddai y person, “Fy nhadau
bedydd, a’m mamau bedydd, pan y’m gwnaethpwyd yn blentyn i Dduw, yn aelod i
Grist, ac yn etifedd teyrnas nefoedd.” “Na wnaf,” meddai y bachgen, “ddim
dyweyd y fath gelwydd wrthych chwi na neb arall.” Gofynodd wed’yn, “ Pwy a’th
fedyddiodd?” Atebwyd ef— “Mr. Davies,
Mynydd Bach.”
Pan oedd Jenkin tua 14 mlwydd oed, yr oedd yn ddiwyd yn yr ysgol Sabbothol yn
Mynydd Bach, ac hefyd gyda’r Trefnyddion yn Llangyfelach. Dysgodd i ddyweyd
allan o lyfr, ac adrodd oddiar ei gof, Gatecism Mr. Charles, o’r Bala; ac un
mawr arall, o gasgliad Mr. Evans, Mynydd Bach; a’r byraf o eiddo y Gymanfa.
Efe, yn gyffredin, fyddai yn adrodd penod wrth ddechreu cyfarfodydd. Bum gyda’r
ysgolion yn y llafur hwn yn Mynydd Bach, Llangyfelach, Treforis, Clydach,
Nant-y-Moel, Llansamlet, Castellnedd, Glandwr, Cadle, y Felindref, Crwys,
Brynteg, Pen-y-clawdd, Llanelli, Llanedi, a Llangeinech.
Pan yn 14 ml. oed, derbyniwyd ef yn aelod cyflawn. yn Mynydd Bach, gan y Parch.
Daniel Evans, gweinidog y lle. Nid oedd hyn yn weithred fyrbwyll, oblegid
------------------------------------------------(x011)
yr oedd y bachgen dan
argraffiadau crefyddol er ys rhai blyneddau cyn hyn; yr oedd y penodau a
adroddai, yr hymnau a ganai, y pregethau a wrandawai, a’r gweddiau a anfonid at
Dduw drosto, wedi gafaelyd yn ei galon yn ddwfn iawn. Mynych yr ymneillduai i
leoedd dirgel i weddio, yr wylai am ei bechodau, ac y dilynai yr hen bobl i’r cyfarfodydd
gweddio. O’r diwedd penderfynodd fyned i’r gyfeillach; ond gan ei ofnau, wedi
myned at ddrws.y capel, trodd yn ei ol. Wedi myned i’r gyfeillach y tro cyntaf,
yr oedd yn crynu, gan fraw y buasent yn gofyn gormod iddo; ac yn wir, nid allai
ateb ond ychydig y waith hono.
Ar ryw nos gyfeillach, galwyd ef i weddio; ac er ei fod yn lled gyfarwydd a
gweddio pan wrtho ei hun, aeth yn hynod o dywyll arno y pryd hwn; a gofidiodd
wedi hyn wrth feddwl fod y fath ymddygiad yn dangos fod arno fwy o ofn dynion
nag o ofn Duw. Yn. mhen ychydig, daethum yn lled gyfarwydd a gweddio yn
gyhoeddus, a’r baich trwm oedd ar fy meddwl, bron a’m llethu dano o’r blaen,
a’m llwyr adawodd. Am flwyddyn neu ddwy wedi hyn, cartrefais gyda’m tad a’m
mam, ac yn gyffredin cymerwn ran yn y ddyledswydd deuluaidd, y cyfarfodydd
gweddio, a’r cyfeillachau.
Tua’r amser hyn aethym i’r ysgol i Abertawe. Yr oeddwn yn cael fy mwyd a’m
llety am ofalu am geffyl Mr. William Terry, meddyg parchus yn y dref uchod, lle
yr arosais am flwyddyn. Wedi ymadael, a myned adref, mynychwn fyned i’r Mynydd
Bach, fel gynt. Yn fuan, hysbyswyd fy mod i a bachgen arall i arfer ein dawn i
bregethu, a’n bod i ddechreu yn y gyfeillach nesaf. Beth bynag, y gyfeillach
nesaf a ddaeth. Dechreuodd Dafydd Jones (Deici oedd ei enw ef); ond
------------------------------------------------(x012)
ni allai Siencyn gyffro; yr oedd yn rhy wan, er ei anog yn gryf. Gadawyd iddo am y noson hono, gan ddyweyd y
cai ail gynyg yn mhen pymthegnos wed’yn. Pan ddaeth yr amser hyn i ben, nid
oeddwn yn fwy parod nag o’r blaen; yn wir, yr oedd fy ofnau yn fwy. Crefwyd yn
daer arnaf y tro hwn, ond llwyr omeddais. Dwrdiodd yr hen weinidog fi yn dost,
gau ddyweyd fy mod yn cymeryd arnaf fod yn gallach na’r holl eglwys, a bod yn
rhaid magu bustych cyn cael ychain i’r weinidogaeth. Wrth fyned adref, yr oedd mil o bethau yn gwau trwy fy
meddwl. Gan fy mod yn gwybod am fy
anghymwysderau yn well nag y gwyddai
eraill am danynt, yr oeddwn wedi rhyw haner ddigio wrth yr holl
frawdoliaeth. Gwyddwn hefyd nad
allasai fy rhieni fy nghynal yn yr ysgol.
Penderfynais y buaswn yn gadael ysgrif fechan mewn rhyw le arnlwg, fel y
gallai fy nhad a’m mam ei gweled, yn hysbysu fy mod yn myned i Merthyr Tydfil.
Yn foreu dranoeth, ffwrdd a mi, a sypyn bychan o ddillad dan fy nghesail, a dim
ond chwe’ cheiniog yn fy llogell; a chyn yr hwyr, yr oeddwn wedi cyrhaeddyd
Merthyr Tydfil. Arosais yno, mewn gwahanol fanau, am ddwy flynedd. Pan yn gyru
ceffyl mewn un o’r ogofeydd yno, anfonais adref gân, yr hon a ddarllenwyd ar
ddydd medi gwenith, gyda hyfrydwch mawr.
Mae darn o honi fel hyn:
………………..Fy anwyl fwyn rieni,
…………………..Clywch ar g’oedd, clywch ar g’oedd,
………………..Fy nhad,
a’m mam, a’r teulu,
…………………..Clywch ar g’oedd;
………………..Clyw fab o ffrwyth dy lwynau,
………………..Do, bum yn dy fru dithau,
………………..Ond ’nawr yn bell o gartreu,
…………………..Clywch ar g’oedd, clywch ar g’oedd,
………………..Yn gweithio yn y gweithiau,
…………………..Clywch ar g’oedd.
------------------------------------------------(x013)
………………..Bum bedwar mis yn gyfan,
...
………………..Clywch ar g’oedd, clywch ar g’oedd,
………………..Dan nodded Dafydd
Bevan,
.. …………………Clywch ar g’oedd;
………………..Yn gyru hen geffvlau,
………………..Ar hyd og’feydd a
thyllau,
………………..’Gael gafael yn y
perlau,
…………………..Clywch ar g’oedd.
Y fath oedd
fy awydd i wneyd ychydig arian, er mwyn cael ychwaneg o addysg, fel yr arferais
lawer o gynildeb, yn gystal a diwydrwydd. Un haf sych, pan oedd y gwaith yn farwaidd, penderfynais fyned i weled
teulu Harry Jenkins, brawd fy nhad, yn Rhydri. Codais ar foreu dydd Llun yn
foreu iawn, a chyrhaeddais Caerphili cyn wyth o’r gloch. Cyflogais am wythnos
gydag un o’r enw Alexander Jones, yn ymyl Eglwys Llandaf, i fedi gwenith. Yr
oedd y gwr hwn yn byw ar ei dir ei hun, yn dda ei amgylchiadau tymorol. Nid
arferai weithio, yn ol ei gyfaddefiad. Un diwrnod, ar ol ciniaw da, a’r
medelwyr wedi bwyta yn helaeth o’r danteithfwyd, awd ati i fedi. Dywedai y gwr,
“ Torwch yn isel, er mwyn cael gwellt i’r anifeiliaid.” Cododd Siencyn i fyny,
a dywedodd wrtho:—
………………….O Alexander ddigri’,
……………….....Ni
wyddoch sut i fedi;
...
……….....A d’weyd y gwir mewn geiriau llawn,
………………….Gwaith anhawdd iawn yw
plygu.
Mewn perthynas i’m cysylltiad
eglwysig, yr oeddwn wedi ymadael o’r Mynydd Bach heb lythyr. Nis gallaswn
beidio myned i gyfarfodydd crefyddol; nid yn unig ar y Sabboth, ond i’r
cyfeillachau neillduol hefyd. Yn fuan wedi dyfod i Ferthyr, aethym i’r
gyfeillach yn Zoar. Gofynwyd, fel y byddid yn arfer, o ba le yr oeddwn wedi dyfod;
a oedd fy llythyr gyda mi, &c.
------------------------------------------------(x014)
Wedi cael atebiad nad oedd genyf yr un, caniatawyd fy lle i mi ar yr amod i mi
yru am dano. Dywedais wrthynt na buaswn yn anfon byth am lythyr o’r Mynydd Bach
— fod yn rhy dda genyf am danynt yno. Yr wyf yn cofio pan y dywedais hyn, fy
mod yn wylo. Yr oeddwn yn glaf am gartref (home-sick) ar y pryd. Ni
siaradwyd a mi wed’yn am hyn.
Yn mhen tua blwyddyn, pan yn myned i Zoar, un prydnawn Sabboth,
gwelwn y Parch. Daniel Evans, Mynydd Bach, yn y pwlpud. Er fy mod gynt yn gallu gwrando arno yn
ddigon dideimlad lawer pryd, ond wrth glywed ei lais adnabyddus y tro hwn,
saethodd y dagrau o’m llygaid mor anwrthwynebol, fel nad allwn eu hatal am beth
amser. Yn gwbl anymwybodol ac
anystyriol o’m sefyllfa, lle gwelai y dyrfa, aethym ato i’r areithfa, gan
ysgwyd llaw ag ef, a’i gyfarch, er syndod i bawb a’m gwelsant. Aethym gydag ef ar ol yr oedfa i dy y
Parch. Samuel Evans, gweinidog y lle. Ni raid dyweyd, yr oedd yr ymddiddan a fu
rhyngddynt yn ddigon o lythyr i mi; oblegid ar ol hyn, cyfnewidiodd ymddygiadau
mwyaf dylanwadol yr eglwys yn hollol tuag ataf. Nid oeddwn tra yn Merthyr yn teimlo yn hollol dawel, yn gymaint
ag nad oeddwn yn gallu llwyddo i gyrhaedd yr amcan oedd genyf, sef cael modd
i’m cynal yn yr ysgol. Ymddygodd fy
ewythr yn wael tuag ataf, trwy godi yn uchel am fy llety. Nid oedd fy enill ond bychan, a chollais fis
o’m cyflog trwy weithio gyda dyhiryn twyllodrus. Daeth eglwys Zoar i’r penderfyniad i’m hanog i bregethu;
cymhellasant fi yn daer iawn; ond nis gallaswn wneyd, am nad oeddwn wedi
cyrhaedd y cymhwysderau angenrheidiol at y fath orchwyl pwysig.
------------------------------------------------(x015)
Heb ddyweyd dim wrth neb, ffwrdd
a mi oddiyno hyd Blaenafon, swydd Gwent. Gan fod John Samuel, goruchwyliwr
gwaith y glo a mwn, o Langyfelach, ac yn hen gyfaill a’m tad, aethym ato, a
chefais bob sirioldeb ganddo ef a’i deulu. Dywedodd am i mi fyned i weithio lle
y mynwn, a rhoddodd bapyr i mi i gael yr offerynau (tools) at weithio.
Gan fod Edward a Thomas Williams, bechgyn Timothy, a Will, Dowlais Uchaf, yr
hwn oedd berthynas i mi, yn gweithio yno yn yr hen lo, River Row, aethym atynt
hwy. Pan yn myned i mewn, cyfarfyddais ag un a elwid Shon William,
isoruchwyliwr (gaffer), yn dyfod allan, a chymerodd yr ymddiddan a
ganlyn le rhyngom:— “Holo! Pwy sydd yna?” “Fi sydd yma.” “Mab i bwy wyt ti?”
“Mab fy nhad.” “I ba le yr wyt ti yn myned?” “I mewn yna at fechgyn Timothy.”
“Nid oes yna ddim lle i ti.” “ Ffordd y daethoch chwi allan os nad oes yna le?” “Beth wyt ti yn myned i’w wneyd yna?” “Tori glo.” “B’le yr wyt ti yn
myned i’w ddodi ef?” “Yn y wagen.” “Ffordd yr wyt ti yn myned i’w gael ef i
maes?” “Trwy’r pwll.” Yna rhegodd fi, a ffwrdd ag ef. Pan ddaeth y gwr hwn gyda
John Samuel mewn ychydig o ddyddiau i fesur, yr oedd mor ddistaw a llygoden dan
bawen y gath.
Wrth ddyfod o’r gwaith un prydnawn,
cyfarfyddasom â hen wr yn gyru mulod i gario coed at y gwaith glo. Dywedodd
Timothy Davies (yr hwn, yn mysg eraill,
oedd yn dyfod adref yr un ffordd a minau), wrthyf, “Siencyn, gofyn i’r hen wr
yna sydd yn dyfod i’n cyfarfod, beth all hi fod o’r gloch. Gofynais iddo, “Beth
y’ch chwi yn feddwl all hi fod o’r gloch?” Dechreuodd yr hen wr gynhyrfu, rhegu,
a lluchio ceryg
------------------------------------------------(x016)
ataf, fel y gorfu i mi gymeryd y traed a rhedeg, a’r bechgyn yn chwerthin
wrth weled yr hen wr ffol yn fy nilyn.
Hwy a wyddent am ei arferiad, ond ni wyddwn i ddim. Arosais yn y lle hwn a’r Farteg rai
blynyddau. Meistr y level y bum
yn gweitbio fwyaf iddo oedd John Williams (Jaco, Ty Round). Cefais yma le cysurus. Yr oeddwn i yn un o’r rhai cyntaf yn ffurfiad yr eglwys
Annibynol yn y lle. Yr oedd eglwys
Ebenezer, Pontypool, am iddi fod yn gangen o honynt hwy, ac eglwys Cwmafon am
yr un peth; ond nid felly y penderfynwyd.
Adeiladwyd yma gapel da, a rhoddwyd galwad i’r Parch. Morris
Jones, o ysgol Neuadd-lwyd, i fod yn weinidog. Cynyddodd yr achos da yma yn gyflym yn rhif yr aelodau a’r
gwrandawyr. Bellach, wrth weled yr amser yn myned heibio,
meddyliais fy mod yn debyg i Jonah, yn ffoi o wydd yr Arglwydd. Gweddiais ar yr
Arglwydd, os oedd efe am i mi bregethu, am iddo gynyddu y duedd hono ynof. Yn y lle hwn, ar gais yr eglwys, y
dechreuais bregethu yr efengyl. Gadewais y lle yma, ac aethym i’r ysgol at y
Parch. John Evans, Crwys. Yma yr oedd y
Parchn. John Joseph, Llanedi, a
John Davies, Mynydd, ar yr un amser.
Maent hwy wedi meirw, ond yr wyf fi yn fyw hyd yn hyn. Cawsom arfer ein doniau mewn tai anedd ar
hyd yr ardal, ac yn y cynulleidfaoedd cymydogaethol, am dymor, a thaith
trwy Sir Benfro, ac
Aberteifi. Pan ddarfyddodd yr arian, aethym i gadw ysgol yn Crwys, ac i
bregethu yn fisol yno, ac yn Brynteg, Mynydd
Bach, a Siloh, Penybre, a
Llanelli. Treuliais beth amser yn
ysgol y Parch. David Peters, yn Nghaerfyrddin. Teithiais trwy y rhan fwyaf o eglwysi yr Annibynwyr yn
Neheubarth Cymru. Pan ar daith o Lanidloes
------------------------------------------------(x017)
i Rhaiadr-yr-wy, tua haner y ffordd,
goddiweddwyd fi gan ddyn mawr ar gefn ceflyl. Yr wyf yn cofio fod clog am ei
gefn, a botasau am ei draed. Nid oeddwn i y pryd hwnw ond chwech-ar-hugain oed,
yn cerdded, ac umbrella yn fy llaw. Wedi iddo fy ngoddiweddyd, bu yr
ymddiddan canlynol rhyngom:—
“Pa fodd yr ydych chwi?”
“ ’Rw’y’n weddol, diolch i chwi; Shwt y’ch
chwithau?”
“A ydych chwi yn arfer a chynghori y bobl
yma?”
“Ydwyf, pan y caf ychydig yn nghyd.”
“A oeddych chwi yn arfer a gwneyd hyny
gartref?”
“Oeddwn, yn ddiweddar, onide nid gwiw fyddai i
mi gynyg gwneyd hyny oddicartref.”
“Beth yw eich enw chwi?”
“Mae arnaf fi dri enw, Syr; yr un a fynoch ai
Jenkin Jenkins, Siencyn i Gyd, neu Siencyn Ddwywaith.”
“Felly.”
“Beth yw eich enw chwi?”
“Paham yr ydych chwi yn gofyn?”
“Yr oeddwn i yn meddwl y gallaswn fod mor eofn
arnoch chwi ag y buoch chwithau arnaf finau.”
“Thomas Jones, o
Sir Drefaldwyn y maent yn fy ngalw i yn y Deheudir.”
“O ba le o’r Deheudir
yr ydych wedi dyfod?”
“O’r Mynydd Bach, Morganwg; ond yn awr o’r
ysgol, gyda y Parch. Mr. Evans, o’r Crwys.”
“A fuoch chwi’yn Llanbrynmair?”
“Naddo.”
“Paham hyny?”
“Ni fum i ddim mor belled oddicartref o’r
blaen.
------------------------------------------------(x018)
Gan fod fy anadl yn fyr, bernais mai gwell
oedd i mi gymeryd cylch fuasai fyrach.”
“A ydych chwi yn adnabyddus â Mr. Roberts, o
Lanbrynmair?”
“Mi a’i gwelais
ef.”
“Beth yw barn y bobl gyda chwi yn y Deheudir
am olygiadau Mr. Roberts?”
“Yn mhob pen mae
opiniwn gyda ni, Syr. Rhai a olygant mai uchel Galfin yw ef; eraill, mai Armin
tyner yw; ac eraill, ei fod ar hyd canol llwybr barn; a phawb a’i hystyriant yn
ddyn duwiol iawn.”
“Gobeithio hyny.”
“Gobeithio hyny hefyd.”
“Ond dyna fel mae yr Independiaid wedi myned
yn anniben, am nad oes gaaddynt yr un Cyffes Ffydd, fel sydd genym ni.”
“Yr Independiaid wedi myned yn anniben, am nad oes ganddynt yr un fath Gyffes
Ffydd ag sydd genych chwi! Mae genym ni Gyffes Ffydd, sef y Beibl, yr unig reol
anffaeledig.”
“Ie, ie, nid fel yr un sydd genym ni, i gylymu
ein golygiadau wrth eu gilydd, yn lle gadael i bob hogyn fyned ar draws y wlad
i ddweyd y peth a fyno.”
“Nac oes gyda ni ddim felly; ac os wyf fi yn deall
eich Cyffes chwi, fel y mae rhai o honoch chwi eich hunain yn ei hesbonio yn
eich ymddygiadau, y mae yn wahanol iawn i’r Beibl.”
“Gresyn! A ellwch chwi ddyweyd yn mha beth y
mae y Cyffes Ffydd yn wahanol i’r Beibl?”
“Gallaf yn rhwydd. Mae’r Beibl yn berffaith —
Duw perffaith yw ei awdwr; ond dynion anmherffaith yw
------------------------------------------------(x019)
awduron y Cyffes Ffydd, o ganlyniad nis gall
lai na bod yn anmherffaith.”
“A wnewch chwi nodi un peth sydd yn y Gyffes
yn wahanol i’r Beibl?”
“Gwnaf, ddau beth, yn ol fel y mai rhai o
honoch yn pregethu, ac yn dysgyblu.”
“De’wch a hwy.”
“ 1. Yr ydych chwi yn gosod allan mai gras yw
sylfaen dyledswydd. Gwyddom nad oes gras gan gythraul, ac am ba beth y mae yn
cael ei gospi, ond am beidio gwneyd ei ddyledswydd?”
“Dyledswydd lled dlawd yw hono nad oes ynddi ras.”
“Digon gwir, ond nid hyny yw ei sylfaen.”
“Beth yw y peth arall?”
“2. Mae eich dull o ddysgyblu yn wahanol i’r Beibl am yr athrawiaeth o
edifeirwch. Pan y bydd bachgen dibroffes yn myned i garu merch broffesedig,
gwyddoch, ar ol iddynt ddechreu ymdrythyllu, mai priodi a fynant. Diarddelwch y
ferch am briodi dyn digrefydd. Yn mhen ychydig amser, daw y ddynes yn ol i’r
gyfeillach, yn ofnus, gan gyfaddef ei phechod. Nid yw yn ei adael, oblegid y
mae yn cydfyw a’i gwr, yn gorwedd yn yr un gwely, o dan yr un blanket ag yntau;
eto caiff ei lle yn gyflawn yn yr eglwys genych; ond y mae fy Meibl i yn
dyweyd, ‘Yr hwn a gyfaddefo ei bechod, ac a’i gadawo, a gaiff drugaredd.’
Ar hyn edrychai y gwr arnaf yn graff, a dywedodd: “Nid wyf yn caru gweled
hogiau o bregethwyr mor debyg i glerk cyfreithiwr, yn ddaudybrat a
balchaidd, ac yn gwisgo llodrau (trowsers).”
Ar hyn ymwrolais, a dywedais wrtho, “ Beth
sydd genych chwi i’w ddyweyd yn erbyn hyny? Yr ydych
------------------------------------------------(x020)
yn gweled fy mod inau yn gwisgo trowsers.”
Nid oedd yr arferiad hwn yn beth cyffredin y
dyddiau hyny.
Dywedodd yntau: “Pe byddai yr holl arian sydd
yn myned i brynu y brethyn sydd gan grefyddwyr Cymru a Lloegr i guddio y goes,
o’r penlin hyd wddwg y troed, yn cael ei roddi at achos Iesu Grist, yn lle i
borthi balchder, byddai teyrnas y Gwaredwr lawer yn uwch a theyrnas Satan yn
fwy gwywedig.”
Edrychais arno yn graff, gyda gradd o sarugrwydd, a dywedais: “Y mae genych
chwithau fotasau da am eich coesau. Pa un ai brethyn i guddio y goes, neu ledr,
sydd yn costio fwyaf?”
Edrychai arnaf yn chwerw.
“Yr wyf yn gofyn yn syml i chwi, Syr, yn ofn Duw,
A ydych chwi yn gweled fod y fath ymddygiad balchaidd a gwisgo llodrau, yn beth
addas i un sydd yn proffesu crefydd a duwioldeb?”
“Yr wyf yn eich ateb yn syml, ac yn ofn Duw,
mor bell ag yr wyf yn gwybod beth yw hyny, nad yw hyn yn perthyn i grefydd a
duwioldeb neb; ac os nad oes genych chwi a minau fwy o grefydd a duwioldeb nag
sydd genym yn ein coesau, nid oes genym fawr iawn.”
Ar hyn yspardynai y gwr ei geffyl, gan gyflymu
o’m blaen. Nis gallaswn erbyn hyn lai na gwenu, er fy mod yn ei ofni; fy nghalon
hefyd oedd yn ergydio yn gyflym. Yr
oeddwn yn gyffroedig iawn, ac yn chwys mawr. Yn mhen ychydig, gwelwn ef
yn arafu, er mwyn i mi ddyfod yn mlaen. Wrth edrych arno, dywedais ynof fy hun,
Dere di, ni fuost ddim llawer ar dy enill hyd yn hyn, pa fodd bynag y try
pethau eto. Wedi myned hyd ato, gofynodd:— “A ydych chwi wedi blino?”
------------------------------------------------(x021)
Atebais, “Ydwyf, ychydig.”
“A ddeuwch chwi am ychydig ar gefn y ceffyl?”
“Na ddeuaf fi, Syr.”
“A ydych chwi ddim yn dyweyd, Diolch i chwi?”
“Nac ydwyf.”
“Paham hyny?”
“Nid wyf yn meddwl mwynhau y fraint, am hyny
nid wyf yn gweled fod achos diolch am dani.”
“Hwyrach fod genych chwi reswm neu ddau am hyny eto; os oes, carwn yn fawr eu
clywed.”
“Oes, y mae genyf ddau,” er nad oeddwn ar y pryd yn gwybod beth a fyddent.
Dywedais wrtho, “Yr wyf yn meddwl fy mod yn fwy apostolaidd ar fy nhraed. Ni bu
Crist erioed ar gefn ceffyl; a dim ond unwaith y marchogodd ar ebol llwdn asen,
wrth fyned i Jerusalem.” Yna gwasgais fy nanedd wrth eu gilydd, a dywedais, “
Mae pregethwyr yn awr yn myned ar gefn eu pedwar-carnoliaid mawrion ar hyd a
lled y wlad, gan lwyr fwyta tai gwragedd gweddwon, plant y felldith.”
“Beth yw y rheswm arall sydd genych chwi dros beidio dyfod ar gefn y ceffyl?”
Ateb. “Yr wyf yn barnu yn gydwybodol fod yn well genych fod ar ei gefn
ef eich hunan.”
“Dydd da i chwi.”
“Felly i chwithau.”
Adroddais yr ymddiddan blaenorol yn nhy y
Parch. David Williams, Troedrhiwdalar. Gan fod Brutus yn bresenol, gwnaeth fawr
ddefnydd o hono yn Lleuad yr Oes. Adnabyddwyd fi wedi hyn, pa le bynag y
byddwn, wrth yr enw, Siencyn Ddwywaith, neu y bachgen a’r ddau reswm.
Cyn ymadael o’r Hen Wlad, a chael cyfarfod ymadawol
------------------------------------------------(x022)
yn y Crwys, priodais â Sarah, merch
Christmas Davies, Berth Lwyd, o ardal y Crwys. Cefais gasgliadau gan yr eglwysi
yr arferwn bregethu yn fisol iddynt, a chymerais daith heibio Llanbrynmair, a
Llan-y-mynach, a chymerais y cerbyd i Liverpool. Yna cymerais long i ddyfod i
New York, o’r enw Nimrod, ac mewn chwech wythnos i’r dydd y cychwynais,
glaniais yn Nghaerefrog Newydd. Wedi tirio, anfonais gân adref, am y daith a’r
llong. Er mwyn eich difyru, rhoddaf ger eich bron ddau o’r penillion:—
………………………………..’Roedd dau-ddeg-tri o Gymry
…………………………………..O fewn cilfachau llon,
………………………………..A dau-ddeg-saith o forwyr,
…………………………………..Yn myn’d o don i don;
………………………………..Ac Ellmyn gyda hyny,
…………………………………..A dau o’r Scotaidd ryw;
………………………………..Rhwng Saeson a Gwyddelod,
…………………………………..Dau gant a phump yn fyw.
………………………………..O peidied neb ag ofni
…………………………………..I deithio dros y don,
………………………………..Er bod dros dro’n glafychlyd,
…………………………………..Mewn cryd, O de’wch yn. hon;
………………………………..Nid yw y tonau brigwyn,
…………………………………..Yn wenwyn i ni’n awr;
………………………………..’Wna’r saldra ond eich gwella,
…………………………………...Pan ar eich teithfa fawr.
Gan fod brawd a dwy chwaer i mi wedi dyfod i’r
ddinas flwyddyn o’m blaen, arosais yno, gan bregethu i’r Eglwys Gynulleidfaol
Gymreig hyd Gymanfa Utica a Steuben. Mae
rhyw bethau difyr iawn wedi bod yn fy hanes yn yr amser hwn, sydd yn
werth eu nodi. Yr oedd yr eglwys y pryd hwnw heb gapel, yn addoli mewn ysgoldy
yn Mulberry street.
Pan ddaeth y Sabboth, aethym i’r Ysgol Sabbothol at y Cynulleidfaolwyr Cymreig.
Mewn tipyn, gwelwn
Y PARCH. JENKIN” JKNKINS.
------------------------------------------------(x023)
amrai yn llygadu arnaf, a daeth Mr. John
Davies ataf (yr hwn oedd yn bregethwr
cynorthwyol yno ar y pryd), gofynodd i mi beth oedd fy enw, a oeddwn yn
proffesu crefydd, a gyda pha enwad. Wedi cael ateb i’w ofyniadau, ceisiwyd
genyf derfynu yr ysgol, ac aethym gyda’r gwr hwnw i giniaw. Wedi holi llawer arnaf
heb ei fod fawr gwell, dangosais iddo fy mhapyrau cymeradwyol. Synodd mewn
llawenydd. Felly y daeth Siencyn Ddwywaith yn hysbys pwy ydoedd i Gymry
Caerefrog Newydd.
Yr oedd hyn yn mis Gorphenaf, 1832, yn amser y cholera, yr hwn oedd yn ysgubo
dros gant y dydd o’r trigolion i’w beddau. Pan y daeth amser y Gymanfa, aethym
tuag yno; pan yn gadael y train cyn cymeryd y gamlas wrth Schenectady,
gwelwn fwthyn bychan hardd a glanwedd, a’m cyd-deithwyr yn cyrchu tuag ato.
Wedi myned i mewn, gwelem bedair dynes yn magu pedwar baban tua phedwar mis
oed. Deallais mai gefeilliaid oedd y babanod, y pedwar o’r un ddynes, a bod tad
y babanod wedi twyllo mam y rhai bychain, a rhedeg i ffwrdd. Gan ei bod hi yn
dlawd a diymgeledd, tosturiodd dyngarwyr Albany a Schenectady wrthi hi a’i rhai
bychain. Adeiladasant y caban hwn iddi yn y man hwnw, fel y gallai teithwyr ei
gweled a rhoddi elusen iddi at fagu y plant. Rhoddwyd yn helaeth, hyd nes yr
oedd yn gallu cadw tair morwyn yn dda, a dywedir iddi hi ddyfod yn gyfoethog.
Gelwid enwau y babanod, gan mai bechgyn oeddynt oll, Matthew, Mark, Luke, a
John. G welais yn y papyrau wedi hyny, fod tad y plant wedi dychwelyd a chynyg
priodi y fam, pan ddeallodd ei bod wedi dyfod yn gyfoethog, a’i bod
------------------------------------------------(x024)
hi wedi gomedd gwneyd. “She served him right at last, but wrong
at first.”
Pan gyrhaeddodd y bad Utica, yr oedd y nos wedi ein dal. Yr oedd Siencyn wedi
gwneyd yn hysbys pwy ydoedd i rai o’i gyd-deithwyr, mai Cymro ydoedd, ac na bu
erioed o’r blaen yn Utica; ac y buasai yn dda ganddo gael ty Cymro i aros dros
y nos. Dangoswyd iddo dy gweddw oedd yn ymyl y gamlas, a fyddai yn arfer lletya
dieithriaid. Cefais lety cysurus
yno, a thalais am dano boreu dranoeth. Yr oedd y ddynes hon yn fy ngwrando y
nos Sabboth canlynol; beiodd fi yn fawr na buaswn yn dweyd mai pregethwr
oeddwn, a gwnaeth i mi gymeryd y tal am fy llety yn ol; nad oedd hi erioed wedi
codi am lety pregethwr. Yr oedd yn aelod gyda’r Bedyddwyr Cymreig, a dywedai
mai ei bachgen hi oeddwn i, am mai gyda hi y lletyais gyntaf yn Utica. Yr
oeddynt yn New York wedi fy nghyfarwyddo i fyned at Thomas Jones, Whitesboro
Street. Wedi myned yno a dweyd pwy oeddwn, am haner awr o amser yr oedd yr
ystafell lle yr eisteddwn yn agos yn
llawn, John Jones a Grace, Dafydd Morris, William Vincent, John Rees, a Rowland
Griffith, ac amryw eraill. Yn mhen ychydig daeth y Parch. Robert Everett yno
hefyd. Yr oeddynt yn syllu arnaf yn fanwl o’m coryn i’m sawdl. Holent fi yn
fanwl. Pregethais iddynt y Sabboth dair gwaith, trwy’r Gymanfa, a’r Sabboth
canlynol, nid llai nag un waith ar bymtheg yn y cwbl. Rhai a ddywedent fy mod
yn bregethwr heb ei fath; ac yr oeddwn inau yn meddwl cryn dipyn am danaf fy hun,
y creadur tlawd dibrofiad. Gwna dynion ffurfio barn beth yw dyn pan welant ef y
waith gyntaf; nid yw y fath farn yn aml yn gywir, er
------------------------------------------------(x025)
hyny, mae rhywbeth ynddi hefyd.
Dywedir mai nid wrth ei big mae adnabod cyflylog; nid wrth yr ymddangosiad
cyntaf mae adnabod dynion chwaith.
Cof genyf fy mod unwaith yn y gauaf yn teithio yn y stage; ar ddechreu y
nos, disgynais mewn inn orwych yn Cincinnati; yr oedd yr hin yn oer
iawn, yr ystafell (bar-room) lle yr oeddwn oedd hollol gysurus, tân
hyfryd ar lawr, llawer o bapyrau newyddion, a llawer o ddynion boneddigaidd eu
hymddangosiad yn darllen, yn ymdwymo, ac yn ymddiddan a’u gilydd. Yn fuan
clywais drwst stage arall yn dyfod ac yn aros wrth y drws, a phump neu
chwech o ddynion yn dyfod o honi i’r ystafell lle yr oeddwn. Sylwais fod tri
o’r boneddigion oeddynt yno yn flaenorol yn craffu yn neillduol ar un o’r rhai
a ddaeth ddiweddaf i mewn. Dywedai y naill wrth y llall, “ A ydych chwi yn
adnabod y gwr yna, mae yr olwg arno yn dweyd ei fod uwchlaw y cyffredin.”
Atebai ei gyfaill ef, “ Nid wyf fi wedi ei weled ef erioed o’r blaen am a wn
i.” Atebai y trydydd,
“ ’Rwyf yn meddwl
wrth ei ymddangosiad ei fod yn ddyn lled wybodus. Beth all ei alwedigaeth fod?” Wedi siarad cryn
dipyn am dano, dywedai, “Beth ydych chwi yn tybied allai ef fod?” “Fy meddwl i
yw,” medd un, “mai pregethwr neu weinidog yr efengyl yw.” “ Na,” medd y llall,
“mae yn fwy tebyg i feddyg neu ddoctor.” “Pw,” medd y trydydd, “nid yw hwna na
phregethwr na meddyg, gwelwch ei wynebpryd a’i lygad craff ef, cyfreithiwr yn
rhywle yw y dyn, wyf sicr.” Wedi ymgomio a’u gilydd am ychydig amser, dywedai
un o honynt wrth y lleill, “Gan nas gallwn ni gydolygu, beth pe gofynem iddo ef
ei hun? rhoddai hyny ben ar y ddadl.” “ Boddlon,” meddai y ddau arall.
------------------------------------------------(x026)
At y gwr yr awd, anerchwyd ef gan un o’r tri
yn enw y ddau arall, yn gystal a throsto ei hun.
“Anwyl Syr, mae yn naturiol i greaduriaid fel ni, wrth ganfod gwr dieithr fel
chwi, yn neillduol os na byddwn wedi ei weled o’r blaen, na gwybod dim am dano,
i ffurfio rhyw ddrychfeddwl pwy all ef fod, a beth yw ei alwedigaeth. Pan
ddaethoch chwi i mewn, buom mor hyf ag edrych, a ffurfio ein meddyliau am
danoch. Nid ydym yn cydweled a’n gilydd. Mae un yn meddwl mai gweinidog yr
efengyl ydych, un arall a olyga mai meddyg ydych, a’r trydydd a farna mai
cyfreithiwr ydych. Nid oes gan yr un o honom un meddwl anmharchus am danoch.
Daethom atoch er mwyn boddlonrwydd i ni ein hunain, tyb pa un o honom sydd
fwyaf cywir. Os byddwch mor hynaws a’n dwyn o’r dryswch hwn, byddwn y dra
diolchgar i chwi.”
Atebodd y gwr dieithr hwynt gyda gwen siriol, a dywedodd,
“Foneddigion, fe’m ganwyd yn Hartford, Connecticut. Yr oedd fy nhad yn ddiacon
yn yr Eglwys Gynulleidfaol yn y lle. Cefais yn foreu fanteision gwladol a
chrefyddol. Magwyd fi yn dyner, a chefais y fraint yn ieuanc o wneyd proffes o
Grist. Yr wyf yn addef fy hun yn Gristion. Wedi fy ngraddio yn Ngholeg Yale, a
chael trwydded i bregethu, cefais alwad i sefydlu mewn tref ieuanc, gynyddol.
Neillduwyd fi i gyflawn waith y weinidogaeth. Am ychydig yr oeddwn yn
boblogaidd iawn yn eu plith. Tanysgrifiwyd tuag at fy nghynaliaeth tu hwnt i’m disgwyliadiau.
Peth naturiol hollol oedd i mi bellach edrych am ymgeledd gymwys. Ymddiddenais
ag un o’r merched glanaf, callaf, a siriolaf yn y lle. Cynygiais fy hun iddi,
ac
------------------------------------------------(x027)
mewn gronyn derbyniodd y
cynygiad. Priodwyd, awd i gadw ty, ac ymdrechwyd i fyw mor gymedrol a threfnus
ag oedd modd, yn ol ein sefyllfa. Beth bynag, yn mhen blwyddyn, yr oedd
brwdfrydedd yr eglwys wedi oeri. Awd i wneyd subscription am y flwyddyn
ddyfodol; yr oedd hwn yn llai na’r flwyddyn oedd yn terfynu. Trwy fod y teulu
yn ychwanegu, peth o’r hen subscriptions heb eu talu, ninau fel teulu yn
methu dyfod a’r ddau ben yn nghyd, fel y dywedir, ni wyddem beth i’w wneyd. O
leiaf, penderfynasom aros am y flwyddyn hono wed’yn. Wedi cydymgyngori,
penderfynasom ymadael ar ben yr ail flwyddyn. Erbyn hyn, yr oedd amrai bethau
yn peri i ni fyned oddi yno. Er mwyn. cyfiawnhau eu hunain, dywedent na
ddylasem gadw morwyn; nad oeddym yn ymweled a’r cleifion yn ddigon aml; ein bod
yn rhy wastraffus — fod y wraig yn gwisgo yn rhy dda, ac nad oeddwn ninau yn
agos gystal pregethwr a phan y daethym atynt ar y cyntaf.
“Gan fy mod pan yn y Coleg wedi cael myned
trwy yr hyn a elwir y Medical Department, symudasom i dref arall.
Dywedais mai meddyg oeddwn. Wedi gwneyd hyn yn hysbys, cefais lawer iawn o
waith gyda chleifion yr ardal. Bum yn lled lwyddianus hefyd. Dywedent yn
gyffredin mai myfi oedd y Doctor goreu yn y wlad — nad oedd y lleill yn werth
dim mewn cyferbyniad a mi. Ond pan anfonais atynt fy miliau am dal, gwarchod
pawb! Er fy mod i yn meddwl eu bod yn dra isel a chymedrol, eto yn eu golwg hwy
yr oeddynt yn anferth — fod un ran o bedair yn llawn ddigon, rhag cywilydd. Tua
phen yr ail flwyddyn nid oeddwn yn werth dim. Os tlawd oedd hi arnaf fel
pregethwr, tlotach o lawer fel meddygwr.
------------------------------------------------(x028)
“Yn awr, foneddigion, yr wyf yn
agos a therfynu yr oll sydd genyf i’w ddyweyd wrthych. Yr ydych eich tri wedi
barnu yn lled agos i’ch lle.
“Pan oeddwn yn y sefyllfa a nodais, nid gwiw oedd digaloni, llwfrhau, a marw,
a’r teulu yn galw am foddion cynhaliaeth. Gan fy mod yn fwy hyddysg o
gyfreithiau fy ngwlad na’r cyffredin, troais i fod yn gyfreithiwr. Y deuddeg
mlynedd diweddaf, dyna yw fy ngalwedigaeth; ac yn wir, yr wyf bellach trwy
brofiad wedi dysgu y gwna dynion fwy er boddloni eu nwydau nag a roddant, neu a
wnant er llesâu eu cyrff na’u heneidiau.”
Ddarllenydd hoff, felly yr wyf finau wedi bod, o herwydd diffyg profiad, ac
adnabod fy hun ac eraill yn well, yn llawn trafferth a helbul yn y wlad newydd
hon. Yn y Gymanfa a nodwyd yn Utica a Steuben, yr oedd amryw o weinidogion — y
Parchedigion James Davies, gynt o New York; David Griffiths, o Ffrainc, gynt o
Gydweli; William Pierce, Robert Everett, Morris Roberts, Benjamin Davies, John
Stephens, David Michael, ac amryw eraill. Yr oeddwn i wedi addaw wrth yr eglwys
yn New York y deuwn yn ol. Pan ar ddychwelyd, cyngorai Mr. Everett Mr.
Griffiths yn fawr i aros yn nghylchoedd Utica a Steuben. Yr oedd yntau wedi
penderfyim dyfod gyda mi. Cyn
ymadael, dywedodd wrth Everett, “ Meindia di dy fusiness dy hun, a minau a
dreiaf wneyd yr un peth.” Daeth Mr. Griffiths i lawr gyda mi i New York, ac
arosodd yno am yn agos i flwyddyn.
Yn mis Tachwedd, 1832, neillduwyd Siencyn Ddwywaith i gyflawn waith y
weinidogaeth ar yr Eglwys Gynulleidfaol Gymreig yn Mulberry street; er ei fod
------------------------------------------------(x029)
wedi cael ei neillduo o’r blaen
yn yr Hen Wlad, cyn ei ymadawiad oddi yno, eto nid ar un eglwys neillduol. Yn y
gauaf hwn, a’r flwyddyn olynol, arddelodd yr Arglwydd ei waith yn rhyfeddol yn
yr eglwys a nodwyd. Derbyniwyd i’r eglwys tua 40 o aelodau newyddion. Gwel y Dysgedydd
am y fl. 1834. Yr oedd pob peth yn myned yn mlaen yn hwylus iawn. Eto, er galar
i Siencyn a’i briod, bu farw eu hunig blentyn, a chladdwyd ef yn nhir claddu
Williams, yn y ddinas. Yn mhen blwyddyn wed’yn, bu farw ei briod, a chladdwyd
hi yn yr un bedd a’i mab, Thomas. Mae y penill canlynol wedi ei gerfio ar y gareg a
osodwyd ar y bedd uwch eu penau:—
..................................O! ’m bachgen glwys a’m priod llon,
.....................................Sydd dan y don yn gorwedd,
..................................Mewn
ardal bell ac estron wlad,
.................................….Hyd ddydd y codiad rhyfedd!
Mae amgylchiadau newyddion yn dwyn teimladau newyddion. Dygodd yr amgylchiadau
yr aeth Siencyn drwyddynt ef i sefyllfa a theimlad tra gwahanol i’r hyn oedd
o’r blaen. Llwfrhaodd ei ysbryd, collodd ei archwaeth at fwyd, a chiliodd ei
gwsg i raddau pell; teimlai ei hun yn ddigalon, a’i feddwl yn derfysglyd.
Gellir meddwl mai nid gwaith hawdd oedd pregethu tua deuddeg gwaith yn y mis yn
yr amgylchiadau hyn. Yn yr amser hwn anfonodd y Parch. William Morris, Llanfyllin,
lythyr ataf, yn hysbysu ei fod yn benderfynol o ddyfod i America, os buasai yn
cael anogaeth i hyny. Gan fod Mr. Timothy Griffiths, Steuben, yn fy anog i
ddyfod atynt hwy yno, ac i Benymynydd, i weinidogaethu, ac yn cario galwad
oddiwrth y ddwy eglwys ar y pryd, dangosais lythyr Mr. Morris i’r eglwys yn New
------------------------------------------------(x030)
York, a dywedais wrthynt, os oeddynt hwy yn ewyllysio, y buaswn yn ymadael, ac
yn anfon am Mr. Morris, Llanfyllin, i ddyfod yno yn fy lle, Beth bynag, nid
oeddynt am i mi ymadael, os nad oeddwn am fyned i Steuben; felly yr arosodd
pethau am tua mis. Yr amser hwn
daeth y Parch. Llewelyn Powell (yn awr o Alliance, Ohio), i’r ddinas, a
phregethodd i ni am Sabboth. Deallais erbyn hyn fod rhai persouau yn yr eglwys
yn fawr am gael Mr. Morris, Llanfyllin, atynt. Ar ol deall meddyliau ein
gilydd, penderfynais y buaswn yn myned i Steuben, i anfon dros yr eglwys am Mr.
Morris; ac addawodd Mr. Powell y buasai ef yn eu gwasanaethu hyd nes y deuai Mr.
Morris atynt.
Yn mhen pedwar mis, yn, Ebrill, 1835, anfonodd
blaenoriaid eglwys New York dri llythyr ataf yr un wythnos, yn mysg pethau
eraill cynwysent a ganlyn:
Nad oedd y Parch.
William Morris, yn dyfod atynt,
ei fod yn cymeradwyo iddynt y Parch. James Davies, Llanfaircaereinion, y buasai
Mr. Davies yn dyfod atynt os buasent yn rhoddi galwad iddo, eu bod hwythau wedi
gwneyd hyny, fod Mr. Powell wedi anfoddloni wrthynt, eu trin, tynu ei dafod
drostynt mor fanwl ac y llyfodd buwch ei llo erioed, ei fod wedi eu gadael, fod
yr eglwys wedi ei chwalu, fod y merched yn pallu dyfod yn agos atynt, yn dymuno
am i eglwys Steuben ganiatau i mi gael dyfod atynt am fis neu chwech wythnos,
ac yn dymuno arnaf finau wneyd eu cais beth bynag a fyddai, a hyny yn uniongyrchol.
Wedi myned atynt yn ol eu cais, deallais nad oedd yr ymrafael ond am ryw bethau
dibwys, fod Mr. John Davies wedi dweyd fod y Parch. Shadrach Davies yn tynu ei
gymeriad ef i lawr. Dywedodd Mr. S. Davies wrtho nad oedd yn gwneyd
------------------------------------------------(x031)
hyny; “Tynu dy gymeriad i lawr, atolwg, pa
bryd y bu ar lan?” Beth bynag, yn y cyfarfod parotoad, dibenodd yr holl
ymryson, a chafwyd yr holl eglwys yn nghyd, a’r Sabboth canlynol cafwyd
cymundeb yr eglwys mor llawn ac mor ddymunol ag erioed.
Clywais
y Parch. S. Davies ar ol hyn yn
dywedyd am y Parch. LI. Powell, “Llewelyn Powell, welwch chwi, fe ddaeth o
Ty’nycoed, fe fu yn Neuaddlwyd, ac yn y Drefnewydd, yn yr Academy; nid
oedd dim yn dyfod o hono, yr oedd yn methu cael gwraig nac eglwys; ond wedi
iddo fyned trwy Academy Broome Street, mae rhywbeth yn dyfod o hono yn
awr; mae wedi cael eglwys a gwraig a phobpeth.”
Nid oeddynt yn foddlon i mi fyned yn ol i Steuben ar un cyfrif yn awr, addawsant
fod yn well wrthyf a gwneyd mwy at fy nghynal os buaswn yn aros gyda hwy
flwyddyn arall, neu hyd nes y buasai Mr. Davies, Llanfair, yn dyfod. O’r diwedd
penderfynais wneyd hyny. Anfonodd Mr. Davies na buasai ef yn dyfod heb i mi
arwyddo fy nghydsyniad. Trwy fy mod yn gwybod meddyliau dau neu dri, eu bod am
gael pethau eu ffordd eu hunain, arwyddais i Mr. Davies ddyfod. Rhoddais notice
i’r eglwys y buaswn yn ymadael pan y deuai y flwyddyn i ben. Oddiar
gymhelliadau Samuel Cox, D. D., a Dr. Lansing, aethym i Auburn Seminary, lle yr
arosais am ychydig gyda blwyddyn. Mae llawer o amgylchiadau a ellir nodi yn yr
amserau hyn; ond gan nad ydynt o un budd i neb eu gwybod bellach, gadawaf hwynt
i gysgu mewn bedd o ebargofiant.
Eto, mae rhai pethau fe allai y carai y darllenydd eu gwybod, am ei fod wedi
cael rhyw adroddiad am danynt
------------------------------------------------(x032)
gan eraill, dichon mai gwell a fyddai iddo eu cael yn gywir fel y cymerasant
le.
Un waith pan oedd Siencyn Ddwywaith yn gweinidogaeth yn Steuben, bu cyfarfod y
Beibl Gymdeithas yn nghapel y Trefnyddion Calfinaidd, yn mhentref Remsen, swydd
Oneida. Yr oedd y capel yn orawn o wrandawwyr ac o bregethwyr, Robert Everett,
Morris Roberts, William Thomas, James Griffiths, David Michael, Jesse Jones,
Thomas Stephen, ac eraill. Disgwylid i’r pregethwyr i gyd i areithio. Aeth rhai
o honynt trwy’r gorchwyl hwn yn hynod ganmoladwy. O’r diwedd galwyd ar Siencyn
Ddwywaith i’w hanerch. Yr oeddwn mewn petrusder mawr beth i’w ddweyd, gan fod
areithio mor dda wedi bod yn flaenorol, y gwrandawyr mor lluosog, ac yntau yn
crynu mewn ofn y buasai yn myned i warth, anhawdd darlunio ei deimladau yn y
fath amgylchiad; o leiaf, cyfododd a llefarodd fel y canlyn:—
Yr wyf yn deall wrth eich clywed yn dweyd mai hwn yw y cyfarfod cyntaf o eiddo
y Gymdeithas oddiar pan yr ymranasoch yn yr anghydfod a fu rhyngoch a’ch
gilydd, na wnaeth y ddwy Gymdeithas yn y flwyddyn ddiweddaf gymaint a’r un o’r
blaen, pan oeddych mewn undeb yn
flynyddol. Nid un diffyg yn eich amgylchiadau oedd yr achos o hyn, ond diffyg
cydweithrediad. Mae nychdod a gwendid yn canlyn anghydfodiadau. Ond mewn undeb
y mae grym. Mae yn llawenydd genyf eich bod wedi dechreu gweled eich colled,
a’ch bod heno eto yn gytun. Mae yr amgylchiad yr aethoch trwyddo yn un hollol
anghysurus i’w gofio, nac i ddweyd dim am dano; ond wrth ystyried mai oddiwrth
ein ffolineb y mae i ni ddysgu doethineb,
------------------------------------------------(x033)
ac mai oddiar ein gwendid blaenorol y mae i ni ddysgu cryfder mewn amser
dyfodol, gadewch i ni wneyd iawn ddefnydd o’r amgylchiad.
Fe ddichon y tafla yr hanesyn canlynol beth goleuni ar yr hyn sydd genym dan
sylw. Pan oeddwn i yn gweithio yn swydd Fynwy, er mwyn gwneyd ychydig arian i’m
cynal yn yr ysgol, daethym yn gydnabyddus a dyn ieuanc o saer, yr hwn oedd mewn
cyfrinach a merch ieuanc i dyddynwr o’r gymydogaeth. Yr oedd y ddau o gymeriad
moesol da, a’r naill fel y llall yn barchus yn yr ardal. Wedi iddynt ddechreu ag ymdrythyllu, priodi a
fynent. Yr oeddynt yn mhob ystyr yn hollol gyfaddas i’w gilydd. Gwnai ei fam ef
ei gynghori i ofalu cadw ei wraig dan law ar y dechreu, onide na fyddai iddo
fod ddim gwell na chaethwas dros ei fywyd. Dywedai ei mam hithau mai ar y
cyntaf oedd iddi hi edrych ati, a mynu ei ffordd ei hun. Nid oedd y naill yn
gwybod dim am y cynghorion dwys oedd y llall wedi ei gael; oblegyd y mae
cynghorion o’r natur yma, nid yn unig yn ocheliadol, ond hefyd yn dra
dirgelaidd. Wedi iddynt briodi, aethant i fyw i’r ty yr oedd y gwr ieuanc
newydd ei adeiladu. Mae trigolion swydd Fynwy, ar y llinell derfyn rhwng y
Cymry a’r Saeson, yn aml a’u hiaith yn lled gymysglyd; weithiau siaradant
Gymraeg, bryd arall y Saesonaeg, rhywbeth yn debyg fel ac yr ydych chwithau
yma, fel y bydd hi yn digwydd; anhawdd gwybod pa un a ddaw allan gyntaf. Yr
oedd y ty hwn a nodais a dau ddrws iddo yn gyferbyniol i’w gilydd yn y ddwy
ochr. Yn amser y lleuad-fêl, yr hyn a gymerodd le yn yr amgylchiad hwn,
ddechreu mis Gorphenaf, un prydnawn pan yn difyr yfed tê gyda rhai a ddaethant
i gyd-lawenhau
------------------------------------------------(x034)
gyda hwy yn eu hundeb, a’r drysau yn agored er
mwyn cael anadlu mewn awel dymerus, a’r par priodasol heb air croes wedi bod
rhyngddynt a’u gilydd erioed, yn sydyn daeth rhyw greadur bychan i fewn trwy un
drws, ac aeth allan trwy y drws cyferbyniol. Dywedodd y gwr ieuanc dan
gynhyrfjad yr olygfa “That is a mouse.” Atebai y wraig ieuanc ef yn
gynhyrfus, “No, it was a rat.” “Mary,” meddai yntau, “it was a
mouse” “John,” meddai hithau, “it was a rat.” Meddai yntau, “Mary,
do you think that I have no eyes to see, indeed it was a mouse.” Dywedai
hithau, “John, do you think that none have eyes but yourself? indeed it was
a rat.” Bu y fath annghydfod rhyngddynt nes iddynt ymadael. Aeth hi at ei
rhieni, ac yntau at ei dad a’i fam. Wedi adrodd ei helynt, cyngorai ei mam hi
am iddi beidio myned yn ei hol oddieithr iddo ef ddyfod i’w hymofyn. Dywedai ei
fam yntau am adael iddi, hyd nes y buasai yn dyfod yn ol o honi ei hun; ac
felly safodd pethau am tua dwy flynedd. Mae merched a gwragedd swydd Fynwy,
gerllaw y gweithfeydd, yn arfer myned i’r farchnad yn lled foreu ar y Sadwrn,
er mwyn dyfod adref yn weddol gynar. Y dynion hefyd a arferant weithio yn
galetach ac yn hwyrach ddydd Gwener, ac ant i’r gwaith ar foreu Sadwrn yn
foreuach nag ar un dydd arall, er mwyn cael y prydnawn iddynt eu hunain. Felly oedd
arferiad y gwr ieuanc dan sylw. Yn gynar yn y prydnawn ryw ddydd Sadwrn, pan ar
dro yn yr heol ar y ffordd i’r Feni, yn hollol annisgwyliadwy cyfarfu a’i
wraig, a’i basged tan ei braich, yn dyfod o’r farchnad. Nid dichonadwy oedd
myned heibio heb ddweyd rhywbeth. Twymai ei serchiadau, aeth yn nes nes ati, a
dywedodd yn siriol,
------------------------------------------------(x035)
“How do you do, Mary?’
Atebodd hithau ef, “I am middling well, how are you getting along now-a-days?”
Gwnaeth yntau ateb, “I wanted to see you very much.” Atebodd hithau, “Indeed,
I wanted to see you too.” Ymaflodd yn y fasged, a chymerodd law y wraig yn
ei fraich, a cherddasant yn nghyd tua chartref, gan ymddiddan mor ffoled
oeddynt wedi bod a syrthio allan a’u gilydd am beth mor lleied a llygoden, na
welsant hwy mo honi erioed o’r blaen, na byth wedi hyny, ac nad oedd yn debyg y
buasent yn ei gweled hi byth eto. Yn fuan penderfynwyd ail ddechreu cydfyw;
beth bynag, cyn iddynt gysgu y noswaith gyntaf, dywedodd hi, “For all that,
it was a rat.” Gwnaeth hyn iddo yntau ail ddweyd, “No, it was a mouse.”
Yna cyfododd Siencyn megys ar flaenau ei
draed, a dywedai mewn llais cryf ac awdurdodol, “Wedi i chwithau weled eich
ffolineb am beth mor lleied a fu rhyngoch, a dyfod yn ol mor gariadus ag ydych
yma heno, ar eich bywyd na ddyweded neb o honoch byth mwyach, “For all that,
it was a rat.”
Unwaith, pan yr oedd Siencyn Ddwywaith gyda y Parch. Morris Roberts yn pregethu
yn yr hwyr mewn ty anedd yn ardal Kemsen, gan bwysau y gynulleidfa, o herwydd
fod y ty mor llawn, plygodd yr holl lawr danynt, nes i’r pregethwyr a’r
gynulleidfa ddisgyn i waelod y seler. Dywedodd Siencyn, “Peidiwch a dychrynu.”
Ni ataliodd lefaru, ond efe a aeth trwy waith yr oedfa mor hwylus ag erioed.
Yn amser y Gymanfa flynyddol yn Steuben, yn yr hwyr, yn amser y cyfarfod yn y
Gapel Uchaf, aeth rhyw greadur drwg, direidus, tua’r sheds, gan ddyrysu harness,
ac aflonyddu ceffylau yr hen wr Price, o’r
------------------------------------------------(x036)
Gate, yr hyn a barodd gryn gyffro ar y pryd. Dranoeth, yr oedd Siencyn yn
pregethu yn Penymynydd, ar “Ddydd y Farn.” Pan yr ydoedd wedi myned yn ei flaen
dros haner ei bregeth, wrth ymdrin am weithrediadau y dydd hwnw, dywedodd y
pregethwr mai dyna y pryd y bydd gweithredoedd y tywyllwch yn dyfod i’r goleu;
ïe, yn y dydd hwnw y ceir gwybod pwy fu yn ymyraeth â cheffylau yr hen wr
Price, wrth y Capel Uchaf, neithiwr. Gyda hyny, gwelodd Siencyn ryw ddyn yn
plygu ei ben yn sydyn yn y gynulleidfa, a dywedodd, gan gyfeirio ei fys tuag
ato, Dyna y dyn. Nid oedd neb yn ameu hyny, oblegid gwyddent am ystranciau hwnw
yn lled dda.
Wedi myned i Auburn Seminary, yn 1836-37, cefais rai manteision na chefais o’r
blaen mewn ymarfer â’r Saesonaeg, gweled amryw lyfrau duwinyddol, clywed
darlithiau, ac ymdrin â chyneddfau y meddwl, Cefais lawer o wersi buddiol gan y
Doctoriaid, Richards, Cox, a Lansing. Yno y dechreuais lefaru yn yr iaith
Saesonaeg gyntaf, yn ngwyneb anhawsderau mawrion, yn gyffredin. Cefais bob
tiriondeb, a chyfarwyddiadau a allasai fod yn lles i mi. Yn yr amser hwn
priodais Anne, merch Joseph Jenkins, Bradford, Pa., yr hon sydd wedi bod yn
ymgeledd gymwys i mi hyd yn bresenol.
Unwaith, wrth ddyfod adref o Auburn, ar hyd y ffordd haiarn, o Ithaca i Oswego,
bu cryn dipyn o ymddiddan ysmala a difyr rhyngof a rhai o’m cyd-deithwyr yn y train.
Yr wyf yn cofio fod un o honynt yn gyfreithiwr, un arall yn feddyg, ac un neu
ddau eraill yn rhyw beth arall. Yr oeddynt wedi cael ar ddeall mai Cymro
oeddwn, ac ymhyfrydent yn fawr yn fy nghwestiyno am fy ngwlad a’m cenedl. Gwyddwn yr
------------------------------------------------(x037)
ystyrient fi yr hyn a alwent yn “green
fellow.” Wedi myned i Oswego, i dy Mannings, prif dafarndy y lle y pryd
hwnw, yn fuan canodd y gloch giniaw. Wrth weled y dynion yn myned i’r ystafell
giniaw, aethym ar eu hol; ac er fy syndod, erbyn i mi fyned yno, yr oedd yr
eisteddleoedd wedi eu llanw oll ond un, yr hon oedd wrth dalcen y bwrdd. Yn
gwbl ddiystyr o’r canlyniad, eisteddais yn hono. Gyda hyn, gwelwn y rhai yr
oeddwn wedi bod yn ymddiddan â hwynt yn y train yn syllu arnaf, ac yn
gwenu ar eu gilydd. Wrth hyn, deallais fy mod yn nôd i’w digrifwch. Yn union
cyfodais ar fy nhraed, a dywedais yn uchel ac eglur, “Now, gentlemen, in which
way do you wish to be served, according to the Old Country fashion, or
according to the fashion of this country?” Atebodd pawb mewn crechwen,
“According to the Old Country fashion.” Cymerais y carving-knife a’r fork
fawr oedd wrth law, a thorais ddarn lled dda o’r roast beef oedd o’m
blaen — gosodais ef ar fy mhlate fy hun, a chymerais ychydig o’r gravy,
a’r pethau angenrheidiol eraill, a dywedais wrthynt, “ Now, gentlemen, please
help yourselves.” Gyda hyn dechreuais fwyta, gan adael iddynt wneyd y goreu
drostynt eu hunain. Er fod y rhan fwyaf o honynt wedi cael eu siomi yn eu
hamcan, ni ddeallais fy mod wedi anfoddloni neb.
Wedi myned adref, aeth y wraig a minau i Pike, y Varsog, a Towanda, a
phregethais yn mhob un o’r lleoedd uchod yn dderbyniol. Y fath oedd awydd y
bobl am fy nghlywed, trwy fy mod newydd ddyfod o’r Seminary, ac hwyrach am mai
Cymro oeddwn, fel y cefais alwad gan yr Eglwys Gynulleidfaol yn Pike i ddyfod
yn weinidog iddynt; a thaer-gymellwyd arnaf ,
------------------------------------------------(x038)
gan y Methodistiaid Esgobawl i bregethu gyda hwy, yr hyn a wnaethym yn rhwydd.
Pan yn eu Camp Meeting, yr hwn oedd yn cael ei gynal ger ty fy
nhadyn-nghyfraith, dymunwyd arnaf bregethu. Cydsyniais a’u cais. Y testyn oedd
Iago v. 20. Wrth fy mod yn sylwi ar ddiwedd yr adnod, “Cadw enaid rhag angau, a
chuddio lluaws o bechodau,” dywedais mai tri pheth oedd Duw wedi eu cuddio —
corff Moses, bywyd ei saint, a phechod
ei bob). Cuddiwyd corff Moses er atal Satan i demtio plant Israel i’w addoli;
cuddiwyd bywyd y saint gyda Christ yn Nuw — y maent mewn man diogel. Yr oeddwn
y pryd hwnw yn yr hwyl oreu, a hwythau yn gwaeddi, “ Glory to God,” “All
right,” &c. Yna dywedais, “Efe yw y pen, a chwithau yw yr aelodau. Mae
y pen uwchlaw y dwfr — ni wna y corf foddi.” Dywvedai y bobl, “ No, never,”
&c. Yna dywedais, “ Pe ddaw corff Moses i’r golwg eto yn moreu y farn fawr,
y dydd diweddaf, a bywyd y saint hefyd; ond ni ddaw pechod Seion byth i’r golwg
mwy — byddant wedi eu cuddio am byth. Pa nifer gaiff eu cuddio? ‘Lluaws,’ mewn
môr o anghof,” &c. Yr wyf yn credu nad yw llawer o’r brodyr Wesleyaidd mor
dyn dros yr athrawiaeth o syrthiad oddiwrth ras, ag y mae llawer yn meddwl eu
bod.
Tua’r amser hwn bu farw fy nhad, a thair chwaer i mi, yn Dundaff, Pa., ac amryw
eraill yn y lle. Penderfynais gymeryd gofal yr Eglwys Gymreig yn Clifford, a’r
Eglwys Henaduriaethol yn mhentref Dundaff, ac ymunais a Presbytery Montrose,
Pa., ac arosais gyda hwynt am wyth mlynedd, oddigerth y tymor yr ymwelais â
Chymru. Yn yr eglwys Gymreig, bum, ar y cwbl, yn lled lwyddianus. Derbyniwyd yno amryw at
------------------------------------------------(x039)
achos yr Arglwydd; adeiladwyd yno gapel, ac yr
oedd yr Ysgol Sabbothol yn flodeuog yn ein plith. Nid yn gyffredin y gwelais un
eglwys yn cadw at ei chydgynulliad gystal. Ond am yr Eglwys Bresbyteraidd yn y
pentref, er fod yno gapel da a helaeth, yr oedd fel tir wedi ei losgi a’i
ddifwyno. Pregethais iddynt am dros ddwy flynedd, heb dderbyn yr un, nac un
arwydd am ddiwygiad. Er eu bod yn dyner iawn o honof, ac yn cyfranu yn helaeth
at fy amgylchiadau naturiol, nid oedd fawr o lewyrch, a’r olwg ar bethau yn dra
marwaidd; ond tua dechreu y drydedd flwyddyn, torodd adfywiad allan yn lled
rymus — derbyniwyd ar yr un pryd i’r eglwys bymtheg-ar-hugain, y rhan fwyaf yn benau
teuluoedd o gryn ddylanwad. Er nad oeddynt yn cadw dim swn neillduol, eto
gwelid y dagrau yn syrthio yn ddiferion dros ruddiau y gynulleidfa yn aml.
Cawsom lawer o wrthwynebiadau oddi allan, ond er hyny yr oedd yr eglwys yn
hollol unol. Yn yspaid fy ngweinidogaeth yn y ddwy eglwys yma y teimlais fwyaf
o gysur o bob man. Byth nid anghofiaf y brodyr, Daniel Moses, Thomas Watkins,
Jerman Phelps, a Dilton Yarington. Mae y rhan fwyaf o honynt, ac ac eraill a
allaswn nodi, wedi myned i ffordd yr holl ddaiar, wrth bob tebyg, er eu gwell.
Wedi ordeinio y Parch. Roderick
Williams, yn Beaver Meadow, a myned i gyfarfod blynyddol i New York, yn mis
Mai, 1841, aethym i’r Hen Wlad. Arosais yn Liverpool un Sabboth, ac aethym i
Gymanfa Llanbryn-mair, a thrwy Lanidloes i Troedrhiwdalar, Llanymddyfri,
Llandeilo Fawr, a manau eraill, i Mynydd Bach, Abertawe. Wedi teithio hyd
Blaenafon, ac ar hyd rhai lleoedd, dychwelais yn ol i ardal Mynydd Bach, a
phregethais
------------------------------------------------(x040)
mewn amryw gapelau yn Abertawe. Aethym gyda’r
Parch. John Evans, Crwys, i gyfarfod tri misol a gynelid yn y Llwyni. Yr wyf yn
cofio fod rhyw annghydwelediad rhwng blaenor canu a gweinidog. Daethant a’u
hachos i’r gynadledd. Yr oedd y gweinidog am i’r blaenor ac eraill ganu ar y
llawr, a hwythau yn benderfynol i ganu ar y gallery. Codai eu tymerau
i’w gwynebau at eu gilydd; beth bynag, wedi ymdrin ychydig ar y mater, cododd
John Evans i fyny, a dywedodd, “Yr wyf yn rhyfeddu eich bod mor ffol ag ymryson
a’ch gilydd am beth mor lleied a hyn. Mae ein pobl ni yn y Crwys yn canu lle y mynont
hwy. Yr wyf fi wedi bod gyda hwynt yn Eglwys y Plwyf a manau eraill yn canu;
gartref, maent yn canu y rhan fwyaf o’r amser ar y Sabboth ar y gallery,
a weithiau ar y llawr. Yr wyf fi yn eu gadael i ganu lle y mynont, ac ni
chlywais i ddim fod neb yn anfoddlon iddynt. Dyn yw y creadur mwyaf sydd yn
canu ar y ddaiar. Mae yr adar yn gyffredin yn canu ar frigau’r coed, a’r
ceiliog ar yr esgynbren (y glwyd), ac y mae ein teulu ni i gyd yn dweyd mai o’r
man hyny y mae hwnw yn canu oreu, yn neillduol yn y boreuau. Cerddwch adref, a
chanwch lle y mynoch. Dibenodd yr ymrafael yn union, a phawb yn gwenu ar eu
gilydd.
Bu Mr. Evans yn gweinidogaethu yn y Crwys am tua 40 mlynedd. Y dyn dysgedicaf,
callaf, mwyaf amyneddgar, cariadlonaf, a llwyddianus a wn i am dano yn fy oes.
Bydd cof parchus am dano dros oesau yn yr ardal lle y bu yn llafurio, ac o bawb
dynion efe oedd yr un a hoffais fwyaf erioed.
Wedi bod mewn gwahanol fanau am dri mis, troais fy nghefn ar wlad fy
ngenedigaeth, ac er bod eglwysi
------------------------------------------------(x041)
Pencader a Throedyrhiw am i mi aros gyda
hwynt, yr oedd fy nheimladau yn methu dal heb fyned yn ol at y wraig a’r plant.
Yr oedd amryw Gymry yn dyfod gyda mi yn ol, a buom dri mis ar y fordaith. Mawr oedd eu swn.
Cawsom dywydd tymhestlog iawn, chwythwyd ni yn ol i’r Bay of Biscay, a’r Azore
Islands; do, ni fuom yn agos hefyd i Bermuda, ac yn ol wedi hyny yn ngolwg New
London, ac yn byw am wyth niwrnod ar un biscuit y dydd gydag ychydig
ddwfr. Claddwyd saith yn y môr, a
gallwch feddwl fod golwg druenus arnom erbyn ein bod yn New York. Yr oedd yn
dda genyf mai yn y ddinas hono y tiriasom, lle y cefais garedigrwydd nid bychan
gan lawer o’m hen gydnabyddion. Pregethais lawer yn ardal Dundaff, Carbondale,
a Bradford, a rhoddais aml dro trwy Beaver Meadow, Pottsville, a Minersville.
Un waith gwahoddwyd fi i agoriad capel newydd yn Minersville yn y gauaf; wedi
myned hyd Blakeley, ni allasai y Parch. Lewis Williams ddyfod; ffwrdd a mi hyd
Beaver Meadow, lle y bum yn cadw oedfa ar wlaw mawr, a’r eira yn toddi trwy’r
dydd dranoeth. Pregethais yn yr hwyr y noson ganlynol, ond yr oedd yn parhau i
wlawio. Rhwng naw a deg y noson hono daeth yn hindda. Penderfynais y buaswn yn
myned i Minersville erbyn y cyfarfod deg boreu dranoeth. Ceisiodd amryw fy
narbwyllo i beidio myned, trwy ddweyd fod y llifogydd yn rhy fawr, nad allaswn
fyned, fy mod yn rhyfygu i gynyg ar y fath anturiaeth, fod yr eira wedi toddi, nad
oedd genyf gyfrwy, &c. Er y gwrthwynebiadau hyn, yr oedd mwy yr ochr arall
am i mi fyned. Meddwl y buasai yn siomedigaeth fawr gan
------------------------------------------------(x042)
Mr. Evans a’r eglwys yn Minersville, ein bod eiu dan yn methu dyfod, a ninau
wedi addaw, fod genyf geffyl da, a’i bod yn oleu lleuad fel y dydd, nad oedd
genyf ddim llawn 30 milldir o ffordd; plygais groen y buffalo gan ei osod ar
gefn y ceffyl, cymerais y cebyst gan ei drefnu yn lle gwartholion, a
chychwynais i’r daith am tua 10 o’r gloch y nos. Er swn rhyferthwy y
llifddyfroedd ac unigrwydd y nos, ni ddigalonais, croesais rai aberoedd
dyfnion, a phan aethym i’r pant hwnw sydd o fewn ychydig filldiroedd i
Tuscarora, yr oedd y llif yn fawr iawn. Tynais fy nghyfeiriad o’r ochr uchaf
i’r ffordd at y tu draw, a nofiodd y ceffyl a minau yn ddiogel i’r ochr arall,
ond fy mod wedi gwlychu hyd fy haner. Cyrhaeddais Five Points gyda’r dydd.
Cefais yno newid dillad, a bwyd yn gysurus, ac yr oeddwn, er syndod i’r holl
gynnlleidfa, wedi cyrhaeddyd yno yn brydlon i’r cyfarfod.
Er mai myfi gafodd y fraint o weinyddu Swper yr Arglwydd gyntaf i’r Cymry yn
Minersville i gynulleidfa gymysg, cyn eu bod wedi eu ffurfio yn wahanol gymdeithasau;
eto mae y Parch. E. B. Evans, a’r hen frawd anwyl Lewis Williams, Carbondale,
wedi bod yn hynod lafurus a llwyddianus yn mysg ein cenedl o fewn cylchoedd y
gweithfeydd glo o fewn Talaeth Pennsylvania am lawer o flynyddau. Mae rhyw
ymlyniad rhyngwyf a’r ddau hyn nad allodd ewinedd y cythraul hyd yma ei ysgaru,
ac nid tebyg, er mor gyfrwys yw, y gall ddadgysylltu yr ymlyniad hwnw yr ochr
hon i’r bedd, a’r ochr draw bydd wedi myned yn all over arno.
Yn un o’r blynyddoedd hyn, cafodd yr hen frawd Lewis Williams a minau wahoddiad
i Gymanfa oedd yn cael ei chynal yn Pottsville a Minersville. Wedi i
------------------------------------------------(x043)
ni gyrhaedd Beaver Meadow, cawsom
gyfarfod hynod iawn — torodd diwygiad allan.
Yr oedd yno deimladau drylliog a gwresog; daeth llawer iawn at yr achos,
a pharhaodd y cyfarfod, rhwng pregethu, gweddio, canu, a dyweyd ein profiad, yn
agos hyd haner nos. Wedi cyrhaedd
Pottsville, gwelais amryw o’r brodyr, a deallais fod yno ddau am briodi — David
Davies, aelod gyda y Trefnyddion Calfinaidd, a Hannah, merch i’r hen wr Rees
Price, unig ferch ei thad a’i mam.
Nid oedd Mr. Evans yn ewyllysio eu priod, o herwydd fod yr hen wr, tad y
ferch, wedi anfoddloni yn fawr wrtho am briodi mab iddo ryw amser yn ol, gyda
rhyw ddynes nad oedd ef yn foddlawn i hyny.
Nid oedd Mr. Williams,
Carbondale, ychwaith, o herwydd gwyddai
am dymer yr hen wr yn lled dda.
Wedi iddynt ddyweyd yr
amgylchiadau hyn wrthyf,
gofynasant a fuaswn i yn gwneyd
hyn iddynt. Mewn trefn i gyflawni
eu cais, aethym a hwy i dy adnabyddus, ac yn y llofft yno y priodais
hwynt. Gan fod ar y wraig ieuanc ofn ei
rhieni, nid oedd yn ewyllysio i’w phriod ddyfod gyda hi y noson hono. Aethym i gyda hi i dy ei thad a’i mam.
Wedi eu cyfarch, ysgwyd dwylaw, a siarad am wahanol bethau, awd i gael tê. Pan oedd pawb yn siriol wrth y bwrdd,
gofynais iddynt pa nifer o blant oedd ganddynt? Atebent, “Jonathan a Dafydd,”
&c. Gofynais iddynt pa faint o
honynt oedd yn briod? Dywedent yr hyn
a wyddent. Gofynais a oedd y ferch yn briod? “Nac ydyw,” meddai y fam.
Dywedais, “Os nad yw hi, bydd yn debyg o fyned yn fuan.” Erbyn
hyn, gwelwn y ferch yn newid ei gwedd, ac yn cochi yn ei
gwynebpryd. Meddai ei thad, “Os yw hi
yn meddwl y gall wneyd yn well, eled pan y myno.” Dywedais, “Ni
------------------------------------------------(x044)
byddai neb mor anfoddlon a chwi pe b’ai hyny yn cymeryd lle.” Dywedai yntau,
“Na fyddwn i, yn wir. Os boddlona hi ei hun, byddaf finau yn eithaf boddlon.”
Dywedais, “Amser a brawf,” ac awd i siarad am ryw bethau eraill.
Dranoeth, aethym i Minersville erbyn ciniaw,
lle yr oedd y Parchedigion Morris Roberts, Jonathan Jones, Thomas Edwards, Evan
B. Evans, Lewis Williams, ac amryw eraill, yn nhy Jonathan, mab yr hen wr. Yr
oedd yntau yno hefyd. Erbyn hyn, yr oedd y si wedi myned allan drwy y
pregethwyr, a dywedai ei ferchyn-nghyfraith wrth yr hen wr Rees Price, fod
Jenkins wedi priodi David Davies a Hannah y nos o’r blaen. Gwelwn wawr gwynebpryd
yr hen wr yn newid. Codais, ac aethym allan trwy y drws cefn, ac yntau ar fy ol
a ffon fawr yn ei law. Yr oedd yn dda i mi fy mod yn gyflymach fy nhraed nag ef
y pryd hwnw. Beth bynag, cawsom gyfarfodydd hynod trwy y Gymanfa, a maddeuodd
yr hen wr am y cwbl cyn ei diwedd. Yn un o oedfaon y Gymanfa hon, dywedai
Jonathan Jones wrth ddechreu, na wyddai ef beth i’w bregethu i ni, ar ol
cymaint oeddym wedi ei glywed yn barod. Dywedodd Morris Roberts, “Pregetha
Grist iddynt; beth arall sydd genyt i’w ddyweyd wrthynt?”
Yr oedd rhyw weinidog Saesonig yn un o’r oedfaon, a rhoddwyd cyfleusdra iddo
yntau i’n hanerch, a dywedai, “O! how I like this Welsh fire.” Gwaeddai M. R.,
“It is a heavenly fire.” Ateb. “Surely it must be.” Dywedai Morris
Roberts, “First-rate. Bendigedig. le, yn wir.”
------------------------------------------------(x045)
TRAETHODAU, &c.
PREGETH.
MWRDD-DRA WEINIDOG FFYDDLON, NEU YMDEITHIAD
PECHOD AR EI ORIWAERED.
“A’r brenin yn drist iawn, ni chwenychai ei
bwrw hi heibio, o herwydd y llwon, a’r rhai oedd yn eistedd gydag ef. Ac yn y
man y brenin a ddanfonodd ddienyddwr, ac a orchymynodd ddwyn ei ben ef. Ac
yntau a aeth, ac a dorodd ei ben ef yn y carchar, ac a ddug ei ben ef ar
ddysgl, ac a’i rhoddes i’r llances; a’r llances a’i rhoddes i’w mam.” — MARC
vi. 26-28.
Fel hyn y gorphenwyd llefaru am ddioddefiadau Ioan Fedyddiwr. Fe’i ganwyd tua
chwe’ mis o flaen ein Harglwydd bendigedig, a dienyddwyd tua blwyddyn o’i flaen
ef. Yr ydoedd yn ardderchog neillduol yn ei dduwioldeb, ei dalentau a’i swydd;
yn llawn o’r Ysbryd Glan, hyd yn nod o groth ei fam. Nid yfai win na diod
gadarn, ond treuliai ei fywyd yn y modd mwyaf manteisiol a llesol at gyflawni
ei ddyledswyddau. Codwyd ef i fyny gan Dduw i fod yn ddiwygiwr mawr a
chyhoeddus mewn oes falch ac ofer, a chynysgaeddwyd ef gan y ef a chyneddfau
addas at y gwaith. Gosodwyd ef gan Lywydd y bydoedd i fod yn rhagredegwr i’r
Messiah, i ddwyn sylw y bobloedd at ei ddyfodiad. Yr oedd ei swydd yn y tymor
hwn yn ei wneyd yn fwy nag un o’r prophwydi a fu o’i flaen ef: - “Oblegid hwn
yw efe, am yr hwn yr ysgrifenwyd, Wele fi yn anfon fy nghenad o flaen dy wyneb,
yr hwn
------------------------------------------------(x046)
a barotoa dy ffordd o’th flaen. Yn wir, meddaf i chwi, yn mhlith plant gwragedd
ni chododd neb mwy nag Ioan Fedyddiwr.”
Treuliai ei fywyd yn esiampl o ostyngeiddrwydd a hunan-ymwadiad yn ysbaid byr
ei Weinidogaeth, a bu farw yn ferthyr dros yr athrawiaeth a druethai. Syrthiodd
yn ysglyfaeth i’r dideimladrwydd annhrugarog a achlysurwyd trwy ei gywirdeb
diymdroiadol.
Mae ein testyn yn rhoi ar ddeall fod Ioan yn y carchar pan y
torwyd ei ben ef. Mewn adnod flaenorol
rhoddir ar ddeall i ni pa fodd yr aeth yno: — “Canys yr Herod hwn a ddanfonasai
ac a ddaliasai Ioan, ac a’i rhwymasai yn y carchar.” Er fod carcharau wedi eu trefnu i gaethiwo drwg-weithredwyr, ac
ataliad troseddau, mynych yr arferwyd hwynt yn rhwymau caethiwed i rai rhagorol
y ddaiar, yn drigfanau i’r rhai nad oedd y byd yn deilwng o honynt.. Nid yw yn sicr pa hyd y bu Ioan yn y
carchar; yn ol y farn gyffredin mai tua blwyddyn a haner. Ei gyfyngiad a ddybenodd ei lafur
cyhoeddus, a’i eang ddefnyddioldeb yn nghanol ei fywyd; ac felly ataliwyd
pelydrau hyfryd-liw y sereu ddysgleiriaf yn ffurfafen yr oruchwyliaeth Ffoesenaidd
gan archdeyrn, yr hwn a garai y tywyllwch yn fwy na’r goleuni, o herwydd fod ei weithredoedd ef yn ddrwg.
Ond pa beth oedd achos carchariad Ioan? A gafodd Herod ryw drosedd ynddo yn
haeddu y fath gosbedigaeth? Mae gwarediad braich wladol, pan yn ol cyfiawnder,
o ddefnydd i’r llywodraeth, ac arswyd i ddrwg-weithredwyr. Ond yn yr achos o’n
blaen yn awr, y mae yn mhell i’r gwrthwyneb. Gwyddai Herod fod “Ioan yn wr
cyfiawn a santaidd.” Yr oedd yn
------------------------------------------------(x047)
dyst o’i fywyd difrycheulyd a’i
santeiddrwydd dilwgr. Efe a wyddai ei fod gyda’r gwaith goreu, a’i fod wedi
diwygio bucheddau ac ymddygiadau llawer. Mewn gair, yr oedd wedi bod ei hunan yn
ei wrando yn pregethu, ac am dymor yn ei barchu, gan ymddangos yn ddiwygiedig
dan ei weinidogaeth. Yr oedd llawer o bethau yn ei ymddygiadau, ar amserau, yn
dangos ei barch at Ioan: — “Ac wedi iddo ei glywed ef,” medd yr hanesydd
ysbrydoledig, “efe a wnai lawer o bethau, ac a’i gwrandawai ef yn
ewyllysgar.” Dyma ddyddiau goreu
Herod. Y pryd yma yr oedd gobaith am
dano. Pa mor ddrwg bynag y byddo dyn, nis gallwn ei roddi i fyny yn hollol i
golledigaeth, cyhyd ag y byddo yn cyrchu i wrando y gair, o leiaf tra byddo y
gair a bregethir yn gadael ei effaith ar ei gydwybod, ac yntau yn gwellhau rhyw
faint yn ei fywyd. . Pe buasai Herod yn parhau i wrando Ioan, a pharchu ei
athrawiaeth, fe allasai gael ei arwain ganddo at “Oen Duw, yr hwn sydd yn tynu
ymaith bechodau y byd,” a bod yn ddedwydd ganlynwr i’r Gwaredwr mawr. Ond Ow! ei sylw a drowyd, a’r argraffiadau
difrifol a gollwyd. Beth a
effeithiodd arno mor fuan? Nid rhyw
foddion annghyffredin; cariad at
feluswedd pechadurus a lywiodd ei galon, yn ol ei gydsyniad ei hun. Cymerodd arno ei fod wedi tramgwyddo wrth wr Duw am ddyweyd y gwir
wrtho, yr hyn yn ddiau a ddylasai Ioan wneyd. Wele ef yn awr yn barod i’w erlid,
ei garcharu, a’i ladd, er iddo, cyn hyn, ei barchu, a’i wrando yn ewyllysgar. Hen
nodiad a gadarnheir yn fynych yw yr un a ganlyn: — Pan y byddo y pechadur wedi
dyfod dan y weinidogaeth, i wrando yn fanol yr hyn a bregethir iddo, nid hir yr erys heb ymryson âg ef ei hun, neu
a’i
------------------------------------------------(x048)
gweinidog ffyddlon a ddywedodd wrtho am ei bechod. Dygwydd weithian, megys yn
yr engraifft bresenol — yn gyntaf gwna anfoddloni wrtho ei hun, yna wrth y
pregethwr; a phan y dygwydd hyn, y mae yr anfod-lonrwydd yn gwneyd ei drigfa yn
yr olaf, heb ymadawiad mwy. Mor ansicr, bum bron a dyweyd mor anobeithiol, ydyw
sefyllfa y rhai a fu yn gwrando y gair am dymor yn llawen, ac a wnaethant lawer
o bethau; y rhai y deffrowyd eu cydwybodau, y goleuwyd eu meddyliau, y
meddalhawyd eu calonau, y cynhyrfwyd eu teimladau, y plygwyd eu heneidiau
truenus i raddau at orsedd gras, ac a ddygwyd yn ddiwygiedig i raddau ger bron
Duw, ond a ymddangosant wedi hyny o’r newydd yn eu hen bleserau, ac a gollasant
eu budd crefyddol, gan fyned yn esgeuluswyr o’r gair, yn gaseion i’r rhai y
buont unwaith yn eu gwrando yn ewyllysgar, ac ydynt yn awr mewn mwy o gwlwm a’r
byd, ei wagedd, a’i oferedd, nag erioed o’r blaen. O mor druenus, ac anhebygol
yw adferiad a dyfodiad y cyfryw byth i’r iawn o fagl y diafol. Arswydwch, y
rhai y mae y cerydd hwn yn perthyn i chwi—ofnwch y perygl hwn. Hwyrach eich bod
ar eich llithrigfa olaf am byth. Mae cyflwr y rhai hyn yn debyg i’r eiddo y
rhai y mae yr apostol yn dyweyd am danynt, “Diwedd y rhai yw eu llosgi.”
Arddengys bywyd Herod nodau amlwg o’i ddrygioni, ei fyrbwylldra, a’i
anlladrwydd, oddigerth y diwygiad hanerog a welwyd ynddo dros dymor dan
weinidogaeth Ioan. Y mae yn ddiddadl fod Ioan, gweinidog Duw, yn difrifol
ddymuno llesâd Herod; efallai ei fod wedi derbyn cefnogiad oddiwrth agwedd y brenin
yn gwrando arno; bu yn ffyddlon a hyf i’w
------------------------------------------------(x049)
geryddu am y bai a wnaeth. Gan
nas gall gwir edifeirwch gymeryd lle heb wybodaeth am y bai, y mae yn sicr y
dylai gweinidog yr efengyl amcanu gosod anwiredd pob dyn yn gyflawn o’i flaen,
gyda’r un cymwysder ag y gwnaeth y prophwyd i frenin Israel, “ “Ti yw y gwr.”
Ysgatfydd y tramgwydda rhai, ond nid oes achos i wr Duw fod yn anffyddlon,
tramgwydded y neb a dramgwyddo.
Yr oedd un peth yn rhywyd Herod, ar bechadurusrwydd y cyfryw y sylwa Ioan yn
benaf, a dyma yr unig beth a dramgwyddodd Herod. Yn wir, yr oedd Herod wedi
ymlithro i bechod, yr hwn oedd yn anhawdd iddo ymadael ag ef. Fe ddichon i ddyn
gymeryd ei geryddu am bechod fo ynddo yn achlysurol, a dyoddef dyweyd yn galed
wrtho am y bai y mae efe yn gyflawni yn ddamweiniol, neu yn ddigwyddiadol. Pe
dywedwn, pechod nad yw yn naturiol iddo, neu nad yw yn gymeriadol ynddo; ond os
dywedwch wrtho arn ei Ddalila, ei bechod anwylaf, yr hwn y mae yn ei feithrin,
y pechod parotaf i’w amgylchu, ac y mae yn ddeiliad iddo, gan ei fod yn was
iddo, a than ei lywyddiaeth — efe a’ch barn yn euog o gamymddygiad. Chwi a
gyffyrddwch a’i glwyf ef. Bydd eich geiriau fel saethau yn glynu yn ei glwyfau
crawnllyd. Byddwch yn sicr o beri iddo wingo wrth aflonyddu yr archoll hon.
Felly yr oedd gyda Herod pan ddywedodd Ioan wrtho, “Nid cyfreithlawn i ti gael
gwraig dy frawd.” Efallai y buasai efe yn ymfoddloni dyweyd yn galed am ei holl
bechodau eraill, ac y buasai yn diwygio oddiwrthynt, ac yn eu rhoddi heibio.
Ond ni fynai roddi hwn heibio er dim. Na, peth rhy galed ganddo ef oedd dyweyd
am hwn yn ei wyneb, hyd yn nod gan weinidog Duw. Dyma oedd
------------------------------------------------(x050)
y peth; Herod, er ei fod yn briod â merch Aretas, brenin Arabaidd, a
chwenychodd Herodias, gwraig Phylip ei frawd, ac yn ganlynol a ysgarodd ei
wraig ei hun, ac a’i priododd hi. Yr
oedd y cysylltiad hwn yn wrthwyneb i gyfraith Duw ar ddau olygiad; yr oedd
Phylip, gwr Herodias, yn fyw o hyd, ac yr oedd Herodias — trwy ei bod wedi
priodi Phylip — yn berthynas rhy agos i Herod. Y mae o fawr bwys, gyda golwg ar ddedwyddwch a heddwch
teuluaidd, a phurdeb cymdeithas, fod cyfreithiau Duw yn rheoleiddio priodasau
mewn parhad anniddymadwy; ac y mae cadw at y cyfreithiau hyn, yn gystal a phob
dwyfol osodiad, yn gorphwys yn fwy neillduol ar y rhai sydd a’u swyddau yn
ddylanwadol eu heffeithiau ar eraill.
Gan fod Herod yn meddianu teyrngadair hiliogaeth Abraham, yr oedd yn fwy
angenrheidiol ei geryddu am ei drosedd; ac yr oedd glewder a ffyddlondeb Ioan,
a phwysfawrogrwydd ei swydd, yn ei rwymo i ddyweyd wrtho am ei drosedd yn
ddidderbyn wyneb.
Yr oedd trosedd Herod yn ddeublyg yn ol y gyfraith ddwyfol—cynwysai odineb,
ac ymlosgiad; y blaenaf, yn gymaint a
bod gwr Herodias yn fyw; yn olaf, am ei bod hi — drwy ei phriodas a Phylip, yn
chwaer i Herod. Er fod yr ymddygiad yma o eiddo Ioan yn engraifft ganmoladwy
o’i ffyddlondeb, sef dyweyd wrth benllywydd ei bechodau, daeth ag ef dan
erledigaeth ddidosturi. Nid Herod yn unig a anfoddlonodd o herwydd hyn, ond
enynodd llid Herodias. Yr oedd hi yn ymddangos o nodweddiad mwy halogedig na
Herod. Perchenogai deimladau dialeddol, llwyr amddifad o’r teimlad sydd yn
hanfodol i wraig rinweddol a chariadlon. Ystyriai fod y cerydd a weinyddwyd i
Herod yn ei
------------------------------------------------(x051)
cheryddu hithau, gan ofni, efallai, y collasai hi briod ei hymlyniad beius;
anelodd ei llidiawgrwydd er dinystr buan i Ioan. Beth bynag, ei garcharu oedd
yr oll a allasai hi wneuthur ar y cyntaf; oblegid gwyddai Herod, trwy yr hwn yn
unig y gallasai hi ddwyn oddiamgylch ei hamcan, fod y bobl yn parchu Ioan fel
prophwyd, gan hyny ofnai y buasai yn gwneyd terfysg pe buasai yn ei roddi i farwolaeth.
Daeth cyfleusdra i Herodias wledda ei llidiawgrwydd o’r diwedd. Herod, ar ddydd
ei enedigaeth, wedi iddo wneyd swper, daeth ei wahoddwyr i’w fwyta,
penaethiaid, blaenoriaid, a goreugwyr Galilea. Un o’r pleserau yn y wledd gyda’r brenin a’i lyswyr oedd
dawnsio. Ar y tymor hwn o’r wyl, daeth Salome, merch Phylip, a Herodias i mewn,
a dawnsiodd nes boddio Herod, a’r rhai oedd gydag ef yn eistedd. Mor benwan
oedd y brenin wrth symudiad ei chamrau, ac hefyd gan win, mae’n debygol, fel y
dywedodd wrth y llances, “Gofyn i mi y peth a fynoch, ac mi a’i rhoddaf i ti.
Ac efe a dyngodd iddi, Beth bynag a ofynech i mi, mi a’i rhoddaf i ti, hyd
haner fy nheyrnas.”
Ei addewid a’i lw oeddynt yn fyrbwyll, i’r graddau uchaf, fel y gwelir yn y
canlyniad. Gan fawredd y cynyg, ymfalchiodd y ferch, wrth y fath hoffder
twymgar a ddangosodd i’w chyflawniad diwerth. Salome a drodd i ymgynghon â’i
mam, pa beth a ofynai. Mae Awdwr natur wedi planu egwyddor mewn plentyn i’w
gyfarwyddo at ei rieni am gyngor ac hyfforddiant; a dedwydd yw y rhai sydd a’u
rhieni yn ofni Duw, ac yn eu cyfarwyddo yn ffordd doethineb. Ond truenusach nag
amddifad yw sefyllfa y rhai sydd a’u rhieni yn eu hanog i ddrygioni. Agwedd
frawychus fydd ar y rhai
------------------------------------------------(x052)
sydd yn dinystrio eu hiliogaeth trwy eu hesiamplau, pan yn rhoddi cyfrif i
Chwiliwr y calonau yn nydd brawd am eu hymddygiadau tuag atynt.
Ymddengys fod Herodias wedi rhoddi gwisg oedd yn ateb i’w merch i ddawnsio. Yr
hyn y mae hi yn ei hanog i ddewis yn awr a’n galluoga i farnu yn bellach am ei
dysgeidiaeth, mewn cyferbyniad i addewid y brenin. Lluaws o wrthddrychau sydd o
flaen ei dewisiad. Gellir gofyn beth bynag hyd haner y freniniaeth. Ac wele, ar
ol cydgyfrinach rhwng y fam a’r ferch, yr anwyl dlws wedi ei ddewis—” Mi a
fynwn i ti roi i mi allan o law, ar ddysgl, ben . Ioan Fedyddiwr.”
Dynoliaeth—nage ddim; bum bron a dyweyd fod barbariaeth ei nun. wrth y fath
echrys ddeisyfiad! O ba greulonder nad yw y natur ddynol yn
alluog! Mae creulonder yr olygfa yn ymddangos yn fwy oblegid ei fod hiewn
dynes, a dynes yn mlodau ei dyddiau, a harddwch ei hieuenc-tyd. Gyda’r fath
gyflymdra cynyddfawr y mae yn rhaid y dilynodd hi ffordd y faU,cyn esgyn at y
fath dyciant! Tystiodd
Salome mai merch ei mam oedd hi, wedi ei magu yn hollol ar ei delw. Boddiwyd
Herodias wrth gael cyfle fel hyn i orphen ei bwriad digllawn ar y ffyddlawn
weinidog.
Mae y darluniad a geir o’r ddynes hon a’i merch y fath ddarostyngiad i’w rhyw,
a’r fath ddarostyngiad i’r natur ddynol, nes y bum yn prydel’us ddisgwyl am ryw
beth yn yr amgylchiad a fuasai yn mwyneiddio golwg y lleni duon sydd yn y
drych; ond nid oes dim cyrfelyb i’w gael. Nid oes dim un fantell i’w orchuddio
yn yr holl amgylchiad. Pe buasai Ioan trwy ryw greulondeb anghyfreithlon, neu
anghallineb, yn rhoddi y ffug leiaf o’i gyhuddiad, yna buasai rhyw esgus dros
ei erlid.
Y PARCH. .TENKIN JENTKtNS.
------------------------------------------------(x053)
Ond ni wnaeth ond dyweyd yn garuaidd a gohest, eto yn eglur ac amlwg, yr hyn
nad allasai gydymddwyn ag •ef, a bod yn ifyddlon wasanaethwr i’r Duw a’i
danfonodd ef; ond nid oedd yno ddim rhith gyhnddiad yn ei erbyn. Pe buasai y
gorchymyn i’w ddienyddio yn deilliaw oddiwrth gryd a chynddaredd chwilboethlyd
creulondeb darfodawl, buasai yn well. O na, y nwyd ellyllaidd a ddeorodd dros
gyniferofisoedd yn nghiliau tywyll mynwes euog, gan ddal penderfyniad disigl ac
ymofyniadol am waed., yn awr, pan gafodd gyfleusdra, a ddaeth yn mlaen yn
ddigywilydd i’w geisio i wledd o gyfeillgarwch achlysurol yn ngwydd goreugwyr y
deyrnas! Och! os oedd rhyw rinwe’dd, os oedd rhyw ddynoliaeth, os oedd rhyw
synwyr priodol ei alw felly yn llys Herod, nis gallwn eiddigeddu am y bai a
enillodd ei wraig anynad a’i merch ddawnslyd iddo ar yr achlysur hwn. Yn aml y
sylwyd fod .priodasau annghyfreithlawn yn aflwyddianus;, mynych y canlynwyd
hwynt & gwg y Nef. Bu yr hon a briododd Herod yn anghyfreithlon, ac a
gadwodd felly, yn fwy o niwed a gofid iddo na phe buasai yn colli ei goron. Ond
beth oedd llwyddiant cais Salome am ben Ioan Fedyddiwr? A pha fodd yr
efleithiodd ar Herod? Och! nis gallwn lai na synu pa fodd na
------------------------------------------------(x054) TRAETHODAU, &c.,
arus Herod a’i gymdeithion mewn d-rwg, ni chaniata amser yn bresenol i mi
ddywedyd dim. Cyn dibenu yr ymadroddion hyn, pa fodd bynag, caniatewch i mi
wneuthur rhai sylwadau ymarferol:—
1. Dysgwn oddiwrth sefyllfa Herod, y
mawr ddrwg o fyw ac ymlynu mewn unrhyw
bechod, pa un bynag ai o omeddiad neu droseddiad. Aml y cyfarfyddwn a phersonau sydd at
llawer o ddiwygiad wedi cymeryd lle ynddynt dan bregethiad y G-air, eto wrth y
rhai y mae rhwymau arnom i ddyweyd, fel y dywedodd ein Harglwydd wrth y gwr
ieuanc yn yr efengyl, “ Mae u’n peth eto yn ol i ti.” Y mae ganddynt ryw bechod anwyl na fynant ymadael ag ef, neu
ryw ddyledswydd anhebgorol angenrheidiol na fynant ei chyflawni,—” Y mae
teyrnas Dduw yn agos atynt.” Ond y
mae un rhwystr yn eu ffordd hwy ag sydd mor sicr o’u hatal a phe byddai y
mynyddoedd mwyaf cribog yn eu herbyn.
Maent yn barhaus yn nhiriogaeth y byd hwn. Mae eu hanwiredd eto yn llywodraethu drostynt. “ Pe edrychaswn ar anwiredd yn fy nghalon,
ni wrandawsai yr Arglwydd arnaf.” Ai
doethineb yw ymadael, le, ymadael yn wirfoddol a llawenydd annhraethol a
thragywyddol y nef am hyfrydwch un pechod megys dros fynyd awr? Onid
rhyfyg yw? Efallai eich bod yn synu am ffol lueb Esau, yr hwn am un saig o fwyd a werthodd ei
enedigaeth fraint. Ond os ydych chwi
yn gwerthu eich unig eneidiau am felyswedd bawlyd pechod, neu yn esgeuluso eu
lles, efallai o herwydd ofn dyn, yr hwn sydd yn dwyn magi, pa le y mae
rhagorjaeth eich doethineb?
2. Mae y gyfran hon o’r hanesyddiaeth
ddwyfol yn addysg i rieni a phlant er atal tymer ddrwg yn ei chodiad
cyntaf. Nid yn unig
y mae yn difa yn ddirgel y
Y PAECH. JEN-KIN JEKKINS. -
------------------------------------------------(x055)
fynwes lle y mae yn trigo, ond mynych yr arweinia i weithredoedd ysgeler.
Dysgwn, gan hyny, i fygu ar unwaith, yn llwyr, y chwythygrwydd teimlad cyntaf;
i’c, y cligter lleiaf. Darostyngwn yr anghenfil yn ei fab-anclod, onide efe a
fydd yn drech na ni ar ol iddo dyfu i’w faintioli. Cymerwn wersi o esiampl
oddiwrth fwyneidd-dra ein Ceidwad; a phan y byddom yn methu ei ddilyn, awn at
ei groes am laddeuant a nerth.
3. Dysged rhieni oddiwrth Salome i amddiffyn addysg grefyddol i’w plant, fel
peth annhraethol fwy pwysig nac ymarferiadau ac addurniadau gwageddus. Difritbl
ystyriant fod eneidiau gan eu plant; eu bod yn greaduriaid rhesymol, cyfrifol,
ac anfarwol; ac hy-fforddant hwy yn gyfatebol. Wrth sylwi ar ddull llawer yn
codi eu hiliogaeth, gellid meddwl eu bod wedi mabwysiadu athrawiaeth y
Saduceaid, h. y., nad ydynt yn credu fod adgyfodiad, nac angel, nac ysbryd; fod
angau yn terfynn bodolaeth dyn am byth; mai y rhai sydd yn byw fwyaf anystyriol
ydynt y rhai doethaf, gan ddywedyd, “Bwytawn ac yfwn, canys yfory marw yr
ydym.”
Hwyrach y bydd rhai yn barod i ateb yn surllyd, A wnawn ni atal ein plant
oddiwrth bob pleser diniwed! A wnewch chwi eu hanog i ymwrthod a difyrwch yr
oes, gan dreulio blodau gorwych eu hieuenctyd mewn penwandod penddarllyd? Nid
ydym yn gofyn dim. sydd afresymol. Ni fynwn eu hatal oddiwrth un hyfrydwch y mae
Duw yn ganiatau iddynt, ac nad yw yn anunol & phethau gwell. Ni fynwn eu
hatal oddiwrth un hyfrydwch nad yw yn eu gwrthwynebu at gyflawni eu
dyledswyddau tuag at Dduw, a’u daioni penaf. Eto, ni wnawn ganiatau iddynt
rodio yn ffyrdd eu calonau, ac yn ngolwg eu llygaid gwamal, i gydymffurfio a’r
------------------------------------------------(x056)
TRAETHOBAU, &C.,
byd sydd yn gorwedd yn ei ddrygioni, a dilyn lluaws i wneuthur drwg, yn gymaint
mai am hyn oll y bydd i Dduw eu galw hwynt i farn. Yn hytrach, ni a’u cynghorwn
yn gyntaf i geisio teyrnas Dduw a’i gyfiawnder ef—i gofio yr hyn a ddywed ein
Ceidwad, “ Y sawl a’m carant i a garaf finau; a’r sawl a’m ceisiant yn foreu,
a’m cant.”
Gan mai creaduriaid Duw ydynt, oni ddylent ei wasauaethu? Pa ddyledswydd sydd
yn fwy rhesymol iddynt na chofio eu Creawdwr yn nyddiau eu hieuenc-tyd, a bod
yn barod i gyfarfod a Duw? Mae yn eithaf rhesymol iddynt ddianc rhag y llid a
fydd, a sicrhau iddynt eu hunain drysorau yn y nef. A all rhieni feddwl am eu
plant, y dichon Duw eu galw oddiwrth eu pleserau pan yn eu hieuenctyd ger bron
gorseddfainc Crist, heb fod eu cydwybodau yn eu cyhuddo,- neu yn eu hesgusodi,
yn ol eu hymddygiad tuag atynt? Paham, ynte, yr hyfforddwch hwynt yn llwybrau y
fall—ydysgwch hwynt i droseddu deddfau lor—y gadewch hwynt i dori Sabbothau
Duw, yn fwy na dysgu ei Air ef yn yr Ysgol Sul, ac yr ymfoddlonwch iddynt
gyrchu i olygfeydd a champau ofer? A ydynt fel hyn ddim yn annghofio Duw? A
ydynt ddim yn magu a meithrin teimladau anmliarod fel deiliaid byd arall? Mae
eich plant yn edrych atoch chwi am gyngor. Maent yn dilyn eich esiampl, ac yn
parchu eich awdurdod. Mor bwysig, gan hyny, yw eich cyfrifoldeb a’ch
rhwymedigaeth! Am hyny, O, bydded eich cyngor, eich esiampl, a’ch awdurdod—mewn
gair, effaith eich holl awdurdod tuag atynt y fath, fel, pan y gweloch hwynt yn
eich gadael yn nhagfa marw, neu i chwi eu gadael hwy yn y cyfryw, na byddo
iddynt eich condemnio ger bron Barnydd yr holl ddaiar. Amen.
Y GOLYGFEYDD DIWEDDAE AR FYWYD PENDEFIGES URDDASOL.
------------------------------------------------(x057)
Ryw amser yn ol cefais fy ngalw i ymweled a phendefiges obeithiol pan ar ei
hangeuol orweddle, ac i dystio golygfeydd sydd yn dwys ddwfnhau effaith
ystyriaethau y meddwl. Fe’m
tueddwyd i ymweled a hi ar y cyntaf ar ddymuniad cyfaill. Eisteddai ar
esmwythfainc, gan bwyso ar obenydd. Ni allesid barnu wrth ei hymddangosiad ei
bod mor agos i’w hymddatodiad ag ydoedd. Yr oedd ei nith a’i chwaer yn
bresenol. Ar ol ymddiddan ychydig eiriau, gofynais iddi a oedd yn ewyllysio fy
ngweled yn fwy unigol. Dy-wedodd mai hyn ydoedd ei dymuniad. Gyda hyn ei
charenydd yn union a eneiliasant i ystafell arall.
Dechreuais y gyfeillach, gan ymholi paham y danfonodd am danaf, oblegid nid
oedd yn ymddangos ei bod mewn un perygl uniongyrchol. Dywedodd ei bod yn dymuno
ymddiddan a mi am bethau difrifol. Holais hi am natur ei hafiechyd. Dywedodd
wrthyf fod ei haflechyd o hen arosiad, ac ofuai ei fod hefyd yn
au-feddyginiaethol. Yr oedd ei hysgyfaint yn gwaethygu, a dwfr yn aros rhwng ei
dwyfron. Wrth i mi droi ati yn nghylch pethau ysbrydol, amlygai alar nid bychan
o barth idd ei hiechydwriaeth, gan ddyweyd fod yr ofnau mwyaf ar ei meddwl, mai
yn golledig y byddai hi yn y diwedd.
Pel yr oedd natur ei dolur yn gwneuthur ei had-feriad yn gwbl anobeithiol,
ystyriais mai fy swydd ddyledus oedd dywedyd wrthi, nad tebyg y byddai iddi
------------------------------------------------(x058)
TRAETHODA0, AC.,
wellau mwy; er y gallasai hi fod yn dihoeni am wythnosau, ac efallai fisoedd,
eto y byddai idd ei hafiechyd presenol ei dwyn i’r bedd, a hyny wrth bob
tebygolrwydd gyda buandra. Dywedais fod pob dyn, o ba sefyllfa bynag y byddai,
os oedd yn amddifad o wir edifeirwch, Sydd yn Nghrist, a chariad at Dduw, ag
achos mawr i ofni; eto fy mod i yn hytrach yn caru ei gweled hi yn yr agwedd
hon o ran ei meddwl na phe buasai mewn difaterwch ac anystyriaeth; er y cwbl,
ei bod yn hollol amddifad o wir obaith am wynfydedigrwydd diddiwedd. Ni
wnaethum un ymgais i ladd ei “ hofnau, ond amcenais fwyhau yr argraffiadau
difrifol oedd ar ei meddwl, trwy aros ar burdeb Duw, santeiddrwydd ac eangder
ei gyfraith, ei barhaus gasineb at bechod, a’i benderfyniad idd ei gosbi yn ol
rheolau diwyrni ei gyfraith burlan. Grwrandawodct ar hyn oll gyda neillduol sylw,
ymddangosai megys wedi ei gorlanw gan argyhoeddiad o’i phechadurusrwydd, a’i
hamddifadrwydd o un gobaith am faddeuant.
Wrth’ ganfod ei meddwl mor barod i ddyrnod y gwirionedd, a’i chalon mor
dderbyniol o’i rym, adroddais iddi fy sefyllfa fy hun:—” Bu fy argyhoeddiad i,
efallai, mor ddwfn a’r eiddo chwithau. Mi a gefais mai, peth niweidiol a chwerw
iawn yw pechu yn erbyn Duw, ac oni buasai crediniaeth fod Iesu Grist wedi dyfod
i’r byd i gadw pechaduriaid, buaswn mor druenus fy sefyllfa ag ydych chwi y fynyd
hon.” Hysbysais iddi sylfeini fy ngobaith fy hun, a phregethais yr efengyl iddi
yn ei holl radlonrwydd. Beth bynag, nid oedd yn derbyn dim diddanwch oddiwrth y
gwirionedd, a dywedodd ei bod yn ofni y byddai byth yn
T PARCH. JENKIN JENKINS.
------------------------------------------------(x059)
golledig. Gelwais i mewn ei
pherthynasau, ac ar ol darllen a gweddio ymadewais.
Tua’r cyfnos cefais fy ngwysio i ymweled a hi drachefn, oblegid tybiwyd ei bod
yn marw. Gyfodais o’m gwely, ac ufuddheais i’w deiseb. Yr oedd y lleuad
felynwen yn ymddisgleirio yn ei thanbeidrwydd eangaf, y mor, ar hyd lanau pa un
y rhodiwn, ydoedd ddi-gyffro, a phelydrau y llu nefolaidd oeddynt yn
disglaerhavdd dywynu ar ei wynebpryd llydan. Nid oedd cwmwl crogedig i’w weled
yn yr awyrgylch. Nid oedd cyinaint ag awel yn mudo i ddeffroi llonyddwch natur.
Y cwbl oedd dawel a distaw. Nid oedd yn ddichonadwy fod yr argraffiadau a
ddygwyd ar y meddwl trwy yr olygfa hon, ddim amgen na syndod o herwydd
doethineb a gallu Duw, mewn diolchgarwch gwresog iddo am ei ddaioni i’w
greaduriaid. Ond yr
oeddwn yn dynesu at olygfa lled wahanol i hon. Yr oedd un yn profi fod Duw yn
ddoeth, galluog a da; a’r llall yn fy nysgu fod gweithrediad perffeithderau
eraill moi rheidiol at ddiogelu heddwch a dedwyddwch byd colledig. Tu allan,
pob peth oedd dawel; ond tu fewn drysau y ty i ba un y gwahoddasid fi, pawb
oeddynt mewn gwae a chyffro. Yr oedd y • cyferbyniad ar unwaith yn hynod, syml,
ac addysgiadol.
Mi a gefais Mrs. H. yn pwyso ar fynwes ei nith. Ei hahadliadau oeddynt
gaethiwus, curiadau y galon yn ergydio y gwaed trwy ysgogiadau ei phabell
oeddynt annhrefnus yn eu rhediadau bwhwmanllyd, a’r ymwelydd meddygol a athrist
ddisgwyliai bob pum’ mynyd i’r marchogwr gwelwlas dychrynllyd orphen ei hoedl.
Yr oedd ei meddwl mewn dirfawr ing yn gystal a’i chorff. Mae y 38
Salm yn ddarluniad o’i sefyllfa. Yi
------------------------------------------------(x060)
TRAETHODAU, &C.,
oedd llaw Duw yn drom ami; ei chamweddau oeddyni yn faich mawr iddi, i’e, yr
oeddynt yn rhy dnvm iddi hi eu dwyn. Gofynais i’w pherthynasau paham y
dari-fonasent am danaf; nad allwn wneyd gwyrthiau, i ad-feryd ei hiechyd na
gweini un heddwch i’w chydwybod. Dywedasant wrthyf ei bod hi yn dymuno fy
ngweled, fel y bydd’ai i mi weddio drosti hi. Gofynais iddi pa beth oedd hi yn ddymuno. Yr oll a allasai
hi ddyweyd oedd, “Gweddiwch, gweddiwch.” Penliniasom i lawr, a gweddiais am
drugaredd a heddwch iddi; am iddi gael ei phuro, a’i gwneuthur yn addas i fyned
i’r nefoedd. Nid oeddwn yn heiddio gweddio am ei hadferiad, am fy mod yn ei
gweled yn ymylu i ymddangos ger bron Duw. Codasom oddiar ein- gluniau,
eisteddais yn union o’i blaen hi. Yr oedd mewn cyfyngderau mawrion. Trywanllyd
oedd y fath olygfa i’r galqn. Yr oedd gofidiau ei meddwl cythryblus yn fwy o
lawer na’r rhai corfforol. Yr oedd yr holl olygfa yn eithaf adfydus. Yr oedd
amrywiol bersonau yn yi ystafell. Rhai yn eistedd mewn dystaw alar. Y meddyg yn
gwneyd yr oll a allasai er cynorthwy iddi; ei nith yn ei chynal gan wylo yn hidl;
mewn gwirionedd, gormod gorchestwaith oedd i’r teimladau dewraf, wrth weled
chwerwon ddagrau a thorcalonus riddfanau hon, beidio dryllio. Y dyoddefydd
tlawd ei hunan yn syml feddwl am ei diwedd, ac ar rai amserau, pan y byddai
ffyrnigrwydd ei phoenau yn caniatau iddi, yn llefain am drugaredd—”Cadw fi,
cadw fi, Crist, arbedfi. • Maddeu, maddeu; er mwyn Iesu, maddeu.”
Parhaai y geiriau hyn i gael eu parablu ganddi aml dro mewn llais soniarus, i
glyw y rhai oedd yn agos i odre yr eisteddfainc lle yr oedd yn eistedd. Llefarais wrthi rai troion, gan
Y PAECH. JENKIN JENKINS.
------------------------------------------------(x061)
nodi rhai o’r manau mwyaf tueddol o’r Ysgrythyr i gyfarwyddo ei meddwl i edrych
ar Iesu yn unig. Dy-wedai nad oedd ganddi un gobaith arall, er yr amlygai hyn
mewn ofnau mawrion. Gadewais hi am bump yn y boreu, yn debyg yn yr un sefyllfa
ag yr oedd pan y daethum ati am haner nos.
Ymwelais a hi wedi hyn am naw o’r gloch boreu ddydd Mawrth. Bi chyfeillion
oeddynt yn parhaus feddwl ei bod ar drengu yn yr angau. Nid oedd yn awr yn
medru llefaru, ao ni allai amlygu ei dymuniadau amgen na thrwy amneidiau.
Gofynais, “A gaf fi weddio drosoch am eich adferiad?” Ysgydwodd ei. phen mewn
iaith ddystaw, gan droi ei llygaid a chodi ei llaw tua’r nef, i amlygu ei
hiraeth am fyned yno. “ Mae y nefoedd yn lle santaidd gystal ag
yn lle dedwydd.” Edrychai
yn gydsyniol. “A ydych chwi yn dymuno ei phurdeb fel ei dedwyddwch?” Cydsyniodd
trwy amnaid. Myfi a’i holais hi, a oedd yn gas ganddi am bechod. Ei golwg oedd
yn datguddio casineb. Am ei gobaith yn Nghrist, rhoddai ei nagwedd ar ddeall
fod ganddi obaith gwan yn gymysg ag ofnau mawrion, yn nghyda dymuniadau
annhraethadwy. Gweddiasom. Codais oddiar fy ngliniau, a gadewais yr ystafell
mewn ofn na buaswn yn ei gweled mwy ar y ddaear.
Gelwais yn y prydnawn. Yr oedd hi yn well. Amrywiol o’i chyfeillion oddiamgylch
iddi mewn cyfyngdra mawr. Trodd un o honynt ataf can gynted ag y daethum i’r
ystafell, gan ddywedyd. “ Syr, dynes hynod a rhagorol yw hi,” neu ymadrodd
cyffelyb i hyn; “mae ei hymddygiad wedi bod yn ddianaf; nid oes achos o’r holl
wban hyn.” Nid oeddwn yn disgwyl
------------------------------------------------(x062)
TRAETHODAU, &C.,
gweled ymddygiad o’r natur yma, na chlywed y fath iaith. Yn uniongyrchol
dywedais, “Anwyl Syr, ni wna yr athrawiaeth hon y tro yn awr.” Bisteddais yn
ei hymyl, a dywedais, “A ydych chwi,
Mrs. II------,
wedi bod yn ddynes ragorol, fel y mae eich cyfaill yn tybied?” Dywedodd (gyda’r ymddangosiad o’r
hunan-ffieiddiad mwyaf,)—” Mae y cwbl a ddywedodd .yn gyfeiliornad am
dauaf.” “ Yr wyf yn gobeithio nad ydych
chwi ddim yn meddwl y medraf fi eich cadw chwi. Yr ydych yn danfon am danaf yn
aml; yr wyf yn ofni eich bod yn ymddibynu gormod arnaf fi.” “Arnoch chwi! Chwi i’m cadw!! Na,
na!” “ A ydych chwi yn meddwl cadw eich
hun? neu a oes genych chwi ddim, gobaith o un lle arall?” “ Nid oes genyf un gobaith ond Crist,”
oedd yr ateb. “ Cedwch eich golwg
arno.” “ Yr wyf yn galw arno beunydd.
A ydych yn meddwl y gwna fy ngwrando?” “ Yr wyf yn hyderus y gwna. Nid yw yn bwrw ymaith neb a ddaw
ato mewn un modd.” “ Och! yr wyf y fath bechadur mawr.” “ Daeth ef i geisio ac
i gadw y penaf. Bu farw dros
bechaduriaid. Mae yn byw bob amser i
eiriol drostynt—y fynyd hon ger bron y Tad.
A phaham nad yw trosoch chwi? —’ Pel na choller pwy bynag a. gredo ynddo
ef, ond caffael o hono fywyd
tragywyddol.’ “
Ar ol ychydig o ddywediadau ychwanegol er cysur iddi, dywedais, “Y mae yr
Arglwydd wedi bod yn dirion iawn tuag atoch; ni ddisgwyliais eich gweled yn
fyw.” “ Y mae ef yn dyner iawn o honof, yn wir; efe a arbedodd fy mywyd ychydig
eto, er goleuo, yr wyf yn hyderu, yr enaid tywyll hwn.” Bum yn ei chyfeillach
VT ymweliad hwn am enyd o amser. Cefais ei bod dan argraffiudau dyfnion am ei
chyflwr, ac nid yr amser
Y PAECH. JBNKIN JENKINS.
------------------------------------------------(x063)
hwn yn unig, ond gwyddwn ei bod wedi teimlo dwys argraffiadau er’s rhai
blynyddau yn ol. Synais i raddau ei bod mor wybodus yn yr Ysgrythyr, wrth ei
hymostyngiad i reolau y Nef, yn nghyda’i dymuniadau am feddianu gwir
edifeirwch, a theimladau grasol yr Ysbryd Glan; y melysder o’u meddu sydd
guddiedig i bawb ond y rhai sydd wedi eu gwir bron. Darllenais y 12fed benod o
Bsay, gweddiais, yna mi a ymadewais. Dydd Mercher, cet’ais hi yn wael iawn, ac
yn ymddangos ei bod ar fin marw. Gelwais yn yr hwyr, a chefais gryn dipyn o’i
chyfeillach, yr hon oedd felus, addysgiadol, a bendithiol iawn. Amlygai
ddymuniadau cryfach am deimlo bias maddeuant pechod nag erioed o’r blaen. Gan
fy mod yn hysbys o’i gwybodaeth yn yr efeugyl, dywedais, “ Madam, chwi a
wyddoch y gwirionedd gystal a minau. Gwyddoch nad oes un ceidwad ond Iesu; nad
oes yr un gwaed yn glanhau oddiwrth bechod ond yr eiddo ef yn unig; fod
iachawdwriaeth o ras yn gwbl,” &c. Yr oedd yn cydfyned a hyn oll. Yna
gwnaethym rai ymofyniadau yn nghylch yr amser y daeth gyntaf i adnabyddiaeth
o’r gwirionedd. Dywedodd wrthyf ei bod wedi clywed yr efengyl gan.y Parch. S------1,
yn nghapel---------, a b’od ei meddwl wedi ei, ddwys effeithio—«i bod wedi
cyflwyno ei hun i Dduw—ei bod wedi cyfranogi o swper yr Arglwydd, a’i bod wedi
teimlo heddwch ac hyfrydwch yn ffyrdd crefydd. Dywedodd ei bod wedi teimlo
pleser mawr mewn crefydd cyn iddi gael, y tro diweddaf, ei chyfyngu mewn ffordd
deuluaidd; ei bod wedi taer weddio ar Dduw am ymwared yn awr ei thristwch; ond
ei bod wedi talu i Dduw, ar ol ei holl ddaioni tuag ati, yr anniolchgarwch
mwyaf. Cafodd ei gogwyddo gau
------------------------------------------------(x064) TEAETHODAU, &C.,
ei hanwylaf gyfaill daiarol yr un ffordd ag yntau; gad
awodd y weinidogaeth lle y derbyniodd gysur i’w henaid; ao wedi ei hudo gan
dwyll pechod, buan y symudwyd hi i lynclyn cyfeillgarwch hoewych, ond tra
gwageddus, yr hon oedd yn wastad yn gyrhaeddadwy iddynt, gan nad oedd en
hamgylchiadau natnriol byth yn eu lluddias.
Tystiai ei dirfawr ofid am ei gwrthgiliad oddiwrth achos Duw, ac
ofnai na wnai Duw byth
faddeu iddi. Ni roddais un
ceftiogrwydd iddi i feddwl yn ysgafn am bechod, ond amcenais ei osod o’i blaen
yn ei liwiau duaf. Beth bynag, nid
oedd cymaint o eisiau gwneyd hyn, oblegid yr oedd yn ffieiddio ei hun yn barod,
gan edifarhau mewn llwch a lludw. “A
roddodd y byd a’ch dencdd oddiwrth Dduw
i chwi foddlonrwydd a chysur?” “
Naddo, fe’m gwnaeth yn • druenns
iawn.” “ Pan ymunasoch chwi a’r fath
gyfeillach niweidiol, a ddarfu i chwi yn union roddi y ddyledswydd o weddio
beibio, a’ch dafodau crefyddol?” “ Na ddo, nid oedd fy nghydwybod yn caniatau i
mi wneuthur hyn, ond ymadawodd ysbryd gweddio a mi fel gwlith borenol.” “ Yn mha oleu yr ydych yn awr yn ystyried
y gyfeillach, y gau-bleserau a’ch niweidiasant i’r fath raddau?” “ Nid ydynt yn awr ddim i mi.” “ Pe byddai
i Dduw eich adferyd i iechyd eto, a wnaech chwi ymuno o’r newydd a’ch gwageddus rwysgfawr gyrndeithion?” “ Pe gwnawn, ni byddai eu cyfeillach i mi
ond gofld ac euogrwydd cydwybod.”
Ymddangosai yn ofidus am na
ddywedasai wrthyf o’r blaen am ei blaenorol deimladau crefyddol. “ Na feddyliwch fy mod am roddi i chwi un
drychfeddwl anghywir am fy nodweddiad, gan gnddio dim rhagoch.” Yr oedd ei nagwedd yn tystio ei
geirwiredd. “ Paham na ddywed-
T PARCH. JENKIH JEHKINS.
------------------------------------------------(x065)
asoch chwi hyn wrthyf yn rhai o fy ymweliadau blaenorol?” “ Ni allaf ddim dyweyd, ond nid oddiar un
dymuniad i dwyllo.” “ Yn eich
ymofyniadau difrifol am iachawdwriaeth, a ddarfu i chwi ddim anghofio pob peth ond eich pechod, eich
Ceidwad, a thragywyddoldeb?” “ Gwir,
yr oedd fy holl eiiaid yn gorphwys am
faddeuant a bywyd yn nawdd Duw; a thaflodd y rhai hyn bob peth arall o’r
meddwl. Y mae yn dda iawn genyf eich
clywed yn yrnddiddan a mi fel hyn, ond
O, mor wael yr wyf yn teimlo fy hun.”
Eisteddais o’i blaen, a darllenais ranau o’r 51 Salm, y manau rhwyaf
atebol i’w sefyllfa. Yr oedd eifaith
ddwys ar ei meddwl o’r oll a ddarllenais; sylwodd yn neill-duol ar y 9fed y
lOfed, yr lleg, a’r 17eg o adnodau.
Wrth ddarllen yr 17eg, gwnaethym rai nodiadau ar y cefnogrwydd sydd ynddi i bob
gwir edifeiriol. Meddai hi, “ Y mae
arnaf ofn nad y w fy nghalon ddim yn
ddigon drylliog.” “ Gwaith Duw yw
meddalhau y galon.” “ O Arglwydd, dryllia fy nghalon yn fwy
nag erioed.” “ A gawn ni weddio am
faddeuant a hedd-wch—am
sancteiddrwydd a bywyd
tragywyddol?” Penliniwyd a gweddiwyd, gan ddechreu mewn cyfadd-efiad o’n
llygredd moesol, gan briodoli daioni a chariad i Dduw; gan gyffesu ein
troseddau gweithredol, a’n camddefnydd o’r bendithion goreu, gan dystio ei
sefyllfa a’i nodweddiad fel gwrthgilwraig; gan
ddymuno ar Dduw faddeu, adferyd, cymwyso, a’i derbyn ato ei hun. Wedi i ni gyfodi, gwasgodd fy lla^ gyda
gwresawgrwydd, a dywedodd, “ Dyma y peth
yr oeddwn yn ymofyn am dano.
Ond y mae arnaf ofn nad ydyw fy nghalon yn ddigon drylliog, a’m hysbryd
mor dodd-E
------------------------------------------------(x066)
TRAETHODAU,
T PARCH. JENKIN JENKINS.
------------------------------------------------(x067)
edig ag y dylai fod.” Dywedais, “ Duw
yw y barnydd goreu am hyny.”
Bu farw ei hunig blentyn pan ond deg oed, gan roddi y boddlonrwydd mwyaf yn ei
thystiolaeth ei bod yn feddianol ar galon newydd, ao ysbryd parod i’r anfarwol
ororau gwynfydedig tu draw crafangau y bedd.
Wrth giarad am y ferch hon,
dywedai, “ Y plentyn anwyl bwn sydd yn awr yn y nefoedd, a ddwfnhaodd
ystyriaethau difrifol ei thad. Mae ei
lythyrau yn wahanol iawn yn awr i’r hyn oeddynt arferol a bod. Mae ef yn dyweyd fod ei holl obaith ef yn
Nghrist.” “ A ydyw hyn ddim yn gysur
mawr i chwi?” “ Ydyw, yn gysur
cryf.” “ A dderbyniasoch chwi
ddim llythyrau o’r natur hyn cyn i chwi ddyfod i H— -?”
“ Do.” “ A ddarfu i hyn fel moddion eich dwyn i weddio, ac i dalu
diolchgarwch i Dduw?” Dim
atebiad. Yr oedd y gyfrinach yn awr wedi bod ar yr hwyaf i’w phabell wael
a chrynedig, a’i hysbryd yn dechreu
terfysgu. Cyfodais i ymadael.
Mewn-agwedd dremedig edrychai arnaf, trwy’r hon y tywynai nodweddiad o
hunau-ffi-eiddiad, wedi selio ei diragrithrwydd a dagrau edifeirwch am ei
phechodau. Mewn ciliad trodd ei golwg
at yr eisteddfan lle yr eisteddaswn.
Dywedodd, “ Dyma’r fan y buoch am hir amser gyda’r fath adynes.” Dad-guddiai ddymuniadau taerion am
ddylanwadau yr Ysbryd Glan, ac am raddau helaethach o gariad Crist, gan
ddyweyd, ei bod yn ofni yn fawr nad oedd yn ei garu fel y dylasai.
Y dydd canlynol, am bump yn y boreu, yr oedd yn wanaidd a gwael iawn. Rhai o’i
geiriau cyntaf oeddynt, “ Yr ydych chwi yn wir gyfaill. Dywedasoch wrthyf yr
holl wirionedd. Profwch fi eto; ni ddy
mnnwn dwyllo fy hun.” Dywedais wrthi hi, “ Tybiwn eich bod yn cael eich adferyd
i’ch iechyd, yr hyn sydd hollol annhebyg, a ydych chwi yn meddwl y parhaech i
anghofio Duw a’i achos eto?” “ Mae arnat ofn y gwnawn; ond fy nymuniad yw glynu
wrth yr Arglwydd, a thrigo dan gysgod ei adenydd.” Yr oedd ychydig draethodau
yn fy llaw, a chyfrenais hwynt i’r ymwelwyr oedd yn yr ystafell. Dywedodd hithau wrthyf, “
Rhoddwch un i mi.” Rhoddodd orchymyn yn ei hewyllys i roddi dau gant o ddoleri
i Gymdeithas y Traethodau. Yr oedd ei meddwl erbyn hyn yn dra chysurus, a’i
hofnau wedi cilio. Gadewais hi mewn gobaith fod fy ymweliad heb fod yn ofer.
Ar ol y gwasanaeth, yr hwyr Sabboth, yr oedd yn llawer gwell, ac fe’m
calonogwyd yn fawr trwy ei thymer deimladwy a diolchgar. Bi phrif ddymuniad
oedd i’w hewyUys gael ei lyncu i fyny i ewyllys Duw. Yr oedd ei hofnau agos
wedi eu llwyr symud, ac ymostyngiad a thawelwch ysbryd wedi cymeryd eu lle.
Gofynodd i mi weddio am ychydig fynydau, gan ddyweyd ei bod yn ofni fy mod yn
lluddedig ar ol llafur y dydd. Dydd Llun yr oedd yn sal iawn. Aethym i’w hanedd
am unarddeg yn yr hwyr, ac a arosais yno hyd bedwar yn y boreu. Yr oedd yn
dyoddef mewn gwasgfa galed. Ei gwasgfeuon oeddynt dorcalontis; ond yr oedd yn
ymddiried yn Nghrist, ac am ddyfnach edifeir.wch, a chynydd teimlad o
hunan-ffieiddiad. Yr oedd gair Duw yn awr yn werthfawr yn ei golwg, a derbyniai
lawer o ddyddanwch a chysur oddiwrth rai rhanau o hono.
Y dydd canlynol ymddangosai yn wael iawn.
Yr oedd ei hysgyfaint yn rhoddi ymaith, ac angau mewn
------------------------------------------------(x068)
TKAETHODAU, &C.,
sicrwydd yn dynesu, ond nid yn y fath agwedd ddychrynllyd ag y gwelwyd ef rai
amserau. Yr oedd arm lawer o ofnau, nad oedd ei hedifeirwch yn ddigon dwys, nad
oedd ei hunan-ffieiddiad am ei hanniolchgarwch i Ddnw y fath ag y dylasai iddo
fod. Beth bynag, wrt.h ymofyn a hi, cefais ei bod yn ymwadu & hi ei hun—yn
ymddiried yn Nghrist; ei hatebion a’i hysbryd oeddynt ddymunol a boddlongar.
Y dydd canlynol (Mercher), yr oedd ei chorff mewn gloesion mawrion, ond ei
meddwl mewn dull ysbrydol a nefolaidd.
Yr oedd yn disgwyl am
ymddatodiad buan, ac yr oedd—nid yn unig yn ymddangos ei bod yn barod—ond yn
hiraethlawn am ei mawr gyfnewidiad.
Dywedodd, “ Yr wyf yn dyoddef llawer; ond beth yw y dyoddefiadau hyn i’w
cyferbynu i’r eiddo fy Arglwydd Iesu!
Yr wyf wedi bod yn meddwl am Gal-i’ariaj yr wyf yn cofio ei groes. O,
pa fodd yr anghofiaf hi! ‘Mae arnaf chwant i’m datod, a
bod gyda Christ; efe a dderbyn fy ysbryd.”
Dywedais, “ Nl wrthyd efe neb a ddaw ato; mae yn achub hyd yr eithaf. ‘
Trowch eich gwynebau ataf fi holl gyrau y ddaiar, fel y’ch achuber.’”
Dymuriodd arnaf adrodd y 23 Salm. Pan y daethym at y bedwaredd adnod,
dywedodd,” Dyna yr ad-nod yr oeddwn i yn meddwl am darii.”
Pan yr oedd dan un o’r pangfeydd echryslonaf, yr hon a dybiai a fuasai yr olaf
iddi hi, ao a achosodd yr ing mwyaf dychrynllyd iddi, dywedodd, pan y
caniataodd ei phoenau fynyd iddi lefaru, “Byddaf yn fuan mewn gogoniant.”
Ymuniawnodd, a dyoddefodd un-rhyw bangfeydd adnewyddol. Dywedius, “ Nid ydych
ddim yn myned i’n gadael ni eto.” Dywedodd, “ O, am amynedd i ddyoddef yr oll a
welo Duw yn dda!
Y PAKCH. JENKlN JENKINS.
------------------------------------------------(x069)
Fydd hyn ddim yn hir. O na byddai yr ymgyrch hwn heibio! Ond mor bechadurus wyf nad
ymostyngaf. Arglwydd, par i mi ymostwng.” Yr oedd ei llais yn ddrylliog iawn
pan yn dyweyd, “ Nid oes bwrw arfau yn y rhyfel hwn. Gwr garw ydyw angau, er
fod ei golyn wedi ei dynu. Dy ewyllys di, O Arglwydd, a wneler.” *’
Yr hwyr, rhwng chwech a saith, cefais hi lawer yn well. Dy\ved.odd, “ Yr wyf
wedi bod yn gweddio am ddylan waclau yr Ysbryd Glan, ond yn ofni na chefais
ddim o honynt.” Meddyliais ei bod yn meddwl am gael rhyw deimladau megys yn
wyrthiol ar ei meddwl. Dywedais wrthi, nad oedd ei hargyhoeddiad o bechod, ei
hu’ian-ffieiddiad, a’i hymorphwysiad ar gyfiawnder Crist, wedi dyfod oddiar un
argraffiadau naturiol, oud yn hytrach wedi deilliaw trwy ddylanwadau yr Ysbryd
hwnw yr oedd hi mor hiraethlawn am ei feddu; fod Duw yn fynych yn rhoddi
heddwch cydwybod cyn rhoddi llawenydd yn y galon; a’n bod yn feddianol o’r
cyntaf yn arwydd goleu am ddyfodiad yr ail. Nis gwelais hi o’r pryd hwn hyd y
Sabboth, yr 8fed o Hyd-ref. Y dydd hwn yr oedd wedi gwaethygu yn fawr. • Yr
oedd ei nerth yn cyflym ddibenu, ei llygaid yn torwynu, a’i lleferydd yn
gwanychu. Hi a’m hadnabu, ac yn serchog gwasgodd fy llaw, gan ddyweyd ei bod yn
caru Iesu; a chan fod Duw wedi ei gadael hi cyhyd, os oedd yn ol ei ewyllys, na
buasai hi ddim yn anfodd-lon i aros ychydig yn hwy, i fod yn fwy cadarn yn ei
rtydd.
Dydd Llun caulynol, gwelais hi; yroedd yn gysglyd, ei meddwl yn ansefydlog, ac
yn tynu yn gyflym at ei diwedd. Bu farw y prydnawn canlynol. I!,
I
------------------------------------------------(x070)) , TRAEtHODAtr,
40.,
Gwnawn rai addysgiadau oddiwrth y ffeithiau hyn. Mor fawr y llanwyd yr
wrthgilwraig hon a’i ffyrdd ei hun!
Mor fawr yw amynedd a thrugaredd y Duw y darfu iddi hi ei
dramgwyddol Megys yr edrychodd ar
Pedr gyda golwg dreiddiol, argyhoeddiadol a theimladol, i’w ddwyn yn ol o’i
wibdaith wrthgiliedig, ac megys yr wylodd Pedr yn chwerw-dost; felly hei’yd yr
edrychodd ar y gwrthddryc hhoff hwn o’i benarglwyddiaeth, gan dywallt y gras
o_wir edifeirwch i’w chalon, a hunan-ffieiddiad am ei hanniolchgarwch tuag ato, fel y byddai iddi gael ei
pharotoi i’r gwynfydedigrwydd pur yn yr annhraethol drigfaiiau dedwyddol sydd
yn nghadw i bawb a’i carant ef.
Cymered y dyn sydd yn beunyddiol esgeuluso ei argraffiadau crefyddol rybudd
oddiwrth yr hanes hwn. Cofled fod terfyn ar hirymaros Duw; ac os ar ol aml
geryddon y caledir y war, fod dryllio disymwth yn dyfod fel na byddo
meddyginiaeth. Na wangaloned yr hwn
sydd wedi blino cloddio pydewan toredig, ond cofled nad oes achos iddo
drengu. Dyma lef yr hwn sydd yn
rhoddi y dwfr bywiol, “ Od oes ar neb syched, dened ataf fi, ac yfed.” Yr hwn sydd yn gwroli ei hunan .yn ei galedwch aiiedifeiriol, a’i galon
fel yr adamant, yn dyweyd wrth Dduw,” Cilia oddiwrthyf; nid ydwyf yn
ewyllysio gwybod dy ffyrdd,” y mae ganddo reswm dros ofni ei gyflwr. Ond y troseddwr edifeiriol, y gwrthgiliwr
dychweledig, y mae ganddo sylfeini cedyrn i obeithio am
iachawdwriaeth,—nodweddiad Duw, gras eiu hanwyl Geidwad, a’r seigiau lluosog
sydd yn huliedig ar ei gyfer ar fwrdd yr efengyl.
YSBEYD MADDEU.
------------------------------------------------(x071)
\ Cymerwyd y gyfran a ganlyn genyf
allan o bregeth
draddodwyd yn Athrofa Dduwinyddol Andover, ar larwolaeth Lyman a Munson, y
cenhadon a laddwyd yn Ynys Sumatra. Gosodir yma ysbryd crefydd ein Harglwydd yn
amlwg iawn.
Mi a gaf gyffwrdd ag un nodiad yn rhagor; hyny yw, fewir ysbryd crefydd Iesu.
Mor eang ydyw, ac mor wahanol oddiwrth ysbryd. y byd. Bin hanwyl frodyr a
ladd-rtyd gan lwyth o wancwyr (cannibals), yn ddiddyn’ oliaeth. o fewn Ynys
Sumatra, pa rai, oddiar yr hael-frydedd mwyaf a’r dybenion penaf, a aethent
yno. Pa beth ynawr a gawn ni ei wneyd er dial gwaed diniwaid y cenhadon hyn? A
gawn ni ddanfon deiseb at ein Lly-wodraeth, i ddanfon llu o filwyr yno, a
dyfetha y fath anghenfilod ffyrnig a chiaidd,.gan ddangos iddynt na oddef
America y fath gyflafan i’w deiliaid heb gosbi y troseddwyr? Neu, a gawn ni
weddio am i Dduw wlawio tan o’r nefoedd arnynt i’w dyfetha, trwy en llosgi? Nid
felly, frodyr. Duw’r cariad yw y Duw yr ydym ni yn ei addoli. Ac anfeidrol drugarog yw ein hanwyl Geidwad. Mae yn gorchymyn i’w holl
ddysgyblion ddilyn ei esianipl, drwy feithrin tymer garuaidd, faddeuol, a thosturiol,
‘ie, tuag at yr adyn gwaethaf. Wedi ei adgyfodiad oddiwrth y meirw, efe a
orchymoddl i’w apostolion fyned a phregethu y newyddion da o lawenydd mawr i’r
holl bobl. Gyfarwyddodd hwy i ddechreu yn Jerusalem, lle y lladdwyd
------------------------------------------------(x072) TRAETHODAU, *G.,
“
cymaint o brophwydi a chenadon Duw; le, gorchymynodd iddynt ddeehreu cyhoeddi
edifeirwch a maddeuant pechodau yn ei env/ ef, yn mhlith yr holl werin ag oedd
wedi ei gasau heb achos, ac a dywalltasent ei waed! Wele wir ysbryd ein
crefydd! Ysbryd boneddigaidd, mwynaidd, a maddeuol yw. Qwir ysbryd
cariad yw. Cariad at elynion, erlidwyr, a llofruddion. Yn
berchenog ar yr ysbryd hwn y byddom. Na ddi-/ alwn ar y rhai a ddarniasant ein
hanwyl frodyr, oixA llafuriwn a gweddiwn am eu budd bythol. /
Bydded i’r Genhadaeth gymeryd gofal dwys i ddan/on bendithion gwerthfawr yr
efengyl i Sumatra, i Beta/ lle yn nhiriogaeth yr Ynys hono, y man y lladdwyd
Lyman a Munson. Dewiser y csjihadon i’r dyben, gan eu difrifol ddysgu i
bregethu yr efengyl yn iaith trigolion Sumatra, gan ddeehreu yn Beta. Mewn
llawn h^der yn eu Duw eled y cenhadon hyny yn mlaen, gan gynyg trugaredd i’r
fath adynod tylodion a thruenus./ Ghwil-- iant allan y dynion hyny a laddasant
ein brodyr, gofalant fod yn sicr o fynu hyd iddynt, a dechreu gyda hwy. Gan mai
hwynt-hwy ydynt y rhai cyntaf mewn oreulondeb ac euogrwydd, ymdrechant am eu
lles hwy yn gyntaf. Gyda chalonau tosturiol tuag atynt, a hiraeth am eu
hiachawdwriaeth, cyhoeddant iddynt yr efengyl ogoneddus. Wele, yr ydym ni yn
cyhoeddi i chwi newyddion da. Agorwch eich clustiau i genadwri dwyfol gariad.
Bu yr Iesu farw dros bechaduriaid, do, dros y penaf o bechaduriaid; ac y mae yn
alluog i achub hyd yr eithaf. Yr ydym yn cynyg i chwi, yr euogion o waed,
faddeuant o’ch holl bechodau yn ei enw ef. Nid yw y
Cristionogion a’n danfonodd ni atoch am ymddial arnoch. Nid ydynt yn ceiso dim
T PARCH. JENKIN JENKTNS.
------------------------------------------------(x073)
genych, ond i chwi droi at Iesu, a bod yn ddedwydd byth yn ei deyrnas. Felly y
dywedant wrth y paganiaid truenus a thywyll, am anchwiliadwy olud Crist. Ac os
cyffwrdd gras Duw a’u calonau, trwy eu dwyn i edifarhau, ac os gwelir hwy yn y
diwedd wrth draed Iesu yn galaru am e,u beiau, yn yr olwg ar ei fawr gariad,
gan gyflwyno eu heneidiau yn gwbl iddo, ac yna myned oddiajngylch, a dywedyd
wrth eu heuog gyfeillion, eu bod wedi cael y Ceidwad, ac i ddatgan golud ei ras
i bawb o amgylch iddynt, O, y fath olygfa fydd hon! Mewn llesmair nefolaidd y
gwna yr angylion syllu arni, a’r newydd a leinw galonau deng mil o gredinwyr
gyda llawenydd santaidd. Ac os clyw y ddau genhadwr, y rhai sydd yn awr yn y
nefoedd (wrth bob arwyddion a wyddorn ,ui am danynt), y newydd bendigedig, am
edifeirwch eu dienyddwyr, cymysgant eu llawenydd gyda’r angylion ag sydd yno,
ac mewn pur ysbryd Cristionogol byddent ewyllysgar yn eu teimladau i fyned eto
i wlad y ddaiar, a dyoddef cant o farwolaethau, am y llawenydd o weled y fath
werthfawr ffrwyth o eiddo Ysbryd Duw, a’r fath ogoneddus fuddugoliaethau o’’
ras yn iechydwriaeth pechaduriaid. AHOHESGOBAETH YN MHLITII YE ANNI-BYNWYE YN NGHYMKU.
------------------------------------------------(x074)
Mae yn sicr fod crefydd Crist yn teilyngu ei pharchn gan bawb, ac nid yw fod
rhai yn ei hanmharchu yn un prawf nad ydyw yn teilyngu yr anrhydedd mwyaf
diledryw. Ystyriaeth syml o natur
crefydd Crist a’m tueddodd i gyfenwi fy
hun dan y nodweddiad Cristioni ogol. Mor belled ag y byddwf fi ac eraill yn
tebygoli i Grist, y gellir ein galw yn
Gristionogion. Gwahanol ydyw y
tybiadau a goledda dynolryw am natur llywodraeth crefydd y Messiah. Cyfaddefa pawb sydd yn cyfenwi eu Imnain
ar unrhyw enwad Cristionogol, mai y llywodraeth a’r ysbryd ag oedd gan Grist,
a’r apostolion ydyw yr hyn a ddylai fod mewn ymarferiad gan bawb o’i ganlynwyr;
pe amgen, pa reswm a fyddai ein galw yn ganlynwyr iddynt? Eto, gwahanol ydynt y tybiau sydd yn cael
eu coleddu gan y rhai sydd yn arddel enw ein Blaenor mawr am natur llywodraeth
eg
Iwysig.
Gellir dosbarthu golygiadau dynion am natur llyw-.odraeth eglwys Crist yn ddau
ddosbarth, a galw un yn archesgobaethol, a’r llall yn annibynol. Mae’r
Pabyddion, yr Eglwys Wladol, y Trefnyddion Calfinaidd, ac Arminiaid o’r
golygiad cyntaf; y Bedyddwyr, yr Annibynwyr, a’r Undodiaid o’r ail. Gwel y
darllenydd fod y gwahauol i’arnau hyn wedi, ac yn bod yn mhlith hil Gomer. Mae
dadleu poeth yn eu plith yn nghylch y barnau uchod; a diau pe byddai y ddadleu-aeth
yn cael ei dwyn yn mlaen yn fwy boneddigaidd a
T PARCH. .TENKIN JENKINS.
------------------------------------------------(x075)
hynaws, y deuai pob meddwl diduedd i’r iawn yn fuan. Gan mai drosof fy hun y
bydd raid i mi roddi cyfrif i’m Barnydd yn nydd y farn, mynaf yr iawnder o
farnu drosof fy hun yn nydd gras. Gan nad oes uu dyn yn arglwyddiaethu ar yr
ysbryd, paham y mae neb yn cymeryd y fath swydd mewn llaw, trwy rwymo dynion i
gredu yr un peth ag yntau, a’u gorfodi i dalu yn groes i’w hewyllys i gynal ei
opiuiynau ef? Mewn rhyw ystyriaeth, gan fod gorsaf archesgobaethol mor
brydferth yn ngolwg calon hunanol, nid rhyfedd fod perehenog y gyfryw galon mor
awyddus i eistedd arni. Y mae’r etfeithiau a ddeilliasant mewn ystyr grefyddol
oddiar orsaf archesgobaethol wedi boddi mwy yn ei dyfroedd gwenwynllyd nag a
foddodd y môr erioed.
Ystyriaeth o drawsarglwyddiaeth y ffurf archesgobaethol a’m tueddodd er yn
foreu i ymwrthod &’r ffurf hono; ond er fy mod wedi ymwrthod a’r ffurf a
nodais, ac wedi rhoddi fy nghoelbren yn mhlith yr Anni-bynwyr, lle yr ydwyf
eto, nid wyf heb weled Rawer o drawsarglwyddiaeth, nid mewn Annibyniaeth, oud
yn y rhai a broffesant eu hunain yn Aunibynwyr. Yr wyf yn credu fod yr hwn sydd
yn archesgobaethu, os bydd ei olygiadau yn archesgobol, yn fwy cyson ag ef ei
hun na’r hwn sydd yn proffesu Auuibyniaeth, ac yn ymddwyn yn archesgobawl. Mae
ymddygiad archesgob-awl yn atgas yn mhawb, ond yn neillduol yn y rhai hyny sydd
yn dadleu yn ei erbyn. Gwybyddwn nad g.viw i ni feddwl y llwyddwn a’n tafodau
a’n hysgrifau mewn unrhyw beth os bydd ein hymddygiadau yn an-Unol a’r cyfryw.
Adwaenwn lawer o weinidogion parchedig, y rhai a fuasent yn fwy parchedig o
lawer oni buasai yr ymddygiad atgas, hunanol, a bawaidd
------------------------------------------------(x076)
TRAETHODAU, AC.,
hwn. Yn ol yr hyn y mae’r Annibynwyr
yn ei amlygu i eraill am natur Eglwys Annibynol, y maent yn barnu fod gan bob
cynnlleidfa o bobl hawl i weithredu drostl ei hun, a’i bod yn gyflawn eglwys, heb fod yn ddarostyngedig i
roddi cyfrif i neb am ei hymddygiadau rhewn pethau moesol ond i Dduw yn
unig. Clywais bregethau rhagorol,
yn ol fy mam i, ar Natur Eglwys
Annibynol, wrth urddo gweinidogion i’r cyfryw; ac wrth arbwyllegu, cyfeirient
at y saith eglwys oedd yn Asia—Dat. i.
3, 3. Ymresyment yn gadarn mai saith
eglwys oeddynt, a bod gweinidog i bob uu o honynt, ac nid un gweinidog oedd i’r
saith, a rhyw rai eraill yn ei gynorthwyo fel y byddai ei arglwyddiaeth yn
gweled yn oreu; pe amgen, difudd fuasai i Fab y dyn roddi gorchymyn i Ioan
ysgrifenu at y saith angel. Buasai un llythyr yn gwneyd y tro i’r saith eglwys,
pe un angel fuasai yn eu llywodraethu oll.
Pe cyferbyniem ni eglwysi Cymru, hyd yn nod gan
yr Annibynwyr, d’r eglwysi uchod, gwelem fod annheb-
ygolrwydd mawr rhyngddynt
a’r hyn oedd eglwysi
Asia gynt. Profaf yr haeriad hwn fel
y canlyn:—Yr
oedd gweinidog yn perthyn i bob un o’r eglwysi uchod,
ond nid felly yn Nghymru. Gwelir
amryw eglwysi
dan ofal yr un dyn. Yn awr, pa gysondeb sydd rhwng
canmol y cynllun apostolaidd, ac eto yn ymlwybro yn
wrthwynebol iddo? O’m rhan fy hun, nid wyf yn
canfod dim ond
gweniaith noethlymun yn y fath weith
red. Efallai fod rhyw rwystr ar ffordd
cael gweinidog
i bob eglwys. Pa beth ydyw? A oes dim bechgyn
glewion yn yr ysgolion, a manau eraill, a lanwent yr
eglwysi gweigion hyn? Oes,
yn ddiameu. G-adewch
reswm ar fainc. A ydyw un dyn yn well
na thri neu
T PARCH. JENKIN JENKIKS.
------------------------------------------------(x077)
bed war? Gwycldoch fod amrai o eglwysi yn awr a dim ond-un gweinidog
rhyngddynt. Gallwn i feddwl, yn syml. y byddai gweinidog yn mhob un o’r rhai
hyn yn fwy llesol, annibynol, ac ysgrythyrol; a bod amryw eglwysi yn cael eu
llywodraethu gan un dyn wedi tarddu oddiar yr un gwreiddyn melldigedig ag y mae
pob.drwg arall yn tarddu, hyny yw, ariangarwch. Mae amryw eglwysi yn barnu fod
yn hawddach iddynt gynal bugail rhyngddynt na chynal bugail bob un. Trachwantwr
yntau a ddywed yn ei feddwl, Mi a gaf fwy o lawer gan dair neu bedair o eglwysi
nag a allaf feddwl gael gan un. Nid anfuddiol y weithred pe byddai y fath
weinidogion ac eglwysi yn gofyn fel hyn: A allem ni ddim cael mwy o fndd i’n
heneidiau, ac oni fyddai yn fwy tebygol gweled llwyddiant yn ein plith, pe
gwnaem gadw a chynal bugail yn ein plith ein hunain? A fyddai ddim yn fwy
tebygol i mi fod a’m cydwybod yn dawel yn nydd y farn, ac yn rhwyddach i mi
roddi cyfrif i’m Barnwr yno am fy ymddygiad tuag at un eglwys, na’r fath ddull
auysgrythyvol?
Diau fod yr eglwysi hyny sydd yn cynal un gweinidog rhyngddynt yn llawer mwy
diog ac anffyddlon i gyfranu at gynal y weinidogaeth, yn ol eu galluoedd a’u
hamgylchiadau, na’r rhai sydd yn cynal eu gweinidogion eu hunain; ac yn
gyffredin, y mae’r eglwys hono sydd yn cynal ei phregethwr ei hun yn gwneyd
cymaint, os nad mwy, yn aml iddo, nag y mae yr holl eglwysi diog sydd yn
cydgyfranu yn ei wneyd i’w hesgob hwy.
Mae yn wir fod amryw gynulleidfaoedd yn weiniaid iawn i gynal pregethwr yn eu
plith; ond y mae mor wir a hyny fod llawer o eglwysi eraill a allent gynorthwyo
ychydig arnynt dros ben cynal yr eiddynt eu hun ‘Ill
------------------------------------------------(x078)
TBAETHODATT, &C.,
ain, ond nid felly y mae. Mae yr eglwysi yn yr TJnol Dalaethau yn cynal dros
fil o weinidogion mewn lleoedd sydd yn rhy weiniaid i gynal y weinidogaeth.
Heblaw yr hyn a fu dan sylw yn barod, y mae’r hyn a ganlyn yn teilyngu ein
hystyriaethau:—Yn inhlith yr eglwysi sydd dan ofal yr ai-chesgobion annibynol a
nodwyd y cafodd yr Henuriad y baich, am yr hwn yr achwynodd ar ddalenau y
Dysgedydd, ei fod yn cael ei wasgu ganddo mor druenus. Gwyr yr archesgobion
ymneillduedig yn eithaf, nas gallant bregethu arddydd yr Arglwydd ond mewn un
o’r capeli lle y maent yn arfer myned, ar yr un pryd; a chan fod y
cynulleidfaoedd yma yn cynal oedfaon yr un amser, y mae yn rhaid cael pregethwr
iddynt, neu gynal yr oedfaon yn gyfarfodydd gweddi; gan hyny, cyfodir rhifedi o
bregethwyr yn ol maintioli esgobaeth yr archesgob.
Nid ydyw y rhai hyn yn aml yn cael manteision dysg; ac mewn gwirionedd, y mae
llawer o’r cyfryw, fel y dywedir, wedi eu geni yn eu maintioli. Clywaia un hen
lefarwr enwog, yr hwn oedd a chwech o eglwysi dan ei ofal, yn dyweyd fod ganddo
wyth o’r tylwyth hyn yn pregethu gydag ef; ac meddai efe, “ Pe byddai ond un yn
ychwaneg, byddai hwnw yn deilwng i’i
offeiriad.”
Nid gweddus, yn ddiau, yw y t’ath drefn anniben i gario gwaith y cysegr yn
mlaen. Nid oedd un bwriad genyf wrth ysgrifenu y llinellau blaenorol, ond yn
unig iddynt fod o Ies. O’r pryd y dechreuais ar waith pwysig y weinidogaeth, yr
ydwyf wedi gweled mai byd llygredig iawn yw y byd hwn, a bod eglwys weledig
Crist ar y ddaiar yn dra annhebyg i’r hyn y dylai fod. Gwyliwn lawer rhag
digalondid gyda gwaith Duw pan yn ieu-anc, a gochelwn fod yn archesgobawl un
amser.
SYLW AD AU AE Y LLYTHYE BLAENOBOL.
------------------------------------------------(x079)
GAN “ CAKWR CKIST A’l WBISION.”
Gyda gwylder a pharch, dymunwn gynyg dangos anghysondeb a drwgduedd y llythyr
blaenorol, er ei fod o wlad bell.
Ymddengys i mi fod Mr. Jenkins yn dywedyd yn ddrwg am benaethiaid ei bobl; y
rhai uchelaf dan y nef ydynt; cenhadon y nefoedd at drigolion y ddaiar; ond y
mae efe yn dywedyd fod eu “ hymddygiadau yn atgas, ynfyd, a bawaidd.” Yr wyf yn
gwybod am yr hen arferiad o erlid a gwawdio gweision Crist, ond nid wyf yn
gwybod pwy sydd yn euog o’r hyn y mae efe yn ei roddi yn eu herbyn. Os ydoedd
efe yn gwybod am rywun, neu fwy, yn ateb i’r darluniad a hona, dylasai anfon at
y cyfryw, yn lle taro mor gyhoeddus o blaid gelynion ein crefydd santaidd.
Yr wyf yn dra gwybodus am weinidogion yr Anni-bynwyr mewn saith neu wyth o
swyddau Cymru. Wedi fy ngejii nid oedd ond chwech neu saith o weinidogion yn
holl Ogledd Cymry, ond yn awr y mae tua deg-a-thriugain; ac yr ydwyf yn credu,
ac yn beiddio dywedyd, nad oes yn yr holl fyd ddosborth o bobl mwy di-hunangais
a hunan-ymwadol, yn cyfarfod a chyrnaint o flinderau a chyfyngderau yn eu hamgylchiadau
bydol. Addefa pob Cristion, mai eu swydd hwy . ydyw y swydd uchelaf a
pharchedicaf dan y nef; ac y mae yn wirionedd eglur ac anwadadwy fod eu cyflog
yn llai na chyflog un dosbarth arall yn y wlad. Yn awr, pa
------------------------------------------------(x080))
TRAETHODAU, &C.,
fodd y llenwir ac y cyflawnir swydd mor barchus gyda mor ychydig yn dyfod i
mewn? Tawed yr anwybodus, a barned y
Duw mawr sydd yn cynal ei weision megys yn wyrthiol, pan y mae math o Gristionogion
yn eu dibrisio ac yn en hesgeuluso.
Pwy yn mysg gweinidogion yr Annibynwyr sydd yn archesgobacthu? Maent oll yn esgobion, ond nid oes archesgob
yn eu plith; brodyr ydynt, bron yn gyfartal; un yn rhagori yn y peth hyn, a;r
llall yn y peth arall. Mae Mr.
Jenkins yn dywedyd fod gwahaniaeth rhwng eglwysi Gymrn ag eglwysi Asia—bod
gweinidog i bob un yno, &c.
Dylasai ddywedyd wrthym pa lath oedd y rhai hyny —pa beth yw eglwys? A ydyw
ychydig bobl heb weinidog, na modd i’w gael, yn eglwys? Oni ddylai y cyfryw fod dan ofal gweinidog
cymydogaethol nes y gallont gynal gweinidog, neu gael un galluog a chy-mwys i’w
gwasanaethn ar ei draul ei hun, yr hyn sydd anfynych iawn? A ydyw ychydg aelodau mewn ardal fechan,
ar ol cael ysgoldy Sabbothol, yn eglwys?
Yn ddiweddar nid oedd yn y gymydogaeth hon ond yn eglwys ac un
gweinidog, ond yn awr y maent yn naw o ganghenai\ bychain; tri gweinidog, a thri chapel bychan neu ysgoldy
gan bob un. .
Mae genym hefyd ddiaconiaid yn rhoddi pregeth yn awr ac yn y man. A ydyw hyn
ddim yn ysgrythyrol, buddiol, ac adeiladol? Y mae weithiau rai o’r pregethwyr
cynorthwyol yn cynyddu cymaint (y rhai sefydlog) fel ag y denant yn dra chymwys
i gymeryd gofal eglwys, os byddant wedi cael dysgeidiaeth foreuol.
Mae Mr. J. Jenkins yn dywedyd fod bechgyn glewion yn yr ysgolion, a manau
eraill, i lanw yr eglwysi gweigion hyn. Y mae genyf well mantais nag ef i
Y PAKCH. JENKIST JENTKISTS.
------------------------------------------------(x081)
wybod am hyn. Y gwir ydyw, nad oes dynion ieuainc i’w cael, sef rhai cymwys i
gymeryd y swydd santaidd. Heb son am yr holl gangenau, nid oes modd bron a
chael rhai i lanw lle yr hen weinidogion a fuont feirw. Mae y dynion ieuainc
mwyaf addawol a doniol yn myned at y Saeson; ac nid rhyfedd, oblegid y mae yn
Lloegr fwy mewn ystyr o angen gweithwyr, a mwy at gynal gweithwyr.’
Y mae hefyd yn rhoddi ar ddeall i’r byd mai ariangarwch y gweinidogion yw y
gwreiddyn drwg. Druain tlodiou, rhaid iddynt garu a chynilo yr ychydig a
g&nt, neu hwy gollant eu swydd, ac a bechant yn erbyn Duw! Gymaint a
addefir ac a ddywedir gan bawb am y Curadiaid gweithgar am £70 y flwyddyn, ond
yr wyf yn ‘gwybod nad ydyw gweinidogion yr Anuibynwyr yn cael, gyda’u gilydd,
prin haner cymaint a’r curadiaid y dywedir eu bod ar farw o newyn. > A
chyda’u holl aberthu a’u hunan-ymwadu, er rhwyn yr efengyl santaidd, a raid
iddynt eto oddef eu eylmddo gan un o Gaerefrog Newydd! AEOHESGOBAETH YN NGHYMEU YN MHLITH YE ANNIBYNWYE.
------------------------------------------------(x82
Y sylwadau canlynol a wnaed ar ysgrif “ Carwr Crist a’i Weision.”
Mae Mr. O., gyda gwylder a pharch, wedi dymuno dangos anghysondeb a drwgduedd
fy llythyr, ie, yr oedd ei gariad a’i sel wedi enyn i’r fath raddau yn erbyn y
sylwadau sydd ynddo, nes y cyaliyrfwyd ei ysbryd i ddangos ei feirniadaeth arno
er ei fod wedi dyfod o wlad bell.
Ymddengys yn rhesymol i mi fod dynolryw yn c’ael eu nodweddu yn ol y gwaith yr
ymarferant ag ef, nen y gorchwylion a ddilynant. Mae torwr glo yn cael ei alw
yn lowr, hwyliwr llongau yn forwr, dygwr yn mlaen amaethyddiaeth yn amaethwr,
siaradwr y dafodiaith Saesonaeg yn Sais, cyflawnydd pechod yn bechadur, yr hwn
sydd yn gwneuthur cyfiawnder yn gyfiawn; ar yr un seiliau ymddengys priodoldeb
galw yr hwn sydd yn archesgobaethu yn archesgob, a’r lleoedd y maent yn
archesgobaethu yn archesgobaethau.
Dywed Mr. C. nad oes archesgob yn mhlith yr Annibynwyr yn Nghymru. Os nad oes
archesgob yn en plith, nid oes neb yn archesgobaethu yn eu plith ychwaith; ond
gan fod yn eu p’litn fi,f yn arehesgob-aethu, y mae yn eta, plith rai
archesgobion, os amgen nid yw archesgobaeth yn archesgobaeth mwyach. Mor wir a
bod Annibyniaeth yn Nghymru, y mae yno Annibynwyr hefyd; os amgen, nid
Annibyniaeth yw An
Y PARCH. JEXKIN JBXKIKS.
------------------------------------------------(x083)
nibyniaeth mwyach. Mae efe gyda hyfder yn gofyn, “ Pwy yn mhlith gweinidogion
yr Annibynwyr yn Nghymru sydd yn archesgobaethu?” Ateb—Yr archesgobion. Pe yr
atebaswn ei ofyniad drwy nodi enwau naturiol y personau, a’r lleoedd y maent yn
byw, buaswn yn gwneyd peth na wnaeth ef ei hun. Nid wyf yn meddwl mai wrth yr
enw “ Carwr Crist a’i Weision “ y mae ei gymydogion yn ei adnabod ef gartref.
Nid wyf yn gweled tegwch yn y byd yn y weithred fod neb yn beirniadu mewn enw
ffugiol ar waith yn dyn mewn cyhoeddiad crefyddol, os bydd eiv enw priodol a’r
lle y byddo yn byw wrth ei ysgrif. O herwydd yr anuhegwch hwn, nid dichonadwy
ateb rhai gofyniadau sydd yn ysgrif Mr. C.
Mae yn dywedyd am y naw ysgoldy neu gapeldy sydd dan ofal y tri gweinidog, (sef
yr ychydig bobl sydd yn addoli ynddynt,) yn ei ardal ef, gan ofyn a yw pob un
o’r rhai hyn yn eglwys. Y mae yn dyweyd eu bod yn rhy wan i gynal gweinidog. A
fyddai ddim yn well eu bod tan ofal un cymydogaethol? Yr wyf yn cydwybodol
gredu y gwn am ardaloedd lle y mae llawer yn earn Crist a’i weision yn Nghymru,
eu bod yn alluog, ac y byddai yn well iddynt gadw gweinidog eu hunain na bod
tan ofal neb cymydogaethol. Mae, a wn i am danynt, yn mhlith yr Annibynwyr yn
Nghymru, naw o weinidogion a phedak eglwys dan ofal pob un o honynt; amrai a
thair, a degau a dwy. Yr wyf yn cyfaddef ar unwaith fod gan Mr. C. well mantais
i wybod an* Gymfu na mi. Y mae yn rhyfedd genyf fod y gwr rhor anwybodus wrth
ystyried ei oed. Y mae wedi ei eni pan nad oedd ond chwech o weinid-ugion gan
yr Annibynwyr yn y Gogledd; eto nid y w
------------------------------------------------(x084)
TRAETHODAU, &C.,
yn gwybod fod neb yn archesgobaethu yn mhlith yr Annibynwyr, neu nad yw yn
gwybod pa beth yw eglwys yn ol iaith y Testament Newydd. Eglwys ydyw
cynulleidfa o bobl mewn cyfamod a’u gilydd i gario achos Duw yn mlaen. Nid yw o
bwys pa un ai mewn anedd-dy, ysgoldy, neu gapeldy, y byddont wedi ymgynull at
eu gilydd; Rhuf. xvi. 5. Col. i. 15. Dyna ydyw eglwys yn yr ystyr neillduol; yr
holl saint yn yr ystyr gyffredinolaf.
Nid rhy wan i gynal gweinidog yw nemawr un o’r eglwysi sydd yn’ cynal gweinidog
rhyngddynt, ond rhy gybyddlyd ac anewyllysgar ydynt. Mae y rhan amlaf o’r
eglwysi sydd yn cynal ond un pregethwr rhyngddynt, yn allnocach i gynal
gweinidog bob un na’r rhai sydd yn gwneuthur hyny. Pe yr ymddygai yr eglwysi
sydd yn cynal eu gweinidogion eu hunain mor ddiog a difater tuag at eu
bugeiliaid, ag y mae’r amledd eglwysi ag sydd yn cynal bugail rhyngddynt, buan
y lleiheid lluosawgrwydd bugeiliaid eglwysi Crist, y dybenai y ffurf annibynol
yn ei gweithrediad, ac yr ai y rhai sydd yn cael eu cynaliaeth yn gysurus yn
gartrefol yn awr yn grwydriaid ar hyd y dywysogaeth, nes crymu llawer hentiriad
eto dan ei faich. Sicr yw fod ofn dyn yn dwyn magi. Mae llawer eglwys yn
Nghymru yn dyoddef llawer anfantais i’w heneidiau o herwydd ymddygiad
archesgobawl eu gweinidog. ]STid ydynt yn cael y rhai a ddewisant yn aml, ac o
herwydd hyny dan yr angenrheidrwydd o ddyoddef llawer un tra anghymwys i lanw’
y swydd oruchel. O’r tu arall, yr wyf yn cyfaddef o’m calon, fod y rhai sydd
a’r swyddau uchelaf a pharchedicaf dan y nef, sef cenhadon dros Grist at
ddynolryw, wedi dyoddef caledi
Y PARCH. JENKttf JENKINS.
------------------------------------------------(x085)
a gwasgfeuon, nad oes ond eu Crewr a hwy eu hunain yn eu difrifol ystyried.
Dywedaf eto, y gwreiddyn o’r drwg hwn yw ariangarwch. Mae ariangarwch wedi
gwreiddio yn nghalonau gweinidogion ac eglwysi mewn llawer lle cyn ynia.
Adnabyddir ei fod a’i wraidd yn nghalon gweinidog pan y byddo yn cymeryd gofal
eglwys gymydogaethol, ac ar yr un pryd yn cael ei gynal yn gysurus hebddi lle
yr oedd o’r blaen;. ac yn yr eglwys, pan na byddis yn cyfranu at y weinidogaeth
megys y mae Du’ff wedi ei llwyddo, gan ystyried cynaliad y weinidogaeth yn
weithred o elusen, yn lle dyledswydd a braint. Mae yr anghenfll eilunaddolaidd
hwn, sef gwreiddyn archesgobaeth, dan ei wahanol fantelli twyllodrus, yn fwy
goddefadwy nag un pechod arall yn eglwysi y saint ar y ddaiar. Ceryddir yn
galed, a diarddelir dynion am bob pechod arall braidd; ond am hwn, nid wyf yn
gwybod fod y fath ddysgyblaeth wedi ei gweini er ys oesau!!
Mae Mr. C., wrth ddymuno dangos anghysondeb a drwgduedd fy llythyr, wedi amlygu
ffrwyth ei nwydau ei hun. Os oes tuedd da mewn archesgobaeth, y mae . tuedd
drwg yn fy llythyr; ac os oes cysondeb rhwng y rhai sydd yn proffesu
Annibyniaeth a’u hymddygiadau archesgobawl, .y mae fy ysgrif yn anghyson.
Gellir meddwl oddiwrth ysgrif Mr. C., na bu ef yn nihell iawn o olwg mwgdwll ty
ei dad, pan y mae yn barnu Cymru yn gyffredinol wrth linyn mesur ei gulaidd
ad-nabyddiaeth, a dyweyd nad oes yn yr holl fyd bobl mwy di-hunangais a
hunan-ymwadol na’i frodyr yn y Gogledd. Mae yn ofynol ei fod mor adiiabyddus
n’r holl fyd ag yw a’i frodyr yn y Gogledd cyn y gallo, ar
------------------------------------------------(x086)
TRAETHODAtT, AC.,’
dir teg, brofi ei haeriad. Mae adnabod ein hunain yn orchwyl o fawr bwys.
Dymunaf arno brofi anghysondeb fy llythyr drwy ryw beth amgen na haeriadau. Ni
feddyliodd fy enaid erioed trwy fy ysgrif i erlid, gwawdio, na chablu unrhyw
ddyn, na dychymygu fod gweinidogion yr Annibynwyr am lafurio yn ngwinllan Crist
yn cael gormod. Gwn y dylai y rhan amlaf gael rhagor, i’e, dylent gael eu cynal
wrth yr efengyl, a’u parchu er mwyn eu gwaith.
Gadawaf i’r darllenydd farnu pa fath “Garwr Crist a’i Weision “ yw hwn. A ydyw
wedi gwneyd cam a’i gymydog ai nad yw? Nid amddiffyn beiau neb pwy bynag, pe
byddent benaethiaid y bobl, ydyw yr olew penaf o eiddo y cyfiawn; na llefaru yn
arw wrth ei frawd sydd mewn gwlad bell, gan ddywedyd, “Tawed yr anwybodus,”
&c.
Mae bechgyn glewion yn y Colegau, a manau eraill, yn Nghymru eto, a lanwent y
lleoedd gweigion sydd yna; ond tra fyddo y fath archesgobaeth yn cael ei
hamddiffyn mewn rhith cariad at Grist a’i weisiou, nid rhyfedd fyddai gweled y
rhai mwyaf addawol eto o honynt yn myned at y Saeson, a manau eraill. Mae
llawer o bregethwyr wedi dyfod o Gymry i r wlad hon o bryd i bryd. Adwaen amryw
o honynt. Maeiit o fendith, ac yn anrhydedd i’w proffes. Nid rhyfedd, na blin
fyddai genyf, pe deuai llawer yma eto; os byddent yn fechgyn call, doniol, ac
addas i’r weinidogaeth, y mae pob calondid iddynt. Mae yr holl feusydd eang
trwy yr Unol Dalaethau yn gwynu i’r cynhauaf; a’r medelwyr sydd yma yn barod,
dyma eu hiaith, “ Denwch drosodd, a chynorthwywch ni!!
Terfynaf, gan dystio i bob Carwr Crist a’i Weision drwy’r byd, y dymunwn eu
llwydd yn mhob daioni.
IAWN CKIST.
------------------------------------------------(x087)
Gan fod y testyn hwn wedi ei benodi i mi, er rhoddi ysgrif arno, mewn dymuniad
i hono beidio bod yn faith, iawn, yr wyf yn anturio i wneyd hyn yn y modd goreu
ag y medraf. Anmhosibl cyffwrdd braidd a llawer o gangenau yr athrawiaeth
ogoneddus dan sylw mewn cylch mor gyfyng a gwyneb dalen neu ddwy yn y Cenhadwr;
am hyny crynoaf fy nrychfeddyliau, gan eu gosod yn dalfyredig o flaen fy
narllenwyr. A’r “ neb a ddarlleno, ystyi-ied.”
Wrth lawn yr ydym yn deall, rhyw beth sydd yn cael ei wneyd er heddychu
anfoddlonrwydd rhyw un; neu, foddlonrwydd am dramgwydd. Mae y gair yn arwyddo,
nid yn unig y llwybr trwy ba un yr heddychir, ond yr heddychiad yn
weithredol—fod y blaid a gafodd ei hanfoddloni yn gweithredol droi heibio yr
anfoddlonrwydd. Yn yr ystyr flaenaf, cynwysa foddion neu drefn y cymod; yn yr
olaf y meddylir y cymod ei hun, neu feddyginiaethiad gweithredol o’r rhwyg a
wnawd. Deisyfir am i’r darllenydd gadw y gwahaniaethiad hwn yn barhaus o flaen
ei feddwl. • Mae y gair Hebreaidd, cawphar, i orchuddio, dileu, heddychu (fel
gair cadarn), yn arwyddo astell neu glawr yr arch. Gellir gweled yr yn
drychfeddyliau trwy eiriau eraill yn yr Hen Destament a’r Newydd—Dilead,
Bodd-lonrwydd, Pridwerth, Prynedigaeth, Aberth, ein Hedd-wch ni. Cynwysa y
geiriau uchod, nid yn unig y bendithion yn dyfod i weithredol feddiant, ond
hefyd cyfrwng neu lwybr eu gweinyddiad.
------------------------------------------------(x088)
TRAETHODAtJ, AO.,
Amcan neu ddyben uniongyrohol (immediate design,) yr lawn ydyw egluro
cyfiawnder Duw, anrhydeddu y gyfraith, a chondemuio pecliod. Hyn
hefyd oedd y prif ddyben, neu y dyben penaf. Yr oedd yr lawn i effeithio yr un
peth, er mewn ffordd wahanol, ag a fuasai yn cael ei effeithio trwy gospi y
troseddwr yn bersonol am ei drosedd, yn ol dedfryd y gyfraith. Mewn geiriau
eraill, yr oedd i ddal i fyny awdurdod Duw fel Penllywydd cyfiawn—dangos ei
gasineb at bechod, eg-Inrhau ei ymlyniad wrth ei gyfraith, a’i benderfyniad i
arnddififyn ei hawdurdod yn mhlith ei greaduriaid rhesymol.
Dyben terfynol (ultimate end) yr lawn oedd cymodi dyn d Duw, a Duw a dyn, neu
wneyd heddwch rhwng y ddau—cadw dynion ag iachawdwriaeth dragywyddol, a gwneyd
arddangosiad gogoneddus o’i berffeithderau.
Os gofynir a fu Crist farw dros holl ddynolryw, neu dros rai yn unig, atebwn,
mor bell ag y mae dyben union gyrchol ei farwolaeth i’w ystyried, gellir yn
briodol ddyweyd iddo farw dros bawb. Symudodd y rhwystrau oedd ar ffordd achub,
y rhai a fuasent yn tragywyddol atal y p echadur i ddedwyddwch, oni buasai yr
lawn, Trwy angau Crist y cawd llwybr i ddianc rhag y llid a fydd, a’r digofaint
sydd ar ddyfod. Ar dir yr lawn y mae Duw yn cymodi y byd ag ef ei hun, heb
gyfrif iddynt eu pechodau. Dywedir fod Crist wedi “ marw dros bawb “—wedi “
profi marwolaeth dros bob dyn “ •—yn “ lawn dros bechodau yr holl fyd,” &c.
Pan y byddom yn ystyried dyben terfynol yr lawn, ac nid ei brif, neu ei ddyben
penaf, dylem lefaru mewn modd cyfyngol, mai dros yr “ Eglwys,” y “ defaid, ei “
bobl,” neu ei’” gyfeillion,” y rhoddodd efe ei” gefn i’r curwyr,
T PABCH. JENKIN JENKINS.
------------------------------------------------(x089)
a’i gernau i’r rhai a dynent y blew,” y “ gogwyddodd ei ben,” ac y “ rhoddodd i
fyny yr ysbryd.”
Mae lawn wedi ei wneyd.—Heb hyn nid allasai Duw faddeu pechod; am hyny, mae y
ffaith fod Duw yn madden yn brawf fod lawn wedi ei gael. Tystiolaetha yr
Ysgrythyrau hyn mewn amryw ffyrdd. Yr aberthau o dan y gyfraith oeddynt yn gysgod o bethau gwell i
ddyfod. Dyoddefodd Iesu gospedigaeth ein heddwch ni. Yr hwn ni wnaeth bechod a
wnaethpwyd yn bechod (neu yn bech-aberthj drosom ni. Mae ei waed yn puro y
gydwybod, ac yn glanhau oddiwrth bob pechod. Do, fe fu farw dros ein pechodau
ni yn ol yr Ysgrythyriu.
Yr oedd Ia.wn Crist yn gynwysedig yn benaf yn ei ddyoddefladau, eto nid heb ei
ufudddod; oni buasai fod ei ddyoddefiadau yn wirfoddol, ni bnasent yn
rhinweddol. Mae rhinwedd, gwerth a gwiwdeb i’w priodoli i’w ddyoddefiadau am ei
fod yn Fab Duw. Oni buasai ei fod yn dyoddef yn wirfoddol yn ol ewyllys ei Dad,
ni buasai yn aberth ac yn offrwm i Dduw o arogl peraidd, nac yn tycio dim er
dileu pechod. Hefyd, iaith yr Ysgrythyrau yw, fod Crist wedi “ offrymu ei hun
“—ei fod yn marw fel aberth, ac nid fel merthyr yn unig. Felly mai trwy
ufudddod un y gwnaethpwyd llawer yn gyfiawn, yn gystal ag mai trwy dywalltiad
ei waed y gwelir llawer wedi eu puro.
Er fod Crist wedi cael ei wneyd yn felldith drosom ni, nid yw yn yrnddangos
iddo yn llythyrenol ddyoddef y gosp hono oedd y pechadur yn ei haeddu. Nid oedd
colynau cydwybod euog yn uu rhan o’i ddyoddefiadau ef. Mwy priodol yw dyweyd,
fod ei ddyoddefiadau yn gyflawn foddlo/irwydd ac anrhydedd i’r gyfraith, na
------------------------------------------------(x090)
TKAETHODAtT, &C.,
dyweyd iddo ddyoddef yn hollol yr hyn yr oedd y gyfraith yn ei ofyn gan y
troseddwr. Er fod dyoddefiadan Crist mewn ystyr ddirprwyol, eto nid oeddynt yr
un yn eu natur ag oedd y pechadur yn en haeddu, nac yr un mewn graddau, na
pharhad. Nid oeddynt yn ddyoddefiadau haeddianol, ond anrhwymiadol, a
gwirfoddol; eto dyoddefodd “ er ein mwyn,” ac “ yn ein lle;” dyoddefodd fel na
byddai y pechadur a gredai ynddo dan rwymau i ddyoddef byth,
Mae dyoddefiadau Crist yn amlygu sancteiddrwydd Duw, ei fod yn elyn i bechod,
eto yn Dduw trugarog a graslawn, ac yn barod i faddeu. Dangosant fod holl
reolau y ddeddf yn uniawn, ac o bwys yn ngolwg Duw; fod yn anmhosibl i’r euog
ddianc rhag y gosp haeddianol yn ol dedfryd y gyfraith, ond trwy gyfryngdod yr
Arglwydd Iesu yn unig—trwy yr lawn bendigedig.
Mae angau Crist wedi boddloni cyfiawnder dwyfol, hyny yw, y cyfiawnder hwnw
sydd yn dal perthynas a gweinyddiadau cyhoeddus a chyffredinol y Duwdod. Dengys
hefyd awdurdod Duw yn nghynaliad anrhydedd ei gyfraith. Yr oedd yn ddyledus i
Dduw fel llywodraethwr cyfiawn amddiffyn iawnderau ei orsedd, a chadw coron
cyfiawnder heb syflyd ar ei ben, a theyrnwialen uniondeb yn ddi-gryn yn ei law.
Pan y byddom yn son am gyfiawnder personol, sef rhoddi i bob un fel y byddo ei
waith ef—cospi yr euog, a gwobrwyo yr ufudd, neu gyfiawnder rhwng gwr a gwr,
nid yw yn ymddangos fod lawn Crist wedi ateb i hwn. Mae yn amlwg yn
nyoddefiadau ein Ceidwad mai y dieuog a ddyoddefodd ac a fu farw, a’r euog trwy
hyny sydd yn cael ei arbed.
“ Tr Oen dieuog yno ‘n marw, Minau ‘r euog yn cael byw.”
Y PARCH. JUKKIK JENKINS.
------------------------------------------------(x091)
Yn nhrefn gras, nid y beius sydd yn marw, ond yr hwn ni wnaeth gam, ac ni chaed
twyll yn ei enau.
Mae yr lawn anfeidrol hwn yn gosod allan i holl fodau deallawl y bydysawd fod
sefyllfa dyn yn dra phechadurus a thruenus, er nad yw yn anfeddygin ,
iaethol—fod arbediad yn gyrhaeddadwy trwy aberth y .groes—a bod gwrthodwyr y
drefu rasol a giwysaidd hon a’u damnedigaeth yn sicr, a’u cosp wedi niawr
ychwanegu. Mae marwolaeth Iesu yn egluro i hall ddeiliaid llywodraeth foesol
Duw burdeb ei gyfraith, mawr ddrwg pechod, a chydgordiad perffeithderau lor yn
achubiaeth dyn.
Llawer gwaith y gofynwyd a oedd pechodau dynion yn gyfrifedig ar Grist pan oedd
yn dyoddef yn eu^ lle? Ymddygwyd tuag ato fel pe buasai yn bechadur pan y bu
farw yn lle pechaduriaid. Ond os wrth hyn y de-allir, fod eu pechodau hwy yn
cael eu symud oddiarnynt hwy arno ef, i fod yn eiddo iddo ef, nes yr oedd Efe
yn cyfreithlon haeddu cael ei ladd, neu ei fod yn gyfrifol yn ol gofyniadau
uniondeb am danynt, nid oes sail dda i’r fath haeriad. Ond os na olygir dim mwy
wrth gyfrifiad pechod arno na’i fod ef wedi dyoddef fel yn yn sefyll yn lle y
pechadur, nid oes genyf y gwrth
wynebiad lleiaf i’r fath olygiad. Os
mynir i ni
ddeall
wrth y gair cyfriflad, trosglwyddiad o bechod, neu ddrwg moesol, ac o ganlyniad
trosglwyddiad nodweddiad moesol, yn ol yr olwg hon yr oedd yn rhaid fod ein
pechodau ni wedi myned yn bechodau i Grist, ac felly yr oedd efe yn marw am ei
bechodau ei hun, neu bechodau wedi dyfod yn eiddo iddo ei hun, er ei fod yn Oen
difeius a difrycheulyd. Hefyd, ar yr un tir mae ei gyfiawnder ef, neu ei
weithredoedd moesol ef, yn dy
------------------------------------------------(x092)
TKAETHODATT, &C.,
fod yn gyfiawnder neu yn weithredoedd moesol i ni, ac felly yr ydym yn cael ein
hystyried yn gyfiawn ar sail cyfiawnder o’r eiddom ein hunain. Os fel hynyna y
mae pethau yn bod, nid yw iachawdwriaeth dyn mwyach o ras, neu nid yw gras yn
ras mwyach. Y gwir yw, ni ddylid ystyried egwyddorion llywodraeth foesol Duw yn
ol dull neu drefn masnach dynion, oblegid nid nwyfau yw pechodau; ac nid yw,
pechod a sancteiddrwydd yn newid dwylaw un amser, fel y mae yr echwynwr a’r
dyledwr yn aml yn gwneyd.
Mae rhad ras mewn maddeuant pechod mewn perffaith gymod 4 chyfiawnder ar dir yr
lawn. Nid yw yr lawn yn tain dyled y pechadur er ei ryddhau oddiwrth afaelion^
gofyniadau y gyfraith. Nid yw yn gosod Duw dan rwymau i faddeu pechodau neb.
Mae darpariad trefn y cadw o ras, a’i dygiad oddiamgylch hefyd, ac y mae yr
addewid i faddeu i’r edifeiriol hefyd, a phob addewid arall o eiddo y Nef, wedi
deilliaw o’r un ffynonell. Mae trefn yr lawn, fel cyfrwng maddeuant. yn gwbl o
ras, a maddeuant pechod yn weithredol hefyd sydd o ras penarglwyddiaethol yn
unig. Mae y gras hwn yn enaid y credadyn yn teyrnasu i fywyd tragywyddol. Gyda
phriodoldeb y gellir dyweyd am dano fel egwyddor fywiol, yn mha galon bynag y
mae, Cariad Duw yw ei wreiddyn, yr lawn a osododd Duw yw ei sylfaen, Gair Duw
yw ei reol, Ysbryd Duw yw ei gyfarwyddwr, gogoniant^Duw yw ei ddyben, a delw
Duw yw ei berffeithrwydtJ
RHAGFARN CREFYDDOL.
------------------------------------------------(x093)
Dywed Syr William Jones, wrth ddechreu traethawd (pan y cyferbynia dduwiau’r
Indiaid a’r Ewrop-e’aid paganaidd), y rhag-sylw hynaws canlynol:—” Yn ein
hymofyniad am y gwirionedd, nid oes dim yn fwy o rwystr nag ysbryd
cyfundraethol,” fel y tystia ysgrifenydd Hindwaidd, “ Pwy bynag a ymlyn wrth
grug o dybiau, hwnw sydd wanaf ei resymau dros yr hyn a goledda.”
Bernir yn gyffredin fod yr hwn a ddyrcha uwchlaw rhagfarnau y werinos yn meddu
meddwl uchelo galon. Pe n.a olygid wrth hyn ddim rhwy na gwrthodiad
cyfeiliornadau, dylem goleddu y sylw er gwaethaf ein hymarferiadau blaenorol.
Ond os disgwylir gan ymwadwyr rhagfarn i ni ymddiosg o bob math o ragfarnau,
cyn y gallom wneyd ymofyniad teg am y gwir, a derbyniad o hono, yr ydym yn
gostyngedig farnu eu bod yn saethu dros y nM, trwy ofyn gan y natur ddynol yr
hyn nad all, ac na ddylai w eyd.
Mae gau bob dyn ei ragfarnau; derbyn hwynt yn anwybodol ac yn ddiamgyffred
iddo, oddiwrth y ffrydiau cyntaf a orlifant i’w ystyriaethau, a gadawant eu
hargraff ar ei fywyd dilynol. Rhagfarn ydyw barn wedi ei ffurfio heb ymchwiliad
am vdrionedd. Dy-chymyg yw am iawnder pethau heb brawf o’u cywirdeb; o leiaf,
cyn i’r deall erioed amgyffred rhesymau a’u hategant.
G-allwn alw y rhan fwyaf o olygiadau ac egwyddorion
------------------------------------------------(x094)
TEABTHODAU, &C..
Y PAECH. JENKIN JENKINS.
------------------------------------------------(x095)
pob dyn yn rhagfarnau. Derbynoidd hwynt oddiwrth ei rieni, ei famaeth, ei
athrawon, a’i gymydogion; oddiwrth y sefyllfa a’r graddau y bodolai mewn
cymdeithas; ne, derbyniodd hwynt oddiwrth ddull neillduol llywodraeth a
chrefydd ei wlad, darlleriiad rhanog, ac oddiwrth y lluaws achosion a
nodweddant amrywiaeth bywyd, rhagredegwyr cymeriad a thynged pawb. Llaw-er
o ragfarnau a adeiladwyd ar sylfeini da, er na chy-merasom ni erioed y
drafferth o gloddio i’r manau y gorweddant. Llywodraethir dynion gan mwyaf yn mhob gwlad gan eu
rhagfarnau. Ni sylwant ac ni ymresymant drostynt eu hunain. Os digwydd i’w rhagfarnau
fod yn gywir, yn gyffredin byddant yn ddinasyddion da a defnyddiol.
Yn awr, nid oes tuedd ynom i anesmwytho tawelwch meddyliau diddrwg a rhinweddol
y fath bersonau, na thaflu y rhwystr lleiaf ar ffordd eu llwyddiant. Gad-awn
iddynt fyw a marw dan achlesiad a .iyl&i,wad rhagfarn. Gadewch i ynysydd yr
ia hoffl ei «.ra rhew-llyd, a’r Affricaniad boethder ei haul llosgedig.
Rhagfarn hyfryd yw hono a’n fuedda i ddewis ein gwlad enedigol oflaen pob gwlad
arall. Oni b’ai hyn, byddai mwy na haner y bellen ddaiarol yn ddi-drigolion.
Gan hyny, rhagfarn ddiniwed a defnyddiol yw. Hawdd fyddai ychwanegu
engrciiftiau i’r un perwyl. Dedwydd fyddai y teulu dynol pe byddai eu holl
ragfarnau mor ddiniwed; dedwydd ar destynau difrifol o dragywyddol bwys, pe
b’ai eu rhagfarnau o du y gwirionedd. Ond ffaith ddiymwad yw, nid felly y mae.
Deng mil o gyfundraethau anhebyg, ac anghyson, mewn gwlad ac eglwys, a ffynant
yn y byd. Golygir y rhai hyn i gymeradwy-aeth dynion, a phrofant, tu draw i
ddadl, fod rhagfarn
au y rhan amlaf, yn gyfeiliornus. Mewn un oes nis gellir chwynu y rhai hyn o
feddyliau ond ychydig. Peth peryglus yw ymosod mewn modd noeth a chy-hoeddus ar
ragfarnau dynion. Yn gyffredin, effeithia y fath ymosodiad er eu cylymu yn
gadarnach yn eu cyfeiliornadau; neu, os yn wahanol, gwylltir hwynt i
sugndraethoedd didduwiaeth, nes ybydd y canlyniadau yn fwy athrist ac
anobeittiiol i wneyd ail ymosodiad. Dyma fel y mae o barth rhagfarnau
crefyddol. Y meddyliau gwanaf ac anmherffeithiaf am grefydd ydynt well na
gwadiad o grefydd. Heb ofn Duw mewn rhyw fodd neu gilydd ar gydwybodau a
chalonau dynion, mae cymdeithas ar ei therfyn. oblegid ni wna cyfreithiau dynol
y tro hebddo.
Sylwn ar Ffrainc ar ol y chwildroad, pan ddarfu iddynt fathru Pabyddiaeth dan
draed, yr hon yn hir a chwareuodd ei llumanau traws-arglwyddaidd dros y
trigolion. Gelynion cudd y gwirionedd a argraffasant ar eu meddyliau dwyll
Bglwys Rhufain, nes y ffoisant yn lluoedd i dir anffyddiaeth. Pa ryfedd oedd eu
gweled yn llamu i’r lle y daethant. Ni chawsant gynyg newid eu barnau er eu
gwell. Llwyddodd Robert Dale Owen yn ei amcan gyda’r Ffrancod yn well na’r
llwynog hwnw yr adroddir ei hanes yn un o chwedlau JSsop, yr hwn a gyngorai ei
gyd-lwynogod i dori eu cynffonau. Os oedd y Ffrancod yn gweled crefydd eiu Harglwydd
ni yn anhardd, am eii bod m.or gynffonog o draddodiadau y tadau, paham na
buasent yn tori y traddodiadau ymaith a chyjlell y gwirionedd, yn lle taro eu
hymenydd allan er mwyn anffyddiaeth? Os ydym ni am dynu yr efrau ymaith,
gochelwn ddiwreiddio y gwenith hefyd. Os amcanwn
------------------------------------------------(x096)
TRAETHODAU, 40..
Y PAKCH. JENTKIST JENKINS.
------------------------------------------------(x097)
ni ladd rhagfarn dynion, byddwn ddoeth, trwy gynyg rhyw beth gwell iddynt; ie,
rhoddwn iddynt oleuni am dywyllwch, doethineb yn lle ffolineb, cariad am gas
onide gwell gadael rhagfarn heb ei hailonyddu; gad awn iddi deyrnasu yn ei
thawelwch cyntefig.
Ein hamcan yn y sylwadau blaenorol oedd egluro ein testyn mewn dull sathredig a
chyffredinol. Beth bynag, nid ydym yn
proffesu pleidio rhagfarn
yn mhellach nag y mae ein sefyllfa bresenol, gwaeldra ein natur, a lles
cymdeithas yn anocheladwy yn ein harwain.
Tebyg yr erys y werinos dan ei llywodraeth. Gadewch i ni, gan hyny, eu
hesgusodi yn y ddarlith hon yn ddigerydd, a chyfeiriwn ein sylwadau at
ddosbarth arall a gymerant arnynt fod yn gallach. Nis gallwn esgusodi dynion a broffesant eu bod yn ddysgawdwyr, a
rhydd-ymofynwyr am y gwirionedd, eto a letyant braidd ar bob mater y sylwant
arno olygiadau ciil a rhanog, na ddaliant eu profi; gan eu bod ag amser a
chyfleusderau i dreiddio, manylu, a gwahaniaethu y naill beth oddiwrth y llall,
eu deall yn eu gwahanol berthynasau a’u cysylltiadau ar sylfeini wrth ba rai y
profir hwynt, er gwneyd i eraill eu hadnabod, Onid gwaith dysgeidiaeth yw egluro pethau oeddynt yn dywyll,
trwy daflu pelydr goleuni arnynt, a’u dwyn i wybodaeth sicr? Os na wna hyn, pa ddefnydd yw? I ba beth y mae Duw wedi rhoddi
synwyr yn ein penau, os nad i chwilio a phrofl pethau drosom ein hunain? Da yw
fod cangenau dysg wedi eu sefydlu er ein cynorthwyo at ddeall y gwirionedd; eto
rhaid chwilio pob cangen ag y byddom yn ymwneyd a hwy, a phrofi pethau wrth
faen prawf y gwirionedd cyn y byddont o un budd i ni. Nid ydym yn meddwl’ y dylai dyn, i’t
dyben i ddyfod yn gall, a deall pethau, i roddi heibio ei holl ddrychfeddyliau
blaenorol. Md ydym am ei leihau ef yn hollol yn mhob ystyr, i sefyllfa plentyn,
i’r dyben i’w wneyd yn ddyn. Mae hyn yn annichonadwy. Yr ydym yn gofyn rheswm
dros yr hyn yr ydym yn ei ddyweyd neu ei wneyd. Nid fel y mae y plant yn
dyweyd—gofynant i’w rhieni, neu i’w hathraw, apeliant atynt pan na chredir
hwynt; nen, fel y pabydd yr hwn sydd yn credu yr un peth a’i fam o Kufain; ond
yn hytrach yr ydym am gael rheswm parod am y erobaith sydd ynom; yr ydym yn
gofyn fod ganddo ryw beth i brofi ei bwrc, heblaw fod y D. D. yn dyweyd mai
felly y mae pethau yn bod, neu fel hyn a’r fel y dywed llyfr y gyffes ffydd; yr
ydym yn gofyn ganddo i fod yn agored i argyhoeddiad, i beidio ameu yn ngwyneb
prawf, na chredu hebddo.
Os ceir dyn unwaith i ben y bryn hwn, bydd mewn man manteisiol i ganfod y
gwirionedd a’i dderbyn. Gellir dyweyd am dano ei fod wedi ei ddiarfogi o’i
ragfarn. Mae yn awr yn barod i redeg dros gyfundraethau ac opiniynau, pa rai
unwaith nas gallasai eu haros, nen y rhai oedd yn gas gan ei galon am danynt.
Nid ydyw enwau bellach yn ei ddychrynu. Pryna lyfrau enwadan eraill yn awr, yn
gystal a llyfrau a gyfansoddwyd gan ei blaid ei hun, os crefyddwr fydd. Ac yn
lle llyncu dim heb ei brofl, fel o’r blaen, rhaid iddo yn awr ei fain yn melin
rheswm, a’i brofl wrth Air y Gwirionedd. Os digrefydd a fydd, ac yn ddyn
rhesymol, daw cyn hir i werthfawrogi y maen prawf hwn o flaen pob llyfr arall,
yn gymaint a’ bod y gwirionedd yn bur yma, fel y ffynon. Ceir y dyfroedd yn
burach yn llygad y ffynon nag yn mhell oddiwrthi. Pa achos sydd genym i yfed
G
------------------------------------------------(x098)
TKAETHODATJ, &G.,
dyfroedd a redant ar hyd cwterydd a chamlasau llygredig dynol gyffesau, a
thadol draddodiadau, pan y mae genym genad Duw i yfed y dyfroedd pur o’’r
Beibl; na dilyn goleuni canwyllau neb, pan y mae Haul y Cyfiawnder wedi ei
osod, er goleuo pob dyn sydd yn dyfod i’r byd.
Dichony gofyn rhyw un, Paham na fyddai Cristionogion o’r un farn a’r un
olwg? O leiaf, Paham na b’ai cariad a dyoddefgarwch yn eu rhwyrno inewn undeb?
Os cariad yw egwyddor fawr a hanfodol ein crefydd santaidd, oni ddylem ddisgwyl
fod ei phleidwyr yn caru a phleidio eu gilydd. Onid allem ddisgwyl fod
unoliaeth golygiaduu yn fwy amlwg i’w gweled oddi-wrth y rhai a dynant eu
tybiau o’r un Ffynonell Pdwyfol. Rhesymol, debygem, yw disgwyl pethau fel yma.
Oblegid yn sicr, nid byth y dychymygasera yn flaenorol i’r ffaith, fud cymaint
o opiniynau aughyd-unol yn cael eu derbyn gau y byd crefyddol, a bod y rhai hyn
yn honi cywirdeb eu barnau o’r Beibl, pan y mae hwn yn oruchel, hael, a grasol
yn ei natur a’l ddyben; nis gall fod yn rhoddi y cysgod lleiaf i’r fath dybiau.
Rhyfedd fod y Llyfr, yr hwn y cyffesir ei fod mor eglur a chywir, mor llawn o
anghysonderau. Rhyfedd fod yr Ysgrythyrau Santaidd, y gyfrol ysbrydoledig, yr
unig reol ddiwyrni i ddynion, i’w harwain trwy y byd pechadurus, llygredig, a
thywyll hwn; yr unig ddatguddiad a roddodd ein Duw doeth a da i’w greaduriaid;
rhyfedd, le, anamgyffredadwy ryfedd, fod gwaith y fath Fod, a roddwyd at y fath
ddybenion enwog a chymwynasgar, yn cael ei ddirdynu i ymddangos mor d£g a
golygus, er amddiffyn yr amrywiedig, wrth-
Y PABCH. JENKIN JENKINS.
------------------------------------------------(x099)
un, niweidiol, a’r anghyson benderfyniadau, a briodolwyd iddo, neu yn hytrach a
dynwyd o homo.
Nid yw y dadguddiad sydd o Dduw yn cynwys y fath grugiau o ystyron a briodolir
iddo, onide yr ydym yn ei yspeilio o bob gwerth a sicrwydd. Mae yn rhaid fod rhyw beth
neillduol ddibetrns a goleu yn ei amcan goruchel. Os yw y Beibl, gan hyny, yn
cynwys dadguddiad o’r ewyllys ddwyfol, fel y mae, yn ol addefladau pob un o’r
pleidiau anghytuuus, o angeurheidrwydd y canlyn, rhaid fod ei brif nod yn
benderfynol ac amlwg, ac yn hollol uwchlaw Camdyb i unrhyw feddwl hynaws. Ond
pe barnem yr efengyl yn hollol wrth ysgrifau lluaws o Gristionogion a
duwinyddion yr amseroedd, penderfynem yn fuan ei bod . yn gynwysedig o ryw hen
gasgliadau dirgeledig, ffigwraidd a dychymygol, wedi eu bwriadu neu eu
dygwyddol drefiiu er rheibio a dyrysu y synwyr dynol, ac nas gellir rhoddi un
deongliad rhesyrnol o honi.
Trwy’r cwbl, yr ydym yn sicr mai goleuni y w yr efengyl, fel ei Hawdwr
Bendigaid, ac nad oes ynddi ddim tywyllwch. Ynddi y cawn gyfangorif o foesau, a
threfn fawr iachawdwriaeth. Er fod araithlithrwydd llygredig, ac annuwioldeb
disynwyr yn bradychus ymosod am ei hoedl, er hyny nis metha orchymyn
hybarchrwydd y bobloedd; dengys iddynt mai hi yw y trysor goreu mewn llestri
pridd, a bod godidawgrwydd gallu Duw yn argraffedig arni hi.
Bellacb, er mwyn cywreinrwydd, o leiaf, gallwn ofyn, O ba le y tarddodd y fath
heidiau amrywiog o dybiau o barth yr efeugyl? a pha fodd y maent yn cael eu dal
gan y gbnest a’r twyllodrus, y dysgedig a’r annysgedig, yn mhob gwlad lle y mae
ei goleuui pelydrog hi yn
------------------------------------------------(x100)
TRAETHODAU, 40.,
Y PAftOH. JERKIN JEN-KINS.
lot
ymddisgleirio? Pa fodd y mae crefydd heddychol, haelfrydig a thangnefeddus Iesu
wedi, ac yn oael ei gwaradwyddo gan gynenau a dadleuon, gan y rhai a rybuddir
gan ein Harglwydd i fod mewn undeb a chariad, megys plant yr un teulu, a
gweision .yr un Arglwydd. Nid yw crefydd Crist yn ei natur, na’r gyfrol lle y
mae yn argrafi’edig, yn dadrys yr anhawsder hwn. Nid oes yno na sail nac
anogaeth i’r fath anghariadlawn anghydfodiadau.
Y gwirionedd yw, y mae yr holl wahaniaethau a’r ymddadleuon cynhyrfiedig yn yr
eglwys Gristionogol yn * gyhuddedig ar ragfarn—ar y dull y mae dynion yn
sefydlu eu cyfundraethau duwinyddawl—ymhoniadau i dybiau anmherffaith yn fwy
na’r gwirionedd pur. Pa nifer sydd wedi, ac yn bod yn ein byd ni o wallgofiaid
selog, penffoliaid gwylltiog, hunanolwyr ystyfnig. Y rhai hyn a ergydiant yn
egniol, a chollfarnant bob peth na fyddo yn unol a’u mympwy hwy. Os
ymddadleuwch a’r tylwyth hyn, cyfrifant reswm fel gwellt, a’r Ysgrythyrau
egluraf fel pren pwdr. Br nad ymostyngant i farnau eraill, barnant y dylai
eraill ymostwng i’r eiddynt hwy. Dywed y Ffrancwr, “Yr hwn na dderbyn ddysg gan
neb ond ei hun, bydd yn sicr o gael ffol i fod yn athraw iddo.” “ Credais a
gredaf, ydwyf a fyddaf.”
Rhyw gymysgedd o anghysonderau dynol ymglymedig wrth y Dwyfol Ddadguddiad a
genedlodd yr ysbryd erledigaethus a halogodd yr eglwys am oesau. Braidd yr
ymddangosodd yr efengyl yn ein byd cyn iddi gael ei llygru gan ddyfeisiau dynoL
Yn mhlith yr Iuddewon cafoddeidifwyno’d seremoniau—y ddeddf Eoesenaidd a
ddirdynwyd i sefydliadau traddodiadol,
------------------------------------------------(x101)
ac ystyfnig ymlynent wrthynt. Ac nid oddiwrth y rhai hyn yn unig y cafodd
Cristionogrwydd niwed. Yr oedd gwahanol sectau yn mhlith yr Iuddewon, ,megys yr
Herodianiaid, y Phariseaid, y Saduceaid, a’r Esseniaid. Y rhai hyn a lusgent eu
traddodiadau gyda hwy, nes y trowyd yr efengyl, yr hon sydd gyfangortf gwaeedig
o’r cwr uchaf trwyddi oll, i debygu i siaced Joseph, yn frith o draddodiadau a
gwaed y merthyroii. Hefyd, yn fuan, y Groegiaid a’r Rhufeiniaid a ymdrechasant
gysylltu eu philosophi Dalilaidd a’r efengyl. Ni fethodd dysgyblion Pythagoras,
a Zeno, Epicurus, Plato, ac Aristotle, ganfod rhyw debygolrwydd rhwng eu
gosodiadau hwy a”‘r eiddo y Messiah; a phryd nad oedd dim o hyny yn bod, mympwy
a balchder a genedlent y nifer a atebent eu dybenion. Yr oeddynt wedi hir
ymarfer rhoddi ymostyngiad ffyddiog i eiriau eu hathrawon, barnau y rhai a
barchent fel gwirionedd anghyfnewidiol a thragywyddol. Gan hyny, amcanent blygu
a nyddu yr efengyl er ateb eu hopiniynau blaenorol, yn lle profi y cyfryw
opiniynau wrth oleu Dadguddiad ei hun. Ac yn mhob gwlad lle y pregethid yr
efengyl, blodeuai cyfundraethoedd o dybiau wedi eu dwfn wreiddio yn meddyliau
pob dosbarth o ddynion. Yr oedd y rhai hyn gan yr efengyl i’w darostwng, a
llwyddodd tu hwnt i ddynol ddisgwyliad, ac yn wir, i raddau nad allasai moddion
dynol ei effeithio. Banerau y groes a gyhwfanwyd trwy yr holl fyd adnabyddus, a
miloedd a blygasant i’w thystiol-aethau nefolaidd. Eto llawer o’r rhai mwyaf
dysgedig nid ufuddhaent ond mewn rhan; ffurfiasent gymysgo ddaliadau o
wirionedd a chyfeiliornad, nes mewn
------------------------------------------------(x102)
TRAETHODAU, &C.,
PARCH. JEKKIN JENKINS.
------------------------------------------------(x103)
ychydig amser y gorchnddiwyd y gwirionedd gan ddygn dywyllwch Pabyddiaeth.
O’r amser hwn hyd y Diwygiad, teyrnasodd rhagfaru heb fawr aflonyddwch, a dynol
awdurdodau a thraddodiadau a lithrasant ar eu goriwaered gyda llygredd yr
amseroedd, nes.y llanwyd y byd o ysgelerderau—y daliwyd eneidiau filoedd yn
maglau y diafol, ac y brasawyd ufferu trwy ei beunyddiol fwydo.
Dywedodd un duwinydd, “A ydyw dy galon yn uniawn gyda Duw? Os ydyw, estyn i mi
dy law. Nid. wyf yn gofyn a ydwyt o’r un farn a mi. Nid yw yn hanfodol, ddim
pellach na’n bod yn credu o’r galon gyfodi Iesu Grist o feirw, a chyffesu a’n
genau i iachawdwriaeth. Nid tebyg ychwaith y byddaf finau o’r un farn a thithau
yn mhob peth—nis gallaf. Os nad allwn gydunoj gad i ni gyduno i fethu
cyduno—rho dy law—paid ag edrych yn wgus.”
Locke a ddywedodd, “ Yr ydwyf yn darllen G’air Duw yn ddiduedd er deall ei
feddwl, gyda bwriad i’w fabwysiadu i fod yn feddwl i mi yn olynol.” A’r Parch.
Eobert llall a ddywed, “ Nid oes gan un dyn, na neb dynion hawl i osod un rheol
anhebgor yn amod cymundeb, nad yw y Testament Newydd wedi ei osod yn amod
iachawdwriaeth.”
Ond er mor rhesymol y sylw-nodau uchod, lluaws a’u diystyrant trwy eu holl
fywyd, trwy ergydio ymddygiadau surllyd, enllibaidd, goganus ac anghariadlawn
at eu boneddigeiddiach, duwiolach, a doethach. Trowch ddalenau hanesyddiaeth,
yno y gwelwch fod eu Hodium Theologicum wedi myned yn ddiareb a gwarthrudd
sefydlog. Gellid meddwl fod eu rhagfarnau yn anorchfygol, a’u casineb yn ddiddaribd;
o leiaf, nis
gallwn ni yn breseuol gaafod eu diwedd. Cadwodd yr ymrafaelion chwerwon a fnont
rhwng Luther a Calvin hwy ill dau mor bell oddiwrth eu gilydd niewn teim]ad a
chalon ag oeddynt oddiwrth y Pab o Eufain. Y Calfiniaid a’r Arminiaid ydynt yn
mhellach oddiwrth eu gilydd yn nghylcli y “ pum’ pwnc “ wedi brwydro rai
canoedd o flynyddoedd. Rhyfelgyrch’ grymus sydd yn parhau rhwng yr Esgobaethwyr
a’r Henaduriaid o barth llywodraeth eglwysig, a rhwng y ddwy blaid a’r
Annibynwyr. Ai diffyg synwyr, ynte bod y ddadl sydd rhyngddynt yn anchwiliadwy,
yw yr achos na b’ai bellach wedi ei phenderfynu? Onid y gwir yw, mai rhagfarn
sydd hyd yma yn cario’r maes? Daliwch sylw ar yr anghydfodau blinion rhwng
uchel ac isel Galfiniaid, a’r cyfundraethau rhwygdyllog a bleidir yn ein hoes
gan bob plaid o dristionogion; onid yw rhagfarnau America yn amlach na’i
choedydd, yn fwy cribog na’i mynyddoedd, ac yn lletach na’i hafonydd? Prydain
Fawr hefyd sydd fel crochan yn berwi gan ei fflamau enynawg. Pa.bryd y derfydd y
poeth ddadl-euon am ddull a deiliaid bedydd? am natur ac hel-aethrwydd lawn
Crist? am ewyllys rydd? ac am briodol waith a swydd yr Ysbryd Glan yn
nhroedigaeth pechadur? Yn wir, y mae yr holl fyd Cristionogol yn profi yr un
gosodiad, gan roddi gocheliad i bob perchen synwyr i ymddiried ac ymorphwys ar
ddeall ac awdurdodau dynol, ac anogaeth i ymddiried mwy yn ni-gyfeiliorn Air
Duw, yr hwn sydd abl i’n gwneuthur yn ddoeth i iachawdwriaeth.
Dywedodd un myfyriwr dwys a threiddgar ryw dro, “ Hawddach yw arwain can’ mil o
wyr i frwydr na gorchfygu un rhagfarn.” Mae mwy o ddrwg wedi ei wneyd
------------------------------------------------(x104)
TKAETHODAU, &O.,
i achos ein Harglwydd yn y byd gan benboethwyr cul-feddwl nag a allasai
anffyddwyr wneyd iddo byth. Condemnia yr Ysgrythyrau mewn iaith rymus yr holl
ddichellion cyfrwysgar a ddefnyddir gan y fath ddall-bleidwyr hocedus. Gwelir
cariad mor amlwg a’r haul ganol dydd ar bob tu dalen o’r Gyfrol fendigaid. Yma
ein cyngorir i “ochelyd cwestiynau ffol, ac achan, a chynhenau, ac ymrysonau yn
nghylch y ddeddf, canys anfuddiol ydynt ac ofer. Ond chwantau ieuenctyd, ffo
oddiwrthynt, a dilyn gyfiawnder, ffydd, cariad, tangnefedd, gyda’r rhai sydd yn
galw ar yr Arglwydd 6 gaion bur. Bithr gochel ynfyd ac annysgedig gwestiynau,
gan wybod eu bod yn magu ymrysonau. Ac ni ddylai gwas yr Arglwydd ymryson, ond
bod yn dirion wrth bawb, yn athrawus, yn ddyoddefgar, mewn add-fwynder yn dysgu
y rhai gwrthwynebus, i edrych a roddo Duw idd’ynt hwy ryw amser edifeirwch i
gydnabod y gwirionedd. Od oes neb yn dysgu yn amgenach, ac heb gytuno ag iachus
eiriau ein Harglwydd Iesu Grist, ac a’r athrawiaeth sydd yn ol duwioldeb,
chwyddo y mae, heb wybod dim, eithr anmhwyllo yn nghylch geiriau, o’r rhai y
mae cenfigen, ymryson, cableddau, drwgdybiau yn dyfod; cyndyn ddadleu dynion
llygredig eu meddwl, heb fod y gwirionedd ganddynt; yn tybied mai elw yw
duwioldeb; cilia oddiwrth y cyfryw.”
Rhydd gyngor yr apostol yw, “ Profwch bob peth, a deliwch yr hyn sydd dda.”
Anadla y cyngor hwn iawnder a chymwysder dyn i farnu drosto ei hun,
gwahaniaethu rhwng y da a’r drwg, a glynu yn ddiysgog wrth y da. Nid yw yn
cynwys yr ysbryd cul, crebachlydj a phigog, yr hwn a wna i bob dyn tyner ei
Y PARCH. JEKKIK JENZINS.
------------------------------------------------(x105)
galon i’w gasau a chilio oddiwrtho ar hyd y dydd, a chloi ei ddrysau rhagddo yn
y nos. Mae llaweroedd wedi gwrthod yr efengyl, yn ddiddadl, a myned ar
gyfrgoll, o herwydd fod ei phroffeswyr yn eu bradychu a sen ac erledigaeth.
Maent yn syllu’ar fywyd ac ymarweddiad y rhai a enwir yn Gristionogion, ac wrth
gaufod ysbryd llywodraethu, bygwth, a phleidgarwch mor uchel eu penau yn eu
plith, yn lle gostyngeiddrwydd, hynawsedd, ac haelusrwydd, nid ydynt yn gofalu
nac yn meddwl fawr am dani.
Mae yn wir nad yw dyn yn gyfrifol i un llys am gywirdeb a phurdeb ei addoliad,
ond i Ohwiliwr y calonau yn unig. “Alltudio, (medd Jortin) carcharu, yspeilio,
newyrni, crogi, a llosgi dynion am eu crefydd, nid efengyl Crist yw, ond
efengyl y diafol. lle y mae erledigaeth yn dechreu, mae Cristionogaeth yn
dybenu.” Ni ddefnyddiodd Crist erioed ddim te’byg i drais neu orthrech,
oddigerth un waith, a hyny oedd, gyru dynion drwg allan o’r deml; ac nid trais
oedd hyny mewn gwirionedd, ond amlygiad o’i awdurdod fel “ Mab ar ei dy ei
hun.”
Gau mai oddiwrth ragfarn y mae erledigaeth yn wastad yn .deilliaw, mewn rhyw
ddull neu gilydd, nid anfuddiol fyddai i ni wybod yn mha beth y mae yn
gynwysedig. Yn yr oes oleu hon, addefir y dylai dynion gael llonydd i addoli
Duw yn ol tystiolaeth eu cydwybodau; na ddylai un gyfraith gael ei gosod er
peryglu rhyddid, bywyd, na meddianau neb, o herwydd ei gredo a’i broffes
grefyddol. Ond a ellir colledu dynion mewn dim ond eu rhyddid, eu bywyd, a’u
meddianau personol? Onid erledigaeth yw cellwair a theimladau dynion, cecru yn
erbyn, condemnio a
------------------------------------------------(x106)
TRAETHODAU, &C.,
goganu eu hegwyddorion, a’r ymarferiadau a ystyriant y mwyaf anwylaidd? Ai nid
erledigaeth yw cyhoeddi en wad ymneillduedig, neu bersonau o’n hen wad ein
Imnain, (pan na allom gydfyned a’u “Shiboleth “ hwy) yn wallgofiaid brwdfrydig,
ysgeler gyfeiliornwyr, a bwriadol gyfrwysgall ragrjthwyr? i’e, yn wirfoddol,
ddigywilydd lygrwyr athrawiaeth yr efengyl, ac yn gydffurfwyr a thraddodiadau a
gwyddorion llygredig y byd; i’e, yn fleiddiaid rheibus mewn crwyn defaid?
Gofynaf eto, ai nid erledigaeth yw gosod dynion yn wrthddrychau gwawd a dirmyg,
yn llygrwyr moesau y bobloedd, gan eu hysgoi o bob cyfeillach ond yr eiddynt eu
hunain? mewn gair, i glwyfo eu nodweddiadau yn y manau tyneraf, difa eu cysur
mor bell ag y gellir yn y byd hwn, a’u trosi i golledigaeth yn y byd a ddaw. Os
nad erledigaeth yw hyn, nid oes ystyr priodol i’r gair, nac esboniad cywir
iddo.
Rhagrybuddiodd yr apostol y Cristionogion cyntefig, fod yn rhaid dyfod heresiau
yn yr eglwys, fel y gwnelid y rhai cymeradwy yn eglur; ond nid yw y
fflangellwyr dideimlad hyn yn ystyried fod erledigaeth yn waeth na’r
cyfeiliornad duaf, gan ei fod ar un waith yn wadiad o wirionedd a chariad.
Gofiwn eiriau ein Harglwydd, a gwnawn hwynt:— “ Cerwch eich gelynion,
bendithiwch y rhai a’ch mell-dithiant, gwnewch dda i’r sawl a’ch casant, a
gweddi-wch dros y rhai a wnel niwed i chwi, ac a’ch erlidiant;” a chyngor yr
apostol, “Na, orchfyger di gan ddrygioni, eithr gorchfyga di ddrygioni trwy
ddabni.” Hwyrach mai nid anfuddiol fyddai rhoddi rhai engreifftiau o’r
anhawsder y mae dynion ynddo i ddyfod yn rhydd o rwyd rhagfarn, a’r rhwymau
sydd
Y PARCH.
.TENKIK .TENKENS.
------------------------------------------------(x107)
arnom i fod yn dirion tuag atynt yn y fath amgylchiad. Medd Luther, pan yn dyweyd ei deimladau o
barth y ddadl oedd rhyngddo ag Eckins, “Wrth syllu ar fy sefyllfa fy hun, yr
wyf yn cael eiigraifffc hynod mor anhawdd yw i ddyn ymddadrus o’i hen dybiau
cyfeiliornns. ‘ Ymarferiad sydd
ail natnr.’ Os
na orchfygir hi, buan y daw yn angenrhaid. Er fy niwydrwydd cyhoedd a
dirgel, dros saith rhlynedd,
lles y dysgais agos bob gair o fy mhregetiiau ar gof, nid oeddwn ond megys ar drothwy y ffydd sydd yn Nghrist yn y
diwedd. Nid oeddwn oud newydd ddyfod i
wybod mai trwy ffydd y cyfiawnheir pechadur ger bron Duw, ac nid trwy
weithredoedd y ddeddf. Yr oeddwn yn
gweled ac yn haeru nas gallasai y Pab fod yn ben ar Eglwys Crist trwy un
iawnder dwyfol; ar ol y cwbl, maen tramgwydd i mi, dros hir arnser, oedd galw
yr holl gyfundraeth Babaidd yn gynllun satanaidd. Trwy esiarnpl eraill, a fy ymarferiadau fy hun, yr oeddwn yn
wageddus iawn ac ansefydlog. Gallaf yn awr
yn rhwydd gydymdeimlo a’r cul Babyddion, yn neillduol o’s na byddant yn
gyfarwydd iawn mewn hanesyddiaeth eglwysig.”
Eto syrthiodd y Diwygiwr difiin, goleu, ac ymofyngar hwn, yn fyr iawn o
gyraedd buddugoliaeth ar gyfe’iliornadati yr oes yr ydoedd yn byw ynddi. Er ei
fod yn gwadu a gwrthwynebu yr athrawiaeth o draws-sylweddiad, amddiffynai a’i
holl egni yr hyn a alwai yn gyd-sylweddiad.
Nid aml y gwelir y gwirionedd yn dyfod i’r golwg ar unwaith yn ei holl
ranau priodol. Aml y cenhedla
argyhoeddiad grymus am bethau bychain fwy o ymrysonau yn mysg dynion nag am
bethau o’r pwys inwyaf.
Bu Scott yn cydymu yn rhyfedd i’i ragfarn yn ei
------------------------------------------------(x108)
TRAETHODATJ, AC.,
ymofyniadau am y gwirionedd. Am rai amserau byddai yn hynod aflwyddianus;
gorchuddid ei feddwl gan gymylau duon, rhwystrid ei gynydd gan fynyddoedd
cribog, ac amheuon parhaus; o’r diwedd. ymollyngai ei ragfarnau radd ar ol
gradd, fodfedd ar ol modfedd, ac agorodd drws ei ddeall mor eaiig nes ydoedd yn
sicr ei fod yn adnabod pethau wrth oleu’r dydd. Nid wyf yn gwybod i mi glywed
gan, na gweled yn ngwaith neb, ei fod yn bleidgar i ragfarn, er fod hyn yn nes
i’r rhan amlaf o drigolion y byd nag yw eu crysau iV crwyn. Y mae fel cysgod yn
dilyn y goreu, ac nid gwiw i neb wadu yn hollol eu perthynas ag ef. Brith yw y
puraf o honom, nid ydym yn gweled ond mewn rhan, nac yn ymddwyn ond mewn rhan,
wrth yr hyn a ddylem. Mae lluaws yn twyllo eu hunain ar y mater hwn; pan yn proffesu
haelfrydedd a rhinwedd, y maent eto yn gaethion yn nghadwynau rhagfarn.
Dynion hunanol, yn honi hawl i farnu dros eraill, gan osod deddfau unffurfiol,
trwy eu rhagfarn a’u culni, eu melldith a’u cythreuligrwydd, a fuont offerynol
i enyn y fflamau mwyaf erledigaethus a fu yn ein byd erioed. Nis goddef
terfynau fy ysgrif i mi ond braidd gyffwrdd a “ Bwrdd y Cyngor,” “ yr Uchel Lys
Eglwysig,” a’r “Star Chamber,” tri pheiriant caethder Lloegr, (gwaeth na’r
Chwil-Lys Hysbaenaidd) a lywodraethwyd gan yr adyn LAUD, i’r hwn y cynygiai y
Pab o Rufain gwcwll pen graddwr am ei ffyddlondeb drosto. Yn amser y treisiwr
hwn y gwaeddid gan drigolion Prydaiu, ‘• Ymaith a ni o gaethder a thywyllwch yr
Aipht, y mae goleuni a rhyddid yn Gosen.” Dyma y pryd y daeth miloedd o’r
Anghydffurfwyr i Loegr Newydd. Kid llai na dwy-fil-ar-hugain a laniasant ar
graig
Y PABCH. JBJTKIK JENKINS.
------------------------------------------------(x109)
Plymouth, heblaw miloedd o bryd i bryd, cynt ac wedi hyn, a ddaethant dros for
y Werydd o wlad y gorthrwm, i ba rai, yn llaw Duw, yr ydym yn ddyledus am y
rhyddid yr ydym yn ei fwynhau yn bresenol. Nid. yw rhyddid crefyddol mor
gyflawn yn Lloegr a Ohymru eto ag y dymunem. Gwir fod Dafydd Jones wedi marw,
ond mor wir a hyny, ni chlywsom nad yw Ficar Llanelli yn fyw. Mae rhagfarn,
culni, ac erledigaeth yn fyw yno hefyd, ac yma ar yr un pryd. Mae dwrn rhagfarn
yn bwysig, ei ddanedd yn llymion, a’i ewinedd yn hirion; a thra y byddont
felly, ni phaid a dyrnu yn ddidrugaredd, cnoi yn giaidd, ac ysgrabinio yn
ffyrnig. O na wnai glafychu bellach, a marw yn fuan. Gwn yr hoffai lorwerth,
Bos Glan Twrch, a Gwilym Fardd, anrhegu Golygyddion y Cenhadwr a’r Cyfaill
&’i Farwnadau, a charwn inau, a chanoedd eraill eu darllen, a’u canu hefyd,
nid mewn dagrau, ond mewn gorfoledd.
Ond Ow! tebyg yr 4 yr oes hon heibio cyn y derfydd yr ysbryd cul, rhagfarnllyd
sydd yn mysg crefyddwyr o bob enw. Ni cheir ond ychydig a gydweithredant mewn
daioni, er fod llaweroedd yn dilyn y lluaws i wneuthur drwg. Gwelais lawer o
Gymry ag oeddynt yn proffesu crefydd yn yr Hen Wlad, wedi dyfod i Gaerefrog
Newydd, nis gallent ymuno 4g un eglwys yn y ddinas; yr oedd ganddynt rywbeth yn
erbyn pawb; ond ymunent yn eithaf yn y tafarndai, a llawer un hefyd a welid yn
yr anniweirdai.
Ymddygir at genhadon Crist yn dra thebyg fel y gwnaed at eu Harglwydd. Nid yw
prophwyd yn gymeradwy ond anaml yn mhlith ei genedl ei hun, ac yn ei dy ei hun.
Pan oedd ein Harglwydd yn pregethu
------------------------------------------------(x110)
TKABTHODAU, &G.,
yn ngwlad Judea, ac yn myned oddiamgylch gan wneuthur daioni, bloeddiai
rhagfarn allan, “ A ddichon dim da ddyfod o Nazareth.” Medd penboethni, “
Croes-hoelier ef, croeshoelier ef.” Gofynai tegwch, “ Ond pa ddrwg a wnaeth
efe?” eto ei groeshoelio ef a wnaed. Ac O! y lluaws sydd eto yn ei groeshoelio
ef yn ei achos, ac yn ceisio llyfetheirio rhwydd-rediad ei deyrnas weledig ar y
ddaiar.
Meithrinwn dymer rydd yn ein cylch crefyddol. Os gwnawn hyn, nid oes perygl na
lwydda Cristionogaeth yn ein plith; oblegid dyma y tir y mae cariad brawdol yn
tyfu, yr awyr y mae gwir grefydd yn anadlu, y llwybr y mae ein Duw yn ei hoffi,
ac a gymeradwyir i holl ganlynwyr Iesu.
Medd un duwinydd medrus, “ Gadawn i’r wenynen fechan amddidyn ei hychydig fel
a’i cholyn bychan; hwyrach fod ei bywyd bach yn ymddibynu am ychydig bach ar ei
hychydig ymborth. le, rhoddwn lonydd i’r tarw gwrdd i droi ei ben, ac ysgwyd ei
gorn a bygylu ei elyn, yr hwn sydd yn ymofyn ei gig i’w fwyta, ei groen i’w
wisgo, a byw ar ei angau. Druan tlawd, mae ei fywyd mewn perygl. Yr wyf fi yn
maddeu iddo ei holl ruadau a’i chwerwder. Oud crefydd Crist, a ydyw hono mewn
perygl? Pa ymgais ddynol a all gywiro yr hyn sydd dwyllodrus, a gosod yn wrthyn
yr hyn sydd hoffaidd a dymunol?” Nid yw Cristionogrwydd mewn perygl, am hyny
rhydd i’w phroffeswyr fywyd ac ahadl, a phob peth oll, ond awdurdod a grym i
ni-weidio eu gilydd. Y culdyn a erys gartref—ymlusgyn yw a ymlusgodd i
fodolaeth, ac yno y llecha yn ei loches yn parhau i ymlusgo. Ond y Cristion hael-frydig
a a allan o’i blaid ei hnn; ymgyfrinacha ag
T PARCH. JBNKIK
------------------------------------------------(x111)
oraill, ac enilla fudd oddiwrth bawb. Diarel rie. yw, “ Llaw hael sydd well na
braich gref.” Cynhelir urddasrwydd Cristionogol yn well trwy weithredoedd
haelionus na thrwy gy wreinrwydd ymresymiadol; ond pan y bydd y ddau hyn yn
cyduno—pan fyddo synwyr dyn yn alluog i osod allan ac amddiffyn ei egwyddorion
crefyddol, a phan fyddo ei galon mor hael ag yw ansawdd ddiwyrawl ei egwyddorion,
perchenoga nerth a harddwch i raddau godidog.
Nid ydym yn gwrthwynebn cyffesau ffydd fel amlygiad amlwg o’n barnau crefyddol,
ond pan y defnyddir hwynt yn glorianau i bwyso egwyddorion—yn feini prawf
credoau crefyddol, ac yn rhwymynau cymdeithas, yr ydym yn llwyr ymwrthod a hwy.
Hefyd, barnu yr ydym fod gan bob duwinydd gyflawn hawl i amlyguei olygiadan
duwinyddol i’r graddau y byddo ei amgylchiadau yn caniatau iddo, eto nis gall
golygiadan un dyn dan haul fod yn uniawn reol ddiwyriii i ddynion, gan mai y
Beibl yn unig sydd felly, ac mai gwneyd dirfawr gam a’u heneidiau anfarwol y
mae pawb a’u cymerant felly. Yr wyf yn hollol wybodus fod swm y traethawd hwn
yn wrthwynebol i unol lais lluaws _o grefyddwyr, oblegid ystyrir yr hwn a
ymlyno wrth gyfres o dybiau o’i ieuenctyd yn berchenOg ar sefydlogrwydd
gwreiddiol—yn feddianol ar gyneddfau rhyfeddol, ac yn gynllun gwroldeb moesol.
Ond pan yr ystyriom had yw y goreuoreolau dynol ond gwael mewn cyferbyniad i’r
Dwyfol Air, a’u bod wedi deilliaw oddiar amgyffrediad.au anmherifaith a
llygredig, nis gallwn lai na barriu fod yr hwn a ymlyno wrthynt yn ddiffygiol o
uniondeb pen, yn faethrinwr cyfeiliornadau, ac yn agored i gaol ei ysu gan
bryfed lluosog rhagfarn.
••-:
------------------------------------------------(x112)
TRAETHODAU, &C.,
Hurtyn yw, wedi cysylltu ei hun wrth ewyllys eraill, ac a ddaeth i’w faintioli
ar unwaith. Mae yn gwybod yr oll sydd yn ei erthyglau; nis gall ychwanegu dim
atynt, ac nis beiddia dynu dim oddiwrthynt. Nis gwyr ddim am raddau mewn
gwybodaeth—y mae uwchlaw tir arnheuaeth; nid yw ddim callach yr awr cyn ei farw
na’r ail fynyd y tanysgrifiodd ei enw wrth ei gyffes.
Diehon y gofyna rhyw un, Pa fodd y mae ymofyn am y gwir, gan fod pob plaid yn
haeru mai gyda hwy y mae ef? Atebaf, nid dan lywodraeth tymer—nid oes gan hon
ddim i’w wneyd yn y mater hwn; yn hytrach, dylai pwyll, arafwch, a
llarieidd-dra, fod ar orsedd yr enaid. Dylem edrych, fel y dywedir, y ddau
du i’r ddalen, a barnu y ddwy oohr. Nid fel y barnwr hwnw, yr hwn pan y daeth
dwy blaid ato i benderfynu y ddadl oedd rhyngddynt, a ddywedai, “ Yn awr,
foneddigion, gadewch i mi glywed un ochr i’r ddadl, a dim ond un; oblegid os
clywaf y ddwy ochr, nis gallaf farnu heb betrusder; ond wrth glywed un ochr yn
unig, barnaf yn eithaf; ond nid wyf yn cam eistedd yma wedi fy nyrysu genych
chwi na neb arall.” Blin yw adrodd, llawer a wnant eu ‘meddyliau i fyny, mev/n
pethati crefyddol, wrth glywed ond un ochr i’r ddadl yn unig. Y mae naw-deg-naw
« bob cant yn glynu wrth yr ochr yr addysgwyd hwynt. Nid ydynt, fel y Bereaid
gynt, yn chwilio beunydd yr Ysgrythyrau a ydyw y pethau hyn felly.
Rhaid cyfaddef mai niweidiol yw egwyddori meddyliau yr ieuenctyd mewn
pleidgarwch rhagfarnllyd; neu, rhaid addef fod credoau y Papistiaid a’r
Protestaniaid, y Sosiniaid a’r Athauasiaid, yn gydradd mewn daioni
Y PARCH. JENKIST JEWK1NS.
------------------------------------------------(x113)
a gwirionedd. Wrth yr un rheol dylem esgusodi yr Iuddew, y Mahomed, a’r Pagan;
oblegid y inae y rhai hyn hefyd yn credu fel yr addysgwyd hwynt. Nid galluadwy
yw dirnad y nifer sydd yn’ bloeddio, Biddo fi yw Paul, ac eiddo finau yw
Apolos, &c. Pa beth sydd yn enw Calvin, Armiuius, Wesley, Hopkins, na neb
ond Crist, yn ‘werth i ymlynu wrthynt. “At y Gair ac at y dystiolaeth.” •”
Chwiliwch yr Ysgrythyrau,” os f’ynddynt hwy.yr ydych yn meddwl cael bywyd.
tragywyddol.” “Yr Ysgrythyr nis gellir ei thori.” “ Dyma’r ffordd, rhodiwch
ynddi.’ “ Ei ffyrdd hi sydd ffyrdd hyfrydwch, a’i holl lwybrau hi ydynt
heddwch.”
Dylai synwyr naturiol ein dysgu mai ein dyledswydd yw cofleidio y gwir, pa le
bynag y caifoin afael arno; er na fydd ein hymchwiliadau yn eu pen draw, fe
allai, ddim yn gwbl yr un a’r enwogion sydd wedi ehr rhagflaenu—diau fod llawer
o wirionedd yn gynwysedig yn ngwaith y rhan amlaf o honynt. Lloifwn ef ar ei
faesydd ei hun, ac ymborthwn yn ddiflino arno.
Nid wyf yn cyhuddo fy nghenedl yn fwy nag eraill o rugfarn, er y gwn fwy am
danynt hwy nag am un genedl arall. Gadewais heibio amryw bethau a allaswn eu _
nodi, er profi y pwnc hwn; ond gan fod amryw ffeithiau yn anelu at bersonau
neillduol, ac y buasai nodi y cyfryw bethau yn fwy tebyg o gynroi teimladau nag
o ddaioni, gadewais hwynt allan. Gwell genyf gadw ar yr ochr dyneraf nag ar y
llall, oblegid y mae teimladau gan bawb, er fod llawer yn dra amddifaid o fara
ddi-duedd a diragfarn. Er mwyn tangnefedd a heddwch, ni chyfiyrddais ag un
amgylchiad er niweidio cysui un crefyddwr gwan na chryf. Py nyben yw i fod o
Ies,
------------------------------------------------(x114)
TRAETHODAU, &O.,
er meithrin gwybodaeth fuddiol, er
cynydd ysbryd Cristionogol, a phurdeb
cymdeithasol.
Anwyl ddarllenwyr, os byth y buddugoliaethwn ar ragfarn, rhaid i ni arferyd
addfwynder mawr at ein gwrthwynebwyr, gwrando eu rhesyman yn amyneddgar,
darllen eu hysgrifau yn bwyllog, llet’aru yn barchus am danynt, mor belled ag y
byddo uniondeb yn caniatau—gwylio am gyfleusderau addas IV hargyhoeddi ‘o’u
beiau mewn modd tawel, gau ddwys ystyried ein ffaeleddau ein hunain. Ar yr’un pryd, nac arswydwn enllibau neb, pwy bynag; cymerwn ddynlon fel
y maent, am nas cawn hwynt fel y dylent fod; ac yn yr aflwyddiant a
gyfarfyddwn i’n hymdrechion diflino, trown ein golwg at Dduw, a diolchwn
yn barcbus iddo ei fod ef yn gall u dyoddef rhai cyndyn, gan gyfranu ei
roddion iddynt, pan y byddom ni yn
metbu gwneyd dim a hwy. Ystyriwn wrth
farau eraill o ragfarn, na byddom ar yr un pryd yn ein condemnio ein hunain. “ Mewn llawer o bethau yr ydym ni bawb
yn llithro.” TSTac amcanwn dynu
y brycbau o lygaid eraill, nes
llwyddo i gael y trawstiau o’n llygaid ein hunain. . Na chaffed neb le
cyfreithlon i ddyweydam danom ein bod yn dyhidlo gwybodyn, ac yn llyncu
camel. Pan yn baruu, barnwn farn
gyfiawn, wrth reol y Gair Dwyfol; a’r sawl a rodiant yn ol y rhcol hon, tangnefedd a thrugaredd
arnynt, ac iddynt hefyd.
Gochelwn chwyddiaith ganmoliaethus; eithafoedd mewn unrhyw beth a genedla ei
gyferbynydd. Clywais rai yn dywedyd, “ Dyma ddernyn gwerth ei ddarllen.” “ Dyna
bregethwr gwerth ei wrando,” heb un rheswm dros hyny ond eu bod yn taro eu
harchwaeth hwy, neu gyda bwriad o ddiystyru eraill. Rhoddaf un
Y PABOH. JENKIN JENKINS. I
------------------------------------------------(x115)
engraiift o hyn mewn( hanesyn bychan. Yn fy ardal enedigol yr oedd dau dyddynwr
crefyddol. Nid oedd y ddau hyn yn perthyn i’r un enwad, eto carent a pharchent
eu gilydd. Arferai y ddau dderbyn pregethwyr i’w tai. Digwydddodd fod
cyhoeddiad dau wr dieithr, un gyda phob un o’r penau teuluoedd a nodwyd, ar yr
un amser. Gan eu bod yn y ddau dy nesaf at eu gilydd, penderfynodd y penau
teuluoedd i gael y ddwy odfa yn un, yr hyn a ryngodd fodd y dieithriaid a’r
ardalwyr yn fawr. Wedi i’r dyrfa ymgasglu, dechreuwyd yr odfa, a chwblhawyd y
rhanau arweinyddol o’r gwaith. Yn mhlith y gwrandawyr yr oedd hen grefyddwr o’r
enw Evan (yr hwn er ys deunaw rhlynedd bellach sydd wedi myned i dy ei hir
gartref.) Cadwai hwn, rai amserau, lawer o swn yn y cyrddau. Dechreuai Evan
sisial wrth y rhai oedd nesaf ato, “ Pa un o’r ddau bregethwr sydd yn perthyn i
ni?” Dywedodd rhyw un anwybodus o’r peth rhai y llefarwrr olaf ydoedd.
Pregethodd y gwr cyntaf yn synwyrol, bywiog, ac efengylaidd iawn. Trwy yr holl
bregeth ni chlywid llais Evan; eisteddai dan bendrymu gerllaw y tan yno. Ond y
fynyd y dechreuodd yr ail lefaru, gwelid Evan yn dechren ysgwyddo, carthu
peirianau llafar, anesmwytho, ac agor ei lygaid led y pen. Yn mhen ychydig
clywid ef yn dywedyd, “ Da iawn, da iawn;” “ i’e, yn wir, i’e, yn wir;” “ da fy
machgen,” &c., neu eiriau o’r cyffelyb. Dechreuai ei dymerau godi tua haner
y bregeth, nes oeddynt yn eu llawn hwyl yn hir cyn y diwedd. Gwaeddai allan, “
Amen, Amen;” “ Gogoniant iddo byth;” “Diolch yn oes oesoedd;” “ Halelnia yn
barchus,” &c. Wrth fyned adref o’r odfa, dywedai wrth ei
------------------------------------------------(x116)
TKAETHODAU, AC.,
gyd-deithwyr, “ A welsoch chwi fel yr oedd y pregethwr bach yn cydio gafael
wrth gael tipyn o lift gen’ i? Yr oedd yn gwella bob ergyd; oni ffystws e’r
nail ei wala?” Pan amlygwyd mai perthyn i’l* blaid arall yr oedd y pregethwr y
bu yn gwaeddi cymaint gydag ef, yr oedd yn flin iawn ganddo ei fod wedi gwneyd
y fath beth. Llawer gwaith y blinwyd Evan am y tro hwn wedi hyny. Llawer un
sydd eto yn rhy debyg i’r hen grefyddwr hwn; a phe difrifol ystyrient, gwelent
fod eu dylanwadau yn fwy niweidiol o lawer nag ydynt o Ies; er meddwl eu bod o
blaid yr Oen, y maent yn cryfhau teyrnas y tywyllwch. Rhagfarn yw un o’r
colofnau cryfaf er cynal hon i fyny.
Yn nghanol y byd rhagfarnllyd hwn, gwelwn oddi-wrth yr hyn a fu dan ein sylw:—
1. Mai peth o fawr bwys yw ein bod yn
feddianol ar y gwir. Hwyrach fod
llawer o hoiiom yn teimlo ein hunain yn lled wrol yn y byd hwn; ond ystyriwn a
ydyw gwreiddyn y mater wedi ei gael ynom ai nad yw.
2. Y mawr angenrheidrwydd o fyned at
Dduw i ymofyn doethineb, ne, y ddoethineb sydd oddi uchod, yr hon sydd “
bur, heddychol, boneddigaidd,
hawdd ei thrin, llawn trugaredd a ffrwythau
da, diduedd a diragrith.”
3. Yn ugwyneb rhagfarnau y byd i gyd,
gallwn sicrhau mai “ dedwydd yr ydym yn gadael y rhai sydd ddyoddefus.” “Trwy amynedd meddianwn ein
heneidiau.” “Gwyn eu byd y
tangnefeddwyr, canys hwy a elwir yn blant i Dduw.”
GWEDDI Y FFYDD.
------------------------------------------------(x117)
“O bydd ar neb o honoch eisiau doethineb, gofyned gan Dduw, yr hwn sydd yn rhoi
yn haelionus i bawb, ac neb ddan
,od, a hi a roddir iddo ef. Eithr gofyned mewn ff’ydd, beb ameu dim; canys yr
hwn sydd yn ameu, sydd gyffelyb i don y mor, a chwelir ac a deflir gan y gwynt.’
Canys na feddylied y dyn hwnw y derbyn efe ddim gari yr Arglwydd.”—lago i.
*5, 6, 7.
Dyma un addewid o lawer a wneir i weddi; a phe iawn ddeallem hi,gwnai ein
haddysgu pafodd i weddio, a pha beth a allem ddisgwyl trwy weddi. Dengys y
geiriau hyn fod gweddi o’r pwys mwyaf. “ O bydd ar neb o honoch eisiau
doethineb, gofyned gan Dduw, yr hwn sydd yn rhoi yn haelionus i bawb,- ac heb
ddanod, a hi a roddir iddo ef.” Gan fod Duw yn rhoddi doethineb i’r hwn sydd yn
gofyn, a hyny o herwydd ei fod. yn haelionus, ac heb ddanod, nis gellir rhoddi
un rheswm paham na rydd ef bob bendith angenrheidiol arall i’r rhai sydd yn eu
hiawn ofyn. Hefyd, dysg y gyfrari hon o’r dwyfol wirionedd yr agwedd meddwl y
mae yn gweddu i ni fod wrth weddio, fel’y byddo ein deisyfiadau yn gymeradwy. “
Gofyned mewn ffydd, heb ameu dim; canys yr hwn sydd yn ameu sydd gyffelyb i don
y mor, yr hon a chwelir ac a deflir gan y gwynt; canys na feddylied y dyn hwnw
y derbyn efe ddim gan yr .Arglwydd.” Nid pob math o weddi sydd lwyddianus, ond
gweddi’r xx ffydd yn unig. Nid oes gan yr amheus a’r anifyddiog un sail i
ddisgwyl derbyn dim oddi-wrth yr Arglwydd mewn atebiad i’w gweddiau. Os
derbyniant ddim oll, mae yn rhaid i hyn gymeryd lle
------------------------------------------------(x118)
TRAETHODAU, AC.,
,Y PAKOH. JENKiN JENKINS.
------------------------------------------------(x119)
mewn ffordd benarglwyddiaethol yn unig, ac nid ar hyd llwybr yr addewid;
oblegid nid oes addewid iddi. Y gweddiwr mewn ffydd lleb ameu yn unig sydd ai\dir
yr addewid, a gweddi’r ffydd yw y weddi gymeradwy. I’r dyben o osod y mater hwn
yn fwy amlwg, mi a gaf yn bresenol gyfarwyddo eich sylw at yr ymofyniadau
canlynol:—
I. Pa beth yw prif amcan neu ddyben
gweddi?
II. Pa le yr ymddengys pwysfawrogrwydd
y ddyled-swydd hon?
III. Pa beth yw rhai o gymeriadau
gweddi dderbyniol?
IV. Pa beth sydd i’w ddeall wrth
weddi’r ffydd, a pha mor bell y mae Duw wedi addaw gwrando ,y fath weddi?
1. Pa beth yw prif amcan neu ddyben
gweddi? Mae yn ofynol fod hyn yn y goleu cyn y gallwn farnn
gydag un cywirdeb beth yr ydym yn geisio gan Dduw, a pha un gWell ydyw ceisio
nen beidio ger bron gorsedd gras.
• 1. Nid ei dyben, yn sicr, yw gwneyd y Goruchaf yn fwy hysbys o’n sefyllfa a’n
hangenion. Mae ef yn cylchynu ein llwybr a’n gorweddfa—yn gweled trwom —yn
adwaen ein heisteddiad a’n cyfodiad—yn deall ein meddwl o bell—yn gwybod pob
gair sydd ar ein tafod. Nid oes greadur anamlwg yn ei olwg ef. Yr oedd, y mae,
ac efe a fydd felly byth; am hyny, nid i’r dyben i wneyd Duw yn fwy gwybodus am
danom yr ydym yn gweddio arno.
2. Nid dyben gweddi yw cyffroi Duw
mewn tostnri a haelusrwydd tuag atom, nac er peri fod ein sefyllfa yn ymddangos
yn fwy gwychaidd yn ei olwg ef nag oedd
o’r blaen. Mae ef yn wastadol yn anfeidrol roesawtis:i hael, ac o
dragywyddoldeb i dragywyddoldeb gyda’r un diysgogrwydd tosturiaethol yn canfod
diifygion ei gre-aduriaid. Ei gymeriad digyfnewid a’i berffeithderau a brofant
hyn.
3. Nid dyben gweddi yw effeithio y cyfnewidiad lleiaf yn mwriadau Duw. Hyn sydd
anmhosibl. A fwriadodd efe, ac oni chyflawna? A ddywedodd efe, ac oni ddaw i
ben? Y mae efe yn un, a phwy ai try ef? a’r hyn y mae $i enaid ef yn ei
chwenychu, efe ai gwna, yn y nefoedd uchod, ac yn y ddaiar isod. A phaham lai?
ei fwriadau ef ydynt anfeidrol ddoeth a da, wedi eu cynllunio mewn cyflawn olwg
o drefn pethau dichouadwy ac annichonadwy. Na fynwesed neb oblegid hyn fod
gweddi yn waith ofer. Na chaffed y fath dyb y croesaw lleiaf gan neb. Er nad yw
gweddi yn cyfuewid dim ar Dduw, na meddyliau ei galon, eto y mae yn cyflawni
dybenion pwysig yn ei pherthynas a ni ein hunain.
(1.) Bwriadwyd gweddi i fod o Ies effeithiol i’n parotoi yogyfer a derlyn
tendithion ysbrydol. Rhydd ddifrifol ystyriaeth o’n hymddibyniad ar Dduw.
Bendith nid o ychydig werth yw hon i greaduriaid fel nyni, sydd mor agored i
anghofio ein hymddibyniad. Gwna beri cynydd ar ysbryd o ymostyngiad, trwy ein
plygu i’r llwch o flaen gorsedd gras. Yma y gwelwn ein bychanrwydd a’n gwaelder
ger bron anfeidroldeb, mawredd, a phurdeb lor. Gwna i ni roddi ein hymddibyniad
ar Dduw am bob peth sydd arnom eisiau, yn gystal a bod • yn ddiolchgar iddo am
bob peth a dderbyniwn. . (2.) Trefnwyd gweddi i fod yn weithred o’n parch a’n
hymostyngiad i’n Crewr; parch gweddus i’w berffeithderau
------------------------------------------------(x120)
anfeidrol a gogoneddus oddiwrth
greaduriaid cymwys i’w hystyried, y rhai sydd yn dderbynwyr dyddiol o’i
gyfraniadau. Gweddi yn yr ystyr hyn sydd ddyledus i Dduw ei chael, a gweddus i
ddyn ei rhoi. Ac onid gwrthun yw dyweyd
mai po fwyaf yw iawnder Duw o’n gweddi, lleiaf yw ein rhwyman i’w
hymarferyd. Eto pa iaith arall sydd gan y rhai a wrthodant weddio. Aml y mae
dynion yn meddwl mai lles iddo ef y maent yn wneyd wrth gyflawni ei
orchymynion, yn lle eu lles eu hunain.
(3.) Bwriadwyd gweddi fel moddion i dderbyn y da, a gwrthod y drwg. Diau
fod Duw yn nghyson drefn rhagluniaeth wedi cysylltu bendithion pwysig â
gweddiau ei bobl. Gwyddom ei fod wedi cysylltu moddion a dybenion a’u gilydd,
yn gystal a bod cysylltiad rhwng achosion ac effeithiau. Penderfynodd
feudithion neillduol mewn atebiad i weddiau arbenig mewn perffaith gydgordiad
â’i anghyfnewidiol gyngorion a’i dragywyddol fwriadau. Priodol yw dyweyd mai
gyda golwg ar weddiau arbenig, deilliedig o wefusau a chalonau ei blant, y
lluniodd ei fwriadau tragywyddol. Os dywed neb—”Yn gymaint a bod bwriadau Duw
yn anghyfnewidiol sefydlog, nid gwiw gweddio; nis gall gweddi wneyd un
gwahaniaeth yn fy rhan yn y byd h wn, nac yn yr hwn a ddaw;” gallai y cyfryw
ychwanegu gyda’r un priodoldeb, “Ni wnaf fi ddim gweithio pwyth, na defnyddio
un moddion at estyn fy mywyd.” Mae y bwriadau dwyfol mor ddisigl a diysgog, a’r
canlyniadau hefyd, yn y naill ag yw yn y llall. Gallwn fod. yn sicr fod Duw
wedi sefydlu cysylltiad rhwng gofyn a derbyn, ceisio a chael, curo a chael
agoryd, edifeirwch a maddeuant, rhyfela a gorchfygu, bod yn ffyddlawn
------------------------------------------------(x121)
hyd angau a chael coron y bywyd,
&c., &c. Mae y cysylltiad hwn wedi ei wneyd gan anfeidrol ddoethineb yn
berffaith gyson a’r holl berffeithderau dwyfol ac amgylchiadau pethau, er
adfywio ein gobeithion, ac er cryfder ein ffydd. .Mae yr holl addewidion a
roddir i weddi yn golygu hyn, yn gystal a’r engreifftiau sydd genym fod Duw yn
gwrando gweddi.
II. Pa le yr ymddengys pwysfawrogrwydd gweddi? Ni chawn wneyd ond ychydig yn
rhagor yma nag enwi y prif erthyglau a olygwn yn atebiad i’r ymofyniad.
1. Sylwn ar y ffaith fod Duw yn cael ei
alw yn Wrandawr gweddi. Dyma iaith Dafydd
dan gynhyrfiad yr Ysbryd Glan — “Ti, yr hwn a wrandewi weddi, atat ti y daw pob
cnawd.” Dyma enw Duw mewn
coffadwriaeth i bob cenedlaeth; onid yw yn dwyn gydag ef reswm cryf i
anerch ei orsedd?
Yma y mae yr Arglwydd yn rhinweddol gyhoeddi ei fod ef ar orsedd
trugaredd — gorsedd i ni lwyddo o’i blaen
bob amser — at hon gallwn ddyfod
a’n diffygion, ein gofid, a’n holl drueni, mewn llawn hyder ffydd na thry ef ei
glust rhag gwrando ein griddfanau.
Nid anfuddiol yw gweddi, ond dyledswydd bwysig yn llawn budd i ni ydyw.
2. Y mae y gwirionedd hwn i’w ganfod yn
fwy amlwg yn yr amrywiol orchymynion a roddir i ni i weddio. Nid ydyw gweddi
wedi ei gadael i ni fel gweithred o hyfrydwch yn unig, i’w rhoddi heibio neu
i’w chymeryd i fyny yn ol ein teimladau a’n tueddiadau. Y mae yn dal
cysylltiad a ni yn mhob amgylchiad; y mae yn perthyn i ni ei
harfer. Gorchymynir i ni weddio “yn
ddibaid,” gweddio “yn wastadol,” gweddio mewn pob rhyw weddi a deisyfiad yn yr
Ysbryd Glân, gan wylied
------------------------------------------------(x122)
yn hyn yma, .mewn pob dyfal bara a deisyfiadau dros yr holl saint. Gorchymynir
i ni weddio yn ein hystafelloedd, ein haneddau cartrefol, ein cynulleidfaoedd
cyhoeddus yn mhob lle, gan ddyrchafu dwylaw santaidd, heb na digter na dadl,
dros bob dyn. Gan hyny, rhaid mai dyledswydd a braint bwysig yw
gweddio. Dwys ystyriwn hyn, ac aml weddiwn.
3. Tynir yr un casgliad oddiwrth yr
addewidion a wnaeth Duw i weddi. Cawn
luaws o’r rhai hyn yn y Gyfrol Ddwyfol; ac er eu bod yn dal gwahanol
gymeriadau, y maent oll yn cadarnhau y
cysylltiad sydd rhwng gofyn a derbyn y bendithion a ddeisyfwn. Yr Arglwydd a wrendy pan alwyf arno, efe a
gyflawna ddymuniad y rhai a’i hofnant ef, efe a wrendy eu llefain hwynt.” “Ni ddywedodd efe wrth had Jacob, ceiswch
fy wyneb yn ofer.” “ Cyn galw o
honynt yr atebaf.” Gofynwch a
derbyniwch, fel y byddo eich llawenydd yn gyflawn. Dyma unol iaith y Beibl.
Nid ein bwriad presenol yw
chwilio pa mor bell y mae Duw wedi addaw gwrando ac ateb gweddiau ei
blant ar bob achlysur. Digon i ni
ddeall fod cysylltiad yn bod, i raddau mwy neu lai, oblegid y mae hyn yn
cyflawn sicrhau pwysfawrogrwydd gweddi.
4. Argreffir y gwirionedd hwn yn ddyfnach ar y meddwl, os ystyriwn yr hyn y
mae gweddi wedi ei wneyd yn barod. Bu
gweddiau Abraham yn effeithiol i symud barnau dwyfol, a diogelu bendithion
anmhrisiadwy iddo ei hun a’i hiliogaeth;
a phe buasai ond deg cyfiawn yn
Sodoma, buasai ei weddiau taerion yn
arbed y ddinas euog hono. Ataliodd
gweddiau Moses bläau yr Aipht, ac arbedodd Israel wrth y Môr Coch; a mynych y
trodd ei weddiau farnau dwyfol oddiwrth
------------------------------------------------(x123)
y
genedl euog hono yn yr anialwch, ac ar eu taith tua Gwlad yr Addewid. Gwelwch
ef yn eiriol â Duw drostynt, pan oeddent wedi gwneyd llo aur, ac yn ei addoli,
a phan y gwrthryfelasant ar ddychweliad yr ysbiwyr. Erioed ni bu gweddiau dyn
yn daerach, na chyda mwy o gryndod a pharch dwyfol; ac fe allai na atebodd Duw
erioed weddi neb gyda mwy o raslonrwydd ac ymostyngiad. “Mi a’th wrandewais,”
meddai Duw, “ac a faddeuais gamwedd dy bobl, yn ol dy air.” (Ex. xxxii. Num.
xix.) Rhwydd fyddai cyfeirio at weddiau Joshua, Gedeon, Barac, Samson, Dafydd,
ac eraill, pa rai a rasol gymeradwywyd ac a atebwyd. Aml yr atebodd Duw ei bobl
yn y peth yr oeddent yn ei ofyn. Gweddiodd Elias “na byddai wlaw, ac ni bu
gwlaw ar y ddaiar dair blynedd a chwe’ mis; ac efe a weddiodd drachefn, a’r nef
a roddes wlaw, a’r ddaiar a ddug ei ffrwyth.” Profodd gweddiau Eliseus yn
gryfach diogelwch i Israel na miloedd o
gerbydau a marchogion. A pha beth a ddywedwn am Esaiah, Jeremiah, a
Daniel; cafodd y rhai hyn oll nerth i orchfygu gyda Duw. Do, fe aeth eu llefain
hwynt i glustiau Arglwydd y lluoedd, ac anrhydeddwyd hwynt ag arwyddion helaeth
o gyfryngau dwyfol ras. Gweddi i a gadwodd yr Iuddewon rhag difrod Haman yn
nyddiau Esther a Mordecai. Gweddi a achubodd Pedr o’r carchar, ac o law Herod,
yr hwn a sychedai am ei waed ef. Gweddi a waredodd Paul a Silas pan oeddynt dan
gyffion nerthol yn ngharchar Philippi; ac onid mewn atebiad i weddi y
tywalltwyd yr Ysbryd Glân ar y miloedd hyny ar ddydd y Pentecost? Nid oes dyn
duwiol ar y ddaiar nad yw Duw wedi ateb ei weddi lawer gwaith. Ond prysurwn at
y sylw nesaf.
------------------------------------------------(x124)
5. Mae Duw yn aml yn atal ei roddion am nad ydym yn eu ceisio mewn agwedd
addas. Dywed yr Arglwydd wrth y prophwyd Ezeciel, (xxxvi. 37.) “Ymofynir â mi
eto gan dy Israel i wneuthur hyn iddynt.” Yr oedd efe yn son am eu dychwelyd o
gaethiwed Babilon, eu hail sefydlu yn eu gwlad eu hunain, i roddi calon newydd
ac ysbryd newydd o’u mewn; ond nid oedd i wneyd hyn ond mewn atebiad i weddi.
Am hyny yr hysbysa mewn lle arall, “Yna chwi a’m cewch, pan y’m ceisioch a’ch
holl galon ac a’ch holl enaid.” Gan hyny yr oedd yn rhoi ar ddeall iddynt, na
buasai iddynt ei gael hyd nes y byddai iddynt ei geisio yn yr agwedd hon. Yn
debyg i hyn yr addysgir ni yn ateb Duw i Solomon yn nghysegriad y deml. A
gellir golygu hon yn rheol gyffredin am ymddygiadau Duw, o leiaf at y genedl
hono. “Os cauaf y nefoedd fel n’a byddo wlaw, neu os gorchymynaf i’r locustiaid
ddifa’r wlad, neu os danfonaf haint i blith fy mhobl; os fy mhobl, pa rai y
gelwir fy enw arnynt, a ymostyngant a gweddio gan geisio fy wyneb, a dychwelyd
oddiwrth eu ffyrdd drygionus, yna mi a wrandawaf o’r nefoedd ac a faddeuaf
iddynt eu pechod, ac a iachaf eu gwlad.” Neu fel pe dywedasai, ‘Os nad
ymostyngant dan fy marnau dwyfol, gan alw arnaf, nid ymedy fy marnedigaethau a
hwynt—ni symudaf hwynt ymaith.’ Dengys yr apostol ei fod wedi penderfynu y
gofyniad hwn am byth, pan y dywed, “Nid ydych yn cael, am nad ydych yn gofyn;
gofyn yr ydych, ac nid ydych yn derbyn, am eich bod yn gofyn ar gam.” Arwydda
fod y fendith yn aml yn cael ei hatal o eisiau ei gofyn mewn gweddi,’ ac o
eisiau gweddi o’r iawn ryw. Nis gallwn gadarnhau, gydag un priodoldeb oddiwrth
hyn, nad yw Duw yn cyfranu
------------------------------------------------(x125)
ei roddion ar rai amserau heb
weddio arno, neu yn annibynol o’n gweddiau. Penadur yw ef, gall wneyd yr hyn na
addawodd ei wneyd; fe ddichon ef droi o drefn gysefin ei lywodraeth, ac
anrhydeddu golud ei drugaredd yn wahanol i’n disgwyliadau a’n gobeithion ni.
Rhaid i ni beidio ei gyfyngu ef lle nad yw wedi cyfyngu ei hun. Eto, gan mai
gwir yw ei fod yn aml yn atal ei fendithion am nad ydym yn eu gofyn, a’u gofyn
yn iawn, rhaid fod hyn yn rheswm cryf dros weddi ddiragrith, ostyngedig, a thaer.
6. Ni chaf enwi ond un sylw yn rhagor er egluro angenrheidrwydd a phwys y ddyledswydd hon, a hono fydd ESIAMPL
CRIST. Aml y gweddiai ef, nid yn unig gyda’i ddysgyblion, ond hefyd wrtho ei
hun yn y dirgel. Yr oedd ef yn offrymu ei weddiau i Dduw “ trwy lefain cryf a
dagrau.” Nid oedd ef ddim yn blino nac yn esgeuluso y ddyledswydd hon. Am ba
beth yr oedd ef yn gweddio? Nid oedd ganddo un pechod i gael ei faddeu, na
chydwybod i’w phuro; nac oedd, ond yr oedd ganddo satan a byd llidiog i’w
gwrthsefyll, llafur lawer i’w gyflawni, a dyoddefiadau i’w dwyn. Un o
amgylchiadau ei ddarostyngiad oedd, ei fod ef, yr hwn oedd a phob peth yn ei
feddiant, yn ymddibynu am bob cynorthwyon oddi fry. Ond ni ddylem dybied fod ei
eirchion yn terfynu yn hollol arno ei hun. Mewn teimlad haelfrydig yr edrychai
o’i amgylch pan yn gweddio dros ei gyfeillion, a’i elynion hefyd. Oddiar y
dymer hon y gwaeddodd pan ar y groes, “O Dad maddeu iddynt, canys ni wyddant pa
beth y maent yn ei wneuthur.” Nis gallasai ef eu gadael heibio ar yr amgylchiad
cyfyng hwn, er cymaint a gerddodd oddiamgylch gan wneuthur daioni iddynt o’r
blaen. Na,
------------------------------------------------(x126)
y fath oedd ei esiampl yn hyn fel y parhaodd gyda’r gwaith hyd ei farw!
III. Ni a gawn yn awr wneyd rhai ymofyniadau beth yw rhai o gymeriadau gweddi
gymeradwy.
Os yw yn ddyledswydd o’r fath annhraethol
bwys, mae yn ofynol ein bod yn gwybod y pryd a’r modd y mae i ni ei chyflawni,
er sicrhau cymeradwyaeth yr hwn yr ydym yn galw arno.
1. Mae yn rhaid ei bod yn weddi y gwir Gristion, neu yn weddi y “cyflawn.” Nid
ymddengys pa fodd y mae yn ddichonadwy i Dduw gymeradwyo gweddi y drygionus,
gan nas gall ddeilliaw oddiar ysbryd uniawn. Heblaw hyn, dywed y gwr doeth,
“Aberth yr annuwiol sydd ffiaidd gan yr Arglwydd, ond gweddi yr uniawn sydd
hoff ganddo ef.” Nid wyf yn dyweyd nad yw Duw byth yn gwrando gweddi y
drygionus, oblegid gwrendy ar gwynion y cigfrain pan lefant. Fel Bod llawn
tosturi, fe ddichon eu gwaredu o drallod mor bell ag y gwelo hyny yn addas. At
hyn y cyfeiria y Salmydd yn Salm cvii. — “Y rhai a ddisgynant mewn llongau i’r
môr, gan wneuthur eu gorchwyl mewn dyfroedd mawrion. Hwy a welant weithredoedd yr Arglwydd, a’i
ryfeddodau yn y dyfnder. Canys efe a orchymyn, a chyfyd tymhestlwynt, yr hwn a
ddyrchafa ei donau ef. Hwy a esgynant i’r nefoedd, disgynant i’r dyfnder, tawdd
eu henaid gan flinder. Yna y gwaeddant ar yr Arglwydd yn eu cyfyngder, ac efe
a’u dwg allan o’u gorthrymderau.” Dyma ymadrodd rhyfedd am drugaredd Duw, ond
nid yw yn un prawf ei fod yn cymeradwyo eu gweddiau, er ei fod fel hyn yn eu
gwaredu o’u bedd dyfrllyd. Sanctaidd yw Duw, a byddai yn anghyson a’r
briodoledd hon iddo gymeradwyo
------------------------------------------------(x127)
dim oddiwrth ei greaduriaid, ond yr hyn sydd
yn foesol dda. Fe ddichon dosturio wrth bechadur, a’i waredu o’i adfyd pan
lefo. Ond nis gall edrych ar ei gymeriad na’i waith mewn modd cymeradwyol. Bu
hyn yn faen tramgwydd i amryw, ac aml y defnyddiwyd hyn gan yr annuwiol er ei
atal i weddio yn gyfan-gwbl. Nid yw y gwir, er hyn, i gael ei gelu, pa
driniaeth bynag a wnel dynion o hono. Duw a ddywedodd, “Y neb a dry ei glust
ymaith rhag gwrando’r gyfraith, sydd ffiaidd ei weddi hefyd.” Ac y mae Dafydd
yn addef, “Pe edrychaswn ar anwiredd yn fy nghalon, ni wrandawsai yr Arglwydd.”
A wna efe wrando ar eraill sydd yn edrych, neu yn hoffi anwiredd yn eu calonau,
a meddylfryd eu calonau yn gwrthwynebu Duw a’i gyfraith? Mae gweddiau y fath
bersonau, yn gystal a’u hymarferiadau, yn hollol amddifad o gywir gariad at
Dduw a dynion. Nis gall yr hwn sydd yn edrych ar egwyddorion cynhyrfawl yr
enaid gymeradwyo dim nad yw mewn cydgordiad a’i gyfraith. Mae yn ofynol, gan
hyny, i weddi ddeilliaw oddiwrth wefusau ffydd, cyn y bydd yn gymeradwy ger
bron Duw.
2. Rhaid ei bod yn wirioneddol, yn egluro ein dymuniad diwamal yn y peth yr
ydym yn ei ofyn. Mewn gair, rhaid ei bod yn iaith y galon — nid y deall a’r gydwybod yn unig. Mae gormod o weddiau
pobl Dduw yn ddiffygiol iawn o ddiledrithrwydd. Maent yn gofyn am fod yn rhaid
iddynt ofyn, ac nid oddiar eirwiredd, neu wir ddymuniad. Mae yr Arglwydd yn
caru gwirionedd oddi mewn; a’r rhai nad ydynt yn dyfod at ei orsedd felly, nis
gall eu hymddygiadau ddiogelu ei gymeradwyaeth
------------------------------------------------(x128)
ef, ond y maent yn bytrach yn cellwair yn ei olwg.
3. I’r dyben i’n gweddiau fod yn
gymeradwy a llwyddianus gyda Duw, rhaid eu bod yn daer, yn gystal a
gwirioneddol. “Nid oes neb yn ameu nad yw hyn yn angenrheidiol er cyflawni y
ddyledswydd bwysfawr hon. Mor daer oedd gweddiau Abraham pan yn dadleu ar ran
Sodoma, a phan yn deisyfu dros Ismael. Rhyfedd mor daer yr oedd Jacob yn
ymdrechu a’r Angel, pan yr eiriolai dros y gwragedd a’r plant. Gwelai hwynt yn agored i gael eu dinystrio
gan gleddyf miniog Esau, yr hwn oedd yn dyfod i’w cyfarfod a phedwar cant o wyr
arfog. Dywedodd wrth yr Angel, le, Angel mawr y cyfamod, “Ni’th ollyngaf oni’m
bendithi.” Darllenwch weddiau Dafydd,
Moses, Daniel, Nehemiah, ac Ezra; gyda pha fath wresogrwydd yr oeddynt hwy yn
tywallt eu deisyfiadau ger bron Duw.
Gyda theimladau bywiog a chynes
yr ymaflent yn ei nerth. Yr oedd
diledrithrwydd eu heirehion yn profi taerineb a chyflawnder eu disgwyliadau.
Crist hefyd a ddengys yn nameg y weddw, a’r barnwr anghyfiawn, a’r gwr a
fenthycodd dair torth yn echwyn am haner nos, nid yn unig yr angenrheidrwydd
mewn taerineb, ond hefyd ddifrifoldeb ein gweddiau. “Llawer a ddichon taer
weddi y cyfiawn;” megys pe dywedasai, os na bydd ein gweddiau yn daer, nid oes
i ni ddisgwyl ond ychydig neu ddim.
4. Ni
ddylem un amser fod yn ddoctoraidd, neu mewn hyfdra rhyfygus, eithr mewn
gwylder, gostyngeiddrwydd, a chryndod duwiol.
Mae hyn yn angenrheidiol mewn pob
gweddi dderbyniol. Ar y Duw
mawr, Bod ac Arswydydd y bydysawd, yr ydym yn
------------------------------------------------(x129)
galw — o’i flaen ef nid yw yr holl genedloedd ond megys defnyn o gelwrn, neu
fân lwch y clorianau; yr hwn nad yw y nefoedd yn lân yn ei olwg; y cerubiaid
a’r seraphiaid sydd yn cuddio eu hwynebau gan fawredd ei ogoniant. Beth ydym ni
i siarad â’r Bod arswydlawn hwn! Yn y llwch y mae ein lle ni i fod, mewn braw
sanctaidd, ofn mabaidd wedi ein meddianu. Yn y dymer hon yn hollol yr oedd
Abraham wrth nesau at Dduw yn ngwastadedd Mamre. Braidd yr adnabyddwn pa un ai
ysbryd eiriolaeth a thaerineb, neu arafwch ac ystyriaeth parch us o wrthddrych
ei weddi a’i meddianai fwyaf. “Wele, yn awr y dechreuais lefaru wrth yr
Arglwydd, a mi yn llwch ac yn lludw,” fel pe dywedasai, O, y fath fraint fawr
yw hon i’r fath bryfyn annheilwng. “O, na ddigied fy Arglwydd a llefaraf y
waith hon yn unig.” Y fath hefyd oedd teimlad y Publican, yr hwn, gan sefyll o
hirbell oddiwrth y drugareddfa, ni fynai gymaint a chodi ei olygon tua’r nef,
ond gan guro ei ddwyfron, efe a ddywedodd, “O Dduw, bydd drugarog wrthyf fi
bechadur.” Dyma dymer pob addolwr cymeradwy, mewn modd mwy neu lai; ei weddi yw
gweddi y truan a’r isel o ysbryd. Nid yw Duw yn ei dirmygu; O na, ar hwn yr
edrychaf! Arglwydd, mae genyt ti fyrddiynau dirif o angelion heb lychwino eu
gwisgoedd; cai burach addoliad gan y teuluoedd fry. Ar hwn yr edrychaf!
……………………………“Frodyr, de’wch, llawenhewch,
……………………………Diolchwch iddo, byth na thewch.”
Heb ryw gymaint o’r ysbryd hwn yn ein gweddiau, mae yn anmhosibl iddynt gael eu
cymeradwyo gyda Duw. Y rhai sydd a
mwyaf o hono sydd yn sefyll
------------------------------------------------(x130)
uchaf yn nghymeradwyaeth y Nef, ac yn derbyn y bendithion mwyaf toraethog. Er
ei fod ef yn gyru y rhai llawnion ymaith yn waglaw, cyfyd y tlawd o’r llwch, yr
anghenus o’r domen, lleinw y llestri gweigion, a phortha yr enaid newynog sydd
ar ddarfod am dano.
5. Rhaid i weddi dderbyniol ddyfod oddiar ddybenion uniawn. Medd yr apostol,
“Gofyn yr ydych, ond nid ydych yn derbyn, am eich bod yn gofyn ar gam, er mwyn
eu treulio ar eich melus chwantau.” Yr oedd y pethau yr oeddynt yn eu ceisio yn
addas i’w sefyllfaoedd a’u hanghenion, ond yr oedd y dyben yn ddrwg; rhyw
ddyben daiarol oedd ganddynt mewn golwg. Fe allai eu bod yn dymuno cael eu cadw
rhag poethder erledigaeth, nid fel y byddai iddynt wasanaethu Duw gyda llai o
enbydrwydd, ac eangu terfynau teyrnas eu Ceidwad; ond fel y byddai iddynt fwy o
esmwythder yn eu galwedigaetb.au, a suddo yn fwy didaro i fwynderau y bywyd
hwn. Pe allai eu bod yn ymbleidio, a’w bod yn dymuno rhyw oruchafiaeth ar eu
gwrthwynebwyr. Beth bynag oedd eu cais, nid oedd eu dyben yn gywir, am mai
rhywbeth islaw dyben penaf dyn oedd, sef gogoniant Duw. Pa un ai bendithion
tymhorol neu ysbrydol yr oeddynt yn eu ceisio, yr oedd rhyw ddybenion daiarol
yn llechu danynt. Dyrna yr achos fod eu gweddiau yn aflwyddianus, fel y bydd yr
eiddom ninau hefyd, pan y byddont o’r fath nas gall llygaid craff y Duwdod eu
cymeradwyo. Pan y byddo ein gweddiau yn ffrydio o galon wedi ei nhawseiddio, ac
oddiar ysbryd efengylaidd, mewn gwir ddymuniad am gynydd a phurdeb ei deyrnas,
byddant yn sicr y pryd yma o esgyn i glustiau Duw, yr hwn a dderbyn ein
gwasanaelh ac a gyfrana i ni ei fendithion.
------------------------------------------------(x131)
6. Ac yn olaf, gallwn ddyweyd
gyda’r apostol yn ein testyn, y dylem ofyn mewn ffydd, heb ameu dim; oblegid y
mae ffydd, yn ddiddadl, yn un o gymeriadau gweddi dderbyniol.
IV. Pa beth sydd i’w ddeall wrth weddi’r ffydd, a pha mor belled y mae Duw wedi
rhwymo ei hun i wrando ac ateb y fath weddi?
Wedi ateb, Beth yw dyben gweddi, lle mae pwysfawrogrwydd gweddi yn ymddangos, a
rhai o gymeriadau gweddi dderbyniol; ni a frysiwn yn bresenol at y pedwerydd
gofyniad.
Pa beth sydd i ni ddeall wrth weddi’r ffydd?
Gellir deall yr ymadrodd hwn mewn dwy ystyr, a rhaid i ni ei ystyried felly cyn
y gallom ddyfod i oleuni ar y pen hwn. Mae genym sail i gredu fod dwy fath o
ffydd yn cael eu defnyddio gan y prif Gristionogion; un anghyffredinol, yr hon
oedd yn perthyn i bersonau neillduol, y rhai oedd yn berchenog ar ddawn i wneyd
gwyrthiau; ac un arall yr hon a ellir alw yn gyffredinol. Perchenogid yr olaf
gan holl ganlynwyr yr Oen yn ddiwahaniaeth. Deilliai y ddwy oddiwrth addysg
ddwyfol, er fe allai nad yn yr un ffordd; yr oedd y ddwy hefyd yn sylfaenedig ar dystiolaeth Duw; eto mewn
rhai pethau yr oeddent yn gwahaniaethu; y gyntaf, yr hon a enwasom yn
anghyffredinol, yr hon oedd yn dal perthynas â gweithredoedd gwyrthiol, rai
troion a berchenogid gan ddynion annuwiol. Sicr i lawer gyflawni gwyrthiau yn
enw Crist, nad arddelir yn y diwedd. Pa un ai trwy ffydd neu hebddi yr oeddent
yn eu gwneyd ni ddywedir yn bendant, ond gan mai yn enw Crist yr oeddynt yn
gweinyddu, tybiaeth deg yw, mai trwy ffydd yn ei enw ef yr oeddynt
------------------------------------------------(x132)
yn gweithredu. Mae y dybiaeth hon yn gryfach fyth pan yr ystyriom ddarluniad yr
apostol o weithredoedd gwyrthiol yn gyffredinol. 1 Cor. xiii. “Pe llefarwn a
thafodau dynion ac angylion, ac heb fod genyf gariad, yr wyf fel efydd yn
seinio, neu symbal yn tincian. A phe byddai genyf brophwydoliaeth, a gwybod o
honof y dirgelion oll, a phob gwybodaeth, a phe byddai genyf yr holl ffydd, fel
y gallwn symudo mynyddoedd, ac heb genyf gariad, nid wyf fi ddim.” Yma y
meddylir, nid yn unig fod yn ddichonadwy i ddynion wneyd gwyrthiau heb fod yn
Gristionogion, ond hefyd y gallent eu gwneyd mewn ffydd yn ngeirwiredd a gallu
Duw. Ie, fod yn bosibl eu bod yn berchenogion ar yr holl ffydd, ddigon i symud
mynyddoedd, neu y gradd uchaf o ffydd cysylltiedig â gwneyd gwyrthiau, ao eto fod yn amddifad o gariad. Nid felly y
ffydd gyffredinol; mae gweithrediadau hon yn wastad yn rasol, a santaidd. Y mae
cariad yn hanfodol angenrheidiol i fodolaeth hon. Nid yn unig rhydd goel i’r
dystiolaeth ddwyfol, yn mha ddull bynag y byddo yn ganfyddedig, ond gwresog
fynwesa y dystiolaeth hono. Y mae a fyno ei gweithrediadau â’r deall ac â’r
galon hefyd; gwna buro yr enaid a gorchfygu y byd. Dichon ffydd wyrthiol gael
ei meddu gan ddyn na wyr ddim am adnewyddiad calon; ond y ffydd hon a feddianir
yn unig gan y rhai a aned o Dduw, ac sydd yn caru Duw; gosodir hi gan hyny yn
un o ffrwythau yr Ysbryd. “Yr hwn sydd yn caru, o Dduw y ganwyd ef.” “Enwaediad nid
yw ddim, a dienwaediad nid yw ddim, ond ffydd yn gweithio trwy gariad.” Nid ein
bwriad yn awr yw dangos y gwahaniaeth rhwng y ddwy ffydd yma, nac ymofyn pa mor
fynych y maent yn bodoli yn
------------------------------------------------(x133)
yr
un personau. Yn ein dyben presenol, digon yw i ni eglur ddeall eu bod yn
gwahaniaethu mewn rhyw bethau o bwys, fel na byddom, wrth ymresymu, yn agored i
gymeryd y naill yn lle y llall, fel pe byddent yr un peth.
Ymddengys fod yr hon a enwasom yn ffydd wyrthiol, yr hon a gyfyngid i’r rhai a
gyflawnent wyrthiau, ac yn angenrheidiol er arddangos y fath hynod ddwyfol
allu, nid yn unig yn grediniaeth ddiysgog yn ngallu Duw, trwy ba un y mae pob
peth yn bosibl a hawdd iddo ef, ond hsfyd bod y wyrth fwriadedig yn sicr o
gymeryd lle. Ni a welwn fod hyn yn fwy na chrediniaeth mai ewyllys Duw oedd i
wyrthiau gymeryd lle mewn rhifedi mwy neu lai, yn enw ei Fab, ar achlysuron
neillduol mewn atebiad i weddi, ac i ddybenion addas a phwysig, trwy y rhai yr
oedd y ddawn o wneyd gwyrthiau yn perthynu; oblegid gallasai hyn all gael ei
gredu, a’i gredu yn gadarn, heb gyraedd y nôd y byddai i wyrth neillduol ar
amser penodol i ddyfod i ben.
Yn awr, yr hyn yr ydym yn ei gredu a’i amddiffyn yw hyn, fod y ffydd wyrthiol,
beth bynag arall a olygir, yn cynwys crediniaeth y buasai i’r wyrth mewn
disgwyliad bob amser gymeryd lle. Nid oedd yn aros ar y ffaith fod Duw yn
alluog i’w chyflawni, neu ei fod wedi addaw ei dwyn i ben ar unrhyw amodau
tybiol, neu mai Duw gwirionedd yw, ac na wnai dori ei Air; ond yr oedd yn myned
i’r fan lle y buasai y wyrth hono a ofynid yn sicr o gael ei gwneyd. Y modd yr
oedd hyn yn gyraeddadwy a gaiff fod eto dan ein hystyriaeth; ond fod y ffydd
dan sylw yn sicr o fod yn ei gyraedd, sydd hollol eglur oddiwrth y dull y mae
Crist yn desgrifio yn Marc xi. Pan y rhyfeddai ei ddysgyblion
------------------------------------------------(x134)
wrth weled y ffigysbren wedi gwywo o’r gwraidd, yr hon a felldithiasai efe y
dydd o’r blaen, dywedodd yr Iesu wrthynt, “Bydded genych ffydd yn Nuw, canys yn
wir yr wyf yn dywedyd i chwi, pwy bynag a ddywedo wrth y mynydd hwn, tyner di
ymaith a bwrier di i’r môr, ac nid amheuo yn ei galon, beth bynag a ddywedo a
fydd iddo.” Prin y gellid ffurfio geiriau er gosod allan gyda mwy o eglurdeb,
mai wrth ffydd yn y fan yma y golygir crediniaeth y buasai y wyrth dan sylw heb
feth yn dyfod i gwblhad.
Mae ef yn darlunio y ffydd hon yn nacaol, ac yn gadarnhaol — “Pwy bynag a
ddywedo wrth y mynydd hwn, tyner di ymaith, a bwrier di i’r môr, ac nid amheuo
yn ei galon, ond credu.” Credu pa beth? Y peth a ddywedo efe y daw i ben; mewn
geiriau eraill, y buasai i’r wyrth amcanedig gael ei chyflawni, sef y symudid y
mynydd oddiar ei wadn a’i daflu i’r môr. Diameu fod y fath ffydd yn gosod allan
grediniaeth ddisigl yn ngallu Duw, trwy yr hwn yr oedd y wyrth i gael ei
gwneyd; ond ymddengys ei fod yn golygu rhagor, sef mai ewyllys Ior oedd i’r
wyrth ddysgwyliedig gymeryd lle! Yr oedd ein Harglwydd, wrth gadw y rhyw hyn o
ffydd mewn golwg, a’r gweithrediadau gwyrthiol cysylltiedig a’r adnod nesaf, yn
ychwanegu, “Am hyny meddaf i chwi, beth bynag oll a geisioch wrth weddio,
credwch y derbyniwch, ac fe fydd i chwi.” “Credwch y derbyniwch,” sydd ddesgrifiad
mor gymwys a neillduol ag a roddwyd yn yr adnod flaenorol; y mae yn eglur osod
allan y byddai iddynt gael y pethau a ddymunent mewn gweddi. Nis gellir yn briodol amen nad
yw “ beth bynag oll a geis-
Y PAKCH. JEWKIN JENKINS.
------------------------------------------------(x135)
lent” yn dal cysylltiad neillduol a’r testyn dan sylw, sef gweithrediadan
gwyrthiol.
Mae yn eglur, nid yn unig oddiwrth eiriau Crist yn y fan yma, fod cred am
sicrwydd y dynged, neu gyflawniad y wyrth, yn hanfodol i natur y ffydd
anghyffredinol hon, ond hefyd oddiwrth y ffaith, fod y rhai a gyflawnent
wyrthiau yn amneidio y fath dyb yn flaenorol i weithrediad y wyrth. Yn
gyffredin, os nad yn wastad, eglur ddaroganent y pethau oeddynt yn bwriadu eu
gwneyd, a thrwy hyn byddent yn rhinweddol osod allan y pethau oedd yn canlyn
i’r gwyddfodolion. Felly yr oedd Pedr pan y gwellaodd efe y dyn cloff, yr hwn
oedd wrth. borth prydferth y deml, dywedodd wrtho, “ Arian ac aur nid oes
genyf; eithr yr hyn sydd genyf, hyny yr wyf yn ei roddi i ti,” (gan arwyddo ei
fod ef yn myned i wneyd rhyw beth iddo.) “ Yn enw Iesu Grist o Nazareth, cyfod
a rhodia.” A phan y gwellaodd efe Aeneas, yr hwn er ys wyth mlynedd oedd yn
gorwedd ar wely, ac yn glaf o’r parlys—wrth hwn hefyd y dywedodd, “ Aeneas, y
mae Iesu Grist yn dy iachau di” (neu yn myned i wneyd hyny), “ cyfod a
chyweiria dy wely. Ac efe a gyfododd yn ebrwydd.” Oddiwrth y ddau hanes uchod,
ymddengys yn amlwg fod Pedr yn bwriadn, ac yn disgwyl gweithio gwyrth yn
flaenorol i’r wyrth ddyfod i ben; a phe na buasai y wyrth yn canlyn, rhaid
cyfaddef y buasai yr apostol yn cael ei siomi, neu( na ddaeth y peth yr oedd ef
yn ei ddisgwyl yn ol ei gred a’i ddisgwyliad.
Ffaith arall a ddengys fod cred yn sicrwydd y wyrth yn haufodol i’r ffydd trwy
ba un yr oedd yn cael ei gwneyd yw, nad oedd y rhai a ddonid a gallu gwyrthiol
rai amserau yn dangos y gallu hwnw; neu os oedd-
------------------------------------------------(x136)
TKAETHODAU, &C.,
ynt, methent trwy anghrediniaeth. Dywedir i Paul adael Trophimus yn Miletus yn
glaf. Nis gallwn feddwl paham y gwnaeth felly, ond ar un o ddwy dybiaeth; naill
ai na wnaeth efe un cynygiad i’w wella ef, neu iddo wneyd hyn ac iddo fethu. Pa
un o’r ddau sylw hyn sydd wir, gadawaf i’r darllenydd farnu; ond hyn sydd sicr,
nad oedd ganddo sylfaen dda i gredu y llwyddasai, onide buasai y peth yn dyfod
i gwblhad, gan fod Duw wedi rhwymo ei hun i gyflawni pa beth bynag a gredai ei
bobl ar dir da a digonol. Dywedasom, “ tir da a digonol,” oblegid ni ddylem
ystyried y ffydd wyrthiol, nac un ffydd wirioneddol arall, megys dychymyg
disail — neu farn heb achos na rheswm. O’r tu arall, yr oedd y ffydd hon yn
grediniaeth ddiysgog a rhesymol y buasai i’r gallu dwyfol gyfryngu i ddybenion
neillduol. Os rhesymol, rhaid bod ei had-eilad ar dystiolaeth; nid yn unig fod
gallu i wneyd gwyrthiau wedi ei gyfranu i ddynion i’w ddefnyddio ar achlysuron
neillduol a phriodol, ac i ddybenion gogoneddus ac uchel, ond mai boddlonrwydd
a bwriad Duw oedd i wyrth neillduol gymeryd lle ar y pryd, ac yn yr amser
bwriadol. Yr oedd hyn yn beth o bwys i’w gredu, am nad dim yn fyr o hyn fuasai
yn gwneyd y tro er cadarnhau crediniaeth yn sicrwydd y weithred; yr oedd hyn
yma yn hanfodol i gyrneriad y ffydd wyrthiol.
Dichon y gofynir, pa fodd y gallesid gwybod mai bwriad a hyfrydwch Duw oedd i
wyrth gael ei gwneyd mewn un amgylchiad? Pa un a ellir ateb y gofyniad hwn neu
beidio, rhaid cofio fod yn rhaid gwybod ewyllys a phenderfyniad Duw yn y peth,
onide nad oedd sicrwydd y buasai i’r weithred fodoli. Nid oes
PAKCIl. JENKIff JBNKIKS.
------------------------------------------------(x137)
un annhebygolrwydd yn y dybiaeth fod y rhai a weithredent wyrthiau trwy yr
Ysbryd Glan yn derbyn hysbysiad uniongyrchol a goruwchnaturiol oddiwrth yr
Ysbryd hwnw, trwy ba un yr oeddynt yn cyflawni y gweithredoedd nerthol hyn.
Onid oedd ef yn llywodraethu eu meddyliau a’u geiriau bryd bynag yr agorent eu
gwefusau i ddatgan y genadwri nefolaidd? Ac a ellir meddwl mai afresymol ei fod
ef yn cyfeirio iddynt trwy awgrymiad neu amuaid, y pryd, y modd, a’r pefch a
gyflawnent er cadarnhau eu hysbrydoedd yn eu gwaith bendigaid? Nid yw yn
ymddangos yn bosibl pa fodd y bodolai un gred gadarn mewn gweithrediadau
gwyrthiol heb ryw arwydd goruwchnaturiol o’r natur hyn. Oblegid pa fodd y dichon
dyn gredu heb dystiolaeth? Neu, o ba le arall yr oedd yn alluadwy i dystiolaeth
ddyfod er gwybod am wyrth ddyfodol? Os addefwn fod yr Ysbryd Glan, yr hwn oedd
yn wastad yn bresenol, yn rhoddi yr arwydd uchod i’r prif Gristionogion yn ei
addysgiadau gwyrthiol, yna mae pob rhwystr wedi ei ddiddymu. Mae yr hyn a
ymddangosai fel arall yn wrthun, gwan, a disail, yn dyfod ar yr olwg hon yn
rhesymol ac eglur. Yn yr ystyr hwn, mae gan y ffydd wyrthiol sail i orphwys
arno, gan nad yw ddim arall ond rhoddi coel i’r dystiolaeth ddwyfol. Cynwysa
“grediniaeth y byddai i wyrth gymeryd lle ar achosion addas, pa mor ryfedd
bynag y dichon y wyrth hono fod i reswm dynol, yn hollol gyson ag awgrymiad yr
Ysbryd Glan, trwy gyfrwng yr hwn yr oedd yn dyfod i ben.
Yn awr, mewn perthynas i’r gweddiau a offrymid yn y ffydd yma, dywedwn unwaith
am y cwbl, diameu fod yr hyn a ofynid yn wastad yn cael ei ganiatau, gan fod
------------------------------------------------(x138)
TKAETHOWATT, &0.,
hyn yn hollol gyson a’r addewid a wnaed yn yr achos, a boil natur
gweithrediadau y ffydd hon yn rhagdybied gwybodaeth am fwriad lor o barth y
caulyniad. “ Elias a weddiodd na byddai wlaw, ac ni bu wlaw ar y ddaiar am dair
blynedd a chwe’ mis; ac efe a weddiodd drachefu, a’r nef a roddes wlaw.” Ond a
ellir meddwl iddo weddio y gweddiau hyn heb iddo yn gyntaf gael hysbysiad oddi
uchod fod ei ddeisebion yn gyson ac unol dg ewyllys Duw? Yn yr yn modd yr ydym
yn deall y geiriau hyny sydd yn dy weyd, “ Gweddi y ffydd a iacha’r claf.” Yr
oedd Duw wedi addaw y byddai i effeithian gwyrthiol ddilyn y weddi a offrymid
yn yr ymarferiad o’r ffydd anghyffredinol a gwyrthiol hou.
Y mae ffydd arall yn cael ei defnyddio yn mhob oes gan dduwiolion mewn gwcddi;
ffydd sydd yn cymeryd gafael yn y perffeithderau a’r addewidion dwyfol. Nid oes
gan hon un hysbysrwydd gwyrthiol am atebiad, ond ymorphwysa yn hollol a
chyfangwbl ar- Air Duw, gan wneyd hwn yn rheol a therfyn en disgwyliadau. Beth
bynag a ddywed y gyfrol gysegredig, mae yn sefyll yn barod i’w dderbyn, gan ei
ddefnyddio yn ddadl mewn gweddi. Nid a un amser tu draw i hyn. Hefyd, gallwn
sylwi fod y ffydd hon yn ffrwyth ac addysg ddwyfol. Gweithredir hi yn yr euaid
trwy ddylanwad yr hwn sydd yn goleuo’r deall, ac yn santeiddio y galon; cynwysa
y fath fywiog grediniaeth beth yw Duw, a’r hyn y mae yn barod wedi ei wneyd i’r
rhai sydd yn ei wir geisio, na wyr y byd am dano. Nid dyma y cwbl, cynwysa
wresog gymeradwyaeth o Dduw yn yr hyn oll ag ydyw. Mae eisiau
egluro pa fodd y mae y ffydd hon i’w defnyddio yn y ddyledswydd o
Y PARCH. JENKIN
JEKKIWS.
------------------------------------------------(x139)
weddio. Nis gallaf osod allan fy ngolygiadan yn well yn hyn na thrwy ddyweyd
fod ffydd yn cael ei chyfeirio yn benaf at ddau beth—perffeithderau Duw, a’r
addewidion a wnaeth Duw yn a thrwy ei anwyl Fab.
1. Cyfeiria ffydd mewn gweddi at berffeitihderau Duw. Heb. xi. 6. “ Rhaid yw
i’r neb sydd yn dyfod at Dduw gredu ei fod ef, a’i fod yn wobrwywr i’r rhai
sydd yn ei geisio ef.” Nid yw yn bosibl i neb roddi addoliad cymeradwy i Dduw
heb y grediniaeth hon. Yn y man yma, maecredu ei fod ef yn cynwys mwy na chredu
ei fodolaeth. Cynwysa ei fod ef y fath Pod ag y mae ef yn ei Air yn ei egluro
ei hun. Mewn geiriau eraill, ein bod yn cydnabod ei briodoliaethau fel sylfaen
calondid i weddio arno. Yn y rhan amlaf o’r gweddiau argraffedig yn y Beibl,
gwelir fod ffydd yn ymwneyd ag un neu fwy o’r dwyfol berffeithderau bob amser.
Er mwyn manylu, sylwn:—
Y mae ffydd yn aml, os nid bob amser, yn ymaflyd yn y dwyfol allu. Mae yn dyfod
at Dduw fel Tad Hollalluog y bydysawd, yr hwn sydd yn llywio holl weithrediadau
ei deyrnas eang. Gwel holl awenau natur yn ei law, nad yw creaduriaid ond
offerynau ei allu. Hefyd, meddiana sicrwydd mai yr hyn a fyno a wna efe, ac mai
yr hyn a ewyllysio a gyflawna efe. Bydded y dydd mor dywyll ag y byddo, a pha
mor anhawdd bynag cyflawni’r gwaith, gwna ffydd ei noddfa yn ngallu Duw. Rai
troion, gwna gysylltu ei ddoethineb a’i ddaloni anchwiliadwy. Mewn gair, ymwna
ffydd yn fwy a gallu Duw nag ydym ni yn ei feddwl, a rhydd yr Ysgrythyr
ddesgriflad mwy eang o’i gweithrediadau yn ei pherthynas a’r briodoledd hon nag
un arall o’r priodoliaethau. Fel hyn y dywedir am Abraham,
------------------------------------------------(x140)
TBAETHODAU, AC.,
Y PAROH. JENKIN JENKINS.
------------------------------------------------(x141)
wedi iddo dderbyn addewid am fab o Sarah — “ Nid amheuodd efe addewid Duw trwy
anghrediniaeth. Ac yn gwbl sicr ganddo am yr hyn a addawsai efe, ei fod ef YN
ABL i’w wneuthur hefyd.” Drachefn, pan y profwyd ef i offrymu ei unig-anedig
fab, yr hwn a dderbyniasai yr addewidion,—” Gan gyfrif fod Duw YN ABL i’w
gyfodi o feirw.” Gwelir yr un peth yn eglur yn ffydd y ddau ddeillion hyny a
gaulynasant yr Iesu, gan lefain a dywedyd, “ Mab Dafydd, trugarha wrthym. Ac
wedi iddo ddyfod i’r ty, y deillion a ddaethant ato, a’r Iesu a ddywedodd
wrthynt, A ydych chwi yn credu y giillaf fi wneuthur hyn?” Ni ddywedodd, a
ydych chwi yn credu y gwnaf fi hyn. ISTa, yr oedd ef yn cadw Hyn yn ddirgel
iddynt hwy; cuddiai hyn yn ei fynwes ei hun. A ydych chwi yn credu y gallaf fi
wneuthur hyn? Atebasant, “Ydym, Arglwydd.’’ Yna y cyffyrddbdd efe a’u llygaid
hwynt, gan ddywedyd, “ Yn ol eich ffydd bydded i chwi;” a’u llygaid a agorwyd.
Nid oes dadl nad oeddynt yn gobeithio yn nhrugaredd Crist; yr oedd eu ffydd
wedi ei hadeiladu yn benaf ar ei alln; ac mor belled ag yr ymddengys, hyn oedd
yr oll ag oedd yn angenrheidiol er sicrhau y fendith.
Rhyw beth tebyg i hyn oedd sefyllfa y gwahanglwyfus a’r cauwriad, yr hwn a
ddymunodd ar Grist iachau ei was. Mat. viii. laith y gwahanglwyfus oedd, “
Arglwydd, os myni, ti a elli fy nglanhau i.” Nid oedd un amheuaeth ganddo am
allu Crist. Yma yr oedd ei ffydd yn gadarn a sefydlog; eto yr oedd yn amheus pa
beth a allasai meddwl Mab Duw fod yn yr achos hwn. “Arglwydd, os myni, ti a
elli” oedd ei weddi. Hollol gydnabyddai ei allu, er ei fod yn gadael y
canlyniad i’w
benarglwyddiaeth. Yr oedd ffydd y canwriad mor hynod nes y rhyfeddodd em
Ceidwad mawr, gan ddywedyd, “ Yn wir, meddaf i chwi, ni chefais gymaint ffydd,
naddo yn yr Israel.” Ymorphwysai ffydd hwn hefyd yn gwbl ar allu Crist, oblegid
pan amlygodd yr Iesu y buasai efe yn myned gydag ef, a gwella ei was, atebodd,
“ Arglwydd, nid wyf fi deilwng i ddyfod o honot dan fy nghronglwyd; eithr yn
unig dywed y gair, a’m gwas a iacheir. A dywedodd yr Iesu, Dos ymaith; ac megys
y credaist, bydded i ti; a’i was a iachawyd yn yr awr hono.”
Nid awn i ddilyn y sylw hwn, er mai llawer o bethau a ellid dynu o’r
Ysgrythyrau i ddaugos fod ffydd a’i llygad yn graff ar allu Duw, a bod ei
chryfder yn cael ei fesur wrth yr olwg sydd ganddi ar y biiodoledd hon. Felly
gyda golwg ar y p’riodoliaethau eraill, gwna ffydd edrych arriynt oll fel y
rhaent yn amrywio, ac yn gogoneddus gydgordio yn Ngair a gwaith yr Arglwydd. Os
gwna Duw lefaru, bydded y lle a’r peth a fyddo, gwna ffydd roi clust o
ymwrandawiad astud, gan gycl-synio a phob gair. Dywedir yn y Beibl fod Duw yn
ddoeth; mae ffydd yn credu’r dystiolaeth; a gwnai hyny hefyd pe na byddai ei
ddoethineb i’w weled mor amlwg yn ei waith a threfn ei ragluniaeth ag ydyw.
Gwirionedd cysurus iawn yw hwn i ffydd orphwys arno, yn neillduol rhewn tymorau
tywyll ac adfydus, pan fyddo olwynion rhagluniaeth yn troi yn ddwfn ac araf.
Gofynwyd i un ryw dro, “ Paham yr ydych yn cerdded cymaint? Paham na fyddai
genych geffyl bellach?” Ei atebiad oedd, “Mae llawer iawn o geffylau gan fy
Nhad; mae ef yn gyfoethog iawn. Gwn ei fod ef hefyd yn fy ngharu i yn fawr, a’i
fod yn sicr o
TKAETHODAU, &C.,
------------------------------------------------(x142)
roddi i mi yr hyn sydd oreu er fy lles. Hwyrach ei fod yn gweled tuedd mawr
ynwyf i ymfalchio, ac mai doethach, a gwell, yw fy nghadw i ar lawr n;.t fy
ngliodi yn rhy uchel i’r gwynt,”
Dywedir fod Duw yn drugarog a graslawn, yn barod i faddeu i’r edifeinol. Gwna
ffydd dderbyn y genadwri hon gyda llawenydd; chwareua ei hadenydd, ac mewn
cyflymdra eheda i fynwes trugaredd, fel ei hunig noddfa. I’r fynwes gynes hon
dymuna gario gofidiau a phechodau rhai eraill, ac mewn taerineb gostyngedig
crefa am iddynt hwythau hefyd gael eu disychedu a’r dyfroedd byw o’r un ffynon
risialaidd. Hawdd hefyd gweled t’od ffydd yn edrych yn graff ar burdeb a
chyfiawnder, ar anghyfnewidioldeb a fFyddlondeb Duw. Yn wir, ei wirionedd yw y
briodoledd ogoneddus hono, yn mha un yr ymafla ffydd o angenrheidrwydd, ac ar
hon y salt’ fel ei sail gadarn ac ansymudadwy. Fe ddichon na welir gweithrediad
ffydd yn fwy mewn dim na chymeryd Duw ar ei Air, ac ymorphwys yn hyderus ar ei
addewidion. Yn fwy neillduol,
2. Cydia ffydd yn addewidion Duw. Mae y rhai hyn oll yn Nghrist “ yn
le, ac yn Amen.” Gwna eu golygu fel y maent, yn ol eu gwir amcan a’u priodol
ddybenion. Mewn geiriau eraill, gwna iddynt let’aru y fath iaith ag a fwriadodd
yr Ysbryd Glan iddynt lefaru, heb eu cyfyngu ar y naill law, na’u hestyn yn
anmhriodol ar y llaw arall. Gwahaniaetha yr addewidion hyn yn eu cymeriad, a
gwyr ffydd beth yw y gwahaniaeth. Mae rhai yn anamodol, heb ddibynu ar
gyflawniad un amod, na dim ansicr. Eraill ydynt amodol, am fod y fendith addawedig yn ddibynol ar
bethau a allai gymeryd lle, neu beidio cymeryd lle.
f PARCH. JERKIN JENKINS.
------------------------------------------------(x143)
Addewidion eraill ydynt achlysurol neu leawl; nid ydynt o bwys i gredinwyr yn
gyffredinol, rhagor na rhoddi engreifftiau. o hynawsedd a ffyddlondeb Duw.
Gelwir eraill yn gyffredinol, am eu bod yn sefyll yn gywir i gredinwyr bob
amser, yn mhob lle, megys yr addewidion am faddeuant pechod—na wna Duw
au-nghofio ei bobl, na’u gadael yn amddifaid, &c.
Gellir galw eraill yn bendant. Cynwysant sicr gyflawniad o’r hyn sydd addawedig
o fewn cylch eu terfyniad bob amser. Felly yr oedd yr addewid a wnaed i’r ffydd
wyrthiol. Yn ol rhediad yr addewid, y mae geirwiredd Duw yn wystl y bydd i’r
peth a ofynir gael ei roddi ar bob achos lle y mae y ffydd hon yn bod.
Ond y mae addewidion o gymeriad gwahanol, nas gallwn eu golygu yn y dull
penderfynol hwn; mae rhyw eithriadan yn perthyn iddynt. Rhoddir addewidion i
gredinwyr am gynaliaeth dymorol, ac am fendith ar waith eu dwylaw.. Yr ydym yn
galw yr addewidion hyn yn angliyfyngawl, am eu bod mor aumhenderfynol ac eang;
yr ydym yn gadael eu cymwysiad yn hollol i lor yr holl ddaiar, neu i
benarglwyddiaeth Duw. Pan ddywedodd Crist wrth ei ddyggyblion, “ Ceisiwch yn
gyntaf deyrnas Dduw a’i gyfiawnder ef, a’r holl bethau hyn a roddir i chwi yn
ychwaneg;” hyny yw, bwyd a dillad, a phob angenrheidiau naturiol eraill er eu
cynaliaeth; buasent yn camgymeryd meddwl yr addewid yn fawr pe buasent yn ei
chymeryd yn y fath ystyr na buasai iddynt oddef angen, newyn a noethni. Gwyddom
fod gan dduwioldeb addewid o’r bywyd sydd yr awr hon, ac o’r hwn a fydd; ond
pwy a dyn y casgliad oddiwrth hyn, na fydd i un dyn duwiol ddyoddef newyn a
syched, noethni a chal-
------------------------------------------------(x144)
TRAETHODAU, AC.,
edi; i’e, ar rai amgylchiadau, fod y cyfryw mewn angen am bob bendith berthynol
i’r bywyd hwn. Edrychwn ar yr apostolion a’r enwogion en ffydd, er nad oedd y
byd yn deilwng o honynt, oni chawsant hwy en dirdynu yn ddiymwared, eu profi
trwy watwar, en fflangellu, eu rhwymo a’u carcharn? Mewn-gair, poenydiwyd hwynt
mor bell ag y gallasai deddfau natnr gyrhaedd, a llid eu gelynion ymddial
arnynt. “ Hwynt-hwy a labyddiwyd, a dorwyd .4 llif, a demtiwyd, a laddwyd yn
feirw a’r cleddyf; a grwydrasant mewn crwyn defaid a chrwyn geifr—yn ddyddim,
yn gystuddiol, yn ddr’wg eu cyflwr.” Buont dan yr angenrheidrwydd, pan yn
ffoedig o ffaen eu gelynion, i grwydro mewn anialwch, ac ar hyd y mynyddoedd, a
da oedd ganddynt gael frwll yn. y ddaiar i ymguddio, neu ogof i’w diogelu rhag
y rhai a syohedent am eu gwaed.
]SJi ddeuwn ni bytb. i ddeall yr addewidion hyn yn iawn, hyd nes y gosodwn Air
a Rhagiuniaeth Duw i esbonio eu gilydd. Os bydd i ni wneyd hyn yn ddi-hoced,
gan ddal y cyferbyniad o flaen ein meddwl, ni chyfarfyddwn a’r rhwystr lleiaf
er deall yr addewidio* a wneir i blant Duw am angenrheidiau y bywyd hwn. Mae y
bwa yn y cwmwl yn brawf na phalla amserau hau na medi holl ddyddiau’r ddaiar.
Yr oedd deddi’au natur, er codi moddion cynhaliaeth dyn, yr un ag yw, a bydd
eto yr un, a bendith Duw yr un mor sicr o’u dilyn, lle y defnyddir hwynt at y
gorchwyl yma. Mae ochr Duw yn cael ei chyflawni yn wastadol; hyny yw, ni bu y
byd erioed, lle y byddai dynion yn iawn ddefnyddio moddion cynhaliaeth, ac yn
cydgyfranu a’xi gilydd yn ol eu dyledswydd, nad oedd ynddo ddigon er diwalliad
ei holl drigolion. Pan yi ydym yn galw yr
ST PARCH. JBNKIN JEKKINS.
------------------------------------------------(x145)
addewidion hyn yn ANGHYFYNGAWL, ein meddwl yw, nad yw Duw yn cyfyngu ei
addewidion tymorol o fewn cylch sicrwydd er mwyniant ei blant bob amser. Yr
ydym yn awr wedi myned i ddyfroedd dyfnion, amcanwn ddyfod allan yn ngrym y
sylwnodan canlynol.
1. Diau fod dyn yn rhydd-weithredydd,
onide nis gallai yn unol a chyfiawnder fod yn gyfrifol, a bod yr annuwiol yn
fynych yn caniddefnyddio ei ryddid, trwy weithredu mewn modd gorthrymus tuag at bobl Dduw; mae dyn yn llywodraethu ar ddyn er drwg iddo.
2. Nid yw Duw, yn neillduol dan yr
efengyl, yn ei weinyddiadau cyffredinol, yn cau llifddorau nwydau yr anuuwiol
fel na lifa ei ddyfroedd yinddialgar er
anghysur y duwiol.
3. Mae hyn yn hollol gyson a
gweinyddiadau amynedd a rhagluniaeth Duw, sefyllfa prawf a chyfrifoldeb dyn, a
chosb yr annuwiol mewn byd i ddyfod.
4. Mae Duw felly yn ymddifadu ei blant
o gysuron a bendithion daiarol, fel Pen Llywydd doeth, er peri i’w grasusau
belydru yn fwy amlwg, er gwywo a lladd eu pechodau, dadrus eu gafaelion o’r
pethau a welir, a melysu y nefoedd iddynt yn y diwedd.
Yr ydym yn llwyr gredu y rhydd Duw bob da yn ol ei addewid, ag y mae ei
anfeidrol ddoethineb yn olygu a fydd er lles i’w bobl, ac na wna atal dim
oddi-wrthynt ond yr hyn, ar y cwbl, a fyddai er niwed iddynt. Yn yr ystyr yma
yr ydym yn deall y gwna yr Arglwydd mewn atebiad i’n gweddiau, ac felly yr ydym
yn deongli yr addewidion hyny yn gyffredin a wneir i weddi’r ffydd.
Nis gallwn ganfod un anghysondeb yn y gweiaydd-
------------------------------------------------(x146)
TBAETHODATJ, &C.,
iad hwn o eiddo Duw, ond yn y manau hyny y mae ei ewyllys neu ei fwriad yn
benderfynol ac amlwg yn ei Air. lle y
mae hyn yn bod dylai yr addewid gael ei deongli yn wahanol, yn gaeth fel y mae
yn llefaru. Yn yr ystyr yma yr ydym yn deall yr addewid a wnaed i’r ffydd
wyrthiol, yr addewid am faddeuant a bywyd tragywyddol i’r edifeiriol, a’r addewidion hyny am lwyddiant cyffredinol yr efengyl, a theyrnasiad
heddychol Crist. Mae ewyllys Dmr yn
amlwg yn y pethau hyn oll, a gweddus yw credu y daw yr addewidion yma i
gyflawniad i’r llythyren. Ond lle nad
yw ewyllys lor yn amlwg, ymddengys yn rhesymol ac angenrheidiol y dylid golygu
yr addewid yn anghyfyngawl, a’i bod yn dal allan gefnogrwydd i obeithio ac i
weddio, er nad yw yn rhoddi un sylfaen sicr, megys i drwch y blewyn, beth fydd
y pen draw. Yn y dull hwn, debygid, y
dylid deongli yr addewidion cynwysfawr a chyffredinol hyny a wneir i’r gweddiwr
crediniol; nid yw o un gwahaniaeth pa un ai i bethau tymorol neu ysbrydol y
perthynant; bwriadwyd hwynt i gynwys beth bynag a ellir ystyried yn fater addas
a theilwng mewn gweddi. Nid tebyg yw yr amheuir bodolaeth addewidion o’r natur
uchod, ac nad ydynt yn dal perthynas agos a phob credadyn. Y mae ganddo hawl i’w dadleu rhor
f’ynyched bynag y dynesa at orsedd gras am bob bendith gyfreithlon.
Crist yn ei bregeth ar y mynydd a rydd yr addewidion canlynol.
“Gofynwch a rhoddir i chwi, ceisiwch a chwi a gewch, curwch ac fe a agorir i
chwi.” Diau fod yr adnod hon yn rhoddi hawl i bob dyn, ac yn neillduol i bob
Cristion, i ofyn beth bynag iddo ei hun, neu arall,
T
Y PAKCH. JEKKIST JENKIWS.
------------------------------------------------(x147)
perthynol i’r bywyd hwn, neu yr hwn a ddaw, a’i ofyn mewn gobaith y bydd iddo
ei dderbyn, os bydd ei gais yn gyfreithlon, a’i agwedd yn addas.
Br rhoddi anogaeth mwy, y mae ein Harglwydd yn ychwanegu, “Neu a oes un dyn o
honoch, yr hwn, os gofyn ei fab iddo fara, a rydd iddo gareg? Neu os gofyn efe
bysgodyn, a ddyry efe sarph iddo? Os chwy-chwi gan hyny, a chwi yn ddrwg, a
fedrwch roddi rhoddion da i’ch plant, pa faint mwy y rhydd eich Tad, yr hwn
sydd yn y nefoedd, bethau da i’r rhai a ofynant iddo?” Dyma
addewid, os gwnawn ofyn y i cawn dderbyn, os ceisiwn y cawn, ac os curwn yr
agorir i ni. Nid yw yn ein cyfyngu at unrhyw fendith neillduol, ond y mae ei
hiaith yn llydan ddigon i lanw ein holl anghenion a’n holl ddymuniadau, bryd
bynag y gwnawn ei dadleu ger bron y drugareddfa.
Pa *bdd y dylem ni ddeongli yr addewid hon, ac addewidion eraill perthynasol
iddi o’r un cymeriad cynwysfawr, sydd yn bresenol yn dyfod i’n sylw yn ofyn iad
difrifol. Nid wyf yn gwybod ond am ddan fedd-wl yn cael eu lletya ar y mater
yma yn werth sylwi arnynt. Yr un y sylwasom yn barod arno, y dylid cyrneryd
addewidion o’r natur hyn mewn ystyr anghyfyngol, o leiaf, mor belled ag y maent
yn dal perthynas a’r pethan hyny lle nad yw ewyllys Duw yn wybodus, a’n bod yn
dal yn gywir mewn achosion digonol er cefnogrwydd mewn gweddi. Ond nid ydym i
ddeall eu bod yn rhwymo geirwiredd Duw i roddi beth bynag a ofynom, yn ol y
ffydd gyffredinol neu anghyfyngawl hon. Y meddwl arall yw, fod Duw yn yr
addewidion hyn yn rhwymo ei hun i roddi i’w blant beth bynag a ofynant, gan
gredu yn ddinam, a bod yr add-
------------------------------------------------(x148)
TBAETHODATT, &C.,
ewid yn dal yn gywir i drwch y blewyn, ar bob achos y gofynir mewn modd addas.
Yn ol y golygiad hwn, pe byddai i ddyn ofyn am ei fara beunyddiol, a’i ofyn
mewn ffydd, fod geirwiredd Duw yn yr addewid yn ernes iddo y byddai yn sicr o’i
gael; neu pe gofynai Unrhyw fendith dymorol neu ysbrydol iddo ei hun, nen i
arall, y gallai ofyn mewn sicrwydd diameuol y derbyniai, ac y byddai yn sicr o
dderbyn y fendith hono yn hollol yn ol ei ddisgwyliad. Pa un o’r golygiadau hyn
sydd wir? Br eich cyfarwyddo i benderfynu hyn, crefaf eich sylw
at y nodiadau canlynol:—•
1. Mae yn fwy dymunol ynddo ei hun, ac yn llawer mwy o fraint i’r credadyn, i
gymeryd yr addewid yn ol y golygiad a dybiasom flaenaf, na meddwl fod Duw yn
rhwymo ei hun i roddi beth bynag a ofynom, pa un ai doeth ai anoeth fyddo, er ei ogoniant ei hun, neu i’r
gwrthwyneb. Barnwch fod tad a dau fab
ganddo, a’i fod yn dyweyd wrth un, “ Myfi a roddaf i ti beth bynag a ofyni, os
gwnai ofyn mewn ysbryd addas a chrediniol, bydd i dy ddeisebion oll gael eu
hateb yn ddiball yn ol dy gais.” Ac
wrth y llall, “ Beth bynag a wnai ei ofyn mewn tymer addas i mi, ti a’i cai;
oddigerth y pethau hyny y byddwyf fi yn barnu mai gwell i ti fod
hebddynt.” I ba un o’r ddau hyn y
perthyn y rhagorfraint? Ein hateb yw,
mai yr hwn sydd yn derbyn atebiad i’w ddeisyfiadau, yn ol fel y mae ei dad yn barnu fyddai oreu
iddo. Mewn geiriau eraill, yr hwn sydd
yn cael yn ol doethineb ei dad, ac nid yn ol yr eiddo ei hun. Mae yr hyn sydd dan ein sylw yn hollol
gyfateb i’r gydmariaeth uchod.
Deonglwch yr addewid yn gaeth, bydd y credadyn yn sior o gael yr oll y
fiiae yn ei ofyn; ond nid yw yn sicr y caiff yr hyn
Y PAROH.
.TEKKISTS.
------------------------------------------------(x149)
fyddo er gogoniant Duw, na’i Ies penaf ei hun. Cy-merwch yr addewid yn
anghyfyngawl, yna y mae holl berffeithderau Daw yn ernes y bydd i’w
ddeisyfiadau gael eu hateb er ei ddaioni penaf; caiff dderbyn yr oll sydd er ei
Ies, ac ni atelir dim ond yr hyn y mae tragywyddol ddoethineb yn ei weled yn ei
holl gysylltiadau, a fyddai er niwed iddo.
2. Heblaw hyn, mae yr hwn sydd yn
ystyried ei wendid a’i ffaeledigrwydd ei hun yn rhwym o gydnabod na wyr ef ddim
beth sydd oreu er ei Ies. Pe ddiohon
ei eirchion fod yn ddifrifol, cyfeiriad ei ddymuniadau yn gyfreithlon, a bod ei
gais yn agos at ei galon; eto, wrth ystyried pob amgylchiad, nis gall ef
ddyweyd pa un gwell fyddai iddo gael yn ol fel y mae yn gofyn, neu gael yn
wahanol. Paham na wna yntau roddi ei
achos i un a all ddyweyd? Oni ddylem wneyd hyn fel gweithred ddyledus i’n
Llywydd doeth? Paham y cydgamwn fyned
i dir tu draw ein terfynau priodol mewn deisyfiadau anamodol ac anghymwys, a
rhoddi cyfeiriad i ganlyniadau nas gallwn wybod heb ddadguddiad newydd oddiwrth
Dduw, pa un a fyddant neu beidio er ein lles, a chynydd y deyrnas
gyfryngol. Os oes un peth yn sicr,
ymddengys, lle mae ein hanwybodaeth yn addefedig, mai ein dyledswydd yw gadael
ar Dduw beth a gawn, ac nid ei gyfarwyddo beth a ddylai ef gyfranu.
Eto, y farn gyffredin yw, y dylern. offrymu ein gweddiau (o leiaf am lawer o
bethau), mewn ymostyngiad. Ond rhy anhawdd canfod pa wedd y gellir gwneyd hyn,
lle nad yw ewyllys Duw yn wybodus, heb adael arno ef benderfynu beth a gawn
o’i haelfrydedd ei hunan. Nid ydym yn gofyn gan Dduw, os da ganddo, i
godi’r meirw, a barnu’r byd mewn cyfiawnder, &c.,
------------------------------------------------(x150)
TRAKIHODAtJ, &C.,
oblegid yr ydym yn gwybod ei ewyllys ar y materiop hyny. Ond os gwnawn ni
ddeall yr holl addewidion yn y fath ddull, a bod Duw dan rwymau i gyfranu pob
peth a ofynom ger bron ei orsedd, pa fodd y mae yn ddyled arnom ofyn mewn
ymostyngiad? Dylai ein deisyfiadau fod yn llawn mor rydd ac eang ag yw yr
addewid.. Y prif bwnc y mae ffydd yn sefyll yn gad-arn arno yw, y gwna yr
Arglwydd ein hateb yn ol yr hyn sydd oreu er ein lles.
4. Cymwys yw sylwi, lle nad yw ewyllys Duw yn wybodus, fod yr apostol wedi
esbonio yr addewidion a wneir i weddi’r ffydd yn ol y golygiad a gefnogasom yn
barod. 1 Ioan v. 14, 15. “ A hyn yw yr hyder sydd genym tuag ato ef, ei fod ef
yn ein gwrando ni, os gofynwn ddim yn ol ei ewyllys ef.” Hyny yw, os wyf yn
deall y geiriau yn iawn, efe a rydd gltist o ymwrandawiad, ac a rydd i ni ein
deisyfiadau, “ os gofynwn ddim yn ol ei ewyllys ef.” Pa bryd y gellir dyweyd hyn am
danom? Os wrth ewyllys Duw yma y meddylir ei gyngor dirgeledig, yn gystal a’i
orchymynion cyhoeddedig, yr hyn a ddoeth fwriadodd efe o barth canlyniadau
gweithredoedd ag sydd lawn mor bwysig a deddfau ein dyledswyddau (ac nis gallwn
roddi un rheswm paham nad addas yw rhoddi y fath feddwl llawn a hyn), yna mae
yn eglur nad ydym yn gofyn yn ol ei ewyllys ef, yn ol meddwl yr apostol, os na
bydd ein gweddiau a’r tri pheth canlynol ynddynt:—
(1.) Eu bod yn cynwys materion priodol, unol agor-chymynion Duw.
(2.) Eu bod yn cael eu hoffrymu yn yr Ysbryd Glan.
(3.) Rhaid eu bod yn unol a’i fwriad, neu foddlonrw/dd ei ewyllys ef; neu mewn
geirjau eraill, eu bod y
PAKCH. JEHKHSr
------------------------------------------------(x151)
fath eirchion ag y mae anfeidrol ddoethineb yn weled yn addas eu hateb.
Pan fyddo yr holl bethau hyn yn cydfodoli, nid oes dadl na wna Duw wrando, ac
ateb ein gweddiau yn gyfangwbl yn ol ein cais. Hyn yw mabwysiadu yr egwyddorion
a gefnogwyd yn ein sylw-nodau blaenorol, nad yw Duw ddim yn rhwym i ateb
gweddiau ei blant, pan y byddont yn dadleu ei addewidion anghyfyngol, ddim
pellach na rhoddi iddynt y pethan hyny y mae ei ddoethineb ei hun yn farnu
fyddo fwyaf cymwys i’w sefyllfaoedd. Nid ychydig yw rhif yr esbonwyr sydd yn
golygu mai hyn yw meddwl yr apostol; ac y mae un o honynt yn sylwi mai y meddwl
hwn yw allwedd gweddi’r ffydd i ddadgloi yr addewidion.
Ee allai y gofyn rhyw un, onid yw dechreu y 15fed ad-nod yn anunol &’r
meddwl uchod? “ Ac os gwyddom ei fod ef yn ein gwrando ni, beth bynag a
ddeisyfom, ni a wyddom ein bod yn cael y deisyfiadau a ddeisyfasom ganddo.”
Mae’r geiriau heb derfyniad—” beth bynag a ddeisyfom” Gwir, ond dylem gofio mai
beth bynag a ddeisyfom yn ol ei ewyllys ef. Os cymerwn ewyllys Duw yma yn
golygu ei reolau penarglwyddiaethol, yn gystal a’i reolau gorchymynol, mae yr
un golygiad yn dal yn gywir yn barhaus.
Ar ol y cwbl a ddywedwyd, fe allai y gofynir eto, pwy sydd i benderfynu y ddadl
hon? Hwyrach nad yw yr iaith yn golygu dim mwy nag ewyllys orchymynol Duw, ac
yna mae yn gyhoeddiad heb furiau iddo, y gwna lor roddi i ni beth bynag a
ofynom, os gwnawn ni eu gofyn yn gyfreithlon mewn ysbryd uniawn. Gad-ewch i ni
gan hyny wneyd ein apeliad at y ffeithiau. A ydyw Duw yn caniatau i’w blant yr
oll y maent yn ofyn
------------------------------------------------(x152)
TRAKTHODAU, AC.,
ganddo, hyd yn nod y pethau y mae ef yn orchymyn iddynt ofyn, pan y byddont yn
gweddio yn ol ei gyfarwyddiadau? Cyngorir hwy i ymbil, gweddio, a deisyf dros
bob dyn—i fod yn wresog yn yr ysbryd, a bod yn daer; ac onid yw yn beth rhyfedd
na ddarfu i neb o’i blant—prophwyd, apostol, neu ryw un, wneyd y cyngor uchod
mewn modd cymeradwy ger bron Duw? Beth bynag, a pha faint bynag oedd eu
gweddiau, un peth sydd sicr, fod y byd heddyw yn “ gorwedd mewn drygioni.”
Dymunodd Moses fyned tu draw i’r lorddoueu i wlad Canaan, a diau yr hoffai gael
gwladychu yn nhii yr addewid. Yr oedd y dymuniad hwn yn naturiol ynddo ei hun,
eto ni wnai Duw roddi iddo ei gais. Nid am nad oedd yn ostyngedig yn ei
ddeisyfiad, yn daer yn ei weddi, ac nid am nad oedd yn ymddiried yn nhrugaredd
a gallu Duw, ond gan fod Duw wedi bwriadu yn wahanol. Pechodd y gwr llariaidd
hwn wrth ddyfroedd cynen Cades, yn anialwch Sin; oblegid na wnaeth ef, ac Aaron
ei frawd, santeiddio yr Arglwydd yn mhlith meibion Israel. Cafodd weled y wlad
a’i lygaid, er prawf o’i dderbyniad gyda Duw, eto ni chafodd yn hollol yr hyn a
ddymunasai mewn gweddi.
Edrychwch ar Dafydd, brenin Israel, pan yn gweddio am adferiad ei
blentyn—”Dafydd a ymbiliodd a Duw dros y bachgen; a Dafydd a ymprydiodd ympryd,
ac a aeth ac a orweddodd ar y ddaiar ar hyd y nos.” Nid yw yn ymddangos i
Dafydd erioed fod yn fwy gostyngedig a thaer na’r pryd hwn, a diau ei fod yn
dal yn graff ar raslonrwydd Duw, y buasai yr Arglwydd yn anadlu yn rasol amo,
ac yn ateb ei gais y tro yma yn gystal a llawer gwaith cyn hyn yr ymbiliasai o
flaen ei orsedd.
Y PARCH. JEWKIN JBKKINS.
------------------------------------------------(x153)
Er i Ddinr gymeradwyo ei weddi fel gweithred o addoliad, eto barnodd Llywydd y
bydoedd mai gwell oedd. gweithredu yn wahanol i ddymuniad y dymimwr yn yr
amgylchiad presenol. Fe allai y codir gwrthddadl, na ddylasai Dafydd weddio dros
ei blentyn, gan i Dduw, trwy’r prophwyd, ddyweyd y buasai “ farw yn ddiau.” Yr
oedd ganddo yr un hawl ag oedd gaa Hezecian i weddio drosto ei hun wedi i’r
prophwyd ddyweyd, “Trefna dy dy, canys marw fyddi, ac ni byddi byw.” Y gwir yw,
nid oedd Dafydd na Hezecian yn golygu y bygythiad yn ddiamheuol, neu heb
eithriad iddo. Yr oeddynt ill dau yn barnu fod ysgatfydd yn yr amgylchiad, neu
yn ol iaith Joel, “ Pwy a wyr a dry Duw ac edifarhau.” Yn mhen ychydig ddyddiau
bu mab Dafydd farw, ond estynwyd amser Hezecian bymtheg mlynedd. A ellir rhoddi
rhyw reswm arall am y gwahaniaeth hwn, na bod gweddi y naill yn anunol a’r
bwriad Dwyfol, a gweddi y llall yn gydunol? Pa wedd yr oedd gyda Phaul, yr hwn
a ddeisyfodd dair gwaith ar i Dduw dynu y swmbwl o’i gnawd? Hyn oedd yr ateb,
“Digon i ti fy ngras i.” Nis gellir byth brofi iddo gael yr hyn oedd yn ei
ddymuno; eto, y mae yr atebiad a gafodd yn dangos fod ei weddi, fel gweithred o
ddyledswydd, yn gymeradwyol gyda Duw. Beth a ddywedwn am. ei ymdrechiadau a’i
ymbiliau dros ei genedl yn ol y cnawd, onid oedd ef yn gwir ddymuno eu
hiachawdwriaeth? eto, fel cenedl, y maent yn ysgymunedig trwy eu
hanghrediniaeth. Mae un peth eto yn hanes yr apostol hwn yn cadarnhau yr un
golygiad, hyny yw, sefyllfa y rhai a fwynhasant ei weinidogaeth ef. A wnaeth ef
ei ddyledswydd tuag atynt, neu naddo? Mae yn sicr na wnaeth os na
------------------------------------------------(x154)
TRAETHODATJ, &C.,
ddygodd efe eu hachos mewn modd syml a difrifol ger bron Duw, a’u
hiachawdwriaeth yn destyn ei weddiau. Os gwnaeth ef ei ddyledswydd tuag atynt,
pa fodd na chadwyd hwynt oll? gan fod Duw wedi addaw rhoddi beth bynag a geisio
ei blant mewn gweddi. Mae un o ddau beth yn wir, yn rhwym o fod, eu bod yn
gyfr-golledig trwy ei anffyddloudeb ef, neu, er ei fod ef yn fEyddlon, ar ol y
cwbl, iddynt gael eu colli. Pa un o’r ddwy ochr hyn a goleddwn? Os y cyntaf, yr
ydym yn cyhuddo yr apostol o fod yn euog o’u gwaed, yn groes i’w dystiolaeth ei
hun, ei fod “yn Ian oddiwrth waed pawb oll;” os yr ail, yr ydym yn rhoddi
heibio y meddwl, fod Duw bob amsor yn rhoddi i ni yn gyfangwbl yr hyn yr ydym
yn ei ddymuno yn ein gweddiau.
TAITH TRWY DALAETH OHIO.
------------------------------------------------(x155)
Dydd Llun, y 15fed o lonawr, 1844,
gadewais fy anwyl deulu, a phobl Dundaff yn gyffredinol, gan gychwyn i’r daith fwriadedig trwy dalaeth
Ohio. Yr oedd Daniel Moses, diacon o’n
heglwys ni, gyda mi, yr hwn hefyd a adawodd ei deulu fel fiuau, mewn gobaith y
byddai a ni eu gweled mewn amser dyfodol.
Gan nad allasem ymddibynu am eira i lithro ar hyd-ddo, cymerais y cerbyd
bach (spring wagon), a hwyliasom i’n taith hirbeil, a daethom hyd
Carbondale. Ar ol y cyfarfod yn
nghapel yr Annibynwyr, hyd haner y dydd dranoeth, agwedd hiraethlon ein
cyfeillion yno a eflfeithiai
ddwysder pruddaidd ar ein teimladau, gan ein dwyn i daer grefu am nawdd ac
ymweliad ein doeth a’n hynaws Lywydd, i gyfarwyddo ein ifordd, i’n bendithio,
a’n gwneyd yn fendith. Gallaf, yn
llwyr rydd oddiwrth ddichellrwydd ysbryd,
dystio, wrth feddwl ar y pryd symud i’r Gorllewin (os yr Arglwydd a
fynai i hyny gymeryd lle), fy mod yn teimlo anwylder nld bychan at y Parch. L.
Williams, a’r gynulleidfa oll, wrth feddwl ysgatfydd, er ein bod wedi cael
llawer cyfeillach felus cyn hyn, fod yr amser ar noswylio pan yr ymddifadid ni
mwy o gymdeithas ein gilydd.
Dranoeth aethom hyd Hyde Park. Wrth y gwaith haiarn a elwir Slocum Hollow,
pregethais i nifer o Gymry, lle y mae y Parch. T. Pugh yn
llafurio. Cawsom oedfa dda iawn yn y lle hwn, a llawn cymaint sirioldeb a’r
llall. Synai y cyfeillion yn fawr wrth ein gwroldeb yn yr amser hwnw o’r
flwyddyn.
------------------------------------------------(x156)
TRAETHODAU, &C.,
Yr oedd y ffyrdd yn galed gan rew, ac mewn rhai manau, yr oedd yn ofynol ein
bod yn hynod ofalns rhag i’n cerbyd bychan lithro nes ein dymchwelyd. Wedi
cyraedd . Wilkesbarre, gan fod yr bin yn anny-munol, arosasom yno ddeuddydd, ac
ymgynullwyd i dy anedd, a man arall, er addoli Duw ein tadau. Nid ydyw y bobl
hyn wedi ymgorffoli yn eglwys, gan eu bod yn perthyn i wahanol enwadau, ac nad
oes fawr o sicrwydd pa hyd y pery y gwaith.- Diclion mai gwell fyddai iddynt barhau i addoli fel y
maent am ycbydig eto. Daethom yn mlaen i le a elwir Shickshinny, a chyraeddasom
Danville erbyn y Sabboth, Ion. 21ain. Nid oes yn bresenol, o herwydd y
marweidd-dra fu ar y fasnach haiarn, fawr o’n cenedl yn y lle hwn. Wedi
llafurio yn eu plith, gweinyddu y Swper Santaidd, (yr bon fraint nis cawsent
er’s misoedd lawer cyn hyn,) a lletya yn nhy fy nghyfaill Wm. Cook, boreu Llun
canlynol cychwynasom, ac ar ol pedwar diwrnod o deithio caled, cyraeddasom
Ebensburgh. Y dydd olaf o’r daith bon yr oedd yn hynod o oer; pan oecldym wedi
dringo i ben yr Alleghanies, ac os yw y nefoedd, fel y mae rhai yn tybied,
<iu y dywedir ei bod, uwdi ein penau, dyma y man nesaf y bu JLMiiiel Moses a
minau yno erioed. Yn ysbaid y deg diwrnod yr oedasbm yn y lle hwn, pregethais
bymtheg o weithiau mewn gwahanol fanau; cefais eu haelionus gyfraniadau er fy
nghynorthwyo ar fy nhaith, yr hyn a fu yn galondid mawr i ni wrth fyned i lawr
ar hyd afon hirgul a Thalaeth eangfaith, wastad Ohio:
Er fod y bobl hyn, am flynyddau, wedi bod yn dra amddifad o ysbryd
Cristionogol, undeb a chariad brawdol, a chydweithrediad er ymeangiad
egwyddorion
Y PARCH. JEKKIN JBKKIKS.
------------------------------------------------(x157)
yr efengyl yn eu plith, gellwch feddwl mai llawen iawn oedd genym eu gweled
mewn tangnefedd, yn cydfwynhau bendithion toreithiog yr iachawdwriaeth, yr hen
ymrafaelion a’r felldith wedi eu claddu yn niynwent cariad, a dylanwadau
helaethion yr Ysbryd Glan yn dywalltedig arnynt yn gyffredinol. Yn ysbaid y
flwyddyn, neu y deuddeg mis a aethant heibio, derbyniwyd dros 120 ar broffes
o’u ffydd yn y G-waredwr mawr; ac O! mor hyfryd oedd gweled y Parch. Mr. Howes
yn llafurio’n ddiflin yn eu mysg, a’r hen bererin Mr. Eoberts yn tywallt dagrau
o orfoledd, wrth feddwl fod achos y bendigedig Iesu yn myned rhag ei flaen yn y
lle’y treuliodd ef ei oes i hau yr had da.
Wrth gychwyn oddiyma tua Pittsburgh, ar ol ciniaw, yr oedd o droedfedd i 15
modfedd o eira ar y ffordd, fel nad allasem fyned ond ychydig yn y blaen y
prydnawn hwnw; eto erbyn y nos yr oeddym wedi rhyned tua 15 milltir. Anhawdd
oedd myned heibio i’r golygfeydd a welsom y dydd hwn heb wneyd rhai nodiadau.
Ar ben y Laurel Hill, lle hynod o uchel, yr oedd niwl tew, a’r coed o’n
hamgylch yn orchuddedig gan rew, y crwybr yn ychwanegu ato, a’r perlau
prydferthaf yn grogedig wrth gangau pob pren, ag a welsom erioed. Hefyd, yr’wyf
yn cofio fy mod heb fenyg am fy nwylaw y pryd hwn, ond nid oeddym yn teimlo ein
hunain yn oer nac yn ddigalon. Yr oedd golygfeydd o’r natur yma yn ein dwyn i
ryfeddu doethineb, gallu, ac ardderchawgrwydd Duw, yn un o uchel fanau y byd.
Ond pa faint mwy ardderchog a godidog >ydyw y drefn gyfryngol seiliedig yn
ngwaed Ceidwad pechaduriaid, ar yr hon y mae yr angylion yn chwenychu edrych.
------------------------------------------------(x158)
TKAETHODAU, AC.,
Yr ail Sabboth yn Chwefror yr oeddym yn Pittsburgh, lle y cefais fwynhau
cyfrinach siriol lorwerth, David O. Jones, ac amrai eraill, ac y derbyriiais yr
angenrheidiau hyny ag yr oedd eu hamgylchiadau yn ganiatau, er fy ngalluogi i
fyned yn mhellach. Mae y lle hwn wedi adfywio yn fawr yn ddiweddar mewn
masnach, a’r bobl yn dechreu dyfod unwaith eto yn fwy calonog. Arosais gyda hwy
am wythnos. Wedi i mi ddyweyd ar fedydd yn ngapel yr Annibynwyr, bu gweinidog y
Bedyddwyr yn traethn ei olygiadau yntau ar fedydd yr ail Sabboth. Nid wyf wedi
canfod erioed eto nad oes genym hawl i farnu drosom ein hunain; os yw neb o’m
brodyr yn barnu yn wahaiiol am bethau, hwyrach mai gwell fyddai i ni gyduno i
fethu cyduno.
Methais gyrhaeddyd Cincinnati yn ol cytundeb llywydd y bad a mi; yr oedd yn
godiad haul boreu y 3ydd Sabboth o Ohwefror arnom wrth Gallipolis. Gan nad
oeddwn yn gallu barnu fod fy Nuw wedi fy ngosod i deithio ar y Sabboth, tiriais
yno, a phregethais gyda’r .Henaduriaethwyr (lle yr oedd y Parch. Mr. Gould yn
weinidog), ddwywaith, a lletyais gyda y pregethwr. Yr oedd ganddo bump o
ferched wedi tyfu i’w maintioli, ac un bachgen; yr oeddynt yn canu mor
soniarus, ac yn eu hymddygiadau yn deimladwy, serchog a doeth, fel y gwnaethant
argraffiadau parchus ar fy meddwl am dauynt ar ol ein hymadawiad. O’r
lle hwn, tuag o 15 i 20 milldir, y mae sefydlfa helaeth o Gymry, Ty’n y Bhos,
Centreville, Moriah, ac Cakhill. Y ffyrdd oeddynt fudr iawn yr amser yma o’r
flwyddyn; nid wyf yn • cofio i mi yn fy oes weled na thramwyo eu cynddrwg.
Pregethais yn y sefydlfa hwn tua deuddeg o weithiau. Y mae o’r lle cyntaf, Ty’n
y Bhos, i Cakhill tua
PABCH. JENKIN JENKINS.
------------------------------------------------(x159)
15 milldir. Gan mai yn y canolbwynt y mae Centre-ville, wedi pregethu ddwywaith
yn y lle cyntaf, ponderfynais anfon dau gyhoeddiad at y Trefnyddion
Cal-finaidd—un i Centreville, a’r llall i Moriah. Yr oedd y
Parch. J. Davies, gweinidog Annibynol y sefydlfa, wedi ffurfio, eglwys
Annibynol yn y lle rhag-grybwylledig, sef Centreville, mewn ty anedd. Addewais fod yno am 3 yn y
prydnawn, a’r lle arall yn yr hwyr. Aethym i’r .ty anedd a nodwyd erbyn ciniaw,
am tuag un o’r gloch. Hysbysodd y teulu i mi fod cyfarfod yn eglwys y plwyf, a
chan mai hon oedd y gyntaf ag y daethym o hyd iddi yn mhlith ei» cenedl yn
America, teimlais awyddfryd i fyned hyd ati. Wedi myned yno, yr oedd y bobl
mewn cyfarfod neillduol; deisyfasant arnaf ddyweyd ychydig wrthynt, yr hyn a
gyflawnwyd. Cyhoeddwyd y buaswn mewn ty anedd am 3, a chyda y Trefnyddion yn yr
hwyr. Daeth yr offeiriad Cymreig, y Parch. Mr. Edwards, gyda mi i’r ty a enwyd,
a dechreuodd yr oedfa yn ddymunol iawn. Cyn ymwasgaru, hysbysodd gwraig blaenor
y Trefnyddion fod ei gwr wedi ei danfon hi yno i ddyweyd, er y byddai yn dda
ganddynt hwy i mi ddyfod i bregethu yn eu capel hwy y noson hono, eto nad
allasent hwy fy ngadael i ddyfod nes y byddai iddynt siarad a’r ymddiriedolwyr
(trustees). Gofynais a oeddynt dan yr angenrheidrwydd o siarad a’r trustees bob
tro yr, oeddynt yn myned i gadw cyfarfod crefyddol? Dim atebiad. Yna hysbysodd
yr offeiriad y byddai Mr. Jenkins yn yr eglwys yn yr hwyr. Yna nodais mai y
rheswm a’m gogwyddodd i anfon cyhoeddiad at y Trefuyddion yn y lle hwnw y noson
hono
------------------------------------------------(x160)
TRAETHODAU, AC.,
oedd, am mai hwy oeddynt y rhan luosocaf o’r ardalwyr—fod teimlad ynwyf i fod o
ryw Ies i’m cenedl, a bod fy nghomisiwn i yn cynwys yr “ holl genedloedd “ —fod
Duw yn ddoeth iawn yn ei drefn anfeidrol—pan y byddai un drws yn gauedig, fod un
arall yn agored led y pen. Ni buaswn yn adrodd yr amgylchiad hwn oni buasai fod
rhai yn priodoli y weithred hon i’r enwad hwnw, ac nid i berson unigol; oblegid
nid yn unig cyflfrodd hyn y bobl nes y cefais dyrfa anghyffredin i’m gwrando yn
yr hwyr, a’r Sabboth canlynol, am fod y fath swn wedi myned am danaf, ond
amlygwyd anfodd-lonrwydd mawr at y blaenor gan y Trefayddion eu hnnain, a
deisyfwyd am i mi, os oedd yn ddichonadwy, ddyfod atynt ryw dro cyn ymadael a’r
ardal.
Yn y sefydlfa hwn y mae tua 1,500 o drigolion Cymreig, y rhan amlaf o
gylchoedd Llangeitho. Yn ol fy marn i, trwy fod y tir yn gynwysedig o bridd
melyn, gwanclyd, tlawd, y trigolion yn gyffredin ag.ond ychydig neu ddim pan yn
dechreu byw yno—fod cymaint o honynt mor ddiweddar wedi dyfod i’r un lle, a’u
bod ar y cyntaf mor aughyfarwydd a threfn y wlad newydd hon o fasnachu, mai hwy
oeddynt y bobl lymaf en hamgylchiadau naturiol a welais erioed. Bto, wrth
ystyried fod yr amser yn adfywio, hwythau yn dyfod yn fwy cyfarwydd a threfn y
wlad, a bod gweithfeydd haiarn ar eu cynydd yn en hardaloedd, dichon na welir
ein cenedl byth mwy yn y eylchoedd hyn mewn cyflwr mor isel ag ydynt yn
bresenol.
Gadewais Cakhill, ac aethym hyd Portsmouth, 20 milldir o ffordd; cymerais
agerddlong, a chyrhaeddais Cincinnati cyn y laf o Fawrth. Yr oedd Mr. Jones,
T PAKCH. JBKKIN JENKINS.
------------------------------------------------(x161)
gweinidog yr Annibymvyr Cymreig, yn glaf iawn, er ei fod yn gwellau yn dda cyn
i ni ymadael o’r ddinas. Mae hon yn ddinas braf, ac yn cynyddu yn gyflym. Y
Sabboth olaf 6 Chwefror, yn Cincinnati, torodd tarw allan o yard, a chorniodd
Gymro o’r enw Thomas Thomas, puddler, 30 ml. oed, gynt o Ferthyr Tydfil, mor
ddrwg, fel y bu farw ar y 4ydd o Fawrth. Dywedir ei fod yn wr priod, a bod ei
weddw yn bresenol tua Thre-degar, Mynwy. Pregethodd yr ysgrifenydd mewn ty
tafarn, cyn myned a’r corff i dy ei hir gartref.
Yn Cincinnati a Paddy’s Kun, pregethais tua 15 o weithiau. Gwelais yn yr holl
fanau yr ymwelais a hwy rai a’m hadwaenent o’r blaen, a chefais, mor bell ag yr
wyf yn gwybod, serchawgrwydd pawb yn gyffredinol. Mae gan y
Parch. B. W. Chidlaw ddau ddyn ieuainc yn yr ysgol, er eu parotoi at waith
pwysig y weinidogaeth—Morgan ac Evans. “Wrth ystyried sefyllfa ein cenedl yn y
wlad eang hon, a’r amddifedrwydd o ddysgeidiaeth ag y mae llawer o honom yn
llafurio dano, sydd yn preg’ethu yr efengyl yn eu plith, mae yn hofl iawn genyf
fod Mr. Chidlaw wedi cymeryd y gorchwyl canmoladwy hwn mewn llaw. Dymunwn iddo
hir oes, a hyderaf y bydd iddo ymeangu yn ei derfynau, ac y gwna yr eglwysi
ymdrech er cynorthwyo bechgyn o alluoedd da, a gwir dduwiol, er eu cynysgaeddu
a manteision dysgeidiaeth, er budd yr achos goreu. Os ydym am weled llwydd yn
em plith, ffolineb yw i ni bellach ed-rych yn unig am gynorthwy o Gymru; rhaid
i ni1 ymdrechu gartref, yn ngwlad ein mabwysiad.
Yr wyf wedi bod yn Columbns, Eadnor, Newark, a Granville, abwriadwyf symudfy
nheulu yr haf hwn, gan I
4*
------------------------------------------------(x162)
TKAETHODAU AC.,
fy mod wedi penderfynu, os yr Arglwydd a’i myn, ac os Jiyddwn byw, i lafurio yn
ngwinllan Crist yn y lleoedd A nodwyd, sef y ddau olaf, Newark a Granville.
Hoff fyddai genyf ysgrifenu yn helaethach. Amser a brawf pa un a wnawn ai
peidio. Mae y brodyr a’r chwiorydd yn earn gweled ychydig o fy hanes, ac wele
ef iddynt, wedi ei ysgrifenu dan radd o anfantais yn y boat rhwng Newark a
Cleveland, wrth ddychwelyd at fy eiddo.
YMWELIAD A OHYMEU.
------------------------------------------------(x163)
Pell wyf o’r meddwl y gwna pawb a welant yr hanes hwn gymeradwyo rhai pethau a
gynwysir ynddo, ac y bydd eu golygiadau hwy yn hollol unol a’r eiddof fi; ond
gan fod genyf hawlfraint oddiwrth fy Nghrewr i farnu droswyf fy hun, ni
phetrusaf ei danfon i’r argraff-wasg; ac os bydd i ryw un wneyd ad-sylwnodau ar
yr hyn a allai ymddangos iddo ef yn feius, neu yn anghyson mewn ysbryd ac iaith
frawdol, yr wyf yn cymeryd yr adeg hon er hysbysu i’r cyfryw un, fy mod yn
agored i argyhoeddiad, ac yn ddiolchgar am fy ngoleuo.
Mai 25, 1841, cymerodd Thomas ac Owen Baxter (Evans a’i wraig—pobl o
Lanbrynmair), a minau, long, dan yr enw “ Sheridan,” yn rhwym o Gaerefrog
Newydd i Lynlleifiad, a thiriasom yn y lle olaf yn mhen fcair wythnos i’r awr.
Nid oedd dros tua 80 o deith wyr yn y llong, y rhan fwyaf yn enedigojj>|r
Iwerddon, Lloegr, yr Alban, a Chymru. Yr oedd y: rhai hyn yn myned i aros yn yr
Hen Wlad, neu yn yniofyn arian oddi yno, neu er gweled eu hen gymydogion a’u
perthynasau, neu farsianda, a phethau o’r fath.
Yr oedd rhai pethau annymunol yn y llestr hon, megys tymerau afrywiog yr
is-lywydd, a rhegfeydd dychrynllyd y morwyr; eto ni welais neb yn ymladd a’u
gilydd, neb yn feddw, nac ond ychydig yn cymeryd diodydd meddwol, ar ol eu
saldra ar y dyddiau cyntaf, Yr oll a allasem wneyd, mewn ystyr grefyddol, oedd
------------------------------------------------(x164)
TRAETHODATT, &C.,
cyfranu y traethodau a gefais yn y ddinas, ac ymddyddaniad personol ag amrai
o’r mordeithwyr ar amserau neillduol. Cawsom daith hynod gysurus, ond fod yr Mn
yn oer iawn tua’r diwedd, wrth ystyried mai mis Mehefin ydoedd. Bu Thomas
Baxter yn glaf y rhan fwyaf o’r amser, ac Owen ei frawd a minau yji chwareu
arno, gan mai melinydd ydoedd, ei fod wedi bod yn tolli ar y trymaf tuag
Ebensbiirgh, a bod rhagluniaeth yn ei geryddu am y fath bechod. Tystiai yn aml
ei ddiniweidrwydd, gan ddyweyd mai cysurwyr galarus oeddyni ni oll iddo ef.
“Wedi myned i Liverpool, yr oedd hiraeth arnom o herwydd ein bod yn ymadael a’n
gilydd. Daeth pilot o Beaumaris i’n tywys ar hyd yr afon; hen Cymro iachus yr
olwg arno oedd hwn; dywedai ei fod yn adnabyddus a’r Parch. Morris Eoberts.
Gofynodd pa fodd yr oedd pethau gydag ef yn awr, gada’i blaid newydd? Dywedais
wrtho fy mod wedi ei weled er’s llai na mis yn ol, a’i fod yn iach a chalonog,
er ei fod y tro diweddaf y clywais i ef yn pregethu, yn gofyn, “Ys truan o ddyn
ydwyf fi, pwy a’m gwared oddiwrth gorff y farwolaeth hon.”
Arosais yn Liverpool dros y Sabboth canlynol, a phregethais yno bedair gwaith. Bu
y Parch. Mr. Pierce
yn serchog iawn i mi. Soniodd yn fynych yn dra thyner am y Parch. E. Everett, a
dywedodd ei fod bob amser yn ei olygu fel tad iddo ef. Cymerais fy nghenad yn y
Tabernacl, dros ferched Gaerefrog ISTewydd, ar yr hwyr Sabboth, i ddychwelyd en
diolchgarwch i ferched crefyddol Llynlleifiad, am eu hanerchiad rhagorol
iddynt. Yr oedd hyn yn effeithiol iawn iddynt, ac yn achos llawenydd mawr
ganddynt. Wedi i’r moddion cyhoedd fyned heibio, yr oedd cwrdd
Y PARCH. JBNKIIT JENKINS.
------------------------------------------------(x165)
gweddi dan y capel gan y merched ieuainc; cefais gymelliad i fyned i’r cwrdd
gweddi hwn. Bn naw neu ddeg ar weddi. Yr oeddynt oll yn hynod ddrylliog;
cyfeirient eu deisyfladau mewn dwfn ystyriaeth o santeiddrwydd a chyfiawnder
Duw; erfynient drugaredd, gan gwbl gredu ei fod yn alluog i gyflawni cu holl
angenrhaid, a chyflwynent eu hunain, a’u gilydd, a holl blant y goleuni, dan
aden waedlyd unig Geidwad pechaduriaid. Yn wir, yr oedd eu taerineb am yr
Ysbryd Glan i achub pechaduriaid, ac eangiad teyrnas Crist, yn ddigon i
ddryllio y galon galctaf, ac adnewyddu teimladau crefyddol o’r newydd hyd yn
nod mewn hen grefyddwyr. Cymerai un, megys prif destyn gweddi, ferched Cymreig
America, a’u sefyllfa rhyngddynt 4 Duw; y llall, eglwys Salem (rhan o
gynull-eidfa sydd yn y cwr arall i’r ddinas, a ymadawsant yn ddiweddar o eisiau
lle); y trydydd, eu rhieni a’u perthynasau annuwiol, &c., &c.
Cymerais y cerbyd o Lirerpool i Lanymynach; yr oedd y bobl yn edrych yn iachus,
ond y rhan amlaf yn dlawd eu hamgylchiadau naturiol, y pladuriau yn chwareu ar
y gweirgloddiau, lluaws yn arcs i weled Syr Watkin Williams Wynne yn dyfod
adref o Lundain, a chanoedd o’r adeiladau a brofent, ar yr ardrem gyntaf, eu
bod yno er’s oesau. Cyn yr hwyr, y tai clychau, a’r llanau, yr heolydd a’r
pontydd, y perthi a’r deisi, y gwartheg duon, ac enwau y trigolion, a brofent
fy mod unwaith eto o fewn cyrau gwlad fy ngenedigaeth. Yr oedd ei mynyddau, ei
chaeau, ei dolydd a’i gweinydd. yn ymddangos yn naturiol iawn i mi. Gallaswn
fedd-wl, ar frig yr hwyr, fod yr awelon nosol, swn crych yr afon drSedig,
peraidd sain teulu y goedwig, gweryr-
------------------------------------------------(x166)
TRAETHODAU, &C.,
iadau y ceffylau, brefiadau y gwartheg, a chaniadau y rhianod wrth odro, yn
hollti yr awyr deneu tua’r twr s6r, yn oydgordio i fy nghroesawn adref, gan
ddyblu’r gan, “ Welcome home, welcome home.” Arosais y
noson hono gyda y Parch. John Evans, yn y Sarnau, mab i’r Parch. John Evans o’r
Crwys, Morganwg, hen gyfaill hoff i mi; a gellwch feddwl mai llawen iawn oedd
genym weled ein gilydd. Dranoeth daeth y gwr hwn i’m hebrwng hyd Meifod, a
cherddais oddiyno hyd Lanfair, gan fy mod wedi addaw wrth fy nau gyfaill, Mri.
Baxter, i ddyfod heibio; ond gan fod pump o bregethwyr i fod yno y Sabboth
dilynol, nid arosais yno ond un noswaith yn nhy rhyw farcer yn y dref, a
thranoeth aethum hyd Bwlch-y-ffrydd. Gan fod yr hin mor wlyb, llechais yn y lle
hwn dros y Sabboth. Pregethais cyn ymadael yn y ddwy iaith chwech o weithiau,
gan wneyd fy llety gyda’r gweinidog, y Parch. Mr. Davies. Yr oedd yno, ar y
Sabboth, wr ieuanc gyda mi o’r Wern, ar ei daith i Gymanfa Llanbryn-mair.
Cawsom amser hyfryd yn y lle hwn, a gellwch feddwl mai llawenydd oedd gweled 13
heb eu derbyn, yn y gyfeillach.
Boreu dydd Mawrth
aethum i Lanbrynmair. Wedi cymeryd ychydig luniaeth, aethom i’r hen gapel, lle
yr oedd cynadledd ar y pryd, ac euwau y gweinidogion yn cael eu cofrestru.
Anhawdd fyddai i mi roddi un desgriflad cymwys o’m teimladau y pryd hyn. Er fy
mod yn adnabyddus a holl weinidogion yr Anuibynwyr, yn mron drwy y Dywysogaeth,
cyn fy nyfodiad i America, nid oeddwn yn bresenol yn adiiabod ond y
Parchedigion canlynol — D. Williams, Llanwrtyd; S. Griffiths, Horeb; D.
Morgans, Machynlleth; H. Morgans, Sama;
Y PAKCH.
JENKINS.
------------------------------------------------(x167)
J. Davies, Llanfair; C. Jones, Dolgellau; S. a J. Eob-erts, Llanbrynmair; W.
Rees, a Jones, Trawsfynydd; y lleill oll oeddynt wynebau dieithr i mi, a rhai a
adwaenwn a ymddangosent wedi heneiddio llawer. Yr oedd yr olygfa hon, a’i
chyffelyb a gefais lawer gwaith wedi hyn, yn gwir dystio fod amser yn cyflym
drosglwyddo hil Adda o’r byd hwn i fyd arall, ac y dylem oll, gan fod y ty ar y
ddaiar yn ymddatod, fod a thy tragywyddol genym yn y nef i fyned iddo.
Bu amrai bethau dan ystyriaeth y brodyr, megys trefnu rhyw gynllun i gael ysgol
ramadegol yn y Gogledd, (gan fod yr un gynt wedi ei symud i Aberhonddu,) ac
amcanu dwyn yr eglwysi i fod yn ymdrechgar at gynal y ddwy—a lleihau dyledion
capeli swydd Drefaldwyn. Hefyd, dygwyd dan ystyriaeth y gynadledd sefyllfa
amddifad conglau tywyll y swydd hono, a’r cylchoedd oddiamgylch; ac yn mhlith
pethau eraill, ymofynwyd, oni ddylesid defnyddio moddion cyffroadau diwygiadol
yn eu plith? ‘ Y moddion cyhoeddus oedd yn ol yr hen drefn, tri ar y tro yn
pregethu, ac un yn dechreu yr oedfa. Er fod yno lawer o bysgota dynion, ni
wnaed cymaint, ar ddiwedd y Gymanfa, ag edrych a oedd pysgod yn y rhwyd ai nad
oedd. Aeth-nm oddiyno i gwrdd Dirwestol a gynelid yn Llanidloes. Er fod llawer
o Ies yn cael ei amcanu ato yn yr oedfaon, ni chefais hollol foddlonrwydd yn
nygiad rhai rhanau o’r cyfarfodydd yn y blaen, megys codi chwe’ cheiniog yr un
am bob trwydded (ticket) dirwestol, i gael bara a chaws i’r bobl, a dethol
gweinidogion nad oeddynt o’r un golygiadau a hwy ar ddirwest fel gwrth
-ddrychau gwawd, gan ddwyn y gwrandawyr i gellwair.
Gan fy mod ar fwriad myned i Troedrhiwdalar er-
------------------------------------------------(x168)
TEAETHODATT, AC.,
byn y Sabboth, Gorph, 3ydd, cychwynais tuag yno. Daeth y
Parch. D. Evans, Llanidloes, gyda mi hyd Raiadr-yr-wy. Yr oeddwn wedi addaw
cyfarfod a’r Parch. Thomas
Edwards, Swydd Gaernarfon, cyn myned dros y mynydd, mewn ty anedd, tua thair
mill-dir o’r Rhaiadr. Pan aethym yno, yr oedd Edwards yn fy aros, a’r tyddynwr
bach, un o’r rhai siriolaf a welais erioed, wedi cyfrwyo ei gaseg wen i fy
hebrwng, yr hwn o’i serchawgrwydd a’i ewyllysgarwch a fa yn gy-sur mawr i ni
ein dan. Lletyasom y noson hono gyda y Parch. David “Williams, yn Tanyrallt,
yr hwn a’n llonodd yn fawr. Wrth ymddiddan a’n gilydd, hysbysodd y pethau
canlynol—ei fod ef wedi derbyn i gyfundeb yr eglwysi dan ei ofal y flwyddyn a
aeth heibio 323; ei fod ef a’r Parch. Mr. Jones, Llanuwchllyn, yn benderfynol i
roi tro i weled y Cymry yn America heb fod yn hir, os yr Arglwydd a’i myn, ac
os byddant byw. Yr oedd yr oedfaon yn lluosog; ac er llawned oedd capel
Troedrhiwdalar, nid oedd dros bump neu chwech yno heb fod yn proifesu crefydd
Crist. Ar ddiwedd yr oedfa yn yr hwyr, canwyd yr emyn canlynol gan yr holl
gynulleidfa, gyda hwyl felus, a bias da, dros awr gyflawn wrth yr awrlais:—
“ “Wei dyma’r hen addewid,
A gadwodd rif y gwlith, O ddynion wedi eu colli,
Bydd canu am dani bytb.; Er cael ein mynycb. glwyfo,
Gan bechod is y nen, lacheir ein dyfnion glwyfau,
A dail y bywiol bren,”
Gan mai genedigol o’r lle hwn yw fy mhriod, gwaith anhawdd oedd ymadael yn
fuan; pregethais yno bump
T PARCH. JENKIK JENKIKS.
------------------------------------------------(x169)
o weithiau, ac ymadewais i Lanymddyfri. “Wedi cyrhaeddyd yno, yr oeddwn yn
adnabod degau o’r trigolion. Y Parch. William Davies a’m hadwaenai inau, a rhai
ugeiniau o’r gynulleidfa oeddynt mor llygadgraff ag yntau. Cawsom gyfarfodydd
neillduol yno, yn enwedig yr hwyr, a rhai o’r newydd dan deimlad o’u cyfIwr
colledig a ofynent beth i wneyd i fod yn gadwedig. Yr oedd agwedd doddedig y
gynulleidfa yn effeithio ar fy ysbryd yn fawr. Byth nid anghofiaf eu
serchawgrwydd tuag ataf, yn weinidog a phobl. Pan y bu Eobin Ddu yn y lle hwn
yn areithio ar Ddirwest, wedi iddo ddeall fod dan o ddiaconiaid yr eglwys
Annibynol yn fragwyr, dywedodd mewn amryw fanau yn gy-hoeddus mai dwy sach o
frag sydd yn dal capel Llanymddyfri i fyny. Yma hefyd y
mae Brutus yn golygu yr “ Haul.” Priodol, hwyrach, fyddai cydmaru y misolyn hwn
i chwyddwydr, “bblegid yn hwn y gwelir holl frychau yr Ymneillduwyr fel
mynyddau cribog, a rhinweddau yr Eglwyswyr yn llawn cyhyd a chyflM a holl
ddyffryn y Mississippi.
Geilw holl bregethwyr y Dywysogaeth, os na fyddant yn weinidogion urddedig, neu
ar y pryd yn y col-egau, yn “Jacks;” a’r hen bererin hwnw, Mr. Rees Davies,
Glyn Bren, yn apostol y Jacks. Rhyfedd y gwahaniaeth sydd rhwng Brutus a’i “
Haul” a’r hen Vicar gynt a’i “ Ganwyll Cymru.” Pwy a wyr na fydd yn dda gan
lawer eto gael goleu “ Canwyll” yr hen Vicar Pritehard pan y byddo “Haul”
Brutus wedi machludo, heb gyfodi mwy.
Aethym trwy Langadog, Llandeilofawr, a
Cross Inn, Llandybie, a phregethais yn y tri. Wedi myned i
------------------------------------------------(x170)
TBAETHODATT, AC.,
Gwaelod-y-maes, ger Llangenech, nid oedd fy modryb, chwaer fy mam, na neb o’r
teulu yn fy adnabod, nes hysbysu iddynt pwy oeddwn. Pan aethym i fy ardal
enedigol, a’r tai addoliad, Mynydd Bach, Siloh, Tre-forris, Llangyfelach, y
Felindre, Cors-hirion, y Crwys, a Chaslwchwr, yr oedd y bobl yn rhyfeddu
cymaint yn mron a phe bua»“T*” wedi cyfodi o feirw.
*
HANBS ROWLI A’l DEtJLTT.
------------------------------------------------(x171)
Tua’r ail flwyddyn wedi i mi ddyfod i New York, aethym i weled fy rhieni yn
Dundaff. Pan yn teithio ar draed o Carbondale, gyda y Parch. Thomas Edwards, yr oedd genym
dair milldir ar i fyny hyd y gate, lle y gorphwysasom am ychydig mewn ty
bychan, er diluddedu natur. Daeth dyn i mewn o olwg hollol wlad-aidd, o’r enw
Eowli.’ Deallais wedi hyn mai Rowlands oedd ei iawn enw, a’i fod yn byw yn y
gymydogaeth. Edrychai ar yr awrlais, a dywedai yn Saesonaeg, “ D—n the clock,
is it as much as that?” Gan fy mod yn barnu fod y fath iaith yn gableddus,
dywedais wrtho,
“ You have no business to d-----n the clock.
If there
is any fault about it, it must be the clock-maker’s.” Dwrdiodd fi yn haerllug
am ddyweyd dim wrtho, gan fy-gwth, a gosod ei ddyrnau wrth fy nanedd. Enciliodd
Edwards mewn braw oddiwrthym, ond nid o’n golwg. Dilynodd y gwr gwaedwyllt fi
o’r ty i’r heol, gan ddyweyd, “ I will lick you, by G-----d,” a geiriau
cyffelyb.
Tynai ei got, gan feddwl fod arnaf ei ofn. Pan welais hyn, tynais inau fy
nghdt, a theflais hi ar foncyfl’ oedd gerllaw, a dywedais mewn gwaed oer, os
oedd ef wa.fattle am iddo daro yn gyntaf, ond fod yn lled amheus genyf y byddai
iddo gael yr ei’gyd olaf,—os oedd yn barod, am iddo ddechreu ar ei orchwyl.
Mewn gronyn daeth ato ei hun—daeth yn fwy tawel a chlaiar. Gadawodd fi, gan
gnoi ei ddanedd, a dyweyd rhyw beth na wn i beth; ac nid gwaeth genyf hefyd.
Ymeflais
------------------------------------------------(x172)
HAJfES B1WTD
yn fy ngh6t, gwisgais hi am danaf, ac aethym ar ol Edwards yn dawel.
Yn mhen blynyddau wedi hy’n, aethym i weinidogaethu at y Saeson a’r Cymry i
Dundaff. Yr oeddwn yn adnabod y Rowli hwn byth, ond nid oedd ef yn fy adnabod
i, hyny yw, ni wyddai mai yr un oeddwn ag a fu yn cystadlu ag ef gynt wrth y
gate. Deuai ei deulu yn aml i’r capel Seisonig i fy ngwrando, ac yntau hefyd
ambell waith. Yn y stor, ryw ddiwrnod, wrth ymddi-ddan, dywedodd, “ You,
preachers, receive your six or seven hundred dollars a year, and we, poor
folks, keep you too.” Dywedais, “ You never give anything to us, I know,
because you see that we have too much; those who give us, think that they ought
to give.” Dywedodd, “ Yes, I do. When will you come and preach in our
school-house?” “What will you give me if I come?” “I will give you some
potatoes or something.” Cydunais ag ef y buaswn yn myned, os buasai iddo ef fy
nghyhoeddi. Addawodd wneyd. Cefais lon’d yr ysgoldy, ac aethym gydag ef adref
i’w dy, ac arosais yno dros y nos. Dangosodd i mi y caeau, y berllan, ac amryw
bethau eraill. Cyn ymadael, gofynais iddo a oedd efe yn coflo am y dyn wrth y
gate, y bu ef yn bygwth ymladd ag ef? Dywedodd, “ Ydwyf yn eithaf; pa fodd y
daethoch chwi i wybod am hyny?” Dywedais, “ Myfi yw hwnw.” Synodd wrth glywed
hyn, a daeth yn gyfaill gwresog i mi. Derbyniais ei wraig a thri o’r plant yn
aelodau eglwysig, a pharhaodd yn siriol tuag ataf tra bum yn y lle.
Wrth fyned i’r oedfa Seisonig o’r sefydliad Cymreig, ar foreu Sabboth, gwelwn
ddyn o’r enw Eansom yn ail
T PARCH. JENKIN JENKINS.
------------------------------------------------(x173)
grynhoi hen goed at eu gilydd, er mwyn gorphen eu llosgi. Wedi ei gyfarch,
gofynais iddo a oedd dim cywilydd arno fod yn y fan hono, fel rhy w sweep, ar
foreu Sabboth, fel rhyw bagan ar ochr y ffordd, pan oedd dynion eraill yn myned
i’r cwrdd? Dywedodd, “ No. not much.” Gofynais a oedd ef ddim yn ewyllysio yn
hytrach fod yn rhywle yn mhell o’r golffg, na bod dynion yn ei weled? Dywedodd,
“ I think myself it would look a little better.” Dywedais, “ There is one who
sees you all along.” Gofynodd, “ Who is he?” Dywedais, gan gyfeirio tuag i
fyny, “ He is above you,” a gadewais ef heb ddyweyd dim yn rhagor. Tua’r ail
Sabboth ar ol hyny, yr oeddwn yn pregethu yn Saesonaeg mewn school-house
gerllaw ei dy ef, ac yntau yn breseiiol. Ar ddiwedd yr oedfa, cyfododd i fyny,
a dywedodd, “ That word rings in my ears, that there is one above who sees me
all along.” Daeth hwn hefyd at achos Crist.
Wrth gychwyn o Dundaff, pan yn ymadael i fyned i Ohio, yr oedd genyf rywbeth
i’w benderfynu cyn ymadael a Montrose. Gadewais y wraig a’r plant i fyned o’m
blaen, ac yn mhen tua haner awr aethym ar eu holau. Wedi myned filldir neu
ddwy, gwelwn gi du yn gorwedd ar gauol y ffordd, yn edrych arnaf, fel pe buasai
am neidio ataf. Edrychais tua’r llawr? a chefais gareg lled dda. Gan mai
llaw-chwith ydwyf, tanais hi ato, a tharewais ef yn ei dalcen, a gwnaeth y
creadur ryw ysgrech aethus. Yr oeddwn wedi ei ladd, a’i ymenydd ef allan. Gyda
hyn, neidiodd dyn ataf dros y fence, gan fygwth fy lladd i, am i mi ladd y ci.
Dywedais wrtho fod y ci ar y ffordd fawr—nad oeddwn yn prisio am
------------------------------------------------(x174)
HAKES BYWYD, &C.
dano ef na’i gi, ac os na buasai ef yn fy ngadael yn llonydd, y buaswn yn
gwneyd yr un peth ag yntau ag a wnaethym a’r ci. Wedi hyn aeth yn ol at y corn
i’r cae yn ddiddyg, ond ei fod yn grwgnach peth, ac yn bygwth y gyfraith arnaf.
Aethym i’m ffordd yn dawel, ac ni welais y ci na’r dyn hwnw, am wn i, byth wedi
GWNEYD KHAN TANGNEFEDDWR.
------------------------------------------------(x175)
Pan oeddwn yn Dundaff yn weinidog, tua 1845, dechreuodd yr Odyddion enill tir,
a myned yn lluosog iawn yn Carbondale. Cyffrodd hyny^ ysbryd rhai dynion da, ac
yn neillduol un Daniel Price, diacon gyda’r Annibynwyr, yn eu herbyn.
Yr oedd pobl Dundaff yn agor eu capel newydd, ac anfonwyd am y Parch. Evan B.
Evans, Pottsville, i’r agoriad. Wrth ddychwelyd, aeth i Carbondale i dreulio
Sabboth. Yr oedd yn gymundeb yno, a chan fod Mr. Evans yn Odydd, dywedodd
Daniel Price na wnai efe gario y bara a’r gwin o gwmpas, os oedd Mr. Evans i
bregethu. Penderfynodd y mwyafrif i gael Mr. Evans i bregethu, a chael
cymundeb; felly ymadawodd Daniel Price, a rhyw ddeuddeg-ar-hugain gydag ef, i
ddechreu achos newydd; ac arosodd tua phedwar ugain ar ol. Tua phen wythnos,
daeth y Parch. Lewis Williams i Dundaff, i erfyn arnaf ddyfod i Carbondale, i
gynyg gwneyd trefn. Aethym yno erbyn yr amser, rhoddais y ceffyl yn ystabl yr
hotel, ac i’r capel ar fy union, hels weled neb. Yr oedd y capel yn orlawn—y
ddwy blaid, yn gystal a’r holl enwadau eraill, yno yn gryno. Dechreuais y
cyfarfod trwy ddarllen a gweddio fy nun, yna cymerais fel testyn eiriau Paul, “
Mi a glywais fod ymrysonau yn eich mysg, ac o ran yr wyf fi yn credu.” Syllai
pawb arnaf, a gwrandawent yn astud. Teulu Chloe oeddynt wedi hysbysu Paul am
Corinth, a’ r Parch. Lewis Williams sydd wedi fy hysbysu inau am danoch
------------------------------------------------(x176)
HANES BYWYn
chwi. Hwyrach nad oedd pethau yn gywir fel yr oedd Paul wedi cly wed, ac nad yw
pob peth yma fel y clywais inau. Br hyny mae rhyw beth allan o le. M ddaeth Mr.
Williams ataf fel unyn dwyn chwedlau, ond fel un yn teimlo -gofid, oblegid yr
oedd yn wylo wrth ddyweyd, ac yn gofyn am gydymdeimlad. Clywais fod ymryson rhyngoch
chwi a Daniel Price, yr hwn oedd yma yn ddiacon. Dyn da yw Daniel Price—hen
grefyddwr ffyddlon—yn grefyddwr cyn gadael Cymru, ac yn grefyddwr yma dros
flynyddoedd lawer. Yr oeddych chwithau yn meddwl yn uchel am dano, onide ni
“buasech yn ei osod yn ddiacon, oblegid nid ydyw dynion yn gosod pob ffwl yn
ddiacon. Yr wyf fi yn credu inai dyn da yw Daniel Price, ac y bydd yn canu y
delyn aur gydag Abraham. Yr ydych wedi gwneyd cam & Daniel Price, hwyrach
yn anfwriadol, eithr mewn byrbwylldra. Dylasech ystyried mai Daniel Price yw
Daniel Price; mai manteision Daniel Price a gafodd, ac mai synwyr Daniel Price
sydd ganddo. Yr ydych yn disgwyl cael dynion fel y dyleat fod, yn lle y peth
ydynt. Gan nad ydych chwi eich hunain y peth y dylech fod, pa fodd y dysgwyliwch
i eraill fod?
Mae Daniel Price yn dyweyd mai dynion ofnadwy yw yr Odyddion, ac mai rhyw beth
drwg iawn yw y secret sydd ganddynt. Pa fodd y gwyr ef pa un ai drwg ai da ydyw
tra y byddo yn secret f Quid yw yn ofynol ein bod yn gwybod am beth cyn ei
farnu? Os yw Daniel yn gwybod beth ydyw, nis gall fod yn secret mwyach.
Newidiai gwedd Daniel Price wrth glywed hyn; gwridai ei wyneb gan ddigofaint,
tra y gwenai eraill. Aethym yn mlaen, gan ddyweyd, Ar yr ur pryd, nid yw
rhagoriaethau Odyddiaeth fel crefydd yi
Y PARCH. JENKIN JENKINS.
------------------------------------------------(x177)
well na’r grefydd Phariseaidd, pa rai a garent y sawl a’u carai hwythau. Mae
cystal crefydd a hyna gyda cheffylau. Casa di fi, medd un hen geflyl, minau
a dy gojsaf dithau. Gwir yw eich bod yn amddinyn ac yn gwylio eich gilydd, yn
claddu eich meirw yn barchus; ond nid ydych yn gofalu am neb eraill. Eithr am grefydd Crist, mae yn
porthi a disychedu y gelyn. M byddai angen cymdeithasau eraill pe gweithid
allan egwyddor ei grefydd Ef. Dywedais wrthynt am ochelyd cyd-doriad, ac am
iddynt gofio eu cyfamod eglwysig, yn nghyd ag amryw anogaethau i fod yn
heddychol. Ar ddiwedd y cyfarfod, deallais fod y rhan fwyaf wedi tawelu llawer,
ond yr oedd Daniel Price wedi digio yn fawr, ac yn llefaru geiriau caledion am
Siencyn wrth bawb o’i gydnabod.
Yn mhen ychydig ar ol hyn, daeth y Parch. John Cook i Dundaif, a chan oi fod ar
ei draed, ac i bregethu yn Carbondale a Blakeley wrth ddychwelyd, aethym i’w
hebrwng gyda cheffyl ‘a luggy. Cawsom fod pob peth wedi tawelu yn Carbondale, a
phawb oeddynt yn cwyno wedi cyfod i’w lle. Aethom yn mlaen i Blakeley, lle yr
oedd Daniel Price yn byw, a’r hwn oedd eto yn parhau yn ddrwg ei dymer.
Pregethasom ein dau, ac ar ddiwedd y cyfarfod daeth amryw yn mlaen i ofyn i mi
ddyfod gyda hwynt i letya; ond atebais, Na, yr wyf yn myned heno at Daniel
Price. “ Nid oes neb acw eisiau ei weled,” meddai yntau, a ffwrdd ag ef, a Cook
gydag ef. Dilynais hwy, ac at y drws. Curais, ond dim ateb. Curais drachefn,
ond methu peri i neb glywed. Aethym i mewn, a dywedais, Beth yw y fath bobl a
chwi? nid ydych yn agor y drws er euro, ac nid ydych yn rhoddi lle i mi eistedd
ar ol dyfod i mewn.
------------------------------------------------(x178)
HAKES BTWYD.
Yna edrychais ar Daniel, a dywedais, Daniel, ni ddaethym yma er mwyn eich bwyd
na’ch gwely, ond am fy mod yn gwybod eich bod wedi tramgwyddo. Beth bynag a
ddywedais am danoch allan o le, yr wyf yn cydnahod fy mai. Chwi a ddvlasech
ddyfod ataf fl; ond gan na ddaethocb, dyma fi atoch chwi. Rhaid i ni faddeu i’n
gilydd, Daniel, onide ni chawn faddeuant. Mae yn beth echrys ein bod ni ein dau
wedi crefydda cyhyd, a’u cael yn golledig yn y diwedd. Ni faddena
Duw i ni os na faddeuwn i’n gilydd. Am hyny, rhoddwch i mi eich llaw.
G\dahyn dnng’osHi Daniel deimlad dwfn, llanwai y d;igr;tu ei lygmtj. Hvwedodd,
“ Os rhoddaf fy llaw, rhoddafiy ngh;il”i, hetyd.”.
le, Daniel, nid y wiw bod yn rhagritbiol. Estynodd ei law, a tborodd yr holl deulu allan i wylo.
Trodd pawb i deiirilo yn siriol, ac aed atii barotoi swper yn gysurus. I Yu y
boreu, dywedais, Daniel, nid wyf wedi darfod& cbwi eto, rhaid i chv>d
ddyfod gydami heno i’r gyfeillach i Carbondale. Dywedodd yn benderfynol na
ddeuai byth, er hyny llwyddais i’w ddarbwyllo ef i dyfod.
Aethom i’r gyfeillach ein dau. Dywedais wrth y bobl fod Daniel wedi dyfod yno,
ac os oeddent yn barod i’w dderbyn, am iddynt roddi arwydd trwy godi llaw.;
Cododd pawb en dwylaw yn unfrydol. Yna gofynais i Daniel,wneyd arwydd drosto
yntau, yr hyn a •wnaeth yn bur arat. Ar hyny cododd rhyw hen chwaer ar ei
thraed, a dechreuodd ganu:—
“ Yn awr mae’r llaeth a’r bara can, A Iesu Grist yn ffrynd i’r gwan; A chael
maddeuant Daniel Price ISydd gan’ mil gwell na pliwdin rice.”
Y PARCH. JEKKIST JENKINS.
------------------------------------------------(x179)
Aeth pawb i hwyl, a chefais inau ad-daliad cyflawn am aberth mawr i’m teimlad.
Wedi myned i Ohio, aethum i fyw i Granville. Yr oedd y ddwy eglwys
Gynulleidfaol, Granville a Newark, dan fy ngofal. Yn yr amser hwn bu amrai
ysgrifau rhyngwyf a’r Parch. William Morgans, PottSTille, Pa., am fedydd. Tebyg
na orphenir yr hen ddadl hono yn yr oes hon, ac mai y fFordd fwyaf heddychol
yw, i bob un fod yn sicr yn ei feddwl ei hun.
Yn yr amser yma hefyd, dymunwyd arnaf i dreulio dau Sabboth gyda’r eglwys
Gynulleidfaol yn Cincinnati; ar y pryd yr oedd cynadledd flynyddol y
Methodistiaid Esgobawl yn y lle, a’r hen frawd Dafydd Cad-waladr, aelod o’r
cyfundeb hwnw, yn y ddinas. O
garedigrwydd ato, ceisiodd rhai o’r Annibynwyr ganddo roi pregeth iddynt hwy y
Sabboth, er eu bod yn disgwyl y byddai Mr. Jenkins, Newark, yno hefyd, beth
bynag eu bod am iddo ef ddyfod, pa uu a fuaswn i yn’ dyfod ai peidio. Y Sabboth a ddaeth, y gynulleidfa a’r
pregethwyr hefyd. M chawswn bregethu
yn gyntaf, mynai ei ffordd ei hun.
Tynodd ei destyn—”Gan edrych yn ddyfal na bo i neb ballu oddiwrth ras
Duw.” Swm ei bregeth oedd, ceisio profi yr athrawiaeth o syrthiad oddiwrth
ras. Nodai lawer o bersonau y
gwyddai ef am danynt, oedd wedi bod
unwaith yn ddtawiol, ond wedi hyny a aethant yn hollol annuwiol; ac am dano ei
hun, dywedai ei fod yn gwybod yn sicr ei fod yn dduwiol yn awr, ond nid oedd yn
gwybod y byddai felly y flwyddyn ddyfodol, nac hyd yn nod yr . wythnos nesaf. Yr oedd yr hen frawd wedi bod wrthi am agos
i awr, yn ymdrechu yn galed i brof) ei bwnc. Yna tynais inau fy nhestyn. “ Yu wir meddaf i chwi,
------------------------------------------------(x180)
HANES BTWYD
y mae llawenydd yn y nef am un pechadur a edifarhao, mwy nag am namyn un cant o
rai cyfiawn, y rhai nid rhaid iddynt wrth edifeirwch.” Ar ol gwneyd rhai
eylwnodau ar edifeirwch, dywedais am farn yr angylion a’u llawenydd; fod en
golygiadau hwy (eu sentiments) yn gywir, beth bynag yw golygiadau dynion yma,
Yna gofynais, A ydych chwi yn meddwl fod yr angylion wedi myned mor ffol a
llawentuvu am un hen bechadur fel Dafydd Cadwaladr, neu ryw un arall a
edifarhao yma ar y ddaiar, na wyddus beth a ddaw o hono cyn pen blwyddyn, i’e,
hyd yn nod yr wythnos nesaf, . yn fwy nag am bedwar-ar-bymtheg a phedwar ugain
o rai y gwyddant y cant eu cwmpeini am byth? Yna dyw. dais, Fe ddichon mai y
ffordd oreu fyddai i ni dori pen yr hen frawd tra y mae yn dduwiol, rhag ofn
iddo farw ryw bryd eto yn annuwiol, a myned i uffern; oblegid y mae yn gwybod
ei fod yn dduwiol yn awr, yna caiff fyned i’r nef, oblegid y maent hwy yno wedi
penderfynu hyn, “Yr hwn sydd gyfiawn, bydded gyfiawn eto.” Bydd dyn am byth y
peth fydd pan fyddo
marw.
Wrth feddwl am beth fel hyn, cof genyf am chwedl a glywais unwaith. Syrthiodd
llongwr oddiar yr hwyl-bren i’r mor, ac estynodd Gwyddel o forwr y rhaff iddo;
wedi i’r creadur tlawd oedd yn y dwfr gael gafael ynddi, gofynodd y Gwyddel
iddo, a oedd yn Gatholic? nac ydwyf, medai y llall. I lawr tan y dwfr y cafodd
fyned am ychydig wedi hyny. Wedi ei godi i’r ymyl, gofynodd iddo drachefn, a
wyt ti yn Gatholic yn awr? a’r llall yn ateb yn barhaus nad ydoedd. Ond o’r
diwedd, pan welodd nad oedd yn cael ei dynu i’r Ian, dywedodd, yr wyf yn Gatholic.
Wei, meddai y Gwyddel,
Y PAECH. JENKIN JBSKINS.
------------------------------------------------(x181)
“ It is better to let you die in the faith.”
A gadawodd iddo fyned dan y dyfroedd.
Yr oeddwn wedi
dyfod i Newark a Granville ar fy nhraul fy hun, yn ol yr alwad a roisant i mi.
Ar ben. y fhvyddyn nid oeddynt wedi talu yr haner o’r hyn a addunedasant. Wrth
ystyried fy mod dan yr angenrheidrwydd o gadw ceifyl, talu am dy i fyw, a’m
teulu yn lluosog, siaredais yn bwyllog a’r blaenoriaid am fy amgylchiadau. Yr
oeddent yn addef fy mod wedi bod yn llwyddianus, fod amrai wedi eu derbyn at yr
achos, ond nad allasent hwy wneyd rhagor. Er siarad llawer a hwy nid oedd dim
yn tycio. Nid oeddwn yn priodoli yr ystyfnigrwydd hwn ond i ychydig o honynt, eto,
yr oedd y rhai hyny yn ddigon er atal y gwersyll i gychwyn. Dywedais nad oedd
dim ond yr ysbryd drwg yn eu hatal rhag gwneyd eu haddewidion; nad oedd eu
haddewidion ond dau cant a haner yn y ddwy eglwys, a’u bod hwy yn llawer gwell
eu hamgylchiadau nag oedd eglwys Granville, a chan mai gwrando ar yr ysbryd
drwg yr oeddynt, y buaswn i yn gwneyd gwaith a hwy na fuasai hwnw yn ei wneyd
(sef yr ysbryd drwg), y buaswn yn eu gadael hwy.
Rhoddais yr alwad oeddynt wedi ei rhoi i mi yn y Court, yn erbyn y capel, rhoddais
eglwys Granville yn rhydd, gwerthais y ceifyl a’r wagen fach, talais fy nyled,
a gadewais hwynt. Yn ol dim o hanes a gefais am rai o honynt, nid yw yr ysbryd
drwg hwnw wedi eu gadael hyd heddyw.
Yr oeddwn. wedi bod yn Brady’s Bend (Sugar Creek) rai misoedd yn ol, ar gais yr
eglwys hono, gyda y Parch. T. Edwards, ac eraill, er ceisio terfynu rhyw
ymryson oedd rhyngddynt. Caed ar ddeall mai ar un
------------------------------------------------(x182)
HASTES BYWYD
o’r diaeoniaid yr oeddynt yn bwrw y bai. ISTid oedd y diacon yn foddlon i roddi
ei swydd i fyny, a’r rh.an fwyaf o’r eglwys am iddo wneyd. Wedi ei gynghori ef,
a’r rhai oedd yn ei bleidio, mai gwell er lles yr achos, a heddwch, oedd iddo
roddi ei swydd heibio, yn neillduol y pryd hwnw, a chael arwyddion pawb ond ef
ei hun, dywedais, Mae yn well i chwi, Mr. Jones, i roi eich swydd i fyny.
Atebodd, “M wnaf fi ddim o hyny.” Yna dywedais wrtho, chwi welwch, John bach,
fod yr eglwys i gyd wedi gwneyd arwydd i hyny; ni ellwch chwi fod yn ddiacon
mwy, oddieithr i chwi fod yn ddiacon i’r llygod. Felly
dybenodd y cwrdd hwnw, a diacon y llygod y cafodd ei alw o hyny allan.
Pan yn cychwyn o
Newark, gyda’r teulu, nid oeddem yn benderfynol i ba le i fyned. Nid oeddwn
wedi gweithio nemawr o ddim oddiar y daethum o’r mynyddau yn Nghymru hyd yn
hyn; nid oedd yn ddi-chonadwy i gael gwerthu yr ychydig dir oedd genyf yn
Dundaff am ei gyflawn werth; nid oeddwn yn ewyllysio myned yn ol at fy hen
gydnabyddiaethau yn llwm fel yr oeidwn, penderfynais y buaswn yn myned a’r
teulu, am ychydig amser, i Brady’s Bend (Sugar Creek), ac yno yr awd. Cefais
waith yn y foundry, ty i fyw ynddo, a rhoddais fy llythyr i’r eglwys
Gynulleiclfaol. Cyn pen mis, deallais fod surdoes yno yn y blawd; amrai a
sisialent fy mod am fyned a lle y gweinidog, ac eraill, fod eisiau rhyw
gyfnewidiad yno ar bethau, beth bynag fuasai yn cymeryd lle. Wrth wybod hyn,
codais fy llythyr, a rhoddais ef i’r eglwys Bresbyteraidd. Am dymor, pregethais
ar hyd y wlad mewn ysguboriau, yn Black Fox,’ a manau eraill, a chefaia luaws i
fy ngwrando yn aml. Ar gais y Bedyddwyr
T PARCH. JEKKIK JENKINS.
------------------------------------------------(x183)
pregethais iddynt hwy amrai weithiau, a’r Annibynwyr yn dyfod i’m gwrando, nes
oedd eu capel hwy yn agos a bod yn wag. Wrth weled hyn, aeth gweinidog yr
Annibynwyr, a rhyw hen bregethwr diegwyddor arall gydag ef, at weinidog y
Presbyteriaid, a’r cwyn fy mod yn rhwygo eglwysi, ac. nis gwn pa faint o bethau
eraill. Cefais wys i ymddangos o flaen y Saeson yn mhen deng niwrnod. Y
cyhuddwr oedd Mr. Common Fame. Yno yr awd, ac amddiffynais fy hun yn ngwydd
tyrfa fawr. Eto, barn odd Mr. Common Fame fi yn euog, pwy bynag ydyw. Apeliais
i’r Presbytery; enillais y dydd yno, a gwelais fod gwyr y Common Fame o’m tu,
yn lle bod yn fy erbyn. Gorfu i weinidog y Presbyteriaid yn fuan ymadael o’i
eglwys. Ymddygai y Bedyddwyr yn garedig iawn ataf; ceisient yn siriol iawn
genyf ddyfod i’w cyfeillach hwy. Aethym ryw noswaith, a’r gair cyntaf a ofynwyd
i mi yn y gyfeillach hono oedd, a oeddwn wedi newid fy marn, ac am fwrw fy
nghoelbren yn eu plith hwy? Dywedais ei bod yn myned dipyn yn hwyr i mi ddyweyd
llawer wrthynt y noson hono—os oeddynt yn foddlon i mi ddyfod atynt i’r
gyfeillach, y cawsent glywed mwy y tro nesaf,—y noswaith gyntaf y bum yn siarad
a fy ngwraig, na bu dim son am briodi y noson hono; felly y terfynodd y
gyfeillach. Yr amser yma yr oedd y telegraph Cymreig yn cerdded yn gyflymrhwng
Brady’s Bend a Pittsburgh, a rhai lleoedd eraill, eisiau gwybod yn fawr beth a
fuasai yn dyfod o Siencyn, druan. Yn yr wythnos hon hefyd daeth amryw o’r
Independiaid ataf i’m ty, gan ddyweyd nad oedd achos am i mi fyned at y
Bedyddwyr, y buasent hwy yn adeiladu capel i mi.yn ymyl y railroad, a llawer o
addewidion eraill. Dywed-
------------------------------------------------(x184)
HANES B7WYD
ais fod yn y lle dri capel Cymreig yn barod, y gallasai un capel eu cynwys oll
ag oedd yn y lle hwnw.
Hwyr cyfeillach y
Bedyddwyr a ddaeth. Trwy y dydd blaenorol, dywedai amryw o’r Bedyddwyr wrthyf
nad oedd y caredigrwydd a ddangosasant ataf ddim, niewn cyferbyniad i’r hyn a
fuasent yn ei wneuthur yn ol llaw. NM oedd fy ngwraig fy hun yn hollol foddlawn
i mi fyned i gyfeillach y Bedyddwyr y noson hono, trwy fy mod wedi dyweyd wrthi
hi y modd y pa’siodd y gyfeillacb. o’r blaen; eto, gwyddwn fod gau-ddi hi gryn
ymddiried ynwyf, er ei bod yn sigledig i raddau yn ei theimladau, wrth glywed
cymaint gan wahanol bersonau. Llawer un a edrychent gyda chraflfder
pa le y buasai y glorian yn troi. Gwefreiddiai teimladau amryw mewn pryder am
fy sefydlogrwydd. Penderfynai
rhai o’r Bedyddwyr y fan lle y buaswn i gael fy nhrochi. Yr Independiaid a
laesent eu gafael ynwyf, ac hyd yn nod y Parch. Howell Powell a ofynai, a
oeddwn yn myned i fod yn Fedyddiwr? “ le,” meddai efe, “ a ydych yn rhyned i
gael eich trochi? Dyna y son sydd yn mhob man.” Dywedais nad oeddwn erioed heb
fod yn Fedyddiwr; am gael fy nhrochi, fy mod yn ddigon bawlyd yn barod, &c.
Trwy ein bod ni yn castio yn y foundry y noson y y cadwai y Bedyddwyr eu
cyfeillach nesaf, o’r pryd y bum yn ymddiddan a hwynt, nid aethym atynt. Mae
hyn yn hollol hysbys, fod yn rhaid i’r moulder fod. gyda ei waith yn amser
castio. Yn ysbaid yr wythnos hono, teimlai y Parch. David Thomas, gweinidog y
Bedyddwyr, yn lled ddigalon, am fy mod yn debyg o fyned a’i le ef, a’i fod ar y
traed olaf yn mhlith ei hen frodyr. Poor fellow, nis gwn yn y byd beth sydd
wedi dyfod o
Y PAECH. JENKIN JENKINS.
------------------------------------------------(x185)
hono ef. Beth bynag, i’r gyfeillach yr aethym. Wedi i’r rhanau arweihyddol o’r
gwaith fyned heibio, cododd Richard Wooly ar ei draed, a dywedodd, “ Yr wyf yn
gweled fod Mr. Jenkins wedi dyfod atom, heno eto. Mae ef yn ddyn call, ac
eisiau dynion call sydd arnom ni. (Dyn da yw W.ooly). Yna gofynodd a
oeddwn wedi cyfnewid yn fy meddwl yn ddiweddar—fy mod wedi addaw y buaswn yn
dyweyd rhyw beth’ mewn perthynas i hyny, pan oeddwn yn eu plith y gyfeillach
o’r blaen. Dywedais fod dyn yn greadur cyfnewidiol, a’i fod yn cyfnewid yn barhaus.
Gofyniad. le, ond fy meddwl i yw, os gallaf ei ddyweyd ef, A wnaech chwi eto,
pe byddech yn ysgrifenn ar fedydd, ysgrifenu yr un fath ag y gwnaethoch o’r
blaen?
Ateb. Ni byddai hyny o un dyben, trwy ei fod wedi cael ei ysgrifenu yn barod.
Gof. Yr wyf wedi
clywed eich bod yn ddiweddar wedi taenellu plentyn i Dafydd Thomas. A ydyw hyny
yn wir?
GWELLIANT GWALL.—Ar tudalen 185, a’r 19eg llinell, yn lle “Dafydd” Thomas, darllener “
Griffith” Thomas.
Ateb. Ydyw, mae yn wirionedd. , Gof.
Yr wyf yn gofyn i chwi yn ddifrifol, ac yn disgwyl cael ateb difrifol, A wnaech
chwi daenellu baban eto mewn amser dyfodol, os bydd amgylchiadau yn galw, a
dynion am i chwi wneyd?
Ateb. Yr wyf yn ddifrifol. Yr wyfyngwybod yrhyn a wnaethym, ond nid wyf yn
gwybod llawer o’r pethau a wnaf; bydd hyny yn ymddibynu ar yr amgylchiadau y bf
ddaf ynddynt ar y pryd.
Gof. Ni wn i ddim beth i’w ddyweyd yn awr; ond gofynaf fel hyn, A ydych chwi yn
credu fod trochiad yn fedydd?
------------------------------------------------(x186)
HANES BYWYD
Y PARCH. JEKKIK
JENKINS.
------------------------------------------------(x187)
Ateb. Ydwyf; nid wyf wedi ameu hyny erioed.
Gof. A ydych chwi yn credu y dylech fedyddio bab-anod?
Ateb. Nid oeddwn am eu cadw yn hwy mewn dyryswch. Yr wyf yn credu mai eiddo
plant yw teyrnas nefoedd, ac mai un o freintiau y deyrnas hono yw bedydd. Felly
y dybenodd yr ymddiddan am hyny.
Yna dywedasant yn gyffredinol, er fod ganddynt bob parch i mi, eto fod digon
rhyngom i’n cadw ar wahan; mai myfi oedd y cyntaf a ddarfu iddynt gyfarfod
erioed fel hyn.
Gofynais gyngor iddynt fel hyn: Yr ydwyf wedi arfer a moddion crefyddol erioed,
ac nid wyf yn teimlo yn hollol gysurus fel hyn. Pe buaswn yn dyweyd fy mod yn
credh am fedydd fel chwithau, cawswn fy lle yn gyflawn yn eich plith; ond gan
fy mod wedi ymddwyn yn gwbl ddifrifol a diragrith, nid oes yma le i mi. Os af
at y Methodistiaid, gofynant a wyf yn credu eu Cyffes Ffydd hwy? Br dyweyd fy
mod yn credu y rhan fwyaf o hono, os nad allaf ei lyncu i gyd, a hyny ar unwaith,
dywedant nad oes le i mi yno. Os af eto at yr Independiaid yn y lle hwn (ac nid
yw yn gyfleus yn bresenol i mi fyned oddi yma), dywedant fy mod am ranu yr
eglwys. Os af at y Saeson, galwch fi yn Die Sion Dafydd, neu ryw beth. Rhoddwch
gyngor i mi; hwyrach y caf ryw oleuni er gwybod fy nyled-swydd yn well nag yr
wyf yn ei gwybod yn bresenol. Dywedasant yn onest, na wyddent hwy beth i’w
ddyweyd wrthyf. Gan ei bod yn myned yn hwyr, dywedais, Efallai mai gwell fyddai
gofyn i Ddnw, yna gweddiais yn ddifrifol, os oeddwn yn gyfeiliornus, am iddo ef
fy ngoleuo; ac ysgatfyd-d fod y bobl hyn yn gyfeiliorn
us hefyd, a dymunais yn syml am iddo ein goleuo i gyd—mai efe oedd y gwir
oleuni, am iddo beidio ein gadael yn y tywyllwch, er mwyn ei enw, &c. Yna
ymadawsom yn frawdol, a’r dagrau yn llanw ein llygaid. Yn fuan wedi hyn, aeth
bachgen bychan, pedair oed, i ni, a’i droed dan y car, a bu farw mewn
canlyniad. Torais inau dri o’m bysedd, drwy iddynt fyned rhwng cogs j crane yn
y foundry; a phan ddywedodd rhyw ddynes hir ei thafod, anystyriol, nad oedd
fater am danaf, ein bod yn y foundry yn aml yn rhy lawn, ifromodd y moulders
wrthi i’r fath raddau; ac oni buasai ei bod mewn ffordd deuluaidd, buasent yn
ei chicio hi hefyd; oblegid pan oeddym yn gwneyd y peth cyntaf yn y boreu y
cymerodd yr anffawd le. Fel hyn daethym yn wrthddrych tosturi cyffredinol;
gwnawd i mi gasgliad da o arian. Nid oes o fath gwyr y gweithfeydd am hyn,
rhewnangen.
Wedi i mi dori fy llaw, cefais fyned yn wiliedydd (watchman) ar y forge. Mae yn
debyg eu bod yn disgwyl i mi wylio yno ar y Sabboth, ond ni wnaethym hyny. Yn
mhen tua pymthegnos, daeth prif arolygydd y gwaith ataf, gan ofyn pa le yr
oeddwn wedi bod y Sabboth diweddaf? Dywedais mai yn y cyfarfodydd crefyddol.
Dywedodd fod yn rhaid iddo ef gael un a fnasai yn gwilio y/on/eary Sabboth.
Dywedais mai ei waith ef oedd edrych i mewn am hyny, ond na fuaswn i ddim yn
gwneyd y fath beth. Dywedodd fy mod yn ei foddhau ef gyda’r goreu; ond os na
wnawn y gwaith hwnw ar y Sabboth, fod yn rhaid iddo ef gael un arall yn fy lle,
gan ofyn, pwy oeddwn i yn feddwl a fuasai ( yn gwneyd y tro? Dywedais, fe allai
mai gwell oedd iddo osod un o’r Gwyddelod—fod y rhai hyny oeddwn
------------------------------------------------(x188)
HAKES BTWTD
i yn adnabod o honynt yn myned tuag uffern eisoes. Yna gofynais os oedd ganddo
wrthwynebiad i mi wneyd rhyw beth arall yn ei waith ef a allaswn wneyd? Dy-wedodd
nad oedd mewn un inesur. Yna aethym i’r gwaith glo am rai misoedd, gyda’r
boddlonrwydd mwyaf. Yn
yr adeg yma, aethym ryw ddiwrnod i dy gwraig o Sir Forganwg. Gan fod hon yn
gwybod fy mod yn enedigol o’r un sir, ymddiddanai am bersonau a phethau yn
hollol anochelgar. Dywedai nad allasai hi aros mo’r Cardis, mai dynion drwg,
twyllodrus, a dichellgar oeddynt oll. Dywedais, Mrs. Rees, nid wyf wedi eu cael
hwynt oll felly. Yr oedd Daniel Moses gyda ni yn Dundaff, ac nid wy’f fi yn
gwybod am well dyn na hwnw. “ le’,” meddai hi, “ nid wyf fi yn gwybod dim am
hwnw.” Yr ydych yn adnabyddus ag Evan Morgan, sydd yma gyda ni yn Sugar
Creek—mae ef yn un o’r dynion goreu sydd yn y lle. . “ le, Siencyn bach,”
meddai hithau, “ Evan Morgan, Cardi duwiol yw Evan. Mae gystal gen’ i am y
Cardis a neb, os byddant yn Gardis duwiol.” Yn y dyddiau dilynol, ac i raddau
hyd y dydd heddyw, mae y gair Cardi duwiol yn aml ar fy meddwl. Mae gwir
dduwioldeb yn y fuchedd yiv lladd rhagfarnau dynion. Gwir fod
dynion yn cael eu galw gan y byd yn ol y lleoedd y daethant o honynt. Mae
trigolion y Talaethan yn cael eu galw yn Pumpkins, Pennyites, Buckeyes,
Badgers, Hoosiers, a Goffers, &c. Felly dywedwn ninau y geiriau, Northyn,
Moch Mon, Hwntw, Sir Gaer, a Cardi, heblaw llawer o enwau gwael eraill. Rhaid i ni ddyoddef diystyrwch
gan ddynion, neu fyned yn gymaint ffyliaid a hwythau. Os caf y fraint o fod yn
dduwiol, nid ydyw o fawr bwys beth y caf fy ngalw gan ddynion.
Y PABOH. JENKIN JENKINS.
------------------------------------------------(x189)
Cyn ymadae: o Brady’s Bend, aethym yn ol i gapel yr Independiaid, heb fawr
wrthwynebiad. Nid oeddwn yn dyweyd nemawr wrth neb, na neb yn dyweyd ond
ychydig wrthyf finau. Beth bynag, ryw foreu Sabboth, ataliodd un o’r
ymddiriedolwyr y gweinidog i fyned i’r pwlpud, a chadwyd yr oedfa yn gyfarfod
gweddi, a chadwyd cyfeillach neillduol ar ol, cyn ymadael. Cofus genyf fod un
o’r rhai a weddient, yr hwn a berchenogai lawer mwy o sel a hyfdra nag o
wybod-aeth, yn dyweyd, “ Arglwydd mawr, y maent am ladd dy was; mae yma ryw
beth yn atal, ac y mae yn rhaid iddo atal hyd oni thyner ef ymaith. O Arglwydd,
tyn hwnw ymaith, i ni gael clywed dy was eto,” &c. Wedi atal y gweinidog,
buwyd am ychydig heb bregethu. Pallais a phregethu iddynt, nes y buasent yn
adfsr eu gweinidog i’w le. Dybenodd yr holl ddyryswch drwy i ni fyned ein dau i
Gymanfa Palmyra gyda’n gilydd, er dangos i eraill ein bod mewn heddwch. Pan
welais fod ,y gwaith yn myned yn fwy marwaidd, ac nad oedd un rhwystr bellach
ar fy ffordd, meddyliais mai gwell fuasai i mi barotoi i ymadael o’r lle, ac
edrych pa le y gallaswn oreu fyned. Yv oeddwn bellach, trwy lafur a diwydrwydd,
wedi diogelu ychydig arian gogyfer ag amgylchiadau dyfodol.
Cymerais daith trwy
Pittsburgh, Mount Savage, Baltimore, Pottsville, Beaver Meadow, Carbondale,
Dundaif, Bradford, Blossburgh, ac yn ol at fy nheulu i Brady’s Bend, gan
bregethu ynddynt oll. Awd oddi yno trwy Pittsburgh, i lawr ar hyd yr afon hyd
Cincinnati, Cairo, ac i’r Ian ar hyd afon fawr y Mississippi, hyd Galena, ac
mewn wagen oddi yno hyd Dodgeville, Wis. Yr oedd amryw Gymry yn myned gyda ni
yr
------------------------------------------------(x190)
HAKES BYWYD
holl ffordd. Darfu i ni fel teulu arcs
yno yn Welsh
Hollow am dri mis, yn nghaban J-----~, yr hwn o’i hael-
frydedd a’i rhoddodd yn ddidreth tra yn aros yn y lle. Ddechreu y flwyddyn
1849, aethoni i fyw i Welsh Prairie, gan gymeryd gofal yr Bglwys Gynnlleidfaol
yno, lle yr arosasom am yn agos i wyth mlynedd. Yn yr amser hwn, cymerodd y
pethau canlynol le. Nodaf rai o’r.pethau mwyaf neillduol: Yny flwyddyn gyntaf
wedi i ni sefydlu yn y lle hwn, yr oedd Cymanfa y Methodistiaid Calfinaidd yn
mis Mehefln. Anfonodd y wraig fi i Fox Lake i brynu rhyw angenrheidiau bywyd,
gan ein bod yn disgwyl y buasai pobl ddieithr yn dyfod i ymweled a ni yn amser
y cyfarfod. Pan yn dyfod allan, wedi cylymu yr hyn a brynais yn y stor mewn napcyn,
gofynodd gwr lled dew, yr hwn oedd un o bedwar, i mi yn Saesonaeg, “ Is this
the way to Welsh Prairie?” Dywedais, “ Go ahead.” “Is there any road turning
from this?” “ O yes, many.” “ Which of them’ shall we take?” “ Not any of them,
take the straight one.” “ Can you direct us on that?” Gan fy mod ar fy nhraed,
dywedais, “ If yon will carry me, I am ready to go there.”‘ Dywedodd, “ Jump
up.” Gwyddwn yn eithaf mai Cymry oeddynt wrth yr olwg arnynt, ac wrth eu siarad
hefyd. Gofynasant a oeddwn yn adnabod William Jones, y pregethwr; Ellis
Williams, Dafydd Owen, ac amryw eraill; a bod pregethwr Dissenters yno hefyd,
o’r enw Jenkin Jenkins, a oeddwn yn adnabod hwnw? Atebais hwynt yn gad-arnhaol.
Yr oeddwn yn ceisio bod yn lanciaidd yn fy iaith, yn siarad o hyd yn Saesonaeg.
“ A glywsoch ehwi Jenkins yma yn pregethu?” “ Do, amryw weithiau.” “Beth ydych
chwi yn feddwl am dauo’ef?”
Y PARCH. JENKIN JENKINS.
------------------------------------------------(x191)
“ Os nad oes rhyw rai yn meddwl mwy am dano nag yr
wyf fi yn ei feddwl, nid ydynt yn meddwl ond ychydig iawn am dano.” “ IS, dyna
hi.” Yn mheu ychydig, gofynodd, “ Ai nid chwi yw Jenkins?” “ Dyna mae dynion yn
fy ngalw i.” “Paham na buasech yn dyweyd?” “ Paham na buasech ch wi yngofyn?”
Pwy oeddynt ond yr hen wr Jehu, Racine, a’r Parch. John Evans, Prairieville.
Daethant yn gyfeillion gwiesog i mi ar ol hyn.
Y CONVENTION.
Mae rhan fawr o eglwysi Cynulleidfaol a Phresbyteraidd Wisconsin, wedi ymuiio i
fod yn un yn yr hyn a elwir Convention, ac i’r Convention hwn y perthyn chwech
o’r hyn a elwir District Conventions. Gan nad .oeddwn eto wedi ymuno mewn un
cysylltiad gweinidogaethol yn Wisconsin, wedi i mi gael fy llythyrau o
Bresbytery Montr’ose, a Ghymana Gynulleidfaol Ohio, aethym i Ddistrict Convention
Madison, yr hwn a ymgyfarfyddai yn Lake Mills. Yr oedd ganddynt fath o gyffes
athrawiaethol, a rheolau er dyfod i’w hundeb, a’u bod i holi y rhai a fyddai
yri dyfod atynt, er mwyn cael boddlonrwydd am eu golygiadau crefyddol. Holasant
fi yn lled fanwl, ac yn mysg pethau eraill, pa un ai trwy y Gair, neu yn
ddigyfrwng y mae yr Ysbryd Glan yn gweithredu yn gadwedigol ar yr enaid?
Dywedais ei fod yn gwneyd fel yr oedd yn dewis—mai Pen Arglwydd yw efe—fod yn
rhaid i ni addef ei weithrediadau penarglwyddiaethol ar blant heb gyfrwng y
Gair, neu ein bod yn gwadu pechod gwreiddiol, &c< Yr oeddynt yn
ymddangos yn siriol iawn, ac yn y diwedd yn cymeradwyo fy marn yn fawr iawn.
Cefais hwynt yn
------------------------------------------------(x192)
HANES BYWYD
bobl hynod ymdrechgar, ac awyddus i wneyd daioni gyda’r aclios goreu.
Tua’r flwyddyn 1853, gwnaeth yr enwad Cynulleidfaol anrheg i’w brodyr yn
Wisconsin at ddileu dyled eu capeli, ac er adeiladu rhai newydd. Cadwyd
cyfarfod yn Wafcertown er mwyn rhanu yr arian yn y dull goreu er cynydd a lles
yr achos. Yn mhlith pethau eraill a fu dan sylw, cynygiodd rhyw un, ac eiliwyd
ef, nad oedd dim o’r arian i fyned at ddileu dyled y capeli ag oedd ar waith,
neu y rhai a adeiladwyd yn barod, ond eu bod i gael eu rhoddi at adeiladu
capeli newyddion, yn hollol yn y lleoedd newyddion, lle nad oedd capeli o’r
blaen. Wedi dadleu am beth arnser ar y cynygiad hwn, ac arwyddion tebygol y
buasai yn cael ei gymeradwyo, cododd Siencyn ar ei draed, a dywedodd. Yr ydym
ni ar Welsh Prairie wedi adeiladu capel, ond yn methu ei orphen, ac yr ydym
mewn tipyn o ddyled. Os pasia y penderfyniad yna, yr wyf fi yn meddwl mai gwell
fyddai i ni losgi y capel sydd genym heb ei orphen, er mwyn dyfod, yn ol y
penderfyniad yna, i’r hawl o gael rhan o’r arian i adeiladu capel newydd. Mewn
canlyniad.i’r fath ddywediad, methodd y penderfyniad basio.
Pan yr ystyriom nad oedd yr eglwys oedd dan fy ngofal ond gwan, ac analluog i
wneyd ond ychydig at fy nghynaliaeth, rhesymol yw meddwl mai fy nyled-swydd
oedd, dan yr amgylchiadau, i wneyd rhywbeth arall. Trwy fy mod yn adnabyddus a
goruchwylwyr y Gymdeithas Draethodol yn New York, a bod arnynt cisiau
colporteurs, rhoddais ran o’m hamser at y gwaith hwnw. Prynais geffyl a gwagen.
Mae hanes y ceffyl hwn fel y canlyn.
Y PAKCH. JENKIN JENKINS. DOSKAN Y CEEFYL “ DIG.”
------------------------------------------------(x193)
Ceffyl hynod iawn oedd Die—prynwyd ef yn y fi. 1849—o liw gwineu, o faint cyffredin, yn gryf yn fewnol, ond nid yn yr
olwg allanol; gallesid meddwl ar yr olwg gyntaf arno ei fod yn un diog, eto yr
oedd yn fywiog iawn. Yr oedd yn
nodedig o gall, ac yn hynod o gyfrwys.
Tra yn yr harness safai bob amser heb achos i’w gylymu, ac ni ddangosai
un awydd, pan ar ei daith, i gyraedd cyflymdra, ond teithiai yn rhwydd o chwech
i saith milldir yr awr, gan lusgo yn aml lwythi trymion; a phan ddeallai
fod ei berchenog am. fyned heibio i’r wageni fyddent o’i flaen ef, byddai Die
yn sicr, nid yn unig o wneyd ymdrech, ond hefyd o lwyddo i fyned o’u blaen. Pan yn rhydd yn y cae ni fedrai neb ei
ddal, os byddai newydd gael ceirch.
Ymddangosai wedi hir drafaelio, ar ben ei daith, yn berffaith ddiflino,
ac yn aml teithiai haner can’ milldir y
dydd. Os buasai porfa Die yn llwm, er
yr ymddangosai yn dra llonydd ar hyd y dydd ar y maes, gyda’r tywyllnos neidiai
yn rhwydd dros y fence uchaf, ac mor fuan ag y llanwai ei fol, dychwelai gyda’r
un rhwyddineb. Yr oedd yn caru yn
fawr gael ei lanhau, ti phlethu ei fwng, gan ymddangos yn llawen dan y
driniaeth. Yr oedd, fel llawer eraill,
yn caru cael ei ganmol, ac yn deall pan ddywedid ei fod yn geffyl da. Pan ar ei
daith, ac wedi chwysu, nid yfai ond ychydig neu ddim dwfr, ond os dygwyddai i’r
ostler ei dwyllo, drwy beidio ei ddisychedu yn y boreu, elai at y pump ei
hunan, ac yfai hyd ei ddigoni.
Perthynai iddo gryfder dihafal; yr oedd yn ddigon galluog i aredig ei hunan, ac i lyfnu eilwaith; cariai
y gwair a’r yd i’r ysgubor ei hunan, y coed tdn, a’r cydau o’r felin; ao
------------------------------------------------(x194)
HANBS BYWTD, &C.
yr oedd gyda’r goreu wrth y machine dyrnu.
Cariodd yn llawen In o bregethwyr o bryd i bryd. Bu yn wasanaethgar iawn i grefydd ar y pen
yma, yn ogystal a chario llyfrau ei feistr dros y Gymdeithas Draethodol. Nl
wnai wahaniaeth rhwng y gweinidogion, byddai yr ‘ un mor barod i gario
Methodist, neu Fedyddiwr, ag oedd i gario Cynulleidfawr, ae ni syrthiai
oddiwrth ei ras tra yn cario Wesley.
Er fod gan Die ras parhaol, eto cafodd lawer iawn o gam. Unwaith, pan oedd ei berchenog ar ei ol, yn
nghyd a dyn pwysig arall, a boxied rhawr o lyfrau, wedi teithio o Welsh Prairie
hyd Berlin, yn Wisconsin, a dwy fiilldir yn mhellach, gofynwyd.i’r lletywr, a
oedd wedi rhoddi ceirch i Die? “ Ydwyf yn wir (ebai efe) rhoddais iddo ddwy
gornen.” Gofynaf i
bob rheswm, os oedd hyny nemawr gwell na dim,
wedi teithio y fath
bellder? eto, nid ymddialai, ond
parhaai ei nerth yn ddiysgog.
Yn ysbaid yr wyth mlynedd y bn yn
meddiant Siencyn, aeth ei glod yn fawr, canmolid ef gan bawb a’i hadwaen’ai, ac
nid heb ei haeddu. Gwerth ei bryniad
ef, a’r wagen, a’r harness, yn Beaver Dam, Wisconsin, oedd $80; a gwerthwyd. ef
a’i gebystr, i Fethodist Calfinaidd, am $120.
Bto parhaodd yn ei ffyddlondeb. Trwy y cysylltiad newydd hwn trodd Die o
fod yn Annibynwr i fod yn Fethodist.
Yn aml y dywedai ei berchenog newydd wrth yr hen, mewn cellwair, “ Fod
Die wedi troi yn Fethodist, am ei fod yn awr yn arfer cyrchu at gapel y Corff,
ac wedi gadael yr hen lwybrau.” Yr
atebiad a gafodd oedd, gan fod ei gariad yn parhau yn gryf at yr hen geffyl,
nad oedd neb yn eu plith mor ddiragfarn a Die. Os ydyw ceffylau yn anfarwol, fel y tybia rhai, dylai Die gael
ei ddigonedd o’r gwair a’r ceirch goreu yn y byd a ddaw.
MOSES STKONG.
------------------------------------------------(x195)
Yr oedd y dyn hwn yn gyfreithiwr talentog o Mineral Point, Wisconsin, pan yr
oeddwn yn cario llyfrau y Gymdeithas Draethodol. Digwyddodd ei fod ef a minau
yn aros am noswaith mewn ty tafarn yn Pardyville, swydd Columbia. Yr oedd yn
ddyn cryf, tew, gwrol, hunanol, a hynod o ffraeth, ac yn ysgolhaig tu hwnt i’r
cyffredin. Gosodwyd ni i gysgu yn yr un ystafell, ond nid yn yr un gwely. Cyn
cysgu gofynodd i mi yr hyn a ganlyn, “ What is your name r” dywedais, Jenkin
Jenkins. “My name “is Moses Strong. Of what nation are you?” I am a Welshman.
“And I am a Yankee. What is your occupation?” I am a Minister of the Gospel.
“And I am a Lawyer. To what denomination do you belong?” To the
Congre-gationalists. “And I am an Episcopalian. What is your politics?;’ I am a
Eepublican. “ And I am a Democrat.” Yr oeddem yn hollol groes i’n gilydd yn
mhob peth.
Dranoeth yr oedd y Court yn eistedd yn Wiosenia, ddwy filldir o’r lle yr oeddem
y nos o’r blaen. Troais i’r bar-room i gael talu am le y ceffyl, pwy oedd yno
ond chwech neu saith o gyfreithwyr, ac yn eu mysg Mr. Moses Strong. Cynygiwyd i
mi beth brandy i’w yfed, yr hyn yr oeddynt hwy yn ei wneyd. Dywedais nad oeddwn
yn arfer gwneyd, a buasai yn llawn cystal iddynt hwythau i roddi heibio y fath
arfeiad. Yna cododd Moses Strong i fyny, a dywedodd rywbeth tebyg i hyn. “ Dyma
y gwr y bum yn eysgu yn yr un
------------------------------------------------(x196)
HANES B1WTD
ystafell ag ef neithiwr. Mae yn myned
a’i lyfrau oddi-amgylch i wneyd dynion yn ddtiwiol, ac na wn i beth hefyd—os
oes gydag ef air o gyngor i ni, fe allai y byddai o fawr Ies i ni.” Dywedodd y pethau hyn, a llawer yn rhagor,
mewn cellwair a rhith boneddigeiddrwydd.
Anerchais hwynt, gan ddywedyd, Foneddigion, yr wyf yn teimlo
yn ofidns drosoch. Dynion
gwybodus, a’u dyledswyddau mewn swyddi gwladol, i weinyddu cyfiawnder tuag at
eraill, ond yn hollol annghyftawn tuag atynt eu hunain, yn dinystrio eu cyrff
a’u hereidiau, eu nodweddiadau inoesol a’u hamgylchiadau naturiol; yn lle
gwneyd daioni i gynideithas, y maent, trwy eu hesiamplau annuwiol, yn bla
drewedig yn mysg eu cydgreaduriaid.
Dyma Moses Strong, o Mineral Point, dyn o alluoedd meddylgar, o graffder
yr eryr, a’i gymwysderau hynodwiw yn
ei hollol gyfaddasu i fod yn Llywydd yr Uuol
Dalaethau. Gwel-wch ei lygaid
treiddgar, ei dalcen uchel a llydan! O
y fath drueni ei fod yn camddefnyddio ei dalentau ysblenydd, nes llithio y fath
nifer o gyfreithwyr i gael trwynau coohion fel ef ei hunan, ac arwain eraill
fel defaid i’r lladdfa trwy ei swynion dieflig.
Diolchodd y gwr i mi am fy araeth hynod, a dywedodd nad oedd am i mi wneyd hyn
heb dal, a rhoddwyd wyth dolar o gasgliad i mi am fy mod mor ddidderbyn wyneb.
Diolchais iddynt, a dywedais y buaswn yn rhoddi hysbysiad am dano yn yr
American Messenger. Br nad oeddynt yn foddlon i hyny, felly y bu, a rhoddais y
Temperance Manual yn rhodd iddynt, ac ymad-ewais a hwynt.
PARCH. .TEKKIN JENKINS.
FFOEFIAD EGLWYSI.
------------------------------------------------(x197)
Yn yr amser hwn ffurfiais dair o eglwysi Cynulleidfaol, un yn Montdello, un
arall yn Eosendale, a’r dry-dedd yn Ixonia, ger Watertown. Hefyd, ffurfiwyd yr
Eglwys Gynulleidfaol yn Big Eock, ac ordeiniwyd y Parch. John Daniels, yn awr
o’r Mynydd Bach, Morganwg, Cymru, gan y Parch. Richard Morris, Prairie-ville, a
minau. Hefyd, aeth y Parchn. David
Jones, a Lochlin, a minau, i ffurfio Eglwys Gynulleidfaol yn Illinois, ac i
ordeinio y Parch Griffith Samuel; ac ordeiniwyd y Parch. Evan Owens yn Berlin,
gan y Parch. David Lewis a minau. Aeth y Parch. Evan Owens a minau i sefydlu y diweddar Barch. John “Parry yn weinidog
ar Eglwys Gynulleidfaol Racine.. Digwyddodd i’r coelbren syrthio arnaf fi i
ddyweyd ar ddyledswydd yr eglwys tuag at en gweinidog. Cymerais yn destyn 2
Bren iv. 10. “Gwnawn, atolwg, ystafell fechan ar y mur, a gosodwn iddo yno
wely, a bwrdd, ac yst61, a chanwyllbren, fel y tro efe yno, pan ddelo efe atom
ni.”
Sylwais, I. Pod gweinidog yr efengyl yn wr Duw.
1. Duw a’i cododd i’r adwy.
2. Duw sydd wedi ei ddonio at ei waith.
3. Cenadwri oddiwrth Dduw sydd ganddo i’w thraethu.
4. Rhaid iddo yn y diwedd roddi cyfrif
i Dduw am yr hyn a ymddiriedwyd iddo.
II. Dyledswydd yr eglwys tuag ato. Nid yn unig i’w wrando, gweddio drosto, a
dweyd yn dda am dano, ond hefyd gyfranu at ei angenrheidiau tymorol, a chy-sur
ei deulu.
1. Y mae. y rhai sydd ganddynt barch i weision Crist, yn chwilio yn ymofyngar
am gael gwneyd rhyw beth er eu cysur.
------------------------------------------------(x198)
HASTES BTWYD
2. Ni bydd y rhai sydd yn chwilio am le
i wneyd daioni yn hir cyn cael gwybod beth i’w wneyd.
3. Mae y rhai
sydd am wneyd rhyw beth at yr achos yn
awyddus hefyd am
gael cydweithrediad eraill. “ Gwnawn, atolwg.”
4. Mae gwir ysbryd gweithgarwch yn
dechreu gartref. Adnod 9fed. “ A hi a ddywedodd wrth ei gwr,” &c.
III. Y
penderfyniad — gwneyd ystafell fechan ar y mur,
1. Mae
eisiau ty ar bregethwr. Gwna ty
bychan y tro, os na bydd ei deulu yn fawr; ty cyfleus a hardd yn ei gynllun, yn
ddidwyll, clyd, a gweddus ei wneuthuriad.
2. Ar y mur. Ty y gwyliedydd yw, fel y gallo weled y
rhai sydd tu fewn, a’r rhai sydd o’r ty allan. Mae talu rhent yn difa ei gynog, ac yn ei gadw yn llwm.
3. Yr eglwys
bia’r ty, ond ei fod yn hollol at wasanaeth y gweinidog.
IV. Dodrefn y ty.
1. G-wely iddo gysgu, a lle i ddieithr hefyd. “ Nac anghoflwch letygarwch.” “Yn lletygar.” 3. A bwrdd iddo fwyta.
Rhaid iddo gael bwyd, cyllell &c.
3. Ac yst&l. Nid all ef ddim bod yn ei sefyll o hyd. Rhoddwch
ryw beth iddo heblaw ei drwnc i eistedd i lawr.
4. Canwyllbren, a chanwyll ynddo, i
ddarllen, ac ysgrifenu. Rhaid cael
llyfrau i ddarllen, papyr ac ink i ysgrifenu.
5. Gwnewch bethau fel y dylech eu
gwneyd, fel y byddo ganddo gartref i fyw yn gysurus, fel na byddo arnoch
gywilydd pwy fydd yn ymweled ag ef.
6. Gwna Duw eich gweinidog, ac eraill,
eich. bendithio. “ Yn gwneuthur daioni
na ddiogwn, canys yn ei iawn bryd y medwn, oni ddiffygiwn.” Amen.
------------------------------------------------(x199)
GAIR AM
DALAETH MINNESOTA.
Trwy fod y Parch. Robert D. Thomas (Iorthryn
Giwynedd), newydd ddyfod a llyfr hardd allan o’r wasg, ni ddywedaf ond ychydig
am y Dalaeth, gan y gall y sawl a ewyllysio weled yr oll sydd angenrheidiol yn
y llyfr hwnw. Eto, rhesymol yw disgwyl gan un sydd wedi byw yn y Dalaeth lawn
un-mlynedd-ar-bymtheg ryw nodiadau a allent fod yn llesol i’r rhai sydd am
wybod mwy am dani.
Mae Minnesota yn agos gymaint arall ag yw Talaeth New York, yn cynwys 88,000 o
filldiroedd pedaironglog (square miles); tua deuddeg o weithiau gymaint
a Chymru. Yn ogleddol iddi mae y rhandir Prydeinig; yn ddwyreiniol, terfynir hi
gan Wisconsin, afon fawr y Mississippi, a Llyn Superior; i’r de gan Dalaeth
Iowa, ac i’r gorllewin gan Randir mawr Dakota. Mae ei lledred gogleddol yn
cyrhaeddyd o’r gradd 43 hyd y gradd 49, ac afon fawr.
Am y ddwy flynedd ddiweddaf yr arosais yn Welsh Prairie, bum yn General
Agent dros y Missionary Association yn mhlith y Cymry. Trwy fy mod
wedi gwerthu fy lle, penderfynais y buaswn yn myned i Big Bock, Illinois, am un
flwyddyn, er mwyn myned i Minnesota. Yn mis Mai, 1856, cychwynais gyda’r teulu
i’r lle dywededig a sefydlasom mewn lle a elwir Butternut Valley, lle yr ydym
yn aros hyd yn bresenol. Ffurfiais yno ddwy eglwys fechan Gynulleidfaol, a
gweinyddais iddynt hyd oddeutu dwy flynedd yn ol.
------------------------------------------------(x200)
Mae y Parch. Philip Peregrine yn gweinidogaethu iddynt yn Butternut Valley yn
awr, a minau pan y gallwyf; a’r Parch. Griffith Samuel yn South Bend. Ffurfiais hefyd un eglwys Bresbyteraidd
ar y Big Cottonwood, a dwy Ysgol Sabbothol. Yr wyf yn myned yno yn barhaus yn
awr ac yn y man, ac hefyd i Lake Crystal, a manau eraill. Mae Minnesota yn
rhedeg trwyddi ger llyn sydd ger yr Afon Goch i Port Snelling, ger St. Paul.
Mae y gogledd-ddwyreiniol iddi yn lled goediog, a’r rhanau gorllewinol yn
brairies llydain, agos yn wastad, a llawer o lynoedd o wahanol faintioli, ac yn
brinach o goed. Mae’r priddellau yn gyffredin o ugain modfedd i ddeugain o
ddyfnder. Gwlad hynod yw am wenith, ceirch, haidd, rhyg, corn, cloron, gwair, a
phorfeydd. Ei dyfroedd sydd iachus, a llawn o bysgod. Mae ynddi gyflawnder o
gwningod, hwyaid, a ieir y prairies, a gwyddau yn y gwanwyn a’r hydref. Mae ei
railroads yn aml, ei threfydd masnachol yn lluosogi, a digonedd o lo mewn rhai
manau ynddi.
Mae yma bedwar neu bump o sefydliadau Cymreig; ond hwn, yn Swydd Blue Earth yw
y mwyaf o lawer. Yma y mae chwech o gapeli gan y Trefnyddion Calfinaidd; dau
gan y Cynulleidfaolion, heblaw amryw ysgoldai lle yr arferir addoli yn yr iaith
Gymraeg. Gellir cael cartrefleoedd o gant a thriugain o erwau am ganoedd lawer
o filldiroedd, ond talu pymtheg dolar
i’r Llywodraeth; a digonedd o leoedd eraill am bris isel, yn ol y gwahanol
fanau, a’r cyfleusderau y byddont, a’r driniaeth a gawsant. Mae yn lle
dychrynllyd i feddwon, a dynion diog. Gwna y naill rewi i farwolaeth yn eu
meddwdod, tra y bydd y llall yn sicr o ddyoddef mwy nag sydd raid iddo yn y
gauaf. Mae dwy section o bob
------------------------------------------------(x201)
plwyf wedi eu trwyddedu, er mwyn
addysg y plant. Bernir ei bod yn hynod iachus — awyrgylch sych, deneu, a
llewyrch haul digwmwl y rhan fwyaf o’r amser; y tywydd yn bur sefydlog — ambell
ystorm ddychrynllyd — y mellt yn oleu iawn, a’r taranau yn gryfion a
thrystfawr.
……………………….O Minnesota braf,
………………………….Ac iachaf yn y byd,
……………………….Mor
hyfryd yn yr haf
... ……………………….Yw byw lle na bo’r
cryd;
……………………De’wch atom, Gymry, yn ddioed,
……………………Heb aros
dim, os gellwch dd’od
------------------------------------------------(x202)
Y PARCH. MORRIS
ROBERTS, REMSEN, A MR. WILLIAM MAXY, CARBONDALE.
Amrai
flynyddau yn ol, yr oedd Cymanfa yn Carbondale, a llawer o bobl wedi ymgynull yn
nghyd. Yn un o’r oedfaon yr oedd Mr. Roberts yn pregethu; pan tua haner ei
bregeth, wedi myned i hwyl wrth ddyweyd am drefn y cadw, dywedai am railroad
fawr yr iachawdwriaeth, clywid Maxy yn dyweyd, “Amen, Amen,” fel y byddai
yn arfer. Yn mhen ychydig, dywedai Morris, gan droi ei law yn ei wallt, “Bobl
fach, ar y railroad hon y mae y locomotive dwyfol, a thrain noble
ar ei hol.” Dyma dair o’r ceir, y Gymdeithas Genadol Dramor, mae hon yn cario’r
efengyl i wledydd paganaidd., Parhäai Maxy i waeddi, “ Amen, Amen.” Ychwanegai
at hyny hefyd, “O’r goreu, fy ngwas i.” Dyma gar noble arall, y
Gymdeithas Genadol Gartrefol, mae hon yn cynorthwyo eglwysi gweiniaid, sydd yn
analluog i gynal y weinidogaeth yn eu plith eu hunain, ac i blanu eglwysi
newyddion mewn lleoedd oeddynt amddifad o’r efengyl o’r blaen. “Amen, Amen, dyna
hi, fachgen.” Dyna gymdeithas arall, y Gymdeithas Feiblau, i roddi
Gair y Bywyd yn mhob iaith, i holl drigolion y byd. “Amen, Amen, dyna hi eto,
fachgen.” Dyna gymdeithas arall hynod iawn, sef y Gymdeithas Draethodol. Mae yn
hon le i’r merched a’r gwragedd i fyned a’r efengyl i’r tai, ac i bob man lle y
byddo dynion. “Amen byth, dyna hi eto.” Mae cymdeithas arall yn awr ar droed,
ac un enwog yw hi hefyd, sef y
------------------------------------------------(x203)
Gymdeithas
Ddirwesol, i wneyd y meddwon yn sobr, i newynu yr hen saloons budron
yma, a dysgu dynion i fyw fel y dylent; dyma y ffordd i gael y byd i drefn.
briodol. Ioan Fedyddiwr yw yr engineer — dysgyblion Ioan, jumpiwch i
mewn iddo gyda brys. Pan oedd Mr. Roberts yn dyweyd am y gymdeithas hon, trwy
nad oedd Maxy yn ddirwestwr, ac yn caru llymed, yn lle dyweyd “Amen,” fel cynt,
ysgydwai ei ben, a dywedai, “He, beth yw hyna sydd gen’t ti?”
“Wedi dybenu yr oedfa, awd i dy Mr. Maxy i de (un caredig a lletygar iawn
ydoedd). Pan wrth y bwrdd, gofynodd Mr. Roberts i Maxy, paham na buasai yn
dyweyd “Amen” pan oedd ef yn dyweyd am y Gymdeithas Ddirwestol, fel ag y gwnai
pan oedd yn dyweyd am y cymdeithasau eraill? Yr ateb a gafodd oedd, “Nid wyf fi
ddim yn ’mofyn dy gymdeithas ddirwestol di, ’does dim o’i heisiau arno i.”
Roberts — “Nid yw yr yfed yma yn gwneyd dim lles i chwi, fe fyddai yn well i
chwi o lawer iawn ei roddi heibio.”
Maxy — “Yr wyf fi yn gwybod yn well na hyny; pan y byddwyf fi yn tyllu yn y
gwaith, a’r llwch yn dyfod i’m genau, a minau yn gweithio yn galed, mae llymed
bach y pryd hwnw yn fine iawn; neu yn yr hwyr, ar ol bod yn ddyfal
trwy’r dydd, mae yn gysurus anghyffredin i gael llymed y pryd hyny hefyd, wel’
di.”
Roberts — “Wel, Maxy, mae yn rhaid i chwi joinio dirwest, neu mae yn
rhaid eich diarddel o’r eglwys. Mae gyda ni yn awr, yn State New York, engine
fawr, ac yr ydym yn cylymu y chain am yddfan yr hen stympiau, ac y mae
yn eu tynu hwy o’r gwraidd bob
------------------------------------------------(x204)
un; ac yr wyf fi yn meddwl fod yn rhaid tynu yr hen yfwyr yma hefyd o’r
eglwysi.”
Maxy — “Nid alli di ddim, fy ngwas i; yr oeddwn i yn aelod yn eglwys Cross,
Penmaen, cyn i ti gael dy eni, na son am danat ti na dy ddirwest; nid wyf fi
ddim wedi meddwi erioed, nid alli di wneyd dim i mi. Am dy engine sydd
gyda ti, yn State New York, i godi stympiau, eu gadael hwy i bydru eu hunain yr
y’m ni yma, ac y mae yn llawn cystal i ti fy ngadael inau yn llonydd, ni fyddaf
fi ddim yn hir ar dy ffordd di, nac ar ffordd neb arall ychwaith.”
PREGETH.
“Crist a’n llwyr brynodd oddiwrth felldith y
ddeddf, gan ei wneuthur yn felldith trosom; canys y mae yn ysgrifenedig,
Melldigedig yw pob un sydd yn nghrog ar bren.” — Gal. iii. 13.
Planwyd Cristionogaeth yn foreu yn Galatia, yn y flwyddyn 50, gan Paul, ac yn y
flwyddyn 54 ymwelodd â hwynt. Act. xvi. 18, 23. Ysgrifenwyd yr epistol hwn o
Corinth. Ni bu Paul yn Rhufain am 10 mlynedd wedi hyn. Hwn yw yr epistol cyntaf
a ysgrifenodd. Yr oedd yr eglwys hon yn gymysg o Iuddewon a Chenhedloedd; yr
olaf oeddynt luosocaf. Prawf galarus o lygredigaeth foesol dynolryw yw, fod
personau neillduol, ac eglwys hefyd, yn llaesu ac yn ymollwng oddiwrth burdeb
athrawiaeth yr efengyl hyd yn nod yn nyddiau Paul. Diffyg y Galatiaid yn benaf
oedd, cymeryd eu tynu ar gyfeiliorn gan eu hathrawon Iuddewaidd, y rhai a
ddywedent, oddieithr iddynt gymeryd eu henwaedu nad allent fod yn gadwedig,
------------------------------------------------(x205)
gan
osod y ddeddf yn lle Crist. Er eu gosod ar eu gocheliad yn erbyn y cyfeiliornad
hwn, mae yr apostol yn dangos mai trwy ffydd y cyfiawnhawyd Abraham, ac nad oes
neb yn wir blant i Abraham ond y rhai sydd yn credu yn Nghrist; a bod y rhai a
ymlynant wrth weithredoedd y ddeddf, fel sail eu cymeradwyaeth gyda Duw, dan
felldith.
Mae dwy ffordd i fywyd, un i’r dieuog, a’r llall i’r euog; a chan ein bod ni
oll yn euog, fod yn rhaid ymwadu a’r gyntaf, trwy ein bod tan felldith y
ddeddf; ac felly, mai yr olaf yw ein ffordd ni, sef trwy ffydd yn Nghrist.
I. Ystyriwn ein sefyllfa dan
felldith y ddeddf. Mae y ffaith yn anwadadwy, oblegid pe na buasem dan felldith
y ddeddf, ni buasai eisiau ein gwaredu oddiwrth y fath felldith.
Yn fwy neillduol. .
1. Mae ein bod yn ddarostyngedig i
felldith y ddeddf, yn golygu ein
bod dan rwymau
anughyfnewidiol i ufuddhau iddi.
Y fath yw y ffaith, nas gallwn byth ymryddhau o’n rhwymau i garu Duw a’n
cymydog, trwy un amgylchiad a ddichon ddigwydd trwy holl gylch ein bodolaeth. Nid yw pechod yn ein rhyddhau, mwy nag yw
tori amod yn rhyddhau oddiwrth gytundeb.
Nid yw gras yn gwneyd hyn, oblegid gwaith hwn yw gosod y gyfraith yn ein
calon, ac ofn Duw ynom.
2. Ein, bod dan rwymau i ufuddhau a
chadw y gyfraith. Darfu i ni ei
throseddu yn ei holl ranau. Er nad yw
pob un yn euog o’r un math o ddrwg a’r llall yn hollol — o gyflawni yr un
pethau, mae pawb wedi ymadael oddiwrth fuchedd Duw, ac wedi troseddu
egwyddorion rhwymedigaeth, ac felly yn euog o’r cwbl.
------------------------------------------------(x206)
Mae caniatau un pechod, yn dangos nad ydym yn ymgadw oddiwrth bechodau
eraill oddiar un parch i’r Arglwydd, ond oddiar ryw îs-ddyben sydd yn rhy fyr o
ogoniant Duw; am hyny y mae’r Iuddew a’r Cenedl-ddyn tan bechod. Rhuf, iii. 10.
“Nid oes neb cyfiawn; nac oes un.” Iago iii. 10.
3. Wedi troseddu y gyfraith ddwyfol, a myned yn ol am ogoniant Duw, hyd yn nod
pan y mae ufudddod yn rhanol wedi cael ei wneyd, yr ydym yn anocheladwy tan
felldith. Mae pob cyfraith a chosb yn gysylltiedig a hi, onide ni byddai ynddi
rym. Mae y gyfraith ddwyfol wedi cysylltu marw a’i throseddiad. Mae bendith a
melldith yn perthyn iddi; y naill i’r ufudd a’r llall i’r anufudd, a chan ein
bod ni yn perthyn i’r desgrifiad olaf, yr ydym tan y felldith. Gan hyny,
gadewch i ni wneyd ymchwiliad i gynwysiad y gair brawychus hwnw, “ Melldith y
ddeddf.”
(1.) Mae yn gosb yr hon a weinyddir, neu a dybir ei bod, oddiwrth uwchlaw gallu
dynol. Nid ydyw rhegfeydd a melldithion dynion drwg, ond yn gosod allan eu
hannuwioldeb a’u dymuniadau llidiog at eraill; ond y mae melldith sylweddol yn
dyfod oddiwrth Dduw, neu ryw un tan ei awdurdod. Pan ddatganodd Noah y felldith
ar Ham, yr oedd yn gwneyd hyny trwy ddylanwad prophwydoliaeth; a phan anfonodd
Balac am Balaam i felldithio Israel, yr oeddid yn tybied ei fod yn cymdeithasu
a’r Duwdod, neu ryw allu anweledig. Nid yw melldith y brenin hudoledig, neu
offeiriaid pabaidd, ddim yn y byd; ond y mae bod dan felldith Duw yn beth
dychrynllyd, ac nid oes diangfa.
(2.) Mae melldith deddf gyfiawn Duw yn rhwymo’r pechadur i gosb dragywyddol. Yr oedd bygythiadau
------------------------------------------------(x207)
ofnadwy yn dilyn y troseddiad o
gyfraith Moses. Deut. xxviii. 15—19. Er fod y melldithion hyn yn benaf yn cael
eu bygwth am bethau tymhorol, ag y gall dynion dan yr efengyl ddianc, eto y
maent dan felldith ysbrydol, yr hon sydd yn llawer mwy ofnadwy, sef eu taflu
ymaith oddiwrth nawdd Duw am byth, mewn anobaith am ymwared. Nid yw y bywyd
presenol ond oediad o’r llid a fydd.
II. Ein prynedigaeth. “Crist a’n
llwyr brynodd oddiwrth felldith y ddeddf, gan ei wneuthur yn felldith trosom.”
HAKES BTWYD
neu daliad, fel y rhyddhaoddd Paul Onesimus, neu Juda Benjamin. Mae ein rhwymau
i gyfraith Duw yn gyfiawn, a’n haeddiant o’r felldith felly hsfyd. Nid gwiw
amcanu treisio y gyfraith ddwyfol. Rhaid i’r hwn sydd yn oymeryd y gorchwyl o
ryddhau y troseddwr roddi boddlonrwydd i gyfiawnder dialeddol. Yr oedd yr
aberthau dan y gyfraith yn gosod allan y drychfeddwl o ryddhad a maddeuant trwy
waed y cymod.
3. Mae y cymeriad a roddir yma i osod
allan ddyoddefiadau ein Harglwydd yn gryf iawn. Fe’i gwnawd yn “ felldith drosom “—yn wrthodedig gan nefoedd a
daiar; yr unig Pod difrycheulyd er cwymp dyn a fu byw yn y byd yn cael ei drin
fel pe buasai yr unig bechadur.
Rhoddodd ei enaid yn aberth dros bechod yn y fath fodd ag i ddangos fod
pechod yn cael ei gondemnio yn y cnawd, neu yn ein natur ni, a bod yr Arghvydd
wedi rhoddi arno ef ein hanwiredd ni i gyd. Yr oedd Job yn achwyn fod ei ddolur
yn fwy na’i ocheneidiau, a Jeremian yn dy weyd ei fod yn un a “ welodd
flinder;” ond both oedd eu dyoddefiadau hwy i’w cyferbynu a’r eiddo Crist yn yr
ardd, ac ar y groes? “ Na ddyweded y rhai a welsant adfael Jerusalem mwy-ach,
beth yw y llid a’r dig hwn?” Edrychwn
i Galfaria, a gwelwn Fab Duw yn trengu dan y felldith drosom yno.
4. Effeithiau y dyoddefiadau hyn yw ein
prynedigaeth, a’n gwaredigaeth pddiwrth felldith y ddeddf. Yn awr, gan fod
cyfiawnder wedi cael cyflawn foddlonrwydd, mae Duw yn ymddangos yn ei wir
gymeriad, “yn gyfiawn, ac yn cyfiawnhau y neb sydd o ffydd Iesu.” Mewn cadw pechaduriaid yn ei Fab, mae Duw
T PAKCH. JENTKIH”
------------------------------------------------(x208)
------------------------------------------------(x209)
yn llawn mor hoff o’i gyfiawnder, a gelyn i bechod, a phe buasai yn condemnio y
pechadur i ddinystr. Rhuf. ni. 24—26. Mae iachawdwriaeth yn gyfiawn gydag ef.
Ps. cxxx. 7, 8. “ Disgwylied Israel am yr Arglwydd, o herwydd y mae trugaredd
gyda’r Arglwydd, ac aml ymwared gydag ef; ac efe a wared oddiwrth eu holl
anwireddau.”
CASGLIADAU.
1. Gwelwn ddiogelwch a dedwyddwch credinwyr. Nid yw y felldith mwyach yn sefyll
yn eu herbyn, a’r holl fendithion yn eiddo iddynt. Fe ddyry Duw iddynt bob peth
gyda Christ.
2. Mae iachawdwriaeth yn awr yn cael ei chynyg yn rhad i bechaduriaid, a Christ
yn barod i dderbyn pwy bynag a ddel. “ Gwyn eu byd pawb a ymddiriedant ynddo
ef.” Amen.
PEEGETH.
“ Tr wyf yn marw beunydd.” 1 Cor. xv.
31.
Nid oes achos i ni gyfyngu ystyr ein testyn, ond derbyniwn ef yn yr olwg
gyffredinol, yn mha ystyr y gallasai Paul ddyweyd hyn, ac yn mha ystyr y mae yn
briodol i ninau ei arferyd.
Yr oedd ef yn marw beunydd, o herwydd yr oedd yn wastad mewn perygl wrth
bregethu yr efengyl. 2 Cor. xi. 23—28. Hwyrach nas gallwn ni fod mewn cymaint o
beryglon a Paul, eto yr ydym Mg^^hy^berjgJJbob awr, ac yn agored i
ddigwyddiada”u!YFydym yn cael ein cylchynu gan ddynion drwg a direswm, tymerau
a
------------------------------------------------(x210)
HAKES BYWTD
dichellion y rhai a allant ein dinystrio. Qnid ydym mewn byd sydd yn llawn o
faglau—breuolder y corff, curiadau y gwaed, &c.?
2. Yr oedd Paul yn marw beunydd, nid yn
unig yn gyfansoddiadol, ond hefyd yn dyngedol. Y fynyd y dechreuasom fyw, yr oeddym yn dechreu marw. Yr ydym yn siarad am farw. Mae amryw o honom yn haner marw yn barod, a
rhai yn rhagor. Mae amryw o’n
cysylltiadau yn feirw, a’n cysuron, a’n gobeithion. Yr ydym wedi claddu llawer
o gyfleusderau, o ddyddiau a blynyddoedd, ac y mae pob dydd a mynyd yn ein dwyn
at ddiwedd y cwbl. Gwrthun yw cyfyngu
marw i’r weithred o ysgariad y corff a’r enaid; nid yw hyn ond yr ergyd olaf.
3. Yr oedd Paul mewn ystyr foesol yn
marw beunydd. Marw i wrthddrych, yn ol yr Ysgrythyr, yw, nad oes dim mwyach a
fynom ag ef. Cyfrifwch eich hunain yn
farw i bechod. Os ydym wedi marw i
bechod, pa fodd y byddwn byw mwyach iddp ef?
Croeshoelio yr hen ddyn, y cnawd, ei wyniau a’i chwantau; marweiddio
gweithredoedd y corff, croeshoelio y cnawd.
“ Yr wyf yn marw beunydd.”
4. Yr oedd Paul ynjDarod i ymddatod pa
bryd bynag y buasai hyny yn cymeryd lle.
A’r dyn sydd o’r un meddwl sydd yn ystyriol i barotoi i farw—mewn
sefyllfa ac agwedd addasi farw yn ddiogel ac yn dawel. Marw i ogoneddu Duw—i gael mynediad helaeth i deyrnas dragywyddol ein
Harglwydd Iesu Grist. Mae yn rhaid i
hyn ddechreu gyda dymuniad yr apostol, i enill Crist, a’n cael ynddo ef. Nid oes dim yn cael ei wneyd i bwrpas er
parotoi erbyn tragywyddoldeb nes y gallwn ddyweyd, “ I’th ddwylaw di y
gorchymynaf fy ysbryd.”
Y PARCH.
------------------------------------------------(x211)
“ Ti a’m gwaredaist, O Arglwydd Dduw y gwirionedd.” Nid ydyw llais y nefoedd yn
cyhoeddi neb yn wynfyd-^ edig ond y rhai sydd yn marw yn yr Arglwydd. Mewn
sefyllfa o undeh a chymuhdeh ag ef; ei gyfiawnder ef yn rhoddi hawl, a’i ras yn
em gwneyd yn gymwys i gael rhan o etifeddiaeth y saint yn y goleuni.
5. Yn yr achos hwn dylem, nid yn unig fod yn barod mewn teimlad, ond disgwyl yn
weithredol; wedi gwregysu em lwynau, a’n lampau yn gyneuedig; y gydwybod yn
bur, ac yn dawel; ein serch wedi ei dynu oddiwrth bethau daiarol, fel pan ddelo
y wys, ein bod yn foddlon i fyned, ac nid gwaeddi am arbediad, a dywedyd, “
Paid a mi, fel y cryfhawyf, cyn fy myned ac na byddwyf mwy.” Mae hyn yn
gwastadhau y llwybr tua’r lorddonen, ac nid taro ein traed wrth y mynyddoedd
fcywyll yn ddisymwth. Mae sydynrwydd amgylchiad yn gwylltio y teimlad, ac yn
gyru y meddwl i ymddyrysu. Hwyrach na wna angau ddyweyd pa bryd y daw, na pha
fodd trwy gystudd. Os na chredwn ni hyn, ni chredem ychwaith pe cyfodai un
oddiwrth y
ro/ritvro- •*
meirw.
•
PKEGETH.
------------------------------------------------(x212)
“ Y mae afon, a’i ffrydiau a lawenhant ddinas Duw.”—Salm xlvi. 4.
Pa beth a all yr afon hon fod, ond y cyfamod tragywyddol hwnw oedd Duw wedi ei
wneyd dg ef, at yr hwn yr oedd ei feddwl yn cyrchu, pan yr oedd pob ffrwd arall
wedi sychu i fyny. Er nad oedd ei dy felly gyda Duw; dyna oedd ei holl
ddymuniad, er nad oedd yn peri iddo flaguro. Pa beth yw ffrydiau yr afon.
HAKES BTWTD
yma, ond y cysuron hyny yr oedd Dafydd yn eu mwynhau oddiwrth y cyfansoddiad
dwyfol hwn? Gwaed Iesu, dylanwadau yr Ysbryd Glan, athrawiaethau ac addewidion
yr efengyl, ordinhadau crefyddol a moddion gras. Mae pedair ffordd y gall
ffrydiau afon lawenhau dinasvddion. - “*~~”
~*»~”...... J......-
I.5 Yr olwg arnynt. Nis gall dim fod
yn fwy pleserus a dymunol i’r rhai sydd yn archwaethu pryd-ferthwch natur, na
rhodio wrth ochr ffrydiau bywiog a grisialaidd. Gweled y pysgod yn chwareu, yn esgyn a disgyn ar wyneb y don; y
llysau gwyrddleision yn ymsymud a siglo ar wyneb y crych gloy w; swn y dyfroedd
yn llithro heibio i’r clogwyni, ar hyd y ceryg llyfnion; lliw y gwaelod yn
ymddangos trwy belydr yr haulwen yn y ffrwd, a’r awel yn brigwynu symudiad y
crych; y prenau yn ymestyn ac yn plygu eu brigau ar hyd yr ochrau, yn cusanu y
dwfr; y coed llathraidd ac uchel-frig yn cysgodi a gorchuddio wynetpryd yr aber
oddiar y clogwyni a’r pantau cylchynog.
Dyma le i ddyn o feddwl ac archwaeth i fyfyrio; i’r bardd i chwareu ei
awen fwyn, a’r arluniwr ei bwyntil.
Ond beth yw yr olwg a gaiff y Cristion wrth syllu ar ei ffynonau ef? Mor
amrywiol, mor anwyldeg, ac mor argraffiadol ar ei feddwl a’i galon yw y
gwrthddrychau a ymddangosant iddo!
“Bydd melus fy myfyrdod am dano—mi a lawenychaf yn yr Arglwydd.”
i f 2.)Masnach. Mae yn annhraethol fanteisiol i ddinas j focTyn agos i
ddyfroedd, gan ei fod nid yn unig yn I gwneyd masnach yn alluadwy, ond hefyd yn
hawdd ac I nelaeth. Humber sydd wedi gwneyd Hull mor enwog, | a Thames,
Lundain. Trwy nerth afonydd a dyfroedd y
Y PAECH. JEJTKIN
------------------------------------------------(x213)
I
mae marsiandiaeth yn cael ei gario o amryw ddinasoedd i eithafoedd y ddaiar,
a’u hynodi mewn cyfoeth a gwychder. Ar hyd y ffrydiau hyn y mae’r Cristion yn
derbyn cyfoeth i’w enaid, i’e, trysorau annhraethol eu gwerth a pharhaus. Trwy
y rhai hyn y mae yn delio a’r wlad bell. “ Gwell yw ei marsiandiaeth hi na
marsiandiaeth o arian, a’i chynyrch hi sydd well nag aur coeth.”
/ 3.}Ffrwythlonrwydd. Meddyliwch am dir sych, lle na3 oes dim dwfr i’w gael;
mor ddymunol fyddai ffynonau dyfroedd yn ymwthio o’r creigiau a’r bryniau llwm,
ar hyd y tywod melyn, ar eu goriwaered, er cynyrchu y borfa a chorsenau brwyn.
Dewisodd Lot wastadedd Sodoma, yn agos i’r lorddonen, am ei fod yn ddyfradwy
fel gardd yr Argwydd.
A ddarllenasoch chwi erioed eiriau Balaam, yn darlunio gwynfydedigrwydd Israel.
“ Ymestynant fel dyffrynoedd, ac fel gerddi wrth afon; fel olewydd a blanodd yr
Arglwydd; fel cedrwydd wrth ddyfroedd.” Onid y Cristion yw y pren a blanwyd
wrth afonydd dyfroedd, yn tyfu mewn bywyd dwyfol, wedi ei add-urno a grasau yr
Ysbryd, yn pyngu a ffrwythau cyfiawnder, trwy Iesu Grist, er mawl a gogoniant
Duw.
s**”‘\
(4. Er cyflenwi
angen. Beth a wnelai dinas heb yr elfen ddyfrllyd, werthfawr? Bob amser
amcana’r gelyn atal ffordd y dwfr i’r ddinas, er mwyn iddi roddi fyny iddo. Yr
oedd rhifedi llu brenin Assyria gyda Eab-saceh yn bostio, mai a gwadn ei esgid
y buasai yn sychu dyfroedd Jerusalem. Ni bydd ar y saint eisiau. “O deuwch
i’r dyfroedd—y dwfr a roddwyf fi iddo a
HANES BTWYD
------------------------------------------------(x214)
fydd ynddo yn ffynon—os oes ar neb syched, deued ataf fi ac yfed—cymerwch o
ddwfr y bywyd yn rhad.”
If such the
sweetness of the stream,
What must the fountain be, Where saints and angels draw their bliss
Immediately from thee?
PEEGETH.
“ Nac ymrysonwn a Duw.”—Act. xxiii. 9.
~*\ I.’1 Dangoswn pa fodd y gellir dyweyd fod dynion yn
ymryson a Duw:
1. Pan y byddont yn casau ac yn
anmharchu ei bobl.
2. Pan y byddont yn atal ac yn dystewi
ei weinidogion i bregethu. Chwithau
hefyd a erlidiant. Y
gyfraith o unifurfiad a daflodd ddwy fil o weinidogion o’u swyddi. Lladd ei dystion.
3. Yla dangos gwrthwynebiad i’r
gwirionedd. Jer. xliy. 16,17. Y maent i bob gweithred dda yn
anghy-meradwy.
4. Pan yn amlygu anfoddlonrwydd, a beio
gweinyddiadau ei ragluniaeth. Job xl.
2. “Ai dysgeidiaeth yw ymryson a’r Hollalluog?” Esa. xly. 9. “
Gwae a ymrysono a’i luniwr.”‘ Rhuf. ix. 20. -” Yn hytrach, O ddyn, pwy wyt ti,
yr hwn a ddadleui yn erbyn Duw?” Yn dyweyd, Da yw ymddigio yn erbyn Duw. Esa. yiii. 21. Pan y byddo Duw yn taro, mae y pechadur am daro yn ol.
5. Pan yn mygu argyhoeddiadau, gan
wneyd trais a’u cydwybodau. Gwnaeth y
cyn-ddiluwiaid hyn dan bregethiad E~oah, a’r Iuddew anghrediniol dan wein
Y PARCH. JENKIN
JBKKINS.
------------------------------------------------(x215)
idogaeth yr apostolion. Act. xxiy.
25. “Dos ymaith ar hyn o amser,”
&c. Mat. xiii. 14, 15. “ Gan
glywed yjcjywch, ond ni ddeallwch.” \Iu Ystyriwn ddrygedd y fath ymddygiad.
1. Ms gall gelyniaeth yn erbyn Duw
ddeilliaw ond oddiar anwybodaeth o
Ddtiw, a thyb hunanol o’n doethineb ein hunain. Jer. v. 3, 4.
2. Mae yr ymgyrch hwn yn wag a
disylwedd. 1 Cor. x. 22. “ Ai gyru yr
Arglwydd i eiddigedd yr ydym? A ydym ni yn gryfach nag ef?” Esa. xl. 21. “ Yr hwn a wna yn ddiddym farnwyr y ddaiar,” &c. Caled yw gwingo yn erbyn symbylau. Luc xiy. 31. “ Neu pa frenin yn myned i ryfel yn erbyn brenin arall,” &c.
3. Bydd y diwedd yn druenus. Mewn ymrysonau eraill, dichon y canlyniad
fod yn amheus. Yma mae yn sicr o fyned yn erbyn y dyn. Job ix. 4. “ Mae efe yn ddoeth o galon, ac yn alluog o
nerth,” &c. Heb. x. 31. “ Peth
ofnadwy yw syrthio yn nwylaw y Duw byw.”
4. Gwell yw dyfod i gymod ag ef gyda
brys. Mae y ffordd yn rhydd, Cyfryngwr
yn barod, a heddwch trwy waed y groes.
2 Cor. v. 19, 20. “ Sef bod
Duw yn Nghrist yn cymodi y byd ag ef ei hun.”
Mat. v. 25. “Cytuna a’th .wrthwynebwr ar frys.” Esa. xxvii. 5. “ Neu ymafled yn fy nerth,
fel y gwnelo heddwch a mi, ac efe a wna heddwch a mi.”
5. Os na wneir i fyny yn y byd hwn,
bydd yn rhy ddiweddar am byth. Yn awr
yw yr amser cymeradwy. Yn y byd a ddaw bydd y gagendor wedi ei sicrhau. Ps. 1. 21, 22. “ Deallwch hyn yn awr, y rhai
ydych yn annghofio Duw, rhag i mi eich rhwygo, fel na byddo gwaredydd.” “Hyn a wnaethost, a minau a dewais.”
------------------------------------------------(x216)
ttANES BYWYD
PKEGETH.
“ Yr hwahefyd a’aseliodd.”—2 Cor. i. 22.
Yr Ysbryd Glan yn cael ei osod allan fel sel, a chredinwyr yn derbyn argraff ei
sel ar eu calonau a’u meddyliau.
I. Sel oedd yn cael ei defnyddio i gadarnb.au ac awd-urdodi ysgrifen-brawf
(document). Gwelwn hyn yn Jer. xxxii.
9, a Nek. ix. 38. Holl fendithion
cyfamod Duw sydd yn cael eu selio drosodd gan yr Ysbryd i’l credadyn pan yn
edifarhau a chredu yr efengyl.
II. Yr oedd sel gwr yn cael ei rhoddi
ar ei eiddo, i’w wahaniaethu oddiwrth eiddo pawb arall. Bzec. ix. 4; Dat. vii. 2. Wrth ein hy.sbryd y gwyddys eiddo pwy
ydym. Os eiddo Duw, yr ydym wedi ein
selio gan Ysbryd Duw. Yr ysbryd sydd
yn tystiolaethu.
III. Sel a osodir i ddiogelu pethau gwerthfawr. Yn awr y saint yw y jewels, a’r
llythyrau. Yr Ysbryd sydd yn selio ei
bobl, a phob peth a feddant i fywyd tragywyddol.
IV. Trwy selio y mae delw gwr yn cael ei rhoddi ar ei eiddo. Felly mae yr
Ysbryd wrth selio plant Duw yn gosod delw Duw ar ei eiddo, sef goleuni,
gwirionedd, cyfiawnder, cariad, santeiddrwydd, a ffyddlondeb, &c. Dyma y
sel sydd ar yr holl deulu. Pa le bynag y gwelwch un o deulu Duw, yno y gwelwch ei
ddelw ef hefyd.
1. Dynion sydd yn dangos yr Ysbryd y
seliwyd hwynt ag ef.
2. Na thristawn yr Ysbryd a’n seliodd
hyd ddydd prynedigaeth.
T PAKCH. JERKIN JENKINS.
------------------------------------------------(x217)
3. Cysurus yw bod dan sel y Brenin byth ac yn dragywydd. Ioan i. 29. “ Wele Oen
Duw, yr hwn sydd yn tynu ymaith bechodau y byd.”
I. Yr enw a roddir i Iesu Grist, “ Oen Duw.” Oen oedd
arwyddlun o
1. Ddiniweidrwydd,
dieuog, didwyll, dilygredd, perffaith, difai.
2. Amyneddgar ac addfwyn, yn ngwyneb
dirmyg a gwawd Pilat, a’r archoffeiriad. “ Fel oen yr arweiniwyd efi’rlladdfa.”
3. Defnyddioldeb.—Ei gnawd yn fwyd yn
wir—ei waed yn ddiod yn wir; a’i wlan yn wisg oreu—cyfiawnder y saint.
4. Oen—aberth dyddiol dros bechodau
dyddiol y genedl.
5. Oen y Pasg—aberth mawr blynyddol
dros y genedl; yn oen blwydd, perffaith-gwbl, o’r gorlan, a’i ladd yn nghanol y
gynulleidfa; ei rostio, heb dori asgwrn o hono; ei waed ar gapan y drws ac ar y
ddau ystlys-bost, i ddiogelu ei holl deulu.
O! edrychwn arno trwy ffydd, nes byddo ein calonau yn cynesu ato.
6. Iesu oedd Oen Duw yn ei briodol
ystyr; ei unig-anedig Fab, ei hanfodol gydradd, uwch nac angelion, wedi ei
ethol, a’i anfon, a’i uno a’r natur ddynol; yr hwn a roddodd ei hun yn aberth
dros bechodau y byd; yr hwn a gymeradwywyd gan y Llywydd ar ei orseddfainc.
II. Yr hyn y mae Iesu Grist yn ei wneyd fel Can Duw—” tynu ymaith bechodau y
byd.”
1. Tynu ymaith bechodau y byd.—Trwy ei ufudddod a’i angau; fe dynodd ymaith y
felldith oddiar bob un sydd yn credu, &c. Anrhydeddodd y gyfraith, bu farw
yn
------------------------------------------------(x218)
HANES
Y PARCH. JElfKUT
JENKINS.
------------------------------------------------(x219)
aberth dros bechod. Tit. n. 4. Dat. v. 9. Eph. i. 7. Heb. ix. 26. 1 Ioan ni. 5, a iv. 14. 1 Tim. n. 3—6.
2. Y mae yn tynu ymaith euogrwydd
pechod pob un a edifarhao ac a gredo, drwy faddeu, cyfiawnhau, mabwysiadu.
3. Y mae yn tynu ymaith halogrwydd
pechod trwy ei ras, ei Ysbryd, a’i waed — golchi, a phuro. Heb. xii. 24. Esa. liii.
III. Y sylw difrifol a weddai y pethau hyn gael. — “Wele Oen Duw, yr hwn sydd
yn tynu ymaith bechodau
1. Wele Oen Duw yn nirgeledigaethau ei
gnawdoliaeth. O mor isel y daeth. Rhyfedd ei gyfansoddiad. Mab
a roddwyd; Emmanuel, Duw gyda ni.
2. Wele ef yn rhyfeddodau ei fywyd —
bywyd santaidd, gofidus, hunanymwadol, dyoddefgar, eto yn wyrth
O drugaredd a gras.
3. Wele ef yn nyfnderoedd ei ing yn
Gethsemane, a’i enaid yn aberth dros bechod, yn yfed y cwpan erchyll, yn drist
hyd angau.
4. Wele ef yn nyoddefiadau a dirmyg y
groes, yn cael ei lusgo i ben Calfaria — ei groeshoelio rhwng dau leidr, yn
marw dan dywyllwch y nefoedd, cryndod daiar, a rhwygiad y creigiau.
5. Wele ef yn adgyfodi oddiwrth y meirw
— yn angau
1 angau, yn dranc i’r bedd; caethiwodd gaethiwed, derbyniodd roddion i ddynion.
6. Wele ef ar ei orsedd gyfryngol. Gorphwys yn He llafur, gogoniant yn lle
dirmyg, eistedd ar ddeheulaw Duw yn lle y groes.
Pa fodd y mae i ni edrych ar Oen Duw?
1. Gyda pharch a gostyngeiddrwydd yn edrych ar Arglwydd y
lluoedd.
2. Gyda chalon ddrylliog, a chywilydd
wyneb o herwydd pechod.
3. Gyda llygad ffyddiog at yr hwn a fu farw yn ein lle.
4. Gydag ymgysegriad diolchgar iddo o’r
hyn oll ag ydym.
5. Gyda goruchel barch iddo, a
hyfrydwch ynddo. (1.) Cymellwch bawb i edrych arno, a rhoddi eu
hunain iddo.
(2.) Yr holl fyd a’i gwel cyn bo hir.
(3.) Y saint a gant ei weled cyn bo hir mewn gogoniant.
PEEGETH.
“Yr hwn yn ein hisel radd a’n coflodd ni, o herwydd ei drugaredd a bery yn
dragywydd.”—Salm cxxxvi. 23.
I. Ein sefyllfa isel. “ Yr hwn yn ein
hisel radd.”
1. Isel radd fel teulu—o’n tad diafol,
a hwnw yn gelwyddog o’r dechreuad; yn rebel yn erbyn Duw— slanderer, llofrudd,
anghyfiawn, ansantaidd, yn cynhyrfu pob drwg sydd yn y byd; yn achos o bob
gofid ag y cyfarfyddodd y byd ag ef erioed.
2. Isel radd o ran ein
cymeriad. Criminals
condemniedig, yn y carchar
gan ddwyfol gyfiawnder, cortyn am y gwddf, dan y ddedfryd.
3. Yn y carchar, yn slaves i ddiafol
a’n nwydau llygredig ein hunaiu, yn feddwon, yn lladron, yn gas genym Dduw.
4. Yn dlodion, noeth, newynog, aflan, a dilewyroh.
------------------------------------------------(x220)
HASTES B1WTD
5. Yn afiachus, yn wallgofus, yn sicr o
farw oni cheir meddyginiaeth.
6. Yn ddibarch, yn ddigyfeillion, heb
lygad yn tosturio wrthym.
II. “ Yr hwn,” sef Duw, “ yn ein hisel radd a’n cofiodd m.” Nyni wrthryfelwyr
annheilwng, nyni blant diafol, nyni a haeddodd fod yn uffern byth ac yn
dragywydd. “ Coflodd m,”
1. Yn ei dragywyddol arfaeth, cyn bod y
byd. O diolch
iddo.
2. “ Cofiodd ni,” ac a wnaeth drefn i’n hachub
o’n holl drueni a’n hiselder mawr.
3. “Cofiodd ni,” ac “nid arbedodd ei
briod Fab, ond a’i traddododd ef drosom ni oll; pa wedd gydag ef hefyd na ddyry
efe i ni bob peth?”
4. “A’n cofiodd ni,” ac a ddanfonodd ei
efengyl, a’i weision, a chenadwri y cymod atom ni, gan ddeisyf dros Grist, “
Cymoder chwi a Duw.”
5. “A’n cofiodd ni,” gan orchymyn i’w
holl ragluniaethau i fod yn foddion i ddeffroi ein meddwl cysglyd, fel Manasseh
yn y dyrysni, a’r afradlon yn ei newyn.
6. “A’n cofiodd ni,” ac a gynhyrfodd ei
deulu i arfer moddion gras, cyrddau gweddio, ysgol Sabbothol, esbonio yr
Ysgrythyrau, canu mawl, egwyddori, cyngori, a rhoddi esiamplau da o’n blaen.
7. “A’n eofiodd ni,” drwy gynhyrfu ei
deulu i ddylanwadu arnom ni; fel y gaethes yn nhy Naaman, fel yr hen wraig o
Samaria, ac fel y rhai hyny oedd yn llefaru bob un wrth ei ^ymydog.
8. “A’n cofiodd ni,” ac a ddanfonodd ei
Ysbryd i godi a donio gweisiou, a chynorthwyo ei deulu yn ei waith mawr; i
ddylanwadu trwy y moddion i argy-
T PARCH. JENKIN JENKINS.
------------------------------------------------(x221)
hoeddi y byd o bechod, i droi o dywyllwch i oleum, o feddiant satan at Dduw, i
ail eni, i weled Crist ac i gredu ynddo, a chael bywyd—maddeuant, heddwch,
mabwysiad i deulu Duw, ac i holl ragorfreintiau ei drefn rasol ef.
III. Y cynhyrfiol achos o gael ein “ cofio yn ein hisel radd. “O herwydd fod ei d